Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Hutt.

Ad-drefnu Ysgolion ym Mro Morgannwg

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ52234

Diolch, Jane. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu i ba raddau y mae patrwm presennol eu darpariaeth ysgolion yn ateb y galw presennol a'r galw a ragwelir am leoedd yn ogystal â gofynion cwricwlwm modern.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod cynnig Cyngor Bro Morgannwg i adleoli ysgol bentref Llancarfan dros chwe milltir i ffwrdd i safle newydd yn y Rhws wedi ennyn cryn dipyn o wrthwynebiad yn eu hymgynghoriad diweddar. Mae Estyn wedi rhoi gradd dda i'r ysgol, ac fe'i cymeradwyir am ei defnydd o'r amgylchedd gwledig a'r coetir lle mae wedi'i lleoli. Mewn gwirionedd, dywedodd Estyn,

Mae'r disgyblion yn gwneud defnydd da o'r amgylchedd dysgu awyr agored a'i mannau bywyd gwyllt a choediog... Mae'r staff yn gwneud defnydd da o'r ardal er mwyn ehangu profiadau'r disgyblion, megis archwilio pyllau yn y rhyd leol.

Nid oes gan yr ysgol nifer sylweddol o leoedd gwag. Mae cyngor y Fro wedi cyhoeddi cyfnod ymgynghori newydd, gyda dogfen ymgynghori wedi'i diweddaru, o ganlyniad i'r pryderon a godwyd hyd yn hyn, ac rwy'n falch fod fy sylwadau mewn perthynas â diffyg asesiad effaith ar y gymuned yn cael sylw. A allwch egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ba sail y gellir codi cynigion sy'n effeithio ar Ysgol Gynradd Llancarfan gyda Gweinidogion, gan fod pryder na fydd y cynigion hyn yn cydymffurfio â'r cod trefniadaeth ysgolion, ac mae diffyg hyder yn y broses ymgynghori?

Diolch, Jane. Fel y dywedais, deallaf fod Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu ailgychwyn ac ailgyhoeddi eu hymgynghoriad oherwydd pryderon a godwyd ynghylch digonolrwydd y cynnig ymgynghori gwreiddiol, yn enwedig diffyg datganiad o'r effaith ar y gymuned digonol. Buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddweud eu barn wrth y cyngor cyn y daw'r ymgynghoriad i ben ar 9 Gorffennaf. Rwy'n disgwyl i bob awdurdod lleol, wrth iddynt ystyried trefniadaeth ysgolion a chau ysgolion, roi sylw dyledus i'r cod trefniadaeth ysgolion a chydymffurfio â'r cod hwnnw. Os oes unrhyw awgrymiadau fod unrhyw awdurdod lleol yn methu cydymffurfio â'r cod, buaswn yn hapus i dderbyn y sylwadau hynny.

Rwyf innau'n falch hefyd fod y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried, a gwneuthum innau sylwadau ysgrifenedig a thrwy gyfarfod â'r uwch ffigurau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Credaf fod rhywfaint o ddryswch wedi bod yn lleol ynglŷn â'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a amlinellwyd gennych yn yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion diwygiedig, a phwysleisiais wrth y cyngor fy mod yn credu bod y diwygiad arfaethedig yn debygol o ddod yn ddogfen fyw. Credaf fod hyn wedi cael llawer o gefnogaeth yn yr ymgynghoriad, a dylent fod yn defnyddio'r rhagdybiaeth honno ar hyn o bryd o ran beth fydd yn digwydd. O gofio bod yr ysgol hon mewn lleoliad mor wledig, ymddengys i mi y dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hynny hyd yn oed cyn iddo ddod yn ofyniad ffurfiol o ran statws y cod trefniadaeth presennol.

Diolch, David. Rydych yn llygad eich lle yn dweud mai fy mwriad yw diwygio'r cod trefniadaeth ysgolion i gynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a dynodi rhestr o ysgolion gwledig. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cynigion hynny, ond mae cyfeiriad y polisi yn y maes hwn yn glir iawn i'r 22 awdurdod lleol, a gobeithio y byddent yn cadw hynny mewn cof wrth gynnal unrhyw adolygiad o gynigion trefniadaeth ysgolion yn eu hardaloedd eu hunain.

Cau Ysgolion yng Ngogledd Cymru

2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gau ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ52214

Diolch, Mark. Fel y dywedais yn gynharach, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw cynllunio lleoedd ysgol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu, fel y dywedais yn gynharach, i ba raddau y mae eu darpariaeth gyfredol yn bodloni'r nifer o blant y mae'n ofynnol yn statudol iddynt eu haddysgu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag anghenion cwricwlwm modern.

Diolch. Rwyf eisoes wedi dwyn pryderon i'ch sylw fod hen ddata anghywir wedi cael ei ddefnyddio yn Sir y Fflint yn y gorffennol gan fynd yn groes i'r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chau ysgolion yn Llanfynydd, Mynydd y Fflint ac Ysgol Uwchradd John Summers. Bellach, ceir cynigion i gau ac uno Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm, a gobeithio y bydd honno ar eich rhestr, gan ei bod yn ysgol wledig ym mhob ystyr o'r gair. Daeth yr ymgynghoriad i ben yn ddiweddar. Er ei fod wedi nodi lefel uchel o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol, nid oedd yn bodloni gofynion y cod ar y pryd o ran y materion y mae angen eu nodi yn y ddogfen ymgynghori. Ymgynghorodd â chyngor yr ysgol, ond deallaf gan y llywodraethwyr na roddwyd yr opsiwn o gau iddynt yn yr ymgysylltiad cychwynnol, ac nid oeddent yn bryderus. Pan roddwyd yr opsiynau gwirioneddol iddynt wedi hynny, wrth gwrs, roeddent yn gwrthwynebu'r cynnig i gau ac uno, ymhlith llawer o bethau eraill. Rwyf wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad gan nodi'r pwyntiau hyn, felly nid oes angen i chi awgrymu y dylwn wneud hynny, ond o ystyried eich ymateb ychydig eiliadau yn ôl, a'ch ymateb i Darren Millar yn y Siambr ar 25 Ebrill, fel rwyf wedi'i ddweud yn gwbl glir, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda graen y cod newydd, gyda'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn rhan ohono. Pa gamau y gallwch eu cymryd bellach os yw cyngor yn bwrw ymlaen â'r bwriad i gau yn unol ag ymgynghoriad os yw'r dystiolaeth yn awgrymu nad oedd cynnwys yr ymgynghoriad hwnnw'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol?

13:35

Buaswn yn disgwyl i bob awdurdod lleol gynllunio dogfennau ymgynghori ar gau neu uno ysgolion sy'n cynnwys gwybodaeth gywir. Os nad ydynt yn gwneud hynny, nid yw hynny'n ddigon da, ac os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth fod y dogfennau ymgynghori y cyfeiria atynt sy'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd mewn perthynas â chau yn cynnwys gwybodaeth anghywir, buaswn yn falch iawn o gael y dystiolaeth honno.

Rydym yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i gyhoeddi'r cod trefniadaeth ysgolion newydd. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr ymgynghoriad cychwynnol wedi cael lefel uchel o gefnogaeth, ond cafwyd ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd a oedd yn annog y Llywodraeth i fynd gam ymhellach, a chyhoeddi rhestr fwy estynedig o ysgolion. Gan ei fod yn ymgynghoriad, rwy'n teimlo y dylwn gydnabod y sylwadau hynny, ac o ganlyniad i hynny, rwyf bellach wedi ysgrifennu at yr holl awdurdodau ac esgobaethau lleol i nodi fy mod yn awyddus i ymestyn y rhestr o ysgolion yr ymgynghorasom arnynt yn wreiddiol. Bydd ymgynghoriad byr ag iddo ffocws, a gobeithiaf gyhoeddi'r cod diwygiedig a'r rhestr gyntaf erioed o ysgolion gwledig cyn gynted â phosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'r bwlch sgiliau cynyddol, yn enwedig ym maes sgiliau digidol, yn llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr y maent eu hangen. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol i bobl sy'n ystyried gyrfa mewn meysydd megis TG, peirianneg a meddygaeth, ond mae un rhan o dair o ddisgyblion ysgol Cymru wedi osgoi TGAU gwyddoniaeth arbenigol, problem rydych wedi'i chydnabod eich hun. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gynyddu nifer y disgyblion, yn enwedig merched, sy'n astudio gwyddoniaeth yn ein hysgolion?

Diolch yn fawr, Mohammad Asghar. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn hynod ymwybodol o'r angen i uwchsgilio ein gweithlu mewn meysydd lle mae cyflogwyr yn dweud wrthym fod prinder, a dyna pam fod gennym y strwythur a elwir yn bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, a sefydlwyd i ofyn i'r cyflogwyr hynny fwydo i mewn i'r strwythurau, i ddweud, 'Beth yw'r sgiliau rydych yn chwilio amdanynt fel cyflogwyr?' Gwyddom eu bod wedi dod yn ôl atom ym mhob un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol gan ddweud, 'Mae sgiliau digidol yn bwysig iawn. Mae angen inni godi lefel y sgiliau hynny'.

Bellach, rydym wedi darparu pot arian o £10 miliwn i golegau addysg bellach fel y gallant ymateb i anghenion cyflogwyr, a bydd sgiliau digidol, rwy'n siŵr, yn cael eu hadlewyrchu yn y bobl a fydd yn defnyddio'r pot hwnnw gan ddweud, 'Dyma sut rydym yn ymateb i anghenion y cyflogwyr.' Gwn fod yr Ysgrifennydd addysg wedi gwneud cryn dipyn o waith yn codi'r safonau mewn perthynas â sgiliau digidol yn ein hysgolion, a gwn ein bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd y cwricwlwm ysgol newydd yn adlewyrchu anghenion yr economi newydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau newydd o ansawdd uchel. Credaf y byddai nifer y bobl ar brentisiaeth yng Nghymru yn cynyddu pe bai'r manteision a allai ddeillio ohonynt yn cael eu hegluro i bobl yn gynnar ac ar oedran cynnar hefyd. Mae gwybodaeth dda am yrfaoedd yn yr ysgol yn hanfodol, ond ceir problemau hefyd gydag ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff yr ysgol. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella ansawdd cyngor ar yrfaoedd ac i sicrhau y caiff prentisiaethau eu hyrwyddo'n briodol yma yng Nghymru?

13:40

Credaf eich bod yn llygad eich lle; mae angen inni wneud mwy o lawer i sicrhau bod pobl yn deall bod prentisiaethau yn llwybr dilys i swyddi o safon. Mae gennym gyfres gyfan o fentrau sy'n ein cynorthwyo i geisio denu pobl, yn arbennig at rai o'r pynciau STEM y sonioch amdanynt yn gynharach, i sicrhau eu bod yn ymateb i'r hyn sydd ei angen ar yr economi. Felly, mae gennym gyfres gyfan o fentrau. Un o'r rhai gorau yw rhywbeth a elwir yn Rhowch Gynnig Arni, lle rydym yn gwahodd miloedd o blant ysgol, yn llythrennol, i brofi eu gallu i weithio ac i ymroi mewn ffordd fwy ymarferol gyda sgiliau galwedigaethol. Credaf fod hynny eisoes yn cael effaith, ond rydym yn ceisio gwneud mwy o lawer i gynorthwyo'r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau sydd ganddynt i'r ysgolion fel y gallant roi'r cyngor y soniwch amdano.

Mae 55 mlynedd wedi bod ers i Brif Weinidog y DU ar y pryd, Harold Wilson, rybuddio, er mwyn i'r wlad ffynnu, y byddai angen creu Prydain newydd yng ngwres gwynias chwyldro gwyddonol. Mr Wilson a ddywedodd hynny. Heddiw, mae newidiadau technolegol yn digwydd mor gyflym fel bod sgiliau'n newid yn gynt nag y gall addysgwyr ffurfiol ddal i fyny â hwy. Erbyn i gwricwlwm gael ei lunio a'i gymeradwyo gan y cyrff amrywiol ac erbyn i fyfyrwyr raddio yn y pen draw, efallai na fydd eu sgiliau digidol wedi dal i fyny â'r dechnoleg. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod sefydliadau addysgol yng Nghymru yn dal i fyny â chyflymder newid yn y byd hwn?

Diolch. Rydych yn llygad eich lle; mae'n bryd inni ailystyried yr ymadrodd 'gwres gwynias technoleg' a'i addasu ar gyfer oes newydd. Rydych yn iawn; os oeddem yn credu bod hynny'n digwydd yn gyflym, credaf y bydd y cyfnod nesaf hyd yn oed yn gyflymach. Felly, rydych yn llygad eich lle; mae angen inni gael ymateb llawer mwy hyblyg i'r newidiadau a fydd yn digwydd. Felly, yn barod, bydd y sgiliau digidol rydym yn eu dysgu i'n plant wedi dyddio ymhen ychydig flynyddoedd. Dyna pam, yn gyntaf oll, y mae angen inni sicrhau bod y bobl sydd gennym, er enghraifft, yn ein colegau addysg bellach, yn ymwybodol o'r wybodaeth gyfredol, y wybodaeth ddiweddaraf, a bod ganddynt y math iawn o dechnoleg ac offer yn eu hysgolion, ac rydym yn helpu i ariannu peth o hynny. Ond hefyd, mae angen inni bwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes, oherwydd oni bai bod pob un ohonom yn dechrau bod o ddifrif ynghylch dysgu gydol oes, credaf y byddwn mewn trafferth fel cenedl o ran sut rydym yn paratoi ar gyfer economi'r dyfodol.

Diolch yn fawr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod hi bellach yn argyfwng o ran ariannu ysgolion yng Nghymru?

Llyr, yr hyn rwy'n ei dderbyn, o ganlyniad i gyni parhaus, yw bod addysg yn gorfod gweithio mewn awyrgylch o gyllidebau cyfyngedig. Rwy'n cydnabod hynny a dyna pam rwy'n manteisio ar bob cyfle i ddarparu cymaint o arian ag y gallaf i'r rheng flaen.

Wel, nid oeddwn yn disgwyl ichi beidio â chydnabod hynny, a dweud y gwir, ond mae'r rheng flaen yn dweud yn hollol glir bellach fod yna argyfwng a'n bod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw o argyfwng. Mae'n arwain at ddosbarthiadau mwy o faint, a gwn fod hynny'n rhywbeth nad ydych yn dymuno'i weld. Mae wedi arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, yn aml iawn, yn cael eu talu'n briodol. Mae'n cael effaith andwyol ar y cwricwlwm, gyda llai o oriau cyswllt, athrawon yn gorfod dysgu amrywiaeth ehangach o bynciau, a rhai pynciau, yn wir, yn diflannu'n gyfan gwbl.

Tybed a ydych yn ystyried lefel sylfaenol o gyllid fesul disgybl yng Nghymru sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg dda. Nid wyf am ofyn i chi beth yw'r lefel honno, ond rwy'n siŵr fod gennych, neu o leiaf rwy'n gobeithio bod gan y Llywodraeth ryw fath o syniad o ble mae'r llinell na ddylem fynd oddi tani ar unrhyw gyfrif. Yn wir, yn eu cynhadledd genedlaethol ym mis Tachwedd, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru nad yw arweinwyr ysgolion yn gwybod a oes digon o arian yn y system ysgolion mwyach ac roeddent yn galw am archwiliad cenedlaethol o gyllidebau ysgolion. Tybed a fyddech yn ystyried cynnal archwiliad o'r fath.

Rwy'n ymwybodol mai polisi Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yw cael fformiwla ariannu genedlaethol. Ar hyn o bryd, ni chredaf fod hynny'n briodol. Mae gennym system addysg amrywiol yng Nghymru, boed hynny'n ddarparu addysg mewn ysgol wledig fach iawn lle mae'r costau, yn amlwg, yn uwch, neu'n ddarparu addysg i gymuned ddifreintiedig iawn, lle y gwyddom fod angen inni ddarparu adnoddau ychwanegol er mwyn cefnogi'r plant hynny. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ceisio ein gorau glas yn rowndiau cyllido'r cyllidebau diweddar i amddiffyn gwariant llywodraeth leol, gan mai dyna ble mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cael eu hadnoddau, drwy'r grant cynnal refeniw. Yn ychwanegol at hynny, rwyf fi, fel y Gweinidog addysg, wedi cynyddu'r swm o arian sy'n mynd i mewn i'r grant datblygu disgyblion, er gwaethaf ein hamgylchiadau anodd. Rydym hefyd wedi nodi arian i gynorthwyo'r broses o leihau maint dosbarthiadau yn yr ardaloedd lle y gwyddom y bydd hynny'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae pob awdurdod lleol wedi elwa o'r buddsoddiad hwnnw.

13:45

Ond mae'r darlun o ran cyllido yn un dryslyd iawn, onid yw, pan edrychwch, er enghraifft, ar sut y mae'r Llywodraeth yn ariannu addysg. Mae peth arian yn mynd i gonsortia ac mae peth arian yn mynd i awdurdodau lleol—mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw, mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy grantiau, mae peth yn mynd yn syth i ysgolion, ac wrth gwrs, mae gennym 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd, yn y bôn, yn golygu 22 o fformiwlâu gwahanol, ac o bosibl, loteri cod post o ran faint o arian sy'n cael ei wario ar bob plentyn yn dibynnu ar ble maent yn byw.

Y gwir, wrth gwrs, yw bod y gyllideb addysg wedi gostwng eleni. Rydym wedi gweld adroddiadau diweddar hefyd sy'n dweud bod cyllid chweched dosbarth wedi gostwng un rhan o bump dros y chwe blynedd diwethaf, a hyd yn oed heddiw, ceir adroddiadau o £4 miliwn yn cael ei seiffno o addysg a thuag at yr ardoll brentisiaethau. Felly, onid ydych yn credu ei bod hi'n bryd dod â phawb at ei gilydd, o leiaf—yr holl randdeiliaid: y cynghorau, y consortia, yr athrawon, y rhieni a'r disgyblion—er mwyn edrych eto ar sut y mae ysgolion Cymru yn cael eu hariannu?

Wel, Llyr, rydych yn gywir; mae ysgolion unigol yn cael eu hariannu mewn sawl ffordd. Rwy'n parhau i gredu mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i nodi angen yn eu hardal leol ac i ymateb yn unol â hynny. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i dderbyn sicrwydd gan Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai awdurdodau lleol yn parhau i flaenoriaethu cyllid mewn addysg. Lle rydym yn pryderu efallai nad yw'r arian hwnnw'n cyrraedd y rheng flaen, mae swyddogion yn rhan o'r trafodaethau hynny gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol unigol. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, os oes gan bobl bryderon ynghylch y ffordd y caiff gwariant tybiannol addysg ei gyfrifo ar gyfer y grant cynnal refeniw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a minnau wedi dweud ein bod yn fwy na pharod i edrych ar y data hwnnw. Ond mae dealltwriaeth rhyngom ni a llywodraeth leol yng Nghymru na fydd hynny'n cael ei orfodi arnynt. Mae'n rhaid iddynt ddod at y bwrdd i ofyn hynny i ni, ond rydym yn barod i weithio gyda hwy os ydynt yn teimlo mai nawr yw'r amser i ddiweddaru'r data o ran cyfrifiadau ar gyfer addysg yn y grant cynnal refeniw.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai chi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y system addysg yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi, yn y pen draw, yw sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n briodol er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Sut rydych yn monitro'r modd y mae cyllidebau addysgol yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol, ysgolion a chonsortia?

Fe'ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Llyr Huws Gruffydd. Rydym yn cael trafodaethau manwl gydag awdurdodau lleol unigol, gyda CLlLC a chyda'r consortia rhanbarthol. Os nad ydym argyhoeddedig fod yr arian yn cael ei ddyrannu mewn ffordd sy'n foddhaol i ni, bydd swyddogion yn gweithio gyda'r sefydliad hwnnw i ddarparu eglurder ac rydym yn gweithredu'n unol â hynny.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai eich bod yn ymwybodol fod y BBC wedi adrodd heddiw fod oddeutu £4 miliwn yn cael ei dynnu o gyllidebau ysgolion er mwyn talu am ardollau prentisiaethau awdurdodau lleol i Lywodraeth y DU. Maent hefyd yn adrodd, er bod rhai cynghorau yn talu'r ardoll hon o'r gyllideb gyffredinol, fod 13 ohonynt yn ei thalu allan o'r gyllideb ysgolion. Ymhlith y cynghorau sy'n ei thalu allan o'r gyllideb gyffredinol, mae'n bosibl yr effeithir ar eu cyllideb addysgol oni bai bod y cyngor wedi'i chlustnodi. Gwn mai treth y DU yw'r ardoll brentisiaethau, ac nad oes gennych chi a Llywodraeth Cymru reolaeth drosti o gwbl, ond a allwch ddweud wrthym pa effaith y mae talu'r ardoll brentisiaethau yn ei chael ar gyllidebau ysgolion a lefelau staff ysgolion?

Mae'r Aelod yn llygad ei lle; nid yw'r ardoll brentisiaethau yn rhywbeth y mae gennym reolaeth arni yn Llywodraeth Cymru. Rydym wedi codi ein pryderon, fel Llywodraeth, gyda San Steffan, o ran sut y mae'r ardoll brentisiaethau yn gweithio. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i godi pryderon gyda'r Adran Addysg ar faterion sy'n ymwneud â phrentisiaethau, a deallwn fod swyddogion yn yr Adran Addysg—[Torri ar draws.]

13:50

Deallwn fod swyddogion yn yr Adran Addysg wrthi'n adolygu gweithrediad yr ardoll brentisiaethau ac—[Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond bellach mae gennym un o'ch cyd-Ysgrifenyddion y Cabinet yn ymuno, felly gadewch i ni roi'r gorau iddi a gadael i Ysgrifennydd y Cabinet barhau.

Fel roeddwn yn ceisio'i ddweud, Lywydd, rydym yn cynnal trafodaethau gyda'r Adran Addysg yn San Steffan ynghylch gweithrediad yr ardoll brentisiaethau. Mae gwir angen sicrhau bod effaith yr ardoll ar y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru cyn lleied â phosibl. Rwy'n deall pam ei bod hi mor rhwystredig fod ysgolion yn y sefyllfa hon, a dyna pam fod angen i'r rhaglen hon gael ei diwygio.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn cael trafodaethau gyda San Steffan ynglŷn ag effaith yr ardoll brentisiaethau. Mae'r Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi cyflwyno rhagdybiaeth o blaid rhoi disgyblion sydd ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd. Mae hwn yn gam rwy'n ei gymeradwyo'n fawr. Cefais fy magu mewn cyfnod pan oedd pobl ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau wedi'u cadw ar wahân, i bob pwrpas, i weddill y boblogaeth. Ni allwn fod yn falchach fod hynny bellach yn y bin. Ond ar adeg pan fo beichiau cynyddol ar ysgolion—cyllidebau ysgolion yn cael eu taro, fel y disgrifiwyd gennych—mae darpariaeth ADY bellach mewn perygl o gael ei heffeithio'n andwyol, ac rwyf eisoes yn clywed adroddiadau gan etholwyr fod staff cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu torri. Fodd bynnag, mae Cymru'n cael ad-daliad gan Lywodraeth y DU o'r ardoll brentisiaethau. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â digolledu awdurdodau lleol ac ysgolion am y colledion y maent wedi'u hwynebu oherwydd yr ardoll, megis ad-dalu'r ardoll a dalwyd, fel nad yw ysgolion ar eu colled o leiaf?

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cael llawer o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn addysg yng Nghymru. O ran anghenion addysgol arbennig, rwy'n croesawu cefnogaeth Aelod UKIP i'n polisi o drawsnewid yn y maes hwn mewn ysgolion. Os ydym am godi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad, ni allwn wneud hynny heb gefnogi pob un o'n myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a dyna pam rydym wedi dyrannu £20 miliwn er mwyn rhoi'r ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan y Cynulliad hwn yn ddiweddar ar waith.

Safonau Addysgol yn Sir Drefaldwyn

3. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella safonau addysgol yn Sir Drefaldwyn? OAQ52212

Mae Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar y cyd yn cefnogi ysgolion yn Sir Drefaldwyn, ac yn wir, ledled Cymru gyfan, er mwyn gwella safonau addysgol, yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl'.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae corff llywodraethu Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cynnig peidio â chael ffrwd Saesneg o fis Medi ymlaen ar gyfer y disgyblion newydd a ddaw i'r dosbarth derbyn. Bydd pob plentyn yn y flwyddyn honno yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf wedi derbyn nifer fawr o bryderon gan rieni ynglŷn â hyn, a chafwyd cyfarfod cyhoeddus ym Machynlleth ar y mater nos Lun. Wrth gwrs, mae rhieni'n pryderu am ganlyniadau addysgol eu plant. Felly, yn y bôn, mae'r ffrwd Saesneg yn cael ei diddymu o'r ysgol ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol hwn, ac mae hynny'n digwydd heb ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol llawn. Dywed yr awdurdod lleol mai mater ar gyfer y corff llywodraethu yw hwn. A oes gan y corff llywodraethu ganiatâd i wneud hyn heb ymgynghoriad cyhoeddus llawn? Hoffwn ofyn hefyd: mae'r ysgol cyfrwng Saesneg agosaf yn fy hen ysgol yng Nghaersws, sy'n daith o 45 milltir yn ôl a blaen, awr a chwarter yn ychwanegol o amser teithio i blentyn ifanc yn y dosbarth derbyn. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai hynny'n amlwg yn annerbyniol. Felly, a gaf fi ofyn i chi archwilio'r sefyllfa hon a rhoi ymateb gan Lywodraeth Cymru?

Diolch, Russell. Rwy'n ymwybodol fod corff llywodraethu Ysgol Bro Hyddgen wedi gwneud penderfyniad yn ddiweddar i gyfuno'r ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn eu dosbarth derbyn o fis Medi 2018. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gwnaed y penderfyniad hwn o ganlyniad i'r nifer fach o ddisgyblion sydd wedi'u cofrestru yn y ffrwd cyfrwng Saesneg. Mae Cyngor Sir Powys yn ogystal â'r ysgol yn darparu cyngor a chefnogaeth i rieni sy'n awyddus i drafod y sefyllfa mewn mwy o fanylder, ac fel y crybwyllwyd gennych, mae'r rhieni wedi cael cyfle i gyfarfod. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod rhieni'n cael sicrwydd y bydd yr ysgol yn parhau i ddarparu addysg ddwyieithog i bob disgybl, gan sicrhau eu bod yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae fy swyddogion yn parhau i drafod gyda Chyngor Sir Powys sut y mae'r newid hwn yn digwydd.

13:55

Wrth gwrs, mae'n bwysig tanlinellu bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn cyfoethogi cyraeddiadau addysgiadol ac mae yna brawf ddigamsyniol o hynny. Rwy'n troi i ben arall Maldwyn i ofyn cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion yn y Drenewydd. Mae yna bron £120 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y pwrpas yna, wedi'i gymeradwyo gan y Llywodraeth, gan gynnwys darparu ysgol gydol oes Gymraeg yn y Drenewydd am y tro cyntaf. Rwy'n falch o weld y gweddnewid yma yn yr agwedd tuag at addysg Gymraeg ym Mhowys yn y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sydd wedi cael ei dderbyn. Rwyf am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau eraill y mae hi'n eu trafod gyda Chyngor Sir Powys ar hyn o bryd i godi addysg Gymraeg ym Mhowys ac i adeiladu ar rai o'r seiliau a'r camau sydd wedi cael eu cymryd yn bositif hyd yma. 

Lywydd, efallai y dylwn ddatgan buddiant fel rhiant i dri o blant sy'n mynychu ysgol ddwyieithog ym Mhowys ac sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd ac sydd bellach yn gwneud eu gorau i gael cymaint o addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ag y gallant—mewn rhai achosion mae hynny'n her. Felly, gallaf gadarnhau, ar sail bersonol, y manteision y mae addysg ddwyieithog wedi'u rhoi i fy mhlant. Rwy'n falch iawn fod fy merched yn gallu gwneud rhywbeth na allwn ond breuddwydio am allu ei wneud, sef gallu sgwrsio'n rhugl yn nwy iaith ein cenedl. Yn sicr nid wyf yn ystyried hyn yn anfantais i'w cyrhaeddiad addysgol—mae wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos, ym Mhowys, ein bod yn gweld penderfyniad newydd i sicrhau bod y plant y mae eu rhieni am iddynt gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog—eu bod yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn. Os ydym am gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae gan addysg ym mhob rhan o Gymru ran hanfodol i'w chwarae yn ein cynorthwyo i gyflawni'r targedau hynny. Rwy'n falch fod Powys yn manteisio ar y cyfle i ateb y galw yn ardal y Drenewydd, ac yn wir, mewn ardaloedd eraill ym Mhowys, am addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Clybiau Brecwast mewn Ysgolion

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd clybiau brecwast mewn ysgolion? OAQ52230

Diolch, Dawn. Mae clybiau brecwast mewn ysgolion yn rhan annatod o waith ehangach Llywodraeth Cymru i wella bwyd a maetheg mewn ysgolion. Eu bwriad yw cynorthwyo i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio yn ystod y diwrnod ysgol gan roi dechrau iach i'r diwrnod hwnnw i'r plant.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai nad ydych yn ymwybodol, ond yr wythnos hon, mae Cyngor Merthyr Tudful wedi dechrau cyfnod ymgynghori statudol o 45 diwrnod gydag undebau llafur ynghylch toriadau i'r gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan glybiau brecwast ledled y fwrdeistref. Mae oddeutu 150 o staff yn debygol o gael eu heffeithio gan y toriad arfaethedig hwn; menywod ydynt yn bennaf, gweithwyr rhan amser ac ar gyflogau isel. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod angen ystyried y toriadau hyn yng nghyd-destun awdurdod lleol sy'n dal i fod ag ardaloedd â lefelau amddifadedd sydd ymysg y rhai uchaf yn y DU, heb sôn am Gymru. O gofio'r hyn rydych wedi'i ddweud am fanteision clybiau brecwast, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y toriadau arfaethedig hyn, law yn llaw â gostyngiad o £465,000 i'r cyllidebau ysgolion eleni'n unig y soniais wrthych amdanynt yn flaenorol, yn fygythiad i gyfleoedd bywyd a lles plant lleol, gyda rhai ohonynt yn byw yn ein cymunedau tlotaf. Fodd bynnag, ers gosod y gyllideb, ymddengys bod y cyngor erbyn hyn wedi dod o hyd i arian ar gyfer pethau eraill, megis torri gwair, ac er bod hynny'n ddymunol, ni chredaf y gall fod mor bwysig â chynnal gwasanaeth clybiau brecwast ar ei lefelau presennol. Felly, o gofio pa mor bwysig yw'r mater hwn yn eich barn chi, hoffwn wybod beth fyddech yn ei wneud i sicrhau y caiff y penderfyniad annoeth hwn ei wrthdroi.

Wel, Dawn, Cymru oedd y gyntaf o'r gwledydd cartref i gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2004 ac o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod darpariaeth brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn parhau. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef i mi fod yn amheus iawn o gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion, ond mae ymchwil annibynnol a wnaed gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos, ac yn sicr wedi fy argyhoeddi, fod darparu brecwast am ddim yn cael effaith ar gyrhaeddiad addysgol mewn gwirionedd. Mae angen inni wneud popeth a allwn i sicrhau nad yw'r budd hwnnw i blant yn cael ei golli, nid ym Merthyr Tudful nac yn unman arall yng Nghymru. Mae'n siomedig darllen adroddiadau yn y cyfryngau lleol ei bod yn ymddangos bod dewis wedi'i wneud i flaenoriaethu torri gwair, fel y dywedoch, er fy mod yn siŵr fod taer angen gwneud hynny, ond mae'n anodd deall pam fod hynny'n flaenoriaeth ar gyfer yr awdurdod lleol hwn yn hytrach na pholisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod buddsoddi mewn brecwast mewn ysgolion yn cynorthwyo plant i wneud yn well. Mae hynny'n arbennig o wir am blant o gefndiroedd tlotach, am ba reswm bynnag, y mae eu teuluoedd o bosibl yn ei chael hi'n anodd rhoi'r dechrau iach i'r dydd sydd ei angen arnynt.

14:00

Mae clybiau brecwast yn darparu brecwast iach ac amrywiol i blant, cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol a chymorth i rieni, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ac yn dibynnu ar glybiau brecwast fel ffordd o gael gofal plant fforddiadwy a dibynadwy. Mewn adroddiad diweddar, mynegwyd pryderon gan rai rhieni fod plant yn cael ychwanegu siwgr at rawnfwydydd brecwast, gyda rhai ohonynt eisoes yn cynnwys cryn dipyn o siwgr. Pa ganllawiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyhoeddi i ysgolion ynghylch monitro faint o siwgr y mae disgyblion yn ei fwyta mewn clybiau brecwast, os gwelwch yn dda?

Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym reoliadau eithaf llym ynglŷn â natur iach y bwydydd y dylid eu rhoi i blant yn yr ysgol. Gŵyr pob un ohonom am y niwed y gall deiet sy'n uchel mewn siwgr ei wneud i bob un ohonom, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn dymuno, os yw plant yn cael brecwast am ddim yn yr ysgol, ei fod o safon maethol uchel ac nad yw'n un sy'n ychwanegu calorïau gwag at eu deiet.

Gwariant Cyfalaf ar Ysgolion

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf ar ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ52238

Diolch yn fawr, Llyr. Bydd £133 miliwn o gyfalaf ar gael i ysgolion y flwyddyn nesaf, a bydd ein partneriaid yn darparu arian cyfatebol. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gweithredu cyfres o donnau buddsoddi dros flynyddoedd ariannol, gyda'r don gyntaf yn darparu £1.4 biliwn ac ail don rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn dechrau yn 2019 yn darparu £2.3 biliwn arall.

Mae cynghorwyr wedi cysylltu â fi yn poeni, a dweud y gwir, fod y cynghorau ddim ond yn cael mis i baratoi bids ar gyfer y grant cyfalaf eleni, sy'n dod allan o danwariant y flwyddyn ddiwethaf, a bod y bids hynny’n gorfod bod ar y sail bod yna sicrwydd eu bod nhw’n gwario'r arian yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Nawr, rŷm ni wedi bod yn trafod prinder cyllid cyhoeddus, felly mae'n gwbl allweddol ein bod ni'n cael y gorau gallwn ni allan o bob ceiniog. Felly—rydw i’n siŵr eich bod chi'n rhannu fy rhwystredigaeth mai fel hyn y mae hi mewn sefyllfa fel hyn—beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau nad yw cynghorau yn gorfod sgrablo rhyw gynlluniau at ei gilydd er mwyn symud y pres yn y flwyddyn ariannol nesaf?

Wel, yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus i roi cymaint o rybudd â phosibl i awdurdodau lleol ynglŷn â'r arian sydd ar gael. Weithiau, gyda'r holl ewyllys da yn y byd, gall adnoddau ychwanegol ddod ar gael, a chyda dyhead—fel y dywedais yr hoffwn ei wneud yn gynharach—i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen, weithiau mae arnom angen penderfyniad cyflym a chyflwyno cynigion yn cyflym er mwyn caniatáu inni wario arian nad oeddem wedi disgwyl y byddai ar gael inni yn ystod y flwyddyn. Nid wyf yn barod i adael i berffeithrwydd fod yn elyn i'r da, ac yn yr achos hwn, rwyf am i'r da hwnnw fod yn fwy o arian i'r rheng flaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cryn dipyn o gyfalaf i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydych wedi gweld Ysgol Awel y Môr ac Ysgol Bae Baglan yn fy etholaeth i, dwy ysgol newydd sbon sydd ar agor eisoes a thair ysgol newydd a fydd yn agor ym mis Medi, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Gymraeg Bro Dur a'r ysgol gynradd newydd yn Llansawel. Fodd bynnag, mae mater yn codi ynglŷn ag agweddau ar gynnal a chadw rhai o'r ysgolion. Yn aml iawn, rydym yn gweld bod llawer o ysgolion nad oes cynigion i adeiladu ysgolion newydd yn eu lle mewn sefyllfa anodd iawn gan y dywedir wrthynt fod angen gwneud gwerth £3 miliwn o waith cynnal a chadw arnynt. Er enghraifft, mae ysgol Cymer Afan yn un o'r ysgolion y maent yn honni bod angen hynny arnynt. Beth rydych yn ei wneud i asesu'r gost o gynnal a chadw'r ysgolion fel y gallwn nid yn unig gael yr ysgolion newydd sbon, ond sicrhau hefyd fod yr ysgolion nad oes ysgolion newydd i ddod yn eu lle yn cyrraedd y safon?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Rydym yn gwneud dau beth. Rydym wedi darparu £14 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf i ysgolion ledled Cymru er mwyn cynorthwyo i dalu rhai costau cynnal a chadw ar raddfa fach. Roedd hwnnw'n arian a ddaeth ar gael ac fe lwyddasom i'w ddarparu i ysgolion cyn gynted ag y gallem. Mae hefyd yn bwysig nodi, wrth i awdurdodau lleol baratoi eu cynigion ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—fel y dywedais, rhaglen a fydd yn sicrhau bod dros £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn adeiladau ein hysgolion a'n colegau—fod un o'r mecanweithiau newydd ar gyfer dosbarthu'r arian hwnnw yn caniatáu i gontract cynnal a chadw fod yn rhan o'r cais, felly byddai'r costau cynnal a chadw yn cael eu talu am dros ugain mlynedd wedi i'r ysgol gael ei hadeiladu, ac mae llawer o awdurdodau lleol yn edrych ar y mecanwaith hwnnw er mwyn mynd i'r afael â'r union bwynt y soniwch amdano.

14:05

Ysgrifennydd y Cabinet, cofiaf i'r archwilydd cyffredinol edrych ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd, ac yn yr adroddiad, er ei fod yn gefnogol i'r prosiect ar y cyfan ac o'r farn fod yr arian wedi'i wario'n dda i raddau helaeth, argymhellodd y dylid gwneud rhai addasiadau pe bai'r arian neu'r dull yn newid ar gyfer y band buddsoddi nesaf.

Mae band B yn canolbwyntio i raddau llai ar leihau nifer y lleoedd gwag ac i raddau mwy ar wella cyflwr ystâd yr ysgol ei hun, yn ogystal â chynyddu ymgysylltiad cymunedol. A allwch ddweud wrthym—? Yn aml, mae'r ysgolion hyn yn fwy nag ysgolion yn unig, maent yn adeiladau gwych sydd â lle canolog yn eu cymunedau. A allwch ddweud wrthym pa gyngor rydych yn ei roi i awdurdodau addysg lleol er mwyn sicrhau eu bod yn ganolog i'r gymuned go iawn, a bod y gymuned leol yn elwa cymaint â phosibl o'r adeiladau hynny ac yn cael gwerth am arian?

Diolch, Nick. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym yn buddsoddi cryn dipyn o arian cyhoeddus yn y broses o greu'r cyfleusterau newydd hyn, ac ni allant fod yn gyfleusterau sy'n cael eu defnyddio yn ystod y diwrnod ysgol, yn ystod tymor yr ysgol yn unig—mae angen inni sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael ar gyfer y gymuned yn gyffredinol.

Y bore yma, cefais y pleser a'r fraint o agor y campws dwyreiniol newydd yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Mae'n adeilad gwirioneddol drawiadol sy'n cyfuno cyfleusterau ar gyfer plant 11 i 16 oed, yn ogystal â chyfleusterau Coleg Caerdydd a'r Fro ar yr un campws, a chyfleusterau chwarae awyr agored gwych—cae 3G gyda llifoleuadau—a bydd y cyfleusterau hynny ar gael, nid yn unig i blant ysgol eu defnyddio, ond er mwyn i'r gymuned yn gyffredinol eu defnyddio. A gwn fod y math hwnnw o fuddsoddiad yn nwyrain Caerdydd, fel y clywais y bore yma, yn hir ddisgwyliedig a'i fod yn cael ei groesawu'n fawr iawn.

Cwricwlwm Ysgol Newydd

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru? OAQ52225

Diolch yn fawr, Dai. Mae cwricwlwm newydd trawsffurfiol yn ganolog i genhadaeth ein cenedl. Mae rhwydwaith yr ysgolion arloesi yn parhau i weithio gydag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i lunio a datblygu'r cwricwlwm newydd a threfniadau asesu. Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu'r cwricwlwm drafft er mwyn cael adborth gan ysgolion ym mis Ebrill 2019.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, dengys ystadegau'r Llywodraeth fod unigrwydd yn endemig ymysg pobl ifanc Cymru. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r mater hwn ers blynyddoedd, heb unrhyw ddatganiad nac adroddiad ar unigrwydd ymhlith pobl ifanc wedi'i gyhoeddi ers 2011 o leiaf. Nawr, mae sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau i fynd i'r afael ag unigrwydd yn hollbwysig, felly a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod ein hysgolion yn helpu pobl ifanc yn y dyfodol i osgoi poen cyfnodau hir o unigrwydd?

Diolch, Dai. Rwy'n siŵr eich bod eisoes yn ymwybodol mai un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd fydd iechyd a lles. Bydd hynny'n cael statws cyfartal ochr yn ochr â'r pum maes dysgu a phrofiad arall. Lywydd, ddoe cawsom ddadl hirfaith ynglŷn â fy mhenderfyniad i gynnwys addysg perthnasoedd a rhywioldeb statudol yn y cwricwlwm newydd. Mae perthnasoedd yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r unigrwydd a ddisgrifiodd Dai Lloyd, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod gennym addysg arloesol yn y maes hwn yn ein hysgolion.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, fel rhan o'r cwricwlwm, fod sicrhau bod pobl ifanc yn deall beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol mewn cymdeithas, os ydynt am chwarae rôl briodol a bod yn barod i ymuno â chymdeithas yn llawn fel oedolion—. Tybed pa gynnydd, felly, sy'n cael ei wneud ar ddatblygu ac ymgorffori addysg gyfreithiol gyhoeddus yn y cwricwlwm. Hefyd, hoffwn ofyn ichi, fel rhan o hynny, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, ceir rhwymedigaeth o dan y bwrdd gwasanaethau cyfreithiol i gymryd camau, yn y bôn, i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau a dyletswyddau cyfreithiol y dinesydd. Tybed a fyddai'n briodol cysylltu â hwy i ganfod beth yw eu cyfraniad tuag at addysg gyfreithiol ymysg ein pobl ifanc. Ymddengys i mi fod y ddau beth yn mynd law yn llaw â'i gilydd.

Diolch yn fawr iawn, Mick. Ni chredaf y gallwn gyflawni pedwar diben y cwricwlwm cenedlaethol newydd heb fynd i'r afael â'r materion a godwch. Gallaf ddweud wrthych fod y grŵp dyniaethau wedi derbyn mewnbwn gan amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys mewnbwn ynghylch addysg gyfreithiol gyhoeddus, i gefnogi ei waith. Mae'r grŵp wedi datblygu datganiad drafft ynghylch 'beth sy'n bwysig' sy'n cefnogi'r maes penodol hwn, ac sy'n datgan y bydd dysgwyr yn deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel dinasyddion moesegol, a phwysigrwydd sicrhau eu bod yn parchu hawliau pobl eraill. Mae dysgwyr yn deall cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol unigolion a chanlyniadau peidio ag ymddwyn yn unol â hynny.

Mae'r grŵp yn parhau i rannu ei waith drafft gyda rhanddeiliaid allweddol sydd â diddordeb yn y maes hwn, ac mae hynny'n cynnwys Canolfan Gyfreithiol y Plant, sydd, wrth gwrs, wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, yn y rhestr o 'beth sy'n bwysig' ym maes iechyd a lles y cwricwlwm newydd, ceir ffocws clir ar iechyd a lles y dysgwyr eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes datganiad dysgu ar sut y gallai disgyblion helpu eraill i ofalu am eu hiechyd a lles. Efallai y cofiwch yn ôl ym mis Chwefror 2017 fod Aelodau'r Cynulliad wedi cefnogi fy nghynigion i sicrhau bod dysgu sgiliau achub bywyd addas i'r oedran yn elfen orfodol o'r cwricwlwm—rhywbeth roeddech yn ei gefnogi cyn eich bod yn rhan o'r Llywodraeth. Felly, dyma eich cyfle, os caf ei roi felly.

Os nad yw hyn wedi'i gynnwys yn y maes iechyd a lles, lle yr hoffech weld y cynnig hwn, a gefnogir, wrth gwrs, gan y Cynulliad, plant a theuluoedd, Sefydliad Prydeinig y Galon, St John Cymru a llu o rai eraill sydd â diddordeb, o fewn y cwricwlwm newydd hwnnw? Gobeithio y gallwch fynychu'r digwyddiad Calonnau Cymru rwy'n ei noddi yfory i weld pa mor hawdd yw dysgu rhai o'r sgiliau hyn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad. Yn anffodus, ni fydd modd imi ymuno â chi yfory—nid yw ymrwymiadau fy nyddiadur yn caniatáu i mi wneud hynny y tro hwn. Ond rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld ag ysgolion lle y dangoswyd y defnydd o dechnoleg achub bywydau, megis diffibrilwyr a sgiliau cymorth cyntaf. Fe fyddwch yn gyfarwydd ag Ysgol Penmaes yn Aberhonddu, sy'n ysgol arbennig yn y dref. Roedd yn wych gweld staff o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r plant hynny i ddatblygu'r sgiliau hyn. Rydym wedi ysgrifennu at yr holl ysgolion i'w hannog i gymryd rhan mewn rhaglenni o'r fath.

Nid yw'r meysydd dysgu a phrofiad wedi cwblhau eu gwaith eto; maent yn parhau i dderbyn adborth a myfyrio ar yr hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm. Fe arhoswn i weld sut y bydd hynny'n datblygu wrth inni symud ymlaen.

Lles Meddyliol

7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu ysgolion i hybu lles meddyliol? OAQ52241

Diolch, Lee. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn egluro ein bod yn cymryd camau, drwy gwricwlwm newydd gyda phwyslais penodol ar les dysgwyr, datblygiadau mewn dysgu proffesiynol a chynlluniau peilot mewngymorth y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gynorthwyo ysgolion i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a lles.

Diolch. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod cydnabyddiaeth gynnar yn bwysig wrth ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc, ac mae ysgolion weithiau'n cael trafferth i ddarparu'r cymorth mwyaf priodol, o ran sicrhau bod y sgiliau a'r capasiti i'w cael yn yr ysgol, ond hefyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn y gymuned a thrwy CAMHS. Mae elusennau iechyd meddwl ac ysgolion yn adrodd nad yw'r amrywiaeth o ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion yn gydgysylltiedig yn aml, ac y gallant fod yn ddryslyd. Felly, beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i sicrhau bod y gweithredwyr gwahanol yn cydgysylltu a bod llwybr clir i'w gael er mwyn cael mynediad at wybodaeth a chyfeirio disgyblion at y cymorth sydd ei angen arnynt?

Diolch am eich cwestiwn pwysig, Lee. Wrth gydnabod yr anhawster y gall rhai ysgolion ei wynebu i gael gafael ar wasanaethau arbenigol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi gallu ymuno â'n gilydd a chyfuno adnoddau ariannol o'n cyllidebau i gyd-ariannu prosiect mewngymorth £1.4 miliwn CAMHS sy'n mynd rhagddo ar sail cynllun peilot mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru. Diben y cynllun peilot hwnnw yw deall y ffordd orau y gallwn gefnogi athrawon a staff ysgolion i gefnogi eu plant a beth yw'r mecanwaith mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol mewn ysgolion. Byddwn yn myfyrio ar y cynllun peilot hwnnw gyda'r nod, os oes modd, os yw'n llwyddiant—a chredaf y bydd yn llwyddiant—o ymestyn y rhaglen honno ymhellach.

Wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, bydd yn bwysig ein bod mewn sefyllfa i ddarparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol i athrawon er mwyn iddynt wybod beth yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ac rydym yn parhau i edrych ar ymarfer arloesol ledled Cymru lle y gallwn er mwyn gweld a allwn wneud gwelliannau. Felly, yn ddiweddar, ar wahoddiad Paul Davies, ymwelais ag Ysgol y Preseli lle y ceir ffordd arloesol iawn o hyrwyddo iechyd a lles plant fel rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol gyda Phrifysgol Harvard. Mae'r effeithiau yno yn rhai real iawn. Mae'n waith arloesol ac roeddwn yn falch iawn o'i weld. Bydd swyddogion yn ymchwilio i weld a oes mwy y gallwn ei wneud mewn rhannau eraill o Gymru i adeiladu ar brofiadau Ysgol y Preseli, lle mae'r ffocws yn bendant iawn ar ymyrryd yn gynnar ac adeiladu hunan-barch plant, eu hunan-werth ac agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu a meithrin eu hyder y gallant lwyddo yn yr ysgol, a thrwy lwyddo yn yr ysgol, y gallant fyw bywyd iachach, hapus, a gwell.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg cydnerthedd ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ond yn ei adroddiad diweddar ar y mater hwn, disgrifiodd arferion ardderchog sydd i'w gweld yn fy etholaeth i yng ngogledd Cymru yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, ac rydych wedi ymweld â'r ysgol honno gyda mi i weld y rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar sydd ar waith yno.

Un o'r trasiedïau am yr arfer rhagorol hwn yw nad yw'r ysgolion arloesi sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd wedi ceisio gwneud defnydd o'r arbenigedd sydd ar gael yn yr ysgol honno. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, lle y ceir arfer da, y gwneir defnydd ohono mewn perthynas â datblygiad y cwricwlwm newydd, fel y gall mwy o bobl elwa ohono?

Diolch, Darren. Fel y dywedwch, mae amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio yn llwyddiannus yn yr ysgol i fynd i'r afael â lles disgyblion—gwn fod ymwybyddiaeth ofalgar yn un arbennig o lwyddiannus yn yr ysgol y buom yn ymweld â hi gyda'n gilydd. Drwy rwydwaith yr ysgolion arloesi a'r meysydd dysgu a phrofiad unigol, maent yn cael amrywiaeth o dystiolaeth a chyngor gan grwpiau arbenigol. A ninnau bellach ar y cam hwn yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm, buaswn yn disgwyl gweld lefel uwch o lawer o ryngweithio rhwng ysgolion arloesi ac ysgolion eraill, gan weithio yn eu trefniadau clwstwr, ac rwyf wedi cael adborth gan rai ysgolion a fu gynt yn feirniadol o'r diffyg rhyngweithio, yn dweud bod pethau yn well o lawer erbyn hyn.

Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr ddoe i fy nghlywed yn dweud fy mod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnig trefnu ymweliadau penodol â'r ysgolion arloesi ar gyfer Aelodau'r pwyllgor, fel y gall yr Aelodau weld y gwaith hwn ar lawr gwlad, a gobeithio y gall yr Aelod fanteisio ar y cyfle i wneud hynny. Ond rwyf am weld cymaint o ddeialog â phosibl rhwng y rhwydweithiau arloesi a'r rhwydweithiau eraill.

Dim byd. Mae'n flin gennyf. Caf fenthyg un Lesley—gobeithio bod eich clustiau'n lân. [Chwerthin.]

Byddai diddordeb gen i glywed am y peilot roeddech chi’n sôn amdano wrth Lee Waters, oherwydd rydw i wedi bod yn gofyn, am nifer o flynyddoedd nawr, am waith mewn ysgolion yng nghyd-destun hunanhyder, yn sgil y gwaith rydw i’n ei wneud ar y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta. Ar y sail honno, rydw i eisiau gofyn pa waith rydych chi wedi bod yn ei wneud gyda’r Gweinidog iechyd ar y fframwaith anhwylderau bwyta, sydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae yna weithdai’n digwydd ar draws Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf y cawsom o’r grŵp trawsbleidiol, roedd sôn yna am ba mor bwysig yw uno addysg a iechyd yn y maes yma oherwydd po gyflymaf yr ydym yn gallu gweld bod anhwylder bwyta gan berson ifanc y lleiaf tebygol ydyn nhw o waethygu, os ydyn nhw’n gallu cael system addysgiadol cryf i’w helpu nhw i beidio â gorfod ymdrin â'r problemau sydd yn dod gydag anhwylder bwyta. Felly, byddwn i’n erfyn arnoch chi i fod yn rhan o adolygiad y fframwaith, os nad ydych chi, a hefyd i rannu’r peilot rydych chi’n sôn amdano hefyd.

Diolch, Bethan. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau'n cydnabod y bydd effaith ein gweithredoedd yn fwy o lawer drwy weithio gyda'n gilydd. Rydym hefyd yn cydnabod, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â iechyd a lles plentyn, yn enwedig eu hiechyd meddwl, na allant wneud y mwyaf o'u cyfleoedd o fewn y system addysg i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Sut y gallwn ddisgwyl i blentyn sy'n dioddef gofid meddyliol allu cael mynediad at gwricwlwm? Ac felly, rydym yn parhau i weld lle y gallwn weithio gyda'n gilydd, ar draws ein portffolios, i gael yr effaith honno. Dyna pam rydym yn ariannu prosiect mewngymorth CAMHS mewn nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru, fel y gallwn ddeall yn well sut y gallwn gefnogi ysgolion, fel y dywedais, i gefnogi eu plant yn well ac i gael mynediad cyflym at wasanaethau mwy arbenigol os oes angen. Ond o ganlyniad i'ch cwestiwn, byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd os yw'n barod i wneud hynny i drafod, mewn perthynas â'r mater penodol hwn sy'n ymwneud ag anhwylderau bwyta, beth arall y gallwn ei wneud i gydgysylltu gwaith yn adrannau'r ddau ohonom.

14:20
Estyn

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ysgolion yng Nghymru y mae Estyn wedi'u graddio yn ardderchog? OAQ52210

Diolch, Mike. Dros gylch arolygu 2010-17, graddiwyd 175 o ysgolion yn 'rhagorol' naill ai am eu perfformiad neu eu rhagolygon ar gyfer gwella, ac mae 21 y cant o ysgolion wedi cael eu graddio'n 'rhagorol' am o leiaf un dyfarniad. Rwy'n falch o weld cymaint o ragoriaeth yn y system addysg yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch ysgol Cwmrhydyceirw am gyflawni gradd 'rhagorol' yn y ddau gategori yn eu harolwg yn ddiweddar? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ymweld â'r ysgol i weld peth o'i hymarfer rhagorol ar waith—ymarfer rhagorol a nodwyd gan Estyn yn eu hadroddiad?

Mike, rwyf bob amser yn falch iawn o weld rhagoriaeth lle bynnag y bo yn ein system addysg. Rwy'n llongyfarch yr ysgol dan sylw. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yn yr ysgol honno a'u penderfyniad i ddarparu'r cyfleoedd addysgol gorau i'w disgyblion, a buaswn yn fwy na pharod i ymweld â'r ysgol honno. Buaswn hefyd yn falch iawn o'u gweld yn noson wobrwyo flynyddol Estyn, a gynhelir bob blwyddyn bellach, lle mae'r ysgolion sydd yn y categori 'rhagorol' yn dod ynghyd i ddathlu ac i rannu arferion da.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Bwydo ar y Fron

1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar fwydo ar y fron? OAQ52244

Diolch am eich cwestiwn. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig ar 11 Mai ynghylch argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar fwydo ar y fron. Un o'r argymhellion oedd creu cynllun gweithredu cenedlaethol ar fwydo ar y fron a grŵp trosolwg strategol i gefnogi ei gyflawniad. Disgwyliaf i'r gwaith ar weithredu'r cynllun gweithredu ddechrau ym mis Gorffennaf 2018.

Un o'r materion sy'n peri pryder yw mai 60 y cant o fenywod yn unig, ar ôl rhoi genedigaeth, sy'n dechrau bwydo ar y fron, ac mae'n gostwng i lai na 30 y cant erbyn yr archwiliad chwe wythnos. Felly, yn amlwg, mae gennym fynydd serth iawn i'w ddringo. Cafwyd rhai pwyntiau diddorol gan y grŵp gorchwyl a gorffen ynghylch un neu ddau o bethau yr hoffwn eich holi amdanynt. Un yw: un o'r rhesymau pam fod pobl yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yw oherwydd cwlwm tafod na wnaed diagnosis ohono, felly roeddwn yn falch iawn o weld bod Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi darparu clinig cwlwm tafod dan arweiniad bydwraig ers 2005, gan fod hynny'n hollbwysig i sicrhau bod diagnosis cywir o gwlwm tafod yn cael ei wneud a'i fod yn cael ei drin yn gyflym iawn. Felly, hoffwn wybod pa wasanaethau ar gyfer cwlwm tafod sy'n bodoli ledled Cymru, gan ei bod yn ymddangos ei fod i'w weld yn fwyfwy cyffredin.

Yr ail bwynt: o ystyried y datgysylltiad enfawr rhwng y niferoedd a ddylai fod yn bwydo ar y fron a'r niferoedd sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd, ac yng nghyd-destun y ffaith bod 26 y cant o blant yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, tybed pa ymgysylltiad a fu rhwng y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydliadau trydydd sector, oherwydd deallaf nad oedd unrhyw un o'r trydydd sector yn aelodau o'r grŵp. Sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a'r sector cymunedol i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru, yn debyg i'r hyn y mae bwrdd Aneurin Bevan yn bwriadu ei wneud gyda system y grwpiau cyfeillion cefnogol, gan ei bod yn ymddangos i mi fod angen hynny er mwyn brwydro yn erbyn y gwrthwynebiad a'r rhagfarn yn erbyn bwydo ar y fron?

Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Rydym yn cydnabod nad yw cyfraddau cychwyn a chyfraddau parhau ar gyfer bwydo ar y fron cystal ag yr hoffem iddynt fod, ac nid her i famau yw hon; mae'n her ehangach i bob un ohonom sy'n ymwneud nid yn unig â bod yn bartneriaid cefnogol, ond â bod yn fwy cefnogol ynghylch yr amgylchedd a grëir, lle mae llawer o fenywod yn osgoi bwydo ar y fron o ganlyniad i agweddau pobl eraill. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol, unwaith eto, â'n her gymdeithasol i ail-normaleiddio bwydo ar y fron. Mae'n weithgaredd hollol normal ac mae'r ffaith nad yw llawer o bobl yn ei weld felly yn broblem fawr i bob un ohonom.

Ond gan droi at eich dau bwynt, ynglŷn â chwlwm tafod, yn dibynnu ar y diffiniad a ddefnyddir, mae gan rhwng 3 y cant a 10 y cant o fabanod fath o gwlwm tafod, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi'r enghraifft o ymarfer da yng ngogledd Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd materion fel cwlwm tafod yn cael eu cynnwys yn y cynllun gweithredu sy'n cael ei ddatblygu. Gallwch ddisgwyl gweld rhywbeth penodol ynddo ar gwlwm tafod pan gaiff y cynllun gweithredu hwnnw ei ddarparu. Byddwn hefyd yn cynnwys rhywbeth am rôl cyfeillion cefnogol a grwpiau gwirfoddol, i weld sut y gellir eu hymgorffori ymhellach yn narpariaeth y gwasanaeth. Mae nifer o bobl yn y grŵp arbenigol wedi ymwneud yn uniongyrchol â chyfeillion cefnogol a grwpiau gwirfoddol hefyd, ac mewn gwirionedd, mae'r adroddiad yn sôn am y rhagoriaeth a'r ymarfer da sy'n bodoli. Ond eto, cysondeb y cymorth hwnnw yw'r hyn rydym am geisio gwneud rhywbeth amdano. Mae hyn wedi deillio o gydnabyddiaeth nifer o bobl nad ydym wedi cyrraedd lle yr hoffem fod—y grŵp gorchwyl a gorffen, nifer o bobl yn y grŵp hwnnw—a byddwn yn parhau i gydnabod bod mwy o lawer gennym i'w wneud. Mae'n dda i famau, mae'n dda i fabanod. Yn y pen draw, mae'n dda i bob un ohonom.

14:25

Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, un agwedd neu ganlyniad i'r ffaith y byddaf yn dad cyn bo hir yw bod fy nghyd-Aelodau bellach yn neilltuo pob cwestiwn sy'n ymwneud â babanod a phlant a phob agwedd ar iechyd plant ar fy nghyfer. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi derbyn hynny. Wel, am heddiw, beth bynnag.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynllun da wedi bod yng Nghasnewydd yn ddiweddar: cynllun llwyddiannus sydd wedi annog siopau lleol, caffis ac ati i arddangos sticer yn y ffenestr sy'n dangos eu cefnogaeth i fwydo ar y fron. Efallai ei fod yn gynllun bach, ond mae wedi cael cryn effaith yn yr ardal honno. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth rydych yn ei rhoi i adeiladu rhwydweithiau gyda darparwyr iechyd a chymunedau lleol, fel y gall busnesau ddangos eu cefnogaeth yn y ffordd honno a gallwn gynyddu cyfraddau mewn ffordd naturiol a blaengar?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaethoch, ac rwy'n falch iawn o weld eich bod yn cefnogi'r pwynt a wnaed yn y Siambr hon gan Jayne Bryant eisoes, ar yr un cynllun yn union. Mae'n bwysig fod—. Mae normaleiddio bwydo ar y fron yn rhywbeth y mae gan fusnesau ran i'w chwarae ynddo, yn bendant. Rhai o'r pethau sy'n fy nghythruddo fwyaf am straeon am fwydo ar y fron yw pan fo busnesau wedi gofyn i bobl adael eu safle. Felly, dyna ran o'r her i bob un ohonom, o ran sicrhau, yn amlwg, fod yr amgylchedd yn iawn, ond y pwyntiau a godwyd gan Jenny Rathbone hefyd ynglŷn â sut y mae darparu cymorth i fenywod, i deuluoedd, i gychwyn bwydo ar y fron, a pharhau i wneud hynny. Nid yw'n wir fod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn naturiol ac yn hawdd i bawb. Mae angen cefnogaeth ar rai pobl, ac fel tad heb fod mor newydd â hynny, rwy'n cydnabod bod y gefnogaeth a gawsom gan y gwasanaeth iechyd ac ar sail wirfoddol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n teulu ni.

Therapyddion Galwedigaethol yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi therapyddion galwedigaethol yng ngogledd Cymru? OAQ52243

Diolch am eich cwestiwn. Mae nifer y lleoedd hyfforddi therapi galwedigaethol yng ngogledd Cymru wedi cynyddu o 12 yn 2013-14 i 34 yn 2018-19. Yn ychwanegol at y rhaglen amser llawn, mae ein comisiynwyr yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i ystyried trefniadau ar gyfer rhaglen ran-amser yn 2019-20.

Diolch yn fawr. Yn 2014, fe ddaeth y cyrsiau hyfforddi therapyddion galwedigaethol i ben ym Mhrifysgol Bangor, ac o ganlyniad mae Wrecsam yn gwasanaethu'r gogledd i gyd. Erbyn hyn, mae yna broblem recriwtio yn y gogledd -orllewin, ac fel y gwyddoch chi, mae yna dystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardaloedd lle maen nhw'n hyfforddi, ac mae hynny'n un o nifer o resymau pam fod Plaid Cymru yn galw am sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ailgyflwyno cwrs hyfforddi therapyddion galwedigaethol ym Mangor a fyddai hefyd yn cynnwys hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, er mwyn ymateb i anghenion y gogledd-orllewin?

Diolch am eich cwestiwn. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd o fwy na 50 y cant yn ein hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer therapi galwedigaethol rhwng 2014 a 2018. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y grŵp hwn o weithwyr, i gydnabod eu bod yn dda, nid yn unig o fewn y sector ysbytai ac amrywiaeth o sectorau, ond o fewn gofal iechyd lleol hefyd. Yn ddiddorol iawn, cefais drafodaeth wrthgyferbyniol i'r drafodaeth hon gyda chynrychiolwyr ynglŷn â hyfforddiant nyrsys, lle yr enillodd Bangor y contract i ddarparu'r holl hyfforddiant i nyrsys yng ngogledd Cymru, ac nid yw Glyndŵr yn darparu'r hyfforddiant GIG hwnnw mwyach. Felly, dyma ran o'r her ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen i gomisiynu hyfforddiant o ansawdd, ar sail effeithiol, ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gwahanol. Rwy'n fwy na pharod i ystyried sut a beth rydym yn ei gomisiynu eto, a sut y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn comisiynu'r hyfforddiant gan ddarparwyr hyfforddiant priodol, gan ystyried anghenion y boblogaeth, ac wrth gwrs, mae anghenion ieithyddol yn rhan o'r angen, yn hytrach na dewis. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt a wneir, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

14:30

Nid yn unig y mae therapyddion galwedigaethol yn cyflawni rôl bwysig yn y gymuned ar gyfer y boblogaeth ehangach, ond gallant hefyd gynnig gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd galwedigaethol ar gyfer y bobl sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Un o'r pethau sydd wedi peri cryn bryder dros y dyddiau diwethaf yw gweld adroddiadau o gynnydd o 17 y cant yn nifer y dyddiau y mae staff yn absennol oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen—bron 77,000 diwrnod y llynedd ar gost o dros £5 miliwn. Pa gymorth rydych yn ei ddarparu ar gyfer staff rheng flaen yn ein gwasanaeth iechyd gwladol mewn lleoedd fel gogledd Cymru, lle maent yn teimlo fel pe baent ond yn gallu ymdrin â phroblemau wrth iddynt godi oherwydd y pwysau ar adnoddau ac oherwydd y nifer sylweddol o swyddi gwag sydd i'w gweld bellach, nid yn unig swyddi nyrsio ond swyddi eraill hefyd?

Wel, rwy'n credu bod symud o therapi galwedigaethol i absenoldebau sy'n gysylltiedig â straen yng ngogledd Cymru yn dipyn o naid, ond serch hynny, rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yw bod pobl yn disgrifio eu cyfraddau salwch a'r rhesymau amdanynt yn fwy cywir oherwydd, yn y gorffennol, roedd nifer o bobl yn dewis y categori 'arall', a bellach mae mwy o bobl yn dewis y rheswm cywir. Mewn gwirionedd, yng ngogledd Cymru y cafwyd un o'r cyfraddau isaf o absenoldeb oherwydd salwch ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae amrywiaeth o fesurau ar waith ar gyfer ystyried sut rydym yn gwella ein cefnogaeth i'r bobl sy'n ymdrin â'r hyn sydd, ar adegau, yn swydd anodd sy'n peri straen. Atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn ddoe. Mae gennym nifer o fentrau yng ngogledd Cymru ynglŷn â hynny'n benodol, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gydag amrywiaeth o'r cynlluniau hynny y mae'r bwrdd iechyd yn eu rhoi ar waith.FootnoteLink

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, bythefnos yn ôl, rhybuddiodd cyn-bennaeth gwasanaeth gwrth-dwyll y GIG nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â thwyll yn ein GIG, a bod cymaint â £200 miliwn y flwyddyn, neu 3 y cant o'r gyllideb, yn cael ei golli oherwydd twyll. Mae graddfa'r broblem yn warthus o ystyried, bob blwyddyn, ein bod yn colli swm sy'n cyfateb i ddwywaith a hanner cymaint â chyfanswm y gronfa triniaethau newydd. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ymladd y twyll hwn o ystyried y swm syfrdanol a gollir?

Wel, rydym yn dechrau o bwynt o anghytundeb sylfaenol, gan nad yw'r ymchwil a wnaed yn Portsmouth yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod—na'r GIG yn Lloegr yn wir—o ran graddfa'r twyll yn y GIG, ac mae'r ymchwil yn cynnwys nifer o ragdybiaethau. Felly, nid yw'n ffigur rydym yn ei gydnabod. Fodd bynnag, rydym o ddifrif ynglŷn â heriau twyll yn y GIG. Mae gennym uned gwrth-dwyll sy'n gweithio nid yn unig yng Nghymru ond sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr hefyd. Roedd rhan o'r hyn y soniai'r ymchwil amdano yn bethau na fyddech o reidrwydd yn eu hystyried yn dwyll. Rydych yn meddwl am gamddefnydd masnachol o rai cysylltiadau, sy'n rhan o'r hyn roeddent yn meddwl amdano, ac mewn gwirionedd, mae gennym amrywiaeth o gamau cyfreithiol, fel sydd gan awdurdodaethau eraill yn y DU, ynglŷn â thorri rheolau patentau a chamddefnyddio'r farchnad. Mae'n rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol ystyried rhai o'r materion hyn hefyd o ran ein safbwynt ar gamau cyfreithiol sy'n mynd rhagddynt, ond ar hyn o bryd, wrth gwrs, gallwn wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol drwy wneud y defnydd gorau o reoliadau'r Undeb Ewropeaidd. Bydd hynny, wrth gwrs, yn anos os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd maes o law.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffaith nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at dwyll yn y GIG yng Nghymru. Y mis diwethaf, dyfarnwyd dau gyn-weithiwr meddygfa yng Nghasnewydd yn euog o ffeilio presgripsiynau yn dwyllodrus a gorchmynnwyd iddynt ad-dalu miloedd o bunnoedd i'r GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y gellir eu cymryd i atal y math hwn o dwyll, sy'n costio miliynau o bunnoedd i'r GIG? A ydych wedi edrych i weld a all technoleg gynnig ateb mewn perthynas â thwyll presgripsiynau?

Yr ateb syml yw 'do'. Wrth gwrs, mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch tuag at dwyll, ond mewn gwirionedd, bydd gwell defnydd o dechnoleg yn helpu i leihau'r perygl o dwyll. Yn benodol, rydym yn edrych ar e-bresgripsiynu, a fydd yn ei gwneud yn haws i bresgripsiynu, gan arbed amser pobl, a'i gwneud hi'n bosibl olrhain yn effeithiol yr hyn a wneir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar bwyntiau amrywiol o fewn y system. Mae ein gallu i wneud hynny yn dibynnu ar ein buddsoddiad parhaus nid yn unig yn y cofnodion gofal iechyd, ond mewn gwirionedd, yng ngallu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael mynediad at y cofnod hwnnw ac i gael eu holrhain yn gwneud hynny. Roedd hynny'n rhan o'r hyn a'n rhwystrodd rhag cael mynediad cynharach at Dewis Fferyllfa. Pan ddewisais fuddsoddi yn Dewis Fferyllfa, roeddem wedi cyrraedd sefyllfa lle roedd Cymdeithas Feddygol Prydain a fferylliaeth gymunedol yn cytuno ar y buddsoddiad, ac ar ddull o olrhain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth iddynt gael mynediad at gofnodion meddygon teulu hefyd. Felly, mewn gwirionedd, mae wedi gwella ein gallu i archwilio a dylai hynny ein helpu yn ein hymdrechion i atal twyll yn y GIG.

14:35

Rwy'n falch o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y gorffennol, rwyf wedi codi mater twyll mewn perthynas â chardiau yswiriant iechyd Ewropeaidd, ac ar y pryd, dywedasoch nad oeddech yn credu bod hynny'n effeithio ar ein GIG. Fodd bynnag, dangosodd newyddiadurwyr a oedd yn gweithio i bapurau newydd cenedlaethol pa mor hawdd oedd cael cerdyn yn enw rhywun arall. Cafwyd cardiau yn enw Theresa May, Jeremy Hunt a Donald Trump. Yn ôl chwythwr chwiban o Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn Lloegr, mae cynifer ag un o bob pump cais yn dwyllodrus. Gan mai'r cerdyn yn unig sydd ei angen yn aml i gael triniaeth, credir bod y twyll hwn wedi costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i'r GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwn fod yn sicr nad yw'r math hwn o dwyll yn effeithio ar ein GIG yng Nghymru?

Mae hwnnw'n gyhuddiad hollol ddamcaniaethol—fod cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael ei seiffno—gan bapur newydd cenedlaethol dienw a edrychai ar arfer cwbl anecdotaidd. Os ydym am gael ein cynhyrfu gan hyn, gall pob un ohonom ddilyn lle mae'n arwain. Nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn tynnu sylw oddi ar y GIG yn gwneud ei waith i wasanaethu anghenion y cyhoedd yn briodol, ac ie, i feddwl yn briodol am fynd i'r afael â thwyll lle mae'n bodoli, ond nid wyf am gael fy arwain ar gyfeiliorn gan ymgyrch asgell dde nad yw'n ymwneud ag unrhyw beth ond ein perthynas gydag Ewrop. Mae ein GIG yn dibynnu ar ei berthynas ag Ewrop, nid yn unig o ran staff, ond y ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth, y ffordd rydym yn rhannu rheoliadau, dyfeisiau meddygol—byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau posibl ar hyn o bryd gyda'r anhrefn yn Llywodraeth y DU yn gwneud niwed aruthrol a pharhaol i'n gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna'r rhwystr mwyaf, yr her fwyaf, i'n gwasanaeth iechyd gwladol a'n perthynas barhaus gydag Ewrop.

Diolch, Lywydd. Ddiwedd y mis diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ysgrifennoch chi at holl Aelodau'r Cynulliad yn egluro bod honiadau'r blaid gyferbyn fod nifer y nyrsys yn Betsi Cadwaladr yn gostwng, honiadau a oedd yn seiliedig ar ddata rhyddid gwybodaeth, yn anghywir. Yn hytrach, roeddech yn honni bod Betsi Cadwaladr, fel gweddill Cymru, wedi gweld cynnydd yn nifer y nyrsys cymwysedig. Nawr, rydym wedi archwilio ffigurau StatsCymru, a wyddoch chi beth? Mae'r ffigurau hynny'n dangos y bu cynnydd bach yn nifer y nyrsys cymwysedig, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn Betsi Cadwaladr rhwng mis Medi 2015 a 2017. Nawr, byddai sinig yn dweud eich bod wedi dewis mis Medi 2015 yn fwriadol fel man cychwyn. Pe baem yn dewis mis Medi 2014 fel man cychwyn, mae'r un ffigurau gan StatsCymru yn dangos gostyngiad yn nifer y nyrsys cyfwerth ag amser llawn yn Betsi Cadwaladr o gymharu â mis Medi 2017. A wnewch chi dderbyn nad yw pethau mor ddymunol ag yr awgrymwyd gennych yn y llythyr hwnnw y mis diwethaf?

Roedd fy llythyr yn ffeithiol gywir, yn wahanol i'r honiadau a wnaed gan y Ceidwadwyr. Mae'n ddiddorol fod Plaid yn ceisio achub cam y Torïaid ac yn edrych am dir cyffredin rhyngddynt. Y gwir diamau yw bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Rydym yn buddsoddi mwy yn ein staff nag erioed o'r blaen. Rwy'n falch o'r hanes sydd gennym yma yng Nghymru. Gallwch weld gwir wahaniaeth rhwng ein gwerthoedd ni a rhai'r blaid gyferbyn, ac yn amlwg, yn y dewisiadau buddsoddi a wnawn, lle rydym yn dewis cefnogi pobl hefyd. Nid wyf am esgus bod cael yr holl staff yr hoffem eu cael yn ymarfer hawdd, yn enwedig o dan ddau gwmwl Brexit a'r polisi cyni. Ond rwy'n dweud wrth yr Aelod y tu ôl i mi: bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ymrwymo nid yn unig i werthoedd y gwasanaeth iechyd gwladol, ond i'r angen i gael y niferoedd cywir o staff, a byddwn yn gwneud hynny o dan yr amgylchiadau ariannol hynod o heriol hyn.

Gadewch imi droi at ffigurau gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gyda llaw, maent yn dangos bod nyrsys o'r UE yn gadael y DU yn eu lluoedd oherwydd pryderon ynglŷn â Brexit—sy'n peri cryn bryder, ond cawn drafod hynny ryw dro arall. Dengys y data cyffredinol ar gyfer Cymru fod dros 300 yn llai o nyrsys yng Nghymru ers 2012-13. Nawr, gallai sinig ddweud mai'r hyn a wneuthum oedd dewis man cychwyn sy'n gweddu i fy naratif. Mae'r data'n dangos ychydig o gynnydd o gymharu â'r llynedd, mewn gwirionedd. Ond gadewch i ni anghofio eich naratif chi a fy naratif i, a throi at y Coleg Nyrsio Brenhinol am safbwynt mwy cytbwys, ac maent hwy'n dweud:

Yn gyffredinol, mae nifer y nyrsys a gyflogir gan y GIG yn aros yr un fath. Nid yw hyn yn adlewyrchu'r cynnydd yn nifer y cleifion, lefel ddibyniaeth uwch y cleifion na’r cynnydd yn nifer y gwelyau a ddefnyddir. Hefyd, gall y ffigurau cyffredinol guddio’r prinder sylweddol iawn o nyrsys cofrestredig a nyrsys mewn rhai meysydd penodol, e.e. nyrsys newyddenedigol a nyrsys plant yn y gymuned.

A ydych yn derbyn bod hwn yn ddarlun llawer mwy cywir o nyrsio yng Nghymru na'r hunanfodlonrwydd a ddangoswyd gennych, yn fy marn i, yn y llythyr hwnnw ym mis Ebrill 2018?

Yn sicr, nid wyf am ymddiheuro am fynd i'r afael ag anwireddau'r Torïaid am y gwasanaeth iechyd gwladol. Gwnaed honiad yng nghwestiynau'r arweinwyr nad oedd yn wir. Mae'n gwbl iawn inni amddiffyn y gwasanaeth iechyd a chywiro'r Torïaid pan fyddant yn crybwyll ffeithiau anghywir. Rwy'n dal yn syfrdan fod Rhun yn dewis ochri â'r safbwynt hwnnw. Mae'n ffaith bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae hefyd yn wir fod gennym nifer o feysydd lle y ceir swyddi gwag a heriau, ac nid wyf erioed wedi ceisio cuddio—mae'r syniad fy mod yn hunanfodlon ynglŷn â'r heriau sy'n effeithio ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol yn gwbl chwerthinllyd. Mae angen inni fod yn onest ac yn aeddfed yn wyneb yr holl heriau hyn. Mae hefyd yn ofynnol i ni wneud popeth a allwn mewn cyfnod pan ydych yn cydnabod, fel finnau, fod gennym lai o adnoddau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus nag erioed o'r blaen o ganlyniad i wyth mlynedd o gyni Torïaidd. Er hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd gwladol—yr unig wasanaeth cyhoeddus lle mae gennym fwy o staff bellach nag ar ddechrau'r cyni. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad ac nid wyf am ymddiheuro am weithredoedd y Llywodraeth hon wrth inni fyw yn unol â'n gwerthoedd a diogelu dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol.

14:40

Mae'n feirniadaeth ddamniol o'ch Llywodraeth, fel y dywedaf, os ydych yn parhau i wario mwy, ein bod yn cael llai o ganlyniadau o ran nifer y nyrsys cyfwerth ag amser llawn, fel rwyf wedi'i ddatgan yn ffeithiol, yn seiliedig ar eich ffigurau StatsCymru. Rwyf ond yn ochri gyda'r ffeithiau hynny fel y'u cyflwynwyd gan eich ystadegwyr. Nawr, gwyddom hefyd fod GIG Cymru yn parhau i ddibynnu'n helaeth ar nyrsys sy'n gweithio goramser—mae 71 y cant o nyrsys yn gweithio goramser o leiaf unwaith yr wythnos. Golyga hynny fod 16,000 o nyrsys yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd bob wythnos oherwydd diffyg staff. Yn ddiweddar, clywsom y ffigurau gan y BBC, yn seiliedig ar gais rhyddid gwybodaeth, fod Betsi Cadwaladr wedi colli dros 77,000 diwrnod o ganlyniad i staff yn dioddef o straen a phryder, sy'n dangos problem gorweithio ymysg staff mewn amgylcheddau prin o staff. Nawr, dyma dri opsiwn i chi: gallwch naill ai anfon llythyr at y BBC i ddweud wrthynt fod eu ffigurau yn anghywir, gallwch ailadrodd yr hyn a ddywedoch yn gynharach nad yw'n ymwneud â straen ond â chyfraddau adrodd gwell mewn perthynas â straen, neu gallwch dderbyn bod Cymru, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn brin iawn o staff mewn perthynas â nyrsys cymwysedig amser llawn, a bod y nyrsys sydd gennym, o ganlyniad, o dan bwysau afresymol ac nad yw cleifion wedi derbyn y gofal y mae eich Llywodraeth wedi cyfaddef na ellir ei ddarparu heb sicrhau lefelau staffio diogel.

Wel, mae'r Aelod yn gwneud honiad rhyfedd iawn, ond rwy'n falch o ddweud unwaith eto: mae gennym fwy o nyrsys cofrestredig nag erioed o'r blaen yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Ac o ran eich sylwadau ynglŷn â threfniadau goramser a threfniadau banc nyrsio—mae rhai pobl yn dewis gwneud y trefniadau hynny. Gwyddom hefyd fod rhai pobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn amrywiaeth o wahanol amgylchiadau. Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith i feddwl am gywirdeb ac effeithlonrwydd trefniadau banc nyrsio. Rydym yn ystyried syniadau a gyflwynwyd i ni gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ynghylch creu banc ar gyfer Cymru gyfan. Rydym yn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer e-amserlennu, gan eu bod yn drefniadau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion eu hunain o ran sut y dymunant fyw eu bywydau, ond hefyd o ran diwallu anghenion y gwasanaeth iechyd. Rydym yn mynd ati i recriwtio nyrsys. Mae ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn mynd ati'n llwyddiannus i werthu Cymru fel cyrchfan i bobl ddod yma.

Fe ddywedaf wrthych—roeddwn yn Belfast yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol, yr unig Weinidog iechyd o'r DU a oedd yno gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn eu cynhadledd, ac roedd y croeso a gawsom, nid yn unig gan nyrsys yng Nghymru, ond o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yn arwyddocaol. Roeddent yn cydnabod ein bod, yng Nghymru, yn gwerthfawrogi nyrsys, ein bod o ddifrif ynghylch recriwtio a chadw nyrsys. Roeddent hefyd yn cydnabod ein bod o ddifrif ynghylch hyrwyddo diwygio a gwneud y defnydd gorau o bobl o fewn y teulu nyrsio. Ni allech gamgymryd brwdfrydedd nyrsys Cymru ynglŷn â'r amgylchedd y maent yn gweithio ynddo, eu balchder yn y gwasanaeth, a'r ffaith eu bod yn gwybod bod ganddynt Lywodraeth sydd ar eu hochr hwy. Ni fyddech yn gweld unrhyw beth tebyg i'r un teimlad ymhlith nyrsys sy'n gweithio yn Lloegr.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn gyntaf oll, llongyfarchiadau ar y cyfrifoldeb newydd a ychwanegwyd at eich portffolio, sydd eisoes yn un prysur iawn. Yn lansiad adroddiad effaith a chyrhaeddiad diweddaraf y comisiynydd pobl hŷn, fe ddywedoch y byddai hawliau dynol pobl hŷn yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gan fod rhai cynghorau yn ystyried cau cartrefi gofal neu gyfleusterau dydd, a ydych yn hyderus fod ymgynghori priodol yn mynd rhagddo â phobl hŷn? Oherwydd nid wyf yn siŵr fod hynny'n wir. Serch hynny, nid oes gan bobl hŷn hawl i fod yn rhan o ymgynghoriad ynglŷn â newid sy'n effeithio ar eu bywydau yn yr un modd ag sydd gan blant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig i ddiogelu hawliau pobl hŷn ymhellach yng nghyfraith Cymru drwy osod y ddyletswydd sylw dyledus honno ar gyrff cyhoeddus, nid Llywodraeth Cymru yn unig, a byddem yn gwneud yr un peth ar gyfer hawliau plant hefyd. A ydych yn barod i fabwysiadu'r polisïau hynny?

Diolch, Suzy, am eich cwestiwn. Rwy'n falch o fabwysiadu cyfrifoldebau newydd penodol am bobl hŷn. Roedd yn wych bod yn y digwyddiad etifeddol yr wythnos diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Yn wir, credaf fod fy swyddogion wedi cyfarfod gyda hi ar dri achlysur dros y mis diwethaf, gan weithio ar gyfres o gynigion, fel y dywedodd, ac fel rwyf am ailadrodd yma, i 'wneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn'—yr hawliau lefel uchel hynny sydd eisoes wedi eu hymgorffori yn ein deddfwriaeth, eu gwneud yn rhai go iawn.

Credaf mai dyna'r ffocws, yn hytrach na darn mawr newydd sgleiniog o ddeddfwriaeth. Rwyf wrth fy modd yn cyflwyno deddfwriaeth, ond weithiau mae yna ffordd well, fwy uniongyrchol o fynd o'i chwmpas hi. Hoffwn ailadrodd rai o'r ffyrdd hynny, gan fod rhai o'r rhain mewn meysydd statudol a rhai mewn meysydd anstatudol—. Felly, er enghraifft, mae eiriolaeth yn allweddol—yn hollbwysig—i bobl hŷn. Faint y mae unigolyn hŷn—? Pe baech yn mynd i ganol Sir Gaerfyrddin a gofyn, 'Beth a wyddoch am eiriolaeth?', credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud, 'Beth ar y ddaear yw hynny? Pa hawl sydd gennyf i hynny?' Felly, mae sicrhau bod yr ymwybyddiaeth yno, ond sicrhau hefyd fod yr eiriolaeth, ar sail anffurfiol a phroffesiynol, yn iawn—. Felly, byddwn yn ailystyried rhan 10 o'r cod ymarfer ar eiriolaeth, gyda'r bwriad o ddatblygu canllawiau ymarferol go iawn, gwneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn i bobl a rhoi sylw dyledus i'r egwyddorion cadarn.

Pan gaiff ei gomisiynu, byddwn yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i oedolion yng Nghymru. Byddwn yn ystyried cyflwyno swyddogaeth stiwardiaeth ar gyfer eiriolaeth yn unol ag argymhellion gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Ceir sawl maes arall, megis ystyried y rheoliadau o dan ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut y gallwn eu diweddaru—y canllawiau sy'n deillio o hynny—i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, ac unwaith eto, i wneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn.

Ond byddaf yn gofyn i'r comisiynydd newydd hefyd, pan fydd yn ei swydd, i gadeirio gweithgor. Mater i'r comisiynydd newydd fydd pennu pa raglenni gwaith y byddant yn eu datblygu, ond gobeithio y byddai'r comisiynydd newydd yn agored i gadeirio gweithgor ar ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach a gwneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn i bobl hŷn heb fod angen Bil mawreddog, ond sicrhau eu bod yn brathu mewn gwirionedd.

14:45

Rwy'n credu mai fy ymateb i hynny yw, os ydych eisiau gwneud hawliau'n real, rydych yn eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ac yn sicrhau y gall y llysoedd eu gorfodi.

Fe ofynnaf rywbeth arall i chi yn awr. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn y broses o gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol sy'n nodi sut y maent wedi defnyddio arian Llywodraeth Cymru i helpu gyda gofal seibiant ar gyfer gofalwyr yn eu hardaloedd, ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod hynny'n bwysig iawn.

Wrth gwrs, gallai'r adroddiadau hyn gynnwys gwybodaeth bwysig iawn ar arfer gorau a syniadau da a fyddai'n gweithio'n dda mewn gwahanol rannau o Gymru. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, fel y mae ein dwy blaid yn tueddu i'w ddweud. A allwch chi gadarnhau y bydd yr adroddiadau blynyddol hyn ar gael yn gyhoeddus, i helpu i rannu syniadau da, nid yn unig rhwng awdurdodau lleol ond gyda darparwyr eraill yn ogystal? A allwch chi gadarnhau a fydd yr adroddiadau'n nodi'n benodol ffynhonnell yr arian a ddefnyddir ar gyfer darparu'r gofal seibiant, pa un a fydd o'r grant cynnal refeniw, arian grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau ar y cyd gyda'r GIG neu unrhyw arian partneriaeth arall? Mae dilyn yr arian yn y maes polisi hwn yn eithaf anodd, ac rwy'n gofyn i chi helpu, Weinidog, gydag ychydig o dryloywder ar hyn.

Yn wir. Byddaf yn edrych i weld a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hynny. O ran y gallu i olrhain yr arian, nid wyf yn siŵr a fyddant yn dweud a yw wedi dod o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu—y £3 miliwn sy'n cael ei neilltuo o'r £50 miliwn o arian TGCh—a yw'n dod o fathau eraill o gyllid sydd eisoes o fewn arian y grant cynnal refeniw, neu a yw o fewn cyfrannau ariannu eraill sy'n cael eu dwyn i mewn i hyn. Un o'r pethau rydym wedi'i wneud ar gyfer awdurdodau lleol—yn ôl eu cais, mae'n rhaid i mi ddweud—yw rhoi hyblygrwydd iddynt mewn perthynas â hyn er mwyn canolbwyntio ar y canlyniadau ar gyfer gofal seibiant. Yn wir, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud yn glir iawn yn ei hadroddiad 'Ailystyried Seibiant' nad oedd digon o hyblygrwydd; roedd yn rhy gaeth i agweddau traddodiadol tuag at seibiant. Mae hi ac awdurdodau lleol wedi dweud, 'Rhowch yr hyblygrwydd i ni—rhowch yr arian i ni, ond rhowch yr hyblygrwydd i ni'.

Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei fesur yw a ydynt wedi cyflawni'r canlyniadau yn hytrach na pha gyfran o arian sy'n cael ei neilltuo ar ei gyfer—fod yna becynnau gofal seibiant wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n ddigon hyblyg ar gyfer pob unigolyn. Dyna'r canlyniad gwirioneddol, yn hytrach nag o ble y daeth y gyfran benodol o arian i sicrhau'r canlyniad hwnnw. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch ynglŷn ag a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd mewn gwirionedd.

Diolch i chi am hynny. O ran canlyniadau, nid wyf yn credu y byddai neb yma'n anghytuno mai dyna'r peth pwysicaf, ac yn wir, mae nifer o bobl rwyf wedi siarad â hwy wedi canmol y gronfa gofal integredig. Ond nid wyf yn credu y gall Llywodraeth Cymru dynnu ei throed oddi ar y pedal mewn perthynas â helpu gyda thryloywder fel y gallwn ddeall y cyllidebau rydych yn eu cyflwyno bob blwyddyn. Nid wyf yn credu bod ceisio symud oddi wrth hynny a'i ystyried yn ddibwys yn creu argraff, mae arnaf ofn.

Yr hyn y buaswn yn hoffi ei groesawu yw eich bwriad i sefydlu canolbwynt yng Nghymru, drwy Gofalwyr Cymru, ar gyfer Cyflogwyr i Ofalwyr, rhywbeth y mae Lloegr, yn amlwg, wedi'i gael ers 10 mlynedd bellach, ac rwy'n wirioneddol falch ei fod yn dod yma. O'r rhai o'r trafodaethau a gefais gyda phobl sy'n ymwneud â gofalu ar wahanol lefelau, mae'n ymddangos yn eithaf clir nad yw llawer o fusnesau'n deall yn iawn beth yw rôl gofalwr, beth yw eu hawliau a pha fath o gymorth y gellid ei gynnig, gan ei fod yn amrywio'n fawr, wrth gwrs, o fusnes i fusnes ac o ofalwr i ofalwr, weithiau o fewn adrannau unigol mewn cwmnïau mwy o faint hyd yn oed. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gwyddoch mae'n debyg, yn hoffi cyflwyno cymhelliad ariannol ar gyfer oedolion ifanc sy'n ofalwyr i aros mewn addysg ôl-16 neu brentisiaethau fel eu bod yn gallu camu ymlaen mewn gyrfa, ond rydym yn cydnabod—ac rwy'n meddwl tybed a ydych yn cytuno â hyn—y gallai rhai cyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau gael eu hatal rhag eu cynnig i oedolion ifanc sy'n ofalwyr oherwydd y cyfrifoldebau gofalu hynny. Os felly, sut y credwch y gallai eich canolbwynt helpu cyflogwyr i edrych y tu hwnt i'r cyfrifoldebau hynny ac ar y person ifanc llawn cymhelliant sydd eisiau'r brentisiaeth honno mewn gwirionedd?

14:50

Credaf eich bod yn llygad eich lle; os oes gennym ddiddordeb gwirioneddol, gyda'r galwadau sydd gennym am weithlu amrywiol, mewn defnyddio sgiliau pob person o bob gwahanol oedran, gan gynnwys y rhai â chyfrifoldebau gofalu yn ogystal, yna mae gennym waith go iawn i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth i gyflogwyr allu nodi anghenion y gofalwyr unigol hynny, ymateb iddynt, a'u galluogi i fynd i mewn i'r gweithle gyda chyfrifoldebau gofalu. Nawr, os yw gofalwr yn oedolyn ifanc, er enghraifft, rhwng 16 a 25 oed, fel rhan o'u hasesiad wrth drawsnewid, mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad, er enghraifft, o'r trawsnewidiadau cyfredol neu'r trawsnewidiadau y mae'r gofalwr hwnnw'n debygol o'u gwneud yn y dyfodol i addysg bellach neu addysg uwch, neu hyfforddiant, neu gyflogaeth, ac mae'n rhaid iddo roi sylw dyledus i'r hyn y mae'r oedolyn ifanc sy'n ofalwr yn dymuno cymryd rhan ynddo. Felly, mae rhan o hyn yn golygu gweithio gyda'r gofalwr unigol ar eu cynlluniau unigol, ac yna gweithio gyda chyflogwyr hefyd. Mae gwaith mawr i'w wneud yma gyda chyflogwyr, yn enwedig cyflogwyr bach a chanolig, i agor y byd gwaith ar gyfer gofalwyr, ac i weithio gyda hwy ar hynny. Ond byddwn yn bwrw ymlaen â hynny, ac edrychaf ymlaen yn awr at waith grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr hefyd ar ddatblygu'r holl ffrydiau gwaith rydych chi, Suzy, newydd gyfeirio atynt, a'u bwydo yn ôl i mi fel Gweinidog.

Cefnogi Pobl Anabl

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisi gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl anabl? OAQ52233

Yn wir. Fe ymatebaf, Caroline, os caf fi, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau, gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl anabl, gyda'r flaenoriaeth allweddol ar wella eu lles.

Diolch i chi, Weinidog. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae un o fy etholwyr, Paul Davies, paralympiad ysbrydoledig, yn brwydro i hyfforddi ar gyfer Tokyo 2020 oherwydd diffyg cefnogaeth gan adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol. Oni bai bod Paul yn cael y cymorth y mae ei angen i fynychu sesiynau hyfforddi, ni fydd yn ennill lle yn y tîm, ac nid yn unig y bydd Cymru'n colli un o'i gobeithion am fedal ond byddwn yn gwarafun cyfle i Paul gyrraedd ei lawn botensial. Weinidog, pe bai Paul yn byw mewn awdurdod lleol gwahanol, byddai'n cael ei gefnogi, fel sydd wedi'i brofi yn fy ngwaith ymchwil. Rwyf wedi dihysbyddu pob sianel bron gyda Paul Davies, sydd eisoes yn enillydd medal efydd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi diwedd ar y loteri cod post mewn gofal cymdeithasol, ac yn yr achos penodol hwn, a wnewch chi weithio gyda mi i ddod o hyd i ateb fel y gall Paul fynychu'r gemau? Diolch.

Caroline, credaf eich bod, mae'n debyg, wedi gwneud cymwynas mewn rhyw ffordd drwy godi'r mater heddiw, oherwydd mae'r awdurdod lleol, sy'n ceisio rhoi'r gofal a'r cymorth cywir gyda llaw, nid yn unig o ran gofal, ond hefyd o ran byw'n annibynnol, a rhan o fyw'n annibynnol hefyd yw'r gallu i ymgymryd â chwaraeon, hobïau a'r ffordd o fyw y dylai pawb fod â hawl iddi—. Nawr, gwn eu bod yn awyddus i wneud hynny. Mae'n anodd i mi wneud sylw ar yr achos unigol, ond drwy ei godi heddiw, rwy'n credu y bydd yr awdurdod lleol a'r cyrff llywodraethu chwaraeon hefyd yn ymwybodol iawn o'r angen i ddiogelu ffordd o fyw a buddiannau Paul, sydd wedi rhagori fel paralympiad. Mae'n bwriadu gwneud mwy yn y dyfodol hefyd, ac rydym yn dymuno'n dda iddo gyda hynny yn ogystal.

A gaf fi awgrymu eich bod, os gallwch, gyda'ch etholwr, yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol rheng flaen sy'n ceisio dyfeisio pecyn gyda Paul? Mae'n broses barhaus, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'n gymhleth iawn, ond maent yn barod i'w wneud, a gobeithiaf y byddant yn gallu dod i'r pwynt, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn unol â'r syniad hwnnw o gyd-gynhyrchu pecynnau sy'n cael eu cytuno gydag unigolion yn hytrach na'u gorfodi ar unigolion—gwn ei bod yn broses anodd—lle byddant yn dod o hyd i'r pecyn cywir i Paul a fydd yn caniatáu iddo ddilyn ei uchelgeisiau chwaraeon yn ogystal â byw'n annibynnol. Gwn fod yna barodrwydd yn yr awdurdod lleol i wneud hynny, felly cysylltwch â hwy os gwelwch yn dda.

Yn eich ymateb i Caroline Jones, Weinidog, soniasoch am wella lles pobl anabl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys helpu'r cyhoedd yn ehangach i ddeall rhai o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Ym mis Ionawr eleni, cynhaliais ddadl fer ar bolisi sgoriau ar y drysau mewn perthynas â mynediad ar gyfer pobl anabl, yn dilyn deiseb gan Gynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr. Ar y pryd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn awyddus i glywed awgrymiadau ymarferol ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Un o amcanion eraill y polisi yw rhoi hwb i fusnesau i fod eisiau gwella mynediad i adeiladau. Dylai'r prif gynghorwyr ar hynny, wrth gwrs, fod yn bobl sydd ag anableddau, ond gallaf weld y byddai gan therapyddion galwedigaethol, yn y GIG neu'r awdurdod lleol, sy'n gweithio ym maes ailalluogi, gyngor i'w gynnig yma ar gynllunio'r gwelliannau hynny. Felly, a fyddech yn hapus i gyfarfod â chynrychiolwyr Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am eu syniad gwreiddiol ac i ddatblygu rhai o'r materion ymarferol?

14:55

Diolch. Mae gennym ffordd o weithio yng Nghymru sy'n ymwneud ag eistedd gyda phobl a datrys pethau gyda'n gilydd. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod. Rwy'n adnabod Simon yn dda, yn bersonol ac yn unigol—gwn eich bod chi hefyd. Mae'n unigolyn gwych. Mae'n ymgyrchwr brwd iawn yn wir. Mae'n syniad diddorol ac rwy'n credu bod rhinweddau ynddo. Mae angen i ni feddwl drwyddo er hynny ac mae'n debyg y bydd angen i ni ei drafod: beth yw'r dull gorau o sicrhau y bydd yn sefyllfa lle y bydd unrhyw berson gydag ystod o anableddau yn gwybod—ac mae wedi tynnu sylw ato o ran yr arwyddion bwyd a wnawn, y sgoriau hylendid ac ati—pa un a oes rhyw ffordd o wneud hyn? Gallai fod yn fodel ganddo ef neu gallai fod yn rhywbeth arall, ond rwy'n fwy na hapus i eistedd gyda chi ac eraill, a chyda Simon yn ogystal, a siarad am yr hyn y gallem ei wneud ac osgoi unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol. Gadewch i ni wneud pethau'n iawn os ydym am fwrw ymlaen â rhywbeth.

Gwasanaethau Dialysis Arennol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau dialysis arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ52229

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a rhwydwaith clinigol arennol Cymru wrthi'n trafod gyda darparwyr gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth hemodialysis cronig ar hyn o bryd. Cydnabyddir bod Cymru yn arwain y DU o ran mynediad at ddialysis arennol drwy sicrhau bod dros 90 y cant o'r boblogaeth yn gallu cael mynediad at ddialysis o fewn amser teithio o 30 munud. Yng ngogledd Cymru, rydym eisiau ehangu'r gwasanaeth er mwyn rhoi cymorth pellach i'r dull hwn a pharhau i wella mynediad a chanlyniadau ar gyfer cleifion.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond deallaf fod y gwasanaethau arennol ar hyn o bryd yn cael eu darparu naill ai gan y GIG, gan ddarparwr annibynnol neu gyfuniad o'r ddau. Ym mis Chwefror, dywedodd y bwrdd iechyd y bydd y darparwr annibynnol cyfredol yn cael ei ailgomisiynu yn uned Bangor a'r uned ategol yn Alltwen. Yn dilyn hyn, mynegwyd pryderon am newidiadau posibl i'r telerau ac amodau ar gyfer staff a gyflogir gan bwy bynnag a fydd yn ennill y contract nesaf. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod a fydd y gweithlu presennol yn sicr o gael yr un telerau ac amodau ag y maent wedi'u mwynhau yn y gorffennol ac y bydd cleifion yn parhau i gael gofal o'r un safon uchel ag y maent yn ei haeddu mor agos at adref ag y bo modd.

