Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Leanne Wood.

Tlodi Plant

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant? OAQ52801

Wel, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd tlodi yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i doriadau creulon Llywodraeth y DU i fudd-daliadau. Rydym ni'n buddsoddi i dyfu ein heconomi, i greu swyddi ac i gynorthwyo plant, trwy Dechrau'n Deg, trwy Teuluoedd yn Gyntaf, trwy ein cynnig gofal plant a'r grant datblygu disgyblion.

Hoffwn ddychwelyd at y mater o ginio ysgol am ddim, Prif Weinidog. Y mis diwethaf, efallai y byddwch yn cofio brolio am y cynnig hael yr oeddech chi'n ei wneud, ond mae'n ffaith bod Cymru ymhell y tu ôl i Ogledd Iwerddon pan ddaw i ddarparu prydau ysgol. Yno, maen nhw wedi cyflwyno terfyn enillion llawer mwy hael o £14,000 i deuluoedd, sydd bron i ddwbl y terfyn a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Nawr, nid i mi yn unig y mae hyn yn peri pryder; mae Cymdeithas y Plant yn ymgyrchu yn ymarferol yn erbyn y cyfyngiad llym yr ydych yn bwriadu ei gyflwyno. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y pennir y terfyn enillion yng Nghymru? A ydych chi wedi archwilio terfynau enillion eraill ac, os felly, beth oedden nhw? Ac, wrth inni nesáu at 2020—blwyddyn erbyn pryd y gwnaeth y Blaid Lafur yng Nghymru addo dileu tlodi plant ar un adeg—pam mae eich Llywodraeth yn cyflwyno polisi sy'n mynd i'w wneud yn waeth?

Wel, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl y bydd yn ei wneud yn waeth. Mae'n gynnig mwy hael na'r hyn a geir yn Lloegr. Rydym ni'n darparu cyllid ychwanegol o £4 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy gynllun grant. Rydym ni hefyd yn rhoi £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20. Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn awgrymu y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy gydol y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol oherwydd y polisi hwn nag y byddai wedi bod yn wir fel arall o dan yr hen system a etifeddwyd. Ac mae ein cynigion diogelwch trosiannol yn golygu na fyddai unrhyw blentyn yn colli ei hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol, a thu hwnt, gan y bydd unrhyw hawlwyr presennol yn parhau i gael eu diogelu tan ddiwedd eu cyfnod ysgol. A chofiwch, rydym ni wedi gwneud hyn er nad ydym wedi cael unrhyw gyllid ychwanegol i reoli effaith agenda diwygio lles Llywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim.

Prif Weinidog, ym ôl ym mis Chwefror, o dan y datganiad busnes, codais waith arloesol Cyngor Gogledd Swydd Lanark yn yr Alban, sy'n ceisio darparu prydau ysgol am ddim i'r rhai sy'n gymwys 365 diwrnod y flwyddyn. Nawr, ceir manteision a brofwyd i ddisgyblion yno nid yn unig o ran iechyd a llesiant, ond hefyd o ran cyrhaeddiad academaidd hefyd. Dywedodd arweinydd y tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn dilyn y fenter hon gyda diddordeb brwd. Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu oddi wrthi hyd yn hyn?

Wel, mae'r rhain yn faterion sy'n dal i gael eu harchwilio. Wrth gwrs, mae beth bynnag a wnawn yn cael ei effeithio gan y cyllid sydd ar gael. Ac rydym ni'n gwybod nad yw'r sefyllfa yn mynd i wella, er fy mod i'n sylwi, ar ôl dod i'r swydd hon wrth i gyni cyllidol ddechrau, fel yr wyf i ar fin gadael bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi ei fod ar ben. Ni wnaf i ei gymryd yn bersonol. Ond os yw'n wirioneddol wir bod cyni cyllidol ar ben, yna bydd hynny'n golygu y bydd mwy o adnoddau ar gael i ddarparu'r math o wasanaethau y byddem yn hoffi eu darparu ac yr ydym ni wedi llwyddo i'w darparu, ar y cyfan, er gwaethaf gafaeliad tynn cyni cyllidol.

Prif Weinidog, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn datgan,

Bydd swyddi o ansawdd da a rhanbarthau sy’n fannau deniadol i weithio, i fyw ac i fuddsoddi ynddynt, yn rhoi rheswm i bobl aros neu ddychwelyd i weithio ac i fyw mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae addysg dda, wrth gwrs, yn sail i'r uchelgais hwn, ac, er ei bod yn ymddangos bod y datganiadau hyn wedi eu targedu at bobl ifanc sydd eisoes mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, mae bod yn ddwyieithog yn fantais yn y gweithle ac yn offeryn o symudedd cymdeithasol hefyd. Felly, pa lwyddiant y mae eich Llywodraeth yn ei gael yn codi lefel sgiliau Cymraeg ymhlith pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau lle nad yw'r Gymraeg yn iaith gymunedol?

Wel, un o'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu yw na allwn ddweud, er gwaethaf y ffaith bod y Gymraeg wedi bod yn orfodol hyd at 16 oed mewn ysgolion ers dechrau'r 1990au, ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o ganlyniad, a dyna pam, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm yn cael ei ddiwygio, sy'n dangos bod Cymraeg yn sgìl—y mae i'r rhan fwyaf o bobl—yn hytrach na chymhwyster academaidd, a sicrhau bod pobl yn gallu mesur eu rhuglder yn yr iaith yn well. Bu gennym ni raniad artiffisial rhwng iaith gyntaf ac ail iaith ers amser rhy faith, yn hytrach na mesur lefel rhuglder rhywun. Ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn sicr yn rhan o'r cwricwlwm, i sicrhau bod addysgu Cymraeg yn effeithiol a hefyd bod y Gymraeg yn bwnc sydd yno i gael ei astudio fel sgìl, ac wyf i'n credu y bydd hynny yn ennyn brwdfrydedd llawer mwy o bobl ifanc.

Diogelwch ar y Ffyrdd

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd? OAQ52793

Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi’r camau rydym ni a’n partneriaid yn eu cymryd ar hyn o bryd i wella diogelwch ar y ffyrdd. Rydym ni’n symud ymlaen yn dda i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod yn y fframwaith ac i sicrhau bod ein ffyrdd a’n strydoedd yn ddiogel ac ar gael i bawb.

13:35

Serch hynny, Prif Weinidog, ceir llawer gormod o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd o hyd, ac un ymateb pwysig, sy'n datblygu'n gyflym yn rhyngwladol ac yn y DU, yw cynyddu nifer y terfynau cyflymder uchaf 20 mya mewn ardaloedd yng nghanol trefi. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i osgoi damweiniau, yn lleihau'r anaf os bydd damwain yn digwydd ac yn galluogi'r strydoedd i gael eu hawlio yn ôl gan y car modur, sy'n aml iawn yn flaenllaw yn ein cymunedau ar hyn o bryd. Os ydym ni eisiau mwy o blant yn chwarae, mwy o bobl oedrannus yn teimlo'n gartrefol yn cerdded o amgylch eu cymunedau, mwy o gerdded a beicio'r manteision iechyd ac amgylcheddol y maen nhw'n eu cynnig, yna rwy'n credu bod angen i ni gyflwyno'r ardaloedd terfyn cyflymder uchaf o 20 mya hyn yng Nghymru. Un ffordd o wneud hynny fyddai cael terfyn 20 mya diofyn ledled Cymru yn mewn ardaloedd yng nghanol ein trefi, a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol fwrw ymlaen wedyn â gorchmynion traffig ar gyfer 30 mya pan fo'n briodol, gan wrthdroi'r sefyllfa bresennol i bob pwrpas, gan ei gwneud hi'n haws ac yn llai costus i awdurdodau lleol sefydlu'r ardaloedd hyn, sydd mor bwysig i fywyd cymunedol. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cefnogi polisi o'r fath i alluogi cymunedau i adennill eu strydoedd?

A gaf i roi awgrym i'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd o'n sefyllfa o ran y terfynau cyflymder 20 mya? Rydym ni'n gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch manteision cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya. Bydd hynny wedyn yn hysbysu pa un a oes angen adnewyddu'r fframwaith diogelwch ffyrdd presennol. Cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o derfynau cyflymder ger ysgolion sydd ar gefnffyrdd neu gerllaw iddynt. Ceir rhaglen aml-flwyddyn i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya rhan-amser yn y lleoliadau hynny. Darparwyd cyllid i awdurdodau lleol gyflwyno ardaloedd a therfynau 20 mya drwy'r grantiau diogelwch ar y ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a gallaf hefyd ei hysbysu bod Dr Adrian Davies wedi cael ei gomisiynu i gynnal adolygiad o dystiolaeth ar derfynau 20 mya, a fydd yn cael eu defnyddio wedyn i hysbysu unrhyw ddatblygiad polisi yn y dyfodol ochr yn ochr â'n gwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud. Rydym ni'n aros nawr, wrth gwrs, am ganlyniadau'r gwaith hwnnw.

Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, yn ystod y datganiad busnes, codais achos gyrrwr yng Nghasnewydd a aeth yn groes i gyngor ei optegydd i gadw oddi ar y ffordd oherwydd ei olwg gwael. Yn dilyn hynny, achosodd ddamwain ffordd angheuol ar yr M4. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb y gyrrwr yw hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad ydyn nhw'n cael gyrru mwyach. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ymchwilio i'r mater hwn, gyda'r nod o'i gwneud yn orfodol i optegwyr yng Nghymru hysbysu'r DVLA pan fydd golwg gyrrwr wedi dirywio i'r fath raddau ei fod yn berygl i'w hun ac i fodurwyr eraill ar y ffordd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Yn gyntaf, nid yw'r mater wedi'i ddatganoli. Yn ail, rwy'n amau bod rhai materion diogelu data eithaf difrifol y byddai'n rhaid eu goresgyn pe byddai optometryddion yn cael eu hysbysu bod yn rhaid iddyn nhw hysbysu am rhywun nad oedd ei olwg yn ddigon da i'w alluogi i yrru. Cyfrifoldeb unigolyn yw gwneud yn siŵr ei fod yn addas i yrru. Mae'r un fath gyda'u golwg. Mae'r un fath, wrth gwrs, os oes gan rywun salwch sy'n effeithio ar ei yrru—mae'n ymrwymiad iddyn nhw hysbysu'r DVLA. Gallai eu hyswiriant gael ei ddiddymu o ganlyniad ac, wrth gwrs, byddan nhw'n wynebu cyhuddiadau troseddol os byddant yn achosi damwain o dan amgylchiadau penodol. Felly, er fy mod i'n deall yr angen i sicrhau bod gan bobl olwg digon da i allu gyrru, rwy'n credu ei fod yn fater o gyfrifoldeb personol, ac nid yn fater beth bynnag, wrth gwrs, sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gyntaf oll, ar ran Plaid Cymru, hoffwn i estyn cydymdeimlad dwys i deuluoedd a chyfeillion y rhai sydd wedi colli'u bywydau o ganlyniad i'r llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys un o fy etholwyr i, Corey Sharpling, o Gastellnewydd Emlyn. Byddwn i'n croesawu ymrwymiad personol gan y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn edrych yn ddifrifol ar unrhyw wersi sydd yn dod i'r amlwg yn sgil y digwyddiadau trasig hyn. 

Prif Weinidog, a allwch chi esbonio pam, pan bleidleisiodd y grŵp Llafur yma wythnos yn ôl yn erbyn cynnig Plaid Cymru yn galw am bleidlais y bobl ar Brexit, bod dau o'ch Gweinidogion wedi bod yn dadlau'r achos dros bleidlais o'r fath yn y diwrnodau diwethaf? Mae eich Ysgrifennydd iechyd yn dweud y gallai'r ymgyrch 'gadael' fod wedi cyflawni twyll. Mae eich Gweinidog sgiliau yn dweud y byddai Brexit yn drasiedi ac yn niweidio Cymru yn ddifrifol. Mae'r ddau yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio dros 'aros' mewn refferendwm a ddylai gael ei gynnal ar y cytundeb Brexit. Nawr, rwy'n cytuno â nhw. Y cwestiwn yw: a ydych chi, neu a ydych chi'n cytuno â'ch Ysgrifennydd cyllid a ddywedodd nad polisi yw pleidlais y bobl, ond slogan?

13:40

A gaf i ddechrau drwy ategu ac ymuno ag ef ynglŷn â'r newyddion drwg dros ben a glywsom ni dros y penwythnos a hefyd i estyn ein cydymdeimlad ni ar y meinciau hyn i deulu Corey Sharpling? Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ei etholaeth ef, ac wrth gwrs mae'n rhywbeth sy'n arswydus i'r teulu a hefyd i'r gymuned oll. Felly, a gaf i hefyd ymuno ag ef ynglŷn â hynny?

Yn gyntaf oll, mae ein polisi yn eglur iawn o ran cynnal ail refferendwm. Rydym ni wedi dweud y gallai ail refferendwm gael ei gynnal o dan amgylchiadau penodol yn unig. Y cyntaf yw pa un a oes cytundeb yn Senedd San Steffan ac yma ac yn Senedd yr Alban. Os nad oes cytundeb o'r fath, yna dylid cael etholiad cyffredinol yn fy marn i. Os yw canlyniadau'r etholiad cyffredinol hwnnw yn amhendant, yna sut mae datrys y mater, heblaw wrth gwrs drwy gael refferendwm arall?

Rwy'n credu y gellid cyhuddo'r Blaid Lafur o amwysedd creadigol o ran ei pholisi Brexit, ond nid wyf yn credu y gellid ei chyhuddo o eglurder. Nid yw'r amwysedd hwnnw'n ddim mwy amlwg nag ar lwyfannau etholiad arweinyddiaeth Llafur. Roedd yn ddiddorol iawn darllen adroddiadau o'r llwyfannau etholiadol cyntaf a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn y frwydr i'ch disodli chi. Achwynodd eich Gweinidog sgiliau am y toriadau i addysg oedolion. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd dros gyllid eich ymgais i ad-drefnu llywodraeth leol fel un a oedd, yn ei eiriau ef, yn ddiffygiol ac yn tynnu sylw. A chyfaddefodd eich Ysgrifennydd dros iechyd y gellid bod wedi ad-drefnu gofal iechyd yn well dros y naw mlynedd yr ydych chi wedi bod wrth y llyw. Mae'n anodd anghytuno ag ef pan ddywed nad yw mwy o'r un fath yn ddigon, ond pan fo Vaughan Gething yn dweud mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yw arweinydd nid rheolwr, ai'r Gweinidog cyllid neu chi sydd ganddo mewn golwg?

Ar ôl bod yma ers dros naw mlynedd, mae pobl Cymru wedi dangos eu ffydd ynof i a'm plaid, a gadawaf yn gwbl ymwybodol o'r ffydd hwnnw. Nid oes gen i unrhyw anhawster o ran ymgeiswyr yn cynnig syniadau. Dyna maen nhw i fod i'w wneud. Cyn belled, wrth gwrs, nad ydyn nhw'n mynd yn groes i bolisi sefydledig y Llywodraeth, yna mae'n gwbl briodol mewn cystadleuaeth arweinyddiaeth y dylai ymgeiswyr fod yn rhydd i gynnig eu syniadau eu hunain. Dydyn nhw ddim yn mynd i ddweud, 'Gadewch i ni wneud pethau'n union fel y buon nhw'. Maen nhw wrth gwrs mewn sefyllfa lle mae angen iddyn nhw gynnig syniadau newydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn dilyn y llwyfannau etholiadol a'r ornest arweinyddiaeth yn fy mhlaid gyda diddordeb mawr iawn. Rwy'n siŵr y bydd yn gallu holi fy olynydd pan fydd fy olynydd yn cymryd drosodd fel Prif Weinidog.

Efallai mai'r feirniadaeth fwyaf a wnaed o'ch Llywodraeth yw nad ydych chi'n hoffi beirniadaeth. Nid fi yn unig sy'n dweud hynny, ond eich Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol, Alun Davies—roeddwn i'n gwybod y byddai eich amser yn dod, Alun—a ddywedodd hyn mewn darlith i Public Affairs Cymru ychydig wythnosau yn ôl:

Yn rhy aml o lawer rwyf i wedi gweld rhai pobl yn dal yn ôl ac yn brathu eu tafodau wrth roi tystiolaeth i bwyllgorau gan fod beirniadaeth o Lywodraeth neu weinidogion Cymru yn rhy anodd i sefydliadau y mae eu cyllid yn dibynnu ar haelioni yr un Llywodraeth honno a'r gweinidogion hynny.

Mae'n ymddangos bod y diwylliant hwn o dawelwch, omertà Cymru, hefyd yn ymestyn i'r uwch wasanaeth sifil. Gwelsom ddoe ddiwethaf yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwrthod ateb cwestiynau am gyfrifon cyhoeddus yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. A oedd hyn oherwydd ei bod hi'n ofni achosi i chi a'ch Gweinidogion deimlo'n annifyr?

Dim o gwbl. Nid wyf i'n gwybod at beth y mae'n cyfeirio ato yn y fan yna. Gwn y bu problem gyda'r ffaith nad oedd y cyfrifon ar gael yn y Gymraeg, sy'n anffodus a bydd angen ei gywiro ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei gywiro erbyn hyn. Rydym ni'n hyderus iawn yn yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i ddarparu'r cymorth sydd ei angen i ddod â swyddi i Gymru, a heddiw rydym ni'n dathlu'r ffaith bod gyflogaeth fwyaf erioed, uwch na'r Alban—y gyflogaeth fwyaf erioed—ac mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng. Mae'r rhain yn ffigurau y byddem ni wedi breuddwydio amdanyn nhw heb fod mor bell â hynny yn ôl, ac mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw cael Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru sy'n darparu'r cymorth i fusnesau ac yn sicrhau bod diweithdra yn gostwng yn is na chyfartaledd y DU. Dyna yw'r difidend datganoli.

Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru ac anfon fy nghydymdeimlad a chydymdeimlad fy mhlaid at deulu Corey Sharpling?

Prif Weinidog, yng ngoleuni llifogydd ofnadwy y penwythnos yma, a ydych chi'n credu bod eich penderfyniad i dorri gwariant cyfalaf ar amddiffynfeydd rhag llifogydd gan bron i 50 y cant yn 2016-17 yn ddoeth?

Rydym ni wedi buddsoddi llawer iawn o arian—£350 miliwn—yn ystod y tymor Llywodraeth hwn i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol, llawer mwy na'r hyn a wnaed gan ei blaid ef yn Lloegr, mae'n rhaid i mi ddweud, lle gwnaed toriadau mawr iawn i arian amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Nawr, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni dadansoddiad o ba un a oes mwy y gallwn ni ei wneud, neu ail-flaenoriaethu rhai cynlluniau, yng ngoleuni'r dystiolaeth yr ydym ni wedi ei gweld o'r llifogydd dros y penwythnos diwethaf. Dyna'r peth synhwyrol i'w wneud, dyna'r peth cyfrifol i'w wneud, ond gallaf ddweud bod tystiolaeth eisoes i ddangos bod y cynlluniau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith wedi helpu i liniaru ac atal llifogydd ledled Cymru lle byddai llifogydd wedi digwydd yn y gorffennol.

13:45

Wel, Prif Weinidog, mae'n hen bryd i chi gymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydych chi'n gyfrifol amdano yma yng Nghymru, yn hytrach na sôn am Loegr. Gadewch i mi roi rhai o'r ffigurau i chi. [Torri ar draws.] Gadewch i mi roi—[Torri ar draws.] Gadewch i mi roi rhai o'r ffigurau i chi. Rhwng 2015-16 a 2016-17, torrwyd gwariant cyfalaf ar amddiffynfeydd rhag llifogydd o £18 miliwn i £9.5 miliwn, ac felly mae'n wir i ddweud nad gwariant ar reoli perygl llifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd yw blaenoriaeth eich Llywodraeth. Unwaith eto, mae eich Llywodraeth wedi methu â deall a rhoi sylw i anghenion cymunedau ledled Cymru. A wnewch chi ymddiheuro nawr i'r cartrefi a'r busnesau hynny am y difrod a'r llanastr a achoswyd oherwydd y toriadau yr ydym ni wedi eu gweld i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd?

A yw ef yn gwybod faint o ddigwyddiadau llifogydd a welwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd? Ceir rhai pethau y mae'n anodd iawn eu hatal. Nid ydym ni mewn sefyllfa lle y gallwn atal bob un achos o lifogydd, er gwaethaf y tywydd, ac roedd yr hyn a welsom dros y penwythnos yn ddigwyddiad tywydd eithafol. Er hynny, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall beth arall y gallai fod angen ei wneud er mwyn lliniaru effeithiau llifogydd yn y dyfodol.

Ond ni all ddweud yn syml, 'Wel, wyddoch chi, Cymru ydym ni— anghofiwch am yr hyn sy'n digwydd yn Whitehall.' Mae'r arian, ar y cyfan—i gyd, bron—yn dod oddi wrth ei Lywodraeth ef yn Llundain, ac eto mae'n eistedd yn y fan yna ac yn dweud, 'Wel, eich bai chi yw bod gwariant wedi cael ei dorri', pan, mewn gwirionedd, fel y mae'r Ysgrifennydd cyllid eisoes wedi ei ddweud, pe byddai gwariant wedi cadw i fyny—pe byddai gwariant cyhoeddus wedi cadw i fyny a'n grant bloc wedi cadw i fyny—gyda thwf yn yr economi ers 2010, byddai gennym ni £4 biliwn yn fwy. Pam nad yw'n dadlau achos Cymru? Rydym ni'n gwybod bod Gogledd Iwerddon wedi cael gwerth £1 biliwn o arian cildwrn. Pam nad yw'n dadlau achos Cymru?

Ydym, wrth gwrs, rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb mewn meysydd datganoledig, ond efallai yr hoffai ef gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb a dweud wrth ei gydweithwyr yn Llundain, 'Digon yw digon—gadewch i ni roi terfyn ar gyni cyllidol; rhowch yr arian i Gymru y mae hi'n ei haeddu.'

Y rheswm y bu'n rhaid i ni dorri gwariant, fel Llywodraeth y DU, dros y blynyddoedd diwethaf yw oherwydd y traed moch—y traed moch—a adawyd gennych chi, fel plaid, yn 2010. Ac rydym ni'n dal i dalu—[Torri ar draws.] Rydym ni'n dal i dalu'r pris am hynny. Nawr, Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Prif Weinidog, yn amlwg—[Torri ar draws.] Mae'n amlwg—

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw llifogydd yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth, oherwydd nid yw'r llythyr cylch gwaith gan Weinidog yr amgylchedd, sy'n pennu'r blaenoriaethau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru bob blwyddyn, yn blaenoriaethu llifogydd, rheoli perygl llifogydd na rheoli dŵr o gwbl. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr faith o fethiannau yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwendid eich Llywodraeth chi i reoli'r sefydliad hwn yn briodol. Prif Weinidog, sut byddwch chi a'ch Gweinidog yn cael rheolaeth dros y mater hwn nawr a sicrhau y bydd llifogydd a rheoli perygl llifogydd yn flaenoriaeth i chi a'ch Llywodraeth yn y dyfodol?

Wel, gan gynrychiolydd y blaid a greodd y traed moch llwyr—nid wyf i'n credu y gallwn ni dderbyn unrhyw wersi ganddyn nhw. Fel y dywedais wrtho yn gynharach, rydym ni wedi darparu dros £350 miliwn o fuddsoddiad ledled Cymru mewn awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.

Ond ni all ddianc rhag y ffaith ein bod ni wedi gweld blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau i'n cyllideb yma yng Nghymru, hyd yn oed wrth i'w blaid ef brynu pleidleisiau Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd—£1 biliwn; tawelwch o feinciau'r Ceidwadwyr. A wnaethon nhw sefyll dros Gymru? Naddo siŵr. A wnaethon nhw gwyno i'w cyd-Aelodau yn Llundain? Naddo siŵr. Haws o lawer ceisio rhoi'r bai arnom ni, pan fo'n  cyllideb yn cael ei thorri flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, na cheisio â dylanwadu ar eu cydweithwyr yn Llundain, y maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw lawer iawn o ddylanwad drostynt, a rhoi'r chwarae teg i Gymru y mae Cymru yn ei haeddu—y £4 biliwn ychwanegol hynny—ac, wrth gwrs, sicrhau nad yw Gogledd Iwerddon yn cael £1 biliwn, gyda dim byd i'r Alban a Chymru yn y dyfodol. Cyfrifoldeb yw hynna—efallai yr hoffai ymddiheuro i bobl Cymru am ei fethiant yn hynny o beth.

Diolch, Llywydd. Ychwanegaf fy nghydymdeimlad â theuluoedd y bobl a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiadau trasig dros y penwythnos. Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn gwbl ymwybodol o effeithiau amgylcheddol llosgi coed. Mae rhai amgylcheddwyr o'r farn bod llosgi coed yn ffynhonnell o lygredd aer. Mae llosgi pren o goed hefyd yn rhyddhau gwenwynau crynodedig yn ôl i'r aer, gan gynyddu ein hôl troed carbon. Felly, hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran llosgi coed?

13:50

Rydym ni'n cefnogi biomas ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y gymysgedd ynni mor eang â phosibl, gan gymryd i ystyriaeth ein hymrwymiadau o ran lleihau ein hôl troed carbon. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gweld gweithfeydd biomas ledled Cymru. Wrth gwrs, mae biomas yn adnewyddadwy yn yr ystyr y gallwch chi ail-blannu coed mewn ffordd, er enghraifft, nad yw'n bosibl gyda glo.

Diolch am yr ateb yna. Ceir rhai achosion o anghytuno dadleuol am losgi coed a biomas, o ran a yw hynny wir yn adnewyddadwy, felly gwnaf eich holi am hynny, os caf i. Nawr, ychydig wythnosau'n ôl yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, roeddech chi'n dweud wrthym ni sut  yr oedd rheoliadau a chanllawiau'r UE yn helpu Cymru a'r DU i ddiogelu'r amgylchedd. Ac eto gwelaf nawr bod yr UE wedi hyrwyddo yn ddiweddar llosgi coed fel tanwydd adnewyddadwy ac eco-gyfeillgar, fel yr ydych chi newydd gyfeirio at yr arfer eich hun. Fodd bynnag, trwy fabwysiadu'r safbwynt hwn, mae'r UE wedi denu beirniadaeth eithaf clir gan lawer o wyddonwyr amgylcheddol uchel eu parch. Er enghraifft, dywedodd Eric Lambin o Brifysgol Stanford:

Penderfyniad polisi syml ag effeithiau rhaeadru cymhleth ar ddefnydd o goedwigoedd, systemau ynni, masnach coed a bioamrywiaeth ledled y byd yw trin coed fel tanwydd carbon-niwtral.

Diwedd y dyfyniad. Y gofid yw y byddwn yn halogi coedwigoedd yn y pen draw trwy drin llosgi coed fel tanwydd adnewyddadwy rhinweddol, gan gynyddu cynaeafu coetir byd-eang, ac, yn y pen draw, cynhyrchu mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr. O gofio hynny i gyd, Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn dal yn ffyddiog bod yr UE yn darparu'r mesurau diogelu'r amgylchedd yr ydych chi wedi bod yn dweud wrthym ni amdanynt?

Ydym, oherwydd—. Wel, gadewch i mi weld os gallaf ei esbonio. Mae pren yn dod o goed, ac mae coed yn tyfu. [Chwerthin.] Ac mae coed—. Gallwch blannu coed, byddan nhw'n tyfu, a gellir eu hadnewyddu mewn ffordd na ellir adnewyddu glo, er enghraifft, fel tanwydd ffosil. A dychwelaf at y pwynt a wneuthum yn gynharach—wel, ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon: oherwydd yr UE y gwnaeth y DU lanhau ei hamgylchedd. Roedd y DU yn un o'r llygrwyr gwaethaf yn Ewrop. Roedd afon—Afon Irwell yn Salford oedd hi, rwy'n credu—a fyddai'n cynnau pe byddai matsien wedi'i goleuo yn cael ei thaflu iddi. Roedd ansawdd yr aer yn wael. Roeddem ni'n cyfrannu'n sylweddol at law asid. Roedd ein traethau yn fochaidd. Mae'r holl bethau hynny wedi newid gan fod rheoliadau Ewropeaidd wedi glanhau Prydain, a'r peth olaf y byddwn i eisiau ei weld yw i ni ddychwelyd i'r dyddiau tywyll hynny yn y 1980au pan, er enghraifft, roedd Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau yn dibynnu ar yr hyn a roddwyd ynddi i fyny'r afon. Fe'i gwelais yn llifo'n wyrdd, yn goch, yn ddu—dewiswch chi, mewn gwirionedd. Roedd lefel y llygredd yn erchyll. Ni all y dyddiau hynny fyth ddychwelyd.

Ie, rydych chi'n defnyddio eich hen stori am Afon Irwell yn Salford unwaith eto. Wel, nid oes rhaid i ni fynd mor bell i ffwrdd ag Afon Irwell—rydych chi hefyd yn cyfeirio at Afon Ogwr. Roedd gennym ni ddwy afon yng Nghaerdydd a fyddai'n newid lliw hefyd, felly nid wyf i'n anghytuno â chi am hynny—byddai afon Taf yn troi'n ddu gyda llwch glo; byddai afon Elái yn newid i wahanol liwiau wrth iddi lifo heibio melin bapur Trelái, yn dibynnu ar ba liw oedd y llifyn a olchwyd i mewn i'r afon. Ond, i ddychwelyd at Afon Irwell, byddwn yn dyfynnu o bapur diweddar Prifysgol Caerdydd a gyfeiriodd at rifyn diweddar y cyfnodolyn Nature Geoscience. Dyfynnaf, 'Ond canfu dadansoddiad diweddar o system Irwell yng ngogledd-orllewin Lloegr y crynodiad uchaf o blastig a gofnodwyd mewn unrhyw afon yn y byd.' Diwedd y dyfyniad. Felly, hyd yn oed gyda'r holl reoliadau UE ardderchog hyn, mae'n debyg bod yr afon yn dal i ddioddef cryn dipyn o lygredd.

Nawr, rwy'n credu bod un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud yn y fan yma. Un yw eich bod chi'n sôn am fy mhlaid i, UKIP, sydd eisiau i'r DU adael yr UE fel pe na byddem ni eisiau unrhyw reoliadau amgylcheddol. Ac rydych chi'n siarad fel pe byddai'r holl reoliadau amgylcheddol yn diflannu dros nos yr eiliad y bydd y DU yn gadael yr UE. Mae hyn yn amlwg yn lol ac rydych chi'n codi bwganod. Ceir Bil parhad a fydd yn sicrhau bod pob un o'r rheoliadau amgylcheddol—pob un ohonynt—yn cael eu cadw yng nghyfraith y DU tan yr adeg y bydd Senedd y DU wedi cael amser i asesu'r rheoliad hwnnw a phenderfynu ar ba un a ddylid ei gadw, ei ddiwygio neu gael gwared arno. Bydd y broses honno'n cymryd cryn amser, yn amlwg, oherwydd bydd gan y deddfwyr filoedd o reoliadau UE i'w harchwilio.

Ond pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw hwn—[Torri ar draws.]

Mi wnaf. Mae'n ymddangos bod gennych chi ffydd ddall yng nghyfarwyddebau a rheoliadau'r UE, ac eto—[Torri ar draws.]

Ac eto mae'r UE yn cefnogi llosgi coed, ac mae gennym ni bobl yng Nghymru sy'n wynebu peryglon posibl i iechyd o ganlyniad i'r llosgi coed hwnnw. Roedd o leiaf tri thân yn y de mewn gwaith ailgylchu pren y llynedd yn unig. Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru, yr ydych chi'n ei oruchwylio, drwydded i losgydd biomas drws nesaf i eiddo preswyl ger Doc y Barri. Ceir mwg du, llosgol—[Torri ar draws.]

13:55

Sut ydych chi'n ymateb i'r mwg du, llosgol a ddioddefir gan drigolion ger y cyfleuster llosgi pren hwnnw?

Wel, mae ei blaid ef, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol, o blaid mwy o lo, sy'n golygu mwy o gloddio brig, a dweud y gwir, oherwydd dyna'r unig ffordd o gael gafael ar lo yng Nghymru erbyn hyn. Byddai'n anodd iawn suddo unrhyw byllau glo dwfn, hyd yn oed pe byddem ni eisiau, i gael gafael ar y glo hwnnw, ac yn ddrud iawn oherwydd y ffawtiau daearegol, yn enwedig yn y de. Nid wyf i'n siŵr a yw'n dweud rywsut bod yr UE yn llygru Prydain gyda biomas. Ac mae'n cyfeirio at Afon Irwell—mae gwaith i'w wneud yn y fan honno, yn amlwg, gyda phlastig. Ond y pwynt yw hwn: nid wyf i'n gwneud y pwynt y bydd yr holl reoliadau amgylcheddol yn diflannu rywsut cyn gynted ag y byddwn ni'n gadael yr UE; rwy'n gwneud y pwynt mai'r UE wnaeth orfodi Prydain i lanhau ei hamgylchedd. Roedd gan y DU hanes gwael iawn o ran llygredd. Fe'i gorfodwyd i lanhau traethau, i lanhau afonydd, i lanhau'r môr, oherwydd rheoliadau Ewropeaidd. Ni fyddwn eisiau gweld sefyllfa yn y dyfodol lle byddem yn symud tuag at yn ôl oherwydd rhyw fath o ideoleg marchnad rydd wallgof sy'n dweud bod rheoleiddio amgylcheddol yn rhywbeth a ddylai fod yn ysgafn. Dim o gwbl; rydym ni'n ymfalchïo yn ein hamgylchedd yng Nghymru, rydym ni'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi cael ei lanhau gymaint dros y 30 mlynedd diwethaf, ac ni fydd yn symud tuag at yn ôl.

Gwariant Awdurdodau Lleol

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n monitro effeithiolrwydd gwariant gan awdurdodau lleol? OAQ52796

Mater i bob awdurdod lleol a'i aelodau etholedig yw effeithiolrwydd ei wario, yn y lle cyntaf, gan gynnwys drwy waith craffu.

Dewis hawdd a diog pan ddaw i lywodraeth leol yw rhoi'r bai ar gyni cyllidol a'r Torïaid. Jiw, Prif Weinidog, mae'n swnio braidd fel chi a'ch Llywodraeth. Gadewch i mi ei ddarllen eto: dewis hawdd a diog pan ddaw i lywodraeth leol yw rhoi'r bai ar gyni cyllidol a'r Torïaid. Yn rhy aml mae'n anwybyddu ffactorau eraill, fel gwneud penderfyniadau gwael, pan ddaw i gyllidebau a darparu gwasanaethau.

Prif Weinidog, dyma eiriau cyn-arweinydd Llafur eich cyngor lleol, Jeff Jones. [Torri ar draws.] Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn dangos bod gan bedwar o gynghorau yng Nghymru dros £100 miliwn yr un mewn cronfeydd wrth gefn, ac arweinir tri o'r rhain gan y blaid Lafur. Prif Weinidog, a yw'n achos o benderfyniad gwael torri cynifer o wasanaethau tra eu bod yn eistedd ar filiynau a miliynau o bunnoedd?

Wel, prin iawn yw'r hyn y byddwn i'n cytuno â Jeff Jones yn ei gylch, ac nid yw hynny wedi newid. Y pwynt yw hwn: a yw hi'n dweud bod pob awdurdod lleol, ni waeth pa blaid sy'n ei redeg, yn gweithredu'n wael mewn rhyw ffordd? Oherwydd dyna'r hyn y mae'n ei awgrymu, ei fod rywsut yn achos o wneud penderfyniadau gwael ym mhob rhan o Gymru a bod llywodraeth leol, i bob pwrpas, yn gweiddi blaidd, bod gan lywodraeth leol lawer o arian, rywsut a, phe bydden nhw ond yn gallu darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, y bydden nhw'n gallu cael gafael ar lawer mwy o arian. Wel, na. Rydym ni'n gwybod pa mor anodd yw hi ar awdurdodau lleol. Rydym ni'n gwybod ei bod hi'n dynn. Edrychwn ymlaen at ddiwedd cyni cyllidol ac edrychwn ymlaen at y Canghellor yn rhoi mwy o adnoddau i ni cyn y Nadolig, y gallwn eu defnyddio wedyn i helpu llywodraeth leol. Nid wyf i'n derbyn mai'r broblem mewn llywodraeth leol yw'r ffaith bod pob cyngor lleol yn gwneud penderfyniadau gwael. Mae'n amlwg na all hynny fod yn iawn, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, os yw Prif Weinidog y DU yn cadw at ei gair, ac yn rhoi terfyn ar gyni cyllidol, ein bod ni'n gweld mwy o adnoddau yn dod i Gymru a mwy o adnoddau y gallwn ni eu darparu wedyn i'n hawdurdodau lleol.

Mae Cyngor Gwynedd ymhlith y cynghorau sydd yn mynd i ddioddef waethaf yn sgil toriadau yn dilyn y setliad llywodraeth leol: toriad o hyd at £11 miliwn, a hynny ar ben blynyddoedd o doriadau enbyd. Ar y llaw arall, mae bwrdd iechyd y gogledd yn gweithredu ar ddiffyg ariannol blynyddol oddeutu £26 miliwn y llynedd, er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi fel Llywodraeth. A ydy hi'n deg cosbi Cyngor Gwynedd, awdurdod sydd wedi'i ganmol am fod yn gadarn ei drefniadau ariannol, ond gwobrwyo bwrdd iechyd sydd yn perfformio yn gyson wael ac yn methu'n glir â chynllunio'n ariannol a gweithredu'n effeithiol er budd trigolion y gogledd?  

Wel, un o'r dadleuon y mae rhai cynghorau wedi'i ddweud wrthyf i yw y dylai arian gael ei drosglwyddo o iechyd i lywodraeth leol achos y ffaith eu bod nhw'n dweud bod mwy a mwy o arian yn mynd mewn i iechyd. Mae'n gydbwysedd anodd—gallaf i ddweud hynny nawr—achos mae iechyd yn rhywbeth sy'n denu mwy a mwy o alw bob blwyddyn. Ond, fel y dywedais i yn gynharach, rŷm ni eisiau gweld y Canghellor yn creu mwy o adnoddau i Gymru, ac wrth wneud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n gobeithio bydd yna fwy o arian ar gael i lywodraeth leol, achos rwy'n gwybod bod yna wasg arnyn nhw, ac nid wyf i’n mynd i ddweud unrhyw beth gwahanol, ond mae hwn, wrth gwrs, â’i wreiddiau yn y ffaith bod yr arian wedi cael ei wasgu o Lundain. So, felly, os bydd yr arian yna, byddwn ni'n gallu helpu awdurdodau lleol yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni llynedd.

14:00

Prif Weinidog, o ganlyniad i setliad llywodraeth leol eleni, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth i yn rhybuddio bod toriadau i wasanaethau hanfodol yn anochel. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cau toiledau cyhoeddus ym Mhorthcawl, mae Abertawe yn cau cartrefi gofal, ac mae Castell-nedd Port Talbot ar ben eu tennyn oherwydd y toriadau. Prif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn dileu gwariant gwastraffus cyn torri gwasanaethau hanfodol?

Wel, rwy'n credu bod awdurdodau lleol yn cymryd eu rhwymedigaethau o ddifrif, a gwn, trwy gyswllt â'm awdurdod lleol fy hun, bod rhai penderfyniadau poenus dros ben y maen nhw'n gorfod eu hystyried ar hyn o bryd, ac nid dyna pam mae pobl yn mynd i fyd gwleidyddiaeth, rwy'n deall hynny, a dyna pam yr wyf i wedi dweud wrthyn nhw ac wrth eraill y bydd unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n dod oddi wrth y Canghellor o ganlyniad i ddatganiad yr hydref—y bydd llywodraeth leol ar flaen y ciw, o gofio, wrth gwrs, y pwysau yr ydym ni'n gwybod fydd yn cael ei roi ar lywodraeth leol eleni ac yn y dyfodol.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? OAQ52799

Wel, mae'r gwaith o wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar gam cyffrous, wrth i ni fwrw ymlaen i ail-lunio gwasanaethau rheilffyrdd trwy fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, metro de Cymru, wrth gwrs, metro gogledd Cymru hefyd, ac yn ein cynlluniau ar gyfer teithio llesol, gwasanaethau bws lleol a buddsoddiadau yn y rhwydwaith ffyrdd strategol.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Ddoe, adroddwyd bod nifer y teithiau bws lleol a wneir ym Mhrydain wedi cyrraedd eu hisaf mewn 12 mlynedd, ac mae siwrneiau teithwyr bws yng Nghymru wedi gostwng gan 5 miliwn y flwyddyn yn ystod yr un cyfnod. Mae'r bws yn fodd trafnidiaeth mor aruthrol o bwysig i gymaint o bobl, felly beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i fynd ar y bws a gwella'r amgylchedd a gwella pethau yn gyffredinol?

Wel, rwy'n credu y bydd angen deddfwriaeth ar gyfer hyn, oherwydd rydym ni'n gwybod—a bydd llawer ohonom ni wedi cael etholwyr yn dod atom ni yn cwyno am wasanaeth bws yn cael ei dorri, ond wrth gwrs nid oes dim y gallwn ni ei wneud am y peth gan ei fod yn wasanaeth sy'n cael ei redeg yn breifat, nid yw'n cael cymhorthdal, nid oes unrhyw ddylanwad. Felly, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau gwell cysondeb o ran cyflenwad gwasanaethau, i sicrhau nad ydym ni'n gweld sefyllfa lle mae gwasanaethau yn dod i ben yn sydyn oherwydd bod gweithredwr wedi mynd yn fethdalwr neu wedi penderfynu peidio â rhedeg y gwasanaeth mwyach. Ac rwy'n credu y bydd creu'r sicrwydd hwnnw i deithwyr yn arwain at niferoedd gwell ar gyfer y bysiau, oherwydd ni fydd pobl yn meddwl, 'Wel, efallai yr af i ar y bws, ond a fydd e'n dod? A fydd y gwasanaeth yn dal i fod yno y flwyddyn nesaf?' Mae'n gwbl hanfodol, oherwydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru mae gennym ni'r hyn sydd, i bob pwrpas, yn fonopoli preifat. Nid oes unrhyw gystadleuaeth gwirioneddol ar hyd y rhan fwyaf o lwybrau. Nid dyma yr oedd preifateiddio bysiau, hyd yn oed os oeddech chi'n cytuno ag ef yn y 1980au, i fod i'w wneud, felly mae'n rhaid i ni ystyried model newydd nawr sy'n edrych ar wasanaethau bysiau fel yn union hynny, gwasanaethau yn hytrach na rhywbeth a ddarperir yn gyfan gwbl trwy gystadleuaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.

Prif Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar fynediad i bobl anabl at drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn benodol y diffyg mynediad parhaus yng ngorsaf y Fenni. Soniasoch am y rhwydwaith rheilffyrdd a phwysigrwydd hwnnw a'r fasnachfraint newydd. Nid aethom ni ymhell iawn o dan hen fasnachfraint de Cymru a'r gororau Arriva o ran ymdrin â phroblemau diffyg mynediad i bobl anabl, er mawr rwystredigaeth i bobl leol yn fy etholaeth i, gan gynnwys yr ymgyrchydd blaenllaw dros fynediad i bobl anabl, Dan Biddle. Tybed a allwch chi roi sicrwydd i ni, o dan strwythur newydd Trafnidiaeth Cymru ac o dan y fasnachfraint newydd, wrth i ni symud ymlaen, y bydd y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud nawr fel y bydd teithwyr ar y rheilffyrdd ledled Cymru yn gallu elwa ar fynediad dilyffethair, pa un a ydyn nhw yn abl neu'n anabl.

Gallaf, dyrannwyd £15 miliwn at y diben hwnnw. Mae gorsaf y Fenni yn un o'r gorsafoedd a fydd yn cael ei huwchraddio i sicrhau—wel, nid 'uwchraddio' yw'r gair cywir, mewn gwirionedd. Bydd yn sicrhau bod yr hyn a ddylai fod yn arferol, h.y. mynediad i bobl anabl, yno. Ceir gorsafoedd eraill hefyd. Roeddwn i yng ngorsaf Cathays ddoe. Nid yw'n bosibl i bobl groesi i ochr arall y cledrau yn Cathays—mae pont, ond nid oes unrhyw ffordd arall o wneud hynny; bydd angen datrys hynny hefyd. Ond gallaf ei sicrhau y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn y Fenni, sydd yn orsaf bwysig.

Mae adroddiad canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru sy'n cynnig cau cyffordd 41 tua'r gorllewin yn dweud bod nod o geisio lleddfu tagfeydd yn yr ardal benodol honno, ac maen nhw'n ceisio dweud bod angen i bobl gael allan o'u ceir, rhywbeth y byddwn i'n cytuno ag ef. Ond yn yr ardal benodol honno, rydym ni wedi gweld amseroedd bysiau yn cael eu hisraddio ar hyd dyffryn Afan, ac nid yw masnachfraint Trafnidiaeth Cymru newydd mor fuddiol i'r de-orllewin ag yr hoffem iddi fod. Rydym ni'n gweld cynigion enfawr o ran cyllid sydd i'w gyfrannu at ddarn o'r M4 yr ydym yn anghytuno ag ef. Felly, sut ydych chi'n mynd i wireddu bwriadau'r adroddiad hwnnw pan fo trafnidiaeth gymunedol ymhell o fod yn berffaith yma yng Nghymru, a dyna hanes eich Llywodraeth?

14:05

Yn gyntaf oll, mae'r hyn y mae'n sôn amdano yn brosiect cyfalaf, yr M4, a'r hyn a fydd yn gyllid refeniw o ran gwasanaethau bysiau; maen nhw'n ddau wahanol bot i ddechrau. Ond nid yw'n iawn i ddweud na fydd y de-orllewin yn elwa, oherwydd nid yw'r metro yn ymwneud â threnau yn unig, nid yw'n ymwneud â rheilffyrdd ysgafn yn unig, mae hefyd yn ymwneud â gwasanaethau bws. Nawr, wrth gwrs, mae gwasanaethau bws wedi eu datganoli i'r sefydliad hwn yn ddiweddar; mae cyfle nawr i ni wneud yn siŵr bod gwasanaethau bws yn cael eu hintegreiddio'n iawn i'r gwasanaethau trên. Ond, o reidrwydd, gan fod gennym ni reolaeth dros y gwasanaethau trên erbyn hyn, bydd hynny'n cael ei ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt, ac yna, wrth gwrs, yn amodol ar y ddeddfwriaeth, bydd gwasanaethau bws, gan gynnwys y rhai yn nyffryn Afan, yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith metro gwirioneddol.

