Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

Prosiectau Seilwaith Mawr

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr? OAQ52551

Gwnaf. Mae'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn nodi cynlluniau i fuddsoddi dros £6.5 biliwn mewn seilwaith ledled Cymru yn ystod gweddill y tymor Cynulliad presennol. Mae hynny'n cynnwys ein prosiectau seilwaith blaenllaw, fel buddsoddi mewn 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a metro de Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod gwanwyn 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fwriad Llywodraeth Cymru i ymgymryd â thri chynllun seilwaith mawr gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer eleni. Ac yn ôl gwybodaeth Llywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw werth cyfalaf cyfunol—y tri phrosiect hynny—o £1 biliwn. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol, neu MIM, yn golygu y bydd partneriaid preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid, bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r partner preifat, a fydd yn talu costau adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r prosiect, ac, ar ddiwedd y prosiect, bydd yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff ef amlinellu'r gwahaniaethau allweddol rhwng MIM a'r fenter cyllid preifat, a nodi pa un a fydd cynlluniau eraill yn cael eu defnyddio, gan ddefnyddio'r model MIM, yn y dyfodol, yn ystod y tymor Cynulliad hwn?

Wel, y gwahaniaeth yw bod gwerth am arian ymhlith amcanion craidd MIM. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau meddal, fel glanhau ac arlwyo, sydd wedi arwain at gontractau drud ac anhyblyg yn y model PFI hanesyddol, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio ychwaith ar gyfer ariannu offer cyfalaf. Rydym ni'n buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael rhan o unrhyw elw ar y buddsoddiad. Felly, mae'n wahanol fodel i PFI. Gallaf ddweud y bydd cyfarwyddwr budd y cyhoedd yn cael ei benodi gan y Llywodraeth i reoli cyfranddaliadau cyhoeddus ac i hybu diddordeb y cyhoedd yn ehangach, a bydd y swydd honno'n sicrhau bod tryloywder ynghylch costau a pherfformiad partneriaid preifat.

Prif Weinidog, mae band eang yn rhan allweddol o'n seilwaith economaidd yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu'r gronfa her rhwydweithiau ffibr llawn leol er mwyn cyflwyno'r genhedlaeth nesaf o seilwaith digidol ac i helpu prosiectau o dan arweiniad lleol i ysgogi buddsoddiad masnachol i'r dyfodol ffibr llawn—sef safon aur dibynadwyedd o ran band eang. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion bod Sir Fynwy ac awdurdodau lleol cyfagos Torfaen, Casnewydd, fel rhan o'r ddinas-ranbarth, wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus i'r cynllun hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer datblygu seilwaith band eang yng Nghymru yn cydblethu â llwyddiant ardaloedd fel Sir Fynwy, Torfaen a de-ddwyrain Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar hyn? Dyma'r ardaloedd cyntaf yn y DU i elwa ar y datblygiad newydd hwn. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fanteisio i'r eithaf ar hyn?

Wel, rydym ni'n cymryd rhan fel Llywodraeth yn y prosiectau y mae ef wedi sôn amdanynt. Mae'n adeiladu, wrth gwrs, ar Cyflymu Cymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben o ran dod â band eang i lawer o gymunedau na fyddai'n cael gwasanaeth band eang fel arall pe byddai'n cael ei adael i'r farchnad, oherwydd eu maint. Felly, ein nod yw gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r canlyniadau digidol gorau i'n holl gymunedau.

O ystyried lefel bresennol cyfraddau llog a chyfraddau blwydd-daliadau, byddai rhwymedigaeth gwasanaeth dyled o tua £150 miliwn, dros gyfnod o 30 mlynedd, yn datgloi tua £2.5 biliwn, gan ddefnyddio'r math o ddull ariannu arloesol fel MIM y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato. A ydych chi'n credu bod hynny yn cynnig gwerth am arian, ac, os ydyw, oni ddylem ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol o ran maint y rhaglen buddsoddi cyfalaf i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hanesyddol hwn o gyfraddau llog isel?

Rwy'n cytuno ag ef o ran uchelgais, ond mae'n rhaid ei gymedroli gyda doethineb, wrth gwrs. Gallaf ddweud bod y MIM yn cynnwys y gorau o fodel nad yw'n dosbarthu yr Alban—dyraniad risg optimwm, costio oes gyfan a thaliadau seiliedig ar berfformiad, gan sicrhau bod buddsoddiad newydd yn cael ei ddosbarthu i'r sector preifat, sydd yn fater hynod bwysig wrth gwrs y bu'n rhaid i ni ymdrin ag ef yn y Siambr hon lawer gwaith. Ac felly mae'n ychwanegiad gwirioneddol at fuddsoddiad gan wasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, mae'n wahanol fodel i PFI. Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod cymaint â phosibl o gyllid ar gael drwy'r cynllun, ond mae'n rhaid i ni bob amser roi sylw i fforddiadwyedd ein huchelgais ar gyfer Cymru.

Cwmnïau Technoleg yn Ne-ddwyrain Cymru

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau technoleg yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52563

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cydnabod pwysigrwydd technoleg i fod yn barod ar gyfer y dyfodol a chynnal gallu ein heconomi i gystadlu. Bydd ein galwadau i weithredu, gyda phwyslais ar ddigideiddio, awtomatiaeth ac arloesedd, yn golygu y byddwn yn meithrin yr amodau a fydd yn galluogi busnesau technoleg ledled Cymru i ffynnu.

13:35

Diolch, Prif Weinidog. Ddydd Gwener, ymwelais ag Innovation Point, cwmni arloesedd digidol yng Nghasnewydd sy'n helpu i ddarparu arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiadau i gwmnïau technoleg bychain. Eu gŵyl ddigidol ryngwladol flynyddol yw'r digwyddiad technoleg mwyaf yng Nghymru. Mae Innovation Point wedi denu llawer o gwmnïau i Gymru, ac mae busnesau fel hyn yn hanfodol i gynnal twf a sefydlu ein henw da am fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu cwmnïau technoleg bach a chanolig eu maint yng Nghasnewydd a'r rhanbarth, fel y gallwn ni achub ar y cyfleoedd i ddenu mwy o fuddsoddiad a sicrhau bod de-ddwyrain Cymru yn cynnal ei le fel canolfan ddigidol?

Yn gyntaf oll, wrth gwrs, bydd bargen prifddinas-ranbarth Caerdydd yn helpu i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer busnesau digidol. Rydym ni wedi darparu gwerth £25 miliwn o gyllid i'r Sefydliad Technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd, ynghyd â buddsoddiad arall o £38 miliwn gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac, wrth gwrs, academi meddalwedd genedlaethol gyntaf y DU, academi seiberddiogelwch genedlaethol newydd, ac wrth gwrs, fel y dywedodd yr Aelod, Innovation Point.

Cyhoeddwyd gennym yn 2017 y byddwn yn buddsoddi £100 miliwn mewn rhaglen dechnoleg yn y Cymoedd dros 10 mlynedd i gynorthwyo creu mwy na 1,500 o swyddi, ac, yn wir, ddau fis yn ôl, ym mis Mai, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddem yn buddsoddi £25 miliwn ychwanegol yn rhaglen dechnoleg y cymoedd dros y tair blynedd nesaf yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw.

Ymwelais â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd yn ddiweddar, sef elusen addysgol sydd â chenhadaeth i hyfforddi a mentora graddedigion i greu'r genhedlaeth nesaf o gwmnïau uwch-dechnoleg yng Nghymru trwy ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i redeg cwmni technoleg newydd proffidiol. Mae hefyd yn cefnogi busnesau trwy herio ei raddedigion i ddatrys problemau ymarferol a ddaw'n uniongyrchol o'r cwmnïau eu hunain. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Dr Wil Williams a'i dîm, a'r cymwynaswyr preifat sy'n helpu i ariannu'r elusen hon ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid sydd â'r sgiliau sydd eu hangen i redeg y cwmnïau a fydd yn darparu'r swyddi y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol yng Nghymru? Diolch.

Gwnaf, mi wnaf ymuno ag ef yn hynny o beth. Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig y rhoddir cyngor i unigolion sydd â syniadau gwych ond sydd angen cyngor ar sut i redeg busnes, sut i fod yn entrepreneuriaid. Mae gallu cael y cyngor hwnnw yn werthfawr dros ben iddyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ardaloedd o Gymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ddiagnosis canser cyfnod hwyr?

Mae hynny'n rhywbeth y byddai'n rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod yn ei gylch, ond rydym ni yn gwybod, cyn belled ag y mae'r targedau yn y cwestiwn yng Nghymru, bod ein ffigurau'n cymharu'n dda iawn.

Cyfoethog neu dlawd, gwledig neu drefol, dyn neu fenyw, mae canser yn glefyd nad yw'n gwahaniaethu, ac eto mae diagnosis yn gwbl i'r gwrthwyneb. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Macmillan yn dangos bod diagnosis canser yn y wlad hon yn parhau i fod yn loteri cod post, ac mae ein cymunedau tlotaf yn wynebu diagnosis cyfnod diweddarach yn gyson. Pan fo'r cyfnod yn cael ei gofnodi, cafodd mwy nag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ganser yn ei gyfnod hwyraf, sef cyfnod 4. Nid yn unig y mae hyn yn annerbyniol yng nghyd-destun y ffaith mai ein cyfraddau ni yw'r gwaethaf o unrhyw wlad yn y DU, nid yw'n dderbyniol o gwbl. O ran rhai mathau o ganser, mae'r amser aros rhwng amau i gychwyn bod rhywbeth o'i le a diagnosis yr hwyaf yn Ewrop. Rydym ni i gyd yn gwybod bod dal canser yn gynnar yn achub bywydau. Prif Weinidog, gallwch chi achub bywydau. A wnewch chi ymrwymo i bennu a glynu at darged diagnosis canser 28 diwrnod i bawb fel y gallwn ni ddal canser yn gynnar?

Yr hyn y mae meddygon yn ei ddweud wrthyf yw na ellir gwneud hynny ar gyfer pob math o ganser—ei bod hi weithiau'n cymryd mwy o amser i gael diagnosis o rai mathau o ganser. Nawr, mae hi'n gwneud y pwynt ei bod hi'n hynod bwysig, er enghraifft, i bobl gael eu hannog i gysylltu'n gynnar, a hefyd, wrth gwrs, i feddygon teulu gyfeirio pobl yn gynnar ar y llwybr. Rydym ni'n gwybod bod mwyafrif llethol y cleifion canser yng Nghymru yn dechrau eu triniaeth o fewn amseroedd targed. Rydym ni'n gwybod bod nifer yr achosion o ganser yn parhau i gynyddu, a bod triniaeth yn cynyddu o ran cymhlethdod. Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer amheuaeth o ganser y mae angen ymchwilio iddi wedi codi mwy na 36,000 dros gyfnod o bum mlynedd i tua 96,000 o atgyfeiriadau y flwyddyn, sy'n newyddion da yn rhannol o leiaf rwy'n credu, gan ei fod yn golygu bod pobl yn cael eu cyfeirio ymlaen yn gyflymach. Rwy'n ni'n gwybod, wrth gwrs, bod 85.5 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy'r llwybr canser tybiedig brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn yr amser targed o 62 diwrnod, a bod 97 y cant o'r rheini a gafodd ddiagnosis nad oedd drwy'r llwybr brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn eu hamser targed o 31 diwrnod.

13:40

Felly, rydych chi'n sôn am driniaeth ac rwyf i'n eich holi am ddiagnosis. Mae Cancer Research UK wedi ei hyrwyddo, mae clinigwyr yn galw amdano, mae Lloegr yn ei wneud, ac eto, Prif Weinidog, rydych chi'n parhau i ddadlau gyda'r arbenigwyr. Rydych chi'n gwrthod targedau 28 diwrnod nid er lles y cleifion, ond er lles eich cysylltiadau cyhoeddus eich hun. Ni fyddwch yn cyrraedd y targedau hynny ac ni fyddwch yn diwallu anghenion y cleifion hynny.

Prif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn eglur: mae pobl mewn ardaloedd tlotach yn cael diagnosis yn hwyrach. Mae data Macmillan data yn dangos bod diagnosis cam 4 yn ein hardaloedd tlotaf hyd at 9 y cant yn uwch o'u cymharu â'u cymdogion cyfoethocach. Ni allwch chi fforddio bod yn dlawd ac yn sâl yng Nghymru y Blaid Lafur. Gallai ymgyrch wybodaeth, mynediad mwy parod at feddygon teulu a gwasanaethau diagnosis newid hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo i greu gwasanaethau diagnosis canser hygyrch ym mhob rhan o Gymru fel nad yw eich diagnosis o ganser yn cael ei adael yn rhy hwyr, pa un a ydych chi'n gyfoethog neu'n dlawd?

Fel rhywun sydd yn briod â rhywun sy'n gweithio i Macmillan, rwy'n cael fy lobïo yn feunyddiol o ran y ffordd yr ymdrinnir â chanser yng Nghymru. A gallaf ddweud nad oes unrhyw dystiolaeth glinigol o gwbl i awgrymu y byddai targed o 28 diwrnod yn gweithio. O ble mae hwnnw wedi dod? Ble mae'r dystiolaeth glinigol i ddweud bod 28 diwrnod yn rhyw fath o ffigur euraid? Mae gwleidyddion wrth eu boddau â'r ffigurau hyn, ond, mewn gwirionedd, nid wyf i'n gweld unrhyw dystiolaeth glinigol ar gyfer hynny.

Ceir materion—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw bwynt gweiddi. Os gwnaethoch chi ofyn y cwestiwn, mi wnaf i ateb y cwestiwn i chi nawr.

Rhan o'r broblem yw amharodrwydd mewn rhai ardaloedd i bobl ddod ymlaen yn gynnar, ac nid yw hynny'n helpu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr holl feddygon teulu yn atgyfeirio cyn gynted â phosibl, gan fod mynediad at driniaeth yr un fath i bawb. Mae'n fater syml o annog pobl i ddod ymlaen mor gynnar â phosibl ac i feddygon teulu atgyfeirio mor gyflym â phosibl. Ac mae hynny'n rhywbeth sy'n hynod bwysig o ran yr ymgyrchoedd yr ydym ni wedi eu cynnal o ran codi ymwybyddiaeth o wahanol fathau o ganser, gan ein bod ni'n gwybod os gofynnir i bobl wirio eu symptomau, maen nhw'n fwy tebygol o gysylltu'n gynnar, a dyna'r ffordd o wneud yn siŵr bod mwy o bobl nid yn unig yn cael eu gwella o ganser, ond sy'n byw gyda chanser, gan wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r gwahanol fathau o ganser a'u symptomau. A dyna'n union yw'r gwaith y mae Macmillan yn ei wneud. Rhan o'u gwaith yw codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ganserau a darparu tystiolaeth i bobl. Byddan nhw yn y Sioe Frenhinol. Un o'r themâu y bu ganddynt yn y Sioe Frenhinol fu ymdrin â chanser y croen, melanoma, yn enwedig gyda sioe a gynhelir yn yr haf, ac maen nhw’n canolbwyntio'n gryf iawn, iawn ar bobl yn canfod canser yn gynnar eu hunain, neu'r hyn a allai fod yn symptomau o ganser, fel y gallan nhw gysylltu ac, yna, wrth gwrs, gallan nhw gael gwell canlyniad.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan archwilydd annibynnol, Donna Ockenden, yr wythnos diwethaf ddarlun brawychus o'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y gogledd. Dangosodd yr adroddiad damniol bod arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd wedi bod yn gwbl amhriodol ac yn sylweddol ddiffygiol ers ei greu, a bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ddifrifol brin o staff ar adeg pan roedd nifer y cleifion ac aciwtedd yn cynyddu. Prif Weinidog, a oes gennych chi gywilydd o reolaeth eich Llywodraeth o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Wel, bydd datganiad ar hyn yn ddiweddarach ar yr agenda y prynhawn yma. Yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw bod hwn yn adroddiad anodd. Tynnodd yr adroddiad sylw at feysydd o gynnydd yng nghyflwyniad y bwrdd yr wythnos diwethaf. Mae gan PBC wahanol dîm arweinyddiaeth gweithredol erbyn hyn. Ers 2016, penodwyd prif weithredwr newydd, saith swyddog gweithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr meddygol a chyfarwyddwr nyrsio a chyfarwyddwr iechyd meddwl newydd, i arwain ar y gwelliannau sydd eu hangen. Bydd cadeirydd newydd yn dechrau yn ei swydd yn fuan. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Bydd, fel y dywedaf, yn gwneud datganiad llafar ar yr adolygiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ac mae wedi bod yn eglur ynghylch yr hyn y mae'n ei ddisgwyl gan y bwrdd.

Prif Weinidog, dylai fod arnoch gywilydd o'r ffordd yr ydych chi wedi rhedeg y bwrdd iechyd hwn mewn gwirionedd. Bydd yn dair blynedd yn ôl yr haf hwn pan wnaeth Llywodraeth Cymru fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, ac mae adroddiad Ockenden wedi dangos, dros y cyfnod hwnnw, bod y cynnydd wedi bod yn araf ac nad oes gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud eto. Yn syml, nid yw gwersi wedi cael eu dysgu a bydd pobl yn y gogledd yn teimlo gwylltineb a dicter, a hynny'n briodol, at y diffyg cynnydd dros y tair blynedd diwethaf o ran mynd i'r afael â'r methiannau difrifol hyn. Mae hwn yn fwrdd iechyd nad yw ond yn wyth oed, ac mae wedi bod yn destun mesurau arbennig am dair o'r blynyddoedd hynny. Cyfrifoldeb eich Llywodraeth chi yw rhedeg y bwrdd iechyd hwn. Chi sy'n gyfrifol. Mae eich Ysgrifennydd Cabinet yn atebol i chi am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei wneud i wneud yn siŵr ei fod yn clirio'r llanastr hwn a sut ydych chi'n rheoli perfformiad yr Ysgrifennydd dros iechyd i wneud yn siŵr ei fod yn gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Mae'n amlwg nad oes gennych chi unrhyw dargedau ar gyfer gwella'r bwrdd iechyd. A ydych chi wedi pennu unrhyw dargedau ar gyfer eich Ysgrifennydd dros iechyd?

13:45

Gallaf ddweud y comisiynwyd Donna Ockenden gan PBC yn 2015 i adolygu'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion yn Betsi Cadwaladr. Cyflwynodd ei chanfyddiadau i'r bwrdd ar 12 Gorffennaf. Mae'r adroddiad oddeutu 500 o dudalennau o hyd, ac mae'r grynodeb weithredol yn unig yn 50 o dudalennau. Tybed a yw ef wedi darllen yr adroddiad hwnnw. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd ag adroddiadau blaenorol. Mewn llawer o achosion, mae'n grynodeb o adolygiadau blaenorol ers 2009. Yr hyn sy'n hynod bwysig, gan fod gennym ni'r adroddiad hwnnw erbyn hyn, yw y gallwn ni adeiladu ar yr adroddiad hwnnw nawr, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei amlinellu y prynhawn yma, a nawr ein bod ni'n gwybod beth yw'r heriau, gallwn ymateb i'r heriau hynny.

Yn amlwg, mae eich Ysgrifennydd y Cabinet wedi methu pan ddaw i fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hanes Llywodraeth Cymru o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn siarad drosto'i hunan. Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi, Prif Weinidog: bu Margaret Megan Evans, sy'n 93 mlwydd oed, yn aros ar lwybr concrit am fwy na thair awr ar ôl cwympo a thorri ei chlun, ac wedyn ni chafodd ei gweld gan feddyg yn yr adran achosion brys tan bron i 11 awr ar ôl gofyn gyntaf am gymorth; bu Ester Wood, a oedd yn 46 mlwydd oed, yn aros pum awr mewn ambiwlans cyn cael ei derbyn i'r ysbyty, lle bu hi farw wedyn; bu farw Neville Welton, a oedd yn 78 mlwydd oed, ar ôl oedi ei driniaeth oherwydd capasiti, staffio, camgymeriadau gweinyddol a phroblemau llif cleifion. Prif Weinidog, mae'r rhain yn bobl go iawn. Cyhoeddwyd rhybuddion fod bywydau yn parhau i fod mewn perygl gan swyddfa'r crwner yn dilyn marwolaethau mewn ysbytai, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, derbyniodd y bwrdd iechyd 294 hawliad newydd ar sail anaf personol neu esgeulustod clinigol neu feddygol. Mae'n amlwg bod diwylliant o wadu, amddiffyn a diystyru wrth wraidd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a'ch Llywodraeth chi. Prif Weinidog, pryd wnaiff eich Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am y catalog o fethiannau mewn gofal ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo fod yn destun mesurau arbennig? A wnewch chi ymddiheuro nawr i bobl y gogledd am y traed moch o system y mae eich Llywodraeth wedi bod yn gyfrifol amdani ac am y diffyg atebolrwydd wrth ymdrin â'r gwasanaethau hyn?

Mae hyn yn cyferbynnu, onid yw, â'r ffordd y mae ei blaid ef yn ymdrin â phethau yn Lloegr, lle os oes mater fel Gosport, mae'r bai bob amser—[Torri ar draws.] Mae'r bai bob amser—[Torri ar draws.] Gwn mai'r gystadleuaeth i fod yn arweinydd yw hyn, ond efallai yr hoffai i mi ateb y cwestiwn.

Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, os gwelwch yn dda. Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb.

Mae'r bai am yr holl bethau hyn yn cael ei roi ar y byrddau iechyd; nid yw byth yn fai ar Lywodraeth y DU. Rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig. Dyma'r adroddiad y byddwn ni'n ei ddefnyddio i greu'r gwelliant hwnnw. Rydym ni'n arallgyfeirio ac yn neilltuo adnoddau i faes iechyd yn y ffordd orau y gallwn, er gwaethaf y cyni cyllidol—[Torri ar draws.] Wel, gallan nhw gwyno amdano, ond mae er gwaethaf y cyni cyllidol a gyflwynwyd gan ei blaid ef. Pe byddai'n sefyll ar ei draed ac yn galw am yr un peth i Gymru ag y mae ei blaid wedi ei roi i Ogledd Iwerddon, byddai ganddo fwy o hygrededd yn y dadleuon y mae'n eu cyflwyno. Fel y dywedaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar hyn y prynhawn yma. Mae'n bryd iddo ef a'i blaid ymddiheuro am flingo pobl Cymru dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael y swydd wedi bod yn feirniadol iawn—[Torri ar draws.]

