Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
13/06/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Aelodau i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar.
Lleoliadau Profiad Gwaith
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at leoliadau profiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru? OAQ(5)0647(FM)
Rydym ni’n parhau i weithio gydag ysgolion uwchradd a chyflogwyr i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith. Mae hyn yn cynnwys ariannu'r prosiect Dosbarth Busnes, a ddarperir gan Gyrfa Cymru mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned, sydd wedi sefydlu 81 o bartneriaethau ysgol-fusnes ledled Cymru.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond, mewn blynyddoedd a fu, pan anfonwyd disgyblion ysgol uwchradd ar leoliadau i gael profiad o’r byd gwaith, dyletswydd Gyrfa Cymru oedd sicrhau bod y cyflogwyr a'u gweithleoedd yn amgylcheddau addas, diogel, a bod gofynion cyfreithiol o ran yswiriant ac asesu risg wedi eu bodloni. Fodd bynnag, mae eich Llywodraeth chi wedi gorfodi Gyrfa Cymru i ddiddymu’r gwasanaeth hwn yn raddol oherwydd toriadau i’r gyllideb, gan gael gwared ar y cyfle i bobl fwynhau’r fantais o leoliadau profiad gwaith. A all y Prif Weinidog esbonio sut y bydd peidio â chynnal yr archwiliadau diogelwch hyn oherwydd toriadau i’r gyllideb yn hybu ac yn ehangu mynediad at leoliadau profiad gwaith yng Nghymru?
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Gwynedd ac Ynys Môn wedi gwneud y penderfyniad i dynnu'n ôl o gynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion. Mewn rhannau eraill o Gymru, mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion newydd mewn ymateb i’r newid i’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyrfa Cymru yn 2015.
Prif Weinidog, mae profiad gwaith yn hollbwysig i bobl ifanc, ac mae'r rheini ag anawsterau dysgu a chyflyrau niwrolegol eraill efallai, fel awtistiaeth, y byddwn yn eu trafod yfory, yn aml yn ei chael hi’n anodd mynd allan i'r gweithle. Nawr, ceir rhai ysgolion sy’n cynnal lleoliadau gwaith cymathedig, ac, i’r rheini, mae'n wych gan eu bod nhw mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd. Ond mae angen i bobl eraill i fynd allan a chael y profiad hwnnw, gan ei fod yn eu helpu wrth symud ymlaen i fod yn oedolion. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyflogwyr i gyflogi pobl â’r cyflyrau a’r anawsterau dysgu hynny, fel y gallant gael y profiad hwnnw, fel y gallant symud ymlaen i fod yn oedolion a bod yn hyderus eu bod yn gallu mynd allan i’r gweithle?
Rydym ni’n annog ysgolion i geisio creu’r cysylltiadau hynny â chyflogwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i rai pobl ifanc gael y profiad hwnnw yn gyntaf mewn amgylchedd mwy rheoledig sy'n eu gwneud nhw’n fwy cyfforddus, ac yna, wrth gwrs, edrych ar gael lleoliadau gwaith yn y dyfodol. Ond bydd rhai enghreifftiau—mae’r Aelod dros Aberafan eisoes wedi crybwyll rhai—lle mae ysgolion yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu penodol.
Diolch, Llywydd. Mae yna siom fawr wedi bod yn fy etholaeth i wrth i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12 glywed nad ydyn nhw am gael mynd ar leoliadau profiad gwaith eleni. Rwy’n datgan diddordeb fel tad i un ferch ym mlwyddyn 10 ac un ferch ym mlwyddyn 12. Ond, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno efo’r datganiad yma y mae swyddogion cyngor Ynys Môn yn sicr yn dweud sy’n wir, sef mai’r hyn sydd wrth wraidd y penderfyniad yma, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, ydy penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu cyllid ac, felly, capasiti oddi ar Gyrfa Cymru i wirio lleoliadau, fel maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol?
In my view, it’s the councillors who should run the local councils and not the officers, but it’s only Gwynedd and Ynys Môn that has taken this decision. I know that other authorities are looking at new ways of ensuring that placements are available.
Prif Weinidog, y ffordd orau o wella mynediad at leoliadau profiad gwaith i ddisgyblion Cymru yw gwella cysylltiadau rhwng ein hysgolion a diwydiant. Er bod llawer o enghreifftiau da ar draws y wlad, nid yw'n ddigon. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnal cysylltiadau agos gyda busnesau lleol?
Bydd y rhan fwyaf o ysgolion eisiau gwneud hynny beth bynnag. Fel y dywedais, mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio—ac maen nhw wedi cael digon o rybudd—i weld y cysylltiadau hynny'n cryfhau. Roedden nhw’n gwybod bod y newidiadau’n dod yn 2015, ond, er gwaethaf hynny, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio'n rhagweithiol i gynnal y cysylltiadau hynny.
Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru raglen Cyfuno arloesol sy'n cyfrannu at lawer o nodau Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y rhaglen Cyfuno yw annog a grymuso pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, ac yn yr un modd mae’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith arloesol. Hefyd, mae'r rhaglen Cyfuno yn 2017 yn cynnwys blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau. Prif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Cymru yn annog blas deinamig ar y byd gwaith o bob rhan o fywyd Cymru i blant ysgolion Cymru, a sut wedyn all Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arfer gorau rhagorol hwn?
Rydym ni bob amser yn edrych ar arfer da i weld a ellir ymestyn yr arfer hwnnw ar draws Cymru gyfan. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod pobl ifanc yn cael y cyfle nid yn unig i ennill cymwysterau, ond hefyd i ddeall yr hyn sy’n ofynnol yn y byd gwaith a bod â golwg eang ar fywyd. Dyna y bwriedir i fagloriaeth Cymru ei ddarparu hefyd. Ond rydym ni bob amser yn edrych ar enghreifftiau o arfer da i weld a ellir ei ymestyn.
Rhwydwaith Teithio Llesol yn Sir Drefaldwyn
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu rhwydwaith teithio llesol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0653(FM)
Wel, mae cam cyntaf Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi ei gwblhau, a nodwyd nifer o lwybrau teithio llesol yn Sir Drefaldwyn.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno y bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn cynnig cyfle i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol ystyrlon ar gyfer y Drenewydd. Yn anffodus, ni lwyddodd Cyngor Sir Powys yn ddiweddar i sicrhau cyllid o'r gronfa trafnidiaeth leol, a fyddai wedi gwneud cryn dipyn i gyflawni dyheadau'r dref o fod yn dref teithio llesol. Nawr, rwy’n deall fod y cais wedi cael ei gefnogi fel prosiect, ond na chafodd ei ariannu. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, i ofyn i swyddogion gymryd golwg o'r newydd ar y cais hwn, gyda’r nod o ariannu'r cynllun os gellir rhoi cyllid ychwanegol ar gael?
Wel, rwy’n deall y bydd Powys yn lansio cyfleuster newydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Llanfyllin ddydd Gwener. Gwnaed hynny’n bosibl trwy gyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru—enghraifft o’r cyllid hwnnw’n cael ei roi ar gael i Bowys. Mae dau gynllun cronfa trafnidiaeth leol Powys ar frig ein rhestr wrth gefn ar gyfer 2017-18, yn rhan o'n gwaith ehangach sy'n gysylltiedig â ffordd osgoi'r Drenewydd, ac rydym ni’n ystyried dewisiadau i weld sut y gallem ni ddyrannu rhywfaint o gyllid yn ystod y flwyddyn i gais teithio llesol Powys ar gyfer y Drenewydd.
Onid rhan o'r broblem, Prif Weinidog, yw ei bod yn ymddangos bod rhai Aelodau yn meddwl bod ffyrdd osgoi yn rhan o rwydweithiau teithio llesol? Mae chwe deg y cant o'r holl deithiau car yn deithiau o lai na phum milltir, ac mae pwyslais ar deithiau bob dydd yn un o'r ffyrdd allweddol o wneud i’r Ddeddf teithio llesol wireddu ei photensial. Yn Sir Gaerfyrddin, mae strategaeth ddrafft y Cyngor yn rhoi pwyslais ar feicio chwaraeon a beicio hamdden—
Mae'n ddrwg gen i, mae’n rhaid i mi ymyrryd. Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud â Sir Drefaldwyn.
Fe wnes i ragflaenu fy sylwadau, Llywydd, i sôn am ffordd osgoi'r Drenewydd, y cyfeiriwyd ati gynnau.
Mae'n sôn am Sir Gaerfyrddin yn ymestyn pethau braidd.
Yn wir. Rwy'n sôn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu a dehongli’r Ddeddf hon, a pha un a wnaiff y Prif Weinidog, a Llywodraeth Cymru, gyhoeddi canllawiau cryf i awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr bod y pwyslais ar deithiau byr, teithiau ymarferol, ac nid ffyrdd osgoi.
Ni ddylai'r Aelod gael yr argraff bod cynllun i uno Sir Drefaldwyn â Sir Gaerfyrddin—ar hyn o bryd. Mae’r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig, ac mae wedi bod yn gyson yn ei farn ei bod yn hollbwysig i hyrwyddo beicio fel mwy na dim ond hamdden—ei fod yn cael ei ystyried yn rhan annatod o'r system drafnidiaeth, os gallaf ei roi felly. Dyna y bwriadwyd i’r Ddeddf teithio llesol ei wneud, a dyna pam mae mor bwysig, pan fo cyllid ar gael, bod llwybrau beicio, er enghraifft, yn cael eu darparu, pan fo cynlluniau ffyrdd ar waith. Mae ffordd osgoi Pentre'r Eglwys yn enghraifft o hynny. Ac mae'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ceisio ei hyrwyddo trwy gyllido, a hefyd drwy’r ddeddfwriaeth ei hun.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Galwaf nawr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n amlwg bellach bod methiant gambl etholiad dirybudd sinigaidd, manteisgar Prif Weinidog y DU wedi creu dryswch ynghylch holl broses y trafodaethau Brexit, sefyllfa sy’n cael ei gwaethygu efallai gan y ffaith ei bod hi wedi penodi 16 o unigolion a oedd o blaid aros yn yr UE i'w Chabinet o 23. Ac, yn arbennig, mae hyn yn creu mwy o amheuaeth nag o'r blaen ynghylch natur ein rheolaethau ffin ar ôl Brexit. Roeddwn i’n meddwl tybed beth yw safbwynt y Blaid Lafur yn y broses hon erbyn hyn, gan fy mod i’n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld bod Jeremy Corbyn a John McDonnell wedi dweud bod y Blaid Lafur wedi ymrwymo’n ffurfiol i dynnu Prydain allan o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, tra bod Keir Starmer wedi dweud ei fod eisiau trafod ffurf newydd o gytundeb marchnad sengl, ac mae Barry Gardiner, ysgrifennydd masnach ryngwladol yr wrthblaid, wedi beirniadu Mrs May am gymryd aelodaeth o’r farchnad sengl oddi ar y bwrdd o'r cychwyn cyntaf. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthyf a yw’n Corbynite neu’n Starmerite erbyn hyn?
Wel, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod o'r etholiad yw bod y Brexit caled sy'n cael ei arddel a'i hyrwyddo gan UKIP yn gelain. Gofynnwyd i bobl bleidleisio ar fersiwn benodol o Brexit—gofynnwyd iddynt yn benodol i bleidleisio ar hynny—gan Theresa May, ac ni chafodd y mandad hwnnw. Felly, beth sy'n digwydd nesaf? Rydym ni wedi cyflwyno, ynghyd â Phlaid Cymru, Papur Gwyn sy'n awgrymu ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Brexit yn y cwestiwn. Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Brif Weinidog y DU, yn ei hatgoffa bod angen mwy na geiriau o ran ceisio ymgysylltu â’r Llywodraethau datganoledig. Rwy'n croesawu geiriau Guto Bebb, er enghraifft, lle mae'n cydnabod realiti'r sefyllfa—na all Brexit cynaliadwy ddigwydd oni bai bod y Llywodraethau datganoledig yn rhan gyflawn o'r broses honno, ac rwy’n gobeithio y bydd y grŵp bach yn Whitehall sydd wedi bod yn ceisio rheoli hyn yn cymryd sylw.
Darllenais, wrth gwrs, Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Brexit, nad yw, i bob pwrpas, o blaid rheolaethau ffin mewn unrhyw ystyr ystyrlon. Fy niddordeb yn hyn yw effaith llafur di-grefft a lled-fedrus yn cael ei fewnforio mewn niferoedd na ellir eu rheoli a'r effaith y mae hynny’n ei chael ar gyflogau’r dosbarth gweithiol. Nawr, mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi adroddiad sylweddol o’r enw ‘The impact of immigration on occupational wages: Evidence from Britain’, a ddaeth i’r casgliad bod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr yn gysylltiedig â gostyngiad o 2 y cant i gyflogau yn y sector gwasanaethau lled-fedrus a di-grefft. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam mae’r Blaid Lafur, o bob plaid, yn barod i ystyried y fath sefyllfa lle mae cyflogau dosbarth gweithiol yn cael eu gyrru i lawr sy’n golygu, i lawer o bobl, mai’r isafswm cyflog yw’r cyflog uchaf.
Y bygythiad mwyaf i gyflogau pobl yw cyni cyllidol parhaus—dyna’r bygythiad mwyaf. Tybed a fyddai'n ei gwneud yn eglur beth oedd ei safbwynt ar yr isafswm cyflog, er enghraifft—pa un a wnaeth gefnogi ei gyflwyniad gan Lywodraeth Lafur, a pha un a yw’n cefnogi'r angen am fwy o bwyslais ar blismona’r isafswm cyflog, a pha un a fyddai'n gweld cynnydd i’r isafswm cyflog i lefel cyflog byw. Dyna’r ffyrdd o ddiogelu pobl. Ydy, mae'n bwysig amddiffyn pobl, ac nid dim ond ein pobl ein hunain, ond pobl o wledydd eraill, rhag cam-fanteisio, ac mae angen cyfrannu mwy o adnoddau i blismona hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth mai’r bygythiad mwyaf i gyflogau yw Llywodraeth Dorïaidd sydd â’i bryd ar gyni cyllidol.
Sylwaf fod y Prif Weinidog yn osgoi'r cwestiwn yn fedrus. A dweud y gwir, fe wnaeth UKIP gefnogi cyflwyno'r isafswm cyflog, ac, yn sicr, rydym ni’n cefnogi ei blismona’n effeithiol, oherwydd dylid ufuddhau cyfraith y wlad. Ac nid yw’n unrhyw ateb i'r broblem o gywasgu cyflogau i ddweud y byddwn yn cymryd camau cryf yn erbyn cyflogwyr sy'n torri'r gyfraith. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw bod cyfradd cyflogau cyfartalog ar waelod y raddfa incwm yn cael ei gyrru i lawr ar gyfer mwy a mwy o bobl. A cheir cannoedd o filoedd o bobl sy'n byw ar y gwynt sy'n cael eu gorfodi i sefyllfaoedd mwy ansicr fyth o ganlyniad i fewnfudo heb ei reoli. Yn sicr, mae rheolaeth gadarn o fewnfudo di-grefft a lled-fedrus o’r Undeb Ewropeaidd, y gellir ei reoli o weddill y byd o dan y gyfraith bresennol, yn anghenraid hanfodol i bobl gyffredin y dosbarth gweithiol.
Yn gyntaf oll, unwaith eto, mae’n methu’r pwynt am reoli ffiniau. Os ydych chi eisiau cael rheolaeth ffiniau, mae gennych chi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth. Nid oes unrhyw ffordd arall o’i wneud, oni bai eich bod chi eisiau rhoi swyddogion asiantaeth ffiniau Prydain ym meysydd awyr a phorthladdoedd y Weriniaeth, ac mae honno’n strategaeth sy’n llawn problemau, os gallaf ei roi’n ddiplomatig. Mae’r sefyllfa honno, i mi, yn dal i fod heb ei datrys yn briodol. Ond, i mi, mae’r mater o gyflogau isel yn cael ei ysgogi gan y cyni cyllidol yr ydym ni wedi ei weld dros y saith mlynedd diwethaf, y ffaith nad ydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol i gyflogau, y ffaith ein bod ni wedi gweld pobl sydd mewn gwaith yn colli budd-daliadau mewn gwaith. Roeddem ni’n arfer dweud wrth bobl—a chafodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun i drafferthion ynghylch hyn—'Os byddwch chi’n cael swydd, bydd eich incwm yn cynyddu'. Nid yw hynny’n wir mwyach oherwydd y ffaith fod y rhai ar frig y raddfa incwm wedi cael mwy o arian trwy doriadau treth a’r rhai sydd ar y gwaelod wedi cael llai o arian drwy leihau a cholli budd-daliadau mewn gwaith. Dyna’r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno—gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n gweithio'n galed, yn gweithio oriau hir, yn cael y cymorth y maen nhw’n ei haeddu, ac nad ydynt wedi ei gael dros y saith mlynedd diwethaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Prif Weinidog, y GIG yw’r gwasanaeth cyhoeddus y mae gennym ni fwyaf o feddwl ohono. Mae pob un ohonom ni’n dibynnu arno a dyna’r ymrwymiad gwariant unigol mwyaf yng nghyllideb Cymru, sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd i'n pobl. A ydych chi’n fodlon â llywodraethiad ariannol y GIG?
Ydw, mi ydwyf. Ceir materion sy’n codi bob blwyddyn o’r byrddau, ond rhoddwyd amserlen tair blynedd iddynt i weithredu yn unol â hi pan ddaw i gynhyrchu eu cyllideb. Ond, wrth gwrs, byddem ni bob amser eisiau gweld mwy o gyllid yn cael ei roi ar gael i gyllideb Cymru trwy roi terfyn ar gyni cyllidol yn San Steffan.
Ddydd Gwener, cyhoeddwyd bod pedwar o'r 10 sefydliad GIG wedi methu â mantoli’r gyllideb dros y cyfnod ariannol tair blynedd. Nawr, rydym ni’n gwybod bod tri bwrdd iechyd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, a bod pedwerydd yn cael ei fonitro. Soniasoch eich bod wedi cyflwyno cyllidebau tair blynedd er mwyn ceisio datrys y problemau hynny, ond rydym ni’n dal i weld y diffygion hyn yn dod i'r amlwg dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd. Prif Weinidog, o dan eich goruchwyliaeth chi, a yw cyllid y GIG yn gadarn?
Ydy, mae ef. Nid oedd pedwar sefydliad allan o 10 yn gallu bodloni eu dyletswydd tair blynedd. Rydym ni wedi bod yn agored am yr heriau penodol y mae’r sefydliadau hynny’n eu hwynebu, a dyna pam maen nhw i gyd wedi cael eu huwchgyfeirio o dan ein trefniadau ymyrryd yn y GIG.
Ni ellir disgrifio sefyllfa lle nad yw pedwar allan o saith bwrdd iechyd yn bodloni eich targedau fel bod yn ariannol gadarn. Mae hyn yn ymwneud â sut y mae'r GIG yn cael ei reoli, mae'n ymwneud â chefnogi staff a chleifion y GIG drwy sicrhau bod y gwasanaeth mewn cyflwr ariannol da. Mae'n ymwneud â byrddau iechyd yn cyflawni'r dyletswyddau statudol yr ydych chi wedi eu cyflwyno.
Nawr, ym mis Mawrth, dywedodd eich Ysgrifennydd iechyd na fyddai'r pedwar bwrdd iechyd o dan sylw yn cael eu hachub yn ariannol. Dywedodd hefyd ei fod, a dyfynnaf, 'yn weddol sicr na fyddai gwasanaethau'r GIG yn cael eu torri o ganlyniad i'r diffygion hyn.' Nawr, nid yw bod yn weddol sicr yn rhoi fawr o hyder i mi, Prif Weinidog. Yr hyn sydd ei angen arnom ni heddiw yw sicrwydd pendant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym: pryd y bydd cyllid y GIG yn gwella? A yw'n dal yn wir na fyddwch chi’n achub byrddau iechyd y GIG sydd mewn trafferthion? Ac fel y Llywodraeth sy'n gyfrifol am GIG Cymru, a wnewch chi sicrhau na fydd y cynlluniau ad-dalu diffygion ar gyfer y byrddau iechyd hyn yn arwain at doriadau i'n gwasanaethau iechyd?
Nid oes unrhyw wasanaethau wedi dioddef o ganlyniad i'r diffygion hyn. Rydym ni wedi sicrhau bod gan y sefydliadau ddigon o arian i fodloni eu hymrwymiadau arferol, ac rydym ni’n rheoli eu diffygion o fewn y gyllideb iechyd gyffredinol, yn amodol ar gadarnhad archwiliad. Roedd y gyllideb iechyd gyffredinol wedi ei mantoli yn 2016-17. Nawr, drwy'r trefniadau ymyrraeth, rydym ni’n gweithio'n agos â'r sefydliadau hynny i fynd i'r afael â'r materion llywodraethu, rheoli a gwasanaeth sy'n sail i’w diffygion ac ni fyddwn yn osgoi cymryd camau cadarn gyda'r sefydliadau hyn os mai dyna sydd ei angen.
Dim sicrwydd.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r straeon a ddaeth i’r amlwg yn yr etholiad cyffredinol ac, oherwydd yr ymgyrchu, na chafodd y sylw yr oedd yn ei haeddu oedd diffyg gallu’r Llywodraeth hon i fodloni ei hymrwymiad o 2010 y byddai pob claf canser yng Nghymru yn cael gweithiwr allweddol. A allwch chi esbonio pam, saith mlynedd yn ddiweddarach, bod cymaint o gleifion canser nad ydynt yn cael y gweithiwr allweddol hwnnw pan eu bod yn cael y diagnosis yng Nghymru?
Un o negeseuon yr etholiad cyffredinol oedd nad oedd pobl eisiau’r Ceidwadwyr Cymreig. Hynny yw, rwy'n synnu braidd ei fod yn ei godi. Rwy’n meddwl tybed faint yn fwy y gall ei gymryd o gael ei ddisodli fel arweinydd ar raglenni, ond gofynnodd gwestiwn am weithwyr canser allweddol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dal i weithio tuag ato i wneud yn siŵr bod gan bawb y gweithiwr allweddol hwnnw. Bydd yn gweld bod y swm o arian sydd wedi mynd i mewn i driniaeth ganser wedi cynyddu dros y blynyddoedd.
Gallwch redeg arnaf i, Prif Weinidog, ond byddai pobl wedi gwrando ac wedi clywed na wnaethoch chi roi ateb pam nad yw pobl yn cael gweithiwr allweddol. Felly, gallwch chi barhau i redeg arnaf i, ond mae pobl sy'n cael diagnosis o ganser yn haeddu'r holl gymorth y gallant ei gael, ac fel rhywun sydd wedi colli aelodau teulu, ynghyd ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, croesawyd yr ymrwymiad hwnnw gennym a wnaeth y Llywodraeth ar y pryd yn 2010. Ond fel y mae Macmillan wedi ei nodi, mae o leiaf traean y cleifion nad ydynt yn cael y gweithiwr allweddol hwnnw pan eu bod yn cael y diagnosis. Mae'n gwestiwn syml, Prif Weinidog, ac yn hytrach na bod yn wamal, a allwch chi roi ateb difrifol ynghylch pryd y bydd y targed hwnnw’n cael ei fodloni?
Rwy’n credu fy mod i wedi rhoi ateb difrifol, ac yn yr un modd ag yntau, rwyf i wedi colli pobl sy'n agos i mi, ac yn wir, rwyf wedi gweld fy ngwraig yn ymdopi â chanser. Mae'n effeithio ar gymaint ohonom ni, ond mae'r grŵp gweithredu ar ganser, sy'n gyfrifol am ddarparu’r cynllun cyflawni ar ganser, wedi nodi swyddogaeth y gweithiwr allweddol fel blaenoriaeth. Fel y cyfryw, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu cyfres o safonau a mesurau cysylltiedig i adolygu'r cynnydd y mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn ei wneud o ran darparu gweithwyr allweddol, yn ogystal â materion eraill o flaenoriaeth. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr arolwg profiad cleifion canser yn cynnig darlun da o'r sefyllfa yng Nghymru. Nid oes gan yr un cyflwr iechyd mawr arall arolwg ar raddfa mor fawr yn asesu profiad y claf, ac rydym ni’n gwybod bod yr ymateb wedi bod yn dda o ran profiad pobl o'r driniaeth a gawsant. Bydd canlyniadau arolwg 2016 yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Unwaith eto, ar yr ail dro o ofyn, nid wyf wedi cael dyddiad o hyd pryd y bydd cleifion canser a phobl sy'n gysylltiedig â gwasanaethau canser yn gwybod pryd y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Mae'n ffaith bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad yw'n orfodol iddyn nhw gasglu'r data i nodi lle mae'r diffygion yn y system. Felly, gallwch chi ddarllen cymaint ag y mynnwch o’ch sgript, Prif Weinidog—-gwnaethpwyd yr ymrwymiad gennych yn 2010. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud un pwynt sylfaenol yn unig: nid yw'n orfodol casglu'r data. Sut gallwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud cynnydd o ran bodloni’r targed hwn? Gofynnaf y cwestiwn i chi eto: pryd wnewch chi fodloni’r targed hwnnw yma yng Nghymru ac a wnewch chi ei gwneud yn orfodol nawr i Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu’r data hynny fel y gallwn weld cynnydd o ran bodloni’r nod hwnnw? Rydym ni’n eich cefnogi o ran y mesur hwn—rydym ni eisiau ei weld yn cael ei fodloni.
Wel, ni allaf fynd ymhellach na'r ateb yr wyf i eisoes wedi ei roi iddo, sef bod y gwaith yn mynd rhagddo. Mae'n gofyn y cwestiwn, 'Pryd fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau?'—byddaf yn ysgrifennu ato gyda dyddiad yn hynny o beth—gofynnodd y cwestiwn penodol hwnnw i mi—ond mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol.
Cenedl o Ddim Galw Diwahoddiad
3. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sicrhau bod Cymru yn dod yn genedl o ddim galw diwahoddiad? OAQ(5)0655(FM)
Wel, mae'r ardaloedd wedi eu sefydlu yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel a byddwn yn annog awdurdodau lleol i barhau i gyflwyno ffyrdd i roi terfyn ar alw diwahoddiad i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Nid wyf yn gwybod a yw’n ymwybodol o arolwg barn sy'n cael ei gynnal gan yr elusen dyledion o’r enw StepChange. Mae hwn wedi darganfod bod 59 y cant o bobl yn dweud eu bod wedi cael un galwad diwahoddiad yr wythnos, a bod 8 y cant wedi cael mwy nag un galwad y dydd. Ac un o'r prif bryderon am hyn yw’r galwadau hyn sy’n cynnig credyd cost uchel. Derbyniodd oddeutu traean, yn ôl pob golwg, un o'r galwadau hyn bob wythnos, ac mae un o bob wyth mewn gwirionedd wedi cymryd credyd cost uchel gyda chyfartaledd o £1,052 o fenthyciadau ychwanegol wedi ei gymryd. Mae hyn yn peri peryglon sylweddol i bobl agored i niwed ar incwm isel, ac rwy’n meddwl tybed a all y Prif Weinidog ddweud wrthyf pa gynnydd pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf tuag at roi terfyn ar y felltith hon?
Wel, fe wnaethom ni ddarparu cyllid yn 2013 i gynyddu nifer yr ardaloedd galw diwahoddiad yng Nghymru. Mae hynny wedi helpu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag twyll. Gwn fod rhai awdurdodau lleol hefyd wedi gwneud y gwaith hwnnw. Cynhaliodd fy awdurdod lleol fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ymgyrch lwyddiannus iawn ychydig flynyddoedd yn ôl yn hysbysu pobl am sut yr oedd sgamiau’n edrych—nid yn unig sgamiau drwy'r post ond sgamiau ar-lein hefyd. Gallant fod yn hynod gredadwy, o gofio’r ffaith y byddant yn aml yn defnyddio negeseuon e-bost sy'n edrych fel negeseuon e-bost gan gwmnïau sefydledig, er nad ydynt. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gyda'r heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar faterion yn cynnwys troseddau twyll.
Rwy'n gefnogwr brwd a hirdymor o ardaloedd dim galw diwahoddiad, ac rwyf i wedi codi hyn sawl gwaith yn y Siambr hon gan fod llawer gormod ohonynt yn targedu'r rheini sy’n agored iawn i niwed, a cham-fanteisir ar lawer gormod o bobl agored iawn i niwed. Mae gen i rai ardaloedd dim galw diwahoddiad poblogaidd iawn yn Nwyrain Abertawe. Rwyf hefyd wedi sylwi ar gynnydd, ac rwy'n siŵr bod pawb arall yn yr ystafell hon wedi gwneud hynny wrth iddyn nhw fynd o gwmpas yn ystod adeg yr etholiad, yn y nifer o dai sy'n dweud, 'dim croeso i alwyr diwahoddiad'. Rwy'n siŵr bod pobl wedi gweld hynny ar eu teithiau.
Yr hyn yr wyf yn ei ofyn yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gynyddu nifer a maint yr ardaloedd galw diwahoddiad? Oherwydd mae llawer o'r ardaloedd dim galw diwahoddiad, sy'n boblogaidd iawn, yn tueddu i gynnwys dim ond tua dau gant o dai, ond hoffwn i i Abertawe gyfan gael ei chynnwys—nid wyf yn siŵr a yw fy nau gyd-Aelod sy’n cynrychioli gweddill Abertawe yn cytuno, ond yn sicr Dwyrain Abertawe gyfan yn cael ei gynnwys, gan ei fod yn niwsans. Ac eto, ni allwch chi wneud unrhyw beth am y bobl sy'n dod i mewn drwy e-bost, ond dylem ni allu atal pobl rhag curo ar ddrysau, ac yn dweud wrth rywun bod ganddyn nhw lechen rydd ac yna’n codi degau o filoedd o bunnoedd arnyn nhw.
I bob un ohonom ni yn y Siambr hon, mae bob amser yn anodd gwybod a yw 'Dim galw diwahoddiad' yn golygu canfaswyr gwleidyddol hefyd. Er, rwyf wedi sylwi pobl yn rhoi 'Dim canfaswyr' yn ogystal â 'Dim galw diwahoddiad' ar eu drysau. Ond mae'n bwynt pwysig. Byddwn yn gwybod am bobl sydd wedi cael eu twyllo fel hyn, yn enwedig pobl hŷn sy'n teimlo'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni’n gwybod bod ardaloedd dim galw diwahoddiad wedi eu sefydlu ym mwyafrif awdurdodau lleol Cymru i leihau nifer y galwyr diwahoddiad, ac rydym ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i’w hannog i sefydlu mwy o ardaloedd yn y dyfodol.
Ers 2005, mae fy awdurdod lleol yn wir wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran sicrhau cyflwyniad ardaloedd dim galw diwahoddiad. Mewn gwirionedd, fi oedd yr aelod cabinet a wnaeth eu cyflwyno ar y pryd. Mae menter ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a safonau masnachu Conwy bellach wedi sefydlu dros 1,300 o ardaloedd, gan gynnwys holl gymuned Trefriw. Mae eich Llywodraeth, fel y dywedwch, wedi rhoi nifer o filoedd o bunnoedd ar gael ar gyfer y fenter hon, ond mae 10 awdurdod lleol nad ydynt wedi trafferthu i fanteisio ar y cyllid.
Mae naw deg tri y cant o bobl mewn arolwg nad ydynt eisiau gwerthwyr ar garreg y drws; mae 60 y cant wedi cael ymweliadau diwahoddiad gan gontractwyr, gyda 25 y cant yn cael galwadau yr eildro. Felly, pa gamau—ailadroddaf—mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod ardaloedd dim galw diwahoddiad yn cael eu cyflwyno’n gadarn ledled Cymru gyfan er mwyn amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed a'r rheini sy'n byw ar eu pennau eu hunain rhag yr hyn sy’n aml yn alwyr ffug ac yn gontractwyr diegwyddor?
Yr anhawster cyntaf yw nad oes gennym ni bwerau gweithredol fel Llywodraeth i orfodi sefydlu’r ardaloedd. Mae gan y Cynulliad rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol, ond mae'n eithaf cyfyngedig ac wedi ei gyfyngu i amddiffyn defnyddwyr. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod gan awdurdodau lleol swyddogaeth arbennig o bwysig. Mae hi wedi crybwyll, wrth gwrs, ei hawdurdod lleol ei hun, ac rydym ni’n croesawu'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud. I’r 10 awdurdod lleol hynny nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cyllid, mater iddyn nhw, wrth gwrs, yw esbonio, ac mae’n fater i’w godi gyda nhw o ran pam maen nhw’n teimlo nad yw ardaloedd dim galw diwahoddiad yn briodol i’w hardaloedd nhw.
Twristiaeth Glan y Môr yng Ngogledd Cymru
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth glan y môr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0644(FM)
Mae ein hamgylchedd arfordirol yn atyniad mawr i lawer o ymwelwyr sy'n cael eu denu gan ansawdd ein tirwedd arfordirol, bywyd gwyllt a’r môr, ac, wrth gwrs, mae llawer o’r atyniadau glan môr hynny ar hyd yr arfordir y gogledd.
Ceir llawer o’r trefi glan môr hynny yn fy etholaeth i sy'n elwa ar dwristiaeth, gan gynnwys Tywyn, Bae Cinmel, Llanddulas ac, yn wir, Bae Colwyn. Ond un o'r pethau sy'n rhoi’r diwydiant twristiaeth hwnnw mewn perygl yw'r risg o lifogydd arfordirol, a sylwaf ar gyhoeddiad adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw a oedd yn beirniadu’r diffyg amlwg o arweiniad hwn ar ran Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod, gan fy mod i wedi ei godi gydag ef ar sawl achlysur, fy mod i’n bryderus iawn am bromenâd Hen Golwyn yn fy etholaeth fy hun, sydd wedi cael ei tharo’n drwm gan stormydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd wedi difrodi'n ddifrifol cyfanrwydd y promenâd hwnnw, sy'n amddiffyn, wrth gwrs, cefnffordd yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. Byddwn yn ddiolchgar, Prif Weinidog, pe gallech chi gamu ymlaen ac arwain ar y mater hwn er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud fel mater o flaenoriaeth yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Wel, yn gyntaf oll, o ran adroddiad y pwyllgor, nid dyna’n union y mae'n ei ddweud, yn fy marn i. Mae'n gwneud y pwynt eithaf dilys bod llawer o wahanol sefydliadau sydd i gyd â chyfrifoldeb am lifogydd—tua saith ohonynt. Y pwynt yr oedd yr adroddiad yn ceisio ei wneud oedd, 'Wel, os bydd pethau'n mynd o chwith, pwy sy’n gyfrifol wedyn?', ac mae hwnnw'n gwestiwn dilys y byddwn yn ei ystyried yn rhan o'r ymateb i adroddiad y pwyllgor. Efallai y bydd angen deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod y sefyllfa’n eglur. Er enghraifft, bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod i, flwyddyn a hanner yn ôl erbyn hyn, ar yr A55, lle y bu llifogydd. Yn y pen draw roedd yn fater i Gyngor Gwynedd, ond roedd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru, felly cydweithiwyd i gyflawni hynny. Ond, yn amlwg, ceir problem yma y bydd angen ei datrys o ran: a yw’r sefyllfa’n ddigon cadarn os oes gennym ni gymaint â hynny o sefydliadau—ac unigolion, yn aml iawn—sy'n gyfrifol am reoli llifogydd? A byddwn yn ystyried ein hymateb i hynny yn rhan o'n hymateb i adroddiad y pwyllgor.
Mae rheolau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, wedi bod yn bennaf gyfrifol am y trawsnewidiad rydym ni wedi ei weld yn ansawdd dŵr nofio a glendid traethau a’r ffaith bod cynifer nawr o’n traethau ni yn y gogledd â statws baner las, sydd wedi bod yn ffactor bwysig iawn o safbwynt denu twristiaid. Gan ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, a bod Brexit yn dod, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni’n gwarchod y safonau amgylcheddol yna? Beth fyddwn chi fel Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fyddwn ni byth yn mynd nôl i’r sefyllfa fel ag yr oedd hi lle’r oedd ein traethau a’n moroedd ni ymhlith y butraf a’r mwyaf afiach yn Ewrop gyfan?
Mae hynny’n iawn. Nid oes dim rheswm pam allwn ni ddim cadw’r rheolau sydd yna ar hyn o bryd. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i’w benderfynu. Ond, na, ni fyddwn ni fel Llywodraeth ddim o blaid lleihau’r safonau sydd yna. Rwy’n cofio’r amser lle’r oedd yr afon a oedd yn mynd trwy’r dref lle ges i fy nghodi, Pen-y-bont, yn rhedeg â lliwiau gwahanol, yn dibynnu ar beth oedd wedi cael ei daflu i mewn i’r afon—glo, lipstic—roedd popeth yn mynd i mewn i’r afon, ac o achos hynny, roedd yr afon yn goch ac yn wyrdd. Wel, nid oes neb yn moyn mynd yn ôl i hynny, ond, wrth gwrs, beth sy’n bwysig yw, er ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hynny’n meddwl bod rhaid inni felly newid y rheoliadau yma yng Nghymru.
Pleidleisio Gorfodol
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bleidleisio gorfodol? OAQ(5)0643(FM)
Nid ydym o blaid pleidleisio gorfodol. Fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni wedi cymryd safbwynt ein bod ni eisiau gweld, mewn etholiadau Cynulliad, pobl ifanc 16 i 18 oed yn pleidleisio, ond nid ydym o blaid pleidleisio gorfodol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ac ar y pwnc o bleidleisio, diolchaf iddo am ei arweinyddiaeth o ymgyrch etholiadol Llafur Cymru, a oedd, yn wahanol i un y blaid gyferbyn, yn gryf ac yn sefydlog. [Torri ar draws.] Nodwedd arall o'r ymgyrch oedd cynnydd i’r nifer a bleidleisiodd, ac eto ni wnaeth un o bob tri o bobl bleidleisio. Nid yw pleidleisio gorfodol cystal ag ymgysylltu gwleidyddol neu addysg wleidyddol, ond yn ogystal â bod yn hawl y mae pobl wedi ymladd drosto a marw drosto, gall hefyd gael ei weld fel rhwymedigaeth ddinesig sydd arnom i’n gilydd. Wrth i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried trefniadau pleidleisio yn y dyfodol, er gwaethaf safbwynt Llywodraeth Cymru, a wnaiff ef sicrhau bod profiad Awstralia a Gwlad Belg yn cael ei ystyried yn llawn, a gwledydd eraill lle mae’r rhwymedigaeth ddinesig honno wedi cael ei hymgorffori mewn cyfraith?
Byddwn yn ystyried hynny. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n ystyried weithiau bod pleidleisio gorfodol yn fath o esgus i wleidyddion. Mae’n gyfrifoldeb i bob un ohonom, ar y cyd, i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio. Ni fyddwch byth yn cael—. Dydyn nhw ddim yn cyrraedd 100 y cant hyd yn oed yn y gwledydd lle ceir pleidleisio gorfodol. Yr hyn a welais ddydd Iau oedd cynnydd enfawr i nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd. Gallwn weld am 10 o'r gloch ar y bore dydd Iau, bod rhywbeth anarferol yn digwydd o ran nifer y pleidleiswyr. Felly, o’m safbwynt i, roedd yn wych gweld pobl ifanc yn dod allan i bleidleisio yn y niferoedd a wnaethant. Rwy'n gobeithio y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol, gan nad oedd erioed yn dda i gymdeithas i safbwynt gydio bod pobl hŷn yn pleidleisio ac nad yw pobl iau yn gwneud hynny. Rwy'n falch bod pobl iau wedi dod o hyd i’w llais.
Prif Weinidog, a gaf i ddweud, fel chithau, rwy'n falch bod nifer y pleidleiswyr ddydd Iau diwethaf yn llawer agosach at y duedd hanesyddol yr ydym ni wedi ei chael yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn amdano? Un peth sy'n bob amser yn fy nharo fel rhywbeth sy’n rhyfedd iawn yw pam yr ydym ni’n pleidleisio ar ddydd Iau. Bu un neu ddau o achlysuron yn yr ugeinfed ganrif lle cynhaliwyd etholiadau cyffredinol ar ddydd Mawrth, ond pam nad ydym ni’n pleidleisio, fel y rhan fwyaf o wledydd ledled y byd, dros y penwythnos? Does bosib y byddai honno’n ffordd wych o sicrhau bod gan gymaint o ddinasyddion â phosibl bob cyfle i gyrraedd y bwth pleidleisio.
