Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
27/02/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
O dan Reol Sefydlog 12.58, bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb y cwestiynau ar ran y Prif Weinidog heddiw. Y cwestiwn cyntaf, Mark Reckless.
1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ôl cyrraedd pa gost y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddewisiadau amgen i gynlluniau arfaethedig presennol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ51826
Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi cael ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf i graffu ar bob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys costau a dewisiadau amgen awgrymedig. Bydd adroddiad yr arolygwyr annibynnol a'r achos busnes yn llywio penderfyniad terfynol eleni ar ba un a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun.
Dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn 2015 y byddai'r prosiect yn costio, a dyfynnaf, 'ddim yn agos at £1 biliwn.' Mae'n debyg, mewn un ystyr, bod hynny'n gywir gan y nodwyd bod y gost tua £1.4 biliwn erbyn hyn. Os bydd y Cynulliad yn cefnogi'r llwybr du yn y bleidlais yr ydym ni'n mynd i'w chael nawr, sut gallwn ni ymddiried yn Llywodraeth Cymru i'w ddarparu am gost dderbyniol pan nad ydych chi wedi dangos unrhyw allu i wneud hynny hyd yn hyn, a bod y costau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd allan o reolaeth? A ydych chi'n gofyn i'r Cynulliad ysgrifennu siec gwag i chi?
Na, dim o gwbl. Nid wyf i'n mynd i wneud sylwadau ar rinweddau'r prosiect oherwydd y ffaith nad yw'r penderfyniad terfynol statudol wedi ei wneud eto, ac mae'n gwbl eglur bod amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y buddsoddiad sylweddol posibl hwn mewn seilwaith, ac mae'n hynod briodol bod y safbwyntiau hyn i gyd yn cael eu clywed yn yr ymchwiliad ac y dylid eu cymryd i ystyriaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi datgan yn eglur yn y Siambr hon ei fod wedi cyfarwyddo'r ymchwiliad i fod yn gynhwysfawr a rhoi prawf ar yr angen am y cynllun yng ngoleuni'r cynigion diweddaraf ar gyfer metro de Cymru, ac ystyried dewisiadau eraill, ac, yn wir, ystyried y costau sy'n gysylltiedig â hynny. Unwaith y bydd canlyniad yr ymchwiliad yn hysbys, bydd hynny'n hysbysu penderfyniad terfynol ar ba un a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu, a bydd hynny'n cynnwys, yn amlwg, cynllun busnes, a fydd yn cael ei roi ar waith wedyn.
Roeddwn i'n 13 oed pan soniwyd gyntaf am ffordd liniaru i'r M4 o amgylch Casnewydd ym 1991. [Chwerthin.] Nid wyf i wedi heneiddio. [Chwerthin.] Yr ymchwiliad cyhoeddus lleol presennol yw'r ymchwiliad hiraf a mwyaf trwyadl yn hanes Cymru, profi saith llwybr posibl, gan gynnwys y dewis o wneud dim. Mae fy etholwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, ac mae'n gwbl iawn a phriodol edrych yn fanwl ar y canfyddiadau pan fyddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'r dewis o wneud dim, neu mwy o oedi cyn cael penderfyniad, yn gostus i nifer o fusnesau, ymwelwyr, cymudwyr ac etholwyr. Amcangyfrifir bod yr M4 yn brif wythïen allweddol i 70 y cant o boblogaeth ac economi Cymru. A wnaiff arweinydd y tŷ gyfleu i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Prif Weinidog pa mor hollbwysig yw cael ateb buan ar ôl i'r arolygydd annibynnol adrodd, yn enwedig yn sgil dileu tollau pontydd Hafren, a fydd yn cynyddu traffig a thagfeydd ar y rhan honno o'r ffordd?
Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg. Yn anffodus, roeddwn i ychydig yn hŷn na 13 oed ar ddechrau hyn. Nid fawr yn hŷn, yn amlwg. [Chwerthin.] Ceir nifer fawr o oblygiadau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag ystyriaethau'r ymchwiliad cyhoeddus, a bydd angen i ni ystyried dewisiadau ar ôl i ni gael canlyniad yr ymchwiliad, a bydd yn rhaid i hynny gynnwys amseriad y penderfyniad hefyd, y costau a'r cynllun busnes, fel y dywedais. Ond, yn sicr, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r problemau difrifol ar yr M4 o amgylch Casnewydd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yma yn gwrando ar eich sylwadau, ac rwy'n siŵr ei fod wedi eu clywed.
Rwy'n siŵr nad ydych chi'n mynd i achub y blaen ar yr ymchwiliad cyhoeddus, fel y dywedasoch yn eglur iawn, ond rwy'n siŵr y byddech chi hefyd yn cytuno nad ydym ni yn y Senedd hon wedi rhoi gwerth £2 biliwn o wariant cyhoeddus, neu gostau cyfle buddsoddi amgen mewn trafnidiaeth ffyrdd amgen, a dulliau trafnidiaeth amgen, ar gontract allanol i ymchwiliad cyhoeddus. Ni yw'r Cynulliad etholedig ac, yn y pen draw, ni ddylai wneud y penderfyniad hwnnw. Rwy'n croesawu'r llythyr heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd pleidlais wirioneddol yn y Cynulliad, ac i wneud honno'n bleidlais hyd yn oed mwy hanfodol a gwirioneddol, a wnewch chi nawr, wrth ddirprwyo ar ran y Prif Weinidog ac fel arweinydd y tŷ, a chi yw'r prif chwip, ei gwneud yn bleidlais rydd i'ch grŵp?
Rwy'n falch dros ben o gadarnhau y byddwn yn cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn dilyn casgliad yr ymchwiliad lleol cyhoeddus. O ystyried y goblygiadau cyfreithiol, rydym wrthi'n ystyried dewisiadau o ran amseriad a fformat hwnnw, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynlluniau hynny fel fi fy hun, ar wahân i ddirprwyo ar ran y Prif Weinidog. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth newydd ysgrifennu at bob grŵp plaid yn y Cynulliad, ond bydd yn trefnu sesiwn briffio technegol gyda swyddogion tîm y prosiect ar y sefyllfa bresennol, i sicrhau bod yr Aelodau'n gwbl ymwybodol o'r holl ffeithiau yn ymwneud â'r cynllun ymlaen llaw. Felly, clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ac rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud, ond byddwn yn ystyried hynny cyn gynted ag y byddwn yn gwybod beth yw canlyniad yr ymchwiliad.
2. Pa neges allweddol y mae Prif Weinidog wedi cymryd wrth yr arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru? OAQ51827
Mae'r arolwg yn darparu cyfoeth o wybodaeth i gynorthwyo gwaith i wella iechyd y boblogaeth. Mae ei ganfyddiadau yn dangos bod y cyhoedd yn gefnogol i lawer o'r blaenoriaethau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb', gan gynnwys ein pwyslais ar y blynyddoedd cynnar.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Mae'n amlwg iawn o'r arolwg bod pobl yn disgwyl i gamau gael eu cymryd ar faterion iechyd y cyhoedd i sicrhau ein bod ni'n gwella iechyd y genedl. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n darganfod heddiw bod diabetes wedi dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf, ac rydym ni hefyd wedi clywed gan Cancer Research UK, yn mynnu y dylai hysbysebu bwyd sothach i bobl ifanc gael ei wahardd oherwydd y cynnydd mawr i ganserau sy'n gysylltiedig â'r deietau gwael y mae llawer o bobl yn eu bwyta. Felly, a allech chi ddweud wrthym ni pa awydd sydd gan y Llywodraeth nawr i gymryd camau i wahardd bwyd sothach, ac i sicrhau yn gyffredinol bod pobl ifanc yn ymwybodol eu bod yr hyn y maent yn ei fwyta ac y byddant yn byw bywyd hir dim ond os byddant yn bwyta'n dda?
Mae gennym ni hanes cryf iawn yng Nghymru o gymryd camau iechyd cyhoeddus cryf pan geir tystiolaeth y bydd hynny'n gwella neu'n diogelu iechyd y boblogaeth. Mae'r Ddeddf iechyd y cyhoedd, y Ddeddf teithio llesol, a'r Bil isafbris uned yn enghreifftiau da iawn o hynny. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu ymyraethau o'r fath pan fo angen hynny a phan fo cymryd camau o fewn y pwerau sydd ar gael i ni. Ond, er enghraifft, mewn meysydd fel darlledu, nid oes gennym ni'r holl bwerau sydd eu hangen arnom, ond byddwn yn ystyried ffyrdd o fanteisio i'r eithaf ar ein pwerau a'n dylanwad yn y meysydd hynny nad ydynt o dan ein rheolaeth uniongyrchol. Ac rydym ni eisiau strategaeth i greu gweledigaeth eglur iawn i Gymru, a bydd hyn yn golygu gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn ni fwrw ymlaen â newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â lefelau gordewdra cynyddol ymhlith plant, er enghraifft.
Dangosodd yr arolwg cadw'n iach mewn gwirionedd, yn fy marn i, poblogaeth a oedd yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn gofal iechyd cyfrifol ac a oedd yn deall bod atal yn well na gwella, ac yn dangos aeddfedrwydd aruthrol ar ran y cyhoedd, rhywbeth yr ydym ni'n tueddu i'w anwybyddu weithiau, rwy'n credu, yn y fan yma. Ac un o'r pethau y cyfeiriwyd ato'n benodol ganddynt yw bod 76 y cant o'r ymatebwyr eisiau gweld gwasanaethau iechyd yn cael eu cynnig gan gyflogwyr, a chyflogwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am helpu eu gweithwyr i gadw'n iach. A chodwyd hyn gennym yr wythnos diwethaf—neu'r wythnos cynt—yn ein dadl ar iechyd meddwl, am gost salwch meddwl i'r economi, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud fel unigolion ac fel cyflogwyr i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl i wneud yn dda yn eu gweithleoedd. A allwch chi, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ, amlinellu efallai yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ac, yn bwysicach, y sector preifat i sicrhau eu bod yn cefnogi eu gweithwyr ac wir yn eu helpu trwy gyfnodau trafferthus?
Rwy'n credu bod Angela Burns yn gwneud pwynt da iawn. Roedd yr arolwg yn ddiddorol iawn, onid oedd, o ran awydd pobl i gael eu rheoleiddio, bron, o ran iechyd cyhoeddus? Mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £88 miliwn o gyllid craidd ar Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae gennym ni amrywiaeth o fesurau sydd â'r nod o atal afiechyd, ochr yn ochr â nifer o swyddogaethau iechyd cyhoeddus eraill. Mae gennym ni raglen Cymru Iach ar Waith hefyd, sy'n cynorthwyo cyflogwyr ledled Cymru i wella iechyd a llesiant yn y gwaith, ac mae eisoes wedi cynorthwyo tua 3,500 o gyflogwyr yng Nghymru, sy'n cynrychioli tua 36 y cant o boblogaeth weithio Cymru. Gallaf hefyd ddweud, wrth ystyried gwaith teg a'r agenda gwaith teg yng Nghymru mewn partneriaeth gymdeithasol, un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried yw ffyrdd o gynorthwyo cyflogwyr i helpu gyda hybu iechyd y cyhoedd. Oherwydd, wrth gwrs, anweithgarwch economaidd yw un o'r problemau mawr, a gwneud yn siŵr bod pobl sydd mewn gwaith yn aros mewn gwaith, ac yn gallu cael eu cynorthwyo yno. Felly mae'r cwbl yn sicr, fel y dywedais, yn rhan o'r un rhaglen. Felly, rwy'n derbyn pwynt yr Aelod yn llwyr. Rydym ni eisoes yn gweithio yn y ffordd honno, ac rydym ni'n bwriadu ymestyn hynny ar draws pob sector o gyflogwyr Cymru yn rhan o'n hagenda gwaith teg.
Arweinydd y tŷ, tynnodd arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru sylw at y ffaith nad meddygon a nyrsys yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth am iechyd, mae'n debyg oherwydd yr anhawster o gael apwyntiad gyda meddyg teulu neu nyrs practis. Mae'n sefyllfa'n cael ei gwneud yn llawer gwaeth gan benderfyniadau annoeth gan lywodraeth leol. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu torri cymorthdaliadau bysiau, a rhoi terfyn ar wasanaethau sy'n cwmpasu llawer o Borthcawl, gan ei gwneud yn amhosibl i rai trigolion gyrraedd y ganolfan iechyd newydd. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw penderfyniadau llywodraeth leol yn effeithio ar allu pobl i gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?
Rwy'n credu bod hynny'n gryn dipyn i'w ofyn o ran iechyd y cyhoedd. Mae gennym ni berthynas waith dda iawn gyda phob un o'n partneriaid awdurdod lleol yn hyn o beth, ac, wrth gwrs, maen nhw'n gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol hefyd. Ac mae gennym ni gysylltiad sydd wedi ei ddatblygu'n dda iawn gyda nhw o ran teithio a theithio iechyd yn benodol. Mae hynny'n rhywbeth sydd hefyd yn codi yn y cyngor partneriaeth gweithlu o bryd i'w gilydd hefyd. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod bod gennym ni berthynas waith dda iawn gydag awdurdodau lleol a'u bod nhw'n cymryd pob un o'r mathau hynny o benderfyniadau i ystyriaeth wrth wneud rhai o'r penderfyniadau anodd iawn y bu'n rhaid iddyn nhw eu gwneud o ystyried yr agenda cyni cyllidol sy'n dal i gael ei dilyn gan Lywodraeth y DU.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Fe'm calonogwyd pan glywais fod y Prif Weinidog yn gadael y wlad, yn enwedig oherwydd yr hyn a ddywedodd ar yr un pryd, mai America oedd partner busnes pwysicaf Cymru a bod cyfleoedd cyffrous o'n blaenau, a'r fod yn mynd i'r Unol Daleithiau i ddadlau'r achos dros ddatblygu cytundeb masnach rydd rhwng ein gwledydd. Yn anffodus, cafodd y nodau canmoladwy hynny eu suddo ar unwaith gan arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan gan ddweud y byddai Llafur yn ceisio cytuno undeb cynhwysfawr newydd rhwng y DU a'r UE, na fyddai, fel y gwyddom gan Mr Barnier, yn cynnwys unrhyw bosibilrwydd i Lywodraeth y DU ddewis yr agweddau manteisiol, a, chan y byddem ni allan o'r UE, wrth gwrs, ni fyddai gennym ni ddim mwy na'r hawl i gael ein hymgynghori. Sut gellir cysoni'r ddau safbwynt hyn gan Brif Weinidog Cymru ac arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan sy'n mynd yn groes i'w gilydd?
Wel, nid wyf i'n credu eu bod nhw'n mynd yn groes i'w gilydd o gwbl, oherwydd, wrth gwrs, roedd y Prif Weinidog yn siarad am y potensial ar gyfer cytundeb masnach rydd rhwng y DU yn ei chyfanrwydd a'r Unol Daleithiau ac, fel rydym ni wedi ei esbonio ar sawl achlysur blaenorol, yn y math o undeb tollau yr ydym ni'n ei ragweld, byddai'r DU yn cynnal trafodaethau cyfochrog â thrydydd gwledydd i'r rheini a gynhelir gan 27 gwlad yr UE. Mae ein trafodaethau â'r Unol Daleithiau a'r UE yn parhau heb eu gorffen ar hyn o bryd. Nid oes amheuaeth y bydd y rhain yn dychwelyd i'r agenda yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n amlwg yn hurt i eithrio ein hunain o un o flociau masnachu mwyaf grymus y byd ar sail rhyw gred wleidyddol ddogmatig.
Mae'n amhosibl o dan gyfraith yr UE i unrhyw aelod-wladwriaeth gynnal trafodaethau masnach gyda thrydedd gwlad, gan fod hynny i gyd wedi ei gadw yn ôl i'r Comisiwn ym Mrwsel, felly mae safbwynt y Blaid Lafur yn gwbl annealladwy.
Ond fe'm calonogwyd hefyd gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, sef
Rwyf i eisiau sicrhau...yr Unol Daleithiau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad agored a chroesawgar.
Yn anffodus, tanseiliwyd y datganiad canmoladwy hwnnw hefyd gan ysgrifennydd tramor yr wrthblaid yn San Steffan, Emily Thornbury, a ddisgrifiodd Mr Trump fel asteroid o drybeiligrwydd sydd wedi disgyn ar y byd hwn. Dywedodd,
Rwy'n credu ei fod yn beryglus ac rwy'n credu ei fod yn hiliol.
Rwy'n falch bod gwir wyneb Llafur Cymru i'w weld heddiw, yn cytuno â theimladau a all wneud dim ond niwed i fuddiannau'r Deyrnas Unedig a buddiannau pobl Cymru. Os yw'r Prif Weinidog o ddifrif ynghylch bod eisiau ymgysylltu â gweinyddiaeth Trump a buddsoddwyr o'r Unol Daleithiau ym mhosibiliadau a photensial ein gwlad yma, yna mae'n talu'n gyffredinol mewn diplomyddiaeth i fod yn gyfeillgar tuag at bobl yn hytrach na'u sarhau a'u dilorni.
Wel, rwy'n falch iawn o glywed syniad Neil Hamilton o ddyhuddiad, sy'n wahanol i'm syniad i o ddyhuddiad. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau a'r Unol Daleithiau fel gwlad gyfan. Mae'r Prif Weinidog a'r Blaid Lafur wedi bod yn hynod eglur ynghylch y safbwynt ar yr undeb tollau. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur mai'r budd gorau i Gymru fyddai aros y tu mewn i'r undeb tollau ac, yn wir, o fewn y farchnad sengl. Ni allai'r Prif Weinidog fod wedi bod yn fwy eglur yn hynny o beth.
Wel, caiff eglurder o'r math yna ei ganfod dim ond yn nhudalennau Alice's Adventures in Wonderland neu Through the Looking Glass fel rheol, oherwydd ni allwch chi fod y tu mewn a'r tu allan ar yr un pryd.
Mae'r Prif Weinidog, rwy'n gweld, yn bwriadu, yn ystod ei ymweliad, siarad â Hillary Clinton. Nid oes dim o'i le â hynny ynddo'i hun ond, gan fod Hillary Clinton wedi colli'r etholiad ar gyfer yr arlywyddiaeth i Arlywydd Trump, oni fyddai wedi gwneud mwy o synnwyr mewn gwirionedd i geisio cyfarfod â phobl yng ngweinyddiaeth Trump yn hytrach na'r ymgeisydd dros y blaid a gollodd yr etholiad y tro diwethaf yr oedd yr arlywyddiaeth yn y fantol?
Mae arweinydd UKIP yn gwneud ei gyfatebiaeth ddisynnwyr arferol rhwng dau beth hollol wahanol. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn cynnal cyfres o drafodaethau pwysig gydag amrywiaeth o fuddsoddwyr ar draws yr Unol Daleithiau a Chanada, fel mae'n digwydd, er lles gorau y wlad hon. Wrth gwrs, bydd yn cyfarfod â Hillary Clinton ac amrywiaeth o bobl eraill sydd â diddordeb mewn parhau ein perthynas dda.
Ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Ychydig funudau yn ôl, arweinydd y tŷ, dywedasoch fod y Prif Weinidog wedi bod yn eglur iawn am fater yr undeb tollau. Rwy'n anghytuno, felly fe gadwaf fy nghwestiwn cyntaf yn syml iawn: a yw eich Llywodraeth o blaid aros yn undeb tollau'r UE neu mewn undeb tollau?
Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw meddwl agored yn ystod y trafodaethau gyda'r UE ac felly mae angen i ni gael undeb tollau o ryw fath neu'i gilydd. Os mai'r undeb tollau a ddaw o ganlyniad i'r trafodaethau fydd hwnnw, yna byddai hynny'n ddiddorol iawn, ond, yn ysbryd trafodaeth, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gadw popeth ar y bwrdd.
Mae'n ddrwg gen i ddweud bod hynna'n dynnu'n ôl o'r safbwynt a gymerwyd gan y Llywodraeth hon rai misoedd yn ôl. Mae'r Papur Gwyn ar y cyd 'Sicrhau Dyfodol Cymru' yn dod i'r casgliad y dylai Cymru a'r DU aros yn undeb tollau'r UE, a dyfynnaf:
'nid ydym'—
sef chi a ni—
'wedi ein hargyhoeddi bod manteision posibl tynnu yn ôl o Undeb Tollau’r UE yn fwy na’r costau.'
A dweud y gwir, mae pob un cyfeiriad at 'undeb tollau' ym mholisi'r Llywodraeth ers hynny at yr undeb tollau presennol. Nid oes unrhyw gyfeiriad at fath newydd o undeb tollau, nad yw'n bodoli eto. Felly pam, gofynnaf, mae'r Prif Weinidog wedi newid ei dôn neu wedi newid ei iaith? Pam mae'n sôn nawr am undeb tollau o ryw fath, fel yr ydych chithau? Mae oherwydd bod y safbwynt a amlinellwyd gan Jeremy Corbyn yn groes i'r hyn sydd er lles Cymru a phobl Cymru, ac yn absenoldeb term gwell, mae'r Prif Weinidog yn gorfod cymylu pethau?
Na, rwy'n anghytuno'n llwyr. Rwy'n credu ei fod yn bwynt synhwyrol iawn i'w wneud bod angen i ni fod mewn sefyllfa i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, yn rhan o'r trafodaethau hyn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae angen i ni geisio cael y cytundeb gorau posibl. Rwy'n meddwl yn bersonol mai'r cytundeb gorau posibl yw'r sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd. Rwyf i o blaid aros, ac rwy'n gwbl agored am hynny. Ond yn amlwg, mewn trafodaeth, mae angen i ni gael y cytundeb gorau, ac mae trafodaeth yn stryd ddwyffordd, ac mae'n rhaid i ni weld beth sydd ar y bwrdd gan yr ochr arall a beth yw eu safbwynt trafod. Felly, byddai'n wirion diystyru pob dewis arall.
Ond yr hyn nad wyf i'n ei ddeall yw os oeddech chi'n hapus fel Llywodraeth i gyflwyno gyda ni beth oedd ein safbwynt pan gyhoeddwyd y ddogfen hon, pam nad yw hynny'n dal i fod yn wir nawr? Rwyf i eisiau cydweithio ar hyn. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu, drwy'r gwaith a wnaed gan Steffan Lewis yn fwy na neb ar ein hochr ni—mae'n braf gweld Steffan gyda ni heddiw—dod â'r Llywodraeth tuag atom ni ar rai o'r materion craidd hyn, a bydd yn parhau i geisio gwneud hynny.
Nawr, ar wahân i fater yr undeb tollau, rwy'n credu bod gwall sylfaenol arall yn safbwynt Llafur Jeremy Corbyn, sef ei fod wedi ymrwymo i dynnu allan o'r farchnad sengl. Mae eisiau dewis a dethol agweddau ar y farchnad honno, ond mae'r Llywydd Tusk, fel y gwyddom, wedi dweud na ellir dewis a dethol, nac unrhyw farchnad sengl à la carte. Yr ateb yw bod angen y ddau arnom ni: undeb tollau a marchnad sengl. Mae swyddi yng Nghymru angen undeb tollau a marchnad sengl. Mae porthladd Caergybi yn fy etholaeth i, ein hetholwyr, pob un ohonom ni, angen y ddau. Mae'n teimlo fel pe byddai safbwynt Cymru yn cael ei danseilio a'i dandorri ar bob cornel gan fympwyon San Steffan, a thrwy hynny rwy'n golygu mympwy'r Llywodraeth a'r wrthblaid yn San Steffan. Rydych chi'n gwybod bod y safbwynt yr wyf i wedi ei gyflwyno, y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, yn gwneud synnwyr. A wnewch chi ein helpu ni i'w gyflawni?
Rydym ni wedi bod yn eglur iawn fel Llywodraeth Cymru, ac yn wir, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, am y canlyniad gorau posibl i Gymru, ac rydym ni'n dal i fod yn eglur iawn am hynny. Ond ailadroddaf yr hyn a ddywedais: trafodaeth yw hon. Mae'n golygu cael y gorau allan o'r drafodaeth yn gyffredinol. Felly, os ydych chi'n diystyru popeth ac eithrio'r safbwynt yr ydych chi'n cychwyn ohono, nid yw honno'n drafodaeth, ac rydych chi'n debygol iawn o fethu.
