Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

26/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed. 

Heddlu Cudd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru y mae'r heddlu cudd ('spycops') wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol? OAQ52395

Mae'n bwysig bod menywod sy'n cael eu heffeithio gan y mater hwn yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Deallaf na ddisgwylir i'r ymchwiliad y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi ar waith adrodd tan 2023.

Diolch am yr ymateb yna. Y rheswm pam yr oeddwn i'n gofyn y cwestiwn hwn oedd oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn estyn allan at rai o'r menywod o Gymru sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr ymgyrch hon—yr uned sgwad arddangos arbennig o fewn yr heddlu a ymdreiddiodd grwpiau gweithredu, ac yna, yn amlwg, fe wnaeth y swyddogion yr heddlu hynny ymddwyn yn amhriodol gyda'r menywod hynny wedyn. Roedd Lisa gyda Mark Stone. Darganfu hyn yn 2010. Plismon cudd o'r enw Mark Kennedy oedd ef. Roedd Rosa, ymgyrchydd gwrth-hiliaeth, mewn perthynas gyda Jim Sutton/Jim Boyling, a gafodd ddau o blant gyda hi. Mae wyth o fenywod yn cymryd camau ac mae gennym ni ddigwyddiad heno yn y Pierhead gyda'r ddwy fenyw dan sylw hyn. Rwy'n gofyn beth y gallwch chi ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi'r menywod hyn yn yr ymchwiliad cyhoeddus hwn i wneud yn siŵr nad oes dim fel hyn byth yn digwydd i fenywod Cymru eto, fel nad ydyn nhw'n cael eu bradychu fel hyn, a sut y gallwn ni fynd ati i newid yr arferion o fewn yr heddlu fel ein bod ni'n sicrhau os oes angen iddyn nhw weithredu'n gudd, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd foesegol a phriodol?

A gaf i yn gyntaf oll longyfarch yr Aelod am gynnal digwyddiad heno a chodi mater pwysig iawn yr wyf i'n amau nad oes llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol ohono o hyd? Nawr, bydd cryn amser—pum mlynedd mae'n ymddangos—cyn y bydd yr adroddiad yn barod. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae'n bwysig darparu gwasanaethau i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio. Yr hyn y gallaf i ei ddweud yw ein bod ni'n ariannu, wrth gwrs, llinell gymorth Byw Heb Ofn, a reolir gan Cymorth i Fenywod Cymru. Bydd y rhai hynny sy'n cysylltu â'r llinell gymorth yn cael gwrandawiad, yn cael eu credu ac yn cael cynnig cymorth a chefnogaeth. Mae'n darparu cymorth a chyngor i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth, yn ogystal â'u ffrindiau a'u perthnasau, ac ymarferwyr. Felly, mae'r cymorth yno, ond mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, pan fydd yr ymchwiliad yn adrodd, ei fod yn gwneud argymhellion cadarn i sicrhau nad yw arferion annerbyniol yn cael eu hailadrodd.

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad heddlu cudd, a lansiwyd yn 2015, rwy'n credu, gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yn dweud y byddai'r ymchwiliad yn cynnwys pa un a ac i ba ddiben, i ba raddau ac i ba effaith yr oedd ymgyrchoedd heddlu cudd wedi targedu ymgyrchwyr gwleidyddol a chyfiawnder cymdeithasol, ond ni fyddai wedi ei gyfyngu i hynny. Fodd  bynnag, nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at y menywod lawer a dwyllwyd i berthynas rywiol gan swyddogion heddlu cudd. Pa sylwadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i'r ymchwiliad ar ran menywod yng Nghymru y camfanteisiwyd arnyn nhw yn y modd hwn, neu, os na wnaed sylwadau, a allwch chi esbonio pa gyfyngiadau ar ymyrraeth Llywodraeth Cymru allai fodoli yn hyn o beth?

Wel, yn y pen draw, mater i Lywodraeth y DU yw hwn, er ei fod yn cymryd llawer iawn o amser, mae'n rhaid i mi ddweud. Ym mis Mawrth 2015, fel y dywed yr Aelod yn gywir, y cyhoeddwyd yr ymchwiliad. Bydd o bosibl yn cymryd wyth mlynedd cyn iddo adrodd, am resymau nad ydynt yn eglur. Bydd yr ymchwiliad ei hun yn ystyried y defnydd o swyddogion yr heddlu mewn swyddogaethau cudd. Fe'i sefydlwyd yn dilyn y ddadl ynghylch ymddygiad swyddogion cudd. Nawr, bydd yr ymchwiliad yn gwneud argymhellion, fel y deallaf, ynglŷn â sut yr ymgymerir â phlismona cudd a bydd yn craffu ar y defnydd o swyddogion cudd gan SDS, sydd wedi ei ddiddymu erbyn hyn, a'r Uned Cudd-wybodaeth Trefn Gyhoeddus Genedlaethol. Nawr, ymhlith yr honiadau, wrth gwrs, mae'r cyhuddiad bod swyddogion cudd wedi mabwysiadu hunaniaethau ffug oddi wrth blant marw, wedi cael perthynas gyda'r ymgyrchwyr ac wedi cenhedlu plant. Mae'r rheini ar y cofnod. Byddai'n fy nharo i'n hynod anodd ei ddeall pe na byddai'r ymchwiliad ei hun yn ystyried y materion hynny hefyd er mwyn darparu adroddiad cynhwysfawr.

Taliadau Grantiau Glastir

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau grantiau Glastir? OAQ52433

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu taliadau Glastir i’r hawlwyr mewn modd amserol ac yn gyson. Hyd yn hyn, mae dros £39 miliwn wedi’i dalu i fusnesau fferm yng Nghymru yn ystod y flwyddyn hon. Bydd cyfnodau ymgeisio pellach ar gyfer grantiau bach Glastir yn agor eleni ac yn 2019 er mwyn hyrwyddo’r gwaith o adfer a chreu cynefinoedd hanfodol.

Diolch am yr ateb yna. Rydw i wedi siarad â nifer o ffermwyr a chynrychiolwyr sydd wedi bod yn rhoi cymorth iddyn nhw i wneud ceisiadau am grantiau bach Glastir, a hynny yn sgil pryderon bod taliadau yn hir yn dod. Rŵan, yr ymateb rydw i wedi ei gael gan y Llywodraeth ydy nad ydy’r taliadau’n hwyr, ac, yn dechnegol, mae hynny’n gywir, oherwydd nid oes amser yn cael ei osod o ran faint o amser ar ôl gwneud cais y mae taliadau i fod i gael eu gwneud. Rŵan, o ystyried, yn enwedig ar ôl gaeaf caled iawn, fod llif arian yn bwysig i ffermwyr, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, ystyried cyflwyno canllaw ar gyfer gosod amserlen lle y gall ffermwr ddisgwyl cael taliad lle'r oedd yn llwyddiannus yn gwneud cais?

13:35

Fe allaf i ddweud wrth yr Aelod fod rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cael eu newid yn ddiweddar er mwyn sicrhau ffenest ynglŷn â gwneud taliadau. Bydd hynny'n meddwl y bydd taliadau Glastir yn cael eu gwneud rhwng 1 Rhagfyr eleni a 30 Mehefin y flwyddyn nesaf. Felly, am y tro cyntaf, bydd yna ffenest, ac yn y ffenest hynny bydd ffermwyr yn gallu erfyn taliadau.

Pa gynlluniau eraill sydd ar gael i helpu ffermwyr gyflwyno cynlluniau amgylcheddol ar eu tir, ac eithrio'r cynllun Glastir?

Wel, gall ffermwyr, wrth gwrs, ystyried cynlluniau fel y cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol. Ceir cynllun grantiau bach y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, a hefyd, wrth gwrs, Cyswllt Ffermio, sy'n gallu helpu ffermwyr i ddod yn fwy cynaliadwy o ran eu busnesau. Felly, mae nifer o ddewisiadau ar gael i ffermwyr i wneud eu harferion yn fwy cynaliadwy ac, wrth gwrs, i wneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Ddoe, cefnogodd eich Llywodraeth Lafur fuddsoddiad gwerth sawl biliwn San Steffan mewn rhedfa newydd sy'n llygru yn ne-ddwyrain Lloegr. A ydych chi'n glynu wrth y penderfyniad hwnnw, o ystyried, ar yr un diwrnod, bod San Steffan wedi canslo prosiect ynni adnewyddadwy gwyrdd a glân yn Abertawe?

Nid wyf i'n gyfrifol am y ffordd y mae pleidleisiau'n cael eu bwrw yn San Steffan, fel yr wyf i wedi ei ddweud lawer iawn o weithiau, ond rwy'n rhannu ei phryder mawr—ac nid yw'n hynny'n ei gyfleu'n ddigonol, mae'n debyg—ynghylch y methiant i fwrw ymlaen â morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n siom enfawr i ardal bae Abertawe ac mae'n siom a rennir, a bod yn deg, gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon hefyd. Maen nhw wedi mynegi'r pryder mawr hwnnw. Mae'n drueni na wnaeth Llywodraeth y DU ystyried hyn mewn ffordd llawer mwy cytbwys—y ffaith y byddai'r prosiect wedi para canrif, y ffaith y byddai wedi creu swyddi nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor hir hefyd o bosibl. Byddai wedi creu technoleg y gallem ni fod wedi ei hallforio ledled y byd. Bellach, bydd eraill yn achub y blaen arnom ni.

Mae'n hynod bwysig nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r argraff, y mae hi wedi ei wneud nawr, ei bod yn ymddangos mai niwclear a gwynt ar y môr yw'r unig ddewisiadau ar gyfer cynhyrchu ynni yn y dyfodol. Mae gennym ni ar hyd arfordir Cymru, ym Môr Hafren yn arbennig, ond nid yn unig, un o'r cyraeddiadau llanw uchaf yn y byd. Mae'r ffaith nad yw'n cael ei harneisio yn arwydd bod Llywodraeth y DU yn gweld Prydain fel lle diflas a hen ffasiwn ac nid un sy'n feiddgar a disglair ac eisiau bwrw ymlaen â datblygu technoleg newydd. Mae'n drueni enfawr i gymaint o bobl yn ardal bae Abertawe a thu hwnt.

Brif Weinidog, mae'r gwrth-ddweud yn hyn i gyd yn syfrdanol. Ni all unrhyw Lywodraeth sydd o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd wir gymryd safbwyntiau sy'n mynd mor groes i'w gilydd fel hyn. Nid yn unig yr ydym ni'n gweld Heathrow yn cael ei adeiladu, ond niwclear newydd i gael ei ariannu gan y trethdalwr ar yr un gyfradd, os nad uwch na chost ddatganedig y morlyn llanw. Nawr, Brif Weinidog, rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig o gymorth ariannol ar gyfer y morlyn llanw, ond nid oedd hynny'n ddigon. Nawr, rydym ni angen gweithredu ac nid cynigion. Mae'r ffenestr cyfle yn fach, ond rwy'n credu y gall prosiect morlyn llanw Abertawe gael ei achub o hyd. Felly, a wnewch chi gadw gobaith yn fyw nawr trwy anrhydeddu ymrwymiad maniffesto Llafur i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol o dan berchenogaeth gyhoeddus i gymryd drosodd a bwrw ymlaen â'r prosiect hwn?

Ar ddiwrnod pan fo pobl mewn gwahanol bleidiau wedi bod yn unfryd o ran mynegi eu pryder ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU, mae Plaid Cymru yn dechrau symud y bai i rywle arall. Ceir cwestiwn teg, sef: pa gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer y dyfodol? Ac mae hwnnw'n gwestiwn teg, ond heddiw, yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw bod Cymru wedi cael cam yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU yn Llundain. Dyna'r hyn sydd wedi digwydd. Ni allwn lenwi'r bylchau y maen nhw wedi eu gadael; nhw sy'n gyfrifol am hynny. Nhw yw'r rhai sy'n gorfod esbonio yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i bobl Abertawe, a byddwn ni'n parhau i bwyso arnynt.

Nawr, yn y dyfodol, pa gynlluniau allai fod ar gyfer prosiectau eraill y byddwn yn ceisio eu cefnogi? Mae'r drws ar agor, wrth gwrs, ac wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud, gan ein bod ni'n credu bod potensial enfawr ar hyd arfordir Cymru o ran cynhyrchu ynni. Yr hyn na allwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw llenwi'r bylchau enfawr sy'n cael eu gadael gan Lywodraeth y DU ac sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Siawns y gwnaiff hi ymuno â mi heddiw i fynegi ei phryder mawr o ran y ffordd yr ymdriniwyd â hyn gan Lywodraeth y DU—18 mis o oedi, er gwaethaf adolygiad Hendry; y ffaith y byddai hwn wedi bod yn brosiect gweddnewidiol i Gymru gyfan ac, yn wir, i'r byd, ac na fydd hynny'n digwydd bellach oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU.

13:40

Y cwbl yr ydych chi'n mynd i'w wneud yw anobeithio, felly; dydych chi ddim yn mynd i drafferthu i wneud dim hyd yn oed. A chofiwch, gwnaed addewid gennych chi yn eich maniffesto y byddech chi'n sefydlu cwmni ynni ac y gallai hwnnw, pe byddech chi'n fodlon ei ystyried, fwrw ymlaen â'r prosiect hwn. Brif Weinidog, rheilffyrdd heb eu trydaneiddio, morlynnoedd heb eu hadeiladu, Airbus ddim yn buddsoddi—mae'n amlwg mai'r Ysgrifennydd Gwladol yw llais San Steffan yng Nghymru ac nid llais Cymru yn San Steffan. Brif Weinidog, mae Airbus yn cyflogi tua 7,000 o bobl yma yng Nghymru, a'u rheswm am ailystyried eu buddsoddiad yn y wlad hon yw ein lle yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Nawr, rwy'n cydnabod ei bod yn bosibl iawn y bydd y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn cefnogi ein haelodaeth o'r ddau, ond mae gweithredoedd ei blaid yn dynodi i'r gwrthwyneb. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, methodd mwyafrif ASau Llafur a phleidleisio ar welliant hollbwysig a fyddai wedi ein cadw ni yn y farchnad sengl. Mae angen eglurder arnom ni nawr. A wnewch chi, Brif Weinidog, ymuno â ni i gondemnio eich ASau Llafur am gefnogi Cymru yn tynnu allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, gan beryglu'r swyddi Airbus hynny yn uniongyrchol?

Mae hyn fel gwylio rhywun yn chwarae dartiau ac yn ceisio anelu'n fwriadol at y wal i'r ochr yn hytrach na'r dartfwrdd ei hun. Ar ddiwrnod pan fo pobl o wahanol bleidiau wedi mynegi pryder—maen nhw wedi ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd, wrth gwrs, fel y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, yn dibynnu ar ba blaid y maen nhw'n aelodau ohoni—ar ddiwrnod pan fo pobl wedi mynegi pryder am benderfyniad Llywodraeth y DU, mae Plaid Cymru wedi rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.

Rwy'n gofyn i chi wneud rhywbeth yn ei gylch. Gwnewch rywbeth yn ei gylch—

Ar ddiwrnod pan ddylai'r bai gael ei roi ar San Steffan, lle gwnaed y penderfyniad, mae Plaid Cymru yn ceisio troi hwn yn ymarfer mewn cyflwyno eu hunain fel eu bod yn berthnasol pan, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rhain. Nid yw cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cynnwys ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Dyna un o'r pethau sy'n gwbl eglur. Rwyf i yma i roi safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n fater o ofid mawr heddiw, wrth i wleidyddion o bob cwr o Gymru fynegi eu pryder ynghylch y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU—hyd yn oed y rhai hynny ym Mhlaid y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi mynegi eu barn—bod Plaid Cymru wedi penderfynu rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd yr adroddiad ar y drychineb yn Ysbyty Coffa'r Rhyfel Gosport ac, yn benodol, y defnydd gormodol o boenladdwyr opioid a arweiniodd o bosibl at farwolaeth cynamserol o leiaf 650 o gleifion. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i ystyried yr adroddiad, canfyddiadau'r adroddiad hwnnw ac unrhyw oblygiadau i GIG Cymru a'r newidiadau y gallai fod angen iddo eu gwneud?

Byddwn, wrth gwrs, yn ystyried unrhyw adroddiadau sy'n berthnasol i Gymru, a bydd llawer o'r materion sy'n codi mewn mannau eraill yn y DU a thu hwnt yn llywio ein hystyriaethau yn y dyfodol. Bydd swyddogion a'r Gweinidog yn edrych ar yr adroddiad i weld a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu ar gyfer Cymru.

Diolch am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd adroddiad prydlon yn ôl ar hynny, oherwydd ceir rhai agweddau sy'n peri pryder mawr o ran yr amgylchiadau yn ymwneud â marwolaethau cynamserol y cleifion dan sylw. Ond un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg, yn sicr yn sylwadau'r wasg, yw'r defnydd o yrwyr chwistrell Graseby, sy'n darparu poenladdwyr opioid i bob pwrpas, naill ai dros gyfnod o 24 awr neu dros awr. Nawr, cyhoeddwyd gwahanol hysbysiadau diogelwch dros yr 20 mlynedd diwethaf o ran yr offerynnau hyn, a chawsant eu gwahardd flynyddoedd lawer yn ôl yn Awstralia a Seland Newydd. Roedd y GIG i fod wedi tynnu'r chwistrelli hyn o gael eu defnyddio yn 2015. A allwch chi gadarnhau heddiw pa un a yw'r GIG yng Nghymru yn dal i ddefnyddio'r chwistrellau hyn, neu a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ymchwilio i hyn?

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ei fod yn iawn am y sylw i'r chwistrellau yn y cyfryngau. Roedd y gyrwyr chwistrell, o'r enw Graseby MS26 a Graseby MS16A, yn cael eu llwytho gyda chapsiwlau wedi eu rhaglennu i ryddhau cyffuriau i lif gwaed claf dros gyfnod estynedig. Roedden nhw'n darparu cyffuriau ar wahanol gyfraddau, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod o'r adroddiad bod hynny wedi arwain at or-drwytho peryglus o gyffuriau. Cyhoeddwyd hysbysiadau o berygl gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd—MHRA—i sicrhau bod staff y GIG yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y modelau. Roedd hyn hefyd yn destun cyhoeddiad Asiantaeth Diogelwch Cleifion Genedlaethol ar draws Cymru a Lloegr—adroddiad ymateb cyflym—ym mis Rhagfyr 2010, a roddodd bum mlynedd i'r GIG bontio i yrwyr â nodweddion diogelwch ychwanegol gan liniaru'r risg yn y cyfamser. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod holl sefydliadau perthnasol GIG Cymru wedi cadarnhau cydymffurfiad â'r gofyniad diogelwch cleifion hwnnw. Byddwn yn ysgrifennu at fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gan ofyn iddyn nhw archwilio arferion presennol a rhoi sicrwydd eu bod yn dal i gydymffurfio â'r cyngor hwn, a deallaf y bydd yr un peth yn digwydd yn Lloegr.

13:45

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb manwl iawn yna, oherwydd bydd yr adroddiadau dros y penwythnos wedi achosi gofid aruthrol i deuluoedd perthnasau sydd wedi dioddef profedigaeth a allai amau rhywfaint o ddrygioni neu offer diffygiol a allai fod wedi achosi marwolaeth gynamserol. Yr hyn sy'n bwysig, os bydd y pryderon hynny gan deuluoedd—ac mae'r niferoedd yr ydym ni'n sôn amdanynt yn rhedeg i'r miloedd os byddwch chi'n ei gyfrif ar draws y GIG cyfan, oherwydd defnyddiwyd y peiriannau hyn ar draws y GIG yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—yw y gall teuluoedd godi eu pryderon a chael sylw i'r pryderon hynny yn y pen draw. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda byrddau iechyd fel bod teuluoedd sydd â'r pryderon hynny—cofiwch eich bod chi wedi cadarnhau bod GIG Cymru yn cydymffurfio â'r gyfarwyddeb a ddiystyrwyd eu defnydd hyd at 2015, ond bydd gan deuluoedd bryderon y mae angen rhoi sylw iddynt, felly sut gall teuluoedd fynd ati i gael sylw i'r pryderon hynny?

Wel, os oes gan unrhyw un bryder, wrth gwrs, gallant godi'r pryder hwnnw yn uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd, gyda'u AC, neu gyda'r Gweinidog iechyd, yn wir. Ceir ffordd o wneud hynny. Nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bryderon, ond mae'n amlwg yn briodol bod archwiliad i wneud yn siŵr bod y cydymffurfiad yn dal i fod yno yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo fod. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n ceisio rhoi sicrwydd i gleifion a'u teuluoedd ar draws y GIG.

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn ofnadwy i stryd fawr Cymru, gyda nifer o fanwerthwyr mawr yn cyhoeddi y bydd eu siopau yn cau. Mae Mothercare yn cau 50 o siopau ledled y DU, gan gynnwys ei gangen yng Nghasnewydd. Mae New Look yn cau 60 o siopau, gan gynnwys ei siopau yng Nghaerdydd, Trefynwy, y Rhyl a Phont-y-pŵl. Cyhoeddodd Carphone Warehouse ei fod yn cau bron i 100 o siopau ledled y wlad, ac mae cewri manwerthu eraill fel M&S yn cyhoeddi eu bod yn cau siopau, ac yn bwriadu cau siopau hefyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cawsom y newyddion trychinebus bod un o enwau mwyaf eiconig y stryd fawr, House of Fraser, yn cau ei siopau yng Nghaerdydd ac yng Nghwmbrân. Felly, rydym ni wedi gweld llawer o frandiau stryd fawr yn diflannu yn ddiweddar, ac mae miloedd o swyddi wedi eu colli. Felly, Brif Weinidog, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae rhai yn galw hyn yn 'uffern ar y stryd fawr', felly a allwch chi ddweud wrthyf beth mae eich Llywodraeth chi, Llywodraeth Cymru, yn bwriadu ei wneud i helpu i atal y dirywiad hwn?

Wel, mae manwerthu yn sector pwysig i ni; rydym ni'n ei wneud yn flaenoriaeth. Nid wyf i'n mynd i esgus bod yr heriau sy'n wynebu manwerthu yn hawdd, gan nad ydyn nhw. Ceir llawer o bobl sy'n siopa ar-lein. Ceir llawer o bobl sy'n mynd i mewn i siop ac yna'n siopa ar-lein, nid siopa yn y siop ei hun. A cheir rhai heriau yn hynny o beth. Ymhle mae'r ateb? Rwy'n amau mai'r ateb yw sicrhau bod canol ein trefi yn fwy cymysg, gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn byw yng nghanol trefi, a hefyd sicrhau bod mwy o swyddfeydd. Gwn o'm profiad fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod diffyg mannau swyddfa a bod gormod o fannau manwerthu. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw sicrhau'r cydbwysedd cywir fel bod mwy o fannau swyddfa o ansawdd da ar gael, gan greu, wedyn, yr ymwelwyr yn ystod y dydd ar gyfer y siopau sydd yno. Felly, mae'n gwestiwn, rwy'n credu, o ailfeddwl sut y dylai canol ein trefi edrych, nid eu gweld fel bod ar gyfer manwerthu yn unig ond cymysgedd llawer gwell o ran yr hyn y maen nhw'n ei gynnig, a phobl yn byw yno a phobl yn gweithio yno.

Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Brif Weinidog, ond, dros y penwythnos, amlinellodd arbenigwyr manwerthu faint y broblem sy'n wynebu siopau adrannau Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad gan House of Fraser a'r newyddion y byddai siop Herbert Lewis yng Nghas-gwent yn cau. Mae Howells wedi bod ar stryd fawr Caerdydd ers 1879 ac yn fuan bydd yn mynd yr un ffordd â David Morgan, a oedd yn ganolbwynt i brofiad manwerthu Caerdydd am dros 125 mlynedd. Mae Herbert Lewis wedi bod yn rhan o brofiad siopa Cas-gwent am 140 mlynedd. Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr siop adrannau Wildings, Casnewydd, y bu'n rhaid iddi leihau ei maint yn ddiweddar, nad yw'r dyfodol yn dda ar gyfer siopau traddodiadol, oherwydd y costau cynyddol a thwf gwerthiannau ar-lein. Felly, Brif Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n bryd i ni gymryd camau radical, fel gostwng ardrethi busnes yn aruthrol, er mwyn achub yr eiconau manwerthu sydd ar ôl yng Nghymru?

Bydd yn cymryd mwy na hynny. Rwy'n credu mai un o'r materion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod manwerthwyr ar-lein yn talu trethi yn briodol. Y gwir amdani, os ydych chi'n siop, yw eich bod chi'n talu ardrethi busnes. Efallai eich bod chi'n cystadlu gyda rhywun sy'n talu'r nesaf peth i ddim, gan eu bod nhw ar-lein, a cheir materion yn hynny o beth mai dim ond Llywodraeth y DU sy'n gallu eu datrys. Maen nhw wedi bod yn faterion sydd wedi codi droeon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond dyna lle mae'n rhaid creu'r sefyllfa o chwarae teg. Nid yw dweud yn syml, wel, gan fod siop ar-lein sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r DU neu'n ddarostyngedig i gyfundrefn dreth fwy ffafriol—nid yw byth yn mynd i weithio ar gyfer y stryd fawr, os caf ei roi felly, na hyd yn oed i'r cadwyni mwy, os ydyn nhw'n cystadlu yn erbyn manwerthwyr ar-lein nad ydyn nhw'n talu'r un trethi ag y maen nhw'n eu talu, a dyna lle y credaf y dylai'r pwyslais fod.

13:50

Ie, ond mae'n rhaid i ni unioni'r fantol ac ystyried y cydbwysedd a chael sefyllfa o chwarae teg. Yn anffodus, yn ôl ysgol fusnes Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae'n rhy hwyr i achub ein manwerthwyr traddodiadol. Yn ôl Chris Parry, sy'n uwch ddarlithydd cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, 2008 oedd yr adeg i ostwng ardrethi a rhenti, nid 2018. Dywedodd mai'r her i ni yw sut yr ydym ni eisiau i ganol ein trefi a'n strydoedd mawr edrych ymhen 10 mlynedd. Beth ydym ni'n mynd i'w wneud â nhw? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried ar frys. Felly, os bydd y cynnydd esbonyddol i werthiannau ar-lein yn parhau—ac nid oes gennym ni reswm i gredu na fydd—yna, erbyn 2028, bydd llawer o'n manwerthwyr traddodiadol wedi diflannu. Felly, Brif Weinidog, mae'n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol hwnnw. Dywedodd Chris Parry, os byddwn ni'n eistedd ac yn gwneud dim, mae'n bosibl iawn y bydd canol ein trefi yn diroedd diffaith yn y degawd nesaf. Felly, mae'n rhaid i ni osgoi hynny ar bob cyfrif. Brif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflymu defnydd cymysg o'n trefi a'n dinasoedd, gan ddisodli siopau sydd wedi cau gyda thai, bwytai, meddygfeydd teulu, a phopeth arall sydd ei angen ar gyfer bywyd trefol gwirioneddol?

Rwy'n cytuno, ac mae'n dod yn ôl i'r pwynt a wneuthum yn gynharach—ac mae canllawiau cynllunio wedi cael eu newid i adlewyrchu hyn—mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein canolfannau trefol yn fwy cymysg. Mae rhai ohonynt, nid yw rhai ohonynt. Mae pobl wedi tueddu i beidio â byw yng nghanol trefi ers cryn amser. Rydym ni'n gwybod bod rhai busnesau a fydd yn gwneud yn dda oherwydd nad oes ganddyn nhw gystadleuaeth ar-lein. Os ydych chi'n gaffi, nid oes cystadleuaeth ar-lein. Os ydych chi'n farbwr neu'n siop trin gwallt, nid oes cystadleuaeth ar-lein. Ceir rhai siopau sydd wedi arbenigo yn arbennig o gryf mewn rhai cynhyrchion. Efallai y bydd ganddyn nhw siop ar-lein hefyd, sy'n eu helpu i gynnal eu busnes. Yn y pen draw, wrth gwrs, y broblem yw nad yw pobl yn mynd drwy'r drysau fel yr oedden nhw; maen nhw'n chwilio mewn mannau eraill. Sut ydym ni'n ceisio datrys hynny? Wel, gwneud yn siŵr, rwy'n credu, hefyd, bod pobl o gwmpas yn ystod y dydd. Un o'r problemau, yn fy marn i, yw bod siopau yng nghanol llawer o drefi ar agor rhwng 9.30 a.m. a 5.30 p.m. pan nad yw'r rhan fwyaf o bobl o gwmpas, mewn gwirionedd. Mae'n gwestiwn o edrych eto ar oriau agor hyblyg fel bod canolfannau siopa ar agor, yn enwedig yng nghanol trefi, pan nad yw pobl yn y gwaith ac yn ôl o'r gwaith ac yn gallu siopa, yn hytrach na chael model sy'n fodel nad yw wedi bodoli ers 30 neu 40 mlynedd mewn gwirionedd, lle byddai pobl yn mynd i mewn i siopa yn ystod y dydd oherwydd efallai nad oedden nhw mewn cyflogaeth. Mae'r dyddiau hynny wedi newid, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd bod yr heriau sy'n bodoli gyda'r sector manwerthu yn cael eu bodloni trwy ystyried hefyd sut y gallan nhw ddod yn fwy hyblyg er mwyn darparu ar gyfer y ffaith bod bywyd wedi newid i'r rhan fwyaf o'u cwsmeriaid.

'Swansea Bay City Region: A Renewable Energy Future’

3. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd a amlinellir yn astudiaeth achos y Sefydliad Materion Cymreig, 'Swansea Bay City Region: A Renewable Energy Future’? OAQ52429

Wel, a gaf i groesawu'r adroddiad diweddar a luniwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, o dan eu prosiect Ail-egnïo Cymru, ar y potensial ar gyfer y rhanbarth? Bydd yn hynod o werthfawr i ni, ac i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ardal Abertawe yn arbennig, er mwyn llywio cyfeiriad y fargen ddinesig.

Diolch, Brif Weinidog. Heb fod yn fodlon gyda chanslo trenau gwyrdd i Abertawe a thynnu'r plwg ar gymorthdaliadau ar gyfer ynni adnewyddadwy, tynnodd y Llywodraeth Dorïaidd y plwg ar y morlyn llanw ddoe, pan ddywedodd eu cyn-Weinidog ynni eu hunain y byddai'n bolisi dim edifeirwch. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddigon digywilydd i fynd o gwmpas y stiwdios teledu gan ddweud bod y cymhorthdal blynyddol o 30c yn ddrud, er ei fod yn hapus i roi cymhorthdal o £12 ar gyfer pob cwsmer y flwyddyn i Hinkley. Felly, rwy'n credu y dylem ni dynnu sylw at ragrith y Torïaid a'r ffordd y maen nhw wedi camarwain buddsoddwyr sy'n mynd i feddwl ddwywaith am gyfrannu arian at dechnoleg arloesol eto. Ond rwy'n credu mai neges adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yw bod posibilrwydd o hyd i ni arwain y ffordd yng Nghymru, a'n cyfrifoldeb ni, fel Llywodraeth Cymru, yw bod ar flaen y gad yn hynny o beth. Nododd yr astudiaeth achos yn fanwl sut y gall Cymru fodloni 100 y cant o'i galw am ynni adnewyddadwy erbyn 2035 o dechnolegau gwyrdd yn unig. Mae arweinyddion y dinas-ranbarthau yn gefnogol. A wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth mwyaf brwd i'r ymdrech hon i wneud yn siŵr y gallwn ni ddal i fod yn arweinwyr yn y maes hwn?

Gwnaf, ac rydym ni wedi ei wneud eisoes, wrth gwrs, yn sir Benfro yn benodol, gyda phrosiectau yr ydym ni wedi eu cefnogi yn y fan honno. Credaf mai'r broblem yw mai'r awyrgylch a grëwyd ynghylch y cyhoeddiad heddiw yw bod ynni'r llanw yn rhy ddrud. Dyna'r neges sydd wedi ei rhoi. Nawr, bydd hynny'n berthnasol lle bynnag y mae darpar fuddsoddwyr yn edrych ar brosiectau ynni'r llanw. Pe bawn i'n fuddsoddwr llanw nawr, byddwn yn dechrau meddwl ddwywaith am fuddsoddi yn y DU, oherwydd nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw anogaeth i ynni'r llanw. Mae'n destun gofid mawr. Yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud yw, 'Wel, mae niwclear ar gael a gwynt ar y môr'—nid ar y tir, ond mae gwynt ar y môr yn rhywbeth yn maen nhw eisiau ei ystyried. Y neges yw nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod ynni'r llanw yn bwysig, ac rwy'n gresynu hynny'n fawr iawn. Cofiwch mai'r cwbl yr oeddem ni'n gofyn amdano oedd yr un cytundeb ariannol ag a gynigiwyd i Hinkley. Dim mwy na hynny. Nid oeddem ni'n gofyn am ffafrau arbennig y tu hwnt i hynny. Pe byddai'r contract ar gyfer gwahaniaeth yno yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer Hinkley, rwy'n credu y gallai'r morlyn llanw fod wedi symud ymlaen, ond nid oedd Llywodraeth y DU yn derbyn hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn sy'n destun gofid nid yn unig i Aelodau ar yr ochr hon i'r tŷ, ond hefyd i Aelodau yn y pleidiau eraill hefyd.

13:55

Fy nealltwriaeth i oedd bod Gweinidogion wedi ei gwneud yn eglur bod y drws yn dal i fod ar agor i ynni'r llanw a thrafodaethau ynghylch hynny yn y dyfodol. Ond gadewch i ni siarad am rywbeth y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch yn gyflymach, sef pwyntiau gwefru cerbydau trydanol cyflym. Dywedodd yr un adroddiad bod Cymru y tu ôl i weddill y DU o ran nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael, ac awgrymodd fel cam gweithredu allweddol y dylai cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar nodau trafnidiaeth mawr, mannau parcio a theithio ac atyniadau i dwristiaid ddigwydd yn weddol gyflym. Nawr, mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn llawn o'r mathau hyn o leoliadau, a, chan fod swyddogaeth trafnidiaeth o fewn ardal y fargen ddinesig yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn sôn amdano nawr, gan gynnwys busnesau lleol, a allwch chi ddweud wrthyf a yw'r arian yr ydych chi wedi ei roi ar gyfer cwmpasu metro Gorllewin De Cymru yn cynnwys efallai cynyddu nifer y pwyntiau gwefru trydanol yn y bae, ac a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau pellach gyda Ford ynghylch pa un a ydyn nhw'n ystyried cynhyrchu ceir trydanol yn rhanbarth Gorllewin De Cymru?

O—a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda Ford am gynhyrchu ceir trydanol yng Ngorllewin De Cymru.

Wel, bu trafodaethau gyda Ford ar nifer o gyfleoedd posibl. Cynhyrchu batris yw'r dyfodol yn fy marn i. Nid yw'r dechnoleg yn bell i ffwrdd pan fydd batris yn cael eu defnyddio'n llawer gwell. Rwy'n amau y bydd newid sylweddol yn dod os daw y dydd pan fydd pobl yn gallu cymryd batri gwag allan o'r car yn ei grynswth ac yna'n gallu rhoi un i mewn sydd wedi ei wefru, fel nad oes unrhyw oedi o ran y wefr. Rydym ni ymhell o'r pwynt hwnnw ar hyn o bryd, gan fod y batris yn enfawr.

O ran pwyntiau gwefru, mae Tesla, wrth gwrs, wedi buddsoddi'n drwm mewn pwyntiau gwefru, ond y gwir amdani yw mai ychydig iawn o geir Tesla sydd ar y ffordd. Mae pwyntiau gwefru ar gael, rwy'n credu, yn bron bob gorsaf wasanaeth ar hyn o bryd hefyd. Mae gan nifer o fanwerthwyr, fel Ikea, er enghraifft, bwyntiau gwefru yn y siopau hefyd, ac mae'n bosibl—. Mae ap ar gael sy'n rhoi syniad i chi o ble mae'r holl bwyntiau gwefru. Felly, rydym ni eisiau cyflwyno pwyntiau gwefru ledled Cymru. Rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw hynny, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth.

Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar ranbarth bae Abertawe yn sicr yn cynnig gweledigaeth gyffrous o ddyfodol ynni'r rhanbarth. Mae cymryd cyfrifoldeb a rheolaeth yn thema sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwnnw, fel y gwyddoch, ac mae'n dangos yn eglur bod twf prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn dal yn ddibynnol, i raddau helaeth, ar San Steffan. Profwyd y pwynt hwnnw ddoe, yn sicr, o ran y penderfyniad ynghylch y morlyn llanw.

Yng ngoleuni eich sylwadau cynharach i Leanne Wood, edrychwn ymlaen at eich cefnogaeth lawn yfory yn y bleidlais o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ond er gwaethaf hynny, tra bod Deddf Cymru 2017 yn trosglwyddo rhai pwerau newydd i Gymru ar gyfer prosiectau sy'n cynhyrchu llai na 350 MW, er enghraifft, a ydych chi bellach yn credu y dylai fod gan Gymru, fel y mae gan yr Alban, fwy o ddylanwad dros y strategaeth i ddatblygu ynni gwynt ar y môr a thechnoleg ynni morol yn ogystal â phennu lefelau cymhorthdal a blaenoriaethau ar gyfer cefnogi ynni cymunedol a chynlluniau effeithlonrwydd ynni?

Ydw, ond ni fyddem ni'n rheoli'r farchnad o hyd. Dyna'r broblem—marchnad ynni Prydain Fawr. Mae angen i ni gael Llywodraeth yn Llundain sy'n credu bod ynni adnewyddadwy yn bwysig ac sy'n barod i wneud y buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy a fydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd yw tynnu cymorthdaliadau ar gyfer paneli solar yn ôl, yr un fath ar gyfer gwynt ar y tir, a'r hyn sydd gennym ni nawr yw sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ei hun i nifer fach o ffyrdd o gynhyrchu ynni. Mae angen iddyn nhw fod yn fwy eang na hynny, a bod yn llawer mwy beiddgar o ran cefnogi prosiectau fel y morlyn llanw.

Economi Hydrogen

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi hydrogen yng Nghymru? OAQ52431

Mae potensial mawr gyda hydrogen i chwarae rôl bwysig yn ein heconomi, gan ei fod yn ddefnyddiol o ran gwres, pŵer a thrafnidiaeth. Mae nifer o fentrau Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfleoedd i ddefnyddio hydrogen yng Nghymru i wella ein dealltwriaeth o'i botensial.

Diolch am yr ateb, ond, wyth mlynedd yn ôl, fe gyhoeddodd Peter Hain a Jane Davidson y byddai'r M4 yn dod yn briffordd hydrogen i Gymru, a byddai, erbyn hyn—ers dwy flynedd, a dweud y gwir—restr o lefydd i storio hydrogen, i ddefnyddio hydrogen, fel rhan o drafnidiaeth a oedd yn cael ei datgarboneiddio. Nid ŷm ni wedi gweld y freuddwyd yna wedi'i gwireddu ac nid ŷm ni wedi gweld nemor ddim yn symud ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu potensial hydrogen. Rŷm ni newydd fod yn trafod, drwy'r bore yma, datgarboneiddio economi Cymru. Dyma dechnoleg a ddyfeisiwyd yng Nghymru, lle mae yna ymchwil, ar hyn o bryd, yn digwydd ym Maglan a llefydd tebyg, lle mae yna gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru nid yn unig i arwain yng Nghymru, ond i arwain yn rhyngwladol. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle yma i fod, fel y dywedoch chi wrth Leanne Wood, yn bold and brave?

14:00

Mi ydym ni. Mae yna grŵp cyfeirio wedi cael ei sefydlu er mwyn arwain y ffordd rŷm ni'n meddwl ynglŷn â hydrogen yn y pen draw. Rŷm ni wedi bod yn sicrhau bod yna adnoddau ar gael er mwyn dangos fel y bydd y dechnoleg yn gweithio. Mi wnaethom ni gomisiynu astudiaeth i edrych ar gyfleoedd hydrogen yn Rhondda Cynon Taf ddwy flynedd yn ôl ac mae argymhellion yr adroddiad hwnnw yn cael eu hystyried ar hyn o bryd er mwyn gweld sut y byddan nhw'n gweithio. Rŷm ni'n helpu Cyngor Sir Fynwy, er enghraifft, i edrych ar gyfleon i adeiladu ar Riversimple, sef cais sy'n cymryd lle yn eu hardal nhw ynglŷn ag edrych ar danwydd cynaliadwy, a hefyd, wrth gwrs, gweld fel y bydd hynny'n digwydd. Mae £2 miliwn wedi cael ei roi i Riversimple. Mae hynny'n dangos, wrth gwrs, ein cefnogaeth ni o ran cefnogi'r economi carbon isel lleol. Ac, wrth gwrs, rŷm ni hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro a phorthladd Aberdaugleddau er mwyn datblygu ardal sero-garbon yn ardal Aberdaugleddau. So, mae sawl peth wedi cael eu cefnogi lan at nawr ac, wrth gwrs, mae llawer o botensial ar gael gyda'r gwaith ymchwil hefyd. Mae rhaglen Sêr Cymru yn cyllido gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ynglŷn â thanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau ac mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn edrych ar waith ymchwil ynglŷn â thechnoleg i greu hydrogen gwyrdd yn y pen draw.

Brif Weinidog, mynegwyd pryderon gan rai ein bod ni efallai'n rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged drydan a'r fasged drydaneiddio o ran rheilffyrdd a cheir, ar yr union adeg pan fo rhai gwledydd yn symud yn gyflym tuag at economi hydrogen. Rwy'n amau, dros y tymor canolig, mai cymysgedd o'r ddau fydd yn darparu'r gostyngiadau carbon sydd eu hangen arnom ni. A wnewch chi addo y gwnewch chi edrych, yn y lle cyntaf, ar archwilio'r potensial ar gyfer tanwydd hydrogen ar gludwyr nwyddau, rheilffyrdd a bysiau? Rwy'n credu mai Simon Thomas gyfeiriodd at yr M4 fel priffordd hydrogen bosibl. A chan edrych y tu hwnt i hynny, yn amlwg, rydym ni'n mynd ar drywydd cerbydau trydan ar hyn o bryd. Roedd pob math o broblemau gyda darparu pwyntiau gwefru trydan yn nyddiau cynnar ceir trydan, a cheir rhai problemau o hyd yn hynny o beth. Yn y dyfodol, efallai y bydd ceir hydrogen yn llawer mwy o realiti. A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith rhagarweiniol o ran datblygu ein priffyrdd, datblygu'r seilwaith ar gyfer dyfodol hydrogen posibl, nid yn unig yn achos trenau a bysiau, ond yn achos ceir hefyd?

Os cofiaf yn iawn, dyfeisiwyd y gell tanwydd hydrogen yng Nghymru. Felly, mewn rhai ffyrdd, rydym ni wedi achub y blaen yn hynny o beth ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i fod ar flaen y gad o ran y dechnoleg hon. Ystyriwyd y dewis o dechnoleg hydrogen gennym gyda'r cynigwyr trenau yn ystod y broses gaffael. Nid oedd hynny'n rhywbeth y gallem ni fwrw ymlaen ag ef ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i edrych ar sut y gall y rhwydwaith arloesi yn y dyfodol. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar y gwaith ymchwil y cyfeiriais i ato'n gynharach—y gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd—yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu hydrogen yn y dyfodol hefyd, mae'n hynod bwysig i ni fod ar flaen y gad yng Nghymru o ran yr ymchwil gwyddonol. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwych ar gael, yn y dyfodol, o ran datblygu hydrogen fel tanwydd, a bydd ef yn ymwybodol, wrth gwrs, o Riversimple, yr arbrawf a gynhaliwyd yn sir Fynwy. Unwaith eto, mae'n gwestiwn o gefnogi'r gwaith ymchwil a chefnogi'r arbrofion i symud y dechnoleg yn ei blaen, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Cynlluniau Datblygu Lleol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ52430

Mae'r holl gynlluniau datblygu lleol yn rhanbarth Canol De Cymru wedi eu cwblhau. Cyfrifoldeb pob awdurdod cynllunio lleol perthnasol yw gweithredu cynlluniau datblygu lleol, wrth gwrs.

Diolch. Doeddwn i ddim yn disgwyl ateb iawn mewn gwirionedd, felly rwy'n mynd i roi'r newyddion diweddaraf i chi am y CDLl yng Nghaerdydd ar ran trigolion, oherwydd mae eich cynllun datblygu lleol yn creu anhrefn llwyr. Mae tagfeydd traffig eisoes yn mynd ymlaen am filltiroedd, ac eto bydd dros 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd hynny sydd eisoes yn orlawn. Nid oes unrhyw seilwaith newydd ar waith, dim trafnidiaeth gyhoeddus newydd, a bydd cymunedau yn cael eu mygu gan aer brwnt a llygredig. Mae meddygfeydd teulu ar fin cael miloedd o gleifion ychwanegol pan eu bod wedi cyrraedd pen eu tennyn eisoes. Ni fydd lleoedd newydd yn cael eu darparu mewn meddygfeydd teulu nac ysbytai tan i 3,000 o dai gael eu hadeiladu. Fe wnaethoch chi wadu cyhoeddi y byddai hyn i gyd yn digwydd. Safodd eich cynghorwyr mewn caeau gwyrdd yn addo eu hamddiffyn; mae'r un caeau gwyrdd hynny yn llawn teirw dur erbyn hyn. A ydych chi'n derbyn bod gennych chi a'ch plaid berthynas ryfedd iawn â'r gwir?

14:05

Mae'n ddrwg gen i; nid wyf i'n gwybod beth oedd yr honiad yn y fan yna, Llywydd. Hoffwn i gael dyfarniad, os gwelwch yn dda.

Wel, os nad ydych chi'n gallu deall yr honiad, ni allwch chi ateb y cwestiwn. Diolch. Andrew R.T. Davies.

Brif Weinidog, o ran CDLlau, mae'n bwysig iawn, yn amlwg, bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed yn y broses. Mae'n ymddangos yn y system bresennol fod diffyg cysylltiad â'r gallu i bobl leol deimlo bod ganddyn nhw ddylanwad yn natblygiad CDLlau. Rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hwnnw, ond mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'r CDLlau hynny yn y pen draw. Ble ydych chi'n credu y gellir gwneud gwelliannau gwirioneddol yn y broses fel nad yw cymunedau lleol yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o ddatblygiad cynlluniau sydd i fod i lywodraethu datblygiad eu cymunedau eu hunain?

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n allweddol yw bod pobl yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu CDLl ar y dechrau. Bydd ef yn gwybod, rwy'n siŵr—ac rwyf i wedi cael yr un profiad—y bydd pobl yn gwrthwynebu cais cynllunio pan, mewn gwirionedd, mae'r tir eisoes wedi ei ddyrannu mewn cynllun datblygu at ddiben penodol, ac erbyn hynny, wrth gwrs, mae'n rhy hwyr i gyflwyno'r gwrthwynebiadau y bydden nhw'n dymuno eu cyflwyno. Felly, byddwn i'n disgwyl i awdurdodau lleol ymgysylltu'n llawn â'r gymuned leol yn natblygiad cynllun datblygu lleol.

Mae'n hynod bwysig nawr ein bod ni'n symud ymlaen i gynlluniau datblygu strategol. Un o'r problemau sy'n wir yng Nghaerdydd yw bod Caerdydd yn lle poblogaidd i fyw ynddo. Mae angen mwy o dai, fel arall bydd prisiau tai yn cynyddu i lefel lle bydd pobl yn cael eu gorfodi i symud allan o'r ddinas er mwyn gallu byw. Ceir heriau gwirioneddol o ran seilwaith—mae hynny'n wir—a dyna pam mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n gweld datblygiad cynllun datblygu strategol yn ne-ddwyrain ein gwlad sy'n ystyried ardal fwy o lawer, yn hytrach na meddwl y gall awdurdodau lleol edrych ar eu hardaloedd eu hunain yn unig pan ddaw i gyflwyno cynllun datblygu. Nid dyna sut y mae'r economi yn gweithio—rydym ni'n gwybod hynny—a dyna'r cyfeiriad y mae'n rhaid i'r cam nesaf o gynllunio fynd iddo.

Rwy'n cytuno gyda'r Prif Weinidog; rwy'n credu mai cynlluniau datblygu strategol yw'r ateb. Byddwn yn mynd ymhellach a dweud bod CDLlau yn methu â chyflawni o fewn eu ffiniau mewn ardaloedd fel Canol De Cymru, a'r awdurdodau hynny sy'n sefyll yn eu herbyn ac yna'n canfod eu hunain yn dioddef ceisiadau cynllunio hapfasnachol, pan fo prif arolygwyr yn gwrthdroi cynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd ar apêl, a dyna pam y byddwn yn canmol Llywodraeth Cymru am ei chynnig i ddatgymhwyso dros dro paragraff 6.2 nodyn cyngor technegol 1, y nodyn cyngor i arolygwyr cynllunio, yn ymwneud â darpariaeth y pwysoliad o gyflenwad tir tai dros bum mlynedd. Rwyf i wedi ysgrifennu fy ymateb fy hun i'r ymgynghoriad yn ei gefnogi. Fodd bynnag, roeddwn i'n siomedig o dderbyn llythyr yn ddiweddar gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, a aeth i Aelodau Cynulliad eraill, yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru. Teimlaf fod y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yn llawer rhy awyddus i gefnogi'r cartél o adeiladwyr tai mawr, a bod y system gynllunio wedi ei phwysoli o'u plaid. Prin yw'r tai fforddiadwy y maen nhw'n eu darparu. Rwy'n credu bod angen i'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ailystyried eu safbwynt. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i ni edrych ar sut y gallwn ddatblygu adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint, sydd â llawer mwy o bwyslais ar eu cymunedau lleol nag ar anghenion y farchnad? A wnaiff ef sefyll yn gadarn yn erbyn grwpiau lobïo sydd â'u buddiannau eu hunain?

Mae'n bwysig dros ben bod gennym ni system gynllunio sy'n gweithio mor effeithiol â phosibl. Mae e'n iawn i hysbysu bod ymgynghoriad wedi ei gynnal ar ddatgymhwyso paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1. Rydym ni'n ystyried y dystiolaeth ar hynny ar hyn o bryd. Ond mae cyfrifoldeb yn y fan yma ar awdurdodau lleol hefyd, gan ei bod hi'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cytuno trefniadau llywodraethu i symud ymlaen yn gyflym i gynllun datblygu strategol.

Yr anhawster, wrth gwrs, yw y bydd awdurdodau lleol yn ceisio llunio cynllun datblygu ar gyfer eu hardaloedd eu hunain. Y gwir amdani yw y bydd pobl yn byw yn eu hardaloedd ac yn gweithio yn rhywle arall. Os edrychwch chi ar fy etholaeth i fy hun, mae miloedd lawer o bobl yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn digwydd bod yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid yw awgrymu, rywsut, y gallwch chi fod â chynllun datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gwbl ar wahân i rai Bro Morgannwg neu Gaerdydd yn gweithio mewn gwirionedd, gan mai un ardal fawr yw hi mewn gwirionedd.

Felly, mae'n bwysig nawr—. Bydd ef yn ymwybodol o'r pwysau, wrth gwrs, yng Nghaerffili, gan ei fod wedi sôn amdanyn nhw lawer gwaith o'r blaen. Mae'n hynod bwysig nawr bod awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd ac yn penderfynu pwy sy'n mynd i fwrw ymlaen â'r cynllun datblygu strategol, er mwyn gwneud yn siŵr bod dosbarthiad mwy o bobl o gwmpas yr ardal. Fel arall, mae'n iawn i ddweud y bydd y rhan fwyaf o'r datblygiad, rwy'n amau, yn digwydd yng Nghaerdydd, yn digwydd yn ne Caerffili, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod cynllun datblygu strategol ar waith i wneud yn siŵr nad oes gorddatblygu mewn rhai rhannau o'r de-ddwyrain, pan, mewn gwirionedd, y gallai fod cyfleoedd mewn mannau eraill.

