Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Wrth agor y cyfarfod, hoffwn gymryd y cyfle i groesawu llysgennad newydd Iwerddon i'r Deyrnas Gyfunol, Adrian O'Neill, yma heddiw i ymweld â'n Cynulliad ni. Felly, croeso i chi.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

1. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion Cwm Cynon yn 2018? OAQ51518

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Dymunaf flwyddyn newydd dda iddi hi, ac yn wir, i’r holl Aelodau. Ac a gaf fi gadarnhau ein bod yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd drwy gontract nesaf Cymru a’r gororau, teithio llesol a phrosiect metro de Cymru, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn arwain ymgyrch leol yng Nghwm Cynon i wella gwasanaethau ar ddydd Sul. Ac o ganlyniad i’r ymgyrch honno, dyblodd Arriva nifer y gwasanaethau o Aberdâr yn ystod mis Rhagfyr, a chroesawyd y newyddion hwn gan lawer o fy etholwyr, a allodd fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lawer ymhellach i ffwrdd o ganlyniad i hynny. Nawr, cynllun peilot ym mis Rhagfyr yn unig oedd hwn, ac rwy’n pryderu, gyda'r posibilrwydd y caiff y gwasanaeth hwn ei ddiddymu o hyn ymlaen, y bydd fy etholwyr dan anfantais, gan nad yw’r trên cyntaf yn gadael Aberdâr nes ychydig cyn 10 y bore. Felly, a wnewch chi gefnogi fy ngalwad i Arriva fod yn hyblyg ac ystyried parhau â'r gwasanaethau hyn, er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl o Gwm Cynon allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ymhellach i ffwrdd?

Gwnaf, yn sicr. Roeddwn yn croesawu penderfyniad Arriva i ymestyn gwasanaethau ar ddydd Sul. Mae diffyg trafnidiaeth briodol, ddibynadwy a fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu pobl o ran cael mynediad at waith, ac aros mewn gwaith. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Trenau Arriva Cymru wedi penderfynu rhoi'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar waith, ac rwy'n gobeithio bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac y gallai arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol yn y tymor hwy. Ond gallaf ddweud, o ran y tymor hir, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, fod Trafnidiaeth Cymru yn asesu'r tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau ar hyn o bryd. Ac mae'n ofyniad sylfaenol pendant gennym fod y gwasanaethau'n cyfateb i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cymell cynigwyr i wella gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys, yn hollbwysig yn fy marn i, ar ddydd Sul, o gofio bod llawer o bobl bellach yn gweithio ar benwythnosau, ac yn enwedig ar ddydd Sul.

Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol gymaint o hawl i wneud hynny â'r rhai ohonom sydd yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fasnachfraint a osodwn—y gofynion hyn.

Wel, yn sicr. Mae hierarchaeth angen Maslow yn datgan bod angen i ni deimlo ein bod wedi ein cysylltu â'n gilydd, ac nid yn ystod dyddiau'r wythnos yn unig y dylem fod wedi ein cysylltu â'n gilydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun peilot a roddwyd ar waith gennym gan ddefnyddio gwasanaeth teithio am ddim TrawsCymru ar benwythnosau wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad y gwasanaeth am ddim hwnnw, ond mae wedi dangos bod pobl bellach yn newid eu ffyrdd o deithio o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus, a gallai hynny, o bosibl, arwain at ddefnyddio bysiau yn ystod yr wythnos hefyd. Ond yn sicr ar y penwythnos, credaf ei bod yn hollbwysig fod gweithredwyr bysiau, ein bod ni fel Llywodraeth, fod awdurdodau lleol a bod gweithredwr a phartner datblygu'r fasnachfraint nesaf yn gweithio gyda'n gilydd i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar benwythnosau.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod llawer o drigolion Cwm Cynon yn teithio i'w gwaith yn ardal Pontypridd a Thaf Elái. Wrth gwrs, un o'r pethau a grybwyllais ar sawl achlysur fel rhan o'r metro yw'r cysylltiad rheilffordd newydd mewn perthynas â Chreigiau i Lantrisant—datblygiad hanfodol iawn yn rhan o'r seilwaith hwnnw. Tybed a allwch roi unrhyw syniad ynglŷn â'r math o amserlen ar gyfer cynnwys y datblygiad hwnnw yn rhan o ddatblygiad y metro?

Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Mae'r cynigion i gynnwys y gwasanaeth arbennig hwnnw yn y metro yn rhywbeth a gaiff ei asesu ymhellach fel rhan o estynadwyedd y rhwydwaith o dan gamau'r metro yn y dyfodol. Ond ni ellir parhau â'r gwaith o ddatblygu prosiectau i'w cyflwyno o dan gamau'r metro yn y dyfodol tan ein bod wedi gwerthuso ateb cyflawni ein partneriaid gweithredu a datblygu ar gyfer cam 2 y metro ac wedi dyfarnu'r contract, a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allaf wneud hynny.

13:35
Datblygiadau Seilwaith ar Ynys Môn

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fudd economaidd datblygiadau seilwaith ar Ynys Môn? OAQ51522

Diolch yn fawr iawn, Rhun ap Iorwerth.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddatblygwyr prosiectau, yn ogystal â rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, i hwyluso'r broses o gyflawni nifer o brosiectau seilwaith sylweddol a fydd yn fuddiol i economi'r ynys drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth sgìl uchel a hyfforddiant.

Diolch. Yn y ddadl brynhawn ddoe ar y cynllun morol, mi wnes i bwysleisio wrth eich cydweithwraig, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd, yr angen i sicrhau bod cyswllt trydan yn cael ei ddarparu ar fyrder i gynllun cyffrous Morlais—y porth arbrofi ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Ynys Môn. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn fawr o bob cyfle mewn ynni adnewyddol er mwyn ein hamgylchedd ni, ond, a ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi, hefyd yn gweld bod sicrhau'r seilwaith trydanol hwnnw, y cyswllt hwnnw i Morlais—rhywbeth y mae arian eisoes wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod yn ceisio ei wireddu cyn gynted â phosibl er mwyn y budd economaidd mawr allai ddod i Ynys Môn a thu hwnt o wireddu potensial y parth arbrofi hwnnw? A wnewch chi roi ymrwymiad i chwarae eich rhan chi i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i gael y cysylltiad hwnnw yn ei le?  

A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, a buaswn yn ei gefnogi'n llwyr. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cefnogi parth arddangos Morlais ac yn sicrhau'r cydsyniadau a fydd yn denu datblygwyr ynni'r môr. Noda'r Aelod y cymorth a gafwyd gan Ewrop. Mae'n fwy na £4 miliwn o gyllid. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith hwn yn parhau ar unwaith. Credaf hefyd fod hyn yn ategu buddsoddiadau sylweddol eraill a wnaed ledled Ynys Môn, nid yn unig mewn perthynas ag Wylfa Newydd, ond hefyd, o fewn yr ardal fenter, yr uwchgynllun sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer porthladd Caergybi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'i blaid ar y gronfa borthladdoedd, sydd wedi cael ei defnyddio gan borthladd Caergybi a llawer o borthladdoedd eraill o amgylch arfordir Cymru.

Fel y gwyddoch, cyflwynwyd cynnig twf gogledd Cymru gan yr holl gynghorau a'r holl bartneriaid yn gynnar yn ystod toriad y Cynulliad. Roedd yn cynnig mesurau nid yn unig er mwyn cryfhau'r economi yn y gogledd-ddwyrain, ond i ymestyn y ffyniant hwnnw o'r diwedd tua'r gorllewin. Mae'n cynnwys cynigion ar gyfer buddsoddiadau i ehangu Parc Cefni yn Llangefni, Parc Cybi yng Nghaergybi a £50 miliwn ar gyfer ailddatblygu porthladd Caergybi, ochr yn ochr â chanolfan cynhyrchu ynni Trawsfynydd ar y tir mawr. Mae'r cynnig yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â hwy yn gynnar eleni ar y cynigion hyn a chynigion eraill. A allwch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut rydych yn bwriadu ymgymryd â hynny ac yn ôl pa fath o amserlenni wrth inni fwrw ymlaen â hyn? Hefyd, wrth wneud hynny, sut y byddwch yn hyrwyddo'r cyfleoedd yn y canolfannau hyn i Iwerddon, lle cyfarfûm fore ddoe ag Ieuan Wyn Jones, ein cyn-Aelod a chyfarwyddwr gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai bellach, a ddywedodd y newyddion da wrthyf fod ganddynt eisoes 11 o denantiaid yn barod i fynd i mewn, ond bod diddordeb cynyddol o Iwerddon yng nghyd-destun ehangach Brexit?

Credaf ei bod yn deg dweud bod Ynys Môn yn gartref i rai o brosiectau seilwaith mwyaf cyffrous y DU dros y blynyddoedd i ddod, a rhai o'r mwyaf hefyd. Mae'n hollbwysig fod yr holl bartneriaid—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru—yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer twf o ran swyddi, profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sy'n byw ar yr ynys ac yn y cyffiniau hefyd. Am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus i barhau gyda'r trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol. Yn wir, cyfarfûm ag arweinydd cyngor Ynys Môn a'r prif weithredwr cyn y Nadolig i drafod cynnydd ar Wylfa Newydd a chynnig y fargen twf. Rwy'n bwriadu parhau â thrafodaethau pellach fel rhan o drafodaethau'r fargen twf, a chredaf ein bod ar fin cynhyrchu set o gynigion gyda gweledigaeth gyffredinol a allai arwain at dwf sylweddol o ran cyflogaeth a chyfoeth ar draws gogledd Cymru, ond nid yw hynny'n mynd i'n hatal rhag gwneud y buddsoddiadau cywir yn y cyfamser. Yn benodol, mewn perthynas â ffyrdd, mewn perthynas â pharatoi safleoedd cyflogaeth ar Ynys Môn, credaf ei bod yn hanfodol fod yr arian yn parhau i lifo, ac mae arian eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi safle cyflogaeth strategol yn Llangefni, ac un arall ym Mhenrhos yng Nghaergybi. Ond wrth gwrs, daw'r arian hwnnw o Ewrop—enghraifft arall o ba mor bwysig y mae arian Ewropeaidd wedi bod i sawl rhan o Gymru.

13:40

Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n edmygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Barc Gwyddoniaeth Menai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfleuster gwych hwn ar agor ac yn weithredol cyn gynted â phosibl. Nawr, rwy'n cofio'r canolfannau technium a sefydlwyd gan y Cynulliad cyn y diwethaf, ond ni ddenodd y busnes. A allwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd y cyfleuster gwych hwn yn denu'r busnes, y swyddi a'r arloesedd y mae'n eu haddo, a'i fod yn cael ei farchnata yn weithredol yn y sectorau perthnasol?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i chroesawu i Siambr y Cynulliad? Fel rhywun nad yw'n byw yn rhy bell oddi wrthyf, rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni ddadlau oedd yn Ysgol Maelor, yn ystod etholiad 2015.

Mae'n rhaid i mi ddweud fod cyflymder y gwaith o ddatblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi creu argraff fawr arnaf innau hefyd. Nid oes llawer o amser ers inni dorri'r dywarchen gyntaf ar y prosiect, ond mae hwnnw, ynghyd â buddsoddiadau eraill, fel y Sefydliad Gweithgynhyrchu Uwch ar yr ochr arall i ogledd Cymru, yn hollol wahanol i'r canolfannau technium, gan y byddant yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac addysg at ei gilydd mewn ffordd newydd a fydd yn sicrhau bod yr holl ddatblygiad o ran darparu addysg a hyfforddiant yn cael ei lywio gan anghenion cyflogwyr, a bod addysg a hyfforddiant yn fwy ymatebol i'r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr a buddsoddwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf i, at fater cefnogaeth y Llywodraeth i'r diwydiant ffilm a theledu, sydd yn sector pwysig ac arwyddocaol i'n heconomi a'n diwylliant fel ei gilydd. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd y Llywodraeth, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, nad yw cwmni Pinewood bellach yn talu rhent nac yn denant yn stiwdio Gwynllŵg yr arwyddon nhw gytundeb rhent ar ei gyfer yn wreiddiol yn 2014. Mi wnaethoch chi, serch hynny, ein hysbysu ni bod Pinewood dal yn ymrwymedig i weithredu'r stiwdio o dan gytundeb rheolaeth, er nad yw manylion y cytundeb hynny yn y pau cyhoeddus. A ydym ni'n iawn felly i gymryd bod Pinewood yn talu Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru, a nawr rydym ni'n eu talu nhw er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru? Ac o ystyried nad ydyn nhw'n talu rhent, nad ydyn nhw'n denant, nad ydyn nhw bellach ag unrhyw rôl o ran y gronfa buddsoddi cyfryngol, ai stiwdio Pinewood mewn enw yn unig yw hon bellach?

Fe fyddaf i'n ateb y cwestiwn yma gan ei fod yn dod o fewn fy mhortffolio i ac fy mod wedi ateb ar y mater yma yn y gorffennol.

Mae'r newidiadau yma yn ein perthynas ni â Pinewood yn dilyn newidiadau masnachol o fewn strwythur Pinewood fel cwmni a'r cwmni sydd bellach yn gyfrifol am adnoddau Pinewood. Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood, ond mae Pinewood wedi peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer rheoli cyllid a chronfeydd trydydd parti. Hwnnw yw'r newid mwyaf sylweddol. Mae'r cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ailnegodi gyda Pinewood, o fewn y cydweithrediad, yn golygu bod Pinewood yn parhau i weithredu'r stiwdio ond nad ydy Pinewood yn hyrwyddo yn yr un ffordd ag yr oedden nhw o dan y cytundeb blaenorol. 

Wel, rwyf wedi'm drysu'n llwyr gan yr ateb a dweud y gwir. Rwyf i'n deall bod y newid perchnogaeth ddigwyddodd gyda grŵp Pinewodd ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, yn golygu eu bod nhw wedi tynnu mas o'r busnes o gynnig cyngor—hynny yw, y gwasanaethau cynghorol ynglŷn â buddsoddi. Mi oedd y Gweinidog newydd gyfeirio at hyn. Nid yw hynny'n esbonio pam nad ydyn nhw bellach yn talu rent nac yn denant ar gyfer y stiwdio. Nid yw hynny ddim ag unrhyw berthynas gyda'r cwestiwn yna. Os nad ydyn nhw'n talu rhent, hynny yw, sut maen nhw'n cynnal y stiwdio? A yw o dan ryw fath o reolaeth—y cytundeb rheolaeth rhyfedd yma nad ydym ni'n gallu holi ynglŷn â'i fanylion?

Mae'n rhaid i mi ofyn: a oedd yna broses caffael ar gyfer cytundeb rheolaeth ar gyfer y stiwdio yma yn unol â rheoliadau caffael cyhoeddus? Pam yr anwybyddwyd y cymal o ran isafswm o flynyddoedd o denantiaeth o bum mlynedd a oedd yn y cytundeb gwreiddiol? Pam cael cymal o'r math yna os rŷch chi jest yn mynd i'w anwybyddu fe?

A oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i opsiynau eraill, fel yn stiwdio Bad Wolf, sydd yn cael ei rhentu trwy les trwy Screen Alliance Wales? Pam nad ystyriwyd opsiwn radical, os caf fi ddweud, o weithredu'r stiwdio yn uniongyrchol? Mae Elstree Studios yn cael eu rhedeg gan ac yn berchen i Gyngor Dosbarth Hertsmere. Os ydy cyngor dosbarth yn Hertfordshire yn gymwys i redeg stiwdio, pam nad yw ein Llywodraeth genedlaethol ni?

13:45

Fel yr esboniais i pan atebais i gwestiwn ar hyn cyn y Nadolig, y mae amodau'r cytundeb gyda'r cwmni yn gyfrinachol i bwrpas masnachol. Ond fe fedraf i gadarnhau fod y berthynas gyda'r hyn yr oedd uned Pinewood yn parhau, ond nad ydy Pinewood bellach yn gweithredu'r rôl o reolaeth cronfeydd trydydd parti. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae hi, ac y mae'r sefyllfa yna yn parhau yn yr un modd ar hyn o bryd.

Mae'n flin gyda i, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog nid yw'n ddigon da jest i ail-ddarllen sgript sydd wedi cael ei rhoi i chi yn y fath fodd. Mae hyn ar ben, wrth gwrs, y cwestiynau di-rif sydd wedi cael eu gosod, yn bennaf gan Suzy Davies. Nid ydym ni wedi cael atebion i'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Rydym ni wedi gorfod—Suzy ac eraill wedi gorfod—defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn canfod nad yw Pinewood bellach yn denant nac yn talu rhent. Rydw i'n deall bod yna bosibilrwydd y bydd yna bwyllgor o'r Senedd yn dechrau ymchwiliad i'r mater yma. Byddwn ni'n croesawu hynny, ac rydw i wedi gofyn i'r archwilydd gwneud hynny. Ond onid yw'n wir, oherwydd pwysigrwydd deuol y sector yma, nid yn unig, fel rwyf yn ei ddweud, o ran ein heconomi ni, ond o ran ein diwylliant ni, nad yw'n dderbyniol i gelu tu ôl i'r esgus yma o gyfrinachedd masnachol? Mae'n sector rhy bwysig, a dweud y gwir, i chi, fel Gweinidog, wrthod ateb cwestiynau a rhoi tryloywedd angenrheidiol i ni yn fath fodd.

Nid ydw i'n gwrthod ateb cwestiynau. Rydw i wedi cynnig cyfarfod i Suzy Davies i drafod y mater hwn a rydw i'n gobeithio y gallwn ni drefnu i wneud hynny'n fuan. Ac, oherwydd ei ddiddordeb ysol yn y pwnc hwn, mae'n bleser gen i i wahodd Adam Price hefyd i'r un cyfarfod neu i gyfarfod arall.

Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros doriad y Nadolig, bûm yn darllen eich cynllun gweithredu economaidd gyda'r nos—[Torri ar draws.] Gwneuthum lawer o bethau cyffrous eraill hefyd. Ond nid yr hyn a oedd ynddo a'm synnodd, ond yr hyn nad oedd ynddo. Felly, hoffwn siarad am rai o'r eitemau hynny heddiw.

Nawr, mae enillion yng Nghymru yn is na gweddill y DU. Mae enillion wythnosol gros i weithwyr llawn amser yng Nghymru yn £498. Mae hynny 10 y cant yn is nag yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, nid yn unig fod Cymru ar waelod y pentwr o ran cyflogau, ond mae'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU wedi lledu'n sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf. Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yn ennill yr un pecynnau cyflog. Heddiw, mae pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £498 a phecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £547. Felly, yn fy marn i, dylai ffocws allweddol unrhyw gynllun gweithredu newydd ymwneud â chodi cyflogau ledled Cymru. Felly, a gaf fi ofyn: pam nad yw'r strategaeth economaidd newydd yn cynnwys unrhyw dargedau ar gyfer codi cyflogau ledled Cymru?

13:50

A gaf fi ddymuno blwyddyn newydd dda i'r Aelod, a dweud pa mor falch wyf fi fod fy anrheg iddo wedi cyrraedd yn ddiogel ac mewn da bryd iddo ei ddarllen dros y Nadolig? [Chwerthin.] Edrychwch, gadewch i ni edrych ar y ffeithiau mewn perthynas ag enillion amser llawn cyfartalog. Rydych yn llygad eich lle, £484.40 yr wythnos yw'r cyfartaledd, ond rhwng 2012 a 2017, cynyddodd y cyfartaledd hwnnw 10.1 y cant, o gymharu â'r cyfartaledd ledled y DU, sef 8.8 y cant yn unig. Ac felly mae'r bwlch wedi bod yn cau, o ganlyniad i ymyriadau gan y Llywodraeth hon.

Mae'n wir, yn hanesyddol, fod y bwlch cyflog rhyngom ni a llawer o rannau eraill o'r DU yn llai, ond roedd hynny mewn cyfnod pan oedd mwy o lawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi â chyflogau uwch, er enghraifft, yn y diwydiant dur. O ganlyniad i'r broses ddad-ddiwydiannu, heb y rhwyd ddiogelwch yn y 1980au, cafodd y swyddi da hynny—swyddi diogel â chyflogau da—eu disodli gan swyddi a oedd yn aml yn swyddi dros dro â chyflogau isel. Cododd cyfraddau diweithdra i'r entrychion. Mae cyflogaeth heddiw, y gyfradd cyflogaeth, wedi cynyddu yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU drwy gydol y cyfnod ers datganoli. Mae wedi cynyddu 6.5 y cant, o gymharu â 3.1 y cant, ac mae diweithdra hefyd wedi lleihau yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd yn ystod y cyfnod ers datganoli.

