Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Dawn Bowden. 

Buddsoddi mewn Twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52176

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi darparu cymorth ar gyfer nifer o brosiectau cyfalaf a digwyddiadau cyffrous yn yr ardal, er enghraifft BikePark Cymru, Rock UK ac, wrth gwrs, cefnogaeth i ŵyl Merthyr Rising.

Diolch, Prif Weinidog, ac o gofio ei bod hi'n wythnos twristiaeth, mae'n debyg ei bod hi'n amserol i atgoffa ein hunain y bydd twristiaeth, diwylliant, ein hamgylchedd a'n treftadaeth yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau dyfodol llwyddiannus i'n cymunedau yn y Cymoedd gan eu bod nhw'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau economi amrywiol ochr yn ochr â sectorau traddodiadol fel gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus a chynnig manwerthu cynyddol gryfach erbyn hyn. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi fy sicrhau y bydd adroddiad diweddar 'Crucible', a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth fawr ar gyfer y potensial enfawr ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn y dyfodol, yn derbyn ystyriaeth lawn a phriodol gan Lywodraeth Cymru fel y gall yr holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd â'r potensial i gynnig atyniad mawr i ni yn y Cymoedd a allai fod mor llwyddiannus â Titanic Belfast neu hyd yn oed yr Eden Project yng Nghernyw?

Wel, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad. Mae yn galw am i tua £50 miliwn gael ei wario ar orffennol diwydiannol Merthyr i'w wneud yn atyniad mawr i dwristiaid gyda'r pwyslais, wrth gwrs, ar Gastell Cyfarthfa. Edrychaf ymlaen at dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu'r cynnig a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Rwy'n deall eich bod chi wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i drafod yr adroddiad, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn parhau, heb amheuaeth, yn y dyfodol. Gwn fod swyddogion hefyd yn gweithio ar nifer o gynigion sector preifat cyffrous a fydd yn parhau i ddatblygu'r cynnig yn yr ardal. Felly, llawer iawn o ddiddordeb ac, wrth gwrs, llawer iawn i'w gynnig, cyn belled ag y mae Merthyr Tudful a Rhymni yn y cwestiwn.

Mae'r adroddiad ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru wedi amlygu bod budd enfawr y gellid ei gael o farchnata treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful, gan droi'r dref yn gyrchfan dwristiaeth flaenllaw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan strategaeth farchnata sy'n cynnwys holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y de, gan gynnwys camlesi fel Mynwy ac Aberhonddu, y potensial i roi hwb enfawr i sector dwristiaeth ein heconomi? Diolch.

Ydw, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cysylltu'r hyn sydd gan Merthyr i'w gynnig gydag atyniadau eraill yn yr ardal hefyd. Felly, canolbwynt adroddiad 'Crucible' yw adfywio castell Cyfarthfa, ond mae cyfleoedd ehangach i ddod â thirnodau treftadaeth leol eraill at ei gilydd, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffwrneisi ym Mlaenafon, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd, a bydd gallu cynnig casgliad o brofiadau o ansawdd uchel i ddarpar ymwelwyr yn bwysig yn y dyfodol.

Chwaraeon a Ffitrwydd yng Nghasnewydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a ffitrwydd yng Nghasnewydd? OAQ52164

Wel, drwy Chwaraeon Cymru, rydym ni'n darparu dros £570,000 eleni i Gyngor Dinas Casnewydd i gynorthwyo datblygiad chwaraeon yn yr ardal. Mae gan y cyngor gontract gyda Casnewydd Fyw i ddarparu amrywiaeth o raglenni chwaraeon ac ymarfer corff, gan alluogi pobl o bob oed i gymryd rhan.

Ydy, Prif Weinidog, mae chwaraeon a ffitrwydd yn amlwg yn hanfodol ar gyfer iechyd ac ansawdd bywyd cyffredinol, a diolch byth, mae Casnewydd yn datblygu enw da am ei weithgareddau a'i gyfleusterau. Fel y soniasoch, Casnewydd Fyw yw sylfaen, mewn gwirionedd, y ddarpariaeth yng Nghasnewydd gyda dros 1.6 miliwn o gyfranogwyr mewn cyfleusterau hamdden bob blwyddyn ac maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Dinas Casnewydd a llawer o sefydliadau eraill i gyrraedd pob cymuned yn y ddinas. Yn fuan, byddan nhw ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'n awyddus iawn i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Fe wnaethant helpu hefyd gyda darpariaeth rasys marathon a 10 cilomedr diweddar Casnewydd, pryd yr oedd sawl mil o redwyr ar y ffordd, gan gynnwys ardal fywiog glan yr afon a gwastatiroedd godidog Gwent. Roedd yn achlysur gwych i'r ddinas, Prif Weinidog, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, a chafwyd niferoedd da o bobl leol a ddaeth allan i gefnogi. A'r newyddion da iawn yw bod bron i flwyddyn i fynd cyn digwyddiad y flwyddyn nesaf, sy'n rhoi digon o amser i chi ac unrhyw un arall a allai fod yn ystyried cymryd rhan i baratoi. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gweithgarwch chwaraeon a hamdden yng Nghasnewydd ar raddfa sy'n dangos esiampl dda i lawer o bobl eraill, yn fy marn i.

Wel, mae gan yr Aelod ffydd fawr ynof i o dybio y byddwn i'n rhedeg marathon mewn llai na blwyddyn. Bydd gen i fwy o amser ar fy nwylo ar ôl mis Rhagfyr, ond credaf fod hwnnw'n ffydd a roddwyd ynof ar gam. Rwy'n deall bod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr allan yn loncian y bore yma; rwy'n credu ei fod ymhell ar y blaen i mi o ran ei allu i gymryd rhan, yn hytrach na mi.

Ond mae'n gwneud pwynt pwysig sef bod pobl yn cymryd llawer mwy o ran mewn gweithgareddau erbyn hyn nag oedd yn arfer bod yn wir. Pump ar hugain neu 30 mlynedd yn ôl, prin iawn oedd y marathonau yr oedd pobl yn cymryd rhan ynddynt, os oedd rhai o gwbl. Nid oedd hi'n fater o geisio rhedeg i ennill; roedd yn fater o gymryd rhan a gorffen y cwrs. Dyna oedd y gamp i gymaint o bobl. Mae'r arian a ddarparwyd gennym ni i Gasnewydd, gan weithio'n agos gyda Casnewydd Fyw, gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, wedi sicrhau bod Casnewydd yn gryfach fyth o ran bod ar y map ar gyfer ymarfer corff. Mae hynny'n dda o beth i'r ddinas, ond mae hefyd yn dda, wrth gwrs, i bawb sy'n cymryd rhan.

13:35

Roedd nofio am ddim i blant yn un o bolisïau blaenllaw'r Blaid Lafur. Fe'i cynlluniwyd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru i fod yn heini ac yn iach. Cyhoeddwyd erbyn hyn bod Chwaraeon Cymru yn adolygu ei gefnogaeth i nofio am ddim ar gyfer plant. O gofio bod gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn codi i'r entrychion, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn am ei bolisi nofio am ddim a pha fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill i wella eu ffitrwydd?

Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid y polisi. Mae polisïau yn cael eu hadolygu drwy'r amser, wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi bod plant yn gallu cael mynediad at gyfleusterau er mwyn bod yn egnïol fel eu bod yn parhau i fod yn egnïol am weddill eu bywydau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod Whitehall, yn gwbl amlwg, yn ceisio cipio pwerau yng nghyswllt Bil ymadael yr UE?

Rwy'n credu bod hynny'n wir, ond mae'r cytundeb sydd gennym ni gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn wedi osgoi hynny.

Mae'n hurt ac yn codi cywilydd i'r un graddau bod y Llywodraeth hon yn dewis cymeradwyo Theresa May yn hytrach nag arweinydd ei phlaid ei hun. Mae'n anodd dod o hyd i unrhyw fanteision gwirioneddol o adael yr UE, ond roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol—[Torri ar draws.]—

A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r cwestiwn gael ei ofyn, os gwelwch yn dda.

Roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol o'r safbwynt y byddai mwy o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, addawyd hynny i ni. Mae'r llygedyn hwnnw o obaith wedi diflannu erbyn hyn. Felly, Prif Weinidog, byddwn yn pleidleisio heno i dderbyn y Bil Brexit trychinebus hwn. Gallwch chi ddewis pwy i'w gefnogi: Plaid Cymru, Plaid Lafur yr Alban, pleidiau Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a Lloegr, y Blaid Werdd, Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol, neu arweinydd eich plaid eich hun. Nid oes hyd yn oed unrhyw un o'r chwe phrawf a sefydlwyd gan bwyllgor materion allanol trawsbleidiol y Cynulliad hwn yn cael ei fodloni gan y cytundeb hwn. Mae mwy ar y rhestr. Neu gallwch chi gefnogi'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ac UKIP. Pa un fydd hi?

Wel, rydym ni yng Nghymru, ac, fel Llafur Cymru, rydym ni, mewn Llywodraeth, wedi negodi'n galed i gael y fargen orau i Gymru, a chredwn ein bod wedi gwneud hynny. Mater i'r Alban a Lloegr yw'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban a Lloegr. Dyna yw hanfod datganoli. Nodaf yn y gefnogaeth a gawsom gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r adroddiad a dderbyniwyd gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ac nid wyf i'n eglur o hyd beth yw safbwynt arweinydd Plaid Cymru pan ddywed, rywsut, fod pwerau yn cael eu cipio oddi wrth Gymru. Bydd pob un o'r 64 maes yn dychwelyd i Gymru pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Bydd rhai pwerau a fydd, trwy gytundeb, yn cael eu cadw yn y rhewgell wedyn. Bydd pob Llywodraeth yn y DU yn yr un sefyllfa; ni fyddan nhw'n gallu deddfu tan y bydd cytundeb i dynnu'r pwerau hynny allan o'r rhewgell. Mae hynny'n newid enfawr o'r sefyllfa y llynedd pan fyddai'r holl bwerau wedi mynd yn syth i San Steffan, lle byddai Gweinidogion yn San Steffan wedi cael pwerau diderfyn o ran cymalau machlud, a byddent wedi penderfynu pryd ac os y byddai pwerau yn dod i'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol ers hynny, a dyna pam mai ni yw plaid datganoli.

A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bwerau ychwanegol sydd wedi eu darparu gan y cytundeb hwn? Oherwydd pan oedd angen ymyrraeth San Steffan ar ein diwydiant dur, nid oedden nhw i'w gweld yn unman. Pan fydd angen cymorth ar ein ffermydd teuluol i gynnal eu busnes, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Pan fo'n hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Dyna mae'r cytundeb hwn yn ei olygu. San Steffan, ac nid Cymru, fydd yn penderfynu ar faterion sy'n bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru. Llywydd, mae union egwyddorion datganoli yn y fantol gyda hyn. Felly, Prif Weinidog, nawr eich bod chi'n gwybod y ffeithiau, nawr bod yr holl chwaraewyr wedi dangos eu dwylo, beth fydd hi? A ydych chi'n mynd i sefyll dros Gymru neu dros San Steffan?

Byddaf bob amser yn sefyll dros fy ngwlad. Mae'n bosib y bydd pobl eraill yn cymryd safbwynt gwahanol ar yr hyn sydd orau i Gymru, ond rwy'n parchu eu barn a hyderaf y bydd barn y rheini ar y meinciau hyn yn cael eu parchu hefyd, oherwydd ni chawsant yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid imi ddweud, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn—mae'n sôn am ddur—fe wnaethom ni weithio i achub ein diwydiant dur. Gwnaethom hynny gyda'r pwerau sydd gennym, a gwnaethom hynny drwy weithio gyda Tata a rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. O ran ffermio, mae angen inni weld faint o arian a ddaw o San Steffan, mae cymaint â hynny'n wir, oherwydd ni allwn dalu cymorthdaliadau ffermio. Mae'n bwysig dros ben bod swm cyfatebol o arian yn cael ei roi mewn pot ar lefel y DU ac yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd ag y mae ar hyn o bryd hyd nes bydd cytundeb i newid y ffordd y caiff arian ei wario a'i ddyrannu. Mae cymaint â hynny yn arbennig o wir.

Ond, cyn belled ag y mae'r cytundeb hwn yn y cwestiwn, ceir cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i unrhyw gyfyngiadau a fyddai ar Lywodraeth Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa nawr lle'r rydym ni i gyd yn yr un sefyllfa. Mae pwysau mawr ar bawb ohonom ni i gytuno ar fframweithiau ymhell cyn saith mlynedd, gan fod Lloegr yn yr un sefyllfa â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn hyn. Ac felly—[Torri ar draws.] Mae'r union yr un sefyllfa â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle'r oedd Llywodraeth y DU, flwyddyn yn ôl, yn dweud—ac nid wyf i'n siŵr a fyddai'r sefyllfa yn wahanol pe byddai ganddyn nhw fwyafrif o 100 yn Nhŷ'r Cyffredin—'Bydd yr holl bwerau yn dod atom ni. Ni fydd yn penderfynu pryd ac os byddan nhw'n dod i'r gweinyddiaethau datganoledig.' Mae hynny wedi newid; bydd y pwerau hynny'n dod atom ni. Byddwn yn cytuno sut maen nhw'n cael eu rhewi, byddwn yn cytuno ar y fframweithiau ac yna, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn yr un sefyllfa ar draws Llywodraethau yn y DU. Dyma'r tro cyntaf erioed y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gael ei rhwymo yn y ffordd hon, ac mae hynny'n deyrnged i sgiliau negodi Mark Drakeford.

13:40

Diolch, Llywydd. Nid yn aml yr wyf i'n dechrau cwestiynau i'r Prif Weinidog trwy ddweud fy mod i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac efallai na fydd ef eisiau'r math hwnnw o ganmoliaeth gan arweinydd yr wrthblaid yma yn y Senedd.

Hoffwn eich holi am y fasnachfraint reilffyrdd, Prif Weinidog, a'r ymarfer tendro sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae llawer o edrych ymlaen at y gwelliannau i'r fasnachfraint reilffyrdd y mae pobl eisiau eu gweld. Rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, fod pobl yn cydnabod yn gyffredinol fod y 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd, gadewch i ni ddweud, oherwydd nad oedd unrhyw dwf wedi ei gynnwys yn y fasnachfraint ddiwethaf a ddyfarnwyd. Fe ddywedasoch chi ddoe, yn agoriad yr orsaf newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r daith ddilynol yr aethoch arni, ei bod hi'n annhebygol y bydd unrhyw welliannau gwirioneddol am o leiaf pedair blynedd i mewn i'r fasnachfraint. Dyna oedd eich geiriau. Yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor a ymchwiliodd i hyn, y byddai gwelliannau cynnar iawn yn y fasnachfraint reilffyrdd nesaf. Pam mae gwahaniaeth erbyn hyn yn y llinellau amser ar gyfer gweld y gwelliannau y mae teithwyr, gwleidyddion a busnesau eisiau eu gweld, oherwydd roedd eich asesiad ddoe yn nodi y bydd y gwelliannau hynny yn digwydd bron i draean y cyfnod i mewn i oes y fasnachfraint nesaf?

Na, yr hyn a ddywedais i oedd y bydd pobl yn dechrau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau yn fuan iawn, yn sicr dros y flwyddyn nesaf. Ond, o ran trenau newydd, wel, yn amlwg, maen nhw'n cymryd amser i'w caffael a'u hadeiladu, ac o ran trydaneiddio, er enghraifft, o ran trenau newydd, o ran ceisio ymestyn y rhwydwaith presennol, wel, wrth gwrs, byddai hynny'n mynd â ni i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Bydd pobl yn dechrau gweld newidiadau yn gynnar, ond bydd y newid sylweddol yn dod, rwy'n amau, ymhen tua pedair neu bum mlynedd pan fydd pobl yn gweld trenau newydd a dulliau newydd o dyniant yn cael eu cyflwyno.

Rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddoe wedi drysu'r sefyllfa i lawer o bobl, oherwydd cawsom ein harwain i gredu y byddai newid yn dod yn y blynyddoedd cynnar iawn, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad yr ydych chi wedi ei roi. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Chwefror y byddai'r cyhoeddiad ynghylch enillydd y broses dendro yn cael ei wneud ym mis Mai eleni. Nid wyf i'n gweld dim yn y flaenraglen ar gyfer yr wythnos nesaf am unrhyw gyhoeddiad sydd i'w wneud. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn dal i gael ei wneud ym mis Mai ynghylch pwy fydd yr ymgeisydd a ffefrir ac y bydd y fasnachfraint yn dechrau ym mis Hydref eleni, fel y nodwyd yn yr amserlen wreiddiol?

Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw oedi yn y broses, ac rydym ni eisiau gwneud y cyhoeddiad cyn gynted â phosib.

Felly, ar y llinell amser yr wyf i newydd eich holi amdani, h.y. bydd cyhoeddiad yr ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud ym mis Mai eleni ac, yn amlwg, ym mis Hydref bydd y fasnachfraint ei hun yn dechrau, ac o gofio'r gwahaniaeth o ran dehongli gwelliannau, h.y. y gwelliannau mawr ymhen pedair neu bum mlynedd, beth allwch chi hefyd ei nodi fel yr enillion cyflym y gellir eu nodi ar gyfer gwelliannau cynnar? A gaf i ofyn i chi gadarnhau bod cydymffurfiad o hyd â'r llinell amser o ran y fasnachfraint, gyda'r cyhoeddiad y mis hwn, a byddai'n braf ei gael yn y Siambr hon, o gofio mai'r toriad hanner tymor yw wythnos ddiwethaf mis Mai, fel y gallwn holi Ysgrifennydd y Cabinet a deall yn union beth sy'n digwydd?

13:45

Gallaf gadarnhau hynny. O ran yr hyn y bydd pobl yn ei weld ar unwaith, wel, yr hyn y byddem ni'n dymuno ei weld yw gwasanaethau newydd a gwasanaethau amlach, ond nid, yn amlwg, gyda threnau newydd bryd hynny o reidrwydd. Yna, ceir y cwestiwn o drydaneiddio a sut y mae hynny'n cael ei gyflwyno, ac yna trenau newydd yn cael eu caffael o ganlyniad i drydaneiddio. Felly, bydd pobl yn gweld newidiadau pan fydd y fasnachfraint yn cael ei rhoi ar dendr, ond mae'r newidiadau mawr yn sicr o ddod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i ni edrych ar natur newidiol y rheilffyrdd trwy drydaneiddio ac wrth i ni edrych ar gerbydau newydd. Dyna pryd y bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth mawr yn ansawdd y trenau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Er mor bwysig yw'r materion cyfansoddiadol a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru, maen nhw bob amser yn debygol o beri llai o bryder uniongyrchol i'r person cyffredin yn y stryd na materion fel y gwasanaeth iechyd, a'r wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog, nid oeddech chi'n gallu rhoi'r sicrwydd iddo na fyddai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig erbyn i'ch tymor chi fel Prif Weinidog ddod i ben. Cyfeiriodd adroddiad Tawel Fan at yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â chreu Betsi Cadwaladr yn y lle cyntaf, ac roedd hwnnw'n dweud bod datblygiadau sefydliadol ar y raddfa honno fel rheol yn cymryd rhwng pump a saith mlynedd i'w cyflawni. Yng ngoleuni adroddiad Deloitte, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd

nid yw'r trefniadau rheoli newid yn addas i'w diben ac maent yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflawni newid cynaliadwy,

a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n credu bod y diwylliant cywir yn bodoli, o hyd, o fewn Betsi Cadwaladr, ac a yw eu defnydd o bersonél yn ddigon da iddo allu tynnu ei hun allan o fesurau arbennig byth?

Rwy'n credu y gall dynnu ei hun allan o fesurau arbennig. Nid yw yno eto. Nid wyf i erioed wedi bod yn rhywun a fyddai'n rhoi amserlen artiffisial ar bryd y dylai ddod allan o fesurau arbennig. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn dod allan o fesurau arbennig pan fydd yr amser yn briodol ac yn iawn. Pryd fydd hynny, byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad ar y pryd. Ceir heriau i Betsi Cadwaladr o ganlyniad i'r hyn oedd yn adroddiad Tawel Fan, mae cymaint â hynny'n wir, a bydd angen iddyn nhw ymateb i'r heriau hynny, ond nid wyf i'n credu, er enghraifft, mai ad-drefniad arall o'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd fyddai'r ateb. Credaf fod sefydlogrwydd yn hollbwysig ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Rwy'n deall y pwynt y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef. Ond mae adroddiad Deloitte yn nodi nifer o wendidau systemig hirdymor sy'n peri pryder, y bydd angen rhoi sylw iddynt os yw'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y gogledd yn mynd i gael ei gwella'n sylweddol. Er enghraifft, o ran y grwpiau gweddnewid sydd i fod i gyflawni'r gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, dywedir bod yr amcanion wedi eu diffinio'n wael; nid yw'n ymddangos bod arweinwyr y grŵp yn eglur hyd yn hyn ynghylch atebolrwydd y tu allan i'w his-adrannau eu hunain, ac nid ydynt wedi sicrhau unrhyw ganlyniadau pendant hyd yn hyn; dywedir bod aelodau staff gwella gwasanaethau ar lefel rhy iau; ceir diffyg dadansoddi a meincnodi manwl; ceir pryder ynghylch y swyddfa rheoli prosiect ynghylch pa un a yw'r set sgiliau yn bodoli i fynd i'r afael â'r agenda gweddnewid; ac wrth ymateb i gwestiwn gan Deloitte ynghylch pa un a oes digon o allu rheoli prosiect a chapasiti i gefnogi darpariaeth ar draws y cynllun ariannol, dywedodd mwyafrif y rheolwyr, y cyfarwyddwyr cyllid ac aelodau'r timau swyddogaeth cyllid canolog naill ai na allent ddweud neu eu bod yn anghytuno. Felly, a ydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle gallwn ni ddweud ein bod ni hyd yn oed wedi dechrau'r cynllun gwella hwn i unrhyw raddau sylweddol?

Bu gwelliannau i berfformiad, ond mae cryn dipyn i'w wneud o hyd, ac mae arweinydd UKIP yn iawn i nodi'r gwendidau y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, a dyna pam y bydd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig hyd nes y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth, ac yn wir y gall y Cynulliad fod yn sicr, ei fod yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith eto.

Cafwyd rhai sylwadau damniol yn adroddiad Deloitte am arweinyddiaeth yn Betsi Cadwaladr, ac yn benodol: cyfarwyddwyr gweithredol yn gweithredu mewn seilos; diffyg perchnogaeth ac atebolrwydd corfforaethol ar y cyd; dywedwyd bod portffolio'r prif swyddog gweithredu yn rhy fawr i un unigolyn, gan reoli cyllideb o dros £800 miliwn y flwyddyn; cyfarwyddwyr gweithredol eraill yn dal i sefydlu eu portffolios; diffyg dealltwriaeth ronynnog y bydd angen i gamau gweithredu'r bwrdd iechyd ei darparu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol. O ystyried y cyhuddiadau parhaus hynny, onid oes achos dros gael Llywodraeth Cymru i gymryd hyd yn oed mwy o ran yn y broses weddnewid nag y mae eisoes yn ei chymryd, a bod gan dîm arweinyddiaeth presennol Betsi Cadwaladr dasg sy'n rhy fawr iddyn nhw ei chyflawni o fewn cyfyngiadau strwythur gweinyddol Betsi Cadwaladr a'r gyllideb sydd ar gael iddyn nhw?

13:50

Nac oes. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr yn golygu nad yw'r strwythur newydd wedi ei ymwreiddio eto, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl gadarn erioed o ran dweud y bydd yn aros mewn mesurau arbennig tan y bydd yn gallu gadael. Pe byddwn i'n dweud, er enghraifft, 'Wel, bydd yn gadael mesurau arbennig erbyn dyddiad x', wel, yn anochel, rwy'n credu y byddai hynny'n cael gwared ar rywfaint o'r pwysau cadarnhaol o ran gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn addas i'w ddiben yn y dyfodol, ac nid wyf i'n bwriadu gwneud hynny. Gan weithio gyda'r bwrdd, rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn ceisio sicrhau sefyllfa lle mae'n gallu rhedeg ei hun y tu allan i fesurau arbennig yn y dyfodol.

Cynlluniau Adfywio yng Ngorllewin De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52206

Wel, mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau adfywio yn helpu i greu swyddi, gwella sgiliau, ac yn darparu’r amgylchedd cywir i fusnesau gychwyn a ffynnu.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn amlwg, mae bargen ddinesig bae Abertawe yn hollbwysig i geisio datblygu swyddi yn y de-orllewin, ac eto flwyddyn ar ôl y cytundeb bargen ddinesig gan Lywodraeth y DU, ac er gwaethaf y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y gall awdurdodau lleol gadw 50 y cant o unrhyw gynnydd i ardrethi busnes, ceir pryderon o hyd ynghylch cyllid a llywodraethu, yn fwyaf nodedig gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, a pha mor hyderus ydych chi y gall cytundeb cydweithio gael ei gwblhau a'i gytuno gan yr awdurdodau lleol yn y dyfodol agos?

Rwy'n deall y rhoddwyd sylw i bryderon Castell-nedd Port Talbot, ond mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs. Mae'r fargen ddinesig yn gytundeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd er lles yr ardaloedd ehangach—rhywbeth y mae pob plaid yn y Siambr wedi bod yn awyddus i'w hybu. Gwelwn, wrth gwrs, fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio'n dda dros ben, ac mae'n eithriadol o bwysig, gyda'n cymorth ni a chyda cymorth Llywodraeth y DU, bod awdurdodau lleol yn gallu dangos cyflawniad ym mae Abertawe hefyd.

Rwy'n rhannu pryderon Dai Lloyd, ond hoffwn sôn heddiw fod pum mlynedd o leiaf wedi mynd heibio erbyn hyn ers hysbysu y byddai adfywio castell Abertawe yn cynnig atyniad ychwanegol i'r miloedd o bobl y disgwyliwyd iddynt lifo i mewn i'r ddinas ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Wel, mae'r dathliadau hynny wedi hen ddod i ben erbyn hyn, ond mae castell Abertawe yn dal i fod ar gau i'r cyhoedd. Er bod rhai prosiectau adfywio o amgylch y castell, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n fodlon cysylltu â chyngor Abertawe i wneud mwy o'r castell ei hun, oherwydd mae'n Wythnos Twristiaeth Cymru ac mae llawer o waith hyrwyddo Cadw, wrth gwrs, yn seiliedig ar y ffaith ein bod ni'n genedl o gestyll. Felly, rwy'n meddwl efallai y byddai ychydig o gymorth neu ymyrraeth neu ysgogiad gan y Llywodraeth yn hyn o beth yn cael ei groesawu'n fawr.

Bu bron i'r castell gael ei ddymchwel ar ôl y rhyfel a dweud y gwir, gan fod cyn lleied ohono ar ôl fel bod—

—yn y 1950au a'r 1960au, pan oedd pethau o'r fath yn cael eu gwneud, yr awgrym oedd cael gwared arno'n gyfan gwbl. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny. Mae'n fater, yn y pen draw, i gyngor Abertawe. Fodd bynnag, byddaf yn ceisio cael rhagor o wybodaeth, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o wybodaeth.

Prif Weinidog, nid yn unig y mae Port Talbot yn un o rannau tlotaf fy rhanbarth i ond mae hefyd un o rannau tlotaf y DU. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol hefyd wedi dyfarnu mai Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Mae hyn er gwaethaf buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae dyfrffordd Port Talbot wedi creu llai na 100 o swyddi, ac rydym ni hefyd yn byw gydag elfen o ansicrwydd ynghylch gwaith dur Tata. Felly, Prif Weinidog, pa newidiadau ydych chi'n eu cynnig i'ch polisïau adfywio ar gyfer Port Talbot, ac a wnewch chi gefnogi cais cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli Channel 4 i Bort Talbot? Diolch.

Wel, mae nifer o geisiadau o bob cwr o Gymru, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran dangos ffafriaeth i unrhyw gais penodol. Hoffem gefnogi pob un ohonyn nhw, wrth gwrs.

O ran Port Talbot, yr hyn sy'n hollbwysig i gynaliadwyedd Port Talbot yw dyfodol cynhyrchu dur, a'r ffaith ein bod ni, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi sicrhau hynny—gadewch i ni beidio ag anghofio, ychydig cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad, fod y dyfodol yn edrych yn llwm iawn yn wir i'r pen trwm ym Mhort Talbot. Oherwydd y gwaith caled yr ydym ni wedi ei wneud, gan weithio gydag eraill, gan weithio gyda Tata, yr arian a roddwyd ar y bwrdd, rydym ni wedi sicrhau bod dyfodol i ben cynhyrchu dur Tata, ac mae hynny'n rhywbeth, yn arbennig, sy'n bwysig dros ben i'r dref. Rwy'n deall bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £11.5 miliwn o'r cyllid i ddarparu rhaglen o brosiectau adfywio wedi'u targedu i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned ac i wella llesiant pobl Port Talbot.

Undebau Credyd

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi undebau credyd? OAQ52204

Wel, mae £844,000 ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i'r undebau credyd fwrw ymlaen â phrosiectau i gefnogi cynhwysiant ariannol. Cytunwyd ar £1 filiwn ychwanegol hefyd i gynorthwyo undebau credyd gyda'u twf.

13:55

Diolch. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi nodi'n briodol fod undebau credyd yng Nghymru yn darparu addysg ymwybyddiaeth ariannol ar gyfer oedolion a phlant, maen nhw'n cynorthwyo pobl sy'n ymdopi â phroblemau dyled ac yn darparu cynhyrchion ariannol cadarn a moesegol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac felly rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd undebau credyd ledled Cymru yn cael arian ychwanegol, gan gynnwys yr £844,000 o gyllid, ar gyfer prosiectau sy'n cynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion ariannol. Yn anffodus, o dan Lywodraeth y DU hon, y bobl hyn yw'r mwyafrif ac nid y lleiafrif. Pa effaith uniongyrchol y mae'r Prif Weinidog yn ei feddwl felly y bydd y cymorth ariannol a chapasiti hwn i undebau credyd yn ei chael ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn Islwyn?

Gallaf ddweud y bydd swyddogion yn cyfarfod â'r sector undebau credyd ar 21 Mai i drafod y cymorth cyfalaf trafodiadau ariannol sy'n cael ei roi ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf. Yn wir, bu diddordeb gan undebau credyd o ran cael mynediad at hwnnw. Mae gennym ni tua 75,000 o aelodau undebau credyd yng Nghymru erbyn hyn, ac i lawer o aelodau undebau credyd mae undebau credyd yn cynnig dewis nad yw'n golygu mynd at fenthycwyr arian didrwydded. Rydym ni'n gwybod hynny, ac rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ariannol sydd wedi bod ar bobl dros yr wyth mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi gweld cyni cyllidol diddiwedd, a dyna pam mae'r undebau credyd yn chwarae rhan mor bwysig yn ein cymunedau, a dyna pam yr ydym ni wedi bod yn eu cynorthwyo i gefnogi pobl.

Prif Weinidog, roeddwn i'n edrych ymlaen at ddweud fy mod i'n cytuno â Rhianon Passmore. Yn anffodus, fe'i cefais hi'n anodd cytuno â'r darn ar y diwedd, ond roedd y rhan gyntaf yn gadarnhaol. A gaf i hefyd gytuno â'r safbwyntiau hynny bod undebau credyd yn gwneud llawer iawn o waith ledled Cymru? Yn y de-ddwyrain, fy ardal i, mae gan Undeb Credyd Gateway ganghennau yn y Fenni ac yn Bulwark, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, maen nhw'n gwneud llawer iawn i ymdrin â phroblemau tlodi. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y rhan y mae undebau credyd yn ei chwarae mewn ardaloedd gwledig hefyd? Nid ardal drefol yn unig y maen nhw'n ei gwasanaethu. Ceir pocedi mawr o dlodi gwledig ar draws fy ardal i, ac yn y canolbarth hefyd, ac mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae yn y fan honno. Felly, pan fyddwch chi'n targedu'r cyllid hwn, a wnewch chi sicrhau bod tlodi ardaloedd gwledig yn cael sylw hefyd?

Yn sicr. Mae undebau credyd yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag y maen nhw i ardaloedd trefol. Rai blynyddoedd yn ôl, pan euthum i Iwerddon gyntaf, roedd yn amlwg pa mor fawr oedd undebau credyd, yn enwedig mewn trefi bach cefn gwlad, a'r cynnydd a oedd wedi ei wneud yno. Felly, mae undebau credyd yn berthnasol ac maen nhw'n cynnig modd o gymorth i bob cymuned yng Nghymru, trefol neu wledig.

Er bod pobl o Gymru yn aelodau o undebau credyd, o gymharu â gweddill Prydain ac Iwerddon, fel rydych chi newydd ddweud, mae aelodaeth yn llawer is na'r gwledydd hynny. Felly, pan wnes i godi'r mater yma gyda chi o'r blaen, gwnes i godi'r cysyniad o gael hwb cenedlaethol i undebau credyd. Ydy, mae arian yn mynd atyn nhw fel unigolion, ond mae yna lot y gallan nhw ei ddysgu o'i gilydd er mwyn iddyn nhw allu gweithio a gwella'r hyn y maen nhw'n ei gynnig fel undebau credyd. Ble ydych chi gydag edrych i mewn i'r cysyniad hwn, a beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud o ran hybu neu ennyn aelodau o staff y gwasanaeth sifil, er enghraifft, i gynilo arian gydag undebau credyd, er mwyn sicrhau ein bod ni fel Aelodau, a'r rheini sydd yn gweithio yma yng Nghymru, yn gwneud ein rôl ni i hybu'r sector yma?

Fe wnes i sôn am yr arian sydd ar gael a sôn am y cyfarfod sy'n mynd i gymryd lle yr wythnos nesaf. Mae aelodaeth undebau credyd wedi codi o 10,000 ar ddechrau'r ganrif i 75,000, fel y dywedais i, nawr. So, felly, mae yna dwf wedi bod. Y cam nesaf, rwy'n credu, i undebau credyd yw faint maen nhw eisiau tyfu a faint o capacity sydd ei eisiau iddyn nhw dyfu. Rwy'n gwybod, yn Iwerddon, mae'n bosibl cael benthyciadau o gannoedd o filoedd o ewros, achos y ffaith bod y sefydliadau llawer yn hŷn, a'n llawer mwy na'r undebau credyd yng Nghymru. So, felly, beth mae'n rhaid inni ei ystyried yw: pa mor bell mae'r undebau credyd eisiau tyfu? A ydyn nhw'n moyn tyfu i ddod lot yn fwy, fel undebau credyd Iwerddon, neu ydyn nhw'n moyn sefyll yn hollol leol? Rwy'n credu y byddai rhai yn dewis yr un a rhai yn dewis y llall, ond byddwn ni'n cario ymlaen i siarad â nhw er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni eu hybu nhw yn y pen draw.  

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ52203

Gwnaf. Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud tuag at y cam cyflawni nesaf ac i ddatgloi cyllid Llywodraeth y DU.

Diolch. Cwestiwn ailadroddus, mi wn.

Dywedodd bwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe wrthym y bydden nhw'n hoffi, pe byddai'n bosibl, ychwanegu at yr 11 o brosiectau sydd eisoes yn rhan o'r fargen, ac, wrth gwrs, mae llawer ohonom ni wedi bod yn sôn y gallai trafnidiaeth fod yn agwedd ychwanegol o hynny. Bythefnos yn ôl, dywedodd eich Ysgrifennydd dros yr economi y dylid bwrw ymlaen â gwaith ar barcffordd Abertawe 'yn gyflym', dim ond i'w ddyfynnu ef. A chyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau ydych chi'n eu cynnal gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Drafnidiaeth am y syniad hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a yw wedi cael ei drafod yng nghyd-destun y fargen ddinesig neu yn fwy cyffredinol yn rhan o'r weledigaeth ehangach ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Nghymru, neu'r ddau efallai? Diolch.

14:00

Gwn am y syniad—mae'r syniad wedi bod o gwmpas ers cryn amser ar gyfer gorsaf yn Nhreforys, i bob pwrpas: parcffordd Abertawe, fel y deallaf. Ceir problemau, gan y byddai'n golygu uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, a byddai'n osgoi Abertawe ei hun, a hefyd yn osgoi Castell-nedd. A gwn nad yw pobl yng Nghastell-nedd eisiau gweld eu gorsaf yn cael ei hosgoi yn y modd hwnnw a gallaf ddeall yn iawn pam nad yw'n bolisi Llywodraeth y byddem ni eisiau gwneud hynny. Felly, byddai angen uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, gan ei bod hi'n rheilffordd cludo nwyddau ar hyn o bryd ac yn cael ei defnyddio ar gyfer gwyriadau teithwyr achlysurol. Byddai angen sicrhau hefyd nad oedd gwasanaethau yn cael eu colli i orsafoedd presennol, yn enwedig gwasanaethau rhwng dinasoedd—nid gwasanaethau rhwng dinasoedd yn unig, ond pob gwasanaeth—pe byddem yn bwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Felly, syniad diddorol, ond ceir rhai effeithiau negyddol posibl, oni bai bod unrhyw wasanaethau ar reilffordd ardal Abertawe yn ogystal â'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes, sy'n gwasanaethu gorsafoedd fel stryd fawr Abertawe ei hun a Chastell-nedd.

Y Gwasanaeth Ambiwlans

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans? OAQ52202

Gwnaf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hynod ymatebol i bobl Cymru er gwaethaf lefelau uwch nag erioed o alw. Ym mis Mawrth, cafodd 69.6 y cant o alwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb nodweddiadol o bum munud a 29 eiliad.

Mewn Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr, codais fater pwysig gweithwyr rheng flaen y GIG ar ben eu tennyn o ganlyniad i'r pwysau sy'n cael ei roi arnyn nhw yn feunyddiol. Roedd hyn yn ymwneud yn benodol â gwasanaeth ambiwlans Cymru, ac fe wnaethoch addo ymchwilio i'r mater ac ysgrifennu yn ôl ataf. Ysgrifenasoch yn ôl ataf yn gynharach y mis hwn gydag ateb a amlinellodd fod mesurau yn cael eu cymryd gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans i gefnogi ei staff. Ac mae hynny'n cynnwys tîm llesiant mewnol, sy'n swnio'n wych ar bapur, ond dywedodd rhywun yr wyf i'n ei adnabod nad oedd yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hwn gan na wnaeth y gwasanaeth hwnnw ymateb o gwbl iddo. Mae'r person hwnnw yn nodi mai'r diffyg capasiti yn ein hysbytai, sy'n achosi oedi wrth drosglwyddo gofal, yw'r ffactor mwyaf o ran oedi ymatebion ambiwlansys ac, wedyn, straen a achosir i'r rheini sy'n ymdrin â galwadau. Er lles ein GIG yn ogystal â staff a chleifion, pryd mae'r Llywodraeth hon yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Gadewch i mi roi ateb llawnach i arweinydd Plaid Cymru. Bu pwysau cyson ar draws y GIG, yng Nghymru a'r DU yn gyffredinol, yn ystod gaeaf 2017-18. Mis Mawrth 2018, credaf fy mod yn iawn yn dweud, oedd y mis prysuraf erioed i'r gwasanaeth ambiwlans. Un o'r grwpiau allweddol o staff yr effeithiwyd arnynt oedd y derbynwyr galwadau 999 a'r staff ystafell reoli sy'n gweithio i wasanaeth ambiwlans Cymru yn ogystal, wrth gwrs, â'r staff ambiwlans eu hunain a'r parafeddygon. Yr hyn a wnaeth y gwasanaeth ambiwlans oedd cysylltu ag elusen y gwasanaeth ambiwlans i ddarparu cymorth i ganolfannau rheoli clinigol ambiwlansys, yn enwedig i staff sy'n ateb galwadau. Cynhaliwyd dwy sesiwn ym mhob un o'r tair canolfan reoli ranbarthol, sy'n cynnwys amrywiaeth o fecanweithiau cymorth sydd ar gael i helpu staff gyda'u llesiant emosiynol a chorfforol, ond hefyd y cymorth ehangach sydd ar gael gan TASC, yr elusen, mewn meysydd fel rheoli ariannol, paratoi ar gyfer y dyfodol, a manteision eraill y mae TASC yn eu cynnig i staff ambiwlans. A'r adborth gan staff fu, 'Roedd y sesiynau hynny yn hynod werthfawr', ac mae'r ymddiriedolaeth yn ystyried erbyn hyn sut y gellir defnyddio adnoddau TASC i gynorthwyo staff yn y dyfodol yn rhan o ymateb yr ymddiriedolaeth i bwysau gweithredol.

Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.

Gallaf ddweud, ar gais Ysgrifennydd y Cabinet, fod prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wedi dechrau adolygiad o dan arweiniad clinigol ar y categori ambr yn benodol, ochr yn ochr â gwaith sy'n parhau ar hyn o bryd i ystyried ymatebolrwydd ambiwlansys, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion. Ceir pedwar peth yn benodol y bydd yr adolygiad yn eu hystyried: yn gyntaf, y sefyllfa bresennol o ran arferion polisi a chanllawiau ar hyn o bryd; yn ail, disgwyliadau a phrofiadau'r cyhoedd, staff a'r gwasanaeth ehangach o ran ymatebion ambiwlans i alwadau ambr; yn drydydd, ystyriaeth o ffactorau amgylcheddol, fel lleoliad digwyddiad ac oedran y claf wrth benderfynu ar ddyrannu ymateb; ac, yn bedwerydd, y ffactorau allanol neu fewnol eraill a allai gyfrannu at, neu effeithio ar, sut mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau categori ambr, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau.

14:05

Roedd nifer y galwadau ambiwlans brys yn ystod 2016-17 116 y cant yn uwch na nifer y galwadau ambiwlans brys a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hwn yn gynnydd syfrdanol ar sail unrhyw gyfrifiad, ac eto mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged amser ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am 30 mis yn olynol, diolch i'n model ymateb clinigol a'n staff yn darparu gofal yn gyflymach i'r rheini sydd ei angen fwyaf—model a ddifrïwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig fel 'symud y pyst', a model sy'n cael ei ystyried erbyn hyn i gael ei ailadrodd yn Lloegr gan eu cydweithwyr Torïaidd yn San Steffan.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi, felly, i ganmol dynion a menywod ymroddgar y gwasanaeth ambiwlans, sy'n parhau i gyfrannu at ein gwasanaeth iechyd gwladol ardderchog yng Nghymru ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain oed, ac amlinellu ymhellach yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo eu gwaith gwerthfawr ymhellach?

A gaf i ymuno â'r Aelod i roi fy ngwerthfawrogiad, fy ystyriaeth a'm diolch, yn wir, i'r staff ambiwlans am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i achub bywydau ddydd ar ôl dydd yng Nghymru? Gallaf ddweud bod adnoddau sylweddol wedi eu buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o sicrhau bod nifer y staff rheng flaen yn cael ei gynyddu, yn y canolfannau rheoli ac, yn wir, ar y ffordd. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o staff, a dweud y gwir, wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth. Yn ôl ym mis Hydref, cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.2 miliwn gennym i alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i barhau i uwchraddio'r fflyd bresennol, sy'n dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn cerbydau ambiwlans newydd ers 2011 i bron i £45 miliwn.

Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52186

Rydym ni'n parhau i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth, gan gynnwys £6.6 miliwn yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwyf wedi gweld sawl achos o ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn ystod fy mywyd, ac mae bob amser yn broblem fawr cyflawni newid—hyd yn oed newid buddiol. Bydd enillwyr a chollwyr tybiedig bob amser. Cynigiodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda eu newid GIG mawr, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o gyfleusterau gofal iechyd ar draws ardal Hywel Dda. A wnaiff ef gytuno â mi na ddylai unrhyw newid sy'n cael ei wneud roi ardaloedd sylweddol iawn o'r boblogaeth o fewn y bwrdd iechyd o dan anfantais er mwyn bod o fudd i rannau eraill o'r ardal?

Yn arbennig, ceir cynnig yn Llanelli i israddio Ysbyty'r Tywysog Philip, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol acíwt 24/7; bydd lleoedd digonol mewn gwelyau yn ardal fwyaf poblog Hywel Dda yn cael eu lleihau; ni fydd uned oncoleg y fron arbenigol yno; a bydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl. Os yw newidiadau yn mynd i fod yn dderbyniol i'r cyhoedd yn gyffredinol, yna mae'n rhaid iddyn nhw fod o fudd i'r nifer fwyaf bosibl o bobl ac nid eu rhoi o dan anfantais.

Mae dau amcan, yn fy marn i, i'r ymarfer: yn gyntaf oll, cael yr ymgynghoriad llawnaf posibl, ac, yn ail, sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei weld, nid yn unig yn Hywel Dda, ond ledled Cymru, yn cynrychioli’r gwasanaeth iechyd gorau, mwyaf diogel a mwyaf cynaliadwy ar gyfer y boblogaeth. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, eisiau ei weld ledled Cymru.

Prif Weinidog, mae etholwr, Mr Robert Jones, wedi fy hysbysu yn ddiweddar nad yw'n gallu casglu ei bresgripsiwn o'r fferyllfa yn adeilad ei feddygfa deulu mwyach oherwydd rheolau dosbarthu meddyginiaeth sydd wedi newid o ganlyniad i gael eu cyflwyno yn dilyn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei gofrestru yn y feddygfa drwy gydol ei oes. Mae'n amlwg yn synnwyr cyffredin, cyn belled ag y gallaf weld, iddo allu casglu ei bresgripsiwn o'r adeilad lle rhoddwyd y presgripsiwn iddo, felly rwy'n ei chael hi'n eithaf anodd deall y polisi pan fo'r etholwr yn ei feddygfa deulu eisoes. A allwch chi ymrwymo i ystyried y mater hwn eto i weld a oes digon o hyblygrwydd yn y system—nid yw'n ymddangos o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn ôl gan y Gweinidog iechyd bod hynny'n wir—i sicrhau nad yw'r rheoliadau hyn yn cael y mathau hyn o ganlyniadau anfwriadol?

Nid oeddwn i wedi clywed hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn sydd, gyda pharch, yn hynod o leol. Mae'n haeddu ateb, ond bydd angen i'r ateb hwnnw ddod, os gwnaiff roi rhagor o fanylion i mi, mewn llythyr.

Mae hi wedi bod yn bleser heddiw croesawu Elly Neville i'r Cynulliad, ac mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi ei chyfarfod. Mae hi wedi codi bron i £160,000 erbyn hyn, fel merch chwech a saith mlwydd oed, ar gyfer triniaeth ganser ward 10 yn Llwynhelyg, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi mewn munud, Prif Weinidog, gobeithio, i ddiolch iddi am ei hymdrechion.

Ond yr hyn y mae wir yn ei danlinellu, wrth gwrs, yw pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hynny i gymunedau lleol, a pha mor ymroddedig yw cymunedau iddynt. Dywedasoch wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd gennych chi fel Llywodraeth na chithau fel Prif Weinidog unrhyw ffafriaeth o ran y dewisiadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer Hywel Dda. Oni fyddai'n well, felly, pe na byddai eich Aelodau Cynulliad eich hun yn ymgyrchu dros neu yn erbyn rhai o'r dewisiadau hyn, ond gadael i'r cyhoedd gael yr ymgynghoriad ehangach hwnnw ac yna gwneud penderfyniadau yng ngolau oer rheswm, gyda thystiolaeth glinigol dda hyd yma gyda hynny, a chyda'r dystiolaeth orau bosibl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch y cyllid sydd ar gael hefyd?

14:10

Yn gyntaf, rwyf i wedi cael y pleser o gyfarfod Elly o'r blaen, ac mae'n braf iawn cael ei chroesawu hi yn ôl i'r adeilad hwn. Mae hi wedi gwneud gwaith ardderchog yn codi cymaint o arian, ac mae'n wych gwybod ei bod hi yma. Yn ail, pe na byddai unrhyw ACau yn mynd i ymgyrchu mewn unrhyw ffordd o ran ymgynghoriad Hywel Dda, gallai fod chwarae teg i bawb, ond rwy'n amau bod hynny yn mynd ychydig yn rhy bell o ran yr hyn sydd i'w ddisgwyl. Mae ACau Llafur ar y meinciau cefn yn rhydd, wrth gwrs, i gynrychioli eu cymunedau; dyna pam maen nhw yma. Ceir mwy o gyfyngiadau, wrth gwrs, ar y rhai hynny yn y Llywodraeth, yn naturiol, ond rwy'n siŵr y bydd yr holl ACau sy'n byw yn ardal Hywel Dda yn mynegi eu safbwyntiau yn rhan o'r ymgynghoriad.

Porthladd Caergybi

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i borthladd Caergybi? OAQ52207

Rydym ni’n parhau i weithio gyda Stenaline a’i helpu i wneud y mwyaf o botensial Caergybi i gynyddu twf economaidd a dod â mwy o swyddi i’r rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trafod cynlluniau am angorfa aml-ddefnydd newydd, ac rydym ni wedi rhoi £0.5 miliwn drwy'r gronfa datblygu porthladdoedd tuag at y gwaith o gynnal astudiaeth o ymarferoldeb.

Diolch yn fawr iawn. Ddydd Gwener yma, mae grŵp yn cael ei ailgynnull a fydd yn dod â gwahanol ddefnyddwyr y porthladd at ei gilydd, yn cael ei gyd-gadeirio gen i fel yr Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ynys Môn, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad yn y tri chwarter awr diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru swyddog i'r cyfarfod hwnnw. Ond ar drothwy y cyfarfod, mi hoffwn i apelio am ffocws clir iawn, iawn gan Lywodraeth Cymru ar gefnogi a buddsoddi ym mhorthladd Caergybi a'r isadeiledd trafnidiaeth, ac ati, sy'n gwasanaethu'r porthladd hwnnw, yn enwedig yn sgîl her Brexit, yr her o gystadleuaeth gan borthladdoedd eraill fel Lerpwl, a'r her o groesiadau uniongyrchol sy'n datblygu fwy a mwy o Iwerddon i Ffrainc. Mae'n rhaid sicrhau bod porthladd rhagorol Caergybi yn parhau i fod yn gystadleuol er mwyn y swyddi yn uniongyrchol yno ac, wrth gwrs, economi ehangach Ynys Môn ac nid yn unig gogledd Cymru, ond Cymru hefyd.

Mae Brexit yn her, wrth gwrs, i Gaergybi a'r porthladdoedd eraill fel Doc Penfro ac Abergwaun. Rwy'n cofio'r amser lle roedd yna dollau yng Nghaergybi. Nid oedd pawb yn cael eu tsiecio, ond ta beth, pe byddech chi'n cael eich dal yna, roedd yna broblem ynglŷn â'r ffaith eich bod chi'n gorfod aros ac wedyn symud ymlaen.

I fi, mae yna ddau beth. Yn gyntaf, nid ydym yn gwybod beth yn gwmws fydd yn digwydd rhwng Caergybi a'r Iwerddon. Rydym ni wedi dweud na ddylai dim byd fynd yna, wrth ddweud y dylai'r Deyrnas Unedig sefyll yn yr undeb tollau; mae hynny'n hollbwysig. Pan siaradais i ag Irish Ferries, un o'r pethau a oedd yn fy nharo i oedd eu bod nhw'n dweud wrthyf i fod yna botensial i fynd â'r llongau o Iwerddon i Ffrainc, ond nid yw'r capasiti yna yn yr un ffordd. Mae'n amhosibl i gael yr un capasiti a mynd rhwng, er enghraifft, Dulyn a Chaergybi. Y broblem iddyn nhw oedd sefyllfa lle bydden nhw'n mynd â rhywbeth fel pysgod, ffeindio yng Nghaergybi eu bod nhw'n ffaelu mynd mas o'r porthladd yn ddigon cyflym, wedyn colli'r fferi yn Dover, ac wedyn, wrth gwrs, colli'r cargo yn hollol. Roedd hynny yn rhywbeth roedden nhw'n ei weld yn hollbwysig i'w ddatrys. 

Ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw fath o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y rhwydwaith yng Nghaergybi, ond beth na fyddwn i'n moyn ei weld fyddai tollau nac, yn waeth byth, unrhyw fath o reolaeth ynglŷn â phasbortau yng Nghaergybi. Dyna i gyd y byddai hynny yn ei wneud yw ei gwneud yn fwy anodd i ddefnyddio'r porthladd a rhoi mantais ynglŷn â chystadleuaeth i borthladdoedd fel Cairnryan a Lerpwl.   

Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynyddu'r ddapariaeth o addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52201

Rydym ni’n parhau i gredu bod modd i Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd. Rydym ni’n gweithio gyda’r prifysgolion ar gynigion i ddarparu addysg feddygol gynaliadwy yn y gogledd.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fy mod i wedi bod yn blaenoriaethu ymgyrch i gael ysgol feddygol i Fangor oherwydd fy mod i'n credu ei fod o'n ffordd o wella gofal cleifion ar draws y gogledd. Mi wnes i gomisiynu'r adroddiad yma, 'Delio â'r Argyfwng', oedd yn amlinellu'r achos yn glir iawn. Fe gafwyd cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a neilltuwyd £7 miliwn y flwyddyn tuag at ddatblygu cynllun i gynyddu hyfforddiant feddygol yn y gogledd. Rydw i'n falch bod y trafodaethau'n parhau ond fe hoffwn i fanylion ynglŷn â'r gwariant yma, yn enwedig yr elfen gwariant cyfalaf o'r arian sydd wedi'i glustnodi, ac mi hoffwn i gael ymrwymiad gennych chi heddiw y cawn ni ddatganiad clir yn dangos y cynnydd ar y mater yma, os gwelwch yn dda.  