Diolch i chi am y cwestiwn. Gwn fod cwestiynau wedi bod am y maes eang hwn o'r blaen. Hoffwn ailadrodd y cymerwyd y cyfle i edrych ar y gwasanaeth cyfan i ehangu a gwella gwasanaethau ymhellach er mwyn gwneud yn siŵr fod gofal yn nes at adref i nifer fwy o bobl. Felly, mae cynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr adnoddau dynol wedi'u gwahodd i mewn i'r broses er mwyn datblygu gwasanaethau arennol, ynghyd â chlinigwyr wrth gwrs. Rwy'n hapus i nodi unwaith eto y bydd yr holl wasanaethau arennol arbenigol a gofal ymgynghorol yn parhau i gael eu darparu gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar y model terfynol, ond rwyf eisiau ailadrodd hyn yn glir iawn: ni fydd y Llywodraeth hon yn cymeradwyo camau i drosglwyddo staff y GIG i'r sector preifat. Rwyf am fod yn wirioneddol glir ac agored ynglŷn â hynny, oherwydd gwn fod rhai aelodau o staff yn pryderu am eu dyfodol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan y trefniadau newydd, rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau na fydd unrhyw staff y GIG yn symud i'r sector preifat, ond os oes unrhyw newid o gwbl mewn perthynas â staff yn symud o unrhyw gorff GIG i drydydd parti arall, a allwch gadarnhau na fydd hawliau pensiwn staff yn cael eu heffeithio yn hynny o beth? Hefyd, mae yna rai pryderon ynglŷn â newid a fydd yn arwain at gleifion yn talu am wasanaethau ychwanegol yn y Trallwng, a tybed a allech chi roi sylw ar hynny. Mae rhywfaint o'r offer hamdden a meddygol a brynwyd ar gyfer yr uned arennol wedi'u cyflenwi gan Gymdeithas Cleifion Arennol Gogledd Powys. Felly, yn sgil unrhyw newid, a gaf fi ofyn beth fyddai'r sefyllfa mewn perthynas â pherchnogaeth ar yr eitemau penodol hyn? A gaf fi ofyn hefyd a fydd cludiant cleifion yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd yn sgil unrhyw newid?

15:00

Rwy'n fodlon ailadrodd yr atebion rwyf wedi'u rhoi i Joyce Watson i geisio ymdrin â'r pwyntiau rydych yn eu codi. O ran hawliau pensiwn, o ystyried na fydd y Llywodraeth hon yn cymeradwyo camau i drosglwyddo staff o'r gwasanaeth iechyd gwladol, nid yw'r mater yn codi. Os yw pobl yn dewis trosglwyddo a symud eu cyflogaeth, mater iddynt hwy yw hwnnw. Ni allwn orfodi pobl i aros o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol; mae pobl yn newid swyddi o bryd i'w gilydd fel y gwyddom, ond ni fydd gwasanaeth newydd yn cael ei ddarparu sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl symud o'r gwasanaeth iechyd gwladol.

O ran y Trallwng, bydd gwasanaethau'r GIG yn parhau i gael eu comisiynu a'u darparu gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Hyd yn oed lle y ceir partneriaethau gyda'r sector annibynnol, nid yw hynny'n golygu y byddai'n rhaid i bobl dalu am eu triniaeth yn y pen draw; gwasanaeth GIG ydyw. Felly, gobeithiaf yn wir y bydd hynny'n helpu i dawelu rhai o'r sïon a rhywfaint o'r ffordd y mae'r sgwrs hon wedi lledaenu mewn ardaloedd—nid yw'n bosibl ac nid oes unrhyw reswm dichonol dros gredu y byddai hynny'n digwydd mewn gwirionedd. I roi'r sicrwydd hwnnw i staff ac i gleifion, ni fydd yn effeithio ar gludiant cleifion, ni fydd yn effeithio ar orfod talu am wasanaethau—mae'n wasanaeth iechyd gwladol—ac ni fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff symud o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Nid wyf yn credu y gallaf fod yn gliriach na hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd ddweud wrthym fod staff ac undebau'n rhan o'r trafodaethau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth, ond ddoe dyfynnais lythyr i'r Prif Weinidog gan staff sy'n dweud,

'mae'n ffordd warthus i gyflogwr cyfrifol ymddwyn mewn proses o'r fath'.

Oherwydd maent yn ddig nad ydynt wedi cael yr ymgysylltiad rydych yn dweud eu bod yn gael. Maent yn dweud

'Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw'.

Nawr, gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe a fyddai'n edrych ar hyn i roi sicrwydd i ni nad yw hynny'n wir, neu o leiaf, os yw'n wir, y bydd yn newid. A allwch chi hefyd roi'r sicrwydd hwnnw i ni, os gwelwch yn dda?

Rwy'n hapus i wneud hynny, oherwydd os oes problem wedi bod gyda'r ffordd yr ymgysylltwyd â staff rwy'n disgwyl iddi gael ei chywiro. Ond gwn fod undebau llafur y gwasanaeth iechyd wedi cymryd rhan yn y sgwrs gyda'r gwasanaeth hwn. Unwaith eto, rwy'n dweud na fydd gofyn i staff y gwasanaeth iechyd gwladol drosglwyddo eu cyflogaeth; rwy'n disgwyl i staff gyfranogi'n llawn, a'u cynrychiolwyr, mewn sgyrsiau ynglŷn â'u dyfodol. Os oes problem go iawn—ac rwyf wedi darllen y llythyr gan staff y Trallwng—byddwn yn sicrhau bod cyflogwr y gwasanaeth iechyd gwladol yn unioni'r broses i wneud yn siŵr fod pobl yn cymryd rhan briodol yn y sgwrs am eu dyfodol.

Rwy'n credu bod y mater hwn yn tynnu oddi ar lwyddiant y gwasanaethau dialysis arennol yng Nghymru. Ni sydd â'r stori orau i'w hadrodd am ansawdd y gofal, y canlyniadau a'r amser teithio, yn y DU gyfan. Rydym mewn gwell sefyllfa o lawer na'r  Alban a Lloegr, ac mae hynny oherwydd gwaith caled rhwydwaith clinigol arennol Cymru, y staff nyrsio a'r staff gofal ychwanegol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd, sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol. Rwy'n falch o'r buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei wneud ac wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn ers 2009. Mae'n rhaglen a fydd yn parhau a bydd cleifion yng Nghymru yn cael gofal gwell o ganlyniad.

Salwch Anadlol

5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal a thrin salwch anadlol? OAQ52222

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae ein dull o drechu salwch anadlol wedi'i nodi yng nghynllun cyflawni Cymru ar iechyd anadlol, a gafodd ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ym mis Ionawr. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gofal anadlol, ac yng Nghymru, mae gwariant wedi codi o £338 miliwn yn 2009-10 i £432 miliwn yn 2016-17.

Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg a gynhaliwyd gan Asthma UK yn 2017 fod dros 300,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag asthma, fod miloedd o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob blwyddyn a bod 62 o bobl wedi marw yn 2016. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r marwolaethau yn ataliadwy gyda gofal sylfaenol gwell, a dywedir bod safonau gofal sylfaenol yn cael eu cyflawni mewn dros 48 y cant o achosion yng Ngogledd Iwerddon, ond ar ben arall y raddfa, 26.1 y cant yn unig yng Nghymru. Felly, pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau yng Nghymru?

Rwy'n hapus i ailymrwymo i wella safonau ar draws y cyflyrau anadlol. Bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny yn y misoedd nesaf. Mae yna brosiect diddorol a arweinir gan nifer o bobl ynglŷn â'r posibilrwydd o ganolfan arloesi anadlol, ac rwy'n arbennig o gyffrous yn ei chylch. Mae'n bosibl y bydd yna fanteision economaidd yn ogystal â manteision gofal iechyd i hynny. Ar asthma, y peth am yr adroddiad a ddarparwyd gan Asthma UK yw, o ystyried maint y sampl, na fuaswn yn cytuno'n llwyr â'r holl honiadau y maent yn eu gwneud ynglŷn â natur gymharol y gofal a ddarperir yng ngwahanol wledydd y DU, ond maent yn gywir at ei gilydd y gallem ac y dylem wella gofal iechyd, ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel arbenigol.

Mewn gwirionedd, rydym mewn sefyllfa lle mae bron bob practis cyffredinol yn cymryd rhan yn yr archwiliad clinigol o ofal sylfaenol ar gyfer asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae hynny'n rhoi darlun da o ansawdd y gofal a ddarperir yn lleol a meysydd ar gyfer gwella. Ac mae hwn yn faes allweddol lle rydym, mewn gwirionedd, yn gwella gwerth, oherwydd mae nifer o glinigwyr wedi edrych ar y triniaethau sydd ar gael ac maent yn dewis y cynnyrch gwerth gorau yn eu barn hwy, ac nid hwnnw yw'r cynnyrch sy'n costio fwyaf bob amser. Felly, byddwn yn cael gwell gwerth am ofal, ac wrth gwrs, mewn perthynas â gofal asthma, rydym wedi gweld rhywfaint o'r cyffuriau a'r triniaethau newydd sydd ar gael yn cael eu cyflwyno'n gynt yma drwy'r gronfa triniaethau newydd, gan gyflawni ein haddewid maniffesto i bobl Cymru. Felly, rydym yn cydnabod bod gennym fwy i'w wneud eto, ond mae gennym ymrwymiad go iawn, a chredaf fod gennym resymau da iawn dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â'n gobaith o wella canlyniadau gofal yma yng Nghymru yn y dyfodol.

15:05

Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, lansio ein strategaeth drefol yr wythnos diwethaf, a rhoesom rai mesurau ar waith i wella ansawdd aer, megis y gofyniad i bob ysgol a meithrinfa fonitro ansawdd yr aer ar eu safle. Tybed pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, i ddechrau mynd i'r afael â melltith ansawdd aer gwael yng Nghymru mewn ffordd amlochrog, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol, wrth gwrs, yn gofyn i chi ei wneud.

Rwy'n falch o gadarnhau bod sgyrsiau'n digwydd ar draws y Llywodraeth, nid yn unig gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond gyda'r Gweinidog, sy'n arwain ar y cynllun aer glân ar gyfer Cymru. Mae rhywbeth yma ynghylch deall cyfraniad y gwasanaeth iechyd gwladol a'r hyn y gallwn ei wneud i wella ansawdd yr aer yn ogystal â'r modd y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol ei hun yn gweithredu. Dyma'r cyflogwr mwyaf yn y wlad; roeddem yn siarad yn gynharach am y ffaith mai dyma'r unig wasanaeth cyhoeddus i fod â nifer gynyddol o staff, ac mae mwy na 90,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae sut y mae pobl yn cyrraedd y gwaith, sut y gallwn ei gwneud yn haws iddynt gyrraedd y gwaith a sut rydym yn gwella'r broses o weithredu rhannau sylweddol o ystâd y GIG yn rhan o'r hyn y gallwn ei wneud, yn ogystal â meddwl, wrth gwrs, am ganlyniadau ansawdd aer gwael o ran angen y gwasanaeth iechyd.

Ymwelais ag Ysbyty Gwynllyw yn ddiweddar, enghraifft wych o ysbyty sy'n edrych ar y ffordd rydym yn lleihau ein hôl troed drwy gael llai o symudiadau ar ac o amgylch safleoedd ysbyty, a gwelais arloesedd newydd Sterimelt, sy'n troi rhywfaint o'r offer a ddefnyddir mewn theatrau ysbyty yn flociau mwy y gellir eu defnyddio wedyn ar gyfer ffilament argraffydd 3D. Felly, mae honno, mewn gwirionedd, yn ffordd dda iawn o ddefnyddio cynnyrch gwastraff, a fyddai wedi mynd i safle tirlenwi fel arall gyda llawer o symudiadau lorïau i mewn ac allan cyn y dechnoleg honno—gan leihau nifer y symudiadau lorïau y byddai eu hangen i wneud hynny. Bellach, mae gennym y cynnyrch hwnnw'n troi'n gynnyrch gwahanol, defnyddiol. A'r peth da yw ei fod wedi cael ei ddatblygu gan gwmni yng Nghymru, sy'n dal i fod wedi'i leoli yng Nghymru—yn fy etholaeth i, dylwn ddweud, Lywydd—ond mae gennym gyfle go iawn i weld hwnnw'n cael ei droi'n gynnyrch mwy defnyddiol i'w ddarparu eto drwy'r gwasanaeth iechyd gwladol.

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu yn Sir Benfro? OAQ52209

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn elfen greiddiol o ofal sylfaenol a darparu system iechyd gynaliadwy. Mae ein hymgyrch ar gyfer gwelliant parhaus yn cael ei chefnogi gan y gronfa gofal sylfaenol sy'n werth bron i £43 miliwn ac sy'n llywio newid ac arloesedd ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro wrth gwrs, ac yn 2018-19, dyrannwyd £4.69 miliwn o'r gronfa i Hywel Dda tuag at eu cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd gwasanaethau, gwell mynediad, a darparu mwy o wasanaethau yn lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo'r cais i gau meddygfa St Clement yn Neyland yn fy etholaeth, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar gleifion yn y feddygfa a fydd yn awr yn gorfod teithio i Ddoc Penfro am driniaeth ac a fydd yn gorfod talu costau ariannol am deithio dros bont Cleddau. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—sydd yn ei le ar hyn o bryd—o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar y tollau ar bont Cleddau, fel na fydd cleifion yn fy etholaeth yn gorfod talu costau ariannol er mwyn defnyddio gwasanaethau meddygon teulu hanfodol?

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn hapus i amlinellu'r cynnydd y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar bont Cleddau maes o law. O ran gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol yn Neyland, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae yna drafodaethau ar y gweill i ystyried pa wasanaethau y gellir eu darparu o fewn yr ardal honno i leihau'r angen i deithio i rannau eraill o ardal y bwrdd iechyd am driniaeth bellach. Felly, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd i'w helpu, fel sy'n ofynnol, ond mae hwn mewn gwirionedd yn benderfyniad y mae'r grŵp ei hun wedi'i wneud ynglŷn â chau meddygfa gangen, ac mae hynny o fewn y rheolau y mae ymarfer cyffredinol yn gweithredu oddi tanynt gyda'r contractwr annibynnol mawr hwn. Ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i allu darparu amrywiaeth sylweddol o wasanaethau gofal iechyd lleol yn ardal Neyland i leihau'r angen i rywun deithio i Ddoc Penfro, gan gynnwys y cyfnod cyn i ni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â'r tollau.

Wel, mae arnaf ofn nad yw'r weledigaeth rydych wedi'i nodi yn wir yn Sir Benfro mewn perthynas â mynediad at feddygon teulu. Yn y ddau fis diwethaf, rwyf wedi cael diweddariadau cyson gan fwrdd iechyd Hywel Dda ynglŷn â diffyg argaeledd meddygon teulu dros y penwythnos. Yr wythnos diwethaf, cysylltodd etholwr o Arberth â mi ar ôl ffonio ei meddygfa 82 o weithiau cyn llwyddo i gael apwyntiad. Mae fy nhrafodaethau gyda fy etholwyr ynglŷn â chynigion ad-drefnu iechyd Hywel Dda wedi troi o gwmpas y ffaith bod yna system ddogni anffurfiol ar gyfer mynediad at feddygon teulu bellach yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin sy'n ymwneud â'r ffaith ei bod hi'n amhosibl cael gafael ar feddyg teulu a chael apwyntiad. Pa bryd y byddwch yn gwneud gwaith strategol i sicrhau bod digon o feddygon teulu yn Sir Benfro mewn gwirionedd, ond yn fwy na hynny, bod gennym wasanaeth y tu allan i oriau priodol yn cael ei ddarparu gan feddygon teulu fel nad yw pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol?

15:10

Mae yna ddau bwynt yno, onid oes? Mae gennych bwynt ynglŷn â mynediad yn ystod oriau agor y feddygfa a'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael gweld y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd priodol. Weithiau, bydd hynny'n golygu meddyg teulu, ar adegau eraill bydd yn golygu ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, neu nyrs, neu fferyllydd, neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd gwahanol. Rwy'n falch o weld eu bod yn buddsoddi yn yr aelodau gwahanol hynny o staff yng nghlystyrau gogledd a de Sir Benfro er mwyn darparu'r gwasanaeth ehangach hwnnw.

Nid wyf yn cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud am ddogni bwriadol er mwyn ei gwneud yn amhosibl i bobl weld gweithiwr proffesiynol gofal iechyd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod yna heriau lleol mewn gwahanol rannau o'r wlad lle mae mynediad yn anodd mewn gwirionedd; rwy'n cydnabod bod hynny'n bodoli ledled y wlad. Mae yna rannau hefyd lle nad yw mynediad yn her. Mae'n rhan o'r trafodaethau rydym yn eu cael gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar newid y contract ar gyfer y dyfodol, oherwydd maent hwythau hefyd yn cydnabod bod mynediad yn peri pryder go iawn, gyda meddygon eu hunain yn cydnabod anfodlonrwydd staff sy'n cael eu rhoi yn y sefyllfa honno.

O ran gwasanaethau tu allan i oriau, rydym yn cyflwyno'r gwasanaeth 111; mae wedi cael ei gyflwyno yn rhan o ardal y bwrdd iechyd eisoes, yn Sir Gaerfyrddin, a bydd hynny'n ein helpu i sicrhau model mwy cadarn a chynaliadwy o ddarpariaeth tu allan i oriau. Ond rwy'n cydnabod bod heriau yn yr ardal hon hefyd, a'r hyn sydd heb ddigwydd wrth gwrs, yw'r newidiadau i drethiant y mae'r Aelod dros Lanelli wedi'u codi ar fwy nag un achlysur, ac mae'n anghymell pobl mewn gwirionedd. Ond fel arall, wrth gwrs, mae'r camau rydym wedi'u gwneud, ac y byddwn yn parhau i'w gwneud, ar yswiriant indemniad meddygon teulu yn helpu i ddarparu mwy o bobl i weithio yn y gwasanaeth tu allan i oriau, oherwydd mae methu datrys y mater hwnnw'n rhwystr i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth tu allan i oriau a'r gwasanaeth oriau agor. Felly, er na ddylem fod yn hunanfodlon, mae yna resymau da dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â'r dyfodol.

Ad-drefnu Ysbytai

7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori'n eang ar gynigion ar gyfer ad-drefnu ysbytai? OAQ52240

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol ac ysbytai ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddilyn y broses a nodir yn y canllawiau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd ac yn ei annog i sicrhau bod gan y cyhoedd bob cyfle i gymryd rhan yn y broses mewn ffyrdd traddodiadol a ffyrdd llai traddodiadol yn ogystal.

Diolch yn fawr iawn. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer yn ddibynnol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn, ac o'r sgyrsiau di-rif rwyf wedi'u cael, mae ymwybyddiaeth yn isel, ac mae'n deg dweud bod rhywfaint o amheuaeth fod y bwrdd iechyd wedi gwneud eu penderfyniad ymlaen llaw. Nid ydynt ond wedi argraffu 10,000 o gopïau o holiadur sy'n eithaf anodd i'w ddilyn, ac nid ydynt wedi darparu amlenni. Cysylltodd etholwr o Cross Hands â mi yr wythnos diwethaf yn gofyn i mi ofyn i chi a allech ofyn i'r bwrdd iechyd ysgrifennu at bob aelwyd yn ardal Hywel Dda i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynigion a'u bod yn cael eu hannog i gymryd rhan. 

Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal sesiynau galw heibio, ond roedd llai na 100 o bobl wedi dod i'w sesiwn yn Llanelli ddoe. Ac mewn cyfarfod cyhoeddus a gefnogais bythefnos yn ôl, gyda Nia Griffith, roedd dros 200 o bobl yn bresennol a gwrthododd y bwrdd iechyd anfon neb i gymryd rhan mewn deialog ac egluro i bobl beth oedd y cynigion. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod Hywel Dda yn deall, os ydynt eisiau mynd â phobl gyda hwy, fod angen iddynt ymgysylltu'n agored a chael eu gweld yn ymgysylltu'n agored?

Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac wrth gwrs, yn ogystal â'r ymarfer ymgynghori traddodiadol ar bapur, ceir yr her o gael sesiynau galw heibio fel y maent wedi penderfynu eu cynnal, lle mae ganddynt sesiynau ychwanegol y maent yn eu cynnal dros weddill y cyfnod ymgynghori, nad yw'n dod i ben, rwy'n credu, tan ail wythnos mis Gorffennaf. Ac mae yna her ynglŷn ag a fyddant yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus neu beidio. Buaswn yn disgwyl y bydd yna aelodau o'r cyhoedd sydd hefyd yn aelodau o'r gwasanaeth iechyd yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi safbwynt clinigol ar y mater.

Yr hyn rwy'n ei gydnabod yw, yn y cyfryngau cymdeithasol, ac o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae ganddynt amrywiaeth o glinigwyr yn sôn am y cynigion. Nid wyf yn credu y byddaf yn gofyn i Hywel Dda ysgrifennu at bob aelwyd. Mae rhan o'r her yn ymwneud â'r hyn rydych yn ei wneud a pha mor bell rydych yn mynd. Nid wyf yn siŵr fod y gost o sicrhau bod pob ymgynghoriad yn mynd allan, a'r enillion o wneud hynny, yn un synhwyrol, ond rwy'n cydnabod bod angen iddynt fanteisio ar gyfleoedd i weld lle nad yw pobl yn cael eu cyrraedd yn briodol. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un esgus bod proffil cyhoeddus isel i newidiadau i gynigion gofal iechyd yng ngorllewin Cymru, ond rwy'n fwy na hapus i gyfarfod â chi, os oes cynigion penodol, i geisio edrych ar yr hyn y gellid ei wneud i wella'r ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac i sicrhau bod Hywel Dda yn bachu ar bob cyfle rhesymol i ymgysylltu â'r cyhoedd.

15:15

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych eisoes yn ymwybodol o fy ngwrthwynebiad llwyr i'r ymgynghoriad hwn, o gofio y bydd pob un o opsiynau'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, yn golygu israddio Ysbyty Llwynhelyg yn ysbyty cymunedol heb unrhyw gyfleusterau damweiniau ac achosion brys. Nawr, o ystyried na wnewch chi, fel Llywodraeth, ymyrryd yn benodol ar y mater hwn, oni wnewch chi gadarnhau o leiaf y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer pob un o'r tri chynnig, fel y gall pobl fod yn sicr fod y cynigion hyn yn realistig yn y lle cyntaf? Os na allwch wneud hynny, yna rwyf o'r farn fod yr ymgynghoriad hwn yn ffars llwyr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, a datgelodd Paul Davies ei safbwynt ar y dechrau: mae'n gwrthwynebu unrhyw newid. Ac edrychwch, mae hwnnw'n safbwynt iddo ef ei gymryd ac iddo ef ei egluro. Dyma ymgynghoriad a gynhelir gan y bwrdd iechyd sydd o ddifrif ynglŷn â'r heriau y mae'n eu hwynebu ac y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Nid oes gennyf farn ar unrhyw un o'r tri opsiwn sydd ar gael, oherwydd efallai y bydd yn rhaid i mi ddewis. Ni allaf gadarnhau felly na fyddaf yn ariannu unrhyw un o'r tri opsiwn oherwydd byddwn yn rhoi fy hun mewn sefyllfa lle na fyddaf yn gallu gwneud penderfyniad ar fater y byddaf, o bosibl, yn gyfrifol amdano. Mae'n gwbl bosibl hefyd, yn ystod yr ymgynghoriad, os yw'n ymgynghoriad go iawn, y bydd rhai o'r opsiynau'n newid. Felly, mewn gwirionedd, byddech yn gofyn i mi gytuno i ariannu rhywbeth na fydd yn gynnig go iawn yn y pen draw efallai, fel arall ni fyddai unrhyw ymgynghoriad—[Anghlywadwy.]—gallai newid neu fireinio unrhyw un o'r cynigion.

Af yn ôl unwaith eto at yr enghraifft yng Ngwent. Mae gofal iechyd yng Ngwent wedi newid yn sylweddol oherwydd yr ymarfer dyfodol clinigol. Daeth â staff a oedd yn cytuno ar fodel bras at ei gilydd a daeth ag ystod eang o randdeiliaid cyhoeddus at ei gilydd hefyd. Fodd bynnag, roedd hynny'n galw am broses nid yn unig i gael barn am y dyfodol ond i ddatblygu achos busnes ar gyfer newid ystâd yr ysbyty a gwasanaethau cymunedol hefyd. A'r hyn sydd wedi digwydd yn awr yw bod y Llywodraeth hon wedi buddsoddi yn ysbyty prifysgol y Grange i gyflawni'r darn olaf o'r weledigaeth honno a fydd hefyd yn galw am newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau ysbyty eraill eu gweithredu mewn safleoedd eraill, ac yn bwysicach na dim, newid yn y ffordd y darperir gofal iechyd lleol. Mae dros 90 y cant o'n rhyngweithiadau gofal iechyd o fewn gofal iechyd lleol. Nid ydym yn treulio unrhyw beth yn debyg i 90 y cant o'n hamser yn trafod gofal iechyd lleol yn y Siambr hon neu fel arall.

Byddaf yn gwneud yr hyn y dywedais y buaswn yn ei wneud ar ddechrau'r tymor hwn. Byddaf yn darparu'r gofod i'r gwasanaeth iechyd gwladol a'r cyhoedd gael ymgynghoriad, trafodaeth am ddyfodol gofal iechyd a'r newidiadau angenrheidiol yr oedd pawb ohonom yn cydnabod y byddai angen eu gwneud pan gefnogodd pob plaid yn y lle hwn yr arolwg seneddol. Roeddem yn gwybod y byddai dewisiadau anodd i'w gwneud ar y diwedd. Nid wyf am droi fy nghefn ar y posibilrwydd o orfod gwneud dewis, ond mae hwn yn ymgynghoriad i'r cyhoedd gymryd rhan ynddo, ac i staff gymryd rhan ynddo, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus iawn hwnnw.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Russell George.

Y Fasnachfraint Reilffyrdd Newydd

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw? 178

Gwnaf. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rheoli contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, gan roi'r teithiwr wrth wraidd yr hyn a wnânt i sicrhau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar brosiect Cylchffordd Cymru—a oes cysylltiad yma, Ddirprwy Lywydd—a oedd yn canolbwyntio'n fwriadol ar ddau faes penodol iawn o waith craffu. Y cyntaf oedd dull rheoli Llywodraeth Cymru o sicrhau bod prosiect Cylchffordd Cymru yn sicrhau gwerth am arian, ac yn ail, proses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau a arweiniodd at gael gwared ar gynllun Cylchffordd Cymru yn y pen draw.

Nawr, nododd yr adroddiad hwnnw fethiannau penodol mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys dryswch mewn perthynas â'r we gymhleth o gysylltiadau cyflenwyr a dull gweithredu cyffredinol o amddiffyn rheolwyr a allai fod wedi rhoi Llywodraeth Cymru mewn perygl diangen. Felly, a gaf fi ofyn pa fesurau penodol newydd a roddwyd ar waith gan Weinidogion, a'u dilyn gan swyddogion, er mwyn sicrhau bod y broses gaffael i ddyfarnu'r fasnachfraint newydd yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i drethdalwyr? Ac a allwch chi ein sicrhau, fel yn achos Cylchffordd Cymru, fod mesurau llym tebyg wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu Llywodraeth Cymru rhag y posibilrwydd o her gyfreithiol, yn dilyn cwblhau'r broses dendro?

Mae rhai pryderon wedi'u mynegi ynglŷn â thryloywder yn y broses gyfredol. Nawr, mae'r Adran Drafnidiaeth yn cyhoeddi'r fanyleb y maent yn gofyn i bobl wneud cynnig yn ei herbyn, ac ar ddiwrnod y cyhoeddiad, maent bob amser yn rhoi trosolwg o'r hyn y bydd y contract newydd yn ei gynnwys, ac mae ganddynt yr un cyfnod herio o 10 diwrnod hefyd. Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau ar hynny.

Hefyd, 12 mis yn ôl, dywedasoch y byddai teithwyr yn sylwi ar fanteision y fasnachfraint newydd ar unwaith, a'r wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r gwelliannau sy'n deillio o'r fasnachfraint newydd yn cymryd blynyddoedd. Er mwyn teithwyr, tybed a allech egluro pwy oedd yn iawn.

Ac yn olaf, pa bryd y bwriadwch gyflwyno datganiad i'r Siambr, datganiad llafar, mewn perthynas â'r fasnachfraint newydd yn dilyn y cyhoeddiad heddiw?

15:20

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n falch iawn o roi gwybod i'r Aelod fy mod, yn y 24 awr diwethaf, wedi siarad â nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi mynegi eu llongyfarchiadau cynnes iawn ar yr hyn a welir fel llwyddiant enfawr i Lywodraeth Cymru ac i waith rhwng Llywodraethau er mwyn sicrhau y gallwn ddyfarnu'r fasnachfraint nesaf, a ddisgrifiwyd gan yr Aelod, yn seiliedig ar adroddiad a gynhyrchwyd gan ei bwyllgor ei hun, fel uchelgais arwrol. Mae'r uchelgais hwnnw'n cael ei wireddu heddiw.

Ond mae'r Aelod yn anghywir mewn nifer o ffyrdd mewn perthynas â'r broses sy'n cael ei dilyn ar hyn o bryd a dros y 10 diwrnod nesaf. Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i ni weithredu cyfnod segur o 10 niwrnod lle na chawn ni, na'r cynigydd a ffafrir, wneud sylwadau. Mae hynny oherwydd ei fod yn rhoi amser i'r cynigydd na chafodd ei ffafrio i herio os yw'n dymuno gwneud hynny. Buaswn wrth fy modd yn dechrau agor yr anrhegion heddiw, ond bydd yn rhaid i'r Aelod a phawb arall, yn fy nghynnwys i, fod yn amyneddgar dros y 10 diwrnod nesaf.

Rwyf hefyd yn gwrthwynebu'r modd y mae'r Aelod yn cysylltu'r cyhoeddiad heddiw ag adroddiad ar brosiect Cylchffordd Cymru, ac yn benodol â'r datganiad i'r wasg sy'n awgrymu nad yw unigolion o fewn Trafnidiaeth Cymru yn gallu rheoli'r fasnachfraint oherwydd yr union fater hwnnw. Dylwn ddweud wrth yr Aelod fod yr un swyddogion wedi sicrhau'r mewnfuddsoddiad mwyaf erioed, maent wedi sicrhau lefelau cyflogaeth uwch nag erioed ac maent wedi sicrhau'r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd. Maent wedi darparu Aston Martin, maent wedi helpu maes awyr Caerdydd i aros ar agor, maent wedi helpu i gyflawni'r fframwaith arfarnu cyffredin. Maent wedi helpu i gyflawni ffordd osgoi'r Drenewydd. Mae gennyf bob ffydd yn y swyddogion hynny. Mae gennyf bob ffydd yn Trafnidiaeth Cymru, ac o gofio eu bod hwy a ninnau wedi cyflawni ein huchelgais arwrol heddiw, credaf y dylai pob Aelod fod â ffydd yn Trafnidiaeth Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, gallaf ddeall pam fod Gweinidogion Torïaidd yn eich llongyfarch am ddilyn eu hagenda preifateiddio, ond yn sicr, nid yw'r ffaith ein bod yn awr ar fin trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ein rheilffyrdd cenedlaethol i gonsortiwm Ffrengig-Sbaenaidd o gorfforaethau trawswladol yn destun dathlu. Mae'n destun gofid a hunanholi gwleidyddol gan y Blaid Lafur. Yn sicr, roedd eich maniffesto eich hun, ac rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi chwarae rhan yn y broses o'i ysgrifennu, yn addo y byddech

'yn cyflwyno masnachfraint rheilffyrdd dielw newydd o 2018 ymlaen'.

Nawr, byddai unrhyw un a fyddai'n darllen hynny'n tybio bod hwn yn weithredwr ar ran y wladwriaeth. Wel, wrth gwrs, mae'r fasnachfraint cael ei gweithredu gan y wladwriaeth, ond nid y wladwriaeth Gymreig—y wladwriaeth Ffrengig sy'n berchen ar y rhan fwyaf ohoni. Y wladwriaeth Almaenig sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r un gyfredol wrth gwrs, felly mae'n debyg bod hwnnw'n rhyw fath o gynnydd—ydy? Oherwydd i bob pwrpas, yr hyn rydym yn ei wneud—rydym yn rhwymo dwylo, nid y weinyddiaeth nesaf yn unig, ond y weinyddiaeth ar ôl hynny, ac yn wir, y weinyddiaeth ar ôl hynny wedyn.

Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi addo—[Torri ar draws.] A gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi addo y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf rydych bob amser yn sôn amdani yn newid y Ddeddf Rheilffyrdd i alluogi Llywodraeth Cymru i gael y pŵer i gael gweithredwr sector cyhoeddus, felly a ydych wedi gwneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud a chyflwyno cymal terfynu yn y contract fel y gallwch, ar y cyfle cynharaf posibl, sicrhau eich bod yn cyflawni'r hyn rydych wedi ei addo—sef gweithredwr dielw?

A gawn ni ofyn hefyd, os caiff y contract ei roi'n ôl, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o achosion, a fydd Llywodraeth Cymru yn weithredwr pan fetha popeth arall? Dyma'r trydydd tro i fi ofyn y cwestiwn hwnnw i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, felly buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ymateb.

15:25

Rwyf wedi fy synnu braidd gan oportiwnistiaeth rhad yr Aelod heddiw, o ystyried bod yr Aelod yn gwybod yn iawn fod Deddf Rheilffyrdd 1993 yn atal cyrff sector cyhoeddus rhag gwneud cais uniongyrchol am fasnachfraint. Rwyf wedi fy synnu, oherwydd mae ei Aelodau Seneddol ei hun, gan gynnwys ei AS ei hun, wedi gweithio gydag ASau Llafur i gyflwyno gwelliant i Fil Cymru, ond yn anffodus cafodd y gwelliant hwnnw ei wrthod.

Rwyf wedi blino'n lân ar yr ormodiaith hysterig braidd sy'n gysylltiedig â'r mater hwn. Rwy'n cofio 16 Awst y llynedd—diwrnod arbennig iawn am resymau gwahanol—pan oedd yr Aelod yn rhagweld na fyddem byth yn y sefyllfa hon heddiw o fod wedi'i ddyfarnu ac na fyddem byth yn y sefyllfa hon gyda'r broses roedd ef a'i gyd-Aelodau ar y pwyllgor wedi'i disgrifio fel arwrol o uchelgeisiol wedi'i chwblhau. Dywedodd y dylid cymryd y cyfrifoldeb am drafnidiaeth oddi wrthyf, ond rwy'n eithaf ffyddiog—rwy'n eithaf sicr pe bai'r Aelod wedi bod yn sefyll lle rwy'n sefyll heddiw, yn cyhoeddi'r hyn rwy'n ei gyhoeddi heddiw, ar ôl cyflawni'r hyn roedd pawb o'i gwmpas yn ei alw'n arwrol o uchelgeisiol, y byddai ei gyd-Aelod seneddol yn cychwyn deiseb ar gyfer comisiynu cerflun efydd er anrhydedd i'r mab darogan. Rwyf yr un mor sicr y byddai'r Aelod yn llofnodi'r ddeiseb honno. Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd yr holl fanylion yn cael eu rhyddhau ar ôl y cyfnod segur o 10 diwrnod.

Rwyf wedi sylwi bod y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru heddiw yn dweud bod y broses o wneud cynigion wedi bod yn wallus o'r dechrau i'r diwedd, ac eto mae'r un Aelod y priodolir y dyfyniad hwn iddo'n rhan o bwyllgor a ddisgrifiodd y broses fel un arwrol o uchelgeisiol. Mae rhyw fath o rwyg yma. Buaswn yn cytuno gyda'r olaf, o ystyried ein bod wedi cyrraedd y pwynt heddiw o allu cyhoeddi'r cynigydd a ffafrir. Mae'r datganiad i'r wasg yn mynd rhagddo i ddweud ei bod yn anfaddeuol na chaniateir mwy nag un dudalen o ddatganiad ysgrifenedig. Y prif reswm pam ei fod yn ddatganiad ysgrifenedig un dudalen yw bod yn rhaid i ni, yn ôl y gyfraith—nid yn ôl steil, yn ôl y gyfraith—gael cyfnod segur. Felly, gofynnaf i'r Aelod: o gofio nad yw'n fater o steil, ei fod yn fater o gyfraith, a fyddai ef eisiau torri'r gyfraith? A fyddai ef eisiau peryglu dyfodol y fasnachfraint? Ni allaf ond casglu, mae arnaf ofn, Ddirprwy Lywydd, y byddai'n well gan yr Aelod pe bai'r fasnachfraint gyfredol yn parhau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, ac rwy'n credu bod Cymoedd de Cymru yn fagwrfa arbenigedd rheilffyrdd, gyda nifer o fentrau bach a chanolig yn ymwneud â pheirianneg rheilffyrdd, adeiladu a gwasanaethau cynnal a chadw eraill, gyda chyflogwyr sy'n byw'n lleol ac sy'n aml yn fedrus iawn hefyd. Nawr, mae llawer o'r rhain yn dweud wrthyf eu bod yn treulio hyd at 80 y cant o'u hamser yn gweithio y tu allan i Gymru, gyda gweithwyr yn byw oddi cartref am gyfnodau hir ac felly'n gwario eu harian y tu allan i'r gymuned leol yn ogystal. Yn amlwg, pe bai cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud cais am gontractau drwy Trafnidiaeth Cymru, byddai buddion economaidd enfawr i'w cael, a byddai gweithluoedd lleol yn gallu gwario eu harian yn fwy lleol o ganlyniad. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pa gynlluniau sydd gan Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod cwmnïau rheilffyrdd lleol, llai o faint yn gallu ymgeisio am rai o'r contractau hyn heb gael eu boddi gan y cwmnïau mawr yn y sector hwn?

Rwy'n falch iawn o ymateb i'r Aelod, ac rwy'n cydnabod ei diddordeb brwd yn y broses gaffael ynghyd â'i diddordeb mewn sicrhau ei bod yn darparu cyfleoedd economaidd gwell yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd gwell, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a micro yn ei hetholaeth. Rwy'n falch ein bod ar hyn o bryd wrthi'n nodi cyfleoedd ar gyfer partneriaid datblygu seilwaith a fydd yn gweithio ar fetro de Cymru. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu sicrhau y bydd cyfran sylweddol o wariant y prosiect gweddnewidiol hwn yn cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yn ei hetholaeth hi.

Mae'n teimlo braidd fel pe bai'r Llywodraeth hon yn mynd o un llanast i'r llall. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn i gwmni rheilffyrdd Keolis y mae'r rhan fwyaf ohono'n eiddo i'r wladwriaeth Ffrengig, a chorfforaeth seilwaith Sbaenaidd Amey—y ddau'n gorfforaethau rhyngwladol er elw sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd.

Nawr, hoffwn fynd ar ôl cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn, ond nad yw wedi ei ateb eto. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae'r penderfyniad hwn yn gyson â'r ymrwymiad ar dudalen 20 o faniffesto 2016, y cafodd ei ethol ar ei sail, a oedd yn dweud y bydd Llywodraeth Lafur Cymru,

'yn cyflwyno masnachfraint rheilffyrdd dielw newydd'.

Rwy'n credu mai ef a ysgrifennodd y maniffesto hyd yn oed. Cyn y ceir unrhyw honiad y bydd ymwneud Trafnidiaeth Cymru yn golygu bod hwn yn weithgarwch dielw, a gaf fi ei atgoffa o'r ffaith bod Keolis wedi gwneud elw o €313 miliwn yn 2016? Credaf y byddent yn synnu clywed na fyddant yn gwneud elw o'r contract hwn.

Wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dadlau bod ei ddwylo wedi'u clymu gan Ddeddf Cymru 2017, ac fel y bydd yn cofio, rwy'n siŵr, ni wnaeth Plaid Cymru gefnogi'r ddeddfwriaeth honno. Pleidleisiodd o blaid Deddf Cymru, fodd bynnag, gan wybod yn iawn y byddai'n ei atal rhag darparu masnachfraint ddielw. Mae Llywodraeth yr Alban, o dan eu setliad, yn gallu caffael gweithredwr sector cyhoeddus. Pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau'r un fargen â'u cymheiriaid yn yr Alban?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi honni—

15:30

—bydd y rheilffordd er elw hon yn darparu manteision i deithwyr. A yw'n derbyn y bydd yn darparu llai o fanteision na rheilffordd ddielw? Os nad yw'n derbyn hynny, pam felly ei fod wedi ymrwymo, ar sawl achlysur, i ddarparu rheilffordd ddielw?

Mae llawer mwy o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf am orffen gyda hyn. Heddiw, mae'r Blaid Lafur yn cynnal dadl yn San Steffan ar wladoli'r rheilffyrdd. Mae arweinydd ei blaid wedi siarad am reilffordd y bobl. Safodd ar nifer o faniffestos, gan addo darparu rheilffordd ddielw. Sut, felly, y gall gyfiawnhau gwneud y gwrthwyneb llwyr i flaenoriaethau ei blaid y cafodd ei ethol i'w cyflawni? A ydych chi—

Na, mae'n ddrwg gennyf; rydych wedi siarad yn llawer rhy hir. Mae'n ddrwg gennyf; roedd hynny'n llawer rhy hir.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'i haraith? Rwy'n ei sicrhau ein bod wedi mynd cyn belled â phosibl ar gyflawni addewid y maniffesto, gan sicrhau, lle y gallwn weithredu consesiynau ar sail ddielw, ein bod yn gwneud hynny, ond gan sicrhau hefyd, drwy broses y ddeialog gystadleuol, fod gennym fargen syfrdanol i deithwyr Cymru. A dyna sydd o fwyaf o ddiddordeb i'r bobl allan yno—y bobl sy'n dymuno cael dadl berthnasol yn y Siambr hon ar ddyfodol gwasanaethau.

Mae'n rhaid i mi ailadrodd y pwynt fod ei Haelodau—a chyda llaw, nid wyf erioed wedi gwasanaethu yn y Senedd—ond mae ei Haelodau, y tu ôl iddi, wedi eistedd ar bwyllgor a gymeradwyodd adroddiad a oedd yn disgrifio'r broses hon rydych bellach yn ei beirniadu fel un 'arwrol o uchelgeisiol'. Nawr, ni all pobl Cymru ond casglu felly fod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi cytuno y byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i gaffael gweithredwr a datblygwr a phartner newydd yn arwrol o uchelgeisiol i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Heddiw, rydym wedi cyflawni hynny, ac nid yw hyn ond megis dechrau.

Gallaf ddeall eich dicter tuag at agwedd Plaid Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, ond mae'n debyg eich bod yn cael rhyw foddhad o gydnabod bod yr hyn a ddywed Plaid Cymru yn wir, i'r graddau bod taer angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan oherwydd dyna'r unig ffordd y byddwn yn gallu diddymu adran 25 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993, sy'n gwahardd perchnogaeth gyhoeddus—ac wrth gwrs, rhagrith y Torïaid, sydd wedi gwladoli rheilffordd arfordir y dwyrain. Dyma'r trydydd tro iddynt ei ail-wladoli oherwydd bob tro y mae'n mynd i'r sector preifat, ar ôl i'r sector preifat fethu mae'n mynd i'r sector cyhoeddus, mae'n gwneud elw, maent yn ei phreifateiddio, mae'n colli arian, mae'n mynd yn ôl i'r sector cyhoeddus. Felly, mae rhagrith llwyr yno. Ond mae taer angen i Lywodraeth Lafur yn San Steffan wneud hynny.

Fodd bynnag, yr hyn roeddwn am ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae'r gweithwyr yn y diwydiant yn hanfodol bwysig. I ba raddau y galloch chi ymgysylltu ag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, gyda Chymdeithas Gysylltiedig y Peirianwyr Locomotifau a Diffoddwyr Tân a Chymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth—y bobl a fydd yn gorfod gweithio i gyflawni hynny mewn gwirionedd—a sicrhau y cânt eu diogelu gan gardiaid ac ati, a chanfod i ba raddau y maent yn croesawu'r fenter hon hyd yma? Hefyd, o fewn Trafnidiaeth Cymru, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, sy'n dod i Bontypridd er mwyn helpu i adfywio'r dref, i ba raddau y ceir hyblygrwydd o fewn y system, pan fydd Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, pan fydd gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan a phan fyddwn wedi diddymu adran 25, i sicrhau bod hyn a gweddill y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael eu trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus, gan mai'r Blaid Lafur yw'r unig blaid sydd â'r gallu i gyflawni hynny mewn gwirionedd?

15:35

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'r Aelod yn llygad ei le. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth a Chymdeithas Gysylltiedig y Peirianwyr Locomotifau a Diffoddwyr Tân ac efallai y gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, ac i Aelodau eraill ar feinciau'r gwrthbleidiau, sydd wedi gofyn a yw'r undebau yn cefnogi ein penderfyniad. Wel, gadewch i mi ddarllen yr hyn a ddywedodd Mick Cash:

Mae polisi Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth o blaid rheilffyrdd integredig cenedlaethol o dan berchenogaeth gyhoeddus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir mai dyma fyddai ei dyhead yn ogystal pe na bai'n rhaid iddynt weithio o dan y cyfyngiadau deddfwriaethol o blaid preifateiddio a orfodir gan Lywodraeth y DU.

Aeth ymlaen i ddweud:

Fodd bynnag, mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth yn croesawu'r ffaith, er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw gard ar bob trên ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth i ddiogelu swyddi ac amodau gweithwyr rheilffyrdd yng Nghymru.

Dyma enghraifft o sut y mae Llafur Cymru yn gweithio gyda'r undebau, yn gweithio gyda grwpiau teithwyr, ac yn darparu'r gorau ar gyfer pobl Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. David Melding.

Adroddiad y Fonesig Judith Hackitt

2. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân? 180

Diolch. Mae adroddiad y Fonesig Judith, er ei fod yn canolbwyntio ar Loegr, yn rhoi sail gadarn i ni weithio arni yma. Rydym wedi symud yn gyflym i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn a heddiw rwyf wedi cyhoeddi fy mwriad i sefydlu grŵp arbenigol i ddatblygu'r argymhellion yn newidiadau manwl ac ymarferol i Gymru.

A gaf fi groesawu'r ymateb cychwynnol hwnnw? Fel y gwyddoch, daeth yr adolygiad i'r casgliad fod difaterwch ac anwybodaeth wedi arwain at ras i'r gwaelod mewn perthynas ag arferion diogelwch adeiladu, gyda chostau yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch. Dywedwyd hefyd y dylai rheoleiddiwr safonau newydd fod yn ganolbwynt i system ddiwygiedig, ond roedd y sefyllfa mewn perthynas â defnyddio deunyddiau llosgadwy yn aneglur. Mae cynhyrchion inswleiddio a chladin fflamadwy yn cael eu tynnu oddi ar gannoedd o gartrefi uchel iawn yn Lloegr ar hyn o bryd, a rhai yng Nghymru hefyd. Mae'r cyhoeddiad a roddodd Llywodraeth Cymru ddoe y byddai'n ariannu'r gwaith o newid y cladin ar dri bloc tŵr yng Nghasnewydd yn sicr i'w groesawu yn hyn o beth.

Fel y gwyddoch, ar 27 Chwefror, gofynasom am ddatganiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r profion diogelwch cladin mewn adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru. Dylwn ddweud bod yn rhaid i ni gofio'r rheini yn y sector preifat yma, oherwydd gwn y bydd gennych rywbeth penodol iawn i ymateb iddo mae'n debyg o safbwynt y rheini yn y sector cymdeithasol yr ystyrir eu bod mewn perygl. Ond a ydych yn cytuno bod y grŵp hwn angen datrys y sefyllfa'n gyflym iawn? Rydym angen datganiad clir ar gael gwared ar ddeunyddiau cladin fflamadwy, ac yn fy marn i, dylai fod gwaharddiad ar unwaith ar eu defnydd mewn gwaith adeiladu newydd hyd nes y gallwn fod yn gwbl sicr ynglŷn â'u diogelwch a'u defnydd priodol.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Cytunaf â chi fod yr adroddiad yn ddeunydd darllen sobreiddiol iawn ar y newidiadau ac ehangder a dyfnder y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud o ran y system reoleiddiol ar gyfer adeiladau uchel iawn yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar Loegr i raddau helaeth, rydym yn ei gymryd yn y cyd-destun Cymreig hefyd, oherwydd y tebygrwydd amlwg iawn yn ein cyfundrefnau rheoleiddio ar draws y ffin.

Rwy'n falch iawn o allu dweud heddiw, er bod y Fonesig Judith yn fwriadol wedi osgoi gwneud unrhyw sylw ar wahardd unrhyw ddeunyddiau penodol, ein bod yn awyddus i roi sylw i'r mater hwn, ac yn amodol ar ymgynghoriad sy'n ofynnol yn gyfreithiol byddwn yn cymryd camau i wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin ar adeiladau preswyl uchel iawn. Rwy'n dweud 'yn amodol ar ymgynghoriad' oherwydd mae'n un o ofynion Deddf Adeiladu 1984 ein bod yn ymgynghori gyda'r pwyllgor cynghori ar reoliadau adeiladu ynglŷn â hynny. Ond rwy'n gobeithio fy mod yn anfon neges glir iawn heddiw na fyddwn yn croesawu defnydd o'r deunyddiau llosgadwy hyn ar adeiladau yng Nghymru.

Ers trychineb Tŵr Grenfell, rydym wedi gweithio'n galed iawn i gadarnhau lle y mae ein hadeiladau uchel iawn yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt, neu fe wnaethom gryn amser yn ôl, lle rydym wedi llwyddo i nodi pob un o'r adeiladau hynny, ac rydym wedi ymgymryd â dull gwaith achos, gan ddatblygu perthynas unigol rhwng Llywodraeth Cymru a pherchenogion yr adeiladau hynny a landlordiaid yr adeiladau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu'r cyngor diogelwch cywir a manwl sydd ei angen ar yr adeiladau hynny. Yng Nghymru, rydym fymryn yn wahanol i Loegr oherwydd y raddfa yma. Mae gennym ychydig dros 100 o adeiladau uchel iawn, felly rydym wedi gallu ymgymryd â dull gwaith achos, gan gadw'r busnes hwnnw'n fewnol, ond ar draws y ffin yn Lloegr, unwaith eto oherwydd y raddfa, mae'n cael ei arwain ar sail awdurdod lleol. Felly, o ran y cladin a fethodd y prawf a wnaed ar raddfa fawr gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, mae 12 yn y sector preifat yng Nghymru, ac rydym yn gweithio ar hynny gyda'r landlordiaid er mwyn sicrhau bod y cladin yn cael ei dynnu a'i newid. Fel y sonioch chi, ddoe, gallasom ddarparu arian ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd er mwyn newid y cladin yno.