14:10
Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu nifer y derbyniadau o ganlyniad i glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint i adrannau damweiniau ac achosion brys rhwng 2016 a 2017? OAQ52405

Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu data yn rheolaidd ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n ymwneud â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Fodd bynnag, mae gwybodaeth o gronfa ddata cyfnodau gofal cleifion Cymru yn dangos y cafwyd 5,044 o dderbyniadau yn 2015 a 4,768 o dderbyniadau yn 2016—gostyngiad, felly, o 5.5%.

Diolch am hynny. Fel rydych wedi ei grybwyll, mae'r data yn dangos bod yna fwy o dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys nag sydd wedi bod yn hanesyddol, ac mae yna angen clir i sicrhau mynediad at wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint, felly, a hefyd i'w harallgyfeirio nhw a chefnogi cleifion i wneud ymarfer corff. Felly, beth mwy ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan gleifion ar draws Cymru fynediad at y triniaethau yma er mwyn lleihau'r risg o'u cyflwr yn gwaethygu, ac arwain at dderbyniadau diangen felly i adrannau damweiniau ac achosion brys? 

Mae yna lwybr newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd er mwyn helpu pobl gyda COPD i ystyried gweithgareddau ynglŷn ag ymarfer er mwyn iddynt allu rheoli'r cyflwr maen nhw'n ffeindio'u hunain ynddo. Mae hynny'n meddwl ystyried cyrsiau er mwyn helpu pobl i gael yr ymarfer sydd ei eisiau arnyn nhw, pobl i'w dysgu nhw sut i ymarfer hefyd ac, wrth gwrs, eu hybu nhw ynglŷn â sicrhau eu bod nhw'n edrych ar ffyrdd newydd i ddelio gyda'r clwy sydd gyda nhw, yn lle eu bod nhw'n teimlo drwy'r amser bod rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty. So, dyna lle rwy'n credu mae'n rhaid i'r gwaith ddigwydd.   

Wrth gwrs, Brif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno nad llwybr newydd yn unig sydd ei angen arnom ni, ond pobl â'r angerdd a'r ymrwymiad i'w ddarparu mewn ffordd wirioneddol ragweithiol. Dim ond yn ddiweddar, cymerais arnaf fy hun i fynd i gyfarfod â Louise Walby, sef nyrs y flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol eleni, gan fod Louise wedi datblygu  rhaglen ardderchog yng Nghwm Taf ar gyfer ymdrin â phobl â COPD. Mae wedi cael llawer o sylw o fewn Cwm Taf, ac mae'n awyddus iawn, yn amlwg, i ledaenu'r neges honno allan ledled Cymru gyfan, gan ei bod yn arloesol, yn garedig i'r claf, ac mae wir yn cynnwys pobl mewn ffordd nad yw'n rhefru ar bobl, nad yw'n pregethu wrthynt. Beth allwch chi ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod yr egin bychain iawn hyn sy'n ymddangos yn y GIG, yn llawn syniadau gwych, yn cael y cyfle hwnnw i dyfu ac i ledaenu'r arferion gorau hynny, fel y gall pawb elwa ar brofiad nyrs fel Louise Walby?

Yr hyn yr wyf i wedi ei ganfod dros y blynyddoedd yw bod y syniadau gorau yn dod gan unigolyn yn aml iawn—unigolyn a allai weld yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal leol, gan lunio'r hyn y mae'n ei weld fel enghraifft ymarferol sy'n gallu helpu pobl. Mae'n bwysig dros ben y gellir lledaenu'r arfer hwnnw. Byddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd edrych ar arferion arloesol mewn rhannau eraill o Gymru. Byddaf, fodd bynnag, yn gofyn i'r ysgrifennydd iechyd ysgrifennu atoch chi hefyd gyda'i syniadau ynglŷn â sut y gellid bwrw ymlaen â hyn.

Gamblo Cymhellol

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gamblo cymhellol? OAQ52418

Sefydlwyd grŵp traws-lywodraethol wedi'i sefydlu i ddatblygu dull strategol i leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru. Mae'r grŵp wrthi'n ystyried yr argymhellion o adroddiad blynyddol diweddaraf y prif swyddog meddygol a bydd yn cydgysylltu camau gweithredu presennol ac yn nodi gweithgarwch newydd y gellid bod ei angen.

Diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch yn cofio'r nifer o ddadleuon yr ydym ni wedi eu cael yn y Siambr hon ynghylch y mater o beiriannau betio ods sefydlog, a rhoddodd Llywodraeth y DU ymrwymiad, wrth gwrs, y bydden nhw'n cymryd mesurau nawr i leihau betio ar y rhain i uchafswm o £2 fesul bet. Mae'n ymddangos erbyn hyn y gallai fod o leiaf dwy flynedd cyn i unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath gael ei chyflwyno. Mae gennym ni rai pwerau o fewn hyn, er nid mor helaeth, ond mae'n ymddangos i mi y byddai hon yn adeg briodol nawr i Gymru arwain a chyflwyno deddfwriaeth i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni o leiaf i gyfyngu ar nifer y betiau ar beiriannau betio ods sefydlog y gellir eu gosod, o dan bwerau yn Neddf Cymru 2017 nawr, yn hytrach nag aros am ddeddfwriaeth a fydd yn cymryd sawl blwyddyn i gyrraedd neu efallai na fydd hyd yn oed yn cyrraedd o gwbl.

14:15

Mae'r Aelod yn iawn. Y drafferth, wrth gwrs, yw dod o hyd i amser ar gyfer deddfwriaeth yn yr hyn sy'n rhaglen ddeddfwriaethol lawn iawn. Nid yw hynny'n golygu na ddylem ni wneud dim, wrth gwrs, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod bod dulliau eraill ar gael i ni er mwyn lleihau gamblo problemus. Gallaf sicrhau'r Aelod bod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei adroddiad blynyddol ac mae'r grŵp traws-lywodraethol wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd, yn sicr fel cam cyntaf o ymdrin â gamblo problemus ac rydym ni'n awyddus i weithio gyda'r Prif Swyddog Meddygol er mwyn datrys y broblem.

Brif Weinidog, mae gelynion iechyd y cyhoedd fel gamblo problemus yn bethau y mae gennym ni'r cyfle i fynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru drwy'r system addysg. Roedd rhai ystadegau syfrdanol yng nghynhadledd Curo'r Bwci yr wythnos diwethaf bod 80 y cant o blant wedi gweld hysbysebion gamblo ar y teledu, bod 70 y cant o blant wedi gweld hysbysebion gamblo ar gyfryngau cymdeithasol a bod dwy ran o dair wedi gweld hysbysebion gamblo ar wefannau eraill. Nawr, er fy mod i'n deall nad oes gennym ni'r cyfle i ymdrin â hysbysebion fel y cyfryw, mae gennym ni gyfle drwy'r system addysg i addysgu ein pobl ifanc am gamblo problemus a'r niwed y gall ei achosi iddyn nhw ac i gymdeithas yn ehangach. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd drwy'r cwricwlwm newydd a chyfleoedd eraill y gellid eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r broblem hon fel gelyn iechyd y cyhoedd?

Wel, roeddwn i'n esbonio wrth fy mhlant yr wythnos diwethaf y bu adeg pan yr oedd sigârs a thybaco yn cael eu hysbysebu'n rhydd ar y teledu, nad oedden nhw'n ei ddeall o gwbl, ond roedd hynny'n digwydd. Roedd gamblo wedi'i reoleiddio'n fwy llym. Mae wedi mynd y ffordd arall, dyna'r broblem. Prin y ceir adeg pan all rhywun wylio achlysur chwaraeon heb fod rhyw gynnig i wneud bet hanner ffordd drwy'r gêm—sgoriwr nesaf, ac ati. Hyd yn oed rhywbeth a welais yn y papurau ychydig ddiwrnodau yn ôl pryd y caed bet am ddim pe byddai Lloegr yn ennill yn erbyn Panama—llawer o gollwyr yn y fan yna, rwy'n amau. Ond y pwynt difrifol yw hwn: mae hyn wedi digwydd ers y Ddeddf Gamblo yn 2005, ac rwy'n gresynu bod hynny wedi digwydd o dan oruchwyliaeth fy mhlaid fy hun. Rwy'n meddwl mai hwnnw oedd y penderfyniad anghywir i'w wneud oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw toreth o hysbysebion gamblo sy'n ei gwneud hi ymddangos bod ychydig o gamblo yn iawn, fwy neu lai, a dyna lle mae'r problemau'n codi.

Beth allwn ni ei wneud yn y system addysg, oherwydd nid ydym ni'n rheoli'r diwydiant hysbysebu, yn amlwg? Wel, mae iechyd a llesiant emosiynol yn un o themâu'r fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol, sy'n rhan o fframwaith presennol y cwricwlwm, sy'n rhoi'r cyfle i ysgolion drafod materion fel gamblo problemus. Bydd addysg ariannol yn elfen allweddol yn y cwricwlwm newydd—rhywbeth y mae'r Aelod Bethan Sayed wedi ei hyrwyddo—a bydd hynny'n cynnig darpariaeth gadarn i helpu dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ariannol, gan gynnwys rheoli arian. Gallaf ddweud bod ysgolion arloesol yn gweithio gyda rhai o'r sefydliadau allweddol i ddatblygu meysydd newydd o ddysgu hefyd. Felly, gallwn, mi allwn ni fynd i'r afael â hyn drwy'r system addysg ac rydym ni'n gwneud hynny. Mae'n mynd i gymryd mwy na hynny o ran y diwydiant hysbysebu, fodd bynnag.

Rwy'n falch iawn o glywed, Brif Weinidog, eich bod chi'n ymwybodol o'r peryglon enfawr sy'n deillio o gysylltu gamblo â chwaraeon. Gallwch gefnogi eich tîm heb orfod gosod bet, ond yn amlwg gwthiwyd y syniad yma i blant bod un yn mynd law yn llaw â'r llall.

Beth yw'r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth i newid y meini prawf cynllunio ar gyfer siopau betio fel bod ganddyn nhw gategori penodol, ac mae hynny'n golygu y gallwn ni reoli nifer y siopau betio newydd yn gadarn a sicrhau nad yw busnesau eraill sy'n cau yn cael eu troi'n siopau betio wedyn?

Fe ofynnaf i'r Ysgrifennydd ysgrifennu atoch ynghylch hynny.FootnoteLink Mae'n iawn i ddweud nad ydym ni eisiau gweld toreth o siopau betio, ond mae hynny'n rhan o'r broblem. Gamblo ar-lein—nid fu hi erioed yn haws gamblo. Roedd amser pan yr oedd yn rhaid i chi gerdded i mewn i siop fetio yn gorfforol er mwyn gwneud hynny. Nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny. Roedd rhai pobl yn dewis ei wneud fel ffordd o fyw, ond nid oedd yn digwydd i'r rhan fwyaf o bobl. Nawr, wrth gwrs, gan ei bod hi mor hawdd gamblo—. Er enghraifft, dim ond i roi rhai ffigurau i'r Aelodau yn y fan yma, roedd 152,000 o hysbysebion yn ymwneud â gamblo yn 2006; yn 2012—ac rwy'n amau bod y ffigur wedi codi ers hynny—roedd 1.39 miliwn. Wel, mae'r math yna o lifeiriant o wybodaeth yn sicr o gael effaith i annog pobl efallai na fydden nhw wedi mynd i siop fetio i gamblo flynyddoedd yn ôl, i gamblo mwy, a wedyn, wrth gwrs, i greu gamblo problemus. Os nad ydym ni'n caniatáu hysbysebion ar gyfer tybaco ac alcohol ar y teledu, pam ydym ni'n caniatáu hysbysebion gamblo? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn i Lywodraeth y DU ei ateb.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Ceir sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiadau llafar heddiw ar forlyn llanw bae Abertawe a'r cyhoeddiad diweddar gan Grŵp Airbus. O ganlyniad, bydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg gychwynnol i athrawon yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Ac, yn olaf, Llywydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ychwanegol brynhawn yfory ar gynnig heb ddyddiad trafod a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Fel arall, mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

14:20

Arweinydd y tŷ, a gaf i godi dau fater gyda chi, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Roeddwn i'n ddiolchgar am yr eglurder a ddangosodd y Prif Weinidog yn y cwestiynau a ofynnais iddo yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd dros iechyd gyflwyno datganiad am y defnydd o opiadau yn y GIG yng Nghymru a'r canllawiau sydd ar gael yn gyffredinol. Mae rhai o'r straeon sydd wedi dod allan a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf wedi codi pryderon gwirioneddol a difrifol ym meddyliau cleifion a chlinigwyr, a byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai datganiad ynghylch defnyddio opiadau i leddfu poen, yn enwedig yn y sector gofal lliniarol, fod ar gael gan yr Ysgrifennydd dros iechyd er mwyn i'r Aelodau a'r cyhoedd allu ei weld.

Ac, yn ail, fe wnaethoch chi ddweud yr wythnos diwethaf, pan godais y cwestiwn gyda chi ynghylch yr Ysgrifennydd Parhaol a'i hymgysylltiad â ni ynghylch materion yn yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, y byddech yn gwneud sylwadau i'r Ysgrifennydd Parhaol. Gan nad ydym ni wedi clywed unrhyw beth, tybed a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar ddod, gan nad wyf yn credu, hyd yma, fy mod wedi gweld yr wybodaeth honno yn dod ar gael.

Ie, ar yr un cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa honno. Ac ar yr ail, yn anffodus, nid oedd yn bosibl i'r cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol gael ei gynnal yr wythnos diwethaf oherwydd problemau gyda fy nyddiadur, ond cyn gynted ag y gwelaf i hi, a gobeithio y bydd hynny yr wythnos hon, byddaf yn ei ddwyn i'w sylw.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am drefnu lle ar gyfer y ddadl ddienw yfory? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gan y Cynulliad gyfle i drafod nid yn unig bod gennym ddatganiad ar y morlyn llanw heddiw, ond  i drafod mewn gwirionedd yr amgylchiadau gwleidyddol a arweiniodd at y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn teimlo, yn ein cynnig, nad oes gennym ffydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru nac, yn wir, yn y swydd, mewn gwirionedd, nac yn y ffordd y defnyddir y swydd honno, yn hytrach na fel pont rhwng y lle hwn a San Steffan i gyflawni uchelgeisiau Cymru, fel rhwystr a giât rhwng ein huchelgeisiau ni a rhai San Steffan. Felly, credaf y bydd y bleidlais yfory yn bwysig iawn. Rwyf ar ddeall ei bod yn agored i welliannau heddiw. Rwy'n siŵr na fydd y Llywodraeth yn cytuno â phob agwedd yr ydym ni wedi ei chymryd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio na fyddwch chi'n dirymu'r cynnig yfory ac y byddwn ni'n anfon neges gref iawn at yr Ysgrifennydd Gwladol am ei berthynas â'r lle hwn fel Senedd, ond hefyd o ran y ffordd y mae'n gweithredu ar ein rhan yn Llundain. Rwy'n credu mai ein dyletswydd ni yw anfon y neges honno yn dilyn y digwyddiadau y byddwn yn eu trafod ymhellach y prynhawn yma. Diolch i chi unwaith eto am gyflwyno'r datganiad ar y morlyn llanw fel y gallwn gael dadl yn y dyfodol.

A gaf i ofyn dim ond un neu ddau o bethau penodol ynghylch sut y gallai'r Llywodraeth ymdrin â busnes dros yr ychydig wythnosau nesaf? Yn gyntaf oll, rwyf ar ddeall bod Bil yr UE (Ymadael) wedi dod yn Ddeddf heddiw, a bod John Bercow, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, wedi nodi cydsyniad y Frenhines i'r Bil. Felly, gan fod gennym ni Ddeddf yr UE (Ymadael) rwy'n cymryd, oni bai y byddwch yn dweud wrthyf yn wahanol, y bydd y cytundeb rhynglywodraethol, yr ydych wedi ei gytuno â Llywodraeth San Steffan yn dod i rym, a byddwch felly yn ceisio diddymu y gyfraith sy'n deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, sydd hefyd yn Ddeddf, wrth gwrs. Felly, mae gennym ni ddwy Ddeddf nawr nad ydyn nhw o angenrheidrwydd yn cydweddu â'i gilydd, neu, o leiaf, nad ydyn nhw'n cydweddu â chytundeb rhynglywodraethol.

A allwch chi egluro i ni beth fydd y broses a ddefnyddir i wneud hyn ddigwydd? Sut y caiff Bil ei dynnu'n ôl? Nid ydym wedi gwneud hyn o'r blaen. Felly, sut yr ydym ni'n tynnu Bil yn ôl, sydd wedi dod yn Ddeddf, mewn gwirionedd? Pa ymgynghoriad a fydd? Sut y bydd hynny'n digwydd? Beth fydd y dadleuon—? Pa ran, yr ydych chi'n ei ragweld, y bydd y Senedd hon yn ei chwarae yn hynny o beth? Sut byddwn ni'n sicrhau'r drafodaeth ehangaf bosibl ynglŷn â hynny? Yn amlwg, rydych chi wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw fel cytundeb rhynglywodraethol, ond bydd gan rai ohonom wahanol safbwyntiau ar hynny, a byddwn ni'n awyddus i sicrhau y dilynir y prosesau priodol a'n bod ni'n cael dweud ein dweud ar hyn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi yn fawr iawn pe byddech chi'n cyflwyno sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau, yn eich barn chi, y bydd y Ddeddf nawr yn cael ei thynnu'n ôl.

Yr ail beth yr hoffwn i ei godi gyda chi yn fyr—sydd eisoes wedi'i drafod, ond nid yr agwedd benodol hon—yw'r broblem o ran gamblo. Mae gennym ni, ac mae llawer ohonom ni'n ei groesawu, y terfyn £2 ar y peiriannau ods sefydlog. Roeddem ni'n siomedig iawn i ddeall bod hynny bellach yn mynd i gael ei ymestyn i o leiaf 2020. Felly, nid yw Llywodraeth San Steffan am wneud dim am ddwy flynedd o leiaf ar hyn. Mae gennym ni argymhellion cryf iawn gan ein prif swyddog meddygol. Mae gennym ni addewid wedi'i lofnodi gan aelodau o bob plaid, addewid traws-bleidiol ar grŵp trawsbleidiol yma i weithredu ar hyn. Byddai'n ddiddorol gwybod pa un a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad deddfwriaethol— neu fwriad rheoleiddio—i ddefnyddio'r pwerau cyfyngedig ond pwysig er hynny sydd gennych chi erbyn hyn i ymdrin â'r pla peiriannau ods sefydlog. Drwy ohirio am ddim ond dwy flynedd, amcangyfrifir y bydd siopau betio yn elwa ar £4 biliwn. Dyna faint y busnes hwn erbyn hyn, ac mae dioddefaint difesur y rhai sy'n mynd yn gaeth i hapchwarae trwm o'r fath yn amlwg a chafodd ei arddangos yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd yn y Pierhead. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn debygol o'i wneud, a pha gamau yr ydym ni'n debygol o'u gweld ar hapchwarae?

14:25

Wel, yn y traddodiad hen a pharchus, Llywydd, o fynd i'r afael â materion o chwith, ar yr un gamblo, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau hefyd at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am hyn. Mae'r peiriannau betio ods sefydlog—ni allaf i byth ddweud hynny'n iawn—yn bla llwyr, ac, wrth gwrs, yn ymosod ar rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas. Mae'r Prif Weinidog newydd ateb rhai cwestiynau ynghylch hynny.

Credaf fod pryder ar draws y Llywodraeth am hyn. Mae problem enfawr gyda hysbysebu ar-lein, ac er bod yr Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi nodi ei fod yn ymosod ar hysbysebion sy'n targedu plant yn benodol, er hynny, os ydych chi'n chwarae ar-lein, byddwch chi'n gweld yr hysbysebion hynny drwy'r amser. Rwyf i'n eu gweld drwy'r amser. Felly, rydym ni'n bryderus iawn am hynny, a, Llywydd, byddaf yn gwneud yn siŵr y byddwn ni'n cyflwyno datganiad o ryw fath yn nodi beth y gellir ei wneud yng nghyd-destun ymateb y Prif Weinidog i'r cwestiwn yn gynharach, gan fy mod yn credu bod hwn yn fater o bryder sylweddol ac mae'r oedi yn peri cryn bryder.

O ran Deddf yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n edmygu gwahoddiad Simon Thomas i mi nodi holl fanylion hynny, ond, Llywydd, ni fyddaf yn trethu eich amynedd drwy geisio gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gan y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad cyn bo hir a fydd yn rhoi'r cyfle i'r Aelodau ei holi'n fanwl ar yr union sefyllfa ddeddfwriaethol. Rwy'n credu mai dyna'r lle priodol i drafod hyn.

O ran y morlyn llanw, mae gennym ni ddatganiad y prynhawn yma, a, Llywydd, nid wyf yn credu fy mod i wedi cuddio'r ffaith nad wyf yn ystyried bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ennill unrhyw fri o gwbl o ran sefyll dros Gymru mewn penderfyniadau buddsoddi yn Llywodraeth y DU. Byddwn ni'n ei ddiwygio gan fod rhai materion cyfansoddiadol yn bodoli, ond credaf fod pawb yn gyfan gwbl o'r un farn.

Rwy'n gwybod bod arweinydd y tŷ yn gwybod pa mor anhygoel oedd yr achlysur yma yn y Senedd ddydd Gwener diwethaf, pryd y gwnaethom ni ddathlu'r genhedlaeth Windrush, a pha mor wefreiddiol oedd clywed am gyfraniad yr holl bobl hynny a ddaeth i'r Senedd. Ac, yn amlwg, mae 70 mlynedd ers y daeth y Windrush i'r DU, ac roedd yn arbennig o emosiynol, yn fy marn, cael clywed gan yr henaduriaid, a chlywed am eu cyfraniad. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod y pwynt wedi ei wneud yn y cyfarfod: pam na wnaethom ni ddathlu 50 mlynedd? Pam na wnaethom ni ddathlu 60 mlynedd? Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod pam yr ydym ni'n dathlu 70 mlynedd. Felly, tybed a allem ni gael datganiad am unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gydnabod cyflawniadau cenhedlaeth hŷn Windrush.

Oedd, roedd e'n brofiad gwirioneddol emosiynol, ac mewn gwirionedd, pan es i ati i siarad, Llywydd, roeddwn i, mewn gwirionedd, yn atal ychydig ddagrau oherwydd fy mod i'n dilyn araith un o'r henaduriaid yn amlinellu ei gyfraniad. Roedd e'n emosiynol iawn, a chredaf ein bod ni i gyd yn teimlo'n emosiynol am rai o'r straeon personol. Rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce Watson—nid wyf yn credu ei bod hi yn y Siambr ar hyn o bryd—a ddaeth i lawr i'r digwyddiad yn Abertawe ddydd Sadwrn pan oedd gan rai o'r henaduriaid ychydig mwy o amser i ymhelaethu ar rai o'u straeon, a oedd hefyd yn emosiynol iawn.

Byddaf yn trafod gyda chydweithwyr yn y Cabinet sydd â diddordeb yn hyn rhai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud. Rydym ni'n noddwr platinwm ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon eleni i wneud yn siŵr eu bod yn cael rhannu rhai o'r hanesion llafar, ac rwy'n edrych ar ffyrdd o wneud yn siŵr bod yr henaduriaid yn ymweld â dociau Tilbury, oherwydd bod problem ynghylch pa un a fyddai rhai ohonyn nhw yn cael gwneud hynny. Rwy'n credu bod un o'r henaduriaid yn dweud yn gadarn iawn mai dyma'r lleiaf y gallem ni ei wneud i gydnabod eu cyfraniad i gymdeithas Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gyfrannu yn y modd y maen nhw'n ei weld yn addas. Felly, rwy'n ymchwilio ac yn mynd ati i sicrhau y gall y daith honno ddigwydd.

Dywedodd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething rywbeth cofiadwy iawn ar yr achlysur hefyd, mewn gwirionedd, sef bod yn rhaid cofio bod gennym ni ffordd bell i fynd. Nid oes rhaid i chi mond edrych o amgylch y Siambr hon, Lywydd, i weld faint o ffordd sydd gennym ni i fynd i gyflawni amrywiaeth. Un o'r pethau a ddywedodd, ac rwy'n awyddus iawn i gydweithredu gydag ef ac eraill ar hynny, yw sicrhau bod gennym ni'r ysgolion iawn—y cynlluniau mentora a'r cynlluniau llwybr—i wneud yn siŵr bod pobl ifanc o bob rhan o gymdeithas Cymru yn dod ymlaen ac yn cymryd eu lle haeddiannol, gan adeiladu ar waith anhygoel y genhedlaeth Windrush a henaduriaid eraill a wnaed mewn amgylchiadau a oedd yn galonogol ond hefyd yn gywilyddus mewn rhyw ffordd.

14:30

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar faint o sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbarametrig i ganfod canser y brostad yng Nghymru? Yn ôl adroddiad gan Prostate Cancer Wales, mae canfod y canser yng Nghymru yn arafach nag yn Lloegr, lle'r oedd 92 y cant yn cael sgan cyn biopsi. Yng Nghymru, dim ond tri allan o'r saith Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r sgan, a all leihau amser diagnosis canser y brostad o wythnosau i ychydig ddyddiau. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y defnydd o sganiau mpMRI yn cael ei adolygu, ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, a allai gael effaith sylweddol ar gyfraddau goroesi canser y brostad yng Nghymru?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi wrthyf ei fod yn fodlon iawn i ysgrifennu at yr Aelodau ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlenni.

Arweinydd y tŷ, er gwaethaf y ffyrnigrwydd diatal y mae pobl Abertawe yn ei deimlo am y penderfyniad ar y morlyn llanw  ddoe—ond mwy am hynny yn nes ymlaen, yn amlwg—mater gwahanol: byddwch yn gwbl ymwybodol bod angen taer am atebion i drafnidiaeth yn ardal Bae Abertawe. Nid yw lefel tagfeydd na chyfraddau damweiniau ar yr M4 o amgylch Abertawe a Port Talbot yn ein helpu i ddenu cwmnïau i'r de-orllewin—rwyf wedi codi hyn gyda chi o'r blaen— ac maen nhw'n ffynhonnell glir o rwystredigaeth yn lleol. Yn wir, dim ond y bore yma, cawsom ddamwain amlgerbyd arall ar yr M4, a achosodd anhrefn traffig ar y ffyrdd o gwmpas Abertawe.

Yn amlwg, mae gan Metro Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol y potensial i weddnewid teithio lleol a helpu i ddatblygu dulliau amgen i deithio ar ffyrdd yn y rhanbarth. Fodd bynnag, nid wyf yn clywed llawer am gynnydd yn y maes hwn. Yn fy ymdrechion i ymgysylltu â Chyngor Abertawe, sef yr awdurdod arweiniol yn y rhanbarth sy'n ymwneud â datblygu strategaeth amlinellol ar gyfer achos busnes ar gyfer y metro hwn, rwyf ar ddeall bod y strwythurau prosiect, ffrydiau gwaith a strategaeth ymgysylltu yn dal i fod heb eu cytuno gan y gwahanol awdurdodau o fewn y rhanbarth. Mae pobl yn lleol yn crefu am system drafnidiaeth gyhoeddus briodol, felly mae angen i ni weithredu'n gyflymach.

O gofio pwysigrwydd strategol y de-orllewin o ran trafnidiaeth, a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth felly yn fodlon cyflwyno datganiad ar y mater hwn, gan amlinellu'n glir y canlyniadau allweddol y mae'n disgwyl eu gweld, faint o weithio ar y cyd fydd yn digwydd rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, a'r terfynau amser allweddol? Diolch yn fawr.

Llywydd, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad llwyraf i deuluoedd y bobl a gafodd eu lladd, yn anffodus, yn y ddamwain  angheuol ar yr M4 yn ddiweddar iawn. Straeon torcalonnus—rydym i gyd yn gwybod pa mor ofnadwy gall y fath beth fod. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi wrthyf bod cynnydd da yn cael ei wneud, ac mae'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy lythyr.

Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol erbyn hyn fod ASau wedi pleidleisio neithiwr o blaid cynlluniau i adeiladu trydedd rhedfa ym Maes Awyr Heathrow Llundain. Rwy'n dal o blaid y prosiect hwn ac rwy'n falch iawn â chanlyniad ddoe, yn enwedig oherwydd y buddion rhanbarthol, y manteision i Alun a Glannau Dyfrdwy fel etholaeth ar y ffin a'r manteision ehangach i Gymru hefyd, i arwain cysylltiadau gwell o Gymru i weddill y byd, i wella twristiaeth ac i roi mwy o gyfleoedd ar gyfer busnesau yng Nghymru i gyrraedd marchnadoedd allforio newydd.

Mae'r dadansoddiad yn dangos y bydd Heathrow estynedig yn ychwanegu hyd at 8,400 mwy o swyddi, a chynnydd sylweddol mewn twf economaidd i Gymru. Roeddwn i'n falch iawn o fod mewn cyfarfod yn ddiweddar pryd y gwnaethom ni drafod cais Tata Shotton i gael ei enwi fel un o'r pedair canolfan logistaidd terfynol ar gyfer Heathrow. A bydd y canolfannau hyn yn sicrhau bod cymunedau ar draws y DU yn rhannu cyfleoedd yn sgil yr ehangu yn gyffredinol.

Gan gadw hynny i gyd mewn cof, arweinydd y tŷ, hoffwn wybod pe gallem ni gael diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau'r buddion hyn y gwyddom y bydd ehangu yn eu sbarduno ledled Cymru, gan gynnwys lleoliad y ganolfan ehangu yn fy etholaeth i.

Mae Jack Sargeant yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn. Mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo safleoedd o Gymru sydd ar y rhestr fer o safleoedd ar gyfer y ganolfan logisteg Heathrow, a fydd, wrth gwrs, fel y mae ef yn ei amlygu, yn darparu cannoedd o swyddi yng Nghymru a chwistrellu miliynau o bunnoedd i mewn i'n heconomi—sydd yn fawr ei angen yng ngoleuni'r gwahanol benderfyniadau i beidio â buddsoddi yng Nghymru a wnaed gan Lywodraeth bresennol y DU.

Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd gynllun hir-ddisgwyliedig i ddarparu mynediad rheilffordd gorllewinol i Faes Awyr Heathrow, sy'n hollbwysig i sicrhau bod Cymru'n cael y budd mwyaf posibl. Ac mae hwn yn fater yr ydym ni hefyd yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ynglŷn ag ef. Rydym ni'n parhau i bwyso am i'r rhedfa newydd fod â digon o gyfleoedd glanio ar gyfer teithiau hedfan i Gymru ac o Gymru, er mwyn gwella ein cysylltedd, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am i ni lobïo ar ran safleoedd yng Nghymru ar gyfer y ganolfan logisteg, ac rwyf yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed hynny.

Yr wythnos diwethaf, cwrddais i â Docs Not Cops, a gwn eich bod chithau wedi cwrdd â nhw, fel y mae Mike Hedges. Codwyd y mater hwn yn y cyfarfod llawn rai wythnosau yn ôl ynglŷn â gofyn am ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Mewnfudo 2014. Fe wnaethoch chi ymateb, ond fe wnaethoch chi ymateb yng nghyswllt y polisi presennol yn ymwneud â cheiswyr lloches. Felly, rwyf eisiau ceisio deall: bydd unrhyw un o'r tu allan i Ewrop sy'n gwneud cais yn gyfreithlon i weithio neu astudio yma yn cael ei orfodi i dalu'r gordal NHS ychwanegol o hyd at £200 y flwyddyn cyn cael fisa neu bydd rheolau codi tâl a ddefnyddiwyd o'r blaen dim ond ar gyfer gofal eilaidd bellach yn cael eu hymestyn i ofal sylfaenol, meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys eraill. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dweud bod cleifion nad ydyn nhw'n preswylio yn y DU fel arfer yn agored o bosibl i dalu. Felly, nid wyf i'n credu bod y mater hwn wedi'i unioni yn gyfan gwbl hyd yn hyn. Gwn mai darn o ddeddfwriaeth y DU yw hwn, ond gallem ni ddewis, yma yng Nghymru, i beidio â gweithredu yr elfennau o'r Ddeddf Mewnfudo a fydd yn cosbi pobl. Bydd yn rhaid i chi ddechrau creu proffiliau hiliol, mae arnaf ofn, os byddan nhw'n mynd at y gwasanaeth iechyd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi diweddariad i ni gan ddweud wrthym yn union beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud o ran y polisi penodol hwn.

14:35

Gallaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod cymhlethdodau difrifol yn bodoli ac mae'n nodi ei barodrwydd i ysgrifennu at Aelodau i fynegi'r hyn yn union yw'r sefyllfa ynglŷn â phwerau i'w gweithredu neu beidio, a pha effaith a gaiff hynny yng Nghymru.FootnoteLink

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gychwynnol i Athrawon

Yr eitem nesaf oedd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg gychwynnol i athrawon, ac mae hwn, bellach, wedi ei gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Morlyn Llanw Bae Abertawe

Felly, yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar forlyn llanw bae Abertawe. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad. Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Ddoe, gwnaethpwyd datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin gan Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, ar brosiect arfaethedig morlyn llanw Bae Abertawe.

Gwnaeth Llywodraeth y DU hi yn glir y,

byddai'n anghyfrifol i ymrwymo mewn contract gyda'r darparwr

gan nad 

oedd y cynnig wedi dangos y gallai fod yn cynrychioli gwerth am arian.

Mae Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad na ddylid rhoi cyllid cyhoeddus i'r prosiect. Mae'r penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe yn hynod o siomedig ac yn ergyd arall i Abertawe yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â thrydaneiddio prif reilffordd y Great Western i Abertawe. Er gwaethaf ein cynnig diffuant i helpu Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cynnig hwn yn gweithio, y maen nhw'n gadael i'r cyfle pwysig hwn fynd drwy eu dwylo. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi siomi pobl Cymru yn fawr.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos, unwaith eto, bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau polisi ynni ar gyfer Cymru yn seiliedig ar flaenoriaethau ynni Lloegr yn hytrach nag adlewyrchu'r cyfleoedd yma yng Nghymru. Mae gennym ni adnoddau sylweddol ar gyfer ynni cynaliadwy yng Nghymru, nad ydyn nhw ar gael yn Lloegr, y bydd yn rhaid inni eu harneisio os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio yn rhan o'n rhwymedigaethau DU ehangach. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â chydnabod y bydd cymysgedd ynni Cymru yn wahanol i'r un yn Lloegr.

Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i adolygiad Hendry o forlynnoedd llanw ar sawl achlysur. Hyd yn oed nawr maen nhw wedi methu â rhoi ateb digonol i'r argymhellion pwysig a wnaed ganddo. Mae Llywodraeth Cymru yn glir: penderfyniad polisi y DU yw'r penderfyniad i gefnogi morlynnoedd llanw ai peidio. Mae ganddyn nhw'r gallu a'r gefnogaeth ariannol i ysgwyddo'r risg ym meysydd technoleg newydd a datblygol nad oes gan Lywodraethau llai eraill ledled y DU o gwbl.

O'r diwrnod cyntaf un, roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod posibiliadau gweddnewidiol prosiect morlyn llanw Bae Abertawe ac fe wnaethom ni gynnig cyllid sylweddol i Lywodraeth y DU i helpu i wireddu'r prosiect. Yn anffodus, mae diffyg gweledigaeth a diffyg llwyr o ran uchelgais Llywodraeth y DU wedi lladd y prosiect hwn—prosiect a allai fod wedi rhoi Cymru a'r DU mewn sefyllfa o fod yn arwain y byd mewn diwydiant newydd byd-eang. Rydym ni wedi dweud yn gyson bod Llywodraeth Cymru yn fwy na pharod i weithio yn agos â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau eraill ledled y DU i ddatblygu diwydiant  ynni'r môr llewyrchus yn y DU.

Nid oes gennym ni unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r posibiliadau y mae ynni morol yn eu cyflwyno i Gymru, nid yn unig o safbwynt polisi ynni a datgarboneiddio, ond hefyd o safbwynt budd cymdeithasol ac economaidd hefyd. Yn wir, mae ynni morol yn cynnig posibiliadau enfawr i'r DU gyfan o ran datblygu gwybodaeth, technoleg a datblygiadau cyflenwad gadwyn, a fyddai o werth i fasnach ryngwladol yn y dyfodol.

Rydym wedi bod o'r farn honno am flynyddoedd lawer, a dyna pam yr ydym ni wedi blaenoriaethu twf diwydiant ynni llewyrchus fel arf allweddol ar gyfer datblygiad economaidd. Mae gan Gymru hanes rhagorol o gefnogi ynni morol. Buddsoddwyd dros €100 miliwn o gyllid gan yr UE, ynghyd â chefnogaeth ddomestig, a pharheir i fuddsoddi drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi prosiectau tonnau a ffrwd llanw. Mae cyllid gan yr UE yn cefnogi parth arddangos ffrwd llanw Morlais gorllewin Ynys Môn, parth arddangos tonnau de sir Benfro, yn ogystal â datblygwyr tonnau a ffrwd llanw. Rydym hefyd wedi cefnogi Ynni Morol Cymru sy'n datblygu ardal brofi ynni morol yn nyfrffordd Aberdaugleddau. Mae sir Benfro ac Ynys Môn yn dod yn ganolfannau ar gyfer datblygiadau tonnau a ffrwd llanw, ond bydd datblygiad pellach yn dibynnu ar gymorth refeniw gan Lywodraeth y DU.

Bydd datblygwyr morol, sydd â chynlluniau uchelgeisiol i ddefnyddio eu dyfeisiau yn nyfroedd Cymru, yn ystyried y cyhoeddiad hwn fel Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn cau'r drws ar y diwydiant. Mae rhai eisoes yn ystyried torri ar eu cynlluniau yng Nghymru. Rwy'n galw felly ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei chymorth hirdymor i'r diwydiant morol.

Bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd busnes ac ynni, Greg Clark, i bwysleisio pwysigrwydd cefnogi sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rydym eisoes wedi pwysleisio pwysigrwydd ariannu'r technolegau mwyaf fforddiadwy, fel gwynt ar y tir, i gadw costau cyffredinol cymorth yn isel.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i'r sector ynni adnewyddadwy a byddwn yn gofyn barn y diwydiant a'r cyrff priodol drwy uwchgynhadledd ynni i ddeall yn well sut y mae momentwm, yn enwedig ym maes ynni morol, am gael ei gynnal dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Yng ngoleuni'r penderfyniad siomedig hwn, rydym yn gweithio'n agos gydag arweinyddion yn y rhanbarth i asesu'r goblygiadau economaidd ehangach yn well ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd yn rhesymol. Rwyf eisoes wedi cynnal trafodaethau gydag arweinydd Cyngor Abertawe am brosiectau eraill a allai gefnogi datblygiad economaidd yn yr ardal, a byddwn yn cael rhagor o drafodaethau o'r fath gydag arweinyddion yn yr ardal yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd fy nghydweithwyr a minnau yn hysbysu Aelodau am gynnydd yn hyn o beth a byddwn yn pwyso hefyd ar Weinidogion y DU o ran y canlyniadau.

14:40

Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad hwn. Byddai'n dda gennyf i pe byddai hwn yn wahanol fath o ddatganiad, yn ddatganiad yn croesawu'r newyddion da y dylem ni fod wedi ei gael o San Steffan ddoe. Rwyf i am fod yn ddi-flewyn ar dafod: rwyf i o'r farn mai penderfyniad cadarnhaol oedd yr hyn oedd ei angen ddoe, ac mi wnes i lobïo tan y funud olaf i geisio sicrhau'r penderfyniad cadarnhaol hwnnw. Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, ac rwy'n canmol pawb, o Lywodraeth Cymru a phawb ym mhob cwr o'r rhaniad gwleidyddol yn y Siambr hon, a'r rhai hynny yn y gymdeithas ddinesig ac yn y byd busnes, a fu'n hyrwyddo achos morlyn llanw Abertawe. Rwy'n gresynu'n fawr iawn na chafodd penderfyniad mwy cadarnhaol ei wneud ddoe, er, mae'n deg dweud bod y rhifolion bob amser yn heriol pe byddech yn edrych ar y mater dim ond ar sail yr economeg o ran y pŵer crai a gynhyrchid.

A dyna, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai fy nghwestiwn cyntaf i chi. Mae Llywodraeth y DU wedi dod i'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar eu dadansoddiad o'r wybodaeth ger eu bron. Tynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol sylw, yn ei ddatganiad ddoe, at sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cael o leiaf 10 cyfarfod â'i adran ef yn y flwyddyn galendr hon. A wnewch chi gadarnhau bod eich swyddogion chi wedi dod i'r un penderfyniad ag y gwnaeth swyddogion yn adran Greg Clark, neu os oes tystiolaeth i brofi bod y penderfyniad hwnnw'n anghywir, yn seiliedig ar yr un gwaith papur y bydd swyddogion o'r ddwy Lywodraeth yn edrych arno, a wnewch chi roi'r wybodaeth honno ar gael fel y bydd gennym, yn amlwg, yr adroddiad llawnaf o sut y gwnaeth y broses gwneud penderfyniadau ddod i'r casgliad y daeth iddo?

Hoffwn ddeall hefyd sut bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfleoedd newydd. Yn amlwg, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ei ddatganiad ddoe, yn tynnu sylw at sut y mae gan Lywodraeth y DU gynigion eraill yn ei meddiant, ceisiadau eraill—gobeithio fy mod i wedi categoreiddio hyn yn gywir, ond yn sicr roedd cynigiadau eraill yn bendant yn rhywbeth a roddwyd gerbron Tŷ'r Cyffredin ddoe yn y datganiad. Byddai'n fuddiol deall pa swyddogaeth fydd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'r cynigion eraill posibl hynny a nododd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddatganiad ddoe.

Yr hyn, i mi, sy'n bwysig iawn yn y fan yma yn awr, yn amlwg, yw ein bod yn asesu ein llwybr o'r sefyllfa y canfyddwn ein hunain ynddi heddiw, ac rwy'n dweud, yn gwbl agored, nad yw hi'n sefyllfa y byddwn yn dymuno i ni fod ynddi, a dyna'i diwedd hi. Roeddwn yn dymuno i ni i gyd fod yn y sefyllfa heddiw o groesawu morlyn llanw Abertawe. Rwy'n talu teyrnged, fel y dywedais, i bob Aelod sydd wedi gweithio yn ddiflino ar y mater hwn. Ond mae'n ffaith ein bod mewn oes bellach pan fo angen i ni asesu sut y gallwn hyrwyddo rhai o'r cyfleoedd ynni mwyaf cadarnhaol sydd yn bodoli o amgylch arfordir cyfan Cymru. Ers i mi fod yn y Siambr hon, bu dau gynnig—un o forglawdd yr Hafren a morlyn llanw Abertawe ar hyn o bryd—ac ni ddaeth y naill na'r llall i gyflawniad. Ond yr hyn a wyddom yw bod asedau crai yn bodoli ar ein harfordir ac mae angen manteisio arnyn nhw a'u datblygu.

Rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, o ystyried, o wrando ar ei ddatganiad heddiw, y gallwn fod wedi cau fy llygaid a chlywed yr un ddadl yn dod o feinciau'r gwrthbleidiau pan gyhoeddodd ef gynigion Cylchdaith Cymru a roddwyd gerbron Llywodraeth Cymru, i gefnogi'r prosiect arbennig hwnnw, pan, yn ei farn ef, yn amlwg, nad oedd y prosiect hwnnw'n fforddiadwy ac nid yn gallu sefyll y prawf yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei osod. Bellach, o fod yn y sefyllfa i wneud penderfyniadau fel hyn, byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn deall y broses sy'n gysylltiedig, ac roedd y broses a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU ddoe yn ymddangos yn debyg iawn i'r broses a amlinellodd Llywodraeth Cymru yn ei phenderfyniad o ran Cylchdaith Cymru. Felly, byddwn yn falch o gael deall sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y dyfodol i gyflawni prosiectau seilwaith mawr, nid yn unig gydag ynni ond gyda phrosiectau seilwaith mawr eraill, ledled Cymru a allai roi hyder i ddatblygwyr i edrych ar Gymru fel cyrchfan atyniadol.

Wrth gloi fy sylwadau, hoffwn nodi mai dim ond dwy funud cyn i mi godi ar fy nhraed y cefais y datganiad hwn, yn anffodus. Felly, nid wyf yn hollol siŵr beth ddigwyddodd y prynhawn yma. Gall fod rhai Aelodau heb gael y datganiad hwnnw hyd yn oed. Fel arfer y mae'n gwrtais i'r Aelodau gael golwg ar y datganiad. Rwy'n deall mai cwrteisi yw hynny nad oes rhaid ei ymarfer, ond y mae'n digwydd fel arfer o ran cwrteisi, a byddwn yn gobeithio y byddai ef yn ystyried beth oedd y broblem cyfathrebu o ran y datganiad. Diolch.

14:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n ymddiheuro am ei fod mor hwyr yn cael y datganiad. Dim ond rai munudau yn ôl y cefais innau'r datganiad hefyd gan iddo gael ei ailddrafftio ar gam diweddar iawn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi bod yno pan oedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac mae'r Aelod yn nodi penderfyniad Cylchdaith Cymru fel un enghraifft sylfaenol o sut, yn wyneb pwysau gan y cyhoedd a'r ymgyrchoedd dros roi sêl bendith i brosiect, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei asesu ar sail gwerth am arian a manteision ehangach a allai ddod yn sgil prosiect. Ond mae'r prosiect hwn yn wahanol iawn i Gylchdaith Cymru. Byddai Cylchdaith Cymru wedi bod ar y fantolen. Byddai wedi bod angen gohirio £300 miliwn o wariant Llywodraeth Cymru o bosib o ganlyniad i'r dyfarniad hwnnw ei bod yn rhaid iddo fod ar y fantolen. Ni chafodd Cylchdaith Cymru ei gefnogi mewn adolygiad annibynnol gan gyn-Weinidog ynni. A, gadewch i ni ddwyn i gof, prif bwynt y prosiect hwn oedd ei fod yn brosiect braenaru a chan ei fod yn brosiect braenaru, byddech yn disgwyl costau ychwanegol bob amser. Dylai'r prawf gwerth am arian gan brosiect braenaru fod yn wahanol iawn oherwydd y costau cyfle a allai godi wrth beidio â bwrw ymlaen â phrosiect arbennig.

O ran dymuniad yr Aelod y gallai hwn fod wedi bod yn benderfyniad cadarnhaol, rwy'n myfyrio ar yr hyn a fyddai wedi digwydd o bosib pe na byddai David Cameron wedi galw am refferendwm ar ein haelodaeth o'r UE. Mae'n debygol y byddai ef yn dal i fod yno o hyd yn Brif Weinidog, ni fyddem yn wynebu trychineb methiant o ran negodiadau Brexit ac, yn ôl pob tebyg, o ystyried ei gefnogaeth bersonol i'r cynllun hwn a'r ffaith ei fod wedi ei gynnwys ym maniffesto 2015 y Blaid Geidwadol, byddem wedi gweld penderfyniad gwahanol iawn yn cael ei wneud ddoe. Efallai wir y byddem ni wedi gweld penderfyniad gwahanol hefyd o ran trydaneiddio. Ac am y rhesymau hynny, mae'r bai am y penderfyniadau a wnaethpwyd, yn bendant yn fy marn i, yn disgyn ar Theresa May fel Prif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Geidwadol sydd yn llywodraethu yn y DU.

Nawr, o ran ymgysylltu, mae datblygwyr yn herio'r ffigurau a gynhyrchwyd. Cefais yr arfarniad manwl heddiw. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gynnal asesiad trylwyr o hwnnw, ond, unwaith eto, fel prosiect braenaru, mae'r costau yn mynd i fod yn uwch bob amser. Os edrychwn ni ar ddatblygu gwynt ar y tir a'r môr, roedd costau yn uwch 10 mlynedd yn ôl nag y maen nhw heddiw, a'r costau cyfle yr ydym yn wynebu ar hyn o bryd wedi eu colli. Gallai'r costau cyfle fod yn sylweddol yn wir os na ddaw Cymru yn arweinydd byd-eang.

Nawr, mae'r Aelod yn nodi yn gywir bod y pwynt a wnaethpwyd yn y Senedd ddoe—y sicrwydd fod Llywodraeth y DU wedi derbyn cynigion gan rai y maen nhw'n ei ddweud sy'n hyrwyddwyr eraill o gynlluniau ynni llanw. Rwy'n credu bod angen i ni wybod pwy, ac ymhle y mae'r cynlluniau hynny yn cael eu hyrwyddo ac ymhle y bydden nhw'n cael eu sefydlu, oherwydd nid ydym yn gwybod, hyd yma, a yw unrhyw un o'r cynlluniau hynny—rwy'n deall efallai fod cynifer â hanner dwsin—yn seiliedig ar Fae Abertawe. Nid ydym yn gwybod pwy yw hyrwyddwyr y cynlluniau hynny. Nid ydym yn gwybod beth fydd y costau o weld y cynlluniau hynny'n cael eu cwblhau. Felly, rydym yn disgwyl am fanylion y cynigion arbennig hynny gyda diddordeb mawr iawn.

Credaf fod angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod trafodaethau yn cael eu cynnal â phartneriaid bargen ddinesig. Cyfarfûm ag arweinwyr bargen ddinesig Bae Abertawe ddoe, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n edrych nid yn unig ar ddyfodol ynni morol ym Mae Abertawe, ond ar ddatblygu ac adfywio economaidd y rhanbarth yn ehangach. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r penderfyniad hwn a'r tro pedol ar drydaneiddio wedi ei gael ar gymunedau Bae Abertawe, ac yn arbennig ar Ddinas Abertawe ei hun. Rwy'n cyfaddef nad ar Lywodraeth y DU mae'r bai am hyn, ond, yn ogystal â hynny, wynebodd Abertawe ddiraddiad eleni o'r uwch gynghrair. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at effaith negyddol o ran hyder a hunan-gred. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddygn ac yn ddiflino gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid ledled dinas ranbarth Bae Abertawe i ddod o hyd i brosiectau buddsoddi a all adfer hyder pobl Abertawe a sicrhau bod gan y diwydiant ynni morol ym Mae Abertawe, a ledled Cymru, ddyfodol cadarnhaol a chryf iawn yn wir.

14:50

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a diolch iddo hefyd am allu rhoi amser iddo y prynhawn yma? Ond mae'n rhaid i mi ddweud, fel cynrychiolydd sy'n byw yn Abertawe, bod hwn wedi bod yn benderfyniad cwbl ddistrywiol. Nid wyf i'n gwybod a allaf i wneud cyfiawnder â'r gwylltineb rhemp yr oedd pobl yn ei gyfathrebu i mi neithiwr am y penderfyniad hwn. Yn y bôn, ni all geiriau gyfleu maint fy siomiant. Mae hwn yn brosiect i'w ryfeddu. Mae potensial aruthrol i ynni llanw ym Mae Abertawe a sianel Bryste—yr ail amrediad llanw mwyaf yn y byd. Mae pobl yn dweud bob amser, 'Nid oes gennych chi unrhyw adnoddau yng Nghymru'. Mae gennym ni, wyddoch chi; ond nid ydym yn manteisio arnyn nhw. Mae ffolineb y penderfyniad hwn yn anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gwrthod i ni ryddhau potensial aruthrol ynni llanw. Fel yr ydych chi wedi'i ddweud, nid y prosiect braenaru cyntaf hwn—cynllun arbrofol, mae'n amlwg—oedd y mwyaf, ac roedd yn un eithaf bychan, ond byddai pump o rai llawer mwy wedi dilyn, a byddai Cymru wedyn yn y pen draw yn dod yn gwbl hunangynhaliol o ran ynni. Dyna'r dyfodol adnewyddadwy, 'does bosib.