Nid oes unrhyw reswm pam y dylai fod ar ddydd Iau. Yn wir, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni ystyried pleidleisio ar y penwythnos. Mae dydd Sul yn dal i fod yn broblem. Nid wyf yn meddwl y bydd y DUP yn pwyso am hynny yn y trafodaethau y byddant yn eu cael gyda’r Llywodraeth Geidwadol, fel sabathyddion. [Chwerthin.] Yn wir, mae ynysoedd gorllewinol yr Alban—bydd gan bobl yno farn ar hynny. Rwy’n meddwl bod pleidleisio ar y Sul, felly, yn dal i fod yn anodd mewn rhai rhannau o'r DU, ond nid oes unrhyw reswm pam na ddylai pobl bleidleisio ar ddydd Sadwrn, er enghraifft, pan nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn y gwaith a phan allai pleidleisio fod yn haws. Mae hynny'n rhywbeth i'w ystyried fel sefydliad yn y blynyddoedd i ddod.
Nid oes ffigurau, wrth gwrs—er bod yna ffigurau wedi eu dyfynnu, nid oes ffigurau am faint o bobl ifanc a wnaeth bleidleisio wythnos diwethaf. Ond, fel chithau, roeddwn i’n teimlo bod yna fwy o bobl ifanc yn troi mas yn y gorllewin, ac rwy’n arbennig o falch bod Aelod ifancaf y Senedd erbyn hyn, yn Ben Lake, yn Aelod dros Blaid Cymru yng Ngheredigion. Yn sicr, roedd Ben Lake wedi cael lot fawr o ffermwyr ifanc yn ei helpu fe yn ystod ei ymgyrch. Ond, o edrych ar sut allwn ni gadw’r bobl ifanc yma yn dod mas i bleidleisio, ac yn brin o bleidleisio’n orfodol, beth arall a allwn ni ei wneud? Ie, pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol, ond nag yw e’n bryd hefyd i dorri’r cyswllt yma bod yn rhaid ichi fwrw pleidlais mewn un man yn unig? Mewn oes electronig, oni ddylai fod yn bosib i unrhyw un fwrw pleidlais unrhyw le yng Nghymru dros yr ymgeisydd maen nhw’n ei foyn?
Wel, nid oes rheswm, mewn egwyddor, pam ddylai pleidleisio digidol ddim digwydd. Mae yna broblem ymarferol ynglŷn â diogelwch, fel rwy’n ei ddeall, sydd yn ei wneud e’n anodd iawn ar hyn o bryd. Ond nid oes rheswm, yn y pen draw, pam ddylai hynny ddim ddigwydd. Ar un adeg, roedd pob un yn y Siambr hon yn gweld y diwrnod pleidleisio fel y diwrnod oedd eisiau cael pobl mas i bleidleisio. Nid felly mae hi rhagor, achos mae cymaint o bobl yn pleidleisio drwy’r post. So, mewn egwyddor, nid oes rheswm pam ddylai’r system aros yn gwmws fel mae fe, achos un o’r pethau a wnes i sylwi dros y diwrnodau diwethaf o wythnos diwethaf roedd y ffaith bod pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio o achos cyfryngau cymdeithasol. Dyna le maen nhw’n cael eu newyddion. Roedd grwpiau ohonyn nhw wedi penderfynu pleidleisio. Felly, mae’n hollbwysig bod hynny’n cael ei ystyried ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n ystyried, yn y pen draw, pan fydd yr amser yn iawn, pleidleisio digidol.
Clymog Japan
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnydd Llywodraeth Cymru o psyllids i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0641(FM)
Mae cynnydd wedi ei wneud o ran bioreoli clymog Japan, gan gynnwys stociau psyllid o Japan. Ceir gwell cyfraddau goroesi i'r psyllids erbyn hyn, hefyd, ac mae hwnnw'n ddatblygiad allweddol wrth fynd i'r afael â chlymog. Mae rhyddhad pellach o psyllids wedi ei gynllunio yn ystod y flwyddyn hon.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Fel y mae pobl yn ymwybodol iawn yma, ac yn sicr yn Abertawe, Abertawe yn sicr yw prifddinas clymog. Nid yw'n deitl yr ydym ni’n arbennig o hoff ohono. Ond mae'n broblem enfawr yn fy etholaeth i a’r etholaeth gyfagos. Rwy'n falch iawn am lwyddiant y treial cychwynnol, ond ni fyddwn yn cyflawni fy nyletswydd fel Aelod dros Abertawe heb ddweud: a gaf i ofyn, os oes rhagor o safleoedd yn cael eu hystyried, bod safleoedd yn Abertawe, sy'n un o’r ardaloedd yr effeithir waethaf arni yng Nghymru, gael ei hystyried ar gyfer y safleoedd newydd hyn?
Fel y mae’r Aelod yn gwybod, mae safle’r treial yn Abertawe wedi ei leoli yn ei etholaeth ef yn Llansamlet, ar hyd darn 450m o Nant Bran. Mae angen cymryd gofal, wrth gwrs, wrth ryddhau rhywogaeth anfrodorol arall i reoli rhywogaethau anfrodorol presennol, fel y gwnaiff yr Awstraliaid ei ddweud wrthych, o ystyried y plâu o frogaod y maen nhw’n aml—plâu Beiblaidd, bron, o frogaod y maen nhw’n eu dioddef yno. Felly, mae hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd reoledig. Rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd hon yn ffordd lwyddiannus o reoli clymog trwy ysglyfaethwr naturiol heb i hynny, wrth gwrs, greu anghydbwysedd mewn mannau eraill o ran bioamrywiaeth.
Brif Weinidog, fel rydym ni’n gwybod, mae clymog Japan yn blanhigyn sy’n cael effaith negyddol nid dim ond ar blanhigion eraill ond ar adeiladau, ac o ganlyniad mae’n gallu rhwystro pobl rhag cael morgais neu insiwrans ar adeiladau. Yn sgîl y difrod mae’r planhigyn yma yn gallu ei achosi, beth, ar y cyfan, yw strategaeth Llywodraeth Cymru pan ddaw hi i daclo’r planhigyn yma? A ydych chi hefyd yn cytuno â mi dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gyfrifol am fynd i’r afael â’r broblem yma? Oherwydd rydw i’n deall nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru bwerau statudol o gwbl i fynd i’r afael â’r planhigyn yma.
Wel, yn gyntaf, mae yna grŵp—wel, bwrdd prosiect—sydd wedi cael ei sefydlu ynglŷn â delio gyda ‘knotweed’. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig ynglŷn â hynny. Mae’r Ganolfan Amaeth a Biowyddoniaeth Rhyngwladol, sef sefydliad sydd ddim yn gwneud elw, yn gwneud y gwaith ymchwil—y gwaith gwyddonol—ar hyn o bryd, ar ran y bwrdd prosiect hwnnw. So, mae yna waith yn cymryd lle, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r gwaith hwnnw.
Prif Weinidog, amcangyfrifir bod tua £200 miliwn wedi ei wario yn y DU yn unig yn ceisio mynd i'r afael â chlymog Japan, sy'n achosi gwerth tua £170 miliwn o ddifrod i eiddo bob blwyddyn. Mae'r treialon psyllid yn addawol iawn, ond, os gall y pryfyn sefydlu ei hun yn llwyddiannus yn y DU, ni fydd ond yn dofi clymog, nid ei ddileu. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi Prifysgol Abertawe wrth chwilio am ffyrdd o sicrhau bod clymog yn cael ei ddileu ac nad yw’n bygwth eiddo ein hetholwyr mwyach?
Rydym ni wedi cefnogi treial dwy flynedd yn Abertawe, gan archwilio’r rheolaeth gemegol a mecanyddol o glymog Japan. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda'r brifysgol i wella ein cyngor rheoli yn unol â'r canfyddiadau hynny.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r Ifanc
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i’r ifanc? OAQ(5)0656(FM)W
Erbyn hyn, rydym ni’n gweld effaith y rhaglen o welliannau sydd ar y gweill fel rhan o ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, a chaiff y rhaglen ei chefnogi gan £8 miliwn y flwyddyn o gymorth ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Mi oeddwn i’n falch iawn, ychydig wythnosau yn ôl, o gael sgwrs efo Laura Burton, merch ifanc o Fôn sy’n gwirfoddoli i Amser i Newid ac sy’n gwneud gwaith rhagorol yn pwyso am welliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Mi oeddwn i’n cytuno efo hi, yn sicr, bod angen gwneud mwy i newid agweddau pobl ifanc tuag at iechyd meddwl, ond hefyd bod yn rhaid i gynnydd mewn ymwybyddiaeth fynd law yn llaw, wrth gwrs, â buddsoddiad mewn adnoddau a chyllid digonol. O ran yr adnoddau, a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno ei bod hi’n annerbyniol bod Ynys Môn wedi cael ei gadael heb seiciatrydd ymgynghorol o gwbl i oedolion rhwng 18 a 65 oed—rhywbeth sy’n effeithio ar Laura, fel llawer o bobl eraill? Ac a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno hefyd, o ran yr ochr ymwybyddiaeth, bod angen gwneud llawer mwy i fuddsoddi mewn addysg iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc er mwyn gwneud y gwaith yna o godi ymwybyddiaeth?
Mae yna ymgynghorydd ym mhob ysgol uwchradd, wrth gwrs, er mwyn helpu, ond, i rai pobl ifanc, mae’n rhaid cael mwy o gyngor, a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi £8 miliwn y flwyddyn mewn i CAMHS. Os edrychwn ni ar ardal Betsi Cadwaladr, gan gynnwys Ynys Môn, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod y nifer a oedd yn aros am asesiad wedi mynd lawr o 669 i 90 mewn blwyddyn, felly lleihad o 86.5 y cant, a dyna, wrth gwrs, beth y mae’r buddsoddiad wedi’i wneud.
Prif Weinidog, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Making Sense' ar y cyd â'r fenter Making Sense, a gefnogir gan yr High Needs Collaborative ac Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc. Amlygodd yr adroddiad hwn nad oes cymorth ar gyfer pontio i wasanaethau oedolion yn bodoli i lawer o bobl ifanc. Yn wir, mae pobl ifanc yn dweud eu bod wedi eu paratoi’n wael ar gyfer y ffordd y mae gwasanaethau i oedolion yn gweithredu, sy'n dra gwahanol i'r ffordd y mae CAMHS yn gweithredu. Mae'n sefyllfa a ategir gan nifer o achosion sydd wedi dod ataf i yn fy etholaeth fy hun, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Prif Weinidog, a allwch chi egluro beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod y cyfnod pontio, sydd yn amser anodd i blant sy’n dod yn bobl ifanc a phobl ifanc sy’n dod yn oedolion mewn pob math o wahanol feysydd, o addysg hyd at wasanaethau iechyd, yn cael ystyriaeth benodol ac yn cael ei adolygu i helpu'r rheini sydd angen cymorth gweithwyr proffesiynol, fel gwasanaethau i oedolion ac iechyd meddwl plant a’r glasoed?
Ydy, mae’r cyfnod pontio hwnnw’n bwysig, ond rydym ni wedi sicrhau bod yr arian wedi ei roi ar gael ar gyfer partneriaid trydydd sector i sicrhau bod pobl â’r salwch meddwl mwyaf difrifol yn cael eu cynorthwyo i mewn i gyfleoedd cymdeithasol, addysg a chyflogaeth. Ond, wrth gwrs, o ran y cyllid CAMHS ychwanegol, yr hyn y mae hwnnw wedi ei gynllunio i’w wneud, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr adeg y maen nhw ei angen, fel nad oes rhaid iddyn nhw ddibynnu— bydd rhai wrth gwrs, ond ni fydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn y dyfodol.
Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0640(FM)
Fy mlaenoriaeth i yw gwneud yn siŵr bod pobl sir Benfro yn cael gwasanaethau iechyd sydd yn rhoi’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Rydw i’n siŵr byddech chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, ei bod yn bwysig bod gwasanaethau iechyd brys yn cael eu lleoli mor agos i bobl ag sydd yn bosibl. Mae ymgynghorydd sydd wedi ymddeol o ysbyty Llwynhelyg wedi adolygu nifer y babanod sydd wedi marw ar ôl genedigaeth yn sir Benfro. Mae ei adolygiad yn dangos bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers i wasanaethau babanod gael eu canoli yn ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Yn sgil yr adolygiad yma, a ydy’ch Llywodraeth chi yn awr yn fodlon ailedrych ar y sefyllfa yma ac ystyried ailgyflwyno’r uned gofal arbennig i fabanod, a sicrhau bod gwasanaethau pediatreg llawn amser yn ysbyty Llwynhelyg?
Wel, byddai’n beth braf pe buasai’r ymgynghorydd yn rhoi’r data inni a sicrhau ein bod ni’n gallu ystyried y data er mwyn gweld a yw’r data’n iawn neu beidio. Nid yw wedi gwneud hynny. Byddai hynny’n help. Ond rŷm ni’n gwybod bod y coleg brenhinol wedi dweud bod gwasanaethau yn ardal Hywel Dda yn saff.
Ond mae’r sefyllfa gyda gofal pediatreg dros nos i fod yn sefyllfa dros dro, lle mae hynny wedi cael ei dynnu oddi ar ysbyty Llwynhelyg. Nid yw hynny i fod yn sefyllfa barhaol. Felly, pryd y cawn ni nôl y gwasanaeth pediatreg dros nos?
Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn ymgynghori ar hyn o bryd—neu’n mynd i ymgynghori cyn bo hir—gydag arbenigwyr yn yr ardal er mwyn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy. Ond mae’n wir i ddweud mai rhywbeth dros dro yw hwn, ac nid rhywbeth parhaol.
Cydraddoldeb i Fenywod Hŷn yng Nghwm Cynon
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0652(FM)
Rydym ni wedi ymrwymo’n gryf i gynorthwyo pobl hŷn ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Adlewyrchir hynny, wrth gwrs, yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn, sy'n cefnogi camau i fynd i'r afael â materion sy'n wynebu menywod a dynion yn ddiweddarach mewn bywyd.
Diolch, Brif Weinidog. Gwn eich bod wedi ysgrifennu yn y gorffennol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, yn galw am adolygiad o gynllun pensiwn y glowyr. Cyfarfûm yn ddiweddar ag ymgyrchwyr o gymdeithas cynllun pensiwn glowyr y DU, a ddywedodd wrthyf sut y mae'r ffordd y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd yn effeithio’n wael ar wragedd gweddwon glowyr, yn arbennig, a rhai ohonynt, er enghraifft, yn cael dim ond £10 yr wythnos. A wnewch chi ysgrifennu at Lywodraeth y DU unwaith eto, gan amlygu sut y gallai diwygio'r cynllun nid yn unig fod o fudd i lowyr, ond hefyd hyrwyddo cydraddoldeb economaidd i weddwon glowyr yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon ac mewn mannau eraill yng Nghymru?
Cefais gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr de Cymru ychydig wythnosau yn ôl, ac amlinellwyd ganddynt, unwaith eto, yn gryf, yr achos dros adolygiad. Byddwn yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU sydd newydd ei hethol, yn gofyn iddi ystyried adolygiad o'r cynllun. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi nodi ein cefnogaeth i adolygiad o'r trefniadau presennol ar gyfer gwargedion cynllun pensiwn y glowyr, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod—soniwyd am hynny eisoes yn y Cyfarfod Llawn. Ysgrifennais at yr undebau llafur fis Chwefror diwethaf i ail-bwysleisio ein cefnogaeth i adolygiad.
Prif Weinidog, mae gan lawer o fenywod hŷn broblem gyda symudedd—maen nhw’n eithaf bregus—ac mae angen i ni lunio polisïau cyhoeddus penodol gyda hynny mewn golwg. Er enghraifft, gyda thrafnidiaeth, mae'r gwelliant i wasanaethau bws, teithiau bws am ddim, ac ati, o gymorth, ond mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar bethau fel cynlluniau cludiant cymunedol hefyd, sy'n caniatáu i bobl a fyddai fel arall yn cael eu heithrio o gludiant rhwydd, o leiaf i gael yr hawl i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau.
Mae hynny'n wir, a dyna pam rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a chyda gweithredwyr bysiau a threnau i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch. Er enghraifft, yn rhan o'r gwaith ar gyfer metro de Cymru, bydd hygyrchedd trenau a gorsafoedd yn rhan bwysig o ddatblygiad y prosiect hwnnw.
Etholiad Cyffredinol y DU
10. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Etholiad Cyffredinol y DU yr wythnos ddiwethaf ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0657(FM)
Mae addysg wedi'i ddatganoli, a nodir ein blaenoriaethau yn 'Symud Cymru Ymlaen'.
Iawn. Diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Roedd polisïau addysg Llafur yn cynnwys diddymu ffioedd dysgu ac ailgyflwyno grantiau cynnal—rhywbeth y byddem ni’n ei gefnogi yn UKIP a dweud y gwir, o ran myfyrwyr STEM. A oes gennych chi unrhyw fwriad i gyflwyno hyn yng Nghymru?
Wel, roedd hynny ar sail Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ac yn rhoi’r arian i ni i'n galluogi i ystyried gwneud hynny. Nid yw hynny wedi digwydd, eto, a phan fydd hynny’n digwydd, byddwn wrth gwrs eisiau gweld sut y gallwn ni sicrhau bod y myfyrwyr yng Nghymru ddim gwaeth eu byd na'r rheini yn Lloegr, fel yr ydym ni wedi ei wneud ers nifer o flynyddoedd o dan Lywodraethau olynol.
A wnaiff y Prif Weinidog ailystyried y cwricwlwm yn y dyfodol ar gyfer Cymru ac i ba raddau y bydd yn seiliedig ar newidiadau yr ydym ni eisoes wedi eu gweld yn yr Alban yng ngoleuni'r duedd am i lawr yng nghanlyniadau PISA yr Alban a’r dirywiad i’r gefnogaeth i'r SNP, sydd wedi bod yn goruchwylio’r cwricwlwm hwnnw?
Nid ydym wedi cymryd model yr Alban a’i roi ar waith yng Nghymru; bydd y model yn cael ei gyflwyno i sicrhau ei fod yn briodol i Gymru. Mae'n iawn y dylem ni edrych ar newid y cwricwlwm er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn darparu’r addysg orau bosibl i bobl ifanc.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Dim ond un newid sydd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a gaiff ei roi i gwestiynau yfory i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i gwelir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â thrafnidiaeth o ran dau fater, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Mae un yn ymwneud â chynnal a chadw’r A48 drwy Fro Morgannwg. Rwyf wedi codi’r mater hwn gyda chi sawl tro, ac erbyn hyn y mae tu hwnt i bob rheswm fod tyllau caead wedi cwympo a bod gennym dyllau ar y briffordd sy’n cynrychioli’r prif gysylltiad rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, sydd, fel y byddwch yn sylweddoli, yn cael ei defnyddio’n helaeth iawn. Rwyf i’n cyfaddef bod marciau wedi eu rhoi ar y ffordd yn ddiweddar, sy'n arwydd fod gwaith cynnal a chadw yn yr arfaeth, ond fel un sy’n defnyddio’r ffordd hon yn gyson, yn aml iawn, mae'r marciau ffordd yn ymddangos ac yn diflannu, ond nid oes unrhyw waith yn cael ei wneud yn y cyfamser. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran pa waith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cyfnod yr haf, fel y byddwn yn gweld gwelliant gwirioneddol yng nghyflwr y ffordd honno pan fydd misoedd y gaeaf wedi dod?
Yn ail, mae’r ffordd newydd sy'n cael ei hadeiladu i wella Five Mile Lane yn ychwanegiad at y seilwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg sydd i’w groesawu. Yn amlwg, bu gweithio sylweddol ar y safle hyd yma, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw gynnydd o ran cychwyn ar y cyfnod o adeiladu’r ffordd mewn gwirionedd. Fel y rhoddwyd ar ddeall i mi, roedd i’w gorffen rywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf, rwy’n credu. A gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran sut y mae’r gwaith yn mynd rhagddo? A yw’r amserau wedi eu newid ar gyfer cwblhau'r prosiect hwn, i ni gael gwybod mwy o ran sut y mae’r prosiect gwerth £26 miliwn hwn yn dod yn ei flaen?
Wel, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod yn iawn, wrth gwrs, y swyddogaethau a chyfrifoldebau, o ran y ffyrdd ym Mro Morgannwg—oes, mae rhai cyfrifoldebau ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd Cyngor Bro Morgannwg sydd yn cael ei reoli gan y Ceidwadwyr, yw'r awdurdod allweddol o ran y priffyrdd yno, ac nid yw hynny’n unig o ran yr A48 a’r ffyrdd cyfagos, ond yn cynnwys Five Mile Lane hefyd. Nawr, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid, y gwn eich bod wedi ei groesawu, R.T. Davies, ar gyfer Five Mile Lane. A hefyd, Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Felly, rwy'n ffyddiog y byddwch yn gofyn am ddiweddariad gan eich cydweithwyr ar Gyngor Bro Morgannwg.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Cromosom Anghyffredin, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn adeg briodol i dalu teyrnged i waith fy etholwraig Amy Walker. Ganed ei mab hi gyda chyflwr genynnol anghyffredin iawn, ac mae Amy yn ymgyrchu dros well dealltwriaeth o'r brwydrau y mae plant a theuluoedd fel ei theulu hi yn eu hwynebu’n feunyddiol. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r modd y mae’n cefnogi pobl ag anhwylderau prin, a’u teuluoedd hefyd?
Hefyd, mae sgrinio serfigol yn achub tua 5,000 o fywydau ledled y DU bob blwyddyn, felly mae'n destun gofid fod nifer y rhai sy’n cael eu sgrinio erbyn hyn ar ei leiaf yng Nghymru ers 10 mlynedd, ac nad yw un o bob pedair menyw sy’n cael eu gwahodd yn mynd i’w sgrinio. Hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol, felly os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r modd y mae’n ceisio sicrhau bod menywod yng Nghymru yn manteisio ar y sgrinio a allai o bosibl achub bywydau?
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am godi ymwybyddiaeth eto yn y Siambr hon o’r ddwy wythnos ymwybyddiaeth hollbwysig—yn gyntaf, y gwaith sydd wedi ei wneud gan elusen Unique i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau cromosom? Mae’n eglur, o ran profiad eich etholwraig, ei bod yn bwysig iawn cydnabod mai hon yw'r bedwaredd wythnos ymwybyddiaeth a gynhaliwyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw â chlefydau prin megis anhwylderau cromosom. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cyntaf ar afiechydon anghyffredin yn ôl ym mis Chwefror 2015. Roedd hynny mewn ymateb i strategaeth y DU ar gyfer clefydau anghyffredin, ac mae cynnydd o ran y cynlluniau sy’n cael eu monitro gan y grŵp gweithredu ar glefydau anghyffredin. Mae hynny’n cynnwys cynrychiolaeth nid yn unig gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, ond hefyd gan y grŵp cleifion, Genetic Alliance. Bydd hynny'n cael ei ddiweddaru i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’w ddiben.
Hefyd, ar eich ail bwynt, o ran ymwybyddiaeth o sgrinio serfigol, mae bron i wyth o bob 10 o fenywod yng Nghymru yn mynychu’n rheolaidd ar gyfer eu profion ceg y groth, ond rydym yn gwybod y bu gostyngiad bychan yn y cyfraddau mynychu y llynedd. Mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith i gadw a chodi cyfraddau cyfranogiad, ac mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd y cyhoedd lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael eu sgrinio serfigol ym mhob ardal. Mae rhaglen arbrofol hefyd yn edrych ar ddyfodol gweithredu profion HPV, ond rwy’n meddwl cyn belled ag y mae sgrinio serfigol yn y cwestiwn, mae'n rhaid i ni edrych ar y mannau lle ceir y niferoedd lleiaf yn manteisio ar gael eu sgrinio.
Gweinidog, ym mis Mawrth 2017 nid oedd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hystyried fel bod yn holliach. Roedd hynny'n ymwneud â chontract torri coed a roddwyd am 10 mlynedd er mai hyd arferol contract o’r fath fyddai pum mlynedd. Nid oedd y cwmni a gafodd y contract wedi gwneud cais am y tendr. Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y cafwyd achos busnes llawn i gyfiawnhau'r penderfyniad, ac yna yn y cyfarfod canlynol gwelwyd nad oedd yr hyn a elwid yn achos busnes yn cynnwys unrhyw ffigwr ariannol—dim un. Dywedodd wedyn nad achos busnes ydoedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth, dywedir wrthym, o werth am arian, ac mae amheuaeth fawr am ba un a oedd proses y contract yn gyfreithlon.
Felly, o ystyried yr holl bryderon hyn, ac yn arbennig y pryder sydd yn y diwydiant ei hun, sut ar y ddaear y gall prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru gael caniatâd i ymddeol tra bod cymaint o gwestiynau i'w hateb?
Mae hwn yn gwestiwn amhriodol iawn, yn fy marn i, Llywydd, ond byddwn hefyd yn dweud bod swyddogaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wrth gwrs, o dan gadeiryddiaeth Nick Ramsay, wedi edrych ar y mater hwn, yn enwedig o ran y contract yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdano.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf derbyniodd ein Ann Jones ni y wobr fedal aur fawr ei bri gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn yr Unol Daleithiau am ei gwaith i sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf i wneud gosod taenellwyr tân yn orfodol ym mhob tŷ sy’n cael ei adeiladu o’r newydd. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi yn y lle cyntaf ymuno â mi a llawer un arall i longyfarch Ann ar ei chyflawniad anhygoel, ond hefyd yn sgil rhoi’r mater hwn ar yr agenda eto, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella diogelwch rhag tân domestig yng Nghymru?
Wel, mae'n ddrwg gen i nad ydw i’n gweld Ann Jones yn y Siambr ar hyn o bryd i’m clywed yn ategu fy llongyfarchiadau innau at rai Hannah Blythyn i Ann Jones am ei gwobr gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn ddiweddar. Mae hyn yn bwysig, wrth inni gydnabod, ac rwy'n credu bod hynny’n gyffredin ar draws y Siambr, y gydnabyddiaeth hon o’r hyn y mae Ann wedi ei gyflawni. Mae hwn yn sefydliad rhyngwladol, ac yng ngolwg y rhai ohonom ni sydd wedi bod yma ers i Ann gychwyn ar ei thaith i sicrhau Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, mae hon yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad diysgog Ann i ddiogelwch rhag tân, a'r effaith a’r dylanwad y mae Ann Jones wedi eu cael ar ddiogelwch rhag tân yng Nghymru.
Dylem fod wedi cydlynu amseriad cadeirio’r sesiwn hwn ychydig yn well, a bod yn onest.
Bydd hynny ar y cofnod, Llywydd.
Mae hynny ar y cofnod, ac estynaf fy llongyfarchiadau innau hefyd i’r Dirprwy Lywydd Ann Jones.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â diogelwch yn ysbytai Cymru? Cefais e-bost gan etholwr ddim ond rai dyddiau’n ôl sydd yn anffodus iawn yn glaf canser yn Ysbyty Glan Clwyd, ac fe wnaeth sylw am y ffaith ei fod yn gallu cerdded o gwmpas yr holl ysbyty ar y penwythnos, i mewn ac allan o swyddfeydd unigol. Gallasai fod wedi dwyn cofnodion cleifion, cyfrifiaduron, ffonau—mewn gwirionedd, gallasai unrhyw un a fyddai wedi crwydro trwy'r drws wneud hynny. Mae’n amlwg fod hyn yn destun pryder, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cofnodion cleifion yn arbennig, yn cael eu diogelu mewn modd priodol yn ein hysbytai, yn enwedig dros y penwythnos pryd efallai na fydd neb yn gweithio ynddynt.
Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei godi gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn rhoi sylw difrifol iawn iddo, sef yr ystyriaeth o ddiogelwch ar safleoedd, yn enwedig o ran cyfrinachedd cleifion ac, yn wir, diogelwch y staff a’r cleifion.
Arweinydd y tŷ, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ddweud pa un a yw cydweithwyr yn y Llywodraeth wedi rhoi gwybod i chi eto pryd y gallwn ddisgwyl datganiad ynglŷn â Chylchdaith Cymru sydd wedi ei addo inni gan y Prif Weinidog cyn diwedd y mis—[Torri ar draws.] A fyddai'r Aelod anrhydeddus dros Flaenau Gwent—? Os oes ganddo unrhyw beth i'w ddweud, caiff godi a dweud hynny—
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod anrhydeddus —nad ydyw’n neilltuol o anrhydeddus o ran hynny, gan nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon, i mi gael ei ailadrodd eto, yn Aelod anrhydeddus—ond, nac oes, os gwelwch yn dda, nid oes angen unrhyw gymorth ar y Gweinidog busnes gan Weinidogion eraill wrth ateb cwestiynau sy’n ymwneud â busnes. Adam Price.
Diolch i chi, Llywydd. Pe gallai arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallwn ddisgwyl y cyhoeddiad hwnnw. Ac, yn y cyd-destun hwnnw, a yw'n bosibl i'r Llywodraeth gywiro’r cofnod o ran nifer o atebion ysgrifenedig yr wyf wedi'u cael gan y Llywodraeth, gan ei bod wedi dod i’r amlwg yn ddiweddarach, ei fod yn anghywir? Mewn un achos, gofynnais pa bryd y cafodd y Llywodraeth wybod gan yr archwilydd cyffredinol am ei fwriad i gyhoeddi'r adroddiad ar Gylchdaith Cymru. Dywedwyd wrthyf bod y Llywodraeth wedi cael gwybod ar 13 Ebrill. Fe ddaeth i'r amlwg wedyn eu bod wedi cael gwybod ar lafar am y tro cyntaf ar 10 Mawrth, ac yn ysgrifenedig ar 17 Mawrth, chwe wythnos yn gynharach.
Gofynnais hefyd syniad pwy oedd hi i awgrymu gwarant o 80 y cant i’r prosiect. Cefais wybod mai’r cwmni a oedd wedi awgrymu hynny ar 15 Ebrill. Daeth wedyn i’r amlwg mai’r Llywodraeth oedd wedi ei awgrymu wythnos cyn hynny. Cefais lythyr oddi wrth y Gweinidog yn cywiro'r gyfres gyntaf o gwestiynau, ond nid yw hynny wedi ei rannu gydag Aelodau, ac wrth gwrs, mae’r cofnod anghywir yn sefyll o hyd, o’r herwydd, yn y cwestiynau ysgrifenedig. Ac o ran y mater arall, cadarnhawyd yn ymhlyg i’r BBC ddoe fod y stori a gefais i’n anghywir.
Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, cyn inni gael datganiad gan y Gweinidog, fod yr aelodau yn cael gafael ar y wybodaeth gywir ac, yn wir, nid dim ond y datganiad y byddwn yn ei glywed yn y Cyfarfod Llawn, ond hefyd wrth gwrs y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy’n cyfarfod i drafod adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ar 26 Mehefin, rwy’n credu.
Hoffwn achub ar y cyfle i ymateb yn llawn o ran diweddariad ar Gylchdaith Cymru a'r cwestiynau a'r materion y mae Adam Price wedi’u codi. Rydym wedi bod yn gweithio, wrth gwrs, gyda Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd dros flynyddoedd lawer i ddod o hyd i ffordd i weithredu prosiect Cylchdaith Cymru. Nawr, gan fod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno’i wybodaeth ategol derfynol, mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau ei phroses diwydrwydd dyladwy gynhwysfawr ar gynnig Cylchdaith Cymru.
Wrth gwrs—ac mae hyn wedi’i gyfnewid, am bwysigrwydd, sydd wedi’i gydnabod—mae diwydrwydd dyladwy yn rhan bwysig o'r ystyriaeth honno wrth gefnogi unrhyw brosiect. Mae'n gyfle i sicrhau bod cynllun busnes cynaliadwy a chadarn ar waith, a bod y risg yn cael ei rhannu’n deg rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac i archwilio effaith economaidd ehangach y cynnig. Ac, fel sydd wedi ei ddweud, unwaith eto, pan fydd y gwaith hwnnw wedi ei orffen, bydd y Cabinet yn ystyried y prosiect a byddwn yn cyhoeddi penderfyniad.
Cafodd y cynnig ffurfiol cyntaf a oedd yn cynnwys y syniad o warant 80 y cant i brosiect Cylchdaith Cymru ei nodi mewn dogfen ddyddiedig 15 Ebrill, 2016. Cafwyd amryw o drafodaethau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost am beryglon a materion cyfreithiol y prosiect dros nifer o fisoedd cyn y dyddiad hwn, rhwng swyddogion a sefydliadau allweddol eraill, gan gynnwys Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd a'u cynghorwyr nhw, a byddai lefel y warant wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hynny. Yn wir, byddwn yn ychwanegu hefyd bod y Prif Weinidog wedi derbyn gohebiaeth gennych chi ac y bydd yn ateb yn y man.
Rwy’n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, i ategu fy llais innau at y galwadau am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am sgrinio serfigol, yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol hon. Rydym yn gwybod bod sgrinio serfigol yn atal datblygiad hyd at 75 y cant o achosion canser yng ngheg y groth, ond mae’r nifer sy'n cael eu sgrinio yng Nghymru ar ei lefel isaf mewn 10 mlynedd, ond mae lefelau diagnosis uchel yn peri gofid. Roeddech chi’n iawn i gyfeirio at yr angen i dargedu ardaloedd lle mae'r broblem ar ei gwaethaf. Ledled Gymru, dim ond 70.4 y cant o sgrinio serfigol sy’n digwydd o fewn cyfnod tair blynedd a hanner ymhlith y rhai sydd rhwng 25 a 64 mlwydd oed. Y lefel isaf yw 69.5 y cant yng Nghaerdydd a'r Fro, yna 70.9 yn Betsi Cadwaladr, a 73.6, y lefel uchaf, yn Addysgu Powys. Mae mwy na chwarter y menywod rhwng 25 a 64 ar eu colled o ran hyn, ac nid yw'n llawer gwell dros gyfnod pum mlynedd ychwaith.
Yn sicr, mae’n rhaid i ni annog menywod i siarad â’u ffrindiau, eu mamau a’u merched am y camau y gallant eu cymryd i leihau'r perygl o ganser ceg y groth. A dylai tadau a brodyr ac ewythrod a theidiau, yn ogystal â menywod, siarad â’n hanwyliaid, oherwydd ni allwn fforddio gweld llai fyth o fanteisio ar sgrinio serfigol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymhelaethu ar eich datganiad cynharach ac yn annog y Gweinidog i ddarparu datganiad yn unol â hynny.
Fy ail alwad a'r olaf sydd gennyf yw am ddatganiad cyn Sul y Tadau ddydd Sul nesaf—a hoffwn longyfarch pob tad sydd yma’n bresennol a gobeithio y byddan nhw’n mwynhau eu diwrnod—ynglŷn â swyddogaeth tadau a chefnogaeth iddynt yng Nghymru. Gweledigaeth melin drafod y DU, y Fatherhood Institute, yw cymdeithas sy'n sicrhau perthynas gref a chadarnhaol rhwng pob plentyn â'i dad, ac â’r rhai sydd fel tad iddyn nhw, gan gefnogi mamau a thadau fel rhai sy’n ennill cyflog ac yn gofalu, ac yn paratoi bechgyn a merched ar gyfer y gwaith a rennir o ofalu am blant yn y dyfodol. Mae maniffesto cyfraith teulu 2017 yn galw am hyrwyddo magu plant yn gyfrifol ar y cyd, ac annog y canlyniadau gorau i blant a theuluoedd. Yn yr Alban y llynedd, dathlodd Fathers Network Scotland, a gefnogir gan Lywodraeth yr Alban, Flwyddyn y Tad, gan ddathlu tadolaeth a phwysigrwydd tadau yn natblygiad plant a’u magwraeth, a galw ar wasanaethau a chyflogwyr i gefnogi tadau, cofleidio arferion cynhwysol sy'n ystyriol o deuluoedd, a chydnabod y gall tad heddiw fod yn sengl neu'n briod, wedi’i gyflogi’n allanol neu'n dad sy’n aros gartref, yn hoyw neu heb fod felly, ac efallai nad ydyw’n dad biolegol hyd yn oed. Gallent fod yn deidiau, ewythrod, tadau maeth, tadau sy'n mabwysiadu, neu’n llystadau, ond disgwylir llawer ganddynt erbyn hyn.
Ond er gwaethaf hyn, a byddaf yn gorffen yn y fan yma, canfu arolwg tadolaeth blynyddol 2016 Canolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod 47 y cant o'r holl dadau yn y DU yn teimlo nad oedd eu gwaith yn cael ei werthfawrogi gan gymdeithas, roedd 46 y cant o dadau ar yr incwm isaf yn crybwyll diffyg patrymau ymddwyn tadolaeth, a thadau newydd yn crefu am well cymorth cymdeithasol ac emosiynol, yn hytrach na bod rhywun yn dweud wrthyn nhw am fod yn ddyn, a dim ond 25 y cant o dadau a ddywedodd eu bod yn cael digon o gefnogaeth i'w helpu i chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y teulu. Cyn lansiad canlyniadau Arolwg Tad Cymru 2017 heno yn y grŵp trawsbleidiol ar dadau a thadolaeth, byddwn yn croesawu eich parodrwydd i edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban a gweld sut y gallem ninnau fwrw ymlaen â rhaglen gymorth yng Nghymru.
Rwy'n falch fod Mark Isherwood unwaith eto wedi dilyn ymlaen ar gwestiwn Vikki Howells am ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio serfigol. Hoffwn ychwanegu fy mod wedi gwneud y pwynt am y ffordd y mae clystyrau gofal sylfaenol lleol yn gweithio gyda thimau iechyd y cyhoedd i ystyried y niferoedd sy'n cael eu sgrinio, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceir y niferoedd lleiaf yn manteisio. Ac maen nhw yn ymchwilio, er enghraifft, i weithgarwch y cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn ffordd newydd o godi ymwybyddiaeth, ond rydych hefyd yn ychwanegu at hynny bwysigrwydd swyddogaeth rhieni, tadau, brodyr o ran codi ymwybyddiaeth o’r rhaglen sgrinio hanfodol hon.
Rydych chi wedi rhoi darlun cadarnhaol iawn o swyddogaeth tadau cyn Sul y Tadau ddydd Sul.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â phresgripsiynau rhad ac am ddim yng Nghymru a rheoliad cost meddyginiaethau yn y GIG yng Nghymru hefyd? Costiodd presgripsiynau rhad ac am ddim £593 miliwn yn 2015. Fodd bynnag, mae cost rhoi rhai cyffuriau ar brescriptiwn yn llawer uwch na'r pris fyddai’n cael ei dalu amdanynt dros gownter archfarchnad. Roedd rhoi paracetamol ar bresgriptiwn yng Nghymru y llynedd, er enghraifft, yn golygu cost o dros £5 miliwn i'r GIG. Er fy mod yn cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i newid ei pholisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i edrych ar ffyrdd y gallai triniaethau sydd ar gael yn rhwydd, fel paracetamol, gael eu rhoi i bobl heb bresgripsiwn, gan leihau'r gost i’r GIG, a rhyddhau arian y mae ei angen yn fawr ar wasanaethau eraill y GIG?
Ac mae agwedd arall ar hyn, sef bod un ym mhob pedwar o oedolion Cymru yn ordew, ac mae bron i 60 y cant yn rhy drwm, yn ôl arolwg iechyd Cymru 2015. Ac rwy’n credu bod hynny ynddo’i hun yn peri i oedolion ddioddef diabetes, a oedd yn costio £5 y mis, am bob meddyginiaeth, i feddygfa neu feddyg, dim ond bum mlynedd yn ôl. Nawr, ar hyn o bryd, mae'r gost ymhell dros £35 y mis. Ac o ystyried cymaint mae'r niferoedd yn cynyddu o ran gordewdra a diabetes, rwy'n credu ein bod yn mynd i weld ton fawr o ddiffyg rheolaeth ariannol yn gorchuddio’r GIG yng Nghymru, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth am hynny. Diolch.
Wel, nid wyf yn hollol siŵr i ble y mae’ch cwestiynau chi’n arwain, Mohammad Asghar, heblaw am ddweud y gallaf eich sicrhau yn bendant na fyddwn yn newid ein polisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, sydd nid yn unig wedi lliniaru mesurau cyni eich Llywodraeth Geidwadol chi dros y saith mlynedd diwethaf, ond sydd hefyd wedi ein galluogi i drin y rhai sy'n dioddef yr anghydraddoldebau mwyaf o ran iechyd yng Nghymru.