Felly, os edrychwch ar ein hanes diweddar, os edrychwch ar hanes y Llywodraeth Lafur hon a'r un flaenorol yng Nghymru, rwy'n credu y gwelwch, o ran enillion, ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac o ran cyflogaeth eto, i'r cyfeiriad cywir. Mae diweithdra'n is ac yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond yr her fawr sy'n wynebu ein heconomi—. Ac ni chredaf y byddai'r Aelod yn anghytuno â hyn, gan fy mod yn sicr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cytuno mai cynhyrchiant yw'r her fawr sy'n ein hwynebu fel gwlad. Ac er mwyn gwella cynhyrchiant, mae angen inni wella lefelau sgiliau. Ar ôl inni wella lefelau sgiliau, argaeledd gwaith o ansawdd uchel, byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn yr enillion cyfartalog a byddwn yn gweld y bwlch hwnnw'n parhau i gau.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fy nghwestiwn oedd pam na chafodd unrhyw beth ei grybwyll, pam na chafodd unrhyw dargedau eu crybwyll, yn y cynllun gweithredu economaidd.

Yma, mae gennyf gopi o adroddiad a gynhyrchwyd gan PricewaterhouseCoopers y llynedd—eitem arall ar fy rhestr ddarllen dros y Nadolig. Nawr, noda hwn fod nifer enfawr o swyddi mewn perygl uniongyrchol o ganlyniad i awtomatiaeth. Golyga hyn, wrth gwrs, fod Cymru'n arbennig o agored i niwed gan fod dwy o'n hardaloedd mwyaf yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar fanwerthu a gweithgynhyrchu—maes sydd, wrth gwrs, mewn perygl mawr o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, credaf fod sicrhau bod Cymru yn barod i ymdopi â'r cyfleoedd sydd ar gael, yn ogystal â heriau awtomatiaeth dros y 10 mlynedd nesaf, yn hanfodol i gefnogi economi Cymru, a chredaf y dylem geisio manteisio ar hyn gyda thechnoleg newydd a diogelu swyddi yng Nghymru.

Ond a gaf fi ofyn pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn cynnwys unrhyw strategaeth effeithiol a arweinir gan dargedau er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae awtomatiaeth yn eu cynnig, a pham nad yw'n cynnwys unrhyw dargedau o gwbl ar gyfer diogelu swyddi Cymru rhag heriau arloesedd technolegol?

Yn gyntaf, mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys—yn ganolog iddo mae'r contract economaidd ac yna'r galw dilynol am weithredu, gyda'r contract economaidd yn ddrws blaen—ewch drwy hwnnw ac yna drwy brism y galw am weithredu a bydd modd i chi fanteisio ar gefnogaeth sy'n cydweddu â'r prif achosion neu'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar welliannau o ran cynhyrchiant. Un o'r rheini yw diogelu busnes at y dyfodol o ran bygythiad a chyfleoedd awtomatiaeth ac o ran ffyrdd modern o weithio. Felly, yn ganolog i'r cynllun gweithredu, ceir dyhead i sicrhau bod busnesau yn cael eu diogelu at y dyfodol ac i sicrhau ein bod yn croesawu ac yn manteisio i'r eithaf ar ddiwydiant 4.0.

Cyfeiriaf yn ôl at y cwestiwn ynglŷn â thargedau eto, oherwydd mewn gwirionedd mae'r Aelod yn llygad ei le, penderfynais beidio â chynnwys y targedau penodol hynny a amlinellodd yn ei gwestiwn cyntaf, oherwydd yn aml, pan osodir targedau, daw cyrraedd y targedau'n obsesiwn. Ac o ran enillion, yr hyn y gallwch ei wneud yw tyfu economi mewn un rhan o wlad neu ddwy ran o wlad a sicrhau bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach wedyn cau'r bwlch, ond yr hyn nad ydych yn ei wneud yw cau lefel yr anghydraddoldeb rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf. Mae'n well gennyf, drwy'r ymyriadau a amlinellwyd gennym—gweithio rhanbarthol, canolbwyntio ar sicrhau cyflogaeth ddiogel o ansawdd uchel—. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parhau i wella lefelau cyfoeth yng Nghymru, yn ogystal â lleihau'r lefelau o anghydraddoldeb ledled y wlad.

13:55

Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond wrth gwrs, mae'r targedau yn ein cynorthwyo ni fel Aelodau yn y Siambr hon i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth, a heb dargedau, mae'n gwneud ein gwaith ni, wrth gwrs, yn anos. Nawr, mae rhan olaf yr hyn rwyf am ei godi yn ymwneud â chaffael. Mae caffael, wrth gwrs, yn rhan allweddol, yn arf allweddol y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gefnogi twf ar draws economi Cymru yn y tymor hir. Credaf fod hanes blaenorol Llywodraeth Cymru, o ran caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau Cymru, yn arbennig o wael. Nawr, mae gennyf gopi yma o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o ddiwedd y llynedd, 'Caffael Cyhoeddus yng Nghymru'. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir eu bod wedi canfod yng Nghymru fod yna le amlwg i wella o ran y modd y mae awdurdodau'n caffael gwasanaethau ar lefel genedlaethol. Felly, a gaf fi ofyn pam fod y cynllun economaidd yn cynnwys cyn lleied o fanylion effeithiol ar ddiwygio arferion caffael cyhoeddus ledled Cymru ar lefel y Llywodraeth? Ymddengys bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn gyfle da a gollwyd, yn fy marn i, i ddiwygio caffael ledled Cymru fel y gallwn gefnogi busnesau a chefnogi caffael cyhoeddus yn well.

Credaf y byddai'r Aelod, pe bai'n ei ailddarllen, yn gweld bod—mae ar dudalen 18, o bosibl. Efallai nad yw, ond credaf ein bod yn sôn ar dudalen 18 am ddadgyfuno contractau mawr, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer busnesau llai o faint. Yn enwedig o ran y sector adeiladu, gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n gallu ennill contractau drwy gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Ond rydym yn dymuno galluogi mwy o gwmnïau, yn enwedig mentrau llai a chanolig eu maint, i ennill rhannau o gontractau mawr nad oes neb ond y cwmnïau mawr yn unig, ar hyn o bryd—cwmnïau o Loegr yn aml, neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd—yn gallu cynnig amdanynt, oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti neu arbenigedd. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymdrin â'r cwestiwn hwnnw yn uniongyrchol. Efallai nad yw ar dudalen 18, ni allaf gofio ble yn iawn, ond mae'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ddadgyfuno cydrannau prosiectau seilwaith mawr fel y gallwn roi mwy o waith i gwmnïau yng Nghymru a chodi gwerth y bunt gyhoeddus yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. A gaf fi gymryd fy nghyfle cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gweddill Aelodau'r Cynulliad hwn? Blwyddyn newydd dda.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae awdurdodau lleol, busnesau a'r sector elusennol yn gwneud ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru, ond mae'r cynnydd yr hoffai llawer ei weld yn fach iawn, ac mewn rhai achosion, megis tlodi plant, rydym yn mynd tuag yn ôl. Pryd rydym yn debygol o weld ein strategaethau economaidd yn sicrhau canlyniadau a fydd yn rhoi gobaith i gymunedau tlotaf Cymru?

Mewn sawl ffordd, fel yr amlinellais wrth Russell George, mae'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth hon ac a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth flaenorol eisoes wedi arwain at y lefel isaf erioed o ddiweithdra, y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, y lefelau isaf erioed o anweithgarwch, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael gwaith fel nad ydynt yn cael eu dal mewn magl tlodi, magl tlodi a wnaed yn waeth drwy, faint, wyth mlynedd erbyn hyn o fesurau cyni. Y llwybr i mewn i waith yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'n nod yw sicrhau nad ydym ond yn creu mwy o swyddi i bobl sydd allan o waith yn unig, ond ein bod yn creu mwy o swyddi o ansawdd uchel. Ond wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, er mwyn i bobl gael mynediad at y swyddi hynny, mae angen inni ddymchwel y rhwystrau eraill, rhwystrau sy'n ymwneud â gofal plant a diffyg trafnidiaeth briodol i gludo pobl i ac o'r gwaith. Ond drwy un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn Ewrop, a thrwy ddiwygiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus lleol a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, rwy'n hyderus y gallwn fynd i'r afael â'r ddau rwystr mawr hynny i sicrhau bod pobl yn cael gwaith ac yn aros mewn gwaith.

Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yr amser lle gallwn barhau i feio cyni yng Nghymru am ein diffyg cynnydd wedi dod i ben. Unwaith eto, ar ôl 17 mlynedd, mae pobl Cymru yn wynebu addewid arall o bethau gwych  ddod. Dywedodd y Prif Weinidog, cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, ei fod 'wedi dechrau'r gwaith bum mlynedd yn ôl, ac mae arnaf angen pum mlynedd i'w orffen.' Yn yr etholiad nesaf, yn 2021, bydd y Blaid Lafur wedi bod mewn grym ers 23 o flynyddoedd. A fydd addewidion y Prif Weinidog wedi cael eu cadw, neu a fyddwn yn dal i fod mewn ras at waelod pob un o'r dangosyddion economaidd?

Wel, dylem ddechrau canu clodydd Cymru ac economi Cymru, yn enwedig yn y meysydd hynny lle rydym yn cael cryn lwyddiant. Mae'r Aelod sy'n cynrychioli gogledd Cymru, wrth ymyl David Rowlands, yn chwerthin ar hyn, ond mae'r Aelod yn byw mewn sir lle mae gennym y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, lle mae gwerth ychwanegol gros y sir yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru fwy neu lai, ac yn agos at y cyfartaledd ar gyfer y gogledd, ac yn codi, lle rydym wedi buddsoddi mewn cwmnïau yn ddiweddar, megis Hotpack, lle rydym wedi gweithio gyda chwmnïau fel Tata Steel, lle rydym wedi gweithio'n barhaus gydag Airbus a chyflogwyr pwysig eraill i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd cyflogaeth ac i greu swyddi newydd o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf, a byddwn yn hybu cyfleoedd cyflogaeth mewn diwydiannau gwerth uwch a diwydiannau yfory, gan ddefnyddio'r cynllun gweithredu economaidd fel sail ar gyfer creu economi newydd ar sail technolegau newydd, technolegau sy'n datblygu a thwf gwyrdd.

14:00

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n rhannu, i ryw raddau, eich cred efallai fod pethau'n newid, ond nid yw popeth yn mynd yn dda, yn enwedig i'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae'r baich ar y trethdalwr yn 2018 yn debygol o gynyddu. Bydd polisi rhenti Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd o £200 ar dai cymdeithasol ar gyfer pob cartref dwy ystafell wely. Ac yn yr un modd, nid yw'r cynnydd cymedrol a ragwelir mewn diweithdra yn y DU yn debygol o hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU. Ac nid yw'n debygol ychwaith o gynorthwyo'r 13.1 y cant o oedolion ifanc di-waith. Rhagwelir y bydd chwyddiant yn gwneud unrhyw gynnydd mewn enillion yn ddiystyr mewn termau real, ac y gallai tlodi cymharol yn hawdd godi i 27 y cant ar gyfer pobl o bob oed, ac i oddeutu 40 y cant mewn perthynas â phlant, wrth i safonau byw pobl ddod o dan bwysau pellach. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: ai hon yw'r Gymru rydym yn dymuno'i chael? Ac a ydych yn hyderus y bydd eich polisïau economaidd yn lliniaru'r caledi hwn yn y tymor byr a'r tymor hir?

Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r Gymru rydym yn dymuno'i chael, rwy'n credu, yw Cymru lle na adewir unrhyw un ar ôl. Tynnodd yr Aelod sylw at yr her sydd wedi wynebu llawer o bobl iau dros y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â chael mynediad at swyddi. Nid oedd yr Aelod yn Aelod o'r Cynulliad blaenorol, lle rhoddwyd Twf Swyddi Cymru ar waith gennym, ond mae honno'n raglen benodol sydd wedi arwain at roi cyfle i 17,000 o bobl ifanc yng Nghymru weithio, ac ennill y sgiliau a'r profiad i aros mewn gwaith. Ac o ganlyniad i hynny, credaf fod dros 70 y cant wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth amser llawn neu hyfforddiant pellach sydd wedi arwain at swyddi amser llawn, diogel. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi prosiectau megis Twf Swyddi Cymru a'r cynllun cyflogadwyedd newydd i sicrhau y gall pobl ifanc, ac yn wir, pobl sydd mewn gwaith eisoes, gael mynediad at swyddi o ansawdd uwch. Ond dylid nodi hefyd fod Cymru yn un o ychydig iawn o wledydd sydd â gweledigaeth gref o waith teg, o wlad lle mae cyflogwyr yn mabwysiadu cyflog byw addas a phriodol, lle caiff undebau llafur eu cydnabod, lle gall pobl ddisgwyl cyflog teg am eu gwaith, a lle gall pobl ddisgwyl urddas a pharch yn y gweithle.

Stormydd y Gaeaf

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith stormydd y gaeaf ar y rhwydweithiau ffyrdd? OAQ51504

Gwnaf. Dros y gaeaf, gosodwyd cyfyngiadau dros dro ar sawl rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd, neu cawsant eu cau oherwydd gwyntoedd cryfion neu lifogydd. Cafwyd problemau teithio hefyd o ganlyniad i eira trwm ar nifer o ffyrdd yn ystod penwythnos 9 a 10 Rhagfyr, ond gwnaed pob ymdrech i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau o'r fath.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod tagfeydd yn costio £1.5 biliwn y flwyddyn i yrwyr Cymru. Mae INRIX, y prif ddarparwr gwybodaeth traffig amser real drwy'r byd, wedi cyfrifo bod cost economaidd tagfeydd yn cyfateb i gyfartaledd o £939 y gyrrwr y flwyddyn. Yn ychwanegol at hynny, mae nifer o ddamweiniau, a achoswyd gan dywydd y gaeaf, wedi arwain at gau ffyrdd ac oedi ar yr A5, yr A483 a'r A55 yr wythnos diwethaf. O ran llif y traffig ar yr A55 yng ngogledd Cymru, ac adroddiad cam 1 diweddar arweiniad arfarnu trafnidiaeth Cymru ar gydnerthedd y rhwydwaith, pryd y byddwch yn rhoi'r atebion risg isel a chyflym a grybwyllwyd yn yr adroddiad hwnnw ar waith?

Mae astudiaeth gydnerthedd yr A55, a gomisiynwyd gennyf, yn nodi sawl ateb cyflym y gellir eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n bwriadu rhoi'r atebion cyflym hynny ar waith cyn gynted â phosibl. Credwn y gellir cyflawni'r rhan fwyaf ohonynt o fewn chwe mis. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos diwethaf—gan fy mod yn byw yn agos iawn at yr ardal lle caewyd yr A5/A483 dros dro—roedd hi'n hanfodol ein bod yn cau'r man penodol hwnnw ar y rhwydwaith ffyrdd. Roedd y rhan o'r ffordd ar draphont. Roedd yn gwbl hanfodol nad oeddem yn caniatáu i gerbydau uchel fynd ar draws y ffordd honno. Prin y gallent sefyll yn y gwynt yn yr ardal benodol honno. Roeddem eisoes yn cael adroddiadau ar y rhwydwaith cefnffyrdd o ôl-gerbydau yn cael eu chwythu drosodd. Felly, roedd yn hollbwysig nad oeddem yn peryglu unrhyw fywydau. Buaswn yn cytuno bod tagfeydd yn costio gormod i economi Cymru ac i'r trethdalwr, a dyna pam y comisiynais astudiaeth gydnerthedd yr A55. Dyna pam rydym yn bwrw ymlaen â'r rhaglen mannau cyfyng ledled Cymru a chyda buddsoddiad sylweddol mewn ffyrdd osgoi o amgylch trefi a chymunedau eraill, a pham rydym wedi ymrwymo i uwchraddio'r seilwaith ledled y wlad.

14:05

Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn perthynas â hygyrchedd ein gwasanaethau brys ar yr adegau prysur hynny. Roeddwn yn awyddus i ganmol yr awdurdod lleol. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol. Maent wedi cael gwared ar oddeutu 200 tunnell o rwbel, mwd a phren ac wedi sicrhau bod y ffordd ar agor unwaith eto, ac ar yr un pryd, wedi cadw diogelwch trigolion a defnyddwyr yn nod craidd. Mae hwnnw'n waith ardderchog. Ond petai hyn wedi digwydd ddwy filltir arall i fyny'r cwm, byddai Cwm Afan wedi bod ar gau, yn y bôn. Fel y cyfryw, byddai wedi rhwystro hygyrchedd cymunedau a gallu'r gwasanaethau brys i'w cyrraedd. A wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a chydag awdurdodau lleol i edrych ar yr ardaloedd a allai fod yn achosion pryder i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto?

I raddau, credaf ein bod yn ffodus fod y digwyddiad wedi digwydd lle gwnaeth. Fel y dywedodd yr Aelod, gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer mwy difrifol o ran canlyniadau. Ond hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r awdurdod lleol am eu gwaith rhagorol yn sicrhau bod canlyniadau'r digwyddiad wedi cael eu trin yn briodol. Er ein bod yn gyfrifol am gefnffyrdd yng Nghymru, rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â llifogydd ar Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod cyflwr y rhwydwaith ffyrdd lleol, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu harfer ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod ein ffyrdd yn glir ac mewn cyflwr da.

Tyfu Economi Canolbarth Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru? OAQ51513

Gwnaf. Rydym wedi datblygu dull strategol sy'n seiliedig ar ffyniant i bawb, gan alluogi pob rhan o Gymru i elwa ar dwf economaidd. Bydd y cynllun gweithredu economaidd a lansiwyd ym mis Rhagfyr yn gweithio gyda phartneriaid i adlewyrchu anghenion tra gwahanol y rhanbarthau yng Nghymru.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich ymateb. Cawsom ymrwymiad calonogol iawn gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth y DU tua diwedd y llynedd, o ran cefnogi bargen twf i ganolbarth Cymru. Yn wir, croesawaf eich ymrwymiad hefyd i fargen twf i ganolbarth Cymru wrth ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru hefyd. Ymddengys mai'r neges gan y ddwy Lywodraeth yw bod yn rhaid i'r fargen hon gael ei llunio gan bobl canolbarth Cymru. Rwyf innau'n cytuno â hynny hefyd. Credaf ei bod yn hanfodol bellach fod partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn gwneud achos cryf dros fargen twf i ganolbarth Cymru. Ond er mwyn iddynt wneud hynny, tybed a fyddech yn gallu cynnig unrhyw gymorth ariannol i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu cynigion. Hefyd, buaswn yn awgrymu mai'r hyn sydd ei angen, efallai, yw arweiniad gennych chi, ac yn wir, gan Lywodraeth y DU o ran y mecanweithiau ynglŷn â sut y gallant fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n falch iawn o allu dweud fy mod wedi cytuno i ddarparu cyfraniad o arian cyfatebol er mwyn galluogi'r gwaith dichonoldeb a nodwyd gan yr Aelod. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfle i fynychu'r cyfarfod rhanddeiliaid ar 19 Ionawr? Byddaf yn gofyn i un o fy swyddogion fod yn bresennol yn fy lle, er mwyn gallu cynnig nid yn unig cyngor a chefnogaeth, ond arweiniad hefyd, o bosibl, yn ogystal â darparu manylion i mi o ran beth y mae partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn awyddus i'w gynnwys yn eu gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth.

Hoffwn eich holi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â bargen twf canolbarth Cymru, oherwydd roedd gennyf gryn ddiddordeb yn y cyhoeddiad yn y gyllideb, felly ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys wedi'r gyllideb, a chefais ateb ar 19 Rhagfyr, sy'n dweud fel a ganlyn: fod y Llywodraeth yn agored i gynigion ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Nid yw hynny'n gyfystyr ag ymrwymiad, a grybwyllwyd gan Russell George ac eraill, ac rwy'n awyddus i ddeall pa ymrwymiad sydd yna i fuddsoddi arian Llywodraeth y DU yng nghanolbarth Cymru. Croesawaf yr hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â chronfa arian cyfatebol i ddatblygu rhai o'r syniadau a grybwyllwyd yng nghanolbarth Cymru, ond a ydym yn debygol o weld arian go iawn ar y bwrdd gan Lywodraeth y DU, ac a ydych yn cael trafodaethau i sicrhau bod yr hanner addewid gwan hwnnw yn dod yn rhywbeth y gallwn ei droi'n weithgaredd economaidd ar lawr gwlad yng nghanolbarth Cymru?