Rhan yn unig o'r darlun yw mynd i'r afael â phroblem cladin. Rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i berchnogion a landlordiaid adeiladau weithio'n agos iawn gydag arbenigwyr er mwyn cynnal adolygiad o ddiogelwch a statws yr adeiladau hynny, oherwydd rydym wedi bod yn glir iawn fod pob adeilad yn adeilad unigol a dylid eu trin felly. Credaf fod hynny'n cael ei gydnabod ym mhennod 8 yn adroddiad Hackitt, sy'n dweud y dylai fod llinyn arian yn rhedeg drwy adeiladau fel y gallwn ddeall, o gysyniad yr adeilad drwy gydol oes yr adeilad, unrhyw newidiadau a wneir i'r adeilad hwnnw. Er bod y Fonesig Hackitt yn glir iawn y dylid ystyried ei hadroddiad yn ei gyfanrwydd, roedd honno'n un o'r penodau a oedd yn sefyll allan i mi fel rhywbeth a all wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd.

15:40

Diolch i chi am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Credaf fod angen i ni ofyn a yw'r system yn addas ar gyfer y dyfodol. Roedd yn amlwg yn Grenfell nad oeddent ddigon o ddifrif ynglŷn â risgiau ag y dylent fod a bod diogelwch wedi dod yn ail i'r gost mewn rhai ffyrdd allweddol. Hoffwn ofyn sut y bydd y £400 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer tynnu cladin ac uwchraddio adeiladau yn Lloegr yn effeithio ar Gymru. A fydd unrhyw gyfran o'r arian hwn yn cael ei wario yng Nghymru? Ac os na fydd, a fydd swm canlyniadol Barnett i Gymru? Beth yw'r asesiad diweddaraf o'r gost bosibl i awdurdodau lleol Cymru o newid cladin a chyflawni unrhyw waith uwchraddio diogelwch angenrheidiol? Nodaf eich cyhoeddiad mewn perthynas â Chasnewydd, ond deallaf nad oes unrhyw gyhoeddiad tebyg wedi'i wneud i gynorthwyo cyngor Caerdydd i gyflawni gwaith ar eu chwe bloc tŵr. 

A allech chi roi diweddariad i ni ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â blociau tŵr preifat? Gwn eich bod wedi cyfeirio ato'n fras eisoes, ond rydych wedi cyhoeddi canllawiau ac ysgrifennu at awdurdodau lleol yn gofyn iddynt gynnal yr asesiadau angenrheidiol. Felly, beth yw eich barn chi am y problemau y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu a'r rheini mewn datblygiadau preifat yn fwy cyffredinol? Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw gamau gweithredu ar waith mewn perthynas ag anheddau preifat, ar wahân i annog datblygwyr a pherchenogion i beidio â throsglwyddo'r costau. Fodd bynnag, mae'r mater hwn bellach yn y system gyfreithiol ac mae un grŵp o lesddeiliaid wedi cael gorchymyn i dalu'r costau i newid cladin yn Croydon yn hytrach na datblygwr a rhydd-ddeiliad yr adeilad, gyda thrigolion yn wynebu costau o hyd at £25,000 yr un.

Efallai fod hon yn broblem i rai o'r fflatiau yma yng Nghaerdydd, megis Prospect Place, lle y ceir asiantaeth reoli newydd o'r enw Warwick Estates, sef cymdeithas y preswylwyr yn y bôn, oherwydd mae Bellway bellach wedi gadael. Bydd llawer o breswylwyr mewn blociau tŵr preifat yn wynebu ansicrwydd mawr o ran pwy sy'n gyfrifol am waith uwchraddio diogelwch tân, a bydd hyn yn parhau pan ac os cynyddir safonau diogelwch tân yn y dyfodol. Felly, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiadau o'r costau posibl i uwchraddio anheddau preifat yng Nghymru sydd wedi methu unrhyw brofion? A fydd yna arian ar gael ar gyfer y fflatiau cyfredol yn ogystal ag unrhyw adeiladau newydd? Beth fyddai'r gwahaniaeth o ran tacteg mewn perthynas â'r fflatiau cyfredol sy'n bodoli ac unrhyw adeiladau newydd sy'n bodoli?

Hoffwn orffen drwy ddweud fy mod yn bryderus iawn dros y penwythnos ar ôl clywed nad oedd gan rai o'r fflatiau penodol a grybwyllais yn gynharach yn fy nghwestiwn larymau tân ynddynt hyd yn oed, yn y brifddinas hon. A ninnau wedi rhoi'r holl ffocws ar fflatiau a diogelwch, mae'n hurt nad oedd gan y fflatiau hynny larymau tân hyd yn oed. Felly, buaswn yn eich annog i fynd yn ôl i siarad gyda'r landlordiaid preifat yn yr achos hwn a dangos difrifoldeb y sefyllfa, oherwydd bydd bywydau yn y fantol os nad ydynt yn gwella.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuasoch drwy ddweud nad oedd pryderon yn cael sylw digonol, ac rydych yn hollol gywir; mae'n ymddangos i mi nad oedd pryderon preswylwyr Grenfell wedi cael eu clywed, ac roeddent yn codi'r pryderon hynny dros gyfnod hir, a dyna pam ei bod mor bwysig, yn adolygiad Hackitt, fod llais preswylwyr i'w glywed yn gryf iawn fel rhywbeth sydd angen ei ddatblygu. Yn sicr, yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ymgysylltiad da â thenantiaid yn ein sector tai cymdeithasol, felly mae yna lawer y gallwn ei ddysgu o ran sut y gallwn ddatblygu hynny. Fel y gwyddom, o'r dadleuon a gawsom dros ddeddfwriaeth flaenorol, ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), er enghraifft, mae ymgysylltu â thenantiaid yn rhywbeth rwy'n arbennig o awyddus i'w ddatblygu, ac mae adolygiad Hackitt yn dweud wrthym pam fod hynny'n bwysig iawn.

Nodwyd bod y £400 miliwn gan Lywodraeth y DU yn dod o'i chyllidebau adrannol a'i fod ar gyfer y sector tai cymdeithasol yn benodol, felly ni fydd unrhyw arian canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny. Felly, yn yr un modd, roeddem yn gallu dod o hyd i £3 miliwn o fy nghyllideb adrannol er mwyn sicrhau bod Cartrefi Dinas Casnewydd yn gallu newid y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3. Yn benodol, rydym wedi targedu'r arian hwn ar gyfer y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3 hwnnw, sef y cladin a fethodd y profion ar raddfa fawr, ac rydym wedi adlewyrchu'r dull a fabwysiadwyd yn Lloegr.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Fonesig Hackitt wedi ymgysylltu'n dda iawn gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wrth gynhyrchu'r adroddiad, ac fe gefais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ein briffio gan y Fonesig Hackitt y diwrnod cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Ond mae'n destun gofid i ni na chafodd yr adroddiad ei rannu â Llywodraeth Cymru cyn iddo gael ei gyhoeddi. Credaf y byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y ffaith ein bod yn cymryd cymaint o ran yn hyn. Rwy'n sylweddoli mai adroddiad wedi'i anelu at Lywodraeth y DU ydyw, ond yn yr un modd, mae ein cyd-destun mor debyg, ac mae ein hymgysylltiad wedi bod mor rheolaidd, fel y byddai wedi bod yn briodol, rwy'n credu, i ni ei rannu inni allu trafod ein cyhoeddiadau priodol ar yr un diwrnod a rhoi'r math o sicrwydd y maent ei angen i breswylwyr.

O ran adeiladau yn y sector preifat, rwy'n rhannu eich pryder. Unwaith eto, fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, mae pob adeilad yn wahanol, felly bydd yna faterion o gyfrifoldeb a allai fod yn wahanol ym mhob adeilad. Mae'n bosibl bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i adeilad ers iddo gael ei adeiladu, er enghraifft—pwy a wnaeth y newidiadau hynny, beth yw'r gwarantau ac ati? Felly, mae yna amryw o faterion y bydd angen edrych arnynt. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn fod hwn yn gyfnod anodd i breswylwyr o fewn y sector preifat. Cafwyd nifer o achosion llys yn Lloegr a allai roi rhyw syniad i ni o gyfraith achosion, ond unwaith eto, mae hyn yn amrywio o un adeilad i'r llall.

O ran adeiladau newydd, buaswn yn gobeithio y byddwn yn symud yn gyflym iawn o ran dyfodol y gyfundrefn reoleiddio. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio panel arbenigol, a fydd yn ceisio gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r mater hwn yn y dyfodol. Ni fuaswn eisiau unrhyw oedi mewn perthynas â hynny, felly buaswn yn disgwyl i'r grŵp hwnnw adrodd ar y ffordd ymlaen erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, byddai adeiladau newydd yn y dyfodol, yn amodol ar unrhyw newidiadau y byddai angen i ni eu gwneud o ran rheoleiddio ac ati, yn cael eu hadeiladu yn unol â'r safonau newydd hynny.

Yn yr un modd—mae'r adroddiad yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith bod yn rhaid i'r llinyn arian ar gyfer adeiladau newydd fod yn gadarn, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni ddechrau edrych yn ôl ar adeiladau sy'n bodoli eisoes o ran y deunyddiau a ddefnyddiwyd, y newidiadau a wnaed i'r adeiladau hynny ac a yw'r adeiladau'n gyson â'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol yn y cyfnod dylunio hyd yn oed. Felly, rwy'n credu bod gennym lawer o waith i fwrw ymlaen ag ef, a bydd yn llawer o waith dros gyfnod hir, ond yn yr un modd, bydd yn rhaid i ni roi blaenoriaeth ymlaen llaw i'r materion a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch preswylwyr.

15:45

Ie, Weinidog, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn ar gyfer newid y cladin ar y blociau uchel yng Nghasnewydd yn fawr. Pe na bai Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cyllid hwnnw, byddai wedi cael effaith andwyol ar ddatblygiadau newydd angenrheidiol, yn ogystal â gwelliannau i adeiladau sy'n bodoli'n barod ac yn wir, eu hamgylcheddau, felly diolch yn fawr iawn am hynny.

A wnewch chi ymuno â mi, Weinidog, i gydnabod camau gweithredu amserol Cartrefi Dinas Casnewydd mewn ymateb i drychineb ofnadwy Grenfell a'r heriau a achoswyd gan y drychineb honno mewn perthynas ag ôl-osod systemau chwistrellu, ymgysylltu'n agos iawn â thenantiaid ac yn wir, gweithio'n agos iawn â Llywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr i chi am hynny, a buaswn yn sicr yn cymeradwyo Cartrefi Dinas Casnewydd ar y gwaith a wnaethant yn syth ar ôl trychineb Grenfell ac ers hynny. Maent wedi rhoi camau gweithredu trylwyr ar waith mewn perthynas â'r adeilad ei hun—felly, cyflwyno'r system chwistrellu, er enghraifft, ond maent hefyd wedi bod yn glir iawn o ran cyfathrebu â thenantiaid. Gwn eu bod wedi curo ar ddrws pob un o'r tenantiaid yn eu tri bloc i siarad â hwy'n unigol er mwyn rhoi sicrwydd iddynt, ond hefyd i roi cyfle i denantiaid ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. Maent hefyd wedi cynnal rhai sesiynau galw heibio, er enghraifft, ac wedi darparu deunydd ysgrifenedig, a gwn fod ein grŵp cynghori ar ddiogelwch tân wedi dweud bod hynny'n rhagorol, ac fe wnaethom rannu hynny gydag eraill i ddangos esiampl o sut y gellir cyfathrebu mater cymhleth, a mater sy'n peri pryder go iawn, mewn ffordd sy'n ddealladwy i'r holl denantiaid ac yn darparu gwybodaeth a chyngor cryf heb achosi braw diangen i'r tenant. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Chartrefi Dinas Casnewydd i siarad â rhai o'r tenantiaid, ac roeddent yn canmol y gwasanaeth a gawsant gan Cartrefi Dinas Casnewydd yn fawr, ac roeddent hefyd yn teimlo bod y system chwistrellu newydd, er enghraifft, yn arwydd gweledol a diriaethol fod eu diogelwch yn cael sylw go iawn.

15:50
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu Dementia. Rhagwelir y bydd dros 100,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2055. Mae'n hanfodol ein bod fel cenedl yn cynyddu ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o ddementia i chwalu'r stigma a chynorthwyo pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau cyhyd ag y bo modd. Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio. Nid yw'r clefyd yn gwahaniaethu. Nid oes ots pwy ydych chi a gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Mae diagnosis o ddementia yn anodd i'r person sy'n dioddef o'r clefyd, a hefyd i bawb sy'n agos atynt. Ffrindiau Dementia'r Gymdeithas Alzheimer yw'r fenter fwyaf erioed i drawsnewid y ffordd y mae'r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn sôn am ddementia. Ei nod yw helpu pobl i ddeall sut beth fyddai byw gyda dementia, a throi'r ddealltwriaeth honno'n gamau gweithredu.

Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad hwn i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Hyd yma, hanner yn unig ohonom sydd wedi cyflawni'r hyfforddiant. Mae'n bryd i ni gyflawni'r addewid i bob un o'r 60 AC ddod yn ffrindiau dementia. Bydd hwn yn gam mawr tuag at sicrhau mai ni fydd y Senedd gyntaf yn y byd sy'n deall dementia. Mae'r hyfforddiant yn cymryd ychydig dros hanner awr, a buaswn yn annog pawb yma i'w wneud. Ac ni ddylem orffen yn y fan hon. Dylem annog ein swyddfeydd ein hunain a'r rhai yn ein cymunedau i gyflawni'r hyfforddiant. Nid yw bywyd yn dod i ben pan fydd dementia'n dechrau. Gyda chymorth, gall pobl fyw'n dda gyda dementia, felly mae pob gweithred yn cyfrif.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. John Atkinson, Courtney Boyle, Philip Tron, Kelly Brewster, Georgina Callander, Olivia Campbell-Hardy, Liam Curry, Chloe Rutherford, Wendy Fawell, Martyn Hett, Alison Howe, Lisa Lees, Megan Hurley, Nell Jones, Michelle Kiss, Angelika Klis, Marcin Klis, Sorrell Leczkowski, Eilidh MacLeod, Elaine McIver, Saffie Rose Roussos a Jane Tweddle: hwy oedd y 22 o bobl ddiniwed a laddwyd yn drasig yn yr ymosodiad ar Manchester Arena flwyddyn yn ôl i ddoe; 22 o bobl a benderfynodd fynd i gyngerdd i gael amser da. Mewn gwirionedd, roedd rhai o fy ffrindiau yn y cyngerdd hwnnw, ond roeddent yn ddigon ffodus i ddychwelyd adref at eu teuluoedd y noson honno; nid oedd eraill mor ffodus. Rwy'n siŵr, wrth imi sefyll yma, fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr pan ddywedaf wrth deuluoedd y rhai a gollodd eu hanwyliaid y noson honno ein bod yn sefyll gyda chi, ac rydym yn cydymdeimlo'n llwyr â chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ddirprwy Lywydd, bydd Cymru yn eu cofio, ac yng ngeiriau Liam Gallagher, bydd y 22 yn byw am byth. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd Sefydliad DPJ ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Roedd Daniel wedi bod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl ac yn anffodus, dewisodd roi diwedd ar ei fywyd ar 5 Gorffennaf 2016. Mae Sefydliad DPJ wedi deillio o'r frwydr a wynebodd Daniel i geisio cael cymorth mewn ardal wledig ac yn ei alwedigaeth ynysig fel ffermwr. Mae ei wraig, Emma, wedi ymgyrchu'n ddi-baid i oresgyn y stigma o siarad am faterion iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith dynion. Mae'r anawsterau hyn yn cael eu dwysáu gan fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, ac amharodrwydd nifer o ffermwyr, sy'n gallu trwsio unrhyw beth gyda thipyn o gortyn beindar a rhywfaint o chwys, i chwilio am gymorth pan fyddant yn wynebu salwch meddwl.

Roeddwn yn falch iawn o groesawu Emma Picton-Jones yma i'r Cynulliad yn ddiweddar i rannu ei neges gyda'r rheini sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru. Mae Sefydliad DPJ bellach yn cynnig gwasanaeth cwnsela 24 awr yn Sir Benfro, ac mae gwaith Emma'n agor trafodaeth ar y materion hyn ymysg undebau amaethyddol, cyrff amaethyddol a sefydliadau gwirfoddol. Nawr, yn enw Daniel, mae pobl yn cael cymorth mewn ffordd nad oedd ef yn teimlo y gallai, ac oherwydd gwaith Emma, mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad.

15:55
5. Datganiad gan y Llywydd: Diweddariad ar sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Llywydd, diweddariad ar sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Llywydd. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy mwriad i y prynhawn yma yw i ddiweddaru Aelodau ar ethol senedd ieuenctid gyntaf Cymru, yn enwedig i ddweud wrth Aelodau y byddwn ni'r wythnos nesaf yn Eisteddfod yr Urdd yn lansio'r ymgyrch gofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad cyntaf senedd ieuenctid Cymru. Bydd y senedd yma yn rhoi llais democrataidd, cenedlaethol i bobl ifanc Cymru ac yn eu galluogi i nodi a chodi ymwybyddiaeth o faterion dadleuol a ddewisir ganddyn nhw i'w trafod.

Bydd y cyfnod cofrestru yn agored i bob person ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 mlwydd oed ac ar agor o ddiwedd mis Mai yr wythnos nesaf tan ganol Tachwedd. Ym mis Medi eleni, bydd pobl ifanc yn gallu rhoi eu hunain ymlaen i sefyll ar gyfer eu hethol. Bydd yr etholiad ar-lein yn cael ei gynnal dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod cyntaf senedd ieuenctid Cymru ym mis Chwefror 2019.

Bydd 60 o aelodau senedd ieuenctid Cymru. Bydd 40 ohonyn nhw yn cael eu hethol drwy system y cyntaf i’r felin drwy system bleidleisio electronig ym mhob un o’r 40 etholaeth etholiadol yng Nghymru. Bydd 20 ohonyn nhw yn cael eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y senedd.

Cyhyd ag y gwyddom, ein senedd ni fydd y senedd ieuenctid gyntaf i ethol ei chynrychiolwyr yn ddemocrataidd yn ei hetholiad cyntaf, ac mae hynny’n dipyn o gyflawniad. 

Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod Cynulliad yma heddiw mor awyddus ag yr wyf fi i sicrhau bod pobl ifanc yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau yn ymwybodol o’r cyfleoedd cyffrous a gyflwynir gan y fenter yma. Bydd amrywiaeth eang o adnoddau ar gael i chi er mwyn hwyluso’r gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn eich ardaloedd. Gobeithio y gwnewch chi fwrw ati i hyrwyddo'r senedd o'r wythnos nesaf ymlaen. 

Mae llawer o sefydliadau ieuenctid cenedlaethol a phobl ifanc eu hunain wedi helpu i lunio ein cynlluniau ac wedi cytuno i barhau i’n cefnogi ar ein taith. Rwyf am gofnodi fy niolch o waelod calon iddyn nhw am eu hymroddiad parhaus ac am rannu eu harbenigedd a fydd, heb os, yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y cam nesaf o’r prosiect yma.

Nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Drwy ein gwaith gydag ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cynrychiadol ac unigolion allweddol hefyd, rydym am gyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib. Rwy’n hyderus y bydd y rhaglen ymgysylltu y mae ein tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi’i datblygu yn ysbrydoli pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau gwirioneddol neu rwystrau canfyddedig i gymryd rhan yn y broses yma.

Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gweithredu prosiect mor uchelgeisiol yn ddatblygiad sylweddol i ni. Noda Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i’r farn honno gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ar unrhyw fater sy’n effeithio arnynt. 

Yng nghyd-destun ein gwaith fel deddfwrfa, mae sefydlu senedd ieuenctid yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory—i bob dinesydd yma yng Nghymru—ac mae gan bob un ohonynt lais yn ein democratiaeth ni yma yng Nghymru.

Diolch. Mae gennyf nifer o siaradwyr. A gaf fi ofyn i bob siaradwr roi cyflwyniad byr i'w cwestiynau ac yna cawn weld sut y mae pethau'n mynd? Ond mae yna nifer o siaradwyr a fyddai'n hoffi siarad am y mater pwysig hwn. Darren Millar.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am ei datganiad heddiw? Bydd yn cofio ein bod ni, fel gwrthblaid, wedi cyflwyno ein dadl ar sefydlu senedd ieuenctid yn ôl ym mis Hydref 2016. Hoffwn dalu teyrnged i gyd-Aelodau ym mhob plaid sydd wedi cefnogi'r fenter hon. Yn wir, dylwn hefyd gofnodi ein diolch i Gomisiynydd Plant Cymru, wrth gwrs, am y rôl enfawr y mae hi wedi'i chwarae yn helpu i berswadio pob un ohonom pa mor bwysig yw sefydlu senedd ieuenctid. Credaf mai ychydig flynyddoedd yn ôl oedd hi pan ddywedodd y Cenhedloedd Unedig fod Cymru yn un o chwe gwlad yn unig yn y byd heb gorff seneddol i ieuenctid, felly rwy'n credu bod y cam hwn rydym wedi'i gymryd fel Cynulliad Cenedlaethol yn un pwysig, ac rwy'n falch iawn eich bod chi fel Llywydd wedi mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac wedi troi'r olwynion fel ein bod yn awr wedi cyrraedd y pwynt lle bydd pobl yn gallu cofrestru i bleidleisio. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn rhoi llais i blant a phobl ifanc ym myd gwleidyddiaeth a'n bod yn eu cynnwys yn y broses ddemocrataidd, a chredaf y bydd yr addysg a fydd yn gysylltiedig â'r senedd ieuenctid yn sicr yn helpu i hyrwyddo cyfranogiad yn y dyfodol.

A gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau? Roedd yr ymgyrch ar gyfer y cynulliad plant a phobl ifanc, a luniodd ei adroddiad 'Ymgynnull am Gymru' nifer o flynyddoedd yn ôl, yn dweud bod 92 y cant o bobl ifanc o blaid sefydlu senedd ieuenctid ond bod 85 y cant o bobl hefyd o blaid rhoi sail statudol iddi. Rwy'n meddwl tybed a allai fod cyfle, gyda'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywydd wedi nodi y gallai gael ei chyflwyno o'i swyddfa ac o'r Comisiwn yn y dyfodol, i roi sail statudol i'r senedd ieuenctid hon fel bod yn rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, gael un ar bob adeg yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i bobl ifanc ein bod yn o ddifrif ynglŷn â'r ffordd rydym yn ymgysylltu â hwy.

Fe gyfeirioch chi at 20 o sefydliadau partner a fydd yn helpu i sicrhau bod gennym gynrychiolaeth amrywiol yn y senedd ieuenctid newydd. A allwch ddweud wrthym beth yw'r sefydliadau hynny? Rwy'n tybio y byddwn yn gallu cael rhestr o'r rheini fel y gallwn geisio ymgysylltu â hwy fel Aelodau Cynulliad ac annog pobl i gyflwyno eu hunain fel ymgeiswyr posibl i'w penodi i'r senedd ieuenctid. A allwch ddweud wrthym hefyd sut y cyllidir y senedd ieuenctid? Yn amlwg, rydym angen sicrhau bod gan y senedd adnoddau digonol os yw am fod yn llwyddiant. Rwy'n tybio ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, drwy ein prosesau cyllidebol, wedi sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael ar gyfer y gwaith hwn ar unwaith, ond yn amlwg mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr y bydd ganddynt ddigon o adnoddau yn y dyfodol fel y bydd, pan fydd yn ymgynnull, yn gallu cyfleu'r negeseuon hynny yn ôl i ni a seneddwyr eraill ar lefel y DU hefyd. Diolch.

16:00

Diolch i chi, ac rwy'n falch fod pob plaid wleidyddol yma wedi cefnogi'r datblygiad o ethol ein senedd ieuenctid gyntaf. Fel rydych wedi dweud, mae'r comisiynydd plant wedi bod yn allweddol wrth fynd ar drywydd a dadlau dros gael senedd ieuenctid yma, ac mae'r comisiynydd plant wedi gweithio gyda ni ar ddatblygu'r manylion ynglŷn â hyn, fel y mae llawer o'i rhwydweithiau pobl ifanc a phobl ifanc eu hunain sy'n gweithio gyda'r comisiynydd plant wedi'i wneud wrth roi cyngor inni drwy gydol y broses hon.

Nid ein bwriad ar hyn o bryd yw gosod senedd ieuenctid ar sail statudol. Rwy'n ymwybodol fod rhai'n dadlau o blaid hynny, ac mae hwnnw'n fater y credaf y byddwn yn edrych arno yn y dyfodol. Ond beth am ddechrau a sefydlu ein senedd ieuenctid gyntaf a pheidio â chaniatáu i'r potensial i'w rhoi ar sail statudol ohirio'r broses o sefydlu'r senedd ieuenctid gyntaf. Byddwn yn cadw hynny dan arolwg yn y dyfodol.

I egluro'r 20 aelod ychwanegol at y 40 o'r etholaethau, bydd 10 sefydliad partner yn ethol dau yr un ac yn cynnig enwau dau aelod yr un. Mater i'r sefydliadau partner hynny—sefydliadau pobl ifanc; gallant fod yn genedlaethol neu'n lleol—fydd cynnig eu henwau fel sefydliadau partner posibl. Bydd gennym feini prawf wedyn i benderfynu pwy fydd y sefydliadau partner hynny ar gyfer y senedd ieuenctid gyntaf hon, ac rwy'n gobeithio, rhyngof fi, y comisiynydd plant a, gobeithio, Cadeirydd y pwyllgor plant yma yn y Cynulliad, y gallwn ddewis y 10 sefydliad partner mwyaf perthnasol, mwyaf arloesol a mwyaf cynrychiadol ar gyfer y senedd ieuenctid gyntaf.

Neilltuwyd cyllideb at y diben hwnnw o gyllid y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiwn. Mae'n £65,000 ar gyfer eleni a bydd yn £50,000 ar gyfer blynyddoedd heb etholiad yn y dyfodol. Mae'n adnodd sylweddol i ni, ond wrth gwrs, er mwyn i bobl ifanc gymryd rhan yn y Cynulliad, bydd angen iddynt allu teithio o wahanol lefydd ledled Cymru lle maent yn eu cynrychioli i'r Cynulliad a chael gofal priodol yng nghyd-destun eu hethol yn aelodau o'r senedd ieuenctid gyntaf un.

16:05

A gaf i ddiolch i'r Llywydd am ei datganiad? Yn amlwg, rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y senedd ieuenctid ar fin dod i fodolaeth, ac mi wnawn ni bopeth y gallwn ni, rydw i'n gwybod, i gefnogi yr ymdrechion i hwyluso hynny ac i sicrhau ei fod e'n digwydd, oherwydd mae angen i hwn fod yn arf i rymuso llais pobl ifanc yng Nghymru, fel rydw i'n siŵr y bydd e, ac rydym ni wedi dadlau, nifer ohonom ni, wrth gwrs, bod angen grymuso llais pobl ifainc o fewn democratiaeth.

Rydym ni fel plaid wedi bod yn dadlau am ostwng oed pleidleisio i 16. Rydym ni wedi dadlau hefyd dros gryfhau addysg dinasyddiaeth mewn ysgolion drwy'r cwricwlwm newydd, a bydd hwn yn gyfle arall, rydw i'n meddwl, i helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i bobl ifanc i gyfranogi. Ond nid ydw i'n hapus i stopio yn fanna. Rydw i nid yn unig eisiau gweld y senedd yma yn trafod ac yn datblygu syniadau ac yn cynnig polisïau; rydw i eisiau i ddylanwad y senedd ieuenctid yma gael ei deimlo y tu hwnt i feinciau'r senedd ieuenctid—ar y meinciau fan hyn ac mewn mannau eraill.

Felly, mi ofynnaf i fy nghwestiwn cyntaf: ym mha ffordd rydych chi'n teimlo y bydd yna gyfle i'r senedd ieuenctid fwydo yn ffurfiol i mewn i drafodaethau pwyllgorau a dadleuon yn y Senedd yn fan hyn? A ydym ni eisiau gweld adroddiadau yn cael eu cynhyrchu? A fydd yna gyfle i aelodau'r senedd ieuenctid i annerch y Senedd yma, neu bwyllgorau? Hynny yw, rydw i yn teimlo bod angen ffurfioli'r prosesau yma er mwyn gwir rymuso llais pobl ifanc yn y cyd destun yma.

A'r ail gwestiwn sydd gyda fi ydy: wrth gwrs, rydym ni'n sôn am ystod oedran eang o 11 i 18, ac mae yna beryg, wrth gwrs, y byddai lleisiau, efallai, y garfan hŷn o fewn y grŵp oedran yna yn boddi ychydig ar y lleisiau iau. Felly, pa brosesau bydd yn eu lle i sicrhau tegwch a chydraddoldeb, efallai, os liciwch chi, i'r rhai ifancaf o fewn y sbectrwm oedran yna? Diolch. 

Wel, rydw i'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn sy'n cael ei osod allan gan Llyr; yr hyn rydym ni eisiau ei gyflawni fan hyn yw i rymuso pobl ifanc i fedru datgan eu llais yn glir ar unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb ac o flaenoriaeth iddyn nhw. Ac, felly, y cwestiwn yw: beth fydd y berthynas rhwng y senedd ieuenctid a'n Senedd ni a'r amrywiol bwyllgorau yn y Senedd? Nid wyf fi'n credu mai fi, na ni fan hyn, sydd biau'r ateb i hynny, ond y bobl ifanc fydd yn y senedd ieuenctid gyntaf. Rydw i'n credu y dylem ni, fel mater o egwyddor, ganiatáu i'r bobl ifanc hynny benderfynu ar sut maen nhw eisiau dylanwadu ar ein polisïau ni, sut maen nhw eisiau dylanwadu ar ein prosesau ni, pa fath o waith cysylltu maen nhw eisiau ei wneud gyda'r amrywiol bwyllgorau a phynciau a deddfwriaeth sy'n mynd drwy'r lle yma. Y cyfan ddywedaf i yw: rydw i'n gobeithio y byddwn ni, fel Aelodau, fel pwyllgorau, fel Llywodraeth, i gyd yn agored i gydweithio ac i wrando ar ein pobl ifanc ni. 

Mae'n gwestiwn diddorol ynglŷn ag a fydd y rhai ifancaf yn cael eu gorddylanwadu gan y rhai hŷn. Fy mhrofiad i fan hyn o'r Senedd hŷn—os caf i alw'r Senedd yma'n hynny—yw nad yw'r rhai ifancaf ddim yn cael eu boddi allan gan y rhai hŷn yn yr oedran uwch, ac rydw i'n rhyw synhwyro, gobeithio, na fydd hynny, yn sicr, ddim yn wir yn y senedd ieuenctid hefyd, ac rydw i'n gobeithio y bydd pob un, o'r cychwyn cyntaf, yn cael eu trin yn gyfartal. 

Hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn heddiw. Mae'n gyffrous iawn gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud a graddau'r cynigion a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael llais go iawn yn y senedd ieuenctid newydd hon. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd a'i thîm am eu holl waith, oherwydd gwn fod maint y logisteg yn hyn wedi bod yn heriol iawn, ond hefyd diolch i'r bobl ifanc ar hyd a lled Cymru sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth heddiw. Rwy'n wirioneddol falch fod rhan o'r cynlluniau hyn yn cynnwys cynigion i gael pobl ifanc o'r sefydliadau partner, oherwydd fel y dywedais o'r blaen, er ei bod yn wych fod gennym bobl ifanc hyderus, huawdl yng Nghymru, rhaid inni wneud yn siŵr fod hon yn senedd sy'n llais i'n holl bobl ifanc, gan gynnwys ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig, a byddai'n fraint cael chwarae rhan yn hynny.

Mae gennyf ambell gwestiwn. Y cyntaf yw: i'r bobl ifanc sydd allan yno yn awr yn meddwl, 'Wel, a yw hyn yn rhywbeth y dylwn geisio bod yn rhan ohono?', pa lwybrau sydd ar gael iddynt gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn y cwestiynau y gallai fod angen iddynt eu gofyn er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus yn ei gylch? Rwyf hefyd yn cymryd, fel y mae gennym gyfleoedd ardderchog ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, y bydd pethau'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y bobl ifanc lwyddiannus i'w helpu i wneud y gwaith newydd a phwysig hwn. Buaswn yn ategu sylwadau Llyr am yr angen i edrych ymhellach a thu hwnt i hyn i ymgorffori rôl pobl ifanc cyn belled ag y gallwn yn ein hymarfer yma, a buaswn yn ddiolchgar am eich sicrwydd y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch yn ei gadw dan arolwg.

Ac yn olaf hoffwn ddweud: a gytunwch ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yn awr yn y sefydliad hwn i wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r fenter hon ac i sicrhau bod cynifer o bobl ifanc yn pleidleisio ac yn ystyried sefyll etholiad i'r sefydliad newydd hwn a fydd yn rhoi llais go iawn i bobl ifanc yng Nghymru o'r diwedd?

16:10

Diolch am eich cydweithrediad hyd yma ar hyn a'r rôl a chwaraeodd eich pwyllgor hefyd yn dadlau dros y datblygiad hwn. Diolch ichi hefyd am gydnabod pa mor fawr yw'r hyn sydd gennym ger ein bron. Dyma gofrestr electronig sydd â phleidlais electronig ar gyfer pob unigolyn ifanc rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru, ac felly mae logisteg hyn yn fenter sylweddol i ni fel Cynulliad. Rydym angen cefnogaeth pob Aelod Cynulliad yma i fod yn rhan o'r gweithgarwch hyrwyddo mewn perthynas â chofrestru i bleidleisio, ac ysbrydoli pobl ifanc wedyn wrth inni ddod ar eu traws, neu wrth inni ddod i wybod amdanynt, neu sefydliadau partner yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, i ddatblygu'r syniad yn eu hardaloedd er mwyn inni hyrwyddo hyn yn ein gwahanol ardaloedd.

Mae ein gwaith allgymorth—ein rhaglen addysgol—bellach yn barod ar gyfer gweithio gydag ysgolion, colegau a sefydliadau pobl ifanc ledled Cymru er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd a fydd ar gael. Ond ar y pwynt a wnewch, Lynne, yn yr ystyr y bydd yna bob amser bobl ifanc huawdl yn ein holl etholaethau a'n rhanbarthau a fydd yn gweld hyn ac yn bachu ar y cyfle ac yn manteisio arno ar unwaith, rydym am i'r Cynulliad hwn—cynulliad a senedd y bobl ifanc—gynrychioli pawb. Felly, bydd y 10 sefydliad partner sy'n ethol pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol—pobl nad oes ganddynt gyfrwng amlwg i ganfod eu ffordd tuag at y math hwn o gyfle yn draddodiadol—yn galluogi'r bobl ifanc hynny i gael eu hethol i'r senedd ifanc gyntaf yma yng Nghymru.

Yna, wrth gwrs, pan gânt eu hethol, bydd angen i rai rhwng 11 a 18 mlwydd oed—seneddwyr ifanc—gael eu cefnogi yn eu gwaith. Bydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn y Siambr hon. Y bwriad ar hyn o bryd yw cael tri chyfarfod dros gyfnod o ddwy flynedd yn y Siambr hon, ond nid dyna'r unig waith y bydd y seneddwr ifanc yn rhan ohono. Bydd llawer ohono'n cynnwys gweithio'n rhanbarthol gydag Aelodau etholedig rhanbarthol eraill, gan adrodd yn ôl i bobl ifanc yn eu hardaloedd a thrafod polisïau gyda phobl ifanc yn eu hardaloedd, a bydd angen iddynt gael eu cefnogi yn y gwaith hwnnw. Felly bydd llawer o ffocws gwaith addysgol a gwaith allgymorth y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y gorffennol ac rydym yn gyfarwydd ag ef bellach yn cynnwys blaenoriaethu'r gwaith o gefnogi'r 60 seneddwr ifanc, ond hefyd eu perthynas â phobl iau yn fwy eang yn eu cymunedau.

Felly, o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw, ac agor y drws ar y gofrestru o'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n bwysig fod pob un ohonom yn hyrwyddo'r senedd ieuenctid newydd yng Nghymru a'r gobaith yw y bydd llawer o bobl yn cofrestru a llawer o bobl yn dangos diddordeb mewn dod yn aelodau.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am eich datganiad heddiw. Soniasoch fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod i'r syniad o senedd ieuenctid yn y gorffennol ac yn wir, mae'n parhau. Mae UKIP yn parhau i fod yn gefnogol i'r syniad. Rydych yn cydnabod bod llawer o heriau a phroblemau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru heddiw, ac mae cael cyfrwng cyfathrebu rheolaidd rhwng y Cynulliad ar y naill law a math o adain ieuenctid y Cynulliad ar y llall yn beth da. Nawr, rwy'n sylweddoli ein bod wedi cael fforymau ieuenctid blaenorol fel y Ddraig Ffynci, a wnaeth waith gwerthfawr, ond nad oedd yn senedd ieuenctid yn hollol, felly rydym yn anelu tuag at rywbeth newydd.

Roeddwn yn mynd i ofyn i chi, Lywydd, sut y gwelwch y senedd ieuenctid yn datblygu yn y dyfodol, ond wrth gwrs, fe wnaethoch y pwynt yn gynharach mai un o'r pethau rydych eu heisiau yw i'r senedd ei hun—y senedd ieuenctid, i roi ei henw arall iddi—eich bod am i'r corff ei hun wneud awgrymiadau ynglŷn â sut y maent yn gweld eu rôl yn y dyfodol, a chredaf fod hynny'n syniad da iawn. Felly, efallai y bydd hynny'n cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei ddweud ar y pwynt hwn, ond os oes gennych fwy o eglurder eich hun ynglŷn â sut y rhagwelwch y senedd ieuenctid yn datblygu yn y dyfodol, byddai'n ddiddorol inni glywed hynny heddiw.

Soniasoch hefyd am bwysigrwydd amrywiaeth, sy'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gadw mewn cof hefyd, a soniasoch hefyd rwy'n credu am raglen ymgysylltu. Felly, os oes gennych unrhyw beth arall i'w ddweud wrthym am y rhaglen ymgysylltu, byddai hynny hefyd yn ddefnyddiol.

Mae gennym rywbeth ar fin digwydd yn y pwyllgor cydraddoldebau a llywodraeth leol, sef ymchwiliad i'r ymddieithrio sy'n digwydd oddi wrth wleidyddiaeth ymhlith amryw o grwpiau. Credaf mai un o'r themâu yr ydym yn ymdrin â hi yw thema gyffredinol ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth ymhlith yr ifanc, a oedd yn awgrym a ddaeth yn wreiddiol gan Jack Sargeant, a sylwaf ei fod yma, felly efallai y bydd yn ymhelaethu ar hyn. Ond tybed a allai ein hymchwiliad helpu yn y gwaith rydych yn ei wneud gyda datblygu'r senedd ieuenctid. Felly, arhosaf i weld datblygiadau pellach. Diolch yn fawr.

Diolch i chi am gefnogaeth UKIP i sefydlu'r senedd ieuenctid a'r materion a nodwyd gennych, ac yn benodol y mater ynghylch y berthynas rhwng y senedd ieuenctid a'n Senedd ni. Fel y dywedais yn gynharach, mater i'r senedd ieuenctid yw penderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun a'i ffyrdd ei hun o weithio a sut y mae am i'r berthynas honno ddigwydd. Ond credaf mai'r pwynt pwysig o ran pwyllgorau, y Siambr hon a Llywodraeth yn ogystal, pan fyddwch yn gwneud gwaith lle rydych eisiau barn pobl ifanc, neu'n dymuno cael barn pobl ifanc, eich bod yn gwneud y cynnig i'r senedd ieuenctid ei drafod, a gallant benderfynu, 'O na, nid oes gennym ddiddordeb yn hynny o gwbl ac nid ydym am gynnig unrhyw farn ar hynny. Mae gennym flaenoriaeth wahanol', o leiaf bydd y sianeli cyfathrebu ar agor ar y ddwy ochr. Ond mater i'r senedd ieuenctid fydd penderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun.

Mae'r ffaith bod y pwyllgor yr ydych yn aelod ohono yn gwneud y gwaith ar ymddieithrio ymhlith pobl ifanc yn y broses wleidyddol yn gyd-ddigwyddiad diddorol ac rwy'n siŵr y bydd y bobl ifanc a gaiff eu hethol i'r senedd ieuenctid gyntaf â diddordeb mewn rhannu eu safbwyntiau. Mae'n debygol mai pobl ifanc sydd heb ddieithrio ydynt, ond byddant yn gwybod am lawer o bobl ifanc o'u cwmpas nad ydynt yn cymryd rhan i'r un graddau â hwythau. Felly, rwy'n gobeithio ei bod yn broses ddwy ffordd rhwng y senedd ieuenctid a'r Senedd hon o ran y modd y dylanwadwn ar ein gilydd, ac yn enwedig y modd y gall pobl ifanc ddod i gael dylanwad uniongyrchol ar y ddeddfwriaeth, a'r polisi a'r dadleuon a gawn yma yn y Cynulliad hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i'r Llywydd am gyflwyno'r datganiad gwirioneddol bwysig hwn heddiw? A diolch i chi, Gareth, yn fyr, am y sylw yno. Mae gwaith y pwyllgor llywodraeth leol a'r ymchwiliad sy'n mynd i ddigwydd yn hollbwysig i ddeall y rheswm pam y mae pobl wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i'r fath raddau, ac rwy'n credu, yn drawsbleidiol yn y Siambr hon, fod angen inni ddeall y rhesymau am hynny. Afraid dweud, fel yr Aelod Cynulliad ieuengaf yma yn y Siambr hon, fy mod bob amser yn falch o glywed am gamau a gymerir i ymgysylltu â'r genhedlaeth iau a chenedlaethau'r dyfodol. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed y Llywydd yn sôn nad yw'r genhedlaeth iau yn y Siambr hon yn cael eu dylanwadu'n ormodol gan y genhedlaeth hŷn. Gallaf weld Bethan Sayed yn gwenu yno hefyd, felly mae hynny'n dda.

Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly fe geisiaf frysio. Roeddwn am sôn am un neu ddau o bwyntiau. Yn gyntaf, ar ymgyrchu ac ymgynghori, a fyddai'r Llywydd yn cytuno y dylai'r senedd ieuenctid gael strwythurau ar waith sy'n caniatáu iddi gynrychioli barn pobl ifanc ar draws Cymru a'i haelodau, rhanddeiliaid a gwneuthurwyr penderfyniadau lleol yn ogystal, ac ar y lefel genedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft cyflwyno maniffesto efallai sy'n amlinellu eu brîff, eu credoau a'u dyheadau fel Senedd ac fel cynrychiolwyr eu hardaloedd?

Yn ail, hoffwn ddweud y gallai'r senedd ieuenctid fod yn gyfle gwych hefyd ar gyfer hyfforddiant a chydnabyddiaeth. Felly, a fyddech yn cytuno y gallai'r senedd ieuenctid  gynnal rhaglenni hyfforddiant i rymuso pobl ifanc a chael pobl ifanc i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i sicrhau newid diwylliant—newid diwylliant mewn bywyd go iawn?

Felly, unwaith eto, yn fyr iawn gan fy mod yn gwybod efallai fod yna Aelodau eraill yn dymuno siarad, hoffwn groesawu'r datganiad gan y Llywydd y prynhawn yma ac edrychaf ymlaen at y cam nesaf yn y broses o sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Diolch.

16:20

Wel, diolch ichi am hynny. Chi yw ein Haelod Cynulliad ieuengaf, Jack Sargeant, ac rwy'n gobeithio mai chi fydd yn mynd ati'n fwyaf brwd i sicrhau bod gan bobl eich cenhedlaeth ac ychydig yn iau na'ch cenhedlaeth chi ddiddordeb mewn dod yn aelodau o'r senedd ieuenctid gyntaf yma, ond yn yr un modd, rwy'n gobeithio y bydd y rhai hynaf o'ch plith chi yma hefyd yn mynd ati'n frwd i hyrwyddo'r gwaith o ethol senedd ieuenctid.

Rydych yn crybwyll posibilrwydd diddorol iawn o senedd ieuenctid yn datblygu ei maniffesto ei hun, ei set ei hun o syniadau polisi i'w dilyn, ond hefyd i fynd ar eu trywydd gyda ni fel Senedd yn ogystal. Fel y dywedais yn gynharach, mater i'r senedd ieuenctid fydd penderfynu sut y gwnaiff ei gwaith, ond rwy'n siŵr y bydd eisiau myfyrio ar y trafodaethau y mae'n eu cael gyda ni fel Aelodau etholedig. Rwy'n siŵr y ceir perthynas yn gynnar iawn rhwng Aelod Cynulliad etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy a'r aelod etholaeth dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn y senedd ieuenctid, fel i'r gweddill ohonom. Felly, bydd cael y drafodaeth honno yn rhanbarthol ac ar sail etholaeth yn bwysig yn y berthynas sy'n datblygu rhyngom fel Aelodau Cynulliad a hwythau fel seneddwyr ifanc.

Bydd sicrhau bod y gwaith a wnawn gyda'n seneddwyr ifanc, fod hyfforddiant a chymorth ar eu cyfer, ac y gallant ddod yn hyrwyddwyr ymgysylltiad gwleidyddol yn eu hardaloedd eu hunain wedyn er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o seneddwyr, y rhai a fydd yn eu dilyn, a'r gwaith a wnânt yn eu hysgolion a'u colegau hefyd—bydd hyn i gyd yn agor trafodaeth ac ymgysylltiad gwleidyddol nad ydym wedi'i gael yng Nghymru gyda phobl ifanc. A gall hyn oll fod yn bosibl gyda sefydlu, ethol ein senedd ieuenctid gyntaf yma—.

Hoffwn i groesawu'r datganiad yma heddiw. Pan ges i fy ethol yn 2007 fel yr Aelod ifancaf ar y pryd—mae Jack a Steffan wedi cymryd y fantell honno oddi wrthyf i—gwnes i gychwyn yn syth i geisio ymgyrchu am senedd ieuenctid go iawn i Gymru, oherwydd roeddwn i'n parchu'r ffaith bod Funky Dragon yn gweithredu, ond roeddwn i eisiau cael rhywbeth ar ochr seneddol y Senedd yma—strwythur ar wahân fel bod y bobl ifanc yn gallu teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol o Lywodraeth yn lle eu bod nhw'n cael yr arian yn syth o Lywodraeth—eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol a sgrwtineiddio'r Llywodraeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl ifanc hyderus, newydd yma yn gallu gwneud hynny.

Nid yw hyn yn gonsérn i fod yn negyddol, ond roeddwn i eisiau gofyn i'r Llywydd y cwestiwn ynglŷn â phleidiau gwleidyddol. Pan oeddwn i'n sefyll fel llywydd undeb Aberystwyth, nid oedd gofyniad ar bobl ifanc roi pa blaid roedden nhw'n ymwneud â hi, ac weithiau roedd pobl yn ennill etholiadau efallai na fyddai wedi ennill etholiadau oherwydd y ffaith nad oedden nhw'n rhoi enw plaid gerbron ar y ticed pleidleisio. Felly, rydw i eisie deall: os bydd yna bobl ifanc sydd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol—sydd yn beth da, rydw i'n credu, gan eu bod nhw yn weithredol—sut ydym ni yn mynd i fod yn ymwybodol o hynny? Sut mae'r bobl ifanc hynny yn mynd i fod yn ymwybodol o'r agenda gwleidyddol, neu ideolegol efallai, sydd tu ôl i resymeg pobl ifanc dros sefyll? Rydw i'n credu bod hynny'n bwysig, fel bod pobl ifanc sydd yn pleidleisio ar-lein yn deall yn iawn beth maen nhw'n pleidleisio amdano. 

Ar y mater o bleidleisio ar-lein, byddai diddordeb gyda fi mewn trio ffeindio mas beth rydym ni'n gallu dysgu fel Senedd, yma, er mwyn gallu pleidleisio ar-lein yn y dyfodol. Fe wnes i ddod â dadl fer, flynyddoedd yn ôl nawr, yma yn y Senedd, ynglŷn â cheisio newid yr hyn rydym ni'n ei wneud o ran pleidleisio, a hynny er mwyn ennyn mwy o bobl i bleidleisio ar systemau ar-lein. Wedi'r cyfan, rydym ni'n bancio ar-lein, ac rydym ni'n gwneud lot fawr o bethau ar-lein, ond nid ydym yn gallu pleidleisio ar gyfer y Senedd yma ar-lein.

Y cwestiwn olaf sydd gen i yw: rydw i wedi clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran gweithio'n lleol, ond rydw i eisiau deall mwy ynglŷn â hynny, oherwydd rydw i'n credu beth sy'n really cyffrous am y cyfle yma yw sut y bydd yr aelodau etholedig ifanc yn gallu gweithio gyda grwpiau lleol, a gweithio gyda grwpiau amgylcheddol neu grwpiau ymgyrch lleol, er mwyn ysbrydoli pobl ifanc yn y dyfodol i sefyll fel aelodau o'r senedd ieuenctid, a hefyd weithiau, wedyn, i feddwl am sut y gallen nhw sefyll ar gyfer y Senedd yma. Beth sydd yn bwysig yw bod y Senedd yma yn cael trosolwg oed, trosolwg amrywiol, fel ein bod ni yn gallu bod yn gynrychiolwyr cryf o'r hyn sydd yn digwydd yma yng Nghymru, ac yr un sydd yn bwysig ar gyfer y senedd ieuenctid. Felly, rydw i'n cefnogi beth sydd yn digwydd yma, ac yn gobeithio y bydd yn llwyddiannus.

16:25

Diolch, Bethan. Mae'n hyfryd bod rhai o'r Aelodau ifancaf sydd gyda ni yn y Senedd yma wedi bod yn bobl sydd wedi arwain ar y drafodaeth ar sicrhau cael senedd ieuenctid. Rydw i'n ddiolchgar i Bethan a phawb arall sydd wedi sicrhau bod y drafodaeth yna wedi aros ar dop yr agenda, a hefyd i ddatgan y bydd gan y senedd ieuenctid eu barn eu hunain—amrywiol farn hefyd—ac fe fydd yn rhydd iddyn nhw gael eu barn eu hunain, ac i'r farn yna fod yn anghyffyrddus ac yn annisgwyl i ni, fel Aelodau Cynulliad neu fel Llywodraeth, ar ba bynnag bwynt ac ar ba bynnag bwnc y byddan nhw'n ei ddewis. 