A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau blaenorol, a wnaethpwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar Gylchdaith Cymru? Rydym yn mynd i roi ystyriaeth i hyn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddarach yn y mis, felly, yn eglur, gan mai fi yw Cadeirydd hwnnw, byddaf yn ymatal rhag mynegi fy marn tan hynny. Fodd bynnag, byddai'n briodol, rwy’n credu, i ni gael penderfyniad yn sgil ein trafodaethau pwyllgor cyn gynted ag y bo modd, fel y gallwn gael rhywfaint o eglurder am yr hyn sydd wedi bod yn saga sy’n rhedeg yn hir iawn, mae'n ymddangos ei bod—yn tynnu am, wel, cyn belled ag y gallaf gofio erbyn hyn. Ac rwy’n credu y bydd y cwmni, a'r cyhoedd, yn gwerthfawrogi hynny.
Yn ail, y bore yma, arweinydd y tŷ, es i i gyfarfod brecwast agoriadol Cymdeithas Cyfraith Amaethyddol yng Nghymru, a lywyddwyd gan Simon Thomas. Cafodd y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol ei sefydlu yn 1975 ac mae hi’n rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol gwerthfawr tu hwnt i'w haelodau, ac roedd hi’n braf cael eu croesawu i'r Cynulliad; rwy'n gwybod bod y Gymdeithas yn dymuno cynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru.
Mae'n amlwg bod hwn yn gyfnod ansicr i’n cymdeithas ffermio, arweinydd y tŷ, gyda phroses Brexit ar y gweill, pobl ifanc yn gadael y diwydiant, ac, wrth gwrs, mater parhaus TB mewn gwartheg. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio'n agos gyda Chymdeithas y Gyfraith Amaethyddol, ac, yn wir, yr undebau ffermio, i dawelu meddyliau ein ffermwyr yng Nghymru? Ac efallai y cawn ni ddatganiad, ar yr adeg iawn, yn y Siambr hon, neu ddadl efallai, ar y ffyrdd y gallwn gefnogi ein diwydiant ffermio drwyddynt, mewn ffyrdd traddodiadol ac efallai edrych ar ffyrdd mwy arloesol. Gan fy mod i’n credu bod hyn yn agwedd hanfodol ar economi Cymru y mae angen ei chefnogi a’i meithrin yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn nodi’r pwynt a wnaethoch am Gylchdaith Cymru, Nick Ramsay.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ac, o ran eich ail bwynt, wel rwy'n siwr bod hwnnw’n gyfarfod pwysig iawn y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol y bore yma. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod hefyd yn achub ar y cyfle i fyfyrio ar eich pwynt y bydd hi’n anodd iawn—ei bod hi’n anodd iawn ar hyn o bryd i’r gymuned ffermio—ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cydweithio’n agos iawn, nid dim ond gydag undebau ffermio, ond gyda phartneriaid. Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni, yn Llywodraeth Lafur Cymru, i alw am ymrwymiad yn y tymor hwy gan Lywodraeth y DU i gadw addewidion a wnaethpwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli yr un geiniog o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.
Diolch. Ac, yn olaf, Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, gan ein bod yn sôn am gadw addewidion, arweinydd y tŷ, mae tua naw mis wedi mynd heibio bellach ers i fater tanau sglodion coed, a dympio sglodion coed yn anghyfreithlon, gael ei godi yn y Siambr hon. Mae'n fater sy'n effeithio’n arbennig ar fy rhanbarth i. A bod yn deg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cymryd hyn o ddifrif, wrth gydnabod annigonolrwydd rheoleiddio a'r adnoddau i weithredu'r rheoliadau presennol, heb sôn am reoleiddio newydd. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ofyn am ddatganiad gan ei hadran hi, yn ein diweddaru ni ar gynnydd, ar y meysydd rheoleiddio y mae angen eu diwygio, y dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniadau y mae hi’n eu gwneud ar hyn o bryd, a pha gynnydd sy’n cael ei wneud o ran drafftiau cynnar hyd yn oed efallai o reoliadau gwell a fydd yn ei helpu i atal y mater difrifol hwn, yn enwedig yn fy rhanbarth i, rhag digwydd eto—dod i’r golwg eto.
Diolch yn fawr, Suzy Davies, am hynna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, fel yr addawodd hi, o ran swyddogion yn rhoi ystyriaeth i hynny. Rwy’n gwybod bod effaith niweidiol tanau sglodion coed yn rhywbeth sydd wedi ei weld ledled Cymru, ac nid yn eich rhanbarth chi yn unig.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y fframwaith polisi treth, ac rwy’n galw ar Mark Drakeford i gyflwyno'r datganiad.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae dechrau’r broses o ddatganoli trethi, yn anochel, wedi cymryd llawer o amser y Cynulliad Cenedlaethol. Yn 2015, fe gafodd y cyfrifoldeb am ardrethi annomestig ei drosglwyddo i Gymru. Ym mis Mawrth 2016, fe gyrhaeddodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 y llyfr statud. Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaethom ni gytuno ar fframwaith cyllidol newydd gyda’r Trysorlys. Fis diwethaf fe gafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol. Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyrraedd Cyfnod 3 o’r broses graffu ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi. Dros yr haf, bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ar yr asesiad annibynnol cyntaf o ragfynegiadau trethi Llywodraeth Cymru. Erbyn 1 Hydref eleni, byddaf yn cyhoeddi’r set gyntaf o gyfraddau a bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi. Ar ddechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu'n ymarferol, yn casglu a rheoli'r trethi hynny yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd y broses o ddatganoli treth incwm yn rhannol yn dechrau ym mis Ebrill 2019.
Dirprwy Lywydd, at that point, when that extensive timetable has reached its conclusions, decisions made in this National Assembly will shape the policy and practical actions to raise £5 billion-worth of revenue on which our public services, and the nature of the society we aim to be, will be founded. International best practice, endorsed by the OECD, suggests that responsibilities of this scale ought to be discharged within a clear policy framework, published openly to citizens, in all our different guises, with clarity about the approach being taken—in our circumstances, by the Welsh Government towards Welsh taxes.
Dirprwy Lywydd, let me place on record again the fact that this Government sees no attractions whatsoever in the low tax, low pay, low investment, dog-eat-dog economy of the neo-liberal imagination. Taxes are the admission price that each one of us pays to live in a civilized society. And, Dirprwy Lywydd, every single adult in Wales—and many children, too—are tax payers, with our poorest citizens very often, and far too often, paying a higher proportion in tax of their inadequate incomes than those who have more money than they will ever need. That is why taxes are also an investment in our collective future. What we depend on today owes much to the taxes that have been paid in the past by our parents and grandparents. These public services are benefits that define our society and underpin its values. They would not be possible without taxation. Good taxes should be efficient and effective, producing maximum benefit for the cost incurred and they should acknowledge Wales’s position, both within the United Kingdom and be compatible with the UK and wider international taxation framework.
The tax policy framework, which the Government has published, builds on the five principles previously set out for Welsh taxes, that taxation should raise revenue to support public services as fairly as possible; taxation should help deliver wider fiscal and policy objectives, including jobs and economic growth; taxation should be simple, clear and stable; taxation should be developed through engagement with taxpayers and wider stakeholders; and taxation should contribute directly to the Well-Being of Future Generations (Wales) Act 2015 goal of creating a more equal Wales.
Wales’s new suite of tax powers will ensure that people here have a genuine choice—for the first time—both about the level of taxes paid and about the quality and quantity of devolved public services. My party’s manifesto included a commitment not to increase income tax during the lifetime of this Assembly. It will be for political parties to set out their plans for tax rates ahead of the next Assembly elections in 2021. In this Assembly term, we will carefully consider other tax rates and their impacts collectively, to ensure they continue to generate sufficient revenue to fund public services, while remaining fair and supporting economic growth.
Taxation can also play a role, as we know, in influencing behaviour. We will consider whether new Welsh taxes can be introduced in an efficient way to operate alongside our existing or new policy tools. A debate on new taxes has been scheduled in Government time to be held before the end of this summer term.
Dirprwy Lywydd, land transaction tax and landfill disposals tax will be collected and managed by the Welsh Revenue Authority, which becomes operational in 2018. The authority will work in partnership with local authorities across Wales and other tax authorities in the United Kingdom to build a comprehensive picture of the delivery of tax services, compliance and tax policy development. It will work to join up activity for the benefit of taxpayers.
Delivering a tax policy for Wales will need a steady, consistent and informed approach. The main task for the Welsh Government in this Assembly, I believe, will be to embed the new tax arrangements and build the evidence base so that we can understand how we can best use our tax powers in the future. This will require input from a wide range of interested parties—from individuals, businesses, third sector organisations and, of course, from the National Assembly's own Finance Committee.The views of tax specialists and other professionals will be important to this work, but it will also be important to hear directly from citizens throughout Wales about what they think about the level and extent of revenue raising and taxation in Wales. To stimulate that engagement and debate, a work plan, which sets out the priority areas for the year ahead and some longer term research issues to inform tax policy in the years to come, has been published alongside the tax policy framework.
I am also committed to an annual process for tax policy in Wales. Decisions about tax policy will be published alongside the Welsh Government's budget, reflecting the direct link between taxes and resources available to fund Welsh public services.
Dirprwy Lywydd, mae ein pwerau trethu, am y tro cyntaf, yn caniatáu inni ddatblygu dull gweithredu sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau Cymru. Cyhoeddi'r fframwaith polisi trethi a'r cynllun gwaith yw cychwyn y broses hon. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau yn y Siambr heddiw ac i weithio gydag Aelodau a gyda phobl Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth i'n pwerau trethu ddatblygu. Diolch yn fawr.
Diolch. Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw ac am gael golwg ymlaen llaw, yn wir, ar ddogfen fframwaith y polisi treth. Gallaf eich sicrhau y gwnaf geisio osgoi unrhyw sylwadau didrugaredd, neo-ryddfrydol—nid fy ffordd i fel arfer, ond mae'n debyg bod tro cyntaf i bopeth—ond, yn achos y ddogfen hon, roedd llawer yma y gallwn gytuno ag ef ac, wrth gwrs, sy’n gorfod digwydd gan fod trethi’n cael eu diffodd ar lefel y DU.
A gaf i hefyd ganmol Ysgrifennydd y Cabinet neu bwy bynnag a ddrafftiodd ragair y ddogfen hon? [Torri ar draws.] Efallai mai Ysgrifennydd y Cabinet a wnaeth. Mae’r agoriad yn deilwng o Shakespeare, rwy’n meddwl; mae'n darllen fel soned Shakespearaidd. Mae’n amlwg bod trethi datganoledig yn annwyl iawn i rywun, ac mae'n dda gwybod nad yw polisi cyllidol datganoledig bob amser mor sych ag y mae weithiau’n ymddangos bod yn rhaid iddo fod. Mae hwn yn darllen yn dda iawn, beth bynnag—y rhagair agoriadol.
Mae’r dyddiad Ebrill 2018 ar gyfer datganoli trethi a nodwyd gennych—ar gyfer y gyfran gychwynnol, beth bynnag—yn prysur agosáu, ac yn amlwg mae angen gwneud llawer o waith cyn hyn. Erbyn hyn, fel y dywedwch, mae dadl yn tyfu o amgylch defnyddio polisi treth i roi hwb i'r economi, ac rydym yn croesawu’r ddadl honno ac yn dymuno bod yn rhan ohoni. Rydym yn amlwg ar gromlin ddysgu serth ac mae angen inni ddatblygu'n gyflym, rwy’n meddwl y byddem oll yn cytuno, ein gallu o ran arbenigedd ariannol, yn enwedig ym maes rhagweld, nid dim ond yng ngwaith mecanyddol sefydliadau fel Awdurdod Cyllid Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r fframwaith polisi treth yn datgan dro ar ôl tro na ddylai fod unrhyw newid er mwyn newid—gwireb yr ydych chi wedi cadw ati fel eich rhagflaenydd, Jane Hutt, a bod trethi Cymru’n eistedd o fewn cyd-destun ehangach y DU. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef. Rwy'n meddwl ei bod yn dda ein bod yn dechrau gyda'r wireb honno.
O ran sut y mae’n eistedd o fewn cyd-destun ehangach y DU ac yn rhyngwladol, pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau deialog agos â Llywodraeth y DU pan ddaw'n amser gwneud penderfyniadau am bolisi treth? Yn amlwg, ar ddechrau'r broses hon ac wrth sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, mae’n rhaid bod trafodaethau y DU gyfan wedi digwydd. Y tu hwnt i hynny, ein lle ni fydd pennu ein trethi datganoledig ein hunain, ond rwy’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol ein bod yn gweld y rheini yng nghyd-destun ehangach y DU. Ac, yn amlwg, nid dim ond mater o sut mae polisi’r DU yn effeithio arnom ni yw hwn; bydd ein penderfyniadau polisi ni yma’n cael rhywfaint o effaith ar dreth yng ngweddill y DU hefyd, yn enwedig o ystyried y ffin hydraidd a nifer y bobl sy'n byw ger ffin Cymru yng Nghymru—50 y cant o'r boblogaeth o fewn 30 milltir.
Rwy'n falch eich bod yn anrhydeddu eich ymrwymiad i gyflwyno manylion am gyfraddau a bandiau. Rwy’n credu mai dyna oedd yr ymrwymiad a roesoch i'r Pwyllgor Cyllid, gyda llawer ohonom, gan fy nghynnwys i, ac rwy'n cofio Mark Reckless yn gwneud y pwynt y byddem wedi hoffi gweld y cyfraddau a’r bandiau ar wyneb y Bil ymlaen llaw. Gwnaethoch eich dadleuon dros beidio â gwneud hynny, ac rwy’n eich cofio’n dweud y byddech, fel cyfaddawd, yn cyflwyno manylion pellach am y cyfraddau ar adeg briodol. Felly, rwy'n falch o weld bod hynny wedi digwydd a byddwn yn edrych ar y rheini â diddordeb.
Mae'r fframwaith polisi’n cyfeirio at drethi newydd sawl gwaith. Ac, wrth gwrs, mae’r drefn ariannol newydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno trethi newydd. Rwy'n meddwl, pan gawsom y Senedd yng Nghasnewydd a phan ddaethoch i sesiwn dystiolaeth yno, rwy’n meddwl fy mod yn eich cofio’n dweud eich bod yn meddwl y byddai'n ddiddorol datblygu neu edrych ar ddatblygu rhai trethi newydd, neu un dreth newydd, rwy’n meddwl y dywedoch chi, fel arbrawf i weld sut y byddai'r broses yn gweithio, i roi prawf ar y broses honno. A ydych wedi meddwl mwy o gwbl am hynny, oherwydd, yn amlwg, os, ar y naill law—rwy’n bod yn sinigaidd am eiliad—rydych yn ystyried dal i gasglu’r trethi presennol fel treth stamp a thirlenwi, ac ati, a chadw’r rheini’n gymharol debyg i ble y maent ar hyn o bryd, os ydych yn cyflwyno treth newydd, mae hynny'n ffordd o gynyddu cyfanswm treth yn llechwraidd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oedd gennych unrhyw syniadau pellach am ddatblygu trethi newydd.
A gaf i ofyn ichi am ddiwygio'r dreth gyngor, yr ydych yn sôn yn fyr amdano yn y ddogfen fframwaith? A yw hyn yn rhagflaenydd i symudiad neu i ddadl am y posibilrwydd o ddisodli hynny â threth gwerth tir? Bu llawer o drafod rhwng Aelodau'r Cynulliad a hefyd o fewn Cymru, y tu allan yn y byd academaidd, ynghylch rhinweddau cymharol treth gwerth tir. Rwy’n gwybod ei bod ar waith mewn rhannau eraill o'r byd. Yn amlwg mae treth gwerth tir—nid wyf am fynd i mewn i'r drafodaeth am y peth yn awr—o fudd i rai, ond, mewn ardaloedd gwledig, lle mae mwy o berchnogaeth tir, gallai hynny achosi problemau. Felly, rwy’n meddwl os ydym yn mynd i gyfeiriad edrych ar dreth gwerth tir, gorau po gyntaf inni gychwyn y drafodaeth honno er mwyn inni i gyd allu cyfrannu ati.
Ynglŷn â threth incwm yn gyffredinol, yn amlwg mae’n wahanol i'r ddwy dreth arall—a byddaf yn gorffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—oherwydd rwy’n credu bod y cyfrifoldeb am godi hon yn parhau i fod gyda Chyllid a Thollau EM; nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatganoli yma. Felly, sut ydych chi’n gweithio i gryfhau cysylltiadau â Chyllid a Thollau EM yn hyn o beth i wneud yn siŵr bod y broses hon yn rhedeg mor esmwyth â phosibl? Ond, diolch ichi am gyflwyno’r fframwaith hwn heddiw. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddatblygiad gyda diddordeb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Nick Ramsay am ei groeso cyffredinol i gyhoeddi'r fframwaith a'i raglen waith. Gwnes i gyfrannu at ysgrifennu'r rhagair iddo. Rwy'n meddwl mai Mario Cuomo a ddywedodd fod gwleidyddion yn ymgyrchu mewn barddoniaeth ond yn llywodraethu mewn rhyddiaith, ac, yn gyffredinol, rwy’n meddwl bod swydd gwleidydd sy'n gweithio yn agosach at limrigau na sonedau. Ond rwy'n falch ei fod wedi mwynhau ei ddarllen.
A gaf i ddweud fy mod yn meddwl ei fod wedi crynhoi’n gywir iawn rhai o'r dadleuon allweddol sydd y tu ôl i’r fframwaith a'r cyngor a gawsom gan randdeiliaid ynghylch parhad, yn nyddiau cynharaf datganoli treth, gyda'r posibilrwydd o fwy o wahaniaethu yn y dyfodol a chyngor penodol inni am natur fandyllog y ffin a rhoi sylw i'r ffordd y byddai penderfyniadau am drethi datganoledig a wneir yng Nghymru yn effeithio ar weithgarwch trawsffiniol.
Gofynnodd Nick Ramsay gyfres o gwestiynau penodol imi, Dirprwy Lywydd, a byddaf yn ceisio eu hateb yn awr. O ran sut y byddwn yn parhau i gynnal deialog agos â chydrannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwy’n edrych ymlaen at barhau â'r cyfarfodydd cyllid pedrochr gyda Gweinidogion cyllid gogledd Iwerddon a’r Alban a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mewn ysbryd o gydweithredu trawsbleidiol, gadewch imi gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith David Gauke pan oedd yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae ef bellach wedi cael dyrchafiad, byddwn yn tybio, at bortffolio Cabinet mwy sylweddol, ond roeddwn bob amser yn ei weld yn rhywun yr oedd yn bosibl gwneud busnes ag ef a chael sgyrsiau priodol ag ef, hyd yn oed pan nad oeddem yn cytuno, ac rwy’n edrych ymlaen yn awr at ailsefydlu’r berthynas honno gyda'i olynydd.
A gaf i gadarnhau y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, fy mod i’n bwriadu cyflwyno datganiad ynglŷn â chyfraddau a bandiau erbyn 1 Hydref fel y cytunais â'r Pwyllgor Cyllid? O ran trethi newydd, rwy’n meddwl, Dirprwy Lywydd, y byddai'n gywir dweud bod y setliad newydd yn rhoi'r potensial i Lywodraeth Cymru gynnig trethi newydd yn hytrach na chyflwyno trethi newydd i Gymru. Mae cyfres o rwystrau a nodwyd yn y papur gorchymyn a arweiniodd at Ddeddf Cymru 2014 y byddai'n rhaid inni eu bodloni, er mwyn cynnig treth newydd yn llwyddiannus ar gyfer Cymru. Rwy'n awyddus iawn, fel y dywedais yng Nghasnewydd, i brofi'r peirianwaith sydd nawr wedi'i sefydlu. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad, mae dadl wedi ei chytuno arni yn amser y Llywodraeth cyn toriad yr haf, ac rwy’n gobeithio y bydd natur y ddadl honno’n wirioneddol agored. Nid dadl ar gyfres o gynigion y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno i bobl eu cymeradwyo neu beidio yw hi. Mae'n ddadl lle’r wyf yn gobeithio y byddwn gyda’n gilydd yn casglu’r holl syniadau y gallwn eu cynhyrchu, yr holl ystyriaethau yr ydym yn meddwl bod angen inni weithio drwyddynt, ac y bydd yn ddadl lle’r ydym, ar draws y Siambr, yn rhannu’r syniadau gorau sydd gennym er mwyn ein galluogi i brofi’r peirianwaith hwnnw yn y ffordd fwyaf llwyddiannus.
Gofynnodd Nick Ramsay am ddiwygio’r dreth gyngor ac a yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r posibiliadau mwy hirdymor o ddisodli’r dreth gyngor. Yr ateb i hynny, rwy’n meddwl, yw ei bod yn debygol nad ydynt wedi’u cysylltu’n uniongyrchol yn y ffordd honno. Rwy’n gobeithio gwneud rhai cynigion ar gyfer diwygio’r dreth gyngor fel y mae'n gweithredu yn y presennol i'w gwneud yn decach ac i sicrhau y caiff ei gweinyddu’n fwy effeithlon. Ar yr un pryd, mae’r rhaglen waith, fel y bydd yr Aelodau wedi’i weld, yn ein hymrwymo i weithio i edrych, mewn ffordd gymhwysol, ar effaith bosibl dewisiadau eraill yn lle’r dreth gyngor, gan gynnwys treth gwerth tir, pe baent yn cael eu cyflwyno, yn amgylchiadau Cymru. Rwy'n meddwl bod hwnnw'n ddarn pwysig iawn o waith, a bydd yn caniatáu i'r Cynulliad yn y dyfodol wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes ffordd well o wneud trefniadau trethiant lleol, oherwydd byddwn wedi symud ymlaen yn y tymor Cynulliad hwn o ymarfer rhinweddau damcaniaethol gwahanol fodelau o drethi lleol i ddarn cymhwysol o waith sy'n edrych ar yr hyn y byddai'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd a sut gallai newid effeithio ar y byd go iawn.
Yn olaf, i gadarnhau’r hyn a ddywedodd Nick Ramsay, bydd gweinyddu treth incwm, ar ôl datganoli treth incwm yn rhannol, yn aros gyda Chyllid a Thollau EM, nid gydag Awdurdod Cyllid Cymru, ond mae bwrdd prosiect ar y cyd wedi'i sefydlu ac mae wedi cyfarfod, rhwng Cyllid a Thollau EM, rhwng Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru hefyd. Bydd Cyllid a Thollau EM yn galw ar eu profiad o ddatganoli treth incwm yn rhannol yn yr Alban i wneud yn siŵr eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i gymryd y cyfrifoldebau newydd hyn ar gyfer Cymru.
Hoffwn i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, jest groesawu’r adroddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a jest dweud ychydig o bethau y mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud sydd yn cyd-fynd, gobeithio, gyda bwriadau y Llywodraeth, ac wrth gwrs sy’n rhoi hefyd bersbectif o graffu ar waith y Llywodraeth.
A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod innau am ddweud pa mor ddarllenadwy yw’r fframwaith yma, ac nid jest y rhagair, mae’n rhaid dweud—mae’r gweddill yn rhydd o beth o’r iaith astrus rŷm ni’n ei chael gan Lywodraeth o bryd i’w gilydd? Ac mae hynny yn bwynt pwysig oherwydd mae nifer fawr o bobl yng Nghymru o hyd heb fod yn llwyr ymwybodol am y datganoli trethi sy’n digwydd, ac yn sicr ddim yn ymwybodol iawn o ddatganoli treth incwm. Byddai refferendwm, wrth gwrs, wedi creu y wybodaeth yna. Rydw i’n falch bod dim refferendwm i gael, ond rwyf i hefyd yn meddwl bod job o waith gyda ni i gyd i hysbysebu pobl ynglŷn â hyn, a byddwn i’n licio clywed, efallai, jest ychydig mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â beth maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo’r fframwaith nawr, ac er mwyn lledaenu’r neges ynglŷn â datganoli trethi. Mae hefyd i’w groesawu y ffaith bod gyda ni, yn y fframwaith, bwrpas ac amcan clir i drethi yng Nghymru; egwyddorion sydd wedi eu gosod yn glir iawn. Mae modd anghytuno â nhw—nid ydw i’n digwydd gwneud, ond mae modd anghytuno â nhw—ond o leiaf rydych chi’n gwybod i ba bwrpas mae’r Llywodraeth yn trethu, ac mae hynny’n wahanol iawn i Lywodraethau eraill, gan gynnwys Llywodraethau eraill yr ynysoedd hyn.
Nawr, mae’r Pwyllgor Cyllid eisoes wedi dangos ymrwymiad i graffu ar bolisïau treth a’r datganoli pellach sy’n mynd i ddigwydd, ac rydw i’n credu ein bod ni eisoes wedi gweld ffrwyth y gwaith yna gyda’r ddau Fil roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn amdanyn nhw, a bod y gwaith mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ei wneud yn craffu ar y ddau Fil, er enghraifft yn arwain at yr ymrwymiad i roi cynllun cymunedau ar wyneb deddfwriaeth y Bil tirlenwi, yn dangos bod gwaith yn fan hyn i’w wneud ar y cyd rhwng y Llywodraeth a’r Cynulliad. Ac mae gyda ni fel pwyllgor hefyd ddiddordeb mawr wrth weld sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn ogystal â chynnal y gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd ar gyfer bod yn gadeirydd yr awdurdod, byddwn ni am barhau â’r gwaith o graffu ar baratoadau sefydlu’r awdurdod, yn enwedig yn eu maes digidol nhw, cyn eu bod nhw’n cychwyn ar eu swyddogaethau llawn fis Ebrill nesaf.
Rydw i’n credu ei bod hefyd yn bwysig i atgoffa Aelodau Cynulliad fod yna newid yn mynd i gael ei gynnig yr wythnos nesaf i’n Rheolau Sefydlog ni er mwyn gwneud yn siŵr bod yna Reolau Sefydlog newydd a phrotocol wedi eu cytuno gyda'r Pwyllgor Cyllid a’r Llywodraeth yn eu lle er mwyn sicrhau bod gyda ni yn y Cynulliad yr arfau digonol i graffu ar y Llywodraeth wrth iddyn nhw gyflwyno y trethi hyn, a’r awgrym diddorol iawn a gawsom ni heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ddadl ar drethi newydd yn ogystal, ac fe fydd diddordeb gyda phawb i edrych ar hynny. Jest yn y cyd-destun hwnnw, os caf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet: gan fod y Pwyllgor Cyllid, fel mae’n gwybod eisoes, yn chwilio i mewn i’r posibiliad o adeiladu ar y Rheolau Sefydlog newydd i symud tuag at fframwaith seneddol sy’n cyd-fynd â fframwaith cyllidol gan y Llywodraeth, a oes gyda fe unrhyw waith ar y gweill i edrych ar brosesau megis Deddf cyllid neu brosesau eraill? Achos, ar hyn o bryd, rydym ni eisiau gweld pa ffordd mae’r Senedd yn cael ei chryfhau yn hynny o beth.
Rydw i’n croesawu’r ffaith bod y fframwaith yn sôn am drethi eraill. Mae’n bwysig cofio bod y treth gyngor a threthi annomestig yr un mor bwysig i nifer o bobl a’r trethi sydd eisoes wedi cael eu datganoli, fel petai, ac yn y cyd-destun hwnnw, hefyd, mae yna baragraff pwysig iawn yn y fframwaith—paragraff 49, rydw i’n meddwl—sy’n sôn am sut bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi data ac yn casglu data wrth fynd ymlaen. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn ymweld â’r Alban yr wythnos yma, a dydd Iau, byddwn ni’n gobeithio cynnal trafodaethau gyda Chomisiwn Cyllidol yr Alban. Nawr, rydw i’n gwybod nad yw’r Llywodraeth eto am sefydlu comisiwn fel yna, ond fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet am y gwaith bydd Prifysgol Bangor yn ei wneud, a byddwn ni hefyd yn licio gwybod ym mha ffordd mae’r Llywodraeth yn mynd i gyhoeddi’r wybodaeth yma a gwneud yn siŵr bod gennym ni fel Aelodau Cynulliad, ond hefyd y cyhoedd, y data mwyaf diweddar a’r wybodaeth fwyaf diweddar er mwyn gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn enw Llywodraeth Cymru, ac yn enw pobl Cymru, felly, yn rhai cywir ac ar sail tystiolaeth gadarn iawn.
Mae’r datganiad yma i’w groesawu, ac mae’r fframwaith i’w groesawu, ac rwy’n edrych ymlaen—ac mae’n siŵr bod holl aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen—at graffu yn fwy manwl ar y wybodaeth yma, ond hefyd i gydweithio gyda’r Llywodraeth i wneud yn siŵr bod gyda ni’r systemau gorau yn eu lle yn seneddol er mwyn y pwerau trethu newydd yma.
Diolch yn fawr i Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, am yr hyn mae e wedi ei ddweud y prynhawn yma. Wrth gwrs, rydw i’n croesawu gweithio gyda’r pwyllgor, ac mae mwy nag un darn o waith ar y gweill gyda’r pwyllgor ac mae mwy nag un ffordd o weithio hefyd. Rydw i’n cydnabod, ambell waith bydd y pwyllgor yn craffu’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ond rydw i’n meddwl ein bod ni’n gallu dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, ei bod wedi bod yn bosib cydweithio ar rai pethau pwysig i bobl yng Nghymru hefyd ac i wella rhai o’r pethau sydd wedi dod o flaen y pwyllgor. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor yn y ffordd yna yn y dyfodol.
Rydw i’n cytuno â Simon Thomas—mae darn o waith mawr gyda ni i’w wneud i drial esbonio wrth y cyhoedd beth yn union rydym ni’n ei wneud ym maes trethu. Rydym ni’n mynd i gyhoeddi pamffled i’r cyhoedd sy’n trial dodi lawr ar un tudalen y pethau pwysicaf yn y fframwaith sydd gyda ni a thrial dosbarthu’r pamffled yna ledled Cymru i helpu pobl i ddeall beth rydym ni’n trial ei wneud yma yng Nghymru. Rydym ni wedi mynd ar ôl yr egwyddorion mae’r OECD wedi eu cyhoeddi, a thrial mynd ar ôl yr egwyddorion yna yn y fframwaith ei hunan, ond mae’r OECD hefyd yn rhoi rhyw fath o help inni yn yr ymdrech i drial cael pobl i ddeall y pwerau newydd sy’n dod i Gymru a’r hyn, fel Llywodraeth, rydym ni’n trial ei wneud gyda nhw.
Rydw i’n cydnabod, wrth gwrs, y ffaith bod Awdurdod Cyllid Cymru—mae hawliau annibynnol gyda’r pwyllgor i graffu ar waith yr awdurdod. Rydw i’n gwybod bod y cadeirydd newydd yn edrych ymlaen at y gwaith mae hi’n mynd i’w wneud gyda’r pwyllgor yn y dyfodol.
Rydw i’n falch hefyd ei bod hi wedi bod yn bosib cytuno ar broses newydd i ddod o flaen y Cynulliad wythnos nesaf i drial cael y prosesau rydym ni’n eu defnyddio yn y broses o greu cyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, gyda’r pwerau newydd sydd gyda ni. Mae swyddogion yn y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i weithio ar y broses a gweld sut mae pobl eraill yn gwneud yr un peth. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu o’r gwaith mae’r pwyllgor yn mynd i’w wneud yn y maes yma ac rydw i’n siŵr y bydd lot o bethau i’w dysgu yn yr Alban pan fydd y pwyllgor yn mynd lan yr wythnos yma.
Dirprwy Lywydd, rydw i’n hapus i gadarnhau y bydd y gwaith mae’r brifysgol ym Mangor yn ei wneud—rydym ni’n mynd i gyhoeddi hwnnw. Mae’n waith annibynnol. Maen nhw’n mynd i gyhoeddi’r gwaith, a bydd Aelodau’r Cynulliad yn gallu gweld yr hyn maen nhw’n ei ddweud am y gwaith rydym ni’n ei wneud fel Llywodraeth. Gobeithio, cyn yr haf neu yn yr hydref, y byddaf i’n gallu cyhoeddi cynlluniau am y tymor hir—sut ydym ni’n mynd i gael pobl i wneud y gwaith mae’r comisiwn yn ei wneud yn yr Alban inni yma yng Nghymru.
A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr iawn, fel y mae pawb arall wedi ei wneud? Yn sicr, mae’r fframwaith, rwy’n meddwl, yn ddefnyddiol iawn. A gaf i ddweud, rwy’n cytuno'n llwyr mai trethi yw'r pris mynediad y mae pob un ohonom yn gorfod ei dalu i fyw mewn cymdeithas wâr? Trethi sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Ni allwn fyw mewn gwlad â gwasanaethau o fath Sgandinafaidd yn seiliedig ar gyfraddau treth Americanaidd, yn enwedig gan fod y dreth gorfforaeth ar gyfer cwmnïau rhyngwladol, yn y bôn, yn ddewisol, gan y gallant ddefnyddio cyfraddau trosglwyddo mewnol i symud arian ac elw o gwmpas y byd, fel y gallant wneud eu helw yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ar arian a godwyd ym Mhrydain, oherwydd eu bod yn talu costau trosglwyddo mewnol ac yn talu costau hawliau eiddo deallusol. Mae hon yn broblem ddifrifol, ac er nad yw treth gorfforaeth yn debygol o gael ei datganoli yn y dyfodol agos, byddai'n well gen i weld treth ar drosiant, yn hytrach nag ar elw, gan fod y gallu i symud elw dramor neu i fannau â threthi isel neu ddim trethi’n cael effaith ddifrifol iawn ar y swm o arian sy’n dod i mewn, ac rydym yn gwybod bod y swm o arian sy’n dod i mewn o ran trethi busnes wedi gostwng fel cyfran o'r trethi a godir yn y wlad hon.
Er bod cyfraddau treth mewn rhai meysydd yn cael eu datganoli, wrth gwrs, allwch chi ddim ymdrin â nhw ar wahân, allwch chi, oherwydd pa bynnag gyfradd dreth osodwch chi ar unrhyw beth, mae rhywun yn mynd i ddweud—y bobl sy’n eistedd wrth fy ymyl neu’r bobl sy’n eistedd gyferbyn—maent yn talu llai i mewn, neu fwy i mewn; enwch y wlad neu’r lle cyfagos? Felly, rwy’n meddwl bod hynny ynddo ei hun yn creu cyfyngiadau. Ac rydym yn gwybod beth ddigwyddodd yn yr Alban, onid ydym? Mae gan yr Alban y pŵer i amrywio cyfraddau treth. Maent wedi eu hamrywio yn yr un ffordd yn union ag y mae’r Canghellor yn San Steffan wedi eu hamrywio. Symudodd y Canghellor yn San Steffan nhw i fyny, gwnaeth yr Alban eu symud nhw i fyny; symudodd y Canghellor yn San Steffan nhw i lawr, symudodd yr Alban nhw i lawr—yn gwbl gydamserol. Felly, mae gennych bwerau, ond weithiau mae pwerau’n bethau sy'n bodoli mewn theori, ond nad ydyn nhw’n bodoli o reidrwydd fel modd ymarferol o wneud pethau.
Mae gen i dri chwestiwn, a dweud y gwir. Y cyntaf yw: fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, doedd dim modd datganoli nifer mawr o drethi i Gymru oherwydd aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd a rheolau Ewrop. Un o'r pethau yr oedd yn ymddangos eu bod wedi’u cynnwys oedd un a oedd i fod i gael ei ddatganoli, ond nad yw, sef ardoll agregau. Pa drethi ychwanegol y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y dylid ystyried eu datganoli, ar wahân i'r ardoll agregau—nid o reidrwydd i gael eu datganoli, ond i gael eu hystyried fel rhan o'r setliad datganoli?
Yr ail gwestiwn sydd gen i yw: ar ba gam y mae gennym gyllideb i Gymru sy'n cwmpasu refeniw a godir drwy gyfraddau treth yn ogystal â gwariant y mae’r Cynulliad wedi cytuno arno fel un gyllideb gyffredinol? A oes rhaid inni gyrraedd rhyw gam lle mae'n rhaid i hynny ddigwydd, fel y mae'n digwydd mewn Seneddau eraill lle maent yn codi eu holl arian, neu bron eu holl arian? Ar ba gam yr ydym mewn gwirionedd yn gwneud y ddau beth ar yr un pryd?
Ac a gaf i sôn am y dreth gyngor leol? Rwy'n meddwl y gallwn gael cytundeb â hyn. A gawn ni roi bandiau uchaf uwch yn y bandiau treth cyngor? Rwy’n meddwl bod y band uchaf yn cynnwys llawer gormod. Hoffwn weld culhau rhai o'r bandiau yn ogystal. Rwy’n meddwl bod y gyfran o werth ein heiddo, a delir gan rywun sydd â thŷ gwerth £30,000, yn hytrach na rhywun sy'n talu am dŷ gwerth £2 filiwn, yn llawer llai i’r unigolyn â’r tŷ £2 filiwn. Rwy'n meddwl bod hynny'n sylfaenol anghywir, ac mae gan system y dreth gyngor bobl mewn eiddo rhatach sy’n talu cyfran uwch o werth yr eiddo hwnnw mewn treth gyngor na phobl gyfoethog iawn. Felly, a wnewch chi ystyried cyflwyno rhagor o fandiau a cheisio codi—efallai nad yw hyn yn llawer iawn o eiddo? Hynny yw, efallai fod llawer llai na 1,000 o dai gwerth £1 filiwn yng Nghymru, ond does dim rheswm pam na ddylai’r bobl hynny dalu eu cyfran deg.
Wel, mae sylwadau agoriadol Mike Hedges am deimladau am degwch y system dreth yn bwysig iawn inni yn y fframwaith hwn. Rydym ni’n rhoi llawer o bwyslais ar drethu yng Nghymru mewn modd y bydd dinasyddion Cymru yn ei ystyried yn deg. Rhan o'r rheswm pam y digwyddodd pethau fel y gwnaethant yr wythnos diwethaf, rwy’n meddwl, oedd teimlad, ar ran llawer o bobl yng Nghymru a thu hwnt, nad yw'r economi wedi cael ei chynnal yn y blynyddoedd diwethaf mewn ffordd sydd wedi rhoi’r baich ar ysgwyddau’r bobl sydd â’r mwyaf o allu i’w ysgwyddo. Mae Mike yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pwerau a'u defnyddioldeb a'u defnyddiadwyedd, a chawn weld, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, i ba raddau y gallwn roi’r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd ar waith mewn ffordd sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth eu defnydd mewn mannau eraill wrth inni geisio eu cydweddu ag anghenion ac amgylchiadau Cymru.
O ran y tri chwestiwn penodol, rwy'n meddwl bod comisiwn Silk wedi dweud nad oedd TAW yn dreth—yr oedd ystyried ei datganoli oherwydd rheolau cysoni’r Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cytuno ag Adam Price yn ddiweddar, pan fo wedi gofyn cwestiynau am hyn, bod hyn o leiaf yn rhywbeth y dylem nawr fod yn barod i edrych arno, i weld a oes unrhyw beth yno a all fod yn fwy defnyddiol yn ychwanegol heb reolau aelodaeth o'r UE.
Mae'r cwestiwn o sut yr ydym yn craffu ar y gyllideb ac yn ei rhoi at ei gilydd fel bod y refeniw a godir a’r penderfyniadau a wneir ynghylch gwariant yn cyd-fynd â’i gilydd: wel, rwy’n gobeithio y byddwch yn gweld bod y cynigion a gaiff eu cyflwyno yr wythnos nesaf yn gwneud rhywfaint o hynny eisoes, a bydd y gwaith pellach a wnaiff y Pwyllgor Cyllid ar gysoni pellach yn help yn hynny. Rwy'n meddwl y byddai'n rhaid inni gydnabod bod yna anhawster gwirioneddol ym mhenderfyniad Llywodraeth y DU bod cyllideb yn yr hydref yn golygu diwedd mis Tachwedd. Oherwydd i ni ac i’r Alban a Gogledd Iwerddon mae hynny’n anochel yn golygu y byddwn wedi gosod ein cyllideb ddrafft, ac, yng nghanol y broses o graffu arni, y gellid gwneud newidiadau sylweddol ar lefel y DU a fydd yn golygu bod rhai o’r tybiaethau a wnaethom ar y dechrau o ran refeniw a gwariant yn cael eu newid cyn y gallwn gyflwyno’r gyllideb derfynol. Ar hyn o bryd, mae hwnnw’n anhawster heb ateb parod iddo.
Cyn belled ag y mae’r dreth gyngor dan sylw, fel y dywedais yn fy ateb i Nick Ramsay, rydym yn bwriadu cyflwyno cynigion ar gyfer gwneud y dreth gyngor yn decach, a bydd mater y bandiau a’r gyfran y mae’r dreth gyngor yn ei chynrychioli fel canran o werth eiddo yn rhan o'r ystyriaeth honno.