Daw hyn ar yr un diwrnod ag y gwelsom ni ehangu'r drydedd redfa yn Heathrow ac yn amlwg, cyhoeddiad blaenorol am ynni niwclear yn cael mwy o gymhorthdal cyhoeddus. Mewn geiriau eraill, mae'r syniad yno eisoes—cymhorthdal cyhoeddus i brosiectau ynni mawr—ac fel y dywed y cwmnïau morlyn llanw eu hunain, byddai, fe fyddai cynnydd mewn prisiau ynni ar filiau'r defnyddwyr, fel y nododd Lee Waters yn gynharach: 30c y flwyddyn i aelwydydd, o'i gymharu â £15 ychwanegol y flwyddyn ar gyfer ynni niwclear. Dyna'r gymhariaeth. Yn amlwg, y cwmni morlyn llanw—mae llawer ohonom ni wedi bod yn cyfarfod â nhw dros y blynyddoedd. Pasiodd Plaid Cymru'r polisi o gael morlyn llanw ym Mae Abertawe gyntaf yn ein cynhadledd yn Abertawe yn 2006. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn gweithio ar hyn gyda'r cwmni ers bron i 15 mlynedd, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn hynod siomedig. Nid yw'r cwmni wedi clywed dim gan Lywodraeth San Steffan am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i chi ofyn—a byddwn yn gofyn ichi gadarnhau nawr—pa linellau cyfathrebu a fu? Mae'r cwmni yn dweud ei fod wedi clywed y nesaf peth i ddim gan y Llywodraeth am ddwy flynedd:

Mae'r diffyg ymgysylltu â ni yn ystod y broses hon wedi bod yn hynod annymunol.

Cadeirydd Tidal Lagoon Power sy'n dweud hynny. Mae'n rhaid i ni ddeall sut y daethom i'r penderfyniad hwn 18 mis ar ôl i Charles Hendry a'i adroddiad gwych ddweud y byddai hwn yn benderfyniad amlwg na fyddem yn difaru ei wneud. Felly, yn sydyn nawr, 18 mis o aros am benderfyniad ddigon mawr i geisio claddu'r newyddion drwg hyn, ac yna mae'n diferu allan ar ôl llawer o oedi, ac rydym yn hynod o siomedig ei bod yn ymddangos bod technoleg arloesol, sy'n arwain y byd wedi ei gwadu i Gymru. Rwy'n gwybod bod teimlad yn San Steffan weithiau na all Cymru fach arwain y byd mewn dim, ond gallasem fod wedi gwneud hynny yn hyn o beth, a hoffwn gael gwybod gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae ef yn bwriadu datblygu'r holl agenda hon, gan fod y llanw yn dal yno, yn treio a llenwi wrth inni siarad, ond nid yn cael ei ddefnyddio er budd pobl y wlad hon.

Yr un pris taro sydd yn Hinkley Point—fel y dywedais, ychwanegiad bychan iawn at filiau trydan blynyddol i ddefnyddwyr. Rydym wedi colli trydaneiddio i Abertawe. Er bod trydaneiddio yn broses fyw ar reilffyrdd i'r gogledd o Fanceinion, nid yw'n ymddangos yn gymwys rywsut yn achos Cymru, a dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru ein bod yn well ein byd gyda diesel, ac mae pobl yn dweud bod diesel yn effeithio'n andwyol ar ein hiechyd. Ydy, mae'n effeithio'n andwyol ar ein hiechyd.

Bydd mwy am yr Ysgrifennydd Gwladol yfory yn ddiamau, ond dau gwestiwn i orffen. Roedd cefnogaeth gan yr holl bleidiau yn y fan hon sydd, a bod yn deg, wedi ei adlewyrchu. Mae San Steffan yn anwybyddu hynny er gwaethaf cytundeb yr holl bleidiau yn y fan hon. Mae gwir angen inni gymryd rheolaeth ar ein dyfodol yn gyffredinol, ond yn arbennig nawr o ran ynni. Felly, sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i symud yr agenda hon yn ei blaen? Oherwydd mae gennyf deimlad diysgog, ar ôl y penderfyniad enfawr hwn, gydag unrhyw brosiect ynni'r môr yng Nghymru erbyn hyn—sut y caiff hynny ei weld o'r tu allan? Sut bydd hynny'n cael ei weld? Wedi darfod amdano?

Fy nghwestiwn arall yw: bydd dadl bwysig iawn yfory ar y cynnig o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dyn San Steffan yng Nghymru, yn sicr. Mae'r penderfyniad hwn yn wir wedi ein digalonni. A fyddwch chi'n cefnogi'r bleidlais diffyg hyder honno?

14:55

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, y pwyntiau a gododd, a'r cynddaredd amlwg y mae wedi ei drosglwyddo o Fae Abertawe? Credaf mai Shakespeare a ddywedodd rhywbeth tebyg i "could not wield the words to matter"  ac ar y foment hon rwyf i o'r farn nad oes gan bobl eiriau i fynegi eu dicter, eu rhwystredigaeth, eu siomiant gyda Llywodraeth y DU am fod mor gibddall o ran ynni morol.

Fel y dywedais yn gynharach, yr hyn yr oeddem yn dymuno ei weld yn digwydd drwy'r prosiect braenaru hwn oedd creu diwydiant cwbl newydd y gallai Cymru arwain y byd ynddo— diwydiant cwbl newydd gydag eiddo deallusol anferth yn eiddo i gwmnïau o Gymru. Byddai hynny wedi creu swyddi a chyfleoedd nid yn unig ym Mae Abertawe, ond yn y lleoliadau eraill lle y cynigiwyd cael morlynnoedd llanw. Gallai fod wedi arwain at gynnydd enfawr yn y cyfleoedd o ran yr economi ymwelwyr hefyd. Ond nid dyma ei diwedd hi eto. Gwnaethom gynnig o £200 miliwn i wireddu'r prosiect hwn. Yr hyn y bwriadwn ei wneud yw cynnal uwchgynhadledd ynni morol yn Abertawe cyn gynted â phosibl, gyda rhanddeiliaid allweddol, ac arweinyddion diwydiannol, i drafod sut y gallwn gynnal y momentwm yr ydym wedi'i adeiladu o ran ynni morol yn y blynyddoedd diwethaf, sut y gallem ni o bosib ddefnyddio'r £200 miliwn yr ydym wedi'i roi ar gael ar gyfer y prosiect penodol hwn, sut y gallwn edrych ar gynigion eraill—gobeithio erbyn hynny y bydd gennym ni rai manylion am y dewisiadau eraill—sut y gallem ni o bosib ddefnyddio'r cynigion eraill hynny er budd Bae Abertawe ac, yn wir, gweddill Cymru, a sut y gallwn ni adeiladu gyda'n gilydd ar fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru hyd yn hyn i sicrhau bod Cymru yn cadw ei safle fel arweinydd byd-eang o ran ynni morol. Oherwydd mae arnaf ofn, Llywydd, os nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau hyn er mwyn y bobl, gyda'r bobl, ac ar ran pobl Bae Abertawe, y byddwn yn y pen draw yn gweld Ffrainc yn cymryd perchnogaeth o'r prosiect hwn ac yn arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae'n gyfle unigryw y gellid ei roi i Ffrainc o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad hwn.

Felly, ni fyddwn yn troi cefn ar y sector. I'r gwrthwyneb; byddwn ni'n edrych ar sut y gallwn adeiladu ar y prosiectau hynny yn ne Sir Benfro, yn Aberdaugleddau a hefyd ar Ynys Môn, a byddwn ni'n edrych ar sut y gallwn ni ddal ati i adeiladu'r cryfder a'r galluoedd, galluoedd ymchwil, o fewn y sector hefyd.

Mae'n rhaid i mi ddweud, cyffyrddodd yr Aelod â phwynt hollbwysig annibyniaeth ynni a diogelwch ynni, sydd mor bwysig i economi ffyniannus. Llwyddodd yr Unol Daleithiau i sicrhau annibyniaeth ynni drwy eu camau gweithredu ar ffracio. Rydym ni yn Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau cymaint o annibyniaeth ynni â phosibl o ffynonellau adnewyddadwy. Rydym yn parhau yn gwbl ymrwymedig i'r achos hwnnw a byddwn yn archwilio pob llwybr i sicrhau twf gwyrddach, gwell o ran cynhyrchu ynni. Rydym yn benderfynol i sicrhau bod cyfleoedd tecach i ddatblygiad economaidd yn cael eu trosglwyddo ledled y rhanbarthau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r rhwystredigaeth sy'n bodoli ym Mae Abertawe ac mewn mannau eraill yng Nghymru o ran anghydraddoldeb rhanbarthol. Dyna holl bwynt y cynllun gweithredu economaidd newydd—datrys anghydraddoldebau ledled Cymru a gwneud yn siŵr bod y rhanbarthau hynny sy'n teimlo ar y cyrion ar hyn o bryd yn teimlo eu bod wedi'u calonogi a'u grymuso i fod mor gryf ag y gallan nhw fod, ar sail eu galluoedd presennol. Ac, o fewn rhanbarth Bae Abertawe, gwyddom fod un o'r cryfderau mwyaf sydd ganddyn nhw yn eu meddiant ar hyn o bryd yn ymwneud ag ynni morol a byddwn yn cefnogi'r rhanbarth hwnnw ar bob cam o'r daith.

15:00

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i, fel pob un ohonom ni yn y Siambr hon, wedi fy siomi'n fawr iawn, iawn gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe. Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU yn dangos dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth i gan fynd yn ôl hefyd ar yr addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe a bellach rydym wedi difetha cyfle Abertawe i arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy arloesol.

Ni ddylwn gael fy synnu gan gyhoeddiad ddoe, oherwydd mae'n ymddangos bod y wasg yn gwybod ers misoedd y byddai'r morlyn llanw yn cael ei wrthod. Roeddwn wedi gobeithio bod negodiadau ffyrnig yn digwydd tu ôl i'r llenni. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU a Tidal Lagoon Power, a oedd hi'n glir o gwbl fod y ddwy ochr hyd yn oed yn siarad â'i gilydd, neu a ydych chi'n credu, fel minnau, bod Llywodraeth y DU ddim ond yn aros eu hamser i lunio achos i gefnogi eu penderfyniad i wrthod y cynigion?

Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylai Llywodraeth y DU gael ei synnu gan ddyfnder y teimlad o'r Siambr hon—ac nid yn unig o'r Siambr hon, o'm hetholwyr i hefyd, ac rwyf newydd fod yn darllen negeseuon e-bost ynglŷn â sut y maen nhw'n teimlo. Mae pob ochr yn y Siambr hon yn ei gwneud yn gwbl glir ein bod wedi cefnogi'r prosiect hwn—roedd hyd yn oed cynghorwyr y Llywodraeth yn cefnogi'r prosiect hwn, ac mae'n gywilyddus fod Theresa May wedi anwybyddu'r holl gefnogaeth honno.

Mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio at gostau fel yr unig reswm dros wrthod y cais hwn, gan hawlio bod gwynt ar y môr yn llawer mwy cost-effeithiol. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich rhyngweithio â Gweinidogion Llywodraeth y DU, a gafodd y buddsoddiad sylweddol mewn gwynt ar y môr ei drafod? Yr unig reswm y mae gwynt ar y môr yn rhatach ar hyn o bryd yw'r cymorthdaliadau mawr yn ei ddatblygiad cynharach.

Ac, yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ymwybodol neu beidio o ba un a yw Llywodraeth y DU wedi ystyried diogelwch ynni wrth ddod i benderfyniad ar y morlyn llanw? Ar hyn o bryd yn y DU rydym ar drugaredd gwledydd geowleidyddol ansefydlog am lawer o'n hanghenion ynni, a byddai'r morlyn llanw yn helpu'r DU i fod yn fwy hunangynhaliol. Felly, diolchaf ichi am eich cefnogaeth yn hyn o beth, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennych chi gefnogaeth fy mhlaid i wrth ymladd yn erbyn y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i Caroline Jones am y cyfraniad a wnaeth hi heddiw, ei sylwadau a'i chwestiynau? Yn gyntaf oll, o ran y dyfalu sydd wedi ymddangos dros nifer o wythnosau bellach yn y wasg, mae'n ymddangos i mi—efallai fy mod i'n mynd ychydig yn fwy sinigaidd, ond mae'n ymddangos i mi fod penderfyniad wedi ei wneud beth amser yn ôl efallai gan aros wedyn am gyfle i gael rhywbeth i guddio'r penderfyniad hwn y tu ôl iddo. Ac roedd ddoe, gyda'r bleidlais ar Heathrow, yn ymddangos yn gyfle gwych i Lywodraeth y DU gladdu morlyn llanw Bae Abertawe o dan drydedd redfa yn Heathrow.

Hefyd mae'n eironig ac yn drasig, ddoe, bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyhoeddi cynnig cyntaf trwy'r byd hynod uchelgeisiol ar gyfer cyfleusterau profi ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yma yng Nghymru ac, ar yr un pryd, roedd Llywodraeth y DU yn gwrthod y cyfle i ddatblygu diwydiant newydd o'r radd flaenaf i Gymru—mae'n hynod eironig bod y ddau benderfyniad hyn yn dod ar yr un diwrnod, ond trist hefyd.

Fel y dywedais, ni fyddwn yn troi cefn ar y sector yng Nghymru ac mae'r Aelod yn llygad ei le fod cynhyrchu ynni gwynt ar y môr, ar y cychwyn, yn ddrud iawn, ac mae costau wedi gostwng dros amser wrth iddo gael ei brif-ffrydio. O ran diogelwch ynni a pha un a oedd hynny'n elfen yn eu penderfyniad, cyn belled ag y gwn i, nid oedd hynny'n wir. Fodd bynnag, fel y dywedaf, dim ond heddiw y derbyniwyd yr arfarniad manwl. Rwy'n mynd drwyddo ar hyn o bryd—rwyf wedi gofyn i swyddogion ei ddadansoddi hefyd.

Rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n bwysig, wrth inni symud ymlaen, yw ein bod yn parhau i weithio gyda'r sector, hyd yn oed os bydd Llywodraeth y DU yn troi ei chefn ar y sector. Mae'n ymddangos, yn seiliedig ar yr hyn y mae Tidal Lagoon Power wedi'i ddweud, bod y trafodaethau wedi mynd i'r wal gryn amser yn ôl rhyngddyn nhw a Llywodraeth y DU, ac os felly mae'n rhaid dod i'r casgliad—yr un casgliad ag y daeth Charles Hendry iddo—sef, mewn gwirionedd, y gallai Llywodraeth y DU fod wedi dweud nad oedden nhw yn mynd i'w gefnogi fisoedd lawer iawn yn ôl ac arbed y cwmni ac arbed y rhanbarth cyfan rhag y gofid wrth ohirio'r penderfyniad dro ar ôl tro, a chodi gobeithion yn y cyfamser.

15:05

Mae'r cynnig yn rhychwantu ffiniau fy etholaeth i ac etholaeth fy nghyfaill a'm cyd-Aelod David Rees. Credaf fod Dai Lloyd wedi sôn am y dicter a'r brad, a bu ymdeimlad aruthrol ymhlith pobl o ddicter a brad. Euthum allan neithiwr ac roedd pobl yn awyddus i ddweud wrthyf pa mor ddig oedden nhw a'u hymdeimlad o frad. Ond nid dyna'r hyn oedd yn brifo—yr hyn a oedd yn brifo oedd y rhai a ddywedodd, 'Wel, 'nid oeddem ni byth yn mynd i gael hyn. Fyddwn ni byth yn cael dim yn Abertawe. Rydym yn cael ein gadael heb ddim bob amser', a'r teimlad hwn, mewn gwirionedd, o ddiffyg gobaith. Credaf mai dyna oedd achos y niwed mwyaf—bod pobl yn gweld y diffyg gobaith, ein bod ar gyrion radar Llywodraeth San Steffan a chawsom ein gadael ar ôl i raddau helaeth iawn.

Credaf ei bod yn rhaid ichi gofio bod prototeipiau yn costio mwy—mae'n nhw'n costio mwy bob amser. A gaf i ddwyn ynni'r gwynt a'r haul i gof pobl, pan ddaeth y rheini allan gyntaf ac roedden nhw'n anhygoel o ddrud? A ydych chi'n cofio'r bobl hynny'n dweud, 'Mae nwy yn rhatach. Pam ydych chi'n gwneud hyn? Gallem ni fod yn defnyddio nwy. Mae digon o nwy ar gael. Gallem fod yn defnyddio tyrbinau nwy; byddai'n arbed llawer o arian'? Ydych chi'n cofio hynny?

Hefyd, a gaf i grybwyll niwclear? Calder Hall, a grëwyd ym 1956—maen nhw wedi cael 62 o flynyddoedd i ddod â chost ynni niwclear i lawr ac eto methu yw eu hanes o hyd, o ran yr hyn yr ydym yn ei dalu nawr am y trydan a gaiff ei gynhyrchu yn Hinkley Point. Dyna enghraifft o rywbeth sydd heb ddod i lawr yn ei bris i lefel yr oeddem yn ei ddisgwyl, ond ni fyddem fyth wedi adeiladu Calder Hall pe byddai hynny wedi'i wneud ar gymhariaeth â phris glo—roedd glo yn llawer rhatach. Mewn gwirionedd, byddai pob gorsaf bŵer ym Mhrydain yn defnyddio glo, gan fod glo yn rhatach nag unrhyw ddull arall ar y pryd y daeth y dulliau newydd i mewn.

A gaf i ddefnyddio dwy enghraifft hanesyddol? Oherwydd gwn fod Suzy Davies wedi gwneud hynny yn ei herthygl i Sefydliad Materion Cymreig, a rhoddaf glod iddi am hynny, ond hefyd ddwy na wnaeth hi eu defnyddio: Rocket Stephenson—gallaf ddychmygu yn hollol nawr y bobl hyn yn dweud, 'Rheilffordd? Gallaf fynd yn gyflymach o Stockton i Darlington ar gefn ceffyl nag y gallaf fi ar y rheilffordd. Am syniad dwl i gael rheilffyrdd. Mae'n llawer rhatach a chyflymach ar gefn ceffyl'. A'r un arall, wrth gwrs—gadewch inni sôn am agerfadau, oherwydd roedd agerfadau yn fychan, nid oedden nhw'n llwyddiannus iawn. Roedd llongau hwylio yn well o lawer. Ond datblygwyd y dechnoleg a chrëwyd agerfadau, gan wneud y byd yn lle llawer llai o ran yr amser oedd hi'n ei gymryd i symud o gwmpas.

Nid oes amheuaeth gennyf i y bydd Abertawe yn cael morlyn llanw. Fy mhryder i yw, ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n ei rannu, y byddwn yn nawfed neu'n ddegfed yn y byd i gael rhywbeth fel hyn, ni fydd gennym y gallu dylunio, ni fyddwn wedi datblygu'r holl sgiliau yn yr ardal; byddwn yn prynu'r dechnoleg fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd gydag ynni'r haul ac, fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd gydag ynni'r gwynt. Datblygwyd ynni'r gwynt yn bennaf yn yr Almaen a Denmarc, a dyna lle y mae'r dylunio, dyna lle y gwneir pethau. Bydd y bobl hynny sy'n byw yn Abertawe yn gwybod ein bod wedi cael llawer o weithgaredd trafnidiaeth yn cymryd dyfeisiau, oherwydd eu bod nhw wedi dod i mewn ar gwch ac maen nhw wedi'u cymryd oherwydd nad ni sydd piau nhw, wedi'u hadeiladu gennym ni. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi unwaith eto ein bod wedi colli cyfle i fod yn gyntaf yn y byd i ddechrau creu ynni'r llanw? Byddwn yn ei gael, ond byddwn yn prynu'r dechnoleg o dramor, yn hytrach na'i datblygu.

Gwnaf, rwy'n cytuno'n llwyr. Soniais am y cynnydd y mae Ffrainc wedi'i wneud, ac nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd rhai o'r cystadleuwyr y buom yn eu hwynebu yn y maes hwn yn cymeradwyo penderfyniad Llywodraeth y DU. Credaf fod Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig iawn, iawn, sef os nad ydych chi'n agored i syniadau newydd a thechnoleg newydd, 'dydych chi ddim yn mynd i wneud cynnydd; nid ydych chi'n mynd i gynnal eich cystadleurwydd. Ac, yn ddiweddar, dywedodd Prif Olygydd The Economist yn fyd-eang mai'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r economi fyd-eang ar hyn o bryd yw diffyndollaeth, ac roedd hynny'n rhan o'r cyflwyniad a roddodd ar y rhaniad newydd—y rhaniad gwleidyddol newydd, y rhaniad technolegol ac economaidd newydd—a gellir ei ddisgrifio i raddau helaeth fel yr agored yn erbyn y caeëdig: y rhai sy'n agored i syniadau newydd o'u cymharu â rhai sydd yn gaeëdig i syniadau newydd, rhai sy'n agored i dechnoleg o'u cymharu â'r rhai sydd yn amheus ac yn gaeëdig i ymddangosiad technoleg newydd, y rhai sy'n agored i bobl o'r tu allan, yn agored i her, yn erbyn y rhai sy'n cilio oddi wrth her ac yn cau'r potensial a ddaw drwy bobl o'r tu allan hefyd. A chredaf fod hyn yn dangos yn amlwg iawn bod Llywodraeth y DU o dan arweiniad cyfredol Theresa May yn sicr yn gaeëdig, ac mae'n hen bryd mae'n debyg i gael gwared ar honno. 

Mae arnaf i ofn fod yna deimlad yn Abertawe—teimlad dwys iawn—o fod wedi'u gadael ar ôl. Am y rheswm hwnnw, daw'r fargen ddinesig hyd yn oed yn fwy pwysig a bydd yn rhaid iddi gyflawni ar gyfer pobl Bae Abertawe a bydd yn rhaid iddi dynnu adnoddau nid yn unig oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond oddi wrth Lywodraeth y DU hefyd. Rwy'n gallu dweud wrth yr Aelod fy mod eisoes wedi cytuno i gychwyn darn o waith gydag arweinydd Cyngor Abertawe ynglŷn â nifer o brosiectau buddsoddi a rhagolygon adfywio yn Abertawe. Wrth gwrs, byddwn hefyd yn dwyn y gwaith ymlaen ar weledigaeth y metro, ond bydd hynny, yn ôl pob tebyg, o ystyried ei fod yn dibynnu ar y rheilffyrdd, yn gofyn am ymrwymiad hefyd gan Lywodraethau'r presennol neu'r dyfodol, y dyfodol o bosibl, i fuddsoddi'n sylweddol yn y seilwaith, ac rydym yn gwybod bod hanes gwariant gwael iawn gan Lywodraeth y DU o ran seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru, sydd efallai wedi'i amlygu orau gan y weithred o ganslo trydaneiddio'r brif reilffordd.

Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i ni weld cyfran deg nid yn unig yn dod i Gymru, ond cyfran deg o adnoddau i'w gwario'n deg yng Nghymru ym Mae Abertawe a rhannau eraill o Gymru.

15:10

Rwy'n cytuno yn llwyr â beth ddywedodd Mike Hedges yn fanna, ond rwyf eisiau estyn y drafodaeth ychydig. Rydw i'n meddwl bod y penderfyniad yma gan Lywodraeth San Steffan, a dweud y gwir, yn ein pardduo ni i gyd fel gwleidyddion. Pan ŷch chi'n cael datganiad polisi mewn maniffesto y byddwch chi'n cefnogi morlyn llanw yn Abertawe dim ond tair blynedd yn ôl, ac ŷch chi'n torri—yr un blaid yn torri'r addewid maniffesto yna—pan ŷch chi mewn sefyllfa i wrthod £1.3 biliwn ar gyfer datblygiad o bwys yn Abertawe, ond yn derbyn ac yn rhoi £1 biliwn i 12 Aelod Seneddol yng Ngogledd Iwerddon jest i gadw eich Llywodraeth mewn grym, dyma beth sydd yn pardduo gwleidyddiaeth.

Nid ydw i'n synnu bod pobl felly yn ymateb drwy ddweud, 'Wel, nid ydym byth yn cael dim byd o'r system yma', ac mae yna berig inni i gyd yn y ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y penderfyniad yma, y ffordd maen nhw wedi estyn y penderfyniad, y ffordd y gwnaethon nhw gomisiynu adroddiad annibynnol ac wedyn gwrthod yr adroddiad gan eu bod nhw ddim yn hoffi'r canfyddiadau.  

Mae'n ein gadael ni mewn picil, rydw i'n meddwl. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet am weithredu yn gadarnhaol yng Nghymru, ond pa neges mae hwn wedi ei gyrru i'r holl gwmnïau sydd yn ymwneud ag ynni o'r môr? Rŷch chi wedi sôn am rai ohonyn nhw. Rydw i'n ymweld ag Ynys Môn fy hun diwedd yr wythnos—fe fydda i'n ymweld â Morlais a SEACAMS. Mae yna dros £100 miliwn o arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru wedi mynd tu fewn i'r sector yma, ac yn awr maen nhw'n gweld fod y Llywodraeth ddim am gefnogi'r sector. Achos nid yn unig y cynlluniau a'r arbrofion sy'n bwysig—mae'n rhaid dod â'r cynlluniau yna i'r lan, ac mae dod â nhw i'r lan yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael grid connections a bod yn rhaid iddyn nhw gael contract for difference. Er mwyn troi'r cynlluniau yma yn ffordd o gynhyrchu ynni go iawn, mae'n rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud yr un penderfyniad yng nghyd-destun y cynlluniau yna ag y maen nhw wedi gwrthod ei wneud yng nghyd-destun y morlyn llanw. 

Felly, er fy mod i'n croesawu’r ffaith eich bod chi am gynnal uwchgynhadledd yn Abertawe, roedd uwchgynhadledd ynni'r môr yn Abertawe ond flwyddyn yn ôl, lle roedd yr holl sector tu ôl i'r morlyn llanw ac am ei weld e fel rhywbeth a oedd yn arwydd o gred yn y sector yma. Sut ydych chi'n mynd i adfer cred yn y sector yma gan fod Llywodraeth San Steffan wedi dweud wrth bob buddsoddwr, bach a mawr, 'Cerwch i ffwrdd, nid oes diddordeb gyda ni yn y sector yma bellach; rŷm ni ond â diddordeb yn y sector niwclear a'r sector gwynt bant o'r tir mawr'? Mae honno'n neges anodd iawn.

A gaf i ofyn ichi hefyd beth wnewch chi nawr fel Llywodraeth gyda'r £200 miliwn rŷch chi wedi'i gynnig i'r cynllun yma? A ydy'r £200 miliwn yna nawr ar gael ar gyfer gwireddu prosiectau carbon isel o'r math yma yn y môr neu efallai ar y tir mawr? Nid oes gen i ddim gwybodaeth am hyn, ond gan y bydd, mae'n siŵr gen i, y cwmni sydd y tu ôl i'r cynllun yma yn gorfod rhywsut ddirwyn i ben mewn rhyw ffordd, ac er mwyn osgoi beth roedd Mike Hedges yn ei danlinellu, sef ein bod ni bellach yn derbyn mewnfuddsoddiad yn hytrach na chreu a pherchen ar y dechnoleg ei hunan, a oes modd i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gallan nhw fynd mewn i bartneriaethau gyda naill ai'r cwmni presennol, Tidal Lagoon Power, neu darpar gwmnïau eraill, i gadw'r wybodaeth yma yng Nghymru, i gadw'r dechnoleg, i gadw'r arweiniad yma yng Nghymru? A ydy'r £200 miliwn ar gael ar gyfer yr addewid yna? Achos mae'n ymddangos i mi, er eich bod chi wedi gwrthod syniadau Leanne Wood ynglŷn â chwmni ynni i Gymru, mae gyda chi adnoddau fan hyn i wneud gwahaniaeth ac i ddangos i fuddsoddwyr bod Cymru ar agor i fusnesau ynni o'r môr. 

Os caf i gloi gyda phwynt mwy gwleidyddol, er nad myfi a'i mynegodd, cafodd ei fynegi gan Brif Weithredwr Tidal Lagoon Power, Mark Shorrock. Pan wnaethpwyd y penderfyniad hwn ddoe, dywedodd ei fod yn

bleidlais o ddim diddordeb yng Nghymru, dim hyder yng ngweithgynhyrchu Prydain a dim gofal am y blaned.

Bydd gennym gyfle yfory i ddangos nad oes gennym ninnau hyder yn y penderfyniad hwn ychwaith.

15:15

A gaf i ddiolch i Simon Thomas am ei gyfraniad? Rwy'n credu o ystyried y pwyntiau a wnaeth ar ddechrau cyntaf ei gyfraniad, ei bod yn eithaf clir fod Llywodraeth y DU wedi dod yn feistr ar wleidyddiaeth pwrs y wlad a chwalu breuddwydion, wedi buddsoddi cymaint mewn cyn lleied o bleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin ond siomi cymaint o bobl yng Nghymru wrth gymryd y penderfyniad hwn a gymerwyd ganddi. Nid wyf yn credu bod yr hyn y mae'n ei ddweud wrth y diwydiant yn ddefnyddiol o gwbl ac y mae'n cyferbynnu hefyd â'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud wrth y sector, sef y byddwn yn eich cefnogi ym mhob ac unrhyw ffordd y gallwn eich helpu drwyddi. Credaf ein bod wedi dangos hynny gyda'r buddsoddiad a wnaed ac rwyf wedi siarad am hynny eisoes.

Yn amlwg, nid lle Llywodraeth Cymru yw llenwi bylchau ariannu Llywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru mo'r grym na'r adnoddau i wneud iawn am fethiant Llywodraeth y DU, ac nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i symud y prosiect ymlaen ar ei phen ei hun. Ond, fel y tynnais sylw ato ychydig yn gynharach, ceir y £200 miliwn hwn y byddem ni wedi ei gynnig ar gyfer y prosiect hwn i'w wireddu. Credaf y byddwn yn agored iawn i gyfleoedd i fuddsoddi ar yr amod y gellir defnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd sy'n ei alluogi i lifo i lawr drwy'r ffrwd ariannu arbennig y mae'n sefyll ynddi. Rwyf i o'r farn y bydd rhai o'r trafodaethau y mae angen iddyn nhw ddigwydd yn digwydd yn yr uwchgynhadledd honno yr wyf wedi ei chyhoeddi eisoes, ond serch hynny, rwyf wedi gofyn i swyddogion—a gwn fod hyn wedi digwydd ledled y Llywodraeth heddiw—rydym i gyd wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â phartneriaid allweddol yn y sector i ganfod cyn gynted â phosibl beth yw goblygiadau tebygol y penderfyniad, a dulliau a ffyrdd inni gefnogi'r busnesau hynny o fewn y sector ar gyfer parhau i dyfu.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod busnesau, arweinyddion busnes a gweithwyr ffyddlon, gweddus a medrus yn y sector hwn yn teimlo'n eithaf digalon heddiw. Dyna pam yr ydym ni wedi gofyn am gael ymgysylltiad uniongyrchol rhwng swyddogion a'r bobl hynny. Ond, yn y misoedd i ddod, byddwn yn edrych ar bob cyfle i ddwyn yr hyn sydd yn sector cryf yng Nghymru i sefyllfa o fawredd. Efallai wir y bydd hynny heb gymorth gan Lywodraeth Cymru, efallai wir y bydd heb Tidal Lagoon Power yn datblygu'r prosiect arbennig hwn, ond rydym ni'n gwbl benderfynol i ddatblygu'r diwydiant yma yng Nghymru, ac yn enwedig ym Mae Abertawe.

Mae'n anodd iawn deall, mewn gwirionedd, sut y daethom o'r cyfarfod hwnnw yn y fan yma gyda Charles Hendry beth amser yn ôl erbyn hyn, pryd y cafwyd cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol gadarnhaol i'r morlyn llanw ym Mae Abertawe a morlynnoedd llanw mewn rhannau eraill o Gymru. Yn wir, rwy'n cofio Charles Hendry yn dweud y gwnaed argraff fawr arno gan gryfder a dyfnder y gefnogaeth drawsbleidiol honno, ac eto dyma ni heddiw gyda'r penderfyniad hwn ar ôl llawer o oedi. Y mae wir, yn fy marn i, yn chwerw ei flas i bob un ohonom ni, o ystyried y broses honno a'r penderfyniad terfynol.

Gwn fod yng Nghasnewydd, ac yng Nghaerdydd, lawer o ddiddordeb a chefnogaeth i forlynnoedd llanw sydd wedi eu cynnig ar gyfer y ddwy lan i aber Afon Wysg. O'm swyddfa yn fy etholaeth, gallaf weld ymchwydd a chilio anhygoel Afon Wysg, sydd y fath ffenomenon naturiol a wnaiff argraff ar gymaint o bobl sy'n ymweld â Chasnewydd, ac, yn amlwg, mae hynny'n berthnasol i'r aber hefyd. Ac rwy'n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi gwir ryfeddu, ar adeg pan ein bod yn chwilio am ynni adnewyddadwy, a ninnau i gyd mor sicr o effaith gadarnhaol ynni adnewyddadwy, fod y ffenomen naturiol wych yn dal i fod heb ei harneisio, a hyd yma, nid oes unrhyw brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd sy'n cynnig cyfle i harneisio'r egni anhygoel hwnnw yn feunyddiol.

Gwn y bydd llawer iawn o ddicter yn sgil y penderfyniad hwn y tu hwnt i Abertawe a Bae Abertawe, a bydd hynny'n ymestyn i Gasnewydd hefyd. Ceir pobl sydd yn awyddus i edrych ar y posibiliadau o fwrw ymlaen â'r morlynnoedd hynny o gwmpas ceg Afon Wysg waeth beth sy'n digwydd gyda Bae Abertawe, oherwydd mae rhai o'r arbedion maint yn wahanol, ond mae'n amlwg mai Bae Abertawe oedd y cynllun braenaru, fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet, a byddai wedi edrych ar rai o'r effeithiau amgylcheddol a'r materion amgylcheddol. Mae'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i gael barn ystyriol efallai ar rai o'r agweddau hynny heb brofiad gwirioneddol o gael y morlyn ym Mae Abertawe a chael monitro a manylu ar yr agweddau hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet, beth allwch chi ei ddweud am y darlun ehangach yng Nghymru, yn cynnwys y cynigion hynny o ddwy lan ceg afon Wysg yng ngoleuni'r penderfyniad hwn sydd bellach wedi ei gymryd, oherwydd, fel yr oeddech chi'n dweud, roedd yn ddarlun mwy ac ehangach. Fe ddylid mewn gwirionedd fod wedi ei ystyried, cynnig Bae Abertawe, o ran ei natur braenaru a'r morlynnoedd eraill a allai fod wedi dilyn ar arfordir Cymru ac ymhell y tu hwnt i hynny. Ai eich dealltwriaeth chi yw y bu ystyriaeth ddigonol o'r darlun ehangach hwnnw? Os na fu, a oes unrhyw werth mewn dychwelyd at y darlun ehangach hwnnw ac edrych, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, ar y weledigaeth ehangach a sut y dylid ei hasesu?

Ac yn olaf, Llywydd, agwedd arall eto: cyfeiriodd pobl at gyfleoedd o ran twristiaeth a manteision a fyddai wedi dilyn sefydlu morlyn llanw, ond agwedd arall, wrth gwrs, oedd y budd cymunedol, a bu llawer iawn o ddiddordeb, cyffro ac, yn wir, cynllunio yng Nghasnewydd ynglŷn â'r hyn y gellid fod wedi ei wneud gyda'r incwm a fyddai wedi cael ei gynhyrchu mewn budd cymunedol gan y morlynnoedd lleol pe bydden nhw wedi mynd yn eu blaenau, ac rwy'n credu bod honno'n agwedd anffodus iawn arall ar y penderfyniad hwn sydd wedi dod inni oddi uchod.

15:20

A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gyfraniad? Rwy'n ymwybodol o'r amser, ond hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i Charles Hendry am y gwaith a wnaeth. Cynhyrchodd adroddiad a oedd yn argyhoeddiadol iawn o ran y dystiolaeth a roddwyd i gefnogi datblygu'r prosiect hwn fel cynllun braenaru, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr hon yn dymuno diolch iddo am yr ymrwymiad a ddangosodd drwy gydol y broses o lunio'r adroddiad hwnnw a chwilio am dystiolaeth.

Mae John Griffiths yn hollol gywir: roedd gan y prosiect braenaru gefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon ac, yn wir, roedd ganddo gefnogaeth ledled Cymru, oherwydd ei fod yn brosiect braenaru a allai fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer morlynnoedd o'r gogledd i'r de. Bellach, mae angen inni ddeall beth yw'r cynigion eraill ac a allen nhw fod yn rhan o fraenaru amgen ar gyfer adeiladu morlynnoedd yma yng Nghymru ac, yn wir, a oes unrhyw un o'r cynigion yn ymwneud ar hyn o bryd â Bae Abertawe. Mae angen inni ddeall beth yw'r manylion ac mae angen rhannu'r wybodaeth gyda ni o ystyried ein bod yn benderfynol fel Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag ynni'r llanw. Ond mae'n rhaid i mi ofyn tybed a yw gwneud hyn gydag arweiniad Llywodraeth y DU yn obaith realistig, pa un a ellir cyflawni hyn drwy arweiniad Llywodraeth y DU o ystyried penderfyniad ddoe a'r neges gref, negyddol y mae'n ei chyhoeddi i'r diwydiant. Yr unig gasgliad y gallaf ddod iddo, efallai, yw na ddaw morlynnoedd tan fydd Theresa May wedi mynd. Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd bod manteision ynni'r llanw ac, yn enwedig y prosiect braenaru hwn, y manteision economaidd, rwy'n credu, yn hysbys iawn. Er hynny, byddai'r manteision cymdeithasol wedi bod yn aruthrol fawr hefyd. Byddai'r manteision o ran hyder a hunaniaeth Abertawe a Bae Abertawe wedi bod yn aruthrol; i fod wedi dod yn arweinydd byd-eang mewn diwydiant gwyrdd newydd. Nid wyf yn siŵr fod hyn wedi ei ddeall yn llawn mewn gwirionedd yn San Steffan yn Llywodraeth bresennol y DU.

15:25
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyhoeddiad Diweddar Grŵp Airbus

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan yr un Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gyhoeddiad diweddar Grŵp Airbus. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad ar Airbus—Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Grŵp Airbus eu hasesiad risg eu hunain i amlinellu'r bygythiadau difrifol i'w busnes pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ymadael. Mae'r asesiad risg yn peri pryder mawr; mae'n nodi, pe bai’r DU yn gadael yr UE y flwyddyn nesaf heb fargen, a heb gyfnod pontio, y byddai hynny'n arwain at aflonyddwch a tharfu difrifol ar gynhyrchiant yn y DU ac yn gorfodi Airbus i ailystyried eu buddsoddiadau yn y DU a’u dyfodol hirdymor yn y wlad. Hyd yn oed gyda chyfnod pontio, byddai Brexit caled sy'n mynd â’r DU allan o'r farchnad sengl a’r undeb tollau’n gwneud i’r cwmni ailasesu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae’r rhybudd hwn yn peri pryder difrifol iawn i economi Cymru. Mae cwmnïau fel Airbus nawr wrthi o ddifrif yn gwneud cynlluniau yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf. Mae’r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud yn breifat ers cryn amser nawr yn cael ei ddweud yn gyhoeddus, ac mae'n amlwg eu bod yn colli ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i negodi canlyniad synhwyrol sy'n gweithio dros ein heconomi ac yn diogelu swyddi. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn un syml iawn a chlir iawn: mae’r sefyllfa’n argyfyngus erbyn hyn ac mae'n bryd iddyn nhw gydnabod y bygythiad sylfaenol y mae eu ffordd o fynd i'r afael â Brexit yn ei beri i Gymru, i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae'n bryd inni ddiystyru sefyllfa 'dim bargen' ac ail-ddechrau'r trafodaethau ar sail sy'n rhoi swyddi a'r economi yn gyntaf.

Rydym ni'n rhannu’r pryderon sylweddol a fynegodd prif swyddog gweithredol awyrennau masnachol Airbus, Tom Williams, yr wythnos diwethaf. Grŵp Airbus yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru yn y sector awyrofod ac amddiffyn; maen nhw’n cyflogi tua 6,500 o unigolion ar eu safle ym Mrychdyn a thua 500 arall yng Nghasnewydd. Ledled y DU, mae dros 100,000 o swyddi’n dibynnu ar bresenoldeb Airbus ar y glannau hyn. Ers y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all y DU, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, gymryd y risg enfawr o dorri ein heconomi’n rhydd o drefniadau’r undeb tollau a'r farchnad sengl. Rydym ni wedi cyflwyno'r achos, yn glir ac yn gyson, bod yn rhaid i unrhyw gytundeb i adael yr UE ein cadw yn y farchnad sengl a negodi undeb tollau newydd gyda'r UE.

Mae’r rhybudd hwn gan Airbus, ochr yn ochr ag eraill gan wneuthurwyr fel BMW, yn dangos yn glir y bygythiad sy’n ein hwynebu. Yn wir, dydy’r pryderon a fynegwyd gan Airbus yn sicr ddim yn gyfyngedig i'r diwydiant awyrofod. Dim ond heddiw, mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron, sef llais y diwydiant modurol yn y DU, wedi rhoi’r rhybudd cliriaf eto i Lywodraeth y DU gan sector busnes, gan ddweud bod arnynt angen, o leiaf, aros yn yr undeb tollau a bargen sy’n rhoi manteision marchnad sengl. Mae eu prif weithredwr, Michael Hawes, wedi anfon rhybudd syml ond clir i Lywodraeth y DU, gan ddweud:

Nid oes difidend Brexit i'n diwydiant ni.

Mae popeth yn y fantol. Mae'n amlwg bod yr amser wedi dod i ben ar gyfer geiriau teg ac ystrydebau diystyr. Nawr, mae angen eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU roi manylion ynglŷn â’r tri mater allweddol a godwyd yn asesiad risg Airbus: symud rhannau mewn cadwyn gyflenwi integredig, symudiad pobl, ac amgylchedd rheoleiddio’r dyfodol. Gallai tarfu ar lif defnyddiau o ganlyniad i newidiadau i’r farchnad sengl a’r undeb tollau gostio biliynau o bunnoedd, ac arwain at oedi anadferadwy ac at lawer o'n busnesau yng Nghymru yn colli eu mantais gystadleuol. Byddai cyfyngu ar symudiad pobl yn tarfu'n sylweddol ar weithrediadau Airbus, gan fod 1,300 o ddinasyddion y DU a gyflogir gan Airbus yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau o'r UE—y rhan fwyaf o’r rhain yn Ffrainc a'r Almaen—a 600 o ddinasyddion yr UE a gyflogir gan Airbus yn gweithio yng ngweithfeydd Airbus yn y DU. Mae’r trydydd mater allweddol yn ymwneud â rheoliadau ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn benodol. Heb gymeradwyaeth yr Asiantaeth hon, fydd cyflenwyr awyrofod y DU ddim yn rhan o gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu awyrennau mwyach. A does dim modd cynnau a diffodd cadwyni cyflenwi yn sydyn, fel switsh golau. Maen nhw'n cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac mae gan fusnesau hawl i ddisgwyl mwy o sicrwydd gan Lywodraeth y DU ddwy flynedd ar ôl y refferendwm.

Mae’r Prif Weinidog wedi pwyso eto am i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ddynodi newid cyfeiriad i ymrwymo i aros o fewn y farchnad sengl ac undeb tollau gyda'r UE. Rydym ni i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y sector awyrofod ac amddiffyn i economi Cymru. Mae'r sector yng Nghymru yn ychwanegu £5 biliwn at ein gwerth crynswth ychwanegol ac yn cyflogi dros 20,000 o bobl. Byddwn yn parhau i gefnogi Airbus ym Mrychdyn a Chasnewydd i liniaru effaith y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati. Rydym ni eisoes wedi dangos ein cefnogaeth i’r sector drwy ariannu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n werth £20 miliwn, er mwyn sicrhau prototeipiau Airbus ar gyfer adenydd y dyfodol.

Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymateb ac i roi eglurder cyn gynted â phosibl, a chyn i’r sefyllfa hon waethygu hyd yn oed ymhellach. Byddai cyfnod hir o ansicrwydd yn gwneud difrod parhaol i’n sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru ac i’w gadwyn gyflenwi helaeth—cyflogaeth sydd ym Mrychdyn, a ledled Cymru, yn hanfodol i lawer o gymunedau. Hwn yw’r bygythiad economaidd mwyaf difrifol i wynebu Cymru ers cenhedlaeth. Mae Airbus yn un o brif drysorau economi Cymru, ond hefyd mae'n strategol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae'n bryd i gemau parlwr Brexit ddod i ben. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU roi'r sicrwydd sydd ei angen i fusnesau ac i'n heconomi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:30

Rwy’n credu ei bod hi'n amlwg ei bod hi'n destun pryder pan fydd unrhyw gyflogwr mawr yn rhybuddio y gallent gefnu ar Gymru. Mae hefyd yn bwysig ein bod i gyd yn ceisio sicrhau, wrth gwrs, nad yw hyn yn digwydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud sylwadau amrywiol yn ei ddatganiad, a byddwn yn dweud fy mod yn credu bod Llywodraeth y DU ar achlysuron di-rif wedi ailddatgan eu hymrwymiad i sicrhau’r fargen orau bosibl i economi'r DU a Chymru. Ac rwy'n credu'n gryf y byddwn yn dal i fod yn gysylltiedig ag economi ehangach Ewrop, ond hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny i fasnachu â gweddill y byd.

Er mwyn rhoi sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithwyr Airbus, ac i’r gadwyn gyflenwi ehangach, a allech chi, Ysgrifennydd y Cabinet, roi diweddariad am ganlyniad trafodaethau’r Prif Weinidog Cymru â Gweinidogion y DU yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig? Rwy’n credu y byddai hynny o gymorth. Mae eglurder ynglŷn â Brexit yn amlwg yn bwysig i fusnesau wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol—rwyf fi’n deall hynny’n iawn—ond mae dulliau datganoledig yn amlwg ar gael yma i Lywodraeth Cymru i annog mewnfuddsoddi a chadw cyflogwyr mawr yma yng Nghymru. Felly, a gaf i droi at hyn? Pa fesurau penodol ydych chi’n eu rhoi ar waith i greu’r amodau economaidd cywir i sicrhau bod cwmnïau fel Airbus yn aros yng Nghymru? Er enghraifft, beth bynnag am Brexit, rwyf fi’n pryderu bod Cymru wedi methu â manteisio ar gyfleoedd twf y byd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac wedi methu ag arallgyfeirio i'r farchnad allforio. Pa fwriad sydd gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod Cymru yn achub ar y cyfleoedd hynny i gael mynediad at farchnadoedd y tu allan i'r UE, a beth ydych chi’n ei wneud i gynyddu presenoldeb masnachol economïau datblygedig ac economïau datblygol yn arbennig?

Rwyf wedi edrych unwaith eto ar gynllun gweithredu 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru, ac ni allaf weld dim sôn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru, a chadw hynny yma wedyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn. Rydych chi hefyd wedi dweud o’r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu gwerth uchel fel un o'u sectorau blaenoriaeth newydd. Felly, a gaf i ofyn: pam nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian ychwanegol i'r sector hwn, ac onid yw hyn yn tanseilio, wrth gwrs, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod economi Cymru yn datblygu capasiti gweithgynhyrchu uwch, gan atal cwmnïau fel Airbus rhag buddsoddi yng Nghymru? Fy mhwynt i yma, Dirprwy Lywydd, yw, y tu hwnt i Brexit, sy’n rhywbeth yr wyf yn cydnabod bod angen inni ei gael yn hollol gywir, wrth gwrs, bod dulliau datganoledig ar gael yma i Lywodraeth Cymru, ac y gellir ac y dylid eu defnyddio i sicrhau bod cwmnïau fel Airbus yn cael eu hannog i aros ac yn wir i ehangu eu gweithgarwch yma yng Nghymru.

15:35

Gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Dywedaf ar y dechrau fy mod yn gwybod bod Ceidwadwyr da yn San Steffan hefyd, sydd, fel yr Aelod, hefyd yn bryderus am ddyfodol Airbus. Rwy’n credu, yn seiliedig ar y sylwadau y mae Stephen Crabb a Guto Bebb wedi eu gwneud yn ddiweddar, bod gennym ni seneddwyr Ceidwadol sydd yno i eiriol dros Airbus. Ac er na chafodd hyn sylw ar Radio 4 pan roddais y cyfweliad, fe wnes i bwysleisio'r achos dros ddod â Stephen Crabb yn ôl i'r Llywodraeth a throi Boris Johnson o’r adeilad.

Er mwyn taro’r fargen orau bosibl i Brydain, y peth cyntaf y mae’n rhaid i Theresa May ei wneud yw lliniaru ei safbwyntiau a’i rhyddhau ei hun o'r gefynnau y mae pobl fel Boris Johnson a Jacob Rees-Mogg wedi eu rhoi arni. Mae Prif Weinidog Cymru, rwy'n credu, wedi cyhoeddi datganiad ar ôl trafodaethau a fu yn ystod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ond byddwn yn hapus i sicrhau bod y datganiad hwnnw’n cael ei rannu gyda'r Aelodau unwaith eto. Roedd y trafodaethau a gynhaliwyd, rwy'n credu, yn Guernsey yn cynnwys y cyhoeddiad gan Airbus a’r ymateb gan Brif Weinidog Cymru, a hefyd y datganiad ar y cyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban.

I roi Brexit o'r neilltu am eiliad, mae'r Aelod yn hollol iawn y gall, a bod rhaid i, Lywodraeth Cymru chwarae rhan i sicrhau bod yr amodau cywir yn cael eu creu ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, nid yn unig o fewn y sector awyrofod, ond mewn sectorau eraill ledled yr economi hefyd. O'n rhan ni, roeddwn yn benderfynol gryn amser yn ôl—a dyma pam y gwnaethom ei gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru rai blynyddoedd yn ôl—i sicrhau ein bod ni’n creu adenydd y dyfodol. Dyma yw dyfodol prosesau gweithgynhyrchu cyfansoddion Airbus. Os na chawn ni adenydd y dyfodol, bydd hi’n llawer anoddach sicrhau bod gan safle Brychdyn ddyfodol hyfyw, hirdymor.

Er mwyn sicrhau prototeip adenydd y dyfodol, fe wnaethom ni benderfynu buddsoddi yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hyn yn seiliedig ar fodel llwyddiannus y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ger Sheffield. Roedd yn gynnig a gafodd ei hybu hefyd gan Aelodau Plaid Cymru, gan gynnwys Steffan Lewis. Ychydig fisoedd yn ôl, torrais y dywarchen yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hwn yn gyfleuster hollbwysig a fydd yn caniatáu datblygu prototeipiau adenydd y dyfodol yng Nghymru. Iawn, efallai mai dim ond £20 miliwn ydoedd, sydd, o'i gymharu â buddsoddiadau y mae Airbus yn eu gwneud yn rheolaidd iawn, yn swm bach, ond bydd ein cyfraniad o £20 miliwn yn arwain at gynnydd yng ngwerth ychwanegol crynswth yr ardal o tua £4 biliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. Ac os cawn ni’r fargen iawn o drafodaethau Brexit, bydd hefyd yn sicrhau cyflogaeth i 6,500 o bobl am flynyddoedd lawer.

Nawr, yn ogystal â datblygu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wneud yn gwneud yn siŵr bod y gadwyn gyflenwi’n aros yn gryf. Mae'n ffaith eithaf trawiadol bod y sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn cyflogi 20,000 o bobl mewn mwy na 150 o gwmnïau. Rydym ni’n hynod o gryf yn y sector hwn, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam rydym ni mor agored i niwed o ran Brexit. Mae chwech o 10 prif gwmni awyrofod ac amddiffyn y byd wedi lleoli gweithrediadau sylweddol yng Nghymru. Mae gan Airbus ddau safle, mae gan General Dynamics ddau safle, GE Aviation, Raytheon, BAE Systems—[Torri ar draws.] Na, mae’r Aelod yn dweud, ar ei eistedd, 'er gwaethaf Brexit'. Na, mae'r rhain yn gwmnïau sydd wedi’u sefydlu yma ers amser maith ac sy’n rhannu’r pryderon y mae Airbus wedi eu mynegi’n ddiweddar, ond y mae Airbus wedi bod yn eu dweud wrth Aelodau fel yntau. Petai o ond yn mynd i Frychdyn i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i Gasnewydd i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i General Dynamics, i GE Aviation, i Raytheon, i BAE Systems, i Safran sydd wedi caffael Zodiac. Petai o ond yn mynd i gwmnïau fel Qioptiq, fel British Airways, yr Asiantaeth Cydrannau ac Electroneg Amddiffyn, Babcock, Triumph. Mae pob un o'r cwmnïau hyn wedi bod yn gyson yn y neges y maent wedi'i rhoi inni yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—bydd senario 'dim bargen' yn ddinistriol i’r sector awyrofod ac amddiffyn. Er mwyn cadw swyddi yng Nghymru, ym Mhrydain, mae angen bargen ddigonol arnom ni. I gael bargen ddigonol, mae’n rhaid i Theresa May liniaru ei safbwyntiau. 