Mae'r ffaith bod yna system bleidleisio electronig yn gyffrous iawn. Rydw i'n really falch ein bod ni wedi llwyddo i sefydlu hynny. Pa mor hir y gwneith hi gymryd i ni sefydlu system o bleidleisio electronig ar gyfer etholiadau cyffredinol llywodraeth leol a Llywodraeth genedlaethol yma yng Nghymru? Mae hwnnw'n fater tu hwnt i sgôp fy natganiad i'r prynhawn yma.

O ran ymwneud pobl ifanc â phleidiau gwleidyddol, pan wnaethom ni ymgynghori â phobl ifanc ynglŷn â'r senedd ieuenctid, roedd yna farn gref yn yr ymgynghoriad yna nad oedden nhw eisiau i bleidiau gwleidyddol berchnogi'r gyfundrefn yma o senedd ieuenctid, neu hyd yn oed i bleidiau gwleidyddol i herwgipio, bron, y senedd ieuenctid. Ac felly, nid ydym ni wedi creu cyfundrefn sydd yn hyrwyddo hynny—[Torri ar draws.]

Ceisio profi eich bod yn dal yn ifanc yno, David Rees. [Chwerthin.]

Mi fydd unrhyw un sydd yn cofrestru i fod yn ymgeisydd i'r senedd, fe fyddan nhw yn rhoi at ei gilydd faniffesto byr iawn yn amlinellu yn fyr iawn eu blaenoriaethau nhw, ac fe fydd yr hawl ganddyn nhw i ymhelaethu yn y crynodeb hynny, wedyn, eu diddordebau, eu diddordebau pwnc a'u diddordebau gwleidyddol, a'u gwerthoedd, ac yn y blaen. Bydd hynny yn fater iddyn nhw ar y pwynt yna. 

Ac wedyn ein bwriad ni yw ein bod ni'n rhoi cyfle i'r aelodau hefyd gwrdd yn rhanbarthol—logistically, mae hynny gymaint yn haws i'w wneud ar adegau—fel eu bod nhw'n gallu gwneud gwaith mwy manwl, mwy dwys, gyda grwpiau ieuenctid a grwpiau eraill, ac i ddatblygu syniadau sydd yn dod o'u hardaloedd a'u rhanbarthau yn ogystal hefyd, fel ein bod ni yn gwneud y gwaith sydd ddim dim ond amboutu cwrdd yn y lle yma dair gwaith dros ddwy flynedd, ond sydd yn dipyn ehangach na hynny, ac yn rhoi cyfle llawer yn fwy llawn i'r aelodau etholedig ifanc hynny.

16:30
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-05-785, 'Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6727 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar y ddeiseb hon a'n hadroddiad ar y dystiolaeth a gawsom. Cyflwynwyd y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod gan Tim Deere-Jones, a derbyniwyd 7,171 o lofnodion. Mae'n ymwneud â gwaddodion a gaiff eu carthu o aber afon Hafren ger y safle lle mae safle niwclear Hinkley Point C yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Fel y bydd pob Aelod yn gwybod, mae'r ddeiseb hon wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb a dadl.

O ran y cefndir, mae EDF Energy, drwy is-gwmni, wedi gwneud cais am drwydded forol i waredu'r gwaddodion a gaiff eu carthu mewn man arall yn aber afon Hafren. Gan fod y safle a ddewiswyd—Cardiff Grounds—ar ochr Cymru i Fôr Hafren, cafodd y drwydded ei hystyried a'i chyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n bwysig fy mod yn ymdrin yn syth â rhai o'r heriau o ran amseru y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'u hwynebu wrth inni ystyried y ddeiseb. Ystyriwyd y ddeiseb yn gyntaf yn ystod mis Tachwedd 2017, er bod y drwydded forol, fel y byddaf yn trafod yn nes ymlaen, wedi'i chyhoeddi sawl blwyddyn yn gynharach mewn gwirionedd. Yn ôl ein dealltwriaeth ni hefyd, gellid trefnu i'r gwaith carthu ddigwydd o fewn cyfnod cymharol fyr o amser. O ganlyniad, aethom ati i gasglu tystiolaeth mor gyflym ag y gallem. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda'r deisebydd, EDF Energy, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS—Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu—a gynhaliodd y dadansoddiad o'r gwaddod. Hefyd, derbyniodd ac ystyriodd y pwyllgor gryn dipyn o ohebiaeth ysgrifenedig. Mae hyn i gyd wedi ei ddogfennu yn ein hadroddiad ar y ddeiseb, a gyhoeddwyd ar 14 Mai.

Yn ystod eu tystiolaeth, dywedodd EDF wrthym fod y carthu i ddigwydd yr haf hwn. Felly, er mwyn galluogi i'r ddadl hon ddigwydd mewn modd amserol, dewisodd y pwyllgor lunio adroddiad ar y dystiolaeth a gawsom ar y cyfle cynharaf. Oherwydd hyn, nid ydym wedi cael amser i ddod i gasgliadau na chynhyrchu argymhellion. Gobeithio bod y trosolwg hwn yn darparu'r cyd-destun angenrheidiol i'r Aelodau ac unrhyw un sy'n gwylio'r trafodion heddiw.

Hoffwn ddiolch yn fyr hefyd i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y bobl a'r sefydliadau yr ymgynghorasom â hwy wedi cydnabod ein hamserlenni ac wedi rhoi eu hamser a'u harbenigedd inni o fewn yr amserlenni hynny.

Trof yn awr at y dystiolaeth a gawsom. A gaf fi ddweud ar y cychwyn ein bod, fel pwyllgor, wedi ceisio ymdrin â'r ddeiseb a'r mater ehangach gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol? Hefyd rydym wedi ceisio rhoi blaenoriaeth i'r dystiolaeth wyddonol ac yn gobeithio ein bod wedi osgoi codi bwganod neu gamliwio.

Yn 2014, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwydded forol ar gyfer gwaredu'r gwaddodion. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol yn 2012, ac mae'n werth nodi, ar y pryd hwnnw, fod y broses drwyddedu'n cael ei rheoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Felly, trosglwyddwyd y drwydded gan Lywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses o ystyried y drwydded. Roedd y drwydded a gyhoeddwyd yn cynnwys nifer o amodau, gan gynnwys gofyniad i gasglu samplau o'r deunydd er mwyn eu dadansoddi, a bod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer ei waredu.

Ysgogwyd y ddeiseb gan bryder nad oedd y profion hyn yn ddigon, ac y gallai'r gwaddodion fod yn ymbelydrol o ganlyniad i dros 50 mlynedd o waith ar safleoedd presennol Hinkley. Roedd prif bryderon y deisebwyr yn ymwneud â dwy elfen o'r profion: y dyfnder y casglwyd y samplau ohono a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer dadansoddi.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:35

Fe ymdriniaf â dyfnder y samplu yn gyntaf. Roedd y deisebydd yn pryderu i ddechrau mai ar ddyfnder o 5 cm yn unig y casglwyd samplau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gywir. Clywodd y pwyllgor fod samplau wedi'u casglu a'u profi yn 2009, 2013 a 2017. Casglwyd rhai o samplau 2009 ar ddyfnder o 4.8m. Mae'r asiantaethau a oedd yn gysylltiedig â'r profion wedi datgan na chanfuwyd crynodiad uwch o ymbelydredd ar ddyfnder, ac fe'u harweiniwyd gan hynny i ddod i'r casgliad nad oedd angen dadansoddiadau pellach o samplau islaw'r wyneb.

Dywedwyd wrthym hefyd mai un agwedd allweddol ar y broses o brofi yw mesur y dos y gallai'r criw carthu neu'r cyhoedd yn ehangach fod yn agored iddo o'r deunydd. Fodd bynnag, yn ystod ein hymchwiliadau daeth yn amlwg na wnaed cyfrif o'r dos ar y samplau yn 2009. Gofynasom i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod hyn yn cael sylw. Derbyniwyd y cais hwn a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ar ddiwedd mis Mawrth fod y cyfrifiad o'r dos wedi'i gynnal yn ôl-weithredol ac wedi dod i'r casgliad nad yw'r deunydd yn achosi unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd.

Serch hynny, mae'r deisebwyr wedi parhau i ofyn cwestiynau am ddigonolrwydd y profion. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o samplau a gymerwyd ar ddyfnder yn 2009—ac rydym yn deall fod pump ohonynt—a'r ffaith nad yw'r ymarfer hwn wedi'i ailadrodd ers hynny.

Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y gallai profion ychwanegol gynnig sicrwydd pellach i'r cyhoedd. Ysgrifenasom at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr i argymell y dylent ofyn i ddeiliad y drwydded drefnu i samplau pellach gael eu cymryd a'u dadansoddi. Gofynasant i EDF ystyried hyn ar sail wirfoddol, ond gwrthodwyd hyn gan EDF ar y sail fod y dystiolaeth wyddonol eisoes wedi dangos nad yw'r deunydd yn ymbelydrol. Mynegodd Cyfoeth Naturiol Cymru y farn hefyd fod profion pellach yn ddiangen ac nad oedd yn rhywbeth y gallai ei ailystyried drwy'r drwydded neu ei hamodau. Er ein bod yn derbyn mai'r rhesymeg sylfaenol dros wneud profion ychwanegol oedd sicrhau'r cyhoedd yn hytrach na rheidrwydd gwyddonol, mae'r pwyllgor yn gresynu at y ffaith na weithredwyd ar yr argymhelliad hwn.

Gan symud ymlaen at fethodoleg y profion ei hun, ystyriwyd ystod o bryderon ynglŷn â'r profion a gynhaliwyd ac yn benodol, amrediad yr ymbelydredd a brofwyd. Cynhwysir manylion llawn yn ein hadroddiad ac efallai y bydd yr Aelodau yn falch o glywed nad af yn rhy ddwfn i'r wybodaeth dechnegol yn ystod y cyfraniad hwn. Mae'r pryderon yn ymwneud ag ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau'r technegau sbectrometreg pelydr gama a ddefnyddiwyd, a nifer y canlyniadau a gofnodwyd yn flaenorol. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes, roedd y deisebydd wedi cwestiynu a wnaed profion ar gyfer pob radioniwclid, neu ddim ond y rhai a gofnodwyd fel canlyniadau cadarnhaol. Argymhellwyd hefyd—a chafwyd cadarnhad gan CEFAS—na allai'r dechneg a ddefnyddiwyd adnabod ffurfiau alffa a beta ar ymbelydredd yn uniongyrchol.

Fodd bynnag, cafodd y pwyllgor sicrwydd gan EDF, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS fod y profion a'r dadansoddiadau wedi'u cyflawni yn ôl y safonau rhyngwladol uchaf, a bod y rhain yn geidwadol wrth natur. Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'r profion wedi nodi unrhyw radioniwclidau sy'n allyrru pelydrau gama sy'n bresennol yn y samplau, a bod y canlyniadau wedi'u defnyddio i ganfod darlleniadau o fathau eraill o ymbelydredd na ellir eu nodi'n uniongyrchol drwy ddefnyddio'r dechneg hon.

Codwyd nifer o bryderon a chwestiynau eraill ac darparwyd atebion ar eu cyfer yn ystod ein gwaith yn casglu tystiolaeth. Rhoddir sylw i'r pwyntiau hyn yn ein hadroddiad, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn cael sylw yn ystod gweddill y ddadl hon.

I grynhoi, nid yw ein hystyriaeth o'r ddeiseb hon wedi arwain at gyd-weld rhwng y rhai sy'n bryderus ynghylch y mater hwn a'r sefydliadau a'r asiantaethau sy'n gysylltiedig. Credaf y byddai'n deg dweud nad oedd hynny byth yn debygol o ddigwydd. Wrth gwrs, rydym yn ddibynnol ar y prosesau gwyddonol a'r asiantaethau sy'n eu goruchwylio, yn ogystal â'r rhai sydd â chyfrifoldebau i ddiogelu ein hiechyd ac iechyd yr amgylchedd.

Rwy'n siŵr fod lefel y pryder a'r gwrthwynebiad a amlygwyd gan y ddeiseb yn peri gofid i'r asiantaethau hynny. Rwy'n gobeithio bod y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Deisebau yn ystod ein trafodaethau wedi helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd am y mater hwn. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i gofnodi'r dystiolaeth a gawsom yn gywir, a gobeithio hefyd y bydd pobl sydd â diddordeb yn y mater yn darllen ein hadroddiad ac efallai'n dod o hyd i atebion ynddo. Mae'r holl dystiolaeth a glywsom wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad hefyd i bobl allu ei gweld.

Yn ôl yr hyn a ddeallwn mae'r carthu yn dal i fod i ddigwydd yr haf hwn, ond mae EDF yn aros i'r prosesau hyn gael eu cwblhau yn y Cynulliad. Teimlaf ei bod hi'n iawn inni gydnabod hynny. Fe orffennaf fy sylwadau agoriadol yn y fan honno, ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

16:40

Rhoddodd David Rowlands grynodeb da iawn o'r hyn rydym wedi bod drwyddo. Yn fy marn i, nid oedd yn gorliwio pan ddywedodd nad oedd yna gyd-weld rhwng y deisebwyr ac EDF. Rwy'n credu eu bod, mae'n debyg, wedi dechrau ymhell iawn oddi wrth ei gilydd a heb ddod fodfedd yn agosach yn ystod yr holl drafod a gafwyd.

Fe ddechreuaf gyda safbwynt EDF. Maent yn dweud eu bod yn un o nifer o gwmnïau dros sawl degawd a fu'n carthu gwaddodion ym Môr Hafren ac yn ei ollwng mewn safleoedd gwaredu trwyddedig yn Cardiff Grounds. Maent yn dweud bod y gwaddodion y maent yn eu carthu ym Môr Hafren yn nodweddiadol o'r gwaddodion a welir yn unrhyw le ym Môr Hafren, ac fel y cyfryw nid yw'n wahanol i'r gwaddodion a geir eisoes yn Cardiff Grounds. Maent yn dweud nad yw'r gwaddodion yn ymbelydrol yn llygad y gyfraith ac nad yw'n fygythiad i iechyd dynol na'r amgylchedd. Ac maent yn dweud bod y gwaddodion wedi'u profi gan y corff annibynnol CEFAS yn 2009, 2013 a 2017, gan gynnwys samplu cynhwysfawr ar ddyfnder.

Nid oes unrhyw gwestiwn ynghylch uniondeb ac annibyniaeth y profion a gynhaliwyd gan CEFAS, sy'n gwneud gwaith o'r safon uchaf yn rhyngwladol, ac mae'n un o asiantaethau gweithredol DEFRA. Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru y sampl ddiweddaraf gan CEFAS ym mis Rhagfyr 2017. Ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr annibynnol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar 27 Mawrth 2018 daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd y gwaddodion yn peri unrhyw risg i iechyd dynol nac i'r amgylchedd. Y farn gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mawrth 2018 oedd bod y gwaddodion o'r safleoedd a garthwyd wedi'u profi'n drylwyr gan arbenigwyr annibynnol ac nad yw'r deunydd a garthwyd yn creu risg i bobl, yr amgylchedd na'r bywyd gwyllt sy'n byw yno.

Wrth gwrs, mae etholwyr wedi mynegi pryderon a gwneud llawer o sylwadau, ac mae un pwynt yn ymwneud â'r samplau a'r dadansoddiadau diweddar y cyfeiriwch atynt. Cafodd ei ddwyn i fy sylw nad yw o reidrwydd yn sefydlu diogelwch deunydd carthu dwfn. Felly, o'ch ystyriaethau fel aelod o'r pwyllgor sy'n derbyn tystiolaeth, tybed a ydych yn credu bod angen gwneud gwaith samplu pellach ar waddodion dwfn?

'Ydw' yw'r ateb. Fe ddof at hynny mewn ychydig eiliadau, ond ydw, rwy'n credu hynny'n gryf. Fe orffennaf y rhan gyntaf.

O ystyried yr ymbelydredd sy'n digwydd yn naturiol, a'r ymbelydredd artiffisial, mae'r lefelau mor isel fel nad ydynt yn peri unrhyw berygl i iechyd dynol nac i'r amgylchedd—dyna farn EDF.

Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Jane Hutt, pam fod yna broblem? Dywedwyd wrthym fod y cyfan yn ddiogel ac nad oes unrhyw broblemau. Pam y mae fy etholwyr yn cysylltu â mi? Rwy'n siŵr fod eu hetholwyr yn cysylltu â Jane Hutt ac eraill sy'n cynrychioli'r ardal o amgylch Caerdydd. Pam yr ydym yn trafod hyn heddiw os yw'n gwbl ddiogel? Mae llawer o aelodau o'r cyhoedd heb eu hargyhoeddi, ac nid yn unig y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb. Mae llawer o bobl wedi dod ataf ar y stryd a gofyn i mi am y peth. Mae pobl yn siarad â mi am y peth pan fyddaf yn mynd allan. Mae'n fater o bryder cyffredinol fod mwd yn cael ei gario o Hinkley Point gyferbyn a'i gludo yma. Mae EDF wedi dweud yr holl bethau hyn wrthym ynglŷn â pha mor ddiogel ydyw, ond mae pobl yn amheus. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl rwyf wedi cyfarfod â hwy heb eu hargyhoeddi. Mae ganddynt bryderon ynglŷn â symud y mwd.

Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn, a'r hyn rwyf wedi gofyn yn y Pwyllgor Deisebau—. Rydym wedi cael pob un o'r grwpiau hyn gyda'i gilydd, CEFAS, Cyfoeth Naturiol Cymru, EDF, oll yn cytuno ar hyn. Yr hyn a ofynnais yn y Pwyllgor Deisebau, a'r hyn rwy'n ei ofyn yma, yw: a ellir rhyddhau'r data i academyddion? A allwn gael asesiad o'r mwd gan academyddion? A ellir casglu samplau yn unol â chais yr academyddion? Mae gan bobl fwy o ffydd mewn academyddion nad oes ganddynt ddim i'w ennill drwy edrych ar y pethau hyn, nag sydd ganddynt yn asiantaethau swyddogol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain. Efallai fod hynny'n annheg â'r asiantaethau swyddogol, efallai ei fod yn angharedig i'r asiantaethau swyddogol, ond dyna yw barn fy etholwyr ac etholwyr pobl eraill: byddent yn hoffi i rywun o'r tu allan ddod i gael golwg arno.

Os yw'n ddiogel, yna rhaid cyflawni'r uchod er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd. Os nad yw'n ddiogel, ni ddylai ddod yma. Ni allwn ddatrys hyn heddiw—rydym yn mynd i gael dadl a thrafodaeth yn ei gylch, dyna i gyd—ond mae'n gwestiwn gwyddonol; mae'n galw am ateb gwyddonol, mae angen i bobl ei brofi. Mewn iaith academaidd, mae'n galw am adolygiad gan gymheiriaid.

A gaf fi annog y cwmni i gynnal adolygiad academaidd gan gymheiriaid o'r data a'r fethodoleg a bod unrhyw samplau ychwanegol y gofynnir amdanynt gan yr academyddion yn cael eu darparu? Credaf mai'r unig beth sy'n mynd i dawelu meddyliau fy etholwyr, ac etholwyr pobl eraill rwy'n siŵr, ei fod yn ddiogel yw bod academyddion allanol nad ydynt yn rhan o'r hyn yr oedd un o'r bobl a ddaeth i'n gweld yn eu hystyried yn grŵp bach o bobl sydd i gyd yn gweithio'n agos gyda'i gilydd—. Dywedodd un o'r bobl a ddaeth fod pobl yn symud o gwmpas mewn swyddi rhwng y tri sefydliad. Maent eisiau pobl nad oes ganddynt fuddiant yn hyn, pobl y teimlant y gallant ymddiried ynddynt. A'r unig ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy gael academyddion allanol, felly hoffwn annog EDF o ddifrif i gynnwys yr academyddion. Maent yn dweud nad oes dim i'w guddio—gadewch i ni brofi hynny.

16:45

Hoffwn ddiolch i David Rowlands a'i Bwyllgor Deisebau am eu diwydrwydd yn eu gwaith ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Tim Deere-Jones a aeth i'r drafferth i fy nghyfarfod a darparu gwybodaeth i mi ynglŷn â'r ymgyrch.

Fel Mike, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac wrth gwrs, rydym wedi trafod y materion hyn a chael tystiolaeth. Hefyd, rydym yn dwyn Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrif ac rydym wedi trafod y materion hyn gyda hi.

Safbwynt Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac EDF Energy, y cwmni, fel y gallech ddisgwyl, yw nad oes unrhyw anhawster yma o ran diogelwch y gwaith a wneir. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar 29 Medi, a dyfynnaf:

mae'n bwysig nodi nad trwydded ar gyfer gwaredu gwastraff niwclear yw hi. Y deunydd a drwyddedwyd ar gyfer ei waredu yw gwaddodion a garthwyd o aber afon Hafren.

Diwedd y dyfyniad. Ac nid wyf yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt o gwbl. Nododd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn hyderus ynghylch cymhwysedd CEFAS ac yn credu

nad oes angen ystyried atal y drwydded.

Dyna ddyfyniad uniongyrchol eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw asesiad CEFAS wedi mynegi unrhyw bryderon, ac rwy'n dyfynnu, 'ynghylch lefel yr halogiad radiolegol'. Yn wir, dywedasant fod yr hyn a oedd yn bresennol yn cyfateb i fwyta 20 banana y flwyddyn, 10,000 gwaith yn llai na'r dos blynyddol y mae peilot awyrennau yn ei gael a 750 yn llai na'r dos cyfartalog y mae un o breswylwyr Sir Benfro yn ei gael yn sgil radon. O ganlyniad, gwelwyd bod ymbelydredd mor isel fel ei fod yn cyfateb i beidio â bod yn ymbelydrol yn ôl y gyfraith—a phob un o'r rhain drwy fethodolegau rhyngwladol trylwyr.

Nawr, os oes gennym broblem ehangach—

Un eiliad. Rwy'n credu bod gennym broblem ynglŷn â dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion hyn a'r ymgysylltiad â'r cyhoedd, ac rwyf am roi sylw i hynny. Ond os ydym yn mynd i sathru ar draws safonau gwyddonol sefydledig a dderbynnir yn rhyngwladol, fel y cânt eu harfer gan wladwriaethau ledled y byd, yna rydym mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i gofio hynny.

Fe ildiaf, os ydych yn dal i fod eisiau ymyrryd.

Ydw, rwy'n gwneud cymhariaeth, mewn gwirionedd, rhwng yr hyn sydd wedi digwydd yn Kosovo, gyda'r mwd yno, o ganlyniad i'r arfau a ddefnyddiwyd, lle y gwnaed prawf sbectrometreg pelydr gama, sbectrometreg alffa a hefyd sbectrometreg màs plasma. Yn anffodus, y cyfan y mae EDF wedi'i wneud yw un yn unig o'r rheini, felly mae sawl plwtoniwm sy'n amhosibl eu canfod gyda'r profion y mae EDF wedi'u cynnal—sbectrometreg alffa yn unig a wnaethant.

16:50

Wel, fy nealltwriaeth i o'r dystiolaeth yw y gallai'r fethodoleg honno a dderbynnir yn rhyngwladol fod wedi canfod yr angen i edrych yn benodol am yr halogion eraill y cyfeirioch chi atynt. Ac rydych wedi dweud hynny ar goedd, a mater i eraill yn awr yw tynnu sylw at dystiolaeth os yw'n bodoli.

A gaf fi ddweud ein bod eisoes wedi clywed bod y data ar gael i'r ymgyrchwyr? Nawr, rwy'n deall bod yna broblem ynghylch astudio'r data hwnnw oherwydd problemau meddalwedd, ond—

Un eiliad. Ond ni ellir herio tryloywder sylfaenol rhannu'r wybodaeth. Unwaith eto, credaf y dylem wneud rhywbeth i sicrhau y gellir ei ddehongli wedyn gan amrywiaeth mor eang o bobl ag sy'n awyddus i edrych ar y mater, ond nid yw'n weithdrefn gaeedig.

Gwn fod gennych ddiddordeb mawr iawn yn y mater hwn ac y byddwch yn gwneud eich cyfraniad eich hun, ond os ydych am ymyrryd eto, dyma'r tro diwethaf.

Diolch i chi, ond o ran tryloywder, ni throsglwyddwyd y data crai; cafwyd gwared arno. Mae hynny'n ffaith.

Wel, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgyrchwyr wedi cydnabod ei fod wedi'i drosglwyddo i'r ymgyrchwyr. Nawr—fel y dywedais, rwy'n deall y problemau. Gwn fod yr amser bellach yn rhuthro yn ei flaen a rhaid imi wneud rhai pwyntiau hanfodol, oherwydd cafwyd trafodaeth am y fethodoleg. Nid wyf yn wyddonydd niwclear—nid wyf yn wyddonydd o unrhyw fath, oni bai eich bod yn cyfrif gwyddor gwleidyddiaeth fel gwyddoniaeth, ac nid wyf yn siŵr y buaswn i. Ond credaf mai'r pwynt sydd angen inni edrych arno yw hwn: a yw'r safonau a dderbynnir yn rhyngwladol yn gadarn? Ac os nad ydynt, mae angen i chi ddangos tystiolaeth gref iawn o hynny, oherwydd fel arall ychydig iawn y gallwn ei wneud yn y Siambr hon y gallwn gael hyder ynddo os ydym yn mynd i gael ymagwedd mor amheus tuag at y data sydd ar gael. Ond wyddoch chi, mae fy meddwl yn agored ac os gall pobl ddangos bod problemau gyda'r fethodoleg yna wrth gwrs dylem edrych arnynt.

Y mater ynghylch dadansoddi deunydd ar ddyfnder—credaf yn sicr y byddai wedi rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd pe bai hyn wedi'i wneud, a gofynnwyd amdano a chredaf fod y rhai sydd am fwrw ymlaen â'r drwydded hon wedi colli cyfle i dawelu meddyliau. Gwnaethant hynny ar y sail nad oedd yn angenrheidiol yn wyddonol, ac ni heriwyd hynny gan rai fel Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y clywsom. Ond credaf fod gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith ddyletswydd i ystyried sut y mae'r cyhoedd yn debygol o ymateb a dehongli camau o'r fath.

Ac ar fater y data a'r fethodoleg a ddefnyddir, unwaith eto, rwy'n credu mai mater i'r cwmnïau sy'n rhan o hyn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yw helpu pobl i ddehongli'r materion hyn mewn ffordd y gallant ei defnyddio i seilio casgliadau teg arnynt, gan gofio nad ydynt yn arbenigwyr chwaith, neu'r rhan fwyaf ohonynt, ac mae'r pethau hyn yn cael effaith fawr.

A gaf fi gloi, Lywydd, drwy ddweud fy mod yn credu bod y deisebwyr wedi cyflawni gwasanaeth cyhoeddus gwych yma i'r graddau ein bod yn trafod hyn? Rydym yn sicr wedi craffu ar yr holl fater hwn yn llawer mwy manwl nag y byddem wedi'i wneud fel arall. Credaf felly ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod gwerth y grwpiau dinesig hyn sy'n rhoi llawer o amser ac ymdrech i edrych ar y materion hyn. Ac rwy'n sicr yn agored i unrhyw dystiolaeth newydd os daw ger bron, ond ar hyn o bryd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnaf i ddweud, o ran fy archwiliad o'r materion hyn, eu bod yn bodloni'r safonau a osodwyd yn ôl normau rhyngwladol, a hyd nes y gwelaf dystiolaeth i'r gwrthwyneb, credaf fod yn rhaid inni gamu ymlaen ar y sail fod y materion hyn wedi'u profi'n llawn yn wyddonol ac y gallwn fod â hyder yn y drwydded a roddwyd. Diolch i chi.

Mi siaradaf innau yn fyr am y gwaith a wnaed gennym ni fel pwyllgor. Rydw i'n ddiolchgar i'r clercod a'r tîm am eu gwaith yn tynnu'r adroddiad at ei gilydd, a gwneud hynny mewn amser digon byr. Mae'n bwysig rydw i'n meddwl ein bod ni'n cofio beth oedd yr amserlen yna. Mi gafodd y drwydded ei chymeradwyo nôl yn 2014 yn dilyn cais ddwy flynedd cyn hynny, os ydw i'n cofio yn iawn, ond ddaeth hyn ddim at sylw y cyhoedd, yn eang beth bynnag, tan yr hydref y llynedd, efo'r gwaith i fod i ddechrau ar symud y mwd o fewn mater o wythnosau o rŵan. Ond nid ydy'r ffaith nad oedd y pryderon wedi cael eu codi tan yn hwyr yn y broses yn gwneud y pryderon yna yn llai dilys. A dyna oedd fy mhwynt cychwyn i wrth ystyried y mater yma.

Rydw i yn llongyfarch yr ymgyrchwyr am fanylder fforensig y dystiolaeth a'u dadansoddiad nhw o'r dystiolaeth a oedd ganddyn nhw, a'r dystiolaeth rhoddon nhw i ni fel pwyllgor oedd yn gyfraniad mawr, mawr at ein gwaith ni ac rydw i'n gobeithio bod y dystiolaeth yna'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad gafodd ei grynhoi gan y Cadeirydd.

Rŵan, canlyniad y gwaith a wnaethom ni—ar y lleiaf, roeddwn i'n ei feddwl—oedd bod yna le i wneud gwaith pellach a chynnal ymchwiliadau pellach er mwyn rhoi sicrwydd i bobl bod yr holl wybodaeth bosib gennym ni, a bod yr wybodaeth yna hefyd wedi cael ei chyflwyno yn gyflawn. Mae yna drafod wedi bod ynglŷn a natur y wybodaeth a pha mor hygyrch oedd yr wybodaeth yna. Mi wnes i'r awgrym y gallai rhagor o brofion gael eu cynnal, yn enwedig ar ddyfnder, oherwydd bod yna bryder am hynny. Beth ddywedodd CEFAS oedd hyn:   

Os yw hynny'n ofyniad i dawelu'r canfyddiad cyhoeddus, byddem yn hapus iawn i wneud hynny... Gallwn ei wneud yn fwy tryloyw o ran sut y gwneir yr asesiad hwnnw.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Os oedden nhw'n cynnig bod yna ffordd mwy tryloyw i wneud yr asesiadau, mi ddylid bod wedi manteisio ar y cyfle yna, rydw i'n meddwl, i chwilio am ffordd i symud ymlaen yn y ffordd mwyaf tryloyw posib.

Mi wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ddweud ar 30 Ionawr eu bod nhw wedi gofyn i ddeiliad y drwydded ystyried cynnal rhagor o waith samplo dwfn gwirfoddol. Ar 27 Mawrth, serch hynny, mi wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru roi gwybod i ni fel pwyllgor bod deiliad y drwydded wedi gwrthod y syniad. Rŵan, rydw i'n gwerthfawrogi ac yn clywed yr hyn a ddywedodd David Melding, bod deiliad y drwydded yn dadlau, ac wedi dadlau'n gyson, nad oes yna ddadl wyddonol dros wneud rhagor o brofion—eu bod nhw â hyder yn y wyddoniaeth. Ond, efo mater mor ddadleuol, mi fuasai rhywun yn dychmygu y byddai deiliad y drwydded wedi croesawu y cyfle i weithredu mor agored â phosib. Mi oedd yna ffenest yn agored ar gyfer gwneud gwaith profi pellach; mi ddylid, rydw i'n meddwl, bod wedi manteisio ar hynny.

Dau bwynt terfynol: mi oeddwn i hefyd yn gresynu at y ffaith bod Cyngor Caerdydd, rydw i'n meddwl, wedi dewis peidio â gwthio am brofion ychwanegol. Mae yna bryder gwirioneddol gan lawer o bobl ynglŷn â hyn ac os oedd yna fodd i ymateb i'r pryderon hynny mewn unrhyw ffordd mi ddylid bod wedi chwilio am gyfle i wneud. Rydw i'n meddwl y byddai angen i sawl partner allweddol weithio ar y cyd i wthio am brofion ychwanegol ac mi oedd penderfyniad Cyngor Caerdydd o bosib yn gwanhau y gobeithion yna. 

Yn olaf un te, nid oes yna ddim byd yn dod i Gymru o'r cytundeb yma i roi 200,000 metr ciwbig o fwd Hinkley yn ein dyfroedd ni. Mae hynny, i fi, yn codi cwestiynau sylfaenol. Mi gaiff fy nghyd-Aelod Simon Thomas fanylu rhagor ar hynny mewn ychydig funudau gobeithio.  

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd llawer o bobl, ceir cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn. Tystiolaeth o hynny yw'r 7,000 a mwy o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn trafod y pwnc hwn heddiw yma yn y Cynulliad.

Efallai fod gwybodaeth y cyhoedd am y wyddoniaeth sy'n sail i hyn yn gyfyngedig, ond mae'n rhaid inni dawelu ofnau'r cyhoedd a rhaid cael proses dryloyw ac mae'n rhaid iddi fod yn fwy tryloyw na'r hyn a gawsom hyd yma, rwy'n credu. Rydym yn gynyddol yn byw mewn byd o arbenigwyr. Mae'r arbenigwyr hyn yn meddu ar dystysgrifau ac mae ganddynt lythrennau ar ôl eu henwau, ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid wyf yn amau nad yw'r arbenigwyr hyn yn meddu ar lawer o wybodaeth, ond rhaid inni sicrhau nad ydym, fel cymdeithas, yn llithro i fod yn dechnocratiaeth. Mae angen i arbenigwyr sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion sydd â budd cyhoeddus ehangach gael eu dwyn i gyfrif gan y cyhoedd.

Mae angen i benderfyniadau sy'n mynd i gael effaith gyhoeddus fawr fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae angen i gwmnïau mawr, ac yn enwedig cwmnïau cyfleustodau cyhoeddus fel EDF, sicrhau bod eu gweithdrefnau'n dryloyw. Yr hyn y mae'r ddeiseb i'w gweld yn canolbwyntio arno yw profion ac ansawdd trefniadau profi EDF. Nawr, mae EDF yn dweud bod eu gweithdrefnau'n iawn, ond maent yn gwmni masnachol, felly fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent? Yr hyn y mae'n ymddangos y mae'r deisebwyr ei eisiau yw trefniadau profi sy'n fwy tryloyw.

Hyd yn hyn nid ydym wedi cael asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae Mike Hedges, sy'n gwybod llawer mwy am y wyddoniaeth sy'n sail i hyn na mi mae'n debyg yn sôn am adolygiad academaidd annibynnol, a'r annibyniaeth, fel y dywedodd, yw'r ffactor hollbwysig. Credaf fod y rhain yn bethau cwbl resymol i ofyn amdanynt, hyd yn oed os mai eu hunig bwrpas yw tawelu meddyliau ac ofnau gwirioneddol perffaith ddealladwy y cyhoedd. Daeth dau o fy etholwyr—wel, ni ddaethant ataf ar y pwynt hwn, rhaid imi gytuno, ond fe sonion nhw am y mater hwn ac roedd hyn lawer o wythnosau yn ôl, fisoedd yn ôl efallai. Roedd geiriad yr hyn a ddywedasant wrthyf rywbeth yn debyg i, 'Beth yw hyn oll am y slwtsh niwclear y maent am ei ollwng i Fôr Hafren?' Wel, nid wyf yn gwybod a yw 'slwtsh niwclear' yn derm cywir o unrhyw fath. Fel y dywedodd David Melding, nid wyf yn wyddonydd, ond mae'n arwydd o bryder y cyhoedd ynglŷn â hyn. Mae EDF yn dweud eu bod wedi bod yn defnyddio Cardiff Grounds ar gyfer gollwng deunydd carthu ers blynyddoedd, ond nid wyf yn credu mai'r math hwn o ddeunydd ydoedd. Ai tomen gwbl ddiniwed o fwd yw'r deunydd hwn? A yw unrhyw beth yn debyg i slwtsh niwclear? Nid wyf yn gwybod, ond mae angen i'r cyhoedd wybod ac mae angen inni gael rhyw fath o adolygiad annibynnol. Diolch i chi.

17:00

Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad yn y ddadl hon, a diolch yn fawr iawn i'r deisebwyr am dynnu fy sylw at y pwyntiau pwysig hyn. Nid wyf ar y pwyllgor hwn, felly nid oeddwn yn bresennol i glywed rhai o'r trafodaethau hyn yn fanwl, ond yn sicr mae llawer o bobl yn fy etholaeth a deisebwyr gwahanol wedi ei ddwyn i fy sylw.

Mewn cyfraniad gweddol fyr, yr hyn yr hoffwn ei ddweud mewn gwirionedd yw fy mod yn teimlo bod yna bryder dwfn ynghylch hyn ac nad yw pobl wedi'u calonogi gan yr ymatebion a gawsant gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chan asiantaethau eraill. Mae'n ymddangos i mi yn bwysig iawn ein bod yn gwneud cymaint a allwn i sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd yn y gwaddodion sy'n cael ei ollwng mor agos atom yma yng Nghaerdydd. Felly, buaswn yn sicr yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Deisebau y dylid cael rhagor o samplau, a buaswn yn cefnogi cyfraniad Mike Hedges hefyd, oherwydd credaf mai ein dyletswydd pennaf yw cadw ein poblogaeth yn ddiogel ac y dylem wneud pob dim a allwn i sicrhau bod popeth y gallwn ei wneud yn cael ei wneud.

Rwy'n credu y byddai ymchwil academaidd annibynnol yn ffordd ymlaen. Yn sicr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd David Melding—fod yn rhaid i chi gael ymddiriedaeth ar ryw bwynt yn yr hyn y bydd asiantaethau yn ei ddweud sy'n rhoi barn wyddonol annibynnol go iawn—ond nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd ein bod ar y cam hwnnw o'r hyn a glywais. Credaf fod yna achos clir dros gasglu samplau pellach, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd.

Diolch. Janet—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad â'r oriel gyhoeddus? Mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych eich bod yn cymryd diddordeb, ond os gwelwch yn dda, ni chewch weiddi. Nid oes ots gennyf eich bod yn curo dwylo, ond ni allwn gael unrhyw weiddi gan fod hynny'n amharu ar ein trafodion. Felly, mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych fod gennych ddiddordeb mawr yn hyn, ond os gwelwch yn dda peidiwch ag amharu ar ein trafodion. Janet Finch-Saunders.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod hyn wedi gwneud ei ffordd i ddadl yma yn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oherwydd, fel y nodwyd, cafwyd 7,171 o lofnodion ar y ddeiseb hon. Nawr, rwy'n gwybod ei fod wedi'i ddweud nad ydym yn wyddonwyr amgylcheddol na'n wyddonwyr amgylcheddol morol. Rwy'n Aelod Cynulliad, ond rwyf yno i gynrychioli fy etholwyr. Rwyf hefyd, yng ngwaith mwy corfforaethol y Cynulliad hwn, oherwydd fy aelodaeth o'r pwyllgor, yno i gynrychioli unrhyw etholwr y teimlaf fod ganddynt ystyriaethau dilys a chyfiawn sy'n galw am ystyriaeth. Rwyf wedi bod braidd yn siomedig gan ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r pwyllgor hwn a'u hamharodrwydd, mewn rhai ffyrdd, i ni gael y wybodaeth wedi'i darparu ar ein cyfer fel y gallem lunio adroddiad a oedd yn seiliedig i'r graddau sy'n bosibl ar dystiolaeth go iawn.

Nawr, cyhoeddwyd y drwydded forol ar gyfer gwaredu gwaddodion carthu fel rhan o'r gwaith o adeiladu system ddŵr oeri ar gyfer gorsaf bŵer newydd Hinkley Point C gan Cyfoeth Naturiol Cymru i NNB GenCo, is-gwmni i EDF. Galwai'r ddeiseb am atal y drwydded o dan adran 72 neu adran 102 o Ddeddf y môr, gan ddadlau nad yw'r risgiau amgylcheddol na'r risgiau i iechyd dynol wedi'u hymchwilio'n ddigonol a bod y data a ddefnyddiwyd i ddadansoddi'r rhain yn anghyflawn. Wrth benderfynu ar gais am drwydded forol, mae adran 69 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddau gategori risg gael eu hystyried yn llawn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r pwerau dros gyhoeddi'r drwydded hon a'i gorfodi ers iddynt gael y pwerau hyn ym mis Ebrill 2013. Fodd bynnag, gwnaed y ceisiadau cychwynnol i Lywodraeth Cymru cyn hyn, ac er gwaethaf yr hyn y byddai llawer yn ei gredu a fyddai'n rhesymau clir dros wneud cais am un, ni ofynnwyd am asesiad annibynnol o'r effaith amgylcheddol ar y pwynt hwn.

Ymhlith y materion pellach a godwyd gan y deisebydd y mae methodoleg y profion, eu cwmpas a phryderon ynghylch y safle gwaredu. Wrth ystyried y ddeiseb hon, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd, EDF energy, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu—CEFAS—a gynhaliodd y profion ar y samplau, ac yn fuan daeth yn amlwg i mi fod y samplu wedi digwydd; roedd y cwestiwn a'r pryder yn ymwneud â dyfnder y samplau a gasglwyd. Rwy'n deall—nid wyf yn gwybod a allwch gadarnhau, Neil—fod y dystiolaeth y buom yn chwilio amdani wedi'i chasglu yn 2009 mewn gwirionedd, ac mae hi bellach yn 2018, ac mae'n fy ngofidio y byddai cwmnïau o'r maint hwn yn poeni ynglŷn â mynd yn ôl a gwneud rhagor o samplu.

Ceir anghydfod cyffredinol rhwng y deisebydd a CEFAS ynglŷn â pha mor ddigonol oedd y profion a wnaed. Cynhaliwyd profion yn 2009, 2013 a 2017, ond unwaith eto, rwy'n dychwelyd at y dyddiad cynharach am y dyfnder. Fodd bynnag, mae'r deisebydd, ynghyd â Cyfeillion y Ddaear Barri a'r Fro, wedi mynegi pryderon mawr ynglŷn â'r mathau a'r niferoedd o radioniwclidau a gofnodwyd. Cafodd hyn ei addef gan CEFAS mewn perthynas â radioniwclidau pelydr gama, a nodwyd ganddynt nad oeddent ond wedi cofnodi'r tri a oedd wedi dychwelyd canlyniadau uwch na'r trothwy isaf, ond eu bod yn derbyn y pwynt, yn y dyfodol, y gallent ei gwneud yn fwy clir wrth adrodd a chofnodi pa rai a oedd hefyd yn bresennol ond yn is na'r terfynau dadlennu swyddogol.

Yn ogystal, fel rydym wedi sôn, mynegwyd pryderon mewn perthynas â radioniwclidau sy'n allyrru alffa a beta yn hytrach na gama y cadarnhaodd CEFAS na wnaethant brofion pellach arnynt o ystyried bod asesiad haen gyntaf generig wedi dynodi bod y dosau yma gryn dipyn yn is na'r terfynau a argymhellir yn rhyngwladol. Testun pryder yn fy marn i yw'r ffaith bod deiliad y drwydded, ym mis Ionawr eleni, wedi gwrthod ymgymryd â rhagor o waith samplu a phrofion ar ddyfnder yn dilyn cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, maent yn cynrychioli'r Llywodraeth ac maent yn cynrychioli ein pobl. Gwnaed y cais hwn yn sgil galwad gan y pwyllgor ac o ganlyniad i bryderon y deisebwr nad oedd digon o samplau wedi'u casglu. Ymhellach, codwyd mater halogion cemegol eraill o fewn y gwaddodion, ac roeddwn i yn bendant yn bryderus i nodi bod EDF wedi cofnodi bod y rhai ar safle carthu Hinkley yn uwch na lefel gweithredu 1 CEFAS, felly o fewn y cwmpas ar gyfer cynnal ymchwiliadau pellach. Mae hyn yn gyfystyr â 'thramgwydd eithaf bach', yng ngeiriau EDF, ac eto mae Cyfeillion y Ddaear Barri a'r Fro yn awgrymu na roddwyd unrhyw ystyriaeth bellach i'r halogion hyn.

Ddirprwy Lywydd, darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru sicrwydd na fyddent yn rhoi cymeradwyaeth i'r drwydded oni bai eu bod yn gwbl fodlon fod y deunydd yn addas ar gyfer ei ollwng, ac eto, er gwaethaf y pryderon cyhoeddus amlwg iawn ynglŷn â'r mater, gan ein cynnwys ni fel Aelodau'r Cynulliad, cymeradwywyd amod 9.5 yn y drwydded forol yn ffurfiol ganddynt ym mis Mawrth eleni. Felly hoffwn gefnogi galwadau gan Mike Hedges AC, a Julie Morgan yn ogystal, i geisio defnyddio adran 102 o Ddeddf y môr i oedi'r drwydded hon hyd nes y bydd rhagor o brofion digonol wedi'u gwneud ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn wedi'i gyflawni. Os  nad oes gan y cwmnïau hyn unrhyw bryderon, os ydynt am adfer ymddiriedaeth y cyhoedd—

17:10

—yn y cais hwn, ac os ydynt am adfer ymddiriedaeth y Pwyllgor Deisebau a rhai o'n Haelodau Cynulliad, credaf ei bod yn ddyletswydd arnynt i wneud rhagor o brofion.

Rydw i’n siarad i ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud gan Rhun ap Iorwerth a rhai pobl eraill yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r deisebwyr a hefyd y Pwyllgor Deisebau am adroddiad manwl iawn ar y materion hyn, ac rwy’n cyfeirio hefyd at yr ohebiaeth sydd wedi bod gan y pwyllgor newid hinsawdd i’r Gweinidog ar y materion hyn hefyd.

Rydw i jest eisiau dechrau gyda’r ffaith nad yw’r ddadl yma, er mor bwysig yw hi yn y Cynulliad, yn gallu newid y drwydded yma. Dyma drwydded sydd wedi’i hawdurdodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae hawl gan y Gweinidog i ymyrryd yn y broses yma, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn gwneud yr hyn mae hi’n teimlo sydd yn briodol.

Rydw i eisiau siarad am rywbeth sydd ddim wedi cael ei grybwyll hyd yma, sef y ffaith bod cyn lleied o reolaeth gyda ni dros ein hadnoddau naturiol ni, bod yn rhaid inni dderbyn y mwd yma, y llaid yma, beth bynnag yw e, o ochr arall Afon Hafren, i gael ei roi ym Môr Hafren ar ochr Cymru. Mae’n tanlinellu cyn lleied o rym sydd gyda ni, a dweud y gwir, ac mae deisebwyr wedi gwneud ffafr fawr â’r Cynulliad hyd yn oed jest i danlinellu hynny. Pe byddai hwn yn digwydd ar dir mawr, pe na fyddai hwn yn digwydd yn y môr, byddai gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid yn fanna ddiddordeb mawr yn y pwnc dan sylw, achos mae unrhyw un sydd yn cael gwared ar bridd yn y modd yma yn gorfod talu treth gwarediadau tirlenwi Cymru—treth newydd wedi’i sefydlu o dan yr awdurdod cyllid newydd. Byddai unrhyw beth o ran datblygu ac adeiladu ar y tir yn golygu bod yn rhaid ichi dalu am gael gwared ar wastraff fel hyn. Ac mae’n rhan o egwyddorion sylfaenol cyfraith amgylcheddol sydd gyda ni—y sawl sy’n llygru sydd yn talu. Mae honno’n un ohonyn nhw.

Y ffaith yw ein bod ni’n rhannu cyfrifoldeb dros Fôr Hafren gyda Lloegr, felly mae yna gyfrifoldeb ar y cyd y dylem ni ysgwyddo, wrth gwrs, wrth edrych ar ôl beth sydd yn ardal o gadwraeth arbennig, sydd heb gael ei grybwyll hyd yma yn ogystal. Ac felly, i fi, mae yna egwyddor sylfaenol fan hyn. Pam nad ydym yn ymwneud â’r môr a defnyddio tirlenwi yn y môr, i bob pwrpas, yn yr un modd ag yr ydym yn defnyddio tirlenwi ar y tir mawr? Ac mae yn tanlinellu pa mor ddiffygiol mae’r holl broses wedi bod, bod rhywbeth yn cael ei allanoli i gorff o dan Lywodraeth Cymru—corff a oedd newydd ei sefydlu ar y pryd—heb atebolrwydd democrataidd i’r penderfyniad hwnnw. Yn hynny o beth, rydw i’n ategu’r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud.

Felly, mae'n ddeiseb wirioneddol bwysig, rwy'n credu, oherwydd gan roi mater ymbelydredd i'r naill ochr, a byddaf yn ymdrin â hynny mewn eiliad, mae'r mater hanfodol hwn yn un sy'n ymwneud â diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, a chael ein gorfodi, i bob pwrpas, i gymryd sbwriel gorsaf niwclear newydd—yn bersonol, rwy'n yn ei gwrthwynebu, ac felly'n amharod braidd i'w gymryd beth bynnag—ond heb unrhyw reolaeth ar sut y gwnawn y penderfyniadau hynny yma yn ein Cynulliad. Mae'r peth wedi tanlinellu go iawn pa mor anodd yw hi i weithredu rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd. Mae'n tanlinellu go iawn cyn lleied o reolaeth sydd gennym dros ein hadnoddau naturiol ein hunain a diogelu cenedlaethau'r dyfodol.

Ond rwyf am gloi drwy ddweud hyn: yn fy marn i, mae hynny ynddo'i hun yn ddigon i fy mherswadio y dylem oedi o leiaf ar rywfaint o hyn hyd nes y byddwn yn deall yn well beth yw'r effaith ar ein hamgylchedd a chael gwell dealltwriaeth o'r profion y mae Aelodau eraill wedi galw amdanynt yma. Ond rwyf hefyd am ddweud hyn: credaf ei bod hi'n bwysig iawn pan fyddwn yn trafod y materion hyn nad ydym yn sôn am bethau nad ydynt yn bodoli. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y mwd ei hun yn ymbelydrol neu'n beryglus, ac nid yw hynny'n rhywbeth rwyf wedi ei godi yn y Siambr hon. I mi, mae'n egwyddor hanfodol ynglŷn â phwy sy'n rheoli ein hadnoddau naturiol a phwy sy'n penderfynu beth sy'n digwydd yn nyfroedd Cymru. A dylai hynny fod yn benderfyniad i'r Senedd hon ac i'r Cynulliad etholedig hwn, nid penderfyniad ar gyfer cwango neu gorff allanol. Dyna fy nghwyn yma.