14:15

Wel, fe allaf i roi'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n bwysig i Fangor weithio gyda Chaerdydd ac Abertawe er mwyn cael mynediad i ysbytai mawr y de hefyd, er mwyn rhoi addysg gyflawn i unrhyw ddoctor sydd yn hyfforddi. Yr opsiwn arall yw gweithio gyda Lerpwl. Wel, i mi, mae'n well ein bod ni'n creu system addysg Gymreig ynglŷn a meddyginiaeth rhwng y de a'r gogledd. Mae'r gwaith yna yn parhau ac, unwaith y bydd y gwaith yn barod, rwy'n siŵr bydd yna ddatganiad yn cael ei wneud. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y Tŷ, byddwch wedi clywed y drafodaeth â'r Prif Weinidog—y cwestiynau rhyngof fi a'r Prif Weinidog ynghylch unrhyw gyhoeddiad y gallem ni fod yn ei ddisgwyl fel Cynulliad ar ddyfarnu masnachfraint y rheilffyrdd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar y cofnod y gwneir y cyhoeddiad hyw ym mis Mai 2018. A wnewch chi gadarnhau fel arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar drefn busnes y Cynulliad yr wythnos nesaf i ddeall mewn gwirionedd sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y cyhoeddiad hwn, ac yn wir, pwy yw'r cynigydd llwyddiannus? Oherwydd, o'r hyn y deallaf i, dim ond 12 diwrnod gwaith sydd ar ôl ym mis Mai ac mae'n bwysig iawn, gyda chyhoeddiad sylweddol o'r fath sy'n effeithio ar gynifer o gymunedau ar hyd a lled Cymru, fod y datganiad yn cael ei wneud yn y Siambr hon fel y gall Aelodau'r Cynulliad holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyfarniad y tendr ac, yn bwysicaf oll, ynghylch yr amserlen ar gyfer gweithredu'r tendr hwnnw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau y caiff y darn hwnnw o fusnes ei gyflwyno yr wythnos nesaf.

Ac, yn ail, ynglŷn â'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, a gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog neu gan y person perthnasol yn y Llywodraeth am ddatblygiad yr ymchwiliad, sydd o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, i'r ad-drefniant fis Tachwedd diwethaf? Mae llawer o ddyfalu yn y wasg ar y cynnydd, neu fel arall, fel y mae'n digwydd, ar yr ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei bod yn hollol briodol i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, ddeall sut y mae'r gwaith yn mynd yn y maes penodol hwn a pha bryd y bydd yr ymchwiliad yn dechrau ymgysylltu'n llawn a chynnal yr ymchwiliad.

O ran y cwestiwn cyntaf y gwnaethoch chi ei ofyn, sef yr un cwestiwn a ofynnoch chi yn ystod sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog hefyd—gallwch weld Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro proses gymhleth sydd ynghlwm wrth y gwaith caffael, ond rwy'n siŵr y bydd yna gyhoeddiad ym mis Mai. Mae'n angenrheidiol cael stop—[Torri ar draws.] Wel, oherwydd y rheolau caffael—ac mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn gyfarwydd â hyn—ac oherwydd y llwybr caffael penodol a gymerwyd, ceir cyfnod segur rhwng y cyhoeddiad cychwynnol a dyfarniad y contract gwirioneddol. Felly, fe fydd datganiad yn cael ei wneud, ond fe fydd yn digwydd ar ôl y cyhoeddiad cychwynnol, oherwydd y ffordd y mae'r rheolau caffael yn gweithio. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus i mi i ddangos ein bod ni ar y trywydd cywir ac y caiff y cyhoeddiad ei wneud yn unol â'r amserlen bresennol.

Gan ymhelaethu ar y pwynt a godwyd nawr am yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines y gofynnodd Andrew R.T. Davies amdano—cyfle arall i ateb yr agwedd honno, ond, yn benodol, a wnewch chi gadarnhau rhywbeth yr wyf i wedi gofyn ichi yn y gorffennol, sef pa un a fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi, efallai drwy gyfrwng datganiad y Prif Weinidog i'r Cynulliad. Oherwydd, rwy'n credu bod gennym ni i gyd ddiddordeb mewn deall cylch gorchwyl yr ymchwiliad ond, yn enwedig, rhychwant yr ymchwiliad o ran y cyfnod o amser a fydd yn berthnasol i'r ymchwiliad hwnnw dan arweiniad Cwnsler y Frenhines. Felly, a wnewch chi gadarnhau hynny a pha bryd y gallem ni glywed am hynny o ran busnes yn y dyfodol.

Mae'r ail eitem y mae arnaf i eisiau ei godi gyda chi yn wahanol, ond byddai llawer ohonom ni wedi ein dychryn o weld y digwyddiadau yn Gaza ddoe. Nid yw'n cyfiawnhau unrhyw beth y mae Hamas neu unrhyw sefydliad arall yn ei wneud fel awdurdod yn Gaza i ddweud nad ydym ni ac na allwn ni dderbyn defnyddio saethwyr cudd i saethu miloedd—yn llythrennol, miloedd—o ddinasyddion di-arfau. Mae hynny'n mynd i'r tu hwnt i unrhyw ymateb gwâr gan Lywodraeth er mwyn diogelu ei ffiniau neu warchod ei dinasyddion. Felly, er nad yw hwn, rwy'n sylweddoli, yn eitem i chi neu i Lywodraeth Cymru yn benodol, y mae pobl yn sicr wedi bod yn cysylltu â mi, pobl sydd yn anhapus iawn am yr hyn a ddigwyddodd. Dyma'r peth gwaethaf a gawsom am o leiaf hanner degawd yn yr ardal honno. Ac, wrth gwrs, mae effeithiau ar heddwch yn y dwyrain canol yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i gyd oherwydd eu bod yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau yn ein cymunedau yma a'r ffordd y gallai llawer o aelodau ein lluoedd arfog gael eu cynnwys yn y dyfodol hefyd. Felly, oes, rwy'n credu, mae gwir angen i'r Llywodraeth wneud dau beth, os yn bosibl: (1) bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Awdurdod Palesteina i fynegi cydymdeimlad o ran y bywydau a gollwyd, nid mewn modd gwleidyddol, ond yn hytrach dim ond fel arwydd dyngarol, ac, yn ail, cysylltu â'r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, i annog Llywodraeth y DU i godi'r mater hwn ar y lefel uchaf un, gan gynnwys yn y Cenhedloedd Unedig.

Rwy'n gwybod bod cwestiynau yn cael eu gofyn ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Cyffredin am hyn, felly nid wyf yn hollol siŵr lle y maen nhw arni, ond hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r drafodaeth honno, ac, yn arbennig yn eich swyddogaeth chi, hoffwn i chi rannu'r ohebiaeth honno â ni, ac felly pan fydd pobl yn cysylltu â ni, gan nad ydyn nhw bob amser yn gwybod pwy ydym ni'n ei gynrychioli ac ar ba lefel, gallwn ni rannu'r geiriau o ofid â nhw, ond hefyd, gallwn rannu rhai camau cadarnhaol wrth symud ymlaen yn ceisio sicrhau'r cyfleoedd gorau—dyna'r cwbl y gallwn ni siarad amdano ar hyn o bryd—am heddwch yn y tir hwnnw, sydd mewn tywyllwch.

14:20

Ie, wrth gwrs. Golygfeydd cwbl ddychrynllyd; rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi ein harswydo gan yr hyn yr oeddem ni'n ei weld. Rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn dymuno estyn eu cydymdeimlad â'r bobl hynny a gollodd eu bywydau mewn ffordd mor ofnadwy. Mae'n amser pryderus iawn yn y dwyrain canol. Mae yna nifer fawr o bethau'n digwydd mewn meysydd ychydig yn wahanol yn y dwyrain canol, ac nid ydym wedi gweld cymhlethdod o'r math hwn ers degawdau lawer, lawer, os o gwbl. Rwy'n credu felly, fod yr Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth â'r Prif Weinidog am yr hyn y gellir ei wneud o ran mynegi barn y lle hwn, o ran lle'r ydym ni o ran hynny. Ond credaf, yn hollol—. Llywydd, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i fy hun yn wir â'r bobl a gafodd ei dal mewn gwrthdaro ofnadwy o'r fath—golygfeydd ofnadwy, ofnadwy.

O ran yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, fy nealltwriaeth i yw ein bod yn dal i fod mewn trafodaeth ynghylch y cylch gorchwyl a bod hynny'n drafodaeth barhaus i raddau helaeth rhwng Cwnsler y Frenhines, y teulu a'r Llywodraeth. Llywydd, os oes unrhyw wybodaeth sy'n wahanol i'r hon sydd gennyf i ac nad wyf yn ymwybodol ohoni, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael gwybod. Ond nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid heblaw bod y trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf—hoffwn gael datganiad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wella iechyd cyhoeddus, a bod hwnnw'n cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Dylai hefyd gynnwys camau i leihau gordewdra, cynyddu ymarfer corff a gwella deiet, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei wneud i gymryd lle gweithgarwch Cymunedau yn Gyntaf yn y maes hwn.

Yr ail un, sydd efallai yn fater sydd angen sylw ar frys—yr wythnos diwethaf cawsom ni ein synnu, ein syfrdanu, a'n siomi o glywed bod Virgin Media yn sôn am gau a bod ychydig o dan 800 o swyddi yn cael eu colli. Doedd dim llawer iawn o ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ar y pryd, os o gwbl, am hynny, ac mae'n destun pryder mawr i mi, gan ei fod yn digwydd yn fy etholaeth i. Ond rwy'n siŵr ei fod yn bryder i chi ac i'n cyd-Aelodau o bob rhan o orllewin Morgannwg a dwyrain Dyfed, oherwydd bod pobl yn teithio cryn bellter i fynd i'w gwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw ddiweddariad pellach ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am gamau y gellid eu cymryd, a thasglu a llawer o bethau eraill. Ond mae wythnos wedi mynd heibio, mae pobl yn poeni'n fwy, fel y byddai pawb ohonom, neu, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, fel yr oeddwn i'n poeni pan oedd fy swydd i dan fygythiad. Felly, a oes rhagor o wybodaeth i ni am yr hyn sy'n digwydd?

Ie, yn wir, ar y mater hwnnw, bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd ei fod wedi bod yno yn ogystal â mi, fod nifer fawr o Aelodau'r Cynulliad o'r rhanbarth wedi cyfarfod â Virgin Media yr wythnos diwethaf i drafod y sefyllfa y maen nhw ynddi. Ni allaf ddweud bod y cyfarfod hwnnw yn gwbl gadarnhaol, ond ers hynny cafwyd trafodaethau cadarnhaol. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori, y soniwyd amdano yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, ddod i ben, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn digwydd yr wythnos sy'n dechrau nawr—felly, ar ryw adeg yr wythnos hon bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—yna cytunwyd ar y tasglu gan Virgin Media i fynd i gynorthwyo pobl sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Rydym wedi cael nifer fawr o drafodaethau cadarnhaol, fel Llywodraeth Cymru, â chyflogwyr eraill yn yr ardal a allai fod angen sgiliau'r bobl hynny a fydd o bosib yn colli eu swyddi gyda Virgin Media ac mae'r trafodaethau wedi bod yn mynd yn dda. Rwy'n falch o ddweud bod Virgin Media mewn gwirionedd wedi cytuno y bydd yn cydweithredu'n llwyr â'r tasglu, sy'n gam ymlaen sylweddol o'r lle'r oeddem ni o'r blaen. Rydym ni'n parhau i siarad â chyflogwyr mawr eraill yn yr ardal a allai fod angen y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddogion sydd wedi'u dadleoli. Mae'n flin iawn gennyf nad ystyriodd Virgin Media fod angen cysylltu â'r Llywodraeth yn gyntaf. Roeddech chi yn y cyfarfod yn ogystal â minnau; roedd y sefyllfa'n un rhwystredig iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi camu ymlaen ac yn barod i helpu unrhyw weithwyr sy'n colli eu swyddi o ganlyniad i'r gweithgarwch yno.

O ran y mater am iechyd y cyhoedd, mae ein cynigion i wella iechyd y cyhoedd yn bendant yn cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Mae hynny'n cynnwys pob un o'r camau a nodwyd gan yr Aelod, ac, yn wir, maen nhw wedi eu nodi yn ein rhaglen flaenllaw, 'Ffyniant i Bawb'. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno ein nodau a'n huchelgeisiau i hyrwyddo pwysau iachach mewn strategaeth sydd i ddod, y bydd ymgynghoriad arni yn nes ymlaen eleni. Bydd hynny'n cynnwys yr holl fyrddau iechyd lleol a'r partneriaid yn cyflawni yn erbyn y llwybr gordewdra yng Nghymru gyfan. Bydd hefyd yn cynnwys gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i gyflawni camau gweithredu cenedlaethol i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac i ddatblygu bond llesiant, a fydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn amserol iawn.

14:25

A gaf i alw am ddau ddatganiad, neu ymatebion i ddau fater? Y cyntaf ar gynllunio gofal ymlaen llaw: yn wir, mae'n wythnos 'Dying Matters' rhwng 14 Mai a 20 Mai. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gynllunio gofal ymlaen llaw ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, o'r enw 'Colli Cyfle'. Maen nhw wedi gofyn i mi, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad hwn ac i dynnu sylw at y ffaith ei bod yn wythnos 'Dying Matters' yn y Cynulliad yr wythnos hon.

Maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau, yn bennaf o fewn ei chynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes, i gefnogi a chyflwyno cynllunio gofal ymlaen llaw a rhoi systemau ar waith i sicrhau y gweithredir ar gynlluniau gofal ymlaen llaw fel rhan bwysig o wasanaeth iechyd sy'n canolbwyntio ar y person, gan wneud yn siŵr bod pobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes yn cael y gofal gorau posib a bod eu dymuniadau ar gyfer marwolaeth a marw yn cael eu cyflawni.

Yn fyr, canfu'r adroddiad fod mwy na thri chwarter y bobl â chanser yng Nghymru wedi meddwl am y ffaith y gallent farw o'r clefyd, er bod bron i chwarter y bobl sydd â chanser yng Nghymru yn cael trafferth siarad yn onest am eu teimladau ynghylch canser. Fodd bynnag, mae sgyrsiau manwl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phobl â chanser yn datgelu bod nifer o rwystrau sy'n atal sgyrsiau gonest am farw rhag digwydd. Mae hyn yn cynnwys y pwysau ar bobl barhau i fod yn gadarnhaol a'u cefnogi i ymladd canser hyd yn oed ar ôl cael diagnosis terfynol. Gobeithio y bydd hyn yn haeddu mwy na dim ond ymateb gennych chi nawr, ond hefyd ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn i bob un ohonom ni, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom ni yn ein bywydau.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad neu hyd yn oed, os meiddiaf ddweud, ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar fater arall sydd yr un mor bwysig, a hwnnw yw cymorth i'r gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw yng Nghymru, oherwydd mae 14 i 21 Mai yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar hefyd? Nod Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar yw codi ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a cholli clyw a'u heriau, sicrhau bod gan bobl fyddar fynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar y prif bwynt cyswllt, hyrwyddo mynediad cyfartal mewn lleoliadau iechyd, yn enwedig mewn derbynfeydd, sicrhau bod diagnosis cywir a thriniaeth briodol, darparu gwybodaeth glir a chryno am driniaeth a rheoli iechyd, ac ymgysylltu â chymunedau o bobl fyddar lleol yn rheolaidd a'u cynnwys—hefyd, gwella mynediad at addysg a gofal cymdeithasol, sicrhau bod gan bobl fynediad at yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt, eirioli a hysbysu'r llywodraeth a'r cyhoedd yn gyffredinol am fyddardod a cholli clyw, gwella gwasanaethau, ond, yn anad dim, godi proffil a phwysigrwydd cydraddoldeb, hygyrchedd a chydnabyddiaeth i bobl fyddar drwy gefnogi hygyrchedd a chyfathrebu, cyflogaeth, Iaith Arwyddion Prydain a Gemau Olympaidd i bobl fyddar, gan nodi, er enghraifft—a byddaf yn gorffen â hyn—er yr anfonwyd rhestr wirio, a ddatblygwyd i ategu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd wedi colli cynneddf y synhwyrau, i fyrddau iechyd a sefydliadau iechyd ledled Cymru, mae sefydliadau pobl fyddar yng Nghymru yn dweud nad yw llawer o fyrddau iechyd a sefydliadau wedi mabwysiadu hyn fel ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n haeddu ymateb mwy sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn y lle hwn. Diolch.

Ie, ar yr un olaf, yn wir, gan wisgo fy het cydraddoldeb, rwyf wedi bod yn cael cyfres o drafodaethau gyda nifer o gyd-aelodau yn y Cabinet, a chefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda Mike Hedges AC ar hyn a hefyd am y gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar sy'n ymwneud ag ystod gyfan o faterion, gan gynnwys addysg, lleoliadau iechyd, meysydd cyfathrebu'n gyffredinol ac ati. Mewn gwirionedd, yn rhan o fy mriff fy hun, gan wisgo fy het cydraddoldeb, rwy'n gobeithio y byddaf o leiaf yn ei gynnwys yn rhan o fy natganiad, os nad yn cyflwyno datganiad ar wahân. Felly, bydd gennym ni'r cyfle cyn diwedd tymor yr haf i ymdrin â rhai o'r meysydd hynny yn fy mhortffolio i, oherwydd ein bod wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod bod angen cael golwg traws-lywodraethol ar hyn, gan ei bod yn sefyllfa gydol oes i lawer o bobl. Felly, bydd cyfle cyn diwedd tymor yr haf i wneud hynny.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi i mi ein bod ni eisoes yn gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r llwybrau gofal diwedd oes ac y byddwn ni'n cyflwyno datganiad maes o law, gan nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hynny hefyd.

14:30

Arweinydd y tŷ, rwy'n cyflwyno dau fater i'ch sylw. Neithiwr, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn yng Nghwmgwrach yng nghwm Nedd—roedd Jeremy Miles yno hefyd—lle y mynegwyd gwrthwynebiad unfrydol i gynllun i adeiladu garej yn y pentref. Nawr, rydym ni wedi lobïo ac ysgrifennu i'r awdurdod lleol ers misoedd lawer. Mae cynlluniau amgen ar gael. Pasiwyd y penderfyniad cynllunio gwreiddiol y llynedd, a dim ond ychydig o bobl oedd yn gwybod am hynny. Mae llawer o ddicter a phryder yn lleol o ran yr hyn a all y Cynulliad hwn ei wneud a'r hyn na all ei wneud. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar unrhyw newidiadau i ganllawiau cynllunio yn y dyfodol a fydd yn adlewyrchu'n wirioneddol bryderon am faterion o'r fath sydd gan drigolion lleol, na allan nhw apelio, tra gall yr ymgeisydd wneud hynny?

Mae fy ail fater yn ymwneud â bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg. Yn ôl ym mis Mawrth, mynegais y ffaith fod bwrdd iechyd lleol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2016. Roedd y pryderon a oedd yn bodoli ar y pryd yn canolbwyntio ar ofal heb ei drefnu, gofal wedi'i gynllunio a strôc, ymysg pethau eraill. Mae pryderon o hyd yn lleol o ran cyflawni targedau perfformiad cenedlaethol a gallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy yn y tymor hir. Ym mis Mawrth, gofynnais i i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dadl sy'n canolbwyntio'n benodol ar welliannau yn erbyn blaenoriaethau a dargedwyd gan yr ymyrraeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mewn ymateb, dywedasoch y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad diwedd y flwyddyn. O ystyried ein bod erbyn hyn wedi pasio diwedd y flwyddyn, a wnewch chi roi manylion i mi o ran pryd y cawn y cyfle hwnnw i graffu ar berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, o gofio bod bron dwy flynedd ers iddo gael ei roi o dan ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru? Diolch.

Ar hynny, rwy'n deall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno'r datganiad hwnnw cyn bo hir. Felly, byddwch yn cael y cyfle hwnnw. Fe wnaf i hefyd ddweud bod nifer fawr ohonom ni, sy'n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac yn cynrychioli pobl o'r ardal honno, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd â'r bwrdd iechyd, y cadeirydd a'r prif weithredwr. Rwy'n gwybod bod nifer o Aelodau eraill y Cynulliad, a David Rees yn arbennig, wedi bod yn codi materion gyda'r bwrdd iechyd ynghylch rhai o'r materion hynny hefyd. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r rheini i gyd.

O ran y caniatâd cynllunio, roeddwn i'n ymwybodol bod Jeremy Miles a chithau wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar faterion cynllunio unigol, ond mae ymgynghoriad cynllunio yn bodoli ar 'Bolisi Cynllunio Cymru', a byddai hynny'n bwynt priodol i gynnwys unrhyw beth y credwch chi sydd ar goll o hynny, gan gynnwys rhai o'r materion sydd bob amser yn cael eu codi gyda phob un ohonom ni ynghylch yr hyn y gall pobl sy'n gwrthwynebu cais ei wneud yng ngoleuni rhoi caniatâd cynllunio pan nad ydyn nhw'n hapus iawn am y peth. Ac rwy'n siŵr, Llywydd, fod hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei gael yn ein sach bost bob dydd o'r wythnos. Felly, mae'n amser priodol i roi hynny yn yr ymgynghoriad.

Yn dilyn adolygiad y grŵp gorchwyl a gorffen o gymorth bwydo ar y fron a'r arferion mewn lleoliadau mamolaeth a blynyddoedd cynnar, sydd newydd ei gyhoeddi, a fyddai arweinydd y tŷ yn edrych am gyfleoedd inni dynnu sylw at bwysigrwydd bwydo ar y fron ac i drafod y materion a godwyd yn y ddogfen hon, gan ei bod yn gwbl hanfodol i iechyd ein plant bod menywod yn cael eu hannog a'u cefnogi i fwydo ar y fron yn y dyfodol? Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn ymwybodol bod y cyfraddau bwydo ar y fron wedi bod yn sefydlog yng Nghymru am nifer o flynyddoedd.

Cododd yr Aelod bwynt pwysig iawn, ac unwaith eto, mewn cyfarfod yn fy etholaeth i yn ddiweddar iawn, gyda thristwch y dywedaf fy mod i'n siomedig iawn bod menywod ifanc heddiw yn cael yr un profiadau â'r rhai a gefais i yn ceisio bwydo fy mhlant i fy hun ar y fron ryw 30 mlynedd yn ôl. Nid yw hynny'n ddigon da. Ac mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth. Nid yw hyn yn ymwneud ag iechyd yn unig, yw e? Mae'n ymwneud â'r hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol a gallu pobl i fod yn gyfforddus â'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn swyddogaeth naturiol iawn ac ati. Fel y dywedasoch, sefydlwyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar y materion a rhoi argymhellion. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, ac mae'n nodi y byddai'n fwy na pharod i drefnu cyfarfod ag un o'r uwch swyddogion nyrsio o swyddfa'r prif swyddog nyrsio pe bai'r Aelodau eisiau trafod hyn ymhellach. Ac yna, yn ddibynnol ar ganlyniad hynny, cawn weld beth y gallwn ei wneud i fwrw ymlaen ag ef.

14:35

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr amseroedd aros am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yng Nghymru? Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod cleifion wedi bod yn aros ar gyfer llawdriniaeth 79 diwrnod ar gyfartaledd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mai 2017, o gymharu â 43 diwrnod y flwyddyn flaenorol. Yr amser aros cyfartalog am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yn Lloegr oedd 51 diwrnod, 28 diwrnod yn llai nag yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar aros hir annerbyniol hwn am lawdriniaeth hanfodol?

Fy ail gais at y Gweinidog cyllid yw: ychydig cyn gwyliau'r Pasg, rhoddwyd £6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd. Rwy'n eithaf sicr mai cyllid cyhoeddus sy'n mynd am resymau da ydyw, ond rwy'n credu bod gennym ni'r hawl i ofyn ble roedd yr arian hwn yn mynd, ac i ba gyfeiriad, gan fod y cwmni, neu faes awyr, mewn gwirionedd—daeth Qatar yn gynharach y mis hwn. Felly, i ba ddiben roedd y chwistrelliad ariannol, a sut mae'r busnes sy'n gwneud elw yn mynd i gael ei wella ym Maes Awyr Caerdydd? Diolch.

Mae'r Aelod yn codi pwyntiau ei fod yn amlwg yn teimlo yn agos at ei galon, ond mae adegau priodol i ofyn y cwestiynau hynny—cwestiynau penodol iawn—i Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad, neu, yn wir, mewn cwestiynau ysgrifenedig, a dydw i ddim yn meddwl bod y naill na'r llall ohonyn nhw'n haeddu datganiad gan y Llywodraeth. Byddwn yn awgrymu i'r Aelod naill ai eu rhoi fel cwestiynau ysgrifenedig neu, yn wir, eu codi yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, sef yr wythnos nesaf, mewn gwirionedd.

Mae gen i ddau fater yr hoffwn i eu codi efo chi, os gwelwch yn dda. Y cyntaf: yn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur, fe neilltuwyd £2 filiwn tuag at hyrwyddo cydweithio rhwng siroedd y gorllewin ar faterion strategol ieithyddol ac economaidd. Yn anffodus, mae yna ddryswch o hyd ynglŷn â pha Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun pwysig yma, neu o leiaf nid ydym yn gallu cael y wybodaeth honno. A fedrwch chi ysgrifennu ataf fi, tybed, efo eglurder ynglŷn â hynny? Mae gan Blaid Cymru gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu efo arweinwyr llywodraeth leol, ac mae angen i hwn gael ei roi ar waith cyn gynted â phosib.

Yr ail beth ydy’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod awdurdod tân ac achub y gogledd yn wynebu toriadau cyllid sylweddol, a bod yna nifer o opsiynau wedi cael eu cyflwyno, yn cynnwys torri ar wasanaethau yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwy’n deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn â llywodraethiant ac ariannu, ac efallai byddai’n gwneud mwy o synnwyr i hwnnw ddigwydd yn gyntaf cyn bod unrhyw doriadau yn dod. Felly, a gawn ni ddatganiad gan eich Llywodraeth chi am ddyfodol y gwasanaethau tân ac achub ar draws Cymru, os gwelwch yn dda?

Ar yr ail un, mae'n hollol iawn y dylem ni gael ymgynghoriad. Bydd cyfle i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Pryder penodol iawn yw'r hwn yr ydych chi, Siân Gwenllian, yn ei godi, a dydw i ddim yn siŵr fy mod i wedi deall yn llwyr. Felly, efallai os na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu gyda'r pryder penodol iawn hwnnw, gallem ni ymdrin â hyn yn fwy uniongyrchol. Ond ymddiheuriadau; nid wyf yn siŵr y daliais y pwynt yr oeddech chi'n ei godi, heblaw'r pwynt cyffredinol am y peth. Felly, efallai na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu am hyn yn benodol.

O ran y cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei fod yn fwy na pharod i egluro beth yw'r trefniadau ar gyfer setliad y gyllideb.

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw'r wythnos hon hefyd a phrif bwyslais yr ymgyrch eleni yw straen. Rwy'n hynod falch o fod yn gwisgo fy rhuban gwyrdd heddiw yn y Siambr i gefnogi'r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau o ar draws y Siambr, ac i'w staff cynorthwyol a staff y Cynulliad, am ymuno â mi y tu allan yn gynharach ar risiau'r Senedd am lun i gefnogi'r ymgyrch. Mae dod ynghyd i ddangos cefnogaeth mor bwysig, ac mae'n mynd yn bell yn dweud ei bod yn iawn i beidio â bod yn iawn.

Mae gennyf i ddau beth yr hoffwn eu codi heddiw yn enwedig. Yn gyntaf, a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r miloedd o bobl sy'n gweithio i elusennau a mudiadau sy'n helpu pobl gyda salwch meddwl?

Yn olaf, hoffwn i gymryd amser ac achub ar y cyfle i gofnodi a rhoi gwybod i'r Aelodau ac i'r cyhoedd cyffredinol ehangach hwn fod fy nheulu a minnau yn falch iawn o gyhoeddi y rhodd gyntaf gan gronfa goffa Carl Sargeant. Gan mai hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, rydym ni wedi penderfynu rhoi arian o'r gronfa tuag at Cruse yng Ngogledd Cymru. Mae Cruse yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth hanfodol ar gyfer profedigaeth, i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen pan fydd rhywun yn marw, ac rwy'n gwybod yn bersonol pa mor bwysig yw'r gefnogaeth honno. Rwy'n gobeithio y bydd y rhodd hon yn chwarae rhyw ran i sicrhau y gall sefydliadau fel Cruse a chynifer eraill barhau i gynnig y cymorth iechyd meddwl hanfodol sydd mor bwysig i bobl ledled gogledd Cymru a'r DU gyfan, ar gyfer y rhai sydd ei angen yn daer. Diolch.

14:40

Wrth gwrs fy mod i'n falch iawn o ymuno â chi i longyfarch a bod yn ddiolchgar iawn i'r holl bobl sy'n gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, ac yn wir ar draws y DU a'r byd. Wrth gwrs, y peth gwych am hynny yw ein bod yn gwybod bod gwirfoddoli hefyd o gymorth â'ch problemau iechyd meddwl eich hun, felly mae'n arbennig o rinweddol, ac rwy'n falch iawn o annog a chanmol. Rwy'n falch iawn o glywed am y rhodd gyntaf gan gronfa goffa Carl Sargeant. Rwy'n siŵr y bydd y sefydliad yn falch ac rwy'n siŵr y byddai eich tad wedi bod yn falch iawn o hyn hefyd.

Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'ch llun. Dewisais y poster hwn yn benodol, Llywydd, sy'n dweud, 'Rydym ni i gyd yn wahanol, derbyniwch a byddwch yn falch o bwy ydych chi, yn hytrach na dymuno bod yn fwy fel rhywun arall'. Rwy'n falch iawn o gael hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n mynd ochr yn ochr â'n hymgyrch 'Dyma fi', a rydym ni'n awyddus iawn i'w hyrwyddo ac mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae a wnelo hefyd â pheidio â stereoteipio, yn enwedig stereoteipio o ran rhywedd, ond unrhyw fath o stereoteipio, oherwydd bod hynny hefyd yn bwysig iawn i iechyd meddwl. Mae'n bwysig iawn inni i gyd dderbyn pwy ydym ni a bod pawb o'n hamgylch yn derbyn pwy ydym ni hefyd. Felly, yr oeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o hynny, Jack, a llongyfarchiadau ar y rhodd gyntaf honno.

A gaf i ymuno â sylwadau Jack Sargeant? Roeddwn i'n falch o fod yn y cinio coffáu chwe mis yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o glywed bod tua £3,000 wedi eu codi yn y cinio hwnnw, a chredaf fod y penderfyniad i roddi'r gyfran gyntaf o arian i'r elusen Cruse yn y gogledd yn un da iawn. Rwy'n gwybod y byddai Carl wedi ymfalchïo yn eich ymdrechion yn hyn o beth, a hefyd o'r gefnogaeth a ddaeth iddo gan Aelodau'r Cynulliad.

Yn ail, a gaf i ddweud y cefais y pleser ddoe o fod, ynghyd â'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n ymfoddi yn ei negeseuon e-bost acw—cafodd eich enw ei grybwyll—yn lansiad arddangosfa Amgueddfa'r Lleuad yn abaty Tyndyrn? Gallaf i weld eich bod yn edrych yn syfrdan—'Beth yw hwn?'. Roeddwn yn teimlo yr un modd tan i mi fynd. Roedd yn arddangosfa gelf gan yr arlunydd Luke Jerram sydd wedi cael clod rhyngwladol—digwyddiad gwych iawn, ac roedd lleuad fawr 7m wedi ei hongian yng nghanol abaty Tyndyrn. Yn ystod y nos, mae hon yn cael ei goleuo ac mae'n cynnig sioe anhygoel i bobl leol ac i ymwelwyr hefyd. Mae hynny'n denu math gwahanol o dwristiaid o ledled y byd, fel y gall arddangosfeydd celf ei wneud. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad yng ngoleuni'r digwyddiad ddoe, gan y Gweinidog, ynglŷn â sut—peidiwch â phoeni, nid yn y dyfodol agos, mae gennych chi amser i feddwl am y peth—rydym ni'n mynd i ddefnyddio ein hadeiladau hanesyddol mawr, megis abaty Tyndyrn, fel lleoliadau ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau i ddenu gwahanol fath o dwristiaid, fel ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y diwylliant a'r dreftadaeth sydd gennym ni yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd meysydd gwahanol fel y gall pobl o bob cwr o'r byd elwa o'r gorau y mae gan Gymru i'w gynnig.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol ei bod yn anodd iawn i wneud yn siŵr fod y Gweinidog yn cymryd ei ran gywir o amser y Cyfarfod Llawn, felly bydd yn falch iawn o gyflwyno datganiad cyhyd ag y gallaf i roi iddo'r amser ar ei gyfer, rwy'n siŵr. Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, ei bod yn ymddangos i mi i ei fod yn gwneud taith o amgylch lleoedd sy'n cychwyn gyda 'T', oherwydd fy mod i'n ymwybodol o sawl un arall hefyd. Bydd yn rhaid i mi gael gair gyda fy ysgrifennydd dyddiadur am gael rhai gigs gwell fy hun, i rai o'r digwyddiadau diwylliannol hyn.

Ond o ddifrif, wrth gwrs, y defnydd effeithiol a chreadigol o'n mannau treftadaeth hardd yw'r hyn sy'n dod â hwy i fywyd ac sy'n denu gwahanol fathau o bobl sy'n cael eu denu gan wahanol fathau o ddigwyddiadau diwylliannol mewn gwirionedd. Mae bob amser yn braf gweld hen adeilad yn dod yn fyw drwy rywbeth ychydig yn annisgwyl. Nid wyf wedi gweld y lleuad yn cael ei hongian yn abaty Tyndyrn. Efallai y dylwn i wneud pererindod i'w gweld. Ond ceir nifer o hen adeiladau yn fy etholaeth i lle mae cael arddangosfa gelf y tu mewn iddynt wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn wir mewn ffordd wahanol, ac wedi dwyn agweddau ar yr adeilad i fywyd mewn ffordd, efallai, na fyddech chi wedi'i gweld pe byddech chi wedi dod i arfer â'r adeilad, hyd yn oed pe byddech chi'n ei ddefnyddio llawer. Felly, rwy'n hapus iawn i ganmol y defnyddiau creadigol hynny i dynnu sylw at rinweddau artistig a diwylliannol ein holl bethau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y gallaf sicrhau amser ar ei gyfer ar agenda'r Cyfarfod Llawn i wneud hynny.

Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru eiliad yn ôl, wrth gwrs, cyfarfu panel gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ddoe i drafod £1.9 miliwn o doriadau yn ei gyllideb i sicrhau bod y llyfrau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi eu mantoli, ac mae'r cynigion yn cynnwys eto, wrth gwrs, doriadau i'r gwasanaethau rheng flaen. Nawr, mewn termau ymarferol, gallai hynny olygu colli un o'r ddwy injan tân amser-cyflawn sydd gennym ni yn Wrecsam. Gallai olygu lleihau gwasanaethau ar draws trefi eraill yn y gogledd—Bae Colwyn, y Rhyl a thu hwnt, wrth gwrs—yn ogystal â lleihau nifer fawr o orsafoedd wrth gefn. Nawr, llwyddodd pobl leol drwy brotest mawr i guro'r bygythiad i un o injans Wrecsam y llynedd, yn effeithiol, ac os caiff cynigion tebyg eu cyflwyno, byddwn i'n dychmygu y byddwch chi'n gweld, a hynny'n briodol, yr un ymateb lleol unwaith eto. Mae'r Llywodraeth ei hun yn rhagweld cynnydd serth yn y boblogaeth dros y blynyddoedd i ddod, ond, wrth gwrs, nid yw cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny yn adlewyrchu'r cynnydd posibl yn y galw hefyd.

Nawr, rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros wasanaethau cyhoeddus yn gobeithio cael y drafodaeth honno ynghylch dyfodol y gwasanaethau tân sydd gennym ni yng Nghymru, yn enwedig o ran atebolrwydd, ond mae'n rhaid inni hefyd drafod cynaliadwyedd o ran ariannu ar gyfer y gwasanaethau hyn, oherwydd, pa bynnag ddull yr ydym yn ei ddewis, ai cyllid uniongyrchol drwy'r praesept neu beth bynnag a ddaw allan o'r drafodaeth hon, mae'n rhaid inni fod yn glir bod yn rhaid peidio â cholli'r swyddi hyn, rhaid i ni beidio â cholli'r gwasanaethau hyn. I'r bobl hynny sydd yn dal i fod yn dadlau o blaid cyni, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod hyn yn y rheng flaen, ac mae'r toriadau hyn yn costio bywydau. Felly, a gawn ni ddatganiad clir gan yr Ysgrifennydd a'r Llywodraeth hon o ran lle mae'r gwasanaeth hwn yn mynd yn y blynyddoedd i ddod a sut, fel Llywodraeth, gallwch chi sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau tân ac achub hanfodol hyn?

14:45

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac, fel y dywedwn bob amser, mae'n amhosibl cael agenda cyni heb gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon nad ydym ni'n wynebu unrhyw ddewis da o gwbl. Nid ydym yn torri pethau ein bod yn credu nad ydyn nhw'n dda o gwbl; rydym ni'n torri pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod yn bwysig i bobl, oherwydd mai dewis gwleidyddol yw cyni ac nid ydym yn cytuno ag ef ac mae canlyniadau difrifol iawn i'r gwasanaethau cyhoeddus. [Torri ar draws.] Yn hollol. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Rydych chi wedi gwneud pwynt da iawn, a chlywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y gwnaethoch ei ddweud hefyd ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb maes o law.

Mae'n ffaith bod crebachu gwasanaethau anstatudol llywodraeth leol ledled y DU yn digwydd oherwydd yr agenda cyni yn y DU, ond byddaf yn gadael hynny. Felly hoffwn i ofyn am ddatganiad i'r lle hwn ar statws ac iechyd y gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru a'r hyfforddiant offerynnol â chymhorthdal a'r mynediad cynyddol i ensembles a ddarperir ganddyn nhw. Hoffwn i ofyn i'r datganiad hwn gynnwys asesiad o ysgolion sydd ar hyn o bryd heb fynediad at wasanaeth cymorth cerddoriaeth neu sydd yn y broses o golli un, a gwerthusiad o'r effaith sydd gan ddiffyg gwasanaeth cymorth cerddoriaeth ar gydraddoldeb o ran mynediad at addysg perfformiad cerddorol i fyfyrwyr tlotach ledled Cymru.

Mae'r Aelod yn codi hyn droeon yn y Siambr ac yn amlwg mae'n teimlo'n gryf iawn dros hyn ac wedi dod â nifer o ddigwyddiadau i'r Senedd, mewn gwirionedd, sy'n dangos ei bwysigrwydd. Mae'n sgwrs yr ydym ni wedi cael sawl gwaith ar draws y Llywodraeth ynglŷn â sut orau y gallwn gefnogi'r gwasanaeth cerddoriaeth, ac rwy'n gwybod ei bod yn ystyriaeth weithredol ar gyfer nifer o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion. Felly, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn ei gymryd o ddifrif iawn ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wrthi'n ei ystyried yn weithredol.

Diolch. Hoffwn i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant ynglŷn â phwysigrwydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a'r ffaith y gallwn ni, lle y bo'n bosibl, weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo ein gilydd. Rwy'n credu roedd hynny'n rhywbeth ddaeth at y bwrdd oddi wrthych chi, felly, diolch i chi, Jack, am hynny.

Roeddwn i eisiau ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed gan Simon Thomas o ran Palesteina. Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost ynglŷn â hyn. Mae hwn yn fater a'n syfrdanodd yn wir oherwydd y trais mewn gwirionedd. Cafodd 58 o bobl eu lladd yn y brotest. Heddiw, mae Senedd yr Alban yn cael dadl ar ddyfodol Palestina, ac rydym ni wedi cael consensws yma yn y gorffennol lle mae'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad wedi cydnabod bod angen inni gael gwladwriaeth ar ei chyfer fel cenedl, ac yn meddwl tybed a allem ni gael dadl arall yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i roi arweiniad ar y mater hwn, oherwydd ei bod yn amlwg bod cyfraith ryngwladol yn cael ei thorri, ac ni allwn ni eistedd yn segur. Er nad oes gennym ni bwerau dros faterion rhyngwladol, mae dal yn golygu y gallwn gymryd y tir uchel moesol ac y gallwn ddangos arweiniad yn y maes penodol hwn. Felly, byddwn i'n annog dadl ar y mater hwn yn hytrach na datganiad, pe byddai hynny'n bosibl.

Roedd yr ail fater yr oeddwn i eisiau ei godi yma heddiw o ran sefydliad glowyr Resolfen. Nawr, rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau'r Cynulliad o bleidiau gwahanol—unwaith eto, ar sail dull consensws yma—wedi ymweld ag ef ac wedi gweld yr hyn y maen nhw eisiau ei gyflawni yno o ran uwchraddio sefydliad y glowyr. Mae'n adeilad anferth, ond gallai fod yn adnodd gwych i bobl leol. Ond mae cyllid bob amser yn broblem, felly roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad neu ddadl ar gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol i geisio trafod rhai o'r materion hyn sy'n her i bobl leol o ran sut y gallan nhw ddatblygu eu cronfeydd i wneud yr adeiladau anhygoel hyn yn benodol yn rhai hyfyw unwaith eto. Mae ganddyn nhw ofod i theatr a sinema, ond byddai'n costio rhywfaint o arian i wneud hynny'n realiti. Rwy'n gwybod bod rhai o'r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru, ac nid ydym eisiau colli'r dreftadaeth hon. Nid ydym eisiau i hynny fynd, fel y nodwyd yn gynharach ynghylch Merthyr Tudful. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad ar bwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol?

14:50

Ie. Rwy'n credu, ynglŷn â'r ail sylw, rydw i wedi bod yno mewn gwirionedd. Mae'n adeilad hardd iawn, yn wir. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau, gan gynnwys y posibilrwydd o roi talebau, trosglwyddo asedau cymunedol a defnyddio cyllid yn greadigol ac ati, y gellir eu defnyddio er mwyn achub peth o'n treftadaeth ddiwydiannol. Bydd yr Aelod yn maddau i mi—rwy'n gwybod ei fod yn ei rhanbarth hi hefyd—ond un o'r enghreifftiau yr wyf i'n arbennig o hoff ohonyn nhw ar hyn o bryd yw datblygiad Copperopolis yn etholaeth Mike Hedges yn Abertawe, sy'n dod â llawer o dreftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe yn fyw, sy'n fater o bwys hanesyddol mawr i Gymru gyfan, ond yn enwedig i fy nheulu fy hun hefyd.

Felly, mae'n wych gweld y rheini, ac mae'n hyfryd gweld hen adeiladau a godwyd drwy ymdrechion y werin yn aml iawn yn cael eu hadfywio yn y ffordd honno, fel yr oeddwn i'n ei ddweud. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Byddaf yn cael rhywfaint o drafodaethau ymysg Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion dim ond i weld sut orau y gallwn ni amlygu elfennau o hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da ynglŷn â sut rydym ni'n tynnu sylw at y ffyrdd gwahanol o achub rhai elfennau o dreftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau, a chyfeiriwyd at nifer o faterion—nid yn lleiaf y dreth trafodiad tir, mewn gwirionedd—y gallwn ni eu hystyried i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag adeiladau segur ac ati, i annog perchnogion i'w defnyddio drachefn. Mae gan bob un ohonom ni nifer o'r rheini yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn ystyried hynny ac yn gweld beth allwn ni ei wneud i dynnu sylw ato.

Ac, fel y dywedais ynglŷn â Gaza, nid yw geiriau yn ddigon i ddisgrifio'r arswyd a welsom yn datblygu yno. Fel y dywedais, mae'n broblem hynod gymhleth yn y dwyrain canol, ac mae hi yn ymddangos ein bod mewn cylch arbennig o dreisgar ar hyn o bryd, a hwnnw'n cyflymu, sydd o bryder difrifol i bob un ohonom ni. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, byddaf yn trafod gyda'r Prif Weinidog beth orau y gallwn ni ei wneud i ddangos barn y lle hwn ar y mater.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6722 Carwyn Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig, sy'n cynnig y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r Bil seneddol wneud darpariaeth newydd ar faterion o fewn ac ynglŷn â chymhwysedd deddfwriaethol datganoledig y Cynulliad. Nid oes, wrth gwrs, unrhyw beth anarferol am hynny. Gofynnwyd i'r Cynulliad wneud hynny dros 100 o weithiau. Treuliwyd llawer o wythnosau a misoedd hir yn negodi canlyniad newydd i gymal 11 o'r Bil ymadael gwreiddiol. Rwy'n gwybod, fodd bynnag, fod agweddau eraill ar y Bil sy'n peri pryder i'r Aelodau, a soniaf yn fyr am yr agweddau hynny yn gyntaf.

Mae llawer o'r elfennau mwy annerbyniol yn y Bil gwreiddiol—hepgor y siarter hawliau sylfaenol, gormod o bwerau Harri'r VIII a darpariaethau annigonol i'r Senedd allu craffu ar y pwerau hyn, y risg i'r amgylchedd, y farchnad lafur a hawliau defnyddwyr—bellach wedi eu haddasu yn Nhŷ'r Arglwyddi a bydd fy mhlaid yn amddiffyn pob un o'r newidiadau hynny pan fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Yn uniongyrchol ym maes datganoli, roedd y Bil hefyd wedi ei ddiwygio yn Nhŷ'r Arglwyddi i gyfyngu ar y defnydd o bwerau cymal 7, fel na ellir bellach eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, ac fe ddiwygiwyd y Bil ymhellach i ddileu cyfyngiadau arfaethedig ar Weinidogion datganoledig o ran cadw cyfraith uniongyrchol yr UE o fewn cymhwysedd datganoledig. Ond o safbwynt darparu cydsyniad deddfwriaethol, cymal 11 oedd wrth wraidd ein gwrthwynebiad i'r Bil pan gyhoeddwyd ef yn gyntaf, a'r gwelliannau i'r cymal hwnnw a'r cytundeb rhynglywodraethol cysylltiedig sydd wrth wraidd ein hystyriaeth heddiw.

Caniatewch imi fod yn glir, Llywydd, fod y Bil y gofynnir i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad iddo heddiw yn darparu bod pob un o'r 64 maes cyfrifoldeb sydd ar hyn o bryd yn cael eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd yn parhau yma yng Nghymru. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynglŷn â'r ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd,

'y sefyllfa ddiofyn yw na chyffyrddir â chymhwysedd y Cynulliad.'

Ar y diwrnod y daw'r Bil yn Ddeddf Seneddol, dyna fydd y sefyllfa; bydd pob un o'r 64 maes hwnnw yn y fan yma. Dyna beth y gofynnir ichi bleidleisio o'i blaid heddiw. Ar ôl hynny, mae'r Bil yn darparu, drwy reoliadau, a fydd, o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol, yn ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad hwn, bydd rhai agweddau o rai meysydd yn parhau i weithredu o dan reolau presennol yr Undeb Ewropeaidd—i beidio â newid y rheolau ond i sicrhau eu bod yn parhau fel y maen nhw heddiw, ac i barhau hyd nes gellir cytuno ar reolau newydd. Bob tro y digwydd hynny, Llywydd, ac y gwneir cynnig y dylai rheolau presennol yr Undeb Ewropeaidd barhau i fod ar waith, bydd hynny yn ddibynnol ar gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddai hynny'n golygu, ar 24 achlysur unigol gwahanol, y gellid gofyn i'r Cynulliad hwn a yw'n barod i gydsynio i ymestyn dros dro y rheolau yr ydym ni ar hyn o bryd yn gweithredu o danynt. Does dim rhyfedd i Brif Weinidog yr Alban grynhoi hyn yn ei llythyr at Brif Weinidog y DU yn y modd hwn. Roedd yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion gan David Lidington, Michael Russell ar ran yr Alban, a minnau ar ran Cymru. Dywed Nicola Sturgeon,

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gytuno ar y meysydd lle mae cymhwysedd datganoledig yn dylanwadu ar gyfraith yr UE lle gallai fframweithiau cyffredin fod yn angenrheidiol ac yn cytuno ar hynny wrth inni weithio drwy fanylion y fframweithiau hynny, ac y dylid cynnal rheolau presennol yr UE—

rheolau presennol, Llywydd—

am gyfnod dros dro ar ôl ymadael.

Mewn geiriau eraill, does dim yn newid. Fel y dywed Prif Weinidog yr Alban, beth rydym ni'n cytuno yw bod rheolau cyfredol yn parhau hyd nes y bydd pob un ohonom ni'n cytuno y gellir eu disodli â rhywbeth gwell.

Llywydd, yn y cytundeb yr ydym ni wedi dod iddo, bydd y pwerau gwneud rheoliadau a gaiff eu defnyddio i roi'r trefniadau dros dro newydd hyn ar waith yn amodol ar gonfensiwn Sewel fel bod y cytundeb yn golygu na all y Senedd gymeradwyo rheoliadau oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Nawr, yn gwbl unol â chonfensiynau presennol, pe byddai Gweinidogion y DU yn ceisio gweithredu'r rheoliadau os bydd deddfwrfa yn gwrthod caniatâd, yna mae'r cytundeb hwn yn sicrhau bod amddiffynfeydd newydd sbon ar gyfer datganoli—amddiffynfeydd sydd erioed wedi bodoli cyn hyn. Oherwydd, pe byddai Gweinidogion y DU yn penderfynu eu bod yn meddwl yr hoffent weithredu yn y modd hwnnw—a chofiwch, nid lle Gweinidogion y DU yw penderfynu a allan nhw weithredu yn y ffordd honno ai peidio—yna mae'r cytundeb yn sicrhau'r sefyllfa y gofynnir i'r ddau Dŷ Seneddol ar wahân a ddylid gwneud y rheoliad, a bydd angen pleidlais gadarnhaol yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ill dau—Tŷ'r Arglwyddi, lle nad oes mwyafrif gan y Llywodraeth, lle mae hi wedi cael ei threchu 14 gwaith ar ei Bil ymadael ei hun. Gofynnir i Dŷ'r Arglwyddi benderfynu a ddylai'r Llywodraeth fynd yn ei blaen ai peidio. Pan fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â gweithredu neu beidio, bydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw am y tro cyntaf erioed ar sail gwybodaeth ddiduedd. Bydd ganddo farn Llywodraeth y DU ei hun, ond bydd ganddo hefyd, am y tro cyntaf, wybodaeth a ddarperir yn annibynnol gan y gweinyddiaethau datganoledig.

14:55

Roeddwn yn dilyn hynny yn agos, ond efallai y gall ef fy helpu i yma, oherwydd bod pawb arall, mae'n ymddangos—fel y clywsom ni gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach—yn eich plaid eich hun, Plaid Lafur yr Alban, ac arweinydd Plaid Lafur y DU, yn credu bod y darpariaethau hynny yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn sarhad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar egwyddorion datganoli democrataidd. Pam ydych chi'n gywir a nhw'n anghywir?

Beth yw hi ynglŷn â datganoli, Llywydd, nad yw Plaid Cymru yn ei ddeall? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod wedi dros yr 20 mlynedd diwethaf? Mae gwleidyddion yr Alban yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn y mae'n nhw'n credu sy'n iawn ar gyfer yr Alban. Mae'r Cynulliad hwn yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn yr ydym ni'n credu sy'n iawn i Gymru. Beth yw hi ynglŷn â'r gosodiad syml hwnnw y mae Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd deall?

Er bod y setliad datganoli efallai yn wahanol i'r Alban ag ydyw ar gyfer Cymru, er efallai bod cwestiynau gwahanol o ran beth i'w wneud â phwerau gwahanol yn yr Alban ac yng Nghymru, yr un yw'r egwyddor, a'r egwyddor yma yw, o ran yr Alban, mae pobl allweddol yn eich plaid, gan gynnwys arweinydd eich plaid, yn credu bod hyn yn sarhad ar ddemocratiaeth, ond yng Nghymru am ryw reswm nid yw. Yr un peth ydyw yn union o ran yr egwyddor.

15:00

Mae hynny'n ddiffyg dealltwriaeth llwyr, Llywydd. Lle pobl yn yr Alban yw rhoi sylwadau ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, a'u lle nhw yw rhoi sylwadau ynglŷn â beth sy'n iawn iddyn nhw yn eu hamgylchiadau. Yr Alban—lle, gadewch i ni beidio ag anghofio, y pleidleisiodd mwyafrif y boblogaeth leol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yma yng Nghymru, mae ystyriaethau gwahanol, pwerau gwahanol, trefniadau gwahanol yn berthnasol. Rydym ni'n trafod beth sy'n iawn i Gymru, ac mae'r cytundeb a gyflwynwn yn un yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn ar gyfer datganoli ac yn iawn ar gyfer ein cenedl hefyd.