Felly, rwy'n credu ei fod yn beth synhwyrol iawn cael amrywiaeth o ddewisiadau ar y bwrdd y gallwch chi ddechrau'r trafodaethau â nhw. Mae'n rhaid aros i weld beth fydd canlyniadau'r trafodaethau yn y pen draw. Rwyf i'n bersonol yn dal i gredu mai aros y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yw'r dewis gorau i Gymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gwnaeth y bobl bleidleisio drosto, ac rydym ni mewn sefyllfa o orfod sicrhau'r cytundeb gorau y gallwn hyd at hynny.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, cyn i ni ddechrau heddiw, daeth llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn tynnu sylw at fwriad y Llywodraeth i gael pleidlais ar ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n croesawu'r cam hwnnw ar ran y Llywodraeth. Yn y llythyr—mae'n dri pharagraff o hyd, felly nid yw'n arbennig o hir—mae'n dynodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch amseriad y ddadl. Felly, rwy'n tybio bod y Llywodraeth wedi penderfynu pa fath o ddadl y byddwch chi'n ei chyflwyno i'r Aelodau bleidleisio arni. A fydd hi'n ddadl 'i nodi', a fydd hi'n bleidlais gyllideb neu a fydd hi'n bleidlais mwy sylweddol yn ymwneud â'r ymchwiliad ei hun? Oherwydd fel y dywedais, mae'r llythyr yn nodi'n eglur ei fod yn fwy o fater o amseru, ac mae'r Llywodraeth yn gwbl eglur ynghylch math a natur y ddadl y byddwn yn gallu pleidleisio arni. Byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurder ynghylch y mater penodol hwnnw.
Wel, ie, fel y dywedais yn gynharach wrth ateb y cwestiwn, rydym ni wedi ein cadarnhau y byddwn ni'n cyflwyno'r ddadl yn amser y Llywodraeth ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ar ôl i'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ddod i ben. Mae'r ddadl yn debygol o fod yn ddadl 'i nodi' ar hyn o bryd, ond rwy'n amharod i ddweud hynny'n bendant gan nad ydym ni'n gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus eto. Felly, tan y byddwn ni'n gwybod y canlyniad, nid ydym ni wir yn gwybod beth y gallwn ni seilio'r ddadl arno. Felly, rwy'n barod ar hyn o bryd i roi awgrym, ond ni allaf fod yn bendant am y peth oherwydd, tan y byddwn ni'n gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, nid ydym mewn sefyllfa i fod yn bendant amdano.
A bod yn deg, rwy'n seilio fy nghwestiynau ar y llythyr, yn amlwg, ac mae'r llythyr yn nodi bod y Llywodraeth wedi penderfynu ar y math o ddadl y byddwn ni'n pleidleisio arni. Nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad cyhoeddus, mae'n sôn mwy am amseroedd y ddadl yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol. Ond, rydych chi'n nodi nad yw'n ymddangos fel pe byddai'r Llywodraeth yn ystyried cyflwyno pleidlais gyllideb neu ddyraniad o adnoddau i'r prosiect hwn ar hyn o bryd. Fel y dywedasoch yn gynharach, mae ddadl 'i nodi'. Oherwydd mae cryn wahaniaeth, oes, i'r Aelodau bleidleisio arno. O gofio mai dyma'r prosiect cyfalaf mwyaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni ddeall yn union beth mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Felly, a gaf i fod yn gwbl eglur: rydych chi wedi penderfynu ar hyn o bryd mai pleidlais 'i nodi' fydd y bleidlais hon?
Ydym, ar hyn o bryd, rydym ni o'r farn y dylai fod yn ddadl 'i nodi', ond hoffwn ailadrodd ei bod yn amhosibl bod yn bendant tan i ni weld canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r cyngor cyfreithiol dilynol ac ati. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i fod yn bendant am y peth, am y rheswm gorau posibl, sef bod angen i ni ymateb iddo yng ngoleuni beth bynnag yw canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, pan fydd hwnnw gennym ni, yna byddaf yn gallu rhoi syniad o beth yw safbwynt y Llywodraeth.
Rwy'n ddiolchgar am elfen o eglurder. Rwy'n sylweddoli bod yr ymchwiliad cyhoeddus dal i fynd yn ei flaen, ond rwy'n amlwg yn seilio fy nghwestiynau ar y llythyr a dderbyniwyd gan yr Aelodau ar fater trafnidiaeth arall a ddaeth i'r amlwg yn ystod y toriad, sef Abellio yn tynnu'n ôl o'r fasnachfraint rheilffyrdd sy'n destun trafodaethau a thender gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Canlyniad siomedig iawn, yn amlwg. Nawr, mae 50 y cant o'r cynigwyr wedi tynnu'n ôl o'r broses. Byddai rhywun yn gofyn y cwestiwn: a wnaeth Llywodraeth Cymru neu Trafnidiaeth Cymru weithio'n rhagweithiol gydag Abellio i geisio datrys y broblem ynghylch Carillion i'w cadw yn y ras am y tendr? Oherwydd y mwyaf o syniadau, y gorau y bydd y cytundeb masnachfraint a gawn, gobeithio. Ac un peth y mae defnyddwyr trenau yng Nghymru yn ei haeddu yw gwell gwasanaeth nag y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd. Ni waeth pa liw plaid, gallwn i gyd gytuno â hynny, gallwn.
Felly, yr hyn yr hoffwn yw arwydd gan arweinydd y tŷ, os yw'n bosibl, o ran a yw'r Llywodraeth yn ffyddiog bod cynigion y ddau gynigydd sydd ar ôl yn gadarn ac y byddan nhw'n mynd yr holl ffordd. Ac, yn ail, pa eglurder all hi ei roi ynghylch yr ymgysylltiad ag Abellio i geisio datrys rhai o'r problemau a gawsant oherwydd methiant Carillion? O gofio problemau ariannol hirhoedlog Carillion yr oedd dealltwriaeth dda ohonynt am fisoedd lawer, a oedd llawer o ymgysylltu gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i geisio hwyluso iddynt aros yn y broses dendro?
Oedd, fe wnaethom weithio'n galed iawn i'w cadw yn y broses gaffael. Mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le: mae'n well i ni gael yr amrywiaeth ehangaf o bosibiliadau yn agored i ni o ran y broses gaffael. Felly, gwnaed llawer o waith caled iawn cyn methiant Carillion, ac ar ôl hynny, i'w cadw yn y broses gaffael. Fodd bynnag, mae gennym ni ddau o dendrwyr cadarn iawn i fwrw ymlaen â nhw o hyd, ac rydym ni'n hyderus iawn y byddwn yn cael canlyniad da i ddinasyddion Cymru, yr wyf i'n cytuno'n llwyr ag ef y maen nhw'n llwyr ei haeddu.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chlybiau ysgol bwyd a hwyl yr haf hwn? OAQ51822
Gwnaf. Mewn partneriaeth â CLlLC, byddwn yn parhau i gynyddu nifer yr awdurdodau lleol a'r ysgolion sy'n rhedeg y cynllun hwn trwy roi £500,000 arall ar gael yn ystod 2018-19. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gysoni agendâu, er enghraifft, trwy leihau profiadau andwyol yn ystod plentyndod neu gynyddu lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon.
Diolch, arweinydd y tŷ. Roedd yn fraint wirioneddol i mi, yr haf diwethaf, i ymweld â'r clwb cinio a hwyl ym Mhenywaun yn fy etholaeth i i weld y manteision cadarnhaol yr oedd y fenter hon yn eu darparu, ac mae hynny'n driphlyg: mae'n ymwneud â darparu dau bryd o fwyd poeth bob dydd i'r holl ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; darparu gweithgareddau addysgol difyr; ond hefyd roedd gen i ddiddordeb yn y ffaith ei fod yn cynnig oriau gwaith ychwanegol i rai o'r staff ysgol sy'n derbyn y cyflogau isaf hefyd. Gwelwyd yr wythnos diwethaf y cyhoeddiad mwyaf gweddnewidiol efallai ar yr agenda newyn yn ystod y gwyliau wrth i Gyngor Gogledd Swydd Lanark dan arweiniad Llafur gyhoeddi ei fod yn bwriadu darparu prydau i'w ddisgyblion prydau ysgol am ddim 365 diwrnod y flwyddyn, gyda'r goblygiad cost ychwanegol honedig o ddim ond £0.5 miliwn i un o'r awdurdodau â'r cyfraddau uchaf o brydau ysgol am ddim. Cefnogir hyn gan waith ymchwil sy'n dangos y gallai wella'r gallu i ganolbwyntio ac o bosibl cynnig ysgogiad grymus i gau'r bwlch cyrhaeddiad anodd ei gau rhwng y rheini sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rheini nad ydynt. A wnaiff Llywodraeth Cymru geisio monitro'r cynllun arbrofol hwn i weld pa un a yw'n rhywbeth y gellid rhoi cynnig arno yng Nghymru hefyd?
Byddwn, yn wir. Mae'r cynllun bwyd a hwyl yn gynllun gwych—mae wedi ennill saith gwobr, gan gynnwys gwobr GIG yn cydnabod cydymffurfiad y cynllun ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n falch iawn o ddweud bod elusen Sustain wedi ysgrifennu at holl Lywodraethau'r DU yn 2017 gan dynnu sylw at fodel Cymru o fynd i'r afael â newyn yn ystod y gwyliau fel y gorau yn y DU. Felly, rydym ni'n falch iawn gyda'r hyn sydd gennym ni eisoes, ac, fel y dywedais, rydym ni'n ei ymestyn. Fodd bynnag, byddwn yn gwylio gyda diddordeb brwd canlyniad cynllun arbrofol Gogledd Swydd Lanark, sy'n cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol, a byddwn yn bwriadu ystyried gwerthusiadau'r cynllun arbrofol hwnnw wrth fwrw ymlaen â'n cynllun ein hunain. Rwy'n mawr obeithio y bydd yn gweithio ac y gallwn ei efelychu.
Arweinydd y tŷ, un peth sy'n bwysig iawn, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod darpariaeth gofal plant ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol, ac, yn wir, y tu allan i wyliau'r ysgol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac, yn wir, y Gymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar am y cosbau y gallai neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd eu hwynebu os ydynt yn gwarchod ar ran eu perthnasau? Does bosib nad ydym ni eisiau bod yn annog teuluoedd i rannu cyfrifoldebau gofalu, nid eu hatal drwy eu cosbi oherwydd newid Llywodraeth Cymru i'w chanllawiau y llynedd.
Rwy'n rhannu pryder yr Aelod, a dweud y gwir, ond nid wyf yn siŵr y byddwn i'n ei roi yn yr union ffordd y gwnaeth ef. Dim ond gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gymwys ar hyn o bryd i gael cyllid yn rhan o'r cynnig, gan fod deddfwriaeth ar gyfer 2010, mewn gwirionedd, yn dweud nad yw'r unigolyn sy'n gofalu am y plentyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r unigolyn hwnnw'n rhiant neu'n berthynas i'r plentyn, neu'n rhiant maeth i'r plentyn. Felly, ni allwn ariannu gwarchodwyr plant i ofalu am blant sy'n perthyn iddyn nhw ar hyn o bryd oni bai ei fod yn rhan o gynllun ehangach lle maen nhw'n gofalu am blant eraill.
Rydym ni wedi bod yn trafod hyn gyda PACEY, ac rydym ni'n parhau i siarad â nhw am ba newidiadau, os o gwbl, y gellid eu gwneud i'r ddeddfwriaeth cyn cyflwyno ein cynnig yn genedlaethol, gyda'r nod o weld beth allwn ni ei wneud i sicrhau cydbwysedd rhwng y ddwy flaenoriaeth sy'n mynd yn groes i'w gilydd braidd o sicrhau bod pobl yn bodloni'r holl reoliadau a'r cymwysterau— y safonau diogelwch bwyd a'r holl safonau eraill y byddech chi'n ei ddisgwyl gan rywun sy'n gofalu am blant—a galluogi neiniau a theidiau ac ati i fanteisio ar y cynllun hwnnw. Felly, rydym ni'n gweithio ar hynny. Rwyf i yn rhannu rhai o'i bryderon, ond ni fyddwn yn ei roi yn yr union ffordd y gwnaeth ef, ac rydym ni'n mynd ati'n ymarferol i weld beth allwn ni ei wneud am y peth.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r defnydd o blastig yng Nghymru? OAQ51811
Ymddiheuriadau.
Mae wedi'i ysgrifennu i lawr.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r defnydd o blastig yng Nghymru?
Ymddiheuriadau am hynna. Sicrhaodd Llywodraeth Cymru bod Cymru ar flaen y gad o ran cyflwyno'r ffi am fagiau siopa untro. Ers ei gyflwyno, bu gostyngiad sylweddol i'r defnydd o fagiau plastig untro. Rydym ni'n datblygu deddfwriaeth nawr i gyflwyno gwaharddiad ar ficrobelenni yng Nghymru, ar weithgynhyrchu a gwerthu'r cynhyrchion hynny.
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymateb yna. Mi oeddwn i'n falch iawn o allu bod mewn digwyddiad yn Rhosneigr nos Wener diwethaf lle roedd ymgyrch newydd yn cael ei lansio i droi Ynys Môn yn ynys ddi-blastig. Beth mae hynny'n ei wneud ydy apelio ar bobl—busnesau, unigolion a chynghorau—i roi'r gorau i ddefnyddio plastig mewn sawl maes. Mae yna gynnig ar fin mynd o flaen Cyngor Sir Ynys Môn fel bod y sir gyfan yn gallu cymryd safbwynt ar hyn. A ydy'r Llywodraeth yn cefnogi'r math yma o ymgyrch er mwyn lleihau faint o blastig sydd yn ein hamgylchedd ni? A wnaiff arweinydd y tŷ hefyd gytuno bod angen arweinyddiaeth Llywodraeth ac arweinyddiaeth deddfwriaethol gan y Cynulliad yma hefyd er mwyn sicrhau bod yna weithredu Gymru gyfan er mwyn lleihau plastig yn yr amgylchedd?
Gwnaf, yn wir, rwy'n croesawu'n fawr cais Ynys Môn i Ynys Môn ddod yn awdurdod lleol cyntaf Cymru i fod â statws di-blastig swyddogol. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys cynlluniau i sefydlu rhwydwaith ail-lenwi dŵr ar draws yr ynys, a byddai gennym ni ddiddordeb mawr mewn gweld sut yr aiff hynny. Bydd yr Aelod yn gwbl ymwybodol mai 2018 yw Blwyddyn y Môr Cymru, felly mae'n amserol iawn cymryd camau i ddiogelu ein hasedau naturiol trwy gymryd camau pellach o'r fath. Sefydlwyd partneriaeth a gweithgor moroedd glân Cymru gennym i ystyried y materion hyn ac i ganolbwyntio camau gweithredu ar atal y broblem yn ei tharddiad.
Roedd y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn falch o gynnig ei llongyfarchiadau personol i ymgyrchwyr Ceinewydd Di-blastig yng Ngheinewydd yr wythnos diwethaf, pan ddyfarnwyd statws di-blastig swyddogol iddynt. Mae'n braf iawn gweld cymunedau Cymru yn cymryd camau cadarnhaol ar y mater. Mae Ceinewydd yn ymuno â'i gymydog, Aberporth, fel cymunedau di-blastig swyddogol, ac rydym ni'n mawr obeithio y bydd trefi a phentrefi eraill ledled Cymru yn eu dilyn. Mae'n wych gweld awdurdod lleol Ynys Môn yn achub y blaen.
Fel y dywedais yn yr ateb cychwynnol, rydym ni'n datblygu deddfwriaeth i gyflwyno'r gwaharddiad ar ficrobelenni yng Nghymru ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion—erbyn 30 Mehefin 2018, rydym ni'n gobeithio. Llanilltud Fawr oedd y dref gyntaf yng Nghymru i ymuno â'r ap Refill yn ddiweddar, sy'n annog pobl i ail-lenwi poteli dŵr mewn siopau, caffis a busnesau, felly hoffem annog y math hynny o beth hefyd. Ond rydym ni'n ei groesawu'n fawr iawn, ac rydym ni'n sicr yn mynd ati'n ymarferol i weld beth allwn ni ei wneud, yn ddeddfwriaethol ac yn ddiwylliannol, i helpu pobl leihau eu defnydd o blastig.
Arweinydd y tŷ, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei bod wedi comisiynu astudiaeth a fyddai'n edrych ar ffyrdd, a dyfynnaf,
'o gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol.'
Byddai'r astudiaeth hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil ar effeithiau'r cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig. Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn: pryd gallwn ni ddisgwyl canfyddiadau'r adroddiad hwnnw i gael eu rhoi ar gael?
Rydym ni wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio'r potensial ar gyfer dulliau cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig yng Nghymru, a fydd yn helpu i gynyddu ailgylchu a lleihau sbwriel deunydd pacio. Rwy'n credu y bydd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar deunydd pacio sy'n gysylltiedig â bwyd a diod, gan gynnwys poteli plastig a chaniau, a bydd hefyd yn cynnwys dadansoddiad o gynllun blaendal-dychwelyd posibl. A dweud y gwir, mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd yn gwneud datganiad ar ailgylchu yng Nghymru yn ddiweddarach ar agenda heddiw. Rwyf i yn credu ei bod hi'n werth nodi mai Cymru sydd â'r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y DU, yr ail uchaf yn Ewrop a'r trydydd uchaf yn y byd. Felly, rydym ni'n gwneud yn dda iawn eisoes, ond mae'r Aelod yn llygad ei le—gallem ni wneud mwy, a byddwn yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n croesawu'r penderfyniad gan y BBC i gael gwared ar yr holl blastig untro o'i safleoedd erbyn 2020, ac mae'r teulu brenhinol, sy'n sefydliad bron mor fawreddog ac urddasol â'r BBC, wedi dweud y bydd yn rhaid i arlwywyr mewnol ym Mhalas Buckingham, Castell Windsor a Phalas Holyrood ddefnyddio platiau a gwydrau tsieina, neu—[Torri ar draws.]—gwpanau papur ailgylchu. Rwy'n meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddilyn esiampl y teulu brenhinol a'r BBC a gwneud yr un peth ar ei safleoedd hi.
Rwy'n credu ei fod yn nod canmoladwy iawn. Nid wyf yn rhy siŵr am rai tsieina, ond gwn fod David Melding wedi fy nghlywed i ar un o'm bocsys sebon lu sawl gwaith yn mynegi fy nghasineb o gwpanau coffi untro, a'r ffaith fy mod i'n cario cwpanau coffi y gellir eu hailenwi o gwmpas, ar draul y tu mewn i fy mag llaw ar adegau. Yn wir, rwy'n falch iawn bod ystâd y Cynulliad yn defnyddio cwpanau tsieina i raddau helaeth hefyd, ond mae gennym ni ychydig o broblem gyda'r caeadau, rwy'n credu.
Mae'n syndod o anodd dileu plastig o'ch bywyd. Rwyf wedi rhoi cynnig arni fy hun, a cheir rhai cynhyrchion y mae'n anodd iawn, iawn cael gafael arnyn nhw heb blastig, felly ceir mater pwysig i ni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n rhoi rhywfaint o bwysau ar weithgynhyrchwyr sy'n meddwl am ddewisiadau eraill. Mae llawer o bethau y gallem ni eu gwneud yn y cyfamser, fodd bynnag, a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd ei awgrym ar ystâd Llywodraeth Cymru i weld beth allwn ni ei wneud i leihau'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd o ran plastig defnydd untro. Ac, os gwnaiff y Llywydd fy ngoddef am funud, byddaf yn ailadrodd rhywbeth yr wyf i eisoes wedi ei ddweud yn y Siambr hon, sef y byddwn i'n annog pawb yn frwd i ddefnyddio brwsys dannedd dolen bambŵ, sy'n ddewis ardderchog yn hytrach na brwsys dannedd plastig untro.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i fonitro categorïau ymateb y gwasanaethau ambiwlans? OAQ51825
Gwnaf, yn wir. Mae'r model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod yr holl gleifion yn cael yr ymateb cywir gan y math cywir o glinigydd a cherbyd i sicrhau bod eu siawns o gael canlyniad da mor uchel â phosibl, a bod cleifion sydd fwyaf angen ymyrraeth ar unwaith yn cael yr ymateb cyflymaf.
Diolch. Y cwestiwn ymyrraeth ar unwaith yna yr wyf i eisiau ei godi gyda chi, oherwydd, fel y byddwch chi'n ymwybodol, bu rhai straeon sy'n peri gofid yn ein hardal ni o'r byd, lle nad yw anaf a adroddwyd ohono ei hun wedi bygwth bywyd efallai, ond mae'r canlyniadau i gleifion wedi bod yn ddifrifol oherwydd ffactorau eilaidd na chymerwyd i ystyriaeth gan y rheini oedd yn ymdrin â galwadau. Mae gennym ni un digwyddiad pan adawyd unigolion am oriau mewn amodau rhewllyd yn y nos mewn lleoliad gwledig, gydag anaf efallai na fyddai wedi bod yn broblem yn y cartref o flaen tân cynnes. Mewn un arall, gadawyd unigolyn oedrannus yn gorwedd am oriau ar lawr oer ar ôl codwm a thorri asgwrn a fyddai wedi bygwth ei fywyd pe byddai wedi cael ei symud gan unigolyn lleyg, sef, wrth gwrs, y demtasiwn pan fydd rhywun wedi cael ei adael yn gorwedd yn rhy hir. Ac mewn adroddiad cywir arall gan berson lleyg o rywun a darwyd yn anymwybodol, ni chafodd ei holi i ddatgelu mai prin yr oedd yr unigolyn yn anadlu a'i fod wedi dirywio mor gyflym fel bod y categoreiddiad oren yn gamgymeriad. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ailystyried y cwestiynau a ofynnir gan y rheini sy'n ymdrin â galwadau, nid ar gyfer newid egwyddor llwyr, ond i ganiatáu i amodau amgylcheddol gael eu cymryd i ystyriaeth cyn gwrthod categoreiddiad coch?
Fy nealltwriaeth yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans adolygu'r broses o fonitro galwadau oren er mwyn lleihau'r amser y mae'r rheini â'r amseroedd ymateb hiraf yn ei aros ac ystyried sut yr ymdrinnir â'r galwadau oren. Felly, rwy'n siŵr ei fod wedi clywed y pwynt ychwanegol hwnnw yr ydych chi wedi ei wneud ac y bydd yn cymryd hynny i ystyriaeth.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ51792
Croeso i'r Siambr. Rwy'n credu mai dyna eich cwestiwn cyntaf, felly rwy'n falch iawn o fod yr un sy'n ei ateb. Mae ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi ar draws y gogledd wedi eu nodi yn y 'Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol: Diweddariad 2017'. Mae ein hadnoddau wedi eu cyfeirio i sicrhau system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig sy'n cefnogi pob dull o drafnidiaeth.
Diolch. Arweinydd y tŷ, rydym ni'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn darparu buddsoddiadau gweddnewidiol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, o ailddatblygu gorsaf Shotton i'r buddsoddiad o £250 miliwn yn y ffyrdd a gwelliant ar draws coridor Glannau Dyfrdwy. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicr yn cael ei groesawu gan fy etholwyr, ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y gallwn ni wneud mwy ac y dylem ni wneud mwy. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn y cymunedau lleol ac ar draws y gogledd yn bwysig iawn fel y mae cysylltiadau o'r gogledd i'r de. Ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod cysylltiadau gyda'n cymdogion yn Lloegr yn hanfodol. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gennym ni gysylltiadau economaidd a thrafnidiaeth agosach gyda gogledd-orllewin Lloegr?
Ie, pwyntiau pwysig iawn. Rydym ni'n sicr yn cydnabod pwysigrwydd gwella cysylltedd trafnidiaeth rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a dyna pam yr ydym ni'n gweithio'n agos gyda sefydliadau ar ddwy ochr y ffin i ddatblygu a chyflawni gwelliannau ar draws pob dull trafnidiaeth. Mae cynrychiolwyr o Orllewin Swydd Gaer a Chaer, Glannau Mersi a Chilgwri yn aelodau o grŵp llywio metro gogledd Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru i sicrhau ein bod ni'n cynllunio ac yn cyflawni gwelliannau mewn ffordd gydgysylltiedig. O ran gwasanaethau bysiau, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Merseytravel i wella cysylltedd bysiau rhwng Lerpwl a gogledd Cymru ac rydym ni'n disgwyl cynnig i gael ei gyflwyno gan weithredwr bysiau i redeg y gwasanaeth pellter hir yn fuan.