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael ei swydd wedi bod yn feirniadol iawn o anallu sector cyhoeddus Cymru i addasu i gyllidebau llai. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Huw Vaughan Thomas y gallai gwasanaethau cyhoeddus fod yn diwygio er gwell, ond eu hunig ymateb i gyni cyllidol fu torri costau. Dywedodd hefyd ei fod yn rhwystredig nad yw datganoli wedi arwain at ailystyriaeth sylfaenol o sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y gwir amdani yw, ni waeth pwy sydd mewn grym yn San Steffan, ni fyddwn yn gweld cynnydd enfawr i wariant cyhoeddus gan fod y DU bron i £2 triliwn mewn dyled erbyn hyn, sy'n cyfateb i tua 85 y cant o gynnyrch domestig gros. Ni allwn fenthyg ein hunain allan o'r llanastr hwn, felly mae'n rhaid i ni wario yn fwy doeth. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r Archwilydd Cyffredinol sydd ar fin gadael ei swydd ein bod ni angen ailystyriaeth radical ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

13:50

Rydym ni bob amser yn ceisio rhoi'r system orau y gallwn ni ar waith ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, fe wnaethom ni gymryd tri chorff a noddwyd gan Lywodraeth Cymru a'u troi nhw'n un—Cyfoeth Naturiol Cymru—a lleihawyd nifer y cyrff sy'n darparu iechyd i wneud yn siŵr bod llai o sefydliadau yr oedd yn rhaid i bobl fod mewn cysylltiad â nhw. Y gwir amdani yw hyn: rydym ni wedi diogelu cyllideb gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ariennir Llywodraeth Leol yng Nghymru yn llawer gwell na'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Nid ydym ni wedi gweld y dinistriad o wasanaethau cymdeithasol sy'n digwydd o dan Lywodraeth Dorïaidd yn Lloegr. Rydym ni wedi cyfrannu adnoddau at ofal cymdeithasol ac iechyd. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi cyfrannu adnoddau at addysg. Rydym ni wedi gweld y toriad i gyllid addysg a welsom yn Lloegr yr wythnos diwethaf, lle mae ysgolion wedi eu hamddifadu o arian gan Lywodraeth Geidwadol. Pam mae hyn yn berthnasol? Oherwydd pe bydden nhw mewn grym, bydden nhw'n gwneud yn union yr un fath yng Nghymru—yn union yr un fath yng Nghymru. Rydym ni wedi ymladd yn erbyn y cyni cyllidol y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei groesawu yng Nghymru, ac rydym ni'n gwybod beth fyddai'n digwydd i'n pobl hŷn, i'n pobl ifanc, i ysgolion, i ysbytai ac i wasanaethau cymdeithasol pe bydden nhw fyth—Duw a'n gwaredo—yn cael eu dwylo ar rym.

Rwy'n cytuno a'r cyn Archwilydd Cyffredinol mai cyni cyllidol yw'r her fwyaf sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r cynnydd mewn galw. Mae'r gwasanaethau hyn yn wynebu pwysau anhygoel. Tra bod gwariant y GIG wedi parhau i gynyddu, mae toriadau awdurdodau lleol yn effeithio ar ofal cymdeithasol, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ofal iechyd. Rydym ni'n gwario mwy y pen ar iechyd nag y maen nhw yn Lloegr, ac eto mae'n rhaid i ni aros yn hwy am apwyntiadau ac yn hwy am driniaeth. Felly, Prif Weinidog, bydd cynllun hirdymor eich Llywodraeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ein helpu i baratoi ar gyfer heriau yn y dyfodol, ond beth am nawr? Sut ydym ni'n ymateb i heriau heddiw? Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn fwy radical am sut y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, gyda phwyslais ar ganlyniadau yn hytrach na strwythurau. Felly, Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn canolbwyntio'n ormodol ar strwythurau yn hytrach na chanlyniadau?

Nac ydy, oherwydd, er enghraifft, ym maes iechyd, byddai hynny'n golygu y byddem ni'n edrych ar ad-drefniad arall eto, ac nid yw hynny'n rhywbeth a fyddai'n achosi sefydlogrwydd yn y gwasanaeth iechyd. Mae'n ymwneud ag adnoddau, mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ni ddyrannu cymaint o adnoddau ag y gallwn i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, ond mae'n dasg hynod anodd yng nghyd-destun y cyni cyllidol yr ydym ni'n ei wynebu a'r hyn yr ydym ni wedi ei wynebu dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Diolch, Prif Weinidog. Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod adroddiad comisiwn Williams yn nodi'n eglur natur problemau systemig y mae angen eu datrys. Ychwanegodd ei fod yn canfod ei fod yn rhwystredig ac yn gynyddol bryderus nad yw llawer o'r galwadau rhybudd eglur i weithredu y mae Cymru wedi eu clywed dros y degawd diwethaf wedi creu'r newidiadau gwirioneddol sydd eu hangen ar frys bellach, ac nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle ar gyfer ailystyriaethau sylfaenol. Felly, Prif Weinidog, a oes diffyg ewyllys gan eich Llywodraeth i wneud yr hyn sydd ei angen i sbarduno newid yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, neu a ydych chi wir yn credu bod y newidiadau a gynigir gan gomisiwn Williams ac eraill yn ddiangen? Diolch.

Nid wyf i'n siŵr a yw'n bolisi UKIP erbyn hyn i gefnogi'r hyn a oedd yng nghomisiwn Williams o ran diwygio llywodraeth leol. Os yw hynny'n wir, yna mae hynny'n ddiddorol. Rydym ni wedi gweld sefyllfa yng Nghymru lle'r ydym ni wedi gweld datblygiad consortia, er enghraifft, ym maes addysg, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwell o lawer ar gyfer addysg nad oedd yn wir yn y gorffennol. Ar un adeg, roedd gennym ni chwe awdurdod lleol yn destun mesurau arbennig ac roedd gennym ni un awdurdod lleol a chwalodd yn llwyr yn Ynys Môn—rydym ni'n bell o fod yn y sefyllfa honno. Felly, rydym ni wedi gweithio i wneud yn siŵr bod ein hawdurdodau lleol wedi dod yn fwy cynaliadwy. Ceir heriau o hyd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn y dyfodol, a dyna pryd, wrth gwrs, bydd hi'n ddiddorol clywed barn y pleidiau eraill o ran beth ddylai strwythur gwasanaethau cyhoeddus fod yn y dyfodol, yn hytrach na dweud yn syml, 'Wel, nid ydym ni'n hoffi hyn.' Beth yw barn y pleidiau eraill? Gadewch i ni weld a oes consensws—rydym ni wedi cael yr arolwg seneddol ar iechyd—o ran sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gael eu strwythuro yn y dyfodol.

Tagfeydd Traffig yng Nghanol De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thagfeydd traffig yng Nghanol De Cymru? OAQ52520

Mae'r metro yn un enghraifft amlwg o sut y mae hynny'n cael ei wneud. Mae gennym ni ein rhaglen pwyntiau cyfyng hefyd a'r gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yr wyf i wedi eu crybwyll eisoes, ac rydym ni'n cynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion lleol allweddol.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn gwybod eich bod yn gwneud tagfeydd traffig yn waeth yng Nghaerdydd yn hytrach na mynd i'r afael â nhw. Mae miloedd o dai yn cael eu taflu i fyny nawr—nawr—ar hyd Heol Llantrisant, er enghraifft, yng ngorllewin y ddinas, lle nad oes ond ffordd gerbydau sengl. Mae'r metro ar ryw adeg yn y dyfodol. Rydych chi hefyd yn bwriadu adeiladu traffordd, pan allwch chi wneud penderfyniad, ond bydd y traffig hwnnw'n symud i ffyrdd lleol wedyn. Nawr, yn y rhanbarth hwn, yn y ddinas hon, yn enwedig yn y gorllewin ar hyd Heol Llantrisant, mae tagfeydd traffig eisoes yn para milltiroedd. Nid oes metro ar waith, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar waith, nid oes unrhyw gynllun gwirioneddol pan fyddwch chi'n siarad â datblygwyr. Felly, fy nghwestiwn i yw: beth mae etholwyr i fod i'w wneud, a pha gyngor sydd gennych chi i'r bobl hynny sy'n cael eu dal am oriau ac oriau ac oriau mewn tagfeydd? A byddwn yn ei werthfawrogi, y tro hwn, pe byddech chi'n cymryd ychydig bach o ofal a rhoi sylw i'r cwestiwn mewn gwirionedd: beth mae fy etholwyr i fod i'w wneud?

13:55

Wel, rwy'n disgwyl—. Yn gyntaf oll, mater i Gyngor Caerdydd yw'r mater o ddatblygiad, nid i Lywodraeth Cymru. Yn ail, rydym yn disgwyl i gynghorau roi cynlluniau ar waith ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy, yn enwedig ar gyfer teithio llesol. Nodaf fwriad cyngor Caerdydd, er enghraifft, i ystyried pum traffordd feicio, yr wyf yn credu sy'n syniad rhagorol i'r ddinas. Mae'n iawn i ddweud na allwn ni barhau i adeiladu tai heb gael cynllun trafnidiaeth gweithredol sy'n cefnogi'r datblygiadau hynny; ni allwn ddibynnu ar y ffyrdd yng Nghaerdydd am byth i gludo'r traffig. Ond mae'r rhain yn faterion y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y broses gynllunio.

Mae tagfeydd yn digwydd ar draws Canol De Cymru gyfan. Ddim yn rhy bell o'r Siambr hon, ceir pentref Dinas Powys, y pentref mwyaf yng Nghymru. Ar un ochr mae gennych chi y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru, ac mae'r brifddinas yr ochr arall iddo. Ers tua 40 mlynedd, bu ymgyrch i gael adeiladu ffordd osgoi o gwmpas pentref Dinas Powys ac mae ymgyrchoedd olynol, yn anffodus, wedi methu. A ydych chi'n uniaethu â'r problemau yn ymwneud â thagfeydd ym mhentref Dinas Powys, a'r malltod y mae'n ei achosi i fywydau pobl yno, gyda llygredd aer a sŵn yn arbennig, lle mae'r ffordd honno yn mynd heibio nifer o ysgolion—ysgolion cynradd, dylwn ychwanegu—ac a wnewch chi nodi hyn fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i fwrw ymlaen â'r cynlluniau sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd?

Mater i Gyngor Bro Morgannwg yw hwn yn bennaf, wrth gwrs, ond dyfarnwyd cyllid o £20,000 gennym yn 2016-17 ac £80,000 yn 2017-18 i'r cyngor tuag at astudiaeth yn ystyried y dewisiadau ar gyfer datrys tagfeydd traffig yn Ninas Powys. Ymestynnwyd cwmpas y gwaith hwnnw ym mis Ebrill 2018, a deallaf fod Cyngor Bro Morgannwg yn ariannu gwaith ychwanegol. Bwriedir cynnal ymgynghoriad ar y cam nesaf yn ystod y mis Medi hwn—mis Medi 2018.

A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod y cynlluniau metro ar gyfer dwy orsaf newydd yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd—Gabalfa/Ystum Taf yn un ohonynt, a bydd y llall yng nghanol adeilad newydd canolfan ganser Felindre—y bydd y rhain yn lleddfu tagfeydd traffig yn ninas Caerdydd?

Ydw, mi ydwyf. Rwy'n credu ei fod yn eithriadol o bwysig—. Nid oes unrhyw fodd y gall canol dinas Caerdydd gynllunio ei ffordd allan o dagfeydd traffig drwy ffyrdd yn unig; mae hynny'n amlwg ynddo'i hun. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni'n gwneud y buddsoddiad yn y metro. Yr hyn sy'n bwysig am y metro yw'r gallu i'w ymestyn, fel y gellir agor gorsafoedd newydd yn y dyfodol gyda rheilffyrdd ysgafn i gynnig dewisiadau amgen gwell na'r rheini sydd gan bobl ar hyn o bryd o ran trafnidiaeth gyhoeddus, pa un a ydyn nhw yn rheilffyrdd ysgafn, pa un a ydyn nhw yn fysiau, pa un a ydyn nhw yn rheilffyrdd trwm. Ac, wrth gwrs, mae angen ei gwneud yn haws i bobl feicio. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i nad yw cyfran sylweddol o feicwyr—ac eithrio'r selogion, a gwn fod gennym ni rai yn y Siambr hon—yn teimlo'n gyfforddus ynghylch rhannu'r ffordd gyda cherbydau trwm. Felly, rwy'n credu bod unrhyw beth y gellir ei wneud i'w gwneud yn haws i bobl feicio i'r gwaith ar briffyrdd ar wahân ar gyfer beiciau yn rhywbeth i'w groesawu.

Yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau? OAQ52540

Fy uchelgais i yw bod yr adolygiad yn darparu'r newid sydd ei angen i Gymru ddod yn arweinydd byd o ran hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwn fod arweinydd y tŷ wedi diweddaru'r Aelodau yn ddiweddar ar gam cyntaf yr adolygiad. Bydd cam 2 yn darparu rhaglen gynhwysfawr o gamau gweithredu i fwrw ymlaen â nhw.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar fenywod gennym, gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, rhwydwaith aelodaeth o dros 1,000 o sefydliadau ac unigolion yn gweithio i hyrwyddo hawliau menywod ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Mae dirprwyaeth y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn cyflwyno eu hadroddiad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod i bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yr wythnos hon, gan ofyn amrywiaeth o gwestiynau i Lywodraethau'r DU a Chymru am gydraddoldeb rhwng y rhywiau. A wnewch chi gytuno i gyfarfod â'r ddirprwyaeth i ymateb i'w hadroddiad, sy'n cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu confensiwn Istanbul ac egwyddorion CEDAW yn ffurfiol i ddarparu safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw ynddo?

Gwnaf, byddaf yn gallu cyfarfod â'r ddirprwyaeth i drafod yr adroddiad. Byddwn, wrth gwrs, yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad yn ystod archwiliad y Cenhedloedd Unedig ar y confensiwn ar ddileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. A gaf i awgrymu hefyd bod arweinydd y tŷ a'r cynghorwyr cenedlaethol a ddaeth i'r Cabinet yn ddiweddar yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod â'r ddirprwyaeth hefyd?

14:00

Prif Weinidog, mae eich bwriadau eich hun tuag at greu Llywodraeth o unigolion cyfartal yn cael eu tanseilio yn anffodus gan ffigurau sy'n ei gwneud yn eglur bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru, ar gyfer eich staff eich hun, wedi cynyddu yn ddiweddar. Canfu'r adroddiad cydraddoldeb cyflogwr blynyddol yn gynharach eleni bod y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru wedi cynyddu mewn gwirionedd yn 2017 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ar gyfartaledd, mae dynion yn ennill mwy na menywod ar bob un gradd cyflog, o'r tîm cymorth i'r uwch wasanaeth sifil. Hefyd, ceir mwy o ddynion na menywod ym mhob un o'r tair gradd cyflog uchaf ac roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn sylfaenol cyfartalog i ddynion yn fwy na £3,000 yn uwch nag ar gyfer menywod. O ystyried bod cymaint o anghydraddoldeb ac annhegwch yn eich adrannau Llywodraeth eich hun, onid ydych chi'n credu nawr ei bod hi'n bryd dilyn eich esiampl eich hun a cheisio arwain yn well drwy esiampl—mewn geiriau eraill, Prif Weinidog, drwy roi trefn ar eich sefydliad eich hun?

Wel, 8 y cant yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Nid yw'n ddim i frolio amdano, wrth gwrs, ond mae'n well na'r bwlch cyflog sy'n bodoli yn Whitehall—[Torri ar draws.]

Beth ar y ddaear sy'n bod ar gymharu'r sefyllfa yng Nghymru â'r sefyllfa sydd mor gywilyddus gyda'r Ceidwadwyr yn Lloegr? [Torri ar draws.]

Mae'r Prif Weinidog yn ateb y cwestiwn, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] A wnewch chi ganiatáu i'r Prif Weinidog barhau â'i ateb.

Diolch, Llywydd. Rydym ni'n cydnabod nad yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da. Mae'n deg i ddweud mai dynion sydd yn y rhan fwyaf o'r swyddi â chyflogau uwch ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth yn ei gallu i leihau'r bwlch cyflog. Menywod sydd mewn 40 y cant o swyddi gwasanaeth sifil uwch yn Llywodraeth Cymru. Nawr, wrth gwrs, nid yw trefniadau cyflog staff uwch o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, nid ydyn nhw wedi eu datganoli, ond ceir ymrwymiad ar ein rhan ni i sicrhau cynrychiolaeth 50:50 ar draws y gwasanaeth sifil uwch erbyn 2020.

Felly, pa fesurau sy'n cael eu cymryd? Wel, mae camau'n cael eu cymryd i ddenu mwy o fenywod i swyddi uwch; mae hyn yn cynnwys cymorth i fenywod sy'n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, sicrhau bod hysbysebion swyddi yn gynhwysol, cynnig cyrsiau datblygu i fenywod a chael dim rhestrau byr dynion yn unig mewn ymarferion recriwtio. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wasanaeth meincnodi cyflogwyr Chwarae Teg, a bydd hynny'n helpu i adolygu arferion presennol a datblygu'r cynllun gweithredu ar gyfer newidiadau pellach.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadawladr

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadawladr? OAQ52565

Rŷm ni wedi amlinellu disgwyliadau a cherrig milltir clir ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn ysgogi gwelliannau a gweithredu’r argymhellion a wnaed mewn adroddiadau allweddol yn ystod y 18 mis nesaf. Mae cadeirydd newydd wedi’i benodi ac mae cymorth mwy dwys yn cael ei roi i gyflymu’r gwelliannau er budd poblogaeth y gogledd.

Dyma'r un ateb rydw i wedi bod yn ei gael ers pum mlynedd o ofyn yr un cwestiwn, i bob pwrpas, ac rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at adroddiad damniol arall sydd wedi cael ei gyhoeddi nawr yn ddiweddar. Mae e, wrth gwrs, yn anghenfil o fwrdd iechyd, onid yw e; y corff cyhoeddus mwyaf, yn sicr y bwrdd iechyd mwyaf, sydd gennym ni yng Nghymru. Ond dros y tair blynedd diwethaf mae e wedi bod mewn mesurau arbennig ac felly mae e wedi bod yn uniongyrchol atebol i'ch Llywodraeth chi, yn uniongyrchol o dan arolygiaeth eich Ysgrifennydd Cabinet iechyd chi, ac felly mae'r buck yn stopo yn uniongyrchol gyda'ch Llywodraeth chi. Ni allwch chi ddim gwadu hynny. Dywedwch wrthym ni, faint yn rhagor o adroddiadau damniol a faint yn rhagor o sgandalau sydd eu hangen cyn i chi dderbyn bod y sefyllfa fel ag y mae hi yn anghynaliadwy a'i bod hi'n amser am newid a bod yn rhaid edrych eto nawr ar strwythurau delifro gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? 

Nid ydw i'n meddwl y byddai newid strwythur yn gwneud gwahaniaeth. Beth sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yw cael adroddiadau a sicrhau bod yna weithredu ar yr adroddiadau hynny. Pe bai dim byd yn digwydd ar ôl yr adroddiad, byddai'r feirniadaeth yn eithaf teg yn fy marn i. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n deall beth yw'r heriau cyn cyrraedd yr heriau hynny. Beth sydd wedi digwydd sy'n bositif yn Betsi Cadwaladr? Mae'r strategaeth iechyd meddwl wedi cael ei datblygu gyda phartneriaid a hefyd defnyddwyr gwasanaeth. Mae yna fwy o ffocws ar ansawdd a phrofiadau cleifion. Rŷm ni wedi gweld, wrth gwrs, gwasanaethau mamolaeth yn gwella, ac wedi dod mas o fesurau arbennig. Rŷm ni wedi gweld gwellhad sylweddol ynglŷn â’r rheini sydd yn gorffen eu hyfforddi. Rŷm ni’n gwybod bod gwasanaethau therapi yn gweithredu mynediad o fewn targed o 14 wythnos. So, mae pethau wedi gwella, ond mae’n wir i ddweud bod gwaith i’w wneud eto, ac mae’n hollbwysig bod gennym ni adroddiadau fel Ockenden er mwyn dangos beth sydd eisiau ei wneud yn y pen draw.

14:05

Prif Weinidog, bydd yn rhaid i chi faddau i mi, ond rwy'n credu bod hwnna'n ateb hunanfodlon iawn. Mae'n eglur iawn o adroddiad Ockenden nad yw'r materion a nodwyd pan wnaed y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn cael sylw, a dyfynnaf o un o'r rhesymau pam y gwnaed y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig:

mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd weithredu camau llywodraethu a sicrwydd a amlygwyd mewn cyfres o adroddiadau, gan gynnwys gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac mewn adolygiad a gynhaliwyd gan Ann Lloyd.

Mae adroddiad Donna Ockenden yn ei gwneud yn gwbl eglur nad yw'r pethau hynny wedi eu gweithredu'n llawn, ac eto mae'r gŵr sy'n gyfrifol am drefniadau trosolwg ac atebolrwydd y mesurau arbennig, sy'n eistedd ar eich rhes flaen yn eich Cabinet, o gwmpas y bwrdd Cabinet hwnnw, sy'n gyfrifol am y methiant, yn dal i fod yn ei swydd. Onid ydych chi'n cytuno â mi bod angen cael ymddiheuriad gan Ysgrifennydd y Cabinet i bobl y gogledd ac i deuluoedd cleifion Tawel Fan a fethwyd gan eich Llywodraeth o ran gweddnewid y sefyllfa hon? Ac a wnewch chi dderbyn, o gofio nad oes gennym ni unrhyw ffydd yn eich Ysgrifennydd dros iechyd i weddnewid y sefyllfa, y dylai fynd a mynd nawr?

O diar, o diar. A yw ef yn sefyll am yr arweinyddiaeth hefyd? Hynny yw, mewn gwirionedd. Mae gennym ni adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Nid ydym ni wedi cael cyfle i ymateb iddo eto, ac yn ôl y Blaid Geidwadol gall yr ymateb ddod o fewn ychydig ddiwrnodau. Mae'n adroddiad 500 tudalen. Tybed a ydyn nhw wedi darllen yr adroddiad mewn gwirionedd. Ceir 50 o dudalennau o grynodeb weithredol, ac mae'n iawn i ddweud y bydd angen i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r adroddiad hwnnw, a bydd yn gwneud hynny y prynhawn yma. Holl bwrpas hyn yw gwella profiad y claf, nid sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Prif Weinidog, pa wersi ydych chi wedi eu dysgu dros y blynyddoedd ers creu bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr?

Wel, gan ein bod ni'n gwybod bod problemau enfawr yn y bwrdd iechyd ac nad yw'r problemau hynny wedi eu datrys eto, ac mae'n rhaid derbyn hynny. Cafwyd rhywfaint o gynnydd, ond adroddiadau fel Ockenden sy'n rhoi'r gallu i ni nodi'r heriau yn fwy manwl a sicrhau bod y bwrdd iechyd yn ymateb i'r heriau hynny wedyn.

Gofal Cartref gyda'r Nos

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cartref gyda'r nos? OAQ52564

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am asesu anghenion gofal a chymorth unigolion, gan gynnwys unrhyw ofal cartref yn ystod y nos sydd ei angen, ac am fynd ati i ddiwallu’r anghenion hynny drwy gynllun gofal a chymorth.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Mae Age Cymru wedi gwneud gwaith pwysig i ddadansoddi'r ddarpariaeth, neu'r diffyg darpariaeth yn hytrach, o ofal cartref yn ystod y nos yng Nghymru. Yn anffodus, dim ond wyth o'r 22 o awdurdodau lleol wnaeth ddarparu ffigurau o ran nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal cartref yn ystod y nos. O'r awdurdodau lleol hynny a allai ddarparu ffigurau, gwyddom mai dim ond 1.92 y cant o asesiadau gofal a chymorth arweiniodd at ofal cartref yn ystod y nos. Arweiniodd llai na 2 y cant o asesiadau at ofal cartref yn ystod y nos, gydag amrywiadau eang rhwng awdurdodau lleol.

Beth, felly, mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg casglu data yn y lle cyntaf ac, yn bwysicach, y diffyg cysondeb a darpariaeth o ran cymorth yn ystod y nos i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed?

