Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett.

Hygyrchedd Trenau

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd is ? OAQ52130

Gwnaf. Erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i bob trên gynnwys darpariaethau ar gyfer pobl ag anawsterau symud, yn unol â safonau'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd y dogfennau caffael ar gyfer contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gorchymyn cydymffurfiad â safonau pobl ag anawsterau symud.

Diolch am hynna. Rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael gweithredwr trenau newydd yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Y broblem yw ei bod yn bosib na fydd y gweithredwr newydd yn gallu cael cerbydau newydd am bedair blynedd efallai, felly gallem fod â thacteg, er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno a nodwyd gennych, bod y gweithredwr trenau newydd yn gorfod, neu'n credu bod yn rhaid iddo, adael toiledau wedi eu cloi ar y trenau, sy'n golygu na all neb eu defnyddio. A ydych chi'n gweld hynny fel problem bosibl i'r sawl sy'n ennill y fasnachfraint newydd?

Nac ydw, ni fydd caniatâd i doiledau gael eu cloi o dan unrhyw amgylchiadau.

Prif Weinidog, un o'r rhwystredigaethau i deithwyr anabl yw mai dim ond un lle sydd ar gael ar gyfer cadair olwyn ar lawer o drenau, sy'n rhy aml wedi ei lenwi gan gadeiriau gwthio neu fagiau. Nawr, dywedwyd wrthyf bod, yn Awstralia, cerbyd cyfan yn cael ei neilltuo i'r teithwyr hynny ag anawsterau symud, lle ceir lleoedd ychwanegol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. A allwch chi amlinellu ychydig mwy o fanylion ar sut y bydd y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf yn diwallu anghenion y rhai sydd ag anawsterau symud?

Wel, ni fyddem ni eisiau sefyllfa lle mae'r bobl hynny sydd mewn cadeiriau olwyn yn cael eu gwahanu i bob pwrpas—ac nid yw'r Aelod yn awgrymu hynny, er tegwch. Mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gallu teithio ar bob rhan o'r trên. I ddychwelyd at y pwynt a wneuthum yn gynharach, bydd angen cydymffurfio â'r fanyleb dechnegol, fel y dywedais, erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Gallaf ddweud bod cytundebau eisoes ar waith i addasu cyfran sylweddol o'r cerbydau presennol, ac mae cynlluniau ar waith i ymdrin â'r trenau pacer. Mae rhywfaint o'r fflyd bresennol yn bodloni'r gofynion cydymffurfio eisoes, ond, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i bob un ohonyn nhw wneud hynny.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog egluro: a yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn ei manyleb gan yr ymgeiswyr y bydd cyfleusterau toiled sy'n cydymffurfio â'r rheolau newydd ar yr holl drenau yn y metro?

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni'n ystyried nifer o ddewisiadau ar hyn o bryd. Os nad oes gan y trenau— [Torri ar draws.] Wel, os nad oes toiledau ar y trenau, yna byddem yn disgwyl i'r gweithredwr ddarparu gwasanaethau llawer iawn gwell mewn gorsafoedd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus pan eu bod yn teithio. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau o wasanaethau metro mewn mannau eraill, fel Manceinion Fwyaf, lle nad oes toiledau ar y trenau, ac yn aml nid oes unrhyw gyfleusterau i deithwyr sy'n dymuno defnyddio toiled. Nid dyna'r ydym ni ei eisiau; rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at gyfleusterau toiled mewn modd mor hawdd â phosibl.

Prif Weinidog, mae Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates wedi bod yn rhagweithiol o ran nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau sy'n addas ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd Ken Skates, a dyfynnaf,

Rwyf wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm ag ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael yng Nghymru,

ac mae wedi bod yn gwbl eglur bod yn rhaid i'r teithiwr fod yn ganolog i'r fasnachfraint nesaf—sef masnachfraint gyntaf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, ceir tystiolaeth o'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Llafur Cymru drwy'r ffaith fod Cymru wedi cael ei dewis gan Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles fel y lleoliad newydd ar gyfer ei ganolfan ragoriaeth newydd i weithgynhyrchu cerbydau yn y DU. Pa gyfleoedd, ym marn y Prif Weinidog, a fydd buddsoddiad o £30 miliwn, a chreu 300 o swyddi o ansawdd uchel mewn cyfleuster sy'n cydosod, yn profi, ac yn comisiynu cerbydau rheilffordd newydd, yn eu cynnig i'r diwydiant rheilffyrdd i sicrhau hygyrchedd trenau i bobl ag anawsterau symud yng Nghymru?

Yn sicr. Dyma un o'r prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf y tu allan i Lundain. Bydd yn defnyddio, wrth gwrs, rhai o'r rheilffyrdd presennol sydd yno eisoes. Maen nhw i gyd yn rheilffyrdd trwm ar hyn o bryd, a bydd angen i ni weld pa rai fydd yn parhau i fod yn rheilffyrdd trwm, pa rai fydd yn cael eu troi'n rheilffyrdd ysgafn, pa lwybrau newydd fyddai'n cael eu cyflwyno wedyn gan ddefnyddio rheilffyrdd ysgafn, ochr yn ochr â rhai o'r llwybrau presennol sydd â chledrau rheilffordd arnyn nhw ond nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses dendro ar gyfer y fasnachfraint.

Cynllun Datblygu Strategol i Dde-ddwyrain Cymru

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r cabinet ar gyfer prifddinas-rhanbarth Caerdydd o ran cynllun datblygu strategol i dde-ddwyrain Cymru? OAQ52154

13:35

Mae Gweinidogion a swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o gabinet prifddinas-ranbarth Caerdydd sawl gwaith ers mis Hydref 2015 i hybu'r gwaith o baratoi cynllun datblygu strategol ar gyfer y de-ddwyrain. Y cam nesaf nawr yw bod yn rhaid i'r cabinet nodi awdurdod cyfrifol fel y gall y gwaith o baratoi'r cynllun ar gyfer y rhanbarth yn ffurfiol ddechrau.

Ar 27 Ebrill, ysgrifennodd cynrychiolwyr etholedig prifddinas-ranbarth Caerdydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig gan ddweud eu bod yn credu'n gryf mai'r cyfle gorau i gyflawni canlyniadau cynllunio cadarnhaol a darparu'r newid gweddnewidiol yw paratoi cynllun datblygu strategol ar gyfer y rhanbarth sy'n gynllun rhanbarthol gwirioneddol, yn seiliedig ar dystiolaeth ranbarthol, yn hytrach na chynllun sy'n gwneud dim ond cyfuno cynlluniau datblygu lleol presennol. Fe wnaethom ychwanegu os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi pob un o'r saith awdurdod cynllunio lleol â'r dyddiad terfyn arfaethedig yn 2021 i adolygu eu cynlluniau datblygu lleol, ni fydd digon o adnoddau yn y rhanbarth i fwrw ymlaen â'r CDS a bydd y cyfle hwn yn cael ei golli am flynyddoedd lawer. Yr hyn y maen nhw'n ei ddweud yn y bôn, yw bod angen i ni symud ymlaen â'r cynllun datblygu strategol, ac ni allwn wedyn adolygu'r CDLlau ar sail mor drwyadl ag y mae'r Llywodraeth yn dymuno gyda'r adnoddau hynny. Mae dewis i'w wneud, ac rwy'n annog y Llywodraeth i gefnogi cynllun datblygu strategol ar gyfer y de-ddwyrain.

Yn gyntaf oll, rydym ni eisiau gweld cynllun datblygu strategol, ond mae'n bwysig dros ben bod cynlluniau datblygu lleol ar waith oherwydd os bydd CDLlau yn mynd heibio eu dyddiad terfyn, os gallaf ei roi felly, yna, wrth gwrs, yn aml gallwch gael datblygu heb reolaeth oherwydd y bydd ceisiadau yn dod yn absenoldeb cynllun datblygu. Rydym ni eisiau gweld cynllun datblygu strategol, ond y rhanbarth sydd i benderfynu. Mae'n rhaid iddyn nhw nodi'r awdurdod cyfrifol yn awr, ac yna, wrth gwrs, gallwn gychwyn y broses. Rydym ni eisiau gweithio gyda hwy i ddatblygu cynllun datblygu strategol. Dyna, o bell ffordd, y dull mwyaf synhwyrol—mae ef ei hun wedi ei ddweud yn y Siambr hon—ond mae'n bwysig nawr eu bod yn nodi pa awdurdod sy'n mynd i fod yn gyfrifol am ei ddatblygu.

Prif Weinidog, mae'n rhaid i unrhyw gynllun i sicrhau'r budd economaidd mwyaf posibl o brifddinas-ranbarth Caerdydd gynnwys ffordd liniaru ar gyfer yr M4. Mae nifer o berchnogion busnes wedi cysylltu â mi yn mynegi eu siom iddi ymddangos yn ddiweddar bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'ch darpar olynydd, wedi taflu dŵr oer ar y llwybr du arfaethedig. Fel y dywedodd un perchennog busnes,

Nid yw hwn yn ddarlun o Gymru sy'n agored ar gyfer busnes.

Prif Weinidog, yn nhrafodaeth eich Llywodraeth gyda chabinet prifddinas-ranbarth Caerdydd, a ydych chi wedi ymrwymo, ac a fyddwch chi'n parhau i ymrwymo, i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yng Nghasnewydd neu'r cyffiniau os gwelwch yn dda?

Wel, yn gyntaf oll, credaf nad yw hi hi ond yn deg tynnu sylw at y cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Roedd yn dweud yn gwbl briodol bod cost yn amlwg yn broblem. Wrth gwrs ei fod. Ni fyddai'n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid pe na byddai'n tynnu sylw at hynny. Ac mae honno'n broblem, ond nid yr unig broblem, wrth gwrs, y bydd angen ei hystyried. Nawr, dim ond i atgoffa'r Aelodau, yr hyn a fydd yn digwydd yw pan fyddwn ni'n cael adroddiad yr arolygydd cynllunio—yn yr haf neu ddechrau'r hydref rydym ni'n disgwyl—dyna fydd yr adeg i roi ystyriaeth i'r adroddiad hwnnw, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn ynghylch pa lwybr yw'r ffordd orau ymlaen. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw na fydd y tagfeydd yn gwella yn nhwneli Brynglas—mae cymaint â hynny, i mi, yn amlwg. Ond mae'n rhaid i mi gadw meddwl agored ar ba lwybr y dylid bwrw ymlaen ag ef oherwydd fi fydd y sawl a fydd yn gwneud y penderfyniad. Ac felly, pan fydd adroddiad yr arolygydd yn cyrraedd ar fy nesg, bydd hynny ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill yn rhan o'm hystyriaethau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinwydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cawsom yr adroddiad ar Tawel Fan i fyny yn y gogledd, ac mae llawer o Aelodau wedi cael y penwythnos i ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw. Un o gasgliadau syfrdanol yr adroddiad oedd camdrafod sefydliad Betsi fel bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd. Cyfeiriodd at linellau atebolrwydd yr oedd yn amhosibl eu holrhain; anghydfod rhwng y bwrdd iechyd a'r ward ynghylch sut i ymdrin â diogelwch cleifion; roedd polisi clinigol yn ddiffygiol dros ben; ac roedd arweinwyr nyrsio uwch yn cael eu hamharchu a'u hanwybyddu. Roedd hynny i gyd yn iaith a oedd yn yr adroddiad, ar eu safbwyntiau ar greu Betsi fel bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd. Roeddech chi'n Weinidog yn y Llywodraeth a wnaeth ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn 2009 yn bosibilrwydd, ac rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog drwy gydol bodolaeth y bwrdd iechyd hwnnw i fyny yn y gogledd. Onid ydych chi'n gresynu erbyn hyn y ffordd y cyflawnwyd yr ad-drefnu hwnnw yn y gogledd, sydd wedi arwain at sylwadau o'r fath ac, yn wir, y gellir ei gysylltu'n uniongyrchol i rai o'r canfyddiadau o'r cam-drin ar ward Tawel Fan?

Wel, yn gyntaf oll, mae'n amlwg bod yr adroddiad yn cynnwys canfyddiadau y bydd angen gweithredu arnynt. Mae'n bell o fod yn wyngalchu, fel y disgrifiwyd gan un aelod o'i blaid. Mae'n adroddiad sy'n nodi llawer o'r anawsterau sydd yn gwbl briodol yno i bawb eu gweld a bydd angen gweithredu arnynt. Nid wyf i'n credu, mewn egwyddor, bod ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd bryd hynny yn syniad gwael. Nid ydym wedi gweld sefyllfaoedd tebyg yn digwydd mewn mannau eraill, ond mae'n eglur, cyn belled ag y mae Betsi yn y cwestiwn, y bydd angen iddyn nhw weithredu ar sail canfyddiadau'r adroddiad, ac fel Llywodraeth byddwn yn eu cynorthwyo i wneud yr hyn y byddai pobl y gogledd yn disgwyl ei weld o ran datrys yr hyn a ganfuwyd fel bod yn ddiffygiol yn yr adroddiad hwn.

13:40

Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond, mewn gwirionedd, mae'r canfyddiadau hyn yn yr adroddiad yn nodi'n eglur mai'r ad-drefnu hwnnw oedd y man cychwyn ar gyfer llawer o'r problemau a ddatblygodd yn y digwyddiadau ar ward Tawel Fan. Rwyf wedi gofyn i chi a oes gennych chi unrhyw edifeirwch ynghylch yr ad-drefnu hwnnw a, phe byddech chi'n cael eich amser eto, a fyddech chi'n ymgymryd â'r ad-drefnu hwnnw mewn ffordd wahanol? Pan fo gennych chi adroddiad o'r fath sy'n sôn ei bod yn amhosibl olrhain atebolrwydd, lle mae gennych chi anghydfod rhwng y bwrdd iechyd a'r ward, lle mae gennych chi bolisi clinigol hynod ddiffygiol, a phan yr oedd arweinwyr nyrsio uwch yn cael eu hamharchu a'u hanwybyddu, oherwydd y broses a roddwyd ar waith gennych chi yn wleidyddol, fel Llywodraeth, ar yr adeg honno, yna does bosib, o fyfyrio, y gallwch chi fyfyrio ar y pwynt na chymerwyd yr holl fesurau yn y ffordd gywir i sefydlu bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth iechyd o'r radd flaenaf yn y gogledd. Ac onid yw hi'n ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i ddechrau darparu'r gwasanaeth iechyd o'r radd flaenaf hwnnw ar gyfer y gogledd?

Yn gyntaf oll, nid wyf i'n derbyn bod yr ad-drefnu yn brif achos o ran yr hyn a ddigwyddodd yn Tawel Fan, er ei fod yn amlwg yn rhan ohono. Pe byddai hynny'n wir, yna byddem ni'n gweld problemau o ran ad-drefnu ledled Cymru ac, yn wir, mewn wardiau eraill ac mewn ysbytai eraill ar draws y gogledd hefyd. Mae'r ffaith ei fod yn ffactor yn rhywbeth i'w ystyried. Nawr, bydd pobl eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesaf, oherwydd mae'r adroddiad yno ac mae angen gweithredu ar ei sail. Wel, mae'r argymhellion yn eglur. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn esbonio i'r Aelodau beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond mae hi'n bwysig, wrth gwrs, y gweithredir ar sail y cynllun a dyna yr ydym ni'n bwriadu ei wneud fel Llywodraeth.

Mae'n drueni na allech chi nodi'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad fel bod wrth wraidd yr ad-drefnu a ddigwyddodd yn 2009. Cymerwyd yr iaith a ddefnyddiais yn uniongyrchol o'r adroddiad, ac, yn amlwg, dyna mae'r ymchwiliadau wedi ei ddatguddio.

Ond, i symud ymlaen, Prif Weinidog, mae'r bwrdd iechyd wedi yn destun mesurau arbennig ers tair blynedd bellach—neu bron i dair blynedd, dylwn i ddweud. Mewn cyfweliad a roesoch i'r BBC tua pythefnos yn ôl, dywedasoch nad oedd unrhyw fusnes anorffenedig ar ôl nawr bod eich cyfnod fel Prif Weinidog yn dod i ben. Gallem drafod hynny ar draws y Siambr hon ac mae'n debyg na fyddem ni'n symud lawer ymhellach ymlaen, ond un peth yn sicr y byddai trigolion yn y gogledd yn gwerthfawrogi dealltwriaeth ohono—. O gofio eich bod chi'n credu nad oes unrhyw fusnes anorffenedig, does bosib mai un o'r eitemau busnes y mae angen rhoi sylw iddo yw normaleiddio'r strwythurau y mae Betsi yn gweithredu'n unol â nhw, yn hytrach na rheolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth. Felly, a ydych chi'n credu y bydd Betsi allan o fesurau arbennig erbyn yr amser y byddwch chi'n ymddeol fel Prif Weinidog ym mis Rhagfyr eleni?

Wel, mae'n debyg y bydd  pethau y bydd angen parhau i fwrw ymlaen â nhw pan fyddwch chi'n gadael swydd bob amser. Mae hynny'n anochel. Ond, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn parhau i weld gwelliant parhaus yn y gwasanaeth iechyd ar draws y gogledd. Nid wyf i erioed wedi bod yn barod i roi cyfyngiad amser o ran pryd y dylai Betsi ddod allan o fesurau arbennig. Bydd yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig cyhyd ag sy'n angenrheidiol i sicrhau gwelliant parhaus. Bydd pa mor hir yw hynny yn dibynnu, wrth gwrs, ar ein bodlonrwydd bod cynnydd digonol wedi'i wneud i'n galluogi i ryddhau Betsi o fesurau arbennig. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac nid wyf yn credu y byddai'n ddoeth rhoi dyddiad penodol ar hynny.

Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru yn gyffredinol, ond nid yw'n ymddangos bod gan y prifysgolion elît fawr o ddiddordeb ynddo fel cymhwyster, yn wir nid yw'r tair prifysgol orau yn ei wneud yn ofynnol o gwbl. Mae myfyriwr ysgol wedi ysgrifennu ataf gan ddweud bod Bagloriaeth Cymru yn faich i fyfyrwyr ac athrawon a bod y gwaith yn ddiflas ac nad yw'n ddefnyddiol i fyfyrwyr mwy galluog, ac oherwydd bod y ddau bwnc hyn yn orfodol ar gyfer disgyblion blwyddyn naw, bydd yn anodd iawn cystadlu gyda disgyblion o Loegr am swyddi a lleoedd prifysgol gan y byddant wedi astudio dau bwnc mwy gwerthfawr. Felly, o dan yr amgylchiadau, a yw'r Prif Weinidog yn gweld bod hwn, o edrych arno o'r ochr orau, yn tynnu sylw oddi wrth ddefnydd mwy defnyddiol o amser mewn ysgolion?

Wel, nid yw'n gywir i ddweud nad yw Bagloriaeth Cymru yn cael ei gydnabod gan y prifysgolion gorau, fel y dywedodd. Mae pobl yn ei gydnabod am yr ehangder y mae'n ei roi i'r sgiliau y gall myfyrwyr eu caffael pan fyddant yn yr ysgol. Mae fy mab i yn yr ysgol: rwyf i wedi gweld y gwaith y mae'n ei wneud trwy gyfrwng Bagloriaeth Cymru ac, mae'n rhaid i mi ddweud, roedd ef a minnau o'r farn ei fod yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn mynd ag ef y tu hwnt i edrych ar bynciau academaidd yn unig ac yn ei alluogi i ddatblygu mwy fel unigolyn ac felly cael addysg mwy cytbwys. Credaf fod myfyrwyr, ar ba bynnag lefel y byddan nhw'n gadael addysg llawn amser, yn fwy cyflogadwy o ganlyniad i'r sgiliau y mae Bagloriaeth Cymru yn eu rhoi iddyn nhw.

13:45

Wel, mae hwnnw'n bwynt dadleuol ynddo'i hun, rwy'n credu—nid yw'n un yr wyf i'n mynd i'w drafod ymhellach ar hyn o bryd, ond, i gymryd y pwynt ehangach a godwyd gan y Prif Weinidog, ydw, rwy'n cytuno y gallai cwrs Bagloriaeth Cymru fod â rhywfaint o ddefnydd y tu hwnt i ddysgu ffurfiol mewn ystafelloedd dosbarth, gan wneud i fyfyrwyr feddwl am faterion ehangach yn y byd. Gallai hynny, ynddo'i hun, fod yn beth da. Mae'n dibynnu sut y mae'r cwrs wedi'i strwythuro a sut y mae'n cael ei addysgu. Un o'r pethau y mae Bagloriaeth Cymru yn ei gynnwys yw her dinesydd byd-eang, sy'n ymdrin â materion fel amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni yn y dyfodol, anghydraddoldeb a thlodi. Mae'r rhain i gyd yn bynciau hynod wleidyddol, y mae angen eu haddysgu mewn ffordd gytbwys os nad yw addysg am ddiraddio ei hun i ddim ond propaganda. Ceir dadleuon difrifol, er enghraifft, am yr achosion o dlodi mewn rhannau eraill o'r byd: pam mae gwlad a allai fod yn gyfoethog fel Venezuela mewn amddifadedd? Rydym ni'n gwybod bod hynny oherwydd bod ganddi Lywodraeth Corbynaidd. Pam mai gwlad fel Singapôr, nad oes ganddi unrhyw adnoddau naturiol braidd, yw'r wlad yn y byd lle ceir yr incwm uchaf y pen erbyn hyn? Nid oes dim o hyn yn ymddangos yng nghwrs Bagloriaeth Cymru ar dlodi. Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni fod yn ofalus iawn o ran y ffordd yr addysgir y pynciau gwleidyddol hyn mewn ysgolion i wneud yn siŵr bod y cwrs yn gytbwys a'i fod yn addysgu myfyrwyr sut i feddwl yn feirniadol am faterion, yn hytrach na dim ond llyncu'r hyn a ddywedir wrthynt?

Rwy'n ymddiried yn ein hathrawon, i fod yn blwmp ac yn blaen, ac rwyf hefyd yn ymddiried yn ein myfyrwyr i allu meddwl yn feirniadol drostynt eu hunain. Ceir systemau addysg sydd, os edrychwch chi ar y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, yn perfformio'n well o ran y ffigurau na'n rhai ni, ond nid wyf yn siŵr eu bod o reidrwydd yn rhoi'r gallu i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol. Maen nhw'n gallu llwyddo mewn arholiadau, ond nid yw hynny yr un fath â bod yn barod ar gyfer y byd gwaith nac i feddwl am y byd o'u cwmpas. Does bosib nad yw'r materion a nodwyd ganddo yn faterion sy'n berthnasol i bob un ohonom ni. Bydd gwahanol safbwyntiau ar sut i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gwahanol safbwyntiau ar sut i fynd i'r afael â thlodi, serch hynny, maen nhw'n faterion hynod bwysig yr wyf i'n credu y mae angen i bob person ifanc eu hystyried. Ond nid wyf i weld gweld unrhyw enghreifftiau o gwbl o unrhyw fath o ragfarn yn cael ei gyflwyno i'r cwricwlwm, ac, o'm safbwynt i, credaf ei bod hi'n hynod bwysig bod y gallu gan ein myfyrwyr i fynd y tu hwnt i bynciau academaidd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eu gwneud yn unigolion mwy cyflawn pan eu bod yn meddwl yn fwy beirniadol ac yn fwy eang.

Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud, o edrych ar y gwahanol ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu'r cyrsiau hyn, eu bod nhw i gyd o safbwynt chwith-canol. Nawr, gall pob un ohonom—[Torri ar draws.] Wel, mater o ffaith—ac rwy'n meddwl bod y dicter ffug sy'n dod o'r ochr arall yn profi'r pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud yn y fan yma, sef, gan mai nhw sy'n rheoli'r system addysg, mae'n cael ei defnyddio fel arf propaganda. Nid oes dim, er enghraifft, yn y pwnc ynni gwynt sy'n cwestiynu pa mor effeithiol yw hyn hyd yn oed i ymdrin â phroblemau cynhesu byd-eang artiffisial pe ystyrir bod hynny'n broblem. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw y dylai rhieni fod yn bryderus iawn. Ac, ydy, mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn ymddiried mewn athrawon, ac, wrth gwrs, nid wyf yn dweud bod athrawon yn mynd ati i gyflwyno propaganda i blant, ond mae meddylfryd athrawon yn bwysig iawn fel cefndir i hyn, ac o ystyried bod 72 y cant o athrawon ysgol uwchradd, yn ôl y Times Educational Supplement, yn pleidleisio dros Lafur, 10 y cant yn pleidleisio dros y Rhyddfrydwyr, dim ond 8 y cant yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr, mae'n amlwg—[Torri ar draws.] Mae—[Torri ar draws.] Wel—[Torri ar draws.] Mae hwnnw, wrth gwrs—[Torri ar draws.] Mae hwnnw, wrth gwrs, yn sampl anghynrychioliadol iawn o'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Ac, felly, hyd yn oed os yw rhagfarn yn isymwybodol, mae'n rhaid ei ystyried fel perygl posibl.

Mae rhywun yn synnu. Wel, mae'n gwbl eglur pam mae athrawon yn amharod i bleidleisio dros UKIP felly, o ystyried yr hyn y maen nhw newydd ei glywed. Rwy'n meddwl tybed, o wrando ar arweinydd UKIP, pa un a yw'n credu, o'i safbwynt ef, bod George W. Bush yn gomiwnydd peryglus, oherwydd—. A oedd e'n rhywun, er enghraifft, a gefnogodd adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 a'r demoneiddio pobl hoyw a lesbiaidd o ganlyniad i hynny? Wel, os gwnaeth, ac rwy'n credu fy mod i'n iawn yn dweud iddo wneud yn union hynny, yna, ydy, mae unrhyw beth yn chwith-canol o'i safbwynt ef. O'n safbwynt ni, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael darlun cytbwys o'r byd ac nid safbwynt sy'n dweud, er enghraifft, wel, cynhesu byd-eang artiffisial, fel y mae'n dweud, os oes y fath beth yn bodoli—mae pwysau enfawr y dystiolaeth yn cefnogi hynny. Nid yw'r ffaith bod rhai pobl yn dewis dweud yn wahanol yn golygu y dylid rhoi'r pwys priodol i'w tystiolaeth, gan fod cyn lleied ohonynt. Os yw wir yn dweud mai diben addysgu pobl ifanc, trwy fagloriaeth Cymru, am wybodaeth am ynni, er enghraifft, yw anwybyddu pwysau llawn maes gwyddoniaeth, yna mae hynny'n rhoi rhyw syniad i ni o'r hyn yr hoffai iddo gael ei addysgu yn ein hysgolion. Mae'n well gennym ni gydbwysedd; mae ef eisiau adolygiadaeth asgell dde.

13:50

Diolch, Llywydd. Bydd Bil ymadael yr EU, fel y'i diwygiwyd, yn dal i ganiatáu i gymhwysedd y Cynulliad gael ei gyfyngu heb ei ganiatâd, ac nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn rhoi sicrwydd pendant na fydd hyn yn digwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad hwnnw?

Rwy'n anghytuno â'r ffordd y mae wedi ei roi, gan fy mod i'n credu ein bod ni wedi dod yn bell o ble'r oedd Llywodraeth y DU; maen nhw wedi ildio llawer o dir. Nid yw'n ddelfrydol o'n safbwynt ni, wrth gwrs nad ydyw, ond natur cytundeb yw eich bod chi'n cyrraedd tir yr ydych chi'n credu sy'n dir cyffredin. Yr hyn y mae'r cytundeb yn ei ddweud yw na fydd Llywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig fel rheol. Y cwbl y mae hynny'n ei wneud yw adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd eisoes yn y setliadau datganoledig ledled y DU. Mae'n rhywbeth, rwy'n credu, y bydd angen rhoi sylw iddo yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod gennym ni gytundeb sy'n dangos bod llawer o dir wedi ei ildio gan Lywodraeth y DU, yn enwedig, mewn gwirionedd, cyflwyno confensiwn Sewel i is-ddeddfwriaeth, rhywbeth nad oedd yn bodoli yn yr un ffordd o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod yn rhoi'r amddiffyniad i ni sydd ei angen arnom. Byddwn, wrth gwrs, yn wyliadwrus iawn o ran gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn cadw at delerau'r cytundeb.

Nid fy ngeiriau i oedd y geiriau yn y datganiad yna, Prif Weinidog. Fe'u cymerwyd o ddadansoddiad gan dîm cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n cadarnhau sgil-effeithiau damniol y fargen amheus rhwng y Torïaid yn San Steffan a'ch Llywodraeth Lafur chi. Yr wythnos diwethaf, honnodd Aelodau Llafur ar y meinciau blaen nad oedd Plaid Cymru yn deall canlyniad y cytundeb hwn o ran pwerau'r Cynulliad hwn a'i allu i wrthod rhoi cydsyniad. Prif Weinidog, mae'r cyngor cyfreithiol yn dangos bod y gwrthwyneb yn wir. Mae'r cyngor yn dweud bod unrhyw awgrym y bydd y Cynulliad hwn yn gallu rhwystro San Steffan trwy beidio â chydsynio yn, a dyfynnaf, 'gamarweiniol'. Aiff ymlaen i ddweud, a dyfynnaf eto, 'gellir cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad heb ei gydsyniad'. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â chyfreithwyr y Cynulliad y gall San Steffan fusnesa yn ein Cynulliad erbyn hyn, ac nad oes dim gwbl y gallwn ni ei wneud am hynny?

Y ffordd y mae hi'n ei gyflwyno—. Mae hyn wedi bod yn wir ers 1999; nid yw'n newydd. Y gwir amdani yw y bu hynny'n wir erioed, yn yr Alban ac yng Nghymru, na fyddai Senedd y DU—na fyddai'n deddfu mewn meysydd datganoledig fel rheol yw'r ymadrodd, ond mae wedi gallu gwneud hynny erioed, oherwydd yr athrawiaeth o sofraniaeth seneddol. Nid yw'r cytundeb yn mynd i newid hynny. Nawr, yn y dyfodol, rwy'n cytuno bod angen dadl ynghylch pa un a yw sofraniaeth seneddol yn briodol—ac rwyf i wedi ei ddweud o'r blaen—yn gyhoeddus, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod angen i ni symud i setliad cyfansoddiadol sy'n cydnabod bod gwahanol ganolfannau o gyfreithlondeb democrataidd o fewn y DU ei hun. Ond, o ran y setliad datganoli presennol, mae gennym ni sefyllfa lle, i bob pwrpas, y bydd cost wleidyddol uchel iawn i unrhyw Lywodraeth y DU ei thalu pe byddai'n dymuno hyrddio beth bynnag yr oedd ei eisiau drwodd. A gaf i ddweud hefyd, pe byddai'n wir bod Llywodraeth y DU eisiau anwybyddu'r Cynulliad neu Senedd yr Alban yn llwyr, oni fyddai wedi gwneud hynny eisoes? Nid yw wedi gwneud hynny—nid fy lle i yw ei hamddiffyn, ac nid wyf yn gwneud hynny'n aml—ond, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb lle maen nhw wedi ildio, rwy'n cydnabod, llawer iawn o dir. Ac rydym ni mewn sefyllfa lle—er y byddai wedi bod yn well gennym ni gael gwared ar gymal 11 yn llwyr, rydym ni mewn sefyllfa lle mae mesurau diogelu, mesurau diogelu digonol, wedi eu rhoi yng nghymal 11. Sicrhawyd chwarae teg o ran gwneud deddfwriaeth nad oeddem yn agos ati flwyddyn yn ôl. Rwy'n sicr yn talu teyrnged i'm cyd-Aelod, Mark Drakeford, am y gwaith a wnaeth o wythnos i wythnos i ddod i'r cytundeb a wnaethom.

Prif Weinidog, mae hon yn fargen amheus, ac mae'n un yr ydych chi wedi cytuno iddi. Ac nid creu anhrefn cyfansoddiadol yw'r unig beth y mae wedi ei wneud. Bydd eich penderfyniad i roi cydsyniad i'r Bil hwn yn arwain at oblygiadau i'n heconomi hefyd. Er bod eich plaid mewn llanastr ar y cwestiwn hwn, mae eich Gweinidogion ac Aelodau Llafur yn parhau i ymgyrchu dros aelodaeth o undeb tollau. Trwy hysbysu ein bod yn cydsynio i'r Bil ymadael, fodd bynnag, rydych chi'n rhoi Brexit caled i'r Torïaid ar blât. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ei fod yn deall ei fod yn sicrhau, trwy gydsynio i'r Bil ymadael, mai San Steffan fydd yn penderfynu pa un a yw Cymru'n gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl?

13:55

Wel, roedd hi'n wir erioed, yn ôl y gyfraith, mai San Steffan sy'n penderfynu pa un a fyddwn ni'n gadael yr undeb tollau. Mewn gwirionedd, fel y mae hi wedi fy nghlywed i'n dweud lawer, lawer gwaith, byddai hynny'n wallgofrwydd cyn belled ag y mae'r DU yn y cwestiwn. Mae'n bwysig dros ben bod y DU yn aros yn yr undeb tollau. Nid yw polisi masnach wedi'i ddatganoli—dyna'r gwirionedd. Ond rydym ni wedi sicrhau bod gennym ni lais i wneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed.

Mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos diwethaf—gwrandewais ar Blaid Cymru yr wythnos diwethaf; roedd hi bron fel pe byddai dwy wahanol ddadl. Gwrandewais ar Rhun ap Iorwerth a'r hyn a ddywedodd ef—ymateb pwyllog a manwl. Roedd yn ymateb pwyllog a manwl o'i gymharu â'r hyn a gawsom yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, pan ddefnyddiodd eiriau fel 'ildio', 'bradychu', 'bargen amheus'. Mae hi'n swnio fel Jacob Rees-Mogg wrth sôn am Brexit. Nid wyf i'n gwrthwynebu beirniadaeth, ond o leiaf—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y manylion. Gadewch i ni edrych ar y manylion. [Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y manylion. Os oes anghytuno ynghylch y manylion, iawn, ond, yn yr atebion a roddais, ni wnaeth hi ddod yn ôl ataf unwaith a dweud, 'Wel, edrychwch, beth am hyn? Beth am hyn? Sut mae hynny'n rhoi tawelwch meddwl i ni?' Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n credu bod yr ateb a roddwyd gan Rhun ap Iorwerth, neu'r araith a wnaed ganddo, yn sicr, yr wythnos diwethaf, yn bwyllog ac yn rhywbeth, yn fy marn i, y gallem ni fod wedi cael dadl wirioneddol yn ei gylch.

Argaeledd Meddygon y Tu Allan i Oriau

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd meddygon y tu allan i oriau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ52153

Rwy’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ddarparu ystod o wasanaethau diogel ac effeithiol y tu allan i oriau er mwyn ymateb i anghenion gofal iechyd brys eu poblogaeth pan fydd meddygfeydd ar gau.

Efallai bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddyn nhw ei wneud e, ond, wrth gwrs, ar nifer o achlysuron eleni, mae cleifion yn Hywel Dda wedi cael eu gadael heb ofal meddygon tu allan i oriau ar benwythnosau, oherwydd beth mae'r bwrdd iechyd ei hunain yn disgrifio fel prinder meddygon teulu dybryd. Nawr, mae'n effeithio ar y tair sir o fewn eu hardal nhw ac mae’n benodol yn effeithio ar sir Gaerfyrddin, oherwydd problemau arbennig yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip. Mae’r bwrdd iechyd ei hunain wedi ymddiheuro sawl gwaith i gleifion. A ydy Llywodraeth Cymru’n mynd i ymddiheuro? Oherwydd roeddech chi wedi penderfynu peidio â chynnwys sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn y cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i ddenu meddygon teulu i sir Gaerfyrddin. Onid yw peth o’r cyfrifoldeb yn syrthio arnoch chi?

Wel, rŷm ni'n moyn sicrhau, wrth gwrs, bod pobl yn dod i Gymru i weithio. Rŷm ni'n gweld y niferoedd yn codi o achos hynny. Rŷm ni'n gweld, er enghraifft, y niferoedd yn codi yng Ngheredigion a sir Benfro. Hefyd, yn sir Benfro, er enghraifft, yn 2016, roedd y ganran o ddoctoriaid yn mynd i mewn i lefydd hyfforddi ar y pryd yn sero y cant; mae wedi mynd lan i 100 y cant o fewn blwyddyn, 2017. Nawr, a ydy e'n wir bod yna bwysau? Ydy. A ydy e'n wir i ddweud nad yw rhai gwasanaethau wedi gallu cael eu cynnal? Ydy, mae hynny'n iawn. Beth, felly, sy'n digwydd nesaf? Wel, mae Hywel Dda yn cyflogi advanced paramedic practitioners, yn Saesneg—pobl sy'n mynd i allu gweithredu a gweithio yn yr ardaloedd lleol. Mae yna hysbysebion yn mynd mas gan y bwrdd iechyd sydd yn edrych i dynnu pobl i mewn i Hywel Dda. Mae yna drafodaethau yn cymryd lle ar hyn o bryd ynglŷn â'r potensial i ddatblygu gweithio rhanbarthol, yn enwedig yn y cyfnod dros nos, ac mae'r trafodaethau hynny'n cynnwys ABMU, Hywel Dda a hefyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni'n edrych ar ffyrdd lle mae meddygon teulu, er enghraifft, yn gallu gweithio o gartref. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac, wrth gwrs, bydd hynny'n gorfod cael ei ystyried i weld pa mor effeithiol yw hynny. So, ydy, mae'n wir i ddweud nad yw'r gwasanaeth wedi bod o'r safon y byddwn i'n ei erfyn o'r bwrdd iechyd, ond dyna beth mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud er mwyn datrys y sefyllfa.

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem enfawr ynglŷn â doctoriaid tu allan i oriau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac un o'r sgil effeithiau yw bod hyn yn rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau A&E, er enghraifft. Mae opsiynau ymgynghoriad presennol y bwrdd iechyd yn golygu y bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei israddio i ysbyty gymunedol heb wasanaethau A&E, sydd yn hollol annerbyniol. A ydych chi'n cytuno â fi, felly, ei bod hi'n bwysicach fyth bod gwasanaethau A&E ar gael i bobl yn sir Benfro o ystyried bod yna broblem enfawr gyda doctoriaid tu allan i oriau, ac y dylai bwrdd iechyd Hywel Dda o leiaf gydnabod hyn yn ei ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?

14:00

Wel, ni allaf i ddim mynegi barn, wrth gwrs, ynglŷn â'r ymgynghoriad. Mae'n bwysig bod yr ymgynghoriad yn cymryd lle. Mae'n bwysig ei fod e'n agored ac mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle, wrth gwrs, i fynegi barn yn y broses ei hunan er mwyn eu bod nhw'n gallu dweud pa mor gryf maen nhw'n teimlo ynglŷn ag unrhyw issue. Ynglŷn â sir Benfro, mae yna chwe meddyg teulu sydd yn cael eu hyfforddi yn ychwanegol yn sir Benfro, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sydd o help i'r ardal. Hefyd, mae yna chwe doctor ychwanegol ar rotas yr ysbytai yn yr ardal leol, achos y ffaith bod y doctoriaid hyn yn chwarae rhan yn yr ysbyty ei hunan. Felly, rydym ni wedi bod yn llwyddiannus yn denu doctoriaid i mewn i ardaloedd Ceredigion a gogledd Penfro, a byddwn i'n erfyn y bydd Hywel Dda yn sicrhau eu bod nhw'n dal i barhau i dynnu doctoriaid i mewn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o ddoctoriaid ar gael dros nos.

Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal? OAQ52156

Mae cynorthwyo’r rhai sy'n gadael gofal i annibyniaeth fel oedolyn a dyfodol llwyddiannus yn ymrwymiad allweddol yn 'Ffyniant i Bawb'. Drwy'r grŵp cynghori gweinidogol a buddsoddiad mewn mentrau allweddol, bydd dull cydweithredol cryf yn gwella canlyniadau i'r rhai dan sylw, ac rydym ni'n dechrau gweld effeithiau llesol yr hyn a gyhoeddwyd eisoes.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn, er gwaethaf heriau cyni cyllidol, mai cyngor Torfaen oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor tan neu bod yn 21 oed, neu'n 25 oed o dan rai amgylchiadau. Fel y byddwch yn gwybod, dilynwyd y penderfyniad hwnnw gan chwe awdurdod lleol arall. Bydd yr eithriad hwn yn cynnig cyfle hollbwysig i'r rhai sy'n gadael gofal bontio ac addasu i fyw'n annibynnol, a dylai'r tawelwch meddwl hwn fod ar gael i bawb sy'n gadael gofal yng Nghymru, nid yn unig yn y saith awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno'r polisi. Prif Weinidog, beth allwch chi ei wneud i gynorthwyo'r awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i ddarparu'r eithriad hwn i'r rhai sy'n gadael gofal i sicrhau y gall y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru gael gafael ar y cymorth lle bynnag y maen nhw'n byw?

'Dysgu o esiampl da pobl eraill' yw'r hyn y byddwn i'n ei ddweud. Rydym ni eisoes wedi gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Ni fyddwn yn meddwl ei fod yn ergyd ariannol enfawr i gyllidebau awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae Torfaen wedi ei wneud, a'r awdurdodau lleol eraill. Byddwn yn sicr yn annog eraill i'w dilyn.

Mae'n gwestiwn da iawn a ofynnwyd yma heddiw. Oherwydd o'r saith awdurdod lleol sydd eisoes wedi cyflwyno hyn—£2 filiwn fyddai'r gost wirioneddol ledled Cymru. Mae trigain o awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cyflwyno hyn, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Hydref ar gyfer pawb sy'n gadael gofal yn yr Alban. Felly, Prif Weinidog, pa ymrwymiad fyddwch chi'n ei wneud i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol yma yng Nghymru i ddarparu eithriad treth gyngor 100 y cant i bobl ifanc sy'n gadael gofal?

Mae rhai awdurdodau lleol wedi ei wneud eisoes. Gan eu bod nhw wedi ei wneud eisoes, ni allaf weld pam na all eraill ddilyn eu hesiampl. Rwy'n credu, a dweud y gwir, mai wyth, yn hytrach na saith, ledled Cymru sydd wedi eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor tan eu bod yn 21 oed o leiaf, erbyn hyn. Mae dau awdurdod lleol wedi eithrio pawb sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed, ac mae tri wedi eithrio hyd at 25 oed mewn achosion penodol. Nawr, rwy'n deall bod gan 10 awdurdod lleol gynlluniau i fwrw ymlaen â hyn, yn amodol ar y cymeradwyaethau angenrheidiol. Nid ydym wedi cael gwybodaeth yn ôl gan bedwar awdurdod lleol, ond byddwn yn parhau i bwyso. Os gall un awdurdod lleol ei wneud, gall eraill ei wneud, ac felly byddwn yn sicr yn annog yr awdurdodau lleol eraill i ddilyn esiampl dda y rhai sydd eisoes wedi ymrwymo i'r polisi hwn.

Prif Weinidog, y cymorth gorau y gallwn ni ei roi i'r rhai sy'n gadael gofal yw sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i'w paratoi ar gyfer bywyd annibynnol fel oedolyn, sgiliau a addysgir i'r rhain fwyaf ohonom ni gan ein rhieni. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhieni corfforaethol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen yn ddiweddarach mewn bywyd i'r rhai sy'n derbyn gofal ac a wnewch chi ddysgu gan y Roots Foundation yn fy rhanbarth i sy'n canolbwyntio ar helpu'r rhai sy'n derbyn gofal i bontio i fyw'n annibynnol?

Rwy'n credu bod ein gofalwyr, a'n gofalwyr maeth yn arbennig, yn gwneud gwaith anhygoel. Rwyf i wedi cyfarfod pobl sydd wedi maethu llawer iawn o blant ac maen nhw wedi maethu plant sydd wedi dod atyn nhw o dan yr amgylchiadau anoddaf, weithiau fwy nag unwaith. Rwyf i wedi gweld gofalwyr maeth sy'n maethu plant yn ifanc iawn sydd wedyn, wrth gwrs, yn eu gweld yn cael eu mabwysiadu pan eu bod yn 18 mis neu'n ddwyflwydd oed. Mae'n anodd dros ben yn emosiynol i bobl, ac rwyf i'n llawn edmygedd ohonynt.

Gofynnodd beth yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth. Wel, rydym ni wedi sefydlu cronfa Dydd Gwŷl Dewi gwerth £1 filiwn. Mae honno'n cynorthwyo'r rhai sy'n gadael gofal i fanteisio ar gyfleoedd ym meysydd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae £625,000 i'r awdurdodau lleol ddatblygu cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth yn yr awdurdod lleol, gan weithredu fel rhieni corfforaethol da, a darparwyd £1 filiwn i awdurdodau lleol fel y gellir darparu cymorth cynghorydd personol i bob un o'r rhai sy'n gadael gofal tan y byddant yn 25 oed. Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth i ddarparu'r math o gyllid sydd ei angen i roi dechrau gwell mewn bywyd i'n pobl ifanc sy'n gadael gofal.