Fel yr wyf i'n siŵr eich bod yn ymwybodol, lansiwyd Prosbectws Rheilffyrdd Strategol Cymru a Gorllewin Lloegr yn San Steffan ddoe—gyda Ken Skates yn siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Chris Grayling—cynnig a ddatblygwyd gan bartneriaeth o gyrff sectorau cyhoeddus a phreifat ar ddwy ochr y ffin. Yn amlwg, rydym ni hefyd yn cefnogi'r cynigion yn hwnnw. Ond yn gyfochrog â hynny ac yn hanfodol i'w lwyddiant bydd y galwadau yn y cais bargen twf y gogledd. Sut, felly, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r alwad, neu'r gwahoddiad, yn y cais bargen twf y gogledd, i ddod i'r ddwy Lywodraeth, gan wahodd Llywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol a chronfa trafnidiaeth ranbarthol lle bydd angen pwerau ychwanegol i alluogi rhwydweithiau trafnidiaeth integredig i deithwyr gael eu cynllunio?
Fy nealltwriaeth i yw ei fod yn rhan o'r ystyriaeth o gysylltedd yr wyf i newydd sôn amdano. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dynodi i mi y bydd yn rhan o'r ystyriaeth, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu am fanylion penodol iawn, rwy'n siŵr y byddai'n hapus i roi manylion penodol i chi.
Mi glywodd grŵp bob plaid ar ogledd Cymru gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â chynlluniau'r Llywodraeth yma i greu rhwydwaith o hybiau trafnidiaeth ar draws y gogledd, ac mae hynny i'w groesawu wrth gwrs—buddsoddiad o, rydw i'n siŵr, ddegau o filiynau yn yr isadeiledd yna—ond ar yr un pryd, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, mi glywom ni neu mi welom ni gyhoeddi adroddiad oedd yn dangos mai Cymru a welodd y gostyngiad mwyaf yn y nifer o filltiroedd sy'n cael eu teithio ar fysiau cyhoeddus drwy Brydain gyfan. Nawr, tra bod y Llywodraeth yn sôn am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol, sydd i'w groesawu, mae'n amlwg hefyd fod angen buddsoddiad refeniw cyfatebol er mwyn rhoi stop ar yr erydu parhaol yma sy'n digwydd ar fuddsoddiad mewn gwasanaethau bysiau. Felly, a fyddech chi'n cytuno mai'r risg yw y byddai hi'n gam gwag i fuddsoddi mewn hybiau trafnidiaeth os ydym ni'n dal i golli gwasanaethau sylfaenol ar y bysus?
Rwy'n credu bod yr holl sefyllfa gyda thrafnidiaeth bysiau yn un ddyrys. Rydym ni wir yn gwario swm enfawr o arian ar drafnidiaeth bysiau ledled Cymru, nid yn unig yng ngogledd y wlad. pan fydd y pwerau rheoleiddio bysiau yn cael eu datganoli i Gymru, bydd yn rhaid i ni gael, rwy'n credu, golwg sylfaenol ar sut yr ydym ni'n defnyddio'r arian cymhorthdal hwnnw, gan gynnwys cymorthdaliadau refeniw a chyfalaf, oherwydd rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn y Siambr hon yn cael problemau gyda gwasanaethau bysiau yn ein hardaloedd a cheir rhai anawsterau sylweddol o ran cynllunio'r llwybrau a'r niferoedd mawr o lwybrau lle, er enghraifft, nad yw cardiau teithio rhatach ar gael ac ati. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mewn gwirionedd bod angen cymryd golwg sylfaenol ond rwy'n credu bod angen i ni edrych ar yr adeg pan fo gennym ni'r pŵer i reoleiddio, fel bod gennym ni ychydig mwy o ddylanwad o ran rhai o'r llwybrau y byddem ni'n hoffi eu gweld. Nid wyf yn gyfarwydd â'r llwybrau penodol yn ei ardal ef, ond gallaf eich sicrhau, yn fy ardal i, bod gen i lawer o'r un anawsterau. Byddwn yn sicr yn ystyried hyn eto.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i Mudiad Meithrin yn y flwyddyn ariannol 2018/19? OAQ51790
Gwnaf. Mae grantiau a chontractau gwerth mwy na £3.7 miliwn wedi eu dyrannu hyd yma i'r Mudiad Meithrin ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19. Mae hyn yn cynnwys £1 filiwn ychwanegol i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna? Hoffwn godi pwysigrwydd y Mudiad Meithrin, sy'n cael plant i ddechrau defnyddio'r Gymraeg yn ifanc iawn, sy'n arwain atyn nhw yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg gan gynyddu trwy hynny nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru lunio cynllun i gynyddu'r niferoedd sy'n mynychu Ti a Fi a'r Mudiad Meithrin, gan mai dyna fydd yr unig ffordd y bydd modd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol dros yr 20 neu'r 30 mlynedd nesaf?
Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud gan fod fy rhieni fy hun yn siaradwyr Cymraeg, fel y mae'n gwybod, ac nid wyf i'n siaradwr Cymraeg gan na wnaethon nhw ei addysgu i mi fel plentyn ac rwyf i wedi methu'n lân â o ran ei siarad heblaw am wybod fy lliwiau a fy rhifau, mae gen i gywilydd dweud. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud dros fagu eich plant yn ddwyieithog. Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor a chymorth i rieni a darpar rieni gyda'r nod o alluogi teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r rhaglen wedi ei thargedu at ddarpar rieni a theuluoedd â phlant 0 i bedair oed, ac mae'r Mudiad Meithrin yn darparu gweithgareddau lleol a chymorth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau stori a chân, ioga babanod a grwpiau tylino babanod. Estynnwyd y gweithgareddau hyn i bob awdurdod lleol o fis Ebrill 2017, ac mae'r contract ar gyfer darparu'r gweithgareddau wedi ei ymestyn i fis Mawrth 2019, gan ein bod ni'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod mai'r cynharaf yw'r ymgysylltiad â'r Gymraeg a'r amlaf y bydd yr ymgysylltiad hwnnw yn y teulu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd yr iaith yn aros gyda'r plant.
Mae gennym ni rwydwaith o fwy na 400—nid wyf i'n gallu ei ddweud yn Gymraeg, mae gen i gywilydd dweud—o gylchoedd rheini a phlant bach Ti a Fi ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnig gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'u geni hyd at oedran ysgol ac yn cynnig y cyfleoedd i deuluoedd gymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg anffurfiol.
Rwy'n mynd i ychwanegu rhywbeth arall yn y fan yma yr wyf i'n ei wybod o'm portffolio digidol fy hun, sef fy mod i wir yn annog pawb i roi cymaint o Gymraeg â phosibl ar Wikipedia ac ar y we oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei ganfod yw os gall pobl ifanc ei defnyddio mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd yn rhan o'u cymdeithasu, yna maen nhw'n tueddu i ddefnyddio'r Gymraeg yn amlach o lawer ymhlith eu grŵp cyfoedion y tu allan i'r ysgol, ac mae hynny hefyd yn helpu i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn eu bywydau. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio annog hynny ers cyfnod sylweddol o amser.
Bydd yr £1 filiwn ychwanegol i gynorthwyo'r gwaith yn 2018-19 yn eu galluogi i wneud cynnydd cyflym i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a bydd yn cael ei ddefnyddio i wneud y gwaith sydd wedi ei dargedu'n benodol at sefydlu lleoliadau newydd mewn ardaloedd â phrinder presennol o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg hefyd.
Mae'r arian hwn i'w groesawu'n fawr, ac wrth gwrs mae'n fuddsoddiad sbarduno pwysig iawn ar gyfer y polisi 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ond ni allwch chi wneud y dybiaeth dim ond os bydd plentyn yn mynd i sesiynau Ti a Fi a Mudiad Meithrin y bydd yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol ei fywyd, yn enwedig pan fydd yn gadael yr ysgol. Er y gallai fod yn eithaf anodd i fonitro cynnydd unigolion sy'n defnyddio'r Gymraeg pan fyddant yn ei dysgu ar-lein efallai, dylai fod yn haws olrhain cynnydd plentyn a pha un a yw'n datblygu ac yn defnyddio ei Gymraeg drwy gydol ei oes. A yw hynny'n rhywbeth sy'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru o fewn strategaeth 2050?
Nid wyf i'n gwbl sicr a yw'r manylyn hwnnw yn rhan ohoni, ond gwn fod yr adolygiad o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a gynhaliwyd gan Aled Roberts yn 2017 yn cynnwys argymhellion i gryfhau'r berthynas strategol rhwng awdurdodau lleol a'r Mudiad Meithrin i sicrhau twf ar lefel awdurdod lleol i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer 2050, ac i sicrhau bod y system ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn cymryd yr angen am ddarpariaeth cyn-ysgol i ystyriaeth er mwyn cynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer pontio rhwng y cyfnod cyn-ysgol a'r cyfnod cynradd. Felly, mae hynny'n ateb eich cwestiwn yn rhannol, yn yr ystyr ein bod ni'n olrhain pobl o'r ddarpariaeth cyn-ysgol i ddarpariaeth y cyfnod cynradd, ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg i ateb eich cwestiwn yn benodol.FootnoteLink
A gaf innau hefyd croesawu’r ffaith bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cytundeb ar y gyllideb wedi sicrhau’r adnoddau ychwanegol yma i Mudiad Meithrin? Byddwn i’n anghytuno, i raddau, gyda’r pwynt yr oedd Suzy Davies yn ei wneud oherwydd mae’r dystiolaeth yn dangos os ŷch chi’n mynd i gylch meithrin neu addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg, yna rŷch chi lawer iawn mwy tebygol o fynd ymlaen i addysg Gymraeg na phetai chi ddim.
Wrth gwrs, rŷm ni’n sôn fan hyn am strategaeth gan y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond byddwn i eisiau cyfeirio’n benodol fan hyn at y cynnig gofal plant y mae’r Llywodraeth yn ei ddatblygu nawr wrth gwrs, a’r rôl allweddol sydd gan hwnnw i sicrhau bod cynifer o blant ag sy’n bosib yn yr oed cyn ysgol yna’n cael eu dal o fewn y continwwm addysg Gymraeg yn hytrach nag yn cychwyn y siwrne addysg y tu allan iddo fe, oherwydd, unwaith rŷch chi wedi eu colli nhw yn y blynyddoedd cynnar yna, y tebygolrwydd llethol yw na fyddan nhw'n dod i mewn i addysg Gymraeg, ac na fyddan nhw’n ennill y gallu i fod yn ddwyieithog.
Felly, a gaf i ofyn sut rydych chi’n sicrhau y bydd pob plentyn yn cael mynediad i wasanaethau Cymraeg o safbwynt y cynnig gofal plant, a hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod yna weithlu digonol i fedru sicrhau bod y ddarpariaeth yna'n bodoli?
Mae'r Aelod yn llygad ei le, cyfrannwyd yr £1 filiwn ychwanegol gennym—fe'i buddsoddwyd—i'w galluogi i ymateb i'r her a nodir yn 'Cymraeg 2050' i wneud cynnydd cyflym i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Rydym ni wedi darparu ar gyfer dros 2,000 o grwpiau yn ystod 2017-18 hyd yn hyn, gan gynnig cymorth a chyngor i alluogi teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r Aelod yn llygad ei le—ceir data gwirioneddol i ddangos bod gweithgarwch cyn-ysgol yn arwain at weithgarwch cyfrwng Cymraeg. Fel y dywedais wrth Suzy Davies, rydym ni wedi ymestyn ein gwaith o fonitro hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni'r data ar gael, ac rydym ni wedi ymestyn y contract ar gyfer darparu gweithgareddau i fis Mawrth 2019 hefyd. Fel y sefydliad arweiniol o fewn Cwlwm—consortiwm o bum sefydliad gofal plant blaenllaw yng Nghymru—mae'r Mudiad Meithrin hefyd wedi ymgymryd â phrosiectau sydd â'r nod o ddarparu gwasanaeth integredig dwyieithog a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru, gyda golwg ar y dwyieithrwydd hwnnw, yn hytrach nag addysgu Cymraeg fel iaith dramor, y credaf nad yw'n bolisi sydd wedi sefyll prawf amser, ac rwy'n brawf byw o ba mor dda nad yw'n gweithio.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ51805
Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Yn arbennig, bydd swyddi, busnes a gwasanaethau cyhoeddus yn Islwyn, a ledled Cymru, mewn gwirionedd, yn ddibynnol ar sicrhau mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl ac undeb tollau, a dyna ein prif flaenoriaethau.
Diolch. Arweinydd y tŷ, cynigiodd David Lidington, Gweinidog Llywodraeth Dorïaidd y DU dros Swyddfa'r Cabinet, wrth siarad yn Airbus yn y gogledd, ailysgrifennu'r Bil Brexit blaenllaw honedig i fynd i'r afael â phryderon y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban. Mewn ymateb, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod y Bil ymadael o'r UE, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros feysydd polisi datganoledig, fel ffermio a physgota, ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae hwn yn ymosodiad annerbyniol ar ddatganoli yng Nghymru a'r Alban. Arweinydd y tŷ, pa gamau pellach all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn parchu'r setliad datganoli i'r Cynulliad hwn y brwydrwyd yn galed amdano? Sut gall Llywodraeth Cymru ddiogelu buddiannau economaidd pobl Islwyn, ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau estynedig gyda Llywodraeth y DU am y parch at y setliad datganoli fel y nodwyd yn y Bil ymadael o'r UE. Ein nod fydd cyflwyno Bil—y Bil parhad—ac rwy'n falch iawn, fy hun, o weld Steffan yn y Siambr y prynhawn yma. Byddwn yn cyflwyno'r Bil parhad hwnnw i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y Bil ymadael o'r UE ac y gallwn ddiogelu felly ein heconomi, ein swyddi a'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Gweinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Athro Patrick Minford o Brifysgol Caerdydd—[Torri ar draws.] Wel, do, fe wnes i wrando. Dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y bydd defnyddwyr Cymru yn elwa'n aruthrol ar y prisiau is o ganlyniad i gystadleuaeth a chynhyrchiant cynyddol yn deillio o—[Torri ar draws.]
Mae angen i mi glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda. Ewch ymlaen, Mohammad Asghar.
Diolch, Llywydd—yn deillio o adael yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Rhagwelodd y byddai aelwydydd tlotach fel y rheini yn Islwyn yn elwa mwy fyth. Pam mae Llywodraeth Cymru mor ddiystyriol a negyddol ynghylch safbwyntiau economegwyr fel yr Athro Minford ac yn amharod i gydnabod y cyfleoedd economaidd sy'n deillio o Brexit i Gymru?
Wel, mae'r Athro Minford yn dipyn o eithriad ymhlith athrawon economaidd. A dweud y gwir, rwy'n credu ei fod ar ei ben ei hun yn llwyr yn ei ddadansoddiad o ragolygon economaidd Cymru heb yr UE. Mae ein dadansoddiad economaidd yn dangos, dros y tymor hwy, y gallai ein hallbwn economaidd fod hyd at 8 y cant i 10 y cant yn is na fel arall os byddwn ni'n gadael y farchnad sengl ac yn cael ein gorfodi i fasnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae hyn yn cyd-fynd â dadansoddiadau economaidd eraill a gyhoeddwyd ac adroddiadau asesiad Llywodraeth y DU ei hun. Mae hyn yn cyfateb i tua £1,500 i £2,000 y pen. Bydd yr effaith ar economi'r DU yn taro'r cyllid cyhoeddus sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, yn dilyn cyfnod hir o gyni cyllidol parhaus. Bydd hyn ddim ond yn gwaethygu'r her barhaus o ddarparu ein blaenoriaethau yng nghyd-destun pwysau cynyddol a chyllideb sy'n lleihau'n barhaus. Mae twf economaidd a swyddi yn Islwyn yn cael eu cynorthwyo trwy gynlluniau ariannu Undeb Ewropeaidd gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys Sgiliau Gwaith i Oedolion, Pontydd i Waith, prentisiaethau a chynlluniau busnes ac arloesi CAMPUS. Mae'r manteision y mae'r cynlluniau hyn yn eu creu ar gyfer ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau yn dangos yr angen am arian i gymryd ei le gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Fel arall, mae gen i ofn y bydd yr Athro Minford yn canfod ei hun, unwaith eto, ar yr ochr anghywir i'r ddadl academaidd.
Ac yn olaf, Steffan Lewis.
Diolch, Llywydd. Mae'n chwith iawn gen i weld y chwarae gwleidyddol, y tactegau osgoi a'r cilio rhag ateb cwestiwn y farchnad sengl yn araith arweinydd Plaid Lafur y DU ar ei weledigaeth ar gyfer perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae yna ganlyniadau go iawn i bobl go iawn yn sgil gadael y farchnad sengl. Un o'r canlyniadau hynny fydd colli'r hawl i fanteisio ar dreialon clinigol yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Dim ond aelod-wladwriaethau yr AEE a'r UE a all fanteisio ar dreialon clinigol a thriniaethau, felly hoffwn i gael sicrwydd gan arweinydd y tŷ—. Ac nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni, gyda llaw, drwy fynediad rhydd a dirwystr; mae'n rhaid ichi fod yn aelod o'r farchnad sengl i fanteisio ar aelodaeth yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac i'ch dinasyddion elwa ar y treialon clinigol. A gawn ni ymrwymiad y byddwch yn gwrthwynebu’n gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth o unrhyw liw gwleidyddol yn San Steffan i wrthod mynediad i ddinasyddion Cymru at y driniaeth arloesol orau y gellir ei darparu iddynt?
Cewch. Rwy'n hapus iawn i ddweud hynny yn bendant. Nid ydym ni erioed wedi gwadu'r ffaith bod angen i ni aros y tu mewn i'r trefniadau hynny. Mae'n drychinebus i waith ymchwil o bob math—nid dim ond ymchwil clinigol—ar draws Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig fod y tu allan i'r trefniadau partneriaeth pellgyrhaeddol hynny ar gyfer y gwaith ymchwil arloesol hwnnw. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn dal i fod o blaid hynny, a byddwn ni'n ei amddiffyn yn gadarn ar ba bynnag lefel.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, credwch neu beidio, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, gan no other than arweinydd y tŷ, Julie James, wearing her other hat. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwneud datganiad cyn hir ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf, ac er mwyn darparu ar gyfer hyn, rwyf wedi gohirio'r datganiad sy'n diweddaru'r Cynulliad ar archwiliad y DU ar waed heintiedig tan 13 Mawrth. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio'r ddadl fer yfory tan yr wythnos nesaf. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ymysg y papurau cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Mae gen i ddau beth yr hoffwn eu codi gydag arweinydd y tŷ, os yw hynny'n bosibl. Yn gyntaf, cefais y pleser o ddychwelyd i'm hen ysgol, ysgol uwchradd Cei Connah, i gwrdd â grŵp o ddisgyblion sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth F1 mewn ysgolion. Mae'r gystadleuaeth yn ymwneud â dylunio a gweithgynhyrchu ceir rasio model wedi'u pweru gan garbon deuocsid, a hynny gan ddefnyddio meddalwedd a thechnegau gweithgynhyrchu soffistigedig drwy gymorth cyfrifiadur. Fe gymerais innau ran yn y gystadleuaeth hon fy hun, a hoffwn ddymuno pob lwc i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cei Connah, ac i'r holl ddisgyblion eraill ar draws rhanbarth gogledd Cymru, yn y rowndiau terfynol rhanbarthol.
Yn olaf, yr wythnos diwethaf, siaradais hefyd mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy ar bwysigrwydd cysylltedd digidol ffeibr cyflawn. Rydym ni'n hyrwyddo'r gogledd fel lleoliad arbennig o ddeniadol ar gyfer twf a buddsoddiad busnes, ac yn rhan o'n gweledigaeth tymor hir iddo gael ei achredu fel y rhanbarth â'r cysylltedd digidol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a fyddai'n bosibl cael datganiad yn ystod amser y Llywodraeth ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn gweithredu cysylltedd band eang ffeibr llawn â chyflymder gigabit ar draws rhanbarth gogledd Cymru?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn. Mae gwasanaethau gigabit eisoes ar gael yn eang y dyddiau hyn ar draws y DU, Cymru a'r gogledd. Gall busnesau sydd angen cyflymderau gigabit gael gafael arnynt, ond wrth gwrs, nid ydynt yn rhad. Mae yna broblem wirioneddol ynghylch pris y farchnad am wasanaethau gigabit, ond yn anffodus nid Llywodraeth Cymru sy'n rheoli hynny. Mae'n fater i Ofcom i fynd i'r afael â hynny drwy reoleiddio'r farchnad. Rydym ni'n cymryd rhan yn y rowndiau ffeibr cyflawn y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnig, a bydd modd i mi ddweud rhagor wrth y Cynulliad pan fyddwn yn gwybod i ble y mae'r gystadleuaeth honno yn mynd.
O ran gwasanaethau gigabit domestig, rydym ni, fel y mae Jack Sargeant yn gwybod, yn ystyried buddsoddi mewn technoleg ffeibr-i'r-safle ledled y gogledd drwy gynllun Cyflymu Cymru a chynlluniau eraill. Ac, wrth gwrs, mae'r cynllun olynol yn mynd drwy broses gaffael ar hyn o bryd. Llywydd, ni wnaf ildio i'r demtasiwn i drafod hynny ymhellach heddiw, gan fy mod i'n ateb cwestiynau llafar y Cynulliad yfory, ac rwy'n credu bod nifer o'r rheini yn ymwneud â chynlluniau band eang.
Gyda'r cwestiynau yfory, arweinydd y tŷ, rydych chi'n gorfod gweithio'n galed yr wythnos hon, er tegwch i chi. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am y dreth trosglwyddo tir amhreswyl? Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ar y mater hwn dros y toriad hanner-tymor, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael gohebiaeth debyg gan y sector o ran yr effaith y caiff y dreth ar atyniad masnachol Cymru fel cyrchfan ar gyfer cyfalaf. Mae'n hanfodol ein bod ni'n deall yn union sut y bydd y dreth hon yn effeithio ar allu Cymru i ddenu buddsoddiad. Fel yr wyf i'n ei deall hi, mae'r sector yn nodi bod y dystiolaeth y mae'r Llywodraeth yn seilio ei hymrwymiad i gyflwyno'r dreth hon arni yn dod o asesiad Prifysgol Bangor, ac ni chynhaliwyd fawr ddim o ymgynghori neu ddim o gwbl â'r sector i ganfod effaith y dreth ar y sector. Byddai saith deg naw y cant o'r mewnfuddsoddiad ar brosiectau cyfalaf, y byddai'r dreth yn effeithio arnyn nhw, dros y 10 mlynedd diwethaf, yn dod o dan y gyfradd drethu uwch y mae Llywodraeth Cymru yn ei gosod. Yr hyn sydd i'w weld yn yr Alban, gyda lefel dreth is, yw mwy o fewnfuddsoddi a llifau mwy o gyfalaf yn y farchnad eiddo masnachol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyflwyno datganiad i amlinellu yn union faint o ymgynghori a fu â'r sector gan y Llywodraeth, ar effaith y dreth newydd hon, sy'n beth pwysig. A beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r dadansoddiad manwl iawn a luniwyd gan y sector o effaith debygol gallu denu cyfalaf gwerthfawr o'r fath i Gymru, er mwyn datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer eiddo ar hyd a lled Cymru.
Wel, dim ond newydd basio'r rheoliadau treth y mae'r Cynulliad. Cawsom ni ddadl lawn ac agored am y peth ar y pryd. Rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar o lawer i gyflwyno datganiad ar reoliadau sydd newydd gael eu pasio. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar ôl i ni gael cyfnod da o amser er mwyn i'r rheoliadau ddangos yr hyn y maen nhw'n ei wneud yng Nghymru a bod gennym ni ychydig o dystiolaeth empirig i seilio'r datganiad hwnnw arni.