Trethu Ail Gartrefi

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at drethi ail gartrefi? OAQ52794

Rydym ni’n datblygu ein polisïau trethu i ateb anghenion penodol Cymru, yn unol â’r egwyddorion yn ein fframwaith polisi trethu. Mae hyn yn cynnwys ein polisi ar drethu ail gartrefi.

Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod y ffaith bod £5 miliwn o bobl Prydain bellach yn berchen ar ddau neu fwy o gartrefi tra bod bron i 700,000 o bobl yn ddibynnol ar becynnau bwyd gan yr elusen Trussell Trust yn un o’r arwyddion cliriaf fod ein cymdeithas yn un gynyddol annheg ac anghydradd.

Bellach, mae yna 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, tra bod bron i 2,000 ar y gofrestr aros am dŷ cymdeithasol yn y sir. Rydw i'n falch o weld eich bod chi, o’r diwedd, yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru, yn dechrau mynd i’r afael â’r anomali sy’n golygu nad ydy rhai perchnogion ail gartrefi yn talu trethi cyngor na threthi busnes, sy’n golled anferth i’r pwrs cyhoeddus. Ond mae yna lawer iawn mwy angen ei wneud i helpu teuluoedd sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad gan bresenoldeb nifer cynyddol o ail gartrefi yn eu cymunedau. Un peth syml y gellid ei wneud yng Nghymru ydy newid bychan i’r system cynllunio: ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw annedd gael caniatâd cynllunio cyn y gellid ei droi’n ail gartref a fyddai wedyn yn galluogi cynghorau i gael gwell rheolaeth ar y sefyllfa. A ydych chi’n cytuno bod angen y newid yma ar fyrder?

Rydym ni wedi edrych ar hwn. Nid yw e mor rhwydd â hynny achos: beth sy’n digwydd wedyn, er enghraifft, yng Nghaerdydd, lle mae yna lot fawr o fflatiau yn cael eu hadeiladu, rhai ohonyn nhw’n ail gartrefi? A ydy hynny’n meddwl bod rhaid cael, er enghraifft, caniatâd cynllunio i bob un o'r rheini? Ac yn enwedig gydag ail gartref—beth yw ail gartref? Os oes rhywun, efallai, yn byw mewn un am hanner yr amser ac un am yr hanner arall, pa un yw’r ail gartref? Os yw e yn Lloegr, wrth gwrs, gallan nhw ddweud, ‘Wel, hwn yw fy nghartref i, ac mae fy ail gartref yn Lloegr.’ So, rwy’n deall y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud, ond nid yw e cweit mor rhwydd â hynny.

Beth, felly, yw’r ateb? Wel, rydym ni wedi, wrth gwrs, sicrhau bod cynghorau’n gallu codi mwy o dreth cyngor ar ail gartrefi, rydym ni wedi sicrhau bod y rheini sydd yn prynu ail gartrefi yn talu mwy dan y dreth prynu tir, mae hynny’n wir hefyd. Ond hefyd, wrth gwrs, mae’n rhaid cael system cynllunio sydd yn sensitif i’r iaith, yn enwedig, ond, ar ddiwedd y dydd, mwy o dai sydd eu heisiau er mwyn sicrhau nad yw pobl leol yn gorfod cystadlu â phobl dŵad, a hefyd eu bod nhw’n gallu cael cymysgedd o dai i ddewis ohonynt er mwyn bod tai ar gael yn yr ardal. So, mae’n rhaid cael mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu cymunedau. Rwy'n deall, mewn rhai cymunedau o Gymru, mae hynny’n anodd.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno bod tai yn ased gwahanol i unrhyw un arall, mewn gwirionedd, a bod yn rhaid ei drin gan gadw'r dimensiwn cymdeithasol yn flaenllaw yn ein meddyliau. Am y rheswm hwn, rwy'n cytuno y gall y Llywodraeth edrych ar bolisïau fel premiwm ar y dreth gyngor. Pan fyddwch chi'n gwneud hynny, fodd bynnag, oni ddylai fod yn ganllaw hefyd, o leiaf, bod unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir drwy hynny yn cael ei ail-fuddsoddi wedyn mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol?

Wel, byddwn yn gobeithio bod cynghorau lleol yn gwneud hynny beth bynnag. Rydym ni'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n adeiladu tai cyngor. Rydym ni'n gwybod yng Nghymru wledig yn arbennig—rwy'n credu mai Powys yw'r enghraifft yr wyf i'n ei defnyddio bob amser, mae'n debyg ei bod wedi gwerthu hanner ei stoc tai cymdeithasol o ddiwedd y 1970au ymlaen. Gwerthwyd cynifer o dai ac nid aethon nhw fyth yn ôl i ddwylo'r bobl a allai fforddio eu prynu gan fod y prisiau wedi codi gymaint. Felly, ydy, mae'n hynod bwysig bod mwy o dai fforddiadwy—bydd rhai yn cael eu rhentu, rhai ddim. Roeddwn i gyda chwmni adeiladu yr wythnos diwethaf, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf fod 70 y cant o'r tai y maen nhw'n eu gwerthu yn cael eu gwerthu trwy Cymorth i Brynu, a heb hynny mae'n debyg y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd cynnal eu lefel presennol o weithgarwch.

Ond mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n gallu darparu mwy o dai ledled Cymru, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, lle nad oes cymaint o ddewis o ran maint tŷ ac o ran pris. Sut byddwn ni'n gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol.

14:10
Caffael Llywodraeth Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith caffael Llywodraeth Cymru? OAQ52798

Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau'r gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gorau posibl o'n gwaith caffael.

Diolch. Rwyf i wedi cael gafael ar restr o drafodiadau ar gardiau caffael Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18 yn ddiweddar. Fodd bynnag, cefais sioc fawr o weld y gwariwyd bron i £1.6 miliwn ar y cardiau credyd hyn dros y 12 mis, a bod llawer o'r trafodiadau yn parhau i fod yn bryderus o amwys. Un enghraifft yw'r £13,255 a wariwyd trwy PayPal—dim gwybodaeth am yr hyn a brynwyd ac oddi wrth pa gwmnïau. Un arall yw £460 a wariwyd yn yachtshop.co.uk, neu'r £8,300 a wariwyd mewn un trafodiad ar awyren British Airways. Ceir enghreifftiau dirifedi hefyd o'r cardiau hyn yn talu am danysgrifiadau Amazon Prime neu iTunes heb unrhyw fanylion. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd, fel Prif Weinidog, i wella tryloywder a gonestrwydd ariannol gan fonitro sut y mae arian y mae trethdalwyr yn gweithio'n galed i'w ennill yn cael ei wario ar y cardiau credyd caffael  Llywodraeth Cymru hyn?

Rydym ni'n cyhoeddi ein gwariant dros £25,000 yn rheolaidd i wella tryloywder o sut y mae cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio. Byddaf yn galw ar yr enghreifftiau y mae'r Aelod wedi eu defnyddio ac yn ceisio rhoi ateb manwl i'w chwestiynau iddi hi.

Yn amlwg, mae gennym ni Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r pethau hyn yn fanwl. Roeddwn i eisiau eich holi chi am y darlun ehangach o ran y grym caffael sydd gennym ni. Mae gennym ni sector cyhoeddus sy'n gwario dros £4 biliwn bob blwyddyn ar gaffael, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gallem ni gaffael mwy o'n gwariant yng Nghymru fel ein bod ni'n creu swyddi lleol yn hytrach na mewn cwmnïau amlwladol sy'n allforio'r elw wedyn.

Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ymwneud â chaffael bwyd. Rwy'n pryderu gweld o adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fis Mai diwethaf nad oes ffynhonnell gyhoeddus o ffigurau cywir a chyfredol ar gaffaeliad bwyd sector cyhoeddus Cymru, felly byddwn yn awyddus i ddarganfod sut y gallwn ni wella caffaeliad bwyd lleol yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, byddai hynny'n dda i'n busnesau a hefyd yn dda i'n hiechyd.

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gynyddu amlygrwydd contractau trwy GwerthwchiGymru. O'r 22,000 o gontractau a ddyfarnwyd hyd yn hyn trwy GwerthwchiGymru, mae tua dwy ran o dair wedi bod i gyflenwyr o Gymru ac mae 75 y cant o'r rhain wedi bod i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Gwn fod yr Aelod wedi gofyn am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gallaf ddweud fod cyfran y gwariant caffael cyhoeddus a enillir gan gwmnïau yng Nghymru yn 50 y cant erbyn hyn. O 1 Ebrill 2017 tan 30 Mehefin eleni, £7,000,700 oedd y gwariant trwy gytundebau Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac o hynny roedd 57 y cant yn gyflenwyr wedi eu lleoli yng Nghymru. Pan fydd polisi manteision cymunedol yn cael ei gymhwyso, mae'r ffigurau yn uwch fyth. Er enghraifft, cadwyd 82 y cant o'r arian yng Nghymru pan fydd hwnnw'n cael ei gymhwyso. Gofynnodd, wrth gwrs, sut yr ydym yn cynyddu hyn. Rydym ni eisiau gwneud hynny trwy bwysigrwydd blaenoriaethau rhanbarthol a lleol mewn awdurdodau lleol, ac rydym ni'n ystyried mabwysiadu gwahanol ddulliau lle bydd caffael cydweithredol rhanbarthol yn cael ei wneud, sy'n cryfhau economi a chymunedau yn y rhanbarthau hynny.

Cenedl Cyflog Byw

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl cyflog byw go iawn? OAQ52774

Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr cyflog byw, ac rwy'n falch bod y Llywodraeth hon wedi cymryd camau i gefnogi a hybu'r nifer sy'n derbyn y cyflog byw gwirioneddol gan gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Wrth gwrs, Prif Weinidog, mae'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, gan fod o fudd i enillwyr cyflog, eu haelwydydd, cymunedau ac economïau lleol. A gwn, cyn Wythnos Cyflog Byw, eich bod chi wedi cefnogi digwyddiadau yn ystod dechrau mis Tachwedd yn frwd erioed. Pa gamau eraill y gellir eu cymryd i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol ar draws, yn benodol, y sector cyhoeddus, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, ond hefyd mewn addysg bellach ac uwch?

14:15

Wel, mae gennym ni ymgyrch gref ar hyn ar draws y sector cyhoeddus: yn y Llywodraeth, wrth gwrs; ein cyrff a noddir; y GIG; parciau cenedlaethol; sefydliadau addysg uwch; rhai awdurdodau lleol, er enghraifft, maen nhw i gyd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff eu hunain. Wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd ar draws awdurdodau lleol. Mae angen iddo gael ei ystyried fel rhywbeth sy'n arferol, nid eithriadol, yn y sector cyhoeddus, ac rydym ni eisiau symud ymlaen nawr i ddefnyddio'r grym prynu sydd gennym ni yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei fabwysiadu'n ehangach yn rhan o waith teg ar draws yr economi.

Y Cynllun Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai

8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiwygio'r cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai? OAQ52800

Wel, rwy'n falch, yn dilyn yr ymadawiad â'r system cymhorthdal cyfrif refeniw tai, bod gan yr holl awdurdodau yr effeithiwyd arnynt strategaeth adeiladu tai cyngor ar waith. Maen nhw i gyd ar wahanol gamau ac rydym ni'n gweithio gyda nhw i gynyddu cyflymder a maint eu cynlluniau.

Fel yr ydych chi wedi sôn, yn rhan o'r ymadawiad â'r cynllun hwn yn 2015, rhoddwyd cyfyngiad benthyg o £1.85 biliwn ar gynghorau a gadwodd stoc tai. O gofio bod Theresa May wedi cyhoeddi na fydd gan gynghorau yn Lloegr gyfyngiad ar eu gallu i fenthyg er mwyn adeiladu cartrefi newydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i aildrafod y cytundeb presennol gyda'r Trysorlys? Wedi'r cyfan, mae'n gwneud mwy o synnwyr i fenthyg i adeiladu cartrefi lle nad oes hawl i brynu, fel sy'n wir yng Nghymru, nag yn Lloegr, lle y gellir adeiladu cartrefi ac yna eu gwerthu am lai na gwerth y farchnad. Yng Nghymru, bydd y buddsoddiad hwnnw yn parhau i gael ei ddychwelyd dros y tymor hir.

Mae hynny'n wir. £1,927 miliwn yw'r cyfyngiad benthyg ar hyn o bryd. Gwelais gyhoeddiad Prif Weinidog y DU. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â chynrychiolwyr yn Llywodraeth y DU i weld sut y bydd hynny'n gweithio, ac rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud ei bod yn ymddangos nad oes neb yn gwybod ar hyn o bryd. Gwnaed y cyhoeddiad. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw fanylion. Ond gallaf sicrhau'r Aelod y byddem yn disgwyl i'r hyn sy'n berthnasol yn Lloegr o ran hyblygrwydd fod yn berthnasol yng Nghymru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn rhoi datganiad ar effaith llifogydd storm Callum; Byddaf i'n gwneud datganiad ar 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'; a bydd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn rhoi datganiad i drafod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu. Mae'r rhain yn disodli datganiadau am ddiweddariad band eang—y byddaf i yn eu traddodi yr wythnos nesaf—a chanfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau oren, sydd wedi'i ohirio tan 6 Tachwedd. Hefyd, mae'r datganiad ar ddiweddariad blwyddyn 2 y rhaglen tai arloesol wedi ei gwtogi i 30 munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papur cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r broses y mae hi'n ei defnyddio i benderfynu ar y cynigion i gau ysgolion a atgyfeiriwyd iddi gan y sefydliadau amrywiol hynny sydd â'r gallu i wneud hynny? Bydd hi'n ymwybodol bod un cynnig cau ysgol wedi bod ar ddesg yr Ysgrifennydd Cabinet—neu, yn sicr, ar ddesg yn Llywodraeth Cymru—am 31 mis heb ei drafod. Ers pum mlynedd bellach, mae ansicrwydd ynghylch y cynnig penodol hwn i gau Ysgol Llanbedr yn fy etholaeth i yn Sir Ddinbych. Anfonwyd y cais cyntaf i'r Gweinidogion, a chafodd ei wrthod. Gwnaed ail gais wedyn gan Sir Ddinbych i gau'r ysgol, a gyfeiriwyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn ôl yn 2015, ac mae'r ansicrwydd yn parhau ynglŷn â'r ysgol. Ond er gwaethaf hynny, mae'r niferoedd yn yr ysgol yn galonnog, maen nhw wedi ymrwymo i gytundeb ffedereiddio gydag ysgol leol arall, ac ymddengys ei bod yn mynd o nerth i nerth ac yn cael llwyddiant mawr. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod ansicrwydd o'r fath am gyfnod mor hir yn gwbl annerbyniol, ac y dylid gwneud penderfyniad ar y mater ar fyrder. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i egluro'r broses a'r amserlenni priodol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

A gaf i alw hefyd am ddatganiad ynglŷn â chael gafael ar feddyginiaethau modern? Ces gyfarfod y bore yma gyda'r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ynglŷn â chael gafael ar rai meddyginiaethau mwy modern, gan gynnwys Orkambi, sydd wedi'i brofi i gael effaith sylweddol wrth leddfu symptomau ac arafu cynnydd ffeibrosis systig mewn hyd at 47 y cant o achosion. Gallai oddeutu 200 o bobl sy'n dioddef o ffeibrosis systig yma yng Nghymru elwa ar hyn, ond hyd yma nid yw'r cyffur ar gael, er gwaethaf y ffaith ei fod ar gael yn Awstria, Denmarc, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Iwerddon, Groeg, yr Unol Daleithiau, a Sweden. Yn amlwg, mae'n gyffur modern, mae'n ddrud, ac rwy'n ymwybodol fod angen i ni warchod y pwrs cyhoeddus, ond mae'n gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n gallu cael gafael arno, ac rwy'n credu y byddai diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus i drafod y sefyllfa arbennig hon yn ddefnyddiol, ac yn enwedig i egluro pa un a fu unrhyw drafodaethau â Vertex, gwneuthurwr y cyffur penodol hwn, Llywodraeth Cymru, a GIG Cymru o ran galluogi cleifion i ddefnyddio'r cyffur. Byddwn yn ddiolchgar pe gallwn gael y ddau ddatganiad hynny felly, os gwelwch yn dda.

14:20

Mae'r ail un eisoes yn destun i gwestiwn gan un o'ch cyd-aelodau Ceidwadol yn ystod y cwestiynau yfory, rwy'n yn siŵr bydd cyfle i drafod y mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar yr adeg honno. O ran y mater o gau ysgolion a grybwyllwyd gennych, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd i mi ei bod yn fodlon ysgrifennu atoch i drafod y mater.

Arweinydd y Tŷ, yn ôl ym mis Mai yn rhan o'r datganiad busnes, crybwyllais y ffaith fy mod wedi cael sylwadau gan feddygon yng Nghymru sy'n hyfforddi ym maes histopatholeg a oedd yn dweud eu bod, ers peth amser bellach, wedi wynebu bwlch cyflog yn ystod eu hyfforddiant o ryw £40,000 o'i gymharu â meddygon cyfatebol yn Lloegr. O ganlyniad i'r ohebiaeth rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am y mater hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r bwlch cyflog. Mewn gwirionedd, fe wnes grybwyll y mater gyntaf mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl ym mis Tachwedd 2016, ac eto, ddwy flynedd yn ddiweddarach mae'r bwlch yn parhau i fodoli.

Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n amlwg fod cyflogau, ymhlith ffactorau eraill, yn bwysig i feddygon dan hyfforddiant wrth iddyn nhw benderfynu ble y dylent hyfforddi ac astudio. Mae'r meddygon sy'n dewis hyfforddi yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb â meddygon cyfatebol ar draws y ffin. Mae'r meddygon dan hyfforddiant wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi'n ariannol am ddewis gweithio yng Nghymru. Nid yw'r sefyllfa'n deg, nid yw'n gneud dim lles i ysbryd, ac yn y tymor hir mae'n tanseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu meddygon i hyfforddi a gweithio yn y GIG.

Wrth ateb y cwestiwn ysgrifenedig a ddanfonais ym mis Gorffennaf eleni, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at drafodaethau gyda BMA Cymru a Deoniaeth Cymru, a dywedodd ei fod yn disgwyl y byddai adroddiad ar y mater yn barod erbyn mis Medi. Oes modd felly i mi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno datganiad, boed yn llafar neu'n ysgrifenedig, sy'n egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gau'r bwlch cyflog hwn rhwng Cymru a Lloegr ym maes hyfforddiant histopatholeg, gyda golwg o ddod â'r annhegwch hwn i ben cyn gynted â phosibl?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei fod yn fodlon iawn i gyflwyno datganiad ar y mater hwnnw.

Diolch. Roeddwn yn awyddus i drafod mater parhaus sgandal Windrush. Mae'n fwy na thebyg fod arweinydd y tŷ yn ymwybodol fod y Swyddfa Gartref wedi lansio dau dasglu ers i sgandal Windrush ddod at sylw'r cyhoedd yn gynharach eleni, gyda'r bwriad o gysylltu â'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y sgandal ac i helpu i ddatrys eu statws. Fodd bynnag, yr wyf yn deall, er gwaethaf ymweld â 52 o leoedd yn y DU, fod y tasglu o'r diwedd yn dod i Gymru ac, yr wyf yn deall, hynny ddim ond ar ôl i Hilary Brown, y cyfreithiwr sydd wedi ymladd llawer o'r achosion mewnfudo hyn, brotestio, a byddant ond yn ymweld â dau le, Caerdydd a Chasnewydd. Bydd ail dasglu digolledu yn dod am un diwrnod yn unig, ac rwy'n credu bod llawer o ddicter, mewn gwirionedd, am fod y rhai yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan Windrush yn cael eu hepgor a'u trin yn eilradd. Wrth gwrs, mae'n effeithio arnom ni yma yn y Cynulliad gan ei fod yn gysylltiedig â rhai o'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn y Cynulliad hwn.

Felly, nid wyf yn gwybod pa un a yw arweinydd y tŷ wedi gallu codi'r mater hwn gyda swyddogion y Swyddfa Gartref, neu os yw hi'n bwriadu codi'r mater gyda swyddogion y Swyddfa Gartref. Efallai y gallem gael datganiad gan y Llywodraeth o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan Windrush yma yng Nghymru.

Ie, digwydd bod, ces gyfle ddoe i gwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Fewnfudo, Caroline Nokes, ac roedd hyn ar yr agenda i'w drafod. Cadarnhaodd fod y tasglu yn dod i Gymru, a chafwyd ychydig o drafodaeth am y sefyllfa yma yng Nghymru. Dim ond 62 o bobl o Gymru, rhoddodd hi gadarnhad o hynny i mi, sydd wedi defnyddio'r llinell gymorth, ac er nad ydym yn gwybod gwir faint y gymuned sydd wedi'i heffeithio, yn bersonol rwy'n credu, o sgyrsiau gyda'r gymuned—a gwn fod Julie Morgan wedi cael sgyrsiau tebyg—mai dim ond cyfradd fach iawn o'r rhai sydd wedi'u heffeithio yw hynny mewn gwirionedd.

Cefais drafodaeth gadarn am y sefyllfa gyda'r Gweinidog a chyda fy nghyfatebydd yn yr Alban, a thrafodwyd pa wybodaeth y mae disgwyl i bobl ei chyflwyno a pha mor rhesymol yw hynny, a pha bethau y maen nhw'n eu defnyddio i brofi hynny o ran tryloywder a rhesymoldeb, a'r mathau hynny o bethau. Fe wnaeth hi fy sicrhau bod gan y tasglu ddiddordeb mawr mewn cefnogi unigolion drwy gydol y broses, a chafwyd cyfle i ni gyfnewid barn ynghylch y ffaith fod y gymuned angen sicrwydd trwyadl fod y broses ar gael, er mwyn amddiffyn eu diddordebau ac i'w digolledu os ydynt wedi cael unrhyw anawsterau. Felly, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd o ran y pethau hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y tasglu'n symud ymlaen.

14:25

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â phengliniau â microbrosesyddion sydd ar gael yn y GIG yng Nghymru? Mae'r pengliniau hyn, a elwir yn MPKs, ar gyfer pobl sydd wedi colli coes uwch ben y pen-glin ac felly heb ben-glin nac ychwaith gweddill y goes. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar, roedd wedi colli ei goes dde hyd at y glun ar ôl i'r lori yr oedd yn ei gyrru droi drosodd mewn gwyntoedd uchel ar bont Hafren. Mae MPKs wedi bod ar gael ar y GIG yn Lloegr ers 2016, a chânt eu cynnig i bobl sy'n gymwys ac wedi colli coes yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd. Fodd bynnag, dywedodd clinig fy etholwr wrtho nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru. Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad i egluro pam nad yw manteision MPKs, a allai newid bywydau, ar gael i bobl yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Rwyf ar ddeall eich bod eisoes mewn gohebiaeth â'r Ysgrifennydd dros iechyd ar y mater hwn, a'i fod eisoes wedi ateb i'ch ymholiad.

Cyhoeddwyd y bydd y ddesg flaen gyhoeddus yng ngorsaf heddlu Caerffili yn cau unwaith eto, gan olygu, i bob pwrpas, y bydd tref Caerffili yn cael ei gadael heb orsaf heddlu, a hynny dim ond ychydig dros flwyddyn ar ôl iddi gael ei hailagor. Mae prynu ac adnewyddu'r orsaf wedi costio £315,000 i'r pwrs cyhoeddus. Ac er, wrth gwrs, fy mod yn derbyn nad yw plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu—bron i 150 yn ardal  Gwent yn unig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn mynegi barn, a phryder efallai, fod tref fawr, yn colli ei gorsaf i bob pwrpas, ac, yn hollbwysig, y bydd hi'n anoddach i bobl Caerffili ddefnyddio gwasanaethau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ei hun?

Nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny. Nid wyf yn gwybod os yw ef wedi ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus. Os nad ydyw, rwy'n awgrymu ei fod yn gwneud hynny, a gallaf fod o gymorth iddo gael ymateb.

O ran llosgydd y Barri, a yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar ba un a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio diweddaraf ar gyfer tŵr dŵr a maes parcio? Ac a yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod y Barry Docks Incinerator Action Group o'r farn bod y prosiect cyfan angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio yn 2015?

Nid yw'r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi gwneud penderfyniad hyd yma o ran yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio sydd bellach gerbron Cyngor Bro Morgannwg, yn ymwneud â thanc dŵr a maes parcio. Rwy'n disgwyl, fodd bynnag, pan fydd y Gweinidog yn cyhoeddi llythyr penderfyniad, y bydd yn ymdrin â'r mater o asesiad o effaith amgylcheddol ar gyfer y cais am ganiatâd cynllunio amlinellol yn 2015.

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â syndrom ôl-polio yn arwain at Ddiwrnod Syndrom Ôl-Polio a gynhelir ddydd Llun nesaf, 22 Hydref. Fe'i lansiwyd yn 2013 i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol, a dewiswyd y dyddiad, 22 Hydref, er mwyn bod yn agos at Ddiwrnod Polio'r Byd, a gynhelir ar y 24 Hydref, gan ymgyrch End Polio Now a gynhelir gan y Rotary.

Gall pobl mewn rhanbarthau anghysbell sydd â'r syndrom fod yn anodd iawn eu cyrraedd. Mae mentrau allgymorth wedi'u cynnal yn yr Alban ac yn ne-orllewin Lloegr ac, yn amlwg, bydd pobl mewn rhannau anghysbell o Gymru sydd â'r syndrom, sy'n byw bywydau ynysig, ac mae angen eu cyrraedd. Mae hyn wedi'i ei gydnabod fel cyflwr niwrolegol. Bydd hyd at 80 y cant o'r rhai sydd wedi cael polio yn datblygu'r syndrom ar ôl nifer o flynyddoedd, ac yn gweld cynnydd mewn gwendid, blinder, poen, problemau gyda'r llwnc, sensitifrwydd i oerfel, a llawer o bethau eraill. Does dim triniaeth benodol i gynnig gwellhad, ond o reoli'r cyflwr yn gywir, mae modd ei sefydlogi ac arafu ei ddatblygiad, gan leddfu'r gost ar y GIG a gwella ansawdd bywyd yr unigolion sydd wedi'u heffeithio. Mewn arolwg gan YouGov ddwy flynedd yn ôl, gwelwyd bod 86 y cant o bobl yn gyfarwydd â chlefyd Parkinson, clefyd Alzheimer, ac epilepsi, ond mai dim ond 7 y cant oedd yn gyfarwydd â'r syndrom hwn. Mae'r British Polio Fellowship yn galw ar seneddwyr ledled y DU i helpu i wella ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan, gan gynnwys Cymru, yn arbennig o ystyried anghenion y boblogaeth sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n galw am ddatganiad ar hynny.

Mae fy ngalwad olaf yn gofyn am ddatganiad ar gaethwasiaeth fodern. Ddydd Sadwrn diwethaf, es i i fforwm caethwasiaeth fodern gogledd Cymru, cyn yr wythnos caethwasiaeth fodern yr wythnos hon, a Diwrnod Atal-caethwasiaeth a gynhelir ledled y DU ar 18 Hydref. Cafodd ei drefnu gan sefydliad trydydd sector, Haven of Light, ond roedd gennym gynrychiolwyr o'r sector busnes, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat, yn ogystal â'r Cydgysylltydd Atal-caethwasiaeth, Jeff Cuthbert, fel yr arweinydd atal-caethwasiaeth ar gyfer yr heddlu a chomisiynwyr troseddu, a llawer mwy. Clywsom mai'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio fwyaf erbyn hyn, mewn gwirionedd, yw'r Prydeinwyr sy'n masnachu pobl. Clywsom fod caethwasiaeth fodern yn bodoli mewn busnes, amaethyddiaeth, lletygarwch, mewn troseddau a cham-fanteisio rhywiol ledled y gogledd, yng nghymunedau gwledig Cymru, yn y trefi, ym mhob un sir, a llawer mwy hefyd. Yn amlwg, mae hyn yn amserol o ystyried yr wythnos, ond mae'n amlwg ei fod yn fater parhaus hefyd, gyda chynnydd o 56 y cant yn yr adroddiadau am bobl a gafodd eu masnachu y llynedd, a chwe mis cyntaf y flwyddyn hon hefyd yn dangos ffigurau lluosog, a hynny ddim ond yng Nghymru.

14:30

O ran caethwasiaeth fodern, rwy'n falch iawn o gael dweud mai ni yw'r wlad gyntaf, wrth gwrs, i benodi'r cydgysylltydd a'r hyrwyddwr caethwasiaeth fodern, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn ledled Cymru gyfan yn gwella ymwybyddiaeth a sicrhau bod pobl yn adnabod caethwasiaeth pan eu bod yn ei weld. Rydym yn hynod falch gyda niferoedd yr adroddiadau sydd wedi ein cyrraedd, ac rydym yn gweld hyn fel cydnabyddiaeth yn hytrach nag arwydd o gynnydd mewn niferoedd, ac mae'n amlwg bod gwella ymwybyddiaeth wedi arwain at wella'r gyfradd adrodd. Ac mae ef wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny.

Rwy'n fodlon iawn i gyflwyno datganiad ynglŷn â'n cynnydd, ond nid wy'n credu y bydd yn barod o fewn yr wythnosau nesaf, gan fy mod i eisiau trafod sawl un o'i weithgareddau. Ond, Llywydd, yr wyf yn hapus iawn i drefnu datganiad maes o law, pan fyddwn wedi cyrraedd diwedd y rhaglen benodol hon o ddigwyddiadau. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am godi ymwybyddiaeth, a pha mor bwysig yw hynny. Ac roeddwn i'n falch iawn o allu codi'r mater gyda Caroline Nokes AS, pan wnes i gwrdd â hi ddoe, yng nghyd-destun pobl sy'n agored iawn i niwed ac sydd wedi cyrraedd pen y system lloches a ffoaduriaid, ac sydd yna'n diflannu i'r farchnad ddu. Cawsom sgwrs adeiladol iawn am yr hyn y gallwn ei wneud, y ddwy Lywodraeth ar y cyd, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n agored iawn i niwed ddim yn cael eu dal gan gaethwasiaeth fodern, a hynny'n ganlyniad anfwriadol o ddau bolisi penodol yn dod at ei gilydd. Felly, roeddwn yn falch iawn â'r drafodaeth honno.

O ran y syndrom ôl-polio, mae'r Aelod yn ddiwyd iawn wrth dynnu sylw at ei ymdrechion i noddi digwyddiadau o'r fath ledled Cymru. Credaf eich bod wedi gwneud gwaith rhagorol heddiw wrth wneud hynny. Rwyf yn edrych ymlaen at fod yn ei ddigwyddiad.

Roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael dadl am draffig cyffredinol a mesurau rheoli llygredd ar brif ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda? Mae hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i, neithiwr, wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gorlawn i drafod y bwriad o gau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Nawr, bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar bobl Port Talbot. Ac mae yna ffyrdd eraill yng Nghymru lle rwy'n credu bod angen inni drafod lefelau llygredd, a sut y gallwn gynnwys y cyhoedd yn y mathau hyn o ymgynghoriadau. Er enghraifft, mae gennym adroddiad ar hyn o bryd ar y newidiadau arfaethedig ar gyfer yr M4 ger Port Talbot, ond mae'n adroddiad eithaf hir a swmpus, ac mae'n eithaf manwl, ac yn anodd ei ddarllen ar brydiau. Ac rwy'n credu bod—. Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben ar 2 Tachwedd, sut ydym ni'n mynd i ennyn brwdfrydedd y bobl hyn i ymgysylltu ac i geisio lleddfu rhai o'r problemau hyn, os nad yw'r Llywodraeth yn rhoi digon o amser, neu ddigon o barch, o bosibl, i siarad â'r gymuned am hynny? Nawr, rydym ni wedi ymladd yr ymgyrch hon eisoes yn 2013-14, a llwyddwyd i'w atal rhag digwydd; nawr, mae'r mater wedi codi dod i'r wyneb unwaith eto, ac wrth reswm mae'r cyhoedd yn flin am y cynnig hwn. Felly, rwy'n awyddus i geisio ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol, i edrych ar ddewisiadau arall yn hytrach na chau, i edrych ar ddewisiadau sy'n well i'r amgylchedd na'r cau, fel ein bod ni'n wybodus yn y ddadl, yn hytrach na dim mwy na thystion i benderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud.

Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n hollol wir. Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad yn dal i fod ar waith ar hyn o bryd, ac yn sicr rydym yn cydnabod y gefnogaeth leol i gadw Cyffordd 41 yr M4 yn agored. Mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno dewisiadau yn rhan o'r broses ymgynghori, proses sy'n cael ei chwblhau ar y funud. Yr ymgynghoriad yw cam nesaf y broses, ac wrth geisio barn ar y mesurau arfaethedig, rydym yn ystyried sut i leihau'r lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid mewn pum lleoliad yng Nghymru. Un ohonyn nhw, fel y mae'r Aelod yn gywir i ddweud, yw'r drosffordd ym Mhort Talbot a chyffordd 41. Mae'n rhaid inni ystyried y mesurau yn erbyn y meini prawf sydd wedi'u gosod, ac yn erbyn ein hamcanion, a chofio fod bod yn agored i lefelau uwch o lygredd aer yn fygythiad i fywyd. Nid defnyddwyr y ffordd yw ein prif bryder bob amser, mae'n rhaid ystyried y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn agos at y ffyrdd dan sylw hefyd. Ac er nad yw'n sicr yn un o'r mesurau â ffefrir, ni ellir ei ddiystyru ar hyn o bryd. Mae'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rydym yn argymell fod barnau pobl yn cael eu cynnig yn rhan o'r ymgynghoriad ar y mesurau arfaethedig. Er gwybodaeth i'r holl Aelodau sydd â diddordeb ac i'r cyhoedd, Llywydd, mae'r ymgynghoriad yn agored tan 2 Tachwedd 2018.

14:35

Arweinydd y Tŷ, roedd hi'n Ddiwrnod Digartref y Byd yr wythnos diwethaf, diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac i annog cymunedau lleol i helpu'r rhai sy'n ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd neu sydd â llety ansefydlog. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gael ymuno â'm cyfaill a'm cyd-Aelod Bethan Sayed i werthu The Big Issue yng nghanol Dinas Caerdydd, rhywbeth y bu fy nhad a Bethan yn ei wneud y llynedd. Llwyddais i werthu pum cylchgrawn, eithaf da yn fy marn i—[torri ar draws.]—a llwyddodd Bethan i dorri ei record hefyd. Felly, da iawn hi.

O'r profiad, dysgais bwysigrwydd oedi a chael sgwrs, gan y gall hynny fod o gymorth mawr i rywun, ac nid prynu'r cylchgrawn yn unig. Rwyf wedi dweud sawl gwaith o'r blaen y gall gwên ar y stryd achub bywyd rhywun. Felly, yr wythnos hon, rwyf yn edrych ymlaen hefyd at gael ymuno ag un o'm hetholwyr, Adam Dandy, o siop SHARE, am noson ar y strydoedd ddydd Iau er mwyn codi ymwybyddiaeth a chysgu ar y stryd.

Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwysig i ni edrych ar yr arfer gorau os ydym ni am roi terfyn ar yr epidemig o ddigartrefedd, gan fod 300,000 o bobl yn ddigartref ledled y DU—sy'n golygu bod un o bob 200 yn ddigartref—ac y bu cynnydd o 169 y cant ers 2009. Bellach, a mawr ein cywilydd, ar gyfartaledd mae tri o bobl yn y DU yn marw ar ein strydoedd bob wythnos. Os ydym yn cymharu hynny â'r Ffindir, Arweinydd y Tŷ, lle maen nhw wedi mabwysiadu model tai yn gyntaf yn 2008—ers hynny, maen nhw wedi gweld gostyngiad o 18 y cant mewn digartrefedd, o ganlyniad i'r fenter hon. Tybed a allai'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ar y math hwn o fodel, yr agwedd tai yn gyntaf, ac a allai hynny weithio yma yng Nghymru, ac os felly, pryd y byddwn ni'n ei weld? Diolch.

Ie, wel, fe wnaeth Jack Sargeant yn dda iawn i werthu cymaint. Mae'n rhaid cyfaddef, mae hynny'n curo fy record innau hefyd. Ond mae'n rhoi syniad da i chi o sut beth ydyw mewn gwirionedd i sefyll yno fel gwerthwr stryd, a chael pobl yn eich anwybyddu fel pe na byddech chi yno. Ni allaf bwysleisio digon, ar y cyd gydag ef a Bethan, a gwn ei bod hithau wedi gwneud hyn ers cryn amser hefyd, cymaint o wahaniaeth y gallai siarad â rhywun ei wneud, a dweud, os na allwch chi brynu un, pam na allwch chi wneud hynny ac yn y blaen? Rwy'n prynu fy nghopi i o'r Big Issue gan yr un person bob tro, gan egluro i eraill bob amser pam yr wyf i'n credu y dylwn roi fy arian i rywun yr wyf wedi bod yn ei chefnogi ers tro byd bellach.

Ond hoffwn hefyd dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod apiau ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y cynghorau yng Nghymru bellach—StreetLink neu apiau cysgu ar y stryd; Gallwch chwilio Google amdanynt—maen nhw'n rhoi gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych chi'n gweld rhywun sy'n agored iawn i niwed, rhywun yr ydych chi'n meddwl sydd angen cymorth dewisiadau digartref neu'r dewisiadau tai neu beth bynnag a gynigir gan eich cyngor lleol—. Ac rwy'n argymell bod pobl yn cael gafael ar y rhain, oherwydd gallen nhw fod yn ddefnyddiol iawn, ac maen nhw yn dweud beth yw'r peth gorau i'w wneud os nad ydych yn dymuno rhoi arian—i brynu bwyd neu ddillad neu beth bynnag, neu rywbeth y gallai'r person ei ddefnyddio ar unwaith i'w gynnal am ychydig, ac i'w cyfeirio at y mannau cywir. Felly, cymeradwyaf y pethau hynny i gyd.

Hefyd, Llywydd, rwyf am ymhyfrydu ychydig, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, trwy ddweud fy mod i'n falch iawn bod pêl-droed digartrefedd yn dod i Gymru hefyd—pêl-droed ar y stryd—ac fy mod i'n wirioneddol falch o hynny. Rwy'n gefnogwr brwd o'r fenter honno yn fy etholaeth fy hun, a gwn y bydd Cymru yn falch iawn i'w gynnal yma.

Arweinydd y Tŷ, mae'r gaeaf ar y gorwel, ac unwaith eto, mor anochel â'r nos ar ddiwedd dydd—byddaf yn fwy gofalus gyda'm hymadroddion yn y dyfodol—mae'r A4042, sy'n llwybr strategol allweddol yn fy etholaeth i rhwng y gogledd a'r de, wedi cau unwaith eto yn Llanelen, o ganlyniad i lifogydd—problem gyffredin. A gaf i ofyn am y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran ein sefyllfa wrth wella'r rhan hon o'r ffordd? Gwn y bu trafodaethau yn y gorffennol rhwng Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol o ran canfod ateb ar gyfer y ffordd. Unwaith eto, y mae wedi achosi problemau enfawr i gymudwyr yn ogystal â phobl leol, a chyda'r ganolfan gofal critigol yn prysur ddatblygu yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân, bydd yn bwysicach nag erioed fod y ffordd hon yn agored bob amser, fel bod ambiwlansys, a fu'n arfer cludo pobl i Ysbyty Nevill Hall, bellach yn gallu cyrraedd y ganolfan gofal critigol arbenigol yn Llanfrechfa. Felly, mae pwysigrwydd y llwybr yn cynyddu yn hytrach na lleihau, ac mae'r bobl leol yn gofyn am atebion gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy, fel nad yw pobl leol yn dioddef y tarfu y maen wedi'i ddioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

14:40

Mae llifogydd, wrth gwrs, wedi bod yn fater difrifol o ran ffyrdd ac mewn meysydd eraill ar hyd a lled Cymru. A dweud y gwir, mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad yn fuan ar ganlyniad y llifogydd, gan gynnwys yr adolygiad ynglŷn ag effeithiolrwydd y mesurau sydd ar waith a beth y gellir ei wneud am y peth. Felly, yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn derbyn atebion i'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a godwyd ganddo yn y fan yna.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yn ymwneud â chyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw eu bod nhw am gynnal adolygiad annibynnol ar sut fydd arian amaeth yn cael ei ddosbarthu ymhlith y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod ar ôl Brexit. Oherwydd mae'n gwbl allweddol bod hwn yn cael ei wneud yn gywir o safbwynt buddiannau'r sector amaeth yng Nghymru, lle, wrth gwrs, rŷm ni'n cynrychioli 4.7 y cant o'r boblogaeth ond yn derbyn 9.4 y cant o'r ariannu CAP sy'n dod i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu natur wledig a phwysigrwydd cymharol amaeth i'r economi Gymreig.

Mae yna drafod wedi bod ynglŷn â phwysigrwydd Barnett a pheidio â defnyddio Barnett fel cynsail i hyn, ac rŷm ni wedi clywed synau cadarnhaol i'r cyfeiriad yna, ond mi oedd yna frawddeg arwyddocaol yn rhai o'r adroddiadau yn dweud:

ni chaiff fformiwla Barnett ei defnyddio ar ei phen ei hun fel sail i ddosbarthu arian i ffermwyr ar ôl 2022.

A ydy hynny'n awgrymu, efallai, y bydd Barnett yn rhannol ran o'r hafaliad? Ac os bydd e, yn amlwg fe allai hynny achosi problemau mawr i ni yng Nghymru. Felly, fe fyddwn i'n licio gwybod, er enghraifft, beth oedd mewnbwn Llywodraeth Cymru i gylch gorchwyl yr adolygiad sydd wedi cael ei sefydlu, pa ymwneud fydd gan Lywodraeth Cymru yn newis y cynrychiolydd Cymreig a fydd yn eistedd ar y panel, ac, wrth gwrs, beth fydd y model y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w hyrwyddo fel rhan o'r adolygiad yna?

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad llafar? Rydym ni wedi cael cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet enw cadeirydd interim Cyfoeth Naturiol Cymru. O'r datganiad ysgrifenedig cymharol fyr, mae yna un frawddeg yn sôn am gefndir yr unigolyn yma, yn bennaf yn y sector iechyd. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw brofiad o safbwynt y sector amaeth na'r sector amgylchedd, sef, wrth gwrs, brif ffocws Cyfoeth Naturiol Cymru, na chwaith brofiad o weithio yng Nghymru ac adnabyddiaeth o'r strwythurau ac yn y blaen. Mae hynny'n un peth, ond yn fwy difrifol, mae'n rhaid imi ddweud, wrth edrych ar ychydig o gefndir yr unigolyn yma, mae'n ymddangos yn 2006 y gadawodd e gyngor dinas Lerpwl o dan gwmwl gyda chyhuddiadau ei fod e wedi pasio dogfennau sensitif ymlaen i'r Llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, mi ysgrifennodd 22 Aelod Seneddol lythyr agored yn dweud na fedren nhw weithio gydag ef wedi iddo fe gael ei apwyntio yn brif weithredwr y bwrdd iechyd rhanbarthol. Yn 2010, fe apwyntiwyd ef yn brif weithredwr ysbyty Alder Hey, gan ysgogi'r dyn a oedd am ailadeiladu'r ysbyty i ymddiswyddo mewn protest. Ac mae'r person sydd bellach yn gomisiynydd heddlu Glannau Merswy yn ei ddisgrifio fe fel, ac rwy'n dyfynnu,

Dyn nad oes gen i unrhyw ffydd ynddo, nac unrhyw barch tuag ato.

Nawr, rydw i'n meddwl y dylem ni gael o leiaf ddatganiad llafar llawn ar lawr y Senedd yma, yn hytrach nag un frawddeg fer mewn datganiad ysgrifenedig, er mwyn deall pam fod yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth Cymru â hyder yn yr unigolyn yma, pan ei bod hi'n amlwg bod cymaint o bobl heb rannu'r hyder hynny.

O ran yr ymgynghoriad tir, eglurwyd y cynigion ar gyfer diwygio hynny, sydd wedi'u nodi yn ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn llythyr agored ym mis Medi. Yr un cynigion yn union yw'r cynigion hynny. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 30 Hydref. Rydym yn derbyn ymatebion yn gyflym iawn. Mae'n rhy gynnar i gynnig dadansoddiad o'r ymatebion a welsom hyd yma. Nid wyf yn credu ein bod wedi cael unrhyw fewnbwn i ymgynghoriad Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi i'r cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ar ôl i'r ymgynghoriad gau, bydd dadansoddiad o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynigion.

O ran cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru, cafwyd datganiad ysgrifenedig. Mae sawl ffordd y gall yr Aelod ofyn cwestiwn sy'n ymwneud â datganiad ysgrifenedig; rwy'n awgrymu iddo eu defnyddio.

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ymuno â'r galwadau sydd wedi dod gan feinciau Plaid Cymru am ddatganiad Cabinet gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig o ran y person y mae hi'n debygol o'i enwebu, os yn wir y bydd hi'n cynnig enwebiad, ar gyfer y grŵp arolygu a sefydlwyd gan Michael Gove i ymchwilio i ddewisiadau ariannu ar gyfer y DU gyfan? Roeddynt yn newyddion da yr wythnos diwethaf i ddeall y na fydd unrhyw gyllid yn y dyfodol yn cymhwyso fformiwla Barnett, ac y byddai rhagor o ailddosbarthu arian os bydd galw am hynny. Ond yn amlwg bydd y grŵp arolygu yn cynnig yr argymhellion i sefydliad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ogystal â'r Trysorlys, felly byddai'n dda i ddeall ym mha ffyrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad, ac, yn wir, gofynnwyd iddyn nhw enwebu rhywun ar gyfer hynny. Felly, bydd deall pwy allai'r enwebai fod yn hanfodol bwysig o ran dylanwadu ar ganlyniad yr adolygiad.

Yn ail, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ, a gaf i eich holi sut y gellid bwrw ymlaen gyda chyhoeddiad y cynnig am ffordd liniaru ar gyfer yr M4? Mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd e'n gwneud y penderfyniad hwnnw—y Prif Weinidog presennol, ychwanegaf. O ystyried bod y cloc yn tician bellach, gyda dim ond saith wythnos ar ôl cyn bydd y Prif Weinidog presennol yn gadael y swydd, gofynnais yr un cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl fer yr wythnos diwethaf, heb ennyn llawer o ymateb. Ond mae hyn yn fusnes y Llywodraeth. Chi yw arweinydd y tŷ, chi sy'n cyflwyno busnes y Llywodraeth, felly byddwn yn ddiolchgar pe cawn wybod a oes gennych chi ddealltwriaeth o bryd y bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw, ac, yn wir, sut y gallai gael ei gyflwyno, oherwydd credaf ei bod yn hollbwysig i'r cyhoeddiad hwnnw gael ei draddodi ar lawr y Senedd yn hytrach na thrwy'r wasg. Oes modd i chi roi'r sicrwydd hwnnw i ni y bydd hynny'n digwydd, ac mai dyna'r amserlen y mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio? Fel y dywedais, rydym yn gwybod beth y mae'n rhaid i'r amserlen fod—mae'n rhaid iddo fod o fewn saith wythnos—felly gobeithio y gallwch roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwnnw.

Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran caffaeliad y trenau newydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017—cyhoeddwyd y byddai pum trên dosbarth newydd 769 yn cael eu prynu ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiadau ynghylch y buddsoddiad cadarnhaol yng ngwasanaeth trenau Cymru, ond hyd yma nid yw'r cyhoeddiad a wnaed ym mis Gorffennaf 2017 a ddywedodd y byddai'r trenau hyn yn cyrraedd rhwydwaith Cymru erbyn mis Mai 2018 wedi digwydd. Nid yw'r trenau hynny wedi cyrraedd rhwydwaith Cymru, ac mae chwe mis wedi mynd heibio ers y dyddiad hwnnw erbyn hyn. Mae'n bwysig i bobl fod yn ffyddiog y caiff cyhoeddiadau newydd a gyflwynir eu gwireddu. Os edrychwch chi ar y cyhoeddiad hwn, a wnaed, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf 2017, hyd yma nid yw'r trenau hynny wedi cyrraedd y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf eu bod ar gael, neu i fod ar gael, ers mis Mai 2018. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pryd y bydd y cerbydau hyn ar gael ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn enwedig a ninnau ar drothwy'r gaeaf, a ninnau'n gwybod y bydd yr elfennau yn heriol i'r rhwydwaith. Byddai mwy o gerbydau yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau sydd ar y cyhoedd sy'n teithio.

14:45

Diolch. O ran yr un diwethaf yna, fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at yr Aelod, gan nodi ble'r ydym ni arni o ran yr amserlen.FootnoteLink

O ran amserlen yr M4, mae'r amserlen bresennol ar gyfer materion y Llywodraeth yn dangos bod dadl wedi'i threfnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 4 Rhagfyr, rwy'n credu—wythnos olaf ond un tymor y gaeaf, beth bynnag, yw'r wythnos sydd wedi'i phenodi ar hyn o bryd ar gyfer dadl yr M4, gyda'r amserlen yn mynd ar yn ôl o'r fan honno.

Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y ddau beth arall y gofynnodd yr Aelod wrth ymateb i Llyr.

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Diweddariad am Effeithiau Llifogydd Storom Callum

Dyma ni'n cyrraedd y datganiad gan Weinidog yr Amgychedd, a'r diweddariad am effeithiau llifogydd storom Callum. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llifogydd a welwyd ledled Cymru dros y penwythnos o ganlyniad i storm Callum. Hoffwn ddechrau drwy gydymdeimlo â phawb sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos ac yn arbennig i deulu Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd o ganlyniad i dirlithriad.

Hoffwn ddweud ar goedd bod y Llywodraeth hon yn diolch i'r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, a fu'n gweithio'n ddiflino ddydd a nos dros y penwythnos i helpu'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd, yn cau ffyrdd a gwagio eiddo, ac maen nhw bellach yn gweithio gyda chymunedau i’w cynorthwyo i adfer y sefyllfa.

Rwy'n cydnabod pa mor ddinistriol a gofidus y gall llifogydd fod i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw. Bore yma, gwelais drosof fy hunan rai o'r effeithiau pan ymwelais â Llandysul, lle cyfarfûm â thrigolion a thimau a ymatebodd dros y penwythnos ac sy'n parhau i weithio i adfer y sefyllfa.

Daeth storm Callum â llawer iawn o law i Gymru, gyda hyd at 160mm yn cael ei gofnodi mewn cyfnod o 24 awr—mwy na'r cyfartaledd misol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn ystod cyfnod brig y digwyddiad hwn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 40 o rybuddion llifogydd. Cafodd hyn effaith enfawr ar ein hafonydd, gyda rhai ohonyn nhw'n cofnodi'r lefelau uchaf sydd wedi'u cofnodi erioed, ac, mewn llawer o leoedd, roedd systemau draenio wedi eu gorlwytho. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at lifogydd mewn eiddo, ar ffyrdd, rheilffyrdd a thir amaethyddol ledled y wlad.

Mae'r awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio i asesu graddfa lawn y difrod a'r effeithiau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o lifogydd mewn eiddo yn awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Abertawe ac Ynys Môn. Mae ein hamcangyfrifon presennol yn nodi bod 218 eiddo ledled Cymru wedi dioddef llifogydd mewnol, 195 yn gartrefi, y rhan fwyaf o'r rhain yn hanner deheuol y wlad. Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gasglu gwybodaeth am lifogydd mewn eiddo a, dros y dyddiau nesaf, mae'r ffigur hwn yn debygol o newid. Yn ogystal â hyn, mae Dŵr Cymru hefyd wedi dweud bod o leiaf 29 eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol.

Cafodd storm Callum effaith sylweddol ar wasanaethau rheilffyrdd ar holl rwydwaith Cymru a'r gororau, gyda llifogydd a gwyntoedd cryfion yn arwain at ganslo nifer o wasanaethau, ac yn effeithio hefyd ar berfformiad cyffredinol. Roedd difrod yn sgil llifogydd yn arbennig o ddifrifol ar reilffordd Calon Cymru, lle mae llifogydd ar ran sylweddol o'r trac ger Llandeilo yn golygu y bydd y llinell yn parhau i fod ynghau yn rhannol am sawl diwrnod eto. Yn ychwanegol at yr effaith ar y seilwaith rheilffyrdd, difrodwyd nifer sylweddol o drenau hefyd yn ystod storm Callum drwy iddyn nhw daro coed a changhennau, yn ogystal â gorfod mynd trwy ddyfroedd llifogydd.

Effeithiwyd ar nifer o ffyrdd a phontydd drwy'r wlad dros y penwythnos, ac mae rhai yn dal i fod ynghau. Ni chaewyd y ffyrdd a oedd ynghau yn sgil y llifogydd oherwydd i'r seilwaith fethu, ond oherwydd bod cymaint o ddŵr yn llifo drostynt neu o afonydd yn torri eu glannau. Ailagorwyd y rhan fwyaf o'r cefnffyrdd ddydd Sul ac mae pob un ar agor yn llwyr erbyn hyn.

Adroddodd y cwmnïau pŵer bod dros 38,000 o gwsmeriaid wedi'u heffeithio gan y tywydd garw. Fodd bynnag, roedd pŵer pob cwsmer wedi'i adfer o fewn 24 awr.

Cafwyd nifer o achosion o anifeiliaid yn cael eu dal yn y llifogydd dros y penwythnos. Ymatebodd amryw o asiantaethau yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y trydydd sector a swyddogion gorfodi i adroddiadau o anifeiliaid mewn perygl. Er eu bod wedi gallu helpu mewn llawer o achosion, yn anffodus roedd yr amodau a'r risg i fywyd pobl yn golygu nad oedd bob amser yn bosibl ymyrryd.

Er ein bod ni wedi gweld llifogydd mewn llawer o ardaloedd ledled y wlad, rydym ni hefyd wedi cael adroddiadau o asedau yn gweithio'n effeithiol i leihau'r perygl mewn sawl lle. Dwy enghraifft yw'r adroddiadau o Ystradgynlais a Brynbuga, lle gwnaeth yr amddiffynfeydd eu gwaith ac atal llifogydd yn y trefi hynny. Mae hyn yn helpu i ddangos sut mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd, codi ymwybyddiaeth a systemau rhybuddio wedi cael effaith gadarnhaol.

Mae angen inni yn awr ddeall graddau llawn yr effeithiau sy'n gysylltiedig â storm Callum i lywio trafodaethau ag awdurdodau lleol ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt. Yn dilyn achos o lifogydd mawr, mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i'w achos a'i effeithiau, a chynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru pan fo angen, yn ogystal â pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Gwn fod rhai awdurdodau lleol yn ystyried cynllun caledi a'u bod eisoes yn trafod gyda swyddogion cyllid a all Llywodraeth Cymru gynorthwyo â chymorth ariannol brys. Hoffai'r Llywodraeth hon roi ystyriaeth lawn i hynny.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd addasu i'n hinsawdd newidiol a heriol, a dyna pam mae rheoli perygl llifogydd yn parhau i fod yn un o'm blaenoriaethau. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn camau i reoli risg sy'n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol a dros oes y Llywodraeth hon byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn ledled Cymru. Nid yw ein buddsoddiad yn canolbwyntio ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd yn unig, ond hefyd ar gydnerthedd cymunedol a gwaith atal, drwy well gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o lifogydd a pharatoi cynlluniau llifogydd i leihau'r effeithiau ar fywydau ac eiddo.

Ni allwn ni atal pob achos o lifogydd, felly mae ailadeiladu cydnerthedd a dysgu o'r digwyddiadau hyn yn hollbwysig. Fel y dywedais ar y dechrau, ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a hoffwn gloi drwy  ddiolch eto i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r achosion hyn o lifogydd ac sy'n dal i weithio'n galed i helpu â'r gwaith adfer.

14:50

Fe wnaeth storm Callum, yn wir, ddinistrio cartrefi, busnesau a hawlio bywydau, ac aiff fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau y dyn ifanc, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd y gwelwyd ymdrechion gwirioneddol arwrol yn y tirlithriad a hawliodd fywyd y dyn ifanc hwn, a hoffwn dalu teyrnged yn gyhoeddus i ddau weithiwr Cyngor Sir Gâr, oherwydd, ar y ffordd honno pan ddaeth y tirlithriad i lawr gyda galwyni a galwyni o ddŵr, fe wnaeth ysgubo'r lori oddi ar y ffordd, dros y lan ac i mewn i'r afon, oherwydd mae'n ffordd afon sy'n mynd drwy Gwmduad. Aeth y lori i mewn â'i phen yn gyntaf, roedd y gyrrwr dan ddŵr a neidiodd y ddau weithiwr hynny o Gyngor Sir Caerfyrddin i ganol y cenllif tymhestlog, torri'r ffenestri a'i dynnu allan. Rwy'n siŵr bod storïau eraill ledled Cymru am bobl sydd wedi gwneud pethau gwirioneddol arwrol, a hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw.

Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Gâr, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i dalu teyrnged i Gyngor Sir Gâr—i Mark James, Ruth Mullen a'r staff, sydd i gyd wedi bod yn anhygoel. Eisoes, mae'r timau tai wedi bod allan, mae'r timau adfywio wedi bod allan, yr wythnos nesaf bydd canolfan symudol yn cael ei sefydlu i helpu pobl gyda budd-daliadau, gyda chyfeirio, gydag ad-daliadau ardrethi, ac mae eu gweithredu cadarnhaol a'u penderfyniad i gynnig £100,000 heddiw ar gyfer unigolion, a £200,000 ar gyfer busnesau, yn gwneud, mae arnaf ofn, Gweinidog, i'r datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw edrych yn simsan. Gweinidog, a fyddwch chi'n gallu cynnig unrhyw arian go iawn i gynghorau ledled Cymru i gynorthwyo â chronfa galedi? A ydych chi'n gallu ymrwymo i roi cymaint o arian â phobl fel Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd eisoes wedi rhoi £300,000? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad y byddech yn hoffi rhoi ystyriaeth lawn i hynny—ond heddiw; maen nhw angen yr arian heddiw. Mae bywydau wedi'u dinistrio; mae angen iddyn nhw ddechrau ailadeiladu heddiw. Rwy'n poeni y bydd y Llywodraeth yn treulio hydoedd yn ystyried popeth cyn y bydd yn gweithredu. A wnewch chi egluro hynny i mi os gwelwch yn dda?

Mae'n bosibl y bydd y cynghorau yn gallu cefnogi'r busnesau llai o faint, ond, wrth gwrs, bydd angen arian ar gyfer y busnesau canolig a mawr, yn enwedig y rhai hynny nad oedden nhw'n gallu cael yswiriant risg llifogydd—nifer o fusnesau, eto yng Nghaerfyrddin. Mae yna gwmni mawr sydd â'r holl lorïau agored a'r lorïau achub—mae pob un wedi mynd—ni allan nhw gael yswiriant oherwydd eu bod nhw'n wrth yr afon. Mae hwn yn fater, Llywydd, y mae'r Pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd wedi ei ystyried mewn gwahanol gyfnodau o'r Cynulliad hwn a dydym ni ddim pellach ymlaen yn helpu busnesau a chartrefi sydd wedi'u heffeithio gan yr hyn sydd bellach yn risgiau llifogydd mawr, i gael yr yswiriant hwnnw. Felly, mae'r bobl hyn—mae eu bywoliaeth wedi mynd. Felly, hoffwn wybod beth y gallech chi ei wneud i'w helpu.

Gweinidog, a wnewch chi hefyd ddiystyru'r trothwy y mae angen i gynghorau ei gyrraedd cyn iddynt allu cael unrhyw arian o gronfa galedi Llywodraeth Cymru? Mae'r trothwy wedi'i bennu'n eithaf uchel ac rwy'n credu, mewn achos fel y llifogydd hyn, y byddai'n ddefnyddiol pe gellid diystyru hynny. Gweinidog, bydd y pethau bach hefyd—felly, er enghraifft, mae'r cynghorau allan yn glanhau tai, yn ymdrin â nwyddau sydd wedi eu dinistrio—yn eu tro, yn effeithio ar eu targedau ailgylchu gwastraff trefol. A allwch chi ystyried peidio â chynnwys y llanast hwnnw sydd wedi deillio o'r storm fel nad yw'n rhan o'r targedau ailgylchu hynny, oherwydd bydd hynny'n niweidio'r cynghorau yn y tymor hir o ran cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru?

Yn anad dim, Gweinidog, roedd hyn yn ofnadwy, ac yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin ac, yn wir, yng Nghaerfyrddin gyfan, bu'r effaith yn enfawr, o'r caffi a oedd yn cyflogi 12 o bobl sy'n mynd i'w chael hi'n anodd agor byth eto, i'r cwmnïau mawr sydd wedi colli cymaint. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi gytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni i gyd ymhen y mis, ar ffurf datganiad llafar, gan fod angen inni roi gwybod i bawb bod Cymru yn dal ar agor er gwaethaf storm Callum, ac ar fy rhan i ac fel ymateb uniongyrchol i fusnesau Caerfyrddin, a allwn ni roi gwybod i bawb bod Caerfyrddin yn dal ar agor er gwaethaf storm Callum os gwelwch yn dda?

14:55

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad? Fe wnaethoch chi hi'n hollol glir eich hun bod Caerfyrddin yn dal i fod ar agor er gwaethaf storm Callum. Rydych chi yn llygad eich lle, wrth ichi agor eich sylwadau heddiw, i sôn am yr enghreifftiau anhygoel hynny o ddewrder a phobl yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu eu cyd-ddinasyddion ar adeg o argyfwng. Un peth a'm trawodd i pan ymwelais i y bore yma, er gwaethaf edrych ar gymaint yr oedd yr hyn a ddigwyddodd wedi achosi trallod a gofid i bobl, oedd yr ymdeimlad llwyr o ysbryd cymunedol, a'r straeon yr wyf i wedi'u clywed am bobl yn helpu ei gilydd—y ganolfan padlo, lle bydd pobl yn dod o bob cwr o'r wlad—. Roedden nhw'n dal i wenu. I mi, roedd yn bwysig iawn, fel y Gweinidog, i fynd yno ac i siarad â phobl, ond hefyd i glywed ganddynt, felly mae'n rhoi'r angerdd ychwanegol hwnnw y mae ei angen arnoch i wybod mewn gwirionedd bod angen inni wneud gwahaniaeth i gefnogi'r bobl hyn.

Rwy'n credu bod camau gweithredu Cyngor Sir Gâr i'w canmol. Cyfarfûm â chynrychiolwyr y cyngor y bore yma. Roeddent yn sôn am eu cronfa frys a'r hyn y maen nhw'n ei roi fesul cartref hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau o ran amser a'r angen i ymateb a'r angen i gefnogi pobl pan maent ei angen yn awr. Felly, rydym ni'n casglu'r wybodaeth honno ar hyn o bryd. Cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth honno gennym ni—gan siarad ag awdurdodau lleol, ac maen nhw eisoes yn cysylltu â'm swyddogion heddiw i edrych ar beth fu'r effeithiau a beth fydd yr effeithiau a beth sydd angen ei wneud—rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu ymateb mor brydlon â phosibl.

O ran y llanast y gwnaethoch chi sôn amdano o'r storm a'r gwaith glanhau, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth y byddem yn barod i ystyried ei hepgor hefyd.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad amserol. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â'r sylwadau a wnaed ganddi hi ac Angela Burns, ac estyn fy nghydymdeimlad i—a Phlaid Cymru—at bawb sydd wedi'u heffeithio, fel sydd eisoes wedi'i fynegi yn gynharach gan Adam Price, ac yn enwedig i deulu a ffrindiau etholwr Adam, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn drasig. Roeddwn yn llawn tosturi o glywed y sylwadau a wnaeth Angela am sut y mae llawer o bobl ddewr wedi mynd yr ail filltir yn wir i ddiogelu eu hunain, eu ffrindiau a'u cymdogion ledled rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin yn y cyfnod anodd hwn. Fe hoffwn i gytuno â sylwadau'r Gweinidog a sylwadau Angela Burns—y diolch y maen nhw wedi ei fynegi i'r gwasanaethau brys, i'r holl wasanaethau cyhoeddus, ac i staff yr awdurdod lleol ar draws y canolbarth a'r gorllewin a fu'n gweithio mor galed dros y penwythnos i gynorthwyo'r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt. Cefais adborth cadarnhaol iawn, er enghraifft, gan etholwyr o ran pa mor ddefnyddiol fu'r llinellau cymorth brys yr oedd cynghorau Ceredigion a Chaerfyrddin yn eu cynnal yr adeg anodd iawn hon. Mae'n braf iawn gallu adrodd yn ôl ar sefyllfa frys ac ar ymateb i sefyllfa o'r fath yr ymddengys ei bod, mewn gwirionedd, yn gweithio i bobl. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi gallu ymweld ag un o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau, Ben Lake AS, Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC yn ymweld â mwy o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ddydd Gwener. Mae fy nghyd-Aelod Elin Jones AC, ein Llywydd ni, dros Geredigion wedi gofyn imi sôn yn benodol am ymdrechion y cymunedau eu hunain ac ymdrechion gwirfoddolwyr o'r trydydd sector i helpu gyda'r gwaith clirio ar ôl y storm ddinistriol hon.

Rhain oedd, wrth gwrs, y llifogydd gwaethaf a wynebodd llawer o'r cymunedau yn fy rhanbarth i ers 30 mlynedd, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y digwyddiadau eithafol hyn yn mynd i ddod yn fwy cyffredin. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod bellach yn bryd—? Ac mae hi wedi crybwyll cydgysylltu, ond credaf fod angen inni fynd â hyn ymhellach. A yw hi'n cytuno â mi ei bod hi bellach yn bryd i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun addasu i newid yn yr hinsawdd i sicrhau ein bod yn gwbl barod a bod ein cymunedau wedi'u hamddiffyn yn ddigonol? Ac a wnaiff hi ymrwymo heddiw i drafod datblygu cynllun o'r fath gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ac i adrodd yn ôl i'r Siambr ar y cynnydd? Dydw i ddim yn awgrymu, Llywydd, nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gamau yn y maes hwn, ond credaf ei bod bellach yn bryd i ni, mewn gwirionedd, ystyried cydgysylltu'r gweithredu hwnnw hyd yn oed yn fwy effeithiol ar draws portffolios.

Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn sôn bod yna gymunedau a gafodd eu diogelu'n llwyddiannus gan amddiffynfeydd llifogydd sy'n bodoli eisoes, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yr yn mor falch â hi yn hynny o beth, ond bydd hi'n ymwybodol y bu yna sefyllfaoedd lle cafodd amddiffynfeydd sydd eisoes yn bodoli eu torri, ac nid yw pob un ohonyn nhw'n amddiffynfeydd hirsefydlog. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i adolygu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac yn wir y math o amddiffynfeydd rhag llifogydd yr ydym ni yn eu defnyddio, yng ngoleuni'r toriadau hyn?

Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn datgan na chaewyd ffyrdd oherwydd i'r seilwaith fethu. Gobeithio y byddai hi'n cytuno â mi bod angen inni fod yn addasu ein seilwaith i ddiwallu anghenion amseroedd newidiol iawn. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol, er enghraifft, fod y rhan fwyaf o'r pontydd ar draws afon Teifi wedi'u cau am gyfnodau hir, gan greu problemau sylweddol ar gyfer gwasanaethau brys, er enghraifft, o ran cyrraedd ysbyty Glangwili o Geredigion. A wnaiff hi ymrwymo heddiw i adolygu, gyda'r awdurdodau lleol a'r cyrff cyhoeddus, pa mor briodol yw'r seilwaith yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan roi sylw penodol i gryfder y pontydd dros afon Teifi ac afon Tawe? Mae rhai ohonyn nhw, fel y bydd hi'n ymwybodol, o gryn oedran ac mae'n bosibl y bydd grymuster y digwyddiad hwn wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw.

O ran adnoddau, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth San Steffan, neu a fyddwch chi'n gwneud hynny, gyda'r bwriad o fanteisio efallai ar y cymorth ariannol sydd ar gael o Gronfa Gydsefyll yr UE? Credaf y gallai hyn fod yn ffynhonnell werthfawr o adnoddau ychwanegol yn y cyfnod anodd hwn. A wnaiff hi—? Ac mae hi wedi crybwyll hyn, ond hoffwn bwyso arni ymhellach ar hyn—. Soniodd am hyn mewn ymateb i Angela Burns, ond a wnaiff hi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw drwy'r cynllun cymorth ariannol brys? Llywydd, ni fyddai neb yn disgwyl i'r Gweinidog roi pris ar hynny heddiw, ond rwy'n teimlo bod angen inni geisio sicrwydd ganddi y bydd cymorth ar gael, hyd yn oed os na all hi ddweud wrthym ni faint yn union ar hyn o bryd.

Ac, yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gymorth a all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r gymuned ffermio, y bydd llawer ohonyn nhw yn wynebu colledion dinistriol o ran offer a da byw? Diolch yn fawr.

15:00

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad cynhwysfawr, ac fe wnaf fy ngorau i ateb y cwestiynau yr ydych chi wedi'u codi. Credaf eich bod hefyd yn iawn eto i dalu teyrnged i, a chydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr, y gymuned leol, yn ogystal â'r gwasanaethau brys, y mae pob un ohonom ni, rwy'n credu, nid yn unig y cymunedau lleol, yn ddyledus iddynt. Ac mae'n dda clywed y straeon cadarnhaol hefyd am linellau cymorth brys yn gweithio dda, bod camau atal wedi'u rhoi ar waith. Un o'r pethau a glywais y bore yma hefyd oedd sut y gwnaeth rhai o rybuddion Cyfoeth Naturiol Cymru helpu i roi gwybod i bobl felly os oedden nhw mewn ardal â risg o lifogydd, roedden nhw'n gallu symud eu ceir neu gymryd camau penodol i atal yr effaith ar eu cartref a'u hardal hefyd, mewn gwirionedd.

O ran ystyried adolygiad o'n blaenoriaethau ni, ar ôl unrhyw ddigwyddiad fel hwn, pan fydd ein gallu a'n cydnerthedd wedi'u profi, mae'n iawn a phriodol inni edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio a hefyd edrych ar yr hyn nad yw wedi gweithio a gweld y pethau y mae angen eu newid yn y dyfodol. Felly, rydym ni yn disgwyl y byddwn nawr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r holl randdeiliaid eraill i edrych ar yr hyn a ddigwyddodd a'r hyn y bydd angen i ni ei newid o bosib ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae bob amser yn briodol ein bod yn dysgu gwersi a'n bod yn ategu'r gwaith yr ydym yn ei wneud wrth gynnal yr ymrwymiad hwnnw i atal llifogydd ledled Cymru gyfan hefyd.

O ran y cynllun addasu i newid yn yr hinsawdd ac atal llifogydd, wrth gwrs, mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r ffactorau sy'n cael ei ystyried o ran sut yr ydym ni'n mapio perygl llifogydd ac yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny yn ein gwaith atal yng Nghymru fel y mae, ond, yn sicr, wrth i'r bygythiadau newid yn yr hinsawdd gynyddu fwy fyth—yr heriau a ddaw yn sgil hynny—nid yw ond yn briodol ein bod yn ystyried hynny yn ei gyfanrwydd. Rwy'n siŵr y byddaf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni yn cydweithio'n agos, gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, o ran sut yr ydym ni'n addasu i newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a fydd yn amlwg yn ystyried y popeth mewn modd cynhwysfawr, gan gynnwys atal llifogydd a chamau lliniaru hefyd.

O ran cyllid brys sydd ar gael i helpu, rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth—fel a ddywedais wrth fy nghyd-Aelod, Angela Burns, y mae hynny eisoes yn cael ei drafod gyda swyddogion ac mae'n rhywbeth, fel Llywodraeth Cymru, yr ydym yn agored iddo ac yn ei ddeall. Ac er eich bod chi'n gywir yn dweud na allaf roi ffigur neu nodi rhif ar hyn o bryd, yma yn y Siambr hon, yn sicr rydym yn ymwybodol o'r angen i fwrw ymlaen â hyn a hefyd i ystyried, mewn gwirionedd, a oes angen inni ystyried y trothwy hefyd yn rhan o hynny.

Yn olaf, dim ond ar y pwynt am Gronfa Gydsefyll yr UE, fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw ei bod ond ar gael pan fo cost difrod llifogydd yn fwy na £1 biliwn. Yn amlwg, mae angen ystyried popeth a gynigir, popeth, ac yn amlwg rydych chi'n iawn y byddai angen mynd i'r afael ag unrhyw ddyrannu arian drwy drafod gyda swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Hyd y gwn i, nid fu unrhyw drafodaethau hyd yn hyn, ond, yn amlwg, byddai hynny'n dibynnu ar ganlyniad yr adolygiadau sy'n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd yn yr holl gymunedau yr effeithiwyd arnynt.

15:05

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Fel Angela Burns, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Corey Sharpling, a fu farw yn anffodus mewn tirlithriad. Ac rwyf hefyd yn cydymdeimlo â phobl eraill yn y DU a fu farw neu sydd wedi dioddef anaf yn y storm ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y lle hwn yn gwneud eu gorau glas i'w helpu nhw a'r bobl hynny y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi'u difrodi gan y gwyntoedd cryf a'r llifogydd a achoswyd gan storm Callum. Hoffwn hefyd ategu'r diolch a'r gwerthfawrogiad i'r gwasanaethau brys ac eraill ac aelodau o'r cyhoedd a weithiodd i helpu eu ffrindiau, cymdogion a phobl eraill drwy'r anawsterau a achoswyd gan y storm.

Rwy'n sylweddoli y bydd rhai cymunedau wedi elwa'n fawr o amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd eisoes yn bodoli, ond, mewn rhai mannau, ni fu'r amddiffynfeydd hynny, yn amlwg, yn ddigonol, ac, wrth reswm, bydd preswylwyr yn bryderus. Felly, a wnewch chi gadarnhau beth fyddwch chi'n ei wneud i adolygu'r amddiffynfeydd rhag llifogydd, mewn cymunedau sydd â nhw eisoes a mannau lle mae trigolion a busnesau yn teimlo o bosib eu bod ar eu colled?

Rydych chi wedi cydnabod yn eich datganiad bod anifeiliaid wedi eu dal yn y llifogydd, a bu achosion o ddefaid yn cael eu golchi ymaith ac anifeiliaid eraill yn sownd. Hoffwn ofyn i chi pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r ffermwyr hynny sydd wedi colli da byw ac sydd bellach â da byw sydd wedi'u hanafu oherwydd y llifogydd. Ceir adroddiadau hefyd o geffylau yn gorfod cael eu hachub o ddŵr y llifogydd. Felly, a ydych chi'n fodlon bod adnoddau priodol a digon o wybodaeth ar gael i helpu perchnogion ceffylau a pherchnogion anifeiliaid tebyg a ffermwyr hefyd i gynllunio ar gyfer, ac ymdopi â chanlyniadau llifogydd? Pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda ffermwyr ynghylch eu rhan nhw yn y gwaith o atal a lliniaru'r risg o lifogydd, a pha gymorth yr ydych chi'n ei gynnig iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu cyflawni hynny, mewn gwirionedd?

Mae Clwb Canŵio Padlwyr Llandysul yn fenter gymunedol ac mae eisoes wedi dechrau codi arian i fynd i'r afael â'r difrod a achoswyd, y maen nhw'n amcangyfrif sydd oddeutu £200,000. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyw faint o gefnogaeth i fentrau cymunedol sydd wedi'u heffeithio gan y tywydd garw? Ac mae darparu cyfleustodau yn effeithiol yn fater tyngedfennol i rai pobl—mewn ysbytai yn enwedig. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda chwmnïau cyfleustodau am eu hymateb i'r storm ac unrhyw heriau y gwnaethon nhw eu hwynebu y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw ar gyfer y dyfodol? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad a'i chwestiynau.

O ran edrych ar—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at sut mae amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi bod ar waith ac wedi gweithio ac i asesu a yw pethau wedi gweithio gystal ag y byddem ni wedi hoffi iddyn nhw weithio. Fel y dywedais o'r blaen, mae'n ddyletswydd arnom ni, pan fydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd, y dylem ni adolygu ac asesu yr hyn sydd wedi digwydd pan fyddwn yn cael yr holl wybodaeth gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a'r holl randdeiliaid a'r cymunedau dan sylw, a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu dysgu o hynny a diwygio yn unol â hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn ddifrifol iawn, fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gan weithio ochr yn ochr â'm cyd-Aelodau perthnasol sydd yn y Llywodraeth ac yn y Cabinet. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried a bydd yn cyfrannu at ein cynlluniau yn y dyfodol wrth inni edrych ar beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer atal.

Rydych chi'n iawn i grybwyll, a soniais yn fy natganiad, am yr effaith ar berchnogion tir a'r achosion o ran rhai defaid, a ffermwyr. O ran sut mae ein—. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir, sy'n deall risg llifogydd ac sy'n deall rheoli tir yn eu hardaloedd, a dyna pam, pan fyddwn ni'n ystyried diweddaru ein strategaeth naturiol ar gyfer atal llifogydd, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, bydd perchnogion tir a ffermwyr yn rhan o hynny hefyd, i wneud yn siŵr y gallwn ni ystyried a dysgu o'r holl bwyntiau yr ydych chi wedi'u codi o ran rheoli tir, a pherchenogion ceffylau ac anifeiliaid hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am y clwb padlwyr ac fe wnes i gwrdd â nhw heddiw yn Llandysul, mewn gwirionedd, a gweld yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud o ran y gwaith glanhau a sut y mae pobl wedi dod o bob cwr o'r wlad a'u hariannu torfol. O ran hyn—wyddoch chi, mae'n rhaid inni weithio gyda'r holl randdeiliaid yn y gymuned a gweithio, fel Llywodraeth Cymru, i weld beth yw'r ffordd orau o gynnig cymorth yn y dyfodol.

15:10

Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad. Fel yr wyf yn siŵr y byddwch chi'n gwybod, cafodd fy etholaeth i yn arbennig ei heffeithio gan storm Callum, a disgrifiwyd Aberdâr gan lawer fel y dref a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd. Yn Rhondda Cynon Taf, mae tua 40 o gartrefi a 29 o fusnesau wedi dioddef llifogydd, llawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Ac yn Penrhiwceiber, roedd dros 30 o bobl yn gaeth ar drên mewn dŵr llifogydd a oedd yn codi a bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hachub gan ddefnyddio llwybr cerdded wedi'i lenwi ag aer.

Rwy'n dymuno ailadrodd sylwadau'r Aelodau eraill yn gynharach yn cynnig eu diolch i'r gwasanaethau brys, gweithwyr cyngor, gwirfoddolwyr ac eraill am eu camau gweithredu prydlon, a hefyd i gydymdeimlo â phawb sydd wedi'u heffeithio. Croesawaf eich sylwadau ynghylch rhoi ystyriaeth lawn i roi cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol, ond rwyf eisiau gwneud y pwynt nad yw hyn ynghylch gwariant tymor byr ar unwaith yn unig. Yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, mae £100,000 eisoes wedi'i wario ar hynny ac mae £100,000 arall wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith ymchwilio a chlirio. Felly, a wnewch chi sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth i fesurau hirdymor fel y rhai a allai helpu i liniaru effeithiau llifogydd ac arbed arian yn y tymor hir?

Yn ail, rydym ni'n gwybod, Gweinidog, bod coedwigo ardaloedd yr ucheldir yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac amgylcheddol gynaliadwy o liniaru llifogydd yn ein cymunedau yn y Cymoedd. Yn wir, os edrychwch chi ar Ardal y Llynnoedd, ar ôl storm Desmond yn 2015, plannodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1,400 o goed yno, sydd eisoes yn helpu i atal dŵr ffo a lleihau llifogydd. Felly, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clirio cymaint o dir yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fel yn Glenboi yn fy etholaeth, oherwydd clefyd coed ynn a chlefyd y llarwydd, ac nid yw'r gwaith o ailblannu coed mewn rhai ardaloedd allweddol wedi digwydd eto, beth arall y gellir ei wneud i gyflymu'r broses hanfodol o goedwigo?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'i chyfraniad, yn enwedig ar ran eich etholwyr sydd hefyd wedi'u heffeithio gan y llifogydd dros y penwythnos. Rwy'n cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio ganddyn nhw, oherwydd rydym yn gweld cymaint o ofid y mae gweld eich cartref neu eich busnes a'ch cymuned yn cael eu heffeithio yn y modd hwnnw yn ei achosi, ac wedyn y gwaith clirio hefyd.

Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn am goedwigo. Mae rheoli risg llifogydd yn naturiol yn bendant yn rhywbeth i'w ystyried wrth leihau'r risg o lifogydd, a bydd hynny yn ffurfio rhan o'n strategaeth naturiol, yr ydym ni yn ei llunio a'i diweddaru ar hyn o bryd. Bydd hynny'n cynnwys pethau fel mannau storio llifogydd, plannu coed, defnyddio malurion pren ac argaeau sy'n gollwng, ac hefyd, ailgyflwyno dolenni, felly wrth gwrs mae'n rhywbeth sy'n—. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod bod hyn yn ffordd bwysig o ran sut yr awn ati i reoli llifogydd yn y dyfodol.

Oherwydd y gefnogaeth nawr gyda'r gwaith glanhau a'r costau uniongyrchol y mae angen eu talu—. Mae gwaith y mae angen ei wneud ar unwaith yn amlwg, ond rydych yn hollol gywir i sôn am fesurau tymor hir, oherwydd dyna'r holl bwynt o fod â—dyna pam yr ydym ni'n edrych ar atal llifogydd a rheoli risg o lifogydd, oherwydd rydym ni eisiau bod yn y sefyllfa orau bosibl yn y dyfodol, nid yn unig i atal llifogydd, amddiffyn eiddo a busnesau a chartrefi, ond er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bobl, hefyd. Oherwydd, pan rydych chi wedi eich effeithio unwaith gan lifogydd, mae bob amser yn mynd i fod yno ar eich meddwl bob tro y bydd glaw trwm. Bob tro y bydd rhywbeth fel hynny, mae hynny'n mynd i chwarae ar eich meddwl bob amser, ac mae hynny'n rhywbeth y sylweddolais yn llawn gan y bobl y bûm yn ymweld â nhw heddiw. Felly, mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud. Dyna pam ei bod hi mor bwysig nad ydym yn meddwl yn y tymor byr yn unig; mae'n strategaeth hirdymor o ran sut yr ydym ni'n amddiffyn pobl yng Nghymru.

15:15

Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad heddiw, ac rwyf innau hefyd yn ymuno â'r Aelodau eraill i gydymdeimlo â'r teuluoedd a'r rhai hynny yr effeithiwyd arnyn nhw—nid wyf yn credu bod 'digwyddiadau erchyll' yn eiriau rhy gryf, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n gweld rhai o'r delweddau sydd wedi dod o bob cwr o Gymru. Yn amlwg, pan fydd marwolaeth yn un o ganlyniadau'r digwyddiadau hynny, yna maen nhw'n erchyll, a dweud y lleiaf.

Hoffwn bwyso arnoch chi ar ddau fater, os caf i, Gweinidog. Yn eich datganiad, rydych chi'n sôn am sut mae rheoli'r risg o lifogydd yn dal i fod yn un o'ch blaenoriaethau, ac rwy'n cefnogi hynny'n llawn. Ond eto, yn eich llythyr cylch gwaith, y soniodd arweinydd yr wrthblaid yn gryno amdano yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, o'r pum pwynt i chi fel Gweinidog—nid Ysgrifennydd y Cabinet, ond i chi fel Gweinidog yn benodol—nid yw atal llifogydd yn un o'r pum pwynt hynny sydd yn eich llythyr cylch gwaith ar gyfer eleni. Mae ailgylchu yn un, coetiroedd yn un, a mynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, gwella'r ddealltwriaeth o werth natur, a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Felly, nid yw'n afresymol gofyn: pam yr oedd ar goll o'ch llythyr cylch gwaith i Gyfoeth Naturiol Cymru, o gofio mai hwnnw yw'r corff, yn amlwg, sy'n goruchwylio'r gwaith o gynllunio a chodi amddiffynfeydd rhag llifogydd ledled Cymru?

Ddoe, nododd y Prif Weinidog y byddai arian ar gael. Unwaith eto, rwy'n sylweddoli nad ydych chi mewn sefyllfa i roi ffigur ar hynny, a byddai'n anghywir, yn wir, cyn lleied o amser ar ôl y digwyddiad, ichi ddweud mewn gwirionedd, 'Dyma swm o faint bynnag sydd ar gael.' Byddai'n werth ystyried faint fydd ar gael. Ond a allwch chi gadarnhau y bydd yr arian yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano yn arian newydd i'ch adran chi, neu a fydd yn rhaid iddo fod yn arian y bydd yn rhaid dod o hyd iddo o fewn eich adnoddau presennol? Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaeth y Prif Weinidog nodi'n glir y byddai arian ar gael, felly dyna'r person uchaf yn y Llywodraeth yn dweud, yn rhoi'r ymrwymiad hwnnw, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig deall—ac mae'r Ysgrifennydd cyllid yn ei gadair—a yw'n sicrhau bod arian newydd ar gael i chi, ac, os felly, byddai hynny'n ychwanegiad dymunol iawn i'ch cyllideb.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a'i eiriau o gydymdeimlad a chymorth i bawb sydd wedi cael eu heffeithio? Rydych chi'n codi, yn holi, a yw hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gallaf ei gwneud hi'n gwbl glir a dweud bod hwn yn flaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer fy hun, ond ar gyfer y Llywodraeth hon. Ac fe wnaethoch chi sôn am y llythyr cylch gwaith. Pan ddeuthum i'r swydd a chyhoeddi'r datganiad, amlinellais nifer o flaenoriaethau, pump ohonyn nhw a restrwyd gennych chi yn y fan honno. Eglurais hefyd yn y datganiad hwnnw bod atal llifogydd yn flaenoriaeth allweddol a oedd yn rhyng-gysylltu ac yn cyd-blethu â llawer o hynny. Felly, mae'n sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi £350 miliwn yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a £54 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, ac ni fydd hynny'n newid.

O ran sut y dylem ni symud ymlaen, dywedodd y Prif Weinidog ddoe y byddai arian ar gael o dan yr amgylchiadau hyn o lifogydd. Wel, mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud eisoes. Mae angen inni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd, adolygu cyn gynted ag y gallwn ni, gweithio gyda'r holl randdeiliaid a'r awdurdodau lleol, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, i edrych ar beth sy'n gweithio a beth y mae angen inni ei flaenoriaethu a'i newid. O bosibl, efallai—. Rwyf o'r farn bod hyn yn sicr yn flaenoriaeth, ac mae angen inni wneud yn siŵr, er gwaethaf y cefndir o gyni, bod arian ar gael ar gyfer llifogydd hefyd. Dywed Theresa May bod cyni ar ben, felly os ydych chi eisiau codi'r ffôn a dweud wrthi am ein ffonio ni i roi rhagor o arian i ni fel y gallwn ni gael rhywfaint o arian tuag at lifogydd—

Ewch yn eich blaen, Gweinidog, nid oes angen ichi wrando ar neb os ydych chi'n dewis peidio.

Diolch, Llywydd. Mae'n sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon i sicrhau bod gennym ni'r arian a'r flaenoriaeth sydd eu hangen ar gael i wneud yn siŵr ein bod yn ymdrin ag atal a lliniaru llifogydd yng Nghymru, ac y gallwn ni sicrhau a rhoi tawelwch meddwl i bob cymuned sydd wedi ei heffeithio gan lifogydd.

Rydym ni wedi gweld storm Callum a'r dinistr ofnadwy, llifogydd ym mhobman, a thrasiedi, fel y soniwyd yn gynharach. Cafwyd llifogydd yn y bae. Eto, mae'r ardal sy'n destun anghydfod o amgylch Nant y Rhath yn hollol iawn ac ni fu llifogydd yno o gwbl, felly fy nghwestiwn i chi fyddai: a ydych chi'n credu y gallwch chi wario'r £0.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer ardal Nant y Rhath yn well mewn mannau eraill, ac a wnewch chi ailystyried?

Roeddwn i'n gwybod y byddai'r Aelod yn codi hyn yn y datganiad hwn. Edrychwch, mae'r Aelod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa nawr o ran Nant y Rhath, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r grŵp o drigolion yn y fan honno, ac mae'r gwaith wedi'i oedi ar ôl i'r trigolion wneud rhywfaint o waith modelu eu hunain. Mae hynny'n dal i fod yn wir. Yn wir, ymwelais â'r safle ychydig o wythnosau yn ôl i weld y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma, a Gerddi Melin y Rhath, lle nad oes gwaith wedi'i wneud. Mae hynny'n fater ar wahân. Dyna'r sefyllfa. Mae wedi ei ohirio. Mae hynny'n cael ei ystyried, ac rwy'n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gysylltu'n ôl gyda rhai cynigion ynghylch hynny.

Ond er fy mod yn cydnabod yr emosiwn a'r pryderon ynghylch y cynigion ar gyfer Parc y Rhath, ac yn enwedig yr effaith o ran cael gwared ar goed, rwy'n credu, i mi, ac i lawer o gymunedau ledled Cymru—ac rydym ni wedi gweld effaith llifogydd dros y penwythnos diwethaf—mae'n hollol briodol y dylem ni ystyried ac y dylem ni fuddsoddi, a chredaf fod angen diogelwch rhag llifogydd a chamau atal ar bobl. Ni ddylem ni ymgilio rhag—. Mae yna bobl sydd wedi gweld eu cartrefi wedi eu difetha a'u busnesau wedi eu difetha dros y penwythnos hwn.

15:20

Fi sy'n siarad nawr. Dywedwch hynny wrth y bobl—. Mae atal llifogydd mor bwysig, ac mae'n fuddsoddiad yn y cymunedau hyn. Mae nant y Rhath yn fater gwahanol. Heddiw, rydym ni'n sôn am y cymunedau hynny a gafodd eu heffeithio gan storm Callum a sut fydd y Llywodraeth hon yn gweithredu ac yn buddsoddi yn y cymunedau hynny i atal llifogydd pellach ac i roi tawelwch meddwl.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canfyddiadau'r Rhaglen Garlam i Adolygu Galwadau Oren
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit

Sy'n dod â ni at eitem 5, sef y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ar y wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ers y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus am yr hyn a fydd yn dod yn lle buddsoddiad rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael. Rwy'n ddiolchgar i Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith ar y drafodaeth hon.

Y mis diwethaf, fe gyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ganlyniadau ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, ac fe fyddwn yn ymateb yn ffurfiol i hynny cyn hir. Rwy'n croesawu cefnogaeth y pwyllgor i'r egwyddor 'gwnaed yng Nghymru'. Mae hynny'n ategu ein neges glir nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw fandad i ymestyn y gronfa ffyniant gyffredin annelwig sy'n cael ei chynnal i Gymru.

Llywydd, ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol yn dadansoddi'r ymatebion i'n papur polisi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Roedd y papur hwnnw yn nodi egwyddorion ac amcanion, ac yn rhoi canllaw o ran sut i gyfnewid y cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd ar waith yng Nghymru, ac fe gafodd gefnogaeth frwd. Rwy'n credu bod pobl yn dechrau cydsynio yma yng Nghymru ynglŷn â sut yr ydym ni eisiau gweld arian cyfnewid yn gweithio, ac awydd i fwrw ymlaen â hynny. Ymhlith nodweddion allweddol y dyfodol hwnnw yw bod angen fframwaith polisi Cymreig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, un sy'n ymdrin ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac sydd wedi ei seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r rhanbartholi a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd.

Mae angen system arnom ni sy'n canolbwyntio ar ranbarthau synhwyrol i Gymru, gan roi awdurdod i'r rhanbarthau hynny, ac i ardaloedd lleol, wneud mwy o benderfyniadau; system sy'n llai biwrocrataidd, ond sy'n dal yn seiliedig ar y model partneriaeth sydd wedi gweithio'n dda i ni; system sy'n seiliedig ar reolau clir, ond gyda llai o anhyblygrwydd o ran daearyddiaeth a diben; system sy'n gweld buddsoddi cyhoeddus yn dwyn ffrwyth llawn, ond ei fod yn gymesur o ran trefniadau ar gyfer mynediad, monitro ac archwilio.

Rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i ddatblygu ein syniadau, fel y gallwn ni fod yn hyderus, er enghraifft, na chollir cyfleoedd yng nghefn gwlad Cymru, ac y gellir sicrhau bod y buddsoddiad hanfodol hwn yng Nghymru yn ganolog i'r dull a geir yn y cynllun gweithredu economaidd, lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn seiliedig ar ddarparu nwyddau cyhoeddus.

Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU y caiff y £370 miliwn y flwyddyn a gaem ni ar gyfer ein cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ei roi inni yn llawn fel na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd, fel yr addawyd yn aml yn ystod ymgyrch y refferendwm. Rydym ni hefyd yn disgwyl penderfyniadau ynglŷn â sut a lle y caiff cyllid cyfnewidiol yng Nghymru ei drosglwyddo i aros yma yng Nghymru—fel sydd wedi digwydd dros y 18 mlynedd diwethaf ac sydd yn amlwg wedi'i nodi yn y setliad datganoli. Nid oes unrhyw gefnogaeth yng Nghymru ar gyfer cronfa gyfnewidiol ganolog neu un wedi ei gweinyddu gan y DU. Mae'n anghywir mewn egwyddor, nid oes modd i hynny weithio yn ymarferol ac mae'n hen bryd i Weinidogion y DU ddeall hynny yn union.

Llywydd, nid fy mhrif ddiben yw canolbwyntio'n bennaf ar yr hyn a gyflawnwyd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi elwa o gronfeydd yr UE, ond nid yw hi chwaith er lles Cymru i danseilio neu dan-gynrychioli yr hyn a gyflawnwyd gyda chymorth y buddsoddiad hwnnw chwaith: y cwymp mawr mewn anweithgarwch economaidd a'r cynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth; gwelliant dramatig yn sgiliau ein pobl, gyda gostyngiad mawr yng nghyfran y boblogaeth o oedran gweithio heb gymwysterau; a chau'r bwlch rhwng gwahanol rannau o Gymru, a lleihau'r bwlch rhwng economi Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae'r £370 miliwn a gawn ni bob blwyddyn gan yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig i Gymru oherwydd mae bywoliaethau ein pobl, ein cymunedau a'n busnesau yn y fantol. Yn ystod cyfnod y rhaglen hon yn unig, mae prosiectau'r UE eisoes wedi helpu i greu 8,400 o swyddi, helpu 11,000 o bobl i gael gwaith, a chefnogi pobl i ennill dros 68,000 o gymwysterau. Mae bywydau pobl yn cael eu newid er gwell, mae teuluoedd yn cael eu magu mewn cartrefi gyda gwaith, ac mae pobl yn cael cefnogaeth i fanteisio ar addysg a hyfforddiant.

Ac mae hyn yn digwydd, yn rhannol, drwy'r 970 o fentrau newydd a grëwyd a'r 5,400 o fusnesau a gefnogir gan brosiectau a ariennir gan yr UE. Bydd y rhai hynny yn cynhyrchu refeniw treth a swyddi ar gyfer y dyfodol, gan ein helpu ni i sicrhau Cymru fwy llewyrchus.

Nawr, Llywydd, wrth inni edrych at y dyfodol, mae ein partneriaid yng Nghymru wedi tynnu sylw at ddau bryder allweddol ynghylch trefniadau yn y dyfodol: y gellid defnyddio'r cyllid newydd mewn meysydd heblaw am ddatblygu rhanbarthol, ac y bydd peidio â chynllunio ar sail sawl blwyddyn yn atal cynllunio tymor hir effeithiol. I ymateb i'r pryderon hynny, hoffwn ailddatgan ymrwymiadau yr wyf i wedi eu gwneud yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon.

Yn gyntaf, caiff unrhyw gyllid cyfnewidiol ei fuddsoddi i gefnogi datblygu rhanbarthol ac i leihau anghydraddoldeb. Ni chaiff ei sugno i mewn i gyllidebau creiddiol eraill Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais ar y dull hwn, ac rwy'n dal i weithio gydag Ysgrifennydd yr economi ar hyn.

Yn ail, gallaf roi sicrwydd y byddwn yn parhau i gynllunio ar sail sawl blwyddyn wrth fuddsoddi cyllid cyfnewidiol fel bod pwyslais hirdymor yn dal i fod ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur.

Yn hyn i gyd, byddwn yn defnyddio arbenigedd sylweddol ein partneriaid ledled Cymru i lunio a darparu ffordd newydd o weithio yma yng Nghymru. Hyd yma buom yn gydweithredgar ac yn flaengar, a heddiw gallaf gyhoeddi dau ddatblygiad i gryfhau hyn ymhellach.

Yn gyntaf, byddwn yn sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, a fydd yn manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan ein busnesau, awdurdodau lleol, ein sefydliadau academaidd, y trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ledled Cymru. Bydd y grŵp yn gweithio'n agos gyda phartneriaethau rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys elwa ar arweiniad y prif swyddogion rhanbarthol a sefydlwyd o dan y cynllun gweithredu economaidd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dull newydd o weithio yn gyson â chynllunio datblygu economaidd ehangach.

Yn ail, Llywydd, gallaf gyhoeddi gwerth £350,000 o gyllid y prynhawn yma o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd i sefydlu partneriaeth newydd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i fod yn sail i sut yr ydym ni'n buddsoddi'n rhanbarthol yn y dyfodol ac i sut yr ydym ni'n rhoi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith. Efallai ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae hynny'n gwneud y rhwymedigaeth i barhau i fod yn wlad agored a chysylltiedig yn fwy hanfodol fyth. Bydd gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn atgyfnerthu ein gallu i gynnal cysylltiadau hanfodol â rhanbarthau a gwledydd Ewropeaidd eraill ac yn sicrhau y caiff yr arferion gorau rhyngwladol eu hymgorffori yn ein trefniadau ar gyfer y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd yr Economi a minnau yn cyhoeddi manylion pellach am y buddsoddiad newydd hwn cyn bo hir.

Yn y cyfamser, Llywydd, ni allwn ni aros i drafodaethau ystyrlon gychwyn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau cyllido olynol. Hwyrach na fydd trafodaethau o'r fath, dysgwn bellach, tan adolygiad gwariant 2019. Rhaid inni weithredu'n awr i ddatblygu, mewn gwir bartneriaeth, ffordd newydd o fynd ati sy'n sicrhau bod buddsoddi yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn ehangach i ddatblygu'r economi. Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa strategol orau i weinyddu'r cronfeydd hyn, ac i gyflawni'r canlyniad hwn.

Llywydd, bydd y flwyddyn nesaf yn diffinio ein perthynas yn y dyfodol â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn gyfle i ni osod trefniadau i sicrhau twf economaidd, a herio anghydraddoldebau rhanbarthol. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, ac yn edrych ymlaen at gael rhannu rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau yn y dyfodol.

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Er, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n rhyfedd ei fod yn gwneud y datganiad hwn pan fo Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar ffurf cronfa ffyniant gyffredin newydd y DU yn y dyfodol, ac wedi ymrwymo hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn parchu'r setliad datganoli o ran y ffordd y caiff y gronfa honno ei gweinyddu. Fe'i caf yn rhyfedd iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn dod yma heddiw, yn dweud wrthym ni y bydd yn gwario mwy eto o arian gwerthfawr y trethdalwyr ar sefydlu bydysawd cyfochrog, o ran dosbarthu cronfeydd rhanbarthol, drwy sefydlu'r grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol—cwango arall unwaith eto, a dweud y gwir, gyda mwy o swyddi ar gyfer gwŷr a gwragedd dethol y mae'r Llywodraeth hon sydd gennym ni, sy'n rhoi ffafrau i'w chyfeillion, eisiau gallu eu dosbarthu.

Gadewch imi ddweud ar goedd yn awr nad oes gennyf i ddim ffydd o gwbl yng ngallu'r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru i ddosbarthu unrhyw arian ledled Cymru mewn ffordd deg a chyfiawn i'r rhannau hynny o'r wlad sydd eu hangen. Does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol—does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol a gawsom ni'r wythnos diwethaf: mae'n glir iawn eich bod yn hoffi dosbarthu arian i leoedd penodol yng Nghymru, er anfantais i eraill, gan gynnwys y gogledd, y canolbarth, a'r gorllewin. Yn wir, yr hyn yr hoffwch chi ei wneud fel Llywodraeth yw dosbarthu arian i'ch cyfeillion yn y Blaid Lafur, mewn rhannau eraill o'r wlad, o ran awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg felly. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi mwy o eglurder inni ynglŷn â beth fydd union gostau y corff hwn—y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol hwn—a pham ydych chi'n gweithredu'n gynamserol drwy wneud y datganiadau hyn yn awr, pan rydych chi eto i gael unrhyw fath o ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth y DU.

Rydym ni i gyd yn gwybod bod ar Lywodraeth Cymru eisiau ceisio clochdar am lwyddiant y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyd yn hyn. Ond y gwir amdani yw y buon nhw ymhell o fod yn llwyddiant. Yn wir, rydym ni wedi mynd tuag yn ôl o ran ein gwerth ychwanegol crynswth cymharol yn y DU, fel cyfran o werth ychwanegol crynswth y DU. Mae hynny'n destun cywilydd. Yr unig reswm bod y cyfansymiau di-waith wedi gostwng yn y meysydd hyn yw oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Dorïaidd dros y ffin, yn Llundain, sydd wedi peri i'r cyfanswm di-waith ostwng, gan greu miloedd o swyddi bob wythnos ers inni ddod i rym yn ôl yn 2010. Felly, rwy'n siomedig iawn eich bod chi'n gweithredu'n gynamserol, eich bod yn gwneud y datganiad hwn heddiw, y byddwch chi'n gwario mwy eto o arian a lafuriwyd i'w ennill ac sy'n perthyn i drethdalwyr, a hynny mewn ffordd wastraffus, gan sefydlu'r system gyfochrog hon, pan fo hi'n hollol debygol o fod yn gwbl ddiangen.

A wnewch chi dderbyn y bu methiant dros y ddau ddegawd diwethaf o ran y ffordd yr ydych chi wedi buddsoddi—fel Llywodraeth, wedi cymryd yr awenau wrth fuddsoddi'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyn? Rydym ni'n gwybod y bu methiant i roi terfyn ar dlodi yng Nghymru. Ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig o hyd, cyn belled ag y bo'r ffigurau yn dangos, o ran y rhanbarthau Ewropeaidd o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n warthus. Mae'n destun cywilydd. Mae'n drueni bod Cymru yn y sefyllfa hon, ond dyna lle'r ydym ni o ganlyniad i benderfyniadau eich Llywodraeth o ran rheoli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd hyd yma.

A gaf i ofyn hefyd sut y gwnewch chi sicrhau y caiff gwahanol ranbarthau Cymru wneud penderfyniadau mor lleol ag sy'n bosib yn y dyfodol? Rydych chi eisoes wedi clywed gan Lywodraeth y DU y byddant yn parchu'r setliad datganoli o ran y trefniadau hyn. Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod unrhyw arian a roddir ichi i'w ddosbarthu, o dan unrhyw gronfa ffyniant y DU yn y dyfodol, mewn gwirionedd yn mynd i gyrraedd pob rhan o Gymru gan fynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli ar draws y wlad? Rydym ni yn gwybod, wrth gwrs, bod gennym ni gyfle newydd gyda chronfa ffyniant gyffredin y DU i estyn allan i gymunedau tlotach nad ydyn nhw yn y gorllewin na'r Cymoedd. Ar hyn o bryd, mae gennym ni'r hualau daearyddol hyn, sydd amdanom ni yn sgil penderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd, sy'n ein gorfodi i wario arian mewn lleoedd penodol ar draul y lleoedd hynny yn y dwyrain.

Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni: a yw diosg yr hualau hynny yn rhywbeth y teimlwch chi y gall Cymru elwa ohono? Sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cymunedau tlotach hynny mewn rhannau eraill o Gymru yn mynd i gael yr arian sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cynyddu ffyniant? Ac a ydych chi'n derbyn na fydd cael mwy o'r un peth, sef yr hyn a gredaf eich bod yn ei gynnig, yn gweithio ac y bydd yn methu unwaith eto yn y dyfodol?

15:35

Wel, Llywydd, fe wnaf fy ngorau i ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Mae arnaf ofn nad dyna oedd awr anterth yr Aelod—y cyfraniad hwnnw. Mae'n hollol anghywir o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Byddai'n amhosib inni aros amdani: nid oes gennym ni amserlen ar ei chyfer, nid oes gennym ni unrhyw fanylion amdani. Nid wyf am eiliad yn credu ein bod wedi cael digon o sicrwydd a fydd yn parchu'r setliad datganoli. Fy ofn o hyd yw mai syniad ei Lywodraeth ef o gronfa ffyniant gyffredin yw cymryd arian a ddaw i Gymru heddiw a'i ddyrannu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Arhosaf i weld beth sy'n digwydd, ac edrychaf ymlaen at drafod hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yfory.  

Mae'n hollol anghywir, wrth gwrs, o ran effaith cronfeydd Ewropeaidd yma yng Nghymru: maen nhw wedi caniatáu i ni wneud cymaint o bethau sydd wedi bod er budd cymunedau Cymru. A stiwardiaeth ei Lywodraeth o economi y DU, ymhell o fod y rheswm pam fo swyddi ac anweithgarwch economaidd yn symud i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, os edrychwch chi ar hyn y maen nhw wedi ei wneud mewn mannau eraill, pe byddem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai tri rhanbarth newydd o Loegr bellach yn gymwys am gymorth Ewropeaidd o ganlyniad i stiwardiaeth ei Lywodraeth ef o economi'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

O ran y grŵp buddsoddi rhanbarthol, bydd yn manteisio ar gyngor yr unigolion hynny mewn busnesau, awdurdodau lleol, yn y rhannau hynny o economi Cymru, y mae aelodau o'i blaid yn rheolaidd yn ein hannog i wneud yn siŵr ein bod yn clywed eu lleisiau ac yn dilyn eu cyngor. Mae hyn ymhell o fod yn fydysawd cyfochrog: bydd hyn yn gyfle i bobl y tu allan i'r Cynulliad, sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol, i wneud yn siŵr bod y pethau a wnawn ni yn Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar eu profiad uniongyrchol, bob dydd, o wneud economi Cymru yn llwyddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu cyngor.

Fe anwybyddaf, am y tro, Llywydd, y sylwadau gwarthus a wnaeth yr Aelod am y setliad llywodraeth leol. Mae'n gwybod yn iawn—

Mae'n gwybod yn iawn fod y fformiwla ar gyfer dosbarthu arian—. Rwy'n clywed yr Aelod yn gweiddi 'ffrindgarwch' arnaf, Llywydd, ac rwy'n awyddus i gynnwys hynny yn y Cofnod, oherwydd mae'n gyhuddiad cywilyddus y mae'n ei wneud ac mae angen iddo gadarnhau y math o gyhuddiadau y mae e'n eu gwneud. Nid yw'n dderbyniol o gwbl iddo eistedd yn y fan yna yn taflu baw ar draws llawr y Cynulliad pan gŵyr yn iawn—ac rydym ni'n gwybod y gŵyr ef yn iawn—nad yw'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddosbarthu arian i awdurdodau lleol wedi ei dyfeisio gan Lywodraeth Cymru; dyna'r fformiwla a gytunwyd—

Nid yw ailadrodd cyhuddiad, Darren Millar, yn ei wneud yn wir. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud eich pwynt, ac mae'r Gweinidog yn ymateb.

Llywydd, nid oes air o wirionedd yn yr honiad ar yr achlysur hwn, oherwydd nid yw'r fformiwla ariannu honno yn fformiwla o eiddo Llywodraeth Cymru: mae'n fformiwla sy'n cael ei chymeradwyo bob blwyddyn gan grŵp arbenigol ac wedyn gan awdurdodau lleol Cymru eu hunain, gan gynnwys arweinwyr awdurdodau yn y gogledd, a oedd yno yn y cyfarfod lle cytunwyd ar y fformiwla honno.

Gadewch imi geisio ateb nifer fach o bwyntiau o'r hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Yn wir, pe buasai'n gwrando byddai wedi gweld y cawsant eu hateb eisoes, oherwydd un o'r pethau y byddwn yn gallu ei wneud gyda'r arian ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yw ei ddefnyddio yn well ac yn fwy hyblyg. Ni fydd y cyfyngiadau daearyddol sy'n elfen anochel o gyllid Ewropeaidd yn bodoli i'r graddau hynny yn y dyfodol, ac mae yn un o'r manteision y gallwn ni elwa arno. 

Cytunaf gyda'r hyn a ddywedodd ynghylch rhoi cymaint â phosib o bwyslais ar wneud penderfyniadau yn lleol wrth ddefnyddio cronfeydd Ewropeaidd yn y dyfodol. Credaf y bydd rhai blaenoriaethau cenedlaethol y byddwn yn dymuno eu gosod, ond yn bwysig iawn bydd gweithio rhanbarthol wrth wraidd y ffordd a ddefnyddiwn y cronfeydd hyn, a bydd hi'n fwy posib gwneud penderfyniadau ar lefel leol iawn, gan fanteisio yn aml ar brofiad y rhaglen LEADER, er enghraifft, y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ein helpu i'w datblygu yma yng Nghymru. Ymhell o fod yn fwy o'r un peth, Llywydd, diben hyn i gyd yw dysgu'r gwersi cadarnhaol o'r rhaglen hyd yma ac yna i fanteisio ar y posibiliadau newydd a fydd gennym ni ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, os daw'r arian i Gymru ac y caiff y penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru.

15:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Gallaf ddweud fy mod i'n ei chael hi'n eithaf doniol—mae'n debyg nad dyna'r gair cywir—pan fo'r Ceidwadwyr yn grwgnach a rhygnu am fformiwlâu cyllido, pan fo Cymru wedi ei hesgeuluso gan fformwla Barnett ers blynyddoedd meithion gydag ychydig iawn o wrthwynebiad o'r meinciau gyferbyn?

Yn amlwg, ceir cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar yr egwyddor sylfaenol o ran polisi rhanbarthol, na ddylai gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu y bydd Cymru ar ei cholled, yn ariannol neu o ran cyfrifoldebau. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru yn cael swm blynyddol o £370 miliwn drwy gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ac ni ddylem ni golli ceiniog o'r arian hwnnw. Dyna'r addewid a wnaeth yr ymwahanwyr yn ystod y refferendwm ac fe ddylen nhw gadw at eu haddewidion.

Mae hi fodd bynnag yn werth cofio bod Cymru'n gymwys am gymaint o gymorth rhanbarthol o'r UE oherwydd yr esgeulustod economaidd hanesyddol y mae hi wedi ei ddioddef dan law Llywodraethau o bob lliw yn San Steffan, nad ydyn nhw erioed wedi rhoi sylw llawn i'n hanghenion economaidd. Mae ganddyn nhw dipyn o wyneb yn San Steffan yn awr os ydyn nhw'n dangos diddordeb mewn dwyn pwerau dros bolisi rhanbarthol, pan nad ydyn nhw dro ar ôl tro wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn polisi rhanbarthol, nid yn unig yng Nghymru ond mewn rhannau difreintiedig o Loegr a'r Alban, dros ddegawdau, yn arbennig ers iddyn nhw ddad-ddiwydiannu ein cymunedau yn fwriadol.

Llywydd, ni allai llawer mwy bod yn y fantol o ran cymorth rhanbarthol ac economi Cymru. Digalon yn ddiweddar oedd darllen adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol. Ynddo, maen nhw'n rhestru Cymru fel un o ranbarthau a chenedloedd mwyaf bregus yn y DU sy'n gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran polisi rhanbarthol a pholisi economaidd ehangach. Roedd yr adroddiad yn dweud:

'Yn y sefyllfa waethaf, gallai rhai o'r rhanbarthau mwyaf bregus'—

gan gynnwys Cymru—

'wynebu "ergyd driphlyg" …colled sylweddol iawn o allbwn economaidd posib...colli cyllid yr UE. Yn drydydd, oni bai y gellir parhau i drosglwyddo cyllid o rannau cryfach o economi'r DU i'r un graddau er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn, gallai'r ysgytwad economaidd, rhwng popeth, fod yn ddifrifol.'

Dyna eiriau adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol.

O ran datganiad heddiw, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd camau'n cael eu cymryd i greu'r seilwaith ar gyfer polisi rhanbarthol newydd i Gymru wedi inni ymadael. Fodd bynnag, ni allaf beidio â phryderu y gwneir yr holl waith paratoi hwn dim ond i gael ein bwrw oddi ar ein hechel pan gyhoeddodd Lywodraeth San Steffan y caiff polisi rhanbarthol ei ganoli yn Llundain. Bydd yn ddiddorol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y sylwadau a wnaeth Prif Weinidog y DU yn ystod cynhadledd y Blaid Dorïaidd i'r cyfryngau. O'r hyn a ddeallais o'r hyn a ddywedodd, roedd hi'n awgrymu yn hytrach na darparu'r arian a addawyd i Gymru, y byddai polisi rhanbarthol newydd drwy'r gronfa ffyniant gyffredin honedig yn cynnwys rheolau ar gyfer y DU, wedi eu penderfynu yn San Steffan, yn cael eu gorfodi gan San Steffan, ac y penderfynir ar wario yn Whitehall hefyd. Roedd hynny yn ddychrynllyd iawn. Ymhell o fod—. Os ydym ni eisiau sôn am fydoedd cyfochrog, mae sôn am warantu pob un geiniog a phŵer sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU mewn datganiadau i'r cyfryngau, cyn belled ag y gwelaf i, beth bynnag.

Yn ei ddatganiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw'n disgwyl trafodaethau ystyrlon ar  drefniadau cyllido olynol tan adolygiad gwariant 2019. A all egluro, a yw'n credu na fydd unrhyw drafodaethau ynghylch y polisi ei hun, neu a yw'n golygu sut caiff y polisi hwnnw ei gyllido? Hynny yw, a yw'n disgwyl cael trafodaeth ystyrlon ar y polisi, hynny yw, ei fod wedi'i ddatganoli ac y bydd yn aros wedi ei ddatganoli, ac yna bydd gennym ni well syniad o union natur y cyllid oddeutu adeg adolygiad gwariant 2019? Oherwydd mae angen inni wybod yn eithaf buan beth yn union yw bwriadau polisi Llywodraeth y DU. Nid yw'n dderbyniol llusgo traed ar hyn, gan roi pwysau ar lywodraethau datganoledig, fel y maen nhw, i wneud paratoadau yn seiliedig ar y sefyllfa orau, pan rwyf yn anffodus yn ofni y gallai'r sefyllfa waethaf ein hwynebu. Felly, a yw trafodaethau ffurfiol ar y gweill? Oes mwy wedi eu trefnu? A oes amserlen glir ar gyfer penderfynu ar ffurf polisi rhanbarthol y dyfodol cyn gynted â phosib?

Hefyd, o ran y ddadl wleidyddol ehangach a fydd yn digwydd bellach yn y DU wrth i hyn ddod yn fater o bwysigrwydd cynyddol, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth yw polisi Plaid Lafur y DU? A fyddan nhw yn cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn hyn o beth o ran polisi rhanbarthol ar feinciau blaen Llafur yn San Steffan? A fyddan nhw'n pleidleisio yn erbyn unrhyw ymdrechion yn Nhŷ'r Cyffredin i gymryd pwerau polisi rhanbarthol o Gymru? Pa drafodaethau y mae wedi'u cael â'i gymheiriaid yn ei blaid ar lefel y DU yn hynny o beth?

Yn hanfodol i hyn i gyd, os oes trafodaethau ar y gweill, neu os caiff trafodaethau eu cynnal yn fuan, a all Ysgrifennydd y Cabinet wneud addewid pendant i Aelodau yma heddiw, mewn unrhyw drafodaethau ar negodi gyda Llywodraeth y DU, na fydd yn ildio ein harian yn y ffordd yr ildiodd rai o'n pwerau y tro diwethaf iddo daro bargen â San Steffan?

15:45

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Steffan Lewis am y ffordd y croesawodd yr egwyddorion sylfaenol yr wyf wedi eu hamlinellu y prynhawn yma? Cytunaf yn llwyr gyda'r hyn a ddywedodd am y ffordd y gallai Cymru gael ergyd dyblyg o ganlyniad i effaith Brexit arbennig o ddigyfaddawd ar ein heconomi, ac yna'r posibilrwydd o golli arian.

Clywais sylwadau Prif Weinidog y DU am y gronfa ffyniant gyffredin. I fod yn onest, roeddwn yn credu ei bod hi'n swnio fel petai hi gymaint yn y niwl ynghylch beth fyddai natur y gronfa honno â'r gweddill ohonom ni. Roedd ei hatebion yn ymddangos i mi wedi'u cynllunio'n fwy i gelu'r ffaith nad oedd hi ddim yn siŵr iawn beth oedd yn digwydd nag i roi inni unrhyw eglurder gwirioneddol ar y mater.

Mae Steffan Lewis yn gywir yn dweud fy mod i'n gwahaniaethu rhwng materion polisi, y cawn ni o bosib glywed rhywbeth yn eu cylch yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon, a threfniadau ariannu, y credaf y bydd yn rhaid inni aros tan yr adolygiad gwariant cynhwysfawr cyn cael unrhyw eglurder.

Gofynnodd yr Aelod a oes unrhyw drafodaethau ffurfiol ar y gweill. Gallaf ddweud wrtho fy mod wedi mynegi ein pryderon o'r blaen i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, ac y soniwyd am hyn yr wythnos diwethaf eto yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop gan fy nghyd-Aelod o'r Alban Ben Macpherson, lle gellais, unwaith eto, fynegi anesmwythyd Llywodraeth Cymru am y cynigion ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin. Ac mae hyn ar yr agenda eto bore yfory, pan fyddaf yn cael trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ynglŷn â materion yn ymwneud â Chymru yn unig, ac yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidog cyllid. Rwy'n mynd o'r cyfarfod hwnnw i gyfarfod ag aelodau o dîm Keir Starmer, ac i drafod materion Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall yr Aelod fod yn sicr y byddaf yn crybwyll y gronfa ffyniant yn y fan honno hefyd.

Llywydd, nid oes unrhyw bwerau wedi gadael Cymru—gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch hynny. Mae'r holl bwerau sydd gennym ni yng Nghymru o ganlyniad i setliad datganoli 1999 yn parhau i fod gennym ni heddiw. Ni allai'r Aelod enwi yr un pŵer a gafodd ei ildio, fel y dywedodd ef, oherwydd ni chafodd yr un ei ildio. Maen nhw i gyd yn parhau i fod yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac ni all unrhyw un eu cymryd oddi yma heb inni gytuno ymlaen llaw. Fodd bynnag, rhof iddo'r sicrwydd y mae'n edrych amdano, wrth gwrs, na fydd y Llywodraeth Lafur hon sydd gan Gymru yn cytuno i unrhyw gynigion a fyddai'n arwain at lai o arian yn dod i Gymru o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Deyrnas Unedig nag yr ydym ni wedi elwa arno o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A gaf i ddweud fy mod i'n cefnogi'r Ysgrifennydd cyllid yn llawer o'r hyn a ddywed yn ei ddatganiad? Nid wyf yn credu ei bod hi'n gwbl afresymol iddo ddweud y byddai'n annerbyniol i Gymru fod geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i'r setliad Brexit, beth bynnag y gallai hynny fod, er fy mod yn anghytuno ag ef yn dweud 'fel yr addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm'. Yr unig bobl a allai addo hynny yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys, ac roedd y ddau ohonyn nhw, wrth gwrs, eisiau aros. Ond ni chredaf ei bod hi'n afresymol, o ganlyniad i Brexit, y dylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd; mewn gwirionedd, fe ddylem ni fod yn well ein byd, oherwydd am bob £1 o arian trethdalwyr Prydain a gawn ni'n ôl o Frwsel, mae'n rhaid inni anfon £2 yno yn y lle cyntaf. Felly, nid arian yr UE mohono, arian trethdalwyr Prydain ydyw, ond wedi ei roi yn ôl inni drwy nawdd sefydliadau'r UE.

Hoffwn ofyn cwestiwn am effaith y ffordd y mae llawer o'r arian hwn wedi'i wario dros y blynyddoedd. Fel y nododd Darren Millar, yn wir yng Nghymru rydym ni wedi mynd tuag yn ôl yn yr 20 mlynedd diwethaf o ran ffyniant cymharol. Yn 1998, cyfartaledd gwerth ychwanegol crynswth yng Nghymru oedd 74.8 y cant o gyfartaledd y DU, ac yn 2016 roedd yn 72.7 y cant, felly rydym ni mewn gwirionedd, â siarad yn gymharol, wedi mynd am yn ôl. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddau o rannau tlotaf Ewrop yn ein gwlad. Mae Cymoedd Gwent yn ail o'r gwaelod gydag incwm cyfartalog o oddeutu £14,700, 56 y cant o gyfartaledd y DU; mae Ynys Môn yn waeth na hynny hyd yn oed, gydag incwm cyfartalog o oddeutu £13,600, dim ond 52 y cant o gyfartaledd y DU. Rydym ni wedi gweld symiau sylweddol o arian yn cael ei wario ar bolisi rhanbarthol dros y blynyddoedd, ond ymddengys nad yw hynny wedi gwneud llawer iawn i effeithio ar y ffigyrau cymharol. 

Felly, nid wyf yn siwr ai'r ffordd gywir o fynd ati yw neilltuo'r arian hwn y bydd gennym ni'r hawl i'w weinyddu ar ôl Brexit, ac nid wyf yn edmygwyr, yn gyffredinol, o neilltuo cyllid refeniw, gan fod blaenoriaethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn ac anghenion newydd yn ymddangos, ac mae'r berthynas rhwng gwahanol anghenion hefyd yn newid. Felly, credaf pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo am gyfnod sylweddol i gynnal pwysigrwydd y gyllideb cymorth rhanbarthol yng Nghymru, yna gallai fethu â gweld cyfleoedd eraill ynghylch sut y gellid gwario'r arian mewn ffordd fwy cynhyrchiol i gyflawni amcanion cymdeithasol ac amcanion economaidd y Llywodraeth.

Aiff y datganiad ymlaen i ddweud tua'r diwedd y

'Bydd hi hefyd yn ein gweld yn datblygu trefniadau i sicrhau twf economaidd ac i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol.'

Gallwn i gyd gefnogi'r amcan hwnnw, ond mae yna ffyrdd eraill, efallai, y gellir cyflawni hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth fod yn fwy dychmygus nag y mae hi wedi bod yn y gorffennol.

Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awydd i fwrw ymlaen â'r gwaith, ac nid aros i Lywodraeth y DU yn ei doethineb drosglwyddo'r sicrwydd hwnnw pryd bynnag y mae hi'n teimlo sy'n hwylus iddi wneud hynny. Mae Theresa May wedi rhoi ystyr hollol newydd i'r gair 'syrthni', rwy'n credu, ers iddi fod yn Brif Weinidog, ac mae'r ffordd y cynhaliwyd y negodiadau Brexit, os gallaf eu hanrhydeddu â'r disgrifiad hwnnw, yn brawf pendant o hynny, fel y mae hi yn parhau yn ei gorchwyl difeddwl, didrugaredd, fel Sisyphus gynt, yn gwthio clogfeini i gopaon bryniau, dim ond iddyn nhw gael eu gwthio i lawr yn ôl ar ei phen ac, yn y pen draw, credaf, i'w gwastrodi. Ond rwy'n credu ei bod hi'n briodol y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau a rhoi mwy o bwysau drwy weithredu'n gadarnhaol i orfodi, os gall hi, Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â gwneud penderfyniadau rhesymegol o ran sut orau y gellid gweinyddu dyfodol Cymru. Mae'n ddirgelwch i mi na all Llywodraeth y DU ddweud, 'Ie, fe gewch chi eich £370 miliwn y flwyddyn', oherwydd mae'r arian ar gael—byddwn yn ei gael yn ôl o Frwsel, ac nid oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n credu, unrhyw hawl foesol i ddweud bod peth amheuaeth ynghylch hyn. Mae'n creu ansicrwydd nid yn unig i Gymru, ond hefyd ansicrwydd diangen, rwy'n credu, ym meddyliau Aelodau Ceidwadol hyd yn oed mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Ni all y Llywodraeth gael gwared ar y graddau o ansicrwydd y gellid eu dileu heb unrhyw niwed o gwbl i amcan cyffredinol y Llywodraeth, beth bynnag y gallai hynny fod, yn ystod y negodiadau Brexit.     

Un o'r ffyrdd y gallem ni efallai wario rhywfaint o'r arian a ddyrennir ar hyn o bryd i bolisi rhanbarthol yn well yw ar brisiau ynni, gan leihau effaith prisiau ynni ar rai diwydiannau penodol. Gwyddom, er enghraifft, fod gan y diwydiant dur, mewn gwirionedd, 85 y cant o faich y costau ychwanegol a orfodwyd arno o ganlyniad i'r polisïau newid yn yr hinsawdd, a heb yr ad-daliad hwnnw, yna byddai'r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig gyfan ar wastad ei gefn. Felly, byddai modd mynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol rhai polisïau drwy ystyried ffyrdd eraill o wario'r arian hwn. Ni allaf ei drafod mewn mwy o fanylder ar hyn o bryd, ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod gennym ni i gyd yr un amcanion yn y pen draw yn hyn o beth—ein bod yn rhannu'r awydd i Gymru fod yn llawer mwy llewyrchus nag y bu yn y gorffennol a, hyd yn oed o fewn Cymru, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau—. Ond er mwyn cyflawni hynny rwy'n credu bod angen inni fod mor hyblyg â phosib gyda threfniadau ariannu ar ôl Brexit, pan fydd gennym ni'r awenau yn ein dwylo ein hunain.

15:55

Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Ar y cyfan, credaf ei fod yn cymeradwyo rhai agweddau allweddol ar y polisi a amlinellais y prynhawn yma. Rwy'n deall y pwynt a wnaeth am y gair 'addewid', ond pan ddywed Arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru wrth bobl Cymru ei bod yn gwbl sicr na fyddai Cymru ar ei cholled o'r un geiniog, tybed beth mwy sydd angen ei ddweud i droi hynny yn addewid. Roedd yn swnio'n debyg i addewid i lawer o bobl yng Nghymru ac fe bleidleisiodd llawer o bobl Cymru ar  sail yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn addewid.

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am gynnig synhwyrol y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth benderfynu sut y dylai arian o'r fath ddod i Gymru yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd—mae'n ddirgelwch i minnau hefyd pam na all Llywodraeth sydd â digon o gwerylon i ymdrin â nhw, does bosib, yn ogystal â digon o faterion anodd eu datrys, wneud penderfyniad syml a fyddai'n hawdd ei wneud ac yn syml i'w weithredu, a dweud yn syml, fel yr addawyd i bobl Cymru, bod yr arian a ddaeth i Gymru o dan yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ni ar ôl gadael.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod am neilltuo arian, oherwydd, fel Gweinidog Cyllid, tueddaf innau i fod yn anesmwyth ynglŷn â neilltuo arian hefyd. Fe wnaethom ni benderfyniad ymwybodol iawn yn Llywodraeth Cymru i ddweud ymlaen llaw y byddai arian a ddaeth i Gymru heddiw ar gyfer dibenion datblygu economaidd rhanbarthol yn cael ei neilltuo ar gyfer y diben hwnnw ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom ni hynny oherwydd bod diffyg hyder gwirioneddol yn y sector, ymhlith pobl sy'n rhedeg prosiectau, sy'n datblygu cynlluniau, na fydd y pethau y maen nhw wedi gallu dibynnu arnyn nhw yn y gorffennol o bosib ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Bwriad yr ymrwymiad a wneuthum yn natganiad heddiw, drwy ddweud y byddai arian yn cael ei gadw at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, ac y byddem ni'n gwarantu hynny dros gyfnod o sawl blwyddyn, yw cynnal hyder y sector y caiff y cynlluniau tymor hir y maen nhw wedi eu rhoi ar waith eu hanrhydeddu drwy'r Llywodraeth hon.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud sylw pwysig wrth ddweud y bydd gennym ni beth hyblygrwydd ychwanegol yn y ffordd y gellir defnyddio arian yn y dyfodol. Mae'n amheus gen i a ellir bod mor hyblyg â defnyddio'r arian hwnnw i gynnal neu i bennu prisiau ynni is, ond rwyf yn credu y bydd cyfleoedd i ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd sy'n osgoi rhywfaint o ddiffyg hyblygrwydd y gyfres flaenorol o drefniadau. Yn hynny o beth, efallai y cawn ni fanteision neilltuo o ran meithrin hyder, ond y gellir defnyddio'r arian hwnnw hefyd mewn ffordd fwy hyblyg, fel y dywedodd Neil Hamilton yn ei sylwadau wrth gloi.

Rwy'n croesawu'r datganiad pwysig iawn hwn ac yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod yr egwyddorion y mae o'r farn a gaiff eu defnyddio yn y dyfodol wrth fuddsoddi'n rhanbarthol yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn sefydlu'r egwyddorion hyn yn awr oherwydd ein bod ni wedi bod yn aros yn rhy hir i glywed manylion am y gronfa ffyniant gyffredin hon. Ac, unwaith eto, credaf y byddai hynny yn rhywbeth eithaf syml y gallai'r Llywodraeth yn San Steffan ei wneud, i wneud ymdrech wirioneddol i ymgynghori ac i ganfod beth yn union sy'n digwydd a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, y rhoddir hyder i'r bobl hynny sy'n rhedeg prosiectau ac yn gwneud cynlluniau tymor hir, eu bod yn gwybod bod sicrwydd o ran beth mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu ei wneud. Rwy'n falch iawn, hefyd, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi pwysleisio'r manteision enfawr a gawsom ni o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym ni wedi cael budd o gronfeydd Ewropeaidd eraill, megis cynlluniau cyfnewid Erasmus+, Horizon 2020, ac wrth gwrs gan Fanc Buddsoddi Ewrop, sydd wedi dod â manteision enfawr i Gymru. Felly, rwy'n siŵr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet sôn am fanteision rhai o'r buddiannau Ewropeaidd eraill hynny.

Cyn sôn am fanylion eraill o'r datganiad, a yw'n cytuno ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gronfeydd presennol yr UE cyn ein bod ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE? Oherwydd mae'r cronfeydd hynny yn dal i gael eu dosbarthu hyd at yr adeg y byddwn ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE, a byddant yn parhau y tu hwnt i'r dyddiad, ymhell y tu hwnt i'r dyddiad y byddwn yn gadael yr UE—mae'n debyg hyd at 2023.

Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gennym ni'r hanes a'r arbenigedd yma yng Nghymru. Mae gennym ni'r arbenigedd o fod wedi ymwneud â'r cronfeydd strwythurol ers blynyddoedd lawer, ac wrth gwrs mae ein gwybodaeth a'r ffordd y buom ni'n gweithredu'r cronfeydd strwythurol wedi newid dros y blynyddoedd hynny, gan newid o nifer fawr o brosiectau bychain, i fod yn ymwneud â llai o brosiectau mwy o faint. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn y gwneir yn fawr o'r profiad hwn sydd gennym ni i sicrhau y cawn ni'r budd mwyaf posib ar ôl gadael yr UE. Felly, rwyf yn croesawu'r grŵp llywio, ac mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl arbenigedd sydd yma yng Nghymru. Croesawaf hefyd y £350,000 o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl yn greadigol am y dyfodol, yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i leihau'r difrod a wneir drwy adael Ewrop.

Yn olaf, rwy'n croesawu yn arbennig ei ymrwymiad i ariannu amlflwyddyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael profiad o broblemau ariannu tymor byr, y mae cynifer o bobl wedi dioddef o'i herwydd—cynifer o brosiectau gwahanol. A bu hynny yn un o fanteision mawr arian Ewropeaidd, y bu'n amlflwyddyn. Felly, croesawaf yr ymrwymiad hwnnw yn enwedig gan Ysgrifennydd y Cabinet.

16:00

Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i Julie Morgan am y sylwadau yna. Maen nhw'n adlewyrchu'r profiad sydd ganddi yn cadeirio'r pwyllgor monitro rhaglenni o dan y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd, ble mae manteision cydweithio a'r gallu i elwa ar gyngor arbenigwyr yn y maes yn rhan fawr o'r ffordd y buom ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru. Ac yn hynny o beth, mae Julie Morgan yn llygad ei lle bod angen inni fanteisio i'r eithaf ar y gwersi y gallwn ni eu dysgu o'n profiad hyd yma i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau mewn ffyrdd sydd wedi bod yn llwyddiannus, gan achub ar gyfleoedd i wneud pethau'n well fyth. Hoffwn ddiolch iddi hi a phawb sydd ar y pwyllgor monitro rhaglenni am yr hyn y maen nhw yn ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyllid presennol.

Caniatewch imi ddweud yn y fan yma, fel y ceisiaf ei wneud bob tro, ein bod ni bob amser wedi croesawu penderfyniad Canghellor y Trysorlys i warantu'r cronfeydd hynny a'r cyhoeddiad mwy diweddar a wnaeth ynglŷn ag ymestyn y warant honno i ddiwedd y cylch presennol. O ran yr hyn a ddywedais yn gynharach am hyder yn y sector, bu hwnnw yn gyhoeddiad defnyddiol, ac rwy'n fodlon cydnabod hynny y prynhawn yma. Byddwn yn defnyddio arian Ewropeaidd hyd at 2023 o dan y rownd bresennol, a byddwn yn cadw cyfrifon ar ei gyfer hyd at 2025, felly mae gwneud defnydd da o hynny yn bwysig iawn.

Ac mae Julie Morgan yn llygad ei lle: ni allwn ni aros i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn i gyd. Rydym ni wedi pwyso arnyn nhw dro ar ôl tro i wneud yn siŵr y bydd gennym ni berthynas o hyd â Banc Buddsoddi Ewrop ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd; rydym ni wedi cyfrannu rhywfaint o gyngor arbenigol a gawsom ni gan swyddogion yma sydd â gwir ddealltwriaeth o sut y gellid cyflawni hynny, ac rydym ni'n dal i aros i glywed unrhyw beth am y ffordd y gellir ffurfio'r berthynas honno ar gyfer y dyfodol.

Rhan o'r rheswm yr wyf yn falch o allu cyhoeddi heddiw bod cyllid ar gael i weithredu ar gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yw y bydd hynny'n rhoi inni yma yng Nghymru gyfleoedd newydd i fanteisio ar y rhwydweithiau hynny yn yr Undeb Ewropeaidd y soniodd Julie Morgan amdanyn nhw, fel ein bod yn gallu mwynhau'r manteision a gawsom ni o weithio'n rhanbarthol, gan ddysgu oddi wrth rannau eraill o Ewrop, ac i wneud yn siŵr bod y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru yn ystyried yr arferion gorau oll o fannau eraill.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad ar fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit a diolch i chi am gydnabod gwaith y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, 'Y paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru'—argymhellion allweddol, na fyddant, wrth gwrs, yn peri unrhyw syndod, gan arwain o ran blaenoriaethau negodiadau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen gyllido orau bosib i wneud yn siŵr nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl Brexit, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Hoffwn hefyd holi ynghylch y posibiliadau o gael cyllid ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhwystredigaeth yr ydym ni wedi ei theimlo, yn y Pwyllgor Cyllid ac, yn wir, yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, am y diffyg ymgysylltu wrth lunio, fel y dywedwch chi, y cyfle i helpu i lunio—Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol—y gronfa hon. Cafodd y Pwyllgor Cyllid lythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos diwethaf sy'n sôn am adroddiad ein hymchwiliad. Yn ei lythyr, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU, ac mae'n dweud 'ein bod yn bwriadu ymgynghori' ar hyn 'yn gyhoeddus... cyn diwedd 2018'.

Wel, pan wahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach eleni i ddod i'r pwyllgor ynglŷn â'r ymchwiliad hwn, gwrthododd y gwahoddiad hwnnw, gan ddweud nad oedd yn credu bod angen iddo fod yn bresennol yn bersonol, ond yn dweud wrthym ni fod hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac 'y byddant yn ymgysylltu â chi ar y cyfle cyntaf'. Wel, roedd hynny ym mis Mai; rydym ni bellach ym mis Hydref gyda'r llythyr hwn yn tynnu ein sylw, yn wir, at ddatganiad ysgrifenedig ar 24 Gorffennaf a wnaed gan neb llai nag ein cyn-Aelod Cynulliad Arglwydd Nick Bourne, a wnaeth ddatganiad ar 24 Gorffennaf. Ac fe wnaeth, yn ei ddatganiad, gyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU yn y gwledydd datganoledig, gan ddweud y bydd Llywodraeth y DU yn

parchu'r setliadau datganoli ac yn ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa'n gweithio ar gyfer lleoedd ar draws y DU.

Terminoleg anarferol o ran y berthynas sydd gennym ni—o ran parch a negodiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cyllid wneud sylw ar hyn, gwneud sylw ar yr hyn a ddigwyddodd ers y gwnaethpwyd y datganiad ysgrifenedig hwnnw, a sut, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o hyn.

Nawr, rwyf wedi dwyn ynghyd sefydliadau menywod i ffurfio'r rhwydwaith Menywod yng Nghymru dros Ewrop, ac un o'r prif bryderon y mae amrywiaeth eang o sefydliadau wedi ei grybwyll yw effaith penderfyniadau cyllidol yn y dyfodol ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU. Mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat sydd eisiau bod yn rhan o'r drafodaeth hon am y gronfa newydd hon.

A ydych chi'n derbyn barn ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi bod â phwyslais clir ar hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â thlodi, cefnogi hawliau dynol, gyda nifer sylweddol o brosiectau wedi eu cefnogi gan yr UE yn canolbwyntio ar gefnogi menywod?

16:05

Felly, mae gennym ni gyfleoedd a heriau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu dadlau'r achos dros i ni i gyd fod yn rhan o hyn, oherwydd, fel y dywedasoch chi, mae consensws yn ymffurfio, a gall y Cynulliad hwn fod yn gefn ichi yn y trafodaethau hyn.

Diolch i Jane Hutt am yr hyn a ddywedodd, yn enwedig y sylw olaf yna; mae hi'n ddefnyddiol iawn, bob amser, pan eich bod chi'n trafod pethau gyda Gweinidogion y DU, i allu cyfeirio nid yn unig at safbwyntiau Llywodraeth Cymru, ond, er enghraifft, at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf i wedi ei ddarllen. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn nodweddiadol o wybodus ac yn adeiladol yn ei gasgliadau. Ac mae gallu cyfeirio at yr adroddiad hwnnw ac at y consensws trawsbleidiol y mae wedi ei sefydlu mewn perthynas â'r materion hyn bob amser yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n trafod y materion hyn gyda Gweinidogion y DU.

Mae'n drueni bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, unwaith eto, yn gwrthod gwahoddiadau i ddod ac amddiffyn polisïau ei Lywodraeth o flaen y Cynulliad hwn. Clywaf, Dirprwy Lywydd, bod Llywodraeth y DU wedi cynnal digwyddiad ymgynghori yn yr Alban ar y gronfa ffyniant gyffredin, a'i bod hi wedi cynnal digwyddiad ymgynghori yng Ngogledd Iwerddon ar y gronfa ffyniant gyffredin. Clywaf na hysbysodd hi naill ai Gogledd Iwerddon—wel, y trefniadau datganoledig yno—tan y diwrnod cyn y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw, ac na roddwyd gwybod i Lywodraeth yr Alban am yr ymgynghoriad tan y diwrnod cyn y digwyddodd hynny ychwaith. Pa fath o Lywodraeth y DU yw hon, Dirprwy Lywydd, sy'n symud o gwmpas y Deyrnas Unedig fel rhyw fath o leidr yn y nos, yn gwrthod dweud wrth y gweinyddiaethau datganoledig am ei phresenoldeb yn eu hardaloedd? Efallai y byddwn yn eu gweld nhw yma yng Nghymru, ac, os gwnawn ni, edrychaf ymlaen at glywed eu bod yn cyrraedd gan yr un Ysgrifennydd Gwladol.