Anffawd rhywun sy'n dod mor isel â hyn yn y trafodion yw bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau deallus wedi cael eu gofyn yn barod, ond rwy’n mynd i geisio torri cwys newydd. Rwy’n croesawu’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn fras, er bod rhaid imi ddweud nad yw’n ymddangos bod gan rywfaint o'r iaith y datodiad athrawol arferol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddefnyddio i ychwanegu cymaint o lewyrch i'r gwahanol swyddi a fu ganddo. Nid wyf yn gwybod, yn benodol, a oedd y llinell olaf ar dudalen 1, sy’n cyfeirio at
‘economi ddidrugaredd y dychymyg neo-ryddfrydol’
wedi’i chyfeirio’n benodol ataf fi, ond hoffwn ei sicrhau nad oes dim byd 'neo' amdanaf fi—[Torri ar draws.]—dim byd 'neo' amdanaf fi o gwbl. Fel fy nghyfoeswr union, Jeremy Corbyn—cawsom ein hethol i'r Senedd ar yr un diwrnod, yr un oed—[Torri ar draws.] Rwyf fi, o leiaf, wedi cyrraedd Cynulliad Cymru, i ymateb i'r ymyrraeth gan David Rees. Yn union fel y mae ef yn baleososialydd, mae'n debyg fy mod i’n geidwadwr paleoryddfrydol, mewn termau ariannol ac economaidd o leiaf.
Ond hoffwn i godi mater yr wyf yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn bwysicach a phwysicach yng Nghymru. Rwyf newydd ddarllen cyhoeddiad gan Gyllid a Thollau EM o'r enw ‘Datgrynhoi derbyniadau treth Cyllid a Thollau EM rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon’. Mae Tabl 4 yn hwnnw’n darparu ystadegau ar gyfer tuedd yr wyf i o’r farn ei bod yn annymunol dros ben—sef, ers y flwyddyn 2003-04, ym mron bob blwyddyn, bod cyfran derbyniadau treth incwm fel cyfran o gyfanswm derbyniadau treth y DU wedi gostwng, flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy'n ymddangos i awgrymu bod Cymru’n disgyn yn ôl o ran incwm, yn genedlaethol, o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, er fy mod yn gryf o blaid, yn bersonol, datganoli treth incwm a threthi eraill hefyd, o gofio ein bod hefyd yn cael gostyngiad yn y grant bloc gan Whitehall o ganlyniad, y perygl yw, oni bai ein bod yn gwrthdroi'r duedd hon, y byddwn yn gweld ein bod yn cael ein gwasgu fwy a mwy, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac, felly, i ddatblygu thema y mae Adam Price yn aml iawn yn ei chodi yn y Siambr hon, beth y gallwn ei wneud i godi GYC yn gymharol â rhannau eraill o'r DU yng Nghymru?
Mae'n ymddangos i mi bod rhoi’r cyfle inni i gystadlu o ran trethu â rhannau eraill o'r awdurdodaeth genedlaethol yn un ffordd y gallwn wneud hynny—drwy ddenu mwy o fusnes i Gymru i gynhyrchu mwy o gyfoeth y gellir wedyn ei drethu. Fel y nodwyd yn y datganiad, mae talu trethi, wrth gwrs, yn docyn mynediad i gymdeithas wâr, er y byddwn i'n bell o awgrymu perthynas uniongyrchol, ac yn sicr nid wyf yn cytuno â’r farn gyferbyn bod awdurdodaeth â threthi uchel yn gymdeithas fwy gwaraidd drwy ddiffiniad. Mae digon o enghreifftiau y gallem eu dyfynnu i wrthbrofi’r rhagdybiaeth honno. Ond mae trethi’n effeithio ar ymddygiad. Mae hynny’n ddiamheuol, ac yn wir mae’r ddogfen fframwaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun yn cyfeirio at hynny.
Nid wyf yn meddwl ei fod wir yn ychwanegu dim at ddadansoddiad sobr o effaith trethiant ar incwm a chynhyrchu cyfoeth i ddefnyddio iaith fel ‘didrugaredd’ fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud yn y datganiad hwn. Yn wir, er bod Mike Hedges wedi cyfeirio yn ystod ei gyfraniad at yr Unol Daleithiau, mae’r Unol Daleithiau’n awdurdodaeth â threthi cymharol uchel, yn enwedig os ydych chi’n ystyried y cyfuniad o drethi ffederal, trethi taleithiau a threthi lleol. Mae Ernst ac Young wedi gwneud dadansoddiad diddorol iawn o system dreth America o’i chymharu â’r systemau treth mewn mannau eraill, ac effeithiau macro-economaidd y cyfraddau treth uchel hyn. Maent yn dweud, er enghraifft, bod cyfradd uchel y dreth gorfforaeth yn yr Unol Daleithiau yn dechrau achosi canlyniadau economaidd andwyol sylweddol i economi’r Unol Daleithiau a gweithwyr Americanaidd, ac yn awgrymu y byddai diwygio treth gorfforaeth yr Unol Daleithiau i gynnwys gostwng y dreth yn sylweddol yn debygol o greu buddion economaidd pwysig i'r Unol Daleithiau. Wel, byddwn yn dweud bod hynny'n wir i raddau helaeth am Gymru.
Wrth gwrs, nid yw’r dreth gorfforaeth yn dreth ddatganoledig, ac rwy’n meddwl y byddai'n beth da iawn, fel yr argymhellodd comisiwn Holtham, pe bai'n cael ei datganoli i Gymru, gan y byddai'n rhoi’r cyfle inni ddenu mwy o fuddsoddiad preifat i Gymru, ac yna gallem sicrhau, nid dim ond GYC uwch ar gyfer y wlad gyfan, ond sylfaen dreth fwy i Lywodraeth Cymru, y gallem ei gwario ar yr holl bethau yr hoffem wario arian arnynt, ond na allwn eu fforddio ar hyn o bryd.
Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dibrisio yr hyn y mae'n meddwl yw fy marn i ynglŷn â’r hyn a ddisgrifiodd yn ein sgwrs ddiwethaf fel cromlin Laffer, ond, pan fyddwn yn ystyried profiad Gweriniaeth Iwerddon, ac yn enwedig o ran treth gorfforaeth, mae ganddynt gyfradd treth gorfforaeth o 12.5 y cant, ond mae ganddynt gyfradd treth gorfforaeth arbennig 6.25 y cant ar gyfer yr hyn y maent yn ei alw’n flwch datblygu gwybodaeth, hynny yw, ar gyfer gwir arloeswyr sy’n cyflogi pobl â llawer o sgiliau. Mae'n ymddangos i mi bod cyfran lawer rhy uchel o incwm Cymru’n cael ei chreu gan y sector cyhoeddus. Mae angen inni gynyddu'r gyfran sy'n cael ei chynhyrchu gan fentrau preifat, ac os ydym ni’n gwrthod achub ar y cyfle i ddefnyddio'r system dreth er mwyn annog hynny, rwy'n credu ein bod yn gwneud cam â’n hunain.
Os cawn ni wneud hyn heb yr herian pleidiol, mae llawer o dystiolaeth empirig i ddangos, er nad oes perthynas uniongyrchol, yn amlwg, rhwng cyfraddau treth penodol a thwf economaidd neu gyfoeth mewn cymdeithas, mae yna, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus i’w gyfaddef, gysylltiad o ryw fath rhwng y ddau, ac mae trethi is yn gyffredinol yn tueddu i gynhyrchu GYC uwch. Wedi'r cyfan, ystyriwch yr esiampl eithafol resymegol o hyn, sef Singapore: mae'n un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd heb bron ddim adnoddau naturiol a'r cyfraddau treth isaf. Felly, dydy hynny'n dweud dim, wrth gwrs, am ddosbarthiad incwm yn Singapore, ond, serch hynny, mae economi’r wlad a'r cyfoeth y mae’n ei fwynhau nawr, o'i gymharu â'r sefyllfa 20 i 30 mlynedd yn ôl, yn siarad drosto'i hun. Felly, hoffwn wneud y ple hwnnw i Ysgrifennydd y Cabinet efallai i feddwl ychydig yn fwy hyblyg am y mater hwn.
Rwy’n diolch i Neil Hamilton am y croeso cyffredinol cychwynnol a roddodd i'r fframwaith. Rwy’n mynd i geisio ymateb, rwy’n meddwl, i dri gwahanol bwynt a wnaeth. Mae gwaith dadelfennu Cyllid a Thollau EM yn y tabl y cyfeiriodd ato—rwy’n meddwl y byddwn i'n llunio cwpl o gasgliadau gwahanol ohono nag ef. Y rheswm pam mae’n dangos derbyniadau treth incwm o Gymru yn dirywio, yn y bôn, yw oherwydd bod y trothwyon wedi codi ym mhen isaf dosbarthiad treth incwm dros y cyfnod hwnnw. Ac oherwydd bod gan Gymru gyfran uwch o'i phoblogaeth sy'n talu treth ar fand isaf treth incwm, os yw’r trothwyon hynny’n codi'n gyflymach na chwyddiant, fel y digwyddodd yn gyffredinol dros y cyfnod hwnnw, mae’n anochel bod derbyniadau treth incwm yng Nghymru yn dirywio o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig lle mae dosbarthiad treth incwm yn wahanol. Nawr, roedd hyn yn ystyriaeth bwysig iawn wrth gytuno ar y fframwaith cyllidol. Dyna pam mae gennym gytundeb bod economi Cymru at ddibenion treth incwm yn cael ei chymharu ar wahân ym mhob un o'r tri band, a pham y caiff yr addasiad grant bloc ei ystyried ar wahân yn erbyn y tair ffordd wahanol iawn hynny o godi treth incwm.
Felly, rwy’n meddwl ei fod yn codi pwynt pwysig, ac mae'n iawn i gyfeirio at waith Cyllid a Thollau EM, ond nid wyf yn meddwl bod ei gasgliadau mor llwm i Gymru ag y mae wedi’i awgrymu, ac rwy’n meddwl y bydd ein gallu yn y dyfodol i godi refeniw yng Nghymru a'r fframwaith cyllidol yn helpu i’n hamddiffyn ni rhag penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill heb inni fod â dim rheolaeth uniongyrchol drostynt, ond sy'n effeithio ar i ba raddau y cesglir derbyniadau treth incwm yma yng Nghymru.
Ynglŷn â’r dreth gorfforaeth, wrth gwrs mae yn llygad ei le i ddweud bod hwn yn fater nad yw wedi ei ddatganoli. Awgrymodd Silk y dylid ei ddatganoli i Gymru dim ond pe byddai'n cael ei ddatganoli ar yr un pryd i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ei chael yn ddiddorol i edrych ar brofiad Gogledd Iwerddon hyd yma, lle mae defnyddio datganoli treth gorfforaeth yn ymarferol wedi bod yn llawer anoddach nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Yn benodol, mae’r ffaith bod y Trysorlys wedi gwrthod ystyried effeithiau eilaidd datganoli treth gorfforaeth wedi golygu, o safbwynt Gogledd Iwerddon, y byddant yn talu holl gostau datganoli treth gorfforaeth gydag ychydig iawn o fanteision. Dyna pam mae ei gyflwyno, rwy’n meddwl, wedi cael ei ohirio yno.
Ar ei bwynt olaf, gadewch imi ddweud hyn wrtho: Rwy’n meddwl ei fod yn rhy aml mewn perygl o syrthio i mewn i fantra ‘preifat da, cyhoeddus drwg’ ei ieuenctid, ei orffennol Thatcheraidd, paleoryddfrydol? Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho yw: rwy’n meddwl ein bod yn nodi’n glir iawn yn ein fframwaith ein bod yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau cyllidol yn cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol economi Cymru, ac yr hoffem arfer y cyfrifoldebau hyn mewn ffordd sy'n helpu i dyfu economi Cymru ac i greu ffynonellau newydd o gyfoeth ac incwm ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol. Does dim amwysedd yn safbwynt Llywodraeth Cymru yn hynny, a bydd buddiannau ein heconomi bob amser ar flaen ein meddwl pan fyddwn yn gwneud y penderfyniadau sydd bellach yn cael eu datganoli inni yma yng Nghymru.
Diolch. Byddwn yn falch pe gallai’r siaradwr nesaf, a’r siaradwr olaf yn y datganiad hwn, roi cyflwyniad byr iawn ac yna gwestiwn, ac yna rwy’n siŵr y gallwn orffen ddim ond bum munud yn hwyr. Adam Price.
Dyma fy nghwestiwn arbenigol ‘Mastermind’, Dirprwy Lywydd, ond byddaf mor gryno ag y gallaf. Rwy'n croesawu'r fframwaith a'r egwyddorion cyffredinol. Roeddwn yn adnabod o fy economeg TGAU—neu lefel O, a dweud y gwir, i fod yn onest—canonau Adam Smith o ecwiti a sicrwydd yno. Felly, dau o'r pedwar canon—ddim yn ddrwg o gwbl.
Rwyf am ganolbwyntio'n fyr iawn os caf ar y cynllun gwaith polisi treth. Dylwn roi clod i Ben Lake, a ymunodd â ni yn y pwyllgor cyswllt cyllid ac a wnaeth gyfraniad enfawr yma, a bydd yn gwneud cyfraniad enfawr mewn meysydd eraill hefyd dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r cynllun gwaith yn cyfeirio at adolygu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a fydd yn digwydd yn fuan. Pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig bach am hynny—yn amlwg rydych wedi nodi polisi’r blaid Lafur yn etholiad y Cynulliad, ond, gan fod hwn yn adolygiad, rwy’n cymryd y byddant yn cymryd mewnbwn gan bleidiau eraill y tu hwnt i'r safbwynt amlinellol a nodwyd.
Soniodd am doll teithwyr awyr. A all gadarnhau—? Roedd cydnabyddiaeth ymhlyg mai polisi’r blaid Lafur ar lefel y DU yw datganoli hyn i Gymru, ond nid oedd yn hollol eglur, felly pe gallai osod hynny ar y cofnod.
Dilynais y ddadl gyda diddordeb am y gromlin Laffer, yr ydym yn aml yn ei chael yma, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn mewn gwirionedd mai un dull o ddefnyddio treth gorfforaeth, yn amlwg, i gau'r bwlch ffyniant yw datganoli? Mae materion cysylltiedig â hynny, y cyfeiriodd atynt, o ran lleihau grant bloc yn achos Gogledd Iwerddon. Mae dull gwahanol, wrth gwrs, yr oedd adroddiad comisiwn Holtham yn cyfeirio ato, sef bod y Llywodraeth ganolog yn gosod cyfraddau amrywiol ar gyfer trethi fel treth gorfforaeth, ond gallai hefyd fod yn berthnasol i doll teithwyr awyr—rwyf ar ddeall mai dyna’r hyn y mae’r DUP yn ceisio amdano yn eu trafodaethau—fel y gwnaeth Nicholas Calder gyda threth gyflogaeth ddewisol mewn polisi rhanbarthol yn y 1970au. Felly, nid ras i'r gwaelod yw hyn yn awr. Mae’r ganolfan yn dweud: Byddwn yn adlewyrchu gwahanol lefelau o ffyniant economaidd drwy bennu cyfraddau gostyngol ar gyfer trethi penodol yn yr ardaloedd hynny fel Cymru a allai elwa o rywfaint o hwb, heb i hynny wedyn arwain at ergyd o ran y grant bloc.
Mae gen i lawer mwy i'w ddweud, Dirprwy Lywydd, ond, allan o barch ichi, gwnaf eistedd i lawr.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr, a diolch yn fawr i Adam Price hefyd am beth dywedodd ef am y rhaglen waith.
The work programme is a very important publication alongside the framework. I hope that Members of other parties here will see that, where some specific commitments have been made by the Welsh Government to include items in the work programme, you can see them there. That includes the energy rate relief possibility that Adam Price mentioned. There is a regulation-making power in the land transaction tax Act that allows the Welsh Government to introduce new reliefs using that regulation-making power.
There are three criteria that I have tried to set out every time we’ve talked about new reliefs as far as LTTA is concerned. There would have to be an agreed policy purpose—and I think energy relief meets that, because we are looking for environmental benefits there—they have to be affordable, and thirdly they have to meet their intended audience. That’s probably the key thing—the key test that has to be passed as we look at a potential energy rate relief. Because there was such a relief introduced between 2007 and 2012, and it was abandoned, essentially, because the empirical evidence showed that the relief simply hadn’t reached the people for whom it was intended, and it hadn’t had the policy impact that had been hoped for it. But it’s there in the work programme in order to allow these things to be tested further, and I’m very keen that we do that.
I think Members opposite will also see in the work programme a specific commitment to the publication of data by the Welsh Revenue Authority about the higher rate for second homes and whether there is a regional impact of that in Wales, to allow local authorities that might wish to make a case to the Welsh Government for differential arrangements in the future to have the data that they would need in order to be able to mount that case effectively.
Can I echo what Adam Price said in relation to the new Member of Parliament for Ceredigion? I always felt that he played a very constructive and helpful part in the discussions that have gone on between our two parties, and I obviously congratulate him very much on his success there last week.
As far as APD is concerned, this really is an area where the record of the UK Government does not stand up to examination. It demonstrates an entirely haphazard way of making tax policy across the United Kingdom. Its own Silk Commission recommended at least the devolution of APD for long-haul flights. The refusal of the UK Government to publish the evidence that they say they have drawn on in denying the devolution of this tax to Wales cannot be sustained. We will carry on working, as the work programme says, to demonstrate our belief that proper devolution of this piece of taxation would be to the benefit not just of Wales but to economies close by to us as well.
The issue of corporation tax devolution has been raised a number of times here this afternoon. I’m aware of the Holtham variation on corporation tax devolution, and I read with interest the recent article by Eurfyl ap Gwilym that returns to that idea. My own view is that it remains something that we ought to continue to debate. I’ve said here in the past, Dirprwy Lywydd, that I do have a concern about a race to the bottom in corporation tax devolution, but there are ways, maybe, that that could be mitigated if it was done in particular ways. I noticed that Eurfyl ap Gwilym says in his paper that this variable setting of rates in different parts of the United Kingdom by the UK Government would be politically palatable. And I could not help believe that it would be one of those ideas that would be politically palatable to those who benefit from it, and maybe slightly less palatable to those who would not. But it’s a debate for another day. I’m very grateful to all Members who’ve taken part this afternoon in what has been, I think, a very useful discussion of these very important new responsibilities.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar yr adolygiad annibynnol o’r cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, ac fe alwaf ar Ken Skates i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mai 2015, cyhoeddais adolygiad o’r cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, wedi’i gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes. Dyma'r tro cyntaf i adolygiad annibynnol ystyried y cymorth cyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gyhoeddi a llenyddiaeth. Comisiynwyd adolygiad o’r cymorth ar gyfer llyfrau o Gymru yn 2014, ond nid oes panel annibynnol wedi'i gomisiynu o'r blaen i ystyried y maes hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy’n ddiolchgar i aelodau'r panel adolygu am eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled. Bydd adroddiad y panel ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru y prynhawn ’ma.
Gofynnais i'r panel asesu prif nodau Llywodraeth Cymru wrth gefnogi'r diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, yn y ddwy iaith. Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd? A yw'r nodau hyn yn dal i fod yn addas yn yr unfed ganrif ar hugain? Gofynnais iddynt edrych ar raddfa a chylch gwaith y cymorth a roddir ar hyn o bryd, gan gynnwys y berthynas rhwng y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu’r cymorth hwn. Gofynnwyd iddynt hefyd ystyried effaith datblygiadau digidol o fewn y diwydiant cyhoeddi, ac i asesu'r trefniadau gweinyddol o ran ein cymorth ar gyfer gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol ar-lein, yn ogystal â’r papurau bro. Yn olaf, byddai’r panel yn ystyried cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Wrth gynnal y dadansoddiad hwn, roedd y panel, wrth gwrs, yn ymwybodol o flaenoriaethau strategol ehangach Llywodraeth Cymru fel y'u nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen' yn ogystal â’n dyletswyddau cyfreithiol i bobl Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bu newidiadau mawr yn y modd y caiff deunydd ysgrifenedig a chlyweledol ei gyhoeddi a'i fwynhau. Mae'r adolygiad hwn, felly, yn rhoi cyfle i ailystyried natur y cymorth seilwaith presennol yng nghyd-destun y ddeinameg newidiol yn y maes cyhoeddi. Mae newidiadau o’r fath yn cynnwys y ffyrdd creadigol y mae awduron yn ymarfer ac yn ymgymryd â’u crefft, y datblygiadau digidol ar gyfer cyhoeddi a'r cyfleoedd sy'n ehangu'n barhaus i ddarllenwyr ymgysylltu â llenyddiaeth, boed hynny drwy ddigwyddiadau byw neu fformatau eraill.
Mae'n debygol y bydd rhagor o newidiadau enfawr yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf. Felly, wrth lunio ei argymhellion, canolbwyntiodd y panel ar yr angen am strwythurau cefnogi a fydd nid yn unig yn briodol ar gyfer 2017, ond a fydd yn ddigon hyblyg i ymateb i esblygiad pellach yn y sector, parhau’n berthnasol a gallu nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth ledled Cymru.
Mae wedi cymryd cryn amser i gwblhau’r adroddiad hwn. Trwy benderfynu yn gywir ar ddull sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth, estynodd y panel wahoddiad i randdeiliaid allweddol gyflwyno sylwadau ar y seilwaith a’r cymorth presennol yng Nghymru. Roedd y trafodaethau hyn yn aml yn danbaid, ac yn dangos yn amlwg lefel y diddordeb proffesiynol yn y pwnc. Cafodd y cyhoedd hefyd wahoddiad i gyfrannu trwy holiadur dwyieithog ar-lein. Cafwyd ymateb annisgwyl ond calonogol o fawr, a oedd yn dangos yn glir y pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar ein traddodiad llenyddol cyfoethog a bywiogrwydd cyfoes deunydd cyhoeddedig yng Nghymru. O ystyried y swm sylweddol o dystiolaeth a gyflwynwyd, daeth yn amlwg bod angen rhagor o amser ar y panel i’w hystyried yn fanwl.
Mae'r adroddiad terfynol yn egluro'r ecosystem cyhoeddi a llenyddol yng Nghymru, o’r awdur i’r darllenydd, ac yn ei osod yng nghyd-destun blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant a'r diwydiannau creadigol, a’r cyfraniad a wneir gan lenyddiaeth a chyhoeddi. Mae'n ystyried materion a wynebir wrth gyhoeddi yn y Gymraeg ac yn Saesneg ac yn disgrifio'r broses gyhoeddi ei hun, gan esbonio'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'n nodi swyddogaethau Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac amryw swyddogaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys addysg, yr uned digwyddiadau mawr, is-adran y Gymraeg a'r diwydiannau creadigol.
Mae'r adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a gafwyd gan y sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, gan y diwydiant ei hun, a chan y cyhoedd. Mae'n esbonio ymateb y panel i'r dystiolaeth honno, gan arwain at ei gasgliadau a'i argymhellion. Nid oes amser i mi drafod hyn yn fanwl, ond gallaf ddweud bod y panel wedi nodi arfer da sylweddol a chymorth effeithiol y dylid parhau ag ef ac adeiladu arno yn y dyfodol.
Nododd feysydd lle mae angen i gymorth esblygu i ddiwallu anghenion heriol oes ddigidol. Canfu hefyd dystiolaeth glir o broblemau gwirioneddol mewn rhai meysydd, yn ymwneud â chynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethu, rheoli risg, gwariant, ac wrth sicrhau bod y gweithgareddau yn effeithiol wrth gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom. Yn fras, rwy’n derbyn casgliadau'r panel ac yn cytuno bod angen gweithredu.
Mae'r panel yn cyflwyno achos cryf dros sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol priodol, yn seiliedig ar werthfawrogi ein traddodiad llenyddol dwyieithog enwog, ei alluogi i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain, sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang, a chefnogi pobl ledled Cymru i fod yn rhan ohono a chymryd rhan ynddo. Mae hefyd yn cyflwyno achos dros ddiwydiant cyhoeddi cryf, arloesol, sy'n cynnig swyddi o ansawdd uchel, yn cystadlu yn rhyngwladol, ac yn caniatáu i awduron proffesiynol o bob cefndir ddilyn llwybrau gyrfa yng Nghymru.
Dylai'r cymorth hwn fod ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd, mewn print ac yn ddigidol. Fodd bynnag, mae angen gwella'n sylweddol y strategaeth a’r ddarpariaeth ddigidol gan y sefydliadau sy’n cefnogi. Mae'r panel yn amlinellu cyfres o argymhellion. Mae rhai o'r rhain ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae eraill ar gyfer y diwydiant a'r sefydliadau cyflawni allweddol. Byddwn yn ymateb yn ffurfiol maes o law, ond byddaf yn esbonio rhai o'r prif argymhellion strategol a strwythurol. O ystyried y pwysau sylweddol a natur cymhellol y dystiolaeth a gafwyd, rwyf o blaid derbyn y rhain a byddaf yn gweithio gyda'r sefydliadau perthnasol i weithredu arnynt.
Dylai Llywodraeth Cymru geisio cytundeb gan Cyngor Llyfrau Cymru y bydd yn cyflawni rhai o swyddogaethau presennol Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys: llyfr y flwyddyn, gan geisio cynyddu ei effaith fasnachol; bwrsariaethau; digwyddiadau llenyddol ac awduron ar daith; a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drosglwyddo cyllid priodol gan Lywodraeth Cymru o Gyngor Celfyddydau Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru, at y dibenion hyn.
Byddai angen wedyn i Gyngor Llyfrau Cymru roi ystyriaeth i’r canlynol: newid teitl i adlewyrchu’r cyfrifoldebau ychwanegol; presenoldeb priodol ar lefel ranbarthol ledled Cymru; strategaeth ddigidol glir ag iddi bwyslais; strategaeth glir i hyrwyddo cynhwysiant ledled Cymru, gan adeiladu ar ei strategaeth tlodi plant sydd eisoes yn bodoli; a strategaeth datblygu talent. Byddai angen cynnwys y newidiadau hyn mewn llythyr dyfarnu grant diwygiedig i'r cyngor llyfrau a llythyr cylch gwaith diwygiedig i'r cyngor celfyddydau. Ar ôl y newidiadau hyn, byddai'r cyfrifoldeb dros ganolfan ysgrifennu Tŷ Newydd a chyflwyno digwyddiadau a gwyliau diwylliannol eraill yn aros gyda’r cyngor celfyddydau a Llenyddiaeth Cymru.
Rwy'n sylweddoli y gall rhai pobl fod yn synnu at hyd a lled y newidiadau. Dylwn i bwysleisio eu bod yn ymateb i anghenion penodol mewn maes gweithgarwch penodol. Nid ydynt yn adlewyrchu gwaith ehangach y cyngor celfyddydau a fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith da y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei wneud mewn rhai meysydd; er enghraifft, cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau mawr yn rhagorol sy’n cysylltu â'n blynyddoedd thema—ni fydd hyn yn newid. Fodd bynnag, rwyf wedi fy narbwyllo bod angen y camau hyn i greu strwythur cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth sy'n fwy effeithiol ac yn fwy addas i’w ddiben.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Fel y dywedodd yr Athro Hughes ei hun, wrth wraidd yr adolygiad hwn y mae’r cyfle i ddathlu Cymru a’r grym creadigol sydd gan lenyddiaeth i ddisgrifio, dehongli a dathlu ein hunaniaeth. Mae’r grym creadigol hwnnw yn werthfawr iawn, a hynny ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y newidiadau arfaethedig yn caniatáu i'r sefydliadau rhagorol sy'n sail i'n seilwaith presennol ragori yn y meysydd lle gallant gyflawni’r effaith fwyaf yn yr amgylchedd hynod newidiol hwn, a thrwy hynny wella talentau creadigol ein hawduron a chefnogi seilwaith cyhoeddi deinamig ar gyfer ein gwlad.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi’n hen bryd i ni gael yr adolygiad hwn. Rwy'n eithaf balch o weld ei fod yn ehangach mewn gwirionedd nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl yn wreiddiol. Felly, rwy’n diolch i chi am hynny. Fy mwriad oedd gofyn yn gyntaf oll 'Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld yr adroddiad?' ond gallaf weld ei fod wedi cyrraedd o fewn awr i’r Cyfarfod Llawn. Gan ei fod yn 200 o dudalennau o hyd, rwy’n gobeithio y byddwch yn rhoi'r un cwrteisi i ni a roesoch i'r grŵp, er mwyn i ni ei ddarllen yn drwyadl a chraffu arno yn fwy trylwyr, maes o law, i ddefnyddio eu geiriau nhw. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn cadw llygad ar y wefan am beth amser, ac nid yw yno o hyd, os hoffech chi roi gwybod i'r swyddogion am hynny. Rwy’n falch iawn o glywed y cafwyd ymateb da i'r ymgynghoriad. Byddwn i wedi hoffi clywed ychydig mwy am yr hyn a ddywedodd ynghylch arfer da, ond rwy’n sylweddoli mai datganiad yw hwn heddiw, a byddwch yn fwy na thebyg yn clywed gennyf eto am hynny.
Nid wyf yn credu y cysylltwyd ag Aelodau'r Cynulliad yn ystod yr ymgynghoriad hwn ac ni thynnwyd ein sylw ato yn arbennig. Rwy’n gobeithio nad fi yw’r unig un yn hyn o beth, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n gwybod rhyw lawer am y peth nes i mi fynd i chwilio am hwn ar y rhyngrwyd a’r cyfan y des i o hyd iddo oedd adroddiad di-werth braidd ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl, a gwn eich bod wedi ymateb i hynny. Ond, yn benodol, roeddwn i’n poeni rhywfaint pan ddywedasoch yn eich datganiad mai holiadur oedd y prif ffordd o gael gafael ar bobl i ymateb i hyn. Nid wyf hyd yn oed yn gwybod ymhle yr oedd yr holiadur. Efallai y gallwch chi roi gwybod i mi. Ond, mewn gwirionedd, os cafwyd ymateb cryf iawn iawn gan y cyhoedd, ac o bosibl gan gyrff megis llyfrgelloedd, yn hytrach na’r cyhoeddwyr a’r rhanddeiliaid y byddech yn disgwyl y byddent yn ymateb i hyn, byddai diddordeb mawr gennyf i wybod sut y cawsant eu cyrraedd, gan fod hwnnw’n gwestiwn sy'n effeithio arnom ni i gyd fel Aelodau’r Cynulliad wrth geisio cael gwybodaeth gan aelodau ehangach cyhoedd Cymru y byddem yn cael trafferth gwneud hyn fel arfer, a chael gwybodaeth iddynt hefyd. Os oes gwybodaeth newydd ar gael am ffyrdd arloesol o gyrraedd y cyhoedd, byddwn i wir yn dymuno clywed am hynny, yn enwedig os yw'n sicrhau ymatebion gan gydbwysedd daearyddol da o aelodau o'r cyhoedd ac ymateb da gan bobl o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol.
O ran cymorth ac effaith, rwy’n credu bod hyn yn mynd law yn llaw, a byddai gennyf ddiddordeb i wybod beth yr ydych yn ei olygu wrth 'cymorth'. Dywedasoch y gair sawl gwaith yn eich datganiad. Yn sicr, o ran y pwyllgor yr wyf i’n aelod ohono, byddai diddordeb mawr gennym glywed am gymorth i hyrwyddo newyddion yn ddigidol mewn cyd-destun cyfryngau, rwy’n credu bod yn rhaid i ni dderbyn, nad yw’n un amryfath yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai diddordeb mawr gennym ni i gyd ynddo. Fodd bynnag, os ydym yn mynd i ruthro i lawr y llwybr digidol, a gallaf ddeall yr ysgogiad i wneud hynny, credaf fod angen syniad da arnom o beth yw llwyddiant ar hyn o bryd gyda'r sefydliadau sy’n rhan o’r adolygiad, ac, mewn llyfrau, fel enghraifft syml, pa un a gafwyd cyfradd llwyddiant arbennig o dda yng Nghyngor Llyfrau Cymru neu gan gyhoeddwyr o ran defnyddio Kindle ac e-ddarllenwyr eraill, neu beth yw'r sefyllfa o ran llyfrau sain, er enghraifft, gan nad yw pob llyfr yn llyfrau darllen wedi'r cyfan? Oherwydd, mewn gwirionedd, yr effaith sy'n fy mhoeni i fwyaf yw'r effaith ar y defnyddiwr. Yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd i'r sefydliadau sy'n ymwneud â hynny, ond os nad ydym yn cael mwy o bobl yn y pen draw yn darllen neu fwy o bobl yn mwynhau beth bynnag fo’r gair ysgrifenedig, ym mha bynnag fformat, mae yna gwestiwn, yn amlwg, i Lywodraeth Cymru, ond hefyd i ni i gyd yn gyffredinol, am sut beth fydd llwyddiant yn y pen draw.
Soniasoch yn eich datganiad am
‘sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang, a chefnogi pobl ledled Cymru i fod yn rhan ohono a chymryd rhan ynddo.’
Byddwn i’n awyddus i wybod beth yw ein cynulleidfa fyd-eang ar hyn o bryd, sut mae'n edrych nawr, a, hefyd, sut y gallai edrych yn realistig, oherwydd, eto, os yw Llywodraeth Cymru, gyda'n cefnogaeth ni, am fuddsoddi mewn unrhyw un o'r syniadau a gynigwyd yn yr adolygiad—ac rwy’n gwerthfawrogi nad wyf wedi eu darllen eto—rydym ni eisiau gwybod, neu o leiaf cael rhyw syniad o ba ganlyniad yr ydych yn ei ddisgwyl yn sgil y buddsoddiad, i ryw raddau o leiaf.
Dyma un neu ddau o fanylion er mwyn i mi adael cwestiynau i eraill eu holi: y cwricwlwm ysgol newydd. Nawr, yn amlwg, bydd angen llawer iawn o adnoddau ar gyfer y cwricwlwm ysgol newydd. A oes unrhyw fwriad naill ai i ddod ag adnoddau o’ch cyllideb chi i’r gyllideb addysg i helpu i ariannu'r adnoddau ysgrifenedig a digidol, neu a fydd yn mynd i’r cyfeiriad arall a, mewn gwirionedd, bod cyfrifoldeb ar Gyngor Llyfrau Cymru a phobl eraill sy'n rhan o hyn i ddarparu’r adnoddau hynny gydag arian o gyllideb wahanol? Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn edrych yn bryderus iawn am y posibilrwydd hwnnw.
Ac yna, yn olaf, rydych yn dweud bod y dystiolaeth yn gymhellol. Yn amlwg, nid wyf wedi cael cyfle i brofi hynny fy hun eto. Nodaf fod awgrym, neu argymhelliad, i nifer o gyfrifoldebau symud i Gyngor Llyfrau Cymru o Lenyddiaeth Cymru. Nid wyf yn gwneud sylw ar hynny, ond byddwn i'n chwilfrydig iawn i weld a allwch chi grynhoi mewn ychydig o eiriau pam nad oedd yr argymhelliad yn symud cyfrifoldebau i’r gwrthwyneb a’u bod yn trosglwyddo, mewn gwirionedd, o Gyngor Llyfrau Cymru i Lenyddiaeth Cymru, er enghraifft. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau ac am ei chyfraniad? Mae’n wir bod hwn yn gyhoeddiad helaeth. Mae tua hanner y 200 o dudalennau yn darparu'r dystiolaeth sydd wedi hysbysu'r argymhellion, ac mae’n werth nodi yn y cychwyn cyntaf bod yr ymateb i'r ymgynghoriad, mewn gwirionedd, ymysg y rhai mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd erioed. Ymatebodd ryw 820 o sefydliadau ac unigolion i’r holiadur ar-lein. Yn wir, o gymharu hyn ag ymgynghoriadau eraill a gafwyd yn ddiweddar—gadewch i ni feddwl yn bennaf am gludiant—denodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y fasnachfraint newydd i rwydwaith Cymru a'r gororau ryw 120 o ymatebion. Felly, denodd hwn ryw chwe gwaith yn fwy na hynny. Roedd yn eithaf digynsail a dyna pam y cymerodd fwy o amser na’r disgwyl i’r panel brosesu ac wedyn ymateb iddo. Defnyddiwyd dull sydd wedi’i seilio yn fawr ar dystiolaeth, a dyna pam y gwnaed yr argymhelliad o ran trosglwyddo cyfrifoldebau.
Byddwn i’n gobeithio, yn ystod y prynhawn ’ma a heno, pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i adolygu’r argymhellion a'r dystiolaeth, y bydd hi’n cytuno eu bod wedi’u seilio ar farn a phrofiad sefydliadau, rhanddeiliaid a'r cyhoedd ehangach sydd â diddordeb brwd iawn yn y sector cyhoeddi, ac yr awgrymir newid beiddgar mewn rhai meysydd, ond bod yna, hefyd, gydnabyddiaeth bod pob un o'r sefydliadau sy’n gyfrifol am gefnogi cyhoeddi ac ysgrifennu yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w sicrhau yw eu bod yn gallu rhagori yn eu meysydd eu hunain, a, pan fo angen trosglwyddo swyddogaethau, eu bod yn trosglwyddo mewn modd sy’n golygu eu bod nhw’n gwella hefyd.
Byddwn i’n hapus i gwrdd ag unrhyw rai o Aelodau’r Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn, yn enwedig unrhyw Aelodau'r Cynulliad sy'n teimlo nad ydynt wedi gallu cyfranu’n uniongyrchol at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd. Yn yr un modd, rwy'n awyddus iawn i gyfarfod â'r tri chorff cenedlaethol y mae’r adolygiad yn ymwneud yn bennaf â nhw, a hynny ar y cyfle cyntaf—y cyngor celfyddydau, y cyngor llyfrau a Llenyddiaeth Cymru—i drafod gyda’n gilydd sut y gellir datblygu’r argymhellion ac, yn wir, i glywed am unrhyw bryderon sydd gan unrhyw un o'r sefydliadau hynny am argymhellion y panel.
O ran beth yw llwyddiant, wel, mae hyn i raddau helaeth wedi’i nodi yn adolygiad y panel. O ran nifer y llyfrau a gyhoeddir, i raddau helaeth, ffigurau ar gyfer nifer y llyfrau a gyhoeddir mewn unrhyw gyfres neu ar gyfer unrhyw gyhoeddiad, ni chaiff y niferoedd eu cofnodi neu o leiaf eu cyhoeddi. Fodd bynnag, rydym yn cofnodi nifer y llyfrau a fenthycir o lyfrgelloedd cyhoeddus a hefyd nifer yr e-lyfrau ac e-gylchgronau a gaiff eu benthyg neu eu darllen. Nawr, gallaf ddweud ein bod mewn sefyllfa eithaf cryf yng Nghymru o ran rhwydwaith y llyfrgelloedd cyhoeddus a benthyca llyfrau. Y mae wedi ei sbarduno i raddau helaeth gan y fenter Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell, a hefyd gan Sialens Ddarllen yr Haf, sydd wedi ei bod yn llwyddiant mawr i Gyngor Llyfrau Cymru. Ond, i’r un graddau, y mae wedi ei sbarduno gan ddigwyddiadau arloesol a gynhaliwyd, a rhai digwyddiadau mawr sydd wedi eu hwyluso gan Lenyddiaeth Cymru, ac rwy’n credu, yn bennaf yn ystod y 12 mis diwethaf, y dathliad o waith Roald Dahl. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld sefyllfa dda o ran nifer y llyfrau a ddarllenwyd a nifer y llyfrau a fenthyciwyd yng Nghymru.
Yn rhyngwladol, mae cryn dipyn o weithgarwch wedi ei gynnal ac wedi ei ddatblygu yn draddodiadol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, a hefyd drwy Gyfnewidfa Lên Cymru. Ar ôl adolygu’r corff sylweddol o dystiolaeth a ddarperir yn yr adroddiad, rwyf o’r farn fod y gyfnewid lên yn ddull gwerthfawr iawn o sicrhau bod gweithrediadau rhyngwladol yn cynnig manteision i awduron Cymru, i gyhoeddwyr Cymru ac i ddiwylliant Cymru yn ei gyfanrwydd, ond ceir argymhelliad penodol yn yr adroddiad sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru, ac sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer ymweliadau busnes tramor. Rwy'n credu, o ran sicrhau bod cyhoeddwyr yn gallu cael gafael ar gyngor busnes cryf a chael mynediad at farchnadoedd rhyngwladol, mae cyfle, yn fy marn i, drwy deithiau masnach a gwasanaethau cefnogi eraill, i wella'r hyn y gall cyhoeddwyr ei gynnig i gynulleidfa ryngwladol.