14:10

Wel, dyna'r prawf: pa un a ydynt yn barod i neilltuo arian ar gyfer rhywbeth y dywedant eu bod yn barod i'w ystyried. Ar hyn o bryd, maent yn agored i gynigion, a dyna pam fy mod yn awyddus i sicrhau bod partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn datblygu set o gynigion a gweledigaeth gyffredinol sy'n gwneud achos cryf dros ddatblygu cynnig dilynol am fargen twf. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Swyddfa Cymru mewn perthynas â'r gefnogaeth y gallai Swyddfa Cymru ei rhoi i gynnig bargen twf, ond wrth inni ddatblygu'r cynigion hynny, rwy'n awyddus i sicrhau bod partneriaid yng nghanolbarth Cymru yn cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ogystal â minnau er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon. Nid wyf yn credu y gallwn fforddio gweld canolbarth Cymru yn cael ei adael ar ôl pan fo gweddill Cymru yn datblygu o dan fargeinion dinesig a bargeinion twf. Mae'n anghyfiawn.

Force Majeure

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y busnesau yr effeithir arnynt yn andwyol gan force majeure? OAQ51502

Drwy fenter Dyfodol Adeiladu Cymru Busnes Cymru a chymorth caffael rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cydnerthedd busnesau. Mae archwiliadau diagnostig a chymorth yn sicrhau bod busnesau'n gymwys ac yn y sefyllfa orau posibl i wrthsefyll effaith materion cyffredinol neu faterion force majeure sy'n effeithio ar eu sefyllfa ariannol.

Diolch. Mae'n gwestiwn anodd, a defnyddiaf y term 'force majeure' yn fwriadol iawn, oherwydd wrth gwrs, fe wyddoch fod hynny'n effeithio ar lefelau digolledu, ac mae hefyd yn rheswm pam y gall sefydliadau ddiddymu gwasanaethau. Mae busnesau bach a'r cyhoedd yn gyffredinol wedi dwyn nifer o bryderon i fy sylw lle maent yn teimlo eu bod wedi cael bargen wael, lle maent naill ai wedi methu cwblhau rhywbeth, neu heb gael eu digolledu, ac mae'r busnesau wedi defnyddio force majeure fel esgus. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â'r stormydd amrywiol sydd wedi ein taro dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Tybed a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i asesu neu ddadansoddi a yw'r cymal hwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac i atgoffa busnesau bach o'r rhwymedigaeth honno os byddant yn rhoi'r gorau i gyflawni gwasanaeth, a'i fod yn rhywbeth lle nad oedd ganddynt sicrwydd yswiriant ar ei gyfer, a bod yn rhaid iddynt sicrhau bod y cydnerthedd busnes hwnnw ganddynt.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn. Pan welais ei fod wedi'i gyflwyno, roeddwn mewn penbleth i gychwyn, a sylweddolais wedyn fod hwn, mewn gwirionedd, yn waith y mae angen inni ei ystyried yn fwy trylwyr. Edrychais ar y cymal, ac yn benodol, ar amod 39.2, neu ran o 39.2, sy'n datgan:

'Fodd bynnag, os bydd digwyddiad o'r fath yn rhwystro'r naill Barti neu'r llall rhag cyflawni ei holl rwymedigaethau o dan y Contract am gyfnod sy'n hwy na 6 mis, caiff y naill Barti neu'r llall derfynu'r Contract drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddaw i rym yn ddi-oed.'

Fy mhryder yw—[Torri ar draws.] Yn union, ie. Buaswn yn fwy na pharod i fynd ar drywydd y mater hwn. Os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth a fyddai'n galluogi fy swyddogion i ystyried achosion o force majeure sy'n arwain at ddiddymu cymorth yn anghyfiawn o dan gontract, rhannwch y wybodaeth honno gyda mi, os gwelwch yn dda.

Y Sector Adeiladu

6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu? OAQ51500

Mae'r sector adeiladu yn gwneud cyfraniad hollbwysig i economi Cymru, drwy gynnal oddeutu 13,000 o fusnesau a chyflogi oddeutu 112,000 o unigolion. Mae'r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, yn eu rhagolwg diweddaraf, yn rhagweld twf digynsail yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru hyd at 2021.

Ac i ychwanegu ystadegyn pellach, mae'n cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Mae wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf. Mae adeiladu masnachol a pheirianneg sifil yn arbennig yn wannach, ac mae hyn wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar adeiladu tai. Tybed pa weledigaeth sydd gennych ar gyfer adfywio ac ehangu'r sector adeiladu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, fel rydych wedi'i nodi yn eich amcanestyniad. Pa ran y bydd targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai yn ei chwarae yng Nghymru?

Credaf ein bod yn parhau â thuedd gadarnhaol mewn perthynas ag adeiladu tai yng Nghymru, er gwaethaf y ffigurau chwarterol diweddaraf sy'n dangos gostyngiad, fel y nododd yr Aelod, o 12 y cant mewn anheddau a gwblhawyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd. Mewn gwirionedd, cafwyd cynnydd o 27 y cant yn y chwarter blaenorol. Yn ychwanegol at hynny, roedd nifer y cartrefi tai cymdeithasol a gwblhawyd yn ystod chwarter cyntaf y llynedd 56 y cant yn uwch na'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Ein bwriad yw gweithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth i nodi tir lle gall busnesau bach a chanolig adeiladu cartrefi. Ar hyn o bryd, mae gormod lawer o fusnesau bach nad ydynt yn gallu gwneud cynigion am ddarnau o dir a safleoedd datblygu gan nad ydynt o reidrwydd yn gallu cystadlu. Ond drwy gymorth tai arloesol, credwn y gallwn barhau i gefnogi twf mentrau bach a chanolig yng Nghymru.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn nodi'r gwaith da sy'n digwydd ar lefel awdurdodau lleol. Yn benodol, nodaf Gyngor Sir y Fflint sy'n adeiladu tai cyngor am y tro cyntaf ers peth amser. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad eisoes yn dwyn ffrwyth, a hoffwn longyfarch awdurdodau lleol eraill sy'n ystyried gwneud yr un peth.

14:15
Y Cyflog Byw

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision y cyflog byw i economi Cymru? OAQ51516

Gwnaf. Gall y cyflog byw ddarparu manteision i'r economi, i fusnesau ac i unigolion. Rydym yn cymryd camau i hyrwyddo manteision mabwysiadu'r cyflog byw gwirioneddol i gyflogwyr. Credaf y dylid nodi bod cymdeithas fwy cyfartal yn gymdeithas fwy cydlynus a hapusach.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a chydnabod y gwaith caled y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â'r cyflog byw cenedlaethol? A gaf fi dynnu sylw at y pryderon nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag ymgysylltiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cyflog byw cenedlaethol, ond hefyd, drwy'r gadwyn gyflenwi, drwy gaffael, drwy'r holl feysydd y mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad arnynt, mae angen inni ddod â phobl at ei gilydd i arddel ethos a moeseg yr hyn sydd yn ei hanfod yn waith teg ac yn gyflog teg mewn perthynas â'r cysyniad o gyflog byw cenedlaethol? A all Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ac amlinellu sut y mae'n gweld y polisi hwnnw'n datblygu a rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gyflawni hynny?

Yn sicr, a hoffwn ailadrodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r cyflog byw, ac y bydd yn parhau i annog pob rhan o economi Cymru i fabwysiadu'r cyflog byw. Ym mis Mawrth, rwy'n credu, y llynedd, fe gyflwynasom y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae'r cod hwn yn ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Disgwylir i bob sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau, ymrwymo i'r cod, ac wrth gwrs, mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud hynny. Yn ogystal, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, ac yn arbennig y contract economaidd, rydym yn benderfynol o weld arferion gwaith teg yn cael eu mabwysiadu ar draws y gweithlu.

Gwella Ffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn 2018? OAQ51507

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr, yn ddogfen fyw ac mae'n cynnwys rhaglen uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nododd y cwmni dadansoddi traffig INRIX yn ddiweddar fod dros 30,000 o dagfeydd traffig ar ffyrdd Cymru yn 2017. Roeddent yn amcangyfrif bod y gost i economi Cymru bron yn £278 miliwn—ffigur anhygoel—gallech adeiladu dau ysbyty o'r radd flaenaf gydag arian o'r fath. O ystyried yr oedi ar gynnydd prosiect ffordd liniaru'r M4 a deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at yr angen i barhau i fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, nid yn unig yng Nghymru ond ar sail drawsffiniol. Rydym yn gweithio gyda Highways England i sicrhau ein bod yn cael mynediad trawsffiniol addas at ffyrdd hefyd. Ond yng Nghymru, lle mae gennym gyfrifoldeb llawn, rydym wedi cychwyn y rhaglen mannau cyfyng, gyda ffocws penodol ar liniaru tagfeydd mewn mannau cyfyng sy'n mynd â thraffig o'r de i'r gogledd ac o'r gogledd i'r de. Rydym hefyd yn ystyried buddsoddi mewn cyfres o ffyrdd osgoi yng Nghymru, unwaith eto i liniaru tagfeydd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Mae ardaloedd trefol yn dioddef o ganlyniad i lefelau uchel o allyriadau carbon lle ceir tagfeydd. Ac rydym hefyd yn ystyried gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, boed i'r rheilffyrdd neu i fysiau, ac yn integreiddio pob un ohonynt ar yr un pryd fel rhan o un weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a fydd yn cynnwys teithio llesol, fel y gall pobl, drwy gerdded neu feicio, ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd ddibynadwy a chyfleus.

14:20
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, a'r cwestiwn cyntaf—David Rees. 

Siarter yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Sylfaenol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit? OAQ51510

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain mewn unrhyw ffordd at lastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol, neu yn wir, unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol neu gyflogaeth. Rwy'n llwyr gefnogi'r safbwynt hwnnw ac yn dadlau drosto.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ni fydd dull Llywodraeth y DU o drosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn darparu'r amddiffyniadau a ddylai fod gennym ar gyfer cynnal siarter hawliau sylfaenol yr UE ar ôl inni adael yr UE. Mae uwch-gyfreithwyr yn bryderus iawn y bydd i Lywodraeth y DU wrthod ymgorffori'r siarter yng nghyfraith y DU yn glastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol. Er enghraifft, maent wedi amlygu'r hawl annibynnol i gydraddoldeb o dan erthygl 21, nad oes unrhyw beth yn cyfateb iddi mewn cyfraith ddomestig. Yn wir, nid oes gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 statws cyfansoddiadol chwaith. Mae'n amlwg fod dadansoddiad cyfreithiol Llywodraeth y DU yn debyg i'w dadansoddiad sectorol—twyll pur. Wedi inni adael yr UE, mae Cymru yn awyddus i barhau i fod yn genedl sy'n parchu pawb ac sydd wedi cadw'r hawliau a gawsom yn yr UE mewn statud. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar yr hawliau y mae dinasyddion Cymru wedi eu cael fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, a sut y mae wedi defnyddio'r Bil parhad a baratowyd ganddi i gynnwys unrhyw amddiffyniad o'r hawliau hynny?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel yr eglura ei gwestiwn, mae'r siarter hawliau sylfaenol yn ymestyn y tu hwnt i'r confensiwn ar hawliau dynol ac yn cynnwys hawliau eraill; soniodd am hawliau cydraddoldeb—ceir eraill sy'n ymwneud â data personol ac ati. Fe'i gwnaed yn glir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gynhyrchwyd flwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod angen inni fod yn wyliadwrus ac yn benderfynol wrth adael yr UE nad yw'r amddiffyniadau a'r safonau sydd o fudd i'n dinasyddion a llesiant y gymdeithas yn gyffredinol yn cael eu herydu. Am y rheswm hwnnw, a rhesymau eraill, rwyf eisoes wedi nodi ein pryderon nad yw Bil yr EU (Ymadael) yn cynnwys amddiffyniad ar gyfer y siarter ei hun.

Nawr, sonia yn ei gwestiwn fod peth trafodaeth neu anghydfod cyfreithiol ynghylch y siarter honno, ond mae'n amlwg y gellir ei defnyddio mewn modd ymarferol i warchod hawliau dynol pobl ledled y DU. Mewn penderfyniad gan y Goruchaf Lys cyn diwedd y llynedd, er enghraifft, defnyddiwyd y siarter i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol nad oedd yn unol â darpariaethau'r siarter. Felly, mae hawliau a rhwymedïau cyfreithiol cwbl eglur a diamwys ar gael i aelodau o'r cyhoedd o ganlyniad i ymgorffori'r siarter.

Fel y soniodd yr Aelod, ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei geiriau ei hun, ddadansoddiad o'r gymhariaeth rhwng darpariaethau'r Ddeddf a'r gyfraith barhaus ar ôl Brexit, a pharheir, yn anffodus, na fydd siarter yr UE wedi'i chynnwys yn y Bil, sy'n destun cryn bryder.

Fe sonioch am y Bil parhad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir mai'r lle i gadw'r amddiffyniadau hynny rwyf newydd eu crybwyll yw Bil ymadael newydd y DU. Mae'r ddau ohonom yn ymwybodol o welliannau a fydd yn cael eu cynnig yn y Senedd mewn ymgais i sicrhau bod y Bil yn cynnwys y pethau hynny. Fodd bynnag, pe bai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ein Bil ein hunain, yn amlwg, byddem yn ceisio gwneud popeth y gallem i sicrhau na fyddai hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu herydu.

Diolch yn fawr iawn i David Rees am godi'r pwnc pwysig yma. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn edrych ar hawliau dynol yn y misoedd diwethaf, yn benodol ar yr union fater rydych yn ei godi: y pryder a ddangoswyd gan nifer o sefydliadau ledled Cymru am effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid deddfwriaeth ddomestig. 

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe glywsom ni gan nifer o arbenigwyr a oedd yn dadlau nid yn unig fod gan y Cynulliad y pŵer i gyflwyno Deddf hawliau dynol i Gymru, ond hefyd fod yna ddadl gref dros wneud hynny er mwyn amddiffyn Cymru rhag unrhyw wanhau yn nhermau hawliau dynol ein dinasyddion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth ydy'ch barn chi am gael Deddf hawliau dynol i Gymru?

14:25

Fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae setliad datganoli Cymru yn golygu bod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n wastad o fewn cyd-destun Deddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig, a dyna mae Llywodraeth Cymru yn moyn gweld yn parhau: bod y fframwaith hynny sydd yn darparu'r hawliau yn fewnol i bobl yng Nghymru yn parhau tu hwnt i'r cyfnod y byddwn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig trwy'r Human Rights Act, ond hefyd, fel y clywsoch chi foment yn ôl, drwy'r siarter sydd yn ehangu hawliau pobl yng Nghymru. A dyna hoffwn i ei weld—y Ddeddf yn San Steffan yn cael ei diwygio i sicrhau bod y rheini yn parhau yn rhan o ddeddfwriaeth Prydain i gyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig—San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast—yn hollol abl i amddiffyn hawliau dynol gwladolion Prydain? Nid oes arnynt angen unrhyw gymorth gan farnwyr anetholedig yn Lwcsembwrg. Pan oedd y siarter hawliau sylfaenol yn cael ei thrafod, sicrhaodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd drefniadau eithrio rhag ei darpariaethau drwy brotocol 30 cytuniad Lisbon, a dywedodd Llywodraeth Blair na fyddai'r DU yn rhwym i ddarpariaethau'r siarter. Ond er gwaethaf geiriad protocol 30, a oedd yn ddigon clir yn ôl pob golwg, mae Llys Ewrop, mewn enghraifft eithriadol o actifiaeth farnwrol, wedi diystyru dymuniadau'r Llywodraeth Lafur ar y pryd ac wedi cymhwyso darpariaethau'r siarter i ddeddfwriaeth Brydeinig mewn rhai meysydd pwysig iawn, fel diogelu data, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn parchu cyfreithlondeb democrataidd, yn yr un modd ag y dylid parchu hawliau dynol, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd unrhyw un o hawliau pobl Prydain yn cael eu glastwreiddio mewn unrhyw ddull na modd.

Wel, mae'r ymosodiad hwn ar farnwyr a'r ymosodiad ar eu didueddrwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yn anetholedig yn camddeall cyfansoddiad Prydain yn gyfan gwbl, mewn gwirionedd. Maent yno i weithredu'n ddiduedd ac maent yn gwneud hynny, ac yn y lle hwn dylem wrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio'r canfyddiad hwnnw drwy honiadau o fethu â bod yn ddiduedd oherwydd eu bod yn anetholedig.

Fe sonioch am brotocol 30: nid yw'n ymwneud â Llys Cyfiawnder Ewrop yn cymhwyso hynny yn wyneb gwrthwynebiad gan y DU. Fel yr atebais yn y cwestiwn yn gynharach, defnyddiodd Goruchaf Lys y DU y siarter honno mewn achos ychydig cyn y Nadolig i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â hynny, ac mae'n rhy optimistaidd o lawer ynghylch lefel yr amddiffyniadau a fydd yn cael eu rhoi i hawliau dynol os na chedwir y darpariaethau hyn yng nghyfraith y DU. Unig nod Llywodraeth y DU wrth newid y darpariaethau hynny yw eu glastwreiddio, a chredaf y dylem geisio gwrthsefyll hynny ar bob cyfle yn y Siambr hon.

Cyfansoddiad Cymru

2. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddfau Uno 1535-42 ar gyfansoddiad Cymru? OAQ51493

A gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mewn unrhyw asesiad o drefniadau neu ddatblygiadau cyfansoddiadol sy'n bodoli ar hyn o bryd neu sy'n cael eu cynnig, mae Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n bennaf ar y gyfraith sydd mewn grym ar yr adeg dan sylw. Er bod pwysigrwydd hanesyddol sylweddol i'r Deddfau Uno, maen nhw bellach wedi cael eu diddymu.

Diolch yn fawr am yr ateb. Rydw i wedi bod yn aros pum canrif i ofyn y cwestiwn yma, wrth gwrs, ac mae'n dda gen i gael ateb gan y Cwnsler Cyffredinol—dyna beth yw pwrpas y Cwnsler, mae'n siŵr. Ond, wrth gwrs, y peth ddigwyddodd gyda'r Deddfau Uno yw bod tywysogaeth Cymru wedi'i diddymu, ac wrth i Gymru ddod yn rhan o Loegr, i bob pwrpas, a dod o dan Goron Lloegr, fe ddiddymwyd tywysogaeth Cymru. Bellach, felly, mae sôn am dywysogaeth mewn cyd-destun cyfansoddiad Cymru ond yn rhyw fath o ffantasi rhamantwyr a ffantasïwyr brenhinol.

A fyddwch chi, felly—yn dod yn ôl at y diwrnod sydd ohono—fel Cwnsler Cyffredinol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn addo i'r Cynulliad na fyddwch chi byth yn defnyddio'r gair 'tywysogaeth' wrth ddisgrifio statws cyfansoddiadol Cymru?

Wel, ces i gyfle, yn sgil y cwestiwn, i ail-atgoffa fy hunan o effaith Deddfau a chyfraith Canol Oesoedd Cymru—bydd yr Aelod yn bles i glywed hynny—yn cynnwys penderfyniadau cyngor Aberdyfi, statudau Rhuddlan, ac fel y gwnaeth Dai Lloyd sôn wrtha i ddoe, jest i atgoffa fy hunan o gyfraith Hywel. Nid ydw i wedi llwyddo i wneud hynny yn yr amser byr a oedd gyda fi ers hynny, yn anffodus. Ond, ar y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn, am gwestiwn y dywysogaeth, y ffaith yw bod Cymru yn wlad yn ei hawl ei hun, yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Mae ganddi, wrth gwrs, ddeddfwrfa a Llywodraeth etholedig, sydd yn deddfu a chreu polisïau sy'n addas i bobl Cymru. Ac nid yw cwestiwn y dywysogaeth yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru. Ni allaf wneud mwy o sylwadau ar sylwadau personol, efallai, a gafodd eu gwneud yn ddiweddar.