14:05
Cymorth i Brynu—Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cynllun Cymorth i Brynu—Cymru? OAQ52155

Ers ei lansio yn 2014, mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi helpu bron i 6,900 o aelwydydd i brynu eu cartref newydd, gan gynnwys oddeutu 75 y cant o brynwyr tro cyntaf. Hefyd, wrth gwrs, mae'r cynllun yn denu cyllid datblygu i Gymru ac yn darparu swyddi a chyfleoedd i gadwyn gyflenwi Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Mae gwerth cartrefi yng Nghasnewydd wedi cynyddu 4.7 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae pris cyfartalog tŷ yng Nghasnewydd yn fwy na £185,000 erbyn hyn. Mae cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru wedi helpu dros 1,200 o brynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi yng Nghasnewydd, ac mae hynny'n un rhan o bump o'r holl gartrefi Cymorth i Brynu a brynwyd yng Nghymru.O gofio bod diddymiad tollau pont Hafren yn prysur agosáu, a phobl yn symud o Fryste a Chaerdydd i Gasnewydd, mae rhenti a phrisiau tai sy'n codi yn parhau i roi straen gwirioneddol ar bobl ifanc a theuluoedd. O ganlyniad, ceir perygl gwirioneddol y bydd prynwyr tro cyntaf ifanc yn cael eu prisio allan o'r farchnad. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud, gyda'r awdurdod lleol a landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr, i sicrhau bod mannau poblogaidd ar gyfer prynu tai, fel Casnewydd, yn gyraeddadwy i'r rhai hynny sydd eisiau dringo ar yr ysgol dai am y tro cyntaf?

Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn rhan o hynny, ond mae cynlluniau eraill fel Rhentu i Brynu yn hynod bwysig, a gwneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, bod cyflenwad digonol o dai yn yr ardal. Nid yw hynny'n golygu adeiladu mwy a mwy o gartrefi yn unig—er bod gennym ni ein targed o 20,000 o gartrefi a fydd yn cael ei fodloni erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn—ond hefyd, wrth gwrs, dod â mwy o gartrefi gwag i ddefnydd, ac mae gan Gasnewydd, wrth gwrs, hanes da o wneud hynny. Ac, wrth gwrs, mae'n golygu ystyried ffyrdd amgen fel cynlluniau ecwiti a rennir, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol, er mwyn gwneud tai yn fwy fforddiadwy, ac yn enwedig i wneud yn siŵr nad yw prisiau tai yn cynyddu mor gyflym a mor bell fel nad yw'r tai yn fforddiadwy wedyn. Un ffordd o wneud hynny yw drwy ecwiti a rennir. Un ffordd o wneud hynny yw drwy ymddiriedolaethau tir cymunedol, lle mae'r tir yn eiddo i landlord ac mae'r bobl sy'n berchen ar dai ar y tir yn lesddeiliaid. Mae'n helpu i reoli prisiau tai. Rwy'n credu y gall adeiladwyr tai ystyried yr holl bethau hyn, er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy a mwy o gartrefi yn dod ar gael.

Prif Weinidog, rwy'n sicr yn cytuno bod y cynllun Cymorth i Brynu wedi bod yn llwyddiannus, fel y mae wedi bod yn Lloegr, ac mae'r mesurau eraill o ran galw a grybwyllwyd gennych—mae'r rhan fwyaf ohonynt yn Lloegr hefyd—wedi bod o gymorth hefyd, ond nid ydynt mor rymus â mesurau'r ochr gyflenwi. A gaf i ddweud wrthych chi, nawr, y ffigurau diweddaraf? Ers mis Mawrth 2018, sydd newydd fynd heibio, mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru dros £181,000 erbyn hyn. Mae hynny rhwng chwech a saith gwaith yr incwm cyfartalog. Dyna pam mae gennym ni argyfwng tai. Nid eich bai chi yw hynny'n arbennig; mae'n fai ar bob un ohonom ni sydd wedi bod yn weithredol ym myd gwleidyddiaeth dros y 25 i 30 mlynedd diwethaf. Mae'n rhaid i ni gael newid llwyr, gan ddechrau ar yr ochr gyflenwi.

Rwy'n cytuno, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Rhan anoddaf y farchnad dai yn y DU yw bod pobl wedi dod i arfer, dros flynyddoedd lawer iawn, â gweld tŷ fel asedl—fel rhywbeth a allai o bosibl fod yn rhywbeth lle gallent weld cynnydd i'w buddsoddiad ariannol, neu'n rhywbeth i'w plant. Nid yw'n digwydd ym mhobman arall, mewn gwledydd eraill. Yn aml iawn, mewn rhai gwledydd, ystyrir mai rhentu yw'r norm ac ni ystyrir eiddo fel rhywbeth yr ydych chi'n buddsoddi ynddo. Ond mewn gwirionedd, mae'n wir bod pobl yn buddsoddi mewn tai gyda'r disgwyliad y bydd prisiau yn codi. Y cwestiwn yw cael y cydbwysedd cywir: bydd prisiau yn codi, ond mae'n fater o wneud yn siŵr nad ydynt yn codi'n aruthrol, ac mae hynny'n golygu cynyddu'r cyflenwad. Mae yn llygad ei le am hynny. Ond mae'n golygu gwneud yn siŵr bod y cyflenwad yn cyfateb yn briodol i'r galw sydd yno. Nid oes unrhyw bwynt mewn cynyddu'r cyflenwad o dai uwchraddol os nad yw'r farchnad yn mynd i helpu'r bobl hynny sydd ar ben isaf y raddfa incwm, a dyna pam yr wyf i wedi pwysleisio'r ffaith honno erioed, oes, mae angen tai cymdeithasol arnom, oes, mae angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o lety rhent preifat da, oes, mae angen mwy o dai arnom i'w prynu, ond mae angen i ni hefyd ystyried ffyrdd eraill y gall pobl gael cyfran mewn eiddo heb orfod prynu tŷ yn llwyr, a fyddai y tu hwnt iddyn nhw yn ariannol.

14:10
Twf Economaidd yng Nghwm Cynon

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng Nghwm Cynon? OAQ52157

Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng nghwm Cynon a ledled Cymru. Dim ond rhai enghreifftiau, wrth gwrs: mae ein cronfa benthyciadau canol tref Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn helpu i gefnogi gwaith adfywio canol trefi ledled Cymru. Mae Aberdâr, yn arbennig, yn gweld budd hynny. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar gwm Cynon, mae cwm Cynon wedi denu pedwar buddsoddiad gan gwmnïau â pherchnogion tramor a dau fuddsoddiad o rannau eraill o'r DU dros y pum mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o fusnesau cynhenid yn y cwm sy'n gwneud yn dda, fel Ashwood Designs.

Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedasoch yn y fan yna. Ymwelais yn ddiweddar â Pontus Research, sy'n fusnes ymchwil a datblygu dyframaethu arobryn yn fy etholaeth i, â chanddo restr o gleientiaid byd-eang. Mae'r cwmni wedi gwneud yn anhygoel o dda, ond maen nhw wedi cyrraedd capasiti erbyn hyn ac maen nhw angen tyfu. Maen nhw wedi gwneud cais am gyllid o gronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop, ond fe'u hysbyswyd y gallai eu cais gymryd o leiaf 120 diwrnod—120 o ddiwrnodau gwaith yw hynny—dim ond i'w brosesu. Mae hyn yn eu hatal rhag datblygu, rhag sicrhau arian cyfatebol o bosibl, rhag cyflogi staff newydd a thrwy hynny cyfrannu at dwf economaidd hyd yn oed ymhellach yn fy etholaeth i. Prif Weinidog, a wnewch chi edrych ar sut y mae cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gweithio yng Nghymru i weld a ellir gwneud gwelliannau i amserlenni fel nad yw busnesau eraill fel Pontus yn dioddef?

Wel, yn gyntaf oll, dylai'r broses werthuso gymryd hyd at 120 o ddiwrnodau gwaith, nid o leiaf 120 o ddiwrnodau gwaith. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, o ran Pontus yw bod y cais wrthi'n cael ei werthuso ar hyn o bryd. Mae'r cwmni wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y gall ddechrau gwaith, ar eu risg ei hun, o'r adeg y cyflwynir y cais, ac roedd hynny ym mis Ionawr 2018, fel y gall y gwaith hwnnw ddechrau. Gallaf hefyd ddweud bod y cwmni wedi gallu elwa hefyd ar gyllid a roddwyd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun cynghorwyr datblygu busnes pysgodfeydd er mwyn helpu i dalu i ymgynghorydd ddatblygu'r syniad busnes. Os yw eich etholwr wedi cael ei hysbysu ei fod yn 120 diwrnod o leiaf, gadewch i mi roi'r sicrwydd mai 'hyd at' yw'r achos, gyda'r nod, wrth gwrs, y bydd y broses werthuso yn cael ei gorffen ymhell cyn hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydych chi'n amlwg yn fy ffafrio i y prynhawn yma, a hir y parhaed hynny. [Chwerthin.] Prif Weinidog, Cwm Cynon yw'r drydedd etholaeth leiaf gweithgar yn economaidd yng Nghymru, a gwyddom am y cysylltiad rhwng gweithgarwch economaidd a ffyniant. Y prif reswm y mae pobl yn parhau i fod yn economaidd anweithgar, pan y gallent, mewn gwirionedd, am resymau iechyd, fod yn ddigon ffit i weithio, yw nad ydynt yn meddu ar y sgiliau sylfaenol i ymuno â'r farchnad swyddi, wrth iddi newid yn gyflym. Felly, mae buddsoddi mewn sgiliau sylfaenol mor bwysig â bwrw ymlaen tuag at yr economi seiliedig ar wybodaeth fawr, yr ydym, wrth gwrs, hefyd eisiau ei gweld yng Nghymru. Y rhaglenni hyn yw'r hyn yr ydym ni wir ei angen mewn ardaloedd fel Cwm Cynon.

Rwy'n cytuno. Y rheswm pam, wrth gwrs, mae cynhyrchiant ar ei isaf erioed, nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU, yw y bu diffyg buddsoddiad dros flynyddoedd lawer mewn datblygu sgiliau. Rydym ni'n gwybod mai'r mwyaf medrus yw pobl, y mwyaf cynhyrchiol ydyn nhw a'r mwyaf y gallan nhw ei ennill. Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr: pam, os rhoddwn beiriant penodol i weithiwr o'r Almaen, yr ydym ni'n cael llawer mwy ohono na gweithiwr yn y DU? Pam? Hyfforddiant. Dyna'r rheswm am hyn, a dyna'r wers y mae'n rhaid i ni ei dysgu. Sut ydym ni'n gwneud hynny? Gweithio gyda chyrff addysg uwch, sy'n gweithio'n galed yn eu cymunedau. Colegau addysg bellach—mae gennym ni golegau newydd sydd wedi eu hadeiladu ledled Cymru, gan gynnig cyfleusterau gwych i bobl leol. Mae gan tasglu'r Cymoedd, yn gwbl greiddiol, y dymuniad i sicrhau y gall pobl gael swyddi gwell yn nes at eu cartrefi, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ond mae'n hynod bwysig hefyd gwneud yn siŵr nad yw swyddi yn gadael cymunedau yn y Cymoedd, a dyna pam yr oeddwn i mor siomedig o weld bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu canoli llawer o swyddi sydd wedi dod o gymoedd eraill yn Nhrefforest. Nid ydynt yn swyddi newydd; swyddi ydyn nhw sydd ddim ond wedi eu symud o gwmpas. Yn anffodus, i lawer o bobl, bydd hynny'n golygu y byddan nhw'n canfod bellach bod yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i gadw'r swyddi sydd ganddyn nhw. Mae hwnnw'n gyfeiriad anghywir.

Canser yr Ofari

7. A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i'r galwad gan Ovarian Cancer Action am archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser yr ofari yng Nghymru? OAQ52133

Nid yw'r rhaglen archwilio clinigol ac adolygu canlyniadau ar gyfer y GIG yn cynnwys darpariaeth—mae hynny'n wir—ar gyfer archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser yr ofari. Rydym ni, fodd bynnag, yn annog elusennau canser yr ofari yng Nghymru i gysylltu â Rhwydwaith Canser Cymru i ystyried dulliau amgen ar gyfer adolygu gwasanaethau.

Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol mai heddiw, mewn gwirionedd, yw Diwrnod Canser yr Ofari y Byd. Ar Sul y Mamau, ymunais â channoedd o bobl eraill ar daith gerdded er cof am Lesley Woolcock o'r Barri, a oedd yn ymgyrchydd ddiflino ar ganser yr ofari a fu farw yn 2016, yn anffodus.

Yn ôl Ovarian Cancer Action, canser yr ofari yw canser gynaecolegol mwyaf marwol y DU, ac mae gan y DU un o'r cyfraddau goroesi isaf yng ngorllewin Ewrop. Felly, gallai archwiliad canser yr ofari ddarparu'r data i helpu i ddarganfod y rheswm am hyn a ble mae'r heriau. Ac, wrth gwrs, gan gydnabod pwysigrwydd archwiliadau clinigol cenedlaethol—ac maen nhw wedi gwella cyfraddau goroesi ar gyfer canser yr ysgyfaint, y coluddyn a'r pen a'r gwddf—rwy'n deall bod yr Alban newydd gwblhau archwiliad canser yr ofari, ac mae'r prif swyddog meddygol yn Lloegr wedi galw am archwiliad. Felly, gobeithiaf, yn wir, y rhoddir ystyriaeth i archwiliad ar gyfer menywod yng Nghymru.

14:15

Wel, mae archwiliadau clinigol ar gyfer nifer o fathau eraill o ganser eisoes yn bodoli , fel y soniodd yr Aelod yn eglur. Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch a yw archwiliadau clinigol yn briodol ar gyfer pob math o ganser. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod system eisoes ar waith sy'n edrych ar sut y mae canser yr ofari yn cael ei ganfod ac, yn wir, yn cael eu drin—mae hynny'n rhan o'r dull a nodwyd yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer canser. Mae gennym lawer iawn o ddata ar ganser yr ofari a ddarperir gan gofrestrfa canser Cymru, ac rydym yn dysgu o hynny beth sy'n effeithio ar gyfraddau goroesi canser drwy ein cyfranogiad, er enghraifft, mewn astudiaethau rhyngwladol.

Gallaf hefyd roi sicrwydd i'r Aelodau bod gwasanaethau canser yr ofari yn destun rhaglen adolygiad gan gymheiriaid. Mae hynny wedi digwydd eleni, ac mae hynny, wrth gwrs, er mwyn cefnogi gwelliannau ansawdd i wasanaethau.

Caffael Gwasanaethau Iechyd yn Ngogledd Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gaffael gwasanaethau iechyd yn Ngogledd Cymru? OAQ52117

Dylai pob proses gaffael gan unrhyw fwrdd iechyd gael ei chynnal yn unol â chyfarwyddiadau ariannol sefydlog y bwrdd, yr egwyddorion rheolaeth ariannol sydd wedi’u nodi yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', a gyda chyngor a chymorth arbenigol gwasanaethau caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a gwerth am arian.

Mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ynglŷn â chynigion i breifateiddio gwasanaethau dialysis yng ngogledd Cymru, mi ddywedoch chi, ar 31 Ionawr, eich bod chi yn gwbl yn erbyn preifateiddio.

'We are completely against privatisation',

meddech chi. Nawr rŷm ni'n ffeindio mas, wrth gwrs, fod Betsi Cadwaladr yn gwthio ymlaen gyda chynlluniau i breifateiddio'r gwasanaethau dialysis yna ar draws y gogledd. Mae'r staff yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw eisiau trosglwyddo o'r NHS i'r sector preifat, ac maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo bod yna ddigon o ymgynghori wedi bod â nhw, ac yn sicr, nid oes dim ymgynghori wedi bod â chleifion nag â'r cyhoedd yn ehangach. Ac mae gen i lythyr gan y bwrdd iechyd yn cadarnhau bod ganddyn nhw gefnogaeth eich Llywodraeth chi i'r cynnig yma. Llywodraeth Lafur yn gadael i wasanaethau cyhoeddus drosglwyddo o'r NHS i'r sector preifat—rhywbeth rŷch chi'n ei geryddu pan mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud yn Lloegr. 

Felly, pan oeddech chi'n dweud wrthym ni ar 30 Ionawr eich bod chi yn llwyr yn erbyn preifateiddio, a oedd hynny'n awgrymu efallai nad ydych chi'n gwybod beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru neu, yn wir, a oeddech chi'n trial ein camarwain ni?

Na, dim o gwbl, a hoffwn i weld y llythyr y mae'r Aelod yn sôn amdano i weld beth yn gymwys sydd yn y llythyr hynny, a chaf i aros, felly, i weld beth ddigwyddith ynglŷn â hynny.

Mae hon yn broses y mae Betsi Cadwaladr wedi dechrau ac mae'n mynd i orffen erbyn mis Gorffennaf. Beth maen nhw'n trial ei wneud yw sicrhau bod y gwasanaeth gorau ar gael i'w cleifion nhw, ac mae yna ddyletswydd arnyn nhw i sicrhau eu bod hynny'n digwydd. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i wedi cael gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn gwneud y datganiad heddiw ar ran arweinydd y tŷ, ac rydw i'n galw, felly, ar Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Ychwanegwyd dau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr agenda heddiw ar yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Tawel Fan a'r defnydd o rwyll synthetig y wain. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, heddiw, os yw'n bosibl? Un yw ar y cynigion i adeiladu ffordd newydd o Gyffordd 34 ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. Rwy'n datgan buddiant gan y gallai hyn, o bosibl, effeithio ar ryw ran o fy nhir i. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus mawr na lwyddais i fynd iddo nos Iau, ond rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi bod yno. Mae hyn wedi achosi cryn bryder yng nghyffiniau'r Pendeulwyn, ac er bod croeso wedi bod i'r ymgynghoriadau, mae llawer o amwysedd o hyd o amgylch y dyddiadau a'r amserlenni cyflwyno posibl, neu beidio, fel y bo'n berthnasol, ac o ran pwy yn union sy'n cefnogi'r cynigion hyn? Ai'r awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru , neu a yw'n gyfuniad o'r ddau? Byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol o fudd i roi gwybod i'r gymuned am y materion ynghylch y cynnig hwn.

Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd ynghylch y newyddion dros y penwythnos gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod problem gyfrifiadurol wedi bod o bosibl, sydd wedi effeithio ar 1,500 o gynigion am swyddi i feddygon iau a'u lleoliadau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, mentraf ddweud, yng Nghymru hefyd—sut y gallai hyn fod wedi effeithio neu beidio ag effeithio ar swyddi sydd i'w llenwi yma yng Nghymru? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'n destun pryder clywed am y broblem hon gan y Coleg Brenhinol, sydd wedi effeithio ar o leiaf 1,500 o gynigion swyddi o bosibl. Yn benodol, a gawn i wybod sut y gallai hynny fod wedi effeithio neu beidio ag effeithio ar wasanaethau iechyd yma yng Nghymru?

14:20

Diolch, Andrew R.T. Davies, am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn cyntaf, y ffordd arfaethedig ar Gyffordd 34, rwy'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth eisoes wedi ysgrifennu at yr Aelod yn yr etholaeth, ac felly bydd ef nawr yn diweddaru holl Aelodau'r Cynulliad ar hynny.

Ail ran eich cwestiwn: mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol o'r sefyllfa anffodus iawn hon, rwy'n credu, ac wrth gwrs mae'n codi pryderon. Mae ei swyddogion nawr mewn cysylltiad â Deoniaeth Cymru i sicrhau y byddant yn glir iawn ynghylch unrhyw ddatblygiadau ac i ddeall pa effaith a gaiff hyn yma yng Nghymru. Mae angen inni sicrhau bod y sefyllfa, yn amlwg, yn cael ei chywiro cyn gynted â phosibl.

Heddiw, arweinydd newydd y tŷ, am y tro, pro tem, mae Tŷ'r Arglwyddi, wrth gwrs, ar ei gyfle realistig olaf ar Gyfnod Adrodd i ddiwygio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a ger eu bron mae gwelliant pwysig iawn yn enw arglwydd Llafur, yr Arglwydd Alli, sy'n cefnogi aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fel un o amcanion negodi Llywodraeth y DU. Nawr, dyna union nod, nod ddatganedig, Llywodraeth Cymru—gadael yr UE ond aros yn y farchnad sengl a'r Undeb Tollau—ac mae'n un o amcanion negodi y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ni fydd y llanast o bartneriaeth tollau—am unwaith, rwy'n credu bod Boris Johnson fwy na thebyg wedi'i gael yn iawn—yn mynd i fod yn addas i unrhyw un, ac mae'n ffordd ymlaen chwerthinllyd, ac ni fydd yn gweithio. Rydych chi naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r undeb tollau. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba waith y mae'n ei wneud nawr i gefnogi'r gwelliant hollbwysig hwn, a fydd yn ei dro yn caniatáu i Dŷ'r Cyffredin wneud penderfyniad, oherwydd mai hwn yw polisi datganedig Llywodraeth Cymru? Yn benodol, a yw'r Llywodraeth wedi rhoi cyfarwyddyd i'r ddau Arglwydd sy'n aelodau o Lywodraeth Cymru fynd i Dŷ'r Arglwyddi heddiw a phleidleisio yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru? [Torri ar draws.] Mae fy nghwestiwn i arweinydd y tŷ, os caf i.

Yn ail, a gawn ni ddadl a arweinir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar ddiogelwch beicio? Mwynheais daith feic ogoneddus fy hun ddydd Sul, o Aberystwyth i Bontarfynach ac o gwmpas lonydd cefn Ceredigion. Roedd llawer ohono ar lwybr Sustrans, felly roeddwn i'n siomedig o ddarllen nad yw ein Prif Weinidog yn teimlo'n ddiogel i feicio yng Nghaerdydd. Beth mae hyn yn ei ddweud o ran sut yr ydym ni'n blaenoriaethu ceir dros lwybrau diogel, a sut rydym ni'n dylunio ein dinasoedd, os nad yw ein Prif Weinidog yn teimlo'n ddiogel i feicio yn y brifddinas ei hun? Nawr, rwyf wedi codi mater ddiogelwch beicio o'r blaen gyda'r Prif Weinidog yn uniongyrchol, ac efallai y bydd pob un ohonom ni nawr yn ei gymryd o ddifrif, ac yn cymryd camau fel y gallwn weld newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n teithio ac yn byw ein bywydau. Mae angen inni symud ymlaen o'r adnoddau ychwanegol ar gyfer llwybrau diogel, y mae croeso iddyn nhw, oes, i gael dadl—a dyna pam rwyf yn gofyn am ddadl—ar beth yw'r dewis amgen i deithio mewn car yn ein dinasoedd, a sut rydym ni'n gwneud ein dinasoedd yn fwy hygyrch i bob un ohonom, gan gynnwys y Prif Weinidog pan mae eisiau beicio. Os bydd eisiau mynd ar ei feic unrhyw bryd, pan fydd wedi ymddeol o'i swydd bresennol, i fyny ar hyd Dyffryn Rheidol, byddwn i wrth fy modd yn mynd gydag ef.

Diolch, Simon Thomas. Mewn cysylltiad â'ch pwynt cyntaf, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod o'r farn y dylem ni barhau i fod yn y farchnad sengl. Credwn mai hynny yw'r peth iawn ar gyfer economi Cymru heb os nac oni bai, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg briodol.

Nid wyf yn hollol siŵr mai hynny a ddywedodd y Prif Weinidog. Dim ond darllen yr erthygl yn fyr iawn a wnes i, ond cefais yr argraff fod y cyfeiriad yn ymwneud yn fwy â'i oedran na'r ffaith nad oedd yn teimlo'n ddiogel, ond rwy'n siŵr y bydd ef yn falch iawn o dderbyn eich cynnig.

Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi sicrhau bod £60 miliwn ar gael i awdurdodau lleol. Bellach mae angen i'r awdurdodau lleol wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r llwybrau beicio sy'n angenrheidiol ar gyfer eu poblogaeth leol.

A gaf i ofyn dim ond dau gwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet? Yr wythnos diwethaf, ymwelais i â'r grŵp arweinyddiaeth dros gyflog byw gwirioneddol a chwrdd â Chyfarwyddwyr y Sefydliad Cyflog Byw a Cynnal Cymru, sy'n ymgymryd ag achrediad cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru. Adroddir bod 143 o gyflogwyr cyflog byw achrededig gwirioneddol yng Nghymru nawr, yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, sy'n rhan o'r 4,000 o achrediadau cyflog byw gwirioneddol ledled y DU. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a fydd y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gydnabod yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd a'r adolygiad rhywedd?

Ac, yn ail, a gaf i ychwanegu at y cwestiwn, yn dilyn Andrew R.T. Davies, ynghylch y cynigion sy'n effeithio ar y bobl sy'n byw yn ardal Pendeulwyn? Es i gyfarfod o'r Bartneriaeth ar gyfer Gweithredu Cymunedol yr wythnos diwethaf ynghylch cynigion ffyrdd canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, i gysylltu'r M4 â'r A48.FootnoteLink Ddeng mlynedd yn ôl, cafwyd ymgynghoriad dros gynigion tebyg a phenderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â bwrw ymlaen, ond addawodd y byddai'n buddsoddi mewn gwelliannau i Five Mile Lane, sydd yn mynd rhagddynt, ac yn gwella amlder y gwasanaethau bws a rheilffordd ar linell y Fro i bob hanner awr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi datganiad ynghylch pam na weithredwyd y gwasanaethau rheilffyrdd hynny bob hanner awr? Credaf mai'r gwasanaethau hynny fyddai'r ffordd orau o wella mynediad i Faes Awyr Caerdydd ac ardal fenter Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

14:25

Diolch, Jane Hutt, am y ddau gwestiwn hynny. O ran cydnabyddiaeth o'r cyflog byw gwirioneddol yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd a'r adolygiad rhywedd, byddwch yn ymwybodol o lansiad y cynllun gweithredu economaidd ym mis Rhagfyr 2017, sydd mewn gwirionedd yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf cynhwysol i hybu ein cyfoeth a'n lles a lleihau'r anghydraddoldebau sydd gennym ledled Cymru. Felly, yn hollol wrth wraidd y cynllun hwnnw mae ymrwymiad i ddatblygu perthynas newydd a deinamig iawn rhwng y Llywodraeth a busnesau, yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi cyhoeddus gyda diben cymdeithasol. Credaf, yn benodol, y bydd canolbwyntio ar waith teg fel elfen allweddol o'n contract economaidd newydd yn gyfle i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o fanteision busnes y cyflog byw gwirioneddol. A'r hyn yr ydym eisiau ei weld yw hynny'n cael ei fabwysiadu fwyfwy ledled Cymru.

O ran eich ail bwynt, ynghylch y cyfarfod yr aethoch chi iddo a'r gwasanaethau rheilffyrdd bob hanner awr—pam nad ydyn nhw wedi'u gweithredu. Fel y gwyddoch, byddwn yn cymryd y cyfrifoldeb llawn am wasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau yn ddiweddarach eleni a bydd hyn wedyn yn ein galluogi ni i gyflwyno ein contract, ein gwasanaeth a'n systemau gwell ni ein hunain ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd ledled Cymru a'r Gororau. Yn amlwg, bydd gwasanaethau penodol ar gyfer y gweithredwr newydd a'r partner datblygu, ond ein gofyniad sylfaenol ar gyfer cynigwyr sy'n tendro am y contract yw y bydd y gwasanaethau o leiaf yn cyfateb i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae'r broses gaffael yn parhau o hyd, felly nid yw'n briodol imi wneud sylwadau pellach ar y canlyniad.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau gofal seibiant ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yng Nghymru? Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi cynhyrchu adroddiad sy'n honni bod gofal seibiant traddodiadol, nad yw'n diwallu anghenion pobl, yn andwyol i'w hiechyd a'u lles. Mae adroddiad pellach yn honni nad yw gwasanaethau seibiant traddodiadol yn aml yn ddigon hyblyg ac nid oedd bob amser yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Ysgrifennydd y Cabinet, a gawn ni ddatganiad gan eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd Cabinet arall, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn rhoi ymateb llawn i'r pryder a godwyd yn adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, os gwelwch yn dda?

Diolch. Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gael amser i ystyried adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, rwy'n siŵr y bydd ef wedyn yn diweddaru'r Aelodau, fel y gwêl yn dda.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf i ddau fater. Yr un cyntaf: roedd dydd Iau diwethaf yn amlwg yn ddiwrnod eithaf siomedig wrth inni glywed y newyddion y bydd bron i 800 o swyddi yn cael eu colli yng nghanolfan alw Virgin Media yn Llansamlet yn Abertawe. Mae colli cannoedd o swyddi yn amlwg yn mynd i gael effaith yn lleol. Mae'n golygu amser ansicr a thrallodus iawn i'r staff a'u teuluoedd. Nawr, rwy'n sylweddoli y cynhyrchwyd datganiadau ysgrifenedig, ond byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymaint o gymorth â phosibl i'r rheini yr effeithir arnynt. Ond mae'r cyhoeddiad hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â lefel y cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau mawr fel hyn. Oherwydd y llynedd bu cyhoeddiad tebyg pan symudwyd dros 1,000 o swyddi yng nghanolfan alwadau Tesco o Gaerdydd, gyda Llywodraeth Cymru eto yn amlwg yn cael gwybod dim ond pan wnaed y cyhoeddiad cyhoeddus. Nawr, gan fod y sector canolfannau galw yn gyflogwr allweddol yn Abertawe, fel mewn rhannau eraill o Gymru, byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn gwbl ymwybodol o unrhyw anawsterau a wynebir gan gyflogwyr neu o unrhyw newidiadau arfaethedig cyn i ddatganiadau cyhoeddus o'r fath gael eu gwneud. Mae cyhoeddiad Virgin Media felly yn codi cwestiynau am y math o berthynas sydd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, a'r mecanweithiau a sefydlwyd i gasglu gwybodaeth ac i drafod yn ffurfiol a datrys unrhyw bwysau busnes neu newidiadau arfaethedig. Felly, gyda hynny i gyd mewn golwg, byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad y gallwn ni ei drafod yma ar benderfyniad canolfan alwadau Virgin Media.

A'r ail fater yw'r costau indemniad meddygol ar gyfer meddygon teulu. Dyna'r gost yswiriant meddygol y mae'n rhaid i ni—pob meddyg teulu, pob meddyg—ei chael. Cyn y cewch ymarfer fel meddyg, mae'n rhaid  chi gael yswiriant i dalu am unrhyw gostau posibl o ymgyfreitha, sy'n filoedd o bunnoedd, ac ar gyfer meddygon teulu telir hwn yn bersonol. Mae meddygon teulu llawn amser yn talu cymaint â £6,000 i £8,000 y flwyddyn, a hyd yn oed i feddygon teulu rhan-amser, gall y costau fod yn £3,500 neu fwy. A thelir hyn yn bersonol gan feddygon teulu. Telir y costau hynny ar ran meddygon ysbyty. Y sefyllfa o ran meddygon teulu sy'n mynd yn fwyfwy rhan-amser, neu'n gwneud gwaith locwm nes ymlaen yn eu gyrfaoedd, yw eu bod yn pwyso'r costau o barhau i dalu'r yswiriant indemniad meddygol hwnnw a'r costau cynyddol, gyda'r awydd i wneud un neu ddau ddiwrnod o waith, a chanfod nad yw gwneud un neu ddau ddiwrnod gwaith yn talu am gostau indemniad meddygol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gellid edrych yn fanwl ar y sefyllfa honno gan Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd ei bod yn colli sector gwerthfawr a phrofiadol o weithlu meddygon teulu drwy beidio â gweithredu ar y pwynt hwn. Diolch yn fawr.

14:30

Diolch, Dai Lloyd, am y ddau gwestiwn hynny. O ran Virgin Media, yn amlwg rydym ni'n siomedig iawn ynghylch eu cynlluniau i gau eu canolfan gwsmeriaid yn Abertawe, ac ni chafodd Llywodraeth Cymru wybod am hyn cyn y cyhoeddiad. Yn amlwg, ni allwn ni weithredu os nad ydym ni'n ymwybodol o'r sefyllfa, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, ar yr un model â'r un a sefydlodd mewn perthynas â Tesco, a grybwyllwyd gennych chi yn gynharach. A, hefyd, ochr yn ochr â hynny, bydd Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru yn gweithio, lle y gall, gyda Virgin Media a gweithwyr a gaiff eu heffeithio gan hyn i'w helpu i sicrhau cyflogaeth eto, yn amlwg. Un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n darparu cymorth ariannol i'r fforwm hwnnw yw er mwyn ei alluogi i wneud hynny. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu mewn canolfannau gwasanaethau i gwsmeriaid rheoledig eraill ar draws De Cymru, felly rwy'n gwybod fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog, fel gyda Tesco, y gellir dod o hyd i waith arall.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi clywed eich cais am ddatganiad ynghylch ffioedd indemniad meddygol ar gyfer meddygon teulu, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt perthnasol iawn. 

A allwn ni gael dadl ar y cyhoeddiad y soniodd y Prif Weinidog amdano yn ei gwestiynau heddiw, fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu cau pum swyddfa yn y de a chanoli'r swyddi hynny mewn un adeilad newydd, yn Nhrefforest? Bydd y cynlluniau yn effeithio ar swyddi yng Nghasnewydd, Cwmbrân, Caerffili a Merthyr, yn ogystal ag ar 714 o aelodau staff sy'n gweithio yn swyddfa Gabalfa, yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd—cyfanswm o 1,700 o swyddi i gyd A yw hi'n cytuno y bydd hyn yn amddifadu cymunedau anghenus o swyddi sector cyhoeddus, ac yn cael effaith annheg ar y staff, o ran cynyddu amser a chostau teithio, ac y bydd yn enwedig yn effeithio ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu? Ac, yn anad dim, nid yw'n cefnogi Tasglu'r Cymoedd, fel y dywed Fiona Jones o'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei llythyr at Aelodau'r Cynulliad, oherwydd nid swyddi newydd mo'r rhain, ac maen nhw'n cael eu symud o lawer o gymunedau anghenus. Felly, a gawn ni ddadl ar y mater pwysig iawn hwn?

Diolch i chi, Julie Morgan. A byddwch wedi clywed pryder y Prif Weinidog ynghylch y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae'n fater sydd heb ei ddatganoli; mae'n benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n deall y bydd y cynigion adleoli, a gyhoeddwyd gan yr adran Gwaith a Phensiynau yr wythnos diwethaf, yn effeithio ar oddeutu 1,400 o staff yr adran. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, nid swyddi newydd mo'r rhain. Rydym ni'n gwybod bod staff wedi'u lleoli ar hyn o bryd mewn swyddfeydd budd-daliadau ym Merthyr, Caerffili, Cwmbrân, Casnewydd a Gabalfa, Caerdydd, yn eich etholaeth chi eich hun, ac mai'r posibilrwydd yw symud i adeilad newydd yn Nhrefforest yn 2021. Rydym ni yn deall bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio i sicrhau nad oes unrhyw golledion swyddi ar gyfer staff o ganlyniad i adleoli, ac y bydd swyddi amgen yn cael eu cynnig i staff, os nad yw adleoli yn ddewis posibl. Ond, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni'n bryderus iawn am y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU.

A gaf fi ofyn am ddatganiad buan ar ddyfodol ariannu'r cynllun SchoolBeat? Mae'n fater rwyf fi, ac eraill, wedi ei godi'n gyson dros y misoedd diwethaf. Mae yna ansicrwydd—nid yw'r gwasanaeth yn gwybod a fydd yn gallu parhau tan i'r Llywodraeth benderfynu beth sy'n digwydd. Mae yn wasanaeth pwysig, wrth gwrs, gyda heddluoedd yn mynd i mewn i ysgolion i weithio gyda disgyblion a staff ar ddatblygu adnoddau a darparu dosbarthiadau ar ddiogelwch ar y we, camddefnydd sylweddau ac yn y blaen. Ond rydym ni nawr yn y sefyllfa yng ngogledd Cymru lle mae yna swyddi gwag o fewn y rhaglen, lle nad oes posib recriwtio staff oherwydd yr ansicrwydd sy'n deillio o benderfyniad eich Llywodraeth chi. Felly, a gaf bwyso plîs am ddatganiad buan, oherwydd mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi gan y disgyblion, gan y staff, gan yr athrawon, ac mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i roi'r eglurder yna?

14:35

Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwasanaeth a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am hyn, i ysgrifennu at yr Aelod ynghylch y mater hwnnw.FootnoteLink

Pwynt o Drefn

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Pwynt o drefn—point of order—Joyce Watson. 

Llywydd, yn sgil y pwynt o drefn a wneuthum ddydd Mercher diwethaf yn y Siambr hon, hoffwn gywiro'r cofnod a chadarnhau y gwnes i mewn gwirionedd ddefnyddio'r geiriau a ddyfynwyd gan arweinydd y grŵp UKIP yn ystod dadl flaenorol.

Na. Mae'r pwynt o drefn wedi'i egluro a'i gywiro, ac rwy'n fodlon ar hynny ac nid oes dim rhagor ynglŷn â'r pwynt o drefn hwn i'w wneud ar hyn o bryd. [Torri ar draws.]

Rŷm ni'n symud ymlaen, felly, i'r datganiad—

Nid yw eich microffon arnodd. Ni all pobl Cymru eich clywed, ac os na all pobl Cymru eich clywed, yna ni all yr Aelodau Cynulliad yn y Siambr hon eich clywed. [Torri ar draws.] Ie, diolch yn fawr iawn am ysgrifennu ataf ymlaen llaw, ac fel yr wyf eisoes wedi dweud wrthych chi y prynhawn yma, fe wnes i gyfarfod â Joyce Watson, ac mae hi wedi cytuno a chywiro ac egluro'r mater a grybwyllwyd yr wythnos diwethaf, a does dim byd arall i'w ddweud ynghylch y mater hwn. Rwy'n symud ymlaen i'r eitem nesaf. [Torri ar draws.] Neil Hamilton, fe wnewch chi eistedd nawr oherwydd ni ofynnir ichi siarad neu i wneud unrhyw gyfraniad pellach i'r pwynt hwn [torri ar draws.] Nid oes dim yr ydych chi wedi ei ddweud yn ystod y pwynt hwn wedi'i roi ar y cofnod nac ar y meicroffon.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan

Rwy'n symud ymlaen at yr eitem nesaf o fusnes i'w drafod, ac eitem 3 yw hwnnw, sef y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adroddiad ynghylch—. Mae hwn gennyf yn Gymraeg o'm mlaen i, felly rwy'n mynd i droi i'r Gymraeg nawr. 

Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, HASCAS, i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan, ac rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Ar 3 Mai, cyhoeddodd y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganlyniad ei ymchwiliad i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan. Rwy'n ymwybodol iawn y bu hyn yn gyfnod anodd iawn i'r holl unigolion, teuluoedd a staff sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pryderon ynghylch gofal a thriniaeth yn Tawel Fan. Rwy'n cydnabod y pwysau ychwanegol a achoswyd gan hyd yr ymchwiliad hwn. Fodd bynnag, roedd hi'n hanfodol bod yr ymchwiliad yn parhau i ganolbwyntio ar broses deg a thrwyadl, ac na thanseiliwyd hynny er mwyn ymlynu ag amserlenni caeth. Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o fethiannau a oedd yn siom i gleifion ac a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae'n ddrwg iawn gennyf fod hyn wedi digwydd ac rwy'n ymddiheuro yn ei gylch heb unrhyw betruso.

Roedd cwmpas yr ymchwiliad yn sylweddol ac yn ehangach na'r comisiwn gwreiddiol. Yn y pen draw, fe olygodd adolygu 700,000 o dudalennau o ddogfennaeth, 148 o gyfweliadau a 108 o adolygiadau achos. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried hefyd ddeunydd a ddarparwyd yn rhan o ymchwiliadau blaenorol. Roedd hwn yn gylch gwaith eang, ac yn wahanol i adroddiadau blaenorol, roedd modd gweld set gynhwysfawr o ddogfennau, gan gynnwys cofnodion clinigol, a manteisio ar arbenigedd iechyd meddwl penodol. Seiliodd HASCAS ei safbwynt ar annibyniaeth a thystiolaeth drwy gydol y broses, â'r nod o ddarparu darlun mor gywir o ddigwyddiadau ag y caniatâ'r dystiolaeth sydd ar gael. Gwnaed hyn gyda chymorth panel arbenigol o 16 o unigolion sy'n uchel iawn eu parch yn genedlaethol.

Mae angen imi roi sylw i'r cyhuddiad a wnaed fod cysylltiad uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori sy'n effeithio ar annibyniaeth yr adroddiad. Mae'r awgrym bod yna gynllwyn i lywio'r adroddiad er mwyn amddiffyn y Llywodraeth neu blaid wleidyddol yn ymosodiad uniongyrchol ar ddidwylledd HASCAS a'r unigolion ar y panel ymchwilio. Nid oedd unrhyw un ar y panel ymchwilio yn ymarferwyr yng Nghymru. Roedd y cyngor cyfreithiol a roddwyd i ymchwiliad HASCAS yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae HASCAS, fel sefydliad, wedi cynnal amrywiaeth o adolygiadau, er enghraifft, yn y system iechyd a gofal yn Lloegr heb ofn na ffafriaeth, ac nid oes unrhyw sail resymol i ymosod ar eu didwylledd yn y mater hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

14:40

Rwy'n deall y bydd llawer wedi'u synnu gan ganfyddiadau eu hadroddiad. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarllen yr adroddiad yn ofalus sylweddoli pa mor drylwyr oedd yr ymchwiliad a deall sut y daethpwyd i'r casgliadau. O ran y gofal yn Tawel Fan, y canfyddiadau annibynnol yw bod graddau'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan o safon gyffredinol da ar y cyfan ac y darparwyd gofal nyrsio da.

Er bod rhai o'r canfyddiadau yn rhoi sicrwydd inni, mae'r adroddiad yn boenus i'w ddarllen. Mae ymhell o fod yn berffaith. Nid wyf yn gwadu'r materion sylweddol y mae'n eu hamlygu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys llywodraethu ac arweinyddiaeth glinigol; dyluniad y gwasanaethau a'r llwybrau gofal; a diogelu. Mae llawer o'r materion yn mynd y tu hwnt i wasanaethau iechyd meddwl ar ward Tawel Fan.

Bydd HASCAS yn cwrdd yn unigol â phob teulu i drafod adroddiadau cleifion unigol, sydd yn hollbwysig wrth ddarparu manylion ynglŷn â'r gofal a ddarparwyd. Rwy'n gobeithio, ochr yn ochr â'r adroddiad thematig, y bydd adroddiadau unigol yn rhoi sicrwydd i deuluoedd ynghylch didwylledd yr ymchwiliad. Cynhelir proses debyg ar gyfer staff sydd wedi cael eu heffeithio hefyd. Rwyf eisoes wedi ceisio sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd yn darparu'r graddau priodol o gymorth i staff a theuluoedd yn ystod y broses hon.

Fel yr wyf i wedi'i ddweud eisoes, mae'n glir iawn bod angen i'r Bwrdd Iechyd ddal ati i wella'n barhaus. Bydd angen goruchwyliaeth benodol bellach o dan y trefniadau mesurau arbennig er mwyn gwneud hyn.  

Mae'r adroddiad er hynny yn cydnabod y daith sylweddol y mae'r Bwrdd Iechyd wedi dechrau arni, gan gydnabod nad yw wedi sefyll yn ei unfan ers y cyfnod sy'n cael ei ymchwilio. Mae'r adroddiad yn dweud bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol y manylir arnyn nhw yn y strategaeth dementia, er enghraifft, bod â nyrs ymgynghorol dynodedig ym maes gofal dementia erbyn hyn. Mae hefyd yn cydnabod y cynnydd cyson y mae Betsi Cadwaladr yn ei wneud o ran cymorth i gleifion a gofalwyr, a gweithio mewn modd rhagweithiol i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at nifer o feysydd lle gwelsant arfer da. Rwy'n awyddus, er gwaethaf y feirniadaeth yn yr adroddiad, ein bod yn cydnabod y gofal rhagorol a ddarperir gan gynifer o staff ar draws y Bwrdd Iechyd, bryd hynny a phob dydd ers y digwyddiadau y mae'r adroddiad hwn yn eu harchwilio. Er enghraifft, mae'r tîm nyrsio yn uned iechyd meddwl cleifion mewnol Bryn Hesketh wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr sy'n cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn eu maes nyrsio.

Fodd bynnag, er gwaethaf rhai pethau cadarnhaol, rwy'n parhau i fod yn glir iawn gyda'r Bwrdd Iechyd ynglŷn â'r angen i gyflymu'r gwelliannau ac i ymdrin â materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn eto, a byddaf yn egluro fy nisgwyliadau ar gyfer y gwelliant hwnnw. Byddaf heddiw yn cyhoeddi fframwaith gwelliant mesurau arbennig sy'n nodi cerrig milltir a disgwyliadau ar gyfer y bwrdd iechyd ar gyfer y 18 mis nesaf o ran arweinyddiaeth a rheolaeth, cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau, iechyd meddwl a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau.

Mae'r gwelliant hwn yn amlwg yn cyfeirio at y gwaith sy'n ofynnol i'r sefydliad ei wneud o ganlyniad i argymhellion HASCAS. Efallai y bydd angen diweddariad pellach ar ôl adolygiad llywodraethu Donna Ockenden, a ddisgwylir cyn bo hir. Bydd hyn ar ffurf cynllun gwella ansawdd a llywodraethu manwl a gaiff ei baratoi gan y Bwrdd Iechyd ac sydd i fod ar gael erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Gorffennaf yr haf hwn. Byddaf yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth weinidogol gyda chyfarfodydd atebolrwydd bob mis gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Rwy'n disgwyl i Betsi Cadwaladr ddarparu adroddiadau cynnydd manwl o'i gymharu â'r fframwaith gwella newydd ac fe gaiff yr adroddiad cyntaf ei ddarparu ym mis Hydref eleni.