O ran yr amodau economaidd ehangach y gellir eu creu i gefnogi twf, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn mynegi’n glir bod angen buddsoddi mwy mewn allforio a masnachu. Wrth inni adael yr UE, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ailgydbwyso proffil allforio economi Cymru. Ond mae angen inni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn allforio llawer mwy mewn crynswth, ein bod yn masnachu llawer mwy, a dyna pam rydyn ni’n agor mwy o swyddfeydd ac yn cynyddu ein presenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Rydym ni wedi agor swyddfeydd yn ddiweddar mewn lleoedd fel Montreal, a byddwn yn agor mewn tiriogaethau eraill sy’n hollbwysig i ddyfodol economi Cymru.

Mae'r cynllun gweithredu economaidd hefyd yn glir—mae’n creu cyfrwng y byddwn yn ei defnyddio i gefnogi busnesau, ac sydd wedi'i chynllunio i leihau'r bwlch rhwng economi Cymru ac economi gweddill Ewrop. Felly, byddwn ond yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ddatgarboneiddio neu at wella ffigurau masnach ac allforio, neu’n sicrhau ein bod yn cofleidio’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ein bod ar flaen y gad o ran newid technolegol newydd, neu sy'n sicrhau ein bod yn creu swyddi o safon uchel. Am y rheswm hwnnw, gan ein bod yn datblygu cronfa gyfunol, rydym yn disgwyl gallu dyrannu mwy o adnoddau yn y dyfodol i'r busnesau hynny sy'n creu swyddi cynaliadwy, sydd ag angen mwy o sgiliau, sy’n fwy cynhyrchiol, sy’n cyfrannu mwy at economi Cymru ac sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith a dilyniant teg, i sicrhau bod gan unrhyw un sy'n ymuno â'r gweithle y cyfle i ddringo mor uchel ag y gallant.

15:40

Rydym ni i gyd yn cofio, rwy'n siŵr, yn ôl yn 1980, pan welodd Glannau Dyfrdwy ddiswyddo ar y raddfa fwyaf yn yr oes fodern pan ddiswyddodd gwaith dur Shotton dros 6,500 o weithwyr mewn un diwrnod. Wrth gwrs, cymerodd genhedlaeth i’r ardal oresgyn hynny. Yn wir, rwy’n siŵr eu bod nhw’n dal i deimlo’r effeithiau. Ond mae wedi ei ailsefydlu ei hun—yr ardal—yn bwerdy diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond, wrth gwrs, mae ymyriad yr wythnos diwethaf wedi taflu cysgod arall sy'n peri pryder enfawr o ran swyddi, o ran yr effaith ar yr economi ehangach ac o ran y gadwyn gyflenwi ehangach, yn sicr. A phe bai Airbus yn rhoi'r gorau i'w gweithrediadau ym Mrychdyn, rwy’n ofni y byddai’r effeithiau nid cynddrwg, ond yn ôl pob tebyg yn waeth na'r rhai a gafwyd yn ôl yn 1980.

Felly, mae hyn yn galw pobl ym mhob rhan o'r DU i ddod at eu coed o ran Brexit. Dyma’r realiti y mae llawer ohonom ni wedi bod yn rhybuddio amdano ers amser hir iawn, ac mae'n golygu bod gweithwyr medrus sydd ar gyflogau da yn wynebu ansicrwydd enfawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos. Beth bynnag fo'r amgylchiadau, bydd yn cymryd blynyddoedd, os yw hyn yn digwydd, i’r buddsoddi ddiflannu, ond yn sicr mae'n bwrw cysgod dros weithwyr diwyd, ymroddedig a ffyddlon Airbus, y bobl ifanc sydd yno ar hyn o bryd, yn astudio ar gyfer eu prentisiaethau, a miloedd o weithwyr, fel y dywedais yn gynharach, yn y gadwyn gyflenwi ehangach sy'n ofni’r effaith a gaiff Brexit ar eu swyddi.

Hoffwn gyfeirio at erthygl yn y wasg a welais yn The Leader lle mae Shaun Hingston, cynrychiolydd cyngor ieuenctid 15 mlwydd oed o Saltney—rydych wedi ei gweld; rwy'n falch. Mae'n gwneud rhai sylwadau perthnasol, go iawn, ynghylch sut y byddai ymadawiad Airbus o'r DU yn drychinebus i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae ef wir yn adlewyrchu'r ing y mae’r genhedlaeth iau yn ei deimlo—nhw, wrth gwrs, fydd y genhedlaeth a fydd yn byw hwyaf gydag etifeddiaeth neu ganlyniadau Brexit, ac mae'n dweud:

Byddai symud neu gau Airbus yn y DU yn arwain at ddiswyddiadau anferth, a fyddai’n sbarduno effaith lluosydd negyddol, ac y byddai busnesau yn yr ardal leol yn adleoli neu’n cau.

Byddai symud, wrth gwrs, yn golygu na fydd gan bobl y cyfle i fynd ar brofiad gwaith yn Airbus neu i gwblhau rhaglenni prentisiaeth—y rhaglenni y mae cannoedd o bobl ifanc ledled yr ardal yn eu gwneud ac am eu gwneud, ac yn gobeithio eu gwneud oherwydd eu bod yn gweld Airbus yn un o swyddi eu breuddwydion.

Nawr, mae Shaun yn amlwg yn deall effeithiau’r polisïau Brexit di-drefn y mae Llywodraeth y DU yn eu canlyn ar hyn o bryd, hyd yn oed yn fwy felly, mentraf ddweud, na rhai o Weinidogion Llywodraeth y DU. A dyna yw'r mater sylfaenol yma, rwy’n credu, onid e, sef bod y polisi Brexit presennol y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn i adael marchnad sengl ac undeb tollau yr UE—? Rwy’n cydnabod, fel y gwnaethoch gyfeirio ato, rwy’n credu, yn gynharach, mai safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yw parhau'n aelodau o'r ddau. Yn sicr, nodwyd hynny yn y Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â fy mhlaid i, ond mae'n rhaid imi ddweud bod yr hyn y mae Plaid Lafur y DU wedi’i wneud wedi gwrthweithio hynny. Ond tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu rhywfaint o fy rhwystredigaeth o ran pa mor aneffeithiol y mae ASau Llafur wedi bod o ran atal y posibilrwydd hwn o Brexit caled.

Rydym ni wedi gweld y baneri yn Labour Live, wedi clywed y siantio a’r canu yn y rali dros y penwythnos. Onid yw'n teimlo mymryn o ofid bod gwrthwynebiad Llafur yn San Steffan yn methu â newid y cyfeiriad hwn sy’n ein harwain ar hyd y llwybr ofnadwy hwn? Ac onid yw’n dymuno y byddai ei blaid ef ei hun yn gwneud pethau'n wahanol, yn hytrach na gadael i’r Ceidwadwyr wneud fel y mynnont? Oherwydd os nad ydynt yn llwyddo i newid y cyfeiriad hwnnw, rwy’n ofni, fel y mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud o fy mlaen i, mai dim ond dechrau pethau fydd enghraifft Airbus.

Fel arfer, pan fyddaf yn ymateb i ddatganiad, fy nghwestiwn cyntaf yw, 'Beth mae’r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hyn?' Ond, wrth gwrs, mae’r posibilrwydd hwn mor enfawr, ac mor ddigynsail yn yr oes ddatganoledig, nes ei fod yn gwestiwn anodd ei ofyn, heb sôn am ei ateb. Ond fe hoffwn i wybod, ac i ddilyn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, sut mae’r Llywodraeth wedi cynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Ydych chi wedi amlinellu beth fyddai effaith Brexit caled a pha gamau fyddech chi’n eu hystyried i geisio, cymaint ag y gallwch chi, lliniaru'r effeithiau hynny?

Rydych chi wedi sôn am eich cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb'. Ydych chi’n ailystyried hwnnw mewn unrhyw ffordd yn sgil hyn? Oherwydd y byrdwn, sy’n un y mae llawer ohonom yn ei gefnogi, yw bod angen inni ddatblygu mwy o swyddi hynod fedrus sy’n talu'n dda yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bydd angen gwrthsafiad, oherwydd rydym ni’n symud i'r cyfeiriad anghywir. Bydd yn fater o sefydlogi, cystal ag y gallwn ni, heb sôn am dyfu yn hynny o beth.

Wrth gwrs, mae gan Airbus eu hasesiad risg, fel yr ydym ni i gyd wedi darllen. Ble mae asesiad risg y Llywodraeth? Ydych chi wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw? Efallai y gallech roi gwybod i ni.

Ac, wrth gwrs, mae'r effaith a gaiff hyn ar addysg bellach ac addysg uwch yn sylweddol. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol o ogledd Cymru, yr wythnos diwethaf, lle dywedwyd wrthym ni heb unrhyw amheuaeth am yr effaith ar sefydliadau pwysig yn y gogledd-ddwyrain, fel Coleg Cambria. Byddai’n sylweddol, ac rwy’n meddwl tybed pa drafodaethau a fu rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn â sut efallai y gellid lliniaru rhai o'r effeithiau hynny a’u rheoli pe baen nhw’n cael eu gwireddu.

15:45

Ydw, ydw.

Roedd y GIG i fod i fwynhau difidend Brexit o £350 miliwn yr wythnos. Wrth gwrs, mae Canolfan Diwygio Ewrop nawr wedi dweud wrthym ni bod y wir gost eisoes yn £440 miliwn yr wythnos, ac mae hynny'n ddiffyg Brexit, a hyn cyn i Airbus, BMW ac eraill o bosibl ein gadael ni. Nawr, welais i mo hynny ar ochr y bws Brexit a oedd yn cael ei yrru o gwmpas y wlad. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet, felly, yn synhwyro, gan fod realiti Brexit caled nawr yn gwawrio ar bobl, a beth fyddai effaith wirioneddol y Brexit caled hwnnw ar swyddi pobl ac ar gyflogau pobl, bod y farn gyhoeddus mewn gwirionedd nawr wedi newid, a phe bai’r refferendwm yn cael ei gynnal heddiw, y byddai'r canlyniad yn wahanol iawn?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad yn ei gyfanrwydd? Mae'n ffaith drist bod Shotton yn dal i ddal y record Ewropeaidd am golli’r nifer mwyaf o swyddi mewn un diwrnod yn hanes diwydiannol modern ledled Ewrop. Yn ddiweddar, ces i lun du a gwyn o 1963 o’r prentisiaid a ddechreuodd y flwyddyn honno. Roedd fy nhad yn y llun, a dyna pam cafodd ei anfon ataf fi, ac ar ôl craffu ar y llun hwn, daeth yn glir nad oedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y llun hwnnw’n gweithio ar y safle hwnnw o fewn 20 mlynedd ar ôl i’r llun gael ei dynnu. Tybed faint o bobl yn Airbus heddiw fydd â gwaith ar y safle hwnnw ymhen ddau ddegawd pe cawn ni sefyllfa 'dim bargen'.

Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn drist iawn bod Shaun, bachgen 15 mlwydd oed, yn gallu cyfleu’n llawer gwell ac yn fwy aeddfed y bygythiadau a'r her sy'n ein hwynebu nag y mae Jeremy Hunt yn gallu ei wneud, o ran beth allai ddigwydd i Airbus a'r diwydiant awyrofod. Nid codi bwganod mae Airbus. Datgan y ffeithiau mae Airbus. Mae Airbus yn gwneud beth ddylai busnes cyfrifol ei wneud, sef rhannu’n ddidwyll, yn blaen, yn agored ac yn onest gyda Llywodraeth beth yw canlyniad tebygol taro bargen wael neu, yn waeth byth, sefyllfa 'dim bargen’, ac nid dim ond Airbus sy’n mynegi’r pryderon hyn.

Rydym ni wedi clywed heddiw bod cwmnïau sy'n cynrychioli tuag 850,000 o bobl ledled y DU yn rhannu’r pryderon difrifol hynny. Er mai Airbus yn amlwg yw'r cyflogwr sector preifat mwyaf yn y gogledd-ddwyrain, ac yn sicr y cyflogwr mwyaf yng Nghymru o ran awyrofod ac amddiffyn, yn y rhan fechan honno o Gymru ceir clwstwr cryf o fusnesau yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Airbus wrth gwrs; Magellan; Qioptiq; DECA; Raytheon—busnesau sy'n cyflogi pobl sy'n hynod, hynod fedrus, ac yn cael cyflogau da, pobl sy’n bobl ffyddlon iawn, pobl sy’n gwneud cyfraniad enfawr at yr economi leol ac at economi Cymru yn ei chyfanrwydd.

Rwy’n credu, wrth inni edrych at y dyfodol, bod angen inni fyfyrio ychydig ar y dull clir a chyson iawn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i ddilyn ers y refferendwm, ac mae'n ddull sydd, ar rai achlysuron, wedi cael ei fabwysiadu—ei ddwyn efallai—gan Lywodraeth y DU, yn sicr o ran y mynediad rhydd a dirwystr i'r farchnad sengl. Mae'n rhywbeth, ar adegau, y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei efelychu, ar ffurf gormodiaith. Yn anffodus, ni fyddai'r hualau y mae Prif Weinidog y DU wedi’u llunio yn caniatáu i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, yn seiliedig ar y trafodaethau sydd wedi digwydd, ond rwy'n credu bod Keir Starmer wedi gwneud gwaith gwych i ddal Llywodraeth y DU i gyfrif , a’i fod yn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran dwyn Gweinidogion Llywodraeth y DU i gyfrif.

O ran yr hyn rydym ni'n ei wneud, rydym ni wedi edrych ar effaith y sefyllfaoedd amrywiol ar economi Cymru, fesul sector, a’r hyn sy'n gwbl glir yw os na fydd bargen, bydd hi’n amhosibl inni liniaru pob un o'r canlyniadau; mae’r sefyllfa’n rhy ddifrifol. Byddai’r economi’n crebachu dros 10 y cant yn ôl pob tebyg, ond mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio mewn modd sy’n caniatáu defnyddio sefydlogyddion awtomatig, yn hytrach na chefnu ar y strategaeth a mabwysiadu strategaeth newydd ar gyfer amgylchiadau o argyfwng. Mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio i fod yn gadarn mewn unrhyw amgylchiadau, ond yn amlwg, gan ddibynnu ar y math o fargen—ac a oes bargen o gwbl—a ddaw i'r amlwg yn ystod y misoedd nesaf, bydd cymorth i fusnesau yn canolbwyntio ar y meysydd hynny a fydd yn gallu goroesi'r storm sydd i ddod. Ond dydw i ddim yn meddwl y dylem ni gredu y gallwn ni oddef sefyllfa 'dim bargen' heb golli llawer o swyddi yn economi Cymru.

Rwy’n siarad yn rheolaidd, nid yn unig gyda'm cyd-Aelodau yn yr adran addysg, ond rwyf hefyd yn siarad ag arweinwyr addysg uwch ac addysg bellach ac, unwaith eto, mae ganddyn nhw bryderon gwirioneddol sy’n ddifrifol iawn yn wir.

Rwy’n credu ei bod hi'n deg dweud y dylai Seneddau’r DU gytuno ar unrhyw fargen a gaiff ei tharo. Pe bai’r Seneddau’n penderfynu nad yw’r fargen yn ddigonol ac yn ei gwrthod, yn ôl pob tebyg, gellid galw etholiad cyffredinol, ac mae'n ddigon posibl y byddai’n rhaid cynnal pleidlais arall. Ddylem ni ddim diystyru’r siawns y gallai pobl droi yn erbyn y penderfyniad a wnaethpwyd, o ystyried y bygythiad gwirioneddol sy’n wynebu cynifer o bobl nawr o ran eu bywoliaeth.

15:50

Wel, mae'n anodd peidio â dylyfu gên wrth glywed yr enghraifft ddiweddaraf o newyddion ffug gan brosiect ofn: y diweddaraf mewn llith ddiderfyn o ddaroganau o'r fath dros y tair blynedd diwethaf. Datganiad gwleidyddol yw hwn yn bennaf, yn y rhyfel propaganda gan y sefydliad sydd o blaid aros ac sydd—fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd adael y gath o'r cwd yn ei eiriau olaf—yn gwrthod derbyn canlyniad y refferendwm ddwy flynedd yn ôl, pan bleidleisiodd 17.5 miliwn o bobl i adael yr UE.

Mae e’n gwybod cystal â mi y byddai’r rhan fwyaf o gydrannau awyrennau’n ddi-dariff o dan reolau Corff Masnachu'r Byd, a hyd yn oed yn yr ychydig achosion lle byddai tariffau arnynt, byddai’r tollau hynny’n isel iawn, iawn—yn sicr yn llai na 5 y cant. Ond wrth gwrs hoffem i gyd daro bargen masnach rydd gyda'r UE—mae'n gwneud synnwyr cyffredin ar y ddwy ochr—ond nid Theresa May yw’r rhwystr rhag y fargen hon, ond Michel Barnier a Chomisiwn yr UE, oherwydd iddyn nhw, mae buddiannau gwleidyddol y sefydliad ffederal Ewropeaidd anetholedig yn drech na lles economaidd pobl Ewrop. Mae’n amlwg bod bargen fasnach rydd er budd dinasyddion yr UE, oherwydd y llynedd fe wnaethon nhw werthu £192 biliwn yn fwy o nwyddau i ni nag y gwnaethon ni eu gwerthu iddyn nhw. Felly, pe bai’n rhaid iddyn nhw wynebu tariffau cyfatebol i wneud iawn am y rhai a fyddai’n cael eu gosod arnom ni o ganlyniad i ‘ddim bargen’ gyda Brexit, byddai cynnwrf enfawr yn yr UE hefyd.

I gyfeirio at yr un agwedd y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdani yn ei sylwadau ennyd yn ôl am Gymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn ymuno ag Airbus fel proffwydi gwae, mae 14 y cant o bob un cerbyd sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Almaen yn cael ei allforio i’r Deyrnas Unedig. Pe bai’n rhaid iddynt wynebu treth o 10 y cant ar fewnforion i'r wlad hon am eu bod nhw’n gwneud yr un peth i ni wrth inni allforio i'r UE, byddai hynny'n ddrwg iawn i fuddiannau gweithgynhyrchwyr moduron yr Almaen.

Felly, rwy’n gobeithio bod yr unigolion hyn yn rhoi cymaint o bwysau ar Monsieur Barnier i gytuno ar fargen masnach rydd ag y mae eu cymheiriaid yn y wlad hon yn ei roi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ildio i holl ofynion sefydliad yr EU. Hoffwn wybod, er enghraifft, a yw pwysigion Airbus wedi ysgrifennu at Monsieur Barnier i gwyno am ei wrthodiad diamod i drafod bargen fasnach rydd synhwyrol, fel y cytunwyd yn ddiweddar â Canada, ac ychydig flynyddoedd yn ôl â De Korea. Pam na ddylem ni gael bargen o'r fath? Beth yw’r gwrthwynebiad gwleidyddol i hynny?

Mae’r ffaith bod cwmni fel Airbus yn cynorthwyo pŵer tramor gelyniaethus sy’n ceisio tanseilio buddiannau Prydain, rwy’n credu, yn warthus, ond tybed a allai hyn fod yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’r gwerth $18 biliwn o gymorth gwladwriaethol anghyfreithlon y maen nhw wedi’i gael gan Lywodraethau Ewropeaidd yn y blynyddoedd diwethaf, fel y barnodd Sefydliad Masnach y Byd dim ond mis yn ôl. O ganlyniad i hynny, mae cynrychiolydd masnach yr Unol Daleithiau wedi dweud bod hyn yn braenaru'r tir i’r Unol Daleithiau godi tollau dialgar ar nwyddau o’r UE. Nid dyma sut i fynd ati os ydym ni eisiau llunio polisïau synhwyrol yn Ewrop, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff Llywodraeth Cymru gytuno â mi yn hynny o beth.

Ond y gwir amdani yw bod y datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, yn un twyllodrus oherwydd does dim gobaith o gwbl y gwnaiff Airbus gau eu holl weithrediadau yn y wlad hon. Ble arall byddai adenydd yr awyren yn cael eu gwneud? Dyw hi ddim mor hawdd cau a throsglwyddo i rannau eraill o Ewrop neu'r byd. Dewch inni edrych ar gyd-destun cyhoeddi’r datganiad hwn. Faint o gwmnïau enfawr sydd wedi gwneud daroganau gwae tebyg yn y blynyddoedd diwethaf ond y bu'r hyn a ddigwyddodd yn wahanol ac y cafwyd eu bod yn anghywir yn y pen draw? Gwnaeth Lloyd Blankfein o gwmni Goldman Sachs rai o'r datganiadau mwyaf apocalyptaidd am effeithiau Brexit, ac eto, ym mis Ebrill eleni, wrth agor canolfan swyddfeydd newydd gwerth £1 biliwn yn Llundain, dywedodd:

Rwyf yn anghywir oherwydd fy mod yn credu y byddai'r canlyniad wedi bod yn waeth…Mae economi'r DU wedi fy synnu ar yr ochr orau.

Edrychwch ar Siemens: unwaith eto, dywedodd Joe Kaeser, a oedd yn daer o blaid aros yn yr UE, y byddai Brexit yn amharu ar yr economi, y byddai ansicrwydd ynghylch y berthynas â’r UE yn achosi effeithiau negyddol sylweddol tymor hir, y byddai’r DU yn lle llai deniadol i fasnachu, y gallai fod yn ffactor pan fyddai Siemens yn ystyried buddsoddi yn y dyfodol yma, ac eto, ym mis Tachwedd 2017, er eu bod wedi torri 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 ledled Ewrop, cyhoeddodd ef fuddsoddiad o £39 miliwn i ehangu eu ffatri fwyaf yn y DU yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.

Dim ond i droi at Airbus yn olaf, a’u sylwadau blaenorol am hyn, wrth gwrs, mae Airbus yn dweud nawr y byddan nhw’n diddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny'n ei olygu—neu y gallen nhw ddiddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny’n ei olygu—os nad oes bargen. Maen nhw mor amwys wrth ddweud ‘os’ ac ‘oni bai’ a rhoi rhybuddion nes ei bod hi’n amhosib dod i unrhyw gasgliadau. Ond dim ond ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, roedd Tom Enders yn flaenllaw iawn yn y prosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Mewn un ymyriad ar ôl y llall gwnaeth fygwth diddymu buddsoddiad pe bai’r cwmni’n pleidleisio i adael, ac eto, wrth gwrs, dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny. Ers hynny mae ef wedi cyfaddef bod y cwmni’n bwriadu cadw eu gweithrediadau—fel y dywedodd—yn bell i’r dyfodol. Ysgrifennodd ef at Greg Clark ym mis Chwefror eleni i ddweud eu bod yn ystyried y DU yn wlad sy'n gartref iddynt ac yn lle cystadleuol i fuddsoddi. Mae'r cyfeiriad at 'wlad sy'n gartref iddynt', wrth gwrs, yn bwysig, oherwydd mae hynny'n golygu, wrth ddatblygu strategaeth economaidd yn y cwmni, bod adrannau cenedlaethol Airbus yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth a’u bod yn dylanwadu ar y penderfyniadau ar gynhyrchu a strategaeth.

Felly, hanfod hyn oll, mewn gwirionedd, yw ceisio gwneud yn siŵr na fydd 'dim bargen' o gwbl. Wel, prin fod angen iddo wneud hynny oherwydd mae anallu Theresa May a’r Llywodraeth hollol ddi-glem sydd wedi difetha’n llwyr yr holl gyfleoedd Brexit oedd yn bodoli ddwy flynedd yn ôl eisoes wedi cyflawni’r amcan hwnnw: i bob pwrpas, byddwn yn parhau'n rhan o’r UE, mewn ffurf os nad mewn enw. Felly, does gan Airbus ddim byd i boeni amdano.

16:00

Mae hyn—. Mae'n embaras, a dweud y gwir. Rwy’n gobeithio nad oes neb o unrhyw sector diwydiannol nac unrhyw fuddsoddwyr wedi gwrando ar y cyfraniad hwn. Ond dim ond un cwestiwn cyflym sydd wedi bod yn fy meddwl wrth wrando ar yr Aelod: ble mae’r Aelod sydd i fod yn cynrychioli'r 6,500 o bobl ym Mrychdyn yn eich plaid ar hyn o bryd? Dydw i ddim yn gweld yr aelod UKIP dros ogledd Cymru yn bresennol y tu ôl ichi i gymeradwyo’r hyn roeddech chi’n ei ddweud. Dydw i ddim yn ei gweld hi’n cefnogi’r hyn roeddech chi’n ei ddweud am ddyfodol ffatri Airbus.

A dweud y gwir, mae’n gywilyddus eich bod chi’n dewis difrïo nid yn unig Airbus, ond pobl fel—[Torri ar draws.] Roeddech chi’n difrïo Airbus. Roeddech chi’n difrïo eu pryderon. Roeddech chi’n honni bod sefydliadau fel Oxford Economics yn gwrthwynebu Brexit, ac felly mai dyna’r unig ffactor oedd yn eu cymell nhw, yn hytrach na gwneud dadansoddiad gwrthrychol ar ran Airbus. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi wedi darllen 'The impact of Airbus on the UK economy'. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi wedi ymweld ag unrhyw un o safleoedd Airbus. Rydych chi wedi? Ydych chi wedi ymweld â safle Brychdyn yn ddiweddar? Ydych chi wedi siarad ag uwch reolwyr? Oherwydd yn sicr, dydych chi heb wrando arnynt. Efallai fod y geiriau wedi eu llefaru, ond—[Torri ar draws.] Edrychwch, bydd fy neges yn glir iawn: dewch allan o’ch ffos, tynnwch y plygiau o’ch clustiau a gwrandewch ar bobl sy'n gwybod mwy o beth cythraul am y sector awyrofod na chi, oherwydd mae 6,500 o swyddi ym Mrychdyn yn y fantol, 400 i 500 yng Nghasnewydd yn y fantol. Dydy’r cwmni hwn ddim yn chwarae gwleidyddiaeth bleidiol bitw. Mae'r cwmni hwn yn gwmni rhyngwladol sydd yn benderfynol o wneud yn siŵr y gall dyfu yn y dyfodol, ac, os na all wneud hynny yn y DU, bydd yn gwneud hynny yn rhywle arall.

Nid dim ond mater o dariffau yw hwn. Mae’n ymddangos bod yr Aelod yn credu mai’r unig gwestiwn o ran Brexit yw a oes rhaid inni ddefnyddio tariffau. Dydy hyn ddim yn fater o dariffau i Airbus. Mae'n glir iawn, os darllenwch chi 'The impact of Airbus on the UK economy', mai'r mater o ganiatáu i bobl symud a’r amgylchedd rheoleiddio a allai achosi aflonyddwch difrifol.

O ran mewnforio ceir, a ydych chi o ddifrif yn awgrymu y byddai cwsmeriaid yn hapus i dalu 10 y cant yn ychwanegol am geir sy’n cael eu mewnforio i Brydain, er gwaetha'r ffaith bod nifer enfawr o gydrannau’r ceir hynny’n cael eu gwneud ym Mhrydain, bod swyddi’n dibynnu ar y ceir hynny, bod—? Iawn, efallai eu bod nhw’n cael eu cydosod yn derfynol y tu allan i Brydain, ond mae’r swyddi sy'n cyflenwi’r cydrannau yma yn y DU, ac felly bydd tariffau’n cael effaith fawr—[Torri ar draws.] Bydden nhw’n cael effaith fawr, a bydden nhw’n arwain—[Torri ar draws.] O fewn y gadwyn gyflenwi, gallai hynny arwain at golli llawer o swyddi.

Edrychwch, mae'r rhain yn rhybuddion. Pa bryd ydych chi'n mynd i dderbyn bod angen gwrando ar rybuddion, na fedrwch chi anwybyddu rhybuddion y byddai sefyllfa 'dim bargen' yn llawer mwy niweidiol—yn llawer mwy niweidiol—i economi'r DU na bargen Brexit dda? Yn hytrach, rydych chi’n bwriadu rhuthro mor gyflym â phosib at ochr y dibyn, heb roi unrhyw sylw dyledus i’r 6,500 o bobl sy’n cael eu cyflogi gan Airbus ym Mrychdyn, y 400 i 500 sy'n cael eu cyflogi yng—[Torri ar draws.] Rwy’n sylwi bod yr Aelod yn gwneud sylwadau ar ei eistedd. Os oes ganddo ymyriad i’w wneud, byddwn i’n hapus i’w dderbyn.

Na. Na, does dim ymyriadau, a byddwn yn gofyn—[Torri ar draws.] Mewn munud, mewn munud. Rwy’n gofyn i bob aelod wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi wedi gofyn cyfres o gwestiynau a dylech chi wrando ar yr atebion. Diolch.

Yn olaf, o ran y sylw a wnaeth yr Aelod am rybuddion anghywir y mae elfennau eraill o'r diwydiant wedi eu gwneud, nid yn unig ynghylch Brexit, ond ffactorau eraill, hanesyddol, un agwedd bwysig i'w chadw mewn cof yw bod llawer o wleidyddion wedi anwybyddu bygythiadau Tata, a phryderon Tata, nes i’r busnesau yma yng Nghymru a ledled y DU gael eu rhoi ar werth. A fydd angen colli degau os nad cannoedd o filoedd o swyddi yn y DU cyn i’r bobl sydd o blaid sefyllfa 'dim bargen' ddeffro a derbyn eu bod yn anghywir a’u bod wedi gwneud pobl yn ddi-waith?

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad eithriadol o bwysig hwn heddiw? O'r cychwyn cyntaf, rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad yw’r rhybudd hwn yn unigryw i Airbus—mae'n rhybudd ledled holl sectorau a diwydiannau Cymru, a ledled Ewrop yn ogystal. Dros y penwythnos mae BMW a llawer o rai eraill, gan gynnwys Ferrovial heddiw, a SMMT; fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad. Mae gan yr holl rybuddion hyn un peth yn gyffredin, sef ansicrwydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cyllid am yr ansicrwydd, ac mae wedi bod yn thema gyffredin drwy gydol fy amser ar y pwyllgor materion allanol. Pryd bynnag yr wyf wedi ymweld â gweithleoedd, fel Airbus, Tata Steel neu Toyota, mae’r mater wedi ei grybwyll bob amser. Yn anffodus, dydym ni ddim wedi cael yr eglurder yr oeddem ni i gyd yn chwilio amdano. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddaru’r Aelodau ynghylch a yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw sylwadau clir iddo ers cyhoeddiad Airbus? Hefyd, a allai ddweud a yw wedi cael unrhyw ohebiaeth gydag Unite the Union am y mater hwn dros y penwythnos? Rwyf fi wedi siarad â chynrychiolwyr yr undeb ac roedden nhw’n rhannu llawer o'm pryderon, yn bennaf oherwydd eu bod yn gwybod y cyfraniad aruthrol y mae Airbus yn ei wneud dros Alun a Glannau Dyfrdwy, dros Gymru, a thros bobl ledled y DU.

Rydych chi wedi dweud mai Airbus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, a’u bod nhw’n cyflogi bron 6,500 o bobl, a bod hynny’n golygu mai nhw yw’r ail gyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth a rhoi’r eglurder sydd ei angen ar y busnes, ac nid yn unig y busnes, ond, yn bwysicach, sydd ei angen ar y gweithlu? Mae Airbus yn gwneud cyfraniad uniongyrchol sylweddol at gynnyrch domestig gros Cymru, fel mae’r Aelodau yn ei wybod, ac yn 2015 cyfrannodd y cwmni, yn uniongyrchol, £563 miliwn o werth ychwanegol at gynnyrch domestig gros Cymru. Nawr, mae hynny'n cyfateb i dros 5 y cant o’r allbwn economaidd a gynhyrchwyd yng Nghaerdydd yn ystod yr un flwyddyn.

Rwy’n croesawu cefnogaeth barhaus Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn fwyaf diweddar, buddsoddiad y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, ac rwy’n credu bod arnom ni angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ond mae angen imi ddweud: a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r ffigurau hynny yr wyf wedi sôn amdanynt a’r cyhoeddiad hwn ddeffro Llywodraeth y DU? Ac, os na wnaiff, dydw i wir ddim yn gwybod beth wnaiff.

Dim ond yn gryno, hoffwn gyfeirio at sylw a wnaeth fy nghyd-aelod o ben arall y Siambr, Llyr Gruffydd, wrth sôn am bwysigrwydd yr hyn a ddigwyddodd wrth gau ffatri Shotton a chydnabod hynny. Rydych chi'n hollol gywir; ni fydd cynddrwg, bydd yn bendant yn waeth, ac mae hynny'n rhywbeth, yn syml, na allwn ni ganiatáu iddo ddigwydd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio at sylw, lle—. Dydw i ddim yn credu mai ystryw wleidyddol yw hyn gan Airbus, rwy’n credu ei fod yn rhybudd clir ac yn rhybudd y dylid bod yn ddifrifol iawn, iawn yn ei gylch. Dydw i ddim yn siŵr a ydych chi wedi ei weld dros y penwythnos, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, ar y sioe Daily Politics, ymosododd Nigel Farage ar Airbus fel prosiect gwleidyddol cyn piffian chwerthin wrth i rywun sôn am bobl Cymru, teuluoedd Cymru, o bosibl yn colli eu swyddi. Felly, a fyddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, i gondemnio’r anghyfrifoldeb llwyr hwn ac yn ymuno â mi pan ddywedaf wrth y gweithwyr hynny o Gymru a'u teuluoedd, ac wrth y gweithwyr yn y dyfodol, ein bod ni gyda chi yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac y gwnawn ni sefyll gyda chi?

16:05

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le—yr hyn y mae buddsoddwyr ei eisiau pan fyddan nhw’n edrych ar unrhyw wlad yw sicrwydd o ran yr amgylchedd gwleidyddol ac economaidd ac mae arnyn nhw angen i’r sgiliau cywir fod ar gael a’r seilwaith iawn yn ei le. Yng Nghymru, rydym ni'n gwella'r sylfaen sgiliau, rydym ni'n datblygu'r seilwaith priodol, ond mae perygl y gallai Brexit effeithio arnom ni yn ofnadwy os nad oes bargen neu os nad yw’r fargen yn diwallu anghenion busnesau Cymru.

A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fy mod i wedi siarad gyda Greg Clark? Fe wnes i siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ddydd Gwener. Fe wnes i sôn wrtho am fy mhryderon difrifol iawn, ac fe wnes i hefyd fynegi fy nghefnogaeth i Aelodau o fewn ei blaid ef, er bod y rhan fwyaf o'r rheini ar y meinciau cefn, gan gynnwys Anna Soubry a Guto Bebb, o ran eu sylwadau diweddar ynghylch y datganiad gan Airbus. Nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid cyfeiriad. Mae angen iddynt liniaru eu safbwyntiau ac mae angen iddynt dderbyn trefniant pragmatig. Yn anffodus, gan fod y Prif Weinidog wedi'i gefynnu gan eithafwyr asgell dde ei phlaid, mae canlyniad o'r fath yn gynyddol annhebygol.

Nawr, a gaf i ddweud, yn ogystal â siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, fy mod yn siarad yn rheolaidd iawn gydag Unite the Union a gydag Airbus eu hunain, gyda rheolwyr. Yn wir, yn ddiweddar fe wnes i benodi Katherine Bennett, uwch is-lywydd Airbus UK, i’r bwrdd cynghori gweinidogol newydd, gan gydnabod ei chraffter, ei gwybodaeth a’i harbenigedd nid yn unig yn y sector awyrofod a gweithgynhyrchu yn gyffredinol, ond hefyd o ran economi'r DU a'r cyfleoedd sydd gennym ni, os cawn y fargen Brexit gywir, i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchwyr gwreiddiol y cyfarpar awyrofod.

Nawr, mae Jack Sargeant yn hollol gywir, rydym ni’n buddsoddi’n sylweddol iawn ym Mrychdyn; rydym ni wedi yn y gorffennol. Mae hynny o ganlyniad i'r cymorth ad-daladwy a’r cymorth sgiliau a’r mathau eraill o gymorth a gynigiwyd i Airbus dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraethau Llafur olynol, a nawr mae’r safle hwnnw’n cyflogi 6,500 o bobl. Rydym ni wedi helpu i dyfu’r safle hwnnw ac rydym ni’n fodlon ymladd nerth ein deng ewin i amddiffyn y bobl hynny sy'n cael eu cyflogi yno; wnawn ni ddim cefnu arnyn nhw.

O ran Nigel Farage, a’i biffian chwerthin ar y teledu wrth y posibilrwydd y gallai pobl—miloedd o bobl—golli eu swyddi, dyna ymddygiad swancyn breintiedig sydd, mae arnaf ofn, yn hollol anymwybodol o beth yw diwrnod caled da o waith yn y sector awyrofod. Os mai’r oll y gall ef ei wneud yw ymateb drwy biffian chwerthin, mae arnaf ofn na fydd croeso iddo yn Airbus nac yn unrhyw safle diwydiannol arall lle gallai swyddi gael eu chwalu gan sefyllfa 'dim bargen'.

16:10

Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall. Rwy’n mynd i ymestyn y datganiad hwn, ond dydy hynny ddim yn golygu fy mod i’n disgwyl i’r ddwy siaradwr nesaf fod yn hirwyntog, felly—. Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad pwysig hwn heddiw ac am ei eiriau cryf. Mae cyhoeddiad yr wythnos diwethaf wedi peri pryder mawr. Mae Airbus yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru, ac, er bod y mwyafrif helaeth o weithwyr wedi’u lleoli ym Mrychdyn, mae Airbus yn cyflogi 450 o bobl yng Nghasnewydd. Mae Airbus Casnewydd yn gartref i’r ganolfan ragoriaeth seiber trawsnewid digidol byd-eang, ac mae’r tîm o beirianwyr ymchwil seiber yn gwneud gwaith ymchwil sy'n arwain y byd ym maes seiberddiogelwch. Maent yn gweithio'n bennaf mewn amgylcheddau hynod ddirgel, gan ddarparu amddiffyniadau seiber gradd uchel.

Yn dilyn ansicrwydd Brexit, rwyf ar ddeall fod Airbus eisoes yn gweld effaith ar eu busnes gofod gyda'r rhaglen llywio lloeren Galileo. Ymwelais â safle Casnewydd yn fy etholaeth yn union ar ôl y bleidlais Brexit i wrando ar eu pryderon. Rhaid inni beidio â cholli’r swyddi hyfedr rhagorol hyn na gweld gostyngiad mewn buddsoddi. Byddai hynny’n cael effaith sylweddol ar yr economi a'r ardal leol. Yn ogystal â’r bobl sy’n gweithio yng Nghasnewydd, mae rhai o'm hetholwyr yn gweithio yn Airbus yn Filton, sy'n gweithgynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau milwrol, yn ogystal â dylunio, peiriannu a chefnogi adenydd masnachol Airbus.

Mae negeseuon Airbus i Lywodraeth y DU ers y refferendwm wedi bod yn gyson—byddai Brexit 'dim bargen' yn amharu'n ddifrifol ar gynhyrchu. At hynny, mae Airbus yn pryderu bod y cyfnod pontio arfaethedig presennol yn rhy fyr i gwmni wneud y newidiadau sydd eu hangen yn ei gadwyn gyflenwi helaeth. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rhaid i'r rhybudd gan Airbus ac eraill fod yn elfen o realiti i Lywodraeth y DU, a bod eu diffyg eglurder nhw’n peryglu swyddi a buddsoddi yn y dyfodol?

Ydw, rwy’n cytuno’n fawr iawn â Jayne Bryant. Rwy’n gwybod ei bod hi wedi gwneud llawer i hyrwyddo Airbus yng Nghasnewydd ers cael ei hethol i'r Cynulliad hwn, ac rwy’n gwybod hefyd pa mor bwysig yw’r cyflogwr penodol hwn i'r rhanbarth—mae’r safle’n cyflogi 450 o bobl fedrus. Mae'r safle’n ddiwydiant arloesol y gallwn fod yn falch iawn ohono, ac mae’n cynnig cyfle aruthrol i lawer o bobl sy'n mentro maes penodol lle mae gennym ni allu sylweddol, capasiti sylweddol ar hyn o bryd hefyd, ac rwyf yn ofni os yw Brexit yn parhau i fynd rhagddo fel y gwelsom ni yn ystod y misoedd diwethaf, y gallai’r swyddi hynny fod mewn perygl, fel y mae Airbus wedi dweud.

Rwyf hefyd yn cytuno bod y cyfnod pontio yn rhy fyr, yn ôl yr hyn y mae busnesau wedi’i ddweud wrth Lywodraeth Cymru. Yn gyffredinol, rydym ni wedi clywed bod angen i gyfnod pontio diogel bara dwy flynedd o leiaf—yn aml, nodir mai tair blynedd fyddai’r hyd gorau i gyfnod pontio.

Rwy’n gwybod y bydd Jayne Bryant, a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon, yn teimlo'n rhwystredig iawn bod Stryd Downing yn dal i anwybyddu eu rhybuddion a’r pryderon y maen nhw wedi eu mynegi yn y Siambr hon a'r tu allan iddi. Mae angen i Brif Weinidog y DU newid cyfeiriad, a'r ffordd y gall hi wneud hynny yw drwy liniaru ar ei safbwyntiau a negodi’n synhwyrol gyda'n partneriaid Ewropeaidd.

16:15

Diolch. Wrth gwrs, rwyf wedi ymweld ag Airbus lawer gwaith. Rwyf wedi adnabod Katherine Bennett ers blynyddoedd lawer ac wedi trafod y mater hwn a materion eraill gyda hi. Rwyf hyd yn oed wedi bod i Toulouse ac wedi cyfarfod ag uwch-reolwyr a gweithwyr yno, rhai ohonynt wedi dod o Frychdyn ac yn gweithio ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn Toulouse.

Ar ôl cyhoeddiad Airbus ddydd Gwener, cefais e-bost gan gyflogai o Airbus a ddywedodd fod y newyddion nad oedd bargen ar y gweill i ddiogelu’r miloedd o swyddi medrus yn y DU yn Airbus a’u cyflenwyr yn peri gofid i ddweud y lleiaf. Wrth gwrs, mae’r trafodaethau’n parhau, felly fe wnes i ymateb drwy ddweud bod trafodaethau ar y cytundeb ymadael yn parhau, bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir, yn hytrach na Brexit caled, bod arni eisiau, fel y dywedodd,

gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol,

a’i bod hi wedi dweud bod yn rhaid i’r cytundeb a gawn ni gyda'r UE ddiogelu swyddi a diogelwch pobl.

Fodd bynnag, o ystyried y negeseuon cymysg a'r pryder bod gweithwyr wedi cael y neges bod trafodaethau ar ben, nad oes bargen yn cael ei tharo ac y gallent felly fod mewn trafferth, beth rydych chi'n mynd i'w wneud i helpu cydbwyso eu dealltwriaeth—ie, deall y risgiau, ond hefyd deall y sefyllfa ehangach? Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod y Cyngor Ewropeaidd fis Rhagfyr diwethaf wedi cytuno bod digon o gynnydd wedi'i wneud yn ystod cam 1 y trafodaethau Brexit gyda'r UE i ganiatáu dechrau ar gam 2 y  trafodaethau.

Ym mis Mawrth, tarodd negodwyr yr UE a'r DU fargen wleidyddol ynglŷn â thelerau cyfnod pontio Brexit mewn cytundeb ymadael drafft newydd, a dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain fod hyn yn garreg filltir yr oedd llawer o fusnesau ledled y DU wedi bod yn aros amdani, a bod y cytundeb o gyfnod pontio 'status quo' yn newyddion gwych i gwmnïau masnachu ar y ddwy ochr i’r sianel, gan fod hynny'n golygu na fydd dim neu fawr ddim newid i’r busnes o ddydd i ddydd yn y tymor byr.

A wnewch chi ymuno â mi i bwysleisio i'r gweithwyr hynny ym Mrychdyn fod Llywodraeth y DU fis diwethaf wedi cytuno y bydden nhw’n dweud wrth yr UE eu bod nhw’n dymuno ymestyn aelodaeth Prydain o'r undeb tollau y tu hwnt i'r cyfnod pontio cychwynnol, nes y gellir rhoi trefniadau ar waith ar gyfer pa bynnag gytundeb tollau a gaiff ei ffurfio yn unol â'r cytundeb hwnnw, ac i ddweud wrthynt fod datganiad ar y cyd gan negodwyr yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd trafodaethau o dan Erthygl 50 ar 19 Mehefin, yr wythnos diwethaf, wedi dweud:

Mae'r datganiad yn nodi manylion y Cytundeb drafft lle daethpwyd i gytundeb bellach o ran y negodwyr, yn ogystal â'r meysydd hynny lle mae cynnydd pellach wedi’i wneud?

Ac mae rhestr hir o feysydd lle ceir cytundeb eisoes. Daethant i'r casgliad: 

bydd y cynnydd a gofnodwyd yn y datganiad hwn yn cyfrannu at gwblhau'r Cytundeb Ymadael,

a

bod y negodwyr yn ymrwymo i wneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar bob agwedd sy’n angenrheidiol er mwyn dod i gytundeb o'r fath.

Onid yw hi, felly, yn hanfodol ein bod ni’n cydbwyso hyn drwy sicrhau bod y gweithlu yn gwybod bod y trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt, yn gwybod bod cyfnod pontio wedi'i gytuno, yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn cydnabod, bellach yn unfrydol, bod angen ymestyn y cyfnod pontio i ymestyn yr undeb tollau, am y rhesymau rwyf yn eu disgrifio, ac yn gwybod bod Greg Clark, Ysgrifennydd busnes a diwydiant y DU, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, dim ond ddoe, wedi dweud wrth wrandawiad yn Senedd y DU bod cytundeb yn gwbl bosib sy'n sicrhau nad oes unrhyw fygythiad y gellir ei osgoi o ran gwrthdaro a thariffau, ac mai dyna beth ddylai'r holl bleidiau seneddol ei gefnogi yn y misoedd i ddod?

Rwy’n falch bod Mark Isherwood wedi trafod y mater hwn gydag uwch is-lywydd Airbus UK a llawer o reolwyr eraill ym Mrychdyn ac yn Toulouse. Rwy'n tybio y bydd bron bob un o’r uwch weithredwyr hynny wedi anghytuno â’r Aelod dros y bleidlais i adael yr UE. Ac mae arnaf ofn, os na fydd newid cyfeiriad, na fydd y gweithwyr Airbus hynny o’r DU y bydd wedi cwrdd â nhw yn Toulouse yn gallu mynd ar awyren ar amrantiad i fynd i unrhyw un o gyfleusterau Ewropeaidd Airbus fel y maen nhw’n gallu nawr, ac mae hynny'n ffactor hanfodol y mae angen i’r cwmni ei ystyried o ran lle maen nhw'n buddsoddi. Mae arnyn nhw angen y sicrwydd, pan fydd nam yn datblygu, pan fydd angen gwaith cynnal a chadw, eu bod nhw’n gallu anfon pobl fedrus, arbenigwyr, technegwyr, ar unwaith. Mae arnaf ofn, yn seiliedig ar y trafodaethau sydd wedi'u cynnal hyd yn hyn, na fydd modd rhoi’r sicrwydd hwnnw iddyn nhw.

Nid wyf yn credu bod cyflogeion wedi cael negeseuon cymysg gan Airbus. Allai Airbus ddim bod wedi bod yn fwy eglur yn yr hyn a ddywedasant ddydd Gwener diwethaf. Rwy’n credu mai Llywodraeth y DU sy'n anghyson o ran y negeseuon a'r trafodaethau sy'n digwydd. Er fy mod i wedi cael cais i gysuro gweithwyr Airbus ynglŷn â thrafodaethau Brexit, mae arnaf ofn nad oes gen i negeseuon cynnes o gysur am y trafodaethau, oherwydd oni bai bod Theresa May yn gallu lliniaru ar y safbwyntiau hynny y mae hi’n cydio mor dynn ynddyn nhw, mae arnaf ofn y gallai fod yn drychinebus i bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector awyrofod yn y DU. Oes, mae trafodaethau parhaus yn mynd rhagddynt, ond y safbwyntiau sy'n atal y math o fargen rydym ni’n credu ei bod er lles hanfodol y diwydiant awyrofod—[Torri ar draws.]

Mae arna i ofn bod yr Aelod yn dal taflen o bapur â llawer o eiriau arni. Pe bai’n darllen am yr effaith—mae'n ddogfen hirach, ydy—ond pe bai’n darllen am effaith Brexit ar Airbus efallai y byddai wedi dod i gasgliad gwahanol pan gynhaliwyd y refferendwm. Dewch inni atgoffa’r 6,500 o weithwyr hynny yn Airbus ym Mrychdyn bod aelod y Blaid Geidwadol dros ogledd Cymru wedi ymgyrchu’n galed ar i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

16:20
6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr'. Rwy'n galw ar Julie James i wneud y datganiad hwnnw—Julie.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym yn cyhoeddi ein cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr', sy'n nodi ein hymrwymiadau i wella cyfle cyfartal a chau'r bylchau mewn canlyniadau a brofir gan yr holl bobl a gaiff eu cwmpasu gan ein cynllun. Mae'r cynllun yn ceisio dangos ehangder y camau gweithredu y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i alluogi unigolion yn ein cymunedau i gyflawni eu potensial a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol.  

Yr enw yr ydym ni wedi'i roi ar ein cynllun newydd yw 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr' i gydnabod dwy thema allweddol. Yn gyntaf, mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn aml yn meddu ar sgiliau a phrofiadau datblygedig, safbwyntiau unigryw a gwerthfawr a moeseg entrepreneuraidd gref. Nid yw ein systemau a'n prosesau bob amser mor gynhwysol ag y byddem yn ei hoffi, gan arwain at fethiant i wireddu potensial unigolion a'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Rydym yn dymuno sicrhau ein bod ni'n galluogi pawb yn ein cymunedau i gyflawni eu potensial drwy brosesau mwy cynhwysol a gwell dealltwriaeth o gyfleoedd. Yn ail, roeddem yn dymuno adlewyrchu'r amrywiaeth o ddiwylliannau a grwpiau ethnig o fewn y grŵp o unigolion y gallai bod Llywodraethau eraill efallai yn eu rhoi nhw i gyd i dan y faner 'teithwyr'. Gall y term hwn gynnwys llawer o grwpiau gwahanol, ac rydym yn cydnabod y gall fod yna wahaniaethau diwylliannol dwys rhwng rhai unigolion. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Sipsiwn Romani, Teithwyr Gwyddelig, Roma neu Deithwyr Newydd. Mae'r amrywiaeth hon yn bwysig i aelodau'r gymuned ac roedd yn bwysig adlewyrchu hyn yn ein cynllun. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae grwpiau yn aml yn profi problemau tebyg megis gwahaniaethu, ymyleiddio, iechyd neu ganlyniadau addysgol gwaeth ac angen am well cyngor a chymorth eiriolaeth. Dywedwyd yn enwog gan y diweddar Arlywydd Tsiec, Václav Havel, bod y driniaeth o Sipsiwn yn brawf litmws ar gyfer cymdeithas sifil. Mae'n rhaid inni sicrhau y cyflawnwn ein hymrwymiad i Sipsiwn, Roma a Theithwyr os ydym i fod yn gymdeithas deg a chyfiawn.

