Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/11/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Yr eitem gyntaf yw i enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o ganlyniad i'r ffaith bod Cadair y pwyllgor hynny wedi dod yn wag. Ac rwyf felly yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F er mwyn ethol Cadeirydd newydd.

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y dylai’r Gadair barhau i fod wedi'i dyrannu i'r grŵp Llafur. Dim ond aelod o grŵp y blaid honno a all gael ei enwebu fel Cadeirydd, a dim ond aelod o’r grŵp hwnnw a gaiff wneud yr enwebiad. Gan fod y grŵp Llafur yn fwy nag 20 Aelod, mae'n rhaid i'r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp.

Rwy'n gwahodd enwebiadau, felly, ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Diolch. A oes ragor o enwebiadau? Nac oes. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Nac oes. Rwyf felly yn datgan bod Mick Antoniw wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a phob dymuniad da yn y gwaith o'ch blaen.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—Gohiriwyd o 8 Tachwedd

Ac felly, rydym ni'n symud i'r eitem gyntaf, sef y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.

Athrawon Cyflenwi

1. A wnaiffjhjhjhennydd y Cabinet ddatganiad am delerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi? OAQ51292

Diolch yn fawr iawn, Leanne. Nid yw'r cyfrifoldeb dros dâl ac amodau athrawon wedi'i drosglwyddo i Gymru. Ond gwn, o drafodaethau blaenorol dros y blynyddoedd diwethaf, fod y ddau ohonom yn cytuno y byddwn yn croesawu hynny’n fawr. Ar 24 Hydref, nodais sut rydym yn gweithio i gynorthwyo ein hathrawon dros dro. Mae hyn yn cynnwys darparu £2.7 miliwn o gyllid i gefnogi trefniadau amgen ar gyfer cyflenwi clystyrau ar sail ysgolion, a chwmpasu cofrestr ganolog gyfatebol.

Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi derbyn llawer o sylwadau gan athrawon cyflenwi, ac mae'n amlwg fod y system sy'n bodoli ar hyn o bryd yn afreolaidd, yn anhrefnus ac yn ecsbloetiol. Mae asiantaethau yn gostwng cyfraddau talu i’r fath raddau fel bod un athro cyflenwi bellach yn ennill llai nag y gallai ei ennill fel athro newydd gymhwyso ddau ddegawd yn ôl. Nawr, ni all hynny fod yn iawn. Ni all fod yn iawn ychwaith fod elw’n cael ei wneud ar draul tâl ac amodau gwael i athrawon cyflenwi. Nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn—nid oes yn rhaid i chi aros i dâl ac amodau gael eu datganoli. Felly, a wnewch chi ymrwymo i unioni camweddau’r gorffennol drwy gyflwyno system ganolog ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, ar gyfer Cymru gyfan, ar gyfer pob athro cyflenwi, fel y rhai sy’n bodoli eisoes yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, fel y gallwn, o’r diwedd, sicrhau chwarae teg i'r sector pwysig hwn sy’n cael ei wthio i’r cyrion yn aml yn ein system addysg?

Diolch yn fawr iawn, Leanne. Gadewch imi ddweud yn hollol glir: nid ydym yn cymeradwyo arferion ysgolion neu asiantaethau sy’n negodi cyfraddau tâl isel i athrawon cyflenwi. Ein sefyllfa ar hyn o bryd yw bod ysgolion yn gyfrifol am staffio ysgolion unigol, ac oni bai ein bod yn ymbellhau oddi wrth fodel o reoli ysgolion yn uniongyrchol, dyna yw ein sefyllfa ar hyn o bryd. Ond nid yw hynny’n golygu y gallwn orffwys ar ein bri a gwneud dim hyd nes y bydd tâl ac amodau’n cael eu datganoli. 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac mae hwnnw wedi cael ei ddosbarthu i bob ysgol, ac i awdurdodau lleol, i'w hatgoffa o'u hymrwymiadau, ac o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, i brosesau cyflenwi moesegol. Rydym wedi cyflwyno'r peilot newydd hwn er mwyn gweld a yw hynny'n rhoi ateb i ni wrth symud ymlaen. Ond mae hefyd yn bwysig cydnabod, pan edrychodd y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd ar y mater hwn, nad oeddent yn argymell newid i system gofrestru ganolog—ni allent wneud argymhelliad cyffredinol. Ond rwy’n cwmpasu gwaith ar hyn o bryd i weld a fuasai hynny'n gymwys i Gymru, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweld yr enghraifft yn Ngogledd Iwerddon.

Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais y cwestiwn heb fod ymhell yn ôl, ac mewn gwirionedd, air am air, mae Leanne Wood wedi gofyn y cwestiwn yn yr un ffordd, ond rwy'n dal i fod am ychwanegu fy nghwestiwn. Mae cyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwael. Am hynny rydym yn sôn yma—telerau ac amodau athrawon cyflenwi. Mae etholwr yng Nghasnewydd wedi dwyn pryderon i fy sylw yn ddiweddar iawn ynglŷn â'r ffaith nad ydynt ond yn cael £95 punt yn unig yn hytrach na £140 y dydd, gan fod gweddill yr arian yn mynd i'r asiantaeth sy'n cyflenwi'r athro. Ni chredaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud, Gweinidog. Mae llawer o gydweithwyr fy etholwr yn ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl ac maent yn awyddus i wybod pam nad oes gan Gymru—mae Leanne newydd grybwyll yr un peth—system gofrestru ganolog fel sydd ganddynt yng ngwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig, fel y gallwn gadw ein hathrawon hynod dalentog ac ymroddedig yn yr ysgolion. Diolch.

13:35

O gofio eich bod newydd ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Leanne Wood, ailadroddaf yr ateb rwyf newydd ei roi i Leanne Wood. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn gwneud gwaith cwmpasu i weld a fuasai cofrestr enghreifftiol cenedlaethol yn briodol i'n gwlad ni.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau diddorol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf am eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect peilot y cyfeirioch chi ato, ac rwy'n synnu ei bod yn ymddangos nad yw'r Aelod a etholwyd yn uniongyrchol dros y Rhondda, yn gwybod bod Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan yn y peilot hwnnw. Gwn fod Rhondda Cynon Taf o'r farn y gallai hyn wella safonau, gwella datblygiad athrawon, a lleihau costau. Pa waith monitro y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’r system hon i weld pa agweddau ar arferion gorau y gellir eu cyflwyno ledled Cymru?

Diolch, Vikki. Mae’r ymateb rydym wedi’i gael gan ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n rhan o'r clwstwr £2.7 miliwn wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso'r fenter hon yn fanwl, gan gynnwys comisiynu prosiect ymchwil ffurfiol, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, fel y gallwn ganfod yr effaith y mae'r cynllun peilot hwn wedi'i chael. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn edrych ar yr effaith ar blant yn enwedig, a safonau yn ein hysgolion, yn ogystal â thelerau cyflogaeth athrawon unigol. Yr hyn a fydd hefyd yn bwysig iawn o'r peilot hwnnw fydd ei fod yn rhoi tystiolaeth inni ynglŷn ag a fydd hwn yn opsiwn ymarferol i’w gyflwyno ar draws y system, ac nid yn unig ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yn yr ardaloedd peilot.

Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir wrthyf nad New Directions yw'r opsiwn rhataf ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, ond hwy yw'r asiantaeth a ffafrir. Gwnaed y cyhuddiadau canlynol ynglŷn â rhoddion y dywedir bod New Directions wedi eu defnyddio. Nid oes gennyf unrhyw farn ynglŷn ag uniondeb na gwirionedd y cyhuddiadau hyn, ond maent wedi cael eu gwneud. Honnwyd wrthyf fod New Directions yn darparu tocynnau am ddim i ddigwyddiadau chwaraeon, diwrnodau golff meddwol am ddim, a dillad pêl-droed i ysgolion, yn ôl y sôn er mwyn sicrhau rhagor o fusnes. A wnewch chi ymchwilio i'r honiadau hyn ac adrodd yn ôl i'r Siambr?

Os gall yr Aelod ddarparu tystiolaeth o'r cyhuddiadau hynny, buaswn yn fwy na pharod i’w hymchwilio. Mewn gwirionedd, rwyf i fod i gyfarfod â New Directions cyn bo hir i drafod pryderon Aelodau a'm pryderon innau ynglŷn ag athrawon cyflenwi.

Ysgolion Gwledig

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cau ysgolion gwledig? OAQ51262

Diolch yn fawr, Mark. Daeth ymgynghoriad 14 wythnos ar gynigion i gryfhau’r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig i ben ar 30 Medi. Rydym yn y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion cyn diwedd y flwyddyn hon.

Diolch. Fel y gwyddoch, mae pryderon yn cael eu lleisio'n rheolaidd fod meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn llywio penderfyniadau'r cyngor ynglŷn â pha ysgolion i'w cau. Pan fynychais y sesiwn alw i mewn ar gau ysgolion gwledig yn Sir y Fflint y llynedd, gwnaed cyflwyniadau ar sail tystiolaeth yn unol â chod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth y Cynulliad. Er hynny, cafodd yr ysgolion eu cau ar ôl araith gwbl wleidyddol, a oedd yn anwybyddu'r cod yn llwyr, gan arweinydd y cyngor. Yn ddiweddar, ysgrifennais atoch ynglŷn â chynigion gan Gyngor Ynys Môn i gau Ysgol y Talwrn o dan eu harolwg o ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni. Roeddech yn cloi'r llythyr hwnnw drwy esbonio y bydd y broses o gryfhau, fel y dywedoch, y cod trefniadaeth ysgolion statudol wedi'r ymgynghoriad, yn dilyn, ond na fuasai unrhyw newidiadau i fersiwn gyfredol y cod yn ôl-weithredol. Pa gamau y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd os a phan fydd gan gymunedau dystiolaeth i'w dangos ei bod yn ymddangos bod y cod trefniadaeth ysgolion a'r data sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyngor yn mynd yn groes i ofynion Llywodraeth Cymru?

13:40

Diolch, Mark. Rwy'n glir iawn o'r farn y gallai darparu addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion bach a gwledig arwain at fanteision gwirioneddol—yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol—i ddisgyblion yn y cymunedau hynny. Gwn, a gŵyr rhieni ledled y Gymru wledig, y gall ysgolion bach, gwledig chwarae rhan bwysig wrth godi safonau a darparu cyfleoedd i bawb.

Rwy'n argyhoeddedig fod cyfle i'w gael i gryfhau'r cod. Mae'n addewid a wneuthum fel rhan o'r wrthblaid ac mae'n addewid rwy'n ei gyflawni ac yn ei ddilyn gyda'r ymgynghoriad, ond mae'n gywir dweud na fydd yn ôl-weithredol. Os oes gan yr Aelod bryderon ynglŷn â'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu polisi trefniadaeth ysgolion a'u polisi lleoedd ysgolion, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar hynny. Mae'r prosesau hyn yn gymhleth a gallant gymryd llawer o amser, ac weithiau maent yn cymryd llawer o amser am fod swyddogion yn treulio llawer o amser yn sicrhau bod awdurdodau lleol wedi cydymffurfio â'r cod sy'n bodoli ac y byddant, gobeithio, yn cydymffurfio â chod cryfach yn dilyn yr ymgynghoriad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'i gweinyddiaethau blaenorol, hanes o danariannu ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gwahaniaethau enfawr rhwng cyllidebau ysgolion y wlad hon a Lloegr, ac mae hynny'n creu anfantais ddifrifol i ddisgyblion yma yng Nghymru. Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau Cymru, mae'r bwlch ariannu fesul disgybl, o gymharu ag ysgolion yn Lloegr, bellach yn £678 y disgybl. Dyna £678 yn llai i ddisgyblion Cymru nag i ddysgwyr yn Lloegr. Rydym yn hanner gwaelod y tablau cynghrair rhyngwladol. Mae Cymru ar waelod tablau cynghrair y DU o ran ei system addysg, a phan oeddech yn rhan o'r wrthblaid, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ymrwymoch chi i gau'r bwlch hwn. A chithau bellach yn y Llywodraeth, beth a wnewch i ddatrys y broblem hon?

Diolch yn fawr, Darren. Yr hyn rwy'n ei wneud yn y Llywodraeth yw ymdopi â'r cyfyngiadau ariannol hynod o anodd rydym yn eu hwynebu, yn anad dim, o ganlyniad i agenda cyni eich cydweithwyr yn Llundain. Os ydym yn awyddus i wneud rhywbeth ynglŷn â chyllido addysg yn gyffredinol, buaswn yn annog y Canghellor, yn ei gyllideb yr wythnos nesaf, i ddilyn cyngor undeb Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a darparu adnoddau ychwanegol newydd i'r gyllideb addysg, a fuasai'n rhoi cyfle i ni wedyn, drwy gyllid canlyniadol Barnett, i adolygu ein cyllid addysg.

Bydd llawer o bobl, Ysgrifennydd y Cabinet, yn synnu at eich tröedigaeth i fod yn ddiffynnydd ar ran methiannau blaenorol Llywodraeth Cymru. Rydych yn beio Llywodraeth y DU am bwysau ar wariant, ond fe wyddoch yn iawn mai'r sefyllfa yw bod Cymru, am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, yn cael £1.20. Ni ellir esgusodi'r ffaith fod disgyblion Cymru dan anfantais oherwydd y setliad ariannu y mae eich Llywodraeth—y Llywodraeth glymblaid yma yma yng Nghymru—yn ei roi ar waith. Felly, o ystyried nad ydych yn ymrwymo i gau'r bwlch hwn, sut ar wyneb daear ydych chi'n disgwyl i ysgolion ledled Cymru gyflawni mewn perthynas â'ch cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, os na fyddwch yn eu hariannu'n iawn?

Credwch fi, Darren, wrth bennu'r gyllideb, rwyf wedi cynnal archwiliad llinell-wrth-linell o'r adnoddau sydd ar gael i mi ac wedi sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r genhadaeth genedlaethol. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o ymrwymiad y Llywodraeth hon, ar draws y Llywodraeth, i ddarparu adnoddau i'r rheng flaen, drwy'r grant cynnal refeniw i awdurdodau lleol. Rwy'n cael sgyrsiau grymus iawn gyda chynghorau ledled Cymru, a byddant yn parhau ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon, er mwyn sicrhau, ar ôl rhoi'r adnoddau hynny yn y grant cynnal refeniw, fod yr arian hwnnw bellach yn cyrraedd ystafelloedd dosbarth ein hysgolion yng Nghymru.

Dywedaf eto, Ysgrifennydd y Cabinet: am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. Nid oes esgus dros ariannu ysgolion drwy roi llai o gyllid iddynt fesul disgybl, fesul y pen, nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n warthus.

Un ffordd y gallech geisio dechrau mynd i'r afael â'r mater penodol hwn yw targedu adnoddau ar grwpiau difreintiedig, ac mae hyn yn un peth, wrth gwrs, y ceisiodd Llywodraeth glymblaid y DU, pan oedd eich plaid mewn grym yno, ei wneud gyda'r grant amddifadedd disgyblion, ac wrth gwrs rydym wedi croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi gwneud yr un peth.

Un o'r grwpiau difreintiedig sydd gennym yng Nghymru yw plant i rieni sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Yn aml, amherir ar addysg plant y lluoedd arfog am fod gwaith eu rhieni yn golygu bod yn rhaid iddynt newid ysgol ac yn aml mae angen cymorth bugeiliol ychwanegol arnynt os yw eu rhieni ar wasanaeth. Gwyddom fod y dystiolaeth yn awgrymu y gall y ffactorau hyn effeithio ar gyrhaeddiad a chanlyniadau addysgol disgyblion y lluoedd arfog os na cheir cefnogaeth ychwanegol.

Yn Lloegr, maent wedi cydnabod yr anfantais, ac mae Adran Addysg y DU, nid y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn darparu premiwm disgyblion y lluoedd arfog i ysgolion sy'n cynnwys plant y lluoedd arfog. Mae'n Wythnos y Cofio, Ysgrifennydd y Cabinet; a wnewch chi fanteisio ar y cyfle, yn ystod yr wythnos bwysig hon, i ymrwymo i gyflwyno premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru?

13:45

Rwy'n falch iawn, Llywydd, fod Darren Millar yn cefnogi polisi grant datblygu disgyblion Llywodraeth Cymru, a fydd, eleni, yn werth oddeutu £91 miliwn i addysg ein disgyblion mwyaf difreintiedig. Er y pwysau difrifol sy'n wynebu'r Llywodraeth hon o ran cyllidebau, rydym wedi gallu cynnal ein hymrwymiad i'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim neu sy'n derbyn gofal. Mewn gwirionedd, er y cyfyngiadau, rydym yn ehangu nifer y plant sy'n gymwys ar gyfer y grant datblygu disgyblion.

Mae Darren yn gwneud pwynt da iawn o ran gofal bugeiliol i blant teuluoedd yn y lluoedd arfog, a dyna pam rwyf mor siomedig fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi penderfynu diddymu'r cyllid ar gyfer cefnogi addysg y plant hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i ofyn iddo ailystyried. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Darren, fod hwn yn batrwm rydym yn ei weld yn amlach gan Lywodraeth San Steffan, lle maent yn ceisio dadlwytho'r costau a ddylai fod yn gyfrifoldebau iddynt hwy ar y Llywodraeth ddatganoledig hon.

Os oes tystiolaeth i awgrymu bod lefelau cyrhaeddiad plant ysgol yn cael eu heffeithio gan ystod eang o faterion a all fod yn effeithio arnynt, byddaf yn parhau i adolygu hynny wrth i mi geisio datblygu a chryfhau'r grant datblygu disgyblion. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn newid ei meddwl.

Mae'r cwestiynau i Eluned Morgan. Yn gyntaf, rwy'n croesawu eich ymrwymiad llwyr chi ddoe yn ystod y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg i barhau efo'r nod o gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogol o'r targed yna. Mae'r strategaeth 'Cymraeg 2050' yn rhoi addysg yn hollol ganolog yn eich gweledigaeth chi er mwyn cyrraedd y miliwn, ac fe wnaethoch chi sôn am hyn ddoe hefyd.

Ond, o edrych ar y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2010, roedd targed bryd hynny o sicrhau fod 30 y cant o blant saith mlwydd oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020. Yn y strategaeth 'Cymraeg 2050', mae'r targed wedi gostwng i 24 y cant erbyn 2021 ac nid oes dim bwriad o gyrraedd yr hen darged o 30 y cant tan 2031.

Drwy addysg y bydd y rhan fwyaf o'r siaradwyr newydd yn cael eu creu, ond dim ond cynnydd o 110,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg y bydd strategaeth y Llywodraeth yn ei gyflawni dros y 33 mlynedd nesaf, o'i gymharu â'r 400,000 a mwy o siaradwyr ychwanegol sydd eu hangen er mwyn cyrraedd miliwn erbyn canol y ganrif. 

O ble, felly, mae'r 290,000 o siaradwyr Cymraeg eraill yn mynd i ddod?

A gaf i ddiolch yn fawr i Siân Gwenllian? Mae'n eithaf iawn fy mod i wedi ymrwymo i gadw at y targed yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae addysg yn hollbwysig. Dyna'r sylfaen a'r unig ffordd rydym ni'n mynd i gyrraedd hynny. Rwyf ar hyn o bryd yn edrych ar strategaeth newydd ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i'n hysgolion. Wrth gwrs, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod Aled ar hyn o bryd yn mynd ati i edrych ar y syniadau ddaeth o lywodraeth leol. Mae e wedi edrych ar y strategaethau sydd wedi dod, ac mae e wedi ffeindio, mewn ambell i enghraifft o ran llywodraeth leol, nad ydyn nhw wedi mynd yn ddigon pell. Felly, rŷm ni'n edrych ar y ffordd rŷm ni'n mynd i fynd ati i gyrraedd y targed yna, a bydd hynny'n dod i mewn i'r strategaeth addysg Gymraeg newydd yma. Byddwn ni'n edrych ar beth yw'r targedau yna ac yn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y cerrig milltir yna sy'n bwysig. P'un ai ydym ni'n eu cyrraedd nhw'n gyflym neu'n araf, i mi y peth pwysicaf yw ein bod ni'n gosod y sylfeini yn y lle cywir ar y dechrau—dyna sy'n hollbwysig.

13:50

Felly, efallai y bydd yn rhaid ichi adolygu'r targedau sydd yn y strategaeth 'Cymraeg 2050'.

Yn y ddogfen 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-21', mae yna awgrym na fydd disgyblion yn sefyll y cymhwyster Cymraeg cyfun newydd, a fydd yn disodli Cymraeg ail iaith, tan 2026 ar y cynharaf. Mae hynny'n fater o bryder mawr, oherwydd mae'n gwrthddweud yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr yma. Ar 28 Medi 2016, gofynnais i Weinidog y Gymraeg ar y pryd, Alun Davies:

'A allech chi gadarnhau...y byddwch chi yn disodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg ac mai hwnnw fydd pob disgybl yn ei ddefnyddio erbyn 2021?'

Fe atebodd y Gweinidog:

'Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi’i awgrymu yn 2021.'

Ar dudalen 20 y ddogfen 'Cenhadaeth ein Cenedl', mae'n dweud y bydd addysgu'r cymwysterau TGAU newydd am y tro cyntaf yn dechrau yn 2024-25, sy'n awgrymu y bydd yn rhaid aros tan 2026-27 nes bod un cymhwyster Cymraeg yn cael ei sefyll gan bob disgybl. Mae hyn yn gwbl groes i'r hyn ddywedodd y Gweinidog wrthyf fis Medi 2016, sef y byddai un cymhwyster Cymraeg newydd yn disodli Cymraeg ail iaith erbyn 2021.

A ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hollol annerbyniol fod cenhedlaeth arall o blant yn cael ei hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl oherwydd arafwch y Llywodraeth yma?

Rydw i yn meddwl bod yna lot fawr allwn ni ei wneud i wella'r ffordd rydym ni'n dysgu Cymraeg fel ail iaith i blant yng Nghymru. Beth y buaswn i'n awyddus i'w wneud nawr yw cymryd ychydig o amser i edrych ar y dystiolaeth o beth sy'n gweithio. Rwy'n Weinidog newydd ac mae hawl gen i i edrych ar sut mae'r strategaeth newydd yn mynd i edrych. Nid wyf yn mynd i ymrwymo i rywbeth sy'n mynd i'm cadw i at gynllun sydd yn mynd tuag at 2021 tan fy mod i wedi edrych arno. Nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n mynd i wneud hynny cyn bo hir, ond nid wyf yn mynd i'w wneud yr wythnos yma, fel oedd yn y cynllun gwreiddiol.

Yn yr achos yma, wrth gwrs, efo'r cymhwyster newydd, mae yna dystiolaeth lu yn cefnogi'r angen i wneud hynny, ac mae yna benderfyniad wedi'i wneud i'w dderbyn. Mater o symud ymlaen yw hi, a'r arafwch yma sydd yn fy mhryderu i.

Mae'r cyfnod ymgynghori ar Bapur Gwyn Bil y Gymraeg wedi gorffen erbyn hyn, ac eto rwy'n croesawu'ch ymrwymiad chi ddoe i gadw meddwl agored ynglŷn â'r newidiadau posib i'r Bil yma, yn cynnwys bwriad y Llywodraeth i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Pwrpas unrhyw Ddeddf newydd y Gymraeg ddylai fod i symleiddio'r broses safonau, ond hefyd i ehangu hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg, sy'n golygu ymestyn y safonau i sectorau eraill. Mae yna sawl esiampl pam fod angen ymestyn y safonau i'r sector preifat, ac mae'r rheini wedi cael eu hamlygu dros y misoedd diwethaf: Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg, a chwmni trên Great Western Railway yn gwrthod yn glir â defnyddio arwyddion a gwneud cyhoeddiadau dwyieithog. Mae aelodau eich Llywodraeth chi wedi beirniadu'r diffyg parch yma at y Gymraeg, gan gynnwys y Prif Weinidog ddoe.

Mi wnaethoch chi sôn ddoe am yr angen i gymryd yr agwedd carrot and stick, ond mae agwedd cwmnïau fel Great Western Railway yn dangos yn glir pam nad ydy'r dull yna yn gweithio. Mae o wedi methu â sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain. Mae enghreifftiau Great Western ac eraill—

13:55

Mae o'n dangos diffyg parch at y Gymraeg. A ydych chi'n cytuno bod hanes a phrofiadau diweddar yn dangos nad yw perswadio ar ben ei hun ddim yn arf effeithiol wrth sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg? 

Yn sicr, ambell waith mae eisiau ychydig o stick yn ogystal â'r carrot; rwy'n llwyr gytuno. Yn y cyfamser, tra ein bod ni'n aros am y safonau newydd, er enghraifft, ar iechyd—ac mae'n bwysig; bydda i'n edrych ar rheini yn yr wythnosau nesaf yma—beth sy'n bwysig rwy'n meddwl yw ein bod ni'n cadw'r pwysau ar y cwmnïau preifat yma. Rwyf eisoes wedi gofyn i'r bobl sy'n gweithio yn yr adran i sicrhau fy mod i yn cael gwybod am unrhyw achos lle maen nhw'n credu nad yw cwmnïau efallai wedi mynd mor bell ag y dylen nhw fod yn mynd, fel fy mod i yn gallu ysgrifennu yn uniongyrchol. Rwyf wedi gofyn os gallaf i ysgrifennu at Great Western Railway, er enghraifft, i sicrhau ein bod ni'n cadw'r pwysau arnyn nhw. Nid oes rheswm yn y byd pam na allan nhw ddangos ychydig mwy o gydnabyddiaeth o'r Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg. Dylen nhw dalu mwy o barch at ein gwlad ni, a byddwn ni yn cadw'r pwysau yna ar y cwmnïau yma. 