O ran y cwricwlwm, mae argymhelliad penodol sy’n ymwneud â'r cwricwlwm, unwaith eto, i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ond hynny, yn syml, yw ei bod yn hanfodol ystyried cyhoeddi a llenyddiaeth wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, ac, am y rheswm hwnnw, rwy’n awyddus i gwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a sgiliau. Ni allaf warantu y bydd fy llyfr sieciau ar agor a minnau’n barod i’w hysgrifennu yn ein cyfarfod, ond fe fyddwn yn cynnal trafodaethau ynghylch cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, a sut y gall gyfrannu at addysgu pobl, hen ac ifanc. Ac rwy’n credu fy mod i eisoes wedi tynnu sylw at y rheswm pam y mae'r adroddiad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar drosglwyddo cyfrifoldebau o Lenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru, ond hoffwn ddatgan unwaith eto a'i roi ar gofnod bod yr adroddiad ac, yn wir, llawer o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad, yn gwerthfawrogi’n fawr iawn waith Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr a hir ar yr adolygiad annibynnol yma o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth Cymru? Wrth gwrs, ein her ni fel gwleidyddion yn fan hyn ydy craffu ar beth mae’r adroddiad yma yn ei ddweud, yn ogystal â beth rydych chi wedi ei ddweud am yr adroddiad, ac, wrth gwrs, mae yna her sylweddol yn y craffu yna achos mae’r adroddiad 212 o dudalennau yma dim ond wedi ymddangos ar ein system gyfrifiadurol i rhyw ddwy awr yn ôl. Wedyn, gyda phob parch, nid ydw i wedi cael cyfle i ddarllen pob gair yn y 200 o dudalennau yna eto, ond nid yw hynny ddim yn mynd i’m dal i yn ôl rhag gofyn cwestiynau, mae’n rhaid imi ddweud.
Mae yna nifer o bethau yma i’w croesawu, ac un o’r pethau, wrth gwrs, ydy bod hwn yn bwnc allweddol bwysig. Fel mae’r adolygiad yn ei ddweud ac rydych chi’n dyfynnu yn y paragraff olaf yn fan hyn, mae’r adolygiad yma yn gyfle
‘i ddathlu Cymru—grym creadigol llenyddiaeth i ddisgrifio, dehongli a dathlu ein hunaniaeth. Mae gwerth mawr i'r grym hwnnw, ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.’
Wel, o gymryd hynny o ddifri, mae eisiau cymryd y pwnc allweddol yma hefyd o ddifri achos, yn naturiol, mae’r tirlun ym maes llenyddiaeth a chyhoeddi wedi newid yn eithaf syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf yma. Mae nifer o blatfformau gwahanol, digidol ac ati, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes. Wrth gwrs, yn lle dim ond mynd i’r siop lyfrau leol neu i’r llyfrgell, yn y bôn mae rhywbeth o’r enw ‘Amazon’ hefyd wedi dod i’r brig, sydd hefyd y ffordd amlaf mae pobl yn cael eu llyfrau y dyddiau yma, a sut mae’r holl fusnes yma o weithio, os ydym ni eisiau gweithio efo pethau fel Amazon sydd yn darparu’r rhan fwyaf o’r llyfrau sy’n cyrraedd ein tai ni y dyddiau yma. Mae angen, wrth gwrs, nodi wrth Amazon fod angen mwy o ddarpariaeth iaith Gymraeg yn beth maen nhw’n ei ddosbarthu. Rydw i’n nodi wrth basio, os ydw i’n cofio’n iawn, fod gan wasg y Lolfa rhyw fath o drefniant efo Amazon, ond bach iawn ydy’r trefniant iaith Gymraeg. Wedyn, mae yna her sylweddol gan fod y tirlun yn newid, ac mae yna esblygiad parhaol.
Wrth gwrs, gyda’r arian cyhoeddus sydd wedi ei ddosrannu gerbron, fel rydych chi’n ei nodi, mae yna lwyddiannau, yn enwedig efo’n papurau bro ni—papurau bach lleol sydd yn hybu diddordeb ac yn gwasgaru gwybodaeth i’n cymunedau lleol ni. Rydw i’n meddwl am bapur bro Abertawe, ‘Wilia’. Man a man iddo gael ei sylw, a phapur bro Llanbedr Pont Steffan, ‘Clonc’. Man a man i hwnnw gael ychydig bach o sylw, achos nid bob dydd yr ydym ni’n adrodd teitlau’n papurau bro yn y Siambr yma, ond maen nhw wedi bod yn llwyddiannau ysgubol dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, rydym ni’n edrych am barhad o’r gefnogaeth yna, ac felly parhad i’r llwyddiant yna. A gan ein bod ni’n sôn am gyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, rydw i’n credu ei fod yn fater i’w groesawu, o leiaf, fod yna fwy o gyfrifoldebau yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Llyfrau Cymru. Ond, wrth gwrs, fel rydych chi’n crybwyll, bydd angen rhai newidiadau o gofio’r tirlun sydd hefyd wedi newid yn nhermau digidol ac ati.
Yn nhermau pam mae yna rai newidiadau’n gorfod cymryd lle, fel rydych chi wedi nodi eisoes, mae yna newidiadau strwythurol sydd yn mynd i gymryd lle rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, a’r Cyngor Llyfrau, fel rydych chi wedi nodi.
Buaswn i eisiau gwybod yr amserlen a sut rydych chi’n mynd i weinyddu hynny, fel Ysgrifennydd Cabinet. Ond, yn fan hyn, yn y paragraff ar ddiwedd yr ail dudalen allan o bedwar, rydych chi’n nodi bod yr adolygiad wedi canfod tystiolaeth glir o broblemau gwirioneddol mewn rhai ardaloedd yn ymwneud â chynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethu, rheoli risg, gwariant, ac ati. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Wrth gwrs, os ydym yn mynd i gael datganiad ar adolygiad nad yw’r gweddill ohonom ni wedi cael cyfle i ddarllen, buaswn i eisiau gwybod mwy o wybodaeth a mwy o fanylion ynglŷn â beth yn union ydy’r problemau yn y cynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethu, rheoli risg, ac ati, gan eich bod wedi mynd i mewn i gryn fanylder ynglŷn â disgrifio’r broblem, ond heb fanylu wrthym ni beth yn union ydy’r broblem. Felly, mae yna her, wrth gwrs.
Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod y pwyllgor diwylliant—mae Suzy Davies wedi crybwyll hyn eisoes—yn gwneud adolygiad ar newyddiaduraeth newyddion ar hyn o bryd a’r ffordd mae cyfathrebu’n digwydd yn yr oes ddigidol yma. Mae yna ryw fath o groestoriad â beth sy’n digwydd yn y pwyllgor diwylliant, sydd yn gwneud yr adolygiad yma ar hyn o bryd—weithiau mae eisiau cyfeirio at y gwaith sydd eisoes yn mynd ymlaen yn y Senedd yma.
Ar ddiwedd y dydd, gan fod yna gymaint o fanylion nad ydym wedi cael cyfle i’w craffu, mi fuaswn i’n gofyn, ar sail y datganiad yma heddiw—yn iawn, rydych wedi ateb cwestiynau—ond mi fuaswn i’n gofyn am ddadl lawn yn amser y Llywodraeth hefyd. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau a'i gyfraniad. O ystyried bod hwn yn adroddiad helaeth ac nad yw nifer o’r Aelodau wedi cael cyfle heddiw i’w ddarllen yn llawn eto nac i amgyffred y manylion, byddwn i'n fwy na hapus i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth i edrych ar yr adroddiad hwn yn fanylach. Bydd craffu ar yr adroddiad hefyd yn cynnwys rhagor o drafodaethau â’r cyrff a’r sefydliadau cenedlaethol y mae’n fwyaf perthnasol iddynt.
Af i drwy rai o'r pwyntiau cyffredinol ac yna y pwyntiau mwy penodol y cododd yr Aelod. O ran heriau cyfanwerthu, mae'r adroddiad yn argymell bod Cyngor Llyfrau Cymru yn datblygu cynigion i liniaru effaith bresennol gweithgarwch cyfanwerthu o ran gwerthu llyfrau, yn ogystal â darparu ar gyfer tueddiadau tebygol yn y dyfodol. Rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol os ydym yn dymuno parhau i weld siopau llyfrau bach annibynnol, yn enwedig ar y stryd fawr mewn ardaloedd gwledig.
Roedd y panel yn cydnabod llwyddiant mawr y papurau bro ac argymhellodd y dylent barhau yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, o ystyried yr enghreifftiau amrywiol y mae'r Aelod eisoes wedi eu hamlinellu a'r dystiolaeth a ddarparwyd gan aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'n eithaf clir bod y trefniadau presennol yn addas at eu diben ac na ddylid eu newid.
Rwy’n gobeithio y bydd y tri sefydliad yn gallu ymateb yn adeiladol i'r adroddiad yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn gobeithio, fel y dywedais wrth Suzy Davies, cwrdd â’r tri gyda'i gilydd, ar y cyd, i drafod sut y gallwn ddatblygu’r argymhellion. Bwriad pennaf y camau a nodir yn yr adroddiad yw sicrhau tri pheth. Y cyntaf yw meithrin rhagoriaeth lle y mae wedi’i wreiddio eisoes. Yn ail, caniatáu i’n holl sefydliadau cefnogi ganolbwyntio ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud orau. Ac yna yn drydydd, sicrhau bod y gweithgareddau nad ydyn nhw’n cael eu darparu hyd eithaf ein disgwyliadau ar hyn o bryd, yn cael eu symud i'r lle gorau er mwyn eu darparu’n effeithiol ar gyfer cyhoeddwyr, awduron a darllenwyr.
Ceir manylion am yr heriau y mae'r Aelod wedi gofyn amdanyn nhw yn yr adroddiad. Maen nhw’n eithaf helaeth, ac ynghyd â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae argymhellion clir ar sut y gellir eu goresgyn. Ac, unwaith eto, fe’u nodir yn yr adroddiad. Dylwn i ychwanegu hefyd mai un argymhelliad y mae’r panel yn ei wneud yw cynnal adolygiad arall, ymhen pum mlynedd, ac rwy’n credu y byddai hynny o fudd, o ystyried natur newidiol y sector a'r angen i sicrhau bod y sector ei hun yn cael cymorth priodol gan y Llywodraeth, ond bod awduron, cyhoeddwyr a darllenwyr hefyd yn derbyn cymorth priodol gan y sefydliadau cenedlaethol. Felly, byddwn i’n hapus i ddweud fy mod i’n credu y dylai fod yn destun adolygiad arall ymhen pum mlynedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedasoch ar y dechrau fod hwn yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym a fu’n agored i rywfaint o aflonyddwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r adroddiad yn penderfynu mai Cyngor Llyfrau Cymru yw'r corff gorau—yn y sefyllfa orau—i arwain trwy'r cyd-destun ansicr hwn, ond mae hefyd yn dweud bod angen i Gyngor Llyfrau Cymru ddatblygu gwahanol lefelau o barodrwydd i dderbyn risg, bod angen iddo ddatblygu strategaeth ddigidol gadarn, a mwy o ymgysylltiad digidol, ond dywed hefyd fod angen i Gyngor Llyfrau Cymru adolygu natur a gallu'r trefniadau llywodraethu a gweithredol. Nawr, at ei gilydd, mae’n ymddangos i mi bod hon yn broses ôl-addasu gymharol ddwys ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru. O ystyried nad oes gan y Cyngor enw da am fod y mwyaf dynamig o blith y sefydliadau, a yw’r Ysgrifennydd dros ddiwylliant yn hyderus bod y diwylliant yno o fewn y sefydliad, o ystyried y gwendidau y mae’r panel yn eu nodi, i allu cyflawni’r tasgau y mae arnom angen iddo ei wneud?
Hoffwn ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn. Felly, nid heriau ansylweddol yw’r rhain sy'n cael eu cyflwyno i Gyngor Llyfrau Cymru, ond o’u bodloni, gallent sicrhau manteision enfawr i'r sector cyhoeddi ac i awduron. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o’r argymhellion a amlinellwyd gan y panel, sy'n ymwneud â Chyngor Llyfrau Cymru yn ymwneud â'r angen i arloesi yn fwy er mwyn adeiladu ar graffter masnachol o fewn y sefydliad, ac i sicrhau bod parodrwydd cywir i dderbyn risg, a hefyd i sicrhau bod gan Gyngor Llyfrau Cymru bresenoldeb ym mhob cwr o Gymru, a’i fod yn gweithredu’n ddeinamig mewn amgylchedd newidiol.
Rwy'n credu, o ran y sefydliad ei hun a'i allu i ymateb i rai o'r argymhellion a’r hyn a allai fod yn gyfrifoldebau ychwanegol, yn amlwg, mae yna argymhellion sy’n ymwneud â’r gweithredwyr a'r bwrdd, a fyddai, yn fy marn i, o’u mabwysiadu, yn sicrhau bod y sefydliad yn gallu addasu i gynnydd yn lefel y cyfrifoldeb sydd ganddo, ac y byddai gwneud hynny wedyn yn arwain at wella’r gwasanaethau a ddarperir.
Diolch i'r Gweinidog am adroddiad y panel—mae'n ddrwg gennyf, am eich datganiad heddiw, ac mae’r adroddiad, fel y dywedasoch, yn un hir, felly nid wyf yn siŵr fy mod i’n edrych ymlaen at ei ddarllen i gyd, ond rwy'n siŵr y gallwn ni ystyried y pwyntiau perthnasol a'u trafod maes o law.
Mae'n galonogol—[Torri ar draws.] Mae'n galonogol y cafwyd ymateb mor gryf gan y rhanddeiliaid. Nawr, rydych chi wedi nodi eich hun mai un o'r prif newidiadau, efallai y newid mwyaf, yw'r symud o brint i gyhoeddi digidol. Nawr, cynigir rhai newidiadau strwythurol: a ydych chi’n hyderus y bydd hyn yn helpu i gyflwyno’r newid hwnnw i gyhoeddi digidol yn llwyddiannus ac yn diogelu swyddi cyhoeddi yng Nghymru? Ac a wnewch chi roi rhagor o fanylion ynghylch pam yr ydych yn credu y bydd y newidiadau hyn yn rhai cadarnhaol? Er bod y cyfrwng wedi newid, yn newid, mae'r darllenwyr i ryw raddau yn aros yr un fath. Mae angen o hyd i bobl eisiau darllen llyfrau a deunyddiau eraill, felly mae angen i ni feithrin cariad at ddarllen ymhlith yr ifanc. Felly, tybed faint o bwyslais a fydd yn y dyfodol ar ddatblygu hyn, a sut y mae adroddiad y panel yn ymdrin â hyn? Pe gallech egluro’r pethau hynny, efallai, yn gryno, byddai hynny’n dda. Diolch.
Wrth gwrs. O ran y cyhoeddiad ei hun, mae yn gynhwysfawr, ond mae hefyd yn fanwl iawn ac yn darparu dadansoddiad trylwyr iawn o gyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru. Crybwyllir y newid y mae’r Aelod yn cyfeirio ato o ran cyhoeddi digidol mewn nifer o adrannau, ac mae argymhellion, nid yn unig i Lywodraeth Cymru ac i Gyngor Llyfrau Cymru, ond i nifer o sefydliadau, ac i’r sector cyhoeddi yn ei gyfanrwydd eu rhoi ar waith. Rwy’n credu, os gall y newid hwnnw ddigwydd, os gellir gweithredu’r argymhellion a wnaed i’r holl sefydliadau a'r sector cyfan o ran trawsnewid digidol, byddwn yn gweld newid sylweddol. Yr hyn sy'n glir iawn, nid yn unig o’r argymhellion ac adolygiad y panel, ond hefyd o'r dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno yn rhan o'r ymgynghoriad, yw bod angen derbyn yn llawn y farchnad ddigidol. Er bod gennym draddodiad gwych o ysgrifennu a chyhoeddi yng Nghymru, nid ydym eto wedi dal i fyny â rhai o'r marchnadoedd hynny a rhai o'r gwledydd hynny sydd ar flaen y gad o ran e-lyfrau a manteisio ar brosesau digidol. Ond, fel y dywedais, ceir nifer o argymhellion ar gyfer pob sefydliad, ac rwy’n credu, er mwyn elwa i’r eithaf ar gyfleoedd digidol, y bydd yn rhaid ystyried yr argymhellion hynny yn eu cyfanrwydd, nid yn unigol.
O ran plant a sut yr ydym yn sicrhau bod rhagor o blant yn darllen yn amlach, mae nifer o fentrau llwyddiannus iawn ar waith, nid yn unig gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, ond hefyd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf eisoes wedi nodi nifer ohonynt, gan gynnwys sialens ddarllen yr haf a'r cynllun pob plentyn yn aelod o'r llyfrgell, ac, wrth gwrs, mae’r manteision ychwanegol o gael rhagor o bobl ifanc yn darllen, sy'n cynnwys rhagor o rieni yn dod yn ddarllenwyr amlach. Rwy'n credu bod budd mawr i hyn o ran oedolion yn ennill gwell sgiliau ar gyfer cyflogaeth.
Soniais yn fy natganiad y bydd angen i Gyngor Llyfrau Cymru archwilio, o ran cynhwysiant—ac mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo llyfrau i bobl ifanc. Bydd angen iddo fyfyrio ar ei strategaethau presennol a'i bolisïau presennol, a gwella, o ran cynhwysiant, ei bresenoldeb yng Nghymru er mwyn sicrhau bod ei waith, a gwaith cyhoeddwyr a gwaith awduron yn cael ei hyrwyddo a’i fod yn cyrraedd yr holl gymunedau yng Nghymru.
Rwy'n credu bod hyn yn beth hynod gyffrous i’r sector. Mae'n gyffrous i awduron, ac os gellir gweithredu’r argymhellion, yn amlwg ar ôl craffu ymhellach, rwy’n credu y byddwn ni’n gweld hyd yn oed mwy o bobl yn dechrau darllen ac yn dechrau ysgrifennu hefyd.
Hoffwn ganolbwyntio ar y rhan o’ch datganiad sy’n sôn am lenyddiaeth, ac yn benodol, y ffynhonnell wych honno o arloesi ac entrepreneuriaeth, ac rwy'n siarad am y siop lyfrau fach annibynnol. Nawr, mae’r sector hwn wedi lleihau dros y blynyddoedd wrth i Amazon a’u tebyg ddatblygu, ond mae’r rhai sydd wedi goroesi yn fusnesau rhagorol, gyda chysylltiadau gwych â'r gymuned leol, sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau o bob math. A gaf i gymeradwyo Griffin Books ym Mhenarth am y darlithoedd llenyddol y maen nhw’n eu cynnal, y digwyddiadau i blant a phobl ifanc i hybu diddordeb mewn llyfrau a hefyd am Ŵyl Lenyddiaeth Penarth? Mae'n rhaglen ragorol a gaiff ei threfnu’r o’r un siop lyfrau annibynnol hon. Efallai y gwnaf i eich gwahodd, yn wir, ym mis Gorffennaf—bydd eich cyn-gydweithiwr Huw Lewis yn cymryd rhan yng Ngŵyl Lenyddiaeth Penarth, pan fyddwn yn trafod ei gofiant am ei blentyndod, am gael ei fagu yn Aberfan. Felly, mae digwyddiadau rhagorol yn cael eu cynnal.
Byddwn i hefyd yn dweud bod serendipedd yn chwarae rhan fawr mewn llenyddiaeth, dim ond mynd i mewn, siarad â phobl sy’n gwybod llawer iawn am bwnc ac yn edrych ar y silffoedd. Yr hyn sy’n wych am siop lyfrau lai yw'r dewis bendigedig sydd fel arfer wedi ei wneud gan y bobl sy'n rhedeg y siop honno. Mae hynny, yn fy marn i, bob tro yn ffynhonnell gyfoethog i fanteisio arni ac fe gewch chi afael ar rai o'r deunydd llenyddol gorau sydd ar gael. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y strwythurau newydd yn sicrhau bod y sector yn parhau i gael cymorth a bod hynny yn cynyddu hyd yn oed ar gyfer digwyddiadau llenyddol a’u tebyg.
A gaf i, ar yr un pryd, ganmol y rhan y mae microgyhoeddwyr yn ei chwarae, y mae llawer ohonom, mi wn, wedi ei dilyn, gan gynnwys Lee Waters yn y fan yno, wrth gyhoeddi llenyddiaeth hynod arloesol sydd yn cyrraedd y brif ffrwd yn y pen draw, ond nid ar y dechrau? Yn benodol, mae barddoniaeth yn aml yn dibynnu ar y cyhoeddwyr llawer llai hyn, ac, wrth gwrs, maen nhw nawr hefyd yn elwa ar yr oes ddigidol. Rydym wedi clywed rhywfaint am hynny, ond, unwaith eto, bydd rhywfaint o adnoddau wedi'u targedu yno i alluogi’r llwyfannau hynny i ddatblygu, yn parhau i gefnogi'r dreftadaeth lenyddol wych, gyfoethog sydd gennym yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad. Os bydd fy nyddiadur yn caniatáu, byddwn i’n falch iawn o dderbyn y gwahoddiad ym mis Gorffennaf.
Mae rhyw 1,000 o bobl yng Nghymru wedi’u cyflogi mewn siopau llyfrau a chyhoeddwyr. Mae hyn yn nifer sylweddol, ond, fel y dywedais yn gynharach, mae'n fwy arwyddocaol i rai o'r cymunedau gwledig hynny sy’n wirioneddol ddibynnu ar ganol tref neu stryd fawr fywiog, ac wedi’i seilio, yn ei dro, ar economi fywiog ac amrywiol. Mae siopau llyfrau yn hynod o bwysig. Rwy'n mynd i leoedd fel y Gelli Gandryll, neu, yn wir, i drefi yn nes at fy nghartref, megis yr Wyddgrug, ac mae’r siopau llyfrau annibynnol hynny yn gwbl hanfodol i ychwanegu gwerth at y cynnig diwylliannol a manwerthu sydd yng nghanol trefi. Mae'r adolygiad yn gwneud argymhellion sy'n canolbwyntio'n bennaf ar beth y gall Cyngor Llyfrau Cymru ei wneud i gefnogi'r sector cyhoeddi a siopau llyfrau annibynnol i ymateb i’r her a geir yn sgil bygythiad cyfanwerthu, ond hefyd i fod yn fwy arloesol ac yn fwy penodol o ran yr arlwy. Nid yw’n ymwneud dim ond â defnyddio’r dull sefydledig o arallgyfeirio yr hyn yr ydych yn ei gynnig, er y gall hynny fod yn llwyddiannus. Unwaith eto, mewn rhai trefi, mae gan rai siopau llyfrau annibynnol gaffis, a gall hynny weithio mewn rhai ardaloedd, ond mae'n mynd y tu hwnt i hynny; mae'n ymwneud â hyrwyddo arloesedd o ran sut yr ydych yn cynnig gwasanaeth sy'n bwrpasol ac yn wirioneddol annibynnol. Wrth i ni edrych, ar draws y Llywodraeth, ar wedd a natur newidiol yr amgylchedd gwaith a newidiadau o ran manwerthu a'r stryd fawr, rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gefnogi—nid yn unig trwy Cyngor Llyfrau Cymru, ond hefyd trwy sefydliadau a chyrff eraill, megis Busnes Cymru—siopau llyfrau annibynnol lleol i ffynnu, nid yn unig yn ystod y dydd, ond gyda’r nos hefyd o bosibl. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio annog yr economi nos ar ein stryd fawr, ac rwy'n credu y gall siopau llyfrau, yn ogystal â manwerthwyr eraill, gynnig cyfle unigryw i bobl ddod at ei gilydd gyda’r nos, i ddysgu ac i brynu. Cafodd hyn ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau flynyddoedd lawer iawn yn ôl, ond fe’i sbardunwyd i raddau helaeth gan y cwmnïau amlryngwladol a oedd yn cynnig siop goffi ym mhob un o'u siopau llyfrau enfawr, ond, diolch i’r drefn, ymatebodd siopau llyfrau annibynnol lleol yn yr Unol Daleithiau, gwnaethant gystadlu, ac, o ganlyniad i hyn, mae llawer yn ffynnu. Hoffwn i weld yr un peth yn digwydd yng Nghymru.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ‘Ddyfodol Llwyddiannus: Y Diweddaraf ynglŷn â Materion Digidol’. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, diwygio addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol, ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad ar ein diwygiadau, gan gydnabod yr ymrwymiad eang i wella addysgu a dysgu yn ysgolion Cymru. Mae un o'r meysydd allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad o fod wedi gwneud 'cynnydd da' yn un sydd wedi bod yn flaenllaw yn ein diwygiadau—datblygu sgiliau digidol ein dysgwyr. O'r cychwyn, rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern. Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, a pham yr ydym wedi sicrhau ein bod yn cyflwyno’r fframwaith cefnogol yn gynharach, ac a roddwyd ar gael ym mis Medi 2016. Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol— DCF—a ddatblygwyd gan ysgolion blaengar sy’n arloesi yn ddigidol, consortia rhanbarthol ac Estyn, yn ymgorffori sgiliau digidol a gwybodaeth ar draws profiadau dysgu disgyblion wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy'r ysgol, a bydd yn gweld athrawon yn gweithredu sgiliau digidol perthnasol yn gynyddol yn eu gwersi .
Ers i hwn gael ei lansio, bu nifer o ddatblygiadau i gynorthwyo athrawon i ymgorffori sgiliau digidol ym mhob rhan o’u gwaith addysgu. Cyhoeddwyd offeryn mapio cwricwlwm y tymor diwethaf i helpu ysgolion i gynllunio eu taith drwy'r DCF, ac mae offeryn anghenion dysgu proffesiynol wedi’i ddiweddaru ar Hwb yn helpu i nodi anghenion sgiliau athrawon a'r cyfleoedd datblygu mwyaf priodol ar gyfer y gweithlu.
Mae ein harloeswyr digidol bellach yn creu tasgau ystafell ddosbarth ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys syniadau arloesol ac ymarferol ar sut i ddefnyddio'r DCF yn rhan o'u harferion bob dydd, a bydd dull dysgu proffesiynol newydd ar gael o dymor yr hydref ymlaen—unwaith eto, a ddatblygwyd gan athrawon, ar gyfer athrawon .
Ond, wrth gwrs, ni ddechreuodd cefnogaeth i bethau digidol gyda'r DCF yn unig. Trwy'r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn nifer o feysydd allweddol. Er enghraifft, ers lansio Hwb, mae tua thri chwarter yr ysgolion yn cael eu cyfrif fel bod wedi ymgysylltu yn weithredol mewn defnyddio'r platfform hwnnw, ac rwy'n falch o adrodd bod y defnydd yn cynyddu. Ym mis Mawrth, cafodd Hwb dros 3.2 miliwn o ymweliadau â’i dudalennau a dros 28,000 ar gyfartaledd o achosion o fewngofnodi bob dydd, sydd wedi rhagori'n sylweddol ar y disgwyliadau gwreiddiol ar gyfer y prosiect. Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod Hwb bellach yn brif adnodd mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn ceisio arloesi a gwella'r platfform drwy’r amser. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi cyfres o ddiweddariadau a datblygiadau newydd cyffrous i sicrhau bod Hwb yn parhau i ddiwallu anghenion rhanddeiliaid ac yn cadw’n gyfredol o ran y datblygiadau digidol perthnasol.
Bydd rhyngwyneb defnyddiwr newydd yn gwella profiad athrawon a dysgwyr o Hwb ymhellach, a bydd yn rhoi mynediad cyflymach at offer a’r swyddogaethau sy'n cael eu defnyddio amlaf, pob un ohonynt wedi eu datblygu yn dilyn sylwadau gan athrawon a'r consortia addysg rhanbarthol. Gan edrych ymlaen, a chan ystyried gofynion y dyfodol, rydym ni’n gwybod y bydd y galw am fand eang cyflym mewn ysgolion yn parhau i gynyddu. Mae'n gwbl annerbyniol i ysgol fod dan anfantais sylweddol oherwydd cyflymder rhyngrwyd gwael. Mae sicrhau bod gan bob ysgol, ble bynnag y mae hi wedi’i lleoli, fynediad at fand eang cyflym iawn, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, a dyna pam, fis Medi diwethaf, y cyhoeddais ragor o fuddsoddiad gwerth £5 miliwn i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae cwmpasu terfynol wedi ei gwblhau ar gyfer y gwaith hwn, a bydd 341 o ysgolion ledled Cymru yn gymwys i elwa ar y buddsoddiad hwn, sy'n cynnwys darparu 100 Mbps i bob ysgol arbennig yng Nghymru. Mae archebion wedi dechrau cael eu cyflwyno ar gyfer y gwasanaethau newydd, a disgwylir darpariaeth gyntaf y cylchedau newydd yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2017—18. Yn ogystal â hyn, bydd fy swyddogion yn parhau i nodi lle y gellir gwneud gwelliannau ychwanegol i gydnerthedd rhwydweithiau a gwasanaethau wedi’u canoli, fel hidlo'r we, er mwyn sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn cael y mynediad gorau posibl at wasanaethau TGCh
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ond nid yw fy uchelgais ar gyfer dysgwyr yn dod i ben yn y fan yna. Rwyf eisiau i'n dysgwyr fynd ymhellach na dim ond defnyddio'r offer a’r seilwaith yr ydym wedi'i roi ar gael. Rwyf eisiau iddyn nhw symud o fod yn ddefnyddwyr technoleg i fod yn awduron creadigol. Mae gallu dysgwyr i ysgrifennu cod yn agwedd allweddol ar yr uchelgais honno ac yn llawer ehangach na dim ond y gallu i ddefnyddio technoleg. Mae'n ymwneud â datrys problemau, bod yn greadigol, a gwneud pethau mewn ffordd wahanol a difyr. Mae’r gallu i greu cod yn ymwneud â chymaint o feysydd pwnc a gyrfaoedd cyffrous, ac mae ganddo'r gallu i greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ac athrawon. Yr wythnos nesaf, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer sut yr ydym yn mynd i gefnogi ein dysgwyr ymhellach i ddatblygu sgiliau codio yn yr ystafell ddosbarth ac o’i chwmpas. Byddaf yn nodi yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'r consortia addysg rhanbarthol, prifysgolion, busnesau, a'r trydydd sector i ehangu'r rhwydwaith o glybiau codio ym mhob rhan o Gymru. Bydd y dull gweithredu yn canolbwyntio ar gymorth ar gyfer athrawon, ymgysylltu agosach rhwng ysgolion a phartneriaid creadigol, a swyddogaeth gryfach o ran ymgysylltu â rhieni.
Hoffwn i orffen y diweddariad hwn drwy gyflawni un o argymhellion eraill Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer addysg yng Nghymru, a hynny yw bod yn well am ddathlu ein llwyddiannau. Disgrifiwyd ein dull yn ddiweddar gan Microsoft fel bod o ‘safon fyd-eang’, a dywedwyd ein bod ‘ar flaen y gad’ o ran ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Yr wythnos nesaf, byddaf yn siarad â 350 o athrawon yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol pryd y rhoddir gwobrau i barhau i ddathlu arferion gorau presennol yn ein hysgolion. Mae hon yn agenda uchelgeisiol, gyffrous, ac arloesol, sy’n golygu y gallwn fod yn falch bod Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer ein hathrawon ac ar gyfer ein dysgwyr.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac am gopi ymlaen llaw o'r datganiad, a ddosbarthwyd yn gynharach heddiw? Rwyf eisiau croesawu'r cyhoeddiad o’r £5 miliwn ychwanegol heddiw er mwyn gwella cyflymder band eang yn ein hysgolion. Rydym ni’n gwybod mai dim ond eleni—yn gynharach eleni—y mae rhai ysgolion wedi cael cysylltiad band eang o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol. Mae’n amlwg bod angen i ni bellach wneud yn sicr ein bod ni’n gyfan gwbl ar flaen y gad o ran manteisio ar y cyfleoedd y mae mynediad at fand eang a band eang cyflym iawn yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Yn sicr, mae fy mhlaid i yn cydnabod y pwysigrwydd o sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael eu paratoi yn ddigidol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyma un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno dadl dim ond ychydig wythnosau yn ôl ar bethau fel diogelwch ar y rhyngrwyd—ac, wrth gwrs, mae pwysigrwydd codio yn rhywbeth yr ydym wedi ei godi yn y gorffennol, hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod peth cynnydd pwysig yn cael ei wneud ar y materion hynny, ac roeddwn yn arbennig o falch o’ch clywed chi’n cyfeirio at gael hidlyddion gwe priodol ar waith yn ein hysgolion hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i ddathlu llwyddiant, ac rwyf innau hefyd eisiau llongyfarch Llywodraeth Cymru ar sefydlu Hwb, ac mae'n braf gweld bod hyn yn cael rhywfaint o sylw yn rhyngwladol. Yn anffodus, fel y gŵyr pob un ohonom, rydym wedi cael gormod o sylw rhyngwladol ar gyfer ein perfformiad difflach yn y blynyddoedd diweddar, felly mae'n wir yn braf bod yn arwain ar rywbeth, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni wir barhau i sôn amdano yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod yn achos pryder nad yw chwarter ein hysgolion—un o bob pedair—yn defnyddio Hwb yn rheolaidd. Fe wnaethoch gyfeirio at y ffaith bod 75 y cant o'n hysgolion yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mae hynny'n golygu bod gennym chwarter o hyd nad ydyn nhw’n gwneud defnydd o'r adnodd gwych sydd yno, ar gael iddyn nhw. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith yr ydych yn mynd i fod yn ei wneud i'w hannog i fanteisio ar hyn, oherwydd gwyddom fod llawer o ysgolion yn canfod eu bod yn cael profiad llawer cyfoethocach o ran y gallu i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein hynny a dod â nhw a’u cyflwyno i'r ystafell ddosbarth.
A gaf i hefyd ofyn i chi—? O ran cyflymder uwch y band eang, wrth gwrs ei fod yn bwysig, ond hefyd mae’n bwysig bod gennym seilwaith TG sy’n gallu manteisio ar hynny. Rwyf wedi bod mewn cymaint o ysgolion sydd weithiau yn defnyddio offer eithaf hen a allai fod angen eu huwchraddio, ac roeddwn i’n meddwl tybed pa waith yr ydych chi’n bwriadu ei wneud gydag awdurdodau lleol i sicrhau y ceir buddsoddiad priodol mewn seilwaith TG yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau ei fod yn safonol a bod y gwasanaethau band eang cyflymder uwch yn mynd i fod yn werth chweil, mewn gwirionedd, wrth gael eu defnyddio ar rai o'r offer hŷn hynny. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw’r disgyblion hynny, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais yn ddigidol drwy beidio â chael cysylltiad band eang yn eu cartrefi eu hunain, yn colli’r ras yn y chwyldro digidol hwn sy’n digwydd yn ein hysgolion? Oherwydd, yn amlwg, os yw plentyn, os yw dysgwr, yn mynd adref ac nad yw’n gallu gwneud ei waith cartref ar-lein yn yr un modd â phlant eraill, neu i barhau i ddatblygu’r sgiliau hynny y maen nhw wedi bod yn eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yna rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni geisio cael strategaeth i oresgyn hynny, ac roeddwn i’n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd lwyddiannus a pha drafodaethau y gallai hi fod wedi'u cael gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyflwyno Cyflymu Cymru? Nodaf fod yna ddatganiad ar gyflwyno Cyflymu Cymru y prynhawn yma.
Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd yr ydych chi’n mynd i gyhoeddi cynllun gweithredu o ran y cynllun gweithredu diogelwch rhyngrwyd a gyfeiriwyd ato rai wythnosau yn ôl yn y Siambr, pryd y gwnaethoch chi gyhoeddiad pwysig eich bod yn mynd i ddatblygu hynny? Oherwydd, mae’n amlwg bod y pethau hyn yn mynd law yn llaw. Os ydym ni’n mynd i gael gwell mynediad at y rhyngrwyd, yna mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny’n gwbl ddiogel a bod unrhyw ganllawiau ar gyfer ei ddefnyddio yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r sefyllfa hon sy'n datblygu'n gyflym iawn, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc a allai fod yn agored i niwed wrth ddefnyddio systemau TG.
Ac, yn olaf, a allwch chi ein sicrhau y byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y datblygiadau hyn? Fel y dywedais, rwy’n credu ei fod yn gyffrous. Mae'n braf gwybod ein bod ni ar flaen y gad o ran y mater hwn, ac ein bod ni’n cael rhywfaint o glod rhyngwladol, ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwybodaeth ar gynnydd yn gyson ac yn rheolaidd, er mwyn i ni allu sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn y sefyllfa arweiniol honno, nid yn unig o fewn y DU, ond o gwmpas y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’n bwysig iawn i mi bod pawb yn cael yr un cyfle i gael gafael ar y cyfleusterau hyn, ac rydych chi’n iawn wrth ddweud bod rhai ysgolion nad oeddent, tan yn ddiweddar, mewn sefyllfa i allu defnyddio'r DCF a gwneud y math o waith y maen nhw’n awyddus i’w wneud yn ddigidol oherwydd diffyg seilwaith. Roedd y Llywodraeth flaenorol wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau cyflymderau gofynnol ar gyfer ysgolion ac, yn anffodus, pan ddeuthum i’r swydd, canfûm fod nifer o ysgolion nad oeddent yn cyrraedd y targed hwnnw. Rwy'n falch iawn i ddweud bod pob ysgol yn cyrraedd y targed gofynnol erbyn hyn. Mae’r problemau hynny wedi eu datrys, ac mae pob ysgol ar y cyflymderau gofynnol erbyn hyn.
Mae'r £5 miliwn—a dylwn i fod yn glir; nid cyhoeddiad heddiw yw hwnnw, arian yr wyf i wedi’i gyhoeddi yn flaenorol ydyw, ac rwy'n adrodd yn ôl i'r Cynulliad heddiw ar y defnydd o’r £5 miliwn hwnnw, er eglurder. Bydd y buddsoddiad o £5 miliwn yn gallu gwella cyfleusterau ymhellach ar gyfer 341 o ysgolion. Mae’r penderfyniadau hynny wedi eu gwneud ar y cyd ag awdurdodau lleol ac yn ymwneud â chapasiti y maen nhw’n gwybod sy’n broblemus, cynnydd yn y galw a ble maen nhw’n teimlo y ceir problemau penodol, ac, yn bwysig i mi, gwella capasiti yn ein hysgolion arbennig. O dan y targed blaenorol, roedd ysgolion arbennig yn cael yr un cyflymder gofynnol ag ysgolion cynradd. Gwnaethpwyd hynny fel arfer ar sail bod eu cofrestrau yn llai nag ysgol uwchradd, ond wrth gwrs mae disgyblion oedran uwchradd yn ein hysgolion arbennig yn aml, ac mae'n ymddangos i mi yn deg eu bod yn gallu cael gafael ar yr hyn y byddent yn ei gael pe byddent yn yr ysgol uwchradd prif ffrwd, a hefyd oherwydd y ffordd arloesol iawn y mae llawer o'n hysgolion arbennig yn defnyddio technoleg ddigidol i gael gafael ar gyfleoedd dysgu ar gyfer cymaint o'u dysgwyr. Felly, rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hynny yn y buddsoddiad.
Darren, rydych chi hefyd yn gywir bod yr offer y tu allan i'r ysgol yn un peth, ond os nad oes gennym seilwaith priodol o fewn yr ysgol, yna ni fydd y buddsoddiad hwn yn cyrraedd ei botensial llawn. Weithiau, pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion, mae pobl yn cwyno wrthyf am ddiffyg band eang, ond mewn gwirionedd problemau cysylltedd o fewn adeilad yr ysgol ei hun sydd yn achosi’r broblem. Felly, byddwn ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar rwydweithiau lleol, capasiti Wi—Fi mewn adeilad ysgol unigol, a hefyd, yn hollbwysig, cymorth o’r canol—ein cynghorau—i ysgolion yn y defnydd o'u TGCh. Byddwn angen iddyn nhw barhau i wneud hynny.
Mae angen i ni hefyd herio rhai ymddygiadau. Soniasoch am hidlyddion y we a diogelu plant, ond weithiau gall hidlyddion y we gael eu defnyddio mewn ffordd sydd yn cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud â TGCh, mewn gwirionedd. Rwy'n ymwybodol o un awdurdod lleol penodol yng Nghymru lle nad yw hidlydd y we yn caniatáu defnyddio Skype. Felly, mewn un sir gallwn gael plant ysgol yn siarad ag arloeswr yn yr Antarctig drwy Skype, a hynny yn llythrennol i lawr ym Mhegwn y De, a gallant gael y sgwrs honno â’r arloeswr hwnnw, ond mewn awdurdod arall, oherwydd materion sy’n ymwneud â hidlyddion y we, ni allant ddefnyddio Skype. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â’r mathau hynny o broblemau sy'n cyfyngu ar ein gallu i ddefnyddio’r dechnoleg hon.