Mae'r cynllun hwn yn disodli fframwaith gweithredu a chynllun cyflenwi 'Teithio at Ddyfodol Gwell', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011. 'Teithio at Ddyfodol Gwell' oedd strategaeth gyntaf y DU wedi'u hanelu'n benodol at wella'r canlyniadau a brofir gan Sipsiwn a Theithwyr. Wrth inni gyhoeddi ein cynllun newydd, ni yw'r unig genedl yn y DU sydd â  chynllun pwrpasol i gefnogi ein cymunedau. Ers 2011, rydym wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o ardaloedd, ond mae llawer eto i'w wneud. Rydym wedi deddfu i sicrhau bod gan drigolion safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau sicrwydd deiliadaeth ac i sicrhau bod awdurdodau lleol yn asesu yn iawn yr angen am safleoedd ychwanegol yn eu hardal. Rydym wedi buddsoddi tua £18 miliwn i ddatblygu ac adnewyddu safleoedd ac rydym wedi ymrwymo £20.3 miliwn yn ychwanegol erbyn diwedd  2021. Er ei fod yn arafach nag y byddem yn ei hoffi, mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â hyn. Rhwng 2014 a 2021 rydym yn disgwyl y byddwn wedi ariannu mwy na 200 o leiniau newydd, o'i gymharu â dim ond llond llaw yn y cyfnod rhwng 1997 a 2014—cyflawniad mawr.

Mae gennym hefyd fwy o ddisgyblion o'r cefndiroedd hyn ar gofrestrau ysgolion nag erioed o'r blaen, sy'n hollbwysig er mwyn sicrhau y gall aelodau'r cymunedau gael mynediad at gyfleoedd drwy gydol eu bywydau a bod gwahaniaethu yn cael ei herio. Mae cyrhaeddiad addysgol yn dal i lusgo ar ôl grwpiau eraill ac mae mwy i'w wneud i sicrhau bod ysgolion a cholegau yn amgylcheddau cynhwysol a bod cymunedau'n gweld mantais addysg oedran uwchradd. Gwyddom fod Sipsiwn a Theithwyr hefyd yn profi canlyniadau iechyd gwaeth na grwpiau eraill, ac rydym yn gweithio i newid hyn. Dylai pob bwrdd iechyd fod yn cynnal asesiadau o anghenion iechyd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, i ddeall proffil iechyd eu cymunedau lleol yn well a thargedu ymyriadau yn briodol. Rydym hefyd yn cyflwyno categori iechyd ethnig Sipsiwn a Theithwyr i gasglu data GIG er mwyn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o'r canlyniadau a brofir gan ein cymunedau dros amser.

Mae i ba raddau y mae safleoedd ar gael yn fater pwysig a all rwystro Sipsiwn a Theithwyr rhag cael gafael ar lety cynaliadwy, a chael effaith ar gydlyniant cymunedol. Heddiw, rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr cynllunio newydd, sy'n disodli ein cylchlythyrau blaenorol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r cylchlythyr yn sicrhau bod yr ystyriaeth a roddir i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr drwy'r system gynllunio yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a chanllawiau ehangach Llywodraeth Cymru ar Sipsiwn a Theithwyr dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys darpariaethau yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Yn ychwanegol at y materion hyn, mae'r cynllun newydd yn canolbwyntio ar gyngor a chefnogaeth eiriolaeth, herio gwahaniaethu a throseddau casineb, gwella cyflogadwyedd unigolion, hyrwyddo sgiliau hanfodol a hyfforddiant, a materion eraill.

Mae'r cynllun newydd hefyd yn cynnwys y gymuned Roma am y tro cyntaf. Er y cafwyd safbwyntiau cymysg ynglŷn â chynnwys y gymuned hon yn y cynllun, rydym yn teimlo ei bod yn briodol gwneud hynny, gan bwysleisio'r gwahaniaethau pwysig rhwng y cymunedau. Drysir rhwng Roma a Sipsiwn Romani yn rheolaidd mewn adroddiadau yn y cyfryngau, ond yn aml mae ganddynt wahanol ddiwylliannau, iaith, dewisiadau llety a chrefydd, ac maent yn wahanol i'w gilydd mewn ffyrdd eraill hefyd. Fodd bynnag, mae'r grwpiau hyn yn cael eu huno gan achau cyffredin ac mae'r ddau yn dioddef stereoteipio a gwahaniaethu. Mae'r ddau grŵp yn cael eu hymyleiddio yn ein cymdeithas ac yn wynebu rhwystrau i wireddu eu gwir botensial.

Wrth ddatblygu camau gweithredu, rydym wedi ceisio atal y problemau mwyaf niweidiol sy'n wynebu Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, iechyd gwael, llety gwael a throseddau casineb. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd calonogol mewn rhai o'r meysydd hyn, ond mae llawer o waith i'w wneud i wella canlyniadau. Mae'r cynllun yn ffurfio rhan bwysig o'r nod tymor hir i sicrhau y gall ein cymunedau gyflawni cyfle cyfartal a gwireddu eu potensial. Mae'r cynllun hefyd yn ddatganiad o'n pwyslais parhaus ar feithrin cysylltiadau da rhwng y grwpiau hyn a'r gymdeithas ehangach. Ar hyn o bryd, mae'n fis hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac rwyf am gydnabod cyflawniadau ein cymunedau a'u cyfraniadau cadarnhaol parhaus at gymdeithas Cymru. Mae croeso iddynt yng Nghymru a bydd y croeso hwn yn parhau. 

Yn y ddogfen hon, rydym yn esbonio beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd cyfartal a gwell cydlyniant cymunedol, ond mae llawer o sefydliadau ac unigolion eraill a all hefyd chwarae rhan yn hyn. Er enghraifft, byddwn yn annog y cyfryngau i gyflwyno adroddiadau mwy cytbwys sy'n hyrwyddo dealltwriaeth. Byddwn hefyd yn annog awdurdodau lleol i fod yn gymesur wrth wneud penderfyniadau am ddatrys gwersylloedd diawdurdod. Mae angen i gyrff cyhoeddus, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr barn fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn aml, ystyrir mai gwahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn yw'r ffurf dderbyniol olaf ar hiliaeth, ac mae'n rhaid inni herio hyn lle bynnag yr ydym yn ei weld.

Yn olaf, rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r cynllun hwn yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud trefniadau arbennig i gefnogi ein cymunedau. Yn hytrach, mae'r cynllun a'r camau gweithredu oddi mewn iddo yn ymwneud â sicrhau bod ein cymdeithas yn cynnwys pawb er mwyn i amrywiaeth o ddiwylliannau a safbwyntiau gael  ffynnu. Bydd Cymru sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein cymunedau lleiafrifol i gymryd rhan yn gyfartal—yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn rhan o'n cymdeithas am bron i 500 mlynedd—yn gryfach o ganlyniad. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i ddileu pob math o wahaniaethu, ac felly rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y cynllun newydd hwn yn llwyddiant. Diolch.

16:25

Fel y dywedais yn y fan yma ym mis Ionawr, bydd pawb ar eu colled hyd nes inni nodi a diwallu anghenion llety Sipsiwn, Teithwyr a Roma, gan alluogi darpariaeth safleoedd preswyl a thramwy awdurdodedig. Ni all fod yn dderbyniol fod, yn ôl Cyfrifiad 2011, 62 y cant o Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau, fod 51 y cant yng Nghymru a Lloegr mewn cyflogaeth o'i gymharu â 73 y cant yn gyffredinol, ac nad oes ond 70 y cant ohonynt yn disgrifio eu hunain fel bod mewn iechyd da, o'i gymharu â 81 y cant yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol.

Yn eich datganiad, rydych yn iawn i ddweud ein bod ni'n dymuno adlewyrchu'r amrywiaeth o ddiwylliannau ac ethnigrwydd. Pa ystyriaeth, wrth edrych yn ôl, ydych chi wedi'i rhoi i adroddiad 2006 Pat Niner ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru? Credaf mai Jane Hutt wnaeth ei lansio, fel y cofiaf, yn Llandrindod, a fi oedd yr unig AC a oedd yn bresennol i'w gwylio yn gwneud hynny. Ond yn ogystal â llawer o'r materion a amlygir gennych, roeddent yn nodi hefyd fod y cymunedau amrywiol hynny yn teithio dros ardaloedd daearyddol penodedig nad oeddent yn cyfateb i ffiniau y mae'r gweddill ohonom yn byw yn eu hôl, boed y rheini'n ffiniau sirol neu'n ffiniau cenedlaethol. Felly, pa ystyriaeth a roesoch wrth i chi ddatblygu dull gweithredu gyda'r cymunedau eu hunain a'r gwahanol awdurdodau ar draws y ffiniau, er mwyn iddynt allu cytuno a chyflawni anghenion y cymunedau ar y cyd, sydd, drwy ddiffiniad, yn symud o gwmpas yr ardal honno? 

Rydych yn cyfeirio at fwy o ddisgyblion o'r cefndiroedd hyn ar gofrestrau ysgolion nag erioed o'r blaen. Rwy'n meddwl fy mod i wedi codi gyda chi o'r blaen y pryder a godwyd dros ysgol uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, pan nododd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr lleol nad oedd eu barn wedi cael ei hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a arweiniodd at gau'r ysgol, ac yn yr achos hwnnw, hi oedd yr unig ysgol bron yn y rhanbarth a oedd wedi datblygu ymddiriedaeth gyda'r gymuned honno. Daethant yn rhan o'r un gymuned ehangach. Roedd y plant yn dod i'r ysgol, yn llwyddo yn eu harholiadau, yn gwneud yn dda, yn cyflawni, a dywedodd y gymuned eu hunain y gallai hynny gael ei beryglu, y byddai hynny'n cael ei beryglu pe byddai'r ysgol yn cau, a chau y gwnaeth. Yn y dyfodol, o bosibl mewn trafodaeth â'ch cyd-weithiwr yr Ysgrifennydd addysg, pa ystyriaeth ydych chi'n mynd i'w rhoi i gyflwyno neu weithredu mesurau i atal hyn rhag digwydd eto a sicrhau bod y gymuned yn cael llais canolog pryd y gellir effeithio arnynt mewn ffordd mor gritigol?

Yn 2017, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr'. Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan rai a ymatebodd i hwnnw, yn dweud bod y cynllun yn rhy eang, heb ddigon o gamau yn gallu dangos tystiolaeth o sut y gellid eu cyflawni yn realistig, gydag un ymatebydd yn dweud nad oedd y cynllun yn newydd ond yn gasgliad o gamau gweithredu o gynlluniau eraill sydd eisoes yn bodoli, i ymgynghoriad Tros Gynnal Plant, pan ddywedodd ymatebwyr fod y cynllun newydd yn syniad da, ond eu bod dal heb eu hargyhoeddi y byddai strategaethau o'r fath mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau bob dydd, a lansio dogfen 'Teithio at Iechyd Gwell' yn 2017 i gynyddu hyder yn y system iechyd, pan ganfuwyd bod ymatebwyr mewn un bwrdd iechyd lleol wedi derbyn triniaeth wahaniaethol, gan gynnwys methu â sicrhau apwyntiad ar alwad â'u meddyg teulu, a bydwragedd yn peidio ag ymweld â safle ar gyfer archwiliadau cynenedigol?

Yn amlwg, rydych chi'n gyfarwydd iawn â sefyllfa Bangor Back Lane yng Nghonwy, y mae'r ddau ohonom wedi ymweld â hi, ac mae eich ymyriad wedi eu helpu i gymryd camau ar y ffens lliniaru sŵn. Ond maen nhw wedyn hefyd wedi ysgrifennu at eich cyd-weithiwr, yr Ysgrifennydd economi a thrafnidiaeth, ynghylch wyneb y ffordd. Maent yn deall efallai na fydd hyn yn cael ei gwblhau tan mor hwyr â mis Hydref 2022. O ganlyniad, oherwydd eu bod yn credu bod y Cyngor wedi torri addewidion ar adeg pan ddarparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru, maent yn dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol gan sŵn a straen, gan gael triniaeth ysbyty fel cleifion mewnol mewn rhai achosion. Ac maent wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cynllun manwl o'r camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y mater er boddhad y trigolion. Dwi ddim yn gwybod p'un a ydych chi'n ymwybodol o hynny ai peidio, ond os ydych, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi; os nad ydych chi, byddwn yn ddiolchgar pe gallech fynd ar drywydd hynny.

A'r pwynt olaf yr oeddwn i am ei godi—mae'n rhywbeth sydd wedi cael sylw—a byddaf yn rhoi enghraifft yn Sir y Fflint, er nad yw'n unigryw i Sir y Fflint. Yn 2011, yn sgil rhwymedigaethau i ddiwallu'r angen am safleoedd llety Sipsiwn a Theithwyr, rhoddwyd caniatâd cynllunio dros dro am bum mlynedd ar gyfer safle, oherwydd sicrwydd a roddwyd i'r arolygydd cynllunio gan Gyngor Sir y Fflint, y byddai, o fewn cyfnod hwnnw, yn diwallu'r angen hwnnw am lety. Ond oherwydd na chafodd yr angen ei ddiwallu, rhoddodd Sir y Fflint ganiatâd dros dro eto am bum mlynedd arall, er y cydnabyddir yn eang nad yw'r safle yn addas i fod yn safle parhaol, yna, wedyn, cafodd y caniatâd cynllunio dros dro ei ddiddymu yn y llys oherwydd bod Sir y Fflint wedi methu â chyflawni ei chyfrifoldeb i ddarparu darpariaeth amgen yn unol â'r ddeddfwriaeth. Felly, mewn amgylchiadau o'r fath, pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd? Wn i ddim a allwch chi wneud sylw ar yr achos unigol hwn, ond sut y gallwch chi ddylanwadu ar y sefyllfa pan mae'n ymddangos bod rhywbeth wedi mynd o'i le cymaint hyd nes iddynt orfod mynd at y llys am benderfyniad, a hynny ddwywaith?

16:30

Wel, ie, diolch i chi am y gyfres honno o sylwadau; byddaf yn gwneud fy ngorau i ymdrin â hwy. O ran pwerau Llywodraeth Cymru, nid oes gennym bwerau i ymyrryd yn y ffordd honno, ond gwn fod Mark Isherwood yn ymwybodol fy mod yn ymweld â phob awdurdod lleol a safle o amgylch Cymru, ac rwyf eisoes wedi cael un drafodaeth â Sir y Fflint. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw datblygu cynllun gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod safleoedd yn cael eu datblygu y gallwn ni helpu i'w hariannu, trwy ein rhaglen grant cyfalaf ac ati. Felly, rydym yn cynnal sgwrs, ond nid oes gennym ni bŵer uniongyrchol i'w cyfarwyddo, er enghraifft. Ac nid wyf yn siarad yn benodol am yr awdurdod hwnnw, ond unrhyw awdurdod. Felly, rydym yn gweithio llawer gydag awdurdodau lleol i nodi safleoedd addas, ac mae hynny'n fy arwain i at y pwynt am rwydwaith o safleoedd tramwy. Rydym yn awyddus iawn i weld rhwydwaith o safleoedd tramwy yn datblygu ledled Cymru erbyn 2021. Mae gennym bum ardal a nodwyd ag angen am safleoedd tramwy ac rydym yn awyddus i weld y rhain yn cael eu datblygu i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr, gan osgoi gwersylloedd amhriodol. Mae'r Aelod yn llygad ei le—rydym yn gwybod beth yw'r trefniadau teithio daearyddol ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau ar hyd y ffyrdd dan sylw i wneud yn siŵr y gallwn gael y canlyniad gorau ar gyfer hynny, ac rydym yn cynllunio trafodaethau ar draws y ffin, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o deuluoedd yn croesi rhwng Cymru a Lloegr, ac, yn wir, mae rhai teuluoedd yn symud i fyny i'r Alban ac ar draws i Iwerddon hefyd. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i ddatblygu system safle tramwy.

Rydym newydd ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar adolygiad o ddeddfwriaeth gwersylla diawdurdod. Roeddwn ychydig yn siomedig â chywair yr ymgynghoriad hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, ond rydym yn disgwyl canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw cyn ailystyried a yw ein canllawiau rheoli ar wersylla anawdurdodedig yn dal yn addas at eu diben, a byddwn yn edrych i ailgyhoeddi hwnnw, gyda golwg, fel y dywedaf, ar hwyluso ffordd o fyw gan wneud yn siŵr nad yw gwersylloedd amhriodol, a allai fod yn niweidiol i feddianwyr a'r amgylchoedd, yn cael eu goddef. Ond nid yw hynny'n wir am bob gwersyll, a lle mae safleoedd tramwy yn cael eu creu, nid yw bob amser yn gymesur neu'n angenrheidiol i adleoli gwersylloedd eraill, felly rydym am ddatblygu system sy'n galluogi ystyriaeth briodol o hawliau pob aelod o'r gymuned ac yn sicrhau y gellir datrys materion yn ymwneud â gwersylloedd gyda dyngarwch cyffredin a chysondeb. Felly, fel y dywedaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn ychydig yn bryderus am gywair ymgynghoriad diweddar y DU, ond rydym wedi ymateb i ddweud hyn. Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb brwd iawn yn hynny.

Rydym hefyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r trefniadau addysg. Rydym yn edrych i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol, wrth ystyried eu dyletswyddau, yn ystyried materion o'r fath, yn y pen draw. Mae cau ysgolion yn fater i'r awdurdod lleol, ond mae'r canllawiau yn cynnwys pwyslais ar drefniadau GIG ac addysg. Yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yw hyblygrwydd yn y trefniadau, oherwydd gyda ffordd deithiol o fyw, yn amlwg efallai y bydd angen i chi fynychu nifer o wahanol sefydliadau, yn hyblygrwydd hefyd ar gyfer y rhai sydd yn byw ar leiniau mwy sefydledig. Felly, mae amrywiaeth o ganlyniadau yr ydym yn gobeithio eu cael yn hynny o beth.

O ran Back Bangor Lane, do'n wir fe wnes i ymweld â'r safle, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. Rwy'n ymwybodol o'r mater yn ymwneud ag wyneb newydd ar y ffordd ac rwy'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch beth y gellir ei wneud am hynny—mae'n faes cymhleth iawn, fel y gwn y mae'r Aelod yn gwybod—i wneud yn siŵr y cawn yr ymateb cyflymaf posibl i’r sŵn ffyrdd y mae'n tynnu sylw ato.

16:35

Diolch am y datganiad. Rydw i wedi cael cipolwg sydyn ar y cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr', ac rydw i yn eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllun, gan ei fod o yn cynnwys gweithredu penodol ac amserlenni, yn enwedig o ran darparu safleoedd. Yn amlwg, mae yna gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw. Yn y cynllun, rydych chi'n dweud hyn:

'rydym wedi gyrru ymlaen gan roi mwy o ffocws ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae hyn yn adlewyrchu dealltwriaeth fod llawer o broblemau eraill a brofir gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn codi o ddiffyg mynediad at lety priodol'. 

Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn hynny o beth. Mae yna dystiolaeth bod awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o greu lleiniau newydd a hefyd wedi adnabod safleoedd yn eu cynlluniau datblygu lleol—dim gwaith hawdd, wrth gwrs, yn rhannol yn sgil agweddau a rhagfarnau cyhoeddus, ac mae'r cynghorau i'w llongyfarch, ar y cyfan, ar eu hymdrechion.

Buaswn i'n licio cael eich barn chi am bwysigrwydd dylunio'r lleiniau a'r safleoedd yma yn briodol. A ydych chi'n cytuno efo fi fod angen gwneud hynny mewn ffordd fwriadus, ar y cyd efo'r gymuned, er mwyn ymateb i rai o'r prif heriau sy'n wynebu'r gymuned? Rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig bod buddsoddiad digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer creu'r llefydd newydd, gan y gall hynny fod yn fwy cost-effeithiol yn y pen draw, gan arbed arian i wasanaethau cyhoeddus.

Felly, wrth ystyried safleoedd newydd, a hefyd uwchraddio safleoedd, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth i'r dylunio, achos, er enghraifft, mae dylunio bwriadus yn gallu mynd i'r afael efo problemau iechyd gwael ymhlith y gymuned yma. Mae'r gymdeithas yma, fel y gwyddoch chi, bum gwaith mwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd o'i chymharu â'r gymdeithas yn gyffredinol. Ond efallai mai prin ydy'r dystiolaeth bod cyfleusterau ar y safleoedd yn cael eu dylunio fel bod modd, er enghraifft, cynnal clinigau ar y safleoedd eu hunain, a byddai hynny, o gael llefydd addas ar gyfer ymweliadau gan weithwyr iechyd, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i gynnal brechiadau ar gyfer babanod—un enghraifft, mewn ffordd, o beth fyddai'n gallu digwydd mewn clinig ar safle, a hefyd o ran cyfleusterau addysg, yn enwedig ar rai o'r safleoedd mwy.

Mae eich cynllun chi yn dweud bod angen sicrhau bod pob safle presennol yn gwbl addas i’r pwrpas. Buaswn i'n dadlau, felly, fod angen uwchraddio llawer o'r safleoedd presennol. Yn fy mhrofiad i o ymweld ag un neu ddau o safleoedd parhaol, mae'r cyfleusterau ymhell o fod yn addas. Yn aml, mae'r lleiniau yn rhy agos at ei gilydd, nid ydy'r cyfleusterau ymolchi a'r toiledau yn ddigonol nac yn safonol, ac nid oes llecynnau chwarae addas ar gyfer y plant.

Felly, mae'n amlwg bod llawer o'r ffocws wedi bod, cyn belled, ar greu llety addas, ac mae hynny'n hanfodol, wrth gwrs, ond rydw i hefyd yn credu bod angen, rŵan, symud ymlaen i roi sylw i rai o'r prif broblemau: cyflogaeth a sgiliau, iechyd ac addysg. Ac efallai nad ydy'r cynllun mor glir nac mor uchelgeisiol ac y gallai o fod yn y meysydd hynny.

O ran cyflogaeth a sgiliau, mae sôn bod angen i gynlluniau presennol y Llywodraeth gynnig gwasanaethau i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond rhaid cofio bod y gymuned hon yn wynebu rhwystrau gwahanol i drwch y boblogaeth, ac efallai bod angen cynlluniau wedi eu teilwra yn fwy penodol ar eu cyfer nhw.

O ran addysg, rydw i'n sylwi yn y cynllun nad oes yna set o weithredoedd penodol er mwyn cynyddu cyflawniad y plant a'r bobl ifanc. Mae yna weithredoedd ynglŷn â thaclo bwlian a dysgu Saesneg, sydd, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae angen pwyslais ar godi disgwyliadau a gwell cyflawniad hefyd, efallai yn enwedig ymhlith y merched yn y gymuned yma. Felly, tra fy mod i'n eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllunio, a gaf i ofyn cwestiwn fel hyn ar y diwedd: a ydych chi'n cytuno, wrth symud ymlaen, fod angen mwy o waith a mwy o uchelgais ar y rhannau o'r cynllun sydd yn delio efo addysg, iechyd, cyflogaeth a sgiliau, ac y dylid gosod mwy o bwyslais ar yr agweddau yma i'r dyfodol?

16:40

Mae Siân Gwenllian yn cyfleu'n gywir gymhlethdod rhai o'r materion a wynebir gan y gymuned, a cheir pwyslais ar safleoedd da, llety, safleoedd tramwy a chynnal ffordd o fyw, gan hefyd gynnig y gweddusterau i bobl sy'n hanfodol ar gyfer bywyd dynol. Rwyf am bwysleisio, Dirprwy Lywydd, fod ein grantiau cyfalaf ar gael i uwchraddio safleoedd hŷn â blociau amwynderau llai, er enghraifft. Hefyd hoffwn ddweud diolch yn fawr i holl aelodau'r teuluoedd o'r gymuned hon sydd wedi fy nghroesawu i'w cartrefi â breichiau agored a'r lletygarwch mwyaf anhygoel i drafod rhai o'r materion hyn. Mae'r blociau amwynderau newydd yn fwy o lawer, yn aml mae ganddynt ystafelloedd dydd ac ati sy'n gysylltiedig â hwy, felly rwyf am bwysleisio unwaith eto, fel yr ydym wedi'i wneud, i bob awdurdod lleol, fod yr arian uwchraddio ar gael drwy grantiau cyfalaf. Rydym, wrth gwrs, yn ymgynghori â'r cymunedau ynglŷn â beth y maen nhw ei eisiau a sut y mae hynny'n gweithio, felly mae hynny'n bwysig iawn.

Hefyd rydym yn sicrhau bod holl egwyddorion cydraddoldeb a thegwch yn parhau i fod yn ganolog i gyflawniad ein cynlluniau eraill, y mae hwn yn eu hategu, felly derbyniaf bwynt Siân Gwenllian am gyflogadwyedd a sgiliau, er enghraifft, a rhai o'r materion eraill a godwyd ganddi. Fe fydd yn ganolog i'n cynllun cyflogadwyedd newydd ein bod yn hyrwyddo ystyriaeth o anghenion yr holl grwpiau gwarchodedig, a byddaf yn trafod â'm cyd-Weinidogion ynghylch y ffordd orau i sicrhau bod hynny wedi'i wneud, a hefyd ein bod yn ariannu cynlluniau cyflogadwyedd yn benodol mewn cymunedau sydd â lefelau penodol o angen, fel eu bod yn cael eu teilwra mewn ffordd benodol, oherwydd bod gan y gymuned hon ofynion penodol iawn. Rwyf hefyd yn falch bod y cynllun newydd yn golygu y bydd Busnes Cymru yn gallu cefnogi'r cymunedau hyn i sefydlu eu busnesau eu hunain, sef yn aml iawn yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud mewn gwirionedd.

Rwyf am bwysleisio dau beth arall a gododd yng nghyfraniad Siân Gwenllian. Dwi wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl ifanc hefyd ar y safleoedd hyn, ac mae'r mater o ardaloedd chwarae yn codi. Ac, unwaith eto, Dirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio i awdurdodau lleol, er fy mod yn gwybod eu bod yn ymwybodol, ond mae'n werth ei ailddatgan, y gellir defnyddio grant cyfalaf i uwchraddio pethau fel cyfleusterau chwarae ac ati. Ond rydym hefyd yn awyddus nad ydym yn creu set o amwynderau hollol ar wahân.  Felly, pan mae ardal chwarae addas ar gyfer safle penodol gerllaw, rydym am sicrhau bod llwybrau mynediad diogel at yr ardal chwarae honno, a llwybrau mynediad diogel i ysgolion ac ati, fel nad ydym ni yn gwneud y cymunedau yn ynysig chwaith, oni bai bod diffyg cyfleusterau chwarae o fewn cyrraedd rhesymol.

Pwysleisiwyd i mi hefyd fod canlyniadau anfwriadol, weithiau, i rai o'n polisïau eraill ynghylch llwybrau mwy diogel i ysgolion ac ati, ac rydym yn gweithio'n galed iawn ar y materion gyda'r cymunedau dan sylw, oherwydd gwyddom, yn achos cymuned sy'n wynebu rhwystrau, fod angen inni weithiau wneud yn siŵr bod pob rhwystr y mae modd i ni ei reoli mor fach â phosibl, er mwyn sicrhau cyfranogiad parhaus mewn addysg a sgiliau a hyfforddiant ac ati. Felly, mae'n faes cymhleth, ac mae dymuniadau a dyheadau'r cymunedau yr ydym yn ceisio eu helpu wrth wraidd ein cynllun.

16:45

Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ, ac am gyhoeddi eich cynllun newydd. Rhaid imi ddweud cyn dechrau fy mod bob amser wedi cael llawer iawn o gydymdeimlad â Theithwyr, Sipsiwn, Roma a chymunedau eraill o'r fath—credaf eu bod wedi eu trin yn wael iawn dros y blynyddoedd. Mae Llywodraethau olynol wedi gwneud eu ffordd o fyw yn amhosibl bron, drwy ddileu safleoedd traddodiadol, cael gwared ar dir comin, a'u dwyn i wrthdaro â'r cymunedau y maent yn teithio drwyddynt ac y maent am ymgartrefu dros dro ynddynt. Felly, rwy'n croesawu eich ymdrechion i gefnogi'r cymunedau hynny a hwyluso'r dull hwnnw o fyw.

Yn y pen draw, rydym yn dymuno cefnogi dewisiadau unigol pobl—cyn belled nad ydynt yn niweidio neb arall—ac rwy'n credu, wyddoch chi, fod y cymorth yr ydych chi'n ceisio ei gynnig i'r Teithwyr a Sipsiwn yn gymeradwy, yn enwedig yr ymgais i ddarparu safleoedd gwersylla ar eu cyfer, a mannau aros yn y gaeaf ar gyfer siewmyn ac ati.

Rwyf hefyd yn falch o weld pwyslais bwriadedig ar gael dull sy'n canolbwyntio ar unigolion. Efallai fod y cymunedau hyn ar wahân yn gyffredinol i eraill, ond mae pob cymuned yn cynnwys unigolion sydd â'u hanghenion penodol eu hunain, felly rwy'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny.

Rwyf hefyd yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn sôn am integreiddio Sipsiwn, Roma a chymunedau Teithwyr eraill. Fel y dywedais, mae gweithredoedd Llywodraethau ac awdurdodau lleol dros y blynyddoedd wedi llwyddo i rannu'r cymunedau hynny oddi wrth eraill, ac mae popeth y gellir ei wneud i integreiddio'r ddau, i gael y cymunedau gwahanol hyn yn siarad â'i gilydd, yn cydweithredu â'i gilydd ac yn deall ei gilydd yn well i bawb, felly croesawaf eich amcan o integreiddio. Ond a allwch chi roi manylion am y gwaith a gaiff ei wneud i feithrin cysylltiadau rhwng y cymunedau Teithwyr a phobl leol?

Nodaf fod y cynllun mwyaf newydd yn disodli'r un a gyhoeddwyd yn 2011. A all arweinydd y tŷ grynhoi'r gwersi a ddysgwyd o weithredu'r cynllun blaenorol? Beth oedd llwyddiannau'r cynllun hwnnw? Beth oedd y methiannau? A sut ydych chi'n adeiladu ar y profiad hwnnw ar gyfer y cynllun newydd hwn, a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol? Dywed arweinydd y tŷ y bu'r cynnydd yn arafach nag y byddai hi wedi'i ddymuno. O ble'r ydych chi'n meddwl y mae'r rhwystrau hyn i gynnydd yn dod? Pa fesurau ydych chi'n eu cymryd, ar y cyd ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a'r gwasanaeth iechyd, i oresgyn y rhwystrau hynny a chyflawni'r amcanion clodwiw iawn o'r cynllun diwethaf a'r un newydd hwn?

Ac yna, gan droi at gyfleoedd addysgol plant o gymunedau Teithwyr, Roma a Sipsiwn, sylwaf eich bod yn cyfaddef—mae'n debyg y byddai pawb yn cytuno â chi—fod perfformiad y plant hyn yn dal i lusgo ar ôl plant eraill ac nid yw hynny'n dderbyniol. Un peth yw nodi hyn, ond nid yw'n broblem newydd, a thynnwyd sylw ati yn flaenorol. Gwnaed addewidion i roi sylw i'r broblem, ond pa fesurau ymarferol fyddwch chi'n eu rhoi ar waith yn awr i annog ymgysylltiad ag addysg a phresenoldeb yn yr ysgol, yn enwedig ar gyfer merched o gymunedau Teithwyr a Roma? Hynny yw, weithiau mae ar y merched angen help ychwanegol. Diolch.

Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Rydych chi wedi amlygu rhai o'r cymhlethdodau o ran ymdrin ag amrywiaeth o bobl sydd â gwahanol ffyrdd o fyw, disgwyliadau gwahanol a chanlyniadau gwahanol y mae pob cymuned benodol yn dymuno eu cael. Byddaf yn ceisio ymdrin â rhai o'r rheini.

Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i Siân Gwenllian—mae Michelle Brown wedi cyffwrdd â'r peth hefyd—fod  llawer o'r cymunedau hyn mewn gwirionedd yn dymuno datblygu eu safleoedd eu hunain, ac felly rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r adrannau cynllunio ac awdurdodau lleol i hwyluso hynny, lle bo'n bosibl. Felly, er y ceir safleoedd a ddarperir gan awdurdodau lleol, mae llawer o aelodau o'r gymuned yn awyddus i ddatblygu eu safleoedd eu hunain, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau hynny.

Gwnaethoch ofyn am rai o'r rhwystrau, ac fe wnes i sôn am safleoedd tramwy. Cafwyd anawsterau penodol wrth ddatblygu safleoedd tramwy oherwydd ffiniau awdurdodau lleol, sy'n arbennig o broblematig mewn rhai ardaloedd. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn gydag amrywiaeth o awdurdodau lleol ac, fel y nododd Mark Isherwood, ar hyd llwybrau tramwy hysbys i wneud yn siŵr y gallwn roi hynny ar waith, ond mae hynny wedi bod yn arafach nag y byddem wedi'i ddymuno. Rydym yn rhoi pwyslais o'r newydd ar hynny.

O ran rhai o'r pethau eraill, rydym yn gweithio yn galed iawn ar gyfer cynhwysiant ac i ddatblygu ffyrdd gwahanol o weithio fel, os oes gennych rywun â ffordd deithiol o fyw, yna mae gennych ffyrdd hyblyg o sicrhau eu bod yn aros mewn cysylltiad. Felly, rydym yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wneud hynny, i sicrhau y gallwn ni dderbyn plant yn gyflym i ysgolion lleol, er enghraifft, neu i feddygfeydd, ac rydym yn gweithio yn galed iawn ar hynny.

Dirprwy Lywydd, rwy'n meddwl ei bod yn eithriadol o bwysig hefyd, fel y crybwyllodd Michelle Brown, i ddweud ein bod yn gwybod bod llawer o Sipsiwn a Theithwyr yn dal i wynebu lefel o droseddau casineb a gwahaniaethu eraill, sydd yn gwbl annerbyniol, ac rwyf eisiau annog unrhyw un yr effeithir arnynt gan droseddau casineb i adrodd amdano a cheisio cymorth drwy gysylltu â'u heddlu lleol ar 101, neu 999 os yw'n argyfwng; ac i dynnu sylw at y ffaith ein bod yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn darparu cymorth emosiynol, ymarferol ac eiriolaeth ar gyfer unrhyw un sy'n cael eu heffeithio  gan unrhyw un o'r materion hynny.

Rydym hefyd yn ariannu, fel y gofynnodd Michelle Brown, y prosiect Teithio Ymlaen i roi cymorth i Sipsiwn a Theithwyr dan dair thema ar wahân, ac un ohonynt yw gwrth-wahaniaethu. Teithio Ymlaen yw'r ganolfan adrodd trydydd parti i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr i feithrin hyder i adrodd am y troseddau y maent yn eu profi yn y modd hwn. Rydym hefyd yn ariannu wyth cydgysylltwr cydlyniant cymunedol rhanbarthol ledled Cymru, mae eu cynllun gwaith yn cynnwys ystyried cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac maent yn cydgysylltu cymorth ar gyfer dealltwriaeth y cyhoedd o faterion yn ymwneud â datblygu safleoedd. Maent yn cynhyrchu deunyddiau sy'n chwalu'r mythau ac yn darparu hyfforddiant i aelodau etholedig mewn awdurdodau lleol, sy'n edrych ar gynlluniau i gefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

16:50

Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. Rwy'n meddwl ei bod yn galonogol iawn clywed ein bod ni wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y cynllun hwn, oherwydd credaf ei bod yn un eithriadol o bwysig. Fel y dywedwch, mae hwn yn brawf litmws gwirioneddol o p'un a ydym yn gymdeithas wâr ai peidio. Dywedwch hefyd yr ystyrir mai gwahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn yw'r ffurf dderbyniol olaf o hiliaeth, ac yn amlwg mae angen inni fynd i'r afael â hynny.

Mae gennyf ddiddordeb eich clywed chi'n annog pobl i ddweud wrth yr heddlu am unrhyw wahaniaethu a ddioddefant. Cefais fy ysgwyd braidd i ddarllen am arolwg a wnaed gan y mudiad Teithwyr yn ddiweddar, gyda gwahanol heddluoedd, am yr agweddau ymysg rhai heddluoedd a'r diffyg sylw dyledus ar gyfer eu dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus mewn perthynas â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r arolwg hwn a materion eraill sydd wedi cael eu datgelu yn mynd i gael eu cyflwyno i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ddydd Gwener. Does gen i ddim syniad a oes unrhyw un o heddluoedd Cymru yn cymryd rhan, ond yn amlwg, pe byddai unrhyw achosion sy'n peri pryder, byddai angen i ni nodi hynny. Mae'n arbennig o bwysig ar hyn o bryd, pan fo Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu haflonyddu ar draws Ewrop, yn enwedig, yn anffodus, yn yr Eidal yn fwyaf diweddar, lle y mae yna hyd yn oed ymdrechion i lanhau ethnig, sy'n beth cythryblus iawn.

Hoffwn droi yn awr at y pwyntiau pwysig yr ydych yn eu gwneud ynghylch sicrhau bod Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn gwneud yn dda mewn addysg, oherwydd rwy'n cofio bod y cyflawniad ymhlith Sipsiwn a Theithwyr yn waeth o lawer nag unrhyw grŵp lleiafrifoedd ethnig arall. Rwyf am dynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir yn Ysgol Uwchradd Cathays, sydd mewn gwirionedd yn etholaeth Julie Morgan, ond mae yn ymyl fy un i, ac mae llawer ohonynt yn byw mewn gwirionedd yng Nghaerdydd Canolog. Mae Patrik Bandy yn Roma o'r Weriniaeth Tsiec, a ymunodd ag ysgol uwchradd Cathays ym mlwyddyn 8. Cyflawnodd ef A ac A* mewn celf a dylunio a thecstilau TGAU. Yna aeth ymlaen i gymryd tair lefel A, ac yna roedd prifysgolion niferus eisiau rhoi lle iddo oherwydd rhagoriaeth ei waith. Mae newydd orffen ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac mae eisoes wedi cynnal sioeau ffasiwn, ac yn amlwg mae'n mynd i fod yn rhywun yr ydym yn mynd i glywed amdano yn y dyfodol.

Yn ail, mae Cynthia Kandurova yn Roma o'r Weriniaeth Tsiec sydd yn rhagori ar hyn o bryd mewn lefel A Saesneg yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gobeithio darllen llenyddiaeth Saesneg yn y Brifysgol yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn adlewyrchu'r gwaith gwych a wneir gan athrawon yn Ysgol Uwchradd Cathays, gyda chefnogaeth y grant lleiafrifoedd ethnig. Felly, tybed pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynghylch parhau â'r grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig, oherwydd credaf ei fod yn bwysig iawn, iawn—yn arbennig os oes gennym ni'r disgyblion yn dod i mewn yn ystod y flwyddyn, mae angen inni roi cymorth ychwanegol iddynt i sicrhau eu bod yn ymgartrefu yn eu sefydliad addysg.

Hoffwn ofyn a oes unrhyw awdurdodau lleol sydd yn gwrthsefyll sefydlu safleoedd newydd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma, a Theithwyr, oherwydd rwy'n cofio cael sgyrsiau â Carl Sargeant am hyn pan oeddem yn pasio deddfwriaeth berthnasol, ac roedd yn gwbl bendant bod angen inni sicrhau bod safleoedd ym mhob awdurdod lleol, nid dim ond y rhai da—ym mhob awdurdod lleol.

16:55

Ie, diolch am y gyfres graff honno o gwestiynau. Rydym yn ymwybodol o effaith bosibl Brexit ar hawliau a statws Roma o aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ac yn amlwg rydym yn gweithio i ddeall yn well beth yw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyfleu gwybodaeth am y broses statws preswylydd sefydlog i gymunedau penodol, oherwydd mae'r rhain yn gymunedau sy'n ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth o'r math cywir beth bynnag. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod y negeseuon hynny wedi mynd allan a bod pobl yn cael cymorth i wneud cais am statws fel y mae'n ofynnol iddynt wneud. Ond yn amlwg, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'n union sut y bydd y system statws preswylydd sefydlog yn gweithio, mae potensial ar gyfer negeseuon anfwriadol ddryslyd ac mae llawer yn y gymuned yn amheus o negeseuon dryslyd gan swyddogion, beth bynnag. Felly, byddwn eisiau gweithio'n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan ddinasyddion o aelod-wladwriaethau eraill yr UE, eu bod yn sicrhau'r statws, ac rydym yn dymuno iddynt aros yma a ffynnu gyda ni. Felly, rydym am wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei alluogi cymaint â phosibl.

O ran addysg, rydym wedi darparu arian ychwanegol eleni. Yn amlwg bu rhai problemau ynglŷn â hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei dargedu mewn ffordd, ond dyma'r anhawster a'r sgwrs barhaus ynghylch cyllid sydd wedi'i neilltuo a heb ei neilltuo. Rydym yn dymuno i'n hawdurdodau lleol allu ymateb i anghenion eu hardaloedd, ac mae dadl hir a chymhleth am sut y mae awdurdodau lleol yn gwneud hynny. Ond rydym wedi darparu £8.7 miliwn y flwyddyn ariannol hon i helpu gyda hynny, ac rydym yn sicr yn gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr, Rebecca Evans yn benodol, ar wneud yn siŵr bod gennym y canllawiau cywir ar waith i gefnogi'r bobl fwyaf ymylol sy'n cael budd o'r holl grantiau hynny.

Ceir cyfres gyfan o faterion eraill ynglŷn â Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf tai wedi bod yn allweddol wrth gymell awdurdodau lleol ac rydym ni'n falch iawn ohoni, ond mae problemau ynghylch, os nad oedd awdurdod lleol yn nodi unrhyw angen yn ei ardal oherwydd nad oes ganddo boblogaeth sefydlog o Sipsiwn, Teithwyr neu Roma, yna a oes rhai o'r materion yn ymwneud â safleoedd tramwy i'w hystyried wedyn. Fel y dywedais, mae ôl-ddoethineb yn beth rhyfeddol, felly rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i oresgyn rhai o'r materion hynny. Ond ar hyn o bryd, mae gennych ddyletswydd os oes angen cydnabyddedig, felly rydym yn gweithio ar draws Cymru i sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu nodi'n gywir ac mae gennym y grant cyfalaf i gynorthwyo â datblygu'r safleoedd hynny.

Fel y dywedais, rwyf  eisoes wedi sôn am y gweithwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, ac roeddwn eisiau talu teyrnged i rai o'r bobl sydd wedi gweithio'n galed iawn gyda dysgwyr Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Rydym yn gwybod bod cyrhaeddiad yn dal i lusgo ar ei hôl hi, ond hoffwn dalu teyrnged i'r gweithlu sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i ennyn diddordeb y gymuned ac i gael y merched ifanc yn arbennig i gymryd rhan yn y broses ddysgu. Cyfarfûm gyda Julie Morgan, y diwrnod o'r blaen, â set o ddysgwyr ifanc nad oeddent yn sicr yn swil o leisio rhai o'u pryderon. Roedd yn bleser gwirioneddol, felly mae'n hyfryd clywed yr enghreifftiau a roesoch o beth y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.

Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau ei hymrwymiad i wneud Cymru yn gymdeithas gyfartal i bawb, gan gynnwys y rhai mwyaf ymylol, fel y dywedodd arweinydd y tŷ. Roeddwn yn arbennig o falch eich bod wedi dechrau eich datganiad drwy gydnabod yr ysbryd entrepreneuraidd cryf sydd gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r safbwyntiau gwahanol, a'r ffaith y ceir amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau ac ieithoedd.

Credaf ei bod yn iawn i gynnwys Roma yn y strategaeth hon. Nid wyf yn gwybod p'un a ydych chi'n gallu dweud mwy am y trafodaethau yr ydych wedi'u cael ynghylch hynny, oherwydd gwn ei fod yn fater cymhleth.

Croesawaf hefyd y gwaith i ddatblygu safleoedd a'r arian sy'n mynd i gael ei roi i mewn, a chroesawaf y diogelwch o ran deiliadaeth a'r cynigion ar gyfer safleoedd tramwy. Rwyf hefyd yn falch bod arweinydd y tŷ yn dweud bod y Llywodraeth am fod yn fwy cymesur ynghylch datrys materion yn ymwneud â gwersylloedd anawdurdodedig. Cefais lythyr gan ferch ifanc, 15 mlwydd oed, Sipsiwn/Teithwyr. Dwi ddim yn gwybod a anfonodd lythyr at arweinydd y tŷ yn ogystal, ond roedd yn llythyr llawn teimlad. Mae hi'n dweud sut y caiff miliynau eu gwario yn symud teithwyr o safleoedd anghyfreithlon yn hytrach na'i wario'i ar addysg. Dywed 'A ydych chi'n credu y byddem yn byw ar diroedd anghyfreithlon pe byddem yn cael ein haddysgu, yn hytrach na chael ein labelu yn dramp, gyppo, pikey a lleidr cyn i chi hyd yn oed wybod pwy ydym a cheisio ein deall?' Rhan o'i llythyr oedd hwnnw, a chredaf, os ydych yn edrych arno o safbwynt plentyn, person ifanc, ac yn gweld y swm o arian sy'n cael ei wario ar symud pobl yn eu blaenau—. Felly, rwy'n falch eich bod wedi dweud eich bod chi'n mynd i annog awdurdodau lleol i ymateb mewn ffordd fwy cymesur.

Felly, credaf fod yna gynnydd, sy'n wych, ond mae'n amlwg bod meysydd o bryder hefyd. Ceir pryderon am y canlyniadau iechyd gwael a grybwyllwyd eisoes. Yn y grŵp trawsbleidiol a gadeiriaf, rydym wedi clywed llawer o enghreifftiau o Sipsiwn a Theithwyr yn wynebu rhagfarn, mewn gwirionedd, pan maent yn ceisio cael mynediad at ofal iechyd, felly credaf fod llawer mwy i'w wneud yn y maes hwnnw. Ond mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, fod gweithwyr iechyd rheng flaen proffesiynol i gyd yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ac mi wn fod hyn yn y cynllun gweithredu. Credaf felly, ei bod yn bwysig iawn inni wneud hynny a hefyd ein bod ni'n gallu mesur ar ôl i hynny gael ei wneud ac i gadw golwg ar sut y mae'n mynd.

Croesawaf hefyd y cynllun i ddod o hyd i wasanaethau arbenigol ar gyfer menywod Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd angen cymorth arbenigol oherwydd eu bod nhw'n ddioddefwyr trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol—credaf fod hynny'n bwysig iawn.

Ac yna, i fynd ymlaen at addysg, oherwydd, wrth gwrs, mae addysg wedi'i chodi'n aml y prynhawn yma, yn amlwg mae gennym y nod o wella canlyniadau addysgol. Fodd bynnag, mae llawer o bryder ymhlith y gymuned Sipsiwn a Theithwyr a'u cefnogwyr am beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth addysg i deithwyr, y mae, mae'n ymddangos, rhai awdurdodau lleol yn cael trafferth i barhau i'w ariannu.

Gwn fod gan wasanaeth addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr Castell-nedd Port Talbot ddeiseb ynghylch y toriadau i'r gyllideb addysg, sy'n effeithio ar y gwasanaeth. Rwy'n deall bod llawer o staff mewn awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu'r bygythiad o golli eu swyddi yn y gwasanaeth hwn. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod mor bwysig wrth gefnogi pobl ifanc Sipsiwn a Theithwyr, a chredaf mewn gwirionedd mai dim ond oherwydd y gwasanaeth hwnnw yr ydym wedi gwneud y cynnydd a welwyd yn y maes addysg.

Cyfeiria'r person ifanc hon yn deimladwy iawn at yr help y mae hi wedi'i gael gan y gwasanaeth hwn, felly wn i ddim a yw arweinydd y tŷ yn gallu rhoi unrhyw farn ar hynny. Mae'r person ifanc hwn yn dweud, 'Mae fy ethnigrwydd—

17:00

Iawn, ydw. Yn olaf, pan gyfarfûm â'r bobl ifanc Sipsiwn gyda chi, credaf y codwyd y mater ynghylch band eang, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny.

Ac yna mae'r cwestiwn olaf yn ymwneud â phobl Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw mewn tai—a wnaed unrhyw ymdrech i gysylltu â nhw a synhwyro beth y maen nhw'n ei deimlo.

Ni fyddech yn disgwyl dim llai gan Julie Morgan na throsolwg cynhwysfawr o'r materion. Gweithiodd yn ddiflino yn hyn o beth drwy ei bywyd, mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn draddodiad teuluol balch.

O ran y materion iechyd, rydym wedi mynd i drafferth i wneud yn siŵr bod y cynllun yn rhoi manylion am sut y bwriadwn leihau'r bwlch mewn canlyniadau iechyd rhwng Sipsiwn, Roma, Teithwyr a'r boblogaeth ehangach, ac mae hynny'n cynnwys iechyd corfforol a meddyliol. Felly, bydd yr holl gamau yn yr adran hon yn cael eu cymryd ag ystyriaeth ddyledus i'r ddwy agwedd hynny, gan fod hynny bob amser wedi ei godi gyda mi yn y cyfarfodydd hynny yr ydym ni wedi'u mynychu gyda'n gilydd.

Mae cam gweithredu penodol yn yr adran hon yn ymdrin â monitro asesiadau anghenion iechyd a gwblheir gan fyrddau iechyd lleol, a bod y canlyniadau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl yn iawn wrth gynllunio gwasanaethau, a soniais o'r blaen am gofnodi'r ethnigrwydd er mwyn gallu olrhain y data, fel ein bod yn parhau i gael data da ynghylch pa un a yw'n gweithio ai peidio, ac y byddwn yn cael y dystiolaeth sy'n ofynnol i ymateb i anghenion iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ac yn dangos lle y mae angen camau gweithredu ychwanegol o ganlyniad i hynny. Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn ganolog i'r cynllun pan fyddwn yn ymgynghori â'r gymuned i wneud yn siŵr bod y cofnodi yn gweithio'n iawn ac yn llesol iddynt, fel ei fod yn rhan fawr iawn ohono.

O ran band eang, rwy'n falch o ddweud ein bod yn edrych yn awr i weld a allwn ni gael band eang da ar holl safleoedd awdurdodau lleol. Roedd y ferch ifanc, a wnaeth argraff fawr arnaf i, Dirprwy Lywydd, yn bendant iawn i mi, os ydym am gael trefniadau hyblyg ar safleoedd fel bod pobl yn gallu mewngofnodi ac allgofnodi o Hwb ar gyfer addysg neu Fy Iechyd Ar-lein ac ati, fod hynny'n anobeithiol os yw'r band eang yn annigonol. Felly, ystyriais hynny yn llawn, ac rydym yn ymdrechu nawr i wneud yn siŵr bod pob un o'n safleoedd yn mapio lle y maen nhw arni o ran hynny, ac yn gwneud yn siŵr bod y band eang yn cael ei ymestyn yn briodol i ymdrin â hynny.

Y mater arall yw gwneud yn siŵr bod gennym y cysylltiadau iawn yn ein prosiect Teithio Ymlaen i gysylltu â'r holl bobl sydd yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai sy'n digwydd bod mewn llety sefydlog ar hyn o bryd. Effeithiwyd yn fawr arnaf wrth siarad ag un o'r teuluoedd hynny a gynigiodd lawer iawn o letygarwch i mi, am ei thrallod o orfod byw mewn 'brics a morter', fel y mae hi'n ei alw, tra oedd ei merch yn y brifysgol, a'i hawydd taer i ddianc o hynny cyn gynted â phosibl. Roedd cryfder ei theimlad yn amlwg. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ystyried yr holl faterion hynny, ac rwy'n benderfynol iawn, iawn o wneud hynny. 