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mawrth eleni, fe gawsoch sylw gan y wasg am siarad am gydraddoldeb a bwlio mewn ysgolion. Roedd y cyhoeddiadau'n canolbwyntio'n bennaf ar fwlio homoffobig, biffobig a thrawsffobig yn yr ysgolion. A all y Gweinidog gadarnhau nad yw unrhyw fath o fwlio yn dderbyniol, ac er bod yr erthygl yn iawn i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â bwlio o'r math hwn, a all gadarnhau yr ymdrinnir â bwlio nad yw wedi'i ysgogi gan faterion o'r fath heb unrhyw oddefgarwch hefyd a'r un mor gadarn?

Buaswn yn fwy na pharod i roi sicrwydd llwyr i'r Aelod. Mae gennyf ymagwedd dim goddefgarwch tuag at bob math o fwlio ym maes addysg yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y sylw a gawsoch yn y cyfryngau ar yr adeg honno, roeddech yn iawn i siarad am y niwed y gall bwlio ei wneud i ddysgu a chynnydd plant yn yr ysgol. A fuasech yn cytuno â mi y gallai bwlio ymhlith athrawon, ar wahân i'r gofid y byddai'n ei achosi i fywyd personol a phroffesiynol yr athro, effeithio'n negyddol hefyd ar ein plant ysgol, gan y byddai hynny yn anochel, bron, yn arwain at athrawon anhapus a'u perfformiad yn yr ystafell ddosbarth yn debygol o gael ei effeithio'n negyddol yn sgil hynny, ac y byddai'r morâl yn yr ystafell ddosbarth yn isel, gan greu sefyllfa lle nad oes unrhyw un yn elwa?

Diolch yn fawr i'r Aelod. Yn ein cenhadaeth genedlaethol, rydym yn sefydlu blaenoriaeth newydd, sef mater llesiant, gan gydnabod na all plant wneud y gorau o'u cyfleoedd addysgol os nad eir i'r afael â materion yn ymwneud â'u llesiant. Rwyf hefyd yn awyddus i Gymru fod yn lle da i fod yn addysgwyr proffesiynol. Mae materion sy'n ymwneud â chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gweithleoedd parchus a llwyth gwaith yn bwysig iawn i'n proffesiwn addysgu, a buaswn yn disgwyl bod ein holl athrawon yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth weithio mewn sefydliadau addysgol yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a wnewch chi ymgymryd â'r gwaith o archwilio pa mor gyffredin yw bwlio ymhlith staff ysgolion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn barthau di-fwlio nid yn unig o ran y plant, ond o ran pob math o staff sy'n ymwneud â gwaith yr ysgol, ac ystyried llwybr disgyblu penodol ar gyfer ymchwilio i honiadau o fwlio, gan roi'r statws arbennig a roddwyd i hynny, yn hollol gywir, pan fo'n digwydd rhwng plant ysgol? Ac a wnaiff hi ofyn i ysgolion roi gwybod iddi, er mwyn iddi allu rhoi gwybod inni, ynglŷn ag unrhyw ffigur sy'n ymwneud â honiadau a digwyddiadau o fwlio ymysg pob math o staff yn ein hysgolion? Diolch.

Credaf ei bod yn bwysig cofio nad ydym, fel Llywodraeth Cymru, yn cyflogi athrawon yn uniongyrchol; mater i ysgolion a chyrff llywodraethu unigol yw hynny. Buaswn yn disgwyl i unrhyw athro â phryderon ynglŷn â sut y maent yn cael eu trin yn eu gweithle allu dwyn hynny i sylw'r pennaeth, ond os nad yw hynny'n briodol, ei ddwyn i sylw eu corff llywodraethu ac yn eu hundeb, gan fod y rhan fwyaf o'r proffesiwn yn aelodau o'r undeb. Fel y dywedais, rwy'n awyddus i Gymru fod yn lle da i fod yn athro. Mae llesiant athrawon yn bwysig i mi. Dyna pam rydym wedi sefydlu arolwg y gweithlu, fel y gallaf glywed yn uniongyrchol gan athrawon ynglŷn â'r materion sy'n effeithio arnynt. Ond os oes gan yr Aelod dystiolaeth o fwlio mewn ysgolion nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif, buaswn yn gofyn i'r Aelod ysgrifennu ataf a gallaf roi sicrwydd iddi y bydd fy swyddogion yn cyflawni'r ymchwiliadau angenrheidiol.

14:00

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ51263], 4 [OAQ51259] a 5 [OAQ51285] yn ôl. Cwestiwn 6, felly—Neil McEvoy.

Hyfforddiant Statws Lefel 5

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ariannu hyfforddiant statws lefel 5 ar gyfer cynorthwywyr addysgu? OAQ51276

Diolch yn fawr iawn, Mr McEvoy. Mae nifer o gyfleoedd i gynorthwywyr addysgu ymgymryd â chyrsiau galwedigaethol a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru hyd at lefel 3. Mae cyrsiau lefel 5 ar gael, sy'n raddau sylfaen ac yn cael eu darparu gan ddarparwyr addysg uwch. Gall unigolion gael mynediad at ystod o ffynonellau ariannu i ymgymryd â'r cyrsiau hyn.

Iawn, diolch. Nid yw Lefel 5 yn gymhwyster ond mae'n statws. Nid yw'n arwain at unrhyw gynnydd yn y cyflog. Gall cynorthwywyr addysgu Lefel 1 ei gyflawni—daw hyn oll gan gynorthwyydd addysgu sydd wedi mynegi pryderon wrthyf. Chwe wythnos yn unig y mae'r hyfforddiant yn ei gymryd—tri diwrnod yn unig allan o'r ysgol. Un darn o waith yn unig sydd angen ei baratoi ar gyfer plentyn, grŵp neu ddosbarth. Y cymhwyster sydd arnoch ei angen er mwyn ei wneud yw un TGAU mewn mathemateg neu Saesneg. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall o ddefnyddio addysg fel peiriant arian i dalu am gymwysterau diystyr nad ydynt hyd yn oed yn gymwysterau yn yr achos hwn, sy'n golygu y gall staff nad ydynt yn addysgu ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau heb gyflog ychwanegol. Y cwestiwn wrth wraidd hyn oll, ar ran yr aelodau o staff a gysylltodd â mi, yw hyn: sut y mae'r cogio hwn o unrhyw ddefnydd o gwbl o ran codi safonau?

Rwyf wedi ymrwymo yn 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl—Cynllun Gweithredu 2017-21' i sicrhau bod ein hathrawon yn cael eu cynorthwyo gan ystod o weithwyr cymorth dysgu a all ddarparu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen i ddiwallu anghenion pob plentyn. Gadewch imi fod yn hollol glir ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar gael. Mae cymorth ar gael i gynorthwywyr addysgu gael hyd at £1,500 o gyllid drwy grant dysgu Llywodraeth Cymru i gyflawni cymwysterau galwedigaethol. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, pan fyddwn yn gweithredu adolygiad Diamond, bydd mecanwaith tecach ar waith ar gyfer cefnogi mynediad at raddau sylfaen ac mae £920,000 o gyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i gonsortia rhanbarthol gyflwyno nifer o raglenni sy'n cefnogi dysgu proffesiynol cynorthwywyr addysgu, gan gynnwys cyflwyno cynllun cynorthwywyr addysgu lefel uwch, a ddarperir iddynt yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig cyn bo hir i'r rhai sydd angen bodloni'r gofynion sylfaenol mewn perthynas â chymwysterau llythrennedd a rhifedd er mwyn ymgymryd â'r cynllun cynorthwywyr addysgu lefel uwch. Yn hollbwysig, y flwyddyn nesaf, yn 2018, byddwn yn rhoi safonau proffesiynol ar waith ar gyfer cynorthwyo addysgu mewn ysgolion i gyfrannu at ein hagenda codi safonau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi bod yn y swydd bellach ers oddeutu 18 mis. Beth yw eich asesiad o'r capasiti yn y system addysg i athrawon a chynorthwywyr addysgu allu ymgymryd â'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac yn benodol er mwyn codi safonau? Mae cyflwyno'ch dogfen bolisi a dyrannu adnoddau i hynny yn un peth, mater arall ar wahân yw capasiti'r system i allu creu'r amser a'r lle ar gyfer ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw. Hoffwn glywed beth yw eich barn bellach, ar ôl 18 mis yn y swydd, ynglŷn â gallu'r system addysg yma yng Nghymru i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddi hynny, ar gyfer cynorthwywyr addysgu ond ar gyfer athrawon proffesiynol hefyd.

Diolch, Andrew, am bwynt teg iawn, yn fy marn i. Mae gennym adnoddau wedi eu dyrannu ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus ein staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu. Rydym yn datblygu dull cenedlaethol, felly waeth ble rydych yn cael eich cyflogi yng Nghymru, bydd gennych fynediad at raglenni hyfforddiant cadarn sy'n cael eu cymedroli. Mae'n iawn nodi'r her o ran creu'r lle i athrawon a staff cymorth wneud hynny. Rydym yn edrych ar nifer o ffyrdd o gefnogi: mae diwrnodau hyfforddiant mewn swydd traddodiadol ar gael i ysgolion, ond credaf fod y dysgu proffesiynol gorau yn digwydd yn aml pan fo plant yn yr ystafell ddosbarth; mae nifer o ysgolion, er enghraifft, yn edrych ar wythnos anghymesur, sy'n darparu peth amser i athrawon allu gweithio gyda'i gilydd ar ddiwedd wythnos waith yr ysgol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion dysgu proffesiynol parhaus; ac rydym yn parhau i geisio gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod yr adnoddau yno, fod y cyrsiau yno a'n bod yn creu'r amser i ganiatáu i weithwyr proffesiynol wneud hynny. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod disgwyliad i arweinwyr ysgolion ryddhau eu staff ar gyfer hyfforddiant, ac mae hynny'n rhan bwysig o'n safonau proffesiynol newydd, sy'n nodi'r disgwyliad y bydd athrawon yn ddysgwyr parhaus drwy gydol eu gyrfa broffesiynol ac y gallant fynnu hynny gan arweinwyr eu hysgolion.

14:05
Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt? OAQ51270

Diolch yn fawr iawn, Caroline. Sefydlwyd rhwydwaith Seren i gefnogi pobl ifanc yn eu huchelgais i wneud cais i brifysgolion blaenllaw ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac mae hynny'n cynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Awgryma'r adborth eleni fod llawer mwy o geisiadau yn cael eu gwneud bellach i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, sy'n cefnogi ein rhaglen Seren yn weithredol ac yn frwd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl y swyddog mynediad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, nid oes gan fyfyrwyr Cymru ddigon o hyder i ymgeisio am le yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac er bod rhaglen Seren yn helpu rhai myfyrwyr, nid ydym yn gwneud digon o hyd i herio ein disgyblion gorau a mwyaf disglair. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr Cymru nid yn unig yn ennill graddau ardderchog ond hefyd yn meddu ar yr hyder i gyflawni eu potensial llawn?

Diolch, Caroline. Buaswn yn falch iawn o rannu gyda'r Siambr, os nad yw'r Aelodau'n gwybod amdano, y data diweddaraf gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau ar geisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, yn ogystal â chyrsiau milfeddygol a chyrsiau meddygol, lle mae'n rhaid gwneud y ceisiadau erbyn 15 Hydref. Rwy'n falch iawn o ddweud y bu cynnydd yn nifer y ceisiadau hynny. Mae'r ceisiadau o Gymru am gyrsiau gyda dyddiad cau ar 15 Hydref wedi codi 6 y cant, er gwaethaf gostyngiad sylweddol yn y cohort 18 mlwydd oed. Mae'r ceisiadau am gyrsiau meddygol wedi codi 2 y cant. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n cytuno bod y ffigurau hyn yn galonogol ac yn dangos bod rhwydwaith Seren yn gwreiddio o ddifrif ac yn ychwanegu gwerth.

Roeddwn yn falch iawn o allu siarad mewn digwyddiad rhwydwaith Seren yn Llanelli ddydd Gwener. Credaf y byddai pob un ohonom yn awyddus i annog cymaint o fyfyrwyr o Gymru â phosibl i ymgeisio am y ddau sefydliad addysg blaenllaw hwn, ond hefyd i rai eraill yn yr un categori hefyd—i Goleg y Drindod, Dulyn, i'r Sorbonne, i Heidelberg, i Tübingen, ac ymhellach i Princeton, Stanford ac i brifysgolion eraill sydd ar gael yn America—[Chwerthin.]

Buasai'n rhaid i mi ddatgan buddiant. Ond edrychwch, gwnaeth adolygiad Diamond ymrwymiad y buasem yn ehangu mynediad ledled Ewrop yn ogystal a sicrhau peilot y tu hwnt i Ewrop ei hun hefyd—ar gyfer sefydliadau yng Ngogledd America a sefydliadau blaenllaw eraill. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â ble mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd gyda'r cynnig hwnnw?

Llywydd, mae'r Aelod yn rhy wylaidd i sôn wrthym am yr amser a dreuliodd yn Harvard. Cyrhaeddais innau cyn belled ag eistedd ar risiau llyfrgell Harvard ar fy ngwyliau dros yr haf, ond bu'n rhaid i mi fodloni ar flwyddyn ym Mhrifysgol Missouri yn Columbia, nad oedd mor llewyrchus, efallai, ag amser yr Aelod yn Harvard.

Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn: nid diben Seren yw cynorthwyo myfyrwyr i fynd i Rydychen a Chaergrawnt yn unig; mae'n cynorthwyo myfyrwyr i fynd i brifysgolion Russell ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ein prifysgol Grŵp Russell yma yng Nghymru, Prifysgol Caerdydd, sydd yn un o'r 100 prifysgol uchaf. Mae gennym sefydliadau gwych i'w mynychu yma yng Nghymru. Ond rydych yn llygad eich lle: mae swyddogion wrthi'n gwneud gwaith cwmpasu ar y cyfleoedd i ganiatáu inni gael pecyn Diamond cwbl symudol, a fyddai'n golygu bod y myfyrwyr sy'n dymuno mynd i brifysgolion, boed yn yr Unol Daleithiau neu i'r Sorbonne neu'r canolfannau dysg gwych eraill—ni ddylai unrhyw fyfyriwr o Gymru sydd â'r gallu a'r awydd i barhau â'i addysg gael ei hatal rhag gwneud hynny oherwydd materion yn ymwneud â phwysau ariannol, a byddaf yn edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod cyn bo hir.

Recriwtio Athrawon

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am recriwtio athrawon yng Nghymru? OAQ51266

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rydym yn awyddus i addysgu, fel y dywedais wrth Caroline yn gynharach, fod yn broffesiwn dewis cyntaf fel y gallwn ddenu'r goreuon i ysgolion Cymru. Yn ogystal â'n cymelliadau, rydym yn gweithio gyda'r sector i fynd ati'n weithredol i hyrwyddo addysgu, er mwyn recriwtio'r unigolion gorau a mwyaf disglair i'r proffesiwn.

Roeddwn yn arbennig o falch o glywed am y cymelliadau ariannol newydd i raddedigion newydd sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd hynny'n denu graddedigion galluog at y proffesiwn, yn enwedig yn y meysydd pwnc blaenoriaethol fel mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg, a'r gwyddorau cyfrifiadurol newydd sy'n dod i'r amlwg, gan mai dyna'r unig ffordd, hyd y gwelaf, y gallwn godi safonau addysgol ledled Cymru gyfan. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw fanylion, ar hyn o bryd, ynglŷn â phryd y bydd y cynllun hwnnw'n cael ei lansio? A faint o athrawon y rhagwelwch y bydd yn eu darparu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

14:10

Diolch yn fawr, Joyce. Rydym yn gweithio gyda'r sector ar hyn o bryd i hyrwyddo'r proffesiwn, fel y dywedais, yn ogystal â'n cynllun cymhelliant ar gyfer y pynciau blaenoriaethol, sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys yn awr. Bydd fy nghyhoeddiad diweddar ynglŷn â diwygiadau i'r cynllun, fel cynnwys cyfrifiadureg yn brif flaenoriaeth, ar gael i fyfyrwyr cymwys o fis Medi 2018. Rydym hefyd yn gweithio i lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol. Rydym wedi cael cryn lwyddiant fel Llywodraeth gyda'r cynllun 'Hyfforddi/Gweithio/Byw' a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar gyfer meddygon a nyrsys, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y brand Cymreig hwnnw ac agweddau eraill ar wasanaeth cyhoeddus i recriwtio'r gorau i'r proffesiwn addysgu.

Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ51257] yn ôl. Cwestiwn 10—nid yw Rhianon Passmore yma i ofyn y cwestiwn. Cwestiwn 11—Simon Thomas.

Cyllid ar gyfer Prifysgolion

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer prifysgolion? OAQ51290

Diolch yn fawr, Simon. Bydd y diwygiadau rydym yn eu rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn creu setliad cyllid addysg uwch cynaliadwy a blaengar i Gymru sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac sy'n galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n ddomestig ac yn rhyngwladol hefyd, fel rydym newydd ei glywed.

Diolch am yr ateb. Mae gen i ddiddordeb yn benodol yn yr hyn y gallwn ni ei wneud i ehangu y tu hwnt, hyd yn oed, i beth mae Diamond yn ei awgrymu ar gyfer cyllido prifysgolion. Os edrychwch chi, er enghraifft, ar Brifysgol Aberystwyth, rwy'n croesawu'r ffaith bod buddsoddiad wedi bod ar gyfer clinig milfeddygol yn ddiweddar yn y brifysgol honno, ac mae yna fuddsoddiad yn symud tuag at sefydlu cyrsiau milfeddygol yn y brifysgol. Ond wrth edrych y tu hwnt i'r sefyllfa rydym ni ynddi nawr, gyda Brexit a'r newid yn y proffesiwn milfeddygol, rydw i'n credu, erbyn hyn, fod yna le i ddadlau bod angen ysgol filfeddygol lawn mewn prifysgol yng Nghymru, ac Aberystwyth, ac IBERS—Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig—ydy'r lle delfrydol i sefydlu ysgol filfeddygol lawn. A ydych chi'n trafod hyn, bellach, â phrifysgolion yng Nghymru ac â'r cyngor cyllido ynglŷn ag edrych tua'r gorwel a gweld y datblygiad yma yn dod i ffrwyth hefyd?

Diolch, Simon. A gaf fi gofnodi pa mor wych, yn fy marn i, y mae'r is-ganghellor newydd yn Aberystwyth, Elizabeth Treasure, yn ei wneud? Rydym wedi gweld canlyniadau trawiadol iawn gan y brifysgol o ran boddhad myfyrwyr ac mae'r enghraifft honno o weithio mewn partneriaeth â Llundain er mwyn sefydlu addysg filfeddygol rannol yn Aberystwyth i'w chroesawu'n fawr yn wir.

Nid wyf wedi cael trafodaethau gyda'r is-ganghellor eto ynglŷn â sefydlu cwrs milfeddygol llawn yn Aberystwyth, ond rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn gydag is-gangellorion, ac wrth gwrs, gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Buasai'n bwnc drud. Mae pecyn Diamond yn rhoi lle i ni symud o ran edrych ar sut y buasem yn cefnogi pynciau drud, nid gwyddoniaeth filfeddygol yn unig, ond pynciau eraill yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr na fydd Aberystwyth, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru na'r is-gangellorion eraill yn araf i ymateb os ydynt o'r farn fod cyfleoedd ar gael i ddatblygu'r cynnig ym mhrifysgolion Cymru.

Papur Gwyn y Gymraeg

12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch Papur Gwyn y Gymraeg? OAQ51289

Wel, nid wyf yn Ysgrifennydd Cabinet, ond fe wnaf i ymateb i'r cwestiwn, a hynny yw bod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, wrth gwrs, wedi dod i ben tua 15 diwrnod yn ôl. Mae amser gyda ni nawr i fynd drwy'r ymatebion ac fe fyddwn ni'n dod â rhyw fath o ymateb yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yr arferiad, rydw i'n credu, yw cyfeirio cwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet. 

Roedd y Gweinidog wedi cyfeirio ddoe at yr angen am dystiolaeth nawr ar gyfer y modelau gorau ar gyfer rheoleiddio iaith. A dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog blaenorol ond wedi medru cyfeirio at adroddiad o Dŷ'r Arglwyddi—un cyffredinol ynglŷn â rheoleiddio yn mynd nôl i 2004. Felly, mae yna ddiffyg sail dystiolaethol sicr wedi bod. A ydy'r Gweinidog yn gallu esbonio'r math o dystiolaeth, yn edrych ar arferion gorau o ran modelau rheoleiddio iaith ar draws y byd, y byddwch chi nawr yn ei chomisiynu?

14:15

Wel, rydw i'n meddwl beth sydd angen inni edrych arno yw ble mae'r llwyddiant wedi bod ynghylch twf iaith. Mae yna enghreifftiau yn Ewrop: mae Gwlad y Basg, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydw i'n siŵr bod yna enghreifftiau eraill. Byddaf i'n mynd ati nawr i edrych ar y rheini. Ond beth sy'n bwysig, rydw i'n meddwl, yw ein bod ni jest yn cadw'n golwg ni ar—. Mae'n gwestiwn o flaenoriaethau. Dyna beth oedd Nye Bevan yn dweud—mae'n rhaid ichi jest roi blaenoriaeth i bethau. Yn fwy pwysig i fi nag unrhyw beth arall yw ein bod ni'n cadw llygad ar yr 1 miliwn yma. Felly, i fi, mae'n bwysicach ein bod ni'n canolbwyntio ar hyn o bryd ar addysg a beth ydym ni'n mynd i'w roi mewn lle ar addysg. Wrth gwrs bod yn rhaid inni edrych ar safonau. Mae yna safonau yn dod allan, ond o ran y blaenoriaethau, rydw i jest eisiau cadw llygad ar y rheini.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Gohiriwyd o 8 Tachwedd

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. A'r cwestiwn cyntaf, Caroline Jones.

Derbyniadau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau? OAQ51272

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau. Mae ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau, hyd at 2018, yn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'n nodi'r camau gweithredu manwl rydym ni a'n partneriaid cyflenwi yn eu cymryd i atal ac ymateb i gamddefnyddio sylweddau ymhlith unigolion ac mewn cymunedau ledled Cymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y canabinoidau synthetig, megis Spice, er gwaethaf newid yn y gyfraith. Mae ysbytai ledled Cymru bellach yn trin mwy na thri o bobl y dydd mewn perthynas â'r sylweddau hyn. Mae pobl o dan ddylanwad Spice wedi dod yn olygfa rhy gyffredin o lawer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac mae'r effeithiau wedi arwain at ei enwi'n 'gyffur sombi'. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau yn eich Llywodraeth ac yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty o ganlyniad i gymryd sylweddau o'r fath?

Rwy'n cydnabod y pryder sydd wrth wraidd y cwestiwn, ond gyda phob parch, ni chredaf mai mater syml o'r Llywodraeth yn cael trafodaethau i geisio lleihau'r broblem yw hyn, gan nad oes ateb syml i'w gael. Yn 2015-16, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016, a gyflwynodd waharddiad cyffredinol ar ystod o sylweddau seicoweithredol, ac sy'n ceisio rhoi ystyriaeth i'r ffaith bod ystod o sylweddau newydd yn cael eu cyflwyno i'r farchnad ac i'r wlad hon yn eithaf rheolaidd. Mae llawer o'r rhain yn ganabinoidau, fel Spice.

Rydym yn ceisio deall beth y gallwn ei wneud i leihau niwed. Nawr, nid yw hyn yn golygu ceisio gwahardd yr holl sylweddau hyn yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â cheisio deall sut rydym yn addysgu pobl am y peryglon, ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn deall y risgiau sy'n cael eu cymryd. Dyna pam fod gwasanaeth Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru, sy'n helpu i brofi sylweddau o bob rhan o'r DU, yn cael ei ddefnyddio a'i barchu'n fawr. Mae'n bwysig iawn i unigolion, gan eu helpu i ddeall y risgiau y maent yn eu cymryd, ond hefyd o ran triniaeth, i ddeall beth a all fod yn systemau pobl. Ceir trafodaeth gyson a diddiwedd ynglŷn â'r hyn y mae angen i ni ei wneud i geisio rheoli'r galw a ddaw gyda'r amrywiaeth o heriau cymdeithasol a wynebwn, ond hefyd yr amrywiaeth o sylweddau newydd sy'n ymddangos yn ein cymunedau, a'r ymateb rhwng y maes iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r heddlu i geisio rheoli hyn yn y ffordd fwyaf synhwyrol ac effeithiol y gallwn. Ond nid yw hyn yn hawdd, ac nid wyf am esgus ei fod yn hawdd.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn ofalus ar eich ateb i'r prif gwestiwn, ac fe sonioch chi am addysg a phwysigrwydd addysgu pobl ynglŷn â pheryglon cyffuriau, ac yn benodol, ynglŷn â chyfrifoldeb personol. Beth yw eich asesiad o'r cyngor sydd ar gael i helpu pobl ifanc, yn arbennig, drwy'r system addysg, i allu deall y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd cyffuriau anghyfreithlon a'r gefnogaeth a allai fod ar gael iddynt pe baent mewn amgylchedd gwael, i'w helpu gydag unrhyw ddibyniaeth y gallent ei datblygu drwy ddefnyddio'r mathau hyn o gyffuriau?