Wel, rydym ni eisoes wedi cymryd camau i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi darparu £19 miliwn o gyllid rheolaidd i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw weithio gyda darparwyr i gynorthwyo'r gweithlu ymhellach. Rydym ni'n ymwybodol bod nifer o awdurdodau yn defnyddio rhan o'r cyllid hwnnw i dalu cyfradd uwch am gymorth cysgu i mewn. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gan ddefnyddio, er enghraifft, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gydag awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn deall eu dyletswyddau ac i greu mwy o gysondeb. Mae'n anodd iawn, wrth gwrs, deall ar sail unigol a yw rhywun wedi cael ei asesu ai peidio ar gyfer gofal cartref yn ystod y nos, ond mae'n bwysig dros ben bod awdurdodau lleol yn ddigon hyblyg yn eu dehongliad o'r rheoliadau ac yn eu hasesiadau i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

Wel, rwy'n credu mai'r cwbl y mae'r ffigurau hynny'n ei wneud yw tynnu sylw at swyddogaeth hanfodol gofalwyr di-dâl o ran gofal dros nos, i bobl yn eu teulu fel rheol. Yn amlwg, o dan yr amgylchiadau hynny, gofal iechyd meddwl yw hwn yn aml iawn ac nid yw gofal cartref traddodiadol yn briodol beth bynnag. Byddwch yn cofio bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio polisi y mis diwethaf i roi grantiau i oedolion ifanc sy'n ofalwyr i'w helpu i aros mewn addysg ôl-16, yn rhannol ar y sail bod angen cydnabod y dylai lwfans gofalwyr fod yn daladwy i'r unigolion hynny, gan gymryd eu cyfrifoldebau gofalu dros nos i ystyriaeth yn rhan o'u horiau ar gyfer cymhwysedd. A allwch chi roi rhywfaint o arweiniad i ni ynghylch pa un a yw'r polisi hwn yn mynd i gael ei ystyried gan y corff cynghori sy'n cynorthwyo'r Gweinidog, sydd, ar hyn o bryd, yn ceisio cael polisïau at ei gilydd i gynorthwyo gofalwyr?

14:10

Wel, nid oes dim nad yw ar y bwrdd cyn belled ag y mae polisïau yn y dyfodol yn y cwestiwn. Ceir y cwestiwn, wrth gwrs, o nodi'r adnoddau er mwyn gwneud hynny, ond, hefyd, mae gennym ni'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, yr wyf yn amau fyddai'n berthnasol, o bosibl, i lawer o ofalwyr. Ond, wrth gwrs, os bydd cynigion eraill yn cael eu cyflwyno, byddwn, wrth gwrs, yn eu hystyried.

Hygyrchedd Mannau Chwarae Plant

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd mannau chwarae plant? OAQ52559

Mae pob plentyn yn elwa ar fod yn yr awyr agored, gan ryngweithio â'i amgylchedd a datblygu drwy chwarae. Mae canllawiau statudol yn cyfarwyddo awdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid, i ystyried anghenion amrywiol yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardal.

Diolch, Prif Weinidog, ond rwy'n siŵr y byddai unrhyw un yn cael eu heffeithio gan y stori a dorrodd yr wythnos diwethaf am fachgen wyth mlwydd oed, Kobi Barrow, a helpodd i ddylunio parc y gellid ei ddefnyddio gan blant abl ac anabl, ac fe wnaeth hynny er cof am ei ffrind gorau, Rhianna, a fu farw, yn anffodus, yn 2016. Daeth i'r amlwg y bu'n rhaid i Rhianna deithio am dair awr o'i chartref i chwarae mewn maes chwarae â chyfarpar priodol ac roedd ef eisiau unioni hynny ar gyfer plant eraill a oedd yn byw yn fwy lleol. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan feysydd chwarae yng Nghymru gyfarpar chwarae cynhwysol i blant a sut rydym ni'n mynd i fonitro cynnydd hynny ledled Cymru?

Wel, mae canllawiau statudol yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried anghenion amrywiol yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardal, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau. Gwn, ym mis Ebrill, bod y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â maes chwarae Oaklands yn Rhondda Cynon Taf, sy'n enghraifft dda o faes chwarae hygyrch. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni. Ym mis Mai, atgoffwyd awdurdodau lleol o'r disgwyliad i bob awdurdod lleol ddatblygu adran chwarae wedi ei nodi'n eglur ar ei wefan. Dylid rhoi'r wybodaeth honno ar gael mewn ffordd sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd i wybod beth sydd ar gael yn eu hardaloedd lleol. Dylai hefyd gynnwys camau gweithredu y mae awdurdodau lleol yn bwriadu eu cymryd i sicrhau cyfleoedd digonol ac i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol. Gallaf ddweud hefyd bod prosiect Chwarae Cynaliadwy SNAP Cymru Groundwork Cymru wedi hyfforddi gweithwyr chwarae mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chynhwysiant a bod hwnnw'n llwyddiannus iawn o ran cynnwys pobl anabl mewn chwarae yn yr awyr agored.

Wel, wrth gwrs, cyfeiriasoch ar y gair 'chwarae', a dywedasoch y dylai pawb gael mynediad at y gallu i chwarae, yn enwedig plant ifanc. Rydym ni'n sôn llawer yn y lle hwn am ordewdra, am wneud ein plant yn iach ac yn heini ac yn egnïol ac ati, ond er hynny, Prif Weinidog, yr hyn y byddai gen i ddiddordeb mewn ei wybod yw beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud—eich Llywodraeth chi, yr un yma yng Nghymru—i sicrhau bod y system gynllunio yng Nghymru yn rhoi sylw dyledus i'r angen i gael meysydd chwarae diogel, hygyrch, yn agos at gartrefi sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd? Oherwydd ceir gormod o weithiau pan eich bod chi'n mynd i sefyllfa lle bydd datblygwr mewn gwirionedd, efallai, trwy ddefnyddio cytundeb 106 neu rywbeth, yn neilltuo man ar gyfer maes chwarae, ond mae'n digwydd bod yr ochr arall i briffordd brysur neu mae'n digwydd bod yr ochr arall i'r pentref lle na all plant ei gyrraedd. Yn yr hen ddyddiau, roeddem ni'n arfer rhoi ein meysydd chwarae ger ein tai fel y gallai'r rhiant gartref neu'r gofalwr edrych a gwneud yn siŵr bod y plentyn yn dal i fod yn ddiogel ac allan yno'n chwarae. Ni allwn wneud hyn nawr, ac rwyf i wedi gweld cynllunwyr yn defnyddio'r palmant, y glaswellt gwyrdd wrth ymyl palmentydd, yn rhan o'r troedfeddi sgwâr i ychwanegu at y 'maes chwarae' honedig sydd ar gael ar ddatblygiad tai. Sut gallwn ni atal hynny? Sut gallwn ni greu meysydd chwarae diogel y gall plant bach eu defnyddio drwy'r amser, lle gall pobl eu gwylio nhw a gwybod eu bod nhw'n wirioneddol ddiogel?

Wel, bydd awdurdod cynllunio effeithiol yn gwneud yn union hynny. Rwyf wedi ei weld yn digwydd yn fy awdurdod i fy hun lle mae meysydd chwarae yn hygyrch ar ystadau tai newydd ac yn hygyrch iawn, felly nid oes unrhyw reswm pam na all hynny gael ei efelychu gan awdurdodau mewn mannau eraill trwy ddefnyddio cytundebau adran 106 a thrwy ddefnyddio cynllunwyr gan sicrhau bod meysydd chwarae ar gael i drigolion newydd ar ddatblygiadau newydd. Felly, mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol a'u cynllunwyr i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn yr arfer gorau yr wyf i wedi ei weld mewn mannau eraill yng Nghymru.

Y Terfyn Cyflymder mewn Ardaloedd Trefol

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol? OAQ52528

Rydym ni wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r terfynau cyflymder ger ysgolion ar neu wrth ymyl cefnffyrdd ac mae gennym raglen aml-flwyddyn i gyflwyno terfynau 20 mya rhan-amser yn y lleoliadau hynny. Rydym ni hefyd yn darparu cyllid i awdurdodau lleol weithredu ardaloedd a therfynau 20 mya drwy'r grantiau diogelwch ar y ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Rydym ni hefyd wedi comisiynu Dr Adrian Davis i gynnal adolygiad o dystiolaeth ar y terfynau 20 mya i lywio unrhyw ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad hwnnw yn cael ei gwblhau ym mis Awst a bydd hynny'n dangos i ni beth fydd y cyfeiriad ar gyfer symud ymlaen.

14:15

Diolch, Prif Weinidog. Oherwydd, dwy flynedd yn ôl, fe gyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru rhywfaint o ymchwil yn dangos y byddai terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn arwain at ostyngiad yn nifer y damweiniau traffig ar y ffyrdd, gostyngiad mewn allyriadau carbon a nitrogen ocsid mewn ardaloedd preswyl, gostyngiad mewn sŵn, cynnydd i deithio llesol, cydlyniant cymunedol a mwy o wario mewn siopau lleol. Yn syml, y byddai'n cyflawni'r holl nodau cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, ar ôl dweud y byddem ni'n cyflwyno ardaloedd 20 mya pan fyddai'r pwerau gennym ni, nawr bod y pwerau gennym ni, mae'n ymddangos ein bod ni'n aros i'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain gwblhau mwy o waith ymchwil cyn i ni fwrw ymlaen. Onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod y dystiolaeth yn eglur ac yn gyson ac y dylem ni fwrw ymlaen â hyn nawr?

Wel, gadewch i ni aros i weld beth mae'r adolygiad yn ei ddweud. Nid ydym ni'n ddibynnol ar yr hyn y mae'r Adran Drafnidiaeth yn ei wneud, am resymau amlwg. Mae eu gwaith o ddiddordeb i ni, wrth gwrs, ond mae gennym ni ein hadolygiad ein hunain. Ar ôl i hwnnw gael ei gyhoeddi yna, wrth gwrs, gellir gwneud penderfyniadau pellach ynghylch pa un a fyddwn ni'n cyflwyno terfyn 20 mya cynhwysfawr ai peidio.

Prif Weinidog, mae hyn wedi cael ei archwilio, ei adolygu, yn ddiddiwedd ar draws Ewrop, ac mae gan lawer iawn o wledydd derfyn 20 mya, neu 30 cilometr yr awr yn eu mesurau erbyn hyn. A gaf i gymeradwyo cyngor Caerdydd am fwrw ymlaen â hyn? Ac rwy'n croesawu'r ymgyrchoedd lleol sydd bellach yn ein gwthio ni, fel yr un yn Sili. Dylai fod yn ddiofyn ac ni ddylai'r modurwr fod flaenaf o ran pwy all fynd allan a mwynhau'r amgylchedd awyr agored. Pan fyddwn ni'n gyrru ceir, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am hynny, ac mae angen diogelu mwy ar y cerddwr ac mae angen i ni newid i ffurfiau mwy llesol o deithio.

Mae'n amhosibl dadlau ag ef pan mae'n ei roi yn y ffordd honno, ac mae e'n iawn wrth ddweud y bydd ystyriaeth weithredol yn cael ei rhoi i derfyn cyflymder o 20 mya. Mae ef hefyd yn iawn wrth ddweud ein bod ni eisiau annog mwy o bobl i ffurfiau eraill o drafnidiaeth, a dyna'n union, fel yr wyf i wedi ei amlinellu yn gynharach y prynhawn yma, yr ydym ni'n bwriadu ei wneud.

Wel, dyma'r drydedd blaid sy'n codi i gefnogi 20 mya fel y peth naturiol yn ein trefi a phentrefi ni. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol gynradd, roedd 90 y cant o blant yn cerdded nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd ar eu pennau eu hunain. Erbyn hyn, dim ond 25 y cant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd. Mae hynny oherwydd bod y car wedi dod i ddominyddu ein tirwedd drefol ni, mewn ffordd sydd ddim yn naturiol, sydd ddim yn caniatáu chwarae'n naturiol, sydd ddim yn caniatáu iechyd naturiol ychwaith. Felly, o leiaf, a wnewch chi roi'r grym i awdurdodau lleol nawr i gyflwyno'r parthau hyn heb unrhyw rwystr gan Lywodraeth Cymru?

Rŷm ni'n rhoi arian i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yna barthau 20 mya yn barod, ac mae pobl yn eu gweld nhw ar draws Cymru. Nid problem gyfreithiol yw e, ond ariannol. Maen nhw’n moyn gwybod bod yr arian ar gael a dyna pam, wrth gwrs, mae yna grant ar gael i sicrhau bod y parthau’n gallu symud ymlaen.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar gyhoeddiad yr wythnos diwethaf o adolygiad llywodraethu Donna Ockenden. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Tri pheth, os caf i, Lywydd. Efallai eich bod wedi clywed—mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ; ymddiheuriadau—y bu tân arall yn Heol-y-Cyw yn weddol ddiweddar yn y cyfleuster naddion pren sydd ganddyn nhw yno. Hoffwn sôn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, yn 2006, y byddai'n edrych yn ofalus ar reoliadau a phwerau ynghylch storio deunyddiau fflamadwy. Gofynnais i'ch rhagflaenydd ddwywaith yn 2017 pryd y gallem ni weld rhai o'r pwerau a'r rheoliadau newydd hyn yn ymddangos, ac, yn wir, gofynnais i chi ym mis Rhagfyr 2017 pryd y gallem ni ddisgwyl rhywfaint o gynnydd ar hyn. Yn anffodus, rydym ni wedi cael y tân hwn, fel y dywedais, a, chyn belled ag y gallaf ddweud, ni fu unrhyw ddiweddariad, felly a allem ni gael datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog yr amgylchedd yn ystod wythnos gyntaf y tymor, os gwelwch yn dda?

Tybed hefyd a gaf i ofyn i'r un adran gymryd golwg ar y rheoliadau a'r canllawiau o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Rwyf i ar fin sôn am rywbeth yr ydych chi'n gyfarwydd ag ef, arweinydd y tŷ—mae gennym ni achosion ym Mhenrhyn Gŵyr o hyd, lle mae gennym ni bori anghyfrifol gan borwr penodol, sy'n effeithio ar hawliau cominwyr eraill, eiddo cyfagos, ac, yn anffodus braidd, diogelwch personol, mewn achos cymharol ddiweddar. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurder arnom ynghylch pa un a yw diffyg gweithredu yn ddeddfwriaethol, pa un a oes unrhyw fylchau yn y gyfraith ar hyn o bryd, neu a oes methiant i ddefnyddio gweithdrefnau gorfodi, ac, os felly, pam.

Ac yna, yn olaf, tybed a allem ni gael diweddariad ar ble mae'r ddeddfwriaeth i ymestyn rhan 2 Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Addawyd hyn yn y Cynulliad hwn. Gwelaf o'r datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol heddiw nad yw wedi ei gynnwys. Mae'r Cynulliad hwn yn mynd yn brin o amser, felly credaf mai'r lleiaf y gallem ni ei ddisgwyl yw amserlen ar gyfer hynny. Diolch.

14:20

Wel, gan ddechrau gyda'r un yn y canol, yr hawsaf, mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus ar eich awgrym chi, felly rwy'n siŵr y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny. O ran y mater ynghylch tanau naddion pren, byddaf yn trafod hynny â chydweithwyr yn y Cabinet, a byddwn ni'n cyflwyno amserlen ar gyfer hynny, ac, o ran rhan 2, unwaith eto, byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet lle rydym arni yn union gyda hynny ac yn gwneud yn siŵr y bydd y Cynulliad yn cael gwybod ar unwaith.

Yn gyntaf oll, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw'r Aelodau yn gyfredol am ddatblygiadau proses Brexit? Mae pethau'n danbaid iawn yn San Steffan, ac maen nhw'n mynd ar wyliau yn gynnar—efallai byth i ddychwelyd, pwy a ŵyr? Gawn ni weld. Ond mae'n bwysig ein bod yn deall, wrth i bethau cael eu negodi a'u trafod—er y gallai hyn ddigwydd ym mis Awst, oherwydd bod gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn mynd ar wyliau ym mis Awst. Ond bydd gennym ni, yn gynnar ym mis Medi, ychydig mwy o fanylion ar rai o'r cytundebau hyn. A gawn ni ymrwymiad y caiff o leiaf ddatganiadau ysgrifenedig eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i'n cadw ni i gyd yn gyfredol fel y gallwn ni ddilyn y materion hynny? Wrth gwrs, byddwn ni'n gadael gwleidyddiaeth San Steffan i fan arall ar hyn o bryd. Ond nodwch hyn. Pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi troi lan i bleidleisio ddoe, yna byddai gennym senario gwahanol iawn heddiw, efallai, o ran symud pethau ymlaen—[Torri ar draws.] O diar. [Chwerthin.]

Mae'r ail fater yr hoffwn ei godi gyda hi yn ymwneud llawer mwy â maes ei Llywodraeth hi. Am y trydydd tro yn olynol, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi amod ar gyfrifon adnoddau naturiol Cymru, y corff hwn y mae'r Prif Weinidog newydd ddweud ei fod wedi ymsefydlu'n wych. Dair gwaith yn olynol mae eu cyfrifon wedi bod yn gymwys am gontractau pren. Rydym ni'n deall o ble mae hyn yn dod. Ond mae'r ffaith bod yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd ei farn o ddifrif hyd yn oed ar ôl i amod gael ei roi arnyn nhw deirgwaith, rwy'n credu bod hyn yn dweud llawer am rai methiannau yn y sefydliad hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n credu bod rhywbeth o'i le yn llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn. Rwyf wedi colli pob amynedd gyda nhw. Maen nhw yn dal i fy sicrhau y caiff y pethau hyn eu gwneud ac y caiff gwersi eu dysgu, ac mae gennym ni set arall o gyfrifon ag amod arnyn nhw.

Fe ges i gwynion gan gontractwyr pren yn fy rhanbarth i fy hun, gan gynnwys yn Nwyfor Meirionnydd, am broblemau gyda'r contractau sy'n cael eu gosod. Rwyf wedi mynd â nhw at y Gweinidog; mae'r Gweinidog yn dweud wrthyf i a fy etholwr, 'Wel, defnyddiwch drefn gwynion Cyfoeth Naturiol Cymru.' Wel, gallaf ddweud wrthych fod y drefn gwynion honno wedi dod i ben a phasiwyd y manylion ymlaen i'r cyfryngau bellach, oherwydd credaf fod rhywbeth mawr iawn o'i le yma ac mae angen i'ch Llywodraeth chi fynd i'r afael â hyn. Felly, a gawn ni ddatganiad—mae'n rhy hwyr i ofyn am ddatganiad llafar bellach, ond datganiad ysgrifenedig, yn sicr—gan y Gweinidog ar yr hyn y mae'n ei wneud i fynd i'r afael â'r ffaith nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddangos i fod wedi rhoi trefn ar ei bethau, nad yw'n ymddangos bod y strwythurau llywodraethu priodol ar waith, ac nad yw'n cyflawni sector coetiroedd iach i Gymru?

Gwnaeth yr Aelod gyfres o bwyntiau pwysig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei bod hi'n cwrdd â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yfory a bydd yn diweddaru'r Aelodau cyn gynted ag y bydd y cyfarfod hwnnw wedi'i gynnal.

O ran diweddariadau o ran Brexit, rwy'n petruso cyn dweud y byddwn ni'n rhoi gwybod i'r Aelodau wrth symud pethau ymlaen. Ymddengys ein bod mewn sefyllfa lle mae pethau yn mynd rhagddynt ac yna yn ôl ac wedyn yn mynd rhagddynt eto dros y lle i gyd. Ond rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus iawn fod yr Aelodau yn cael gwybod y diweddaraf, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n dod o hyd i ffordd, boed drwy ddatganiad ysgrifenedig neu drwy lythyr, i wneud yn siŵr bod Aelodau'r Cynulliad yn cael gwybod am ddatblygiadau arwyddocaol, pe byddent yn digwydd dros y toriad, Llywydd.

A allai arweinydd y tŷ drefnu datganiad am saethu adar hela ar dir Llywodraeth Cymru? Nododd 76 y cant o ymatebwyr i arolwg YouGov eu bod yn gwrthwynebu saethu adar hela fel camp ar dir cyhoeddus yng Nghymru. A yw'n bosib cael eglurhad ar sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd i ystyriaeth farn y Gweinidog, sydd i'w groesawu'n fawr, yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried beidio ag adnewyddu cytundebau prydlesu saethu ffesantod wrth iddyn nhw ddod i ben?

14:25

Ydy, mae hwnnw'n fater pwysig iawn. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cwrdd â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn bo hir i drafod y materion hyn ymhellach, ac i drafod sut i roi terfyn ar brydlesau saethu ffesantod ar ystad Llywodraeth Cymru. Mae hi'n hapus iawn i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ôl i'r cyfarfodydd hynny ddod i ben. Rydym ni'n deall bod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo argymhellion yr adolygiad yr wythnos diwethaf ar y defnydd o arfau tanio ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wedi ystyried y llythyr a anfonodd ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar saethu ar yr ystad. Felly, rwy'n siŵr, ar ôl i'r gyfres o gyfarfodydd ddod i ben, y bydd y Gweinidog yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am y canlyniad.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fynediad i chwaraeon ar gyfer pobl anabl? Canfuwyd mewn astudiaeth a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru fod pobl yn credu bod y mynediad i chwaraeon ar gyfer plant ac oedolion anabl yn cael ei ystyried i fod yn dameidiog iawn mewn nifer o feysydd ac ar draws llawer o chwaraeon, gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol at y cyfleusterau chwaraeon yn aml yn brin yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu'r rhwystrau i blant ac oedolion anabl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru os gwelwch yn dda?

Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Byddaf mewn gwirionedd yn cyflwyno datganiad ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb yn yr hydref, a byddaf yn bendant yn cynnwys y mater y mae'r Aelod yn codi yn hynny o beth.

Arweinydd y tŷ, mae meddygon dan hyfforddiant wedi bod yn cysylltu â mi, ers peth amser bellach, yn pryderu ac yn siomedig bod bwlch cyflog o tua £40,000 yn bodoli rhwng cyflogau meddygon histopatholeg dan hyfforddiant yng Nghymru ac yn Lloegr yn ystod eu hyfforddiant, rhwng ST1 a ST5. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r bwlch cyflog, ond, er fy mod i wedi gohebu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y mater hwn, nid oes newid wedi'i weithredu eto. Yn amlwg, mae cyflog, ymhlith ffactorau eraill, yn bwysig i feddygon dan hyfforddiant wrth benderfynu ar y lle i hyfforddi ac i astudio. Mae meddygon sy'n penderfynu hyfforddi yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb â'u cymheiriaid ar draws y ffin. Mae hyfforddeion wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi’n ariannol am eu penderfyniad wrth ddewis i weithio yng Nghymru. Nawr, nid yw hyn yn deg. Nid yw'n iawn, nid yw'n gwneud dim i forâl, ac, yn y tymor hir, mae'n tanseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu meddygon i hyfforddi a gweithio yn y GIG yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn am eich dylanwad wrth wneud Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i gytuno i gyflwyno datganiad ar fater meddygon histopatholeg dan hyfforddiant a beth y mae'n ei wneud i gau'r bwlch cyflog annheg hwn?

Os gwnaiff yr Aelod yn ysgrifennu ataf gyda'r manylion sydd ganddo, gwnaf yn siŵr ein bod yn cael ateb i hynny. Rwy'n gwybod ein bod ni'n falch iawn gyda nifer y meddygon iau sydd wedi manteisio ar leoedd hyfforddi yng Nghymru, ac mewn gwirionedd rydym wedi cael llawer mwy na'r lleoedd sydd ar gael. Yn sicr rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y sefyllfa honno yn parhau. Felly, os bydd ef yn ddigon caredig i anfon y manylion, byddaf yn sicrhau bod yna ateb.