Os caf i godi dau beth gydag arweinydd y tŷ. Yn gyntaf oll, rwy’n gweld, o’r datganiad busnes, bod cyflwyno'r Bil parhad yr wythnos nesaf. Mae teitl newydd mor hirwyntog gyda’r Bil erbyn hyn, ond y Bil parhad, chwedl Steffan Lewis. Ac, wrth gwrs, fe gawn ni ddatganiad yn y man gan yr Ysgrifennydd Cabinet—rwy’n deall hynny. Rwyf i jest eisiau gofyn i chi ynglŷn â threfn y Cynulliad o ddelio â’r Bil yma. Byddwn ni, yn gyntaf oll, rwy’n credu, yn penderfynu a ydym yn ei dderbyn fel Bil brys, ac wedyn yn mynd ymlaen, os ydym yn derbyn hynny, i wneud hynny.
Felly, a fedrwch chi ddweud wrthym ni am ba hyd yr ydych chi’n disgwyl i’r Bil yma gael ei drafod a phenderfynu arno, un ffordd neu’r llall, gan y Cynulliad? Ac a fydd amser o gwbl, yn ystod y broses yna, ar gyfer craffu gan bwyllgor? Mae’n ymddangos i fi, er fy mod i’n deall ei fod yn Fil brys, bod y Bil, wrth gwrs, wedi bod yn yr arfaeth ers yr haf, o leiaf, ac mae’n ymddangos i mi’n golled ein bod ni wedi sefydlu pwyllgor penodol i edrych ar faterion Brexit—nid dim ond Brexit, ond yn bennaf Brexit—o dan gadeiryddiaeth Dai Rees, os nad oes amser i’r pwyllgor yma o leiaf gael cyfle i edrych ar y Bil ac i gynnal rhyw fath o adborth yn ôl gan bobl ynglŷn â’r Bil. Felly, jest cadarnhad o’r drefn yn hytrach na’r polisi. Cawn ni gyfle i holi am y polisi yn y man—rwy’n gwybod hynny.
Yr ail beth yr hoffwn i ofyn amdano yw datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r sefyllfa bancio yng Nghymru, ac yn enwedig bancio yng nghefn gwlad. Mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi sawl gwaith, rwy’n gwybod, gan Aelodau o bob plaid yma, ond rwy’n ei godi heddiw, gan y byddwn i’n hoffi i’r Llywodraeth edrych ar Fil sy’n cael ei gyflwyno gan fy nghydweithiwr Ben Lake heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r Bil, o dan y rheol 10 munud, yn sefydlu tair egwyddor bwysig, rydw i’n meddwl, a defnyddiol iawn inni edrych arnynt o safbwynt bancio yng Nghymru, a chefn gwlad yn benodol
Yn gyntaf, mae'n edrych ar sut mae modd newid y protocol ynglŷn â mynediad at fancio o un o bellter i un o amser i gyrraedd. Pan ydych chi’n meddwl am beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad, mae pellter, weithiau, yn gallu bod yn gymharol fyr, ac mae’r amser i gyrraedd yn gallu bod llawer mwy, yn enwedig gan ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Yr ail egwyddor y mae’n gofyn amdano yw bod y rheoleiddwyr bancio yn edrych ar y posibiliad bod banciau gwahanol yn gallu rhannu safleoedd, rhannu offer a rhannu staff os oes angen. Nawr, wrth gwrs, bydd eisiau newid y rheoliadau er mwyn caniatáu hynny, ond medrwch chi weld sut y mae hynny yn gallu bod o fudd i nifer o'r trefi cefn gwlad, a byddwch chi’n ymwybodol bod hyn wedi digwydd yng nghyd-destun telegyfathrebu symudol, er enghraifft. Felly, mae’n rhywbeth y dylem fod yn agored iddo fe.
Y drydedd egwyddor ynddo fe yw’r un sy’n edrych i ehangu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan Swyddfa'r Post. Weithiau, mae Swyddfa'r Post yn gallu cynnig gwasanaeth clodwiw, ond nid yw bob tro yn ddefnyddiol ar gyfer busnesau, yn enwedig busnesau sy’n dal i ddelio ag arian, er enghraifft.
Felly, mae’r tair egwyddor hynny yn y Bil, rydw i’n meddwl, yn werth eu hystyried gan y Llywodraeth, a byddwn i'n licio cyfle i'w trafod nhw, ac efallai i glywed gan y Llywodraeth hefyd beth yw eu barn nhw am y Bil yma, neu unrhyw beth tebyg sy'n mynd i wella sefyllfa bancio yng Nghymru.
Mae'r rheiny'n ddau bwynt diddorol iawn. O ran y cyntaf, ar weithdrefn y Bil Parhad, sef yr enw y byddaf i hefyd yn ei ddefnyddio, gan fod y teitl yn wir yn hir ac yn gymhleth iawn, rydym yn bwriadu cyflwyno cynnig yr wythnos nesaf, i gael y Cynulliad i gytuno y dylid ei drin fel Bil brys, a bydd hefyd ddadl ar amserlennu'r Bil hwnnw, yn hytrach na'i rinweddau. Ac yna, ar ôl i'r Cynulliad gytuno ar yr amserlen, yna yn amlwg mae pethau'n mynd rhagddynt yn unol â'r amserlen. Felly, yr wythnos nesaf, bydd cyfle i drafod rhinweddau mathau amrywiol o ffyrdd o ymdrin â'r Bil brys, ac, yn amlwg, yn rhan o'r cynnig i drin y Bil fel Bil brys, byddwn ni'n cyflwyno rhesymau Llywodraeth Cymru dros eisiau gwneud hynny ac amrywiol bethau. Felly, wnaf i ddim eu hailadrodd yma, gan ein bod ni'n eu hamserlennu ar gyfer yr wythnos nesaf, ond mae'r Aelod yn hollol iawn: mae angen inni wneud yn siŵr bod y Cynulliad yn derbyn yr angen i'w drin fel Bil brys, a hefyd egluro sut y dylid amserlennu'r Bil hwnnw. Felly, mae hynny'n fater ar gyfer yr wythnos nesaf.
Nid oeddwn i'n ymwybodol o Fil Ben Lake ar fancio. Mae hynny'n ddiddorol iawn. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ohono. Rydym ni wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon ynghylch mynediad at fancio ac rwy'n rhannu'r holl bryderon a godwyd gan yr Aelod. Mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn credu ei fod yn fater gwledig yn unig. Mae'r holl broblemau hyn yn bodoli yn fy etholaeth i, sy'n drefol iawn, gan gynnwys yr amser y mae'n ei chymryd i gyrraedd banciau, a busnesau sy'n bancio gydag arian parod ac ati, felly byddwn i'n hapus iawn i siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y gallem ni ei wneud i edrych ar y Bil hwnnw ac unrhyw rai o'r pethau y gallem ni fwrw ymlaen â nhw yma yn y Cynulliad.
Yr wythnos diwethaf, cefais y cyfle i siarad â llawer o athrawon a darlithwyr prifysgol sydd ar streic ym Mhrifysgol Caerdydd, a gaeodd y Brifysgol mewn gwirionedd ddau ddiwrnod olaf yr wythnos diwethaf. Ac nid yw'n syndod mewn gwirionedd, o ystyried bod cynllun pensiwn y Brifysgol wedi cael ei ddryllio a bod staff addysgu yn disgwyl gweld y toriadau cyflog mwyaf a gawsant erioed yn eu hanes, oherwydd yn hytrach na chael cynllun pensiwn yn seiliedig ar yr hyn y maen nwy'n ei dalu i mewn, ac felly yr hyn a fyddan nhw'n ei gael allan, pan fyddan nhw'n ymddeol, dywedwyd wrthyn nhw y bydd eu pensiwn yn ddibynnol ar fympwyon y farchnad stoc. Felly, nid yw'n syndod bod staff prifysgolion ar draws 64 o brifysgolion yn y DU yn wirioneddol bryderus am y gwanhau diweddaraf hwn o ran eu telerau ac amodau a'r tueddiad cynyddol i gyflogi'r gweithlu yn ein prifysgolion mewn swyddi dros dro.
O ystyried pwysigrwydd prifysgolion i ddyfodol economi Cymru, ein harweinwyr yn y dyfodol, ein dyfeiswyr yn y dyfodol, ein hentrepreneuriaid yn y dyfodol, a yw'n bosibl gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am beth, os unrhyw beth, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod Universities UK yn dod yn ôl at y bwrdd i drafod â'r undebau, gan gofio pe byddai'r streic yn para'n hwy na'r pedair wythnos hyn, gallai mewn gwirionedd effeithio ar allu myfyrwyr i sefyll eu harholiadau, felly mae'n hynod o ddifrifol?
Ydy, mae hynny'n bwynt pwysig a difrifol iawn. Rydym ni'n awyddus iawn i weld y cyflogwyr prifysgol a'r undebau yn dod i setliad o ran yr anghydfod hwn os yw hynny'n bosibl o gwbl. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir, ein bod yn barod, os oes angen, i hwyluso'r broses honno yng Nghymru, a gwneud beth bynnag a fydd ei angen. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cyfarfod ag arweinwyr yr undebau a chynrychiolwyr prifysgolion Cymru yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r diweddariad i ni yn ystod ei chwestiynau Cynulliad yr wythnos nesaf ar sut y mae hynny'n datblygu.
Mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol sy'n gyfrifol am yr holl faterion cyflogaeth, ac yn anffodus, fel y cyfryw, ni all Gweinidogion Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru chwarae unrhyw ran ffurfiol yn yr hyn sy'n drafodaethau ar lefel y DU gyfan. Ond rydym ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa, ac unrhyw drafodaethau a allai ddigwydd yn y dyfodol, o ran y staff a'r myfyrwyr, ac rydym ni'n awyddus iawn i liniaru'r effeithiau sy'n dylanwadu ar enw da neu gynaliadwyedd y sector yng Nghymru yn y dyfodol. Y pryder mwyaf, wrth gwrs, yw'r effaith ar fyfyrwyr, ond rydym ni hefyd yn poeni am y staff. Felly, ein gobaith mawr yw y gallant ddychwelyd at y bwrdd trafod cyn gynted â phosibl a rhoi terfyn ar anghydfod niweidiol iawn.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth ariannol i brentisiaid yng Nghymru? Mae'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi adrodd bod tystiolaeth sylweddol i ddangos bod rhwystrau ariannol yn ddatgymhelliad, ac mewn rhai achosion yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau ledled Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grant cyffredinol i dalu am gostau byw prentisiaid, ynghyd â chronfa galedi ar gyfer y rhai hynny ar y lefelau cyflog isaf, neu i ddarparu cardiau bws neu drên rhatach. A gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda ar y mater pwysig hwn?
Mae'r Aelod yn iawn—mae prentisiaethau yng Nghymru yn fater pwysig iawn. Ond mae'n rhaid imi ddweud ar hyn o bryd mai un o'r problemau mwyaf yw rheoliadau'r isafswm cyflog y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar brentisiaethau, sy'n isel iawn yn wir, ac sy'n fater o gryn bryder. Rydym ni'n edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi addysg alwedigaethol drwy gynlluniau grant, ac eraill, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno papur maes o law ar beth arall y gellir ei wneud. Ond mae yna broblem fawr o ran y disgwyliad y gall prentisiaid fyw yn y cartref gyda'r teulu ac nad oes angen iddynt ennill yr isafswm cyflog hyd yn oed, ac mae angen i ni ymdrin â hynny yn y DU yn ei chyfanrwydd er mwyn i ni allu cynnal ein system prentisiaethau fel ag y mae hi ar hyn o bryd, neu unrhyw beth tebyg i'r sefyllfa bresennol.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ddiolch i chi yn y lle cyntaf am eich datganiad? Ac er mwyn codi archwaeth arnoch ar gyfer cwestiynau yfory, a gaf i ofyn am adroddiad cynnydd ar y cynllun newydd i gyflwyno band eang cyflym iawn? Rwyf wedi bod yn ymgynghori yn ystod yr wythnosau diwethaf ag etholwyr yn Llangynwyd, Maesteg, sydd yn gorfod dioddef band eang araf. Mae hyn yn effeithio ar eu busnesau, eu hysbysebu ar-lein, eu taliadau am nwyddau a thrafodion gwasanaethau, sy'n golygu eu bod yn colli cwsmeriaid wrth i'r rhyngrwyd arafu. Felly, a gaf i roi pwysau ar arweinydd y tŷ, yn rhinwedd un o'i nifer o swyddi heddiw, i ddarparu mwy o fanylion ar y broses o ddewis gwahanol ardaloedd ar gyfer y cynllun cyflwyno newydd? Ac, yn benodol, pa bryd y bydd y band eang cyflym iawn yn dod i Langynwyd? Diolch.
Ydy, mae'r Aelod yn llygad ei le, rwy'n ateb cyfres o gwestiynau yfory—rwy'n credu y gallai ei gwestiwn ef fod yn un ohonyn nhw—ar yr union bwynt hwn. Cyn gynted â bod gennym ni fanylion llawn cynllun Cyflymu 2, byddaf yn ei gyhoeddi. Ond dim ond i ailadrodd fy mhwynt blaenorol, ni fydd yn gynllun addas i bawb, ac rydym ni'n edrych i'w addasu ledled Cymru i fod yn briodol i gymunedau penodol. Os yw'r Aelod eisiau fy ngwahodd i i gymuned benodol i glywed eu pryderon, ac i weld a oes cynllun cymunedol hyfyw yno, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny.
Arweinydd y tŷ, yn gyntaf oll, a gaf i gytuno â sylwadau Jenny Rathbone? Fel aelod o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad a wnaeth a'r sylwadau a fynegwyd ganddi. Mae'n hollbwysig inni ymdrin â'r mater hwn.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Mae'r un cyntaf yn hawdd. Dechreuodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dos gymunedau ac adfywio ymchwiliad i NSA Afan yn gynnar y llynedd. Rwy'n gwybod nad yw'r broses wedi'i chwblhau, ond byddai'n dda cael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet presennol dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch pa gynnydd a wnaed yn yr ymchwiliad hwnnw ac ynghylch pa wersi sydd i'w dysgu ohono, oherwydd ei bod yn bwysig sut y mae'n cyflawni erbyn hyn ar gyfer cymunedau Aberafan, oherwydd bod y sefydliad hwnnw wedi bod yn darparu llawer iawn o wasanaethau i lawer o'n hunigolion agored i niwed yn y gymuned honno.
A'r ail un: A gaf i ofyn am ddatganiad ar y diwydiant dur gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth? Rydym ni wedi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn amlwg, am y gwaith a wnaed ar yr ochr caffael, ond rydym ni erbyn hyn ddwy flynedd i lawr y ffordd ers y gwnaed y sylwadau trychinebus hynny a fygythiodd y diwydiant dur yng Nghymru, ac eto erys pryderon am y dyfodol. Mae yna gynllun menter ar y cyd—cefais y fraint o allu siarad â Phrif Weithredwr Tata Steel UK y bore yma, i drafod rhai o'r agweddau hynny, ond erbyn hyn mae'n bwysig ein bod yn trafod gallu Llywodraeth Cymru i barhau mewn gwirionedd i gefnogi'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Cytunwyd, yn rhan o'r cytundeb â Phlaid Cymru, ar oddeutu £30 miliwn tuag at Tata. Pa gynnydd a wnaethpwyd wrth wireddu'r ymrwymiad hwnnw? Mae'r £60 miliwn wedi ei nodi—benthyciad o £30 miliwn, grant o £30 miliwn. Ble ydym ni ar hynny? Mae'n bwysig nawr, rwy'n credu, deall lle mae Llywodraeth Cymru o ran gweithio gyda'r diwydiant dur i sicrhau bod gennym ni ddiwydiant dur sy'n dal i ffynnu yng Nghymru.
Mae David Rees yn gwneud dau bwynt pwysig iawn, yn ôl ei arfer. Rwy'n credu bod y mater NSA yn fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid o hyd, ac mae'n nodi ei barodrwydd i sicrhau eich bod yn cael y newyddion diweddaraf wrth i'r mater fynd yn ei flaen.
O ran dur, mae hynny wrth gwrs yn fater sy'n effeithio ar bron pob cymuned yng Nghymru, ac yn parhau i wneud hynny. Mae'n bwynt pwysig iawn. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad cyfan ynghylch lle yr ydym arni gyda'r diwydiant dur yng Nghymru, yn rhan o'i gynlluniau parhaus i hysbysu'r Cynulliad yn rheolaidd, a byddaf yn gwneud yn siŵr—. Wel, mae ef yma, ac mae'n nodio'n hapus ataf i, felly rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny maes o law.
Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Plant Gofal Cymdeithasol a Phlant y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn cael ei sefydlu i lywio cymorth traws-lywodraethol ar gyfer gofalwyr, gyda swm cynorthwyol o tua £95,000 ar gyfer y prosiect a fyddai'n cynnig rhyw fath o ddull cenedlaethol, os mynnwch. Roedd hynny dri mis yn ôl, ac rwy'n meddwl tybed a gaf i ofyn am ddiweddariad ar hynny, yn enwedig o ran sut caiff aelodau'r grŵp eu dethol, a phryd y byddant yn dechrau ar y gwaith.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn hapus i ysgrifennu atoch a rhoi'r newyddion diweddaraf i chi.
Iawn. Hyfryd, diolch i chi.
Yn dilyn y sylwadau a wnaed yn flaenorol am y gweithredu diwydiannol gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ynghylch cynllun pensiwn y prifysgolion, a fydd, fel rydym ni wedi clywed, yn golygu bod pensiynau darlithwyr yn ddibynnol ar fympwyon y farchnad stoc, ond yn ôl First Actuarial bydd hefyd yn gadael darlithydd cyffredin â £200,000 yn llai o incwm pensiwn. A gaf i ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi streiciau'r UCU a'n bod ni'n sicr yn cefnogi eu galwadau ar brifysgolion yn y DU i lunio cynnig gwell? Nid wyf yn fodlon gwneud dim ond gofyn i'r Llywodraeth wneud datganiad. A gaf i ofyn: a fydd y Llywodraeth hon a arweinir gan Blaid Lafur Cymru yn cefnogi streic UCU yn ddigamsyniol fel y gallwn ni i gyd dynnu at ein gilydd a rhoi pwysau ar Universities UK i gynnig bargen well a thecach ar eu pensiynau?
Ie, rwy'n credu bod llawer ohonom ni'n cydymdeimlo â chyflogeion UCU. Rwyf ar ddeall bod y trafodaethau wedi eu methu oherwydd pleidlais fwrw'r Cadeirydd. Felly, prin y bu hi'n drafodaeth dda hyd yn oed ar y pwynt hwnnw. Rwy'n credu ein bod ni o'r farn gadarn bod angen inni eu tynnu yn ôl i'r trefniadau negodi, i wneud i'r is-gangellorion ddod at y bwrdd hwnnw â meddwl agored ac i sicrhau'r fargen orau bosibl i gydweithwyr UCU, oherwydd mae'n gwbl amlwg eu bod nhw'n allweddol i'r prifysgolion o'r radd flaenaf sydd gennym ni yng Nghymru a ledled y DU, ac mae'n amlwg y dylen nhw gael eu talu yn unol â hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad ar y lefelau cynyddol o dagfeydd a llygredd ar yr A470, yn enwedig yn ardal Taf Elái? Byddwch yn ymwybodol o adroddiadau diweddar sy'n nodi mai'r A470 yw'r ffordd sy'n dioddef y tagfeydd gwaethaf yng Nghymru, gydag amser teithio o saith milltir yr awr yn ystod oriau brig y traffig. Hefyd, ynghyd â lefel y llygredd, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o'r dyfarniad diweddar yn ymwneud â'r DU ond sydd hefyd yn cael effaith ar Gymru. Ac mae hwn yn fater sy'n amlwg yn ymwneud hefyd â phwysigrwydd y metro wrth gael cerbydau oddi ar ein ffyrdd ond hefyd efallai wrth gydbwyso'r ddadl ar bwysigrwydd ymdrin â materion traffig a hyrwyddo'r metro fel blaenoriaeth.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Mae ansawdd aer yn fater pwysig iawn ledled Cymru. Yn ddiweddar, rydym ni wedi cyhoeddi'r cynllun aer glân ar gyfer Cymru a fydd yn cynnwys fframwaith i sicrhau gweithrediad cyson ac effeithiol o barthau aer glân gan awdurdodau lleol, gwelliannau i adroddiadau gan awdurdodau lleol, yn ogystal â sefydlu canolfan monitro genedlaethol ar gyfer asesu ansawdd yr aer yng Nghymru. Mae ansawdd aer yn ymwneud â llawer mwy na dim ond llygredd traffig. Mae llawer o lygryddion eraill yn ein hawyrgylch y bydd y cynllun aer glân ar gyfer Cymru yn eu hystyried ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys adrannau cwbl newydd ar adeiladu a symudiadau moddol o ran trafnidiaeth a nifer o faterion eraill, y mae'r Aelod yn tynnu sylw atyn nhw ac a fydd yn bwysig iawn wrth inni fynd yn ein blaenau.
Rwy'n ceisio datganiad gan y Llywodraeth ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddydd Iau, a'r hyn a ddylai ddigwydd yn fy marn i yw y dylai holl staff y Cynulliad a holl weithwyr y Llywodraeth gael diwrnod o wyliau. Rwy'n rhoi diwrnod o wyliau i fy staff i, felly tybed beth y mae'r Llywodraeth yn ei feddwl am hynny ac a fyddwch yn gwneud ymdrech y flwyddyn nesaf.
Wel, nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw gynlluniau o gwbl i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus genedlaethol, ond rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog, pan fydd yn dychwelyd o'i daith Dydd Gŵyl Dewi, yn diweddaru'r Cynulliad ar beth y mae wedi llwyddo i gyflawni yn ystod wythnos dydd Gŵyl Dewi.
Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol ein bod ar ddechrau Pythefnos Masnach Deg, ac a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y rhai a enillodd wobrau yn seremoni Cymru o Blaid Affrica yn ddiweddar yn yr Amgueddfa Genedlaethol, gan gynnwys grŵp masnach deg Cyngor Tref y Barri a hefyd grŵp masnach deg Dinas Powys? Cawsant eu canmol, grŵp Dinas Powys, yn y categorïau cyfathrebu a chyllideb fach, ac yn wir, fe wnaethant ddweud yn eu datganiad eu bod wedi gallu cysylltu â gwahanol rannau o'u cymuned, gan chwilio bob amser am ffyrdd i ymgysylltu â phobl ar faterion masnach deg a chynyddu nifer y nwyddau masnach deg mewn siopau lleol. Felly, dyna oedd fy nghwestiwn cyntaf.
Fy ail gwestiwn yw: a gaf i hefyd groesawu'r datganiad o ran urddas a pharch, a gyhoeddwyd gan y Llywydd, gan yr holl arweinwyr a Jayne Bryant, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ar 16 Chwefror? Rwy'n falch y bydd yna ymgysylltu â rhanddeiliaid. A wnewch chi egluro pwy fydd y rhanddeiliaid hyn a sut y bydd yr ymgysylltiad hwnnw'n digwydd, a hefyd a wnewch chi roi diweddariad inni o ran pryd y mae'n debygol o gael cynnig trawsbleidiol a phleidlais ar y datganiad, yma yn y Senedd?
Ie, gan roi sylw i'r rheini gan ddechrau gyda'r olaf a gweithio'n ôl—mae'r ddau bwynt yn rhai pwysig iawn— rwy'n credu y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf yn y Cynulliad a fydd yn mynd â ni gam ymlaen, ac wedyn fe allwn ni weld beth sydd angen ei wneud yn sgil datganiad, a fydd yn fodd o'n diweddaru ni o ran yr agenda honno. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed beth sydd ganddi i'w ddweud ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
O ran masnach deg, rwy'n hapus i ddweud fy mod wedi cael fy mhen-blwydd yn ddiweddar, na fydd yn wybyddus i rai ohonoch chi efallai oherwydd fy mod yn edrych yn ifanc, a derbyniais nifer fawr o eitemau masnach deg, yr oeddwn yn falch iawn ohonyn nhw. Un o'r rhain oedd gafr, sy'n byw rwy'n credu rywle yn Affrica, ac y byddaf yn cael y newyddion diweddaraf yn ei gylch. Felly, roeddwn yn falch iawn â hynny. Mae'n agenda bwysig dros ben, mewn gwirionedd, ar gyfer Cymru, ac mae mewnforio nwyddau masnach deg yn un o'r prif faterion i ni wrth inni gefnogi gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd drwy gyfrwng yr hyn yr ydym ni'n gallu ei ddefnyddio o ran grym defnyddwyr. Felly, rwy'n cefnogi'r agenda honno, ac rwy'n croesawu'r fenter yn fawr.