Unwaith eto, rwy'n cydnabod y cwestiwn. Cyfeiriaf at addysg yn yr ystyr ehangaf, gan na chredaf mai problem ar gyfer y system ysgolion yn unig yw hon. Mae'n fater o bartneriaethau rhwng y trydydd sector, rhwng yr heddlu, rhyngom ni a phobl yn y cymunedau hefyd, a sut rydym yn rhoi'r cyngor gorau posibl i bobl ar effaith y gwahanol sylweddau sydd ar gael, ond hefyd sut rydych yn delio gyda heriau fel pwysau gan gyfoedion, sy'n digwydd mewn ystod eang o wahanol amgylchiadau. Gwnaethom ddewis anodd yn y gyllideb mewn perthynas â rhai o'r dewisiadau y bu'n rhaid inni eu gwneud ar faterion cyllidebol, ond rwy'n gwybod pan oeddem yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ein bod wedi meddwl ynglŷn â sut y gallai'r cwricwlwm newydd helpu i arfogi pobl i wneud dewisiadau gwahanol. Ond nid mater i'r cwricwlwm yn unig yw hwn, na mater sy'n ymwneud ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion; mae'n her gymdeithasol ehangach o lawer. Dyna pam, er enghraifft, ein bod yn ariannu Dan 24/7. Llinell gyngor ddwyieithog 24 awr saith diwrnod yr wythnos yw honno, fel y mae'n dweud, i geisio cael gwared ar rai o'r pethau a allai ddychryn pobl rhag gofyn i bobl mewn awdurdod neu gyfrifoldeb am gymorth neu gyngor. Felly, mae hyn yn rhan o'r her onest y mae pob rhan o'r DU a thu hwnt yn ei hwynebu: ystod ac amrywiaeth yr ymyriadau, y mecanweithiau cymorth sydd gennym, a deall beth sy'n llwyddiannus o ran ein galluogi i fynd i'r afael â'r her rydym yn ei hwynebu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ond fel y dywedais ar y diwedd wrth Caroline Jones, nid yw hyn yn hawdd, ni ddylem esgus ei fod yn hawdd, ond yn bendant, mae yna reswm gwirioneddol bwerus dros fod eisiau ceisio deall beth yw'r ymateb mwyaf effeithiol, ac yna pwyso, mesur, deall a gwerthuso a yw hynny wedi cael yr effaith roeddem am iddo'i chael.

14:20
Gofal Cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51275

Diolch am y cwestiwn. Fel y gŵyr Neil, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol strategol, ac mae'r ymrwymiad hwnnw wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol: darparwyd cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd i awdurdodau lleol ei ddefnyddio mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac rydym hefyd, wrth gwrs, wedi ymrwymo i ddyblu'r cyfalaf y gall pobl ei gadw wrth fynd i mewn i ofal preswyl i £50,000. Drwy'r gronfa gofal integredig, rydym yn darparu £60 miliwn ar gyfer darparu gofal integredig ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwasanaethau ailalluogi, cymorth ar gyfer rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac yn effeithiol, a thimau gofal integredig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn ei groesawu i'w rôl newydd. Fe fydd yn gwybod o'i friff, os nad oedd yn ymwybodol eisoes, fod achos cartref gofal Bodlondeb yn Aberystwyth wedi cael sylw sawl gwaith yn y Siambr hon—yn enwedig gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas—a'r tu allan, gan neb llai na'r Llywydd ei hun. Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud y penderfyniad terfynol i gau'r cartref nyrsio hwn, ond ymddengys nad oes cynlluniau digonol yng Ngheredigion ar gyfer gofal amgen i breswylwyr y cartref hwn, ac nid oes unrhyw gynllun ar gyfer darparu gofal cymdeithasol yn y rhan honno o'r sir ar gyfer y dyfodol. Felly, er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud faint o arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru at y dibenion hyn, beth y gellir ei wneud mewn amgylchiadau lle nad yw cynghorau sir, sef y darparwyr ar lawr gwlad, yn gwneud darpariaethau digonol ar gyfer y dyfodol? A pha bwerau sydd ganddo i lenwi'r gwacter a adewir ar ôl mewn sefyllfa o'r fath?

Mae Neil yn nodi pwynt pwysig yma, ac rydym yn credu'n gryf fod yn rhaid i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw gyngor arall, gynllunio eu darpariaeth ofal yn ddigonol yn seiliedig ar anghenion lleol ac ymdrin â'r materion sydd wedi eu codi. Nawr, rwy'n derbyn, a dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol, fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan hyn, yn enwedig y preswylwyr, a bod yn rhaid i ddiogelwch a lles y preswylwyr fod yn faterion o bwys i bob un ohonom. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, dros yr haf, fel y gŵyr Neil, cynhaliwyd ymgynghoriad gan Gyngor Sir Ceredigion ar gau cartref gofal Bodlondeb, ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 25 Medi. Cyfarfu cabinet y cyngor ar 7 Tachwedd i wneud y penderfyniad hwnnw y cyfeiriodd ato ynglŷn â chau'r cartref, a dywedwyd wrthym fod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud o ganlyniad i ymgynghori helaeth â'r sector a chyda phreswylwyr. Ond rwyf hefyd yn deall bod y cyngor wedi comisiynu eiriolwyr annibynnol ac eiriolwyr galluedd meddyliol annibynnol i sicrhau bod llais a barn y preswylwyr yn cael eu clywed yn ystod y broses. Ond wrth gwrs, rydych yn nodi'r pwynt pwysig ynglŷn â 'Beth nawr?' o ran y gofal parhaus hwnnw a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n briodol. Buasem yn disgwyl i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw awdurdod lleol arall sydd â chyfrifoldeb am hyn, ofalu am yr anghenion hynny yn y dyfodol.

A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys yn dilyn adroddiad damniol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wrth gwrs, ar y ffyrdd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu ym Mhowys. Mae darparu gwasanaethau ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn heriol iawn. A gaf fi ofyn pa ystyriaethau a roddwyd i ddarparu cyllid ychwanegol i'r awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r broses o newid ac ailgynllunio'r gwasanaeth, sy'n angenrheidiol, ac yn wir, wrth gwrs, y costau parhaus sydd ynghlwm wrth weithredu gwasanaeth allweddol, yn enwedig ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn y Gymru wledig?

14:25

Diolch am eich cwestiwn. Roeddech yn iawn i godi mater teneurwydd poblogaeth a'r heriau o ddarparu unrhyw wasanaethau cyhoeddus, heb sôn am ofal cymdeithasol i blant a gofal cymdeithasol i oedolion, mewn rhanbarth o'r fath, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleihau'r angen i sicrhau bod pob unigolyn, er gwaethaf natur wledig yr etholaeth honno, yn cael gofal priodol.

Soniais yn fy ateb blaenorol ynglŷn â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu ar gyfer gofal cymdeithasol mewn sawl ffordd wahanol, ac mae hynny'n cynnwys cyfraniadau a wnaed i Bowys hefyd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwybod fy mod, cyn bo hir, yn disgwyl gweld canlyniadau 20 diwrnod cyntaf y gwaith ar y cynllun gwella o fewn y ddarpariaeth ofal ym Mhowys. Rwy'n deall ei fod wedi mynd i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a'u bod yn ei ddadansoddi ac yn ei archwilio ar hyn o bryd i weld a oes digon o gynnydd wedi'i wneud, gan ei bod yn bwysig, wrth symud ymlaen, y gallwn roi'r sicrwydd fod anghenion pawb ym Mhowys sy'n cael gofal cymdeithasol yn cael eu diwallu'n briodol. Rwy'n gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad cyn bo hir, wedi imi weld yr adroddiad gwella hwnnw.

A gaf innau longyfarch y Gweinidog ar ei rôl newydd? Rwyf mewn penbleth nawr achos rwyf eisiau gofyn am Bodlondeb a Phowys, ond ni chaf i get away gyda hynny. So, mi wnaf i ei ddweud fel hyn: fy mod innau yn cefnogi cadw cartref Bodlondeb ar agor, am y tro, tra'n bod ni'n chwilio am asesiad ehangach o sefyllfa gwelyau gofal a nyrsio yn y canolbarth, ac yn gofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw, gan ei fod wedi addo gwneud adroddiad ar sail yr adroddiad gan CSSIW ar y gwasanaethau plant ym Mhowys, a fydd modd i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, weld yr adroddiad hwnnw. Achos, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, mae'n gynllun gwella, ac rwy'n credu bod angen craffu ehangach gan y cyhoedd ar y cynllun gwella yma. Un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw rhannu hynny gyda'r Aelodau Cynulliad.

Simon, rwyf wedi ymrwymo i rannu popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad. Yn gyntaf oll, mae angen iddo fynd at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt ei ystyried. Bydd angen i minnau ei weld yn gyntaf hefyd, ond er tryloywder, rwy'n awyddus i sicrhau bod popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad yn cael ei rannu gan ei bod hefyd yn bwysig, wrth wneud hynny, ein bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch yr hyn a wnaed, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cynnydd sydd angen ei wneud o hyd, mewn gwirionedd.

O ran cartref gofal Bodlondeb, fel y dywedais yn fy ymateb blaenorol, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn pan oedd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ond ni ddylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gamu'n syth i ganol y ddadl a phennu'r hyn a ddylai fod yn asesiad o anghenion lleol gan y darparwyr yno, ar lawr gwlad, gan yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr y byddant wedi clywed ei bryderon unwaith eto, a chredaf fod pob un ohonom yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion a arferai fod yn breswylwyr ym Modlondeb, ond hefyd ar anghenion unigolion a fydd angen darpariaeth ofal yn yr ardal honno yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Gweinidog, pan oeddwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, cysylltodd—dywedodd—etholwr wrthyf fod eu cymydog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ychydig ddyddiau'n unig ar ôl cael strôc, ond unwaith eto, nid oedd cynllun gofal ganddynt ar waith. Nid oedd gan yr unigolyn dan sylw unrhyw deulu gerllaw a bu'n rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Yn anffodus, nid yw sefyllfa'r etholwr yn unigryw o bell ffordd, oherwydd bum wythnos yn ôl, soniais am rywun a oedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio driphlyg ar ei galon yn yr un sefyllfa ac yntau’n 83 oed. Rwyf wedi clywed am lawer iawn o achosion lle mae cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb gynllun gofal priodol a gofal parhaus ar waith, ac yn gorfod dibynnu ar garedigrwydd eu cymdogion am fod y wladwriaeth wedi gwneud tro gwael â hwy. Gweinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynllun gofal ar waith ar gyfer pob claf agored i niwed sy'n cael ei ryddhau o'r ysbyty?

Wel, diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eitemau unigol yr achos hwnnw, os hoffech eu dwyn i fy sylw, naill ai ysgrifennwch ataf, neu os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i'w trafod, a gweld beth y gellir ei wneud yn yr achos unigol hwnnw?

Un o'r ffactorau mwyaf sy'n ein hwynebu yw'r mater o oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs. Nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n ffactor perthnasol yn yr achos penodol hwn, ond yn sicr, rydym yn ymwybodol, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn arbennig, fod y cynnydd sylweddol diweddar wedi deillio o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n meddwl tybed a ychwanegodd hynny at yr effeithiau. Ond byddaf yn edrych ar yr achos unigol y cyfeiriwch ato, a chawn weld beth y gellir ei wneud.

14:30

Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pawb sydd angen gofal yn cael gofal. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid yn unig ein bod yn gweld cleifion yn cael eu hanfon adref heb neb i helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal, ond mae gennym hefyd nifer fawr o gleifion yn yr ysbyty am gyfnodau llawer hwy nag sydd angen iddynt fod, oherwydd nad oes ganddynt becyn gofal parhaus. Mae ystadegau diweddaraf oedi wrth drosglwyddo gofal yn dangos bod 462 o bobl yn yr ysbyty am gyfnodau hwy nag sydd angen iddynt fod. Mae mwyafrif y cleifion hyn yn treulio tua mis yn hwy yn yr ysbyty oherwydd nad oes gofal cymunedol ar gael, neu oherwydd bod diffyg lleoedd mewn cartrefi gofal. Gweinidog, mae'n ffaith hysbys po fwyaf o amser y bydd y cleifion hyn yn ei dreulio yn yr ysbyty, y mwyaf o amser y byddant yn ei gymryd i wella.

Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal?

Wel, unwaith eto, diolch i chi am y cwestiwn pellach. Ac mae'n broblem go iawn, ac yn fater rydym yn buddsoddi arbenigedd a chymhwysedd yn ogystal ag arian ynddo, ac yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar lawr gwlad. Rydym wedi gweld cynnydd yn ystod mis Awst, ac mae'n gynnydd nad oeddem wedi'i weld yn y 18 mis blaenorol. A dwy o'r ardaloedd hynny oedd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a hefyd Hywel Dda. Felly, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol yn uniongyrchol yn eu hymdrechion i sicrhau capasiti gwasanaeth ychwanegol, ac i wneud, rhaid imi ddweud, defnydd mwy effeithiol o'r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael. A rhan o hyn yw gweithio'n gydgysylltiedig yn yr ardaloedd hynny.

Mae disgwyl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol barhau i gydweithio'n agos, gan wneud y defnydd gorau posibl o'r cyllid gofal canolraddol a ryddhawyd gennym i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gynnal, a'n bod yn mynd i'r afael â materion capasiti cyn, fel y gŵyr pawb ohonom, y pwysau sydd i ddod dros dymor y gaeaf. Mae rhywfaint o obaith yma, fodd bynnag, oherwydd mae gennym rai ardaloedd sy'n gwneud yn dda yn y maes hwn o oedi wrth drosglwyddo gofal. Felly, yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Powys, er enghraifft, mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i fod yn is na lefelau hanesyddol, ac mae problemau wedi bod o'r blaen, er gwaethaf amrywiadau cyfnodol. Ac mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, ym mis Medi, yn dangos gostyngiad o 31 y cant yn yr oedi o'i gymharu â'r misoedd blaenorol. Felly, mae'n dangos, o fewn y capasiti sy'n bodoli ar lawr gwlad, y gellir gwneud i bethau weithio, ond bydd angen meddwl cydgysylltiedig.

Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Rydym yn ymwybodol iawn fod gofal cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol. Yn anffodus, nid ydym yn ateb y galw hwnnw. Amlygir hyn yn glir iawn yn adroddiad diweddar Age Cymru 'Care in Crisis'. Canfu Age Cymru nad oedd pobl hŷn mewn rhai rhannau o Gymru yn cael yr asesiadau gofalwyr angenrheidiol, a bod amrywio enfawr rhwng awdurdodau lleol. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol i fod i roi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â gofal, ond rydym yn parhau i ganfod bod rhai awdurdodau lleol yn well nag eraill am gyflwyno'r pecyn hwn.

Gweinidog, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, a sicrhau na fydd toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar eu gallu i gyflawni'r dyletswyddau hyn? A hoffwn ddweud hefyd, wrth fonitro'r sefyllfa hon ar draws fy rhanbarth, rwyf wedi sylwi bod gofal o safon gwahanol yn cael ei roi i gleifion oedrannus yn y rhanbarth, a hoffwn siarad â chi am hynny rywbryd.

Diolch.

Diolch i chi, unwaith eto, am y cwestiwn atodol hwnnw. Ac fel y trafodwyd yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, mae llawer iawn y gallwn ei wneud o fewn yr adnoddau sy'n bodoli drwy weithredu'n fwy clyfar. Ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o weithio mewn partneriaeth ranbarthol i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd, mae'n cynnwys y defnydd o gyllidebau cyfun, fel y gallwn rannu beth yw'r blaenoriaethau ar draws rhanbarth yn hytrach na cheisio ei wneud ar sail dameidiog, ac mae llawer o bethau eraill, gan gynnwys y gronfa TGCh, y gellir eu defnyddio i wneud y pethau hyn. Ond yn y pen draw—fel roeddwn i yn y pwyllgor y bore yma, ac fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n rhaid i ni fod yn hollol onest yn ogystal: nid oes pot newydd o arian. Rydym yn gweithio o fewn y cyfyngiadau sydd gennym, a gwn y bydd cyllideb adnoddau Cymru 7 y cant yn llai erbyn diwedd 2019-20. Bydd £1 biliwn yn llai nag ydoedd yn 2010, ac wrth gwrs, mae'r gwariant cyfalaf 7 y cant yn llai. Dyna'r realiti y mae'n rhaid i awdurdodau lleol, darparwyr eraill ar lawr gwlad a ni ein hunain weithio ynddo, ond nid yw hynny'n golygu y dylem roi'r gorau i weithio'n fwy clyfar gyda phartneriaethau rhanbarthol, cronfeydd cyfun, er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

14:35

Diolch yn fawr iawn. Ers amser, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r achos dros hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru, ond o gofio amcangyfrifon Cymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â niferoedd y meddygon teulu yn unig rydym eu hangen yn y blynyddoedd i ddod, efallai ein bod wedi tanamcangyfrif y ffigur. A ydych yn credu ei bod yn bryd i Blaid Cymru edrych ar y ffigur hwnnw o 1,000 o feddygon a'i gynyddu, a beth yw asesiad eich Llywodraeth o nifer y meddygon y byddwn eu hangen dros y 10 mlynedd nesaf, dyweder, a faint ohonynt y bydd angen i ni eu hyfforddi yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i drafod nid yn unig recriwtio meddygon a niferoedd meddygon, ond pob un o'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sut y maent yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu mai camgymeriad yw edrych ar un grŵp o weithwyr proffesiynol ar wahân i rai eraill, gan ein bod yn sôn yn gynyddol—[Torri ar draws.]—gan ein bod yn sôn yn gynyddol, er enghraifft, am newid y ffordd y mae gwasanaethau ysbyty yn gweithio, a symud mwy o'r gofal i fod yn lleol, wrth i waith barhau yn y clystyrau gofal iechyd lleol, a bod gennym feddygon teulu yn gweithio mewn gwahanol niferoedd gyda gwahanol grwpiau o weithwyr proffesiynol. Felly, mae angen i ni ystyried ac adolygu niferoedd y bobl rydym yn dymuno eu hyfforddi a'u recriwtio yn ein system gofal iechyd yn gyson, ac wrth gwrs, mae meddygon yn chwarae rôl bwysig iawn yn ein system gofal iechyd.

Mae creu Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn ddewis bwriadol a wnaethom, yn seiliedig ar adolygiad a ddeellir yn dda, i ddod â mwy o wybodaeth ynglŷn â niferoedd y gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol y mae angen i ni eu recriwtio a'u hyfforddi. Dyna pam y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs fwy cyflawn am yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol y bydd angen inni barhau i'w cael mewn gwasanaeth iechyd gwladol tosturiol sy'n gweithio'n dda ac o ansawdd uchel.

Iawn. Ni chlywais ffigur. Rydym yn eistedd yn weddol agos at ein gilydd; buaswn wedi meddwl y buasech wedi clywed fy mod yn gofyn yn benodol am feddygon, nid gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, yn y cwestiwn penodol hwn. A diolch yn fawr am dynnu sylw at y ffaith bod meddygon yn chwarae rôl bwysig yn y GIG. Os nad ydych yn gwybod faint o feddygon ychwanegol, yn benodol, y byddwn eu hangen, nid yw'n syndod ein bod yn wynebu argyfwng cynllunio gweithlu o'r fath yma yng Nghymru. Roeddwn yn barod i gyfaddef ei bod yn bosibl ein bod wedi ei gael yn anghywir a'n bod angen llawer mwy na 1,000 o feddygon. Rydym angen o leiaf 1,000. Rydym angen o leiaf 5,000 o nyrsys. Mae gennym brinderau, rydych yn hollol gywir, ar draws y gweithlu. Dyna pam rydym angen cynyddu niferoedd myfyrwyr ar draws gweithlu'r GIG, pam rydym angen canolfan newydd ar gyfer hyfforddiant meddygol ym Mangor, pam fod deintyddion a fferyllwyr, gyda llaw, yn gofyn i mi 'A gawn ni ragor o leoedd hyfforddi yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym eu hangen?' Roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan y BBC y mis diwethaf yn dangos ein bod ni, yn y flwyddyn ariannol hon, yn gweld mwy o bobl yn gadael y GIG nag sy'n ymuno, gan ein gadael gydag oddeutu 150—250, esgusodwch fi—yn llai o staff. A wnewch chi gyfaddef ein bod yn symud tuag at yn ôl?

Mae gennym heriau gwirioneddol a sylweddol, ac nid oes diben esgus fel arall. Rwy'n dweud hynny'n rheolaidd, yn y Siambr hon, mewn sgyrsiau preifat gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gydag Aelodau Cynulliad, ac mewn meysydd lle rwy'n gwneud areithiau ac yn ateb cwestiynau. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni fod yn gyson ac yn aeddfed ynglŷn â hyn yn y ffordd rwy'n gwneud fy swydd. Dyna pam nad wyf am gymryd rhan mewn proses artiffisial o chwilio am niferoedd, oherwydd mae'n rhaid i ni ddeall beth y byddwn yn ei ddisgwyl o'n system gofal iechyd a sut rydym yn disgwyl iddi ymddwyn. Bydd yr adolygiad seneddol, er enghraifft, yn ein helpu ac yn gosod heriau i ni mewn perthynas â'r ffordd rydym yn disgwyl i iechyd a gofal gael eu darparu yn y dyfodol. Yn amlwg, felly, bydd y dewisiadau a wnawn yn y Llywodraeth ynglŷn â'r modd y bydd y strategaeth iechyd a gofal yn symud ymlaen yn y dyfodol yn effeithio ar niferoedd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rydym eu hangen. A dyna pam nad wyf eisiau cael fy nghlymu wrth un grŵp unigol o weithwyr proffesiynol yn hytrach na grwpiau eraill. Ac fe atebais eich cwestiwn yn y ffordd honno'n fwriadol. Gallem fynd yn ôl ac ymlaen ac edrych ar y semanteg rhyngom pe baem eisiau. Nid wyf yn credu bod hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn cael sgwrs briodol, aeddfed ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol, y cydblethiad rhyngddo a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill yn ogystal. Ac mae'n rhaid mai dyna'r ffordd gywir o ymddwyn, nid yn unig yn y Siambr, ond yn y ffordd y byddaf yn gwneud fy ngwaith.

Ac wrth inni feddwl, er enghraifft, am y ffordd rydym yn gwneud cynnydd go iawn gyda'r ystod o heriau recriwtio, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y broses o recriwtio nyrsys, mae mwy o fydwragedd yn cael eu recriwtio, ac mae gennym gyfradd lenwi o 91 y cant fan lleiaf ymhlith ein meddygon teulu. A nododd y Prif Weinidog ddoe y byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r lle hwn ar y cynnydd parhaus rydym wedi'i wneud yn y maes hwnnw yn y dyddiau nesaf. Felly, mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud, ond mae yna heriau go iawn hefyd. Buasai'n llawer gwell gennyf fod yn onest ynglŷn â hynny yn hytrach na phryfocio yn y Siambr a chwilio am ffigurau nad ydynt o bosibl yn bodoli yn y ffordd gadarn y gallent ac y dylent os ydym o ddifrif ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd.

14:40

Llywydd, yn gynharach fe herioch chi un o fy nghyd-Aelodau i ddod at y cwestiwn; efallai y gallech herio'r Gweinidog i roi ateb.

Beth am roi cynnig ar un y gallwn gytuno arno o bosibl. Gofid arall mewn perthynas â staffio yw ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu bod 45 y cant o feddygon UE sy'n gweithio yn y DU yn ystyried gadael—rheswm arall efallai dros gynyddu ein ffigur o 1,000 o feddygon. Ond gyda'r bygythiad hwn i weithlu'r GIG, buaswn yn tybio y buasech eisiau cymaint o lais ag y bo modd yn nhelerau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn y Senedd neithiwr, methodd pob un ond un o'r Aelodau Seneddol Llafur gefnogi gwelliant gan Blaid Cymru yn galw ar y Cynulliad a Seneddau datganoledig eraill i gael dweud eu dweud ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydych yn rhannu fy siom chwerw ynglŷn â hynny ac a ydych yn rhannu fy ofn nad yw hynny'n argoeli'n dda o ran cael yr hawl, er enghraifft, i gael ein system trwyddedau gwaith y GIG ein hunain yma yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'n hanghenion gweithlu GIG ein hunain?

Rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â Brexit; rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â'r awydd i gael sgwrs fwy aeddfed â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am realiti Brexit a'r niwed y gallai ei wneud os ceisir cyflawni hynny yn y modd anniben y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid wyf yn ymddiheuro am lynu wrth bolisi'r Llywodraeth hon a thynnu sylw at y pryderon sydd gennym, nid ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol yn unig, ond ynglŷn ag ystod eang o sectorau o fywyd cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi nodi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar y gofrestr o'r Undeb Ewropeaidd yn y gweithlu nyrsio yn ogystal ag ofnau rhesymol am y gweithlu meddygon, am bobl yn mynd ati i ystyried eu dyfodol. Rwy'n benderfynol o wneud yr achos, gyda gweddill y Llywodraeth hon, dros fabwysiadu ymagwedd fwy synhwyrol tuag at Brexit, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ac yn cydnabod realiti o'r diwedd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cyfrifoldebau rydych wedi'u cadw ar ôl yr ad-drefnu'n cynnwys ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er bod gennych Weinidog gofal cymdeithasol sy'n goruchwylio gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth asesu blaenoriaethau eich cyllideb, rydych wedi penderfynu torri'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith ymchwil hwnnw. Pa waith ymchwil cyfredol a pha waith ymchwil yn y dyfodol sy'n debygol o gael ei beryglu gan y penderfyniad hwn? A oes yna effaith ar Gofal Cymdeithasol Cymru, a oedd yn awyddus i wneud rhywfaint o ymchwil, ac a fydd unrhyw ran o gyllid eich partneriaid ymchwil cyfredol mewn perygl o ganlyniad i'r gostyngiad yn y cyllid o'r lle hwn?