Mae arweinyddiaeth gref ar gyfer y sefydliad yn allweddol i'r gwelliannau hyn. Rwyf wedi sôn o'r blaen y bydd cadeirydd newydd yn arwain cam tyngedfennol nesaf taith y Bwrdd Iechyd tuag at welliant. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw fod Mark Polin wedi'i benodi i'r swyddog. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad o arweinyddiaeth a llywodraethu yn y sector cyhoeddus, ynghyd ag ymrwymiad a gwybodaeth am gymunedau'r gogledd o'i swydd bresennol yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar ei benodiad a'r trefniadau mesurau arbennig mewn datganiad llafar ddechrau mis Mehefin. 

Rwy'n disgwyl arweiniad cryf, ac arweinyddiaeth glinigol yn enwedig, gan bob rhan o'r sefydliad i fynd i'r afael unwaith ac am byth â materion y mae'r adroddiad hwn yn eu nodi. Mae'n rhaid cael newid diwylliant sylweddol er mwyn cefnu ar y gwrthwynebiad sylfaenol presennol i'r polisi clinigol a chysondeb o ran arferion. Bydd angen i'r Bwrdd ystyried hyn yn ddwys ac ar fyrder er mwyn penderfynu beth sydd angen ei wneud i newid ffyrdd o weithio. Rwy'n disgwyl, o leiaf, gweld arwyddion o hyn mewn arweinyddiaeth ac ymgysylltu clinigol i gefnogi'r gwaith o ddylunio a darparu llwybr gofal ar gyfer pobl hŷn sydd â dementia, ynghyd â'r gwelliant sylweddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl sy'n dal yn angenrheidiol.

Rwy'n disgwyl i'r Bwrdd Iechyd a phartneriaid o blith yr awdurdodau lleol ystyried y canfyddiadau yn ofalus o ran gweithrediad y trefniadau diogelu. Mae amddiffyn pobl mewn perygl rhag pob math o gam-drin ac esgeulustod yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn yn glir yn y ddeddfwriaeth a'r polisïau yr ydym ni wedi'u cyflwyno yn y tymor hwn a'r un flaenorol.

Rwy'n disgwyl y caiff y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn eu defnyddio fel maen prawf gan holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Byddaf felly yn ysgrifennu at holl gadeiryddion a Phrif Weithredwyr sefydliadau'r GIG yng Nghymru, yn gofyn i'w byrddau ystyried argymhellion yr adroddiad ac i gadarnhau sut y byddant yn defnyddio'r canfyddiadau i wella eu sefydliad. Byddaf hefyd yn disgwyl i'r Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio drafod ag arweinwyr gweithredol proffesiynol i sicrhau y caiff y gwersi a geir yn yr adroddiad hwn eu hymgorffori i'r gwaith o gynllunio a darparu gofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r rhain yn gamau brys sy'n cael eu gweithredu mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad HASCAS. Byddaf wrth gwrs yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran y gwelliant ehangach angenrheidiol. 

14:45

Yn eich datganiad i ni, rydych chi'n dweud

y dylai unrhyw un sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarllen yr adroddiad yn ofalus sylweddoli pa mor drylwyr oedd yr ymchwiliad a deall sut y daethpwyd i'r casgliadau.

Mae'n rhaid inni anghytuno. Ond, wrth gwrs, nid ni yw'r unig rai. Mae'r prif swyddog yng Nghyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud bod diystyru tystiolaeth teuluoedd Tawel Fan yn gyfystyr â pheidio â chredu pobl sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol. Mynnodd ef fod y dystiolaeth a roddwyd gan berthnasau cleifion sydd â dementia yn Uned Ablett yn gwbl gredadwy. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, na fydd prif ganfyddiadau'r adroddiad yn fawr o gysur i deuluoedd cleifion ar ward Tawel Fan, a oedd wedi bod yn glir bod eu perthnasau wedi dioddef safonau gofal a oedd yn gwbl annerbyniol.

Onid oedd eich defnydd o'r gair 'cysuro' mewn adroddiadau cychwynnol yn y wasg yn sgil cyhoeddi'r adroddiad ar y gorau yn ansensitif i berthnasau a theuluoedd, yr adroddwyd eu bod hwy eu hunain  wedi dweud eu bod cynnwys yr adroddiad hwn yn dorcalonnus? Roedden nhw'n ddig ac yn gandryll ynglŷn â'r adroddiad ar y cam-drin. Dywedasant eto ynglŷn â sut y gwelwyd eu hanwyliaid yn cael eu llusgo gerfydd eu gwar, yn cael eu carcharu a'u gadael yn eu baw eu hunain. Dywedodd un sut y cafodd ei fam ei bwlio a'i gorfodi i gysgu mewn gwely a oedd yn bla o forgrug. Roedd mwy nag un achlysur pan gadawyd hi yn yr un dillad am o leiaf dau ddiwrnod, yn gorwedd yn ei baw ei hun. Disgrifiodd yr adroddiad fel ymgais enfawr i gelu'r gwir, fel yr adroddwyd yn y wasg.

Dywedodd bwrdd iechyd meddwl Tawel Fan, yn adroddiad Uned Ablett yn 2013—yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd y Bwrdd Iechyd y tynnwyd ei sylw at bryderon difrifol ynghylch gofal cleifion ym mis Rhagfyr 2013. Wrth gwrs, mae'r adroddiadau yn mynd yn ôl llawer, llawer pellach. Yn 2009, cynrychiolais etholwr a honnodd y gwnaeth y driniaeth a gafodd ei gŵr yn yr uned bron ei ladd a bod tri chlaf arall a dderbyniwyd tua'r un amser â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg a'i bod hi nawr yn poeni am y driniaeth y caiff eraill o bosib yn yr uned hon. Roedd ei gŵr yn dioddef o glefyd Alzheimer a chanser angheuol. Anfonwyd ataf hefyd gŵyn ar ran claf arall ar y pryd a oedd â dementia fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys lluniau torcalonus o'r claf cyn ac ar ôl bod yno. Rhannwyd y rhain â'r Bwrdd Iechyd a'i ragflaenydd a'ch rhagflaenydd chi. Ymddengys na wnaed unrhyw beth. 

Diolch byth, yn 2015, derbyniodd Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfyddiadau adroddiad Donna Ockenden a gyhoeddwyd y flwyddyn honno. Felly, pam yn awr, pan fo adroddiad HASCAS yn frith o honiadau difrifol, ei fod wedi dod i'r casgliad rhyfeddol y bu'r gofal yn dda ac na ddigwyddodd cam-drin sefydliadol? Pam nad yw'r casgliadau yn cyfateb i'r canfyddiadau? Nid yw adroddiad HASCAS yn cyd-fynd â'r pryderon a nodwyd mewn adroddiadau eraill. Pam nad yw yn cyd-fynd ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Gorffennaf 2013, a ganfu claf dan glo mewn ystafell yn eistedd mewn cadair bwced, yn ei faw a'i ddŵr ei hun. Canfu nad oedd unrhyw weithgareddau ar gyfer cleifion. Canfu fod yr ardd yn flêr ac yn anhygyrch. Canfu staffio annigonol, a llawer mwy—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gorffennaf 2013.

Gwnaed gwaith mewnol yn mapio gofal dementia ym mis Hydref 2013, a oedd yn dangos bod cleifion yn ymdrechu'n daer i gael sylw staff, ac adroddwyd am glaf oedrannus y canfuwyd ei bod yn taenu ei hun â'i baw ei hun oherwydd y diffyg sylw hwnnw. Mae adroddiad HASCAS ar dudalen 115 yn sôn am y gwaith hwn o fapio gofal dementia, ond wedyn ar dudalen 116 yn dweud na fynegwyd unrhyw bryderon difrifol ac na welwyd unrhyw arferion gwael. Pam nad yw hynny yn cytuno ag adroddiad mis Hydref 2013, a ganfu'r gwrthwyneb yn llwyr? Os mai eich mam-gu chi, eich mam chi neu eich chwaer chi fyddai hon, oni fyddech chi'n ystyried bod hyn yn bryder difrifol? Byddai unrhyw fod dynol rhesymol arall yn ystyried bod hwn yn fater o'r difrifoldeb mwyaf a dwysaf. 

Dywed tudalen 64 o adroddiad HASCAS fod 29 o deuluoedd wedi disgrifio pryderon sylweddol ynghylch cyfathrebu a rhoi diagnosis o ddementia, a honnodd 18 o deuluoedd fod cleifion wedi dioddef cleisiau ac anafiadau anesboniadwy. Nid etholiad mo hwn; nid pleidlais mohono. Nid yw'n gwestiwn o faint o bobl gafodd rhyw brofiad neu'i gilydd i benderfynu ar y canlyniad. Dyma'r profiadau a nodwyd gan ddwsinau a dwsinau o deuluoedd, a hynny o ran y bobl a oedd o'r pwys mwyaf iddynt. Dywed tudalen 66 bod 10 o deuluoedd wedi disgrifio perthnasau yn fudr a'r ward yn drewi o wrin. Pam nad yw hyn yn dor-ddyletswydd i'r cleifion hyn o'r gofal yr oeddent i fod i'w gael, ac yn hynny o beth, i'w teuluoedd?

Seilir canfyddiadau HASCAS, yn briodol iawn, ar nodiadau clinigol. Rydych yn cyfeirio at y nodiadau clinigol yn eich datganiad, ond maen nhw'n cydnabod eu bod yn deall pan ddaeth hi'n bryd iddyn nhw ddechrau eu hadolygiad, nad oedd y cofnodion clinigol a oedd eu hangen wedi'u cadw'n ddiogel dan glo. Pam felly, yn groes i safonau safonol y GIG i rwystro nodiadau clinigol rhag cael eu gweld, nad oedd y nodiadau hyn yn cael eu cadw'n ddiogel? A sut, hyd yn oed os nad oedd neb wedi cael gafael arnynt, y gallwn ni fod ag unrhyw hyder ynghylch eu cynnwys yn yr amgylchiadau hyn, yn enwedig o ystyried canfyddiadau gwahanol yr adroddiadau gwahanol yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw?

Onid y gwir yw bod ein cyd-Aelod, Darren Millar, nad oes modd iddo fod yma gyda ni heddiw, yn gywir i fod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn iddyn nhw edrych ar y mater hwn, o ystyried y dystiolaeth anghyson a'r pryderon mawr a achoswyd yn y gogledd yn gyffredinol, ond yn enwedig i deuluoedd y dwsinau o ddioddefwyr hyn, ac felly y byddaf yn cyfeirio atynt, bod y dystiolaeth mor gryf fel bod yn rhaid inni dderbyn yr oeddent yn amlwg yn dweud y gwir? Rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn newid eich cân ynghylch hyn, eich bod yn mynd i wrando, nad ydych chi'n mynd i geryddu'r cennad, ac y byddwch chi'n ailystyried eich ymagwedd, oherwydd, os nad ydych chi'n gwneud hynny, fe fyddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i'r bobl hyn, byddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i gleifion a staff, a byddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at eich ymateb.

14:50

Rwy'n cydnabod y bydd amrywiaeth o bobl na fyddant yn derbyn canfyddiadau adroddiad ymchwiliad annibynnol HASCAS. Rwy'n cydnabod y bydd amrywiaeth o deuluoedd na fyddant yn gallu derbyn eu casgliadau, ac mae'n hawdd deall pam y gallai hynny fod, pan fo pobl wedi gweld heriau a chwyno amdanynt. Ond, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn sicr nid yw'n dweud bod y Bwrdd Iechyd yn berffaith—ddim o bell ffordd—ac mae yn sôn am fethiannau yn y gofal a gafodd rhai pobl, ond mae'n dweud, yn gyffredinol, nad yw'n cefnogi'r canfyddiad blaenorol o gam-drin ac esgeulustod sefydliadol.

Ac eto mae'n deg dweud, er bod rhai teuluoedd yn ddig ac wedi cael eu brifo, ac rydych chi'n deall pam yn y casgliadau y daethpwyd iddynt, mae yna amrywiaeth o deuluoedd nad oedd yn dymuno lleisio barn oherwydd nad oedd ganddyn nhw unrhyw gŵynion ynghylch y gofal a ddarparwyd. Mynegodd teuluoedd eraill eu barn a chadarnhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon neu gŵynion ynghylch y gofal a ddarparwyd. Mae hefyd yn wir y dylid ystyried y ffaith y bu anghytuno mewn teuluoedd ynghylch y gofal a ddarparwyd hefyd. Felly, yn y sefyllfa gynhennus honno, lle mae gan bobl wahanol fersiynau o'r un digwyddiadau, lle derbynnir nad oedd y gofal, ar adegau, fel y dylasai fod ac y siomwyd pobl pan ddigwyddodd hynny, nid yw'n syndod bod safbwyntiau gwahanol ynglŷn â chasgliadau cyffredinol yr adroddiad. Ond, fel y dywedaf, nid yw hynny'n effeithio ar ddidwylledd yr adroddiad hwn.

Mae'n werth eto eich atgoffa chi ac eraill, wrth gwrs, fod ystod ehangach o lawer o wybodaeth ar gael wrth lunio'r adroddiad hwn. Cynhaliwyd cyfweliadau â 168 o dystion nad oeddent ar gael ar gyfer yr adroddiad cychwynnol. Ystyriwyd 190 o ddatganiadau gan dystion yn yr adroddiad i'r heddlu nad oedd ar gael ar gyfer yr adroddiad cyntaf hefyd. Amlygwyd problemau gwirioneddol.

O ran yr ymateb gan HASCAS, dylem gofio beth y maen nhw eu hunain wedi ei ddweud. Maen nhw'n dweud nad yw eu hadroddiad yn amau dilysrwydd pryderon teuluoedd. Yn wir, mewn gwirionedd mae'n cadarnhau llawer iawn o'u pryderon. Mae'n bwysig bod hwn yn adroddiad hynod feirniadol. A dyna'r ymagwedd y byddaf i yn ei harddel i geisio gwelliannau pellach. Hoffwn weld teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan gynnwys hyd yn oed y rhai hynny nad ydynt yn derbyn yr adroddiad, yn cael eu cefnogi weddill eu bywydau. Rwyf eisiau gweld staff yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol yn cael cymorth, ac rwyf eisiau gweld gwelliant gwirioneddol a pharhaus a fydd yn ystyried pryderon a beirniadaethau gwirioneddol yr adroddiad beirniadol iawn hwn.

Lle'r Cynulliad, fodd bynnag, yw penderfynu a yw eisiau adolygu'r 300 o dudalennau o adroddiad HASCAS a'r 700,000 o dudalennau o ddogfennau a thystiolaeth tystion sy'n ategu hynny. Mae hynny'n fater i'r Cynulliad, nid i'r Llywodraeth, benderfynu arno. O'm rhan i, byddaf yn gwneud popeth y gallaf ac y dylaf ei wneud i roi'r sicrwydd yr wyf yn siŵr y mae pob un ohonom ni yn chwilio amdano, a hynny yw y gwrandewir ar bryderon pobl, a'n bod o ddifrif ynglŷn â'r angen am welliannau yn y maes gofal iechyd yn y gogledd. 

14:55

Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rydych chi wedi darllen, rwy'n siŵr, y datganiad a gyhoeddwyd gan grŵp teuluoedd Tawel Fan mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad HASCAS: maen nhw'n dweud

'ni allwn ni ac ni wnawn ni dderbyn y canfyddiadau',

Maen nhw'n dweud nad yw'r hyn y maen nhw wedi ei ddarllen yn yr adroddiad hwn yn gwneud synnwyr o'i gymharu â phopeth arall a ddigwyddodd cyn hynny—profiadau y teuluoedd eu hunain, rhoi cyhoeddusrwydd i'r profiadau hynny, a arweiniodd bum mlynedd yn ôl at gau ward Tawel Fan, yr adroddiadau beirniadol blaenorol, yr ymddiheuriadau gan y Bwrdd Iechyd ei hun

am y driniaeth ofnadwy a'r niwed a brofwyd yn sgil hynny.

Wrth gwrs, fel y dywedwch chi, mae'n dal i fod yn adroddiad damniol iawn. Fe glywsom ni chi'n dweud y prynhawn yma fod

yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o fethiannau oedd yn siom i gleifion ac a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol,

ac rydych chi'n dweud

ei bod hi'n ddrwg iawn gennych chi y digwyddodd hynny a'ch bod yn ymddiheuro yn ei gylch heb unrhyw betruso.

Felly, mae'r adroddiad yn amlygu methiannau difrifol, ond, rhywsut, daw nid yn unig i'r casgliad nad oedd hyn yn gyfystyr â cham-drin ac esgeulustod sefydliadol, yn hollol groes i adroddiad Ockenden, ond hefyd y dylai peth o'r goleuni a ddylai gael ei daflu ar yr hyn a ddigwyddodd gael ei adlewyrchu ar y teuluoedd eu hunain. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n egluro'r gwahaniaeth yng nghasgliadau'r adroddiad hwn â chasgliadau'r adroddiadau blaenorol? Sut ydych chi'n egluro'r gwahaniaeth rhwng y disgrifiad clir o ddiffygion difrifol a lluosog yn y ffordd y rheolwyd Tawel Fan a'r casgliad (a), nad yw hyn i bob diben yn golygu gofal gwael i gleifion a (b), mewn gwirionedd, fod y cleifion a'r teuluoedd rywsut eu hunain ar fai, yn rhannol o leiaf am fod â disgwyliadau afrealistig neu am beidio â deall dementia neu am newid eu barn am eu profiadau mewn ymateb i sylw yn y cyfryngau.

Gan edrych i'r dyfodol, hoffwn ddymuno'n dda i Mark Polin wrth iddo gamu i swydd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd. Rwy'n nodi eich cyhoeddiad arfaethedig heddiw o fframwaith gwella mesurau arbennig, ond, wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers bron i dair blynedd ac mae'n rhaid i bobl gael hyder bod gwersi wedi eu dysgu am y gorffennol cyn y gallan nhw fod yn ffyddiog yn yr hyn y gall y Bwrdd Iechyd ei ddarparu ar eu cyfer yn y dyfodol.

Mae llawer eisoes wedi dod i'r casgliad mai ymgais yw hon i gelu'r gwir. Nid yw'r teuluoedd yn ystyried bod hwn yn adroddiad credadwy. Ac o gofio'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi heddiw—eich bod yn dymuno i'r adroddiad hwn, nad yw teuluoedd yn ei ystyried yn gredadwy, fod yn sail ar gyfer symud ymlaen at ofal iechyd gwell—sut ydych chi yn awr yn adennill ymddiriedaeth y bobl hynny?

15:00

Hoffwn, unwaith eto, gyfeirio'n ôl at y realiti, y realiti ffeithiol diymwad, sef bod yr adroddiad hwn gan HASCAS, grŵp annibynnol, sefydliad annibynnol, wedi ystyried ystod lawer ehangach o dystiolaeth na'r adroddiadau blaenorol. Ac ni ddylai fod yn syndod, pan fydd mwy o dystiolaeth ar gael, gan gynnwys y 108 o gofnodion clinigol a adolygwyd, ei bod hi'n bosibl dod i gasgliad gwahanol. Nid yw hynny'n bwrw amheuaeth ar ddidwylledd y bobl a roddodd dystiolaeth yn flaenorol—ddim o gwbl. Ac, yn wir, mae HASCAS eu hunain yn dweud nad yw eu hadroddiad yn cyhuddo unrhyw deuluoedd o newid neu ymhelaethu ar eu straeon. Mae'r adroddiad, fodd bynnag, yn ei gwneud hi'n glir bod llawer o deuluoedd nad oedd ganddynt bryderon hyd nes y cafwyd y cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag adroddiad cynharach. Yna, roedd arnyn nhw eisiau gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi cael eu cam-drin, a cheisio sicrwydd yn hyn o beth.  

Ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf hawdd i'w deall. Yr her yw sut y mae pob un ohonom ni yn ein swyddogaethau gwahanol, gan gynnwys fi, â'm swyddogaeth i yn y Llywodraeth, mewn gwirionedd yn ymateb i'r negeseuon anodd iawn o'r adroddiad hwn ac yn deall y loes wirioneddol a achoswyd eisoes i amryw o deuluoedd a sut y mae cynorthwyo'r bobl hyn drwy hynny. Ac nid yw hynny'n hawdd; mae a wnelo hynny â'ch sylw olaf ynghylch adennill ymddiriedaeth. Wel, rwy'n credu mai rhan o hynny yw bod yn onest, ac mae hynny weithiau'n golygu dweud pethau nad ydyn nhw yn awtomatig yn hawdd i'w dweud neu i'w glywed. Felly, pan wyf i'n derbyn yr adroddiad a'i ganfyddiadau ac y mae'n rhaid inni weithio drwy ein hargymhellion, bydd hynny yn plesio ystod o deuluoedd, a fydd wedi eu calonogi gan hynny. Bydd hefyd yn golygu bod yna nifer o deuluoedd sy'n ddig ac yn ofidus ac nad ydyn nhw'n cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Does dim modd plesio pawb yn y sefyllfa hon, ac rydych chi'n dechrau drwy dderbyn y bu methiannau yn y gofal a ddarparwyd, a dyna beth y mae angen inni ei ddatrys.

Rwy'n credu hefyd fod a wnelo hyn â'r pwynt ynghlŷn â'r awgrym y cafodd pethau eu celu. Po fwyaf y gwneir yr awgrym hwnnw a po fwyaf ffyrnig y gwneir yr awgrym hwnnw, yr anoddach i gyd y bydd hi i adennill ymddiriedaeth. Rwy'n derbyn y bydd pobl yn dymuno gofyn cwestiynau, ond mae'r ymosodiad rhag blaen ar ddidwylledd HASCAS a'u hunigolion yn rhywbeth yr wyf yn siomedig iawn yn ei gylch, yn wir. Mae HASCAS yn sefydliad sydd wedi llunio adroddiadau fel hyn i amrywiaeth o sefydliadau iechyd a gofal a methiannau ledled yr ynysoedd hyn. Ni chawsant erioed o'r blaen y fath ymosodiad ar eu didwylledd. Os edrychwch chi ar CV y dwsin o bobl sydd ar y panel a'r pedwar cyfreithiwr gwahanol, gan gynnwys Cwnsler y Frenhines a oedd yn gweithio ar hyn er mwyn rhoi sicrwydd ynghylch cyngor cyfreithiol, mae dweud eu bod yn rhan o gynllwyn i gelu gwybodaeth yn gyhuddiad eithafol i'w wneud, ac nid wyf yn credu bod unrhyw dystiolaeth ar gael sydd o ddifrif calon yn cefnogi'r cyhuddiad hwnnw. Ac, yn hynny o beth, rwy'n credu bod hynny'n wahanol i weld bod teuluoedd yn ofidus ac y byddant yn gwylltio—rydych chi'n deall hynny. Sut allech chi beidio â chael cydymdeimlad dynol, gwirioneddol â'r  teuluoedd hynny sy'n rhan o hyn? Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ymgyrraedd at safon uwch, i fod yn fwy gwrthrychol ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd. Efallai y bydd hynny'n gwneud inni ymddangos yn  oer a digydymdeimlad, ond mae'n rhaid inni allu gwneud ein gwaith er mwyn deall sut y mae pobl yn teimlo, a chydnabod wedyn beth yn ein barn ni sy'n briodol ar gyfer y gwasanaeth cyfan.

A'ch sylw ynglŷn â theuluoedd Tawel Fan—rwyf wedi gweld eu datganiad, wrth gwrs fy mod i. Ac mae  Teuluoedd Tawel Fan, grŵp o ryw naw neu 10 o deuluoedd sydd wedi bod fwyaf blaenllaw yn y broses—. Ond yr her yn hyn i gyd—rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni allu deall—yw bod yna rhai teuluoedd nad ydynt eisiau bod yn rhan o'r broses ar y cyd honno. Nid oedden nhw eu hunain yn credu fod hwnnw'n amgylchedd lle y gallent leisio eu pryderon unigol eu hunain. Felly, roedd gennym ni ffyrdd gwahanol i deuluoedd ymgysylltu a bod yn rhan o'r adroddiad hwn. Rhoddodd tri deg pump o deuluoedd dystiolaeth uniongyrchol i'r ymchwiliad hwn. Roedd 25 o deuluoedd eraill yn rhan o'r ymchwiliad ond dewisasant beidio â rhoi tystiolaeth uniongyrchol, ac roedden nhw'n glir eu bod yn fodlon ar y cyfan â'r gofal a gafodd eu hanwyliaid. Felly, ceir gwrthdaro cynhenid rhwng y digwyddiadau y mae teuluoedd yn sôn amdanynt yn ystod yr un cyfnod o amser, ac mae'r adroddiad hwn yn ymgais onest i ddeall hynny ac i adrodd ar y dystiolaeth a ddarparwyd. Rwy'n ailddatgan fy ymrwymiad i geisio adennill ymddiriedaeth teuluoedd ar draws y gogledd a thu hwnt drwy wneud yn siŵr mewn gwirionedd ein bod yn cymryd o ddifrif y feirniadaeth yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried o ddifrif y gofyniad i weld gwelliannau pellach a pharhaus  mewn gwasanaethau gofal iechyd yn y gogledd, yn enwedig o ran oedolion hŷn sy'n dioddef o ddementia, oherwydd dyna yw'r her wirioneddol y mae'r adroddiad hwn yn ei gosod. 

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Er nad oeddwn yn aelod o'r Cynulliad hwn pan gyhoeddwyd adroddiad Ockenden, rwy'n cofio'r sioc a'r dicter a deimlais pan ddysgais am yr hyn yr oedd y bobl hyn wedi ei ddioddef ar ward Tawel Fan. Wrth wrando, hyd yn oed yr wythnos diwethaf, ar y radio ar deuluoedd yn ail-fyw'r profiadau a chlywed sut y maen nhw'n teimlo pan mae hyd yn oed yn rhaid iddyn nhw fynd heibio'r ardal dan sylw—roedd yn debycach i sut y cai pobl ag afiechyd meddwl eu trin yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yr unfed ganrif ar hugain.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni bellach ganfyddiadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ni all unrhyw un anghytuno ag annibyniaeth neu arbenigedd HASCAS, gyda Dr Johnstone a'i thîm yn cynnal yr ymchwiliad ac yn cyhoeddi'r adroddiad. Canfu HASCAS lywodraethu anhrefnus a gwael a phroblemau â holl wasanaethau iechyd meddwl y gogledd. Canfuwyd naw ffactor allweddol a oedd yn peryglu gofal cleifion. Fodd bynnag, mae diffyg cysylltiad rhwng canfyddiadau HASCAS a'r ymchwiliad cynharach a gynhaliwyd gan Donna Ockenden, ac mae'r datgysylltiad hwn wedi achosi i deuluoedd wrthod canfyddiadau adroddiad HASCAS, a dweud ei fod yn ymgais i wyngalchu ac i gelu pethau.

Rwy'n cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylem ni osgoi dod i gasgliadau byrbwyll, ond hyd nes y gallwn ni roi sylw llwyr i bryderon y teuluoedd sy'n rhan o sgandal Tawel Fan, neu'r rhai a gawsant eu trin yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ni allwn ni osod hyn o'r neilltu. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi ystyried gofyn i Donna Ockenden weithio gyda HASCAS er mwyn mynd i'r afael â phryderon y teuluoedd? Er fy mod yn falch na wnaeth Dr Johnstone a'i thîm ganfod unrhyw dystiolaeth o gam-drin systematig, fe wnaethon nhw ganfod methiannau sefydliadol yn nhrefniadau llywodraethu a gofal Betsi Cadwaladr. Ysgrifennydd y Cabinet, nid dyma'r adroddiad cyntaf i dynnu sylw at fethiannau mewn llywodraethu clinigol, nid yn unig yn y gogledd ond ledled y GIG. A ydych chi'n credu bod y model llywodraethu presennol yn addas at y diben mewn system gofal iechyd modern?

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y byddwch yn cyhoeddi fframwaith gwella mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr adroddiad cynnydd cyntaf ym mis Hydref. Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes mewn mesurau arbennig, pa ddewisiadau sydd ar gael i chi os byddant yn methu â gwneud cynnydd yn unol â'r fframwaith gwella?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi nodi bod gwersi ar gyfer y GIG ehangach a'ch bod yn disgwyl i sefydliadau'r GIG ystyried yr adroddiad. O ran y goblygiadau gofal cymdeithasol, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac a ydych chi'n disgwyl i lywodraeth leol hefyd ystyried argymhellion adroddiad HASCAS?

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau na all yr hyn a ddigwyddodd yn Uned Ablett fyth ddigwydd eto. Diolch yn fawr. 

15:05

Rwyf eisiau dechrau eto drwy ailadrodd nad yw'r adroddiad hwn yn sicr yn ymgais i wyngalchu neu gelu'r gwir. Pe bai'r adroddiad, ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, wedi dod i gasgliad gwahanol, yna, unwaith eto, byddwn wedi bod mewn sefyllfa lle, wrth gwrs, y byddai'n ddyletswydd arnaf i dderbyn hynny. Nid oes unrhyw ddiben o gwbl cael proses ymchwiliad annibynnol gyflawn, a barodd bron i dair blynedd, os mai ymateb cyntaf Gweinidog Llywodraeth yw dweud, 'Nid wyf yn hoffi'r casgliad. Rhowch un arall imi.' Roedd hwn yn fwriadol yn ymarfer annibynnol heb unrhyw gyswllt â'r Bwrdd Iechyd, yn cynnwys pobl nad ydynt yn ymarferwyr yng Nghymru ond sydd ag arbenigedd gwirioneddol annibynnol a didwylledd i ganfod y gwir, i'n galluogi ni i ddeall beth ddigwyddodd, ond hefyd i helpu i osod llwybr ar gyfer y gwelliant angenrheidiol.

Mae adroddiad Ockenden, yr ail adroddiad, yn ymwneud â strwythur llywodraethu y Bwrdd Iechyd, ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n disgwyl hwnnw o fewn yr wythnosau nesaf. Bydd yn cael ei gyhoeddi, bydd ar gael drwy'r Bwrdd, ac, yn wir, yr ymateb iddo. Efallai y bydd hynny'n golygu y bydd angen imi edrych eto ar y fframwaith gwella mesurau arbennig. Fel y dywedais yn fy natganiad llafar, rwy'n hapus i wneud hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl fesurau gofynnol ar waith a byddaf wedyn adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaed, a hynny mewn modd cwbl tryloyw. Mae'n rhan bwysig o'r fframwaith mesurau arbennig hynny nad oedd y Bwrdd Iechyd yn mynd i fesurau arbennig yn ôl mympwy gwleidydd; cafwyd cyngor annibynnol a gwrthrychol yn nodi mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud. Ac ym mhob agwedd ar y cynnydd—neu ddiffyg hynny—a wnaed o dan fesurau arbennig, unwaith eto rydym ni wedi cael sicrwydd annibynnol, gan Swyddfa Archwilio Cymru, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac, yn wir, Prif Weithredwr GIG Cymru. Felly, nid unigolyn yn rhoi cyngor mo hwn, nid dim ond un gwleidydd yn gwneud penderfyniadau er mantais unigol iddo'i hun. A dweud y gwir, byddai wedi bod er fy mudd hunanol fy hun i'w gweld nhw'n dod allan o fesurau arbennig ac i weld yr adroddiad hwn yn dod i gasgliad hollol wahanol. Mae'r casgliadau y daethpwyd iddyn nhw yn rhai annibynnol, gwrthrychol a chadarn, ac maent wedi'u nodi yn yr adroddiad ac yn yn y gofyniad parhaus i gadw'r Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, a dyna fydd y sefyllfa o hyd wrth inni adrodd ar gynnydd neu fel arall. Rwyf wedi dweud y byddaf yn adrodd yn ôl ar y gwaith gwella ehangach y mae gweddill teulu'r GIG yn ei wneud o ganlyniad i'r adroddiad hwn, a bydd gennym ni fwy i'w ddweud ynglŷn â'r gwaith diogelu sy'n cael ei wneud yn y gogledd a beth y gallai hynny ei olygu i weddill y wlad, hefyd, sy'n cynnwys iechyd, llywodraeth leol ac eraill yn gweithio gyda'i gilydd.

15:10

A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n croesawu hefyd eich bod yn cydnabod bod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiaeth o ddiffygion a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae gennyf ambell bwynt penodol yr hoffwn i holi yn eu cylch mewn cysylltiad â'r adroddiad. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r pryderon a grybwyllwyd ynglŷn â'r driniaeth y mae pobl yn ei chael, gyda dementia, mewn unedau damweiniau ac achosion brys ac mewn lleoliadau meddygol eraill mewn ysbytai. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod Dr Katie Featherstone ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn ddiweddar ynglŷn â'r gofal a roddir mewn ysbytai i bobl â dementia, ac rydym ni'n gwybod bod rhwng 25 y cant a 50 y cant o welyau mewn ysbytai yng Nghymru yn cynnwys rhywun â dementia. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod gan bawb yn ein GIG y sgiliau a'r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person i bobl â dementia. Felly, roeddwn i eisiau gofyn ichi, yn eich barn chi, pa wersi pellach all yr hyn a ganfuwyd yn yr adroddiad hwn ei ddysgu i'r GIG ehangach yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y pwysau ariannol, sydd, mae'n dweud, wedi arwain at sefyllfaoedd lle nad yw therapyddion galwedigaethol a'r tîm aml-ddisgyblaethol ar gael. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn fy mod i wedi dweud wrthych chi o'r blaen fy mod i'n credu bod cleifion ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru ymhlith y dinasyddion sydd â'r lleiaf o lais yn ein gwlad. Maen nhw yn aml ar wardiau dan glo; dydy'r rhain ddim yn wardiau lle mae pobl yn mynd a dod yn aml iawn. Does gan rai ohonyn nhw hyd yn oed ddim perthnasau i ymweld â nhw. Felly, a gaf i ofyn a ydych chi'n credu a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud i roi mwy o statws i'r cleifion hyn yn y Bwrdd Iechyd, er enghraifft drwy gael hyrwyddwyr dementia ar y Bwrdd, ac ati, fel nad ydyn nhw'n angof anweledig. 

Rwy'n croesawu'n fawr y cyfeiriad yn yr adroddiad at yr angen am eglurder ynglŷn â fframweithiau cyfreithiol o ran y Ddeddf Iechyd Meddwl a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n credu yn bendant bod gwersi ehangach i'w dysgu ar gyfer y GIG yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu o ddifri nad oes cydymffurfiad llwyr â'r deddfau hynny ledled Cymru. Mae argymhellion i gyhoeddi canllawiau newydd, ac y caiff y rhain eu hadolygu a hyd yn oed eu harchwilio fesul claf, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut yr ydych chi'n  bwriadu datblygu hynny?

Mae'r adroddiad yn sôn am yr angen am eiriolaeth. Roedd ateb ysgrifenedig diweddar a gefais gennych chi yn cadarnhau bod yr holl fyrddau iechyd ar hyn o bryd yn cyrraedd y targed pob oedran o ran darparu eiriolaeth annibynnol, ond yr hyn y byddwn yn tynnu sylw ato yw ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r cysyniad o gynnig gweithredol am eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r targed presennol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn cyfeirio at bobl sydd wedi gofyn am eiriolaeth yn cael hynny o fewn pum niwrnod, ac rwy'n meddwl tybed a hoffech chi ddweud rhywbeth ynglŷn â beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod cynnig rhagweithiol ar gyfer pobl hŷn yn ogystal, oherwydd bod heriau gwirioneddol o ran cynnig eiriolaeth a sicrhau bod pobl hŷn â dementia yn defnyddio gwasanaethau eiriolaeth, ac rwy'n credu bod angen gweithredu mesurau penodol.

Yn olaf, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o fy marn y dylem ni geisio, ar y cyfle cynharaf, ymestyn y ddeddfwriaeth ynglŷn â lefelau staffio diogel i gynnwys wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn a'r materion sy'n deillio o hynny yn cadarnhau'r angen am hynny, oherwydd gellid datrys llawer o'r materion y rhoddwyd sylw iddyn nhw pe bai gan staff yr amser angenrheidiol i wneud eu gwaith yn iawn ac i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Felly, a allwch chi roi diweddariad i ni ar eich cynlluniau i ymestyn y ddeddfwriaeth? Diolch.

Diolch i chi am yr ystod o gwestiynau. Maddeuwch imi os nad wyf yn llwyddo i ateb pob un ohonyn nhw nawr yn yr amser sydd ar gael, ond rwy'n fodlon eu trafod nhw gyda chi yn uniongyrchol ar ôl trafodion heddiw hefyd. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod y sylw a wnaethoch chi am unedau damweiniau ac achosion brys yn dangos maint yr her yr ydym yn ei hwynebu o ran gofal dementia, gan fod pobl â dementia yn nodwedd reolaidd eisoes o ofal yn y sector ysbytai, a byddant yn dod yn fwy felly yn y dyfodol. Rydym ni'n disgwyl i fwy o bobl gael diagnosis, rydym ni'n disgwyl i bobl sydd heb gael diagnosis gyrraedd ein hysbytai gydag angen am ofal a thriniaeth, boed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys neu mewn unedau gofal dewisol, a bydd yn nodwedd gynyddol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r ffaith y cyfeiriwyd at unedau damweiniau ac achosion brys yn dangos bod adroddiad HASCAS wedi gwrando ar yr hyn yr oedd y teuluoedd yn ei ddweud, oherwydd nid oedd yn rhan o'r cylch gwaith cynharach, ond yn hytrach yn fater y cyfeiriodd teuluoedd ato yn ystod yr ymchwiliad, ac felly ehangwyd cylch gorchwyl yr ymchwiliad i ganiatáu bwrw golwg ar y dilyniant gofal a thriniaeth ehangach, i gael safbwynt ehangach ynglŷn â'r hyn a oedd yn gweithio'n dda, yn ogystal â'r hyn nad oedd yn gweithio'n dda, wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y gogledd.

Rwy'n cydnabod eich sylwadau am yr ystod o weithgareddau sy'n cael eu darparu i bobl, yr amrywiaeth o driniaethau adfer ac adsefydlu sy'n dal yn bosibl o safbwynt corfforol, ond hefyd y ffaith bod y rhain yn bobl sydd, o ran eu natur, yn agored i niwed ac yn aml heb lais. Felly, mae eich sylw am eiriolaeth yn un priodol iawn, o ran bod â chynnig gweithredol gwirioneddol, ac mae hynny'n waith yr ydym ni'n ceisio ei wneud er mwyn sicrhau bod—. Nid yw'r pwyslais sydd gennym ni yn aml ar eiriolaeth i blant yn aml yn bodoli gydag oedolion hŷn, sy'n syndod, ac rwy'n credu bod hynny'n bennaf oherwydd bod pobl yn tybio bod aelod o'r teulu yn aros i ofalu am yr unigolyn hwnnw neu i eiriol drostyn nhw, ac yn aml does neb, naill ai oherwydd nad oes ganddyn nhw deulu neu oherwydd nad yw eu teulu yn byw yn y cyffiniau bellach, a dyna'r realiti trist iawn y mae llawer o'n dinasyddion hŷn yn ei wynebu.

Rwyf hefyd yn cydnabod eich sylw ynglŷn â chapasiti a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r adolygiad sy'n digwydd ledled Cymru a Lloegr gyda'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, ac yn benodol amddifadedd trefniadau diogelu rhag colli rhyddid. Felly, rydym ni'n cydnabod bod gwaith y mae angen ei wneud drwy'r system yn ei chyfanrwydd, nid dim ond yng Nghymru, ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid yn y pedair gwlad i ddeall sut y bydd angen inni fynd ati yn y dyfodol, oherwydd gall hynny fod yn anodd i'r unigolyn, i'w teulu a'r system iechyd a gofal ei hun hefyd. Rydym ni eisoes wedi darparu buddsoddiad blynyddol dros dro o fwy na £300,000 i gefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymdrin â'r her hon. 

Ynglŷn â'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio, bydd yn rhaid i mi drafod hynny â chi maes o law, ac rwy'n hapus iawn i roi datganiad i'r Aelodau, ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i ymestyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio. Mae sawl dewis gwahanol a blaenoriaethau posibl yr wyf i wedi adrodd arnyn nhw o'r blaen, ac mae'n debyg ei bod hi'n bryd imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, p'un a yw hynny yn canolbwyntio ar ofal pediatrig cleifion mewnol, neu'n canolbwyntio ar nyrsio cymunedol neu, yn wir, ar ofal ar gyfer oedolion hŷn yn ogystal. Felly, byddaf yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â hynny, ac mae'n broc defnyddiol i'r cof ei bod hi'n bryd i mi roi'r diweddariad ysgrifenedig ffeithiol hwnnw i Aelodau.

15:15

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel nifer o Aelodau, rydw i'n teimlo ei bod hi'n anffodus bod yr adroddiad yma yn taro tôn neu'n creu tôn sydd bron iawn yn cwestiynu llais y dioddefwyr a theuluoedd y dioddefwyr. Hynny yw, rydym ni'n darllen cymalau yn yr adroddiad sy'n sôn amdanyn nhw'n ailgastio eu profiad yn sgil pethau a oedd wedi datblygu yn ddiweddarach. Mae yna godi cwestiynau ynglŷn ag ymddygiad a rhyw bethau felly. Wrth gwrs, mae'n pwyntio at rai teuluoedd sydd wedi cael profiadau da. Mae hynny'n ddigon teg, ond ni ddylai hynny, wrth gwrs, mewn unrhyw ystyr, fod yn gwneud profiadau a thystiolaeth y rhai sydd wedi cael profiad gwahanol yn llai dilys, os liciwch chi.

Un cwestiwn syml sydd gen i, ac un pwynt syml rydw i eisiau ei wneud, i bob pwrpas. Mae hanes wedi ein dysgu ni yn y gorffennol tan i lais y dioddefwyr gael ei gredu yna nid oes dim cyfiawnder. Rydw i jest eisiau gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: a ydy'r Llywodraeth yn credu tystiolaeth teuluoedd y dioddefwyr? Oherwydd os nad ŷch chi, yna pa ryfedd na fydd gan nifer ohonyn nhw ffydd yn y broses yma? 

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y rhoddwyd cylch gwaith i HASCAS gael ymchwilio'n annibynnol ac adrodd yn ôl ar y dystiolaeth a ganfuasent. Dyna oedd y cylch gwaith a roddwyd iddynt. Mae'n rhaid ichi dderbyn wedyn pan gynhelir yr adolygiad annibynnol hwnnw, pan fyddwch chi'n derbyn didwylledd y bobl, mae'n bosib iawn y bydd hynny'n darparu negeseuon anodd iawn sy'n feirniadol o'r Llywodraeth, yn feirniadol o'r gwasanaeth iechyd, ac na fyddant bob amser yn cefnogi pob un o'r casgliadau y daethpwyd iddyn nhw gan aelodau unigol o'r cyhoedd. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn golygu nad yw'r bobl hynny yn nod yn onest. Rwy'n cyfeirio'n ôl at yr hyn y mae HASCAS eu hunain wedi'i ddweud: nad yw eu hadroddiad yn cyhuddo unrhyw un o'r teuluoedd o newid neu ymhelaethu ar eu straeon. Mae, fodd bynnag, yn ei gwneud hi'n glir bod yna lawer o deuluoedd nad oedd ganddynt unrhyw bryderon hyd nes cafwyd cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag adroddiad cynharach. Yna, roedden nhw eisiau gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi cael eu cam-drin, a cheisio sicrwydd yn hyn o beth.

Pan fyddwch chi'n edrych ar y casgliadau y daethpwyd iddyn nhw gan HASCAS, mae'n glir iawn eu bod yn cadarnhau'r amrywiaeth eang o bryderon a chwynion a wnaed gan deuluoedd. Ein her ni yw sut i ymdrin â'r rheini a sut yr ydym ni'n mynd ati mewn gwirionedd i wella ar y rheini, i geisio gwneud yn siŵr nad yw teuluoedd eraill yn cael yr un profiad. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â gofal unigol, ond mae'n ymwneud yn fwy o lawer â'r methiannau systemig a fu yn y gogledd. Nid yw hynny—i fynd yn ôl at y sylw a wnaeth arweinydd yr wrthblaid mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog—yn gyfystyr â dweud, mewn egwyddor, bod creu Betsi Cadwaladr yn beth anghywir i'w wneud, ond mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r ffordd y bu'r Bwrdd Iechyd yn gweithredu yn ystod y blynyddoedd cyntaf hynny, gan fod â model darpariaeth oedd yn seiliedig ar yr agweddau meddygol. Mae'r grwpiau rhaglen clinigol yn arbennig wedi eu beirniadu o'r blaen, ac nid yw'n syndod bod HASCAS, yn eu hymchwiliad, wedi beirniadu'r model hwnnw fel rhywbeth sy'n creu Bwrdd Iechyd datgymalog—felly, datgysylltiad y grwpiau rhaglen clinigol gwahanol nad oedden nhw'n siarad â'i gilydd, i bob pwrpas, sefydliadau lled-ymreolaethol yn y Bwrdd Iechyd, a thri diwylliant gwahanol iawn y tair ymddiriedolaeth a oedd yn bodoli o'r blaen. Ac mae hynny wedi creu heriau sylweddol sydd yn dal i fod gyda ni heddiw. Dyna un o'r heriau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi er mwyn sicrhau, fel yr wyf yn ei ddweud, y caiff yr agweddau hynny i gyd eu hwynebu, eu trin a'u datrys unwaith ac am byth, i'w wneud yn lle gwell i staff weithio, ond yn hanfodol, yn lle gwell i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer ein pobl.  