Ac yn olaf, David Melding.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r profion diogelwch cladin mewn adeiladau preswyl uchel yng Nghymru? Efallai eich bod yn gwybod, yr wythnos diwethaf dywedodd adroddiad a gyflwynwyd i awdurdod tân ac achub de Cymru nad oedd gwesty a bloc o fflatiau yng Nghaerdydd wedi bodloni, ac rwy'n dyfynnu, 'gofynion hylosgedd'. Golyga hyn fod cyfanswm o 12 adeilad bellach wedi methu'r prawf cladin ers y tân angheuol yn Grenfell. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch asesu risg yn y sector preifat, ac rwy'n credu y byddai datganiad yn briodol oherwydd mae hwn yn faes anodd i'r Llywodraeth, rwy'n sylweddoli, o ran eich dylanwad yn y maes hwnnw. Ond rwyf yn credu y dylem ni gael datganiad ynglŷn â chynnydd.
Ydy, mae'r Gweinidog yma yn gwrando ar eich pwynt pwysig iawn, ac mae hi'n nodi ei bod hi'n hapus i wneud datganiad yn ein diweddaru ynglŷn â lle'r ydym ni arni o ran yr agenda bwysig honno.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) ar 22 Chwefror 2018, ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, diolch ichi am y cyfle i wneud datganiad ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd)—a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Iau diwethaf, 22 Chwefror.
Cafodd y Cydbwyllgor ei gadeirio gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington, ac yno hefyd roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis, ac Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Michael Russell, Gweinidog Llywodraeth yr Alban ar gyfer Negodiadau'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lle yr Alban yn Ewrop, a minnau. Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan weision sifil, yn dilyn methiant yr ymgais ddiweddaraf i sefydlu Llywodraeth newydd.
Roedd y cyfarfod yn adeiladol. Digwyddodd ychydig cyn cyfarfod pwyllgor Cabinet y DU yn Chequers a oedd â'r bwriad o roi mwy o eglurder ar safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â'r berthynas hirdymor rhwng y DU a 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth Mike Russell a minnau roi cyflwyniadau clir a diamwys ynglŷn â'n blaenoriaethau hirsefydlog, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod anghenion yr economi ar frig y rhestr flaenoriaeth honno a sicrhau cytundeb cyflym ynglŷn â chyfnod pontio, cam y galwodd Llywodraeth Cymru amdano yn ffurfiol, ynghyd â Phlaid Cymru, mor bell yn ôl â mis Ionawr 2017. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU i gynnwys y llywodraethau datganoledig yn ail gam y broses negodi, yn enwedig lle'r oedd y rhain yn ymwneud â meysydd polisi datganoledig. Rwy'n falch o allu dweud yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion yn hyn o beth i'w hystyried yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth.
Llywydd, bu cryn ddyfalu cyn y cyfarfod ynglŷn â chynnydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sydd gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae Llywodraeth y DU wedi addo i'r ddau Senedd-dy y bydd yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i gyflwyno gwelliannau a allai alluogi Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cysyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael.
Er y bu gwaith trylwyr ar y gweill ar lefel swyddogol ers rhai wythnosau, roeddem ni'n siomedig na allai Llywodraeth y DU gyflwyno cynnig dim ond yn fuan iawn cyn y cyfarfod ddydd Iau. Roedd hyn yn golygu nad oeddem wedi gallu trafod y cynigion yn llawn ac yn ystyrlon mewn modd yr oedd pwysigrwydd y mater hwn yn ei deilyngu.
Serch hynny, cytunodd pob un o'r tair Llywodraeth eu bod yn rhannu'r amcan o ddod i gytundeb ar y materion hyn, ac er bod cynigion y DU yn bur ddiffygiol o'r hyn a fyddai'n dderbyniol i naill ai ni ein hunain neu i Lywodraeth yr Alban, cytunwyd eu bod yn rhoi sail ar gyfer trafodaeth wleidyddol bellach yn y dyfodol agos iawn.
Yn ei araith ddoe rhoddodd Mr Lidington amlinelliad o'r meddylfryd sy'n sail i gynnig newydd Llywodraeth y DU. Hoffwn i gydnabod ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi symud cryn bellter oddi wrth ei safbwynt gwreiddiol, yn enwedig ar gymal 11. Roedd y safbwynt gwreiddiol hwnnw yn gwbl annerbyniol i Lywodraeth Cymru, a chredaf, i'r mwyafrif yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, bellach mae angen inni wneud cynnydd sy'n mynd y tu hwnt i eiriau teg ac sy'n gwneud cytundeb yn bosib. Rwy'n dal yn obeithiol y gellir dod i gytundeb o'r fath a byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau wrth i bethau ddatblygu.
Mae hyn hefyd, Llywydd, yn berthnasol iawn i'r ffaith, fel sy'n hysbys bellach, ein bod ni heddiw hefyd wedi cymryd camau tuag at gyflwyno deddfwriaeth barhad ein hunain. Un o'r rhesymau pam y bu'r fath rwystredigaeth gyda pha mor araf y bu Llywodraeth y DU yn meithrin trafodaethau ar ddiwygio Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yw goblygiadau'r cynnydd araf hwn ar ein cynlluniau ein hunain. Rydym wedi bod yn gwbl glir, ac yn parhau i fod yn gwbl glir, mai'r hyn fyddai'n well gennym ni fyddai Bil y mae modd gweithio gydag ef ar lefel y DU. Ond, fel sy'n hysbys iawn, ac y mae cefnogaeth gref iddo ledled y Siambr hon, ac y traethir yn ei gylch yn rheolaidd iawn, er enghraifft, gan Steffan Lewis, rydym wedi gweithio'n galed ar ddewis wrth gefn, i ddarparu parhad cyfreithiol i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ynghylch materion datganoledig yng Nghymru, ac i ddiogelu datganoli. Rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn oedi mwyach os yw'r ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed ar ffurf Bil brys, yn mynd i gael cyfle rhesymol o gyrraedd y llyfr statud mewn pryd inni allu gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau parhad deddfwriaethol.
Mae ein Bil, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymru), yn parhau i fod yn ddewis wrth gefn, rhag ofn. Ond mae'r Bil, rydym yn credu, yn ddarn cadarn o ddeddfwriaeth y rhoddwyd cryn ystyriaeth iddo, a fydd yn cyflawni'r swyddogaeth os caiff ein dewis ffordd ymlaen—Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli—ei gwarafun i ni gan Lywodraeth y DU. Rwy'n dal i obeithio, Llywydd, y bydd y trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos nesaf yn arwain at ganlyniad llwyddiannus, un sy'n ein galluogi i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd pan fo hwnnw'n dal gerbron y Senedd. Os ydym ni'n llwyddo yn yr ymdrech honno, ni fyddwn yn petruso tynnu'n ôl y Mesur y byddwn yn ei gyflwyno yma.
I grynhoi, Llywydd, yn y trafodaethau Brexit yn eu cyfanrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n bendant ar sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i anghenion swyddi a'n heconomi ddod yn gyntaf. Ni all ac ni ddylid defnyddio'r broses honno yn esgus i gyfyngu ar ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid parchu a diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel y cadarnhawyd mewn dau refferendwm a roddwyd gerbron pobl Cymru. Mae ein hymdrechion yn parhau i ganolbwyntio mewn modd adeiladol ond di-ildio ar gyflawni hynny.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cyllid, am eich datganiad. Roedd y cyd-hysbysiad a gyhoeddwyd gennych chi, gan David Lidington ar ran Llywodraeth y DU, gan Lywodraeth yr Alban, ac uwch was sifil o weinyddiaeth Gogledd Iwerddon, yn dilyn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddydd Iau diwethaf ynghylch y negodiadau ynghylch Ewrop,
'yn cydnabod y negodi a fu rhwng Llywodraeth y DU a swyddogion y llywodraethau datganoledig ers y cyfarfod blaenorol',
ac yn dweud
'Byddai trafodaethau'n parhau gyda'r nod o sicrhau bod y llywodraethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn datblygu sefyllfa negodi y DU, gan barchu swyddogaeth Llywodraeth y DU fel negodwr.'
Mae hynny, yn amlwg, yn llai perthnasol i'r hyn yr ydych chi wedi ymdrin ag ef hyd yma a mwy â'r negodiadau sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ei hun. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â beth yw rhan Llywodraeth Cymru yn datblygu safbwynt negodi y DU, fel y nodwyd yn y cyd-hysbysiad gennych chi ac eraill.
Dywedodd yr un cyd-hysbysiad fod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion wedi trafod Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd a'r cynnig i ddiwygio cymal 11, fel yr ydych chi wedi ymdrin â nhw, gan nodi y bu cynnydd ond nad oedd y tair Llywodraeth, na Gogledd Iwerddon, wedi cytuno eto ar ffurf y gwelliannau, ond y byddai trafodaethau ar fanylion pellach yn parhau. Rwy'n croesawu eich cadarnhad y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn cyfarfod yr wythnos nesaf, rwy'n credu ichi ddweud, ac fe gyfeirioch chi hefyd at gyfarfod ym mis Mawrth. Felly, efallai y gallech gadarnhau fy mod i wedi deall yn gywir.
Allech chi ddweud wrthym a oes cynnydd hefyd ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion y bydd Prif Weinidog Prydain yn ei gadeirio, h.y. cyfarfod gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Weinidog Cymru, o ran pennu dyddiad ar gyfer cynnal trafodaethau ar y lefel honno, neu ai'r teimlad yw nad yw hynny'n angenrheidiol ar hyn o bryd o ystyried y sefyllfa gymhleth yr ydych chi â'ch swyddogion eisoes ynddi?
Yn ei araith ddoe yn Airbus Brychdyn, dywedodd David Lidington, sydd, fel y gwyddoch, yn cadeirio cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), fod yn rhaid inni amddiffyn marchnad fewnol y DU gan barchu datganoli ar yr un pryd. Nododd fod wyth o bob 10 lori nwyddau sy'n gadael Cymru yn mynd i weddill y DU, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y farchnad gyffredin yn y DU. Dywedodd,
'Byddwn yn adeiladu ar fargen twf Gogledd Cymru a fydd yn gweld golau dydd yn y dyfodol drwy feithrin cyfleoedd hefyd rhwng dinasoedd Cymru a gweddill y DU '
ac roedd hynny'n galonogol. Dywedodd y byddwn yn diogelu marchnad gyffredin hanfodol y DU, ond yna dywedodd y byddai pedwar set gwahanol o reolau
'dim ond yn ei gwneud hi'n anoddach ac yn ddrutach i wneuthurwr caws yn sir Fynwy werthu i gwsmeriaid ym Mryste neu i ffermwr gwartheg yn swydd Aberdeen werthu ei gig eidion yn Berwick-upon-Tweed.'
Ychwanegodd, felly, mai ei gynnig oedd newid y Bil sydd gerbron y Senedd i'w gwneud hi'n glir, wrth gytuno ar fframweithiau, mai'r rhagdybiaeth bellach fyddai y dylai'r pwerau sy'n dychwelyd o'r UE fynd at y llywodraethau datganoledig, ac rwy'n credu mai dyna beth mae'r tŷ hwn yn ei geisio. Dywedodd y byddai San Steffan yn ymyrryd dim ond, er mwyn amddiffyn marchnad gyffredin y DU neu i fodloni rhwymedigaethau rhyngwladol, pan fyddai angen saib i roi amser i'r Llywodraethau gynllunio a rhoi fframwaith ar waith a fyddai'n gwasanaethu'r DU gyfan. Dim ond ddoe, sylwaf i Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain ymateb i gynigion Ysgrifennydd Amgylchedd y DU yn y ddogfen 'Health and Harmony: The Future for Food, Farming and the Environment in a Green Brexit' gan ddweud,
'Gyda llygaid pawb ar San Steffan, rydym ni'n annog rhoi ystyriaeth wirioneddol i gydgysylltu polisïau amaethyddol ym mhob un o bedwar rhanbarth y DU wrth inni ddynesu tuag at Brexit.'
Felly, dyna'r sefyllfa amhosibl, rwy'n credu: safbwynt Llywodraeth y DU, fel y'i mynegwyd gan David Lidington ddoe, a phryderon parhaus Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn benodol ynghylch rhai materion datganoledig ddim yn trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Llywodraethau datganoledig. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, yn benodol, beth yr hoffech chi, neu sydd arnoch chi angen, ei weld yn digwydd y tu hwnt i'r hyn sydd wedi digwydd eisoes, er mwyn gwneud cynnydd yng nghyd-destun y pwyntiau a wnaethoch chi a'r sefyllfa a amlinellwyd gan David Lidington ddoe?
Yn olaf, o ran parhad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ond mae hwn yn fater pwysig; nid yw'n rhywbeth er mwyn sgorio pwyntiau yn unig, ac rwy'n ceisio osgoi sgorio pwyntiau yn y cyd-destun hwn. Rydych chi'n nodi mai'r hyn yr hoffech chi ei weld yn ddelfrydol yw Bil sy'n gweithio'n ymarferol ar lefel y DU. Rydych chi hefyd yn gwbl briodol yn nodi, neu yn cyfeirio at y gwelliannau sydd gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd, a bod Llywodraeth y DU wedi addo i'r ddau Senedd-dy y bydd yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i gyflwyno gwelliannau a fydd yn galluogi i'r Alban a Chymru roi cydsyniad i'r Bil, sef eich sefyllfa ddelfrydol chi. A wnewch chi, felly, gadarnhau ei bod hi'n dal yn wir—rwy'n credu mai dyma wnaethoch chi ei ddweud— mai, yn ddelfrydol, cytundeb ar y Bil ymadael neu, os yw hynny'n methu, welliannau drwy Dŷ'r Arglwyddi, yw eich dewisiadau delfrydol o hyd. Ond, fel y nodwch chi tuag at ddiwedd eich datganiad heddiw, oherwydd bod amser yn cerdded, oni fyddwch yn cyflwyno Bil parhad dros yr wythnos nesaf, byddech yn colli'r cyfle i gael Cydsyniad Brenhinol cyn y byddai Bil gan y DU ei hun yn derbyn Cydsyniad Brenhinol? Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fe wna i geisio ateb y cwestiynau hynny yn eu trefn.
Mae Mr Isherwood yn gywir yn dweud bod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion wedi trafod rhan y gweinyddiaethau datganoledig yn nhrafodaethau cyfnod 2. Roeddem ni wedi trafod y pwynt hwn yn union yn ystod ein cyfarfod yng nghanol mis Rhagfyr, pan gytunodd Gweinidogion y DU y byddai angen cymryd rhan ar lefel wahanol yn y trafodaethau Cyfnod 2, oherwydd bydd cyfrifoldebau datganoledig uniongyrchol yn y fantol bryd hynny. Cytunwyd ganol mis Rhagfyr y byddai swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd yn gyflym —dyna'r gair a ddefnyddiwyd, yn 'gyflym'—i lunio cynigion ymarferol o ran sut y gallai hynny ddigwydd. Roedd hi'n arbennig o siomedig, felly, na chafwyd unrhyw bapur yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf a oedd yn adlewyrchu unrhyw ran o'r gwaith hwnnw. Dywedais yn fy natganiad, ac fe wna i ei ailadrodd: roeddwn yn falch serch hynny fod Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, David Lidington, wedi addo cynhyrchu Papur o'r fath ar gyfer cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ystod mis Mawrth.
Roedd yr ail bwynt y gofynnodd yr Aelod ynglŷn â'r cyfarfod nesaf ar gyfer Bil ymadael â'r UE yn benodol. Yr hyn y cytunwyd arno yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf oedd y byddai cyfarfod Cyd-bwyllgor Gweinidogion rheolaidd yn ystod mis Mawrth, pan fyddwn yn trafod yr ystod eang o faterion sy'n berthnasol i adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n ffurfio agenda'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Hefyd byddai trafodaeth wleidyddol ar wahân a fyddai'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Fil ymadael yr UE ac yn rhoi cyfle i ni allu ymateb i'r papur y cyflwynodd Llywodraeth y DU yn hwyr iawn yn y dydd, ac na allasom ni ei drafod gyda'r math o sylw manwl y buasem wedi dymuno ei roi iddo.
A fydd cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth? Wel, rwy'n gobeithio hynny. A oes ei angen? Credaf hynny'n sicr. Nid fu cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ers mis Ionawr 2017 erbyn hyn, ac os mai dyma'r cyfrwng y bwriedir i'r DU gydweithredu drwyddo, a'r glud sy'n cadw'r Deyrnas Unedig at ei gilydd, yna mewn gwirionedd nid yw hi'n foddhaol na fu gan Brif Weinidogion y gwledydd datganoledig a Phrif Weinidog y DU y cyfle hwnnw i drafod y materion hyn yn y sefyllfa ffurfiol honno. Mae dyddiad mewn cylchrediad ar gyfer cyfarfod o'r fath ganol mis Mawrth, ond rwyf wedi gweld dyddiadau yn cylchredeg ym mis Ionawr, ym mis Chwefror a bellach ym mis Mawrth yn ogystal, Llywydd, felly yn anffodus rydym yn dal yn byw mewn gobaith yn hytrach na disgwyl y cyflawnir hynny.
Gan droi at y set olaf o gwestiynau a holodd Mark Isherwood, mae'n gywir i ddweud bod yr araith gan Mr Lidington ddoe yn gam ymlaen o ran ein pryderon am gymal 11. Cynnig Llywodraeth y DU nawr yw y dylai'r holl gyfrifoldebau hynny a fu gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ac sy'n cael eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd aros yma ar ôl Brexit, ac eithrio nifer fach a gânt eu cadw yn ganolog wrth inni barhau i negodi trefniadau fframwaith fel y gall y farchnad fewnol yn y DU barhau i weithredu'n effeithiol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cael trafodaeth fanwl gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai o'r ffyrdd ymarferol y byddai hynny'n gweithredu, a'r mater allweddol yn y fantol o hyd yw caniatâd. Os oes nifer fach o faterion i'w cadw'n ganolog, pwy sydd i benderfynu pa faterion fydd y rheini? Pwy sy'n penderfynu pa mor hir y cânt eu cadw'n ganolog? Pwy sydd i benderfynu pwy all arfer y grymoedd hynny pan nad ydyn nhw yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn?
Byddwn yn mynd i'r cyfarfod nesaf gyda chynigion adeiladol ynghylch sut y gellid datrys y cwestiynau hynny, ac os oes modd eu datrys, yna roedd Mr Isherwood yn hollol gywir o ran trefn y digwyddiadau. Ein dewis ffordd o weithredu o hyd yw gwelliant cytunedig y gallai'r tair Llywodraeth weld ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, a gallai Gweinidog ddod yma ac argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn y gellid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil. Os na allwn ni gytuno ar welliant, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y gwelliannau a gyflwynwyd gennym, ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, yn Nhŷ'r Cyffredin ac y byddwn ni yn eu hailgyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn ni i gael cymeradwyaeth i'r gwelliannau hynny. Mae gennym ni, fel y gwyddom, gefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi i'n sefyllfa, gan gynnwys Arglwyddi ar y croesfeinciau. Os na lwyddwn ni yma, yna bydd yn rhaid inni amddiffyn y sefyllfa pe bai'r dydd yn dod pan na fyddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn barod i roi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael. Dyna pam mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflwyno ein Bil parhad fel dewis wrth gefn. Yn wir, mae'r mater o'i gael i'r llyfr statud cyn i'r Bil ymadael dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn dylanwadu ar yr amserlen i'w gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos nesaf.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ac am ei amynedd di-ball gyda rhai o'r anawsterau hyn? A gaf i ddiolch yn arbennig iddo am gadarnhau heddiw fod y Llywodraeth yn symud ymlaen â'r Bil parhad, y mae fy nghyd-Aelod anrhydeddus, Steffan Lewis, wedi dadlau o'i blaid gyhyd? Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, yn falch iawn o weld bod hwn bellach yn rhan gadarn o arfogaeth y Llywodraeth—rhywbeth yr ydym yn credu a ddylai fod wedi bod yno yn gynharach, mae'n rhaid dweud.
Byddaf yn dychwelyd at hynny mewn eiliad oherwydd rwyf eisiau, yn gyntaf oll, ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag araith David Lidington yn benodol, a beth sydd wedi dod i'r fei ers cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cefais yr araith braidd yn rhwystredig ac roeddwn yn teimlo ei bod hi o hyd yn dangos peth o'r bwlio a'r agwedd fygythiol o du San Steffan tuag at Lywodraethau Cymru a'r Alban ill dwy. Elfen fechan o fygythiad oedd os nad ydych chi'n ymddwyn, yna byddwn yn cadw'r pwerau hyn. Rwy'n awyddus iawn i'w roi yn y modd hwn: roedd yr araith gan David Lidington yn frith o gyfeiriadau at farchnadoedd mewnol neu gyffredin y DU—rhywbeth na soniodd Ysgrifennydd Cabinet yn ei gylch unwaith yn ei ddatganiad ei hun. Buom yn rhan o farchnad gyffredin neu farchnad sengl ers 40 mlynedd bellach. Bu rhai anawsterau gyda hynny ac mae rhai pobl wedi anghytuno'n gryf iawn ag ef, ond nid yw wedi effeithio ar sut yr ydym ni'n rhedeg ein dulliau mewnol ein hunain.
Siawns, y cyfan sydd ei angen i sicrhau bod fframweithiau cadarn a fframweithiau cytunedig yn y DU yw agenda syml o barch sy'n rhoi sylw i bob rhan o'r DU yn yr un modd, ac yn rhoi swyddogaethau a phwysau a chryfderau cyfartal i hynny. Y gwendid yn hynny wrth gwrs yw Lloegr, nid Cymru na'r Alban, ond mae hynny'n fater i bobl Lloegr. Pe baem ni'n cyflawni hynny, does neb yma o unrhyw blaid nad oes arnyn nhw eisiau fframweithiau cryf i'r DU ynglŷn ag amaethyddiaeth, yr amgylchedd, lles cymdeithasol nac unrhyw beth arall. Nid yw'n angenrheidiol dal grymoedd sy'n cael eu dal ar hyn o bryd yn gyffredin ar y lefel Ewropeaidd, eu dal nhw yn awr yn San Steffan a pheidio â throsglwyddo'r rheini, yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, i bob rhan—i rannau cyfansoddol a gweinyddol gyfansoddiadol datganoledig—o'r Deyrnas Unedig. Felly, dyna i raddau helaeth safbwynt Plaid Cymru yn hyn o beth.
Rwy'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i droedio'n ofalus, yn awyddus i barhau i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, ond nid wyf yn credu bod ganddo gyfle i gael barn unfrydol ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma oni bai ei bod hi'n amlwg y caiff y pwerau hynny eu dychwelyd at bobl Cymru ac na cheir feto, pa un a yw hynny'n feto tymor byr neu'n feto hirdymor, yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan.
Felly, o arddel y safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae bellach yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, oherwydd nad oes Llywodraeth ddatganoledig gan Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd? Sut y bydd yn parhau i weithio—? Rwy'n diolch iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud, a Michael Russell hefyd; mae'r gwaith wedi bod yn glir iawn ac mae wedi'i ysgrifennu ar y cyd mewn rhai achosion ac wedi bod yn fwy llwyddiannus oherwydd hynny, rwy'n credu. Felly, sut mae'n parhau i sicrhau bod hynny'n digwydd?
A gaf i ei atgoffa o'r hyn a ddywedais i chwe wythnos yn ôl: allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid? Rwy'n credu y dangoswyd hynny inni, a dyna pam wrth gwrs yr ydych chi wedi dewis, bellach, y Bil parhad. Gan edrych yn benodol ar y Bil hwnnw, sydd yn rhoi mantais ychwanegol inni, rwyf yn credu pe cyflwynid ef yn gynharach, y gallem fod wedi cyflymu'r broses hon. Rwy'n credu efallai y byddem wedi rhoi argraff gryfach o lawer i San Steffan ein bod yn hollol o ddifrif ynghylch hyn, ond, wyddoch chi, dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i'r Cynulliad ei fod yn credu, gan dybio y byddwn ni yn cymeradwyo mesurau brys yr wythnos nesaf, y gallwn ni gyflawni'r Bil hwn mewn digon o amser fel na fydd Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn achub y blaen arnom ni, os mynnwch chi—neu na fydd yn sleifio o'r tu arall heibio, fel y bydd yn dal i fod yn ddewis posib ac y gellid ei ddefnyddio eto yn hynny o beth? A all ddweud hefyd ei fod wedi siarad â'i gydweithiwr wrth ei ochr, y Cwnsler Cyffredinol, ynghylch sut y gellid, pe bai angen, amddiffyn Bil o'r fath yn y Goruchaf Lys, os bydd diffyg cytundeb rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan?