Fel y gwyddoch, arweinydd y tŷ, cyhoeddodd Virgin Media, yn ystod wythnos gyntaf mis Mai eleni, ei fod yn cael gwared ar 772 o swyddi yn ei ganolfan alwadau yn Abertawe, y cafwyd cynnig i'w gau, gan beri pryder difrifol i nifer o fy etholwyr i a llawer o'ch etholwyr chi hefyd. Mae Llywodraeth Cymru, ers hynny, wedi bod yn cefnogi staff sy'n gweithio yn Virgin Media, ac mae popeth a glywais gan y bobl sy'n gweithio yno yn bethau da am y cymorth a gawsant gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru. Ond a all arweinydd y tŷ roi diweddariad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd? Ac a wnaiff arweinydd y tŷ ein hysbysu os digwydd unrhyw beth naill ai yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf, ym mis Awst, neu yn gynnar ym mis Medi? Rwy'n siŵr bod gan nifer o Aelodau eraill ddiddordeb. Mae rhai yn Weinidogion y Llywodraeth ac nid ydyn nhw'n gallu gofyn cwestiynau ar hyn, ond maen nhw hefyd yn cynrychioli etholwyr sy'n gweithio yno. Mae oddeutu 800 o bobl yn sicr o gynnwys ardal lawer fwy na dwyrain Abertawe.

Ie, yn wir. Mae'r Aelod yn hollol iawn, Llywydd. Yn amlwg, mae aelodau o fy etholaeth i fy hun hefyd wedi eu cynnwys, dim ond i wneud yn siŵr bod y Cynulliad yn ymwybodol, a gwn fod gan Aelodau eraill y Llywodraeth ddiddordeb etholaethol yn yr ardal honno. Rydym ni'n cadw mewn cysylltiad agos â Virgin Media. Rydym ni'n parhau â'n cynlluniau ar gyfer y tasglu i fod yn barod i gefnogi unrhyw staff yr effeithir arnyn nhw. Rydym ni wedi gwneud yr hyn a allwn i helpu i wrthdroi'r penderfyniad drwy gynorthwyo'r gymdeithas staff mewnol, Voice, wrth baratoi gwrthgynnig. Rydym ni'n barod i helpu gydag unrhyw gynnig sy'n cynnal y sgiliau a'r swyddi yn ardal Abertawe ac, yn sicr, Llywydd, byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newid i hynny yn ystod cyfnod y toriad.

14:30

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ofal i oedolion ag anableddau dysgu sy'n datblygu dementia? Pan oeddwn yn cadeirio grŵp trawsbleidiol y mis diwethaf ar anabledd yn y Cynulliad, clywsom gan Cysylltu Bywydau Cymru am y fenter dementia Cymru gyfan, sef cynnig ar gyfer gwasanaethau dementia sy'n benodol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu sy'n datblygu dementia. Mae gofalwyr pobl ag anableddau dysgu ledled Cymru wedi nodi diffyg llwybr clir o gefnogaeth ar gyfer y rhai sy'n datblygu dementia. Mae fforwm Cymru gyfan o gleifion a gofalwyr, mewn partneriaeth â Cysylltu Bywydau, gan gydweithio ochr yn ochr ag asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol allweddol, wedi dwyn ynghyd y camau cynnar o lwybr awgrymedig i gefnogi'r rhai ag anabledd dysgu yr effeithir arnynt gan y cyflwr hwn. Felly, galwaf am ddatganiad y bydd Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn rhoi sicrwydd ynddo ac yn amlinellu pa gymorth ymarferol parhaus a all gynnig i'r ymyrraeth effeithiol ac arloesol hon wrth fynd i'r afael â diffygion iechyd cydnabyddedig y mae rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn eu hwynebu.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda grwpiau cynrychioliadol ar ein cynllun dementia, gan gynnwys pobl sydd â dementia eu hunain o ystod eang o feysydd amrywiol. Ac rwy'n gwybod bod y cynllun wedi cael croeso cynnes gan y cymunedau o bobl sy'n cefnogi pobl â dementia ac sy'n byw gyda dementia eu hunain. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ein diweddaru maes o law fel y mae'r cynllun hwnnw yn cael ei gyflwyno.

Tybed a fedrwn ni gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn helpu pobl sydd wedi bod yn y lluoedd arfog â phroblemau iechyd meddwl. Rydw i'n gweithio'n agos â'r sefydliad 65 Degrees North, sydd yn dod â chyn-filwyr, neu gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, ar anturiaethau neu deithiau cerdded hir. Maen nhw wedi sylweddoli bod yna lot fawr o ddynion ifanc nawr yn cymryd eu bywydau eu hunain ar ôl bod yn y lluoedd arfog, am nifer o resymau gwahanol, ac maen nhw eisiau diweddariad ar beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r dynion—dynion, gan amlaf—yn rhan o'r agenda hynny.

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn ei gael gan Lywodraeth Cymru unwaith eto yn dod o fewn maes Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Ym mis Rhagfyr y llynedd, rhyddhaodd y panel cynghori ar gamddefnyddio sylweddau adroddiad ar ddichonolrwydd uwch ganolfannau lleihau niwed yng Nghymru, fel yr hyn a sefydlwyd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, i helpu i sicrhau diogelwch i ddefnyddwyr ac i helpu i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, sydd ar gynnydd yma yng Nghymru, fel y codais y mater yr wythnos diwethaf o ran problemau yng Nghastell-nedd ac Abertawe. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Iechyd ddarparu diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn? Rwyf wedi cael sylwadau gan Gomisiynydd yr heddlu yn y Gogledd, Arfon Jones, ei fod yn pryderu er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael yr adroddiad hwn, nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi ymateb iddo, nac wedi dweud sut byddent yn dymuno, o bosib, roi rhai o'r arferion hyn ar waith yng Nghymru. Credaf fod angen inni fabwysiadu dull realistig yn hytrach nag efallai agwedd fwy moesegol tuag at gyffuriau yma yng Nghymru, o ystyried ei bod yn broblem gynyddol. A pan godais y cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf yn y Senedd, roedd nifer y bobl a gysylltodd â mi, yn adeiladol mewn gwirionedd, ynglŷn â sut i ymdrin â phroblem cyffuriau yma yng Nghymru, yn gadarnhaol iawn. Ac felly, pe gallem weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r darn hwn o waith— darn o waith gwerthfawr iawn—yna byddwn yn ddiolchgar.

A hefyd—unwaith eto, yr un Ysgrifennydd y Cabinet—fe wnaethoch addo ymateb i mi ar faterion Deddf Mewnfudo 2016, ynglŷn â phobl o bosib yn gorfod profi eu hunaniaeth pan oedd arnyn nhw eisiau triniaeth iechyd. Dydw i heb gael yr ymateb hwnnw eto. Rwy'n gwybod ei fod yn fater cymhleth, ond pe gallwn i gael datganiad neu lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet, byddai hynny'n fy helpu i fynd yn ôl at fy etholwyr—eich etholwyr chi hefyd, mewn gwirionedd—i ddweud wrthyn nhw am unrhyw gynnydd ar hynny.

Wel, fel sy'n draddodiadol, Llywydd, a chan weithio tuag yn ôl, byddaf yn sicr yn ceisio dod o hyd i'r ymateb hwnnw. Roedd yn braf iawn eich gweld chi yn lansiad Ffoaduriaid Cymru yn Abertawe y diwrnod o'r blaen, ac roedd hwn yn fater a chi  sôn amdano.

O ran yr ymateb ar gamddefnyddio sylweddau, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ystyried hyn nid fel mater troseddol ond fel mater iechyd meddwl a chymdeithasol. Ac, unwaith eto, byddaf yn edrych ar y sefyllfa gyda'r ymateb a beth yw'r amserlen ar gyfer hynny.

Ar fater iechyd meddwl cyn-filwyr, codwyd nifer o faterion pwysig y byddaf yn eu trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet, gan eu bod yn croesi portffolios ryw ychydig. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn darparu ymateb cynhwysfawr i'r materion a gododd.FootnoteLink

Arweinydd y tŷ, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith ardderchog i fynd i'r afael â cham-drin domestig, yn enwedig gyda Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yr oedd, fel y gwyddoch, fy nhad a chyn aelod o'r Cabinet, Leighton Andrews, yn gweithio'n galed iawn arni. O ran fy nhîm fy hun, rydym ni i gyd wedi dod yn hyrwyddwyr a Llysgenhadon y Rhuban Gwyn yn ddiweddar, ac rwy'n credu y byddai'n wych iawn pe gallai'r Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys y Cabinet, ddod o hyd i'r amser i gael yr hyfforddiant hwnnw a dod yn aelodau, llysgenhadon a hyrwyddwyr yr ymgyrch rhuban gwyn eu hunain.

Arweinydd y tŷ, mae arloesi technolegol yn effeithio ar bob rhan o'n bywyd bob dydd, o'r economi i ddarpariaeth ein gwasanaethau, ac, ar y cyfan, mae'n darparu cyfleoedd gwych a chyffrous inni. Fodd bynnag, mae hefyd yn cael effaith ar achosion cam-drin domestig. Darllenais erthygl yn y New York Times yn ddiweddar, dan y teitl 'Thermostats, Locks and Lights: Digital Tools of Domestic Abuse'. Rwy'n credu bod y BBC hefyd wedi sôn am hyn. Mae'n erthygl graff iawn y dylai'r Aelodau yn sicr gymryd amser i ddarllen trwyddi. Mae'n amlygu patrwm newydd o achosion cam-drin domestig, sydd ynghlwm wrth y cynnydd mewn technoleg gartref glyfar. Mae cloeon, unedau sain, thermostatau, goleuadau a chamerâu cysylltiedig â'r rhyngrwyd sydd wedi cael eu marchnata fel y cyfleusterau mwyaf newydd, yn cael eu defnyddio hefyd fel ffordd o aflonyddu, monitro, dial a rheoli. Arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad ar faterion fel hyn, ac a fyddai Llywodraeth Cymru efallai yn ymgymryd â pheth gwaith ar effaith technoleg o'r fath ar achosion yma yng Nghymru, fel yr hwnnw a wneir gan y prosiect Safety Net yn y rhwydwaith cenedlaethol i roi terfyn ar drais domestig yn Unol Daleithiau America?

14:35

Ie, dau bwynt gwych. Ar Lysgenhadon y Rhuban Gwyn, mae'r gwasanaeth tân yr ymwelais ag ef yn ddiweddar wedi gwneud argraff fawr arnaf gan fod ei holl staff tân wedi cael eu hyfforddi i fod yn llysgenhadon Rhuban Gwyn oherwydd, wrth gwrs, eu bod yn mynd i mewn i dai pobl, ac maen nhw hefyd wedi cael hyfforddiant Llywodraeth Cymru 'gofyn a gweithredu', sy'n bwysig iawn yn wir. Rwy'n falch iawn o gymeradwyo'r hyfforddiant hwn i holl Aelodau'r Cynulliad. Nid yw hyfforddiant lefel 1 'gofyn a gweithredu' yn anodd ei wneud. Mae'n hygyrch ar-lein ac yn gipolwg defnyddiol iawn o'r hyn y gall pobl ei wneud i'w galluogi i beidio â chadw'n dawel pan fydd cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod neu unrhyw fath o drais rhywiol yn digwydd.

Roeddwn hefyd yn falch iawn o fod yng Ngwent yn lansiad cynllun landlord cymdeithasol cofrestredig yno, a oedd yn borth ar-lein sylweddol iawn, sydd hefyd yn hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno cymryd diddordeb yn hynny o beth. Felly, rwy'n argymell hynny yn fawr iawn hefyd.

O ran y dechnoleg, rydym ni'n ymwybodol iawn y gellir galluogi rheolaeth orfodol yn enwedig gan dechnoleg o'r fath. Ac rydym yn cymryd hynny i ystyriaeth wrth edrych ar ein canllawiau ar y polisi 'gofyn a gweithredu' a'r ymgyrch Paid Cadw'n Dawel er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y gellir ei defnyddio yn y ffordd honno ac i'w hadnabod pan fyddant yn ei gweld.

Arweinydd y siambr, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar ddatganiadau o fuddiant ar gyfer aelodau o Lywodraeth Cymru. Nodaf, er enghraifft, bod datganiad o fuddiannau'r Gweinidogion newydd ei gyhoeddi, bum niwrnod yn ôl. Datganwyd yno fod eich mab yn gweithio i'r cwmni lobïo dadleuol, Deryn, ers 2017. Nawr, mae cleientiaid Deryn wedi derbyn o leiaf £100 miliwn o arian cyhoeddus yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Un o'r sefydliadau i dderbyn miliynau o Lywodraeth Cymru oedd Chwarae Teg. Mae hynny'n ddiddorol oherwydd symudwyd cyfrifoldeb dros gyllid craidd i Chwarae Teg i'ch maes portffolio chi ddechrau'r flwyddyn. Nawr, pan honnodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr fod Deryn yn gwybod am ddiswyddo'r diweddar Carl Sargeant cyn i unrhyw un ddweud wrtho ef hyd yn oed, chi ymatebodd ar ran y Llywodraeth. [Torri ar draws.]

Nid yw eich microffon ymlaen.[Torri ar draws.] Nid yw eich microffon yn gweithio ar hyn o bryd. Mae'n rhaid ichi fod yn glir i mi pam mae hyn yn gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n glir oherwydd mae yna gwestiynau i'w hateb o ran buddiannau, o ran beth oedd pobl yn gwybod, o ran pan ddaeth datganiad o fuddiant y Gweinidog i'r amlwg, ac a wnaed y datganiadau hynny cyn annerch y Siambr hon yn ateb y Ddadl ar y datgeliad neu beidio—ar yr adroddiad am y sibrydion i'r wasg—a hefyd, a wnaed y datganiad cyn y gwnaed y penderfyniad ar gyllid craidd ar gyfer Chwarae Teg neu beidio. Mae rhai cwestiynau sylfaenol iawn ynghylch atebolrwydd democrataidd y dylid eu gofyn yn y Siambr hon ar ran y cyhoedd, oherwydd teimlaf fod gan y Gweinidog hwn ddiddordeb penodol iawn—o bosibl penodol iawn—[Anghlywadwy.]

14:40

Neil McEvoy, nid yw eich meicroffon yn gweithio mwyach. Cyfres o gyhuddiadau yw hyn,  nid cais am ddatganiad. Nid dyma'r amser i holi'r Gweinidog. Datganiad busnes yw hwn. Nid wyf yn credu bod gan y Gweinidog unrhyw achos i ymateb ar y sail honno, heb i'r Gweinidog fod yn awyddus i ymateb.

Rhun ap Iorwerth. [Torri ar draws.]

Nid oes dim yn gywilyddus yn yr hyn yr wyf newydd ei ddweud.

Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi dderbyniais i lythyr gan y Gweinidog dros yr economi a thrafnidiaeth ar 25 Mehefin, ac yn hwnnw mi oedd o'n cyfeirio at gyfarfod a wnaeth orfod cael ei ganslo rhwng y ddau ohonom ni sbel yn ôl, oherwydd rhesymau roedd y Gweinidog yn methu dod allan ohonyn nhw. Ond mae o'n dweud cwpl o bethau positif ynglŷn â chynlluniau rydw i'n gefnogol iawn ohonyn nhw: i ailagor y rheilffordd ar draws Ynys Môn rhwng Gaerwen ac Amlwch, a hefyd i ailagor gorsaf Llangefni ei hun. Mi hoffwn i ddatganiad, os yn bosibl—yn ysgrifenedig, rydw i'n cymryd rŵan, oherwydd yr amserlen seneddol—i roi eglurhad ynglŷn â'r frawddeg yma, rydw i'n gobeithio sy'n un positif:

'O ran y lein Llangefni i Amlwch, nid ydym yn bwriadu ei hailagor, ond rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig sy'n cael ei ddatblygu gan gwmni Rheilffordd Canolog Môn'.

Rydw i'n croesawu hynny. Rydw i am wybod pa fath o gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei chynnig, oherwydd mae hwn yn broject a all ddod â budd mawr i Ynys Môn, ac yn arbennig i dref Amlwch.

Diolch i chi am hynny. Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn. Nid wyf yn credu ei fod yn addas ar gyfer datganiad, serch hynny. Pe byddech yn hoffi gofyn cwestiwn penodol i Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael ateb.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar raglen ddeddfwriaethol ei Lywodraeth. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Llywydd, gyda phleser y gallaf i ddatgan heddiw y Biliau y bydd y Llywodraeth yn dod â nhw o flaen y Cynulliad dros y flwyddyn nesaf.

Rydym yn gwybod mai'r flwyddyn o'n blaenau fydd un o'r prysuraf o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol. Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yna swm sylweddol o waith i'r Cynulliad hwn ymgymryd ag ef rhwng nawr a mis Mawrth os ydym am gael llyfr statud cwbl weithredol wrth inni ymadael. Bydd hwn yn gyfnod heriol ac ni ddylid tanamcangyfrif y llwyth gwaith deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â gadael yr UE.

Bydd angen i'r Cynulliad ymdrin â rhaglen sylweddol o gywiro rheoliadau o dan y Ddeddf tynnu'n ôl o'r UE rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen ar gyfer Biliau sy'n gysylltiedig â Brexit dros y 12 mis nesaf, ac mae'n debygol y bydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar nifer o Filiau Brexit y DU. Cyn belled ag y bo modd, ni ddylem ganiatáu i'r llwyth gwaith Brexit hwn gyfyngu ar ein huchelgeisiau deddfwriaethol, ond mae'n rhaid inni fod yn hyblyg ac yn barod i addasu ein rhaglen ddeddfwriaethol pe bai'r angen yn codi.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau o ran amddiffyn hawliau plant. Rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y Mesur nodedig Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Byddwn yn parhau i weithredu er mwyn amddiffyn plant a hawliau plant a byddwn yn cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cefnogi hawliau plant drwy wahardd y defnydd o gosb gorfforol. Rydym wedi ymgynghori yn eang a bydd yr ymatebion gan y cyhoedd, rhieni a phobl ifanc yn helpu i lunio ein cynigion.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai cyfraith Cymru fod yn glir a hygyrch nid yn unig yn awr, ond yn yr hirdymor. Rydym wedi dechrau rhaglen i atgyfnerthu a chyfundrefnu cyfraith Cymru ond bydd hon yn siwrnai hir. Bydd cwblhau llyfr statud clir, hylaw a threfnus yn cymryd llawer o flynyddoedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd cyson a pharhaus. Byddwn felly yn cyflwyno Bil yn ymrwymo'r Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff deddfwriaeth Cymru ei dehongli.

Llywydd, cyhoeddais y llynedd y byddem yn cyflwyno Bil llywodraeth leol. Bydd y Bil hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ac yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol, gan ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Bydd hefyd yn cynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â chanlyniad ein hymgynghoriad yn ddiweddar ar Bapur Gwyrdd llywodraeth leol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad manwl ar hyn a'r Bil yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn awyddus i sicrhau bod ansawdd yn ganolog i'n GIG. Ar yr adegau prin hynny pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le—ac, yn anffodus, mewn system sy'n dibynnu ar bobl yn gweithio dan bwysau difrifol, o bryd i'w gilydd bydd pethau yn mynd o chwith—rydym yn awyddus i gael gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac yn gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau. Byddwn ni, felly, yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru a dyletswydd o onestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai dyletswydd o onestrwydd yn rhoi rhwymedigaethau statudol ar bob corff iechyd yng Nghymru i fod yn agored a thryloyw, ac yn nodi'r broses sydd i'w dilyn pan fydd pethau'n mynd o chwith a phobl yn dioddef niwed. Bydd y Bil hwn hefyd yn sefydlu corff annibynnol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, i sicrhau bod gan bobl lais cryfach sy'n adlewyrchu eu profiadau o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cynnwys cynigion i fynnu bod byrddau ymddiriedolaeth GIG yn penodi is-gadeirydd.

Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol. Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

Llywydd, gwneuthum fy natganiad deddfwriaethol cyntaf fel Prif Weinidog ychydig dros wyth mlynedd yn ôl. Y datganiad hwn fydd fy un olaf i a hyderaf y byddwch chi yn caniatáu imi fyfyrio ar yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gyflawni yn yr amser hwnnw. Mae tai wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cymryd camau i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd. Rydym wedi terfynu'r hawl i brynu yng Nghymru. Rydym wedi gwarchod ein stoc o dai cymdeithasol a thai cyngor. Bydd Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), sy'n destun craffu gan y Cynulliad ar hyn o bryd, os caiff ei basio, yn gwahardd asiantau gosod rhag codi ffioedd ar denantiaid, gan ddileu'r rhwystrau rhag cael mynediad a symud o gwmpas yn y sector rhentu preifat.

Rydym wedi gwneud diwygiadau mawr i'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydym wedi deddfu i wella safonau hylendid drwy ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau ar eu drysau, a bydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn diwygio sut yr ydym yn cynllunio ac yn adeiladu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio yng Nghymru. Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o weithredu radical mewn iechyd cyhoeddus a'r sefydliad hwn oedd y cyntaf yn y DU i bleidleisio i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a'r cyntaf i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol. Llywydd, rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym drwy weithio gyda'n gilydd yn y Cynulliad hwn i ddiogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru: gwelliannau yn y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus, cyfundrefn drwyddedu ar gyfer tatŵio a thyllu'r corff, gwaharddiad ar dyllu mewn rhan bersonol o'r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, gwaharddiad ar welyau haul heb eu staffio ac isafswm pris uned ar alcohol.

Efallai mai Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 oedd y ddeddf wirioneddol arloesol ac mae'n achub bywydau. Mae'n enghraifft arall o sut y mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU, gan newid y system gydsynio ar gyfer rhoi organau i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w trawsblannu. Ond nid hwn yw'r unig dir newydd a dorrwyd gennym. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn rhoi amddiffyniad a chymorth i ddioddefwyr, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sbarduno cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, i gynllunio a darparu mewn modd cynaliadwy i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Llywydd, lle bo angen, rydym wedi defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i amddiffyn datganoli. Drwy Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, ac yn fwyaf diweddar Ddeddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau, pan fyddo buddiannau Cymru dan fygythiad oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU, ein bod wedi defnyddio'r arfau sydd ar gael inni er mwyn sefyll dros Gymru. Yn ystod fy amser fel Prif Weinidog, nid yw ein setliad datganoli wedi aros yn ei unfan. Gan ddefnyddio ein rhaglen ddeddfwriaethol, rydym wedi cyflawni ein trethi Cymreig newydd—y cyntaf am bron 800 mlynedd—ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Llywydd, mae yna lawer mwy o ddeddfau y gallwn eu crybwyll, ond mae maint yr hyn a gyflawnwyd yn yr amser hwn yn eglur. Efallai fod yr holl ddeddfau y soniais amdanynt wedi cael eu cynnig a'u cyflwyno gan y Llywodraeth, ond maen nhw wedi cael eu siapio gan randdeiliaid ac wedi cael eu gwella gan waith craffu'r Cynulliad hwn. Rydym wedi cydweithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod ein deddfwriaeth yr orau y gall fod a sicrhau ei bod yn gwella bywydau pobl Cymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny ar Filiau'r Llywodraeth sydd ar hyn o bryd gerbron y Cynulliad, a'r biliau yr wyf wedi eu cyhoeddi heddiw. Efallai mai hwn fydd fy natganiad deddfwriaethol olaf i, ond bydd rhaglen ddeddfwriaethol lawn ar gyfer cyflawni ymrwymiadau'r Llywodraeth hon, gan gynnwys Bil mewn cysylltiad â'r iaith Gymraeg, yn cael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf. Ac felly, Lywydd, cymeradwyaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.