15:20
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniol

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu'r defnydd o rwyll synthetig y wain. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener, cyhoeddais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlais i adolygu'r defnydd o dâp a llieiniau rhwyll synthetig y wain i drin anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen a phrolaps organau'r pelfis. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfrif cynhwysfawr o'r defnydd o rwyll yng Nghymru a'r problemau sy'n gysylltiedig ag ef. Yn bwysig, mae'n gwneud argymhellion ar y camau y dylem ni yn awr eu cymryd i wneud gwelliannau angenrheidiol a chyflym. Diolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith. Hoffwn gydnabod dewrder ac ymrwymiad y menywod hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at y mater hwn. Er iddynt ddewis peidio, yn ddealladwy, â chymryd rhan uniongyrchol yng ngwaith y grŵp, mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i darparu wedi hysbysu'r canfyddiadau a'r argymhellion—ac, wrth gwrs, rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod wedi cyfarfod â grŵp o oroeswyr rhwyll.

Mae pob adolygiad hyd yn hyn wedi dangos pa mor anodd fu cael asesiad dibynadwy o faint y broblem a all fod yn gysylltiedig â defnyddio rhwyll y wain. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir, er y gallai fod llawer o fenywod wedi elwa o driniaeth o'r fath, yw bod rhai menywod wedi dioddef cymhlethdodau difrifol sydd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i hyn. Mae'r adroddiad hwn yn ailddatgan hyn ac yn darparu cyngor clir ar beth sydd angen ei wneud i gefnogi'r rhai hynny sy'n byw gydag effeithiau gwanychol cymhlethdodau rhwyll. Mae hefyd yn glir bod angen gwella ein dull o reoli problemau iechyd y pelfis wrth symud ymlaen.

Ceir cyfyngiadau clir o ran digonolrwydd ein data er mwyn deall lefel y cymhlethdodau. Mae'r adroddiad yn egluro pam mae hyn yn wir ac yn cynnig rhai atebion tymor byr a thymor hwy i fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg o'r data a gyflwynwyd yw'r gostyngiad sydyn yn nifer y cleifion sydd wedi cael triniaethau rhwyll yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn ystod yr adolygiad hwn, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ganllawiau newydd, ym mis Rhagfyr 2017, yn datgan yn glir iawn na ddylid atgyweirio prolaps wal y wain â rhwyll drwy'r wain ond yng nghyd-destun ymchwil. Rwy'n nodi bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi croesawu'r penderfyniad hwn gan NICE a'u bod wedi dod i'r un farn. Rwyf i, wrth gwrs, yn disgwyl i'r cyngor hwnnw gael ei ddilyn yng Nghymru.

Mae canfyddiadau cyffredinol ac argymhellion yr adroddiad yn dod o fewn pum maes allweddol: y llwybr gofal cychwynnol gofynnol i gefnogi menywod o ran iechyd a lles y pelfis, sy'n cynnwys mynediad at dimau amlddisgyblaethol o glinigwyr sy'n ymgorffori gofal ymataliaeth, ffisiotherapi, rheoli poen a, phan fo'n briodol, sgiliau seicoleg; rhoi gwybodaeth well i gleifion er mwyn sicrhau y gallan nhw wneud penderfyniad cytbwys a rennir am opsiynau triniaeth; sicrhau bod gan feddygon teulu y gallu uniongyrchol i gael cyngor arbenigol, fel y gallan nhw gefnogi eu cleifion yn well; gwneud gwelliannau sylweddol yn y prosesau sy'n gysylltiedig â chasglu data o'r triniaethau a roddir ac unrhyw fewnblaniadau a ddefnyddir; a sicrhau mynediad at gymorth arbenigol ar gyfer tynnu rhwyll drwy ddatblygu un neu fwy o ganolfannau amlddisgyblaethol arbenigol wedi'u hachredu'n llawn. Rwyf nawr eisiau sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad yn gyflym.

Yr hyn sy'n arbennig o glîr i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, yw bod angen inni gael newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r GIG yn cefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd y pelfis, gan symud ymlaen i ganolbwyntio ar atal a therapïau ceidwadol, gydag ymyrraeth lawfeddygol fel dewis olaf. Ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael yn gynnar i'r rhai hynny â chymhlethdodau triniaeth er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf. Rwyf felly yn sefydlu grŵp gweithredu dan gyfarwyddyd gweinidogol i oruchwylio'r meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar frys. Yn y lle cyntaf, ei flaenoriaeth fydd goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion o'r adolygiad o dâp a rhwyll y wain. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd eisiau i'r grŵp ystyried unrhyw argymhellion sy'n codi o'r adolygiadau endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol sydd ar y gweill. Mae'r adolygiad tâp a rhwyll yn amlygu y gallwn ni ddisgwyl y bydd nifer o feysydd sy'n gorgyffwrdd y mae angen eu dwyn ynghyd.

Yn dilyn y pwyslais cychwynnol hwn, byddaf yn cymryd cyngor gan y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wrth benderfynu beth ddylai fod yn flaenoriaethau nesaf i'r grŵp. Bydd angen i aelodaeth y grŵp hwn fod yn hyblyg oherwydd, er y bydd y pwyslais cychwynnol ar rwyll a thâp, bydd angen cynrychiolaeth briodol ar y grŵp—cynrychiolaeth broffesiynol a lleyg—ar draws meysydd eraill iechyd menywod. Rwy'n falch bod Tracy Myhill, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wedi cytuno'n garedig i gadeirio'r grŵp.

Rwyf wedi sicrhau bod hyd at £1 miliwn y flwyddyn o gyllid ar gael i gefnogi'r gwelliannau sydd eu hangen. Wrth gwrs, bydd llawer y gallwn ni ei wneud o fewn yr adnoddau presennol, drwy ailgynllunio gwasanaethau ac o bosib symud gwasanaethau o ysbytai i gymunedau, i sicrhau bod llwybr iechyd a lles y pelfis yn y gymuned yn cael ei roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Dylai'r adnodd hwn helpu'r llwybrau hyn i fod y drefn arferol ledled Cymru ar sail gyson. Yn y cyfamser, rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad i ystyried pa welliannau lleol y gellir eu gwneud ar unwaith. Yn sicr, ein nod yw sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r driniaeth orau bosib pan fyddan nhw'n dod atom yn dioddef o anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis, neu unrhyw gymhlethdodau eraill o ganlyniad i driniaeth bresennol.

Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu grŵp gweithredu yn ddi-oed, a byddaf yn disgwyl diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd. Wrth gwrs, bydd yn bwysig i'r gwaith gael ei ategu gan amrywiaeth o fesurau er mwyn gallu dangos gwelliannau yng nghanlyniadau a phrofiad cleifion. Bydd angen i'r grŵp hefyd barhau i adolygu ei waith yn rheolaidd yn unol ag unrhyw dystiolaeth newydd a ddaw i'r amlwg. Rwyf hefyd wedi rhannu adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen gyda chadeiryddion yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a NICE, ac wedi gofyn iddo lywio'r gwaith parhaus yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y camau hyn yn gyfle i roi pwyslais mawr ei angen ar iechyd menywod a galluogi'r GIG i fynd i'r afael â meysydd allweddol yr oedd angen eu gwella ers amser.

15:25

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am fwrw ymlaen â llawer o'r pryderon drwy gomisiynu'r gwaith hwn yn y lle cyntaf ac yna, unwaith eto, drwy eich datganiad chi yma heddiw. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r mater hwn o gwbl, fy hun, hyd nes y dechreuodd pobl ddod ataf yn fy swyddfa etholaeth. Mae rhai o'r niferoedd yr wyf i wedi'u cael, a'r profiadau dirdynnol gan fenywod yn bennaf, mae'n rhaid i fi ddweud, wedi bod yn bur frawychus. Ac yna, wrth gwrs, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn bod llawer o gleifion sydd wedi dioddef yn awr yn mynd at y cyfryngau cymdeithasol, ac yn ceisio—wyddoch chi, rydym ni i gyd wedi cael ein cynnwys. Rwy'n edmygu'r bobl hyn oherwydd mae llawer ohonyn nhw'n gleifion sydd wedi dioddef, ac nid ydyn nhw'n dioddef yn dawel. Maen nhw'n mynd allan yno ac yn ceisio rhybuddio pa mor annymunol—os bydd pethau'n mynd o'i le—yw'r rhwyll hwn.

Wrth gwrs, mae angen imi atgoffa'r Siambr nad yw'r mater rhwyll synthetig y wain, neu'r tâp, yn un sy'n effeithio ar fenywod yn unig, oherwydd rwy'n credu y bu tuedd iddo ymddangos yn fater sy'n effeithio ar fenywod yn unig. Rwy'n deall nad yw'r meysydd lle y gallai fod yn berthnasol i effeithio ar ddynion wedi bod yn rhan o'r adolygiad. Ond, wrth gwrs, gellir ei ddefnyddio fel rhwyll torgest ar gyfer cleifion gwrywaidd a benywaidd. Mae sgîl-effeithiau problemau a achosir gan rwyll yn eang. Nid ydym yn sôn yn unig am y boen gorfforol y mae cleifion ynddo'n gyson, ond hefyd y problemau iechyd meddwl cysylltiedig o ganlyniad i hynny. Mae'n fater o golli hyder ac mae llawer o bobl yn dioddef iselder wrth ei chael yn anodd ymdopi, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y niferoedd yn cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, oherwydd gall y problemau ddechrau, mewn gwirionedd, nifer o flynyddoedd ar ôl y llawdriniaeth. Mae llawer o gleifion yn galw am waharddiad cyffredinol ar y driniaeth hon, ac rwy'n poeni bod hyn yn rhywbeth na fyddwch chi'n ei gadarnhau o'ch datganiad heddiw. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn Lloegr wedi galw am wahardd y defnydd o rwyll y wain, cam a gymerwyd yn Seland Newydd ac Awstralia, a lle y cyfeiriwyd ato fel y sgandal iechyd fwyaf ers thalidomid. Ledled y DU, mae tua un ym mhob 11 o fenywod wedi cael problemau. Yn yr Alban, gofynnodd cyn Ysgrifennydd iechyd yr Alban, Alex Neil, am atal dros dro fewnblaniadau rhwyll gan y GIG yn 2014. Ond dangosodd ffigurau a gafwyd gan y BBC ym mis Rhagfyr 2016 bod cannoedd o lawdriniaethau wedi'u cynnal ers hynny. Ac mae'n werth nodi bod nifer o fyrddau iechyd yr Alban wedi stopio defnyddio mewnblaniadau rhwyll yn gyfan gwbl.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni'n ddiolchgar am y datganiad hwn, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae'n amlwg bod tystiolaeth, cefnogaeth y cyhoedd, ac enghreifftiau o'r driniaeth rhwyll hon yn achosi problemau erchyll, sy'n newid bywydau. Felly, pam na wnewch chi ymrwymo i ddilyn esiampl Awstralia a Seland Newydd a chyflwyno gwaharddiad llwyr ar y cyfle cynharaf posibl? Nawr, y cyfyng-gyngor i mi yma heddiw yw bod gennyf nifer o gleifion sydd wedi cysylltu â mi yn fy etholaeth i fy hun,  sydd, fel y maen nhw'n ei ddisgrifio, yn byw mewn poen, ac rwy'n ymdrin â'u gwaith achos. Ond ar yr un pryd, mae gen i achosion syn golygu bod y driniaeth rhwyll i'w gweithredu yn fuan iawn ar gleifion sy'n dioddef. Nawr, maen nhw wedi codi pryderon, neu wedi ceisio codi pryderon, gyda'r meddygon ymgynghorol, ac mae'n rhaid dweud eu bod wed cael eu troi ymaith. Maen nhw wedi codi eu pryderon gyda meddygon teulu, a does dim barn glir ar hyn, a chredaf fod angen rhywbeth mwy pendant arnom gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd sy'n gyfrifol am iechyd ein menywod a'n dynion ledled Cymru.

Felly, a wnewch chi egluro pam mae'r adroddiad wedi seilio ei ffigurau ar fewnblaniadau rhwyll, tynnu rhwyll a gor-wnïo. Pam mae apwyntiadau cleifion allanol, sy'n cwmpasu'r holl sgil-effeithiau a gofnodwyd, wedi'u hepgor? Yn argymhelliad 3.2, rydych chi'n nodi

y byddai angen archwiliad ôl-weithredol ar amcangyfrifon ystyrlon o gyfraddau cymhlethdod sy'n gysylltiedig â thriniaethau rhwyll.

A yw hyn yn golygu y byddwch chi'n gofyn i archwiliad gael ei gynnal? Os na, pam ddim? Byddwn i yn sicr yn gwneud hynny pe byddwn i yn eich sefyllfa chi.

Yn argymhelliad 3.21, a ydych chi'n cytuno y gallai'r niferoedd isel yr adroddwyd arnynt yng Nghymru fod oherwydd nad yw'n orfodol i glinigwyr adrodd am ddigwyddiadau andwyol i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a hefyd natur anodd y pwnc a allai olygu bod y niferoedd sydd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn anghywir? Dylech mewn gwirionedd fod yn gwneud popeth posib nawr i sefydlu beth yw'r union sefyllfa absoliwt yn y fan yma.

Beth y gellir ei wneud i unioni hyn? Mae argymhelliad 5(c) yn dweud

mai dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd sydd â chlinig poen y pelfis aml-ddisgyblaethol.

Felly, fe wyddoch chi mai'r dilyniant naturiol yw gwneud yn siŵr bod hynny ar gael eto ar gyfer pawb yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn ymateb a roddwyd i Neil McEvoy yn y cyfarfod llawn ar 13 Rhagfyr y llynedd, dywedasoch hyn:

'Fy nealltwriaeth i yw, oes, mae gennym ni dimau amlddisgyblaethol i bob triniaeth lawfeddygol.'

A allwch chi egluro nawr pa un sy'n gywir—eich adroddiad neu eich ymateb i Neil chwe mis yn ôl yn y cyfarfod llawn?

Dywed argymhelliad 6(a) y dylid

sefydlu ffyrdd y gallai meddygon teulu gael mynediad uniongyrchol at gyngor arbenigol.

Sut bydd hyn yn cael ei fonitro a pha mor fuan y caiff ei gyflwyno?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pam, pan fo Llywodraeth y DU wedi cynnal archwiliad i effeithiau mewnblaniadau rhwyll y wain, fod eich Llywodraeth chi yn dal i fod yn ystyfnig ac yn gwrthod gwneud hynny? Beth sy'n eich poeni? Pam nad ydych chi'n blaenoriaethu buddiannau cleifion Cymru? Ac rwy'n ymateb i chi heddiw o'm rhan fy hun, ond hefyd ar ran Angela Burns, Aelod Cynulliad, na all yn anffodus fod gyda ni heddiw. Mae hi'n bryderus iawn am hyn. Mae hi'n siarad gyda phobl, fel yr wyf i, am hyn. Mae'r mater hwn yn dod atom ni fel Aelodau Cynulliad yn rheolaidd iawn. Eich cyfrifoldeb chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw gwneud yn siŵr bod gennych chi ddull cadarn iawn o ymdrin â'r pryderon hyn. Diolch i chi.

15:30

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ddweud bod y materion torgest yn faterion ar wahân, gyda grŵp gwahanol o lawfeddygon a phroses wahanol ar waith i ddeall lefel y cymhlethdodau sy'n bodoli. Mae hwn wedi canolbwyntio yn ddiedifar ar faterion iechyd menywod, ac, yn blwmp ac yn blaen, pe byddai'r lefel hon o gymhlethdodau wedi effeithio ar faterion iechyd dynion, rwy'n tybio y byddem wedi clywed amdanyn nhw'n gynt o lawer.

Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf am y timau amlddisgyblaethol. Wrth gwrs, mae argymhelliad 5 yn ymdrin â thimau amlddisgyblaethol ar gyfer clinigau poen y pelfis, yn hytrach na thimau amlddisgyblaethol ehangach sydd ar waith mewn llawdriniaeth. Mae her yma i wneud yn siŵr fod gennym y nifer gywir o dimau amlddisgyblaethol ar waith, gan gynnwys, wrth gwrs, ganolfan arbenigol ar gyfer tynnu rhwyllau, ac i ystyried un neu fwy o'r rheini, ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y de a chael canolfan lawfeddygol amlddisgyblaethol achrededig, ond hefyd am barhau i ddefnyddio Manceinion ar gyfer cleifion yn y gogledd.

O ran eich pwyntiau ynghylch gwahardd—. Na, fe wnaf ymdrin â'ch pwynt am archwilio yn gyntaf, cyn imi ddod yn ôl at y pwynt am wahardd rhwyll, sydd wedi ymddangos yn amlwg iawn yn yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud dros gyfnod o amser. Os edrychwn ni ar yr archwilio hynny sydd wedi digwydd yn Lloegr, maen nhw'n ei ystyried ar sail arbrofol yn Lloegr i geisio archwilio'n ôl-weithredol yr hyn sydd wedi digwydd. Yr hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol yw, rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac Adran Iechyd Llywodraeth y DU, sy'n gweithredu ar ran Lloegr, y cafwyd trosglwyddiad adeiladol iawn o wybodaeth am yr archwiliad sy'n digwydd, ac mae tebygrwydd yn yr ystod o heriau yr ydym yn disgwyl i'r archwiliad yn Lloegr eu datgelu. Cyn i mi ystyried cymryd camau ôl-weithredol, lle na allwn ni fod yn siŵr o union werth hynny, mae gennyf ddiddordeb, er hynny, mewn deall beth sy'n digwydd yn Lloegr a pha wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny, yn ogystal ag edrych yn fwy rhagweithiol ar y materion ar gyfer mewnblaniadau newydd o ddyfeisiau meddygol.

Mae yna gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2020 neu 2021. Wrth gwrs, bydd hwnnw'n dal i fod yn fater i ni, ni waeth pa fargen drosiannol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno arni neu ddim yn cytuno arni a'n perthynas ni gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n ystyried gallu deall a bod â chofrestr briodol o ba ddyfeisiau sydd wedi'u mewnblannu mewn pobl yn fwy cyffredinol. Nawr, mae yna her yn y fan honno ynghylch deall a ydyn nhw'n gallu sganio hynny a deall sut y gwneir hynny, a chaiff hynny ei gynnwys yn yr argymhellion yn yr adroddiad. Wrth ddatblygu'r argymhellion hyn, bydd angen inni benderfynu beth fydd ein dull o wneud hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth a gaiff ei guddio neu sydd ar fin cael ei anghofio. A bydd hynny'n ein helpu ni i ymdrin â rhai o'r ceisiadau gan y menywod dan sylw. Yn y ceisiadau a roddwyd i ni, rwy'n credu y byddwn yn gallu dangos cynnydd ym mhob maes fwy neu lai, ar wahân i fater y gwaharddiad.

Soniasoch am yr Alban, a'r cais i atal dros dro a wnaed gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban. Wel, mater i Ysgrifennydd Iechyd yr Alban yw ateb drosto ei hun am ei ddull gweithredu, ond, fel y dywedwch chi, mae amrywiaeth o bobl yn dal wedi cael mewnblaniadau rhwyll ers yr amser hwnnw. Mae hynny oherwydd nad oes gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, fel fi, y grym i wahardd mewnblaniadau rhwyll. Yr her yw, er bod y rhain yn ddyfeisiau a reoleiddir sydd ar gael, ac maen nhw ar gael i'w defnyddio, ei bod yn fater o ganiatâd rhwng y darparwr iechyd a'r dinesydd unigol ynghylch a yw'n dymuno cael y llawdriniaeth.

Nawr, fel y dywedaf, mae yna nifer o fenywod sydd wedi cael y llawdriniaeth heb gymhlethdod. Rhan o'r hyn y gofynnodd y menywod inni ei ystyried, a rhan o gylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen, oedd cael cydsyniad gwybodus priodol i wneud yn siŵr bod pobl mewn gwirionedd yn cael eglurhad o'r heriau a'r risgiau, i wneud yn siŵr mai hwn yw'r  dewis olaf un. A hyd yn oed wedyn, bydd rhai menywod yn dewis peidio â chael y llawdriniaeth, a dylai hwnnw fod yn ddewis gwybodus i'w wneud, yn yr un modd ag y mae menywod sy'n dewis cael llawdriniaeth, os dyna yw eu dewis—mae'n rhaid iddyn nhw ddewis hynny ar sail gwybodaeth briodol.

Er hynny, rwyf wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn gofyn iddyn nhw ystyried y penderfyniadau a reoleiddiwyd yn Awstralia a Seland Newydd yn benodol i wahardd rhwyll. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi ymateb ac wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny. Fodd bynnag, ers hynny, mae arolwg Cumberlege yn mynd i edrych eto ar nifer o'r materion hyn, a bydd ymgysylltiad gan y GIG a'r Llywodraeth yn yr adolygiad hwnnw, ac rwy'n disgwyl y bydd menywod ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater sy'n mynd i ddiflannu. Er nad oes gennyf i'r grym—a byddwch chi'n deall pam nad oes gan wleidyddion y grym i wahardd yn benodol ddyfeisiau neu gyfarpar llawfeddygol sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd—mae gennym ni sefyllfa sydd â rhaniad priodol rhwng grym y rheoleiddiwr a grym y gwleidydd. Ond fel rwy'n dweud, rwyf wedi rhoi copi o'r adolygiad hwn iddyn nhw, ac edrychaf ymlaen at adolygiad Cumberlege a'r hyn y bydd ganddo i'w ddweud, ac am barhau i adolygu'r penderfyniad hwn yn briodol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

15:35

A gaf i ddiolch am y datganiad? A diolch hefyd, wrth gwrs, i'r merched hynny a wnaeth ddangos y dewrder a'r ymroddiad i weithio'n ddiflino, fel y dywedasoch chi, i danlinellu’r mater hwn. A, do, mae merched wedi dioddef cymhlethdodau sydd wedi eu bywydau nhw. Rydw i'n croesawu’r elfennau yn yr adroddiad sy’n ymwneud â sawl elfen o hyn: yr angen i weithio’n rhagweithiol ar yr elfen ymataliol i atal merched rhag bod angen triniaeth a llawdriniaeth yn y lle cyntaf; yr angen i gadw at ganllawiau NICE a chynyddu ymwybyddiaeth o’r canllawiau hynny—fel efo cymaint o bethau, mae o’n wendid mawr yn y ffordd y mae’r Llywodraeth yma’n gweithio yn gyffredinol, y methiant i gadw’r math o ddata sydd yn caniatáu inni gynllunio gwasanaeth iechyd gwell; a hefyd y ganolfan ar gyfer cael gwared ar y mesh—canolfan arbenigol, felly—a’r arian a fydd yn mynd ar hynny, wrth gwrs, ac mae hynny i’w groesawu. Mae gen i nifer o gwestiynau, serch hynny.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith y diystyriwyd rhai menywod, ar ôl iddyn nhw ddisgrifio eu symptomau, gan weithwyr meddygol proffesiynol a oedd wedi priodoli yn anghywir y symptomau i boen ar ôl llawdriniaeth arferol, o bosib. Roedd llawer o fenywod o'r farn eu bod wedi'u trin yn nawddoglyd o ganlyniad i hynny, wrth ddisgrifio eu brwydrau, a dweud y gwir, i gael eu cymryd o ddifrif. Ac nid dyma'r tro cyntaf yr ydym ni wedi gweld y math hyn o beth; rydym ni'n cofio, yn ôl yn yr 1990au, syndrom blinder cronig. A allwch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod ychydig yn fwy penodol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, sut, er enghraifft, y gellir codi ymwybyddiaeth, a sut y gellir newid agweddau, fel bod pobl sydd â symptomau anesboniadwy yn cael eu hystyried yn gleifion yn gyntaf ac yn bennaf oll, â symptomau y mae angen ymchwilio iddynt, yn hytrach na fel pobl a ddylai, a dweud y gwir, fod yn fodlon derbyn ychydig o boen? Oherwydd rydym yn gwybod yn awr, drwy waith caled pobl a fu'n ymgyrchu dros newid yma, fod angen ystyried yn ddifrifol iawn, iawn bellach, yn gwbl briodol, yr hyn a ddiystyriwyd.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at wendidau yn y system adrodd am adwaith andwyol ar gyfer cyfarpar meddygol, ar gyfer yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli, ond a allwch chi ddisgrifio sut y mae eich adran yn mynd i geisio gwella'r system honno fel ein bod yn cael rhybuddion cynharach?

Yn olaf, ynghylch y ganolfan arbenigol ar gyfer tynnu rhwyllau, er bod croeso iddi, gallem wneud â rhywbeth ychydig yn fwy pendant o ran amserlenni, felly byddwn yn ddiolchgar am amserlen briodol ar gyfer y datblygiad hwnnw, fel y gall pobl weld y bydd geiriau yn awr yn troi'n weithred yn y dyfodol agos.

15:40

Diolch ichi am y sylwadau hynny. Yn fras mae yma dri chwestiwn. Ar y pwynt ynghylch menywod na chawsant eu credu, a'r frwydr i gael eu credu, a sut y bydd hynny'n cael ei oresgyn, wel, mae'r cyhoeddusrwydd sylweddol i hyn—eto a gynhyrchwyd gan, fel y dywedais yn fy natganiad cychwynnol, y menywod dewr a phenderfynol a gododd y mater—yn rhan o hynny. Mae'r rhybudd diogelwch cleifion a gyhoeddwyd gan y prif swyddog meddygol yn 2014 yn rhan o hynny. Mae'r holl waith a wnaed gan NICE yn rhan o hynny. Mae ystod o wahanol gamau gwahanol yn cael eu cymryd i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu credu.

Ac mae hefyd her ehangach yn y fan yma am y modd y darperir iechyd a gofal, ac mae'n mynd yn ôl i ofal iechyd darbodus, cysyniad a ddechreuodd yng nghanol tymor diwethaf y Cynulliad yma yng Nghymru. Mae'n ymwneud â deall yr hyn sy'n bwysig i'r claf, ac am gael perthynas llawer mwy cyfartal gyda'r person hwnnw a'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. A phan fo'r person hwnnw yn codi pryderon, yn hytrach na dim ond ei ddiystyru a chymryd agwedd nawddoglyd, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â gwrando ar y person hwnnw i ddeall beth sy'n digwydd ac i gydnabod bod angen iechyd a gofal parhaus arno.

Yn ychwanegol at eich pwynt am feddygon teulu, rwy'n credu ei bod yn werth cyfeirio at argymhelliad 6 a sut yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef wrth sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i feddygon teulu. Roedd yn rhan o'r pryder gan gynrychiolydd y meddygon teulu yn y grŵp gorchwyl a gorffen i wneud yn siŵr bod gan feddygon teulu eu hunain y gallu i ddeall, nid dim ond y symptomau posib, ond yna ble y gallent fynd i gael y cyngor, cymorth a chefnogaeth arbenigol hwnnw. Daw hynny'n ôl eto at sylwadau agoriadol hyn nad oedd lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r problemau wrth iddyn nhw gael eu hadrodd, ac rwy'n credu, yn blwmp ac yn blaen, pe byddai mater iechyd dynion wedi bod, byddai lefel uwch o ymwybyddiaeth a mwy o dderbyn ar unwaith bod pobl yn wynebu heriau mewn gwirionedd.

O ran eich pwynt ynghylch pryd a sut y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â'r argymhellion, gan gynnwys y canolfannau arbenigol, wel dyna pam yr wyf i wedi cyhoeddi y bydd yna grŵp gweithredu i fwrw ymlaen â hynny, gyda'r lefel ofynnol o bwysoli yn y gwasanaeth iechyd. Felly, dyna pam y bydd prif weithredwr un o'n byrddau iechyd mwyaf yn bwrw ymlaen ac yn cadeirio'r grŵp hwnnw, ac yn deall y nifer cywir o bobl y bydd angen iddynt fod yn rhan o hwnnw i ddeall sut yr ydym ni'n cynllunio'r gwasanaeth hynny ac yna gwneud yn siŵr bod cyllid ar gael i geisio datblygu hynny hefyd, yn hytrach na dim ond gofyn i bobl ddefnyddio'r adnoddau presennol. Byddwch chi'n deall, yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, fod ychwanegu cyllid newydd i'r maes hwn yn ymrwymiad sylweddol pan rydym yn ceisio gwneud arbedion mewn meysydd darparu eraill.

Felly, mae hyn yn flaenoriaeth wirioneddol, ac rwy'n cydnabod y bydd angen inni wneud mwy. Soniais am yr adolygiad endometriosis sy'n digwydd a'r adolygiad anymataliaeth ysgarthol sydd hefyd yn digwydd. Bydd yn rhain yn gwneud yn siŵr nad ydym yn gweld y materion hyn fel materion ar wahân yn unig, ond yn eu deall gyda'i gilydd, ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol. Pan fydd gennyf amserlenni mwy pendant, fe wnaf wrth gwrs adrodd yn ôl i chi ac Aelodau eraill y Cynulliad.

15:45

Diolch i chi am hwn ac am eich datganiad cynharach, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cymhlethdodau sy'n ymwneud â mewnblaniadau rhwyll y wain wedi gadael miloedd o fenywod, ledled y byd, yn byw mewn poen cyson, gwanychol a chronig. Felly mae croeso i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r defnydd o fewnblaniadau o'r fath. Hoffwn ddiolch i'r Athro Emery a'i dîm am eu hadroddiad.

Er bod grwpiau goroeswyr yn dymuno cael gwaharddiad ar unwaith ar bob defnydd o fewnblaniadau rhwyll a thâp o'r fath, rwy'n derbyn bod y mewnblaniadau hyn o fudd i rai menywod. Serch hynny, ni ddylai eu defnydd fod yn eang a dylid ei reoli. Felly rwy'n croesawu argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen i wella'r llwybr, i annog mwy o ddewis gwybodus ac i gadarnhau y dylai llawdriniaeth rhwyll fod yn ddewis olaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaed nifer o argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud eich bod yn cefnogi eu rhoi ar waith. Pryd ydych chi'n disgwyl i'r grŵp gweithredu gwblhau ei waith a sicrhau bod yr holl argymhellion yn cael eu rhoi ar waith?

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ymwybodol o'r ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Sheffield, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn 'Neurourology and Urodynamics', sy'n cefnogi'r defnydd o ddeunydd meddalach a mwy elastig, sy'n fwy addas i'w defnyddio yn llawr y pelfis, ac un sy'n rhyddhau oestrogen i'r meinweoedd pelfis cyfagos i ffurfio pibelli gwaed newydd a chyflymu'r broses o wella yn y pen draw? Daethant i'r casgliad y byddai deunydd gwahanol, sef polywrethan, yn ddeunydd gwell i'w ddefnyddio fel rhwyll y wain oherwydd ei hyblygrwydd a'i debygrwydd i feinwe dynol. Y cam nesaf yw treialon clinigol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at y treialon hyn?

Rwy'n edrych ymlaen at weld manylion y llwybr gofal newydd, a'r cymorth sydd ar gael i fenywod sydd ag anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis. Diolch yn fawr, diolch yn fawr iawn.

Fe wnaf geisio ymdrin â phwynt y cwestiwn cyntaf a godwyd am y grŵp gweithredu a'r amserlen i gwblhau eu gwaith. Byddaf wrth gwrs yn adrodd yn ôl i'r Aelodau, ond gan nad yw'r grŵp wedi cyfarfod eto, ac nad ydynt wedi ystyried sut i ddatblygu'r argymhellion hynny, nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau nac ymrwymiad ar hynny heddiw, a gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall. Ond byddaf yn adrodd yn ôl ar hynny.

Ar eich ail bwynt am yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Sheffield, mae yna amrywiaeth o waith ymchwil sy'n cael ei wneud ar opsiynau llawfeddygol amgen, boed hynny'n ddeunydd biolegol neu artiffisial i'w fewnblannu. Ond ni allaf wneud sylwadau ar y cynllun treialu clinigol y maen nhw'n gobeithio eu cynnal. Byddaf, er hyn, yn ceisio trafod gyda'm swyddogion i weld a oes rhywbeth defnyddiol y gallwn ni roi gwybod i'r Aelodau amdano. Ond wrth gwrs nid yw'r Llywodraeth yn rheoli'r treialon clinigol hynny a mynediad i gleifion.

Yr hyn sy'n ddiddorol yn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen yw bod rhai pobl y gallan nhw eu nodi sydd yn fwy tebygol o fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau neu o gael poen sylweddol ar ôl y llawdriniaeth. Mae rhywbeth ynghylch deall, a'r menywod sy'n cymryd rhan fydd yn cael y sgwrs honno ynghylch cydsyniad deallus cyffredinol. Oherwydd, fel y dywedaf, er na chafodd rhwyll ei wahardd, ac er nad oes gennyf y pŵer i wahardd rhwyll—hyd yn oed pe byddai gennyf fwriad i wneud hynny, nid oes gennyf y pŵer i wneud hynny—mae angen i ni wneud yn siŵr bod cydsyniad yn seiliedig yn gyffredinol ar ddealltwriaeth a bod pobl yn deall natur y broblem bresennol a'r driniaeth sydd ar gael ar gyfer hynny, ond hefyd y risgiau a manteision posibl unrhyw fath o lawdriniaeth, boed hynny'n cynnwys rhwyll ai peidio. Ac roedd hynny'n rhan amlwg iawn o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, ond hefyd dywedodd yr Aelodau sy'n dymuno gweld newid mewn arfer, 'Os nad oedd gwaharddiad gennym, mae angen i ni sicrhau bod newid gwirioneddol mewn cydsyniad.' Un o'r pethau tristaf a glywais am y mater penodol hwn oedd pan ddywedodd pobl nad oedden nhw wedi cael gwybod yn iawn beth oedd y risgiau, ac nad oedd unrhyw broblem gydag ef. Ni all hynny fod yn ffordd o arfer gofal iechyd ar hyn o bryd, heb sôn am yn y dyfodol.

15:50

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw ac a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth, o'r diwedd, o effaith andwyol defnyddio tâp synthetig a llieiniau rhwyll y wain llawfeddygol i drin prolaps organau’r pelfis ac anymataliath wrinol sy'n gysylltiedig â straen, gan arwain at ganlyniadau ofnadwy a hirdymor i iechyd menywod, sy'n newid bywydau? Rwy'n croesawu'r argymhellion yn eich adroddiad sy'n ymwneud â mesurau ataliol a rheoli ceidwadol o'r cyflyrau hyn, ac â llawdriniaeth fel dewis olaf. Croesawaf hefyd, er enghraifft, yr argymhelliad ar gyfer llwybr iechyd a lles pelfis newydd. Ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfarfod â'm hetholwyr, Jemima Williams a Nicola Hobbs, yr effeithiwyd ar eu bywydau mewn modd andwyol gan fewnblaniadau rhwyll y wain? Hoffwn i eu canmol am eu dewrder a'u harweinyddiaeth yn Grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru. Ond a gaf i egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, y sefyllfa o ran fy etholwyr, Jemima a Nicola, a'r grŵp gorchwyl a gorffen? Oherwydd yn eich datganiad ysgrifenedig, dywedasoch eu bod wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y grŵp, ond a gaf i dynnu sylw at gyd-destun eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan? Roedden nhw'n pryderu'n fawr am aelodaeth y grŵp, y papurau a gyflwynwyd i'r grŵp a'r diffyg rhybudd a chylch gorchwyl drafft, oherwydd mae'r ddwy hefyd yn dioddef o boen cyson a salwch difrifol.

Ond roedd yn ddefnyddiol iawn eich bod wedi cytuno i gyfarfod â nhw, gyda fi. A allwch chi gadarnhau ichi roi ystyriaeth lawn i'w tystiolaeth lawn a dirdynnol nhw yn y cyfarfod hwnnw? Roeddent wedi darparu ffolder helaeth o brofiad cleifion o effeithiau andwyol. A hefyd, a allwch chi gadarnhau ac egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymgysylltu trawsffiniol sy'n digwydd i rannu arbenigedd clinigol, tystiolaeth gan gleifion, dioddefwyr rhwyll a'r arian hefyd a allai fod ar gael ar gyfer atgyfeirio i arbenigwyr tynnu rhwyll?

Yn olaf, fel y byddwch yn gwybod, mae Grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru yn galw am atal dros dro y defnydd o rwyll hyd nes y cynhelir archwiliad llawn. Anodd yw credu y gall y driniaeth hon ddigwydd yng Nghymru o hyd, er gwaethaf y pwynt a wnaed gennych heddiw yn eich datganiad, fod yr holl adolygiadau hyd yn hyn wedi dangos pa mor anodd oedd cael asesiad dibynadwy o faint y broblem sy'n gysylltiedig â'r defnydd o rwyll y wain. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae heddiw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried cynnal archwiliad ôl-weithredol o'r defnydd o rwyll yng Nghymru ac ystyried atal dros dro y defnydd o rwyll y wain hyd nes y bydd hyn yn digwydd? Diolch.

Diolch. Gallaf gadarnhau o ran eich pwynt olaf, a byddaf yn cysylltu hwnnw â'r gwaith trawsffiniol ar dystiolaeth a chynnydd, fel y nodais mewn ymateb i'r gyfres gyntaf o gwestiynau, fod yr archwiliad a gynhelir yn Lloegr ar sail arbrofol ac ni chafodd ei gynnal yn y ffordd honno o'r blaen. Wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb yn y dystiolaeth a ddarperir ac mae swyddogion yn cymryd rhan yn yr adolygiad a gynhelir gan yr Adran Iechyd. Ni fyddwn yn disgwyl y byddai gwahaniaeth sylweddol yn nifer y problemau sy'n deillio o'r triniaethau hyn. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau drwy gydnabod bod yna broblem yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod hynny oherwydd bod gennym ni bobl sydd wedi goroesi cymhlethdodau ac sy'n byw gyda nhw yn awr. A rhan o'r her i ni yw deall nifer y bobl a deall amharodrwydd rhai pobl i ddod ymlaen. Mae'n ddigon hawdd deall pam nad yw rhai pobl am dynnu sylw at y problemau sydd ganddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu credu ar gam cynnar pan oedd cymhlethdodau'n codi. A gall tynnu rhwyll fod yn llawdriniaeth gymhleth ac anodd nad yw bob amser yn gwbl lwyddiannus. Mae yna risgiau yn hynny hefyd.

Fel yr wyf wedi dweud mewn ymateb i nifer o bobl eisoes a cheisiais ddweud ar y dechrau, nid wyf mewn sefyllfa i wahardd rhwyll. Nid wyf mewn sefyllfa i atal ei ddefnydd dros dro ychwaith. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro yw y dylai fod yn ddewis olaf. Fel y dywedais, mae pobl yn dweud wedyn, 'Wel, beth yw dewis olaf?' Wel, mae'n ymwneud â sicrhau y rhoddir cynnig ar bob un o'r opsiynau triniaeth ceidwadol hynny nad ydynt yn llawfeddygol yn gyntaf, a dyna pam y mae'n rhaid rhoi pwyslais priodol ar sicrhau bod gennym drefniant mwy cyson â'r timau amlddisgyblaethol i wneud yn siŵr y darperir yr opsiynau hynny yn gynnar, ac yna, wrth fynd trwy unrhyw opsiynau triniaeth, y tynnir sylw'r menywod hynny at ganlyniadau posibl pob un opsiwn. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod mai rhai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni wedi'u deall yw nid fod y risgiau wedi'u hegluro a bod pobl wedi bwrw ymlaen yn gwbl ymwybodol o'r risgiau hynny, ond bod llawer o fenywod wedi dweud na roddwyd sail wirioneddol ddeallus iddyn nhw er mwyn gwneud y dewis hwnnw ynghylch rhoi caniatâd i lawdriniaeth neu beidio.

O ran yr ymgais a wnaed i geisio cael pobl a oedd yn byw gyda chymhlethdodau rhwyll i gymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, ar ôl penderfynu sefydlu'r grŵp hwnnw, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda rhai o'r cymhlethdodau hynny a allai gyfrannu at y gwaith hwnnw. Roedd hynny'n golygu bod y gwahoddiad wedi bod yn fyr rybudd, gyda'r cylch gorchwyl, y bobl dan sylw ac yn wir y dystiolaeth y byddent yn ei hystyried. Nid dim ond yn y cyfnod cynnar hwnnw yn unig, er hynny, y gwnaed ymgais i gynnwys menywod yn y gwaith hwnnw. Trwy gydol oes y grŵp gorchwyl a gorffen, am nifer o fisoedd, ceisiwyd dod o hyd i ffordd y gallen nhw gael mewnbwn gwirioneddol, naill ai i'r grŵp cyfan neu i aelodau ohono. Nid oedd hynny'n bosibl. Yn sicr, nid wyf yn dymuno gweld unrhyw fath o feirniadaeth  o gwbl ynghylch penderfyniad y menywod hynny i beidio ag ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Rwy'n credu ei bod hi'n hawdd deall pam y gwnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Ond fe wnaethon nhw, er hynny, barhau i gyfrannu.

Fel y gwyddoch chi, cawsom gyfarfod â'ch etholwyr i gael y sgwrs honno a chymerwyd i ystyriaeth eu straeon a'r dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd ganddyn nhw a'u rhoi i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac mae'n rhan o'r rheswm pam yr estynnwyd gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Oherwydd fe wnaethon nhw ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan Jemima Williams a Nicola Hobbs, a chyfeirir ati yn yr adroddiad. Gobeithio felly bod hynny yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd bod eu tystiolaeth yn cael ei ystyried o ddifrif. Ac wrth ddatblygu gwaith y grŵp gweithredu, mae angen inni ddod o hyd i ffordd y gall y menywod eu hunain sy'n byw gyda'r cymhlethdodau gyfrannu mewn gwirionedd i waith y grŵp gweithredu, yn ogystal â'r bobl hynny sydd ar y llwybr eisoes ac sy'n ymgymryd ag opsiynau triniaeth geidwadol ar hyn o bryd. Felly, mae llawer mwy i ni ei wneud ac, fel y dywedais mewn ateb cynharach, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y gwaith a wneir a'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud.

15:55

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n falch bod grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru bellach wedi cwblhau ei adroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i, fel llawer o'r Aelodau eraill yn y fan yma, wedi clywed am brofiadau torcalonnus etholwyr yn dioddef o effaith mewnblaniadau llawfeddygol rhwyll y pelfis—profiadau menywod yn cael eu gadael mewn poen arteithiol ac yn gofidio'n fawr iawn am y dyfodol. I fenywod fel un o fy etholwyr a ddaeth â hyn at fy sylw i am y tro cyntaf, mae gofid ariannol a phroffesiynol yn dal i ddod gyda'r poen corfforol ac emosiynol hirdymor. Yn wir, mae fy etholwraig wedi dweud bod hyn wedi cael effaith ddinistriol arni hi a'i theulu. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'm hetholwyr a'r holl fenywod eraill sydd wedi dod ymlaen i rannu eu profiadau dirdynnol yn ddewr. Felly, er fy mod yn croesawu adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd y bydd unrhyw lwybr newydd o ran iechyd a lles y pelfis yn cynnwys gwrando ar bryderon parhaus cleifion?

Ydw, rwy'n sicr yn cydnabod y canlyniadau y mae cymhlethdodau rhwyll wedi eu hachosi i nifer o fenywod, gan newid eu bywydau. Rwy'n cydnabod hefyd yr ohebiaeth a'ch cwestiynau yn y Siambr hon a'r sgyrsiau yr ydym ni wedi'u cael y tu allan iddo, am y canlyniadau corfforol, cymdeithasol ac ariannol, ond hefyd yr effaith wirioneddol ar berthynas pobl, nid yn unig gyda'u phartneriaid, ond gyda llu o bobl eraill y mae'r poen a'r anghysur wedi'i achosi, a hefyd y diffyg ymddiriedaeth mewn pobl yr oeddent yn ymddiried ynddynt ar y cychwyn am y cyngor a roddwyd, ac yn wir ymddiriedaeth rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ogystal ag opsiynau triniaeth a ddarparwyd.

Mae eich pwynt ynghylch gwrando ar bobl sy'n cymryd rhan ac sydd wedi'u cynnwys yn uniongyrchol yn hanfodol, nid yn unig fel rhan o'n gwelliant parhaus a gofal iechyd darbodus a'r hyn a ddywedodd yr arolwg seneddol wrthym y byddwn yn ei ddatblygu yn benodol; mae hyn mewn gwirionedd yn amlygu, os nad ydych chi'n deall yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a pha risgiau y mae'n barod i'w derbyn, sut mae ganddyn nhw gydsyniad deallus, pan fo gwybodaeth ar gael iddyn nhw ac nid yw'n cael ei chuddio rhagddynt fel y gallant wneud dewisiadau ynghylch eu triniaeth, yna byddwch yn deall pam mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa hon yn y pen draw pan nad ydyn nhw'n ymddiried ym mhopeth sy'n cael ei wneud o'u cwmpas.

Mae'n hanfodol, felly, bod llais y claf, wrth ddatblygu gwaith y grŵp gweithredu ac yn bwrw ymlaen â'r adroddiad hwn, yn gwbl ganolog i'r hyn a wneir a sut y caiff hyn ei esbonio wedyn. Mae llawer o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio ar sut y darperir gwybodaeth i bobl i wneud dewisiadau ac iddyn nhw ddweud beth sy'n bwysig iddyn nhw. Felly, rwy'n derbyn y pwynt, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw y bydd hynny yn rhan hanfodol o'n gwaith wrth symud ymlaen.