14:30
Y Proffesiwn Cyfreithiol

3. Yn sgil Adolygiad Lammy, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51523

Mae Llywodraeth Cymru yn credu mai'r unig ffordd i gyflawni system gyfiawnder deg a chynhwysol yw sicrhau bod gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu yn llawn.

Diolch i chi am eich ateb. Rydym i gyd yn deall yr egwyddor o gydraddoldeb gerbron y gyfraith, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yw: beth am gydraddoldeb o fewn y gyfraith? A chyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ystyried sut y gallai system gyfiawnder benodol i Gymru weithio, credaf ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn myfyrio ar sut olwg sydd ar y system honno o ran ethnigrwydd, rhywedd a chefndir cymdeithasol. Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd y camau angenrheidiol a gafodd eu hargymell gan adroddiad Lammy i greu barnwriaeth fwy amrywiol. Felly, rwy'n gofyn: beth y gallwn ni ei wneud, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i greu barnwriaeth fwy amrywiol, a hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol drwyddo draw?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac am ei dadleuon parhaus dros achos amrywiaeth a chydraddoldeb yn gyffredinol.

Mae'r diffyg amrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol, a nodwyd yn adolygiad Lammy, yn milwrio yn erbyn mynediad at gyfiawnder, sef un o bileri allweddol ein democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU. Dangosodd Lammy fod diffyg amrywiaeth o'r fath i'w weld yn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau pwysig ar draws y system cyfiawnder troseddol, o swyddogion carchar a llywodraethwyr i ynadon a'r farnwriaeth yn fwy cyffredinol. Ac mae'r rhain yn faterion pwysig i ni o ran rheolaeth y gyfraith yn y DU. O ran y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ac o ran amrywiaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, rydym ar ei hôl hi rywfaint mewn perthynas â phoblogaeth gyffredinol Cymru, ac mae mwy y gallwn ei wneud yn sicr.

O ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog, er enghraifft, at Brif Weithredwr y Goruchaf Lys yn ddiweddar, i danlinellu pwysigrwydd sicrhau amrywiaeth yn y Goruchaf Lys, ac yn fwy cyffredinol yn y system farnwrol drwyddi draw. Yng Nghymru, caiff penodiadau i'r farnwriaeth dribiwnlysoedd yng Nghymru eu gwneud yn ôl cyngor y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, ac felly maent yn ddarostyngedig i'w bolisïau ar hybu amrywiaeth farnwrol.

Mae'n sôn am amrywiaeth mewn termau ehangach, sy'n cynnwys rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywioldeb, ac ati. Credaf y byddai'n dda i ni gofio geiriau yr Arglwyddes Hale, sef Llywydd y Goruchaf Lys, a ddywedodd y canlynol pan gafodd ei phenodi,

Rwyf o'r farn fod "gwahaniaeth" yn bwysig wrth farnu a bod amrywiaeth rhwng y rhywiau, ynghyd â llawer o agweddau eraill ar amrywiaeth, yn beth da, yn wir yn beth angenrheidiol. Fodd bynnag, nid ein llais gwahanol yw'r prif reswm dros hyn, ond cyfreithlondeb democrataidd. Mewn democratiaeth a reolir gan y bobl ac nid gan frenhiniaeth absoliwt neu ddosbarth llywodraethol aristocrataidd hyd yn oed, dylai'r farnwriaeth adlewyrchu'r gymuned gyfan, nid cyfran fach ohoni.

Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at bwysigrwydd cefndir economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â rhyw ac ethnigrwydd, mewn perthynas ag amrywiaeth. Soniodd am y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a bod yn ddarostyngedig i'w weithdrefnau. A yw'n rhagweld unrhyw welliant yn amrywiaeth y corff hwnnw i'r graddau fod lleisiau Cymry yn cael eu clywed i'r un graddau ag y sicrheir ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon? I ba raddau y mae ef fel Cwnsler Cyffredinol yn dehongli ei rôl yn ehangol o ran amrywiaeth, ac yn hyrwyddo hynny ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?

Ar y cwestiwn cyntaf, mewn perthynas ag amrywiaeth daearyddiaeth ac awdurdodaethau, os mynnwch, o fewn y Goruchaf Lys, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol yn darparu, wrth gwrs, y dylai'r Goruchaf Lys gael cyfuniad o ustusiaid sy'n adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad o bob rhan o'r DU. Safbwynt cryf Llywodraeth Cymru yw y dylai hynny gynnwys ustus ar gyfer Cymru. Fel y bydd yn gwybod, mae gan y Goruchaf Lys farnwr cyswllt Cymreig—yr Arglwydd Lloyd-Jones—a chyfarfûm ag ef yn ddiweddar i drafod rhai o'r materion hyn. Rwy'n credu'n sicr fod dadlau dros amrywiaeth yn rhan o fy rôl yn gyffredinol ac yn cynnwys y proffesiwn cyfreithiol yma yng Nghymru. Rwyf wedi cael cyfle i siarad â nifer o bobl mewn perthynas â hynny ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny'n flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel Cwnsler Cyffredinol.

14:35
Deddf Cymru 2017

4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd newydd o dan Ddeddf Cymru 2017? OAQ51494

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r pwerau newydd dan Ddeddf Cymru 2017 yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni, gyda rhai pwerau eraill yn dod i rym ychydig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y pwerau newydd hyn.

Diolch am yr ateb ac rydw i jest eisiau gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol yn fwy eang ynglŷn â'r pwerau trethi mae ei gydweithiwr—sydd drws nesaf iddo ef ar hyn o bryd—yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, yn ystyried, o ran pedair treth newydd a phosibiliad o un dreth, wrth gwrs, yn mynd gerbron. Rydw i'n cefnogi'r dreth ar blastig a byddaf yn ail-adrodd hynny, ac mae'n dda gweld bod y Cynulliad wedi pleidleisio felly neithiwr hefyd wrth drafod y materion.

Wrth ateb a thrafod yn y Pwyllgor Cyllid, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei farn ef, mai mater o gyd-gytuno, wrth gwrs, yw hyn rhwng y Cynulliad a San Steffan—Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—ac, iddo fe, beth oedd yn bwysig oedd nid y polisi—nad mater polisi oedd hyn i San Steffan—ond sut y byddai hyn yn effeithio ar rymoedd San Steffan a bod y ddwy Senedd yn gydnaws â'i gilydd, os leiciwch chi, ac yn gytûn ar hynny. Ond, wrth gwrs, nid oes dim byd wedi ei ysgrifennu i lawr ynglŷn â phrotocol fel hyn. Felly, rydw i eisiau gofyn i chi fel Cwnsler Cyffredinol a fyddwch chi nawr yn mynd i'r afael â'r dasg yma i wneud yn siŵr bod y llwybr yn cael ei baratoi, yn gyfansoddiadol, er mwyn i'ch cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet, fynd ymlaen â pha bynnag dreth sy'n cael ei dewis gan y Llywodraeth, yn llwyddiannus, a dod â hi i rym.

Wel, mae dadansoddiad cyfreithiol yr Aelod yn gywir mai dyna yw'r broses: hynny yw, mae angen cytundeb. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud sawl gwaith mai sicrhau bod gennym ni system sy'n gweithio a'n bod ni'n cydweithio â'r system sydd yn bwysig fel rhan o'r broses yma. Buaswn yn ategu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar hynny, ac rwyf yn bwriadu cydweithio ag ef i sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud ein rhan ni i sicrhau llwyddiant yn hynny. 

3. Cwestiynau Amserol

Ac felly, yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol a'r cwestiwn cyntaf, Angela Burns. 

GIG Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r eithaf? 96

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r gaeaf, fel erioed, yn gyfnod heriol iawn. Mae GIG Cymru a'r system gofal cymdeithasol ehangach o dan gryn bwysau ac mae hynny'n gyson â'r pwysau sy'n cael ei nodi ar draws y DU. Er gwaethaf prysurdeb, digynsail ar adegau, mewn rhannau o'r system, mae ein staff ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu ymateb proffesiynol a thosturiol.

Mae hynny'n wir, ac mewn gwirionedd, y staff ymroddedig a gweithgar hyn sydd wedi dwyn nifer sylweddol o bryderon i fy sylw dros y 10 diwrnod diwethaf. Rydym wedi gweld colegau brenhinol yn cyflwyno sylwebaeth a datganiadau am y pwysau enfawr sydd wedi bod ar eu staff. Rwyf wedi cyfarfod â cholegau brenhinol yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â meddygon, nyrsys, staff rheng flaen a gweithiwr ambiwlans. Mae pob un ohonynt yn sôn am yr un peth: sylwadau fel 'nid wyf erioed wedi gweld GIG Cymru yn y fath gyflwr', fod eu cydweithwyr 'ar ymyl y dibyn' a bod staff rheng flaen 'o dan bwysau aruthrol'. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain eu hun wedi dweud nad oedd gan un ardal bwrdd iechyd yng Nghymru unrhyw staff llanw o gwbl o ran meddygon teulu. Rydym wedi colli dros 2,000 o oriau ambiwlans yn ystod y saith neu wyth diwrnod diwethaf. Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod rhai pobl yn aros dros 80 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn fater enfawr. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydych chi yn bersonol yn gyfrifol am faterion rheng flaen sy'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn yn llwyr y cafwyd mwy o broblemau yn ystod y gaeaf hwn a bod y gaeaf hwn gryn dipyn yn llymach nag y rhagwelodd pawb. Ond fy mhryder i yw eich bod wedi neilltuo tua £50 miliwn cyn y gaeaf i baratoi ar gyfer hyn a hoffwn ofyn i chi gynnal asesiad brys o sut y gwariwyd y £50 miliwn hwnnw. A gyrhaeddodd yr arian y rheng flaen, ac os felly, ble a sut, a beth y llwyddodd i'w wella? A lwyddodd y rheolwyr i gynnwys y bobl gywir yn y gwaith cynllunio? Oherwydd mae meddygon teulu yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae meddygon ysbyty yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae arweinwyr unedau achosion brys yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Ni chafwyd cyfrif o'r tri neu bedwar diwrnod, felly, i bob pwrpas, cawsom bythefnos gyfan gydag ond ychydig iawn o staff llanw tebyg i'r hyn a geir ar wyliau banc. Roedd gwasanaethau cymdeithasol yn absennol am bythefnos i bob pwrpas. Gwelsom oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal. Roedd gan ysbyty Mynydd Bychan ddwy ward gyfan yn llawn o bobl yn aros i fynd adref.

A fyddech chi hefyd yn derbyn, neu'n edrych ar y rheolwyr o fewn y GIG, oherwydd mae'n ymddangos ein bod yn gwneud yn wych o ran strategaeth, ond rydym yn ei chael hi'n anodd rhoi'r strategaeth honno ar waith? Pan fo gennych nyrs neu reolwr gwelyau yn dweud, 'Nid wyf am agor gwely a rhoi gwely ychwanegol ar y ward honno oherwydd bydd y gwely hwnnw'n creu risg i'r ward honno', rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae risg yn ymwneud â chydbwysedd risg. Felly, pa un yw'r gwaethaf: cael un gwely ar agor ar ward, neu gael person ar droli am 80 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi sicrhau ein bod yn dwyn y rheolwyr, rheolwyr y GIG, i gyfrif am y materion hynny.

Rydych newydd ddyfarnu £10 miliwn arall yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod y £10 miliwn hwnnw yn mynd i'r rheng flaen ac yn datrys y problemau hyn. Cynhaliwyd ymchwiliad rhagorol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Llwyddasom i greu adroddiad cryf ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. Daeth y bobl atom a dweud wrthym nad oeddent yn cael eu cynnwys. Maent yn parhau i ddweud hynny heddiw. Mae angen i chi ddarganfod beth aeth o'i le, a buaswn yn gofyn i chi geisio mynd at wraidd hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae rhywbeth yn rhywle heb weithio. Ac fel y dywedoch hi ar y cychwyn, mae gennym lawer o bobl ragorol sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd o dan bwysau aruthrol. Ein gwaith ni yw codi'r pwysau hwnnw oddi ar eu hysgwyddau.

14:40

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Wrth feddwl am ein sefyllfa ac am y pwysau sy'n bodoli ar draws y system, mae llawer o'n sylwebaeth, yn y pen draw, yn anochel yn ymwneud â charreg drws ysbyty a'r adran achosion brys, ond mewn gwirionedd, mae'r pwysau ar draws y system, gan gynnwys ym maes gofal sylfaenol, lle maent, ar ddiwrnodau prysur, wedi cael 100,000 o gysylltiadau mewn gofal sylfaenol ar draws y wlad. Rhan o fy syniad oedd nid yn unig y £10 miliwn i fynd i mewn i'r system, ond hefyd drwy'r holl Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a dyletswyddau gweinyddol meddygon teulu er mwyn rhoi mwy o amser iddynt ei dreulio gyda chleifion sydd angen eu gofal a'u cymorth.

Ceir hefyd y pwysau hwnnw ar draws y system gofal cymdeithasol. Rwy'n credu efallai fod awgrymu bod gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn absennol am bythefnos i bob pwrpas braidd yn angharedig a heb fod yn gwbl gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, rhan o'r rheswm pam fod gwasanaethau'n parhau i weithio yw oherwydd ymrwymiad staff gofal cymdeithasol, yn ogystal â'u cydweithwyr o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond nid yw'r her sy'n ein hwynebu wrth symud ymlaen drwy hyn—a deallaf y bydd angen i ni wneud yn well yn y dyfodol—fel bob amser, yn ymwneud yn unig â'r hyn sy'n digwydd wrth y drws blaen mewn gofal sylfaenol, practis cyffredinol neu adran achosion brys, mae hefyd yn ymwneud â chyrraedd y pen arall a'r angen i ryddhau pobl i'w cartrefi eu hunain, boed hynny'n gartref eu hunain mewn preswylfa breifat neu mewn gofal preswyl. Felly, rydym yn credu y bydd yr arian a gyhoeddwyd gennym yn helpu'r cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, oherwydd sylweddolwyd ar un adeg yr wythnos diwethaf pan wneuthum gyfweliad fod tua 350 o bobl sy'n feddygol iach mewn gwelyau yn ein system ysbytai. Nid her sy'n ymwneud â nifer gwelyau yw honno, ond her sy'n ymwneud â llif o fewn ein system iechyd a gofal gyfan. Felly, mae yna her i'w datrys sy'n ymestyn ar draws  iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y £50 miliwn yn ymwneud â chynnal perfformiad, nid gofal heb ei drefnu yn unig, ond gofal wedi'i drefnu yn ogystal. Rydym yn disgwyl y byddwn mewn gwell sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon o ran ein rhestrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn ogystal. Felly, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol. Nid ydym wedi canslo gofal dewisol ledled y wlad. Rydym wedi gweld peth o hwnnw'n parhau, ond cafodd rhai llawdriniaethau eu canslo er mwyn gwneud yn siŵr bod derbyniadau brys yn cael eu trin. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol, a disgwyliaf y byddaf yn wynebu craffu yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ynglŷn â'r hyn y mae'r £50 miliwn wedi'i ddarparu. Bydd yn darparu hyd at ddiwedd y flwyddyn, felly ni fyddaf yn ymgymryd ag ymchwiliad hanner ffordd, yn hytrach na deall beth y mae'r system gyfan wedi'i wneud o ran paratoi ar gyfer y gaeaf a chyflawni ar hyd y gaeaf.

Mae'r un peth yn wir am y wers y byddwn yn amlwg yn ei dysgu o'r gaeaf hwn, ar adeg o bwysau eithafol, fel y mae bron bob amser yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr, ond wedyn i edrych ar gyfnod y gaeaf yn ei gyfanrwydd. Oherwydd, ar yr adeg y gofynnoch chi'r cwestiwn hwn yn wreiddiol, roedd hynny ar un o'r adegau brig o ran pwysau. Yn ffodus, mae wedi lleihau ledled y wlad. Rydym yn gweld lefel wahanol o gynnydd erbyn hyn. Ond yn sicr nid yw'r gaeaf ar ben ac rwy'n tybio y bydd llawer mwy o ddiwrnodau anodd.

Felly, mae angen i ni ddeall yr hyn a ddigwyddodd y tro hwn gyda chynllunio ar gyfer y gaeaf, a chafodd y lleisiau rydych yn dweud na chawsant eu hystyried eu cynnwys yn rhai o'r cynlluniau ar gyfer y gaeaf mewn gwirionedd, oherwydd roedd cydweithwyr yn cynrychioli pob rhan o'r gwasanaeth, nid gofal iechyd yn unig, ond roedd cydweithwyr gofal cymdeithasol yn yr ystafell hefyd. Mae yna her bob amser o ran y modd yr ydym yn crynhoi lleisiau staff ac yn deall sut y maent yn cynllunio gyda'i gilydd i ddarparu ein gwasanaeth. Byddwn, wrth gwrs, yn dysgu o'r gaeaf hwn. Rydym eisiau paratoi'n well ar gyfer y gaeaf nesaf, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gwbl dryloyw am yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud yn well yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, rwyf eisiau gwella ein hymateb ar gyfer gweddill y gaeaf cyfredol.

14:45

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym mai'r rheswm dros y pwysau yn ystod gaeaf 2017-18 hyd yma yw'r cynnydd digynsail yn y galw. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl fod yna adegau prysurach na'i gilydd. Maent yn bodoli yn ystod y gaeaf, yn ogystal ag ar adegau eraill o'r flwyddyn, ac rydym wedi clywed bod rhai adegau eithriadol o brysur wedi bod. Ond ni allwch barhau i wthio'r un stori ar bobl dro ar ôl tro, oherwydd nid ydych yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a beth y mae pobl ar y rheng flaen yn ei ddweud wrth bobl fel fi a llefarydd y Ceidwadwyr gyferbyn â mi.

Y gwir amdani yw nad oes gan ein GIG y cydnerthedd i allu ymdopi ag adegau prysur bellach. Mae nifer y gwelyau wedi parhau i fod yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant ers 2011. Dros yr un cyfnod ers hynny, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi torri nifer y gwelyau 10 y cant. Nid wyf yn credu bod hynny'n gyd-ddigwyddiad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn dweud, 'Gwrthdrowch y toriadau i nifer y gwelyau'. Rydym wedi amlinellu sut y byddem eisiau hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a miloedd o nyrsys ychwanegol dros y degawd nesaf.

Mae prinder gwelyau a staff mewn ysbytai, a diffyg integreiddio gyda gofal cymdeithasol yn golygu bod llawdriniaethau'n cael eu canslo; mae'n golygu ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau achosion brys; mae'n golygu cleifion mewn gwelyau ar y coridorau; ac mae'n golygu bod ein staff ardderchog a grybwyllwyd gennych ac a drysorir gan bob un ohonom yn cael eu rhoi o dan bwysau cynyddol. Mae'n anghynaliadwy. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto yma yn awr: ar ôl rhedeg GIG Cymru am y 19 blynedd diwethaf bron iawn, rwy'n ofni nad yw Llafur yn gallu wynebu dyfnder problemau'r GIG bellach, oherwydd byddai cyfaddef bodolaeth y problemau hynny'n golygu cyfaddef eich rhan yn achosi'r problemau. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn tynnu ei phen o'r tywod, a chyfaddef ei rhan yn y problemau a rhoi cynllun priodol, hirdymor, cynaliadwy ar waith i fynd i'r afael â hwy?

Rwy'n gresynu at gywair Rhun ap Iorwerth wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn—[Torri ar draws.] Mae awgrymu ein bod yn gwthio stori ar bobl yn gwadu realiti. Nid yw cynnydd o 54 y cant yn y galw am ambiwlansys coch ar Nos Calan yn wthio stori ar bobl. Mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn y galw nas cynlluniwyd ar ei gyfer—a sut ar y ddaear y gallech chi gynllunio ar gyfer hynny beth bynnag. Ddydd Calan, roedd cynnydd o 29 y cant yn y galw am ambiwlansys coch. Rydym wedi gweld gwyro eithriadol rhag y norm. Er enghraifft, mewn gofal y tu allan i oriau, gwelsom gynnydd sylweddol yng Nghaerdydd a'r Fro, sydd fel arfer yn ystod cyfnod y Nadolig—ar noswyl Nadolig a dydd Nadolig—yn gweld cwymp yn y galw am wasanaethau, ond eleni, gwelsom gynnydd sylweddol. Felly, nid yw'n bwysau y gallech, yn rhesymol, gynllunio ar ei gyfer o ran y cynnydd hwnnw. Dyma gyflwyniad ffeithiol o'r hyn sy'n digwydd.