Rwyf hefyd am inni gael ymddiriedaeth yn ein sefydliadau mewn Cymru annibynnol, rhywbeth rwy'n awyddus i'w weld un diwrnod, ac ymddiriedaeth yn ein gwyddonwyr, ac ymddiriedaeth yn y modd y cyflawnwn y wyddor gyhoeddus yng Nghymru. Mae peth o'r ymddiriedaeth honno wedi'i cholli am nad oes digon o bobl wedi bod yn agored gyda'i gilydd, ond mae rhywfaint ohoni wedi'i cholli oherwydd bod pobl, pan fyddant yn gweld tystiolaeth nad ydynt yn ei hoffi, yn meddwl yn syml fod yna gynllwyn ar waith. Nid felly y mae. Yr hyn sy'n digwydd yma yw bod gennym sbwriel dadleuol gan orsaf niwclear ddadleuol, sy'n rhaid inni ei drin yn y modd mwyaf rhesymol a digyffro. Pwy sy'n penderfynu a yw'n cael ollwng yn nyfroedd Cymru? Ai cwmni preifat, neu wedi'i benderfynu gan gwango, neu ai'r Senedd hon? Rwy'n dweud mai'r Senedd hon ddylai gael penderfynu, ac rwy'n dweud y dylem wneud y penderfyniad hwnnw.

17:15

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad a'r 7,171 o bobl a lofnododd y ddeiseb ynghylch trwydded forol 12/45/ML. Fel y deisebwyr a miloedd o bobl eraill ledled Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am y cynlluniau gan y cwmni ynni niwclear Ffrengig i ollwng gwaddodion arbelydredig oddi ar ein glannau. Mae arfordir de Cymru yn ecosystem bwysig iawn—mae'n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna. Mae'r arfordir yn fy rhanbarth yn gartref i sawl un o draethau gorau'r byd. Dylem wneud popeth i ddiogelu'r rhan bwysig hon o'n hecoleg. Gwelsom drwyddedau'n cael eu rhoi i garthu tywod a ddinistriodd ein traethau, ac fe wnaethom ystyried y syniad o adeiladu fferm wynt enfawr ar y môr a oedd yn bygwth peryglu haid o lamidyddion, ac yn awr, maent yn fodlon caniatáu i 300,000 tunnell o waddodion o Loegr a allai fod yn ymbelydrol gael ei ollwng ychydig oddi ar ein harfordir.

Yn ôl deiliad y drwydded, gwnaed profion ar y gwaddodion o'r orsaf niwclear a barnwyd nad yw'n creu unrhyw fygythiad i fodau dynol ac nad yw wedi'i gategoreiddio'n ymbelydrol o dan gyfraith y DU, ond ceir pryderon nad oedd y fethodoleg ar gyfer y profion yn ddigon cadarn. Edrych ar y metr uchaf o waddodion yn unig a wnaeth y fethodoleg, ac ar ronynnau gama'n unig. Dengys ymchwil a gynhaliwyd mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w gweld ar ddyfnderau mwy nag 1 metr. Gwyddom hefyd fod yna 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau yn cael eu cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y gwnaed profion amdanynt.

Roedd yr arolygon o'r gwaddodion yn profi am lefelau caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na phrofwyd am y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn peri risg i iechyd dynol? Wrth gwrs eu bod, ond ni wnaed profion am y rhain, na'r 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol mewn deunydd a ollyngir o'r hen orsafoedd niwclear hyn.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylem fod yn mabwysiadu'r egwyddor ragofalus. Hyd nes y ceir arolwg diogelwch annibynnol sy'n drylwyr yn wyddonol ar y gwaddodion dylid atal y drwydded. Os yw'r adroddiad yn bendant o'r farn fod y gwaddodion yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, yna gellir ystyried rhoi trwydded. Ond tan hynny, mae perygl y gwnawn niwed difesur i'n hecosystemau, gan fygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd fel Rhosili a Bae'r Tri Chlogwyn.

Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru: mynnwch fwy o brofion, peidiwch â pheryglu ein traethau anhygoel, peidiwch â pheryglu ein bywyd gwyllt, rhowch Gymru yn gyntaf.

Mae yna bobl yn protestio y tu allan heddiw, a fi oedd yr unig Aelod Cynulliad yn bresennol. Gwn fod yr ymgyrchwyr yn siomedig iawn ynglŷn â hynny. Gyda'i gilydd, mae dros 100,000 o bobl wedi llofnodi deisebau amrywiol ynglŷn â hyn. Hoffwn ddechrau gyda ffaith ddigamsyniol, oherwydd drwy ganiatáu i 300,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i Hinkley Point gael ei ollwng yn nyfroedd Cymru, rydym yn galluogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Tsieina i adeiladu gorsaf niwclear.

Nawr, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu ynni niwclear yn llwyr, oherwydd os edrychwn ar hanes diweddar iawn—Fukushima, Chernobyl, ac ymhellach yn ôl, Three Mile Island—rydym bob amser yn cael clywed bod ynni niwclear yn ddiogel, ond mae'r damweiniau'n parhau i ddigwydd. Rwy'n falch o glywed bod yna wrthwynebiad gan Blaid Cymru i'r cynnig hwn heddiw. Rwyf hefyd yn fodlon ildio os yw Rhun ap Iorwerth, efallai, eisiau rhoi datganiad clir yn gwrthwynebu'r adweithydd niwclear newydd ar Ynys Môn. Na? Dyna—

17:20

Fi sy'n penderfynu pwy sy'n ildio a phwy sy'n derbyn ymyriadau. Parhewch gyda'ch araith, ac fe benderfynaf fi ynglŷn â'r ymyriadau.

Iawn. Wel, mae'n ffaith y bydd gollwng mwd yn caniatáu i'r orsaf niwclear gael ei hadeiladu, felly beth y mae Cymru yn ei gael o'r peth? Beth rydym yn ei gael o'r fargen hon? Yr ateb yw dim byd o gwbl—dim byd, nada, dim byd o gwbl. Felly, mae Lloegr yn gollwng ei mwd niwclear ar Gymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn—y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae bron â fy nharo'n fud. Sut y gellir caniatáu i hynny ddigwydd? Os yw mor ddiogel, gollyngwch ef yn afon Tafwys. Os yw ynni niwclear mor ddiogel, gosodwch yr adweithyddion hynny yn ne-ddwyrain Lloegr.

Nawr, gadewch i ni edrych—[Torri ar draws.] Llundain. Gadewch inni edrych ar yr egwyddor ragofalus, fel y crybwyllwyd yn gynharach, oherwydd yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, gellir defnyddio'r egwyddor ragofalus pan na wyddys beth yw'r risg yn llawn. Nawr, y gwir am y mater hwn yw nad oes neb—neb—yn y Siambr hon yn gwybod a yw'r mwd yn ddiogel. Nid oes neb yn gwybod. Mae'n werth ailadrodd bod y profion wedi'u gwneud o dan 5 cm, 300,000 tunnell o fwd, a phump—pump—sampl a gymerwyd yn 2009, a bod y data crai wedi'i waredu, fel y dywedais yn gynharach. Gwnaed profion gama yn unig. Erbyn hyn, mae gwyddonwyr yn dweud wrthyf nad yw rhai mathau o blwtoniwm yn allyrru gama. Ac os edrychwch ar Kosovo, y profion a wnaed yn y mwd yno—maent wedi gwneud tri math o brawf, sef sbectrometreg alffa, sbectrometreg màs plasma a'r un math o sbectrometreg a wnaed ar y mwd y tu allan i Hinkley Point. Felly, dylai'r hyn sy'n ddigon da i Kosovo fod yn ddigon da i Gymru.

Hefyd, os edrychwch ar y ffigurau yn y data a roddwyd o 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anghywir, yn syml iawn maent yn anghywir, oherwydd os edrychwch ar y data, mae yno mewn du a gwyn: ceir cynnydd yn yr ymbelydredd po isaf yr ewch. Os edrychwch ar y data o 2015 ymlaen, os cymhwyswch y gwahaniaeth, yna gallech fod yn cyrraedd uwchlaw'r terfynau diogel de minimis. Cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Medi, ac i fod yn berffaith onest, nid oeddent yn gallu rhoi'r nesaf peth i ddim atebion i'r cwestiynau a ofynnais. Nid oeddent yn gwybod dim am y drefn brofi ac nid oeddent yn gwybod dim ynglŷn â lle roedd y mwd yn mynd yn y pen draw. Mae'n warthus nad oedd gan yr asiantaeth sy'n gofalu am yr amgylchedd yng Nghymru unrhyw arbenigedd—unrhyw arbenigedd—yn y materion hyn. Os yw'r deunydd hwn yn beryglus—ac rwy'n dweud 'os' yw'n beryglus—bydd y gronynnau hynny'n teithio 10 milltir i mewn i'r tir—10 milltir i mewn i'r tir.

Felly, rwy'n credu ei bod yn rhesymol iawn—yn rhesymol—i ddweud, 'Ailbrofwch y mwd.' Bydd yn costio £100,000 i brosiect gwerth £40,000 miliwn. Mae'n beth cwbl resymol i'w ofyn, a gofynnaf i'r Gweinidog roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru atal y drwydded hyd nes y cynhelir ail brofion. Mae'n beth cwbl resymol i'w ofyn. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad a hefyd i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac rwy'n awyddus iawn i'r cyhoedd a'r Siambr hon gael tawelwch meddwl ynglŷn â'r mater hwn. Roeddwn yn croesawu'r adroddiad a nodai'r dystiolaeth sylweddol sy'n cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. Rwy'n nodi bod y pwyllgor wedi cynnal adolygiad trylwyr gyda chyrff cyflawni allweddol ac arbenigwyr drwy gydol y broses, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu morol yng Nghymru. Cyhoeddwyd y drwydded forol ganddynt ar gyfer gweithgaredd gwaredu ac maent yn dal i fod yn gyfrifol amdani, gan gynnwys sicrhau y cydymffurfir â'r amodau a osodwyd yn y drwydded.

Rhaid imi fod yn ymwybodol o rôl Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag apeliadau trwyddedu morol, ac fel y cyfryw, nid yw'n briodol imi wneud sylwadau ar fanylion penderfyniadau trwyddedu morol. Mae'r broses o benderfynu ar drwyddedau morol yn darparu ar gyfer asesiad trylwyr a chadarn o weithgareddau arfaethedig, gan gynnwys ystyried yr angen i warchod yr amgylchedd morol ac iechyd dynol. Gallaf sicrhau pawb: ystyrir yr holl geisiadau am drwydded forol yn unol â gofynion cyfreithiol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007—

17:25

A fyddech yn derbyn—dywedir wrthyf gan wyddonwyr; nid wyf yn wyddonydd—na fydd rhai mathau o blwtoniwm yn cael eu canfod gan y profion beta? Yn syml iawn, pam na chafodd sbectrometreg alffa ei wneud, a'r sbectrometreg màs plasma, fel yn Kosovo, ar y mwd?

Caf fy sicrhau bod CEFAS, a gynhaliodd yr asesiad hwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithio yn ôl y safon uchaf yn rhyngwladol, a dyna sy'n tawelu fy meddwl.

Croesewais yn fawr iawn sylwadau David Rowlands fod y pwyllgor wedi ceisio rhoi blaenoriaeth i dystiolaeth wyddonol ac osgoi codi bwganod a chamliwio, a dywedodd fod CEFAS, EDF a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dawel eu meddwl, unwaith eto, fod y profion yn cael eu cynnal yn ôl y safon uchaf yn rhyngwladol. Dengys y dystiolaeth yn yr adroddiad fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol, yn unol â'r weithdrefn asesu radiolegol a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol. Nodaf fod y profion a'r asesiadau a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u harbenigwyr yn y maes penodol hwn wedi dod i'r casgliad fod y deunydd o fewn terfynau diogel ac nad yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd. Nodaf hefyd o'r adroddiad ac ystyriaethau'r pwyllgor fod y materion a godwyd gan y deisebydd wedi'u hystyried yn sylweddol, a thystiolaeth glir wedi'i rhoi i gefnogi'r casgliadau a wnaed mewn perthynas â'r gweithgaredd gwaredu. Felly, rwyf am fod yn glir iawn ac ailadrodd y pwynt hwn. Rwy'n awyddus iawn i'r neges glir hon gael ei chyfleu'n llawn i'r cyhoedd: mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu, yn seiliedig ar gyngor arbenigol, nad yw'r gweithgaredd gwaredu yn achosi unrhyw risg radiolegol i fodau dynol na'r amgylchedd morol.

O'r hyn a ddywedodd, efallai y gallaf ddeall o hynny nad yw'n disgwyl unrhyw brofion pellach, neu broses bellach i gael ei chyflawni gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellir gollwng y deunydd hwn yn nyfroedd Cymru. A yw honno'n ddealltwriaeth gywir o'r hyn a ddywedodd?

Nid oes unrhyw sail wyddonol ar gyfer cynnal unrhyw brofion neu asesiadau pellach, felly rwy'n credu, pe baent yn gwneud hynny, y byddai'n gosod cynsail peryglus iawn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybodaeth ar eu gwefan, a gobeithio, unwaith eto, fod hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch trylwyredd y broses benderfynu. Gwrandewais yn ofalus ar y pwyntiau a godwyd heddiw, ac fel y dywedais ar y cychwyn, rwy'n cydnabod pryderon. Mae arfordiroedd a moroedd Cymru yn berl go iawn yn ein coron, ac rydym yn ymdrechu i'w cael wedi eu cydnabod am eu bod yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac oherwydd eu bioamrywiaeth. Mae'n bwysig iawn, fel cenedl, ein bod yn gallu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i warchod ein hamgylchedd morol, i warchod iechyd dynol a sicrhau defnydd cynaliadwy o'n moroedd.

Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, rwyf wedi ymgynghori ar ein Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru cyntaf, ac mae'n adeiladu ar y cynnydd cadarn rydym eisoes yn ei wneud yn gwarchod ein moroedd, gan gefnogi ein nod o gyflawni statws amgylcheddol da yn ein hecosystemau morol. Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gydlyniad ecolegol y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, gan ddiogelu a gwella'r amgylchedd morol drwy reoli pwysau a chyfundrefn gydsynio gadarn. Felly, er na allaf wneud sylwadau penodol ar y mater hwn, nodaf adroddiad y pwyllgor, a byddaf yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu'r ffordd y maent wedi cyfleu'r negeseuon mewn perthynas â'r drwydded forol hon a'r penderfyniadau a wnaed.

Credaf fod pwynt David Melding ynglŷn ag ymgysylltu â'r cyhoedd yn llawer mwy eglur yn bwysig iawn, ac rwy'n meddwl bod gwersi y gallwn eu dysgu ar gyfer penderfyniadau a rhannu gwybodaeth yn y dyfodol, yn enwedig gwybodaeth sy'n dechnegol ei natur, er mwyn sicrhau bod y negeseuon clir a'r canlyniadau hynny'n ddealladwy i bawb. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn i'r oriel gyhoeddus fod yn dawel a pheidio â thorri ar draws rhagor o fusnes y Cynulliad. Os ydych yn parhau i weiddi, byddaf yn gofyn i chi adael.

A gaf fi alw ar David Rowlands, os gwelwch yn dda, i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Lywydd. Cyn imi wneud fy sylwadau olaf, hoffwn gydnabod a diolch i'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant o dan bwysau amser. Felly, diolch iddynt am hynny. Ac a gaf fi ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb hon? Mae wedi gwneud i ni graffu ar y weithdrefn gyfan mewn perthynas â gwaredu deunydd o waith ynni niwclear a diolch i chi am wneud hynny. Diolch hefyd i'r sefydliadau a'r asiantaethau a ddarparodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau. Yn olaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Gan fod cymaint wedi bod, rwy'n credu mai'r ffordd orau y gallwn ymdrin â hyn yw crynhoi'r hyn a ddywedodd y rhan fwyaf o ACau yn eu cyfraniadau.

Roeddent yn mynegi'r pryderon mewn perthynas â thryloywder y gweithdrefnau dadansoddi, ac yn galw am ei wneud yn fwy tryloyw o lawer pan fo'r asiantaethau hyn yn gwneud eu gwaith. Roedd llawer hefyd yn galw am oedi pethau a chasglu samplau pellach. Roedd yna bryderon hefyd ynglŷn â'r mathau o brofion ymbelydredd ac wrth gwrs, roedd Neil McEvoy yn bendant iawn am hynny, ac yn eithaf grymus rwy'n credu yn ei ddadleuon o ran hynny.

Os caf symud at y sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd yn cydnabod pryderon y cyhoedd, ond a ddywedodd fod y profion wedi cael eu cynnal o dan reolau'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol yn ôl y safonau uchaf un. Mae'n honni hefyd nad oedd unrhyw resymau gwyddonol dros gynnal profion newydd.

I gloi, er y gobeithiaf fod trafodaethau'r pwyllgor a'r ddadl heddiw wedi gwyntyllu rhai o'r materion a godwyd gan y ddeiseb hon, rwy'n cydnabod bod ynni niwclear a'i sgil-gynhyrchion yn faterion emosiynol. Felly, mae amrywiaeth o safbwyntiau yn anorfod. Mae hon, wrth gwrs, yn rhan iach o ddemocratiaeth sy'n gweithio ac o ystyried y risgiau a'r mesurau diogelwch sy'n gysylltiedig â phrosesau niwclear, mae'r pryderon a fynegwyd yn gwbl ddealladwy. Yn y pen draw, rydym wedi clywed mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rhoi trwyddedau morol, ac maent wedi dweud wrth y pwyllgor a'r Cynulliad hwn eu bod yn fodlon nad oes unrhyw risg i iechyd dynol nac i'r amgylchedd. Fel pwyllgor, credaf ein bod yn fodlon fod yr holl dystiolaeth a gafwyd wedi'i darparu'n ddidwyll, a bod y gwahanol asiantaethau sydd wedi cymryd rhan yn y broses hon wedi cyflawni eu swyddogaethau yn ôl y prosesau a'r safonau gofynnol.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i drafod y mater heddiw. Diolch.

17:30

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru'

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.

Cynnig NDM6728 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a osodwyd ar 27 Mawrth 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf wneud y cynnig heddiw yn fy enw i ac agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Fel y dywedasoch, rhan un ydyw, ac mae mwy o waith i'w wneud.

Cyn dechrau trafod cynnwys yr adroddiad hoffwn gofnodi ein diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn. Yn benodol, rydym yn ddiolchgar iawn i'r rheini a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig, i Aston Martin a Toyota am gynnal ein hymweliadau i weld gweithgaredd eu busnes ac i ddeall y pryderon sydd ganddynt am eu perthynas yn y dyfodol i'r sector modurol, a hefyd i bawb a ddaeth i'n cynhadledd rhanddeiliaid, lle y cafodd 28 o sefydliadau gwahanol eu cynrychioli. Hefyd hoffwn gofnodi ein diolch i'r tîm clercio a'r holl staff cymorth i'r pwyllgor y mae eu gwaith bob amser yn caniatáu inni gynnal a llunio'r adroddiadau ar y lefel y gobeithiwn ei wneud. Hebddynt byddem mewn helynt mawr, ac rwy'n siŵr y byddai Cadeirydd pob pwyllgor yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Lywodraeth Cymru am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â ni ar y pwnc hwn.

Fodd bynnag, hoffwn gofnodi fy siom ynglŷn â methiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymateb i fy llythyr yn amgáu'r adroddiad a nodai nifer o feysydd lle byddem yn croesawu mwy o wybodaeth ganddo. Wrth inni symud ymlaen, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n ystyrlon â'r Cynulliad hwn i sicrhau canlyniad sydd o fudd i bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Ddirprwy Lywydd, mae Cymru bob amser wedi bod yn genedl sy'n edrych allan, ac wedi'i chysylltu'n rhyngwladol. Mae'n deg dweud bod rhai wedi'i ofni bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â gwrthod y traddodiad balch hwn. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, roedd yr ofnau hyn yn ddi-sail. Er bod Cymru yn gadael yr UE, rydym yn glir nad yw'n gadael Ewrop.

Ddirprwy Lywydd, beth bynnag fydd canlyniad terfynol y trafodaethau rhwng y DU a'r UE, mae'r 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio yn enghraifft o sut y gallwn elwa o'r bartneriaeth gref drwy weithio gyda'n gilydd. Mae ein hadroddiad yn edrych ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol ac yn ailddatgan y farn y dylid ystyried Brexit fel ailgyfluniad o hen berthynas ynghyd â dechrau perthynas newydd.

Gan droi yn awr at yr adroddiad ei hun, bydd yr Aelodau'n gweld ei fod yn gyfraniad helaeth ac awdurdodol i'r ddadl ynglŷn â natur perthynas y genedl hon ag Ewrop yn y dyfodol. Gwn y bydd gan lawer o fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor themâu a materion arbennig y maent am fynd ar eu trywydd yn eu cyfraniadau. Felly rwy'n bwriadu cadw fy sylwadau at rai o'r themâu ehangach yn yr adroddiad.

Rydym yn gwneud cyfanswm o 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â ble y dylai ganolbwyntio ei dylanwad mewn perthynas â safbwynt negodi'r DU, a pherthynas Cymru â'r UE yn y dyfodol ar ôl Brexit. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dderbyn pob un o'r 18 argymhelliad—12 wedi'u derbyn yn uniongyrchol a chwech mewn egwyddor—ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan fydd yn codi i siarad.

Mae ein set gyntaf o safbwyntiau ac argymhellion yn edrych ar fynediad at y farchnad sengl a threfniadau ar gyfer trefniadau tollau'r DU yn y dyfodol. Beth bynnag fydd yn digwydd yn y Senedd neu Lywodraeth y DU ynglŷn â'r materion hyn, mae ein hadroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom a barn rhanddeiliaid yng Nghymru. Cafwyd ymdeimlad clir o'r dystiolaeth fod yr agwedd bwysicaf ar y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn ymwneud â masnach. Mae'n hanfodol felly fod y berthynas yn y dyfodol yn darparu masnach ddiffrithiant—ie, diffrithiant—heb rwystrau tariff a di-dariff.

Ymhellach, nodwn yn ein hadroddiad fod y dystiolaeth yn blaenoriaethu'n bendant iawn y dylid cynnal safonau rheoleiddio cyfatebol dros yr ymwahanu rheoleiddiol oddi wrth Ewrop ar ôl Brexit. Clywsom bryderon yn benodol o'r sectorau ffermio, pysgodfeydd a bwyd mewn perthynas â'n cysylltiadau masnachu yn y dyfodol. Gallai'r heriau i'r sectorau hyn drwy osod rhwystrau di-dariff newydd ar ôl Brexit, megis archwiliadau iechyd planhigion ac anifeiliaid, beryglu allforion cig oen, cig eidion, pysgod cregyn o Gymru—rhywbeth rwy'n sicr nad oes neb yma am ei weld.

Gan droi at dollau, nodwn yn ein hadroddiad y gallai trefniant tollau newydd gyda'r UE, sy'n adlewyrchu'r trefniadau presennol yn fras, helpu i leihau'r perygl o oedi oherwydd tollau ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd. Wrth i'r amser fynd heibio, ac wrth i'r angen am frys gynyddu, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion credadwy ar y trefniadau tollau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Mae'n hanfodol fod y mater yn cael ei ddatrys mewn ffordd sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau ar ddwy ochr Môr Iwerddon a dwy ochr y Sianel. Yn anffodus, rydym yn dal i weld Llywodraeth yn San Steffan nad yw'n gallu cytuno ar ffordd ymlaen ar y mater hwn, ac sy'n creu mwy o bryder ymysg rhanddeiliaid Cymru ynglŷn â natur ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.

Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys mewnfudo a rhyddid i symud. Rydym yn cydnabod yn ein hadroddiad fod hwn yn fater pwysig i lawer yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ond nodwyd gennym hefyd y rôl y mae dinasyddion yr UE yn ei chwarae yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn gweithio yn ein busnesau preifat. Rydym yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau cytundeb cynnar ar ddyfodol hawliau dinasyddion gan y tasglu Brexit, Senedd Ewrop a thîm negodi'r DU, ac rydym yn croesawu'r cytundeb cam 1 yn hynny o beth.

Gan edrych ymlaen, rydym am weld eglurder gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni ar gyfer newid i system fewnfudo yn y dyfodol ar y cyfle cyntaf. Yn bersonol, rwy'n gobeithio na welwn hyn yn cael ei ohirio hyd nes y gwneir y penderfyniadau ar y cytundeb terfynol a geir rhwng y DU a'r UE.

Ddirprwy Lywydd, fel rwy'n dweud yn y rhagair i'r adroddiad, ni ellir diystyru'n rhy hawdd y 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio. A thema allweddol yn ein hymchwiliad oedd yr angen i sicrhau cydweithrediad ac ymgysylltiad parhaus â rhai o asiantaethau a rhaglenni'r UE ar ôl Brexit. Credwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru fapio pa asiantaethau Ewropeaidd y mae wedi eu nodi fel rhai pwysig i barhau i gyfranogi ynddynt ar ôl Brexit, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa bryd y cawn fanlion yr ymarfer mapio hwnnw. Rydym hefyd wedi nodi rhai asiantaethau ein hunain, yn enwedig yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a Chanolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, y cafwyd ateb gan Lywodraeth Cymru yn ei gylch yn ei hymateb i'r adroddiad. I'r perwyl hwnnw, mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn ceisio eglurder yn awr pa un a yw'r UE yn barod i gynnig aelodaeth gysylltiol o'r cyrff hyn i'r DU, neu fath o berthynas sy'n gallu bodoli wedyn.

Rydym hefyd yn nodi'r rhan bwysig a gwerthfawr y mae cydweithredu yn y meysydd addysg wedi ei chwarae, yn enwedig drwy'r rhaglen Horizon 2020 ac Erasmus+. Credwn y byddai parhau i gydweithredu yn y meysydd hyn ar ôl Brexit yn fuddiol i Gymru ac i'r UE. Ar ben hynny, rydym yn croesawu'r cyfeiriadau a wnaed at gydweithredu posibl mewn meysydd ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth y DU, Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop—mae pob un yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i hyn yn y trafodaethau.

Y thema olaf yr edrychwyd arni yn yr adroddiad oedd perthynas Cymru yn y dyfodol â rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Nododd llawer o'n rhanddeiliaid bwysigrwydd parhau i fod yn rhan o'r rhwydweithiau hyn ar ôl Brexit. Mewn tystiolaeth, tynnodd rhanddeiliaid ein sylw at y rôl unigryw a gwerthfawr y gall cymryd rhan mewn rhwydweithiau Ewropeaidd ei chynnig o ran gwersi polisi a chydweithredu ar draws yr holl sectorau hynny. Fel pwyllgor, rydym yn falch o'r effaith gadarnhaol yn y ddau gyfeiriad y mae ymgysylltu o'r fath wedi'i chael yn y gorffennol a gobeithiwn weld y cysylltiadau hyn yn tyfu o nerth i nerth yn y dyfodol.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y gallai fod gan Gymru lai o ran yn llawer o'r rhwydweithiau hyn yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym am ei weld ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r gymdeithas sifil ehangach, yn rhoi camau ar waith i liniaru risg y lleihad hwn lle y bo'n bosibl yn y dyfodol. Yn ein hadroddiad, clywsom am y rôl bwysig a bennwyd yn natganiad Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Caerdydd i ddatblygu perthynas nid yn unig drwy rwydweithiau ond yn uniongyrchol â gwledydd, rhanbarthau a dinasoedd unigol yn Ewrop. Rydym yn llwyr gydnabod y rôl bwysig y bydd y cysylltiadau hyn yn eu chwarae yn y dyfodol ac yn gobeithio archwilio'r mater ymhellach wrth inni gychwyn ar ail ran ein gwaith.

Pan fyddwn yn edrych tua'r dyfodol, ni allwn anwybyddu perthynas Cymru â'n cymydog agosaf yn yr UE, sef Iwerddon. Ar ôl ystyried effaith Brexit ar fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod ein hadroddiad ar borthladdoedd, roeddem hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas hon, gan alw yn yr adroddiad hwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn parhau i gryfhau a datblygu'r berthynas honno ar ôl Brexit.

Mae hefyd yn bwysig i ni fel pwyllgor fod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu mewn unrhyw berthynas yn y dyfodol. I'r perwyl hwnnw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau hyn wrth inni adael yr UE. Rwy'n falch o nodi bod Tŷ'r Arglwyddi wedi cytuno i welliant i'r Bil ymadael â'r UE i geisio ymgorffori siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU. Rwy'n gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn derbyn y gwelliant hwnnw.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym un neges gyffredinol i'n ffrindiau a'n partneriaid ar draws Ewrop: mae gan Gymru draddodiad balch fel cenedl sy'n edrych allan i'r byd, a nod ein hadroddiad yw bod yn gyfraniad defnyddiol i'r trafodaethau sy'n dechrau o ddifrif ar ein perthynas yn y dyfodol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru, cymdeithas sifil a ni fel Cynulliad Cenedlaethol adeiladu'r cysylltiadau hyn a meithrin y berthynas hon yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw maes o law. Diolch yn fawr.

17:40

Wrth dderbyn argymhellion 1 a 4 ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd ei safbwynt:

'bod yn rhaid inni barhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl, ac rydym eto i'n hargyhoeddi bod aros y tu allan i Undeb Tollau gyda'r UE o fudd inni, o leiaf hyd y gellir ei ragweld.'

Fodd bynnag, fel y clywsom gan felin drafod polisi Open Europe ym Mrwsel, byddai'n rhyfedd pe bai'r DU yn yr undeb tollau. Fel Twrci, byddai'r UE yn negodi cytundebau masnach gyda thrydydd partïon heb y DU wrth y bwrdd. Roeddent hefyd yn dweud, os yw'r DU yn y farchnad sengl, y byddai'n rhaid iddi dderbyn yr holl reolau heb allu pleidleisio arnynt. Ac fel y dywedodd dirprwy gynrychiolydd parhaol y DU i'r UE wrthym, bellach mae gan 27 Llywodraeth yr UE well dealltwriaeth o ble mae eu buddiannau economaidd eu hunain, a buddiannau eu sectorau eu hunain, o ran mynediad at farchnad y DU.

Felly mae angen ateb arbennig a gwahanol arnom, yn hytrach na rhywbeth a wnaed o'r blaen yn unig. Mae o fudd i bawb ohonom gael hyn yn iawn. Er enghraifft, dywedodd cynrychiolwyr o dalaith Bremen yn yr Almaen wrthym fod 10 y cant i 15 y cant o gynnyrch domestig gros pob un o 16 talaith yr Almaen yn agored i farchnad y DU.

Dywedodd llysgenhadaeth Canada wrthym fod 70 y cant o'u masnach drawsffiniol gyda'r UDA yn cael ei gludo gan lorïau, gyda rhaglenni cliriad diogelwch ar gyfer lorïau a gyrwyr a rhaglen eManifest ar gyfer nwyddau, yn darparu, ac rwy'n dyfynnu,

system effeithlon a chyflym iawn.

Mae gan Dwrci gytundeb undeb tollau gyda'r UE, er ei bod yn parhau y tu allan i'r UE. Nid yw Swistir yn y farchnad sengl na'r undeb tollau, ac eto caiff ffin Twrci ei phlismona'n llawer mwy helaeth na'r un gyda'r Swistir. Yn wir, mae 10 gwaith cymaint o bobl yn teithio rhwng y Swistir a'r UE ag sy'n teithio rhwng ynys Iwerddon a'r DU. Caiff y ffin â'r Swistir ei chroesi gan oddeutu 2.4 miliwn o bobl bob dydd. Mae Swistir yn gwerthu mwy na phum gwaith cymaint y pen i'r UE na Phrydain.

Comisiynodd pwyllgor materion cyfansoddiadol Senedd Ewrop adroddiad, 'Smart Border 2.0—Avoiding a Hard Border on the Island of Ireland for Customs Control and the Free Movement of Persons', gan gyn-gyfarwyddwr Sefydliad Tollau'r Byd, Lars Karlsson, sydd wedi ymweld â 169 o wledydd, wedi gweithio mewn mwy na 120 ohonynt a gweld mwy na 700 o ffiniau. Fe'i cyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, ac mae'n cynnig model cydweithredu ar dollau, gan gyfuno dulliau cyfnewid data uwch ac elfennau technegol newydd, gan gynnwys rhaglen masnachwr cymeradwy newydd, cynllun teithiwr cymeradwy newydd ac ymagwedd wahanol tuag at ddiogelwch. Dywedodd fod

darparu ffiniau bron yn ddiffrithiant yn real, ac nid yn ffuglen wyddonol ar gyfer y dyfodol

ac 

nad ydym yn sôn am seilwaith enfawr, fel tai a mannau croesi ffiniau.

Dywedodd hefyd y byddai

cenhedlaeth newydd o ffiniau doeth ar ôl Brexit yn rhoi mantais ychwanegol i Brydain

ar lwyfan y byd ac yn gwneud y DU 'yn bartner masnachu deniadol iawn'.

17:45

A yw'n ymwybodol y byddai hyn yn haws o lawer i'w weithredu ar ffin Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon nag ydyw yn y Swistir? Soniodd yr Aelod fod 10 gwaith y nifer o bobl yn croesi ffin y Swistir, ond o ran nwyddau, mae'r ffigur ar gyfer y nwyddau sy'n croesi ffin Gogledd Iwerddon oddeutu un rhan o gant o'r nwyddau sy'n croesi ffin y Swistir.

Ydy, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda'r holl boblogaeth ar ddwy ochr y ffin honno i roi'r sicrwydd y maent ei angen iddynt, lle rwy'n credu bod rhai pobl yn ceisio gwneud iddynt boeni mwy nag sydd angen.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 2, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn

'gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu'r enw da sydd gan Gymru yn rhyngwladol am safonau lles anifeiliaid, safonau amgylcheddol a safonau bwyd uchel—ni ddylai'r rhain gael eu haberthu trwy ganiatáu mewnforion rhad.'

Fel y nododd Ysgrifennydd Brexit y DU yn glir ym mis Chwefror, ni fydd y DU yn gostwng safonau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn cystadlu yn y farchnad Ewropeaidd, a chynigiodd system o gyd-gydnabyddiaeth. Ymhellach, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi arian cyfwerth â chyllideb gyfredol yr UE sy'n cefnogi ffermio ac economïau gwledig, ond mae angen inni weld mwy o'r £350 miliwn blynyddol sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd o dan bolisi amaethyddol cyffredin yr UE yn mynd i'r rheng flaen.

Er ein bod yn croesawu'r cytundeb cyfnod 1 mewn perthynas â hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw ac yn gweithio yn yr UE, nododd ein hadroddiad bryderon y gallai ansicrwydd gael effaith ar nifer y gwladolion o'r UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gadael y DU, gan gyfeirio, er enghraifft, at dystiolaeth gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos yn glir ei hymrwymiad parhaus i fodloni anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, a disgwylir Papur Gwyn ôl-Brexit cyn toriad yr haf ym mis Gorffennaf ar y mater hwn.

Fel Senna the Soothsayer yn Up Pompeii!, ymddengys bod y lle hwn weithiau yn llawn o broffwydi gwae yn pregethu, 'Mae'r diwedd gerllaw'. Wel, yn groes i ragfynegiadau'r proffwydi gwae, mae'n bryd gwneud i Brexit weithio dros Gymru yn Ewrop, ond nid yr UE, fel rhan o DU fyd-eang sy'n edrych tuag allan.

A allaf i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, am ei agoriad bendigedig, sy'n rhoi crynodeb da iawn o'r adroddiad yma, sydd hefyd yn un fendigedig, mae'n rhaid dweud?

Rydw i'n siarad ar ran Plaid Cymru heddiw gan nad yw Steffan Lewis yma, a oedd yn aelod o'r pwyllgor pan gafodd yr adroddiad yma ei baratoi. Gan nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor—dim ond eilydd ddigon tila ydw i i Steffan, wedi bod mewn un cyfarfod—rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad y prynhawn yma i drafod yr argymhellion yn benodol, a rôl Llywodraeth Cymru o hyn allan yn gwireddu'r argymhellion hyn, a hefyd sut y gall y Llywodraeth weithredu ewyllys y Cynulliad o ran ein safbwynt ni ar beth ddylai perthynas Cymru fod â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Mae argymhelliad 1 a 4 yn galw, heb yr union eiriad wrth gwrs, am aelodaeth o’r farchnad sengl ac undeb dollau oherwydd dyna’r unig ffordd y mae’n bosibl cyflawni beth mae’r argymhellion yn alw amdano. Rydw i'n falch o weld fod y Llywodraeth yn ei hymateb i’r argymhellion hyn wedi gosod dadl gref dros aros yn yr undeb tollau. Mae Llywodraeth Prydain yn rhwygo ei hun yn ddarnau, wrth gwrs, dros y cwestiwn o undeb tollau, ac er bod y Blaid Lafur yn Llundain wedi cynnig datrysiad, sef creu undeb tollau newydd, mae beth mae’r Blaid Lafur yn gobeithio ei gyflawni fel rhan o’r undeb tollau newydd yma, sef fod Llywodraeth Prydain yn cael ei dweud ar unrhyw gytundebau masnach newydd a bod Prydain hefyd yn cael ei heithrio o reolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus, heb gynsail chwaith. Nid oes cynsail i hynny oherwydd, fel rydym ni wedi ei glywed, mae Twrci mewn undeb tollau gyda’r Undeb Ewropeaidd, ond nid ydynt yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw drafodaethau masnach na chwaith eu heithrio o reolau cystadleuaeth masnach Ewrop. Felly, rydym eto i weld unrhyw gynigion rhesymol gan naill ai’r Llywodraeth na chwaith yr wrthblaid yn San Steffan.

Mae argymhelliad 10 yn nodi:

'Os na chytunir ar Horizon 2020 nac unrhyw raglen olynol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd y gallai ddarparu cymorth parhaus i sefydliadau Cymru gydweithio â chymheiriaid Ewropeaidd ar ôl Brexit.'

Mae hwn yn un o’r prif bwyntiau y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod gan busnesau a phrifysgolion Cymru fynediad i rai o brif brosiectau ymchwil a datblygu y byd. Mae’n ansicr hyd yma beth fydd perthynas Prydain gyda Horizon Europe, sef rhaglen olynol Horizon 2020, a fydd yn lot mwy ac yn werth dros €96 biliwn o’i gymharu â’r €77 biliwn sydd yn cael ei wario ar Horizon 2020. Mae’n bosibl y bydd gennym fynediad llawn i bob ffrwd o’r cynllun, ond mi fyddai'n rhaid i ni dalu’n ddrud am hynny.

Fe ddychwelaf yn awr at argymhelliad 2, a dyfynnaf yn uniongyrchol o'r adroddiad:

'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arni i sicrhau bod buddiannau'r diwydiannau ffermio, pysgota a bwyd yn cael eu diogelu yn ystod y broses ymadael.'

Wel, pob lwc gyda hynny, rwy'n dweud, oherwydd mae'r argymhelliad hwnnw'n mynd i fod yn her i Lywodraeth Cymru yn awr, oherwydd, yn dilyn y bleidlais cydsyniad deddfwriaethol ar welliannau cymal 11, mae Llywodraeth Cymru wedi ildio rheolaeth ar yr agenda honno, wedi ildio dylanwad, gan y bydd pwerau yn y meysydd datganoledig hyn yn cael eu rhewi am saith mlynedd a gellir eu newid heb ein cydsyniad ni yma yng Nghymru. Fel y mae cyngor cyfreithiol y Cynulliad ei hun yn ei ddweud, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol, bydd y Bil ymadael â'r UE

'fel y'i diwygiwyd, yn dal i ganiatáu i gymhwysedd y Cynulliad gael ei gyfyngu heb ei ganiatâd, ac nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn rhoi sicrwydd pendant na fydd hyn yn digwydd.'

Fel y dywedodd yr arbenigwr amaethyddol, yr Athro Tim Lang, yn y pwyllgor materion allanol yr wythnos hon mewn ymateb i gwestiwn gan Jenny Rathbone, gan gyfeirio at y bleidlais cydsyniad deddfwriaethol yma ar 15 Mai, er bod yr Alban wedi sefyll yn gadarn, ystyrir bod Cymru bellach, ac rwy'n dyfynnu, yn 'steamrollable'—ydy yn wir, ac ar y cyrion.

17:50

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn, sy'n amlwg yn yr ymatebion cadarnhaol iawn i'r argymhellion. Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion sy'n ymwneud â'n cyfranogiad yn rhwydweithiau'r UE, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i sicrhau bod mynediad at y rhwydweithiau hyn  yn parhau er budd y gymdeithas sifil a sefydliadau anllywodraethol.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi nodi'r dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a'r Mudiad Meithrin am ymgysylltiad cymdeithas sifil Cymru ar dirwedd cymdeithas sifil yr UE, ac mae hyn yn agor mynediad nid yn unig at ddatblygu polisi gwaith trawswladol o fudd i Gymru a'r UE fel ei gilydd, ond mynediad hefyd at ffrydiau cyllido pwysig.

Roeddwn yn falch o ddefnyddio tîm o'r hyn a elwais yn 'llysgenhadon cyllido'r UE' mewn rôl weinidogol flaenorol—Hywel Ceri Jones, Grahame Guilford a Gaynor Richards—a nododd amrywiaeth eang o gronfeydd yr UE wedi'u rheoli'n ganolog a ffrydiau a rhwydweithiau cyllid eraill sydd ar gael i sefydliadau Cymreig. Rwy'n gobeithio bod eu gwaith a'u hargymhellion yn dal i fod yn ffynhonnell ddilys o wybodaeth ac arweiniad i hysbysu a chynorthwyo'r rhwydweithiau hynny wrth inni adael yr UE.

Mae yna bryder dwfn ynglŷn ag effaith andwyol colli ffrydiau ariannu, yn enwedig, sydd wedi galluogi ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gymryd rhan mewn rhwydweithiau trawswladol. Mewn ymateb i argymhelliad 14, mae'n ddefnyddiol clywed y bydd cymdeithas sifil Cymru yn gallu troi at y gronfa bontio Ewropeaidd fel y nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Mae'n galonogol gweld hefyd fod trefniadau cymorth mwy hirdymor wedi'u nodi yn yr ymateb, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni fel pwyllgor ymgysylltu a chyfrannu at lunio'r trefniadau hynny ar ôl y cyfnod pontio.

Fel David Rees, hoffwn dynnu sylw'r Cynulliad heddiw at bwysigrwydd argymhelliad 18 yn ein hadroddiad, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu'r hawliau dynol a safonau cydraddoldeb y mae dinasyddion Cymru wedi elwa arnynt drwy fod yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Yn y dystiolaeth, rhoesom sylw i ystod o gysylltiadau dwyochrog rhwng Cymru a'r UE, yn cynnwys nid yn unig rhwydweithiau amgylcheddol ond rhwydweithiau a diddordebau cydraddoldeb. Cyfeiria'r adroddiad at dystiolaeth gan Chwarae Teg, pan dynnodd Natasha Davies sylw at rôl aelodaeth o'r UE yn diogelu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, a dywedodd wrthym na ddylai fod unrhyw gyfyngu ar yr hawliau hyn ar ôl Brexit. Ategodd Stonewall Cymru y pryderon hyn, gan ein hatgoffa bod cyfraith yr UE wedi gwarantu hawliau y gellid eu tanseilio gan arwain at risg bosibl i bobl LGBT yn y dyfodol.

Mae'n bwysig, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb a chyfle i ddiogelu a datblygu ein rôl fel cenedl flaengar, sy'n ymgysylltu'n rhyngwladol. Rhaid inni beidio â sefyll ar y cyrion wrth i drafodaethau cyfnod 2 fynd rhagddynt. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd a bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hymdrechion yn y pwyllgor i annog yr UE a'i sefydliadau i ymgysylltu â sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol yng Nghymru wrth i ni symud tuag at Brexit.

Mae nifer o'r gymdeithas sifil yng Nghymru yn ymwneud ag arloesi drwy weithredu cymdeithasol, ac yn aml iawn yn cael eu cefnogi gan gronfeydd yr UE, er mwyn grymuso aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, a chryfhau a hyrwyddo cydraddoldebau a diogelu ein hamgylchedd. Felly, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gwneud cyfiawnder â phawb sydd ar flaen y gad yn y gymdeithas sifil yn cynnal hawliau dynol yn ogystal â'r rhai sy'n ein hysbysu ac yn ein harwain ar y dystiolaeth hanfodol a gawsom fel pwyllgor wrth inni geisio eu cynrychioli a rhoi llais iddynt ar y cam hollbwysig hwn o drafodaethau'r UE a chyfnodau pontio yn y dyfodol.

17:55

Credaf ei bod yn glod i'r pwyllgor materion allanol, er gwaethaf y teimladau cryf iawn ar y materion dan sylw mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ei fod yn gyson yn cynhyrchu adroddiadau teg, cytbwys ac awdurdodol. Hoffwn ganmol, yn arbennig, David Rees am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor hwn a'r ffordd y mae wedi cyfeirio ei waith. Rwy'n cytuno'n arbennig gyda'r pwynt a wnaeth ar ddechrau ei araith y prynhawn yma, fod Cymru'n gadael yr UE ond nid yw'n gadael Ewrop. Ar yr ochr hon i'r ddadl, rydym yn aml yn cael ein disgrifio fel Little Englanders, neu Little Wales-ers neu beth bynnag ac yn tueddu i fod â rhyw fath o feddylfryd y gwersyll, ac yn canolbwyntio'n llwyr ar Brydain, ond wrth gwrs mae Brexit yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y byd ehangach yn ogystal ag ar gynnal ein cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Un o'r problemau sydd gennym, rwy'n credu, wrth gynhyrchu adroddiadau fel hyn yw bod y dystiolaeth a ddaw i law, a siarad yn gyffredinol, yn tueddu i fod ynghylch buddiannau cynhyrchwyr, ac mae buddiannau cynhyrchwyr yn gyffredinol yn tueddu i ffafrio'r status quo oherwydd eu bod yn ymdrin, wrth gwrs, â'r hyn y maent yn ei wybod a'r hyn y maent wedi'i brofi ac maent am barhau â hynny er mwyn parhau â'r drefn y maent yn gweithredu oddi tani ar hyn o bryd. Mae'r dyfodol yn anhysbys, mae'n ansicr—er y gallai fod cyfleoedd gwell o dan gyfundrefn wahanol—ond nid yw'r rheini'n hysbys ar hyn o bryd ac felly mae rhywfaint o ddyfalu ynghlwm wrth hynny. Ond yn bersonol credaf nad oes gan Gymru ddim i'w ofni hyd yn oed o sefyllfa 'dim bargen', pe bai'r negodiadau presennol yn arwain at hynny. Rwy'n meddwl bod Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn anodd iawn i gael y fargen orau i Brydain yn sgil ei sylw diddiwedd i'r syniad o ryw fath o undeb tollau. Mae hynny'n chwarae'n syth i mewn i ddwylo'r UE, oherwydd os yw'r UE yn credu ein bod yn awyddus iawn i gynnal sefydliadau presennol a ffyrdd presennol o fasnachu â'n gilydd, nid oes ganddynt unrhyw gymhelliant o gwbl i ymrwymo i fath gwahanol o berthynas fasnachu, a fyddai'n well i ni ar bob sail.

Mae polisi yr UE o negodi dilyniant, fel y'i disgrifiwyd gan Yanis Varoufakis, Gweinidog cyllid Gwlad Groeg gyda phrofiad enfawr o ymdrin â Chomisiwn yr UE ynglŷn â'r ateb a geisiwyd i broblemau dyledion Gwlad Groeg—. Nododd y perygl o beidio ag ystyried y berthynas fasnachu yn y dyfodol ar yr un pryd â'r holl agweddau eraill ar ein perthynas â'r UE a'r angen i'w negodi. Mae hynny wedi cynyddu'r ansicrwydd a achoswyd ac nid yw'n ddim mwy na pharhad o ymgyrch prosiect ofn a welsom drwy gydol ymgyrch y refferendwm ac sy'n dal i fod yn amlwg iawn.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni beidio â gorliwio manteision undeb tollau. Credaf y dylem gadw mewn persbectif beth yn union yw natur y fasnach a wnawn gyda'r UE. Os na fyddai gennym gytundeb masnach, faint o anhawster y byddai cwmnïau o Gymru yn ei gael i werthu i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd? Rydym yn dechrau, wrth gwrs, o sefyllfa lle rydym nid yn unig yn cyd-fynd yn rheoleiddiol â'r UE, ond o dan yr un gyfundrefn mewn gwirionedd. Felly, yn y dyfodol, os oes unrhyw wyro rheoleiddiol yn mynd i fod, mae hwnnw'n fater ar wahân a gaiff ei drafod, gyda'i holl fanteision ac anfanteision, ar yr adeg honno.

Ond o ran cyfundrefn dariffau'r UE, credaf ei bod hi'n bwysig nodi, pe na baem yn gallu ymrwymo i gytundeb masnach rydd â'r UE, y byddai'r tariffau a fyddai'n berthnasol i gynhyrchwyr Cymru yn gyffredinol yn fach iawn. Mae amaethyddiaeth yn fater cwbl wahanol, ond yn achos nwyddau a weithgynhyrchir yn benodol, mae'r rhain yn fach iawn. Mae'r ddogfen a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Y Polisi Masnach: Materion Cymru' yn eglur iawn ar hyn. Os edrychwn yn Atodiad A ar dudalen 23 y ddogfen hon, y meysydd masnach sydd o fwyaf o ddiddordeb a phwysigrwydd i Gymru yw pethau fel nwyddau trydanol a thelathrebu, cynhyrchion amrywiol a weithgynhyrchir, cynhyrchion metel sylfaenol amrywiol, cynhyrchion cemegol amrywiol. Mae gan bob un o'r rhain dariffau posibl o lai na 5 y cant. Mae cerbydau yn achos gwahanol eto. Yn gyffredinol mae'r maes hwnnw oddeutu 10 y cant, ond rhaid inni gofio, os byddwn yn ddarostyngedig i dariffau ar ein hallforion i'r UE, maent hwythau wrth gwrs yn ddarostyngedig i'r gwrthwyneb, a chan fod gennym ddiffyg masnach sylweddol yn y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, hwy a fyddai'n waeth eu byd yn y pen draw. Pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, byddai'r incwm tariff i'r Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd rywbeth yn debyg i £13 biliwn y flwyddyn, ond ni fyddai'r incwm tariff i'r UE ond yn £5 biliwn y flwyddyn. Felly, byddem yn llawer iawn gwell ein byd.