Llywydd, diolch yn fawr i Simon Thomas am y cwestiynau.
Wnes i ddim sôn yn fy natganiad, mae'n hollol gywir, ynglŷn â mater y farchnad gyffredin fewnol yn y Deyrnas Unedig. Safbwynt Llywodraeth Cymru, o'r cychwyn cyntaf, yw ein bod yn deall yn llwyr yr angen i drosglwyddo cyfraith yr UE yn drefnus i'r llyfr statud domestig mewn modd a fydd yn caniatáu i'r Deyrnas Unedig weithredu'n effeithiol yn y dyfodol. Ar lawer ystyr doedd cyfeiriadau Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn at hyn ddoe yn ddim byd amgenach na dadlau dadl ffug. Maen nhw'n cyfeirio at broblem nad yw mewn gwirionedd yn bodoli ac wedyn yn ceisio defnyddio hynny i gyfiawnhau'r ffordd y maen nhw'n dadlau mai dim ond nhw sy'n gallu defnyddio pwerau mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r gweithio effeithiol hwnnw barhau. Rydym yn anghytuno'n llwyr gyda nhw ar y pwynt hwnnw. Rydym wedi dweud o'r dechrau un y byddem ni, wrth gwrs, yn dynesu at hyn yn hollol adeiladol gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gennym ni er mwyn ceisio darganfod a chytuno ar ffyrdd i wneud yn siŵr y gall y DU barhau i weithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Rwy'n fodlon ystyried y safbwynt mai'r ffordd orau i roi sylfaen ddeddfwriaethol i rai o'r fframweithiau hynny—o bosib—fyddai i'r pwerau gael eu dal yn San Steffan tra bo'r ddeddfwriaeth honno yn cael ei gwireddu. Ond ni allaf gytuno i sefyllfa lle byddai'r grymoedd hynny y byddem ni yn eu hildio dros dro yn digwydd heb inni gytuno. Os caiff ei wneud gyda'n cytundeb ni a chyda chytundeb Llywodraeth yr Alban a chytundeb Llywodraeth y DU, yna mae achos pragmatig dros wneud pethau yn y ffordd honno. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn barod i weithredu gyda mwy o ymddiriedaeth a pharch, dywedodd Simon Thomas, nag y mae wedi gwneud hyd yma, ac nid yw pwerau feto sy'n dweud, yn y pen draw, mai dim ond nhw y gellir ymddiried ynddynt yn gydnaws â'r ffordd y mae datganoli wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, mae gwahaniaethau sylfaenol o ran safbwyntiau gwleidyddol rhwng y Llywodraeth yng Nghaeredin a'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd. Ond, ar y mater hwn, cydnabuwyd yn gynnar iawn bod gennym ddyheadau clir iawn yn gyffredin. Rydym wedi gwneud ein gorau i gydweithio mewn modd adeiladol ac rydym wedi gwneud hynny ym mhob ffordd bosibl Prif Weinidog Cymru yn ysgrifennu ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban; y digwyddiad llywodraethol cyntaf erioed ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, felly roeddem ni'n gallu rhoi crynodeb ar y cyd i Aelodau Tŷ'r Arglwyddi; parhawyd i gydweithio ar yr agweddau hynny o'r agenda lle mae gennym lawer iawn yn gyffredin yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf, a disgwyliaf y byddwn yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y bo'r tir cyffredin hwnnw'n bodoli.
Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i Simon Thomas y byddwn yn cyflwyno amserlen yr wythnos nesaf, ac os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i weithdrefn frys er mwyn ystyried y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, byddem mewn sefyllfa i gwblhau'r broses o'i ystyried o flaen y Cynulliad Cenedlaethol mewn pryd i gael Cydsyniad Brenhinol cyn bod Bil ymadael yr UE yn yr un sefyllfa. Ac, wrth gwrs, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud yn agos â'r holl ddadleuon sy'n digwydd yn y Llywodraeth ar y mater hwn i wneud yn siŵr mai'r Bil y byddwn ni'n ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r Bil cryfaf a mwyaf amddiffynadwy y gallwn ni ei roi ger eich bron.
Rwy'n credu y gŵyr yr Ysgrifennydd Cyllid nad wyf yn petruso bod yn hallt fy meirniadaeth o Lywodraeth Cymru lle rwy'n credu bod angen hynny, ond hefyd, gan fy mod yn gytbwys fy marn, byddaf yn hael iawn fy nghefnogaeth os rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gywir. Rwy'n croesawu'r datganiad yr ydym ni wedi clywed ganddo heddiw a hoffwn i ddweud fy mod yn credu ei fod wedi dangos amynedd Job yn ei negodiadau â Llywodraeth y DU. Mae'n baradocs rhyfedd, pan fydd Llywodraeth Prydain yn negodi gyda Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban, mae cael unrhyw fath o gonsesiynau ganddyn nhw o safbwynt yr hyn sy'n sefyllfa anghynaladwy fel tynnu dannedd â gefeiliau, ac eto yn eu trafodaethau gyda'r Comisiwn ym Mrwsel maen nhw'n ymddangos yn gwbl ddi-rym. Bu'r negodiadau Brexit, boed yn yr UE neu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn draed moch llwyr.
A yw'n rhannu fy nryswch bod Llywodraeth y DU wedi rhoi arf i wrthwynebwyr y broses Brexit drwy greu anghydfodau diangen yn yr achos penodol hwn? Holl ddiben gadael yr Undeb Ewropeaidd yw ei bod hi'n broses ddatganoli; mae'n adfer i wleidyddion etholedig ar lefel sy'n briodol y pwerau hynny sydd, yn y pen draw, yn perthyn i neu yn deillio o ganiatâd y bobl, a byddai'n anghywir i Lywodraeth y DU gadw pwerau neu geisio cadw'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru o ganlyniad i refferenda eraill lle mynegwyd ewyllys y bobl. Efallai ei bod hi'n anghyfleus i Lywodraeth y DU gydnabod y ffaith hon a, gan fod Lloegr yn arglwyddiaethu o ran poblogaeth yn y Deyrnas Unedig, efallai fod gwleidyddion Lloegr yn ei chael braidd yn anodd deall hyn—neu rai gwleidyddion Lloegr, beth bynnag. Ond, fel y dywedodd Simon Thomas funud yn ôl, yn y bôn, mae hwn yn gwestiwn o barchu sefydliadau sydd wedi eu sefydlu yn dilyn proses ddemocrataidd, y mae Brexit yn estyniad ohono.
Hoffwn i fynegi fy nryswch unwaith eto at arafwch Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion i ddiwygio'r Bil ymadael gan eu bod wedi, mewn egwyddor, cytuno i gyflwyno'r gwelliannau hynny. Mae'n hollol annerbyniol y caiff y rhain eu cyflwyno ychydig oriau cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—ac ni all neb roi ystyriaeth briodol ac felly cael trafodaeth ystyrlon ar y cynigion yn yr amser hwnnw. Nid yw'n syndod bod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol, ac mae'n hollol anesboniadwy pam mae Llywodraeth y DU mor araf yn eu cyflwyno.
Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, fel y mae pawb yn cytuno, y bydd yn rhaid cael, ac mae'n sicr yn ddymunol cael, fframweithiau ar gyfer y DU o ran materion fel amaethyddiaeth. Ond, yn ystod ymgyrch y refferendwm ac wedyn pan rwyf wedi annerch cyfarfodydd â ffermwyr ar hyd a lled y wlad, rwyf wedi dadlau o blaid y broses Brexit ar y sail bod hyn yn rhoi cyfle i greu polisi amaethyddol sydd wedi ei theilwra ar gyfer buddiannau Cymru, ffermwyr Cymru a defnyddwyr Cymru. Rwy'n synnu at fethiant Llywodraeth y DU i ddeall natur y broses hon yn ddigonol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig i gyflwyno Bil brys i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod hyn yn dacteg angenrheidiol, o leiaf, i orfodi Llywodraeth y DU i gydnabod realiti'r sefyllfa, bod Llywodraeth y Cynulliad yn fynegiant dilys o farn pobl Cymru, a'n diben ni yma yw sicrhau y caiff y setliad datganoli ei barchu gan Lywodraeth y DU ac na ddylid defnyddio'r broses Brexit i'w danseilio.
Wel, wrth gwrs, mae Mr Hamilton yn gywir: mae cryn anghydweld rhwng y safbwyntiau a fabwysiadwyd ynglŷn â'r holl fusnes o Ewrop a gadael yr Undeb Ewropeaidd, rhwng safbwynt Llywodraeth Cymru a sefyllfa ei blaid—y mae ef ei hun yn rheolaidd wedi ei amlinellu yma ar lawr y Cynulliad. Ond, yn ysbryd eciwmenaidd ei gyfraniad y prynhawn yma, gadewch imi wneud dau neu dri phwynt: yn gyntaf oll, credaf ei bod hi'n sefyllfa sobreiddiol bod Llywodraeth y DU wedi ei chael hi mor anodd i gynnal trafodaethau gyda'i chymdogion agosaf yma o fewn y Deyrnas Unedig a hithau ar fin cychwyn ceisio cwblhau'r negodiadau mwyaf cymhleth gyda 27 o wladwriaethau Ewropeaidd eraill. Mae Gweinidogion olynol y DU yn dweud wrthym pa mor hawdd y bydd hyn, pa mor ddidrafferth y bydd, i gael yr holl gytundebau y maen nhw'n dweud sy'n angenrheidiol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac eto nid ydyn nhw wedi gallu dod i gytundeb ar fater lle—ac rwy'n sicr yn cytuno'n â'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton yma—lle nad oedd angen anghydfod o'r cychwyn cyntaf. Pan ddywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, am y tro cyntaf erioed mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, y byddai Bil ymadael â'r UE, dywedais, ar ran Llywodraeth Cymru, ein bod yn cytuno ei bod yn bwysig cyflwyno'r Bil a'n bod eisiau i'r Bil fod yn llwyddiant, oherwydd mae a wnelo'r Bil â throsglwyddiad trefnus o gyfraith yr ydym ni wedi dibynnu arni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i gyfraith y bydd ei hangen arnom ni ar ôl Brexit. Ac mae mynd ar ofyn ffrae gyda grŵp o bobl a oedd yn eich cefnogi yn y gwaith hwnnw wedi bod yn ddirgelwch i mi pan fo dwylo Llywodraeth y DU yn llawn—mor llawn y gallech chi ddweud eu bod yn orlawn—gyda'r gwaith o geisio llywio a negodi'r holl gymhlethdodau eraill o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu bod hynny ar lawer ystyr yn esbonio natur araf eu hymateb. Mae'n Llywodraeth sydd wedi ei llethu gan y dasg y mae'n ei hwynebu ac mae'n cael trafferth dod o hyd i'r amser a'r egni a'r ymdrech sydd eu hangen i roi sylw i faterion, sy'n troi, o'u hanwybyddu, yn broblemau gwirioneddol anodd y gellid bod wedi eu datrys yn llawer haws.
Dywedais yma yn y Siambr yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, Llywydd, yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf, mai David Lidington fyddai pumed Cadeirydd y Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd, mewn corff sydd wedi bodoli ers llai na 18 mis. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi ynghylch pa mor anodd yw creu momentwm yn y fforwm hwnnw, oherwydd mae unigolion allweddol wedi bod yn newid mor aml. A dyna pam na chyflwynwyd papur a fyddai wedi caniatáu trafodaeth briodol ar adeg yn y broses lle byddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Mae hynny'n gam yn ôl o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi yn yr hydref, pan gynhaliwyd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar sail fwy trefnus, pan oedd gennym ni agendâu, pan oedd gennym ni bapurau, pan oedd gennym ni gofnodion, pan oedd gennym ni ystafell y gallem fod yn sicr y byddem yn cwrdd ynddi na fyddai'n newid pan oeddem ni ar y trên rhwng Caerdydd a Llundain. Roedd cyfarfod yr wythnos diwethaf—er ei fod yn adeiladol—yn gam yn ôl o'r sefydlogrwydd a welsom yn yr hydref. Serch hynny, rydym yn bwrw ymlaen yn y ffordd yr wyf i wedi ei ddisgrifio. Ein gwaith ni bob amser yw ceisio bod mor adeiladol ag y gallwn a dod o hyd i ffyrdd o ddod i gytundeb, pontio'r safbwyntiau nad ydyn nhw naill ai'n llesol i'r Deyrnas Unedig neu Gymru, a rhan Llywodraeth Cymru yn hyn i gyd bob amser yw ceisio chwilio am ffyrdd o ddatrys sefyllfaoedd anodd—hyd yn oed y rhai nad oedd angen iddyn nhw byth fodoli—yn y pen draw yn llwyddiannus.
Rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n parhau i fod wedi fy syfrdanu gan hwyliau lled rhadlon Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allaf ddychmygu pa mor rhwystredig a phoenus o drwyadl y bu'r broses hon, ac eto ymddengys ei fod bob amser yn llwyddo i gynnwys y gair 'adeiladol' mewn datganiad ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), er y gall ceisio dod o hyd i unrhyw beth adeiladol fod yn her weithiau. Ond mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei edmygu llawer am Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn amlwg, rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad i fwrw ymlaen i gyhoeddi Bil parhad, nid oherwydd, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod yn ddymunol ond am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna'r peth pwyllog i'w wneud, ac, yn wir, dyna'r peth angenrheidiol i'w wneud os ydym eisiau anrhydeddu ewyllys pobl Cymru a fynegwyd mewn dau refferendwm, nid yn unig i sefydlu Senedd i Gymru ond i gael Senedd i Gymru gyda'r pwerau sydd gennym ni heddiw.
Hefyd byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch a yw'n credu bod ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi camdrafod—o'i fynegi'n gwrtais—y cysylltiadau yn fwy cyffredinol gyda'r llywodraethau datganoledig yn gynllwyn, neu ai anallu ydyw? Rwy'n pendilio rhwng y naill a'r llall byth a beunydd; ni allaf gredu mewn rhai agweddau fod modd i Lywodraeth fod mor ddi-glem, ond yna gwrandawaf ar rai o'i Gweinidogion ac yna gallaf gredu hynny'n bur hawdd.
Rwyf hefyd yn credu, yn ogystal â bod hwn yn gam angenrheidiol i ddeddfu yn gyflym, os oes angen, o ran ein cyfansoddiad a'i ddiogelu, yn wir, fod hon yn adeg bwysig ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hwn a chymeriad cenedlaethol Cymru. Os ydym yn mynd i fwrw ymlaen â deddfwriaeth frys i amddiffyn ein cyfansoddiad, yna gobeithio y bydd hynny'n nodi dechrau diwedd sefyllfa lle caiff Cymru ei gweld fel doli glwt yr ynysoedd hyn, ac y bydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn y dyfodol, beth bynnag ei lliw, yn meddwl ddwywaith cyn dechrau ein cam-drin a chredu y gallant wneud fel y mynnant â'n cyfansoddiad.
Hoffwn i gael eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran y trafodaethau sydd ar y gweill ar gyfer y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), yn enwedig yr wythnos nesaf. Mae'r gair 'negodi' yn air poblogaidd iawn y dyddiau hyn, am resymau amlwg. Ond, o ran y nod y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod o ran yr hyn fyddai'n dderbyniol mewn Bil ymadael yr UE sydd wedi'i wella, a all ef sicrhau'r Cynulliad hwn na fydd unrhyw negodi yn gyfystyr â chymryd grymoedd oddi ar Gymru, bod angen trafod a bod angen cydweithio a negodi, ond ei fod yn barod i wthio'r ddeddfwriaeth hon, ac na fydd yn ddigon i San Steffan ildio ychydig, y byddai'n rhaid cael newid sylfaenol yn y ddeddfwriaeth cyn belled â bod datganoli yn y fantol?
Hefyd—soniodd fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Simon Thomas am hyn yn ei gyfraniad, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth yr Alban wedi bod mor brysur yn gwarchod rhag difrod posib y Bil ymadael, tybed a all ein diweddaru ni ymhellach ynglŷn ag unrhyw gynnydd sydd wedi bod o bosib o ran fframweithiau cyffredin. Mae'n rhywbeth y mae Aelodau eraill wedi ei grybwyll hefyd. Oherwydd, os nad oes gennym ni newid safbwynt yn Llywodraeth y DU ar fater y Bil ymadael, mae arnaf ofn na chawn ni byth newid ar fater fframweithiau yn y dyfodol, er y bu sôn yn y gorffennol y bu rhywfaint o gynnydd, o leiaf consesiwn y gellid llunio a chytuno ar y cyd ar gynnwys fframweithiau, a oedd yn adeg nodedig i Lywodraeth San Steffan. Ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a fu unrhyw drafodaeth bellach ynglŷn â'r fframweithiau cyffredin hynny.
Ac yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai trafodaethau fel hyn, a chytundebau rhwng y Llywodraethau datganoledig, fod wedi dirwyn i ben ymhell cyn i grŵp o bobl gyfarfod yn Chequers i benderfynu ar ein tynged heb fod cynrychiolaeth i'n gwlad yn y grŵp hwnnw?
A gaf i ddechrau drwy ddweud mor dda yw cael Steffan Lewis yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar y mater hwn yma y prynhawn yma a chymaint, yn fy marn i, y mae ei gyfraniad hyd yma ac eto heddiw yn ein helpu ni i bendroni ynghylch rhai o'r materion cymhleth iawn a phwysig hyn?
Felly, rwy'n cytuno ag ef y credaf fod ein Bil parhad, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarn ystyriol o ddeddfwriaeth, a'i fod yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth i ddiogelu buddiannau datganoli, er nad hynny, fel y dywedais dro ar ôl tro y prynhawn yma, yw ein dewis cyntaf, ond sefyllfa wrth gefn y mae'n rhaid inni allu ei diffinio a'i datblygu.
Sut ydym ni'n deall safbwynt Gweinidogion y DU? Wel, mae'n fater dyrys. Yn sicr, mae anallu yn chwarae rhan, fel hyn o leiaf: fel y dywedaf, fy argraff i o gwrdd â Llywodraeth y DU yw bod yr holl agwedd o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn sioc enfawr i'r system. Y diffyg paratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn, y frwydr enfawr i ysgogi'r ymdrech ddeallusol, i gasglu ynghyd y bobl sydd eu hangen arnoch chi, natur y manylder sydd wrth wraidd llawer o hyn i gyd—rydych chi'n cael yr argraff o system sydd bron bob amser mewn peryg o gael ei llethu gan y dasg sydd ganddi. Ond mae rhai lleisiau yn Llywodraeth y DU—ac, fel y gŵyr Steffan Lewis yn dda, nid Llywodraeth yw hi o bell ffordd sy'n siarad ag un llais, ond mae elfennau yn y Llywodraeth honno nad ydyn nhw'n gefnogol i ddatganoli. Er bod ganddyn nhw ffurf ar eiriau y maen nhw'n arfer eu ddefnyddio, yn y bôn maen nhw'n credu bod datganoli yn rhywbeth y rhoddodd Senedd San Steffan inni yn ei haelioni ac y gall gymryd hynny oddi wrthym pan ddaw'n anghyfleustra iddynt. Ac nid dweud yr wyf i bod y lleisiau hynny yn y mwyafrif, ond mae pobl yr ydych chi'n cwrdd â nhw yn Llywodraeth y DU y mae'n amlwg iddyn nhw bod y newid sylweddol yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn sgil datganoli wedi eu gadael ar ôl i bob pwrpas, ac maen nhw'n credu bod ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â chamu'n ôl mewn amser, ac y byddant rywsut yn gallu ail-greu'r Deyrnas Unedig a oedd yno cyn inni erioed ymuno â hi. Mae hon yn adeg bwysig yn ein hanes, wrth gwrs. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno â'r drefn y bydd y Llywodraeth yn ei chynnig yr wythnos nesaf, byddwn yn treulio mis Mawrth fel deddfwrfa yn gorfod ymwneud yn uniongyrchol â chymhlethdod y Bil parhad, a bydd hynny'n gofyn am ymdrechion pawb yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y Bil gystal ag y gall fod.
Gadewch imi orffen yr hyn a ddywedaf wrth Steffan Lewis drwy gadarnhau ei gred yn fy ngallu i edrych ar yr ochr orau o bethau. Oherwydd cyn belled ag y mae fframweithiau cyffredin yn y cwestiwn, yna mewn gwirionedd bu llawer iawn o waith manwl ar y gweill ar lefel swyddogol ers i'r broses honno ddechrau. Bellach bu dros 20 o'r hyn a elwir yn sesiynau trochi sy'n cynnwys Llywodraeth yr Alban, ni, Llywodraeth y DU a gweision sifil o Ogledd Iwerddon, ac mae hyd at oddeutu 10 arall wedi eu trefnu ar gyfer mis Mawrth. Felly, mae'n dangos y pwynt a wnaed o amgylch y Siambr hon y prynhawn yma: ein bod yn abl iawn i ddod at ein gilydd a datrys y problemau cyffredin hyn drwy eistedd o gwmpas y bwrdd a mynd ati'n adeiladol heb yr angen i chwifio ffon fawr arnom ni a dweud na ellir ymddiried ynom i wneud y pethau hyn yn iawn. Rydym yn gwneud hyn drwy'r amser, ac yn llwyddiannus. Yr hyn y mae'n ei ddangos—ac rwy'n gwybod y bydd Steffan Lewis yn ymddiddori yn hyn ac yn dymuno meddwl am y peth—yr hyn y mae'r holl waith hwn yn ei ddangos yw'r angen am set o drefniadau llywodraethu sy'n ategu pob un ohonynt. Pe baem ni'n gallu cytuno i ymdrin ag agweddau ar amaethyddiaeth, er enghraifft, yng nghyd-destun fframweithiau, sut y gall pob un ohonom ni fod yn hyderus, wythnos yn ddiweddarach, ar ôl cytuno ar hynny, na fyddai un o'r rhai a fu'n rhan o'r cytundeb hwnnw o bosib yn cerdded ymaith ac yn gwneud rhywbeth y tu hwnt i ffiniau'r cytundeb? Sut y gallwn ni fod yn hyderus, chwe mis wedi llofnodi'r cytundeb, pan fydd rhywbeth arall yn dod i'r amlwg, bod dulliau priodol i roi gwybod ynglŷn â'r mater newydd hwnnw, er mwyn ailddechrau trafodaethau ac, os oes angen, ar gyfer gwyntyllu dadleuon? Ac ym mhob agwedd ar y trafodaethau ar fframweithiau, ceir ymdeimlad bod angen mecanweithiau llywodraethu cryfach ar y DU yn y dyfodol, yn gyfrwng i'w gydrannau ddod at ei gilydd, cynnal busnes, a chynnal y sefyllfa yn briodol ac yn bwrpasol. Rwy'n credu bod hynny'n her enfawr sy'n deillio o'r trafodaethau fframwaith, a bydd yn rhaid inni ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i beth o'r ynni angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater hwnnw ochr yn ochr â phopeth arall sydd ganddi i feddwl yn ei gylch.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu fawr iawn eich datganiad, a chyflwyno, neu gyflwyno arfaethedig, yr hyn y galwn ni am y tro yn Fil parhad—cam pwysig iawn ymlaen. Gwrandewais hefyd ar araith David Lidington. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ddryslyd braidd gan rai o'r negeseuon a oedd yn tarddu o hynny, yn arbennig o ran yr hyn a ymddangosai yn ymgais i greu pellter rhwng Cymru a'r Alban, a'r math o fygythiad oedd ymhlyg â diystyru Sewel a oedd yn ymddangos i fod yno. Er hynny, credaf fod rhaid inni gydnabod y bu hon yn broses arteithiol iawn, bron fel tynnu dannedd, llusgo Llywodraeth y DU yn cicio a strancio i dderbyn realiti cyfansoddiad y DU. Ac mae'n ymddangos bron iawn fel pe bai David Lidington yn chwaraewr wrth-gefn sy'n cael ei hysio i'r cae ar ddiwedd gêm bêl-droed, onid ydy hi, mewn ymgais i achub rhywbeth o'r gêm.