14:45

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rydym bron hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i gyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol i wella bywydau pobl Cymru. Ond, yn anffodus, mae prinder uchelgais yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi dangos yn syml nad yw hynny'n wir.

Rwyf am ddechrau trwy ofyn ychydig o gwestiynau ynghylch meysydd polisi a blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru cyn gofyn rhai cwestiynau pellach ynghylch y materion ymarferol a'r prosesau o gyflwyno deddfwriaeth. Mae'r datganiad heddiw yn egluro na ddylid bychanu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf innau'n cytuno. Ond efallai y gwnaiff y Prif Weinidog nodi yn y cyfnod cynnar iawn hwn beth fydd ei flaenoriaethau deddfwriaethol cychwynnol pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn sôn am gyflwyno deddfwriaeth iechyd y cyhoedd i wella bywydau pobl sy'n byw yng Nghymru, ac rwy'n nodi o'r datganiad fod deddfwriaeth ar y ffordd. Mae'r digwyddiadau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos methiant difrifol atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd ac mae'r Prif Weinidog yn iawn i ddweud bod angen inni weld gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac sy'n gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau.

Llywydd, un o'r biliau a gynigwyd ym maniffesto fy mhlaid i yn 2016 oedd Bil llywodraeth a chyllid y GIG, a fyddai'n cynyddu atebolrwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr iechyd a phrif weithredwyr y GIG ymddangos ddwywaith y flwyddyn gerbron pwyllgorau awdurdod lleol ac yn flynyddol gerbron y Cynulliad. Mae'r Llywodraeth yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno corff newydd i warchod cleifion, ond mae gennym ni gorff gwarchod cleifion eisoes ar ffurf cynghorau iechyd cymuned. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y corff newydd hwn yn gweithredu ochr yn ochr â chynghorau iechyd cymuned.

Mae ein cynigion hefyd yn ceisio sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol, a fyddai yn ein barn ni yn rhoi llawer mwy o lais i gymunedau yn y penderfyniadau iechyd lleol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael derbyniad gwresog mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, sy'n wynebu newidiadau diangen i'w gwasanaethau. Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog gadarnhau a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn o ddifrif fel rhan o'r symudiad ehangach i wella atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru.

Wrth gwrs, nid atebolrwydd yn y GIG yw'r unig fater iechyd sy'n wynebu Cymru. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr sy'n dangos bod cynifer â 1,300 o bobl yn marw'n gynamserol bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd eu bod wedi anadlu aer llygredig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer yn argyfwng brys o ran iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu ac yn fwy o achos pryder na gordewdra ac alcohol. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog gadarnhau yn ei ymateb y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno unrhyw gamau deddfwriaethol ar y mater arbennig hwn.

Llywydd, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol yn ddiamau o'r ymrwymiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ym maes amaethyddiaeth a lles anifeiliaid. Felly, efallai y gallai roi rhywfaint o arweiniad eglur ar yr amseriad o ran pryd y byddwn ni'n debygol o weld Bil amaethyddiaeth Cymru yn cael ei gyflwyno, er enghraifft, o ystyried na chyfeirir ato yn y datganiad hwn heddiw. Mae datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau y bydd y gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau yn cael ei weithredu yn awr o'r diwedd ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cryn nifer o wahanol lwybrau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ei briff hi. Felly, o ystyried yr ymrwymiadau hynny, efallai y gallai ef hefyd daflu mwy o oleuni ynghylch pa Filiau yn ei phortffolio hi a gaiff eu cyflwyno mewn gwirionedd yn y pumed Cynulliad.

Mae lles anifeiliaid hefyd yn faes polisi lle mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chefnogaeth i ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig felly ynghylch y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad) ac ynghylch polisi Llywodraeth y DU ar wahardd gwerthiant cŵn bach trydydd parti. Efallai y gallai roi asesiad cyffredinol o sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda San Steffan ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru a sut y gellid cryfhau'r prosesau hynny fel bod gweithredu'r Biliau mor syml ag y bo modd.

Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd Bil arall eto yn cael ei gyflwyno i leihau nifer y cynghorau ledled Cymru. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog faddau inni am fod yn amheus i dderbyn haeriad Llywodraeth Cymru y bydd yn diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan yr ymddengys fel petai'r un syniad yn parhau i gael ei ailgylchu a'i ollwng bob rhyw flwyddyn neu ddwy. Rwy'n sylweddoli y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad gyda rhagor o wybodaeth am hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni unwaith ac am byth a fydd yn derbyn bod yr un hen ddadleuon dros ganoli llywodraethau lleol yn groes i ewyllys y bobl wedi eu rhoi o'r neilltu nawr, ac a wnaiff ef ystyried defnyddio pwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru bellach i edrych ar agweddau eraill ar Lywodraeth Leol yma yng Nghymru.

Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn dadlau bod y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o achosion yn rhoi baich ariannol ar gyllideb Cymru. Felly mae'n hanfodol bod eglurder ar y canlyniadau a ddisgwylir gan y ddeddfwriaeth newydd ac  a yw'r costau a nodwyd yn y gyllideb yn rhoi gwerth am arian mewn gwirionedd. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pa fecanweithiau sydd yn eu lle i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau yn sgil deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifwyd sydd wedi eu rhoi gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi diweddariad i ni hefyd ar sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn gyfeirio'n fyr at fy Mil awtistiaeth arfaethedig, a gaiff ei gyflwyno brynhawn yfory. Yn y gorffennol, mae'r Prif Weinidog wedi nodi'n glir nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ef yn bresennol yn ystod fy natganiad i yfory i glywed am y manteision gwirioneddol y bydd gweithredu deddfwriaeth sylfaenol yn eu rhoi i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn eto iddo ailystyried ei safbwynt ar y Bil hwn a bod, o leiaf, yn feddwl agored i'r posibilrwydd o weithredu deddfwriaeth ar awtistiaeth.

Wrth gloi, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Byddwn ni, fel gwrthblaid, yn gweithio mewn ffordd agored ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan fydd, yn ein barn ni, yn gwneud yr hyn sy'n iawn. Hyderaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosibl i lunio deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac a fydd yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru.

14:55

Roedd nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, y pum Mesur yr ydym wedi eu cyflwyno—maen nhw'n caniatáu rhywfaint o slac inni er mwyn gallu rhyddhau adnoddau i ymdrin ag unrhyw Filiau, neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, y bydd eu hangen o ganlyniad i Brexit. O ran beth fydd y blaenoriaethau, ni wyddom, oherwydd nid oes gennym unrhyw syniad beth yw dymuniad Llywodraeth y DU. Roeddwn ym Mrwsel ddoe, a'r rhwystredigaeth a deimlir yno yw hyn yn gwbl syml: beth mewn gwirionedd yw dymuniad y DU? Does neb yn gwybod. Roeddem yn gwybod ar y penwythnos, ac yna newidiodd popeth ddoe, ac erbyn hyn nid oes syniad gennym eto beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ymbalfalu yn y tywyllwch, o ran beth fydd canlyniad terfynol Brexit. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a fydd Llywodraeth gan y DU erbyn diwedd yr wythnos, felly mae angen sicrwydd yno.

O ran iechyd, mae gennym, wrth gwrs, y Bil ansawdd a llywodraethu ym maes iechyd a gofal, yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Mae tryloywder a dyletswydd o onestrwydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn, ac maen nhw'n arbennig o bwysig fel bod gan bobl obaith, lle bo camgymeriadau yn digwydd, y gellir eu cywiro wedyn. O ran comisiynwyr iechyd, credaf mai'r anhawster o gael unigolyn etholedig mewn ardal neilltuol yw y bydd yn canolbwyntio yn unig ar y gwasanaethau a ddarperir i'w etholwyr ei hunan. Os oes Comisiynydd Iechyd wedi ei ethol ar gyfer, dyweder, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pa sicrwydd sydd y gwnaiff y Comisiynydd Iechyd gymryd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn yr hyn sy'n digwydd yn Hywel Dda? Dyna'r broblem. Felly, mae perygl mawr y byddai'r Comisiynydd Iechyd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal ei hun yn unig gan y byddai hynny'n effeithio ar ei etholwyr ei hun. O ganlyniad, nid ydym yn argyhoeddedig y byddai comisiynwyr iechyd yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol.

O ran ansawdd aer, mae e'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio bod ansawdd aer yn bwysig. Mae gennym gynlluniau sydd ar waith. Nid ydym yn gweld bod angen ymyriad deddfwriaethol ar hyn o bryd. Mae gennym ni, wrth gwrs, fetro de Cymru. Mae'n drueni mawr na wnaeth ei blaid ef gefnogi trydaneiddio'r brif reilffordd o Gaerdydd i Abertawe, ac yn drueni mawr iawn na wnaeth ei blaid ef gefnogi—wel, nid yw hynny'n deg, gan fod yna rai ar ei feinciau ef oedd yn cefnogi'r morlyn llanw, ond ni wnaeth ei blaid ef yn Llundain gefnogi'r prosiect a fyddai wedi creu cynifer o swyddi ac a fyddai wedi gwella ansawdd yr aer yn rhinwedd y ffaith mai ynni adnewyddadwy fyddai wedi cael ei gynhyrchu. Nid yw hynny wedi helpu dim, o ran gwneud yn siŵr bod ansawdd yr aer yn gwella.

Roedd yn holi ynghylch Bil amaethyddiaeth Cymru. Nid ydym yn gwybod eto beth sydd ym Mil amaethyddiaeth y DU—nid ydym wedi ei weld, ac rwy'n tybio nad oes neb wedi ei weld yn Whitehall. Mae'n debyg y caiff ei gyhoeddi ym mis Medi. Hyd nes y byddwn yn ei weld, mae'n anodd inni wybod yn union pa ymyriadau deddfwriaethol y bydd angen i ni eu gwneud. Yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd ar ôl 2021. Beth fydd yn digwydd i gymorthdaliadau amaethyddol? Nid oes gennym unrhyw sicrwydd y daw'r un geiniog i Gymru. Daw rhyw £260 miliwn o arian i ffermwyr bob blwyddyn. Nid oes gwarant o geiniog y tu hwnt i'r dyddiad sydd eisoes wedi ei ddatgan yn gyhoeddus. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Yr hyn a ddywedwyd wrth Lywodraeth y DU yw, 'Rhowch swm cyfatebol o arian o'r neilltu a'i ddosbarthu yn yr un ffordd yn union ag yn awr, hyd nes y ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau i newid y system pe bai angen hynny.' Hyd yma, ni chafwyd ateb.

O ran lles anifeiliaid, unwaith eto, byddwn yn gweithio gyda Senedd y DU, yn ôl yr angen i wneud hynny. Bu achlysuron pan gawsom ein cario ar gefn deddfwriaeth y DU, a phan nad yw'r ddeddfwriaeth honno'n ddadleuol, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni wneud felly yn y dyfodol—lle nad oes prawf o unrhyw angen am ddeddfwriaeth ar wahân i Gymru a phan fyddwn yn cytuno â'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei wneud yn eithaf cyffredin mewn Llywodraeth.

Mae e'n sôn am y Bil Llywodraeth Leol. Nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar strwythur Llywodraeth Leol. Ond mae'n rhaid imi ddweud, a yw ef yn dweud mewn gwirionedd bod Cyngor Sir Penfro wedi cyflawni gwasanaeth da a chyson i'w ddinasyddion? Wir? Ar ôl yr hyn a dalwyd i'r prif weithredwr, ar ôl y car a gafodd, ar ôl y methiannau mewn addysg, mae'n eistedd yno ac yn amddiffyn hynny. Bobl bach. Ni all  wneud hynny cyn belled ag y mae ei etholwyr yn y cwestiwn. Nawr, os nad yw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig, bydded iddo gyflwyno ei syniadau ei hun. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am ddiwygio llywodraeth leol. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am sut y gallem ni wella llywodraeth leol—dim byd o gwbl. Maen nhw o fewn eu hawliau i wrthwynebu'r hyn a gyflwynwyd gennym ni, ond er mwyn popeth, cyflwynwch rai syniadau a gadewch i ni weld sut y byddai'r syniadau hynny'n gweithio.

Rwyf wedi fy syfrdanu oherwydd bod arweinydd dros dro yr wrthblaid o'r farn bod pobl, yn Sir Benfro, ac mewn nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru, rywsut wedi cael gwasanaeth da yn gyson dros lawer o flynyddoedd. Do, efallai fod pethau wedi gwella, ond er mwyn popeth, roedd yn sobr o wael ar un adeg. Nid hwn yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi bod yn y sefyllfa honno ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y bydd eraill yn yr un sefyllfa yn y dyfodol. Dyna pam mae mor bwysig mynd i'r afael â hyn nawr, ac nid bod yn wrthbleidiol heb gyflwyno eich syniadau eich hun.

Mae e'n gwneud y pwynt ynghylch gwerth am arian. Mae hwnnw'n bwynt teg o ran system o Asesiadau Effaith Rheoleiddiol sydd gennym. Rydym bob amser yn ceisio sicrhau y ceir gwerth am arian. Mae'n gwestiwn agored bob amser a yw'r ddeddfwriaeth yn dda ai peidio; mae hynny'n dibynnu, mae'n debyg, ar eich safbwynt gwleidyddol, a lle'r Cynulliad yw craffu ar honno.

O ran ei Fil awtistiaeth, bydd yn cael ymateb llawn yfory gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs.

15:00

Hwn yw wythfed datganiad y Prif Weinidog, a'r olaf, ar raglen ddeddfwriaethol y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at gael dadl lawn ar y cwestiwn hwn yn yr hydref. Felly, beth sydd gennym ni yn yr wythfed datganiad hwn? Wel, mae uno'r cynghorau yn ôl ar yr agenda bum mlynedd wedi i Gomisiwn Williams ei godi gyntaf. Unwaith eto, mae mater cosbedigaeth resymol, sydd gyda ni bob amser yn ôl pob golwg, yn codi ei ben eto, ac rwy'n edrych ymlaen, o'r diwedd, at weld rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth; ac estyniad cyfyngedig o etholfraint pleidlais i rai 16 ac 17 oed. Onid ailbobiad yw hwn fwy neu lai o'r rhaglen ddeddfwriaethol a welsom ni o'r blaen? Pan fo ein democratiaeth, ein cenedl a gwleidyddiaeth drwyddi draw mewn cyflwr o newid, mae angen uchelgais, gwerthoedd, gweledigaeth ac arweinyddiaeth, ac nid wyf yn gweld y pethau hynny'n cael eu cynrychioli yn natganiad heddiw.

Gallwn gytuno bod San Steffan yn siomi Cymru. Ond bwriad y Senedd hon, cartref newydd democratiaeth Cymru, oedd rhoi'r cyfle inni wneud pethau mewn ffordd arall. Pan ddiddymwyd y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw, onid ydych chi o'r farn y dylid bod wedi cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cwmni ynni newydd gwladol Cymreig? Mae'n rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn ein dwylo ni, ac nid caniatáu i San Steffan glymu ein dwylo tu ôl i'n cefnau.

Prif Weinidog, mae cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu heriau mawr, ac er bod eich Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cael ei chanmol yn fawr, yn edrych yn dda ar bapur o bosibl, mae'r pwysau'n parhau yn y byd go iawn. Mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu. Rydym yn gadael amgylchedd sy'n gynyddol ddigroeso. Mae llygredd aer yn lladd degau o filoedd bob blwyddyn, a gwastraff plastig yn hagru ein harfordir a chefn gwlad, ond ni cheir Deddf aer glân na chynllun dychwelyd poteli yn unman yn y datganiad hwn. Ble maen nhw? Ble mae'r ddeddfwriaeth i baratoi ein cenedl ar gyfer pŵer i gerbydau hydrogen a thrydan? Yn hytrach na gweithredu, rydych wedi dewis ymosod ar Aelodau ar y meinciau hyn am feiddio gofyn y cwestiynau hyn.

Nawr, Prif Weinidog, rwy'n parchu eich dyhead i greu Llywodraeth ffeministaidd. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw. Beth sydd ddim i'w hoffi am hynny? Wel, gallaf ddweud wrthych ein bod ni beth cythraul o ffordd o'r fan honno. Felly, pa ddeddfwriaeth, pa gyfreithiau, pa newidiadau yr ydych yn eu cynnig i wneud hyn yn realiti? Unwaith eto, mae hwn swnio'n fwy fel datganiad bachog nag unrhyw beth o sylwedd, yn fy nhyb i. Mae eich cynllun gofal plant di-uchelgais, nad yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, wedi cael ei fychanu gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am ei reoli, a bydd yn cael ei orfodi drwodd ac rydych yn dal i wrthod galw am ddatganoli gweinyddu lles—un o argymhellion allweddol eich adolygiad cyflym eich hun ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Nid ydym yn agos o gwbl at iwtopia ffeministaidd, hyd yn oed o ran uchelgais.

Rwy'n gobeithio bod hepgor y manylion ar Fil iaith Gymraeg yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd egwyl ac yn meddwl eto. Gwyddoch fod yr angen yno. O dan eich cynigion presennol, onid yw hi'n wir y byddai cwmnïau preifat fel Trago Mills yn cael eu rhyddhau o'u cyfrifoldeb i barchu a diogelu ein hiaith a'n diwylliant? A ninnau wedi gweld cynnydd enfawr mewn rhagfarn wrth-Gymreig, does bosib fod hynny'n dderbyniol.

Gohiriwyd llawer o benderfyniadau allweddol: maint ein Senedd a'r rhai hynny sy'n gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth yn un peth, a bu diffyg dewrder dirfawr ynglŷn â'r cwestiwn hwn ac mae hynny wedi bod yn siomedig. Rwy'n gwybod y daw newidiadau yn anochel yn sgil cael Prif Weinidog newydd, ond nid oes amser i aros am brosesau mewnol y Blaid Lafur. Mae Brexit ar y ffordd ac mae'r byd yn dal i droi. Ni chynlluniwyd un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer addysg, trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd, tai, gofal cymdeithasol, ffermio, pysgodfeydd, ac eto mae gennym heriau ym mhob un o'r meysydd hynny, onid oes?

Prif Weinidog, mae hon yn rhaglen ddeddfwriaethol o hen syniadau a dim uchelgais. Nid yw'n mynd i'r afael â llawer o'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Mae angen gwell na hyn ar Gymru, ac mae modd gwneud llawer mwy.

15:05

Yn gyntaf, dim ond dweud, unwaith eto, yr awgrymwyd bod uno cynghorau ger ein bron yn anochel; nid felly. Ceir Bil llywodraeth leol; ceir gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar welliannau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng llywodraeth leol. Mae'n iawn ar yr etholfraint pleidleisio—rydym wedi dwyn hyn ymlaen oherwydd nid ydyw wedi digwydd eto, felly mae'n bwysig yn achos etholiadau llywodraeth leol bod hynny'n rhan o'r broses honno.

Mae'n rhaid imi ddweud, nid yw pasio cyfreithiau ar bethau yn golygu y byddan nhw'n digwydd. Mae angen adnoddau er mwyn i bethau ddigwydd. Mae hi'n dweud bod angen deddfwriaeth i fod â chwmni ynni mewn perchenogaeth gyhoeddus; nid yw hynny'n golygu unrhyw beth oni fydd arian wrth gefn. Os oes arian y tu cefn, o ble y daw hwnnw? Ac o ran o ble y daw, a yw hynny'n golygu bod yr arian ar y llyfrau neu oddi ar y llyfrau? Nid oes un o'r pethau hyn wedi cael eu hesbonio mewn gwirionedd o ran sut y byddai hynny'n darparu ar gyfer pobl Cymru. Rwyf o'r un farn â hi pan mae'n condemnio'r penderfyniad ar forlyn llanw Bae Abertawe oherwydd ein penderfyniad ninnau oedd hwnnw hefyd, ond ni allwn esgusodi San Steffan gan honni bod cynllun i'w gael a fydd yn sicrhau £500 miliwn o fuddsoddiad yn y cyfamser, oherwydd ni fyddai'n gwneud hynny.

O ran cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n dychwelyd at y metro—nid yn unig y metro yn y De, ond y cynlluniau ledled Cymru gyfan. Rydym yn gweld system trafnidiaeth gyhoeddus lawer, llawer gwell yn cael ei datblygu ledled Cymru o ran rheilffyrdd trwm, a rheilffyrdd ysgafn a bysiau hefyd ymhen amser. Bydd y dewisiadau hynny, wrth iddyn nhw ddod yn fwy deniadol i bobl, yn golygu y bydd llai a llai o bobl yn defnyddio ceir, bydd llai o bobl yn teimlo na allant feicio neu gerdded i'r gwaith a dyna'r ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gweld gwell ansawdd aer yn y dyfodol. Nid yw cyfraith yn mynd i helpu hynny; newid ymddygiad pobl fydd yn helpu hynny a chynnig dewisiadau gwell na'r hyn sydd ganddyn nhw nawr.

Mae hi'n iawn i ddweud ein bod ni ymhell o fod y wlad fwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw ynddi. Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae'n iawn i ddweud bod gennym ni'r Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig sydd yn gyfran falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud, ond ceir llawer eto i'w wneud, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. A dyna pam rydym wedi cael cam un yr adolygiad a pham bydd cam dau yn digwydd ar ôl fy amser i yn y swydd hon, oherwydd bod angen gwneud mwy. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn un maes o'r fath, ond ceir mwy na hynny. Yn fy marn i, mae pethau wedi mynd tuag yn ôl yn y tymor byr o ran y ffordd y mae menywod wedi cael eu trin. Rydym i gyd wedi gweld beth sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym i gyd wedi gweld y gwaith sydd yn rhaid ei wneud yno. Felly, cytunaf yn llwyr â hi o ran y ffaith bod angen inni wneud mwy i gyflawni'r hyn y byddai hi a minnau yn dymuno ei weld.

O ran y cynllun gofal plant, mae hi'n dweud na fyddai'n cyflawni, ond nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth o ran pam na fyddai'n cyflawni. Mae hwn yn gynllun y pleidleisiodd pobl Cymru arno. Roeddem yn glir ynghylch yr hyn y byddem yn ei wneud gyda'r cynllun gofal plant a bydd yn darparu ar gyfer y bobl a bleidleisiodd o'i blaid a'r bobl sydd angen gofal plant i rai tair a phedair oed. Wrth gwrs y byddai'n braf gallu ymestyn hyn, ond nid yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny. Felly, dyma'r man pellaf y gallwn ei gyrraedd gyda'r adnoddau sydd ar gael inni.

Roedd hi'n sôn am Fil yr iaith Gymraeg. Y rheswm pam rydym yn ystyried Bil newydd yw oherwydd nad yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a ddygwyd ymlaen gan Aelod o'i phlaid hi ei hun, yn ddigonol nac yn gweithio er mwyn pobl Cymru. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwella'r ddeddfwriaeth—[torri ar draws.] Fe wnaethom ni bleidleisio o'i blaid, ond pleidleisiau Plaid Cymru oedden nhw hefyd, ac felly dyna pam mae angen inni gael system sy'n ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith. Wrth gwrs, mae gennym ein targed ar gyfer 2050. Ond ceir rhai agweddau ar y Mesur y mae angen eu cryfhau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna'r hyn y bwriadwn ei wneud yn Llywodraeth.