Mae dau beth rwyf am eu dweud. Y cyntaf yw ein bod yn credu y gallwn reoli rhywfaint o'r gostyngiad heb effeithio ar weithgarwch ymchwil cyfredol. Bydd yn effeithio ar rai o'n cysylltiadau yn strwythur y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag ymchwil iechyd a gofal, ond credwn y gallwn ymdopi. Ond mae'n golygu bod yna bethau na fyddwn efallai'n gallu eu gwneud fel arall. Mae'r her, fodd bynnag, yn dod yn ôl at fy ail bwynt, a wnaed gennym yn y pwyllgor heddiw. Nid oes modd gwneud dewis heb ganlyniadau'n perthyn iddo wrth gyfaddawdu o fewn cyllidebau adrannol ac ar draws adrannau yn ogystal. Mae realiti gostyngiad sylweddol a pharhaus yn y gyllideb termau real sydd ar gael i'r lle hwn yn golygu bod toriadau'n cael eu gwneud yn y gyllideb mewn meysydd y buasai'n well gennym beidio â gwneud toriadau iddynt. Felly, un yn unig o'r meysydd hynny yw hwn. Nid oedd yn ddewis dymunol, nid oedd yn ddewis y cefais fwynhad o'i wneud, ond dyna yw realiti bod yn Weinidog yn y Llywodraeth mewn cyfnod o gyni parhaus. Rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelod yn Rhif 11 Stryd Downing yn gosod trywydd gwahanol ar gyfer gwariant cyhoeddus er lles pob un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond nid wyf yn or-obeithiol y ceir safbwynt gwahanol ar gyfer y dyfodol.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gobeithio am ateb ynglŷn â beth yn union rydych yn bwriadu ei dorri o ran ymchwil—nid y swm o reidrwydd, ond pa fathau o ymchwil a fydd ar eu colled yn awr. Beth yn union na fyddwn yn ei weld yn cael ei wneud? Pa bartneriaid fydd, o bosibl, yn colli eu cyllid o ganlyniad i'n penderfyniad? A buasai un enghraifft yn unig wedi bod yn iawn ar gyfer hynny.

Rwyf am symud ymlaen yn awr at y cynigion i symud gwasanaethau iechyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Buasai hynny yn naturiol yn effeithio ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Mae rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol Bae'r Gorllewin yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, a'r tri awdurdod lleol yn yr un ôl troed.

Mae Cwm Taf eisoes yn darparu rhywfaint o ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond credaf ei bod yn bur annhebygol y bydd Cwm Taf yn ei gyfanrwydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen Bae'r Gorllewin. Felly, pa syniadau cychwynnol a wyntyllwyd ar y berthynas rhwng Cwm Taf a phartneriaeth Bae'r Gorllewin, yn arbennig ar y cwestiwn sydd wrth law ynglŷn â chyllidebau cyfun y bydd yn rhaid penderfynu yn eu cylch erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?

14:45

Yn wir. O ran cyllidebau cyfun, dywedais yn y pwyllgor iechyd heddiw fod angen i ni fabwysiadu safbwynt pragmataidd ar le Pen-y-bont ar Ogwr mewn trefniadau cyllideb gyfun. Ni fuasai'n synhwyrol i ni ei gwneud yn ofynnol i Ben-y-bont ar Ogwr gymryd rhan mewn perthynas cyllideb gyfun gyda Chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ar yr un pryd, rydym yn ymgynghori ar y posibilrwydd o'u symud i mewn i ôl troed ehangach Cwm Taf. Dyna'r un ardal lle y bydd angen i mi wneud y penderfyniad hwnnw, o ystyried diddordeb etholaethol y Gweinidog, ond bydd yn effeithio ar y ffordd rydym yn awr yn disgwyl i Ben-y-bont ar Ogwr fod yn awdurdod sy'n wynebu'r dwyrain.

Bydd proses ymgynghori ffurfiol yn dechrau fis nesaf. Cytunwyd ar hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, ac mae fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd llywodraeth leol newydd a minnau'n dal i ddisgwyl y bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n digwydd fis nesaf, wrth i ni barhau i roi camau ymarferol ar waith ar gyfer y symud yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd angen i ni feddwl am yr hyn sy'n aros yn union yr un peth, a llif cleifion, a bydd angen i ni feddwl beth sydd angen ei newid yn y ffordd y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn fwy o ran o bartneriaeth gydag awdurdod Cwm Taf o ran gofal cymdeithasol. Felly, mae yna newidiadau i'w gwneud. Rydym yn credu mai dyma yw'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rydym wedi dweud ein bod yn dymuno ei wneud, ac edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad 12 wythnos ac at glywed yn fwy cyffredinol gan y cyhoedd ac wrth gwrs gan y staff yn yr holl sefydliadau a effeithir arnynt.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl iddo. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu rhoi rhywfaint o arweiniad ar ryw adeg, o bosibl, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y math hwn o doriad i sicrhau nad yw cynnydd ym maes gofal cymdeithasol yn cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd, oherwydd maent wedi bod yn gwneud cynnydd yno.

Yn olaf, mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, am y pwysau ar y niferoedd, oherwydd nifer y meddygon teulu nad oes gennym yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cafodd y gwasanaeth y tu allan i oriau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei gau am gyfnodau penodol dros ddwy noson am nad oedd unrhyw feddyg teulu lleol ar gael i gynnig y gwasanaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cysylltodd 33 claf o Ben-y-bont ar Ogwr â'r gwasanaeth a bu'n rhaid iddynt gael eu cyfeirio at linell gymorth Treforys yn lle hynny, a chafodd pedwar ohonynt eu cynghori i fynychu'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Faint o broblem yw hi i'r meddygon teulu eu bod yn gorfod cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau yn lleol yn ogystal â gwneud eu gwaith bob dydd? A yw'n effeithio ar ble y maent yn dewis ymarfer?

Fel y byddwch yn cofio, yn ystod canol y 2000au, newidiwyd strwythur y gwasanaeth y tu allan i oriau. Felly, mae meddygon teulu yn optio i mewn bellach ac nid yw'n ofynnol iddynt gyflawni'r swyddogaeth y tu allan i oriau fel rhan o'u contract gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol. Rhan o'r her sy'n ein hwynebu yw deall faint o feddygon teulu rydym eu hangen i wneud y gwasanaeth yn fwy sefydlog a diogel, a cheir heriau ar draws gwahanol rannau o Gymru a'r DU mewn perthynas â chael nifer ddigonol o feddygon teulu i gyflawni'r gwasanaeth hwnnw, ar y cyd, fel rydym yn ei ddeall fwyfwy, â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Felly, mae cyflwyno'r gwasanaeth 111 ar draws ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ardal Caerfyrddin yn ogystal bellach, yn ddefnyddiol iawn mewn gwirionedd o ran defnyddio a deall y gwahanol niferoedd o bobl rydym yn disgwyl iddynt fod yno—a chael arweiniad clinigol meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys, ac yn wir, y cyngor y gall y rhai sy'n ateb galwadau ei roi. Felly, rydym wedi deall yr angen i newid ein gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn eu gwneud yn fwy cadarn, er mwyn eu gwneud yn fwy priodol i bobl sydd angen cymorth a chefnogaeth, a disgwyliaf y bydd prosiect 111 yn cael ei gyflwyno ledled y wlad, a bydd angen i mi bennu cyflymder y broses honno yn seiliedig ar werthusiad y peilot cynharach. Ond rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n rhoi mwy o sefydlogrwydd i wasanaethau y tu allan i oriau nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond y bydd yn ôl troed a ffordd o weithio ar gyfer gweddill y wlad hefyd.

Anghydraddoldebau Iechyd

4. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OAQ51278

Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau annerbyniol rhwng canlyniadau iechyd ein cymunedau lleiaf breintiedig a'n cymunedau mwyaf breintiedig. Mae lleihau anghydraddoldeb yn uchelgais ganolog yn 'Ffyniant i bawb', ac mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol inni weithio mewn ffordd fwy integredig a chydweithredol yn y Llywodraeth a chyda'n partneriaid, gan symud yn barhaus tuag at atal.

Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, lansiwyd adroddiad Prifysgol De Cymru ar effaith gymdeithasol gamblo cymhellol. Ymddengys yn glir fod hwn yn prysur ddod yn fater iechyd cyhoeddus sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae yna gwestiynau ynglŷn â lleoliad siopau betio a pheiriannau betio ods sefydlog yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ddaearyddol, a hefyd y problemau yn ymwneud â gamblo ar-lein. Mae'n ymddangos bod y diwydiant gamblo yn targedu'r rhai mwyaf agored i niwed a gwendid pobl sydd angen llawer o arian yn gyflym, ac wrth gwrs maent yn annhebygol iawn o'i gael drwy gamblo. Yn y math hwnnw o gyd-destun, a chan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedoch yn gynharach o ran gweithio ar draws y Llywodraeth, pa gamau rydych yn credu y gallwch eu cymryd ar y cyd â chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i archwilio a mynd i'r afael â'r materion cynyddol bwysig hyn ymhellach?

14:50

Diolch i chi am y cwestiwn dilynol. Rwy'n cydnabod yr adroddiad a lansiwyd y bore yma a gwn fod cyd-Aelodau ar feinciau cefn Llafur, gan gynnwys Jayne Bryant, Jane Hutt a Mick Antoniw, wedi chwarae rhan yn cyllido'r gwaith ymchwil hwnnw, a oedd yn ddarlun defnyddiol i ni mewn gwirionedd o'r sefyllfa gyfredol yng Nghymru, [Anghlywadwy.] darlun ehangach ledled y DU. I fod yn deg â fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Bontypridd, mae wedi bod â diddordeb yn y maes hwn cyn dod i'r Llywodraeth, yn ystod ei gyfnod yn y Llywodraeth ac yn awr yn ogystal, ac mae yna gydnabyddiaeth fod yna her iechyd cyhoeddus go iawn yma yn ogystal â'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu, ac ni ddylem ddisgwyl i'r diwydiant gamblo—. Ni ddylem ei gadael hi i'r diwydiant gamblo ymddwyn yn gyfrifol, rwy'n credu, oherwydd nid yw pawb yn gwneud hynny. Ceir pryderon nid yn unig ynglŷn â betio ods sefydlog ond hefyd ynglŷn â pha mor hawdd y mae gamblo'n digwydd, gan gynnwys ar-lein, lle y mae'n llawer mwy anodd rheoleiddio ymddygiad.

Ceir her i ni hefyd mewn perthynas â'r rhaniad yn y pwerau rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd fwy realistig tuag at y mater hwn, i gydnabod y niwed sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, ac yn benodol, fod y difrod hwnnw i'w deimlo gryfaf yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Felly, byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn yn y Llywodraeth hon, o gofio'r cyfyngiadau ar y pwerau sydd gennym, ond gan gydnabod yr effaith ar iechyd ac effeithiau eraill hefyd. Rwyf wedi dweud wrth eich cyd-Aelod, Jayne Bryant, y buaswn yn hapus i Aelodau'r meinciau cefn a noddodd yr adroddiad hwnnw i gyfarfod â swyddogion polisi perthnasol i ddeall y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r broblem hon na fydd yn diflannu ar frys.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blwyddyn, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi adroddiad ar y bwlch parhaus a chynyddol mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru. Cyfeiriodd hefyd at ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn dweud bod buddsoddi mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, megis cysylltiad ag alcoholiaeth a defnyddio cyffuriau, yn gallu lleihau nifer yr ysmygwyr a'r defnyddwyr cyffuriau yn y dyfodol, gan ddarparu manteision iechyd a chost hirdymor. Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblem profiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Dyma flaenoriaeth bolisi bwysig i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi cytuno rhwng tair adran wahanol o fewn y Llywodraeth i gyllido ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i geisio deall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar unigolion a theuluoedd yn eu cymunedau. Nid dull ariannu yn unig ydyw; mae'n ddull polisi a gweithredu yn ogystal. Dyna pam rwy'n falch fod y Llywodraeth hon wedi arwain y ffordd o ran rheolaethau ar dybaco, o ran ceisio gwella ein gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, ac yn wir, mae yna ymdrechion parhaus gan y Llywodraeth hon i geisio lleihau yfed niweidiol gyda'r cynigion sydd gan y Llywodraeth, fel y gwyddoch, i gyflwyno isafbris uned ar alcohol.

Ond mae hyn i gyd yn rhan o ddull gweithredu ehangach, ac rwy'n meddwl am lansiad y rhaglen Byw'n Dda, Byw'n Hirach a gynhaliwyd yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae hon yn rhaglen sy'n darparu canlyniadau go iawn ac yn dangos ffordd wahanol o geisio gweithio ochr yn ochr â phobl, gan fabwysiadu dull llai meddygol o geisio annog pobl sydd mewn perygl i fynychu lleoliad, yn aml y tu allan i rywle fel practis meddyg teulu, gan wneud defnydd da o weithwyr cymorth gofal iechyd, ac mae hynny'n dangos budd gwirioneddol ac yn nodi'r risgiau posibl i bobl yn ogystal â nodi afiechydon nad ydynt wedi cael diagnosis ac nad ydynt yn cael eu rheoli. Felly, mae yna ystod gyfan o faterion, ac mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn un ohonynt, lle rydym yn annog pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain a gwneud penderfyniadau gwahanol. Ni cheir un ymyrraeth unigol y bydd y Llywodraeth hon yn gallu ei gwneud, ond yn hytrach, bydd ystod ohonynt, a dealltwriaeth nid yn unig o'r hyn y penderfynwn ei wneud, ond sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol drostynt eu hunain i arwain at ganlyniadau gwell.

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynnwys ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf? OAQ51274

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a'r Llywodraeth hon, fel y cadarnhawyd gennyf yn ddiweddar, yn bwriadu ymgynghori ar y cynnig y dylai darpariaeth iechyd ar draws ôl troed cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn y dyfodol. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr a'r ddau fwrdd iechyd ar symud y mater hwn yn ei flaen.

Diolch i chi am eich ateb. Bydd Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet yn cofio bod mynd drwy'r newidiadau i raglen de Cymru yn broses eithaf poenus, ac wrth gwrs, fe gollodd Cwm Taf wasanaethau argyfwng a phediatrig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wrth iddynt gael eu cadw yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nawr, rwyf newydd gael cadarnhad nad oes unrhyw gynlluniau i leihau gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru mewn perthynas â gwasanaethau brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol a gwasanaethau i blant sy'n gleifion mewnol, ond hoffwn eich ymrwymiad chi i'r status quo hwnnw yn ogystal. Yr hyn rwyf ychydig yn fwy pryderus yn ei gylch yw ei bod yn ymddangos nad oes gan Gwm Taf unrhyw wybodaeth am Ysbyty Cymunedol Maesteg ac nad yw'n barod i wneud unrhyw sylwadau penodol ar ei ddyfodol. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw, heb godi unrhyw ysgyfarnogod, y byddwch yn siarad â Chwm Taf ynglŷn â Maesteg a rhoi ychydig o wybodaeth iddynt efallai ynglŷn â pha mor bwysig yw'r ysbyty hwn.

14:55

Rwy'n hapus i gadarnhau na ddylai'r newid yn y trefniadau ôl troed ynddo'i hun newid dim ar y ffordd y darperir gwasanaethau, nac yn wir ar lif cleifion neu'r arloesi sydd eisoes yn digwydd—er enghraifft, y ffederasiwn sydd ar waith rhwng meddygon teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r arloesi sy'n digwydd yng Nghwm Taf.

Beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol, mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd, â'i bartneriaid, edrych ar hyn y mae'n ei wneud a pham, ac nid oes unrhyw reswm o gwbl dros godi cwestiynau ynglŷn ag unrhyw gyfleuster gofal iechyd penodol yn syml o ganlyniad i newid yr ôl troed. Mae'n rhaid i unrhyw newid a phob newid arall i wasanaethau, neu unrhyw ddiwygiadau sy'n digwydd, gynnwys sgwrs briodol gyda'r staff a'r cyhoedd, ac nid yw'r newid hwn i'r ôl troed yn rheswm o gwbl dros fwrw amheuaeth ar unrhyw un o'r cyfleusterau cyfredol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod fod bwrdd iechyd Cwm Taf a'u partneriaid Rocialle a 1000 o Fywydau Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, wedi ennill y wobr gydweithredu yng Ngwobrau Gwnaed yng Nghymru eleni am ddatblygu pecyn gyda'r nod o gyflymu'r ymatebion clinigol i sepsis. A wnewch chi longyfarch Cwm Taf a'i bartneriaid ar y cyflawniad arwyddocaol hwn? A ydych yn cytuno y buasai unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ôl troed yn galluogi Cwm Taf i gryfhau ei waith partneriaeth a'i ddarpariaeth o ymyriadau gofal iechyd arloesol?

Ydw, ac rwyf wedi nodi gyda diddordeb y cynnydd y mae Cwm Taf wedi'i wneud gyda Rocialle. Unwaith eto, rhan o'n her yw sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd berthynas fwy aeddfed gyda phartneriaid yn y sector annibynnol heb gyfaddawdu ar werthoedd y gwasanaeth, gan edrych yn hytrach ar sut y gallwn gyflawni gwelliant go iawn. Mae sepsis, fel y gwyddom, yn lladd llawer o bobl, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld rhagor ar yr hyn y gellid ei wneud. Credaf, mewn gwirionedd, y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael budd yn yr ystyr hon, fel y dywedaf, o'r arloesi sydd eisoes yn digwydd yng Nghwm Taf. Dylent fod yn hawdd i'w cyflwyno i ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, yn ogystal â deall beth y gallem ac y dylem ei wneud i gyflwyno arloesi llwyddiannus ym mhob rhan o'n gwasanaeth ledled y wlad. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y gwaith sy'n parhau.

Bydd mwy yn cael ei ddweud ar yr arloesi penodol hwn yn ystod y mis nesaf, mewn gwirionedd, gan fod gennym fwy i ddod am yr adolygiad gan gymheiriaid ar ddirywiad acíwt. Felly, rwy'n fwy na hapus i ychwanegu fy llongyfarchiadau i Gwm Taf a'u partneriaid.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, yn naturiol, fod cynlluniau yn y maes iechyd yn waith hirdymor. Bydd y cynlluniau hynny yn cynnwys nifer y gwelyau yn ysbyty Pen-y-bont, er enghraifft, yn y cynlluniau sydd ar y gweill gan fwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn fwy cyffredinol. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael i sicrhau parhad yn y gwasanaethau i gleifion?

Rwy'n fodlon ailadrodd y sylwadau a wneuthum yn gynharach i Suzy Davies am lif cleifion ac am y ffordd y cynllunnir ac y darperir gwasanaethau. Ni ddylai hyn dorri ar draws y ffordd y mae darpariaeth iechyd eisoes yn digwydd. Mae angen i hynny ystyried beth sydd eisoes ar waith a thrafodaethau sydd eisoes wedi digwydd. Rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd blaenorol Cwm Taf a chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg. Rwyf wedi cyfarfod â'r prif weithredwyr ar yr un pryd hefyd, ac rwyf hefyd wedi cael cyfarfod gyda chadeirydd newydd Cwm Taf. Mae hynny'n galonogol iawn mewn gwirionedd—y ffaith bod yr holl sefydliadau sy'n rhan o hyn yn mabwysiadu dull uniongyrchol iawn o wneud yn siŵr, os yw'r newid hwn yn digwydd, ei fod yn cael ei wneud mor llyfn â phosibl, ond hefyd gyda'r ddealltwriaeth briodol o'r gwasanaethau cyfredol sydd ar waith y bydd yn rhaid i wahanol bartneriaid eu gweithredu a'u rheoli wedyn, gan gynnwys, wrth gwrs, y pwynt y mae Suzy Davies yn ei wneud ynglŷn â diwygio partneriaethau newydd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a bwrdd iechyd newydd.

Felly, rwy'n disgwyl y bydd y gwaith parhaus hwnnw'n digwydd. Wrth gwrs, byddaf yn cyfarfod â'r ddau gadeirydd eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n disgwyl y bydd y sgyrsiau rheolaidd a ffrwythlon sydd ar y gweill rhwng arweinwyr y byrddau iechyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ddigwydd.

Gofal Brys

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal brys yng Nghymru? OAQ51258

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd brys ledled Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir wrth y byrddau iechyd fy mod yn disgwyl y bydd perfformiad yn gwella, yn enwedig wrth i'r gaeaf nesáu. Wrth gwrs, rwyf wedi gwneud datganiad heddiw ynglŷn â pharatoadau ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau i gyd-fynd â lansiad ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn.

Mae arnaf ofn fod eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn druenus o annigonol, oherwydd yr un bwrdd iechyd rydych yn uniongyrchol gyfrifol amdano yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran ei ofal brys a'i berfformiad yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ei hun o drin cleifion brys o fewn pedair awr. Yn wir, fy ysbyty lleol, Ysbyty Glan Clwyd, yw'r ysbyty sy'n perfformio waethaf yng Nghymru yn erbyn y targed hwnnw, gydag ychydig dros 66 y cant o gleifion yn mynd i mewn ac allan o'r adran ddamweiniau ac achosion brys benodol honno o fewn pedair awr. Os oes angen i chi ddangos arweinyddiaeth, ac rwy'n credu bod, mae angen i chi roi trefn ar tŷ eich hun ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.

15:00

Rydym yn cydnabod bod y perfformiad mewn rhai rhannau o'n system yn annerbyniol. Mewn gwirionedd rydym wedi buddsoddi swm sylweddol o gyfalaf ar gyfer darparu uned ddamweiniau ac achosion brys newydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac mae'n her i ni ddeall nid yn unig natur y galw, ond hefyd beth sydd angen i ni ei wneud y tu allan i'r ysbyty gyda'n system gofal cymdeithasol a'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen ym mhob un o'r ardaloedd hynny ac ar draws y bwrdd iechyd.

Dyma'r her a bennwyd ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw. Maent yn deall yr her yn dda iawn. Maent yn deall nad wyf yn credu bod eu perfformiad cyfredol yn dderbyniol. Rwyf wedi cyfarfod yn uniongyrchol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr i ailadrodd fy mod yn disgwyl na fydd y perfformiad annerbyniol yn parhau. A'r her—[Torri ar draws.] A'r her i bob un ohonom yw canfod pa atebion y gallwn eu rhoi ar waith a deall pam fod darlun mwy llwyddiannus wedi'i beintio mewn gwahanol rannau o'r wlad a hynny, yn fras, o dan yr un amodau.

Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud gyda'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys—wrth gwrs, mae is-lywydd cyfredol Cymru wedi'i leoli yn Wrecsam—yw deall a allwn oroesi'r gaeaf hwn gyda gwelliant parhaus mewn perfformiad, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yng ngogledd Cymru yw lefelau'n codi a disgyn yn rheolaidd; nid oes darlun cyson o berfformiad a gwelliant. 

Yr hyn sy'n fy nghalonogi am ogledd Cymru a'i allu i gyrraedd lle gwahanol yn y dyfodol yw, nid yn unig yr ymrwymiadau a roddwyd i mi o fewn y bwrdd iechyd, ond mewn gwirionedd y ffaith bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi gweld gwelliant sylweddol ei hun sydd wedi cael ei gynnal dros ail hanner y flwyddyn hon. Ond nid wyf yn esgus fod pethau fel y dylent fod. Nid wyf yn esgus ei fod yn dderbyniol, ac rwy'n disgwyl wynebu mwy o gwestiynau yn y lle hwn hyd nes y bydd perfformiad yn gwella ac yn cael ei gynnal.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar iechyd yng Nghymru? OAQ51277

Mae'r Ddeddf teithio llesol arwyddocaol yn gam pwysig tuag at helpu i leihau tagfeydd traffig a gwella ansawdd aer, ac yn wir, iechyd y genedl. Mae dechrau'r broses o weithredu'r Ddeddf yn mynd rhagddi ond bydd y newid sydd ei angen mewn ymddygiad teithio i gyflawni'r effaith hirdymor ar iechyd rydym yn ei cheisio yn cymryd amser i'w wireddu.

Diolch am yr ateb. O ystyried y lefelau uchel o ordewdra yng Nghymru, rwy'n credu bod teithio llesol yn offeryn pwysig iawn er mwyn cael canlyniadau iechyd y cyhoedd gwell. Nawr, credaf fod y cyfrifoldeb adrannol dros weithredu teithio llesol wedi symud o'r adran iechyd i adran yr economi. Tybed beth yw eich syniadau ynglŷn â'r rhesymau dros hynny, a sut y bydd y newid hwn yn effeithio ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd yn eich barn chi?

Nid fy swydd i yw ystyried y rhesymau dros newid cyfrifoldebau; mater i'r Prif Weinidog yw hynny wrth gwrs, fel y dylai fod. Yr her i bob un ohonom fel Gweinidogion yw sut i barhau i weithio'n effeithiol ar draws y Llywodraeth. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn ymgais briodol i geisio cael y Llywodraeth i weithio'n fwy effeithiol ar draws y gwahanol adrannau i wneud yn siŵr ein bod yn rhan o un Lywodraeth, yn hytrach na chynrychioli seilo o fewn y Llywodraeth yn unig—ond hefyd i weithio gyda phartneriaid, oherwydd nid ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar ei phen ei hun y mae teithio llesol. Mae yna rôl i awdurdodau lleol a rôl i weithredwyr eraill, Sustrans yn un, o ran sut yr awn ati i addysgu'r cyhoedd i ymgymryd â gwahanol opsiynau ar gyfer teithio.

Mae llawer o bobl yn yr ystafell hon yn weithwyr annodweddiadol mewn cymaint o ffyrdd—nid oes gennym swydd arferol—ond i bobl sy'n defnyddio eu ceir i wneud teithiau byr, a phobl sy'n rhoi eu plant mewn ceir ar deithiau byr i'r ysgol, mae yna her i newid ymddygiad a disgwyliad cymdeithasol. Felly, mae teithio llesol a'r Ddeddf ei hun yn rhan o'r offer sydd gennym i geisio sicrhau'r newid hwnnw mewn diwylliant ac ymddygiad, ond mae angen i amrywiaeth o bobl fod yn rhan o'r sgwrs honno i geisio newid agweddau pobl a'u hymddygiad. Yn y pen draw, dylem weld budd i iechyd y genedl.

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd
4. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd
5. Cwestiynau Amserol

Felly, yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas. 

Sw y Borth
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt? 62

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i ddihangfa'r lyncs a marwolaeth ail lyncs yn gysylltiedig â'r sŵ i weld a yw amodau'r drwydded weithredu wedi cael ei thorri o gwbl. Buasai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar y mater hwn tra bod ymchwiliadau'n mynd rhagddynt.