A chaniatewch i mi egluro hefyd, Llywydd, os caf i, unwaith ac am byth, beth mae 'cydsyniad' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae cydsyniad yn golygu bod y Cynulliad wedi pleidleisio yn gadarnhaol o blaid cyflwyno'r rheoliadau drafft gerbron y Senedd. Dyna ystyr cydsyniad, a dim byd arall.

Yn drydedd elfen o amddiffyniad, Llywydd, mae Llywodraeth y DU wastad wedi honni y byddai'r cyfyngiadau a ragwelwyd yn y Bil gwreiddiol yn rhai dros dro, ond nid oedd dim yn y Bil hwnnw i gadarnhau hynny. Bellach, mae yna gymalau machlud ar wyneb y Bil. Mae rhai wedi dadlau y gellid ymestyn y rhain yn ddi-ben-draw, ond caniatewch imi fod yn glir eto: nid yw'r Bil hwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Yr unig ffordd y gellid ymestyn cymalau machlud fyddai drwy ddeddfwriaeth seneddol newydd, a byddai'r ddeddfwriaeth seneddol newydd honno wrth gwrs yn amodol ar ganiatâd y Cynulliad.

Mewn pedwerydd datblygiad, mae'r cytundeb yn rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn cyflwyno gerbron y Senedd unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Lloegr sy'n gwneud newidiadau i ddargadw cyfraith yr UE mewn meysydd fframwaith. Fel y dywedodd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ei adroddiad, ddoe, mae'r gydnabyddiaeth hon o Loegr yn y cytundeb yn gyfansoddiadol nodedig. Mae'n un ffordd yn unig, Llywydd, o sut mae'r cytundeb yn torri tir newydd er mwyn amddiffyn datganoli a sut fydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn y dyfodol. Mae chwarae teg wedi ei chreu, mae'n berthnasol i'r holl weinyddiaethau, a bellach mae er budd pawb, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, i gytuno ar reolau newydd cyn gynted â phosib o ran yr hyn fydd yn digwydd ar ôl gadael yr UE.

Yn olaf, mae'r cytundeb yn ei gwneud hi'n glir y caiff unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd sy'n sefydlu fframweithiau DU newydd eu negodi, eu negodi gyda phob partner yn dod ynghyd i drafod fel aelodau cydradd, ac y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar ganlyniadau negodiadau o'r fath yn unol ag egwyddorion arferol.

Llywydd, hoffwn orffen drwy fynd i'r afael â rhai o'r materion cyfansoddiadol ehangach y mae'r Bil yn eu hamlygu. Nid yw llawer o'r gwrthwynebiadau a'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu clywed yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf wedi bod ynghylch y Bil neu'r cytundeb o gwbl. Maen nhw wedi bod ynglŷn â chonfensiwn Sewel ei hun, confensiwn y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod ei rym 'wedi cael ei gynnal a'i atgyfnerthu' o ganlyniad i'r cytundeb hwn.

Rwyf hefyd wedi clywed llawer o feirniadaeth anwybodus o'r fformiwleiddiad 'anarferol' yn y cytundeb, fel petaem ni, drwy gytuno i hynny, rywsut wedi 'bradychu', fel y dywedir wrthym ni, datganoli, yn yr ymadrodd sarhaus hwnnw. Ond mae'r ymrwymiad y bydd hi'n 'anarferol' i ddeddfu heb ganiatâd yn Neddf Llywodraeth Cymru, y rhoddodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad iddo, ac yna mae yn Neddf Yr Alban hefyd. Ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen inni symud y tu hwnt i Sewel a'r fformiwla 'anarferol'? Wel, rwy'n cytuno â'r casgliad y daeth yr Athro Michael Keating, Prifysgol Aberdeen, iddo yn ddiweddar, pan ddywedodd fod confensiwn Sewel

wedi gweithio'n dda ers bron i 20 ugain mlynedd,

ond ni chafodd ei gynllunio i ysgwyddo'r baich y mae Brexit bellach yn ei osod arno. Dyna pam, yn 'Brexit a Datganoli', y dadleuodd Llywodraeth Cymru dros greu cyngor newydd o Weinidogion ar gyfer y DU, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau terfynol gyda chefnogaeth dulliau datrys anghydfod ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, ac a fyddai'n gweithredu llawer mwy yn llygad y cyhoedd.

Llywydd, ni roddwyd y farwol o bell ffordd i'n huchelgeisiau ar gyfer datganoli gan y cytundeb y daethpwyd iddo, ond ein nod o'r cychwyn oedd cael Bil ymadael sy'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a dinasyddion ynglŷn â'r hawliau, y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn bodoli ar yr adeg y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi amddiffyn ac atgyfnerthu ein setliad datganoli. Rydym ni wedi darparu ar gyfer gweithredu llwyddiannus y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rydym ni wedi cyflawni bargen dda ar gyfer y Cynulliad a bargen dda i Gymru. Rwy'n falch o ofyn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn y prynhawn yma.

15:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees. 

Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried y camau deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer Brexit ers tymor yr hydref 2016 ac wedi ystyried Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fanwl. Ddoe, gwnaethom ni gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y Bil, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno. Mewn cyhoeddiad cynharach ar y Bil, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnaethom ni osod chwe amcan yr oeddem ni'n credu bod angen eu bodloni er mwyn diogelu ein setliad datganoli a hawliau'r Cynulliad. Ac fe wnaf i atgoffa Aelodau o beth oedden nhw: dileu cyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli; sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro pob agwedd o gyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd cymhwysedd datganoledig; sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil yn gyfyngedig iawn ac yn llawer llymach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil; atal Gweinidogion y DU a Chymru rhag diwygio agweddau ar gyfraith sy'n deillio o'r UE sy'n effeithio ar Gymru, oni bai eu bod wedi eu cadw yn ôl; atal Gweinidogion y DU rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig; ac, yn olaf, i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu gwneud ei drefniadau craffu ei hun.

Yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â chymal 11 o'r Bil, fel y'i rhifwyd pan gafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi, a'r gwelliannau cysylltiedig i'r Bil a wnaed yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydym ni wedi pwyso a mesur y cynnydd a wnaed o ran pob un o'r chwe amcan. Mae'n deg i ddweud, mewn rhai meysydd, fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae hi yr un mor deg dweud nad yw ein hamcanion ni wedi'u bodloni yn llawn ym mhob maes. Ond a gaf i hefyd atgoffa'r tŷ y bu gennym ni amcanion a aeth ymhellach na barn wreiddiol Llywodraeth Cymru?

Mae amcan 1 yn greiddiol i gynnig heddiw, a oedd i gael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcan hwn wrth edrych yn ôl ar y man cychwyn oedd yn ein hwynebu pan gyflwynwyd y Bil. Mae Llywodraeth y DU bellach yn derbyn na all osod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn meysydd lle mae fframweithiau polisi Ewropeaidd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae dull ar gyfer sicrhau y gall y Cynulliad ystyried a ddylai roi cydsyniad i unrhyw gyfyngiadau a roddir dros dro ar ei gymhwysedd. Fodd bynnag, golyga sofraniaeth seneddol, mewn amgylchiadau lle mae'r Cynulliad wedi gwrthod ei gydsyniad, y gallai'r Senedd barhau i osod cyfyngiad ar ein cymhwysedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y dull a sefydlwyd gan y gwelliannau diweddar i'r Bil lawer o ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru i hwyluso'r Cynulliad i ystyried y cyfyngiadau arfaethedig neu i gyfleu penderfyniadau y Cynulliad. Cawsom farn ynglŷn â beth y gallai'r Cynulliad ei wneud i gryfhau'r agwedd hon ar y dull ac fe wnaf i siarad am hynny ychydig yn ddiweddarach.

Gwnaed cynnydd sylweddol ar yr ail amcan. Y gwaharddiad hwn, yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ar Weinidogion Cymru yn addasu cyfraith yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys llawer o'r gyfraith sy'n ymwneud â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r cronfeydd strwythurol, oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng pwerau Gweinidogion y DU a Chymru. Mae hwn wedi'i ddileu, yn amodol ar y dull newydd o ran cyfyngu ar gymal 11.

O ran ein trydydd amcan, daethom i'r casgliad er nad yw hynny wedi ei fodloni yn llawn, rydym ni yn cydnabod bod y pwerau gweinidogol yn fwy cyfyng. Fodd bynnag, maen nhw'n parhau i fod yn eang ac mae'r Bil yn dirprwyo pwerau sylweddol i'r Weithrediaeth, gyda rheolaethau cyfyngedig.

Ni chyflawnwyd amcan 4, ac rydym ni'n arbennig o siomedig nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad y Cynulliad wedi'i wneud ar gyfer amgylchiadau lle mae Llywodraeth y DU yn dymuno defnyddio ei bwerau mewn meysydd polisi sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Er nad yw ein pumed amcan wedi'i fodloni yn llawn, gwnaed cynnydd sylweddol o ran diogelu Deddf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch pwerau Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb ymadael, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith honno.

Ac, yn olaf, diben amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei drefniadau craffu ei hun.

Talaf deyrnged i'r gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei wneud yn hyn o beth, ac yn arbennig yr argymhellion ar gyfer sefydlu pwyllgor sifftio, a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Rydym ni'n credu, yn yr amgylchiadau, fod gweithredu'r trefniadau craffu a ffefrir gan y Cynulliad drwy welliannau i'r Bil yn gyfaddawd ymarferol, ond nad yw'n amharu ar ein hymrwymiadau i egwyddor y chweched amcan. Fodd bynnag, rydym ni yn siomedig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithredu holl ystod y trefniadau craffu y cytunwyd arnyn nhw yn unfrydol gan y Cynulliad hwn ar 7 Mawrth, ac yn disgwyl i'n Pwyllgor Busnes gywiro hyn yn ei gynnig i newid y Rheolau Sefydlog.

O'r asesiad hwn o'n chwe amcan, gallwch weld bod y cytundeb rhynglywodraethol a'r Bil diwygiedig wedi creu sefyllfa gryfach ar gyfer y Cynulliad nag o dan y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol. Ond mae hi yn wir i ddweud nad ydyn nhw yn dileu yn llwyr y peryglon a amlygwyd gennym ni o'r blaen. Erys tasg sylweddol ar gyfer y Cynulliad hwn. Ac os rhoddir caniatâd heddiw, bydd yn rhaid inni yn y Siambr hon ddefnyddio'r dulliau gweithdrefnol sydd ar gael inni er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan lawn yn y broses o reoli cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Yn ein hadroddiad, rydym ni yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn ystyried yr achos dros ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i osod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru: i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfle i graffu ar unrhyw gyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig; y cawn ni o leiaf yr un maint o wybodaeth â'r Senedd ynglŷn â hyn, ac ar yr un pryd; a'i bod hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyfleu penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â chydsyniad ar gyfer cyfyngiadau dros dro ar ei gymhwysedd deddfwriaethol. Ddoe, yn ein cyfarfod pwyllgor, ymrwymodd y Prif Weinidog i ddarparu materion o'r fath ar y pwyntiau uchod, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailddatgan y sicrwydd hwnnw i'r Cynulliad y prynhawn yma.

Wrth wraidd y cytundeb rhynglywodraethol hwn mae proses rhyngseneddol. Rydym ni hefyd yn dod i'r casgliad yn ein hadroddiad y byddai cyfathrebu cryfach rhwng deddfwrfeydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch y broses, gan osgoi'r angen i ddibynnu ar ffynonellau llywodraethol o wybodaeth yn unig. Rwy'n bwriadu crybwyll y mater hwn ar gyfer y drafodaeth yn y fforwm rhyngseneddol nesaf ynglŷn â Brexit.

Pan gyflwynir y rheoliadau drafft sy'n cynnig cyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer craffu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni'r gweithdrefnau cywir ar waith i graffu arnynt yn drylwyr. Heb ymyrryd yn y gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei wneud yn y maes hwn, rydym ni'n credu y bydd swyddogaeth ar y cyd ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad yn craffu ar y rheoliadau drafft hyn, os ydym ni'n mynd i arfer yr ystod lawn o arbenigedd technegol a pholisi wrth eu trin. A gyda chaniatâd y Llywydd, byddwn efallai yn trafod hyn yn un o fforymau y Cadeiryddion y dyfodol.

Cyn hir bydd angen inni bleidleisio ar un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol i'r Cynulliad ei wynebu ac yn y broses Brexit. Gobeithio drwy gydol ein hystyriaeth o'r Bil ymadael ein bod ni wedi ceisio sicrhau y caiff swyddogaeth y Cynulliad a'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru eu hamddiffyn yn y broses Brexit. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu Aelodau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol y prynhawn yma yn cefnogi rhoi'r cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Ond beth bynnag yw canlyniad y bleidlais heddiw, byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i warchod buddiannau Cymru yn y broses Brexit ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd.

15:10

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch ichi, Llywydd. Ar 27 Ebrill 2018, cyflwynodd y Prif Weinidog gerbron y Cynulliad Cenedlaethol femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Llywodraeth Cymru—memorandwm Rhif 2—ar y Bil fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar y Darlleniad Cyntaf. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn egluro bod gwrthwynebiadau Llywodraeth Cymru i'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn ymwneud â phedwar mater:

'yr aed i'r afael yn sylweddol â phob un ohonynt yn y gwelliannau a wnaed neu a gynigiwyd i'r Bil neu'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn gysylltiedig ag ef'.

Cawsom dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 16 Ebrill 2018 a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, cyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol, ar 23 Ebrill, ac eto ar 30 Ebrill, yn fuan iawn ar ôl cyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn sail i'n casgliadau, a gwnaethom gasglu'r rheini yn ein hadroddiad a gyflwynwyd brynhawn ddoe—adroddiad cytunedig y pwyllgor.

Rydym ni'n croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y DU y sefyllfa o ran y pwerau i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil ymadawiad y DU o'r UE. O ganlyniad, mae cymal gwreiddiol 11 wedi'i wrthdroi fel mai'r Cynulliad Cenedlaethol bellach fydd gan y pwerau dros bolisi datganoledig ac y bydd y rheini yn unol â'r setliad datganoli sydd ar waith ar hyn o bryd.

Credwn ei bod hi'n anffodus y bu cryn ymdrech ar ran y naill ochr a'r llall i gywiro diffygion sylweddol yn y Bil o ran cymal 11, sef cymal 15 bellach—sefyllfa nid annhebyg i'n profiad gyda Bil Cymru. Dylid, a gellid, bod wedi osgoi'r negodiadau hirfaith hyn petai'r drafftio gwreiddiol wedi dangos mwy o barch i swyddogaeth datganoli yn y Deyrnas Unedig.

Roedd y gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn nodi cam pwysig ymlaen ac yn dangos newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth y DU, mewn tystiolaeth i ni, ac mewn mannau eraill, dro ar ôl tro wedi pwysleisio pa mor bwysig yw confensiwn Sewel a sut y bydd yn parhau i'w barchu, er ein bod yn tynnu sylw'r Cynulliad at ein harsylwadau ynglŷn â'r cymal 15 newydd, ar ôl cwblhau ar 8 Mai y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn profi'r syniadau o gyd-lywodraethu ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, rydym ni'n cydnabod ei fod yn gychwyn ar berthynas rynglywodraethol mwy parchus ac ymarferol. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynnydd hwn yn golygu gwell gweithio rhynglywodraethol ac yn arwain at y diwygio tymor byr a hirdymor a argymhellwyd gennym i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ein hadroddiad, 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Rydym ni wedi ymrwymo i gadw golwg ar weithredu'r cytundeb rhynglywodraethol, gan gynnwys sut y caiff ei briodoli, ei ddehongli a'i adolygu yn y dyfodol.

Mae yna ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch fframweithiau cyffredin, ac mae telerau'r cytundeb rhynglywodraethol yn awgrymu bod llawer eto i'w benderfynu. Wrth ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol, rydym ni eisiau tynnu sylw'r Cynulliad Cenedlaethol at y pwyntiau canlynol, y byddaf yn manylu arnyn nhw yn eu tro.

Pwynt 1: nodir y confensiwn ynglŷn â Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n ymdrin yn benodol â 'deddfu'. Am y rheswm hwnnw, nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol—cytundeb gwleidyddol—yn ffurfio rhan o broses cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwynt 2: nid oes statws cyfreithiol i'r cytundeb rhynglywodraethol ac ni all ymrwymo unrhyw Lywodraeth a fydd gan Gymru neu'r DU yn y dyfodol.

Pwynt 3: bydd hyd y ddarpariaeth machlud arfaethedig ar gyfer cymal newydd 15 yn caniatáu cyfyngiadau a fframweithiau cyffredin i ymestyn o bosib y tu hwnt i fywyd presennol Llywodraethau Cymru a'r DU.

Pwynt 4: ar gyfer Cymru, bydd cadw cyfraith yr UE dros dro yn cael effaith drwy reoliadau a wneir o dan gymal newydd 15 ac Atodlen 3 i'r Bil. Ar gyfer Lloegr, bydd y cadw dros dro yn cael effaith drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. Mae cydnabod Lloegr yn gyfansoddiadol arwyddocaol. Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb a pharch at ein gilydd—

15:15

Ond o ran—. Does dim cydraddoldeb rhwng y gwledydd datganoledig a Lloegr o ran deddfu. Yn y meysydd datganoledig ar gyfer Lloegr, mae hynny'n rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n wleidyddol ac nid yn gyfreithiol, tra bod unrhyw ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o ddeddfwriaeth, felly mae'r driniaeth yn wahanol.

Mae'r driniaeth yn wahanol, ond mae confensiwn clir ac mae'r cytundeb cyfan, mae'r trefniant cyfan yn sefyll neu syrthio ar weithredu hynny a chynnal hynny. Pe bai hynny'n methu, yna mae'n glir iawn, fel y trafodwyd yn y pwyllgor, y byddai argyfwng cyfansoddiadol yn wir.

Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb rhwng gwledydd y DU a pharchu ei gilydd, nodir hefyd y gwahaniaeth hwn o ran sut yr eir ati.

Pwynt 5: bydd cyfyngiadau y cymal 15 newydd yn berthnasol hyd nes fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio Deddfau yn diddymu'r cyfyngiadau hynny.

Pwynt 6: nid yw'r gwelliannau i'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gopi o unrhyw gymal drafft o reoliadau 15 ar y diwrnod y maent yn eu cael gan Weinidogion y DU, er y bydd yr amserlen 40 diwrnod o ran gwneud penderfyniad cydsynio yn dechrau ar y dydd y mae Gweinidogion Cymru yn eu derbyn. Rydym ni'n cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet—ac fe roesom ni hyn ar y cofnod—wedi rhoi addewid y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ar unwaith pe byddai'n gallu.

Pwynt 7: pe byddai Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw reoliad yng nghymal drafft 15, byddai Gweinidogion y DU yn gallu cyflwyno'r rheoliadau drafft hynny gerbron Senedd y DU i'w cymeradwyo, gyda datganiad wedi'i baratoi gan Weinidogion Cymru yn esbonio pam fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod caniatâd. Lle Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi wedyn fydd cymeradwyo rheoliadau cymal 15. Felly, lle Senedd y DU fydd penderfynu a ddylid gorfodi confensiwn Sewel ai peidio.

Pwynt 8: bydd Gweinidogion y DU yn adrodd bob tri mis ynghylch pa un ai a ddylid diddymu'r pwerau sy'n gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd Gweinidogion y DU yn anfon copi o bob adroddiad at Weinidogion Cymru, ond nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno'r adroddiadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

A phwynt 9: pan ddiddymir y cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol gan Lywodraeth y DU, nid yw'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion y DU hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion Cymru.

Rwy'n credu mai dyna'r sylwadau sy'n crynhoi rhannau allweddol yr adroddiad, a oedd, fel y dywedaf, yn adroddiad cytunedig sy'n cynrychioli safbwynt y pwyllgor. Diolch ichi, Llywydd.

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:

'Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn gam pwysig ymlaen ac maent yn dangos bod Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i newid cyfeiriad.'

A dywedodd y pwyllgor hefyd, ac fe gyfeiriwyd at hyn eisoes, fod

'grym confensiwn Sewel wedi dod i'r amlwg wrth i'r Bil a'r trafodaethau cysylltiedig fynd yn eu blaen'.

Rwy'n wirioneddol gredu bod y broses hon o negodi anodd er clod i Lywodraeth y DU a hefyd i Lywodraeth Cymru. Dyma'r hyn a ddisgwyliwn mewn meysydd cyfansoddiadol anodd, nad oedd llawer ohonom ni fyth eisiau eu gweld yn digwydd a ble mae llawer o'r heriau wedi bod yn annisgwyl. Ond mae'n amlwg y bu gwaith adeiladol ar y ddwy ochr ac mae hyn wedi dwyn ffrwyth.

Mae'n amlwg i mi y sicrhaodd Llywodraeth Cymru gonsesiwn pwysig a chyfansoddiadol arwyddocaol gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd y caiff cyfraith yr UE ei ddargadw hyd nes y cytunir ar fframweithiau ar gyfer y DU. Caniatewch imi ddyfynnu eto o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

'Mae'r sefyllfa bresennol, lle y cedwir cyfraith yr UE am y tro yn y sefydliadau datganoledig ac yn Lloegr, yn ddatblygiad arwyddocaol.'

Rwy'n wirioneddol gredu bod negodi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi bod yn arwyddocaol iawn ac yn amlwg wedi cael effaith ar y ddadl yn yr Alban.

Yn union ar ôl y bleidlais Brexit, a oedd yn fandad democrataidd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr—ni phleidleisiais i drosto, ond allwn ni ddim gwadu ei bwysigrwydd—cafwyd consensws cryf y byddai angen fframweithiau ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd pan fyddem yn gadael yr UE. Mae'n ymddangos i mi mai'r angen, er budd y cyhoedd i raddau helaeth iawn, i adeiladu fframweithiau oedd yr egwyddor ysgogol sydd wedi bod yn cymell Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn anffodus, buddiannau gwleidyddol cul fu cymhelliant Plaid Cymru a'r SNP. Ar yr un llaw, maen nhw'n dweud bod angen fframweithiau arnom ni, ond ar y llaw arall, y dylai'r Alban, a Chymru, yn ôl pob tebyg, gael pleidlais atal.

Mae'n briodol nodi yma nad yw fframweithiau yr UE yn gweithredu ar sail pleidlais atal genedlaethol. Maent yn gweithredu drwy negodi, gyda'r gallu i ddefnyddio pleidleisio mwyafrifol os oes angen. Efallai bod y cyhoedd ymhell ar y blaen i'r cenedlaetholwyr. Maen nhw'n sylweddoli bod angen ymarferol am gyd-lywodraethu, sy'n ymwneud â'r amgylchedd a ffermio, er enghraifft. Ymddengys nad oes fawr o gefnogaeth yn yr Alban neu yng Nghymru ar gyfer yr agenda genedlaetholgar gul ynglŷn â'r broses o gytuno ar y fframweithiau.

15:20

Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio. 

Diolch i'r Aelod. A all grybwyll un achlysur pan fo unrhyw Aelod yma wedi dadlau yn erbyn fframwaith ar gyfer y DU?

Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.

Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.

Diolch ichi am yr ymyriad, ac am dynnu sylw at ein cenedlaetholdeb cul o'i gymharu â'ch cenedlaetholdeb eang, os mai dyna'r sefyllfa. Un peth y gwnaethom ni yn sicr ei gynnig oedd trefn anghydfodau. Mae gennych chi Gyngor Gweinidogion ar lefel yr UE; mae angen trefn anghydfodau arnom ni ar lefel y DU, ac nid oes gennym ni hynny.

A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch?

Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf eithaf p'un a yw'r fframweithiau hyn yn mynd i bara a gweithio'n effeithiol. Os nad ydynt, yna yn anffodus bydd hynny'n tanseilio dilysrwydd y cyfansoddiad Prydeinig a'r setliad datganoledig. Felly, rwyf yn rhannol gytuno â chi fod materion fel sut mae datrys anghydfodau yn wirioneddol, wirioneddol bwysig.

Wrth ailwampio cysylltiadau rhynglywodraethol, Llywydd, mae angen hefyd ailwampio'r cysylltiadau rhyngseneddol, oherwydd prin iawn fu'r drafodaeth ynghylch sut yr ydym ni'n craffu ar y lefel hon o lywodraethu hyd yma ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Un o'r prif resymau yr aeth pethau yn draed moch, o ran yr hyn a welodd y cyhoedd beth bynnag, o ran llywodraethu diffygiol yr UE oedd diffyg craffu seneddol, ac nid ydym ni eisiau ailadrodd y camgymeriadau hynny. A dyma ble rwy'n terfynu drwy ganmol adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Unedeb Ewropeaidd'. Rwyf yn annog pawb i bleidleisio o blaid y cyfaddawd mwyaf rhesymol hwn a'r cynnig sydd ger ein bron.

15:25

Mae heddiw'n ymwneud â ffeithiau. Bu llawer o drafod; bu llawer o gyhuddiadau nad ydym ni yma yn deall beth sy'n digwydd, ond mae'r amser am rethreg ar ben bellach. Mae a wnelo hyn â dadl resymol yn erbyn Bil a fydd yn gwanhau y Cynulliad hwn. Llywydd, heno, byddwn yn gweld Llywodraeth Lafur yn pleidleisio gyda'r Torïaid ac UKIP i gefnogi Bil ymadael yr EU San Steffan sydd wedi'i gynllunio i adfer pwerau o dan reolaeth San Steffan, ac mae mor syml â hynny. Mae'r corff o dystiolaeth, barn y cyhoedd a hyd yn oed arweinydd eu plaid eu hunain yn eu herbyn.

Clywsom gan Gadeirydd y pwyllgor sydd newydd dderbyn na dderbyniwyd yr un mesur o'r profion a osodwyd gan y pwyllgor materion allanol trawsbleidiol. Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei hun ei fod yn ymgais i gipio grym, er bod y Prif Weinidog Ceidwadol yn canmol eu gweithredoedd. Aelodau gyferbyn, rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi'n credu mewn datganoli ac, am y rheswm hwn, rwy'n apelio arnoch chi i sefyll heddiw. Ymunwch â ni i amddiffyn Cymru. Ymunwch â ni i sefyll dros ddatganoli. Os ydych chi'n derbyn chwip y blaid, os ydych chi'n dilyn eich mainc flaen, credwch chi fi, bydd y sefydliad hwn yn wannach o'i herwydd.

Llywydd, rwy'n gwybod y sicrhawyd consesiynau drwy drafodaethau llafurus gyda San Steffan. Nid yw'r fargen hon, fodd bynnag, yn cyflawni'r targedau sydd wedi eu gosod gan Weinidogion eu hunain. Mewn darlith ddoe, amlinellodd yr Ysgrifennydd cyllid yn fanwl sut nad yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn addas at y diben, eto mae'r fargen hon yn ein hymrwymo i ddefnyddio'r union bwyllgor hwnnw i ddiogelu ein pwerau. Mae cyfreithwyr y Cynulliad wedi amlygu'r risg i ddatganoli a achosir gan y Bil hwn, ac mae'r pwyllgorau trawsbleidiol a oedd yn edrych ar y materion hyn yn cytuno. Hyd yn oed yr wythnos diwethaf, cwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd fod San Steffan wedi methu ag ymgynghori â hi cyn cyhoeddi ymgynghoriad newydd. Mae San Steffan yn torri'r cytundeb hwn cyn ei fod hyd yn oed mewn grym.

Llywydd, bydd cyfraniadau angerddol i'r ddadl hon, does dim amheuaeth gennyf i, ond unwaith eto hoffwn apelio at reswm. Os ydych chi'n credu yng Nghymru, os ydych chi'n credu mewn datganoli, os ydych chi'n credu mai'r Cynulliad hwn ac nid San Steffan sy'n gwasanaethu ein pobl orau, pleidleisiwch yn erbyn y cynnig hwn; pleidleisiwch dros ddatganoli; pleidleisiwch dros Gymru.

Roeddwn i'n credu y traddododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid araith unoliaethol rymus ar gyfer y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Ac, wrth gwrs, rwy'n deall safbwynt Plaid Cymru; nid ydynt yn credu yn y Deyrnas Unedig, felly maen nhw'n arddel y farn eithafol a fynegwyd, ac mae Plaid yn berffaith iawn i wneud y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud gyda'r grym a'r arddeliad yr ydym ni wedi dod i'w derbyn. Pe bawn i o'r un farn â nhw o ran beth mae cenedlaetholdeb yn ei olygu i Gymru, byddwn yn cytuno â nhw, ond dydw i ddim; rwy'n unoliaethwr, ac rwy'n derbyn y realiti sylfaenol y cyfeiriodd David Melding ato yn ei araith fod Bil ymadael yr UE yn ganlyniad i benderfyniad pobl y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf ei bod hi'n ymddiriedaeth a roddwyd i ni fel deddfwyr i gyflawni'r penderfyniad a wnaed ganddynt. Nid lle un rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yw rhwystro'r broses honno. Hyd yn oed yn yr Alban, lle pleidleisiodd 62 y cant yn erbyn Brexit, nid wyf yn credu ei bod hi'n gyfansoddiadol briodol iddyn nhw rwystro hynt y Bil.

Rwy'n credu y bu Llywodraeth Cymru yn dringar rhyfeddol yn ystod y trafodaethau, ac, rwy'n credu, bod yr holl broses ddatganoli wedi dyfnhau—dyfnhau dealltwriaeth o'r prosesau cyfansoddiadol a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl. Credaf ei fod yn destun gofid bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mor ddi-ddeall o ddigwyddiadau yn hyn o beth fel y caniatawyd yr holl ddadl am gymal 11, fel yr oedd i ddatblygu fel y gwnaeth. Roeddwn yn credu ei fod yn dangos rhyw fath o fethiant syfrdanol o ddealltwriaeth ar ran Gweinidogion y DU o realiti cyfansoddiadol bywyd modern ym Mhrydain, ac mae hynny'n anffodus iawn.

Rwy'n credu hefyd y bu Plaid Cymru yn hollol gywir i dynnu sylw at ddiffygion arweinydd y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yw ei fod yn chwarae gemau parti gyda dyfodol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod hynny'n ymagwedd sylfaenol anghyfrifol. Ac mae'n ddrwg gennyf orfod dweud hyn, ond rwy'n credu bod agwedd aeddfed a hirben Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn dangos pa mor anaddas yw arweinydd y blaid yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y swyddogaeth y mae ef yn ymgyrraedd ati.

Nawr, byddwn yn dweud yn ddi-oed nad oes gennyf ronyn mwy o ymddiriedaeth yn Theresa May na sydd gan Blaid Cymru. Mae'n gwneud i Ethelred the Unready edrych yn batrwm o bendantrwydd. Fyddwn i ddim yn ymddiried yn ei gair, nid oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n berson anonest, ond oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi mor anobeithiol o anghymwys fel y gallai wneud i'r gwrthwyneb ddigwydd trwy ddamwain. Ac rwyf yn credu, i rywun sy'n bleidiol dros aros fynegi ei safbwynt yn y ffordd y mae wedi'i wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf dros y cynnig hurt o ryw fath o undeb tollau, nad yw hyd yn oed o dan ystyriaeth, ac nad oes neb ar y naill ochr y ddadl na'r llall dros Brexit yn fodlon ei ystyried, yn dangos y problemau yr ydym ni'n ymdrin â nhw.

Ond y gwirionedd sylfaenol yw nad ydym ni, yn y Cynulliad hwn, yn gweithredu unrhyw un o'r pwerau y bydd y Bil hwn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd. Y gwirionedd sylfaenol yw bod y pwerau hyn yn cael eu harfer gan gyrff sydd ymhell o Gaerdydd ac nad oes gennym ni unrhyw reolaeth ymarferol drostyn nhw, boed yn y Comisiwn Ewropeaidd, sydd â'r pŵer i ddeddfu ei hun heb unrhyw reolaeth ddemocrataidd gan Gyngor y Gweinidogion—. Mae corff enfawr o reoliadau'r UE yn dylifo o'r Comisiwn ac yn cael sêl bendith yn y fan a'r lle. Bydd gennym yn awr y cyfle i fod yn rhan o ddemocrateiddio cyfran enfawr o ddeddfwriaeth dechnegol mewn meysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd, yn arbennig, sydd o bwys mawr i ni yma yng Nghymru.

Mae hyn yn ehangiad enfawr—yr holl broses hon—o’r broses ddemocrataidd ac yn ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn yn ymarferol. Rwy'n credu bod hynny yn hynod o bwysig, a dyna pam na allaf i ddeall paradocs safbwynt Plaid Cymru, eu bod yn ystyried yr ymgais gan San Steffan o gipio grym ar ffurf dulliau cyfansoddiadol a dulliau deddfwriaethol nad ydym ni ar hyn o bryd hyd yn oed yn meddu arnyn nhw o bwys sylfaenol, ond does ganddyn nhw ddim pryder o gwbl trosglwyddo'r rheini i gorff seiliedig ym Mrwsel neu mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, lle mae gennym ni hyd yn oed llai o reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd na sydd gennym ni yn San Steffan. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi i fod, yn ymarferol, yn safbwynt gwrthun iawn i'w choleddu. Pe bai Cymru yn wlad annibynnol yn wleidyddol byddai gan eu pwyntiau elfen o rym. Ond, oherwydd nad ydym ni, ac nad yw pobl Cymru yn dangos unrhyw duedd mawr at fabwysiadu safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â lle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn annhebygol o wneud hynny yn y dyfodol rhagweladwy, rwy'n credu bod y dadleuon y mae Plaid yn eu hyrwyddo yma ymhell iawn, iawn o fod yn y byd go iawn.

Felly, rwy'n credu, o ganlyniad, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn rhoi sêl ein bendith ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, nid dim ond oherwydd ei fod yn rhoi'r cyfle inni gynyddu pwerau'r Cynulliad hwn, ond, fel rhan o'r broses hon—ac nid wyf yn siŵr a roddwyd sylw i'r pwynt hwn heddiw, er y gwnaed hynny ar achlysuron blaenorol pan ydym ni wedi trafod y pwnc hwn—mewn gwirionedd mae Lloegr yn gyfyngedig yn awr mewn sawl ffordd nad oedd o'r blaen o ganlyniad i'r cytundeb hwn, ac mae hynny'n rhoi y sicrwydd mwyaf posibl y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cwblhau'r cyfnod pontio hwn mor gyflym ag y gall, oherwydd nid wyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cael y pŵer deddfwriaethol i Gymru yn y meysydd datganoledig hyn ac y gallwn ni, rwy'n credu, fod mor hyderus ag y gallwn ni—. Er fy mod yn derbyn nad yw'n rhywbeth y rhoddwyd sylw i bob manylyn mewn ffurf gyfreithiol, rwy'n credu ei bod hi bron yn annirnadwy y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cilio ar y cam hwn o'r setliad datganoli, ac, fel y dywedodd Mick Antoniw wrth ymateb i Dai Lloyd yn gynharach, byddai argyfwng cyfansoddiadol sylfaenol o bwys mawr, ble rwy'n credu y gwelech chi ar draws y Siambr hon fod, i bob pwrpas, unfrydedd yn gwrthwynebu'r fath fenter. Felly, nid wyf o'r farn, yn bersonol, bod unrhyw risg cyfansoddiadol yn caniatáu i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn fynd rhagddo; rwy'n credu bod pob mantais gyfansoddiadol a mantais ymarferol i bobl Cymru wrth wneud hynny.

15:35

Fe hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dadl y prynhawn yma, ac unwaith eto cydnabod y cynnydd mawr y mae'r cytundeb hwn yn ei ddarparu ar gyfer Cymru ac i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Nawr, neithiwr, roeddwn yn ffodus i glywed Mark Drakeford yn annerch cynulleidfa fawr ym Mhrifysgol Caerdydd ynglŷn â Brexit a datganoli. Rhoddodd gyfrif aruthrol, cyfrif aruthrol, o Lywodraeth Cymru, nid yn unig o'i hun fel Ysgrifennydd y Cabinet allweddol, y Prif Weinidog, holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion, o'u hymwneud â'r broses Brexit, ond hefyd fe ganolbwyntiodd ar ddewisiadau, y cyfleoedd y gallwn ni ystyried sydd o'n blaenau tuag at y cyfnod pontio a thu hwnt, ond fe gyflwynodd y neges yn glir iawn ar ei gytundeb rhynglywodraethol, ac, wrth gwrs, fe'i holwyd yn ei gylch, ond roedd mor glir. Ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyfleu'r neges hon i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli, y caiff yr holl bwerau yn ein meysydd polisi datganoledig eu dal yng Nghaerdydd ac eithrio'r meysydd hynny ble mae angen fframweithiau ar gyfer y DU, ac ailadrodd y ffaith y byddai'r cymal 11 gwreiddiol ym Mil ymadael yr EU wedi cadw yn San Steffan yr holl bwerau fyddai'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'n rhaid inni ddangos yn glir y sefyllfa yr ydym ni wedi datblygu ohoni, beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwn wedi ei gyflawni.

A wnewch chi ildio? Diolch.

Beth maen nhw'n ei wneud yw cymryd pwerau o Frwsel a ddylai fynd i'r Alban, i Gymru a rhanbarthau Lloegr ac yn hytrach eu cronni yn Whitehall. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n glir. Jeremy Corbyn: beth sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny?

Mae'r pwerau yn dod yn ôl i Gaerdydd; maen nhw yn mynd i Gaeredin. Yn wir, yr hyn sydd mor bwysig am y cytundeb hwn yw y cafodd ei ddatblygu dros gyfnod hir o amser gyda negodiadau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweinidog yr Alban, ac a gydnabuwyd o ran cynnydd sylweddol gan Brif Weinidog yr Alban. A bydd y cytundeb hwn yn darparu ar gyfer pobl yr Alban, nid yn unig ar gyfer pobl Cymru. Bydd yn darparu ar gyfer pobl yr Alban. Bydd yn sicrhau bod y pwerau hynny yn cael eu cadw yng Nghaerdydd a Chaeredin. Felly, mae sicrhau'r cytundeb sylweddol hwn yn gyflawniad mawr, ond rwy'n credu bellach y bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymwneud yn adeiladol ar lefel rhynglywodraethol yn y negodiadau Brexit sydd o'n blaenau.

Hoffwn hefyd gydnabod y cyfleoedd a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni fel Cynulliad wrth inni symud ymlaen. Daethom i'r casgliad yn ein hadroddiad cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac, wrth gwrs, mae David Rees wedi sôn am hyn eisoes, gyda neges gref gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, neges gref i Lywodraeth y DU, a chasgliad hwnnw oedd ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio ymwneud yn ystyrlon â'r Cynulliad drwy ei bwyllgorau ar gam cynnar o ran deddfwriaeth Brexit yn y dyfodol sy'n effeithio ar Gymru, ac, yn arbennig, y cytundeb ymadael arfaethedig a gweithredu'r Bil. A dyna beth mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno. Rwyf yn croesawu y fforwm rhyngseneddol, ac mae hwnnw wedi'i grybwyll gan Mick Antoniw hefyd. Mae wedi rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Rwy'n falch bod y fforwm hwnnw yn bodoli er mwyn sicrhau—. Bydd yn cadw golwg fanwl ar gyflawni'r cytundeb hwn, ond hefyd ar y gwelliannau hynny fydd, wrth gwrs, yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, y mae angen inni wneud yn siŵr y cawn nhw eu gweithredu a'u cefnogi gan ein cydweithwyr o blith yr Aelodau.

Bellach, mae Mark Drakeford wedi dweud wrth ein pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu 40 maes o negodiadau Brexit, ac mae'n hanfodol sicrhau bod peirianwaith cadarn i alluogi Llywodraeth Cymru i ganlyn arni gyda hyn ac i gael eu dwyn i gyfrif gan y Cynulliad hwn. Mae yna feysydd ble gallwn ni uno a ble dylem ni uno yn y Siambr hon wrth inni symud o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gyda neges gryfach gan bob plaid bod yn rhaid i Lywodraeth y DU bellach ddarparu'r prosesau rhynglywodraethol mwy cadarn hynny, ac, wrth gwrs, does ond angen inni droi at 'Diogelu Dyfodol Cymru', y soniodd Mark Drakeford amdano fwy nag unwaith neithiwr, ac edrych ar yr adran honno yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ynglŷn â materion cyfansoddiadol a datganoledig, a'r adran honno, sy'n dweud,

'Mae ymadael â’r UE yn drobwynt cyfansoddiadol sylweddol i Gymru a’r DU yn gyfan.'

'Ni fydd y system rynglywodraethol bresennol bellach yn addas i’r diben a bydd yn rhaid datblygu ffyrdd newydd o weithio‒ar sail cytundebau gwirfoddol rhwng Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, yn amodol ar gymodi annibynnol.'

Gadewch inni symud ymlaen gyda'n gilydd ar yr amcan hollbwysig hwnnw. Mae angen cyngor y Gweinidogion arnom ni, mae angen peirianwaith cryfach o ran Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. A, Llywydd, mae gennym ni gytundeb sydd wedi gorfodi Llywodraeth y DU i barchu datganoli, sydd nid yn unig yn diogelu ond yn arfogi datganoli ag amddiffynfeydd newydd sbon, cytundeb sydd wedi torri tir newydd cyfansoddiadol, tipyn o gamp. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu'r newyddion da hyn mor glir â phosib cymaint ag y bo angen. Nawr, gadewch i ni symud ymlaen ac ymwneud yn llawn yng ngham nesaf y trafodaethau Brexit, yn arbennig y cytundeb ymadael â phob deddfwriaeth sydd ar ddod ynglŷn â Brexit.

15:40

Mae haneswyr yn dweud yn aml y bu rheolaeth Prydain, er y bu yn aml yn annheg, bron bob amser yn gwrtais, a dyma ni yn y Senedd hon, Senedd Cymru, wedi ein cyflwyno gan gynnig cydsyniad sydd, yn ymarferol, yn gofyn am ddiddymu ein cydsyniad.

Rydym ni'n ymuno â chlwb dethol iawn o seneddau cenedlaethol, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, sydd wedi penderfynu'n wirfoddol i ildio eu hawdurdod eu hunain. Mae'n rhaid i chi bendroni ychydig a meddwl am Senedd yr Alban ym 1707, Senedd Iwerddon ym 1800, am enghreifftiau mewn hanes—er, wrth gwrs, rydym ni'n ildio ein hawdurdod am gyfnod cyfyngedig o amser mewn rhai meysydd. Ond yr un yw'r egwyddor. Nawr, roeddwn yn disgwyl i'r cyn Aelod Seneddol ymyrryd, a dweud, 'Wel, onid dyna a wnaethom ni gyda Deddf y Cymunedau Ewropeaidd?' Ac, yn wir, cafodd hynny ei adleisio, mewn gwirionedd, yn sylw David Melding. Ond roedd gwahaniaeth hanfodol: roeddem ni'n ymuno â chymuned o aelodau cydradd, a thrwy ddulliau fel pleidleisio wedi'i bwysoli, ac ati, yna cai buddiannau cenhedloedd bychain yn benodol eu diogelu. Dyw hynny ddim yn wir yn y wladwriaeth unedol hon. Yn ymarferol, mae goruchafiaeth un genedl yn y pedair ynys hon bron iawn yn fath Bagehot-aidd o gyfansoddiad urddasol y DU; mae'n egwyddor sy'n sail i bopeth, ac, mewn gwirionedd, mae bellach wedi ei ysgrifennu i'r llyfr statud. A dyna ble mae'r broblem. Yn wir, mae'r ddadl hon mewn gwirionedd wedi dangos yn glir, onid yw, y toriadau, y diffygion, o'r hyn sy'n gyfansoddiad hollol anghytbwys ac ansefydlog yn yr ynysoedd hyn.

Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yw cydraddoldeb ar gyfer y genedl hon. Siawns fod honno yn egwyddor y gallai pob un ohonom ni mewn gwirionedd ei chefnogi. Nawr, wrth gwrs, y cyfansoddiad yw lle mae gwleidyddiaeth a'r gyfraith yn cyfarfod, ac rwy'n credu bod y nodyn a gawsom ni gan gyfreithwyr y Cynulliad, yn ddeunydd darllen anhygoel:

Mae'r geiriau "penderfyniad cydsynio" yn awgrymu y gall y Gweinidog dim ond gosod y rheoliadau drafft gerbron Senedd y DU os yw'r Cynulliad wedi cydsynio i'w gwneud, neu os nad yw'r Cynulliad wedi gwneud dim yn eu cylch am 40 diwrnod. Ond mae hynny yn gamarweiniol.

Dyna eiriau anghyffredin o enau unrhyw gyfreithiwr oherwydd, wrth gwrs, fel y gwyddom ni, fel yn wir y gŵyr Nicola Sturgeon, a ddyfynnwyd yn gynharach, rwy'n credu—fel y dywedodd hi, os ydym ni'n yn dweud 'ie', bydd Gweinidogion y DU yn trin hynny fel cydsyniad, os dywedwn 'na', byddan nhw'n trin hynny fel cydsyniad, ac os ydym ni'n dweud dim byd o gwbl, gallan nhw drin hynny fel caniatâd. Pen, ac maen nhw yn ennill, cynffon, ac rydym ni'n colli.

Nawr, rwyf wedi clywed y ddadl fod hyn mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Cewch, yn sicr.

Rydych chi'n cyfeirio, wrth gwrs, at farn gyfreithiol y Cynulliad. Ond, wrth gwrs, ym mharagraff 15 o hynny, mae'n dweud bod gwelliant wedi ei ddisgrifio gan rai fel yr hyn sy'n diffinio'r cysyniad o gydsyniad gan gynnwys gwrthod caniatâd. Mae'r farn gyfreithiol mewn gwirionedd yn dweud, 'Yn ein barn ni, nid yw hynny yn fanwl-gywir.'

Ydy, ond aiff ymlaen i ddweud—. Mae 10 paragraff arall, gyda llaw. Aiff ymlaen i ddweud, a dyma'r pwynt allweddol,

y gellir cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad heb ei gydsyniad.

Dyna'r pwynt hanfodol mewn unrhyw ddemocratiaeth. Clywais yr Aelod yn dweud, 'Wel, Sewel yw hyn. Sewel yw hyn.' Wel, Sewel ar steroids yw hyn. Mae hyn yn creu llwybr cyfreithiol, dull symlach lle gall yr eithriad fod y rheol os bydd gwleidyddiaeth San Steffan yn penderfynu felly. A dyna'r drychineb. Dyna yw'r drychineb, wyddoch chi. Wrth feddwl yn benodol am eiriau Rhodri Morgan—ei eiriau olaf yn y Siambr hon—pan siaradodd am y Cynulliad Cenedlaethol hwn y gwnaethom ni ei adeiladu gyda'n gilydd, bydd yn fwy hirhoedlog na phob un ohonom ni, bydd yn parhau i ddatblygu a thyfu i wasanaethu Cymru, roedd yn adleisio geiriau Henry Grattan, a greodd mewn gwirionedd annibyniaeth ddeddfwriaethol Senedd Iwerddon ac a soniodd am genedl a chymeriad newydd pan fyddent yn ennill eu hannibyniaeth ddeddfwriaethol:

'Rwy'n ei chyfarch, ac, wrth ymgrymu i'w phresenoldeb mawreddog, rwy'n dweud, "esto perpetua"'—

Bydd yn parhau. Wnaeth hi ddim. Wnaeth hi ddim. A dyna ble mae'r perygl, oherwydd, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, rydym ni'n derbyn yr egwyddor nad yw'r lle hwn yn sofran mwyach.

15:45

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu siarad heddiw o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, dyma ddull deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE yn y ffordd sy'n rhoi mwyaf o sicrwydd, parhad a'r reolaeth, ac rwy'n falch iawn ei gefnogi.

Yn sesiwn gwestiynau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl yr haf, roeddwn braidd yn feirniadol o'r Prif Weinidog o ran y graddau yr oedd wedi bod, yn fy marn i, yn closio at Lywodraeth SNP yr Alban dros yr haf. Holais pam roedd yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth sydd eisiau chwalu y Deyrnas Unedig a Llywodraeth sydd yn rhwystro ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Ac ymatebodd drwy ddweud ei fod dim ond yn gwneud hynny i'r graddau bod gennym ni ddiddordeb cyffredin yn amddiffyn y setliad datganoli. Nawr, cefais fy synnu gan hynny, nid yn lleiaf oherwydd bod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi treulio llawer o amser yn gweithio gyda Phlaid Cymru i lunio papur ar y cyd ynglŷn â beth ddylai'r amcanion fod ar gyfer y mudo yn y dyfodol neu drefniadau masnach yn y dyfodol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Roeddwn yn ofni y byddai'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru, o bosib gan weithio gyda Phlaid Cymru, yn defnyddio proses cydsyniad deddfwriaethol y Bil hwn fel ffordd o geisio rhwystro ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw wedi gwneud hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi bod cystal â'i air. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo llawer mwy nag y byddwn wedi disgwyl i wella'r Bil hwn i ddiogelu buddiannau cyfreithlon ein setliad datganoledig. Ac rwy'n credu eu bod yn haeddu parch a llongyfarchiadau am wneud hynny.

Wrth gwrs, mae gan rai pobl amcan gwahanol—un o aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael, neu'r bwriad o fod yn annibynnol oddi wrth y Deyrnas Unedig, er mai dim ond lleiafrif pitw o bobl yng Nghymru sy'n cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, byddan nhw, felly, yn gwrthwynebu hyn, yn union fel y bydd yr SNP a Nicola Sturgeon yn ei wrthwynebu, oherwydd byddai bron dim wedi setlo yr hyn y maen nhw'n gofyn amdano, oherwydd nid eu hamcan yw gwneud i'r ymadawiad hwn o'r Undeb Ewropeaidd weithio gan amddiffyn y setliad datganoledig; ond i rwystro Brexit a chwalu'r Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs—

Diolch. Dim ond ynglŷn â phwynt sylfaenol, a wnewch chi deall nad diben Plaid Cymru yw chwalu'r Deyrnas Unedig? Y diben yw adeiladu Cymru.

Diben Plaid Cymru yw sefydlu Cymru annibynnol, gan chwalu'r Deyrnas Unedig. Rwy'n parchu, ond nid wyf yn cytuno â'ch amcan.

I ddychwelyd at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae'r Bil hwn wedi gwella yn aruthrol drwy ymdrechion, ie, Llywodraeth Cymru, ond hefyd, rwy'n credu, rhai eraill, a hoffwn longyfarch Mark Isherwood a David Melding ynglŷn â sut maen nhw wedi ymdrin â'r mater hwn, ac mewn gwirionedd undod y grŵp hwn yn cefnogi ac yn ceisio gwella'r ddeddfwriaeth hon gan gydnabod beth mae eraill yn ei wneud, gan gynnwys bygythiad gwirioneddol Bil parhad. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw ynglŷn â sut y byddai hyn wedi bod yn llawer gwell proses petai, ar y dechrau, Gweinidogion y DU wedi dangos, o ran sut y gwnaethon nhw ddrafftio'r Bil cychwynnol, y parch priodol i Lywodraeth y Cynulliad a'r setliad datganoledig—byddai hynny wedi bod yn well. Ond y gwir amdani yw, gyda rhai eithriadau, nad yw Gweinidogion y DU mor wybodus—ac nid yw yn flaenllaw yn eu meddwl trwy'r rhan fwyaf o'r hyn a wnânt—am y dulliau, y rhagdybiaethau a'r dealltwriaethau, yn ogystal â sail gyfreithiol y setliad datganoledig, ag yr ydym ni yn y Cynulliad hwn. Ond yn ystod y broses hon, maen nhw wedi cael eu haddysgu ynglŷn â hynny. Roedd gan Damian Green a David Lidington yn arbennig rwy'n credu wybodaeth resymol ar ddechrau'r broses, ac mae'r wybodaeth honno wedi dod yn fwy arbenigol wrth i'r broses fynd rhagddi. Rwy'n credu, gyda chymorth gan Alun Cairns yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal ag Andrew R.T. yn rhinwedd ei swyddogaeth yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae llawer mwy o Weinidogion y DU wedi dod i werthfawrogi ac i ddeall y setliad datganoli a'r modd y mae'n gweithredu. Bellach mae gennym ni Fil sy'n adlewyrchu ac yn deall hynny mewn ffordd nad oedd cyn hynny.

Pan soniwn ynglŷn â beth efallai y byddai pwyllgor wedi gofyn amdano yn flaenorol, ni ofynnodd am un o'r pethau hynny, mewn gwirionedd, y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'w gael, a hynny yw i Lywodraeth y DU ymrwymo i beidio â deddfu ar gyfer Lloegr yn y meysydd hyn hyd nes y ceir cytundeb ar y fframweithiau sy'n berthnasol i'r DU gyfan, pan mae gan Loegr 18 gwaith poblogaeth Cymru. Mae pobl yn aml, gyda chyfiawnhad, yn cwyno nad yw Cymru yn cael ei thrin â pharch gan Lywodraeth y DU, ond yn yr achos hwn mae Llywodraeth y DU yn rhwymo, neu o leiaf yn rhoi ymrwymiad, iddo'i hun o ran Lloegr, yr un ag a fydd yng Nghymru, ynghylch beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac mae cymhelliant mawr i bawb gytuno ar sefydlu a gweithredu fframweithiau synhwyrol fel ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus, a symud ymlaen gyda'n gilydd fel Teyrnas Unedig.