16:00

Ysgrifennydd y Cabinet, ar 13 Rhagfyr, gofynnais i i chi:

'O ystyried nifer cynyddol goroeswyr mewnblaniad rhwyll, mae Lloegr wedi mabwysiadu timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n cefnogi cleifion sydd wedi cael problemau â rhwyll a rhoi cyngor iddynt ar driniaethau. A yw'r timau amlddisgyblaethol hyn yn bodoli yng Nghymru ac, os felly, ble maen nhw?'

Eich sylw chi, fel y soniwyd yn gynharach, oedd bod

gennym dimau amlddisgyblaethol ar gyfer pob triniaeth lawfeddygol.

Nawr, nid yw hynny'n wir, a hoffwn ichi gywiro'r cofnod heddiw.

Gan symud ymlaen, os edrychwn ni ar dudalennau 6 a 7 o'r adroddiad, rhoddwyd gwybodaeth anghywir i bobl ynghylch y risgiau posibl ac effeithiau sy'n newid bywydau. Ni rybuddiwyd pobl am y cymhlethdodau trychinebus posibl sy'n gallu newid bywydau. Roedd yn broses ganiatâd annigonol. Diystyrwyd problemau pobl ar ôl y llawdriniaethau a'u priodoli i symptomau ôl-driniaethol. Cafodd pobl eu troi ymaith a'u gwneud i deimlo eu bod yn gwneud ffwdan, a darllenais yma fod meddygon ymgynghorol wedi gwneud i rai pobl grio, a bod yna atgyfeiriadau amhriodol i feysydd arbenigol eraill, ac ati. Mae'n adroddiad eithaf digalon, ac mae rhai pobl bellach yn anabl yn barhaol. Felly, cwestiwn arall sydd gennyf i yw: beth fydd yn cael ei wneud i ddigolledu'r bobl hyn?

Yn drydydd, cafodd panel arbenigol ei sefydlu yn yr Alban ar y mater hwn yn 2013, ac yn Lloegr yn 2014. Gwahoddwyd GIG Cymru i gymryd rhan wedyn. Ym mis Rhagfyr 2014, sefydlwyd grŵp goruchwylio yn Lloegr heb unrhyw gyfraniad gan GIG Cymru. Cymerwyd camau yn yr Unol Daleithiau yn 2014. Felly, pam y bu'n rhaid i bobl Cymru aros tan fis Hydref 2017 i'r grŵp gorchwyl a gorffen gael ei sefydlu? Ai eich esgeulustod chi neu esgeulustod eich rhagflaenydd oedd hynny? Nid wyf yn deall pam nad yw'n orfodol adrodd am y problemau y soniwyd amdanynt wrth feddygon ar ôl y llawdriniaeth.

Rwyf eisiau symud ymlaen yn awr at eich—

Felly, cwestiwn oedd hwnnw. Fy nghwestiwn nesaf yw: beth am ddynion? Mae'n ymddangos eich bod yn diystyru llawdriniaeth torgest. Mae pobl yn dioddef yr un problemau gan ddefnyddio'r rhwyllau hyn. Bûm i'n siarad ag etholwr ychydig cyn cerdded i mewn i'r Siambr hon yn gynharach, a dydy e'n dal ddim yn gwybod pa ddeunydd a roddwyd y tu mewn i'w gorff. Mae hynny'n gwbl warthus. A wnewch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod fy etholwr yn cael gwybod yn union beth a roddwyd yn ei gorff heb ei ganiatâd? A wnewch chi ymrwymo i wneud hynny?

Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar faterion unigol nad wyf yn ymwybodol ohonyn nhw, ond dylai eich etholwr gysylltu â'r bwrdd iechyd lle cynhaliwyd y llawdriniaeth. Byddwn i'n disgwyl i'r wybodaeth honno fod ar gael yn rhwydd iddo.

Mae angen imi hefyd ymdrin â'r pwynt am dorgest a grybwyllais wrth ymateb i Janet Finch-Saunders ar y cychwyn. Wrth gwrs, cynhelir llawdriniaeth torgest ar ddynion a menywod, ac rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb, rwy'n credu, gwestiynau gan Jenny Rathbone y byddem ni'n gobeithio cynnal, ac rydym ni yn gobeithio cynnal, adolygiad o lawdriniaeth torgest er mwyn deall a yw'r un lefel o gymhlethdodau yn bodoli. Ond mae'n wir fod pobl yn ymateb mewn ffordd wahanol. Mae'n wir, rhwng dynion a menywod, bod yna lawdriniaethau nad ydynt yn effeithio ar ddynion. Ac, fel y dywedaf—nid wyf yn ymddiheuro am ei ddweud eto—pe byddai mater tebyg wedi effeithio ar ddynion yn unig, yna nid wyf yn credu y byddai wedi cymryd cymaint â hyn o amser i'r broblem honno gael sylw ac i gamau pellach gael eu cymryd. Sefydlais y grŵp gweithredu i ystyried y mater hwn a'r materion sy'n codi ar y cofnod i'w gwella a'r amrywiaeth o faterion iechyd menywod cysylltiedig y soniais amdanyn nhw, endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol.

Wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy, a'i wneud yn gyson ac yn gyflym. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i'r grŵp gweithredu gael ei greu. Ac yn sicr dydw i ddim yn amddiffyn methiant i roi cydsyniad deallus gwirioneddol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, cyn heddiw ac ar nifer o achlysuron heddiw hefyd. Af yn ôl at y timau amlddisgyblaethol. Mae timau amlddisgyblaethol yn bodoli fel mater o drefn ar gyfer triniaethau llawfeddygol. Yr her yn yr adroddiad hwn i ni yw a oes gennym ddigon o'r arbenigedd angenrheidiol yn y timau hynny, a ydyn nhw mor gyson ag y mae angen iddyn nhw fod, a sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn ailymrwymo i sicrhau gwelliant. Nid yw hynny'n golygu bod methiant cyffredinol i wneud yr hyn sy'n iawn. Mae'n golygu bod angen ichi achub ar y cyfle i wella, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid ichi dderbyn bod yna her i'w datrys yn y lle cyntaf er mwyn gallu rhoi eich hunain ar lwybr i wella'r broses bresennol a'r camau gweithredu presennol. Felly, ni welaf unrhyw reswm i gywiro'r cofnod. Rwy'n derbyn yr argymhellion sydd gennym, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i'r Aelodau yn y dyfodol ar y camau y bydd y GIG yn ymgymryd â nhw i gyflawni'r gwelliant gofynnol hwnnw.

16:05

Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn atal ac achosion, oherwydd, yn amlwg, mae atal yn well o lawer na thriniaeth, ac, yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod y driniaeth yn briodol. Mae'n rhaid inni gofio bod thalidomid yn cael ei ragnodi ar un adeg fel modd o drin salwch bore yn ystod beichiogrwydd. Felly, yn amlwg, mae hyn wedi'i ddefnyddio fel rhywbeth ar gyfer trin anymataliaeth a phrolaps. Y mater mewn gwirionedd yw'r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi pobl rhag cael anymataliaeth a phrolaps—pethau fel atal rhwygiadau trydydd a phedwerydd gradd a, phan fo hynny'n bosibl, sicrhau eu bod nhw'n cael pwythau gan feddyg sydd â'r cymwysterau a'r sgiliau priodol.

Mae'n ddiddorol bod gwledydd eraill yn Ewrop yn atgyfeirio pob menyw sydd wedi cael baban, fel mater o drefn, at ffisiotherapydd mewn modd proffylactig oherwydd, yn aml, nid yw'r problemau a gaiff menywod yn ddiweddarach yn amlwg ar unwaith ond gallai ffisiotherapydd eu canfod. Felly, rhywbeth i'w gadw mewn cof wrth inni ystyried triniaeth yn y dyfodol. Wrth gwrs, faint o hyn sy'n rhywbeth yr oedd menywod yn dygymod ag ef yn y gorffennol oherwydd, cyn y GIG, roedd yn rhaid i fenywod ddioddef anymataliaeth a phrolaps gan nad oedd ganddyn nhw yr arian i'w gywiro—.

Un o'r materion sy'n peri pryder i mi ynghylch yr adroddiad yw pan ddywedir wrthym bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cysylltu â'r British Society of Urogynaecology a'r British Association of Urological Surgeons i gael data am y niferoedd sydd wedi cael y driniaeth hon a, hyd yma, dydyn nhw heb gael ateb nac, yn wir, yr eglurhad nad yw pob llawfeddyg yng Nghymru, o reidrwydd, wedi'i gofrestru ag un o'r mudiadau hyn ac, felly, ni fyddent wedi gallu cofnodi eu data beth bynnag. Felly, mae arwydd clir yn y fan yna bod angen inni ddefnyddio technoleg ddigidol i sicrhau bod gennym y data y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt bellach yn galw amdano'n ôl-weithredol.

Rwy'n falch iawn eich bod chi'n bwrw ymlaen â'r grŵp gorchwyl ar y cyd â'r grŵp gorchwyl anafiadau sphincter yr anws a'r grŵp gorchwyl endometriosis, oherwydd, yn amlwg, mae'r rhain yn faterion cysylltiedig, ac edrychaf ymlaen at yr adroddiadau cysylltiedig pan fyddan nhw'n barod i'w cyhoeddi. Diolch.

Byddaf yn ymdrin â—rwy'n credu bod tri phwynt penodol yn codi o hynny. Y cyntaf ar bwynt yr ydych chi wedi'i wneud o'r blaen am ffisiotherapi, a'r hyn yr wyf yn mynd i'w wneud yw sicrhau bod rhywun o swyddfa'r prif nyrs yn gallu rhoi nodyn inni ar y gofal i fenywod ar ôl beichiogrwydd a deall swyddogaeth ffisiotherapi. Gwn eich bod wedi gwneud y pwynt yn benodol am Ffrainc, er enghraifft, lle cynigir ffisiotherapi fel mater o drefn ar ôl y geni.

Rwy'n cydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am gofrestru gwirfoddol gan y ddau gorff proffesiynol perthnasol, ac mae'n siomedig na wnaeth y ddau gorff hwnnw ddarparu gwybodaeth pan ofynnwyd amdani yn y modd y gofynnwyd amdani.

Mae hynny'n arwain at y pwynt ynghylch codio meddygol ac argymhelliad 7. Mae'r pwynt hwn yn edrych ar y codio a ddylai fod ar gael i ni, y gwelliannau y gallem ni ac y dylem ni eu gwneud nawr, yn ogystal â'r dewisiadau tymor hwy y mae'n rhaid inni eu gwneud ynghylch deall pa fewnblaniadau sy'n cael eu gosod mewn pobl—o ba bynnag ffurf, nid dim ond yn y maes hwn—a deall ymhle y sicrheir bod hwnnw ar gael. Ond, yn hollbwysig, mae'n ofynnol bod yr wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd. Ac felly rwy'n credu y bydd yn darparu tryloywder gwirioneddol am yr hyn sydd wedi'i fewnblannu ac ymhle, ac yn caniatáu mwy o dryloywder ac archwilio i effeithiolrwydd y llawdriniaethau hynny ac unrhyw gymhlethdodau ôl-driniaethol. Felly, mae mwy o waith inni ei wneud, ac mae hynny yn bendant wedi'i gwmpasu gan yr argymhellion yn yr adroddiad, ac, fel y dywedais, rwy'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl i'r lle hwn ar y cynnydd a wnaed rywbryd yn y dyfodol.

16:10
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, uchelgeisiau ar gyfer prif reilffyrdd y Great Western a gogledd Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Yn dilyn canslo trydaneiddio prif reilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddatblygiad achosion busnes ar gyfer cynlluniau gwella rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r prif reilffyrdd yn y de a'r gogledd, gwelliannau i'r lein rhwng Wrecsam a Bidston, a gwelliannau o gwmpas Abertawe a gorsaf Caerdydd Canolog. Croesewir yr ymrwymiad hwn. Gwneuthum yn glir i'r Ysgrifennydd Gwladol fy mod i'n disgwyl i'r datblygiad a'r cyflawniad ddigwydd yn gyflym i'w roi ar waith yn gynnar yn y degawd nesaf er mwyn cyflawni gwelliannau ar gyfer teithwyr yng Nghymru sy'n profi cyflymder araf, dibynadwyedd gwael a chyfleusterau rhwydwaith annigonol yn ddyddiol.

Mae trydaneiddio prif reilffordd y Great Western yn fan cychwyn i welliannau yn y dyfodol; nid dyma'r gyrchfan terfynol. Bydd contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau—y cyntaf i gael ei gynllunio a'i ddarparu yng Nghymru—yn cyflawni newid gweddnewidiol i deithwyr. Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau trenau yn dibynnu ar seilwaith rheilffyrdd effeithlon a dibynadwy i ddarparu'r cyflymderau a'r galluoedd sy'n diwallu anghenion cysylltedd pobl yn ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau gwledig.

Yn ddiweddar hefyd rwyf wedi rhannu fy uchelgais ar gyfer y fasnachfraint Great Western newydd gydag Aelodau ac wedi ailadrodd fy nisgwyliadau ar gyfer caffael masnachfraint partneriaeth arfordir y gorllewin gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn ôl ym 1977, roedd hi'n bosibl mynd o Lundain i Gaerdydd ar y gwasanaethau trên cyflym newydd bryd hynny mewn awr a 45 munud, 15 munud yn fyrrach na'r amseroedd teithio cyflymaf presennol. Bryd hynny, cymerai'r gwasanaeth i Fanceinion o Lundain 2.5 awr. O ganlyniad i £9 biliwn o uwchraddio prif reilffordd arfordir y gorllewin yn y 2000au cynnar, nid yw Manceinion bellach ond dwy awr a phum munud o Lundain, yr un fath ag o Lundain i Gaerdydd, er bod Manceinion, wrth gwrs, 50 cilometr ymhellach i ffwrdd. Mae'r buddsoddiad hwn hefyd wedi caniatáu siwrneiau o Stafford i Lundain mewn awr ac 20 munud—pellter tebyg i'r un o Gasnewydd i Lundain, sydd 30 munud yn arafach.

Yn dilyn cwtogi'r trydaneiddio ar brif reilffordd y Great Western, bydd amserau teithio o Gaerdydd i Lundain, ar y gorau, yn awr a 45 munud, yr un fath â 30 mlynedd yn ôl, a bydd Abertawe yn dal i fod yn ddwy awr a 45 munud. Yn yr un modd, mae'r daith trên o orsaf Caerdydd Canolog i Temple Meads Bryste yn araf ac yn anaml, gan rwystro datblygiad cysylltiadau economaidd trawsffiniol cryfach.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £55 biliwn mewn rheilffordd cyflymder uchel 2 i leihau ymhellach yr amseroedd teithio i Fanceinion i ychydig dros un awr a darparu gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd teithio ar draws canolbarth Lloegr, gogledd Lloegr a'r Alban. Os bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau iawn ar HS2, yn arbennig o amgylch canolfan Crewe a'r patrymau gwasanaeth arfaethedig, bydd yn darparu budd economaidd sylweddol i ogledd Cymru.

Mae cysylltedd ledled de-ddwyrain Lloegr yn cael ei wella ymhellach gan y cynllun Crossrail £15 biliwn ac ar draws gogledd Lloegr drwy'r rhaglen £3 biliwn llwybr traws-Penwynion, ac mae cynlluniau uchelgeisiol yn cael eu datblygu ar gyfer rheilffyrdd Northern Powerhouse a Crossrail 2. Er y bydd y buddsoddiadau hyn yn darparu capasiti mawr ei angen ar rwydwaith rheilffyrdd y DU, bydd eu heffaith ar amseroedd teithio hyd yn oed yn fwy sylweddol. Bydd y lleoedd hynny sy'n cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol gan HS2 yn elwa ar amseroedd teithio sylweddol gyflymach i Lundain, gan leihau o bosibl cystadleurwydd lleoliadau yng Nghymru ar gyfer buddsoddiad o'r tu allan. Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hunan yn awgrymu y bydd HS2 yn cael effaith negyddol o hyd at £200 miliwn y flwyddyn ar economi de Cymru.

Nawr, wrth inni edrych y tu hwnt i Brexit, mae cysylltedd Cymru gyda chanolfannau economaidd a phyrth rhyngwladol Prydain yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig. Ni allwn ni yng Nghymru  fforddio cael ein rhoi o'r neilltu ac mae'n rhaid datblygu achos cadarnhaol a grymus ar gyfer buddsoddiad mawr mewn trafnidiaeth sy'n mynd i'r afael â'n huchelgais economaidd ac amcanion ehangach ein lles. Rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer gwelliannau i rwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru, ond ni allwn sefyll ar yr ymylon yn cwyno; mae angen inni nodi ein disgwyliadau ar gyfer y rhwydwaith a bod yn glir ynghylch y manteision cymdeithasol ac economaidd a ragwelir.

Fel man cychwyn, byddwn yn nodi rhai anghenion cyffredinol, sy'n cynnwys: gwella cysylltedd a lleihau'r amser teithio rhwng dinasoedd yng Nghymru; ehangu ardaloedd yr ardaloedd dinas-ranbarth ledled Cymru; tyfu economïau trawsffiniol; gwella cysylltedd o Gymru i Lundain; gwella mynediad i feysydd awyr; cynyddu i'r eithaf fanteision posibl a gwrthbwyso canlyniadau negyddol HS2; darparu dewisiadau teithio cymhellol i ddefnyddwyr yr M4 lle y ceir tagfeydd yn Abertawe; a bodloni safonau rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Mae gan y gofynion hyn lawer o ryng-ddibyniaeth. Bydd yr atebion yn cynnwys prosiectau cydategol lluosog. Mae achos rhaglen amlinellol strategol yn ffordd i dynnu'r llinynnau hyn ynghyd, gan sicrhau bod y cyd-destun economaidd, daearyddol a chymdeithasol o fewn y cynlluniau posibl yn cael eu datblygu ac yn gyson ac wedi eu deall gan bawb. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Mark Barry arwain ar hyn, gan weithio gyda fy adran i a Thrafnidiaeth Cymru.

Gan fod effaith HS2 yn wahanol ar draws Cymru, bydd yr Athro Barry yn cynhyrchu un achos ar gyfer y gogledd ac un arall ar gyfer y de, ac nid ydym yn esgeuluso rheilffordd y Cambrian drwy'r Canolbarth, sydd hefyd yn darparu cysylltedd pwysig o fewn Cymru ac ar draws y ffin. Bydd y gwaith hwn yn llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, a diben y rhaglenni achosion busnes hyn yw sefydlu'r angen am fuddsoddiad a mynegi canlyniadau lefel uchel. Byddant yn sefydlu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y dyfodol i rwydweithiau'r gogledd a'r de sy'n bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac, yn wir, dyheadau rhanddeiliaid allweddol eraill. Byddant hefyd yn nodi ac yn ystyried dewisiadau ar gyfer buddsoddi sy'n ategu gwaith parhaus i gynllunio a chyflwyno systemau metro yn y gogledd a'r de.

O hyn, bydd y dewisiadau hynny sy'n haeddu ymchwiliad manylach yn cael eu nodi a'u datblygu drwy broses achos busnes manwl lle'r ydym yn dibynnu ar Lywodraeth y  DU i wneud penderfyniadau er budd teithwyr yng Nghymru er mwyn ategu'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwella ei seilwaith trafnidiaeth ei hun. Ar y cam cynnar hwn, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu cadarnhau na'u diystyru. Mae penderfynu ar yr ymyraethau mwyaf priodol yn gofyn am ymagwedd strategol a chynllun tymor hir ac un sy'n adeiladu ar astudiaethau o lwybrau Network Rail, cynlluniau ac uchelgeisiau awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau, ac sydd hefyd yn ategu cynlluniau gwella yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU ehangach hefyd.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag asiantaethau ar ddwy ochr y ffin i ddarparu system drafnidiaeth integredig. Mae hyn yn golygu cysylltiadau gyda'n dinas-ranbarthau mawr, rhyngddynt, ac ar draws y ffin i Loegr, gan adeiladu ar fy nghyfarfodydd diweddar â meiri metro Manceinion a Lerpwl, ein memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, ein gwaith gyda Growth Track 360, Merseytravel, Midlands Connect a'r West of England Combined Authority. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ein canllawiau WelTAG ein hunain  ac fe fydd yn ateb gofynion Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau gweld rhaglen uchelgeisiol o welliannau sy'n cyflawni newid sylweddol i deithwyr ac a fydd, waeth beth fo'r fargen derfynol a geir ynglŷn ag ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, yn arwain at y prif reilffyrdd yn y gogledd a'r de yn cael eu datblygu fel coridorau traws-Ewropeaidd drwy fodloni'r safonau sy'n berthnasol iddynt ar hyn o bryd o dan y Rheoliadau.

Mae'n fwriad gennyf, Dirprwy Lywydd, i wneud rhai o'r cynigion a'r dewisiadau sy'n dod i'r amlwg yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod ail hanner eleni. Rydym yn benderfynol, yn y dyfodol, y bydd cynlluniau a gyflwynir yn gadarn, yn gyflawnadwy ac yn seiliedig ar ddadansoddiad strategol ac economaidd cadarn. Rwyf i eisiau gweld gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffordd sy'n cyflawni'r amcanion ehangach a ddisgrifiais yn gynharach ac, wrth wneud hynny, darparu sylfaen gadarn ar gyfer economi Cymru a'i ddatblygiad yn y dyfodol.

16:20

A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad manwl y prynhawn yma? Gallaf gytuno â llawer o'r hyn yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddiddorol ei fod wedi sôn bod amseroedd teithio ym 1977 yn gyflymach mewn gwirionedd rhwng Llundain a Chaerdydd nag y maen nhw heddiw.

O ran eich rhestr o anghenion cyffredinol, roeddwn i'n falch o nodi eich bod wedi gwneud cyfeiriad at fynediad i feysydd awyr. Yn arbennig, rwy'n meddwl am Fanceinion, Birmingham a Lerpwl—i gyd yn feysydd awyr pwysig, wrth gwrs, ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Ond byddai'n ddiddorol pe gallech, efallai, ymhelaethu ar eich uchelgais yn hynny o beth. O'r hyn a ddeallaf, rydych wedi amlinellu y bydd Mark Barry yn cynnal achos rhaglen amlinellol strategol, a bod dau achos yn cael eu cynnig, ar gyfer y gogledd a'r de. Byddai'n ddefnyddiol cael rhai amserlenni ar hynny ar gyfer pan fydd yr achosion a'r adroddiadau hynny yn cael eu hadrodd i chi, a phryd y byddwch yn gallu adrodd yn ôl i'r Aelodau. A fydd hyn yn digwydd cyn yr ymgynghoriad y nodwyd gennych y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni? Roeddwn yn falch o weld eich bod wedi cyfeirio at reilffordd y Cambrian a'r Canolbarth ddim yn cael eu hesgeuluso, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld os yw hynny'n gorwedd yn eich achos ar gyfer y gogledd neu yn eich achos ar gyfer y de. Mae'n rhaid bod hynny yn rhan o'r naill neu'r llall.

Hoffwn hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae eich cynlluniau yn cydweddu â'r dogfennau polisi presennol hynny y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cyhoeddi. Sut, er enghraifft, yr ydych chi'n bwriadu i'r uchelgais yr ydych chi wedi ei amlinellu heddiw ategu'r cynllun gweithredu economaidd presennol? A hefyd, sut y mae'r cynigion yr ydych chi wedi eu hamlinellu heddiw yn mynd i ategu'n uniongyrchol y bargeinion twf, sydd, wrth gwrs, â photensial enfawr i sbarduno twf economaidd ym mhob rhan o Gymru?

A allwch chi amlinellu hefyd yn benodol sut y bydd eich uchelgais chi o fantais i gymudwyr Cymru sydd wedi eu lleoli mewn cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru? Nawr, fy marn i yw, wrth gwrs, ei bod yn hanfodol ein bod yn adeiladu system drafnidiaeth integredig a all gefnogi llu o amcanion polisi economaidd a chymdeithasol ehangach. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi crybwyll cynlluniau o gwbl ar gyfer sut y bydd rheilffyrdd yn cael eu hintegreiddio â gwasanaethau bysiau i sicrhau y bydd gwelliannau yn arwain at fanteision ar gyfer teithwyr ledled Cymru, felly a allwch chi roi rhai sylwadau ar hyn?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y bydd cyflawni'r cynigion hyn, neu eich uchelgais, yn cael eu cefnogi gan ddau gorff newydd sydd wedi'u creu i helpu i sbarduno creu seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghymru? Nid wyf yn credu eich bod wedi crybwyll y comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru yn eich datganiad, ac rwy'n synnu at hynny, ac os mai dyna'r sefyllfa, efallai y gallech chi esbonio rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Ac o ran trafnidiaeth ar gyfer Cymru, rwy'n credu ar un pwynt eich bod wedi sôn y bydd Mark Barry yn gweithio gyda'ch adran chi a Thrafnidiaeth Cymru, felly rwy'n awyddus i ddeall y berthynas rhwng Trafnidiaeth Cymru a'ch adran chi a sut y maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Ac yn olaf, a oes gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eich uchelgais?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r datganiad heddiw? Byddaf yn ymdrin â'r olaf o'r pwyntiau a wnaethoch yn gyntaf, yn benodol y swyddogaeth a fydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol. Yn amlwg, mae'r gwaith yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn y datganiad hwn yn darparu, ar y cam cynharaf, rhesymau cymhellol i gael buddsoddiad gan yr adran drafnidiaeth. Yn y tymor hwy, bydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ac arbenigwyr sydd yn eistedd ar y comisiwn hwnnw swyddogaeth mewn dylanwadu ar unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, a'u llywio a chraffu arnynt.

O ran Trafnidiaeth Cymru a'r swyddogaeth sydd gan Mark Barry mewn llywio'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, a lle mae'r Adran Drafnidiaeth yn y cwestiwn, mae'r Athro Barry yn dod ag arbenigedd sy'n ategu'r hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig ar hyn o bryd. Fy marn i yw bod yr Athro Barri yn gallu llywio Trafnidiaeth Cymru mewn modd gwrthrychol a llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU mewn ffordd wrthrychol drwy gynnig barn arbenigol, dadansoddiadau arbenigol a dull seiliedig ar dystiolaeth i ni o ran y prosiectau a ddylai gael blaenoriaeth yn y camau cynnar. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod cyfatebolrwydd da rhwng yr hyn yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw a'r cynllun gweithredu economaidd. Yn wir, os edrychwch chi ar y rhaglen ar gyfer llywodraethu, mae gennym ni Gymru unedig a chysylltiedig yn ganolog i'n hawydd i wella ffyniant. Yn yr un modd, mae strategaeth buddsoddi'r Adran Drafnidiaeth yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu economi gryfach, fwy cytbwys drwy wella cynhyrchiant ac ymateb i flaenoriaethau twf lleol. Mae cysylltedd gwell wrth wraidd amcanion y strategaeth honno a 'Ffyniant i bawb'.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth sôn am yr angen i wella integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Er nad yw'r datganiad hwn heddiw yn ymwneud, o reidrwydd, â bysiau, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd llwyddiant trenau yn y dyfodol mewn gwasanaethu anghenion teithwyr yn dibynnu ar well integreiddio â gwasanaethau bysiau. Hefyd, mae'n bwysig nodi na ddylid tanbrisio llwyddiant diweddar rhwydwaith TrawsCymru. Mae'n rhwydwaith pellter hir, yn aml yn cysylltu cymunedau na wasanaethir gan wasanaethau rheilffyrdd. Ynghyd â diwygio gwasanaethau bysiau lleol a fydd yn dod drwy ddeddfwriaeth a, gobeithio, drwy Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector, bydd yn cyflawni gwell integreiddio, nid yn unig o ran amserlenni, nid yn unig o ran seilwaith ffisegol a chanolfannau, ond hefyd o ran tocynnau. Mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r gwaith y mae'r Athro Barri yn ei gynnal i nodi prosiectau cynnar sydd angen buddsoddiad.

O ran y canolbarth, mae'n gorwedd o fewn y ddau. Mae'r Canolbarth yn hollbwysig o ran cysylltu Cymru gyfan, mewn sicrhau ein bod yn darparu Cymru wirioneddol unedig a chysylltiedig wrth wraidd 'Ffyniant i bawb'. Felly, bydd yn hanfodol bod rheilffordd y Cambrian yn cael ei hystyried yn yr holl waith a wneir a'n bod yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y ffin i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth trawsffiniol, o ran gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith cynnar y bydd yr Athro Barry wedi'i gwblhau yn fy meddiant erbyn mis Gorffennaf. Rwyf eisoes wedi datgan mai fy mwriad yw cael ymgynghoriad yn ystod ail hanner eleni, ac felly byddwn yn gobeithio cael ei ganfyddiadau cynnar ar fy nesg yn y ddau neu dri mis nesaf.

Credaf fod mynediad i feysydd awyr yn gwbl hanfodol. Mae'r Aelod yn iawn. Maes awyr Lerpwl—bydd gwell cysylltedd iddo o ogledd Cymru drwy fuddsoddi yn nhrofa Halton, ond bydd hefyd fuddsoddiad drwy'r fasnachfraint newydd mewn darpariaeth gwasanaeth. Rydym wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, y nod yw sicrhau bod  yr ystyriaeth a roddir i gynigion trafnidiaeth ar ochr Lloegr i'r ffin yn parchu ac yn adlewyrchu anghenion teithwyr ac anghenion unigolion yng Nghymru. Felly, yn y dyfodol, byddwn yn disgwyl i well cysylltedd rhwng y gogledd a maes awyr Manceinion fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer Transport for the North. Yn wir, mae'n deg i ddweud, o gofio swyddogaeth hollbwysig gorsaf Caer fel canolbwynt mawr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, y bydd ei swyddogaeth o ddarparu darpariaeth trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n byw yn y gogledd yn bwysicach fyth. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, bod yr Adran Drafnidiaeth yn buddsoddi mewn darpariaeth gwasanaeth yng ngorsaf Caer. Mae angen gwaith sylweddol arni, a chredaf ei bod yn haeddu'r buddsoddiad y mae Cheshire West a Chaer wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer.

16:25

Yr hyn y mae Cymru ei angen, wrth gwrs, yw rheilffordd genedlaethol. Fy ofn i yw—ac mewn gwirionedd mae'n cael ei danlinellu gan y ffaith ein bod ni'n mynd i gael un achos busnes ar gyfer y gogledd ac un ar wahân ar gyfer y de ac yna rhywbeth niwlog yn y canol—bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn garcharor yr hen fap a'r hen dybiaeth, lle nad oedd ein seilwaith yn ymwneud â symud ein pobl o amgylch ein cymunedau mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn bennaf â symud nwyddau o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn y maes glo, roedd yn ymwneud â symud glo i'r de i borthladdoedd. Mae'n rhaid inni wrthdroi'r dybiaeth honno. Mae'n rhaid inni gael gweledigaeth genedlaethol, integredig. Ac er bod llawer o bethau ar restr hir Ysgrifennydd y Cabinet o anghenion cyffredinol, sydd yn anodd anghytuno â nhw, yr hepgoriad sy'n amlwg. Rydym ni'n wlad a ddiffinnir gan ein bylchau, pethau nad ydynt yno, yn fwy na'r pethau sydd yno. Yr un peth na wnaethoch chi sôn amdano—ac eithrio cysylltu dinasoedd—yw cysylltu Cymru, gwlad y mae ei map rheilffyrdd fel 'E' wedi'i gwrthdroi. Mae'n dridant sy'n rhedeg ar draws ein gwlad, ac nid oes dim yn y pen gorllewinol, ac eto mae cynigion uchelgeisiol i greu cyswllt gorllewinol cenedlaethol. Yn wir, mae'r Llywodraeth wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth—nid oes dim am hynny, o gwbl, yn y cynnig hwn, yn y datganiad hwn. Oni ddylai fod, fel rhan o waith Mark Barry, ymrwymiad i edrych ar gysylltiad rheilffordd arfordir gorllewinol, fel y gallwn mewn gwirionedd symud o'r de i ogledd ein gwlad ar drên heb orfod mynd i wlad arall. Mae'n alw eithaf cymedrol, Ysgrifennydd y Cabinet.

Nawr, dywedasoch chi na ddylem ni fod yn sefyll yn yr ymylon yn cwyno, a chytunaf yn llwyr â hynny. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi bondiau cyn bo hir er mwyn ariannu prosiectau seilwaith yn y dyfodol. Fel rhan o'r dadansoddiad cyffredinol hwn, a fydd yr Athro Barry yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio bondiau, fel y gwnaeth Transport for London yn llwyddiannus iawn, fel yr awgrymodd yr Athro Gerry Holtham, o ran canslo'r cysylltiad trydaneiddio? Yn hytrach na dim ond cwyno am y prosiectau hynny y mae San Steffan yn gwrthod eu hariannu, oni ddylem ni fod yn edrych yn greadigol ar ein dulliau ariannol ein hunain o fodloni ein gofynion ein hunain?

Yn olaf, wrth gwrs, syniad mawr Mark Barry oedd i leihau amserau teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a rannwyd yn rhan o'i weledigaeth ar gyfer metro Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, i dynnu Castell-nedd oddi ar brif reilffordd y Great Western, gan redeg y cysylltiad hwnnw, wedyn, yn hytrach, ar hyd llinell uniongyrchol newydd o Bort Talbot i Abertawe. A gaf i felly eich gwahodd i ddweud yn glir p'un a ydych yn diystyru unrhyw gynnig a fyddai'n dileu Castell-nedd o brif reilffordd y Great Western? Dywedodd eich Cwnsler Cyffredinol na fyddai'n cefnogi unrhyw gynnig fyddai'n cynnwys hwn. Mae ef yn diystyru'r syniad hwn. Allwch chi ddweud p'un a ydych chi'n diystyru hwn ar hyn o bryd, o gofio mai syniad yr Athro Barri ydoedd mewn gwirionedd?

16:30

O ran y pwynt penodol hwnnw y siaradodd yr Aelod amdano olaf, gallaf gadarnhau mai ein safbwynt yn dal i fod yw nad ydym yn edrych ar unrhyw ostyngiadau mewn gwasanaethau yng Nghymru, neu unrhyw ostyngiadau mewn hygyrchedd gorsafoedd, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Network Rail i'r perwyl hwnnw. Mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.

Nawr, os ydym ni'n edrych ar sut y gallwch chi wella amserau teithio tra'n cynnal gorsafoedd fel Castell-nedd ar y brif lein, gallwch chi edrych yn gyntaf ar wella gorsafoedd, gallwch chi edrych ar welliannau i'r signalau, gwelliannau i'r pwyntiau—mae'n ffaith bod gan y trenau hynny sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar lein y Great Western y potensial i deithio hyd at 140 milltir yr awr, ond oherwydd signalau gwael, pwyntiau gwael ac ati—y ffactorau hynny a nodais eisoes—a gormod o groesfannau, dim ond un pwynt sydd ar y lein gyfan lle maen nhw'n gallu teithio ar 125 mya. Felly, cyn i chi hyd yn oed edrych ar brif elfennau seilwaith rheilffyrdd, dylech yn gyntaf edrych ar signalau, pwyntiau a chroesfannau, er mwyn gwella cyflymder y trenau sy'n teithio. Byddai hynny'n lleihau'r amserau teithio rhwng Llundain a Chaerdydd, a thu hwnt i orllewin Cymru, cyn y byddai angen rhoi unrhyw ystyriaeth i drac neu orsafoedd. Felly, gallaf ddweud nad ydym ni'n edrych ar unrhyw ostyngiadau. Nid dim ond amddiffyn gorsafoedd a gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau i orsafoedd yng Nghymru yr ydym yn ei ddymuno; rydym ni'n dymuno eu gweld yn cael eu gwella, ac mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.

O ran hyrwyddo rheilffordd genedlaethol, nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn cyfeirio at reilffordd genedlaethol o ran trenau a thrac—rheilffordd genedlaethol wedi'i hintegreiddio'n fertigol. Credaf mai dyna beth yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato. Y ffaith yw, ar hyn o bryd, fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod, nid oes gennym ni ddatganoli cyfrifoldeb neu gyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd. Byddem yn bryderus iawn am ddatblygu'r syniad o ddefnyddio ein harian ein hunain, ym mha bynnag ffordd neu ffurf y gallai hynny fod, i atodi'r tanariannu hanesyddol ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. I mi, byddai hynny fel codi baner wen i Lywodraeth sydd wedi tanfuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd o ddim ond 1 y cant o fuddsoddiad ar draws y DU yn y cyfnod rheoli diweddaraf, er gwaethaf y ffaith fod gennym 10 i 11 y cant o filltiroedd trac. Nawr, gwn y gallai awgrym yr aelod am reilffordd genedlaethol edrych yn ddeniadol, ond a yw hefyd yn cynnig, fel rhan o'r rheilffordd genedlaethol, o gofio ei fod yn siarad am yr angen i gael cysylltedd o fewn Cymru nad oes o reidrwydd raid cynnwys cysylltedd tu allan i Gymru—? A yw'r Aelod yn awgrymu felly ein bod yn cael traciau newydd wedi'u hadeiladu ochr yn ochr â'r rhwydwaith presennol, er enghraifft rhwng y gogledd a'r de, ym Mhowys, sy'n rhedeg ochr yn ochr â seilwaith sydd eisoes yn bodoli mewn gwirionedd? Oherwydd credaf, mewn gwirionedd, yn gyffredinol, mae pobl yn fodlon ar y seilwaith sydd ar waith. Yr hyn nad yw pobl yn fodlon ag ef yw ansawdd y seilwaith, sy'n dal yn ôl nid dim ond argaeledd gwasanaethau aml ond hefyd yn dal yn ôl cyflymder y trenau. Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dymuno gweld buddsoddiad yn cael ei sianelu i'r seilwaith presennol i sicrhau bod trenau yn teithio yn fwy aml ac yn teithio yn gynt, tra ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod cytundebau masnachfraint ar waith i godi ansawdd y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y trac.

Awgrymodd yr Aelod nad yw'r datganiad yn siarad am gysylltu Cymru yn fewnol. Wel, holl bwynt ein datblygiadau metro yn y gogledd, yn y de-ddwyrain ac yn y de-orllewin yw cysylltu cymunedau o fewn Cymru yn well. Mae'r rhain yn eithriadol o uchelgeisiol. Yn wir, galwyd nhw gan y Pwyllgor y mae'r Aelod yn eistedd arno yn gynigion uchelgeisiol arwrol yr ydym yn eu datblygu, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ystyried, yn y Cabinet, y cynigydd a ffafrir ar gyfer y fasnachfraint nesaf, a'r partner datblygu ar gyfer y metro, a'r nod yw, fel y dywedaf, sicrhau bod ein cymunedau wedi'u cysylltu yn well o fewn Cymru. Hefyd, o ran cysylltu cymunedau yn well, bydd y cynigion uchelgeisiol yr ymgynghorir arnyn nhw yn y misoedd i ddod, ynghylch diwygio gwasanaethau bws lleol, unwaith eto yn dangos ein penderfyniad i sicrhau, boed yn drenau neu'n fysiau, yn deithio llesol neu'n gyfuniad o bob un, ein bod yn buddsoddi mwy nag o'r blaen, ac mae gennym uchelgais mwy nag erioed o'r blaen o ran cysylltu ein cymunedau yng Nghymru gyda'i gilydd.

16:35

A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad sydd, yn sgil cyhoeddiadau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn ein diweddaru ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer prif reilffyrdd y Great Western a'r gogledd? Rydych chi'n dweud, Gweinidog y Cabinet, fod yr ymrwymiad hwn i'w groesawu, ond mae'n ymddangos bod y cyhoeddiad hwn yn ymdrin dim ond â datblygu achosion busnes ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd yng Nghymru. Yng ngoleuni'r penderfyniad ar drydaneiddio lein Abertawe, a sylwadau a wnaed yn ddiweddar ar ddatblygiadau Bae Abertawe, rhaid i rywun ofyn: a yw'r cyhoeddiadau hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr ag ymrwymiadau cadarn?

Mae'n amlwg iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i rai gwelliannau deniadol i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr. Gwnaethoch chi sôn eich hun am y £15 biliwn o fuddsoddiad Crossrail a chynllun £3 biliwn traws y Penwynion. Roeddech chi hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at y prosiect drud iawn cyflymder uchel 2, sydd yn debygol o lyncu hyd at £55 biliwn, o leiaf, ac, yn rhyfedd iawn, rydych chi'n nodi ei effaith negyddol bosibl ar economi Cymru, sydd mewn gwrthgyferbyniad llwyr â barn Llywodraeth Cymru pan oedd UKIP yn ei drafod yn y Siambr hon, pan oeddech chi'n mynnu, o'i gymharu â dadansoddiad UKIP, y byddai yn hwb mawr i economi Cymru.

Mae UKIP yn cytuno â'r uchelgeisiau cyffredinol a nodwyd gennych, a byddwn yn parhau i gefnogi'r Llywodraeth yn ei hymdrechion i sicrhau gwelliannau seilwaith a amlinellir yn yr anghenion hynny. Ond yng ngoleuni'r cyhoeddiadau hyn, onid oes angen cael dadl lawn ar wariant San Steffan ar seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru, lle gellid gwyntyllu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer gofynion Llywodraeth Cymru, gyda'r effaith o gryfhau eich grym mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU?

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau, a dweud y byddwn yn fawr iawn yn croesawu dadl drawsbleidiol ar lefel y buddsoddi gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith rheilffyrdd yn ddiweddar? Credaf y byddai hynny'n helpu i gryfhau ein grym wrth negodi, ac yn sicrhau bod Network Rail a Llywodraeth y DU yn cydnabod bod galw ar draws yr holl bleidiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am ariannu tecach pan fo'n ymwneud â thrafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru.

O ran HS2, oes, mae potensial i HS2 gael effaith andwyol ar economi'r de, a dyna pam yr ydym ni'n dadlau bod angen inni weld buddsoddiad ym mhrif reilffordd y de yn dod mor fuan â phosibl, er mwyn sicrhau bod y de, ac, yn wir, mae hyn yn berthnasol i dde-orllewin Lloegr, yn parhau'n gystadleuol ac yn dal i fod yn gystadleuol ar lwyfan y DU ac yn fyd-eang. Yn y gogledd ac, o bosibl, yn y canolbarth, mae HS2 yn cynnig cyfle i'r economïau rhanbarthol hynny gryfhau a chael hwb sylweddol, ond bydd angen y canlyniad cywir, yn benodol o ran canolfan Crewe, gan sicrhau y ceir y canlyniad cywir, y seilwaith iawn ar waith i'r gogledd o orsaf Crewe.

O ran HS2 yn ei gyfanrwydd, yr hyn a ddywedwn i yw—ac mae hyn yn wir am ranbarthau yng Nghymru hefyd—beth na ddylem ni ei wneud yw dadlau y dylem ni ddal yn ôl ffyniant un rhanbarth er mwyn cynnal y lefelau cyfredol o ffyniant ar gyfer un arall, ond mewn gwirionedd yr hyn y dylem ni fod yn dadlau o'i blaid yw gwelliannau ar draws pob rhanbarth. Dyna pam, unwaith eto, fy mod yn datgan yn glir o ran HS2, er y gallai gael effaith andwyol ar y de, os byddwn yn cael y lefel gywir o fuddsoddiad i'r de a'r brif lein ac o'r de, yna gellid lliniaru'r effaith andwyol. Felly, roedd fy ymateb i'r ymgynghoriad at yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch masnachfraint Rheilffordd y Great Western yn nodi'n glir yr angen i sicrhau bod cynigion lliniaru y gellid eu mabwysiadu fyddai wedyn yn gwarantu lefelau presennol o ffyniant ar gyfer y de a sicrhau y gall economi'r de ffynnu yn y dyfodol.

O ran yr achosion busnes, saif yr ymrwymiad ar gyfer datblygu achosion busnes gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen inni sicrhau bod achosion cymhellol yn cael eu cyflwyno i Llywodraeth y DU. Amlinellais yn fy natganiad sut mae gwariant sylweddol yn digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Yr hyn nad wyf i eisiau ei weld yn digwydd yw i ni  ddibynnu'n unig ar achosion busnes a gynlluniwyd mewn mannau eraill. Yr hyn y dymunaf ei weld yn digwydd yw i ni i ddylanwadu ar yr achosion hynny ar y cyfle cyntaf, a dyna pam mae gennym arbenigwyr a dyna pam mae gennym Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar yr achosion hynny.

16:40

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am nodi'r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru, a hefyd am benodi Mark Barry, sydd yn frwd iawn o blaid trafnidiaeth gyhoeddus ac felly, credaf, bydd o fudd mawr i nodi ein safbwynt. Ond, yn amlwg, nid yw'r holl ysgogiadau gennym ni. Un o bryderon mawr rhai o'm hetholwyr yw codiad cynyddol prisiau tocynnau trên, sy'n llawer mwy na'r cynnydd mewn cyflogau. Ar gyfer y rhai sydd angen teithio y tu allan i Gymru ar gyfer gwaith, mae'n dipyn o gosb, yr hyn a godir. Pe byddai'r cynnydd mewn prisiau yn cael ei adlewyrchu wedyn mewn buddsoddi cynyddol mewn cerbydau a Wi-Fi ychwanegol a mwy o drenau, byddai, rwy'n siŵr, wedi'i dderbyn, ond y ffaith yw nad dyna beth sy'n digwydd.