Ac, o ran y cymorth i ddysgwyr, fel y dywedais, roeddwn am roi teyrnged i hynny. Byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau yr aiff yr arian ychwanegol yr ydym wedi'i roi iddynt hyd yma i'r lleoedd cywir, ac i ddeall sut y maen nhw'n gwneud yr asesiadau o anghenion. Oherwydd rwy'n deall hefyd o'r ymgynghoriadau a wnaed yr ymddengys bod rhai o'r gwasanaethau dan fygythiad, ac mewn gwirionedd dwi ddim yn gweld pam y dylai hynny fod yn digwydd. Felly, rydym yn mynd i fod yn edrych yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd, oherwydd ein bod ni'n ariannu hynny.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno'n gryf iawn ei fod yn brawf o'n democratiaeth newydd yng Nghymru a sut yr ydym yn gwrthwynebu'r gwahaniaethu a'r rhagfarn sy'n wynebu cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma, ac rwy'n dyfalu y bydd llawer ohonom sy'n gyfarwydd â materion yn ymwneud â safleoedd lleol arfaethedig yn ein hetholaethau yn deall lefel yr amheuaeth ac, yn anffodus, yr anwybodaeth sy'n aml yn bodoli. Ac rwy'n meddwl tybed, arweinydd y tŷ, o ran yr wythnos hanes ac ymdrech y cyfryngau a'r papurau lleol efallai yn arbennig, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth gyflwyno'r straeon cadarnhaol a'r straeon diddordeb dynol cadarnhaol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r posibiliadau hynny ac yn datblygu strategaeth cydlyniant i fynd i'r afael â rhai o'r camddealltwriaethau hyn, sydd, yn anffodus, yn eithaf cryf, a mynd i'r afael â rhywfaint o'r, unwaith eto, camddealltwriaeth a geir ynghylch safleoedd anghyfreithlon, y mathau o sylwadau y mae pobl yn eu gwneud, fel, 'Pam ydych chi eisiau sefydlu safle sefydlog pan mae'r bobl hyn eisiau teithio o amgylch ac nad oes arnynt eisiau setlo?' Mae yna bob math o ddealltwriaeth sydd gan bobl sy'n dod o hanes gwerin, mewn gwirionedd, nad yw'n cydweddu â'r ffordd y mae'r oes fodern yn gweithredu, a'r ffordd y mae diwylliannau a chymunedau wedi symud yn eu blaenau.

O ran y gymuned Roma, croesawaf y pwyslais hwnnw a geir yn awr. O'm mhrofiad lleol fy hun, mae ysgolion yn gwneud gwaith da iawn. Mae gan ysgol gyfun Llyswyry yng Nghasnewydd, er enghraifft, nifer sylweddol o blant Roma. Mae'n gweithio'n dda iawn gyda hwy a'u teuluoedd. Credaf y canfuwyd y gall cyflogi rhywun fel pont, rhywun o'r gymuned Roma fel pont, ag awdurdod, fel y gwelir, yn y byd mwy ffurfiol, fod yn ddefnyddiol iawn o ran cyfathrebu a chael polisïau ar waith yn effeithiol ar lawr gwlad. A meddwl oeddwn i tybed a yw'r profiad hwnnw o beth sy'n gweithio mewn rhai rhannau o Gymru, lle ceir cymunedau Roma sylweddol, yn cael ei werthuso'n briodol a'i ledaenu drwy Lywodraeth Cymru.

Ie, rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, John Griffiths. Mae gennym ni rai enghreifftiau da iawn ledled Cymru o ymgysylltu da iawn â chymunedau Roma, Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n siŵr y gallem ni i gyd enwi ysgolion ledled Cymru sydd wedi gwneud gwaith da iawn. Felly, byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr yn yr adran addysg i wneud yn siŵr ein bod yn ei ledaenu. Ac, wrth gwrs, rwyf am ddweud ei fod yn rhan ganolog iawn o'n cwricwlwm Donaldson newydd, fod pobl yn dod yn ddinasyddion moesol, deallus o'r byd. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a fi wedi sicrhau y bydd modiwlau penodol ar bobl Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r thema dinasyddion cytbwys. Fel y dywedais, maent yn rhai o'r bobl sydd fwyaf ar ymylon cymdeithas ac y gwahaniaethir fwyaf yn eu herbyn yn ein cymdeithas. Mae'n bwysig iawn bod eu hanes yn cael ei ddeall yn iawn. Rydym yn ariannu'r gweithwyr cydlyniant cymunedol i gynhyrchu deunyddiau dryllio'r mythau a darparu hyfforddiant, yn arbennig i aelodau etholedig sy'n gyfrifol am roi rhywfaint o'r gwaith cynllunio ar waith. Ond rwy'n meddwl ei bod yn syniad da iawn i gynnwys y cyfryngau yn hynny, a byddaf yn sicr o gyflwyno hynny fel awgrym ardderchog.

17:10
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brexit—Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 'Brexit—y risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf a bydd cyfnod pontio yn dilyn hynny tan fis Rhagfyr 2020. Mae gan Brexit oblygiadau sylweddol ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru. Heddiw byddaf yn amlinellu rhai o'r prif heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, rwyf eisiau mynd i'r afael â heriau i'n gweithlu, ein systemau iechyd cyhoeddus, y gallu i gael gafael ar feddyginiaethau presennol a newydd, technoleg ac arloesi meddygol, yr angen i barhau ag ymchwil, cydweithredu ac arloesi rhyngwladol, diogelu'r mynediad at ofal iechyd hanfodol ar gyfer dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn wir, i ddinasyddion Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i ategu'r datganiad llafar hwn, sy'n cynnwys mwy o fanylion.

Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd agweddau sylweddol ar y setliad datganoledig wedi eu cyfyngu gan gyfraith yr UE mwyach. Mae 64 maes perthnasol i Lywodraeth Cymru, 11 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. I ddiogelu buddiannau ac i hyrwyddo blaenoriaethau Cymru, mae fy swyddogion yn rhan greiddiol o grwpiau a sefydlwyd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i asesu goblygiadau'r pwerau hyn sy'n dychwelyd, i nodi unrhyw newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol ac i ddatrys y trefniadau cydgysylltu fydd eu hangen yn y DU ar ôl Brexit. Yn benodol, maen nhw'n ystyried y goblygiadau os na cheir bargen a'r goblygiadau i Gymru os caniateir i'r sefyllfa gwbl drychinebus honno ddigwydd.

Nododd Llywodraeth Cymru chwe blaenoriaeth ar gyfer ein perthynas newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Un o'r blaenoriaethau hyn yw y dylai unrhyw system fudo newydd greu cyswllt agosach rhwng polisïau mudo a chyflogaeth, fel y gallwn ni recriwtio meddygon, nyrsys a'r gweithwyr iechyd a gofal eraill sydd eu hangen arnom ni, gan eu diogelu nhw rhag camfanteisio. O'r cychwyn cyntaf, bu ein negeseuon yn glir a chyson: rydym ni'n cydnabod y gwerth a roddwn ni ar staff o wledydd eraill; rydym ni'n atgoffa rhanddeiliaid sut mae'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol wastad wedi elwa ar bobl ddawnus o ledled y byd; ac, mewn cyd-destun Ewropeaidd, mae rhyddid i symud o fudd nid yn unig i bobl sy'n darparu gwasanaethau ond hefyd, wrth gwrs, i'r bobl sy'n eu derbyn. Mae gwladolion yr UE yn rhan bwysig o'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r GIG. Rhaid gwneud i bob un gweithiwr deimlo eu bod yn cael croeso a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i ddarparu gwasanaethau sydd o fudd i bobl Cymru. Yn fwy na hynny, rydym ni'n croesawu'r cyfraniad y mae pobl yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru fel ffrindiau, cymdogion a dinasyddion ein gwlad.

Nid yw bygythiadau i iechyd yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae dinasyddion y DU ar hyn o bryd yn elwa o gyfundrefnau yr UE a gynlluniwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws Ewrop. Er enghraifft, mae'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau yn diogelu gwledydd ledled yr UE rhag achosion o glefydau heintus hysbys a risgiau iechyd cyhoeddus drwy un gronfa ddata. Gallai oedi mewn cyfathrebu o ran rheoli argyfwng, neu wahaniaeth mewn safonau a gweithdrefnau rhwng Ewrop a'r DU ar ôl Brexit arwain at oedi wrth weithredu yn ystod argyfwng ac achosi risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Felly, mae sicrhau cysylltiadau cydweithio agos o'r diwrnod cyntaf ar ôl Brexit yn allweddol i sicrhau y caiff pobl Cymru eu diogelu'n llawn. Mae hyn yn dibynnu ar rannu data yn effeithiol er mwyn osgoi dychwelyd i ddyddiau cwarantîn. Mae'r system rhannu data sydd ar waith ledled yr UE yn cael ei goruchwylio gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Os na chytunir ar hynny ar gyfer y dyfodol, yna y sefyllfa anorfod yw na ellir rhannu data â'r DU. Byddai hynny'n peri risg annerbyniol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r DU, wrth gwrs, wedi dod i arfer â lefel uchel o safonau a diogelwch bwyd, gan gynnwys labelu. Mae llawer o'r ddeddfwriaeth hon yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae systemau effeithiol a chyflym ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng gwledydd am risgiau bwyd difrifol a thwyll bwyd. Mae'r systemau hyn yn rhybuddio'r DU o unrhyw fygythiadau diogelwch bwyd a nodwyd a ganfuwyd yn yr UE. Mae hynny'n hanfodol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, i sicrhau hyder y defnyddwyr yn eu bwyd ac i gynnal enw da busnesau bwyd y DU. Mae perygl gwirioneddol y gallai cyfnod pontio Ewropeaidd gael effaith andwyol ar yr ansawdd a'r tryloywder yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl yn y maes hwn. Felly, rydym ni eisiau gweld cyfathrebu cadarn yn fewnol ledled y DU ac â'n cymheiriaid yn Ewrop i reoli risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd.

Mae degawdau o gydweithredu a chysoni safonau ar gyfer meddyginiaethau a thechnolegau meddygol wedi creu manteision sicr ar gyfer dinasyddion ledled Ewrop. Mae'n rhaid i'r holl feddyginiaethau a thechnolegau fod o safon uchel a bod prawf eu bod yn ddiogel ac effeithiol cyn y gellir eu gosod ar farchnad yr UE. Byddai unrhyw wahaniaeth sylweddol rhyngddom ni ac Ewrop yn ein gadael yn waeth ein byd. Bydd cyfyngiadau ar fasnach, archwiliadau personol a thariffau masnach yn debygol o leihau argaeledd rhai meddyginiaethau, yn achosi oedi yn y cyflenwad, ac yn arwain at brisiau uwch. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ddewisiadau buddsoddi yn y dyfodol i gwmnïau ddatblygu meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol. Heb undeb tollau a masnach di-dariff gyda'r farchnad sengl, bydd Cymru a gweddill y DU yn dod yn llai deniadol ar gyfer y swyddi hyn sy'n talu'n dda.

Bydd systemau cymeradwyo ar wahân yn effeithio ar ba mor gyflym y gallwn ni gael gafael ar feddyginiaethau a thechnolegau newydd. Er enghraifft, yn y Swistir a Chanada, sydd â systemau cymeradwyo ar wahân, mae meddyginiaethau fel arfer yn cyrraedd y farchnad chwe mis yn hwyrach nag yn yr UE. Mae unrhyw oedi ar y raddfa honno yn gwbl annerbyniol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cleifion Cymru a'r DU yn parhau i allu manteisio'n brydlon ar gyffuriau effeithiol newydd, dewisiadau triniaeth a'r technolegau meddygol diweddaraf.

Mae gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn wynebu heriau iechyd a gofal sylweddol a chyffredin. Ni ellir mynd i'r afael â'r heriau hynny ar wahân. Felly, mae parhau i gydweithio mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yn hanfodol. Mae rhaglenni'r UE yn rhoi cyfleoedd cadarn i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a busnesau gydweithio â'i gilydd ar amcanion cyffredin. Mae arnom ni eisiau i'n hymchwilwyr ac arloeswyr iechyd a gofal barhau i weithio gyda phartneriaid ledled Ewrop a thu hwnt, gan adeiladu ar ein henw da o lwyddiant.

Yn olaf, hoffwn ymdrin â goblygiadau Brexit ar gyfer y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol a dwyochrog sydd gennym ni ar hyn o bryd â'n cymdogion Ewropeaidd. Darperir y gofal iechyd hwn o dan yr un amodau ac am yr un gost â'r bobl sydd wedi eu hyswirio yn y wlad honno. Yn unol â thelerau'r cytundeb pontio arfaethedig, bydd gwladolion yr UE ar hyn o bryd yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE yn gallu parhau i fyw dramor ac i gael yr un gofal iechyd ag y maen nhw yn ei gael yn awr. Fodd bynnag, nid yw dyfodol y trefniadau dwyochrog hynny wedi eu gwarantu eto oherwydd maen nhw'n amodol ar ganlyniad y trafodaethau rhwng yr UE a Llywodraeth y DU. Ond un peth y gallaf ei wneud yn glir: Mae defnyddio GIG Cymru yn gweithredu ar sail preswyliaeth. Golyga hynny y darperir gofal iechyd am ddim i bobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Ni fydd byrddau iechyd yng Nghymru yn gwrthod triniaeth i ddinasyddion yr UE sy'n preswylio yng Nghymru os oes unrhyw anawsterau o ran eu hawl i fyw yn y wlad hon yn ystod y cyfnod pontio.

Mae'r risgiau yn sgil Brexit ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg a difrifol. Os na chawn nhw mo'u datrys, byddant yn cael effaith wirioneddol a pharhaol ar ein gwasanaethau, ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno'r achos dros roi sylw i'r agweddau hyn mewn unrhyw fargen i adael yr UE. Ni ddylai neb fod mewn unrhyw amheuaeth mai gadael yr UE heb fargen yw'r sefyllfa waethaf bosib ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

17:15

Diolch i chi am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir yn crybwyll yr heriau sy'n wynebu pob un ohonom ni, p'un a ydyn ni yng Nghymru neu yn y DU, o ran gadael yr UE o dan delerau cytundeb sy'n foddhaol i bawb ohonom. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod rhywfaint o geisio codi stŵr yn y datganiad hwn oherwydd bod hyn yn dal i gael ei negodi, fel y gwyddoch chi'n dda, ac rwyf eisiau ailadrodd yn glir iawn nad yw Llywodraeth y DU eisiau nac yn disgwyl canlyniad lle na fydd bargen. Felly, y cwestiwn yr hoffwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: petai pethau'n gyfyng iawn arnoch chi, pe byddai'n rhaid ichi ddewis bargen wael neu ddim bargen, pa un fyddai'n well gennych chi? Oherwydd yn bersonol ni hoffwn i ymrwymo Cymru a'r DU i rywbeth sy'n gwbl anghynaladwy. Rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro yn y datganiad hwn y byddai 'dim bargen' yn ofnadwy, ac rwy'n cytuno â chi; rwyf eisiau bargen sy'n dda ar gyfer Cymru ac yn dda ar gyfer y DU. Ond hoffwn wybod yn eglur gennych chi, beth yw eich safbwynt, ar y gwahaniaeth rhwng troi cefn ar rywbeth sy'n ofnadwy neu dderbyn hynny.

Yr ail bwynt yr hoffwn i ofyn i chi yw eich bod yn datgan yn glir iawn yn y fan yma, ac rydych chi wedi dweud yn flaenorol, eich bod chi, neu fod eich swyddogion yn rhan ganolog o grwpiau sydd wedi'u sefydlu gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ill dwy i drafod yr holl oblygiadau amrywiol ohonom yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Allwch chi roi inni ychydig mwy o fanylion am y grwpiau hynny, beth maen nhw yn ei drafod, beth maen nhw'n canolbwyntio arno, a sut maen nhw'n cyfrannu tuag at y ddadl hon, fel y gallwn ni fod yn sicr y caiff ein llais ni, Cymru, ei glywed mewn gwirionedd ble mae angen ei glywed a'n bod yn cael effaith ar y trafodaethau sy'n digwydd ar hyn o bryd?

O gofio bod eich swyddogion yn weithgar iawn ar y grwpiau hyn, rydych chi'n codi sawl cwestiwn difrifol y gwyddom ni eisoes rai o'r atebion iddynt. O ran sicrwydd y byddai staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio ar hyn o bryd yng Nghymru yn gallu aros yn y DU, mae'r Llywodraeth wedi dweud yn glir iawn iawn y buon nhw'n gwbl eglur fod dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru, ac yn y DU, yn gallu aros, ac i'r gwrthwyneb. Maen nhw wedi siarad am y gofal iechyd, yr hawliau pensiwn, ac maen nhw wedi siarad am gydnabod cymwysterau—sydd, unwaith eto, yn sylw arall a wnaethoch chi yn eich datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw. Pethau hollol ddilys i ofyn, ond fy nghwestiwn i chi yw: Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r ateb i hyn, yna pa grwpiau mae eich swyddogion yn gweithio arnynt? Oherwydd byddwn wedi meddwl y byddech yn gwybod fod hyn i gyd wedi'i drafod, fod y pwyntiau hyn wedi eu crybwyll, ac y byddech yn gwybod pa gynnydd rydym ni wedi ei wneud o ran hynny eisoes. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet; mae'n hanfodol bod ein cyfeillion a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd yn deall faint yr ydym yn eu gwerthfawrogi, a bod y rhai sy'n gweithio yn ein GIG, ac yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac, yn wir, mewn unrhyw ran o Gymru, yn deall mor hanfodol y credwn ni yw eu cyfraniad yn ein gwlad. Felly, nid wyf yn dadlau â chi ynglŷn â hynny, ond nid wyf eisiau gweld unrhyw fath o ddychryn pobl pan fo pethau eisoes wedi'u trafod a'u cytuno. Felly, byddai gennyf ddiddordeb deall eich safbwynt ynghylch hyn a pham eich bod yn teimlo bod y sicrwydd hwnnw y cytunwyd arno eisoes, ac sydd eisoes yn wybodus gyhoeddus, yn annerbyniol.

O ran rheoleiddio meddyginiaethau: rwyf wedi crybwyll hyn yma fy hun, gyda chi ac yn bendant gyda'r Prif Weinidog—gyda chi mewn araith, ond gyda'r Prif Weinidog yn uniongyrchol—oherwydd credaf fod hynny'n eithriadol o bwysig, ac fe hoffwn i ddeall a yw eich grwpiau wedi bod yn gweithio ar hynny, a pha gynnydd ydych wedi llwyddo i'w wneud yn hyn beth.

Fe hoffwn i orffen o'r diwedd drwy ddweud bod hwn i'w negodi; mae'n dal ar y gweill. Cytunwyd ar 75 y cant o'r materion sy'n weddill yng nghyfnod 1 y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Mae llawer eisoes wedi ei gytuno yng nghyfnod 2, a dim ond meddwl wyf i tybed a hoffech chi imi anfon copi o'r datganiad ar y cyd gan drafodwyr yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â chynnydd y negodiadau, sy'n ddyddiedig 19 Mehefin eleni, oherwydd credaf y byddai hynny mewn gwirionedd yn egluro'r sefyllfa yn amlwg iawn.

17:20

Diolch i chi am eich sylwadau. Mae pob un o'r materion a grybwyllais yn cael eu trafod rhwng y Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae trafodaeth adeiladol yn digwydd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig amlinellu'r ystod o risgiau sy'n bodoli cyn inni gyrraedd bargen derfynol. Ac o ran y materion a grybwyllwyd gennyf hyd yn hyn, nid oes yr un ohonyn nhw wedi eu cadarnhau ar gyfer y cyfnod ar ôl y cyfnod pontio; dyna'r her. Yn benodol, er enghraifft, rydych chi'n sôn am breswylio mwy hirdymor; mae cytundeb hyd at y cyfnod pontio, ond nid oes cytundeb ar ôl hynny. Felly, credaf ei bod hi'n gwbl briodol dweud bod y rhain yn faterion y mae angen eu datrys mewn unrhyw fargen derfynol ac nad ydyn nhw wedi eu datrys hyd yma. Nid yw hyn yn fater o greu helynt; rwy'n credu bod angen inni fod yn onest am yr ystod o risgiau fydd yn ein hwynebu os nad oes gennym ni fargen dda a gwybodaeth nad yw pobl yn aml yn ymwybodol ohoni o ran manylion pob un o'r meysydd hyn.

Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn am fargen wael—dim bargen neu fargen wael. Y broblem yw bod y fargen waethaf bosib yn gyfystyr â dim bargen. Dyna yw'r fargen waethaf bosib, ac felly ceir her yma ynglŷn â bod yn onest â'n gilydd am hynny, a'r anawsterau sydd gennym ni gyda'r safbwynt a arddelir yn y trafodaethau. Er enghraifft, mae swyddogaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn faen tramgwydd ar hyn o bryd i Lywodraeth y DU. Mae hynny'n peri problem oherwydd yr amrywiaeth o faterion y buom yn siarad amdanyn nhw ble ceir cydweithredu ar draws Ewrop, a gaiff ei oruchwylio ar hyn o bryd gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Nawr, mae gwledydd eraill sydd â threfniadau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo i gytuno'n ffurfiol sut mae'r oruchwyliaeth honno yn gweithredu. Os nad oes unrhyw oruchwylio, yna y sefyllfa anorfod yw y byddwn wedi ein heithrio o'r trefniadau rwy'n gwybod eich bod yn eu gwerthfawrogi, ac, mewn gwirionedd, y credaf fod adran iechyd y DU yn eu gwerthfawrogi hefyd. Felly, yr her yw p'un a allwn ni ddod ag ychydig o realiti i'r drafodaeth, y ddadl a'r negodiadau.

O'm rhan i, pan rydych chi'n sôn hefyd am bethau sydd ddim yn derfynol, fel cywerthedd cymwysterau, wel, nid yw hynny'n derfynol. Nid oes safbwynt terfynol o gwbl ynglŷn â hynny, ac mae'r sylwadau a wneuthum heddiw wedi eu pwysleisio, eu hategu a'u hymhelaethu arnynt gan amryw o sylwebyddion eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, nid gwleidyddion pleidiau. Fe rof i rai enghreifftiau i chi: Cydffederasiwn y GIG yn cydweithio â phartneriaid gofal cymdeithasol, Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol, Y Coleg Nyrsio Brenhinol ac, yn wir, Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd. Felly, nid yw hwn yn faes be mae pobl yn codi stŵr; mae hwn yn faes sy'n peri pryder gwirioneddol ac amlwg ar hyn o bryd y mae'n rhaid ei reoli nid yn unig o ran adrannau iechyd yn y DU yn cytuno ar yr hyn y credwn ni sy'n bwysig, ond mewn gwirionedd mae a wnelo hynny â Llywodraeth y DU yn sicrhau bargen ar gyfer Brexit ac nid gwneud yn siŵr fod pobl a bleidleisiodd i adael neu aros yn wynebu risgiau cwbl annerbyniol i'w hiechyd na bleidleisiodd neb drostynt ddwy flynedd yn ôl.

17:25

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n rhestr hir, on'd ydy, o'r pethau sydd, heb os, yn fygythiad i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Roeddwn yn darllen un o bapurau briffio fforwm polisi Cydffederasiwn GIG Cymru yn gynharach heddiw, oedd yn dwyn ynghyd rai o'u prif bryderon: darparu gweithlu, yr angen i barhau i gael cydnabyddiaeth o gymwysterau proffesiynol, amddiffyn hawliau cyflogaeth a hawliau cleifion, yr angen i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni cydweithredol yr UE, a gwneud yn siŵr bod aliniad rheoleiddio yn parhau er budd cleifion ac iechyd y cyhoedd, gan gadw cyd-drefniadau gofal iechyd, gan sicrhau dulliau cydlynu cadarn ar gyfer iechyd y cyhoedd—mae'n rhestr hir, hir o feysydd ac ni fyddai posib inni ymdrin â phob un ohonyn nhw yma heddiw.

Wn i ddim a hoffech chi, Angela Burns, fy nghyhuddo i o godi stŵr hefyd am fod yn bryderus ynghylch y meysydd hyn, ond o ran sylwadau cwbl amhriodol Andrew R.T. Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddoe ynglŷn ag Airbus, yn eu cyhuddo o wneud bygythiadau, rydych chi'n gwneud anghymwynas â'ch hun ac yn gwneud anghymwynas â'r cyhoedd yng Nghymru drwy fod mor ddidaro ynghylch y bygythiad mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu yn yr oes fodern yma yng Nghymru.

Caniatewch imi holi cyfres o gwestiynau i chi, os caf i, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf oll, ynglŷn â thrafnidiaeth meddyginiaethau o dan Euratom a chytundebau cysylltiedig, mae'n amlwg bod dau ddehongliad gwahanol ynglŷn â hyn. Y dehongliad cyntaf, sef safbwynt Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a hefyd pobl eraill sy'n gweithio yn y GIG, yw bod Brexit 'dim bargen' yn beryglus iawn i gleifion, o ystyried natur fyrhoedlog y cynhyrchion yr ydych chi'n sôn amdanynt, sy'n gwneud yr angen ar gyfer trafnidiaeth ddi-dor ar draws ffiniau yn hanfodol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n amhosib cronni meddyginiaethau ac ati. Yr ail ddehongliad, sef safbwynt Llywodraeth y DU, yw bod y Bil diogelwch niwclear sydd ar ei hynt drwy'r Senedd ar hyn o bryd yn golygu nad oes problem o gwbl. Felly, pa ddehongliad ydych chi'n cytuno ag ef a beth yw eich cynlluniau wrth gefn ar gyfer Brexit 'dim bargen' os ydych chi'n cytuno â'r dehongliad cyntaf hwnnw?

Yn ail, o ran gallu elwa ar rwydweithiau ymchwil a chyllid, pa gamau rhagweithiol—camau rhagweithiol—y mae eich Llywodraeth chi yn eu cymrud i sicrhau y gall ein prifysgolion a'n sector gwyddorau bywyd barhau i gymryd rhan yn y rhwydweithiau hyn os oes Brexit caled? Neu efallai bod eich Llywodraeth yn fodlon gadael i Lywodraeth y DU gymryd y camau rhagweithiol hynny.

O ran staffio, un mater sydd yn peri pryder arbennig i ni yw'r ffaith nad oes gennym ni ddata am weithlu'r sector annibynnol a gofal cymdeithasol, a sut y bydd hynny mewn perygl oherwydd Brexit caled. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i gasglu a chloriannu'r data hwn?

Yn olaf, fy mhedwerydd cwestiwn: rhaid inni edrych ar effaith anuniongyrchol pethau ar y GIG; a ydych chi'n credu bod bygythiad i'r GIG o gael gwahanol ganlyniadau mewn negodiadau masnach, er enghraifft?

Diolch ichi am yr holl gwestiynau. Hoffwn ailadrodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein sector gwyddorau bywyd, ymchwil ac arloesedd, ac yn gweithio'n ymarferol i weld sut y gallwn ni gymryd rhan yng nghamau cydweithio'r dyfodol ledled Ewrop. Mae hynny'n risg sylweddol iawn i ni. Rydym ni mewn gwirionedd yn gwneud yn dda iawn o ran cydweithredu ar ymchwil ar hyn o bryd a faint o arian y mae sefydliadau yn y DU yn ei ennill mewn gwirionedd. Dyna un o'r risgiau mwyaf a wynebwn os nad oes cytundeb synhwyrol, a bydd hynny'n gofyn ar i'r Deyrnas Unedig dalu i'r cronfeydd ymchwil a chydweithio hynny i allu parhau i gymryd rhan ynddynt. Felly, rydym ni'n gwneud ein barn ar hynny yn gwbl glir, ac mae'r gymuned wyddonol ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru, bron yn unfrydol yn ei barn o natur hanfodol parhau i gymryd rhan yn y rhwydweithiau hynny a'r ffaith y byddwn yn colli pobl os na fydd bargen yn cytuno i wneud hynny.

Hoffwn ymdrin yn fyr â'ch sylw am y gweithlu gofal cymdeithasol, yna byddaf yn dychwelyd i sôn am fasnach, tollau ac Euratom ar yr un pryd, os caf. Rydym yn cydnabod bod gennym ni wendid yn deall ein data am y gweithlu gofal cymdeithasol presennol a nifer y gweithwyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU, sef gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd a'r rhai o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd hefyd. Dyna pam mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gais i Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd fel y gwneir rhagor o ymchwil i roi inni ddarlun llawnach a mwy cywir o'r gweithlu sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y sector gofal cymdeithasol ac, yn wir, o ble maen nhw'n tarddu, ac, yn wir, tueddiadau mwy diweddar o bobl sydd yn ac sydd ddim yn dod i mewn i'r sector yn y gorffennol mwy diweddar ers y bleidlais ddwy flynedd yn ôl.

Ond rwy'n credu bod eich cwestiwn ynglŷn ag Euratom yn adlewyrchu nifer o bwyntiau rwyf wedi eu gwneud mewn fforymau eraill am risgiau gwirioneddol trefniant 'dim bargen'. Os oes rhwystrau i fasnach, bydd hynny'n effeithio ar amrywiaeth eang o bethau, fel moddion, ond mae Euratom yn arbennig o bwysig, ac mae hefyd yn faes lle mae trefniadau masnach di-dariff ac undeb tollau o bwys mawr. Mae unrhyw oedi yn y porthladdoedd yn effeithio nid yn unig ar nwyddau darfodus yn y cyflenwad bwyd yn unig, ond, mewn gwirionedd, mae radioisotopau yn hynod o bwysig. Mae meddygaeth niwclear a'r gallu i wneud diagnosis ac i drin ystod o gyflyrau yn hynod o bwysig i'r gwasanaeth iechyd modern. Rydym ni'n mewnforio bron pob un o'r radioisotopau a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig. Nid oedd ymadael ag Euratom yn rhywbeth y clywais erioed yn unrhyw ran o unrhyw ddadl yn ystod y refferendwm ddwy flynedd yn ôl, ond mae'n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud mai dyna beth maen nhw eisiau ei wneud. Wel, byddai cefnu ar hynny, o ystyried ein bod lai na blwyddyn o'r diwrnod ymadael â'r UE a'r cyfnod pontio, yn drychinebus. O ran meddygaeth niwclear, byddai'n arwain at broblemau enfawr. Ni fyddai unrhyw fodd ei ddyblygu; ni allem ni ddyblygu'r gallu i gyflenwi a chreu'r radioisotopau hynny yn y DU o fewn y cyfnod hwnnw, ac mae'r gallu i'w cludo o fannau eraill yn gyfyngedig. Oherwydd hanner-oes y radioisotopau sy'n cael eu creu, mewn gwirionedd, mae gennych chi gyfnod cyfyngedig o amser i wneud defnydd priodol ohonynt.

Mae'n un o'r meysydd hyn ble mae angen bod yn realistig ynghylch beth mae 'dim bargen' yn ei olygu. Mae'n golygu os ydych chi'n ymrwymo i ddim bargen, rydych chi'n dweud yn y bôn, am gyfnod sylweddol o amser, na fydd y GIG yn rhoi'r triniaethau hyn. Byddai hynny'n gwbl annerbyniol mewn unrhyw a phob rhan o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae'n faes arall lle mae angen i ystyfnigrwydd y Llywodraeth ildio i realiti a synnwyr cyffredin, a'n cyfrifoldeb ni fel cynrychiolwyr etholedig yw cyflawni'r hyn sydd orau i'n pobl ac nid i esgus nad ydym ni yn hwylio'n beryglus o agos at y gwynt i wneud y peth gwaethaf posib ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig.

17:30

Fel y mwyafrif o bleidleiswyr y DU, pleidleisiais i adael yr UE, ac nid yw fy marn wedi newid. Cafodd ein GIG ei greu ymhell cyn yr UE a bydd yma ymhell ar ôl inni adael. A oes unrhyw risgiau? Oes, ond nid oes unrhyw un mewn gwirionedd yn disgwyl na fydd y risgiau hyn yn cael sylw mewn bargen yn y dyfodol.

Rydym yn gadael yr UE, nid Ewrop. Bydd ein cydweithrediad parhaus â gwledydd Ewrop yn parhau, a disgwyliaf y bydd agweddau arno'n cryfhau. Rwy'n cytuno bod yn rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau ar feddyginiaethau, offer a staff lle bo hynny'n bosib.

Mae pobl yn rhagweld y bydd Brexit yn arwain at gwymp ein GIG oherwydd y byddwn yn colli meddygon a nyrsys. Ond gadewch inni beidio anghofio mai ychydig dros 2 y cant o staff y GIG sy'n dod o wledydd yr UE ac ychydig dros 5 y cant o'n meddygon a'n nyrsys sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae mwyafrif helaeth ein meddygon sydd wedi eu hyfforddi dramor yn dod o is-gyfandir yr India, yna'r Aifft ac Irac. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei gwneud hi'n haws i recriwtio meddygon a nyrsys sydd wedi'u hyfforddi dramor ond nid yn yr UE yn dilyn Brexit?

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi ystyried y risgiau i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru pe byddai'r DU yn aros yn yr UE? Wedi'r cyfan, pe bai negodwyr yr UE wedi cael eu ffordd, byddai ein GIG ar drugaredd corfforaethau mawr Americanaidd o ganlyniad i'r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig.

Mae angen inni fod yn edrych tuag allan nid i mewn wrth inni gamu i'r dyfodol. Rydym ni'n byw mewn oes lle mae cydweithio yn digwydd ar raddfa fyd-eang. Nid yw gwyddoniaeth yn gweld ffiniau ac os ydym ni eisiau mynd i'r afael â heriau sylweddol i'n hiechyd a'n lles, rhaid inni gydweithio ar raddfa fyd-eang. Ni fydd yr UE ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Ni fydd yr UE ar ei ben ei hun yn ymladd canser, clefyd y galon neu'r argyfwng gordewdra. Mae'n rhaid inni weithio'n agosach gyda phob cenedl—gwledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE—i wynebu'r heriau hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wir yn credu ei fod er budd pennaf yr UE i ynysu'r DU yn y ffordd a amlygir gennych chi yn eich datganiadau? Er bod gennym ni safbwyntiau gwahanol ynglŷn â Brexit, mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn dioddef o ganlyniad i Brexit. Nid wyf yn credu y byddant, oni fydd yr UE yn gwneud penderfyniad gwleidyddol i gosbi'r DU. Felly, mae er budd pawb ohonom ni i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Diolch.

17:35

Diolch ichi am y sylwadau. Dydw i ddim yn synnu nad ydych chi wedi newid eich meddwl o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond byddwn wedi meddwl y byddech chi'n realistig, unwaith eto, ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd os ydym ni'n gadael gyda dim bargen neu Brexit caled. Ylwch, o ran y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rydym ni wedi cael trafodaethau hir ac angerddol rhwng swyddogion, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, yn wir, mae pob sefydliad sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal ar draws y DU wedi galw ar Lywodraeth y DU, am amser hir, i newid y sefyllfa neu i newid y rheolau ynghylch pobl yn cael eu recriwtio i'n gwasanaeth iechyd. Felly, croesawaf y tro pedol a gyhoeddwyd gan Sajid Javid i ddiddymu'r cyfyngiadau haen 2. Roedd hynny yn gam cadarnhaol ymlaen, ac roedd bob amser o fewn haelioni’r Deyrnas Unedig. Roedd a wnelo hyn ag ynfydrwydd y Swyddfa Gartref yn dweud wrth y gwasanaeth iechyd, 'allwch chi ddim cyfyngu ar y staff y mae eu hangen arnoch chi, y gallech chi eu recriwtio i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal, oherwydd rydym ni wedi rhoi terfyn artiffisial ar y niferoedd sy'n gallu dod i mewn.' Felly, nid oes a wnelo hynny â'r Undeb Ewropeaidd o gwbl.

Ond rwy'n credu, o ran eich awgrym bod a wnelo hyn â'r Undeb Ewropeaidd yn cosbi'r Deyrnas Unedig, yn y bôn mae a wnelo hyn â, os ydych chi'n gadael clwb, a'ch bod yn dweud, 'does arnaf i ddim eisiau chwarae yn ôl y rheolau; rwyf eisiau'r holl fuddion, ond fe wnaf i benderfynu wedyn beth arall rwyf eisiau ei wneud hefyd', yna dyna'r union sefyllfa na allwn ni fod ynddi. Mae'n rhaid inni gael amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â realiti sefydliadau a rheolau yr Undeb Ewropeaidd gyfan, ac os ydym ni eisiau elwa ar y rhai hynny, yna bydd angen inni weithredu mewn ffordd sy'n gyson, a chael cytundeb ynglŷn â gwneud hynny.

O ran eich sylw ar ddechrau eich araith, pan wnaethoch chi ddweud nad oes neb eisiau unrhyw gyfyngiadau ar feddyginiaethau ac offer—wrth gwrs nad oes arnom ni eisiau cyfyngiadau, ond mae angen inni gael systemau sy'n caniatáu inni wneud hynny. Felly, dyna pam mae trefniadau ynghylch tollau tramor a masnach o bwys: Mae 47 miliwn o gynhyrchion fferyllol bob blwyddyn yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, a daw tua 39 miliwn yn ôl y ffordd arall. Mae masnach enfawr yn digwydd yma rhyngom ni a gweddill Ewrop, felly mae'r trefniadau tollau a'r trefniadau masnach wirioneddol o bwys yn y maes hwn o weithgarwch hefyd. Maen nhw wedi eu hategu gan systemau ledled yr UE o ran sut mae meddyginiaethau a sut mae offer yn cael eu defnyddio yn Ewrop. Ac mae canolbwynt cyffredin yma: naill ai rydym ni eisiau i hynny barhau, neu rydym ni'n fodlon ysgwyddo cyfyngiadau a fydd yn achosi niwed gwirioneddol i bobl yn ein gwlad. Fy marn i yw na ddylem ni oddef y posibilrwydd hwnnw. Ddylem ni ddim fod eisiau dweud ei bod hi'n dderbyniol i orfod disgwyl chwe mis ar gyfartaledd nes fo meddyginiaethau newydd ar gael, fel yw'r achos bellach yn y Swistir. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n dderbyniol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai hynny'n dderbyniol chwaith.

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad hwn sy'n nodi'r glir y risgiau posib i'r GIG yng Nghymru a allai ddod yn sgil Brexit? Mae'n rhaid imi ddweud, dydw i ddim yn cytuno gydag Angela Burns fod a wnelo hyn â dychryn pobl. Rwy'n credu fod â wnelo hyn â wynebu'r realiti a pharatoi pobl ar gyfer hynny, a byddai peidio â gwneud hynny yn anghyfrifol. Yn sicr dydw i ddim eisiau i'n Llywodraeth ni fod mor ddidaro am y mater hwn ag, yn amlwg, y mae Llywodraeth y DU, y Ceidwadwyr ac UKIP.

Mae Rhun yn llygad ei le: mae rhestr hir o faterion y mae'n rhaid inni eu hwynebu yma, a soniodd am un yn arbennig sydd, rwy'n credu, yn un o'r risgiau mwyaf sylweddol sy'n deillio o'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit, a hynny yw cyfranogiad y DU yn y treialon clinigol hynod bwysig sy'n digwydd ledled Ewrop, y wyddoniaeth a'r ymchwil, ac effaith bosib hynny ar y sector gwyddorau bywyd sy'n tyfu yng Nghymru. Rwy'n gwybod y gwnaethoch chi sôn am hynny yn eich ateb i Rhun, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod hyn hefyd wedi ei amlygu gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, a ddywedodd y cafodd y DU oddeutu €8.8 biliwn mewn cyllid ymchwil gan yr UE rhwng 2007 a 2013, er gwaetha'r ffaith ein bod ond yn cyfrannu €5.4 biliwn ein hunain. Felly, o ran cyllid ymchwil y DU, roedd budd net o €3.5 biliwn, ac aeth €40 miliwn o hynny yn unig ar ymchwil canser.

Felly, o ystyried bod yn rhaid i'r gallu i fanteisio ar rwydweithiau ymchwil a datblygu yr UE barhau i fod yn un o ganlyniadau allweddol y negodiadau Brexit, allwch chi ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cynnwys hynny yn benodol yn rownd derfynol bargen Brexit? Os na chyflawnir hyn eto, pa mor benodol ydych chi'n cynllunio i filwrio yn erbyn hyn, yn enwedig o ystyried eich awgrymiadau bod swyddogion yn rhan o drafodaethau ynghylch y posibilrwydd o gael sefyllfa 'dim bargen'?

17:40

Diolch ichi am y cwestiynau. Mae a wnelo hyn â'r her o ba mor gyfrifol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i fod, o ran negodi telerau bargen i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae a wnelo ef hefyd â beth sy'n digwydd wedyn gyda'r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.

Rwy'n credu mai rhan o'r her yw bod yna gwestiwn am arian. Mae cwestiwn hefyd ynghylch gwybodaeth. Felly, rydym ni yn gorgyflawni, o safbwynt y Deyrnas Unedig, o ran sut y caiff arian ymchwil ei ddyrannu, ac rwy'n credu y byddai hi'n eithriadol o anodd cael swm cyfatebol o arian heb barodrwydd Llywodraeth y DU i roi cyllid ychwanegol ar gyfer y maes ymchwil. Hyd yma, mae hi wedi bod yn anodd darbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi unrhyw fath o ymrwymiad ar y telerau hynny, heb sôn am i Lywodraethau y Deyrnas Unedig fod â rhan yn helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw. Ond, mewn gwirionedd, rwyf yr un mor bryderus am bobl sy'n gallu symud i weithio, ac sy'n bobl y byddai gwledydd eraill yn eu chwenychu ac yn dymuno eu cael hefyd, a'r cyfle i barhau i weithio yn y maes neu'r arbenigedd yr ydych wedi'i ddewis, yr arbenigedd gwirioneddol sydd gennych chi, ac i bobl fynd i rannau eraill o'r byd. Rydym ni mewn gwirionedd yn denu pobl i'r wlad hon oherwydd yr arbenigedd ymchwil sydd gennym ni. A'r bobl hynny: mae'n debygol y byddwn yn colli rhai ohonyn nhw a'r wybodaeth sydd ganddynt—nid yn unig yr arian, ond yr wybodaeth sydd ganddynt—i wledydd eraill. Yn benodol, wrth gwrs, yr eironi yw bod llawer o'r bobl hyn yn dod o'r Undeb Ewropeaidd i ddod i sefydliadau yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, ni ddylem ni dybio y bydd y bobl hynny yn sicr o aros waeth beth sy'n digwydd o ran y fargen, waeth beth fo'r cyllid.

Fe wnaf i un sylw arall am yr hyn y gwnaethoch chi sôn amdano o ran treialon clinigol. Mae'r Undeb Ewropeaidd ar fin cael fframwaith o dreialon clinigol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd, lle daw pobl o wahanol rannau o Ewrop i hwyluso'r cydweithredu hwnnw. Helpodd y Deyrnas Unedig i ysgrifennu'r rheolau ar gyfer hynny. Rydym ni'n helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw fel ei bod hi'n haws gwneud hynny. Os ydym ni wedyn yn ein heithrio ein hunain ohono, rydym yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd i gymryd rhan, hyd yn oed yn llai tebygol y byddwn yn gallu cymryd rhan, ac y byddwn yn rhoi pobl yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig o dan anfantais. Dyna pam rwy'n dweud bod angen ychydig o realiti ac ychydig o onestrwydd ynghylch peidio â chytuno ar fargen, a beth yw ystyr hynny, oherwydd, yn gyflym iawn, byddwn yn gweld y dioddefaint y byddwn yn ei achosi, ac mae modd ei osgoi yn llwyr.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, ac felly mae gennyf dri siaradwr arall. Felly, rwy'n mynd i ofyn i chi roi cyflwyniad byr a gofyn o bosib un neu ddau gwestiwn cryno, byr iawn, os gwelwch yn dda. Suzy Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n credu y gallai fod wedi bod ychydig yn fwy cytbwys pe byddech chi wedi sôn am y gronfa arloesi £1.3 biliwn a grybwyllwyd gan Lywodraeth y DU. Mae yna ffyrdd eraill o ymdrin â rhai o'r heriau a grybwyllwyd gennych chi heb fod mor ddigalon am y peth. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ofyn yn benodol i chi oedd: testun y ddadl hon yw 'Brexit—Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru'— ni allaf weld unrhyw beth yn eich datganiad mewn gwirionedd ynglŷn â gofal cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio na fydd hyn yn thema gyson pan rydym ni'n sôn am yr agenda integreiddio. Felly, meddwl wyf i tybed a allwch chi ddweud wrthyf yn arbennig pa rai o'r rhaglenni Ewropeaidd presennol a allai fod ar gael inni ar ôl Brexit yr hoffech chi efallai i ni ymrwymo iddynt, a allai fod o fantais i feithrin arloesedd a gwybodaeth yn y maes gofal cymdeithasol, ac, yn ail, p'un a allwch chi roi rhyw awgrym o sut gawsoch chi'r ffigur y credwch chi sydd gennym ni ar gyfer nifer gwladolion yr UE  sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli, oherwydd nad oes gennym ni gofrestr, bod hynny'n anodd, ond rwy'n eithaf awyddus i wybod o le cawsoch chi'r ffigur oherwydd ni fydd rhagdybiaeth syml yn seiliedig ar ffigur y DU yn gywir, o gofio bod 12 y cant o weithlu gofal cenedlaethol yr UE yn gweithio yn Llundain, a dim ond 2 y cant yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, er enghraifft. Diolch.

Rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau eraill ein bod yn adolygu data am y gweithlu oherwydd bod arnom ni eisiau deall yn well faint o wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy'n gweithio yma yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Ond rydych chi a minnau'n gwybod, os ydych chi'n ymweld ag amrywiaeth o gyfleusterau gofal preswyl yn benodol, byddwch yn cyfarfod pobl o ledled y byd, ac mae llawer o wladolion yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud y gwaith hwnnw. Dyna pam rydym ni'n gwneud ymchwil i ddeall ac i gael darlun mwy cywir. Yn wir, gyda'r maes ymchwil, rydym ni'n sôn am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, caiff yr wybodaeth honno ei rhannu oherwydd rydym ni eisiau gweld y maes ymchwil gofal cymdeithasol yn datblygu.

Ar hyn o bryd, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn fwriadol mynd ati ac yn dewis edrych ar flaenoriaethau gofal cymdeithasol, ac fel y gwyddoch chi a minnau, o safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw amryw o'r heriau hyn yn cydnabod y ffiniau taclus rydym ni ar hyn o bryd yn eu llunio o ran y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio. Felly, bron ym mhob un o'r meysydd hynny o weithgarwch ac arbenigedd byddwch yn gweld cyfraniad gofal cymdeithasol fydd o bosib yn cael ei golli o beidio â chael arbenigedd tebyg i'w rannu yn Ewrop. Ond rwy'n wirioneddol gredu mai gormodiaith braidd yw dweud y byddai hyn yn bwrw unrhyw amheuaeth ar yr agenda integreiddio yn y cynllun yr ydym ni mewn gwirionedd wedi ei amlinellu ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ni'n datblygu hynny gydag egni a gydag agwedd wirioneddol gadarnhaol gan ein cydweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol. Byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda byrddau iechyd ac awdurdodau drwy weddill yr haf.

17:45

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, er fy mod yn synnu, yn ei ddatganiad, bod methiant i gyfeirio at risgiau posib cytundebau masnachu rhyngwladol pe byddem yn gadael yr undeb tollau Ewropeaidd. Siawns mai'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu egwyddorion sylfaenol y GIG wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn 70 yw cytundebau masnach rhyngwladol newydd dan arweiniad Dr Liam Fox.

Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf rydym ni wedi gweld Arlywydd yr Unol Daleithiau yn datgan yn agored mai ei nod mewn trafodaethau masnach gyda'r DU yw gosod prisiau uwch ar gyffuriau er mwyn lleihau prisiau presgripsiynau yn yr Unol Daleithiau a rhoi 'cleifion Americanaidd yn gyntaf '. Felly, bydd cytundebau masnach yn y dyfodol, os cawn ni ein llusgo o'r undeb tollau, yn cael effaith enfawr ar gleifion yng Nghymru, ac os caiff Arlywydd yr Unol Daleithiau ei ffordd, bydd yn rhoi pwysau enfawr, rwy'n credu, ar y polisi presgripsiynau am ddim yr ydym ni'n falch iawn ohono yng Nghymru, a hynny'n briodol hefyd. Nid codi bwganod mo hynny. Rwy'n credu fod hynny'n ffaith syml, resymegol.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet felly yn deall fy anghrediniaeth o ddysgu bod ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd yr economi, wedi dweud ei fod yn fodlon bod Llywodraeth Cymru 'yn yr ystafell drws nesaf' pan gaiff materion datganoledig eu trafod yn nhrafodaethau masnach y dyfodol. Mewn llythyr sydd gennyf at Gadeirydd Pwyllgor Masnach Rhyngwladol Tŷ'r Cyffredin, mae ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dweud:

mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig, dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r trafodaethau—boed hynny 'yn yr ystafell' neu 'yn yr ystafell drws nesaf'.

Onid yw hyn yn safbwynt tila braidd i'w arddel? Siawns na fyddai Llywodraeth Lafur yn barod i chwalu'r drysau i fod mewn trafodaethau ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig gyda'r bygythiadau sy'n ein hwynebu gydag agenda wahanol iawn yn San Steffan. Felly, fy nghwestiwn uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet yw hyn: onid oes arno eisiau bod wrth wraidd negodiadau masnach y dyfodol pan fo dyfodol y GIG yng Nghymru yn y fantol?

Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol y mae Ysgrifennydd yr economi yn ei wneud yn y fan yna yw ein bod yn disgwyl bod yn rhan o unrhyw drafodaethau mewn meysydd datganoledig, a dyna'r pwynt: rydym ni'n disgwyl cael ein cynnwys. Rydym ni'n disgwyl cael dweud ein dweud gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae a wnelo hynny â datblygu perthynas gynyddol aeddfed yma yn y Deyrnas Unedig cymaint ag unrhyw beth arall.

Byddwn, fodd bynnag, yn cytuno—. Ylwch, y sylw ynglŷn â Liam Fox—pan fydd pobl yn dweud, 'rydych chi'n codi bwganod yn sôn am ddim bargen. Wrth gwrs bydd bargen', wel, mewn gwirionedd, ef yw'r Gweinidog Cabinet oedd yn sôn yn agored am y posibilrwydd o ddim bargen a'r ffaith bod yn rhaid i hynny fod yn ystyriaeth. Ef yw'r un sy'n codi'r bwganod hyn am fargeinion gyda rhannau eraill o'r byd a fyddai'n gwbl annerbyniol a niweidiol i amrywiaeth o ddiwydiannau yma yng Nghymru, a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn wir i'n heconomi. Rwyf hefyd wedi clywed sylwadau gan nid yn unig Arlywydd yr Unol Daleithiau, ond swyddogion eraill yn yr Unol Daleithiau y mae wedi eu penodi, ynglŷn â bod eisiau ceisio newid natur perthynas prisio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau, ac i geisio gwneud i bobl eraill dalu mwy am y nwyddau hynny.

Felly, rwy'n cydnabod bod risgiau gwirioneddol i drefniadau eraill. Rwyf hefyd wedi amlinellu, mewn ateb i gwestiynau eraill, y risgiau sy'n ein hwynebu os nad ydym ni'n gallu sicrhau masnach di-dariff a threfniant undeb tollau priodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dim ond i ddweud, rhwng 2017 a 2018, gadawodd 3,962 o nyrsys o'r ardal economaidd Ewropeaidd y proffesiwn nyrsio, yn ôl cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac fe ddaeth dim ond 805 yn eu lle. Dyna'r lefel isaf o recriwtio hyd yma, felly rwy'n credu bod angen inni ei gwneud hi'n glir nad codi bwganod yw hyn—mae'r rhain yn ffigurau go iawn. 

Y newyddion da yn hyn o beth yw bod y niferoedd hynny wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers y sôn am Brexit, ond rwy'n credu bod gwir angen inni ei gwneud hi'n glir bod y bygythiadau hyn yn real, maen nhw eisoes yn dechrau digwydd, ac mae hynny heb sôn am yr effeithiau y gallai hynny ei gael ar feddygon, gweithwyr cymorth gofal iechyd, staff arlwyo, staff cadw tŷ a phorthorion, oherwydd maen nhw i gyd yn rhan o gynnal y GIG, ac mae pob un ohonyn nhw yn cyflawni swyddogaeth hanfodol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n debyg yw: ar ôl llwyddo i ddal gafael ar ein staff nyrsio hyd yma, sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnal hynny yn y dyfodol, yn enwedig os cawn ni 'ddim bargen' yn y pen draw?