Yn olaf, dim ond i gytuno â'r hyn a ddywedodd Jane Hutt am gydraddoldeb, mae materion cydraddoldeb wedi bod yn elfen allweddol o gyllid Ewropeaidd yma yng Nghymru ac yng ngwaith y pwyllgor monitro rhaglenni. Mae llawer o sefydliadau o'r math y cyfeiriodd Jane Hutt atyn nhw wedi elwa ar hynny. Pa sicrwydd sy'n bosib inni ei gael y byddai'r pwyslais yr un fath mewn unrhyw gronfa ffyniant gyffredin y penderfynir yn ei chylch yn rhywle arall, y pennir y rheolau yn rhywle eraill, y gwneir y penderfyniadau ariannu yn rhywle arall, ac sy'n ein gadael ni yma yng Nghymru i ymdrin â'r canlyniadau?

16:10

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf bob amser yn siomedig pan glywaf y Torïaid yn lladd ar y ffordd y mae peth o'r arian Ewropeaidd wedi'i ddefnyddio mewn gwirionedd i adfywio rhannau o Gymru. Os ydyn nhw eisiau dod i Bontypridd, gallan nhw weld yr hyn yr wyf i'n credu sy'n esiampl enghreifftiol o'r ffordd y mae tref sydd wedi dioddef mor ofnadwy yn dilyn y diwydiant glo a diwydiannaeth—yr adfywio sydd ar waith mewn gwirionedd, lle mae arian Ewropeaidd wedi bod yn gatalydd mor hanfodol bwysig. Gallwch chi ei weld—boed yng nghanolfan siopa Taf, y troedffyrdd, y lido, ffordd osgoi Pentre'r Eglwys, yr orsaf. Mae Pontypridd a rhannau o Taf Elái—ac wrth gwrs y metro sy'n ymestyn yr holl ffordd i Ffynnon Taf—yn ganolbwynt ar gyfer adfywio ar hyn o bryd. Mae bwrlwm yn y dref, a heb yr arian Ewropeaidd hwnnw, ni fyddai wedi digwydd. Felly, mae'n siomedig iawn i glywed yr enghreifftiau hynny yn cael eu gwrthod yn llwyr gan y Ceidwadwyr.

Bu sylwadau manwl am y gronfa ffyniant gyffredin eisoes. Cafwyd addewidion, yn union fel y cafwyd addewidion na fyddem yn colli unrhyw arian—addewidion o ymgysylltu. Cyfeiriodd Steffan Lewis yn glir iawn at rai o'r addewidion, datganiadau a wneir ynghylch canoli, ac mae'n glir iawn nad oes unrhyw ymgysylltu priodol; nid oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r gronfa ffyniant gyffredin mewn gwirionedd. A phan ddarllenwch chi'r Western Mail heddiw fe welwch chi erthygl yno—a byddwch yn clywed Darren Millar, a oedd yn gweiddi mor uchel yn gynharach—yn dweud bod Darren Millar yn edrych ymlaen at ddatblygu system ariannu newydd unwaith y mae'r DU wedi gadael yr UE, a bod Brexit yn rhoi cyfle i Gymru lunio dull ffres o fuddsoddi rhanbarthol a datblygu economaidd drwy gronfa ffyniant gyffredin newydd yn y DU, ond nid yw'n gallu ei disgrifio na'i nodi ychwaith. Dim ond un casgliad, Dirprwy Lywydd, y gallwch chi ddod iddo. Ac efallai bod yr enw 'Tori' yn briodol iawn yn yr enghreifftiau hyn, oherwydd mae ei wreiddiau yn yr iaith Wyddeleg ac yn golygu 'lleidr'. Yr unig gasgliad y gallaf i ddod iddo yw bod yna gynllwyn Torïaidd i ddwyn gwerth £370 miliwn y flwyddyn o Gymru—dwyn £370 miliwn y flwyddyn o Gymru. Oherwydd nid unwaith yr ydych chi wedi clywed y Torïaid yn sefyll i fyny a dweud, 'Ie, byddwn ni'n mynnu bod Cymru yn cael pob ceiniog a oedd ganddi yn flaenorol.' Nid unwaith y maen nhw wedi meiddio sefyll i fyny a gwneud hynny, ac mae hynny oherwydd eu bod yn y bôn yn grŵp gelyniaethus yng Nghymru o blaid Dorïaidd Llundain. Dyna'r swyddogaeth sydd ganddynt.

Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, mai dim ond un peth y mae'r blaid Dorïaidd yng Nghymru yn ei gynrychioli erbyn hyn sef brad economaidd—brad ynghylch yr addewidion dros drydaneiddio, brad ynghylch morlyn llanw Abertawe a nawr brad llwyr ynghylch arian yr UE?

Wel, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am hynny a diolch iddo am ein hatgoffa ni o'r rheswm pam mae Cymru wedi bod yn gymwys am arian Ewropeaidd dros y blynyddoedd hyn, sef oherwydd ein bod wedi gorfod ymdopi â chanlyniadau dull y Blaid Geidwadol o ymdrin ag economi Cymru yn ystod yr 1980au—eu hanes cywilyddus o ddad-ddiwydianeiddio, eu hanes cywilyddus o ymosod ar y diwydiant gweithgynhyrchu. Nid ydynt yn gwybod am y manteision yn sgil cyllid Ewropeaidd, wrth gwrs, oherwydd dydyn nhw byth yn mynd yno—dydyn nhw byth yn mynd i'r rhannau hynny o Gymru lle gwnaeth eu polisïau achosi cymaint o ddinistr a lle mae economïau a chymunedau yn dal yn adfer o'r ffordd y gwnaethon nhw gyflawni eu cyfrifoldebau, ac, yn wir, y polisïau y maen nhw'n parhau i fynd ar eu trywydd yma heddiw, polisïau cyni ar y naill law a gwrthod cadw at y sicrwydd a gynigiwyd i bobl Cymru na fyddem yn colli ceiniog o gyllid Ewropeaidd.

Mae'r gronfa ffyniant gyffredin, Dirprwy Lywydd, yn gronfa uncorn, onid yw? Mae pawb wedi clywed amdani, a neb wedi ei gweld erioed, ac yn sicr dydyn ni ddim eisiau ei gweld hi yma yng Nghymru.

6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fand Eang
7. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol

Felly, eitem 7, datganiad gan arweinydd y tŷ, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol', a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

16:15

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion. Nid yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyflawni uchelgeisiau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys rhwystrau corfforol, boed mewn adeiladau, trefi neu yng nghefn gwlad, ond hefyd yn cynnwys y muriau a'r rhwystrau a grëir gan sefydliadau a chan agweddau pobl. Mae pobl anabl yn dweud wrthym, dro ar ôl tro, mai'r rhain yw'r rhwystrau sy'n peri'r rhwystredigaeth fwyaf iddyn nhw ac sydd yn eu hatal rhag byw y bywyd a ddymunant, yn fwy nag unrhyw gyfyngiadau o ran eu cyrff eu hunain.

Mae Arolwg Cenedlaethol 2017-18 ar gyfer data Cymru yn dangos bod llai o fodlonrwydd bywyd yn gyffredinol ymysg pobl ag anabledd neu salwch cyfyngus a hirsefydlog nag ymysg pobl eraill. Y sgôr cymedrig ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw anabledd yw wyth allan o 10, ond dim ond 7.2 yw'r sgôr ar gyfer pobl anabl. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth wirioneddol. Yn benodol, rydym yn gwybod y byddwn yn gwneud mwy o gynnydd ac yn cael canlyniadau gwell drwy weithio gyda phobl anabl, er mwyn inni allu deall y materion yn iawn a dod o hyd i atebion sy'n gweithio.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein fframwaith a'n cynllun gweithredu dan y teitl 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'. Mae'r ddogfen hon yn disodli ein fframwaith blaenorol ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Datblygwyd y fframwaith newydd o ganlyniad i lawer iawn o ymgysylltu dros ddwy flynedd bron â phobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Mae gwaith wedi ei wneud mewn gweithdai ar hyd a lled Cymru gan grwpiau bach o bobl sydd ag arbenigedd a phrofiad o amrywiaeth eang o anableddau, a hynny drwy gannoedd o negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn a thrwy sgyrsiau mewn cartrefi, gweithleoedd, ysgolion a chymunedau.

Mae ein fframwaith newydd yn nodi sut yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiadau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Mae'n tynnu sylw at swyddogaeth deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'. Wrth wraidd yr holl fframwaith mae'r model cymdeithasol o anabledd, y dull sy'n cydnabod yr angen am drawsnewid cymdeithas, a chael gwared ar y rhwystrau fel y gall pobl anabl gyfranogi'n llawn.

Mae'r fframwaith newydd yn canolbwyntio ar faterion allweddol a nodwyd gan bobl anabl, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hun. Yn aml mae'r rhain yn gyfystyr â'i gilydd, er enghraifft, yr angen i helpu pobl anabl sy'n ddi-waith ac sy'n awyddus i weithio i ddod o hyd i swyddi. Mae 75 mil o bobl anabl yng Nghymru wrthi'n chwilio am waith neu'n awyddus i weithio. Yn rhy aml, maen nhw'n cael eu dal yn ôl gan rwystrau y tu hwnt i'w rheolaeth, fel systemau sefydliadol ac agweddau pobl eraill, yn ogystal â rhwystrau ffisegol ac amgylcheddol. Dim ond 45 y cant o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru sy'n gweithio ar hyn o bryd, o'i gymharu ag 80 y cant o'r bobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwn yn fwlch cyflogaeth anabledd syfrdanol o 35 pwynt canran. I fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, pobl anabl a'u cyrff cynrychioliadol, er mwyn deall y rhwystrau presennol i gyflogaeth yn well ac, yn hollbwysig, y camau sydd eu hangen i gyflawni newid gwirioneddol. Mae llawer o'r ymrwymiadau a nodir yn ein cynllun cyflogadwyedd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r problemau, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, dyluniad gwaith ac arferion gweithio. Byddwn yn cyhoeddi targed ar gyfer cyflogaeth ac anabledd erbyn diwedd y flwyddyn i danlinellu ein hymrwymiad i'r agenda hon.

Wedi canolbwyntio am ychydig funudau ar gyflogaeth, gadewch i mi gydnabod hefyd nad hwn yw'r unig fater neu hyd yn oed y mater pwysicaf i bob unigolyn anabl. Gwyddom fod  angen gweithredu'n eang, a bydd y cynllun gweithredu newydd yn adlewyrchu hyn. Beth bynnag fo'r materion sy'n cael eu trafod, mae pobl anabl wedi dweud wrthym fod gweithredu lleol yn hanfodol. Felly lluniwyd ein fframwaith newydd i roi anogaeth gref i wasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel yng Nghymru i gymryd sylw o'r ymrwymiadau a nodir yn y fframwaith, a'u hefelychu cymaint â phosibl.

Pan gaiff ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, byddwch yn gweld bod strwythur y fframwaith yn newydd, gyda'r brif ddogfen yn nodi'r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a'r ymrwymiadau sy'n sail i'n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer. Ategir hynny gan gynllun gweithredu, sy'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu sy'n cael eu cyflawni gan neu dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith ar gael mewn amryw o fersiynau hwylus.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda'r broses hon, ac yn enwedig y grŵp llywio sydd wedi ei goruchwylio, dan arweiniad Anabledd Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch, yn benodol, i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at y broses o lunio'r fframwaith. Maen nhw wedi helpu i sicrhau mai ein dull ni yw'r un cymwys ar gyfer pob oedran, a'i fod yn addas i'r dyfodol. Cefnogi pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maen nhw'n ei dewis yw'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn ar gyfer annog camau gweithredu gydag ac ar gyfer pobl anabl ledled Cymru gyfan. Diolch.

Diolch i chi am eich datganiad. Rydych yn nodi bod y fframwaith newydd a'r cynllun, 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol' yn disodli'r fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol. Wrth gwrs, caiff y fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol ei enwi'n benodol yn rhan 2 y cod ymarfer ar gyfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A wnewch chi gadarnhau y byddwch, felly, yn diweddaru eich codau a'ch rheoliadau i adlewyrchu'r newid?

O ran ei gyflwyno, sut fyddwch yn sicrhau y deellir hyn yn well gan gyrff y sector cyhoeddus a'r comisiynwyr? Rwy'n rhoi un enghraifft. Y llynedd, roedd un o'm hetholwyr i, a oedd yn hemoffilig, yn ddyn ifanc a gafodd gynnig swydd gan Gyngor Sir y Fflint. Tynnwyd y cynnig o swydd yn ôl wedyn ar gyngor meddyg galwedigaethol y cyngor, fel yr oedden nhw'n galw'r unigolyn, er bod yr etholwr a'i deulu yn dweud nad oedd gan y clinigwr hwnnw ond ychydig o wybodaeth am hemoffilia, ac roedd gan yr etholwr a'i deulu ddogfennaeth gan ei glinigwyr arbenigol ei hun yn dangos ei fod yn gwbl alluog i wneud y gwaith. Er hynny, ystyfnigodd y cyngor a gwrthod perthnasedd y fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol yn y cyd-destun hwn, er gwaethaf y ffaith imi gyfeirio at hynny mewn gohebiaeth â nhw.

Rydych yn cyfeirio at 75,000 o bobl anabl sydd wrthi'n chwilio am waith, ac, yn amlwg, rwy'n llwyr dderbyn hynny. Mae bron pob unigolyn anabl yr wyf yn ei gyfarfod, neu yn gweithio gydag ef, neu sydd yn gyfaill i mi, os nad ydynt mewn gwaith eisoes—rhy ychydig sydd mewn gwaith, yn anffodus,—maen nhw'n dymuno bod. Mae eisiau swydd arnyn nhw, maen nhw'n awyddus i gael eu drws ffrynt eu hunain, maen nhw'n dyheu am eu hannibyniaeth. Wrth gyflwyno hyn a mynd i'r afael â'r rhwystrau y tu hwnt i'w rheolaeth, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, sut fyddwch yn sicrhau na chaiff y gwaith cyfochrog sy'n digwydd eisoes ei ailadrodd neu ei ddyblygu, er enghraifft, gyda thimau partneriaeth gymunedol yr Adran Gwaith a Phensiynau a gaiff eu recriwtio o blith pobl y tu allan i'r llywodraeth, y tu allan i'r gwasanaeth sifil, sydd â phrofiad personol o fyw gydag anabledd, ond dim ond ar gontract 12 mis i ddechrau. Rwy'n gobeithio y gallech ystyried ymuno â mi a'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, yn dilyn tystiolaeth ddiweddar ganddyn nhw, i annog Llywodraeth y DU i ymestyn hynny y tu hwnt i 12 mis fel y gall yr anogwyr gwaith ac eraill gael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl.

Sut fyddwch chi'n ymgysylltu, neu sut rydych chi'n ymgysylltu â Remploy, sy'n cyflawni rhaglen waith ac iechyd Llywodraeth y DU? Er nad yw'n orfodol ond i rai sy'n ddi-waith am fwy na dwy flynedd, canfuwyd bod dros 80 y cant o'r bobl ar y rhaglen yn bobl anabl â chyflyrau iechyd hirdymor sydd wedi ymuno'n wirfoddol â'r rhaglen honno oherwydd eu bod yn dymuno cael gwaith? Yn yr un modd, sut fyddwch yn cefnogi mentrau fel canolfan mentrau Wrecsam, sydd wedi trefnu digwyddiad cyflogaeth awtistiaeth y dyfodol ar 25 Ionawr y flwyddyn nesaf? Rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb yn hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau sut yr hoffech efallai ymgymryd â gweithio gyda Hafal, sydd â rhan hefyd, a Phrifysgol Glyndŵr.

Sut ydych yn ymateb i'r pryder a fynegwyd yn adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Tlodi yng Nghymru 2018' sy'n dweud, wrth sôn am gyflogaeth, mai dim ond 5 y cant o weithlu Llywodraeth Cymru ei hun sy'n bobl anabl, er eu bod yn cynnwys 22 y cant o'r boblogaeth? Ac o ystyried y ffigurau ehangach a roddwyd gennych, yn yr un modd sut ydych yn rhoi sylw i'r pryder a godir ganddyn nhw fod

39% o'r bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, o'i gymharu â 22% o'r bobl nad ydyn nhw'n anabl,

unwaith eto, bron bob amser oherwydd y rhwystrau model cymdeithasol hynny yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad?

A wnewch chi ailystyried dull Llywodraeth Cymru o gael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru? Ceir pryder eang o hyd ymhlith y rhai sydd yn derbyn neu wedi bod yn derbyn y grant hwnnw y bydd y diffyg clustnodi, y gofyniad i gytuno ag awdurdodau lleol ar yr hyn sy'n llesol ar eu cyfer nhw, neu'r hyn y gallai eu hanghenion fod, yn cael gwared ar eu hannibyniaeth. Edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle gwnaeth y Llywodraethau yno, sydd â syniadau gwleidyddol gwahanol iawn i'm rhai i, y peth iawn a sefydlu corff annibynnol yn cael ei redeg gan sefydliad cyfatebol i Anabledd Cymru yno. Nawr, nid wyf am eu henwi nhw, oherwydd fe'm clywsoch yr wythnos diwethaf a'r mis diwethaf dro ar ôl tro yn dweud bod cynlluniau trydydd sector newydd yn canfod eu bod wedi colli eu cyllid, neu y byddan nhw'n colli eu cyllid, pan maen nhw'n darparu bywydau annibynnol, a rhaglenni atal cynnar sy'n galluogi pobl i gael rheolaeth ar eu bywydau eu hunain, gan gymryd y pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol sydd wedi colli eu cyllid, oherwydd, yn anochel, mae'r comisiynwyr statudol wedi penderfynu na ddylen nhw fod yn flaenoriaeth. Ac felly, oherwydd comisiynu ffôl, cyllidebu ffôl, maen nhw'n pentyrru miliynau o gostau ychwanegol diangen ar wasanaethau statudol. Fe wnaethoch chi, yr wythnos diwethaf, sylwadau ar hynny neu ymateb i hynny, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud ychydig o eiriau, fel y gall y bobl hynny yr effeithir arnyn nhw gan hyn glywed rhywfaint, gobeithio, o sicrwydd pellach.

Nawr, mae pum mlynedd a hanner—

16:25

A ydych chi ar fin dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Iawn. Roeddwn i ar fin dirwyn i ben, felly, drwy ofyn ichi weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i gydnabod a mynd i'r afael â'r rhwystrau i fyw'n annibynnol i bobl anabl a nodwyd gan, er enghraifft, y bobl anabl sy'n ceisio cael mynediad i gyfarfod ar y cyd yfory o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol—anabledd, pobl hŷn a thai ac fel arall, sydd yn ei chael hi'n—. Wel, mae fy staff yn cael anhawster mawr i gael y Comisiwn i ddarparu mannau parcio penodol i'r anabl a chael gwared ar y rhwystrau i gael mynediad i'r adeilad hwn, a phryderon tebyg parhaus ynghylch y rampiau y tu allan.

Ac yn olaf, a wnewch chi helpu—a rhoddaf un enghraifft i chi—Sir y Fflint, oherwydd mae gennyf rai achosion nad wyf wedi sôn amdanyn nhw o'r blaen gyda chi—sut i'w helpu i ddeall yn well beth mae hyn i gyd yn ei olygu. Rhoddaf ddwy enghraifft yn gyflym iawn i chi a byddaf yn dirwyn i ben. Un: cefais gyfarfod gyda phrif swyddog canolfan fforwm anabledd Sir y Fflint ar gyfer byw'n annibynnol a swyddogion yn y cyngor ynghylch anallu defnyddwyr cadeiriau olwyn i ddefnyddio'r llwybr arfordirol. Dywedwyd wrthym y bydden nhw'n dweud wrthym ni beth ddylai maint y cadeiriau olwyn fod. Rwy'n amau y gallwch gydnabod bod hyn nid yn unig yn fater o dorri amodau'r model cymdeithasol mewn modd difrifol, ond hefyd Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth Cymru.

Ac yn olaf, yn y cyd-destun hwn, mae grŵp o oedolion a phlant awtistig yr wyf i wedi bod yn gweithio gyda nhw ers blynyddoedd wedi bod yn ceisio cael cyfarfod bord gron gyda Sir y Fflint ar lefel uwch, amlddisgyblaethol, ers dros saith mis erbyn hyn, dros 150 o ddiwrnodau, i drafod y rhwystrau cymdeithasol, seicolegol ac iechyd y maen nhw'n eu hwynebu. Oherwydd gohirio, oedi a chanslo, ni ddigwyddodd y cyfarfod hwnnw. Ond fe wnaethom ni godi'r mater gyda'r prif weithredwr. Rhoddodd ef y bai ar y bobl awtistig, sy'n dioddef mwy o ofid dwys, sydd ar ben eu tennyn, sy'n cysylltu â mi i ddweud eu bod yn ystyried hunanladdiad oherwydd yr argyfwng y cawsant eu gwthio iddo gan fethiant yr awdurdod lleol sy'n cynnal y gwasanaeth awtistiaeth integredig, sy'n methu â deall ystyr anghenion cyfathrebu a chymdeithasol pobl awtistig. Mae hyn, felly, yn ysgogi sefyllfa lle mae ei swyddogion ei hun yn gorfod ymdopi â sefyllfaoedd y mae'r prif weithredwr yn eu defnyddio wedyn fel esgus i beidio â chyfarfod â'r bobl sydd â'r atebion.

Dyna beth oedd amrywiaeth eang iawn o faterion yn cael eu codi. Gwnaf fy ngorau i fynd i'r afael â'r rhan fwyaf ohonyn nhw. O ran y mater di-fflach ynghylch diweddaru'r rheoliadau ac ati, yn amlwg, bwriadwn wneud yn siŵr y bydd y rheoliadau sydd angen eu diweddaru yn cael eu diweddaru pan fydd y fframwaith ar waith, a'r ymgynghoriadau wedi eu cwblhau. Ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn bryderus iawn y bydd hyn yn llwyr adlewyrchu barn pobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Ac, fel y dywedais yn y datganiad, rydym ni wedi cysylltu â llawer o unigolion yn ogystal â sefydliadau cynrychioliadol, ac rydym yn awyddus i annog hynny i ddigwydd. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno hyn. Os oes gan yr Aelod unrhyw beth penodol y byddai'n hoffi i ni roi sylw iddo o ran cyflwyniad a gwybodaeth, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny gydag ef. Mae croeso i bob syniad, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ledaenu mor eang â phosibl.

O ran gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn â nhw. Mae fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn ei chynllun cyflogadwyedd, wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod yr holl raglenni sydd ar gael yn dod at ei gilydd dan y teitl 'Cymru'n Gweithio'. Y syniad yw—maddeuwch y gyfatebiaeth, Dirprwy Lywydd—cuddio'r mecanwaith, wrth i bobl ddod i ofyn am gymorth. Nid mater iddyn nhw yw eu bod wedi dod i'r lle iawn neu yn y ffrwd gywir, ond eu bod yn cael cymorth gan bawb mewn gwirionedd sydd yn helpu o dan y teitl, ac mae hynny'n cynnwys asiantaethau Llywodraeth y DU hefyd, i'w cael ar y trywydd iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, ac mae hynny'n cynnwys cael y cymorth anabledd.

Nododd nifer o faterion unigol yr wyf yn fwy na pharod i gwrdd ag ef i'w trafod y tu allan. Ac os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i sicrhau bod cyfarfodydd yn digwydd, rwy'n hapus i wneud hynny ochr yn ochr â'm cyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus. Os gallwn ei helpu ef ar y mater penodol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, yn y bôn, ei fod yn cytuno â mi mai'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y fan yma yw sicrhau bod pob unigolyn anabl yn cael ei ystyried yn unigolyn unigryw yn ei hanfod, a bod y rhwystrau sy'n ei atal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas yn cael eu chwalu ac nad ydym yn gweld hyn fel rhywbeth y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cael mynediad at bethau. Felly, rwy'n hapus iawn i drafod gydag ef y mater a gododd ynglŷn â gofyn i bobl brynu cadeiriau olwyn o faint arbennig, oherwydd yn sicr nid dyna'r model yr hoffwn i ei weld yn cael ei gyflwyno.

Felly, pan gaiff y cynllun gweithredu ei gyhoeddi, bydd yr Aelod yn gallu gweld bod gennym ni amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â hynny. Byddwn yn ei ymgorffori yn ein cyfarwyddiadau amrywiol i awdurdodau lleol a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n comisiynu ac yn y blaen, ond yn bwysicach byddwn yn disgwyl iddyn nhw ac i ni ein hunain yn Llywodraeth Cymru—ac rwy'n fwy na hapus i drafod y mater gyda'r Comisiynydd fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu—fod yn gyflogwyr enghreifftiol yn hyn o beth. Credaf y dylem fod yn ailedrych ar ein targedau ni ein hunain a bod ar y blaen trwy'r byd i'r perwyl hwnnw. Ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy modloni bod ein targedau mor ymestynnol ag y gallen nhw fod, a byddwn yn ceisio cael y sector cyhoeddus yng Nghymru i arwain y ffordd a dangos i gyflogwyr eraill, yn arbennig yng Nghymru, gan fod yr Aelod yn hollol iawn: oni bai bod ganddyn nhw gyflwr difrifol iawn sy'n cyfyngu ar fywyd, mae pawb yr wyf innau'n ei gyfarfod hefyd yn dymuno gweithio a bod mor annibynnol â phosibl. Felly, bwriadwn gyflwyno'r fframwaith hwnnw yn hynny o beth.

16:30

Diolch am y datganiad ar y pwnc pwysig yma ar weithredu ar anabledd a gwella'r cyfleoedd ar gyfer byw yn annibynnol. Mae'r pwnc yn un pwysig, ond gyda phob parch nid yw'r datganiad ei hun yn ein goleuo ni rhyw lawer. Beth sydd yma ydy datganiad yn dweud bod cyhoeddiad ar ei ffordd. Yr wythnos nesaf, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi fframwaith newydd a chynllun gweithredu—dyna mae'r datganiad yma'n dweud wrthym ni yn y bôn. Rŵan, nid oes gen i syniad beth fydd cynnwys y fframwaith, nid oes gen i syniad beth fydd ymateb pobl anabl iddo, nac ymateb yr elusennau a'r grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl. Felly, fy nghwestiwn cyntaf ydy: oni fyddai wedi bod yn well cyhoeddi'r datganiad ar ôl ichi gyhoeddi'r fframwaith newydd fel bod gyda ni rhywbeth i gnoi cil arno fo, rhywbeth i'w drafod, rhywbeth i ymateb iddo fo, a rhywbeth i'w gloriannu?

Yn absenoldeb unrhyw beth i'r gwrthbleidiau graffu arno fo, rwyf am ofyn ichi am rhywbeth sydd yn bwysig i bobl anabl ond sydd ddim yn y datganiad, sef grant byw'n annibynnol Cymru. Mae Mark Isherwood wedi sôn am hwn yn barod. Rwyf am ddod ato fo o gyfeiriad ychydig yn wahanol. Fel y gwyddoch chi, mae'n bolisi gan eich plaid chi i gadw'r grant yma ac i beidio â chaniatáu i bobl anabl gael eu cefnogi o gyllidebau cyffredinol cynghorau. Roedd eich cynhadledd yn ddoeth iawn i fabwysiadau'r polisi hwnnw. Felly, a gaf i ofyn hyn? Yn absenoldeb unrhyw beth sylweddol yn eich datganiad chi heddiw yma, a gaf i ofyn ail gwestiwn—ac fy nghwestiwn olaf i—sef: pryd fydd Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn mabwysiadu polisi'r Blaid Lafur a chyhoeddi y bydd y grant byw'n annibynnol yn parhau a ddim yn diflannu erbyn 2020?

Rwy'n cydnabod pwynt cyntaf Siân Gwenllian. Mae'r amseru bob amser yn broblem. Hoffwn yn fawr iawn, er hynny, dynnu sylw at y lansiad, a rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd ag y bo modd iddo ac annog cymaint o ymateb ag y bo modd. Byddaf, Dirprwy Lywydd, pan fydd gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dychwelyd i'r Siambr i roi datganiad arall i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu craffu ar ei sylwedd hefyd. Credaf fod hwnnw'n bwynt teg. Mae bob amser yn anodd iawn gwybod a yw'n well ei wneud yn gyntaf neu wedyn, ond roeddwn yn awyddus iawn i bwysleisio (a) gwaith pobl anabl a'u cynrychiolwyr ledled Cymru wrth lunio'r fframwaith yr ydym ar fin ymgynghori arno, ac yna'r cyfle i ymgynghori ymhellach. Ein dyhead mwyaf yw sicrhau mai dyma'r peth gorau posib ar gyfer y bobl anabl eu hunain. Felly, rwy'n derbyn ei phwynt hi. Credaf ei fod yn bwynt dilys, ond penderfyniad oedd hyn mewn gwirionedd i dynnu sylw at y fframwaith cyn i ni ei lansio i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol ohono ac yn disgwyl amdano. Yna, yn bendant byddaf yn dod yn ôl gyda'r sylwedd ar ôl i ni gael yr ymgynghoriad . Credaf fod hwnnw'n bwynt teg.

O ran y grant byw'n annibynnol, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog y tu ôl i mi newydd roi nodyn i mi yn garedig iawn i ddweud wrthyf—fel yr eglurais i Siân Gwenllian pan oeddwn yn ateb cwestiynau ar fy mhortffolio fy hun, yr wythnos diwethaf oedd hynny rwy'n credu, mae gennyf i swyddogaeth oruchwylio gyffredinol ar gyfer Llywodraeth Cymru a swyddogaeth i ddylanwadu ar gydweithwyr, ond mewn gwirionedd mae llawer o'r manylion hyn mewn gwahanol bortffolios. Felly, mewn gwirionedd, mae'r grant penodol hwnnw ym mhortffolio Gweinidog sy'n gydweithiwr i mi. Ond rwy'n clywed bod y cyfnod pontio yn mynd rhagddo'n dda iawn—rydym yn ei fonitro'n agos iawn. Maen nhw'n cwblhau gwerthusiad yn annibynnol o brofiad pobl—rydym yn cyflawni hyn o dan y model cymdeithasol, felly, 'Beth sy'n bwysig i mi'. Rydym wedi cael y sgwrs hon gyda'n gilydd yn weddol aml. Mae'n ymwneud i raddau helaeth â gwneud yn siŵr bod yr hyn a gyflwynwn yn bwysig a'i fod yn gweithio ac mai dyna ddymuniad pobl mewn gwirionedd. Ein profiad â phobl sy'n pontio yw ei fod wedi bod yn dda iawn, i ateb eich cwestiwn, ond rwyf yn derbyn eich pwynt gwreiddiol a byddaf yn ymrwymo i ddod yn ôl gyda'r sylwedd.

16:35

A gaf i yn gyntaf oll groesawu datganiad Llywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn anghytuno ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion—dylai pawb allu gwneud hynny. Cytunaf nad yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae'n gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag uchelgeisiau o'r fath.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ceir 75,000 o bobl anabl yng Nghymru sydd wrthi'n chwilio am waith neu a fyddai'n hoffi gweithio. Mae hynny'n bron i 2,000 fesul etholaeth. A gaf i ddatgan buddiant? Mae fy chwaer, sydd yn un o'ch etholwyr chi, yn un ohonyn nhw, mewn gwirionedd.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno oni bai bod gennym ni gwotâu neu gymhelliant ariannol, na fydd cyflogwyr nac adrannau personél yn newid yn eu hagweddau? Bydd yn rhaid inni naill ai roi cymhelliant iddyn nhw neu wneud rhywbeth iddyn nhw. Nid oes gwerth mewn dweud, 'Rydym ni'n awyddus ichi gyflogi mwy o bobl anabl'—rydym wedi dweud hynny ers degawdau, ac nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Felly, rwyf i o'r farn bod angen inni wneud rhywbeth llawer mwy rhagweithiol nag o'r blaen.

A gaf i ddweud gair am drafnidiaeth? Mae gennym ni gyfres o gamau syml a allai wneud bywyd pobl anabl yn haws wrth deithio, fel cludiant cyhoeddus yn enwi'r arosfannau ar goedd a chael gwared ar annibendod palmant i helpu'r rhai â nam ar y golwg; cludiant cyhoeddus yn arddangos yr arhosfan nesaf i helpu'r rhai sydd yn drwm eu clyw; hygyrchedd cludiant cyhoeddus i gadeiriau olwyn; llwybrau i groesi ffyrdd; a mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn yn gallu defnyddio bws ar yr un pryd. Nid yw'r rhain yn gofyn llawer, ond byddent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o'r bobl sy'n dioddef anableddau.

O ran y grant byw'n annibynnol, rwy'n un o'r nifer fawr o bobl, gan gynnwys yn ein plaid ni, sy'n siomedig ei fod wedi dod i ben. Yr hyn yr wyf am ei ofyn yw—. Nid wyf i'n credu y daw yn ei ôl, felly nid wyf am ofyn a fyddwch yn dod ag ef yn ei ôl, oherwydd rwy'n credu mai'r ateb fyddai 'nac ydym'. Ond a gaf i ofyn bod Ysgrifennydd y Cabinet, pa un bynnag bynnag ydyw, yn gofyn bod awdurdodau lleol yn adrodd am eu gwariant yn y maes hwn? Felly, er nad yw'n grant penodol, adroddir yn ôl faint y mae pob awdurdod lleol yn ei wario arno, a chaiff hynny ei adrodd fel y bydd ar gael i bob un ohonom ni. Felly, os yw ein hawdurdod lleol yn gwario llai nag o'r blaen, credaf y byddai llawer ohonom yn awyddus i godi'r mater gyda nhw.

Mae'r Gweinidog yn clywed y neges yn glir iawn, rwy'n credu, ac rwyf i o'r farn bod y pwynt olaf yna wedi ei wneud yn dda iawn. Ie, yn bendant, o ran y pwyntiau ar gludiant cyhoeddus, credaf eu bod hwythau wedi eu gwneud yn dda iawn hefyd, Mike Hedges. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau ar wasanaethau bws amrywiol yn eich etholaeth chi sy'n croesi i'm hetholaeth innau, ac ni allwn gytuno mwy ynglŷn â'r cyhoeddiadau, cymhorthion gweledol a hygyrchedd. Cefais sawl sgwrs fuddiol gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â hynny. Rydym yn golygu gwneud yn siŵr y bydd y fframwaith yn cymryd hynny i ystyriaeth.

O ran anogaeth weithredol i gyflogwyr, cefais y fraint fawr o siarad yng nghynhadledd Hyderus o ran Anabledd yn ei etholaeth ef ei hun ychydig wythnosau yn ôl. Dyna'n union oedd hynny—roeddem yn sôn am yr hyn y gellid ei wneud i gymell cyflogwyr. Mae targed Llywodraeth y DU o 1 miliwn o bobl ledled y DU yn golygu tua 55,000 ar gyfer Cymru. Rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn gyda nhw i gynyddu hynny i'r 70,000 a nodwyd ganddo, gan sicrhau bod arian Cymru ac arian Llywodraeth y DU yn uno i roi'r cymhelliad gorau i bobl, a bydd hynny'n edrych i weld beth sy'n cymell cyflogwyr, o ran newid eu hagweddau. Yn aml, mae'n ymwneud ag agweddau—nid rhwystr corfforol ydyw mewn gwirionedd. Tynnwyd sylw yn y gynhadledd at y ffaith fod y cyflogwyr yno wedi eu synnu'n fawr i ddarganfod bod y cymhellion ar gael yn hawdd ac yn rhesymol eu pris.

Rwyf hefyd yn ystyried cynllun y mae llawer o elusennau anabledd a'n pobl ein hunain yn Anabledd Cymru wedi gofyn i mi edrych arno, sef rhyw fath o system sgorio sy'n arddangos hygyrchedd i fusnesau arbennig. Nid oes unrhyw reswm pam na allai hynny ymestyn i gyflogwyr hefyd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, arweinydd y Tŷ, am eich ymateb i gwestiwn Siân Gwenllian, oherwydd roeddwn innau am godi'r un pwynt, ei bod braidd yn anodd cael trafodaeth synhwyrol am fframwaith nad oes neb wedi ei ddarllen eto. Ond rwyf hefyd yn derbyn eich pwynt eich bod yn dymuno tynnu sylw at y ffaith bod ymgynghoriad wedi dechrau, ac rwy'n croesawu'n fawr eich ymrwymiad, ar ddiwedd yr ymgynghoriad, i ddod â'ch cynigion yn ôl i'r Siambr hon, fel y gallwn eu trafod gyda pheth manylder.

Mae gennyf un cwestiwn penodol yn y cyd-destun hwn. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn yr oeddech yn ei ddweud am atgyfnerthu ymrwymiad y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n eithriadol o bwysig. Mae eich datganiad yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ac yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. A wnewch chi gytuno â mi, arweinydd y tŷ—ac mae hyn yn cyfeirio, ar un ystyr, at rai o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges—bod yn rhaid cael rhywfaint o iawndal cyfreithiol ar gyfer pobl anabl yng Nghymru pan na fodlonir eu hawliau dan y fframwaith newydd? A wnewch chi gytuno â mi—a chredaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno fwy na thebyg—nad yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymddangos yn fecanwaith effeithiol iawn i bobl anabl ei ddefnyddio pan fyddan nhw'n teimlo fel unigolion nad yw eu hawliau yn cael eu bodloni? Felly, a wnewch chi gytuno i roi ystyriaeth bellach i'r mater a drafodwyd gennym yr wythnos diwethaf pan ystyriwyd y posibilrwydd o ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig i gyfraith Cymru, yng nghyd-destun y trafodaethau ar y fframwaith newydd, a allai roi i bobl anabl hawliau dan gyfraith Cymru i geisio iawndal os nad yw eu hanghenion o dan y fframwaith yn cael eu diwallu, naill ai gan ddarparwyr gwasanaethau neu o bosibl gan gyflogwyr hefyd?

16:40

Gwnaf. Mae Helen Mary Jones yn gwneud llawer o bwyntiau da iawn yn y fan yna. Fel y dywedais yn ein dadl ar ei chynnig deddfwriaethol, rwy'n awyddus iawn i weld sut mae deddfwriaeth y fframwaith yn clymu at ei gilydd ar hyn o bryd, beth allai ymgorffori'r confensiwn yn uniongyrchol wneud i hynny neu beidio, a llunio system sy'n rhoi i bobl y budd mwyaf posibl o'r holl ddeddfwriaeth honno o ran eu hawliau, a'u gallu i gael y gwasanaethau a'r hygyrchedd sydd eu heisiau arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ein trafodaeth ynglŷn â hynny.

Rwy'n awyddus iawn, Dirprwy Lywydd, i wneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn hytrach na haenu pethau ar ben ei gilydd, yn eu llunio'n gyfanwaith di-dor, fel bod gan bobl system agored a thryloyw, sy'n hygyrch ac yn hawdd ei defnyddio ac sydd mewn gwirionedd yn gwella eu bywydau. Dyma'r hyn a fynnwn yma, ac rydym yn pwysleisio i'r bobl hynny sydd ar hyn o bryd yn rhoi rhwystrau yn y ffordd, nad yw honno'n ffordd dderbyniol o ymddwyn yma yng Nghymru.

Diolch i chi am y datganiad ar y fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, sydd i raddau helaeth iawn, wrth gwrs, yn un o'm prif flaenoriaethau gwleidyddol ac mae gennyf brofiad mawr yn y maes. Rwy'n falch o gyfrannu at y datganiad hwn fel un o ymddiriedolwyr Vale People First, ar ôl gweld y gweddnewid ym mywydau pobl ag anableddau dysgu dros y 40 mlynedd diwethaf, ers i'r ymchwiliad i ysbyty Trelái arwain at strategaeth arloesol ar gyfer cau ysbytai arhosiad hir a chael mwy o fyw yn y gymuned. Fel cyn-gynghorydd yn Sir De Morgannwg, cadeiriais Nimrod a gweld gweddnewid yr adsefydlu o ysbyty Trelái. Roedd arddangosfa yn y Senedd yn ddiweddar o gartref cyntaf gwasanaethau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd yn Cathays.

Un o'r camau cyntaf a gymerais fel Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol oedd ariannu a chyflymu'r broses o gau ysbytai arhosiad hir yng Nghymru. Credaf fod cael Dai Lloyd, David Melding ac eraill yn y Siambr yn golygu bod llawer iawn o gefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Ond fi oedd y Gweinidog yn 2013 hefyd a wnaeth dderbyn deiseb, a dyna pryd y daeth y Pwyllgor Deisebau i chwarae rhan. Roedd deisebydd o Anabledd Cymru yn galw am fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Yr hyn oedd yn allweddol oedd ein bod yn sefydlu panel strategol ar draws Lywodraeth Cymru dan arweiniad uwch was sifil. Sicrhawyd ymrwymiad ledled y Llywodraeth i gyflawni'r model cymdeithasol o anabledd, ac mae'n ddiddorol bod gennych mewn gwirionedd ddau  Weinidog yma y tu cefn i chi a oedd fel ei gilydd yn allweddol i gyflawniad eich fframwaith mewn gwirionedd, oherwydd oni bai i chi dorri'r seilos a chael y camau trawslywodraethol hynny, ni fyddai gennych chi fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol.

Hefyd, fel Helen Mary, rwyf innau yn awyddus i gael gwybod sut yr ydych chi'n gweld hyn fel ffordd o ddarparu'r model cymdeithasol o anabledd, y gwnaethom ni, mewn gwirionedd, ei groesawu yn sesiwn cyntaf y Cynulliad hwn. Sut mae symbylu'r polisi trawslywodraethol hwnnw i ymsefydlu'r fframwaith mewn polisi a deddfwriaeth? Ac a ydych chi'n croesawu gwaith sefydliadau fel Vale People First yn cael ei ailadrodd ledled Cymru, sy'n rhoi arweiniad ar hawliau a grymuso pobl ag anableddau dysgu?  

Ydw. Gan ddechrau gyda'r mater diwethaf hwnnw'n gyntaf, rwy'n eu croesawu'n fawr iawn. Un o'r rhesymau yr oeddwn yn awyddus i gyflwyno'r datganiad hwn oedd er mwyn annog grwpiau fel Vale People First i gyflwyno unrhyw beth y maen nhw'n credu ein bod wedi ei adael allan, neu y gallem ei wella, neu y gallem ei ychwanegu at y fframwaith pan ddaw. Wrth gwrs, rydym wedi ymgynghori'n helaeth eisoes—roeddem am gael fframwaith cystal â phosib cyn i ni fynd i ymgynghoriad, fel na fydd yn peri syndod i sefydliadau. Serch hynny, rydym yn awyddus iddyn nhw ddod â'u sylwadau yn ôl atom ni ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y sylwadau gan bob un o'r Aelodau etholedig sydd â llawer o brofiad yn y mater hwn. Jane Hutt, rydych chi yn sicr yn un o'r rheini, o ran yr hyn y credwch y gellid ei ychwanegu at y fframwaith neu sut y gallai glymu at ei gilydd. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni lwybr tryloyw ac agored ar gyfer yr holl elfennau ym mywyd rhywun y mae angen eu dwyn ynghyd yma, fel ei bod yn eglur iawn i gyflogwyr, aelodau cymdeithas ddinesig, busnesau a'r bobl eu hunain beth sy'n ofynnol ganddynt gan y fframwaith hwn a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio ag ef, a'r cymhellion a'r cosbau sy'n gysylltiedig â chydymffurfio neu beidio. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag amryw o Weinidogion, sydd y tu cefn i mi ar hyn o bryd, ond Gweinidogion eraill hefyd, ac rydym wedi sôn am wasanaethau cyhoeddus heddiw—cludiant cyhoeddus, er enghraifft—i wneud yn siŵr bod gennym ni fframwaith trawslywodraethol, yn dilyn ôl eich troed chi, mae'n rhaid i mi ddweud, i wneud yn siŵr nad oes natur seilo i hyn, ond ei fod yn cymryd i ystyriaeth weithredu ledled y gyfundrefn gyfan.

Pe caf i, Dirprwy Lywydd, wneud ond un pwynt yma—. Felly, er enghraifft, Deddf Cydraddoldeb 2010—mae mater yn codi o ran a ydym yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig neu a ydym yn dwyn darnau ohono i rym yn syth neu'n newid y geiriad ychydig i'w gael i asio'n well. Rwy'n eiddgar i gael sgwrs briodol i sicrhau ein bod yn cael yr hyn sy'n addas at y diben allan o hynny i'r dyfodol, yn hytrach na dim ond gwneud hynny fesul tipyn. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y sgwrs honno wrth iddi fynd ymlaen ac rwy'n mawr obeithio y bydd y fframwaith, pan welwch ef, a'r cynllun gweithredu yn enwedig sy'n mynd gydag ef, yn nodi hynny fel llwybr.

16:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Rwy'n croesawu fframwaith diweddar eich Llywodraeth ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Mae cael byw'n annibynnol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, ond i unigolyn ag anableddau ceir cymaint o rwystrau sy'n gwneud byw'n annibynnol bron yn amhosibl i lawer. Mae cymydog i mi, er enghraifft, yn teithio 15 munud yn ei gadair olwyn i gael bws fel y gall gwrdd â'i ffrindiau a byw mor annibynnol ag y mae'n ei ddymuno. Ond yn aml iawn nid oes digon o le ar y bws i fynd ag ef, felly bydd yn aros ym mhob tywydd am fws arall i ddod; mae ef yn aros yn obeithiol iawn y bydd hyn yn digwydd. Felly, mae angen dirfawr i fynd i'r afael â hyn.

Er nad oedd yn berffaith o bell ffordd, cafodd y fframwaith blaenorol groeso eang gan ei fod yn amlinellu'r camau angenrheidiol i gael gwared ar lawer o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yng Nghymru. Yn anffodus, fe fethodd â gwneud gwelliannau mawr mewn llawer o feysydd, fel y nodwyd.