Credaf fod ceisio awgrymu mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod plaid wedi difetha ein gwasanaeth—. Mae'n bosibl ei fod yn creu penawdau gwych ar gyfer ffyddloniaid y blaid, ond mewn gwirionedd nid yw'n ein galluogi i ddeall natur yr heriau sy'n ein hwynebu nac yn ein galluogi i wneud rhywbeth yn ei gylch. Credaf mai fy swydd yn y Llywodraeth yw ceisio bod yn gyfrifol ac yn ymatebol ac yn adeiladol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny. Dyna pam, mewn gwirionedd, o ran eich pwynt olaf ynglŷn â dyfodol hirdymor iechyd a gofal yn y wlad hon a'r methu paratoi i wneud rhywbeth, dyna'n union rydym wedi'i wneud. Ar sail drawsbleidiol, rydym wedi cyfarwyddo panel o arbenigwyr i gynnal adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gennym yr adroddiad hwnnw o fewn wythnos, ac yna byddwn yn trafod ac yn gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol hirdymor y system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ymhell o geisio osgoi'r heriau go iawn a hynod o anodd, rydym wedi ceisio bod yn adeiladol ac yn aeddfed wrth wneud hynny, ac yna bydd gennym sail ddilys, ystyrlon a heriol i'r Llywodraeth hon, a gweithredwyr gwleidyddol eraill hefyd yn y lle hwn a thu hwnt, allu gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf eich tystiolaeth yn ein pwyllgor ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut y mae'n effeithio ar y GIG yng Nghymru, ymddengys nad ydym byth yn dysgu o'r profiadau hyn; ymddengys ein bod yn cael ein dal ar y gamfa bob tro, fel pe bai pwysau'r gaeaf yn rhywbeth newydd. Ymddengys bod y gair 'digynsail' yn codi bob tro, fel pe bai'r gair hwn yn esgusodi'r ffaith nad ydym yn dysgu o brofiadau'r gorffennol.

Wrth gwrs, mae'r £10 miliwn ychwanegol i'w groesawu, ond rwyf eisiau gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y cafodd y £50 miliwn ei wario wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa hon sy'n digwydd yr adeg hon bron bob blwyddyn? Pa wersi sy'n cael eu dysgu o un flwyddyn i'r llall mewn perthynas â phwysau'r gaeaf, a sut rydych yn gweithredu arnynt? Unwaith eto, rydym yn clywed bod achosion ffliw wedi ychwanegu at y pwysau, fel y byddent wrth gwrs, ond unwaith eto, nid yw ffliw yn rhywbeth newydd i'n gwlad ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Rydym yn ei ddisgwyl—mae'n oeri—ac rydym yn disgwyl i'r ffliw fod yn ganlyniad i hyn, yn rhannol. Mae'n digwydd ar yr un pryd bob blwyddyn ac mae'n rhaid i ni fod yn barod am hyn.

Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod adrannau achosion brys yn ysbytai Cymru yn teimlo fel maes brwydr i staff. Gwyddom fod y nifer a ymwelodd ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch nag 1 filiwn. Ond pam, pan ydym yn annog pobl i ddefnyddio fferyllfeydd, er enghraifft, eu bod yn dal i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys? Ai'r rheswm am hyn yw oherwydd na allant gael yr apwyntiadau meddyg teulu y maent yn teimlo eu bod eu hangen ac mai adrannau damweiniau ac achosion brys yw'r dewis amgen bellach?

Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda staff gofal sylfaenol a staff gofal eilaidd i gael syniad o'r sefyllfa rydym ynddi? Pa gyfran o'r derbyniadau brys hyn y gellid bod wedi ymdrin â hwy drwy ddulliau eraill, megis ymweliadau â meddygon teulu a fferyllfeydd? A oedd y staff ysbyty yn yr adrannau hyn yn barod a niferoedd llawn yn bresennol?

Rydych yn nodi bod cyrff y GIG wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn ers diwedd y gaeaf diwethaf—wedi'u cefnogi gan y £50 miliwn o gyllid i'w helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgarwch gofal brys a gofal wedi'i gynllunio—ac eto nid oes gennym ddigon o welyau na staff i ymdopi gyda'r sefyllfa hon o hyd. Sut y gallwn gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel nad ydym yn canslo llawdriniaethau ar gyfer cleifion a fyddai'n gallu arwain at sefyllfa lle bydd angen triniaeth ychwanegol arnynt oherwydd yr oedi hwn, sy'n cael effaith ganlyniadol ar gost wrth gwrs, oherwydd maent yn costio mwy yn y tymor hir, neu mae'n bosibl y gallent? Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf—

14:50

Rwy'n credu eich bod eisoes wedi amlinellu digon o gwestiynau i'r Gweinidog. Rwy'n amau a fydd yn gallu eu cofio erbyn hyn.

Mae'n ddrwg gennyf. Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gall pob meddyg teulu a holl staff ysbytai gyfarfod i fynd i'r afael â hyn? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau manwl. Rwy'n sylweddoli mai 20 munud yn unig sydd gennym ar yr agenda ar gyfer y tri chwestiwn, felly rwyf am geisio bod yn gryno wrth ymateb. Rwy'n credu fy mod wedi ymateb i'r cwestiynau am yr arian a'r olwg ehangach ar y gaeaf eleni i geisio dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn fy ateb i Angela Burns. Mae yna gwestiwn i'r Llywodraeth, ond hefyd i'r gwasanaeth iechyd, ynghyd â chydweithwyr llywodraeth leol a thai yn ogystal, o ran deall yr hyn rydym wedi'i wneud eleni a beth arall y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni, yn raddol, gynllunio a darparu system fwy integredig sy'n deall anghenion y dinesydd a sut rydym yn ymdrin â hwy.

Mae hynny'n arwain at y rhan fwyaf ddiddorol o'ch cyfres o gwestiynau, o bosibl, ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o hyn hefyd. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi'r bai ar y cyhoedd, ond yn hytrach mae'n ymwneud â sut rydym yn paratoi'r cyhoedd i wneud dewisiadau gwahanol a sut rydym yn sicrhau bod y dewisiadau hynny ar gael. Mae'r ymgyrch Dewis Doeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol, ac ychydig cyn y Nadolig, gwelsom y gwasanaeth ambiwlans yn cynhyrchu rhestr o alwadau a gawsant ar gyfer peswch ac annwyd a phoen ysgwydd nad oeddent yn alwadau 999 o gwbl. Felly, mae honno'n rhan go iawn o'n system, ond mewn gwirionedd mae angen i ni reoli'r galw'n wahanol a newid disgwyliadau ynghylch y galw hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud ym maes fferylliaeth yn enghraifft dda o'r awydd i wneud hynny.

Yn y gwersi sydd i'w dysgu yn ystod y gaeaf hwn ac ar ôl y gaeaf hwn, rwy'n disgwyl y cawn fwy nag adroddiad sych ar faterion gweithredol, ond un a fydd yn gorfod ystyried profiad go iawn staff ym mhob rhan o'n system, er mwyn ceisio cynllunio ymlaen llaw wedyn, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond, yn yr ymateb i'r adolygiad seneddol, ar gyfer yr heriau tymor canolig a hwy y mae pob un ohonom yn eu hwynebu wrth i'n gwlad newid, wrth i'r galw gynyddu, ac fel y mae pawb ohonom yn gwybod, wrth i arian fynd yn brinnach ac wrth iddi ymddangos bod llai o arian nag o'r blaen i iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a rheoli galw sy'n cynyddu'n barhaus.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn gan Simon Thomas.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan Lywodraeth y DU? 97

Diolch, Llywydd.  Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o welliannau i'r Bil heddiw, ond nid ydynt yn ymateb i'n gwrthwynebiad sylfaenol ni i'r Bil, yn enwedig y ffaith nad yw'n parchu'r setliad datganoli. Rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda'r bwriad o gytuno gwelliannau i'w cyflwyno yn Senedd San Steffan, ond nawr, wrth gwrs, yng nghyfnod Tŷ'r Arglwyddi.

14:55

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y cadarnhad nad yw'r gwelliannau a addawyd a oedd yn ymwneud â'r setliad datganoli, a chymal 11 yn arbennig wrth gwrs, wedi'u cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, fel yr addawodd Ysgrifennydd Gwladol, dros yr Alban, ond ar ran Llywodraeth y DU gyfan? Credaf fod hynny'n siomedig dros ben. Mae'n ddwbl y siom oherwydd mae'n golygu bod gennym lai o amser fel Cynulliad i ystyried y gwelliannau hynny, ac mae'n siomedig o safbwynt y rheini yn San Steffan, oherwydd, wrth gwrs, nid ASau wedi'u hethol a fydd yn craffu ar y gwelliannau hyn bellach, ond Tŷ’r Arglwyddi, a dylai Tŷ’r Arglwyddi fod yn ail Siambr ac yn ben draw'r daith ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, nid y man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynglŷn â datganoli a'r berthynas rhwng rhannau cyfansoddol yr ynysoedd hyn. Felly, mae'n fethiant dwfn ac enbyd ar ran Llywodraeth San Steffan mewn gwirionedd ac mae'n uniongyrchol gysylltiedig ag ad-drefnu'r Cabinet yn ddiweddar, oherwydd mae'n uniongyrchol gysylltiedig â Damian Green yn gadael a'r ffaith na chafwyd unrhyw arweinyddiaeth dros gyfnod y Nadolig i bwyso am ystyried y gwelliannau hyn yn San Steffan.

Ond y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru yn awr yw: pam parhau i ymddiried yn y Torïaid? Pam rhoi dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn nwylo Llywodraeth Geidwadol sy'n methu â chyflawni ei haddewidion—ar yr achlysur hwn, ond sawl gwaith yn y gorffennol yn ogystal? Pam na wnewch chi gyflwyno eich Bil parhad eich hunain yn awr, fel y nodwyd yn flaenorol gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Bil yr ydych wedi'i baratoi ac sy'n barod gennych, ac y gallwch bellach ei ddefnyddio fel dull gofalus o sicrhau nad ydym ar ein colled yn sgil y trefniadau yn y dyfodol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Mae'n hanfodol fod parch yn cael ei ddangos i'r Senedd hon, fel y bydd, ac i'r setliad datganoli. Nid yw cyflwyno prif welliannau munud olaf na ellir eu trafod na'u dadansoddi'n briodol i ganfod eu perthnasedd i'n dyfodol cyfansoddiadol yn ffordd ymlaen. Rwy'n ymbil arnoch: peidiwch ag ymddiried yn y Torïaid mwyach; cyflwynwch eich Bil parhad eich hun.

Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ar ddechrau ei sylwadau? Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU, ar ôl rhoi ymrwymiad pendant i gyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, wedi methu gwneud hynny. Eu naratif drwy gydol Cyfnod Pwyllgor y Bil oedd eu bod am wrando ar yr hyn a ddywedwyd ac y byddent yn myfyrio ar hynny. A dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn hollol glir, yn ystod rhan o'r ddadl honno, mai canlyniad yr ystyriaeth honno fyddai gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Felly, wrth gwrs, rydym yr un mor siomedig nad felly y mae.

Gadewch i mi roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf erioed wedi ymddiried yn y Torïaid ar y mater hwn nac unrhyw fater arall—[Torri ar draws.] Wel, pe bawn, buaswn wedi bod yn siomedig iawn yn yr achos hwn, oni fuaswn? Ond yr hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth gyfrifol ei wneud yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr ymrwymiad a wnaeth, ac felly byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, David Lidington, heddiw gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl y sicrwydd a roddwyd i'r Alban ac i Gymru yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion y byddai swyddogion yn cyfarfod ar frys fel y gallem weithio tuag at yr hyn y gobeithiwn y byddai'n gyfres o welliannau wedi'u cytuno i'r Bil ymadael—fod angen i'r trafodaethau hynny ddigwydd ar frys. Maent wedi cael eu gohirio, yn union fel y dywed Simon Thomas, oherwydd cyfyngderau'r blaid Geidwadol. Oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, bu'n rhaid i weddill y Deyrnas Unedig oedi cyn cael y trafodaethau hanfodol bwysig hyn.

Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw y byddem yn hoffi gweld y Bil ymadael yn llwyddo. Byddem yn hoffi bod mewn sefyllfa lle gallem gytuno ar welliant i gymal 11 gyda'r Llywodraeth Geidwadol a chyda Llywodraeth yr Alban, a gallem gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad hwn y gallem ei argymell i'w gymeradwyo. Ond rwy'n dweud eto wrth y Siambr hon ac wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os nad ydynt yn y sefyllfa honno, os ydynt yn parhau i lusgo traed, os ydynt yn parhau i fethu cael y trafodaethau angenrheidiol, mae gennym Fil parhad. Mae gennym Fil parhad rydym wedi'i baratoi, sydd mewn cyflwr sy'n barod i'w gyflwyno, ac os na allwn gael ateb drwy ddilyn y llwybr rydym yn ei ffafrio, sef drwy roi trefn briodol ar y Bil ymadael, bydd yn rhaid i ni gyflwyno'r Bil y mae Simon Thomas wedi cyfeirio ato.

15:00

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau rydych wedi'u gwneud, ond wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae pethau mor anobeithiol o fewn y Llywodraeth Dorïaidd fel bod ganddynt bellach Weinidog Brexit, Suella Fernandes, sy'n dweud yn agored y byddai'n wych peidio â chael bargen—y canlyniad economaidd gwaethaf posibl bron i Gymru, ond mae hi o'r farn y byddai'n wych peidio â chael unrhyw fargen o gwbl. Mae gennych Lywodraeth Dorïaidd sydd mor anobeithiol o ran ei safbwynt economaidd a'i methiant i ddenu unrhyw hygrededd go iawn yn ei thrafodaethau â'r UE fel ei bod, mewn gwirionedd, yn sôn am ein harwain i gytundeb masnach i ymuno â bloc masnachu'r Môr Tawel, rhywbeth a allai achosi cryn bryder, rwy'n siŵr, o ran yr hyn y gallai ei effaith bosibl fod ar economi Cymru. Craidd y broblem mewn gwirionedd yw bod gennym Lywodraeth sy'n analluog i ddatrys y materion hyn.

Fy mhryder i yw ble y bydd y llif hwnnw'n mynd â ni, oherwydd mae bellach yn symud nid yn unig at y cwestiwn a allwn gael trefn iawn ar y Bil ymadael, ond os na allwn wneud hynny, yna daw rôl Tŷ’r Arglwyddi i mewn iddi, bron fel bloc seneddol cyfansoddiadol, o ran cynnal confensiwn Sewel, a gwrthod cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan Gymru a chan yr Alban, a fydd felly'n golygu argyfwng cyfansoddiadol yn ogystal ag argyfwng democrataidd ac argyfwng economaidd. Mae hefyd yn gwestiwn ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth, drwy'r drws cefn, yn dilyn deddfwriaethau eraill sy'n gysylltiedig â Brexit hefyd fel y Bil Masnachu, sydd yr un mor ddrwg, os nad, mewn gwirionedd, yn waeth bron, oherwydd y ffordd y mae'n argymell defnyddio uchelfraint frenhinol, a'r ffaith nad yw'n gallu rhoi unrhyw ymrwymiad ar y llinellau coch ariannol a fyddai hefyd yn hanfodol o ran y sefyllfa ar ôl Brexit. Felly, yn yr amgylchedd hwnnw, ble mae'r sail dros ymddiriedaeth? Mae'n ymddangos i mi fod hanner y Llywodraeth Dorïaidd yn ddi-glem ac yn analluog, a'r hanner arall yn dweud celwydd. Felly, i ble'r awn ni o'r fan hon?

Wel, Lywydd, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fargen yn drychinebus i economi Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid wyf yn credu y gallwn ddweud hynny'n rhy aml nac yn rhy uchel. Mae unrhyw leisiau ar ben arall yr M4 sy'n parhau i ddadlau y bydd Brexit heb fargen yn beth da i'r Deyrnas Unedig yn gaeth i'w golwg ideolegol ar y byd ac nid ydynt yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarperir i Lywodraeth y DU ddydd ar ôl dydd, nid gan Lywodraeth Cymru yn unig, ond gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, gan gydffederasiwn y cyflogwyr, gan gymdeithas y cyfarwyddwyr. Mae tystiolaeth o'r angen i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus, a hynny mewn ffordd rydym yn credu sy'n ein cadw mor agos ag y gallwn at y farchnad sengl mewn undeb tollau, gan ganiatáu i fusnesau yng Nghymru a swyddi yng Nghymru gael eu hamddiffyn—dyna'r math o Brexit rydym yn annog Llywodraeth y DU i fynd ar ei drywydd.

Yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n dasg anodd iawn, yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu—rydym yn ceisio alinio ein hunain gyda, ac yn ceisio cryfhau'r lleisiau hynny yn Llywodraeth y DU sy'n barod i ddadlau dros ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhoi anghenion ein heconomi yn gyntaf. Weithiau, mae'n anodd clywed y lleisiau hynny yn stŵr y safbwyntiau eraill sy'n gwrthdaro o fewn y Llywodraeth ei hun, ond mae'n hanfodol mai ein gwaith ni yw cyflwyno'r achos, y gwyddom ei fod yn un cadarn a diogel, dros y math o Brexit sydd ei angen ar Gymru, a cheisio sicrhau bod yr achos hwnnw'n cael ei glywed gan y rhai yn Llywodraeth y DU sydd ag ymagwedd fwy ystyriol tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd.

A gaf fi gytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phopeth a ddywedodd Mick Antoniw, yn enwedig ar y Bil Masnachu, ac rwy'n credu bod hwnnw'n peri pryder mawr oherwydd mae'n adlewyrchu parhad o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywed Simon Thomas—er efallai y buaswn yn herio'r ffaith mai'r unig reswm y cafwyd ad-drefnu oedd oherwydd bod Damian Green wedi gadael ychydig cyn y Nadolig—? Cawsant fis cyn hynny, pan gafodd gwelliannau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, i ddod i drafod a sefydlu gwelliannau posibl ar gyfer y Cyfnod Adrodd, ac nid ydynt wedi gwneud hynny o hyd. Felly, mae'n peri pryder i mi, oherwydd mae'n dangos nad ydynt eisiau trafod gyda chi mewn gwirionedd, a byddant yn ceisio gwthio hwn drwy Dŷ'r Arglwyddi. Felly, yn yr ystyr hwnnw, a ydych yn cynnal trafodaethau gyda'r Arglwyddi i edrych i weld a allwch ailsefydlu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn methu cynnig rhywbeth synhwyrol? A hefyd, a fyddwch yn edrych ar y Bil parhad i edrych ar yr amserlenni y mae angen i ni fynd i'r afael â hwy? Oherwydd mae'r amserlen yn dynn iawn yn awr. Os oes angen i ni sicrhau bod y Bil parhad ar waith a'i fod wedi cael ei gymeradwyo, mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn i'r broses seneddol ddod i ben, ac mae amser yn mynd yn fwyfwy prin, po fwyaf o amser y mae hyn yn ei gymryd. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth y DU yn hollol ymwybodol o hynny ac yn ei wthio i'r pen cymaint â phosibl, felly mae'n rhaid i ni ddechrau bwrw ymlaen â hyn.

Nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid yn Llundain, ac yn wir, gwrandewais ar ddadl Torïaid yr Alban, fel y dywedais wrthych ddydd Llun yn ein sesiwn graffu. Os gwrandewch ar y ddadl honno, nid oes gennyf unrhyw hyder y byddant yn bwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd. Ymddengys eu bod yn derbyn beth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ymdrin â'r materion datganoledig sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hwy—materion datganoledig y mae Ceidwadwyr yr Alban yn Senedd yr Alban yn cytuno â ni yn eu cylch. Felly, mae angen i ni ddatrys hynny, ac nid oes ffydd yn Llywodraeth y DU.

15:05

Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod Llywodraeth Cymru yn effro iawn i faterion yr amserlen mewn perthynas â Bil parhad, ac ni fyddwn yn peidio â chyflwyno Bil parhad oherwydd ein bod wedi methu'r terfynau amser angenrheidiol—rwy'n eich sicrhau o hynny.