Soniasoch am anfantais llythrennedd. Rwy’n ymwybodol bod rhai ysgolion yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i ymdrin â materion fel hyn. Yn wir, yn Bryn Elian, lle'r aethom ni’n dau ar ymweliad, byddwch yn ymwybodol bod yr ysgol honno yn anfon cyfrifiaduron Raspberry Pi adref gyda’r plant fel eu bod mewn gwirionedd yn gallu gwneud eu gwaith yn amgylchedd y cartref. Felly, ar gyfer y plant hynny nad oes gan eu rhieni efallai yr adnoddau hynny, mae'r ysgol yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y broblem yn cael ei goresgyn. Dyna enghraifft dda iawn o arfer da yn eich etholaeth chi y byddwn yn ei chanmol. Fel y gwyddoch, ac fel y gwnaethoch gyfeirio ato, bydd fy nghyd- Aelod yn gwneud datganiad yn ddiweddarach ar gyflwyno band eang cyflym iawn, ac rwy'n awyddus iawn na fydd neb dan anfantais. Mae’n rhaid i lawer o'r plant hyn fynd adref ar ddiwedd y diwrnod ysgol oherwydd problemau cludiant ysgol, ac os ydyn nhw mewn cymuned lle nad oes mynediad at y dechnoleg hon, maen nhw wir dan anfantais. Nid oes yr un diwrnod yn mynd heibio pan nad yw fy merched yn dod o'r ysgol â gwaith cartref sy’n gofyn am iddynt wneud rhywfaint o ymchwil ar y rhyngrwyd.
O ran diogelwch, mae gan Hwb lawer o adnoddau sy’n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd, ac rydym yn parhau i weithio'n agos iawn i sicrhau bod gan ein plant y sgiliau, yr wybodaeth a'r modd i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein. Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bo modd. Rwy'n awyddus i wneud hynny yn brydlon.
A gaf i hefyd groesawu’ch datganiad chi y prynhawn yma, a chroesawu unwaith eto’r ffaith bod cymhwysedd digidol yn agwedd trawsgwricwlaidd ac yn rhan ganolog o gynlluniau addysg y Llywodraeth yma? Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw yn y gorffennol i lythrennedd digidol gael ei ystyried yn gyfartal â llythrennedd a rhifedd. Yn amlwg, felly, rŷm ni’n croesawu pob symudiad pellach i’r cyfeiriad yna.
A gaf innau hefyd dystio fel rhiant i lwyddiant Hwb? Yn sicr, yn ein tŷ ni, mae’r plant llawer mwy parod i fynd i wneud eu gwaith ar Hwb yn hytrach na mynd i dwrio mewn llyfrau. Mae rhywun yn cydnabod bod angen y ddau, wrth gwrs, ond yn sicr mae ei gyfraniad e yn fawr iawn ac un i’w groesawu ac i’w adeiladau arno ymhellach, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei awgrymu.
Fel rŷm ni wedi ei glywed, mae cael band llydan i fwy o ysgolion yn un peth, wrth gwrs. Mae sicrhau bod yr isadeiledd yn ei le yn beth arall. Ond wrth gwrs, yr hyn hefyd sydd ei angen yw sicrhau bod y caledwedd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod am un ysgol, er enghraifft, lle os oes mwy na dau ddisgybl yn defnyddio iPad ar yr un pryd, mae’r holl system yn ‘crash-o’. Wel, o gael y band llydan yn ei le, yna mae angen bod 20 o ddisgyblion yn defnyddio iPads, ond nid oes gan yr ysgol 20 o iPads. Felly, mae angen buddsoddiad cyfalaf mewn prynu offer i gymryd mantais lawn o’r isadeiledd newydd a fydd yn cael ei roi yn ei le.
Yn yr hinsawdd lle mae cyllidebau ysgolion, wrth gwrs, yn lleihau, rwy’n gwybod, er enghraifft, am ysgol arall lle mae angen gwario £5,000 i £7,000 ar brynu cyfarpar os ydyn nhw’n mynd i gytundeb gyda darparwyr eraill am wasanaethau IT. Mae hynny’n anodd. Felly, nid wyf yn gwybod pa ystyriaeth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei rhoi i, o bosibl, greu rhyw fath o gronfa neu ryw fath o gymorth ymarferol i ysgolion sydd angen nawr, neu a fydd angen am y tro cyntaf, manteisio’n llawn ar y capasiti band eang a fydd gyda nhw er mwyn sicrhau bod eu disgyblion nhw yn cael y budd gorau o’r buddsoddiad hwnnw.
Rwyf hefyd yn clywed y pwynt ynglŷn â’r ffaith bod yna rai pobl heb fynediad i’r we. Wel, mae yna bobl eraill, wrth gwrs, adref â mynediad i’r we ond nid yw’n ddigon da. Rwyf i’n un ohonyn nhw. Mae fy mhlant i’n aml wedi cychwyn ar eu gwaith ar Hwb ond wedi methu cwblhau’r gwaith oherwydd bod y capasiti band eang ddim yn ddigonol i gynnal y sesiwn yna. Felly, mae yna gwestiwn yn aros. Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at ‘parental engagement’. Wel, yr ‘engagement’ rydw i’n ei gael gyda Hwb yw un o rwystredigaeth lwyr pan nad yw’r system yn gweithio oherwydd y problemau hynny. Efallai y cawn glywed mwy mewn datganiad sydd i ddilyn.
Nid oes angen i mi eich atgoffa chi, ond mi wnaeth arolwg o’r gweithlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar ddangos fod technoleg gwybodaeth a sgiliau digidol yn un o’r meysydd lle mae’r gweithlu’n dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw angen llawer mwy o hyfforddiant ynddo. Mae 46 y cant, rwy’n credu, wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw angen mwy o hyfforddiant yn y maes yma.
Nawr, mi gyfeirioch chi at gyfleoedd sydd yn mynd i gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf, efallai, ond fe liciwn i wybod pa drefniadau sydd yn eu lle i sicrhau bod y potensial llawn yma yn cael ei wireddu, oherwydd amser i hyfforddi yw’r ‘issue’ rwyf wedi ei godi gyda chi yn y gorffennol. Mae’n anodd gweld—os ydym ni am wneud defnydd llawn o’r cyfle sydd o’n blaenau ni, yna mae’n rhaid sicrhau bod y gweithlu â’r sgiliau angenrheidiol, yn enwedig, wrth gwrs, pan rydym yn sôn am ddatblygu codio a mwy o weithgarwch o gwmpas hynny, sydd yn gofyn am lefel uwch o sgiliau yn y maes yma.
Diolch i chi, Llyr, am eich cefnogaeth ar gyfer pwysigrwydd cymhwysedd digidol ac am gydnabod ei bod yn gwbl hanfodol i’n plant fod yn gymwys yn ddigidol os ydym ni’n bwriadu rhoi'r cyfleoedd gorau iddyn nhw gystadlu yn y farchnad fyd-eang. O ran Hwb—ac ymddiheuriadau am beidio ag ateb cwestiwn Darren Millar yn y sesiwn gyntaf—mae'n galonogol iawn gweld y defnydd cynyddol o Hwb, a chydnabyddiaeth o’r gwerth y gall yr adnoddau sydd ar gael ar Hwb ei gynnig.
Rwyf hefyd yn falch iawn o gael ymgysylltu â nifer eang o randdeiliaid sydd hefyd yn gweld y gwerth mewn gweithio ar adnoddau addysgol sydd, ar yr amod eu bod yn ddwyieithog a’n bod wedi eu gwirio, rydym ni’n hapus i roi lle iddynt. Felly, er enghraifft, cymerais ran yn ddiweddar mewn digwyddiad gyda gwasanaethau tân Cymru—maen nhw’n rhannu eu hadnoddau ar Hwb. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru wedi rhannu eu hadnoddau ar Hwb, a gwn, er enghraifft, yn ystod yr haf, yn Sioe Frenhinol Cymru, y bydd Hybu Cig Cymru yn lansio rhai adnoddau addysgol yr ydym yn gobeithio gallu rhoi lle iddynt ar Hwb. Felly, mae'n wych gweld nad ysgolion yn unig sy’n cymryd rhan, ond hefyd amrywiaeth eang o sefydliadau ledled Cymru sy'n gweld hyn fel ffordd werthfawr o gyfathrebu â phlant ysgol.
Ond, rydych chi'n iawn; mae angen i ni nodi pa ysgolion nad ydynt yn ymgysylltu â Hwb a deall y rhesymau dros hynny a beth yr ydym ni’n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. A oes rhwystrau o ran seilwaith? Gobeithio y bydd y buddsoddiad yr ydym ni’n ei wneud yn golygu na fydd hynny yn broblem bellach o ran band eang cyflym iawn a chyflymder band eang digonol i'r ysgolion eu hunain.
Nid oes neb wedi dweud wrthyf bod caledwedd yn broblem benodol, ond heb os, rwy’n ymwybodol bod rhieni a Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon a ffrindiau ysgolion yn aml yn gweithio’n galed iawn yn y maes hwn, mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hynny ar gael i’n pobl ifanc, a byddaf yn parhau i adolygu pa un a yw hyn yn rhwystr i ysgolion sy’n defnyddio ein platfformau penodol. Gall seilwaith yn yr ysgol fod yn broblem ac, fel y dywedais wrth Darren Millar, rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio mynd i'r afael â hynny. Nid yw cysylltiadau band eang yn y cartref yn rhan o fy swyddogaeth. Fy ngwaith i yw sicrhau’r cysylltiadau band eang i'r ysgol. Rydym ni wedi dod â phawb i fyny at y cyflymder gofynnol. Rydym yn gwella hynny gyda 341 o ysgolion. Ond rwy'n siŵr y bydd Julie James yn esbonio'n glir iawn yn nes ymlaen sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau y bydd cysylltiadau band eang ar gyfer defnydd cartref yr hyn y byddem ni i gyd yn dymuno iddyn nhw fod.
Mae dysgu proffesiynol yn gwbl allweddol ac mae angen i ni weithio ar hyn ar sawl lefel. Byddwch yn ymwybodol, fel y soniais yn fy natganiad, mai'r peth cyntaf y mae angen i ni ei wneud yw gallu asesu beth yw'r anghenion dysgu proffesiynol. Dyna pam mae’r offeryn hunanasesu Hwb, sydd bellach wedi ei ailenwi yn offeryn anghenion dysgu proffesiynol DCF, yn cael ei ddatblygu gan ein hysgolion arloesol. Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru ar gael nawr. Mae ganddi nodwedd newydd, sy’n cynorthwyo athrawon i asesu eu sgiliau a'u hyder. Mae'n cynorthwyo cydgysylltwyr DCF mewn ysgolion i nodi anghenion dysgu proffesiynol o fewn eu hysgol eu hunain a’i diben yw cynorthwyo a datblygu cymorth proffesiynol i staff. Mae hefyd yn caniatáu i awdurdodau addysg lleol a chonsortia nodi beth yw’r anghenion dysgu yn eu hardal benodol fel y gallant addasu eu rhaglenni dysgu proffesiynol a’r hyn sydd ar gael i ddiwallu'r anghenion hynny.
Felly, mae nodi'r angen yn un peth ac yna mae’n rhaid i ni edrych ar beth yw’r cynigion hynny. Ac mae’r cynigion hynny yn niferus ac yn amrywiol. Felly, er enghraifft, lansiais adnoddau Barefoot ar Hwb yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri. Mae gan adnoddau Barefoot ddeunydd dysgu eich hunan yn benodol ar gyfer staff. Ddoe, roeddwn i mewn ysgol yn Llandochau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a dywedodd yr athrawon yno eu bod nhw wedi mwynhau dysgu ochr yn ochr â'u disgyblion yn fawr iawn, ac mewn gwirionedd, bod cael disgyblion i esbonio iddynt wedi gwella eu sgiliau a hefyd, bod hynny'n ffordd wych o brofi’r broses o ddysgu. Os gall disgybl egluro i chi beth sy'n digwydd, mae hynny'n ffordd wych o wybod bod dysgu yn cael ei ymwreiddio yn ogystal â datblygu sgiliau eraill. Ond mae angen dull cenedlaethol ac mae hwnnw’n cael ei ddatblygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o swyddi o’r blaen i hyfforddi athrawon i ddefnyddio Hwb. Ac, fel y dywedais, bydd anghenion dysgu proffesiynol parhaus ein staff yn gwbl hanfodol wrth gyflawni'r agenda hon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy’n croesawu eich datganiad am y buddsoddiad mewn codio yn y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn ac rwy'n gobeithio, o ystyried y cyfleoedd sydd ar gael oherwydd codio, bod y cyhoeddiad yn ddigon mawr i allu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rwyf hefyd yn cydnabod eich sylwadau bod y DCF a Hwb yn cael eu canmol ar draws y byd a dylem longyfarch bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiectau hynny am inni gael cydnabyddiaeth o’r fath. Ond, wrth gwrs, dylem ni fod yn ofalus. Nid ydym yn brin o gael ein strategaethau wedi eu cydnabod ledled y byd fel rhai arloesol, ond gwyddom mai eu rhoi ar waith yw'r rhan anodd. A dylem fod yn bryderus am sylwadau Estyn yn adroddiad blynyddol diwethaf y prif arolygydd am lefelau rhagoriaeth digidol mewn ysgolion ledled Cymru. Er, wrth gwrs, mae hyn yn codi'r cwestiwn a yw Estyn yn y sefyllfa orau i wneud y sylwadau hynny. A fyddai Estyn yn cydnabod ymarfer da mewn dysgu digidol ac a oes ganddynt y sgiliau a'r gallu i fod mewn sefyllfa i asesu hynny? Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywbeth am hynny.
Mae fy mhrif gwestiwn, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud â’r angen am arweiniad yn y maes hwn a'r angen i benaethiaid a thimau arwain ysgolion weld dysgu digidol fel bod yr un mor bwysig â rhifedd a llythrennedd a beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gosod arweinyddiaeth ddigidol ymhlith penaethiaid y dyfodol ar sail gyfartal.
Diolch yn fawr iawn, Lee, am hynna. Fel y dywedasoch, gweithredu yw popeth ac ni fydd y ddogfen ynddi ei hun yn golygu llwyddiant. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n hollol amlwg yw, wrth sicrhau gweithredu llwyddiannus, bod angen nifer o ffactorau arnom ni. Mae angen athrawon unigol arnom ni sy'n teimlo'n hyderus a medrus wrth ddefnyddio'r DCF, ac amlinellais i Llyr rai o'r ffyrdd rhagweithiol yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i athrawon presennol. Mae angen i ni sicrhau y bydd hyn, yn ein haddysg athrawon cychwynnol, wrth hyfforddi ein cenhedlaeth newydd o athrawon, pan fyddant yn ystyried materion addysgeg yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd, yn rhan o’n cynnig Addysg Gychwynnol i Athrawon newydd fel bod gan athrawon sy’n dod allan o'n sefydliadau addysg uwch y sgiliau hyn eisoes a’u bod yn teimlo'n hyderus ac yn wybodus am sut y gall llythrennedd digidol weithio yn eu holl wersi.
Mae arweinyddiaeth, fel bob amser, ym mhob agwedd ar wella ysgolion a chodi safonau yn ein hysgolion, yn gwbl glir. Mae rhaglenni a fydd yn cael eu darparu gan yr academi arweinyddiaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond o ystyried mai pwysigrwydd cymhwysedd digidol ochr yn ochr â rhifedd a llythrennedd, yw’r tair thema sy’n darparu’r seiliau ar gyfer ein taith diwygio addysgol, byddai rhywun yn disgwyl ac, yn wir, yn mynnu i arweinwyr ysgolion allu dangos eu hymrwymiad a'u cymhwysedd yn y maes penodol hwn.
O ran asesu a phwy sydd orau i farnu beth sy'n digwydd yn ein hysgolion, rwy’n credu, fel unrhyw sefydliad wrth i dechnoleg newydd ddatblygu, bod yn rhaid i sefydliad brofi ei hun o ran pa un a oes ganddo'r agweddau iawn at farnu eraill. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae Estyn eisoes yn adolygu ac wedi gwneud addasiadau i'w fframwaith presennol o arolygu ysgolion. Ar hyn o bryd, maen nhw’n datblygu fframwaith newydd ar gyfer y ffordd y maen nhw’n arolygu awdurdodau addysg lleol unigol, ond rwy'n sicr y byddai Estyn y cyntaf i ddweud y bydd yn rhaid edrych ar eu hymagwedd gyffredinol o ran sut y gall Estyn gyfrannu at wella ysgolion, a bydd yn rhaid edrych ar ei swyddogaeth yn ein cenhadaeth genedlaethol o wella addysg, ar ryw adeg.
Diolch. Ac yn olaf, Michelle Brown.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad i'r amcan o sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gymwys yn ddigidol erbyn iddo adael yr ysgol. Mewn gweithleoedd modern, ychydig iawn o swyddi sy’n bodoli lle nad oes angen ryw lefel o gymhwysedd mewn technoleg ddigidol, a phrin iawn yw’r meysydd o fywyd lle nad yw'n ymestyn iddynt erbyn hyn. Felly, rwy'n falch o’r ffaith bod sgiliau o'r fath yn rhan annatod o'r cwricwlwm. Hefyd, rwy’n croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i addysgu disgyblion am fwlio seiber drwy'r fframwaith cymhwysedd digidol.
Mae croeso i’r cyflwyniad o offeryn mapio cwricwlwm a’r offer anghenion proffesiynol sydd wedi eu diweddaru, ac o'r hyn yr ydych chi’n ei ddweud wrthym am fanteisio ar yr adnoddau ar-lein newydd, mae'n ymddangos bod yr athrawon a'r disgyblion yn eu gweld yn ddefnyddiol. Rwy’n croesawu eich ymdrechion hefyd i gynorthwyo a chefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau addysgu er mwyn cadw’n gyfredol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym. Rydych chi’n datgan y bydd dull dysgu proffesiynol newydd ar gael o dymor yr hydref. Mae'r cysyniad hwn yn swnio'n ddiddorol, ond nid ydych wedi darparu unrhyw wybodaeth yn eich datganiad am beth y gallai hyn ei olygu, a sut y mae’r dull newydd yn debygol o edrych. Felly, a wnewch chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am hyn?
Mae nifer y defnyddwyr sy’n manteisio ar Hwb yn dangos bod yr adnoddau yn boblogaidd o leiaf, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod datblygiad parhaus Hwb yn cael ei seilio ar sylwadau gan athrawon a chonsortia addysgol rhanbarthol. Rwy'n falch o ymdrechion Ysgrifennydd y Cabinet i gynnwys rhanddeiliaid o'r fath yn y gwaith o ddatblygu adnoddau ar-lein, ond mae hyn hefyd yn gwneud i mi feddwl pam nad yw rhieni yn cael yr un fraint, o gael eu barn wedi’i cheisio a’i hystyried mewn adroddiadau ar ansawdd ysgolion, yn yr un modd ag y mae safbwyntiau athrawon a chonsortia rhanbarthol yn cael eu ceisio a'u hystyried ynglŷn ag ansawdd adnoddau ar-lein.
Bydd mwy o ddibyniaeth ar offer ar-lein a TG yn yr ystafell ddosbarth, wrth gwrs, yn arwain at fwy o bwysau ar fand eang yr ysgol, ac rwy’n cytuno â chi ei bod yn annerbyniol i ysgol fod dan anfantais o ganlyniad i gyflymder rhyngrwyd gwael. Felly, rwy’n croesawu'r cyllid ychwanegol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i neilltuo ar gyfer gwella band eang mewn ysgolion. Fodd bynnag, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet osod beth yw'r meini prawf cymhwysedd i gael buddsoddiad o’r gronfa honno ar gyfer band eang yr ysgol, ac ar ba sail na fyddai ysgol yn cael y cyllid hwnnw? Pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer ysgol y gwrthodwyd cyllid iddi ar gyfer gwelliannau i'w band eang, allu apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod cyllid?
Nodaf sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet am y datblygiad sgiliau codio mewn ysgolion. Mewn egwyddor, mae addysgu'r sgiliau sylfaenol i ddisgyblion a fydd yn eu galluogi i gael swyddi technolegol i’w groesawu. Mae addysgu’r sgiliau hynny yn hanfodol wrth ymdrechu i arfogi’r bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn well ar gyfer y byd gwaith ac i ysgogi diddordeb mewn astudio codio a data diogelwch, ac ati, os ydym yn mynd i gynhyrchu ein harbenigwyr TG ein hunain, yn hytrach na rhoi hyfforddiant ac addysg o'r fath ar gontract allanol, i bob pwrpas, i wledydd eraill. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed eich datganiad ar ddatblygu sgiliau codio yr wythnos nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Michelle, am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod yn galluogi ein plant i gael yr wybodaeth am sut y gallant aros yn ddiogel ar-lein, sut y gallant ddefnyddio technoleg mewn bywyd bob dydd, ond hefyd, yn allweddol, fel y dywedasoch ar y diwedd, bod eu gwybodaeth yn mynd y tu hwnt i hynny ac mewn gwirionedd eu bod yn deall gweithrediadau sut y mae’r dechnoleg honno yn cael ei chreu a manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sylweddol a fydd yn bodoli wrth fod â sgiliau codio.
Nid wyf am farnu ymlaen llaw yr hyn y byddaf yn ei ddweud yr wythnos nesaf ynghylch strategaeth y Llywodraeth ar godio, ond i fod yn glir, fy uchelgais i yw bod mwy o blant yn cael mynediad at y sgiliau hynny ac at y cyfleoedd hynny, ac mae hynny’n mynd y tu hwnt i blant. Rwy’n gweithio'n agos iawn â fy nghydweithiwr Cabinet dros sgiliau i weld sut y gall y sgiliau hynny gael eu cyflwyno i ddysgwyr sy'n oedolion, a sut y gall pobl, efallai nad ydynt ar hyn o bryd yn y gweithle, gael y sgiliau hynny. Maen nhw’n sgiliau sy'n golygu y gellir goresgyn anfantais logistaidd, h.y. pan eich bod yn gaeth i gymuned sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwael i allu cyrraedd dinas fawr, os yw'r seilwaith band eang cyflym iawn yn ddigon da, gallwch wneud hynny o'ch cartref. Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu ac na allwch weithio oddi cartref, gallwch godio a gweithio i gwmni llwyddiannus yn eich cartref eich hun. Felly, mewn gwirionedd, mae hyn yn mynd y tu hwnt i ddim ond codio ar gyfer pobl iau, mae'n ymwneud â defnyddio’r sgiliau hyn er mwyn gallu ymrymuso y gweithlu yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.
O ran y meini prawf, ar gyfer y 341 o ysgolion sydd wedi cael eu cefnogi gan £5 miliwn hwn, mae’r sgyrsiau hynny wedi'u cael gydag awdurdodau lleol unigol sydd wedi nodi ysgolion sydd â phroblemau sylweddol o ran cynyddu eu cyflymder band eang, y mae eu cofrestrau, efallai, yn cynyddu oherwydd uno ysgolion neu gau ysgolion, a gallai ailsefydlu patrwm gwahanol o fewn yr ysgol olygu y gallai ei chael hi’n anodd, yn ogystal â nodi adnoddau ar gyfer ein hysgolion arbennig, a oedd, fel yr amlinellais, â chyflymder is wedi’i osod ar eu cyfer yn wreiddiol ac rydym ni’n awyddus i fynd i'r afael â hynny, oherwydd yr anghenion penodol unigol sydd gan ysgolion arbennig ynghylch y math hwn o dechnoleg. Byddwn yn parhau i adolygu yn gyson digonolrwydd y seilwaith sydd ar gael.
O ran codio, fel y dywedais, mae hynny'n bwysig iawn ac mae rhieni yn rhan bwysig o'r drafodaeth gyfan hon; nid yw hyn yn ymwneud ag eithrio rhieni o'r drafodaeth hon. Mae llawer o ysgolion, rwy’n gwybod, yn gweithio'n agos iawn gyda'u cymunedau rhieni i rannu arfer da, i rannu, er enghraifft, cyngor ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd, er mwyn gallu rhoi cyfleoedd ar ôl ysgol i rieni ddod i mewn a deall yr hyn y gallant ei wneud yn rhwydd gartref gyda hidlyddion, ac ati, i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag eithrio rhieni o hyn; mewn gwirionedd, rydym ni’n awyddus i gynyddu ymgysylltiad rhieni a’u dealltwriaeth o sut y gall yr adnoddau hyn fod o gymorth mawr i gyrhaeddiad academaidd ac addysgol eu plant.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen nawr at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y genomeg—genomeg; ie, dyna ni, ar gyfer y strategaeth meddygaeth fanwl. Mae'n ddrwg gen i, rwyf i wedi cael sbectol newydd ac nid wyf yn gallu darllen yn iawn. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ar y 12 Ebrill eleni, cyhoeddais ymgynghoriad y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein cynllun i ddefnyddio technolegau genomeg newydd i wella iechyd a ffyniant pobl Cymru. Trwy gyfrwng y strategaeth, rydym ni eisiau i bobl ledled Cymru allu cael diagnosis cyflymach a mwy cywir a gwell gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth. Rydym ni hefyd eisiau defnyddio’r technegau diweddaraf i ragweld clefydau’n well a chael gwell dealltwriaeth o achosion o glefydau.
Mae technolegau genetig a genomig newydd yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth lawer fwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd. Mae profion labordy genetig traddodiadol yn defnyddio dulliau dilyniannu sy'n dadansoddi genyn unigol neu ran o enyn i nodi newidiadau DNA sy'n achosi afiechydon. Fodd bynnag, mae dyfodiad diweddar technegau dilyniannu cenhedlaeth nesaf, mwy newydd, wedi galluogi astudiaeth o ddegau, cannoedd os nad miloedd o enynnau, neu hyd yn oed holl DNA neu genom person, ar yr un pryd. Mae datblygiadau cyfochrog ym maes TG, storio, rhannu a dadansoddi data wedi ein galluogi i graffu ac arsylwi ar lawer iawn o wybodaeth a gynhyrchir gan y math hwn o ddilyniannu, ac yna ei ddadansoddi. Mae’r maes hwn yn newid yn gyflym ac mae cost technolegau genomig yn parhau i ostwng. Mae'r strategaeth yn cynnig sail i ni ddarganfod manteision iechyd ac economaidd y technolegau hyn i bobl Cymru.
Mae'r technolegau genetig a genomig newydd yn dod chwarae rhan gynyddol yn y ddarpariaeth o feddyginiaeth fodern. Maen nhw’n cael effaith ar nifer ehangach o arbenigeddau clinigol, gan alluogi clinigwyr i ddeall clefyd unigol claf yn well a chynnig diagnosis mwy cywir ac amserol. Maen nhw hefyd yn alluogwyr meddygaeth fanwl: datblygu triniaethau penodol ar gyfer unigolion, yn hytrach nag ar gyfer y boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Er enghraifft, mae ein dealltwriaeth o sail enetig canser bellach yn cefnogi’r ddarpariaeth o therapïau penodol i gleifion. O ran canser yr ysgyfaint, er enghraifft, nodwyd pedwar arwydd genetig, ac mae'r rhain yn caniatáu i glinigwyr gynnig y triniaethau sydd fwyaf tebygol o atal twf tiwmorau, eu crebachu a chynyddu ansawdd a hyd bywyd. Oherwydd bod gan bob clefyd unigol arwyddion genetig lluosog yn aml, mae'n fwy cost-effeithiol ac yn gyflymach profi ar gyfer yr holl enynnau, neu sawl gennyn, ar yr un pryd. Drwy'r strategaeth, bydd cyllid yn cael ei ddarparu i wasanaeth geneteg meddygol Cymru Gyfan y GIG i ddarparu dadansoddiad panel genynnau i edrych ar dargedau lluosog ar gyfer canser yr ysgyfaint ar yr un pryd. Bydd hyn yn caniatáu i glinigwyr wneud gwell penderfyniadau am opsiynau triniaeth a hefyd yn caniatáu i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol arloesol.
O ran clefydau anghyffredin, mae technolegau genetig a genomig yn galluogi diagnosis cyflymach a mwy cywir. Ceir sail enetig i’r rhan fwyaf o glefydau anghyffredin, ond mae'n aml yn cymryd amser hir i gleifion dderbyn diagnosis, os cawn nhw un o gwbl. Ac mae hynny’n gadael cleifion a'u teuluoedd heb fawr o wybodaeth ynghylch y peryglon i’w teuluoedd a'r opsiynau ar gyfer triniaeth neu reoli eu cyflwr. Hefyd, mewn cyflyrau cymhleth fel rhai anableddau deallusol, mae angen edrych ar fwy na 1,000 o enynnau. Bydd y gallu i ddadansoddi mwy o enynnau ar yr un pryd yn golygu y bydd gan fwy o gleifion â chlefydau anghyffredin ac anabledd deallusol fynediad at y technolegau diweddaraf ar gyfer diagnosis mwy cywir a chyflymach.
Fodd bynnag, mae mwy i’r strategaeth na gwthio rhagor o DNA trwy ddilynianwyr a dadansoddi data yn unig. Mae hefyd yn golygu cyd-gynhyrchu gwasanaethau a fydd yn cefnogi’r cyhoedd, neu glaf, i gael y prawf mwyaf cywir yn brydlon. Ac, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd nesaf, ar ôl i ni gael y canlyniad a allai effeithio nid yn unig arnom ni ein hunain yn y dyfodol, ond hefyd ar ddyfodol ein ceraint a’n cydnabod. Mae union natur genynnau a DNA yn golygu y gellir trosglwyddo ein problem ni i’n hanwyliaid. Mae cynghorwyr genetig a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill yn gweithio'n ddiflino ar y berthynas rhwng genomeg a'r cyflwr dynol, i egluro'r effaith y gall y wybodaeth hon ei chael ar ein hiechyd, ein llesiant a’r cymorth y gallai fod ei angen arnom.
Mae'n amlwg na fydd manteision i’r claf yn y maes hwn yn cael eu darparu gan y GIG ar ei ben ei hun. Mae cysylltiadau â gweithgareddau ymchwil a diwydiant yn bwysicach nag erioed, ac mae’n rhaid alinio’r ecosystem ehangach ar gyfer genomeg i sicrhau’r manteision iechyd ac economaidd mwyaf posibl i Gymru. Yn ogystal â datblygu gwasanaethau newydd i gleifion yng Nghymru, mae'r strategaeth yn amlinellu camau i ddatblygu gwaith ymchwil mewn geneteg a genomeg, i gynyddu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithlu’r GIG a'r gweithlu allanol, ac i adeiladu partneriaethau strategol manwl ym maes genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Yn y maes hynod gystadleuol hwn sy’n ehangu'n gyflym, mae’n bwysig bod Cymru’n gallu cydweithio â phartneriaid ar lwyfan rhyngwladol, gan fod hyn yn denu cyllid ychwanegol, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sylfaen sgiliau yng Nghymru, ac yn sail i fabwysiadu triniaethau newydd yn gynt er budd cleifion.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru'n ymuno â'r prosiect 100,000 o Genomau trwy bartneriaeth gyda Genomeg Lloegr. Bydd hyn yn galluogi cleifion yng Nghymru â chlefydau anghyffredin penodol i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil arloesol sylweddol, sydd â’r potensial i gael diagnosis cyflymach a mwy cywir a allai ddod o ddilyniannu genomau cyfan. Mae'r prosiect wedi denu gwerth £1 filiwn o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, ynghyd â £2.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi swyddi o ansawdd uchel ac yn dod â manteision economaidd ychwanegol yma i Gymru.
Datblygwyd y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl gan y tasglu genomeg, wedi ei seilio ar gydweithio agos rhwng cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau addysg uwch. Mae'r tasglu wedi gweithio'n galed i ymgynghori trwy gydol y broses, ac i sicrhau bod cymaint o randdeiliaid â phosibl wedi gallu lleisio eu barn wrth ddatblygu'r strategaeth. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio nawr ar ddatblygu galluoedd genomeg, gan fod y technolegau hyn yn dod yn fwyfwy fforddiadwy ac yn cael effaith gadarnhaol ar feddygaeth fanwl a rheoli clefydau heintus.
Fodd bynnag, ni fydd buddsoddi mewn genomeg yn unig yn ddigon i ddarparu meddygaeth fanwl. Mae technolegau eraill fel delweddu, astudiaethau moleciwlaidd, monitro amser real o salwch a dadansoddi data oll yn chwarae rhan bwysig, ochr yn ochr â’r dulliau clinigol traddodiadol o asesu clefyd rhywun. Mae angen integreiddio’r ddiagnosteg hon, wrth gwrs, gyda datblygiad therapiwteg penodol newydd, sy'n cynnwys therapiwteg uwch sy'n deillio o ddulliau therapi celloedd a genynnau.
Mae'n amlwg bod yr heriau o'n blaenau yn sylweddol, fel y maen nhw mewn sawl maes meddygaeth arall a'r gwasanaeth iechyd. Bydd partneriaeth bellach, wrth gwrs, yn angenrheidiol i wneud meddygaeth fanwl yn arfer cyffredin yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ond mae’r strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl hon yn sail i’r hyn a ddylai fod yn ddyfodol disglair i sicrhau manteision iechyd ac economaidd technolegau genomeg yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae genomeg wedi galluogi datblygiadau arloesol o ran ymchwil a’r ffordd y caiff meddygyniaeth ei defnyddio, ac rwy’n credu ei fod yn destun gobaith mawr i ni oll yn y dyfodol. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r argyfwng sy'n wynebu pobl, oherwydd y gorddefnydd o wrthfiotigau a’r bacteria sy’n addasu’n dragwyddol i gynhyrchu arch-fygau yr ymddengys eu bod yn goroesi popeth. Mae dod o hyd i ddewisiadau eraill ar gyfer trin afiechydon a achosir gan facteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn dibynnu ar yr astudiaeth o enomeg bacterioffag. Bydd gallu sicrhau bod effeithlonrwydd a chryfder ein cyffuriau mor fawr â phosibl yn allweddol o ran gwneud y gorau o therapi cyffuriau. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r sylw pwyslais hwn ar faes meddygaeth fanwl, ac mae'r ymgynghoriad a'r strategaeth ddilynol wedi gosod ffiniau y gallwn archwilio sut y gallwn ddatblygu galluoedd Cymru i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu meddygyniaethau manwl yn unol â nhw.
Nawr, wrth astudio’r adroddiad, Ysgrifennydd Cabinet, mae gen i bedwar cwestiwn yr hoffwn eu gofyn i gael mwy o ymhelaethiad. Mae Blaenoriaeth 2 yn crybwyll gofynion seilwaith TG. Nawr, mae'n amlwg bod angen seilwaith cyfathrebu dibynadwy o ansawdd uchel i alluogi’r cyfleusterau hyn i ehangu ledled Cymru, ac nid yn unig mewn canolfannau trefol, yn enwedig os ydyn nhw’n mynd i fod yn gysylltiedig â phrifysgolion ac â gwahanol ganolfannau ymchwil mewn ysbytai. Felly, pa sicrwydd all Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i ni y bydd pob cwr o Gymru yn cael ei gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu cyflym fel y gallwn ni wir wneud y gorau o hyn? Yn fy etholaeth fy hun, mae gen i nifer o gwmnïau hynod arloesol sy'n darparu offer meddyginiaethol manwl i bedwar ban byd ac sydd wedi adeiladu busnesau sy'n gwneud yn eithriadol o dda, ond bu’n rhaid iddyn nhw wynebu'r her gyfathrebu dro ar ôl tro ar ôl tro i alluogi eu busnesau a'u cyfleusterau ymchwil, a'r cydweithrediad sydd ganddyn nhw gyda phartneriaid ledled y byd dyfu’n wirioneddol. Felly, dyna fyddai fy nghwestiwn pendant cyntaf.
Yn ail, mae'r strategaeth yn cydnabod bod setiau data mawr yn erfyn hanfodol a bod heriau o ran gwneud data’n ddienw. Mae hefyd yn sôn am yr angen i gael mynediad at samplau cleifion ac am yr integreiddio gyda SAIL. Pa brosesau, Ysgrifennydd Cabinet, sydd ar waith i ddiogelu data, i amddiffyn y claf a chyfrinachedd cleifion? Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad cynyddol, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o ddiogelwch. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, hefyd, i ni sicrhau bod cleifion yn gwbl sicr o ran gwybod os byddant yn cyflwyno unrhyw ran o'u triniaeth neu eu canlyniadau i gael eu dadansoddi yn y setiau data hyn, na fydd hynny’n cael ei ddefnyddio yn eu herbyn nhw na’u holynwyr, yn enwedig o ran hawliadau yswiriant, gan fod cwmnïau yswiriant bob amser eisiau gwybod beth yw hanesion genetig pobl, a’r holl ddiwydiant hwnnw sy’n tyfu ac yn dechrau esblygu. Felly, hoffwn i ddeall yr elfennau diogelwch yn iawn.
Ysgrifennydd Cabinet, pa gymorth ydych chi wedi ei roi ar waith i hyfforddi pobl yn y maes hwn yng Nghymru? Efallai y gallech chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gyda'r byrddau iechyd, gyda'r sefydliadau ymchwil a chyda'r prifysgolion i ennyn diddordeb mwy o’n pobl ifanc yn y maes hynod bwysig hwn sy’n tyfu’n gyson.
Yn olaf, yn yr adroddiad, mae'n sôn y
'Bydd achos busnes yn cael ei ddatblygu erbyn diwedd 2017'
o ran lleoliad labordy genomeg. Roeddwn i’n meddwl tybed pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn hyn o beth.
Mae hwn yn faes ymchwil hynod gyffrous. Rwy’n croesawu'r datganiad yn llwyr, a byddwn yn eich annog chi, a byddwn eisiau eich cefnogi chi, i neilltuo cymaint o ymdrech ac arian ag y gallwn i'r maes hwn, gan fy mod i’n gwbl grediniol bod hon yn un ffordd nid un unig o ddiogelu ein hunain yn y dyfodol , ond o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sydd gennym ni, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond ledled y byd.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Mae'n ddiddorol eich bod chi wedi dechrau gydag ymwrthedd gwrthficrobaidd—roedd eich cydweithiwr doeth yn union ar y dde i chi yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar wyddoniaeth ac, yn wir, roedd hwn yn bwnc trafod a gawsom ni yr wythnos diwethaf gyda David Rees a Simon Thomas—felly, heriau perthnasol ar gyfer y presennol, yn ogystal ag ar gyfer y dyfodol, yn y ffordd yr ydym ni’n datblygu ein gallu i ddeall cyflyrau dynol, a hefyd, wedyn, i helpu i’w trin a’u rhagweld nhw.
Gan droi at eich cwestiynau ynglŷn â’r her gyfathrebu, wel, rhywfaint o hyn, os mynnwch, yw’r her dechnegol o sut yr ydych chi’n trosglwyddo data, ond rwy’n meddwl fod llawer ohono’n ddiwylliannol, a dyna pam mae'r tasglu genomeg wedi bod yn allweddol iawn o ran mynd ati’n rhagweithiol i holi randdeiliaid, i fod eisiau siarad â nhw, gyda'r nifer o ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, ac rwy’n disgwyl dod yn ôl ar sail y cyngor y byddaf yn ei gael gan y tasglu, ar ôl cynnal yr ymgynghoriad, i gyhoeddi wedyn y cam nesaf o ran sut y byddwn yn datblygu hynny. Mae'n bwysig bod gennym ni sianelau sy’n agored, a diwylliant sy'n agored ynghylch sut y gall pobl siarad â'i gilydd. Oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn angen y gwasanaeth iechyd gwladol, y sector prifysgolion, ond mae hefyd angen y trydydd sector ac, yn wir, diwydiant i fod yn rhan o'r ateb. A dyna’n rhannol yw fy mhwynt ynglŷn â sut yr ydym ni’n cyfuno ein hymchwil, oherwydd er y bydd swyddogaeth labordy ganolog, ac er bod gennym ni ganolfan genomig Cymru, mae’n rhaid i lawer o hynny fod yn rhithwir, oherwydd ni allwch ddisgwyl gwasgaru’r holl staff hynny o amgylch y wlad, ond mae'n rhaid iddyn nhw allu deall yr hyn sy'n digwydd yn y wlad hon ac, yn wir, y cydweithio â Lloegr—rydym ni’n rhan o’r Prosiect 100,000 o Genomau—yn ogystal ag ar sail ehangach, hefyd. Felly, rwy’n cydnabod yr her yr ydych chi’n ei chodi i wneud yn siŵr nad yw'n ddim amgenach na siop gaeedig i grŵp bach o bobl mewn un rhan o'r wlad. Nid dyna’r dull yr ydym ni’n ei fabwysiadu, yn sicr. Gobeithio bod y sicrwydd hwnnw’n ddefnyddiol.