Mae gennym her anferth yn y ffaith bod ein Llywodraeth y DU yn canolbwyntio cymaint ar dde-ddwyrain Lloegr. Pe byddent wedi dechrau HS2 ym Manceinion, yn hytrach nag yn y de-ddwyrain, efallai y byddech yn argyhoeddedig eu bod yn dechrau edrych ar system drafnidiaeth sy'n cynnwys y DU gyfan, ond, yn amlwg, nid yw hynny am ddigwydd.

Un o'r materion mawr i'm hetholwyr yw'r uwchraddio angenrheidiol ar orsaf Caerdydd Canolog, a fydd yn fuan heb ddigon o gapasiti i reoli'r nifer cynyddol o drenau y mae pobl am inni eu darparu. Mae hynny'n rhywbeth na allwn ni ei wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi arian i GWR neu Network Rail i wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, mae arnaf ofn ei bod yn enghraifft dda o pa mor ddibynnol yr ydym ni ar haelioni Llywodraeth y DU.

Rwy'n cofio pan wnaeth Chris Grayling ganslo trydaneiddio Abertawe, ar unwaith dechreuodd siarad am y pethau y gallai ef ei wneud gyda'r arian i fynd i dde-orllewin Lloegr, sy'n warthus. Felly, mae'n rhaid cael cyswllt rheilffyrdd a bws addas ar gyfer y diben, ac rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y mae'r rhain gennym wedi'u hymuno â'i gilydd.

16:45

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Mae bob amser yn bleser gennyf ateb Jenny Rathbone oherwydd mae ganddi angerdd mor aruthrol am drafnidiaeth gyhoeddus, yn benodol integreiddio gwasanaethau rheilffordd a bws, a gwasanaethau teithio llesol wrth gwrs. Mae'r Aelod yn hollol iawn bod yr Athro Barry yn un o hoelion wyth y rheilffyrdd. Rydym yn falch iawn ei fod wedi cytuno i wneud y gwaith hwn, ac rwy'n siŵr y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gyflym. Gobeithiaf hefyd y bydd gwaith ar Caerdydd Canolog bellach yn digwydd yn gyflym. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai gwelliannau Caerdydd Canolog yn flaenoriaeth ar ôl diddymu trydanu'r rheilffordd y tu hwnt i Gaerdydd, ac rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwnnw yn digwydd yn ddi-oed.

O ran tocynnau, mae'n ffaith drasig, mewn rhannau o Gymru, mae 20 y cant o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn dod i'w cyfweliadau swydd wrth geisio dod o hyd i waith, gan nad ydynt yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i brisiau cymharol uchel ar reilffyrdd. Mae hefyd yn rhan o ganlyniad trafnidiaeth bws anfynych ac sydd weithiau yn rhy ddrud hefyd. Mae'r ateb, wrth gwrs, yng Nghymru, o ran masnachfraint Cymru a'r Gororau, yng nghytundeb y fasnachfraint newydd. Nodwyd gennym yn ein hamcanion lefel uchel yr angen i gynigwyr sicrhau y byddai eu helw yn cael ei leihau ac y byddai ail-fuddsoddi unrhyw swm dros ben i ddarparu gwasanaethau. Hefyd, mae'n hollol iawn y byddwn yn edrych ar gadw, lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl, y prisiau isaf posibl ar wasanaethau rheilffyrdd, a dyna beth yr wyf yn gobeithio bod yn siarad ychydig yn fwy amdano unwaith y mae'r Cabinet wedi ystyried canlyniad y broses gaffael.

Ond yn yr un modd, mae'n gwbl hanfodol bod mwy o integreiddio tocynnau rheilffyrdd a bysiau yn digwydd yn y dyfodol. Rwyf wedi gweld mewn rhannau o'r DU—yn ardal Glannau Mersi yn benodol—enghreifftiau rhagorol o sut y mae tocynnau bysiau a rheilffyrdd integredig wedi gweithredu fel galluogwr, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu diweithdra, wrth sicrhau y gallant fynd i'r gwaith ac aros mewn gwaith. Dyna'r hyn yr wyf i am ei weld yn cael ei ailadrodd drwy'r fasnachfraint newydd a thrwy wasanaethau ychwanegol yn y dyfodol yn cael eu rheoli gan Trafnidiaeth Cymru. Dyna'r hyn y dymunaf ei weld yn digwydd yma.

Diolch. A gaf i yn garedig atgoffa'r set nesaf o siaradwyr mai chi yw'r ail a'r trydydd siaradwr o bosibl ar ran eich plaid chi, ac felly dylai fod datganiad byr a cwestiwn, ac yna fe gawn ni chi i gyd i mewn? Suzy Davies.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Datganiad diddorol yn y fan yna o 1,200 o eiriau, Ysgrifennydd y Cabinet, er y cymerodd tan dudalen 3 eich datganiad i chi ddweud na allwch chi sefyll yn yr ymylon yn cwyno pan, mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi dreulio dros hanner eich datganiad, dros bedair munud ohono, yn cwyno am yr union beth hwnnw. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad wyf yn teimlo'n llawer mwy gwybodus am beth yw eich cynlluniau, ond rwy'n ddiolchgar i chi am wybodaeth ynghylch yr amcanion ehangach ar gyfer fy rhanbarth, yn enwedig edrych ar ddewisiadau eraill ar gyfer y rhai sy'n llygru rhannau o'r M4 yn drwm ar yr un pryd ag yn ehangu, credaf mai dyna oedd, trafnidiaeth y ddinas-ranbarth—gwyddoch chi fod rhai ohonom ni wedi bod yn siarad am hynny yn y fan yma ers peth amser. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod fy etholwyr yng Nghastell-nedd yn arbennig o gyffrous am y cynnig a wnaed gan yr Athro Barry yn ei amlinelliad gwreiddiol, a thawelwyd fy meddwl mai dim ond man cychwyn ydyw.

Yn fyr, roeddwn i eisiau gofyn i chi am hepgor parcffordd Abertawe o'ch datganiad. Gwneuthum arolwg cyflym a budr iawn yn yr ardal a allai gael budd o barcffordd Abertawe, a thra bod 89 y cant o ymatebwyr o'r farn y byddai hynny'n helpu'r fargen ddinesig, dywedodd llai na 20 y cant ohonyn nhw eu bod yn hapus â'r sefyllfa bresennol, a dywedodd mwy na hanner ohonyn nhw y bydden nhw'n cefnogi'r syniad o barcffordd. Pan ydych chi'n parhau i rannu eich uchelgais chi gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, byddwch yn cynnig cefnogaeth mewn egwyddor ar gyfer parcffordd?

Ydw. Rydym ni wedi siarad am hyn eisoes, ac rwy'n credu bod hynny yn haeddu tipyn o ystyriaeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd nodi yn ystod ychydig funudau cyntaf fy natganiad nad oeddwn yn cwyno, dim ond datgan ffaith yr oeddwn i, a'r ffaith yw nad ydym ni wedi cael y lefel o fuddsoddiad y dylem ni fod wedi'i ddisgwyl yn y cyfnod rheoli presennol. Wedi dweud hynny, dylai parcffordd Abertawe, fel rhai cynigion mawr eraill, fod wedi ei ddatblygu yn gyflym.

16:50

Ysgrifennydd y Cabinet, un ddolen goll, sydd wedi bod yn destun llawer iawn o rwystredigaeth am gryn amser yn fy ardal i, dolen goll o ran cydgysylltu'r de-ddwyrain yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy. Bu aros hir amdano a tybed os gallwch chi, wrth ymateb i gwestiynau ar y datganiad hwn heddiw, ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ar ba bryd y gallwn ddisgwyl i'r cysylltiad hwnnw gael ei sefydlu a'i bwysigrwydd parhaus, gobeithio, yn adlewyrchu barn y bobl leol i Lywodraeth Cymru. 

Hefyd, mae gwasanaethau i Fryste, Ysgrifennydd y Cabinet, a gwn y byddwch chi'n ymwybodol o hyn, yn bell o fod yn foddhaol o ran trenau gorlawn a dibynadwyedd, problemau gyda chanslo, ansawdd cyffredinol y cerbydau, ac yn wir yr amser y mae teithiau yn eu cymryd. Felly, ar amrywiaeth o ffactorau ynglŷn â beth sy'n gwneud teithio ar drenau yn ddymunol neu fel arall, mae'r gwasanaeth hwnnw o Gasnewydd, Caerdydd ac ardaloedd eraill i Fryste yn achosi problemau, ac yn achosi problemau yn arbennig i gymudwyr. Felly, o ystyried yr angen i gydgysylltu o amgylch gwasanaethau trawsffiniol rhwng Trenau Arriva Cymru a gweithrediad y Great Western, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed beth y gallwch ei ddweud o ran cysur i'r cymudwyr hirymaros hynny ac eraill y bydd y problemau hynny yn cael sylw, gobeithio yn y dyfodol agos, fel y gallant gael llawer gwell profiad ac y gallwn gael mwy o bobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau? Wrth gwrs, bydd gennyf fwy i'w ddweud o ran cysylltiad Glynebwy a'r potensial i aros yng Nghasnewydd pan gyhoeddwn y gweithredwr masnachfraint dewisol a'r partner datblygu a phan fyddwn yn datblygu'r cynllunio metro.

O ran Bryste a chysylltedd ar draws y ffin, fy marn i yw y dylem ni fod yn annog Llywodraeth y DU i weithio gyda ni o ran ailfapio cytundebau masnachfraint i sicrhau bod cytundeb tebyg ar waith ar y masnachfreintiau hynny sy'n gweithredu ac yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU fel ag y ceir â masnachfraint Cymru a'r Gororau, lle'r ydym ni'n gallu dylanwadu ac mae gennym ni ran mewn trafodaethau ar lefel Llywodraeth y DU, yn union fel y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cadw buddiant mewn rhai gwasanaethau fel rhan o fasnachfraint Cymru a'r Gororau.

Rwyf wedi nodi cynnig yn fy llythyrau at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer ailfapio trefniadau masnachfraint a fyddai, rwy'n credu, (a) yn diwallu anghenion teithwyr yng Nghymru yn llawer mwy na'r trefniadau cyfredol, ond hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod â rhan, y rhan sydd ei hangen arni i sicrhau bod gwasanaethau wedi'u cynllunio a'u darparu mewn ffordd sy'n ystyried budd Cymru yn llawn, ac yr wyf yn meddwl hefyd a fyddai'n arwain at gystadleuaeth go iawn a dewis go iawn i deithwyr ar draws y ffin hefyd. Rydym ni eisiau gweld mwy o wasanaethau rhwng de Cymru a de Lloegr, yn benodol Temple Meads Bryste, ac rwy'n credu y byddai rhaglen ailfapio'r fasnachfraint yn helpu gyda hyn.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gwnaethoch chi gyfeirio at yr 1 y cant o wariant. Canfu adroddiad blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar wybodaeth ariannol diwydiant rheilffyrdd y DU, a gyhoeddwyd y llynedd, bod Cymru mewn gwirionedd yn cael 9.6 y cant o arian net Llywodraeth y DU ar gyfer gweithrediadau trenau masnachfraint a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm cyllid net Llywodraeth y DU ar gyfer llwybrau Network Rail, fel y cyflwynwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ôl inni dynnu sylw at bryderon tebyg.

Rwy'n ategu eich datganiad yn llawn os yw Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau cywir ar Ganolfan Crewe, ac ati, yna bydd HS2 yn cael budd economaidd sylweddol ar gyfer y gogledd. Ond, fy nghwestiwn i—dim ond un sydd gennyf—o ystyried eich cyfeiriad yn eich datganiad at weithio gyda Growth Track 360, yr wyf wrth gwrs yn ei gefnogi'n llwyr, nid ydych chi wedi gwneud unrhyw gyfeiriad at fwrdd twf y gogledd, a sefydlwyd i gwblhau'r fargen dwf a rheoli ei darparu, unwaith y bydd y ddwy Lywodraeth yn cytuno. Felly, pa waith, yng nghyd-destun cysylltedd trafnidiaeth gyda rhwydwaith y rheilffyrdd, yr ydych chi'n ei wneud yn uniongyrchol gyda'r bwrdd twf?

Rydw i wedi cyfarfod â'r bwrdd. Rydw i wedi cyfarfod ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddogol gydag arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr. Ar lefel swyddogol o fewn y Llywodraeth, rydym ni hefyd yn gweithio ar sail reolaidd cyn belled â bod y prosiectau dan sylw o fewn cynnig y fargen dwf, a fy marn i yw y byddai croeso mawr i'r cais i sefydlu awdurdod trafnidiaeth yn y gogledd. Edrychaf ymlaen at graffu ar beth yn union y mae'r cais yn ei gynnig, a gyda'r bwriad o gefnogi'r cais hwnnw.

Yr hyn yr wyf i'n dymuno ei weld yn digwydd gyda'r fargen dwf yn y gogledd yw ymhen 20 mlynedd, y gallwn ni edrych yn ôl a nodi cod y fargen honno wedi bod yn un drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth. Ac er mwyn bod yn wirioneddol drawsnewidiol, rwy'n credu bod yn rhaid iddi ganolbwyntio ar elfennau allweddol sy'n llywio cynhyrchiant a thwf economaidd—buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn trafnidiaeth a seilwaith, ac mewn sicrhau bod y cerbyd rhanbarthol cywir ar waith yn hir dymor i wasanaethu datblygiadau economaidd yn y gogledd. Ar bob un o'r cydrannau allweddol hynny, rydym ni'n gwneud cynnydd da, ond rwy'n dymuno i'r fargen ac rwy'n dymuno i'r bobl sy'n cynnig yr holl brosiectau o fewn y fargen gael uchelgais arwrol yn hyn o beth.

16:55
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dyfodol Rheoli Tir

Eitem 6 yw Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar ddyfodol rheoli tir, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Ers degawdau, mae rheoli tir wedi ei lunio gan yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd hyn ddylanwad mawr ar strwythur a pherfformiad ein sector amaethyddol. Gyda Brexit fe ddaw newidiadau sylweddol a chyflym. Mae'r cyfuniad o adael y polisi amaethyddol cyffredin a threfniadau masnachu newydd yn golygu na ellir cynnal y sefyllfa bresennol yn unig.

Mae hyn o bwys mawr i Gymru. Mae mwyafrif llethol ein tir dan berchnogaeth a rheolaeth y ffermwyr, y coedwigwyr a'r cyrff amgylcheddol. Mae ffermio yn rhan hanfodol o'n heconomi wledig, yn angor cymdeithasol i gymunedau, a'r rheolwyr tir yw ceidwaid y tir sydd yn sail i'n hamgylchedd naturiol.

Mae'r achos dros ddatganoli yn gryfach nag erioed o'r blaen. Mae cyfansoddiad ein sector ffermio ni yn wahanol iawn i weddill y DU, Lloegr yn arbennig felly. Mae ein tirwedd ni yn fwy amrywiol, mae ein cymunedau gwledig yn gyfran fwy o'r boblogaeth, ac mae amaethyddiaeth yn rhan fwy gyfannol o we ein diwylliant, yn enwedig o'r iaith Gymraeg. Mae gennym gyfle sy'n codi unwaith mewn cenhedlaeth i ailgynllunio ein polisau mewn modd sy'n gyson â dull cyfannol unigryw Cymru, gan ddarparu ar gyfer ein heconomi, ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol.

Rwy'n ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth yr holl randdeiliaid sydd wedi dod at ei gilydd yn fy Grŵp Bord Gron gweinidogol ar Brexit. Gan dynnu ar y trafodaethau hynny, rwyf wedi llunio pum egwyddor graidd ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl sy'n ei reoli.

Yr egwyddor gyntaf yw bod yn rhaid inni gadw rheolwyr tir ar y tir. Er mwyn cael y budd mwyaf, mae'n rhaid i dir gael ei reoli'n weithredol gan y rhai sy'n ei adnabod orau. Mae hyn yn well ar gyfer ein hamgylchedd a'n cymunedau hefyd. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na ddylai defnydd tir na'r bobl sy'n ei reoli gael eu newid dros amser.

Fy ail egwyddor yw fod cynhyrchu bwyd yn parhau i fod yn hanfodol i'n cenedl. Ceir llawer o resymau da dros roi cymorth gan y Llywodraeth, ond nid y cynllun taliad sylfaenol yw'r dull gorau o ddarparu hyn. Mae gan Lywodraeth swyddogaeth bwysig i'w chwarae i helpu rheolwyr tir i fod yn economaidd gynaliadwy wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r diwygio yn gyfle mawr hefyd i gynyddu manteision ein tir i'r cyhoedd ehangach yng Nghymru mewn ffordd ddramatig. Felly, fy nhrydedd egwyddor yw y bydd y cymorth yn y  dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus sy'n cyflenwi ar gyfer holl bobl Cymru. Mae cyfoeth ac amrywiaeth tirwedd Cymru yn golygu nad oes prinder nwyddau cyhoeddus i'w caffael, o'r awyr lân i reoli llifogydd a chynefinoedd gwell.

Yn bedwerydd, dylai pob un o'r rheolwyr tir gael y cyfle i elwa ar y cynlluniau newydd. Ni fyddwn yn cyfyngu ar ein cefnogaeth i dderbynwyr presennol y PAC. Serch hynny, efallai y bydd angen i reolwyr tir wneud pethau mewn ffordd wahanol yn gyfnewid am gymorth. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod ein tir yn cyflenwi mwy o fanteision.

Yn olaf, mae angen inni gael sector amaethyddol ffyniannus a chydnerth yng Nghymru, beth bynnag fyddo natur y Brexit. Er mwyn gwireddu hynny, mae angen inni newid y ffordd yr ydym yn cefnogi ffermwyr. Ein bwriad, felly, yw cael dwy elfen o gymorth—un ar gyfer gweithgareddau economaidd ac un ar gyfer cynhyrchu nwyddau cyhoeddus. Ceir cysylltiadau amlwg bwysig rhwng cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus, felly bydd raid i'r cymorth fod yn gyflenwol. Bydd llawer o reolwyr tir yn gallu cynhyrchu'r naill a'r llall, ond ni ddylai cymorth ar gyfer cynhyrchu bwyd danseilio ein hamgylchedd naturiol.

Drwy gyfrwng y grŵp bord gron, rwyf wedi lansio cam newydd o ymgysylltiad dwys â rhanddeiliaid i weithio ar y cyd ar y manylion o sut i gyflenwi'r bum egwyddor yn y ffordd orau. Mae'r grwpiau hyn yn cyflwyno syniadau gwerthfawr a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddod â chynigion gerbron ar gyfer diwygio. Caiff y cynigion hyn eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori a gyhoeddir ddechrau mis Gorffennaf.

Mae enw da cynnyrch o Gymru yn dibynnu ar safonau uchel. Felly bydd y ddogfen hon yn ystyried goblygiadau diwygio ein fframwaith rheoleiddio hefyd. Mae gennym gyfle i ddylunio fframwaith mwy cyfoes, syml a hyblyg. Mae hyn yn berthnasol i ansawdd ein dŵr, ein priddoedd, yr aer ac iechyd ein hanifeiliaid. I gyflenwi'r cymorth hwn, bydd angen y ddeddfwriaeth gywir yn ei lle. Mae fy swyddogion a minnau'n parhau i weithio gyda DEFRA a llywodraethau eraill y DU i bennu'r ffordd orau o ddeddfu. Rwy'n ystyried Bil amaethyddol Cymreig ac hefyd yn ystyried cynnwys darpariaethau dros dro ar gyfer pontio ym Mil amaethyddiaeth arfaethedig y DU.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod â newidiadau sylweddol, a bydd yn rhaid inni gael cyfnod pontio sydd wedi'i gynllunio'n dda a thros sawl blwyddyn. Dysgais am bwysigrwydd osgoi dilead cymorthdaliadau ar ymyl y dibyn, yn ystod fy ymweliad diweddar â Seland Newydd. Byddaf yn parhau i ymladd i amddiffyn y dyraniad llawn a theg o ariannu i gefnogi rheoli tir yng Nghymru. Fodd bynnag, hyd yn hyn mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi unrhyw fanylion neu ymrwymiad y tu hwnt i 2022. Roeddwn yn falch iawn fod Fergus Ewing, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Wledig a Chysylltedd yn yr Alban, wedi ymuno â mi i ysgrifennu at Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i ofyn am eglurhad pellach ar ddyfodol cyllid. Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn, rwy'n awyddus i bennu amserlen glir ar gyfer ffermwyr Cymru.

Bydd y cynllun taliad sylfaenol yn parhau fel 'i cynlluniwyd yn 2018, a gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn parhau hefyd i weithredu cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gynllun 2019. O 2020 ymlaen, bydd y pwerau yn dychwelyd o Ewrop. Yna, rwy'n rhagweld pontio graddol dros sawl blwyddyn o'r cynlluniau presennol i rai newydd. Erbyn 2025, hoffwn weld y broses wedi'i chwblhau, a byddaf yn nodi manylion pellach ym mis Gorffennaf a gallaf warantu y bydd newidiadau yn destun ymgynghoriad manwl.

Her fawr Brexit yw sicrhau nad yw ei effaith yn tanseilio'r gwerth gwirioneddol y mae rheoli tir yn ei roi i Gymru. Y cyfle mawr yw sefydlu polisi Cymreig newydd i'w helpu i addasu i rymoedd marchnad y dyfodol. Rwy'n hyderus y gall ein rheolwyr tir addasu, a swyddogaeth y Llywodraeth hon yw rhoi digon o amser a chefnogaeth i hyn.

17:00

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n falch fod y Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno'r datganiad pwysig hwn, yn enwedig yn ngoleuni'r cytundeb rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU o ran Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n golygu ein bod ni gam yn nes at ddyfodol newydd i amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.

Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cytuno ar y bum egwyddor graidd a nodwyd ym mis Chwefror, yn enwedig o ran y syniad fod cynhyrchu bwyd yn parhau i fod yn hanfodol. Yn wir, mae ffermwyr yn dal i godi'u pryderon gyda mi am ddyfodol eu cymorthdaliadau pe byddai Prydain yn penderfynu mabwysiadu dull sy'n rhoi blaenoriaeth i amddiffyn yr amgylchedd yn hytrach na chynhyrchu bwyd. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod bod ffermwyr Cymru yn dal i fod yn geidwaid cefn gwlad rhagorol a'i bod yn hanfodol fod y cydbwysedd yn gywir rhwng amddiffyn yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Er fy mod yn derbyn y cynhelir ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni, a oes modd iddi roi mwy o wybodaeth inni o'r cychwyn cyntaf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r cydbwysedd hwnnw fel y gall ffermwyr Cymru fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir wedi Brexit?

Wrth gwrs, bydd yn rhaid cael system bontio ar waith ar gyfer y trefniadau ariannu i'r dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i nodi bod ymgysylltu wedi digwydd yn barod gyda rhanddeiliaid a llywodraethau eraill yn hyn o beth. Yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, a oes modd iddi roi rhywfaint rhagor o wybodaeth am ba drefniadau cyllido yn union y mae Llywodraeth Cymru eisiau eu gweld yn y dyfodol, o gofio bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo cyllid tan 2022? Yn ei datganiad heddiw mae hi wedi cadarnhau y bydd y cynllun taliad sylfaenol ond yn parhau i fod yn weithredol tan 2020.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Wrth gwrs, gwyddom fod y diwydiant amaethyddol yng Nghymru wedi cael ei integreiddio yn agos â'r farchnad Ewropeaidd, ac rydym i gyd yn cydnabod y byddai gosod tariffau rhwng y DU a'r UE yn niweidiol iawn i ffermwyr Cymru. Rwy'n gwybod mai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater, ond efallai yn ei hymateb y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda'i chymheiriaid yn y DU ac, yn wir, ei chymheiriaid yn Ewrop ar sut i amddiffyn y diwydiant i'r dyfodol.

Nawr, ym mis Mawrth y llynedd, cynhaliodd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i ddyfodol rheoli tir yng Nghymru. Yn rhan o'r ymgynghoriad, roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gwneud yn glir y dylai Llywodraethau fynd ati'n rhagweithiol i gefnogi bwyd a ffermio yn y DU drwy eu polisïau caffael eu hunain. Yn yr amgylchiadau, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym yn awr am arferion caffael Llywodraeth Cymru o ran ffermio ac egluro pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers ymchwiliad y Pwyllgor i fynd i'r afael â'r pwynt hwn yn benodol.

Er ei bod yn amlwg fod yna lawer o heriau o ran rheoli tir i Gymru ar ôl Brexit, ceir digonedd o gyfleoedd hefyd. Gall datblygu polisi amaethyddol domestig i Gymru bellach fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar y tirlun rheoleiddio presennol ar gyfer ffermwyr, ac rwy'n falch fod y datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar fframwaith newydd a hyblyg. Cafodd hyn ei hyrwyddo gan y diwydiant ers tro. Yn wir, mae NFU Cymru yn dweud wrthym mai rheoliad gwael yn aml sy'n cael ei nodi'n rheswm dros ddiffyg hyder busnes mewn fferm, a'i fod yn ychwanegu at lwyth gwaith y ffermwyr yn sylweddol. Bellach mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i adfer y tirlun hwn a sicrhau bod dulliau mwy gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu i sicrhau, pan gyflwynir rheoliadau, y cânt eu cefnogi gan dystiolaeth ddeallus a chadarn.

Rydym yn gwybod nad yw Llywodraeth Cymru wedi cau'r drws yn glep eto ar barthau arfaethedig o nitradau peryglus yng Nghymru, ac mae hon yn enghraifft glir o'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn well i gefnogi ffermwyr Cymru. O ystyried y beichiau y gall rheoleiddio sâl ac anghymesur eu rhoi ar ffermwyr Cymru, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet sôn wrthym ni am ei syniadau cychwynnol ar fynd i'r afael â'r tirlun rheoleiddio i gefnogi rheoli tir yn well. 

Mae datganiad heddiw yn awgrymu symudiad tuag at gyflwyno deddfwriaeth, ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y mae hi'n bwriadu gwneud penderfyniad mwy cadarn ar hynny, ynghyd â pha adborth cychwynnol y mae hi wedi'i dderbyn eisoes gan y diwydiant ar yr agenda benodol hon.

Hoffwn fynegi eto'n fyr i Ysgrifennydd y Cabinet bwysigrwydd cael gweithlu sefydlog a chynhyrchiol ar gyfer y sector ffermio, a byddaf yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariadau i'r trafodaethau a gafodd gyda gweddill y DU a'r UE am anghenion gwaith Cymru.

Yn olaf, Llywydd—ac nid yn lleiaf—hoffwn roi ar gofnod pa mor arwyddocaol yw diwydiant amaethyddol Cymru, nid yn unig i'n heconomi ni, ond i'n diwylliant ni hefyd, ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi mynegi pa mor bwysig yw ffermio i'n cymunedau gwledig a'r iaith Gymraeg heddiw. Gan hynny, wrth gloi, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru gyda'i pholisïau rheoli tir yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Diolch.

17:05

Diolch ichi, Paul Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau yna.

Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: mae'n golygu cael y cydbwysedd cywir, ac felly dyna pam y dechreuais o'r cychwyn cyntaf fod â grŵp rhanddeiliaid, ac fe roddais i deyrnged iddyn nhw. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu mewnbwn a cheir yn y cyfarfodydd hynny bob amser drafodaeth dda iawn, ac mae'r is-grwpiau sydd wedi deillio o'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw yn sicr wedi bod yn hynod ddefnyddiol o ran cyrraedd y man yr ydym ynddo nawr ac yn sicr bydd yn dal i fod yn bwysig iawn wrth fynd ymlaen.

Rydych chi'n iawn, byddwn ni yn mynd allan i ymgynghoriad. Soniais y byddwn yn lansio dogfen ymgynghori ddechrau mis Gorffennaf. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ei gael allan yno cyn Sioe Frenhinol Cymru a'r sioeau haf eraill lle gallaf i fy hunan, fy swyddogion a'm staff rheng flaen siarad â llawer o ffermwyr a choedwigwyr ac, yn amlwg, â phobl sy'n gweithio i'r sefydliadau amgylcheddol.

Roeddech chi'n gofyn pa fath o bethau yr oeddem yn eu hystyried o flaen yr ymgynghoriad. Felly, o ran nwyddau cyhoeddus, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dal i edrych ar leihau allyriadau carbon parhaus a'n bod yn gallu parhau i ddal a storio carbon yn gynyddol. Rwy'n awyddus, mae'n amlwg, inni barhau i reoli'r cyflenwad dŵr, gwella ansawdd dŵr, gwella ansawdd yr aer, ac edrych ar ein tirwedd a'n treftadaeth ni. Rwy'n awyddus iawn hefyd i edrych ar iechyd a hygyrchedd a chyfleoedd am addysg.

Bydd cynhyrchu bwyd yn dod o dan gydnerthedd economaidd. Ac eto, ochr yn ochr â hynny, byddwn yn edrych ar gymorth i welliant cynaliadwy, yn enwedig o ran amaethyddiaeth fanwl a chymorth i arallgyfeirio. Rwyf wedi gweld rhai enghreifftiau ardderchog o arallgyfeirio: roeddwn i ym Mhennal ddydd Iau diwethaf lle gwelais i un o'r cynlluniau trydan dŵr gorau a welais i ar fferm, mae'n debyg, a'r hyn a'm trawodd i oedd fod y ffasiwn beth i'w gael yno. Rwy'n cyfaddef bod rhywun wedi bod yno ac arloesi a rhoi'r cynllun yn ei le, ond roedd y dŵr yno, ac erbyn hyn mae gennym y cynllun ynni dŵr gwych hwn. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi arallgyfeirio hefyd.

Rydych chi'n iawn, yn fy marn i, o ran ariannu i'r dyfodol, ein bod wedi cael sicrwydd y bydd yr arian ar gael tan 2022, ac rydym wedi'i gwneud yn glir iawn y bydd yr arian hwnnw ar gael i'r sector tan 2022. Ond, wedi hynny, nid oes gennym syniad faint o arian y byddwn yn ei gael. Felly, byddwch yn ymwybodol o'r cyfarfodydd pedairochrog sydd gennyf—bydd gennym ni un ddydd Llun yng Nghaeredin—rydym yn parhau i estyn gwahoddiad i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ddod yno; yn anffodus, nid yw wedi gallu gwneud hynny hyd yma. Ond mae'n rhaid i hyn fod yn eitem sefydlog gan fod angen inni wybod beth fydd gennym o 2022 ymlaen. Ond bydd yr arian hwnnw ar gael. Er nad wyf i ond wedi nodi'r hyn fydd yn digwydd tan 2020, bydd y swm hwnnw o arian ar gael tan 2022. Ond mae angen inni edrych wedyn, yn amlwg, ar sut y byddwn ni'n cefnogi ein ffermwyr a'n rheolwyr tir.

Mae'n golygu gwneud ein sector amaethyddol mor gydnerth â phosibl ar gyfer yr hyn a ddaw. Un o'r pethau yr ydym wedi'u gwneud—fe'i gwnaethom gyda'r sector llaeth y llynedd—roedd gennym rywfaint o gyllid Ewropeaidd yr oeddem yn arfer ei feincnodi fel y gallai ffermwyr llaeth weld sut pa mor gydnerth yr oedden nhw ac ym mhle yr oedd yr angen iddyn nhw wella. Byddwn yn awyddus iawn—rwy'n awyddus iawn—i wneud hynny ar gyfer defaid a chig eidion hefyd, ac rwy'n ceisio dod o hyd i rywfaint o gyllid i wneud hynny. Felly, dyna'r mathau o bethau y byddwn yn eu gwneud i roi cymorth.

Roeddech chi'n sôn am adroddiad 'Dyfodol rheoli tir yng Nghymru' gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Roedd rhai argymhellion diddorol ynddo, y mae fy swyddogion a minnau wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd. Eto, roedd rhai argymhellion nad oedden nhw mewn gwirionedd yn perthyn i bolisi rheoli tir yn benodol, ond roeddwn i o'r farn bod yr adroddiad yn dda iawn yn wir.

O ran rheoliad, soniais mai ein cyfle ni yw hwn mewn gwirionedd—mae'n gyfle mawr—i edrych ar yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael inni ar gyfer cyfundrefn reoleiddio'r dyfodol. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys rheoliad, yn cynnwys buddsoddiadau, a bydd hefyd yn cynnwys triniaethau gwirfoddol. Eto, mae angen inni edrych i weld i bwy y byddan nhw'n berthnasol. Byddant yn berthnasol i'r holl reolwyr tir, mae'n amlwg, ond mae angen inni edrych ar hynny wrth inni fwrw ymlaen. Mae rheoliadau cyfredol mewn grym o hyd sydd yn rhaid cydymffurfio â nhw, a chredaf fod pawb yn cydnabod hynny.

O ran deddfwriaeth, rwyf bob amser wedi egluro'n fanwl y byddai gennym ein polisi amaethyddol ein hunain i Gymru, ond soniais fy mod yn cadw'r holl ddewisiadau yn agored o ran Bil Amaethyddiaeth y DU. Yn anffodus, ni chawsom ddrafft, ac roeddem wedi gobeithio ei gael erbyn hyn, ond ni chafodd ei rannu. Felly, byddwn yn gofyn unwaith eto ddydd Llun.

Mae'r gweithlu yn hynod bwysig, oherwydd rwy'n siŵr eich bod chi, fel minnau, wedi cael gwybod bod llawer o wladolion yr UE yn gweithio yn y sector ac mae pryder enfawr, nid yn unig ymysg y rheolwyr tir a'r ffermwyr, ond hefyd y ffatrïoedd prosesu. Felly, sgwrs yw honno yr wyf i'n ei chael ac y mae cyd-Weinidogion eraill yn ei chael hefyd mewn cysylltiad â thrafodaethau Brexit. Ond mae'n destun pryder mawr iawn.

Cytunaf yn llwyr â chi, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi'r hyn a ddywedais am gymunedau a'r iaith Gymraeg a pha mor bwysig—. Yr iaith Gymraeg oddi mewn i amaethyddiaeth—fe'i defnyddir yn amlach nag yn unrhyw sector arall, yn y sector amaethyddol. A gwers arall a ddysgais yn Seland Newydd oedd, pan welson nhw ymyl y dibyn yno a'r newid enfawr yn eu ffordd o fyw yn Seland Newydd yn ôl ym 1984, collwyd llawer o'r cymunedau gan fod y ffermydd wedi mynd yn fwy o faint. Felly, gan hynny, gwelodd y cymunedau newid anferthol, ac rwy'n awyddus iawn na fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru.

17:10

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Roedd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r datganiad yma’n cael eu codi yn sioe Nefyn ddoe. Nid oes yn y datganiad yr atebion i gyd, ond o leiaf gall pobl edrych ymlaen at haf arall o ymgynghori dros y manylion yma.

Nawr, wrth gwrs, cyn belled ag y mae Plaid Cymru yn y cwestiwn, byddwch chi’n ymwybodol ein bod ni’n anghytuno yn sylfaenol â’r cytundeb sydd gyda chi rhwng y Llywodraeth fan hyn a’r Llywodraeth yn San Steffan, a’r ffaith bod cymaint o’r pwerau sydd yn dod ac yn llifo o’r Undeb Ewropeaidd bellach wedi cael eu rhoi o’r neilltu, neu i gadw yn y rhewgell, beth bynnag yw’r disgrifiad rydych chi am ei wneud ohono fe. Mae’n anodd, felly, cyfallu’r hyn sydd gyda chi yn eich datganiad ynglŷn â’r ffaith eich bod chi’n dweud bod achos datganoli yn gryfach nac erioed, eich bod yn dweud bod datganoli yn rhoi 

rheolaeth arwyddocaol ar ein polisïau a'n gweithredoedd'

pan, i bob pwrpas, rŷch chi wedi ildio’r rheolaeth yna i benderfyniadau sy’n cael eu cymryd, yn gyntaf, gan y Llywodraeth yn San Steffan, ac, yn ail, yn cael eu harwain gan Lywodraeth San Steffan, ac nid drwy'r broses rŷm ni wedi bod yn ei thrafod fan hyn ac sydd wedi cael ei gosod allan yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—o gydweithio fel cyd-Aelodau o'r un statws fel Llywodraethau yn y wlad yma. Felly, a gaf i ofyn cwestiynau i chi ar sut yn union y mae hyn nawr yn mynd i weithio yn ymarferol?

Rŷch chi wedi gosod allan eich pum egwyddor yn yr adroddiad yma ac yn yr adroddiad y gwnaethoch chi ym mis Mawrth yn ogystal. A ydych chi wedi trafod y pum egwyddor yma gyda George Eustice, gyda Michael Gove? A ydych chi wedi cael sicrhad ganddyn nhw y bydd modd gweithredu ar sail yr egwyddorion hyn yma yng Nghymru, o ystyried bod y cynsail deddfwriaethol rŷch chi’n ei ystyried yn cynnwys naill ai Bil amaeth yn San Steffan neu Fil amaeth penodol yn fan hyn? Gan ein bod ni, bellach, yn gwybod bod Llywodraeth San Steffan â’r llaw uchaf ym meysydd mor amrywiol â GMOs, ffermio organig, taliadau fferm a chaffael cyhoeddus—sydd mor bwysig ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru—a hefyd labelu bwyd o Gymru, pa sicrwydd ydych chi wedi'i dderbyn gan Lywodraeth San Steffan na fyddan nhw’n mynnu eu dulliau nhw o fynd i’r afael â’r problemau hyn, yn hytrach na gwrando ar yr ymgynghoriad a’r ffordd gwaelod i fyny rydych chi wedi'i disgrifio wrthym ni heddiw?

Wrth sôn am yr arian sydd yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, rwy’n sylwi—ac mae wedi cael ei grybwyll eisoes, rwy’n meddwl—eich bod chi dim ond wedi rhoi addewid tan ddiwedd y flwyddyn ariannol 2019. Wrth gwrs, mae’r Trysorlys wedi’i wneud yn glir y bydd y cyfanswm yn dal ar gael tan 2022. Pan fuodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i fyny yn Llundain yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gwrdd wyneb yn wyneb gyda Michael Gove a threulio awr gyda George Eustice, yn trafod gyda nhw’r angen i sicrhau’r arian yma. Roedd hi’n ddigon clir i fi y byddan nhw’n cadw’r arian hyd at 2022, ond, wrth gwrs, ar ôl hynny, mae’n mynd i mewn i’r adolygiad cynhwysfawr gwariant—y comprehensive spending review. Felly, mae natur y peth yn newid ar ôl hynny. Ond, tan hynny, bydd Cymru yn dal i dderbyn yr un swm, felly pam nad ŷch chi’n gallu addo heddiw y bydd hynny yn cael ei glustnodi yn llwyr tan o leiaf yr etholiad Cynulliad nesaf, yn hytrach na fesul blwyddyn, fel rŷch chi wedi ei roi mewn dogn y prynhawn yma?

Wrth drafod yr arian yna, mae’n amlwg eich bod chi am gadw rhyw fath o siâp ar biler 1 a philer 2, yn y datganiad sydd gennych chi: y gwahaniaeth rhwng y daioni cyhoeddus a’r taliadau economaidd. Ond, ar yr un pryd, rŷch chi’n dweud yn eich datganiad nad yw'r taliad fferm sengl bresennol yn ffordd dda o roi’r gefnogaeth economaidd yna. Nawr, mae adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi gwneud un argymhelliad—y dylech chi o leiaf ymateb iddo fe, rwy’n gobeithio, y prynhawn yma—na ddylid cael un piler a dau biler, ond yn hytrach uno’r ffrwd gyllidol nes eich bod chi, fesul cam yn y ffrwd yna, yn mesur y daioni cyhoeddus, yn mesur y gwerth economaidd, ymlaen at, efallai, rhywbeth o werth uwch. Rŷch chi newydd sôn am brosiect ym Mhennal a phrosiectau eraill sydd i gael yng Nghymru; pam nad ŷch chi ddim wedi ystyried yr argymhellion hynny? Pam ydych chi am gadw’r gwahaniaeth braidd yn artiffisial yma rhwng piler 1 a philer 2 yn y ffordd newydd o fynd o gwmpas cyllido yng Nghymru?

Felly, er ein bod ni’n croesawu’r ffaith eich bod chi’n trafod y materion hyn yn gyhoeddus yng Nghymru, a bod cyfle, nawr, i’r ffermwyr a’r undebau a phawb sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r sgwrs yma, mae Plaid Cymru yn dal o’r farn ein bod ni wedi colli grym yn ystod y pythefnos diwethaf, a bod rhai o’r pethau rydych chi’n sôn amdanyn nhw yn y datganiad yma yn mynd i fod bron yn amhosib i’w cyrraedd, oherwydd na fydd dymuniad gan Lywodraeth San Steffan i'w gweld nhw’n cael eu gwirioneddu. Nid, bellach, Plaid Cymru yw’r unig rai sy’n dweud hynny. Rydw i’n gweld heddiw bod y cyn-Aelodau Seneddol Gwynoro Jones ac Elystan Morgan wedi ymuno gyda ni yn eu beirniadaeth nhw o’r cytundeb rhynglywodraethol yma. Mae geiriau teg yn y datganiad heddiw, ond rydw i’n ofni mai geiriau gau y byddan nhw ar ddiwedd y dydd.

17:15

Diolch, Simon Thomas. Rwy'n derbyn yn llwyr eich barn chi am y Bil i ymadael â'r UE. Nid wyf yn cytuno â chi, ac mae'n amlwg fod sylwadau Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fel ei gilydd wedi'u gwyntyllu'n ddigon aml. Roeddech yn gofyn a ydwyf i wedi trafod y bum egwyddor gyda Michael Gove a George Eustice—nac ydwyf, ddim yn benodol. Er hynny, byddwn ni yn cyfarfod, fel y dywedais, bob mis, bob chwe wythnos mewn cyfarfodydd pedairochrog, ac maen nhw'n ymwybodol iawn, ac yn cytuno, y byddwn ni'n cyflwyno polisi amaethyddol i Gymru. Soniais yn fy natganiad fy mod yn cadw fy newisiadau yn agored o ran Bil amaethyddol y DU. Ond eto, hyd nes y gwelwn hyd yn oed Fil drafft, ni chredaf y gallwn ddweud yn union beth fyddwn yn ei wneud o ran deddfwriaeth.

Rwy'n gobeithio ichi glywed fy ateb i Paul Davies o ran y cyllid. Rydych chi yn llygad eich lle; mae'r Trysorlys wedi dweud y bydd y cyllid yno tan 2022. Rwyf wedi ymrwymo i gadw at y cynllun taliad sylfaenol tan ddiwedd 2019. Eto i gyd, rwy'n mynd ar fy llw y bydd y cyllid hwnnw—ac mae Prif Weinidog Cymru wedi gwneud hynny hefyd— yn cael ei ddyrannu'n benodol i'r sector amaethyddol a'n rheolwyr tir ac ati tan 2022, ac yn sicr—eto, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen—tan ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Ond bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad hefyd. Mae gennym tua 25,000 o fusnesau fferm yng Nghymru, ac mae'n debyg nad yw 10,000 ohonyn nhw'n cael unrhyw gynllun taliad sylfaenol o gwbl. Felly, mae angen inni edrych ar sut y byddwn ni'n dosbarthu'r arian hwnnw, ac, fel y dywedais, bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad.

Soniais am yr adroddiad gan eich pwyllgor, ac rydym yn ystyried yr argymhellion i gyd. Nid yw hynny oherwydd nad ydym yn cymryd unrhyw fath benodol—. Ac, yn amlwg, byddaf yn cyflwyno'r ymateb. Ein ffermwyr sydd i benderfynu yn gyfan gwbl sut y maen nhw am ddefnyddio eu tir, a sut maen nhw'n cael y gorau o'u tir. Y nhw yw'r rhai sy'n gallu dweud wrthyf i sut y maen nhw'n teimlo am hynny, ond yna Llywodraeth Cymru sydd â'r gallu i hwyluso hynny. Yn sicr, un o'r pethau yr wyf yn eu clywed gan y ffermwyr yw eu hawydd i arallgyfeirio. Soniais, eto, am y cynllun ynni dŵr, ac ati, ac rwyf eisiau gallu bod mewn sefyllfa i'w helpu. Credaf fod hwn yn gyfle mawr i fireinio ein polisi, ac rwy'n ofni nad wyf yn rhannu'r ofnau sydd gennych chi o ran y pwerau.

17:20

Diolch ichi, Llywydd. Mae bob amser yn bleser i gael fy ngalw gennych chi.