Rwyf eisiau diolch i David Rees am dynnu fy sylw at adroddiad gan bwyllgor yn Senedd yr Alban ddoe, a lofnodwyd gan holl Aelodau Ceidwadol y pwyllgor hwnnw, sy'n ei gwneud yn glir na fyddant yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil ymadael fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhan o'r siom y maent yn ei wynebu, ar ôl negodi fel roedden yn credu—gan mai mewn ymateb i Dori Ceidwadol, Aelod Ceidwadol o'r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin, y rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ei sicrwydd yn yr hyn a oedd yn amlwg yn weithgaredd a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ôl negodi hynny, fel y'i gwelent, cawsant eu siomi gan y cyhoeddiad ddoe, a chredaf y gallwch weld hynny yn yr adroddiad hwnnw yn ogystal.

O ran y Bil Masnachu, rhannaf y pryderon y mae Mick Antoniw a David Rees wedi eu mynegi y prynhawn yma. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, ac mae'r Alban bellach wedi cyflwyno eu hun hwythau hefyd. Rydym yn ailadrodd y pryderon sydd gennym am y Bil ymadael wrth iddynt ailymddangos yn y Bil Masnachu. Os na allwn gael y Bil ymadael yn iawn, a gallu argymell memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, felly, ar lawr y Cynulliad hwn, mae'n anodd gweld sut y gallwn fod mewn unrhyw sefyllfa wahanol mewn perthynas â'r Bil Masnachu.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf hefyd i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, a'r cwestiwn gan Suzy Davies.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? 99

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU cyn y Nadolig, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried buddsoddiad ecwiti neu fenthyciad ym morlyn llanw bae Abertawe pe bai hynny'n galluogi'r prosiect i symud ymlaen drwy leihau cost cyfalaf.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn gobeithio efallai y byddech yn rhoi ychydig mwy i mi ar hynny, ond mae'n gadael mwy o gwestiynau i'w gofyn. Rydym newydd glywed, drwy'r wasg, tua chwarter awr yn ôl mewn gwirionedd, ei bod yn ymddangos bod y swm sylweddol rywle rhwng £100 miliwn a £200 miliwn. Tybed a allech gadarnhau hynny yn eich ateb i'r cwestiwn hwn, ond os yw'r ffigurau hynny'n gywir, mae hwnnw'n swm sylweddol—nid arian y gallech ddod o hyd iddo i lawr cefn y soffa. Efallai y gallech ddweud wrthym o ble rydych yn debygol o gael y math hwnnw o arian, os yw eich pot benthyca cyfalaf, os mynnwch, fel y mae Plaid Cymru yn ei awgrymu, wedi'i ymrwymo fwy neu lai ar gyfer yr M4. Felly, efallai y gallwch egluro'r math o ffigur rydych yn ei ystyried ac o ble y daw'r arian hwnnw. Ac mae hynny'n berthnasol, oherwydd mae—. Os darllenais y llythyr yn gywir,

Gallai'r buddsoddiad hwn helpu i leihau cost cyfalaf y prosiect a lleihau'r gofyn felly am gymhorthdal dros oes unrhyw gontract gwahaniaeth.

Felly, gyda ffigur o'r fath, byddem angen rhywfaint o sicrwydd y byddai, mewn gwirionedd, yn debygol o wneud gwahaniaeth i'r pris streic a thymor y cytundeb. Felly, pa asesiad a wnaethoch i bennu effaith y cyfalaf rydych yn debygol o allu ei roi i mewn ar y pris streic a hyd y cytundeb ad-dalu?

Ac yn olaf, ar ba delerau datgeladwy y gallwch ddweud ar y pwynt hwn y byddech yn hoffi gweld benthyciad neu gytundeb ecwiti yn cael ei wneud? Rydym eisoes yn gwybod bod y benthyciad a gafodd y cwmni—yn 2015 rwy'n credu—yn ddiwarant. Ac er nad wyf eisiau i neb fod ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â fy nghefnogaeth i hyn, i'r morlyn llanw, mae gennym ddyletswydd i etholwyr hefyd i wneud yn siŵr fod unrhyw fuddsoddiad wedi ei ddiogelu'n ddigonol. Felly, os gallwch roi rhyw fath o syniad o'r diogelwch y byddech yn ei ddymuno i fuddsoddwyr Cymru—mae'n ddrwg gennyf, i Lywodraeth Cymru—ar ran y cyhoedd yng Nghymru, pa fath o ddiogelwch y byddech yn chwilio amdano mewn unrhyw gytundeb pellach?

15:10

Lywydd, gadewch i mi ei gwneud yn glir fod llythyr Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 6 Rhagfyr wedi cael ei lunio i geisio datgloi anallu Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn a chyhoeddi ei bod yn bwrw ymlaen â chasgliadau adolygiad Hendry, ac yn caniatáu i brosiect morlyn llanw bae Abertawe fynd rhagddo.  Er mwyn ceisio symud y sefyllfa hon yn ei blaen, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir ein bod yn barod, yn yr amgylchiadau cywir, i ystyried buddsoddiad ecwiti a/neu fenthyciad sylweddol. Nid wyf yn mynd i allu darparu ffigurau penodol i'r Siambr y prynhawn yma oherwydd byddai'r ffigur hwnnw'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynnig ar y pris streic. Mae'r ddau beth ynghlwm â'i gilydd, ac ni allaf roi ateb synhwyrol i chi ar gam cyntaf trefniant o'r fath heb wybod beth oedd Llywodraeth y DU yn barod i'w gynnig ar yr ail.

Ond mae Suzy Davies yn iawn i ddweud mai'r hyn roeddem yn ceisio'i wneud oedd creu cynnydd mewn dau gyfeiriad. Roeddem yn barod i gynnig arian er mwyn helpu gyda'r gost o adeiladu'r morlyn llanw. Os mai dyna beth sy'n rhwystro Llywodraeth y DU rhag camu ymlaen, yna roeddem yn cynnig bod yn rhan o'r ateb i ddatrys yr anhawster hwnnw. Ond drwy fod yn barod i gynnig cyfalaf ar gyfer adeiladu'r prosiect, byddem hefyd yn gostwng cost hirdymor y benthyca sy'n rhan o'r prosiect, a dylai hynny ganiatáu i Lywodraeth y DU fod mewn sefyllfa well i gyflwyno cynnig ar y pris streic. Byddai'n is o ganlyniad i'r costau benthyca is. Felly, llwyddai ein cynnig—neu dyna a feddyliem—i gael effaith ar y ddau beth. Mae'n siomedig iawn nad yw Prif Weinidog Cymru wedi cael unrhyw ymateb o unrhyw fath i'w lythyr dyddiedig 6 Rhagfyr.

Rwyf am ei gwneud yn glir wrth y Siambr, Lywydd, fod Prif Weinidog Cymru, pan anfonodd ei lythyr, wedi penderfynu peidio â thynnu sylw ato yn fwriadol. Roedd eisiau gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael y cynnig mewn ffordd na allai fod yn agored i awgrymiadau ei fod ond yno er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol, neu ei fod yno er mwyn creu embaras i'r Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Ysgrifennodd mewn termau a fyddai wedi caniatáu i'r Prif Weinidog—. Pe bai unrhyw fwriad go iawn ar ran y Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r morlyn llanw, byddai wedi rhoi pob cyfle iddi fod wedi gwneud hynny. Yr unig reswm y mae'r llythyr yn y parth cyhoeddus yn awr yw oherwydd bod mis wedi bod ers ei ysgrifennu, ychydig ddyddiau sydd i fynd nes y bydd hi'n flwyddyn ers adolygiad Hendry, a dyma'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi ar y bwrdd. Rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bryd i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen yn y ffordd y mae pleidiau ar draws y Siambr hon—nid wyf yn dychmygu hyn o gwbl—mae pleidiau ar draws y Siambr hon wedi annog Llywodraeth y DU i'w wneud. Rydym yn dangos ein parodrwydd i helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau a all fod yn atal Llywodraeth y DU rhag gwneud y penderfyniad angenrheidiol a phwysig hwn i Gymru.      

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu gweithredu Llywodraeth Cymru yn fawr? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi'r morlyn llanw, ac mae Aelodau rwy'n anghytuno â hwy ar bron bob mater arall yn gwbl gytûn ynglŷn â pha mor bwysig yw hwn i Abertawe a dinas-ranbarth bae Abertawe.

Os mai Abertawe yw'r cyntaf, yna rydym yn datblygu'r sgiliau cynllunio, rydym yn datblygu'r sgiliau technegol, rydym yn datblygu'r gadwyn gyflenwi. Mae hynny'n golygu y byddwn yn datblygu diwydiant cyfan, a bydd pobl sydd eisiau datblygu môr-lynnoedd llanw wedyn yn dod i Abertawe, fel y gwnaeth Aarhus a lleoedd yn yr Almaen gyda thyrbinau gwynt. Onid yw'n un o'r pethau pwysicaf a allai ddigwydd mewn gwirionedd? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwir angen i ni fod y cyntaf i ddatblygu'r sgiliau hyn a datblygu'r diwydiant a helpu i ateb rhai o'r cwestiynau roedd Russell George yn eu gofyn yn gynharach?

15:15

Wel, Lywydd, mae Mike Hedges yn nodi'r union ddadleuon a berswadiodd adolygiad Hendry. Nid ymwneud yn unig ag Abertawe y mae morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n ymwneud â chreu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom inni allu gwneud mwy yn y dyfodol i ddefnyddio grym y môr i'n helpu i greu'r ynni cynaliadwy rydym ei angen. Mae'r buddsoddiad yn Abertawe yn rhan o'r holl brofiad dysgu hwnnw. Mae'n caniatáu i ni fod y cyntaf yn y maes hwn i adeiladu'r holl bethau sy'n mynd ochr yn ochr ag ef, ar ôl profi'r cysyniad. Dyna pam ei fod mor bwysig i Gymru. Dyna'r achos y mae eu penodai eu hunain, eu Gweinidog blaenorol eu hunain, Charles Hendry, wedi'i brofi ac wedi dod i'r casgliad ei fod yn gadarn. Dyna pam yr anogodd Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol, a dyma ni 12 mis yn ddiweddarach, yn dal i geisio gwthio'r garreg honno i fyny'r rhiw.

A gaf fi yn gyntaf ddatgan fy mod yn fuddsoddwr cymunedol, fel y mae cannoedd o bobl leol, yn y cynllun hwn? Rwy'n gwneud hynny am fod llawer o bobl yn ardal bae Abertawe yn credu mai dyma'r dyfodol, nid yn unig ar gyfer bae Abertawe, fel y dywedwch, ond ar gyfer ynni o gwmpas arfordir Cymru yn ogystal. Mae llawer i'w ennill o hyn.

Rwy'n croesawu camau gweithredu'r Prif Weinidog yn fawr. Rwy'n gwerthfawrogi'r modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi pam y gwnaed hyn, yn gyfrinachol, fis yn ôl, er fy mod wedi annog y Prif Weinidog i wneud hyn yn y gorffennol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i bob pwrpas yw galw blỳff y Ceidwadwyr yn Llundain a dweud 'Mae'n bryd i chi dalu neu ddweud nad oes gennych ddiddordeb mewn technoleg ynni'r llanw ar gyfer dyfodol cynhyrchu ynni, nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd a lled y DU yn ogystal'. Os ydynt yn gwneud hynny, wrth gwrs, byddant yn rhoi'r DU yng nghefn y ciw mewn perthynas â thechnoleg a fydd yn cael ei datblygu fwyfwy, wedi'i gyrru gan Tsieina a gwledydd fel Canada. Ond gallwn fod ar flaen y gad gyda hynny.

Nawr, gallaf ddeall pam nad ydych eisiau siarad am y symiau, ond rydych wedi sôn am symiau sylweddol, a dyna pam ei bod mor syfrdanol nad ydych wedi cael ateb i'r llythyr gan y Prif Weinidog at Theresa May. Ond yr hyn y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo yw'r math o fuddsoddiad ar y cam hwn, oherwydd nid yw'r swm mor bwysig â hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n agor y drws, wrth gwrs—rwy'n deall hynny—ond o safbwynt Llywodraeth Cymru ac o safbwynt y budd i'r cyhoedd, mae pa fath o fuddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru fod â diddordeb ynddo yn bwysig. O bosibl, ni fydd benthyciad syml, a fydd yn cael ei dalu'n ôl oherwydd bod yna ffrwd incwm o'r morlyn llanw, yn ein rhoi mewn sefyllfa lle gallwn fanteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon wrth iddi ddatblygu. Mae cyfran ecwiti yn y cwmni daliannol, wrth gwrs, yn caniatáu i ni fod yno wrth i'r dechnoleg ddatblygu, ac nid yn unig wrth i'r prosiect hwn ddatblygu, ond wrth i brosiectau posibl eraill ddatblygu hefyd.

Rwy'n annog y Llywodraeth, os yw hyn yn dwyn ffrwyth, i ystyried chwarae rôl lawer mwy rhagweithiol yn y gyfran ecwiti, yn hytrach na benthyciad syml, neu warant benthyciad, neu ryw drefniant arall o ran adeiladu sy'n gwneud y ffigurau'n haws. Oherwydd dyma ein cyfle. Buddsoddiadau cyfalaf mawr eraill rydych wedi'u gwneud, fel maes awyr rhyngwladol Caerdydd—dyma eich cyfle i fod yno, ac i fod yno am gyfnod hir o amser. Felly, os na allwch nodi maint y cynnig a wnaed, a ydych yn gallu datgan o leiaf pa fath o gynnig y mae gennych ddiddordeb ynddo ac a ydych wedi trafod gyda Tidal Lagoon plc sut y gellid cyflawni hyn mewn gwirionedd?

Lywydd, roedd y llythyr at y Prif Weinidog gan Brif Weinidog Cymru yn cadw'r drws yn agored ar amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gallai ein systemau gael eu cyflwyno, gan gynnwys buddsoddiad ecwiti, ond hefyd posibiliadau benthyca yn ogystal. Lywydd, rwyf eisiau pwysleisio gerbron y Siambr pa mor bwysig oedd y cynnig hwn, a'r trafodaethau yn sail iddo, rhyngof fi fel Gweinidog cyllid a'r Prif Weinidog. Nid oedd yn gynnig a wnaed yn fyrfyfyr, oherwydd ein gobaith oedd y byddai hyn wedi datgloi'r sefyllfa, ac y byddai ein cynnig wedi cael ei dderbyn o ddifrif. Fel eich Gweinidog cyllid, roedd yn rhaid i mi deimlo'n fodlon y buaswn mewn sefyllfa i allu cynnig y cymorth hwnnw ar adeg pan fo ein cyllidebau, fel y gŵyr yr Aelodau yma, o dan bwysau, ac mae llawer o alwadau pwysig iawn ar ein gallu i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ar draws economi Cymru.

Felly, tybiaf na fyddai Simon Thomas yn synnu clywed, o safbwynt y cyllid, nad oedd dod o hyd i ffigurau y gallem eu darparu'n hawdd yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wthio i ymylon fy ystyriaeth. Ond roeddwn yn teimlo, ar ôl mynd drwy'r gwaith yn ofalus iawn gydag uwch swyddogion yma, gyda Phrif Weinidog Cymru yn ogystal, pe bai'r Prif Weinidog wedi ymateb ac wedi ymateb yn gadarnhaol i'n cynnig, ein bod mewn sefyllfa i gefnogi ein cynnig gyda buddsoddiadau o wahanol fathau, gan ddibynnu ar y fargen y byddem wedi gallu ei gwneud, a byddem wedi meddwl yn ofalus am y pwyntiau a wnaeth y prynhawn yma ac a wnaeth yn flaenorol ynglŷn â'r hyn y gallai buddsoddiad ecwiti yn y prosiect fod wedi'i ddarparu ar gyfer trethdalwyr Cymru ond hefyd i ddyfodol y diwydiant hollbwysig hwn yng Nghymru.

15:20
4. Datganiadau 90 Eiliad

A hithau'n ganmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod, hoffwn dalu teyrnged i fenywod ysbrydoledig o fy etholaeth ym Mro Morgannwg, gan ddechrau gyda menyw 19 mlwydd oed o'r Barri, Hannah Tuck, y caplan rheilffordd ieuengaf erioed. Mae Hannah wedi'i phenodi i rôl sy'n cynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau. Roeddwn eisoes yn adnabod Hannah cyn iddi gael ei phenodi i'r rôl hon fel un o aelodau blaenllaw fforwm ieuenctid y Fro ac fel gofalwr ifanc. Cyfarfûm â hi cyn y Nadolig yng nghaffi ac oriel Mind in the Vale yng ngorsaf tref y Barri i'w llongyfarch ar ei rôl newydd a deall beth y mae ei swydd yn ei olygu.

Dywedodd Hannah fod y swydd yn bennaf yn golygu teithio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, dod i adnabod staff a theithwyr, a bod ei gwaith gwirfoddol blaenorol gydag Ambiwlans Sant Ioan am wyth mlynedd wedi bod yn brofiad defnyddiol iawn wrth baratoi ar gyfer ei chyfrifoldebau newydd. Yn ei rôl newydd, mae Hannah eisoes wedi cefnogi dau yrrwr trên sydd wedi gweld pobl yn cyflawni hunanladdiad ac wedi helpu staff tocynnau sydd wedi cael eu cam-drin gan deithwyr. Penodwyd Hannah gan elusen Gristnogol, ond mae'n dweud nad ffydd yw ffocws ei gwaith. Mae'n dweud, 'Yn amlwg, mae gennym ni gaplaniaid ein ffydd, ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd ei hangen.' Am fenyw ifanc ysbrydoledig o'r Barri ac o Gymru.

Pwynt o Drefn

Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf at y pwynt o drefn a godwyd gyda chi ar 13 Rhagfyr y llynedd. Mae'n ddrwg gennyf fod pobl wedi'u tramgwyddo yn sgil yr hyn a ddywedais a hoffwn ei gwneud yn glir fy mod yn parchu eich awdurdod fel Cadeirydd. Fodd bynnag, rwy'n glynu at y safbwyntiau a fynegwyd gennyf am y newidiadau arfaethedig i'r Bil cydnabod rhywedd.

Rwy'n derbyn eich ymddiheuriad, Gareth Bennett, a gallwch fod yn sicr y byddaf bob amser yn amddiffyn hawl unrhyw Aelod yn y Siambr hon i fynegi safbwyntiau sy'n annymunol i Aelodau eraill ac i bobl eraill yn ogystal. Ond mae angen i bob Aelod wneud hynny gan ddefnyddio iaith sy'n seneddol ac yn anwahaniaethol bob amser. Diolch.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'

Symudwn ymlaen, felly, at yr eitem nesaf.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'. Galwaf felly ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.

Cynnig NDM6620 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Credaf fod trafodaethau morol yn debyg i fysiau—rydych yn aros yn hir iawn am un ac mae dau'n cyrraedd yn gyflym iawn. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae angen i mi ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, ac aelodau o'r pwyllgor a weithiodd ar yr ymchwiliad hwn—Jenny Rathbone, Huw Irranca-Davies a Siân Gwenllian—nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor hwn bellach. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r hyn rwy'n credu sy'n adroddiad da iawn.

Dyma'r ail ddadl, fel y dywedais, a gynhaliwyd yr wythnos hon yn y Siambr ar bolisi morol. Credaf ei fod yn bolisi pwysig iawn ac mae'n briodol ei fod yn cael y lefel hon o sylw. Dywedodd rhywun unwaith na ddylem alw'r blaned hon yn ddaear, ac y dylid ei galw'n ddŵr, oherwydd mae llawer mwy o'i harwyneb wedi'i orchuddio gan ddŵr nag sydd wedi'i orchuddio gan ddaear. Felly, credaf fod angen i ni roi llawer o ystyriaeth i'r amgylchedd morol. Yr amgylchedd morol yw dros hanner arwynebedd Cymru ac mae'n gartref i rai o gynefinoedd a rhywogaethau mwyaf bioamrywiol Ewrop. Er mwyn gwneud yn siŵr y byddant yn goroesi ac o fudd i genedlaethau'r dyfodol, mae dwy ran o dair o foroedd Cymru wedi'u gwarchod mewn rhyw ffordd oherwydd eu cyflwr bregus.