Nid oes neb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin am weld rhwystrau masnach neu rwystrau tariff rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a byddai inni barhau i fasnachu mor ddiffrithiant â phosibl o fudd i bawb, ond yr UE piau'r cam nesaf. Hwy sy'n gosod y rhwystrau ac yn creu'r anawsterau rhag llunio cytundeb synhwyrol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod parhad ymgyrch prosiect ofn yn ei gwneud yn llawer anos i gael y synnwyr cyffredin y mae pawb sy'n pryderu am fuddiannau Cymru am ei weld.

18:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i’r pwyllgor am eu holl waith yn helpu i ystyried y drafodaeth bwysig hon, sef y berthynas fydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae llawer o’r Aelodau o rannau gwahanol y Siambr hon yn gyffredinol â’r un farn, fel dywedodd David Rees pan oedd e’n siarad yn gyntaf: bod Cymru yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ond ni ddylem ni ymadael ag Ewrop. Ond, yn ymarferol, bydd yr egwyddor honno yn cael ei datblygu gan y cyd-destun ehangach yn yr adroddiad hwn. Dirprwy Lywydd, yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael heddiw, nid oes modd i mi osod ateb Llywodraeth Cymru i bob un o’r 18 argymhelliad gan y pwyllgor, ond mae’r ymateb hwnnw ar gael i’r Aelodau yn ein hymateb ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 21 Mai.

Byddaf yn dechrau, fodd bynnag, gyda’r gyfres gyntaf o argymhellion, gan eu bod yn mynd i wraidd ein galwad am sicrhau Brexit sy’n rhoi anghenion swyddi a'n heconomi yn gyntaf.

Yn hanfodol i hynny, Ddirprwy Lywydd, mae'r trafodaethau dros berthynas tollau'r DU a'r UE yn y dyfodol, ac rydym yn parhau i wthio am gyfranogiad llawn a dirwystr yn y farchnad sengl, yn syml oherwydd ei fod yn hanfodol i fuddiannau Cymru. Mae 60 y cant o allforion nwyddau adnabyddadwy o Gymru yn mynd i'r UE, ac yn 2017 cododd y ffigur i dros 77 y cant ar gyfer allforion bwyd a diod a 90 y cant ar gyfer ŵyn a allforir. Byddai gosod unrhyw dariffau ar rwystrau di-dariff yn anfanteisiol iawn i fusnesau yng Nghymru, gan eu rhoi o dan anfantais gystadleuol o gymharu â chystadleuwyr o'r UE.

Mae'r adroddiad materion allanol a deddfwriaeth ychwanegol yn gofyn inni bwyso ar Lywodraeth y DU i gael mynediad ffafriol i'r farchnad er mwyn diogelu buddiannau ffermio, pysgota a bwyd. Roedd Dr Lloyd wedi cyffroi i'r fath raddau ynglŷn â hynny fel ei fod wedi ailadrodd cyfres o fythau i fynd ochr yn ochr ag ef. Gwyddom fod yn rhaid inni barhau i wneud yr achos dros fuddiannau ffermio, pysgota a bwyd Cymru a chynigion credadwy ar gyfer trefniadau tollau yn y dyfodol ym mhob fforwm sydd ar gael, ac mae'r adroddiad yn ychwanegu at yr achos o blaid dull cadarnhaol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'n partneriaeth economaidd yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae trefniadau tollau yn ganolog i'r prosbectws hwnnw. Yn syml iawn, nid yw honiadau Llywodraeth y DU y bydd partneriaethau tollau neu rwyddhad eithaf neu atebion arloesol yn lleihau'r tarfu ar economi y DU yn y dyfodol yn dal dŵr. Nid yw hynny'n dweud nad oes ganddynt gyfraniad i'w wneud, ond nid yw'r syniad y byddant yn datrys y broblem, ac yn datrys y broblem, yn bwysicaf oll, ar ynys Iwerddon, yn gredadwy. Byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i gael y cynigion tollau mwy credadwy hynny, yn ffurfiol drwy strwythur y cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol ac mewn trafodaethau dwyochrog i amddiffyn economi Cymru, oherwydd mae angen i Gymru aros mewn undeb tollau. Mae'r dystiolaeth, fel y dywedodd David Rees, yn pwyntio'n ddiamwys i'r cyfeiriad hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n troi o gwmpas trefniadau ymarferol yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE. Yn unol ag argymhelliad 6, er enghraifft, rydym yn parhau i wneud yr achos fod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a phrifysgolion Cymru yn dibynnu ar ein gallu i ddenu pobl o'r tu hwnt i'n ffiniau ein hunain i adeiladu eu dyfodol yma yng Nghymru. I gyfeirio at ddwy enghraifft yn unig: mae'r holl filfeddygon galwedigaethol sy'n arolygu cig yng Nghymru—pob un ohonynt—yn dod o'r tu allan i'r DU, yn raddedigion o'r UE, a ganed mwy na chwarter, 27 y cant, y rhai a gyflogir yn sectorau cynhyrchu bwyd a diod Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae adroddiad y pwyllgor yn amlygu'r pwyslais a roddir ar hawliau dinasyddiaeth gan dasglu Brexit Senedd Ewrop, ac yn briodol mae'n nodi bod cytundeb ar y mater hwn o fudd i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar amserlenni ar gyfer cyhoeddi ei Phapur Gwyn hirddisgwyliedig ar fewnfudo, yn y gobaith y bydd yn cyflwyno cynnig credadwy, gan ganiatáu amser i fusnesau ac eraill ymateb ac addasu i unrhyw gyfyngiadau annymunol yn y dyfodol. Mae perfformiad Llywodraeth y DU yn y maes hwn wedi bod yn arbennig o ansicr. Trefnwyd yn wreiddiol i'r Papur Gwyn ar fewnfudo gael ei gyhoeddi yn ystod yr haf y llynedd. Cafodd hynny ei ohirio tan ddiwedd yr hydref y llynedd ac yna ei ohirio ymhellach hyd at ddiwedd y flwyddyn. Comisiynwyd y pwyllgor cynghori ar fewnfudo i lunio adroddiad erbyn mis Medi eleni. Roedd hynny o leiaf yn agor y drws ar y posibilrwydd y byddai polisi'n cael ei lywio gan dystiolaeth. Rwy'n gweld adroddiadau yn awr fod yr Ysgrifennydd Cartref newydd yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ym mis Awst, gan sathru ar holl ymdrechion cynifer o fusnesau ac eraill i ddarparu gwybodaeth i ymarfer y pwyllgor cynghori ar fewnfudo.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi yn awr at yr hyn a ddywed yr adroddiad am faterion hanfodol trefniadau diogelu'r cyhoedd ac iechyd cyhoeddus ar ôl Brexit. Fel y cydnabu'r pwyllgor, mae cydweithrediad drwy'r UE cyfan yn hanfodol i ffyniant a diogelwch Cymru. Ym maes iechyd, nid yw clefydau'n cydnabod ffiniau cenedlaethol. Mae'r adroddiad yn amlygu'r budd diamwys y mae parhad aelodaeth y DU, neu ei chyfranogiad mewn asiantaethau sy'n ymwneud â maes atal clefydau ac iechyd y cyhoedd yn Ewrop yn ei ddwyn i bawb. Pe bai unrhyw gytundeb yn y dyfodol yn lleihau'r posibilrwydd o gydweithredu rhwng GIG Cymru a'r Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, er enghraifft, gallai achosi oedi wrth gofnodi ac olrhain clefyd, amharu ar yr ymateb i achosion, lleihau effeithiolrwydd o ran parodrwydd i gynllunio ac ymateb i bandemig, ac arwain at fylchau sylweddol yn y wybodaeth am glefydau heintus.

Wrth gwrs, mae ein diddordeb mewn parhau i gydweithredu gyda'r UE yn mynd ymhell y tu hwnt i faterion iechyd. Mae gwasanaethau arloesi, er enghraifft, yn elwa'n eithriadol o fynediad at asiantaethau a rhaglenni'r UE, gan ganiatáu ymchwil a phartneriaethau cydweithredol trawsffiniol sy'n galluogi sefydliadau ymchwil Cymru i chwarae eu rhan ar lwyfan y byd. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i gefnogi parhad ym muddsoddiad Cymru yn rhaglenni a rhwydweithiau allweddol yr UE. Mae cefnogaeth y Llywodraeth i'r argymhellion hyn mewn egwyddor yn unig yn adlewyrchu natur anhysbys rhai o'r materion technegol pwysig mewn perthynas â chymhwysedd aelodaeth. Ni wyddom eto, er enghraifft, a ganiateir buddsoddiad gan wladwriaeth is-genedlaethol mewn rhai o raglenni'r UE yn y dyfodol wedi i'n haelodaeth ddod i ben. Dyna pam, yn ein hymateb, ein bod yn pwysleisio'r manteision i'r DU gyfan o ymdrech ar ran Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad yn y rhaglenni sy'n olynu Horizon 2020, Erasmus+ ac ati.

Yn y cyfamser, ac er mwyn cefnogi cyfranogiad sefydliadau Cymru mewn rhaglenni a rhwydweithiau Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gronfa bontio Ewropeaidd. Bydd yr adnodd hwn, wedi'i gefnogi gan fewnbwn cychwynnol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu inni gefnogi ymgysylltiad yn y dyfodol wedi i'r cyfnod pontio ddod i ben. Bydd y gronfa'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill, o'r math a nodwyd gan Jane Hutt, er enghraifft, mewn cymdeithas sifil er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu ac wedi'i addasu i anghenion buddiolwyr. Rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn cyhoeddi'r gyfran gyntaf o brosiectau yn fuan iawn gyda rhagor i ddilyn yn y misoedd sydd i ddod.

Gadewch, Dirprwy Lywydd, i mi ddweud hwn yn gwbl glir: bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i amddiffyn swyddi a busnesau Cymru yn ystod y trafodaethau ynghylch ymadael a’r cyfnod pontio, a thu hwnt i hynny mewn unrhyw berthynas fasnachu newydd gyda’n partneriaid rhyngwladol.

Dirprwy Lywydd, mae’r darlun hwn yn symud yn gyflym, a bydd hyn yn parhau dros weddill y flwyddyn galendr hon a thu hwnt hefyd. Nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn bwriadu cynnal ei ddiddordeb yn y maes yma, ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â'r pwyllgor yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud.

18:10

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor, David Rees, i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Efallai y caf ymdrin â'i ymatebion ef yn gyntaf. Rwy'n falch iawn ei fod yn y bôn wedi cefnogi popeth a ddywedwn yn yr adroddiad ac yn cydnabod bod yr hyn rydym yn ei ddweud yn faterion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â hwy fel cenedl, yma yng Nghymru ond hefyd yn y DU yn ogystal.

Rwy'n cytuno gyda'r pwynt am egwyddorion. Rwy'n deall y manylion technegol na wyddys amdanynt a allai godi oherwydd bod cymaint o ansicrwydd yn dal i fodoli hyd nes y byddwn yn gwybod mwy o fanylion am gytundeb terfynol. Rwy'n derbyn hynny, ond mae'n dal i fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd ar ôl y rheini wrth inni fynd ar drywydd cytundeb terfynol sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddem am i chi ei wneud i ni, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r gronfa bontio Ewropeaidd a ddisgrifiwyd gennych a'r lwfans o arian ar gyfer y sefydliadau y soniodd Jane Hutt amdanynt i ganiatáu'r ymgysylltiad hwnnw ag Ewrop yn y dyfodol. Mae hynny'n hanfodol oherwydd bod cynifer o sefydliadau wedi agor y cysylltiadau hynny, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn parhau gyda'r rheini ac yn elwa ohonynt yn y dyfodol. Mae'n bwysig iawn ar gyfer hynny.

Fe af ymlaen at rai o'r Aelodau, ac rwyf am ymdrin â chyfraniad Jane yn gyntaf am mai dyna'r hawsaf. Tynnodd Jane ein sylw'n glir at golli'r ffrydiau ariannu, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn rhoi rhyw gysur inni wybod bod cyfleoedd yno i hynny ddod drwodd. Ond mae ar gyfer y darlun yn y tymor hwy, oherwydd nid yw hwnnw, fel y gwyddom, yn ddim ond cronfa bontio ac nid o reidrwydd yn hirdymor, felly mae angen inni edrych ar hynny. Ac nid ydym eto'n gwybod beth y mae'r DU yn mynd i wneud ynglŷn â sicrhau arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd ac i ganiatáu'r math hwnnw o ymgysylltiad. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n dal i fod gennym, ac mae'n bwysig. Gwn y bydd Jane yn parhau i dynnu sylw at yr agenda cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn ehangach, i sicrhau nad ydym yn colli'r hyn  enillwyd o dan yr UE.

Dai Lloyd—a gaf fi dynnu sylw at y ffaith bod Steffan wedi cael effaith enfawr ar ein pwyllgor, a gwn am ei frwdfrydedd ynghylch edrych ar berthynas Cymru nid yn unig â'r UE ond â'r byd yn ehangach yn ogystal, ac edrychaf ymlaen at ei gael yn ôl cyn gynted â phosibl i'r pwyllgor? A gaf fi eich cywiro? Fe ddywedoch chi mewn gwirionedd mai argymhellion 1 a 4 oedd aelodaeth lawn o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Na, nid dyna roeddent yn ei ddweud; yr hyn roeddent yn ei ddweud, yn y bôn, oedd ein bod eisiau trefniant tollau a fyddai'n caniatáu inni gael cytundebau tebyg, a lle byddai gennym, unwaith eto, fynediad dirwystr i'r farchnad. Felly, nid yw'n hollol yr un fath â'r derminoleg a ddefnyddioch chi. Roeddwn am wneud hynny'n glir. Ar y materion a godwyd gennych, mae angen inni sicrhau bod gennym raglenni cydweithredol. Mae rhaglen fframwaith 9, sy'n un o'r rhaglenni i ddilyn Horizon 2020—mae angen defnyddio'r arian hwnnw yng Nghymru; mae angen inni gael mynediad ato, mae angen i'n prifysgolion allu cael mynediad ato ac mae angen i'n diwydiannau ymchwil gael mynediad ato, felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i ymchwilio i hynny. Ac er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am faterion y DU, mae'n dal i fod yn bwysig i Gymru edrych ar bob cyfle a gawn i gymryd rhan mewn rhaglen o'r fath.

Neil Hamilton, a gaf fi ddiolch i chi am eich geiriau caredig yn gyntaf oll? Gallai fod y peth caredicaf y byddaf yn ei ddweud heddiw. Ond rydych yn gywir; rhoddir buddiannau cynhyrchwyr yn dystiolaeth ac maent yn pryderu ynglŷn â newid, oherwydd eu bod yn poeni am eu proffidioldeb, maent yn poeni am eu dyfodol, maent yn pryderu am fywoliaeth eu gweithwyr. Mae yna faterion sy'n eu poeni pan na fyddant yn gwybod beth sy'n digwydd—dealladwy. Felly, mae hynny'n bwysig. Ni allwn guddio hynny. Nid wyf yn credu mai prosiect ofn yw hynny; realiti'n unig yw hynny. I ble'r ydym yn mynd? Beth sy'n digwydd? Credaf mai dyna'r broblem. Rydych yn dweud nad ydynt yn meddwl gormod am drefniadau tollau. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae busnesau'n dweud y gwrthwyneb yn llwyr wrthym. Maent eisiau gwybod am drefniadau tollau, maent eisiau gwybod am y tariffau ac maent eisiau gwybod am y rhwystrau di-dariff. Mae angen iddynt wybod ble maent yn mynd.

Roeddem yn siarad ddydd Llun yn ein pwyllgor ac roedd pobl yn dweud nad yw ffermwyr yn arbennig yn sôn ynglŷn â beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf; maent yn siarad am beth sy'n digwydd mewn pum neu chwe blynedd, ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynllunio, sut y byddant yn arallgyfeirio eu trefniadau, eu busnesau, mewn pum neu chwe blynedd—mae angen iddynt ei wneud yn awr. Felly, mae'r ansicrwydd hwnnw'n broblem iddynt. Rydych yn dweud nad oes unrhyw un eisiau rhwystrau—rwy'n cytuno'n llwyr—ac mai'r UE piau'r cam nesaf ar hynny. A gaf fi atgoffa pawb yn y Siambr hon fod yr UE yn fwy pryderus, ar hyn o bryd, ynglŷn â'r fframwaith ariannol amlflwydd a'r cyfnod nesaf o saith mlynedd nag y maent ynghylch Brexit? Maent yn edrych ar eu cyllidebau y gwyddant eu bod yn gyfyngedig heb arian y DU, ac maent yn bryderus iawn am hynny. Gyda Brexit, mae'n debyg ein bod wedi mynd i lawr y rhestr yn ddramatig yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, gallech ddweud mai mater i'r UE ydyw, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn poeni amdanom ni; mae ganddynt broblemau eraill y maent yn mynd i'r afael â hwy, ac mae angen iddynt edrych ar hynny. Rwyf bob amser yn ceisio cynhyrchu adroddiadau cytbwys yn ogystal.

Pwysleisiodd Mark y tollau, fel y byddech yn disgwyl iddo wneud, ac ateb arbennig sy'n addas ar gyfer y DU. Rwy'n deall hynny. Soniodd am lorïau a thechnoleg rhwng UDA a Chanada. A gaf fi nodi, a'i atgoffa o'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw yn y pwyllgor Brexit yn San Steffan? Bydd yr ateb 'max fac' sy'n cael ei argymell gan Lywodraeth y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn i fusnesau ac yn cymryd pum mlynedd i weithio'n llawn mae'n debyg. Dyna'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw. Felly, nid yw'r syniad hwn y gallwn gael ateb technolegol yfory yn realistig, ac nid fi sy'n dweud hynny, nid y byd busnes, ond yr unigolyn sy'n siarad am ei gasglu mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]

18:15

Rwy'n mynd i ddirwyn i ben. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i graffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y misoedd nesaf. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth sy'n llifo; mae'n symud yn barhaus. Rydym wedi mwynhau'r ddadl heddiw. Rydym yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at y sgwrs genedlaethol ar hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Dechrau'n Deg: Allgymorth'

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Dechrau'n Deg: Allgymorth'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM6729 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Dechrau'n Deg: Allgymorth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar elfennau allgymorth y rhaglen Dechrau'n Deg.

Cyflwynwyd Dechrau'n Deg 11 mlynedd yn ôl ac fe'i hystyrir yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig ac fe'i hystyrir yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: gofal plant rhan-amser yn rhad ac am ddim i blant dwy i dair blwydd oed, gwasanaeth ymwelwyr iechyd gwell, mynediad at gymorth rhianta a mynediad at gymorth datblygiad iaith cynnar. Mae'r rhaglen yn targedu ardaloedd yn ôl mesurau o anfantais gymharol, gan gynnwys mynegai amddifadedd lluosog Cymru, prydau ysgol am ddim a'r gyfran o blant o dan bedair oed ar aelwydydd sy'n cael budd-daliadau cysylltiedig ag incwm. Felly mae Dechrau'n Deg yn ceisio cynorthwyo'r teuluoedd, y cymunedau a'r plant ifanc mwyaf difreintiedig. Mae gwasanaethau'r rhaglen ar gael yn gyffredinol i'r holl blant o dan bedair oed yn yr ardaloedd lle mae'n cael ei chynnig.

Yn 2014, cyflwynwyd trefniadau allgymorth mewn ymateb i bryderon fod seilio hawl i wasanaeth ar god post teulu yn arwain at allgáu llawer o'r plant a oedd fwyaf o angen cymorth. Crëwyd elfen allgymorth y rhaglen i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu pedair elfen graidd Dechrau'n Deg i ganran fach o'u poblogaeth sy'n byw y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg.

Dewisom gynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfen allgymorth Dechrau'n Deg y llynedd oherwydd bod ymatebwyr i'n hymgynghoriad 2016 ar 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er eu bod yn cefnogi nodau Dechrau'n Deg, roeddent yn pryderu bod targedu'r rhaglen yn ddaearyddol mewn perygl o greu rhagor o anghydraddoldeb, drwy eithrio nifer sylweddol o blant a oedd yn byw mewn tlodi. O ystyried hyn, cytunwyd y dylem glywed tystiolaeth ynghylch pa mor effeithiol yw'r gwaith allgymorth presennol ac a ddylid datblygu'r rhaglen i ymestyn ei chyrhaeddiad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd dystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i'r gwaith pwysig hwn, a chydnabod gwaith caled yr holl staff ymroddedig sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Cymru.

Felly, i droi at fanylion ein hadroddiad, roeddem am sefydlu i ba raddau roedd awdurdodau lleol yn defnyddio'r opsiwn allgymorth i gefnogi plant y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg a fyddai'n elwa ar ei wasanaethau. Er inni ganfod bod awdurdodau lleol yn gwneud defnydd o'r hyblygrwydd hwn i gyrraedd plant y tu allan i'r ardaloedd, siom oedd darganfod pa mor gyfyngedig oedd y capasiti. Dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod cyn lleied â phump o blant yn cael y gwasanaethau allgymorth hyn mewn rhai siroedd oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Roeddem yn falch fod y sylw a roesom i gapasiti allgymorth cyfyngedig wedi arwain at gynnydd yn yr hyblygrwydd i ddyrannu cyllid i wasanaethau allgymorth. Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Leol yn cael gwario hyd at £2.84 miliwn yn ychwanegol ar allgymorth ar unwaith, sy'n cyfateb i 5 y cant o gyllideb flynyddol Dechrau'n Deg. Serch hynny, fel pwyllgor, rydym yn dal i fod heb ein hargyhoeddi bod hyblygrwydd o 5 y cant yn ddigon. Gyda mwyafrif y plant sy'n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd diffinedig Dechrau'n Deg, argymhellwyd y dylai'r Gweinidog ystyried ymestyn hyblygrwydd ariannu allgymorth y tu hwnt i 5 y cant i ganiatáu i'r rhaglen gyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i hangen.

Rydym yn croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i'n hadroddiad y bydd yn archwilio goblygiadau llawn hyblygrwydd cyllido pellach gydag awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â rhaglenni daearyddol, yn enwedig llai o stigma, mwy o gymdeithasoli a chreu ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn fater o bryder i ni fod bron i ddwy ran o dair o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn byw y tu allan i ardaloedd daearyddol a ddiffinnir fel rhai difreintiedig. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu rhagor o fanylion gan y Gweinidog ar natur y gwaith a wneir i asesu addasrwydd y cap o 5 y cant cyn y gyllideb ddrafft nesaf. Buaswn hefyd yn croesawu mwy o wybodaeth am yr ystyriaeth y mae'n ei rhoi i hawliau'r plant nad ydynt yn gallu manteisio ar Dechrau'n Deg na'r cynnig gofal plant os ydynt yn byw y tu allan i'r ardal cod post berthnasol a chanddynt rieni nad ydynt yn gweithio.

Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod craffu da yn golygu nid yn unig ystyried faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer darn o waith, ond pa effaith a gaiff yr adnodd hwnnw pan fydd yn weithredol. I'r perwyl hwnnw, buom yn ystyried y gwaith a wnaed i asesu effaith y £600 miliwn a fuddsoddwyd yn Dechrau'n Deg ers 2007. Gellir crynhoi'r hyn a welsom mewn tri phwynt allweddol. Yn gyntaf, cafodd Dechrau'n Deg ei werthuso'n helaeth, ond nid yn benodol yng nghyswllt yr elfen allgymorth. Yn ail, ceir diffyg data ynglŷn â niferoedd y rhai sy'n manteisio ar bob un o'r gwasanaethau o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Yn drydydd, nid yw'n hawdd mesur natur y canlyniadau a ddisgwylir o raglen fel Dechrau'n Deg. Wrth eu natur, maent yn ymwneud â'r tymor hwy ac yn anodd eu gwahanu oddi wrth y gwasanaethau a'r cymorth arall a ddarperir.

Mae'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod angen gwneud rhagor i ddangos manteision y rhaglen. Er ein bod yn cydnabod gwybodaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid am y cynnydd a wnaed gan blant sydd wedi cael cymorth Dechrau'n Deg, a'r ffaith bod y rhaglen yn cael ei gwerthfawrogi gan y rhai sy'n gallu cael mynediad ati, mae llawer o werthusiadau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd darparu tystiolaeth empirig o effaith. Gyda chymaint o fuddsoddiad wedi'i wneud yn Dechrau'n Deg, rydym yn awyddus i weld tystiolaeth glir o'i effaith. Er ein bod yn croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddangos y gwelliannau uniongyrchol y mae Dechrau'n Deg yn eu gwneud, rydym yn awyddus i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei fonitro'n agos. Credwn fod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y swm mawr o arian a fuddsoddir yn hyn bob blwyddyn, gydag ychydig o dan £80 miliwn wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon yn unig.

Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi gofyn i awdurdodau lleol ddatblygu a chasglu set gyson o ddata ynglŷn â phlant Dechrau'n Deg fel rhan o gynllun peilot. At hynny, rydym yn falch y bydd y cynllun peilot hwn yn cynnwys casglu data ynglŷn ag a yw plant yn cael cymorth drwy wasanaethau allgymorth Dechrau'n Deg neu o fewn ardal cod post. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein cais am ddiweddariadau rheolaidd ar y data a'r gwaith ar gryfhau gwerthusiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gresynu at y ffaith bod argymhelliad 6 wedi'i wrthod, ac yn dal i bryderu na chesglir data ar allgymorth ar lefel Cymru gyfan. Rydym yn credu bod angen rhoi sylw i hyn os yw gwerth am arian ac effaith i gael eu hasesu'n gynhwysfawr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried hyn.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r diweddariad y gofynnwyd amdano yn argymhelliad 7. Credwn ei fod yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae wedi monitro ac adolygu effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen Dechrau'n Deg, cyrhaeddiad elfen allgymorth y gwasanaethau hynny, ac argaeledd staff i gynnal y rhaglen. Mae'r olaf o'r pwyntiau hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth a gawsom am anawsterau recriwtio ymwelwyr iechyd i'r cynllun Dechrau'n Deg. Dywedwyd wrthym fod hyn yn arbennig o ddifrifol oherwydd bod contractau Dechrau'n Deg sy'n seiliedig ar grantiau—a byrdymor o'r herwydd—yn ei chael hi'n anodd cystadlu â'r contractau mwy sefydlog a gynigir gan raglenni megis Cychwyn Iach Cymru.

Fel gyda nifer o ymchwiliadau eraill a gynhaliwyd gennym yn ystod y Cynulliad hwn, rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd at ein canfyddiadau cyn yr etholiad nesaf. Yn ein hadroddiad, rydym yn ymrwymo i ailystyried ein hymchwiliad ymhen y flwyddyn. Ein nod wrth wneud y gwaith dilynol hwn yw: ystyried y prosesau gwerthuso a chasglu data sy'n deillio o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn; asesu a yw'r diwygiadau diweddar i ddyraniad cyllid allgymorth yn cael eu defnyddio, lle maent yn cael eu defnyddio, ac a ydynt yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau rheng flaen a'u cyrhaeddiad; ystyried a yw'r rhaglen fel y'i strwythurwyd ar hyn o bryd yn dal yn briodol o ran y dyraniad cyllid cyffredinol, y gwasanaethau a ddarperir a'r meini prawf ar gyfer hawliau; ac ystyried y rhagolygon ar gyfer recriwtio ymwelwyr iechyd, o gofio'r pryderon ynglŷn â chapasiti.

Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog a'r Aelodau eraill ar y pwnc pwysig hwn, a hoffwn gloi fy sylwadau agoriadol drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu cyfraniad i'r ymchwiliad hwn a'u hymrwymiad i wneud gwaith dilynol ar weithrediad ein hargymhellion. Diolch.

18:25

Rwy'n llongyfarch y Cadeirydd ar ei chyflwyniad rhagorol i'r adroddiad yn egluro'r cefndir polisi i'r maes cyn symud yn rhy gyflym at feysydd dadleuol a'r argymhellion. Diolch.

Hoffwn ddweud i ddechrau fod y cyfaddawd rhwng rhaglen gyffredinol a rhaglen wedi'i thargedu yn un y mae'r Cynulliad wedi'i drafod mewn llawer o feysydd eraill—yn eithaf diweddar, yn ein pwyllgor, ar brydau ysgol am ddim a grantiau wedi'u targedu. Rwy'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn haws cyflwyno rhaglen mewn ardal ddaearyddol wedi'i thargedu lle y gall y derbynwyr gyrraedd lle y darperir y gwasanaeth yn hawdd, a lle mae natur gyffredinol y gwasanaeth yn lleihau'r stigma ac yn annog mwy o bobl i ymuno ac elwa heb deimlo eu bod yn cael eu neilltuo.

Mae'r 2.5 y cant ar gyfer allgymorth bellach wedi cynyddu i 5 y cant. Credaf fod hynny'n synhwyrol ac rwy'n cytuno â chasgliadau'r pwyllgor. Rwy'n credu ein bod yn unfrydol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu hynny ymhellach, ond mae rhywfaint o'r arian hwnnw'n cael ei wario ar blant sydd wedi bod yn yr ardal, sydd hanner ffordd drwy'r rhaglen, yn elwa ohoni, a bod eu rhieni'n symud y tu allan i'r ardal. Byddai'n ymddangos yn rhyfeddol pe baem yn rhoi diwedd ar y rhaglen ar yr adeg y byddai'r plant yn newid cyfeiriad pan allent fod yn elwa ohoni.

Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog edrych ar un maes arall, efallai, i'w argymell i awdurdodau lleol, ond hefyd er mwyn hwyluso: caniatáu i wariant ar raglenni allgymorth y tu allan i'r ardal gael ei wneud ar sail a fyddai'n ein galluogi i farnu a yw'r rhaglen yn gweithio. Ac mae'n wir, gallwch edrych ar ardaloedd lle mae ar gael o gymharu ag ardaloedd lle nad yw ar gael, gallwch edrych ar blant sy'n rhan o'r rhaglen o gymharu â rhai nad ydynt, ond yn aml fe welwch fod nodweddion teuluoedd sy'n cymryd rhan yn wahanol i'r rhai nad ydynt, felly ni fydd o reidrwydd yn ddibynadwy.

O fewn yr ardal, mae gan bobl hawl i gael budd o'r rhaglen. Y tu allan, mae'n swm llawer llai; gall llawer mwy o bobl sydd eisiau'r rhaglen elwa ohoni. A wnaiff y Gweinidog edrych ar hwyluso hap-dreialon rheoledig a fydd yn rhoi tystiolaeth dda i ni weld a yw'r ymyriadau'n gweithio mewn gwirionedd? Er enghraifft, ceir nifer o bobl a fyddai'n hoffi elwa os gallant, a gellir dyrannu'r swm sydd ar gael yn y gyllideb newydd, os yw'n codi—. A ydych yn ceisio ymyrryd, Weinidog? Gwych.

18:30

Diolch i chi am ildio. O fewn yr hyblygrwydd sydd yno ar hyn o bryd, mae'n ddiddorol nodi bod lleoedd fel Abertawe yn ei dargedu at grwpiau penodol y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, megis cymuned y Teithwyr ac ati. Yr anhawster gyda monitro'r effeithiolrwydd yw bod y data hydredol yr edrychwch amdano i weld y canlyniadau gydol oes—sut y gwnewch hynny? Sut y gallwn ddychwelyd ymhen chwe mis neu 12 mis? Ond mae'n faes diddorol, oherwydd efallai na fydd rhai o fanteision yr ymyriadau cynnar hyn, ymyriadau cofleidiol gyda'r teuluoedd sydd fwyaf o'u hangen, i'w gweld hyd nes y byddant yn eu harddegau, yn eu 20au a bydd eu cyfleoedd mewn bywyd wedi'u hagor yno. Dyna'r her, a gwn ei fod yn deall hynny.

Ond mae rhai o'r manteision yn debygol o gael eu gweld yn y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol os ceir manteision dibynadwy, a chredaf y bydd ei gynnwys yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn gwella'r cyfleoedd i ymchwilwyr yn amlwg iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £600 miliwn ar hyn yn yr 11 mlynedd diwethaf ac yn ei disgrifio fel rhaglen flaenllaw. O gofio maint y buddsoddiad, nid yw lefel yr asesiad a dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae unrhyw beth yn gweithio yn ddigon da os caf ddweud. Mae'r dystiolaeth gan y Llywodraeth yn disgrifio'r gwerthuso 'cryf', ond rwy'n credu ei fod yn cael ei ddisgrifio'n fwy cywir ar dudalen 6 fel 'Mae tystiolaeth o'r gwerthusiad yn awgrymu' yn hytrach na 'dangos'. Mae'n derbyn bod y dystiolaeth yn ansoddol. Ac mewn gwirionedd, oni allwn wneud yn well na thystiolaeth ansoddol yn unig a ninnau wedi gwario £600 miliwn? Y ffaith bod plant yn gwella o ran eu cyfathrebu, darllen a rhifo—wel, byddech yn disgwyl hynny ar yr oedran hwnnw beth bynnag. Y cwestiwn yw: a yw'n gyflymach nag ymhlith plant nad ydynt yn rhan o'r rhaglen? Nid yw'r ffaith bod bron bob rhiant a gyfwelwyd yn 'teimlo' ei fod wedi effeithio'n gadarnhaol yn sylfaen dystiolaeth ddigonol os ydych yn gwario swm o arian felly.

Hoffwn edrych yn benodol ar yr agwedd rianta, oherwydd mae gan Lywodraeth Cymru 100 o dudalennau o ganllawiau i awdurdodau lleol ar hynny, ac mae'n cynnwys atodiad B: rhestr a gymeradwywyd o raglenni grwpiau rhianta strwythuredig yn seiliedig ar dystiolaeth. Ceir tystiolaeth ar gyfer rhai rhaglenni rhianta eu bod yn gweithio, tystiolaeth academaidd gadarn dda iawn, ond o'r rhestr hon o 20 rhaglen wahanol: ni chafodd tair ohonynt eu gwerthuso o gwbl; mae tair ohonynt wedi cael y sgôr uchaf o bedair seren gan yr Academi Genedlaethol o Ymarferwyr Rhianta, sef yr Academi Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Rhianta bellach, ac maent yn dda iawn, ond sgôr o ddwy seren yn unig sydd gan bump ohonynt, ac mae hynny'n golygu nad yw'r rhaglen yn arbennig o dda. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn rhoi arian fel hyn i mewn i raglen fel hon, does bosibl nad ydym eisiau ei roi tuag at feysydd sydd wedi'u gwerthuso ac y dangoswyd eu bod yn gweithio.

Rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych yn agosach ar y rhestr hon o raglenni rhianta yn benodol, ond hefyd i weithio gyda'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar a sefydlwyd gan Graham Allen AS ac edrych ar eu mis Chwefror eleni 'Evaluating early intervention programmes—Six common pitfalls, and how to avoid them'. Ceir cyngor da iawn yno ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru wella'r hyn y mae'n ei wario yn y maes hwn a gwneud yn siŵr y caiff ei wario gystal ag y gellid.

Rydw i'n mynd ar ôl trywydd nid anhebyg, o safbwynt y dynfa sydd yma, ac rydw i'n meddwl yn ei hanfod dyna roeddwn i'n ymrafael â hi yn yr adroddiad yma, sef y dynfa yma rhwng sut rydych chi'n ffocysu adnoddau er mwyn cael yr impact gorau. Rŷm ni'n gweld hyn nid dim ond o ran Dechrau'n Deg ond mewn rhaglenni eraill. A ydych chi'n cyfyngu'r gefnogaeth i ardaloedd daearyddol penodol neu a ydych chi'n targedu demograffig neu grŵp penodol o bobl lle bynnag maen nhw'n byw? Yn ei hanfod—ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddadl, rwy'n credu—dyna oedd yr hyn yr oeddwn i'n trio ymrafael ag ef. Ac mae'n rhaid i fi ddweud, a chytuno â'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd ar y dechrau—y siom fwyaf ges i oedd cyn lleied oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth mewn rhai awdurdodau lleol. Hynny yw, mi gyfeiriwyd at un awdurdod lleol lle dim ond pump o blant a oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth. Os ydych hi'n mynd i drio gwneud hyn ddwy ffordd, a chael rhyw fath o gydbwysedd, yna byddwn i'n disgwyl gwell cydbwysedd yn dod yn sgil hynny, oherwydd mae'r elfen allgymorth yma i fod yn ffordd i newid y cydbwysedd yna, i fynd i'r afael â'r diffyg cydbwysedd, ac, yn amlwg, mewn rhai ardaloedd nid yw hynny, efallai, ddim yn digwydd fel y byddwn i'n dymuno. Ac fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mae dwy ran o dair o bobl sydd ag anawsterau incwm yn byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, felly mae yna wendid clir yn hynny o beth.

Mae'n ffaith bod y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi cynyddu'r cap ar wariant allgymorth, lan i 5 y cant o'r gyllideb, yn ystod yr ymchwiliad, ac mae hynny yn ei hun, rydw i'n meddwl, wedi bod yn gyfaddefiad ar ran y Gweinidog a'r Llywodraeth nad oedd y cydbwysedd, efallai, fel y dylai fod, ac nad oedd e'n iawn, nad oedd e'n addas, ac efallai nad oedd e'n ddigonol. Ac mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn holi'r cwestiwn ynglŷn â'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Iawn, os ydych chi'n derbyn efallai bod eisie newid y cydbwysedd, pam 5 y cant? Pam ddim 7 y cant neu 10 y cant? Ac rydw i'n gwybod eich bod wedi cyfeirio, os ydw i'n cofio'n iawn, at y ffaith mai dyna'r ffigur sy'n gallu cael ei 'vire-o' o un rhaglen i'r llall, ond rydw i'n meddwl bod angen inni gael gwell rationale sy'n seiliedig, efallai, ar yr awgrym o beilota neu dreialu neu drio gwahanol fodelau mewn ardaloedd gwahanol, fel ein bod ni â'r hyder bod y model yna neu'r ffigur yna yn addas. 

Weithiau, mae'n rhaid inni dderbyn, er mor crude yw ffiniau daearyddol, gydag ychydig o dechnegau, efallai, i drio meddalu ychydig ar y ffiniau yna, efallai bod yn rhaid inni jest derbyn nad yw e'n berffaith ond efallai taw dyna'r gorau sydd gennym ni. Yn sicr, rydw i'n teimlo taw dyna'r consensws gyda rhywbeth fel y grant datblygu disgyblion, y PDG. Mae ambell un wedi dweud bod seilio hwnnw ar bwy sy'n gymwys, (a), i gael cinio am ddim yn rhy crude, a ddim yn ddigon clyfar, efallai, ond pan ŷch chi'n gofyn beth a ddaw yn ei le—wel, mae pawb yn edrych ar ei gilydd ac yn dweud, 'Wel, ie, efallai taw hynny yw'r gorau sydd gyda ni', ac weithiau, efallai, mae'n rhaid inni dderbyn hynny. Ond heb y rationale yna y tu ôl i'r 5 y cant, rydw i'n dal yn stryglo i deimlo ei fod e ddim yn ffigur sydd jest wedi cael ei bigo mas o'r awyr. Ac rydw i'n sicr eisie gweld mwy o impact na'r hyn rŷm ni wedi'i weld yn y gorffennol.

Nawr, rydw i yn cael fy nghalonogi gan rai agweddau ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion, yn enwedig y sôn am yr ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i greu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol, a fydd yn rhoi lle canolog  i anghenion unigryw pob plentyn. Felly, mae rhywbeth yn fanna, rydw i'n meddwl. A byddwn i'n licio clywed y Gweinidog yn ymhelaethu, efallai, ar yr hyn y mae e'n ei olygu pan mae e'n sôn am greu un system ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy'n lleol ac yn genedlaethol, ond hefyd fod pob gwasanaeth yn cydweithio, yn tynnu i'r un cyfeiriad. Byddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ac mae'n bosib, o gael hynny'n iawn, fod hynny yn ei hun yn rhoi ychydig mwy o hyblygrwydd o safbwynt y modd mae'r gwasanaethau yma'n cael eu gwasgaru dros ardaloedd ehangach. Os ydy pawb yn tynnu i'r cyfeiriad, yna efallai bod gan bawb bach mwy o hyder i wthio'r ffiniau yna, yn hytrach na jest dibynnu ar y ffiniau daearyddol.

Rŷch chi hefyd yn sôn am broject cydadeiladu dwys gyda dau fwrdd gwasanaethau cyhoeddus sydd yn mynd i edrych ar yr opsiynau. Wel, mae hynny'n swnio tamaid bach fel cyfle i beilota gwahanol approaches. Felly, fe wnaf i gyfyngu fe sylwadau i hynny, rydw i'n meddwl, oherwydd mae'r cloc yn fy nghuro i. Ond rydw i'n dod nôl at y pwynt yma: yng nghalon yr adroddiad yma mae'r ddadl yma ynglŷn â ble rŷm ni'n taro'r cydbwysedd. Nid oedd yna dynfa yn ôl at lynu'n dynnach at ffiniau daearyddol yn y dystiolaeth. Nid oedd yna dynfa, a bod yn onest, oherwydd mae yna faterion yn ymwneud â stigma ac yn y blaen, i fynd yn llwyr i'r cyfeiriad arall. Y cwestiwn i fi yw: ble mae'r cydbwysedd yna yn cael ei daro?

18:35

Rwyf am godi mater penodol, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wedi ei godi cyn hyn fel rhan o'r gwaith hwn, mater sy'n ymwneud â fy etholaeth, sef Dwyrain Casnewydd, lle mae'r elfen god post o gymhwysedd ar gyfer y ddarpariaeth, er gwaethaf yr elfen allgymorth sy'n ymdrin yn rhannol â'r cyfyngiad hwnnw, yn dal i fod wedi arwain at ddwy gymuned sy'n debyg iawn—tai cymdeithasol ym Mharc Moorland a Pharc Broadmead yng Nghasnewydd—lle mae eu mynediad at y rhaglen Dechrau'n Deg yn wahanol iawn.

Felly, mae yna sylfaen Dechrau'n Deg ym Mharc Moorland—yng nghanolfan gymunedol Parc Moorland, yn Nwyrain Casnewydd—ac mae gan ardal tai cymdeithasol Parc Moorland fynediad at y ddarpariaeth. Ond nid oes gan Barc Broadmead gerllaw fynediad o'r fath oherwydd y maen prawf cymhwysedd cod post. Er bod yna elfen allgymorth, nid yw'n ddigon i unioni'r gwahaniaeth yn ddigonol. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru edrych eto ar yr elfen honno o'r rhaglen oherwydd yr hyn a ganfuom oedd bod capasiti sbâr yn y cyfleuster yng nghanolfan gymunedol Parc Moorland, felly roedd y staff yn eu lle, roedd y cyfleusterau yno, a fyddai'n eu galluogi i helpu rhagor o blant a rhagor o deuluoedd, ond ni allent wneud hynny oherwydd y cyfyngiad cod post. Felly, credaf ei fod yn ddarlun clir o fethiant i wneud y defnydd gorau o gapasiti ac adnoddau, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.

18:40

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl bobl a'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn rhan o'n hymchwiliad, a hefyd i glercod y pwyllgor sy'n gwneud gwaith mor rhagorol yn cefnogi gwaith y pwyllgor.

Wrth agor ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn dweud:

'Rydym eisiau sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau posibl i’w bywydau.'

Mae pawb ohonom eisiau hynny, ond y cwestiwn yw ai Dechrau'n Deg, er gwaethaf yr hyblygrwydd y mae'r Gweinidog wedi ceisio ei gyflwyno, yw'r ffordd orau o ddarparu'r cymorth hwnnw. Mae rhai plant mewn ardaloedd heb raglen Dechrau'n Deg angen y cymorth hwn, ond nid ydynt yn ei gael oherwydd eu bod yn digwydd byw yn y cod post anghywir. Mae gan yr ardaloedd mwyaf cefnog bocedi o dlodi, ac mae anghenion y plant sy'n byw ynddynt yn cael eu hanwybyddu. Felly, ymddengys i mi fod defnyddio daearyddiaeth fel y maen prawf ar gyfer cynnig y cymorth hwn i'w weld yn offeryn braidd yn amrwd i'w ddefnyddio.

Wrth ymateb i argymhelliad 2, dywed y Gweinidog fod hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer allgymorth a roddir i awdurdodau lleol dan ystyriaeth ar hyn o bryd, a hoffwn yn fawr iawn pe bai'r Gweinidog yn dod yn ôl a chyflwyno adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw i'r Cynulliad. Credaf y byddai ei ganfyddiadau'n ddiddorol iawn. Byddai hefyd yn ddiddorol iawn clywed barn y Gweinidog ar fanteision ac anfanteision cymharol targedu daearyddol o gymharu â ffyrdd eraill o dargedu'r cyllid i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir o Dechrau'n Deg.

Wrth gwrs, mae'n bosibl iawn fod Dechrau'n Deg yn effeithiol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau rhai pobl, ond heb werthusiad priodol o'r angen am y cynllun, lefel yr allgymorth a'i ganlyniadau, ni allwn fod yn sicr a ydym yn cyrraedd pawb sydd angen y cymorth, ac os ydym, pa mor effeithiol yw'r cymorth hwnnw mewn gwirionedd.

Rwy'n deall y pwynt ynglŷn â lleihau'r gwaith adrodd sydd gan awdurdodau lleol i'w wneud, ond os yw Llywodraeth Cymru yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, pam na ellir casglu'r data i asesu a yw'r strategaeth o gynnig hyblygrwydd yn hytrach na diwygio Dechrau'n Deg yn un effeithiol? Yn ei ymateb i argymhelliad 1, ymddengys bod y Gweinidog wedi cyflawni'r argymhellion drwy roi esboniad o'r broses, ond mae'r prosesau a ddisgrifir i'w gweld yn hanner dyfalu hanner amcangyfrif y ganran angenrheidiol o hyblygrwydd, yn dilyn trafodaethau gyda rhai, ond nid pob un, o'r awdurdodau lleol.

Rwy'n bryderus nad yw'n ymddangos bod y broses honno wedi'i seilio ar sylfaen dystiolaeth gadarn, ac felly ceir pryder na fydd y ganran a ddewiswyd yn ddigon o hyd. Mae'r Gweinidog yn dweud yn yr ymateb y bydd trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol, ond pa awdurdodau lleol fydd y rheini, os nad pob un ohonynt, a beth fydd y broses ar gyfer addasu'r ganran? Buaswn yn gobeithio y byddai'n broses eithaf rhesymegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Hoffwn glywed beth y mae'r Gweinidog yn ei ystyried yw manteision ac anfanteision y dull y mae'n ei ddefnyddio ar gyfer asesu a yw canran yr hyblygrwydd a'r cyllid ar gyfer allgymorth yn ddigonol.

Mae'n ddigon hawdd gofyn am adborth gan y bobl sy'n cymryd rhan—mae'n ymarfer teilwng iawn ac rydych yn mynd i gael gwybodaeth dda o hynny—ond mae gwir angen inni gael gwerthusiad priodol o anghenion y rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan, i weld a ddylent allu cymryd rhan yn Dechrau'n Deg, a beth fydd y costau a'r goblygiadau logistaidd. Ac i'r perwyl hwnnw, mae'n drueni fod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 6. Mewn gwirionedd nid yw casglu data ar gyfer Cymru gyfan yn esgus dros beidio â monitro a oes gormod o amrywio rhanbarthol. Does bosibl nad rôl Llywodraeth Cymru yw goruchwylio'r system a lleihau gwahaniaethau diangen rhwng rhanbarthau. Sut arall y gallwch fonitro gwahaniaethau rhanbarthol a sicrhau bod pawb sydd angen Dechrau'n Deg yn gallu cael mynediad at y rhaglen, ac nad oes unrhyw deulu yn syrthio drwy'r rhwyd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd mwy na thebyg?

Bydd llawer o bobl yn pryderu bod awdurdodau lleol sy'n brin o arian yn annhebygol o gyflawni nifer o swyddogaethau neu gynnig gwasanaethau nad ydynt yn cael eu mesur yn eu herbyn na'u monitro arnynt hyd yn oed. Felly, yn sicr, gallai gwrthod y syniad y dylai awdurdodau lleol roi gwybod am unrhyw newidiadau i'r modd y darperir gwasanaethau fod yn arwydd iddynt nad yw Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i Dechrau'n Deg a'i bod hi'n iawn i awdurdodau lleol lacio'u hymroddiad i'r cynllun. Rwy'n berffaith siŵr nad dyna eich bwriad, Weinidog, ond sut rydych yn mynd i atal awdurdodau lleol rhag bachu ar yr esgus i roi ychydig o hyblygrwydd iddynt eu hunain? Rydym yn haeddu cael gwybod bod y prosiect yn effeithiol, ond yn fwy pwysig, mae teuluoedd Cymru sydd angen cymorth, ym mha ardal ddaearyddol bynnag y maent yn byw ynddi, yn haeddu'r gorau y gallwch ei wneud drostynt.

Felly, yn olaf, heb fonitro a gwerthuso priodol, ni allwn fod yn sicr fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hoffwn annog y Gweinidog i dderbyn yr argymhellion y mae wedi'u gwrthod a derbyn yn llawn, nid mewn egwyddor yn unig, holl argymhellion eraill yr adroddiad. Diolch.

18:45

Darllenais eich adroddiad gyda diddordeb, gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond roeddwn yn arfer rheoli rhaglen Cychwyn Cadarn, felly mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhwysigrwydd allgymorth. Roeddwn braidd yn siomedig, felly, pan ddarllenais yno na wnaethoch ganolbwyntio ar effeithiolrwydd allgymorth o fewn ffiniau daearyddol Dechrau'n Deg, gan mai dyna yw un o'r materion pwysicaf i mi wrth asesu a yw Dechrau'n Deg yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i angen.

Rwy'n sylweddoli bod gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd ddyletswyddau statudol a phwerau i ymgysylltu â menywod beichiog a babanod a phlant bach yn wir, ac felly mae'n rhaid cymryd bod peth cyswllt cyffredinol yn digwydd gyda'r holl famau a babanod yn yr ardal; fodd bynnag, bydd y teuluoedd mwyaf ymylol yn annhebygol o ymgysylltu ag Aros a Chwarae, gweithdai sgiliau rhianta a phethau cyffelyb os nad oes ymdrech fwriadol i'w cynnwys. Ac nid wyf yn gwybod, o ddarllen yr adroddiad hwn, a yw hyn yn digwydd.