Rwy'n gobeithio y bydd yn dod â llawenydd i galon Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedaf y gallwn i fod wedi ysgrifennu'r datganiad hwn fy hunan, oherwydd fy mod yn cytuno â phob un gair ohono. Credaf ei fod yn ddatganiad ymarferol, optimistaidd a blaengar. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod, yn ystod y cam cynnar hwn, nad yw hi'n gallu roi llawer o fanylion am sut y bydd polisi amaethyddol yn cael ei ddiwygio yng Nghymru, ond roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud ei fod yn gyfle i ailystyried y corff cyfan o reoliadau a etifeddwyd oddi wrth genedlaethau blaenorol. Mae'n rhaid mai hwnnw yw'r polisi iawn—edrych ar bopeth sydd ar waith ar hyn o bryd, fel bod gennym gyfle i newid, pe byddai hynny'n fuddiol i'r ffermwyr ac, yn wir, i'r cyhoedd. Gyda gobaith, bydd hi'n cytuno â mi y dylid seilio ein rheoleiddio yn y dyfodol yn gadarn ar sail gwyddoniaeth ac na ddylem osod costau enfawr ar y diwydiant amaethyddol oherwydd rhyw fanteision ymylol i gymdeithas yn gyffredinol. Felly, rwy'n credu, yn fanwl, y byddwn yn gallu gwneud nifer o newidiadau sylweddol na fyddant yn peryglu buddiannau amgylcheddol, er enghraifft, ar y naill law, drwy wella amgylchiadau economaidd y ffermwyr.

Roeddwn yn falch iawn o weld hefyd ei bod yn dweud nad y cynllun taliad sylfaenol yw'r dull gorau o sicrhau diogelwch i ffermydd. Mae'n sicr yn wir fod effaith y cynllun taliad sylfaenol wedi cynyddu pris tir yn sylweddol, yn hytrach na gwella incwm y ffermwyr. Mae incwm ffermydd, yn gyffredinol, yn isel iawn, iawn o hyd ac mae angen inni wneud cymaint ag y gallwn i wneud incwm ffermwyr yn fwy sicr ac, yn wir, i'w godi yn y dyfodol. Mae'n rhaid ei bod yn iawn dweud y bydd cymorth ar gyfer amaethyddiaeth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus sy'n cyflenwi ar gyfer holl bobl Cymru.

Rwy'n credu yn bersonol, o'r hyn yr wyf yn ei ddarllen a'r hyn y mae Michael Gove a George Eustice yn ei ddweud, nad oes llawer o anghytundeb rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn dymuno ei gyflawni. Mae hwn yn gyfle gwych inni gael polisi amaethyddol Prydeinig, ac yn wir, i Gymru sy'n fwy addas i amgylchiadau neilltuol ein gwlad ein hunain. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y cyfuniad unigryw o amgylchiadau sydd gennym i lunio polisi amaethyddol ar gyfer Cymru, sydd â chyfran uchel o ffermydd yn yr ucheldir, er enghraifft, ac sy'n fwy dibynnol ar ffermio defaid, ac yn y blaen. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn gallu dod yn ôl atom, yn fuan, gydag ychydig mwy o gnawd ar esgyrn y polisi amaethyddol hwn, ond yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r egwyddorion sydd yn mynd i fod yn sail iddo.

Un o'r cyfleoedd a gafwyd, hyd yn oed gyda'r cynllun rheoleiddio presennol, yw dangos bod modd inni allu cael polisi gwahanol yng Nghymru. Rwyf wedi dyfynnu cyn heddiw o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a'r ffaith ein bod yn gallu torri gwrychoedd yng Nghymru ym mis Awst, ond na allan nhw ddim yn Lloegr; mae'n rhaid iddyn nhw aros tan fis Medi. Credaf fod ein polisi ni yn well na'r polisi yn Lloegr, ac efallai fod ffyrdd eraill y gall Cymru arwain gweddill y Deyrnas Unedig drwy esiampl yn y modd y bydd ein polisi amaethyddol ar gyfer y dyfodol yn cael ei lunio.

Rwyf i o'r farn y bydd marchnata wrth galon ffyniant i'r dyfodol ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Tybed a wnewch chi roi unrhyw wybodaeth bellach inni ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo brand ar gyfer sector amaethyddol Cymru fel ffordd o sicrhau buddiannau'r diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â buddiannau'r ffermwyr, ar ôl Brexit. Mae'n rhaid ei bod yn synhwyrol i wlad orllewinol ddatblygedig fel y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar gynhyrchu nid yn unig ddeunyddiau crai ond y cynhyrchion gwerth uchel y byddai ddefnyddwyr mwy cefnog ledled y byd yn dymuno eu prynu. Wrth rasio tua'r gwaelod nid oes dim i'w ennill o ran cystadleuaeth prisiau. Gwella'r ansawdd fyddai'r ffordd orau ymlaen, yn fy nhyb i.

Roeddwn yn falch o'i chlywed yn sôn am Seland Newydd hefyd—gwlad yr wyf yn ei hadnabod yn lled dda. Cofiaf yn dda siarad â Gweinidogion Llafur yn Seland Newydd yn yr 1980au, a oedd wedi cyflwyno dros nos gamau i ddiddymu diogelwch amaethyddol, cymorthdaliadau a'r gyfundrefn reoleiddiol gyfan. Un o baradocsau'r 1980au yw mai Llywodraeth Lafur Seland Newydd, o dan y Blaid Lafur, a wnaeth hynny a'i bod yn fwy Thatcheraidd na Llywodraeth Thatcher yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n wir fod anawsterau difrifol iawn wedi bod, yn ystod y cyfnod trosiannol. Serch hynny, fe wnaeth Llywodraeth Seland Newydd leddfu'r ergyd mewn gwirionedd drwy sicrhau cyllid i ailstrwythuro ffermydd, a hefyd gyllid ar gyfer taliadau lles cymdeithasol ac ati yn y cyfamser, ond mae'n wir y bu newidiadau enfawr yn y diwydiant. Gwelwyd gostyngiad o 60 y cant ym mhris tir a gostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o wrtaith. Felly cafwyd gwelliannau sylweddol i fioamrywiaeth o ganlyniad i'r diwygiadau eithaf dramatig hynny, ac erbyn hyn mae amaethyddiaeth mewn gwirionedd yn fwy, fel cyfran o economi fwy o faint heddiw, nag yr oedd 30 mlynedd yn ôl.

Felly, mae cyfleoedd inni yn sgil dadreoleiddio ac, yn wir, rwy'n credu, drwy reoli a hyd yn oed dorri cymorthdaliadau, pe gallwn sicrhau bod incwm ffermydd, sef y ffactor allweddol yma, yn gallu cynyddu. Does dim pwynt rhoi cymhorthdal yn ddireswm. Yr hyn yr ydym yn ei ddymuno yw diwydiant amaethyddol ffyniannus a ffermwyr llewyrchus. Pe gellid gwneud hynny ar lai o gost i'r trethdalwr, dichon y byddai hynny er lles pawb.

17:25

Diolch ichi, Neil Hamilton, am y cyfraniad hwnnw. Yn wir, rwy'n credu imi ddweud wrthych pan ddaethoch i'r Siambr hon fy mod yn ceisio bod yn optimistaidd a chwilio am gyfleoedd, a chredaf fod hwn yn gyfle enfawr i ni nawr.

Rwy'n benderfynol y bydd yr ymgynghoriad yn ystyrlon, felly nid oes gennyf unrhyw syniadau sefydlog. Roeddwn yn sôn ein bod wedi gweld llawer o is-grwpiau yn deillio o'r grŵp bord gron gweinidogol ar Brexit, sydd wedi cyflwyno papur masnach, er enghraifft, ac mae eu barn yn bwysig iawn i mi. Un o'r pethau y maen nhw wedi'i ddweud wrthyf i, o'r cychwyn cyntaf, yw nad yw'r sefyllfa gyfredol yn opsiwn, a bod y PAC yn cynnwys rheolau sy'n wrthnysig, a bod hynny yn atal cyflenwad nwyddau cyhoeddus. Er bod y cynllun taliad sylfaenol yn rhoi cymorth pwysig—wrth gwrs ei fod—i lawer o'n ffermwyr, ni fyddai yn eu helpu i wrthsefyll y newidiadau y maen nhw'n sylweddoli fyddai'n dod yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â rheoliad. Mae'n rhaid gwneud hynny pan fo gennym dystiolaeth wyddonol, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn eich bod wedi dweud hynny. Rwyf wedi egluro na ddylai safonau amgylcheddol ostwng, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud, mewn atebion blaenorol, mai un o'r pethau yr wyf yn dymuno'u gwneud yw helpu ffermwyr a rheolwyr tir i fod yn llawer mwy cydnerth i allu gwrthsefyll yr anawsterau sy'n mynd i ddod. Rwy'n credu, hyd yn oed cyn Brexit, fod yr achos dros newid yn gryf, ac rwy'n credu ar ôl Brexit, fod diwygio yn gwbl anochel, a chredaf fod hynny'n hysbys.

Nid wyf i'n credu bod y polisi sydd gennym ar hyn o bryd yn paratoi ein ffermwyr ar gyfer newid yn y tymor hir. Nid yw'r cymorthdaliadau a delir i ffermwyr defaid, yn enwedig, yn ddigon i gadw'r rhan fwyaf ohonynt i ddal ati pan fo hynny'n cyd-fynd â gostyngiad mewn prisiau. Mae pris cig oen yn uchel iawn ar hyn o bryd. Roeddwn yn siarad â ffermwr yr wythnos diwethaf a dywedodd wrthyf ei fod yn cael £30 eleni yn fwy na'r llynedd, yn amlwg oherwydd gwerth y bunt, ac nid yw honno'n duedd a fydd yn parhau, ac nid wyf i'n dymuno iddyn nhw adeiladu eu tŷ ar y tywod.

Roeddech yn sôn nad oeddech o'r farn bod llawer o wahaniaeth rhyngom ni a Lloegr. Rwy'n credu y byddai pob un o bedair gwlad y DU yn dweud bod gennym ni bolisïau amaethyddol sy'n wahanol iawn, ond gallaf eich sicrhau na fydd yna bolisi amaethyddol ar gyfer Prydain. Bydd gan bob gwlad ei pholisi ei hun.

Roeddech yn sôn am Seland Newydd, ac roedd yn dda iawn siarad â Gweinidogion Llafur unwaith eto. Wrth gwrs, Llywodraeth glymblaid a ddaeth i rym fis Tachwedd diwethaf sydd yno. Yn sicr, roedd y ffermwyr y siaradais i â nhw—bûm yn ymweld â rhai ffermydd a siaradais â'r sector ac agweddau eraill ar y sector, ac roeddent yn dweud, wrth gwrs, ei bod yn boenus ofnadwy. A'r wers y bydden nhw'n hoffi i mi ei chofio oedd bod yn rhaid ichi gael cyfnod pontio dros sawl blwyddyn yn hytrach na mynd dros y dibyn, ac yn ddiddorol iawn, er eu bod wedi gweld caledi anhygoel a llawer o boen, a barodd am flynyddoedd lawer, ni fydden nhw'n dymuno mynd yn ôl i'r hen drefn. Ni fydden nhw'n barod i fynd yn ôl i'r hen system a oedd yno, ac roedd hynny, yn sicr, yn rhywbeth y byddaf i'n ei gofio.

17:30

Roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud ei bod yn rhaid i'r cymorth ar gyfer cynhyrchu bwyd beidio â thanseilio ein hamgylchedd naturiol, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. O gofio bod nifer y rywogaethau ledled Ewrop yn disgyn yn enbyd, mae'n achos pryder mawr i bawb ohonom nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin yn amlwg wedi llwyddo i atal niferoedd yr anifeiliaid gwyllt rhag cael eu dileu mewn llawer o achosion. Felly, gwn ei fod yn rhywbeth, yn y Siambr hon, yr ydym yn gryf ein barn yn ei gylch, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid inni sicrhau bod ffermio yn digwydd heb achosi dirywiad amgylcheddol. Yn wir, mae angen inni adeiladu ar y niferoedd sydd wedi'u colli.

A gaf i ofyn, yng ngoleuni'r amgylchiadau newydd, pa gefnogaeth a roddir i arddwriaeth, oherwydd mae'r rhan fwyaf o arddwriaeth yn cael ei gynhyrchu ar lai nag 8 hectar, ac felly nid yw'n gymwys ar gyfer y PAC. O gofio bod rhai o'r Taliban Torïaidd yn dymuno ein tynnu ni allan o'r Undeb Tollau, mae'n amlwg y bydd hynny'n ei gwneud yn fwy anodd inni fewnforio ffrwythau a llysiau pe bai hynny'n digwydd. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall ychydig mwy am yr hyn y gallasem ei wneud i dyfu'r math o lysiau nad oes angen eu cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol, fel tatws. Mae ffresni, lleoliad a'r tymhorau yn hynod bwysig. Nid yw unrhyw un eisiau bwyta letysen lipa. Cofiaf fod Gareth Wyn Jones wedi cael anhawster i ddod o hyd i ffynhonnell o lysiau o fewn 50 milltir i ysgol yng Ngorllewin Caerdydd, pan oedd yn ceisio datblygu pryd o fwyd i blant ar y sail honno.

Gwn fod y rhaglen LEADER wedi cynhyrchu llawer o gynlluniau garddwriaethol gwirioneddol ardderchog. Mae busnesau lleol wedi bod yn awyddus iawn i brynu cynnyrch lleol ar gyfer eu caffis, eu bwytai a'u tafarndai. Gwyddom y gall twnelau polythen ymestyn y tymor tyfu a'r amrywiaeth o gynnyrch y gallwn ni ei dyfu yn y Cymoedd. Mae angen inni gael mwy o goed ffrwythau, os gwelwch yn dda. Gellir tyfu llawer o goed ffrwythau yn yr hinsoddau llymaf. Meddyliwch am afal Enlli a'r eirin duon a dyfwyd yn hanesyddol ar gyfer eu lliw. Felly, byddwn yn awyddus iawn i glywed ychydig mwy am sut yr ydych chi'n credu y gallwn sicrhau hynny er lles ein cenedl, yn ogystal â chyfoethogi ein diwylliant bwyd lleol yr oedd yr adroddiad ar reoli tir yn sôn amdanynt.

Diolch ichi, Jenny Rathbone, am y pwyntiau yna. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am arddwriaeth, ac roeddwn i'n crybwyll mewn ateb ynghynt bod yna 10,000 o ffermydd nad ydyn nhw'n derbyn unrhyw arian dan gynllun y taliad sylfaenol, ac rwy'n siŵr y bydd rhai ohonyn nhw'n gynwysedig o ran garddwriaeth. Felly, unwaith eto, rwy'n mynd yn ôl: mae gennym ni'r darn gwag o bapur hwnnw ar hyn o bryd, a gallwn wneud yn siŵr ein bod yn edrych am ffordd o'u cynnwys, yn amlwg, yn y cyllid.

Mae lleihau milltiroedd bwyd yn bwysig iawn yn fy ngolwg i, a chredaf eich bod yn llygad eich lle am ysgolion, er enghraifft, sy'n ceisio dod o hyd i ffynhonnell bwyd o fewn eu hardal. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet am y gwasanaeth caffael cenedlaethol a gwella cyfleoedd ar gyfer defnyddio cynnyrch bwyd a diod Cymru, ac, unwaith eto, credaf fod hwnnw'n gyfle mawr iawn yma. Mae gennym fforwm categori bwyd sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bob cyflenwr gystadlu am dendrau, er enghraifft. Felly, rwy'n awyddus i weld ysgolion ac agweddau eraill ar y sector cyhoeddus yn gallu gwneud hynny.

Mae bwyd a diod yn bwysig iawn—rwy'n sylweddoli nad atebais gwestiynau Neil Hamilton am fwyd a diod. Mae gennym sector bwyd a diod gwych yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol o'n targed i gynyddu trosiant i £7 biliwn erbyn 2020. Ar ddiwedd 2016 roeddem eisoes wedi cyrraedd £6.9 biliwn, ac rwy'n edrych am darged arall i'w osod nesaf. Felly, eto, mae angen imi wneud yn siŵr bod y cynlluniau hynny yr ydym yn eu cyflwyno dan ein polisi amaethyddol newydd yn ein galluogi ni i wneud hynny.

Hoffwn weld cynlluniau eraill. Gwn ein bod, yn flaenorol, dan y rhaglen datblygu gwledig, er enghraifft, wedi cefnogi mannau i dyfu bwyd yn gymunedol yng Nghymru, gan weithio gyda ffermydd cymunedol, gerddi cymunedol, perllannau cymunedol, ac rydych chi'n iawn, mae angen inni blannu mwy—mae angen inni blannu mwy o goed, ond yn sicr mae angen inni blannu mwy o goed ffrwythau. Felly, rwy'n dymuno edrych ar sut y gallwn ni gefnogi cynlluniau fel hyn. Hefyd, mae rhandiroedd cymunedol yn bwysig iawn, iawn i'r sector bwyd a diod. Unwaith eto, af yn f'ôl at y darn gwag o bapur hwnnw lle gallwn ddechrau o'r newydd ac y gallwn edrych ar sut i gefnogi pawb—wyddoch chi, busnesau bach a chanolig, microfusnesau bwyd. Hoffwn allu hwyluso ymgysylltiad y farchnad, nad wyf yn credu ein bod wedi gwneud digon ohono.

17:35

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddweud—[Anhyglyw.]—nid wyf i o'r farn fod yn rhaid cael tyndra rhwng amaethyddiaeth gynhyrchiol a gofal am yr amgylchedd. Felly, gallwn yn sicr gyfuno'r nwyddau cyhoeddus a'r dyheadau hyn sydd yn bwysig iawn. Yn amlwg, ceir rhai meysydd lle mae modd inni gael mwy o amrywiaeth o ran cynnyrch, ac mae garddwriaeth yn un maes diddorol iawn yn fy marn i.

Ceir rhai meysydd lle byddem yn dymuno gweld arallgyfeirio mwy radical, ond gan fynd yn ôl efallai at ein gwreiddiau, un maes y byddwn yn ei awgrymu yw coetiroedd a choedwigaeth, sydd, rwy'n credu, yn cynnig ffrwd incwm amgen i lawer o ffermwyr i gyd-fynd â'r bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Nawr, byddwch yn gwybod—mae'n ddrwg gennyf i ailadrodd y ffigurau hyn eto—ond ers 2010, nid yw Cymru ond wedi llwyddo i blannu 3,500 hectar o goetir. Dylai fod yn plannu rhywbeth fel 5,000 y flwyddyn i gyrraedd ein targed o 100,000 hectar erbyn 2030—o goetir newydd a choedwigaeth, hynny yw.

Felly, rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi, ac mae angen inni edrych eto ar hyn, yn mewn ffordd radical iawn, rwy'n credu. Ond yn fy marn i, ar ôl Brexit, bydd hyn yn rhoi enghraifft dda iawn inni o bawb ar eu hennill, ac mae elw economaidd ar goedwigaeth a choetiroedd yn sylweddol iawn pan fyddwch chi wedi aros mwy na'r cyfnod cychwynnol o 12 i 15 mlynedd pan fydd y coed yn aeddfedu. Felly, credaf y dylem yn sicr edrych ar y maes hwnnw, a chymeradwyaf adroddiad y Pwyllgor, 'Heb Gyrraedd Gwreiddyn y Mater'. Mae'n  ffynhonnell dda iawn o wybodaeth am hyn, ac mae'n gofyn inni fod ychydig yn fwy uchelgeisiol yn ein polisi coetiroedd a choedwigaeth, a gobeithio y byddaf yn gweld hynny'n dwyn ffrwyth.

Diolch ichi, David Melding. Rwy'n cytuno'n llwyr nad oes raid iddi fod y naill beth neu'r llall. Nid oes raid iddi fod yn nwyddau cyhoeddus neu gynhyrchu bwyd—gall fod y naill a'r llall fel ei gilydd, a dyna'r neges yr wyf yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwbl gytûn yn ei chylch.

Cytunaf yn llwyr â chi am blannu coed ac, yn amlwg, mae hynny nawr ym mhortffolio Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylchedd. Ond byddwch yn cofio pan ddeuthum i'r pwyllgor, fy mod wedi syrthio ar fy mai a dweud nad oeddem yn plannu digon o goed. Dylem fod yn plannu 5,000 hectar y flwyddyn os ydym eisiau cyrraedd ein targed ar gyfer 2030, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Hannah Blythyn edrych arno—sut y gallwn gael y strategaeth hon ar y trywydd iawn.

Yn sicr, mae ffermwyr a rheolwyr tir yn dweud wrthyf i bod hwn yn faes y maen nhw'n awyddus i'w helpu. Credaf fod amharodrwydd ymhlith rhai sy'n teimlo pe bydden nhw'n plannu coedwig ar eu fferm, y byddai'r tir hwnnw yn diflannu am amser maith—mae'n syniad hirdymor iawn, ac felly maen nhw'n amharod i wneud felly. Ond rwy'n credu, yn gyffredinol, fod ffermwyr a rheolwyr tir yn awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gallant ei wneud, yn arbennig o ran arallgyfeirio, y soniais amdano ynghynt.

Yn sicr, mae adroddiad y pwyllgor 'Heb Gyrraedd Gwreiddyn y Mater'—rwy'n credu, unwaith eto, y cafodd rhai argymhellion da iawn eu cyflwyno, ac, unwaith eto, mae fy swyddogion a minnau yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei ystyried. Rwy'n credu bod un neu ddau yn ymwneud â defnyddio plannu coed fel ateb naturiol i leihau'r perygl o lifogydd a dal carbon atmosfferig. Rydym yn dymuno gallu gwneud hynny o safbwynt llesiant. A chredaf hefyd fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o blannu mwy o goetiroedd, a chredaf fod hynny'n cynnwys planhigfeydd masnachol. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y gallwn ni edrych arnyn nhw i'r dyfodol.

17:40

Mae David wedi gwneud yn union beth yr oeddwn i am ei wneud, felly nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth a ddywedodd, ond rwyf yn credu y bu barn yn y gorffennol ynglŷn â chnydau a choed yn cystadlu am le. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei weld yw dull cydgysylltiedig rhwng y ddwy elfen hynny o amaethyddiaeth, ac edrych ar amaeth-goedwigaeth, lle y gellir plannu coed ochr yn ochr â'r cnydau, a byddai hynny yn ei dro yn hybu cynhyrchu a herio'r uniongrededd hwnnw, y gwnaethoch chi ei grybwyll yma heddiw.

Fe wnaethoch chi sôn, yn gwbl briodol, am y ffaith, drwy roi coed ar y tir, y gallwch chi hefyd reoli'r llifogydd sy'n digwydd yn aml iawn, ac rydym ni wedi gweld llawer iawn o dystiolaeth o hynny. Ond gall hefyd greu gwell bioamrywiaeth a chadwraeth pridd. Pan soniwn am fod yn agored i nitradau, os plannwyd coed ochr yn ochr, efallai na chewch chi'r un lefel o ddŵr ffo yn gwenwyno ein hafonydd. Felly, mae'n ymwneud â mynd ati yn llawn dychymyg, ac ni fu sôn hyd yn hyn am ddal a storio carbon, ond mae yn arwyddocaol.

Rwy'n falch eich bod yn cydnabod, Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i blannu mwy o goed. Rydym ni ar y pwyllgor, ac eraill yma, yn edrych ymlaen at weld egin gwyrdd hynny. A, gan fod David wedi dweud y rhan fwyaf o'r pethau yr oeddwn i'n mynd i'w dweud, dof i ben gyda hynny. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwyf yn credu, fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nad yw rhai ffermwyr yn dymuno plannu coed ar eu tir oherwydd eu bod yn gofidio am ei golli pan fydd ei angen arnyn nhw efallai ar gyfer cnydau. Ond rwy'n credu eu bod yn dechrau meddwl amdano erbyn hyn yn fwy o safbwynt arallgyfeirio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n gallu eu helpu a hwyluso'r broses honno wrth fynd ymlaen.

Roeddwn i'n meddwl, fel y dywedais, bod yr adroddiad yn dda iawn, ac mae yn cynnig llawer o argymhellion. Fe wnes i sôn am leihau allyriadau carbon parhaus a chynyddu faint o garbon gaiff ei ddal a'i storio fel un o'r nwyddau cyhoeddus y gallwn ei ystyried. Rwy'n credu y bydd hynny'n ein helpu yn rhan o'n hymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Mae pethau eraill yn gysylltiedig â nwyddau cyhoeddus rwy'n credu, unwaith eto, y byddai plannu mwy o goed yn helpu â nhw. Soniais am fynediad—unwaith eto, mae pobl o'r farn nad yw ffermwyr yn dymuno bod pobl ar eu tir. Wel, nid dyna fy mhrofiad i. Mae ffermwyr yn falch iawn o ddangos i'r cyhoedd beth maen nhw'n ei wneud ar eu tir, ond rwy'n credu bod tirwedd yn bwysig iawn.

Peth arall sydd wedi'i gyflwyno o drafodaethau bwrdd crwn Brexit yw bod arnynt eisiau cynyddu gallu cynefin i wrthsefyll ac ategu ein tirwedd a bioamrywiaeth yn wirioneddol—felly, mae yma gyfleoedd mawr i allu gwneud hynny.

7. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar gyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn.  

Diolch, Llywydd. Mae Cymru'n arwain y byd o ran ailgylchu. Ni yw'r gorau yn y DU, yr ail yn Ewrop, a'r trydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau a wnaed yng Nghymru. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac wedi bod â thargedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ers tro, ac wedi rhoi dirwyon os nad chyrhaeddir hynny. Rwy'n falch o'n record a lefel yr ymrwymiad i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar hyd a lled y wlad sydd wedi ein harwain at ein llwyddiant heddiw.

Ond, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Rydym ni wedi gweld newid diwylliant o ran pobl yn didoli eu gwastraff ac ailgylchu yn y cartref, ond ni chaiff yr ymddygiad hwn ei adlewyrchu pan fydd pobl yn mynd allan, hyd yn oed pan fo biniau ailgylchu ar gael. Rwyf yn glir bod angen gwella ein lefelau ailgylchu pan fyddwn ni allan. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithredu cymunedol o ran yr angen i fynd i'r afael â gwastraff plastig untro, o ganlyniad i raglen Blue Planet y BBC yn fwy na dim. Ond ymhell cyn hynny, yn ôl ym mis Ionawr 2017, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr—EPR yn fyr.

Gofynnwyd i'r ymchwilwyr werthuso amrywiaeth o ddulliau i gynyddu prosesau atal gwastraff ac ailgylchu a lleihau sbwriel. Cafwyd pwyslais ar chwe math o becynnau bwyd a diod, gan gynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae'r adroddiad crynhoi, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys cynlluniau dychwelyd blaendal, trethi neu gostau am gwpanau untro a newidiadau i'r rheoliadau EPR cyfredol. Ers comisiynu'r adroddiad hwn, bu datblygiadau ar lefel y DU, ac mewn rhai meysydd mae'n gwneud synnwyr i ni gydweithio â DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Ar hyn o bryd rwyf yn ystyried cynllun dychwelyd blaendal ledled y DU a byddaf yn cwrdd â fy nghymheiriaid o'r DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â'r mater hwn yr wythnos nesaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw gynllun ystyried risgiau a buddion y ddarpariaeth bresennol a lefelau ailgylchu ac adeiladu ar y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud eisoes yma yng Nghymru. Hefyd, rwyf i'n ystyried diwygiadau i reoliadau rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff. Bydd negeseuon o'n gweithdai rhanddeiliaid diweddar yn cyfrannu at hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i'r DU. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i ystyried treth, ardoll neu godi tâl am gwpanau diod untro i Gymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Eunomia. Mae defnydd gorfodol o gwpanau amldro a chynllun treialu posibl yn rhywbeth arall rwyf i'n ei ystyried.

Gall datblygu dulliau gweithredu ar lefel y DU gyfan fod yn llai cymhleth i ddefnyddwyr ac yn well i fusnesau, sydd wedi dweud wrthym fod yn well ganddyn nhw'r dull hwn, yn arbennig wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit. Rydym ni'n dymuno sefydlu dull cynhwysfawr, wedi'i chynllunio, hirdymor sy'n arwain at effaith hirdymor gadarnhaol. Mae astudiaeth Eunomia wedi helpu i greu darlun o'r hyn sydd orau i Gymru. Drwy adeiladu ar y gwaith hwn, caiff astudiaethau dichonoldeb eraill eu comisiynu i asesu sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar berfformiad ailgylchu trefol ac i edrych ar gyfansoddiad a ffynonellau sbwriel yng Nghymru.

Mae uwchgynhadledd Ras Hwylio Volvo yn ymweld â Chaerdydd ym mis Mehefin, a bydd yn hoelio sylw'r byd cyfan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â phlastig yng Nghymru. Fis diwethaf, cyhoeddais mai Cymru fydd y wlad Ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rwy'n gwybod y bu llawer o ddiddordeb yn y maes hwn gan yr Aelodau ac rwyf yn gweithio gydag Ail-lenwi i ddatblygu ap a gweithio gyda busnesau Cymru, elusennau a digwyddiadau mawr i helpu i glirio poteli plastig untro o Gymru, drwy osod mannau a gorsafoedd ail-lenwi ledled y wlad. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Dŵr Cymru i adeiladu brand Cymreig, a datblygu ymgyrch newid ymddygiad i helpu pobl i weld gwerth ein dŵr, a gwneud dŵr o'r tap yn ddewis cyntaf ar gyfer diod. 

Heddiw, gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb plastigau y DU WRAP. Cydweithrediad yw hwn rhwng Llywodraethau, busnesau, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol a defnyddwyr sydd wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i leihau faint o wastraff plastig a gynhyrchir yn y DU. Mae WRAP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn llunio map llwybr ailgylchu plastigau i Gymru. Bydd hyn yn argymell camau gweithredu i gynyddu'r defnydd o ddeunydd ailgylchu mewn plastig a weithgynhyrchwyd yng Nghymru. Bydd y gronfa buddsoddi cyfalaf economi gylchol gwerth £6.5 miliwn ar gyfer 2019-20 yn cyfrannu at y nod hwn.

Cyhoeddais hefyd fis diwethaf £15 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen newid cydweithredol. Bydd hyn yn gwella seilwaith a systemau casglu ailgylchu awdurdodau lleol ymhellach, gan gynnwys ar gyfer plastigau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cwrdd â threfnwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru i gynyddu prosesau ailgylchu plastig a lleihau'r defnydd o blastig untro.

Ond, rwyf yn glir bod yn rhaid i ni weithredu ar ein geiriau, ac rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i'w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rydym ni eisoes yn cymryd camau sylweddol tuag at hyn. O ganlyniad i'r tâl o 25c ar gyfer defnyddio cwpanau untro, gwerthir rhyw 75 y cant o'r diodydd poeth yn ein ffreuturau mewn cwpanau amldro. Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda Gwerth Cymru.

Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn ymgynghori ar reoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a fydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau a chyrff y sector cyhoeddus wahanu'r gwahanol fathau o wastraff, yn union fel y mae aelwydydd yng Nghymru yn ei wneud ers blynyddoedd. Bydd hyn yn cyfrannu'n sylweddol at gyfraddau ailgylchu yng Nghymru, ac mae'n briodol bod y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu. 

Nid wyf yn ymddiheuro am ein balchder yn ein henw da o ran ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch yn glir i bartneriaid a'r cyhoedd fel ei gilydd: heb eich gwaith caled, eich ymrwymiad a'ch brwdfrydedd chi, ni fyddem ni lle'r ydym ni heddiw.

Llywydd, rwyf yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Ni oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig. Gallwn arwain y ffordd unwaith eto a rhoi Cymru ar y blaen yn y byd o ran ailgylchu. Diolch yn fawr.

17:50

A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adroddiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i strategaeth blastigau ehangach? Rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Rwy'n credu mai mynd ati ar lefel y DU i ymdrin â llawer o'r ysgogiadau polisi i reoli gwastraff plastig a chynyddu ailgylchu yw'r ffordd orau ymlaen yn sicr, er bod mentrau y gallwn ni eu rhoi ar waith hefyd, fel y nodwyd yn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am uchelgais newydd y Llywodraeth. Ac mae tuedd i fanwerthwyr a chynhyrchwyr ffafrio dulliau ar lefel y DU am, yn fy marn i, resymau y gallwn ni eu deall.

Os caf i droi at y cynllun dychwelyd blaendal yn gyntaf, ac mae'n ddiddorol bod hyn yn cael ei ffafrio'n eang erbyn hyn, rwy'n credu. Mae'r cyhoedd o'n blaenau ni, fel sy'n wir am lawer o'r materion hyn, ac mae'r adroddiad yn dangos y gellid cyflawni cyfradd ailgylchu o fwy na 90 y cant yn y maes hwn. Hefyd—roedd hyn yn bwysig iawn yn yr adroddiad—byddai ffurfioldeb cynllun o'r fath yn arwain at ddata o safon ar gyfraddau ailgylchu. Ond fy nghwestiwn uniongyrchol i ynghylch hyn yw: a fyddech chi'n ystyried cynllun lle byddai diwydiant wrth y llyw, er y cai ei fonitro, fel y system yn Norwy, lle mae cyfraddau ailgylchu a gofnodwyd wedi bod mor uchel â 97 y cant? Rwyf yn credu ei bod yn bwysig ein bod yn tywys diwydiant gyda ni a'i fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y term 'cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr' yn briodol, ond, wyddoch chi, maen nhw'n bartneriaid hefyd, ac rwy'n credu y gallan nhw fod yn rhan o'r ateb, yn yr un modd ag y gall manwerthwyr hefyd.

A gaf i ddweud rhywfaint am y fenter dŵr yfed a'r fenter Ail-lenwi? Rwyf yn credu bod dychymyg i hyn. Mae'n rhyfeddol yn ein diwylliant nad ydyn ni wedi cael—. Os ewch chi i'r Unol Daleithiau, rwy'n cofio pan oeddwn i'n fyfyriwr yna gyntaf yn rhyfeddu ar y ffynhonnau dŵr ym mhob man—ym mhob man—ac rwy'n credu bod gennym ni un ffynnon ddŵr yn adeilad y Cynulliad, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i, nid wyf yma i'ch cwestiynu chi. [Chwerthin.] O, mae yna ddau; mae'n ddrwg gen i. Ond mae'r math hwn o gynllun, neu annog pobl i ddefnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio a chael mannau y gallan nhw fynd iddyn nhw o amgylch y dref i'w hail-lenwi, rwy'n credu bod hynny'n ardderchog a bod hynny'n sicr yn rhan o'r ateb.

Rwyf yn credu bod angen ymyriadau ehangach ar wastraff plastig, ac fel y nodir yn yr adroddiad, dim ond chwarter o 1 y cant—mae hyn yn anhygoel o isel—o gwpanau plastig untro a gaiff eu hailgylchu, ac maen nhw'n ffynhonnell sylweddol o sbwriel. A byddwn i'n dweud yma mai cyfrifoldeb defnyddwyr yw llawer ohono—ni fyddai'r holl sbwriel hynny o ganlyniad i ddefnyddwyr, ond byddai llawer ohono. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny.

Defnyddir saith deg dau miliwn o godenni gweini sengl yng Nghymru bob blwyddyn a, Gweinidog, rwyf i mor hen fyddwch chi ddim yn cofio'r dyddiau hyn, ond pan gefais i fy magu yr oedd yn gwbl arferol i sawsiau ddod mewn poteli a photiau, ac yna yn sydyn dechreuodd yr arfer hon o godenni plastig nad oes modd eu hagor yn aml iawn lle mae'r hyn sydd tu mewn iddyn nhw yn saethu allan yn sydyn i le nad oeddech chi o reidrwydd eisiau iddo fynd. [Chwerthin.] Mae'n fyd hurt lle cawn ni ein diraddio i'r math hwnnw o amharch, felly dewch yn ôl â'r poteli sôs coch a photiau halen a phupur ac ati, dyna ddywedaf i. [Torri ar draws.] Clywais fod Dai Lloyd yn awyddus i fy nghefnogi i â'r newid hwn i'r gorffennol, fel petai.

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau helaeth drwy reoliadau a chanllawiau, fel y dywed yr adroddiad, i reoli a lleihau deunydd pacio mewn bwytai a siopau bwyd parod yng Nghymru, ac rwyf yn credu y gallai hynny fod yn faes fyddai'n werth ei ystyried. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, ond eto byddai eisiau i ni weithio gyda'r siopau. Rwyf yn gobeithio y bydd gennych rywbeth i'w ddweud ynghylch hynny yn weddol fuan.

Roeddwn i'n falch o glywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Lywodraeth Cymru yn troi ei geiriau yn weithredoedd, wrth gwrs, o ran ei defnydd o blastigau. Mae mis Gorffennaf di-blastig, wrth gwrs, bron ar ein gwarthaf. Rwy'n falch o ddweud bod 19 o bobl wedi llofnodi fy natganiad o farn i roi cydnabyddiaeth helaeth i hynny, ac rwyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd.

A gaf i gloi trwy ddweud bod yr adroddiad yn gwneud pwyntiau diddorol ynglŷn ag ansawdd data ac rwy'n credu bod angen gweithredu ar y rhain? Sylwaf yn arbennig mai cyfradd ailgylchu gwastraff solet trefol diwygiedig Cymru yw 52.2 y cant, neu 11.6 y cant yn is na'r ffigur a gyhoeddwyd. Gwn fod hyn oherwydd ffurf y cyfrifo—nid wyf i mewn unrhyw ffordd yn awgrymu unrhyw beth dan din yma—ond rwy'n credu, wrth i ni weithio tuag at ddyfodol diwastraff, bod angen data arnom ni sy'n gwbl gadarn, yn dryloyw ac y gellir ei gymharu â gwledydd eraill. Ond, yn fras, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud y prynhawn yma.

17:55

Wn i ddim a fedraf i dderbyn cwestiynau ynglŷn ag ystad y Cynulliad ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu—

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu cefnogaeth gyffredinol yr Aelod i ddatganiad heddiw ac argymhellion yr adroddiad. Rydych chi'n crybwyll y mater ehangach o ran sbwriel hefyd. Dyna pam mae edrych ar sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff ar grwydr—. Yn ogystal â mynd i'r afael â sbwriel, rydym ni hefyd mewn gwirionedd yn cynyddu ein cyfradd ailgylchu ac yn mynd i'r afael â defnyddio plastig untro, boed hynny'n boteli neu gynwysyddion diodydd. Yn fy marn i, dyna pam mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried y pethau hyn yn eu cyfanrwydd ac nid yn canolbwyntio dim ond ar—er mai plastig untro yw'r un sy'n gyffredin ac sydd yn y penawdau newyddion—un maes a dargyfeirio'r mater drwy amryfusedd i un arall. Rydych chi'n gwneud pwynt diddorol iawn am y cwpanau saws a sut y mae pethau wedi newid, ac rwy'n credu ein bod ni wedi dechrau cyrraedd ychydig o drobwynt erbyn hyn o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r pethau hyn. Wnaf i ddim sôn am enwau unrhyw siopau, ond rwyf i wedi sylwi bod rhai manwerthwyr bwyd cyflym yn dechrau defnyddio—felly fe gewch chi gwpan papur i'w lenwi o botel fawr yn hytrach na chodenni unigol.

Rydych chi'n llygad eich lle yn fy marn i o ran y dull o weithio gyda rhanddeiliaid, gyda byd busnes, oherwydd rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, ac rydym ni wedi gweld, mewn gwirionedd, nid canfyddiad y cyhoedd yn unig yn newid yn hyn o beth, ond rwy'n credu ein bod yn ei weld gan fusnesau hefyd erbyn hyn. Maen nhw'n gwybod ei fod wedi'i yrru gan ddefnyddwyr, ac rwy'n credu eich bod wedi gweld yr amrywiaeth o gyhoeddiadau gan amryw archfarchnadoedd a manwerthwyr yn dweud y byddan nhw'n newid eu hymddygiad a'u harferion. Yn bendant mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn o beth. Gallwn ddeddfu a gweithredu fel Llywodraeth, ond mae mentrau cymunedol sydd mor bwysig o ran hyrwyddo'r agenda hon, a dylai busnesau chwarae eu rhan hefyd, oherwydd holl ddiben cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yw bod cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am bethau nid dim ond ar adeg gwerthu eu cynnyrch; maen nhw hefyd yn gyfrifol am beth sy'n digwydd ar ddiwedd oes y cynnyrch, ac ailddefnyddio ar ôl hynny.

O ran system dychwelyd blaendal, o ran cynllun dan arweiniad diwydiant, o ran y manylion, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio dechrau gweithio arno gyda fy nghymheiriaid. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae hynny'n agored, yn dibynnu ar y dystiolaeth—yr alwad am dystiolaeth a'r hyn a gawn o hynny—a byddwn yn gwneud penderfyniad ar hynny ac yn gwneud y penderfyniad gorau o ran cyflawni'r buddion gorau posibl i ni yng Nghymru.

O ran dŵr ail-lenwi, disgrifiodd rhywun y cynllun heddiw yn un 'chwyldroadol', ond mae'n rhywbeth y byddech yn ei weld yn gwbl amlwg, mewn gwirionedd, y gallem ni ac y dylem ni ei wneud. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn ffenomen gymharol newydd, efallai yn y degawd diwethaf, rydym yn gweld pobl yn cerdded o gwmpas gyda photeli dŵr a chwpanau coffi. Unwaith eto, mae'n ymwneud â gweld sut y gallwn ni fanteisio ar deimladau'r cyhoedd yn awr o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny a dechrau mynd i'r afael â defnyddio plastig untro mewn gwirionedd. Felly, mae gwahanol ffyrdd o'i wneud yn ogystal ag edrych ar drethu a chynlluniau dychwelyd blaendal. Mewn gwirionedd, effaith anuniongyrchol, o bosibl, cynllun Ail-lenwi ledled y wlad yw y bydd pobl yn defnyddio llai o blastig untro hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at allu rhoi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â hynny maes o law.

A gaf i ddweud wrth David Melding, os daw i'r Ship Inn yn Aberporth, y gymuned di-blastig gyntaf yng Nghymru, bydd ei sawsiau yn cael eu gweini iddo mewn potiau bach hyfryd, nid yn y codenni bach ofnadwy yna—

Mae'n dangos bod y cyhoedd o'n blaenau ni mewn sawl ffordd yn hyn o beth ac maen nhw'n dymuno gweld newidiadau sylweddol, a gwn fod y Gweinidog, cyn iddi wneud ei datganiad heddiw, wedi bod i ymweld â'r siop bwyso yng Nghrucywel, sy'n enghraifft ardderchog—Natural Weigh—o sut y mae rhai busnesau hefyd yn ymateb i hyn. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn dweud wrth bobl beth i'w wneud; mae hyn yn ymwneud â phobl yn mynd ati eu hunain a'r Llywodraeth yn eu cwrso i geisio dal i fyny â'r pethau y gallwn ni eu gwneud yng Nghymru, ac rwy'n cytuno, yn fras, â phopeth y mae'r Gweinidog wedi'i nodi, ond mae gen i rai cwestiynau, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ynghylch sut y gallem ni gyflawni hynny, yn arbennig yng nghyd-destun ble y gorwedd pwerau bellach.

Rwy'n credu, yn gyntaf, dim ond i ddweud, fodd bynnag, bod yr adroddiad Eunomia yn eithaf radical yn ei ffordd. Mae'n cynnwys llawer o syniadau newydd, mae'n cynnwys ffeithiau a ffigurau syfrdanol. Felly, cynwysyddion diodydd: mae 40 y cant o'r sbwriel ar lawr gwlad yn gynwysyddion diodydd yn y bôn. Pe gallem ni gynyddu ein cyfradd ailgylchu, sy'n amrywio rhwng 65 a 70 y cant o ran gwahanol gynwysyddion diodydd—er mai'r rheini sy'n cyrraedd y llif ailgylchu yw'r rhain, yn hytrach na phob dim—ac os cawn ni gyfradd ailgylchu o 80 neu 90 y cant o'r cynwysyddion hyn, byddwn yn haneru—ie, haneru—y gofyniad am ddeunyddiau crai. Felly, mae ailgylchu yn ymwneud â mwy na chadw'r cylch nwyddau yn troi, os mynnwch chi, a helpu'r amgylchedd, rydych chi'n sôn am ddefnyddio llai o adnoddau yn y lle cyntaf, llai o ynni i'w cynhyrchu, rydych chi'n sôn am well economi, rydych chi'n sôn am economi ddiwastraff a'r buddion i ni yn ehangach, yr ydym ni i gyd, rwy'n credu, wedi ceisio'u cefnogi yn y Cynulliad. Felly, yn hynny o beth, croesawaf yr adroddiad yn fawr a rhai o'r syniadau ynddo.

Fy anhawster i, fel y nodwyd eisoes, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod rheoliadau gwastraff deunydd pacio a chynnyrch yn wir yn un o'r 24 maes, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd o 29 Mawrth ymlaen, a gaiff ei gadw, mewn gwirionedd, o dan y model cadw pwerau, nid datganoli, i Lywodraeth y DU. Rydym ni'n aros i weld sut y bydd hyn yn datblygu mewn gwirionedd. Gadewch i ni ddweud dim mwy na hynny am y tro. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth y DU ac Ysgrifennydd Gwladol penodol sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhai o'r syniadau hyn ar ffurf Michael Gove. Ni wn i ba mor hir y bydd yn para yno; rwy'n credu ei fod yn sicr yn ystyried mynd i rywle arall a gwneud rhywbeth arall yn y flwyddyn nesaf, ond, tra'i fod yno, mae gennym ni gyfle. Rwyf yn cytuno â sylwedd cyffredinol yr adroddiad a'r hyn y dywedodd y Gweinidog, ei bod yn well gwneud rhai o'r pethau hyn ar lefel y DU oherwydd gwaith traws-ffiniol, cydweithio, gweithio gyda'n partneriaid, nid oes gen i broblem â hynny o gwbl. Y cwestiwn yw: a oes gennym ni bwerau i fynd ar drywydd hyn os bydd Gweinidog yr amgylchedd yn newid ar lefel y DU neu os bydd newid agweddau ar lefel y DU?