O ran y ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu fel sefydliad, nid fy lle i, â phob parch, yw barnu hynny—mae hynny'n fater i'r Llywydd ac i bob un ohonom ni sy'n Aelodau o'r Siambr hon i weithio ar sut fath o strwythur ddylai fod gennym ar gyfer y Siambr hon. Ceir anghytundeb mawr, nid yn gymaint o ran y niferoedd, ond o ran y system etholiadol a bydd angen datrys hynny yn ystod y misoedd nesaf. Ceir safbwyntiau gwahanol iawn yn y Siambr hon o ran, yn gyntaf, a ddylid cael 80 o Aelodau, ac yn ail, os ceir hynny, sut y cânt eu hethol, ac ni ellir datrys hynny'n gyflym. Bydd angen cryn amser i ddatrys hynny.

Wedyn, o ran y materion eraill a godwyd ganddi, fe sylwais nad oedd hi, yn wahanol, mae'n rhaid dweud, i arweinydd y Ceidwadwyr, wedi rhoi unrhyw syniadau deddfwriaethol gerbron. Nawr, os oes gan Blaid Cymru syniadau, gadewch inni eu clywed a gadewch inni ddeall sut raglen ddeddfwriaethol fyddai ganddyn nhw. Gadewch inni weld pa syniadau sydd ganddyn nhw ar gyfer Biliau, ac wedyn wrth gwrs gallwn weld a fyddai'r mesurau hynny yn ymarferol ac, yn wir, yn deilwng o'u cefnogi cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn. Rydym ni wedi cyflwyno ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef, wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn nesaf.

15:10

Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Ac er fy mod yn croesawu rhai o'r mesurau a amlinellwyd gennych yn eich rhaglen ddeddfwriaethol, nid wyf i'n teimlo ei bod mor uchelgeisiol ag y dylai fod.

Rydym bron hanner y ffordd drwy'r Cynulliad hwn ac mae gennym wyth Deddf ar y llyfrau statud ac, ar wahân i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru) 2018, mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar drethiant. Mae'r cyhoedd yng Nghymru, rwy'n teimlo, yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i weld gwelliant yn eu bywydau, i wneud eu bywydau yn well, ac nid wyf yn gweld digon o dystiolaeth i'r gwelliant hwn.

Rwy'n croesawu'r cynlluniau am lais annibynnol i gleifion Cymru, cyn belled â bod y llais yn un gwir annibynnol, llais gwirioneddol y cleifion. Rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y Bil hwnnw yn fanwl, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y bydd yn gwahaniaethu oddi wrth y cynghorau iechyd cymuned. Prif Weinidog, pa swyddogaeth fydd gan y corff newydd hwn i fynd i'r afael ag esgeulustod clinigol, a sicrhau y bydd byrddau iechyd lleol yn bodloni eu rhwymedigaethau a sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol?

Mae'r cynlluniau i sefydlu dyletswyddau o ansawdd a didwylledd mewn iechyd a gofal cymdeithasol i'w croesawu'n fawr. Bydd y rhain yn sicrhau bod pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cadw at yr un safonau proffesiynol â'n meddygon a'n nyrsys. Prif Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Colegau Brenhinol a'r cyrff proffesiynol ynglŷn â'r modd y mae'r dyletswyddau newydd yn cyd-fynd â'u codau amrywiol?

Rwy'n croesawu'r cynlluniau i ddiwygio Llywodraeth Leol, oherwydd fy mod yn teimlo ei bod yn chwerthinllyd bod gennym 22 o wahanol awdurdodau lleol ar gyfer poblogaeth gymharol fechan. Er hynny, rydym ni wedi ein bod yma o'r blaen ac ni ddigwyddodd unrhyw beth. Felly, Prif Weinidog, a oes gan eich Llywodraeth chi yr ewyllys mewn gwirionedd i wireddu hynny'r tro hwn?

Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto ynglŷn â gostwng oedran pleidleisio, ond rwy'n gweld ei bod yn gall i fwrw ymlaen â hynny ar yr un pryd â diwygio llywodraeth leol. Prif Weinidog, a fydd y Bil yn ceisio gwneud newidiadau eraill hefyd i'r etholfraint? A fydd preswylwyr hirdymor yn gymwys i bleidleisio?

Rwy'n croesawu'r bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau; bu hen ddisgwyl amdani. Eto i gyd, beth ydym ni'n bwriadu ei wneud ynglŷn â ffermydd cŵn bach neu'r rhai sy'n cam-drin anifeiliaid anwes? Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ehangu'r ddeddfwriaeth hon i ymdrin â materion lles anifeiliaid yn ehangach?

O ran y cynlluniau i gyflwyno gwaharddiad ar daro plant, a oes gennym ni hawl i ddweud wrth rieni sut i ddisgyblu eu plant? Prif Weinidog, gan nad yw canlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynnig deddfwriaethol wedi eu cyhoeddi eto, a wnewch chi roi gwybod inni beth wnaeth eich argyhoeddi chi o'r angen i gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn awr?

Mae'r Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn ymddangos yn gefnogol iawn, ond mae gennym ffordd hir eto i fynd er mwyn darparu digon o leoedd lloches yn y maes hwn.

Mae llygredd yr aer, fel y soniodd Paul Davies, yn achos pryder mawr. Rwy'n holi, pan fyddwn yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd, sut y gallwn ni gynnwys y mater hwn yn yr hafaliad i wella ansawdd aer ar gyfer pawb.

Prif Weinidog, roedd eich rhaglen lywodraethu yn addo camau i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl. Ymhle mae'r ddeddfwriaeth, os gwelwch yn dda, i ategu hyn? Ac wrth inni barhau i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u lles, mae cynllunio seilwaith yn bwysig, ac rwy'n falch o weld bod hyn wedi cael ei grybwyll. Rwy'n edrych ymlaen at y newyddion diweddaraf yn y maes hwn a'r cynnydd, a byddaf yn gwylio'r datblygiad hwn â diddordeb mawr.

Gwnaethoch addewid i ddiwygio Mesur yr iaith Gymraeg fel y gall busnesau fuddsoddi i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, ac rydych wedi addo edrych ar roi terfyn ar fancio tir, gwella lles anifeiliaid, ymladd yn erbyn torcyfraith seiber, mynd i'r afael â hysbysebu bwyd cyflym yn ymyl ysgolion, a gwneud Cymru yn genedl sy'n cydymdeimlo â dementia. Roeddech yn addo llawer o bethau sydd heb eu cyflawni hyd yn hyn. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl rhaglen ddeddfwriaethol fwy uchelgeisiol ar gyfer Cymru? Diolch.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n credu mai'r peth cyntaf sy'n bwysig i'w gofio yw na ellir datrys popeth gyda deddfwriaeth sylfaenol. Mae materion a nodwyd ganddi yna sy'n rhai pwysig ond nid oes angen Biliau mewn gwirionedd er mwyn iddyn nhw gael eu dwyn ymlaen. Mae angen adnoddau ar rai ohonyn nhw; byddai angen deddfwriaeth eilaidd ar rai ohonyn nhw. Nid yw'n wir bod angen Bil o reidrwydd. O ran ansawdd a llywodraethu yn y Bil iechyd a gofal, wel, a gaf i atgoffa'r Aelodau unwaith eto y bydd y ddyletswydd statudol o ansawdd yn adeiladu ar y gofynion presennol sydd ar Weinidogion Cymru a'r GIG a bydd yn sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol am wasanaethau gofal iechyd yn arwain at welliant parhaus a chanlyniadau gwell ac yna, wrth gwrs, bydd y ddyletswydd o onestrwydd yn arwain at fod yn agored, at ddysgu a gwelliant ledled y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol.

Holodd am yr ymgynghoriad: gallaf ddweud y cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Mehefin a mis Medi y llynedd. Mae adborth o'r ymgynghoriad hwnnw wedi canolbwyntio yn helaeth ar gynigion i roi llais i ddinasyddion ac, wrth gwrs, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar 21 Chwefror yn amlinellu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a sut y byddwn yn dwyn pethau yn eu blaenau.

O ran y Bil llywodraeth leol, roedd yr hyn a ddywedodd hi am leihau nifer yr awdurdodau lleol yn ddiddorol. Mater iddi hi, wrth gwrs, yw hynny, ond, o ran beth fydd y Bil llywodraeth leol yn ei gynnwys, bydd o leiaf yn cynnwys darpariaethau ar gyfer uniad gwirfoddol rhwng y prif awdurdodau lleol. Bydd yn cynnwys, fel y soniwyd eisoes, faterion megis gostyngiad yn oedran pleidleisio mewn etholiadau awdurdodau lleol a chymhwysedd—felly, er enghraifft, o ystyried preswyliaeth—pŵer cyffredinol o gymhwysedd ar gyfer y prif awdurdodau lleol a'r cynghorau cymuned cymwys; cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol; bydd yn edrych ar ddyletswyddau ac ymddygiad yr Aelodau; system newydd ar gyfer gwella llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygiad gan gymheiriaid; pŵer i gyhoeddi canllawiau ar faterion gweithlu; cryfhau'r modd y rheolir osgoi ardrethi annomestig; ymchwiliadau ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus i gwynion cod ymddygiad; a mwy o hyblygrwydd i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno neu ddaduno. Dyna esgyrn sychion y Bil Llywodraeth Leol.

O ran lles anifeiliaid, ceir cod ymarfer—neu godau ymarfer—sy'n ymdrin â mater ffermio cŵn bach, i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw. Ceir gofynion cyfreithiol ar y bridwyr hefyd.

O ran cosb resymol, wel, y gwir amdani yw ein bod ni yn rheoli'r modd y gall rhieni geryddu eu plant, fel arall byddem yn caniatáu iddyn nhw wneud yn union fel y dymunent, ac ni fu hynny erioed—. Nid felly y bu ers llawer iawn o flynyddoedd. Nid amcan y Bil yw erlyn pobl yn ddianghenraid, ond ystyried arallgyfeirio pe ceid achos cychwynnol ac ystyried erlyniad pe ceid achosion dilynol. Felly, nid y bwriad yn sicr yw gweld llu o erlyniadau pan geir achos cyntaf. Bydd angen i hynny ddigwydd drwy weithio gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o ran pwy sy'n cael eu cyhuddo, o ran gwedd y canllawiau erlyn a gyhoeddir gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'r cyhoedd, ac mae'r gwaith hwnnw ar y gweill. Rwyf i o'r farn ei fod yn gam arall y bydd pobl yn ei ystyried yn bwysig o ran cael y cydbwysedd cywir rhwng cosbedigaeth ac amddiffyn plant. Roeddwn i yn y Siambr hon, fel llawer un arall, cyn cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu a chafwyd llawer a oedd yn gwrthwynebu hynny, a bellach mae hynny wedi ei dderbyn. Nid oes neb—. Wel, ychydig iawn o bobl sydd yn dadlau gyda'r gwaharddiad ar ysmygu a'r ffaith ei fod ar waith.

O ran gwasanaethau iechyd meddwl, rydym yn parhau i—. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad, wrth gwrs, i wasanaethau iechyd meddwl gyda'r arian ychwanegol a roddwyd ar gyfer hynny. Fel y dywedais, gan ddod yn ôl at y pwyntiau a wnaethoch chi ar seilwaith, wel, unwaith eto, nid oes angen deddfwriaeth ar hynny; mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno o ran y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, sy'n rhoi inni'r cynllun ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.

A chyn belled ag y bo Mesur yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn, wrth gwrs, ein bwriad yw cryfhau'r diogelwch deddfwriaethol a'r hawliau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg.

Rwy'n croesawu'r rhaglen ar gyfer llywodraethu, ac rwy'n croesawu rhai o'r eitemau yn arbennig sydd yn rhaglen lywodraethu yr wyf yn credu eu bod yn uchelgeisiol, ac rwy'n arbennig o falch y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae hwn yn rhywbeth yr ydwyf i wedi ymgyrchu amdano ers blynyddoedd lawer. Siaradais amdano yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn y flwyddyn 2000. Felly, caf fy atgoffa dro ar ôl tro mai gêm hirfaith yw gwleidyddiaeth. Beth bynnag am hynny, rwy'n falch iawn ei fod o'r diwedd wedi cyrraedd hyd yma, ac, os caiff ei basio, bydd Cymru'n ymuno â rhestr gynyddol o wledydd sydd yn dileu'r amddiffyniad hwn. Ac ni fu unrhyw dystiolaeth o'r gwledydd hynny o unrhyw gynnydd mewn troseddoli rhieni. Mae'n ymddangos yn gam normal iawn ac ymarferol i'w gymryd a chredaf, wedi gwneud hyn a chael, yn ddiamau, ddadl hwyliog, byddwn i gyd yn rhyfeddu at yr holl stŵr a fu wedi iddo fod.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gwaith ymchwil diweddaraf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n dangos newid yn agwedd y cyhoedd yng Nghymru tuag at y ffordd mae rhieni yn cosbi eu plant. Mae'r mwyafrif bellach yn cefnogi gweithredu deddfwriaethol. Mae nifer y rhieni sy'n taro eu plant yn gostwng yn gyflym mewn gwirionedd, felly rwy'n credu bod barn y cyhoedd yn newid, a chredaf fod y ddadl yr ydym wedi ei chael dros flynyddoedd lawer yma yn y Siambr hon a'r tu allan wedi helpu i gael y newid hwn o ran barn. Felly, rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n cael y ddeddfwriaeth hon yn uchelgeisiol, ac rwy'n credu ei bod yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn rhoi amddiffyn plant mewn lle blaenllaw, felly mae hon yn agwedd ar ddeddfwriaeth yr wyf yn ei gwir groesawu yn gynnes iawn.

Yr un arall yw'r ffaith y bydd gan rai 16 a 17 mlwydd oed bleidlais mewn llywodraeth leol, pe byddai hynny'n cael ei basio yn y Siambr hon, sydd, unwaith eto, yn ymgyrch y mae llawer ohonom wedi ymwneud â hi ers blynyddoedd lawer. Felly, mae'n wych i weld hynny'n dwyn ffrwyth. Mae'n ddrwg gennyf i mai dim ond gyda llywodraeth leol y bydd hynny'n digwydd ar hyn o bryd ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau hynny ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, ac yn y pen draw yn San Steffan, ond bydd ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed, gan barchu eu barn a'u cael i fod â rhan yn eu dyfodol, yn fy marn i yn gam cadarnhaol iawn ac rwy'n credu bod hyn yn unol â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon i Gymru dan arweiniad y Blaid Lafur wedi ei wneud bob amser o ran rhoi plant yn gyntaf yn ein holl bolisïau. Felly, dyna'r ddau fater yr hoffwn i roi croeso arbennig iddyn nhw ac rwyf wir yn credu y bydd modd, gobeithio, i ni gyflawni hynny trwy'r ddau ddarn penodol hyn o gyfraith.

15:20

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd hi'n cofio'r trafodaethau a gafodd hi a minnau a Christine Chapman yn fy ystafell i fyny'r grisiau. Roedden nhw'n drafodaethau oedd yn arwain at gytundeb bob amser, a bydd hi'n gweld yr hyn y byddwn yn ei gyflawni o ran bwrw hyn yn ei flaen nawr. Wrth gwrs, mae'n ymwneud hefyd â rhoi cymorth i rieni drwy becyn o fesurau, gan gynnwys cyngor ar dechnegau rhianta. Fel y dywedodd hi—ac eraill—nid y bwriad yw bod â golwg ar wneud pobl yn droseddwyr fel y bwriad cyntaf, ond i roi'r cymorth hwnnw a gwneud yn siŵr y bydd pobl yn deall y neges. Gwyddom o'r arfer mewn gwledydd eraill mai dyna'r ffordd y cyflawnwyd hyn.

Wrth gwrs, mae'r hyn a ddywed am rai 16 ac 17 oed yn iawn. Os oedd hi'n iawn i rai 16 ac 17 oed allu pleidleisio yn y refferendwm yn yr Alban yn 2014, nid oes unrhyw reswm pam na ddylen nhw allu pleidleisio ledled y DU mewn etholiadau eraill hefyd. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol pam na ddylai un ddilyn y llall. A dyna pam, wrth gwrs, cyn belled ag y mae Llywodraeth Leol dan sylw, y byddwn yn cyflwyno pleidleisiau i rai 16 a 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol, ac, wrth gwrs, ymhen amser, bydd Bil gerbron y Cynulliad yn edrych ar etholfraint y Cynulliad ei hun. Bydd hi'n gwybod fy mod i, yn bersonol, wedi bod o blaid y bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, ond mae ei hanes hi yn y maes hwnnw yn haeddu'r clod mwyaf.

Efallai y gallaf innau ddechrau gyda'r gwaharddiad ar smacio hefyd, os caf i. Yn amlwg, rydym yn cydnabod eich amcan polisi ar hyn. Ond mae problem o hyd gan fod yr amddiffyniad presennol wedi'i lunio o gyfraith trosedd ac nid yw dileu'r amddiffyniad yn diddymu'r drosedd wirioneddol sy'n aros o faes cyfraith trosedd chwaith. Felly, pa un a oes erlyniad neu beidio—ac rwy'n gwybod nad hyn yw eich bwriad—ond bydd yn gadael y rhieni mewn perygl o fod yn droseddwyr yn dechnegol. Felly, sut ydych yn disgwyl gweithio gyda Llywodraeth y DU i oresgyn y gwirionedd gweddol anghyfleus hwn, o'ch safbwynt chi, fod curo heb wneud niwed yn parhau i fod yn drosedd?

Rydym yn cytuno bod y CCUHP yn bwysig, felly byddwn yn awyddus i wybod lle mae eich Bil i sicrhau bod y CCUHP, hawliau plant a'r parch dyledus yn cael eu cadw ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus. Mae'n iawn ein bod ni yma yn gwneud polisïau a deddfwriaeth wedi rhoi'r ystyriaeth ddyledus i hawliau plant. Ond os nad yw gweithredu'r polisïau hynny na'r dehongliad ohonyn nhw yn destun i'r ystyriaeth ddyledus honno, yna nid oes unrhyw warant y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn darparu yn y ffordd yr ydym yn ei bwriadu. Rwy'n gweld y cwestiwn hwn yn berthnasol i hawliau pobl hŷn hefyd. Roeddech yn sôn—wel, rwy'n credu mai Paul Davies, a grybwyllodd, mewn gwirionedd—nad oes gennych chi fonopoli ar y syniadau gwych i gyd. Wel, pam na wnewch chi gynnwys y ddau syniad hyn, y ddau syniad gwych hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn eich rhaglen ddeddfwriaethol i'r dyfodol tra bod y cyfle gennych i wneud hynny? Rydych wedi gwneud felly gydag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a gallwch weld fod gennym ni rai pethau da i'w dweud, ac, ar yr un pryd, efallai y gallech chi edrych ar ein syniadau ar gyfer lleoliaeth a dinasyddiaeth, y gellid eu gwireddu drwy Fil hefyd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i sôn am ansawdd y ddeddfwriaeth sy'n debygol o gael ei chyflwyno. Mae gennym ni bwyslais enfawr yma o hyd ar Filiau fframwaith, sydd weithiau yn seiliedig ar dystiolaeth anghyflawn, ac rwy'n cyfeirio at Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i gefnogi'r ddadl honno. Ond yn bendant mae'r pwyslais ar ormod o ddeddfwriaeth eilaidd, a dim digon o gyfle i graffu, gyda Senedd cyn lleied ei maint, wrth gwrs. Credaf ei fod yn etifeddiaeth o'r cyffyrddiad â'r cod Napoleonaidd, nad yw erioed wedi cydweddu â'n system gyfraith gyffredin ni yma yn y DU. Mae wedi arwain at lawer o orgymhlethu yma. Felly, a ydych chi'n gweld ffurf deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn newid efallai dros amser wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda mwy o fanylion ar wyneb Biliau drafft, lle y byddan nhw, wrth gwrs, yn wynebu ein gwaith craffu manwl ni? Diolch.

15:25

Feddyliais i erioed y byddwn i'n clywed cod Napoleon yn cael ei grybwyll yn y Siambr, ond bydd hi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y systemau cyfraith sifil sydd gan wledydd y cyfandir yn cael eu hadlewyrchu yn yr Alban hefyd. Felly, dydy hi ddim yn wir bod y DU gyfan rywsut yn wahanol i'r systemau cyfreithiol sy'n bodoli mewn mannau eraill. Mae'r cydbwysedd a geir rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn bennaf yn un o hyblygrwydd, oherwydd pan fo angen, efallai yn flynyddol, neu'n llai aml, ddiweddaru'r ddeddfwriaeth, yna yn amlwg is-ddeddfwriaeth yw'r cyfrwng i wneud hynny. Dyna pam, wrth gwrs, yn aml ceir materion na fydd yn ymddangos ar wyneb Bil, oherwydd efallai y bydd angen diwygio'r Bil hwnnw o fewn blwyddyn neu lai neu y tu hwnt i hynny, ac felly mae angen hyblygrwydd is-ddeddfwriaeth.

Un o'r materion sydd wedi ein trethu ni—yn eironig—wrth inni edrych ar Filiau cyllid yn y dyfodol a Biliau a fydd yn cynnwys cyfraddau trethu—. Yr arferiad, rwy'n deall, yn San Steffan yw cynnwys cyfraddau trethu ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol. Ond mae ganddyn nhw system benodol o Reolau Sefydlog i ymdrin â hynny, a bydd angen i ni eu datblygu, o bosibl, yn y dyfodol os yw hynny i ddigwydd—os cawn ni Filiau cyllid a gyflwynir i'r Cynulliad yn y dyfodol.

O ran cosb resymol, wrth gwrs, drwy gael gwared ar yr amddiffyniad, mae'n golygu nid bod trosedd newydd yn cael ei chreu ond bod amddiffyniad yn cael ei ddiddymu i drosedd bresennol. Doedd hi ddim yn dadlau, rwy'n ffyddiog, i'r drosedd o ymosodiad cyffredin gael ei thynnu o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, ond, serch hynny, bydd yn golygu pan fo pobl yn pledio amddiffyniad cosb resymol mewn llys na fydd yr amddiffyniad hwnnw ar gael iddyn nhw mwyach. A allai hynny arwain at fwy o erlyniadau? Gallai. Ond dyna pam mae'n bwysig dros ben ein bod yn canolbwyntio ar ddargyfeirio, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau nad oes unrhyw erlyniadau am dramgwyddau cyntaf, er enghraifft, ac y cedwir erlyniad yn rhywbeth i'w ddefnyddio mewn cyfyngder. Nawr, mae'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd rhan yn hyn. Maen nhw'n gweithio gyda ni i weld sut y byddai hynny'n gweithio, ac wrth gwrs, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dymuno pennu canllawiau cyhuddo er mwyn bod yna ddealltwriaeth lawn, yn gyhoeddus, o sut y bydd y gyfraith yn gweithredu. Ni fydd creu neu gael gwared ar amddiffyniad, ynddo'i hun, yn arwain at fwy o erlyniadau, cyhyd ag y bydd y sefyllfa yn cael ei drin yn synhwyrol.