15:50

Rydw i'n sefyll yma heddiw i ddatgan fy mod yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd gerbron. Rydw i'n ei erbyn o achos fe all agor y drws at danseilio'r Senedd genedlaethol yma. Dros ddwy flynedd yn ôl, mi gefais i'r wefr o ddod yma fel Aelod Cynulliad am y tro cyntaf i ymuno â'r egin Senedd hon. Wrth ddod yma, mi roeddwn i'n ymwybodol iawn o waith gwladgarwyr fu'n ymdrechu mor galed i sefydlu'r Cynulliad yma yn y lle cyntaf. Felly, mae heddiw yn ddiwrnod digalon imi.

Proses ydy datganoli. Mae sawl un wedi dweud hynny ar hyd y blynyddoedd, a hyd yma, fe gafwyd hanes o gynnydd a phroses o ddatblygu, tyfu ac aeddfedu. Mae pasio'r Bil yma heddiw yn gam yn ôl. Y cymal deddfwriaethol sy'n cynnwys y brawddegau am benderfyniad cydsyniad—y rheini sy'n cyfrif heddiw, nid unrhyw gytundebau gwleidyddol. Mae'r cymal yma yn tanseilio, mae'r cymal yma'n mynd â ni nôl. Mae dwy flynedd yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i'n ofni y bydd y wefr y gwnes i ei theimlo ddwy flynedd yn ôl wedi troi'n siom enbyd cyn diwedd y dydd.

Rwy'n croesawu gwaith cadarn a rhagweithiol iawn Llywodraeth Lafur Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sefyll dros Gymru ynglŷn â chanlyniadau cymhleth ymadawiad Prydain, sydd eto i ddigwydd, o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n dystiolaeth, os oedd angen unrhyw dystiolaeth, bod Llywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros fuddiannau Cymru a Chymru o fewn adeiladwaith ein teulu o genhedloedd yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr yn gynharach heddiw yn y sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog, mae angen talu teyrnged arbennig i sgiliau negodi arbenigol Mark Drakeford, ac rwy'n dymuno ategu canmoliaeth y Prif Weinidog yn gryf.

Mae cenedlaetholwyr yn beirniadu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hanfodol, pwysig hwn—cynnig sy'n fargen dda—ond gadewch inni fod yn onest; y nod addefedig yw ar gyfer Cymru annibynnol sydd yn y bôn yn ymadael â'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu na fyddai unrhyw beth llai na hynny fyth yn plesio Plaid Cymru. Os mai dymuniad pobl Cymru, yn y datganiad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, a'u dymuniad a fynegwyd mewn etholiad ar ôl etholiad a phôl piniwn ar ôl pôl piniwn, yw i Gymru aros o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, nid sarhad yw ein galw yn unoliaethwyr ar y meinciau hyn. Yn wir, mae'n disgrifio mwyafrif pobl Cymru.

Mae'r cytundeb hanesyddol hwn a, gadewch imi ddweud, un a frwydrwyd yn galed drosto—gadewch i ni beidio â bod o dan unrhyw gamargraff—wedi arwain at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn golygu y byddai unrhyw newidiadau i rym yn San Steffan yn golygu y byddai angen caniatâd yr holl ddeddfwrfeydd datganoledig. Yn wir, mynegodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, farn Llywodraeth Cymru, drwy ddweud mai'r nod drwy gydol y trafodaethau hyn oedd amddiffyn datganoli, amddiffyn economi Cymru a diogelu bywoliaeth pobl Cymru, a gwneud yn siŵr bod cyfreithiau a pholisïau yn y meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau wedi eu datganoli. Cyflawnwyd hyn yn llwyddiannus gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan ac mae hi wedi newid ei hagwedd yn sylfaenol yng nghymal 11 i gymal 15, fel bod yr holl bwerau a'r meysydd polisi yn dod i Gaerdydd oni nodir y byddant yn aros, dros dro, gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gywir dweud y bydd elfen ffeithiol o 64 maes yn dychwelyd i Gymru a fuont ym Mrwsel yn flaenorol. Siawns fod Plaid Cymru yn deall hyn.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet a'r Prif Weinidog gadarnhau i mi, felly, y bydd y rhain yn feysydd lle mae pob un ohonom ni'n cytuno bod angen rheolau cyffredin ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd ar gyfer marchnad fewnol yn y DU sy'n gweithio—

Dim ond i grybwyll rhywbeth y dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid yn gynharach, yn y bôn, dywedodd fod angen inni gydnabod, wrth ystyried y gwahanol ddewisiadau a wnaed yng Nghymru a'r Alban, bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra pleidleisiodd yr Alban i aros. Mae hynny, i mi, yn swnio fel cyfaddefiad, o ran beth mae'n ei olygu ar gyfer datganoli, bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn yn israddol i'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu parhau i ymladd drosto. Sut mae'r Llywodraeth hon yn credu bod ganddi bellach yr hawl i benderfynu mai'r hyn a olygodd pleidlais 'ymadael' oedd pleidlais i danseilio datganoli?

15:55

Yn y bôn, nid wyf yn cytuno â'r cysylltiad yr ydych chi wedi'i wneud, ac mae'n gas gennyf ddweud hyn, ond rwy'n credu, o ran yr hyn a ddywedodd David Melding yn gynharach, rwy'n credu bod rhai o'i bwyntiau yn ddilys iawn.

Felly, yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, fod—[Torri ar draws.] Fe wnes i rybuddio ynghylch hynny. Fe wnes i. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig—[Torri ar draws.] Fe wnaf i ddechrau eto. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, fod angen i'r priod Lywodraethau ymdrin â'i gilydd fel cydraddolion aeddfed, fod cyngor y Gweinidogion a fframwaith anghydfodau yn syniad da, a bod y cytundeb hwn yn gam da ymlaen yn y cyfeiriad cywir tuag at y nod hwnnw? Diolch.

Ym Mhlaid Cymru, rydym ni'n credu y dylid parchu canlyniad pob refferendwm, gan gynnwys refferendwm 2011 yng Nghymru, pan bleidleisiodd pobl Cymru yn bendant am fwy o bwerau. Ers hynny, rydym ni wedi colli cannoedd o bwerau gyda Deddf Cymru 2017. Dyna pam y bu'n rhaid inni ruthro drwy Gyfnod 1 o'r ddeddfwriaeth isafswm pris alcohol, fel arall byddem ni'n colli'r pwerau hynny, ac rydym ni'n wynebu colli rhagor o bwerau yn awr, gyda Bil ymadael yr EU a'r fargen ynglŷn â chymal 11—sef cymal 15 bellach—sy'n golygu bod 24 maes datganoledig wedi mynd yn ôl i Lundain ac wedi eu caethiwo am saith mlynedd, diffiniad rhai pobl o 'dros dro'. Maen nhw wedi eu caethiwo, ac fe all Llywodraeth y DU eu newid heb ein caniatâd. Hyd yn oed pan ydym ni'n gwrthod rhoi caniatâd, gall Llywodraeth y DU eu newid. Felly, rydym ni wedi colli grym. Rydym ni wedi colli dylanwad dros yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, caffael cyhoeddus ac 20 maes datganoledig arall. Mae modd eu newid heb ein caniatâd, ac er gwaethaf ein gwrthwynebiad. [Torri ar draws.] Fy Nghadeirydd.

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn ad-dalu'r ymyriad. Diolch. Rydym ni, wrth gwrs, yn cydnabod na all Llywodraeth newid unrhyw beth; y Senedd sy'n rhaid gwneud hynny, nid y Llywodraeth. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw bwerau o gwbl.

Daliwch ati i wrando, Cadeirydd.

Nawr, o ran caffael cyhoeddus, er enghraifft, rydym ni wedi gweld rhannau helaeth o'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr eisoes yn trosglwyddo i ddwylo preifat. Mae'r broses caffael cyhoeddus wedi galluogi cwmnïau megis Virgin Care i redeg y GIG mewn sawl ardal, megis Surrey, Caint, swydd Stafford a swydd Gaerhirfryn. Caiff nifer sylweddol o wasanaethau'r GIG eu rhedeg gan Virgin Care, pob un yn y sector preifat. Mae gan Virgin Care 400 o gontractau GIG unigol yn Lloegr, sy'n werth dros £1 biliwn, a phe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu gweithredu mewn modd tebyg gyda'n pwerau caffael cyhoeddus sydd wedi eu caethiwo, byddai'r Cynulliad hwn yn ddi-rym i wrthsefyll. Dychmygwch: gwasanaethau mamolaeth ac obstetreg—[Torri ar draws.] Dychmygwch—[Torri ar draws.] Na. Rwy'n dod at y pwynt. Dychmygwch: gallai obstetreg a gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe gael eu rhoi yn allanol i Virgin Care yn y dyfodol. Dyna beth yw ystyr caffael cyhoeddus, yn amlwg—a diau y cai ei alw yn 'Virgin Birth' o ganlyniad. Gallai ein coetiroedd yn yr un modd fynd yn ysglyfaeth i Syr Richard Branson hefyd. Pa bris ar gyfer 'Virgin Forest'? Mae Llywodraeth Cymru wedi ildio dylanwad, wedi ildio pwerau datganoledig, ac mae'n hapchwarae gyda chytundeb rhynglywodraethol sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-lywodraethu nad oes unrhyw sail gyfreithiol iddo. [Torri ar draws.] Lee Waters.

Dim ond ynglŷn â'r sylw am hapchwarae, pe na baem ni wedi dod i gytundeb, byddai hynny wedi ei benderfynu gan farnwyr. Mae'n gwbl bosib y byddai barnwyr wedi cyfyngu a chwtogi ar y setliad datganoli. Felly, o ran hapchwarae, a fyddai'n well gennych chi roi ein pwerau yn nwylo barnwyr, neu ddod i gytundeb yn y lle hwn lle caiff y pwerau eu trosglwyddo inni?

Wyddoch chi beth, Lee? Mae sefyll dros Gymru yn golygu ymateb i fygythiad fel hwnnw a dweud, 'Triwch hi', oherwydd rwy'n sefyll cornel Cymru, iawn? [Torri ar draws.] Mae pwerau caeth Cymru wedi'u caethiwo gan y gyfraith. Mae'r ffydd hwn mewn Llywodraeth Dorïaidd Brydeinig yn gonfensiwn gwleidyddol. Nid cyfraith mohono o gwbl. Rydym ni wedi gweld un Aelod Cynulliad Llafur ar ôl y llall yn yr wythnosau diwethaf yn ymosod ar Lywodraeth Dorïaidd y DU ynghylch sut na ellir ymddiried ynddynt o ran pensiynau i fenywod, diwygio lles, ad-drefnu swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, bellach, eto, yn sydyn ddigon, gellir ymddiried y pwerau a fu gennym ni yma erioed, ac na fydd gennym ni mwyach, i Lywodraeth y DU.

16:00

Onid yw'n wir, yn ogystal â'r cytundeb rhynglywodraethol, bod gennym ni, o ran confensiwn Sewel, ymestyniad i'r pwerau gwneud rheoliadau a gofyniad bod yn rhaid i Dŷ'r Arglwyddi eu cymeradwyo hefyd?

Hoffwn pe gallwn i rannu eich hyder, Mark; hoffwn yn wir. Ond mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn gonfensiwn gwleidyddol nid mewn statud, fel y mae confensiwn Sewel. Mae'n gonfensiwn gwleidyddol nad yw wedi'i ymgorffori mewn cyfraith. Mae ein pwerau datganoledig a gawsom ni wedi'u hymgorffori mewn statud, ac rydym ni ar fin eu colli, gweld eu caethiwo am wyth mlynedd—saith ac un. Felly, mae hynny wedi ei ymgorffori yn y gyfraith. Mae eraill yn gonfensiynau. Felly, rydym ni wedi colli pwerau, rydym ni wedi colli grym. Nawr, gall yr Alban weld hynny. Gall Llafur yn yr Alban weld hynny. Gall hyd yn oed Jeremy Corbyn weld hynny. Pam na allwch chi? Pleidleisiwch yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei holl waith caled i weddnewid y sefyllfa fel bod y Llywodraeth yn gallu argymell pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Credaf nad oes unrhyw amheuaeth, yn wreiddiol, mai ymgais gan San Steffan i gipio grym oedd hyn, ac rwy'n credu ei fod yn adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan na wnaethon nhw allu sylweddoli yn gynharach sut y byddai eu cynlluniau yn tanseilio datganoli. Rwy'n credu ei bod hi'n glod i Weinidogion y Llywodraeth y gwnaethom ni lwyddo i weddnewid hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol ein bod yn cyflwyno Bil parhad yn ateb dros dro, ond mae'r gwaith trylwyr a wnaed, rwy'n credu, wedi arwain at newidiadau sylweddol, ac yn sicr yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n gallu pleidleisio yn hyderus o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, oherwydd, fel y dywedwyd sawl gwaith heddiw, mae hyn yn trosglwyddo pob un o'r 64 maes i ni. Y newid pwysicaf, rwy'n credu, yw bod cymal 11 wedi'i wrthdroi. Y cynnig gwreiddiol oedd y byddai'r holl bwerau yn dychwelyd i San Steffan ac wedyn gallai Gweinidogion eu rhyddhau mewn ffordd drefedigaethol. Y mae hynny i gyd wedi newid bellach: caiff yr holl bwerau yn awr eu rhoi i'r cyrff datganoledig ac eithrio lle mae angen y fframweithiau ar gyfer y DU. Credaf fod pob un ohonom ni yn derbyn bod angen fframweithiau ar gyfer y DU. Mae'n cydweddu â'r model cadw pwerau, ac mae llawer o fesurau diogelwch wedi eu cynnwys yn yr hyn a fydd yn broses gydweithredol.

Rwy'n falch iawn bod y cymalau machlud ar wyneb y Bil—dwy flynedd ar gyfer y pŵer i wneud rheoliadau, ac uchafswm o bum mlynedd ar gyfer unrhyw reoliadau a wneir. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod yn credu na fydd y cyfnodau hynny mor hir â hynny oherwydd bydd y pwysau o orfod cyflwyno adroddiad bob tri mis ynglŷn â'r weithdrefn o barhau i gaethiwo pwerau yn ddyletswydd eithaf beichus. Felly, mae'n debygol y bydd y cyfnodau hynny yn llawer llai.

Felly, credaf fod y fargen hon gyda San Steffan yn cynrychioli cynnydd enfawr, a chredaf ei bod hi'n ffodus iawn, ar hyn o bryd, bod gennym ni Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru—Llywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i ddatganoli ac i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei sylwadau agoriadol, ein bod yn—mai Llafur yw plaid datganoli. Credaf fod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn enghraifft o sut rydym ni wedi defnyddio'r ymrwymiad hwnnw i ddatganoli ac er lles pobl Cymru. Dyna pam ein bod ni'n cyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yma heddiw. Rwy'n gwybod yr apeliodd Leanne ar inni ddefnyddio ein rheswm wrth iddi siarad yn gynharach yn y ddadl. Wel, fy marn i yw y byddai rheswm yn dweud wrthych chi i bleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Wn i ddim a yw hi'n wir neu ai un o chwedlau'r Cynulliad yw hi, Llywydd, ond dywedir wrthyf os ydych chi'n sefyll ar y darn hwnnw o wydr yng nghanol Siambr y Cynulliad, bydd yn torri a byddwch yn disgyn i'r hollt islaw. Wn i ddim a yw hynny'n wir ai peidio, ond mae'r ddadl yma—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i roi cynnig arni, peidiwch â phoeni. Gallwch chi geisio, er hynny, Alun. Byddai'n lle da i chi fynd. Ewch, rhowch gynnig arni. [Chwerthin.] Ond mae'r ddadl yma heddiw yn bendant wedi dangos hollt rhwng y pleidiau hynny yma sy'n credu ym mhriodoldeb annileadwy sofraniaeth seneddol y DU, a'r rhai ohonom ni sydd wedi treulio ein bywydau gwleidyddol yn cwestiynu gallu'r cyfansoddiad Prydeinig i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Pan gyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad ar y cytundeb hwn am y tro cyntaf, heriais ef ar y pryd a dywedais fy mod yn credu fod ganddo ffydd ddiniwed, fel y dywedais, rwy'n credu, yng nghyfansoddiad y DU. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwy'n credu bod y ffydd ddiniwed honno wedi cael ei datgelu, ond rwy'n credu bod yr holl wendidau wedi cael eu datgelu hefyd.

Pan wyf yn meddwl am y syniad hwn o sofraniaeth seneddol yn cario'r dydd ar bopeth, pan edrychaf ar hanes gwleidyddol o 1979—o streic y glowyr, i erydu hawliau gweithwyr ac undebau llafur, a threth y pen, a chynni o ganlyniad i'r cwymp—nid wyf yn gweld sofraniaeth seneddol yn amddiffyn pobl Cymru. Rwy'n ei weld fel rhywbeth hirsefydlog i gyfiawnhau anghydraddoldeb a braint, a gwelaf fod angen ei herio dro ar ôl tro hyd nes y cawn ni naratif well o ran o ble daw pŵer ymhlith ein pobl a sut y caiff ei ddal gan y Senedd mewn ymddiriedaeth ar ran ein pobl ac yna ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod y grymoedd afreolus a ryddhawyd gan y refferendwm ynglŷn â Brexit yn rhai a fyddant yn newid gwleidyddiaeth, ac nid Plaid Cymru mewn gwirionedd sy'n sôn am chwalu y DU o ganlyniad i hyn—ond Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, a ddywedodd, neithiwr, ei fod yn argyhoeddedig bod bygythiad gwirioneddol. Yn ei araith neithiwr—bod bygythiad go iawn i ddyfodol y Deyrnas Unedig, a dyna pam y gwnaeth y cytundeb hwn. Ac rwy'n mynd i ddadlau dros yr ychydig funudau nesaf iddo wneud y cytundeb yn rhy gynnar a'i fod wedi cyfaddawdu gormod. Gobeithiaf wneud hynny drwy gydnabod y gwahaniaeth barn sydd rhyngom ni, ond drwy herio'r Llywodraeth hon ynglŷn â'r hyn a ddywedodd y byddai yn ei gyflawni, a beth mae hi mewn gwirionedd wedi cyflwyno ger ein bron heddiw a gofyn i ni bleidleisio o'i blaid.

Rwy'n wirioneddol gredu fy mod yn ymddiried ym mhobl Cymru i arfer yr holl bwerau hyn a gai eu harfer yn yr UE mewn ffordd gyfrifol ac mewn undod â chenhedloedd eraill yn yr ynysoedd hyn. Roeddwn yn credu hefyd fod Llywodraeth Cymru o'r farn honno, oherwydd dywedwyd wrthym ni ar y dechrau eu bod eisiau negodi o safbwynt cydraddoldeb a sicrhau cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd hyn, bod arnyn nhw eisiau negodi o safbwynt cael dull cyfansoddiadol o ran sut y datrysir y pethau hyn—awgrymwyd y cyngor Gweinidogion—eu bod yn dymuno negodi o'r safbwynt y byddai fframwaith cyfreithiol, gan gynnwys dull o ddatrys anghydfodau, o ran gwerthuso sut y byddai hyn yn cael ei ddatrys, ac roedden nhw eisiau negodi o'r safbwynt y gellid wastad gwerthuso hynny o safbwynt partneriaid cyfartal yn dod at ei gilydd.

Felly, rwy'n eich gwahodd i edrych ar y cytundeb rhynglywodraethol a gofyn i chi'ch hun: a yw'r nodweddion hynny yn bodoli? Dydyn nhw ddim. Mae cytundeb gwleidyddol ac ymdeimlad o ymddiriedaeth wedi datblygu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth bresennol y DU, ond mae'r ymdeimlad hwnnw o ymddiriedaeth, dywedir wrthym, i ymddiried yn ein hunain, ond wedyn i'w ymestyn nid yn unig i'r Cynulliad hwn, ond ar gyfer y Cynulliad nesaf, a hefyd i ystyried dyn a ŵyr faint o newidiadau a allai ddigwydd yn y Senedd a'r Llywodraeth ac yn San Steffan hefyd—nid wyf yn barod i fentro yn y fath fodd. Nid wyf yn barod i fentro felly i Blaid Cymru, ac, nid wyf yn credu y dylem ni, Aelodau Cynulliad, fentro yn y fath fodd. Nodir hynny yn glir yn adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Do, fel y dywedodd David Rees, y Cadeirydd, amlinellodd y pwyllgor hwnnw egwyddorion a aeth ymhellach na safbwynt Llywodraeth Cymru, ond felly y dylai fod, oherwydd dylai'r pwyllgor hwnnw amddiffyn y Cynulliad, nid Llywodraeth Cymru—y Cynulliad. Ac mae'r egwyddorion hynny—chwe egwyddor: nid yw dau ohonyn nhw wedi'u bodloni o gwbl; mae dau, gallech ddadlau, os hoffech chi edrych ar safbwynt Llywodraeth Cymru mewn goleuni hael iawn, wedi'u bodloni yn rhannol; a dau, dywed yr adroddiad, wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ond nid wyf yn credu bod hynny'n ddigonol i ymddiried yn y broses hon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei hun y dymunai, er mwyn bwrw ymlaen â hyn, gyngor priodol o Weinidogion, a dull gweithredu priodol ar ôl Brexit o ran y berthynas sylfaenol rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Nid oes gennym ni hynny yn y cytundeb rhynglywodraethol hwn, ac nid yw dibyniaeth ar gytundebau dros dro rhwng pleidiau, sef yr hyn yw cytundeb rhynglywodraethol, yn gyfansoddiadol, nid yw'n ddeddfwriaethol ac nid yw'n sail gyfreithiol gref ddigonnol inni roi ein caniatâd i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Nawr, mae'r ddadl hon wedi datgelu rhai o'r gwendidau yn yr agweddau unigol ar y cytundeb: pa un a yw'r penderfyniad cydsynio yn ganiatâd ai peidio—rydym ni wedi ystyried hynny; y cyfnod o 40 diwrnod; y ffaith y dywedodd Llywodraeth Cymru ei hun, 'Dim cymal machlud, diolch yn fawr iawn', a'i bod wedi cytuno bellach i gymal machlud; y camsyniad y caiff Lloegr ei thrin yr un fath â Chymru. Chaiff hi ddim. Hwyrach ei bod hi'n beth newydd cynnwys Lloegr mewn cytundeb rhynglywodraethol fel hyn, ond ni chaiff ei thrin yr un fath—mae Cymru a'r Alban wedi eu caethiwo yn gyfansoddiadol. Mae Lloegr yn wirfoddol wedi dewis dal yn ôl. Wel, gadewch i ni weld pa mor hir mae Michael Gove yn penderfynu dal yn ôl pan ddaw hi'n bryd newid polisïau amgylcheddol. Mae camsyniad yn y fan yma bod hyn yn torri tir cyfansoddiadol newydd. Ond nid ydyw—nid yw'n ddim amgenach na chytundeb rhynglywodraethol. Mae hynny'n gytundeb gwleidyddol, nid cytundeb cyfansoddiadol. Ac mae achos Gina Miller ei hun yn dangos, yn y pen draw, y gellir herio hyn.

Fy mhwynt olaf, os caf i—y pwynt olaf a wnaf i Lywodraeth Cymru—yw eich bod wedi taflu ymaith eich arf cryfaf. Beth oedd eich arf cryfaf yn herio beth oedd yn digwydd yn San Steffan a chymal 11 fel yr oedd? Eich arf cryfaf oedd amser. Mae'n rhaid i Lywodraeth San Steffan ymgodymu ag ef. Ni allan nhw negodi eu ffordd o gwdyn papur ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw ddau is-bwyllgor Cabinet newydd dim ond i weld beth yw eu dewisiadau o ran cael undeb tollau. Roedd amser o'ch plaid i wyntyllu hyn yn y Goruchaf Lys, i wyntyllu hyn nes i Lywodraeth San Steffan roi bargen well ichi. Mae amser yn wych mewn gwleidyddiaeth am ymddatod safbwyntiau styfnig. Fe wnaethoch chi gyfaddawdu gormod ac fe wnaethoch chi gyfaddawdu'n rhy fuan.

16:10

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl, yn enwedig y mwyafrif hynny o'r siaradwyr yr oedd eu dealltwriaeth o'r penderfyniad y gofynnwyd inni ei wneud yn cyfateb yn gryf iawn i'r realiti sydd yn y fantol?

A gaf i ddechrau drwy ymateb i Simon Thomas yn y ffordd ddifrifol a wnaeth ei bwyntiau? Roedd yn dda clywed cyfraniad difrifol gan Blaid Cymru y prynhawn yma. Ac fe wnaf i ateb tri neu bedwar o'r pwyntiau a wnaeth, a byddaf yn egluro pam fy mod i'n arddel safbwynt gwahanol iddo. Mae gennyf farn wahanol iddo o ran yr elfen o ffydd ddiniwed. Nid yw'r cytundeb hwn yn seiliedig ar ymddiriedaeth, mae'n seiliedig ar y canlyniad y daethpwyd iddo o wythnosau a misoedd o Weinidogion yr Alban a Gweinidogion Cymru, fesul llinell, fesul paragraff, yn dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y mae modd i bawb ei weld. Nawr, mae'n dweud ei fod yn gytundeb rhynglywodraethol, fel petai yr ysgrifennwyd ef ar gefn amlen. Mae ganddo yn union yr un statws â'r fframwaith cyllidol—ac mae hynny yn gytundeb rhynglywodraethol. A meddyliwch chi pa mor ofalus—[Torri ar draws.]. Do, ac fe wnaeth eich plaid chi ei gefnogi. Fe wnaethoch chi. Nid wyf yn cofio ichi ddweud bryd hynny, 'Nid yw'n werth y papur yr ysgrifennwyd ef arno; nid yw'n ddim byd ond cytundeb rhynglywodraethol.' Ac mae cytundebau rhynglywodraethol yn bethau difrifol a phan mae Llywodraethau yn rhoi eu henw wrthynt, nid rhoi eich ffydd yn y Llywodraeth yr ydych chi, rydych chi'n rhoi ffydd yn y ffyrdd sefydliadol y mae'n rhaid i lywodraethau difrifol ymateb a thrafod gyda'i gilydd.

Soniodd yr Aelod am yr egwyddor o amser—y dylem ni fod wedi aros yn hwy. Wel, mae Llywodraeth yr Alban wedi aros yn hwy. Ble mae'r cytundeb gwell a gawson nhw o ganlyniad i hynny? A chraidd yr anhawster yn nadl Simon yw hyn: mae eisiau awgrymu i chi bod y dewis rhwng yr hyn sydd gennym ni a rhyw wynfyd chwedlonol a fyddai hyd yn oed yn well. Ond dydy'r gwynfyd hwnnw ddim yn bodoli. Roedd y dewis gwirioneddol rhwng yr hyn yr ydym ni wedi ei negodi neu ddychwelyd i'r gwelliant llawer llai boddhaol y cyflwynodd Llywodraeth y DU yn gyntaf. Wrth gwrs y dylem ni fod yn uchelgeisiol o ran ennill hyd yn oed mwy o dir, ac rydym ni hefyd. A dywedais yn fy sylwadau agoriadol: mae mwy yr ydym ni eisiau ei gyflawni. Mae gennym ni uchelgeisiau y tu hwnt i'r cytundeb. Ond mae'r cytundeb yn gam difrifol i'r cyfeiriad yr ydym ni eisiau mynd iddo.

Llywydd, nid oes ond tri safbwynt, mewn gwirionedd, o ran y ddadl y prynhawn yma. Y cyntaf: dechreuodd Llywodraeth y DU â chyfres o gynigon canoledig iawn, oedd mewn modd 'di-ofal' yn hollol ddiystyriol o ddatganoli—. Yr ail safbwynt, mae rhai—ac rydym ni wedi eu clywed heddiw—y mae eu bryd gwleidyddol ar ymadael â'r Deyrnas Unedig. Mae'n uchelgais gwleidyddol gwbl barchus—rwy'n methu â deall pam nad yw'r rhai sy'n arddel y farn yn barod i glochdar yn ei gylch ychydig yn fwy uniongyrchol. Ond mae'r ffaith eu bod yn dymuno gadael y Deyrnas Unedig yn golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb hirdymor mewn creu dyfodol llwyddiannus iddi. Ac yna dyna'r trydydd safbwynt, sef, rwy'n credu, yr hyn a ffefrir gan y mwyafrif yn y Siambr hon ac, yn sicr ddigon, y boblogaeth ehangach yng Nghymru, sef bod datganoli a'r DU yn bwysig. A dyna beth mae'r cytundeb hwn a'r gwelliant i'r Bil yn ei gyflawni. Eglurais yn gynharach y prynhawn yma sut mae'r Bil diwygiedig yn torri tir newydd yn atgyfnerthu'r amddiffynfeydd y mae datganoli'n eu cynnig. Ac eglurais sut mae'n diwygio'r—[Torri ar draws.]

Diolch. Dywedodd mai'r dewis arall oedd dychwelyd at ddrafft anfoddhaol y Bil blaenorol, ond onid yw hi'n wir, mewn gwirionedd, bod ei Lywodraeth wedi diogelu pobl yr Alban a'u setliad datganoli, ac mai ei negodi ef o'r hyn y mae wedi cytuno arno ar gyfer Cymru a fydd yn berthnasol bellach i'r Alban, er nad yw Nicola Sturgeon wedi gwneud y peth synhwyrol y mae ei Lywodraeth ef wedi ei wneud?

16:15

Llywydd, rwy'n falch iawn y bydd popeth yr ydym ni wedi ei negodi, yn wir, yn berthnasol i Lywodraeth yr Alban, fel y gwnaethom ni gytuno gyda Llywodraeth yr Alban, pe byddai hi wedi bod yn bosibl cytuno ar unrhyw ddatblygiadau pellach yn y cytundeb, yna bydden nhw wedi bod yn berthnasol i bob un o'r tair gwlad yn ogystal. Nid wyf yn dweud dim yn erbyn Llywodraeth yr Alban a'r ymdrechion a wnaeth i gyrraedd y sefyllfa yr ydym ni wedi gallu ei chyrraedd heddiw.

Yn ogystal â'r tir newydd yr ydym ni wedi ei dorri o ran datganoli, mae'r cytundeb yn dechrau'r broses hanfodol o ddiwygio'r ffordd y caiff busnes ei gynnal rhwng cenhedloedd cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Dyna pam mae'r Bil diwygiedig, a'r cytundeb rhynglywodraethol sy'n gysylltiedig â hynny, yn gwneud y ddau beth yr oeddem ni'n bwriadu ei wneud. Mae'n diogelu datganoli ac mae'n diogelu dyfodol Teyrnas Unedig lwyddiannus, a dyna pam, yn bendant, fy mod i'n gofyn i Aelodau ei gefnogi y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, a galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Bydd yr ail ar bymtheg o Fai yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia, neu IDAHOT. Mae'r diwrnod hwn yn cynnig cyfle pwysig i dynnu sylw at y trais a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl LGBT+ yn rhyngwladol.

Crëwyd y diwrnod yn 2004 i nodi pen-blwydd penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd ym 1990 i ddad-ddosbarthu cyfunrywioldeb fel anhwylder meddwl. Mae'n deg i ddweud bod pobl LGBT ym Mhrydain wedi gweld nifer fawr o newidiadau cyfreithiol yn y cyfnod hwnnw sydd wedi dod â ni yn nes at gydraddoldeb ar gyfer y cymunedau hyn, ond nid wyf yn hunanfodlon o gwbl—ac ni ddylem fod ychwaith—ac nid ydym yn awgrymu nad yw pobl LGBTQ+ yn wynebu gwahaniaethu mwyach.

Mae ymchwil Stonewall yn dangos bod mwy na hanner y bobl ifanc LGBT yng Nghymru a 73 y cant o bobl ifanc trawsrywiol yn dal i wynebu bwlio yn yr ysgol am fod yr hyn yr ydynt—mae bron i hanner y rheini nad ydyn nhw byth yn dweud wrth unrhyw un am y peth. Rydym hefyd yn gwybod bod un o bob pump o bobl LGBT ym Mhrydain wedi cael profiad o ddigwyddiad neu drosedd casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth o ran rhywedd yn y 12 mis diwethaf. Rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnydd mewn casineb ar-lein niweidiol wedi'i gyfeirio at y cymunedau trawsrywiol ar hyn o bryd.

A beth am y sefyllfa ar gyfer cymunedau LGBT y tu allan i'r DU? Er bod priodas ar gael ar hyn o bryd i gyplau o'r un rhyw mewn 22 o wledydd, mae perthnasoedd o'r un rhyw yn dal yn anghyfreithlon mewn 72 o wledydd, gydag wyth gwlad o amgylch y byd yn defnyddio cosb marwolaeth ar gyfer gweithgarwch rhywiol un-rhyw cydsyniol rhwng oedolion mewn preifatrwydd. Dyma pam mae dyddiau fel IDAHOT mor bwysig wrth inni gael cyfle i sefyll mewn undod â chymunedau LGBT ledled y byd, ac i dynnu sylw at ble y mae angen inni wneud mwy yn ein gwlad ein hunain.

Mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i fynd i'r afael â bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion ac atal y difrod addysgol ac emosiynol hirdymor y gall o bosibl ei achosi. Mae mynd i'r afael â phob math o fwlio o fewn addysg yn dal yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Ein gweledigaeth yw mynd i'r afael â bwlio mewn ffordd gyfannol, gan fynd i'r afael â gwraidd achosion o ymddygiad annerbyniol a chreu amgylchedd cynhwysol ac atyniadol lle mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn barod i ddysgu.

Rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio, 'Parchu eraill', a gyhoeddwyd yn 2011. Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni ac yn cynnwys canllawiau ar ddigwyddiadau bwlio yn ymwneud â materion LGBT. Rydym yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr addysg, partneriaid eraill a phlant a phobl ifanc i sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Hefyd, gall pobl LGBT wynebu troseddau casineb a all fod ar ffurf bygythiadau llafar, ymosodiad, graffiti sarhaus, difrod i eiddo, seiberfwlio neu negeseuon testun, negeseuon e-bost a galwadau ffôn sarhaus. Gall troseddau casineb LGBT gael effaith ddinistriol a pharhaol ar bobl a chymunedau, ond rydym yn gwybod bod oddeutu pedwar o bob pump o droseddau casineb LGBT yn dal i fod heb eu hadrodd.

Wrth nodi IDAHOT yng Nghymru, rwyf eisiau annog adrodd troseddau casineb LGBT. Anogaf unrhyw un yr effeithir arnynt i adrodd a cheisio cymorth drwy gysylltu â'r heddlu lleol ar 101, neu 999 mewn argyfwng, neu ganolfan genedlaethol cymorth ac adrodd am droseddau casineb wrth Cymorth i Ddioddefwyr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ymarferol, emosiynol ac eiriolaeth.

Rydym yn parhau i weithio drwy ein bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn ogystal ag annog pobl i adrodd am droseddau casineb, hefyd yn ymdrechu i wella ansawdd y gwasanaeth a'r gofal a gaiff dioddefwyr. Eleni, mae'r bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb yn edrych yn fanwl ar gyfraddau gadael cyn gorffen llwyth achosion— hynny yw, y gostyngiad yn nifer yr achosion rhwng yr adroddiad cyntaf, drwy ymchwilio, gwaredu cymunedol, neu gyhuddo ac erlyn. Rydym eisiau parhau i archwilio pob cam a gwella lle bo angen i sicrhau bod dioddefwyr yn fodlon â'r ffordd y mae eu hachosion yn cael eu trin, a bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.

Rydym yn darparu cyllid i Stonewall Cymru i ymgysylltu â chymunedau LGBT o amgylch Cymru, grymuso pobl LGBT a'u cynghreiriaid, chwyddo lleisiau LGBT, cryfhau gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth, a gweddnewid amgylcheddau dysgu. Rydym yn ffodus o fod â Stonewall Cymru yn rhoi eu cyngor a'u harbenigedd ar draws Llywodraeth Cymru i helpu i alluogi ein polisïau i fod yn gynhwysol.

Y thema fyd-eang ar gyfer IDAHOT eleni yw 'Cynghreiriau ar gyfer undod'. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'r thema hon yn alwad i uno i bob un ohonom. Rydym i gyd angen cynghreiriaid, yn enwedig pan ydym yn gweithio i ymladd yn erbyn rhagfarn, lleihau trais ac ymgyrchu dros newid diwylliannol. Mae thema 2018 yn annog sefydliadau LGBT i atgyfnerthu eu cysylltiadau gyda phartneriaid presennol, ac i estyn allan at bartneriaid newydd sy'n gweithio yn y maes cydraddoldeb a chynhwysiant i godi ymwybyddiaeth o'n helfennau cyffredin, ac ymgysylltu mewn gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â gwahaniaethu.

Yng Nghymru, rydym yn gweithio i gryfhau cynghreiriau o'r fath a chydgysylltu'r rhwydweithiau. Maen nhw'n bwysig oherwydd na allwn sicrhau hawliau unrhyw grŵp sy'n wynebu gwahaniaethu tra bod hawliau grwpiau eraill yn cael eu gadael yn ddiamddiffyn. Er enghraifft, o dan ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, mae sefydliadau sy'n gweithio ar draws y nodweddion gwarchodedig yn darganfod achosion cyffredin ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd, fel y gallan nhw gael effaith fwy cadarnhaol ar y cyd. Mae hyn hefyd yn rhoi'r cyfle inni gydnabod ac ystyried effeithiau a chanlyniadau gwahaniaethu lluosog neu groestoriadol, pan fydd hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol yn mynd gydag elfennau eraill, megis rhyw, hil, anabledd, statws mudol a cheisio lloches, neu oedran, ac yn y blaen.

Rwy'n falch iawn o fod yn gyfaill LGBT a dangos fy nghefnogaeth a'm hundod gyda'n cymunedau LGBT. Ar ddechrau'r mis hwn, es i i Pride y Gwanwyn yn Abertawe. Mae'n rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn, Llywydd, nid yw'n rhan o'm datganiad, ond nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor bell o fod yn wych yr oeddwn i tan i mi gerdded ymhlith y grŵp hwnnw o bobl. [Chwerthin.] Roedd nifer fawr wedi ymgasglu, ac roedd yn ffordd wych i grwpiau ymuno â'i gilydd i ddathlu amrywiaeth yn y ddinas. Mae'n fy arwain i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud fel cynghreiriaid. Gallwn wrando ar bobl LGBT sydd wedi cael profiad gwirioneddol mewn bywyd, a gwneud ein gorau i wella ein dealltwriaeth o'r materion a wynebir ganddynt. Gallwn sefyll yn erbyn gwahaniaethu pan welwn ef. Gallwn wneud yn siŵr ein bod yn codi lleisiau'r bobl hynny na chânt eu clywed yn aml, er enghraifft, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig LGBT neu bobl LGBT anabl.

Mewn byd heddiw lle mae lleisiau rhagfarn ac anoddefgarwch yn codi'n uwch, mae'n amser bellach i ni yng Nghymru ofyn i ni ein hunain: pa mor oddefgar ydym ni? Faint ydym ni wedi'i ddysgu, a pha mor ymroddgar ydym ni? Ein hateb yn bendant iawn yw ein bod yn cydymdeimlo fwy nag erioed, a bod yn rhaid i ni uno ein lleisiau ynghyd â'n cynghreiriaid a thrwy ein rhwydweithiau i barhau i ymdrechu i sicrhau cymdeithas fwy goddefgar, fwy agored a mwy croesawgar. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:20

Mae Stonewall—. Wel, gadewch imi ddechrau drwy ddweud y gallwn i gyd fod yn wych, a'ch bod mor wych ag y teimlwch y tu mewn, felly byddwch yn wych. [Chwerthin.] Canfu 'LGBT ym Mhrydain - Adroddiad Trawsrywiol' Stonewall ym mis Ionawr 2018 fod dau o bob pump o bobl drawsrywiol a thri o bob deg o bobl anneuaidd wedi dioddef trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn y 12 mis diwethaf, bod un o bob wyth o weithwyr trawsrywiol wedi dioddef ymosodiad corfforol gan gydweithwyr neu gwsmeriaid, a bod mwy na thraean y myfyrwyr prifysgol trawsrywiol mewn addysg uwch wedi dioddef sylwadau neu ymddygiad negyddol gan staff yn y flwyddyn flaenorol.

Pan oeddwn i'n siarad yma ym mis Chwefror 2017 ar Fis Hanes LGBT, nodais fod Stonewall Cymru wedi datgan bod 55 y cant o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi cael eu bwlio ar sail cyfeiriadedd rhywiol, 83 y cant o bobl ifanc trawsrywiol wedi dioddef cam-drin geiriol a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Yn eich datganiad, rydych chi'n nodi bod mynd i'r afael â phob math o fwlio o fewn addysg yn dal yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, eich bod chi'n diweddaru'r canllawiau gwrth-fwlio, 'Parchu eraill', a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni, a'ch bod yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr addysg, partneriaid eraill, plant a phobl ifanc.

Fel y cofiaf, roeddem yn cael yr un dadleuon 15 mlynedd yn ôl, gyda'r un nodau cyffredin ar draws y Siambr hon, yr un ymwybyddiaeth oherwydd ein bod i gyd yn cael yr un negeseuon, oherwydd bod Stonewall Cymru yn cynnal digwyddiadau, gan gynnwys cynyrchiadau theatraidd a oedd yn cynnwys pobl yn chwarae rhan disgyblion yn yr ysgol i dynnu sylw at broblemau bwlio, ac eto rydym ni ble'r ydym ni. Sut yr ydych chi'n bwriadu gwneud pethau'n wahanol fel nad yw hyn yn syrthio i'r fagl ymgynghoriad arferol a'i fod mewn gwirionedd yn cael ei gydgynhyrchu gyda'r gymuned, fel bod hyn wedi'i gynllunio a'i gyflawni a'i fonitro gyda'i gilydd, fel ei bod yn broses barhaus?

Rydych yn datgan, yn gywir ddigon, y thema Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, Cynghreiriau ar gyfer Undod, ac yn siarad am y ffordd y mae nodweddion gwarchodedig yn darganfod achosion cyffredin ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda'i gilydd, fel y gallan nhw, gyda'i gilydd, gael mwy o effaith gadarnhaol. Rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n ymwybodol iawn—yn wir mae rhai o'r grwpiau trawsbleidiol yr wyf yn eu cadeirio yn cynnwys grwpiau o bobl a sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau o bobl, yn aml gyda nodweddion gwarchodedig, yn gweithio gyda'i gilydd. Yn amlwg, mae cyfeiriad polisïau Llywodraeth Cymru—Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—wedi cydnabod, os nad yn y Ddeddf ei hun—er y gwnaeth hynny yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—yna yng nghanllawiau a rheoliadau'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, y pwysigrwydd, unwaith eto, o gydgynhyrchu atebion a llunio a darparu gwasanaethau gyda'i gilydd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y gellir herio'r problemau y gwn fod rhai o'r grwpiau hynny yn dal i'w cael, oherwydd diffyg dealltwriaeth neu ymwybyddiaeth, neu ddim ond amddiffyn tir pobl ar lefel uwch mewn sefydliadau sector cyhoeddus, fel bod y neges yn cyrraedd bod cael hyn yn iawn nid yn unig yn gwella bywydau, ond yn arbed arian hefyd, sydd yn aml y ddadl a roddir dros beidio â'i wneud mewn rhai mannau?

Unwaith eto, cyfeiriais at Fis Hanes LGBT, araith a dadl yn y Siambr y llynedd. Bryd hynny, dywedais,

'Mae pobl LGBT yng Nghymru yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gyda dim ond un o bob 20 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael hyfforddiant ar anghenion iechyd pobl LGBT, yn ôl Stonewall.'

Unwaith eto, roedd hynny 15 neu 16 mis yn ôl erbyn hyn. A ydych chi'n gallu gwneud sylwadau neu roi sicrwydd i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd a allai fod wedi'i gyflawni, o ystyried y pryderon a godwyd gan Stonewall bryd hynny?

Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, 'Uncharted Territory', wedi taflu goleuni ar anghenion a phrofiadau pobl hŷn sy'n byw gyda HIV, gan gynnwys anghenion dynion hoyw a deurywiol sy'n byw gyda HIV. Roedd 58 y cant o bobl sy'n byw â'r cyflwr ac sydd dros 50 oed yn cael eu diffinio fel rhai a oedd yn byw ar y llinell dlodi neu islaw iddi—dwbl lefel y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd 84 y cant o'r rhai dros 50 oed yn pryderu ynghylch sut y byddan nhw'n rheoli cyflyrau iechyd lluosog yn y dyfodol. Roedd traean wedi'u hynysu yn gymdeithasol ac mae 82 y cant wedi profi lefelau cymedrol i uchel o unigrwydd. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru felly wedi'i rhoi i anghenion pobl hŷn sy'n dod o fewn y ddemograffeg hon? Cofiaf yn iawn, eto bron i 15 mlynedd yn ôl, adroddiad yn cael ei gynhyrchu ar anghenion pobl hŷn sy'n byw yn y gymuned LGBT. Felly, unwaith eto, ymddengys ein bod, i raddau, mewn peryg o fynd o amgylch y cylch unwaith eto.

Terfynaf drwy gyfeirio at 'LGBT ym Mhrydain—Adroddiad Trawsrywiol', y byddwch efallai yn ymwybodol ohono, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr. Mae'n cyfeirio at gyhoeddiad Llywodraeth y DU 2017 y byddai'n ymgynghori ar ddiwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, ac arweiniodd at yr ymgynghori a ddaeth o hynny. Pa sylwadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar hynny? Deallaf yn yr Alban y bydd deddfwriaeth ar wahân, ond credaf y bydd Llywodraeth y DU yn deddfu ar gyfer Cymru a Lloegr. Dywedodd yr un adroddiad hwnnw:

Mae dau o bob pump o bobl drawsrywiol…wedi dweud nad oedd gan staff gofal iechyd ddealltwriaeth o anghenion iechyd penodol trawsrywiol wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ac ychwanegodd, sy'n peri pryder:

Mae'r nifer hwn yn cynyddu i hanner y bobl drawsrywiol...sy'n byw yng Nghymru.

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hynny? Yn yr un modd—

16:25

A allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych chi mewn perygl o fynd ymlaen yn hwy na'r amser a gymerodd y Gweinidog i gyflwyno'r datganiad.

Wel, fe wnaf orffen yn yr un modd ac yn yr un cyd-destun, gyda'r adran yn yr un adroddiad sy'n dweud,

Yng Nghymru, mae'r gallu i gael gafael ar driniaeth yn arbennig o wael. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wasanaeth hunaniaeth o ran rhyw yng Nghymru ac mae cleifion yn gorfod teithio i Lundain ar gyfer gofal. Maen nhw'n wynebu teithiau hir, amseroedd aros hir ac anawsterau o ran mynd ag aelodau o'r teulu neu ffrindiau cefnogol gyda nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi creu Tîm Rhywedd Cymru i drin cleifion o fis Mawrth 2018.

A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ble yr ydym ni wedi cyrraedd?

Diolch i chi am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. O ran pam yr ydym ni'n cael y drafodaeth hon unwaith eto, credaf mewn gwirionedd ei bod hi'n bwysig iawn inni gael y drafodaeth yn aml iawn. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am ei hailystyried. Credaf mewn gwirionedd y dylem ni ei hailystyried yn amlach na phob 15 mlynedd, oherwydd bod pethau yn symud. Mae pethau yn symud ymlaen, mae pobl yn dod â gwahanol agendâu at y bwrdd, mae'r gymuned ei hun yn codi materion gwahanol ac mae angen i bolisi Llywodraeth addasu a newid. Felly, er enghraifft, gan edrych ar fwlio mewn ysgolion, a godwyd gennych, mae gennym ni nifer fawr o gynlluniau i'n galluogi i oresgyn rhai o'r problemau sy'n ein hwynebu. Felly, rydym ni'n cyhoeddi er enghraifft, cynlluniau gwersi ar gyfer ysgolion ar fwlio ar sail rhywedd a thrawsrywedd, yng nghyfnodau allweddol 3 a 4, sydd i gyd ar Hwb. Rydym, fel y dywedais, yn diweddaru'r canllawiau. Fe'i cyhoeddir ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni, ac mae'n cynnwys canllawiau ar ddigwyddiadau bwlio yn ymwneud â materion lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Cynhyrchir y canllawiau hynny yn agos iawn ag ymarferwyr addysg, partneriaid eraill a phlant a phobl ifanc i sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Credaf fod Mark Isherwood yn gwneud pwynt da iawn: mae cydgynhyrchu yn rhywbeth yr ydym ni'n ymroddedig iawn iddo, ac mae angen i'r canllawiau sicrhau bod ganddyn nhw gymeradwyaeth yr holl bobl y bwriedir iddynt gael yr effaith fwyaf bosibl ar eu cyfer, a dyna ddiben yr ymgynghoriad newydd, oherwydd mae methodolegau yn newid, mae darpariaeth systemau yn newid, ac mae angen i ni addasu yn unol â hynny.

Soniodd hefyd am nifer o faterion eraill. Nid wyf yn siŵr a oes gen i amser i'w trafod i gyd, ond yn arbennig soniodd am iechyd. Rwy'n arbennig o falch o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig y llynedd, sy'n cadarnhau y bydd gwasanaeth newydd hunaniaeth o ran rhywedd i oedolion yn cael ei sefydlu yng Nghymru er mwyn galluogi pobl drawsryweddol i gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt yn nes at eu cartrefi. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet eto ym mis Chwefror eleni i dawelu meddwl y gymuned drawsryweddol a rhanddeiliaid eraill fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r gwelliannau a gyhoeddwyd fis Awst diwethaf. Mae £500,000 wedi'i ymrwymo ar gyfer y gwelliannau hynny, a chytunwyd ar achos busnes ar gyfer y tîm rhywedd Cymru newydd yng Nghaerdydd erbyn hyn. Mae'r cyllid hefyd wedi'i gytuno i feddyg teulu gyflawni'r anghenion rhagnodi ar unwaith cyn sefydlu rhwydwaith meddygon teulu a gyhoeddwyd yn ystod y peth hwnnw, felly mae pethau yn symud ymlaen.

Mae nifer o faterion eraill a godwyd gan Mark Isherwood, yr wyf yn siŵr y byddant yn codi, Dirprwy Lywydd, yn sylwadau pobl eraill. Os na, byddaf yn ceisio ymdrin â hwy yn nes ymlaen.

16:30

Diolch am y datganiad ac am nodi’r diwrnod pwysig yma. Yn wir, mae cael y datganiad yn ffordd o godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaethau erchyll sydd yn dal i ddigwydd a’r trais ofnadwy sy’n wynebu pobl o’r gymuned lesbiaid, hoywon, deurywiol a thrawsrywiol ar draws y byd, ac yng Nghymru hefyd yn anffodus. Mae yna lawer iawn o le i fynd, fel mae’r ystadegau yn eich datganiad chi yn nodi.

Hoffwn i hoelio sylw ar dri maes—ac rydym ni wedi cyffwrdd un ohonyn nhw rŵan—y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, gwasanaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer y gymuned yma, a sut mae ysgolion yn delio efo materion LGBT.

Yn gyntaf, y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Mae’r oedi parhaus yma cyn eu cyflwyno nhw yn peri pryder mawr. Mae’n oedi hollol annerbyniol, yn enwedig o gofio’r sbloets a wnaed gan y Llywodraeth hon pan gyhoeddwyd sefydlu’r gwasanaeth yma y llynedd. Mae dau o bob pump o bobl trawsrywiol, 41 y cant, yn dweud nad oes gan y mwyafrif o staff gofal iechyd ddealltwriaeth lawn o anghenion iechyd pobl traws. Mae’r ffigur yma’n cynyddu i hanner pobl trawsrywiol Cymru, sef 51 y cant. Mae 7 y cant o bobl traws yn dweud eu bod nhw wedi cael eu neulltio o wasanaethau gofal iechyd cyffredinol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw sefyllfa fel yna yn dderbyniol ac mae’n hen bryd gweld cynnydd efo sefydlu’r gwasanaeth yma. A fedrwch chi egluro, yn fwy nag ydych chi wedi gwneud cyn belled, beth yn union ydy’r rheswm am yr oedi? Beth ydy’r amserlen? A faint o flaenoriaeth mewn difrif ydy hyn i chi? Rydw i’n meddwl bod y gymuned draws, yn enwedig, yn haeddu atebion ar hyn.

I droi at wasanaethau iechyd meddwl, unwaith eto, mae’r ystadegau yn frawychus. Mae dau o bob pump person traws wedi ceisio hunanladdiad ar ryw adeg. Dau o bob pump. Mae 77 y cant o bobl ifanc traws wedi hunan niweidio ar ryw bwynt yn eu bywydau. Yn amlwg, mae angen gwasanaethau iechyd meddwl pwrpasol a phriodol ar gyfer pobl ifanc a phobl ifanc traws, yn benodol, efallai. Felly, buaswn i'n licio cael mwy o wybodaeth am eich cynlluniau chi yn y maes yma.