Felly, mae'n rhaid i'r cwestiwn cyntaf ymwneud â chynllun dychwelyd blaendal, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ar y syniadau hyn. A ydych chi'n glir, Gweinidog, os bydd Llywodraeth y DU naill ai'n llusgo'i thraed yn hyn o beth, neu'n cynnal ymgynghoriad hir neu'n cael ei dal mewn materion Brexit neu beth bynnag y gallai fod, y gallwch chi barhau â'r cynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru? Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir y gallech chi wneud hynny, ac mae'n nodi tri dewis ar gyfer hynny: soniwyd am un gwirfoddol, dan arweiniad diwydiant; treth ar bob cynhwysydd diod, eto dan arweiniad diwydiant i raddau helaeth; neu ryw fath o ddeddfwriaeth y gellid ei chyflwyno yma yng Nghymru. Felly, a wnewch chi roi syniad o sut y tybiwch chi y gallai hynny ddatblygu?

Yn ail, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni edrych ar bob math o gynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am y penawdau: gwellt. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am drowyr a'r math hwn o beth. A oes pecyn yno y gallwn ni weithio ag ef? A oes gennych chi ryw syniad bod pecyn o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y gallwch chi weithio ag ef? Nid wyf yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ddigon uchelgeisiol, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy yma yng Nghymru. Un o'r pethau a awgrymir yn yr adroddiad yw, yn ogystal â thâl o 25c yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwpanau coffi, tâl ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru hefyd—i gyflwyno tâl o'r fath. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud pa un a yw Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud hynny ai peidio, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhywbeth y gellid ei wneud mewn modd defnyddiol yng nghyd-destun Cymru a newid ymddygiad pobl, a helpu Llywodraeth y DU, os yw'n dymuno gwneud hynny, i weithredu hynny? Ni fyddwn i'n hoffi gweld rhai o'r syniadau da hyn yn yr adroddiad hwn yn cael eu dal mewn ystyriaethau ehangach o ran camau nesaf Llywodraeth y DU, oherwydd yn fy marn i, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yma yn awr, neu o leiaf yn y chwe mis nesaf, a symud ymlaen at hynny.

Ac, wrth gwrs, yn hynny o beth, a gaf i sôn am y £0.5 miliwn yng nghytundeb y gyllideb, a oedd yn wreiddiol ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar gynlluniau dychwelyd blaendal? Mae syniadau yn yr adroddiad ynghylch sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw, ac ni fyddaf yn cychwyn dadl ynghylch sut y gellid ei ddefnyddio yn y lle hwn, ond dweud yr wyf i ein bod yn derbyn, wrth gwrs, bod dyddiau astudiaeth ddichonoldeb wedi mynd; rydym ni erbyn hyn wedi cyrraedd cyfnod ble mae modd gweithredu ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod â chi a'r Llywodraeth sut y gellid cyflawni hynny. Un o'r pethau rwy'n dal i feddwl bod gennym gyfle gwirioneddol i'w wneud yma hefyd yw cyflwyno treth plastigau, neu ardoll plastigau o ryw fath. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw gan Lywodraeth y DU, ond, unwaith eto, rwy'n mynegi fy mhryder nad ydym ni'n gweld hynny, mewn rhai ffyrdd, yn cael ei ddadelfennu. Rwy'n credu y gallwch chi ddadelfennu plastigau; maen nhw'n sicr mewn poteli dŵr yr ydym ni'n eu prynu. Ceir olion o blastig ym mhob potel ddŵr erbyn hyn, felly mae'n dangos mor chwerthinllyd yw'r sefyllfa hon. Ond mae'r syniad hwn o dreth plastigau yn rhywbeth y gallwn ni fod yn berchen arni yma. Os na fydd Llywodraeth y DU eto yn awyddus i fynd ar drywydd hynny, gadewch i ni weld hynny'n digwydd.

Ac, yn olaf, rydym ni wedi clywed o'r blaen gennych chi a Llywodraeth Cymru ynghylch sut yr hoffech chi weithio gyda phartneriaid i newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio plastigau. Rydych chi'n sôn am botensial ar gyfer caffael yn y cyswllt hwn. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llawer iawn o gyrff sy'n ymgymryd â llawer iawn o weithgareddau yng Nghymru. Mae rhywfaint o hynny'n cynnwys llawer iawn o blastig, boed hynny mewn pabell  mewn gŵyl gwrw neu rywbeth tebyg, neu ddigwyddiad neu beth bynnag. A wnewch chi ystyried sut yr ydych chi'n defnyddio eich arian wrth fynd ati i newid ymddygiad yn y digwyddiadau hyn ac yn y mathau hyn o sefydliadau hefyd er mwyn i'r cyhoedd eu hunain allu gweld eich bod chi'n arwain y ffordd?

18:05

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau niferus. Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mewn gwirionedd fe ddechreuoch chi drwy sôn am y Ship Inn yn Aberporth. Llwyddais i aros yno pan euthum i lansiad cymuned ddi-blastig Cei Newydd hefyd. Ac yr oedd yn wych i fynd i Natural Weigh yr wythnos ddiwethaf i edrych ar yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu oddi wrth eraill mewn mannau eraill, a nawr mae pobl yng Nghymru yn dod atynt i weld sut y gallan nhw ddysgu. Llwyddais i wneud yn fawr o'r ymweliad ac fe es i â fy nghynhwysydd fy hun gyda mi a phrynais siocledi hyfryd a buddsoddi mewn brwsys dannedd bambŵ. [Anhyglyw.] Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n gymeradwyaeth ai peidio.

O ran y ffeithiau a'r ffigurau yn yr adroddiad, un o'r pethau a'm tarodd yw'r 237 miliwn o gwpanau coffi sy'n cael eu gwaredu yng Nghymru bob blwyddyn, a ledled y DU, 13 biliwn o boteli plastig untro, sy'n nifer syfrdanol, ac rwy'n credu mai dim ond 7.5 biliwn o'r rheini sy'n cael eu hailgylchu. Mewn gwirionedd, y pwynt yr wyf yn sôn amdano yw'r penawdau mawr a welwn ni, ac, o ddiffyg gwell ymadrodd, maen nhw'n cyflwyno pecyn ar bacio, ac o edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, a dyna rwy'n credu fu ein sefyllfa ni erioed. Dywedais wrth fy nghyd-Aelod, David Melding nad ydym ni eisiau canolbwyntio ar un maes sy'n peri pryder, oherwydd rwy'n sylwi mai canlyniad anfwriadol hyn yw ein bod yn mynd i'r afael ag un mater ac yna darganfod bod gennym ni fater tebyg yn rhywle arall.

Un o'r pethau y mae angen inni edrych arno yn rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth yw ei bod hi'n edrych ar wahanol fathau o—beth yw plastig untro? Beth yw ei natur broblemus? Byddwn yn gobeithio o hynny—y byddwn yn gweld pan ddaw i ben ar 18 Mai—a chyfrannu iddo—. Mewn gwirionedd, nid yw ynghylch poteli plastig untro yn unig neu ynghylch dewis un mater penodol; mae a wnelo hefyd ag edrych ar y broblem yn ei chyfanrwydd, sut yr awn ni i'r afael â hynny mewn gwirionedd, i wneud y gwahaniaeth gorau yn y tymor hir, a gwneud y newid hwnnw y mae arnom ni eisiau ei wneud, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd, ond, fel y dywedoch chi, ar gyfer ein heconomi hefyd.

Roeddwn yn sicr y byddech yn crybwyll yr arian, y £500,000 ac, yn amlwg, mae rhai syniadau yn cael eu hamlinellu yn adroddiad Eunomia, ond mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddwn yn trafod ymhellach y tu hwnt i ffiniau'r ddadl hon heddiw. Gan edrych ar ymagwedd y DU o ran y cynllun dychwelyd blaendal, a hefyd ar y dreth ar blastig untro, rwyf wedi egluro o'r blaen, a gobeithio, os ydym yn dal i—. Y dreth ar blastig oedd un o'r pedwar dewis i brofi o bosib y pŵer hwnnw. Nid hwn yw'r dewis a gaiff ei ddatblygu oherwydd rydym ni wedi dewis gweithio gyda Thrysorlys y DU i geisio cael treth ar blastig untro ledled y DU. Ar hyn o bryd, mae'r trafodaethau hynny yn mynd rhagddyn nhw ac maen nhw'n gadarnhaol.

Rydym ni wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, os na fydd hyn yn bosibl yna rydym ni'n awyddus i ganfod atebion ar sail Cymru gyfan hefyd. Dyna pam yn y datganiad hwn heddiw y gwnes i grybwyll y potensial o edrych ar sut yr awn i'r afael â'r holl gwpanau coffi untro a chynwysyddion diodydd hefyd.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Credaf ein bod i gyd yn derbyn bod problem fawr ynghylch plastig yn mynd i'r môr, problem y bu gwirfoddolwyr sy'n glanhau ein traethau yn ymwybodol ohoni ers peth amser. A bellach mae'n bwynt trafod cenedlaethol mawr iawn, yn rhannol oherwydd y rhaglen deledu a grybwyllwyd gennych—y gyfres deledu Blue Planet—sy'n dangos, hyd yn oed yn yr oes aml-sianel sydd ohoni, ei bod hi'n bosib i raglen deledu gael effaith fawr drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, er, fy mod yn gwerthfawrogi hefyd yr hyn a ddywedwch chi—fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu eich adroddiad cyn i'r rhaglen deledu gael ei darlledu.

Y cwestiwn, fel arfer, yw beth yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r broblem a achosir gan blastig, ac mae'n dda o beth fod rhai syniadau penodol iawn yn cael eu trafod yma heddiw. Mae cael Cymru yn genedl ail-lenwi, yn nod da, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n ymarferol. Un awgrym ymarferol sy'n datblygu yw ein bod yn ystyried darparu mwy o ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus. Mae'r cynnig yn ymddangos i mi yn debyg i syniad arall yr ydym ni wedi ei drafod yma'n achlysurol sef y syniad o gadw mwy o doiledau cyhoeddus yn agored, syniad y buom yn ei drafod yn helaeth yn ystod dadleuon Bil iechyd y cyhoedd y llynedd. Efallai mai'r broblem, i raddau helaeth yw cost, oherwydd roedd gennym ni fwy o ffynhonnau cyhoeddus ar un adeg. Roedd gennym ni lawer mwy o doiledau cyhoeddus, ond ni ddefnyddir llawer bellach oherwydd y gost o'u cynnal. Gwyddom ei bod hi'n gostus iawn i gynghorau ddarparu'r mathau hyn o gyfleusterau, felly, o ran darparu ffynhonnau cyhoeddus, a fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid parhaus i gynghorau i helpu gyda'r math hwn o wasanaeth?

Mater sy'n gysylltiedig â hyn yw y byddai angen i ffynhonnau gael eu cynnal a'u cadw'n dda er mwyn i'r cyhoedd weld eu bod yn ffynhonnau glanwaith a hylan neu fel arall ni fyddai neb yn eu defnyddio. Ar y llaw arall gallai busnesau ddarparu peiriannau dŵr yn eu hadeiladau. Unwaith eto, mae hyn yn gysylltiedig i raddau â'r trafodaethau ynghylch toiledau cyhoeddus, oherwydd cafwyd cynlluniau ble rhoddwyd cymorth ariannol i dafarndai a chaffis i ddarparu toiledau cyhoeddus cofrestredig—mewn geiriau eraill, i ganiatáu pobl i ddod i mewn a defnyddio'r cyfleusterau hyd yn oed os nad oeddynt yn prynu unrhyw fwyd neu ddiod. Felly, tybed a ellid gwneud rhywbeth tebyg gyda pheiriannau cyflenwi dŵr a tybed ai dyma'r math o gynllun y byddech yn ei ystyried wrth i chi ddatblygu'ch cynlluniau ar gyfer y Genedl Ail-lenwi.

Rydych hefyd yn sôn am agweddau eraill, megis deunydd pacio bwyd, sy'n fater pwysig arall, ac rwy'n tueddu i gytuno â Simon Thomas: mae llawer o bobl yn siarad am hyn, a pham mae archfarchnadoedd yn rhoi cymaint o ddeunydd pacio o amgylch pethau? 'Dyw pobl mewn gwirionedd ddim eisiau'r holl becynnu. Mae'n cymryd amser i'w rwygo, ac weithiau gallwch dorri'ch llaw. Rwy'n cael problemau tebyg gyda chodennau bychain ag y mae David Melding yn tueddu i'w cael. Nawr, mae gan y rhan fwyaf o drefi broblemau yn ymwneud â gwastraff o amgylch siopau bwyd cyflym gyda'r nos a'r cynwysyddion a deflir o'r neilltu. Wel, pe baem yn defnyddio rheolau safonau masnachu, fe allem ni orfodi busnesau i ddefnyddio cynwysyddion pydradwy, a fyddai'n well, felly credaf fod ffafrio deunydd pacio pydradwy yn syniad da.

Ond tybed a fyddech chi'n ystyried hancesi gwlyb, oherwydd mae tystiolaeth ddiweddar yn honni fod 93 y cant o dalpiau saim sy'n blocio'r systemau trin carthion yn cael eu hachosi gan hancesi gwlyb sy'n cael eu golchi i lawr y tŷ bach. Y broblem fawr yw bod llawer o labeli hancesi gwlyb yn honni eu bod yn addas i'w taflu i'r tŷ bach. Wel efallai eu bod yn cael eu golchi i lawr y tŷ bach yn iawn, ond mewn gwirionedd mae llawer ohonynt yn rhwystro'r pibellau carthion, felly mae'r rhai sy'n prynu'r cynhyrchion hyn yn cael eu camarwain. Felly, tybed allwn ni wneud rhywbeth a defnyddio Safonau Masnach i newid y ffordd y mae'r hancesi gwlyb ffug hyn yr honnir eu bod yn addas i'w taflu i'r tŷ bach yn cael eu labelu. Diolch yn fawr.

18:10

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. [Anhyglyw.] Wrth sôn am y cynigion ynglŷn â bod yn genedl ail-lenwi a'r defnydd o ffynhonnau dŵr. Credaf eich bod yn iawn i ddweud fod gan fater y ffynhonnau dŵr rai elfennau cymhleth megis cynnal a chadw a hefyd y gwaith o gynnal a chadw o safbwynt hylendid. Er y ceir ffynhonnau dŵr mewn nifer o leoedd heddiw, mae rhai ohonynt yn perthyn i gyfnod pibellau plwm, felly, am y rheswm hwnnw, mae'n broblemus iawn. Ni fyddech eisiau i'r rheini gael eu defnyddio eto.

Felly, credaf mai'r syniad y tu ôl i genedl ail-lenwi yw datblygu cymaint o orsafoedd ail-lenwi ag y gallwn ni, a bydd manylion ynghylch hynny yn amlygu eu hunain ames o law. Ond mewn gwirionedd, yn fy marn i, maen nhw'n fersiynau mwy cadarn na'r ffynhonnau dŵr a welwn ni fel arfer, fersiwn ble gall rhywun osod ei botel arno a'i hail-lenwi. Rwyf eisoes wedi siarad â chynrychiolwyr awdurdodau lleol ynghylch y ffordd y gallwn ni weithio ar y cyd gyda phartneriaid ar lefel Llywodraeth Leol a chyda busnesau i ymrwymo i ddod yn rhan o Gymru, y Genedl ail-lenwi, ac ynghylch pa gyfleusterau sydd eisoes yn bodoli y gallwn ni eu defnyddio i greu'r rhwydwaith hwn—a allwn ni ddefnyddio canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol a busnesau? Rwyf wedi ysgrifennu hefyd at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod sut y gallwn ni fanteisio'n fwy helaeth ar ein rhwydwaith trafnidiaeth o ran darparu gorsafoedd ail-lenwi mewn canolfannau mawr yn y lle cyntaf.

Deunydd pacio bwyd cyflym—ie, wyddoch chi, wrth edrych ar Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol ehangach o ran allwn ni annog defnyddwyr i ddefnyddio mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar. Rwy'n gwybod, o ran pecynnau tecawê polystyren, yn ôl yr adroddiadau, bod y ganran o'r rheini o ran sbwriel cyffredinol yn isel iawn, ond, mewn gwirionedd, mae'r nifer sylweddol a welwn ni mewn rhai mannau o amgylch rhai busnesau  neu siopau tecawê, yn creu'r argraff ei bod hi'n broblem sylweddol yno, a pho fwyaf, po fwyaf—wyddoch chi, mae'n rhaid inni weld sut allwn ni fynd i'r afael â hyn, oherwydd rwy'n gwybod, fel pawb yma, fod sbwriel yn un o'r problemau mwyaf yn yr etholaethau a phobl sy'n cysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, yr ASau a chynghorwyr fel ei gilydd.

Ynghylch hancesi gwlyb, gwelaf fod y rhain wedi bod yn y newyddion heddiw. Credaf mai un o'r pethau ynghylch y rhain yw pecynnu gwell a labelu o ran nodi a ydyn nhw'n addas i'w gwaredu yn y tŷ bach, a buddsoddi yn y dechnoleg i sicrhau mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar. Dywedwyd wrthyf fod gan Water UK ddywediad—wn i ddim a gaf i ddweud hyn yn y Siambr, ond mi wnaf—cynlluniwyd y system ffosydd carthion ar gyfer y tri P yn unig, papur, pŵ a phi-pi, nid plastig. Felly, os oes un neges i Aelodau—. Ond mae gan Dŵr Cymru ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc, felly credaf ei fod yn ymwneud â'r hyn a wnawn ni yn ein gwaith o ran addysg a newid ymddygiad, ynghyd â sut ydym ni'n mynd i ymdrin â phecynnu a labelu i sicrhau ei bod hi'n glir ac amlwg i bobl beth sy'n iawn i'w roi yn y tŷ bach, nid dim ond dweud 'chewch chi ddim gwneud hynna,' ond rhoi'r rhesymau dros beidio â gwneud hynny, esbonio sut mae'n effeithio ar yr amgylchedd—mewn gwirionedd, nid yn unig ar yr amgylchedd; ceir canlyniadau economaidd o ran—. Rwy'n gwybod fod Dŵr Cymru yn gwario tua £7 miliwn y flwyddyn yn clirio'r pibellau carthffosiaeth.

18:15

Mae gennyf ddau gwestiwn. Ychydig o sylwadau cyn hynny: mae'n werth edrych yn ôl a gweld y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, a phan ddechreuon ni, er enghraifft, gyda'r bagiau plastig, yr effaith a gafodd hynny—bron i 400 miliwn o fagiau'r flwyddyn yng Nghymru yn unig nad ydynt yn cael eu defnyddio, 8 biliwn yn y DU, a ddilynodd esiampl Cymru. Cofiaf sôn am hyn ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel, gan fod nifer sylweddol o wledydd yn Ewrop yn ystyried dilyn yr esiampl. Canlyniad hyn, o bosibl, yw tua 80 biliwn o fagiau plastig y flwyddyn nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, ddylem ni ddim tanbrisio pwysigrwydd y rhan arweiniol yr ydym yn ei chwarae yng Nghymru a'r effaith y gall hynny ei gael, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond o fewn gwledydd eraill hefyd.

A gaf i ddweud ar goedd hefyd pa mor bwysig yw hi i longyfarch y cynghorau hynny sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd, yn enwedig fy nghyngor fy hun, cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cyrraedd eu targed ailgylchu o 64 y cant erbyn hyn, sy'n arwain y ffordd heb amheuaeth, ymhell o flaen targedau'r Llywodraeth, ac yn parhau i wneud hynny.

A gaf i hefyd gyfeirio at rai o'r materion rydych chi'n eu crybwyll ynghylch dŵr, poteli, gwellt ac ati, eitemau atgofus o'r gorffennolsy'n codi hiraeth mawr arnaf? Treuliais fy ieuenctid ffôl yn sefyllian o amgylch safleoedd adeiladu yn casglu'r poteli hynny y cewch chi arian am eu dychwelyd nhw i'r siop, arian oedd yn caniatáu imi brynu pum Park Drive yn y siop leol, mae gennyf gywilydd i ddweud. Y gwellt papur—hynny yw, nid wyf yn cofio beth oedd gwelltyn plastig. Roedd gennym wellt papur oedd yn cael eu defnyddio'n aml fel gynnau pys—ond eu prif swyddogaeth oedd ar gyfer yfed llaeth ysgol, wrth gwrs fe gafodd Maggie Thatcher wared ar hwnnw; mater arall oedd hwnnw. Roedd yn wrthyn, ac mae'n dal i fod yn wrthun i lawer ohonom, sef y syniad o beidio ag yfed dŵr tap, neu 'pop y cyngor', fel yr oeddem ni yn ei alw, ac mae'n dal yn llawer gwell na'r stwff potel. Dydw i erioed wedi deall hynny.

Felly, dof at y ddau gwestiwn, mae un ynghylch swyddi. Mae cyfle aruthrol yma o ran y trawsnewid sy'n mynd i ddigwydd gyda biliynau o wellt a ddefnyddir, biliynau o gwpanau papur ac ati, a tybed beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r cyfleoedd busnes sydd ar gael yn gysylltiedig â hynny.

Yr ail un—fe sonioch chi am newid diwylliant ac, wrth gwrs, addysg. Yn naturiol, er mwyn cyflawni'r newid hwnnw, mae'n rhaid inni addysgu'r bobl ifanc sy'n dod ar ein hôl ni, y rhai chwech, saith, wyth, naw mlwydd oed. Gallaf ond eich cyfeirio efallai at rywfaint o'r wybodaeth addysgol wych o safbwynt Tiki y Pengwin, canllaw plant ynghylch problemau plastig. Nid wyf am eich rhoi mewn picil nawr, ond, mae'n debyg, petai'r holl blastig y mae bodau dynol yn ei gynhyrchu bob blwyddyn yn cael ei bwyso yn nhermau eliffantod, faint o eliffantod fyddai eu hangen? Nid wyf yn disgwyl ateb gennych chi, ond mae'n debyg mai 30 miliwn yw'r ateb, a phetai'r eliffantod hynny yn sefyll mewn rhes, yna fe fyddent yn amgylchynu'r ddaear bum gwaith. Mae'r math yna o wybodaeth addysgol sy'n cael ei chyflwyno yn wych, oherwydd, i ryw raddau, mae'r pethau a wnawn ni yn awr ar gyfer y cenedlaethau sy'n dod ar ein hôl ni, ac mae'r gwaith sy'n digwydd i newid y diwylliant cyfan yn y cenedlaethau hynny, yn ymddangos i mi mor bwysig, ac mae rhai o'r ffyrdd llawn dychymyg o drosglwyddo'r neges, o addysgu plant heddiw, yn hollol wych.

18:20

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad difyr a dadlennol iawn, ac am ddod ag atgofion lu yn ôl hefyd. Nid wyf yn siŵr ai'r rheswm yr ydych chi wedi ymrwymo i ni gyflwyno'r Cynllun Dychwelyd Breindal yw oherwydd y gallwch chi gael ail fusnes yn casglu'r poteli, neu annog ieuenctid y genedl i wneud hynny? Credaf eich bod yn hollol gywir wrth ddweud, 'Edrychwch ar y cynnydd rydym ni wedi ei wneud.' Felly, credaf mai ein ffigurau ailgylchu cynharaf—ym 1999, roedd yn 5.2 y cant ar y pryd a heddiw mae'n 64 y cant yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn, nid drwy greu penawdau, ond drwy waith caled a dull gweithredu strategol parhaus i wthio'r newid hwnnw. Ac mae'n gwthio'r newid diwylliannol hwnnw hefyd. Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl erbyn hyn yn ystyried gwahanu gwastraff ac ail gylchu yn beth hollol normal. 

O ran eich ail gwestiwn, o ran addysg, mae hynny'n rhan enfawr ohono, ac un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser mawr imi yn y portffolio hwn yw'r gwaith sy'n ymwneud ag eco-ysgolion. Mae'r plant mor wybodus. Euthum i un ysgol, ac fe esboniodd y plant i gyd wrthyf beth oedd dinesydd byd-eang, a beth oedd cyfrifoldeb byd-eang. Fe ddywedant wrthych chi pam fod angen iddyn nhw ailgylchu, a'i gynyddu i'r cam nesaf. Fe wnes i ofyn iddyn nhw os byddent yn dymuno dod draw i ofyn fy nghwestiynau ar fy rhan i. Ond maen nhw hefyd—. Fe welwch chi nad yw hyn wedi ei gyfyngu i'r ysgol yn unig, mae'n ehangach. Maen nhw'n mynd â'r hyn maen nhw wedi ei ddysgu gartref a defnyddio pŵer plagio a gofyn i'w rhieni, eu neiniau a'u teidiau a'u perthnasau, 'pam nad ydych chi'n gwneud hynny? Mae angen ichi wneud hynny'. A gallant ddweud wrthynt, 'Mae hyn yn ymwneud â mi yn y dyfodol; rwyf eisiau i fy amgylchedd i fod mewn cyflwr da i mi pan fyddaf yr un oedran a chithau hefyd'. Felly, rwy'n credu fod y pethau addysgol a'r hwyl a sbri y sonioch chi amdanynt—. Yn ddiweddar fe wnaethom ni—ymgyrch oedd hi ynghylch sut olwg fydd ar Gymru yn 2050, ac fe gawsom ni gyfraniadau gwych gan ysgolion cynradd ledled Cymru yn dychmygu sut fath o le y gallai Cymru fod, a datgan beth oedd angen i ni ei wneud i atal hyn rhag digwydd erbyn 2050 a sicrhau y byddai gennym ni wlad wych o hyd y cawn i gyd ei mwynhau.

Rydych chi'n hollol gywir. Yn ogystal â bod yn fater amgylcheddol gyda rhesymu amgylcheddol a chydag effaith gadarnhaol oherwydd y newidiadau hyn, mae manteision economaidd enfawr i ni hefyd. Dyna pam ei bod hi'n bwysig o safbwynt y rhan y gall yr economi gylchol ei chwarae. Wrth inni edrych ar y mesurau i fynd i'r afael â gwastraff plastig untro, rydym ni, Lywodraeth Cymru, hefyd yn ymrwymo i ganfod sut i yrru'r mewnfuddsoddiad i'r cyfeiriad hwn, i sicrhau y gallwn ni mewn gwirionedd sicrhau bod mwy o ailddefnyddio ac ailgylchu yng Nghymru. Felly, ar yr un pryd byddwn yn gwneud ein rhan o ran y model ailgylchu a'r economi gylchol, a hefyd yn creu nifer o swyddi yn sgil hynny.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Mae'n ddatganiad eang iawn, ac mae'n cwmpasu llawer o agweddau, felly rwy'n credu bod croeso mawr iddo. Fe sonioch chi, ar ddiwedd eich araith, am frwdfrydedd y cyhoedd a sut y maen nhw yn ein harwain. Yn fy etholaeth yn ddiweddar, fe es i lansiad menter Rhiwbeina di-blastig a ddechreuwyd gan un o'r etholwyr a'i gefnogi gan ein AS, Anna McMorrin. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghaffi Snails, Rhiwbeina, sy'n troi'n ddi-blastig. Gyda llaw, roedd stondin yno a oedd yn gwerthu brwsys dannedd bambŵ. Mae'r etholwr yn bwriadu ymweld â busnesau yn y pentref a chynnig archwiliad plastig a chyngor ynglŷn â sut i leihau'r nifer o eitemau plastig untro fel gwellt a throwyr, a lledaenu'r neges ddi-blastig yn gyffredinol. Rydym yn gobeithio ehangu hyn ledled yr etholaeth, gan chwilio am hyrwyddwyr cymunedol. Felly, roeddwn yn credu y byddai clywed am y fenter gyhoeddus hon yn Rhiwbeina o ddiddordeb i'r Gweinidog.

Symudaf ymlaen at y cynllun dychwelyd blaendal a'r dreth plastig untro, cefnogaf y mentrau hynny. Ac rwyf yn deall y rhesymau pam ei bod hi'n dderbyniol i wneud hynny ar lefel y DU gyfan; gallai hynny fod yn fanteisiol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau'n hyblyg ynghylch unrhyw newidiadau y byddwn eisiau eu gwneud i'r ddeddfwriaeth. A soniodd Mick Antoniw ein bod ni wedi arwain y fenter bagiau plastig gyda Lloegr yn dilyn beth amser wedyn ac, rwy'n credu, y cymerodd hi gryn amser iddyn nhw wneud hynny—mae ganddyn nhw erbyn hyn, gynllun tebyg i'n cynllun ni. Felly, er ein bod ni wedi clywed datganiadau ac ati o gyfeiriad y Llywodraeth yn San Steffan, gan Michael Gove, nid wyf yn credu y dylai unrhyw beth ein rhwystro mewn unrhyw ffordd rhag mabwysiadu mentrau y byddem ni ein hunain yn dymuno eu sefydlu.

Y mater arall roedd arnaf i eisiau sôn amdano—soniwyd amdano ambell waith yn barod—yw ffynhonnau dŵr. Credaf fod gwneud Cymru yn genedl ail-lenwi yn wych. Teimlaf y byddai'n beth da iawn ailgyflwyno rhai ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus. Sylwais yn Llundain yn ddiweddar eu bod yn ail-gyflwyno ffynhonnau newydd yn y parciau, ac roedd hyn yn ddiddorol yn fy marn i. Ond meddwl oeddwn i tybed a ellid buddsoddi arian o drethi plastig mewn adeiladu seilwaith ar gyfer ffynhonnau dŵr ledled Cymru, oherwydd mae'n rhaid ei fod yn un ffordd o leihau'r defnydd o boteli plastig.

Yna, yn olaf, rwy'n falch iawn eich bod yn mynd i roi sylw i'r digwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnal, oherwydd mae tymor digwyddiadau'r haf wedi cyrraedd erbyn hyn. Felly, dyna leoliadau allweddol i ganolbwyntio ar ailgylchu.

18:25

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy'n credu eich bod yn iawn i grybwyll—. Rydych chi'n gwneud rhai sylwadau diddorol iawn y byddwn yn eu hystyried ynghylch ffynhonnau dŵr a'n hymagwedd tuag atynt. A hefyd, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn parhau'n hyblyg—ymchwilio ac ystyried potensial y Cynllun Dychwelyd Breindal neu'r dreth plastig untro ar lefel y DU, oherwydd fe wyddom ni fod hynny'n llai cymhleth a llai dyrys i ddefnyddwyr a busnesau, ond rwyf wedi bod yn glir o'r dechrau mai dyna yw'r ffordd i fynd ati, ond bydd y dewis gennym ni bob amser i wneud rhywbeth ein hunain ledled Cymru os byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

Soniodd yr Aelod am ddatganiadau, a, wyddoch chi, fe wneir cyhoeddiadau, ond gweithredu sy'n gwneud y gwahaniaeth mawr. Rwy'n gwybod fod pobl yn troi eu llygaid bob tro rwy'n sôn am ein henw da, ond credaf y dylem ni gydnabod hefyd ein bod yn dynesu at hyn o sefyllfa dda iawn o'i gymharu â'n cydweithwyr mewn mannau eraill yn y DU o ran ein cyflawniadau ailgylchu. Ond, serch hynny, rydym ni'n gwybod ein bod eisiau gweithredu i fynd i'r afael â phlastig untro. Gwyddom y bydd hynny er budd ein hamgylchedd ac er budd yr economi hefyd.

Rwyf wedi gweld hanes menter Rhiwbeina di-blastig ar y cyfryngau cymdeithasol, a hoffwn longyfarch eich etholwr am y gwaith y mae yn ei wneud i gael y fenter ar ei thraed. Mae'n swnio'n syniad gwych cael cefnogwyr a hyrwyddwyr ledled y gymuned i ledaenu'r neges. Oherwydd yr hyn a welais pan ymwelais â Natural Weigh yr wythnos ddiwethaf oedd eu bod wedi cael y syniad gan rywbeth arall yr oeddent wedi ei weld ar-lein, a bellach maen nhw'n cynnig cyngor i eraill yng Nghymru i wneud yr un peth hefyd. Un o'r pethau yr wyf yn gobeithio ei wneud yn ystod—. Credaf fod yr agwedd gymunedol yn sbardun cryf; yn rym pwerus iawn ar gyfer unrhyw newid, a chredaf fod neges y cyhoedd, mewn rhai ffyrdd, yn llawer mwy pwerus na'r hyn a ddaw o gyfeiriad gwleidyddion. Un o'r pethau yr wyf yn awyddus i wneud yn ystod toriad yr haf yw ymweld â nifer o leoedd a chymunedau sy'n gweithredu dros eu hunain. Felly, efallai, os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf, cawn weld a allwn ni wneud rhywbeth yn Rhiwbeina hefyd.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y £15 miliwn o arian cyfalaf yr ydym yn ei roi dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen newid gydweithredol i gynyddu ailgylchu. Yr hyn yr wyf eisiau ei ofyn, Gweinidog, yw a allwn ni bod yn fentrus pan fuddsoddwn ni mewn prosiectau cyfalaf, pa un a yw'n adeilad ysgol newydd, yn ychwanegiad i'r adeilad presennol, neu'n gynllun adnewyddu canol trefi, oherwydd rydym yn rhoi arian cyhoeddus i'r cynlluniau hyn, ac wrth i'r adeiladu fynd rhagddo ceir cyfle gwych i sicrhau ein bod yn gosod ffynhonnau dŵr yn yr adeiladau hynny i sicrhau na fydd plastig yn cael ei ddefnyddio.

Rwyf wedi bod yn gwylio'r newyddion ar y BBC, a bu'n newyddion gwych i dwristiaeth y penwythnos hwn. Aeth pobl i'r traethau ac ardaloedd o harddwch naturiol gan adael sbwriel ar eu hôl. Mae'r Bari yn cael cryn sylw yn y stori hon a bu raid i blant ysgol fynd draw i dacluso a glanhau. Rwy'n credu fod Porthcawl yn ardal arall, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf i'n byw yn Sir Benfro ac nid oes amheuaeth gennyf mai'r un yw'r sefyllfa yno. Felly, rwy'n credu bod rhaglen gyfan o addysgu yma, i ymdrin â phobl yn dod i fwynhau ein golygfeydd. Rydym ni eisiau eu gweld nhw yma oherwydd eu bod yn dod ag incwm sylweddol yn eu sgil, ond does arnom ni ddim eisiau iddyn nhw adael eu sbwriel ar ôl, sy'n creu cost sylweddol i'r awdurdod lleol. Efallai bod rhywfaint o waith a fyddai'n werth ei wneud—ac efallai ei fod yn digwydd—o ystyried cwpanau untro. Rwy'n credu bod y rhain yn cyfrannu'n helaeth at y sbwriel ac mae'n costio'n sylweddol i'w gasglu a'r trethdalwr sy'n gorfod rhoi ei law yn ei boced. 

Gan ein bod yn llongyfarch, hoffwn longyfarch pobl yn Harlech sy'n ystyried creu ardal ddi-blastig, a'r siop sglodion yn Aberteifi a roddodd flwch cardbord imi yn hytrach nag un polystyren, a'i gynnig fel dewis. Tra roeddwn i yno fe gymerodd pawb a gafodd y dewis y blwch cardbord.

18:30

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am ei sylwadau hefyd. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedasoch chi yn ddiddorol iawn, er ei bod yn dystiolaeth anecdotaidd—pan oedd pobl yn cael dewis, roeddent yn ffafrio'r dewis amgen ecogyfeillgar. Fe ymunaf â chi wrth longyfarch Harlech hefyd, a da iawn hefyd i'r siop sglodion yn Aberteifi. Efallai y byddaf yn difaru dweud y byddaf yn ymweld â phob un o'r cymunedau wrth i'r rhestr dyfu a thyfu, fel y dylai. Bydd yn sicr yn fy nghadw i'n brysur iawn yn ystod misoedd yr haf.

Rwy'n credu bod hynny'n iawn o ran mynd i'r afael â'r ddau beth gyda'i gilydd—sbwriel ac ailgylchu ar y pryd—oherwydd gallai llawer o'r hyn a gaiff ei daflu fel sbwriel gael ei ailgylchu ar y pryd pe byddai gennym ni'r seilwaith iawn ar waith. Ond rwy'n credu hefyd fod yr ymgyrchoedd addysgol ac ymddygiadol wrth wraidd y mater. Yr ymgyrchoedd hynny fydd un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn rhan o hyn wrth inni fwrw ymlaen, hefyd, ond yn ogystal â hynny, mewn gwirionedd, sut y mae'n ystyried amrywiaeth o ffactorau hefyd, nid yn unig o ran newid ymddygiad, ond ailgylchu yn y cartref hefyd. Rydym ni'n gwybod bod sbwriel yn falltod ar ein cymunedau hefyd, a chredaf ei bod hi'n fater mewn gwirionedd o sut yr ydym ni'n sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran yr hyn y byddem ni'n ei alw'n ymagwedd anogol wrth inni fwrw ymlaen.

8. Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.  

Cynnig NDM6717 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar gyfer Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am y gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y Bil hwn, ac am y gwaith craffu sydd wedi ei wneud drwy gydol hynt y Bil. Hoffwn ddiolch i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn ogystal â'r pwyllgor ei hun, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ystyriol o'r Bil. Roedd llawer o randdeiliaid hefyd wedi gwneud cyfraniad pwysig at y broses ddeddfwriaethol, ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm ymrwymedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi bod mor ddiwyd yn eu cefnogaeth, ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu'r Bil i'r pwynt hwn. 

Cafodd y Bil ei gyflwyno mewn ymateb i benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus at ddibenion ystadegol yn 2016. Fe allai'r penderfyniad cyfrifyddu technegol hwn fod wedi peryglu targed Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yr oedd angen dybryd amdanyn nhw yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r ailddosbarthiad yn golygu bod benthyca gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a hwnnw'n fenthyca hanesyddol a chyfredol, yn cael ei gynnwys yn y cyfrifon cyhoeddus ac yn sgorio yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid inni ddod o hyd i £1 biliwn o gyllid ychwanegol dros y tymor Cynulliad hwn i dalu'r costau hyn, a fyddai wedi cael effaith ddifrifol ar ein cynlluniau gwario presennol, neu fe fyddai'n rhaid inni fod wedi cwtogi ein rhaglen tai fforddiadwy, ac felly darparu llai o lawer o gartrefi.

Nid oedd yr un o'r dewisiadau hyn yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, sydd yn ymrwymedig i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael yng Nghymru. Mae'r Bil hwn yn gwneud newidiadau a fydd yn caniatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu ei phenderfyniad dosbarthu, ac yn caniatáu i'r trefniadau ariannu cyfredol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael eu cynnal yng Nghymru. Mae deddfwriaeth debyg wedi ei phasio yn Lloegr. Mae'r Bil yn cyflwyno darpariaethau sy'n diwygio'r rheolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth lleol a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gwaredu tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, newidiadau cyfansoddiadol a strwythurol penodol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a dylanwad awdurdodau lleol dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae'n egluro pryd y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau yn ymwneud ag ymchwiliadau, gorfodi ac ymyrraeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae'r broses graffu wedi bod yn drylwyr iawn ac mae'r gofynion i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â'u tenantiaid cyn gwneud newidiadau strwythurol penodol wedi'u cryfhau o ganlyniad. Rwy'n ailddatgan drwy hyn fy ymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio, a pha mor bwysig yw hi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wrando ar eu tenantiaid. Ac mae tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio. Ym mis Rhagfyr 2016, lansiwyd fframwaith rheoleiddio newydd sy'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau y byddai'r Bil hwn yn eu cyflwyno. Gall tenantiaid, Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill fod yn sicr y bydd rheoleiddio cadarn, gan gynnwys ymyrraeth a phwerau gorfodi, yn parhau ac na fydd yn diflannu.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil hwn yn cyrraedd ei gyfnod terfynol, gan mai ef oedd y Gweinidog a gyflwynodd y Bil i'r Cynulliad. Felly, rwyf wrth fy modd o allu helpu i'w lywio drwy ei gamau terfynol tuag at y llyfr statud i Gymru.

18:35

Llywydd, mae hi er budd y cyhoedd fod y Bil hwn yn cael cefnogaeth heddiw. O ystyried penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddosbarthiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae'n rhaid inni weithredu. Ers y cychwyn cyntaf, rydym wedi derbyn egwyddor y Bil hwn ar yr ochr hon i'r Cynulliad, fodd bynnag, rydym wedi ceisio craffu arno fel darn o ddadreoleiddio sylweddol, ond angenrheidiol. O ganlyniad, mae'n ofynnol i sicrhau rheolaeth risg drylwyr. Nod ein gwelliannau yng Nghyfnod 3 oedd cryfhau'r Bil yn hyn o beth, ac mae'n ofid i mi na chawsant gefnogaeth y Cynulliad. Er fy mod i'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn unol â'n gwaith craffu ni, i wella cyfranogiad tenantiaid, maen nhw'n methu o bell ffordd â diwallu ein cynigion ni.

Mae'n amser symud ymlaen a bodloni ar y dylid derbyn Bil sy'n 'ddigon da'. Bydd y Bil, fel y caiff ei gyflwyno yn awr, yn sicrhau'r statws annibynnol sydd ei angen i wrthdroi penderfyniad dosbarthu blaenorol y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Drwy hyn, bydd y ffordd yn glir unwaith yn rhagor i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau â'u gwaith pwysig o adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol. Drwy wneud statws y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn glir, bydd buddsoddwyr yn hyderus nad yw trefniadau llywodraethu yn caniatáu ar gyfer ymyrraeth gyhoeddus. Ar y sail hon, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn sydd gerbron y Cynulliad heddiw.

Byddwn ni'n cefnogi pasio'r Bil hwn yn y cyfnod olaf heddiw. Rydym yn cydnabod, oherwydd ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod hwn yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth ac rydym yn nodi bod y Bil, ar ei ffurf derfynol, yn ymdebygu, fel y soniodd y Gweinidog, i ddeddfwriaeth debyg a luniwyd yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd. Er y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth lunio'r ddeddfwriaeth hon, fod yn wyliadwrus o'r cyfyngiadau a osodwyd arni gan ofynion ailddosbarthu, rwy'n credu y gallai nifer o welliannau, yn arbennig gwelliannau yn ymwneud ag ymgynghori â thenantiaid, fod yn gryfach, ac adlewyrchwyd hynny yn ymdrechion clodwiw iawn David Melding yn hynny o beth.

Yn dechnegol, rydym yn troi cymdeithasau tai yn gwmnïau preifat neu rywbeth sy'n ymdebygu o bosibl i fentrau cymdeithasol. Nid oes unrhyw sicrwydd na allai natur sylfaenol y cymdeithasau tai yng Nghymru newid dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i elfennau yn y Bil hwn, felly roeddwn yn siomedig nad oedd mwy o bwyslais ar graffu ar ôl deddfu yn rhan o'r Bil terfynol, ond rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad ar yr ochr hon i'r Siambr, ac eraill mae'n siŵr, yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau, ac yn hoffi monitro'r hyn sy'n digwydd yn sgil pasio'r Bil hwn. Hoffem sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn ymdreiddio i'r elfen benodol hon o'r ddeddfwriaeth. Yn arbennig, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi clywed pryderon a godwyd gan Shelter, er enghraifft, o ran y codiadau cyflog blynyddol o oddeutu 3 y cant gan landlord cymdeithasol penodol, tra bod rhenti mewn gwirionedd yn cynyddu i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, yn enwedig yn sgil diwygio lles. Felly, ni fyddwn yn dymuno gweld gormod o hynny'n digwydd os yw rhenti yn mynd i barhau i godi, felly mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni gadw llygad arno o ran newidiadau i ddeddfwriaeth.

Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud, rydym yn bwriadu cefnogi'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, gan obeithio, fodd bynnag, y bydd y Gweinidog yn parhau i sgwrsio gyda phobl fel fi ar feinciau'r wrthblaid ynghylch hawliau tenantiaid, o ran sut y gallwn  ni ymgysylltu'n fwy cadarnhaol â nhw er mwyn iddyn nhw deimlo'n rhan o'r broses, a pherchnogaeth o'r broses, oherwydd maen nhw yn rhan annatod o'r modd y byddwn ni'n datblygu'r sector.

18:40

Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y ddadl derfynol hon wedi dangos pa mor gadarn y bu'r broses graffu  drwy gydol hynt y Bil hyd yma, a lefel y diddordeb a gafwyd, a difrifoldeb yr Aelodau wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran craffu ar y Bil hwn. Rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Felly, rwyf yn gofyn i'r  Aelodau gefnogi'r cynnig a chefnogi'r Bil, sydd, fel y byddai David Melding a Bethan Sayed ill dau yn cydnabod, ac fel y mae'r ddau wedi'i ddweud, yn sicr yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn cartrefi newydd ac yn eu stoc bresennol, ond yn ogystal â hynny, i barhau i wneud y gwaith a'r buddsoddiad pwysig a wnânt mewn cymunedau hefyd: darparu hyfforddiant hanfodol, cyflogaeth, buddion cymdeithasol ac economaidd ac ati. A rhoddaf fy ymrwymiad i barhau gydag Aelodau y drafodaeth yr ydym ni wedi'i dechrau o ran cyfranogiad tenantiaid. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.5, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly rydw i'n symud i'r bleidlais ar y cynnig yma. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni agor y bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans ar Gyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yn cael ei gymeradwyo. 

NDM6717 - Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.