17:50

Rwy'n credu eich bod yn iawn i nodi'r cwymp trychinebus sydd wedi digwydd eisoes yn nifer y nyrsys o'r Undeb Ewropeaidd a'r ardal economaidd ehangach sy'n gweithio yma yn y Deyrnas Unedig. I raddau helaeth mae'n effeithio ar Loegr ar hyn o bryd, ond dyna'r pwynt: ar hyn o bryd. Ni allwn esgus os bydd hyn yn parhau, os nad oes gennym ni fwy o synnwyr yn y ffordd y mae ein trefniadau yn gweithio yn y dyfodol, na fydd effaith andwyol arnom ni yma hefyd.

Er gwaetha'r hyn y dymunwn ei wneud, ac rydym wedi ymrwymo i'w wneud, i gynyddu'r gweithlu nyrsio yma—rwy'n credu y bu cynnydd o 67 y cant mewn hyfforddiant nyrsio yn ystod y pum mlynedd diwethaf fwy neu lai, felly rydym ni'n gwneud nid dweud drwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf; ac mae'r bwrsari hefyd yn cadw pobl yma yng Nghymru, yn cadw pobl yn y GIG yma yng Nghymru ar ôl iddyn nhw orffen eu hyfforddiant—bydd mwy o reidrwydd nag erioed i wneud hynny os na chawn ni fargen yn y pen draw, oherwydd bydd hi'n anos fyth i recriwtio nyrsys o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'n fy nharo wrth fynd i gwrdd â chynrychiolwyr nyrsys, boed yn Unison, y Coleg Nyrsio Brenhinol neu mewn undebau llafur eraill, eu bod yn wirioneddol bryderus ynghylch y rhagolygon ar gyfer dyfodol eu proffesiwn os byddwn yn gadael. Maen nhw eisoes yn clywed cydweithwyr yn sôn nad oes croeso iddyn nhw a'u bod yn ystyried gadael oherwydd eu bod yn poeni am drefniadau yn y dyfodol.

Yn Lloegr, maen nhw wedi newid rhai o'r swyddogaethau yn rhan o'r ymateb. Maen nhw'n cyflwyno gradd newydd o'r enw cydymaith nyrsio. Mae'r prif swyddogion nyrsio y tu allan i Loegr yn credu mai dirprwyo swyddogaeth yw hyn, a'r hyn y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd yw trosglwyddo dyletswyddau nyrsys cofrestredig i bobl heb y radd broffesiynol honno. Mae gennym ni ateb gwahanol. Mae gennym ni rwydwaith iawn o weithwyr cymorth gofal iechyd—bu rhywun yn yr ystafell hon yn helpu i negodi'r fframwaith hwnnw er mwyn iddyn nhw gael llwybr gyrfa iawn hefyd. Mae angen inni barhau i wneud hynny, i ddatblygu ein gweithlu ein hunain yma, ond ni allwn i ddweud yn onest wrth unrhyw un yn yr ystafell hon o unrhyw barti pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen y byddwn ni'n gallu osgoi'r canlyniadau hynny o ran ein gweithlu a phwy sydd gennym. Bydd yn cynnwys yr arian a wariwn—yr ydym ni'n barod i'w wario—ac, a dweud y gwir, y swyddi y mae ein pobl ni yn barod i ymgymryd â nhw o fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Felly, mae'r risgiau yn real. Ni ddylai neb eu hanwybyddu. Dylen nhw sylweddoli, heb fargen iawn, bydd rhaid inni wynebu'r canlyniadau ofnadwy hynny a dewisiadau anos fyth.

8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Y Strategaeth Goetiroedd

Eitem 8 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd ar y strategaeth goetiroedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd. Mae'n amserol gwneud hynny yn awr. Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd daw llawer o heriau i'n rhan, ond cawn hefyd gyfrwng i gynyddu'r enw da sydd gan Gymru o safbwynt nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel, wedi'u seilio ar adnoddau naturiol cadarn. Rwy'n dymuno sicrhau bod gan y sector coedwigaeth bolisïau clir a diweddar i'w helpu i weithio gyda'i gilydd i wynebu'r her hon. Hoffwn hefyd ailddatgan gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a'u swyddogaeth hynod bwysig wrth gyfrannu at reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rwyf wedi gwneud coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau a byddaf yn cyhoeddi diweddariad i'n strategaeth coetiroedd, 'Coetiroedd i Gymru', ac mae copi wedi'i anfon atoch.

Ond, yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Cymru Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, neu Confor, a fu farw'n ddiweddar. Roedd Martin yn eiriolwr brwd dros goedwigaeth ac fe wnaeth gyfraniadau gwerthfawr i'r strategaeth goetiroedd dros nifer o flynyddoedd. Gwn fod pawb a fu'n gweithio gydag ef yn gweld colled ar ei ôl a hoffwn fynegi'n ffurfiol fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Martin, i'w ffrindiau a'i gydweithwyr.

Fis nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio ar ôl Brexit a fydd yn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng amaethyddiaeth a choedwigaeth. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys undebau'r ffermwyr, cyrff amgylcheddol a chynrychiolwyr coedwigaeth, i gyflawni defnydd cynaliadwy o dir ar ôl Brexit.

Mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn gwybod y mae ein hamgylchedd yn eu hwynebu. Yn y polisi, rydym ni'n datgan yn glir bod angen mwy o goetiroedd a choed ar Gymru i'n helpu i reoli ein holl adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Nid ydym ni wedi gwneud digon eto i gynyddu'r gwaith o greu coetiroedd ac felly, am y tro cyntaf, rwyf i wedi cyflwyno targedau ar gyfer creu coetiroedd i'r strategaeth. Mae angen coetiroedd amrywiol bach a mawr sy'n cynnwys conwydd a rhywogaethau coed llydanddail. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd bwysigrwydd cynyddu nifer y coed mewn amgylcheddau gwledig a threfol.

Y llynedd, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylem ni ddiweddaru'r strategaeth. Mae panel cynghori strategaeth coetiroedd Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r strategaeth i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth newydd. Mae hanfodion y weledigaeth a'r strategaeth yn aros yr un fath. Ein gweledigaeth yw cyflawni coetiroedd o ansawdd uchel sy'n fuddiol iawn i bobl, i ddiwydiannau ac i'r amgylchedd.

Ond nid dogfen bolisi yn unig yw'r strategaeth hon. Mae'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch y math o goed a choetiroedd y mae eu hangen yng Nghymru a lle y mae eu hangen nhw. Mae hefyd yn rhoi cyfeiriad clir i reolwyr coetiroedd ac yn sicrhau bod y rhai sy'n rheoli ein coetiroedd yn gallu cyflawni rheolaeth gynaliadwy ar gyfer pob un o'n hadnoddau naturiol. Mae ganddo gysylltiad cryf hefyd drwy safon coedwigaeth y DU â'r safonau ardystio a weithredir gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd a'r rhaglen cymeradwyo ardystio coedwigoedd ar gyfer pren a chynnyrch arall coetir hefyd.

Mae'r strategaeth yn bwysig, ond mae angen camau gweithredu eraill os ydym am gyflawni ei nodau. Fe wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig 13 o argymhellion, ac mae fy swyddogion wrthi'n eu datblygu. Yn benodol, rwy'n benderfynol bod y rhai hynny sy'n dymuno plannu coed yn gwybod yn glir pa fath o goetiroedd sydd eu hangen, a lle y gellir eu plannu. Rydym ni'n dymuno ei gwneud yn haws i blannu'r goeden iawn yn y lle iawn. Mae map y cyfleoedd coetir yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, a byddaf yn cyfarfod â swyddogion safonau coedwigaeth yfory i drafod hyn.

Argymhellodd y pwyllgor hefyd y dylem ni ddarparu mwy o hyfforddiant coedwigaeth. I gefnogi hyn, rydym ni'n chwilio am opsiynau i ddatblygu clwstwr sector dan arweiniad cyflogwyr, â'r nod o gynyddu sgiliau yn y sector coedwigaeth drwy brosiect prentisiaeth newydd. Y nod yw creu hyd at 30 o swyddi prentis newydd yn ardal tasglu'r Cymoedd yn ystod 2019.

Er mwyn darparu gweithlu medrus, proffesiynol ar draws y sector coedwigaeth cyfan, rydym yn defnyddio'r cynllun trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi, i ddarparu cyllid o dros £3.2 miliwn i'r prosiect hyfforddi a sgiliau, Focus on Forestry First.

Ym mis Ebrill, roeddwn yn nathliad 10 mlwyddiant prosiect Plant! Llywodraeth Cymru. Mae hon yn fenter symbylol gyda'i gwreiddiau yn syniad un person ifanc—i blannu coeden ar gyfer pob plentyn a gaiff ei eni a'i fabwysiadu yng Nghymru. Mabwysiadwyd y syniad hwn gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Rwy'n gobeithio y bydd coeden ar gyfer pob plentyn yn grymuso plant i ddeall sut y gallan nhw chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.

Gwyddom y gallwn gyflawni ein huchelgais yn y maes hwn dim ond trwy weithio gyda rhanddeiliaid, y cyhoedd a gwleidyddion, a byddwn i'n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol ein coedwigoedd i gynnig syniadau a chynlluniau a fydd yn ehangu ein coetiroedd yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n gwlad yn cael eu gwireddu orau trwy weithio gyda'n gilydd. Heddiw, rwy'n ailddatgan ein gweledigaeth ar gyfer coedwigaeth a'n hymrwymiad i weithredu ar ein huchelgais ar gyfer coetiroedd Cymru.

17:55

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Hoffwn i ategu ei sylwadau ynglŷn â Martin Bishop, gan fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i'w deulu a'i ffrindiau ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Er fy mod yn croesawu'r datganiad heddiw a'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch coetiroedd yng Nghymru, mae'n bwysig hefyd cydnabod bod Cymru'n bell o gyrraedd y cyfraddau plannu sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn ddigonol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o gymharu â'n cymdogion mewn rhannau eraill o'r DU. Ers peth amser, mae sectorau coetiroedd, coedwigaeth ac amaethyddol wedi datgan yn gwbl glir bod angen inni gynyddu gorchudd coetir a phlannu mwy o goed. Yn wir, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Gwledig, Newid yn yr Hinsawdd ac Amgylchedd y Cynulliad, fe wnaeth Confor hi'n glir, bod creu coetiroedd yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus hyd yn hyn. Felly, er fy mod yn falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu mwy o goed a gosod targedau ar gyfer creu coetiroedd, fe fyddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu pontio'r bwlch a achosir gan ddiffyg plannu hanesyddol, fel y gall Cymru wneud cynnydd sylweddol â'r agenda hon, yn hytrach na pharhau i geisio dal i fyny â rhannau eraill y DU.

Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod rhai rhwystrau i blannu, ac fe wnaeth rhanddeiliaid hi'n gwbl glir drwy gydol ymchwiliad Pwyllgor Materion Gwledig, Newid yn yr Hinsawdd ac Amgylchedd bod rhai o'r rhwystrau hynny yn cynnwys problemau yn ymwneud â chynlluniau coetir Glastir. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi ei gwneud hi'n glir bod y broses yn hirfaith a llafurus iawn, ac yn aml, unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo, ychydig o amser sydd ar ôl i gwblhau'r gwaith plannu a gosod ffensys i gadw da byw draw. Ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud hefyd nad oes fawr ddim cymhelliant ariannol i ffermwyr blannu coetiroedd. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r pryderon penodol hyn, ac a all hi ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant amaeth i annog mwy o ffermwyr i blannu coetiroedd gan dderbyn bod ffermwyr Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella'r amgylchedd naturiol?

Rwyf yn sicr bod y Gweinidog yn cytuno â fy marn i bod y sector coedwigaeth yng Nghymru yn rhan sylweddol o economi wledig Cymru. Efallai y gall ddweud wrthym pa asesiad wnaeth ei swyddogion o'r effaith gafodd creu Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013 ar y sector coedwigaeth ac a yw hi'n cydnabod pryderon rhai yn y diwydiant na chafodd y sector coedwigaeth ddigon o flaenoriaeth yn y blynyddoedd diwethaf.

Bellach, gydag allbwn blynyddol o 500,000 o fetrau ciwbig o bren wedi'i lifio yn dod o gynnyrch coedwigoedd Cymru, mae'n amlwg bod cyfle da yma i ychwanegu gwerth a thargedu amrywiaeth o farchnadoedd yng Nghymru. O ystyried pwysigrwydd coedwigaeth a phren i'r economi wledig o safbwynt eu cynhyrchion ac o safbwynt swyddi, efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pa drafodaethau y mae hi'n eu cael gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i'w hargymell nhw'n gryfach i ddefnyddio pren a gynhyrchwyd yn lleol, fel y gwnaeth Powys wrth greu polisi i annog mwy i ddefnyddio cynnyrch pren, sy'n amlwg yn dangos ymrwymiad y sir i ddatblygu ymhellach diwydiant cynnyrch pren a choedwigoedd.

Dywedodd y Llywodraeth yn gynharach, ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd polisi rheoli tir newydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar nwyddau cyhoeddus a choetiroedd â photensial mawr yn y gofod hwn, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw sut yn union bydd coetiroedd yn elwa o dan y polisi newydd ar gyfer rheoli tir ac i ba gyfeiriad newydd bydd y Gweinidog yn mynd gyda'r mater hwn ar ôl Brexit.

Mae'r Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith ardderchog a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelod, David Melding ar bolisi coetiroedd, yn enwedig wrth ymwneud â gorchudd coed trefol. Rwy'n falch ei bod hi'n ei gwneud hi'n glir yn ei datganiad heddiw ei bod hi'n bwysig cynyddu nifer y coed mewn amgylcheddau gwledig a threfol. Mae dogfen bolisi 'Dinasoedd Byw' y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i gadarnhau'r lleiafswm o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol, drwy gynlluniau llesiant lleol a datganiadau ardal erbyn 2030. Mae'r ddogfen hefyd yn galw am siarter ar gyfer coed i amddiffyn ein coed hynaf. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i groesawu gwaith fy nghyd-Aelod ar yr agenda hon ac efallai yn ei hymateb, y bydd hi'n ymrwymo i ystyried ei gynigion ac i weithio'n adeiladol gyda ni ar y mater penodol hwn.

Felly, wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'm cyd-Aelodau yn y Cynulliad i graffu ar hynt Llywodraeth Cymru gyda'i pholisïau coetir wrth iddynt ddatblygu. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

18:00

Diolch. Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad, a'r mewnbwn gwerthfawr yn awr, yn arbennig wrth ichi gyfeirio at eich cyd-Aelod, David Melding a'r holl waith a wnaeth yn y maes hwn. Wrth gwrs, fel y nodais yn glir yn fy natganiad, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, os ydym ni am gyflawni'r hyn y dymunwn ar gyfer Cymru, nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a dyna pam mae'n bwysig iawn i weithio gyda rhanddeiliaid. Gwyddom fod cyfleoedd ar ôl Brexit o ran y cyfleoedd ar gyfer rheoli tir ac yn sgil hynny, cyfleoedd i greu coetiroedd a choedwigoedd, ond mae hyn yn y tymor byr, ac mewn gwirionedd mae'n—. Dyna pam, cyfarfûm â Chydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a rhanddeiliaid y diwydiant drwyddi draw—felly, wrth gwrs, o'r sector gwirfoddol ac o Gyfoeth Naturiol Cymru ac o Cadw—i weld beth yw'r rhwystrau presennol. Byddaf yn codi'r mater hwn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru o ran, mewn gwirionedd, sut gallwn ei gwneud hi'n haws yn y ffordd iawn i blannu'r coed iawn. Credaf fod dyhead tymor byr o ran beth yw'r rhwystrau cychwynnol a sut y gellir gwneud newidiadau i annog mwy o blannu coed â gwneud newidiadau sylweddol nes ymlaen ar ôl Brexit.

Rydw i a fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig wedi ei gwneud hi'n glir ein bod yn bell o gyrraedd y targedau a bennwyd yn 2010 o ran y cyfraddau y mae angen inni eu plannu. Y gwir amdani yw, mae'n debyg, nad yw creu coetiroedd yng Nghymru wedi newid yn ystod y rhan fwyaf o'm hoes i. Rwy'n credu y dylwn edrych ymlaen yn awr. Dyna pam mae'n rhaid i'r ddogfen hon fod nid yn unig yn ddogfen bolisi, ond yn un sydd ag atebion ymarferol a phragmataidd ynghylch sut yr awn ymlaen â hynny. Mewn gwirionedd, o ran edrych ar Glastir a chyllid, rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser gyda chydweithwyr yn siarad â ffermwyr ynglŷn â beth yw'r rhwystrau ar hyn o bryd, sut y byddent yn gwella Glastir a sut y gallwn ni ei wneud yn ddewis mwy deniadol. Gwn y bu rhai o'r rhwystrau'n ymwneud â newid parhaol a'r amser y mae'n rhaid ichi aros am enillion ar eich buddsoddiad. Felly, rwyf wedi siarad am hyn gyda chydweithwyr ac rwyf wedi sôn amdano wrth y pwyllgor newid yn yr hinsawdd o ran beth y maen nhw yn ei wneud â'r prosiect defaid a choed yn yr Alban. Mae hwnnw'n edrych ar sut y gallan nhw weithio gyda ffermwyr yn y fan yno o ran annog ffermwyr i barhau ond i arallgyfeirio, a'r manteision i'r hyn y maen nhw'n ei wneud eisoes, yn ogystal ag arallgyfeirio o ran creu coetiroedd, efallai, gyda gwell mynediad—y mae'n eu helpu gyda mynediad i'r tir. Edrych mwy ar sail conwydd yw hyn, ond mewn gwirionedd, rydym ni eisiau cael y cyfuniad hwnnw yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol yn cefnogi coed lleol. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog tai yn dilyn hyn yn fanwl iawn, a chredaf y cafodd gyfarfod gyda Confor ddoe gan ddweud ein bod ni'n gweithio'n agos iawn ar draws y Llywodraeth ar hynny. Roeddwn i'n falch iawn—oherwydd mae'n rhaid inni gael y cyflenwi a'r galw yn iawn hefyd er mwyn sicrhau bod gennym gyflenwad i ateb y galw ac, mewn gwirionedd, sut yr ydym yn hyrwyddo manteision defnyddio coed wrth adeiladu o ran budd economaidd posibl i economi Cymru, ond hefyd o safbwynt yr amgylchedd o ran sut yr ydym yn ymdrin â'r agenda ddatgarboneiddio.

Roeddwn yn falch o ymweld â phrosiect ym Mwcle yr wythnos ddiwethaf. Maen nhw'n adeiladu nifer o fflatiau newydd, a beth y maen nhw wedi'i wneud yw, maen nhw mewn gwirionedd—[Anghlywadwy.]—sut, mewn gwirionedd, y cadwyd y gadwyn gyflenwi gyfan o fewn Cymru. Daw'r pren o'r sbriwsen Sitka, o'r coedwigoedd o amgylch Pontnewydd-ar-Wy, ger Llandrindod, a gweithgynhyrchwyd y fframiau yn y Bala, ac maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda Woodknowledge Wales. Felly, ar bethau fel hyn yr ydym ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau y gallwn ddatblygu hyn ymhellach.

I orffen, yn ôl at eich cyd-Aelod, David Melding. Rwy'n fwy na pharod i ni ymgymryd â'r trafodaethau hynny ar y cyd yn y dyfodol. Rwy'n credu o bosibl bod rhan benodol o ran pan fyddwn ni'n edrych ar orchudd trefol. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn creu nifer o fanteision i ganol ein trefi a'n dinasoedd ac edrychwn ar y rhan y gall byrddau gwasanaeth cyhoeddus a datganiadau ardal chwarae yn hynny.

18:05

Yn gyntaf oll, a gaf i gysylltu fy hun, a Phlaid Cymru â'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ynghylch Martin Bishop? Bydd colled mawr ar ei ôl yn ystod y Sioe Frenhinol, lle'r oedd yn wyneb cyfarwydd iawn ac roedd yn barod bob amser i drafod coetiroedd a'r amgylchedd yng Nghymru.

A gaf i droi at ddatganiad y Gweinidog? Yn gyntaf oll, wrth gwrs, i ailadrodd bod creu coetir o'r math cywir ac yn y lle cywir yn arf defnyddiol iawn wrth ymladd newid yn yr hinsawdd—mae'n glanhau'r aer, mae'n amddiffyn rhag llifogydd, mae'n cynnig cysgod mewn amgylcheddau trefol, mae'n gwella bioamrywiaeth ac mae'n fuddiol i'r economi ac i'n hiechyd a lles. Gyda'r holl fuddion hynny y mae coetir yn eu cynnig, mae'n drueni mawr mai dim ond tua hanner y coetir a ddylai fod yng Nghymru sydd gennym o ran hunangynhaliaeth mewn coed, ond hefyd o ran ateb yr heriau hynny a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd ac allyriadau. Mae ein coetir, sy'n cwmpasu tua 15 y cant o arwynebedd y tir, yn llawer llai na'r cyfartaledd Ewropeaidd o 37 y cant, a gallem yn sicr ddyblu nifer y coetiroedd sydd gennym yng Nghymru.

Yr hyn sydd heb ei grybwyll hyd yn hyn yn y datganiad hwn a'r cwestiynau, yw targed gwirioneddol. Ond, wrth edrych ar y strategaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, ymddengys bod y targed ar gyfer Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn 2,000 o hectarau'r flwyddyn o goetir newydd o 2022 i 2030 a thu hwnt, ond mae'r strategaeth yn cydnabod na fydd hynny'n ddigonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i ostwng allyriadau 80 y cant erbyn 2050. Felly, mae gennym darged hyd at 2030 nad yw'n ddigonol i fodloni ein rhwymedigaethau tymor hir, hefyd mae gennym y budd ardderchog hwn o greu coetiroedd sydd hefyd ar goll ac mae gennym y realiti, a nodwyd gan y Pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, fod y Llywodraeth wedi cyflawni dim ond 10 y cant o'r targed i greu coetir hyd yn hyn. Felly, a all y Gweinidog nodi a chadarnhau beth yw'r targedau ar gyfer y degawd nesaf a sut y mae hi'n bwriadu adeiladu ar y rheini ar ôl derbyn yn y strategaeth na fyddant yn ddigonol, yn wir, i fodloni ein rhwymedigaethau ynghylch newid yn yr hinsawdd? Mae'r strategaeth yn dweud mai ychydig sydd wedi newid mewn 30 mlynedd, a dyna'r gwir.

A all hi hefyd ddweud a yw hi wedi cael cyfle i adolygu datganiad drafft 'Polisi Cynllunio Cymru', a oedd fel petai'n gwanhau diogelwch coetiroedd hynafol yn benodol, ac rwy'n gwybod bod hyd wedi cael ei godi gan nifer o Aelodau yma yn y Cynulliad, a dywedodd y Llywodraeth, fel y cofiaf, y byddai'n edrych eto ar ddatganiad drafft 'Polisi Cynllunio Cymru' i wneud yn siŵr nad oedd unrhyw arwydd o wanhau diogelwch coetiroedd hynafol. Felly, a all hi sicrhau'r Cynulliad na fyddai unrhyw wanhau yn digwydd?

Ac yn olaf, a all hi ddweud wrthym ni sut y byddai hi'n bwriadu sicrhau y bydd y 40 y cant o'r coetiroedd presennol, sydd, yn ôl yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol', heb lawer o reolaeth neu ddim o gwbl ar hyn o bryd, yn cael eu rheoli yn y dyfodol? Ai tasg ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yw hyn? A fydd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau perchnogion preifat? Neu a gawn ni gynllun rheoli coetir a fydd yn fwy cynhwysfawr a chefnogol yng Nghymru wrth i ni gynyddu ein hunangynhaliaeth o ran pren, i gefnogi ein diwydiannau ein hunain a hefyd i leihau mewnforion a lleihau costau economaidd ac amgylcheddol mewnforio, wrth inni ddechrau ehangu coetiroedd, rhywbeth rwy'n credu y byddem ni i gyd yn hoffi ei weld fel rhan o'n hymateb i'r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd?

18:10

Diolch. Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rydych yn llygad eich lle o ran dechrau eich cyfraniad drwy dynnu sylw at y manteision niferus y mae creu coetir a seilwaith gwyrdd yn eu dwyn yn ein cymunedau gwledig a'n cymunedau trefol. Yn ogystal â dwyn manteision amgylcheddol, maen nhw hefyd yn gwneud ein hamgylchedd yn lle llawer mwy dymunol i fod, yn enwedig mewn ardal drefol, ac mae'n amlwg yn dwyn manteision economaidd a chynhyrchiol, a manteision iechyd hefyd.

I egluro yn gyntaf o ran targedau, dywed y strategaeth ei hun y bydd cynnydd o 2,000 hectar neu fwy y flwyddyn o ran gorchudd coetir. Mae hynny'n unol ag argymhellion Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi cydnabod nad yw hynny'n ddigon i gyflawni'r gyfran—y gostyngiad o 80 y cant—felly rydym yn uchelgeisiol i roi dulliau ar waith o gyflawni 4,000 hectar y flwyddyn os gallwn i fodloni hynny. Felly, mae'n isafswm, o leiaf, gwaelodlin. Wrth edrych ar y sefyllfa sydd ohoni, rydym yn edrych, ar gyfartaledd, ar 100 hectar y flwyddyn. Mae hynny'n fwy o lawer, ond rwy'n glir mai o leiaf yw hynny, ac mae llawr isaf yw hynny o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud i gyflawni'r newid, i gyflawni'r rhwymedigaethau hynny yn y dyfodol ac i fynd ymhellach eto.

Fe wnaf i droi efallai at goetiroedd hynafol a choed hynafol. Rwy'n cydnabod y pryder sydd wedi'i fynegi gan y rhai hynny yn y sector, ac yn y gymuned gyfan, ynghylch—mae'n deg dweud yr arweiniodd at lefel sylweddol o ymatebion, yn codi pryderon nad yw'r dewis geiriau yn 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi'r lefel o warchodaeth y dylid ei rhoi i goed hynafol, hynod a threftadaeth. Rwyf i eisiau egluro nad oes dim bwriad o gwbl i wanhau'r warchodaeth a roddir i goed hynafol, hynod a threftadaeth yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Yn amlwg, ystyriwyd yn briodol bob ymateb i'r ymgynghoriad, fel y byddan nhw, ond rwy'n credu bod dewisiadau geiriau penodol megis 'yn aml', 'dylid', 'pob ymdrech', yn dechnegol, yng nghyd-destun senario cynllunio, yn cario pwysau, ond mae dewisiadau iaith yn rhywbeth y gallwn ei ailystyried yn amlwg yn rhan o'r ymateb i'r ymarfer ymgynghori, a gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o sicrwydd nad oes gen i unrhyw fwriad o gwbl i wanhau'r warchodaeth a roddir i'n coed hynafol, hynod a threftadaeth sydd mor annwyl i ni.

Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Confor, a fu farw yn drasig yn ddiweddar, ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, pwyllgor y gweithiodd yn agos iawn gydag ef, ac roedd ei wybodaeth a'i frwdfrydedd ynghylch popeth sy'n ymwneud â choed bob amser yn creu argraff arnom ni.

A gaf i groesawu ailddatganiad y Gweinidog o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a'u swyddogaeth hynod bwysig wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy? Rwy'n cytuno bod angen mwy o goetiroedd a choed ar Gymru i'n helpu ni i reoli ein holl adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Yn wir, nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn yr ystafell hon yn dweud nad oes angen mwy o goetiroedd a choed i'n helpu i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Ond nid ydym wedi gwneud digon hyd yn hyn i gynyddu nifer y coetiroedd sy'n cael eu creu, felly rwy'n croesawu'r ffaith bod gennym ni dargedau ar gyfer creu coetiroedd yn y strategaeth am y tro cyntaf.

Rwyf yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylem ni ddiweddaru'r strategaeth. Rwyf i hefyd yn falch bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio i weithredu ar yr 13 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd o blaid cael mwy o goed ac rydym ni i gyd yn hapus bod gennym niferoedd. Sut ydym ni am gyflawni hyn? Rwy'n credu mai hynny yw'r her mewn gwirionedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i ni gynyddu'r gorchudd coed mewn ardaloedd trefol gan ddefnyddio coed priodol a bod angen inni i osod targedau ar gyfer hynny? Mae angen inni osod targedau i bob awdurdod lleol ar gyfer hynny, oherwydd, oni bai ein bod yn dechrau pennu targedau y gellir eu dadansoddi—mae dweud, 'Mae angen 10,000 yn fwy o goed yng Nghymru' yn un peth, mae dweud wrth gyngor Abertawe bod angen 1,000 yn fwy o goed arno yn gwbl wahanol a rhywbeth y gellir eu dwyn i gyfrif amdano. A yw'r Gweinidog hefyd yn cytuno bod angen inni osod targedau pum mlynedd i bob ardal awdurdod lleol ar gyfer plannu coed yn debyg i'r modd y gwnaethom osod y cynllun datblygu lleol ar gyfer tai, lle'r ydym yn dweud, o dan gynllun datblygu lleol, 'Mae'n rhaid i gymaint â hyn o dir fod ar gael ar gyfer tai'? Pam na allwn ni wneud yr un peth ar gyfer coed? Fel arall, rydym yn treulio llawer o'n hamser ar niferoedd Cymru gyfan. Rydym yn treulio llawer o'n hamser yn sôn bod angen inni gyflawni hynny, ond ymddengys fod diffyg cynllun fesul lle o ran sut yr ydym ni'n cyflawni hynny. A, pan fyddwn yn anochel methu â chyflawni'r niferoedd, bydd pawb yn eich beio chi, Gweinidog y Cabinet, yn gyntaf, ond rwy'n credu bod pob un ohonom yn haeddu rhywfaint o'r bai, oherwydd oni bai ein bod yn dechrau dadansoddi i 'Chi, mewn awdurdodau lleol, neu chi, yn yr ardal hon, sy'n gorfod cyflawni hyn', wedyn y cwbl y bydd pawb yn ei ddweud yw, 'Cyfrifoldeb rhywun arall yw hynny'.

18:15

Diolch, diolch i Mike Hedges am hynny. Fe wnaethoch chi daro'r hoelen yn union ar ei phen yn y fan yna trwy ddweud bod consensws a'n bod ni i gyd yn cytuno—a chewch chi'n anodd dod o hyd i rywun sy'n anghytuno mai rhywbeth cadarnhaol yw plannu rhagor o goed a'i bod angen inni wneud hynny—ond yr hyn sy'n allweddol yw sut i'w gyflawni. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud sylwadau gwirioneddol ddilys ac ystyrlon o ran, mewn gwirionedd—. Efallai na fyddwn i, efallai, yn defnyddio'r ymadrodd, 'derbyn y bai'; rwy'n credu, fel y dywedwch chi, ei bod i bob un ohonom ni, bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, i weithio ar hyn a phwyso ar ein hawdurdodau lleol ein hunain, yn ogystal â mi fy hun yn gwneud hyn fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd. Ond rwy'n credu eich bod yn codi pwyntiau diddorol iawn o ran edrych ar bethau fesul lle—felly, rydym yn gwybod bod gan bob ardal drefol yng Nghymru wahanol anghenion a blaenoriaethau—a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Rwy'n awyddus, fel y dywedais, i fwrw ymlaen â hynny gyda Cyfoeth Naturiol Cymru drwy'r datganiadau ardal i wneud yn siŵr eu bod yn gydnaws â blaenoriaethau o ran seilwaith gwyrdd a chreu coetiroedd, ond hefyd o ran gwerth ein bioamrywiaeth, a gwneud yn siŵr ei bod yn gyson, yn amlwg, â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, mae'n rhywbeth—ydy, i edrych ar ddull wedi'i seilio ar le rwy'n credu yw'r dull gorau, wrth symud ymlaen.

Rwyf am ganolbwyntio ar un maes, a hynny fydd gorchudd coed trefol mewn trefi a dinasoedd, ac rwy'n cefnogi'r rheolaeth honno ar goed trefol. Mae pob un ohonom ni'n gwybod, on'd ydym, bod coed yn gynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt a phryfed peillio, eu bod yn helpu i leihau llygredd aer, llifogydd trefol a thymheredd wyneb—a fyddai'n ddefnyddiol heddiw—a phob un o'r rhain yn hynod o bwysig i iechyd a lles pobl sy'n byw mewn trefi a dinasoedd. Rwy'n sicr y bydd pobl yn yr ystafell hon sydd â'r un meddylfryd â mi yn rhannu fy mhryderon ynghylch Cyngor Dinas Sheffield yn cwympo nifer enfawr o goed iach yn eu hardal.

Nawr, rydym ni'n gwybod bod 17 y cant o orchudd coed trefol a bod angen inni wneud rhywbeth am hynny. Gofynnaf i chi, Weinidog, a fyddwch chi'n cael sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio i sicrhau, wrth inni geisio cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2021, nad ydym yn syml yn mynd i safle tir glas, yn ei glirio'n llwyr, yn adeiladu tai ac yn ceisio rhoi rhywfaint o borfa yn ôl neu ambell lwyn yma ac acw i'n bodloni ein hunain. Oherwydd nid yw hynny'n ein bodloni ein hunain. Rwy'n credu bod angen meddwl radical arnom yma wrth sôn am adeiladu cartrefi, ac, ar yr un pryd, ceisio cynnal y cynefinoedd sydd yno eisoes, yn hytrach na—ac rydym ni wedi clywed sôn amdano heddiw—meddwl am ddinistr ar raddfa fawr, yn fy marn i, yr amgylchedd trefol i'w gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl adeiladu tai a sicrhau'r elw mwyaf.

18:20

Diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad, eto yn ailadrodd y manteision y gall coetir a mannau gwyrdd trefol eu cyflwyno, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r ymdeimlad hwnnw—yn enwedig os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae fwy na thebyg yn daith sylweddol i fynd, mewn gwirionedd, i ymweld â choedwig fawr rhywle, bod y coetiroedd hynny 10 munud o garreg eich drws yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae yna gysylltiad emosiynol clir iawn i hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi defnyddio enghraifft Coed Gwepre eisoes, sydd drws nesaf i fy etholaeth i nawr, ond fe gynigiodd fanteision niferus i mi, fy nheulu a fy ffrindiau wrth i mi dyfu fyny, a gwn ein bod yn dymuno gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw hynny ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

O ran cynllunio, mae'n hollol, wyddoch chi—. Rydym yn edrych ar bethau mewn ffordd gyfannol a thraws-Lywodraethol ac yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd a bod pethau yn gyson. Yn y strategaeth ddiwygiedig, ar dudalen 11, o ran dweud beth yr ydym ni'n dymuno ei weld yn digwydd, mae yn dweud

'Pan ganiateir gwaredu coetir yn barhaol at ddibenion datblygu, dylid plannu rhagor o goed i wneud iawn am y buddion y bydd y cyhoedd yn eu colli'.

Fodd bynnag, rwy'n awyddus i wneud yn siŵr y caiff seilwaith gwyrdd ei ystyried ac i weithio gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ar hynny. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi ei ddiweddaru yn ddiweddar i adlewyrchu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn cynnwys polisi newydd yn ymwneud â seilwaith gwyrdd a datblygiadau newydd, felly mae'n rhywbeth y byddwn yn cydweithio'n agos arno i weld hynny'n dwyn ffrwyth yn ymarferol.

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi ailadrodd bod coedwigoedd yn un o'ch blaenoriaethau pennaf. Mae gan goed trefol arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, ac nid oes unrhyw amheuaeth, y byddai ein hamgylcheddau trefol yn lleoedd gwahanol iawn heb goed. Mae cofnod helaeth o'r buddion i iechyd corfforol a meddyliol pobl, sy'n deillio o goed mewn ardaloedd trefol. Mae Coed Cadw yn amlygu'r buddion a ddaw i bobl, drwy fod yn agos at goed a thrwy ymarfer corff â choed o'u hamgylch. Mae coed trefol yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Mae coed yn darparu cysgod, yn amsugno carbon deuocsid, yn hidlo llygredd aer, yn lliniaru llifogydd ac yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a phlanhigion. Mae coed trefol yn arbennig o effeithiol wrth amsugno carbon deuocsid.

Mae'n bwysig ein bod ni'n dod o hyd i ffyrdd o werthfawrogi coed yn fwy effeithiol, i adeiladu ardaloedd trefol mwy cynaliadwy y gellir byw ynddyn nhw. Canfu ymchwil newydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain fod parthau gwyrdd trefol yn amsugno cymaint o garbon deuocsid â choedwigoedd glaw. Cynhaliwyd astudiaeth o 85,000 o goed yng ngogledd Llundain i ddangos pwysigrwydd plannu a gwarchod coedwigoedd trefol i wrthbwyso allyriadau tanwydd ffosil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych ar yr astudiaeth hon ac yn gweld sut y gall Cymru ddysgu o'r gwaith ymchwil hwn.

Mae cynllun Plant! Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus, ac mae'n rhaid i fentrau fel hyn barhau. Rwy'n deall bod llawer o'r coed a blannwyd yng Nghaerllion yn fy etholaeth wedi'u plannu yn ystod y 1970au yn rhan o ymgyrch "Plant a Tree in '73" ac yna y flwyddyn ganlynol, "Plant some more in '74". Fodd bynnag, mae gennym ni lawer o ffordd i fynd, ac nid oes unrhyw amheuaeth bod yn rhaid gwneud mwy, yn arbennig o ran datblygiadau tai newydd, fel y dywedodd Joyce Watson, a seilwaith. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n plannu'r coed iawn yn y lleoedd iawn.

Mae dinas Casnewydd yn ffodus i gael ardaloedd mawr o fannau gwyrdd y mae'n hawdd i bobl gael atynt, a pharciau arobryn fel Parc Belle Vue, Parc Tredegar a Pharc Beechwood. Hefyd, mae coedwig Coed Gwent ar garreg ein drws, sy'n rhan o'r bloc mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru, ag iddo hanes ar gofnod sy'n ymestyn dros 1,000 o flynyddoedd. Mae'r rhwydwaith o lwybrau coetir, gan gynnwys llwybrau beicio lawr mynydd, yn boblogaidd ac yn boblogaidd iawn. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud i sicrhau y gall y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc, ddefnyddio hyn oll. Yn ein hadroddiad 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater' y llynedd, roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cydnabod y gwaith y mae grwpiau coetiroedd lleol yn ei wneud i ddiogelu ein mannau gwyrdd trefol a'u gwneud yn fwy hygyrch. Un grŵp o'r fath yn fy etholaeth i yw Ymddiriedolaeth Coetir Cymunedol Basaleg, sy'n cynnwys gwirfoddolwyr lleol. Mae'n hanfodol bod grwpiau cymunedol, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a thirfeddianwyr preifat yn cydweithio i chwilio am gyfleoedd menter coetir a chefnogi perchnogaeth gymunedol o goetiroedd.

Roedd budd cymdeithasol coetiroedd yn o'r prif themâu yn yr adroddiad 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater', ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cydnabod y gall coetiroedd trefol chwarae rhan mewn cydlyniant cymunedol. Felly, o ystyried hyn, Gweinidog, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi grwpiau presennol, fel yr un ym Masaleg, ac annog rhai tebyg i ffurfio i sicrhau y gall mwy o'n mannau gwyrdd ddod â mwynhad i'n  cymunedau trefol?

18:25

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n eithaf hoffi hynny—"Plant a Tree in '73, Plant some more '74". Efallai fod angen inni feddwl am sloganau cyfoes i gyd-fynd â'r strategaeth coetiroedd. Gallwn fod yn temtio ffawd drwy wahodd cyfraniadau ar hyn, serch hynny.

Rydych chi'n iawn o ran, mewn gwirionedd, pwysigrwydd dod o hyd i ffyrdd o werthfawrogi coed, a byddaf yn sicr yn ymchwilio i adroddiad Coleg y Brenin, y gwnaethoch chi sôn amdano; mae'n swnio'n ddiddorol iawn. Nid oeddwn i'n gwybod, ond mewn gwirionedd, mae gennym ni fforestydd glaw yng Nghymru hefyd. Ond, o ran ffyrdd o werthfawrogi coed, siaradais yn ddiweddar mewn digwyddiad Meysydd Chwarae Cymru, a'r hyn a oedd yn wirioneddol arwyddocaol am hynny oedd eu bod yn rhoi—. Rydym ni'n gwybod bod coed yn werthfawr o ran y buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac iechyd a lles a'r buddion ehangach niferus sy'n gysylltiedig â nhw, ond roedden nhw wedi'i roi yn ei gyd-destun, mewn gwirionedd, trwy ddweud, os cewch chi wared ar y parc hwn, neu'r man gwyrdd hwn, mae ganddo werth economaidd i'r gymuned a'r ardal ehangach. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gallu crynhoi hynny mewn ystyr ehangach i bwysleisio'n wirioneddol i bobl, werth ein coetiroedd a'n mannau gwyrdd.

Mae coetiroedd cymunedol yn hanfodol, a dyna pam y mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau fel y cynllun coetiroedd cydweithredol, ac yn gweithio gyda Llais y Goedwig a chyswllt rhwydwaith cymunedol i gefnogi prosiectau cymunedol, a pherchnogaeth yn yr ystyr, mewn gwirionedd—mae pobl yn teimlo perchnogaeth, beth bynnag, o'r coetir sy'n agos iddyn nhw neu'r mannau gwyrdd, ond mewn gwirionedd, perchnogaeth yn yr ystyr fwy llythrennol. Ac mae'n ymwneud â mynediad ar gyfer pobl ifanc, y prosiect Plant! er enghraifft, ac rwy'n falch y pwysleisiodd y strategaeth y rhan y mae coetiroedd a mannau gwyrdd, coedwig, yn ei chwarae o ran addysg, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwch chi danbrisio'r ffaith, i rai plant, trwy eu harwain i'r awyr agored mewn ysgol goedwig, cymryd rhan mewn eco-ysgolion, rydych yn gweld newid llwyr a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny. Felly, hefyd mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i'w archwilio gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran, mewn gwirionedd, y modd o gysoni hynny yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol a sut yr ydym yn gallu, mewn gwirionedd, gwneud yn siŵr o oedran ifancach—a chynnal hynny yn yr ysgol uwchradd hefyd—fod mwy o bobl ifanc yn elwa ar ein mannau gwyrdd a'n coetiroedd, ac yn ogystal â hynny, mewn gwirionedd, yn cael cyfle o bosib trwy hynny i ddatblygu sgiliau a llwybr gyrfa yn y dyfodol hefyd.

9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem olaf ar ein hagenda ni am y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar integreiddio tai, iechyd a gofal cymdeithasol, a galwaf ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans. 

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw tai diogel, o ansawdd da i iechyd a lles y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym ni'n deall y pwysau sylweddol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac rydym yn gwybod bod cyfraniad sefydliadau tai a gwasanaethau tai yn hanfodol i ymateb i'r pwysau hynny. Er bod tai a gofal cymdeithasol ill dau yn flaenoriaethau allweddol yn ein rhaglen lywodraethu a'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i bawb', rydym yn cydnabod na fyddwn yn ymateb i anghenion pobl yng Nghymru trwy ddilyn yr agendâu tai a gofal cymdeithasol ar wahân.

Roedd yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod y rhan y gall tai ei chwarae wrth hyrwyddo a chynnal iechyd da a lles. Yn yr un modd, gall tai gwael neu amhriodol arwain at effaith niweidiol. Mae 'Cymru Iachach', ein cynllun i ymateb i'r adolygiad seneddol, yn rhoi cyfle pwysig i ni gymryd camau breision ar yr agenda integreiddio. Mae'n rhoi cyfle i ni newid yn sylweddol ein ffordd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys trwy fodelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol lleol a di-dor. Rydym wedi ymrwymo i ymateb i'r her. Rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ar draws y Llywodraeth. Ac rydym yn cydnabod yr angen i dai fod wrth wraidd y gwaith hwn.

Cefnogir ein hagenda integreiddio gan y gronfa gofal integredig. Mae'r gronfa yn cynnwys cronfeydd refeniw a chyfalaf a'i nod yw gwella gwasanaethau cyhoeddus trwy wneud cydweithredu yn ofyniad penodol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, a chaniatáu lle ar gyfer arloesi ar yr un pryd. Mae'r gronfa yn elfen allweddol o leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, derbyniadau amhriodol i ofal preswyl, ac oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym ni wedi gweld gostyngiad nodedig yn yr oedi wrth drosglwyddo gofal ers cyflwyno'r gronfa, ond gwn fod mwy y gallwn ei wneud. Mae'r gronfa yn cefnogi nifer o amcanion, gan gynnwys datblygu cartrefi llawer mwy addas i bobl hŷn, pobl â dementia neu anableddau dysgu, neu bobl ifanc ag anghenion cymhleth, ochr yn ochr â gofal a chymorth.

Er bod y gronfa eisoes yn dechrau cefnogi atebion a arweinir gan lety i ofal cymdeithasol, ochr yn ochr â rhaglenni cyfalaf tai ac iechyd, rwyf eisiau symud tuag at ddatblygu rhaglen fwy ymestynnol, strategol o fuddsoddi cyfalaf, sydd â thai wrth ei chraidd. Rwyf am inni wella ein perfformiad gyda'r gronfa hon a symud oddi wrth gyflawni dim ond prosiectau llai—ond pwysig—lleol i ddull llawer mwy arloesol a gwirioneddol integredig, blaenoriaethu atebion a arweinir gan lety sydd wedi'u cynllunio'n benodol i leihau'r galw ar gyllidebau gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol er mwyn cyfochri'n well yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ym maes tai a gofal cymdeithasol. Aeth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a minnau ar ymweliad â chynllun tai â gofal ychwanegol a gofal sy'n cael ei adeiladu ym Maesteg ddoe, sydd â gofal a chymorth wrth ei wraidd. Mae ei ddatblygiad yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth leol ac angen lleol am dai a dyma'r math o brosiect yr ydym ni eisiau gweld mwy ohonynt.

Rwy'n falch, felly, i gyhoeddi rhaglen gyfalaf tair blynedd newydd o £105 miliwn i gefnogi symudiad tuag at ymagwedd fwy strategol ac ymestynnol o atebion a arweinir gan lety i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf eisiau gweld y dull hwn a arweinir gan lety yn cael ei ymwreiddio yn y modelau gofal yr ydym ni'n eu datblygu ar gyfer pobl hŷn a grwpiau eraill sy'n agored i niwed. Gwyddom am swyddogaeth tai yn iechyd a lles pobl. Tai yw'r llwyfan i atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer gofal cymdeithasol, ac maent hefyd yn allweddol i helpu i wneud gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Nod y rhaglen gyfalaf gronfa gofal integredig newydd o £105 miliwn yw manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad y gall ymyriadau tai ei wneud i wella darpariaeth gwasanaethau, gan hefyd ysgafnhau'r pwysau ar y GIG a darpariaeth gofal cymdeithasol.

Yn ogystal â hyn, mae'r rhaglen hon yn ymateb i nifer o argymhellion yn yr adroddiad, 'Tai i’r dyfodol: diwallu dyheadau pobl hŷn Cymru', a oedd yn nodi rhaglen eang o newid pan gafodd ei gyhoeddi y llynedd. Tynnodd sylw at yr angen am weithredu cydlynol ar amrywiaeth o lefelau. Roedd yr adroddiad yn alwad i weithredu, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cydnabu'r grŵp arbenigol a luniodd yr adroddiad bwysigrwydd gweithredu ar amrywiaeth o lefelau i sicrhau newid trawsffurfiol. Bydd yr adroddiad yn parhau i ddarparu llwybr ar gyfer y newidiadau pellach sy'n dal i fod yn ofynnol os ydym ni i ymateb yn ddigonol i'r heriau tai, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ein hwynebu yng Nghymru.

Rydym yn ysgogi'r agenda integreiddio drwy gefnogi'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thai i gydweithio llawer mwy drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Darperir ar gyfer y byrddau gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac maen nhw'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau buddsoddi strategol ar gyfer y gronfa gofal integredig. Maen nhw'n tynnu ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, dinasyddion, a phartneriaid eraill. Mae integreiddio yn gwbl allweddol iddynt. Rwy'n benderfynol o weld llais tai yn dod i'r amlwg hyd yn oed yn fwy yng ngwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Ni all cyfraniad tai i ofal a chymorth mwy effeithiol fod yn elfen ychwanegol ddewisol yn unig; mae angen iddo fod wrth wraidd ein hymdrechion i integreiddio gwasanaethau er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf. Felly, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau y byddwn ni'n gwneud tai yn aelod statudol o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae swyddogion yn ystyried sut y gellir gweithredu hyn yn y modd mwyaf effeithiol.

Wrth gwrs, ni ddylid ystyried mai darparu llety newydd yw'r unig ateb. Mae'n hanfodol inni gefnogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain wrth i'w hanghenion newid. Rydym ni'n gwybod bod cymhorthion ac addasiadau yn aml yn achubiaeth i bobl sy'n cael profiad o amgylchedd sy'n anablu. Gall cartref addas, sydd wedi'i addasu'n dda, wneud y gwahaniaeth i allu rhywun i fyw'n annibynnol ac i gael gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn agos i gartref, osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty, neu orfod symud i ofal preswyl hirdymor. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwelliannau pwysig i'r system o ddarparu addasiadau a chymhorthion ar raddfa fach i helpu pobl i wneud hyn. Mae'r ymagwedd newydd, o'r enw Hwyluso, yn canolbwyntio ar fwy o effeithlonrwydd drwy symleiddio a chyflymu'r broses o gael addasiad. Mae'n gwneud hyn drwy benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithlon o ddarparu cymorth neu addasiadau i ddiwallu angen rhywun, gan fod nifer o ffynonellau ariannu ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau a deiliadaeth person. Mae'r system newydd yn casglu data hefyd i'n helpu ni i ddeall sut y gallwn ni wella'r broses hon ymhellach. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall ein system bresennol sydd wedi'i gwella fod yn gymhleth o hyd ac mae angen ei symleiddio, ac mae adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ategu'r farn honno. Felly, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn ni'n cyflwyno rhaglen newid arall yn y maes hwn a byddwn ni'n ymgynghori ar y newidiadau hyn maes o law. Mae'n rhaid inni symleiddio'r broses o ariannu a darparu gwasanaethau er mwyn canolbwyntio mwy ar y dinesydd, a bod yn dryloyw a chyson wrth ei chyflwyno.

Nod yr holl feysydd pwysig hyn o waith, ochr yn ochr â'r rhaglen newydd o fuddsoddiad cyfalaf, yw helpu pobl sydd angen cymorth i gael y cymorth iawn, p'un a ydyn nhw'n bobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion iechyd cymhleth, neu ofalwyr. Mae ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod y rhan sylweddol y gall tai priodol ei chwarae wrth symud iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn agosach at gymunedau, a hynny mewn blwyddyn pan rydym ni'n dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70, gwasanaeth a anwyd yma yng Nghymru, wrth gwrs. Yr hyn na werthfawrogir bob amser yw bod Nye Bevan yn Weinidog iechyd a thai, ac roedd ei gyfraniad ef at wella ansawdd a nifer y tai sydd ar gael yn sylweddol. Roedd e'n deall bod angen tai addas ar bobl er mwyn byw bywydau hir ac iach, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw.

18:35

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw, ac rydym yn croesawu'r cynnwys yn fawr, oherwydd rydych chi wedi taro'r hoelen ar ei phen, o ran y ffaith bod ffordd o fyw, trafnidiaeth, tai a dylunio yn elfennau hanfodol o sut yr ydym ni'n mynd i allu symud ymlaen mewn ffordd fwy integredig, ac i greu Cymru iachach. Mae'n hanfodol iawn oherwydd gartref fydd anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu yn gynyddol, ac wrth gwrs, ni all unrhyw un rhan o'r system obeithio ateb ein holl anghenion. Gwnaeth 'Fair Society, Healthy Lives' Michael Marmot amlygu arwyddocâd y materion ehangach sy'n effeithio ar iechyd. Yn wir, maen nhw'n dweud yn aml, on'd ydyn nhw, mai tai, cyflogaeth ac addysg sy'n achosi'r hyn sy'n achosi salwch. Rwy'n credu felly, bod unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gyda chefnogaeth y Cynulliad, i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, yn eithriadol o bwysig.