Yn hollol amlwg, mae'r ffordd mae ysgolion yn delio efo bwlian ymhlith y gymuned LGBT yn haeddu sylw, ac felly hefyd rôl y gyfundrefn addysg yn dileu rhagfarnau. Er enghraifft, dim ond 6 y cant o ddisgyblion LGBT Cymru sy'n gwybod lle i fynd am help a chyngor ynglŷn â bod yn drawsrywiol. Pryd rydym ni'n mynd i weld hynny'n newid?

Felly, tra'n diolch i chi am eich datganiad ac am godi ymwybyddiaeth am y diwrnod rhyngwladol, nid ydw i'n gweld llawer o sylwedd i'r geiriau sydd yn y datganiad, nac arwydd o sut bydd y Llywodraeth yma yn cynyddu'r ffordd mae'n cyfrannu tuag at ddileu trais a rhagfarn yn erbyn y gymuned arbennig hon.

16:35

Mae Siân Gwenllian yn gwneud nifer o bwyntiau dilys iawn, fel bob amser. Mae bob amser fwy y gallwn ni ei wneud, ac mae'r ystadegau yn dangos yn glir iawn, fel y dywed, fod angen gwneud mwy. Rydym yn sicr yn derbyn y ceir cyfres gyfannol o amgylchiadau y mae angen eu gwneud: rydym yn dymuno ymdrin â hynny drwy bob cam o'r ffordd. Felly, fel y nododd Mark Isherwood, mae gennym ni nifer o grwpiau o bobl y mae angen inni fynd i'r afael â'u hanghenion—pobl hŷn yn y gymuned sydd wedi byw drwy'r broses ddad-droseddoli ac sydd yn aml â thrawma iechyd meddwl a thrawmâu eraill sy'n gysylltiedig â'r holl broses honno, y mae llawer ohonom yn ei chofio ddim ond yn rhy dda. Ond mae gennym hefyd, ar ben arall y sbectrwm, bobl ifanc yn dod ymlaen yr ydym yn awyddus iddyn nhw gael y canlyniad gorau posibl drwy ein prosesau yn ein hysgolion. Ac rydym ni'n mynd i'r afael â'r materion hynny drwy bob cam o'r ffordd. Felly, fel y dywedais—ni fyddaf yn ailadrodd fy hun—rydym ar hyn o bryd yn edrych ar y polisïau bwlio mewn ysgolion, yn benodol gyda golwg ar fynd i'r afael â digwyddiadau posibl. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf am yr agenda addysg rhyw a pherthnasoedd, felly nid wyf am grwydro i'w chyhoeddiad, ond, wrth gwrs, mae hynny'n effeithio ar yr agenda hon yn fawr iawn, ac mae hynny'n ymwneud yn fawr â sefydlu ein system addysg i fod y gorau y gall fod yn hynny o beth ac i ddilyn ymlaen o bedwar diben adolygiad Diamond, sydd wrth wraidd rhan o'r agenda hon hefyd.

O ran rhai o'r pethau penodol iawn a grybwyllwyd gennych, rwyf newydd ddweud beth yr ydym yn ei wneud ar rai o'r materion gofal iechyd trawsryweddol, ond ceir rhywfaint o rwystredigaeth barhaus, mae'n debyg. Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynigion i symleiddio a pheidio â thrin y broses o newid rhywedd fel rhywbeth meddygol yn rhan o'r ymgynghoriad eang ar y system gyfreithiol sy'n ategu Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Roeddem yn disgwyl yr ymgynghoriad hwnnw yr hydref diwethaf. Mae'r cyfathrebu diweddaraf rhwng ein swyddogion ni a Swyddfa Gydraddoldeb y Llywodraeth yn awgrymu eu bod bellach yn gobeithio y bydd yn digwydd cyn toriad yr haf eleni. Rwy'n siŵr bod Siân Gwenllian yn ymwybodol bod unigolyn, ar hyn o bryd, angen diagnosis o ddysfforia rhywedd ac yn gorfod darparu tystiolaeth o drawsnewid am ddwy flynedd. Rydym yn awyddus iawn i symud oddi wrth hynny, ond rydym wedi'n dal yn yr ymarfer ymgynghori. Rydym eisiau cael gwared ar yr angen am ddiagnosis meddygol o ddysfforia rhywedd cyn gallu gwneud cais am gydnabyddiaeth rhywedd ac rydym eisiau symleiddio'r broses gyfan a chynnig nifer o ddewisiadau ar gyfer lleihau hyd a natur ymwthiol y system gydnabyddiaeth rhywedd fel bod pobl yn gallu hunan-nodi. Mae cynigion ar gyfer neu system o hunan-nodi ar gyfer newid rhywedd yn bodoli mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill: Portiwgal, Iwerddon, Malta, Gwlad Belg, Norwy, Denmarc i nodi rhai ohonynt, ac maen nhw wedi eu croesawu gan gymunedau trawsryweddol, ond mae'n arwain at adlach mewn rhai achosion, yn enwedig, er enghraifft, yn Iwerddon. Mae Llywodraeth Iwerddon i gyhoeddi adolygiad o'i system gyflawn, yr ydym yn gobeithio y bydd gyda ni tuag at ddiwedd yr haf, neu ddechrau'r hydref. Felly, dymunwn yn fawr iawn ddysgu o'r profiadau hynny wrth ddatblygu ein system ein hunain hefyd.

Felly, mae nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud. Mae pethau y gallem eu gwneud i gyflymu hynny. Rydym yn cael sgwrs traws-Lywodraeth am hyn, a byddaf i fy hun yn adrodd yn ôl i'r Senedd tuag at ddiwedd tymor yr haf ar lwyfan cydraddoldebau yn gyffredinol, a fydd yn nodi rhai o fanylion symud yr agenda honno ymlaen yn rhai o'r meysydd penodol a grybwyllwyd gennych.

Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Ychydig dros wythnos yn ôl, roeddwn i'n falch o sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag aelodau'r gymuned LGBT yng Ngŵyl Pride y Gwanwyn Abertawe. Cafodd y grŵp a oedd gyda mi ddiwrnod gwych hefyd. Rwy'n falch o gefnogi pobl yn bod yr hyn y maen nhw eisiau ei fod heb ofni dial. Dydd Iau yw Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia, ac fe gaiff ei nodi a'i ddathlu mewn 120 o wledydd ledled y byd—cyflawniad aruthrol ac arwydd o ba mor bell yr ydym ni wedi dod. Dim ond ychydig o ddegawdau byr yn ôl, roedd bod yn hoyw yn drosedd yn y wlad hon a, heddiw, mae priodas rhwng dau o'r un rhyw yn bosibl yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ond mae gennym ni lawer mwy o waith i'w wneud.

Pan briodais i chwe blynedd yn ôl, roedd llawer o'm ffrindiau yn bresennol o'r gymuned LGBT, ac am ddiwrnod gwych a gawsom ni gyda, yn wir, Chris Needs a'i ŵr, Gabe, yn fy rhoi i ffwrdd i briodi; roedd yn goron ar fy niwrnod. Yn falch o fy rhoi i ffwrdd, maen nhw'n dweud wrthyf i.

Mae perthnasoedd rhwng rhai o'r un rhyw yn dal i fod yn anghyfreithlon mewn 72 o wledydd gyda chosb o farwolaeth yn Swdan, Iran, Saudi Arabia a'r Yemen. Lladdwyd miloedd o bobl oherwydd eu hamrywiaeth rhwng y rhywiau. Ond nid ydym ni'n byw yn yr oesoedd tywyll hyn, ni ddylai pobl gael eu herlid am bwy y maent yn dewis cwympo mewn cariad â nhw, neu oherwydd eu geni i'r rhyw anghywir. Felly, mae'n fater i bob un ohonom ni fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol tuag at unrhyw un, tuag at eraill pan fyddwn yn dyst iddo, a hefyd i roi hyder i'r rhai sy'n cael eu bwlio, boed hynny yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ei natur.

Arweinydd y tŷ, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag aelodau eraill eich Llywodraeth i wella gwybodaeth o'r perthnasoedd o'r un rhyw yn y gymuned ehangach? Pa bolisïau bwlio ac ymddygiadol mewn ysgolion a cholegau—a ydyn nhw'n gadarn o ran trafod y mater hwn?

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gydnabod gan Stonewall fel y cyflogwr blaenllaw yn y DU ar gyfer staff LGBT. Felly, arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymrwymo i efelychu hyn o fewn Llywodraeth Cymru a sicrhau bod pob contractwr ac is-gontractwr Llywodraeth Cymru yn sicrhau y derbynnir pob gweithiwr LGBT heb eithriad?

Hoffwn ddiolch i chi am bob dim yr ydych yn ei wneud i fynd i'r afael â homoffobia, trawsffobia a deuffobia, a gallwch fod yn sicr bod cefnogaeth i chi ar draws y Siambr hon. Fel Aelodau Cynulliad, mae gennym i gyd ddyletswydd i gefnogi a bod yn gynghreiriaid i'n cydweithwyr a'n hetholwyr LGBT. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LGBT. Diolch.

16:40

Ie, rwyf i eisiau llongyfarch Comisiwn y Cynulliad yn fawr iawn ar ei wobr fel cyflogwr Stonewall y flwyddyn, dyna oedd yr union deitl rwy'n meddwl, a haeddiannol iawn iawn yr ydoedd hefyd.Yr hyn a ddengys y wobr honno mewn gwirionedd yw beth y gall grŵp penderfynol o weithwyr ei wneud mewn gwirionedd pan fyddant am hyrwyddo agenda a gwneud yn siŵr fod pawb o'u cwmpas—eu holl gydweithwyr a phawb arall—yn gwbl ymwybodol o'r holl faterion sy'n cyflwyno eu hunain. Credaf mewn gwirionedd fod honno'n esiampl wych iawn o sut gallwch chi ei gyflwyno. Ac rydym ni'n gwneud pethau tebyg iawn; rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, a gydag asiantaethau eraill, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod gennym ni ymagwedd gyfannol tuag at gofnodi troseddau casineb. Mae'n rhan bwysig iawn o'n gwaith cydlyniant cymunedol hefyd.

Fe wnaf ailadrodd, Dirprwy Lywydd, y dylai unrhyw un yr effeithir arnynt gan droseddau casineb ddod ymlaen, adrodd a cheisio cymorth drwy gysylltu â'r heddlu lleol ar 101, neu 999 os yw'n argyfwng. Ac rwy'n ailadrodd hynny am y rheswm hwn, oherwydd, hyd yn oed pan nad yw'n arwain at arestio neu erlyniad, mae'r wybodaeth yn ddefnyddiol bob amser i'r timau amlasiantaeth sy'n gweithio yn y maes hwn. Dim ond drwy godi proffil y troseddau casineb ofnadwy hyn yr ydym ni'n codi proffil y mater yn gyffredinol yn y gymdeithas ehangach. Felly, fel y dywedais, mae gennym ni ymagwedd ddeublyg. Mae gennym ni ymagwedd gynhwysfawr iawn yn ein system addysg. Mae gennym ni ymagwedd amlasiantaeth dda iawn tuag at y pen tywyllach, os mynnwch chi. Mae gennym ni ymateb cwricwlwm na fyddaf yn ei gyhoeddi ymlaen llaw ar ran fy nghyd-Aelod sy'n mynd i roi datganiad ar hynny yr wythnos nesaf, er ei fod yn demtasiwn gwneud hynny. Rydym yn ymdrin â nifer o faterion tai, ac mae gennym ni rai problemau yn hynny o beth gyda rhywfaint o'r arian yr ydym yn ei roi i Shelter Cymru i sicrhau bod eu gweithwyr cyngor a chymorth cenedlaethol wedi'u hyfforddi'n briodol ar sut i gefnogi a chyfryngu â'r rheini yr effeithir arnynt gan ddigartrefedd o'r cymunedau LGBTQ+, oherwydd yn aml mae ganddyn nhw ofynion penodol y mae angen eu cynnwys. Ac rwyf wedi ateb nifer o gwestiynau ar iechyd eisoes, Dirprwy Lywydd.

Ond, mewn gwirionedd, beth mae'r datganiad hwn yn ymwneud ag ef yw dathlu ein cymunedau yma yng Nghymru, dathlu'r cyfraniad y mae ein holl gymunedau yn ei wneud yma yng Nghymru, a dangos ein bwriad i'r byd nad ydym ni'n hapus bod y cymunedau hynny'n cael eu trin mewn modd gwahaniaethol mewn mannau eraill.

Rydym ni wedi dod yn bell iawn yn ystod fy oes i. Cafodd fy ewythr ei flacmelio am ei weithgareddau a gorfodwyd fy modryb i allfudo oherwydd y gwaradwydd seithugol dim ond y dosbarth canol syber sy'n gwybod sut i'w wneud yn iawn. Ond bydd gan y rhan fwyaf o deuluoedd brofiadau tebyg yn hanes eu teulu os ydyn nhw'n dymuno chwilio amdanynt. Felly, mae wir angen inni ddathlu, yn y wlad hon o leiaf, fod gweithgaredd cyfunrhywiol yn weithgaredd cyfreithlon a dylem ddathlu rhywioldeb pobl sut bynnag y maen nhw'n teimlo fel ei fynegi. Rydym eisiau hyrwyddo perthnasoedd parchus, cariadus, pwy bynnag y mae rhywun yn dymuno ei gael fel eu partner.

Mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain bod gyrfa wleidyddol Jeremy Thorpe wedi'i difetha gan y ffaith iddo geisio celu ei berthnasoedd cyfunrywiol—cafodd gwleidydd talentog ei bardduo am fethu â bod yn ddigon dewr i gydnabod yr hyn yr ydoedd. A dim ond ym 1982 y cafodd cyfunrywioldeb ei gyfreithloni yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly gall deimlo fel amser maith iawn yn ôl i rywun fel Hannah, ond nid yw gymaint â hynny yn ôl. Felly, mewn gwirionedd mae gennym ni lawer i'w ddathlu.

Roeddwn i'n falch iawn o weld yn natganiad arweinydd y tŷ ein bod yn mynd i fod yn gwneud llawer mwy o waith gydag ysgolion, oherwydd mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain—. Nid oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud am wledydd lle gall pobl gael dedfryd o farwolaeth am weithgarwch cyfunrywiol, ond mae rhywfaint o'r alltudiaeth yn byw yn fy etholaeth i. Ac yn yr holl ysgolion lle mae gennym ni gymuned amlhiliol, aml-ethnig, mae angen inni sicrhau bod pawb yn deall beth y dylai byw ym Mhrydain ei olygu o ran ein goddefgarwch. Felly, rwyf eisiau tynnu eich sylw, Ysgrifennydd y Cabinet, at fod Teilo Sant, lle'r wyf i yn llywodraethwr, wedi gwneud gwaith gwych. Roedd Teilo Sant yn enillydd y wobr Nid yn fy Ysgol I eleni oherwydd y gwaith a wnaethant i fynd i'r afael â phob trosedd casineb, a chredaf fod angen ymdrin â'r holl bethau hyn gyda'i gilydd. Felly, mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch yn gyson tuag at sylwadau a fyddai o'r blaen wedi eu hanwybyddu gan y staff neu ddisgyblion eraill. Mae'n rhaid iddo fod yn glir i'r holl ddisgyblion nad yw'r math hwn o ymddygiad yn briodol ac na ellir ei oddef. Felly, credaf fod y gwaith y maen nhw yn ei wneud i sicrhau, os mynnwch chi, fod y mwyaf cydnerth o'r unigolion hefyd yn gynghreiriaid i undod yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau y gall pawb gydnabod, dathlu a pharchu gwahaniaeth.

Rwy'n falch iawn o fod yn cynnal Just a Ball Game? ddydd Iau, ac mae gwahoddiad i bawb. Rwy'n gwerthfawrogi bod y rhai sy'n gorfod teithio gryn bellter yn ôl i'ch etholaethau yn anhebygol o allu bod yn bresennol, ond mae'n gyfle gwych i ddathlu pa mor bell yr ydym ni wedi cyrraedd a hefyd i sicrhau ein bod yn ymladd homoffobia a thrawsffobia yn y diwydiant chwaraeon, oherwydd nad yw hynny bob amser wedi digwydd. Felly, mae gennym ni Neville Southall, pêl-droediwr enwog a gôl-geidwad Cymru, ymhlith dynion a menywod o fyd y campau proffesiynol, sy'n dod i'n helpu yn yr hyn, rwy'n siŵr, fydd yn ddathliad mawr. Rwy'n falch iawn bod y Llywydd wedi cytuno i chwifio baner yr enfys ddydd Iau, oherwydd mae angen inni i gyd fod yn falch o'r ffaith mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw cyflogwr gorau'r flwyddyn Stonewall, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ei ennill y flwyddyn nesaf.

16:45

Yn wir. Cytunaf yn llwyr â llawer o'r sylwadau a wnaethoch. Mae Teilo Sant yn enghraifft dda iawn. Mae'n ardderchog i weld beth y gellir ei wneud mewn ysgolion. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am yr alltudiaeth, hefyd, a'r gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud, a dyna pam yr oeddwn i'n pwysleisio rhannau cydlyniant cymunedol y gweithwyr allgymorth hyn. Rwyf eisiau tynnu sylw hefyd, Dirprwy Lywydd, at fodolaeth Meic, sef y gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru, sydd yn wasanaeth cyfrinachol, dienw a rhad ac am ddim sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg o 8 a.m. hyd at hanner nos, saith diwrnod yr wythnos, y gellir cysylltu ag ef dros y ffôn, neges destun SMS a negeseua gwib. Mae'n llinell gymorth ar gyfer pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu bwlio mewn unrhyw ffordd o gwbl yn yr ysgol, ac fe'i defnyddiwyd yn arbennig gan aelodau o'r gymuned alltud, sydd weithiau ag anawsterau diwylliannol i ymdopi â nhw yn y cartref.

Soniais yn fyr mewn ymateb i nifer o Aelodau Cynulliad eraill, a Siân Gwenllian yn arbennig, am y materion yn ymwneud â thai a digartrefedd pobl LGBT. Hoffwn nodi hefyd, er bod gennym ni anawsterau data, oherwydd nad yw digartrefedd yn cael ei gofnodi yn rhan o'r cofnodion ystadegol statudol ehangach o ran data sy'n benodol i bobl LGBT, mae Llamau wedi cadarnhau'r wybodaeth anecdotaidd yr ydym wedi'i chasglu gan Shelter Cymru a thimau digartrefedd awdurdodau lleol bod tuedd gynyddol o ddigartrefedd a achosir gan wrthdaro teuluol a achosir gan berson ifanc sy'n nodi ei fod yn LGBT. Fel y trafodwyd yn gynharach yn ein trafodaethau heddiw, Dirprwy Lywydd, mae nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc ddigartref yn uwch o fewn y boblogaeth LGBT na'r boblogaeth yn gyffredinol.

Dim ond i dynnu sylw at y pwyntiau a wneuthum bryd hynny, unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â'r holl fater o fod yn chi eich hun, y gallu i ddweud, 'Dyma fi. Yr wyf yr hyn yr ydwyf. Yr wyf yn falch o hynny ac nid wyf eisiau bod yn unrhyw beth arall.' Mae angen inni fod yn gallu cynorthwyo pobl ifanc i ddod ymlaen ac i gael eu hamddiffyn a bod yn ddiogel rhag niwed wrth iddyn nhw fynd drwy'r broses honno, ac felly mae'r Llywodraeth yn cynnal nifer o ymgyrchoedd, yr ydym yn eu cyflymu—yr ymgyrch Dyma Fi, yr ymgyrch Paid cadw'n dawel, yr ymgyrch digartrefedd ieuenctid—sydd i gyd yn cydgyfarfod yn yr agenda hon. Ac rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pobl â nodweddion a ddiogelir LGBTQ+ ar flaen ac wrth wraidd yr ymgyrchoedd hynny, wrth inni fwrw ymlaen â hwy.

Ond mae Jenny Rathbone yn iawn; mae gennym ni nifer fawr o bethau i'w dathlu yma yng Nghymru. Felly, mae heddiw'n ymwneud â'r ddathlu, yn ogystal â'r angen i anfon y neges honno i'n cymunedau ac i'n byd. Rwyf innau hefyd yn falch iawn y byddwn yn chwifio baner yr enfys ddydd Iau.

16:50

Mae'n bleser gen i i ymateb i'r datganiad yma ynglŷn â'r diwrnod rhyngwladol sydd yn digwydd ddydd Iau. Wythnos i ddydd Iau, wythnos nesaf, mae'n 30 mlynedd ers pasio adran 28 yn Neddf Llywodraeth Leol 1998 bryd hynny. Protest yn erbyn adran 28 yng Nghaerdydd oedd yr orymdaith hoyw gyntaf erioed yng Nghaerdydd, os nad yng Nghymru, ac roeddwn i arni hi, ac roedd hi'n rhan o broses estynedig i fi—y cam cyntaf tuag at ddod mas. Nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, rydw i yma yn ymateb fel dyn hoyw balch ac agored i Lywodraeth fy ngwlad i yn dathlu'r gymuned hoyw. Felly, mae hynny i fi—y bwa yna—yn cynrychioli faint o gynnydd sydd wedi bod, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i arweinydd y tŷ am hynny.

Ond, wrth gwrs, er gwaethaf y cynnydd, fel oedd arweinydd y tŷ yn cydnabod, mae yna waith eto i'w wneud, onid oes e? Roeddwn i'n edrych ar y ffigyrau ynglŷn â disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ysgolion Cymru, ac nid yw ychydig yn llai na 60 y cant ohonyn nhw ddim yn cael unrhyw addysg ynglŷn â materion yn ymwneud â'u rhywioldeb nhw. Felly, mae yna waith i'w wneud yn fanna.

A gaf i ofyn tri chwestiwn yn benodol ynglŷn â beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu? O ran caffael, gyda'r rheolau caffael a hefyd y cytundeb economaidd o ran grantiau sy'n cael eu rhoi i gwmnïau, a ydym ni yn—?

Os caf i ofyn ar gaffael, felly, ar y contract economaidd, a fyddwn ni'n gwneud polisi cyflogaeth LGBT-gynhwysol yn un o'r meini prawf o ran ein polisi caffael yng Nghymru ac o ran y contract economaidd?

Yn ail, rydym ni wedi sôn am y problemau o ran tai sy'n effeithio ar y gymuned LGBT yn arbennig, a'r hyfforddiant landlord sydd wedi'i sefydlu yn rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Dywedir wrthyf gan rywun sydd yn ddiweddar wedi ymgymryd â hyfforddiant ar-lein nad yw'n ymdrin â gwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT ar hyn o bryd. A allai arweinydd y tŷ ymchwilio a dod ac adrodd yn ôl ar hynny? Oherwydd mae'n eithaf pwysig ymdrin â hynny.

Ac yn olaf, mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia ac, wrth gwrs, yn anffodus, ceir llawer o wledydd yn y byd lle mae'n dal yn anghyfreithlon i fod yn hoyw, ac, yn wir, mae'r cosbau mewn rhai achosion yn eithafol iawn. A gaf i godi cwestiwn Qatar? Mae gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu, femorandwm cyd-ddealltwriaeth neu gytundeb cydweithredu gyda Llywodraeth Qatar. Un peth yw gwerthu i fusnesau yn Qatar ac agor marchnadoedd, ond i Lywodraeth fy ngwlad lofnodi cytundeb gyda Llywodraeth gwlad sydd â hanes gwael iawn ar hawliau dynol yn gyffredinol, ac mae ganddi hanes arbennig o wael, gallaf ddweud wrthych, ar hawliau LGBT, nid yw'n dderbyniol iawn i mi. Deallaf y bu parti yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ddathlu'r cysylltiad Qatar Airways ac ati. Unwaith eto, i lawer o bobl yn y gymuned LGBT, mae hynny'n gadael blas chwerw braidd, ac mae pobl wedi codi hyn yn ddiweddar gyda'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr, sydd hefyd wedi llofnodi cytundeb gyda Qatar. A gaf i ofyn iddi—? Rhoddwyd ar led y posibilrwydd y gallai Lywodraeth Qatar, drwy ei chronfa cyfoeth sofran, gymryd cyfran ym maes awyr cenedlaethol Cymru. A gaf i ofyn iddi hi ddiystyru hynny? Byddai hynny'n ymddangos yn gwbl groes i ysbryd yr hyn a ddywedodd hi heddiw o ran homoffobia a thrawsffobia.

16:55

Roedd y peth cymal 28 yn eiliad dyngedfennol i gryn dipyn ohonom ni yn yr hyn a oedd bryd hynny yn bwynt eithaf isel mewn llawer o'n gyrfaoedd gwleidyddol, felly nid wyf yn credu—. Mae yna lawer o bethau gwael y gallwch eu dweud am y blynyddoedd dan Thatcher, ond mae hynny'n sicr yn uchel fel un o'r pethau a oedd yn hollol annioddefol. Bron na allaf innau ychwaith gredu, 30 mlynedd yn ddiweddarach, fod gennyf fab sy'n mynd i briodi ei bartner, ac fy mod am fynd a'n bod yn mynd i fod yn falch iawn. Cafodd ei fagu mewn cyfnod pan oedd pobl wedi ceisio atal hynny rhag cael ei addysgu fel perthynas deuluol gyffredin—os ydych chi'n cofio'r geiriau. Nid wyf erioed wedi cael fy nghythruddo gan unrhyw beth, rwy'n meddwl, ar lefel bersonol, gymaint ag a gefais gan hynny. Daeth blynyddoedd Thatcher â llawer o ddinistr i'n cymunedau, ond roedd hwnnw'n beth mor bersonol, a chredaf ei fod wedi sbarduno llawer ohonom i feddwl, 'Mae hyn yn ddigon; nid yw hyn yn iawn.' Ac mae hynny wedi bod yn sbardun yn fy ngyrfa wleidyddol. Nid wyf i'n hoyw, ond pa wahaniaeth mae hynny'n ei wneud i hyn? Nid dyna'r pwynt. Dylid caniatáu pobl i fyw eu bywydau yn y modd y maen nhw'n ei ddewis, cyn belled ag nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw niwed i neb arall, ac nid wyf yn deall pam mae gan unrhyw un unrhyw broblem â hynny o gwbl. Felly, rwy'n hollol ymroddedig i ddatrys hynny.

O ran y tri pheth penodol iawn a ofynnwyd gennych, rwy'n mynd i ateb yr un y gwn i fwyaf amdano yn gyntaf, sef y contract economaidd. Rydym yn gweithio ar ddiffiniad o waith teg. Byddwn yn sefydlu comisiwn. Bydd yn bendant yn edrych ar bolisïau cyflogaeth gynhwysol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Roeddwn yn cael sgwrs frysiog gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, ni allaf gofio union eiriad y stwff cadwyn gyflenwi caffael moesegol. Os nad yw'n ei gynnwys, yna byddaf yn mynd i ffwrdd a gwneud yn siŵr bod yr adolygiad nesaf yn ei gynnwys. Rwyf eisiau dweud wrthych chi ei fod, ond nid wyf 100 y cant yn sicr, felly byddaf yn mynd i ffwrdd ac yn gwirio. Os na, yna gallwn yn sicr ei ddiwygio i'r perwyl hwnnw.

Yr hyfforddiant landlord, nid oeddwn yn gwybod amdano. Byddaf yn sicr yn codi hynny gyda'r Gweinidog. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai ei gynnwys. Dylai fod yn cynnwys materion gwrth-wahaniaethu beth bynnag, felly diolch i chi am ddod â hynny i'm sylw; byddaf yn sicr yn trafod hynny.

O ran Qatar, nid wyf yn gwybod manylion y peth penodol am y gronfa cyfoeth sofran a grybwyllwyd gennych, ond credaf fod yr holl fater gyda gwledydd eraill yn un mor anodd. Mae gennym ni raglen fawr, Cymru o Blaid Affrica, ac mae Uganda yn amlwg yn broblem fawr—. Mae hwn yn sylw personol iawn; nid Llywodraeth Cymru sy'n ymateb yn y fan yma. Fy sylwadau personol i yw'r rhain. Credaf ei bod yn anodd iawn gwybod yn union pa lefel o gyswllt sy'n dwyn pobl ymlaen i'r oes a'r lle yr ydym am iddyn nhw fod, a pha lefel o gosb a gwaradwydd sydd hefyd yn gweithio. Credaf fod hynny'n beth anodd. Byddaf yn trafod y mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol. Nid wyf yn gwybod manylion hynny. Ond nid yw ynysu gwledydd yn gweithio; rydym yn gwybod hynny. Mae'r amodau y tu mewn i wledydd sy'n cael eu hynysu yn gwaethygu i'r bobl yno. Ar y llaw arall, cytunaf yn llwyr na ddylem estyn llaw cyfeillgarwch yn llawn i bobl nad ydyn nhw mewn lle y byddem yn hoffi iddyn nhw fod. Mae'r teithio rhwng y ddau beth hynny, i mi, yn bersonol iawn, yn llinell anodd ei thynnu, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd credaf ei bod yn werth ymchwilio ymhellach iddo.

A dim ond i ddweud, Dirprwy Lywydd, mai hwn yw'r union reswm yr oeddem eisiau i'r datganiad hwn gael ei gyflwyno heddiw, i gael y trafodaethau pwysig iawn hyn ynghylch ble'r ydym ni yn y byd, a beth y gallwn ei wneud gyda'n partneriaid o ran dylanwad y gellir ei ddwyn arnynt.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar dreth tir gwag. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.

17:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Chwefror eleni, roedd modd imi ddweud wrth yr Aelodau am fwriad Llywodraeth Cymru i brofi dull newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i sefydlu trethi Cymreig penodol drwy geisio datganoli pwerau ar gyfer treth Gymreig ar dir gwag. Proses gyfan gwbl newydd yw hon, ac nid ydy’r Cynulliad na Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cynnig arni o’r blaen. Y cam cyntaf oedd cytuno ar y camau angenrheidiol yn y broses i sicrhau bod y pwerau perthnasol yn cael eu trosglwyddo.

O ganlyniad i hyn, Dirprwy Lywydd, mae protocol wedi cael ei gytuno arno nawr, fel y nodais yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 29 Mawrth. Mae'r protocol hwnnw'n nodi proses dau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn i'r Cynulliad, ynghyd â Dau Dŷ Senedd y DU, gytuno ar ddrafft Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a fydd yn nodi gallu'r Cynulliad i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru. Os bydd y cam cyntaf hwnnw yn llwyddiannus, lle Llywodraeth Cymru fydd dod â chynigion manwl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi Aelodau i benderfynu a ddylid pasio unrhyw dreth arfaethedig yn gyfraith.

Er bod gan Senedd y DU ei rhan yn y penderfyniad i ddatganoli'r pwerau hyn i Gymru, lle'r Cynulliad hwn fydd penderfynu sut y bydd pwerau o'r fath yn cael eu defnyddio. Rwy'n hyderus bod y broses yr ydym wedi llwyddo i gytuno arni yn gwir adlewyrchu'r gwahanol gyfrifoldebau hynny.

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, mae'r broses ar gyfer trosglwyddo pwerau nid yn unig yn gofyn i'r pwerau gael eu trosglwyddo gan Senedd y DU; mae gofyn iddyn nhw hefyd gael eu derbyn gan y Cynulliad hwn, pe byddai'r Cynulliad yn dewis gwneud hynny. Rwyf wedi ymrwymo o hyd i weithio ar y cyd ag Aelodau yn hyn o beth, gan sicrhau y rhoddir yr wybodaeth berthnasol i'r Cynulliad, a dylai hynny ddigwydd drwy gydol y broses.

Os mai honno yw'r broses yr ydym wedi cytuno arni, roeddwn yn credu y byddai'n ddefnyddiol nodi'r disgwyliadau ar gyfer y camau nesaf. Fy mwriad i yw y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn tymor yr hydref eleni i gyflwyno cais ffurfiol i Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, buaswn yn gobeithio y bydd deddfwriaeth yn cael ei rhoi gerbron y Cynulliad a Senedd y DU i geisio cytundeb ar drosglwyddo'r pwerau hyn.

Dirprwy Lywydd, os mai dyma'r modd o roi prawf ar bosibliadau'r Ddeddf Cymru 2014 newydd, rwy'n troi nawr at ddiben y dreth tir gwag ynddi'i hun. Fel y trafodwyd o'r blaen yn y Cynulliad hwn, gall fod nifer o ddibenion i drethiant. Bwriad treth ar dir gwag yw cymell ymddygiad cadarnhaol, yn hytrach na chodi refeniw yn bennaf. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi eisoes yn addas ar gyfer ei ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid y cydbwysedd o ran cymhellion fel y gallwn annog y datblygiadau a fydd yn helpu i ddarparu'r tai a'r cyfleoedd economaidd y mae eu hangen yn fawr yng Nghymru. Ac ar yr un pryd, honno yw'r dreth y gellir ei rhoi ar waith i gefnogi ein hamcanion adfywio.

Y nod yw peidio â gwneud bywyd yn fwy anodd i fwyafrif y busnesau cyfrifol a'r tirfeddianwyr sy'n gwneud y gwaith pwysig o ddatblygu tir ar gyfer defnydd masnachol neu breswyl. Y nod, yn hytrach, yw ennyn newidiadau yn ymddygiad y lleiafrif sydd â'u bryd ar hapfasnachu yn annheg ar y cynnydd yng ngwerthoedd tir, a thagu tir y gellid ei ddefnyddio er budd pobl a chymunedau.

Dirprwy Lywydd, er mwyn i drethiant fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, mae'n rhaid ei ystyried, nid ar wahân, ond yn rhan o gyfres o ddatrysiadau a gynllunir i annog defnydd a datblygiad effeithiol o dir yng Nghymru. Un arf yn unig yw hwn sydd ar gael inni gyflawni'r diben hwnnw, ond mae'r diben hwnnw'n un pwysig. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i safleodd datblygu sydd ar stop fod ychydig dros 400 o safleoedd ar stop ledled Cymru pan gafodd ei gyhoeddi, yn 2015. Roedd y safleodd hyn ar stop yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau preswyl, gyda 7,600 o leiaf o gartrefi ynghlwm â'r safleoedd hyn ledled Cymru.

Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio adolygiad annibynnol o gyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, mae'r adolygiad hwn yn cynnig inni'r cyfle i archwilio'r ffyrdd o gynyddu nifer y cartrefi a adeiladwyd drwy gyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at dai cymdeithasol, ac i edrych ar ansawdd safonau'r tai fforddiadwy. Mae'n rhaid inni ddal ati i fod â diddordeb, nid yn unig yn nifer ond yn ansawdd y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, er bod treth ar dir gwag yn syniad newydd i ni, yn sicr nid yw'n beth newydd mewn rhannau eraill o'r byd. Nid yw'r materion a wynebwn yn unigryw i Gymru; maen nhw'n bodoli ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn Lloegr, o ganlyniad i sylwadau a wnaeth Canghellor y Trysorlys mewn cyllideb gynharach, ceir cydnabyddiaeth o'r materion hyn, gydag adolygiad yn digwydd bellach o'r bwlch rhwng rhoi'r caniatâd cynllunio ac adeiladu'r tai. Cyhoeddodd yr ymchwiliad hwnnw, o dan gadeiryddiaeth Oliver Letwin, ddatganiad rhagarweiniol ym mis Mawrth, yn nodi ffactorau sy'n llesteirio datblygiadau wedi i'r caniatâd cynllunio gael ei roi. Bwriad yr adolygiad yw cyflwyno adroddiad llawn erbyn datganiad y Canghellor yn yr hydref yn ddiweddarach eleni.

Erbyn hyn, mae gwledydd eraill eisoes yn defnyddio treth i helpu i fynd i'r afael â broblem hon. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, fel y gŵyr yr Aelodau yma, maen nhw wedi cyflwyno ardoll safleoedd gwag yn ddiweddar i annog datblygiad tir diffaith a gwag. Yn yr un modd, mae bwrdeistrefi yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio trethiant yn llwyddiannus hefyd i annog datblygiad tir diffaith.

Mae'r darlun rhyngwladol yn awgrymu y gall trethiant yn sicr fod yn arf pwerus i hybu datblygiad. Nid dweud yw hynny, wrth gwrs, fod modd inni godi a gollwng y profiadau hyn o weinyddiaethau eraill yn y cyd-destun Cymreig, ond ceir digon o dystiolaeth yn sicr i awgrymu bod hwn yn ddull sy'n deilwng o'i ymchwilio ymhellach.

Dirprwy Lywydd, mae'n egwyddor sylfaenol gan Lywodraeth Cymru y dylai datblygiad polisi, yn drethiant neu beidio, fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Gan hynny, cam cyntaf ein gwaith fydd ymroi eto i adeiladu'r dystiolaeth honno i sicrhau ein bod yn cyrraedd y ddealltwriaeth orau posib o'r materion a sut y gallai ein hymyriadau fynd i'r afael â nhw. Trwy fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn awr, byddwn mewn sefyllfa gadarn i wneud penderfyniadau angenrheidiol pe cytunir ar y pwerau angenrheidiol. Mae cwestiynau pwysig ynglŷn â'r modd y gallwn gymell ymddygiad cadarnhaol yn y sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, a sut y gallai'r polisi wasanaethu i annog adfywiad tir trefol sy'n ddiffaith neu nad oes digon o ddefnydd ohono, yn ogystal â darparu tai.

Rwy'n cydnabod mai dim ond trwy gydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid y gallwn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion heb roi baich anfwriadol ar adeiladwyr a datblygwyr cyfrifol. I'r perwyl hwnnw, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi dechrau cyfrannu at ddatblygu'r cynigion hyn yn barod.

Dirprwy Lywydd, mae'r grŵp cynghori ar drethi eisoes yn helpu i lywio ein syniadau, ac rydym ni wedi dechrau siarad ag awdurdodau cynllunio Cymru, adeiladwyr tai a nifer o gymdeithasau busnes. Rydw i'n bwriadu sefydlu grŵp penodol, o blith y rhai sydd â diddordeb agos yn y maes hwn, i gynghori a datblygu polisi. Fel hyn, wrth inni fynd ati i sicrhau pwerau, byddwn ni'n parhau i weithio yn agos â rhanddeiliaid i helpu llywio penderfyniadau'r dyfodol ynghylch a ddylem ni fwrw ymlaen â threth ar dir gwag.

Dirprwy Lywydd, mae'n dal yn ddyddiau cynnar yn y broses newydd hon ar gyfer datganoli yng Nghymru—proses nad ydym ni wedi rhoi cynnig arni o'r blaen. Gobeithio fy mod wedi llwyddo i nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn a'r cynlluniau ar gyfer datblygu pellach dros y misoedd nesaf. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi gwybod i'r Aelodau wrth inni symud drwy'r broses newydd hon. Diolch.

17:05

A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Mae'n siŵr ei bod yn rhaid ichi fod yn gallu troi eich llaw at bob dim yn y byd treth newydd, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae llawer o'r trethi yn ymwneud â thir mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, felly rwy'n siŵr eich bod yn mynd yn arbenigwr yn eich rhinwedd eich hun.

Fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, mae hwn yn dir newydd i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n deall bod eich datganiad heddiw mewn dwy ran, yn bennaf, fel yr ydych chi wedi'i esbonio. Felly, mae gennych chi brawf ar y peiriant treth newydd drwy gyfrwng y mecanweithiau ar y naill law, y gellir eu defnyddio gyda threthi eraill wedyn, wrth gwrs, ac yna'r dreth wirioneddol, y dreth tir gwag, ar y llall arall—y dreth yr ydych wedi penderfynu symud ymlaen â hi. Mae'r rhan hon o'r broses—trydedd ran y broses—cyn bwysiced â datblygu'r dreth ei hun.

Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf yw: pa fath o amserlen yr ydych yn edrych arni yma? Fel y dywedaf, rwy'n sylweddoli mai dyddiau cynnar yw'r rhain ac ni allwch fod yn fanwl gywir ynglŷn â hynny, ond, mae'n amlwg ein bod ar ddechrau'r broses ac nid ydym wedi bod drwy hyn o'r blaen. Pa fath o amserlen fras a ragwelwch fydd gan bob un o'r gwahanol rannau hyn o'r broses, er mwyn cyrraedd y pwynt y penderfynir ar y dreth neu beidio? Fel y dywedaf, rwy'n deall y ceir nifer o rwystrau i neidio drostyn nhw cyn daw'r ateb i hynny. Rydych wedi sôn am y gwahanol hawliau sy'n ofynnol gan y Cynulliad a Dau Dŷ’r Senedd, ond os gwireddir hynny i gyd yn ôl y cynllun, pryd ydych chi'n tybio y gwelir treth newydd yn dod i rym?

A chan droi at y dreth ei hun, mae'n amlwg, mewn llawer o ffyrdd, nad oes dedfryd eto oherwydd mae nifer o wahanol lefelau o graffu i fynd drwyddyn nhw cyn y gellid penderfynu ar hynny, a byddai gwelliannau iddi a beth fynnwch chi. Rwyf i o'r farn, o'r hyn a welais i, fod rhai rhesymau cadarn dros weithredu treth ar dir gwag, ac rydych wedi cyffwrdd â rhai o'r dadleuon hynny heddiw. Rwyf wedi edrych ar yr ystadegau, ac amcangyfrifir bod datblygwyr tai'r DU yn dal eu gafael ar oddeutu 600,000 o leiniau o dir sydd wedi cael caniatâd cynllunio ond heb eu datblygu hyd yn hyn. Credaf fod ystadegau Cymru ar flaenau eich bysedd. Nid oedd y rheini gennyf i—cefais rai ar lefel y DU, ac mae'n amlwg fod swm aruthrol o dir ar hyn o bryd yn y banc.

Yn ôl y Gofrestrfa Tir, mae hynny hefyd yn cynnwys yr arfer o brynu tir nas datblygwyd gyda'r bwriad o'i rannu'n lleiniau llai ac yna ei werthu am brisiau uwch—arfer sydd wedi bodoli ers cryn amser, rwy'n siwr. Wrth gwrs, os yw hynny'n digwydd, mae'n golygu y bydd pobl sy'n aros am dai, ac yn aros am dai i gael eu hadeiladu, yn gorfod aros am fwy o amser nag y byddent fel arall oherwydd hynny. Mae'r posibilrwydd—. Fe ddylwn ddweud bod y pwyslais ar werth posibl tir yn y dyfodol yn erbyn y pris gwerthu presennol. Mae'n ddrwg gennyf— rhan olaf y frawddeg na lwyddais i'w gorffen oedd honno.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar yr holl faes hwn eu hunain. A ydych yn cysylltu â nhw ynglŷn â hynny, neu â'r swyddogion yn San Steffan? Mae'n debyg mai'r allwedd i'r cwestiwn hwn, a'r allwedd i ddatblygu'r holl drethi, yw: a ydych yn hyderus fod y dreth yr ydych yn ei chynnig yn angenrheidiol mewn gwirionedd—a fydd hi'n datrys y materion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw? Rwy'n llwyr ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am dreth yn offeryn gwerthfawr i newid arferion, ond, wrth gwrs, nid treth yw'r unig ddewis. Nid oes raid ichi ddefnyddio'r offeryn sydd gennych chi yn eich meddiant bob amser pe bai dewisiadau eraill y gellid eu defnyddio i leddfu'r sefyllfa.

Fel y deallaf, yn ôl adroddiad dros dro Oliver Letwin i Lywodraeth y DU, ymddengys mai prif yrrwr y cyfraddau adeiladu, pan roddir caniatâd i safleoedd mawr, yw'r gyfradd amsugno—y gyfradd y gellir gwerthu cartrefi newydd a adeiladwyd heb wyrdroi prisiau'r farchnad leol. Mae'r math o gartref, hefyd, yn ffactor yn hynny, felly, yn amlwg, mae hon yn dirwedd gymhleth y mae angen inni weithio oddi mewn iddi.

Roeddech chi'n sôn am wledydd eraill—edrychais ar esiampl Iwerddon. Pa wersi y gellir eu dysgu oddi wrth wledydd gyda threth tir gwag, yn eich barn chi? Nodaf fod yr ardoll yn Iwerddon yn cael ei feirniadu yn barod gan rai gwerthwyr blaenllaw dros fôr Iwerddon. Mae'r cynnydd yn y gyfradd yno i 7 y cant wedi arwain at bryderon y gallai chwyddo ffyniant a methiant y tu hwnt i'r hyn a fyddai fel arall hebddo. Gan fod tir yn cael ei ystyried yn ddeunydd crai, mae'n naturiol i ddatblygwyr gadw stoc o dir datblygu, ond ni fyddan nhw'n cadw banc o dir mewn marchnad araf, sy'n golygu y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn trefnu safle yn hytrach nag adeiladu'r tai y gallasen nhw ac y dylsen nhw fod yn ei wneud. Rwy'n gwybod mai cwestiwn ar gyfer cyfnod sydd i ddod yw hwn fwy na thebyg, ond rwyf i o'r farn ei fod yn allweddol i ddatblygiad y dreth hon. Felly byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa dystiolaeth yr ydych chi'n ei loffa o esiampl gwledydd eraill.

Felly, croesawaf eich datganiad heddiw. Credaf ei fod yn iawn ynddo'i hun, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n credu bod y Cynulliad yn sylweddoli bod profi'r peirianwaith yn hollbwysig yn y cyfnod hwn. Er y bydd llawer o'r cwestiynau hyn yn aros yn y dyfodol, credaf y byddai'n beth da pe baech yn rhoi peth cig ar yr esgyrn nawr o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraethau eraill ac â'r sector.

17:10

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau yna. Mae'n iawn i ddweud mai datganiad i ddiweddaru yw datganiad heddiw, wedi'i gynllunio i wneud yn siŵr bod Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'r sefyllfa ynglŷn â datblygu'r posibilrwydd newydd hwn ar gyfer datganoli. Nid ydym mewn lle pendant o gwbl o ran treth ar dir gwag, ond credais ei bod yn bwysig—y byddai Aelodau yn dymuno gwybod pa gam yn y broses yr ydym wedi ei gyrraedd a'r sefyllfa o ran datblygu syniadau polisi hefyd.

O ran yr amserlenni yr oedd Nick Ramsay wedi gofyn imi amdanyn nhw, fel y dywedais yn y datganiad, rwy'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i wneud cyflwyniad ffurfiol i'r Trysorlys yn ystod tymor yr hydref eleni. Mae llawer o waith yn digwydd gyda'r Trysorlys i wneud yn siŵr ein bod wedi cael trefn ar y deunyddiau y bydd eu hangen arnyn nhw i allu gwneud penderfyniad bryd hynny. Felly rydym yn gwneud y gwaith hwnnw ar hyn o bryd a byddwn yn ei gyflwyno yn ffurfiol yn yr hydref. Bydd gan y Trysorlys wedyn waith i'w wneud wrth iddo ystyried y deunydd a ddarparwyd gennym ni. Rwy'n credu y bydd eu rheolau nhw yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gynnal ymgynghoriad byr eu hunain ar ein cynigion ni. A phe byddai hynny'n llwyddiannus, wedyn yn y gwanwyn gobeithio y byddem mewn sefyllfa lle byddai'r Trysorlys yn mynd â'r Gorchmynion angenrheidiol drwy Senedd y DU, a'r Cynulliad fydd yn penderfynu a yw'n dymuno ymgymryd â'r pŵer newydd ai peidio.

Wedi hynny, fy mwriad i fyddai ymgynghori ar y syniad o dreth tir gwag yma yng Nghymru, a bod â mwy o ddyfnder yn y manylion yn sail i'r hyn a gynigiwn. Rwy'n dal i gadw meddwl agored ynglŷn â'r man y bydd hyn oll yn ein harwain ni iddo, a phe byddai'r dystiolaeth a gawsom drwy ymgynghoriad yn ein darbwyllo nad oedd gwerth i'r syniad yma yng Nghymru, yna byddai'n rhaid inni ddysgu gwers yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n cychwyn ar fy nhaith gyda pheth hyder mai arf defnyddiol yw hwn y byddem yn awyddus i'w ddatblygu. Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â chael ein hysbysu gan dystiolaeth yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau, mae'n rhaid inni fod yn ddigon meddwl agored yn y maes newydd iawn hwn i fod yn agored i'r ffaith y gallasai'r ymgynghoriad hwnnw roi tystiolaeth a fyddai'n mynd i gyfeiriad gwahanol. Felly, nid wyf i'n disgwyl i'r broses fod yn gyflym. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach ein bod yn ei gwneud yn iawn yn hytrach na brysio i wneud defnydd o'r pŵer yr ydym wedi'i gael. Rwy'n dymuno gwneud hyn yn drwyadl ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y rhai sydd â diddordeb yn gwybod y bydd eu barn a'u lleisiau yn cael eu clywed yn iawn yn hyn i gyd.

Fy safbwynt cychwynol yw fod hyn, fel y dywedodd Nick Ramsay, yn ddim ond un arf sydd ar gael i'n helpu yn y maes hwn, ond credaf y bydd yn debygol iawn o fod yn un defnyddiol ac effeithiol, ond nid dyna'r unig ffactor—mae cyfraddau amsugno a ffactorau eraill yn bwysig hefyd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddysgu gwersi gan eraill lle y gallwn. Yn Ngweriniaeth Iwerddon, mae'r Llywodraeth yno wedi bod yn hael iawn yn rhoi amser ei uwch swyddogion inni i wneud yn siŵr ein bod wedi dysgu o'u profiad hyd yn hyn. Gofynnodd Nick Ramsay i mi beth oedd y gwersi yn fy marn i; ni wnaf ond nodi dwy ar hyn o bryd. Credaf mai'r peth cyntaf iddynt ddweud wrthym oedd ei bod yn bwysig iawn fod hwn yn syniad sy'n seiliedig ar gynllunio, ac nid yn syniad er mwyn codi treth. Rydych yn ei wneud er mwyn i'r system gynllunio a'r hawliau y mae'n eu darparu fod yn effeithiol. Ac, yn ail, credaf iddyn nhw ddweud wrthyf i am beidio ag anghofio bod adfywio lawn cyn bwysiced diben i'r dreth hon â thai. Tai yw'r peth amlwg y byddwch yn cyfeirio ato, dyna'r duedd, ond mae adfywio yn amcan polisi sydd yr un mor bwysig ar gyfer treth ar dir gwag.

17:15

Diolch yn fawr, Llywydd—Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n defnyddio'r grymoedd newydd yma, a bod yna broses yn ei lle er mwyn cytuno gyda Llywodraeth San Steffan sut y dylai'r pwerau yma gael eu trosglwyddo i Gymru. Mae yn bwysig, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth, ac yn sicr nid ydym yn gwrthwynebu treth o'r fath mewn egwyddor, ond fe fyddem ni eisiau gweld bod y dreth yn mynd i weithio yn y cyd-destun Cymreig ac yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol o ai dyma beth sydd yn dal datblygu tir ar gyfer adfywio neu dai yn ôl yng Nghymru, neu a oes yna ffactorau eraill ar waith. 

Yn y cyd-destun hwnnw, rydych yn dweud yn eich datganiad eich bod chi am sefydlu grŵp penodol fel rhan o'r grŵp ymgynghorol sydd gyda chi i edrych ar y maes yma. A gaf i jest ofyn i chi ddweud ychydig mwy am sut rŷch chi'n gobeithio y bydd y grŵp yna yn gweithio? Hynny yw, a fydd e'n grŵp sy'n wynebu yn allanol, fel petai, yn cymryd tystiolaeth? A fydd e ar gael i ddod i'r Pwyllgor Cyllid, er enghraifft, i rannu ei ganfyddiadau? Neu a ydy e'n grŵp hollol—ni wnaf ddweud 'cyfrinachol', ond tu ôl i'r llenni, tu fewn i'r Llywodraeth? Pa fath o grŵp yw hwn? Rwy'n gofyn er mwyn i bobl deimlo'n hyderus fod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf eang y tu fewn i hynny.

Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad, ac rwy'n cytuno'n llwyr—beth rwyf newydd grybwyll, a dweud y gwir—fod nifer o ffactorau yn effeithio ar y ffaith bod tir heb ei ddatblygu yng Nghymru er bod caniatâd cynllunio arno fe. Mae gennych chi gynllun arall, wrth gwrs, ar gyfer safleoedd sydd wedi'u rhewi neu sy'n stalled, fel rŷch chi'n eu galw nhw, ac yn y gyllideb eleni roeddech chi'n sôn am ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar gyfer y pwrpas yna. Nid ydw i'n gwybod a ydych chi'n gallu ein diweddaru ni ynglŷn ag a ydy'r cynllun yna'n gweithio, ond yn benodol, sut ydych chi'n meddwl y byddai'r cynllun yna yn mynd law yn llaw gydag unrhyw dreth tir gwag arfaethedig? Achos mae'n amlwg os nad yw argaeledd arian yn symud rhai o'r safleoedd yma, a ydy treth arnyn nhw yn mynd i'w symud nhw? Mae yna rywbeth arall efallai yn dal y datblygiadau yma yn ôl, ac yn y cyd-destun yna wrth gwrs, cynllunio, caniatâd ar gyfer wayleaves a phethau felly, mae yna nifer o ffactorau sy'n gallu effeithio ar dir a datblygu tir. Jest os fedrwch chi roi unrhyw syniad i ni o sut rŷch chi'n mynd i ystyried y pictiwr llawn yma. Rwy'n derbyn eich bod chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n mynd i wneud, ond beth yw'r camau penodol er mwyn sicrhau bod y dreth yn mynd i ateb unrhyw alw penodol? 