15:05

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am geisio ateb y cwestiwn o leiaf, ond wrth gwrs mae'r digwyddiadau hyn wedi creu tipyn o bryder i nifer o bobl yn yr ardal ac, yn ogystal, yn ehangach, i bobl sy'n gofalu am anifeiliaid a'u gofal nhw a'u lles nhw mewn sŵau. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad â'r cyngor sir dros y cyfnod yma? Pa drafodaethau a pha gamau, felly, a oedd yn cael eu cymryd? Er enghraifft, a oedd y Llywodraeth yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan y cyngor sir? Yn ehangach, gyda sefyllfa'r sw, mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le pan fod anifail gwyllt yn gallu dianc a phan mae yna un arall yn marw oherwydd camdrafod. A ydym ni felly mewn sefyllfa i edrych ar y rheoliadau cenedlaethol sydd yn llywodraethu sefydliadau fel hyn i sicrhau bod pobl sydd yn rhedeg sŵ â'r sgiliau priodol, ond hefyd bod yr offer a'r sefyllfa yn briodol ar gyfer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno?

Diolch. Rwyf fi hefyd yn bryderus iawn am y ddau ddigwyddiad. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Sir Ceredigion. Cafodd y penderfyniad i ladd yr anifail ei wneud gan y cyngor sir ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, swyddogion o Lywodraeth Cymru a hefyd y prif swyddog milfeddygol. Rwy'n credu bod yna nifer o faterion y mae angen edrych yn ofalus iawn arnynt mewn perthynas â'r drwydded. Ar hyn o bryd, mae arolygiad milfeddygol arbenigol ar y gweill. Dylai hwnnw ddod i ben heddiw. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i mi cyn gynted ag y byddwn wedi cael y wybodaeth honno. Nid ydym eisiau dyfalu beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar y ffeithiau i gyd yma.

Diolch i chi am bopeth rydych wedi'i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy arswydo'n fawr gan y digwyddiadau a ddilynodd y dianc. Rwy'n arbennig o bryderus fod y lyncs wedi cael ei ladd pan ellid bod wedi ei ddal yn fy marn i. Edrychais ar y trapiau a ddefnyddiwyd ac mae beirniadaeth ynglŷn â hynny—ynglŷn â'r ffaith nad oeddent yn briodol ac y gallasent fod wedi bod yn well ym mhob ffordd, oherwydd roedd yn rhaid i'r anifail gyrcydu yn hytrach na cherdded i mewn i'r trapiau a osodwyd i'w ddal yn fyw. Rwy'n meddwl tybed a gaiff cwestiynau eu gofyn am y broses honno. Yna, cefais fy arswydo'n llwyr gan y newyddion fod anifail a oedd wedi'i ddal yn gaeth wedi cael ei ladd oherwydd diffyg profiad o drin a symud yr anifeiliaid hynny. Felly, mae hyn i gyd, mae'n debyg, yn arwain at gwestiwn amlwg, sef: pan fo trwyddedau'n cael eu rhoi, a oes ystyriaeth, o leiaf, yn cael ei rhoi i brofiad staff yn ogystal â'r cyfleusterau lle bydd yr anifeiliaid hynny'n cael eu cadw. Hefyd, buaswn yn cefnogi'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â'r angen i ni ystyried adolygu'r system gyfan a'r materion ehangach sy'n ymwneud â hynny, ac a yw trwyddedau'n cael eu rhoi'n rhy hawdd, mewn rhai achosion, yn enw cadwraeth, ac mai'r nod sylfaenol weithiau mewn gwirionedd yw gwneud arian.

Diolch. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, rwy'n rhannu llawer o'ch pryderon chi a'i bryderon ef mewn perthynas â'r digwyddiad—neu'r ddau ddigwyddiad. Os caf ddweud ychydig ynglŷn â sut y caiff trwyddedau eu cyhoeddi. Os oes cais am drwydded, bydd sw yn cael ei harolygu gan dîm. Buasai hynny'n cynnwys o leiaf un neu ddau o arolygwyr sydd ar restr yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae gennym fewnbwn. Yn amlwg, mae trwyddedau wedi'u datganoli i Gymru, ond mae hon yn system a sefydlwyd yn ôl yn y 1970au. Ond mae gennym fewnbwn fel Llywodraeth parthed y rhestr honno drwy'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pan fydd cais am drwydded wedi'i wneud, dyna pwy fyddai'n ei archwilio: o leiaf un arolygydd oddi ar y rhestr honno. Gallent fod yn filfeddygon neu gallent fod yn arolygwyr a enwebwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl cais gan awdurdod lleol. Cynhelir arolygiadau ffurfiol hefyd cyn adnewyddu trwydded neu os oes newid sylweddol i drwydded, ond cytunaf yn llwyr fod angen i ni adolygu'r broses sydd gennym. Roeddwn hefyd eisiau ychwanegu bod penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i awdurdodi difa'r anifail heb boen ar 10 Tachwedd yn un gweithredol, a wnaed ar ôl derbyn cyngor arbenigol yn seiliedig ar y ffaith fod lefel y risg i aelodau o'r cyhoedd wedi cynyddu o gymedrol i ddifrifol.

15:10
Honiadau o Fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014
2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud? 63

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion a roddais ddoe, ac rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais bryd hynny.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb a roesoch ddoe, Brif Weinidog, yn cydnabod bod honiadau wedi'u gwneud ac wedi cael sylw, fel y nodwyd gennych yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â'r gydnabyddiaeth honno drwy'r cwestiwn hwn heddiw, a hoffwn wybod pryd y daethoch yn ymwybodol o'r honiadau y mae'r cyn-Weinidog Leighton Andrews a'r uwch gynghorydd arbennig Steve Jones wedi'u nodi—ac wedi'u nodi'n benodol. Hoffwn ddeall pwy a ymchwiliodd i'r honiadau hynny a hefyd pa gasgliadau, ac yn bwysig, pa gamau a gymerwyd gennych chi neu gan rywun a ddirprwywyd gennych i ymdrin ag unrhyw bwyntiau dilynol a oedd yn ofynnol o'r adroddiad a luniwyd ganddynt.

Fel y dywedais, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion rwyf eisoes wedi'u rhoi, ond unwaith eto, wrth gwrs, rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais ddoe, os oes unrhyw un yn dymuno cyflwyno rhagor o wybodaeth.

Prif Weinidog, a yw'n bosibl cadarnhau faint o bobl sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â bwlio o fewn y Llywodraeth ers i chi ddod i'r swydd yn 2009?

Ni ddeuthum i'r swydd yn 2005, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch 2009. Mae'n ddrwg gennyf. O ran yr ateb i'r cwestiwn, bydd llawer o'r rheini'n faterion adnoddau dynol y bydd yr Ysgrifennydd Parhaol mewn sefyllfa well i'w ateb.

Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywydd roi rhyw gyfarwyddyd ynglŷn ag union bwynt gofyn cwestiynau pan nad ydych yn cael ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion penodol sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd ac sy'n faterion o ddiddordeb cyhoeddus yn yr ystyr eu bod wedi eu cofnodi ers peth amser a'u bod yn ymwneud ag achosion penodol sydd dan reolaeth uniongyrchol y Prif Weinidog. Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurder y gallwch ei roi i ni ynglŷn â diben hynny.

Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—[Torri ar draws.] Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—Jane Hutt.

Aston Martin yn Sain Tathan

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os na fydd cytundeb ar Brexit? 65

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ag Aston Martin fod 'dim bargen' yn creu risg i fusnes. Fodd bynnag, nid yw'r cwmni wedi nodi unrhyw risg i'r buddsoddiad yn Sain Tathan, sy'n datblygu'n gyflym.

Mae'r ymateb hwnnw'n galonogol iawn. Ymwelais ag Aston Martin yn Sain Tathan yn ddiweddar i weld y cynnydd a wnaed ar droi'r awyrendy mawr yn safle cynhyrchu model DBX moethus newydd y cwmni gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan greu 750 o swyddi medrus iawn yn ogystal â gwerth £60 miliwn o gontractau a fydd o fudd i Gymru, ond rwy'n dal i ddweud fy mod yn bryderus y gallai'r buddsoddiad sylweddol hwn fod mewn perygl bellach. A wnewch chi sicrhau bod y dystiolaeth a roddodd Aston Martin i'r pwyllgor dethol yn San Steffan yn cael ei hystyried yn nhrafodaethau Brexit Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, gan ddangos, fel y dywedodd Aston Martin ddoe, y gallai Brexit 'dim bargen' fod yn lled-drychinebus i weithgynhyrchu ceir yng Nghymru? A allem ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod ag Aston Martin i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ac i gael y sicrwydd hwnnw rydych yn ei roi y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd hyn yn niweidio'u datblygiad yn Sain Tathan?

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu'n gyson ag Aston Martin ynglŷn â'r buddsoddiad hwn a'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i'r cwmni i sicrhau'r buddsoddiad a'r budd mwyaf ohono, ond yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi clywed eich sylwadau a bydd yn parhau i gadw hynny mewn cof wrth iddo gyfarfod ag Aston Martin a'u cefnogi.

A gaf fi ddweud, Llywydd, ar sail ehangach, fod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi a chynnal y buddsoddiad hwn? Mae hi a minnau'n deall pwysigrwydd y buddsoddiad i ardal fenter Sain Tathan ac rydym yn deall pwysigrwydd cadw mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl, a'r amcan hwnnw sy'n parhau i lywio polisi ac ymagwedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn codi ein dwylo mewn arswyd ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn methu ymdrin â'r mater pwysig hwn.

15:15

Diolch i'r Aelod dros Fro Morgannwg am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Yn amlwg, mae'r sector modurol yn hollbwysig i Gymru, ac mae'r rhybudd llym a gyhoeddwyd gan Aston Martin yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i Gymru gael llais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr UE, ac yn wir, mae'n tanlinellu'r angen i'r wlad hon gael llais a phleidlais ar fargen derfynol Brexit. Wrth gwrs, buasai cael hynny, os nad unrhyw beth arall, yn rhoi trosoledd i ni, yn wleidyddol, er mwyn blaenoriaethu'r sector modurol yn ogystal â diwydiannau eraill.

Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam roedd ei ffrindiau neithiwr ymhell o fod yn sefyll dros Gymru ym mhalas San Steffan, a heb drafferthu i gerdded drwy'r lobïau dros Gymru ar fater pleidlais i roi llais i'r Senedd hon ar fargen derfynol Brexit?

Llywydd, nid wyf yn dymuno treulio amser y Siambr y prynhawn yma yn rhoi darlith i lefarydd Plaid Cymru ar natur gwneud penderfyniadau datganoledig—rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru yn deall hynny—fodd bynnag, gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod lleisiau Cymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn parhau i ddarparu llais cryf dros Gymru, i sefyll dros fuddiannau Cymru, ac i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall beth yn union yw anghenion Cymru wrth i ni symud drwy'r broses hon. A bydd y Llywodraeth hon bob amser yn parhau i roi anghenion Cymru yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd.

Yn gyntaf oll a gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w gyfrifoldebau newydd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad?

Mewn perthynas ag Aston Martin, onid hon yw un o'r agweddau mwyaf hurt ar y prosiect ofn? Nid yw'r dystiolaeth a roddwyd ddoe gan Mark Wilson, cyfarwyddwr cyllid Aston Martin, y gallai cynhyrchiant ddod i ben yn Aston Martin pe na bai tystysgrifau cydymffurfio yn cael eu rhoi ar gyfer ceir Ewropeaidd neu geir Prydeinig ar ôl Brexit, yn debygol o gael ei gwireddu. Mae Aston Martin yn allforio 600 o geir y flwyddyn i'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Almaen yn unig yn allforio 820,000 o geir i Brydain bob blwyddyn—dyna 14 y cant o holl gynhyrchiant ceir yr Almaen, traean o'r holl geir a werthir yn y DU, sef €27 biliwn y flwyddyn. Roedd 2.6 miliwn o geir wedi'u cofrestru yn y DU yn 2015—gydag 86 y cant ohonynt wedi'u cynhyrchu y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'n hurt rhagweld y bydd system y tystysgrifau cydymffurfio yn dod i ben yn llwyr os na cheir unrhyw gytundeb ynghylch trefniadau masnach rhwng Prydain a gweddill Ewrop yn y dyfodol, oherwydd gallai hynny, mewn gwirionedd, fod yn fantais aruthrol i gynhyrchwyr domestig, pe na bai'n bosibl gwerthu unrhyw geir tramor yn y Deyrnas Unedig. Nid yw hon yn senario a ddylai ein rhwystro am un eiliad.

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP Cymru am ei sylwadau caredig. Fodd bynnag, nid wyf am adael i hynny fy rhwystro. [Chwerthin.] Rwy'n siŵr bod rheolwyr Aston Martin yn ddiolchgar i'r Aelod am ei ddarlith ar eu busnes a buddiannau eu busnes. Rwy'n siŵr y byddant yn ddiolchgar iawn iddo am yr amser y mae wedi'i gymryd i wneud hynny, ac rwy'n siŵr y byddant yn rhoi sylw llawn i'r sylwadau y mae wedi'u gwneud y prynhawn yma. Mae'n bosibl fod yr Aelod wedi bod yn treulio gormod o amser yn darllen y negeseuon trydar gan robotiaid Rwsiaidd i sylweddoli beth yn union sy'n digwydd yn yr economi hon a beth yn union sy'n digwydd mewn ymarfer Brexit aflwyddiannus lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu cynrychioli a sefyll dros fuddiannau Cymru, pobl y Deyrnas Unedig ac yn methu darparu unrhyw fath o Brexit o gwbl.

Ysgrifennydd y Cabinet, onid y broblem yw'r ffaith nad ymwneud â bygythiad economaidd 'dim bargen' i Gymru yn unig y mae hyn, ond hefyd y bygythiad economaidd yn sgil y math o fargen y gallem ei chael yn y pen draw gyda'r Llywodraeth yn negodi, a bod y cynnig a roddodd y Llywodraeth i Senedd San Steffan yn ddiweddar ynghylch pleidlais seneddol, ar sail 'derbyn neu wrthod', yn weithred hollol ddiystyr, a hefyd yn un sy'n tanseilio democratiaeth seneddol mewn gwirionedd? Onid craidd y broblem yw bod gennym Lywodraeth Geidwadol ddigyfeiriad ac analluog gydag arweinyddiaeth analluog a'n bod yn daer angen etholiad cyffredinol ac i Jeremy Corbyn ddod yn Brif Weinidog nesaf?

15:20

Rwy'n cytuno gyda fy ffrind o Bontypridd, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym Lywodraeth y DU sy'n rhwym wrth wasg asgell dde, sy'n treulio hanner eu hamser yn osgoi talu treth Brydeinig ac yna'n pregethu wrth Lywodraeth Prydain beth sydd er lles Prydain, ac yn rhwym wrth grwpiau o aelodau meinciau cefn sy'n rhyfela â'i gilydd. Nid ydynt yn gallu ffurfio polisi, nid ydynt yn gallu ffurfio rhaglen, nid ydynt yn gallu sicrhau pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin, nid ydynt yn gallu mynychu pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin hyd yn oed. Llywodraeth sy'n ffoi rhag ei Senedd yw hi, a gorau po gyntaf i bawb ohonom y cawn etholiad cyffredinol a chael Jeremy Corbyn yn arwain Llywodraeth Lafur.

Rydym wedi cael y rhefru gwleidyddol gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond gadewch i ni ddychwelyd at realiti—[Torri ar draws.] Gadewch i ni ddychwelyd at realiti. Ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad i'r Cabinet.

Tua dau fis yn unig yn ôl, cyhoeddodd Aston Martin gytundeb gwerth £500 miliwn ar daith fasnach i Japan. Bydd hynny'n ychwanegu hwb sylweddol i ôl troed y ffatri ym Mro Morgannwg, ac rwy'n edrych i lawr arni bob dydd o ble rydym yn byw ym mhentref Saint Hilari. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw ac rwy'n croesawu pawb sydd wedi cymryd rhan ynddo, yn gweithio o safbwynt Llywodraeth Cymru ac o safbwynt Llywodraeth y DU. Mae'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet, neu'r Llywodraeth, dylwn ei ddweud, wedi'i wneud o'r cytundeb masnach £500 miliwn a gyhoeddodd Aston Martin ar 31 Awst eleni, pan aethant gyda'r Prif Weinidog i Japan, mewn perthynas â manteision enfawr hynny i'r ôl troed y maent yn ei ddatblygu yn Sain Tathan?

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau caredig. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi gweithio'n galed ar hyn, ac mae ei gyfraniad ef i hyn—arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—wedi bod yn llai na dim. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fod y polisïau economaidd y mae wedi'u cefnogi'n gyson—[Torri ar draws.] Mae wedi'u cefnogi'n gyson—. Rwyf am barhau—fi sydd â'r meicroffon, felly, wyddoch chi, rydych yn gwastraffu eich amser.

Profwyd bod y polisïau economaidd y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u cefnogi'n gyson drwy gydol ei amser yn ei swydd yn y lle hwn yn anghywir. Yr hyn a welsom gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran ei pholisi cyni yw llai o dwf, llai o wariant. Rydym wedi gweld economïau tir mawr Ewrop ac ardal yr ewro yn symud ymlaen, tra bod economi'r Deyrnas Unedig yn sownd yn y lôn araf.

Y realiti yw y bydd y buddsoddiad yn Sain Tathan, buddsoddiad Aston Martin, yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi a sefyll dros fuddiannau Cymru drwy gydol proses Brexit, byddwn yn parhau i roi buddiannau Cymru yn gyntaf a byddwn yn parhau i roi buddiannau economi Cymru yn gyntaf.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. 

Pwynt o drefn yn codi allan o gwestiynau—Adam Price.

Yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog a oedd yn parhau i lynu wrth yr ateb a roddodd i Darren Millar yn 2014 na fu unrhyw honiadau o fwlio, neu a oedd wedi camarwain y Cynulliad. Nawr, gwrthododd y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw, felly nid yw'n glir o gwbl bellach a gafodd y Cynulliad ei gamarwain, sy'n fater difrifol iawn yn wir. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Llywydd, i ofyn i'r Prif Weinidog ddychwelyd i'r Siambr y prynhawn yma fel y gall ateb y cwestiwn ynglŷn ag a gafodd y Cynulliad hwn ei gamarwain ar fater difrifol iawn, ac os nad yw'n barod i'w ateb ei hun, a fuasai'n ei gyfeirio at drydydd parti er mwyn i ni gael ymchwiliad annibynnol i'r mater hwn?

Mae'n fwy na thebyg nad yw hwnnw'n bwynt o drefn, ond mae eich sylwadau wedi'u cofnodi. Mae cynnwys ateb y Prif Weinidog—ac mae'n ddrwg gennyf nad yw yma ar gyfer y pwynt o drefn hwn—ond mater i'r Prif Weinidog yw cynnwys ei ateb. Ond o ystyried y prynhawn yma, efallai fod rhai o atebion y gweinidogion wedi bod yn rhy hir y prynhawn yma, ac efallai fod rhai wedi bod yn rhy fyr.

6. Datganiadau 90 Eiliad
15:25

Diolch. Nid ydym yn dda iawn yng Nghymru am ddathlu rhai o'n meibion a'n merched enwocaf. Yn aml, maent yn fwy adnabyddus y tu allan i Gymru nag yng Nghymru, ac mae'n rhaid i hyn newid. Caiff Gareth Jones ei ddathlu yn yr Wcráin am fod yn un o'r ychydig newyddiadurwyr i dynnu sylw at yr Holodomor yn ystod blynyddoedd 1931-32—Holodomor, marwolaeth drwy newyn, newyn artiffisial Stalin, a arweiniodd at farwolaeth tua 7 miliwn i 10 miliwn o Wcreiniaid. Yn wahanol i lawer o'i gyfoedion, gwrthododd Gareth Jones y gyfeddach a ddarparwyd ar gyfer newyddiadurwyr ym Moscow ac aeth ar droed i weld drosto'i hun. Roedd yr hyn a welodd yn codi arswyd arno. Roedd y modd y câi'r gwir ei guddio yn codi arswyd arno. Ysgrifennodd amdano a thynnu sylw ato a chafodd ei gondemnio gan yr union newyddiadurwyr hynny. Mae'r newyn wedi'i ddogfennu'n dda bellach. Ysgrifennodd un goroeswr:

'Roedd y newyn yn artiffisial wrth natur. Bu farw 500 o bobl yn ein pentref ni a 750 o bobl yn y pentref cyfagos. Dosbarthodd fy nhad wenith yr hydd a chafodd ei arestio y diwrnod canlynol.'

Yn ystod ei daith gerdded waharddedig ym mis Mawrth 1933, gwelodd y newyn â'i lygaid ei hun a nododd:

'Roedd y gri i'w chlywed ym mhob man, "Nid oes bara. Rydym yn marw... Rydym yn aros am farwolaeth".'

Yn ystod y newyn, cafodd tua 20 i 25 y cant o boblogaeth yr Wcráin Sofietaidd eu difa, gan gynnwys traean o blant yr Wcráin. Pan ddywedwyd wrth Stalin y byddai ei orchmynion yn arwain at farwolaeth miliynau, ei ymateb oedd, 'Pwy ddaw i wybod byth?' Oherwydd newyddiadurwyr o Gymru fel Gareth Jones, rydym yn gwybod.

Cynnig i Ethol Aelod i Bwyllgor

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, ac rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM6569 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â'r Rheol Sefydlog.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, ac rydw i'n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn.

Cynnig NDM6564 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf gynnig cyllidebol y Comisiwn ar gyfer 2018-19 a gofynnaf iddo gael ei gynnwys yn y cynnig cyllideb blynyddol.

Mae'r gyllideb ar gyfer 2018-19, trydedd flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, yn gyllideb—. Yn y gyllideb honno, mae'r Comisiwn yn gofyn am £56.1 miliwn, ac mae'n cynnwys tair elfen: £35.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn; £16.2 ar gyfer penderfyniad y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol; a £4.4 miliwn ar gyfer cyllidebau nad ydynt yn arian parod. Bydd y gyllideb hon yn sicrhau y gall y Comisiwn fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r Cynulliad gyda hyn ac yn y tymor hwy, a chefnogi cyflawniad ein nodau strategol yn briodol, gan gofio sefyllfa ariannol ehangach y sector cyhoeddus.

Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad, ac rydym yn cydnabod bod y pwysau ar Aelodau'r Cynulliad yn fwy nag erioed, gydag ystod lethol o waith i bwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn, a chaiff ei ddwysáu gan newid cyfansoddiadol pellach, pwerau codi trethi a rheoli'r broses o adael yr UE. Mae cyfrifoldebau deddfwriaethol, ariannol a chraffu ein nifer fach iawn o Aelodau etholedig—44 yn unig ohonom, neu 46 efallai, sy'n gallu gwneud y gwaith hwn—yn unigryw ac yn hollbwysig, felly mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y ddarpariaeth o wasanaethau rhagorol i gefnogi Aelodau wrth i chi gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

Nid yw'n ymwneud yn unig â'r pwysau uniongyrchol. Mae'r Llywydd wedi nodi cynlluniau'r Comisiwn i wneud ein Senedd yn addas ar gyfer y dyfodol, gan roi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth, cyfathrebu'n effeithiol â'r cyhoedd, a chyflawni ein dyletswydd statudol i alluogi'r Cynulliad i gyflawni ei waith deddfwriaethol a chraffu, gan gynnwys datblygu gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad.

Mae angen llywodraethu da ar Gymru, ac ni ellir llywodraethu'n dda oni bai ei fod yn cael ei wella, ei graffu a'i ddwyn i gyfrif gan senedd effeithiol. Mae gennym bwerau deddfu newydd yn y maes hwn. Mae'n rhaid i'r Comisiwn wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i arfogi'r Senedd hon â'r gallu i sicrhau democratiaeth gref a chynaliadwy. Fel y byddwch yn deall, nid yw'r gwaith hwn ond megis dechrau. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y Comisiwn yn parhau i ystyried goblygiadau'r gyllideb ac yn dychwelyd i'r Cynulliad i gael eich craffu gennych gan y Pwyllgor Cyllid, y ddadl flynyddol hon, ac yna drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac unrhyw ffurfiau eraill sy'n rhesymol a awgrymir i ni.

Gan ddychwelyd at y gyllideb rydym yn ei hystyried heddiw, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, mae'n rhaid i'r Comisiwn ddangos yn gyson ei fod yn defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae gwaith craffu'r pwyllgor yn rhan bwysig o hynny, felly rydym yn cychwyn y broses gyda'r nod o fod yn glir, yn agored ac yn dryloyw, ac mae'r gwaith craffu hwnnw'n helpu'r Comisiwn i wella wrth ymgyrraedd at y nod hwnnw.

Gwnaeth y pwyllgor 10 argymhelliad, ac fe aethom i'r afael â phob un yn gadarnhaol yn ein hymateb. Yn ein strategaeth gyllidebol, darparwyd ffigurau dangosol ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad hwn. Roedd y strategaeth, a gyhoeddwyd yn 2016, yn gosod y cyd-destun ar gyfer cyllideb y comisiwn ar gyfer y blynyddoedd sy'n weddill o'r pumed Cynulliad. Mae'r comisiwn, ar ôl adolygu a gwneud gwaith craffu pellach ar y strategaeth hon, yn cytuno bod modd ei chyfiawnhau o hyd. Ond mae hefyd yn cydnabod, yn y blynyddoedd sy'n weddill o'r Cynulliad hwn, na ddylai cyllideb y comisiwn fod yn fwy nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru. Mae'r comisiwn yn derbyn bod yn rhaid i unrhyw gais am gyllideb yn y dyfodol fod yn gymesur â'r newidiadau i grant bloc Cymru, ac yn wir, mae wedi ceisio cynnal cymesuredd o'r fath mewn blynyddoedd a fu, hyd yn oed mewn cyfnodau mwy uchelgeisiol. Wrth lunio ceisiadau cyllidebol yn y dyfodol, bydd angen i'r comisiwn ystyried unrhyw amrywiad ym mloc grant Cymru o ganlyniad i bwerau codi trethi newydd, ac ymdrin â chymesuredd, gan ystyried hynny hefyd.

Roedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cais am swm o arian wedi'i glustnodi i'w ddefnyddio ar gyfer datblygu anghenion llety newydd posibl, i'w ddefnyddio os oes angen yn unig. Mae hyn yn unol â gwella tryloywder ac i roi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw benderfyniadau costus a allai godi, ond heb fod yn bendant, yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae dau o argymhellion y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â'r mater hwn, ac mae'r pwyllgor wedi gofyn yn lle hynny ein bod yn cyflwyno cyllideb atodol er mwyn cyflwyno'r achos dros fuddsoddiad o'r fath ar wahân, pe bai'r comisiwn yn penderfynu ein bod yn dymuno mynd ar drywydd hyn. Derbyniwyd yr argymhellion, ac rydym wedi diwygio ein cyllideb yn unol â hynny.

Mae tri o'r argymhellion yn gysylltiedig ag adnoddau staff y comisiwn, gofynnwyd am wybodaeth am y cynnydd yn niferoedd staff dros y 10 mlynedd diwethaf, a meincnodi yn erbyn deddfwrfeydd eraill. Gwnaed argymhelliad na ddylid newid y nifer o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y Cynulliad yn 2018-19. Gan symud ymlaen, o fewn y terfyn uchaf sefydledig a gytunwyd, bydd y comisiwn yn ymdrechu i gynnal lefelau effeithiol o wasanaeth i gefnogi Aelodau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Ac i helpu gyda hynny, mae'r comisiwn wrthi'n cynnal adolygiad o gapasiti ar hyn o bryd—ymarfer a ddechreuodd yng nghanol mis Medi—ac mae'r pwyllgor wedi gofyn am gael gweld canlyniadau'r ymarfer hwnnw mewn papur ffurfiol, ac rydym wedi cytuno i hynny.

Roedd tri argymhelliad arall yn cyfeirio at ddull y gyllideb o flaenoriaethu'n dryloyw, ac rydym wedi derbyn y rheini hefyd.

Felly, yn olaf, rwyf eisiau sicrhau'r Aelodau y byddwn yn parhau i weithio mewn modd sy'n darparu gwerth am arian, ac yn ymdrechu i fod mor effeithlon â phosib, gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob Aelod i'n cefnogi ni i gyd yn effeithiol yn ein rolau.

Diolch.

15:30

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i Suzy Davies am agor y drafodaeth y prynhawn yma, a hefyd, wrth gwrs, am ddod gerbron y Pwyllgor Cyllid er mwyn i'r gyllideb ddrafft yma gael ei harchwilio, a hefyd am ymateb mor bositif a chadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Ac mae'n dda iawn gen i glywed bod yr argymhellion wedi cael eu derbyn, ac rwy'n edrych ymlaen, felly, at gydweithio gyda'r Comisiwn nawr ar y ffordd y mae'r wybodaeth bellach yn dod gerbron, ac ar y ffordd y bydd y gyllideb yn y dyfodol yn cael ei harchwilio.

Rydw i jest eisiau dechrau drwy egluro un pwynt, rwy'n meddwl, sydd yn bwysig yn y cyd-destun yma. Wrth ymateb i'n hadroddiad ni mewn llythyr, mae'r comisiynydd, Suzy Davies, yn dweud bod y gyllideb ddrafft bresennol wedi ei chynnig yng nghyd-destun strategaeth pum mlynedd—rydych chi newydd gyfeirio at y strategaeth, a dweud y gwir—a gafodd ei chyflwyno, ei harchwilio a'i hargymell yn flaenorol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y Pwyllgor Cyllid heb argymell unrhyw strategaeth o ran cyllid. Yn wir, beth ddywedon ni yn ein hadroddiad ni y llynedd oedd y canlynol:

'oherwydd yr ansicrwydd presennol mewn llawer o feysydd, y byddai'n amhriodol rhoi sylwadau ar y cynlluniau gwariant y tu hwnt i 2017-18.'

Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n glir iawn ein bod ni ond yn cymeradwyo cyllideb fesul blwyddyn, ac rwyf am esbonio hynny, achos rwy'n meddwl, o bosib, fod hynny wedi achosi rhywfaint o'r anghytuno, neu'r anghydweld, sydd wedi deillio o ambell i eitem yn y gyllideb yma.

Wedi dweud hynny, mae eisiau bod yn glir bod y gyllideb sydd ger eich bron heddiw yn gofyn am gynnydd sy'n fwy na chwyddiant, ac sy'n fwy na'r cynnydd a ddisgwylir yn y grant bloc. Er nad ydym wedi argymell newidiadau i'r cynnydd y gofynnwyd amdano ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r pwyllgor yn credu'n gryf, ar gyfer yr hyn sydd yn weddill o'r Cynulliad hwn, na ddylai cyllideb y Comisiwn fod yn fwy nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru.

Yn wyneb y toriadau parhaus i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei bod hi'n anodd cyfiawnhau unrhyw gynnydd yng ngwariant y Cynulliad. Fel Cynulliad, rhaid inni gydnabod bod unrhyw gynnydd a roddir i'r Comisiwn—yn ein henwau ni, wrth gwrs—yn cael ei gymryd o gronfa gyfunol Cymru, a bod hynny'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith, y ffordd, yn hytrach, mae'r comisiynydd wedi gosod allan ym mha ffordd y bydd hi a'r Comisiwn nawr, dros y blynyddoedd nesaf, yn delio â mater anodd i bawb yng Nghymru o ran y gyllideb. 

Argymhelliad allweddol arall, fel sydd wedi cael ei grybwyll, oedd ein hargymhelliad ni y dylid dileu'r cais am £700,000 i ddatblygu cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd. Os bydd angen arian ar gyfer hynny, dylid gofyn amdano mewn cyllideb atodol neu gynnig cyllidebol yn y dyfodol. Yr wyf yn ddiolchgar bod y Comisiwn wedi cytuno yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi argymell bod rhagor o fanylion yn cael eu darparu i bob Aelod, ac i bob grŵp hefyd yn y lle hwn, cyn i'r Comisiwn ofyn am ragor o gyllid ar gyfer adeilad newydd. Rwy'n credu bod adeilad newydd, a'r posibiliad o adeilad newydd, angen ei drafod yn llawn a bod angen i bob Aelod gael y cyfle i ddeall y rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion.

Y cyd-destun i hwn, wrth gwrs, yw bod y Comisiwn wedi gwario £1.9 miliwn y llynedd ar adnewyddu'r llawr gwaelod, yr ystafelloedd pwyllgor newydd rydych yn gyfarwydd â nhw. Fel pwyllgor roeddem yn ei chael hi'n anodd deall pam y gwariwyd cymaint o arian llai na blwyddyn yn ôl, pan oedd y posibilrwydd o godi adeilad newydd eisoes yn cael ei ystyried, ond nid yn cael ei ystyried gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, mae'n rhaid dweud. Ariannwyd y gwaith adnewyddu hwn yn bennaf o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau, ac mae penderfyniadau fel hyn yn golygu ein bod ni, fel pwyllgor, yn cymryd diddordeb ychwanegol, arbennig, os liciwch chi, yn y modd y defnyddir yr arian hwn. 

Mae'r defnydd a wneir o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau wedi bod yn destun pryder i'r pwyllgor ers peth amser, ac yn sail i nifer o'n hargymhellion ni yn y gorffennol hefyd. Rydym yn cydnabod bod y Comisiwn wedi ystyried ein hargymhellion blaenorol, a bod y gyllideb ddrafft yn cynnwys rhagamcan o danwariant am y flwyddyn ac yn nodi sut y caiff y tanwariant o ran taliadau a'r arbedion eraill eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.

Hefyd, fel y nodwn yn ein hadroddiad, rydym yn anghyfforddus bod prif gyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar ragamcan o danwariant i ariannu meysydd gwaith blaenoriaeth, yn enwedig gan fod rhai o'r meysydd hyn yn cael eu hystyried fel rhai 'gorfodol'. Rydym yn gofyn pam bod gofynion gorfodol yn cael eu hariannu o danwariant posibl yn hytrach na'u cynnwys yn sicr yn y brif gyllideb. Rydym yn dal yn bryderus nad yw'r dull hwn o gyllidebu yn dryloyw nac yn eglur. Fel y soniwyd yn ein hadroddiad, rydym yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr i gadarnhau sut y mae Seneddau eraill yn cyllidebu ar gyfer gwariant sy'n ymwneud â thaliadau a lwfansau Aelodau. 

Mae'r pwyllgor yn gefnogol i'r gwaith sydd ar y gweill i gynnal adolygiad o gapasiti er mwyn llywio trafodaethau yn y dyfodol am yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau'r Comisiwn. Credwn, fel rhan o'r adolygiad, y dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc sicrhau y gwneir y mwyaf o'r adnoddau presennol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn manylion am ganlyniad yr adolygiad, fel sydd newydd gael ei addo gan y comisiynydd. Rydym yn disgwyl felly, dros y misoedd nesaf, i gydweithio â'r Comisiwn er mwyn sicrhau bod y dulliau cyllidebu a'r gyllideb ar gyfer y dyfodol yn sicr o gael y gefnogaeth ehangach posib yn y lle hwn. 

15:35

Diolch yn fawr. A gaf fi ddiolch i chi unwaith eto, Simon, a'r Pwyllgor Cyllid, am eich ystyriaeth ofalus o gyllideb y Comisiwn? Nodais eich sylwadau am y gyllideb bum mlynedd amlflwydd, os caf ei roi felly. Mae'n deg dweud, wrth gwrs, fod y Pwyllgor Cyllid yn gwybod beth roeddem yn ei gynnig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ac wrth gwrs buaswn yn cydnabod y pwynt y bydd angen inni newid y ffigurau hynny ar ryw bwynt efallai yng ngoleuni blaenoriaethau sy'n newid. Credaf fod y ffaith ein bod wedi gallu cadw at y ffigurau a roddais i chi y llynedd yn rhywfaint o dystiolaeth o'r ymdrech a wnaethom fel Comisiwn i dynhau ein gwregysau yn hytrach na'u llacio, gan gofio bob amser, fel y dywedais yn gynharach, am sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus ehangach.

Oni fuasech yn derbyn na all comisiwn y Cynulliad hwn fod yn rhydd rhag y cyni sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Yn sicr nid yw'n rhydd rhag yr angen i wneud arbedion effeithlonrwydd lle bynnag y bo'n bosibl eu gwneud, a byddwch wedi nodi, fel aelod o'r Pwyllgor, fod arbedion effeithlonrwydd wedi eu gwneud, mewn staffio i gychwyn, ac yn sicr mewn contractau dros y blynyddoedd blaenorol. Ond rydym hefyd mewn sefyllfa, fel y clywsoch yn ystod fy sylwadau agoriadol, lle mae'r Cynulliad hwn, y Senedd hon, yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd enfawr, gyda rhai ohonynt yn dod drwy ddeddfwriaeth, a rhai ohonynt yn dod drwy'r uchelgais gyffredinol sydd gan bawb ohonom i hon fod yn senedd o'r radd flaenaf. Rwy'n meddwl ei bod yn werth nodi bod y gyllideb hon yn 0.35 y cant o gyfanswm grant bloc Cymru. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n werth ei chraffu mor drwyadl ag y bo modd. Ond fel y soniais yn gynharach, nid oes ond 44 ohonom i graffu ar y 99.65 y cant sy'n weddill o'r grant bloc hwnnw, ac mae angen y gefnogaeth seneddol ardderchog i'n galluogi i wneud hynny'n effeithiol gan fod cyn lleied ohonom. Er enghraifft, mae deddfwriaeth yn galw am yr un faint o ymdrech a gwaith i 3 miliwn o bobl ag y byddai i 30 miliwn o bobl. Ac mae'n galw am yr un faint o graffu, pa un a oes 44 neu dros 100 ohonom. Po leiaf ohonom sydd, y mwyaf yw ein galw am gymorth canolog y Comisiwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i staff y Comisiwn a'r holl wasanaethau cymorth seneddol am eu hymroddiad ac am deithio'r filltir ychwanegol honno.

Credaf mai'r her fwyaf i'r Comisiwn hwn fydd sicrhau bod y Cynulliad, sy'n ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb, fel y soniais, yn cael ei arfogi'n briodol i wneud y gwaith. Os oes gennych unrhyw gwynion am yr hyn y mae llywodraeth leol yn ei gael, mater i Lywodraeth Cymru yw hynny, a hoffwn inni ddefnyddio ein cyllideb fach iawn er mwyn gwella gwasanaethau seneddol i'n helpu i graffu'n briodol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Ein nod o hyd yw gosod a chynnal safonau uchel mewn cyfnod o graffu cyhoeddus agos a gwella ein henw da fel sefydliad seneddol rhyngwladol agored o'r radd flaenaf. Ar ran y Llywydd a 'm cyd-Gomisiynwyr, rhoddaf addewid lawn a diffuant y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio ein hadnoddau, a ddarperir gan y gyllideb hon, i sicrhau ein bod yn goresgyn yr heriau hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon sy'n bosibl.

15:40

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod—Gohiriwyd o 8 Tachwedd

Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rwy'n galw ar Julie Morgan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6528 Julie Morgan, Angela Burns, Dai Lloyd, Joyce Watson, Jenny Rathbone

Cefnogwyd gan Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;

b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;

c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a

d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gychwyn y ddadl hon ar anffurfio organau cenhedlu benywod drwy glywed lleisiau menywod yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol. Felly, rydym yn mynd i ddechrau drwy chwarae clip byr o'r ffilm o'r enw A Change has Begun, a charwn rybuddio'r Aelodau ei bod yn eithaf pwerus.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn llythrennau italig isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad. 

Beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod?

Cefais fy nhorri pan oeddwn yn saith. 

Roeddwn yn 13 mlwydd oed.

Roeddwn yn 16 pan gefais fy nhorri.

Cafodd ei wneud yn ystod gwyliau'r ysgol.

Roeddwn i'n naw oed.

Roedd 20 ohonom a fi oedd yr hynaf, ac roedd yr ieuengaf yn ddwy, a bu hi farw'n ddiweddarach.

Roedd yn rhan o'n diwylliant; roedd yn rhan o'r hyn ydym ni.

Roeddwn i mor llawn o gyffro, wyddoch chi.

I chi ddod allan fel tywysoges.

Roedd yna lawer o ddawnsio.

Cawsom ddawnsio.

Canu. 

Roedd yn barti mawr iawn.

Am fy mod i mor ifanc, nid oeddwn yn deall beth oedd yn mynd i ddigwydd i mi.

Wedyn daeth yn amser i mi fynd i mewn i'r ystafell nesaf.

Rhoddodd dynes fwgwd am fy llygaid.

Cefais fy nhaflu i'r llawr.

Roeddwn yn ysgwyd.

Agorodd menywod fy nghoesau a fy ngwasgu i lawr gerfydd fy ysgwyddau.

A llenwais bob rhan o fy mrest.

Ni allwn anadlu; ni allwn symud.

Eisteddodd y ddynes arnaf a theimlais doriad siarp iawn rhwng fy nghoesau. Roedd e mor boenus.

Pan ddechreuon nhw dorri, sgrechiais mor uchel nes i'r menywod fy ngagio i fy atal rhag sgrechian.

Nid oes gennyf unrhyw eiriau i esbonio.

Y poen a deimlais y diwrnod hwnnw.

Wrth y pwll o waed, dyna lle y cafodd pob merch ei thorri.

Gallaf ddal i'w deimlo bob tro y byddaf yn meddwl amdano.

Fe ddefnyddion nhw'r un llafn ar bob un ohonom.

Roedd fy modryb yn un a oedd yn torri.

Y menywod—rydych chi'n gweld llawenydd ar eu hwynebau o wybod eich bod yn fenyw bellach.

Hoffwn ddiolch i 'm cyd-Aelodau Jenny Rathbone, Joyce Watson, Jayne Bryant, Dai Lloyd, ac Angela Burns na all fod yma heddiw, am gefnogi'r ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i Jane Hutt am ei chefnogaeth ar y mater hwn.

Mae anffurfio organau cenhedlu benywod—y broses o dorri neu anffurfio merched a menywod ifanc am resymau nad ydynt yn feddygol—yn ffurf eithafol ar wahaniaethu yn eu herbyn. Cyflawnir y weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod yn bennaf ar ferched ifanc ar ryw adeg rhwng babandod a 15 oed. Mae'n achosi gwaedu difrifol a phroblemau iechyd, gan gynnwys systiau, heintiau, anffrwythlondeb yn ogystal â chymhlethdodau wrth eni plant a mwy o berygl o farwolaeth mewn babanod newydd-anedig.

Ceir pedwar categori o anffurfio organau cenhedlu benywod, sy'n amrywio o ran difrifoldeb, ac maent yn weithdrefnau niweidiol sy'n cael eu cyflawni at ddibenion nad ydynt yn feddygol. Mae 80 y cant o fenywod wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu math 1, sef tynnu'r clitoris naill ai'n rhannol neu yn llwyr, neu fath 2, sy'n cynnwys cael gwared ar y labia hefyd.

Mae'r ystadegau ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn gymhleth, ac ni cheir un pwynt data, sef rhywbeth rydym yn chwilio amdano ac y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen, ond rydym yn gwybod, rhwng mis Hydref 2016 a mis Hydref 2017 ym Mwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro, fod 203 o fenywod yn byw gydag anffurfio organau cenhedlu benywod ac wedi bod yn gweld ymarferwyr iechyd. Mae data o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos bod 123 o ddioddefwyr angen gofal meddygol o ganlyniad i anffurfio organau cenhedlu benywod, yn ogystal â 44 o blant a oedd mewn perygl o orfod dioddef anffurfio organau cenhedlu, ac amcangyfrifir bod 2,000 o fenywod yn byw gydag effeithiau anffurfio organau cenhedlu yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod mai crafu'r wyneb yn unig yw hyn o ran niferoedd.

Rwy'n siŵr y gŵyr pawb yn y Siambr hon ei fod yn anghyfreithlon, ac mae wedi bod felly ers 32 mlynedd. Atgyfnerthwyd y gyfraith yn 2003 i atal merched rhag teithio dramor i gael eu hanffurfio yn y fath fodd. Ym mis Hydref 2015, cyflwynwyd dyletswydd adrodd orfodol i roi gwybod am unrhyw weithred o anffurfio organau cenehdlu mewn merched dan 18 oed. Ond rydym yn dal i fod yn ymladd i roi diwedd ar yr arfer. Er bod mwy o achosion yn cael eu cofnodi, ni chafwyd euogfarn lwyddiannus mewn mwy na 30 mlynedd.

Ond mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr anffurfio organau cenhedlu yn dweud na allwch newid diwylliant ag erlyniadau yn unig. Mae angen addysg; mae angen hyrwyddwyr cymunedol. Rhaid i'r boblogaeth ehangach yma sy'n credu nad yw'n digwydd yn eu milltir sgwâr fod yn ymwybodol o'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod hefyd. Yn ogystal ag athrawon, meddygon, yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol, rhaid inni addysgu cynorthwywyr addysgu, ymwelwyr iechyd, ysgrifenyddion ysgol, derbynyddion meddygfeydd a mwy. Rhaid siarad am anffurfio organau cenhedlu benywod yn eang ac mewn ffordd ddigyffro, yn yr un modd ag y siaradwn am beryglon iechyd ysmygu. Nid yw'n fater y dylem osgoi siarad amdano, ac roedd gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn am inni gael y ddadl hon heddiw, am inni fod yn agored a siarad am y materion hyn i gyd mewn ffordd agored a digyffro.

Wrth gwrs, gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 lle y caiff anffurfio organau cenhedlu benywod ei gynnwys fel ffurf ar drais ar sail rhywedd. Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged bersonol i Carl Sargeant, a fuasai, wrth gwrs, wedi bod yn ateb y ddadl hon, am ei ymrwymiad llwyr a'i waith i ddileu trais yn erbyn menywod, ac am gychwyn y ddeddfwriaeth hon. Gwelai anffurfio organau cenhedlu benywod fel rhan o'r broblem gyfan o drais yn erbyn menywod. Mae'n rhan gwbl annatod, gan ei fod yn ffurf ar drais ar sail rhywedd. Yn y Siambr hon, dywedodd Carl na ddylem ochel rhag mynd i'r afael â materion diwylliannol sensitif, fel anffurfio organau cenhedlu benywod, nad ydynt yn dderbyniol yn ein cymdeithas.

Felly, yn y cynnig hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn mewn ysgolion ac ymysg staff ac athrawon dan hyfforddiant, a chroesawaf y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at bob pennaeth ym mis Gorffennaf i geisio eu cymorth i helpu i ddileu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae gan athrawon rôl hanfodol i'w chwarae yn dod o hyd i achosion posibl lle y gallai merched fod mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu, yn enwedig pan fydd gwyliau ysgol ar y ffordd, gan fod merched yn aml yn cael eu hanfon i gael eu torri o dan gochl ymweld ag aelodau o'r teulu mewn gwledydd lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn arfer cyffredin.

Gwn nad yw'r cwricwlwm newydd wedi ei gyflwyno'n llawn eto, ond hoffwn weld bod mynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod fel rhan o'r cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yn orfodol, nid yn ddewisol. Felly, nid wyf yn gwybod a fuasai'n bosibl, yn ymateb y Gweinidog, i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu a fydd addysgu disgyblion am yr arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhan o faes iechyd a lles y cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatganoli yng Nghymru, oherwydd credaf fod dysgu am yr arfer yn hollbwysig fel rhan o gyfanwaith cyfan, a'i fod yn cael ei integreiddio'n rhan o'r maes iechyd a llesiant yn ei gyfanrwydd.

Hoffwn ofyn hefyd a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y mae disgwyl i adroddiad y panel arbenigwyr ar gydberthnasau iach gael ei gyhoeddi, ac a all egluro pa bryd y cyflawnir cynlluniau manwl o'r pynciau a gynhwysir yn y rhan hon o'r cwricwlwm. Ac o ran rhaglenni hyfforddi athrawon newydd, a wnewch chi gadarnhau a fydd anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei addysgu fel pwnc penodol?

Mae'r gwaith o addysgu pobl mewn cymunedau lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei arfer yn allweddol, a hoffwn dalu teyrnged i waith BAWSO, sy'n cynorthwyo menywod o leiafrifoedd du ac ethnig yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Credaf fod aelodau o BAWSO wedi dod yma heddiw. Rwyf wedi bod yn ymwneud â BAWSO ers ei sefydlu yn 1995, ac maent yn gwneud llawer iawn o waith yn cynnig cefnogaeth i fenywod sydd wedi dioddef yn sgil yr arfer a chodi ymwybyddiaeth ohono. Ac mae'n gwbl hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud mewn cymunedau i gefnogi pobl ac i geisio cynnig addysg a dealltwriaeth yn y cymunedau lle y caiff hyn ei wneud.

Mae BAWSO wedi helpu i sefydlu fforwm anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru, ac wedi codi ymwybyddiaeth mewn mwy nag 20 o gymunedau amrywiol yma yng Nghymru, ac mae dros 2,200 o weithwyr proffesiynol wedi cael hyfforddiant. Yn y saith mlynedd diwethaf, maent wedi ymgysylltu â 4,350 o bobl ac maent wedi cynnig cymorth un i un ac ymgysylltiad cymunedol. Mae BAWSO hefyd yn cynnal llinell gymorth 24 awr bwysig iawn mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Credaf na ddylem ochel rhag mynd i'r afael â'r mater gyda chymunedau. Credaf mai Carl a ddywedodd, pan siaradodd yma yn y Siambr, am y modd y mae'n rhaid i chi wynebu'r materion hyn sy'n sensitif yn ddiwylliannol, oherwydd fe allwch ei wneud a gallwch ei wneud mewn ffordd sy'n condemnio'r arfer heb gondemnio'r cymunedau, mewn ffordd sy'n ymdrechu i ddeall pam y mae pobl yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud a cheisio newid yr arfer.

Felly, teimlaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, oherwydd rydym yn ceisio agor y pwnc hwn i ddadl gyhoeddus yn ei gylch yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i ddangos ein bod yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd arnom fel Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth yma yng Nghymru i gydnabod y niwed y mae'r arfer hwn yn ei wneud ac i wneud popeth yn ein gallu mewn modd mor sensitif â phosibl i sicrhau ei fod yn dod i ben. Felly, edrychaf ymlaen at glywed y siaradwyr eraill ar y mater hwn.

15:50

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Julie Morgan, am gynnig y ddadl anodd hon, a hefyd am ddangos y fideo, oherwydd credaf fod y fideo'n dangos yn glir iawn nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod. Felly, mae'n bwysig iawn inni gyfleu beth yw'r arfer fel bod y cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol ohono er mwyn sicrhau cefnogaeth i'w ddileu.

Hoffwn dynnu sylw at arddangosfa a gynhelir ar hyn o bryd yn amgueddfa genedlaethol Cymru ac sy'n cael ei churadu gan bobl sy'n gysylltiedig ag elusen digartrefedd Huggard. Ei henw yw 'Penderfyniad pwy?' ac mae'n holi pam mai curaduron swyddogol a ddylai benderfynu beth yw celf a'r hyn y dylem edrych arno, yn hytrach nag aelodau cyffredin o'r cyhoedd, yn arbennig rhai sydd wedi dioddef yn enbyd yn eu bywydau, sef yr hyn sydd wedi eu harwain at ddigartrefedd.