Ar ôl dweud yr holl eiriau caredig—a byddech yn cael eich siomi gan unrhyw beth arall—rwyf eisiau eich herio chi ar un neu ddau o bwyntiau a gofyn am rai esboniadau mewn ychydig o feysydd eraill. Fe wnaeth yr arolwg seneddol o ofal cymdeithasol yn wir gydnabod y rhan y gallai tai ei chwarae, ond, nid oedd llawer iawn o gwbl am dai yn eich ymateb chi, neu ymateb y Llywodraeth—'Cymru Iachach'—eich cynllun chi yn ymateb i'r adolygiad seneddol hwnnw. Fe wnaethoch chi sôn am bartneriaethau newydd rhwng iechyd a thai, ac fe wnaethoch chi sôn am gynlluniau ardal a fyddai'n darparu cyfrwng cadarn, ond efallai y gallwch chi roi ychydig bach mwy o wybodaeth inni am ba mor allweddol fydd swyddogaeth tai yn gallu bod wrth gyflawni'r weledigaeth hon o Gymru iachach. Rydych chi'n gwneud honiad cryf iawn y bu gostyngiad nodedig o ran oedi wrth drosglwyddo gofal a byddai gennyf wir ddiddordeb mewn gwybod o ble y daeth yr ystadegau hynny, oherwydd dydw i ddim hyd yn hyn yn gallu rhoi fy llaw ar fy nghalon a dweud eu bod yn bodoli, oherwydd, wrth gwrs, bu'n un o elfennau allweddol y pwysau yn ystod y gaeaf ac yn y blaen. Dydyn ni ddim yn ei weld allan yn y fan honno ar y stryd a hoffwn i wybod sut y mae gennych chi.

Rydych chi'n sôn am wella perfformiad gyda'r gronfa a chyflawni prosiectau mwy o faint ac fe wnaethoch chi sôn am fynd allan gyda'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a gweld cynlluniau newydd. A allwch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau bod adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn ymuno â ni ar hyn? Dro ar ôl tro yn fy ardal i, rwy'n gwybod am fentrau gwych sy'n dwyn ynghyd tai a gofal sy'n cael eu gwrthod gan awdurdodau cynllunio lleol oherwydd nad ydyn nhw'n bodloni ryw faen prawf yn y dogfennau cynllunio. Mae'n rhaid inni oresgyn hyn a dechrau adeiladu'r tai y mae pobl eu hangen mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu'n fawr y £105 miliwn o arian ychwanegol i gefnogi'r dull mwy ymestynnol hwn ac mae'n dda iawn gweld ei fod yn cysylltu â gweddill y Deyrnas Unedig, on'd yw, oherwydd mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi'r gronfa gofal gwell hon gyda swm llawer mwy o arian, ond maen nhw'n wlad ychydig yn fwy. Felly, mae'n dda gweld bod pawb yn dilyn—mae hwn yn gyfeiriad da i fynd iddo.

Byddwn yn gofyn i chi efallai fwrw golwg ar Bapur Gwyn David Melding 'Dinasoedd Byw', oherwydd mae wedi dod o felin drafod y Ceidwadwyr Cymreig ac mae'n canolbwyntio'n helaeth ar gartrefi sy'n gynhwysol yn gymdeithasol ac sy'n amgylcheddol gynaliadwy a dinasoedd ac amgylcheddau y gellir eu hadeiladu ar egwyddorion iechyd a lles dinasyddion. Gan fynd yn ôl i'r hyn sy'n achosi yr hyn sy'n achosi afiechyd—eich cartref, eich amgylchedd, eich addysg a'ch rhagolygon o ran cyflogaeth yw hynny. Hefyd, os gwelwch yn dda, a wnewch chi, mewn gwirionedd, roi ychydig o drosolwg cyflym ar yr ochr ymaddasu? Rydych chi'n sôn am y gronfa newydd, ond mae gennym ni, yn aml iawn, y senario hwn lle caiff tŷ ei addasu yn gostus iawn i rywun sydd ag anghenion, a phan fydd yn symud allan, caiff yr addasiadau hynny wedyn eu rhwygo allan, ar gost fawr i ni i gyd, ac yna bydd rhywun arall yn symud i mewn i gael ryw fath o gartref sylfaenol. Mae hyn yn nonsens; siawns na ddylem ni fod yn gwneud yn siŵr bod yr unigolyn priodol yn symud i mewn i hwnnw.

Dau gwestiwn arall. Pa fesuriadau sydd gennych ar waith i fesur llwyddiant yr arian ychwanegol hwn? Sut y byddwch chi'n gwybod a yw'n taro'r hoelen ar ei phen ac yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud a sut rydych chi'n mynd i'w ddosrannu ar draws y meysydd lle ceir yr anghenion mwyaf neu ar draws ardaloedd Cymru? Ac, yn olaf, rwy'n dod yn ôl i'r awdurdod cynllunio hwnnw a chaniatâd cynllunio unwaith eto. Mae angen gwahanol fathau o dai arnom ni a dylem ni fod yn adeiladu cartrefi sydd eisoes â—naill ai byngalos, neu, os ydym ni'n brin o le, dylai fod gennym risiau llydan iawn yn mynd i fyny er mwyn gallu gosod lifft grisiau os bydd angen i chi wneud hynny, oherwydd mae pobl eisiau aros yn eu cartref ac maen nhw eisiau parhau i fyw yn y cartref hwnnw. Rydym ni'n ceisio eu hannog i wneud hynny. Mae angen inni adeiladu cartrefi lle mae'n haws gosod teclynnau codi ynddynt. Mae angen inni adeiladu cartrefi lle mae'n haws i addasu cegin. A dyna'r pethau y mae angen inni ddechrau eu hystyried yn yr egwyddorion dylunio ar gyfer ein stoc dai yn y dyfodol os ydym ni wir eisiau cefnogi'r ffaith bod pobl yn mynd i aros yn eu cartrefi, eu bod nhw'n mynd i gael eu gofal iechyd yn eu cartrefi, eu bod nhw'n mynd i gael eu gofal cymdeithasol yn eu cartrefi, gobeithio tan ddiwedd eu hoes. Mae hwn yn gyfeiriad gwych i fynd iddo, mae'n fenter dda, ond mewn gwirionedd, hoffwn i ei gweld yn cael ei chryfhau, oherwydd mae'n llawer o arian ac rwy'n poeni na fyddwn ni'n cyflawni'r hyn y mae angen inni ei gyflawni.

18:40

Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac am y croeso cynnes a roesoch chi ar ddechrau'r cyfraniad, ac am gydnabod pwysigrwydd tai yn yr agenda iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. A dydyn ni ddim yn sôn am dai yn unig; fe wnaethoch chi'r pwynt, ein bod mewn gwirionedd yn sôn am gartrefi, a phan rydym yn gwrando ar bobl, maen nhw yn gyffredinol yn dweud wrthym mai gartref y maen nhw eisiau bod. Rwyf i yn sicr o'r farn mai darparu gofal cymdeithasol a gofal yn nes at y cartref ac, yn ddelfrydol, yn y cartref, yw'r ffordd ymlaen wrth gefnogi pobl i wireddu'r dyhead hwnnw.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arolwg seneddol; wel, mae ein datganiad heddiw yn rhan bwysig o'n hymateb i'r adolygiad seneddol hwnnw o safbwynt tai a gwneir hynny yn sicr mewn cysylltiad ag iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod yr arolwg seneddol yn galw am bartneriaeth newydd rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a thai. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n ei nodi heddiw, drwy'r gronfa gofal integredig, yw'r bartneriaeth newydd honno ac rydym ni'n gwneud yn siŵr bod tai wrth wraidd honno drwy sicrhau y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn y dyfodol ag adrannau tai fel aelodau statudol o'r byrddau hynny. Pan oeddwn i'n Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, fe wnes i gydnabod bryd hynny y swyddogaeth bwysig y gallai fod gan dai ac anogais fyrddau partneriaeth rhanbarthol i gynnwys tai ar y byrddau hynny. Ac mae'n deg dweud, cafodd ei wneud â graddau amrywiol o lwyddiant ar draws y gwahanol fyrddau partneriaeth rhanbarthol yng Nghymru. I gydnabod hynny yn awr, roeddem yn sylweddoli mai nawr yw'r amser i ystyried sut y gallwn ni roi hynny ar sylfaen ddeddfwriaethol, felly, rydym yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i roi'r statws a'r pwyslais hwnnw i dai y mae ei angen mewn gwirionedd ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at oedi wrth drosglwyddo gofal. Fe wnaf ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch â'r ystadegau diweddaraf, ond maen nhw'n cael eu cyhoeddi bob mis, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai o'r ffigurau hynny yr ydym ni'n eu gweld ymhlith yr isaf a welsom erioed yng Nghymru ers i'r cofnodion ddechrau, 13 neu 14, rwy'n meddwl, o flynyddoedd yn ôl, ac mae hynny'n eithaf rhyfeddol, o ystyried y ffaith ein bod ni mewn sefyllfa bellach lle mae'r galw ar ysbytai, yn enwedig yn y math hwnnw o leoliad, yn cynyddu. Felly, rwy'n cydnabod ein bod yn gwneud gwelliannau yn y maes hwn, ond fel y dywedais yn fy natganiad, mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud ac y mae angen inni ei wneud. Mae'r cyhoeddiad hwn yr wyf yn ei wneud heddiw yn rhan o'n hymateb i'r her honno hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn yn gwbl briodol am awdurdodau lleol a chynllunio a sut y gallan nhw alluogi'r math hwn o agenda. Cafodd hyn ei gydnabod yn helaeth yn adroddiad 'Tai i’r dyfodol' yr Athro Phillips, y cyfeirir ato yn y datganiad, ac fe wnaeth y grŵp arbenigol a hysbysodd y datganiad hwnnw ganolbwyntio ar sut y gall y system gynllunio gefnogi poblogaeth sy'n heneiddio yn well. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio nodi lle y gallai fod angen ymyriadau i ddarparu tai ar gyfer pobl hŷn pan fydd angen am hynny yn lleol, a gallai hyn gynnwys nodi safleoedd a pholisïau penodol mewn cynlluniau datblygu lleol. Mae'r ymgynghoriad ar y drafft diwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi cau yn ddiweddar, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi diweddariad ar hynny cyn bo hir.

Roeddwn i'n ymwybodol o'r ddogfen 'Dinasoedd Byw'. Roeddwn i'n falch iawn i ymateb i'r ddadl honno ychydig o wythnosau yn ôl, ac roedd yn ddadl ragorol mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y cafwyd cydnabyddiaeth o bob ochr o ba mor bwysig yw'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddylunio ein dinasoedd o ran y buddion, neu fel arall, y gall eu sicrhau i'n hiechyd. Rwy'n awyddus i weld adfywio a arweinir gan lety yn ein trefi a'n dinasoedd hefyd, oherwydd cawsom gwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw yn canolbwyntio ar effaith y dirywiad mewn manwerthu a phatrymau newidiol gwariant defnyddwyr ar y stryd fawr, ac yn sicr mae yna gyfle, rwy'n meddwl, i sicrhau bod ein stryd fawr yn dod yn lle y mae pobl eisiau byw ynddo, oherwydd mae llawer o fanteision yno o ran bod yng nghanol y bwrlwm, a hefyd mae bod â llawer mwy o bobl yn byw yng nghanol ein trefi yn amlwg yn dda ar gyfer y busnesau manwerthu hynny sy'n parhau.

O ran addasiadau, mae pwyslais mawr yn ein cronfa newydd ar sicrhau bod addasiadau yn parhau i gael eu hariannu fel y dylen nhw. Felly, o fewn y £105 miliwn hwnnw, mae yna brif raglen gyfalaf, sef o leiaf 75 y cant o'r gwariant, a rhaglen gyfalaf ddewisol, a fyddai'n uchafswm o 25 y cant o'r gwariant. O fewn y rhaglen gyfalaf ddewisol honno, byddem yn disgwyl i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ystyried cymhorthion ac addasiadau nas cefnogir gan y rhaglenni presennol ac sy'n cefnogi amcanion penodol y gronfa gofal integredig, sef pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion cymhleth, a gofalwyr. Gallen nhw ystyried prosiectau offer, sy'n cynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac i leihau derbyniadau i'r ysbyty neu gyflymu'r gallu i'w rhyddhau o'r ysbyty hwnnw, neu brosiectau llai o faint eraill i gefnogi amcanion y gronfa gofal integredig. Felly, gallai'r prosiectau hynny fod dan arweiniad y gymuned neu dan arweiniad y trydydd sector, oherwydd mae yna bwyslais mawr yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant hefyd ar sicrhau ein bod yn cefnogi'r sefydliadau a'r mentrau cydweithredol trydydd sector hynny ac ati i allu darparu gwasanaethau yn y gymuned hefyd.

18:45

A gaf i groesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog Tai ac Adfywio? Rwy'n ei groesawu'n fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r cyfeiriad y mae'n mynd iddo hefyd. Yn naturiol, byddem yn croesawu £105 miliwn o wariant cyfalaf hefyd. O ran y cefndir, mae'n amlwg yn sôn am Aneurin Bevan. Bydd llawer o sôn am Aneurin Bevan dros yr ychydig wythnosau nesaf, rwy'n siŵr, ac, oedd, roedd yn Weinidog tai yn ogystal ag iechyd, a hyd at 1951 roedd tai yn rhan o'r adran iechyd ar lefel San Steffan. Yna, am ryw reswm, cafodd ei rannu, ond mae'r cysylltiad hwnnw rhwng tai ac iechyd yn sicr yn agos, a dylem fod yn ailsefydlu'r cysylltiad hwnnw, a dweud y gwir, gan fod tai gwael yn golygu iechyd gwael. Mae gennym ni bobl ddigartref ar strydoedd Cymru heddiw, ac mae eu disgwyliad oes yn 47 mlynedd, er bod y gweddill ohonom ni'n mynd i fyw i'r tu hwnt i 80. Felly, mae tai gwael yn wir yn golygu iechyd gwael.

O ran y sefyllfa arall o ran pobl bob amser yn gofyn imi, 'Sut ydym ni'n bwriadu ymdrin â'r cynnydd enfawr hwn yn nifer y bobl oedrannus a'u gofynion gofal a'u hanghenion iechyd?' A byddaf i bob amser yn dweud, mewn gwirionedd, mae angen inni ddechrau gyda'u tai. Mae angen cynnydd enfawr yn yr egwyddor o lety gwarchod, ac mae angen newid diwylliant ar hyn ymhlith ein pobl hefyd, o ran cynllunio ymlaen llaw a meddwl, 'Sut ydw i'n mynd i dreulio fy mlynyddoedd olaf?' Byddwn i'n awgrymu mewn rhyw fath o lety gwarchod. Mae yna brosiectau rhagorol yma ac acw o gwmpas Cymru a'r Deyrnas Unedig—ydy, mae'n ateb o ran tai ac mae gan bobl wardeiniaid yn gofalu amdanyn nhw. Yn yr un lle, model o fath o bentref Sgandinafaidd, gall fynd yn fwy dwys, wedyn, o ran—. Mae rhywun sy'n cyfateb i nyrs—mae yna sefyllfa fel math o gartref nyrsio yn yr un lle, ac mae hefyd gwelyau gofal dementia uwch, eto yn yr un lle, fel bod pobl yn symud i mewn, ac wedyn os yw eu hiechyd yn dirywio, y cyfan sy'n digwydd yw eu bod yn symud i wahanol ran o'r un lle—does dim rhaid iddyn nhw adael, felly, dydy cyplau sydd wedi bod yn briod am 50 i 60 mlynedd ddim yn cael eu gwahanu fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn ddideimlad ac weithiau heb rybudd. Maen nhw'n aros yn yr un lle, ond mewn gwahanol ran ohono. Os ydych chi'n cynnwys bwyty, lle trin gwallt, ychydig o bingo—mae pawb yn hapus. Wyddoch chi, dyna sut y dylem ni fod yn trin ein henoed, nid stwffio pobl mewn cartrefi preswyl, byddwn i'n ei ddweud, neu mewn cartrefi nyrsio preifat sy'n llai na digonol, yn aml iawn—a gallwn i roi enwau cartrefi nyrsio preifat llai na digonol pe byddai'r Gweinidog yn mynnu. Ond mae yna rai enghreifftiau ardderchog. Byddwn yn crybwyll Cylch Caron, Tregaron—prosiect tai, iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Mae yna faterion technegol i'w goresgyn o hyd, er hynny. Wyddoch chi, mae pobl wedi bod yn gweithio yn eu seilos bach ar wahân am gyfnod rhy hir, a hyd yn oed pan fydd gennych chi syniadau gwych, arloesol, 'Gadewch inni ddechrau â thai a datblygu iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan o hynny', mae gennych chi broblemau o hyd o ran sut y caiff hynny ei redeg. 

Rwy'n falch o nodi eich bod wedi sôn am y gronfa gofal integredig yma fel cynllun blaenllaw, a dydw i ddim eisiau peri embaras i'r Llywydd yn ormodol, ond mae hi ond yn deg nodi bod y syniad gwych hwn o gronfa gofal ganolraddol, fel yr oedd bryd hynny, wedi dod o egin o ymennydd Elin Jones, yr Aelod Cynulliad dros Geredigion, ar y pryd yn 2013, a oedd yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llafur, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a oedd gennym ar y pryd, yn 2014, rwy'n credu. Felly, dyna oedd egin y syniad gwych hwn, sydd wedi'i ddatblygu heddiw. Rwy'n llongyfarch Elin drwy'r amser, mewn gwirionedd, am y syniad arloesol hwn, oherwydd dyna beth ydyw: mae'n ymwneud â thorri allan o seilos a thorri allan o'r portffolios unigol a meddwl, 'Mae gennym ni berson oedrannus yn y fan yma. Sut ydym ni'n mynd i ymdrin â'r sefyllfa hon?' Rydym ni'n dechrau gyda, 'Ble maen nhw'n mynd i fyw? A allan nhw aros lle maen nhw gyda'r holl gymorth, neu, mewn gwirionedd, a fydd yn rhaid i ni feddwl dipyn yn ehangach am hyn? A gadewch i ni fod â'r prosiectau integredig hyn.'

Felly, oes, mae yna £105 miliwn. Mae yna lawer o sôn am gyllid cyfalaf: cyfalaf hyn, cyfalaf llall. Mae angen cymorth refeniw ar lawer o brosiectau hefyd. A gaf i ofyn i'r Gweinidog: a oes unrhyw gyllid refeniw yn rhan o hyn—heb ddiystyru'r swm sylweddol iawn yr ydych chi newydd ei gyhoeddi nawr—ac o ran, yn amlwg, o—? Wyddoch chi, mae'n faes cymhleth—dyna pam y mae'n anodd integreiddio pethau weithiau. Mae yna wahanol ffynonellau eraill o arian, ac mae llawer o bobl eraill yn gwneud gwaith rhagorol mewn mannau eraill, yn enwedig â grwpiau penodol sy'n agored i niwed. Mae'r cyllid Cefnogi Pobl, sydd dan fygythiad parhaus o gael ei integreiddio yn rhywle arall—a byddai llawer o bobl am weld cyllid Cefnogi Pobl yn cael ei ddiogelu, ei gynnal, a hyd yn oed, ei ddatblygu—sut y byddai hynny'n gweithio gyda'r agenda hon? Oherwydd, fel y gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad, nid yw'n ymwneud â'r henoed yn unig, mae hefyd yn ymwneud â phobl ag anghenion cymhleth. Diolch yn fawr.

18:50

Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau hynny, a chyn imi ymateb i'r pwyntiau hynny, rwy'n sylweddoli fy mod wedi anghofio ateb y pwynt a godwyd gan Angela Burns o ran sut yr ydym ni'n mynd i fod yn monitro a goruchwylio'r hyn sy'n wariant sylweddol. Mae trefniadau monitro a gwerthuso effeithiol yn bwysig er mwyn rhoi'r sicrwydd hynny i ni fod arian cyfalaf y gronfa gofal integredig yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi gwasanaethau integredig ac ataliol effeithiol, ac, wrth gwrs, pan fyddwn yn gweld y prosiectau yn cael eu cyflwyno, bydd hefyd yn ein helpu ni i wybod ble yr ydym ni'n mynd o ran gwariant yn y dyfodol drwy fuddsoddi cyfalaf y gronfa gofal integredig hefyd. Felly, mae'n rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau bod ganddynt drefniadau monitro cadarn ar waith i sicrhau bod cynlluniau a ariennir drwy gyfalaf y gronfa gofal integredig yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd, a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae'n rhaid sefydlu trefniadau gwerthuso hefyd i nodi a rhoi tystiolaeth o'r effaith, yn ogystal â'r defnydd priodol cyffredinol o arian, ac mae'n rhaid llunio adroddiadau chwarterol, fel y nodir yn y canllawiau a gyflwynir i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. O ran goruchwylio'r brif raglen gyfalaf, wel, dylid cytuno ar brosiectau ar lefel y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ond wedyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi bod honno yn lefel briodol o oruchwyliaeth yn y fan honno. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod prosesau craffu a chymeradwyo mewnol cadarn ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol, o ran y rhaglen gyfalaf ddewisol, ond byddai angen i hynny fod yn gymesur â lefel y prosiectau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn y fan yna. Felly, mae prosiectau dewisol yn unrhyw beth o dan £100,000, a phrif brosiectau yn unrhyw beth dros £100,000.

Mae tai gwael yn arwain at iechyd gwael. Mae hynny yn sicr wedi'i gydnabod, rwy'n meddwl, ac mae hynny'n rhywbeth a nodwyd yn gryf iawn yng nghyfraniad Dai Lloyd. Y math o brosiect yr oedd yn ei ddisgrifio yn gynnar yn ei gyfraniad, prosiect sy'n dangos arfer da, yn sicr yw'r math o brosiect yr ydym ni'n ei ystyried o ran gofal ychwanegol. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o gefnogi gofal ychwanegol ers 2002. Gyda chymorth £197 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweld 49 o gynlluniau gofal ychwanegol yn cael eu hariannu ledled Cymru, gan ddarparu dros 2,000 o gartrefi i bobl hŷn, lle y gallan nhw gynnal eu hannibyniaeth ac osgoi'r angen i gael eu derbyn i ysbyty yn ddiangen. Ond rwy'n credu bod cyllid cyfalaf y gronfa gofal integredig, yr ydym wedi'i gyhoeddi heddiw, mewn gwirionedd yn mynd â'r ymrwymiad hwnnw i lefel newydd yn awr, ac yn sicr, byddwn i'n dychmygu y gallai rhai o'r rhai hynny a gyflwynir drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol fod yn brosiectau gofal ychwanegol, oherwydd rwy'n credu bod gofal ychwanegol wedi datblygu llawer o fod yn llety gwarchod, oherwydd gall fod gofal i bobl ar y safle, felly mae hynny'n golygu y gellir ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl yn gyflym ac mewn ffordd gyfrifol, a gall eu helpu i ymdopi'n well ag argyfyngau. Hefyd, allwn ni ddim anghofio swyddogaeth bwysig technoleg gofal wrth gynorthwyo pobl i reoli eu risgiau yn well, a hefyd â rhywfaint o fonitro arwyddion hanfodol pobl, sy'n helpu o ran gofal iechyd rhagweithiol, a goruchwylio clinigol estynedig, ac mae hynny'n lleihau nifer y derbyniadau i ysbytai ac yn galluogi rhyddhau pobl yn gynharach, unwaith eto, o ysbytai. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n sicr yn gweld rhai o'r prosiectau cam-i-fyny, cam-i-lawr hynny yn cael eu cyflwyno gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac rwy'n siŵr y byddai croeso mawr i hynny hefyd.

O ran lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, mae hyn yn rhan arall o'r ymateb a amlinellodd Vaughan Gething o ran yr arolwg seneddol, a nodwyd ffrwd o 19 o brosiectau ym mis Rhagfyr yn rhan o £68 miliwn o fuddsoddiad mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal integredig. Thema y ffrwd yw integreiddio, ac mae byrddau iechyd yn ystyried gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflawni, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a'r trydydd sector. Bydd y model gofal ar gyfer pob un o'r rhai hynny yn wahanol. Deallaf fod achosion busnes wrthi'n cael eu datblygu, ac mae yna ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i nodi cyfleoedd i hybu integreiddio. Hwn mewn gwirionedd yw'r buddsoddiad mwyaf wedi'i dargedu mewn seilwaith gofal sylfaenol a gofal cymunedol gan Lywodraeth Cymru erioed, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiectau hynny yn datblygu.

Roedd yna gwestiwn ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu hyn, oherwydd, yn amlwg, mae angen cyllid refeniw ar y prosiectau hyn hefyd. Felly, yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd £50 miliwn o arian refeniw yn y gronfa gofal integredig hefyd. Ac, yn amlwg, mae yna gyfleoedd i gyfuno'r cyllid hwn â chyllid adfywio, er enghraifft, â chyllid arall o iechyd. Felly, mae'n bosibl y gallai hyn gynnig cyfle i edrych ar fannau eraill am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n bodloni amcanion ehangach eraill hefyd. Ond yn sicr, mae'r refeniw yno i gefnogi'r hyn sydd ei angen.

18:55

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac am gyhoeddi cyllid newydd. Rwy'n sylweddoli bod tai, iechyd a gofal cymdeithasol, i raddau helaeth, i gyd yn gydgysylltiedig a bod angen eu hystyried gyda'i gilydd, sef prif fyrdwn y datganiad heddiw. Felly, rydym yn gwerthfawrogi'r farn honno, ac rydym yn cydnabod yr angen i wahanol adrannau weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nodau hyn yr ydych chi wedi'u nodi, yn hytrach na gweithio mewn seilos. Rwy'n credu felly, fod hynny'n wir ar lefel Llywodraeth, pan fo'n rhaid i chi weithio ochr yn ochr â dau Weinidog arall, o bosibl, er mwyn cyflawni'r nodau hyn, a hefyd ar lefel fwy rhanbarthol. Felly, rwy'n credu ei bod yn syniad da i gynnwys anghenion tai yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol fel rhwymedigaeth statudol.

Un mater sylfaenol ynghylch y tri maes integredig hyn yw: a ydym ni'n adeiladu digon o fyngalos yng Nghymru? Gwnaeth Angela Burns grybwyll hyn. Cododd y mater o fyngalos, ond cododd Angela nifer o bwyntiau dilys a doeddwn i ddim yn siŵr mewn gwirionedd eich bod chi wedi ateb y cwestiwn sylfaenol hanfodol hwn. Gwnaethoch chi ateb llawer o bwyntiau, ond mae gen i ddiddordeb yn eich barn chi ar y mater syml o nifer y byngalos sy'n cael eu hadeiladu.

Mae yna amrywiaeth o addasiadau i'r cartref y gellir eu darparu i wneud cartrefi'n fwy addas i fyw ynddyn nhw i bobl sydd wedi datblygu problemau corfforol neu feddyliol, neu bobl sydd wedi heneiddio. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn o flaenoriaeth. Fe wnaethoch chi gyfeirio at wahanol grwpiau, ond wnaethoch chi ddim sôn am gyn-filwyr, felly a ydyn nhw'n rhan o raglen y gronfa gofal integredig, neu a ydyn nhw'n dod o dan gynllun arall? Hoffwn i beth eglurhad ar y mater hwnnw. Ond, yn amlwg, fe geir y broblem hon o flaenoriaeth. Mae yna lawer o wahanol grwpiau. Fe wnaethoch chi ddweud bod canrannau penodol o gyllid a fydd yn cael eu dyrannu mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n debyg mai un mater sylfaenol yw: a fydd yna system gydlynol o flaenoriaethau sy'n hawdd ei deall i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais am grantiau ar gyfer pethau fel addasiadau yn y cartref?

Gellir defnyddio technoleg newydd weithiau er budd bywydau pobl sy'n weddol gaeth i'r cartref. Er enghraifft, mae llawer o ganolfannau dydd wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai nad yw pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn byw yn agos at ganolfan dydd beth bynnag, felly mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn broblem fawr erbyn hyn. A gawn ni ymchwilio i addasiadau mewn cartrefi sy'n caniatáu i bobl hŷn gael mynediad at gyfleusterau fel Skype neu rywbeth tebyg, neu hyd yn oed hyfforddiant i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn cael mynediad at y rhyngrwyd? A allai hynny fod yn rhan gost-effeithiol o addasu cartrefi? Yn amlwg, mae angen inni gael band eang yn yr ardaloedd hynny yn gyntaf.

Roedd yn ddiddorol clywed gweledigaeth Dai Lloyd, ac mae'n un da yn fy marn i—y syniad hwn y gall pobl hŷn weithiau fyw mewn ffurfiau lled-gymunedol o fyw a fydd yn aml yn fwy buddiol i lawer ohonynt. Mae yna rywbeth hefyd o'r enw therapi hel atgofion, a all fod o fudd i bobl sy'n cael anawsterau o ran eu hatgofion. Gellir ymgorffori hyn yn y math o bentref yr oedd Dai yn cyfeirio ato yn un o'i bwyntiau. Felly, tybed a ellir ymgorffori hyn mewn rhyw ffordd yn rhaglen y Llywodraeth. Diolch.

19:00

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi dechrau trwy gydnabod ei bod yn bwysig nad ydym yn gweithio mewn seilos yn hyn o beth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad o ran gallu gweithio ar draws ffiniau traddodiadol, yn enwedig pan fyddwn yn gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i wneud pethau anodd, gan gynnwys cyfuno cyllidebau trwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a dyna un o swyddogaethau allweddol y byrddau partneriaeth rhanbarthol, oherwydd bod defnyddio adnoddau yn effeithiol yn flaenoriaeth allweddol i'r byrddau hynny. Bydd y cronfeydd cyfunol hynny a gwell comisiynu integredig yn arwain at fwy o gadernid yn y gwasanaethau a ddarperir, â phwyslais ar wella ansawdd ac nid yn unig ar wella gwerth am arian.

Rydym ni wedi cael sicrwydd bod yr holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn darparu rhyw fath o gronfa gyfunol o ran cartrefi gofal i bobl hŷn. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cronfeydd cyfunol cyflawn ar waith, sy'n darparu prosesau comisiynu effeithiol ar y cyd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac mae'r Gweinidog wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn ystyried ymyrryd yn uniongyrchol os nad yw hynny'n wir. Felly, ydy, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny trwy 'Ffyniant i bawb', sy'n cydnabod bod tai a gofal cymdeithasol yn ddwy o'n pum blaenoriaeth draws-Lywodraeth, ac rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd ar draws y Llywodraeth i weithio gyda'n gilydd ar agendâu hyn; yn sicr nid cyfrifoldeb un person i'w gyflawni yw hyn.

A ydym ni'n adeiladu digon o fyngalos? Nac ydym, yn bendant dydym ni ddim. Roeddwn i'n falch iawn ddoe yn ymweld â datblygiad newydd ym Maesteg gyda fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies. Maen nhw'n adeiladu byngalos newydd yno, ac mae hynny'n hynod o gyffrous, oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes digon o fyngalos yn cael eu hadeiladu. Roeddwn i'n siarad â datblygwyr ynghylch pam, a'u bod yn cael eu hystyried yn aml yn eithaf aneffeithlon o ran eu hadeiladu, oherwydd eu bod, fesul metr sgwâr, yn ddrytach i'w hadeiladu na thai eraill. Ond, yn yr un modd, mae byngalos mewn gwirionedd yn diwallu anghenion pobl hŷn sydd angen bod yn byw ar un llawr, er enghraifft, ac sydd angen eiddo eithaf bach i ofalu amdano. Felly, hoffwn i, yn sicr, weld mwy o fyngalos yn cael eu hadeiladu, ac roedd y rhai a oedd yn cael eu hadeiladu ddoe yn cael eu hadeiladu trwy gymdeithas dai, â'r nod penodol o gefnogi pobl i fyw yn y llety hynny, yn rhan o'u cynnig tai cymdeithasol yn yr ardal leol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystyried hynny, er enghraifft, wrth iddyn nhw ystyried eu blaenraglen waith, a hefyd gan awdurdodau lleol wrth iddyn nhw ystyried eu dadansoddiad o anghenion tai lleol, er enghraifft.

O ran blaenoriaethau a sut y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gwybod beth i ganolbwyntio eu hymdrechion arno, ynghyd â llythyr i fyrddau partneriaeth rhanbarthol heddiw o ganlyniad i'r datganiad hwn, rydym ni hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar y rhaglen ar gyfer y gronfa hon. Felly, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ym meddyliau byrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch ble yr hoffem ni i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio.

Cytunaf yn llwyr fod y defnydd o dechnolegau newydd yn rhoi cyfleoedd gwirioneddol i gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi yn hirach, ac i fonitro anghenion gofal pobl, a monitro iechyd pobl, ac ati. Adlewyrchwyd hynny mewn rhywfaint o'r ateb a roddais i Dai Lloyd.

Unwaith eto, rwy'n credu bod adeiladu'r cartrefi iawn hefyd yn ymwneud ag adeiladu cymunedau, ac mae hynny'n ymwneud yn fawr iawn â'r pwynt y gwnaethoch chi am fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a gwyddom fod hyn yn dod yn destun pryder cynyddol i lawer o bobl hŷn, ond nid pobl hŷn yn unig, ledled Cymru. Felly, mae adeiladu cartrefi sydd hefyd yn gymunedau, fel yr un y gwelais i ddoe, yn ffordd wych yn fy marn i o allu mynd i'r afael â hynny hefyd.

O ran y grwpiau y mae'r cyllid hwn yn bwriadu eu cefnogi, nodir y grwpiau hynny trwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sef: pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia; pobl ag anableddau dysgu; plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch; a gofalwyr a gofalwyr ifanc. Felly, mae'r grwpiau hynny wedi'u nodi'n benodol trwy ddeddfwriaeth.

Mae gennym ni gysylltiad cryf iawn rhwng y cynllun gweithredu ar ddementia a gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar beth y mae defnyddwyr gwasanaeth â dementia ac aelodau o'u teulu wedi'i ddweud wrthym ni sy'n arbennig o bwysig iddyn nhw, er enghraifft, diagnosis amserol, ac wedyn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dilyn y diagnosis hwnnw. Cefnogir gweithrediad y cynllun hwnnw gan £10 miliwn o fuddsoddiad y Llywodraeth, ac mae £9 miliwn o hwn wedi'i ddyrannu i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol trwy'r gronfa gofal integredig, felly'r nod yw dwyn ymlaen a galluogi gwaith integredig rhwng gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, y trydydd sector a'r sectorau annibynnol i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr. I gefnogi hyn, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar y gronfa gofal integredig atodiad a luniwyd yn benodol â golwg ar y cynllun gweithredu ar ddementia.

19:05

Mae'n bleser gen i weld y Llywodraeth yn cefnogi'r arolwg seneddol, ac yn gweithio tuag at sut yr ydym am ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, oherwydd os na allwn ni gyflawni'r math o dai y bydd eu hangen ar bobl wrth i'w hanghenion newid, yna bydd yn hynod anodd gwneud hynny.

Rwy'n credu bod yn rhaid i'r angen i bawb fod yn rhan o gymuned fod yn un o'r egwyddorion craidd, oherwydd nid wyf i'n dymuno gweld byngalos chwarter milltir i ffwrdd o unrhyw wasanaethau; ni fydd hynny'n gweithio. Ac yn yr un modd, mae'n hynod bwysig bod pobl â dementia nad ydynt efallai'n gallu aros ar eu pen eu hunain yn y cartref heb oruchwyliaeth yn parhau i fod yn rhan o'r gymuned. Roedd rhaglen deledu hyfryd yn ystod y dyddiau diwethaf am blant yn ymweld â phobl â dementia, a'r effaith gadarnhaol iawn y cafodd hyn ar y bobl hŷn yn ogystal â'r cynhesrwydd a gafodd y plant gan y bobl hŷn hyn, a oedd yn rhoi llawer o sylw iddyn nhw. Felly, mae hynny'n enghraifft dda iawn o sut y mae angen i bobl â dementia barhau i fod yn rhan o'r gymuned, boed yn fwytai lle mae pobl â dementia yn gwneud y bwyd ac mae pobl eraill yn dod i'w fwyta—y cyhoedd yn talu. Dyna ffordd arall y gallwn ni gadw cysylltiad pobl â'r gymuned gyfan.

Ond rwy'n credu mai un o'r problemau sydd gennym ni ar hyn o bryd yw bod gennym ni gymaint o ddiffyg dewis o ran tai oherwydd yr argyfwng tai acíwt, mae'n anodd iawn eu galluogi i barhau i fod yn rhan o'r gymuned y maen nhw'n ei hadnabod, wrth i'w hanghenion newid, oherwydd nid oes dim byd ar gael iddyn nhw. Mae gen i etholwraig sydd, fel petai, yn gor-feddiannu oherwydd y dreth ystafell wely. Mae ganddi fab sy'n oedolion ag anawsterau'r sbectrwm awtistig. Mae'n anodd iawn iddi fod mewn fflat oherwydd hynny, ond nid oes unrhyw gartrefi dwy ystafell wely yn y gymuned y mae hi'n rhan fawr ohoni fel arweinydd cymunedol da iawn. Yn anffodus, mae'n edrych fel y bydd yn rhaid iddi adael y gymuned honno, sy'n gwbl drychinebus, gan nad oes gennym ni amrywiaeth o fathau o dai. Cododd Hefin David y mater o adeiladwyr tai torfol sydd i gyd yn awyddus i adeiladu'r un hen gytiau cwningod. Nid oes gennym ni'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom ar hyn o bryd o ran y math o dai y bydd pobl eu hangen, ac y mae pobl yn teimlo rhywfaint o reolaeth drostynt.

Roeddwn i'n darllen erthygl wych yn gynharach y mis hwn am brosiect yn Eindhoven o'r enw Project Milestone, lle mae prifysgol dechnoleg Eindhoven wedi cymryd rhan lawn mewn argraffu tai 3D. Maen nhw'n rhagweld, o fewn y pum mlynedd nesaf, y bydd pobl yn gallu cynllunio eu cartrefi eu hunain ar gyfrifiadur sy'n addas ar gyfer eu hanghenion penodol, yn dibynnu ar faint o blant sydd ganddyn nhw, ac ati. Ond oherwydd eu bod yn defnyddio sment a baratoir yn arbennig a gaiff ei chwistrellu ar y strwythur, ychydig fel hufen wedi'i chwipio, mae cymaint yn rhatach na brics a morter ac mae'n cynnwys goleuo, gwresogi a diogelwch clyfar. Gallaf weld sut y gallai hynny fod yn llwyddiannus.

Felly, tybed a ydych yn meddwl yn eich byrddau partneriaeth rhanbarthol am sut y byddwch yn contractio gydag adeiladwyr lleol bach a chanolig a fydd yn darparu'r mathau o gartrefi y bydd eu hangen ar bobl yn y gymuned. Byddan nhw'n wahanol ym mhob cymuned. Ni allaf weld swyddogaeth ar gyfer byngalos yn ardaloedd canol y ddinas yn fy etholaeth i, oherwydd nid yw'r tir ar gael yno, ond gallaf weld galw am bobl yn parhau i fyw ar y stryd lle maen nhw wedi byw ers 60 mlynedd, fel eu bod yn agos at eu plant ac yn gallu cadw'r cysylltiadau hynny sy'n hanfodol i gadw pobl allan o'r ysbyty.

19:10

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Byddaf i'n dechrau ar ddiwedd eich cyfraniad pan oeddech yn sôn am dai arloesol. Rwy'n credu ein bod ni mewn gwirionedd ar fin chwyldro o ran y ffordd rydym yn adeiladu tai. Mae yna gymaint o ffyrdd newydd cyffrous o adeiladu cartrefi. Mae rhai ohonyn nhw'n cael eu cefnogi trwy ein rhaglen tai arloesol gwerth £90 miliwn. Y ffenestr bresennol ar agor am wythnos arall neu fwy—wythnos neu ddwy arall—felly byddaf yn sicr yn annog busnesau o bob maint i ystyried gwneud ceisiadau i hynny. Rwy'n credu ei bod yn arbennig o addas i fusnesau bach a chanolig oherwydd bod ganddyn nhw hanes hir o groesawu risg ymhell cyn i'r adeiladwyr tai mawr wneud. Fe wnes i gyfarfod â Ffederasiwn y Busnesau Bach yn gynharach heddiw ac roeddwn i'n pwysleisio yr angen iddyn nhw hyrwyddo ymhlith eu haelodau y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig o dan y rhaglen tai arloesol, oherwydd eu bod yn gyfleoedd gwirioneddol, yn fy marn i.

Gallan nhw hefyd gael mynediad at ein cronfa datblygu eiddo, sy'n gronfa gwerth £30 miliwn, a bydd hon yn galluogi mentrau bach a chanolig, unwaith eto, i gael mynediad cymharol rwydd at gyllid er mwyn cefnogi rhai o'u prosiectau adeiladu. Unwaith eto, fe wnaethom ni gyhoeddi yn ddiweddar y gronfa safleoedd segur, sy'n gronfa gwerth £40 miliwn, a'i bwriad yw agor safleoedd sy'n barod i ddechrau o ran cynllunio, ond am ba bynnag reswm heb eu datblygu—er enghraifft, mae angen gwneud gwaith adfer er mwyn gwneud y tir yn addas ar gyfer adeiladu. Felly, yr elfennau bach hynny sy'n atal y prosiect rhag bod yn hyfyw ar hyn o bryd, ond gyda'r math hwn o gymorth gellid eu gwneud yn hyfyw yn y dyfodol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gynorthwyo mentrau bach a chanolig â'u llif arian parod.

Felly, rwy'n credu bod y rhaglen tai arloesol, er ein bod ni'n cefnogi nifer o wahanol fathau o dai ar hyn o bryd, mae'r cyfan â'r bwriad o roi gwybod i ni lle y mae angen inni fynd yn y dyfodol o ran adeiladu tai ar raddfa a chyflymder mwy o lawer. Felly, o bosibl, gallem ni gyrraedd y pwynt pan fyddwn yn dechrau meddwl, 'Wel, dyma'r tri neu bedwar math o ffordd o adeiladu cartrefi sy'n gweithio'n dda i ni yma yng Nghymru a dyma'r rhai yr ydym ni'n dymuno buddsoddi ynddyn nhw yn y dyfodol, dyma'r rhai lle y gallwn ni gadw sgiliau yma yng Nghymru, lle gallwn ni adeiladu yma yng Nghymru.' Rydym ni newydd gael y datganiad ar goetiroedd, felly gallwn ni fod yn defnyddio pren o Gymru cymaint â phosibl. Rwy'n credu bod hon yn agenda gyffrous iawn o ran tai, yn arbennig o ran tai arloesol. Byddwn i'n dychmygu pan gaiff prosiectau eu dwyn ymlaen o dan y gronfa gofal integredig, bydden nhw'n sicr yn ystyried eiddo un neu ddwy ystafell wely oherwydd, fel y dywed Jenny, dyma'r math o eiddo sy'n brin ac yn fwy addas, yn arbennig, i bobl hŷn.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y diffyg dewis o ran tai pan fydd anghenion pobl yn newid. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth sy'n gyffrous ynghylch y rhaglenni gofal ychwanegol, a fydd yn cael cymorth ac sydd eisoes wedi cael cymorth, o ran eu gallu i addasu i anghenion pobl wrth i'w hanghenion newid. Unwaith eto, cyfeiriodd Jenny at dechnolegau newydd a'r cyfleoedd cyffrous y gellir eu cyflwyno yno. Es i i Lanelli yn ddiweddar i edrych ar eu cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol, ac roedden nhw'n dangos imi rai o'r technolegau y maen nhw'n eu defnyddio. Un oedd oriawr sy'n cefnogi pobl â dementia. Felly, mae ganddo GPS, a gall yr unigolyn ddod i gytundeb â'u teuluoedd, gyda'u gofalwyr, o ran y ffiniau lle y mae'n ddiogel iddyn nhw fynd—felly, ardaloedd y maen nhw'n eu hadnabod yn dda iawn—ac os a phryd y bydd y person yn gadael y ffiniau hynny, rhoddir gwybod i'r teulu, ac mae'n ffordd wych o roi tawelwch meddwl i deuluoedd, ond hefyd rhoi i bobl yr annibyniaeth maen nhw'n ei haeddu. 

Mae cael plant yn ymweld â phobl â dementia, er enghraifft, trwy brosiectau Cyfeillion Dementia, yn fy marn i, yn wych hefyd, a gwn nad y bobl hŷn neu'r bobl â dementia yn unig sy'n cael budd o hynny hefyd. Rwy'n credu bod plant yn sicr yn cael llawer o fudd o hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ceisio'i hyrwyddo hefyd. Rwyf i hefyd yn cydnabod y sylwadau y gwnaethoch chi ynglŷn â phwysigrwydd yr arolwg seneddol a'r pwyslais gwirioneddol y mae'n ei roi'r ar ofal personol a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

19:15

Rydym ni dros ein hamser eisoes gyda'r datganiad hwn. Mae gen i dri Aelod arall sy'n dymuno siarad. O, mae gen i Aelod ardderchog yn y cefn, sy'n dangos nad yw hi'n dymuno siarad mwyach. Mae gen i ddau Aelod arall sy'n dymuno siarad. Byddaf i yn eich galw, ond rwyf i eisiau cwestiynau cryno ac atebion cryno. Jane Hutt.

Ie, diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac a gaf i ddweud mor falch yr wyf i o glywed y newyddion am y buddsoddiad sylweddol hwn mewn tai yn rhan o'r pecyn i gydgysylltu iechyd, gofal cymdeithasol a thai? Yr wythnos diwethaf, siaradais yn y fforwm polisi ar ofal pobl hŷn, ac rwy'n credu bod Rhun yno hefyd, yn cadeirio sesiwn. Fe wnaethom ni dynnu sylw at y cyfleoedd unigryw sydd gennym ni i ysgogi polisi yn y maes hwn. Nawr, mae Dr Dai Lloyd eisoes wedi sôn am darddiad y gronfa gofal canolraddol, fel yr oedd, yn ôl yn 2014-15, a hoffwn i dreulio ychydig o amser yn cofio'r amser y gwnaethom ni ei dreulio, un haf crasboeth, mewn ystafelloedd caeedig, gyda fi yn Weinidog Cyllid, Elin Jones yn Weinidog yr wrthblaid Plaid Cymru, ac rwy'n meddwl efallai mai Peter Black oedd yno hefyd, oherwydd yn sicr fe wnaethom ni ddweud, 'Dylai fod yn iechyd, gofal cymdeithasol a thai.' A dywedwn i mai £50 miliwn oedd hynny i ddarparu cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2014-15. Y mae wedi'i wreiddio'n ddwfn erbyn hyn yng nghyflawniad polisïau yng Nghymru. Ond rwy'n credu, a dyna gafodd ei amlygu yn y fforwm polisi yr wythnos diwethaf, nad yw'r sector tai, mewn gwirionedd, wedi'i integreiddio mewn gwirionedd—tai a gofal cymdeithasol. Mae wedi bod yn fwy o iechyd a gofal cymdeithasol.

Felly, fy nau gwestiwn yw hyn, yn gyntaf: nododd partneriaid tai cymdeithasol yn y fforwm yr wythnos diwethaf brofiadau gwahanol iawn o ran pa un a oeddent yn cymryd rhan yn y  byrddau partneriaeth rhanbarthol neu beidio. A wnewch chi gadarnhau y byddan nhw'n rhan ohonynt, a sut y bydd hynny'n digwydd, sut y bydd hynny'n symud ymlaen o ran gwneud penderfyniadau ar y gronfa gofal integredig? A hefyd, pwynt arall a gafodd ei wneud yn gryf iawn: a allwn ni sicrhau nad yw'r elfen dai o'r gronfa gofal canolraddol yn rhedeg o un cyhoeddiad cyllid da, ond cyfyngedig o ran amser, ond ei bod yn cael ei gynnal ar gyfer cynllunio tymor hwy?

Mae'n gamp glyfar iawn, Jane Hutt, i enwi'r Llywydd yn eich cyfraniad er mwyn gwasgu dau gwestiwn i mewn yn hytrach nag un. Dau ateb cyflym.

Iawn, byddaf yn gryno. Rwy'n dymuno cydnabod, fel y mae Aelodau eraill wedi nodi, bod diddordeb a chefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol ar gyfer yr agenda hon, felly rwy'n credu nad yw hi ond yn deg cydnabod hynny.

O ran y partneriaid tai cymdeithasol a'r sector tai ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, mae'n wir dweud bod eu llais wedi ei glywed yn dda iawn ar rai byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny fel math o aelodau cysylltiedig ond nid aelodau statudol, ond wedyn ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol eraill, mae sector tai yn teimlo'n rhwystredig, rwy'n credu, nad yw eu llais wedi'i glywed. Felly, dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi penderfynu gwneud y sector tai yn bartneriaid statudol ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu ar y byrddau hynny, ond eu bod hefyd yn cael llais cryf a'u bod yn cael eu cymryd o ddifri fel y dylen nhw, o ystyried pa mor bwysig yw'r elfen gyfalaf yn hyn, a pha mor bwysig yw tai, yn ein tyb ni, i gefnogi iechyd da a lles pobl.

O ran y cyllid, trefniant cyllid tair blynedd yw hwn, felly bydd yn £30 miliwn eleni, £35 miliwn ar gyfer y flwyddyn ganlynol a £40 miliwn ar gyfer y flwyddyn ar ôl honno. Dylai hyn allu rhoi cyfle i fyrddau partneriaeth rhanbarthol flaengynllunio. Rydym ni wedi ysgrifennu at y byrddau partneriaeth rhanbarthol heddiw, yn amlinellu eu dyraniadau dangosol ar gyfer pob rhanbarth penodol. 

19:20

Mae gen i un sylw a chwestiwn syml. Roeddwn i'n falch iawn o weld y bydd yr angen am dai yn cael ei roi wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol a chydnabyddiaeth am adfywio cymunedol ehangach—pwynt yr oeddwn i'n sôn o hyd amdano yn ôl yn 2003 yn y lle hwn, pan oedd rhybuddion pe na byddai camau brys yn cael eu cymryd, y byddai Cymru yn wynebu'r argyfwng cyflenwad tai sydd gennym yn awr.

Ond, i symud ymlaen, bythefnos yn ôl, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar anabledd a meddwl oeddwn i tybed sut yr ydych chi'n ymateb i'r canfyddiadau a gyflwynwyd i ni gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 'Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Cymru'. Rhoddaf i dri ohonynt: sut ydych chi'n ymateb i'w canfyddiadau nad oes dim targed ar gyfer cartrefi hygyrch yn nharged Llywodraeth Cymru o gyflawni 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021, mai dim ond un o'r 22 o awdurdodau lleol sydd wedi gosod targed canran ar gyfer cartrefi hygyrch a fforddiadwy, ac mai dim ond 15 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi dweud bod yr wybodaeth a gânt am ofynion tai pobl anabl yn 'dda'?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn cydnabod yr adroddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Rydym ni wedi gofyn i'n swyddogion archwilio'r adroddiad hwnnw i weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod yn adeiladu tai sy'n hygyrch i bobl. Yn sicr, byddai tai a gaiff eu hadeiladu, neu lety arall a gaiff ei adeiladu, drwy ein cronfa gofal integredig yn ystyriol iawn o'r ffaith eu bod yn cefnogi pobl hŷn a phobl ag anghenion cymhleth ac ati, ac y bydd angen eu teilwra i anghenion yr unigolion hynny. Ond rwy'n credu hefyd bod yn rhaid inni gofio bod gennym ni'r safon ansawdd tai Cymru sy'n berthnasol i'r sector rhentu cymdeithasol yma yng Nghymru. Erbyn 2020, bydd pob un o'n hawdurdodau lleol a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cyrraedd y safon honno. Rwy'n credu bod hynny yn pennu'r safon ofynnol mewn gwirionedd o ran sicrhau bod tai o ansawdd da yma yng Nghymru, ond rwy'n cydnabod difrifoldeb yr adroddiad hwnnw, a'r angen i sicrhau ein bod yn gwneud mwy o ran hygyrchedd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.