A gaf i ofyn hefyd, jest ar y pwynt olaf—pwynt sydd wedi cael ei wyntyllu yn weddol ddiweddar ac mae'n ymwneud â thir yng Nghymru? Mae yna fwriad gan y Blaid Lafur ar lefel y Deyrnas Gyfunol i sôn am yr hawl i brynu tir ar gyfer tai fforddiadwy—ymddiriedolaeth tir sofran yw'r ffordd y mae wedi ei disgrifio hyd yma. Rwy'n credu bod eich Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig, sydd yn gyfrifol am gynllunio, wedi sôn bod hwn yn bosibiliad yng Nghymru neu o leiaf yn rhywbeth i'w ystyried. Eto, datblygiad arall a fydd yn gorfod ffitio mewn i unrhyw ddatblygiad o dreth o'r math yma, achos rŷm ni'n sôn am sawl ffordd wahanol fan hyn o flingo cath mewn ffordd. Felly, ble y mae'r cysyniad yma yn ffitio i mewn i'r cynlluniau hyn? Ac a fyddwch chi, pan fyddwch chi'n trosglwyddo—? Dywedwch eich bod chi yn penderfynu mynd ymlaen â'r dreth yma, a fyddwn ni fel Cynulliad yn gallu ystyried y dreth, nid jest ar ei phen ei hunan, ond yng nghyd-destun y paceidi yma o bolisïau rydw i wedi'u crybwyll yma, ac efallai bod yna rai eraill, fel bod gyda ni syniad mwy cyfansawdd o beth yw polisi ehangach y Llywodraeth tuag at dir, datblygu tir a meysydd cynllunio?  

17:20

Diolch i Simon Thomas am y cwestiynau yna. Rydw i'n cytuno â beth ddywedodd e i ddechrau. Rydw i'n awyddus i ddefnyddio'r posibiliadau newydd sydd gyda ni a dyna pam rŷm ni wedi dechrau ar y broses o brofi'r mecanwaith newydd ac rŷm ni'n creu'r mecanwaith, achos, wrth gwrs, nid oedd mecanwaith yna o'r blaen. So, un pwrpas o'i wneud e yn y lle cyntaf yw jest i ddysgu y gwersi sy'n mynd i ddod mas o drial y ffordd am y tro cyntaf ac i weld, fel y dywedodd Simon Thomas, sut y mae hyn yn mynd i weithio yn y cyd-destun Cymreig.

Dyna pam rydw i yn mynd i dynnu grŵp newydd at ei gilydd. Rŷm ni'n mynd i ddefnyddio un neu ddau berson, rwy'n meddwl, mas o'r grŵp sydd gyda ni'n barod sy'n cynghori'r Llywodraeth ar y busnes trethi yn gyffredinol, ond rydw i eisiau tynnu i mewn i'r grŵp nifer o bobl sydd â diddordeb penodol yn y maes—pobl sy'n gweithio, pobl sy'n datblygu tir, pobl sy'n adeiladu tai, a grwpiau fel Shelter hefyd sydd ag agweddau eraill i'w rhoi i mewn. Rydw i'n awyddus i dynnu i mewn i'r grŵp bobl gyda phrofiadau yn y maes o—rydw i wedi anghofio'r gair yn Gymraeg—y broses o regeneration. Adfywio—diolch yn fawr.

Nawr, sut fydd y grŵp yn gweithio? Wel, nid ydw i wedi siarad ag aelodau'r grŵp ar hyn o bryd. Y bwriad, rwy'n meddwl, yw rhoi cyngor i ni fel y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o bobl ar y grŵp sydd fel arfer yn dod i roi tystiolaeth ar ran y gwaith y maen nhw'n ei wneud pan fydd pwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud ymchwiliad. Ond rwy'n hollol hapus i siarad â nhw os bydd posibiliadau eraill iddyn nhw wneud gwaith i helpu'r pwyllgorau hefyd. 

O ran y stalled sites fund, jest i ddweud, fel mae rhai Aelodau yma yn gwybod, rŷm ni wedi rhoi arian newydd i mewn i helpu safleoedd fel yna i ddod at y farchnad.

Ceir safleoedd yng Nghymru na ellir eu dwyn i'r farchnad eto. Ni fyddai'n bosibl eu gwerthu yn y cyflwr y maen nhw ynddo ar hyn o bryd. Felly bwriad y gronfa safleoedd sydd ar stop yw helpu'r rhai sydd yn berchen ar y safleoedd hynny i fod â'r gallu i wneud y gwaith angenrheidiol a fyddai'n eu galluogi i'w cael eu troi at ddefnydd buddiol. Felly, maen nhw rhyw gam neu ddau y tu ôl i lle y byddai treth ar dir gwag yn sefyll oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, nid diben y dreth tir gwag yw cosbi unrhyw un sydd yn gwneud pob ymdrech i ddod â safle sydd â chaniatâd angenrheidiol i ennill elw o'i defnyddio. Mae'r gronfa safleoedd sydd ar stop ar gyfer safleoedd nad ydynt yn y cyflwr hwnnw eto, ac rydym yn gobeithio creu rhyw fath o gadwyn a fydd yn dod â nhw i'r farchnad a'u defnyddio er elw maes o law.

Rwy'n cytuno, unwaith eto, gyda'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â phan ddaw'r Cynulliad i ystyried treth ar dir gwag a bod gennym ni ganlyniadau'r ymgynghoriad ac ati: bydd yn bwysig i roi hynny yn y cyd-destun ehangach. Ac mae gwaith wedi'i gychwyn gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio gydag adolygiad annibynnol o dai fforddiadwy, a sut y byddwn yn gwneud mwy yn y maes hwnnw yn y dyfodol. Bydd hynny'n ein helpu i greu'r cyd-destun ehangach hwnnw lle gellir asesu'n briodol yr hyn y gall yr arf penodol hwn a'i gyfraniad ei wneud.

17:25

Rwy'n croesawu'r datganiad, ac rwyf yn y sefyllfa baradocsaidd o fod yn fawr iawn o blaid datganoli'r pŵer i drethu, ond nid mewn gwirionedd yn awyddus iawn i'w ymarfer. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, sef fy mod o blaid cystadleuaeth ar dreth oherwydd credaf ei bod, yn gyffredinol, yn tueddu i weithio yn erbyn codiadau mewn trethi ledled y Deyrnas Unedig. Ond tybed a yw'r dreth tir gwag wedi'i dewis am ei bod, ymhlith yr holl drethi posibl, y lleiaf tebygol o effeithio ar fwy na nifer bychan iawn o bobl. Rwy'n credu ei bod yn dreth dda iawn yn hynny o beth i'w dewis ar gyfer profi'r system, ac rwyf o'i phlaid yn fawr iawn.

Mewn gwirionedd rwyf wedi darllen dogfen Llywodraeth Cymru 'Safleoedd sydd ar Stop a Chytundebau Adran 106'. Nid yw'n ddifyr ei darllen, ac ni chafodd ei bwriadu i fod felly. Ond yr hyn a wnaeth fy nharo o'i darllen yw pa mor fychan yw nifer yr achosion a allai gael eu heffeithio gan y dreth hon, os yw wedi'i chynllunio ar gyfer nodi achosion o fancio tir lle bo datblygwyr yn eistedd yn fwriadol ar dir y dylid fel arall ei ddatblygu ac y gallen nhw ei ddatblygu ond eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd cymhelliad i wneud hyn. Rwy'n cofio'n dda, fel yn siŵr y gwna Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, yn y 1970au cynnar roedd yna gryn ddadlau ynglŷn ag adeilad Centre Point yn Llundain a oedd yn eiddo i Harry Hyams. Roedd yr adeilad yn wag am lawer o flynyddoedd oherwydd roedd gwerth tybiannol yr adeilad yn fwy fel adeilad gwag gyda'r posibilrwydd o'i werthu fel y cyfryw na phe byddai yn llawn o swyddfeydd yn talu rhent. Ystyrid hynny yn sgandal ar y pryd, rhyw 40 mlynedd yn ôl.

Ond y pwynt yr wyf yn awyddus i'w wneud yn hyn o beth yw, os ydym am gael treth ar dir gwag, bydd yn rhaid iddo fod yn sensitif i amgylchiadau economaidd. Roedd yr 1970au cynnar yn gyfnod pan welwyd prisiau eiddo yn codi'n gyflym, mewn modd anghynaladwy yn wir. Ac yn syth ar ôl hynny, ym 1975, bu cwymp yn y farchnad a chafwyd cam yn ôl. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ddigon hyblyg i allu ymdopi â'r amgylchiadau oherwydd mae'r hyn sydd yn sgandal mewn un achos yn ddim ond canlyniad amgylchiadau economaidd anffodus mewn achos arall, ac nid ydym yn dymuno, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud eisoes, canfod bod busnesau yn cael eu cosbi'n annheg am beidio â gwneud yr hyn sydd, ar y pryd, yn amhosibl am resymau amrywiol.

Soniodd am yr astudiaeth gan Oliver Letwin sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Unwaith eto, yr hyn sy'n fy nharo i wrth ddarllen ei lythyr yw pa mor gyfyng yr ymddengys golygon yr astudiaeth honno ar hyn o bryd hefyd, oherwydd mae'n edrych yn unig ar safleoedd mawr ar gyfer datblygu ar hyn o bryd. Yn ystod yr astudiaeth honno mae Letwin yn cydnabod bod pob math o resymau economaidd neu gynllunio neu dechnegol fel na fwrir ymlaen â'r datblygiadau hynny. Ac o ran tai cymdeithasol, eto, gan fod tai cymdeithasol o dan gytundebau adran 106 yn cael eu hariannu gan werthiant llwyddiannus gweddill y datblygiad, os na ellir gwerthu'r tai hynny, yna, wrth gwrs, nid oes unrhyw arian ar gael i adeiladu'r tai cymdeithasol.

Felly, mae hwn yn fatrics cymhleth iawn y mae'n rhaid ei ddeall. Gan hynny, pan fydd treth yn cael ei ffurfio, os neu bryd bynnag y digwydd hynny, teimlaf ei bod yn mynd i gynnwys darn cymhleth iawn o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol mewn gwirionedd i nifer bychan iawn o achosion posibl yn ymarferol. Felly, er fy mod o blaid rhoi cynnig ar hyn—a derbyniaf yn llwyr y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn mynd i seilio ei benderfyniadau ar dystiolaeth; mae hwnnw'n ddatganiad canmoladwy iawn i'w wneud—bydd angen inni, rwy'n credu, gael llawer mwy o dystiolaeth na'r hyn a ddarperir yn y ddogfen ar safleoedd sydd ar stop a chytundebau adran 106. Yn fy marn i, bydd angen inni edrych ar nifer mawr o astudiaethau academaidd am yr hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyfan ar gael ar ffurf hwylus fel y gall Aelodau'r Cynulliad gael dadl arno, ond dymunaf yn dda iddo ar ei fenter hyd yn oed os ydw i'n gohirio rhoi barn ar yr hyn a ddaw yn y diwedd. Felly, ni allaf addo iddo fy mod yn mynd i gefnogi'r hyn y bydd yn ei gyflwyno ar ddiwedd y daith, ond byddaf yn sicr yn cefnogi'r broses.

17:30

Wrth gwrs, rwy'n deall bod yr Aelod o farn wahanol ynglŷn â'r rhan y gall trethiant ei chwarae orau yn y ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes. Mae e'n iawn i ddweud bod treth ar dir gwag wedi'i dewis yn rhannol am nad oeddwn i eisiau anfon syniad o gwmpas a fyddai'n gorlethu'r broses eginol iawn hon. Mae rhai o'r syniadau eraill a drafodwyd yn syniadau llawer pwysicach, ond roeddwn yn teimlo na fuasem ni'n cael y gwersi o'r broses newydd pe byddem yn ymdrin â syniadau sydd yn llawer mwy arwyddocaol ynddynt eu hunain.

Adolygiad Oliver Letwin: nid wyf yn siŵr faint y byddwn yn gallu ei dynnu ohono ar gyfer Cymru, ond nodais ef oherwydd ei fod yn tarddu o'r ffigurau a ddyfynnodd Nick Ramsay, yn ddefnyddiol, yn gynharach ac sy'n dangos nad yw rhoi'r caniatâd a'r gwaith y mae'r cyhoedd wedi'i wneud i gael tir yn y cyflwr hwnnw yn cyfateb bob amser i'r defnydd a wneir o'r caniatâd hwnnw wedyn, ac nid mater i Gymru yn unig yw hyn.

Wrth gwrs, mae Neil Hamilton yn iawn i ddweud y bydd angen mwy o dystiolaeth. Ceisiais ddangos yn fy natganiad mai fy mwriad yw defnyddio'r cyfnod rhwng nawr a datganoli unrhyw bŵer i Gymru ar gyfer cryfhau'r sylfaen honno o dystiolaeth. Yna, erbyn yr amser y cawn ni ymgynghoriad ac y byddwn yn edrych ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny, bydd gennym gorff llawer mwy cyfoethog o dystiolaeth yn barod i'w rannu ag eraill er mwyn gweld sut y gallai hyn gael ei ddwyn yn ei flaen.

A gaf i groesawu'r datganiad? Gan fynd yn ôl at sail trethiant, mae gennym ni ddau fath o drethiant, un math sydd yn codi refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, megis treth incwm, ac wedyn mae gennym ni drethi sydd yn drethi ymddygiad. Ac fe gyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet un o'r rheini eleni, sef y dreth gwarediadau tirlenwi, sy'n gwneud ailgylchu yn rhatach na gwarediadau tirlenwi er mwyn cael pobl i wneud daioni ac ailgylchu. Pe bai'r dreth dirlenwi wedi'i gosod ar lefel isel iawn yna ni fyddech yn gweld pobl yn ailgylchu fel y maen nhw. Ac wedyn, wrth gwrs, mae'r trethi dros bechod, fel alcohol a thybaco, sy'n gymysgedd o'r ddau. Rwy'n rhoi hon rywle rhwng treth dros bechod a chymysgedd o'r ddau a'r dreth gwarediadau tirlenwi, sy'n dreth ymddygiad. Felly, mae'n dreth ymddygiad plws: treth ymddygiad yr ydym yn gobeithio fydd yn dod â rhywfaint o arian inni hefyd. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn hynny fel y ffordd ymlaen.

Mae angen iddi gymell ymddygiad cadarnhaol drwy gynyddu cost dal gafael ar dir. Mae llawer gormod o bobl yn dal eu gafael ar dir ac yn gwneud dim ond aros i'w werth gynyddu, fel eu bod mewn gwirionedd yn cynyddu gwerth eu tir ar y llyfrau heb gyflawni dim ag ef. Mae hyn yn llesol i'r cwmnïau ond nid felly i'n heconomi. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dod o hyd i ryw fodd o allu defnyddio'r tir hwn. Rydym oll yn ymwybodol o fancio tir, a thir yn cael ei ryddhau'n araf i gadw'r cyflenwad tai ymhell islaw'r galw am dai, er mwyn cadw prisiau tai yn artiffisial o uchel a gwerth tir yn artiffisial o uchel fel y gall y tirfeddianwyr ac adeiladwyr gynyddu eu helw.

Gwyddom fod gwledydd eraill yn defnyddio treth i'w helpu i ymdrin â'r problemau, a gwyddom am yr hyn a wnaeth Gweriniaeth Iwerddon—ardoll safleoedd gwag—ac rwy'n credu, os gall Iwerddon wneud hynny, nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na allwn ninnau wneud hynny'n llwyddiannus. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod hefyd, wrth gwrs, fy newis personol i oedd cael rhyw fath o dreth amgylcheddol. Pe byddwn i wedi bod yn eistedd yn ei sedd ef, treth amgylcheddol fyddai gennym ni yn hytrach na hyn, ond nid wy'n gweld dim o'i le gyda hyn fel ffordd ymlaen.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddatrys problem, y byddwn i gyd yn dod ar ei thraws? A wnaiff gadarnhau nad treth ar erddi ffrynt pobl fydd hon, sef yr hyn yr ydym yn mynd i weld y gwrthbleidiau yn ei gyflwyno yn y dyfodol? Nid yw'n mynd i drethu—. Nid yw fy ngardd ffrynt i yn mynd i gael ei threthu, ac nid yw eich gardd ffrynt chi yn mynd i gael ei threthu, ac ni fydd gardd ffrynt neb arall yn cael ei threthu. Bydd yn dreth—[Torri ar draws.] Bydd yn dreth ar dir sydd ar gael i adeiladu arno, gyda chaniatâd cynllunio, ac mae pobl yn dal eu gafael arno i gynyddu ei werth ar y llyfrau a rheoli rhyddhad tir.

17:35

Mae Mike Hedges yn ein hatgoffa yn rheolaidd am y gwahanol ddibenion a gyflawnir gan drethiant—o godi refeniw i ffurfio ymddygiad—ac mae e'n iawn, mae gan y dreth hon rai elfennau o'r ddeubeth. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, gan gyflwyno cwestiwn Nick Ramsay am y gwersi i'w dysgu, cofiaf yr uwch swyddogion yno yn dweud wrthyf i mai eu huchelgais cyntaf oedd fod yn rhaid i'r dreth godi digon o refeniw i dalu am y gwaith sy'n ymwneud â'r newid ymddygiad y mae'r dreth wedi'i bwriadu ei gynhyrchu.

Mae Mike yn iawn: buddion annisgwyl y cynnydd yng ngwerth tir sy'n wrthun i bobl, pan fo'r buddsoddiad cyhoeddus wrth roi caniatâd i hynny yn achosi i werth y tir godi. Felly, mae'r cyhoedd wedi gwneud yr ymdrech, ond eto i gyd, yr unigolyn preifat sydd ar ei ennill, a dyna'r hyn sy'n wrthun i bobl.

Wrth gwrs, fe wnaethom ni ystyried treth amgylcheddol—treth plastigau, wrth inni ei thrafod bryd hynny. Y rheswm pam y penderfynais beidio â defnyddio honno yn brawf cyntaf o'r peirianwaith oedd nid y reswm a grybwyllais i Mr Hamilton, sef y gallai hi fod wedi llethu'r fecaneg, ond oherwydd bod y Canghellor wedi cyhoeddi yn ei ddatganiad yn yr hydref alwad am dystiolaeth gyda golwg ar greu treth ledled y DU yn y maes hwn. Ac roeddwn yn sicr, neu roeddwn yn credu fy mod yn sicr, pe byddwn wedi anfon treth o'r fath i lawr y lein er mwyn profi ein peirianwaith byddai'r ateb wedi dod yn ôl yn syth: 'Wel, nid oes dim y gallwn ni ei wneud i roi ateb ichi ynglŷn â hynny hyd nes bydd yr alwad am dystiolaeth wedi'i chyflawni.' Felly, byddem wedi rhoi stop ar y broses o'r cychwyn cyntaf, a dyna'r rheswm pam y penderfynais yn y diwedd beidio â mynd i lawr y llwybr hwnnw.

O ran gardd ffrynt Mike Hedges ac, yn wir, fy iard gefn innau yn Nhreganna, gallaf gadarnhau bod y ddwy yn ddiogel rhag treth ar dir gwag.

Rwyf i o'r farn fod y dull o reoli cyflenwad tir yn fater pwysig iawn; nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd hon yn ffordd arbennig o gynhyrchiol o wneud hynny, ond rwy'n agored i dystiolaeth yn sicr. Mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol yma—yr arian annisgwyl mwyaf, dylwn ddweud wrthych chi, Gweinidog, wrth gwrs, yw pan gaiff tir ei roi ar gyfer parthau i adeiladu pan fu defnydd blaenorol iddo, yn enwedig pan fyddai'r defnydd blaenorol yn amaethyddol. A, wyddoch chi, mae yna wir—. Y ffactor mwyaf gyda phrisiau tai uchel yw pris y tir mewn gwirionedd. Felly, mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol o ran cael system decach dros rai o'r grymoedd hyn. A dyna pam fy mod i'n eithaf hoffi archwiliad mwy cyfannol Oliver Letwin o'r maes penodol hwn. Ond fe ellid adeiladu 7,600 o gartrefi pe defnyddiwyd pob un o'r lleiniau tir presennol, ac mae hynny'n dros flwyddyn o'r cyflenwad tai yn ôl y gyfradd gyfredol y mae ei hangen arnom i gynyddu hynny.

Credaf fod un neu ddau o'r Aelodau—soniodd Neil Hamilton am hyn yn uniongyrchol—. Mae angen system arnom ni, os ydym am fynd ar hyd y trywydd hwn, sydd yn ddigon hyblyg i ystyried amodau'r farchnad oherwydd gallai rhai pobl gael eu cosbi yn ystod cyfnod o gwymp pan maent yn llwyr fwriadu defnyddio tir mewn ffordd gynhyrchiol, mewn gwirionedd, ond, am ba reswm bynnag, nad oes modd iddynt gael yr holl gyfalaf ynghyd i ymgymryd â rhaglen adeiladu. Ac felly rwyf i o'r farn (1) y gallech chi osod y bar yn uchel; y gallech chi ddweud na fyddai'r dreth ond yn gymwys ar ôl 18 mis neu ddwy flynedd—fe allech chi wneud hynny, a byddai hynny'n rhoi amser ichi asesu cyflwr y farchnad—neu, pe byddech chi'n gwneud hynny ar ôl blwyddyn, bod gennych rai ffyrdd o fod yn hyblyg, pe byddai amodau'r farchnad yn gofyn am hynny. Felly, credaf ei bod yn werth inni edrych ar hyn, ond, fel y dywedais, hoffwn ymatal rhag mynegi fy safbwynt i hyd nes y gwelwn dystiolaeth bellach. Ac, fel y dywedasoch, mae'r patrwm yn cael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd eraill, felly mae archwiliad pellach ar y sefyllfa yn y fan honno—yn arbennig o ran sut mae'n esgor ar farchnad fwy effeithiol, oherwydd credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Yn y pen draw gallem danseilio'r farchnad ar rai adegau os nad ydym yn ofalus.

17:40

Rwy'n diolch i David Melding am yr hyn a ddywedodd ef. Mae e'n llygad ei le fod yna fudd cyhoeddus sylfaenol yn hyn i gyd. Rwy'n rhoi sicrwydd iddo, pan ddeuwn at wneud y gwaith manwl ynglŷn â sut y gellid cynllunio treth, nad ydym yn cychwyn gyda'r bwriad o gosbi unrhyw un sydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio yn gynhyrchiol. A bydd yn rhaid i rywfaint o ystyriaeth soffistigedig ddigwydd i wneud yn siŵr, gan fod amodau'r farchnad yn amrywio—ac maen nhw yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru yn barod; nid yw'n ymwneud â'r cylch yn unig, ond y ddaearyddiaeth hefyd—rydym yn llunio unrhyw dreth mewn ffordd ofalus i wneud yn siŵr ei bod yn dal y bobl hynny yr ydym yn awyddus i'w dal ac nad ydyw, mewn ffordd anfwriadol, yn cosbi pobl yn y pen draw, fel y dywedasoch chi, sy'n llwyr fwriadu gwneud defnydd cynhyrchiol o'r tir hwnnw.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae hwn yn fater o wir ddiddordeb i mi ac roedd yn bwnc i'm dadl fer yn gynharach eleni. Felly, mae gennyf i ddau gwestiwn ar eich cyfer chi heddiw.

Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau am dreth tir gwag yn cymell ymddygiadau cadarnhaol, ond a ydych yn cytuno â mi mai un o'i hamcanion canolog fyddai mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol sy'n gysylltiedig â bancio tir? Er enghraifft, gallaf feddwl am nifer o enghreifftiau yn fy etholaeth i lle mae darn o dir segur, weithiau darn sylweddol iawn o ran maint, wedi'i leoli yng nghalon cymuned ac yn cael ei gadw mewn cyflwr dychrynllyd, gan effeithio ar les y gymuned. Dyfynnais etholwr yn fy nadl fer a oedd yn sôn am ei 11 mlynedd o uffern yn byw gerllaw safle o'r fath. Ym mha ffordd y credwch chi y gellid defnyddio treth ar dir gwag yn ysgogydd i fynd i'r afael â phroblemau o'r fath?

Yn ail, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod eich bod wedi siarad o'r blaen am bwysigrwydd diffinio tir gwag hefyd, gan ddweud bod hyn yn allweddol i weithrediad y dreth a chyflawni effaith y polisi. Yn benodol, credaf ei bod yn bwysig nodi bod adeiladau sydd wedi adfeilio, nid yn unig leiniau o dir gwag, yn aml yn hagru'r gymuned, fel y dywedais yn gynharach, a dylid eu cynnwys nhw hefyd mewn diffiniad o'r fath. A fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich ffordd o feddwl ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny. Roeddwn wedi gobeithio y byddai hi'n cael ei galw i siarad am y datganiad hwn, oherwydd nid oeddwn yn gallu bod yn bresennol yn y Siambr yn ystod y ddadl fer, er fy mod wedi darllen y trawsgrifiad ohoni oddi ar hynny. Mae'r Aelod yn dwyn tystiolaeth ddiymwad yn ei blaen yn y ddadl fer honno o'r effaith y mae tir diffaith, y gellid gwneud defnydd iawn ohono, yn ei chael ar y gymuned ehangach. Ac wrth i mi ateb ei chwestiynau, rwy'n cael cyfle i ailbwysleisio pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud tua diwedd fy natganiad i, sef bod hyn yn ymwneud ag adfywio a mynd i'r afael ag adfeiliad yn ogystal â materion tai. Oherwydd gwyddom nad yw tir sy'n gwneud dim yn mynd i aros yn yr unfan ond daw yn gyrchfan ar gyfer pethau fel tipio anghyfreithlon a mathau eraill o ddiffeithwch sy'n mynd yn ofid aruthrol i'r bobl sy'n byw gerllaw. Yn yr enghreifftiau gwaethaf—a chafodd rhai o'r rhain eu henwi i mi yng Ngweriniaeth Iwerddon—yr hyn a geir wedyn yw fod y sefyllfa'n gwaethygu a bydd pobl yn dechrau ymadael â'r ardal, ac mae'r adeiladau nawr yn segur yn ogystal â'r tir, a chyn pen dim, mae'r stryd gyfan, yr oedd y defnydd ohoni'n dda a chynhyrchiol ar un adeg, bellach yn fan nad yw pobl yn dymuno byw ynddo. A dyna pam y dywedais, wrth ateb cwestiynau cynharach, y gallai cael treth ar dir gwag fod yn arf llawn mor bwysig o ran atal y math hwnnw o ddiffeithwch a hybu adfywio. Oherwydd ochr arall y geiniog o hyrwyddo ymddygiad da yw atal ymddygiad niweidiol yn y ffordd y dywedodd Vikki Howells, a bydd ei diddordeb yn y pwnc hwn a'r cyfraniad a wnaeth hi yn y ddadl fer yn cael effaith yn bendant ar ein ffordd ni o feddwl wrth ddatblygu'r syniad hwn.

17:45
6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Y Diweddariad ar Gysylltedd Digidol yng Nghymru

Eitem 6 yw datganiad gan arweinydd y tŷ: y newyddion diweddaraf ynghylch cysylltedd digidol yng Nghymru. Galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r newyddion diweddaraf i chi ar agweddau seilwaith digidol fy mhortffolio.

Rwyf am ddechrau drwy ganolbwyntio ar fand eang. Daeth cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru i ben ym mis Chwefror, ac, ers hynny, buom yn gweithio i ddatrys tair problem sy'n dal i fodoli. Yn gyntaf, buom yn ystyried pa un a all Llywodraeth Cymru weithio gyda BT i gwblhau'r adeiledd a ddechreuodd BT eu gosod yn ystod cyfnod cyflwyno Cyflymu Cymru. Mae adeiledd o'r fath wedi achosi rhwystredigaeth ymhlith defnyddwyr sy'n dweud eu bod yn gweld ffeibr wedi ei lapio o amgylch polion, ac yn amlwg nid oes unrhyw obaith realistig y byddan nhw'n gallu derbyn gwasanaeth ffeibr. Rydym yn gobeithio cwblhau'r broses hon ddiwedd mis Mai. Yn ail, rydym wedi bod yn ailedrych gyda BT ar bob un pecyn cais a gyflwynwyd ganddynt dros y pum mlynedd diwethaf i lanhau'r data a chadarnhau pa safleoedd yn y diwedd gafodd wasanaethau 30 Mbps o ganlyniad i'n hymyrraeth yn y farchnad. Er nad wyf mewn sefyllfa i gadarnhau'r ffigwr heddiw, gallaf gadarnhau, wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan gytundeb y grant, fod BT wedi darparu mwy o lawer o safleoedd nag oedd y ddwy ochr yn ei ragweld ar ddechrau'r prosiect hwn. Yn olaf, rydym wedi bod yn sefydlu'r prosesau a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r weithred gymhleth o daliadau a fydd yn cadarnhau'r gwariant cymwys terfynol o dan gytundeb y grant. Hyd yma, rydym wedi talu £300 i BT am bob safle, fodd bynnag, oherwydd bod y cyfnod cyflenwi wedi dod i ben mae'n rhaid inni bellach weithio gyda'n gilydd i fantoli'r cyfrifon a sicrhau bod pob gwariant yn gymwys ac yn eglur. Bydd hi'n cymryd sawl mis i'r broses hon ddod i ben, ond mae'n hanfodol sicrhau nad yw BT yn elwa ar unrhyw or-daliad o gymhorthdal.

Er bod nifer o ddefnyddwyr yn dal yn rhwystredig gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau y maen nhw eu hangen, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio llwyddiant sylweddol Cyflymu Cymru o ran rhoi mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i filoedd o gartrefi a busnesau na fyddent wedi elwa heb ein hymyrraeth ni. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £80 miliwn er mwyn cyrraedd cynifer o'r safleoedd sydd ar ôl â phosibl. Rwyf yn rhagweld y bydd £62.5 miliwn yn ariannu'r prosiect a fydd yn olynu Cyflymu Cymru. Gallaf ddweud bod ein paratoadau ar gyfer y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru yn mynd rhagddynt yn dda, gyda'r broses dendro yn mynd rhagddi a disgwylir iddi ddod i ben ym mis Mehefin. Rwy'n bwriadu cyhoeddi pwy fydd yn llwyddiannus cyn toriad yr haf, gyda'r gwaith gosod yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae'n amlwg o'r cynlluniau eraill ledled y DU y bydd y gost o ymdrin â'r safleoedd sydd ar ôl yn uwch o lawer na chost y rhai a gafodd eu cysylltu yn ystod cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru. Mae'r safleoedd sydd yn dal i fod heb y gwasanaethau yn fwy gwasgaredig ac yn anos eu cyrraedd. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi £31.5 miliwn yn ychwanegol drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.

Mae'r dirwedd ddigidol yn esblygu drwy'r amser felly mae'n rhaid inni edrych i'r dyfodol yn gyson i ddeall beth fydd anghenion busnesau a thrigolion ac i weld os yw ein hymyraethau yn parhau i ddiwallu'r anghenion hynny. Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn ni gefnogi ac ysgogi 'r cynnydd er mwyn cyrraedd cysylltedd ffeibr llawn. Rwyf yn falch o ddweud bod y gyfran o gartrefi a busnesau yn ardal ymyrraeth Cyflymu Cymru sy'n cael gwasanaeth ffeibr llawn yn fwy na dwywaith y gyfran yn y DU yn ei chyfanrwydd. Oherwydd inni gyrraedd ein targed o 30 Mbps fe berswadiwyd BT i fuddsoddi mewn nifer sylweddol o ffeibr ar gyfer safleoedd mewn ardaloedd gwledig iawn yng Nghymru. Mae mwy o ffeibr yn cyrraedd safleoedd ym Mhowys nag yn unman arall yn rhwydwaith BT ar hyn o bryd, a chafodd y dechnoleg ffeibr i'r safle sydd nawr yn cael ei defnyddio ar draws y DU gan Openreach ei defnyddio gyntaf yng Nghymru. Yn yr un modd, yr ydym wedi cynllunio'r strategaeth gaffael er mwyn ffafrio gwasanaethau ffeibr llawn fel y gallwn hybu hyd yn oed mwy o dreiddio ffeibr llawn ble yr ydym yn buddsoddi arian cyhoeddus. Er gwaethaf ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy na £90 miliwn, rwyf yn argyhoeddedig nad yw hyd yn oed yr arian hwn yn ddigon i sicrhau bod y gwasanaethau yn cyrraedd pob safle sydd ar ôl. I wneud hynny bydd angen ymyraethau ategol sy'n gallu gweithredu ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn a chynnig atebion i'r rhai nad ydyn nhw wedi eu cynnwys. Mae angen inni sicrhau bod yr ymyraethau ategol hyn yn ymdrin ag anghenion lleol, adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau a chyd-fynd â'n darpariaeth ehangach. Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ymhelaethu ar hyn cyn toriad yr haf.

Bydd Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi adolygu ein cynlluniau mynediad i fand eang Cymru a thaleb cysylltedd cyflym iawn. Rwyf yn falch o gadarnhau ei bod yn fwriad gennyf i barhau i gynnig talebau wrth gefn yn ystod y dyfodol agos. Mae'r gwaith o symleiddio'r prosesau cais er mwyn gwella profiad y rhai sy'n cael y talebau yn mynd rhagddo. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun talebau gigabit ledled y DU fis diwethaf. Felly, rwyf yn adolygu ein cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn i weld a yw'n parhau'n berthnasol er mwyn osgoi dyblygu ac unrhyw ddryswch, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf. Yn olaf, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd sy'n cefnogi cymunedau lle nad yw'n darpariaethau diweddaraf wedi eu cyrraedd, a hefyd y lleoedd lle nad yw cymorth taleb efallai yn cynnig ateb addas. Ni fydd y dull hwn o weithredu yn cael ei gadarnhau hyd nes y bydd y broses caffael presennol wedi dod i ben a'i bod yn eglur i ble y bydd y cyflenwr llwyddiannus yn cyrraedd.

Mae mynediad i fand eang yn amlwg yn fater pwysig. Fodd bynnag, ar gyfer busnesau sydd â mynediad, mae hi yr un mor bwysig i gael y mwyaf allan ohono i gynyddu cynhyrchiant, effeithlonrwydd ac ychwanegu gwerth. Byddwch wedi gweld y cyhoeddiad heddiw ynghylch arolwg aeddfedrwydd digidol Prifysgol Caerdydd. Mae'r arolwg hwn yn dangos bod busnes sy'n ymgysylltu fwyfwy â'r byd digidol yn fwy tebygol o lwyddo. Mae ein buddsoddiad mewn seilwaith band eang cyflym iawn ynghyd â'n rhaglen ymelwa busnes yn helpu busnesau i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar fanteision band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu trosiant a phroffidioldeb a galluogi busnesau bach a chanolig eu maint i gyflwyno mwy o gynhyrchion a gwasanaethau. Rwyf yn falch o weld bod cyrff cyhoeddus lleol hefyd yn hyrwyddo gwella seilwaith digidol, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen Cyflymu Cymru yn eu hardaloedd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, prifddinas-ranbarth Caerdydd a thimau bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe, i'w helpu i ddatblygu a chyflawni eu strategaethau seilwaith digidol i sicrhau eu bod yn ategu'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud. Rydym yn gweithio gyda chyrff lleol ledled Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu ceisiadau ar gyfer rhaglen rhwydwaith ffeibr llawn lleol Llywodraeth y DU, fel y gall Cymru elwa ar yr arian sydd ar gael ble mae hyn yn cyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol ac ategu ein cynlluniau cenedlaethol.

Gyda'r mwyafrif o safleoedd yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, mae angen inni sicrhau bod cartrefi a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth fel y gallant wneud y defnydd gorau o dechnoleg er budd yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol. Mae'r cwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth ar draws ardal ymyrryd Cyflymu Cymru ar hyn o bryd oddeutu 42.5 y cant, sy'n golygu ein bod ar y blaen i ble'r oeddem yn disgwyl bod, ac ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 50 y cant yn gynharach o lawer na'r hyn yr oeddem yn ei ragweld. Mae hyn yn galonogol ac yn rhwystredig ar yr un pryd, Dirprwy Lywydd. Mae'n galonogol oherwydd bod y gyfradd twf yn fwy nag yn y model, ond mae'n rhwystredig oherwydd yn amlwg, mae lle i wella. Mae'n werth cofio po fwyaf o gwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth, y mwyaf fydd y gronfa gyllid sydd ar gael i helpu i gyrraedd y rhai sydd heb y gwasanaeth. Rydym yn parhau â'n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth trigolion o fanteision band eang cyflym iawn a sut i gael gafael arno. Mae’r ymgyrch integredig yn defnyddio cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u targedu ar lefel ranbarthol. Heddiw, mae'r tîm yn Llanfairpwllgwyngyll, yn siarad â thrigolion lleol ynghylch sut i gael gafael ar fand eang cyflym iawn. Unwaith eto, anogaf bob Aelod i wneud cymaint ag y gallant i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn eu hetholaethau.

Er bod llawer o gymunedau a busnesau yn dal i ganolbwyntio ar fand eang yn anad dim arall, rwyf hefyd yn cael galwadau yn gofyn am welliannau i wasanaethau ffonau symudol. Rydym yn gwneud cynnydd cyson wrth gyflawni cynllun gweithredu ffonau symudol. Bydd yr ymgynghoriad ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae'r newidiadau arfaethedig yn cydnabod y cyfraniad ehangach y mae telathrebu yn ei wneud i economi Cymru, a'r rhan y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei chwarae wrth gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer telathrebu o fewn eu cynlluniau datblygu. Dilynir hyn yn fuan iawn gan ymgynghoriad ar hawliau datblygiadau a ganiateir newydd, gan gynnwys newidiadau i'r hawliau ar gyfer seilwaith ffonau symudol. Hefyd yn ddiweddar rydym wedi cynnal proses o alw am dystiolaeth, pryd y gofynnwyd i'r diwydiant ffonau symudol ddarparu tystiolaeth glir ynglŷn â manteision posibl gostwng ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu'r dystiolaeth honno.

Rydym yn parhau mewn cysylltiad ag Ofcom i drafod rheoleiddio'r diwydiant ffonau symudol, ac rydym wedi ymateb yn ddiweddar i'w hymgynghoriad ar rwymedigaeth o ran signal ffonau ar gyfer eu harwerthiant band sbectrwm 700 MHz y flwyddyn nesaf. Ynghylch 5G, rwyf wedi gofyn i Innovation Point i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgaredd 5G yng Nghymru, gan gynnwys nodi cyfleoedd i sicrhau arian o gronfa meinciau arbrofi a threialon Llywodraeth y DU. Mae ein gwaith yn gwella seilwaith digidol yn hanfodol er mwyn cynnal ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen', ac rydym yn parhau i weld cynnydd da. Fel yr wyf wedi ei amlinellu uchod, byddaf yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf mewn modd cynhwysfawr cyn toriad yr haf.

17:50

Arweinydd y tŷ, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gennyf nifer o gwestiynau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu eu hateb yn benodol. Os nad yw hynny'n bosibl, efallai y caf gyfle i'w gofyn eto yfory yn ystod y cwestiynau.

Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu bod Openreach wedi bod yn fwy na llwyddiannus wrth gyflawni telerau'r cytundeb Cyflymu Cymru gwreiddiol, ond bum mis ar ôl y dyddiad cwblhau olaf posibl, hoffwn ofyn i chi pam nad ydych chi'n gallu darparu rhestr derfynol o'r lleoliadau hynny sydd heb eu huwchraddio? Rwyf yn pendroni ynghylch pam mae hi mor anodd ateb y cwestiwn hwnnw. A allwch chi gadarnhau hefyd fod Openreach yn bendant wedi bodloni rhwymedigaethau eu cytundeb gwreiddiol, cytundeb sy'n nodi bod o leiaf 90 y cant o'r holl eiddo yn ardal ymyrraeth y cytundeb yn gallu cael gwasanaethau band eang ar isafswm o 30 Mbps, a bod 95 y cant yn gallu cael 24 Mbps? Nawr, yr ydych wedi dweud yn eich datganiad bod BT wedi darparu llawer mwy o safleoedd nag oedd y ddwy ochr yn ei ragweld ar ddechrau'r prosiect gwreiddiol. Felly, nid wyf yn deall pam na allwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

Hoffwn ofyn hefyd sawl safle fydd yr ail gyfnod yn ymdrin â nhw? Mae nifer o ffigurau wedi eu crybwyll, ac rwy'n deall bod adolygiad agored o'r farchnad wedi nodi 88,000 o safleoedd a ystyriwyd yn safleoedd gwyn, ac nad oedd asesiad o'r hyn a elwir yn safleoedd diymgeledd wedi ei gynnwys yn y ffigwr hwnnw. Felly, hoffwn eglurhad ynghylch hynny. A gaf i ofyn hefyd sawl lleoliad diymgeledd a lwyddodd Openreach i'w cwblhau yn ystod yr estyniad o ddau fis, a faint ohonyn nhw sydd ar ôl erbyn hyn? A fydd yr asedau diymgeledd hyn sydd ar ôl yn cael eu trosglwyddo i'r prosiect nesaf? Ar y dechrau roeddech chi'n rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ailfuddsoddi £37 miliwn y rhagwelid y byddai'n dod o rannu enillion o ganlyniad i gwsmeriaid yn manteisio ar y gwasanaeth yn ystod prosiect Cyflymu Cymru. Rydych chi bellach yn cyfeirio at £31.5 miliwn drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. A gaf i ofyn—nid wyf yn siŵr beth yw'r ateb—ai arian newydd yw hwn, neu a yw'n rhan o'r £37 miliwn a gafodd ei grybwyll yn gynharach? Hoffwn ofyn hefyd a yw'r Llywodraeth wedi ystyried ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau adeiladu newydd dros faint arbennig gael mynediad i wasanaethau band eang cyflym iawn fforddiadwy heb yr angen am gymhorthdal cyhoeddus?

O ran cynllun gweithredu ffonau symudol, credaf fod yr hyn yr ydych yn ei alw yn gynnydd cyson mewn gwirionedd yn gynnydd nad yw'n bodoli o gwbl. Mae'n ddrwg gennyf ddweud hyn, arweinydd y tŷ, ond mewn gwirionedd nid wyf yn credu eich bod wedi gwneud unrhyw gynnydd ynghylch hyn. Fe wnaethoch gyhoeddi'r cynllun gweithredu ffonau symudol ym mis Ionawr 2017—16 mis yn ôl—felly pa fesurau pendant allwch chi gyfeirio atynt sydd wedi gwella signal ffonau symudol yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw? Felly, fe fyddwn yn dweud yn ystod yr 16 mis diwethaf nad ydych chi wedi gwneud dim o gwbl o ran gweithredu i ddiwygio'r cyfreithiau cynllunio presennol, sy'n achosi oedi ac yn ychwanegu at y costau i wella cwmpas y signal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae hyn yn gwneud Cymru y rhan anoddaf yn y DU i weithredwyr ffonau symudol adeiladu seilwaith. Ac unwaith eto, yn eich datganiad, roeddech chi'n gofyn i weithredwyr ffonau symudol ddarparu mwy fyth o dystiolaeth. Wel, mae'r diwydiant wedi amlinellu dro ar ôl tro y rhwystrau a'r atebion y bydd eu hangen, felly pam yr oedi parhaus? Gofynnodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU yn Lloegr am y dystiolaeth honno amser maith yn ôl. Maen nhw wedi cael y dystiolaeth gan y gweithredwyr, maen nhw wedi ei dadansoddi, wedi ei derbyn ac maen nhw wedi gweithredu. Felly, rwyf yn siomedig yn hyn o beth. Rydym yn syrthio y tu ôl i weddill y DU. Ac yn wir, yn Lloegr, mae diwygio'r system gynllunio wedi digwydd eisoes. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod dileu'r angen i brosesu ceisiadau yn y system gynllunio, drwy'r gyfundrefn hawliau datblygu a ganiateir—egwyddor sydd wedi ei derbyn yn llawn ym mhob man arall o'r DU—yn hanfodol ac yn fater o frys?  Mae'r diwydiant wedi dweud yn glir bod lleihau costau darparu seilwaith yn gwbl hanfodol, ac rwy'n gofyn felly pam mae angen mwy o dystiolaeth? Mae'r dystiolaeth gennych chi, felly ewch ymlaen â'r gwaith rhag i Gymru fynd ymhellach ar ei hôl hi.

17:55

Fe roddaf sylw i rai o'r rheini yn nhrefn yr olaf yn gyntaf gan eu bod yn ffres yn fy meddwl. Rwy'n anghytuno'n llwyr â dadansoddiad Russell George o sefyllfa'r ffonau symudol. Fel y dywedais lawer gwaith, Dirprwy Lywydd, yn y Siambr hon, mae'r problemau daearyddol yng Nghymru yn wahanol i unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid inni gael nifer fawr o fastiau er mwyn cael signal cryf, oni bai bod y gweithredwyr ffonau symudol yn gallu cynllunio'n well a rhannu a gweithredu gyda rhywfaint o gyfrifoldeb dinesig. Does neb eisiau gweld mastiau bob rhyw 50 troedfedd ar draws ein parciau cenedlaethol. [Torri ar draws.] Na, nid yw rhai tal yn gweithio. Mae'n rhaid cael llinell welediad. Nid yw'n mynd i bob twll a chornel. Y mater arall lle yr ydym wedi gweld cynnydd sylweddol, yr wyf yn falch iawn o ddweud, yw'r mater ynghylch cwmpas daearyddol. Rydym wedi brwydro gydag Ofcom, rydym wedi brwydro gyda Llywodraeth y DU.  Maen nhw'n gweld y pethau hyn fel cynnyrch moethus, ac rydym ni yn anghytuno.

Yn wir, byddai llawer o hyn yn cael ei ddatrys pe byddem ni'n cael sgyrsiau synhwyrol am, er enghraifft, yr angen i ganiatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae'n gwbl amlwg ei bod hi'n bosibl cymryd agwedd gystadleuol ynghylch hyn mewn ardaloedd poblog ble ceir nifer fawr o gwmnïau ffonau symudol, oherwydd yn amlwg, ceir llawer o gwsmeriaid yno. Ond fe wyddoch cystal â minnau, mewn nifer o fannau yng Nghymru, dim ond un gweithredwr ffonau symudol sydd ar gael. Mae meddwl am rywun yn dweud, 'Dewch i Gymru cyn belled â'ch bod chi'n defnyddio'r gweithredwr ffôn symudol hwn, Mr Ymwelydd, oherwydd fel arall ni fydd unrhyw signal ar gael ichi yn yr ardal hon,’ yn amlygu na fyddai hynny’n gynaliadwy. Mae'n amlwg i mi y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU adolygu ei safbwynt a pheidio â gweld hyn fel cynnyrch moethus a chaniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig a gwledig iawn, oherwydd ni fydd byth gwmpas eang gan sawl gweithredwr ffonau symudol yn yr ardaloedd hynny. Nid yw hyn wedi'i ddatganoli, yn anffodus, a phe byddai hyn wedi ei ddatganoli fe fyddem ni'n gwneud nifer o bethau yr hoffwn i eu gweld yn fawr iawn, er enghraifft ei drin fel seilwaith. Beth bynnag, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn yr ymgynghoriad cynllunio ac rydym ar fin ymgynghori'n benodol ar hawliau datblygu a ganiateir, a hynny mewn ardaloedd penodol yng Nghymru. Ond mae'n iawn i gael cydbwysedd rhwng yr hyn y mae cymunedau lleol eisiau ei weld a'r cwmpas signal yr ydym ei angen ac yn disgwyl ei gael.

Trof yn awr at fanylion penodol y rhaglen band eang cyflym iawn, mae gan y contract rwymedigaethau penodol iawn ynghylch codau post a nifer y safleoedd a nodwyd ym mhob cod post. Mae'n amlwg bellach fod mwy o safleoedd wedi eu cynnwys mewn codau post nag o'r blaen. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn golygu bod y grant ynghlwm wrth bob un o'r safleoedd hynny. Mae cyfrifiad cymhleth iawn i'w wneud ynglŷn â pha safleoedd sydd bellach wedi'u cynnwys yn y rhaglen, sydd mewn gwirionedd wedi eu cynnwys o dan gytundeb y grant. Felly, mae'n waith eithaf cymhleth.

Hefyd rydym ni'n ailedrych, fel y dywedais yn fy natganiad, ar bob un o'r pecynnau hawliadau a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym yn gwneud hynny'n rhannol o ganlyniad i'm taith o amgylch Cymru yn cyfarfod â gwahanol gymunedau ble mae'n amlwg i mi nad ydyn nhw wedi cael eu cysylltu a ninnau'n credu eu bod nhw wedi cael eu cysylltu. Cafwyd problemau gyda'r ffeibr—roedd un ohonyn nhw yn eich cyfarfod chi, a nododd un o'r rheini. Felly, rydym wedi ailedrych ar y pecynnau hawliadau i sicrhau nad ydym yn talu am rywbeth nad ydym wedi ei gael ac i sicrhau bod yr holl ddata yn gadarn. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Rwyf yn falch iawn bod hynny wedi ei amlygu yn ystod fy nhaith o amgylch Cymru sy'n parhau, ac mae hynny'n beth da, ac rydym yn mynd drwy'r broses honno. Felly, dyna pam y cafwyd ychydig o oedi, ond rwyf wedi dweud o'r dechrau y byddai hi'n ddiwedd mis Mai, ac wrth inni nesáu at ddiwedd mis Mai, rydym yn dal ar y trywydd iawn i allu dweud hynny.

Rydym ni'n cael sgwrs gymhleth gyda BT ynghylch cysylltu â'r asedau diymgeledd. Ceir negodi masnachol cymhleth—'negodi' yw'r unig air y gallaf feddwl amdano—ynghylch pwy ddylai dalu amdanyn nhw. Felly, mae BT wedi buddsoddi swm enfawr o gyfalaf yn y ddaear. Ni chawson nhw'r un geiniog gennym ni ar gyfer hynny oherwydd bod eu rhaglen yn rhy swmpus o lawer. Y sgwrs yw: pwy ddylai dalu am y rhan olaf o'r broses gysylltu? Mae honno'n sgwrs fasnachol gymhleth sy'n mynd rhagddi, a chyn gynted ag y byddwn ni wedi cyrraedd diwedd y sgwrs honno, byddaf yn fwy na pharod i adrodd am hynny yma yn y Siambr. Ond nid wyf am ymddiheuro am y ffaith mai yr hyn rwyf eisiau ei gael, yn amlwg, yw'r nifer fwyaf o safleoedd am y gost leiaf. Felly, yn amlwg, ein safbwynt ni yw ein bod ni eisiau i gymaint â phosibl o'r asedau hynny gael eu cysylltu am gyn lleied o'r arian rhannu elw ag sy'n bosibl.

Rydym yn clustnodi £62.5 miliwn o'r £80 miliwn sydd ar gael yn y gronfa rhannu elw ar gyfer caffaeliadau newydd. Cedwir y gweddill ar gyfer y trefniadau cymunedol pwrpasol yr ydym wedi eu trafod yn helaeth. Rwyf ond yn dweud 'yn fras' oherwydd ei fod yn dibynnu ar beth fydd swm y caffaeliadau, ond rydym wedi cadw swm bach yn ôl er mwyn cael atebion pwrpasol ar gyfer rhai o'r cymunedau, ac mae'r buddsoddiad o'r cynllun canolradd yn ychwanegol.

18:00

Cefais fy synnu gan hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, arweinydd y tŷ, ynghylch eich taith o amgylch Gymru. Rwyf yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael sgwrs hefyd amdanoch chi a'ch swyddogion yn dod i lawr i rai o'n cymunedau yn sir Gaerfyrddin sy'n wynebu rhwystredigaethau y bydd nifer o bobl a llawer o Aelodau ar draws y Senedd hon yn eu hwynebu hefyd. Rwyf yn ddiolchgar am hynny, ond cefais fy synnu'n fawr pan ddywedasoch chi eich bod wedi canfod drwy gyfarfodydd cyhoeddus nad oedd y cymunedau yr oeddech chi, Llywodraeth Cymru, yn meddwl eu bod wedi cael eu cysylltu, wedi eu cysylltu o gwbl. Ac ar raddfa genedlaethol, mae'n debyg, bod hwn yn brofiad cyfochrog â'r hyn y mae ein hetholwyr unigol ni wedi ei deimlo, onid yw? Maen nhw wedi cael gwybodaeth gan Openreach am ddyddiadau darparu'r gwasanaeth ac, wrth gwrs, mae'r telerau yn cael eu newid yn ddi-ben-draw. A fydd unrhyw gosb ariannol o ganlyniad i hynny? A ydych chi'n rhannu dicter rhai o'r etholwyr o ran y modd yr ydych chi wedi eich camarwain, ac yna fe ewch chi i'r cymunedau hynny a darganfod hynny a deall sut y mae'r bobl hynny'n teimlo? Hoffwn wybod ychydig am beth fydd y canlyniadau i Openreach. Maen nhw wedi cyfaddef eu hunain eu bod wedi cyfathrebu mewn modd echrydus o flaen y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Fe'u cyhuddais o ddweud celwydd, a doedden nhw ddim yn hapus iawn â hynny. Gallwn ddewis ein hiaith ein hunain ar ei gyfer, ond, yn anffodus, mae'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud yn cadarnhau profiad llawer o'm hetholwyr.