Yr ymateb i'r adroddiad: gwnaeth y Pwyllgor 12 o argymhellion i gyd, a derbyniwyd 11 ohonynt yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod ein hargymhellion wedi cael eu derbyn, fodd bynnag, mae'n aneglur beth, os o gwbl, a gaiff ei wneud yn wahanol o ganlyniad i hynny. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am eglurhad. Cafwyd ymateb cyn y ddadl hon ac mae'r ohebiaeth ar gael drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:25

Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan gynnwys dull Llywodraeth Cymru o orfodi, argaeledd data dibynadwy a chyllid, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig ar ôl Brexit. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar y tri maes allweddol a ddeilliodd o'r ymchwiliad: yr angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol gryfach, yr angen am lefelau priodol o adnoddau, o ran arian a staffio, a'r angen am fwy o dryloywder yn y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom feirniadaeth gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru. Nid yw hon yn gŵyn newydd. Clywodd y pwyllgor blaenorol alwadau am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012. Mae rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru roi cyfeiriad strategol clir. Byddai hyn yn sicrhau bod system reoli gydlynol ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod pawb yn ei deall. Yn syml, os yw Cymru am wireddu manteision ei hardaloedd morol gwarchodedig yn llawn, mae’n rhaid eu rheoli’n effeithiol. Mae'r pwyllgor felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod yr holl awdurdodau rheoli, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n amlwg o’r ymateb na fydd unrhyw strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Gobeithio fy mod wedi camddeall hynny ac y bydd yna strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd yna gynllun gweithredu. Y pryder amlwg yw nad honno fydd y ddogfen strategol sydd ei hangen mor ddybryd. Gobeithio y bydd y term 'cynllun gweithredu' yn cael ei gychwyn gan strategaeth, ac y bydd y cynllun gweithredu yn dod o dan y strategaeth honno, oherwydd rydym angen strategaeth er mwyn bwrw ymlaen, a dylai’r cynllun gweithredu fod o dan y strategaeth honno yn hytrach na bodoli ar wahân.

Ysgrifennydd Cabinet, mae rhanddeiliaid wedi bod yn mynegi pryder am ddiffyg arweinyddiaeth ers pum mlynedd o leiaf. Mae'r rhain yn bryderon diffuant gan bobl ynglŷn â’r amgylchedd morol. Mae'r rhain yn bobl sy'n gweithio yn yr amgylchedd, pobl sydd â diddordeb dwfn yn yr amgylchedd ac sydd eisiau gweld gwelliant yn y modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Dylid mynd i’r afael â’u pryderon. Nid yw'n glir yn eich ymateb beth, os oes rhywbeth, fydd yn cael ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Dyma bobl sy'n poeni o ddifrif am yr amgylchedd morol, ac er y bydd Aelodau eraill yma'n codi i areithio amdano, mae'r bobl hyn yn poeni amdano bob dydd o'r flwyddyn, ac i lawer ohonynt dyma sy'n rhoi angerdd i'w bywydau.

Yr ail faes allweddol oedd adnoddau, yn ariannol ac o ran staffio. Ni ofynnodd rhanddeiliaid am symiau enfawr o arian na chynnydd enfawr yn y niferoedd staffio. Credaf eu bod, mewn gwirionedd, yn deall eu bod yn annhebygol o gael y naill na'r llall. Roeddent yn bragmataidd iawn ac yn deall y pwysau ariannol ehangach sydd ar Lywodraeth Cymru. Ond roeddent yn glir: ni ellir rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol heb y lefel briodol o adnoddau. Mae'r pwyllgor yn nodi bod £0.5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y môr a physgodfeydd yng nghyllideb 2018-19. Bwriedir iddo fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â nodi a dynodi pump o ardaloedd morol gwarchodedig newydd a sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn cyrraedd ac yn parhau mewn cyflwr ffafriol. Wrth gwrs, mae’r adnodd ychwanegol hwn i'w groesawu, ond rydym wedi ceisio sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yr adnodd hwn yn ddigonol i gyflawni’r nifer o flaenoriaethau uchelgeisiol sydd ganddynt. Yn syml, a oes digon o arian i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei weld yn cael ei gyflawni?

Ni chawsom sicrwydd fod yr adnoddau staffio presennol o fewn Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei chyfrifoldebau cadwraeth forol. Roeddem hefyd yn pryderu y byddai diffyg adnoddau yn cael effaith negyddol ar weithgaredd Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig ag ardaloedd morol gwarchodedig ar unwaith ac yn y tymor canolig. Rydym hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cyllido dull sy’n seiliedig ar ardal, gyda swyddog penodedig i bob ardal reoli. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod manteision i’r dull hwn, yn arbennig o ran atgyfnerthu darpariaeth leol a hwyluso cydweithrediad traws-safle, a buaswn yn dadlau, efallai yn bwysicaf oll, y dylai pobl adnabod y person y mae’n rhaid iddynt fynd i’w gweld ynglŷn â phroblem yn yr ardal. Rwy’n credu bod cael rhywun wrth y llyw, rhywun sy'n gyfrifol amdano, yn gwneud bywyd yn llawer haws. Eir i’r afael â’r materion hyn yn ein hail argymhelliad, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod yn anghytuno â dull sy’n seiliedig ar ardal, gan ddweud ei bod yn credu y byddai canolbwyntio ar brosiectau penodol yn fwy costeffeithiol ac yn darparu gwell gwerth am arian.

Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet hawl i anghytuno ag argymhellion y pwyllgor wrth gwrs. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth i egluro’r safbwynt amgen hwnnw. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn ein gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet, fod y pwyllgor wedi gofyn am gael gweld unrhyw ddadansoddiad ariannol sy'n cefnogi safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Nid ydym wedi derbyn hwnnw eto, ond rwy’n siŵr, unwaith eto, y bydd hwnnw’n cael ei ddarparu i ni y prynhawn yma.

Tryloywder—fe drown yn awr at ein trydydd maes allweddol. Roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo’n gryf fod yna ddiffyg tryloywder mewn perthynas â chyfarfodydd y nifer sylweddol o grwpiau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cofnodion y grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu cyhoeddi.

Cawsom wybod hefyd fod diweddariadau gan y grŵp llywio yn cael eu rhannu â grŵp cynghori a gweithredu rhanddeiliaid Cymru ar faterion morol, ac ar gael ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw cofnodion y grŵp hwn ar gael, dim ond eu cylch gorchwyl. Rwy’n siomedig fod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod nodiadau grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr Cymru ar gael, ond ar gais yn unig. Pam na ellir eu rhoi ar y rhyngrwyd? Mae pobl yn rhoi llawer o bethau ar y rhyngrwyd. Bydd pobl sydd â diddordeb ynddo yn gallu cael mynediad ato. Os gallwn sicrhau un peth heddiw, os gwelwch yn dda, a gawn ni ofyn i’r rheini gael eu rhoi ar y rhyngrwyd? Os ydynt ar gael i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt, yna nid ydynt yn cael eu cadw'n gyfrinachol am unrhyw reswm penodol, felly, i arbed pobl rhag gorfod gofyn amdanynt, gadewch i ni eu rhoi ar y rhyngrwyd, a gadael i bobl gael mynediad atynt.

Ar gyfer grwpiau eraill a arweinir gan Lywodraeth Cymru, mae crynodeb o'r cyfarfodydd ar gael, ond unwaith eto, ar gais yn unig. Ac rwy’n gwneud yr un cais i Lywodraeth Cymru—peidiwch â’u darparu ar gais yn unig, gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar y rhyngrwyd. Nid yw hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon sylweddol a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg tryloywder y grwpiau hyn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na ellir cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd y grwpiau hyn i gyd.

I gloi, mae hwn yn faes hollbwysig, o ystyried gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig i gefnogi bywyd gwyllt, ein diwydiant twristiaeth arfordirol a’n pysgodfeydd. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r rhanddeiliaid a’r aelodau o'r cyhoedd a gyfrannodd at waith y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor, a roddodd lawer iawn o amser ac ymdrech i’r prosiect hwn. Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig, ond er gwaethaf y ffaith fod pob un ond un o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn, mae’n rhaid i mi ddirwyn i ben drwy ailadrodd pryderon y pwyllgor fod diffyg eglurder ynglŷn â beth fydd yn newid yn ymarferol, ac o ganlyniad, pa un a fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwelsom ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol, mae hwn yn gyfnod cyffrous i bolisi morol yng Nghymru, ac mae cefnogaeth ar draws y Siambr i bwyslais newydd ar y polisi hwn. Ceir cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a sectorau eraill sydd â diddordeb yn yr amgylchedd morol a'r polisi hwn. Mae gennych lawer iawn o ewyllys da gan Aelodau yn y fan hon, a’r cyhoedd yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithio y byddwch yn defnyddio'r ewyllys da hwnnw i barhau i fwrw ymlaen. Croesewais yr adroddiad morol ddoe, a chredaf fod hwnnw'n gam ymlaen. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i sicrhau rhanddeiliaid fod hwn yn flaenoriaeth i chi, ac y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau ystyrlon o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Rydym wedi aros am amser hir i’r môr wneud ei ffordd i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru, ac rydym wedi ei wthio yno yr wythnos hon. Gadewch i ni obeithio y gallwn wneud cynnydd sylweddol yn dilyn y ddadl hon.

15:30

A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi ein bod yn cael yr ail o ddwy ddadl ar yr amgylchedd morol yr wythnos hon? Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos y cydweithrediad agos a fydd rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus, sy'n galw am welliant sylweddol, fel y mae ein Cadeirydd, Mike Hedges, eisoes wedi nodi. Ac a gaf fi ymuno ag ef i ddiolch i bawb sydd wedi ein galluogi i gyhoeddi adroddiad mor awdurdodol—yr holl bobl sydd wedi cydweithio â ni, yn ein hymweliadau amrywiol, ac a roddodd dystiolaeth, a hefyd ein hysgrifenyddiaeth ragorol a'r staff ymchwil?

Mae'n faes arswydus o gymhleth. Mae'n rhaid i mi ddweud, drwy gydol fy amser yma fel Aelod Cynulliad, nid wyf yn credu bod fy ngallu ystadegol a dadansoddol wedi cael eu herio fwy nag wrth geisio gwneud rhywfaint o synnwyr o'n system ddynodi, o ran moroedd ac arfordiroedd o amgylch Cymru. Mae tua 50 y cant o'n moroedd, a 75 y cant o'n morlinau, wedi'u gwarchod gan ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, fel y clywsom mewn arolwg o 727 o randdeiliaid, roedd 35 y cant yn credu bod rheolaeth aneffeithiol yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r amgylchedd morol. Ac os dysgais unrhyw beth o'r gwaith ar yr adroddiad hwn, rwy'n credu mai'r ffaith bod yn rhaid i ni gofio bob amser nad yw dynodiad yn golygu rheolaeth effeithiol bob tro yw hynny. A chredaf fod hynny'n ganolog mewn gwirionedd i'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth ei gyflawni yn awr, er mwyn sicrhau bod dynodiad yn arwain at reolaeth effeithiol o'n hadnoddau morol, ac yn annog ac yn gwarchod bywyd morol.

Ddoe, yn y modd hwn, pwysleisiais yr angen am ddata a monitro da. Unwaith eto, mae'n bwynt sydd wedi'i wneud yn gryf yn yr ymchwiliad hwn, ond gan fy mod wedi gwneud hynny'n uchafbwynt yr araith a wneuthum ddoe, nid wyf am ei ailadrodd yma y prynhawn hwn. A gaf fi sôn, Ddirprwy Lywydd, am yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad hwn ac rwy'n credu mai dyma'r un pwysicaf yn ôl pob tebyg? Mae'n datgan bod yn rhaid i'r Llywodraeth ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn drwy ddatblygu strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a thrwy sicrhau bod yr holl awdurdodau rheoli yn chwarae rhan weithredol ac yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Nawr, mae'r cynllun drafft yn bwysig iawn a bydd yn cael ein sylw mwyaf manwl. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid wyf yn credu bod ymatebion dilynol y Llywodraeth wedi bod yn ddigon da bob tro, er, fel rwyf wedi'i ddweud, rwyf eisiau rhoi clod i'r Gweinidog am gyflawni'r cynllun yn awr o leiaf, a gadewch i ni obeithio bod hwnnw'n fan cychwyn ar gyfer gwell perfformiad yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.

Ond yma mae gennym alwad barhaus am arweinyddiaeth effeithiol ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn ôl yn bell. Roedd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn ystod y pedwerydd Cynulliad, yn nodi bod rhanddeiliaid morol yn teimlo'n aml fod gan y Lywodraeth flaenorol, ac rwy'n dyfynnu, feddylfryd 'a morol' gyda'r amgylchedd a'r economi forol yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth. Roedd adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor yn 2016, a nodwyd y n ofalus iawn gennym wrth gwrs, yn nodi bod rhanddeiliaid yn pryderu bod y meddylfryd hwnnw'n parhau dair neu bedair blynedd yn ddiweddarach hyd yn oed. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n rhywbeth a welsom yn ein tystiolaeth, a gwn fod y Llywodraeth yn gobeithio gwella'r modd y mae'n cyflawni ei pholisi morol, a byddwn yn bartneriaid gweithredol wrth sicrhau eich bod yn gallu gwneud hynny, ond yn sicr rydym angen y dechrau newydd hwn.

Fel y dywedais, daw hyn yn ôl o ddifrif at sut y mae'r Llywodraeth yn gosod blaenoriaethau ac yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a'u tebyg i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol, ac mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ceisio mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Gadewch i mi ddyfynnu un person, yr Athro Warren, o Aberystwyth, a ddywedodd nad yw Llywodraeth Cymru,

yn ddigon cryf yn ei syniadau—

Credaf fod hynny'n wirioneddol allweddol yma—

o ran yr hyn y mae ei eisiau ar hyn o bryd er mwyn gallu rhoi arweiniad i bobl.

Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio mai dyna yw amcan y cynllun rydych wedi'i gyflwyno.

A gaf fi orffen drwy sôn yn fyr am adnoddau? Mae'r pwyllgor wedi bod yn bryderus ynglŷn â graddau cyfrifoldebau statudol cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi awgrymu, rwy'n credu, eu bod wedi'u hestyn yn llawn ar hyn o bryd. Credaf fod angen i ni fod yn fodlon fod ganddynt allu i sicrhau eu bod yn cyflawni o ran monitro ac adrodd yn effeithiol a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn awr, oherwydd nid yw hynny wedi cael ei wneud yn y gorffennol a dyna beth sydd angen i ni ei unioni. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd.

15:35

Mae'n briodol, mae'n siŵr, gan ein bod yn trafod y môr, fod llanw a thrai yn dod ddwywaith y diwrnod—nid wyf yn gwybod ai llanw neu drai sydd gyda ni heddiw, ond rydw i jest am danlinellu nad wyf i'n ailadrodd beth a ddywedais ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol. Felly, os oes gwir ddiddordeb gan bobl ym mholisi Plaid Cymru ynglŷn â'r môr, mae eisiau iddynt ddarllen y ddwy ddadl gyda'i gilydd. Rydw i jest eisiau canolbwyntio yn y drafodaeth yma ar dri pheth sydd wedi dod allan o adroddiad y  pwyllgor: un ynglŷn â chyllid neu adnoddau, un ynglŷn â data, sydd newydd gael ei grybwyll gan David Melding hefyd, ac un ynglŷn â'r dyfodol, sef lle rydym yn mynd o hyn ymlaen.

Roedd yn glir iawn o'r dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth a chadwraeth môr yn credu bod Llywodraeth Cymru'n neilltuo digon o adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Roedd hynny'n amrywio, nid o ran beirniadaeth o staff yn benodol, ond beirniadaeth o'r diffyg syniadaeth a'r diffyg adnoddau a oedd yn cael eu rhoi. Mae hynny'n cael ei weld yn glir yn y ffaith bod y pwyllgor wedi argymell, yn glir iawn, ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, sef dynodi chwe ardal glir ynglŷn â chadwraeth môr o dan y gwahanol systemau a'r lefelau roedd David Melding yn cyfeirio atynt, o ran dynodiadau cadwraeth a bioamrywiaeth, ond dynodi chwe ardal clir iawn, a gwneud yn siŵr bod arian penodol ar gyfer gweithredu ym mhob un o'r ardaloedd hynny, gan ddefnyddio, wrth gwrs, y partneriaid lleol, a chan roi Llywodraeth Cymru yng nghanol y we, fel petai, fel y bobl sy'n arwain ac yn rheoli. Ac o edrych ar y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r argymhellion yna, yn y bôn, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny. Yn y bôn, nid oes dim yn mynd i newid ar ôl i'r adroddiad yma gael ei gyhoeddi ac yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb iddo fe. Ac rwy'n credu bod hynny yn ddiffyg—diffyg sylweddol gan y Llywodraeth, ac yn ddiffyg yn y cyd-destun bod y Llywodraeth ddoe wedi cyhoeddi'r cynllun morol, ac rydym wedi ei drafod e, ac mae ymateb i'r gwahanol ardaloedd cadwraeth, yr MPAs yma, yn bwysig, rwy'n meddwl, wrth wireddu'r cynllun morol. 

Yr ail reswm rwy'n bryderus yw oherwydd bod gyda ni ddiffyg data—diffyg casglu data, diffyg data dros gyfnod, lle mae modd cymharu cyfnod wrth gyfnod, sy'n ein harwain ni at y casgliad roeddem ni yn ei glywed yn y pwyllgor sawl gwaith, sef nad yw dynodiad MPA, y marine protected area—rwy'n defnyddio hwnnw fel rhywbeth sy'n cyfro holl ddynodiadau yma—yn ei hunan yn arwain at wella yn yr hyn a oedd yn digwydd yn yr ardal yna. Ac mae gyda ni brofiad tebyg yn y SSSIs ar y tir mawr, wrth gwrs. Bob tro mae yna ddynodiad, nid yw o reidrwydd yn arwain at wella'r bioamrywiaeth, neu'r statws, neu'r ardal, neu at gael gwell cadwraeth. Ond mae angen tanlinellu hynny. Ac un o'r rhesymau rydym ni'n ffeindio hynny yw'r diffyg data sydd y tu ôl iddo fe. Nid oes modd profi bod y system yn gweithio—mae mor syml â hynny—ac felly mae'n anodd cyfiawnhau gwario arian cyhoeddus arno fe, mae'n rhaid bod yn onest. Ond mae gyda chi fan hyn gwestiwn diddorol ynglŷn â pha un sy'n dod gyntaf. Mae'n rhaid buddsoddi er mwyn casglu data er mwyn dangos bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sydd yn gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd ein moroedd ac yn arwain at amddiffyniad mwy cadarnhaol a mwy tymor hir.

A'r pwynt olaf, os caf ddod i ben gyda hyn, yw bod diffyg eglurder ynghylch sut i fwrw ymlaen â hyn yn awr ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y diffyg data, oherwydd diffyg adnoddau dros gyfnod helaeth o amser, mae dryswch llwyr, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â sut rydym yn symud ymlaen ar ardaloedd morol gwarchodedig, a sut y mae'r ardaloedd morol gwarchodedig hynny'n rhyngweithio ag ardaloedd eraill lle rydym eisiau gweld gweithgareddau cynaliadwy, gan gynnwys pysgota, gan gynnwys cymunedau arfordirol yn elwa o'r ardaloedd hynny, gan gynnwys datblygiadau morol y buom yn eu trafod ddoe fel rhan o'r cynllun morol. Ac nid oeddem yn gallu mynd at wraidd hynny mewn gwirionedd oherwydd y diffyg tryloywder y cyfeiriwyd ato, a cheir diffyg eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn arwain. Y neges gliriaf a ddaeth o'r dystiolaeth oedd bod y rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru arwain, ond nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i arwain, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael ag ef o ddifrif a dangos awdurdod o fewn yr adran a'r ffordd y symudwn ymlaen â hyn.

Nawr, sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol? Wel, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, bydd llawer o'r dynodiadau hyn yn newid. Mae llawer ohonynt o dan gyfarwyddebau cynefinoedd ac adar yr UE. Mae rhai ohonynt wedi'u dynodi'n barthau cadwraeth forol, sydd hefyd yn rhan o gyfraith yr UE, ond mae rhai'n gyfreithiau rhyngwladol—mae safleoedd Ramsar, rwy'n credu, yn gyfraith ryngwladol. Ac felly, i gloi ar hyn, os caf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym y cymysgedd hwn o gyfreithiau a bydd rhai'n berthnasol a rhai na fyddant yn berthnasol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gennym hefyd yr her hon i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ei hun o dan gonfensiwn Aarhus ynglŷn ag a ydym, mewn gwirionedd, yn ystyried pryderon rhanddeiliaid yn hyn oll. Nid wyf yn credu bod ymateb y Llywodraeth hyd yn hyn wedi mynd i'r afael â phryderon y pwyllgor mewn gwirionedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i arwain at ryngweithio pellach rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth i sicrhau gweithredu gwell yn y maes hwn.  