Mae cyfran y bobl anabl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi codi dros 40 y cant yn y blynyddoedd diwethaf. Mae tua dwy ran o bump o bobl anabl Cymru nawr yn byw mewn tlodi incwm. Er y gellir priodoli rhywfaint o'r cynnydd hwn i bolisïau byrbwyll Llywodraeth y DU i ddiwygio lles, yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, nid dyma'r prif reswm am y tlodi cynyddol yng Nghymru. Maen nhw yn tynnu sylw at y bwlch cyflogaeth cynyddol rhwng pobl anabl a'r rhai nad ydynt yn anabl.

Galwodd Ysgrifennydd y Cabinet yr ystadegau tlodi yn warth cenedlaethol, ac oni chymerwn gamau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r rhwystrau bydd yn destun cywilydd cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at ddarllen am y camau gweithredu penodol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hyn, arweinydd y tŷ. Eto i gyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r camau yr ydych yn eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu'r newyddion bod cyflwyno'r credyd cynhwysol wedi cael ei ohirio unwaith eto. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl am y cynllun hwn. Efallai ei fod wedi ei gyflwyno gyda'r bwriadau gorau, ond mae wedi gadael llawer o bobl yn amddifad. Arweinydd y tŷ, a fyddwch chi'n cyflwyno achosion gerbron Llywodraeth y DU i sicrhau na fydd credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru hyd nes gellir gwarantu na fydd pobl anabl yn waeth eu byd?

Arweinydd y ŷ, mae swyddogaeth allweddol i drafnidiaeth ddi-rwystr wrth gynnig nid yn unig annibyniaeth ond llwybr allan o dlodi a'r enghreifftiau y tynnais sylw atyn nhw o bobl anabl yn cael eu gwrthod gan dacsis neu godi tâl ychwanegol arnyn nhw oherwydd eu bod angen cerbydau hygyrch. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn llwyr ddileu'r arfer anfoesol ac anghyfreithlon hwn?

Yn olaf, Arweinydd y tŷ, tynnodd y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb sylw at y prinder dybryd o dai hygyrch yng Nghymru, gan ei alw yn argyfwng cudd Cymru. Felly, a wnewch chi amlinellu'r camau yr ydych yn eu cymryd i gynyddu argaeledd tai hygyrch yng Nghymru?

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ar fanylion y fframwaith a'r cynllun gweithredu wedi'u diweddaru.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Caroline Jones, am y sylwadau hynny. Byddaf yn ceisio eu cwmpasu i gyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chydweithwyr amrywiol—y Gweinidog Tai yn fwyaf diweddar, er enghraifft, fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—ynglŷn â rhai o'r materion yr ydych yn eu codi. Mae rhai ohonyn nhw o fewn ein maes rheolaeth ni, nid yw eraill yn gymaint felly. Byddem yn croesawu yn fawr iawn, er enghraifft, y gallu i reoleiddio rhai o'r gwasanaethau bysiau, a fyddai'n caniatáu inni bennu mannau penodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn benodol, ond mewn gwirionedd faterion eraill hefyd y gwnaeth Mike Hedges dynnu sylw atyn nhw ynglŷn â chymhorthion gweledol a chlywedol ar gyfer helpu rhywun i fod yn annibynnol. Nid wyf i'n gwybod a yw'r Aelod neu unrhyw un o Aelodau eraill y Cynulliad sy'n bresennol wedi bod gydag un o'r nifer fawr o elusennau anabledd sydd gennym ac wedi cael eu rhoi yn yr un sefyllfa â rhywun ag amddifadedd synhwyrau ac wedyn wedi cerdded drwy fan cyfarwydd; wedyn byddai gennych syniad da iawn yn fuan am rai o'r rhwystrau corfforol. Ond ceir hefyd, fel y nododd yr Aelod, nifer fawr o rwystrau sy'n ymwneud ag agwedd a rhwystrau sefydliadol. Felly, bydd y cynllun yn mynd i'r afael hefyd â chamsyniadau ynglŷn â'r hyn y gall pobl ei wneud a'r hyn na allen nhw ei wneud a rhai canlyniadau anfwriadol hefyd.

Ac os caf i orffen, Dirprwy Lywydd, gyda'r enghraifft hon a roddwyd i mi gan un o'r bobl ifanc y bûm yn siarad â nhw yn y gynhadledd yr euthum iddi gyda Leonard Cheshire a Delsion, cynhadledd i gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd. Bu cyflogwr lleol yn galonogol dros ben a dywedodd lawer o'r pethau cywir ynghylch dymuno cyflogi pobl anabl a phobl â nam corfforol penodol ac yn y blaen, ond roedd ar yr un pryd wedi cynyddu'r gofynion hyblygrwydd ar gyfer ei holl swyddi gradd mynediad, fel bod yn rhaid ichi, er mwyn cael eich cyflogi yno, allu gwneud y tasgau i gyd ar draws pob gradd sylfaenol. Ac roedd hynny'n golygu nad yw pobl sydd â gallu da mewn un maes yn benodol, ond efallai heb y gallu i wneud popeth, yn gallu cael hyn, ac roedd yn rhaid tynnu sylw'r cyflogwr at hynny cyn iddo sylweddoli y byddai'n cael yr effaith honno. Nid dyna'r bwriad, ac mewn gwirionedd nid oedden nhw wedi gweld bod hynny'n digwydd. Pan ddangoswyd hynny iddyn nhw, serch hynny, roedden nhw'n coleddu'r syniad ac yn hapus iawn i edrych eto i weld a oedd hwnnw, yr hyn oedd yn ymddangos iddyn nhw fel arfer cyflogaeth safonol, mewn gwirionedd â chanlyniad anfwriadol. A dyna'r math o sgwrs yr ydym yn bwriadu ei chael ledled Cymru i sicrhau, pan fydd pobl yn edrych ar eu strategaethau adnoddau dynol a'u disgrifiadau swydd ac ati, y byddan nhw mewn gwirionedd yn ystyried y peth o safbwynt rhywun a allai fod yn anabl, os ydyn nhw newydd roi rhywbeth yn y swydd ddisgrifiad a fyddai'n gwahardd unigolyn i bob pwrpas a fyddai wedi gwneud y swydd yn dda iawn ac a fyddai'n fudd gwirioneddol i'w cwmni.

Felly, credaf fod yr hanesyn gan yr unigolyn ifanc a'r canlyniad tra boddhaus mewn gwirionedd pan oedd y cyflogwr yn cydnabod y mater yn dangos yn berffaith pam mae angen y fframwaith a pham mae angen inni ei thaenu mor eang â phosibl. Byddwn yn ddiolchgar iawn, Dirprwy Lywydd, pe gallai Aelodau'r Cynulliad ddefnyddio'u rhwydweithiau cyfain i sicrhau ein bod yn cael cymaint o ymatebion â phosibl i'n hymgynghoriad. Diolch.

8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn wrth lunio Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Dirprwy Lywydd, mae pob un ohonom a anwyd ac a fagwyd yng Nghymoedd y De yn deall hanes y tirlun. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y lle o ran stori ein cenedl. Mae cymunedau yng Nghymoedd De Cymru wedi bod â chysylltiad arbennig â'r dirwedd erioed. Y tirlun hwn a roddodd enedigaeth i'n cymunedau a'n pobl, ac ail-greu a dyfnhau a meithrin y cysylltiad hwnnw rhwng pobl, cymuned a thirwedd yw'r hyn y mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn ceisio ei gyflawni, er mwyn galluogi eraill i ddeall a mwynhau'r un cysylltiad hwnnw.

Mae'r Cymoedd yn gartref i rai o'r tirweddau naturiol mwyaf nodedig a syfrdanol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Ond anghofiwyd a thanbrisiwyd am yn rhy hir eu posibiliadau i ddenu ymwelwyr a chael eu defnyddio yn llawn a'u cydnabod gan y cymunedau eu hunain. Rydym yn iawn i fod yn falch o'n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac unigryw. De Cymru wedi'r cwbl wnaeth bweru'r chwyldro diwydiannol, ond rydym wedi tueddu i ystyried y Cymoedd fel un gymuned unffurf, drwy brism y llwch glo a daflwyd o'r pyllau a'r diweithdra a ddaeth yn sgil eu cau nhw.

Dirprwy Lywydd, gallai dim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae tirweddau'r Cymoedd wedi'u gweddnewid yn rhyfeddol, mwy mae'n debyg  nag a welsom yn unrhyw le arall yng Nghymru, y DU neu du hwnt. Yr her i ni heddiw, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain ac mewn cymunedau Cymoedd ôl-ddiwydiannol yr unfed ganrif ar hugain, yw sut yr ydym yn gwneud y mwyaf o'n tirweddau a'n treftadaeth, gan ein hailgysylltu gyda'n hamgylchedd a'n hanes. Sut allwn ni ddefnyddio'r tirweddau cyfoethog hyn i helpu i fynd i'r afael â phroblemau presennol yn ein cymunedau, gan gynnwys rhai o'r problemau iechyd ac economaidd-gymdeithasol dwfn a mynd i'r afael â rhai heriau newydd sy'n dod i'r amlwg, megis creu economi ffyniannus, gwydn a chynhwysol i wella lles cymunedau a lleihau'r bygythiadau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, rheoli dŵr a bioamrywiaeth?

Ers sefydlu'r tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, rydym wedi gweithio'n agos gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd i gael gwybod beth y maent yn ei ddymuno ar gyfer eu cymunedau a'r hyn y maent yn ei werthfawrogi am ble maent yn byw. Datgelodd ein sgyrsiau deimlad cryf y dylai treftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd ddarparu cefndir i ddyfodol newydd ar gyfer y Cymoedd. Mae'r tasglu wedi treulio llawer o'r flwyddyn ddiwethaf yn datblygu dull cyffrous a deinamig a fydd yn cydlynu, yn sbarduno ac yn hybu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag amgylchedd, pobl ac economi'r Cymoedd.

Cofnodwyd hyn yn wreiddiol yn y cysyniad o barc tirwedd, ond mae'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i ni yn awr yn llawer ehangach. Dyna pam y canolbwyntir ar barc rhanbarthol y Cymoedd ehangach. Ein nod yw rhoi'r Cymoedd ar flaen y gad yn fyd-eang, gyda phroffil cenedlaethol a rhyngwladol a fydd yn gwasanaethu anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Yn seiliedig ar brofiad blaenorol, ymchwil arfer gorau presennol a newydd ac ymgysylltu helaeth, bydd gan barc rhanbarthol y Cymoedd dair thema gyflawni ryng-gysylltiedig: tirlun, diwylliant a hunaniaeth; hamdden a llesiant; a chymunedau a menter.

Byddwn yn adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes o ran ein hasedau, gan ddarparu cynlluniau uchelgeisiol a fydd yn cysylltu'r Cymoedd â llwybrau cerdded a llwybrau beicio o safon uchel. Byddwn yn datblygu rhwydwaith gweladwy iawn, rhwydwaith uchel ei safon ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur a pharciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr a chamlesi, safleoedd treftadaeth ac atyniadau, sy'n cysylltu'n hollbwysig â'n trefi a'n pentrefi. Byddwn yn datblygu ac yn buddsoddi mewn safleoedd presennol ar draws y Cymoedd fel pyrth ar gyfer adrodd straeon am y Cymoedd yn well. Bydd y rhain yn annog pobl i ddarganfod ein trefi a'n pentrefi ac yn annog archwilio ehangach o'r hyn sydd gan y Cymoedd i'w gynnig.

Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi cyhoeddi £7 miliwn o arian cyfalaf dros ddwy flynedd i sefydlu parc rhanbarthol y Cymoedd yn y gyllideb ddrafft yn gynharach y mis hwn. Defnyddir yr arian hwn i ddatblygu'r parc, gan gynnwys buddsoddi yn y pyrth. Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y Cymoedd wrth inni ddatblygu'r parc rhanbarthol. Bwriadaf gyhoeddi lleoliad y pyrth erbyn diwedd y flwyddyn hon a chyflwyno cam 1 erbyn gwanwyn 2019.

Dylai'r Parc, ac mae'n rhaid iddo, gefnogi gweithgareddau awyr agored yn y Cymoedd, nid yn unig ar gyfer hamdden a thwristiaeth, ond i helpu i fynd i'r afael â phroblemau cynyddol a wynebwn o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol. Byddwn yn adeiladu ar y prosiectau a mentrau ysbrydoledig, arloesol  sydd eisoes yn cael eu cynnal a'u datblygu gan gymunedau ar draws y Cymoedd, gan gynnwys mwy o gymunedau a chreu rhwydwaith rhannu sgiliau rhwng cymheiriaid.

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi prosbectws ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd fel canllaw i'n bwriad ac i amlinellu ein gweledigaeth, ond hefyd mae'n wahoddiad i bawb yn y Cymoedd a thu hwnt fod yn rhan o'r fenter hon. Mae'r prosbectws yn adeiladu ar brofiad y 20 mlynedd diwethaf a mwy. Mae'n adlewyrchu arfer gorau byd-eang ac mae'n ddatganiad o uchelgais am yr hyn y credwn y gallwn ei gyflawni.

Dirprwy Lywydd, nid yw ac ni fydd parc rhanbarthol y Cymoedd yn brosiect neu fenter untro. Mae'n ganolog i'n huchelgais i alluogi ein cymunedau ar draws cymoedd y De i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan ein treftadaeth naturiol a  diwylliannol i gyflawni manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol heddiw ac yn y dyfodol. Diolch.

17:00

Wel, fel y dywedwch, cawsoch eich geni a'ch magu yng Nghymoedd y De ac rwy'n deall hanes a harddwch y dirwedd. Yn amlwg, ni chefais i fy ngeni a'm magu yng Nghymoedd y De, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn gwerthfawrogi hanes yr ardal yn llawn ac rwyf wrth fy modd â harddwch y dirwedd, ac, wrth gwrs, y bobl wych sy'n byw yno.

Rydych yn dweud eich bod wedi gweithio'n agos gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Cyfeiriasoch at nifer fawr o gyfarfodydd a sgyrsiau. Cyfeiriasoch at dreftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd fel rhywbeth a ddylai ddarparu'r cefndir i sicrhau dyfodol newydd ar gyfer yr ardal. Ond, yn yr ysbryd o gyd-gynhyrchu, yn yr ysbryd o ddeddfwriaeth Cymru yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sut fydd hynny'n mynd y tu hwnt i ymgynghori a dylunio hyd yn oed i ddarpariaeth ar y cyd y tu allan i'r sector statudol, nid yn unig gyda chyrff sefydledig ond trwy gyrraedd a datgloi cryfderau ac asedau o fewn y bobl yng nghymunedau'r Cymoedd?

Pam, yn eich barn chi,  yn neunawfed flwyddyn Llywodraeth Cymru, pan gynhyrchwyd y ffigurau swyddogol diwethaf, fod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal yr isaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU, er gwaethaf y biliynau a gafodd eu gwario ar adfywio economaidd a gwrth-dlodi, gydag Ynys Môn ar y gwaelod, ar 52 y cant, Gwent heb fod yn bell ar ei hôl ar 56 y cant, a'r Cymoedd canolog ar 63 y cant o'r DU ar gyfartaledd? Gobeithio y byddwch yn ateb hynny yng nghyd-destun, er enghraifft, Gwlad Pwyl, a ddechreuodd mewn sefyllfa debyg ar y man cychwyn, ond caeodd y bwlch, tra bod Cymru mewn termau cymharol wedi mynd tuag yn ôl. Os ydych yn penderfynu cymryd dull clasurol adweithiol Llywodraeth Cymru i ymateb yn erbyn Llywodraeth y DU a beio'r Torïaid, cofiwch eich bod yn  siarad â gor-ŵyr i löwr, y cafodd ei dad ei hun ei ddiswyddo ym 1978, a weithiodd i gwmni gweithgynhyrchu a oedd yn un o nifer a syrthiodd oherwydd y chwalfa economaidd, ac a ddioddefodd y canlyniadau fel teulu. Gobeithiaf, felly, na fyddwch yn fy nhrin  yn nawddoglyd gydag ymatebion ystrydebol yn unol â hynny.

Rydych yn cyfeirio at y cyhoeddiad o £7 miliwn o gyllid cyfalaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i sefydlu parc rhanbarthol y Cymoedd yn y gyllideb ddrafft dros ddwy flynedd. Cyfeiriais at y Gorllewin a'r Cymoedd, sy'n cynnwys pedair sir yn y Gogledd, sy'n cynnwys ardaloedd gyda'r ffyniant lleiaf—hyd yn oed yn is na Gwent, fel y cyfeiriwyd ato. Felly, sut maen nhw yn rhan o'r darlun hwn? Ble mae eu cronfa adfywio gyfatebol nhw ? Oherwydd mae'r Gorllewin a'r Cymoedd, o dan y disgrifiad gwerth ychwanegol gros, yr ydym ni'n dal i weithio oddi tano gan ein bod ni'n dal yn yr UE, yn cynnwys pedair sir yn y Gogledd, ac mae'r rhan dlotaf yn y Gogledd-orllewin.

Rydych yn briodol yn cyfeirio at gyfleoedd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol gwyrdd—rhywbeth yr ydym ninnau hefyd yn ymroddedig iawn iddo fel rhan o'r agenda ehangach ar gyd-gynhyrchu. Yn amlwg, cafwyd nifer o gynlluniau sydd wedi methu â chynnau'r adfywio a'r twf yn y Cymoedd, gan y gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, y dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 

'iddi gael ei rhoi ar waith yn wael oherwydd diffygion sylfaenol yn nhrefniadau goruchwylio a llywodraethu Llywodraeth Cymru'.

Nid oedd hyn yn annhebyg i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2009 ynghylch Cymunedau yn Gyntaf, y gofynnais i iddynt ei gynnal—yn wir, wnaeth hynny ond cynhyrchu maes parcio newydd yng Nghastell-nedd— neu ardal fenter Glynebwy, sydd wedi methu â chynhyrchu unrhyw gymorth ystyrlon i greu swyddi lleol, neu gwymp Cylchdaith Cymru. Sut fyddwch chi felly yn gwneud pethau'n wahanol er mwyn sicrhau nad yw'r buddsoddiad hwn yn ddim mwy na  phlaster glynu ar gyfer anghenion hirdymor pobl yn y rhanbarth hwnnw?

Gorffennaf, gobeithio, ar nodyn mwy adeiladol a gobeithiol, ond credaf fod angen ateb y cwestiynau hyn. Mae'r rhaglen hon wedi cyflwyno cynllun cenhadon twristiaeth cymunedol, y mae gennyf i yn bersonol diddordeb mewn dod i wybod mwy amdano. Cefais i fy magu, wrth gwrs, yn y Gogledd, gyda Thwristiaeth Gogledd Cymru, sydd, rwy'n credu, â 1,500 o aelodau, a 3,000 o bobl os ydych yn cynnwys y rhai o fewn y grwpiau aelodaeth hynny—neu 3,000 o sefydliadau yn y grwpiau aelodaeth. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cynllun cenhadon twristiaeth cymunedol hwn nid yn unig yn ymgysylltu â'r sector statudol a'r trydydd sector, ond hefyd â darparwyr lletygarwch a thwristiaeth, er mwyn sicrhau y gellir gwasgu'r botymau gyda'i gilydd er budd pawb?

Dirprwy Lywydd, rwyf mewn hwyliau rhyfeddol o dda ac yn hael y prynhawn yma, bydd yr Aelodau yn falch o glywed. Felly ni fyddaf yn derbyn gwahoddiad llefarydd y Ceidwadwyr i droi'r ddadl hon y prynhawn yma yn anghytundeb pleidiol nac yn gystadleuaeth rhwng rhanbarthau Cymru. Credaf y byddai'r ddau gynnig yn ffordd anghywir o fynd ati i ateb y ddau gwestiwn, y cwestiynau teg iawn, a ofynnodd imi, ond hefyd y math o ddadl y credaf y dylem fod yn ei chael y prynhawn yma.

Gadewch imi ddweud hyn: dylai creu parc rhanbarthol yng Nghymoedd y De fod yn rhywbeth y gellir ei ddathlu ar draws y wlad gyfan. Roedd yr araith gyntaf, Dirprwy Lywydd, a wneuthum yn y lle hwn, rhywbeth fel 11 neu 12 mlynedd yn ôl yn ymwneud â pheryglon plwyfoldeb, gosod pentref yn erbyn pentref, lle yn erbyn lle, sir yn erbyn sir, gogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn gorllewin, gwledig yn erbyn trefol. Credaf yn aml fod yr Aelodau yn gwneud y camgymeriad hwnnw o wneud hynny yn gynnig i'w dadl. Gobeithio y byddwn yn gallu symud y tu hwnt i hynny, a gobeithio y gallwn ddathlu llwyddiant yng Nghymru lle bynnag y mae hynny'n digwydd bod. Yn sicr, yr hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw yw model y gellir—rwy'n gobeithio, os yw'n llwyddiannus, ac rwy'n credu y bydd—ei ymestyn i fannau eraill. Rwy'n gobeithio, drwy greu parc rhanbarthol yng Nghymoedd y De, ein bod ni hefyd yn creu rhywbeth lle gellir dysgu gwersi mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Gobeithio hefyd ei fod yn ffordd o uno Cymru fel y bydd pobl yn gallu ymweld â rhannau o Gymru efallai nad ydynt wedi ymweld â nhw o'r blaen a dysgu mwy am ein gwlad ein hunain, ein hanes ein hunain, ar ein telerau ein hunain. Credaf mai dim ond peth da yw hynny.

Felly, gobeithio y bydd llefarydd y Ceidwadwyr yn ymdrechu i edrych y tu hwnt i rai o'r llinellau hawdd ac y bydd yn edrych tuag at fenter a fydd yn fenter sy'n uno, ac nid yn rhywbeth y gellir ei chreu i  gael ei rhannu unwaith eto, yn ôl seiliau plaid neu ddaearyddol neu seiliau cymdeithasol. Felly, gadewch inni beidio â gwneud hynny.

Gobeithio bod y ffordd yr ydym yn cymryd yr amser i ddatblygu'r model yn dangos ein bod yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, ac yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Gobeithio, wrth ddarparu'r math o lywodraethu a'r strwythur cyflawni hwn, y byddwn yn gwneud yr union beth yr awgrymodd llefarydd y Ceidwadwyr ac yn gwneud hynny drwy ddarparu ar y cyd a thrwy ymgynghori a chreu strwythur cyflawni sy'n dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth, ond ar yr un pryd yn gallu manteisio i'r eithaf ar effaith y bobl â'r sgiliau gwahanol a'r adnoddau gwahanol sydd ar gael iddynt.

Mae'r  £7 miliwn a ddyrannwyd i ni yn y gyllideb yno er mwyn ein galluogi i wneud hynny, i sefydlu'r strwythur hwnnw, i sefydlu ffordd o weithio, i sefydlu'r fenter yn y lle cyntaf, ac yna, wrth gwrs, mae angen inni allu ariannu hynny drwy gyllid refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Ond, ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar sut yr ydym yn ei sefydlu a sut yr ydym yn cyflawni hynny ar y cyd gydag awdurdodau lleol, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r trydydd sector a grwpiau cymunedol gwahanol ledled y cymunedau. Drwy wneud hynny gobeithiaf y gallwn wneud mwy na dim ond cyfeirio at niferoedd ar siart. Rwy'n cydnabod ond yn rhy dda effaith nid yn unig cynni, ond anhrefn economaidd, yn y gymuned a gynrychiolaf. Rwyf wedi gweld effaith cau gwaith dur ar fy etholaeth. Rwyf wedi gweld effaith cau glofeydd yn fy etholaeth. Rwyf wedi gweld hynny'n digwydd, ac rwyf wedi gweld yr effaith a gafodd, nid yn unig yn y graffiau economaidd a ddyfynnwyd gan lefarydd y Ceidwadwyr, ond rwyf wedi gweld yr effaith ar bobl a theuluoedd. Mae hyn yn ymwneud â chreu—. Dwi ddim yn awgrymu ei fod yn brofiad unigryw, ond yr hyn a ddywedaf yw y byddwn yn mesur llwyddiant hyn mewn termau dynol yn ogystal â safbwynt economaidd. A gobeithio hefyd y byddwn yn mesur llwyddiant hyn o safbwynt ein hamgylchedd, ein bioamrywiaeth, o ran sut y gallwn reoli ein tirweddau, ac o ran sut y gallwn addysgu ein hanes ein hunain i'n pobl.

Felly, rwyf eisiau i hyn fod yn ddull llawer mwy cyfannol o sicrhau dyfodol Cymoedd y De na strwythur syml neu arwyddion ar ochr y ffordd. Gobeithio, pan fyddwn yn gallu gwneud hynny, y bydd yn creu rhywbeth a fydd yn dangos bod ganddo wydnwch a chynaliadwyedd rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho yn y dyfodol. Mae'r cynllun cenhadon twristiaeth a ddyfynnir gan yr aelod yn ffordd o allu dod â phobl at ei gilydd a sicrhau bod y busnesau, y mentrau, y cyfleusterau sydd gennym ar gael yn y Cymoedd yn creu cymorth a chyflogaeth ar gyfer pobl y Cymoedd, ac mai pobl y Cymoedd sy'n adrodd eu straeon eu hunain.

17:10

A gaf i groesawu'r datganiad a hefyd groesawu'r uchelgais a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn y datganiad ardderchog hwn, rhaid i mi ddweud? Hoffwn ddatgelu rhai o'r manylion oherwydd, yn amlwg, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn parchu ac yn haeddiannol falch o'n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac unigryw. Yn amlwg, y De wnaeth bweru'r chwyldro diwydiannol wedi'r cyfan— ie, yn wir, yn syfrdanol yn ei gyflawniadau a hefyd yn ddinistriol o ran ei effeithiau ar y bobl yma i'r un graddau, wrth inni edrych ar feddau bechgyn naw mlwydd oed a gafodd eu lladd mewn damweiniau a thrychinebau glofaol fel Senghennydd ac Aberfan.

Felly, rwy'n n croesawu'r uchelgais hwnnw ond hefyd bwyslais y gwaith sydd wedi bod yn digwydd gyda'r tasglu o ran, yn enwedig, y dreftadaeth ddiwylliannol a'r adran hunaniaeth. Ac roeddwn yn mynd i dynnu sylw at rai hanfodion, rwy'n credu, sef pwysigrwydd Cymoedd y De o ran treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, yn gyntaf oll o ran y Gymraeg. Mae llawer o bobl yn credu bod y chwyldro diwydiannol yma yn y De mewn gwirionedd wedi achub yr iaith Gymraeg. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, roedd hanes y tlodi affwysol gwledig yng Nghymru yn golygu bod miloedd o siaradwyr Cymraeg wedi symud i Gymoedd y De i fod yn lowyr o ffermydd amaethyddol gwael, llawn twbercwlosis, fel y gwnaeth nifer o fy nheulu i yn y gorffennol. Ac wrth sôn am gyflawni 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru, wel, ychydig dros ganrif yn ôl, roedd gennym 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yng Nghymoedd y De yng nghanol y chwyldro diwydiannol hwnnw. Felly, gobeithiaf fod rhywfaint o gydnabyddiaeth o hynny yn digwydd ymysg y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r tasglu gweinidogol a'r holl syniad o barc rhanbarthol y Cymoedd.

A'r ail bwynt yr hoffwn ei bwysleisio o ran hunaniaeth ddiwylliannol, mewn gwirionedd, yw'r etifeddiaeth Gristnogol sy'n cynnwys Cymoedd y De. Fe'i gwelwn yn awr yn y cannoedd o gapeli anghydffurfiol—y rhan fwyaf ohonynt wedi cau; rhai, yn achlysurol, yn ffynnu—a hanes pregethwyr pwerus a diwygiadau yma ac acw o gwmpas y 250 mlynedd diwethaf. Ac, yn amlwg, roedd rhai ohonom— Mike Hedges a minnau a Dafydd Elis-Thomas—gyda'n gilydd yn y Tabernacl, Treforys, ddydd Gwener diwethaf, i ddathlu'r union etifeddiaeth hon o ddiwydiant trwm, yr iaith Gymraeg a hanes Cristnogol yn dod at ei gilydd—a ddathlwyd yn y Tabernacl, Treforys bryd hynny, yn amlwg, gyda darn o waith yn cael ei wneud mewn adran arall o'r Llywodraeth.

Felly, fy nghwestiwn hanfodol i, pan wyf yn siarad am yr iaith Gymraeg a threftadaeth Gristnogol yw: pa waith sy'n digwydd i sicrhau bod gweithgareddau llywodraethol gwahanol mewn gwahanol bortffolios mewn gwirionedd yn ategu ei gilydd yn hytrach na gyrru ar draws? Oherwydd mae gan Gymoedd y De dreftadaeth Gristnogol gyfoethog iawn. Bu raid i fy hen ewythr adael fferm dlawd iawn ger Dolgellau i setlo yn Aberdâr a daeth yn awdur emynau ac yn argraffydd yno. Ac, yn wir, Ap Hefin, Henry Lloyd, yw awdur yr emyn 'I Bob Un Sy'n Ffyddlon', yr ydym yn dal i'w ganu o amgylch theatrau rygbi y dyddiau hyn, nid yn unig yn ein capeli. Mae rhai aelodau angharedig o'm teulu wedi awgrymu mai ef oedd yr unig un ag unrhyw dalent yn llinach y teulu Lloyd.

Ond mae emyn donau  eraill yn dod i'r meddwl, fel 'Cwm Rhondda'. Nid oes crynhoad ehangach o ddiwylliant Cymoedd y De—un o'r emynau mwyaf ysbrydoledig erioed—fel 'Calon Lân'. Mae'r geiriau a'r dôn yn dod o Abertawe. Ac mae hynny yn ogystal â'n hanes cyfoethog o gorau meibion a bandiau pres a ddigwyddodd oherwydd yr un hanes diwydiannol cyfoethog ym mhob un o'n Cymoedd yn y De. Felly, byddwn yn gobeithio, o ran treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, y rhoddir rhwydd hyn iddynt ac nid dim ond rhyw fath o esgus cydnabod— ar ryw adeg yn y gorffennol siaradwyd rhywfaint o Gymraeg yn y Cymoedd hyn ac weithiau roedd rhai pobl yn mynd i'r capel. Mewn gwirionedd mae'n hanes cyfoethog, ysbrydoledig iawn sy'n cael ei anghofio yn aml. Diolch yn fawr.

17:15

Mae'r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi gwneud i mi deimlo'n hollol annigonol. Does yr un aelod o fy nheulu i, hyd y gwn i, wedi ysgrifennu unrhyw emynau o gwbl—

Gobeithio—er bod nifer ohonom, ar wahanol adegau, wedi ceisio eu canu. Roeddwn i'n ofni am eiliad fod yr Aelod yn bwriadu mynd drwy'r caniedydd cyfan ar un adeg, a fyddai wedi fy ngadael yn teimlo'n fwy annigonol byth.

Fodd bynnag, gwnaeth hefyd grybwyll rhai pwyntiau diddorol iawn. Efallai na fydd yn dymuno gwybod hyn, ond y llyfr wrth ymyl fy ngwely i ar hyn o bryd yw 'I Know Another Way'. Mae'n gasgliad gan Jon Gower ac mae'n adeiladu ar waith y diweddar Robin Reeves y mae hiraeth mawr ar ei ôl—efallai y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd ag ef—a siaradodd ac a ysgrifennodd am lwybrau pererinion ar draws Cymoedd y De. Ysgrifennodd am y llwybr o Dyndyrn i Dyddewi, y llwybr pererinion hwnnw a oedd, ar y pryd, yn cyfateb i ymweliad â Rhufain—roedd dau ymweliad â Thyddewi yn cyfateb i ymweliad â Rhufain. Ond nid yw mynd i Rufain, wrth gwrs, yn golygu mynd i gysegrfa'r Santes Fair ym Mhen-rhys. Felly, mae yna rai manteision o ddilyn Tyndyrn i Dyddewi yn hytrach na thrafferthu gyda Rhufain.

Mae gennym hanes yno, yn fy marn i, nad yw'n hanes unigryw o amser a lle yn unig, ond mae'n rhywbeth y credaf y mae gennym ddyletswydd i addysgu ein hunain amdano, os mynnwch. Roeddwn yn siarad yn fy etholaeth i yr wythnos diwethaf am y Siartwyr a gorymdaith y Siartwyr o Twyn Star yn Nhredegar a  mannau eraill i lawr i Gasnewydd. Byddai llawer o'r dynion a ymgasglodd yn Twyn Star ar y noson honno ym mis Tachwedd wedi bod yn siarad Cymraeg, a ddim yn gallu siarad Saesneg. Adlewyrchir hanes ieithyddol y Cymoedd ym mywydau llawer ohonom sydd yn dod o'r Cymoedd. Gadawodd fy nheulu i fy hun Aberystwyth i fynd i weithio yn Nhredegar. Ganwyd fy mam-gu ym Mhenparcau, a chyrhaeddodd Glanhowy yn Nhredegar ddim yn gallu siarad yr un gair o Saesneg. Magodd  fy nhad i siarad Saesneg yn unig, a dim ond Saesneg y siaradwn i fel plentyn. Dwi wedi dysgu siarad Cymraeg, ac yn awr mae fy mhlant yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mae'r hanes hwnnw o ran yr iaith yn rhywbeth a adlewyrchir yn hanes personol a theuluol llawer ohonom.

Gellir dwyn ynghyd y dreftadaeth gymdeithasol, ieithyddol a diwydiannol. Rydym wedi gweld canolfan Soar ym Merthyr Tudful, wrth gwrs, sy'n gwneud y gwaith gwych o ail-greu'r cadeirlannau mawr hyn i anghydffurfiaeth, fel y gwelsoch yn Nhreforys y diwrnod o'r blaen, a datblygu diwylliant iaith Gymraeg newydd a threftadaeth Cymru newydd, sy'n cael eu creu gennym ni ein hunain yn y Cymoedd hyn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn siarad â'n gilydd ac yn adrodd y straeon hyn.

Cofiaf Gwyn Alf Williams yn siarad rai blynyddoedd yn ôl bellach ac yn disgrifio'r croestanio o Flaenafon i Ferthyr gan sôn amdano'i hun yn fachgen ysgol ym Merthyr Tudful—roedd bob amser yn cyfeirio at ei rieni fel athrawon ysgol Dowlais, wrth gwrs, gyda'r pwyslais ar yr athrawon ysgol ac ar Ddowlais—ac yn sôn am yr hyn yr oedd wedi'i ddysgu, yn sôn am aelwyd y ffwrnais a sut roedd hynny wedi creu Merthyr Tudful ei blentyndod a sut mae gennym ninnau gyfle i wneud hynny unwaith eto heddiw.

Dyna pam mae'r cysyniad hwn o byrth mor bwysig, fel y gall rhywle fel Merthyr, gyda'r prosiect Crucible y mae'r awdurdod lleol yn ei ddilyn ar hyn o bryd, unwaith eto ail-greu'r storïau hyn, ail-greu'r syniadau hyn o bwy yr oeddem ni a phwy y gallwn fod. Wrth geisio addysgu ein plant am yr hanes hwnnw—rydym yn dysgu mwy amdanom ni ein hunain.

Yn sicr, wrth ddathlu pen-blwydd deng mlwydd a thrigain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, roeddwn i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ddigon ffodus o gael siarad ar y diwrnod hwnnw yn Nhredegar. Roeddem yn dathlu nid yn unig ben-blwydd deng mlwydd a thrigain y Ddeddf Seneddol ond ben-blwydd cant ac wyth ar hugain sefydlu Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a ddaeth o'i blaen, gan sôn nid yn unig am hanes cymdeithasol ond hanes sosialaidd y Cymoedd hefyd. Rwyf wedi cael fy nhemtio, mae'n ddrwg gennyf, i dorri fy sylwadau yn gynharach, felly ni fyddaf yn mynd i lawr y llwybr hwnnw y prynhawn yma. Ond gobeithio y byddaf yn gallu dwyn ynghyd y syniad hwn o'n treftadaeth, ein lleoliad a'n tirwedd. Credaf fod y gair 'lle' yn bwysig, oherwydd mae'n dwyn ynghyd yr holl elfennau gwahanol hyn o beth rydym yn ceisio ei wneud.

17:20

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf ei bod yn deg dweud bod llawer iawn o ewyllys da ar draws y Siambr hon ar gyfer menter tasglu'r Cymoedd, ond, efallai, ar y dechrau, roedd hynny'n gymysg â rhywfaint o optimistiaeth bwyllog pan deimlwyd na fyddai llinell gyllideb ar wahân ar ei chyfer. Felly, croesawaf yr ymrwymiad o £7 miliwn yn fawr iawn tuag at barc rhanbarthol y Cymoedd.

Roeddwn yn edrych drwy brosbectws y parc rhanbarthol yn gynharach heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o weld y cyfeiriad at ddatblygu cyfleoedd ar gyfer yr economi sylfaenol o fewn hynny. Fel un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi bod yn awyddus i hyrwyddo manteision yr economi sylfaenol, credaf fod hyn yn newyddion gwych. Gwn, er enghraifft, efallai y bydd cyfleoedd i gymunedau fel Ynysybwl, lle mae cynlluniau i gynnal a oes modd ichi ymhelaethu ar botensial yr economi sylfaenol o fewn yr agenda hon.

Hoffwn hefyd godi ychydig o bwyntiau eraill o'r prosbectws, yn gyntaf ynghylch adborth. Croesawaf eich sylwadau yn y Siambr heddiw ynghylch gwahodd cymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o symud y fenter hon yn ei blaen. Ond a oes modd ichi roi rhai manylion pellach ar sut y gall cymunedau barhau i gymryd rhan wrth ddatblygu blaenoriaethau ac amcanion y parc rhanbarthol drostynt hwy eu hunain? Fel y noda'r ddogfen, nid yw ein cymunedau yn y Cymoedd yn homogenaidd, a gwn fod hynny'n rhywbeth yr ydych chi eich hun wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, felly sut fydd y gwaith ymgysylltu hwnnw'n adlewyrchu natur y gwahanol gymunedau hynny?

Hefyd, gwn fod hyn yn rhywbeth yr wyf wedi tynnu sylw ato ynghyd â Gweinidogion eraill, ond credaf fod cyfleoedd gwirioneddol o fewn y parciau rhanbarthol ar gyfer manteisio ar ein rhwydwaith o dwnelau rheilffordd segur—hynny yw o ran cysylltiadau teithio llesol, twristiaeth treftadaeth a chymaint mwy. Sut fyddech chi'n gweld hyn yn rhan o bolisi ehangach parc rhanbarthol y Cymoedd? Rwy'n meddwl yn benodol am dwnnel Abernant, sy'n cysylltu fy etholaeth o ag etholaeth fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden ym Merthyr Tudful, ac yn dod allan, mewn gwirionedd, yn union ger y fynedfa i BikePark Cymru. Felly, mae'r potensial sydd yno, yn fy marn i, ac ym marn Dawn hefyd, mi wn, yn enfawr.

Yn olaf, yr wythnos diwethaf, cymerais ran mewn taith gerdded dywysedig o hen weithfeydd haearn y Gadlys. Rwyf mewn perygl o beri gofid i fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, sy'n cynrychioli, yn amlwg, yr etholaeth sydd fwyaf enwog am ei threftadaeth haearn, ond caiff gweithfeydd haearn y Gadlys yn Aberdâr yn wir eu disgrifio fel y gyfres sydd wedi'i chadw orau o ffwrneisiau chwyth y DU. Roedd hyn yn agoriad llygad gwirioneddol, ond yn un y mae llawer rhy ychydig o bobl yn ymwybodol ohono mewn gwirionedd. Mae prosiectau fel hyn yn golygu ymrwymiadau ariannol mawr, ac mae hwn yn benodol yn dibynnu ar dîm o wirfoddolwyr sy'n gysylltiedig ag Amgueddfa Cwm Cynon, felly mae'n anodd iawn deall  potensial hwnnw. A fydd potensial i sefydliadau fel hynny fanteisio ar agenda'r parc rhanbarthol a chyflwyno achos ar gyfer cysylltu safleoedd treftadaeth fel hwnnw?

Wrth gwrs, mae gweithfeydd haearn y Gadlys yn enwog, ac mae'r gymhariaeth â Merthyr yn un dda, ond mae'r naill a'r llall yn pylu o'u cymharu â Sirhywi, wrth gwrs, lle mae'r gwaith haearn yno—. Mae'n enghraifft dda, mewn gwirionedd, pan adawyd rhan eithriadol bwysig o'n treftadaeth i bydru ac i ddirywio am ddegawd ar ôl degawd, oherwydd nad oeddem ni—bob un ohonom yma o'r rhanbarth—erioed wedi deall ei bwysigrwydd mewn termau hanesyddol. Ni oedd y rhai a'i gadawodd yno—ni allwn feio Llywodraeth Llundain neu fannau pell eraill am ganiatáu i hynny ddigwydd. Rydym eisiau buddsoddi yn y mannau hyn heddiw fel y gallwn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu dysgu a deall.

Byddaf yn edrych ar y lleoedd hyn—mae fy mab wyth mlwydd oed, druan ohono, wedi treulio gormod o lawer o'i wyliau, rwy'n credu, yn cael ei dywys gan ei dad i ymweld â gwahanol leoedd. Rwy'n cael y teimlad yn aml y byddai'n well ganddo fod yn gwylio'r teledu, ond ei fod yn cael ei lusgo ar draws i—. Mae wedi bod i Flaenafon sawl gwaith, mae'n rhy fyr i fynd lawr i'r pwll mawr, ond fe ddaw. Nid yw wedi ymweld â'r Gadlys eto, ond bydd yn gwneud hynny, ac mae wedi ymweld â hanes Merthyr hefyd, lle mae gennych hanes y rheilffyrdd, wrth gwrs, yn digwydd yno.

Ond gadewch inni edrych ar y mater am y twneli. Ymwelais â'r Rhondda yr wythnos diwethaf. Euthum i Flaencwm a siarad â grŵp o bobl a oedd wedi gobeithio ailagor twnnel rhwng Blaencwm a Blaengwynfi. Pan oeddwn yn gyrru oddi yno, fe'm gadawyd â'r syniad gwych hwn o greadigrwydd yn fwy nag unrhyw beth arall—creadigrwydd pobl sy'n adnabod eu lle, a chreadigrwydd pobl sy'n deall eu lle, a chreadigrwydd pobl sydd ag uchelgais ar gyfer eu lle a'u cymuned. Wrth ddatblygu'r prosiect hwn, nid gweision sifil ym Mharc Cathays, neu hyd yn oed Weinidogion ym Mae Caerdydd, ond y bobl hynny sydd â'r syniad, breuddwyd, hunaniaeth, ymdeimlad o le ac ymdeimlad o hanes fydd yn llywio'r prosiect hwn, ac yn gwneud llwyddiant mawr ohono. A dyna pam mae'r Aelod dros Gwm Cynon yn sôn am yr economi sylfaenol. Mae'n hanfodol, wrth wneud hynny, bod y cyfoeth yr ydym yn ei greu yn parhau i fod yn y gymuned, ac yn parhau i fod yn rhan o'r gymuned honno, nid yn unig i helpu i adfywio'r gymuned ond i ail-greu'r cymunedau hynny. Ac, fe wyddoch, i mi—ac amlinellodd llefarydd y Ceidwadwyr hyn ei hun—caiff llwyddiant y prosiect hwn ei fesur yn nhermau diwylliannol a hanesyddol, ond rhaid inni bob amser gydnabod pwysigrwydd creu gwaith cynaliadwy yn ein cymunedau. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny, ac y bydd y cyfoeth yr ydym yn ei gynhyrchu yn gallu aros yn y gymuned.

A gaf i ddweud gair am Ynysybwl? Y tro diwethaf yr ymwelais ag Ynysybwl, roeddwn ar fy ffordd i Lanwynno, a gelwais heibio'r Fountain yno; efallai fod rhai Aelodau yn ymwybodol ohono. Ac wrth gerdded o amgylch—wnes i ddim dilyn esiampl Guto Nyth Brân a rhedeg i Aberpennar, ond cerddais drwy Goedwig Llanwynno, a rhaid imi ddweud y gallech fod yn unrhyw le yn y byd, y goedwig ysblennydd sydd gennym yno, coetir naturiol hefyd. Mae'n rhywbeth y credaf y dylem ni ei ystyried o ddifrif: sut ydym ni yng Nghymru yn creu coedwig neu goetir sy'n rhan o'n hunaniaeth? Ac roeddwn yn cerdded drwy Geunant Clydach uwchlaw fy etholaeth i fy hun i lawr at y Fenni rai wythnosau yn ôl, yn edrych ar y coetir naturiol yno. Mae'n goetir hanesyddol yng Nghymru. Mae'n amgylchedd hanesyddol, yn ecosystem hanesyddol. Felly sut allwn ni ddiogelu hynny i'r dyfodol, a sut allwn ni sicrhau bod gennym nid yn unig y rheolaeth dŵr y mae angen inni ei chael, y rheolaeth ecosystemau y mae angen inni ei chael, ond wedyn sicrhau bod gennym fynediad hefyd, fel bod pobl yn gallu cael mynediad at y safleoedd rhagorol hyn, yn deall beth mae'r safleoedd hynny yn ei olygu? Ac yna roi sylw i'r materion a godwyd yn y datganiad ar fynediad i bobl anabl, i sicrhau bod y mynediad hwn ar gael i bawb ar draws y gymuned, a'n bod yn rheoli hynny er mwyn galluogi pawb i gael budd ohono.

Felly, credaf fod yr holl gyfleoedd sydd gennym yma yn gyfleoedd y byddwn yn eu gwireddu trwy gydweithio, gan gyd-gynhyrchu gyda'n gilydd rywbeth na allai unrhyw un ohonom ei gyflawni yn annibynnol neu ar wahân.   

17:25

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Fel yr ydym wedi nodi, mae'r Cymoedd bob amser wedi brolio tirweddau dramatig, felly mae'n gwneud synnwyr inni ddefnyddio hynny gymaint ag y gallwn. Credaf fod y syniad sylfaenol o barc rhanbarthol y Cymoedd yn un eithaf cadarn, a dymunaf yn dda ichi gyda'i ddatblygu, a gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth fel rhywbeth y mae pobl o'r tu allan i'r ardal yn gallu ei fwynhau fel ymwelwyr, a hefyd y gall pobl o fewn yr ardal ei fwynhau fel cyfleuster sy'n lleol iddynt.