O ran yr arian a grybwyllwyd gennych yn eich datganiad, dywedasoch y bydd £62.5 miliwn o'r £80 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiect dilynol Cyflymu Cymru. Efallai y gallech ein hatgoffa ar gyfer beth fydd y £17.5 miliwn sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio. Beth yw'r berthynas rhwng yr arian hwnnw â'r £31.5 miliwn a grybwyllwyd gennych chi yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru?

Fe soniasoch am ffeibr llawn. Rydym wedi siarad ychydig am hyn. I ba raddau, yng ngham nesaf rhaglen Llywodraeth y DU yn y maes hwn, ac yn y broses ymgeisio, ydych chi'n gweld potensial ar gyfer cais Cymru gyfan? Cafwyd rhai ceisiadau lleol a rhanbarthol o fewn Cymru, ond a ydych chi'n gweld rhywfaint o fantais mewn adeiladu rhyw fath o asgwrn cefn ffeibr digidol yng Nghymru gyfan a chysylltu cymaint o gymunedau ag sy'n bosibl ar yr un pryd?

Roedd gennyf gryn ddiddordeb yn y sylwadau a wnaethoch ynghylch Powys, ac ati, o ran cael cysylltiad ffeibr i'r adeilad. Flwyddyn yn ôl, yn ôl y ffigurau diweddaraf i mi eu gweld, rwy'n credu roedd gan Kingston 50 y cant o gysylltiad ffeibr i'r safle, mae'n debyg oherwydd eu hanes unigryw o fod â pherchnogaeth gyhoeddus—Kingston Communications oedd yr hen enw, KCOM yn awr. Roedd hynny'n galluogi Cyngor Dinas Hull i gynyddu ei seilwaith. Fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol am y posibilrwydd—yr oedd hwn ym maniffesto Plaid Cymru—o sefydlu cwmni seilwaith telathrebu a band eang yn eiddo i'r cyhoedd. A yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ei archwilio'n ymarferol?

18:05

Roedd cryn amrywiaeth yn y fan yna, felly, eto, rwyf am fynd tuag at yn ôl, ac os anghofiaf rywbeth rhowch wybod imi. Rydym wrthi'n ymchwilio i hynny yn ymarferol. Fe geir anawsterau, oherwydd cwblhawyd llawer o'r seilwaith gydag arian Ewropeaidd drwy'r rhaglen cymorth gwladwriaethol, ac yna byddai cael cwmni sy'n ymyrryd yn y farchnad, i ddefnyddio'r term priodol, yn dod ar ben hynny yn sefyllfa ddyrys i'w goresgyn. Ond, mae gennym ni dîm o swyddogion yn ceisio canfod sut y gallwn gael y budd gorau o'r seilwaith cyhoeddus sydd yn ei le—fe fyddai'n digwydd drwy brosiect cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, er enghraifft, er mwyn cael pibell i mewn i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru. Nid rhaglen Cyflymu Cymru yw hynny; pibellau'r Llywodraeth i mewn i bob adeilad yw hynny. Mae'r hyn y gallwn ni ei wneud i fanteisio ar hynny a'r hyn y gallwn ni ei wneud i ddod â manteision i gymunedau, gan gynnwys pethau fel cynlluniau Wi-Fi cymunedol ac ati yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Rydym ni'n gobeithio gweithredu rhai cynlluniau arbrofol yn ymwneud â chymunedau ysgolion ac ati cyn bo hir ac rydym yn edrych yn ofalus ar hyn.

O ran mater ffeibr llawn y DU, mae hwnnw'n achosi problemau mawr i ni, oherwydd y broblem fwyaf yng Nghymru yw sut i gyrraedd pawb—rhyw fath o fand eang yn cyrraedd pawb. Mae ffeibr llawn yn ymwneud â newid y rhwydwaith copr sy'n cario'r cyflymderau i rwydwaith ffeibr llawn. Felly, yn fy nghartref i, er enghraifft, nid wyf yn cael cyflymderau cyflym iawn, dim ond y 20au uchel, ond mae hynny oherwydd fy mod ar ben arall i wifren gopr. Bydd y cynllun ffeibr llawn yn newid y rhwydweithiau copr hynny i ffeibr llawn. Byddai hynny'n wych—mae gennym ni lawer o gymunedau yn hofran o gwmpas y 30. Fe fyddai'n beth da iddyn nhw, ond ni fydd yn helpu'r bobl nad ydynt wedi eu cysylltu o gwbl.

Felly, o ran blaenoriaeth, mae gen i awydd gwirioneddol i gyrraedd y bobl sydd heb eu cysylltu o gwbl yn gyntaf, er nad oes dim yn ein rhwystro rhag cael ael ffeibr llawn wedyn. Ac, wrth gwrs, rydym yn chwilio am y ffordd orau i fanteisio ar arian y DU ar gyfer ffeibr llawn, ac rydym yn ceisio canfod pa un a fyddai cais Cymru gyfan efallai yn fwy llwyddiannus yng ngham 2. Fe gawsom rywfaint o lwyddiant ar gyfer awdurdodau lleol, a gwn fod Adam Price yn ymwybodol o hyn, yn y cyfnod cyntaf, felly mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn ceisio rhoi trefn ar gais i wneud hynny, ond ni fyddai'n helpu'r bobl nad ydynt ar y rhwydwaith yn barod, ac mae hyn yn dipyn o ofid.

O ran cyfathrebu, rwy'n llwyr gytuno â chi—mae'r cyfathrebu wedi bod yn echrydus. Fe gefais drafodaethau di-ddiwedd gyda BT ynghylch pam y mae'r cyfathrebu mor wael. Maen nhw'n cuddio y tu ôl i semanteg—maen nhw'n dweud bod y llythyrau yn dweud nad yw'r pethau a drefnwyd byth yn bendant a diamod ac ati, ond rwyf i fy hun wedi aros ar ddiwedd rhaglen dreigl dri mis am gryn amser, ac rwy'n deall y rhwystredigaeth yn iawn. Rwy'n cyfaddef hynny. Pan wnaethom ni ddyfarnu'r contract hwn, nid oedd hynny'n broblem, oherwydd doedd neb wedi ei gael ac roedd pawb yn falch iawn pan gyrhaeddodd. Roedd nifer fawr o bobl yn cael eu cysylltu. Daeth yn broblem sylweddol tuag at ddiwedd y contract oherwydd y ffordd yr oedd y contract wedi ei strwythuro, sef nad oeddem wedi nodi unrhyw safle yng Nghymru yn benodol. Roedd yn rhaid i BT gyrraedd 690,000 o safleoedd, a oedd, yn 2011, yn 96 y cant o'r safleoedd yng Nghymru; nid yw hyn yn wir bellach. Felly rwyf yn derbyn bod y cyfathrebu'n wael.

Mae mater gwahanol i'r mater y soniais amdano pryd y darganfyddom ni fod ffeibr rhai cymunedau heb ei gysylltu'n iawn. Felly, nid yw hynny'n ymwneud â chyfathrebu â nhw; mae'n ymwneud â'r ffordd y cafodd y cais ei brosesu a'r hyn yr ydym ni wedi rhoi prawf arno. Mae rhai cymunedau, yng nghymuned y Llywydd mewn gwirionedd, a rhai eraill, wedi dweud wrthym ni, 'Wel, dylai hi fod yn bosibl imi archebu ffeibr.' Rydym ni wedi dweud, 'Dylai, fe ddylai hi fod yn bosib i ni archebu ffeibr.' Ar ôl ymchwilio, rydym wedi deall nad oedd yn bosibl oherwydd problemau cymhleth iawn yn ymwneud â pheirianneg cysylltu yn ôl yn y canolfannau tetrabyte, ac ati. Felly, mae'n fater gwahanol, ond mae'n achosi'r un rhwystredigaeth i bobl y dywedir pethau wrthyn nhw nad ydynt yn wir. Ond mae'n golygu ein bod ni wedi ailedrych ar yr holl hawliadau, i sicrhau nad ydym yn talu am rywbeth nad ydym mewn gwirionedd wedi ei gael, ac mae hynny'n parhau, a dyna pam yr ydym ni'n dal yn y broses honno. Mae'n debyg mai'r un yw'r canlyniad i'r dinesydd—y rhwystredigaeth—ond mae'n achos gwahanol iawn o'n safbwynt ni.

Ac yna, o ran yr arian, mae'r tri chaffaeliad wedi'u cyflwyno yn y ffordd arferol, ac fe nodwyd meysydd penodol yr ydym ni eisiau—. Felly, rydym yn rhoi blaenoriaeth i bobl â signal ffonau symudol gwael iawn, y rhai sydd heb 4G a gyda band eang gwael iawn mewn un maes. Mewn eraill rydym ni'n rhoi blaenoriaeth i safleoedd busnes, ac mae'r tair lot wedi eu cyflwyno ar ffurf caffael safonol iawn. Rydym yn aros am ymateb i weld faint o safleoedd a gwmpesir, am ba bris, ac ati. Ond rydym yn fwriadol wedi cadw pot o arian yn ôl i ymdrin ag atebion pwrpasol cymunedol, oherwydd bod nifer o gymunedau wedi dweud, 'Hoffem wneud rhywbeth pwrpasol iawn yma gyda'r cwmni bach hwn. Mae gan grŵp ohonom ni ateb.', ac fe ydym ni eisiau gallu ariannu hynny, felly rydym ni wedi cadw pot o arian yn ôl ar gyfer hynny.

Mae'r arian yn hylifol. Rwy'n taflu'r ffigurau hyn o gwmpas, ond y rhannu elw ydy hwn, Dirprwy Lywydd, felly yn amlwg mae'n symud. Felly, po fwyaf o bobl sy'n ei brynu, y mwyaf fydd yr arian a ddaw i mewn, ac rydym wedi addo rhoi'r arian hwnnw i mewn. Felly, mae'n swm hylifol o arian oherwydd ei fod yn cynyddu. Wrth i fwy o ganrannau ymuno, mae mwy o arian yn cael ei wario arno. Felly, rwyf yn dweud 'oddeutu' am y rheswm hwn, ond y mae oddeutu tri chwarter ohono, ac rydym wedi cadw chwarter yn ôl. Rydym eisiau gweld pa brosiectau cymunedol a gyflwynir a sut y maen nhw'n edrych, ac, fel y dywedais hefyd, rydym wedi ymrwymo bellach i adolygu'r band eang cyflym iawn—y daleb fusnes—oherwydd yr hyn y mae'r DU newydd ei wneud, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn achub y blaen yn hynny o beth hefyd. Maen nhw newydd gyhoeddi'r gronfa gigabit newydd, felly rydym am achub y blaen yma hefyd. Felly, byddwn yn ei adolygu yng ngoleuni hynny.

Ond mae'r cytundeb grant gyda BT yn un cymhleth iawn, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddant yn cael unrhyw arian nad oes ganddyn nhw hawl iddo ac y cawn ni gymaint o ganlyniadau cysylltu ag sydd o fewn gallu dynol.

18:10

Mae arnaf ofn na fydd fy nadansoddiad i o'r sefyllfa yn gydnaws â barn Cadeirydd y pwyllgor, felly rwy'n gobeithio y bydd yn cymryd hyn yn yr ysbryd iawn. A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad heddiw, yn rhoi'r diweddaraf i'r Siambr ar gysylltedd digidol yng Nghymru? Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd rhagorol a wnaed hyd yma drwy ei rhaglen Cyflymu Cymru, yn enwedig o ystyried topograffeg Cymru a dosbarthiad y boblogaeth. Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau a gyflwynodd hyn wrth wireddu uchelgais y Llywodraeth.

Ers haf 2013, cyflwynodd rhaglen Cyflymu Cymru, mewn partneriaeth â BT, gynlluniau i ddarparu band eang cyflym iawn i 655,000 o safleoedd, a bu i'r galw gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd canlynol. Fe wnaeth yr addewid i ddarparu mynediad i 40,000 o eiddo pellach yn 2014 yn sicr ymestyn targed Cyflymu Cymru. Mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod nad yw rheoli'r galw newidiol am fynediad at gyflymderau o 30 Mbps neu fwy yn sicr yn dasg hawdd, yn enwedig yn rhai o gymunedau mwyaf anghysbell Cymru.

Rwyf yn credu, fodd bynnag, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau sy'n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, oherwydd mae mynediad at fand eang cyflym iawn wedi dod yn elfen angenrheidiol sylfaenol o fywyd bob dydd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n ddigon o rwystredigaeth i aelwydydd sydd heb fynediad digonol, ond i fusnesau bach sy'n ymdrechu'n daer i foderneiddio ac i lwyddo yn y Gymru wledig, gall mynediad at fand eang cyflym iawn wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu. Lefel lawrlwytho derbyniol ofynnol Llywodraeth y DU ei hun yw 10 Mbps, ond mae llawer o bobl yn y Gymru wledig sy'n dioddef cyflymderau cyfartalog o lai na hanner hynny. Er enghraifft, adroddwyd y llynedd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Maldwyn, Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd, fod dros 50 y cant o gysylltiadau band eang yn arafach na 10 Mbps. A allai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni o ran a yw hyn yn dal i fod yn wir?

Yn dilyn rhai sylwadau a wnaed gan Adam Price, hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i sicrhau lefel uwch o gyfathrebu â'r cymunedau hynny sy'n dal i fethu â chael mynediad at fand eang â chyflymder mynediad boddhaol. A oes dryswch yn parhau o ran pa un a yw cysylltedd wedi'i gyflawni ai peidio, fel yn achos pentref Llangenni ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a fu'n sail i ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau? A yw'r Prif Weinidog yn fodlon bod y materion hyn wedi cael sylw?

Nodaf fod Allwedd Band Eang Cymru wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu band eang i gymunedau sydd wedi methu â chael mynediad digonol ac felly rwy'n croesawu'r cyhoeddiad yn y datganiad heddiw fod y cynllun, ynghyd â'r cynllun gwibgyswllt, yn parhau am y dyfodol rhagweladwy. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog—mae'n ddrwg gennyf, gan y Prif Weinidog—pa un a fydd y cynlluniau a'r bartneriaeth y mae'n eu rhagweld yn dod â chysylltedd cyflym iawn i'r 4 y cant sy'n weddill yng Nghymru.

Gan droi at elfen hanfodol arall o'r gwaith cyflwyno, rwy'n croesawu'r ffaith yr ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn dilyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y seilwaith digidol yng Nghymru, drwy gynnal ymarfer cais am dystiolaeth ar fuddion cyflwyno rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd.

Yn olaf, a yw arweinydd y tŷ yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r Llywodraeth ddefnyddio pa bynnag ddulliau sydd ganddi i annog cwmnïau gweithredu ffonau symudol i rannu eu seilwaith er mwyn darparu gwell signal ffonau symudol yn yr ardaloedd lawer lle na cheir signal digonol?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

18:15

Hoffwn wneud yn glir nad fi yw'r Prif Weinidog. Rwyf weithiau'n dirprwyo ar gyfer y Prif Weinidog, ond y tro hwn, rwy'n siarad ar fy rhan fy hunan. [Torri ar draws.] Dim problem. Roedd yn achosi'r Aelodau eraill i wenu, rwy'n credu.

Felly, ceir nifer o faterion yn y fan yna. Roedd y cynllun gwreiddiol yn gweithio mewn ffordd lle nad oedd yn pennu unrhyw eiddo o gwbl, a chai BT ddewis o blith yr holl eiddo yng Nghymru ac yn amlwg aethant at y rhai rhataf a'r cyflymaf a'r agosaf at ei gilydd, gan fod hynny'n cynnig y fantais fasnachol orau iddyn nhw. Fodd bynnag, hoffwn roi taw unwaith ac am byth ar y camargraff nad yw hwn yn gynllun gwledig. Ymyriad yn y farchnad yw hwn: ni chaniateir i ni fynd ag ef i unrhyw fan lle yr aiff unrhyw weithredwr masnachol ac felly ni cheir Cyflymu Cymru mewn unrhyw ddinas neu gytref neu ddatblygiad mawr, oherwydd dyna yn amlwg lle mae'r holl gyflwyno masnachol wedi digwydd. Felly, yn fy etholaeth i, ni cheir Cyflymu Cymru, a gallaf eich sicrhau bod gennyf i bobl nad oes ganddyn nhw fand eang, ond nid wyf yn gallu mynd yno ac ymyrryd ar eu rhan, sydd yn peri cryn rwystredigaeth.

Ond rydym ni wedi dysgu o rai o'r materion a oedd gennym yn ymwneud â chyfathrebu, fel yr wyf wedi'i ddweud wrth ateb nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr. Yn y cynlluniau newydd yr ydym yn eu cyflwyno, ar ôl i'r cynigion ddod eu holau, rydym wedi gofyn i gael safleoedd penodol. Felly, bydd y caffaeliadau newydd ar sail safleoedd penodol a chostau penodol a bydd modd i ni ddweud wrth bobl ar unwaith pa un a ydynt wedi'u cynnwys ai peidio, ac yn achos y bobl hynny nad ydynt wedi'u cynnwys, byddwn ni'n gallu gweithio'n rhagweithiol gyda nhw i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol ac yn y cynlluniau talebau; ac yn achos y bobl sydd wedi'u cynnwys, byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ar sail bersonol ynghylch lle y maen nhw arni ac a oes unrhyw broblemau peirianneg ac ati, sy'n codi. Felly, rydym wedi dysgu'r wers gyfathrebu a hoffwn feddwl, wrth symud ymlaen, na fydd gennym ni'r broblem honno mwyach.

Rydym ni yn gwybod, o fewn y rhan fwyaf o baramedrau, pwy sydd wedi'u cysylltu a cheir map rhyngweithiol ar wefan Llywodraeth Cymru sydd yn dweud wrthych chi os ydych chi'n safle gwyn ai peidio. Mae yna ambell fân addasiad i hynny, fel y soniais. Wrth i mi fynd o gwmpas y wlad, rydym wedi canfod rhai problemau gydag ef, ond rhai bach iawn ydyn nhw. Felly, ar y cyfan, mae'r map yn gywir. Rwy'n annog Aelodau sy'n dod o hyd i gamgymeriad ar y map i ddweud wrthyf am hynny, oherwydd rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ei fod mor gywir ag y bo modd.

Fe wnaethom ni gynnwys bron i 2,000 o safleoedd busnes ychwanegol drwy'r contract Airband hefyd, felly mae hwnnw'n gontract ychwanegol y gwnaethom ni ei roi ar waith yn benodol er mwyn ymdrin â safleoedd busnes, oherwydd yn yr adolygiad marchnad agored gwreiddiol, roedd llawer o safleoedd busnes a oedd yn cael eu gwasanaethu gan y cwmnïau masnachol, ond yna daeth yn fwyfwy amlwg nad oeddent yn mynd i'w gwasanaethu. Felly, fe wnaethom ni roi contract ychwanegol ar waith yn benodol ar gyfer hynny, ac mae'r contract hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac ar waith.

Yn olaf, o ran seilwaith a rennir a mastiau ffonau symudol, fel y dywedais wrth ymateb i Russell George, rwy'n rhwystredig gan ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi nad ydym ni'n mynd i gael marchnad fasnachol lawn yn y rhannau gwledig o Gymru. Byddwn ni'n ffodus os cawn ni un gweithredwr. Felly, mae'r syniad nad ydym ni'n caniatáu trawsrwydweithio, heb sôn am rannu seilwaith, yn fater o rwystredigaeth enfawr i mi. Nid wyf yn gallu gweld sut y gallwch chi redeg busnes twristiaeth a dweud, 'Dewch i Gymru, cyn belled a'ch bod chi wedi'ch cysylltu â'r un gweithredwr hwn.' Yn amlwg, nid yw hynny'n gweithio. Os oes gennych chi SIM cyfandirol—os ydych chi'n ddigon ffodus i fod ag un o'r rheini—mae'n trawsrwydweithio'n hapus braf ac yn dod o hyd i'r gweithredwr, felly rwy'n parhau i bwyso'n drwm ar Ofcom a Llywodraeth y DU i ganiatáu hynny mewn ardaloedd gwledig a rhannau gwledig iawn, lle mae'n amlwg nad oes cystadleuaeth ar gyfer y gwasanaethau hynny.

18:20

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i arweinydd y tŷ am gyflwyno'r datganiad hynod o bwysig hwn heddiw. Bydd hi'n gwybod bod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr i yn Alun a Glannau Dyfrdwy ac fy mod i wedi codi materion sy'n ymwneud â chysylltedd digidol o'r blaen yn y Siambr hon.

Yn amlwg, mae'n bwysig cael cysylltedd digidol yn iawn os yw Cymru a'r DU yn mynd i fod ar flaen y gad o ran technoleg byd-eang yn y dyfodol. Mae gennyf ddau bwynt yr hoffwn i ofyn cwestiwn i arweinydd y tŷ yn eu cylch. Yn gyntaf, a yw hi'n cytuno â mi fod gwella ein cysylltedd digidol yn hanfodol os ydym ni'n mynd i fanteisio i'r eithaf ar y datblygiadau mewn technoleg deallus, o geir heb yrwyr i ddronau awtonomaidd a dyfeisiau monitro amgylcheddol? Mae angen inni wella, ac mae angen inni wneud hynny ar frys.

Yn ail, a yw hi'n cytuno â mi fod angen inni fod yn wirioneddol radical wrth ystyried syniadau sy'n ymwneud â'r mater hwn ac adeiladu dinasoedd a chanolfannau gigabit? Er enghraifft, gallai sir y Fflint a Wrecsam uno â'i gilydd i greu un ganolfan gigabit enfawr, a thrwy ddylunio a defnyddio'r math hwn o seilwaith ffeibr llawn, diogel at y dyfodol, gallem helpu i gyflwyno llawer o'r buddion yr ydych chi wedi sôn amdanynt yn eich datganiad, gan gynnwys lled band diderfyn a chysylltedd ar gyflymder gigabit, i gymunedau cyfan, yn rhai trefol a gwledig. Byddai pob dinas a chanolfan gigabit y byddem yn ei hadeiladu yn darparu cyfleusterau arloesol a'r seilwaith digidol a all ddiwallu anghenion data, cysylltedd a chyfathrebu busnesau lleol, llywodraeth leol a'r sectorau iechyd ac addysgu, a hynny am ddegawdau i ddod.

Dylem ymdrechu i sicrhau bod Cymru a'r DU yn arwain y byd o ran y dechnoleg a'r arloesedd hyn. Mae chwyldro technolegol ar y gweill ledled y byd, ac os na fanteisiwn ni ar y cyfleoedd hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru, fe wnawn ni ddifaru. 

Rwy'n cytuno'n hollol â chi, Jack Sargeant; rydych chi'n gwneud cyfres o bwyntiau da iawn, iawn. Yn amlwg, un o'r rhesymau yr ydym ni wedi buddsoddi cymaint o filiynau o bunnoedd i gyflwyno band eang yw oherwydd bod cysylltedd yn gwbl hanfodol. Mae'r syniad ein bod ni'n parhau i'w drin yma yn y DU fel cynnyrch moethus yn hytrach na seilwaith yn gynyddol anghynaladwy yn y byd modern sydd ohoni, ac mae gennym ni awydd gwirioneddol i fynd i'r afael â hynny, pe na byddai ond gennym y pŵer datganoledig i wneud hynny. Ond yn amlwg, mae hyn yn beth cynyddol anodd oherwydd nad rhywbeth moethus mohono. Mae pobl mewn gwirionedd yn ynysig yn gymdeithasol hebddo, ac maen nhw wedi'u datgysylltu o rwydweithiau byd-eang ac ati.

Felly, byddwn yn croesawu'n fawr cael cyfarfod â chi ac unrhyw Aelod arall sy'n dymuno trafod sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny. Rydym newydd gyhoeddi tasglu digidol o ran elfen yr economi ar hynny o beth, ond mae yna bentwr cyfan o bethau eraill y gallem ni ei wneud o ran ein buddsoddiad cyhoeddus. Siaradais ag Adam Price yn gynharach am rai o'r problemau o ran cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, a beth allwn ni ei wneud am hynny. Ceir llawer o gyfleoedd mewn ardaloedd fel Alun a Glannau Dyfrdwy i ddefnyddio cysylltedd cyhoeddus yr holl swyddfeydd er lles y cyhoedd ac er lles y gymdeithas ac er mwyn gweithredu economaidd. Mae gennym ni rai materion technegol y bydd yn rhaid eu goresgyn, ond byddwn yn croesawu rhagor o drafod ar hynny. 

Wrth gwrs, mae gennym ni rwydwaith cysylltedd cyflymder ffeibr yn y gogledd hefyd, a cheir rhai problemau gwirioneddol o ran sut y gallwn ni sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at rai o'r manteision a ddaw yn sgil hwnnw. Mae gennym y mater cysylltedd ffeibr llawn hwnnw y soniais i amdano. Mae Llywodraeth Prydain yn cyflwyno ceisiadau i weithredu ar gyfer ffeibr llawn, a chafwyd cais llwyddiannus yn y gogledd-ddwyrain—rwy'n cymysgu'r gorllewin a'r dwyrain—ac rydym yn falch iawn o weld hynny. Felly, byddwn ni'n edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud â hynny. Fel y dywedais i wrth Adam Price, byddwn yn edrych i weld a allwn ni wneud cais Cymru gyfan i gyfateb â hynny yn y dyfodol, er fy mod i'n bryderus iawn i sicrhau nad ydym ni'n gadael pobl sydd heb unrhyw gysylltedd o gwbl ar ôl, wrth i ni gysylltu pawb arall â ffeibr llawn. 

Rwyf hefyd wedi penodi Innovation Point i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch ar 5G yng Nghymru, fel y soniais. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n bryderus iawn fod Llywodraeth y DU yn ymdrin yn briodol â gwerthu'r sbectrwm 700 MHz ac nad ydym yn gweld y bancio tir a gafwyd â'r sbectrwm 4G, felly, yn y bôn, rydym yn dymuno iddyn nhw bennu categori 'ei ddefnyddio neu ei golli' ar gyfer hynny, oherwydd mewn rhannau helaeth o Gymru, er enghraifft, nid yw 4G yn cael ei ddefnyddio gan y gweithredwyr sydd wedi'i brynu, ac mae'n destun rhwystredigaeth fawr i ni na allwn ni fynnu ei gael yn ôl oddi wrthynt, a hynny yn union fel yr oeddem ni'n sôn am y dreth tir gwag, mewn gwirionedd: mae gennych chi ased, ac rydych yn eistedd arno, ac mae arnom ni eisiau ei ddefnyddio er budd y cyhoedd.

Felly, croesawaf yn fawr iawn sgwrs am sut y gallem ni symud ymlaen â hynny, ac mewn gwirionedd, gyda chyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, o ran yr hyn y gallech chi ei ysgogi drwy eich dylanwad ar Lywodraeth bresennol y DU, oherwydd rwy'n meddwl ei bod yn  broblem wirioneddol i'r Gymru wledig yma, nad yw'n cael ei gweld gan bobl sy'n byw yn swigen y de-ddwyrain o gwbl—ei bod yn annhebygol iawn y byddai'r math hwn o gysylltedd yn gallu cael ei wneud ar ffurf gystadleuol yn y Gymru wledig iawn, ond ein bod ni'n awyddus i weithio gyda'r holl fargeinion dinesig presennol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a chyrff lleol ledled Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni yn manteisio ar raglenni Llywodraeth y DU ar gyfer rhwydweithiau ffeibr llawn, a bydd y canolfannau gigabit yn sicr yn rhan hanfodol o hynny, oherwydd, os na wnawn ni symud gyda'r llif hwnnw, cawn ein boddi ganddo. Felly, byddwn yn croesawu eich cyfraniad chi i hyn. 

18:25

Rydym ni'n mynd yn brin o amser ar y datganiad hwn, felly os gallwn ni gael cwestiynau byr ac atebion byr, fe wnaf i geisio galw ar y tri siaradwr sydd ar ôl. Janet Finch-Saunders.

Diolch, Llywydd, a diolch i chi unwaith eto. Dim ond i ailadrodd, mewn gwirionedd, rydych chi wedi bod yn hynod gymwynasgar a chydweithredol o ran y pryderon yr wyf i wedi'u codi gyda chi, ac mae'n deg i ddweud fy mod i wedi codi digon ohonynt. Ond a gaf i fynd â chi'n ôl yn gyflym at y cyfarfod hwnnw y daethoch chi iddo lle'r oedd gennym ni fwy na 100 o bobl pryderus iawn yn yr ystafell, ac un o'r pethau mawr a ddaeth i'r amlwg oedd y problemau gyda BT eu hunain, o ran eu cysylltiadau â'n hetholwyr, a'r ffaith y bu'n rhaid iddyn nhw yn y pen draw ddod ataf i. Gofynnodd un o'r etholwyr, a chafodd gefnogaeth yr ystafell gyfan wrth wneud hynny, ynglŷn â symud ymlaen—a gwn fod hwn yn gwestiwn anodd i chi—ond wrth symud ymlaen â'r prosesau tendro. Os ceir y teimlad hwn, y diffyg hyder yn BT ei hun, sut y bydd hyn yn effeithio (a) arnoch chi yn symud ymlaen o ran cael yr hyder i ymdrin â nhw eto? Ond fy mhryder pennaf yw'r hyn a ddywedasoch yn eich datganiad heddiw, lle rydych yn sôn:

'Hyd yn hyn, rydym wedi talu £300 i BT am bob safle, fodd bynnag, mae terfyn y cam cyflenwi yn golygu bod yn rhaid inni weithio gyda'i gilydd yn awr i fantoli'r llyfrau'.

Wrth ddweud 'gweithio gyda'n gilydd', gyda phwy? A:

'sicrhau bod yr holl wariant yn gymwys a bod yna dystiolaeth lawn i'w brofi. Bydd yn cymryd sawl mis i'r broses hon gael ei chwblhau, ond mae'n hanfodol nad yw BT yn elwa ar unrhyw or-gymhorthdal'. 

Mae hynny, i mi, ychydig bach yn amwys, ac o ran prosesau archwilio, tybed sut y gallwch chi mewn gwirionedd roi ychydig bach mwy o hyder inni y bydd yna graffu trylwyr ar hyn, oherwydd rwy'n gwybod, yn fy etholaeth i, mae'n siŵr eich bod chi wedi eich synnu gan gynifer y bobl yr oedden nhw eu hunain yn credu eu bod yn mynd i'w gael—fe ddywedwyd wrthynt y byddent yn ei gael, nid ydynt wedi'i gael ac eto maen nhw mewn gwirionedd yn y cam cyflwyno cyfredol hwn.

Felly, mae llawer o gwestiynau i'w gofyn am ran BT yn hyn o hyd, ac rwy'n meddwl eich bod chi wedi dioddef llawer o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf er nad chi sydd ar fai mewn gwirionedd, ond y cwestiwn yw pa ddylanwad a pha bŵer sydd gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, fel Llywodraeth Cymru, yn erbyn BT, oherwydd rwy'n credu eu bod yn gwbl ymwybodol o fy mhryderon i, oherwydd roedden nhw yn y cyfarfod hefyd. 

Mae'r Aelod yn gwneud y pwyntiau y mae llawer o Aelodau yn eu gwneud drwy'r amser am y mater cyfathrebu, ac ni wnaf i ailadrodd hynny, Llywydd; rydym wedi bod drwy hynny lawer gwaith o'r blaen, ond rydym ni wedi dysgu'r wers honno. Felly, gan symud ymlaen, bydd yn un o amodau'r contractau newydd, ar gyfer pwy bynnag fydd yn eu hennill nhw, eu bod yn cyfathrebu'n uniongyrchol â—. Bydd gennym ni eiddo wedi'u henwi yn y contractau hynny; ni fydd gennym ni'r effaith 'pwll pysgota' a fu gennym y tro hwn. Byddwn ni'n gwybod pwy sydd yn y contract a phwy nad ydynt, a bydd modd i ni roi polisi cyfathrebu ar waith, oherwydd rydym yn sicr wedi dysgu'r wers honno'n dda. Yn wir, rwyf wedi derbyn llawer o feirniadaeth ar y pwnc hwnnw o bob cwr o Gymru, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud hynny.

O ran yr hawliadau grant, byddem bob amser yn mynd drwy broses drylwyr ar ddiwedd unrhyw gontract. Mae'n cynnwys cosbau ariannol difrifol, felly mae er budd i ni, ac er budd y contractwr i sicrhau bod gennym ni, y naill a'r llall, ddealltwriaeth gyffredin o'r hyn sy'n cael ei hawlio, pam y mae'n cael ei gytuno neu pam nad yw'n cael ei gytuno, a beth yw'r prosesau ar gyfer hynny. Ac, yn amlwg, maen nhw yn ei hawlio, rydym ni'n dweud 'na', maen nhw'n dweud 'ie', rydym yn mynd yn ôl ac ymlaen sawl gwaith, a nawr rydym yn mynd drwy'r contract cyfan eto ar y diwedd i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn hollol glir ar ba sail yn union yr ydym ni wedi talu'r amryw geisiadau, pam, a pham yr ydym ni wedi dweud 'na' neu 'ie' ac ati.

Felly, dyna yw'r broses. Rwy'n fodlon iawn ei bod yn broses drylwyr. Mae wedi'i llywio gan fy nhaith i o gwmpas Cymru, lle mae rhai pobl, rwy'n meddwl, hyd yn oed yn etholaeth y Llywydd y diwrnod o'r blaen, yr oeddem ni'n meddwl eu bod wedi'u cysylltu yn dweud nad oeddent wedi'u cysylltu. Felly, rydym wedi anfon ein timau yn ôl allan i wirio, gwirio'r hawliadau hynny unwaith yn rhagor a rhoi prawf ar y broses gyfan unwaith yn rhagor. Felly, rwy'n falch iawn o hynny, ac, fel y dywedais, mae yna faterion cymhleth yn y cytundeb grant o ran nifer y safleoedd y gellir eu hawlio ym mhob cod post, ond mae'n amlwg yn awr eu bod wedi cysylltu mwy o lawer o eiddo mewn llawer o'r codau post nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, neu yn wir, nag y byddant yn cael eu talu amdanynt o dan y cytundeb grant, felly mae hynny'n beth da, ond rydym ni'n dal i fod yn awyddus nad ydyn nhw'n cael cymhorthdal am bethau nad oeddent yn y contract gwreiddiol. 

18:30

Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. Ar gyfer fy nghwestiynau i heddiw, hoffwn gysylltu rhai o'r pwyntiau yn eich datganiad yn ôl i 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Fel y gwyddoch, mae'r ddogfen honno'n nodi'r uchelgais i ddatblygu gweledigaeth ddigidol ar gyfer y Cymoedd, sy'n canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau i nodi sut y gellir defnyddio technoleg i sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy'n byw ac yn gweithio yno. A all arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd tuag at gyflawni hyn? Yn benodol, pa ymyraethau, o ran cysylltedd digidol a seilwaith digidol, y bydd eu hangen er mwyn bwrw ymlaen â hyn?

Yn ail, cam gweithredu arall gan dasglu'r Cymoedd oedd helpu i greu swyddi digidol yn y Cymoedd. Gallai hyn fod yn allweddol wrth hyrwyddo eu ffyniant economaidd yn y dyfodol, ond eto mae hynny'n gofyn am seilwaith digidol a all fodloni disgwyliadau. Sut y mae arweinydd y tŷ yn cynnwys hyn yn ei gwaith?

Rwyf wedi gwrando ar ddau gwestiwn ardderchog. Cawsom gyfarfod da iawn â thasglu'r Cymoedd yn etholaeth Castell-nedd, mewn gwirionedd, yn ddiweddar iawn, pan wnaethom ni drafod ag arweinydd y tasglu, beth yn union sy'n digwydd ar draws ardal tasglu'r Cymoedd. Rwy'n credu roedd Lee Waters yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Fe wnaethom benderfynu ar dri cham gweithredu pendant iawn, ond yn anffodus, nid wyf yn mynd i'w blaen-gyhoeddi, oherwydd byddai fy nghyd-Aelod Alun Davies yn flin iawn pe byddwn i'n gwneud hynny, felly bydd yn rhaid ichi aros yn eiddgar iddo ef eu cyhoeddi nhw i ni. Ond, mae'r gwaith hwnnw wedi mynd yn dda iawn yn wir, ac mae gennym ni rai syniadau arloesol a chreadigol iawn i'w rhannu â chymunedau'r Cymoedd yn rhai o'r ardaloedd a'r canolfannau treialu, ac rwy'n falch iawn o hynny. Byddwn yn helpu busnesau bach a chanolig yn yr ardal honno i fanteisio ar rai o'r posibiliadau a ysgogir gan ddata sydd wedi dod i'r amlwg, gan ein bod ni wedi cynnal ymarfer mawr yn edrych ar ba ddata cyhoeddus sydd ar gael, a beth y gellir ei rannu yng nghymunedau'r Cymoedd hefyd. Felly, mae a wnelo â mwy na chysylltedd yn unig, mae a wnelo â beth y gellir ei wneud â'r data hynny, sydd wedyn yn teithio dros y rhwydweithiau hynny.

Rydym ni hefyd wedi mapio'r ardal gyfan ar gyfer y cysylltedd gorau, ac fe wnaethom ni fapio'r rheini i'r canolfannau hynny yr ydym wedi siarad amdanynt. Mae fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth newydd gyhoeddi tasglu digidol traws-lywodraethol a fydd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i ddeall manteision economaidd hynny yn y ffordd orau, a gwn fod nifer ohonoch chi yn trafod hynny gydag ef, gydag Alun a minnau. Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Mae fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a minnau wedi cael trafodaethau hir iawn am amaethyddiaeth fanwl a rhai o'r manteision y gellir eu cyflwyno, drwy gysylltedd, i'n diwydiannau ffermio hefyd. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd yn y categorïau hynny hefyd, felly gellir gwneud llawer â hynny, ac rwy'n credu y byddwn ni mewn lle da o ganlyniad i'n gwaith, o ran y cysylltedd—y peth anodd—ond yn bwysicach fyth, mewn gwirionedd, o ran y sgiliau a'r pethau meddal sy'n mynd law yn llaw â hynny, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn cael yr hwb y maen nhw'n ei haeddu o ganlyniad i'r gwariant yr ydym ni wedi'i fuddsoddi yn hyn. 

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn cadw fy sylwadau yn gryno. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am beidio â cholli golwg ar lwyddiant sylweddol y cynllun, ond yn anochel, y man gwan sy'n cael y sylw. Dywedasoch fod gwaith yn mynd rhagddo i symleiddio'r cynllun talebau. Hoffwn godi gyda chi achos fy etholwyr yn y Bynie yn Llanelli, sydd wedi bod yn rhwystredig iawn am nad yw Openreach yn fodlon gosod band eang ffeibr optig, ac mae'n rhaid i bob un ohonynt wneud cais am daleb mynediad Allwedd Band Eang Cymru i'w galluogi i gomisiynu cyflenwr annibynnol. Maen nhw wedi bod yn aros am 11 wythnos erbyn hyn. Mae ganddyn nhw gyflymderau o 0.04 i 0.6 Mbps, ac felly gellir deall eu rhwystredigaeth. Felly, tybed a allwch chi gynnig unrhyw gysur iddynt.

Gallaf yn wir. Os hoffech chi ysgrifennu ataf i gan nodi eu manylion cyswllt, mae gennym ni dîm busnes sy'n arbenigo mewn dwyn cymunedau at ei gilydd er mwyn manteisio ar y daleb, a hynny yn gyflym. Ac mae gennym ni dîm sy'n dda iawn o ran cael y gorau o'r system honno. A chyn iddynt fynd a gwario eu harian ar y cynllun talebau, byddai gennym ni hefyd syniad da iawn o'r hyn sydd ar y gorwel o ran caffaeliadau newydd ac ati. Felly os rhowch chi'r manylion hynny i mi, rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r tîm hwnnw gysylltu â nhw.

Llywydd, rwyf wedi gwneud y cynnig hwnnw ym mhob un o'r cyfarfodydd cyhoeddus yr wyf i wedi'u cynnal ledled Cymru, ac felly fe wnaf ei ailadrodd yma yn y Siambr. Os yw Aelodau yn ymwybodol o grŵp o bobl sydd eisiau dod at ei gilydd i ddefnyddio cynllun talebau mewn unrhyw ffordd arloesol, neu os oes ganddynt unrhyw ateb arloesol arall yr hoffen nhw ei awgrymu, anfonwch eu manylion ataf, ac mae gennym ni dîm o bobl, a'u gwaith nhw yw mynd yno a helpu hynny i ddigwydd. Felly, os hoffech chi roi gwybod i mi am hynny, gallwn ni'n sicr gyflymu hynny. 

7. Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar rôl y system gynllunio wrth greu lleoedd. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths. 

18:35

Cynnig NDM6721 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru.

2. Yn credu bod y system cynllunio gwlad a thref mewn lle da i wneud penderfyniadau holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy’n sicrhau bod y nodau llesiant yn cael yr effaith orau bosibl.

3. Yn cydnabod bod cael polisïau cenedlaethol cadarn ar gyfer creu lleoedd ym Mholisi Cynllunio Cymru a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dangos i awdurdodau cynllunio ac eraill sut y mae arwain y gwaith o greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.

4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn effeithiol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae ansawdd y lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt yn cael effaith uniongyrchol ar les. Mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cerdded o'u cartrefi i'r gwaith, i siopau, meddygfeydd ac ysgolion y mae eu teuluoedd yn eu defnyddio heb orfod mynd yn eu ceir. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal â lleihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer. Mae'n rhaid i fynediad at wasanaethau drwy gerdded, seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ystyriaeth allweddol.

Wrth feddwl am unrhyw ddatblygiad newydd, mae'n rhaid inni hefyd ystyried sut y bydd y dyluniad neu'r cynllun yn effeithio ar fywydau bob dydd y trigolion. Mae'n rhaid ystyried ein mannau gwyrdd, sy'n gwella iechyd a lles, ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer fflora a ffawna, hefyd. Creu lleoedd yw'r ffordd o ddwyn y materion hyn at ei gilydd i greu cymunedau cynaliadwy, ffyniannus. Mae creu lleoedd yn meithrin egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn eu rhoi wrth wraidd trafodaethau sy'n effeithio ar yr amgylchedd adeiledig.

Fel y gwyddom ni i gyd, does dim o hyn yn hawdd. Mae yna lawer o fuddiannau sy'n cystadlu i'w hystyried. Mae'r system gynllunio yn rhan annatod o gydbwyso'r buddiannau hyn. Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn adeiladu datblygiadau o ansawdd uchel sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd a'n cymunedau. Mae'n rhaid inni reoli datblygiadau newydd er budd y cyhoedd.

Mae creu lleoedd yn hanfodol. Mae'n rhaid iddo ddod yn nodwedd ganolog o'n system gynllunio. I gyflawni hyn, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na dim ond cyfrif nifer y cartrefi yr ydym ni'n eu hadeiladu neu pa mor hir mae'n ei gymryd i benderfynu ar gais cynllunio. Mae'r pethau hyn yn dal i fod yn bwysig, ond mae angen inni ystyried ansawdd yn ogystal â nifer. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ar y mater hwn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn gosod patrwm ar gyfer sefydliadau cyhoeddus i ystyried cymunedau cynaliadwy a chreu lleoedd. Rydym ni wedi diwygio 'Polisi Cynllunio Cymru' i sicrhau bod creu lleoedd wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol. Mae'n datgan yn glir bod yn rhaid ystyried creu lleoedd da yn gynnar yn natblygiad cynllun datblygu lleol a dyluniad cynlluniau unigol. Mae'r ymgynghoriad ar bolisi cynllunio drafft Cymru yn cau ddydd Gwener, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymatebion. Byddaf yn cyhoeddi'r polisi terfynol yn yr hydref.

Rwy'n falch bod y ddogfen ddrafft wedi'i chroesawu ar draws sectorau, yn enwedig o'i chymharu â pholisi dros y ffin. Mewn cymhariaeth ddiweddar rhwng polisi cynllunio drafft Cymru a pholisi cynllunio drafft Lloegr, nododd Hugh Ellis, cyfarwyddwr polisi y Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, sylwadau cadarnhaol. Dywedodd fod Lloegr ymhell ar ei hôl hi o ran uchelgais a chymhwysedd polisi Cymru wrth ddatblygu polisi cydlynol ag amcanion cryf a chanlyniadau wedi'u nodi.

Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn codi ein huchelgeisiau ar gyfer creu lleoedd yn effeithiol. Bydd yn edrych ar ba seilwaith a pholisïau strategol y mae eu hangen i siapio Cymru. Rwyf ar hyn o bryd yn ceisio barn ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r cyfeiriad polisi y dylid ei gymryd wrth arwain penderfyniadau datblygu mawr yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae'r ymgynghoriad ar hyn yn parhau tan fis Gorffennaf.

Mae mabwysiadu cynllun datblygu lleol yn hanfodol er mwyn i awdurdod cynllunio fynegi ei weledigaeth ar gyfer ardal. Pan fo materion yn gymhleth, yn effeithio ar nifer o awdurdodau, gallai fod angen dull strategol o lunio lleoedd drwy gynlluniau datblygu strategol hefyd. Mae'n rhaid i'r pecyn cyfan o bolisïau cynllunio yn genedlaethol, yn strategol ac yn lleol weithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod yn cyflawni o ran creu lleoedd ar lawr gwlad, a hynny drwy wneud penderfyniadau cyson ar geisiadau cynllunio sy'n helpu i greu lle gwell. Er mwyn cyflawni ein huchelgais o ran creu lleoedd, mae angen digon o adnoddau ar adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Dylai hyn gynnwys unigolion o amrywiaeth eang o broffesiynau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig, gan gynnwys cynllunwyr, dylunwyr, ecolegwyr, cadwraethwyr a swyddogion adfywio.

Rwy'n parhau i gefnogi gwaith awdurdodau cynllunio lleol gyda'r gwasanaeth cynghori ar gynllunio i ddeall eu costau yn llawn. Rwyf wedi ymrwymo i symud tuag at adennill costau llawn ac wedi cadw'r ffioedd cais uwch i wella'r broses o gyflenwi gwasanaethau cynllunio. Ar hyn o bryd, rwy'n cefnogi gwaith gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i gynhyrchu pecyn cymorth i ddeall yn well y gwerth y mae'r system gynllunio yn ei gynhyrchu ar gyfer ardal, a byddaf yn cyhoeddi'r canlyniadau ar gyfer Cymru fis nesaf. Bydd y pecyn cymorth yn caniatáu i bob awdurdod lleol amcangyfrif y gwerth a gynhyrchir gan y system gynllunio ar gyfer eu hardal nhw, a bodloni'r achos dros fwy o adnoddau. Mae'n rhaid inni gydweithio er mwyn cyflawni gweledigaeth gyffredin o sut le y gall Cymru fod yn y dyfodol, lle sicrheir bod pobl a chreu lleoedd wrth wraidd ein penderfyniadau ar ddatblygu. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma.

18:40

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar David Melding i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. David Melding. 

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai.

Gwelliant 2. Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliannau, ac rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n trafod cynllunio yn aml iawn, ond mae'n bwysig iawn, iawn. Er mwyn ad-dalu haelioni'r Gweinidog wrth gyflwyno hwn y prynhawn yma, hoffwn ddechrau mewn maes lle y mae yna gytundeb diamheuol, sef bod cynllunio da a datblygu lleoedd cydlynol yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles hirdymor pobl Cymru. Os gallaf ddyfynnu y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol:

dinasoedd fydd y lleoedd a fydd yn pennu iechyd a llesiant y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Am fod y costau sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd yn gynyddol anghynaladwy ac y disgwylir iddynt gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, mae angen inni gymryd safbwynt rhagweithiol, ataliol a hirdymor er mwyn hyrwyddo dinasoedd iach.

Ac, wrth gwrs, mae hyn yn wir am drefi a hyd yn oed pentrefi hefyd. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni gynllunio effeithiol ac uchelgeisiol. Er enghraifft, mae mannau gwyrdd yn rhoi dihangfa naturiol mewn cymdogaethau prysur a dwys eu poblogaeth, i drigolion a gweithwyr fel ei gilydd. Fel y nododd astudiaeth ddiweddar yn The Guardian, canfu ymchwilwyr fod pob cynnydd o un radd o wyrddni o gwmpas wedi arwain at welliant o 5 y cant yn natblygiad cof gweithio tymor byr dros gyfnod o un flwyddyn. Yn ogystal â hyn, os ydym ni'n dadansoddi'r effaith y gallai datblygiad sydd wedi'i gynllunio'n dda, gyda gwell seilwaith trafnidiaeth, ei chael ar ansawdd aer, mae yna hefyd fuddion sylweddol i'w gwneud i iechyd a lles hirdymor trigolion.

Felly, rwy'n cytuno bod angen inni fod yn fwy uchelgeisiol yn ein gweledigaeth, ac rwy'n falch o ddweud, Llywydd, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno ein syniadau ein hunain mewn dogfen bolisi y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Iau, cyn ein cynhadledd ddydd Gwener; dydw i ddim i fod i hyrwyddo hwnnw, rwy'n amau, ond rydych chi mor hael ag erioed.

Os gallaf droi at bwynt 2, rydym ni wedi diwygio hwn dim ond oherwydd nad wyf i eisiau rhoi cymeradwyaeth mor agored i ymagwedd y Llywodraeth, ond rwy'n falch o wylio eu gwaith ar y gweill, os gallaf ei roi felly. Felly, y cyfan y mae ein gwelliant cyntaf yn ei wneud yw pwysleisio'r angen i addasu ein systemau a'u gwneud yn fwy cyfannol, fel y gall yr amgylchedd adeiledig, yn arbennig, sicrhau bod cynnydd yn y cyflenwad o dir ar gyfer tai. Nid dadl am dai yw hon, ac rwyf wedi sôn am argyfwng tai y DU yn aml, sydd yn anffodus mor wael yng Nghymru ag ydyw mewn unrhyw ran arall o'r wlad. Felly, rwyf eisiau gweld system fwy effeithiol sy'n cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai, ac yna i'r tai hynny gael eu hadeiladu, ac iddynt gael eu hadeiladu i safon uchel, o ran dyluniad pob tŷ, ond hefyd o ran dyluniad cyffredinol y gymdogaeth ac integreiddio mannau gwyrdd, systemau trafnidiaeth cynaliadwy ac ati.

Mae gwir angen inni wneud hyn yn gyflym. Rwy'n credu mai honno yw'r ddadl yr hoffwn i ei gwneud yma, ac rwy'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yr adolygiad tai fforddiadwy yn dweud bod angen inni gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd yn sylweddol iawn. Wrth gwrs, bydd angen cynllunio o ansawdd uchel iawn i wneud hynny. Mae'r cartrefi hynny yn mynd i fod yno am ddegawdau a degawdau i ddod, felly rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

A phwynt 3, wedyn, yr unig fater sydd gennyf i yma, mewn gwirionedd, yw bod y materion hyn fwy neu lai yn rhan o'r ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly dydw i ddim yn siŵr bod angen iddynt gael eu cymeradwyo mor gryf fel creu lleoedd cenedlaethol cydlynol. Ar hyn o bryd, er hyn, fel y dywedais, rwy'n gweld hyn fel gwaith sydd ar y gweill ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn hyn, oherwydd rwy'n credu y gall fod llawer o feysydd lle mae cytundeb gwirioneddol ddwfn, ac yn sicr mae er budd y cyhoedd ein bod yn canfod y rheini a'n bod ni'n gwneud ein gorau ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Felly, hoffwn weld yr ymatebion ymgynghori i'r ddwy ddogfen, un ohonyn nhw a ddechreuodd ond ychydig o wythnosau yn ôl, yn dod i law. Felly, rwy'n credu bod angen ychydig mwy o wybodaeth arnom ni. Ond, fel y dywedais i, mae hwn i fod yn welliant adeiladol, ond rwy'n amau na chaiff lawer o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond mae'n bwysig ein bod yn ei roi ar y cofnod.

Ac yna, pwynt 4. Credaf ei bod hi'n bwysig—byddwn yn cytuno â hyn, yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth—pwysleisio swyddogaeth gweithwyr proffesiynol wrth ddarparu'r lleoedd o'r ansawdd uchaf y gallwn ni eu cael. Mae yna broblem ynghylch yr arbenigedd hwn mewn adrannau cynllunio, ac mae hynny'n adolygiad sydd i'w groesawu.