15:40

Hoffwn ddechrau drwy groesawu adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddull Llywodraeth Cymru o reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Rwy'n gyn-aelod—nid oeddwn yn aelod pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, ond rwyf yn ôl ar y pwyllgor hwnnw bellach. Rwyf wedi bod yn hyrwyddwr rhywogaethau ar ran y dolffin trwynbwl ers ychydig o flynyddoedd bellach, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus i gynrychioli ardal sy'n gartref i'r boblogaeth fridio led-breswyl fwyaf yng Nghymru o'r rhywogaeth eiconig hon ym Mae Ceredigion. Ac ychydig dros 12 mis yn ôl cafodd rhannau o ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion eu hailagor i dreillio am gregyn bylchog. Cafodd ei atal yn y gorffennol oherwydd proses chwalu a chipio a oedd yn digwydd ar y pryd, a dyna'r ffordd orau o'i disgrifio. Cafodd gwely'r môr ei chwalu'n deilchion a chafodd y cregyn bylchog a oedd yno eu cipio ac roedd yn annymunol iawn, ond cafodd ei atal.

Felly, roeddwn yn falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd casglu tystiolaeth a data—ac rydym yn ôl gyda hynny eto—a bod monitro a gwyliadwriaeth yn hanfodol ar gyfer reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Oherwydd ni allwn fonitro iechyd a phoblogaeth dolffiniaid trwynbwl, a'r holl anifeiliaid morol eraill, wrth gwrs, yn yr ardal benodol honno heb ymchwil o safon uchel a monitro effeithiau posibl treillio am gregyn bylchog, traffig cychod a gweithgareddau eraill. Er bod casglu data yn rhan hanfodol o ymchwil, mae gallu dehongli'r canlyniadau hefyd yn hollbwysig. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, clywais fod rhai sefydliadau—a hwy fyddai'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwn—yn cael trafferth mawr iawn gyda hynny.

Yn yr un modd, roeddwn yn bryderus ynglŷn â'r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad am grŵp awdurdod perthnasol ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion ynglŷn â thynhau rheoliadau ar gyfer gweithredwyr teithiau bywyd gwyllt, a'r angen i gryfhau ymddygiad morol drwy fesurau statudol. Fe fyddwch yn gwybod bod aflonyddwch cychod yn gallu cael, ac yn cael, effaith niweidiol ar y dolffiniaid trwynbwl, ac mae hefyd yn gysylltiedig â gostyngiad yn y cyfraddau o enedigaethau byw.

Buom yn siarad llawer iawn am lygredd ddoe, ac rwy'n wirioneddol falch fod gennym gynllun clir bellach. Mae'r llygredd sy'n gallu dod oddi ar gychod yn aml iawn yn hynod niweidiol i unrhyw beth sy'n mynd i oroesi yn y môr hwnnw. Felly, rwy'n galw o ddifrif am fonitro agos iawn yn hynny o beth. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ohebiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rhyngoch chi a'r pwyllgor ym mis Tachwedd, pan ddywedoch y byddai'r adroddiadau safle dangosol ar gyfer pob un o'n hardaloedd cadwraeth arbennig a'n hardaloedd arbennig i gael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Tybed a yw'r adroddiadau hynny ar gael bellach, ac os ydynt ar gael, beth yw'r canfyddiadau.

15:45

Rwy'n falch iawn o longyfarch y pwyllgor am yr adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth hwn, sy'n gytbwys ac yn deg iawn. Un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff arnaf ynghylch y Cynulliad hwn ers bod yma yw'r ffordd y mae'r pwyllgorau hyn yn gweithio'n effeithiol gyda safbwynt sy'n cynnig consensws trawsbleidiol yn aml iawn. Hefyd, hoffwn ganmol aelodau'r pwyllgor am eu gwaith enfawr ar lunio'r adroddiad hwn, fel y nododd David Melding. Rwyf bob amser yn gwrando ar ei areithiau, fel yn wir rwy'n gwrando ar areithiau fy nghymydog, Simon Thomas, ar y pwnc hwn gyda diddordeb mawr, ac rwy'n dysgu rhywbeth bob tro.

Ychydig sydd gennyf i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. Cytunaf â phopeth a ddywedwyd yn y ddadl hyd yma. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, i aelodau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig. Mae gennym fwy o arfordir a mwy o ddŵr na neb arall yn y Cynulliad hwn a fi yw'r trydydd o bedwar Aelod dros y rhanbarth i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac mae'r unig un arall wedi ei atal rhag gwneud hynny drwy fod yn aelod o'r Llywodraeth. Rwy'n meddwl bod hynny'n tanlinellu arwyddocâd hyn i ni. Mae rhai o'r ardaloedd arfordirol gorau yng Nghymru, a rhai o'r dyfroedd arfordirol mwyaf diddorol, yn ein rhanbarth ni. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o ardaloedd gwarchodedig morol yng Nghymru yn ein rhanbarth ni—mwy nag yn unman arall.

Mae mwyafrif yr ardaloedd morol gwarchodedig wedi eu dynodi o dan ddeddfwriaeth yr UE fel ardaloedd cadwraeth arbennig neu ardaloedd gwarchodaeth arbennig, ac mae hwn yn adnodd gwerthfawr y mae'n hanfodol bwysig ein bod nid yn unig yn ei i gydnabod ac yn ei ddynodi, fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, ond hefyd mae'n bwysig ein bod yn ei ddiogelu, yn ei amddiffyn ac yn ei wella. Ymwneud â hynny y mae hyn y pen draw. Rheoli safleoedd a monitro a gorfodi yw'r cam nesaf.

Wrth sôn am orfodi, rwy'n falch iawn o weld bod y pwyllgor yn dweud y dylai'r Llywodraeth ddatblygu strategaeth orfodi sy'n seiliedig ar risgiau, oherwydd, yn anochel, mewn materion amgylcheddol, ceir buddiannau sy'n cystadlu—heb o reidrwydd wrthdaro â'i gilydd—lle gellid rhoi pwyslais gwahanol yn ôl diddordeb rhywun yn y pwnc dan sylw. Efallai y dof at hynny yn man. Rwy'n cytuno â barn y pwyllgor na ddylid dynodi unrhyw ardaloedd gwarchodedig pellach hyd nes y bydd y gyfres bresennol o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol.

Wrth gwrs, mae'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â Brexit yn anochel o godi ei ben yn yr amgylchiadau hyn, ond ar ôl Brexit, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ei chyfeiriad polisi ei hun, fel yr amlinellir yn adroddiad y pwyllgor, a symleiddio'r drefn bresennol. Rwy'n cefnogi system ddwy haen o ardaloedd morol gwarchodedig heb leihau lefelau'r warchodaeth, fel y mae'r pwyllgor wedi argymell. Yn hytrach na derbyn deddfwriaeth yr UE yn awtomatig, credaf ei bod yn fantais i ni yn y dyfodol fod Gweinidogion y DU a Chymru yn cael cyfle i ddynodi parthau cadwraeth morol, ac rwy'n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylai hyn fod yn flaenoriaeth os yw'n mynd i gael ei gyflawni.

Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwarantu na fydd llai o gyllid ar ôl gadael yr UE, ac rwy'n gobeithio y bydd ei llythyr at Mike Hedges ar 2 Tachwedd yn cadarnhau hyn, lle mae'n dweud ei bod

wedi datgan yn glir ar sawl achlysur nad yw'n disgwyl i Gymru golli unrhyw arian o ganlyniad i Brexit.

Ac rwy'n falch iawn o glywed hynny.

Mynegwyd pryderon gan rai ynghylch atebolrwydd a dulliau monitro, ond credaf fod Llywodraeth Cymru yn gwbl alluog i wneud popeth y mae'r UE yn ei wneud, a rhagor, a gobeithiaf y bydd yn gwneud hynny. Fe gyfeiriaf yn unig at dystiolaeth Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, oherwydd pan grybwyllais yn gynharach fod angen cysoni gwahanol fuddiannau â'i gilydd i ryw raddau, mae cydbwyso rheolaeth forol â hawliau pysgota hanesyddol yn bwysig iawn wrth gwrs, fel y dywedais ddoe yn y ddadl arall. Mae angen inni ddatblygu ein moroedd a'u helpu i gyflawni eu potensial economaidd yn y dyfodol, yn enwedig gan fod rhai o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol, lle y ceir cyfle mawr bellach i'r diwydiant pysgota ehangu. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny heb beryglu mewn unrhyw fodd y manteision amgylcheddol eraill y mae'r Llywodraeth yn eu hargymell ac y mae'r pwyllgor yn awgrymu y dylem ganolbwyntio arnynt.

Felly, rwyf am orffen drwy ddweud nad yw'r UE, yn fy marn i, wedi bod yn ffrind o unrhyw fath, mewn gwirionedd, i'r rhai sy'n gweithio yn nyfroedd Cymru a Phrydain, o bysgotwyr i gadwraethwyr dros y blynyddoedd. Ac er bod record yr UE yn gwella, mae ganddo hanes dychrynllyd, mewn gwirionedd, dros y rhan fwyaf o'r cyfnod y buom yn aelod o ran y modd y mae wedi dihysbyddu ein moroedd ac ysbeilio rhywogaethau pysgota. Rwy'n falch bod camgymeriadau'r PAC yn cael sylw bellach, a phan fydd gennym reolaeth gadarn ar ein polisi pysgota ein hunain yma yng Nghaerdydd, rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hyd yn oed yn well nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

15:50

Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno'n bendant iawn â hwy y dylem fod yn falch o'n moroedd yng Nghymru ac amgylchedd arfordirol Cymru, a bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn bwysig ar gyfer moroedd iach a fydd yn cynnal y fantais sydd gennym, ac yn cefnogi twristiaeth, pysgodfeydd a defnyddiau eraill.

Cytunaf hefyd â'r pwyllgor, wrth gwrs, na allwch byth gymryd yr ansawdd hwn yn ganiataol, a bod cyflwr presennol ein moroedd a'n hamgylcheddau morol ac arfordirol yn galw am sylw o ddifrif gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Mae angen i ni nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol, fel yr amlinellodd y pwyllgor.

Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio ar un o argymhellion y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd—argymhelliad 9—oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn asesu effaith Brexit yn ofalus gan fod llawer o'r warchodaeth sydd gennym, a'r fframwaith o warchodaeth sydd gennym, yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ac y bydd yn nodi gweledigaeth, yn wir, ar gyfer y ffordd ymlaen yn gynnar eleni. Gwn ein bod i gyd yn edrych ymlaen at hynny'n eiddgar.

O ran yr Undeb Ewropeaidd, Ddirprwy Lywydd, mae cyfarwyddeb y strategaeth forol yn hollbwysig. Cafodd ei throsi i gyfraith y DU gan reoliadau Llywodraeth y DU yn ôl yn 2010, rwy'n credu, ac o hynny daeth y strategaethau morol, gan gynnwys yr un sydd gennym yng Nghymru. Mae'n ceisio cynnal a gwarchod a chyflawni statws amgylcheddol da erbyn 2020, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cefnogi hynny'n frwd ac yn cytuno â hynny. Felly, gwn fod llawer o sefydliadau yng Nghymru a grwpiau amgylcheddol yn gwerthfawrogi'n fawr yr hyn y mae ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd wedi'i sicrhau o ran hynny, ac yn gyffredinol rwy'n credu bod y rheoliadau hyn wedi bod yn fframwaith hanfodol ac yn wir, yn rym ysgogol i'r cynnydd a welsom.

Felly, hoffwn ofyn heddiw, Ddirprwy Lywydd: a fydd rheoliadau'r strategaeth forol yn ganolog i'r weledigaeth newydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gosod cyn bo hir ar gyfer ein moroedd a'n hamgylchedd arfordirol o amgylch Cymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd? Hefyd, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, o ran symud y rheoliadau hyn yn eu blaen fel fframwaith wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd? Oherwydd rwy'n credu'n wirioneddol, ynghyd â llawer o'r sefydliadau sy'n ymwneud yn sylfaenol â'r materion hyn, gyda'r holl angerdd a ddisgrifiodd Mike Hedges yn gynharach o ran yr hyn sy'n bwysig iddynt mewn perthynas â'n moroedd a'n hamgylchedd arfordirol, a'r hyn y maent am ei weld yn cael ei warchod ac yn wir, ei ddatblygu mewn modd cynaliadwy cywir ar gyfer y dyfodol, fod llawer o'r angerdd hwnnw yn ymwneud â'r rheoliadau: yr hyn y maent wedi ei greu a'r hyn y gallant ei gynnig os parhawn â'r dull hwnnw o weithredu yn y dyfodol. Felly, rwy'n gwybod y byddent hwy, a minnau hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn awyddus iawn i gael sicrwydd ac ymateb y Gweinidog ar y materion penodol hynny.

15:55

Rwy'n falch o gymryd rhan mewn dadl mor bwysig yma y prynhawn yma. Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r ymchwiliad a'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol i Sir Benfro, gan fod mwyafrif helaeth y môr o amgylch y sir wedi'i leoli mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn wir, ar daith ddiweddar i Ynys Dewi gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, gan wisgo fy het hyrwyddwr rhywogaethau, cefais gyfle i drafod yr ymchwiliad penodol hwn ac i siarad am ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig yn well yng Nghymru.

O'r drafodaeth honno ac o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a grwpiau lleol eraill—ac rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei chynllun gweithredu morol drafft—mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod y cyfarwyddyd strategol hwnnw ar reolaeth forol yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn awr sy'n gweithio gyda'r diwydiant morol a rhanddeiliaid, ac un y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad. Daeth adolygiadau blaenorol o waith rheoli morol i'r casgliad yn gyson fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth uwch i reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac er bod bwriadau Llywodraeth Cymru yn rhai da, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae angen inni weld arweinyddiaeth ar y mater hwn.

Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw bod cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet yn dynn a bod adnoddau weithiau'n annigonol i ddiwallu'r dibenion a fwriadwyd, ac yn sicr, nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir iawn fod angen mwy o adnoddau o ran staffio a chyllid er mwyn gallu rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn gynaliadwy ledled Cymru, ac mae rhanddeiliaid wedi dweud yn glir iawn fod diffyg adnoddau yn rhwystro'r gallu i gyflawni gwaith sy'n ymwneud ag ardaloedd morol gwarchodedig. Felly, mae'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, fod y gyllideb ar gyfer gweithgaredd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael ei fonitro'n drylwyr. Er fy mod yn falch o weld ymateb Llywodraeth Cymru y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadw'r gyllideb hon dan arolwg, wrth ymateb i'r ddadl heddiw efallai y gall ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau'n fwy rheolaidd ar y lefel o adnoddau a chyfeiriad strategol ei pholisïau morol.

Wrth gwrs, nid staffio ac adnoddau yw'r unig broblemau sy'n wynebu ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae argymhelliad 3 yn adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn gwbl glir fod rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig ac ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae ardaloedd morol gwarchodedig, pan gânt eu rheoli'n briodol, yn cynnig manteision eang ac mae'r moroedd sy'n ffinio â fy etholaeth i yn Sir Benfro wedi'u dynodi ar gyfer diogelu rhywogaethau pwysig, gan gynnwys poblogaeth fwyaf y byd o adar drycin Manaw sy'n nythu a niferoedd pwysig yn rhyngwladol o'r pâl, ac rwy'n falch o fod yn un o hyrwyddwyr y rhywogaeth honno. Yn wir, bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Sir Benfro i weld ein bywyd gwyllt hardd, a thra'u bod yno wrth gwrs, maent yn gwario arian yn yr ardal leol ac yn helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, gan ei gwneud yn glir fod ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 yn gyfle gwych i hyrwyddo gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, rwy'n bryderus na ddangoswyd dull o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig a manteision y mesurau diogelu hyn y tu hwnt i 2018 a Blwyddyn y Môr, ac ni amlinellwyd unrhyw ymrwymiadau pellach yn y llythyr dilynol ar 2 Tachwedd, yn sgil llythyr gan y pwyllgor yn gofyn am eglurhad pellach. Felly, o gofio bod ein bywyd gwyllt a'n twristiaeth yng Nghymru yn dibynnu cymaint ar iechyd ein moroedd, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo manteision ardaloedd morol gwarchodedig a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'u pwysigrwydd y tu hwnt i ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018.

Ddirprwy Lywydd, fel John Griffiths, hoffwn grybwyll argymhelliad 9 yn fyr, a'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw fanylion ynghylch unrhyw asesiadau sy'n cael eu gwneud o effaith gadael yr UE ar ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fel y cyfeiriodd Simon Thomas, mae'r rhan fwyaf o'r môr a warchodir yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddebau natur yr UE o fewn safleoedd morol Ewropeaidd, gan gynnwys ardal gadwraeth forol arbennig Sir Benfro, sy'n ymestyn dros 130,000 hectar. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn gynharach, rwy'n credu, cynlluniwyd ardaloedd morol gwarchodedig yn benodol i gyd-fynd â safleoedd morol Ewropeaidd fel rhan o system warchodaeth ddwy haen, sef cyfreithiol ac ecolegol. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gadw'r system warchodaeth ddwy haen hon fel y gall y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn nyfroedd Cymru weithredu fel y bwriadwyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni ellir gorbwysleisio manteision ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ond rhaid iddynt gael eu rheoli'n gywir gyda'r adnoddau priodol. Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo o ddifrif i ddarparu mwy o arweinyddiaeth a hybu gwerth ardaloedd morol gwarchodedig Cymru lawer yn fwy nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, gan y bydd hyn, yn ddiau, yn cryfhau ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwarchod amgylchedd ein moroedd yn y dyfodol.

16:00

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r ddadl a gawsom heddiw yn fawr iawn. Fel y dywedodd sawl Aelod, mae'n dilyn yn dwt iawn y ddadl a gawsom ddoe ar y cynllun morol cenedlaethol drafft. Ond mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw ein moroedd i ni.

Mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a fy llythyr pellach yn dangos ein bod wedi ei dderbyn mewn ysbryd cadarnhaol iawn, ac yn dangos hefyd ein hymrwymiad i barhau i newid ffocws polisi morol a physgodfeydd a chryfhau lle bo'n briodol. Mae'r materion a godwyd yma heddiw a sgyrsiau a gaf gyda phobl ledled Cymru yn dangos pa mor bwysig yw cael amgylchedd morol iach a gwydn i bawb ohonom. Credaf fod Mike Hedges wedi gwneud pwynt pwysig iawn am ewyllys da pobl, nid yn unig yn y Siambr, ond yn ein sefydliadau anllywodraethol hefyd, ac yn sicr, maent yn rhai o'r bobl fwyaf angerddol y deuthum ar eu traws erioed—maent yn credu o ddifrif yn yr hyn a wnânt mewn perthynas â'n moroedd. Maent hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi ein bod yn datblygu polisïau sy'n integredig a thrawsbynciol.

Ni ellir ystyried rheoli ardaloedd morol gwarchodedig fel mater ar ei ben ei hun. Rhaid iddo fod yn rhan o'r dull integredig o reoli'r amgylchedd morol ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol, bioamrywiol a gwydn ledled Cymru sy'n cefnogi cymunedau arfordirol bywiog. Ddoe, cawsom ddadl ar gynllun morol cenedlaethol drafft cyntaf Cymru, ac mae hwnnw bellach yn destun ymgynghoriad ffurfiol. Am y tro cyntaf, mae'r cynllun yn nodi dull cydgysylltiedig o gynllunio a rheoli ein moroedd dros yr 20 mlynedd nesaf, ac mae'n gweithio tuag at ein huchelgais ar gyfer amgylchedd morol gwydn sy'n cefnogi twf glas a physgodfeydd cynaliadwy, cynhyrchiol a llewyrchus. Yn allweddol i sicrhau ecosystemau morol gwydn, bydd angen i Gymru gwblhau ei chyfraniad tuag at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig a pharhau i adeiladu ar ein rhaglen waith bresennol i reoli ein hardaloedd morol gwarchodedig fel eu bod yn parhau mewn cyflwr ffafriol, neu'n cyflawni cyflwr ffafriol lle bo angen.

16:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.