O ran ansawdd y ddeddfwriaeth, rwy'n credu mewn gwirionedd y bu'n eithaf rhyfeddol. Dim ond ers 2011 y cafodd y sefydliad hwn bwerau sylfaenol. Doedd gennym ni ddim hanes o gwbl o ddrafftio deddfwriaeth, yn wahanol i Swyddfa'r Alban, a oedd yn brofiadol. Wrth gwrs cafwyd y dyddiau Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a'r dyddiau Mesurau, a roddodd ychydig o ymarfer inni, mae'n debyg, ond mae'n eithaf rhyfeddol ein bod ni wedi gallu cynhyrchu cymaint o ddeddfwriaeth ar y cyd yn y Siambr hon er gwaethaf y ffaith nad oedd gennym unrhyw bedigri o gwbl a dim arbenigedd o gwbl nes yn eithaf diweddar. Credaf fod y ffaith y barnwyd bod y ddeddfwriaeth honno yn gadarn—dydyn ni ddim wedi gweld heriau mawr i'r ddeddfwriaeth honno—yn deyrnged i'r holl rai hynny sydd wedi cymryd rhan wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth honno ac ansawdd y bobl sydd gennym ni—nid oes llawer ohonyn nhw o'u cymharu â Llywodraethau eraill, ond ansawdd y bobl sydd gennym ni. Felly, rydym ni'n fodlon ar y ddeddfwriaeth fel y caiff ei chyflwyno. Credwn y bydd y Biliau yr wyf i wedi mynd trwyddyn nhw heddiw yn rhoi didwylledd llawn inni, er enghraifft, yn y gwasanaeth iechyd, ac y byddan nhw'n rhoi'r cynnydd y mae angen inni ei weld mewn Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddant yn ein galluogi ni i symud ymlaen â'r ymrwymiad hirdymor i gael gwared ar bellter cosb resymol.

Prif Weinidog, dim ond tri phwynt cymharol gryno sydd gen i. O ran pobl ifanc 16 i 17 mlwydd oed yn pleidleisio, tybed a wnewch chi efallai ymhelaethu ar eich barn ynglŷn â sut y gallai'r ddeddfwriaeth honno gael ei llunio, yn arbennig gan y byddai'n effeithio'n sylweddol ar sut y mae'r cwricwlwm addysg yn gweithredu a'r materion sy'n bodoli, er enghraifft, ynghylch ysgolion o fewn eu cwricwlwm yn sôn am faterion gwleidyddol, yn sôn am undebau llafur a chyrff fel hynny o fewn cymdeithas, sy'n amlwg yn bwysig i hwyluso pobl ifanc 16 a 17 oed i arfer y pŵer hwnnw os yw'r ddeddfwriaeth yn mynd rhagddi ac yn cael ei phasio. Fe wnes i rywfaint o ymgynghori â dwy ysgol yn fy etholaeth i—Bryn Celynnog ac Y Pant—a'r hyn oedd yn glir oedd bod mwyafrif llethol y disgyblion yn amlwg eisiau'r bleidlais yn 16 ac 17 oed, ar yr amod fod ganddyn nhw'r wybodaeth a oedd yn eu galluogi i'w defnyddio. Heb hynny, roedd i lawr i tua 50 y cant o ddisgyblion eisiau hynny mewn gwirionedd. Felly, ymddengys i mi fod hynny'n rhan sylfaenol o'r ddeddfwriaeth wrth fynd i'r afael â'r diffyg penodol hwnnw.

Er fy mod yn croesawu Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), byddwch yn ymwybodol hefyd yn y Siambr hon y cafwyd pleidlais unfrydol i gefnogi deddfwriaeth i ddiddymu lesddeiliadaeth. Rwy'n ymwybodol o'r datganiadau cadarnhaol iawn a wnaed gan y Gweinidog yn hyn o beth. Ymddengys i mi fod hwn yn ddarn syml o ddeddfwriaeth, a tybed a allech chi o leiaf gadarnhau nad yw wedi cael ei ddiystyru ar hyn o bryd, a'i fod yn dal i fod yn opsiwn penodol.

Yn drydydd, ar fater anghydraddoldeb, byddwch yn ymwybodol bod adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn benodol yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau ar benderfyniadau mawr, i leihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau mewn gwirionedd. Nawr, ataliodd y Torïaid weithrediad adran 1 o'r Ddeddf honno, ond wrth gwrs o dan adran 45 o Ddeddf Cymru 2017, mae'r pŵer hwnnw i sbarduno adran 1, a'i rhoi ar waith, bellach yn y Cynulliad hwn. Ymddengys i mi, heb faich y prosesau arteithiol ynghylch deddfwriaeth ac ati, y gellid cymryd cam syml drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru i weithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn gwirionedd.

15:30

O ran pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, rwy'n credu bod dyletswydd ar bleidiau gwleidyddol—efallai nad y mwyaf diduedd o ffynonellau—i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr, er mwyn iddyn nhw benderfynu sut y dylen nhw bleidleisio. Dydy mater addysg gyfansoddiadol ddim yn dod i ben yn 17 oed yn fy marn i; mae yno i bobl o bob oedran. Dydyn nhw ddim yn deall yn iawn, yn eithaf aml, sut y mae Llywodraeth yn gweithio, a pham ddylen nhw? Dydy e' ddim yn rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, rwy'n credu, ie, gallwn ni edrych ar y cwricwlwm, ond mae yna rwymedigaeth, rwy'n credu, arnom ni fel gwleidyddion hefyd i ymgysylltu, nid yn unig â'r bobl ifanc 16 mlwydd oed ac 17 mlwydd oed, ond â phobl o bob oedran.

O ran lesddeiliadaeth, os ydych chi'n gofyn, 'A yw'n cael ei diystyru?', yr ateb yw, 'Na, dydy hynny ddim yn cael ei ddiystyru.' Yn amlwg, dydy hynny ddim yn y rhaglen ddeddfwriaethol eleni, ond serch hynny mae'n fater sy'n dal yn fyw cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn.

O ran y Ddeddf Cydraddoldeb, gadewch imi ysgrifennu ato ar hynny, o ran beth y byddai angen ei wneud er mwyn gweithredu adran 1, a beth fyddai effeithiau hynny. Ysgrifennaf ato i roi'r diweddaraf ar y mater hwnnw iddo.

Brif Weinidog, pan rydych chi'n edrych ar y Cofnod, mae'n siŵr y byddwch chi'n canfod bod yna chwe chynnig deddfwriaethol gan arweinydd Plaid Cymru yn ei hymateb i'ch cynigion chithau, chwech ohonyn nhw yn syniadau cyffrous a radical ar gyfer Cymru. A hoffwn i ychwanegu tri arall atyn nhw. 

Yn gyntaf oll, fe ddywedodd arweinydd y tŷ wrthyf fi, wrth i ni drafod y Bil a ddaeth yn Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, y byddwch chi—eich Llywodraeth chithau—yn manteisio ar y cynnig cyntaf i gyflwyno egwyddorion amgylcheddol i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig. Fe wnaethoch chi wneud hynny wrth wrthod cynigion Plaid Cymru i ysgrifennu'r egwyddorion yna ar wyneb deddfwriaeth Gymreig. Ac ers hynny, wrth gwrs, mae Tŷ’r Arglwyddi, yn yr EU withdrawal Bill, wedi mynd ymlaen i ysgrifennu'r egwyddorion yna. Ac felly mae yna rywbeth ar goll fan hyn sydd ddim yn y ddeddfwriaeth Gymreig, ond sydd bellach yn neddfwriaeth Cymru a Lloegr, ond ar gyfer Lloegr yn unig, fel y dywedoch chi. Felly, pryd y cawn ni weld yr egwyddorion amgylcheddol yma yn cael eu hysgrifennu i ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig?

Yn ail, mae'ch Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig yn ymgynghori ar faterion eang iawn ar hyn o bryd ynglŷn â chyllido cefn gwlad wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymddangos i fi bod rhai o'r cynigion yna yn gofyn am Fil yn ymwneud ag amaeth, ac felly pryd cawn ni'r cyfle i drafod deddfu ar gyfer y pwrpasau hynny? Rwy'n cymryd, felly, nid yn ystod y flwyddyn nesaf. 

Ac yn olaf, mae eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid wedi mynegi ei fwriad i fynd ymlaen â threth tir gwag fel un o'r trethi newydd lle gallwn ni ddefnyddio ein pwerau newydd ni i fynd â ni ymlaen. Rwy'n cymryd y bydd angen deddfwriaeth arnom i sylfaenu unrhyw dreth ac na fyddwch yn chwilio am ddeddfwriaeth fframwaith ar gyfer cyflwyno trethi. Felly, pryd welwn ni'r dreth yma? A ydym i gymryd, felly, na fydd y dreth tir gwag yn realistig o gwbl yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf?  

15:35

Wel, mae yna wahaniaeth rhyngom ni a Lloegr achos y ffaith bod gennym ni Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys yn llawer mwy eang yr egwyddorion sydd yna ynglŷn â'r amgylchedd. Ond nid oes rheswm pam na allwn ni ystyried hwn yn ystod y misoedd nesaf, achos un o'r pethau sydd ddim yn amlwg yw pa Filiau fydd eu heisiau.

A fydd eisiau Bil amaeth? Wel, yr ateb i hynny yw, 'Efallai bydd eisiau Bil amaeth.' Ond, ar hyn o bryd, mae'n anodd dweud beth fydd y Bil amaeth hwnnw'n cynnwys. Nawr, dyna pam, wrth gwrs, mae yna le wedi cael ei greu yn y rhaglen ddeddfwriaethol er mwyn sicrhau bod yna le yno i ddatblygu Biliau Brexit. Yn lle ein bod ni'n datgan chwech neu saith Mesur y prynhawn yma, mae yna le yno i'r cyfreithwyr, a hefyd i'r timau Biliau, i ddatblygu Biliau pan mae'r angen yn dod. Mae'r capasiti yno i wneud hynny, fel y dywedais i ar ddechrau'r broses. 

Ynglŷn â threth tir gwag, nid yw hynny'n rhywbeth sydd yn y rhaglen y flwyddyn hon, ond mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn dal i ystyried. Wrth gwrs, fe fydd yna fwy i'w ddweud ynglŷn â hynny yn y pen draw. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am fwy na dwy flynedd bellach, mae'r holl wlad wedi trafod sut i fynd i'r afael â'r amgylchiadau a grëwyd gan y refferendwm Brexit. Cymerodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, chwe mis i lunio ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn seiliedig ar ddadansoddiad economaidd cynhwysfawr o fuddiannau Cymru. Mae hi wedi cymryd dwy flynedd gyfan i Lywodraeth y DU gynhyrchu Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i sefyllfa negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Dirprwy Lywydd, mae'n anodd dechrau datganiad fel hyn heb sôn am yr anhrefn a'r camreoli digyffelyb a fu i'w gweld ers amser maith bellach yn ymagwedd Llywodraeth y DU ac sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa druenus yr ydym ni ynddi heddiw. Mae Llywodraeth y DU mewn cyflwr o anhrefn, y rhaniadau ynddi yn amlygu eu hunain bob dydd, os nad bob awr. Holir cwestiynau difrifol ar bob ochr am ei chymhwysedd sylfaenol. Ar adeg pan mae'r DU gyfan yn wynebu ein her bwysicaf ers cenhedlaeth, mae gennym ni Lywodraeth yn y DU sy'n analluog i wneud y gwaith dan sylw.

Cymerodd ddwy flynedd i Brif Weinidog y DU sicrhau cytundeb Cabinet ar y cyd, ond dim ond dau ddiwrnod i'r Ysgrifennydd Gwladol oedd yn gyfrifol am gyflawni'r polisi hwnnw ymddiswyddo. Ymadawodd yr Ysgrifennydd Tramor—y person sy'n gyfrifol am gynrychioli'r DU dramor—yn fuan wedyn, gan gyhuddo'i Lywodraeth ei hun o chwifio'r faner wen. Ac mae'r ymddiswyddiadau yn parhau, fel y gwyddom ni, bron bob dydd. Mae hynny i gyd, Dirprwy Lywydd, o bwys i ni yma yng Nghymru. Mae agweddau pwysig ar Bapur Gwyn y DU, gan gynnwys trafnidiaeth a physgodfeydd, wrth gwrs, o fewn ein cymhwysedd datganoledig ni. Mae safbwynt y DU ar ba fath o fframwaith symudedd a pherthynas economaidd a fydd gennym ni yn y dyfodol yn hanfodol bwysig i Gymru a'r broses o ddarparu gwasanaethau datganoledig.

Ar bob cyfle, Dirprwy Lywydd, mae Prif Weinidog Cymru, Rebecca Evans drwy gyfrwng ei swyddogaeth ar y fforwm gweinidogol newydd a minnau wedi dadlau'n gyson o blaid Brexit sy'n amddiffyn buddiannau Cymru. Mae ein safbwynt ni yr un fath ag yr oedd ar y cychwyn: un sy'n rhoi dyfodol swyddi a'n heconomi yn gyntaf. Rydym ni'n dweud bod angen i'r DU aros mewn undeb tollau gyda chyfranogiad llawn a dirwystr yn y farchnad sengl. Yn ei Phapur Gwyn, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau sigledig i'r cyfeiriad yr ydym ni wedi ei nodi'n gyson. Mae Llywodraeth y DU bellach yn cyfaddef pa mor bwysig yw cyfrannu yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol. Rydym ni'n cytuno. Maen nhw'n nodi'r angen i sicrhau aliniad deinamig â rheoliadau'r UE wrth i'r Undeb Ewropeaidd barhau i esblygu a datblygu rheolau cyffredin. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n cytuno.

Llwyddwyd i ddwyn perswâd hefyd ar Lywodraeth y DU i barhau i gefnogi cylchrediad rhydd nwyddau o fewn tiriogaeth tollau cyfunol newydd. Mewn Cymraeg clir, siawns nad yw hynny'n cyfateb i gymryd rhan mewn undeb tollau, ac i'r graddau y mae'n gwneud hynny, rydym ni'n cytuno y gallai'r rhain fod yn gamau i'r cyfeiriad cywir. Ond am bob ateb y mae'r Papur Gwyn yn ceisio ei roi, mae cyfres arall o gwestiynau yn codi. Sut allai cynigion tollau astrus y DU weithio yn ymarferol? Dywedodd David Davis, sy'n ymadael â'i swydd ac a oedd hyd yma yn fythol gadarnhaol, fod y gosodiad yn anymarferol. Pa dystiolaeth sydd yna i gefnogi hepgor y sector gwasanaeth o'r rheolau cyffredin? A sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sicrwydd i 27 o wledydd yr UE ynglŷn â materion amgylcheddol a safonau'r farchnad lafur, i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol?

Dirprwy Lywydd, gadewch imi ymhelaethu ar rai agweddau eraill ar y Papur Gwyn sy'n bwysig i Gymru. O ran y fframwaith symudedd, fel y'i gelwir, rydym ni wedi dadlau'n gryf o blaid system sy'n gydnaws â'r egwyddor o ryddid pobl i symud, ond lle bo cyswllt amlwg rhwng mudo a chyflogaeth. Mae gennym ni agwedd gadarnhaol tuag at y cyfraniad y mae dinasyddion yr UE yn ei wneud i fywyd yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn gyfle a gollwyd i roi eglurder i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r dinasyddion hynny o'r UE y buom ni'n ddigon ffodus i'w denu i fod yn rhan o'n cymuned yma yng Nghymru. Unwaith eto, gan wynebu anawsterau anhydrin yn ei rhengoedd ei hun, mae Llywodraeth y DU yn ceisio lloches mewn amwysedd ac oedi. Mewn gwirionedd, mae angen rhoi sylw brys i faterion yn ymwneud â rhyddid i symud, a hynny gydag eglurder.

Dirprwy Lywydd, mae'r Papur Gwyn yn nodi dyheadau'r DU o ran parhau i gymryd rhan yn rhai, ond nid pob un, o raglenni'r UE, megis Horizon ac Erasmus+, yr ydym ni ein hunain wedi dadlau'n rymus o'i blaid. Eto, nid oes unrhyw sôn am raglenni cydweithredu rhyngdiriogaethol, a fyddai'n galluogi Cymru, er enghraifft, i barhau i weithio ar y cyd ag Iwerddon a chymdogion eraill—gwaith yr ydym ni'n dweud a fydd yn fwy pwysig, nid yn llai felly, ar ôl Brexit. Ac mae ymrwymiad y DU yn y Papur Gwyn wedi ymrwymo i rai, ond eto, nid pob un, o'r asiantaethau Ewropeaidd allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau datganoledig megis yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Yn y petruso a'r cyfaddawdu hwn, yr hyn a welwn ni yw Prif Weinidog y DU yn dal i geisio rheoli gwleidyddiaeth fewnol fythol-gyfnewidiol ei Chabinet. Mae ei phwyslais ar ddyfodol ei phlaid wleidyddol yn hytrach na lle y dylai fod—ar ddyfodol ein gwlad a bywoliaeth y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli.

Mae angen cynnal trafodaethau difrifol bellach ar fyrder, fel y gellir dod i gytundeb credadwy ym mis Hydref. Mae'r unrhyw lithro o'r amserlen hon yn cynyddu risg Brexit anhrefnus a'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae angen i Lywodraeth y DU fod yn glir ac yn ddiamwys. Yn hytrach na dyfeisio ffyrdd newydd i ymestyn geiriau—'partneriaeth economaidd', 'rheolau cyffredin', 'tollau', 'tiriogaethau cyfunol'—mae angen i Brif Weinidog y DU ddatgan yn blaen mai bwriad y DU yw aros yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol, a pharhau mewn undeb tollau. Mae'r amser ar ben i geisio plesio'r garfan nad oes modd eu plesio yn ei phlaid ei hun. Mae hi'n bryd bellach canolbwyntio ar y trafodiadau go iawn, rhai â 27 o wledydd yr UE. Ac mae hi yn wir bod angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom ni gan yr Undeb Ewropeaidd hefyd. Mae angen inni allu trafod yn agored, nid cael rhwystrau wedi eu diffinnio gan linellau coch. Pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Michel Barnier ddoe, dywedodd pa mor bwysig yw hi fod yr UE yn dangos haelioni a hyblygrwydd, yn enwedig o ran amserau. Yn amlwg, mae diddordeb cyffredin yn y fantol ar gyfer y DU a'r UE, ac ni ddylem ni fynnu glynu wrth derfynau amser afrealistig ar gyfer pontio os oes perygl y bydd hynny yn ein gwthio'n ddiangen dros ymyl dibyn ffug.

Yn gryno felly, Dirprwy Lywydd, mae Papur Gwyn y DU yn gam hwyr ond sylweddol o bosib. Mae'n cydnabod sawl un o'r pwyntiau allweddol y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn eu gwneud dros y 18 mis diwethaf, ond mae angen gweithredu pellach yn awr er mwyn sicrhau Brexit sy'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio, nid arni hi ei hun ond ar fuddiannau economaidd hirdymor y wlad gyfan.

15:45

Wel, diolch—diolch am eich datganiad. Rwy'n gresynu—yn annodweddiadol iawn ohonoch chi—nad oedd modd imi ei ddarllen dim ond pan ymddangosodd ar fy sgrin ychydig eiliadau'n ôl. Deallaf, yn y broses o gael ei gyflwyno yn hwyr iawn, iawn, na chanfu ei ffordd, yn anffodus, ataf i. Er, ar ôl ei ddarllen—neu wedi gwrando arno—bellach rwy'n deall pam y gallai fod wedi ei ohirio, oherwydd ei deitl oedd, 'Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd', ond mewn gwirionedd, yr hyn ydyw—os caf i fod mor hyf â dweud—yw adwaith bachog i ddatblygiadau dros y pedwar diwrnod diwethaf a sylw'r cyfryngau i hynny. Rwy'n hapus i ymateb i hynny, ond nid i deitl y datganiad.

Rydych chi'n cyfeirio, unwaith eto, at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond o'r cychwyn cyntaf, yn groes i ddatganiad Llywodraeth Cymru, nid oedd yn trin canlyniad y refferendwm â pharch oherwydd Brexit mewn enw yn unig ydoedd.

Rydych chi'n dweud y cymerodd hi ddwy flynedd i Lywodraeth y DU gynhyrchu ei Phapur Gwyn, o'i gymharu â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru, a ddangosodd amharch at ganlyniad y refferendwm, gan ddefnyddio rhethreg ynghylch Prif Weinidog y DU bron yn union yr un fath â'r hyn a ddefnyddiwyd flwyddyn yn ôl yng nghyd-destun cytundeb ymadael cam 1, a gyflwynodd cyn y Nadolig; bron yn union yr un fath â'r rhethreg a ddefnyddiwyd cyn iddi gyflwyno, gyda Mr Barnier, y cytundeb ar y cyfnod pontio ym mis Mawrth, yr hawliodd Llywodraeth Cymru y clod amdano. Gallaf roi sicrwydd ichi ynghylch llawer o bethau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni chredaf y gallai Llywodraeth Cymru hawlio'r clod llawn am hynny, er yn amlwg fe wnaethoch chi ddadlau'r achos, ac rwy'n cyfaddef hynny.

Mae'n amlwg hefyd y llwyddodd Prif Weinidog y DU, sy'n cael ei chyhuddo o wneud dim, i gyflawni cytundebau'r Cabinet rai misoedd yn ôl o ran trefniadau undeb tollau estynedig y tu hwnt i'r cyfnod pontio, os nad yw'r datrysiad y cytunwyd arno wedi ei weithredu mewn pryd, sef yr hyd a fydd y sefyllfa, fwy na thebyg. Ond y gwir amdani, onid yw, fel y dywedodd Ysgrifennydd masnach rhyngwladol y DU y penwythnos hwn, yw na all Llywodraeth y DU blesio pawb? Roedd yn rhaid cyfaddawdu, ond cefnogwyd Brexit gan 17.4 miliwn o bobl, ac roedd deddfwriaeth i weithredu'r penderfyniad hwnnw wedi'i chymeradwyo gan Aelodau Seneddol ac—os gaf i fod mor hyf ag ychwanegu at hynny—Aelodau'r Cynulliad hefyd.

Felly, mae popeth ynghylch y datblygiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—gan ddwyn, efallai, terminoleg rhywun llawer mwy na mi, efallai, a'i lênladrata—nid yw'n ddim amgenach na honiadau mewn cwmwl o rethreg ar ffurf negodi. Wel, mae'r datblygiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno—wedi bod yn ymwneud â sefydlu beth fydd y sefyllfa negodi, nid beth yw canlyniad y trafodaethau hynny, a byddai ymgais gan unrhyw blaid i wanhau, neu geisio gwanhau'r negodwyr ar hyn o bryd, yn destun gofid. Oherwydd y gwir amdani yw y bydd y DU yn peidio â bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019, ac nid oes yr un ohonom ni eisiau syrthio oddi ar ddibyn neu weld Brexit caled—[Torri ar draws.]—heblaw am Blaid Cymru, wrth gwrs, a fyddai wrth eu bodd yn gweld hyn yn arwain at rannu a dinistrio pobl Prydain—[Torri ar draws.]. Y Prydeinwyr sef pobl Cymru. Mae Cymreig yn golygu Prydeinig. Welsh oedd yr enw a ddefnyddiodd y goresgynwyr i'n disgrifio: y Cymry Cymraeg Cymreig, pobl Prydain, y Brytaniaid, sy'n perthyn gyda'i gilydd, byth ar wahân, gan ddathlu ein diwylliant—

Mae'r Aelod wedi cael tri munud a hanner, ac nid wyf wedi clywed cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet eto. A gawn ni glywed cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Cewch, wrth gwrs. O ystyried yr ymwneud a fu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, drwy drafodaethau â Phrif Weinidog Cymru a chi'ch hun, cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar negodiadau'r UE, gohebiaeth barhaus, ac, wrth gwrs, trafodaethau swyddogol parhaus, pa drafodaethau, ar wahân i'r holl rwdl-mi-ri yma, a fyddwch chi'n eu cael wrth i faterion ddatblygu yn awr, o ran trafodaethau mewnol ynghylch ymgysylltu a fframweithiau marchnad sengl y DU ac, wrth inni symud ymlaen gyda'r trafodaethau o ran gadael yr undeb, yn enwedig o ran masnach?