O ran diogelu data, wrth gwrs, mae'r ymosodiadau seiber-ddiogelwch diweddar wedi tynnu sylw at yr heriau sy'n bodoli gan fod grŵp o bobl ddiegwyddor galluog sy'n barod i geisio defnyddio data at eu dibenion eu hunain bob amser. Er ein bod ni mewn sefyllfa lawer gwell na Lloegr o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda'r ymosodiad diweddar, ni ddylai’r un ohonom ni gymryd hynny’n ganiataol na bod yn fuddugoliaethus yn ei gylch. Mae angen i ni sicrhau ein hunain yn gyson bod y ffordd yr ydym ni’n defnyddio data yn foesegol, ond hefyd ein bod ni’n diogelu data sensitif am gleifion a staff yn briodol o ran sut yr ydym ni’n defnyddio’r rheini ar draws y system. Mae'r data SAIL yn enghraifft dda o ble mae gennym ni ddata dienw sydd o fudd gwirioneddol. Mae'n enghraifft dda hefyd o fod yn wlad fach sy'n gallu gwneud dewisiadau ar sail genedlaethol a cheisio cael synnwyr gwirioneddol o genhadaeth genedlaethol. Mae hynny’n ymwneud yn fwy â’r hyn y mae angen i ni ei wneud, ond bydd hynny hefyd yn cyfrannu at y ffordd yr ydym ni’n ymdrin â threialon clinigol. Mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, rydym ni’n gwneud yn dda iawn gyda threialon clinigol, ond mae angen i ni gydnabod hefyd bod meysydd lle gallem ni wneud hyd yn oed yn well hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle’r ydym ni’n meddwl y gallem ni wneud yn well fyth eto, i adeiladu ar ein cryfderau presennol ond hefyd i ddeall lle’r ydym ni’n credu bod angen gosod gwahanol lefel o uchelgais a chyflawniad hefyd. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud am ddiogelu data cleifion yn briodol yn y ffordd yr ydym ni’n sefydlu ein systemau—y caledwedd, y meddalwedd, a’r diwylliant o ran sut yn union y mae’r data hynny’n cael eu defnyddio.
O ran y pwyntiau am fuddsoddi yn y gweithlu, mae hon yn un o'r pum thema o'r pwyntiau gweithredu sydd wedi eu cyhoeddi yn y strategaeth yr ydym ni newydd ymgynghori arni—sut rydym ni’n deall yn iawn sut rydym ni’n buddsoddi yn ein gweithwyr, i gael rhai o’r— [Anghlywadwy.] yn gywir—gyda fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn siarad am sut yr ydym ni’n cael pethau'n iawn ac am ddiwylliant ein hysgolion. Felly, rydym ni’n deall sut y mae angen sgiliau newydd arnom ni a chaffael y sgiliau newydd hynny gan weithlu’r genhedlaeth nesaf—ein bod yn gofalu amdanoch chi ac amdanaf i yn ein henaint, os byddwn fyw, ond hefyd o ran yr hyn sy’n digwydd nawr i’r bobl sydd eisoes yn mynd i mewn i’n system. Dyna ran o’r rheswm pam mae cydweithio gyda diwydiant a’r sector prifysgolion yn bwysig iawn, oherwydd nid yw’r gweithlu’n mynd i ymwneud â sut y mae’r GIG yn cynllunio ei ran unigol ohono, hefyd yn unig. Er ein bod ni’n disgwyl gweld INTPs wrth i ni ddatblygu'r strategaeth, ac wrth i ni ddod i'r casgliad beth fydd y strategaeth ar ddiwedd yr ymateb i'r ymgynghoriad arni, a sut yr ydym ni’n disgwyl gweld hynny’n cael ei gyflwyno yn INTPs sefydliadau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd unigol, ond hefyd y gwaith gyda gwasanaeth genetig meddygol Gymru gyfan, ynghyd â'r corff addysg iechyd newydd yr ydym ni’n mynd i’w greu. Bydd angen i ni gymryd camau i greu hwnnw yn ystod y flwyddyn hon, ar ffurf gysgodol, i baratoi ar gyfer mis Ebrill 2018, pan fydd ar waith. Felly, ceir cydnabyddiaeth ddidwyll a nodir yn y strategaeth o’r hyn y bydd angen i ni ei wneud a sut yr ydym ni’n cynllunio ar gyfer y gweithlu hwnnw a sut yr ydym ni’n amlwg—ac, unwaith eto, ceir heriau moesegol yn hyn hefyd—yn mapio gwasanaeth lle mae gan y gwasanaeth iechyd ddiddordeb pendant iawn yn y data a ddefnyddiwn, sy'n cael eu rhoi i'r gwasanaeth iechyd, a sut yr ydym ni’n gweithio, mewn ffordd aeddfed, gyda phobl ym myd diwydiant, yn ogystal â'r sector ymchwil addysg uwch, ond mae gennych chi’r un—[Anghlywadwy.]—diogelu ethos yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, a gwerth yr hyn yr ydym ni’n ei wneud, yn hytrach na rhoi'r wybodaeth honno i rywun arall ei gwerthu yn ôl i ni am elw. Felly, ceir heriau yn hynny o beth, ond mae hynny’n ymwneud â datblygu'r gweithlu, hefyd.
Mae hyn yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn newydd, ac rydym ni’n gwneud dewisiadau nawr nad ydym ni wedi gorfod eu gwneud, ond mae hefyd mae’n berthnasol i'ch pwynt bod mantais sylweddol i'w chael, o safbwynt gwella iechyd ond hefyd o safbwynt economaidd.
Rwy’n sicr yn croesawu'r ymgynghoriad. Mae hyn, heb os, yn faes o ddatblygiad meddygol sydd â photensial enfawr, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu. Wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â’r agenda atal clefydau a diagnosis cynnar fel modd o wella canlyniadau i gleifion, gan arbed arian i'r GIG hefyd, wrth gwrs. Ceir arbedion enfawr y gellir eu gwneud yma trwy dargedu triniaeth yn ofalus gan ddefnyddio’r technolegau newydd hyn, felly mae unrhyw fuddsoddiad yma yn arian a fydd yn cael ei wario’n ddoeth.
Mae gen i dri chwestiwn, ac mae’r cyntaf ohonynt yn ymwneud â buddsoddi. Pa gynlluniau tymor canolig neu frasamcanion mwy hirdymor y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu gwneud ar gyfer dyrannu adnoddau yn y maes newydd hwn o ymchwil a thriniaeth feddygol, gan fod hwn yn rhywbeth sy’n siŵr o ddatblygu ac yn siŵr o fod yn fwy o ffynhonnell fuddsoddi i arbed wrth i amser fynd heibio?
Yn ail, mae'r datganiad yn nodi’n eglur iawn yr agweddau technegol a gwyddonol ar y dechnoleg ddatblygol hon, ond nid cymaint yr agwedd foesegol ac emosiynol. Rydym ni wedi cyffwrdd ar yr agwedd foesegol yn y cyfeiriadau at ddata yn y cwestiynau gan Angela Burns. Ond o ran yr ochr emosiynol, yn enwedig yn gysylltiedig ag atal a rhagweld salwch efallai—. Ceir tystiolaeth o ganser etifeddol penodol yn fy nheulu i. Mae DNA fy niweddar fam wedi cael ei storio. Rwyf wedi dewis peidio ag ymchwilio a wyf i mewn perygl ar hyn o bryd. Cynhyrchodd ffrind agos i mi raglen deledu a oedd yn edrych a oedd hi mewn perygl o ddatblygu’r canser a hawliodd fywyd ei mam, a phenderfynodd ar ddiwedd y daith honno nad oedd hi’n dymuno gwybod a oedd hi wedi ei rhaglennu felly. Felly, ceir rhai cwestiynau emosiynol a moesegol anodd iawn yma. Tybed pa gynlluniau sydd yna i fuddsoddi yn y cymorth emosiynol i deuluoedd ac unigolion sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle, efallai, y gallai’r dechnoleg hon fod o ddefnydd iddynt, ond bod ganddynt ofnau am yr hyn y byddai hynny’n ei olygu.
Yn drydydd, mae hwn, wrth gwrs, yn brosiect byd-eang—yn brosiect lle gall Cymru fod yn falch o'r arloesedd yr ydym ni wedi cyfrannu ato dros y blynyddoedd. Ond bydd llawer o'n hymchwilwyr, wrth gwrs, yn rhan o waith ymchwil a fframweithiau pan-Ewropeaidd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gynnig sylwadau efallai ar ba fesurau diogelwch y mae angen eu rhoi ar waith i ddiogelu hynny wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Mewn llawer o feysydd o ymdrech ac ymchwil gwyddonol, rydym ni’n cydnabod bod risgiau a heriau gwirioneddol i’r Deyrnas Unedig yn y trafodaethau Brexit. Rydym ni wedi bod yn onest am hynny yn y trafodaethau gyda’ch plaid chi, ac yn y Papur Gwyn sydd gennym ni ac yn y sgyrsiau parhaus y bydd angen eu cael, nid yn unig gyda’r gymuned ymchwil, ond rhwng gwahanol Lywodraethau’r Deyrnas Unedig hefyd, am ein dull o ymdrin â hynny. A dweud y gwir, gallem weld proses adael sy'n ynysu gwyddonwyr—neu, yn wir, os nad yw’n eu hynysu, gwneud cydweithio’n fwy anodd. Er y byddai'n broblem i Ewrop gael ei ynysu neu’n ei gwneud hi’n fwy anodd cydweithio gyda gwyddonwyr o'r DU, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl y byddai gennym ni fwy i'w golli yn hynny o beth o ran y gronfa o wybodaeth ryngwladol sy'n bodoli. Felly, mae hyn yn sicr o fudd i ni, a cheir llawer o ddiddordeb o safbwynt Ewropeaidd mewn parhau i gydweithio yn y maes hwnnw. Ni ddylai'r un ohonom ni gymryd hynny’n ganiataol. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan bendant o bwyslais holl Lywodraethau’r Deyrnas Unedig, o ran ein safbwynt trafod ar lefel y DU, ac, yn yr un modd, cynnal y cysylltiadau hynny sy'n bodoli. Rwy'n cydnabod y pryder sylweddol sy'n bodoli yn y gymuned wyddonol ac ymchwil am ein perthynas gyda phartneriaid Ewropeaidd yn y dyfodol.
O ran y pwyntiau ehangach a wnaethoch am arbedion ariannol a buddsoddi yn y maes hwn, fel y dywedais, buddsoddwyd £2.3 miliwn gennym i Gymru fod yn rhan o’r Prosiect 100,000 Genom. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £6.8 miliwn dros y pum mlynedd nesaf yn y maes hwn, gan ein bod ni’n cydnabod bod angen cyfrannu arian i ddatblygu'r gwasanaeth. Ond, yn yr un modd, mae rhywbeth ynghylch deall beth sy'n digwydd ar ôl hynny, oherwydd, er bod arbedion tymor canolig a thymor hwy i’w gwneud, rydym ni hefyd yn gwybod, pan fydd datblygiadau newydd yn cael eu gwneud, eu bod nhw’n aml yn ddrud ar yr adeg gychwynnol. Ac mae hon yn enghraifft dda o hynny, oherwydd, a dweud y gwir, wrth i’r gost leihau, a’i bod yn fwy tebygol y gallwn ni ddefnyddio hyn mewn ffordd ehangach mewn meddyginiaeth ac o ran diagnosis ac yna gwneud dewisiadau ynghylch triniaeth—yn union fel yr ydym ni’n cael pob cam newydd o unrhyw feddyginiaeth fanwl sy'n cael ei gyflwyno, mae'n aml yn ddrud iawn ar y cychwyn, a’r her yw faint o gynnydd y gallwn ni ei wneud yn ein dealltwriaeth ac wedyn gallu gwneud hynny’n gyffredinol therapiwtig fel y gallwn ni ddeall sut y gallwn ddefnyddio hynny’n ymarferol wedyn. Ond rydym ni’n gwybod, drwy'r arbedion y byddwn ni’n eu gwneud, y bydd dewisiadau anodd o ran cost triniaethau newydd a therapïau newydd sy'n dod i’r fei, ac ni fyddwn eisiau ceisio esgus bod hwn yn faes syml o enillion iechyd i’w wneud am gost isel. Bydd dewisiadau anodd i chi a mi a phob gwleidydd arall yn y Siambr hon ynglŷn â sut a ble yr ydym ni’n gwneud y penderfyniadau buddsoddi hynny dros weddill tymor y Cynulliad hwn ac yn y dyfodol.
O ran eich pwynt olaf, lle soniasoch am faes cyffredinol cwnsela genetig, fel y soniais yn fy natganiad, mae gennym ni eisoes dîm o gwnselwyr genetig sy’n ymdrin ag amrywiaeth o wahanol gyflyrau, nid yn unig y clefydau a’r cyflyrau anghyffredin sy'n bodoli—ond, llawer o bobl, wrth iddyn nhw symud ymlaen a dewis dechrau teulu, yn aml ceir dewisiadau sy'n cael eu gwneud fel rhan safonol o'r sgwrs am IVF, os yw teuluoedd yn mynd trwy hynny. Byddant yn cael sgwrs—byddant yn cael eu cyfeirio at gwnsela genetig ac yn cael sgwrs am yr hyn sy'n bosibl, ac mae honno'n rhan bwysig o'r broses honno. Mae'n dod yn fwy cyffredin hefyd. Rwy'n credu mai’r her i ni fydd nid yn unig sut yr ydym ni’n dibynnu ar arbenigedd penodol o fewn y gwasanaeth iechyd, ond sut yr ydym ni’n gwneud hyn yn rhan naturiol o’r sgwrs i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ac felly, wrth edrych ar gydweithwyr sy’n eistedd y tu ôl i’ch ysgwydd dde, ym maes ymarfer cyffredinol, mae angen deall sut y bydd hyn yn edrych, yn ogystal ag mewn meysydd arbenigol o driniaeth y tu hwnt, ac nid yn unig gyda meddygon, ond pob math o therapi arall, i ddeall, os ydym ni’n cael sgwrs am opsiynau triniaeth, sut y byddem ni, mewn ffordd sensitif, yn deall ac yn cyflwyno opsiynau posibl i bobl am yr hyn y byddant yn dewis ei wneud. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: bydd pobl wahanol yn gwneud gwahanol ddewisiadau, ac nid yw hwn yn faes lle byddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol i bobl ymddwyn mewn ffordd benodol. Ond mae’n ymwneud â sut yr ydym ni’n cael sgwrs gytbwys gyda'r dinesydd am y datblygiadau sy'n bosibl a sut y gallan nhw ddeall eu risgiau posibl a'r dewisiadau cytbwys y maen nhw eisiau eu gwneud.
Unwaith eto, rydych chi’n meddwl am amrywiaeth o feysydd yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth: mae'n ddewis ynghylch a yw pobl eisiau cael amrywiaeth o brofion ar iechyd neu natur eu plentyn yn y groth. Ac mae pobl eisoes yn gwneud y dewisiadau cytbwys hynny, oherwydd rydym ni wedi gwneud y sgwrs honno’n rhan gyffredin o’n gweithlu bydwreigiaeth, ac fe’i gwneir mewn modd sensitif gyda rhieni newydd. Mae hyn yn ymwneud â gwahanol lefel o sgyrsiau am wahanol gyflyrau, gwahanol risgiau a allai fod yn gynhenid o ran pwy ydym ni a phwy y gallem ni fod yn y dyfodol, am y ffordd y caiff y sgwrs honno ei chynnal mewn ffordd sy'n sensitif ac yn hynod broffesiynol ac yn paratoi pobl i wneud y dewisiadau unigol hynny iddyn nhw a'u teuluoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n wirioneddol gynhyrfus am botensial y strategaeth hon, nid yn unig fel ymyriad iechyd, ond fel ymyriad economaidd, hefyd. Genomeg yw un o'r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol y ceir cymaint o sôn amdano. Rydym ni wedi trafod rhai o'r manteision iechyd heb eu hail—mae sôn y gallwn ni ddisgwyl triniaethau canser, er enghraifft, sydd 20 gwaith yn fwy grymus na thriniaethau presennol. Ond rwy’n cael fy nghalonogi’n arbennig ein bod ni wedi edrych y tu hwnt i'r effaith ar iechyd i ystyried sut y gallem ni fod yn arweinwyr byd-eang yn y wyddoniaeth ryfeddol hon.
Ond mae angen i’n cywirdeb gyfateb i’n huchelgais, a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i fod yn eglur o ran ble yn union y mae mantais gystadleuol Cymru yn y maes enfawr hwn sy'n datblygu'n gyflym. Yn gyffredinol, er enghraifft, Caergrawnt neu goridor yr M1 sy’n denu buddsoddiad tramor uniongyrchol o ansawdd yn y gwyddorau bywyd, a allai adael Cymru yn ymgeisio am yr hyn sy’n weddill. Felly, a gaf i ofyn iddo ddweud wrthym ni pa mor eglur yw e o ran lle yn union y gallwn ni wneud cyfraniad unigryw, lle gallai ein harbenigedd presennol gynnig y fantais gystadleuol i ni? Ac, unwaith y byddwn ni'n eglur ynghylch hynny, yna mae'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd wrth fynd ar drywydd y cyfleoedd hyn. Diolch.
Rydych chi’n codi pwynt diddorol, ac rwyf wrth fy modd bod rhywbeth y mae Lee Waters wedi codi ar ei draed amdano a dweud ei fod yn wirioneddol gynhyrfus yn ei gylch. Ond, wyddoch chi, rydych chi’n codi pwynt pwysig am y ffordd yr ydym ni’n targedu ein meysydd gorau i sicrhau buddion go iawn, nid yn unig o ran iechyd, ond, rydych chi'n iawn, o ran y sector economaidd. Ac, wrth gwrs, lansiwyd y strategaeth yn 2013 ar y cyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros yr economi ar y pryd.
Bu cydnabyddiaeth erioed o’r ddwy fath o fantais i’w sicrhau. Rydych chi'n iawn am y sector gwyddorau bywyd fel maes ar gyfer twf yr ydym ni wedi ei weld eisoes, ond nid yw’n ymwneud â cheisio cystadlu’n uniongyrchol â'r hyn sy'n digwydd yng Nghaergrawnt a’r cyffiniau. Bydd amrywiaeth o bobl a fydd bob amser yn dewis mynd yno yn gyntaf, ond, mewn gwirionedd, yr hyn rwy’n meddwl sy’n wirioneddol galonogol yw’r ffordd yr ydym ni’n sefydlu ein hunain yng Nghymru i ddeall gwahanol fath o sgwrs gyda'r diwydiant fferyllol, a fydd, wedi'r cyfan, yn dal i fod yn gyfrannwyr arwyddocaol at fuddsoddi yn nyfodol ymchwil ac arloesi meddygol, ac yn ein sector addysg uwch—ac, i ddychwelyd at y pwyntiau a wnaeth Angela Burns, am y ffordd yr ydym ni’n defnyddio data yng Nghymru hefyd. Oherwydd yr hyn nad oes gan y system yn Lloegr yw dull cenedlaethol wirioneddol integredig, ond mae gennym ni hynny yma. Felly, mae hynny'n golygu ein bod ni’n mynd i allu cyflwyno dull cenedlaethol o ymdrin â phatholeg, ac ni all hynny ddigwydd yn Lloegr oherwydd bod ganddyn nhw gymaint o wahanol gyrff sy’n faen tramgwydd o ran sut y byddant yn gwneud gwahanol ddewisiadau.
Nawr, heb ymgolli mewn gwleidyddiaeth bleidiol o ran sut y maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd y pwynt hwnnw, yn y system yng Nghymru, mae'n fantais gystadleuol wirioneddol i ni. Yr hyn y bydd angen i ni fod yn well am ei wneud, nid yn unig yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond yn ystod y degawd nesaf a mwy, yw ein gallu i wneud dewisiadau cenedlaethol gyda dim ond 10 o sefydliadau yn y maes iechyd—y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd ac yna'r Llywodraeth gyda nhw hefyd—a sut rydym ni’n sefyll ochr yn ochr â phobl i wneud y dewisiadau hynny. Oherwydd rydym ni eisoes wedi gweld nifer o gwmnïau fferyllol yn dewis buddsoddi yng Nghymru, oherwydd yr amgylchedd yr ydym ni’n ei greu, ac oherwydd ein bod ni’n gallu cael sgwrs sy'n cydnabod y potensial heb beryglu ein gwerthoedd. Dyna lle mae angen i ni fod hefyd. Felly, pan fyddaf yn cael sgyrsiau draw yn y ganolfan gwyddorau bywyd, mae pobl yn wirioneddol gadarnhaol ynghylch penderfynu symud rhai o'u buddsoddiadau i Gymru oherwydd hynny. Ond mae hwnnw'n bwynt o wahaniaeth i’r hyn sy'n digwydd yn yr ardaloedd hyn. Rwy’n cydnabod eich bod chi wedi sôn am Gaergrawnt, yn hytrach na’r ardaloedd hyn i ni fanteisio arnyn nhw. Byddaf yn fwy na pharod, unwaith y byddwn ni wedi cytuno ar gam olaf y strategaeth, mewn ymateb i'r ymgynghoriad, i allu rhoi mwy o fanylion am y meysydd penodol yn y sector gwyddorau bywyd yn fwy cyffredinol yr ydym ni’n disgwyl eu targedu a chael budd gwirioneddol ohonyn nhw.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae meysydd genomeg a meddygaeth fanwl yn allweddol i ennill y rhyfel yn erbyn canser ac yn allweddol i ddyfodol ein gofal iechyd. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi a chroesawu’n fawr strategaeth genomeg a meddygaeth fanwl y Llywodraeth. Pan edrychwn ni ar ganser yr ysgyfaint, er enghraifft, sy'n gyfrifol am chwarter yr holl farwolaethau o ganser yng Nghymru, nid yw meddyginiaethau traddodiadol yn effeithiol iawn. Trwy dargedu'r newid genetig penodol gyda meddyginiaeth fanwl, gallwn gynyddu cyfraddau goroesi, yn enwedig mewn canserau yr ysgyfaint celloedd mwy.
Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a Cancer Research UK wedi bod yn arwain y galwadau am strategaeth i Gymru ar gyfer meddygaeth haenedig neu fanwl ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n newyddion gwych fod gennym ni un o’r diwedd. Byddaf i, ynghyd â'm plaid, yn gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn llwyddiannus, ac, yn yr ysbryd hwnnw, mae gen i ambell i gwestiwn ynghylch sut y gellir rhoi’r strategaeth ar waith.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r strategaeth yn amlygu’r angen i sicrhau y caiff data eu rhannu’n briodol ar gyfer y datblygiad gwasanaeth a’r ymchwil. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr ar draws y DU am y ffordd orau y gallwn ni rannu data i wella ymchwil a datblygiad gan ddiogelu gwybodaeth cleifion unigol? Wrth symud ymlaen, mae triniaethau arloesol newydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, sut allwch chi sicrhau y bydd syniadau cydgysylltiedig o ran gwerthuso’r triniaethau newydd hyn? Sut wnewch chi sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Gwasanaeth genetig meddygol Cymru gyfan, Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a, lle bo'n briodol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal, yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant fferyllol? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut wnewch chi sicrhau y bydd gwasanaethau clinigol a geneteg glinigol yn cael eu mabwysiadu a’u defnyddio ledled Cymru, a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fonitro a'i asesu?
Diolchaf i chi unwaith eto am eich datganiad ac am gyflwyno’r strategaeth hon, a fydd yn helpu i wella sut yr ydym ni’n datblygu a sut yr ydym ni’n darparu triniaethau iechyd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, pan fyddwn ni’n sôn am feddygaeth fanwl, i ddeall, yn y gorffennol, ein bod ni’n meddwl y byddai cyffuriau neu driniaethau mawr nerthol i ddarparu gwelliannau ar raddfa eang ar draws y boblogaeth gyfan neu ar draws grwpiau cyfan o bobl. Rydym ni’n deall yn gynyddol ei bod yn annhebygol mai dyna fydd y ffordd y bydd meddygaeth yn datblygu. Ni fu amrywiaeth o’r cyffuriau nethol tybiedig hynny mor effeithiol ag y byddem ni wedi dymuno iddyn nhw fod, yn ychwanegol i’r ffaith i ni ddod o hyd wedyn i wahanol ddefnydd ar eu cyfer nhw hefyd. Mae hyn yn ymwneud â deall sut y mae gennym ni’n fwy manwl ddull mwy unigoledig o gael sicrwydd diagnostig ac yna dewisiadau triniaeth hefyd.
Rwy'n meddwl bod y sylwadau ynglŷn â rhannu data—mae’n adeiladu ar y cwestiynau a’r sylwadau gan Angela Burns. Edrychwch, nid wyf yn cael sgyrsiau gweinidogol uniongyrchol ar y pwnc penodol hwn gyda chydweithwyr eraill ar draws Llywodraethau’r DU, ond mae’r Llywodraethau’n siarad gyda’i gilydd am ein sefyllfa. Ceir elfen o gydweithio eisoes. Mae'r ffaith ein bod ni’n cymryd rhan ymarferol yn y Prosiect 100,000 o Genomau gyda chydweithwyr yn Lloegr yn arwydd pwysig iawn, a hefyd y sgyrsiau ymchwil ehangach hynny sy’n cael eu cynnal y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol, yn ogystal ag y tu mewn i’r GIG, yn arwydd o'r ffaith bod y rhain yn sgyrsiau gweithredol sy’n cael eu cynnal ynghylch sut yr ydym ni’n rhannu data yn y ffordd orau bosibl.
Ond mae hefyd, fel y dywedais, gan ddychwelyd at bwynt Lee Waters, yn ymwneud â sut yr ydym ni’n sicrhau bod y manteision cystadleuol go iawn sydd gennym ni o bosibl yma yng Nghymru yn cael eu datblygu ac yn cael eu manteisio arnynt, ar gyfer ein budd economaidd, ond, unwaith eto, heb beryglu’r gwerthoedd yr ydym ni’n dymuno eu coleddu ynghylch y ffordd y caiff data cleifion eu defnyddio a sut yr ydym ni eisiau i'r gwasanaeth iechyd gael ei redeg.
O ran eich pwynt ynglŷn â gwerthuso datblygiadau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod proses werthuso briodol a thrwyadl, o ran comisiynu trwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ond hefyd, wrth i driniaethau a therapïau newydd gael eu datblygu, bydd angen i bob un ohonyn nhw fynd trwy broses i ddeall p’un a ydynt yn cynnig gwerth gwirioneddol am arian i ni fel trethdalwyr, am yr hyn yr ydym ni’n ei dalu amdano, ond hefyd i’r dinesydd unigol a'u dewisiadau triniaeth sydd ar gael iddyn nhw a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y byddant yn deall ac yn gwneud dewisiadau gyda nhw. Felly, bydd hynny’n dal i fod yn rhan o'r broses.
Nid oes unrhyw awgrym ein bod ni’n dilyn y trywydd o ddweud os daw hyn o feddygaeth fanwl yna bydd yr holl ddangosyddion eraill hynny ynglŷn ag effeithiolrwydd a chost yn cael eu diystyru—ni fyddant. Ond, mae'n mynd yn ôl at y pwyntiau yr oedd Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud. Ceir potensial i arbed arian yma, a photensial i gael enillion iechyd gwirioneddol, ond, mae angen i ni ddeall bob amser, pan fydd yr arwyddion hynny ar gael i ni bod gennym ni opsiwn triniaeth posibl newydd, sut rydym ni’n ei werthuso’n briodol i wneud yn siŵr nad ydym ni’n cynhyrfu ein hunain ac yn gwario llawer o arian mewn ffordd nad yw’n ddoeth nac yn ddarbodus.
Ac, ar eich pwynt ehangach am y diwydiant fferyllol, rwy'n credu fy mod i wedi ceisio gwneud hyn mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed gan Lee Waters. Ceir sgwrs aeddfed i barhau i’w chael a ddylai arwain at wahanol ddewisiadau buddsoddi, buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru, lle mae manteision gwirioneddol i’w cael—felly, cyfle economaidd gwirioneddol, manteision iechyd gwirioneddol, a maes lle rwy’n grediniol iawn fod gan Gymru stori dda i'w hadrodd, ac rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn ni’n adrodd ar gynnydd gweithredol a gwirioneddol y byddwn yn parhau i’w wneud gyda ac ar ran dinasyddion a'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar yr wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n awyddus i roi diweddariad ar ein prosiect Cyflymu Cymru a’r cynnydd tuag at brosiect olynol. Mae'r prosiect Cyflymu Cymru presennol yn parhau i wneud cynnydd da. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017, mae BT wedi dweud wrthym fod mwy na 645,000 eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffeibr cyflym drwy brosiect Cyflymu Cymru. Mae BT wedi cadarnhau bod digon o safleoedd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd i wireddu ei ymrwymiad cytundebol i roi mynediad at fand eang cyflym iawn sy’n cynnig cyflymder lawrlwytho 30 Mbps i oddeutu 690,000 o eiddo cyn i’r contract gau ar 31 Rhagfyr eleni. Hefyd, bydd safleoedd ychwanegol yn gallu cael mynediad at gyflymderau o rhwng 24 Mbps a 30 Mbps.
Gallaf ddweud hefyd bod gwybodaeth am y farchnad yn dangos bod yr arlwy masnachol o wasanaethau cyflym iawn hefyd wedi rhagori ar ragolygon, gan roi mynediad at wasanaethau band eang cyflym iawn i eiddo ychwanegol y tu hwnt i'n maes ymyrryd erbyn hyn. Bydd yr Aelodau'n falch o nodi'r cynnydd y mae’r darparwr sefydlog diwifr Airband wedi'i wneud wrth gyflawni ein contract i ehangu mynediad at fand eang i nifer o barciau busnes ledled Cymru. Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith hwn bellach wedi'i gwblhau ac yn cynnwys ôl troed wedi’i ddilysu o ryw 2,000 o safleoedd busnes ar draws y gogledd a’r de.
Mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen', yn glir ynghylch ein huchelgais i gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Fel yr wyf wedi’i amlinellu mewn datganiadau blaenorol, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith paratoi angenrheidiol i sefydlu prosiect buddsoddi band llydan olynol. Bydd y prosiect newydd yn cael ei ategu gan gyllideb sector cyhoeddus o ryw £80 miliwn, a fydd yn ei dro yn sbarduno arian cyfatebol sector preifat i ymestyn band eang ymhellach i'r safleoedd anoddaf eu cyrraedd ar draws Cymru erbyn 2020.
Lansiwyd adolygiad marchnad agored ym mis Tachwedd er mwyn deall, ar sail fesul safle, ble y mae band eang cyflym iawn wedi ei gyflwyno hyd yn hyn, a ble y mae'r farchnad yn bwriadu buddsoddi dros y tair blynedd nesaf. Dechreuwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r diwydiant ym mis Rhagfyr i helpu i lunio a llywio ardal ymyrryd y dyfodol a’r strategaeth gaffael. Rydym yn bwriadu dechrau ar gam nesaf y broses gaffael ym mis Medi. Mae'r broses o adolygu'r farchnad agored wedi cynhyrchu rhestr o dros 98,000 eiddo na allant gael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd, a lle nad oes gan gwmnïau telathrebu unrhyw gynlluniau i'w cyrraedd yn ystod y tair blynedd nesaf.
Drwy gydol y broses hon o adolygu’r farchnad agored ac ymgysylltu’n barhaus â diwydiant, rydym wedi gwneud ymdrech sylweddol i wella ansawdd y data sy'n sail i'n dealltwriaeth o ble y mae'r bylchau band eang ar draws Cymru. Rydym yn awyddus i symud oddi wrth y data lefel cod post yr ydym wedi dibynnu arno yn flaenorol i ddata a all adnabod statws band eang safleoedd unigol. Gwnaethom hefyd fabwysiadu ymagwedd ofalus ac roeddem yn tueddu i gynnwys adeiladau, yn hytrach na’u heithrio, os oedd amheuaeth ynghylch pa un a ddylai rhai lleoliadau gael eu cyfrif yn adeiladau cymwys. Mae hyn yn golygu bod rhai safleoedd wedi eu cynnwys na fyddent wedi’u cynnwys o bosibl o dan adolygiadau marchnad agored blaenorol. Mae angen i ni brofi'r data hwn yn awr drwy ymgynghori.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos ar ganlyniadau'r adolygiad o’r farchnad agored. Rydym yn awyddus i glywed barn y diwydiant telathrebu a phreswylwyr a pherchnogion busnes ynghylch pa un a ddylai unrhyw safleoedd eraill gael eu cynnwys, neu a ddylai unrhyw eiddo sydd ar y rhestr ar hyn o bryd gael eu heithrio. I gefnogi hyn, bydd y data sydd ar gael ar ein gwefan ar lefel gronynnog iawn. Rwy'n annog pawb sy’n cael eu blino gan fand eang gwael i sicrhau bod eu safleoedd unigol wedi’u nodi’n gywir ar y map. Rwy’n annog Aelodau’r Cynulliad ac awdurdodau lleol i ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu i sicrhau bod y data hwn yn gadarn ac yn gywir.
Bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i fireinio mwy ar y rhestr o safleoedd nad ydynt yn gysylltiedig. O ystyried graddfa’r niferoedd dan sylw, yn anochel, ni fydd y rhestr o safleoedd sydd ar ôl yn berffaith, ond po fwyaf o ymatebion a ddaw i lawer, mwyaf cynhwysfawr fydd y rhestr. Er mwyn helpu ymatebwyr i ddod o hyd i safleoedd unigol, mae map rhyngweithiol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddwn, felly, yn gofyn bod pob Aelod yn rhannu'r rhestr mor eang â phosibl, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y cyfeiriad ar y we. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus yn helpu i benderfynu ar y strategaeth gaffael, o ran nifer a lleoliad y lotiau bidio posibl, a pha un a ddylid cynnwys unrhyw feini prawf blaenoriaethu. Bydd ymgysylltu pellach gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid allweddol yn ystod yr haf i fireinio ein dull caffael. Rydym yn bwriadu bod mewn sefyllfa i wahodd tendrau ffurfiol i gyflwyno'r prosiect newydd ym mis Medi, gyda'r prosiect yn dechrau yn gynnar yn 2018.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn, rwy’n awyddus i sicrhau bod pob barn yn cael ei chlywed. Os oes yna gymunedau sydd â diddordeb mewn gweithredu eu hatebion eu hunain, rwy’n awyddus i glywed ganddynt. Os oes yna sylwadau ar sut y dylem rannu’r lotiau caffael, rwy’n awyddus i’w clywed. Ac os oes yna sylwadau am sut y dylem flaenoriaethu neu dargedu'r cyllid, rwy’n awyddus i glywed y rheini hefyd.
Mae'n amlwg i mi, ochr yn ochr â'r gwaith a nodir uchod, y bydd ein cynlluniau talebau band eang yn parhau i gynnig achubiaeth i gartrefi a busnesau. Rwy’n falch o gadarnhau y bydd y cynlluniau hyn yn parhau, a byddant yn addasu ac yn datblygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw, mewn ymateb i adborth gan fusnesau, ein bod wedi addasu telerau ac amodau ein taleb gwibgyswllt i gwmpasu ystod ehangach o ddewisiadau. Bydd y newid hwn yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd a bydd yn apelio at fusnesau sydd angen cymorth gyda chostau adeiladu a gosod ar gyfer cynhyrchion band eang yr ystod ganol, yn hytrach na newid i gynhyrchion llinell ar log drutach.
Rwyf wedi ymrwymo i gyflawni ein huchelgeisiau yn ‘Symud Cymru Ymlaen' i gynnig band eang dibynadwy, cyflym i bob eiddo yng Nghymru. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a dweud, heb os nac oni bai, bod prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella argaeledd band eang ffeibr ar draws Cymru, ac mae hyn i'w groesawu yn fawr iawn.
Fodd bynnag, ni ellir gwadu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ar ei hymrwymiad yn 2011 i—a dyfynnaf—sicrhau bod
gan bob safle a busnes preswyl yng Nghymru fynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.
Mae paragraff 5.3.2 o gontract gwreiddiol Cyflymu Cymru yn nodi bod o leiaf 90 y cant o'r holl eiddo yn ardal ymyrryd y contract yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang ar 30 Mbps o leiaf. Yn ôl fy nghyfrif i, mae'r 98,000 o safleoedd a nodwyd gennych fel rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn eich datganiad heddiw yn cynrychioli dros 12 y cant o adeiladau—methiant clir i gyrraedd y targed o 90 y cant. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am eglurder ac iddi gadarnhau pa ganran o adeiladau sy’n gallu derbyn cyflymder cyflym iawn mewn gwirionedd?
Roedd yr adolygiad gwreiddiol o’r farchnad agored a gynhaliwyd gan Mott MacDonald yn nodi 45,000 eiddo yng Nghymru na fyddai'n elwa ar y prosiect. Ymddengys bod eich datganiad heddiw yn dweud bod hyn bellach wedi tyfu i 98,000—mwy na dwywaith y nifer gwreiddiol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech esbonio pam fod y ffigur wedi dyblu a darparu rhestr lawn o’r eiddo sydd y tu allan i gwmpas y prosiect er mwyn galluogi cartrefi a busnesau a fydd yn bendant ar eu colled i wneud cynlluniau wrth gefn a threfniadau amgen. Os bydd BT yn methu â bodloni ei rwymedigaethau cytundebol yn y pen draw, a ydych yn disgwyl derbyn cyllid adfachu ar gyfer y targedau coll hyn? Os felly, faint?
Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod yn amheus ynghylch y dull sy'n pennu mai’r Llywodraeth a BT sy’n cyfrif adeiladau a basiwyd fel ffordd o asesu pwy all dderbyn band llydan ffeibr. Rydw i wedi clywed adroddiadau o gapasiti annigonol mewn ardaloedd band eang cyflym iawn sy’n golygu na all trigolion gysylltu â'r rhwydwaith, sy'n golygu, er bod y rhwydwaith yn dechnegol wedi pasio’r adeilad, nid yw trigolion yn gallu caffael y gwasanaeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r hyn yr ydych yn ei wneud i unioni’r problemau capasiti hyn sy'n atal pobl rhag cael mynediad at fand eang ffeibr sydd wedi ei ddarparu ar gost i bwrs y wlad.
Mae'r prosiect hefyd yn dal i gael ei flino, ddywedwn i, gan faterion cyfathrebu, gyda phreswylwyr yn cael gwybod un mis y byddant yn cael mynediad at fand eang ffeibr erbyn dyddiad penodol, dim ond i gael gwybod ychydig wythnosau yn ddiweddarach na fyddant yn ei dderbyn o gwbl. Mae hyn yn annerbyniol a hoffwn gael sicrwydd gennych heddiw, Weinidog, fod y cynllun olynol yn cynnwys rhwymedigaeth gytundebol a fydd yn gweld gwelliant mewn cyfathrebu cyhoeddus. Soniasoch yn eich datganiad y gall cymunedau weithredu eu hatebion eu hunain. Wel, ni allant; dim os ydynt yn cael gwybodaeth annigonol.
Gan droi at y targed ar gyfer manteisio ar fand eang cyflym iawn, mewn datganiadau blaenorol, rydych wedi dweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar ysgogi galw, ond does dim sôn am hyn heddiw yn eich datganiad. Felly, a wnewch chi gadarnhau: beth yw'r gyfradd bresennol o fanteisio ar fand eang ffeibr yn yr ardal ymyrryd? O ystyried y ffaith ei fod o fudd i Lywodraeth Cymru, ddywedwn i, i fynd ati’n benderfynol i annog pobl i fanteisio ar y cynllun gan y bydd yn elwa wrth rannu enillion, a ydych yn bwriadu codi'r targed manteisio truenus o isel o 50 y cant erbyn 2024?
Yn olaf, cyfeiriasoch at y cynllun talebau band eang, gan ddweud y bydd y cynlluniau hyn yn cael eu haddasu i gynnig mwy o hyblygrwydd. Mae’n rhaid i mi ddweud bod hyn i'w groesawu, gan fod y cynllun talebau gwibgyswllt wedi dod, ddywedwn i, dan rywfaint o feirniadaeth am iddo fod yn canolbwyntio’n anghymesur ar gynhyrchion ym mhen uchaf y farchnad ac nad oes iddo ddigon o hyblygrwydd—mater a godais gyda chi, mi wn, ryw 18 mis yn ôl. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi mwy o fanylion ynghylch sut y bydd y cynllun talebau yn cael ei addasu ar gyfer y cynllun olynol ac yn cadarnhau y bydd y cynllun olynol hefyd yn canolbwyntio ar gyflymder lanlwytho yn ogystal â chyflymderau lawrlwytho.