Gwnaeth cyfres o ysgythriadau yn yr arddangosfa argraff fawr arnaf. Cawsant eu dewis gan rywun o'r enw Helen Griffiths, a ysgrifennodd, 'Gallaf gydymdeimlo â bod angen dianc rhag realiti am ychydig, i ffwrdd o'r pethau ofnadwy sydd wedi digwydd'. Mae'r delweddau graffig iawn yn dangos sut y mae menywod yn dal y ferch i lawr, a menywod sydd fel arfer yn cyflawni'r driniaeth erchyll hon. Ond hefyd mae'r paentiad olaf yn dangos mam yn gafael yn y plentyn yn ei breichiau wedi i'r peth ofnadwy hwn gael ei wneud iddi. Rwy'n meddwl bod honno'n ffordd wirioneddol bwysig o gyfleu wrth gynulleidfa lawer ehangach beth yw'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod.

Nid ffenomen newydd yw hon. Roedd fy hen fodryb yn ymgyrchu ynglŷn â hyn, ynghyd â ffeministiaid eraill, yn y 1920au ac rydym yn dal i fod yn ei drafod yn hytrach na'i ddileu. Yn amlwg, mae llawer wedi cael ei wneud, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud gan rai o'r cymunedau diaspora sy'n awr yn byw yn y DU i newid agweddau tuag at hyn fel rhywbeth sy'n briodol i'w wneud i'ch merched. Ond mae angen inni ei ystyried fel rhywbeth tebyg i bolio neu'r frech wen neu golera. Mae'n rhywbeth mor erchyll. Nid oes unrhyw fantais o gwbl o ran iechyd, ac nid yw ond yn ffordd o fygu rhywioldeb menywod a merched.

Felly, fel y soniodd Julie eisoes, gwyddom fod yna o leiaf 200 o fenywod yn byw yn ardal Caerdydd a'r Fro sydd wedi dioddef yn sgil anffurfio organau cenhedlu benywod, gan fod pob menyw sy'n beichiogi yn amlwg yn dod yn ffocws i gymorth a gofal iechyd y bwrdd iechyd lleol, ac rwy'n falch iawn fod Caerdydd a'r Fro wedi penodi bydwraig arbenigol ym maes anffurfio organau cenhedlu benywod a'i gwaith yw sefydlu clinig arbenigol sydd i agor ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n falch iawn nad yw'r clinig hwn yn mynd i fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru; mae'n mynd i fod yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn Adamsdown, sy'n safle priodol ar ei gyfer gan ei bod yn hawdd i bobl yn y cymunedau dan sylw ddod yno drwy ddefnyddio'r gwasanaethau bws lleol ac mae'n rhan o'r gymuned. Felly, mae hwnnw'n gam da iawn ymlaen ac yn gwbl hanfodol, ond yn amlwg y gwaith y mae gwir angen inni ei wneud yw atal menywod a merched rhag dioddef y ffieidd-dod hwn yn y lle cyntaf.

15:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw i siarad. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Julie Morgan ac Aelodau eraill am gychwyn y ddadl bwysig hon. Credaf fod hwn yn fater polisi sy'n galw am ddull trawslywodraethol o weithredu, gydag amcanion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn flaenllaw yn y camau gweithredu sy'n ofynnol. Felly, ochr yn ochr â Julie Morgan, croesewais y camau a gymerwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a ysgrifennodd at bob ysgol yng Nghymru i dynnu sylw at y rôl bwysig y gallant ei chwarae drwy adnabod dioddefwyr posibl a'u diogelu rhag anffurfio organau cenhedlu benywod.

Mae'r NSPCC yn nodi rhai arwyddion rhybudd posibl mewn merch sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu, megis methu croesi ei choesau pan fydd yn eistedd ar lawr, bod mewn poen neu afael yn ei chorff, a mynd i'r toiled yn amlach na'r arfer a threulio mwy o amser yno. Ond weithiau, ni cheir arwyddion amlwg gan y gallai merch ifanc gael ei dwyn dramor dros wyliau haf a wynebu anffurfio organau cenhedlu benywod—fel y gwelsom ar y ffilm—er mwyn iddi wella cyn tymor yr Hydref. Gelwir y tymor hwn yn 'dymor torri'.

Mae'r arfer hwn yn cadw'r weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod yn gudd ac o dan y radar. Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi gofyn i ysgolion fod yn ymwybodol o hyn. Credaf y byddai'n ddefnyddiol gwybod mwy am waith dilynol a gwaith gan Ysgrifennydd y Cabinet i fonitro ei chamau i gynnwys ysgolion, yn enwedig o ran sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant a'r adnoddau angenrheidiol i'w helpu i gynorthwyo i fynd i'r afael â'r mater sensitif hwn yn effeithiol ac yn hyderus. Mae ymateb trawslywodraethol i anffurfio organau cenhedlu benywod yn hanfodol, ond os ydym yn mynd i drechu'r gamdriniaeth annerbyniol hon yn erbyn menywod a merched, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cydnabod rôl y trydydd sector, yn enwedig y rheini sydd â thystiolaeth, sgiliau, dealltwriaeth ddiwylliannol a phrofiad i ymateb yn briodol. Mae BAWSO, fel y mae pawb ohonom wedi clywed, yn sefydliad ar gyfer Cymru gyfan sydd wedi bod yn cefnogi teuluoedd duon a lleiafrifoedd ethnig yr effeithiwyd arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod ers dros 20 mlynedd.

Yn 2010—fel y mae Julie Morgan a Jenny Rathbone eisoes wedi nodi—sefydlwyd y fforwm cymunedol anffurfio organau cenhedlu benywod ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro gydag aelodaeth ehangach, gan gynnwys yr NSPCC a Cymorth i Fenywod Cymru. Mae gwaith y fforwm yn cynnwys cynnal arolygon o ymarferwyr i ganfod lefel eu gwybodaeth am anffurfio organau cenhedlu benywod yn ogystal â'u hyder i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr, ac mae'r fforwm hefyd wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch hon dros glinig anffurfio organau cenhedlu benywod, fel y dywedodd Jenny Rathbone—cam da ymlaen, ac mae i fod i agor cyn bo hir, yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Ond rydym wedi gweithio'n agos â BAWSO ac yn gwybod mai eu nod yw cryfhau cymunedau i gymryd perchnogaeth ar fater anffurfio organau cenhedlu benywod, fel y dywedodd Julie Morgan, drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth addysg, er mwyn mynd i'r afael â'r math gwarthus hwn o gamdriniaeth a'i ddileu. Mae codi ymwybyddiaeth yn allweddol. Mae'r wal o ddistawrwydd a chyfrinachedd sy'n amgylchynu'r pwnc yn cadw dioddefwyr ynghudd ac yn caniatáu i'r ffurf ddinistriol hon ar gamdriniaeth i ffynnu—a chamdriniaeth yw hi, gyda miliynau o fenywod wedi cael eu heffeithio ar draws 30 o wledydd ledled y byd. Bydd llawer ohonom wedi gweld y rhaglen ar BBC Two yr wythnos diwethaf gyda Kate Humble yn edrych ar dde-orllewin Kenya, lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn anghyfreithlon ond yn dal i fod wedi ei wreiddio'n ddwfn yn y diwylliant lleol. Gwelsom ymgyrchwyr lleol fel Susan, un sydd wedi goroesi'r arfer o anffurfio organau cenhedlu, a Patrick, dyn ifanc o'r gymuned, sy'n gweithio'n ddiflino yng nghymuned wledig Kuria i godi ymwybyddiaeth ac achub merched a menywod ifanc.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd,

mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel rhywbeth sy'n ymyrryd â hawliau dynol merched a menywod. Mae'n adlewyrchu anghydraddoldeb dwfn rhwng y ddau ryw, ac yn ffurf eithafol ar wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae'n cael ei gyflawni bron bob amser ar bobl ifanc nad ydynt yn oedolion ac mae'n drosedd yn erbyn hawliau plant.

Er mwyn ei ddatgelu, rhaid i ni siarad amdano, rhaid inni gael ymateb trawslywodraethol a rhaid inni ymgysylltu â'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen. Am y rheswm hwnnw rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rhaid inni gael ein harwain gan y rhai ar y rheng flaen, fel BAWSO, a rhaid inni sicrhau bod yr arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a'r holl gyrff statudol yma yng Nghymru.

16:00

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Julie am gyflwyno'r ddadl hon, oherwydd os na allwn ni siarad am hyn, ni all neb. Os nad ydym yn siarad am y peth, nid oes dim yn cael ei newid ac mae'n aros am byth yng nghilfachau tywyllaf cymdeithas, heb sôn am feddyliau pobl—y rhai sydd wedi mynd drwy hyn ac wedi ei ddioddef. Gwelais raglen ar BBC Two yr wythnos diwethaf, a buaswn yn annog pobl i'w gwylio—Extreme Wives with Kate Humble. Nid yw'n wylio pleserus—mae'n unrhyw beth ond hynny—ond bydd yn caniatáu i bobl gael rhyw lefel o ddealltwriaeth, os nad oes ganddynt, o'r hyn rydym yn ei drafod.

Yn wir, mae'r driniaeth yn greulon. Mae'r un mor greulon ag y mae'n swnio, ac yn fy marn i, a barn eraill rwyf wedi siarad â hwy, mae wedi ei amgylchynu gan y diwylliant gwreig-gasaol a'r cyfiawnhad crefyddol gwyrdroëdig drosto. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain—geiriau menywod o Affrica y cyfarfûm â hwy fel cynrychiolydd Seneddwragedd y Gymanwlad ydynt, menywod a oedd yn byw gyda hyn wedi cael ei wneud iddynt.

Mae'n werth crybwyll ambell beth. Ni ellir gorbwysleisio'r goblygiadau hirdymor. Mae menywod sydd wedi dioddef anffurfio organau yn aml iawn yn dioddef o anymataliaeth yn sgil hynny. Canlyniad y ffaith eu bod yn dioddef o anymataliaeth yw eu bod hefyd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain—mae eu gwŷr yn eu gadael am eu bod yn eu hystyried yn fudr. Cânt eu gadael mewn tlodi—tlodi truenus—i fagu eu plant ar eu pen eu hunain. Felly, nid yn unig eu bod yn cael eu hanffurfio, ac anffurfio ydyw, ond maent yn cael eu gadael yn amddifad o ganlyniad i hynny. Y mater arall nad yw wedi cael sylw, wrth gwrs, ac mae'n eithaf amlwg, yw bod hon yn drosedd yn y wlad hon, ac nid oes neb wedi cael ei erlyn. Credaf fod peidio â sôn am y peth yn gwneud anghymwynas â'r mater, felly rwyf am sôn am y pethau hynny.

Mae'n wir, wrth gwrs, fod diwylliant, yn aml iawn, yn dilyn pobl. Mae gennym ddiaspora eithaf mawr yma, a dyna pam mae'n effeithio'n arbennig ar rai cymunedau yn fwy nag eraill. Rydym yn gwybod, yn ôl ymchwil City, Prifysgol Llundain a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref, fod tua 137,000 o fenywod a merched yng Nghymru a Lloegr bellach yn byw gyda'r canlyniadau, fel y disgrifiais, a chafodd tua 60,000 o ferched o dan 14 oed eu geni i fenywod sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu. Mae'r rheini'n ffigurau eithaf ysgytiol, ac mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, a dyma lle y daw BAWSO yn rhan o bethau: a yw'r rheini, felly, yn mynd i gael eu hailadrodd, gan mai'r menywod sy'n cyflawni'r weithred o anffurfio organau cenhedlu ar eu merched?

Peth arall sy'n werth ei grybwyll o'r rhaglen honno yw bod y bobl sy'n cyflawni'r torri yn cael eu talu am bob person unigol y maent yn eu torri. Mae'n werth cofio hynny, oherwydd mae'r cymunedau tlawd sy'n credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud yn casglu arian i anfon eu merched yn ôl atynt gyda'r anafiadau mwyaf erchyll. Os byddwch yn cyfarfod ag unrhyw un byth—rwyf wedi cyfarfod â nifer o bobl sydd wedi mynd drwy hyn—credaf y byddwch yn cael lefel o ddealltwriaeth am y trawma nad yw byth bythoedd yn gadael unigolyn pan fo'u mam eu hunain wedi eu hanfon i gael eu torri, pan fyddwch yn clywed am y parti roeddent yn ei ddisgwyl a'r arswyd y maent yn ei brofi.

Felly, i ni yma fel Cynulliad, mae'n debyg mai'r hyn y mae gwir raid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi sefydliadau fel BAWSO, a fydd, yn eu tro, yn cefnogi'r menywod a'r plant. Pan fyddwch yn clywed am blentyn dwy oed yn marw o ganlyniad i hyn, credaf ei fod yn gwneud y peth yn real i'r Siambr hon.

16:05

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw â theyrnged fer iawn i fy nghyd-Aelod a'm cyfaill, y diweddar Carl Sargeant. Rydym i gyd yn gwybod bod Carl mor ymrwymedig i drechu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod ag ydoedd i drechu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfan. Fel y dywedodd Julie Morgan eisoes, roedd yn ystyried bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn enghraifft glir iawn o gam-drin plant yn ogystal â mater yn ymwneud â phŵer a rheolaeth dros fenywod a merched. Roedd yn angerddol ynglŷn â chael pobl i siarad am y mater hwn a'i dynnu o'r cysgodion, yn ogystal â cheisio lleihau nifer yr achosion o'r arfer.

Sefydlodd grwpiau a fforymau ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau yng Nghymru fel roedd angen inni wneud er mwyn rhoi sylw o ddifrif i anffurfio organau cenhedlu benywod a rhoi camau ar waith mewn partneriaeth. Sefydlodd grŵp arweinyddiaeth strategol cenedlaethol ar anffurfio organau cenhedlu benywod ymhell cyn i eraill o gwmpas y DU gael strwythurau o'r fath. Roedd hyn yn caniatáu i brosiectau a mentrau gael eu cyflwyno, fel prosiect NSPCC/BAWSO, Llais nid Tawelwch, gan weithio gyda menywod ifanc i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar fater anffurfio organau cenhedlu benywod. Derbyniodd y prosiect wobr bydwreigiaeth genedlaethol ledled y DU ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru, yn ogystal â chael ei addysgu mewn ysgolion drwy'r Rhaglen Sbectrwm.

Roedd Carl yn awyddus iawn hefyd i sicrhau bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn elfen allweddol yn yr hyn a ddaeth yn y pen draw yn Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd yn benderfynol fod yn rhaid i hyn ddigwydd os oedd y ddeddfwriaeth yn mynd i adlewyrchu'r holl gymunedau yng Nghymru, ac fe wnaeth hyn gan wybod yn iawn nad oedd rhai pobl am glywed amdano. Ni wnaeth ochel rhag pynciau anodd ar unrhyw adeg ond aeth benben â hwy yn ei ffordd ddihafal ei hun, gydag addfwynder, cynhesrwydd a hiwmor. Gosododd Carl yr holl sylfeini ar gyfer y gwaith rwyf am ei amlinellu ar anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae'n rhan fawr o'i etifeddiaeth barhaol.

Hoffwn ddiolch hefyd i Julie Morgan a holl Aelodau'r Cynulliad sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr arfer gwarthus o anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae'r rhwydwaith Ewropeaidd sy'n galw am roi diwedd ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn dweud bod yr arfer yn amddifadu menywod a merched o'r hawl i gyfanrwydd corfforol a meddyliol, i ryddid rhag trais, i'r safon uchaf bosibl o iechyd, i ryddid rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd ac i ryddid rhag poenydio, a thriniaeth greulon, annynol a diraddiol. Credaf fod pawb ohonom yn adleisio'r datganiad hwnnw'n gryf.

Cydnabyddir yn rhyngwladol fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ymyrryd â hawliau dynol menywod a merched, ac wedi ei gyfeirio at fenywod a merched yn unig oherwydd eu rhyw. Yn 2011, roedd tua 170,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 140 o ddioddefwyr yn dioddef yr arfer bob blwyddyn yng Nghymru. Rwy'n gwylio cynnydd achos sydd ar y gweill yn Woolwich, yr ail achos o'i fath yn unig yn y DU o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003. Nid yw cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli, fel y gwyddoch, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu cymdeithas na fydd yn goddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol, ac mae hyn yn cynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod. Byddwn yn gwneud hyn drwy addysgu ein plant a'n pobl ifanc ynglŷn â chydberthnasau iach a chydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan. Mae hyn yn golygu nid yn unig fod rhaid hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod a'r rhai sydd mewn perygl, ond hefyd ein bod yn gweithio gyda chymunedau ac mewn cymunedau sy'n cyflawni'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod er mwyn ei ddileu'n gyfan gwbl.

Mae rhoi cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu yn hollbwysig. Mae ein gwefan Byw Heb Ofn yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer dioddefwyr a'u teuluoedd. Mae'n rhoi gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael a ble i fynd am help. Mae'r wefan yn cefnogi gwaith y llinell gymorth drwy ddarparu cyngor a chyfeirio. Rydym yn ariannu'r llinell gymorth yn llawn, a chaiff ei rhedeg dan gontract gan Cymorth i Fenywod Cymru. Caiff pobl sy'n ffonio'r llinell gymorth eu cyfeirio at wasanaethau lleol priodol, ac rydym yn parhau i ariannu awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu cyngor a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.

Ac wrth gwrs, mae rhan fawr o'n gwaith yn canolbwyntio ar atal. Mae hyn yn digwydd mewn dwy brif ffordd: codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac addysgu ein plant a'n pobl ifanc. Fel y mae nifer o'r Aelodau wedi nodi, rhaid gosod dileu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn gadarn yng nghyd-destun dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd parhaus yn allweddol i godi ymwybyddiaeth, herio stereoteipiau, a herio a newid agweddau ac ymddygiad annerbyniol.

Er gwaethaf y gwaith sylweddol yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf, gwyddom fod llawer o bobl yn dal i fod mewn perygl o ddioddef, neu yn dioddef trais a cham-drin. Fel rhan o'n dull hirdymor o godi ymwybyddiaeth a newid agweddau, rydym yn datblygu ein fframwaith cyfathrebu cenedlaethol. Nod hwn yw sicrhau negeseuon clir, cydgysylltiedig a chyson ar draws Cymru. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid eraill, yn ogystal â'r Swyddfa Gartref ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Drwy gydweithio ar draws meysydd datganoledig a heb eu datganoli, gallwn weithio i gyflawni ein nodau cyffredin.

Fel rhan o helpu i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, rhaid inni ganolbwyntio ar ddysgu plant i wneud yn siŵr eu bod yn deall bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn drosedd ac yn tramgwyddo yn erbyn hawliau dynol. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, ym mis Medi eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gynllun gweithredu newydd y Llywodraeth, 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl'. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi sut y bydd y system ysgolion yn symud ymlaen dros y cyfnod 2017-21, gan sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu gyda ffocws ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, rhagoriaeth a thegwch mewn system hunanwella.

Bydd y cwricwlwm newydd drafft ar gael i ysgolion a lleoliadau ym mis Ebrill 2019 ar gyfer adborth a bydd y cwricwlwm newydd terfynol ar gael erbyn mis Ionawr 2020. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn gyntaf i bob ysgol gynradd a blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022, a byddwn wedyn yn ei gyflwyno o un flwyddyn i'r llall mewn ysgolion uwchradd o'r pwynt hwn. Rwy'n tynnu sylw at hyn am ein bod yn gwybod bod gwasanaethau addysg ac ysgolion yn arbennig mewn sefyllfa dda i sylwi ar arwyddion o gam-drin, ac mae nifer o'r Aelodau wedi nodi hyn. Maent yn adnabod eu plant yn well na'r holl wasanaethau eraill ac maent mewn sefyllfa dda i adnabod yr arwyddion rhybudd ac i ymyrryd yn gynnar. O ystyried eu rôl ganolog, byddwn yn ysgrifennu at ysgolion bob blwyddyn i'w hatgoffa o'r risg i ferched yn ystod gwyliau'r haf a sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael help a chymorth.

Byddwn hefyd yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn addysgu plant am gydberthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau a ble i ofyn am gymorth. Rydym hefyd yn ariannu prosiect Plant yn Cyfri Cymorth i Fenywod Cymru i gefnogi elfen atal y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r prosiect hwn yn cynorthwyo gwasanaethau lleol ledled Cymru i herio anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a brofir gan blant a phobl ifanc ac i wella diogelwch.

Rydym yn glir yn ein nod i wella atal, amddiffyn a chymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, fel y nodir yn y Ddeddf ac yn ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'r strategaeth yn mynegi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae'n nodi'r amcanion a fydd, pan gânt eu cyflawni, yn ein helpu i gyflawni dibenion y Ddeddf.

Wrth ddatblygu'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, rydym wedi nodi ein gofynion ar gyfer hyfforddiant ar y pynciau hyn ar draws gwasanaethau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys maes llafur pwnc arbenigol, a fydd yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant a gaiff unrhyw broffesiwn yn lleol yn bodloni'r deilliannau dysgu a bod modd eu hasesu'n briodol a'i fod yn gyson â hyfforddiant arall a ddarperir ledled Cymru.

Mae 'Deall anffurfio organau cenhedlu benywod' yn un o'r cyrsiau hyfforddi yn y maes llafur arbenigol. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfraith a pholisi cyfredol sy'n ymwneud ag anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys Deddf Troseddau Difrifol 2015. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datblygu proses 'holi a gweithredu', a fydd yn cael ei chyflwyno ar draws y sector cyhoeddus ac yn helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod arwyddion o gam-drin a thrais, ac mae 1,200 o weithwyr bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac awdurdodau lleol de-ddwyrain Cymru wedi cael eu hyfforddi i 'holi a gweithredu'. Ceir 98 o hyrwyddwyr 'holi a gweithredu' yn ne-ddwyrain Cymru a bydd y cynllun peilot hwn yn darparu model clir ar gyfer 'holi a gweithredu', i'w gyflwyno ymhellach dros weddill 2017.

Ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, mae llwybr gofal anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru'n hyrwyddo atgyfeirio unrhyw fenyw yr effeithiwyd arni yn sgil anffurfio organau cenhedlu at wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol neu ddarpariaeth trydydd sector. Penodwyd arweinwyr diogelu ar gyfer anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Datblygwyd proses gasglu data; mae data a gesglir yn fisol ar fenywod a merched y nodwyd eu bod yn dioddef yn sgil anffurfio organau cenhedlu yn cael ei gasglu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r gwasanaethau mamolaeth. Cyfeirir unrhyw fabanod benywaidd a enir i fenywod sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu i'r gwasanaethau cymdeithasol fel mater o drefn er mwyn sicrhau ymyrraeth amddiffynnol. Hyd yma, nodwyd bod tua 10 o fenywod bob chwarter wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu ac rydym yn ystyried cyhoeddi gwybodaeth ar anffurfio organau cenhedlu benywod fel mater o drefn, gwybodaeth sy'n cael ei chasglu ar hyn o bryd.

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod. Mae'r diwrnod hwn yn bwysig i'n hatgoffa bod llawer o waith i'w wneud o hyd i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched a sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf am ddweud y bydd gennyf gryn dipyn o ddiddordeb personol yn y maes hwn a byddaf yn croesawu'n fawr pe bai pawb yn y Cynulliad hwn sydd ag unrhyw syniad bethau eraill y gallwn eu gwneud yn dod i gysylltiad. Yn sicr byddaf yn bwrw ymlaen â'r dull trawslywodraethol a argymhellwyd yn fawr. Fel y nododd Julie Morgan, mae angen inni wneud yn siŵr hefyd nad ydym yn condemnio'r cymunedau y mae hyn wedi'i wreiddio ynddynt, er ein bod yn condemnio'r drosedd, y weithred a'r trais, a'n bod yn gwneud llawer i'w helpu i ddod i delerau â'u sefyllfa ac yn datblygu hefyd.

Rydym yn parhau i fod yn frwd iawn ac yn gwbl ymroddedig i barhau i atal trais a cham-drin ac i amddiffyn a chefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr arferion erchyll hyn. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ie, nid yw 'anffurfio organau cenhedlu' yn eiriau rydym yn sôn amdanynt yn aml yma yn y Siambr hon, ond mae'n hen bryd inni daflu goleuni ar y mater hynod ofidus hwn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan, a thalu teyrnged iddi, mewn gwirionedd, am ei gwaith caled dros y blynyddoedd, a hefyd i Carl Sargeant, ond mwy am Carl mewn munud?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw anffurfio organau cenhedlu benywod yn farbaraidd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yw 'creulon' ac fel y clywsom, mae'n 'anffurfio'. Nid oes unrhyw fudd o gwbl i iechyd merched a menywod, ac eto mae'n dal i gael ei gyflawni mewn sawl rhan o'r byd heddiw. Fel y clywsom mewn cyflwyniadau pwerus iawn y prynhawn yma, gall triniaethau achosi gwaedu difrifol, problemau wrinol rheolaidd gydol oes, heintiau lluosog, cymhlethdodau wrth esgor—dyna ble y gwelais fy achos cyntaf o anffurfio organau cenhedlu benywod flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddwn yn gwneud obstetreg—a risg gynyddol o farwolaethau babanod newydd-anedig o ganlyniad. Nid gormodiaith yw dweud bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn tramgwyddo'n llwyr yn erbyn hawliau dynol menywod a merched. Mae angen ailddatgan, fel y nodwyd, ei fod yn anghyfreithlon yn y wlad hon mewn gwirionedd ac mae wedi bod yn anghyfreithlon ers 32 mlynedd. Cam-drin ydyw, ac mae'n ffurf eithafol ar wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae hyn oll wedi ei ddweud y prynhawn yma ac nid wyf ond yn ei ddweud er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa fel nad oes neb mewn unrhyw amheuaeth sut y mae'r Siambr hon yn teimlo am y driniaeth erchyll, greulon hon sy'n anffurfio.