Fe wnaf i hepgor rhai pethau gan fod amser yn brin. Rydym ni'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Brexit newydd, Dominic Raab, yr wythnos hon yn cael ei drafodaethau cyntaf â Mr Barnier, ond yn y cyfamser, yr wythnos hon, mae ei swyddogion yn cynnal trafodaethau paratoadol. Pa ran, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi, neu y bydd hi yn ei chael, yn y trafodaethau paratoadol hynny, ac o bosib yn y trafodaethau wrth i'r wythnos fynd rhagddi?

O ystyried y datganiad yng Nghynulliad Cenedlaethol yr Eidal ddoe y byddai Brexit 'dim bargen' yn ddinistriol i ffermio yn yr Eidal, ac wrth gwrs y gydnabyddiaeth o'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan Bremen y byddai cytundeb 'dim bargen' yn taro 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros yr Almaen, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, o ran cefnogi bargen fasnach rydd gref i'r DU, o gofio mai dyna'r canlyniad mwyaf tebygol oni chaiff ei danseilio, a sut y mae'n estyn allan y tu hwnt i'r UE, cymaint ag y mae hynny'n hanfodol i ardaloedd eraill y byd? Er enghraifft, cyhoeddodd y Cyngor Prydeinig adroddiad yr wythnos diwethaf yn dangos bod cynnyrch domestig gros cyfunol y Gymanwlad yn debygol o gyrraedd £13 triliwn erbyn 2020, gan oddiweddyd ardal yr ewro, a bod canlyniadau ymchwil a gynhaliwyd gan Ipsos Mori ar gyfer y Cyngor Prydeinig ynglŷn â chanfyddiadau pobl ifanc ar draws y G20 bod lefelau ymddiriedaeth ym mhobl, Llywodraeth a sefydliadau'r DU yn uwch yng ngwledydd y Gymanwlad nag yn unrhyw grwp rhanbarthol arall yn y G20, a bod canlyniad refferendwm yr UE wedi cael effaith net sylweddol gadarnhaol ar ba mor honedig ddeniadol yw'r DU ymhlith pobloedd gwledydd Cymanwlad y G20 o'r India, De Affrica, Awstralia a Chanada?

15:50

Roedd hynny hefyd yn gadarnhaol o ran masnach. Yn olaf, o ystyried datganiadau Liam Fox ddoe yn rhinwedd ei swydd yn Ysgrifennydd masnach ryngwladol o ran trefniadau masnach ar ôl Brexit, pan soniodd am ei fwriad i roi hwb i fasnach gyda hen gyfeillion a chynghreiriaid newydd, gan ehangu mynediad at farchnadoedd ledled y byd, ond pan ddywedodd hefyd ei fod yn parhau i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, y Llywodraethau wrth gwrs a gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, i sefydlu trefn sy'n gweithio, yn rhan o hyn i gloi cyfres o drafodaethau polisi cydweithredol bord gron gyda'r llywodraethau datganoledig, gan gydnabod y berthynas agos rhwng polisi masnach a meysydd polisi datganoledig, a allai ddweud wrthym ni ychydig yn fwy, os gwelwch yn dda, am yr hyn a nodwyd yn y papur hwnnw ddoe? Diolch.

Yn gyntaf oll, a gaf i ymddiheuro wrth unrhyw Aelodau yr oedd hi'n hwyr yn y dydd arnyn nhw'n gweld y datganiad a wneuthum y prynhawn yma? Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, mae hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, ac roedd y datganiad wrthi'n cael ei ddatblygu drwy'r bore ac yn gynnar yn y prynhawn.

Gadewch imi ddweud fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio nid ar ffaith Brexit—a gafodd ei setlo mewn refferendwm—ond ar ffurf Brexit. Yn hynny o beth, mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol y gallai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda rhai ohonynt yn lleihau'r niwed a achosir, rhai yn ychwanegu at y niwed a achosir, ac rydym ni wedi bod yn canolbwyntio'n ddiflino ar geisio darbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu dull fyddai'n lleihau'r niwed y gellid ei achosi i economi Cymru ac i'r dyfodol y gall pobl Cymru edrych ymlaen ato.

Wrth geisio gwneud hynny, roeddem ni'n barod i roi croeso gochelgar i rai rhannau o Bapur Gwyn Chequers. Yn anffodus, mae ein gallu i wneud hynny wedi ymddatod wrth i anallu Prif Weinidog y DU gael cefnogaeth i'r Papur Gwyn ymysg ei phlaid ei hun ymddatod hyd yn oed ynghynt. Felly, rydym ni'n wynebu sefyllfa heddiw ble gwelsom ni wiriondeb llwyr un o Weinidogion y DU yn gorfod ymddiswyddo er mwyn arddel y sefyllfa yr oedd ei Brif Weinidog ei hun ynddi dim ond hanner awr yn gynharach. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi am yr anhrefn llwyr sy'n teyrnasu ar ben arall yr M4 a doeddwn i ddim yn genfigennus o swyddogaeth yr Aelod yn codi i geisio amddiffyn safbwynt Llywodraeth y DU, oherwydd ni allai fod yn hyderus erbyn iddo eistedd, y byddai'r sefyllfa a gododd i'w hamddiffyn yn dal i fod yr un yr oedd Llywodraeth y DU yn ei chefnogi.

O ran ei gwestiynau penodol, felly, byddwn yn parhau i drafod pryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud hynny, ni waeth pa mor anfoddhaol y fforwm, ni waeth pa mor anfoddhaol natur y drafodaeth. Bydd cyfarfod yma yng Nghaerdydd ar 1 Awst â Gweinidogion y DU yn bresennol, â Gweinidogion o'r Alban yn bresennol, pan fydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans a minnau yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, ac y byddwn ni, unwaith eto, yn achub ar y cyfle i geisio pwyso ar Lywodraeth y DU y dylai eu mandad wrth iddyn nhw drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn un sy'n rhoi swyddi a bywoliaeth pobl yn y Deyrnas Unedig yn gyntaf. 

Rwyf wedi gwrando eto ar Mark Isherwood yn rhoi inni'r farn hiraethus hon am y byd lle gallwn ni droi ein cefnau ar ein cymdogion yn Ewrop—y bobl yr ydym ni wedi gweithio gyda nhw ers 40 mlynedd—oherwydd bod Cymanwlad sy'n cofio sut yr oedd hi yn yr hen ddyddiau da ac yn aros i ail-greu'r gorffennol yn amgylchiadau'r dyfodol. Does bosib cyflawni hyn yn ymarferol ac fel gweledigaeth ar gyfer Cymru fodern, yn ceisio llwyddo mewn amgylchiadau cyfoes, mae'n weledigaeth hollol ffug. Lle ceir cyfleoedd, fel y dywedaf, a lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Masnach Ryngwladol yn edrych i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, yna, wrth gwrs, byddwn wastad yn ceisio sicrhau bod buddiannau Cymru a blaenoriaethau Cymru yn hysbys i Lywodraeth y DU.

15:55

A gaf i ddweud fy mod i'n gresynu, i ddweud y lleiaf, at rai o'r sylwadau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr? Mae dweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn ceisio dinistrio pobl Prydain, rwy'n credu, yn mynd y tu hwnt i ffiniau arferol pryfocio gwleidyddol. Rwy'n siŵr yr hoffai'r Aelod bendroni ynghylch ei sylwadau ac efallai ymddiheuro ar ryw adeg pan mae wedi ymbwyllo. Ac mae defnyddio termau fel 'rwdl-mi-ri' pan mai ei wleidyddiaeth ffantasi ef sy'n mynd i gostio swyddi i bobl yn y wlad hon, yn fy marn i yn ddim llai na chywilyddus.

Ond rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ar y llanastr parhaus wrth inni wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yn rhannu ei bryderon y bydd yr ansefydlogrwydd cynyddol ar ben arall yr M4 yn arwain at y Brexit 'dim bargen' trychinebus, fel y disgrifir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn hynny o beth, bydd yn gwybod fy mod wedi gofyn iddo ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac mae arweinydd fy mhlaid hefyd wedi gofyn i'r Prif Weinidog, ynglŷn â'r cynllunio wrth gefn a all ddigwydd os ceir Brexit 'dim bargen'. Rwy'n cytuno'n llwyr nad oes unrhyw ffordd o liniaru ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn economaidd, waeth beth fo ffurf yr ymadael, heb sôn am ymadawiad 'dim bargen'. Ond, fel yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y gorffennol, mae Pennaeth y GIG yn Lloegr wedi siarad am y cynllunio wrth gefn sy'n digwydd yno o ran storio cyffuriau a chyfarpar meddygol er mwyn osgoi difrod diangen i'r gwasanaethau y mae cleifion a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. A all roi sicrwydd inni fod trafodaethau o'r fath yn digwydd yn Llywodraeth Cymru, ac mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, yn enwedig, fel rheoli cyffuriau, bod trafodaethau'n digwydd ar lefel y DU rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn osgoi sefyllfa lle nad oes digon o feddyginiaethau ac offer ar gael i'n gwasanaeth iechyd gwladol?

Yn y datganiad, mae sôn am yr angen am hyblygrwydd o ran yr amserlen ar gyfer gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n cytuno â hynny. Nid yw'n ymddangos bod y datganiad yn mynd mor bell ag yr aeth Prif Weinidog Cymru ei hun y diwrnod o'r blaen pan ddywedodd y byddai'n croesawu estyniad i'r broses Erthygl 50. Ac, o ystyried y ffaith ei bod hi'n bosib na fydd gennym ni Lywodraeth yn y DU mewn mater o wythnosau, dyddiau neu fisoedd, bydd yr angen i ymestyn y broses 50 Erthygl efallai yn angenrheidiol. Felly, tybed a allai egluro safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid ystyried ymestyn erthygl 50, yn enwedig os ceir etholiad cyffredinol yn y DU a'r gohirio anochel y bydd hynny yn ei achosi i drafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd. 

O ystyried ei arfarniad deifiol—rwy'n credu ei bod hi'n deg ei ddisgrifio yn arfarniad deifiol—o berfformiad Llywodraeth y DU hyd yma a'r ffordd ofnadwy y mae llywodraethau datganoledig yn dal i gael eu trin ar lefel y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—deallaf na chafodd Llywodraeth Cymru olwg llawn ar Bapur Gwyn y DU cyn ei gyhoeddi—tybed, felly, o gofio'r ansefydlogrwydd hwnnw, o ystyried y diffyg parch parhaus, hyd yn oed ar ôl llofnodi'r cytundeb rhynglywodraethol ac i hwnnw gael amser i ymwreiddio, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried diddymu'r Ddeddf parhad mor frysiog ag y mae'n ei wneud? Oherwydd mae'n swnio i mi fel y dylem ni barhau i fod efallai yn ochelgar rhag dibynnu ar ewyllys da Llywodraeth y DU o ran datblygiadau yn y dyfodol.

O ran datblygiadau yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi un o'i chyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn, rwy'n credu, ynglŷn â'r holl broses Brexit, sef y trefniadau cyllidol yn y dyfodol ar gyfer y DU ar ôl gwahanu oddi wrth yr UE, yn benodol y cwestiwn ynglŷn â pholisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac mae un o'r darnau yn yr adroddiad hwnnw yn nodi:

byddai sefydlu "cronfa ffyniant gyffredin" ar gyfer Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli ac o bosib yn amddifadu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig o arian y mae ei angen arnynt er mwyn datblygu yn economaidd.

Rydym ni'n cytuno, ond, pe bai Llywodraeth y DU yn symud ymlaen ac yn deddfu waeth beth yw ein dymuniadau yn y fan yma, oni fyddai hi'n ddoeth i ni gael trefniadau deddfwriaethol wrth gefn er mwyn gallu gweithredu ein polisi rhanbarthol ein hunain?

Ychydig o bwyntiau terfynol, Dirprwy Lywydd. Nawr y gwyddom ni fod y grŵp ymchwil Ewropeaidd yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cael rhan lawn yn y broses ddeddfwriaethol wrth inni adael yr UE a'u bod wedi llwyddo i newid cylch gorchwyl y Bil masnach, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y Bil masnach? A fydd Llywodraeth Cymru yn argymell ein bod yn gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Masnach hwnnw, neu a yw eto i ffurfio barn?

Ac, yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud gair am sylwadau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddoe na fydd unrhyw ddifidend Brexit i'w wario ar y gwasanaeth iechyd gwladol, neu unrhyw ran arall o'r sector cyhoeddus yn hynny o beth, a bod honiad Prif Weinidog Prydain mai dyna oedd yr achos yn anghywir? A allai felly roi unrhyw esboniad i'r Cynulliad o ran lle y gallem ni ddisgwyl dod o hyd i'r arian ychwanegol a addawyd ar gyfer gwasanaeth iechyd gwladol Cymru, yn ychwanegol wrth gwrs i'r £350 miliwn yr wythnos hynny yr ydym ni i gyd yn dal i edrych ymlaen ato?

16:00

A gaf i ddiolch i Steffan Lewis am yr holl gwestiynau hynny? Dechreuodd drwy wneud pwynt pwysig iawn. Mae'r hyn sydd yn y fantol yma yn hollol real, a bydd yr effaith ar ein cenedl yn os na chawn ni gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei theimlo ym mywydau pobl ledled y wlad.

Rwy'n ddiolchgar hefyd am gael cyfle i ymateb i'w sylw ynghylch cynllunio, oherwydd er gwaethaf yr holl stŵr a wneir weithiau ynghylch hyn nid wyf yn credu bod unrhyw wahaniaeth rhwng ein dwy blaid ar y mater hwn. Rydym ni'n cytuno na allwch chi gynllunio i osgoi canlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen', nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ddyfeisio ffordd o liniaru canlyniad o'r fath. A yw hynny'n golygu nad ydym ni'n cynllunio wrth gefn yn y modd a ddisgrifiwyd ganddo? Wel, wrth gwrs nid yw'n golygu hynny, ac mae digwyddiadau dros yr wythnos diwethaf yn golygu bod yn rhaid gwneud y cynllunio wrth gefn hwnnw ar fwy o frys. 

Fe'i trafodwyd yn is-bwyllgor Brexit y Cabinet yr wythnos diwethaf. Cafodd ei wyntyllu yn y grŵp cynghori Ewropeaidd a gyfarfu ar ddydd Iau. Byddaf yn cwrdd â swyddogion ddydd Iau yr wythnos hon. Byddaf yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ynglŷn â'r mater hwn yr adeg hon yr wythnos nesaf. Oherwydd bydd gan Brexit trychinebus heb unrhyw gytundeb oblygiadau uniongyrchol ar y cyfrifoldebau sydd gennym ni, Lywodraeth Cymru: a fyddwn ni'n gallu cael gafael ar feddygaeth niwclear, sut fyddwn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau priffyrdd os oes llinell hir o draffig o Gaergybi i'r ffin â Lloegr. Mae rhai problemau ymarferol y mae'n rhaid inni feddwl amdanyn nhw, a bu'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ers peth amser a bydd yn awr yn dwysáu dros yr haf, nid oherwydd y credwn ni y gallwn ni lunio cynllun sy'n golygu, os ceir Brexit o'r fath, y gellir diddymu ei effeithiau, ond oherwydd, yn yr ystyr hwnnw o gynllunio wrth gefn, fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu buddiannau Cymru.

Siaradais am hyblygrwydd yn yr amserlen oherwydd dyna'r pwynt yr oedd Prif Weinidog Cymru yn ei wneud yn uniongyrchol i arweinwyr yr UE ddoe. Buom yn dweud ers tro nad ydym ni'n credu y gallwn ni gwblhau popeth sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod pontio erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Yn hynny o beth, ymddengys bod estyniad i amserlen erthygl 50 yn anochel. Y pwynt yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd un yr oeddwn i yn ei wneud pan roeddwn i ym Mrwsel ddiwethaf, sef nad yw hi'n llesol i neb ganfod ein hunain wedi ein caethiwo pan, pe byddai pawb yn cytuno yn nhymor yr hydref 2020 y byddai estyn yr amser ar gyfer y cyfnod pontio yn caniatáu i bawb gael gwell canlyniadau—pam y byddem ni eisiau rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle gwrthodwyd y ffordd synhwyrol honno o weithredu i bob un ohonom ni?

Dywedodd Steffan Lewis nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael golwg lawn ar y Papur Gwyn cyn ei gyhoeddi. Mewn unrhyw ystyr ymarferol roedd yn gywir, oherwydd ni chyrhaeddodd fersiwn ohono yma tan 1.35 a.m.—ychydig oriau o gwsg cyn y cyhoeddwyd y Papur Gwyn mewn gwirionedd.

Rydym ni'n parhau â'n cynlluniau mewn perthynas â'r Bil parhad. Rydym ni'n edrych yn ofalus, wrth gwrs, ar bopeth sy'n digwydd o'n cwmpas. Caiff ein holl gynlluniau, yn anochel, o gofio ansicrwydd y dyddiau diwethaf, eu hadolygu'n barhaus.

Soniodd Steffan Lewis am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r papur a gyhoeddais heddiw ynglŷn â threfniadau cyllidol yn y dyfodol—y pumed yn y gyfres o bapurau yr ydym ni wedi'u cyhoeddi ers y Papur Gwyn gwreiddiol—yn wir yn gwneud y pwynt hwnnw, Dirprwy Lywydd. Fyddwn ni ddim—fyddwn ni ddim—yn cytuno i gronfa ffyniant gyffredin lle mai'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu mewn gwirionedd yw cyfle i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyfranogi o'r arian sydd wedi dod i Gymru oherwydd yr anghenion sydd gennym ni yma. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu ar y sefyllfa honno; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo.

Yn olaf, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ers tro wedi dweud ar goedd y bydd Brexit yn cael effaith niweidiol ar economi'r DU ac ar y refeniw treth sydd ar gael i'r Canghellor. Yn hytrach na bod difidend Brexit, mae twll Brexit i'r Canghellor ei lenwi, ac mae'r twll hwnnw'n mynd yn fwy, nid llai, fel y mae'r anhrefn yn Llundain yn cynyddu.

16:05

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn enaid mor garedig ac yn gymedrol yn ei araith—mae'n anodd anghytuno â'i gondemniadau rhethregol o'r Llywodraeth Geidwadol. Os rhywbeth, roedd yn llawer rhy drugarog. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Theresa May yn waeth Prif Weinidog hyd yn oed na John Major. Fe af ymhellach fyth—tybiaf mai hi yw'r Prif Weinidog gwaethaf yr ydym ni wedi'i gael ers Lord North. O leiaf mai ochr gadarnhaol ei anallu yntau oedd iddo greu cenedl newydd yr ochr arall i'r Iwerydd sydd wedi bod yn esiampl o ryddid, menter a llwyddiant ers 250 o flynyddoedd. Ochr arall anghymhwysedd Theresa May yw y bydd hi yn ein cadw ni'n ddarostyngedig i Undeb Ewropeaidd sydd yn y bôn yn annemocrataidd ac sydd, mewn termau cymharol, yn brosiect ffederal sy'n methu, yn economaidd yn ogystal ag yn wleidyddol.

Nid yw'n syndod mai dyma ganlyniad dwy flynedd heb negodi, mae'n debyg, oherwydd bod Theresa May yn Brif Weinidog sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n llywyddu dros Gabinet sydd â'i fwyafrif llethol o blaid aros, ac sydd â phlaid iddi'n gymorth yn Nhŷ'r Cyffredin y cefnogodd y mwyafrif sylweddol ohoni yr ymgyrch dros 'aros', ac roedd mwyafrif llethol Tŷ'r Arglwyddi o blaid aros hefyd. Os nad yw'r bobl sydd mewn gwirionedd yn gyfrifol am wireddu refferendwm Brexit hyd yn oed yn credu yn y prosiect, nid yw'n syndod mai'r hyn a ddisgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir fel anhrefn a chamreoli yw'r canlyniad, oherwydd maent yn gasgliad o bobl wangalon, anobeithiol sy'n darogan gwae ac, yn wir, mae rhai ohonyn nhw eisiau tanseilio'r holl beth yn ogystal. Er gwaethaf yr holl iaith chwyddedig am eisiau parchu canlyniad y refferendwm, mae llawer o aelodau'r Llywodraeth yn gweld hyn, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn drychineb ar gyfer Prydain. Felly, maen nhw eisiau gwneud eu gorau i danseilio'r broses, ac maen nhw wedi llwyddo'n rhyfeddol.

Wrth gwrs, y broblem sylfaenol yw na fu erioed unrhyw baratoi ar gyfer canlyniad 'dim bargen'. Pe cafwyd hynny, yna gallem ni fod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ein trafodaethau â'r UE. 'Os ydych chi eisiau heddwch, paratowch am ryfel', yw'r hen ddihareb Lladin, ac mae'r un peth yn wir yn y trafodaethau yn ogystal. Mae'r syniad nad oes gan Brydain, y pumed economi fwyaf yn y byd a'r wythfed genedl weithgynhyrchu fwyaf yn y byd, sydd â diffyg masnachu enfawr â'r UE ac yn barod i dalu £40 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau cyllideb dros y pum mlynedd nesaf, unrhyw arfau negodi yn ei dwylo yn gwbl hurt. Mae Donald Trump wedi bygwth codi tollau ar nwyddau o'r UE. Effaith hynny ar unwaith oedd i weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen alw ar yr UE i gael gwared ar y tariffau mewnforio ceir o'r Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw'n gosod tariffau ar 10 y cant. Fel y gwyddom ni, mae'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o ddim ond 2.5 y cant. Mae'r UE yn system dwyllodrus enfawr sy'n gofalu am ddim ond ei buddiannau ei hun ac sy'n gweithredu er anfantais y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas—y tlodion, y rhai ar yr incwm isaf.

Canlyniad y cytundeb hwn yn Chequers, yr unig fantais o hynny oedd cynyddu'r gefnogaeth i UKIP o 3 y cant i 8 y cant yn y polau piniwn mewn wythnos—mae hynny i'w ganmol, o leiaf. Ond canlyniad y negodi hwn yn Chequers yw rheolau cyffredin nad ydyn nhw yn rheolau cyffredin o gwbl—mae'n sefyllfa o 'derbyn neu wrthod; derbyn rheolau'r UE'—ac, os ydym ni y tu allan i'r UE, ni fydd gennym ni hyd yn oed y llais cyfyngedig i ddatblygu'r rheolau hynny y bu gennym ni hyd yma. Byddwn yn dal yn destun dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, felly ni fyddwn yn adennill rheolaeth dros ein cyfreithiau ein hunain chwaith. Yna'r trefniant tollau wedi'i hwyluso, fel y'i gelwir, y mae, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, David Davis wedi dweud ei fod yn anymarferol, ac felly mae'n rhy—bydd yn gostus ac yn fiwrocrataidd iawn—ac yna'r fframwaith symudedd, fel y'i gelwir ef, sef dim byd ond cwmwl niwlog. Nid ydym ni'n gwybod unrhyw beth o gwbl am hynny fel na allwn ni, ar hyn o bryd, ddod i unrhyw gasgliad. Yr hyn y gallwn ni fod yn weddol sicr yn ei gylch, yn fy marn i, yw y bydd yr UE yn mynnu cymaint o ryddid symudiad ag sydd gennym ni ar y funud, ac felly ni fydd gennym ni hyd yn oed reolaeth dros ein ffiniau chwaith.

16:10

Wel, mae'r cwestiynau i gyd ymhlŷg, ac rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ddigon soffistigedig i allu eu hateb.