Ond rydym yn gwybod bod yna gyfoeth o ymchwil sy'n dangos bod teuluoedd sy'n dioddef o iselder cyn geni ac ôl-enedigol, mamau sydd wedi cael profiadau niweidiol blaenorol yn ystod plentyndod a'r rhai sydd mewn perthynas gamdriniol yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn gwasanaethau a gynlluniwyd i chwalu'r unigedd a'r unigrwydd sy'n gallu mynd law yn llaw â bod yn rhiant. Mae'n llawer haws i rai sydd heb heriau ychwanegol ac maent yn fwy tebygol o ymgysylltu. Felly, mae hwn yn dal i fod yn gwestiwn yn fy meddwl a hoffwn glywed gan y Cadeirydd, wrth iddynt grynhoi, pa bwyslais a roddir ar hyn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn parhau i fod yn farc cwestiwn mawr yn fy meddwl.

Er bod y pwyslais a rowch ar allgymorth i'r rhai sydd y tu allan i ardal Dechrau'n Deg yn ganmoladwy mewn rhai ffyrdd, mae perygl o wanhau'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a dargedir gan Dechrau'n Deg. Ydy, mae ardaloedd cynnyrch ehangach is yn ffordd amrwd iawn o wneud pethau; mae'n bleser i gynllunwyr oherwydd mae'n rhoi cyfrannau cyfartal i chi, ond nid yw'n parchu natur wahanol ystadau unigol. Yn fy ardaloedd Dechrau'n Deg fy hun, mae gennyf hanner ystâd, ystâd eithaf tlawd, nad yw yn Dechrau'n Deg ac mae'r hanner arall o fewn ardal Dechrau'n Deg. Mae gennyf ddatblygiad newydd o dai preifat yn bennaf o fewn yr ardal Dechrau'n Deg a chymunedau difreintiedig iawn y tu allan iddi. Felly, nid yw'n ffordd berffaith o ddyfeisio pethau. Serch hynny, dyma sydd gennym ac rwy'n cefnogi'n gryf y modd y mae'r Llywodraeth yn targedu cymorth i'r cymunedau mwyaf difreintiedig.

Credaf fod darparu parhad yn y gefnogaeth i blant sy'n gorfod symud allan o ardaloedd Dechrau'n Deg yn gwneud synnwyr perffaith, oherwydd un o agweddau bod yn ddifreintiedig yw eich bod yn symud yn amlach; rydych yn fwy symudol; rydych yn debygol o fod yn mynd i nifer o ysgolion yn hytrach nag un yn unig. A buaswn yn disgwyl i blentyn gydag anghenion parhaus, mewn ardal Dechrau'n Deg neu beidio, gael ei atgyfeirio os yw'n symud o dde Cymru i ogledd Cymru, at y gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n mynd i ddeall y cymorth sydd ei angen ar y teulu os oes rhaid iddynt symud.

Credaf hefyd y byddai galluogi timau Dechrau'n Deg i dargedu cymunedau o ddiddordeb arbennig, megis llochesi, hostelau i'r digartref, cymunedau Teithwyr, plant sy'n geiswyr lloches—yn fy ardal i—yn sicrhau bod pawb yn elwa o gymorth Dechrau'n Deg, a chredaf fod hynny'n gwneud synnwyr—cael y lefel honno o hyblygrwydd yn y rhaglen. Ac yn fy marn i, yn amlwg, mae'r pwyntiau a wnaed gan John Griffiths am Barc Moorland a'r ardal gerllaw, os yw o fewn pellter cerdded i'r teuluoedd eraill hyn fynd i ardal Parc Moorland, nid wyf yn deall pam nad yw hynny'n digwydd yn awr, o ystyried bod hyblygrwydd cynyddol wedi bod ar waith ers y llynedd. Ond i mi, rhaid i egwyddor Peckham barhau i fod yn gymwys, sef nad oes unrhyw bwynt cael gwasanaeth nad yw o fewn pellter gwthio pram i deulu heb gar at eu defnydd, ac yn aml heb arian ar gyfer tocyn bws i deithio y tu hwnt i hynny.

Edrychaf ymlaen yn arbennig at argymhelliad 7, i ganiatáu inni gael mwy o wybodaeth am y manteision a gafwyd o'r buddsoddiad o £600 miliwn. Oherwydd rydym yn dal i aros am ateb. Rwy'n cytuno â Mark fod y gwaith gwerthuso addysgol a wnaed yn ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod eto a oes canlyniad mesuradwy a buddiol o ran cyrhaeddiad addysgol, ac mae angen inni wybod. A yw Dechrau'n Deg yn herio tystiolaeth y Sefydliad Polisi Addysg sy'n dweud bod plant peniog tlawd yn gwneud yn waeth na phlant cefnog gwan oni bai bod gennym ymyriadau priodol—yn ymwneud yn bennaf ag addysg gynnar integredig o safon? Felly, edrychaf ymlaen at ganlyniad yr adolygiad cyflym a byddaf yn cadw llygad ar hyn yn y dyfodol.

18:50

Mae gennyf ardaloedd Dechrau'n Deg yn fy etholaeth, ardaloedd megis Parc Churchill, Graig-y-Rhaca, Parc Lansbury, ystâd Parc ym Margoed, Senghennydd ac ystâd Trecenydd, ac rwyf wedi y gweld manteision—fel y byddai'r Siambr wedi'i ddisgrifio heddiw yn 'anecdotaidd'. Rwyf wedi gweld manteision Dechrau'n Deg.

Fy unig gyfraniad i'r ddadl dros argymhelliad 6 fyddai bod deall effaith rhaglen yn ei gwneud hi'n haws yn y tymor hir i'w hamddiffyn, ac felly mae cael y ddealltwriaeth honno a meithrin y ddealltwriaeth honno yn ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n credu yn y rhaglen allu ei hamddiffyn yn nes ymlaen. Yng nghefn fy meddwl mae Cymunedau yn Gyntaf, rwy'n credu, a pheth o'r dadlau a ddigwyddodd ynglŷn â'r rhaglen honno. Felly, credaf ei bod yn bwysig fod y Gweinidog yn gallu rhoi cymaint o dystiolaeth â phosibl, boed yn ddata hydredol neu'n adborth ar gyfer Cymru gyfan. Hoffwn gael mwy o drafodaeth, rwy'n credu, yn ymateb y Gweinidog, ar argymhelliad 6, a chredaf fod Aelodau o gwmpas y Siambr wedi ategu hynny heddiw.

Hefyd, mewn ymateb i argymhelliad 7, mae'r Gweinidog wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad i'r pwyllgor ym mis Hydref gydag amodau, ond credaf fod hynny eto yn dangos awydd y pwyllgor i barhau'r ymgyrch am wybodaeth am y rhaglen hon, ac mae'r rhai ohonom sy'n credu'n gryf ynddi yn teimlo y bydd yn weithredol yn diogelu'r rhaglen.

Mae gan allgymorth Dechrau'n Deg rôl arbennig o bwysig i'w chwarae wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei haddewid maniffesto i roi gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed rhieni sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru. Nodaf fod y comisiynydd plant wedi galw am ymestyn y cynnig gofal plant i rieni nad ydynt yn gweithio, ac os trowch hynny ar ei ben, byddai'n golygu ymestyn Dechrau'n Deg i gynnwys rhieni sy'n gweithio yn ogystal i bob pwrpas, ac ymestyn Dechrau'n Deg yn gyffredinol, a fyddai, unwaith eto, beth bynnag am y mater sy'n codi ynglŷn â'r wybodaeth, yn beth gwych i'w wneud yn fy marn i, ond roedd yn addewid penodol iawn yn y maniffesto, ac mae'r cyfyngiadau ariannol yn llawer rhy ddifrifol i wneud hyn, ac felly credaf fod yr adroddiad yn gweithio o fewn y cyfyngiadau allgymorth. Pe bai gennym fwy o arian, ni fyddem yn gwneud hyn, ond mae'r cyfyngiadau allgymorth yn golygu bod yn rhaid inni ei wneud yn y ffordd hon.

Bydd yn hollbwysig ein bod yn sicrhau bod Dechrau'n Deg yn cael ei ddarparu i bawb sy'n gymwys a bod pawb sydd angen cymorth yn ei gael ac nad ydynt ar eu colled.

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Lynne Neagle, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gyflawni gwaith gwerthfawr a thaflu goleuni ar yr agwedd hon ar raglen Dechrau'n Deg. Nodaf hefyd â diddordeb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Un o'r grymoedd ysgogol ar gyfer mynd i fyd gwleidyddiaeth, buaswn yn gobeithio, i bawb yn yr ystafell hon, yw helpu ym mha bynnag ffordd i ddileu tlodi yn ein cymunedau, ni waeth faint yn waeth y bu yn sgil agenda gyni parhaus y DU. Rydym yn gwybod bod Dechrau'n Deg a'i raglen allgymorth arloesol yn gwneud cyfraniad hollbwysig i strategaeth genedlaethol Lywodraeth Lafur Cymru 'Ffyniant i Bawb', sy'n nodi'n gryf fod y blynyddoedd cynnar yn faes blaenoriaeth. Rwy'n croesawu ymarfer da rhyngwladol cydnabyddedig Dechrau'n Deg, yn Islwyn, lle rwyf wedi gweld y gwahaniaeth ar lawr gwlad yn yr ystâd dai cyngor rwy'n byw ynddi, a ledled Cymru, ac rwy'n croesawu gwaith penodol y pwyllgor ar yr agwedd hon ar y rhaglen.

Fel y gwyddom, mae Dechrau'n Deg ar hyn o bryd yn cael ei darparu i dros 37,000 o blant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru drwy ddull sy'n seiliedig ar le. Mae hynny'n cyfateb i tua 25 y cant o'r holl blant o dan bedair oed yng Nghymru. Mae'n iawn fod dull yn seiliedig ar le, gyda hyblygrwydd ynghylch ardaloedd cynnyrch ehangach is, sy'n ystyried data ar lefel is-ward, yn cael ei ddefnyddio gyda data'r Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynnig lefel synhwyrol o fonitro effeithiol ar y rhaglen, heb ychwanegu biwrocratiaeth feichus? Oherwydd mae'r rhaglen hon wedi sicrhau canlyniadau amlwg i deuluoedd mewn tlodi, ac mae tueddiad yn aml i geisio canlyniadau caled ar unwaith gyda rhaglenni o'r fath, ac mae bob amser yn anodd mesur canlyniadau mwy meddal fel hunan-barch a hyder—nad ydynt yn eu lle am flynyddoedd lawer i ddod.

Felly, rwy'n credu, a siarad ar draws y Siambr os caf, ei bod hi'n iawn i ofyn i'r rhieni, a hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am leihau'r baich adrodd ar awdurdodau lleol, a bod Llywodraeth Cymru wedi lleihau a symleiddio, fel y gofynnwyd iddi wneud sawl tro gyda'r rhaglen hon, a bod—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, yn anffodus. Cafodd hyn groeso eang a galwyd amdano yn ystod y broses o gyflwyno'r rhaglen. Felly, yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gallwn weithio'n ddoethach i gyflawni mwy eto gyda'r mesur arloesol hwn, ochr yn ochr â'n partneriaid mewn llywodraeth Leol, heb ychwanegu at eu llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm ar ddata, ond gan dargedu pawb sydd mewn angen ar draws Cymru yn well?

18:55

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, y rhai ar y pwyllgor a'r rhai nad oeddent ar y pwyllgor, a hefyd i aelodau'r pwyllgor a'r Cadeirydd hefyd am daflu golau fforensig ar hyn? Mae hon yn rhaglen flaenllaw. Fel sydd newydd gael ei nodi, rwy'n credu, mae hi wedi cael sylw fel tystiolaeth o ymarfer da mewn ymyrraeth i deuluoedd a blynyddoedd cynnar, a rhaid dweud bod y Llywodraeth yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddi. Ond mae'r pwyllgor wedi caniatáu cyfle inni, rhaid imi ddweud, i edrych arni, yn enwedig yr elfen allgymorth, a gweld, 'Wel, a allem wneud pethau'n wahanol? A allem ei gwerthuso mewn ffordd wahanol? A allem wneud pethau'n well?' Ond gadewch i mi roi'r cyd-destun—trodd Llyr ac eraill at hyn—cyd-destun yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru, o'i gymharu â beth sy'n digwydd dros y ffin—. Na, nid wyf yn gwneud hyn am reswm gwleidyddol, ond sylwaf fod y Pre-school Learning Alliance, Ymddiriedolaeth Sutton a Gweithredu dros Blant wedi edrych ar beth sydd wedi digwydd gyda chau tua 1,000 o ganolfannau Cychwyn Cadarn, sy'n fodel tebyg yno, ac a oedd ar un adeg yn torri tir newydd eu hunain. Dywedodd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Sutton, Syr Peter Lampl:

Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddatblygiad plant yn enwedig plant o'r cartrefi tlotaf. Mae'n fater difrifol fod y gwasanaethau y mae canolfannau Cychwyn Cadarn yn eu cynnig yn llawer prinach nag yr oeddent.

Felly, daw at y cwestiwn hwn ynghylch y cydbwysedd rhwng canolbwyntio ar grwpiau wedi'u targedu, gan gydnabod y bydd rhai y tu allan, ac yna: a allwch wneud i'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd—oherwydd nid oes coeden arian hud—ymestyn ychydig pellach, ynghyd â'r rhaglenni eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn eu darparu hefyd, gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, tîm o amgylch y teulu, ac ati, ac ati? A allwn dynnu'r rheini i mewn i'r cymorth yn ogystal?

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn sy'n dangos y bydd buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar plant o ardaloedd difreintiedig yn gwella'r effaith ar eu hiechyd a'u canlyniadau addysgol, ac yn y tymor hwy, mae'r buddsoddiad hwn yn gwella sgiliau bywyd ac yn y pen draw yn lleihau'r bwlch yn y canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw mewn tlodi. Hefin, roeddech yn llygad eich lle yn dweud, lle mae'r rhain wedi'u sefydlu ers amser maith—nid anecdotaidd yn unig ydyw; mae gennyf un yn fy ardal i sydd wedi bod yn weithredol ers 13 mlynedd—gwyddom fod gennym ganlyniadau gweladwy i'r plant a'r teuluoedd sy'n elwa o Dechrau'n Deg, megis lleihau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng y plant hynny a'r teuluoedd mwy cefnog sy'n byw y tu allan. Felly, nid anecdotaidd yn unig ydyw, ond mae angen inni wneud rhagor, ac fe drof at hynny mewn eiliad.

Mae gwerthuso'r dystiolaeth eisoes yn awgrymu bod y rhaglen yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn y gwerthusiad ansoddol diweddar—ac mae ansoddol yn dda, gyda llaw; nid yw'n wan, mae'n ymchwil da—nododd rhieni amrywiaeth o welliannau yn natblygiad y plant, a oedd yn cynnwys siarad, darllen, cyfrif, yn ogystal â gwella ymddygiad ac agweddau. Roedd Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru yn cytuno â fy safbwynt, ac yn dweud, wrth ystyried effaith Dechrau'n Deg ar ganlyniadau addysgol, fod y plant a gefnogwyd gan y rhaglen yn gallu sicrhau'r un canlyniadau â phlant y tu allan i ardaloedd o amddifadedd uchel a gellir ystyried hynny ynddo'i hun yn fesur o lwyddiant. Ac rwy'n cytuno â hynny.

Er mai Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw Llywodraeth Cymru yn wir, nid dyma'r unig ymyrraeth. Daw'r cymorth a dargedwyd at wella canlyniadau blynyddoedd cynnar plant o ymyriadau eraill yn ogystal—felly, y dull gweithredu teulu cyfan drwy Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal, darparu cymorth amlasiantaethol wedi'i deilwra i deuluoedd â phlant o bob oed. Mae'r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn ei hun, yn gwella'r cyfleoedd bywyd hynny, a helpu teuluoedd i ddod yn fwy hyderus, yn fwy gwydn, yn fwy annibynnol.

Bydd cysylltiadau cyffredinol wedi'u trefnu gan ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol Plant Iach Cymru ar gyfer pob plentyn rhwng dim a saith oed ar gael ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Hydref, gyda gwell ymyriadau dwys yn cael eu darparu i'r teuluoedd a'r plant sydd â lefelau uwch o angen. Ac wrth gwrs, fel y gwyddom, mae pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at y cyfnod sylfaen, ac mae ein cynnig gofal plant i rieni sy'n gweithio i blant tair a phedair oed yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd. Nod pob un—pob un—o'n rhaglenni blynyddoedd cynnar yw cefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau, ond rydym am fynd ymhellach.

Nawr, gan adlewyrchu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol, mae rhaglen eang o waith yn mynd rhagddi i archwilio sut y gallwn greu'r un system blynyddoedd cynnar gydlynol honno ar y lefel genedlaethol a lleol. Felly, rydym yn gweithio drwy brosiect dwys a luniwyd ar y cyd gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf i archwilio'r opsiynau ar gyfer ad-drefnu'r system ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Byddwn yn dysgu ohono, a byddwn yn datblygu ac yn rhannu'r syniadau ynglŷn â hyn yn ehangach maes o law.

Fel y dywedais, mae Dechrau'n Deg yn elfen allweddol o'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth hon. Felly rwy'n croesawu'n gynnes iawn y penderfyniad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal yr ymchwiliad i allgymorth Dechrau'n Deg. Ni allaf fynd drwy fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn yr amser sydd ar gael, ond mae'n nodi fy ymateb manwl i saith argymhelliad yr adroddiad, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi derbyn pob un ond un ohonynt yn llawn neu yn rhannol.

Gadewch imi droi at hynny, oherwydd mae ychydig o bobl wedi sôn amdano, ac mewn gwirionedd, roedd ganddynt wahanol safbwyntiau arno, yn rhyfedd iawn. Oherwydd roedd argymhelliad 6 yn gofyn am fonitro ychwanegol—adroddiadau monitro rheolaidd—yn rhoi manylion unrhyw ddiwygiadau i'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ni allem gytuno i hyn—fe wnaethom ei ystyried, ond ni allem gytuno iddo—mwy o adroddiadau monitro ar ddargyfeirio rhanbarthol posibl mewn dulliau ymyrryd yn sgil yr hyblygrwydd ychwanegol rydym yn ei roi yn awr am fod awdurdodau lleol wedi gofyn am yr hyblygrwydd ychwanegol hwnnw. Roeddent hefyd yn gofyn ar yr un pryd, 'A wnewch chi beidio â chynyddu'r baich arno tra byddwch wrthi? A allwn gael yr hyblygrwydd a gadewch inni fwrw ymlaen â hynny?' Felly, ein hymrwymiad yw lleihau yn hytrach na chynyddu'r baich adrodd ar awdurdodau lleol. Dros y 12 i 18 mis diwethaf, buom yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny i leihau a symleiddio'r data er mwyn lleihau'r baich, gan ganolbwyntio ar y data yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gynhyrchu bwletin ystadegol blynyddol Dechrau'n Deg. Ond yn lle hynny, rwyf wedi cytuno i ymdrin â hyn fel rhan o'n diweddariad gwerthuso nesaf i'r pwyllgor, iawn, felly byddwn yn dychwelyd at hynny.

Nawr, mae Dechrau'n Deg dros ddeng mlwydd oed. Mewn rhai mannau, fel fy ardal i, ceir enghreifftiau o fannau lle mae'n 13 oed, bron yn 14 oed. Felly, mae'n amser da i fyfyrio ar ei lwyddiannau niferus yn ogystal ag adolygu'r dirwedd blynyddoedd cynnar bresennol, lle mae'r rhaglen yn chwaraewr allweddol. Yn wir, ar ddiwedd 2017, cytunais y dylai fy swyddogion gynnal adolygiad o Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas at y diben wrth inni symud ymlaen at ei ail ddegawd.

Rydym am adeiladu ar lwyddiannau sylweddol y rhaglen a dysgu o'r hyn sy'n gweithio, nid yn lleiaf sut y gallwn ddyfnhau'r bartneriaeth, cydweithio a'r gwaith amlasiantaethol ar draws sectorau i gefnogi plant ifanc a'u teuluoedd. Rhan sylfaenol o hyn yw'r angen i weithio gyda'r rhai ar lawr gwlad sy'n darparu Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau bod eu harbenigedd, eu profiad, yn rhan o'r adolygiad hwn. Mae'n hanfodol fod unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried yn llawn ac yn drwyadl a'u rheoli'n dda, er mwyn inni ddysgu o'r mannau lle mae'n gweithio'n dda a datblygu modelau o arferion da i'w rhannu'n ehangach. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar hyn, ac rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yr adolygiad hwn yn ddiweddarach eleni.

Mae ymchwiliad ac adroddiad y pwyllgor, felly, yn amserol iawn ac yn gwneud cyfraniad defnyddiol i'r adolygiad ehangach hwn. Mae eich canfyddiadau wedi darparu cipolwg defnyddiol ar elfen benodol allgymorth, sy'n rhan bwysig o'r hyn sy'n gwneud Dechrau'n Deg yn rhaglen hanfodol. Ar yr elfen allgymorth honno, er bod yr uwchraddio—yr estyniad—i 5 y cant wedi digwydd yn ystod proses y pwyllgor, credaf y bydd yn rhaid inni edrych ar ba mor dda y mae gwahanol ardaloedd yn ei ddefnyddio, ac a ydynt yn ei ddefnyddio'n llawn yn ogystal. John, mae eich pwynt yn ddiddorol—credaf ei bod hi'n werth mynd yn ôl, ac edrych ar ardaloedd unigol, a dylai Aelodau fynd yn ôl a dweud, 'Sut rydym yn defnyddio hyn yn lleol? Sut rydym yn cyflawni'r hyblygrwydd a roddwyd gan y Gweinidog?'

Ond mae'r elfen allgymorth yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol allu darparu cefnogaeth i blant a'u teuluoedd a grwpiau a dargedwyd gydag angen a nodwyd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg dynodedig. Ac mae hefyd yn darparu parhad yn y cymorth i blant a theuluoedd sy'n symud allan o'r ardaloedd hynny, neu i bontio'r bwlch i dderbyn gwasanaethau eraill a ddarperir.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd—diolch yn fawr—byddwn yn defnyddio'r adolygiad o Dechrau'n Deg a'r gwaith i ad-drefnu'r system blynyddoedd cynnar i archwilio'r opsiynau sydd ar gael mewn perthynas ag allgymorth. Bydd argymhellion y pwyllgor yn ffurfio rhan o'r gwaith hwn, a rhaid i'n hadolygiad, gan gynnwys unrhyw hyblygrwydd pellach yn ymwneud ag allgymorth, fod yn seiliedig ar y cydweithio dwfn hwn gydag awdurdodau lleol, gan ddysgu o ymarfer da a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas ag uniondeb cyffredinol y rhaglen nodedig hon sydd ag enw mor dda yn rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn.

19:05

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ardderchog a defnyddiol iawn, a llawer ohoni wedi adlewyrchu rhai o'r tensiynau sy'n amlwg yn yr adroddiad, mewn gwirionedd. Dechreuodd Mark Reckless drwy sôn am y cyfaddawd rhwng darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi'i thargedu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ganolog iawn i'r adroddiad hwn.

Mynegodd Mark, ynghyd â nifer o'r Aelodau eraill, bryder ynglŷn â gwrthod argymhelliad 6, fel y gwnaeth Michelle Brown a Hefin David. Credaf y bydd y Gweinidog wedi clywed heddiw fod yna farn eglur, er nad ydym eisiau cynyddu'r baich ar awdurdodau lleol, fod angen inni gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwn.

Tynnodd Llyr Gruffydd sylw at y gwrthdaro hwnnw, unwaith eto, ond hefyd at y ffaith bod y pwyllgor yn awyddus i wybod mwy, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y digwyddodd y 5 y cant, a dyna un o'r materion sydd wrth wraidd hyn mewn gwirionedd—ynglŷn â sut rydym yn gwerthuso beth yw'r angen mewn gwirionedd a beth a wnawn gyda'r gwariant sylweddol iawn sydd ynghlwm wrth hyn.

Cyfeiriodd John Griffiths at enghraifft a ddefnyddiodd yn ystod yr ymchwiliad ynglŷn â'r ffaith bod teuluoedd Parc Moorland yn elwa o Dechrau'n Deg ond na all teuluoedd Parc Broadmead, ar draws y ffordd, wneud hynny. Roedd Jenny'n teimlo'n rhwystredig ynglŷn â pham na allent gerdded ar draws y ffordd i'w defnyddio, ond y ffaith amdani yw nad ydynt wedi'u cyllido i gael y ddarpariaeth honno, felly dyna pam na allant. Ond mae'n enghraifft graffig iawn o ble mae'r system yn methu a beth y mae angen inni geisio mynd i'r afael ag ef.

Siaradodd Michelle Brown am y tensiynau daearyddol eto, ond hefyd am werthuso, sydd wedi bod yn wirioneddol allweddol i'n hystyriaeth o'r adroddiad hwn. Yn ddi-os cafwyd llawer o werthusiadau, ond nid ydym yn gwybod cymaint ag y mae angen inni ei wybod o hyd, a dyna pam y bydd y mentrau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog a fydd, gobeithio, yn mireinio peth o'r wybodaeth honno, yn wirioneddol werthfawr.

Soniodd Jenny Rathbone am bwysigrwydd elfen allgymorth Dechrau'n Deg yn ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg. Wel, ni fwriadwyd i ymchwiliad y pwyllgor edrych ar hynny. Roedd yn ymchwiliad a ganolbwyntiai'n fanwl ar yr hyn a wnawn y tu allan i'r ardaloedd daearyddol, ond hoffwn ddweud bod yr hyn rydych wedi tynnu sylw ato ynglŷn â bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn bwysig iawn oherwydd am nad yw'r rhaglen ond yn mesur nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ymwelwyr iechyd, ac mae gan bawb ymwelydd iechyd eisoes os oes gennych blentyn, nid ydym yn cyrraedd calon y data, felly nid ydym yn gwybod faint o deuluoedd eraill sydd wedi manteisio ar y cymorth iaith a lleferydd, faint sydd wedi cael cymorth rhianta, a dyna'r math o wybodaeth y mae angen inni ei chael i ddarganfod faint o deuluoedd i gyd sy'n elwa o'r rhaglen hon.

Diolch i chi, Hefin, am ychwanegu at y pryderon ynghylch argymhelliad 6, ac mae'r pwyllgor wedi dweud yn glir y byddem yn hoffi gweld y Gweinidog yn edrych arno unwaith eto.

Siaradodd Rhianon Passmore yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'i phrofiad o Dechrau'n Deg yn ei hardal, ac rwyf wedi gweld hynny yn fy ardal i hefyd, ac rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhynnu i'r ddau gyfeiriad fel llawer o bobl eraill mewn gwirionedd, am eich bod yn gwybod bod cyn lleied o'n harian wedi'i dargedu'n ddaearyddol yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig, ond rydych hefyd yn cydnabod bod angen inni wneud yn siŵr fod y teuluoedd sydd ei angen o ddifrif yn gallu elwa hefyd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb ac am ei ymgysylltiad â'r pwyllgor a'i ymrwymiad parhaus i wneud hynny? Byddwn yn dychwelyd at hyn, ac rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r mesurau y mae wedi'u cyhoeddi, gobeithio, yn rhoi'r wybodaeth rydym yn chwilio amdani, o gofio nad yw'r rhain yn bethau hawdd i'w gwerthuso mewn gwirionedd. Sut y gallwch werthuso hefyd sut fyddai pethau pe na bai Dechrau'n Deg yno? Felly, mae gennym deuluoedd yn gwneud cystal ag y mae teuluoedd mewn ardaloedd mwy cefnog ac mae'r diolch am hynny, yn rhannol yn sicr, i Dechrau'n Deg.

A gaf fi orffen, felly, drwy ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu cymorth a'u hymgysylltiad parhaus ar hyn a hefyd drwy ddiolch i'n tîm clercio ac ymchwil rhagorol, sydd, fel bob amser, wedi bod yn hollol wych? Mae wedi bod yn ddadl ardderchog, ac rwy'n siŵr fod y pwyllgor cyfan yn edrych ymlaen at ddychwelyd at hyn a sicrhau bod y gwariant sylweddol hwn yn cyflawni ar gyfer ein holl blant yng Nghymru. Diolch.

19:10

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl Fer: Mae angen eich cefnogaeth ar dadau hefyd: sicrhau bod tadau yn parhau i gael llais a chefnogaeth i fod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant

A symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Nick—. [Torri ar draws.] Os ydych yn mynd allan o'r Siambr, a wnewch chi fynd, os gwelwch yn dda, yn gyflym, neu byddaf yn gofyn i chi aros i wrando ar y ddadl fer? Galwaf yn awr ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc a ddewisodd. Nick Ramsay.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod wedi dechrau cynllunio'r ddadl fer hon cyn i fy sefyllfa dadol fy hun newid, felly nid wyf wedi fy nghymell yn llwyr gan hunan-les wrth ddod â rhai o'r materion hyn i'r Siambr heddiw?

Yn bennaf hoffwn siarad â chi heddiw am brosiect Dads Can yn ne-ddwyrain Cymru, y deuthum yn ymwybodol ohono gyntaf pan ymwelais â phencadlys Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gynharach eleni a chael cyfle i gyfarfod â'r staff rhagorol ac ymroddedig sy'n gweithio yno. Cefais fy nghyflwyno gan un o'r rheini, Katie Double, Cydlynydd Dads Can, i'r prosiect, ei obeithion, ei nodau a'i hanes llwyddiannus. Mae Katie yn ymgyrchydd brwd dros dadau ym mhobman a gwn fod—gallaf eich gweld yn codi llaw, oes—mae aelodau eraill o dîm Dads Can tai Sir Fynwy yn yr oriel heddiw, felly diolch i chi am ddod. A gaf fi ddweud hefyd nad yw hyn yn ymwneud â bychanu'r holl gymorth angenrheidiol sydd ar gael i famau? Mae'n ymwneud â llenwi bwlch mewn gwasanaethau cymorth lle y teimlwn fod bwlch yn bodoli. Gydag ystadegau'n dangos mai dynion yw tri chwarter yr achosion o hunanladdiad, fod un o bob tri phlentyn yn tyfu i fyny heb dad, fod cyfraddau ysgaru'n costio oddeutu £1,500 y flwyddyn i bob trethdalwr, a bod pobl ifanc 15 oed yn fwy tebygol o fod yn berchen ar ffôn clyfar na thad yn y cartref heddiw, mae Dads Can yn gwneud llawer i gynorthwyo teuluoedd i ddod yn fwy sefydlog ac yn fwy cydgysylltiedig.

Yn bennaf, nod y prosiect yw ymdrin ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau a brofir gan dadau drwy eu helpu i gael dyfodol mwy disglair a dod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant. Mae Dads Can yn lleihau effaith digwyddiadau trawmatig a brofir gan deuluoedd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn creu mwy o risg i ddatblygiad plant yn y dyfodol, ac felly mae'r prosiect yn canolbwyntio ar dorri'r cylch hwn rhwng cenedlaethau drwy gymorth emosiynol ac ymgorffori newid ymddygiad cadarnhaol. Mae'r prosiect yn defnyddio dull hyfforddi i gynorthwyo tadau i nodi atebion i broblemau a wynebant fel diffyg hunan-barch, salwch meddwl, perthynas yn chwalu, mynediad at blant a dewisiadau ffordd o fyw negyddol. Cafodd rhwydwaith o gymorth ei greu drwy fentora gan gyfoedion, modelau rôl, eiriolaeth a threfnu perthynas â darparwyr cymorth lleol. Maent hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad a chyfleoedd i ddefnyddio rhaglenni cyfoethogi teuluoedd.

Mae'r amserau'n newid: disodlwyd mathau traddodiadol o wrywdod o blaid cymdeithas fwy cyfartal. Fodd bynnag, mewn sawl maes, cafodd rôl y tad ei hanwybyddu'n aml. Drwy ddarparu cymorth mewn amgylcheddau diogel ac anfeirniadol, gall tadau fod yn fwy agored a thrafod eu problemau, rhywbeth nad ydynt yn gyfforddus yn ei wneud mewn fforymau eraill. Bellach, o ganlyniad i'r ffaith bod gwasanaethau yn ddealladwy yn aml yn canolbwyntio ar y fam, gall rhai tadau deimlo'n ynysig yn ystod blynyddoedd cynnar eu plentyn, felly nid yw'n syndod darganfod bod chwarter y tadau'n profi iselder yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac anaml iawn y gwneir diagnosis ohono. Caiff gwasanaethau blynyddoedd cynnar eu darparu'n bennaf gan fenywod, gan greu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar fenywod—unwaith eto, mae'n ddealladwy ar lawer ystyr, ond mae'n golygu bod rhai tadau yn ei chael hi'n anodd camu i mewn i'r amgylchedd hwnnw. Mae gwaith Dads Can yn cyd-ddarparu rhai o'r sesiynau hyn yn golygu bod tadau wedi cymryd rhan yn effeithiol yn y rhaglenni hyn.

Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni cyfreithwyr lleol sydd wedi darparu dros £30,000 o gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth pro bono i dadau yn fy etholaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae chwarter y tadau sy'n gysylltiedig wedi ennill neu wella mynediad at eu plant dros y flwyddyn ddiwethaf, diolch i'r fenter. Mae Dads Can wedi cael ymholiadau o bob rhan o dde Cymru a hyd yn oed mor bell â Llundain. Daeth yn amlwg, pan fo tadau'n teimlo nad oes ganddynt unman arall i droi, eu bod yn aml yn troi at Dads Can. Os caf fynd drwy rai o'r ystadegau—dim ond ychydig: mae 94 y cant o dadau wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus ac yn cael cefnogaeth well oherwydd y cynllun; mae 84 y cant yn teimlo bod ganddynt allu gwell i ddylanwadu ar eu dyfodol a rheoli newid; a bellach mae 79 y cant wedi ymgysylltu'n effeithiol â darparwyr eraill oherwydd ymyrraeth y prosiect yn Tai Sir Fynwy.

Mae'r gwaith nid yn unig yn rhoi help llaw i dadau a'u teuluoedd, ond hefyd treulir llawer o amser yn cynnal sesiynau grwpiau mentora gan gymheiriaid yn y gymuned, yn cefnogi mentrau eraill megis datblygu safleoedd ysgol y goedwig, yn gwneud tasgau fel garddio ar gyfer y gymuned, a hefyd yn adfer coetiroedd hanesyddol, drwy godi waliau cerrig, er enghraifft, yn Nyffryn Gwy. Yn wir, yn ystod fy ymweliad mwyaf diweddar â'r tîm, roeddwn gyda grŵp o dadau a'u plant a oedd yn plannu planhigion ar fferm ychydig y tu allan i'r Fenni. Fe fûm yn gwneud ychydig o arddio fy hun, ond oherwydd fy mod yn gwisgo siwt, roedd yn edrych yn gwbl amhriodol ac os meiddiaf ddweud, braidd yn naff. Os ydych yn pendroni beth oedd y staeniau pan ddeuthum i'r Cynulliad wedyn, roeddent yn deillio o fy mhrofiad garddio. Y tro nesaf, byddaf yn mynd â jîns a welintons.

Dyma rai pethau y mae tadau a phartneriaid wedi dweud am y cynllun. Dyma Dawn Moore, yn gyntaf oll, o'r gwasanaethau integredig cymorth i deuluoedd:

Roeddwn yn teimlo bod Dads Can yn brosiect defnyddiol iawn ar gyfer tadau nad ydynt yn gwybod lle i ddechrau gyda chymorth ac sy'n aml yn amharod i ofyn am gymorth. Mae cael gwasanaeth pwrpasol ar gyfer tadau yn helpu i oresgyn stigma, mae'n eu cynorthwyo i gysylltu â gwasanaethau eraill, ac yn y pen draw mae'n sicr yn helpu i'w cynorthwyo i fod yn well tadau i'w plant.

Kay Perrott, o gwmni cyfreithwyr ETLP:

Heb brosiect fel hwn caiff llawer o dadau eu gadael heb unman i droi a heb y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt yn daer.

A dywedodd un o'r tadau, Ben Beynon:

Mae'r sefydliad hwn yn golygu cymaint i mi. Oni bai am Dads Can ni fyddai gennyf neb i siarad â hwy'n gyfrinachol i gael cefnogaeth foesol ac emosiynol.

Cafodd y cynllun ei gydnabod yn ddiweddar yn sgil y gwahaniaeth y mae ei gynnydd wedi'i wneud ar draws ardal Gwent drwy gael ei ddewis ar gyfer rownd derfynol gwobrau tai y DU ar gyfer 2018 yn y categori cyflawniad rhagorol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mewn gwirionedd, cafodd y ddadl hon ei gohirio ers ei slot blaenorol am fy mod yn gwybod bod y tîm cyfan yn Llundain ar gyfer y digwyddiad hwnnw ar ôl cael ei enwebu ar ei gyfer. Felly, dyna oedd y rheswm pam y cafodd ei gohirio. Rhoddodd newyddion ITV sylw i'r stori yn ddiweddar hefyd ac roeddwn yn falch o roi cyfweliad iddynt am fy mhrofiadau'n siarad â'r tîm a hefyd yn siarad â'r tadau sydd wedi cael cymaint o gefnogaeth ganddo.

Felly, mae'r prosiect wedi mynd o nerth i nerth mewn cyfnod byr iawn. Mae wedi bod yn llwyddiant aruthrol hyd yn hyn, ac rwyf wedi bod yn falch o fod yn rhan o hynny, ond beth am y dyfodol? A dyma lle y dowch chi i mewn, Weinidog. Yn ogystal â bod wedi siarad â chi eisoes am y cynllun—'O na', mae'n dweud—hyd yn hyn, gwn eich bod wedi bod yn gadarnhaol tuag ato. Mae un neu ddau o bethau yr hoffwn ofyn i chi wrth gloi'r ddadl fer hon. Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect i ben ddechrau'r gwanwyn nesaf. Mae cais ar gyfer rhaglen olynol yn yr arfaeth, rhaglen o'r enw Family Man—nid Family Guy, prysuraf i ychwanegu, ond Family Man. Mae hwnnw, rwy'n credu, eisoes yn edrych fel pe bai'n mynd i fod yn brosiect cadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol ac yn olynydd rhagorol i'r hyn a welsom hyd yn hyn. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn ichi edrych yn ffafriol ar raglenni olynol i brosiectau fel Dads Can fel y gellir cadw manteision cadarnhaol y ddwy flynedd ddiwethaf wrth symud tua'r dyfodol?

Hefyd, credaf y byddai'n fuddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar yr arfer da sydd wedi'i gyflawni a'i ddatblygu yn fy rhan i o'r wlad, fel y gall ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd elwa ar y mathau hyn o brosiectau, prosiectau olynol a chynlluniau tebyg, ym mha ffurf bynnag y bydd rhannau eraill o Gymru am ystyried eu gweithredu o bosibl.

I gloi, Lywydd, mae wedi bod yn bleser cymryd rhan yn y prosiect hwn hyd yma. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei lwyddiant yn parhau ac y gallwn fwrw yn ein blaenau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar dadau a'u plant yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol.

19:20

Diolch. Ie, ond hoffwn longyfarch y rhai sy'n rhan o'r prosiect i fyny yno a Nick hefyd am roi sylw i hyn fel dadl fer. Credaf fod bylchau enfawr yn y ddarpariaeth. Rwy'n cael dynion yn fy swyddfa wedi'u trawmateiddio gan nifer o ddigwyddiadau y maent yn mynd drwyddynt. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer y dynion hynny, yn enwedig y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, am nad oes unman iddynt droi. Mae llawer ohonynt wedi'u cau allan o fywydau eu plant. Bydd ysgolion fel mater o drefn yn gwahardd tadau—fel mater o drefn—nid ydynt yn cael llythyrau ysgol, nid ydynt yn gwybod pryd mae'r cyngherddau, nid ydynt yn gwybod pryd y cynhelir nosweithiau rieni. Yn yr un modd, bydd meddygfeydd fel mater o drefn yn gwahardd dynion ac yn gwrthod rhoi gwybodaeth iddynt am eu plant, ac mae rhai adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwneud hynny yn ogystal. Mae hyn yn gwbl ffeithiol, ar sail gwaith achos go iawn a phrofiad. Buaswn yn dweud bod llawer o wahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn erbyn tadau.

Fe ddywedaf hyn yn awr gyda sylw personol iawn ynglŷn â'r ffaith fy mod i'n dad hefyd. Cefais fy magu yn y 1970au ar ystâd dai cyngor a fi oedd yr unig wyneb brown yn y lle yn y dyddiau hynny, a deuthum i arfer â chael fy ngalw'n rhai pethau a chael fy nhrin mewn ffordd benodol. Ac yn fy mywyd fel oedolyn, fe ddeuthum i arfer â chael fy nhrin, fel y dywedais, mewn ffordd benodol, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd gwaith. Ond mae'r hyn a brofais fel tad yn gwneud i oes gyfan o hiliaeth bylu'n ddim gyda'r gwahaniaethu rwyf wedi'i wynebu yn syml am fy mod yn dymuno bod yn dad. Felly, rwy'n wirioneddol falch fod Nick wedi rhoi sylw i hyn. Hoffwn ddiolch, mewn gwirionedd, i'r rhai sydd i fyny yno'n ymgyrchu ac yn cyflawni'r mathau hyn o brosiectau.

Mae prosiectau fel hyn angen arian yn enbyd ac mae gennych elusennau eraill, fel Both Parents Matter; maent yn gwneud gwaith gwych. Mae angen inni ddechrau trafod gwerth tadau a'r gallu i dadau i chwarae rolau ym mywydau eu plant heb y rhagfarn rwy'n dod ar ei draws weithiau yn yr adeilad hwn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch, Nick, hefyd. Mae'n dda gen i gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon. Un o bleserau—one of the pleasures—bod yn Weinidog plant yw cael cwrdd â phlant a'u rhieni ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o rieni—fel fi a chi hefyd, Nick, ac eraill—am sicrhau'r gorau posib i'w plant, a'u bod yn gweithio'n galed i'w cefnogi.

Nawr, mae'r pwyntiau a wnaethoch yn awr am bwysigrwydd cefnogi tadau yn eu rôl yn rhai da iawn. Bydd y sefydliad Dads Can yn falch fod ganddynt hyrwyddwr yma yn Senedd Cymru i dynnu sylw at eu cyflawniadau, i ddathlu eu gwaith yn Senedd Cymru ac i ddadlau hefyd, fel rydych newydd ei wneud, dros eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn ogystal. Mae'n hyfryd eu cael yn yr oriel yma heno.

Nawr, gwyddom fod rhieni'n dod o lawer o wahanol gefndiroedd, diwylliannau, credoau—daw teuluoedd ar ffurfiau niferus a gwahanol ac amrywiol. Ond mae'r ymchwil yn dweud wrthym am un peth pwysig iawn sydd ganddynt yn gyffredin sef mai hwy yw'r dylanwad mwyaf ar fywydau eu plant. Dengys y dystiolaeth hefyd yn wir y gall tadau sydd â diddordeb ac sy'n gefnogol i'w plant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w canlyniadau. Mae'r plant hyn yn fwy tebygol o weld datblygiad iaith gwell, cyrhaeddiad addysgol uwch, llai o broblemau ymddygiadol ac yn gyffredinol maent yn fwy gwydn. Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth wedi dangos arwyddocâd ysgogiad cadarnhaol a meithringar gan famau a thadau yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf o ddatblygiad yr ymennydd. Ac yn ystod eu blynyddoedd ysgol, mae cyfranogiad tad yn effeithio'n fawr ar gyflawniadau a dyheadau plentyn.

Mae gan dadau a mamau cefnogol rôl allweddol fel clustog rhag adfyd. Heb ffactorau amddiffynnol a chymorth gan riant cryf a meithringar, gallai profiadau trawmatig llawn straen sy'n digwydd yn ystod plentyndod—y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y cyfeiriodd Nick atynt yng ngwaith Dads Can—achosi problemau ar unwaith yn gynnar mewn bywyd ac yn ddiweddarach gydol oes.

Ac mae perthynas cyplau, pa un a yw rhieni gyda'i gilydd neu ar wahân a dweud y gwir, hefyd yn ffactor pwysig. Pan na chaiff gwrthdaro rhwng rhieni ei ddatrys, gall greu risg i iechyd meddwl a chyfleoedd bywyd hirdymor y plentyn, ond rydym hefyd yn gwybod pan gaiff ei drin yn dda, caiff yr effeithiau niweidiol eu lleihau. Dyna pam y mae cefnogi teuluoedd a rhianta yn ganolog i'n hagenda fel Llywodraeth. Ac fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, un o'r pum maes blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth 'Ffyniant i Bawb' yw'r blynyddoedd cynnar. Ac yn allwedd i hyn mae rôl pob rhiant—mamau a thadau. Rydym am i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, i gyrraedd eu potensial a byw bywyd iach, ffyniannus, boddhaus. Felly, y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi ymrwymo £325,000 tuag at gefnogi ein hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch amser iddo', ac mae'r ymgyrch yn darparu gwybodaeth o ansawdd da i helpu rhieni i ddatblygu sgiliau rhianta cadarnhaol, drwy'r wefan, Facebook, hysbysebu digidol ac amrywiaeth o ddeunyddiau. Ac nid ydym yn dweud wrth rieni, gyda llaw, sut i fagu eu plant; yr hyn a wnawn yw hyrwyddo strategaethau rhianta cadarnhaol a darparu awgrymiadau hyd yn oed ar gyfer ymdrin â materion penodol fel strancio plant bach—mae pawb ohonom wedi eu cael; fel rhiant fy hun—hyfforddiant toiled, ac ati ac ati. A gwyddom fod y dystiolaeth yn dangos y gall cymorth rhianta roi dealltwriaeth well i famau a thadau ynglŷn â datblygiad y plentyn a rhoi syniadau ar sut i ganmol a gwobrwyo eu plentyn, sut i osod ffiniau, sut i ymdrin â chamymddwyn, a heb orfod troi, rhaid i mi ddweud, at gosbi corfforol.

Mae cynorthwyo unigolion i fabwysiadu dulliau rhianta cadarnhaol yn rhan annatod o'n rhaglenni Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Ond weithiau, mae rhieni'n methu byw gyda'i gilydd, ac rydym yn gwybod bod rhieni'n gwahanu yn effeithio ar lawer o blant a'u teuluoedd ledled Cymru. Mae achosion cyfraith breifat sy'n ymwneud â rhieni'n gwahanu yn aml yn cynnwys anghydfod ynglŷn â threfniadau sy'n gysylltiedig â'r plentyn—er enghraifft, ble y dylai plentyn fyw a phwy y dylai ef neu hi ei weld. Mae'n bwysig fod teuluoedd yn cael cymorth pan fydd rhieni'n gwahanu er mwyn eu helpu i barhau i ganolbwyntio ar anghenion eu plentyn yn hytrach na'r anghydfod rhyngddynt hwy. Ac mae'n rhaid rhoi'r sylw canolog i'r plentyn ym mhopeth bob amser. Rydym yn cefnogi'n llwyr yr egwyddor fod gan blentyn hawl i gael perthynas ystyrlon gyda'r ddau riant ar ôl i deulu wahanu lle mae'n ddiogel ac er budd y plentyn. Ac mae cefnogi perthynas y cwpl, pa un a ydynt gyda'i gilydd neu ar wahân, yn bwysig iawn. Dyna pam y mae'n nodwedd gynyddol o'n rhaglenni cymorth i deuluoedd. Y llynedd, darparwyd cyllid gennym i hyfforddi'r gweithlu cymorth i deuluoedd fel eu bod yn gallu ymgorffori cymorth pan fo gwrthdaro rhwng rhieni yn y gwasanaethau ehangach ar gyfer teuluoedd.

Nawr, er bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am benderfynu ar union natur y ddarpariaeth o wasanaethau lleol, rydym yn disgwyl iddynt gael eu llywio gan ein canllawiau ar gymorth rhianta sy'n rhoi pwyslais ar wasanaethau sy'n gweithio mewn ffordd gyfannol ar gyfer y teulu cyfan. Mae ffocws ein canllawiau ar ba gymorth rhianta i'w ddarparu, a hefyd ar sut y dylid ei ddarparu. Mae'n cynnwys strategaethau ymarferol i ddarparu ar gyfer anghenion arbennig tadau. Ac fel yr amlinellodd Nick, am amryw o resymau, mae'n bosibl eu bod yn cymryd llai o ran na mamau mewn cymorth i deuluoedd, weithiau am y rhesymau a amlinellais eisoes. Felly, mae'r canllawiau'n rhoi llawer o syniadau i ymarferwyr ynglŷn â denu tadau i gymryd rhan, syniadau sy'n seiliedig ar ymchwil a gyhoeddwyd gan dadau eu hunain yn ogystal â chan ymarferwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes gyda thadau. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol hyrwyddo gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn weithredol i dadau a chefnogi eu hymgysylltiad. A cheir rhai enghreifftiau da iawn o ble maent yn darparu grwpiau ymroddedig wedi'u teilwra'n benodol i anghenion tadau. Felly, yn Abertawe, er enghraifft, mae ganddynt raglen tadau cefnogol ac mae ganddynt grŵp cymunedol i dadau, yn debyg iawn i'r prosiect Dads Can rydym yn ei drafod yma heno mewn gwirionedd. Ac yn ddiweddar, llongyfarchais Abertawe ar ennill gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd am eu prosiect Jigsaw rhagorol. Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a phrosiect gan awdurdod lleol Abertawe, a ariennir ar y cyd drwy Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, ac mae'n darparu cymorth ar gyfer menywod a'u partneriaid, yn ystod beichiogrwydd a hyd nes y bydd eu plentyn yn cael ei ben blwydd yn dair oed. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cynyddu, er enghraifft, cyfraddau bwydo ar y fron, yn lleihau cyfraddau ysmygu, ac mae hefyd wedi nodi nad yw nifer o deuluoedd angen cymorth gan wasanaethau statudol mwyach. Felly, mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

Ond mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb, Nick, am benderfynu ar union natur y ddarpariaeth gan wasanaethau lleol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol ac anghenion a nodwyd o fewn eu hardaloedd eu hunain. Felly, gyda hynny mewn cof, a chan glywed y sylwadau cryf a wnaeth heno, a dathlu gwaith Dads Can, rwy'n annog yr Aelod dros Sir Fynwy i gysylltu gyda'r awdurdod lleol i ddeall a allai Dads Can neu brosiectau tebyg helpu i ddiwallu'r anghenion a nodwyd ganddynt yn eu hardal.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd fy mod yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r gwaith y mae mamau a thadau yn ei wneud, a dyna pam y mae'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o ymyriadau i'w cefnogi i gyflawni'r gwaith hollbwysig hwn. Rydw i'n gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau posib i deuluoedd ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Nick, am ddod â hyn i sylw'r Senedd.

19:30

Daeth y cyfarfod i ben am 19:30.