Dechreuasom y prynhawn yma gyda Julie Morgan—cyflwyniad grymus iawn, ac yn amlwg roedd y cyflwyniad gweledol yn crynhoi'r holl fater yn llawer gwell, mewn gwirionedd, nag y gall llawer o eiriau. Ond mae arnom angen y geiriau yn ogystal ac mae angen inni godi ymwybyddiaeth yn y modd y gall dadl gan aelodau unigol fel hon ei wneud. Rydym wedi cael dadansoddiad cynhwysfawr o'r holl fater gwarthus hwn. Ac mae'n wir ein bod yn deall pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y cymunedau dan sylw a phwysigrwydd addysg mewn ysgolion.

Cafodd yr un thema'n union ei pharhau gan Jenny Rathbone a hefyd gan Jane Hutt, a llongyfarchaf y ddwy ohonoch ar eich cyflwyniadau, yn enwedig yr hyn a ddywedodd Jane am ymwybyddiaeth mewn ysgolion a'r arwyddion rhybudd hynny, gan fod achosion o anffurfio organau cenhedlu yn dal i ymddangos yn boenus o ddiweddar mewn ysgolion, er ei fod yn parhau'n guddiedig oherwydd, fel y clywsom, mae merched yn mynd ar wyliau torri estynedig. Mae'n amlygu'r angen am ymateb trawslywodraethol, fel y soniodd Jane a Jenny, a phwysigrwydd cael gwared ar y wal o ddistawrwydd yn y cymunedau dan sylw. Ond rhaid inni gefnogi ac addysgu'r cymunedau lle mae'r driniaeth hon yn dal i fod yn endemig.

Hefyd llongyfarchaf Joyce Watson ar ei chyflwyniad y prynhawn yma ar bwysigrwydd siarad am fynd i'r afael â'r wal hon ddistawrwydd ym mhob man, waeth beth fo'r trallod a achosir, mae'n rhaid imi ddweud, ac fel roedd Joyce yn ei ddweud, rhesymeg wreig-gasaol a gwyrdroëdig parhau i gyflawni'r driniaeth hon. Ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn defnyddio iaith debyg.

Gan droi yn olaf at arweinydd y tŷ, Julie James, a gaf fi hefyd longyfarch Julie ar ei dyrchafiad a hefyd ar ei theyrnged bwerus i Carl Sargeant, sydd wedi gwneud gwaith aruthrol yn y maes hwn mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a sefydlu a helpu i sefydlu llawer o'r prosiectau a amlinellwyd mor gelfydd gan Julie James? Gan mai ymwneud â phŵer a rheolaeth dros ferched a menywod y mae hyn, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, galwn am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan, Angela Burns, Dai Lloyd, Joyce Watson a Jenny Rathbone. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, 39, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6528 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr—Gohiriwyd o 8 Tachwedd

Symudwn yn awr at y ddadl fer, felly os ydych am adael y Siambr, a wnewch chi hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Galwaf ar David Rowlands i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—David.

Yn y cyfarfod llawn, ychydig ddyddiau cyn y toriad, dywedodd y Prif Weinidog y byddai gadael Ewrop yn codi cost bwyd i ni yng Nghymru. Wel, y tro nesaf y byddwch yn torri'r bresych ar gyfer cinio dydd Sul, neu'n torri'r moron, efallai y dylech ystyried y gost ddynol o roi'r rhain a llawer o gynhyrchion eraill ar eich bwrdd.

Rwyf am i chi feddwl am olygfa mewn gorsaf betrol BP. Mae'n 4.00 a.m. ar fore oer o Ionawr, a'r awyr yn dal yn ddu, ond mae gweithiwr y garej wedi bod yn gwasanaethu gweithwyr mudol ers awr neu fwy. Erbyn 4.15 a.m., mae'r ffigurau tawel o'r ochr arall i'r dref wedi tyfu'n llif cyson. Ar ôl cael eu galw drwy neges destun y noson cynt, maent yn ymgasglu ar y blaengwrt i aros am res o gerbydau a fydd yn mynd â hwy i'r ffatrïoedd neu'r caeau o amgylch yr ardal, lle byddant yn cael eu rhoi i weithio am 10 i 12 awr.

Mae swyddog heddlu benywaidd yn gwylio o'i swyddfa yn yr orsaf heddlu, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn edrych dros yr orsaf betrol. Cafodd ei symud i'r orsaf hon am ei bod hi'n arbenigo ar droseddu cyfundrefnol. Mae hi wedi gweld yr un olygfa'n digwydd yn rheolaidd dros y misoedd diwethaf. Mae hi'n adnabod hyn fel gweithgaredd sy'n cael ei arwain gan gangiau troseddol, ond mae'n ddi-rym i'w atal. Mae'r dulliau soffistigedig a ddefnyddir gan gangiau troseddol modern yn gwneud erlyn yn anodd iawn. Mae hi bron yn amhosibl recriwtio dioddefwyr fel tystion, gan eu bod yn llawer rhy ofnus i roi tystiolaeth yn erbyn y gangfeistri hyn. Mae'n eithaf dealladwy o gofio bod yr ardal leol wedi gweld llu o hunanladdiadau ymddangosiadol ymhlith pobl ifanc o ddwyrain Ewrop dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Canfuwyd tri yn hongian, a chydag un, roedd neges wedi ei gadael ar wal gerllaw—o'i chyfieithu, roedd hi'n dweud, 'ni all y meirw dystio'.

Nid y rhain o bell ffordd oedd yr unig farwolaethau ymhlith y gymuned leol o bobl o ddwyrain Ewrop. Darganfuwyd olion merch 17 oed o Lithwania bum mis ar ôl ei diflaniad. Cafodd cludwr Lithwaniaidd ei losgi i farwolaeth wrth iddo gysgu yn ei fan, a hyn oll mewn ardal heb fawr ddim llofruddiaethau ddegawd yn ôl.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o'r bydysawd cyfochrog creulon hwn sy'n aml yn sail i'n heconomi brif ffrwd, ond ceir ardaloedd o'r wlad lle mae'n weladwy iawn. Mewn arolwg yn 2017, pleidleisiodd yr etholaeth seneddol lle y digwyddodd yr olygfa a ddisgrifir uchod yn frwd dros ailddatgan eu dymuniad i adael yr UE, gan gydnabod bod mewnfudo ar raddfa fawr o ddwyrain Ewrop yn newid eu cymuned yn sylfaenol.

Felly, os yw'r heddlu'n ymwybodol o'r gweithredoedd hyn, pam nad ydym yn gweld erlyniadau ar raddfa fawr? Wel, mae dau brif reswm: soffistigeiddrwydd gweithredoedd y gangiau a maint y broblem. Yn syml iawn, nid oes gan yr heddlu ddigon o weithlu i ymdopi gyda'r ffrwydrad enfawr yn y camfanteisio ar weithwyr mudol yn bennaf a ddigwyddodd dros y degawd diwethaf, a hynny bron yn gyfan gwbl oherwydd y polisi ffiniau agored.

Gwaethygwyd y sefyllfa lawer iawn gyda derbyn aelod-wladwriaethau o ddwyrain Ewrop i'r UE. Yn aml, roedd amcangyfrifon o'r niferoedd tebygol y disgwylid iddynt ddod i'r DU yn cael eu datgan mewn degau o filoedd. Mae'r rhain wedi bod yn gwbl annigonol. Erbyn hyn mae gennym fwy na 4 miliwn o ddwyrain Ewrop yn y DU. Ffigurau swyddogol yw'r rhain ac maent yn cuddio nifer enfawr o fewnfudwyr anghyfreithlon sydd, am eu bod yn anhysbys i'r awdurdodau, yn agored i'r math gwaethaf o gamfanteisio.

Dywedais fod y gangiau troseddol wedi dod yn soffistigedig iawn yn eu gweithredoedd. Gwelir rhai enghreifftiau sy'n tystio i hyn yn y ffaith y byddant yn mynd â'u dioddefwyr i ganghennau o fanciau gwahanol yn yr ardal gyfagos a rhoi dogfennau ffug iddynt agor cyfrifon, pethau fel biliau cyfleustodau, pasbortau a dogfennau adnabod. Yna maent yn rhoi cyfeiriad cartref y gangfeistr ar gyfer darparu gohebiaeth cyfrif gan esgus y gall y gweithiwr mudol hawlio budd-daliadau a chwilio am waith yn sgil hynny. Mae hyn yn caniatáu i'r gangiau ddwyn hunaniaeth y dioddefwr a chael rhifau adnabod personol ac ati. Byddant yn agor rhes o'r cyfrifon hyn a bydd ganddynt reolaeth lwyr drostynt. Yna byddant yn eu defnyddio i wyngalchu arian, i gael benthyciadau ac ati.

Mae'r gangiau'n rheoli niferoedd enfawr o'r mudwyr hyn, naill ai drwy eu masnachu i mewn i'r wlad eu hunain, gan helpu newydd-ddyfodiaid gyda benthyciadau bach a llenwi ffurflenni ac ati. Mae llawer o'r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith yn ystyried bod hyn yn ddefnyddiol tu hwnt, ac felly'n mynd i afael y gangiau troseddol yn hawdd. Hefyd, wrth gwrs, ceir addewid o swyddi. Bydd y gangiau'n dod yn asiantau gwaith i'r mudwyr, ond ni fydd y swyddi a roddir, gyda'r didyniadau'n cael eu cymryd gan y gangiau am bethau fel llety, trafnidiaeth ac ati, yn talu digon i ad-dalu'r benthyciadau. A bydd y bobl anffodus hyn yn mynd ar y llyfrau dyled dychrynllyd a gedwir gan y gangfeistri. O hynny ymlaen, dônt yn gaethweision i bob pwrpas, gan weithio'n unig i dalu am eu cadw a'u dyledion.

Mae menywod sy'n disgyn i fagl y ddyled wneud hon fel arfer yn cael dau opsiwn: teithio i India neu Bacistan i gymryd rhan mewn priodas ffug y telir mwy na £1,500 i'r gangfeistri amdani, neu eu rhoi i weithio fel puteiniaid. Ceir llawer o dystiolaeth hefyd o enghreifftiau llawer mwy arswydus o gamfanteisio ar fudwyr lle mae organau i'w trawsblannu yn cael eu cynaeafu fel ffordd o ad-dalu dyledion.

Yr hyn sydd wedi dod yn gynyddol amlwg o fy ymchwil i'r pwnc hwn yw'r rhagrith dwfn sydd wrth wraidd y rhethreg a ddefnyddir, yn enwedig gan bobl sy'n honni eu bod yn malio am y dosbarthiadau gweithiol. Gadewch inni fod yn glir yma: y dosbarthiadau gweithiol bron yn ddieithriad sy'n cael eu hecsbloetio yn y ffordd hon, eto mae'r adain chwith wleidyddol yn datgan yn barhaus fod mewnfudo torfol, direolaeth nid yn unig yn ddymunol, ond yn hanfodol i'r economi, a bod ffiniau agored yn cael effaith gadarnhaol ar y DU. Mae'r rhethreg hon yn anwybyddu gwir realiti mewnfudo torfol yn llwyr a'r dioddefaint y mae'n ei achosi i filoedd o weithwyr mudol yn ei sgil. Mae'n hybu model busnes sy'n dibynnu ar drosiant cyson o weithwyr i gyflawni swyddi ansicr am gyflogau bach ar y gorau, ond sydd yn rhy aml yn fudr, yn beryglus ac yn ddiraddiol yn ogystal. Mae'r senario hon yn galw nid yn unig am fewnfudo torfol, ond am fewnfudo torfol diddiwedd, gan mai rhai sydd newydd gyrraedd yn unig, y rhai diobaith ac agored i niwed, sy'n gallu cyflenwi'r porthiant ar gyfer camfanteisio parhaus. Gan mai busnesau mawr sydd fel arfer yn cyflawni'r camfanteisio hwn, yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon, mae'n anghredadwy fod y Blaid Lafur yn dal i hyrwyddo polisi drws agored ar fewnfudo.

Nid yw'r olygfa a ddigwyddodd yn yr orsaf betrol BP bob dydd yn ymwneud yn syml â mewnfudo'n unig neu gost ddynol nwyddau rhad, neu hyd yn oed ychydig o weithredwyr twyllodrus ar eu pen eu hunain. Mae'n amlygu newid cymdeithasol ac economaidd mawr sydd wedi digwydd mewn ychydig dros ddau ddegawd, ac sy'n ganlyniad uniongyrchol i fewnfudo direolaeth.

Yma, mae gennyf dystiolaeth ddogfennol ac euogfarnau rhai sy'n cymryd rhan mewn camfanteisio ar fudwyr ar gyfer y fasnach ryw. Mae'r rhain, o The Guardian a'r BBC, yn disgrifio enghreifftiau ofnadwy. Yr hyn y mae'r cewri cyfryngol hyn yn methu ei wneud yw nodi gwraidd y problemau hyn. Mae mewnfudo torfol a cholli rheolaeth ffiniau'n golygu nad oes neb yn gwybod pwy neu sut y daw pobl i'r wlad hon. Mae rhai'n dadlau na fydd mesurau rheoli o'r fath yn dileu'r broblem. Gwelir nad oes unrhyw sylwedd i'w dadl. Prin fod y math hwn o gamfanteisio'n bodoli cyn agor ein ffiniau, ac roedd fel arfer yn nwylo rhwydwaith bach, lleol, tanddaearol. Bellach mae'n weithgarwch rhyngwladol enfawr a reolir gan gangiau amlwladol sy'n gwneud cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn o'r trallod dynol hwn.

Yn yr ychydig achosion lle mae'r heddlu wedi cael llwyddiant yn erlyn y gangiau troseddol hyn, efallai y gallwn oedi i ystyried beth yw cost yr erlyniadau hyn. Mae costau cyfieithu yn ein llysoedd bellach wedi cyrraedd lefelau syfrdanol. Dywedir bod nifer anghymesur o fudwyr yn ein carchardai bellach. Pe bai tuedd gwladolion a aned dramor i droseddu, yn seiliedig ar eu cynrychiolaeth yn ein carchardai, yn cael ei hadlewyrchu yn y boblogaeth frodorol yn gyffredinol, cyfrifwyd y byddai'r niferoedd yn ein carchardai yn agos at 120,000, nid y 84,000 sydd gennym yn awr. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna dystiolaeth gref sy'n dangos bod troseddu gan leiafrifoedd ethnig yn cael ei anwybyddu'n aml gan awdurdodau. Hefyd gallwn atgoffa ein hunain mai'r system garchar yw'r cam olaf yn y system gyfiawnder, ac ni fydd ond yn digwydd yn achos troseddau difrifol neu luosog. Afraid dweud yr ymdrinnir â'r rhan fwyaf o droseddau drwy ddedfrydau nad ydynt yn carcharu: pethau fel dedfrydau cymunedol, tagio electronig, ac ati. Felly, rhaid inni ychwanegu costau monitro'r ymyriadau hyn at gostau troseddau pobl nad ydynt yn ddinasyddion y DU, sydd eto'n gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus.

Unwaith eto, nid yw hyn yn cynnwys y symiau enfawr o arian sy'n gadael y DU, yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon, gan weithwyr mudol a gangiau troseddol sy'n camfanteisio arnynt. Tybed a oes unrhyw un o'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried wrth gyfrifo manteision economaidd mewnfudo torfol—rwy'n amau hynny'n fawr iawn. A nodwch, nid wyf wedi crybwyll budd-daliadau.

Er bod yr heddlu wedi cael peth llwyddiant yn erlyn y gangiau troseddol hyn, un ffordd sydd yna o roi diwedd ar y camfanteisio gwarthus hwn ar ein cyd-ddyn, a rhoi diwedd ar fewnfudo torfol yw honno, cymryd rheolaeth ar ein ffiniau, ymdrin yn ffafriol â'r bobl sydd eisoes yma ac y camfanteisir arnynt, a chael ymgyrch gynhwysfawr yn erbyn y rhai sy'n camfanteisio yn y fath fodd, gyda chosbau llym, gan gynnwys alltudio awtomatig i'r rhai sy'n cymryd rhan. Felly, waeth beth fo sylwadau'r Prif Weinidog, os yw hyn yn rhoi ychydig geiniogau ar gost bwyd ar fy mhlat, yn bersonol, rwy'n barod i'w talu.

16:30

Ni nodoch eich bod wedi cynnig munud o'ch amser i neb yn y ddadl fer. A ydych yn barod i roi munud o'ch amser?

Ydw, yn wir, ydw. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd; roeddwn yn meddwl bod Joyce wedi nodi y buasai'n hoffi rhywfaint o amser i siarad.

Na. Eich 15 munud chi ydyw, a chi sydd i ddweud, felly mae'n rhaid i chi nodi a ydych yn fodlon i rywun gael munud. Rwy'n cymryd eich bod.

Rwy'n hapus i gael munud yn y ddadl hon, ond nid wyf yn hapus o gwbl ynglŷn â'r ddadl; mae'r ddau beth yn gwbl ar wahân. Fel y gŵyr pawb, rwy'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl neu atal caethwasiaeth, ac yn aelod sefydlol ohono. Rwy'n teimlo bod holl gywair yr hyn y bu'n rhaid i mi eistedd drwyddo a'i oddef yn gyfan gwbl atgas. Credaf y buasai wedi bod yn llawer gwell gwasanaethu anghenion y bobl y mae angen edrych ar eu hôl a'u diogelu pe na baem wedi bod yn canolbwyntio ar un set o gangiau troseddol, sef y mewnfudwr. Dyna sy'n rhedeg drwy hyn i gyd. Mae'n drueni, yn fy marn i, fod yr unigolyn a gyflwynodd hyn heb edrych mewn gwirionedd ar beth sydd wedi digwydd yma yng Nghymru o ran erlyniadau cyflawnwyr y drosedd hon a aned ym Mhrydain, pan oedd y dystiolaeth honno o dan ei drwyn, pe bai wedi trafferthu edrych amdani.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Caethwasiaeth yw camfanteisio troseddol ar bobl, pa un a ydynt yn dod o'r tu allan i'r DU neu wedi eu magu yma. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog a chyson i frwydro yn erbyn caethwasiaeth a mynd i'r afael â'r dioddefaint y mae'n ei achosi i ddioddefwyr.

Roedd y cywair yn peri gofid eithriadol i mi, a pheth o'r—mae'n ddrwg gennyf ddweud—ystadegau gwneud a ddarllenwyd gan y person a gyflwynodd y ddadl fer hon. Hoffwn ei wahodd, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, i ymweld â charchar yn fy ardal, lle y caiff weld yn bendant nad yw'r rhan fwyaf o'r carcharorion yno'n dod o'r tu allan i'r DU. Ceir nifer fawr o faterion eraill sy'n codi ynglŷn â charcharu pobl, a dylai fod yn gyfarwydd iawn â hwy o ystyried ei gefndir.

Wrth gwrs, bydd mewnfudwyr ymhlith y rhai sy'n ymwneud â'r fasnach ddieflig hon, ond mae llawer iawn—[Torri ar draws.] Ni chewch ymyrryd mewn dadl fer.

Mae'n ddrwg gennyf, ond oes, mae'n rhaid i Weinidogion gymryd ymyriadau; mae'n ddrwg gennyf. David Rowlands.

Rwy'n synnu nad ydych yn cymryd y ffigurau hyn. Mae'r rhain yn ffigurau rwyf wedi ymchwilio iddynt ac maent yn y wasg leol a'r wasg genedlaethol bob amser. Gellir gwirio'r holl ffigurau, gallaf eich sicrhau.

Nid wyf am fynd i mewn i'r ddadl honno, ond mae angen inni gael y drafodaeth honno mewn man arall.

Wrth gwrs, bydd mewnfudwyr yn rhan o'r fasnach atgas hon, ond ceir nifer fawr iawn o bobl eraill sy'n gysylltiedig â hi. Nid oes unrhyw angen o gwbl inni ddifrïo unrhyw gymuned o fewnfudwyr drwy ystyried bod y gair 'mewnfudwr' yn gyfystyr â'r gair 'gangfeistr', er enghraifft. Mae'n naratif hynod o hiliol ac mewn gwirionedd, y cyfan y mae'n ei wneud yw rhwystro ein gwaith i annog dioddefwyr i ddod ymlaen, fel y mae stigmateiddio pobl nad ydynt yn dod drwy'r llwybrau mewnfudo priodol mewn gwirionedd. Mae'r syniad fod gennym fewnfudo torfol direolaeth ar hyn o bryd yn nonsens, a dweud y gwir. Mae lefel mewnfudo yma yng Nghymru yn fach iawn, ac rwyf wedi cael profiad blaenorol o drafod hyn gyda'r Aelod penodol hwn.

Beth bynnag, dylai bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fod yn flaenoriaeth, ni waeth o ble y daw'r troseddwyr. Mae caethwasiaeth yn cynnwys camfanteisio ar blant, camfanteisio rhywiol, camfanteisio ar lafur, camfanteisio troseddol ac yn wir, cynaeafu organau a meinweoedd dynol. Er bod y cyfrifoldeb ffurfiol dros atal y troseddau hyn heb ei ddatganoli, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chaethwasiaeth ac mae'n ymddangos yn gynyddol ein bod yn arwain y ffordd yn y DU drwy waith megis yr hyn a ddisgrifiodd Joyce Watson, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn hyn o beth, fel y mae nifer o rai eraill.

Mae caethwasiaeth yn drosedd ddifrifol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ac mae'r dirwyon yn amrywio hyd at garchar am oes. O ystyried natur y drosedd hon, nid yw'r Swyddfa Gartref yn gallu cadarnhau gwir nifer y dioddefwyr; fodd bynnag, yn seiliedig ar ddata 2013, roedd prif swyddog gwyddonol y Swyddfa Gartref yn 2014 yn amcangyfrif bod rhwng 10,000 a 13,000 o ddioddefwyr yn cael eu hecsbloetio drwy ryw fath o gaethwasiaeth yn y DU. Yn gynharach eleni, dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod y nifer hon yn rhy isel ac y gallai'r nifer wirioneddol fod yn y cannoedd o filoedd. Atgyfeiriwyd dioddefwyr caethwasiaeth posibl at y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol yn y DU. Yn 2016, adroddodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod bron i 4,000 o ddioddefwyr wedi cael eu hatgyfeirio yn y DU, bron i 3,500 o tu allan i'r DU. Roedd hyn yn cynnwys y 123 o ddioddefwyr masnachu pobl yng Nghymru, gyda 114 ohonynt yn dod o'r tu allan i'r DU. Nododd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod dros 2,500 o ddioddefwyr wedi eu hatgyfeirio yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, ac roedd hyn yn cynnwys 109 o atgyfeiriadau yng Nghymru. Ar lefel y DU, mae Tîm Rheoli Troseddu Cyfundrefnol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arwain camau gweithredu yn erbyn grwpiau troseddu cyfundrefnol. Mae'r Tîm Rheoli Troseddu Cyfundrefnol yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill i gytuno ar flaenoriaethau ac i sicrhau y cymerir camau priodol yn erbyn gangiau a grwpiau troseddol.

Felly, beth rydym yn ei wneud yng Nghymru mewn gwirionedd? Rydym yn gwneud Cymru'n elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Rydym yn parhau i fod y wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydlynydd atal caethwasiaeth. Rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth ar gaethwasiaeth yng Nghymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth. Bydd y grŵp arweinyddiaeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ar gynnydd yr agenda hon, ac rwy'n disgwyl cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd hefyd gan ein cydlynydd atal caethwasiaeth. Ond rydym yn cydnabod na all unrhyw un asiantaeth fynd ati'n effeithiol i drechu caethwasiaeth. Dyna pam y gweithiwn gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, a Llu Ffiniau'r DU. Rydym hefyd yn gweithio gyda Fisâu a Mewnfudo y DU, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur a chyda Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda BAWSO a Barnardo's Cymru a fydd yn darparu cefnogaeth i ddioddefwyr y drosedd hon.

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, er mwyn helpu i leihau'r perygl o gamfanteisio. Rydym hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth. Yn 2016, cyflwynwyd yr hyfforddiant atal caethwasiaeth a ddatblygwyd gennym gyda phartneriaid i dros 5,500 o bobl yng Nghymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Gyda'n partneriaid, rydym yn parhau i ddarparu'r hyfforddiant hwn, ac mae tua 5,000 o bobl eisoes wedi elwa hyd yma eleni.

Mae caethwasiaeth yn drosedd gymhleth i'w hymchwilio a'i herlyn; dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ac erlynwyr y Goron. Dyma'r cwrs hyfforddiant cyntaf o'i fath yng Nghymru a'r DU. Ym mis Mawrth eleni, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Ei nod yw gwneud cadwyni cyflenwi'n dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr, sy'n cynnwys gweithwyr mudol. Dyma'r tro cyntaf i hyn hefyd ddigwydd yng Nghymru a'r DU.

Rydym yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd yng Nghymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, a chyda Chomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU. Yn wir, mae ein gwaith yng Nghymru yn dechrau ennill cydnabyddiaeth ryngwladol o ddifrif. Tan yn ddiweddar, roedd caethwasiaeth yn drosedd gudd a gwyddom nad oes digon o adrodd yn ei chylch o hyd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno systemau casglu data newydd yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu sylfaen dystiolaeth well a fydd yn adlewyrchu lefel caethwasiaeth yng Nghymru yn fwy cywir. Disgwylir i'n gwaith ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a gofnodir. Drwy adrodd gwell gallwn helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y gellir dwyn cyflawnwyr y drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell, ac nid drwy droseddoli'r bobl sy'n ddioddefwyr eu hunain.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi dioddefwyr, ac rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i wneud Cymru'n elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Ni all rhethreg wag am fewnfudo wneud dim ond niweidio'r gwaith pwysig hwnnw, tra'n bod ni yn Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn bwrw ymlaen â'r gwaith.

16:40
11. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol yng Nghymru—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd
12. Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd
13. Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd
14. Dadl Fer (Neil Hamilton)—Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

Daeth y cyfarfod i ben am 16:42.