Nawr, aeth Dai Lloyd â ni ar daith atgofus iawn drwy hanes a diwylliant y Cymoedd. Ni fydd neb yma yn gallu gwneud cystal â hynny. Roedd llawer o elfennau— [torri ar draws.] Dwi'n gwybod. Ydw, rwy'n cydnabod hynny, Bethan, fy hun. Nawr, aeth Dai â ni drwy lawer o elfennau gwahanol. Neuaddau'r glowyr, ni soniodd amdanyn nhw oherwydd mae llawer ohonynt yn dal yno, ond wrth gwrs mae rhai ohonynt yn ei chael hi'n anodd, ac maen nhw'n rhan o wead diwylliannol y Cymoedd hefyd. Felly, tybed pa mor bell y gellir eu hintegreiddio i'r weledigaeth hon o barc rhanbarthol y Cymoedd. Dwi'n credu eu bod yn rhan bwysig o'r dirwedd. Mae rygbi, mae'n debyg, yn rhywbeth arall—mae rhai o'r clybiau rygbi enwog yn ei chael hi'n anodd. Nid wyf yn siŵr a oes gan hynny unrhyw berthnasedd, ond mae hynny'n bosib.

Credaf efallai fod tri phrif fater y mae angen inni fynd i'r afael â nhw. Mae problem cysylltedd trafnidiaeth, ac yn gysylltiedig â hynny mae mater seilwaith a chyfleusterau ac, yn olaf, pa mor bell y gallwn ddefnyddio'r dirwedd i helpu i gyflawni nodau Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gwyddom, mae problemau yn y Cymoedd—ceir problemau ledled Cymru ond weithiau yn y Cymoedd maen nhw'n waeth gyda phethau fel ffitrwydd corfforol, gordewdra, pethau fel hynny. A allwn ni ddefnyddio agosrwydd y Cymoedd at y golygfeydd dramatig iawn hyn i annog mwy o weithgarwch corfforol? A yw hynny'n mynd i fod yn rhan o'r cynllun?

O ran cysylltedd trafnidiaeth, mae angen pethau fel y twneli—mae'r twneli yn syniad da iawn. Cyfarfûm â phobl o Gymdeithas Twneli’r Rhondda dros yr haf. Maent wedi dod ac wedi datblygu'r cynllun o ddim byd. Eu gweledigaeth nhw yw hi ac rwy'n falch ei bod yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Felly, a allwch chi roi mwy o wybodaeth inni ar sut y caiff hynny ei ddatblygu? Yn amlwg, rydym wedi clywed gan aelod arall—Aelod Cwm Cynon—nad hwnnw yw'r unig dwnnel, mae twnelau eraill hefyd yn cysylltu Cymoedd eraill.

Mae yna hefyd faterion cyfleusterau cyhoeddus. Mae llawer o bobl yn mynd i feicio i fyny'r Cymoedd fel y mae. Byddant yn mynd i leoedd fel y Rhigos a Bwlch. Ar hyn o bryd, ceir diffyg cyfleusterau fel caffis a thoiledau cyhoeddus. Felly, os ydym eisiau gweld mwy o bobl yn mynd yno, mae angen inni edrych ar y seilwaith, felly beth allwn ni ei wneud— beth allwch chi ei wneud, yn hytrach, Gweinidog, i annog mwy o seilwaith? Diolch yn fawr iawn.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

O ran gweithredu ar nifer o faterion gwahanol, rydym ni wedi gweld drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol nifer o asedau cymunedol yn cael bywyd o'r newydd. Ymwelais i â Neuadd y Gweithwyr Blaenafon beth amser yn ôl ac mae'n rhyfeddol ei gweld hi'n cael ei haileni unwaith eto. Yn fy etholaeth i, mae Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn parhau i fod yn ganolfan i'r gymuned. Rydych chi'n gyrru ar draws y Cymoedd neu rydych chi'n symud ar draws y Cymoedd, mae gennych chi Neuadd y Dref, Maesteg a'r Neuadd Les yn Ystradgynlais. Gallwch enwi nifer o gyfleusterau gwahanol sydd wrth galon y cymunedau hynny. Yr hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni ei wneud yw sicrhau eu bod yn parhau wrth galon eu cymunedau.

Mewn sawl ffordd, mae'r problemau diwylliannol y mae Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru eisoes wedi cyfeirio atynt wrth wraidd ein huchelgais. Ond os ydym ni i lwyddo, yna mae'r seilwaith sy'n cael ei ddisgrifio yn gwbl hanfodol: mae'n rhaid i seilwaith trafnidiaeth, seilwaith cyfleusterau—boed yn doiledau cyhoeddus neu'n ganolfannau ymwelwyr neu gaffis, bwytai, gwestai, llety—fod  wedi eu sefydlu. Dyma'r math o seilwaith y byddem ni'n ceisio ei ddatblygu a'i roi ar waith dros amser. Dyna pam, wrth ddatblygu'r cysyniad, yr ydym ni'n gweithio gyda, nid dim ond awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ond yn gweithio gyda'r holl bobl hynny sy'n gallu darparu a chefnogi'r cyfleusterau hynny ledled rhanbarth y Cymoedd.

A gaf i ddweud, cyn i mi ddechrau hyd yn oed, rwy'n credu—o ran natur hanesyddol ein hetholaethau a'r dreftadaeth—a gaf i ddweud bod y twnnel yn mynd o Ferthyr Tudful i Abernant, nid y ffordd arall? [Chwerthin.] Darganfu Richard Trevithick y locomotif stêm ym 1803, ac aeth o Benydarren ym Merthyr Tudful i Aberdâr. Iawn.

A gaf i ddweud—a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll—? [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Nid ein bod ni'n gystadleuol o gwbl ynghylch ein hanes, ond dyna ni. A gaf i ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Rwy'n mynd i ddychwelyd at rai meysydd ychydig mwy cyffredin. Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau am y pryderon ynghylch Cwm Rhymni uchaf a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros economi am ddod gyda mi i ymweld â chynrychiolwyr lleol a sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd, a siarad â hwy a rhannu'r pryderon hynny. Ond y mae'n ymddangos i mi, mewn llawer o'n hen ardaloedd diwydiannol fel Rhymni, bod edrych ar ffyrdd arloesol newydd o adfywio yn hanfodol, felly, rwy'n croesawu'n fawr iawn y themâu cyflawni cysylltiedig ynghylch y cynigion ar gyfer y parc rhanbarthol, yn arbennig yr agweddau sy'n croesi Blaenau'r Cymoedd.

Byddwch yn gwybod, mewn rhannau o Rymni, bod gennym ni ardaloedd mawr o hyd o hen dir diwydiannol diffaith, sy'n symbol o'r dirywiad yn y cymunedau hynny dros y 30 mlynedd diwethaf, fwy neu lai, ac mae'r ardaloedd hynny yn dal heb ddenu buddsoddiad busnes sylweddol. Ond, wedi dweud hynny, fel yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes, mae'r ardal gyfan, wedi'i hamgylchynu gan harddwch naturiol syfrdanol. Felly, mae gennym ni'r diffeithwch diwydiannol hwn yng nghanol rhywbeth sy'n cael ei amgylchynu gan y fath harddwch, ac yn amlwg y mae angen i ni fanteisio ar hynny, i gyflawni'r nodau economaidd a llesiant.

Ac rwy'n edrych ar rywfaint o'r llwyddiant, llwyddiant enfawr, rhai o'r gweithgareddau hamdden a welsom ni'n cael eu datblygu mewn hen chwareli llechi yn y Gogledd, a tybed a yw hynny'n rhyw fath o lasbrint ar gyfer beth y gallem ni ei wneud mewn rhai o'n hen ardaloedd diwydiannol yng Nghymoedd y De. O gofio bod lles y cymunedau yn y Cymoedd yn rhan hanfodol o waith y tasglu, a gaf i ofyn a yw'n rhan o'ch gweledigaeth chi ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd i edrych ar y meysydd hynny o ddiffeithwch gyda golwg ar ailddatblygu o bosibl ar gyfer gweithgaredd hamdden a llety, i ategu'r ardaloedd o harddwch naturiol rywsut, gan eu troi'n atyniadau ymwelwyr yn eu rhinwedd eu hunain a defnyddio hyn fel un o'r dewisiadau amgen i ail-gyflwyno diwydiant i adfywio ardaloedd diwydiannol a hen ardaloedd diwydiannol yn unig?

Roeddwn hefyd yn falch o'ch clywed yn sôn, rwy'n credu mewn ateb i Dai Lloyd, am y Comisiwn Dylunio i Gymru ym Merthyr Tudful, ac fe fyddwn yn falch petaech chi'n ymhelaethu ychydig ar hynny, oherwydd y cynigion ynghylch charrette y Comisiwn Dylunio, beth a ddaw allan o hynny yw nid dim ond yr adeiladau—Castell Cyfarthfa a ffwrneisi chwyth ac ati—ond y mae hefyd yn ymwneud ag adrodd stori gyfan y diwydiant haearn ym Merthyr a'r bobl a'i creodd, yr holl ffordd at wrthryfel Merthyr a thu hwnt, ac a yw hynny'n ffurfio rhan o'ch gweledigaeth ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd. A fydd y math hwnnw o brofiad wedi ei seilio ar yr hanes a'r dreftadaeth yn rhan o'r parc tirwedd hefyd?

17:35

Ie, hollol, fe fydd, a'r prawf litmws fydd Rhymni—nid oes gennyf amheuaeth ynghylch hynny. Os ydym yn edrych ar ddatblygu'r parc rhanbarthol fel cysyniad, fel fframwaith i ddatblygiadau eraill ddigwydd ynddo, yna os llwyddwn ni, yna byddwn yn llwyddo yn Rhymni. Os edrychwch ar y mathau hynny o gymunedau lle'r ydych chi wedi cael trefi mawr yn agos—rydym ni wedi gweld buddsoddiad a datblygiad sylweddol, ac nid yw trefi llai wedi gweld yr un lefel o fuddsoddiad, ac fe welodd y ddau ohonom ni effaith hynny ar ganol y dref y pryd hynny. Mae angen i ni allu sicrhau bod pobl, boed yn Rhymni neu mewn mannau eraill, yn gallu gweld budd hynny ac nad yw'n ddim ond araith a wnaed ym Mae Caerdydd, ond yn realiti ar garreg y drws ac ym mywydau pobl.

Cefais fy ysbrydoli pan euthum drwodd a siarad â phobl am y prosiect Crucible ym Merthyr Tudful, am y rheswm yr ydych yn ei roi: nad yw'n ymwneud yn unig â'r amgylchedd adeiledig—wrth gwrs ei fod ef, ond nid yw'n ymwneud â hynny'n unig—mae'n ymwneud â'r bobl sy'n byw yno hefyd a'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau, a'n straeon, ein hanes, ein dyfodol. Ac mae ein gallu i wneud hynny, rwy'n meddwl, yn gwbl allweddol a sylfaenol i lwyddiant y prosiect hwn. Mae'r Gweinidog dros ddiwylliant a thwristiaeth a threftadaeth yn ei le'r prynhawn yma a bydd yn gwrando ar y trafodaethau hyn, ac mae'r sgyrsiau a gawsom am sut y mae ein treftadaeth yn rhan o'n dyfodol yn gwbl ganolog i'r hyn yr ydym yn awyddus i'w gyflawni. Roedd yn ddigon caredig i ymweld â'm hetholaeth yn y gwanwyn i drafod etifeddiaeth Aneurin Bevan, ac rydym yn dymuno dod â'r llinynnau gwahanol hynny ynghyd a sicrhau ein bod yn gallu ailddyfeisio'r cymunedau hyn. Mae'r Aelod dros Ferthyr—. Mae'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni yn iawn i—bron imi â gwneud camgymeriad, camgymeriad ofnadwy, yn y fan yna—yn iawn i nodi'r tir diffaith a welwn o gwmpas y dref ac ym mhen uchaf Cwm Rhymni. Rwy'n gyfarwydd â hwnnw. Mae angen inni edrych ar sut yr ydym yn ail-greu'r cymunedau hyn. Nid yn Rhymni yn unig, ond mewn mannau eraill, lle y gwelwn nad oes angen y tir a ddefnyddiwyd o'r blaen ar gyfer diwydiant trwm yn yr un ffordd mwyach.

Un o'r materion yr ydym yn rhoi sylw iddo fel rhan o waith ehangach tasglu'r Cymoedd, y byddwn yn ei drafod ar adegau eraill y prynhawn yma, yw mater y Cymoedd uchaf. Rwy'n credu bod materion penodol ym Mlaenau'r Cymoedd sydd yn fwy anodd, os mynnwch chi, nag mewn rhannau eraill o'r Cymoedd. Felly, byddwn ni'n edrych ar hynny, yn benodol. Ond yn sicr, gobeithiaf y byddwn yn gallu, yn y blynyddoedd i ddod, ddangos bod y gwaith yr ydym ni'n ei roi ar waith heddiw yn cael ei weld yn y dyfodol fel trobwynt ar gyfer y Cymoedd ac yn cael ei weld fel rhywbeth nad arweiniodd at dwf economaidd yn unig, ond a arweiniodd at newid cymdeithasol hefyd a newid yn ein dyfodol ni. Gobeithiaf y gallwn gyflawni hynny.

17:40

Mae amser y datganiad wedi dod i ben, ond fe gymeraf ddau gyfraniad a chwestiynau byr arall. Suzy Davies.

Iawn. Diolch yn fawr, Llywydd. Yn fyr, felly, nid ydym wedi gorffen chwarae trympiau uchaf gyda gweithfeydd haearn—rwy'n mynd i godi'r ods gyda gweithfeydd haearn Castell-nedd. Ond rydw i'n ei wneud yn benodol iawn, oherwydd, wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am gyd-gynhyrchu yn y prosbectws ei hun, ond mae'n cyfeirio at stiwardiaeth gymunedol, ac mewn gwirionedd rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych ar gymoedd Nedd a Dulais fel ymgeiswyr da ar gyfer pyrth—fel enghreifftiau lle mae stiwardiaeth gymunedol o asedau treftadaeth naturiol a diwylliannol yn amlwg iawn. Ac, wrth gwrs, yn faes lle gellir datblygu—rhan o waith tasglu'r Cymoedd—twristiaeth mewn ffordd sy'n fuddiol i bawb ar gyfer lles preswylwyr ac ar gyfer yr economi, heb wneud y cynnig yn debyg i rywbeth allan o Disney.

Mae gennych enghraifft o fiosffer Dyfi o'ch blaen chi, Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ble y mae'r cydbwysedd hwnnw yn gyraeddadwy. Fe'i cydnabyddir yn rhyngwladol, ac efallai y ceir gwersi y gallwn eu dysgu i lawr yn y de o hynny hefyd. Felly, fy nghwestiwn sylfaenol yw: ble fydd y cyrff llawr gwlad hyn, er eu bod yn gyfrifol am stiwardiaeth gymunedol, yn cael mynediad at y cronfeydd hyn? A yw'r cyfan i gael ei wario ar lefel strategol yn unig?

Ac yna, tybed a allech chi ateb cwestiwn a godwyd gan Dai Lloyd, ond na wnaethoch ei ateb ar y pryd ynghylch gweithio traws-lywodraethol. Oherwydd y mae gennym sefyllfa yng Nghastell-nedd ar hyn o bryd, lle bu rhai diffygion neu anawsterau ac anallu ar ran Llywodraeth Cymru i wario arian ar adfer fframiau pen Cefn Coed yn yr Amgueddfa Lofaol yno. A yw'r strategaeth yr ydych yn siarad amdani yn gallu ôl-lenwi problemau fel hynny neu a ddylem ni fod yn edrych am arian o'r ffynhonnell hon i guddio'r diffygion mewn mannau eraill? Diolch.

Dirprwy Lywydd, rhaid i bob trafodaeth ar Gymoedd De Cymru gynnwys trafodaeth ar Gastell-nedd. Mae'n gwbl hanfodol inni roi sylw i hanes a diwylliant y lle gwych hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: Ymwelais â Chefn Coed, rwy'n deall y problemau—rwy'n gobeithio fy mod yn deall rhai o'r problemau sy'n codi yno—ac y mae angen inni weld sut y gallwn ni sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd ar draws yr holl bortffolios gwahanol a'r portffolios newidiol i sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer pobl.

Yn awr, un o'r materion yr wyf am roi sylw iddo dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yw llunio strwythur y ddarpariaeth a'i roi ar waith. Mae gennym ni brosbectws yn cael ei lansio heddiw, mae gennym ni'r cysyniad yn cael ei lansio heddiw a'r hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw sicrhau bod gennym ni'r llywodraethiant a'r strwythur cyflenwi a fydd yn ein galluogi ni i wireddu hynny, a dyna'r hyn y byddwn yn gweithio arno nesaf. Ac yn sicr, bydd y materion ynghylch y gymuned a'r sicrwydd bod grwpiau cymunedol yn gallu bod yn rhan o hynny yn gwbl hanfodol ac fe fydd yn brawf litmws, fel yr wyf wedi dweud eisoes, ar gyfer sut y byddwn yn ceisio cyflawni'r cysyniad hwn.

Diolch, Llywydd. Diolch. Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'n fawr iawn y fenter gyffrous hon a hefyd yr egwyddorion sy'n sail iddi? A gaf i ofyn pa effaith gaiff y buddsoddiad o £7 miliwn o fewn menter parc rhanbarthol y Cymoedd ar hen gymoedd diwydiannol Islwyn, gyda'r holl harddwch naturiol, y tirweddau y cyfeiriwyd atynt eisoes a'i dreftadaeth? Yn benodol, rhaid imi grybwyll pwll glo'r Navigation yng Nghrymlyn, ond wrth gwrs, y lôn â'r golygfeydd eiconig o fewn Cwm-carn. Felly, a fydd y Gweinidog yn ymrwymo i wneud popeth o fewn y fenter hon i sicrhau ei le pwysig iawn, yn ddiwylliannol ac yn economaidd, a'i lwyddiant parhaus, o ran twristiaeth ac mewn hyfforddiant ar draws De Cymru ond hefyd yn rhyngwladol?

Ie, ac mae Cwm-carn, mewn sawl ffordd, yn fodel ar gyfer yr hyn y ceisiwn ni ei gyflawni, gan sicrhau bod gennym ni fynediad cyhoeddus i dirwedd wych, i brofiad y gall y teulu ei fwynhau, ac i sicrhau bod pobl yn deall y lle y maen nhw'n byw ynddo neu'n ymweld ag ef. Felly, Cwm-carn, mewn sawl ffordd, yw'r math o fodel yr ydym eisiau ei ddatblygu mewn mannau eraill, ac i sicrhau y ceir cyfleoedd eraill. Buom yn sôn yn gynharach am ardal goedwigaeth Llanwynno, ac am sut y gallwn sicrhau bod yr amgylchedd hwn yn rhan o'n dyfodol mewn ffordd, efallai, nad yw ar hyn o bryd. Wrth yrru heibio Navigation a gweld adeiladwaith y pwll yno, ni chaf fy atgoffa o'r gorffennol yn unig, ond fe'm hatgoffir o'r cyfleoedd a fydd gennym yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yr adeiladau o amgylch y Navigation yn rhan ddiwydiannol wych o'n treftadaeth. Mae'r bont wedi mynd erbyn hyn, mae traphont Crymlyn wedi diflannu, ond mae'n bwysig sicrhau bod gennym ddefnydd a defnydd cynaliadwy parhaus ar gyfer yr adeiladau diwydiannol a greodd y cymunedau yr ydym bellach yn byw ynddynt.

17:45
9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Y wybodaeth ddiweddaraf am Flwyddyn 2 y Rhaglen Tai Arloesol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—na. Mae hynny'n edrych yn anghywir i fi—y datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, ar y wybodaeth ddiweddaraf am flwyddyn 2 y rhaglen tai arloesol. Sori i'ch panico chi, Ysgrifennydd Cabinet. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i Aelodau am ail flwyddyn y rhaglen dai arloesol. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu Tai oherwydd nad cyfoeth materol yn unig yw ffyniant, mae a wnelo â phob un ohonom yn cael ansawdd bywyd da a chael byw mewn cymunedau cryf a diogel lle mae unigolion a busnesau yn ffynnu. Mae adeiladu tai o ansawdd da, a mwy ohonynt, yn hanfodol er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Rydym yn benderfynol o gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, cynyddu cyflymder cyflenwi, a gwella ansawdd cartrefi a adeiledir fel y gallant ddiwallu anghenion a disgwyliadau sy'n newid. Rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn adeiladu nid yn unig ar gyfer tenantiaid a thrigolion heddiw, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen inni leihau tlodi tanwydd, lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd a lles, sy'n cael eu dwysáu gan dai o ansawdd gwael. Felly, o'i wneud yn iawn, mae gennym ni gyfle i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, bron yn ddi-garbon, cadw a hybu sgiliau ac arbenigedd yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Er mwyn inni gyflawni ein huchelgais bydd angen ffordd wahanol sylfaenol o weithio, i ni a'n partneriaid. Mae'n amlwg os bydd graddfa a chyflymder adeiladu tai yn cynyddu'n sylweddol, mae'n annhebygol y bydd dulliau traddodiadol yn cyflawni ar eu pen eu hunain. Mae angen dull ffres, a dyna pam, y llynedd, lansiwyd y rhaglen tai arloesol. Nod y rhaglen yw ysgogi dylunio a darparu cartrefi newydd fforddiadwy, o ansawdd uchel, drwy fodelau tai newydd, llwybrau darparu newydd a thechnegau adeiladu newydd. Mae sefydliadau yn cael eu herio i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cyflenwi'n gynt, ymdrin â materion megis tlodi tanwydd a newid demograffig, a'n helpu i gyrraedd ein targedau lleihau carbon. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi buddsoddi mewn 20 o fodelau newydd a dulliau newydd o adeiladu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy, ac mae 276 o dai ar y gweill ac ar fin cael eu cwblhau.

Mae lefel y diddordeb yn y Rhaglen Tai Arloesol yn parhau i dyfu. Eleni cawsom bron i 40 y cant yn fwy o geisiadau am arian. Rydym ni hefyd wedi agor y rhaglen i'r sector preifat i gyflwyno ceisiadau, ac roeddwn yn croesawu ymateb cadarnhaol amrywiaeth o sefydliadau sy'n barod i ymuno â'r Llywodraeth i chwilio am atebion ynghylch tai yn y dyfodol. Eleni derbyniwyd cyfanswm o 48 o geisiadau am arian. Cafodd banel annibynnol y gwaith o asesu'r cynlluniau i weld i ba raddau yr oeddent yn cynnig arloesedd a'r gwerth sy'n ofynnol ar gyfer graddfa'r newid yr ydym am ei gweld. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am ei waith, ac yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ariannu 26 o gynlluniau yn y flwyddyn ariannol hon.

Yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol, byddaf yn darparu bron i £43.1 miliwn i adeiladu 657 o gartrefi. Mae'r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu hysbysu a bydd rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ar wefan Llywodraeth Cymru cyn bo hir.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sôn wrthych chi am rai o'r cynlluniau a fydd yn cael buddsoddiad, i roi blas ichi o'r hyn y byddwn yn ei ariannu. Byddwn yn cefnogi tŵr 10-llawr newydd o bren wedi'u draws-laminadu, gyda mannau gwyrdd fertigol, sy'n creu 50 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd. Mae'n dangos gwir uchelgais y gymdeithas dai dan sylw wrth gyflwyno cynllun a fydd y cyntaf yn y DU. Mae'r deunydd a ddefnyddir yn gynaliadwy a charbon isel, a bydd y cyfnod adeiladu yn llawer byrrach ac amcangyfrifir mai dim ond 12 wythnos bydd y cyfnod hwn. Byddwn hefyd yn ariannu cynllun arall sy'n defnyddio pren wedi'i laminadu â hoelbrennau, ar raddfa lai, fel y gellir cymharu a chyferbynnu'r ddau ddull o adeiladu.

Bydd ffatri newydd yn y gogledd. Byddwn yn ariannu tri chynllun yn y gogledd a fydd, gyda'i gilydd yn sefydlu ac yn cefnogi ffatri leol newydd a fydd yn sicrhau hyfforddiant a swyddi lleol newydd. Bydd y cartrefi ffrâm bren a adeiledir yn y ffatri wedi eu hachredu yn unol â system Beattie Passive, gan ddefnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel, a fydd yn atal drafftiau yn llwyr i arbed gwres. Bydd y ffatri yn creu cartrefi ag effaith isel iawn ar yr amgylchedd a chostau tanwydd is i denantiaid.

Mae cymorth ar gael ar gyfer cydweithrediaeth dai model ynni gwyrdd. Byddwn yn ariannu cydweithrediaeth dai o ddatblygu egwyddorion cyntaf, a bydd y prif gontractwr, sydd eisoes wedi'i leoli yng Nghymru, yn adeiladu cartrefi preswyl am y tro cyntaf. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau ynni gwyrdd i gynhyrchu ynni cymunedol, i leihau costau cynnal, taliadau gwasanaeth ac allyriadau carbon yn gyffredinol.

Fe fydd datblygiad mawr o gartrefi effeithlon o ran ynni. Bydd buddsoddiad ym Mharc Eirin yn darparu 225 o gartrefi newydd effeithlon o ran ynni a fydd yn cyflawni allyriadau a fydd bron yn ddi-garbon. Yn ystod rhan o'r flwyddyn, bydd y cartrefi yn allforwyr net ynni, gan gyfrannu pŵer at y grid cenedlaethol, a bydd tlodi tanwydd y tenantiaid hyn yn cael ei ddileu. Bydd y cynllun yn dangos y gallwn ddarparu ar raddfa a llunio model ariannol y gellir ei atgynhyrchu ar gyfer datblygu tai ar y raddfa hon yn y dyfodol.

Mae cymorth ar gael ar gyfer prosiect sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd a darparu addysg drwy gyfrwng adeiladu cartrefi cynaliadwy. Darperir chwe chartref ffrâm bren trwy gydweithrediad rhwng cymdeithas dai, elusen a'r bwrdd iechyd lleol. Caiff y cartrefi eu hadeiladu gan oedolion o amrywiaeth o grwpiau agored i niwed, gan gynnwys pobl ag anafiadau trawmatig i'r ymennydd, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl ddigartref.

Rwy'n falch bod 22 o'r 26 cynllun wedi ymgorffori pren yn eu cynigion, gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r diwydiant coed yng Nghymru i chwarae rhan fwy amlwg yn y gwaith adeiladu a gweithgynhyrchu cartrefi fforddiadwy.

Nid yw arloesi byth heb risg. Nid wyf yn disgwyl i bob cynllun gynnig yr atebion tymor hir yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond fe wn fod yn rhaid inni wneud rhywbeth gwahanol. Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro'n ofalus a'i gwerthuso fel y gallwn ddysgu beth sy'n gweithio orau a pham. Mae hyn yn cynnwys gofyn i denantiaid a thrigolion sut brofiad yw byw yn y cartrefi hyn.

Gan droi at y flwyddyn nesaf, rwy'n dymuno i'r rhaglen herio'r ffiniau o ran dull a maint yr arloesi. Rwy'n disgwyl gweld mwy o harddwch o ran dylunio cartrefi, mwy o arloesi mewn cadwyni cyflenwi, yn ogystal â mwy o gydweithio cyffrous rhwng cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff preifat a chyhoeddus. Dim ond drwy wneud hyn y bydd mwy o gartrefi'n cael eu darparu'n gynt, i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

17:50

Rwy'n croesawu parhad y rhaglen hon, ac rwyf yn falch o weld ei bod bellach ar gael i'r sector preifat. Rwy'n credu pan gafodd ei gyhoeddi y llynedd yr oedd teimlad cyffredinol o amgylch y Siambr fod hyn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ac ni welaf unrhyw reswm i newid yr asesiad cychwynnol hwnnw.

Rwy'n croesawu'n arbennig y pwyslais ar ddylunio adeiladau, oherwydd os ydym ni am adeiladu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae'n rhaid inni adeiladu'n dda. A gaf i longyfarch y Gweinidog? Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf erioed imi glywed y gair 'harddwch' wrth gyfeirio at bolisi cyhoeddus. Felly, rwy'n cytuno â chi bod angen mwy o harddwch wrth ddylunio adeiladau, yn enwedig wrth inni droi at adeiladau mwy modiwlar, oherwydd ei fod yn arloesol, a gellir ei ddefnyddio mewn ffyrdd a fydd yn arwain y ffordd o ran ansawdd y dylunio.

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y rhaglen hon yn cysylltu â chronfa her strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a ddyfarnodd £36 miliwn i Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe fis diwethaf? Bydd y grant hwnnw'n helpu i droi cartrefi ac adeiladau cyhoeddus yn orsafoedd pŵer bychain, ac mae ganddo nod penodol i gyflymu'r broses o gael y farchnad i'w mabwysiadu. Ac rwy'n siŵr mai dyna yw nodau craidd y rhaglen hon hefyd. Ac mae'n bwysig bod y mentrau amrywiol hyn yn cysylltu â'i gilydd gymaint â phosibl.

Hoffwn i—. Nid oes sôn o gwbl am y pwynt nesaf yn eich datganiad—sut y bydd y rhaglen tai arloesol yn llywio gwaith yr adolygiad tai fforddiadwy? Ac a fydd yn chwarae rhan wrth asesu sut y gellir darparu datblygiadau arloesol ar raddfa, sef un o'r prif dasgau yr ydych wedi eu rhoi i'r adolygiad tai?

A gaf i orffen drwy bwysleisio ei bod yn briodol, gyda diwydrwydd dyladwy, i gymryd risgiau penodol wrth chwilio am fentrau arloesol. Rwyf i yn credu bod hyn yn rhywbeth y dylid ei raglennu yn y fenter hon. Ac ni fydd pob menter arloesol yn cyrraedd y farchnad. Yn wir, weithiau, am sawl rheswm nid y pethau arloesol gorau sy'n cyrraedd y farchnad ac yn cael eu defnyddio. Felly, mae angen inni chwarae'n saff, mewn un ystyr, a chwmpasu ystod o fentrau a defnyddio'r gronfa yn y ffordd honno. Ond fe hoffwn i wybod ychydig mwy am sut y bydd y dulliau o fonitro a gwerthuso'n cael eu defnyddio i asesu'r rhaglen, er, yn amlwg, rwy'n falch iawn y bydd tenantiaid yn rhan greiddiol o'r asesiad hwnnw.

17:55

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau, a'ch cefnogaeth unwaith eto eleni ar gyfer y rhaglen tai arloesol. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt olaf, a oedd yn ymwneud â sut y byddwn yn monitro ac yn gwerthuso'r rhaglen. Un o'r pethau cyffrous ynglŷn â'r rhaglen tai arloesol yw bod yn rhaid i bob ymgeisydd am gyllid gytuno i bolisi llyfr agored. Felly, bydd hynny'n cynnwys adroddiadau cynnydd rheolaidd i weithgor y rhaglen tai arloesol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gytuno i gael eu monitro yn ystod ac ar ôl adeiladu. Mae'n rhaid iddyn nhw gytuno i gasglu data, yn arbennig ar faterion o gost a pherfformiad. Ac yna mae'n rhaid iddyn nhw gytuno bod y gwersi a ddysgwyd drwy eu prosiectau yn cael eu rhannu'n gyhoeddus. Felly, y pethau penodol y byddwn yn chwilio amdanyn nhw wrth fonitro a gwerthuso fydd yr ochr dechnegol, perfformiad yr adeiladau, profiad y gwaith adeiladu, ac, fel yr ydych wedi cydnabod, y gwaith gyda thenantiaid hefyd.

Felly, cwestiynau syml: a yw'r tenantiaid yn hoffi eu cartref ac a yw'n lle dymunol a chysurus i fyw? A yw'r cartrefi yn hyblyg i ddarparu ar gyfer ffyrdd o fyw heddiw ac yn y dyfodol? A ydyn nhw'n gartrefi rhad ar ynni ar gyfer preswylwyr? A ydyn nhw'n gartrefi cost isel ar gyfer preswylwyr? A fyddai'n fforddiadwy i adeiladu'r cartrefi hyn yn y dyfodol? A ellir eu hadeiladu ar gyflymder? A ellir eu hadeiladu ar raddfa? A ydyn nhw wedi eu hadeiladu'n dda? A fydd hi'n fforddiadwy i'w cynnal yn y dyfodol? Ac a yw'r datblygiad cyffredinol yn creu lle da i fyw? Felly, dyma'r math o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn yn rhan o'n gwaith monitro a gwerthuso.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad tai fforddiadwy, ac mae'r gwaith hwn yn sicr yn digwydd gyfochr â hynny ac mae'n llywio gwaith yr adolygiad tai fforddiadwy. Fel y gwyddoch, o dan yr adolygiad hwnnw, ceir nifer o ffrydiau gwaith yn edrych ar feysydd penodol sydd angen sylw os ydym am gynyddu ein huchelgeisiau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn y dyfodol. Mae un o'r ffrydiau gwaith hynny yn ymwneud â safonau a gofynion datblygu ansawdd. Felly, byddwn yn ceisio gweld i ba raddau y mae ein safonau presennol yn gywir, a sut y byddai angen eu newid os ydym am adeiladu mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol. Ac mae ffrwd waith benodol yn edrych ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer adeiladu, gan gynnwys dulliau modern o adeiladu. Felly bydd y ffrwd waith hon yn ystyried sut y bydd y gadwyn gyflenwi, ar draws y dulliau modern o adeiladu yn gweithio a sut y gallwn gynyddu graddfa hyn yn y dyfodol hefyd. Beth yw'r capasiti? A oes prinder sgiliau? Dyma'r cwestiynau y bydd yr is-grŵp penodol hwnnw yn eu hystyried.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyhoeddiad rhagorol yn ddiweddar ynghylch y cyllid a gafodd SPECIFIC a Phrifysgol Abertawe. Roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o roi llythyrau cefnogi i'r prosiect hwnnw ac yn falch iawn o allu darparu £6.5 miliwn i gefnogi'r prosiect hwnnw hefyd. Mae un neu ddau o'n prosiectau yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn ymwneud yn benodol â datblygiad SPECIFIC, ac un yw tir ym Mharc Yr Helyg, Ffordd Colliers yn Abertawe. Prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer fydd hwnnw, yn cyfuno deunyddiau adnewyddadwy— systemau ffotofoltäig, batris, pympiau gwres o'r ddaear, systemau awyru mecanyddol adfer gwres—a hefyd yn defnyddio'r hyn a elwir yn ffrâm bren ffabrig yn gyntaf safonol Abertawe. A chydweithrediad rhwng SPECIFIC a Bargen Ddinesig Abertawe yw hwnnw. Ceir ail brosiect hefyd ar Ffordd y Goron yn Llandarcy, a fydd yn barc arloesedd i arddangos dulliau adeiladu tai modiwlar a chyfeintiol ac i gymharu'r systemau a chymharu'r hyn sy'n cael ei ddysgu yma yng Nghymru â'r profiad dramor. Felly, mae hyn yn rhan ddiddorol o'r ymchwil a'r dysgu ynghylch y prosiect, felly mae'n cysylltu'n agos â'r gwaith cartrefi gweithredol sydd eisoes wedi ei gyhoeddi.

O ran dylunio, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gael uchelgeisiau a dyheadau mawr ar gyfer ein tai fforddiadwy a'n tai cymdeithasol. Dylai ein nod fod i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol allu byw mewn tai hardd y gall pawb fod yn falch ohonyn nhw. Pan welwn arolygon, mae cymuned—mae'n ddrwg gen i, cynhaliodd y Sefydliad Tai Siartredig arolwg yn ddiweddar. Mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn falch o hynny, maen nhw’n ymfalchïo yn eu cymunedau, felly gadewch i ni geisio adeiladu'r tai harddaf posibl ar gyfer y cymunedau hynny. Felly mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r adolygiad tai fforddiadwy yn ei ystyried ond mae'n rhywbeth yr hoffwn i ganolbwyntio arno yn fwy ym mlwyddyn 3 y rhaglen.

Ac yna, dylwn i nodi, wrth lunio'r manylebau technegol ar gyfer y rhaglen tai arloesol, fe wnaed hynny gyda grŵp llywio a gadeiriwyd gan Gayna Jones o Gomisiwn Dylunio Cymru. Felly, yn sicr mae gennym ni bwyslais mawr ar ddylunio o ansawdd da.

Ac yn olaf, roeddwn yn falch iawn o gael cyflwyno hyn i'r sector preifat eleni. Rwy'n awyddus iawn i weld pwyslais cryf ar gefnogi busnesau bach a chanolig yn arbennig i ddychwelyd at adeiladu tai. Fe adawon nhw'r gwaith o adeiladu tai beth amser yn ôl a chanolbwyntio ar waith adnewyddu ac ati, ond rwy'n credu bod ganddyn nhw ran gref iawn i'w chwarae yn nyfodol adeiladu tai. Wrth gwrs, pan fydd cymdeithasau tai yn adeiladu cartrefi, pan fydd cartrefi yn cael eu hadeiladu drwy ein rhaglen tai arloesol, y busnesau bach a chanolig sy'n gweithio mewn partneriaeth â nhw i gyflawni hynny. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gymhwyster arall sydd gennym o ran cefnogi busnesau bach a chanolig ochr yn ochr â phethau fel y gronfa datblygu eiddo a'n gwaith ni ar safleoedd lle mae gwaith wedi peidio.

18:00

Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn, ac mae'n galonogol i mi. Mae'n amlwg y bydd y cynlluniau a ddewiswyd yn ychwanegu hyd at 657 o gartrefi newydd, yn hytrach na'r 276 a adeiladwyd y llynedd, ac mae'r gyllideb ar gyfer hyn wedi cynyddu'n sylweddol. Yn y gorffennol, rwyf i a fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian wedi gofyn i'r cynllun fod yn fwy uchelgeisiol o ran targed a maint, ac mae mwy na dyblu nifer y cartrefi yn fan cychwyn da. Felly, mae'n bwysig croesawu hynny a nodi pan fyddwn yn gwneud cynnydd da.

Mae'n bwysig nodi y dylai hyn gyfrannu at yr ymagwedd ehangach o ran tai fforddiadwy. Mae chwe chant a phum deg saith o gartrefi newydd allan o'r targed o 20,000 yn welliant ar gyfanswm y llynedd. Rwy'n deall mai rhan o'r broses hon yw nodi beth fydd yn gweithio a beth na fydd yn gweithio er mwyn cefnogi cynlluniau mwy o faint yn y dyfodol. A wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllideb y flwyddyn nesaf ar gyfer y rhaglen hon os bydd y galw yn cynyddu unwaith eto ac, yn hollbwysig, os welir cyfleoedd i ariannu prosiectau mwy o lawer? Rwy'n deall bod arian yn brin, ond gallai hyn fod yn fuddsoddiad a fydd yn arbed yn y tymor hwy. I ychwanegu at y pwynt hwnnw, os ydych chi'n gallu mynd i'r afael â'r rhagolygon o newid yn yr hinsawdd—ac mae adroddiadau diweddar yn awgrymu bod hyn yn datblygu'n her gynyddol enbyd a brys— mae'n rhaid i arloesi fod yn rhan o hyn. Os ydych chi eisiau symud tuag at ddyfodol ynni gwyrdd, a gellir cyflawni hynny o ran cynhyrchu pŵer yn gynt nag y mae llawer o bobl yn ei feddwl, os ydym yn ymrwymo iddo, mae'n rhaid inni hefyd ddefnydd ynni yn fwy doeth a defnyddio llai ohono, ac mae cynllun o'r math hwn yn bwysig yn rhan o'r darlun cyfannol.

Rydych yn sôn am arloesi yn y cadwyni cyflenwi, a hoffwn ofyn yn benodol beth sy'n cael ei wneud i gyflawni hynny. Rwy'n deall bod mwy o bren a deunyddiau cynaliadwy yn cael eu defnyddio. Pa ddeunyddiau eraill ydym ni'n eu hystyried? A ydym ni'n cynyddu ein defnydd o ddeunyddiau traddodiadol o Gymru, megis llechi, er enghraifft? Y llynedd, pan gyflwynodd y diweddar Carl Sargeant y diweddariad hwn, tynnodd David Melding sylw at y gost o ddefnyddio dyluniadau a deunyddiau mwy pwrpasol, felly a oes ymdrechion i leihau'r costau hynny, ac a oes dewisiadau ar gyfer cyflymu'r broses hon?

Fe hoffwn i wybod ychydig mwy am ddefnyddio arloesi ar raddfa fwy o lawer, hefyd, oherwydd, fel y nodwyd, mae arloesi yn golygu cost, ac os ydym ni'n mynd i gynhyrchu cartrefi fel y rhai hynny ar raddfa lawer mwy, i gael effaith wirioneddol ar ba mor gynaliadwy y gall y diwydiant hwn a'r sector tai fod, mae'n bwysig ein bod yn ceisio canfod dulliau y gellir eu cynhyrchu ar raddfa fwy torfol.

Felly, dyna'r cwestiynau sydd gen i ond, yn gyffredinol, rydym ni'n diolch i chi am y datganiad heddiw.

18:05

Diolch yn fawr iawn am eich croeso i'r datganiad, a hefyd am eich sylwadau. Y gyllideb gyffredinol ar gyfer y rhaglen dros y tair blynedd ar hyn o bryd yw £90 miliwn. Fodd bynnag, mae digonedd o gyfleoedd yma i'r rhaglen tai arloesol weithio gyda chronfeydd eraill o arian. Felly, er enghraifft, defnyddiwyd y grant tai cymdeithasol mewn nifer o brosiectau y byddwn yn eu cyhoeddi heddiw er mwyn creu pecyn cymorth. Bydd rhai elfennau yn cael cyllid ar gyfer yr elfen arloesol yn unig, tra bydd eraill ar gyfer y rhan fwyaf o'r prosiect hwnnw hefyd. Felly, ceir, unwaith eto, ffyrdd arloesol y gallwn eu hystyried o ariannu'r prosiectau.

Fe gyfeirioch chi at bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod y prosiectau hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi gyfan ac nid yn unig y cyflawni ar y diwedd. Mae £4 miliwn, er enghraifft, ar gael ar gyfer Cartrefi Croeso Cyf. Maen nhw'n adeiladu 30 o gartrefi ym Mhorth Tywyn. Maen nhw'n defnyddio pren o Gymru a hefyd gweithgynhyrchu lleol oddi ar y safle, sy'n defnyddio llafur lleol. Hefyd, ochr yn ochr â hynny, fe fyddan nhw'n defnyddio paneli solar Tŷ Solar, a weithgynhyrchir yn y gorllewin. Felly, lle bynnag y bo'n bosibl, mae gwaith wedi mynd rhagddo i sicrhau bod cyflenwi yn seiliedig ar ôl-troed lleol iawn er mwyn bod o fudd i'r economi leol, a hefyd lleihau'r ôl troed carbon hwnnw gymaint â phosibl. Ceir nifer o enghreifftiau gwych yn y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw o sut y gellir gwneud y cadwyni cyflenwi mor fyr ac mor lleol â phosibl.

O ran pren, fe ofynnoch chi a yw hyn yn ymwneud â phren yn unig. Na, mae llawer o ddeunyddiau arloesol eraill yn cael eu defnyddio. Felly, bydd prosiect mewnlenwi Ystagbwll ym Mhenfro yn system wedi ei chynllunio fel bloc o fflatiau i bobl dros 55 oed, a defnyddir pren o Gymru yno, ond hefyd paent o sail clai ar gyfer llygredd isel, a defnyddir amgylchedd di-garsinogen hefyd. Felly, rydym yn ceisio edrych ar bob cyfle, nid yn unig adeiladwaith allanol ffrâm yr adeilad, er mwyn defnyddio dulliau mwy gwyrdd, os mynnwch chi.

Mae'r mater o ddatgarboneiddio cartrefi yn fater enfawr. Mae'r rhaglen tai arloesol yn rhoi inni rai o'r atebion ar gyfer y dyfodol, ond yn sicr nid yw'n ein helpu ni o ran y stoc dai bresennol sydd gennym ni, sydd, fel y gwyddoch, yn rhai o'r hynaf a lleiaf effeithlon o ran gwres yn Ewrop. Felly, dyma un o'r rhesymau dros sefydlu grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi sy'n bodoli eisoes, ac rydym wedi rhoi'r dasg iddo i'n helpu ni i lunio rhaglen i wireddu ein huchelgais datgarboneiddio ar gyfer y stoc dai bresennol. Nawr, mae hynny'n mynd i olygu llawer o waith ôl-osod, ac nid dim ond gwaith i'r Llywodraeth yw hyn; mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni weithio arno ochr yn ochr â benthycwyr morgeisi, cynllunwyr, y sector adeiladu, ac unigolion hefyd, fel bod pobl, pan fyddant yn ystyried buddsoddi yn eu cartref, mewn gwirionedd, maen nhw'n ystyried bod buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn eu cartref yr un mor ddeniadol â buddsoddi mewn rhywbeth mwy gweladwy efallai, megis ystafell ymolchi newydd ac ati. Felly, mae'n mynd i gymryd newid mawr, rwy'n credu, o ran disgwyliadau pobl a'u parodrwydd i gymryd rhan yn yr agenda hon. Yn sicr mae hi'n daith yr ydym yn cychwyn arni.

Ein huchelgais oedd creu 1,000 o dai fforddiadwy yn rhan o'n 20,000 o dai fforddiadwy drwy'r prosiect hwn. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn y pen draw, fodd bynnag, yw'r mathau hyn o fodelau o adeiladu yn dod yn fwy o ran o'r brif ffrwd. Felly, nid yw hwn yn brosiect arbenigol mewn unrhyw ffordd; mae hwn yn torri cwys newydd mewn gwirionedd, rwy'n credu, i'n helpu ni i chwyldroi'r ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi yng Nghymru.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n cytuno ei bod yn rhaglen addawol, a bydd yn ddiddorol gweld pa mor bell y gallwch fynd a faint o ddylanwad y bydd yn ei gael yn y pen draw ar eich targedau adeiladu tai. Rwy'n falch eich bod yn gweld rhan fawr ar gyfer busnesau bach a chanolig yn hyn. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad i'w groesawu. Fe wnaethoch chi sôn am y prinder sgiliau sydd gennym yn y diwydiant adeiladu yn gyffredinol, ac mae'n bosibl iawn y bydd angen sgiliau arbenigol o ran tai arloesol. Felly, i ba raddau y gallwch chi sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu yng Nghymru i hyfforddi pobl Cymru i wneud y swyddi hyn ac i helpu i ddatblygu eich rhaglen ar gyfer tai arloesol? Mae hefyd yn fater o le yr ydym yn adeiladu'r tai. Mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio safleoedd tir llwyd gymaint â phosibl, felly a ydych yn cydnabod yr angen hwnnw ac a ydych yn gwneud cymaint â phosibl i ddefnyddio safleoedd tir llwyd?