Wel, dyna restr eithaf cynhwysfawr o bethau. Anfonwyd dogfen ymgynghori allan, yr wyf yn gobeithio bod yr holl Aelodau wedi’i derbyn, ac mae dolen y we ynddi i fap rhyngweithiol. Os byddwch yn mynd at y map, ac rwy’n gobeithio y bydd o leiaf rhai Aelodau wedi cael cyfle i wneud hynny’n barod, byddwch yn gallu gweld eich bod yn gallu mynd i lawr at lefel eiddo unigol. Ac mae eicon ar ben pob eiddo unigol sy'n dweud yr hyn yr ydym yn meddwl sy’n digwydd yn yr adeilad penodol hwnnw. Felly, dylech fod yn gallu gweld a yw'n sgwâr, yn driongl neu ddot coch, neu beth bynnag, ac mae allwedd ar hyd yr ochr sy'n dweud wrthych beth y mae’r symbolau hynny yn ei olygu: mwy nag un darparwr, dim ond un darparwr, dim ond diwifr, ac yn y blaen. Rydym yn awyddus iawn, iawn i sicrhau bod yr wybodaeth mor gywir ag y bo modd, felly byddem yn wir yn hoffi cael ymgynghori mor eang ag y bo modd ar hynny. Felly, ar gyfer y rhai ohonoch sydd ag etholwyr sydd wedi ysgrifennu ataf, neu os ydych wedi ysgrifennu ataf ynghylch grwpiau o bobl neu gymunedau, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddech yn edrych ar y mapiau i sicrhau bod yr wybodaeth yn cyfateb i’r hyn a ddeallwch chi i fod yn wir.
O ran rhai o'r cwestiynau eraill, ar y nifer o eiddo, mae’r ymrwymiad cytundebol ar gyfer BT yn ymwneud â nifer yr eiddo; nid oedd erioed yn ganran. Y ganran a nodwyd yn 2011 oedd canran yr eiddo a oedd ar gael yng Nghymru yn 2011. Hynny yw, yn eithaf clir, mae llawer mwy o eiddo wedi eu hadeiladu ers 2011 hyd at nawr, felly fyddech chi byth wedi disgwyl i’r nifer aros yr un fath. Yn wir, dyna un o'r materion y mae sawl un o Aelodau yn y Siambr wedi tynnu sylw ato, oherwydd bod cryn drafod yn yr adolygiad marchnad agored ar y mater o eiddo newydd eu hadeiladu wedyn. Doedden nhw ddim wedi eu cynnwys, ac mae hynny wedi bod yn broblem barhaus, ac rwy'n disgwyl gorfod mynd i'r afael â hynny.
Y peth arall yw bod y ffordd y mae'r gwaith mapio wedi ei wneud yn llawer mwy cywir. Rwyf wedi gwirio ardal fy etholaeth i y bore ’ma, dim ond o ran diddordeb, a gallwch weld yn syth mai cerfluniau yw rhai o'r adeiladau a nodwyd, er enghraifft, ac rwy'n eithaf siŵr na fydd angen iddynt gael eu galluogi â band eang. Mae eraill: mae cronfa ddŵr wedi’i nodi yn fy etholaeth i, nad wyf yn credu sydd angen band eang, er y gallwn i holi Dŵr Cymru i weld a oes ganddynt ryw fath o wasanaeth a allai fod ei angen yn y gronfa ddŵr ac yn y blaen. Felly, mae'r gwaith mapio yn llawer mwy cywir nag yr oedd yn 2011, ond nid yw mor gywir ac yr hoffem, a byddem yn ddiolchgar iawn i gael gwybodaeth yn ôl gennych chi am gywirdeb hynny, neu fel arall. Er enghraifft, does dim pwynt i ni geisio mynd yr holl ffordd i fyny llwybr at ysgubor os nad oes neb yn byw ynddo mewn gwirionedd.
Mae hynny'n mynd â fi at y peth nesaf, sef ein bod wedi buddsoddi llawer iawn mwy o arian i ysgogi galw. Mae'r gyfradd sy’n manteisio ar y cynllun ar hyn o bryd oddeutu 35 y cant. Yn ôl amcangyfrif BT, fel y gwyddoch, roedd yn 21 y cant, ac rydym yn cael rhannu enillion am bopeth dros hynny. Mae’n rhywle rhwng 31 a 38 y cant, ond y cyfartaledd yw tua 35 y cant ar hyn o bryd, ac fel y byddech yn disgwyl, mae hynny'n mynd i fyny drwy'r amser. Mae'n fwy ynghylch ffeibr i'r cabinet na ffeibr i'r eiddo ar hyn o bryd, ond mae hynny oherwydd mai dim ond yn ddiweddar yr aed ati o ddifrif i gynyddu adeiladu ffeibr i'r adeilad. Felly, rydym yn hapus iawn bod y niferoedd sy'n manteisio ar y cynllun yn fwy na'r terfyn a osododd BT, gan ein bod yn cael ennill cyfran dda o hynny, ond yn amlwg, po uchaf y mae’n dringo, y mwyaf o arian yr ydym yn ei gael, ac felly byddwn i'n fwy nag awyddus i siarad â chi i gyd am ffyrdd yr ydych yn meddwl y gallwch chi ysgogi galw yn eich ardaloedd lleol. Rydym yn ceisio gwneud hynny yn genedlaethol. Rwy'n ysgrifennu at bob eiddo unigol sydd â chyflymder uchel iawn yn gofyn iddynt fanteisio arno ac yn y blaen.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn edrych ar gymunedau o ddiddordeb, yn ogystal. Mae gennym ddalen gwbl wag yma a byddwn wir yn ddiolchgar iawn i'r ACau a fyddai'n dod yn ôl ataf ynghylch hyn. A ddylem ni geisio targedu'r holl ffermwyr sydd ar ôl? A ddylem ni geisio targedu'r holl fusnesau sydd ar ôl? A ddylem geisio targedu dim ond y bobl hynny sy'n dangos i ni y byddent mewn gwirionedd yn ei brynu? Bydd rhai o'r adeiladau hyn yn ddrud iawn i'w cyrraedd. Byddai'n drist i wario'r arian i’w gael atynt, dim ond i ddarganfod nad oes gan berchennog y tŷ unrhyw fwriad o gwbl i fanteisio ar y cynnig. Mae'n ymgynghoriad gwirioneddol agored, nid wyf i wir yn gwybod sut y dylem ei flaenoriaethu. Rydym yn annhebygol o gael cebl ffeibr i bob adeilad yng Nghymru. Yn amlwg, byddai hynny'n rhy ddrud i rai, felly bydd yn rhaid i rai gael technoleg amgen. Bydd y cynllun talebau yn parhau i fod ar gael i'r bobl hynny sy’n annhebygol iawn o gael band eang ffeibr byth. Rwy'n ofni, os ydych yn byw 14 milltir i fyny llwybr a chi yw'r unig adeilad yno, mae'n annhebygol o fod yn effeithlon yn economaidd i ni wneud hynny—yn ôl pob tebyg byddwn yn cynorthwyo gyda lloeren neu rywbeth tebyg.
Felly, rwyf wir yn gofyn i chi beth yw'r ffordd orau o wneud hyn mewn gwirionedd. Os oes gennym gymunedau cyfan a hoffai gael diwifr, er enghraifft—felly byddent yn hoffi cael band eang wedi’i ddarparu i ganolfan gymunedol, ac yna gallai'r pentref neu’r gymuned gyfan gael ei gynnwys gan signal diwifr yn hytrach na gwifrau i bob eiddo—rydym yn hapus iawn i ystyried hynny. Mae'n un o'r rhesymau pam yr ydym wedi addasu’r cynllun talebau, fel y gall cymunedau wneud cais gyda’i gilydd i wneud hynny. Fel y gwyddoch, mae'n unigol ar hyn o bryd. Mae addasiadau eraill—Russell, soniasoch am y peth gwibgyswllt; rydym yn gwybod bod rhai busnesau nad ydynt eisiau mynd yr holl ffordd at 100, ond mae angen mwy na 30 ac yn y blaen. Mae Hefin David, mewn gwirionedd—nid yw yn y Siambr—wedi codi hynny gyda mi sawl gwaith, fel yr ydych chi, ac fel y mae David Rees. Yn amlwg, mae llawer o fusnesau eisiau’r cynnyrch canolig hwnnw yr ydym yn edrych arno. Felly, mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud.
O ran materion capasiti yn y rhwydwaith, nid ydym yn talu BT pan fydd y cabinet yn cael ei basio, rydym yn eu talu pan fydd eiddo unigol yn cael eu pasio. Maent yn cael eu talu fesul nifer o eiddo. Felly, os ydych chi’n credu ein bod wedi derbyn eiddo, ac, mewn gwirionedd, nad ydynt yn ei gael, gadewch i mi wybod oherwydd gallwn addasu hynny yn ôl. Ond rwy’n eich sicrhau, mae’n ymwneud ag eiddo unigol. Nid wyf yn dweud, 'mae Cabinet 16 wedi cael ei alluogi, ac felly mae’r holl eiddo sy'n gysylltiedig ag ef yn cael band eang cyflym iawn’, oherwydd yn sicr nid yw hynny’n wir.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Byddwn yn gweithio gyda BT yn rhan o'r broses hon—maen nhw’n mynd i fod yn gwneud cynnig ar ei gyfer fel unrhyw un arall, rwy'n siŵr—ynghylch y ffordd orau i alluogi rhywfaint o gapasiti ychwanegol, ac rydym yn parhau i gael anhawster o ran pobl ar ddiwedd gwifren gopr hir ar gysylltiad FTTC, a bydd angen i ni edrych yn ofalus ar sut y gallwn alluogi'r rheini i gael cysylltiadau band eang ac i ddod o hyd i ateb sy'n gweddu’r rhan fwyaf o'r cymunedau hynny, gan sicrhau’r gwerth gorau i bwrs y wlad.
Dyna’n union yw’r ymrwymiad ‘mynediad at'. Rydym yn parhau i fod â chynllun talebau sy'n galluogi pobl i gael mynediad at fand eang. Nid yw'n dweud y bydd yn rhad ac am ddim ac nid yw'n dweud y bydd yn ffeibr, oherwydd ni ellir cyflawni hynny. Felly, ar gyfer rhai eiddo, mae 'cael mynediad at' yn golygu y byddwn yn rhannu'r gost ohono â nhw, ond mae pob eiddo yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cynllun talebau os na allwn gael y rhwydwaith band eang ffeibr iddynt, a dyna ein diffiniad o 'cael mynediad at'. Gallwn ddadlau ynghylch semanteg hynny, ac yn fy marn i, mae'n debyg y gallai fod wedi ei eirio'n fwy gofalus, ond dyna beth oedd yr ymrwymiad hwnnw yn ei olygu, a dyna y mae’n ei olygu o hyd.
Nid ydym byth yn mynd i ddod i sefyllfa lle bo gan 100 y cant o bob eiddo unigol yng Nghymru fand eang ffeibr-optig. Yn syml, nid yw hynny’n economaidd ymarferol. Ond yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud, yw sicrhau bod pawb sydd ei eisiau yn gallu cael gafael arno ryw ffordd neu'i gilydd.
A allaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad ar fand eang cyflym iawn? Nawr, mae’n wir i ddweud ers—[Torri ar draws.]
Ymddiheuriadau.
Dim problem. Mae’n wir i ddweud ers 2012 bu buddsoddiad sylweddol o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn y seilwaith band eang yng Nghymru. Mae’n edrych, felly, fel bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i gyrraedd y targed o 690,000 o fangreoedd erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae cyflymder band eang yn hanfodol bwysig o ran cysylltu, fel rydym ni wedi ei glywed, ac o ran datblygiad economaidd ar draws Cymru, yn enwedig yn ein hardaloedd mwy gwledig. Mae adroddiad Tŷ’r Cyffredin a ryddhawyd ym mis Mawrth eleni yn edrych ar gyflymder band eang ar draws y Deyrnas Unedig yn dangos bod angen cau’r bwlch rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig o ran cyflymder cyfartaledd band eang. Dangosodd adroddiad Tŷ’r Cyffredin fod y pedair ardal arafaf ar lefel ward ar gyfer cyflymder cyfartaledd band eang yn y Deyrnas Unedig i gyd yng Nghymru, a bod 65 y cant o’r 20 o ardaloedd mwyaf araf yn y Deyrnas Unedig hefyd yng Nghymru.
Ers dechrau’r project band eang presennol, mae hi’n amlwg na fydd rhai cartrefi a safleoedd yn derbyn band eang cyflym iawn drwy broject Superfast Cymru. Mae Access Broadband Cymru, fel rydym ni wedi clywed, wedi darparu band eang i nifer o gartrefi a safleoedd anodd eu cyrraedd ac mae Airband wedi cyflawni gwelliannau i nifer o barciau busnes, ond mae’n dal yn wir bod llawer i’w wneud mewn rhai mannau o Gymru.
Fel plaid, rydym ni’n cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu project band eang i olynu’r project presennol. Rydym ni’n falch o weld bod yr adolygiad marchnad agored yn seiliedig ar safle yn hytrach na chod post—methodoleg mwy call a fydd yn arwain at set o ddata mwy cadarn. Yn nhermau cwestiwn, rydych chi wedi bod yn sôn cryn dipyn mewn ateb i gwestiynau y byddech chi’n annog unrhyw un allan yn fanna sy’n cael ei effeithio gan fand eang gwael i sicrhau ei fod yn ymateb yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac rwy’n clywed beth rydych chi wedi ei ddweud eisoes, ond i wneud hynny ar lefel bersonol i etholwyr allan yn fanna sydd â phroblemau, bydd angen iddyn nhw, yn wir, wybod am yr hyn sy’n digwydd rŵan—gwybod am y datganiad yma, er enghraifft. Sut yn union ydych chi’n mynd i fynd ati i hyrwyddo’r ymgynghoriad ac a ydych chi’n chwilio i godi ymwybyddiaeth ar-lein, drwy gyfrwng y radio neu’r wasg, er enghraifft?
Wrth gloi, mae’n bwysig nodi bod technoleg ddigidol, fel popeth arall, yn newid yn gyflym. Eisoes mae Ofcom wedi nodi yn ei adolygiad strategol ar gyfathrebu digidol fod y Deyrnas Unedig gyfan yn methu o’i chymharu ag arweinwyr byd eang fel Siapan, Sbaen a De Corea yn nhermau darparu gwasanaethau band eang ‘über’ cyflym—‘ultrafast’. A’r cwestiwn, felly, sydd yn deillio o hynny: buaswn i’n hoffi clywed eich barn o ran sut yr ydych chi’n gweld Llywodraeth Cymru’n cau’r bwlch gyda gweddill y byd o ran band eang ‘über’ cyflym dros y blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr.
O ran y cyflymder cyfartalog ar draws Cymru, rwy’n meddwl bod yr adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato yn flwyddyn neu ddwy oed erbyn hyn, ond rwy’n derbyn yn llwyr bod y safleoedd hynny nad ydynt wedi cael band eang drwy Cyflymu Cymru neu drwy gyflwyno masnachol yn amlwg yn dal ym mha bynnag sefyllfa yr oeddent ynddi o’r blaen. Dyna ddiben y cynllun olynol hwn: mynd i'r afael â’r union broblem honno.
Mae’n unigryw yng Nghymru—rwy'n siŵr fy mod i wedi dyfynnu hwn i Aelodau o’r blaen: mae poblogaeth Cymru wedi ei gwasgaru ar hyd a lled Cymru, ac felly, er mwyn cael signal i Gymru, mae angen llawer iawn mwy o seilwaith nag sydd angen arnoch chi bron yn unrhyw le arall yn y DU. Felly, yn yr Alban, er enghraifft, mae’r boblogaeth gryn dipyn yn fwy cryno, ac felly mae'n haws cael gwasanaethau mawr iddynt. Felly, mae gennym broblem benodol, a dyna pam rwy'n gofyn i bob Aelod fy helpu i gael yr wybodaeth orau bosibl yn ôl ar gyfer y map hwn. Felly, os wnewch chi i gyd ddefnyddio eich gwybodaeth leol—yn amlwg byddwn yn gofyn i bartneriaid awdurdod lleol wneud hyn hefyd, a phartneriaid busnes a phawb sydd wedi ysgrifennu atom ni, ac mae gennym bolisi cyfathrebu sydd yn amlwg yn cynnwys cyfathrebu digidol ac yn y blaen. Ond, a dweud y gwir, os nad oes gennych gysylltiad cyflym iawn yn barod, yna rydych yn mynd i fod yn ddig iawn os byddwn yn gwneud rhaglen gyfathrebu digidol, oherwydd ni fyddwch yn gallu lanlwytho'r GIFs. Felly, byddwn yn ysgrifennu at adeiladau yr ydym yn gwybod y gallent gael anhawster. Byddwn hefyd yn cysylltu â chymunedau o ddiddordeb, felly'r undebau ffermio a phobl eraill sydd wedi cysylltu â ni o sefydliadau busnes ac yn y blaen, gan ofyn iddynt am adborth gan eu cymunedau o ddiddordeb. Ond mae cymunedau daearyddol hefyd a allai elwa ar ymateb cyfunol. Es i i ymweld ag un neu ddau o brosiectau da iawn yn ddiweddar ym mhenrhyn Llŷn, lle mae signal band eang diwifr i neuadd gymunedol wedi galluogi ardal gyfan. Yn wir, bydd y Llywydd yn caniatáu i mi ddweud bod rhai ohonynt yng Ngheredigion, yn ogystal, ac rydym wedi cael rhai sgyrsiau am yr union beth hynny.
Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall beth yw'r ffordd orau o wario’r arian hwn er mwyn cyrraedd y nifer mwyaf o adeiladau mor gyflym ag y bo modd. Ni fydd un ateb yn addas i bawb. Felly, nid ydym yn mynd i gaffael dim ond un contract i orffen y gweddill oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw hynny’n mynd i weithio. Bydd angen atebion penodol ar gyfer cymunedau penodol. Nid yw'n dasg fach, ond rydym yn benderfynol iawn o’i chyflawni.
O ran gwibgyswllt, mae cynllun treial gwibgyswllt mawr—rwy'n siŵr bod yr Aelod yn gwybod—ar y gweill yn Abertawe ar hyn o bryd, ac yn amlwg byddwn yn edrych i weld sut y mae hynny'n gweithio, ac i weld beth yw ei galluoedd o ran cyflwyno. Beth sy'n wirioneddol wych am y rhwydwaith cyflym iawn yw, er ein bod wedi nodi 30 Mbps, mewn gwirionedd, mae'r cyflymder cyfartalog y gwyddom sy’n cael ei gyflawni dros y rhwydwaith oddeutu 80 Mbps; felly, heb fod yn bell o fod yn wibgyswllt, sydd fel arfer yn cael ei gyfrif yn 100 Mbps. Ond, yn wir, bydd hon yn broblem gyson ar draws y byd wrth ddiweddaru’r rhwydweithiau hyn drwy'r amser, ac mae'n un o'r pethau y mae angen i ni ei gadw mewn cof wrth inni symud ymlaen i'r dyfodol.
Gweinidog, rwy’n croesawu'r datganiad heddiw ar brosiect Cyflymu Cymru a'r cynnydd tuag at y prosiect olynol. Rwy'n credu, yn yr oes sydd ohoni, mae'n briodol mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw darparu band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru, ac rwy'n falch o nodi'r cynnydd a wnaed. O ystyried faint o ohebiaeth yr wyf wedi’i chael gan etholwyr ac, o ganlyniad, yr ydych chi wedi’i chael gennyf i, byddaf yn annog cyfranogiad gweithredol ar lefel leol yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Ond mae gennyf un neu ddau o gwestiynau penodol mewn cysylltiad â datblygiadau mynediad cyflym iawn ac adeiladau newydd. Rwy’n gwybod, yn eich ymateb blaenorol i fy nghydweithiwr Russell George, dywedasoch eich bod yn disgwyl gorfod mynd i’r afael â hyn. Gwn fod llawer o breswylwyr, pan fyddant yn symud i fyw mewn datblygiadau newydd—yn cynnwys fi fy hun, efallai—yn disgwyl y byddant yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr ac yna’n canfod nad ydynt yn gallu, er gwaethaf y ffaith bod datblygwyr yn gallu cael cysylltiad ar gyfer datblygiadau o 30 neu fwy o dai. Rwy'n ymwybodol bod amrywiol resymau y tu ôl i hyn, gyda rhai datblygiadau mwy o faint yn cael eu hadeiladu ar wahanol gamau neu’r ddatblygwyr yn methu â rhoi gwybod i Openreach cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Felly, Weinidog, a fydd yna gamau i wella cydlyniad rhwng datblygwyr ac Openreach, neu’r darparwyr ar hyn, gan ei fod yn rhan o'r ymgynghoriad ac, yn ychwanegol—? Heddiw, rwy’n meddwl ein bod yn cydnabod ein bod mewn sefyllfa pan fo mynediad at fand eang cyflym iawn mewn gwirionedd yn gyfleustod hanfodol. Efallai y gellid rhoi ystyriaeth i rwymedigaeth sy'n sicrhau y dylai fod yn rhan o'r isadeiledd cychwynnol yn y dyfodol ar gyfer unrhyw ddatblygiadau adeiladu newydd.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ardderchog o ran y pwynt olaf. Mae mater y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol wedi ein poeni am beth amser. Rydym yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU i gydnabod bod hwn yn gyfleustod ac nid yn foethusrwydd. Rwy'n dweud hyn yn aml wrth bawb. Pan ddechreuasom y broses hon, roeddem yn arfer marchnata Cymru drwy ddweud 'Dewch i Gymru i ddatgysylltu o dechnoleg fodern', ac mae’n eithaf amlwg erbyn hyn nad oes neb byth yn awyddus i wneud hynny, ac mae'n mynd o rywbeth cadarnhaol i anfantais wirioneddol ddifrifol. Felly, rydym wedi bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ers peth amser i gynnwys rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ond hefyd i drin hwn fel cyfleustod, oherwydd bod llawer o'r problemau y mae pobl yn eu cael o ran cael mynediad at fand eang cyflym iawn oherwydd bod eu heiddo yn sownd tu ôl i ddarn o dir na allwn gael ar ei draws, ac mae BT yn cael eu gadael yn ceisio negodi fforddfraint, neu beth bynnag, ar draws y tir. Yn wahanol i gyfleustod, nid oes ganddynt hawl i groesi'r tir, ac yna talu swm priodol. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid iddynt negodi hynny. Felly, mae'n gwbl bosibl i rywun allu rhwystro pentref cyfan mewn gwirionedd, a hynny’n syml drwy beidio â gadael iddynt groesi eu tir, ac mae hynny'n amlwg yn annerbyniol yn yr oes fodern.
O ran adeiladu newydd, mae’r Aelod wedi bod yn ddiwyd iawn yn ysgrifennu ataf am nifer o'r problemau yn ei hetholaeth. Rydym wedi bod yn siarad â Gweinidogion y Cabinet am y gwahanol anawsterau mewn cyfraith cynllunio, ac am yr hyn y gallwn ei wneud drwy gytundebau adran 106 i sicrhau bod cynghorau yn rhoi rhwymedigaethau ar adeiladwyr, lle maent yn adeiladu mwy na nifer penodol o eiddo, i sicrhau bod cysylltu â'r rhwydwaith cyflym iawn yn rhan o'r rhwymedigaeth ar yr adeiladwr pan fyddant yn adeiladu ystâd. Ond, nid oes gennym unrhyw ffordd o orfodi hynny, heblaw drwy’r rhwymedigaethau hynny. Felly, rydym wrthi yn ystyried yn weithredol sut y gallwn wneud hynny, ac o ran y gwaith adeiladu ei hun, gwneud yn siŵr bod y tŷ ei hun yn gallu ei wneud.
Un o'r problemau mawr sydd gennym gyda thechnoleg fodern yw po fwyaf y mae tŷ wedi’i insiwleiddio, y mwyaf tebyg ydyw i gawell Faraday, a’r lleiaf hydraidd ydyw i signalau ffonau symudol a signalau band eang ac yn y blaen. Felly, mae'n benbleth braidd. Mae'n ymwneud ag os ydych chi'n mynd i sicrhau bod gan eich tŷ lefelau uchel iawn o insiwleiddio ac eco-gynaliadwyedd—yr wyf i, yn un, o blaid hynny’n fawr iawn—yna bydd angen i chi sicrhau bod y tŷ wedi ei weirio, oherwydd nid yw’r signal Wi-Fi yn mynd i fynd drwy'r deunydd inswleiddio yn hawdd iawn. Felly, mae'n ymwneud â cheisio cael y rheoliadau adeiladu hynny yn gyson â rheoliadau cynllunio. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gael y rhwymedigaeth gwasanaeth yn iawn, ac i gydnabod nad yw hyn yn foethusrwydd o gwbl—mae bellach yn hanfodol i bobl, yn yr un modd ag y mae dŵr, trydan ac yn y blaen. Yn wir, credaf, i rai pobl ifanc, mae'n debyg, yn fwy o hanfod na rhai o'r pethau eraill hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn, Hannah, pe gallech ysgrifennu ataf gan nodi ardaloedd penodol. Pe gallech edrych ar y map rhyngweithiol, yna gallwn siarad am atebion penodol ar gyfer rhai o'r ystadau yn eich ardal chi. Ac, yn amlwg, mae hynny'n wir am yr holl Aelodau sydd â'r un broblem.
Iawn. cwestiynau cyflym iawn o hyn ymlaen. [Chwerthin.] Darren Millar.
Diolch i chi, Llywydd. Diolch i chi am eich datganiad. Rwyf braidd yn bryderus, mewn gwirionedd, o glywed nifer yr eiddo—doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai’n nifer mor uchel—a fydd y tu allan i'r cynllun presennol. Mae llawer o'r eiddo hynny, fel y gwyddoch o'n gohebiaeth yn y gorffennol, yn fy etholaeth i. Mae rhai ohonynt yn talu drwy'u trwyn, a dweud y gwir, am wasanaethau band eang lloeren, sydd yn ddrud iawn, iawn ac yn eithaf annibynadwy ar gyfer y teuluoedd penodol hynny. Felly, rydym yn wynebu’r anfantais ddigidol hon, ac rwy'n bryderus iawn ynghylch hynny. Rydych wedi rhoi’r ymrwymiad hwn i gael golwg ar y system talebau gwibgyswllt i fusnesau. Gwn fod gennym gynllun Mynediad Band Eang Cymru, sydd hefyd yn annog manteisio ar y cyflymder uchaf. Nid ydych wedi dweud pa un a ydych yn ystyried edrych eto ar sut y mae hynny’n gweithredu ac nid ydych chi wedi dweud a ydych yn barod i edrych ar ganiatáu i bobl a oedd ymysg y cyntaf i elwa ar y cynllun hwnnw, efallai bump neu chwe blynedd yn ôl, pan oedd y meini prawf ond yn caniatáu ar gyfer cael hyd at 2 Mbps, ac a all y bobl hynny ailymgeisio yn awr o dan y cynllun newydd er mwyn manteisio ar y cyflymder uwch allai fod ar gael. Efallai y gallech wneud sylwadau ar hynny.
Nodais hefyd gyda diddordeb eich cyfeiriad at y ffaith bod rhai tirfeddianwyr wedi bod yn rhwystrol. Mae hyn yn esgus rheolaidd a glywaf gan BT Openreach, ond wrth gwrs bob tro rwy'n gofyn iddynt pa dirfeddianwyr, ni allant ddweud wrthyf. Mae hyn oherwydd, a dweud y gwir, ei bod mewn rhai achosion yn ddim ond esgus, ac nid oes mewn gwirionedd unrhyw rwystrau o gwbl gan dirfeddianwyr lleol. Yn wir, pan wyf wedi gofyn iddynt fanylu ar hyn yn fy etholaeth fy hun, mae wedi bod yn eithaf amlwg na fu problem o gwbl gyda pherchnogion tir; nid ydynt wedi trafferthu gwneud digon o ymdrech i gysylltu â nhw neu eu hasiantau tir.
Dim ond un pwynt olaf hefyd: soniasoch am yr hawliau datblygu a ganiateir sydd gan lawer o'r cwmnïau cyfleustodau eisoes. Wrth gwrs, mae'r system gynllunio wedi ei datganoli yn llwyr yma yng Nghymru. Does dim rheswm o gwbl pam na allai Llywodraeth Cymru ymestyn hawliau datblygu a ganiateir i weithredwyr telathrebu. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi’n gwneud hynny, er mwyn inni oresgyn rhai o'r problemau hyn. Mae hyn yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd lawer yn ôl, a dweud y gwir, ac ni ddylem fod yn dal i siarad am y pethau hyn heddiw. Yr hyn yr ydym ei angen yw rhywfaint o weithredu ar y cyd ar hyn, os yw ein hetholwyr—pobl fel fy rhai i ym Moelfre a Llanarmon yn Iâl a lleoedd eraill—yn mynd i gael mynediad at y mathau hyn o wasanaethau, sydd a dweud y gwir yn wasanaethau sylfaenol yn awr, yn enwedig ar gyfer busnesau, ond nid busnesau yn unig, ar gyfer teuluoedd hefyd, o ran eu systemau adloniant a'r cyfleoedd dysgu y mae’r rhyngrwyd yn eu darparu.
Rwy’n llwyr dderbyn y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud am ba mor hanfodol yw'r gwasanaethau. Os oes gan yr Aelod enghreifftiau penodol lle mae BT wedi bod yn gwneud esgusodion, fel y mae’n dweud, a brofwyd i fod yn wir, byddai gennyf ddiddordeb mawr i wybod y manylion. Rwy’n ymwybodol o achosion penodol o dirfeddianwyr yn bod yn anodd iawn, mewn gwirionedd, ond mae bob amser yn ddiddorol i ddeall y darlun lleol.
O ran y cynllun talebau, rydym eisoes wedi addasu'r cynlluniau talebau unwaith, felly gallwch chi eisoes wneud cais am daleb i gael camu i fyny os oes gennych eisoes 2 Mbps ac yn y blaen. Byddwn yn edrych ar hynny unwaith eto. Rwy'n ymddiheuro o waelod calon am fy amryw broblemau, ond rwyf i fod i ddod i ymweld â'ch etholaeth chi maes o law, felly byddwn i'n falch iawn i gael sgwrs wirioneddol dda gyda chi ynghylch yr union broblemau. Dyna'n union yr ydym yn chwilio amdano ar gyfer yr ail brosiect—edrych ar broblemau penodol y gallem eu datrys mewn ffordd arbennig. Gellir addasu’r system dalebau ar gyfer beth bynnag yw’r broblem, neu yn wir gallwn addasu llawer o’r contract newydd hwn i wneud hynny. Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwn wneud hynny. Mae'r cynllun talebau yno i helpu pobl sydd am fynd yn gyflymach na'r prosiect ac i gyrraedd y bobl nad yw byth yn mynd i fod yn economaidd i’w cyrraedd. Ond nid wyf yn meddwl eich bod yn siarad am lawer iawn o bobl yn hynny o beth. Felly, gallwn gael sgwrs dda am sut i rannu’r contract nesaf, a allai fod yn benodol iawn i'r bobl hynny.
O ran yr eiddo, rwy’n meddwl fy mod eisoes wedi dweud hynny, ac os edrychwch ar y map rhyngweithiol, byddwch yn gweld yr hyn yr wyf yn ei olygu. Yn gyntaf oll, rydym wedi cael llawer o adeiladau newydd ac eiddo eraill dros yr amser. Does dim amheuaeth o gwbl bod systemau mapio GIS wedi gwella'n anfesuradwy ers 2011—felly, mae gennym fapiau gwell ohono. Ond hefyd nid oes amheuaeth o gwbl nad yw rhai o'r eiddo sydd arno yn eiddo y byddech yn dymuno eu galluogi ar gyfer band eang, ac nid wyf yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth. Fel y dywedais yn anecdotaidd, rwyf wedi edrych ar fy ardal fy hun, ac yn eithaf amlwg mae yna rai anghysondebau. Fe fydd eraill. Efallai y bydd rhai eiddo ar goll, a ddylai fod yno, ond nid ydynt yno. Felly, rydym yn ddibynnol iawn ar y wybodaeth a ddaw yn ôl. Ni fydd ond cystal â'r wybodaeth yr ydym yn ei chael yn ôl. Felly, rydym yn dibynnu ar y system GIS ar hyn o bryd, ac nid yw honno'n hollol berffaith. Ond does dim amheuaeth o gwbl ei bod yn well o lawer nag yr oedd yn 2011, sy'n esbonio rhai o'r gwahaniaethau. Felly, mae’r adeiladau newydd, y gwahaniaeth mewn technegau mapio, a'r ffaith ein bod wedi mynd i lawr i lefel eiddo unigol, ac nid lefel cod post, yn gwneud y gwahaniaeth, mewn gwirionedd, ar hynny.
Ac rwy’n meddwl, o ran y rhan seilwaith—rwy’n gwybod bod y Llywydd wedi dweud dim ond cwestiynau band eang—yr anhawster yw ei bod yn dechrau mynd yn anodd iawn gwahaniaethu rhwng telathrebu a band eang, ac, fel y mae’r Gs yn mynd i fyny, yna yn amlwg mae llawer o bobl yn cael mynediad band eang trwy ffôn symudol. Ond nid wyf yn siarad am fastiau yma; rwy'n siarad am gloddio cebl o dan y ddaear, ac mae hynny'n wahanol. Nid dim ond yr hyn a ganiateir—. Mae'n rhaid i chi gael fforddfraint ac mae’n rhaid i chi gael caniatâd i’w gynnal a'i gadw ac yn y blaen. Ond rydym yn siarad â chydweithwyr cynllunio am newidiadau. Rwyf wedi cynnal fforwm ffôn symudol i drafod yr union beth hwn, a byddwn yn cyhoeddi cynllun ffôn symudol yn fuan iawn. Mae'n dechrau bod yn amhosibl trafod y ddau ar wahân, er nad yw symudol wedi'i ddatganoli. Felly, wyddoch chi, mae rhai cymhlethdodau yno, ond rydym yn y broses o gael yr union drafodaethau hynny am gynllunio. Ac, fel yr wyf wedi’i ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, bydd hynny yn gydbwysedd rhwng cael y gwasanaeth i bobl a pheidio â gorchuddio ein cefn gwlad hynod brydferth â mast bob 50 troedfedd, nid oes ar neb eisiau hynny.
Gweinidog, rwy’n awyddus i godi materion y gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt, oherwydd ein bod wedi gohebu amdanynt, sef mater methiant cwmni AB yn ardal Allteuryn yn fy etholaeth i, oherwydd mae’r methiant hwnnw wedi gadael trigolion heb fynediad at y rhyngrwyd, sydd, fel y gall pob un ohonom ddychmygu, wedi creu llawer iawn o broblemau a rhwystredigaeth iddynt. Mae yna ateb dros dro o ran y seilwaith yn cael ei ddarparu gan AB, ynghyd â British Telecom, ond, hyd yn hyn, nid oes dyddiad ar gyfer gosod ffeibr BT, ond, ers peth amser bellach, maent wedi dweud wrth drigolion lleol bod hynny ar fin digwydd. Ond nid oes unrhyw ddyddiad ar gyfer y ddarpariaeth a fyddai'n caniatáu i drigolion gael mynediad at y ffeibr hwnnw. Felly, mae’r rhwystredigaeth yn parhau ac mae wedi bod felly ers peth amser.
Y rhwystredigaeth go iawn arall yw nad oes darparwr gwasanaethau rhyngrwyd i gymryd yr awenau ar gyfer gwasanaethau AB Internet ar sail barhaol ar hyn o bryd. Fel y dywedais, rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r materion hyn, Gweinidog, ac rwy’n meddwl tybed a oes unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud heddiw ynghylch beth fydd yr ateb.
Ie, ac rwy'n ddiolchgar iawn i John Griffiths am godi'r manylion y mae wedi’u codi gyda mi ynghylch hyn. Mae'n sefyllfa rwystredig iawn. Yr wybodaeth sydd gen i ar hyn o bryd yw bod yr holl wasanaethau yr oedd AB yn eu darparu bellach wedi eu hadfer, er bod hynny gydag atebion dros dro, a bod y gweinyddwyr wedi anfon pecynnau gwybodaeth i ddarpar brynwyr ac yn amlwg yn obeithiol y byddant yn gallu gwerthu'r cwmni fel busnes gweithredol. Ond nid oes gennyf ddim mwy o wybodaeth na hynny.
Yn anffodus, wrth gwrs, nid ydych yn yr ardal ymyrryd, felly rydych chi'n dibynnu ar y cyflwyno masnachol, ac mae hwnnw’n hynod—. Hynny yw, eironi hyn yw nad yw fy holl etholaeth yn yr ardal ymyrryd, ac mae gennyf bobl heb unrhyw wasanaethau band eang, ond, lle mae gweithredwr masnachol wedi dweud eu bod yn mynd i ddarparu gwasanaeth, ni allwn fynd yno oherwydd byddai hynny'n torri rheolau ymyrryd y cymorth gwladwriaethol. Felly, ni allaf wneud fawr mwy na chydymdeimlo â'r anhawster. Rwy'n hapus i weithio gyda'r Aelod wrth siarad â BT am eu gwaith cyflwyno masnachol a pha un a allwn helpu gyda hynny, ond nid oes gennyf unrhyw bŵer ymyrryd gwirioneddol. Os oes gennych chi fwy o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan AB Internet, neu yn wir unrhyw Aelod arall y mae AB Internet yn gweithredu yn eu hardal—mae nifer o rai eraill—pe gallech roi gwybod i mi, yna o leiaf gallwn sicrhau bod ateb dros dro ar waith ar gyfer rhai o'r bobl hynny.
Rwy'n meddwl bod y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi ei chadw yn eithaf prysur, fel y mae fy ngweithiwr achos fy hun, sydd erbyn hyn yn gweithio ar ddim ond materion band eang. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed, gan wneud yn siŵr ein bod wir yn ceisio darganfod ble mae’r problemau hynny ac yn helpu i wella cysylltedd. Yn awr, yn amlwg, wyddoch chi, byddem yn croesawu prosiect olynol, ond, wyddoch chi, yn eich datganiad, rydych yn dweud ei fod yn ôl-troed o tua 2,000 o eiddo busnes ar draws y gogledd a’r de. Rwy'n falch gyda'r cysylltedd a gynigir i fusnesau mewn parciau busnes, ond, i mi, wrth gwrs, yn Aberconwy, mae gen i lawer o ardaloedd gwledig. Sut ydym ni’n mynd i fynd i'r afael â’r adeiladau unigol, ynysig hynny? Mae llawer o fy etholwyr yn y Cymoedd yn ffermwyr, ac maent yn ei chael hi'n anodd iawn yn awr gyda'r holl daliadau ar-lein, a'r holl ddata ar-lein sydd eu hangen arnynt. Ni allant weithredu yn awr yn eu diwydiant eu hunain.
Rydych yn sôn am eich rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’—
Nid wyf yn credu bod angen i chi ailddarllen datganiad cychwynnol y Gweinidog.
Nid wyf yn gwneud hynny.
A wnewch chi ddod i gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Anghofiwch o.
Gweinidog, a oes angen i chi ymateb i unrhyw beth?
Wel, dim ond i ddweud bod y materion i raddau helaeth yr un fath. Rhaglen wledig yw hon, fel y bydd pawb yn gwybod. Rydym yn ddibynnol iawn ar gael gwybod yr wybodaeth leol. Mae llawer o Aelodau wedi bod yn ddiwyd yn ysgrifennu ataf am eu problemau. Byddai'n wirioneddol wych pe gallech graffu ar y map rhyngweithiol a gwneud yn siŵr bod y data sydd arno mor gywir ag sy’n bosibl iddo fod. Mae gennych chi yn eich ardaloedd y cysylltiadau ar gyfer eich holl fusnesau, eich fforymau cynrychiolwyr lleol, yr undebau, ac yn y blaen. Os gwelwch yn dda, rhowch yr wybodaeth honno i ni cyn gynted ag y bo modd, a gallwn fynd â'r prosiect yn ei flaen.
Diolch i’r Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi hysbysu nad yw’n bwriadu gwneud y cynnig o dan yr eitem hon. Galwaf arno fe nawr i gadarnhau hynny i’r Siambr.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn dymuno cynnig y cynnig y prynhawn yma. Yn anffodus, mae gwall wedi’i nodi yn y cynnig, a fydd, os y’i cytunir, yn arwain at broblemau technegol wrth drefnu gwelliannau Cam3. Ymddiheuraf, wrth gwrs, i Aelodau bod y problemau technegol hyn wedi’i nodi’n hwyr. Felly, nid yw'r cynnig yn cael ei gynnig y prynhawn yma.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:07.