Credaf mai'r pwynt a wnaeth Steffan Lewis yw'r un pwysicaf mae'n debyg, a hynny yw a oes modd canfod newid gwirioneddol mewn agwedd. Oherwydd mae'n ymddangos i mi fod risg difrifol o hyd er y gallwn ni ennill yn y maes hwn, neu y gallwn ni gyflawni cynnydd boddhaol yn y maes hwn, mae nifer o eliffantod mawr yn dal yn yr ystafell, i ddefnyddio hen ymadrodd John Morris. Yn gyntaf, y mater o ddiwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Nawr, rwy'n gwybod y byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yfory ynglŷn â hynny, ond mae hynny'n faes sylfaenol sy'n dal i fod angen ei ddatrys, a lle mae angen newid mewn agwedd gan Lywodraeth y DU. Mae a wnelo'r ail fater ag ymreolaeth ariannol y lle hwn, mewn perthynas â'r cronfeydd hynny y mae'r UE yn gyfrifol amdanynt. Oherwydd, ar y naill law, fe allwn ni gyflawni yr hyn y mynnwn ni o ran pwerau datganoledig, ond ar ddiwedd y dydd, os oes rheolaeth dros y cyllid a ddylai ddod i'r lle hwn, bydd modd tanseilio hynny—ac yn ail, fel y gwyddom ni, o ran y ddeddfwriaeth ganlyniadol sy'n cael ei llunio ar hyn o bryd, yn enwedig o ran y Bil masnach. Nawr, rwy'n deall pam fod Ysgrifennydd y Cabinet yn amharod i ysgwyddo gormod o feichiau ar unrhyw un adeg, ond mae'r materion hyn i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd, a'r hyn nad oes arnom ni mo'i eisiau yw sefyllfa lle'r ydym ni'n mynd o un frwydr i'r llall; mae'n rhaid gweld newid diwylliannol a gwleidyddol gwirioneddol gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau consensws sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit.
Llywydd, byddai diystyru Sewel yn fater cyfansoddiadol difrifol iawn. Dydw i ddim yn hoffi defnyddio'r gair 'argyfwng', oherwydd caiff ei ddefnyddio yn llawer rhy aml yma, ond ni fu Llywodraeth y DU erioed mewn sefyllfa lle mae hi'n cytuno bod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddarn o ddeddfwriaeth, ac yna, os na all sicrhau'r cydsyniad hwnnw, i fynd yn ei blaen beth bynnag. A phe bai hi'n cael ei hun yn y sefyllfa honno, byddai hi'n cael ei hun i ddyfnderoedd cyfansoddiadol anodd iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen i ddiwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion—dyna oedd y pwynt olaf yr oeddwn yn ei wneud i Steffan Lewis. Mae'n anodd darbwyllo Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am hynny. Eu hymateb greddfol, pryd bynnag y dywedir unrhyw beth ynghylch yr angen am drefniadau llywodraethu a diwygio, yw dweud, 'O, rydych chi eisiau Teyrnas Unedig ffederal'. Maen nhw wedi bod yn darllen meddyliau Mr Melding ar y mater hwn yn rhy fanwl, mae'n ymddangos i mi. Ond nid yw'n ymwneud o ddifrif â'r mater; nid yw'n ddim ond ffordd adweithiol o geisio diystyru'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud, ac yn y pen draw nid yw hynny'n dderbyniol. Bydd angen set mwy grymus o drefniadau sefydliadol ar y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, y gall hi barhau i weithredu'n llwyddiannus drwyddynt, ac nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn rhoi sail i hynny yn fwy hirdymor.
Wrth gwrs mae Mick Antoniw yn gywir ynglŷn ag ymreolaeth ariannol. Nid yw'r trafodaethau hynny yn ffurfio rhan o'n trafodaethau ynglŷn â'r Bil ymadael, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw helaeth hyd yma yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Gallaf roi sicrwydd iddo, fodd bynnag, fy mod i yn sicr wedi eu dwyn i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae Gweinidog Cyllid yr Alban wedi gwneud hynny hefyd, ac rydym ni'n parhau i fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth ef yno. Bu i'r rheini yng Nghymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd wneud hynny yn seiliedig ar addewid na fyddai Cymru, ar y lleiaf, geiniog yn waeth ei byd nag y buom ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid anrhydeddu'r addewid hwnnw.
Yn olaf, roedd Mick Antoniw yn llygad ei le i dynnu sylw at natur gydgysylltiol y Bil masnach a darnau eraill o ddeddfwriaeth yr ydym yn eu disgwyl ar lefel y DU gyda Bil ymadael yr UE. Mae'n rhan o'r rheswm pam rwy'n credu ein bod ni wedi rhoi'r fath ymdrech, ac yn wir, y fath amynedd o bryd i'w gilydd, i geisio cael y Bil hwnnw yn iawn. Oherwydd os gallwn ni unioni'r pethau hynny yn y Bil ymadael, yna credaf y bydd yr ateb yr ydym ni'n ei saernio yn y fan honno yn treiddio i'r Bil masnach, y caiff y Bil masnach ei ddiwygio yn yr un modd, a byddwn ni wedi datrys y broblem nid yn unig o ran y Bil ymadael, ond ar gyfer deddfwriaeth a fydd yn dilyn, a dyna pam rydym ni'n credu ei bod hi'n werth ymdrechu fel y gwnaethom ni i wneud hynny'n gywir.
Rwy'n credu y byddai hyn bob amser yn rhywbeth anodd ei negodi, ond fel yr wyf i'n gweld pethau, rydym ni'n symud yn bendant tuag at gytundeb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, o ran sut y bydd haneswyr yn gweld hyn, credaf y caiff ei weld fel trafodaeth ffederal glasurol ei naws, oherwydd, beth bynnag yw eich barn am Lywodraeth y DU, nid yw hi'n trin y gweinyddiaethau datganoledig—fel mae hi'n ei galw nhw, yn anffodus—y Llywodraethau datganoledig, fel unrhyw beth ond Llywodraethau cyflawn dros eu maes—caniatewch imi ddefnyddio gair boneddigaidd—diddordeb yn hytrach na sofraniaeth. Nid ydym ni mewn unrhyw ffordd wedi cael ein trin fel llywodraeth leol, a does arnaf i ddim eisiau dibrisio llywodraeth leol, ond mae buddiannau gwirioneddol mewn egwyddorion cyfansoddiadol yma ac maen nhw bellach yn dechrau dod i'r amlwg. Rwy'n croesawu agwedd y Gweinidog y Cabinet yn gyffredinol ac, fel y dywedais, rwy'n rhagweld y bydd cytundeb ac, felly, na fydd angen y Bil parhad. Yn amlwg, ar yr ochr hon i'r tŷ—gadewch inni fod yn onest—rydym ni'n anghyfforddus ynghylch y ddeddfwriaeth frys hon, yma ac yn yr Alban, ond mae'n rhan o'r sefyllfa ehangach a does arnaf i ddim eisiau i'r rhesymau dros hynny fynd â fy holl sylw. Mae arnom ni angen setliad effeithiol yma a Bil ymadael yr UE yw'r ffordd orau i wneud hynny.
Rwy'n cytuno â Steffan Lewis—ac rwyf wedi dweud hyn o'r cychwyn cyntaf—mai wrth galon hyn mae'r cyd-lywodraethu y mae'n rhaid cytuno arno fel y gallwn ni gynnal fframweithiau ar gyfer y DU. Ac mae a wnelo hynny â mwy na dim ond Gweinidogion y DU yn deall hynny—mae rhai wedi deall hynny erioed, mae eraill yn cael anhawster, ac fe allaf i restru'r adrannau gwladol nad wyf yn credu sy'n gwneud cystal. Ond, a dweud y gwir, mae diwylliant y gwasanaeth sifil yn Whitehall yn cael llawer o'r broses hon yn anodd hefyd. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith o redeg y fframweithiau yn digwydd y tu ôl i'r llenni gyda'ch swyddogion a swyddogion yn yr adrannau amrywiol, a bydd angen y gallu enfawr y bydd gennym ni yn Whitehall i redeg y fframweithiau hyn, yn amlwg gyda'n cyfranogiad llawn a chyfranogiad llawn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond maen nhw'n mynd i sefyll yn y lle, ar lawer ystyr, y mae swyddogion yr UE yn sefyll yn y Comisiwn a byddwn yn cyfrannu at hynny. Felly, mae hynny'n haen i'w ystyried hefyd.
Rwy'n credu y byddaf yn trethu amynedd y Llywydd mewn munud—
A gaf i dim ond—? Oherwydd rydym ni wedi cael datganiad diddorol iawn. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddwn yn ei drafod yfory yn un o'r adroddiadau gorau a gynhyrchodd y Pwyllgor erioed ac rydym ni yn gwneud gwaith trwm, neu os caf i newid y trosiad, rydym ni yn torchi ein llewys. Ond mae dadl yfory rwy'n credu yn arwyddocaol iawn ac mae a wnelo hynny mewn gwirionedd â'r trefniadau llywodraethu y bydd eu hangen arnom ni ar gyfer cyd-lywodraethu.
Ac yn olaf a gaf i ddweud fy mod i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn meddwl yn ofalus ynglŷn â sut bydd y ddeddfwrfa hon yn craffu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ei wneud o ran cyd-lywodraethu? Oherwydd does arnom ni ddim eisiau yr hyn sy'n cyfateb i'r system gaeedig braidd roedd ganddyn nhw yn yr UE ynglŷn â sut mae llywodraethau yn dod at ei gilydd ac yn cytuno. Mae angen deddfwrfa arnom ni i'ch dwyn i gyfrif am hyn yr ydych chi'n penderfynu ac yn ei ennill drwy'r gweithdrefnau hynny yn y dyfodol.
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio'n wir fod yr Aelod yn iawn ein bod ar drothwy dod i gytundeb. Rwy'n cytuno ag ef mai datrys y mater hwn drwy gyfrwng Bil ymadael sy'n parchu datganoli yw'r ffordd gywir a'r ffordd orau o wneud hynny. Unwaith eto, os ydym ni eisiau bod yn obeithiol, mae David Lidington rwy'n credu yn un o'r Gweinidogion hynny yn y DU sydd mae'n debyg yn deall y syniad o gyd-lywodraethu, oherwydd gan ei fod yn Weinidog dros Ewrop roedd yn cadeirio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop am sawl blwyddyn. Mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop yn ddarn llawer mwy effeithiol o beirianwaith y llywodraeth, ble mae'r gweinyddiaethau datganoledig wedi cwrdd â Llywodraeth y DU bedair gwaith y flwyddyn cyn Cyngor y Gweinidogion i rannu syniadau a safbwyntiau ynglŷn â'r hyn a drafodir yng Nghyngor y Gweinidogion, ac mae Gweinidogion datganoledig wedi cynrychioli'r DU, o bryd i'w gilydd, yn y trafodaethau hynny. Felly, rwy'n credu y ceir rhywfaint o obaith fod Mr Lidington yn Weinidog sydd wedi gweld hynny'n gweithio a'i weld yn gweithio'n effeithiol.
Rwy'n credu bod David Melding yn llygad ei le ynghylch y gwasanaeth sifil a dyma pam rwy'n credu bod y trafodaethau trochi hynny ar y fframweithiau wedi bod mor bwysig, oherwydd maen nhw wedi bod yn fodd i weision sifil y DU gwrdd â phobl o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn ffordd mae'n debyg na chawson nhw mo'r cyfle hwnnw o'r blaen. Maen nhw wedi bod yn defnyddio'r gyfres o egwyddorion y cytunwyd arnyn nhw yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ôl yn yr hydref ac mae hi o ganlyniad i'r trafodaethau hynny eu bod nhw eu hunain yn casglu bod yr angen am fframwaith i Lywodraethau'r dyfodol ac felly drwy hynny i'r Deyrnas Unedig mor bwysig.
Rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y gwaith manwl y maen nhw yn ei wneud. Does fawr o, naill ai awydd neu, yn sicr, does dim egni ar gael mewn mannau eraill i wneud y gwaith trwm sydd ei angen, i feddwl sut y bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol. A bydd adroddiad y Pwyllgor hwnnw, rwy'n credu, yn wirioneddol ddylanwadol yn llunio syniadaeth, nid yn unig yma a chyda Llywodraeth Cymru, ond yn ein gallu i ddefnyddio'r dadleuon a chloriannu'r gwahanol ffyrdd y gellid gwneud hyn y mae'r adroddiad yn ymrafael â nhw, a fydd yn caniatáu inni ei ddefnyddio i fod yn ddylanwadol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'ch trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Yr hyn sy'n drawiadol o'r datganiad hwn a'r ymatebion a'r cwestiynau yw eich bod yn ceisio bod yn gadarnhaol ond nad yw Llywodraeth y DU yn ymateb yn yr un modd. Ond rwyf yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn yr ail gam o'r trafodaethau yn y cyfarfod sydd ar y gorwel. Ac, wrth gwrs, dywedir wrthych chi y cewch chi bapur cyn y cyfarfod hwnnw, ond chawsoch chi ddim papur cyn y cynigion a gawsoch chi yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos, fel y dywedwyd heddiw, diffyg parch ac ymddiriedaeth—neu ai dim ond difeddwl oedd o? Ai ni yw'r 'unrhyw fater arall' o ran y trafodaethau pwysig hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid yw'r hyn a gyflwynwyd yn dderbyniol. Gallai'r cynigion yn wir fod yn gam yn ôl inni o ran datganoli, felly rwyf yn croesawu'r newyddion y bydd y Bil parhad bellach yn dechrau, a diolch i Steffan Lewis am helpu i'n rhoi mewn sefyllfa mor effeithiol.
Dau gwestiwn. Un: o'ch trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a allwch chi egluro pam nad yw Llywodraeth y DU yn barod i dderbyn gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a fu ger eu bron ers wythnosau a misoedd lawer? Byddent yn darparu'r ffordd orau ymlaen, yn hytrach na mynd â ni gam yn ôl ar yr adeg hwyr hon gyda'r cynigion canoli, pe byddech chi'n gallu cyflwyno'r achos, yn wir, i drafod y gwelliannau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac yn ail: ddoe, fe gawsom ni dystiolaeth yn y pwyllgor materion allanol ynglŷn ag effaith Brexit ar gydraddoldeb yng Nghymru. Yr hyn sy'n glir yw bod ofn colli Siarter yr UE ar hawliau dynol, colli cyllid yr UE, colli dylanwad ar gydraddoldeb yng Nghymru, sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth yr UE fel hawliau gweithwyr a'r Bil hygyrchedd cyflogaeth. A allwch chi egluro sut y gall y rhai sydd â diddordeb darparu tystiolaeth ynglŷn ag effaith Brexit ac sy'n ofni colli'r pwerau hynny gyfrannu at ac ymwneud â'r Bil parhad, a fyddai, wrth gwrs, yn rhoi parhad cyfreithiol o ddeddfwriaeth yr UE ynglŷn â materion datganoledig yng Nghymru?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Hoffwn ddweud, unwaith eto, Dirprwy Lywydd, y bu'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn fforwm gwell ers tymor yr hydref y llynedd nag oedd o'r blaen, ac y bu trafodaethau adeiladol gan Weinidogion y DU. Yr hyn sy'n rhaid inni ei weld yn awr, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, yw symud o'r geiriau teg i'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau caniatâd. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn barod i dderbyn ein gwelliant? Am fod arnyn nhw ofn. Achos dydyn nhw ddim yn credu y gellir ymddiried yn y gweinyddiaethau datganoledig i drafod y sefyllfa yn y ffordd yr ydym yn dweud y byddwn ni a dod i gytundeb. Maen nhw eisiau bod â feto wrth law, o hyd, oherwydd maen nhw'n credu rywsut mai nhw yw'r unig oedolion yn yr ystafell. Ac mae hynny'n fan cychwyn gwirioneddol broblemus, yn enwedig pan mae'r ffeithiau yn gwrth-ddweud hynny mor uniongyrchol.
O ran materion cydraddoldeb, gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod bod Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, Llywodraeth yr Alban, yn achub yn rheolaidd ar gyfleoedd drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU na ellir defnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd yn esgus i erydu'r hawliau dinasyddiaeth hynny yr ydym ni wedi'u sicrhau o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n cynnwys llu o enillion yr ydym ni wedi eu gwneud yn y maes cydraddoldeb. Llwyddais i allu trafod hyn i gyd gyda grŵp o sefydliadau trydydd sector yr wyf yn cyfarfod â nhw bob chwe mis ac y mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Brexit yn eitem sefydlog. Byddwn yn ceisio, hyd yn oed gydag amserlen frys, i wneud yn siŵr bod cyrff y tu hwnt i'r Cynulliad, sydd â phethau pwysig i'w dweud ynglŷn â'r materion hyn, yn cael y cyfle, mae'n debyg gan fwyaf drwy'r ffyrdd sefydledig sydd gennym ni yn yr amgylchiadau hynny, i barhau i ddylanwadu ar ein syniadau yn y cyswllt hwn.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ceisiaf fod mor gryno â phosib oherwydd mewn gwirionedd, mae gennyf y cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ddydd Llun nesaf yng nghyfarfod y pwyllgor, a byddwn yn trafod ychydig yn fwy manwl bryd hynny. Mi wna i geisio canolbwyntio'n llwyr ar Gyd-bwyllgor y Gweinidogion heddiw, ac nid ar y Bil parhad, er fy mod i'n cytuno â Simon Thomas a Steffan Lewis ynglŷn â'r materion y mae'r ddau wedi eu crybwyll mewn cysylltiad â hynny.
Yn eich trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—yn amlwg, rydych chi wedi sôn gryn dipyn ac yn drylwyr am Fil ymadael yr UE, ond pa drafodaethau a gawsoch chi am y cyfnod pontio, oherwydd mae hynny yn amlwg yn gam pwysig. Y cwbl a welaf i ar hyn o bryd yw'r oedi sy'n cael ei orfodi arnom ni gyda materion ynghylch y Bil ymadael yn ein llesteirio gyda'r trafodaethau hynny, a'r gallu i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn y negodiadau ar gyfer cam 2 yn cael ei ohirio. Fel y dywedodd Steffan Lewis, yr wythnos diwethaf fe welsom ni'r Cabinet—neu ran o'r Cabinet—yn cyfarfod yn breifat yn Chequers, â neb yn cynrychioli'r cenhedloedd datganoledig. Ymddengys fod hyn yn ddull arall ble caiff ein cyfraniad ei anwybyddu, yn ymarferol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni ble rydym ni arni yn hynny o beth? Ac a oes gennych chi sicrwydd y byddwn ni yn y cyfarfodydd pan fo'r negodiadau yng ngham 2 yn digwydd fel y gallwn ni ddweud ein dweud mewn gwirionedd ynglŷn â'r meysydd sy'n bwysig?
Ynglŷn â'r fframweithiau, fe wnaethoch chi sôn am 20 cyfarfod trochi hyd yma—10 mwy i ddod fis nesaf. Rydych chi'n optimistaidd; hwyrach mai fi sy'n sinigaidd. A yw hynny'n ffordd arall o ddweud yn syml ar y diwedd, 'O, edrychwch, rydym ni wedi gwneud cymaint, mewn gwirionedd, dydym ni ddim yn poeni am y pwerau oherwydd nid yw'n effeithio ar gymaint â hynny o feysydd'? Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn gweithio yn y ffordd honno. Ond fe wnaethoch chi sôn am y fframweithiau a phwy sy'n penderfynu ar y fframweithiau hynny, ond a allwch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch chi ynghylch pwy fydd yn penderfynu pwy fydd yn penderfynu ar y fframweithiau? Oherwydd pan ddaw hi'n bryd cytuno ar fframwaith, pwy fydd yn gwneud hynny, ac a fydd hynny gyda chydsyniad hefyd?
Diolch i David Rees am y cwestiynau hynny, ac am y gwaith y mae yntau a'r Pwyllgor hwn wedi'i wneud yn y maes hwn. Pan roeddwn i gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar gyfer sesiwn briffio, roedd cydnabyddiaeth dda iawn i'r ffaith bod ei bwyllgor wedi cyfarfod â phwyllgorau seneddol Brexit. Mae gwaith y Pwyllgor yn ddi-os wedi dylanwadu ar sicrhau bod cynrychiolaeth a dealltwriaeth glir o safbwyntiau Cymru.
O ran y cyfnod pontio, trafodwyd hynny yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dywedais wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd bod angen iddo fwrw ymlaen a gwneud yn siŵr y ceir cytundeb pontio yng nghyfarfod cyngor mis Mawrth, ac nid yw hi er budd y DU i beidio â gallu dod i gytundeb ym mis Mawrth oherwydd, os caiff ei ohirio tan y cyngor nesaf, byddwn mewn sefyllfa wannach, nid cryfach, oherwydd hynny. Cytunodd, fel mae wedi cytuno mewn cyfarfod blaenorol, ei bod hi'n bwysig iawn datrys materion pontio yn gyflym.
Mae yfory'n ddiwrnod mawr, fel y gŵyr David Rees, pan mae hi'n debygol y cytunir ar ddogfen yn y Comisiwn, a fydd yn ceisio deall beth yw goblygiadau cyfreithiol y cytundeb y daethpwyd iddo ym mis Rhagfyr ar ddiwedd trafodaethau cyfnod 1. Bydd hynny'n llywio natur y pontio. Felly, mae pontio yn bwysig iawn, ac mae angen i Lywodraeth y DU gyfaddawdu fel sy'n angenrheidiol er mwyn cytuno ar gyfnod pontio.
Ynghylch trafodaethau cyfnod 2, fel y dywedais, roeddem ni'n gobeithio y byddai papur yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Nid felly y bu hi. Unwaith eto, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud rhai pethau adeiladol ynglŷn â chydnabod yr angen ar gyfer bod â mwy o ran yn y cyfnod hwnnw o negodiadau, ond mae angen inni weld y cynigion ymarferol y byddant yn eu cyflwyno i wireddu hynny.
Ynglŷn â'r trafodaethau trochi, rwy'n cydnabod y bydd rhai pobl yn Llywodraeth y DU yr hoffi'r syniad o ddweud, oherwydd y cynhaliwyd yr holl drafodaethau trochi, ac i'r trafodaethau fod yn llwyddiannus, does dim problem yma o gwbl, ac, wyddoch chi, 'Anghofiwch yr holl ffwlbri yma am gymal 11; edrychwch pa mor llwyddiannus mae'r pethau hyn yn cael eu datrys.' Mae arnaf ofn y byddai'n rhaid inni ddweud bod hyn er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd y modd y mae'r Bil ymadael wedi ei lunio, ac rwy'n credu bod y trafodaethau trochi yn cadarnhau ein safbwynt ynglŷn â hyn i gyd: bod bwrw ymlaen drwy gydsyniad a drwy gytundeb yn bosib—yn bosib iawn— yn y Deyrnas Unedig, ac y dylid llunio'r gyfraith mewn ffordd sy'n adlewyrchu hynny.
Mae sut y caiff y fframweithiau eu gweithredu yn ein hatgoffa o'r drafodaeth ddiddorol iawn a gawsom ni y prynhawn yma a'r papur y bydd y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol yn ei drafod yfory, oherwydd mae a wnelo hynny â'r trefniadau llywodraethu ategol a all roi hyder i bawb, os cytunir ar fframwaith, mae yna ffyrdd o droi'r cytundebau hynny yn weithredu ac fe ellir diogelu buddiannau pawb sy'n rhan o hynny oherwydd bydd rheolau y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni gadw atyn nhw, a'r rheini yn rheolau cyfartal. Yna credaf y gallwn ni fod yn obeithiol y bydd modd gweithredu ar sail y fframweithiau hynny ac y bydd modd eu defnyddio'n llwyddiannus i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gweithio'n briodol.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i siarad ar y datganiad. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad heddiw a chyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw. Mae hwn yn ddarn pwysig o waith, sy'n llunio rhan o'r darlun ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Mae'r Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi camau ymarferol i fagu cysylltiadau agosach rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn diwallu anghenion y dyfodol. Rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r uchelgais hwnnw yn y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i bawb'.