Rwy'n credu ein bod yn cydnabod y gall arloesi fod ar sawl ffurf ac mae llawer o wahanol fathau o gynlluniau. Gwn eich bod yn ymchwilio i lawer o wahanol fodelau, ac mai dim ond rhai ohonynt yn y pen draw sy'n dwyn ffrwyth. Felly, mae arloesi yn dda. Rwy'n nodi y llynedd, y cafodd Tesco ei adeiladu yn Llundain, ac yn un o'r amodau cynllunio, roedd yn rhaid iddyn nhw ddarparu fflatiau uwchben y siop. Hwnnw oedd y cynllun cyntaf o'i fath yr oeddwn i wedi clywed amdano. Dim ond enghraifft yw hynny, ond a oes syniadau arloesol sy'n debyg i hynny y gellir eu defnyddio, lle'r ydym yn mireinio'r amodau cynllunio fel y gallwn gael mwy o fathau o dai arloesol? Diolch.

18:10

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Yn sicr, fe hoffwn i weld system gynllunio sydd yn galluogi arloesi ym maes tai. Mae gennym ni gyfle yn sgil yr adolygiad cynllunio a thai, y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, o dan ei chyfrifoldebau ar gyfer cynllunio, yn gynharach yn yr haf. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle gwirioneddol i roi arloesi wrth wraidd ein ffordd o feddwl o ran ein system gynllunio ar gyfer tai.

O ran sgiliau, rwy'n ymwybodol iawn bod hwn yn faes—yn naturiol, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn faes arloesol—lle nad oes gennym ni'r sgiliau angenrheidiol i gynyddu hyn mor gyflym ag yr hoffem. Dyna pam ei bod yn bwysig inni weithio gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar yr agenda hon ac y mae'r rhain yn wir ganolog i'r agenda polisi sgiliau Cymru. Felly, gallaf gadarnhau, bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi ystyried yr agenda carbon isel wrth ddatblygu eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer eleni. Gwn fod hon yn drafodaeth sy'n mynd rhagddi rhwng swyddogion y sgiliau a'r partneriaethau rhanbarthol ac eraill.

Yn sicr, mae angen i golegau feddwl yn nhermau beth y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod pobl ar gael yn awr â'r sgiliau ar gyfer tai arloesol. Mae'r math o sgil sydd ei angen yn un gwahanol iawn. Ymwelais â rhai o'r datblygiadau ffatri lle mae tai arloesol wedi'u creu, ac roedden nhw'n awyddus iawn i bwysleisio wrthyf ba mor bwysig yw manylder wrth adeiladu tai arloesol, oherwydd eich bod yn adeiladu cydrannau a gaiff eu rhoi at ei gilydd ar y safle, ac mewn gwirionedd nid oes lle am wallau o gwbl o ran lle mae'r darnau yn ffitio gyda'i gilydd ac ati. Felly, mae'n set newydd o sgiliau, ond yn faes yr ydym ni'n gweithio'n wirioneddol ar draws y Llywodraeth arno i sicrhau ein bod ni'n barod i ateb yr her honno.

Unwaith eto, ar y mater o safleoedd tir llwyd, rydym wedi gweld llawer o brosiectau yn cael eu cyflwyno sy'n llenwi safleoedd lle nad oes adeiladu wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn awyddus iawn i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at y tir sydd ei angen arnyn nhw yn y lleoedd y maen nhw ei angen. Un o'r prosiectau sydd gennym ni hefyd yw'r gronfa tir ar gyfer tai. Dyma gronfa gwerth miliynau o bunnau, sef arian grant ar gyfer cymdeithasau tai er mwyn eu helpu i brynu'r tir sydd ei angen arnynt i wneud y gwaith adeiladu sydd ei angen o ran cyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer tai.

Rwy'n siŵr bod Carl Sargeant yn gwenu'n fwyn arnom ni heddiw oherwydd ychydig llai na blwyddyn yw hi ers iddo gyhoeddi cam un y prosiect tai arloesol gwych hwn. Hoffwn longyfarch y Llywodraeth yn wirioneddol am fwrw ymlaen â hyn a mwy na dyblu nifer y tai yr ydym yn mynd i'w hadeiladu. Hoffwn siarad am un o'r prosiectau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad, sef yr un ar Heol y Ddinas yn fy etholaeth i—£9 miliwn i gymdeithas dai Linc Cymru godi adeilad 10 llawr gwych, 50 o gartrefi a wneir o bren wedi'u laminadu ar draws. Mae ar safle hen warws dodrefn a aeth ar dân ychydig o flynyddoedd yn ôl, felly bydd yn adnewyddu safle tir llwyd mewn ardal sy'n dioddef yn fawr o lygredd aer. Bydd yr adeilad hwn, fel y'i cynigir, yn helpu i fynd i'r afael â lefel llygredd yn yr aer. Ychydig iawn o ardaloedd gwyrdd a geir yn yr ardal, felly mae'n wych y bydd gan bob un o'r 50 o fflatiau ei falconi gwyrdd ei hun, gyda gerddi fertigol, yn ogystal â gardd ddau lawr ar frig yr adeilad er mwyn i breswylwyr allu ei rhannu. Mae'r cyfan yn seiliedig ar y Bosco Verticale ym Milan, sef dau floc tŵr â 900 o goed. Yn amlwg nid yw hyn mor uchelgeisiol â hynny, gan nad yw'r safle mor fawr. Ond rwy'n siŵr mai dyma'r ffordd ymlaen ar gyfer y math o dai y bydd eu hangen arnom yn ein dinasoedd. Mae hyn yn gyffrous iawn. Yn wir, mae'r pren wedi'u lamineiddio ar draws yn defnyddio llawer llai o garbon na'r Bosco Verticale, a bydd hefyd yn cymryd llawer llai o amser i'w adeiladu. Mae Linc Cymru hyd yn oed yn sôn am adeiladu llawr yr wythnos, ar sail y ffaith y bydd llawer ohono yn cael ei ragffurfio yn y ffatri. Felly, gwych iawn, a diolch yn fawr iawn am sicrhau bod yr arian ar gael.

Yn sgil y llwyddiant a'r diddordeb yn yr holl brosiectau tai arloesol yr ydych wedi eu cael, tybed a allwn ni symud yn gyflymach wrth weithredu'r argymhelliad yn yr adroddiad 'rhagor│gwell', a ddywedodd fod angen darparu adeiladau o fewn amserlenni byrach â llai o ynni wedi'i ymgorffori ac sy'n storio carbon ac yn arwain at effaith ecolegol gadarnhaol. Wel, bydd y tŵr hwn yn gwneud hynny, a tybed pryd y byddwn yn mynd ati i ddiwygio rheoliadau adeiladu i atal y cartrefi diddychymyg, sy'n anodd eu gwresogi ac sy'n rhy ddrud y mae cwmniau adeiladu preifat mawr yng Nghaerdydd yn parhau i'w codi. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu ein sicrhau ni y byddwn yn bwrw ymlaen â'r math o reoliadau adeiladu effeithlon o ran ynni a gafodd eu rhwygo gan y Torïaid yn 2015.

18:15

Diolch yn fawr iawn ichi am eich cwestiynau ac am eich brwdfrydedd dros y prosiect yn eich etholaeth chi, a fydd yn amlwg y cyntaf yn y DU—mae'n hynod gyffrous i gael y gerddi fertigol hynny ac ati. Rydych yn cyfeirio ato fel prosiect sy'n adfywio'r ardal, a'r hyn sy'n arbennig o gyffrous am y rhaglen tai arloesol yn fy marn i yw nad tai arloesol ar wahân yw hyn, ond tai arloesol sy'n rhan o'n hagenda ehangach yn Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yr £1.9 miliwn er mwyn i'r Gymdeithas Dai Newydd adeiladu 23 o gartrefi yn rhan o'r datblygiad Sied Nwyddau yn y Barri yn cynnwys mannau ar gyfer busnesau newydd ar yr un syniad â'r hyn a welwn yn y TramShed mewn gwirionedd, sy'n brosiect adfywio gwych, os oes unrhyw un wedi cael y cyfle i ymweld ag ef, a'r un bobl sydd y tu ôl i hynny fydd yn cynnal y prosiect arbennig hwnnw. Hefyd, bydd un o'r prosiectau yn y gogledd yn creu podiau hyblyg, symudol, wedi'u hadeiladu i safonau tai goddefol, i bobl ddigartref unigol fyw ynddyn nhw. Felly, mae hyn yn ymdrin â rhywfaint o'r angen brys am dai canolradd i bobl sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd. Felly, dyna brosiect cyffrous arall. Ac, wrth gwrs, mae'r llety i bobl dros 55 oed y cyfeiriais ato yn gynharach hefyd yn ymwneud â chreu tai sy'n addas i bobl wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a'u hanghenion yn newid, ac ati. Unwaith eto, mae gennym ni brinder dybryd o dai addas ar gyfer pobl hŷn. Felly, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â cheisio sicrhau ein bod yn cysylltu ar draws y Llywodraeth o ran cyflawni mwy nag un peth yn sgil y prosiect arloesol hwn.

Mae coed yn rhan o 22 o brosiectau. Mae pobl bob amser yn dweud wrthym na allwch chi adeiladu tai â choed o Gymru, ond rwy'n credu bod y prosiect hwn yn sicr yn profi nad yw hynny'n wir. Rydym yn sicr yn gwybod, yn ogystal â defnyddio coed yn y prosiectau, bod gwaith yn cael ei wneud ochr yn ochr â hyn mewn nifer o brifysgolion sy'n dangos beth y gellir ei wneud o ran trin coed Cymru er mwyn ei gryfhau i allu defnyddio hyd yn oed mwy ohono wrth adeiladu tai yng Nghymru hefyd.

O ran y mater o reoliadau adeiladu, yn anffodus, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod yw hwnnw, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch chi i roi'r sicrwydd yr ydych chi'n ei geisio.

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar Wythnos Mabwysiadu. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i allu dathlu Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol gyda chi ac i gydnabod a thalu teyrnged i'r holl unigolion gofalgar sy'n fodlon bod yn rhieni sy'n mabwysiadu a hefyd i'r rhai sy'n eu cefnogi nhw ar eu taith.

Mae bod yn rhiant yn ymrwymiad sylweddol ac yn gychwyn taith emosiynol sy'n dod â chymaint o fodlonrwydd. Ond fe wyddoch cystal â minnau nad yw bob amser yn syml bod yn rhiant ac y gall heriau godi, ac maen nhw'n codi. Ac, ar yr adegau hyn o her, efallai y bydd angen cymorth arnom ni sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd cartref cariadus a sefydlog—cartref sy'n galluogi ein plant i ffynnu. Mae'r cymorth hwnnw ar gael ar sawl ffurf—boed yn ffrindiau neu deulu, grwpiau cymorth, neu gan amrywiaeth o wasanaethau cyffredinol ac arbenigol.

Mae'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi yn bersonol bod unigolion yn parhau i ymrwymo eu hunain i ofalu am a chefnogi plant ledled Cymru. Hoffwn i dalu teyrnged arbennig heddiw i'r rhai hynny sydd eisoes wedi mabwysiadu, ac annog unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu i fynegi diddordeb. Ac rwyf hefyd yn dymuno cydnabod y rhan y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn ei chwarae wrth gefnogi prosesau mabwysiadu ledled Cymru ac, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y camau a gymerir i alluogi a grymuso gwelliant yn y maes hwn.

Darperir cymorth mwy ymarferol i blant a gaiff eu mabwysiadu, pobl ifanc a theuluoedd yn rhan o fframwaith cenedlaethol sy'n ysgogi cysondeb ac yn gwella canlyniadau. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ymgymryd â gwaith taith bywyd ym maes mabwysiadu. Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddatblygu ar y cyd â phlant, pobl ifanc a mabwysiadwyr, i sicrhau y clywir llais plant a phobl ifanc a, thrwy eu profiadau bywyd, mae'n helpu i ffurfio a llywio gwelliannau pellach.

Yn rhan o sbarduno'r agenda wella hon, rydym hefyd wedi comisiynu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn gyntaf i arwain datblygiad y pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth o iechyd sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac i sicrhau ymchwil i well tystiolaeth o'r rheswm pam mae darpar fabwysiadwyr yn dewis peidio â pharhau â'u ceisiadau.

Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014. Caiff ei arwain gan lywodraeth leol, yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran mabwysiadu, ac fe'i crëwyd mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch sut y dylid gwella gwasanaethau mabwysiadu. Ac mae gwelliant yn digwydd.

Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cadarnhau bod plant yn cael eu lleoli yn gynt nag o'r blaen gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod bron traean o leoliadau yn grwpiau o frodyr a chwiorydd, wrth i frodyr a chwiorydd gael eu lleoli gyda'i gilydd, bod bron pob un o'r lleoliadau mabwysiadu yn barhaus a llwyddiannus, a bod mwy o bobl yn dymuno mabwysiadu. Felly, mae'r rhain yn ganlyniadau cadarnhaol a gaiff eu colli weithiau. A dyna pam mae heddiw a'r wythnos hon yn bwysig, oherwydd ei fod yn ein galluogi i roi pwyslais haeddiannol ar lwyddiannau mabwysiadu yng Nghymru a'u cydnabod.

I barhau â'r daith o wella, mae angen rhagor o gydweithrediad a phartneriaeth i wella canlyniadau ar gyfer plant, ac i fynd i'r afael, ar y cyd, â'r profiadau andwyol yn ystod plentyndod sy'n effeithio ar blant, ni waeth beth fo'u cefndir neu strwythur teuluol. Dyna pam y mae mabwysiadu yn elfen annatod o fy rhaglen waith ar gyfer gwella canlyniadau ar gyfer plant, gyda chyngor fy ngrŵp cynghori gweinidogol.

Mae meithrin lles emosiynol a chydnerthedd plant yn allweddol i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu, ynghyd â rhoi'r sgiliau iddyn nhw adnabod ac ymdrin â sefyllfaoedd a digwyddiadau a all eu herio yn y dyfodol. Dyma sut y gall gwaith taith bywyd, sydd wedi gwella'n sylweddol ers sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, helpu i ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arno a thyfu.

Cydnabyddir y bydd plant sydd wedi'u lleoli ar gyfer mabwysiadu yn aml wedi cael profiad o drawma neu golled i ryw raddau yn eu bywydau ifanc. Yn yr un modd, gall meithrin perthynas â chysylltiad cadarn â phlentyn sydd wedi dioddef trawma fod yn heriol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen dulliau cydweithredol rhwng y partneriaid i ddarparu gwasanaethau di-dor ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi pwysleisio dro ar ôl tro yn 'Cymru Iachach'. Ceir un enghraifft o hyn yn y de-ddwyrain lle mae grŵp cydweithredol rhanbarthol y de-ddwyrain o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cydweithio i sicrhau gwell mynediad at fewnbwn seicoleg glinigol gan y gwasanaeth iechyd seicolegol i blant a theuluoedd.

Ac rydym yn gwybod nad yw heriau a thrawma bob amser yn amlwg ar unwaith. Efallai na fyddan nhw'n dod i'r amlwg tan yn ddiweddarach yn natblygiad y plentyn. Dyna pam y mae'n hanfodol bod asiantaethau mabwysiadu yn parhau i ddarparu mynediad at eu gwasanaethau a chymorth i deuluoedd pan fydd heriau yn dechrau dod i'r amlwg. Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion craidd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd, fel y mae cydweithredu a phartneriaeth hefyd. Rydym yn disgwyl i bartneriaid ddarparu dulliau system gyfan ddi-dor sy'n atal yr angen rhag gwaethygu ac yn lliniaru argyfwng.

Er mwyn ein bod â gwell dealltwriaeth o sut a phryd y daw'r profiadau hyn i'r amlwg, ac i helpu i gasglu tystiolaeth o welliant a llywio gwelliant, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi comisiynu rhagor o waith gyda Phrifysgol Caerdydd sy'n parhau â'r astudiaeth o'r garfan mabwysiadu. Mae hon yn astudiaeth unigryw o bron i 400 o blant a fabwysiadwyd ar ôl bod mewn gofal, sy'n darparu lefel o fanylder am adfyd cynnar, ansawdd perthynas deuluol, iechyd seicolegol y plentyn, ac ati. Bydd y cam nesaf hwn yn ymgysylltu'n uniongyrchol â charfan o deuluoedd i archwilio eu profiadau o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol o gymorth mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys lles seicolegol plant a phrofiadau plant yn yr ysgol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol.

Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn parhau i nodi a darparu amrywiaeth o gymorth mabwysiadu amserol i deuluoedd, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl i deuluoedd gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer cymorth mabwysiadu ac mae'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddiwallu'r anghenion hynny.

Ar gyfer y rheini sy'n ystyried mabwysiadu, ni allaf gynnig gwell anogaeth na'ch cyfeirio'n uniongyrchol at y profiadau a'r hanesion teuluol sydd ar wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a geiriau ingol y rhai sy'n gwybod orau. Mae Colin a Carol yn dweud:

'Mae ‘na blant mas ‘na sydd angen mamau a thadau, ac roedden ni’n gwpl oedd eisiau bod yn fam a thad.'

Mae Eileen yn dweud:

'Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd anhygoel i mi.'

Ac mae Tony a Jacquie yn dweud:

'Mae wedi bod yn anodd, ond mae’r ddau wedi rhoi’r teulu i ni yr oeddem ni wedi bod ei eisiau erioed. A byddem yn ei wneud eto.'

Ac, yn olaf, geiriau'r rhai hynny sydd wedi eu mabwysiadu. Yn gyntaf, y grym sydd yn Jamie Baulch. Dywed ef:

'Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd tan fod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rwyf i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n fwy aeddfed erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rwyf i'n sylweddoli pa mor wych a rhyfeddol y mae wedi bod.'

Ac, yn ail, ond yr un mor bwysig, Nick, sy'n dweud yn syml iawn, ond yn effeithiol iawn:

'Nid yw'r mabwysiadu’n golygu dim i mi, ond mae fy rhieni’n golygu popeth.'

Felly, yfory, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â dau ddarpar fabwysiadwr newydd i glywed am eu taith bersonol tuag at greu teulu newydd.

Diben heddiw a'r wythnos hon yw cydnabod llwyddiant mabwysiadu yng Nghymru, ac anogaf yr holl Aelodau i ymuno â mi i ddathlu a hyrwyddo mabwysiadu. Diolch, Llywydd.

18:25

Onid yw hi'n braf gallu eich dilyn chi ar ôl i chi fynegi eich gwerthfawrogiad a'ch cydnabyddiaeth o'r gwaith y mae ein gwasanaethau yn ei wneud i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu a'r broses fabwysiadu a'n plant? Oherwydd rwyf i wedi cael cryn brofiad gyda rhai teuluoedd—teulu o dri phlentyn, ac, ar hyd y ffordd, rhai o'r heriau a ddaeth i'r amlwg. Roedd hi'n wych, mewn gwirionedd, pan oeddem ni'n gallu mynd i'r afael â'r heriau ac ymdrin â phethau yn gynnar, a dyna pryd y mae ymyrraeth gynnar a gwaith atal yn allweddol. Felly, hoffwn i ymuno â chi ar ran Ceidwadwyr Cymru a mynegi ein diolch diffuant i'r rhai hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau mabwysiadu ac i'r rhai sy'n mabwysiadu plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan wybod eu bod yn gwneud hynny, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gwbl briodol, i gwblhau eu teuluoedd eu hunain. Mae pawb yn gwneud gwaith mor anhygoel i ddarparu dyfodol gwell ar gyfer cannoedd o blant bob blwyddyn, ac rwy'n sicr ein bod i gyd yn cydnabod hyn ar draws y Siambr.

Ar dudalen 2, rwy'n nodi, ynghylch rhieni sy'n mabwysiadu, sut y mae angen i ni bellach mewn gwirionedd helpu i wneud pethau yn gynt ac yn haws i grwpiau o frodyr a chwiorydd, oherwydd eu bod nhw'n cyflwyno mwy o her nag un plentyn. Yn ôl adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, cafodd 300 o blant eu lleoli mewn cartrefi mabwysiadu ledled Cymru yn 2016-17 ac rwy'n croesawu'r gwelliannau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf i'n gwasanaethau mabwysiadu. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi nodi rhai ystadegau sy'n peri pryder, oherwydd, ym mis Mehefin 2018, roedd gennym ni fwy na 300 o blant yn dal i aros am gael eu mabwysiadu, ac mae bron un o bob pump o'r rhain wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac wrth ystyried bod blwyddyn ym mywyd plentyn yn sylweddol—.

Mae unrhyw amser aros ar gyfer rhieni sy'n dymuno mabwysiadu ac, yn wir, y plant, yn rhoi pwysau ychwanegol a straen diangen. Felly, rwy'n dra awyddus i ni ystyried gwneud beth bynnag y gallwn ei wneud i wella ein systemau hyd yn oed yn fwy mewn gwirionedd, er eu bod yn wych. Mae angen brys i ddatblygu a chyflawni dull gweithredu wedi'i dargedu yn well i ddod o hyd i deuluoedd addas ar gyfer plant sy'n flaenoriaeth ledled Cymru, ac yna symleiddio'r broses honno i annog mwy o deuluoedd i fynegi diddordeb mewn mabwysiadu.

Yn eich datganiad, a ddarparwyd i erthygl ITV Cymru a gyhoeddwyd ddoe, rydych yn dweud

eich bod yn dymuno annog unrhyw un sydd wedi ystyried mabwysiadu i gysylltu â'i asiantaeth mabwysiadu leol.

Hoffwn ofyn i chi a'ch adran a oes rhywfaint o waith y gallech chi ei wneud efallai sydd, mewn gwirionedd, yn tynnu sylw at yr angen, yn tynnu sylw at y mater hwn, oherwydd rwyf yn gwybod am bobl sy'n ei chael hi'n eithaf anodd mynd drwy'r system weithiau. Felly, gorau oll fyddai unrhyw beth y gallwch chi, fel adran, ei wneud i wneud y cysylltiad hwnnw a'r cydgysylltu hwnnw yn well, a gwneud y teuluoedd hynny yn gyflawn.

Felly, mewn gwirionedd, rwyf am ategu llawer o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud yn y fan yma heddiw, Gweinidog, ond a wnewch chi ateb y cwestiwn hwnnw ynglŷn â beth yn eich barn chi y gallwch ei wneud yn ymarferol i leihau nifer y plant sy'n aros mor hir i gael eu mabwysiadu, a sut yr ydych chi'n credu y gallwch chi wedyn roi mwy o gymorth i deuluoedd—. Ond mae'n ymwneud â chodi proffil hyn er mwyn peidio â bod mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae plant yn aros i gael eu mabwysiadu a rhieni sy'n daer yn eu dymuniad i fabwysiadu'r plant hynny. Diolch.

18:30

Diolch ichi, Janet, a diolch am eich anogaeth hefyd i deuluoedd a allai fod yn dymuno mynegi diddordeb. Rydym ni'n dymuno i fwy o deuluoedd fynegi diddordeb, a theuluoedd o bob lliw a llun, hefyd. Ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o deuluoedd yn mynegi diddordeb, oherwydd y bu gennym rhyw 300 o blant, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn rhan o'r broses fabwysiadu; rydym yn gwybod bod gennym ryw 350 yn mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd pob un yn llwyddiannus, ond mae angen mwy o ddarpar deuluoedd i fynegi diddordeb. A gallwn ni chwarae rhan yn hynny, yn sicr, fel unigolion etholedig, oherwydd bod gennym ni dipyn o ddylanwad ein hunain yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo'r hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, yn enwedig, wrth i ni sefyll yma heddiw. Ond gallwn wneud mwy hefyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol. Hoffwn i annog yr holl awdurdodau lleol, yn ogystal ag asiantaethau, i barhau â'r gwaith maen nhw'n ei wneud a'i ehangu i annog darpar deuluoedd mabwysiadu i fynegi diddordeb hefyd.

Ni all fod yr un wythnos hon yn unig; mae angen iddo fod yn rhywbeth cyson. A dyna, yn fy marn i, lle mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn chwarae rhan gref iawn yn gynyddol—mae'n hyrwyddo gwaith mabwysiadu a'r cyfleoedd yn y lle hwn. Ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod llawer o newyddion da a chynnydd yn cael ei wneud ac rwy'n credu bod sefydlu'r fframwaith cenedlaethol yn helpu i ysgogi hynny. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei hun yn helpu i'w ysgogi.

Ond, hefyd, mae rheoli perfformiad yn bwysig iawn. Erbyn hyn, rydym wedi rhoi ar waith yr hyn, yn fy marn i, sydd wedi'i gydnabod fel bod yn fframwaith rheoli perfformiad mwy cadarn ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu. Mae wedi bod yn ddyfais bwysig oherwydd pan allwch chi fesur hyn a phan allwch chi fesur amrywiadau rhanbarthol hefyd, mae'n tueddu i ysgogi gwelliant oherwydd ei fod yn caniatáu'r gymhariaeth ystyrlon rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru—ac mae gwahaniaethau, er bod y duedd tuag at i fyny, ceir rhai ardaloedd sydd yn dal i fod ar ei hôl hi. Mae'n ein galluogi ni wedyn, fel Gweinidogion, fel Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fel partneriaethau lleol, i ychwanegu her wirioneddol at y system a nodi arferion gorau a'u cyflwyno ym mhob man.

Rydym yn credu bod y broses rheoli perfformiad fwy cadarn yn gam sylweddol ymlaen i roi mynediad cyfartal at wasanaethau a chodi ansawdd cyffredinol hefyd. Mae llawer i'w wneud eto. Rydym ni wedi cael yr effaith gadarnhaol honno o ran lleihau'r cyfnod o amser rhwng yr adeg pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal a phan fydd yn cael ei fabwysiadu—mae hynny wedi lleihau. Ceir llai o blant yn aros mwy na chwe mis i gael eu paru. Ond, mewn gwirionedd, rydym yn credu y gallwn ni wneud mwy, a bydd rhai o'r mesurau yr ydym yn eu defnyddio yn awr i adolygu a gweddnewid rhannau o'r system yn cyfateb i'n huchelgais na ddylai unrhyw blentyn aros mis hyd yn oed i gael lle ar y gofrestr. Dylen nhw fod ar y gofrestr ac yna gyda gallu—gallu mwy hyblyg—darpar deuluoedd sy'n mabwysiadu i baru â'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Felly, drwy'r amser, rydym yn ceisio dod o hyd i'r ffyrdd newydd hynny o wella perfformiad a sicrhau perfformiad cyson ledled Cymru.

18:35

A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog o ran dathlu Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu? Ac, yn amlwg, rydym ni i gyd, ar y meinciau hyn, yn hapus iawn i ymuno â'r dathliadau helaeth ar gyfer yr wythnos mabwysiadu. Rwy'n hapus iawn i eilio'r deyrnged i'r holl ddarpar rieni fydd yn mabwysiadu a'r rhai sydd wedi mabwysiadu plant a phobl ifanc dros y blynyddoedd. Mae hynny yn aruthrol yn wir. Rwy'n llawn parch, mewn gwirionedd. Rwy'n llawn parch, oherwydd ceir agenda enfawr yma, yn amlwg. Roeddwn i'n arfer synnu, flynyddoedd yn ôl, yn fy nghlinigau babanod yng nghanolfan feddygol Fforest-fach—. Roeddwn i'n arfer gweld babanod bach a oedd yn union yr un fath â fy mabanod fy hun ar y pryd, ond bydden nhw'n cael profiadau gwahanol iawn i fy mhlant i, ac fe allech chi weld effaith greulon amrywiaeth eang o brofiadau plentyndod andwyol a oedd yn niweidio plant ifanc, ac nid eu bai nhw oedd hynny. Ac roedd yn gwbl ofnadwy eu gweld. Mae yr un math o sefyllfa, yn anffodus, yn dal i fodoli y dyddiau hyn, ac weithiau mae'n ymddangos bod yr ymadrodd, 'profiadau plentyndod andwyol' yn cuddio'r creulondeb a'r cam-drin sy'n digwydd o hyd, ac mae'r niwed yn ddwfn ac yn para am hir. Ac yn amlwg, gall aros yn hir yn y system gofal weithiau fod yr un mor greulon hefyd. Ac felly, mewn gwirionedd mae mabwysiadu yn eithriadol o bwysig, ac rwy'n canmol, yn amlwg, yn ogystal, waith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol hefyd.

Nawr, yn syml, mae fy nghwestiwn yn cynnwys—. Yn syml, felly, mae mabwysiadu'n well, yn amlwg, nag aros yn y system gofal am gyfnod hir o amser. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa mor ffyddiog ydyw bod y pwyslais presennol ar geisio sicrhau bod plant yn gallu dychwelyd i'w rhieni genedigol, er yn ddealladwy, bod y math hwnnw o bwyslais ar geisio sicrhau y gall plant ddychwelyd at eu rhieni genedigol, yn cael ei ystyried dim ond pan fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n rhan o'r sefyllfa honno yn derbyn bod hyn yn bosibilrwydd realistig? Oherwydd, mae'n fater pwysig, ac mae sefyllfaoedd yn eithriadol o anodd. Ni ellir rhuthro penderfyniadau, ond yn amlwg mae'n rhaid iddyn nhw fod y penderfyniadau cywir hefyd. Diolch.

Dai, diolch yn fawr iawn, ac ar y pwynt pwysig iawn hwnnw, credaf mai dyma pam, yn rhyfedd iawn, nad yw'r gwaith yn y sector mabwysiadu yn gwbl ar wahân i'r mater ehangach o ran plant sy'n derbyn gofal, a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn. Rwy'n credu, yn y gwaith eang iawn hwn, mai'r hyn sydd fwyaf pwysig ac y mae cefnogaeth statudol iddo, hefyd, yn seiliedig ar ein cred mewn hawliau plant, yw mai'r plentyn sy'n dod yn gyntaf. Bydd ef a minnau weithiau, fel holl Aelodau'r Cynulliad, yn cael rhai sgyrsiau heriol â rhieni genedigol a fydd yn dweud, 'Wel, y lles gorau i'r plentyn fydd iddo aros gyda mi', ac eto y cyngor proffesiynol aml-asiantaeth yw: 'er ein bod yn cydymdeimlo â'r rhieni, y lle gorau mewn gwirionedd, yw rhywle arall.' Weithiau, fodd bynnag, mae hi fel arall, a chyda'r gefnogaeth therapiwtig gywir, yr ymyriadau cywir ar waith gyda'r teulu, gellir canfod atebion ble gellir, yn ddiogel, eu cadw yn y teulu, yn aml gyda chymorth ychwanegol eithaf dwys, ond mae'n rhaid bod hyn er budd pennaf y plentyn. Ac, yn rhyfedd iawn, dyna ble y mae gwaith y tu hwnt i fabwysiadu ond mewn gwirionedd o fewn y grŵp cynghori, a'r ffrydiau gwaith y maen nhw wedi eu gosod o'u blaenau, gan gynnwys un, sef—. Mewn gwirionedd, eu prif ffrwd waith ar hyn o bryd, mae'n debyg, yw lleihau'n ddiogel nifer y plant sy'n dod yn blant sy'n derbyn gofal, ond mae hefyd ynglŷn â'r ansawdd ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal.

Ond mae mabwysiadu yn cynnig, rydym yn gwybod, gyda'r cymorth cywir yn ei le, ffordd dda iawn i mewn i fywyd teuluol—gyda'r cymorth cywir yn ei le, ffordd dda iawn o ddychwelyd i fywyd teuluol, a hefyd rhywbeth sy'n gallu cael dylanwad parhaus a dwfn ar ddatblygiad plant a phobl ifanc. Drwy ddathlu'r wythnos hon, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae'n galonogol gweld y llwyddiant yr ydym yn ei gael yn cynyddu'r niferoedd, ond hefyd bod yr achosion hynny o fabwysiadu yn llwyddiannus i raddau helaeth—er gwaethaf y trallod, yn aml iawn, gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn gynharach mewn bywyd, sy'n dal i fod angen ymyriadau therapiwtig i helpu, a bydd angen cymorth ar y teulu hefyd. Ond mae'n gweithio, ac mae pobl yn gweithio drwy hyn.

Fel yntau—a defnyddiodd y geiriau hynny ei fod 'yn llawn parch' tuag at y bobl hynny sy'n mynd ar y daith hon. Mewn gwirionedd, mae llawer ohonyn nhw sy'n mynd ar y daith hon, yn cael gymaint allan ohono hefyd, ond rwyf hefyd yn llawn parch oherwydd yr her o wneud hyn. Nid yw'n hawdd magu unrhyw blentyn, ond mewn gwirionedd i ddweud, 'rydym ni'n mynd i gymryd plentyn y gwyddom ei fod yn dod atom ni â phroblemau cymhleth, y byddwn ni'n gorfod gweithio drwyddyn nhw am flynyddoedd lawer' ac i wneud hynny, wel, mae'n eithaf syfrdanol. Ond, rydym ni eisiau i lawer mwy o bobl ddod ymlaen a gwneud hynny hefyd.

18:40

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ymuno â'r Gweinidog i roi teyrnged i'r rheini a gynigiodd eu hunain i fabwysiadu plentyn sydd angen cartref cariadus a sefydlog, ac rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Er nad yw'r Gweinidog wedi sôn am niferoedd o ran y gwelliannau a oedd yn nodi yn ei ddatganiad, croesawaf y newyddion y lleolir plant yn gynt gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod cyfran sylweddol o grwpiau o frodyr a chwiorydd yn cael eu rhoi gyda'i gilydd, a bod mwy o bobl eisiau mabwysiadu. Mae'n newyddion da, yn yr un modd, fod y mwyafrif o achosion o fabwysiadu yn barhaol ac yn llwyddiannus. Fel y dywed y Gweinidog, mae'r wythnos mabwysiadu yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar fabwysiadu a chydnabod llwyddiannau Cymru.

Fodd bynnag, mae hefyd yn gyfle i'r Gweinidog a'i adran feddwl a oes rhwystrau i bobl sy'n gwneud cais i fabwysiadu neu sy'n parhau gyda'r broses fabwysiadu. Mae hefyd yn gyfnod priodol i'r Gweinidog ystyried a yw'r canllawiau y mae ef a'i adran yn eu darparu i asiantaethau mabwysiadu a gwasanaethau y gorau y gallan nhw fod, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn aros am rieni mabwysiadol yn hirach nag sy'n gwbl angenrheidiol. Felly a yw'r Gweinidog yn bwriadu adolygu'r canllawiau hynny ac a fydd yn adrodd yn ôl i'r lle hwn ar ganlyniadau ei adolygiad?

Rwy'n credu'n gryf mai'r ansawdd rhianta y gall mabwysiadwr ei gynnig i blentyn ddylai droi'r fantol pan leolir plentyn gyda rhieni mabwysiadol, cyn yr holl ystyriaethau eraill. Mae gwefan Barnardo's yn awgrymu bod anhawster ychwanegol i ganfod cartrefi mabwysiadol ar gyfer plant duon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant sydd ag ymddygiad heriol.

Tybed a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o'r fenter o'r enw Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, a gefnogir gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac y soniwyd amdani mewn erthygl ar wefan y BBC yn gynharach yr wythnos hon? Rwy'n cymryd ei fod ef. Mae'n ymddangos ei bod yn ffordd dda i leoli plant. Ond, er y dywed ei bod wedi'i thargedu i ddod o hyd i gartrefi cariadus ar gyfer plant pedair oed a hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant ag anghenion meddygol neu ansicrwydd meddygol—mewn geiriau eraill, y plant hynny y nodwyd eu bod yn aros hwyaf am deulu—nid yw'n sôn am blant o gefndir lleiafrif ethnig.

Pam, gofynnaf imi fy hun, pan fo Barnardo's wedi nodi bod plant duon a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp sydd angen ystyriaeth arbennig, y mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn eu hepgor, onid ydyn nhw hefyd yn perthyn i un o'r categorïau eraill? Mae hynny, wrth gwrs, yn gwestiwn sy'n fwy priodol i'w ofyn i Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, ond a ydych chi'n pryderu am y gwahaniaeth ymagwedd tybiedig ac a allai gwahaniaeth o'r fath effeithio ar y nifer o rieni sy'n cynnig eu hunain i fabwysiadu plant duon a lleiafrifoedd ethnig?

Mae'n anodd canfod a yw asiantaethau ac awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn hollol agored i fabwysiadu rhwng yr hiliau. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai gallu'r rhiant neu'r rhieni sy'n mabwysiadu i ddarparu cartref sefydlog a chariadus fod y pryder pennaf wrth ddod o hyd i gartref teuluol parhaol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? Ac, fel yr ydym ni yn hollol briodol yn gwbl agored i gyplau hoyw fabwysiadu, dylem ni hefyd fod yn agored i fabwysiadu plant mewn teuluoedd o ethnigrwydd gwahanol iddynt eu hunain.

Pwynt arall y gallai fod darpar fabwysiadwyr yn ei ystyried yn annymunol yw bod un asiantaeth yn dweud bod yn rhaid i ddarpar fabwysiadwyr fod yn berchnogion cartrefi neu gael tenantiaeth sicr. Rwy'n bryderus bod hyn yn eithrio nifer enfawr o ddarpar fabwysiadwyr. Mae tenantiaethau sicr yn eithaf anodd i ddod o hyd iddyn nhw erbyn hyn yng Nghymru ac mae rhentu yn cynyddu, yn enwedig gyda phrisiau a gofynion blaendal fel y maen nhw. Rydym yn mynd i gael problem enfawr i ddod o hyd i gartrefi cariadus a sefydlog i blant os ydym ni'n eithrio pobl sy'n rhentu o'r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr.

Mae'n ymddangos yn eironi creulon iawn y byddai asiantaeth yn fodlon gadael plentyn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddo symud o gartref maeth i gartref maeth yn rheolaidd neu o gartref gofal i gartref gofal dim ond oherwydd nad yw'r asiantaeth eisiau ei roi mewn teulu y gallai fod angen iddyn nhw symud. Mae symud i dŷ gwahanol yn gam ffisegol, nid yw yr un fath â symud i deulu gwahanol.

Felly, a ydych chi'n fodlon y dylai morgais neu denantiaeth sicr fod yn rhagofyniad ar gyfer mabwysiadu? Os ydych chi, yn hytrach nag atal pobl sy'n rhentu ar sail byrddaliol rhag dod yn rhieni mabwysiadol, oni ddylech chi gyflwyno polisïau i gynyddu hyd y tenantiaethau byrddaliol? Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn cydgysylltu eu gwaith er budd plant a phobl ifanc?

Mae'n galonogol bod byrddau iechyd hefyd yn ystyried cydweithio i'w gwneud hi'n haws cael mewnbwn seicoleg glinigol. Ac fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog sut bydd ef yn dysgu gwersi o'r gwaith hwn, a chyflwyno'r gwersi hynny ledled Cymru. Yn olaf, hoffwn ymuno â'r Gweinidog i ddathlu mabwysiadu. Ac rwy'n gobeithio, y tro nesaf y daw'r Gweinidog i'r lle hwn i roi adroddiad ar fabwysiadu yng Nghymru, y bydd yn gallu adrodd bod y mesurau y mae'n eu gweithredu yn awr, wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn. Diolch.

18:45

Diolch yn fawr iawn, Michelle. Os gallaf ddechrau gyda'r pwynt cyntaf a wnaethoch chi, ar ôl ichi groesawu'r dathliad hwn yr wythnos hon a hyrwyddo mabwysiadu, fe wnaethoch chi sôn am yr her ynghylch beth yw'r canlyniadau yr ydym ni'n eu cael. Cyfeiriais at rai ohonyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, ond rwy'n hapus i egluro: lleolwyd mwy na 300 o blant y llynedd mewn cartref mabwysiadol newydd; cafodd tua 300 o orchmynion mabwysiadu plant eu cyhoeddi; ac mae 350 o blant erbyn hyn gyda'r awdurdod cyfreithiol i gael eu lleoli, sy'n aros i gael eu paru neu eu lleoli gyda theulu newydd ar ddiwedd y flwyddyn. Beth arall? Mae gennym ni fwy na 500 o blant ble mae gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar waith. Mae'r Gwasanaeth Cenedlaethol wedi hwyluso bron i 3,500 o drefniadau cyswllt blwch llythyrau gweithredol. Maen nhw wedi darparu gwasanaeth i fwy na 320 o rieni genedigol, ac ati. Mae'r ffigyrau hynny i gyd yn dangos gwelliant mewn perfformiad, o safbwynt cenedlaethol, fodd bynnag, fel y cyfeiriais o'r blaen, un o'r materion y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw cael cysondeb ledled Cymru, yn yr holl ranbarthau.

Rwy'n credu y gwnaethoch chi hefyd sôn am yr agwedd o gyflymu'r broses—ai dyna oedd eich pwynt?

Dim ond i roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad, mae gennym ni ychydig o ddarnau ymgynghori sy'n fyw ar hyn o bryd ym maes deddfwriaeth fabwysiadu, ac maen nhw'n ymwneud â chyflymu'r broses mewn gwirionedd. Dyna'r cyntaf, sy'n cwmpasu rheoliadau newydd sy'n ofynnol, sy'n deilio o'r rheoliadau risg. Ac mae'r ail yn cynnwys cynnig i gyflwyno system dau gam ar gyfer asesu a chymeradwyo pobl sydd eisiau mabwysiadu, sy'n ymdrin â rhai o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu crybwyll, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar leihau'r amserlen pan gaiff manylion plant a darpar fabwysiadwyr cymeradwy eu hychwanegu at gofrestr Cymru i uchafswm o un mis, a fyddai'n gam mawr ymlaen.

Nid yw llawer o'r pwyntiau a godwyd gennych chi o ran y meini prawf ar gyfer teuluoedd sy'n mabwysiadu mewn gwirionedd wedi eu dwyn i fy sylw fel materion o bwys. Mae hi wedi bod yn fwy ynglŷn â pharu mewn gwirionedd y teulu iawn gyda'r plentyn neu'r person ifanc iawn yn fwy nag unrhyw beth arall; nid yw wedi bod yn fater yn ymwneud â morgeisi, ac ati. Ond byddaf yn edrych ar hynny, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar y mater. Gofynnodd hi pa hyder sydd gennym ni i fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym ni'r hyder hwnnw—un, oherwydd y gwelliant mewn perfformiad y gallwn ni ei weld eisoes, ond hefyd oherwydd bod gennym ni'r Fframwaith Cenedlaethol ar waith, gan fod gennym ni bellach ragolygon cenedlaethol strategol gyda'r gwasanaeth cenedlaethol, ac am fod gennym ni asesiad ar y gweill o beth yr ydym ni yn ei wneud hefyd. Ond byddaf yn hapus i ysgrifennu atoch ar y mater a godwyd gennych chi yn ymwneud â diogelwch deiliadaeth. Dof yn ôl at y pwynt a ddywedais wrth Dai hefyd: mae popeth a wnawn ni yn y maes hwn bob amser gyda'r pwys mwyaf ar les y plentyn, yn gyntaf ac yn bennaf, yn ogystal â pharu gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r mater hwnnw, oherwydd ni ddygwyd ef i fy sylw o'r blaen, ac nid yw wedi codi fel problem, felly byddaf yn ceisio darganfod ai dyna yw'r achos. Os oes gennych chi unrhyw enghreifftiau penodol ble bu hynny yn broblem, byddwn yn hapus pe byddech chi yn eu rhannu â mi hefyd.

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, rwy'n croesawu yn fawr iawn ddatganiad y Gweinidog dros blant yn dathlu wythnos mabwysiadu, a'r bwrlwm o waith arloesol sy'n digwydd nawr ledled Cymru, mewn cartrefi ac yn ein hasiantaethau. Mae'r Gweinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, wedi hyrwyddo ers peth amser yr egwyddor o gydweithio rhwng asiantaethau sy'n bartneriaid inni, fel y pwysleisiwyd yn 'Cymru Iachach'. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cydnabod yn ffurfiol yn y Siambr hon yr arferion arloesol sy'n torri tir newydd yn y maes hwn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ar draws de-ddwyrain Cymru yn arbennig? Mae cydweithrediad rhanbarthol de-ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, wedi gweithio'n strategol gyda'i gilydd i sicrhau bod y gwasanaethau seicoleg glinigol sydd eu hangen ar gael yn rhwyddach. Felly, a fyddai'n cydnabod felly enghreifftiau o ragoriaeth o'r fath o fewn y Fframwaith Cenedlaethol newydd, a sicrhau bod gwaith arloesol o'r fath yn cael ei gydnabod, ei wella a'i atgynhyrchu ar draws Cymru, nid yn unig i blant sydd wedi eu mabwysiadu ar hyn o bryd, ond hefyd ar gyfer plant a gaiff eu mabwysiadu yn y dyfodol a'u teuluoedd gydol oes y mae angen mawr amdanyn nhw?

18:50

Rhianon, ie, diolch yn fawr iawn. Ac, unwaith eto, diolch ichi am eich cefnogaeth i'r maes hwn ac am hyrwyddo mabwysiadu hefyd. Ac yn sicr mae'r de-ddwyrain yn bwrw ymlaen. Ceir enghreifftiau eraill, rhaid imi ddweud, mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ond mae'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn ardal y de-ddwyrain, yn enwedig gyda mynediad i seicoleg glinigol, wedi bod yn torri tir newydd, ac un o'r pethau y bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn edrych i'w gwneud yw gweld sut y gallwn ni wedyn atgynhyrchu hyn yn ehangach ledled Cymru. Oherwydd dyna'r ffordd, yn y math hwnnw o bartneriaeth, dull cydweithredol, strategol, ond drwy gyflwyno arferion gorau a gwneud yr arferion hynny yn gyffredin, y byddwn ni'n gweld gwelliannau gwirioneddol. Oherwydd, yn aml iawn, o ran teuluoedd sy'n mabwysiadu, mae angen iddyn nhw wybod—a bydd yr astudiaethau yn dangos inni, bydd astudiaeth Prifysgol Caerdydd yn dangos inni—bod angen y gefnogaeth gywir ar yr adeg briodol, pan fyddan nhw ei hangen, er mwyn osgoi i bethau waethygu neu gyrraedd pwynt o argyfwng. Felly, mae'r math o waith sy'n digwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn rhywbeth y dylem ni ei hyrwyddo ac yna ceisio gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd ar draws y sector hefyd. Mae gennym ni nawr lawer o'r enghreifftiau hyn o arferion da a chredaf fod llawer o hynny yn cael ei ddatblygu drwy'r Fframwaith Cenedlaethol a thrwy'r gwasanaeth cenedlaethol hefyd. Felly, ie, a phan fydd hi'n gadael y fan yma heddiw rwy'n siŵr y bydd hi—rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hi—yn mynd a gwneud yn siŵr yn ei chyfryngau lleol ac ati ei bod hi'n hyrwyddo'r angen hwnnw am ragor o deuluoedd i gynnig eu hunain. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.