Rwy'n gweld bod yr amser yn brysur ddod i ben. A gaf i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru, oherwydd mae'n bwysig iawn bod TAN 20 yn cael ei adolygu a bod rhan cymunedau Cymraeg eu hiaith yn hyn o beth yn bwysig iawn? Nid wyf i yn mynd i ymrwymo'r Ceidwadwyr Cymreig i gael arolygiaeth cynllunio ar wahân i Gymru. Rwy'n agored i'r ddadl, ond dydw i ddim yn meddwl ei bod wedi ei gwneud eto, ac mae'n bwysig iawn inni gael yr arbenigedd a'r gweithwyr proffesiynol o'r ansawdd uchaf yn dod o Loegr i weithio yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb. Felly, nid wyf i mor siŵr am y darn hwnnw. Ond rwy'n dal i fod yn awyddus i gefnogi eich gwelliant, oherwydd yr hyn y mae'n ei ddweud am TAN 20. Diolch ichi, Llywydd.

18:45

Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud yn glir bod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system gynllunio Cymru’n unig.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr iawn. Fe hoffai Plaid Cymru, ar y cychwyn, ddod â gweledigaeth ychydig yn wahanol i'r bwrdd—gwahanol i'r hyn sy'n cael ei amlinellu yng nghynnig y Llywodraeth, neu efallai yn ychwanegol at yr hyn sydd yng nghynnig y Llywodraeth, oherwydd mi ydym ni yn credu bod angen cydnabod fod gan y gyfundrefn gynllunio rôl i'w chwarae wrth gynnal a chreu cymunedau hyfyw fel ffordd o sicrhau iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym ni'n credu y dylai'r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am dai addas yn y llefydd cywir, yn unol ag angen lleol, ac y dylai'r gyfundrefn gynllunio roi mwy o lais i gymunedau ynghylch datblygiadau yn eu hardaloedd. Hefyd, fe ddylai'r gyfundrefn gynllunio alluogi cynllunio holistaidd, ond hynny ar y lefel briodol.

O droi at gynnig y Llywodraeth, gall creu lleoedd—ac rydw i'n gweld mai dyna ydy'r pwyslais, creu lleoedd—mi all hynny olygu nifer o wahanol bethau i wahanol bobl. Yr hyn sy'n bwysig, yn ein barn ni, ydy sicrhau cydbwysedd yn y system gynllunio. Mae angen mwy na dymuno'n dda ar gyfer llesiant hirdymor pobl a chymunedau i sicrhau bod system yn gweithredu mewn modd sy'n cyflawni hynny. Er mwyn creu lleoedd sy'n gwella llesiant hirdymor pobl a chymunedau, mae angen cydbwysedd yn y system gynllunio rhwng datblygwyr ar yr un llaw a chymunedau ar y llaw arall. Mae hefyd angen cydbwysedd rhwng darparu arweiniad ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol ar lefel cenedlaethol ac, ar y llaw arall, sicrhau llais cryf ar gyfer cymunedau.

Mae hyn yn wir ar gyfer pob maes, mae'n debyg, ond mae Plaid Cymru wedi cymryd y cyfle heddiw i roi gwelliannau gerbron sydd yn pwysleisio rôl y Gymraeg a safle'r Gymraeg o fewn y system gynllunio. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut dylid ymdrin â'r Gymraeg o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae yna gyfle efo'r fframwaith datblygu cenedlaethol i ddangos arweiniad clir yn y maes cynllunio. O safbwynt y Gymraeg, fe ddylai'r fframwaith newydd gynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd â pherthnasedd y Gymraeg wrth gyflawni cynllunio gofodol. Mae angen i'r Gymraeg fod yna reit ar dop yr agenda ym mhob maes polisi iddo fo fod yn wir ystyrlon. Os ydym ni'n amddiffyn a hybu'r Gymraeg drwy'r gyfundrefn gynllunio, mae angen bod yn ymwybodol nad ydy hynny'n fater hawdd ar gyfer awdurdodau lleol oherwydd nid oes yna lawer o wybodaeth nag arbenigedd yn y maes.

Mae cynllunio strategol ar y cyd rhwng awdurdodau lleol yn ffordd o rannu arbenigedd a rhannu adnoddau. Mae cynllun datblygu lleol ar y cyd Gwynedd a Môn, a gafodd ei fabwysiadu yn 2017, ac mi oedd yn gynllun dadleuol mewn rhai agweddau, ond mae o'n cyflwyno polisi ynghylch tai marchnad leol, ac mae'r cynllun yn rhestru ardaloedd penodol, fel arfer lle cafwyd datblygu mawr yn y gorffennol neu mae yna ganran uchel o dai gwyliau, ac yn yr ardaloedd hynny mae amodau cynllunio ar dai newydd er mwyn cyfyngu eu meddiannaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol penodol. Rŵan, barn nifer o ymarferwyr cynllunio yw bod hwn yn bolisi arloesol ac y dylid rhannu'r arferion da, y fethodoleg a'r prosesau a ddefnyddiodd Gwynedd a Môn, efo golwg i ledaenu'r polisi hwn yn ehangach.

Gan droi at TAN 20 yn benodol, oes, mae angen diwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder achos ei fod o'n aneglur ac, yn ôl rhai arbenigwyr, yn gwrth-ddweud yr hyn sydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015. Felly, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud hi'n glir fod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol a hefyd i'w gwneud yn gliriach bod modd i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg bob tro os ydyn nhw yn dymuno gwneud hynny.

Ac, yn olaf, i drafod yr Arolygiaeth Gynllunio, a derbyn efallai fod angen eich perswadio chi ymhellach, ac fe wnaf i geisio wneud hynny dros y misoedd nesaf yma—ddim y prynhawn yma; nid oes dim digon o amser i hynny—mae gan bedair gwlad y Deyrnas Gyfunol ddeddfwriaeth a pholisïau ar wahân ar gyfer cynllunio ac mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu systemau sy'n gyfystyr ag Arolygiaeth Gynllunio Cymru a Lloegr. Efo deddfwriaeth cynllunio Cymru yn parhau i ddatblygu, rydw i'n credu ei bod hi'n bryd creu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i'r arolygiaeth feithrin arbenigedd—yr arbenigedd yr oedd David Melding yn sôn amdano, sydd ei hangen. Wel, os ydy'r system yn newid, mae angen i'r arbenigedd newid hefyd, ac mi fedrid gwneud hynny mewn system gynllunio Cymru yn unig. Rydw i'n edrych ymlaen at barhau'r drafodaeth yma dros y misoedd nesaf. Diolch.

18:50

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Rwy'n credu bod cynllunio yn rhywbeth sy'n cyffwrdd bywydau pawb ac rwyf wedi gweld deisebau yn cael eu cyflwyno, mewn gwirionedd, pan fo mwy o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb mewn ardal cyngor nag a bleidleisiodd yn yr etholiad cyngor blaenorol. Mae'n wir—mae'n broblem sy'n effeithio ar bobl. Dydw i ddim yn credu y byddai neb sydd wedi eistedd fel cynghorydd na fyddai'n gallu dweud wrthych chi am y cannoedd o lythyrau y maent wedi eu cael, a'r deisebau, yn gwrthwynebu datblygiad cynllunio yn rhywle neu'i gilydd.

Wrth gwrs, tan 1948, neu 1 Gorffennaf 1948, gallech chi adeiladu beth bynnag y mynnech chi lle bynnag y mynnech chi cyhyd â'ch bod yn berchen ar y tir. Ac roedd yn llwyddiant mawr. Rwy'n aml yn canmol Llywodraeth Lafur 1945-51, ond roedd hynny yn un arall o'i llwyddiannau—un o'r rhai y sonnir llai amdano ond sydd yn ôl pob tebyg wedi cael cymaint o effaith ar fywydau pobl ag unrhyw beth ar wahân i'r gwasanaeth iechyd—pan allai perchnogion adeiladu beth bynnag a fynnent lle bynnag y mynnent cyhyd â'u bod yn berchen ar y tir. Mae'n rhaid inni gofio bod tir yn dal i fodoli heddiw a oedd mewn defnydd ers cyn 1948 lle mae'r hawl honno yn dal i fodoli, nid yw wedi cael ei diddymu, a bob tro yr aiff y cynllun datblygu lleol neu'r hen gynllun sirol yno, maen nhw'n cadw hwnnw ynddo. Roedd yna dir yn Nwyrain Abertawe a ddynodwyd ar gyfer glo mân cyn 1948, a chadwyd y caniatâd cynllunio hwnnw'n tan y 1990au a chafodd ond ei ddiddymu pan ddefnyddiwyd y tir ar gyfer datblygiad tai.

Rwy'n cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynllunio'n dda, yn hanfodol i iechyd a lles hirdymor pobl Cymru. Ond mae angen trafnidiaeth arnom ni hefyd. Mae ystadau yn cael eu codi'n barhaus—a gallaf feddwl am un yn etholaeth Rebecca Evans, gallaf feddwl am un yn fy un i—sydd wedi'u hynysu bron o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Os nad oes gennych chi gar, rydych chi mewn trafferthion.

Mae angen i gartrefi gael eu hadeiladu. Mae angen datblygiadau diwydiannol a masnachol arnom ni. A gaf i ganmol rhywbeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru yn dda cyn i mi ddod yma, sef datblygiad Bro Abertawe, a oedd yn ddatblygiad gan Awdurdod Datblygu Cymru a chyngor Abertawe lle mae tai a datblygiadau diwydiannol a masnachol wedi cael eu hadeiladu yn yr un ardal yn llwyddiannus iawn? Os byddwch chi'n gyrru drwyddo, mae'n debyg na fyddech chi'n gwybod am rai o'r datblygiadau diwydiannol a datblygiad masnachol oherwydd maen nhw i lawr strydoedd ochr bach ac maen nhw wedi'u gorchuddio â choed i'r fath raddau na fyddech chi'n gwybod beth oedd i lawr yno, oni bai eich bod yn gwybod ble'r ydych chi'n mynd.

Wrth gwrs, mae gennym ni y ddeuoliaeth cynllunio mawr: mae trigolion lleol yn gwrthwynebu datblygiad; mae'r tirfeddiannwr eisiau'r datblygiad—mae'r tir yn mynd i wneud symiau mawr o arian i bobl. Mae'r pwyllgor cynllunio yn penderfynu. Pe byddai'n dod i ben yn y fan honno, byddai'r trigolion yn gyffredinol yn hapus. Er y gall penderfyniadau llywodraeth leol eraill fynd at yr ombwdsmon, gallan nhw fynd i adolygiad barnwrol, mae gan benderfyniadau cynllunio y cam canolraddol hwn. Dydw i erioed wedi deall pam mae angen y cam canolraddol hwn, sef arolygwr cynllunio. Maen nhw'n dod, maen nhw'n gwneud penderfyniadau, dydyn nhw ddim yn adnabod yr ardal—maen nhw'n gwneud penderfyniadau sydd yn aml yn annealladwy. Maen nhw'n caniatáu datblygiadau sy'n achosi problemau difrifol. Does dim rhaid iddyn nhw ddod eto. Does dim rhaid iddyn nhw fyw gyda phroblemau y maen nhw wedi'u creu. Problem fach yn y ward yr oeddwn i'n ei chynrychioli—cafodd un tŷ ei ddymchwel ac roedd digon o le yno ar gyfer dau dŷ. Adeiladwyd tri. Ni werthwyd y tri thŷ erioed. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod gennym ni benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Byddwn i'n dileu'r arolygwyr cynllunio yfory pe byddwn i'n cael dewis. Does dim synnwyr na rheswm iddyn nhw, a dydw i ddim yn adnabod unrhyw un a fyddai mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—yn gallu dadlau mewn gwirionedd pam. Maen nhw'n gam canolraddol, ac—adolygiad barnwrol, os nad ydych chi'n ei hoffi.

Fel cynghorydd sir, fel eraill yn y fan yma, roeddwn i'n ymwneud â chreu cynllun strwythur sirol a oedd yn dynodi tir ar gyfer defnyddiau gwahanol. Roedd y cynghorau dosbarth, wedyn, yn cynhyrchu cynlluniau dosbarth, yn debyg i'r cynlluniau datblygu lleol presennol. Gallai ardaloedd gael eu dynodi, ledled y sir ar gyfer tai, ond gallai rhai eraill gael eu dynodi ar gyfer coedwigaeth neu fwyngloddio ar y pryd. Felly, roeddech chi'n dynodi ardaloedd fel eich bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ym mhob ardal. Mae cynghorau unigol yn rhy fach; roedd y cynghorau sir, mewn sawl ffordd, yn rhy fach ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y sail ranbarthol honno. Dyna pam yr wyf i'n cefnogi'r penderfyniadau a wnaed ar y dinas-ranbarthau a rhanbarthau gogledd a gorllewin Cymru, oherwydd byddai hynny'n golygu bod yn rhaid inni gael yr integreiddio hwn. Nid rhywbeth y mae Alun Davies eisiau ei uno yw hwn, mewn gwirionedd, ond cafodd datblygiad yn Nhrostre effaith ddifrifol ar fanwerthu yn Abertawe—[Torri ar draws.]—problem ddifrifol â manwerthu yn Abertawe. Rwy'n credu felly, ei fod yn wirioneddol bwysig.

A gaf i droi at Blaid Cymru a'u barn nhw? Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn union yr un fath â'r amgylchedd ac, yn lle nodiadau cyngor technegol, bod gennym ni asesiad effaith iaith, yn yr un ffordd â'r asesiad effaith amgylcheddol. Byddwn yn gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried. Edrychwch sut mae'r iaith—. Mae yna wahaniaeth rhwng adeilad 200 o dai yng Nghaernarfon ac adeiladu 200 o dai yng Nghas-gwent o ran yr effaith y mae'n ei chael ar yr iaith. Rwy'n gwybod sut le yw Caernarfon. Rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser yno, ac mae'n un o'r lleoedd lle caiff y Gymraeg ei siarad gan gynifer o bobl fel ei bod yn dod yn iaith naturiol y gymuned. Rwyf i'n siarad Cymraeg y rhan fwyaf o'r amser pan wyf yng Nghaernarfon, gan mai dyna iaith y gymuned. Rwy'n credu, pan fo gennych chi 75 y cant i 80 y cant o'r boblogaeth yn siarad yr iaith, mae'n dod yn iaith y gymuned. Pan fo gennych chi dan 50 y cant, rydych chi'n gwybod, yn ôl pob tebyg, pan fyddwch chi'n siarad â rhywun, na fydd yn siarad Cymraeg felly dyw pobl ddim yn gwneud hynny.

Ac yn olaf byddwn i'n dweud y byddwn i wrth fy modd yn clywed dadl dros pam mae angen arolygwyr cynllunio—pam nad yw adolygiad barnwrol a'r ombwdsmon, sy'n ddigon da ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan awdurdodau lleol, yn ddigon da ar gyfer cynllunio.

18:55

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae yna ymadrodd, ymadrodd penodol yr rydym ni'n ei ddefnyddio yma heddiw, sef 'creu lleoedd'. Mae'n ymadrodd hardd, ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ei fod mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth. Soniodd prif gynllunydd Llywodraeth Cymru fod angen i gynllunio ddefnyddio dull cyfannol er mwyn i gynllunwyr allu llunio lleoedd sy'n ddeniadol ac yn gymdeithasol. Oes, mae angen dull cyfannol arnom ni—mae hynny y tu hwnt i amheuaeth—ond yn aml mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, nad oes dull cyfannol o gynllunio, mewn gwirionedd.

Roedd Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn yn y fan yna. Roedd yn sôn am ardal benodol yn Abertawe, Bro Abertawe, rwy'n credu. Mae gennym ni broblemau tebyg yng Nghaerdydd sef llawer o ystadau preswyl newydd yn cael eu hadeiladu sydd ymhell i ffwrdd o gyfleoedd cyflogaeth a hefyd mae yna ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o achosion. Felly, mae angen inni fod yn adeiladu ardaloedd preswyl â mynediad at swyddi.

Mae angen inni hefyd fod yn meddwl am lle caiff y swyddi eu creu mewn gwirionedd. Yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae digonedd o leoedd lle mae swyddi wedi'u creu yn y 30 mlynedd diwethaf, ond nid ydynt yn arbennig o hygyrch. Mae yna unedau ffatri mewn ardal a elwir yn Gwynllwg, ac yn anffurfiol fel 'y Lambies'. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n edrych ar swyddi gwag i lawr yno, ond roedd fwy neu lai yn amhosibl gan nad wyf yn gyrru ac nid oedd unrhyw fysiau yn mynd draw yno. Rwyf newydd gael golwg ar fap llwybr Bws Caerdydd heddiw, ac mae mwy o ddatblygu i lawr yno nawr o ran cyflogaeth—mae gennym ni erbyn hyn, er enghraifft, stiwdio ffilm o bwys i lawr yno—ond nid oes unrhyw fysiau yn mynd i lawr yno o hyd; mae'n dwll du yn gyfan gwbl cyn belled ag y mae trafnidiaeth gyhoeddus  yn y cwestiwn. Felly, mae gennym ni'r problemau hyn o hyd.

Mae parciau busnes yn broblem benodol oherwydd eu bod yn aml yn cael eu hadeiladu yn bell i ffwrdd o ardaloedd preswyl, felly rwy'n credu y byddai'n syniad da meddwl, mewn gwirionedd, am fabwysiadu'r syniad hwn o'r math o ddatblygiad ym Mro Abertawe, lle bydd gennych chi gyfleoedd cyflogaeth yn agos at ardaloedd preswyl newydd.

Mae yna bethau eraill a allai helpu mewn mannau trefol. Er enghraifft, yng Nghaerdydd, does dim llawer o wasanaethau bws cylchol gennym ni. Mae'n ymddangos bod yn rhaid i bopeth fynd i mewn ac allan o ganol y ddinas. Felly, os oes gennych chi barc busnes ar un ymyl i'r ddinas ac mae gennych chi ystad newydd o dai ar ymyl arall, mae'n rhaid ichi gael bws i mewn, gadewch inni ddweud o Bontprennau—40 munud i mewn i'r dref—ac wedyn bws allan i barc busnes Llaneirwg, sy'n 40 munud arall, er eu bod nhw ddim ond tair milltir o'i gilydd. Mae gan Lundain ddigon o wasanaethau bws cylchol, ond yng Nghaerdydd does gennym ni ddim mewn gwirionedd. Rydym ni'n cael y ddadl gyfan hon yng Nghaerdydd am y cynllun datblygu lleol, a fydd yn gweld llawer o ddatblygiadau tai newydd yng ngorllewin y ddinas, heb y seilwaith trafnidiaeth yn gefn iddo. Felly, mae'n rhaid inni aros am fetro de Cymru i gyrraedd ar ryw adeg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, hyd nes y bydd hwnnw'n cyrraedd, byddwn ni'n wynebu tagfeydd traffig yng ngorllewin y ddinas.

Rydym wedi bod yn siarad llawer am gynllunio strategol yn ddiweddar, ac eto heddiw, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw feddylfryd strategol gwirioneddol yn y fan honno. Nawr, mae'r system creu lleoedd, dywedir wrthym ni, yn cael ei hailwampio, i ystyried Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ond mae'r nodau llesiant yn dod ar yr un pryd ag y mae'r llain las yn cael ei throi'n goncrit ar raddfa fawr. Mae'r orsaf bysiau yng Nghaerdydd wedi diflannu; bellach mae gennym ni gasgliad hyfryd o flociau swyddfeydd newydd sgleiniog yn y Sgwâr Canolog, sy'n golygu bod mwy o bobl yn dod i ganol y ddinas i weithio. Pam? Mae swyddi yn mynd o ymyl y ddinas, fel y swyddfa dreth yn Llanisien, fel y gall mwy o bobl weithio yng nghanol y ddinas. Unwaith eto, nid yw hyn yn ymddangos yn gynllunio gwych. Ac mae llawer o'r swyddi hyn yn swyddi yn y sector cyhoeddus, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a BBC Cymru. Ymddengys nad oes gennym ni unrhyw reolaeth yn y lle hwn, nac efallai mewn unrhyw le arall, dros y penderfyniadau a wneir ar y materion hyn, hyd yn oed mewn sefydliadau sector cyhoeddus mawr.

Mae Mike Hedges yn gwneud llawer o bwyntiau ar y materion hyn. Nawr, mae wedi codi unwaith eto heddiw y cynlluniau sirol. Mae gennyf ddiddordeb mawr pan mae e'n eu codi, oherwydd, yn y bôn, mae'n ymddangos, pan wnaeth y Swyddfa Gymreig ddiddymu'r cynghorau sir, yng nghanol y 1990au, fel bod gennym ni awdurdodau unedol, yn ôl pob golwg, ni feddyliodd neb y dylid sefydlu rhywbeth i gymryd lle swyddogaethau cynllunio strategol y cynghorau sir. Felly, mae'n dipyn o benbleth i mi pam na wnaeth neb feddwl am hyn, oherwydd wnaethon ni ddim cael Cynulliad Cymru—efallai y gall Hefin fy ngoleuo pan mae'n siarad mewn munud—tan ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Felly, yn sicr, nid y bwriad ar y pryd oedd y byddai'r dasg o gynllunio strategol yn cael ei symud i fyny un lefel i'r Cynulliad, oherwydd nid oedd y Cynulliad yn bodoli. Felly, rwy'n aros am oleuni, ac rwy'n siŵr y bydd yn ddiddorol iawn.

O edrych ar y cynnig, rydym ni yn UKIP yn cytuno'n fras â'r cynnig heddiw ynghylch creu lleoedd, ond rydym yn gobeithio y bydd y broses a fydd gennym yn y pen draw yn fwy na dim ond ystrydebau—rydym ni'n gobeithio y bydd yna newid ystyrlon. Wrth gwrs, rydym yn hoffi'r syniad o refferenda lleol pan fydd yna benderfyniadau cynllunio o bwys sy'n effeithio ar bobl yn eu cymdogaethau. Rydym yn cefnogi'n fras welliannau'r gwrthbleidiau. Mae yna faterion sy'n ymwneud â gwelliannau'r Ceidwadwyr. Nid ydym ni mewn gwirionedd eisiau—. Wrth gwrs, rydym ni eisiau tai, ond dydyn ni ddim eisiau gweld datblygiadau mawr nad yw'r trigolion sydd wedi sefydlu yno yn eu croesawu. Rydym yn rhannu amheuon ynghylch arolygiaeth cynllunio Cymru; gallem ni fod yn ailadrodd camgymeriadau a arweiniodd at greu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac arbenigedd yn cael ei golli. Felly mae hynny'n sicr yn broblem. Rydym yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud yn gyffredinol. Oes, mae rôl, yn ddamcaniaethol, yn sicr, ar gyfer—. Mae siaradwyr Cymraeg wedi cael anhawster yn y farchnad dai mewn rhannau o Gymru wledig, ond gwyddom fod yna safbwyntiau gwahanol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, ynghylch faint y dylai ac y gallai penderfyniadau tai lleol a phenderfyniadau cynllunio gael eu dylanwadu gan ystyriaethau yr iaith Gymraeg. Ond wrth gwrs mae Siân yn iawn, mae'n ystyriaeth o bwys; mae'n rhaid inni feddwl am y pethau hyn.

Dydyn ni ddim mewn gwirionedd yn anghytuno ag unrhyw un heddiw, ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i ystrydebau, a bod â system gynllunio sydd wirioneddol yn gweithio ar gyfer pobl leol. Diolch yn fawr iawn.

19:00

Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu ychydig o funudau ar hyn, ar ôl treulio fy mywyd blaenorol yn gweithio yn adran gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar ei gynllun datblygu lleol. Roedd yn hunllef. Roedd yn rhaid inni gynnal cymaint o sesiynau tystiolaeth, roedd yn rhaid inni brofi bod Llywodraeth Cymru yn anghywir pan oeddent yn anfon dau swyddog Llywodraeth i fyny, ac yn dweud wrthym faint o dai yr oedd yn rhaid i ni gael. Nid oedd hyn yn ymwneud â chreu lleoedd ar y pryd, ac rydym ni'n byw erbyn hyn—. Cabinet Llywodraeth Cymru blaenorol oedd hyn, ond rydym ni'n byw erbyn hyn gyda rhai o'r problemau hynny. A'r hyn sy'n niwsans, nid yn unig rydym ni wedi cyflwyno ein cynllun datblygu lleol yn y fan yma, mae llawer o geisiadau'n cael eu cyflwyno ar gyfer ardaloedd sydd erioed wedi cael eu nodi yn ein cynllun datblygu lleol, ac wrth gwrs ar TAN 1 y mae'r bai. Pan fyddwch chi'n siarad â rhai o'm hetholwyr, mae'n debyg eu bod yn credu bod TAN 1 yn ymwneud â lliw lledr esgid penodol, ond pan edrychwch chi mewn gwirionedd ar oblygiadau gwirioneddol TAN 1, mae wedi gwrthdroi yr hyn a oedd gennym ni, sef cyflenwad 8.1 o flynyddoedd, rwy'n credu bellach, i dair, ac mae'n ymwneud â niferoedd adeiladu tai gweddilliol. Ni fyddaf yn eich diflasu â'r manylion, ond os byth y dymunwch gael gwers un i un ar TAN 1, a llanastr y sefyllfa ar hyn o bryd—. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, a bod yn deg, wedi dweud mewn atebion i nifer o gwestiynau yr wyf i wedi'u codi ei bod yn gwrando ac y bydd yn ei ystyried yn fwy manwl.

Ar geisiadau cynllunio mwy o faint, clywsom ni, 'O, mae'n rhaid defnyddio safleoedd tir llwyd yn gyntaf', ond eto i gyd, rydym yn dal i weld y tir amaethyddol da hwn, tir amaethyddol o radd ansawdd da, yn cael ei gyflwyno, a'r polisi lle na ddylid peryglu lles y fferm. Ymddengys mai'r cyfan yw hwnnw yw ein bod yn dweud un peth mewn polisi, ond mewn termau real, nid yw'n berthnasol. A'r cais diweddaraf—ym mis Medi, byddaf yn siarad mewn ymchwiliad cynllunio unwaith eto. Dylai hwnnw fod wedi bod ym mis Mawrth, ac yna cafodd ei ohirio tan fis Mai. Ac mae hwn yn gais sydd wedi codi ymhell dros 1,300 o wrthwynebiadau. Mae cynghorwyr lleol, aelodau wardiau, aelodau cabinet—mae pawb yn dweud, 'Na, na, na, allwn ni ddim cymryd mwy o seilwaith ar y darn penodol hwn o dir.' Ond pan oedd aelodau cynllunio yn ceisio ei amddiffyn, roedden nhw'n ceisio defnyddio'r Gymraeg a'i gwneud yn berthnasol mewn polisi, ond sydd mewn gwirionedd am asesiadau. Ac yn ymarferol, yn llythrennol, dydy hynny ddim yn digwydd. Fel y nodwyd yn fersiwn drafft 'Polisi Cynllunio Cymru'

'wrth ddynodi safleoedd sydd i’w neilltuo ar gyfer tai mewn cynlluniau datblygu, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ddilyn trefn chwilio, gan ddechrau gydag ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddatblygwyd o’r blaen mewn aneddiadau'.

Nid yw'n digwydd. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Siambr hon am y newidiadau i'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. Cynigiwyd hyn yn 2014. Roedd 79 y cant o awdurdodau cynllunio, gan gynnwys Conwy, yn anghytuno â'r cynigion, ac roedd y rhai hynny a oedd yn gwrthwynebu yn ffafrio'r fethodoleg cyfraddau adeiladu blaenorol yn lle hynny. O ganlyniad i'r newidiadau dilynol i'r fethodoleg a amlinellir—fel y gallwch weld, rwy'n awyddus i roi hyn ar gofnod—o dan ganllawiau TAN 1 yn 2015, mae llawer o awdurdodau cynllunio wedi gweld eu ffigurau cyflenwad tir ar gyfer tai wedi'u gogwyddo'n llwyr erbyn hyn. Ac mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar swyddogion cynllunio yr awdurdodau lleol, ac mewn gwirionedd mae'n eu rhoi dan anfantais gydag aelodau etholedig. Ac ni ddylem anghofio, mewn democratiaeth wirioneddol, yr aelodau etholedig sydd yno i gynrychioli eu hetholwyr, a ddylai mewn gwirionedd fod yn gallu bod yn rhan o'r broses benderfynu.

Rwy'n gwybod fod teimladau cryf wedi bod yma heddiw ynghylch cael gwared ar yr Arolygiaeth Gynllunio. Gofynnwyd imi yn ddiweddar, hyd yn oed, ar rai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno pam mae arolygiad cynllunio ar gyfer datblygiadau sydd wedi methu yn cael eu datblygu a allai gael eu gwrthdroi mewn arolygiadau cynllunio. Ond nid oes proses apelio'n bodoli ar gyfer pobl sydd â phethau sydd wedi'u caniatáu nad ydynt yn cytuno â nhw. Felly, efallai bod angen edrych ar hynny. Mae angen rhywfaint o gydbwysedd i atalnod llawn y broses cynllunio.

Mae paragraff 2.14 o 'Bolisi Cynllunio Cymru' yn datgan os yw

'polisïau mewn CDLl a fabwysiadwyd wedi hen ddyddio at ddibenion penderfynu ar gais cynllunio...dylai awdurdodau cynllunio lleol roi llai o bwys ar y cynllun a throi at ystyriaethau perthnasol eraill megis polisi cynllunio cenedlaethol'.

Dywed paragraff 6.2 o TAN 1

'Pan fo’r astudiaeth gyfredol yn dangos bod y cyflenwad tir yn llai na’r cyflenwad 5 mlynedd gofynnol...dylid rhoi pwyslais sylweddol ar yr angen i gynyddu’r cyflenwad wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio os yw’r datblygiad fel arall yn cydymffurfio â’r cynllun datblygu a pholisïau cynllunio cenedlaethol.'

Mae nawr yn adeg amserol iawn ichi fod yn edrych ar hyn mewn ffordd strategol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ei gefnogi'n llwyr ac yn cefnogi llawer o'r cynigion yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod polisi cynllunio ein cymunedau yn ffordd dda iawn o ddechrau gweithredu llawer o nodau ac uchelgeisiau'r Ddeddf honno, nid dim ond ei dyheadau. Felly, diolch ichi, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando ynghylch TAN 1. Diolch i chi.

19:05

Am beth amser ers cael fy ethol, bu cryn bellter rhwng fy marn i a barn Llywodraeth Cymru. Ac, yn y dyddiau diwethaf, bydd Janet Finch-Saunders yn falch o wybod bod Llywodraeth Cymru, ar ffurf Ysgrifennydd y Cabinet, wedi mynd rhywfaint o'r ffordd i bontio'r pellter rhyngom, ac rwy'n falch iawn—a byddaf yn ymhelaethu ar pam mewn munud—bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd camau i wneud hynny. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro bod polisi cynllunio drwy'r dull cynlluniau datblygu lleol unigol wedi ei ogwyddo yn rhy bell o blaid y datblygwyr tai mawr ac yn rhy bell yn erbyn pobl leol ac adeiladwyr tai sy'n fusnesau bach a chanolig, yr wyf wedi eu crybwyll o'r blaen. Mae'r farchnad wedi creu bwlch rhwng polisi cynllunio a democratiaeth leol. Mae angen inni newid y farchnad honno, ac mae angen inni ddefnyddio ymyrraeth yn y farchnad i newid y farchnad honno.

Yn 2016, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wared ar ei gynllun datblygu lleol ar ôl gwrando ar farn y bobl leol. Nid wyf i wedi gweld safbwyntiau cryfach yn cael eu mynegi ar lawer o faterion eraill, fel y crybwyllodd Mike Hedges. Rhan o'r broblem, y rheswm pam nad oedd y cynllun datblygu lleol yn gweithio, oedd oherwydd bod hyfywedd tir yn golygu proffidioldeb i'r datblygwyr mawr, ac nid oedd tir nad oedd yn hyfyw, nad oedd yn broffidiol, yn cael ei ddefnyddio gan ddatblygwyr. Roedd safleoedd tir llwyd yng nghynllun datblygu lleol Caerffili yn dyddio'n ôl i Gyngor Dosbarth Cwm Rhymni, a oedd wedi'u cynnwys ond heb eu datblygu oherwydd nad oeddent yn hyfyw. Mae problem Caerffili wedi arwain at geisiadau cynllunio hapfasnachol, ac mae llawer ohonynt wedi eu gwrthdroi—gwrthdroi penderfyniadau'r awdurdod lleol—ac, yn wir, teimlodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ei bod hi’n gorfod gwrthdroi penderfyniad y llynedd, a wnaeth achosi problemau mawr yn fy nghymuned i.

Wrth apelio yn erbyn ceisiadau cynllunio sydd wedi'u gwrthod, mae datblygwyr yn aml wedi defnyddio diffyg cyflenwad tir pum mlynedd yr awdurdod lleol fel cyfiawnhad dros wrthdroi penderfyniad gwreiddiol y trigolion lleol, gan arwain at y dicter mawr hwnnw. Mae pwysigrwydd darparu cyflenwad tir pum mlynedd yn deillio o nodyn cyngor technegol 1, fel y nododd Janet Finch-Saunders, a nodir gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwyf i'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd yn datgymhwyso TAN 1, a thrwy hynny'n lleihau'r pwysau ar awdurdodau lleol a dileu gallu datblygwyr i ddefnyddio diffyg cyflenwad pum mlynedd fel sail ar gyfer gwrthdroi penderfyniad awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd. Rwy'n nodi, wrth sôn am ddarparu cynlluniau datblygu lleol yn y drafft o'r 'Polisi Cynllunio Cymru', argraffiad 10—ac rwyf i wedi tanlinellu'r pwynt ar dudalen 13—

Mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r FfDC a’r CDS yn gyffredinol ac ni ellir eu mabwysiadu os nad ydynt.

Nid wyf i'n credu y byddai cynllun Caerffili, pe byddai'n dilyn y ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' honno, wedi bod yn gweithredu'n unol â fframwaith datblygu cenedlaethol a chynllun datblygu strategol, pe byddai un wedi bod ar waith.

Ers fy ethol, rwyf i wedi ymgyrchu i awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain gael cynllun datblygu strategol, ac mae'r ôl troed rwy'n dadlau drosto ochr yn ochr â phrifddinas-ranbarth Caerdydd. I ateb pwynt Gareth Bennett, pryd y cyflwynwyd y cynllun strategol hwn? Wel, roedd yn rhan o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau rhagweithiol, cyn ein hethol i'r Cynulliad hwn yn y pedwerydd Cynulliad, i gyflwyno cynllunio datblygu strategol, ac mae wedi'i adlewyrchu yn awr yn y ddogfen ddrafft o 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n beth da. Mae wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, y cynllun datblygu strategol o brifddinas-ranbarth Caerdydd, a dylem ni groesawu hyn. Mae datgymhwyso TAN 1 yn dileu rhwystr arall i awdurdodau lleol allu dod at ei gilydd a gweithio ar gynllun datblygu strategol cynhwysfawr. Yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wybod nawr gan Lywodraeth Cymru yw'r cymorth a'r gefnogaeth ar gyfer creu cynllun datblygu strategol, a mwy o hyblygrwydd o ran y gofyniad i lunio cynlluniau datblygu lleol. O ganlyniad i sawl blwyddyn o gyni, mae ein hawdurdodau lleol dan bwysau cynyddol o ran cyllid ac adnoddau, ac felly mae eu hadrannau cynllunio unigol dan straen. Rwy'n cydnabod pwynt 4 y cynnig, ac yn ei gefnogi, ond trwy ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer polisi cynllunio, y ffordd orau o'u defnyddio, yn fy marn i—yn sicr yn fy ardal i yn y de-ddwyrain—fyddai datblygu cynllun datblygu strategol.

O ganlyniad i hyn, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynlluniau datblygu lleol llai manwl gan awdurdodau lleol yn fwy cydymdeimladol, wrth i gynghorau gyfuno eu hadnoddau cynyddol brin i ganolbwyntio ar yr ymdrech gyffredin o lunio cynllun datblygu strategol. Yn ôl 'Polisi Cynllunio Cymru', y fersiwn ddrafft, mae cynlluniau datblygu strategol yn rhan enfawr o'r jig-so cynllunio hwnnw, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn yr un modd. Y broblem sydd gennym ar hyn o bryd yw ein bod yn gweithio o'r gwaelod i fyny, yn llunio ein cynlluniau datblygu lleol yn gyntaf, wedyn ein cynlluniau datblygu strategol, ac wedyn yn cydweddu â'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae'r pyramid wyneb i waered; rwy'n credu bod angen i ni ddechrau o'r pen arall. Ar hyn o bryd disgwylir i awdurdodau lleol unigol lunio'u cynlluniau datblygu lleol yn gyntaf, a dim ond wedyn y gallan nhw symud ymlaen at eu cynlluniau datblygu strategol. Rwy'n credu bod hynny'n adeiladu'r jig-so y ffordd anghywir. Rwy'n credu bod angen ichi ddechrau gyda'ch cynllun datblygu strategol. Galwaf ar y Llywodraeth i gydnabod hynny ac i beidio â chael gwared â chynlluniau datblygu lleol, ond yn hytrach i fod â'r cynlluniau datblygu lleol llai manwl hynny. Rwy'n credu y gallwn ni gael hyn yn iawn. Fel y dywedais, rwyf wedi bod yn hynod o ddyfal ynghylch cynllunio. Mae rhywun na wnaf i ei enwi wedi fy nghyhuddo i o ddiflasu pobl wrth sôn am gynllunio o hyd, a gwn na fyddai'r Siambr yn cytuno â hynny, rwy'n siŵr. [Torri ar draws.] Diolch.

Gall ein system gynllunio ymdrin â'r materion hyn. Ni wnaf i ildio. Byddaf yn parhau i sôn amdano. Rwy'n credu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol nawr, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sylweddol i alluogi ein polisi cynllunio i wella.

19:15

Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, bod polisi yn dweud un peth a realiti yn rhywbeth gwahanol, yn addas iawn. Mae'r cynnig yma yn cydnabod bod cael polisïau creu lleoedd cenedlaethol a pholisïau cynllunio cryf, bla bla, bla—. Y realiti yw nad oes gennym ni'r pethau hyn ar waith. Cefnogaf welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n dweud bod angen addasu system gynllunio'r wlad—yn sicr. Cefnogaf welliant Plaid Cymru—mae angen i'r iaith gyfrif ac mae angen arolygiaeth gynllunio ar wahân ar gyfer Cymru. Mae'n synnwyr cyffredin sylfaenol.

Y broblem i fi o ran cynllunio, ac yn arbennig y cynlluniau datblygu lleol, yw bod ein cymunedau yng Nghymru eisoes yn llawn. I bobl yng ngorllewin ein prifddinas, mae'n rhy hwyr: mae 8,000 o dai yn cael eu hadeiladu ac nid oes seilwaith. Mae'n gas gen i feddwl pa mor wael y bydd. Nid yw cynlluniau datblygu lleol yn gweithio, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod o Gaerffili—mae'n hollol gywir; mae'n chwith. Ym mhob cyfarfod cyhoeddus rwy'n mynd iddo, ac mae llawer ohonyn nhw y dyddiau hyn, mae tai yn codi bob un tro. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu hardal leol ac mae'r eiddo sy'n cael eu taflu i fyny yn llawer rhy ddrud.

Mae angen ailwampio'r system gynllunio gyfan yn fawr iawn. Mae'r system yn caniatáu ar gyfer hapfasnachu. Mae tir wedi'i ailddosbarthu a gwnaed swm enfawr o arian—biliynau o bunnoedd. Fe'ch cyfeiriaf at fargen tir Llys-faen, a fydd yn cael ei nodi mewn hanes yn wir: colli £39 miliwn ar un fargen. Eironi cynllunio yw nad oes cynllunio gwirioneddol yn y system. Yr hyn sydd gennych yw anarchiaeth sylfaenol, a'r datblygwyr sy'n llywodraethu. Rydym yn colli tir amaethyddol da iawn, fel y dywedwyd eisoes, drwy adeiladu ar ffermydd, ac os edrychwch chi ar ddiogelwch bwyd yn y dyfodol, mae hynny'n peri pryder enfawr. Hefyd, o ran llifogydd mewn rhai ardaloedd, dyna fater arall, wrth i goncrit gael ei daenu ar ben caeau gwledig a choedwigoedd gwirioneddol brydferth ar hyn o bryd.

Yn olaf, rwy'n credu mai'r bwlch mwyaf yn y system gyfan yw diffyg democratiaeth llwyr, lle mae gennych un neu ddau o arolygwyr sy'n gallu rhoi gorchmynion i awdurdodau lleol cyfan, a etholwyd gan y bobl. Os edrychwch chi ar ein profiad yng ngorllewin Caerdydd, lle mae gen i ddiddordeb cyfredol fel cynghorydd a lle cynhaliwyd refferendwm, pleidleisiodd miloedd o bobl—miloedd—ac anwybyddwyd yr holl bobl hynny, ac mae'n hen bryd inni gael sofraniaeth gymunedol yng Nghymru, lle mae cymunedau yn sofran ac yn penderfynu ar beth sy'n digwydd yn eu hardal nhw, gan fod hawliau pobl wedi'u sathru gan y Llywodraeth hon a'r polisïau a roddwyd ar waith. Mae mor eironig, oherwydd bod datgysylltu anferth rhwng yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad a'r hyn a ddywedir yma, oherwydd nid oes unrhyw debygrwydd rhyngddynt. Diolch yn fawr.

Mae'n hen bryd i greu lleoedd fod wrth wraidd y system gynllunio ac rwy'n falch iawn hefyd o'i weld mor amlwg yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym wedi gweld llawer gormod o ddatblygiadau tai mawr yn cael eu creu heb ddim siopau lleol, dim canolfannau cymunedol, dim ysgolion—yn y bôn heb eneidiau. Rydym wedi gwneud y car yn ganolbwynt ein system gynllunio ers y 30 mlynedd diwethaf ac wedi gweld ehangu dramatig o ddatblygiadau sy'n seiliedig ar y car. Yn y cyfnod ers 1952, mae beicio, er enghraifft, wedi gostwng o fod yn cyfrif am 11 y cant o deithiau i gyfrif am ddim mwy nag 1 y cant yn 2016, ac, ar yr un pryd, mae teithiau car wedi cynyddu o 27 y cant i 83 y cant.

Genhedlaeth yn ôl, byddai 70 y cant o'r plant yn cerdded i'r ysgol. Ers hynny mae lefelau cerdded i'r ysgol wedi bod yn lleihau'n gyson, gan suddo i 42 y cant yn 2016 yn ôl Living Streets. Mae'r system gynllunio a pholisïau cynllunio wedi cefnogi datblygiadau sy'n ddibynnol ar geir, sydd wedi bod yr ysgogwyr allweddol y tu ôl i'r tueddiadau hyn, ac rydym yn siarad, Llywydd, yn gyffredin am warchod cynefinoedd bywyd gwyllt a chreu ecosystem sy'n cefnogi'r twf hwn, ond nid ydym yn sôn am gynllunio a gwarchod cynefin i blant chwarae, i gymdogion gwrdd ac i bobl gerdded a beicio.

A heddiw, wrth i ni sôn am les meddwl, mae'n briodol crybwyll effaith y duedd hon ar unigedd. Dywedir bod 17 y cant o bobl Cymru yn unig heddiw. Yn ddiweddar mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datgan bod unigedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Bu ymchwil helaeth ar effaith llif y traffig ar unigedd cymdeithasol. Dangosodd astudiaeth ym Mryste mai nifer cyfartalog y ffrindiau sydd gan bob un o'r trigolion mewn stryd lle nad oes llawer o draffig yw 5.35 o'i gymharu â 2.45 ar stryd â lefel ganolig o draffig, ac 1.15 o ffrindiau ar gyfartaledd ar stryd lle ceir llawer o draffig. Hefyd, nododd trigolion ar stryd lle nad oes llawer o draffig mwy o ymdeimlad o gymuned ac agosrwydd. Ac eto, rydym yn parhau i ddylunio strydoedd preswyl sy'n gwneud trigolion yn agored i lifoedd cyson o draffig.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi creu lleoedd wrth wraidd yr argraffiad newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', ac yn arbennig, os caf i ddweud i gloi, Llywydd, o gofio'r amser, mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer teithio llesol wedi cyflwyno tystiolaeth i'r adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n nodi prinder canllawiau defnyddiol a diffyg gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymhlith cynllunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes yr amgylchedd adeiledig proffesiynol o ran sut y dylid cynllunio cyfleusterau teithio llesol a'u hintegreiddio mewn cynlluniau datblygu. Mae angen inni gynnwys hyn yn rhan graidd o'r ffordd yr ydym yn creu cymunedau newydd. Mae'n ddigon hawdd cael datganiadau rhethregol yn ein dogfennau polisi, ond eu gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth. Ac er mwyn i greu lleoedd gael effaith ymarferol mewn gwirionedd, mae angen inni newid manylion 'Polisi Cynllunio Cymru' er mwyn galluogi ein cymunedau i fod yn addas ar gyfer cerdded a beicio, fel y gall cymdogion gwrdd a siarad ac y gall plant chwarae heb fod ofn y traffig. Diolch.

19:20

Diolch i chi, Llywydd. Hoffwn i ddiolch yn fawr i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu bod yr amrywiaeth eang o bynciau yr ydym wedi'u trafod yn dangos cwmpas eang y system gynllunio a sut y gall effeithio ar ein bywydau mewn llawer o ffyrdd. Fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato, rydym ni fel Aelodau'r Cynulliad yn derbyn llawer iawn o bost yn aml.

Os caf i droi at y gwelliannau yn gyntaf, bydd David Melding yn falch iawn ein bod yn cefnogi dau welliant y Ceidwadwyr. Y rheswm yw, â phob parch, nad wyf i'n credu eu bod yn ychwanegu rhyw lawer at y cynnig gwreiddiol, ond rydym yn cefnogi'r ddau, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn—[Torri ar draws.] Mae hynny'n iawn. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ddarllen y ddogfen y byddwch yn ei chyflwyno. Yn sicr ni fyddaf yn eich cynhadledd, ond byddai diddordeb mawr gen i pe byddech yn anfon copi o'r ddogfen ataf i.

Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 3 Plaid Cymru. Mae nodyn cyngor technegol 20 yn rhoi cyngor manwl ar weithredu cyfraith gynllunio, ac mae hynny'n cynnwys Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, i alluogi awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau cyfreithlon ar geisiadau cynllunio. Fel y gwyddoch chi, Siân Gwenllian, cyhoeddwyd TAN 20 yr hydref diwethaf ac mae'n egluro i awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr a chymunedau sut y gellir cefnogi ac amddiffyn yr iaith drwy'r system gynllunio. Rôl Llywodraeth Cymru yw pennu polisïau cynllunio cenedlaethol. Dyletswydd awdurdodau cynllunio lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn fy marn i, yw datblygu polisïau lleol a gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardaloedd lleol. Rwy'n credu bod angen iddo sefydlu ei hun, a soniasoch chi am arolygiaeth gynllunio ar wahân. Unwaith eto, rwy'n hapus iawn i barhau i adolygu hynny, ac rwy'n siŵr y byddwn yn trafod hyn ymhellach.

Yr wythnos diwethaf, cawsom gyfarfod cynnar ynghylch y fframwaith datblygu cenedlaethol, a gwyddoch fod yr opsiwn a ffefrir yn amlinellu'r materion allweddol y bydd hwnnw'n rhoi sylw iddynt, ac mae cymunedau cydlynus a'r Gymraeg, unwaith eto, yn elfen gwbl ganolog o'r strategaeth.

Yr hyn sy'n amlwg, rwy'n credu, o gyfraniadau pawb yw bod angen system gynllunio effeithlon, gyda digon o adnoddau yng Nghymru os gellir ystyried yr holl faterion cystadleuol hyn mewn modd amserol gan weithwyr proffesiynol sydd ag anghenion gorau y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu yn ganolog yn eu meddyliau. Mae llawer iawn o weithgarwch ym maes cynllunio ar hyn o bryd. Rydym yn ymgynghori ar ein polisïau cynllunio cenedlaethol yn 'Polisi Cynllunio Cymru', fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ynghyd â'r cyfeiriad y bydd ein fframwaith datblygu cenedlaethol yn mynd iddo yn yr 20 mlynedd nesaf a sut y caiff ein pwerau cydsynio newydd eu gweithredu o ganlyniad i Ddeddf Cymru. Byddaf hefyd yn ymgynghori'n fuan ar newidiadau i'r hawliau datblygu a ganiateir. Bydd hynny'n lleihau'r angen am ganiatâd cynllunio o dan rai amgylchiadau, yn ogystal â pharhau â'n gwaith o gydgrynhoi cyfraith gynllunio yng Nghymru i'w gwneud yn haws ei defnyddio a'i llywio. Rwyf yn derbyn bod gwneud newidiadau polisi ar lefel uchel yn dasg gymharol syml, ond yr hyn yr wyf i eisiau ei ystyried yw'r ffordd orau o weithredu'r newid hwn yn ein rhagolwg a gwneud yn siŵr bod swyddogion yr awdurdod lleol a'r proffesiynau amgylchedd adeiledig sy'n gweithredu yng Nghymru, boed hynny yn y sectorau preifat neu gyhoeddus, yn mabwysiadu'r ffordd newydd hon o feddwl.

Os caf i droi at rai o'r cyfraniadau penodol gan yr Aelodau, i amddiffyn yr Arolygiaeth Gynllunio, Mike Hedges, maen nhw'n annibynnol, maen nhw'n gwneud penderfyniadau yn unol â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol, ac nid ydyn nhw'n gallu gwneud penderfyniadau yn groes i'r disgwyl. Gwnaeth Gareth Bennett yr achos dros greu lleoedd, ynghylch yr holl dai a'r drafnidiaeth a swyddi yn cael eu hintegreiddio ac yn fwy cynaliadwy, a dyna'n union beth y mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei hyrwyddo. Rwy'n credu bod diffyg cynllunio strategol yn rhywbeth y tynnais i sylw'r holl awdurdodau cynllunio lleol ledled Cymru ato. Ysgrifennais atyn nhw ym mis Rhagfyr ynghylch diffyg cynllunio strategol.

Os caf i droi at nodyn cyngor technegol 1—ac rwy'n credu bod Janet Finch-Saunders efallai wedi methu hyn—fe wnes i gyhoeddi fy mwriad i gynnal adolygiad eang o'r rhyngberthynas rhwng y broses cynllunio datblygu lleol a monitro cyflenwad tir ar gyfer tai, ac ystyried y mater mewn modd llawer mwy systematig ac ystyrlon. Hefin David, rwy'n falch eich bod yn falch iawn. Rwyf eisiau cywiro fy mod i ond yn ymgynghori ar fy mwriad i ddatgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1, nid ar TAN 1 i gyd, i wneud hynny'n gwbl glir. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn helpu i liniaru rhywfaint ar y pwysau brys sydd ar awdurdodau cynllunio lleol wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio hapfasnachol ar gyfer tai.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gynllun datblygu strategol y de-ddwyrain. Fe wnes i gyfarfod â nifer o'r arweinwyr ychydig o wythnosau yn ôl, ond rwy'n dal i aros am ragor o gynigion. Ond roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, ac, os gallan nhw i gyd ddod at ei gilydd, mae angen iddyn nhw benderfynu pa awdurdod lleol fydd yn arwain. Ond yr oedd yn gyfarfod cadarnhaol, felly, gobeithio, pan ddaw'r cynllun i law, y bydd yn un cadarnhaol iawn hefyd.

Cyfeiriodd Neil McEvoy at weithio mewn democratiaeth leol a dyna pam mae mor bwysig bod gan bob awdurdod gynllun datblygu lleol ar waith. Yn amlwg, rydym yn annog cynlluniau datblygu strategol i gael eu cyflwyno hefyd. Rwy'n credu bod Lee Waters yn gwneud pwynt pwysig iawn am unigedd a'r gallu y soniais amdano yn fy sylwadau agoriadol i agor y drws a cherdded i gwrdd â'ch ffrind neu eich teulu a gallu gwneud pethau heb ddibynnu ar geir. Fe wnaethoch chi sôn am y grŵp trawsbleidiol ar gyfer teithio llesol, sydd wedi cyflwyno cynnig i'r ymgynghoriad ar bolisi cynllunio Cymru, ac rwy'n credu y gwnaethoch gyfeirio ato fel 'prinder' swyddogion mewn awdurdodau cynllunio lleol a all asesu teithio llesol, a bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno hefyd.

Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n credu y gall y newidiadau i bolisi ac ymarfer yr ydym ni'n eu harwain fel Llywodraeth fod yn ddechrau newid gwirioneddol yn y sector hwn, er mwyn sicrhau mai pobl a lleoedd yw'r ystyriaeth flaenaf mewn penderfyniadau datblygu sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Diolch.

19:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddaf yn galw'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

NDM6722 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): O blaid: 46, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar rôl y system gynllunio wrth greu lleoedd. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

19:30

NDM6721 - Gwelliant 1: O blaid: 47, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6721 - Gwelliant 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3: galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6721 - Gwelliant 3: O blaid: 26, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6721 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru.

2. Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai.

3. Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.

4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn effeithiol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, naw yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6721 - Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 45, Yn erbyn: 9, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 19:31.