Yn rhan o'n huchelgais i ddatblygu, gwella ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, lansiais y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' ar gyfer ymgynghoriad ar 28 Mehefin y llynedd. Gofynnais am sylwadau ar amrywiaeth o gynigion rhyng-gysylltiedig ar gyfer deddfwriaeth bosibl.
Roedd y cynigion a gafwyd yn y Papur Gwyn yn edrych ar sut y gallem ddiogelu agweddau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ofal yr unigolyn a mwy o integreiddio ledled y system iechyd a gofal cymdeithasol. Ceir cytundeb eang fod angen i'r systemau iechyd a gofal yma yng Nghymru weithio mewn ffordd wahanol i ddarparu'r gwasanaethau a'r canlyniadau hynny y bydd pobl ledled Cymru yn dymuno eu gweld. Dyna pam yr edrychodd y Papur Gwyn ar ddull system gyfan ac yr archwiliodd nifer o feysydd lle gallai deddfwriaeth y dyfodol helpu i gyflawni hyn drwy ffordd newydd o weithio.
Roedd y cynigion yn y Papur Gwyn yn cwmpasu llywodraethu ac arweinyddiaeth gryfach ar lefel y bwrdd, dyletswyddau newydd o ran ansawdd a didwylledd, a meysydd megis ymdrin â safonau a chwynion lle gallai prosesau cyffredin gefnogi dull mwy integredig. Cafwyd cynigion hefyd yn ymwneud â llais y dinesydd, cyflymder newid y gwasanaeth, rheoleiddio ac arolygu.
Yn ystod yr ymgynghoriad, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd rhanddeiliaid a grwpiau ffocws ledled Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys dulliau o gyrraedd pobl nad ydyn nhw yn arfer yn ymateb i, nac yn cymryd rhan, mewn ymgynghoriadau. Roedd yr ymgynghoriad yn para hyd at 29 Medi y llynedd. Cafwyd 336 o gyflwyniadau gan unigolion a sefydliadau, yn ogystal â 1,328 o ymatebion ar ffurflenni yn ymwneud â chynigion ar gyfer clywed llais y dinesydd a chynrychiolaeth.
Mae'n amlwg o'r ymatebion ac o adroddiad yr arolwg seneddol fod angen inni weithredu'n awr i warchod ein gwasanaethau iechyd a gofal i'r cenedlaethau sydd i ddod. Roedd ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu'r farn bod cydweithio rhwng sefydliadau yn hanfodol i hyrwyddo lles, nodi anghenion pobl a chynllunio a darparu gwasanaethau o ansawdd gadarn a chyson. Roedd llawer o'r ymatebwyr yn cytuno mewn egwyddor â'r hyn a oedd yn cael ei gynnig yn y Papur Gwyn. Er hynny, gofynnodd rhai ymatebwyr am fwy o wybodaeth a manylion am sut y gallai rhai o'r cynigion weithio a'u rhoi ar waith yn ymarferol.
Roedd cefnogaeth i arweinyddiaeth fwy effeithiol, y sgiliau a'r profiad cymwys ar lefel bwrdd ac ar gyfer cymryd camau cadarn cymryd os ystyrid fod sefydliadau yn ddiffygiol. O ran penderfyniadau ynglŷn â newid y gwasanaeth, roedd ymatebwyr yn awyddus i sicrhau bod tystiolaeth glinigol yn cael ei hystyried a bod barn dinasyddion o bwys gwirioneddol, ynghyd ag arbenigwyr.
Fel yn yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd blaenorol, roedd rhai ymatebwyr yn dal i fod heb eu darbwyllo ynghylch y defnydd o ddeddfwriaeth i hyrwyddo newid ymddygiad fel gweithio ar y cyd. Roedd rhai yn awyddus i weld defnydd mwy effeithiol o ddarpariaethau yn cael ei nodi yn neddfwriaeth bresennol y Cynulliad. Eto i gyd, roedd llawer o ymatebwyr yn gweld gwerth yn y dyletswyddau arfaethedig newydd o ran didwylledd ac ansawdd ac yn teimlo y gallai'r rhain roi ysgogiad pellach i weithio integredig a gwell canlyniadau i bobl Cymru.
Roedd cefnogaeth sylweddol i lais annibynnol ar gyfer y cyhoedd ledled y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adolygiad seneddol fod yn rhaid i Gymru fod yn genedl sy'n gwrando, er mwyn cyflymu'r newid a gwella ansawdd, nid yn unig wrth dalu sylw llawn i brofiadau dinasyddion o iechyd a gofal, ond gan fynd ati i geisio safbwyntiau a phrofiadau amrywiol.
Mae'r cynnig i ddisodli cynghorau iechyd cymunedol gan gorff cenedlaethol newydd i gynrychioli dinasyddion, wrth gwrs, wedi ennyn llawer o drafodaeth a sylwadau. Cafwyd consensws eang fod diwygio yn y maes hwn yn angenrheidiol os ydym am gryfhau llais y dinesydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Serch hynny, mae'n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â cholli pethau sy'n gweithio'n dda, gan gynnwys cynrychiolaeth ar lefel leol.
Yn gysylltiedig â hyn, roedd cefnogaeth hefyd i'r syniad o ragor o safonau cyffredin ledled iechyd, gofal cymdeithasol, y sector annibynnol a'r trydydd sector. Byddwn felly yn ystyried sut i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynigion ar: arweinyddiaeth y byrddau, craffu ac aelodaeth; proses hyddysg ar gyfer newid y gwasanaeth; dyletswyddau o ran didwylledd ac ansawdd; corff newydd ar gyfer llais y dinesydd ledled iechyd a gofal cymdeithasol; a safonau cyffredin.
Cafwyd barn gymysg o ran uniad posibl yr arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau eu bod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Nid ydym yn golygu gwneud y newidiadau hyn ar hyn o bryd, ond yn hytrach byddwn yn archwilio i ddull gweithredu sy'n mynd i'r afael â rheoleiddio'r bylchau sy'n bodoli, a diogelu i'r dyfodol y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd hyn yn caniatáu mwy o gydweithio ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd yn fawr â'r argymhellion yn yr adolygiad seneddol o ran cydgysylltu arolygiadau.
Wrth gwrs, mae canlyniad yr ymgynghoriad o ddiddordeb mawr yng nghyd-destun adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, lle'r oedd alinio camau gweithredu er mwyn gwella'r ansawdd yn barhaus yn thema allweddol. Byddaf wrth gwrs yn ystyried sut y byddwn yn cysylltu'r ymgynghoriad Papur Gwyn ag argymhellion yr adolygiad.
Yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn cynnal datblygiadau polisi pellach. Rydym ar hyn o bryd yn ystyried ai atebion deddfwriaethol yw'r modd mwyaf priodol o ateb yr heriau a gafodd eu nodi ac y rhoddwyd sylwadau arnynt yn yr ymgynghoriad. Byddaf yn hapus wrth gwrs i barhau i ddiweddaru'r Aelodau yn y misoedd i ddod.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae un neu ddau o gwestiynau wedi dod i'r meddwl o ddarllen eich datganiad ac, yn wir, y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'. Hoffwn yn gyntaf ac yn bennaf fynd i'r afael â phenodi aelodau i'r bwrdd o ran tanberfformio. Mae'r ymgynghoriad yn dweud bod cefnogaeth sylweddol i'r egwyddor o gyflwyno cyfyngiad amser i benodiadau gweinidogol lle mae byrddau iechyd neu ymddiriedolaethau GIG yn tangyflawni.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn tanberfformio hyd at y pwynt o fod naill ai mewn mesurau arbennig neu gydag ymyriadau wedi eu targedu. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, rydym wedi clywed am yr heriau ariannol dybryd a wynebir gan Hywel Dda, sydd wedi cronni gorwariant o £149 miliwn dros gyfnod o dair blynedd—y mwyaf o blith yr holl fyrddau iechyd. Pan ofynnwyd yn ddiweddar, mewn cwestiwn ysgrifenedig, faint o wybodaeth oedd gan Lywodraeth Cymru am hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru na chawsant wybod am y dirywiad hwn tan fis Rhagfyr. At hynny, o ran sefydlogi sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd, dim ond arweiniad cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
I ddychwelyd at yr ymgynghoriad hwn, ac at benodi aelodau i'r bwrdd o ran tanberfformio, a allech egluro beth yw swydd a swyddogaeth y lefelau hyn o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru? Ymddengys yn gwbl aneglur pa ran sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd wrth ddeall yr hyn sy'n digwydd mewn bwrdd iechyd pan mae'n rhaid ichi roi pobl yno ar gyfer ymyriadau wedi eu targedu neu fesurau arbennig.
Codais y mater hwn ym mis Tachwedd 2017 mewn dadl eang ei chwmpas ar y pwnc hwn, oherwydd credaf ei bod yn iawn ac yn briodol i Lywodraeth Cymru benodi pobl ychwanegol ar y bwrdd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu dwyn yn ôl i'r gorlan, gan gyrraedd y targedau cyflenwi gwasanaethau a rheoli ariannol a wnaethoch chi eu gosod iddynt. Ni allaf ddeall o gwbl beth rydym wedi bod yn ei wneud hyd yma o ran rhoi rhai o'r targedu ymyrryd hynny ar waith a rhoi'r bobl hyn yno, ac yna maen nhw'n gallu dweud, 'Jiw, doedden ni ddim yn gwybod bod dyled o £176 miliwn, er enghraifft, wedi'i phentyrru.' A cheir enghreifftiau yn Betsi Cadwaladr yr wyf wedi eu codi gyda chi yn y gorffennol.
Yr ail destun pryder sydd gennyf yn codi o'r Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' yw presenoldeb y cyhoedd ar y bwrdd. Eto, roedd yr ymgynghoriad yn sôn am y ffaith bod consensws cyffredinol yn bodoli y dylai'r cyhoedd a'u cynrychiolwyr allu cyfrannu'n ystyrlon i gyfarfodydd y bwrdd a bod aelodau'r bwrdd yn deall anghenion pobl leol a materion lleol. Rwy'n synnu'n fawr iawn at hynny mewn ffordd, y gallai fod unrhyw amheuaeth am hynny, oherwydd os nad yw'r bwrdd yn cynrychioli anghenion y bobl leol, yn sicr nid yw'r bwrdd yn addas i'r diben. Eu swyddogaeth nhw yw sicrhau bod pobl leol yn cael y gofal iechyd y mae ei angen arnyn nhw. Gan hynny, os gwelwch yn dda, a allech chi ymhelaethu ychydig bach mwy ar hynny, am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud am hynny ac a ydych yn credu ai peidio y cafwyd darpariaeth ddigonol neu ddiffyg weddol sylweddol o bresenoldeb cyhoeddus?
Hoffwn i gysylltu hynny â'r cynnig i gael gwared ar gynghorau cymuned. Eto, rwy'n nodi'r sylw yn eich datganiad am gynghorau cymuned, ond bu llawer o feirniadaeth ar y diffyg manylion yn y cynigion. Ar y naill law, rydym yn sôn am yr angen i'r cyhoedd gael llais cryf ac ystyriol sy'n hyglyw i bawb. Siaradodd yr arolwg seneddol yn faith iawn am sut mae angen i'r cyhoedd gymryd cyfrifoldeb a bod yn rhan o'r newid sylfaenol y mae angen inni ei weld yn y GIG. Mae'r Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' yn sôn am yr un peth, ond mae'r polisi sy'n cael ei gyflwyno yn sôn am wanhau, lleihau a'i gwneud yn fwy anodd i lais y cyhoedd gael ei glywed ar y byrddau. A wnewch chi ein sicrhau ni am fwriad Llywodraeth Cymru yn y maes hwn?
Y maes olaf yr hoffwn i sôn amdano yw'r ddyletswydd o ran didwylledd. Mae'n gysyniad diddorol iawn, cyflwyno dyletswydd o ran didwylledd. Cafwyd cryn dipyn o gefnogaeth i hynny yn y Papur Gwyn, neu yn yr ymgynghoriadau a ddaeth i mewn. Yr hyn nad wyf i'n ei ddeall yn iawn yw sut y credwch y gallwn ysgogi bod yn eirwir ac agored. Beth yw'r ffordd orau i annog bod yn eirwir a gonest? Rydym ni'n teimlo'n gryf y dylai ein GIG, heb unrhyw arlliw o amheuaeth, fod â diwylliant cynhenid o ran rhannu cyfrifoldeb, bod yn agored a dysgu, ond nid wyf i'n credu y gellir cyflawni hyn drwy ddeddfu yn unig. Felly, beth yw'r mesurau y gallwch chi edrych arnyn nhw, neu eu dwyn ymlaen, i sicrhau y gall y ddyletswydd hon o ddidwylledd, yr wyf i, fel y dywedais yn gynharach, yn credu ei fod yn gysyniad diddorol iawn mewn gwirionedd, gael ei throsi yn beth gwir ymarferol? Mae deddfu ar gyfer gonestrwydd yn anodd iawn. Y cwbl sydd raid inni ei wneud yw argraffu hynny ar feddwl pob unigolyn sy'n gweithio yn y GIG ac i'r GIG, ac yn wir ar ein meddyliau ninnau, yn aelodau o'r cyhoedd, pan rydym yn ymdrin â'r GIG, fod yna ddiffuantrwydd a thryloywder yr ydym i gyd yn dyheu amdanyn nhw ac yn disgwyl eu gweld yn y GIG yn y dyfodol.
Diolch i chi am y cwestiynau hynny—byddaf yn eu hateb yn eu tro. Ar eich pwynt ynghylch amser cyfyngedig i benodiadau gweinidogol, rydym bob amser yn ceisio adolygu nid yn unig ein gallu i gael fframwaith tryloyw ar gyfer ymyrraeth ac uwchgyfeirio, ond yr offerynnau sydd gennym i ymyrryd a chefnogi'r byrddau hynny nad ydyn nhw'n perfformio cystal ag y dymunent neu gystal ag y byddem ni'n dymuno iddyn nhw wneud hefyd.
Ar eich pwynt am y sefydliadau hynny mewn cyfnodau dwysach o uwchgyfeirio, o'r tri sefydliad sydd ag ymyrraeth wedi ei dargedu, mae dau ohonynt wedi gwella eu rheolaeth ariannol yn wirioneddol dros y flwyddyn hon. Dywedais yn gynharach yn y pwyllgorau nad wyf i'n disgwyl iddyn nhw fantoli'r gyllideb eleni, ond credaf eu bod wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol ers dechrau'r flwyddyn hon dros gyfnod blwyddyn.
Nawr, o ran Hywel Dda, mae'r dirywiad y soniwyd amdano yn y Cynulliad yn broblem yn amlwg. I fod yn deg ag arweinyddiaeth y bwrdd, maen nhw wedi dangos digon o ddirnadaeth a mewnwelediad i ddweud mai dyna'r her y mae angen iddyn nhw eu hunain wneud rhywbeth yn ei chylch. Cawsant gefnogaeth y Llywodraeth gyda'r arolygon a gynhaliwyd o'u rheolaeth ariannol, a'r arolygiad o gyllidebu ar sail sero hefyd. Bydd yr adroddiad cyntaf yn mynd trwy'r bwrdd cyhoeddus, rwy'n credu, os nad y mis hwn yna'r mis nesaf. Felly, eto, bydd yna sgyrsiau â byrddau cyhoeddus—[Torri ar draws.]—rwy'n ymdrin â'ch cwestiwn chi—am sut y byddan nhw'n ymdrin â'r heriau ariannol.
Rhan o'r her i ni yw y gallai penodiadau gweinidogol ychwanegol â chyfyngiadau o ran amser ein helpu ni wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau penodol sydd yn bodoli mewn gwahanol sefydliadau. Er enghraifft, os oes gennych her ym maes rheolaeth ariannol, yr her yw penodi rhywun i ymdrin â'r agwedd benodol honno, i eistedd ar y bwrdd neu fod yn rhan o'r tîm gweithredol a allai ei helpu i oresgyn y mater penodol hwnnw pe bai rhannau eraill o'r sefydliad hwnnw yn gweithio'n dda? Fel y gwyddoch chi, yn y Gogledd mae'r sefydliad dan fesurau arbennig. Ond mae llawer o'r gofal iechyd a geir yn y Gogledd yn parhau i gael ei gyflawni a'i ddarparu hyd safon uchel ar draws y gwahanol gymunedau. Mae'n fater o fod â digon o offerynnau i allu cefnogi sefydliadau sydd angen eu diwygio.
Y pwynt o ran y fframwaith uwchgyfeirio yw ei fod yn ymwneud ag ymyrryd a chraffu fel ei gilydd, felly mae'n ymwneud â'r hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn ymyrryd a chynorthwyo sefydliadau a chael lefel uwch o graffu wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu pethau. Felly, cynnig yw hwn ynglŷn â photensial penodiadau amser cyfyngedig i helpu i ddatrys rhai o'r bylchau sgiliau unigol hynny a all fod mewn sefydliad, yn ogystal â'r hyn sydd gennym eisoes.
Ac ar y pwynt ynghylch llais y cyhoedd a'r ffordd y gall y cyhoedd wneud cyfraniadau ystyrlon i gyfarfodydd bwrdd, mae her yma o ran y gwahanol swyddogaethau yr ydym yn disgwyl i'r bwrdd eu cyflenwi. Felly, rydym yn dymuno cael bwrdd sydd â'r sgiliau a'r oruchwyliaeth ganddo i fod yn rhan o'r her a bod yn gymorth y mae ar y tîm gweithredol ei angen ac yr ydym ninnau'n ei ddisgwyl. Felly yn y fan honno y mae gennym ni'r penodiadau annibynnol i gyd sy'n digwydd ar y byrddau hynny. Mae'r rhain yn sefydliadau sydd fel arfer â chyllideb o tua £1 biliwn, ac fe wyddoch chi fel minnau fod y GIG yn sefydliad rhagorol a chymhleth, ac yn amlweddog. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny'n dipyn o her, ac rydym yn gosod safonau uchel ar gyfer aelodau'r bwrdd yr ydym yn awyddus i'w gweld yn dod i mewn. Mae hynny'n golygu, serch hynny, nad yw'r byrddau hynny yn aml yn adlewyrchu natur y boblogaeth leol.
Mae rhywfaint o hynny'n ddealladwy. Os oes gennych chi nifer bychan o aelodau annibynnol, heb i chi ehangu hynny'n aruthrol, yna ym mha faes bwrdd bynnag y byddwch yn ei ddewis, byddwch yn canfod nad yw'r aelodau annibynnol hynny o reidrwydd yn cynrychioli pob un o bobl y gymuned honno lle mae llais y dinesydd hwnnw yn cyfrif. Dyna pam mae'r cynigion yr ydym wedi bod yn edrych arnyn nhw, os ydych chi'n mynd i gael rhywbeth arall o ran hynny, a fyddai hynny'n golygu cael aelodau cysylltiol i gael mwy o lais sydd yn gynrychioliadol o amgylch bwrdd yr awdurdod pan fydd y trafodaethau hynny yn digwydd, ac nid yn unig yn ymwneud, os hoffech chi, â chael y cyfarfodydd bwrdd hyn yn digwydd yn gyhoeddus?
Oherwydd os edrychwch chi ar fyrddau ledled Cymru, mewn gwirionedd, ar lefel arweinyddiaeth ledled y prif weithredwyr a'r cadeiryddion, mae cynrychiolaeth dda o fenywod, ond nid ym mhobman ymysg yr holl aelodau annibynnol neu'r holl swyddi arweinyddiaeth gweithredol, ac, mewn gwirionedd, nid yw'r sefyllfa o ran cymunedau pobl ddu ac Asiaidd yn sicr yn un sy'n adlewyrchu ein cenedl. Felly, mae yna heriau o ran ein hamrywiaeth a hefyd, a dweud y gwir, y bobl sydd yn gyfranogwyr mwyaf a defnyddwyr mynychaf ein gwasanaethau gofal iechyd. Felly, mae gennym ni heriau economaidd-gymdeithasol o ran diffyg amrywiaeth yn aelodaeth byrddau hefyd. Mae angen inni feddwl am sut i reoli hynny'n briodol, a hefyd mae angen i'r byrddau eu hunain fynd allan a bod yn rhagweithiol wrth siarad â chymunedau a bod yn awyddus i wrando arnyn nhw. Rwy'n credu bod rhywbeth gwahanol yn y fan honno am swyddogaeth corff llais y dinesydd. Felly, beth rydym yn disgwyl i fyrddau ei wneud heb ystyried corff llais y dinesydd, ac yna sut ydym yn disgwyl iddyn nhw weithio ochr yn ochr â'r rheini, ac yn amlwg mae ganddyn nhw eu swyddogaeth craffu hefyd?
A dywedaf eto: wyddoch chi, rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethoch am yr arolwg seneddol. Yn ddealladwy ddigon ni ddywedodd yr adolygiad fod yn rhaid i'r cynghorau iechyd cymuned aros ac ni ddywedodd fod yn rhaid iddyn nhw fynd. Nid oedd hynny'n rhywbeth y gwnaethom ni ofyn iddyn nhw ei wneud, ond roedden nhw yn cydnabod yr angen i ymgysylltu â dinasyddion. Rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y lle hwn a'r tu allan iddo, os ydym yn dymuno cael corff cryfach ar gyfer llais y dinesydd gyda chenhadaeth a diben eglur ledled iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen newid y sylfaen ddeddfwriaethol y mae cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu arni. A dylai'r enw newid hefyd, oherwydd mae'n ymwneud ag edrych ar sut mae'n mynd ar draws iechyd a gofal chymdeithasol. Yr her yw fod cynghorau iechyd cymuned wedi eu pennu mewn gwirionedd gan ddeddfwriaeth sylfaenol, a bydd yn rhaid inni fod â'r gallu i newid hynny. Nid diddymu rhywbeth na'i ddisodli mo hyn; ond yr hyn a ddaw i ystyried llais y dinesydd ledled iechyd a gofal cymdeithasol, a sut y gwnawn ni ymgysylltu'n iawn â'r sgwrs adeiladol a gawsom gyda bwrdd cenedlaethol y cynghorau iechyd cymuned ynghylch newid eu swyddogaeth a'u cylch gwaith i sicrhau trefniadaeth lwyddiannus ledled y sector iechyd a gofal. A dyna ein nod o hyd yn y Llywodraeth, yn hytrach na cheisio diystyru neu osgoi gwrando ar lais y dinesydd.
O ran y ddyletswydd didwylledd, unwaith eto, mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a wnes yn y datganiad. Ceir safbwyntiau gwahanol ynghylch pa mor bell y gall deddfwriaeth newid diwylliant sefydliad, er ein bod i gyd yn cydnabod y gall deddfwriaeth fod â rhan i'w chwarae yn hynny. Mae gan rannau eraill o'r DU ddyletswydd didwylledd, a rhan o'r hyn oedd yn ddiddorol yn yr ymateb i'r Papur Gwyn oedd a ddylai fod yn ddyletswydd ar unigolion. Wrth gwrs, mae gan lawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol unigol eisoes ddyletswyddau yn y maes hwn, ond yn benodol mae'n ddyletswydd didwylledd y sefydliad ynghylch y penderfyniadau a'r dewisiadau a wna. Felly, rwy'n awyddus, fel y dywedais, inni weithredu'r polisi hwnnw. Rhaid inni feddwl a allai, ac a ddylai, deddfwriaeth fod yn rhan o'r ateb hwnnw. Ond mae hynny'n ymwneud â hyrwyddo diwylliant sefydliad, yn hytrach na bod yr unig beth y gallem ni ac y dylem ni ei ddisgwyl.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw. Rwy'n trio asesu faint o gydnabyddiaeth sydd yna mewn difrif o'r consyrn sydd wedi cael ei godi yn sgil cyhoeddi'r Papur Gwyn yma. Mae yna ddisgrifiad gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet o ba mor eang fu'r ymatebion, ac mae'n rhaid atgoffa ein hunain cyfnod mor fyr oedd yna i gynnal yr ymgynghoriad yma, dros fisoedd yr haf diwethaf, ac mai camau munud olaf iawn oedd y cyfarfodydd cyhoeddus a'r fforymau casglu barn a gafodd eu cynnal ar draws Cymru. Mae'n bwysig cofio hynny. Ond er bod yna, fel rydych chi'n ei ddweud, dipyn o ymateb wedi dod i mewn, digon arwynebol, efallai, ydy'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi