Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. A’r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.

Bagloriaeth Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru? OAQ(5)0117(EDU)

Diolch, Angela. Cyflwynwyd bagloriaeth Cymru newydd, fwy trylwyr, ym mis Medi 2015, a chredaf yn gryf y bydd dysgwyr yng Nghymru yn elwa o’i hastudio. Rwy’n dal i ddisgwyl i bob ysgol yng Nghymru ddarparu bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4 ac i bob sefydliad ôl-16 weithio tuag at ei rhoi ar waith yn llawn erbyn 2019-20.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond mae gennyf bryder o ran y modd y caiff bagloriaeth Cymru ei rhoi ar waith, a hoffwn eich barn ynglŷn â hynny. Mae gennym unigolion sydd ar ben uchel-weithredol y sbectrwm awtistig, neu sydd ag anghenion dysgu eraill, sydd er hynny’n gallu ymdopi â phynciau academaidd. Fodd bynnag, mae’r unigolion hyn yn aml yn ei chael yn anodd ymgymryd ag elfen her sgiliau’r fagloriaeth, lle rhoddir pwyslais ar heriau unigol a lle mae’n rhaid i ddysgwyr weithio fel tîm. Mae gennyf enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae dysgwyr yn dechrau dioddef o salwch meddwl neu’n gwrthod mynd i’r ysgol oherwydd y straen o ymdopi â sefyllfa o’r fath. Yn wir, bu tad un o fy etholwyr ar wyliadwriaeth hunanladdiad gan ei fod mor bryderus am ei blentyn.

Ond mae ysgolion yn bod yn llym ac yn gwrthod eithrio dysgwyr rhag gwneud y fagloriaeth, er bod y canllawiau cyfredol yn dweud nad yw’n ofyniad statudol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n amau bod yr ysgolion yn bod yn llym fel hyn oherwydd, ac rwy’n dyfynnu canllawiau Estyn,

‘bydd cyflawni Bagloriaeth Cymru yn un o fesurau perfformiad ysgolion yng nghyfnod allweddol 4 a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i adrodd ar safonau ysgol o 2018 ymlaen.’

Sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion dysgwyr unigol, a dyhead ysgolion i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi o ran safonau ysgolion?

Diolch, Angela. Yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig i bob dysgwr gael cyfle, yn y cyfnod ôl-16, i ddewis cyrsiau sy’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau a galluoedd ac sy’n berthnasol i amgylchiadau unigol? Nawr, yn unol ag argymhellion yr adolygiad o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pob ysgol i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru. Ond fel roeddech yn hollol iawn i ddweud y prynhawn yma, nid yw’n ofyniad statudol i ddysgwyr ei ddilyn, ac nid yw’n orfodol i ganolfannau ei ddarparu. Er ein bod yn annog ysgolion a cholegau i gyflwyno bagloriaeth Cymru oherwydd ei fudd i’w myfyrwyr, gall dysgwyr gael eu heithrio rhag y pwnc ar eu cais. O ran mesurau atebolrwydd arbenigol, rwyf wedi ymrwymo i adolygu mesurau atebolrwydd arbenigol er mwyn inni gael adlewyrchiad cywirach a gwell o safonau ysgolion, ac mae swyddogion wrthi’n gweithio ar hyn.

Rwy’n falch o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’n rhwymedigaeth ar y myfyriwr i lynu wrth fagloriaeth Cymru. Rwy’n deall y dylai fod yn rhwymedigaeth ar y darparwr addysg i roi cyfleoedd i fyfyrwyr, a chredaf fod yr agwedd wirfoddoli cymunedol a’r agwedd gydnerthedd emosiynol yn rhannau pwysig iawn o addysg unrhyw un.

Ond rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan bobl yn mynegi pryder eu bod, drwy gael eu gorfodi i wneud bagloriaeth Cymru, yn gorfod cyfyngu ar eu dewisiadau o ran yr hyn y byddent yn dewis ei astudio. A chredaf fod hwnnw’n achos pryder arbennig yng nghyfnod allweddol 5, pan fo myfyrwyr o bosibl yn cystadlu i gael eu derbyn i rai o’r prifysgolion mwyaf cystadleuol. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail Safon Uwch, ac mae lleoedd fel Caergrawnt a Warwick yn gofyn am dair Safon Uwch, ac nid yw bagloriaeth Cymru yn cael ei hystyried. Felly, credaf ei bod yn eithaf pwysig nad ydym yn gorfodi myfyrwyr, yng nghyfnod allweddol 5 yn arbennig, pan nad ydynt bellach mewn addysg orfodol, i’w wneud, ac y dylai fod lle yn y system, yng nghyfnod allweddol 4, i alluogi myfyrwyr y byddai’n well ganddynt ddilyn opsiwn arall i optio allan. A thybed a allwch roi arweiniad ynglŷn ag a yw hynny’n bosibl mewn gwirionedd.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i sylwadau? Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, bwriad bagloriaeth Cymru yw ceisio darparu ehangder ychwanegol i ddysg pobl ifanc yng Nghymru a’u cynorthwyo i gaffael sgiliau, sy’n ddymunol, yn fy marn i, i brifysgolion ac i gyflogwyr. Nawr, mae hyblygrwydd y cydrannau yn caniatáu i ganolfannau ddarparu ar gyfer anghenion unigol y myfyrwyr, gan roi platfform i fyfyrwyr archwilio a chynyddu eu gwybodaeth fanwl a phwnc-benodol. Mewn perthynas â sefydliadau’n derbyn bagloriaeth Cymru, gadewch i mi fod yn glir fod y mwyafrif helaeth o brifysgolion yn derbyn bagloriaeth Cymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi dynodi pwyntiau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau iddi oherwydd y safonau uchel, trylwyr sydd ynghlwm wrthi, ac rwy’n gyson yn cyfarfod â phobl ifanc a rhieni sy’n dweud wrthyf fod eu plentyn wedi sicrhau lle mewn prifysgol uchel ei pharch ar sail cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Er enghraifft, merch ifanc a fu ar brofiad gwaith gyda mi a fydd yn dechrau ar ei chwrs gradd yng Nghaerdydd ym mis Medi. Yr wythnos hon, dywedodd Tudur Owen, y digrifwr Cymraeg wrthyf yn y gwobrau addysgu fod ei fab wedi ennill ei le ym Mhrifysgol Bryste y llynedd ar sail ei gymhwyster bagloriaeth Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae’r cymhwyster yn ychwanegu gwerth i fyfyrwyr, ac nid yw’n tynnu dim oddi ar eu cyfleoedd i astudio yn y prifysgolion uchaf eu parch, boed yma yng Nghymru neu yn unrhyw le arall.

Plant o Deuluoedd sydd yn y Lluoedd Arfog

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth addysgol sy’n cael ei ddarparu i blant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0113(EDU)

Diolch, Huw. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog, yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn, beth bynnag fo’u cefndiroedd neu eu hamgylchiadau personol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ysgrifennydd y Cabinet, fel cefnogwr ac eiriolwr hirdymor dros aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yng Nghymru, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad enfawr y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i’n cymunedau. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru yn cynnwys rhywle rhwng 250,000 a 350,000 o bobl, a bydd cyfran o’r rhain, wrth gwrs, yn aelodau o’r teulu ac yn blant dibynnol. Nawr, mae rhai ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, ynghyd â gwaith y prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a phartneriaid megis y Lleng Brydeinig Frenhinol. Yn wir, y llynedd, daeth dros £650,000 i Gymru drwy gronfa cymorth addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi ysgolion sy’n cynnwys plant y lluoedd arfog, er fy mod yn deall y gallai’r cyllid hwnnw ddod i ben yn 2018.

Nawr, o ystyried bod o leiaf 2,500 o blant y lluoedd arfog mewn ysgolion ledled Cymru, a gaf fi i ofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi’r plant hyn drwy’r cyfrifiad ysgolion, er enghraifft, ac yn bwysig, i nodi a chynorthwyo gydag unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt, er enghraifft drwy gyllid uniongyrchol i ysgolion?

Wel, Huw, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi am gydnabod y gwaith da a wneir mewn llawer o’n hysgolion yng Nghymru i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer plant sydd â theulu yn ein lluoedd arfog? Ac rwyf hefyd yn cymeradwyo gwaith nifer o grwpiau, gan gynnwys CLlLC a’r Lleng Brydeinig, yn gallu darparu ystod o adnoddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon er mwyn iddynt allu cefnogi’r plant hyn yn well. Yn ddiweddar, rwyf wedi ysgrifennu at nifer o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Ysgol Llanilltud Fawr, ysgol Prendergast yn Sir Benfro, ac yn wir, tair yn fy etholaeth fy hun yn Aberhonddu, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn denu adnoddau ychwanegol i’w helpu i ddiwallu anghenion eu plant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog. 

Rwy’n awyddus iawn, gyda swyddogion, i ddeall anghenion y dysgwyr penodol hyn yn well, er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod eu cyrhaeddiad, o ganlyniad i berthyn i deulu sydd yn y lluoedd arfog, yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd. Ceir data sy’n awgrymu nad yw hynny’n wir, er bod rhai materion yn codi mewn perthynas â chamu ymlaen i addysg uwch. Ond rwy’n ymwybodol iawn, o ran plant personél y lluoedd arfog, yn enwedig y rheini sydd ar wasanaeth gweithredol, y gall fod yn amser pryderus iawn iddynt ac y gall beri straen. Felly, mae angen i ni edrych nid yn unig ar gyrhaeddiad ond ar faterion sy’n ymwneud â lles. Byddaf yn parhau i ofyn i fy swyddogion weithio i nodi’r dystiolaeth ynglŷn ag a fyddai angen i ni ystyried cyllid ychwanegol, a byddaf yn ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn i bwyso arnynt i ystyried peidio â dirwyn eu cylch ariannu presennol i ben, ac i ddweud bod angen iddynt ystyried effaith eu dewisiadau ar wasanaethau datganoledig, a byddwn yn eu hannog i barhau â’r cyllid hwnnw.

Ysgrifennydd y Cabinet, cwmpasodd Huw Irranca-Davies y rhan fwyaf o bethau yn ei gwestiwn ardderchog i chi, a rhoesoch ateb cyflawn. Credaf y byddem oll yn cytuno bod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, ond i rai pobl ifanc, mae eu cefndiroedd a phroffesiynau eu rhieni yn gwneud hynny’n anodd, ac mae hynny’n arbennig o wir mewn perthynas â phlant ein lluoedd arfog. Rydych wedi crybwyll data’r cyfrifiad a’r mesurau rydych yn eu rhoi ar waith ar hyn o bryd mewn ysgolion i geisio nodi a chynorthwyo’r plant hyn. Gan symud ymlaen o hynny, pa asesiad a wnaethoch, neu y byddwch yn ei wneud, ynglŷn â chynnydd yn y dyfodol a thueddiadau’r cynnydd yn y dyfodol yn nifer y plant o deuluoedd ein lluoedd arfog yn ysgolion Cymru, er mwyn i chi allu gwneud cynlluniau wrth gefn digonol i’w cefnogi yn y ffordd orau dros y pum mlynedd nesaf, neu weddill tymor y Cynulliad?

Diolch, Nick. Mae’r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn unol â chyfamod y lluoedd arfog, ac felly, bydd yr un safonau a mynediad at addysg yn berthnasol i blant aelodau’r lluoedd arfog ag i holl ddinasyddion eraill y DU yn yr ardal lle maent yn byw. Mae data’n parhau i fod yn broblem, yma yng Nghymru ac yn genedlaethol. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi manteisio ar y cyfle ddoe i siarad ag aelodau o’r lleng Brydeinig a fu yma’n hyrwyddo eu hymgyrch, o ran cynnwys cwestiynau penodol yng nghyfrifiad nesaf Llywodraeth San Steffan fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o natur y peth. Fel arfer, yng Nghymru, mae diffyg data yn parhau i fod yn broblem ac rwy’n parhau, gyda fy swyddogion, i archwilio’r ffordd orau o nodi nifer y plant dan sylw, lle maent, a’r ffordd fwyaf effeithlon a llwyddiannus y gallwn eu cefnogi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.

Diolch, Llywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag UKIP y dylai rhieni allu sbarduno arolygiad Estyn o ysgol eu plentyn os oes ganddynt bryderon penodol ynglŷn â’r ysgol?

Nac ydw. Mae Estyn, yr arolygiaeth annibynnol, yn penderfynu ar eu rhaglen eu hunain o gyfundrefnau arolygu, ac fel arolygiaeth annibynnol, sy’n rhydd o unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth, eu penderfyniad hwy yw nodi’r ffordd orau i fynd ati i arolygu ysgolion.

Diolch am eich ateb. Nodaf nad yw Estyn yn edrych ar gyfraddau gadael ysgolion nac ar farn rhieni, gan fethu arwyddion posibl o broblem yn yr ysgol. Os yw rhiant yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd problem gyda’r ysgol, gallai hynny fod o ganlyniad i bryderon ynglŷn ag addysgu gwael neu oherwydd rhywbeth roeddent eisoes wedi ceisio’i ddatrys gyda’r ysgol. Hefyd, gallai fod yn syml am eu bod wedi symud tŷ, wrth gwrs. Felly, dylid gofyn i rieni sy’n cymryd y cam o dynnu plentyn o’r ysgol o ganlyniad i faterion penodol pam eu bod yn symud y plentyn fel y gellir tynnu sylw at broblemau. Felly, onid ydych yn credu y dylai Estyn gynnwys hynny yn eu hadroddiad?

Gadewch i ni fod yn glir: mae Estyn o ddifrif ynglŷn â materion ysgol sy’n ymwneud â phresenoldeb ac maent yn eu hystyried yn eu hadroddiadau. Gwyddom mai lefelau uchel o bresenoldeb, a phresenoldeb rheolaidd, yw’r pethau gorau y gall rhiant eu gwneud i wella a chefnogi cynnydd addysgol eu plant.

O ran y rhesymau posibl pam fod plant yn symud ysgol, nid wyf yn credu bod hwnnw’n fater strategol rydym angen i Estyn edrych arno. Os oes gan rieni bryderon ynglŷn â safonau mewn ysgol, mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, yn bennaf drwy gadeiryddion cyrff llywodraethu pob ysgol unigol, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, drwy’r awdurdod addysg lleol.

Iawn, diolch am hynny. Fel y gwyddoch, mae gormod o ysgolion yn y categorïau oren a choch. A ddylid sicrhau mecanwaith sy’n ei gwneud yn haws nag yw hi ar hyn o bryd i blant sy’n mynychu ysgol yr aseswyd ei bod yn y categori oren neu goch newid i ysgol nad yw’n methu?

Gadewch i mi fod yn gwbl glir: os yw ysgol yn cael ei rhoi mewn categori oren neu goch, nid yw hynny’n arwydd fod yr ysgol yn methu. Cyflwynwyd y system gategoreiddio i nodi lefelau o gefnogaeth y mae angen i’r ysgol honno eu gwella, ac er fy mod yn gweithio tuag at sefyllfa lle nad oes unrhyw ysgol yng Nghymru yn y categori oren neu goch, dylai’r Aelod gydnabod bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categorïau gwyrdd neu felyn yn cynyddu. Rwy’n cymeradwyo athrawon a phenaethiaid yr ysgolion hynny sy’n codi’r safonau.

Dylai’r Aelod fod yn glir iawn, yn ei rôl fel llefarydd addysg ei phlaid, beth yw gwerth a diben categoreiddio, ac fe’i camfynegwyd gennych yn llwyr yn eich cwestiwn heddiw.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion ledled Cymru, wrth gwrs, dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ac mae tystiolaeth yn dangos i ni fod profion safonedig arbenigol yn culhau’r cwricwlwm ac yn effeithio’n negyddol ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at y perygl o addysgu plant ar gyfer y prawf, ac nad yw’r amcan yn y pen draw yn ymwneud â gwella addysg y plant, ond yn hytrach â gwella eu gallu i lwyddo mewn profion. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrthdaro’n llwyr â’r argymhellion a gyflwynwyd gan adolygiad Donaldson ar gyfer y cwricwlwm ac sy’n cael eu rhoi ar waith.

Felly, a gaf fi ofyn: a oes gwir angen system brofi fras ac anghynnil arnom i ddweud wrthym yr hyn y mae athrawon, drwy eu hasesiadau, yn ei wybod eisoes?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ynghylch profion safonedig? Gadewch i mi fod yn gwbl glir ynglŷn â diben yr asesiadau hynny, gan mai dyna yw eu prif ddiben. Mae’n darparu ffordd arall o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg—ffordd annibynnol o wneud hynny. A chredaf fod hynny’n darparu sicrwydd a ffynhonnell bwysig o wybodaeth i athrawon, i benaethiaid, ac yn hanfodol, i rieni hefyd. Mae’n darparu’r cerrig sylfaen ar gyfer y sgyrsiau hynny gydag athro eich plentyn ynglŷn â’r ffordd orau o gynorthwyo eich plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Fodd bynnag, rwyf wedi cydnabod bod yr asesiadau hyn, mewn nifer o ffyrdd, yn rhai bras, a dyna pam y cyhoeddais fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yr wythnos diwethaf i ddatblygu profion ymaddasol ar-lein, a fydd yn rhoi ffordd hyd yn oed yn well o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg.

Ie, ac os ydych yn mynd ar drywydd profion, yn amlwg, fel y dywedais mewn ymateb i’ch cyhoeddiad, byddai unrhyw beth sy’n helpu i leihau llwyth gwaith athrawon—er enghraifft, drwy brofion ar-lein—yn rhywbeth i’w groesawu, cyhyd â’n bod yn gwylio rhag datblygu diwylliant ‘cyfrifiadur yn dweud ie neu gyfrifiadur yn dweud na’. Mewn perthynas â phwysau llwyth gwaith ar y gweithlu, fe fyddwch hefyd yn gwybod bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi arolwg yn ddiweddar a oedd yn amlygu rhai o’r meysydd mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar allu athrawon i reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol, gyda mwy na thri chwarter y gweithlu yn crybwyll gweinyddu a gwaith papur, a bron i hanner yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd ffitio cynnwys y cwricwlwm i mewn i’r oriau addysgu sydd ar gael. Dywedodd bron i 90 y cant o ymatebwyr yr arolwg nad oeddent yn gallu rheoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt. Ac mae tystiolaeth hefyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod athrawon yng Nghymru yn gweithio oriau llawer anoddach a hirach nag athrawon mewn gwledydd eraill. Mae hynny’n amlwg yn effeithio ar ansawdd yr addysgu yng Nghymru, ac yn sicr yn effeithio hefyd ar recriwtio a chadw staff, ac yn creu nifer o anawsterau yn y cyswllt hwnnw. Felly, gyda chyflog ac amodau athrawon yn cael eu datganoli, onid yw’n bryd edrych eto ar y cytundeb cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â llwyth gwaith, i gynorthwyo’r byd addysg i osgoi’r math o argyfwng a welsom dros y blynyddoedd diwethaf ym maes iechyd? 

Diolch, Llyr. A gaf fi fod yn gwbl glir mai’r prif reswm dros fuddsoddi mewn profion ymaddasol ar-lein yw ein bod yn credu y byddant yn fwy defnyddiol wrth asesu dysgu ac ar gyfer codi safonau? Sgil-effaith yw’r ffaith eu bod yn lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth i athrawon, er ei bod yn sgil-effaith i’w chroesawu. Rwy’n deall bod materion sy’n ymwneud â llwyth gwaith yn faterion real iawn i’n hathrawon, ac rwy’n awyddus i edrych ar amrywiaeth o gyfleoedd lle gallwn ryddhau athrawon ysgol ac arweinwyr er mwyn rhoi amser iddynt ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Felly, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych, er enghraifft, ar raglen o reolwyr busnes a bwrsariaid i gyflawni tasgau y gall gweithiwr proffesiynol arall eu cwblhau ar ran penaethiaid, gan adael i’r pennaeth ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol, datblygu’r cwricwlwm a’r addysg yn yr ysgol. Ac mae’r un peth yn wir ar gyfer athrawon unigol: rydym yn cynnal prosiect biwrocratiaeth newydd ar hyn o bryd i nodi lle rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gofyn i athrawon wneud pethau, pa un a yw hynny’n ychwanegu gwerth at ddysgu, ac os nad yw, rydym yn barod i gael gwared arno. Rydym hefyd yn cyflawni gweithdrefn chwalu camargraffiadau. Mae llawer o’r gweithwyr proffesiynol rwy’n siarad â hwy yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt ei wneud, gan eu bod yn ofni, er enghraifft, y bydd Estyn yn disgwyl iddynt wneud hynny. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Estyn i ddatblygu prosiect chwalu camargraffiadau, er mwyn i athrawon fod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y disgwylir iddynt ei wneud, ac fel nad ydynt yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn gwneud pethau nad ydynt yn ychwanegu gwerth, ond sydd mewn gwirionedd yn achosi straen a llwyth gwaith ychwanegol nad yw ein trefn arolygu yn ei wneud yn ofynnol. 

Yn eich geiriau eich hun, rydych yn edrych ar nifer o faterion, ond yn y cyfamser rydych yn rhuthro tuag at y diwygiadau i’r cwricwlwm y mae llawer ohonom wedi rhybuddio eu bod yn cronni problemau, gan nad oes capasiti yn y system fel y mae ar hyn o bryd i’r athrawon ymdopi â’r diwygiadau enfawr sydd ar y gweill. A gelwais arnoch eisoes i ymatal rhag cyflwyno’r cwricwlwm yn ôl yr amserlen bresennol, er mwyn inni allu sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir yn hytrach na cheisio’i wneud yn gyflym. Mae NUT Cymru, wrth gwrs, wedi ychwanegu eu llais at y galwadau hynny bellach. Felly, rwy’n gofyn i chi a wnewch chi wrando ar y proffesiwn? A wnewch chi wrando ar y rheini sy’n gweithio yn y rheng flaen sy’n dweud wrthym nad yw rhoi’r holl ddiwygiadau ar waith er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn barod i’w gyflwyno mewn, beth, 12, 16 mis, yn realistig bellach? Neu a ydych yn benderfynol o fwrw ymlaen doed a ddelo?

Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwrando ar y rheini yn y rheng flaen sy’n datblygu’r cwricwlwm hwn. Mae’r syniad fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac y bydd yn cael ei orfodi ar y proffesiwn addysgu yn wahanol i’r ffordd y mae’r system yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae ein rhwydweithiau ysgolion arloesi, ein hathrawon a’n gweithwyr addysg proffesiynol yn ganolog i’r broses hon. Rydych yn hollol gywir, mae’n rhaid i ni—mae’n rhaid i mi—fod yn sicr fod y proffesiwn addysgu mewn sefyllfa i allu defnyddio’r cwricwlwm newydd cyffrous hwn, a byddaf yn cael fy arwain gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin nid yn unig â maes profiad dysgu ond hefyd ag agweddau dysgu proffesiynol ar y cwricwlwm wrth inni symud ymlaen. Ac os oes ganddynt bryderon, byddaf yn eu hystyried.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd sylw eisoes at y ffaith ein bod yn wynebu argyfwng recriwtio yn ein proffesiwn addysgu, ac wrth gwrs, amlygwyd hyn gan arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg, a ganfu fod mwy nag un o bob tri athro yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Beth yn benodol rydych chi’n ei wneud i gau’r bwlch os bydd yr un o bob tri hynny’n gadael y proffesiwn mewn gwirionedd?

Diolch, Darren. Mae’r arolwg addysgu cyntaf erioed wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth inni, nid yn unig ar gyfer ystadegau, ond gwybodaeth ansoddol a data hefyd, ac rydym wrthi’n ei astudio. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu system addysg yng Nghymru sy’n cadw ein talent gorau yn ein system, ond sydd hefyd yn recriwtio ein hunigolion gorau a mwyaf disglair i mewn i’r system honno. Felly, fel y gwyddoch, rydym wrthi’n diwygio ein darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon, ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o ddenu rhai sy’n newid gyrfa at y proffesiwn addysgu, yn ogystal â mynd i’r afael â materion fel llwyth gwaith, y soniodd Llyr Gruffydd amdanynt, er mwyn i bobl sydd eisoes yn athrawon deimlo cymhelliant i aros yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n falch o ddweud bod y ffigurau recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon eleni yn well na’r hyn a welsom y llynedd ac yn well na Lloegr mewn gwirionedd.

Cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr yn ddiweddar ar gyfer nyrsys newydd yn y GIG yng Nghymru, gyda llawer o arian a llawer o waith hyrwyddo yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau print a chyfryngau eraill yn gyffredinol. Pam nad ydym yn gweld ymdrech debyg i recriwtio’r athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon pynciau STEM gennym ar gyfer y dyfodol? Oherwydd, fel arall, rydym yn mynd i barhau i lithro i lawr graddfa PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel rydym wedi’i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf.

Hoffwn ailadrodd i’r Aelod, unwaith eto: mae ein ffigur recriwtio ar gyfer pobl sy’n dechrau cyrsiau ym mis Medi eleni yn well na’r llynedd, ac yn well na recriwtio i ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon yn Lloegr. Ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y pedwar consortiwm rhanbarthol, gan weithio gyda’i gilydd, wedi bod yn cynhyrchu ymgyrch recriwtio i ddenu’r bobl sydd o bosibl wedi cael digon ar system addysg Lloegr er mwyn dangos iddynt y gallant ddod i weithio mewn amgylchedd cefnogol yma yng Nghymru, ac rydym yn gweld canlyniadau o ganlyniad i’r ymgyrch recriwtio honno. Ond os oes gan yr Aelod syniadau newydd ynglŷn â sut y gallwn recriwtio mwy o athrawon, rwyf bob amser yn barod i wrando.

Rhoddaf un syniad i chi, Gweinidog, ac yn wir, rydym wedi awgrymu un yn y gorffennol, ac rydych wedi gwrando arno, yn ffodus, a’i roi ar waith. Roedd un yn ymwneud â gwella’r bwrsariaethau sydd ar gael i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn, ac mae’r ail yn ymwneud â chael gwared â rhai o’r rhwystrau gwarthus y mae athrawon a hyfforddwyd dramor yn eu hwynebu yma ar hyn o bryd os ydynt yn dymuno dod i weithio yng Nghymru. Mae’n warthus fod athrawon sydd wedi cymhwyso dramor yn Awstralia, Canada, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd yn gallu gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig heb orfod cwblhau cyrsiau ymaddasu, ac eto ni allant ddod i Gymru i weithio, gan gynnwys dirprwy benaethiaid a phenaethiaid. Mae hynny’n rhwystr annerbyniol i recriwtio yma yng Nghymru, a gallai helpu i atal y llu o bobl sy’n ymbellhau oddi wrth y proffesiwn o ganlyniad i enw drwg y system addysg yng Nghymru.

Wel, Darren, rydych yn codi mater difrifol. Nid wyf yn dymuno troi unrhyw dalent ymaith o Gymru, ac os oes gan unrhyw un rywbeth i’w gyfrannu at y system addysg yng Nghymru, rwy’n awyddus iddynt allu gwneud hynny. Mae fy swyddogion wrthi’n adolygu’r rheolau ynglŷn â pha gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu mewn ysgol yng Nghymru. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae’r rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd yn deillio o ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol, lle roedd consensws clir iawn ynglŷn â’r angen am y rheolau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, na fyddaf yn gwrando ar unrhyw bregeth gan Aelod Cynulliad Torïaidd pan fo’n rhaid i mi wrando ar rethreg arweinydd ei blaid ar fewnfudo. Dyma aelod o blaid sy’n treulio’i holl amser yn pardduo pobl sy’n dymuno dod i gyfrannu yn y wlad hon.

Gwella Addysg yn Sir Benfro

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0114(EDU)

Diolch, Paul. Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi nodi’r rhaglen o ddiwygiadau addysg i wella addysg ledled Cymru ar sawl achlysur, ac wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys Sir Benfro. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd a diwygio’r broses asesu, gwella addysg gychwynnol i athrawon, dysgu proffesiynol athrawon, meithrin arweinwyr a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o’r cynllun llysgenhadon darllen, sy’n gobeithio gwella sgiliau darllen plant drwy weithio’n agos gyda chlystyrau ysgolion cynradd yn fy etholaeth. Canmolwyd y cydweithio hwn mewn adroddiad diweddar gan Ein Rhanbarth ar Waith, gyda chynghorydd Her Ysgolion Cymru, Hefina Thomas, yn dweud ei fod wedi arwain at ‘effaith uniongyrchol ar safonau’. Yng ngoleuni hyn, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r gweithgarwch hwn, er mwyn i bob ysgol ledled Sir Benfro allu elwa ar y math hwn o gydweithredu?

Paul, diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at yr arferion da sy’n digwydd yn eich ardal. Fel y gwyddoch, oherwydd pryderon ynghylch safonau addysg yn Sir Benfro, yn enwedig anallu ysgolion uwchradd Sir Benfro i wella eu cyfraddau cyrhaeddiad lefel 2 ac uwch mor gyflym â’r cyfartaledd yng Nghymru, mae’r consortiwm rhanbarthol wedi cyflwyno cymorth cynghorol ychwanegol yn ddiweddar ar gyfer Sir Benfro. Mae Estyn wedi cynnal cynhadledd achos yn Sir Benfro er mwyn ceisio cymell y cyngor a’r awdurdod addysg lleol i weithredu mesurau y teimlant y dylai’r cyngor eu rhoi ar waith er mwyn gwella safonau. Ond mae’n amlwg fod cynlluniau o’r fath, lle gallwn wella llythrennedd disgyblion yn y sector cynradd, yn argoeli’n dda o ran eu gallu i gael mynediad at y cwricwlwm yn nes ymlaen, a byddwn yn gobeithio ac yn disgwyl bod y consortia rhanbarthol yn dysgu o arferion da ac yn defnyddio’r adnoddau sydd ganddynt o’r grant gwella addysg i sicrhau bod rhaglenni, lle maent yn llwyddiannus, yn cael eu hailadrodd.

Wel, tua phum mlynedd yn ôl, roedd addysg yn sir Benfro mewn cyflwr cyn waethed roedd yn rhaid i’r Llywodraeth yrru tîm arbenigol i mewn i achub y cam a’r cyfle yn fanna. Ers hynny, mae addysg yn sir Benfro wedi gwella, nawr bod y sir tua chanol y rhestr o siroedd o ran cyflawniad addysgiadol. Byddwn i’n tybio bod lle i wella o hyd. Mae’r anghytuno sydd wedi bod yn ddiweddar dros y chweched dosbarth yn sir Benfro hefyd yn awgrymu nad oedd y cyngor sir wedi dal gafael cystal ag y dylen nhw fod ar gynnydd yn addysg yn y sir yma. Gyda’r ffaith bod newid arweinyddiaeth posib yn sir Benfro ar hyn o bryd, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu mynd i gyswllt â’r cyngor sir i wneud yn siŵr bod y cynnydd—peth cynnydd—rydym ni wedi ei weld yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn parhau a bod disgyblion yn sir Benfro yn gallu disgwyl i’w cyngor sir nhw gario ymlaen ar y llwybr o’r sefyllfa wael lle’r oedden nhw bum mlynedd yn ôl i rywbeth llawer mwy llawn elw ar gyfer y disgyblion hynny?

Diolch, Simon. Mae’n wir dweud bod y trothwy cynwysedig Lefel 2 ac uwch yn Sir Benfro wedi gwella o 51 y cant yn 2011 i ychydig dros 59 y cant yn 2016, ac mae hwn yn welliant o 8.3 y cant yn y cyrhaeddiad ers 2011, ond nid yw ar y lefel y byddech chi a minnau’n dymuno gweld Sir Benfro. Rydych yn hollol iawn, prif gyfrifoldeb y weinyddiaeth newydd fydd mynd i’r afael â’u cynlluniau gwella ysgolion, cynlluniau trefniadaeth ysgolion, i godi safonau’n uwch byth. Fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies, mae’r consortia rhanbarthol, oherwydd pryderon ynghylch Sir Benfro, wedi darparu cymorth ychwanegol i’r sir a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn cyfarfod â deiliad y portffolio a’r cyfarwyddwr addysg yn Sir Benfro, fel y gwnaf yn rheolaidd gyda deiliaid pob portffolio a phob cyfarwyddwr addysg, i bwysleisio’r angen i wneud cynnydd.

Addysg Alwedigaethol

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cryfderau addysg alwedigaethol ymysg pobl ifanc 14-16 oed? OAQ(5)0125(EDU)

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yn bwysig iawn. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae pob dysgwr yn cael cynnig o leiaf tri chymhwyster galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4 mewn cynigion cwricwlwm lleol.

Diolch am eich ateb, Gweinidog, ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau parch cydradd i gymwysterau galwedigaethol, oherwydd i lawer o bobl, bydd hwnnw’n llwybr cryfach tuag at addysg bellach a chyfleoedd gwaith, ac mae’n galluogi pobl ifanc i ddangos y sgiliau nad yw’r llwybr academaidd, o bosibl, yn eu cynnig.

Nawr, fel y cyfryw, mae gormod o rieni a gormod o bobl ifanc yn dal o’r farn mai’r Safon Uwch draddodiadol yw’r unig ffordd ymlaen ar eu cyfer hwy. Mae ffordd wahanol ar gael, a nodoch eich bod yn cynnig addysg alwedigaethol, ond mae’n ymwneud â dweud wrthynt ynglŷn â manteision hynny fel eu bod yn deall beth y gallant ei elwa ohono. Nawr, mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnig mynediad i lawer o bobl ifanc at addysg bellach neu uwch, at gyfleoedd gwaith, at feysydd sy’n galw am sgiliau a chymwyseddau’r unigolion hynny. Felly, sut y byddwch yn gweithio gyda cholegau addysg bellach a sefydliadau eraill mewn gwirionedd i hyrwyddo’r cymwysterau galwedigaethol ymysg pobl ifanc 14 i 16 oed fel eu bod yn ymwybodol iawn, pan fyddant yn gorffen eu cyrsiau TGAU, o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a’r llwybrau y gallant eu cymryd pan fyddant yn gadael?

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn? Mae’n bwysig fod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm sy’n gweddu orau i’w llwybrau dysgu unigol ac sy’n bodloni eu hystod eang o ddiddordebau a galluoedd, a bod parch cydradd rhwng y dewisiadau hynny. Bydd yr Aelodau’n falch o glywed, yn y flwyddyn academaidd hon, fod pob ysgol a choleg addysg bellach yng Nghymru naill ai wedi bodloni neu ragori ar ofynion cynnig y cwricwlwm lleol mewn perthynas â’r llwybrau dysgu 14-19 oed. Ond a gaf fi ddweud hyn mewn ymateb i’w gwestiwn? Credaf ei fod yn llygad ei le i nodi’r cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â chyfle hyfforddi o’r fath, caffael sgiliau, a’r cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.

Efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot i gefnogi prentisiaethau iau, sy’n cael ei roi ar waith ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro. Dechreuodd hwnnw eleni, ac rydym yn edrych, ar hyn o bryd, ar y cynllun peilot hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n awyddus, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ymchwilio os neu sut y gallwn ehangu ac adeiladu ar y cynllun peilot hwn a symud ymlaen gyda mwy o frys, er mwyn sicrhau, os yw’r cynllun peilot yn profi’n ffordd effeithiol o sicrhau nid yn unig parch cydradd, ond cymwysterau gwell i bobl yn 16 oed, y gallwn ei ehangu’n fwy cyffredinol cyn gynted â phosibl.

Gweinidog, mae addysg alwedigaethol yn bwysig iawn i blant sy’n derbyn gofal, ac a gaf fi groesawu’r newyddion da iawn a gawsom heddiw ynglŷn â nifer y plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cyrraedd y trothwy cynwysedig Lefel 2, sef 23 y cant erbyn hyn? Mae hynny’n dal i fod 37 y cant yn is na’r grŵp cyfoedion, ac yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod mor agos â phosibl at y grŵp cyfoedion, ond mae’n welliant o 10 pwynt canran ers 2012. Gobeithiaf y gallwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ystyried y newyddion calonogol hwn yn gam cyntaf, a hefyd o ran edrych ar addysg alwedigaethol a sicrhau bod cynnydd yn y cyswllt hwnnw yn cyfateb i’r uchelgais rydym yn ei bennu yn awr ar gyfer cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol i blant sy’n derbyn gofal.

Gallaf. Rydym yn amlwg yn croesawu’r gwelliant, ond rydym hefyd yn teimlo’n rhwystredig gan ein bod yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r sgyrsiau rwyf wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn canolbwyntio ar sut rydym yn sicrhau bod y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a sut rydym yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y gefnogaeth briodol i’w galluogi i wneud hynny. Gall prentisiaethau iau fod yn un ffordd o gyflawni hynny—yn amlwg, nid dyna’r unig ffordd o gyflawni hynny—ond yn sicr, byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob dysgwr ym mhob rhan o Gymru.

Mae prinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd, felly tybed a yw’r rhaglen addysg alwedigaethol yn rhoi unrhyw bwyslais ar addysgu gwaith coed, gosod brics, ac unrhyw sgiliau cysylltiedig eraill sydd eu hangen yn y diwydiant hwnnw.

Mae’r rhaglen brentisiaethau iau, a weithredir ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, yn astudio llwybrau allweddol megis adeiladu, modurol, ac yn paratoi dysgwyr i gamu ymlaen yn uniongyrchol i raglenni prentisiaeth llawn pan fyddant yn eu cwblhau yn 16 oed.

Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0118(EDU)

Drwy raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o dechnolegau digidol a ariennir yn ganolog ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn darparu offer ac adnoddau digidol drwy Hwb ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn cysylltedd band eang. Fodd bynnag, mae gan ysgolion reolaeth ddirprwyedig i sicrhau bod y technolegau digidol mwyaf priodol ar gael i’w dysgwyr.

Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae ysgol gynradd Parc Cornist yn y Fflint, yn fy etholaeth, wedi cael ei henwi yn ysgol arloesi ddigidol, lle mae’r pennaeth, Nicola Thomas, wedi sicrhau rhoi technolegau digidol wrth wraidd eu haddysgu a’u dysgu ac wedi cynorthwyo disgyblion i allu cymryd yr awenau yn hyn o beth. Mae’r disgyblion wedi arwain prosiectau, sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth, ymchwil, ac sy’n ymwneud â’u bod yn cyflawni rolau fel e-gadetiaid. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn alw heibio mewn banc lleol i addysgu cwsmeriaid ynglŷn â sut i fod yn ddiogel ar-lein. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod bod ysgol Parc Cornist yn enghraifft o arfer orau ac annog ysgolion eraill ledled Cymru i sicrhau bod technolegau digidol yn ganolog i’w dysgu?

Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a rhannu’r arferion gorau hynny. Credaf fod ysgol gynradd Parc Cornist yn enghraifft wych o’n huchelgeisiau ar gyfer pob ysgol ledled Cymru: cynnwys dysgu o’r math hwn yn y cwricwlwm, a galluogi pob plentyn a phob dysgwr i brofi hynny. Rwy’n arbennig o awyddus i ni ganolbwyntio ar e-ddiogelwch. Un o brif fanteision y dyddiau hyn, yr oes hon, yw ehangder yr hyn y gallwn ei wneud ar-lein, ond ar yr un pryd, mae angen i ni sicrhau y gall pawb sy’n defnyddio gwasanaethau newydd ar-lein wneud hynny’n ddiogel.

Gweinidog, roeddwn yn falch o gael adroddiadau gan Ysgol Pontrobert eu bod bellach yn gallu defnyddio platfform dysgu digidol Hwb ar ôl cael uwchraddiad hirddisgwyliedig i’w band eang. Fodd bynnag, nododd y ‘Gwerthusiad o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol’, a gyhoeddwyd chwe mis yn ôl, nad oedd bron i draean yr ysgolion wedi mewngofnodi unwaith ar Hwb, a gwnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r sefyllfa hon, gan gynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu sydd wedi’i thargedu at athrawon a rhieni, a phennu targedau ar gyfer cyfraddau mabwysiadu a defnyddio Hwb. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar weithredu argymhellion yr adroddiad?

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymuno â phawb i groesawu’r ffaith ein bod bellach wedi cyflawni’r cysylltedd y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn. Credaf iddo ofyn cwestiwn yn ei gylch rai misoedd yn ôl, ac rydym bellach wedi cyflawni ein huchelgais yn hyn o beth. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ynglŷn â sut yr awn gam ymhellach, a buddsoddi hyd yn oed mwy o adnoddau er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at y band eang cyflymaf sydd ar gael i ni. A gaf fi ddweud hyn o ran y rhaglen gyffredinol rydym yn ei dilyn gyda Hwb? Mae’n amlwg wedi gwneud cryn wahaniaeth i ysgolion ac i ddysgwyr ledled Cymru. Rydym am weld hyn yn ehangu, ac rydym am ei weld yn parhau i sbarduno a darparu cyfleoedd i bawb—i’r holl ddysgwyr ledled Cymru—gael mynediad at y mathau o wybodaeth a’r mathau o sgiliau digidol sy’n hanfodol mewn bywyd bob dydd. Rydym yn gwneud cynnydd o ran rhoi’r argymhellion a wnaed ar ein cyfer ar waith, a byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy cyflawn i’r Aelodau mewn perthynas â hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Er mwyn i ddisgyblion allu gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi’n briodol yn y maes hwn. Yn wir, yn ddiweddar, manteisiodd staff yn ysgol gynradd Cwmdâr yn fy etholaeth ar hyfforddiant di-dâl BT, Barefoot Computing, er mwyn gwneud hynny. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn dysgu’r sgiliau priodol i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer yr oes ddigidol?

Rwy’n falch iawn o glywed bod ysgol gynradd Cwmdâr yn manteisio ar adnoddau di-dâl Barefoot Computing. Efallai yr hoffai’r Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda BT i adolygu a datblygu’r adnoddau yn unol â’r cwricwlwm Cymreig a’r fframwaith cymhwysedd digidol. Rydym hefyd yn gweithio gyda BT i hyrwyddo’r gweithdai gwirfoddol, lle mae gwirfoddolwyr yn mynd i ysgolion cynradd yng Nghymru i addysgu hyfforddwyr ac i hyfforddi athrawon ar sut rydym yn darparu’r adnoddau Barefoot. Yn ogystal â hyn, rydym yn buddsoddi £500,000 y flwyddyn yn y consortia rhanbarthol er mwyn hyfforddi ysgolion i ddefnyddio technolegau digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr offer a’r adnoddau sydd ar gael drwy blatfform Hwb. Rydym hefyd wedi datblygu offeryn hunanasesu, a fydd yn cael ei ddiweddaru i ddarparu ar gyfer anghenion hyfforddi ysgolion ac athrawon, fel y nodir gan ysgolion arloesi digidol. Bydd yr offeryn wedi’i ddiweddaru yn galluogi athrawon i asesu eu sgiliau a’u hyder wrth gyflawni elfennau o’r fframwaith cymhwysedd digidol ac i nodi eu hanghenion dysgu proffesiynol pellach.

Derbyn Disgyblion i Ysgolion ym Mhowys

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i’r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion ym Mhowys o fis Medi 2017? OAQ(5)0121(EDU)

Llywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, rwyf am ddatgan diddordeb, gan fod gennyf blentyn yn y system ysgolion ym Mhowys.

Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mhowys, a’r Cyngor, felly, sy’n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn a sicrhau bod y trefniadau hyn yn cael eu gweithredu’n deg.

Gweinidog, mae’r cylchoedd meithrin a’r cylchoedd chwarae cyn-ysgol eisoes yn orlawn, ac mae pryder gwirioneddol, pan ddaw’r polisi derbyn i ysgolion newydd i rym ym Mhowys ym mis Medi, y bydd y pwysau ar y cylchoedd chwarae yn anghynaladwy. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnal y pwysau ychwanegol ar y cylchoedd chwarae hyn?

Hyderaf fod pawb a oedd yn aelodau o Gyngor Sir Powys pan wnaed y penderfyniad hwnnw yn ymwybodol o oblygiadau eu penderfyniadau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fel cyn aelod o’r awdurdod hwnnw, fod yr awdurdod yn gyfrifol am bennu ei godau derbyn ei hun, a chanlyniadau hynny.

Adeiladau Ysgolion yn Islwyn

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladau ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0119(EDU)

Bydd Band A rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain yn gweld dros £56 miliwn o fuddsoddiad mewn ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben yn 2019. O’r swm hwn, bydd dros £28 miliwn wedi cael ei wario yn etholaeth Islwyn.

Diolch. Mae pennaeth Ysgol Uwchradd Islwyn, Tim Williams, newydd dderbyn allweddi’r Ysgol Uwchradd Islwyn newydd gwerth £25.5 miliwn a adeiladwyd ar safle hen bwll glo Oakdale. Mae gan yr ysgol nodweddion gwefreiddiol, mannau dysgu modern, gweithdai technoleg o’r radd flaenaf, labordai gwyddoniaeth addas at y diben ac ystafelloedd TG, wedi’u gwasgaru dros dri llawr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa effaith drawsnewidiol y bydd y chwistrelliad enfawr hwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru yn ei chael ar ganlyniadau addysgol cenedlaethau o blant Islwyn yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn: mae’r buddsoddiad sylweddol hwn, yn wir, wedi darparu adeilad ysgol o’r radd flaenaf i ddysgwyr yn Ysgol Uwchradd Islwyn. Mae’r amgylchedd dysgu newydd yn darparu’r cyfleusterau gorau i’r disgyblion, ac yn rhoi’r cyfle gorau iddynt wneud y gorau o’u potensial. I’r athrawon yn yr ysgol, mae’n darparu llwyfan iddynt ysgogi gwell canlyniadau addysgol. Deallaf y bydd y disgyblion yn symud i’r ysgol ar ddechrau mis Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfle i weld drosof fy hun y gwahaniaeth y bydd yr adeilad ysgol newydd yn ei wneud i gyfleoedd dysgu’r gymuned honno.

Dysgwyr sydd ag Anghenion Gofal Iechyd

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd? OAQ(5)0115(EDU)

Ar 30 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd tymor byr a hirdymor. Mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer cyrff llywodraethu’r holl ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, ac awdurdodau lleol. Mae’n nodi disgwyliadau clir ynglŷn â sut y dylid cefnogi’r dysgwyr hyn.

Sut rydych yn ymateb i’r pryder a fynegwyd gan Diabetes UK a’u partneriaid nad yw’r canllawiau, er eu bod i’w croesawu, yn mynd yn ddigon pell o ran egluro’r sefyllfa, er y ceir sawl cyfeiriad neu ddatganiad a fydd yn arwain at gynnwys cyflyrau meddygol hirdymor yn rhan o’r fframwaith anghenion dysgu ychwanegol, nad yw Llywodraeth Cymru eto’n cefnogi gwelliant y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r cod i adlewyrchu hyn, nad yw’r ddogfen eto’n gwarantu unrhyw gymorth a’i bod yn ei gwneud yn glir iawn mai gwirfoddol fydd unrhyw gymorth a ddarperir, ac nad yw gofynion sylfaenol, fel sicrhau bod cynllun unigol ar waith, wedi’u gwarantu gan y canllawiau?

Mae’r Aelod yn anghywir, wrth gwrs, i awgrymu na fydd y Llywodraeth yn cefnogi unrhyw ddiwygiadau i’r Bil hwn. Nid ydym wedi cyrraedd y cam o ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r Bil ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid ydym wedi cyrraedd diwedd ystyriaeth Cam 1 o’r Bil. Rwy’n hapus iawn â gwaith caled y pwyllgor, o dan arweiniad medrus fy nghyfaill, yr Aelod dros Dorfaen, sydd wedi ystyried y materion hyn yn drylwyr iawn. Mae’r pwyllgor hwn wedi gwneud gwaith craffu penodol ar y canllawiau statudol y cyfeiria’r Aelod atynt. Edrychaf ymlaen at glywed casgliadau’r gwaith craffu hwnnw, a byddaf yn sicr yn ymateb i adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, ac rwy’n fwy na pharod i roi ystyriaeth lawn a haeddiannol i’r holl awgrymiadau ac argymhellion a ddaw gan y pwyllgor ar y cam priodol, cam 2, pan fyddwn yn cyrraedd y cam hwnnw ym mis Mehefin.

Addysgu Hanes

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu hanes yn ysgolion Cymru? OAQ(5)0116(EDU)

Diolch, Dai. Mae hanes yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol i bob dysgwr yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Bydd hanes yn cael ei gynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, a bydd hyn yn rhoi cyfle newydd inni sicrhau y bydd y platfform hanes yn cynnwys dimensiwn Cymreig gwell a phersbectif rhyngwladol.

Diolch am yr ateb yna. Mae’n wir dweud bod llawer o bobl yn pryderu ynglŷn â dysgu hanes Cymru yn ein hysgolion. Yn dilyn adroddiadau beirniadol yn y maes, mae angen sôn am Aneirin a Taliesin, Gwenllian ym 1136, Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr, yr Esgob William Morgan, Williams Pantycelyn, terfysg Merthyr, terfysg Rebecca, brad y llyfrau gleision, y ‘Welsh Not’, ac yn y blaen. Pa obaith diwygio cwricwlwm hanes ein plant i adlewyrchu hanes eu cenedl eu hunain?

Wel, Dai, fel y dywedais, mae’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm, y cefais fy annog yn gynharach gan eich cyd-Aelod i’w hatal a’i harafu a’i hoedi, yn rhoi’r cyfle newydd hwn inni wella’r gallu i addysgu plant Cymru am eu hanes. Fel y dywedais, mae’r dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm presennol a’r cwricwlwm newydd yn rhan bwysig ac amlwg o’r system addysg, a chafodd adroddiad Dr Elin Jones, ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’, ei gyflwyno a’i ystyried yn rhan o adolygiad yr Athro Donaldson yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a bydd yn ffurfio rhan bwysig o’r ystyriaeth wrth ddatblygu meysydd dysgu a phrofiad.

Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae llawer iawn, iawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm presennol i blant ddysgu am eu cymunedau, yr effaith ar ddigwyddiadau rhyngwladol a sut y cafodd eu cymunedau eu heffeithio a’u newid. Gwn fod pryder, yn aml, ynglŷn â’r hyn y mae hanes Cymru yn ei gynnwys ar gyfer yr arholiad TGAU, ac yn aml, mae pobl yn mynegi pryderon fod y papurau’n ymwneud â hanes America, â hanes Ewrop, â’r ddau ryfel byd. Fe fyddwch yn gwybod y bydd y TGAU Hanes newydd yn barod i gael ei addysgu ym mis Medi eleni, ac unwaith eto, ceir cyfleoedd gwell i fyfyrwyr dreulio mwy o’u hamser yn ystyried eu hanes eu hunain ac effaith digwyddiadau rhyngwladol pwysig arno.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Ffioedd Tribiwnlysoedd

1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(5)0037(CG)

Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus fod cost dwyn hawliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth bellach yn rhy ddrud i lawer o bobl ac yn eu hatal rhag cael mynediad at gyfiawnder.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y ffigurau diweddar yn dangos bod gostyngiad o 81 y cant wedi bod yn nifer yr hawliadau tribiwnlys cyflogaeth a ddygwyd gerbron ers i Lywodraeth y DU gyflwyno ffioedd yn 2013. Mae Unsain yn herio’r ffioedd hyn yn y Goruchaf Lys ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, fod ffioedd o’r fath, sy’n amrywio rhwng £160 a £950, gyda hawliadau gwahaniaethu yn denu’r lefel uchaf o ffioedd, yn golygu bod pobl gyffredin yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder i bob pwrpas oherwydd y gost a bod hyn yn cosbi menywod, gweithwyr ar gyflogau isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a gweithwyr anabl yn anghymesur, ac yn enghraifft arall o ymosodiadau Torïaidd ar bobl sy’n gweithio?

Wel, rydych yn gwneud rhai pwyntiau da iawn. Cyhoeddwyd adolygiad Llywodraeth y DU o gyflwyno ffioedd mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth ym mis Ionawr, ac yn wir, mae’n tynnu sylw at nifer o feysydd sy’n peri cryn bryder. Yn gyntaf, yn amlwg, y gostyngiad amlwg a sylweddol iawn a fu yn nifer yr hawliadau: gostyngiad o 80 y cant yn nifer yr hawliadau i dribiwnlysoedd ers cyflwyno’r ffioedd. Dengys tystiolaeth y Llywodraeth ei hun hefyd fod rhai pobl na allodd ddatrys eu hanghydfod drwy gymodi er hynny heb ddod â hawliad gerbron y tribiwnlysoedd cyflogaeth am eu bod yn dweud na allent fforddio’r ffi, er gwaethaf unrhyw gymorth ariannol a oedd ar gael. Yn yr un modd, yr asesiad a wnaed o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU o effaith ffioedd yw eu bod wedi effeithio’n sylweddol ar achosion gwahaniaethu a’r maes gwahaniaethu. Mae cyfeiriad y Goruchaf Lys ei hun—ac rydym yn dal i aros am ddyfarniad yn yr achos penodol hwnnw—yn tynnu sylw at y ffioedd sylweddol, sy’n amrywio rhwng £390 a £1,600, i fynd i’r tribiwnlys apelau cyflogaeth, ac yn dilyn hynny, mae’r ystadegau swyddogol yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr hawliadau a ddygwyd gerbron—oddeutu 80 y cant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei sylwadau ei hun yn yr ymgynghoriadau, gan ei gwneud yn glir, yn y bôn, nad ydym yn credu y dylai fod unrhyw ffioedd o gwbl, ac yn sicr ni ddylai fod unrhyw ffioedd sy’n atal mynediad at gyfiawnder, ac yn sicr, mae’n amlwg yn y maes hwn fod pobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder.

Os caf fi wneud pwynt ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Dawn, mae’r ffioedd yn uwch, mewn rhai achosion, nag yr awgrymodd Dawn Bowden. Mae bellach yn costio oddeutu £1,250 i wneud hawliad diswyddo annheg. Gall hawlwyr wneud cais i beidio â thalu ffioedd, ond bydd llawer o bobl angen cymorth i wneud hynny. Bydd llawer o bobl angen cymorth gyda chyflwyno’r hawliad a’i drin. Mae’r ganolfan cyngor ar bopeth wedi bod yn ffynhonnell o gyngor ac arweiniad am ddim ers peth amser, nid yn unig ar faterion cyflogaeth, ond ar faterion eraill—ond rwy’n gwybod cymaint o bwysau sydd ar y gwasanaeth hwnnw. Sut y byddech yn argymell cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth mewn gwirionedd drwy ariannu cyngor a chymorth drwy asiantaethau cynghori amrywiol. Wrth gwrs, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cymorth mewn materion galwedigaethol yw drwy fod yn aelod o undeb llafur mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n rhwystro ac yn cyfyngu ar rôl a gweithrediad undebau llafur. Mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’r maes gwaith hwn erioed wedi cael ei gydnabod yn briodol gan Lywodraeth y DU na’r Blaid Geidwadol.

Ehangu Amrywiaeth Farnwrol

2. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o’r effaith a gaiff adroddiad y cyngor cyfiawnder ar ehangu amrywiaeth farnwrol ar Gymru? OAQ(5)0034(CG) 

Gallai’r argymhellion sy’n ymwneud â datblygiad personol a gallu barnwyr ar safle is ac aelodau tribiwnlysoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfa effeithio’n gadarnhaol ar gyfleoedd gyrfaol i’r farnwriaeth dribiwnlysoedd yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Daw’r adroddiad i’r casgliad fod ymagwedd hollol organig tuag at ehangu amrywiaeth yn golygu bod newid yn digwydd yn llawer rhy araf, a geilw am newidiadau systematig a strwythurol er mwyn hybu newid. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno? Pa drafodaethau a gafodd ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at y broses o newid? Nid yw’n welliant enfawr os yw menyw a addysgwyd yn breifat yn dod yn lle dyn a addysgwyd yn breifat. Rydym yn awyddus i weld gwir amrywiaeth.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Wrth gwrs, rydych yn codi rhai o’r pwyntiau a wnaed yn glir yn adroddiad Justice, a ddywedai, i bob pwrpas, fod yr uwch farnwriaeth yn cael ei dominyddu gan ddynion gwyn a addysgwyd yn breifat, ac efallai y byddai angen targedau beiddgar er mwyn ehangu amrywiaeth ar y fainc. Wrth gwrs, mae proses o newid sylweddol yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac mae’r astudiaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati gan y grŵp diwygio Justice yn feirniadol iawn, fel rhai o uwch aelodau’r farnwriaeth eu hunain mewn gwirionedd, o’r cynnydd araf a wnaed. Felly, rydym yn aros i weld canlyniad yr ystyriaethau hynny, ond maent wedi disgrifio i raddau helaeth iawn fod y methiant i sicrhau bod y farnwriaeth yn adlewyrchu cyfansoddiad ethnig, cyfansoddiad o ran y rhywiau a chyfansoddiad cymdeithasol y DU wedi dod yn fater cyfansoddiadol o bwys.

Rydym yn effro iawn i’r materion hyn mewn perthynas â’r rhan honno o’r farnwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani. Yn y sylwadau a wnawn, rydym yn gwneud y pwyntiau sy’n ymwneud ag amrywiaeth yn glir iawn. Rydym hefyd yn gwneud y pwynt, yn gryf iawn, ei bod yn hanfodol fod cynrychiolaeth Gymreig yn y llysoedd uwch gan farnwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatganoli a’r gyfraith fel y mae’n gymwys i Gymru. Felly, mae’r ddwy agwedd honno’n bendant yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru pan fo unrhyw gyfle i hyrwyddo’r amrywiaeth ehangach rydym oll yn awyddus i’w gweld.

Contractau Dim Oriau

3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o ran a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau yng Nghymru? OAQ(5)0036(CG)

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Byddai cynigion i ddeddfu ar gontractau dim oriau yn galw am ddadansoddiad manwl o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n ystyried yr amgylchiadau a’r cyd-destun ffeithiol penodol.

Diolch iddo am ei ateb. Mae amodau cyflogaeth camfanteisiol yn bla difrifol ar yr economi fodern, ac mae dod o hyd i ffordd o wahardd cyflogaeth gamfanteisiol yn flaenoriaeth absoliwt i ni ar y meinciau hyn. Rwy’n croesawu ymrwymiadau gan Blaid Lafur y DU i ddefnyddio pwerau a gedwir yn San Steffan i wahardd cyflogaeth gamfanteisiol ledled y DU.

O ystyried ei ateb ynglŷn â chymhwysedd y lle hwn, beth yw ei farn ynglŷn ag ymdrechion Plaid Cymru i atodi diwygiadau i ddeddfwriaeth arall na all fynd i’r afael â’r malltod hwn o ddifrif, ac sy’n peryglu’r ddeddfwriaeth honno, hyd yn oed os yw hynny’n sicrhau pennawd da i Blaid Cymru?

Wel, nid wyf yn credu mai fy lle i yw gwneud sylwadau ar argymhellion a wnaed gan unigolion penodol neu gan bleidiau gwleidyddol. Beth y byddwn yn ei ddweud yw hyn: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn effro iawn i fater amodau cyflogaeth yn ei gyfanrwydd, ac ar sawl achlysur, mae wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r ffordd y gellir defnyddio’r broses gaffael.

Rydym eisoes wedi gweld y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chosbrestru. Yn amlwg, rydym wedi cael y drafodaeth ar yr egwyddorion mewn perthynas â’r Ddeddf undebau llafur, ac wrth gwrs, gwnaed cryn dipyn o waith, a gwelwyd cryn effaith, mewn perthynas â Deddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, ac wrth gwrs, effaith y dyfarniad penodol hwnnw.

Lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gynharach eleni. Mae’n god gwirfoddol, ond disgwylir i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ymrwymo iddo, ac mae’n darparu na ddylid defnyddio contractau dim oriau mewn modd annheg.

Mae Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynhyrchu canllawiau ynglŷn â’r defnydd o gontractau heb oriau gwarantedig ac egwyddorion a chanllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau heb oriau gwarantedig mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu a chyhoeddi gwaith ymchwil ynglŷn â’r defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac yng nghyd-destun gofal cartref. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ddatganiadau a wnaed gan Weinidogion mewn perthynas â gwaith parhaus Llywodraeth Cymru ar y mater o fynd i’r afael ag ansicrwydd swyddi, contractau dim oriau a gosod amodau hunangyflogaeth, yn ogystal ag ystyriaethau penodol a roddir i’r sector gofal.

Wel, er mwyn helpu i brofi’r cwestiwn canolog ynglŷn â chymhwysedd, efallai y gall Llywodraeth Cymru geisio cynnig cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, fel rydych newydd sôn, Cwnsler Cyffredinol. Os felly, pa statws sydd i hynny o ran diffyg cydymffurfio, a beth yw eich barn ynglŷn â’r ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tan yr wythnos diwethaf, yn ôl fy set ddiwethaf o ffigurau, yn cyflogi bron i 350 aelod o staff ar gontractau dim oriau? A ydych yn credu bod hynny’n cydsynio â’r math o genhadaeth sydd gennych yn erbyn defnydd annheg o’r contractau hynny?

Wel, mae’r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ar waith. Mae’n bodoli er mwyn i gyrff cyhoeddus roi sylw iddo wrth ystyried contractau yn y dyfodol. Yn amlwg, disgwylir y bydd pob corff cyhoeddus yn ystyried y cod penodol hwnnw. Bydd yn rhaid i unrhyw gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cymhwysedd sydd gan y Cynulliad hwn mewn gwirionedd.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o’r materion a gododd yn y Ddeddf amaethyddiaeth (Cymru)—rhywbeth yr oedd plaid yr Aelod yn ei wrthwynebu, gyda llaw—ac a roddodd ddealltwriaeth glir iawn mewn gwirionedd o’r ffordd yr ystyrir cymhwysedd o dan y model rhoi pwerau. Wrth gwrs, byddwn yn newid i fodel gwahanol maes o law, model cadw pwerau, yn y dyfodol. Mae’r canllawiau a gyhoeddir yn wirfoddol, ond byddem yn disgwyl cydymffurfiaeth â hwy. Ac wrth gwrs, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y Gweinidog yn awyddus i weld system lle caiff hynny ei adolygu maes o law yn y dyfodol.

Diolch am eich atebion ar y pwnc hyd yn hyn. Mae’n dda eich bod wedi llunio cod ymarfer, o leiaf, ond y pwynt a wnaeth Plaid Cymru yr wythnos diwethaf drwy Adam Price ar fater contractau dim oriau oedd eich bod wedi hawlio cymhwysedd cyfreithiol dros faes cyflogaeth y sector cyhoeddus drwy gyflwyno Deddf yr undebau llafur, felly ymddengys bod hynny’n anghyson â’ch ymagwedd at gontractau dim oriau.

Nid oes unrhyw anghysondeb. Mae’n rhaid ystyried unrhyw set o amgylchiadau lle cynigir darn o ddeddfwriaeth neu ddiwygiad yng ngoleuni’r cymhwysedd deddfwriaethol sydd gennym mewn gwirionedd. Credaf mai dyna’r pwynt a wneuthum yn fy ateb cyntaf, sef ein bod yn ystyried yr amgylchiadau a’r cyd-destun ffeithiol penodol. Ac yng ngoleuni hynny, penderfynir ar gymhwysedd.

Arferion Gwrth-gystadleuol gan y Diwydiant Fferyllol

4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru yn sgil ymchwiliad 2008 Comisiwn yr UE i arferion gwrth-gystadleuol gan y diwydiant fferyllol? OAQ(5)0035(CG)

Wel, bob blwyddyn, mae’r gwasanaethau iechyd cenedlaethol ledled y DU yn colli miliynau o bunnoedd o ganlyniad i’r ffaith fod rhai cwmnïau fferyllol yn torri cyfreithiau cystadlu Ewropeaidd a domestig. Rydym yn gweithio’n agos ac yn effeithiol iawn gyda’r Adran Iechyd, a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, sy’n rhannu ein diddordeb yn y materion hyn, i adennill ein colledion, a lle ceir sail dros roi camau cyfreithiol ar waith.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae’n amlwg o lefel y canfyddiadau diweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu risg sylweddol o gostau am fod rhai cwmnïau fferyllol i’w gweld fel pe baent yn gweithio gyda’i gilydd i bennu prisiau. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd y risg yn cynyddu wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddiogelu GIG Cymru ar ôl Brexit?

Wel, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn. Ac wrth ateb y cwestiwn hwnnw mor llawn ag y gallaf, credaf fod angen i mi fod yn ochelgar iawn ynglŷn â sensitifrwydd cyfreithiol a dyletswyddau cyfrinachedd i’r llys ac i drydydd partïon eraill, y bydd yr Aelod yn eu deall, ac y mae’n rhaid i mi eu parchu. Felly, mae’n debyg, wrth ateb eich cwestiwn, nid wyf am wneud unrhyw gyfeiriad penodol at unrhyw achosion penodol a ddygwyd gerbron neu a setlwyd, na nodi unrhyw gwmnïau unigol, neu achosion cyfreithiol sydd ar y gweill, neu achosion posibl, ac mae llawer ohonynt. Serch hynny, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn a materion o ddiddordeb clir i’r cyhoedd, lle mae problemau amlwg sydd angen eu datrys yn rhan o drafodaethau Brexit.

Yn 2008, fel y nodwch yn eich cwestiwn, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd ymchwiliad i edrych ar amodau gwrth-gystadleuol posibl yn y sector fferyllol. Cyhoeddodd y comisiwn ei adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau manwl y comisiwn, ac yn argymell ffyrdd o wella mynediad cyflym i gleifion at feddyginiaethau. A daw prif ganfyddiadau’r adroddiad, sydd wedi’u cofnodi’n gyhoeddus, i’r casgliad ei bod yn cymryd gormod o amser i gyffuriau generig gyrraedd y farchnad, fod llai o feddyginiaethau arloesol yn cyrraedd y farchnad, a bod arferion rhai cwmnïau cyffuriau penodol yn cyfrannu at y sefyllfa hon.

Mae’n amlwg o benderfyniadau’r comisiwn a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod ymddygiad rhai cwmnïau penodol yn y sector fferyllol yn wrth-gystadleuol, ac y gallai hyn achosi colledion ariannol i Weinidogion Cymru, i’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ac i’r GIG ehangach yn y DU, ac yn wir, ledled Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r adrannau iechyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ymchwilio i achosion o’r fath. Pan fo ymddygiad gwrth-gystadleuol yn achosi colledion i Weinidogion Cymru a’r GIG yng Nghymru, cymerir camau cyfreithiol priodol i adennill colledion o’r fath. Gallaf gadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o achosion drwy sicrhau setliadau.

Gall natur draws-Ewropeaidd y gweithgarwch gwrth-gystadleuol hwn gan rannau o’r diwydiant fferyllol arwain at golledion enfawr. Mae’n fater a gofnodwyd yn gyhoeddus fod lefelau rhai o’r dirwyon yn adlewyrchu hyn. Er enghraifft, mae camau a gymerwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd wedi arwain at ddirwyon, mewn un achos o €427 miliwn am dorri rheolau gwrth-ymddiriedaeth yr UE, ac mewn achosion eraill am gamddefnyddio statws goruchafol o fewn y farchnad; €180 miliwn mewn achos arall; mewn achosion eraill, €10 miliwn a €5.5 miliwn. Yn sicr, symiau enfawr a sylweddol. Mae gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bwerau cyfochrog â rhai’r comisiwn i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gystadleuol yn y DU, a gall osod ei sancsiynau ei hun. Mewn un achos, gosododd ddirwy o £45 miliwn. Mae effaith ariannol bosibl yr ymddygiad hwn yn enfawr, ac os nad eir i’r afael ag ef, gall arwain at gost ddiangen o ddegau a channoedd o filiynau o bunnoedd i’r GIG, ac mae’r GIG yn ysgwyddo cyfran o hynny.

Felly, mae’n faes lle mae Llywodraeth Cymru yn weithgar iawn, ar y cyd â’n cymheiriaid cyfatebol, ledled y DU, yn yr Adran Iechyd, a’r Llywodraethau datganoledig. Bydd sicrhau strategaeth ôl-Brexit yn bwysig iawn, er mwyn sicrhau nad ydym o dan anfantais wrth fynd i’r afael â gweithgarwch gwrth-gystadleuol. Er gwaethaf pwerau domestig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ar hyn o bryd, nid yw’n glir os bydd y gallu i ddibynnu ar ymchwiliadau a phenderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, fel rydym wedi’i wneud yn y gorffennol, yn parhau, neu sut y byddant yn parhau. Yn fy marn i, mae diddordeb cyffredin clir yng Nghymru, gweddill y DU ac awdurdodau Ewrop i barhau i fynd i’r afael â’r materion rhyngwladol cymhleth hyn gyda’n gilydd.

Datganoli’r Gyfundrefn Gyfiawnder

5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch datganoli y gyfundrefn gyfiawnder? OAQ(5)0038(CG)[W]

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith ac nad wyf yn trafod cyfarfodydd o’r fath yn gyhoeddus.

Diolch am yr ateb arferol. Ydy’r Cwnsler Cyffredinol yn digwydd cytuno â fi, serch hynny, mai’r rhan o’r gyfundrefn sydd fwyaf hawdd i ddatganoli o ran y gyfraith, ac o ran cyfansoddiad hefyd, fyddai heddlua? A chan fod y Prif Weinidog wedi dweud wrth y Siambr ddoe ei fod yntau yn gryf iawn o blaid datganoli heddlua, a chan ein bod ni yn cynnal dadl o fewn ryw chwarter awr, efallai, ar y mater yma hefyd, pa gamau, felly, mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr, gyda chyngor y Cwnsler Cyffredinol, i sicrhau bod y camau cyfansoddiadol yn eu lle i ganiatáu i hynny ddigwydd?

Wel, mae unrhyw gamau cyfansoddiadol mewn perthynas â datganoli plismona yn galw am newid yn y gyfraith mewn gwirionedd ac nid yw’n briodol i mi sathru ar draed y Prif Weinidog yn ei ddisgrifiad a’i argymhellion gogyfer ag unrhyw newidiadau polisi y teimla eu bod yn briodol. Ond wrth gwrs, gwnaeth yn glir iawn ddoe yn y Siambr hon beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datganoli plismona.

Llygredd Awyr

6. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynglŷn ag effaith deddfwriaeth Ewropeaidd ynglŷn â llygredd awyr ar Gymru? OAQ(5)0039(CG)[W]

Bydd yr Aelodau unwaith eto yn gwybod bod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig ac yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, ond rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a’i mentrau amrywiol i fynd i’r afael â llygredd aer.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Wrth gwrs, cawsom ddadl ynglŷn â hyn ddoe ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a chadarnhaodd y Gweinidog yn ystod y ddadl honno fod pwerau presennol Gweinidogion Cymru yn dod o dan adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Credaf fod dwy broblem gyda hyn. Un yw bod y ddeddf honno wedi cael ei phasio yn y lle cyntaf, wrth gwrs, cyn datganoli, ac felly, mae’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru yn bwerau datganoli gweinyddol, yn hytrach na bod deddfwriaeth wedi’i datganoli. Ac yn ail, hyd y gwelaf, er ei bod yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion i gynhyrchu strategaethau mewn perthynas â llygredd aer, nid yw Deddf yr Amgylchedd yn cynnwys unrhyw rwymedigaeth i leihau llygredd aer, neu i wella’r sefyllfa, mewn geiriau eraill. Felly, gallwch ymateb i’r ddeddfwriaeth heb wneud unrhyw beth amdani. Ac yn amlwg, roedd hynny 20 mlynedd yn ôl, a dyna pam rwyf mor awyddus i ni ailedrych ar hyn. Ac yn benodol, gyda’r wybodaeth sydd gennym y byddwn, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, yn colli’r fframwaith ehangach hwnnw o ddeddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd, onid yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn, yn ei waith parhaus ar godeiddio’r ddeddfwriaeth Gymreig, fod llygredd aer yn faes lle mae angen a lle rydym yn haeddu deddfwriaeth Gymreig benodol?

Wel, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, nid yw’r broses o godeiddio, wrth gwrs, os caf ymdrin â’r pwynt olaf, yn ymwneud â diwygio’r gyfraith, mae’n ymwneud â chodeiddio’r gyfraith sy’n bodoli eisoes, ac mae’r angen i wneud unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau yn fater hollol ar wahân ac wrth gwrs, byddai angen eu hystyried, ymgynghori yn eu cylch a chraffu arnynt ar lefel hollol wahanol.

O ran y mater polisi y mae’r Aelod yn ei godi, wel, wrth gwrs, mae hwnnw’n fater i Weinidog arall ac nid yw’n briodol i mi groesi i’r diriogaeth benodol honno. Yr hyn y gallaf ei ddweud, drwy ailadrodd rhai o’r pwyntiau a wnaed eisoes gan Weinidogion yn y maes hwn, rwy’n tybio, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i wella ansawdd yr aer ledled Cymru, a’i bod yn mynd i’r afael â llygredd aer mewn nifer o ffyrdd, ac wrth gwrs, amlinellwyd y rhain yn y ddadl ddoe ac maent yno yn y trawsgrifiad. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar welliannau i ‘Polisi Cynllunio Cymru’ ar hyn o bryd mewn perthynas ag ansawdd aer ac mae ymgynghoriad ar y gweill. Mae’n bosibl fod yr Aelod yn cyfeirio, wrth gwrs, at y materion sy’n ymwneud â nitrogen deuocsid, sy’n amlwg yn destun pryder, ac ers yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU ac yn ceisio barn ar gynllun diwygiedig i leihau lefelau nitrogen deuocsid ger ffyrdd mewn cyn lleied o amser ag sy’n bosibl. Rwy’n credu bod unrhyw feysydd eraill, mewn gwirionedd, yn faterion polisi, a dylid eu cyfeirio at y Gweinidog priodol.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r cwestiynau amserol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Simon Thomas.

Torri Rheolau Dŵr Glân

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli? TAQ(5)0134(ERA)[W]

Rydym yn cydnabod y dyfarniad. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar ein rhaglen £130 miliwn ar gyfer Llanelli a Thre-gŵyr i leihau nifer y colledion, gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd lleol erbyn 2020.

Diolch i’r Gweinidog am gamu i’r adwy unwaith eto ac ymateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd. Rwy’n credu mai’r ymateb gorau i’r penderfyniad hwn gan Lys Cyfiawnder Ewrop yw, ‘Sut y gallai’r UE feiddio dweud wrthym na allwn ymdrochi yn ein carthion eu hunain’, oherwydd dyna yw hyn mewn gwirionedd. Mae wedi cymryd Llys Cyfiawnder yr UE i ddweud wrth Lywodraeth y DU bod y 3,000 o bibellau gorlifo sy’n dal i fod gennym yng Nghymru heddiw, sy’n gallu gollwng carthion yn uniongyrchol i mewn i’n dŵr pan gawn gyfnodau o law trwm—ac mae glaw trwm yn digwydd yng Nghymru, er ei bod yn bosibl nad yw wedi digwydd yn ddiweddar iawn, ond mae’n digwydd yng Nghymru—ac mae’r 14 o bibellau gorlifo yng nghilfach Tywyn yn benodol yn torri cyfraith yr UE ac yn llygru ein dŵr ymdrochi yn ogystal â chynefinoedd degau o filoedd o adar gwyllt, er enghraifft, o gwmpas y morfeydd heli ym Mhorth Tywyn.

Mae’r diwydiant cocos, yn arbennig, bob amser wedi teimlo bod y llygredd yng nghilfach Tywyn yn effeithio ar farwolaeth cocos. Nid yw hyn wedi cael ei brofi, ond mae cydberthynas gref rhwng y digwyddiadau hyn a phrinder y diwydiant hwnnw a’r effaith economaidd a’r effaith draddodiadol ar ffyrdd o fyw ar rannau o’r gilfach a’r aber.

Yn benodol, rwyf wedi gweld prosiect GlawLif Dŵr Cymru yn Llanelli a Phorth Tywyn—mae gwelliannau’n digwydd yno ac rwyf wedi croesawu’r hyn y maent yn ceisio ei wneud yn fawr, ond dadl y DU, dadl a gollodd yn Llys Cyfiawnder Ewrop, oedd bod y gwelliannau hyn yn ddigon da erbyn y flwyddyn 2020. Felly, rwy’n awyddus i wybod: a yw Llywodraeth Cymru hefyd yn credu ei bod yn ddigon da i wella erbyn 2020, oherwydd mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn credu y dylem ei wneud yn gynt, a chan fod Llys Cyfiawnder Ewrop yn credu y dylem ei wneud yn gynt, beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr i sicrhau nad oes gennym ddŵr ymdrochi budr a dŵr budr mewn cynefinoedd yng Nghymru mwyach?

Diolch i Simon Thomas am y cwestiwn. Mewn ymateb i’r pwyntiau penodol hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i ddatblygu a gweithredu rhaglen waith i leihau nifer y colledion, i wella ansawdd dŵr ymhellach ac i leihau’r perygl o lifogydd lleol erbyn diwedd 2020. Yn amlwg, rwyf wedi crybwyll y buddsoddiad o £130 miliwn. Mae’n bwysig adrodd eto heddiw pa mor agos y mae’r ymgysylltiad â thrigolion lleol a busnesau lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig, wedi bod yn yr ardal, gan weithio’n galed i leihau aflonyddwch i breswylwyr, a fydd, wrth gwrs, o ganlyniad i’r buddsoddiad cyllid—. Ond, wrth gwrs, mae’n amlwg bod yn rhaid mynd i’r afael ag oedran y system seilwaith bresennol yn yr ardal leol.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y gyfarwyddeb trin dŵr gwastraff trefol wedi’i mabwysiadu yn ôl ym 1991 ac roedd yn hanfodol o ran llywio tuag at asesu ansawdd. Mae’n cael ei gweithredu a’i gorfodi yn bennaf bellach drwy faterion datganoledig a mynegwyd y pryderon hynny ynglŷn ag ansawdd dŵr gan gynrychiolwyr y casglwyr cocos a chynghorwyr lleol a gwahanol bartïon yn Llanelli a Gŵyr. Felly, yn amlwg, o ran y llys ar 4 Mai, mae’n rhaid cael ymateb clir a chadarn iawn i’r dyfarniad hwn.

Gweinidog, mae 12 mlynedd wedi bod bellach ers i gasglwyr cocos cilfach Tywyn adrodd bod nifer sylweddol o bysgod cregyn yn marw ac nid ydym eto’n gwybod beth sy’n achosi’r marwolaethau hyn. Rydym yn gwybod, fodd bynnag, am ei effaith economaidd: mae diwydiant allforio wedi cael ei ddinistrio ac mae’r casglwyr cocos lleol bellach yn cael trafferth i ennill bywoliaeth sylfaenol hyd yn oed.

Chwe blynedd yn ôl, dyfarnodd y llysoedd yn erbyn Dŵr Cymru ac yn awr maent wedi dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU. A wnaiff y Llywodraeth edrych ar hyn eto ac ystyried helpu’r diwydiant lleol hwn sydd wedi’i ddinistrio, fel y mae wedi helpu diwydiannau eraill?

Diolch i Lee Waters am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg, mae’n hollbwysig deall a nodi’r rhesymau pam fod mwy o gocos wedi marw. Yn wir, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i hyn. Fel y byddwch yn gwybod, roedd canfyddiadau’n dangos ei bod yn annhebygol mai ansawdd dŵr oedd wrth wraidd y problemau a brofwyd gan y diwydiant cocos, ond mae ymgysylltu â’r diwydiant cocos, y casglwyr cocos eu hunain, a’u cynrychiolwyr ac fel y dywedais, cynrychiolwyr etholedig a busnesau lleol, wedi bod yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â hyn a sicrhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod Dŵr Cymru wedi monitro ac wedi datblygu rhaglen waith i leihau nifer y colledion. Rwyf eisoes wedi sôn am hyn. Er enghraifft, yn yr asedau tanciau stormydd trin dŵr gwastraff yn Llanelli a Thre-gŵyr, fel y byddwch yn gwybod, roedd colledion yn digwydd yn llawer amlach, ac er eu bod yn cydymffurfio â gweithrediad cyfarwyddeb gyfredol y DU ar drin dŵr gwastraff trefol, roeddent yn gwneud mwy na’r hyn y byddai’r Comisiwn yn ei ystyried yn dderbyniol. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, ac rwy’n gobeithio bod y dystiolaeth o ymgysylltiad yn lleol, y camau a gymerwyd, y buddsoddiad erbyn 2020 ym mhrosiect GlawLif, wrth gwrs, yn sicrhau y gellir mynd i’r afael â hyn ac y bydd yn tawelu meddyliau’r bobl yn y gymuned ac mewn busnesau, yn enwedig y casglwyr cocos, ac yn galluogi’r ansawdd dŵr i wella, wrth gwrs, a lleihau’r risg o lifogydd.

Wel, rwy’n cytuno ei bod yn siomedig iawn fod tramgwyddo o’r fath wedi digwydd a bod yna ail ddyfarniad llys wedi bod yn awr ar yr un mater yn union. Mae’n bosibl iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gywir i ddweud bod datrys y broblem yn anodd, ond o gofio nad ydym yn sôn yn unig am achosion o dorri’r gyfraith, ond yn hytrach am newidiadau difrifol i ecoleg yr ardal, nid wyf yn credu ei bod yn briodol rhoi’r bai i gyd ar Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn y mater hwn.

Nawr, mae Dŵr Cymru, wrth gwrs, yn mynnu nad y tramgwydd yw achos y marwolaethau cocos a nodwyd yma eisoes. Mae’n ddigon posibl mai dyna’r gwir, ond mae pum mlynedd wedi bod ers yr adroddiad parasitoleg rydych wedi cyfeirio’n anuniongyrchol ato, arweinydd y tŷ, ac nid oedd yr adroddiad hwnnw’n sôn yn uniongyrchol o reidrwydd am ansawdd dŵr, ond roedd yn dweud nad paraseitiaid oedd yr unig reswm dros unrhyw farwolaethau. Felly, rydym yn sôn am bum mlynedd yn ôl ac ers hynny, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal yr hyn y mae wedi’i alw’n ‘drosolwg’ o’r wyddoniaeth. Mae yna lu o fentrau ymchwil naill ai ar y cam ymgeisio neu’r cam cais terfynol. Felly, yn fyr, mae’n fy nharo, ers 2012, nad yw’n ymddangos bod llawer iawn o ymyrraeth wedi bod i geisio cynnal yr hyn sydd, o ran ei botensial, yn dal i fod yn ddiwydiant lleol proffidiol ac yn amlwg, yn un o arwyddocâd diwylliannol lleol hefyd. A fyddai’n deg i mi ddweud, efallai, fod y ffocws ar seilwaith rydych wedi cyfeirio ato yn rhai o’ch atebion heddiw wedi bod ar draul ymchwil wyddonol a allai fod wedi datrys y broblem mewn perthynas â’r cocos? Diolch.

Rwy’n credu, o ran edrych nid yn unig ar ganlyniad yr ymchwil ond hefyd ar yr hyn a oedd yn effeithio ar y gwaith a fyddai’n cael ei wneud—y buddsoddiad o £113 miliwn—byddwn yn dweud bod hyn i raddau helaeth yn cynnwys technegau draenio cynaliadwy ecogyfeillgar sy’n gwella ansawdd yr amgylchedd lleol ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn lleol yn sgil y gwaith hwnnw. Hefyd, er gwaethaf y dyfarniad gan y llys ar 4 Mai, mae ansawdd dŵr pysgod cregyn yn yr ardal wedi cyrraedd safonau statudol yn gyson ers 2000. Rwy’n credu bod pwysigrwydd yr ymateb yn awr, o ran mynd i’r afael â’r mater hwn fel y’i nodwyd gan y llys, yn flaenoriaeth, nid yn unig i Dŵr Cymru, ond hefyd i Lywodraeth Cymru, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro hynny.

Diswyddiadau Posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth

Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? TAQ(5)0130(EDU)[W]

Diolch, Llyr. Mae prifysgolion yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol. Fel y cyfryw, cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth yn unig yw materion staffio. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw lais yn y mater hwn. Ond wrth gwrs, rwy’n deall bod y brifysgol mewn trafodaethau gydag aelodau o’r staff a’r undebau llafur ynglŷn ag argymhellion i adolygu ei strwythurau staffio.

Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae’r brifysgol, wrth gwrs, wedi cyfeirio at y gystadleuaeth am fyfyrwyr—gostyngiad o 8 y cant yng ngheisiadau i astudio yng Nghymru, a Brexit, ymhlith ffactorau eraill, sydd yn dylanwadu ar y sefyllfa maen nhw’n ffeindio eu hunain ynddi hi. Ond y pwynt pwysig i fi fan hyn, wrth gwrs, yw nad un achos sydd gyda ni, ond rydym ni wedi clywed yn yr wythnosau diwethaf am Brifysgol De Cymru yn sôn am leihau staffio o ryw 4.6 y cant, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sôn am doriadau o hyd at 10 y cant, a hwythau hefyd yn cyfeirio at nifer o’r un ffactorau. Mae cynrychiolwyr undeb Unsain wedi dweud bod yn rhaid i’r Llywodraeth ystyried pecyn o opsiynau i ymyrryd yn y sefyllfa yma er mwyn amddiffyn swyddi’r gweithwyr rheng flaen. A gaf i ofyn a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, felly, yn cyfaddef nawr bod gennym ni argyfwng yn y sector addysg uwch o safbwynt ariannu a staffio, ac, er bod diwygiadau Diamond, wrth gwrs, yn mynd rhagddynt, fod angen i’r Llywodraeth ymyrryd ar fyrder cyn i’r sefyllfa yma waethygu ymhellach?

Diolch i chi, Llyr. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae pob prifysgol, gan gynnwys Aberystwyth a’r sefydliadau eraill rydych wedi’u crybwyll, yn gyrff ymreolaethol ac felly, fel y dywedais eisoes, nid oes gennym lais yn y maes hwn. Rwy’n ymwybodol bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau, yn enwedig methiant rhai sefydliadau i gyrraedd eu targedau recriwtio myfyrwyr. Ac wrth gwrs, fe sonioch am Brexit, sy’n creu her sylweddol i’r sector addysg uwch. Fel Llywodraeth, rydym yn symud yn gyflym iawn i geisio sicrhau myfyrwyr rhyngwladol, o’r Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, fod croeso iddynt astudio yma yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn ag argaeledd pecynnau ariannol er mwyn i fyfyrwyr Ewropeaidd allu astudio yma yng Nghymru.

Rwyf wedi sefydlu gweithgor sy’n edrych yn benodol ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi’r sector addysg uwch wrth i ni symud drwy’r trafodaethau Brexit, ac mae’r sector addysg uwch yn cael ei gynrychioli hefyd yng ngrŵp y Prif Weinidog. Rwy’n parhau i gyflwyno sylwadau i’r Llywodraeth flaenorol yn San Steffan ynglŷn ag amrywiaeth o gamau y gallai eu cymryd i’n cynorthwyo yn y maes hwn. Mae’n warthus na ymgynghorwyd â gweinyddiaethau Cymru na’r Alban mewn perthynas â chynllun treialu fisa i weithio ar ôl astudio. Byddem wedi elwa o hynny yng Nghymru, fel y byddai ein cymheiriaid yn yr Alban. Byddwn yn awyddus iawn i Lywodraeth y DU edrych ar y mater hwnnw eto. Mae hefyd yn amlwg iawn i mi fod angen i ni eithrio myfyrwyr tramor fel rhan o obsesiwn parhaus y Llywodraeth gyda ffigurau mewnfudo. Mae gennym sector addysg uwch yma yng Nghymru sy’n ddigon cryf ac yn ddigon da i’w werthu i’r byd. Mae’n batrwm o ragoriaeth ac mae angen i Lywodraeth y DU ddatblygu trefn fewnfudo nad yw’n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr rhyngwladol fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym yn ein prifysgolion a’n colegau yma yng Nghymru. Deallaf fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel y corff noddi a chyllido addysg uwch, yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, a’n holl brifysgolion yn wir.

Diolch, Llywydd, a diolch i Llyr am roi sylw i hyn o dan y cwestiynau amserol. Cafodd rhan o’r broblem ynglŷn â hyn ei thrafod yn ein grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion ar 1 Chwefror a dyna rwyf eisiau canolbwyntio arno ar hyn o bryd, oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn dweud bod gennym gynnig o safon fyd-eang yma, ond mae rhywbeth yn mynd o’i le, ac rwyf eisiau crybwyll hynny’n fyr yma.

Rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod ein hallforion addysg i fyfyrwyr rhyngwladol yn werth tua £530 biliwn, sef 4 y cant o holl allforion Cymru. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—yn cynnal dros 7,500 o swyddi ym mhrifysgolion Cymru, ac o amgylch Cymru hefyd, nid yn y prifysgolion yn unig. Ond rydym wedi cael gostyngiad o 26 y cant yn nifer y myfyrwyr o’r tu hwnt i’r UE ym mhrifysgolion Cymru ers y lefel yn 2013-14, ac mae hyn o’i gymharu â gostyngiad o 4 y cant yn y DU yn gyffredinol a phrifysgolion Grŵp Russell a’r Alban. Felly, mae gennym broblem benodol, ac mae hyn er gwaethaf cynnig o safon fyd-eang ym mhrifysgolion Cymru ac er gwaethaf y ffaith fod costau byw a dysgu yma yng Nghymru yn llawer mwy fforddiadwy. Ond rydym yn gwybod, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn, fod astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod y DU bellach yn cael ei hystyried fel y lle lleiaf fforddiadwy i astudio ar gyfer israddedigion a graddedigion o’i chymharu â Seland Newydd, Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’n rhaid i ni wneud llawer mwy o waith marchnata. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth allwn ni ei wneud i farchnata sector prifysgolion Cymru yn well, i gael cynnig polisi mewnfudo a fisa mwy croesawgar, ac i hybu niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu recriwtio? Nid dyna’r unig beth sydd angen ei wneud i wella’r sefyllfa, ond mae’n ffordd bwysig i ni ddatrys yr heriau hynny, gwella’r sefyllfa a hybu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol.

Diolch i chi, Huw. Fel rydych yn ei ddweud, nid hwn yw’r unig fater sydd angen i ni ei ystyried, ond mae’n un pwysig. Ychydig cyn y Nadolig, cynhaliais gyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, ac ailadroddais yr holl bwyntiau rwyf newydd eu gwneud i Llyr Gruffydd i Jo Johnson, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am addysg uwch ar y pryd. Pwy a ŵyr a fydd yn cadw’r swydd honno ar ôl yr etholiadau ym mis Mehefin? Credaf fod Jo Johnson yn deall yn union pa fath o system fewnfudo y mae angen i Lywodraeth y DU ei rhoi ar waith i gefnogi’r sector addysg uwch, yng Nghymru a thu hwnt. Yn anffodus, mae’n brwydro gyda Swyddfa Gartref nad yw’n rhannu’r ddealltwriaeth honno ac yn rhannu’r uchelgais hwnnw. Ond rydych yn iawn—ni allwn laesu ein dwylo a beio pobl eraill; mae’n rhaid i ni godi oddi ar ein pengliniau a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi’r sector ein hunain. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i drafod gyda fy nghyd-Aelod Cabinet, y Gweinidog dros yr economi, er enghraifft, pan fydd ei adran ar deithiau masnach ar draws y byd, y dylai addysg fod yn rhan o hynny. Fel y dywedoch yn hollol gywir, mae gennym gynnig cryf yma mewn llawer o feysydd, ond nid am ein cynnig gweithgynhyrchu, neu’n wir, ein maes awyr, yn unig y dylem fod yn siarad â gwledydd; dylem fod yn siarad â hwy hefyd am y sylfaen addysg uwch gref sydd gennym yma, ac rwy’n siŵr y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn. 

Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn—nid yw’n gyfrifol am faterion staffio. Fodd bynnag, hi sy’n bennaf gyfrifol am y fframwaith cyllidol y mae prifysgolion Cymru yn gweithredu o’i fewn. Ei phlaid oedd yn gyfrifol am dreblu ffïoedd dysgu bum mlynedd yn ôl. Cafodd hynny effaith wirioneddol ar Brifysgol Aberystwyth; mae nifer gryn dipyn yn llai o fyfyrwyr o Loegr yn mynychu Prifysgol Aberystwyth bellach, nid am fod y brifysgol wedi gwaethygu, ond oherwydd bod prifysgolion Lloegr a threblu ffïoedd dysgu bellach yn cystadlu â’i gilydd am fyfyrwyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig, a cheir cymhellion deniadol iddynt astudio yn Lloegr gyda’r arian yn system addysg Lloegr. Mae ganddi argymhelliad, wrth gwrs, yn adolygiad Diamond i geisio, rwy’n gobeithio, dychwelyd rhywfaint o’r arian rydym yn ei anfon dros y ffin ar hyn o bryd yn ôl i mewn i’r system brifysgolion, ond ni fyddai hwnnw’n dod yn weithredol am o leiaf ddwy flynedd, ac ni fyddai’n dod yn llawn am oddeutu pum mlynedd hyd yn oed, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn argymell toriadau dros y ddwy flynedd nesaf. Y bwlch gwirioneddol hwn rhwng lle rydym heddiw a lle y gallem fod o dan Diamond yw’r broblem i brifysgol fel Aberystwyth a’r prifysgolion eraill sydd wedi cyhoeddi toriadau tebyg dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Mae’n cwyno am y fisas ac mae’n iawn i gwyno amdanynt. Rydym i gyd wedi cwyno amdanynt, ond unwaith eto, ni lwyddodd ei phlaid a oedd mewn grym am bum mlynedd—Vince Cable a Clegg—i newid y drefn fisa yn y pum mlynedd hynny. Felly, rwy’n credu bod llawer o wasgu dwylo’n digwydd y prynhawn yma, ond mae yna brifysgol go iawn yn wynebu problemau go iawn a dros 100 o bobl yn wynebu diswyddiadau posibl. Yr hyn sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru yw arwydd clir o gynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae gennym Diamond ar y ffordd, ond nid yw’n weithredol eto. Beth a wnewch dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn benodol pa un a oes cefnogaeth i Brifysgol Aberystwyth i sicrhau nad yw’n llithro i safle is neu’n colli ei gallu i gystadlu yn y farchnad addysg uwch?

A gaf fi hysbysu’r Aelod fod y rhagolygon diweddaraf yn dangos bod £50 miliwn yn rhagor o gyllid wedi dod i mewn i’r system addysg uwch yng Nghymru yn 2015-16 nag a wariwyd ar grantiau ffïoedd dysgu i sefydliadau y tu allan i Gymru? Nawr, bydd ein diwygiadau Diamond yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y sector yma yng Nghymru yn y dyfodol, ac roedd fy llythyr cylch gwaith i CCAUC yn cadarnhau fy mod yn llawn ddisgwyl i setliadau ariannol i CCAUC yn y dyfodol gynyddu ym mhob blwyddyn ariannol am weddill oes y Llywodraeth hon. Rwy’n synnu bod Simon Thomas wedi cymryd y sefyllfa ddifrifol iawn hon i’r bobl sy’n gweithio yn Aberystwyth a’i throi’n gyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Hoffwn atgoffa’r Aelod fod bywoliaeth pobl mewn perygl yma, sy’n fater difrifol iawn, ac os ydym am ei wneud yn wleidyddol, hoffwn atgoffa’r Aelod ei fod yn eistedd yno yn ei sedd ar sawl achlysur ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddadfuddsoddi yn y sector addysg uwch a buddsoddi yn y sector addysg bellach. Nid wyf erioed wedi clywed yr Aelod yn gofyn yn ei drafodaethau ar y gyllideb am fwy o arian ar gyfer y sector addysg uwch. 

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Llywydd. Dydd Gwener yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, dathliad blynyddol o waith diflino ac ymroddiad nyrsys ar draws y byd. Eleni, y thema yw ‘arwyr nyrsio’. Er y gall pawb ohonom enwi nyrsys o’r gorffennol a’r presennol sy’n arwyr, byddaf yn ymuno â nyrsys o fwrdd iechyd Aneurin Bevan i siarad am fenyw wirioneddol anhygoel: Annie Brewer. Ganed Annie ym 1874 yng Nghasnewydd. Cafodd ei chymhwyster nyrsio ym 1899, ac roedd hi’n teithio drwy Ffrainc ar ddechrau’r rhyfel byd cyntaf. Yn ystod y rhyfel, gweithiodd Annie ar y rheng flaen, gan drin cannoedd o filwyr, yn aml yng nghanol brwydr. Ym 1917, trawyd ambiwlans Annie gan ffrwydryn a chafodd ei chlwyfo wrth geisio mynd â milwyr wedi’u hanafu yn ôl i fan diogel. Er gwaethaf y perygl roedd hi ynddo, rhoddodd Annie ei bywyd ei hun mewn perygl i ofalu am y clwyfedig. Yn ystod brwydr Verdun, cynorthwyodd Annie mewn 229 o lawdriniaethau mewn saith diwrnod. Dyna un bob 45 munud. Am ei dewrder a’i haberth bersonol, dyfarnwyd un o’r medalau uchaf am ddewrder y gall Llywodraeth Ffrainc eu rhoi i Annie. Dywedwyd bod Annie wedi gosod esiampl wych o hunanfeddiant a’r gallu i ddiystyru peryglon yn llwyr, gan ofalu’n hael am y clwyfedig wrth i’r gelyn danio atynt. Dychwelodd Annie i Gasnewydd ar ôl y rhyfel i ofalu am ei mam ei hun, ond bu farw’n fuan wedyn. Mae’r dewrder a’r tosturi anhygoel hwn yn dangos ei bod yn berson rhyfeddol, yn rhywun y mae’n rhaid i ni ei chofio ac yn enghraifft berffaith o arwr nyrsio.

Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofnod o fuddiannau a fy rôl anrhydeddus fel is-lywydd Cerddwyr Cymru. Y penwythnos diwethaf, fel pe na baem ni i gyd wedi cerdded ddigon yn ystod yr etholiadau lleol, euthum i a Suzy Davies AC ar Daith Gerdded Fawr Cymru a drefnwyd gan Gerddwyr Cymru, a elwir hefyd yn ‘her “Y Gwyll”‘, am ei bod yn digwydd ger Pontarfynach. Gan ddefnyddio llety hyfryd Tynrhyd fel ein man cychwyn, patrwm o arallgyfeirio cefn gwlad, dechreuodd cerddwyr o bob cwr o’r DU ar deithiau cerdded o wahanol hyd, o deithiau dwy filltir i rai 15 milltir mwy egnïol, i fyny’r allt ac i lawr i’r ddôl, ar draws y rhostir a’r gweundir mwyaf gogoneddus, creigiau a dyffrynnoedd coediog a thir pori isel gydag afonydd yn disgleirio yn yr heulwen. Ond cyn i mi fynd yn rhy farddonol, gadewch i mi hefyd fod yn ymarferol.

Roedd y teithiau cerdded hefyd yn dangos gwaith anhygoel gwirfoddolwyr Cerddwyr Cymru yn gweithio gyda thirfeddianwyr ac awdurdodau lleol i gynnal hawliau tramwy sy’n bodoli’n barod, a hyd yn oed i greu llwybrau cerdded newydd. Roedd yn dangos y manteision o fod yn dref a sir sy’n ystyried cerddwyr i dwristiaeth a’r economi leol, drwy gysylltu pobl â’r lleoedd lle maent yn byw, cyflwyno pobl i lefydd na fyddent wedi’u gweld fel arall, ac roedd yn dangos y manteision amlwg i iechyd a lles o wneud rhywbeth mor syml â cherdded yn rheolaidd. Fel y dywed Cerddwyr Cymru, drwy uno cymunedau, cysylltu pobl â’u tirweddau lleol, datgelu lleoedd newydd i’w darganfod a pharhau i gynnal ein rhwydwaith o lwybrau o’r radd flaenaf, gallwn sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd i gerdded ynddi, nid yn unig i ni ond i genedlaethau’r dyfodol. Yn sicr, mae hwnnw’n uchelgais sy’n werth camu ymlaen arno. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch’.]

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar ddatganoli plismona. Rydw i’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6288 Mike Hedges, Steffan Lewis, Julie Morgan, Sian Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch i gynnig y cynnig heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Sian Gwenllian a Julie Morgan. Mae ein cynnig mewn tair rhan: yn gyntaf, nodi bod plismona wedi’i ddatganoli i ddwy genedl ddatganoledig arall y DU; yn ail, galw am ddatganoli plismona i Gymru—yr unig genedl lle nad yw wedi cael ei ddatganoli; ac yn drydydd, mynegi’r farn ei bod yn well cydgysylltu meysydd plismona arbenigol penodol ar lefel y DU.

Caiff anomaledd Cymru, wrth gwrs, ei ddrysu ymhellach gan y ffaith fod pwerau dros blismona bellach wedi’u datganoli i Fanceinion, gydag ethol eu maer metropolitanaidd cyntaf, ac eto mae’r broses o ddatganoli plismona i Gymru yn parhau i fod yn rhwystredig o ddisymud. Er gwaethaf consensws pellgyrhaeddol yn y Senedd hon, nid oes gan San Steffan unrhyw gynlluniau i drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru. Roedd yn siomedig na chafodd ei gynnwys yn Neddf Cymru 2014 na Deddf Cymru 2017, er ei fod yn un o argymhellion comisiwn trawsbleidiol Silk yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Cafwyd dau gyfle deddfwriaethol i weithredu ac ni wnaed unrhyw gynnydd.

Fodd bynnag, nid pwynt o egwyddor gyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’n gwneud synnwyr perffaith i benderfyniadau’n ymwneud â’n holl wasanaethau brys gael eu gwneud ar y lefel genedlaethol. Ar hyn o bryd plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi cael ei ddatganoli, ac eto mae plismona modern yn galw am gryn dipyn o orgyffwrdd rhwng gwasanaethau cyhoeddus a meysydd cyfrifoldeb datganoledig eraill. Wrth gwrs, eisoes mae’n rhaid i’r heddlu weithio’n agos ochr yn ochr â chydweithwyr iechyd ac addysg. Er bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd, ceir tystiolaeth y gellid gwella cydweithrediad hyd yn oed ymhellach pe bai’r pwerau i wneud y penderfyniadau strategol i’w cael yma yn y wlad hon.

Mae’r cynnig trawsbleidiol heddiw yn nodi agwedd synhwyrol tuag at ddatganoli plismona. I’r rhan fwyaf o bobl yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw’r gwasanaethau heddlu y maent yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw plismona cymunedol, nid yn unig y syniad traddodiadol o’r plismon ar y stryd, ond gwasanaeth heddlu sy’n meddu ar wybodaeth leol a’r gallu i ymateb i anghenion y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Nid yw’r gyllideb ar gyfer plismona cymunedol wedi’i chlustnodi mwyach ac er bod yn rhaid i heddluoedd warantu isafswm o blismona yn y gymdogaeth, mae’r ffordd y caiff hyn ei gyflawni’n amrywio’n fawr o un gwasanaeth heddlu i’r llall mewn gwirionedd. Ar un adeg roedd gan bob ward swyddog ward a oedd yn gyfrifol am adeiladu perthynas â chymunedau a chynyddu ymddiriedaeth yn yr ardal leol, ond rwy’n credu bod llawer o bobl yn teimlo fel pe bai’r cysylltiad hwnnw’n cael ei golli, a phlismona cymunedol effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth gydag ef.

Mae’r adroddiad ‘Cyflwr Plismona’ diweddaraf gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn amlinellu eu pryder fod plismona yn y gymdogaeth yn cael ei erydu. Ond gyda heddluoedd yn profi toriadau o 22 y cant, ar gyfartaledd, yng nghyllid y Llywodraeth rhwng 2010 a 2015, a llawer yn dal i weld eu cyllidebau gweithredol yn parhau i grebachu, mae heddluoedd wedi gorfod ymateb drwy ddiswyddo gweithwyr. Canfu adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi fod rhai heddluoedd wedi’i chael yn anodd ymateb i’r lleihad yn lefel yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae ymatebion tymor byr, wedi’u cynllunio’n wael, i bwysau uniongyrchol ar y gyllideb yn rhoi pobl sy’n agored i niwed mewn perygl difrifol o gael eu niweidio mewn rhai heddluoedd, a chaiff nifer fawr o droseddau eu diystyru i bob pwrpas yn hytrach na dod o hyd i gasgliad boddhaol i’r dioddefwr a’r gymuned.

O safbwynt polisi, byddai datganoli plismona i Gymru yn rhoi’r gallu i flaenoriaethu plismona cymunedol ac ymgorffori’r egwyddor honno ar draws y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Byddai yna fudd ariannol hefyd i gyd-fynd â’r dyhead polisi hwnnw. Yn ôl cyfrifiadau Plaid Cymru, pe bai Cymru’n cael ei thrin fel endid plismona cydradd â’r gwledydd datganoledig eraill, byddai heddluoedd Cymru dros £25 miliwn y flwyddyn yn well eu byd, gan y byddai Barnett yn gymwys. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i ariannu ein heddluoedd yn unol â’r boblogaeth, byddai’n arwain at gynnydd sylweddol yn eu cyllidebau.

Fel y nodwyd yn y cynnig, ceir elfennau o blismona arbenigol, megis gwrth-frawychiaeth, lle mae cydgysylltu ledled y DU yn gwneud synnwyr perffaith. Gyda’r materion hyn, lle y ceir elfen ryngwladol yn aml, cyrff sy’n gweithredu ar draws y wladwriaeth sydd fel arfer yn arwain ac yn cydgysylltu, yn enwedig pan fo’r rhain yn berthnasol i waith y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Gellir meddwl am y Swyddfa Ymchwiliadau Ffederal yn yr Unol Daleithiau, neu’r Bundespolizei yn yr Almaen, er enghraifft. Gydag unrhyw wasanaeth brys, mae angen sicrhau cydweithrediad bob amser ar draws ffiniau cenedlaethol, wrth gwrs. Yn wir, mae hynny eisoes yn wir am y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau tân ac achub rhwng Cymru a Lloegr.

O ran plismona, mae cymorth ar y cyd wedi bodoli ers cryn dipyn o amser a buasai, wrth gwrs, yn berthnasol os a phan fydd plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru. Ar yr ynysoedd hyn, mae cymorth ar y cyd wedi’i ymgorffori yn y berthynas rhwng y gwahanol awdurdodaethau eisoes. Yn Iwerddon, lle y ceir ffin ryngwladol i bob pwrpas, mae Deddf Awdurdodaeth Droseddol 1975 yng Ngogledd Iwerddon a Deddf Cyfraith Trosedd (Awdurdodaeth) 1976 yn y Weriniaeth yn caniatáu i bob awdurdodaeth drin ac ymdrin ag ystod benodol o droseddau a gyflawnwyd yn yr awdurdodaeth arall fel pe bai wedi digwydd yn eu hawdurdodaeth eu hunain.

I gloi, Llywydd, mae datganoli plismona’n ddymunol o safbwynt polisi a chydgysylltu er mwyn adfer plismona cymunedol a sicrhau mwy o gydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Byddai datganoli plismona o fudd ariannol i Gymru, lle byddai difidend datganoli yn ein galluogi i fuddsoddi mwy i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae datganoli plismona yn gadarn yn weithredol, fel y mae bron unrhyw wladwriaeth arall yn y byd yn ei brofi, ac mae eisoes yn amlwg yn yr awdurdodaethau plismona gwahanol ar yr ynysoedd hyn. Bydd pleidlais gadarnhaol o’r Cynulliad hwn heddiw yn alwad glir ar Lywodraeth nesaf y DU i fynd i’r afael â’r anomaledd diangen hwn.

Fel y mae’r cynnig hwn yn nodi,

‘[mae’n] well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.’

Fodd bynnag, mae ei alwad am ddatganoli plismona i Gymru yn herio realiti. Mae plismona’n fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am resymau daearyddol a hanesyddol, mae’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn gwbl wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol yn 1972, hen Senedd Stormont oedd yn gyfrifol am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, ac ymrwymodd Llywodraethau olynol y DU i ailddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd yr amgylchiadau’n iawn i wneud hynny. Mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, ac mae 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir. Ar y llaw arall, 5 y cant yn unig o boblogaeth gyfunol yr Alban a Lloegr sy’n byw o fewn 50 milltir i’r ffin rhwng y gwledydd hynny. Fe gymeraf un ymyriad.

Diolch i’r Aelod am ildio. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad, mae yna ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae’r cytundebau cymorth ar y cyd wedi gweithio yno, hyd yn oed ar adegau pan nad oedd plismona wedi’i ddatganoli i Ogledd Iwerddon. Felly, a fyddai o leiaf yn cydnabod nad yw ffiniau agored, neu unrhyw ffiniau o ran hynny, yn rhwystr i blismona cymunedol datganoledig gwell?

Yn anffodus, mae gan Lywodraeth Cymru hanes ers 1999 o adeiladu rhwystrau trawsffiniol yn hytrach na chael gwared arnynt. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw ar hyd coridorau’r M4 a’r A55, wedi’u gwahanu gan ardal wledig eang, ac mae ganddynt ofynion plismona gwahanol iawn. Dangosir cyd-ddibyniaeth plismona rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr gan y ffaith mai hon yw’r unig ran o’r DU sydd ag ardal drefol gysylltiedig wedi’i rhannu gan ffin genedlaethol. Mae fy nghysylltiadau fy hun, yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr nag sydd ganddynt â gweddill Cymru, a bod diffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona.

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Dim amser. Maent wedi mynegi pryder wrthyf yr wythnos hon y byddai cael Llywodraeth Cymru’n rheoli cyllidebau plismona yn arwain at arian yn trylifo i’r de, a dywedasant y byddent yn hoffi gwybod a oes awydd yn Llywodraeth Cymru i uno’r heddluoedd yng Nghymru—argymhelliad a wrthodwyd nifer o flynyddoedd yn ôl. Fel y dywedasant, 

mae daearyddiaeth a chysylltiadau cyfredol gyda gwahanol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o Heddlu Cymru gyfan yn un anodd iawn—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

gan ychwanegu,

dylid monitro’n ofalus unrhyw gamau i orfodi symudiad o’r fath i fodloni egos gwleidyddion penodol.

Rwy’n dyfynnu. Yn eu briff i Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol gogledd Cymru ym mis Ionawr, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrthym fod eu cydweithrediad gweithredol gyda heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Gaer yn cynyddu mewn rhai meysydd, gan gynnwys arfau tanio, cudd-wybodaeth, arestio, eiddo a gwasanaethau fforensig. Pan fu Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio y Cynulliad yn adolygu strwythur plismona yn 2005, roedd ein hadroddiad yn nodi nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, ac mae’n rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol. Arweiniodd gwaith is-bwyllgor y Cynulliad, yr oeddwn yn aelod ohono ac a oedd yn ystyried yr argymhelliad ar y pryd i uno heddluoedd Cymru, at roi’r gorau i’r argymhellion i uno heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn y ddadl ar hyn ym mis Chwefror 2006, dywedodd awdurdodau’r heddlu wrthym y byddai ad-drefnu’n costio hyd at £57 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Gymru gyfan, gyda’r prif gwnstabl yn datgan y byddai’n fwy na hynny hyd yn oed. Cadarnhaodd ein gwaith dilynol fod y prif gwnstabliaid yn gywir.

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Er bod ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi datgan bod maniffesto 2017 y Blaid Lafur—

Mae’n dibynnu a wnewch chi ganiatáu digon o amser i mi ar y diwedd ai peidio, os derbyniaf ymyriad arall.

Diolch i chi, Mark, am dderbyn yr ymyriad. Mae eich cyfraniad wedi ennyn fy chwilfrydedd, oherwydd cefais lythyr dyddiedig 5 Medi gan bob un o’r cwnstabliaid heddlu yng Nghymru, y grŵp plismona Cymru gyfan, sy’n dweud eu bod, yn wir, wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd sy’n cefnogi datganoli plismona i Gymru. O ble rydych yn cael eich gwybodaeth, Mark?

Nid wyf am enwi unigolion oherwydd gallai’r unigolion hynny gael eu dwyn i gyfrif gan Weinidogion. Mae’r wybodaeth rwyf yn ei derbyn yn gywir. Daw’r wybodaeth yn uniongyrchol gan y bobl berthnasol, ond nid wyf am ddweud pwy yw’r bobl hynny. Mae’r hyn y maent yn ei ddweud yn breifat yn wahanol iawn i’r hyn y maent yn barod i’w ddweud yn gyhoeddus wrth bobl fel chi.

Er bod cadeirydd ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi dweud y bydd maniffesto 2017 y Blaid Lafur yn rhoi rôl fwy i Weinidogion Cymru mewn plismona, roedd hefyd yn gwadu bod Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Diane Abbott, wedi cael ei ffeithiau’n anghywir pan ddywedodd,

Nid ydym yn credu ei bod yn iawn, ar yr adeg hon, i ddatganoli plismona, ond mae hwn yn fater a drafodir yn gyson yn y Blaid Lafur.

Yn 2013, rhybuddiodd Gweinidog yr wrthblaid dros yr heddlu a’r cyn-Weinidog dros yr heddlu, David Hanson, y byddai datganoli rheolaeth i’r heddlu yn gam mawr gyda llawer o heriau, a bod lleihau troseddau’n bwysicach na phenderfynu pa Lywodraeth sy’n rheoli’r heddlu. Mae ffigurau newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod nifer y bobl a anafwyd o ganlyniad i drais difrifol wedi gostwng 10 y cant y llynedd, a 40 y cant ers 2010. Mae plismona eisoes wedi cael ei ddatganoli i gomisiynwyr heddlu a throseddu, gan rymuso cymunedau lleol i roi eu barn ar flaenoriaethau plismona ac i ddwyn cynrychiolydd etholedig i gyfrif. Mae’r alwad am ddatganoli plismona o du’r Blaid Lafur a’r ymwahanwyr yn ymgais amlwg i fachu pwerau, a byddai hynny’n cyflawni’r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn. Mae’r Prif Weinidog hwn yn cyfeirio at ddatganoli plismona i Fanceinion fel model ar gyfer Cymru, ond pwerau’r comisiynwyr heddlu a throseddu’n unig yw’r rheini, ac maent eisoes wedi’u datganoli yng Nghymru. Felly, yr hyn y mae’n sôn amdano mewn gwirionedd yw bachu mwy fyth o bwerau o ranbarthau Cymru a’u canoli yng Nghaerdydd, gan roi’r pŵer i’w hunain i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Wel, o ystyried hanes y Blaid Lafur o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig mewn modd cynyddol, a bygythiol yn aml, mae hwn yn gynnig gwirioneddol iasoer.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl drawsbleidiol hon. Rwyf wedi bod yn fodlon iawn i roi fy enw ar y cynnig hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddirgelwch llwyr pam na chafodd plismona ei ddatganoli yn y Bil Cymru diweddaraf, ac rwy’n credu mai dyna un o’r prif resymau pam fod datganoli yn dal i fod yn fusnes anorffenedig. Rwy’n siŵr y bydd yna adeg pan gaiff plismona ei ddatganoli, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd gyda’r cyfle hynod o dda hwn.

Fel y dywedodd Steffan Lewis yn ei gyflwyniad, mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam nad yw Cymru yn gymwys i gyflawni plismona? Gallaf glywed yng nghyfraniad Mark Isherwood fod ganddo farn mor isel o allu’r Cymry i ddarparu gwasanaethau yn eu gwlad eu hunain fel ei fod yn credu na ellir ymddiried ynom yma gyda phlismona. Rwy’n credu bod dweud y math hwnnw o beth yn gryn feirniadaeth.

Os edrychwch ar rannau eraill o Loegr, rhoddwyd mandad uniongyrchol ar gyfer plismona i faer Llundain yn 2011. Mae gan y maer rôl bwysig, ar y cyd â’r Ysgrifennydd Cartref, yn penodi comisiynydd heddlu’r Met, yn craffu ar blismona, ac ef sy’n llunio’r strategaeth blismona yn Llundain. Mae gan Gynulliad Llundain rôl hefyd yn craffu ar blismona yn Llundain, yn yr un modd ag y gallai’r Cynulliad hwn ei wneud pe bai plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n credu y byddai hynny’n bolisi llawer mwy cydlynol. Ac wrth gwrs, cawsom etholiad y meiri metro yn ddiweddar iawn.

Cafodd Manceinion, sydd bellach â phŵer dros blismona, ei chrybwyll sawl gwaith. Ond mae Llywodraeth y DU wedi cytuno hefyd i roi mwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol a rheoli troseddwyr i Fanceinion. Bydd gan Fanceinion fwy o ran mewn cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer llysoedd lleol ac wrth gomisiynu gwasanaethau rheoli troseddwyr ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr. Rwy’n falch fod Manceinion yn cael hyn, ond beth am Gymru? Mae Cymru’n wlad, ac nid oes gennym y pwerau hyn. Felly, rwy’n credu ei fod yn ddirgelwch llwyr. Rydym hefyd yn gwybod bod yna saith—. Rydym hefyd yn gwybod bod yna chwech o etholiadau eraill wedi bod i ethol meiri metro, ac un arall i ddod. Dros amser, bydd pwerau’r meiri metro, rwy’n siŵr, yn cynyddu, fel sydd wedi digwydd yn Llundain. Mewn cyferbyniad â Chymru, mae’r Bil datganoli a sefydlodd y meiri metro yn ddeddfwriaeth fwriadol o amhenodol sy’n caniatáu ar gyfer datganoli unrhyw beth bron—tai, iechyd, lles, plismona, a mwy.

Felly, y cwestiwn mawr yw: beth sydd o’i le ar Gymru? Mae’n ymddangos o ddifrif fod rhyw rwystr yn y canol nad yw’n cydnabod rhesymeg pur datganoli plismona i Gymru. Nid oedd unrhyw broblem wrth drosglwyddo’r pŵer dros y gwasanaeth tân yn ystod sesiwn gyntaf y Cynulliad, pan gafodd ei gynnig i’r Cynulliad, fel rwy’n deall; nid wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gorfod gofyn amdano hyd yn oed. Ac yn amlwg, mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei ddatganoli fel rhan o’r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hyn yn golygu bod dau o’r tri gwasanaeth brys eisoes wedi’u datganoli i Gymru, felly nid yw’n gwneud synnwyr peidio â datganoli’r trydydd. Mae’r tri gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda’i gilydd i raddau helaeth, ond byddai’n sicr yn gwneud synnwyr gweithredol i gael y tri gwasanaeth dan reolaeth wleidyddol Llywodraeth Cymru.

Felly, un o’r prif resymau y dylem ei gael: mae’r pwerau wedi’u datganoli i leoedd eraill. Ail reswm: mae gennym ddau o’r tri gwasanaeth brys wedi’u datganoli eisoes. Ac wrth gwrs, rheswm pwysig arall yw’r modd y caiff yr heddlu eu hariannu yng Nghymru, oherwydd cânt eu hariannu gan gymysgedd o gyllid y Swyddfa Gartref, cyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid y dreth gyngor. Yn ei maniffesto ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad, ymrwymodd y Blaid Lafur i ariannu 500 yn ychwanegol o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Wrth gwrs, mae’r rhain wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan y cyhoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, gyda’n haddewid etholiad cyffredinol yn awr ar gyfer yr etholiad sydd i ddod, bydd 853 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru. Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo’n ddiogel ar y strydoedd, a bod yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar lefel leol yn rhannau allweddol o’r gymuned leol.

·         Maent hefyd yn ymwneud llawer yn awr gyda phobl sy’n agored i niwed. Mae’r gwaith o blismona troseddau y mae’r heddlu’n ei wneud yn llawer llai bellach na’r gweithgareddau cymunedol y maent yn ymwneud â hwy—gweithio gyda phobl hŷn, gweithio gyda phobl ifanc. Heddiw, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cawsom dystiolaeth gan unigolyn a ariannir ar y cyd gan yr heddlu ac iechyd y cyhoedd. Dyma sut y bydd pethau yn y dyfodol—cydweithio gyda’n gilydd. Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, os edrychwch ar enghraifft o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, er enghraifft, megis y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dull partneriaeth o drechu ac atal cam-drin, sydd—. Yn amlwg, mae trechu cam-drin domestig yn un o’r heriau mwyaf sydd gennym. Mae’n gwbl hanfodol fod hyn yn cael ei wneud drwy ddull partneriaeth, ac nid oes amheuaeth o fath yn y byd yn fy meddwl y byddai hyn yn gwella pe bai’r cyfrifoldeb gwleidyddol dros blismona yn nwylo’r Cynulliad. 

Diolch i’r Aelodau unigol am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rwy’n credu bod datganoli plismona yn fater pwysig, a dylwn nodi ei fod yn fater rydym ni yn UKIP heb benderfynu arno hyd yn hyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus, fodd bynnag, cyn i ni ddechrau ar y cam hwn. Os yw’r Cynulliad yn galw am fwy o bwerau, am ddatganoli dros fwy o bethau, yna credaf fod yn rhaid cael rhesymau da dros wneud hynny. Yn fy marn i, ni all fod yn unig am fod rhannau eraill o’r DU wedi cael y pwerau hynny, felly mae’n rhaid i ni eu cael. Pan fuom yn trafod y pwnc hwn yn 2014, gwnaeth Ann Jones y pwynt cymwys hwn, ac rwy’n dyfynnu:

‘Mae dweud yn syml ein bod eisiau pwerau am fod gan yr Alban bwerau yn ddadl wan iawn.’

Diwedd y dyfyniad. Credaf fod hynny’n parhau i fod yn wir heddiw, ac rwy’n credu ei fod yn parhau i fod yn wir hyd yn oed os ydym yn ei ymestyn i gynnwys cyfeiriadau at Fanceinion Fwyaf hefyd, fel y cawsom heddiw. Beth yw manteision ymarferol go iawn datganoli plismona i’r lle hwn? Maent yn aneglur ar y gorau. [Torri ar draws.] Iawn, Steffan, rydym wedi clywed yr hyn a ddywedoch. Roeddwn am godi rhai o’r pwyntiau a wnaethoch. Fe sonioch am y ddadl fod y ddau wasanaeth brys arall eisoes wedi’u datganoli; gwnaeth Julie Morgan y pwynt hwnnw hefyd. Wel, roedd y pwynt hwn wedi’i wneud o’r blaen. Yn y Cynulliad diwethaf—[Torri ar draws.] Iawn, wel, rydych yn dweud ei fod yn gywir. Rwy’n trafod y pwynt; gadewch i mi ei drafod, os gwelwch yn dda. Roedd gennym Aelod o’r enw Byron Davies yn y Cynulliad diwethaf, a chanddo 32 mlynedd o brofiad gweithredol yn yr Heddlu Metropolitanaidd mewn gwirionedd. Nawr, pan godwyd y mater hwn ddiwethaf, yn 2014, dywedodd mai’r unig gysylltiad rhwng y tri gwasanaeth brys oedd eu bod i gyd yn rhannu’r un rhif ffôn, 999. Nid oedd yn argyhoeddedig y byddai datganoli plismona yn effeithiol.

Mae’r ddadl arbed costau y mae Steffan wedi’i chyflwyno yn ddamcaniaethol ar y gorau. A fyddem yn cael y setliad ariannol y mae’n ei awgrymu ar gyfer yr heddlu mewn gwirionedd? Yn wir, gallai’r costau gynyddu.

Yn amlwg, mae’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu ar hyn o bryd yn golygu nad ydym yn cael ein hariannu fel endid yn ein hawl ein hunain oherwydd ein bod yn dod o dan endid Cymru-a-Lloegr. Ond pe baem yn dod yn endid plismona, gyda phwerau datganoledig dros blismona, yna byddem yn dod yn endid datganoledig o ran plismona, a byddai fformiwla Barnett i’w chymhwyso. Mae hynny’n golygu y byddai ein cyllidebau’n cynyddu, yn seiliedig ar y boblogaeth; byddai mwy o arian, nid llai.

Iawn. Roeddwn yn ymwybodol o’r ddadl y tro cyntaf i chi ei chyflwyno. Diolch i chi am ei chyflwyno eto. Hoffwn glywed beth y byddai’r Gweinidog yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw. Rwy’n siŵr y bydd yn ystyried hynny.

Cafodd rhai anfanteision go gadarn—[Torri ar draws.] Cafodd rhai anfanteision go gadarn eu gwyntyllu yn y gorffennol ynglŷn â datganoli plismona. Nawr, roedd gennyf ddiddordeb yn ymyrraeth y Gweinidog Carl Sargeant yn gynharach ynglŷn â sylwadau gan brif gwnstabliaid. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny, oherwydd, hyd yn hyn, o’r hyn rwyf wedi’i ddarllen, mae llawer o swyddogion profiadol wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatganoli plismona. Er enghraifft, mae cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, wedi datgan y gallai datganoli plismona beri ‘peryglon gweithredol difrifol’ a chyda llai na 7,000 o swyddogion yr heddlu, byddai heddluoedd yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar heddluoedd Lloegr am gefnogaeth mewn sawl maes sy’n ymwneud ag ymladd troseddu.

‘Byddai’r gost o greu cydnerthedd annibynnol yn afresymol ac yn anodd ei chyfiawnhau’

meddai. Adleisiwyd yr ofnau hyn yn 2016 gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Ian Johnston, a rybuddiodd y gallai Cymru ddod yn adain wan plismona yn y DU. Ar y pryd, dywedodd comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed-Powys, Chris Salmon, nad oes unrhyw beth y gall y Cynulliad ei wneud—

Nid oes amheuaeth fod yna faterion ymarferol y mae angen eu datrys, ond fel y mae Carl Sargeant newydd wneud yn glir, mae’r prif gwnstabliaid bellach i gyd o’r farn fod y rhain yn faterion y gellir eu goresgyn a bod datganoli er budd pennaf plismona, fel y gellir ei alinio â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill.

Ie, ac fel y dywedais, Lee, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae’n ei ddweud am y prif gwnstabliaid er mwyn taflu goleuni ar yr hyn y mae’n ei awgrymu, sef bod y prif gwnstabliaid o blaid hyn. Nid wyf wedi cau fy meddwl yn y mater hwn, ond mae’n rhaid i chi ddeall fod yn rhaid i mi leisio’r pryderon er mwyn inni allu eu trafod yn briodol.

Iawn. Soniais am Byron Davies. Rwyf am ddyfynnu yr hyn a ddywedodd y tro diwethaf—y tro diwethaf o bosibl—i ni drafod hyn, 2014:

‘Yn ystod fy amser fel swyddog yr heddlu, roedd yna bob amser lawer o arbenigwyr yn barod i gyflwyno syniadau a chynlluniau ar gyfer diwygio plismona. Roedd yn achos diflastod i rai ohonom fod yna bob amser bobl a oedd yn gwybod yn well. Roedd yn aml yn wir, os nad bob amser, fod y bobl hyn yn brin o ddealltwriaeth o’r hyn roedd plismona a phlismona gweithredol yn ei olygu mewn gwirionedd ac roeddent yn brin o wybodaeth ymarferol am blismona. Nid wyf yn credu y dylai plismona gael ei ddatganoli i Gymru.... Mae troseddu trawsffiniol, troseddu rhyngwladol a throseddu ar-lein yn gwneud achos Llywodraeth Cymru dros gymryd drosodd gan y Swyddfa Gartref yn wan iawn yn wir.’

Diwedd y dyfyniad. Nid ydym ni yn UKIP Cymru yn credu bod y ddadl dros ddatganoli plismona wedi cael ei gwneud hyd yn hyn. Dyna pam ein bod yn bwriadu ymatal ar y cynnig heddiw.

Er gwaethaf beth yr ydym ni wedi ei glywed o un cyfeiriad y prynhawn yma, mae yna gonsensws cyffredinol yng Nghymru y dylid datganoli heddlua i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion. Rydw i am ganolbwyntio ar ddwy ddadl pam mae’n gwneud synnwyr i ddatganoli i Gymru.

Mae plismona effeithiol yn golygu perthynas effeithiol ac agos efo’r gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, ac mi fyddai datganoli’r heddlu yn adlewyrchu yn llawer gwell yr amgylchiadau sydd yn bodoli yng Nghymru, ac mi fyddai fo’n gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr holl wasanaethau brys a’r gwasanaethau cyhoeddus. Ac, yn y pen draw, mi fyddai hynny’n gwella’r gwasanaethau, ac yn y pen draw un, mi fyddai gwella’r gwasanaethau yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru—rhywbeth, gobeithio, y mae pawb yn y Siambr yma yn ei ddeisyfu.

A dyma gyflwyno dadl arall nad ydym ni wedi ei chlywed cyn belled y prynhawn yma. Mi fyddai datganoli’r heddlu hefyd yn gwella atebolrwydd. Roedd comisiwn Silk yn canfod bod y sefyllfa bresennol yn anfoddhaol, gan nodi bod llawer o gyllid yr heddlu’n dod o ffynonellau datganoledig, er gwaethaf y ffaith bod polisi strategol a materion yr heddlu yn cael eu penderfynu yn San Steffan. Mae yna ‘mismatch’ yn y fanna. Mae yna gydnabyddiaeth bod atebolrwydd yn broblem, a dyna oedd y tu ôl i greu’r comisiynwyr heddlu a throsedd. Er, mae modd dadlau y dylid, efallai, gael eu gwared nhw os byddai plismona’n cael ei ddatganoli. Nid wyf yn mynd i fynd i’r fanna y prynhawn yma, ond mi fyddai sut yn union y byddai’r atebolrwydd lleol yn digwydd yn fater ar gyfer trafodaeth bellach. Ond, yn sicr, mae hyn yn rhoi cyfle inni feddwl am ddulliau newydd o gryfhau’r atebolrwydd sydd fawr ei angen.

Felly, o ran gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr heddlu a’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac er mwyn gwella atebolrwydd yr heddlu, mae’n gwneud synnwyr datganoli’r heddlu.

Dwy ddadl yn unig—rydych chi wedi clywed dadleuon eraill hefyd, ac mae yna lawer mwy o resymau a llawer mwy i ddadlau yn ei gylch i greu’r achos dros ddatganoli heddlua i Gymru. Diolch yn fawr iawn i Steffan Lewis, Mike Hedges, a Julie Morgan am ddod â hwn gerbron heddiw, ac rydw i’n mawr obeithio y cawn ni o leiaf fwyafrif teilwng iawn o blaid y cynnig. Diolch.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn yma heddiw. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y Siambr. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir iawn ein bod am weld cyfrifoldeb dros blismona yn cael ei ddatganoli i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig i nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn cytuno â’r alwad dros ddatganoli plismona.

O ran materion arbenigol, fel gwrth-frawychiaeth, yn cael eu cydgysylltu ar lefel y DU, rwy’n ymwybodol mai model yr Alban ar gyfer gwrth-frawychiaeth yw bod Police Scotland yn cymryd eu cyfeiriad polisi gan Lywodraeth y DU, a chaiff ei gyflwyno drwy Police Scotland a’i ariannu drwy Lywodraeth yr Alban. Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith, ac fel y mae’r cynnig hwn yn ei awgrymu, mae’n well cydgysylltu gwrth-frawychiaeth ar lefel y DU. Wrth ddatblygu model ar gyfer datganoli, bydd hon yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw waith a wneir yma yng Nghymru.

Plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi’i ddatganoli. Mae’n anochel y byddai unioni hyn yn caniatáu mwy o gydweithio, gan ddatblygu cysylltiadau gwell, i helpu i gryfhau cydweithrediad â gwasanaethau datganoledig eraill. Fel y dywedodd Julie Morgan yn gynharach, cydweithio yw’r allwedd wrth i ni symud ymlaen. Mae rhannu staff ac ymarfer yn rhywbeth y mae’r tri chomisiynydd heddlu a throseddu, a’r prif gwnstabliaid, yn ei gefnogi’n llwyr ar hyn o bryd. 

Mae diogelwch ein cymunedau bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i’w gryfhau ymhellach. Byddai datganoli’n sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol wedi’i deilwra’n briodol i amgylchiadau Cymru. Hefyd, rydym eisoes wedi cael perthynas waith agos gyda’r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru a’r comisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ac rwy’n cyfarfod â hwy’n rheolaidd i drafod ffyrdd o weithio gyda’n gilydd i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.

Ym mis Medi, cyhoeddodd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ddatganiad ar y cyd yn cefnogi datganoli plismona i Gymru, ac rwy’n falch fod Bob Evans, sef dirprwy brif gwnstabl Cymru gyfan erbyn hyn, wedi cael ei benodi, a bydd yn gweithio gyda ni ar y mater hwn. Ei rôl fydd cynnal y berthynas rhwng yr heddluoedd, swyddfeydd y comisiynwyr, a Llywodraeth Cymru. O ran datganoli, byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol o fewn y trefniadau presennol, er mwyn ystyried sut y byddai’r trefniadau hyn yn gweithio mewn sefyllfa ddatganoledig. Mae hyn yn allweddol i ddyfodol cynllunio ar gyfer datganoli.

Gwrandewais ar gyfraniadau Mark Isherwood a’r Aelod UKIP. Nawr, roedd y ddau’n ddiddorol iawn, ond a gaf fi, er eglurder, ailgadarnhau ymrwymiad y llythyr a gefais gan y comisiynwyr heddlu a throseddu a chadeirydd y grŵp plismona Cymru gyfan? Mae’r sylw’n dweud: ‘Fel cadeirydd presennol y grŵp plismona Cymru gyfan, amgaeaf gopi o’n datganiad ar y cyd, a gafodd ei ryddhau’n gyhoeddus. Mae’r datganiad hwn wedi cael ei drafod gyda’r pedwar prif gwnstabl, ac er y byddwch yn deall na fyddent yn dymuno rhoi sylwadau ar y mater sy’n galw am benderfyniad gwleidyddol, maent yn fodlon â’r hyn rydym wedi’i ddweud yn y llythyr.’

Felly, mae’r sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood, ynglŷn ag unigolyn yn dweud un peth wrthyf fi ac yn dweud rhywbeth arall wrtho ef, yna’n ysgrifennu ataf i ddweud rhywbeth arall, yn rhywbeth y byddaf yn mynd ar ei ôl gyda’r prif gwnstabliaid ledled Cymru. Nid yw hwnnw’n sylw addas i’w wneud. Fe gymeraf ymyriad gan yr Aelod.

Rwyf am gadarnhau na ddaeth y sylw rydych yn cyfeirio ato gan brif gwnstabl. Fodd bynnag, rwy’n cael cyfarfodydd preifat gydag aelodau o’r heddlu, ar wahanol lefelau, na allaf rannu’n gyhoeddus heb eu caniatâd. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl bendant fod pob dyfyniad rwyf wedi’i roi, yn y gorffennol ac yn y presennol, wedi dod yn uniongyrchol o’u cegau, a chyfleu’r rheini, yn syml, a wneuthum.

A gaf fi ofyn hefyd, os caf, a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel yn yr Alban, neu a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel ym Manceinion—ac os felly, pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu yn unig? Beth fyddai hynny’n ei olygu i’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym ar hyn o bryd?

Wel, rydym yn sôn am ddatganoli’r heddlu i Gymru, ac mae llawer o drafodaethau i’w cael am hynny. Mae’r drafodaeth yn ymwneud â’r cysyniad, yr egwyddor o alinio hynny fel gwaith ar y cyd i’r Cynulliad hwn. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn eithaf clir ein bod yn credu, ochr yn ochr â’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym yma yng Nghymru eisoes, mewn darparu gofod yn y cynlluniau er mwyn i ddatganoli ddod ar yr adeg briodol i’r Llywodraeth sy’n dymuno gwneud hynny.

Yr eironi arall oedd bod y Blaid Geidwadol hefyd yn gwrthwynebu’r egwyddor hon, ac eto roedd Nick Bourne, a oedd yn aelod o Gomisiwn Silk, yn cymeradwyo egwyddorion Silk—Aelod Ceidwadol anrhydeddus. Felly, unwaith eto, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dymuno siarad yn ei erbyn ef hefyd.

Rwyf am nodi cyfraniad UKIP. Dechreuodd gyda’r sylwadau fod y mater yn un pwysig—yn fater pwysig iawn—’ond nid oes gennym safbwynt cadarn ar hyn’. Yna parhaodd i ddadlau yn erbyn yr achos dros wneud hyn, a pharodd hynny i mi amau cysondeb ei ddadl ar y cysyniad o ddatganoli. Mae’n amau’r fformiwla ariannu a gyflwynodd Steffan Lewis yn gryf iawn. Dyma un o’r Aelodau a ddadleuodd ynglŷn â £340 miliwn i’r GIG ei wario drwy Brexit—ac yna ni all ddeall y cysyniad o ddatganoli a’r fformiwla Barnett ar gyfer gwariant yr heddlu yma yng Nghymru. Byddwn yn annog yr Aelod i wneud ychydig bach mwy o waith ymchwil ar y mater, os gall. Llywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn ar hyn.

I gloi, mae’n rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i’r staff gweithredol ar lawr gwlad—yr arwyr ac arwresau di-glod sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni. Maent i gyd yn barod i fynd y tu hwnt i’w dyletswyddau i gadw ein cymunedau’n ddiogel, a hoffwn ddiolch iddynt ar ran y Llywodraeth a’r Cynulliad hwn. Ni ddylai unrhyw un anghofio faint ein dyled iddynt am eu hewyllys da a’u hymroddiad. Mae yna lawer o faterion yn ymwneud â chyllid hefyd, y bydd yn rhaid eu hystyried ar gyfer y dyfodol, ond gallaf roi sicrwydd ac eglurder gan y Llywodraeth hon: ein bod yn awyddus i ddatganoli plismona i’r sefydliad hwn.

Diolch, Llywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siarad fel cyn aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru, y bûm yn gwasanaethu arno am ychydig o dan bedair blynedd? A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn fod pobl wedi siarad yn erbyn, oherwydd mae’n rhoi cyfle i brofi’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno. Mae angen i bobl brofi’r dadleuon, ac mae’n ddyletswydd arnom wedyn i egluro pam fod yr hyn rydym yn ei ddweud yn gywir. Ond diolch i bawb a gymerodd ran.

Gwnaeth Steffan Lewis dri phwynt allweddol. Yn gyntaf, mae plismona wedi’i ddatganoli, nid yn unig i’r Alban a Gogledd Iwerddon—. Ac roedd Gogledd Iwerddon yn ddiddorol yn y ffordd y cafodd ei ddatganoli, gan ei fod wedi cael ei ddatganoli gan uwchfwyafrif o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Rwy’n siarad, yn ôl pob tebyg, fel yr unig berson yma sy’n credu mewn uwchfwyafrif ar gyfer llawer o bethau, ond rwy’n credu pan fydd pethau’n cael eu datganoli fel hynny, y dylai fod ar gael, ac os cawn uwchfwyafrif o 40 allan o 60 o Aelodau—nid ydym am iddo gael ei wneud drwy 31 i 29—uwchfwyafrif yw’r ffordd ymlaen. Mae ar gael ar gyfer Manceinion Fwyaf, mae ar gael ar gyfer Llundain, ond nid Cymru. Mae’n rhaid bod pawb yng Nghymru yn gofyn yr un cwestiwn: ‘Pam?’

Yn ail, mae angen ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU, ond nid ar lefel y DU yn unig. Rwy’n credu y dylem barhau i fod yn aelod o Europol. Nid wyf yn siŵr fod pawb sydd wedi siarad yn y ddadl yn credu hynny. Rwyf hefyd yn credu y dylem barhau i fod yn aelodau o Interpol, oherwydd nid yn unig yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr sy’n effeithio ar Gymru; mae’r hyn sy’n digwydd yn ne Iwerddon yn effeithio ar Gymru. Ac o ran y cyffuriau’n cael eu cludo i mewn, efallai’n wir mai’r hyn sy’n digwydd yn Amsterdam sy’n effeithio ar Gymru—ac yn sicr mae’r hyn sy’n digwydd yng Ngholombia yn effeithio ar Gymru. Yn sicr, mae angen i’r gwasanaethau brys weithio gyda’i gilydd, ond plismona yw’r unig un nad yw wedi cael ei ddatganoli. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. 

Dywedodd Mark Isherwood fod yn rhaid ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU o leiaf. Mae hynny’n hollol gywir—ond fel y dywedais o’r blaen, Europol ac Interpol hefyd. Nid wyf yn gwybod am neb o gwbl sydd eisiau heddlu Cymru gyfan. Pe baem yn trafod hynny heddiw, Mark, byddwn ar eich ochr chi. Byddwn yn dadlau yn erbyn heddlu Cymru gyfan, oherwydd credaf na fyddai o fudd i rannau helaeth o Gymru pe bai gennym heddlu Cymru gyfan, am fod anghenion plismona gwahanol rannau o Gymru yn wahanol. Ond nid yw hon yn ddadl dros gael heddlu Cymru gyfan.

A ydych felly’n datgan yn bendant na fyddai Llywodraeth gyfredol Cymru yn argymell uno heddluoedd pe bai pwerau’n cael eu datganoli iddi?

Ni allaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Carl Sargeant yn ymyrryd o bosibl ac yn siarad am hynny, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o heddlu Cymru gyfan gan unrhyw un. Ond os down at hynny, Mark, rydych chi a minnau ar yr un ochr. Ac rwy’n siŵr fod yna bobl eraill yma sy’n dadlau yr un mor rymus dros ddatganoli plismona a fyddai hefyd ar yr un ochr â ni.

Mae gan Fanceinion Fwyaf gysylltiad sylweddol â Swydd Gaer a Glannau Mersi. Yn wir, mae’n llifo i mewn i’r ddwy ardal, yn yr un modd ag y mae gogledd Cymru yn llifo i mewn i Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae rhai pethau’n wahanol rhyngom, ond mae’n ymwneud â gweithio gyda’n gilydd. Ac un o’r pethau y mae’r heddlu wedi bod yn ei wneud yn dda iawn ledled Prydain yw gweithio gyda’i gilydd. Nid ydynt wedi rhoi’r gorau i weithio gyda Northumberland neu Cumbria yn yr Alban oherwydd bod plismona wedi’i ddatganoli yno. Mae’n rhaid iddynt weithio gyda’i gilydd.

Dywedodd Julie Morgan ei bod yn ddirgelwch pam nad yw plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n cytuno’n llwyr â hi. Mae’n ddirgelwch. Ac a gaf fi hefyd ychwanegu nad yw datganoli anghymesur yn gweithio? Yr unig wlad sydd wedi dewis datganoli anghymesur hyd y gwn i—er, rwy’n amau y bydd Steffan yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—yw Sbaen, ac maent wedi symud fwyfwy at gymesuredd gydag amser. A llefydd fel Unol Daleithiau America, sydd â datganoli sylweddol—mae ganddynt yr un lefel o ddatganoli yng Nghaliffornia, gyda’i phoblogaeth o bron i 30 miliwn, ag sydd ganddynt yn rhai o’r taleithiau llai, sydd ychydig yn llai na dinas-ranbarth Caerdydd.

Pam nad yw Cymru’n ddigon cymwys i reoli plismona? Pam fod gennym y cymhleth israddoldeb hwn? Mae gan rai pobl yng Nghymru y cymhleth israddoldeb hwn: ‘O, ni allwn ei wneud yng Nghymru; iawn, maent yn gallu ei wneud yn yr Alban, iawn, maent yn gallu ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, iawn, maent yn gallu ei wneud yn Llundain, ond ni’r Cymry, nid ydym yn barod amdano eto.’ Credaf ein bod ni yng Nghymru cystal ag unrhyw le arall yn y byd, ac yn sicr nid wyf yn ystyried ein bod yn perthyn i’r ail, trydydd neu bedwerydd dosbarth.

Crybwyllodd Julie Morgan bwynt pwysig iawn fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol wedi bod yn boblogaidd iawn, ond swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn unig y gallem eu darparu am nad oedd plismona wedi’i ddatganoli. Gallem fod wedi darparu heddlu pe bai wedi cael ei ddatganoli. Mae cymorth ar gyfer heddlu ychwanegol ym maniffesto’r Blaid Lafur, ac rwy’n siŵr y byddai llawer o bobl eisiau i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, oherwydd mae pobl yn hoffi gweld yr heddlu. Rwyf wedi cael gwybod gan yr heddlu ar fwy nag un achlysur mai anaml iawn y byddant yn dal rhywun pan fyddant yn cerdded ar y stryd. Yr hyn rwy’n ei ddweud wrthynt, ac rwyf am ei ddweud wrthych yma yn awr, yw eu bod yn sicr yn atal llawer iawn o droseddau rhag digwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yno.

Mae Gareth Bennett yn dweud bod angen i ni fod yn wyliadwrus. Pam? Pam fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus yng Nghymru pan nad oes yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban? Nid wyf yn deall y wyliadwriaeth honno. Fel y dywedais, nid yw datganoli anghymesur yn gweithio. Mae Steffan wedi’i esbonio, ond mae fformiwla Barnett, os caiff ei chymhwyso i blismona, yn golygu ein bod yn cael mwy o arian. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth lai na Chymru; mae Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn llai na Chymru. Mae wedi wynebu anawsterau na chawsom yng Nghymru. Ac er fy mod o bosibl yn anghytuno gyda rhai o’r gwleidyddion ar yr ochr arall i’r Siambr, nid wyf erioed—os af yn ôl 40 mlynedd, nid oeddwn yn ceisio’u lladd.

Crybwyllwyd Byron Davies, ond ni fu erioed ar y lefel reoli—

Rwyf am ei ailadrodd eto: yr hyn a ddywedais oedd—. Roeddwn yn cymharu Cymru â Gogledd Iwerddon. Mae yna bobl yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon sy’n eistedd yno heddiw, a oedd, 40 mlynedd yn ôl, ar ddwy ochr wahanol, ac mae’n bosibl bod llawer ohonynt wedi bod yn awyddus i Aelodau eraill yno gael eu lladd. Dywedais fy mod yn anghytuno â’r Blaid Geidwadol ac rwy’n anghytuno ag UKIP, ond nid wyf eisiau eu lladd mewn gwirionedd; rwyf eisiau eu curo mewn dadl. Dyna’r pwynt y ceisiwn ei wneud, ac rwy’n credu ei fod yn bwysig: fod Gogledd Iwerddon, gyda’i holl hanes a’i holl broblemau yn y gorffennol, wedi cael plismona wedi’i ddatganoli iddynt, ond nid ydym ni.

Dywedodd Sian Gwenllian fod yna gonsensws yng Nghymru. Rwy’n credu ein bod wedi gweld hynny. Gwn fod Mark Isherwood wedi crybwyll ei fod wedi siarad â heddweision, ond byddwn yn tybio nad oeddent yn brif gwnstabliaid, ac nad oeddent ar y lefel reoli chwaith. Rwyf wedi siarad â heddlu ar bob math o lefelau is sydd â phob math o safbwyntiau diddorol. Y bobl ar y lefel reoli sy’n gallu gweld sut y mae plismona’n cael ei gyflawni ar draws yr ardal—nid y rhingyll lleol sy’n gweithredu mewn ardal. Er mor bwysig yw ei swydd, mae ei ddealltwriaeth o blismona’r ardal gyfan a pholisi plismona gryn dipyn yn llai na’r rhai ar y lefel reoli.

Mae’n ymwneud yn agos â gwasanaethau datganoledig eraill, ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig, ond pethau sylweddol eraill a reolir gan Lywodraeth Cymru hefyd. Mae’n ymwneud â llywodraeth leol ac mae’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n ymwneud ag ystod eang o gyrff—nid oes gennyf amser i’w rhestru i gyd mae’n siŵr—ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig.

I gloi, a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud? Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn credu yng Nghymru, yn credu ynom ein hunain ac yn cefnogi datganoli plismona i Gymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar breifateiddio’r gwasanaeth iechyd. Rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6303 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi’r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo’r cyhoedd.

2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny’n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae’n ymddangos yn rhyfeddol, mewn dadl fel hon, fod yn rhaid i ni fynd yn ôl i drafod rhai o’r pethau sylfaenol megis sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllid a pham fod y penderfyniadau ynglŷn â sut y mae Lloegr yn dewis rhedeg ei gwasanaeth iechyd gwladol yn berthnasol i’r penderfyniadau ariannol a’r penderfyniadau ynglŷn â’r gweithlu sy’n bosibl yng Nghymru. Felly, er budd y bobl nad ydynt efallai’n cydnabod neu’n sylweddoli pam y mae hyn yn berthnasol, mewn termau syml, dyma pam: mae’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y GIG yng Nghymru yn cael ei dylanwadu’n fawr gan wariant cyhoeddus cyffredinol yn Lloegr. Felly, os yw Llywodraeth y DU yn torri cyllideb y GIG yno, yna byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru naill ai dorri cyllideb y GIG yma neu dorri cyllideb arall i adennill costau. Os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu cynyddu cyllideb y GIG yn Lloegr, ac nad ydynt yn torri cyllidebau adrannau perthnasol eraill, yna gall Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad hwnnw hefyd. Ond y ffactor allweddol bob amser yw’r penderfyniadau a wneir ynglŷn â lefelau gwario yn Lloegr. I bob pwrpas, byddai’n amhosibl i Loegr gael GIG gyda chyllideb sydd gryn dipyn yn llai ac i Gymru gynnal cyllideb uwch. Dyma pam y mae penderfyniadau gwariant ar gyfer y GIG yn Lloegr, a natur y gwariant hwnnw a’i strwythur yn bwysig i ni. Os yw’r GIG yn Lloegr yn debygol o fod yn gwario swm cryn dipyn yn llai o arian, yna mae gan Gymru lai o arian i wneud penderfyniad gwahanol.

Ceir goblygiadau eraill hefyd: os yw’r GIG yn Lloegr yn torri gwasanaethau a ddefnyddir gan gleifion o Gymru, er enghraifft; os yw’r safonau hyfforddiant ar gyfer y gweithlu’n gostwng oherwydd bod cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau’n dechrau datsgilio er mwyn gwneud cymaint â phosibl o elw, ac fel arall, byddai gorchwyddiant yng nghyflogau uwch-reolwyr—canlyniad y gellir ei ragweld yn sgil twf y sector preifat—yn effeithio’n anochel ar y fan hon.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ond nid y preifateiddio honedig a chaledi yw’r unig bethau sy’n destun pryder am fod strwythur gwleidyddol Cymru yn rhy ddibynnol ar benderfyniadau a wneir gan wleidyddion yn Llundain. Creodd trafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd a oedd yn mynd rhagddynt flwyddyn neu ddwy yn ôl bryder mawr oherwydd yr effeithiau y gallai cytundeb o’r fath eu cael ar y GIG. Pe bai ffurf gynnar ar y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd wedi cael ei llofnodi, yn sicr ni fyddai unrhyw ddewis gan y GIG ond agor y ddarpariaeth i’r cwmnïau iechyd preifat niferus sy’n lobïo am gytundeb o’r fath, cofiwch. Yn wir, mynegwyd peth gwrthwynebiad i’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd yn gyhoeddus gan y mudiad Eurosceptic fel ffordd o feithrin safbwynt gwrth-Ewropeaidd mewn pobl. Ond byddwn yn dadlau ein bod bellach efallai’n wynebu mwy fyth o berygl y bydd Llywodraeth y DU yn mynd ar ôl cytundeb o’r fath, yn unochrog gyda’r Unol Daleithiau. O leiaf mae gan yr UE bwysau gwleidyddol mewnol cryf i gynnal systemau iechyd y cyhoedd. Naïfrwydd o’r mwyaf yn fy marn i yw esgus bod y Thatcheriaid sy’n debygol o adfer rheolaeth ar Lywodraeth y DU yn mynd fod â budd y GIG yn agos at eu calonnau wrth drafod cytundebau masnach. Byddwn hyd yn oed yn ychwanegu y gallai llawer o bobl weld hyn fel ffordd o hyrwyddo’u hagenda hirdymor o breifateiddio’r GIG, a gallu osgoi bai drwy feio canlyniad anfwriadol yn dilyn hynny.

Gyda hynny, trof at yr agwedd olaf ar y ddadl hon. Ydy, mae’r GIG mewn perygl yn sgil preifateiddio. Rwy’n ymwybodol fod y Ceidwadwyr bellach yn bychanu’r graddau y mae darparwyr preifat wedi cymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau GIG mewn gwirionedd ers Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 yn Lloegr, ond mae’r ffeithiau’n dangos twf: mae preifateiddio graddol wedi gweld y ganran o’r gyllideb iechyd sy’n cyrraedd dwylo preifat yn codi o 4 y cant yn 2009-10 i 8 y cant yn 2015. Gyda llaw, mae arafwch y twf hwn yn adlewyrchu rhai ffeithiau anghyfleus. Mewn gwirionedd mae’n eithaf anodd gwneud arian o rai rhannau o’r GIG, felly pam y byddai darparwr sector preifat yn awyddus i’w rhedeg? Gallech ddadlau na allwch ddechrau preifateiddio’n sylweddol mewn gwirionedd heb adael i ddarparwyr wrthod triniaeth i bobl os nad ydynt yn gallu talu.

Yn olaf, nid rheolau comisiynu a chynlluniau contract aneglur sy’n peri’r perygl mwyaf i wasanaethau craidd ond perfformiad gwael parhaus, gan arwain pobl i gredu bod yswiriant iechyd preifat, neu’r llwybr gofal iechyd preifat, yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael diagnosis prydlon yn rhan o’u triniaeth. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig Aelod yn y Siambr hon sydd wedi clywed etholwyr yn dweud eu bod wedi cael eu hannog a’u cynghori gan feddygon teulu neu feddygon ymgynghorol mewn ysbytai i gael triniaeth breifat am y byddai hynny’n sicrhau triniaeth gyflymach iddynt. Mae’r etholwyr hynny’n dweud wrthyf eu bod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis. Ni all darparwyr preifat ddechrau gwneud arian go iawn nes i yswiriant iechyd gynyddu, felly maent angen i restrau aros fynd yn hwy, i’r graddau fod pobl yn ofni am eu hiechyd.

Felly, nid wyf yn credu ei bod yn debygol o gyrraedd cam pan fydd plaid wleidyddol brif ffrwd yn dadlau dros system wedi’i phreifateiddio’n llawn. Caiff ei wneud yn raddol, rwy’n credu, gan yr ychydig wir gredinwyr, a bydd yn ymddangos yn araf o ganlyniad i fil o benderfyniadau a wnaed gan bragmatyddion yn gweithredu mewn amgylchiadau ariannol cyfyng. Y canfyddiad yw bod cynnig gwasanaethau ar gyfer tendro cystadleuol yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd neu ofal gwell. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â chamau i gael gwared ar unrhyw driniaeth am ddim ar gyfer pethau y tybir gan rai eu bod yn driniaethau moethusrwydd neu ffordd o fyw—IVF, efallai; hunaniaeth rywedd.

Felly, dyma risg GIG y Ceidwadwyr: yn y tymor hir, bydd eu GIG wedi crebachu ac yn dod yn debyg i fersiwn y DU o Medicare. Os ydych yn lwcus—[Torri ar draws.] Yn bendant, fe ildiaf.

A ydych yn rhannu fy mhryder fod y ffigurau canran rydych yn eu dyfynnu yn cynnwys pethau fel hosbisau cymunedol, Marie Curie, Macmillan—cyrff felly? Dylai’r GIG a gefnogwn, ac sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwyr, am ddim yn y man darparu, fod yn gofyn sut y gallent eu helpu i ddarparu mwy ar gyfer y cleifion am yr adnoddau sydd ar gael.

Roedd y ffigurau a ddyfynnais yn ymwneud â’r arian sy’n mynd i’r sector preifat, ac rwy’n cyfaddef ei fod yn cynyddu’n araf, ond dyma’n union yw’r farwolaeth araf a phoenus sy’n bygwth dyfodol y GIG. [Torri ar draws.] O’i eistedd, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gofyn a wyf i’n mynd i siarad am Gymru. Dyma’r cyd-destun y bydd dyfodol y GIG yng Nghymru yn ceisio’i oroesi. Yn y cyfamser, bydd gwaith pob Llywodraeth Cymru olynol ar gynnal a gwella GIG cyhoeddus yn mynd yn galetach yn y cyd-destun hwn. Dyna pam ei bod yn bwysig inni amddiffyn Cymru a chael llais cryf Plaid Cymru yn San Steffan.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr a dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr, fel gwasanaethau trawsryweddol, gwasanaethau newyddenedigol aciwt a gwasanaethau iechyd meddwl i blant.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig gwelliant y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn amlwg wedi’i gymell yn wleidyddol a’i gynllunio i godi bwganod am ddyfodol ein GIG. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae fy mhlaid yn credu’n llwyr y dylid cadw’r GIG yng Nghymru mewn dwylo cyhoeddus. Yn wir, rwy’n credu bod pob plaid yn y Cynulliad hwn yn cefnogi’r egwyddor y dylid cadw gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn dwylo cyhoeddus.

Yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol, lle mae Plaid Cymru’n amlwg yn cael trafferth i gysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru, yn sicr bydd nifer o achosion o newyddion ffug fel hyn yn cael eu datgan ar goedd. Y gwirionedd yw bod yna elfennau o ddarparwyr preifat yn y GIG eisoes, a hoffwn dynnu sylw at y ffigurau a ddangosir yng nghyfrifon cryno’r GIG yng Nghymru ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, sy’n tynnu sylw at y gwariant ar ofal iechyd gan ddarparwyr eraill. Mae’r golofn sy’n cynrychioli darparwyr preifat wedi codi o £43,015,000 yn 2014-15 i £49,732,000 yn 2015-16. Byddai’n dda gennyf glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd ar y teledu yr wythnos hon yn lladd ar fy mhlaid am breifateiddio’r GIG yn raddol, i esbonio’r gwariant hwn a’n goleuo pwy neu beth yn union yw darparwyr preifat.

Mae pwynt 3 y cynnig yn ceisio cysylltu Brexit a chytundebau masnach newydd â’r ddarpariaeth iechyd. Hoffwn dynnu sylw llefarydd Plaid Cymru at y ffaith mai’r Undeb Ewropeaidd y maent yn ei gefnogi mor angerddol oedd yn gyfrifol am gytundeb masnach y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd, a chan ein bod bellach ar ein ffordd allan o Ewrop, nid yw’r bygythiad canfyddedig hwn yn bodoli mwyach. Mae gennyf bob ffydd y bydd ein Prif Weinidog yn cael cytundebau da a chadarn—[Torri ar draws.] na, ni wnaf, a dweud y gwir—yn cael cytundebau da a chadarn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a lle bo angen, fe ymgynghorir â’r gweinyddiaethau datganoledig.

Nid oes gan yr un ohonom belen grisial, ond mae’n ddyletswydd arnom fel gwlad i fod yn gadarnhaol ar ddechrau’r trafodaethau ac ymdrechu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bob un ohonom. Nid wyf yn gweld cefnogaeth felly gan grŵp Plaid Cymru, sydd i’w gweld fel pe baent yn dymuno i’r trafodaethau fethu. Yn hytrach na bwrw amheuaeth ar y ffordd y mae gwasanaethau iechyd trawsffiniol yn cael eu darparu, mae ein gwelliant yn ceisio atal rhagor eto o godi bwganod gan y cenedlaetholwyr ac yn amlygu’r rôl bwysig y mae darpariaeth o’r ochr arall i’r ffin yn ei chwarae wrth ddarparu triniaeth i gleifion o Gymru.

Rwyf am gyffwrdd yn fyr ar un neu ddau o’r gwasanaethau a nodwyd yn ein gwelliant, sy’n helpu i ddangos pa mor bwysig yw cydweithio rhwng y ddau wasanaeth GIG. Gwasanaethau newyddenedigol acíwt—roedd adroddiad gan Bliss y llynedd yn tynnu sylw at dystiolaeth gan unedau newyddenedigol, gwasanaethau cludiant newyddenedigol a rhieni ar draws Cymru a ddangosai brinder sy’n peri pryder o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol hanfodol eraill sydd eu hangen ar fabanod a enir yn gynamserol a babanod sâl. Mae hyn yn rhoi unedau newyddenedigol o dan bwysau difrifol; mae’n golygu eu bod yn methu cyrraedd safonau ansawdd a diogelwch cenedlaethol, neu gynorthwyo rhieni i fod yn rhan o ofal eu baban. Canfu’r adroddiad mai dwy yn unig o 10 o unedau newyddenedigol a oedd â digon o nyrsys i staffio eu holl gotiau’n unol â safonau diogelwch ac ansawdd cenedlaethol, nid oedd gan dros hanner yr unedau ddigon o staff meddygol i gyrraedd safonau cenedlaethol, ac nid oes gan yr un o adrannau gofal newyddenedigol dwys Cymru ddigon o unedau llety dros nos i rieni i allu cyrraedd y safonau cenedlaethol.

Dylem fod yn ddiolchgar fod ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr yn gallu derbyn achosion brys a darparu’r cotiau nad ydynt ar gael bob amser yng Nghymru. Rwy’n adnabod etholwyr na fyddai eu babanod yma gyda ni pe na baent wedi gallu defnyddio rhai o’r gwasanaethau GIG anhygoel yn Lloegr, megis yr uned gofal dwys pediatrig yn Ysbyty Cyffredinol Southampton. Gwn y byddwn i, fel rhiant, am gael y driniaeth orau i fy mhlentyn, ble bynnag y bo ar gael.

Gadewch i ni edrych ar wasanaethau trawsryweddol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ddwy flynedd yn ôl, pleidleisiodd y Siambr hon dros archwilio’r posibilrwydd o agor y clinig hunaniaeth rywedd cyntaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig heb glinig hunaniaeth rywedd, sy’n golygu bod pobl drawsryweddol yn gorfod teithio i Loegr. Roedd ffigurau ar gyfer 2012 yn amcangyfrif bod dros 31,300 o bobl drawsryweddol yng Nghymru, er nad oes gennym unrhyw ganolfan bwrpasol, a byddwn yn awyddus i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a ydym wedi symud ymlaen o gwbl ar y mater hwn, ond unwaith eto, rwy’n pwysleisio i lefarydd Plaid Cymru, gan nad yw’r gwasanaeth ar gael yng Nghymru, mai’r GIG yn Lloegr sy’n camu i’r adwy, ac mae’r un peth yn wir am elfennau o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant. Y GIG yn Lloegr sy’n darparu gwasanaeth ychwanegol a chefnogaeth i ni.

Wrth ddod â fy nghyfraniad i ben, rwy’n annog Plaid Cymru i feddwl eto am y cynnig hwn. Mae angen i ni ystyried yr hyn sydd orau i’r claf, ac nid yr hyn sy’n gweddu orau i farn gul, ideolegol Plaid Cymru am y byd. Fel y casglodd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yn ei adroddiad ar gyfer 2015, mae symud trawsffiniol wedi bod yn un o ffeithiau bywyd ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny yr un mor wir yn achos gwasanaethau iechyd. I’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd ar y ffin, efallai na fydd y darparwr iechyd agosaf yn y wlad y maent yn preswylio ynddynt, fel y byddwch chi, Dirprwy Lywydd, yn gwybod yn iawn, gan eich bod yn cynrychioli etholaeth ogleddol. Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthod y cynnig a chefnogi ein gwelliant. Rwy’n gobeithio na fydd Llywodraeth Cymru yn goddef y math hwn o nonsens.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl ar y GIG yng Nghymru, ac yn falch hefyd o ddathlu llwyddiannau’r GIG yng Nghymru. Gwnaf hyn, yn amlwg, yn seiliedig ar fy mhrofiad o fod yn feddyg yng Nghymru ers 1980. Mae gweithio yn y GIG wedi bod yn gyffrous, yn heriol, ac yn werth chweil—i gyd ar unwaith weithiau—er gwaethaf yr holl dryblith ac ad-drefnu llywodraethol a rheolaethol a hyrddiwyd yn fy ffordd ar hyd y blynyddoedd. Mae’n creu bond aruthrol gyda phobl. Rwyf wedi tyfu i fyny gyda phobl yn Abertawe. Mae cleifion a oedd yn blant pan ddechreuais yn neiniau a theidiau bellach. Bu’n fraint cael bod yn llinyn cyson ym mywydau cymaint o bobl. Mae’n dangos ymddiriedaeth a pharch cadarn—o’r ddwy ochr—wrth i bobl gydnabod ymrwymiad a sgiliau aruthrol staff y GIG.

Nawr, nid yw’r GIG heb ei ddiffygion, wrth gwrs. Gall adnoddau dynol iawn o’r fath wneud camgymeriadau hefyd, ac nid oes byth ddigon o arian ar gyfer y technolegau a’r cyffuriau diweddaraf. Ond yma yng Nghymru mae gennym GIG—ie, un sydd o dan straen bob dydd, ond eto un sy’n wasanaeth hynod o gyhoeddus mewn dwylo cyhoeddus, ac sy’n ennyn lefelau rhyfeddol o deyrngarwch a pharch gan gleifion Cymru. Ac oherwydd nad yw’n breifat, nid oes arian yn newid dwylo yn ystod yr ymgynghoriad. Mae pobl yn gwybod mai’r cyngor a roddaf iddynt yw’r hyn y byddwn yn ei roi fy nheulu fy hun, heb ei ddifwyno gan gyllid yn sgiwio’r drefn reoli. Gyda phresgripsiynau am ddim, gallaf argymell meddyginiaeth ataliol hirdymor, tabledi sy’n achub bywydau fel statinau a thabledi pwysedd gwaed uchel ac anadlyddion asthma, gan wybod y bydd pobl yn eu cymryd, heb gael eu dylanwadu gan yr angen i dalu mwy na £8 yr eitem amdanynt, fel yn Lloegr.

Rwy’n falch o’r datblygiadau arloesol ym maes iechyd yma yng Nghymru. Mae ein dwy ysgol feddygol ragorol ar flaen y gad mewn gwaith ymchwil a thriniaethau o’r safon orau, gan gynnwys cleifion o Gymru a thu hwnt. Imiwnotherapi cyffrous ar gyfer mesothelioma, fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar asbestos neithiwr: imiwnotherapi ar gyfer mesothelioma yng Nghaerdydd, a chleifion yn dod o bob cwr. Llawdriniaethau blaengar yng Nghaerdydd, ac yn Abertawe, uwch uned losgiadau a phlastig Treforys—sy’n gwasanaethu de-orllewin Lloegr yn ogystal â de Cymru gyfan. Mae’r uned losgiadau a phlastig honno’n wirioneddol anhygoel. Mae canmoliaeth uchel o’r fath i lawdriniaeth y galon yng Nghymru hefyd. Caiff bywydau eu hachub mewn modd na fyddai’n digwydd genhedlaeth yn ôl, ac rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â hynny i gyd. A rhoi organau: mae’r system optio allan newydd arloesol yma yng Nghymru, yn trawsnewid trawsblannu arennau yn y Deyrnas Unedig. Dylai’r Cynulliad fod yn haeddiannol falch o’i rôl yn gwireddu hyn, ac am gynnig ysbrydoliaeth ar draws yr ynysoedd hyn, ac organau ychwanegol ar gyfer eu trawsblannu ar draws yr ynysoedd hyn ac ar draws Ewrop.

Mae ein GIG ni’n gydweithredol, yn ddynol, ac mae unrhyw ddibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd, fel y nodais eisoes. Oes, ceir unedau arbenigol yn Lerpwl a Manceinion yn gwasanaethu pobl gogledd Cymru, ond maent yn dibynnu ar y 600,000 o bobl o ogledd Cymru i wneud eu hunedau arbenigol yn hyfyw, o ran màs critigol. Heb y 600,000 o bobl yng ngogledd Cymru, ni fyddai’r unedau hynny yn Lerpwl a Manceinion yn hyfyw ychwaith. Mae dibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd ac ar hyd Clawdd Offa mae tua 15,000 o bobl yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru, ac mae tua 13,000 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, i fod yn deg. Ond mae ystyriaeth ddynol aeddfed ac anhunanoldeb yn golygu bod y gofal yn parhau beth bynnag am y ddaearyddiaeth. Ond rydym yn byw mewn cyfnod ansicr. Mae Brexit wedi peryglu ein GIG a staff gofal. Mae pleidleisio dros Brexit caled yn cyflwyno ffyrdd Torïaidd eraill o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, megis preifateiddio graddol y gwasanaeth iechyd fel yn Lloegr. Rhaid i grwpiau comisiynu yno gomisiynu o’r tu allan i’r GIG. Rhaid iddynt breifateiddio; nid oes ganddynt unrhyw ddewis. Mae rhaniadau a chystadleuaeth yn rhemp; peidio â rheoleiddio a chyfrinachedd sy’n teyrnasu; ac mae ysgrifennydd iechyd Torïaidd yn Lloegr wedi ysgogi streiciau gan feddygon iau am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd. Yng Nghymru, mae’n wahanol. Na, amddiffynwch Gymru ac amddiffynwch ein GIG. Diolch yn fawr.

Rwy’n credu ei bod yn hollol briodol fod rhai gwasanaethau’n cael eu darparu yn Lloegr ac na ellir darparu gwasanaethau prin, arbenigol yng Nghymru oni bai bod nifer ddigonol o gleifion â’r cyflwr i gynnal y rhagoriaeth glinigol y mae pob claf yn dymuno ei chael. Felly, rwy’n cytuno â Dai Lloyd fod rhai o’r gwasanaethau arbenigol ar Lannau Mersi a Manceinion yn dibynnu ar nifer yr atgyfeiriadau o ogledd Cymru, ond mae’r un peth yn berthnasol i bobl yn Swydd Gaerhirfryn ag sy’n berthnasol i bobl yn y gogledd. Mae pawb eisiau gwasanaeth ardderchog ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi allu cael llif digonol o gleifion i glinigwyr allu cynnal eu rhagoriaeth glinigol. 

Ond rwy’n anghytuno ag Angela Burns. Nid newyddion ffug yw poeni bod canlyniadau gwariant allanol ar iechyd yn Lloegr o ddifrif yn fygythiad posibl i’r symiau cyffredinol yn y grant bloc a ddaw i Gymru, ac ni allwn anwybyddu hynny. Mae’n rhaid i ni gydnabod hynny a’i glustnodi fel testun pryder go iawn y gallai rhai pobl fod eisiau ei ystyried pan fyddant yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol.

Credaf ein bod i gyd yn cefnogi’r ffaith fod y GIG yn wasanaeth am ddim yn y man darparu, ac na ddylid defnyddio anffawd neb sy’n mynd yn sâl fel ffordd i rywun arall wneud elw ar eu traul. Rwy’n gobeithio y gall pawb ohonom gefnogi hynny, ond credaf fod y sefyllfa’n fwy cymhleth nag y mae’r cynnig yn ei awgrymu o bosibl. Er enghraifft, mae pob meddyg teulu’n gontractwr annibynnol, fel y gŵyr Dai Lloyd, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwbl ymrwymedig i wasanaethu’r cleifion ar eu rhestr, cafwyd rhai enghreifftiau o feddygon teulu’n addasu eu gweithgaredd i elwa ar gymhellion ariannol penodol, naill ai drwy’r fframwaith canlyniadau ansawdd neu drwy gael perthynas amhriodol gyda chwmni fferyllol penodol er mwyn hyrwyddo meddyginiaeth arbennig ar draul un arall ratach. Ni allwn ddianc rhag hynny. Ceir cryn dystiolaeth o hynny ac mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni ei gadw mewn cof. Awgrymwyd hefyd y gallai ysbyty fod yn awyddus i bresgripsiynu meddyginiaethau cyn i glaf adael yr ysbyty am y gallant wneud arian allan o’r trafodiad hyd yn oed pan fyddai meddyginiaethau’n cael eu rheoli’n well gan feddyg teulu neu fferyllfa leol y claf. Mae’r tensiynau hyn yn bodoli ac mae angen eu rheoli. Y gobaith yw y dylai’r strwythur integredig presennol sydd gennym ar gyfer gofal iechyd, gyda saith bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd, ei gwneud yn haws i gael gwared ar arferion amhriodol o’r fath. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw hynny’n digwydd bob amser.

Rhan o’r egwyddor gofal iechyd darbodus yw y dylai gwasanaethau gael eu darparu gan y person sy’n gymwys i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw a dim mwy. Mewn egwyddor, gallai gael ei ddarparu gan sefydliad yn y sector preifat mewn rhai achosion. Ddoe, ymwelais â phanel amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar sut i reoli mynychwyr rheolaidd yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd a’r Fro. Roedd un unigolyn wedi defnyddio’r gwasanaeth y tu allan i oriau, yr adran ddamweiniau ac achosion brys neu’r gwasanaeth ambiwlans dros 50 o weithiau yn ystod y mis diwethaf, a hynny oherwydd eu bod wedi bod yn aros ers 18 mis i gael eu gweld gan seiciatrydd. Roedd un arall yn hunan-niweidio, gan gynnwys llyncu gwrthrychau miniog, yn ôl pob golwg er mwyn osgoi gorfod cyfarfod â’i swyddog prawf. Mae’r achosion hyn yn bodoli, ac mae’n rhaid i ni fod yn greadigol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â heriau o’r fath.

Mewn rhai achosion, efallai mai’r ffordd orau o wasanaethu unigolion sy’n isel eu hysbryd, yn ynysig neu’n gaeth i rywbeth yw cyrsiau meithrin hyder, cyrsiau byw bywyd llawn, sy’n dod â hwy’n ôl i’r gymuned am fod eu hiselder yn gysylltiedig â’u harwahanrwydd. Mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ar hyn o bryd gan Cymunedau yn Gyntaf, ond gallai cwmni sector preifat eu darparu mewn egwyddor. Nid wyf yn dweud y dylent, ond mae angen i ni o leiaf ei drafod. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG erioed. Fodd bynnag, ceir anfanteision strwythurol, er enghraifft, ansefydlogrwydd—gallai’r corff symud allan os yw eu helw’n gostwng; cost—mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt dalu eu cyfranddalwyr; y prosesau trafodaethol y dylid eu hosgoi pan fyddwn yn trafod darpariaeth gyfannol gwasanaethau gan weision cyhoeddus; ac yna ceir y diffyg atebolrwydd y dylai pawb ohonom boeni yn ei gylch. Ond byddai’r GIG yn chwalu heb fewnbwn cwmnïau preifat. Maent yn darparu’r holl offer, yn adeiladu’r ysbytai, yn gwneud y cyffuriau ac yn y byd TG, caiff y cyfan o’r TG mewn gofal sylfaenol ei redeg yn breifat. Felly, ceir digonedd o dystiolaeth y gall darparwyr eraill herio darpariaeth y wladwriaeth, ac o bryd i’w gilydd, gallant wella syniadau, gweledigaeth a pherthynas gyda defnyddwyr gwasanaethau, ac felly mae’n rhaid i ni gael ymagwedd ehangach tuag at y mater hwn.

Rwyf am siarad am integreiddio gofal cymdeithasol a iechyd, a’r problemau y byddai creu darpariaeth a system a fyddai’n mynd yn fwy a mwy darniog ei natur yn eu creu pe baem ni’n symud at ddefnyddio mwy a mwy o gontractwyr preifat.

Rydym wedi trafod yr angen i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol sawl tro. Mae nifer o broblemau yn cael eu hachosi wrth i sefydliadau gwahanol ddadlau dros y gwahanol elfennau—er enghraifft, brwydrau gweinyddol a biwrocrataidd ynglŷn â lle mae’r cyfrifoldeb dros gleifion yn cael ei basio rhwng sefydliadau, cleifion yn methu cael eu rhyddhau i’r gymuned oherwydd diffyg cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol iechyd i alluogi pobl i fyw yn annibynnol, a dadlau am bwy sydd yn talu am beth.

Erbyn hyn, rydym i gyd, fwy neu lai, yn cytuno bod angen integreiddio a bod angen trafodaeth ar hynny, a thrafodaeth ar frys, yn wir, ond un peth a fyddai’n gwneud integreiddio yn anodd fyddai mwy o dendro cystadleuol a rhagor o ddarparwyr yn cystadlu dros gytundebau proffidiol, tra wedyn yn gadael y gwasanaethau hanfodol sydd ddim yn broffidiol yn nwylo system sy’n cael ei gwaedu o fuddsoddiad. Dyna ydy’r perygl a dyna all ddigwydd yng Nghymru os ydy’r Deyrnas Unedig yn arwyddo bargeinion masnach sy’n gorfodi ein gwasanaethau iechyd a gofal i agor eu drysau i ddarparwyr preifat.

Bydd rhai pobl yn codi’r pwynt bod llawer o gontractwyr preifat yn darparu gwasanaethau gofal a iechyd yn barod, ond dyna’n union ydy’r broblem: mae contractio gwasanaethau allan i ddarparwyr sydd o safon isel wedi arwain at weithlu gofal cymdeithasol sydd ddim yn cael eu talu’n ddigonol, ac sy’n dioddef o amodau gwaith sâl. Yn ei dro, mae hynny yn arwain at ddiffyg statws a pharch i’r sector ofal. Os ydym yn cael ein gorfodi i agor ein gwasanaeth iechyd i ddarparwyr preifat oherwydd fod Llywodraeth Lloegr wedi ymrwymo yn ideolegol i’r sector breifat, ac yn arwyddo bargeinion masnach ar ran Cymru, mae perygl gwirioneddol y byddwn ni yn colli rhagor o sgiliau ac y bydd safonau yn disgyn eto.

Rydym yn barod wedi gweld problemau system ddarniog Lloegr yn sgil pasio’r Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol yn 2012. Mae’r penderfyniad i roi dyletswyddau iechyd cyhoeddus i awdurdodau lleol wedi arwain at benderfyniad gwarthus gan yr NHS yn Lloegr, sef peidio ariannu’r cyffur PrEP, gan ei fod yn atal trosglwyddiad HIV ac felly yn cael ei gyfrif fel ‘iechyd cyhoeddus’. Ac oherwydd y penderfyniad trychinebus i wneud toriadau anferth i awdurdodau lleol er mwyn talu am warchod yr NHS, mae gwariant ar iechyd cyhoeddus wedi gostwng. Mae iechyd cyhoeddus mewn systemau iechyd yn cael ei ddominyddu gan y sector breifat yn rhwym o wynebu tanfuddsoddiad, oherwydd nid oes arian i’w wneud yn y maes yna. Ac wrth weld y pwyslais yn symud at drin afiechyd yn hytrach na gwasanaethau ataliol, nid yw hynny’n gwneud synnwyr busnes, wrth gwrs, achos mae hi’n ddrytach yn y pen draw.

Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cadw’r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yn nwylo’r cyhoedd ac yn cadw dwylo’r Toriaid a’u cytundebau masnachol allan o Gymru. Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gwasanaeth iechyd cyhoeddus Cymru bob cam o’r ffordd.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o gymryd rhan. Mae UKIP yn credu’n gryf y dylai’r GIG barhau mewn dwylo cyhoeddus a bod yn wasanaeth am ddim yn y man darparu am byth. Rydym hefyd yn gwrthwynebu’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd yn llwyr, ac wedi ymgyrchu’n drwm yn ei herbyn. Cyhyd â bod y claf yn cael ei weld ac yn cael diagnosis cyflym, y canlyniad yw’r ffactor pwysig yn hyn o beth, cyhyd â bod y gwasanaeth am ddim i’r claf. Heb gyfranogiad y sector preifat, ni fyddai rhannau helaeth o’n sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu.

Ni fyddai gennym yr arf pwysicaf yn ein harfogaeth iechyd, yr ymyrraeth therapiwtig a ddefnyddir fwyaf, sef meddyginiaethau. Mae’r rhan fwyaf o’n meddyginiaethau’n cael eu hymchwilio, eu datblygu a’u cynhyrchu gan y sector preifat, sy’n cyfrannu biliynau o bunnoedd i economi’r DU, gan gyflogi miloedd o bobl a darparu cyffuriau sy’n achub bywydau i gleifion y GIG. Yn y tair blynedd diwethaf, mae’r diwydiant fferyllol yn y DU wedi talu dros £1 biliwn o bunnoedd tuag at y cynllun rheoleiddio taliadau fferyllol a wellodd y llif o feddyginiaethau newydd i gleifion y GIG, gan ganiatáu i gleifion gael mynediad at driniaethau sydd ar gael yn eang yng ngwledydd eraill Ewrop.

Y model contractwr annibynnol yw conglfaen ein sector gofal sylfaenol. Mae meddygon teulu a meddygfeydd yn gontractwyr a chwmnïau sector preifat sy’n darparu gofal iechyd i gleifion y GIG. Heb y sector preifat, byddai darpariaeth gofal cymdeithasol yn diflannu ar draws rhannau helaeth o’r wlad, wrth i nifer fawr o gartrefi gofal gael eu rhedeg yn breifat. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym fynediad at dechnolegau iechyd arloesol. Bydd canolfan therapi pelydr proton yn agor yn nes ymlaen eleni, gan roi mynediad i gleifion y GIG at y driniaeth ganser arloesol hon. Mae’r ganolfan, ychydig y tu allan i Gasnewydd, yn cael ei rhedeg gan Proton Partners—cwmni preifat a sefydlwyd i ddod â therapi pelydr proton i’r DU. Efallai eich bod wedi darllen yn y wasg dros y penwythnos am driniaeth newydd ar gyfer dioddefwyr llosgiadau, SkinGun, sy’n defnyddio bôn-gelloedd o groen rhoddwr ac yn tyfu haen newydd o groen ar y claf, gan roi diwedd ar impiadau croen poenus a chreithio helaeth. Datblygwyd y dechnoleg hon gan gwmni sector preifat.

Mae’n amlwg i mi fod ymwneud preifat yn y GIG nid yn unig i’w groesawu, ond yn angenrheidiol. Er mwyn i’r GIG ffynnu, rhaid cael cydweithio go iawn rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Nid yw cleifion yn poeni pa sector sy’n darparu triniaeth fawr ei hangen, cyn belled â’i bod y driniaeth orau sydd ar gael ac nad oes yn rhaid iddynt dalu amdani. Mae angen i ni roi’r gorau i’r dogma sy’n ystyried bod y sector cyhoeddus yn dda, a’r sector preifat yn ddrwg. Cydweithio yw’r peth pwysicaf ac mae canlyniadau i gleifion yn hollbwysig. Heb y sector preifat ni fyddai ein GIG yn goroesi, felly bydd UKIP yn ymatal ar gynnig Plaid Cymru y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau y prynhawn yma ar oblygiadau trefniadau tollau newydd i’r gwasanaeth iechyd gwladol a materion datganoledig eraill, oherwydd beth bynnag yw ein barn wahanol ar y penderfyniad i adael yr undeb tollau a gadael y farchnad sengl Ewropeaidd, gallwn i gyd gytuno, pa un a oeddem yn ffafrio gadael neu aros, neu’n genedlaetholwyr neu’n unoliaethwyr, fod hynny’n mynd i arwain at ganlyniadau nad ydym wedi gorfod eu hystyried ers peth amser. Caiff ei gymhlethu ymhellach, wrth gwrs, os oes gennym sefyllfa lle mae marchnad sengl newydd y DU ac undeb tollau newydd y DU yn cael eu gweinyddu’n unig gan Lywodraeth y DU, caiff ei gymhlethu gan y ffaith fod Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr mewn pethau fel iechyd. Felly, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno y bydd awydd dilys i weld polisi iechyd a model iechyd gan Lywodraeth y DU hefyd yn gorgyffwrdd â threfniadau tollau yn y dyfodol. Felly, rwy’n gwybod ein bod i gyd yn llawn o gyffro etholiad ar hyn o bryd; rwy’n mynd i geisio gweld a allwn gael rhyw fath o gonsensws ynglŷn â chydnabod y gallai cytundebau masnach yn y dyfodol, yn fwriadol neu beidio, os na chânt eu gwneud yr un pryd rhwng Llywodraethau’r DU, arwain, yn anfwriadol neu beidio, at roi gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan gynnwys y GIG, dan anfantais.

Pan gafodd y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd ei chrybwyll—mae wedi’i chrybwyll sawl gwaith, wrth gwrs—mynegwyd pryderon dilys bryd hynny. Roedd gan Gydffederasiwn y GIG yn benodol broblem gyda chynnwys mecanweithiau setlo dadleuol rhwng buddsoddwr a’r wladwriaeth, sydd, wrth gwrs, yn normal mewn cytundebau masnach, ond mae natur y cyrff hyn yn allweddol mewn perthynas â diogelu gwasanaethau cyhoeddus. Caiff yr achosion hyn eu clywed yn gyfrinachol, mewn llysoedd cyflafareddu preifat, ac maent yn caniatáu i gorfforaethau erlyn llywodraethau sy’n ceisio gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu mandadau gwleidyddol eu hunain. Mewn un achos enwog, pan gyflwynodd Awstralia becynnau plaen ar gyfer sigaréts, defnyddiodd cwmni tybaco Philip Morris gymal setlo anghydfodau buddsoddwr-i-wladwriaeth a gynhwyswyd yng nghytuniad buddsoddi Awstralia a Hong Kong yn 1993 i geisio mynd â Llywodraeth Awstralia i’r llys. Yn y pen draw, methodd eu hymgais, ond nid heb lawer o flynyddoedd o gynnen wleidyddol.

Y brotest gyhoeddus ledled Ewrop, wrth gwrs, dros y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd a arweiniodd, yn y pen draw, at gynnwys mecanweithiau eraill. Mae cytundeb masnach yr UE gyda Canada, CETA, yn cynnwys rhai darpariaethau sy’n cyfyngu ar y defnydd o’r pwerau hyn a rhai esemptiadau i wasanaethau cyhoeddus. Er ei fod ymhell o fod yn ganlyniad perffaith yn CETA, mae pryder y cyhoedd ynghylch yr effaith y gall cytundebau masnach rhyngwladol ei chael ar wasanaethau cyhoeddus cenedl yn newid y ffordd y caiff cytundebau masnach eu trafod bellach, ac mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ei gofio os a phan fydd y DU yn gadael undeb tollau Ewrop yn llwyr.

Ond fel y dywedais, gallwn i gyd gytuno y bydd unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn effeithio’n fawr ar Gymru ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn benodol. Ddoe, gwrandewais yn ofalus ar ateb a roddodd y Prif Weinidog i gwestiwn gan yr Aelod dros Gastell-nedd ar y mater hwn ac a dweud y gwir, mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’n ddigon da yn fy marn i fod ein Prif Weinidog yn dweud y dylai Cymru gael llais yn y trafodaethau masnach yn y dyfodol wedi inni adael yr undeb tollau Ewropeaidd. Rhaid inni fod yn fwy nag ymgyngoreion ar faterion sy’n amlwg wedi’u datganoli ac yn rhan o awdurdodaeth y ddeddfwrfa hon. Yr ateb rhesymegol yn gyfansoddiadol, yn fy marn i, os ydym yn mynd i fod y tu allan i’r undeb tollau yn enwedig, yw ffederaleiddio masnach fel bod hwnnw’n gymhwysedd a rennir rhwng y cenhedloedd a Llywodraethau’r DU, wedi’i oruchwylio gan gyngor Gweinidogion y DU ac yn atebol i holl Seneddau’r DU. Wrth gwrs, dyma pam y mae gan sawl gwlad ffederal eu trefniadau tollau eu hunain—dyna pam y maent wedi ffederaleiddio masnach ryngwladol yn hytrach na’i gadw yn y canol yn unig, oherwydd bydd yna orgyffwrdd yn ddieithriad. Fel y soniais yn gynharach, gyda ffactor sy’n cymhlethu fel Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr ar faterion datganoledig, mae’n gwneud mwy fyth o synnwyr i gael cyngor Gweinidogion y DU i oruchwylio ein buddiannau a rennir mewn perthynas â chytundebau masnach y DU yn y dyfodol. Felly, gall unrhyw un gael llais, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’r alwad honno am ei bod yn druenus, a bod yn onest. Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ailystyried yr amwysedd yn y maes hwn, oherwydd bydd hynny’n allweddol wrth sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yma’n cael eu diogelu mewn modd a fynegir yn ddemocrataidd gan bobl yn y blwch pleidleisio yn hytrach nag er budd gorelwa rhyngwladol.

Hoffwn gyfrannu’n fyr at y ddadl hon gan Blaid Cymru heddiw fel Aelod sy’n gwasanaethu etholaeth lle mae teithio ar draws y ffin i gael gwasanaethau arbenigol penodol yn ddigwyddiad arferol, boed yn daith i Clatterbridge neu Christie’s am driniaeth oncoleg arbenigol, ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl, neu hyd yn oed y cyswllt hirsefydlog rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ysbyty Stoke-on-Trent i gael triniaeth trawma mawr. Fel y cyfeiriodd Aelodau eraill yn flaenorol, sefydlwyd ysbytai fel Ysbyty Iarlles Caer i wasanaethu cleifion ar y ddwy ochr i’r ffin. Heb y niferoedd o ochr Cymru, ni fyddai gwasanaethau ysbyty yng Nghaer yn gynaliadwy nac yn hyfyw, ac rwy’n falch fod GIG Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru wedi aros yn ffyddlon i weledigaeth ei sylfaenydd, Nye Bevan, yn rhydd o farchnadeiddio a phreifateiddio. Ond yr hyn sy’n glir yw nad ydym yn bodoli na’n gweithredu ar wahân, ac mae cynnig heddiw yn briodol yn ei bryder clir ynglŷn â’r goblygiadau cyllidebol a achosir gan breifateiddio cynyddol y GIG yn Lloegr, yn wir, a’r ad-drefnu o’r brig i lawr gwerth £3 biliwn. Mae’r preifateiddio a’r darnio cynyddol hwn yn creu goblygiadau nid yn unig i’n gallu canlyniadol i ariannu’r GIG yng Nghymru—gwasanaethau iechyd yng Nghymru—yn briodol, ond mae hefyd yn destun pryder i mi o ran y goblygiadau i ddarpariaeth a safon y gwasanaethau y mae fy etholwyr sy’n teithio dros y ffin i ogledd-orllewin Lloegr yn eu cael.

Rwy’n deall bod yna brotocol trawsffiniol wedi’i sefydlu rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, gyda’r nod o ddarparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd trawsffiniol, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau â’i gwaith a’i chydweithrediad â’r GIG yn Lloegr i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth gofal iechyd yn ardal y ffin. Fodd bynnag, tynnodd etholwyr fy sylw at achosion lle nad yw cleifion o Gymru sy’n defnyddio gwasanaethau dros y ffin wedi cael gwybodaeth deg, gawn ni ddweud, yn niffyg gair gwell, mewn perthynas ag amseroedd aros a gwasanaethau gan unigolion a sefydliadau yn y GIG yn Lloegr, ac maent wedi teimlo weithiau fel pe bai’r cleifion sy’n dod o Gymru i gael triniaeth yn Lloegr yn cael eu rhoi ar ris is na’r rhai sy’n byw yn Lloegr ac sy’n defnyddio’r un gwasanaethau.

Felly, gyda’r cytundebau a’r trefniadau cyllido hyn ar waith, nid fel hyn y dylai fod, yn sicr, ac mae ychydig o achosion yn unig yn ychydig o achosion yn ormod. A phan dynnais sylw at hyn o’r blaen mewn cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, gwn ei fod yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hyn, ac i orffen, hoffwn apelio ar eraill a Llywodraeth Cymru, wrth barhau’r ymrwymiad i ddarparu’r gofal iechyd o’r ansawdd gorau posibl a chyllido teg i bobl Cymru, i roi’r un gwasanaeth o’r radd flaenaf ag y byddai disgwyl i unrhyw un arall ei gael i fy etholwyr i ac eraill sy’n defnyddio gwasanaethau yn Lloegr.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd ymrwymiad parhaus y Llywodraeth Cymru hon dan arweiniad Llafur Cymru i’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus ac sydd am ddim yn y man darparu. Rydym yn cytuno â’r rhai a gynigiodd y cynnig. Yn wir, roedd diwygiadau 2009 yng Nghymru yn cadarnhau egwyddorion sefydlol Nye Bevan drwy gael gwared ar y trefniadau prynwr-darparwr sy’n seiliedig ar y farchnad a gweithredu gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio. A bellach, mae Simon Stevens wedi tynnu sylw at y gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio hwnnw fel ffordd ymlaen ar gyfer y GIG yn Lloegr. Maent yn symud oddi wrth y rhaniad prynwr-darparwr; maent yn cydnabod ei fod yn aneffeithlon ac yn ddi-fudd. Fodd bynnag, ni allai’r gwrthgyferbyniad rhwng y systemau presennol yng Nghymru a Lloegr fod yn gliriach.

Fel y soniwyd eisoes, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 ar gyfer Lloegr yn gweld iechyd fel nwydd, yn amodol ar ddarpariaethau caffael a chystadleuaeth, gan gynnwys sefydlu Monitor fel y rheoleiddiwr economaidd. Wrth wneud hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU ar y pryd ddewis gweithredol i agor y farchnad ddarpariaeth gofal iechyd i unrhyw ddarparwr sy’n awyddus, gan gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat. Mae’r ffigurau a ddyfynnodd Angela Burns ar wariant cyhoeddus, neu wariant preifat yn hytrach, yma yng Nghymru, yn cyfateb i lai nag 1 y cant o gyllideb y GIG, ac mae’r gwasanaethau contract—. Ond nid ydym yn rhoi’r gwasanaethau hynny i ddarparwyr allanol. Ond fe welwch hynny mewn trosglwyddiadau ar raddfa eang yn y system yn Lloegr: o wasanaethau ambiwlans di-argyfwng i wasanaethau iechyd rhyw yn Lloegr, mae’r rhain yn cael eu rhoi allan ar raddfa eang i ddarparwyr preifat. Nid yw hynny, ac ni fydd hynny, yn digwydd yma yng Nghymru.

Ni ellir gwadu bod Deddf 2012 wedi arwain at gynyddu preifateiddio yn Lloegr. Mae cyfrifon yr Adran Iechyd ar gyfer 2015-16 yn dangos bod y sector preifat wedi darparu gwerth dros £8.7 biliwn o wasanaethau’r GIG, neu dros 7.5 y cant o gyllideb y GIG yn Lloegr. Ac mae canlyniadau sylweddol i breifateiddio graddol o’r fath, gan gynnwys cynnydd mewn costau cyfreithiol a chostau trafodion yn y system yn Lloegr gyda chwmnïau preifat, ond mae darparwyr GIG hefyd yn cyflwyno achosion llys os ydynt yn colli ymarfer caffael ar gyfer contractio gwasanaethau, a hefyd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth , Julie Morgan—neu Jenny Rathbone yn hytrach—ac eraill am yr effaith ar y gyllideb yma yng Nghymru hefyd.

A dylai pawb ohonom fod yn bryderus hefyd ynglŷn â system sy’n fwy seiliedig ar yswiriant. Mae’n golygu taliadau ymlaen llaw am ofal sylfaenol. Er enghraifft, yn Iwerddon, os ydych am weld meddyg teulu, gallwch ddisgwyl talu mwy na €50 am ymgynghoriad yn unig, ac mae ffi go iawn i’w thalu wedyn am y feddyginiaeth hefyd. Mae’n newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn a hygyrchedd meddyginiaeth o ansawdd uchel. Mae’n newid yr ymddiriedaeth yn y bobl hynny hefyd. Os ydym yn mynd i weld ewyllys wleidyddol yn cael ei chynnal—ailadrodd y gwirionedd fod gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus yn werth da am arian ac yn gynaliadwy, os oes ewyllys wleidyddol i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n galw am newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond er gwaethaf y preifateiddio diymwad yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at lifau trawsffiniol, fel yr amlinellodd nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, gan gynnwys Hannah Blythyn cyn i mi siarad. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu’r gofal gorau i bawb sydd ei angen. Wrth gwrs, mae ein dull o gydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn canolbwyntio ar anghenion ein poblogaethau. Anghytundeb bach â Dr Lloyd, ond rwy’n deall bod mwy na 20,800 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, ond bod ymhell dros 14,000 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr—realiti llifau trawsffiniol. Ac wrth gwrs, rydym yn gweld y rheini mewn gofal iechyd arbenigol rhwng Cymru a Lloegr ac o Loegr i Gymru. Disgrifiodd Hannah Blythyn lif ei hetholwyr i ogledd-orllewin Lloegr, ond wrth gwrs, fel y crybwyllodd Dai Lloyd, mae ysbyty Treforys—yr uned losgiadau—yn ganolfan arbenigol, nid yn unig i Gymru ond i dde-orllewin Lloegr yn ogystal. Mae canolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i’r rhan fwyaf o Gymru, yn ogystal â thrin cleifion a gyfeirir yno o Loegr yn ogystal. Mae’r llif yn mynd i’r ddau gyfeiriad. Rydym am weld hynny’n cael ei gynnal. Ein nod, fel Llywodraeth, yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Weithiau, gwasanaethau a ddarperir ar draws y ffin yn Lloegr fydd y rheini. Ar adegau eraill, bydd yn digwydd yma, y gwasanaeth yng Nghymru. Ceir llifau cleifion hirsefydlog i Loegr i gael gofal ysbyty i’r bobl sy’n byw yn nwyrain ein gwlad. Mae gan fyrddau iechyd lleol hyblygrwydd i gyfeirio cleifion am driniaeth allan o’u hardal lle mae angen clinigol ac amgylchiadau’r claf yn cyfiawnhau hynny neu lle na chaiff gwasanaethau eu darparu yma yng Nghymru.

Nawr, i droi at y pwynt a wnaed yn y cynnig am yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn cydnabod bod mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Rydym wedi bod yn glir y bydd y penderfyniad democrataidd yn cael ei barchu. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu i’n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru ar ôl Brexit, ac rydym wedi bod yn glir mai ein blaenoriaeth ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Rydym wedi gosod ein safbwynt ehangach yn fanwl yn y Papur Gwyn ar y cyd gyda Phlaid Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i—.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Rwy’n gwybod ei fod yn ailadrodd y safbwynt ar y farchnad sengl, ond yn benodol yn fy nghyfraniad gofynnais am drefniadau tollau a bwriad neilltuol Llywodraeth y DU i dynnu’n ôl yn rhannol o leiaf o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd. Felly, gyda hynny mewn golwg, fel Ysgrifennydd y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, beth yw eich barn am y trefniadau ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol? A ydych eisiau i’ch Llywodraeth gael llais llawn sy’n ystyrlon ar lefel y DU mewn cytundebau masnach yn y dyfodol er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, neu a ydych am fod yn ddim mwy nag ymgynghorai yn y broses honno?

Wel, fe glywsoch y Prif Weinidog yn nodi ein safbwynt ar sawl achlysur am y berthynas gyda’r undeb tollau o ran cael cyd-bwyllgor gweinidogion i symud y materion hynny yn eu blaenau. Mae angen i ni gael llais go iawn i Gymru yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i bennu ein blaenoriaeth ar gyfer ymadael a chytundebau masnach yn y dyfodol drwy gyd-bwyllgor gweinidogol. Rydym hefyd wedi bod yn glir, o dan y setliad datganoli, fod rhaid i unrhyw bwerau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd gael eu harfer ar lefel ddatganoledig. Ac oni bai bod rheswm clir wedi’i gytuno’n ddiamwys dros iddynt gael eu harfer gan Lywodraeth y DU, rhaid i’r pwerau hynny ddod i’r lle hwn yn gyntaf heb lifo drwy Lywodraeth y DU. Yn syml iawn, ni fydd unrhyw safbwynt arall yn dderbyniol.

Gan droi at rai o’r sylwadau a wnaed, i egluro, rwy’n meddwl, rhywfaint o’r gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a’r sylwadau a wnaed gan lefarydd UKIP, oherwydd rwy’n meddwl bod y cyfeiriad at ymwneud preifat yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn mynd â ni grym bellter oddi wrth breifateiddio a ddeallwn—. Nid yw’n anodd deall y gwahaniaeth. Nid wyf i na chynigwyr y cynnig hwn yn dweud y dylem geisio cael gwared ar y bobl hynny yn y sector preifat a ddatblygodd nwyddau meddygol, offer meddygol, dyfeisiau meddygol, neu’r holl fathau eraill o driniaethau a gwelliannau y gwelwn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn manteisio arnynt. Mae hynny gryn bellter oddi wrth realiti preifateiddio, wrth gwrs. Mae arweinydd presennol y DU o’r hyn sydd ar ôl o UKIP ar sawl achlysur yn y gorffennol wedi dweud ei fod yn credu bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn rhwystr i gystadleuaeth, ac y byddai’n ei israddio a’i ddileu.

Nid ydym yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n ymgais eithaf amlwg i ddileu’r cyfeiriad at breifateiddio’r Torïaid yn Lloegr. Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd gwladol o ansawdd uchel mewn dwylo cyhoeddus, ac rwy’n falch o ddweud y byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a byddwn yn parhau i sefyll dros y gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae pwrpas y ddadl yma, a phwrpas y cynnig, yn glir, rwy’n meddwl, ac yn eithaf syml. Rwy’n credu bod y Ceidwadwyr yn eiddgar i drosglwyddo rhagor o rym a chyllideb dros y gwasanaeth iechyd i’r sector preifat. Mae tystiolaeth yn dangos hynny. Mi oedd y ffigurau—. Roedd yr 8 y cant o’r gyllideb a oedd yn mynd i’r sector breifat, gyda llaw, yn eithrio’r trydydd sector. Ond, hyd yn oed os nad yw’r Ceidwadwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi NHS yng Nghymru, mae eu penderfyniadau gwariant nhw fel plaid yn Llundain yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni. Rwy’n gobeithio ein bod ni wedi gallu egluro hynny heddiw.

Ar ben hynny, wrth gwrs—a thra’r wyf yn croesawu cefnogaeth Llafur i’r cynnig yma— mae methiannau Llywodraeth Lafur Cymru i gynnal gwasanaethau, rwy’n meddwl, o’r safon y mae staff yr NHS yng Nghymru a chleifion yng Nghymru yn ei haeddu yn gwthio mwy a mwy o bobl at y sector preifat. Mi gawsom araith gan Angela Burns yn dweud na ddylai Plaid Cymru fod yn gul a gwrthwynebu gwasanaethau trawsffiniol. Nid wyf yn hollol siŵr o ble y cafodd hi hynny. Ni wnes i, yn sicr, grybwyll hynny. Nid yw’r cynnig sydd o’m blaen i fan hyn yn crybwyll hynny. Yn wir, mi wnaeth Dr Dai Lloyd, yn ei araith o, bwysleisio pa mor dda y mae gwasanaethau trawsffiniol yn gweithio yn y ddau gyfeiriad. Mi roddaf gyfle i chi, os dymunwch chi, egluro yn union pam yr aethoch chi i lawr y trywydd hwnnw. Fel arall, mi wnaf i gario ymlaen. Mi soniodd am wasanaethau rhagorol yn Southampton. Mi fuaswn i yn gyrru fy mhlentyn i’r lleuad am y gofal gorau, ac mi fyddwn i yn ei gymryd fel sarhad personol pe baech yn awgrymu, rhywsut, ei fod yn well gen i ddim gwasanaeth yn hytrach na gwasanaeth oddi ar dir Cymru. Chi sy’n siarad nonsens drwy awgrymu’r fath beth am gleifion Cymru.

Ond—ac rwy’n gobeithio’n arw y buasai’r Ceidwadwyr yn cytuno efo fi ar hyn—ni ddylai tanberfformiad yr NHS yma, nac unrhyw agenda breifateiddio, danseilio’r gwasanaethau y dylem ni allu eu disgwyl i gael eu darparu yng Nghymru. O edrych ar eich rhestr chi, yn eich gwelliant chi, o wasanaethau yr ydych chi yn credu y dylem eu cydnabod fel bod yn Lloegr, a ydych chi wir yn credu y dylem eistedd yn ôl a derbyn nad yw plant efo problemau iechyd meddwl yn gallu cael eu trin yn agos at eu cartref? Yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn dweud na wnaeth hi ddweud hynny. Mi wnaf i ddarllen o’ch gwelliant chi, sef y dylai’r Cynulliad gydnabod

dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr’,

gan gynnwys ‘gwasanaethau iechyd meddwl i blant’. Os ydych chi yn meddwl y dylem eistedd yn ôl a derbyn hynny yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cywilydd arnoch chi. Mae gen i ofn bod bwriad a bygythiad y Ceidwadwyr yn glir. Cefnogwch y cynnig heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Benthyca a’r Economi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fenthyca a’r economi. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6302 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.

2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai’n peryglu dyfodol economi Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a’r DU yn cael ei beryglu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ar y papur trefn yn enw Paul Davies yn ffurfiol, cynnig sy’n canolbwyntio ar yr arweinyddiaeth gref a chadarn sydd ei hangen ar y wlad hon er mwyn parhau â’i ffyniant economaidd; yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol ar gerdyn credyd y wlad a fyddai’n peryglu dyfodol economi Cymru; ac sy’n cydnabod yr angen i gostio polisïau’n llawn, pan gânt eu cyflwyno, er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a’r DU yn cael ei beryglu, ac nad yw’r glymblaid o anhrefn yn dychwelyd i wneud yn siŵr fod y goblygiadau economaidd hirdymor yn drychinebus i gymunedau ar hyd a lled y wlad hon.

Mike Hedges a gododd—

Wel, os gallaf ymdrin â’r gwelliannau yn gyntaf, Mike, ac fe fyddaf yn falch o gymryd yr—. Darllen yr hyn a oedd ar y papur trefn yn unig yr oeddwn yn ei wneud ar y cam hwnnw, i fod yn onest, gydag ychydig o sylwadau bachog.

Ni fyddwn yn derbyn y gwelliannau, ac ni fydd hynny’n syndod. Mae gwelliant ‘dileu popeth’ y Llywodraeth yn codi cwestiwn ynglŷn â phwy a ysgrifennodd y gwelliant hwnnw, i fod yn onest gyda chi, oherwydd, yn amlwg, ni all llawer o’r materion ynddo wrthsefyll unrhyw graffu o gwbl, ac yn y pen draw, pan edrychwch ar y fframwaith cyllidol a mesurau eraill y mae Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith yn ystod y saith mlynedd gyntaf ers 2010 sydd wedi arwain at gyfraddau uwch nag erioed o gyflogaeth yma yng Nghymru, cyfraddau uwch nag erioed o fewnfuddsoddiad a chyfraniad parhaus, wrth gwrs, i sicrhau bod lle Cymru yn y Deyrnas Unedig yn ddiogel a sicr—mae’n gwneud yn berffaith siŵr y dylai pobl bleidleisio i’r Ceidwadwyr yn y blwch pleidleisio ar 8 Mehefin.

Mae gwelliant 2 gan y cenedlaetholwyr Cymreig yn gofyn i bobl gydnabod bod angen amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid yn y DU. Rhaid i mi ddweud mai’r unig beth a fyddai’n ddi-hid fyddai gwneud yn siŵr fod Cymru’n dod yn annibynnol a’r canlyniadau difrodus y byddai hynny’n eu cael ar ein GIG yng Nghymru. Roedd yn eironig iawn gwrando ar Blaid Cymru yn siarad am GIG wedi’i ariannu’n gyhoeddus, ac sy’n eiddo cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, y canlyniad mwyaf dinistriol i’r GIG yng Nghymru fyddai i Gymru ddod yn annibynnol a methu darparu, yn economaidd—[Torri ar draws.]—darparu—[Torri ar draws.]—darparu—[Torri ar draws.]—ar gyfer pobl Cymru. Rwy’n hapus i gymryd ymyriad gan Mike.

Fe sonioch am glymblaid o anhrefn; ai’r glymblaid rhyngoch a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015 a olygwch? Neu’r glymblaid y ceisioch ei chael gyda Phlaid Cymru ac UKIP ar ôl yr etholiad diwethaf?

Un glymblaid o anhrefn sydd ar y papur pleidleisio ar gyfer 8 Mehefin, Mike, fel y gwyddoch yn iawn, sef y glymblaid o anhrefn a fyddai’n cael ei harwain gan Jeremy Corbyn a’r canlyniadau dinistriol, yn economaidd ac i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, rydych yn rhan o glymblaid gyda’r cenedlaetholwyr a chyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y gwelsom, ers mis Mai diwethaf. Mae clymblaid ffurfiol yma. Fe’i gwelwch ar adeg y gyllideb, ac fe’i gwelwch am fod gennych Weinidog Addysg sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol a fu’n ateb cwestiynau yn gynharach. Mae’n rhan o’ch Llywodraeth rydych yn ei chymeradwyo, Mike, ydych.

Ond gan edrych ar yr hyn sy’n ofynnol wrth inni symud ymlaen, y brif thema ar gyfer y Senedd nesaf, yn ddi-os, ac i’r Cynulliad hwn, fydd cyflawni canlyniad refferendwm Brexit ar 23 Mehefin y llynedd, a dyna pam y mae arweinyddiaeth gref a chadarn yn angenrheidiol—[Torri ar draws.]—yn angenrheidiol—[Torri ar draws.]—fe allwn gael bisged ar fel y mae pethau—yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau â’r twf economaidd hirdymor sy’n sail i fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus gwych, sy’n sail i’r gallu i bobl gael cyflog gweddus i fynd adre, ac sy’n sail i’r gallu i entrepreneuriaid ddechrau busnesau newydd, yma yng Nghymru neu’n wir, mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

A all fod yn wir mewn gwirionedd y gall unrhyw un fod ag unrhyw hyder yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur bresennol mewn perthynas â diogelwch, mewn perthynas â negodi trafodaethau Brexit? Ddoe, er enghraifft, gofynnwyd i arweinydd y Blaid Lafur chwe gwaith am ei syniadau ynglŷn â Brexit ac ni allodd roi ateb argyhoeddiadol ar unrhyw un o’r troeon hynny. A hyn gan blaid sydd wedi treulio’r 18 mis diwethaf, mewn dwy ddadl arweinyddiaeth, yn rhwygo’i hun yn ddarnau ac sydd erbyn hyn yn y bôn yn sefyll gerbron yr etholwyr i ddweud, ‘Gallwch ymddiried ynom, fe fyddwn yn cyflawni’. A phan edrychwn ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni yma, pan edrychwn ar y GIG, dyma’r unig ran o’r Deyrnas Unedig a oedd â Llywodraeth yn y sesiwn ddiwethaf a gyflwynodd doriadau mewn termau real i’r GIG—penderfyniad gwleidyddol ymwybodol, gallwn ychwanegu, a gymerwyd ar y pryd.

Rhoddodd y Llywodraeth lawer o hygrededd yn y fantol mewn perthynas ag ad-drefnu llywodraeth leol a bu’n rhaid iddi wneud tro pedol ar ad-drefnu llywodraeth leol. O ran addysg, pan edrychwn ar y ffigurau addysg sydd wedi’u cyhoeddi, nid gan y Ceidwadwyr, nid gan bleidiau gwleidyddol eraill yma, ond ar y safleoedd rhyngwladol a PISA—beirniadaeth ddinistriol ar bolisïau addysg aflwyddiannus yma yng Nghymru sydd wedi difetha cyfleoedd bywyd cenedlaethau olynol o bobl ifanc sy’n mynd drwy ein system addysg yma yng Nghymru. Ac maent yn gofyn o ddifrif i ni ymddiried ynddynt gydag arweinyddiaeth y Deyrnas Unedig. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod pobl yn deall y canlyniadau pan fyddant yn bwrw eu pleidlais ar 8 Mehefin, er mwyn sicrhau bod diogelwch a dyfodol hirdymor eu cymunedau, hwy eu hunain, a’r wlad hon yn y dyfodol yn cael eu diogelu gan fandad Ceidwadol cryf yma yng Nghymru, ond mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd.

Ac rwy’n rhyfeddu bod y Prif Weinidog wedi treulio ei amser ar ‘The Politics Show’ yn cymeradwyo—yn cymeradwyo—defnyddio cerdyn credyd y DU i’r pen un i fenthyca gwerth £500 biliwn ychwanegol. Mewn geiriau eraill, cost anhrefn hyd yn hyn. Ar hyn o bryd, mae’r Blaid Lafur yn sefyll gerbron yr etholwyr yma yn y Deyrnas Unedig gyda gwerth £45 biliwn o ymrwymiadau heb eu costio—gwerth £45 biliwn o ymrwymiadau heb eu costio. Mae hynny’n gwbl anghredadwy, ac mae’r Prif Weinidog yn cymeradwyo’r polisi economaidd a fyddai mewn gwirionedd nid yn unig yn gosod dyfodol economaidd y genhedlaeth hon yn y fantol, ond dyfodol cenedlaethau’r dyfodol. Oherwydd nid y genhedlaeth hon yn unig a fydd yn talu am hynny—bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfod codi’r darnau wedi i’r wlad fynd i’r wal.

Mae’r hyn a welsom yn ystod tymor cyntaf ac ail dymor y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth yn San Steffan, fel y dywedais o’r blaen, yn werth ei ailadrodd: cyfraddau cyflogaeth uwch nag erioed, sydd wedi codi o 28 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y Deyrnas Unedig i 31.8 miliwn o bobl fel y mae heddiw; y cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad yn yr economi; y cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn busnesau sy’n dechrau; y cyfraddau uchaf erioed o brentisiaethau. Bydd hyn oll yn cael ei beryglu gan y glymblaid o anhrefn y bydd Jeremy Corbyn yn ei harwain, wedi’i chynnal gan y Democratiaid Rhyddfrydol a chan y cenedlaetholwyr, o’r Alban ac yma yng Nghymru. Dyna pam y mae arnom angen arweinyddiaeth gref a chadarn Theresa May—[Torri ar draws.]—Theresa May i wneud yn siŵr yn y pen draw nad yw dyfodol pobl yn cael ei beryglu oherwydd agwedd drahaus, nid yn unig y Blaid Lafur yn Llundain, ond y Blaid Lafur yma yn y Cynulliad.

Yn anad dim, yr hyn sy’n ofynnol gan Lywodraethau yn y dyfodol yw bod yna raglen wedi’i chostio’n llawn ar gyfer cyflawni a rhaglen wedi’i chostio’n llawn ar gyfer seilwaith a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae adeiladu gobeithion gwag, sef yr hyn y mae’r Blaid Lafur a’r cenedlaetholwyr yn ei wneud ar hyn o bryd, yn rhywbeth na fydd y cyhoedd yn ei faddau, ac fel y dywedais, mae cost anhrefn hyd yn hyn yn dangos yn glir fod yna dwll du o £45 biliwn—[Torri ar draws.] Os yw Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yn awyddus i siarad, rwy’n fwy na pharod i gymryd ymyriad ganddo, gan ei fod yn grwgnach yn y fan acw. Ond mae’n gwybod, yn y pen draw, fod yr ystadegau yn y GIG yng Nghymru, lle mae un o bob saith o bobl ar restr aros yma yng Nghymru, lle mae amseroedd aros damweiniau ac achosion brys—[Torri ar draws.] Wel, fe ildiaf i chi. A ydych chi am ymyrryd? Fe ildiaf i chi. Dyna ni—nid ydych yn mynd i amddiffyn y safbwynt. Mae un o bob saith o bobl ar restr aros, ac mae pobl yn aros yn hwy ac yn hwy am driniaeth yma yng Nghymru.

Felly, fel y dywedais, y dewis clir gerbron pobl Cymru, a gerbron pobl y Deyrnas Unedig, yw’r arweinyddiaeth gref a chadarn—[Torri ar draws.]—y mae angen i bobl bleidleisio drosti ar 8 Mehefin yn erbyn y glymblaid o anhrefn y bydd y Blaid Lafur, y cenedlaetholwyr a’r rhyddfrydwyr yn ei chyflwyno, na fydd yn cyflawni’r trafodaethau Brexit sydd eu hangen ar y wlad i wrthsefyll y 27 o aelod-wladwriaethau eraill a fydd yn gwneud cam â ni; na fydd yn cyflawni’r ffyniant economaidd sydd ei angen ar y wlad hon a’i chymunedau; na fydd yn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus; ac yn anad dim, na fydd yn sicrhau’r dyfodol disglair y gwyddom ei fod ar gael i’r wlad hon. Rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.

Diolch am gymryd yr ymyriad. Rydych newydd ei ddweud: a ydych yn dweud yn gyhoeddus, cyn i chi gychwyn ar y trafodaethau, fod 27 gwlad yr UE yn bwriadu gwneud cam â ni? Oherwydd dyna beth rydych newydd ei ddweud.

Pan edrychwch ar yr hyn sy’n dod o’r Comisiwn Ewropeaidd, mae negodi’n golygu dau barti’n trafod er mwyn sicrhau’r fantais orau iddynt. Mae’n ffaith fod gan yr UE fel y mae ar hyn o bryd 27 aelod yn y trafodaethau hynny. Rydym ar yr ochr arall i’r bwrdd hwnnw. Wrth gwrs, maent yn mynd i uno ar safbwynt negodi. Pwy hoffech ei weld yn trafod y strategaeth honno ar ran Prydain? A ydych eisiau Jeremy Corbyn neu a ydych eisiau Theresa May? Oherwydd yr hyn y mae’r rhan fwyaf o bobl y Deyrnas Unedig a’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei ddweud yw bod ganddynt ffydd yn ein Prif Weinidog, Theresa May, i negodi ar ran y wlad wych hon sydd gennym. Nid oes ganddynt fawr o ffydd, os o gwbl, yng ngallu Jeremy Corbyn i negodi.

Gwnaf y pwynt hwn eto, ac os oes rhywun am ei wrthod—. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn un o gefnogwyr brwd Jeremy Corbyn—chwe gwaith ddoe—chwe gwaith—gofynnwyd i Jeremy Corbyn amlinellu beth fydd ei safbwynt yn y pen draw yn y trafodaethau hyn, ac ar chwe achlysur ni allai roi ateb. Digwyddodd hynny wrth lansio cynhadledd y Blaid Lafur. A all fod yn iawn, gyda’r Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yno, gyda’r Gweinidog cyllid yn eistedd yno, gyda Mike Hedges yn eistedd draw acw, fod Llafur Cymru mor hapus i ddileu Jeremy Corbyn o’r ymgyrch hon? A ydych yn credu y byddai Jeremy Corbyn yn gwneud Prif Weinidog da? Oherwydd ni all Carwyn Jones ddweud hynny mewn unrhyw ddatganiad y mae’n ei gyhoeddi. Dyna pam y mae angen cefnogaeth yr Aelodau yn y tŷ hwn i’r ddadl hon heddiw, fel y gallwn gael arweinyddiaeth gref a chadarn y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth ar ôl 8 mis Mehefin.

Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi y byddai Cymru a’i heconomi’n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy’n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o’r wlad.

2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.

3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o’i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru’n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.

4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a’r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi’u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.

5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.

6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy’n nodi cynlluniau wedi’u prisio ar gyfer:

a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;

b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;

c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;

d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;

e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;

f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni’n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod yr angen i amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y DU.

2. Yn credu na ellir dibynnu ar Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU i amddiffyn Cymru, i hyrwyddo buddiant cenedlaethol Cymru, na chyflawni potensial economaidd y genedl.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wyddoch chi, wrth wrando ar dôn y Blaid Geidwadol yn yr etholiad hwn, gallech ddod i’r casgliad ein bod, mewn rhyw ffordd, ar drothwy awr orau Prydain. Pan edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd i’r wlad hon mewn gwirionedd, yr hyn a welwch yw Teyrnas Unedig ranedig tu hwnt. Nid hon yw ein hawr fawr, gallai fod yn awr olaf, oherwydd yr hollt economaidd, sef etifeddiaeth fwyaf gwenwynig y Llywodraeth Geidwadol hon.

Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau: yn Swydd Efrog, Glannau Humber, Gogledd Iwerddon, Cymru, gorllewin canolbarth Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr, mae gweithwyr yn cynhyrchu llai yr awr bellach, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, nag yn 2007. Ble mae’r cynnydd economaidd yno? Ble mae’r tegwch economaidd i’r gwledydd a’r rhanbarthau hynny ar draws y DU? Mae anghydraddoldeb rhanbarthol yn y DU yn uwch nag erioed yn awr—yn uwch nag erioed yn awr, ers dechrau cadw cofnodion, ac mae wedi gwaethygu bob blwyddyn ers 2010.

Rydym yn ei fesur drwy gyfernod Gini ar gyfer anghydraddoldeb rhanbarthol. Roedd yn weddol sefydlog tan yr argyfwng economaidd. Cyn y cwymp hwnnw, roedd yn 0.106. Am y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, a gyhoeddwyd yn 2016, mae bellach ar 0.126. Mae hynny’n ddigynsail. Dyna gynnydd o 200 y cant ym maint anghydraddoldeb economaidd rhwng gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig mewn llai na degawd. Dylai fod cywilydd arnoch. A gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd fod stori ddynol iawn y tu ôl i’r ystadegau hyn. Dewch gyda mi i rai o drefi’r Cymoedd gogleddol a gweld ar wynebau’r bobl yno yr anobaith sy’n pontio’r cenedlaethau rydych wedi’u taflu iddo. [Torri ar draws.] Yn bendant, fe gymeraf ymyriad.

A gaf fi ofyn, felly, oherwydd mae’n amlwg ers degawdau bellach fod Cymru wedi bod yn cael mwy o arian gan yr UE mewn cymorth rhanbarthol na rhannau eraill o’r DU—a allwch egluro pam ein bod yn dal yn y sefyllfa honno, oherwydd nid mater o’r 10 mlynedd diwethaf yn unig ydyw, nage?

Roedd cronfeydd rhanbarthol Ewropeaidd bob amser yn ysgogiad pitw o’i gymharu â maint y broblem. Roeddem ni yn blaid hon a phleidiau blaengar eraill ledled y DU yn dadlau’r achos yn barhaus na allem ddibynnu’n unig ar gyfran bitw. Roedd y Blaid Geidwadol yn dadlau, wrth gwrs, dros dorri’r gyllideb ar gyfer arian datblygu rhanbarthol Ewropeaidd drwy gydol y cyfnod hwn.

Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau. Nid problem yng Nghymoedd yr hen faes glo yn unig yw hon. Edrychwch ar Bowys, ardal a gynrychiolir gan y Blaid Geidwadol—hi sydd wedi perfformio waethaf o gymharu ag unrhyw ran o’r DU o safbwynt cynhyrchiant y pen, 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Mae’n siarad am ‘ein cenedl’, rwy’n tybio ei fod yn golygu’r Deyrnas Unedig, wel, yn economaidd, nid yw Powys yn yr un wlad â gweddill y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ni dderbyniaf ymyriad arall; rwy’n credu eich bod wedi dweud digon, a bod yn hollol onest. Edrychwch, yn 2010, dywedodd y Canghellor hyn: addawodd ailgydbwyso’r economi fel ei bod yn creu twf economaidd lleol ym mhob rhan o’r wlad. Yn hytrach na chadw at ei addewidion, cyflawni’r gwrthwyneb a wnaeth y weinyddiaeth a gâi ei harwain gan y Ceidwadwyr. Ac onid dyna oedd y patrwm? A ydych yn cofio ‘pleidleisiwch dros las, ac fe gewch wyrdd’? A ydych yn cofio’r ‘Geidwadaeth dosturiol’? Wyddoch chi, gallaf feddwl am rai ansoddeiriau sy’n dechrau gydag ‘c’ i ddisgrifio’r Llywodraeth Dorïaidd hon, ond yn bendant, nid yw ‘compassionate’ yn un ohonynt. Mae ‘ciaidd’, ‘calon-galed’, ‘creulon’ i’w gweld i mi yn eiriau mwy addas am y blaid a roddodd y dreth ystafell wely, y cymal trais rhywiol ac epidemig o hunanladdiadau ymhlith dioddefwyr sâl ac anabl eich diwygiadau ‘lles’, fel y’i gelwir.

Wyddoch chi, mae rhai pobl yn priodoli rhinweddau Churchillaidd i Brif Weinidog y DU? Rwy’n gweld mwy o Chamberlain—o godi disgwyliadau na ellir eu cyflawni. Nawr, yr hyn na all neb ohonom ei wneud yw rhagweld beth fydd yn digwydd nesaf. A fydd Brexit yn ddydd-D, Dunkirk neu Dardanelles—yn fuddugoliaeth ogoneddus, yn fethiant arwrol, neu’n drasiedi ddiangen? Ni all yr un ohonom ragweld hynny gyda sicrwydd, ond yr hyn y gallwn ei ddweud yw bod canlyniad yr etholiad, yn anffodus, ar lefel y DU, eisoes yn glir. Bydd y Prif Weinidog yn ennill, ac fe gaiff ei Brexit di-hid, dinistriol, doed a ddêl. Ond mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn ein dwylo ni. Efallai y bydd y frwydr dros Brydain eisoes ar ben. Y frwydr dros Gymru sydd ar fin dechrau. Ni all Plaid Lafur wan a rhanedig amddiffyn Cymru. Mae’n rhaid i ni ddibynnu arnom ein hunain fel cenedl. Ni yw ein gobaith gorau.

Wrth adael Llywodraeth y DU yn 2010, gadawodd y Blaid Lafur economi ar fin mynd i’r wal, gyda’r diffyg mwyaf yn Ewrop yn ei chyllideb, ac eithrio Iwerddon yn unig. Ond dan law’r Ceidwadwyr, cafwyd yr economi G7 a oedd yn tyfu gyflymaf yn 2016. Mewn cyferbyniad, cafodd y gwledydd a wrthododd galedi fesur llawn ohono.

Wrth hyrwyddo economeg Keynesaidd fel dewis arall, mae’r Blaid Lafur yn methu cydnabod—a Phlaid Cymru—er bod Keynes yn argymell gwario ar fenthyciadau pan fo economi’n dioddef, roedd hefyd yn argymell cwtogi ar wariant y Llywodraeth yn ystod cyfnodau o ffyniant. Ond torrodd Gordon Brown y cylch economaidd drwy esgus bod yna ben draw i ffyniant a methiant. Fel y gŵyr unrhyw ddyledwr, ni allwch ddechrau lleihau dyled nes y bydd gwariant yn disgyn yn is nag incwm. Pe bai’r Trysorlys wedi ceisio lleihau’r diffyg yn gyflymach, byddai’r toriadau wedi bod yn fwy. Yn y byd ariannol go iawn, mae benthycwyr yn benthyg, ond y rhai sy’n rhoi benthyg sy’n gosod y telerau. Pe bai’r Trysorlys wedi ceisio lleihau’r diffyg i raddau llai, byddai toriadau mwy wedi cael eu gwneud.

Roedd yr Aelodau Llafur yma’n gwawdio pan rybuddiais, 13 mlynedd yn ôl, y byddai benthyca Gordon Brown yn arwain at ddydd o brysur bwyso. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais, 12 mlynedd yn ôl, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio bod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyledion eilaidd nag unman arall yn y byd. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais fod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio Trysorlys Mr Brown, dair blynedd cyn i Northern Rock fynd i’r wal bron iawn, fod angen iddo sefydlu cynlluniau wrth gefn i ymdrin ag argyfwng bancio, ond ni wnaeth y Blaid Lafur ddim yn ei gylch. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais fod yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi adrodd fod y Llywodraeth Lafur yn rhoi pwyslais gwleidyddol parhaus ar yr angen iddynt beidio â bod yn rhy llawdrwm wrth reoleiddio bancio. Nid oes amheuaeth y byddant yn gwawdio yn awr, pan ddywedaf fod Carwyn Jones, wrth gymeradwyo cynllun Jeremy Corbyn i fenthyg £500 biliwn ychwanegol, yn methu dweud wrth bobl Cymru mai toriadau mwy fydd y canlyniad.

Wrth gwrs, nid yw Carwyn Jones yn ddyn diymhongar, ond mae ganddo lawer i fod yn ddiymhongar yn ei gylch. Mae’n parhau i ddatgan mai Cymru sydd â’r lefelau diweithdra isaf yn y DU, ond mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod diweithdra yng Nghymru yn uwch na’r lefelau yn Lloegr, Yr Alban a’r DU. Mae’n parhau i gymryd y clod am fewnfuddsoddiad i Gymru, pan chwaraeodd Adran y DU dros Fasnach Ryngwladol ran mewn 97 o’r 101 o fuddsoddiadau tramor uniongyrchol i Gymru y llynedd, a’r DU yw’r wlad sy’n parhau yn y trydydd safle’n fyd-eang o ran faint o fuddsoddiadau tramor y mae’n eu derbyn.

Mae’n fuddiol i Gymru a’r DU gael Undeb Ewropeaidd gref, sefydlog a ffyniannus fel ein cymydog agosaf. Er nad ydym yn cychwyn y trafodaethau Brexit ar ein gliniau, mae ef yn pregethu gwae Brexit, fel y clywsom gan ein cyfeillion ym Mhlaid Cymru hefyd. Wel, ni fydd unrhyw enillydd a chollwyr, dim ond dau enillydd neu ddau gollwr. Bydd unrhyw rwystrau newydd i fasnach a buddsoddiad yn Ewrop nid yn unig yn anghyfrifol yn wleidyddol ond yn beryglus yn economaidd, ac nid yn unig i Ewrop, ond i’r economi fyd-eang ehangach hefyd. Trwy 18 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, maent wedi cyflwyno’u hunain fel gwarcheidwaid cyfiawnder cymdeithasol. Ond po fwyaf y siaradent am y peth, y gwaethaf y mae pethau wedi mynd. Ar ôl gwario £0.5 biliwn ar eu prif raglen ar gyfer trechu tlodi, Cymunedau yn Gyntaf, maent yn awr yn ei dirwyn i ben yn raddol ar ôl methu lleihau prif gyfraddau tlodi yng Nghymru, fel y dywedodd y Sefydliad Bevan.

Mae Llafur wedi rhoi i Gymru y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol; y lefelau uchaf o dangyflogaeth ar draws 12 gwlad a rhanbarth y DU; y lefelau ffyniant isaf y pen yn y DU; y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol—rwyf wedi’i ddweud eto; cyfraddau uwch na lefelau’r DU o gyflogau isel, tlodi, tlodi plant a phlant sy’n byw mewn cartrefi di-waith yn hirdymor; canran uwch o blant sy’n byw mewn cartrefi di-waith yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru ac argyfwng cyflenwad tai gyda’r lefel gyfrannol isaf o wariant tai o gymharu ag unrhyw un o bedair gwlad y DU ers 1999, ac felly, y toriadau mwyaf yn niferoedd tai newydd, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy ers 1999. Mae Llafur y DU, yn y cyfamser, yn nwylo grŵp teyrnged Trotsciaidd—dilynwyr ffwndamentalaidd ideoleg warthus a pheryglus o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond mae Cymru wedi bod yn beilot iddynt ac yn rhybudd i bobl ar draws ein hynysoedd. Mae Llafur yn credu bod ganddynt hawl i reoli a dweud wrth y bobl beth sy’n dda iddynt. Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio grymuso pobl a chymunedau, a gwneud pethau gyda hwy yn hytrach nag iddynt. Yn lle’r glymblaid o anhrefn a gynigir gan Corbyn a Carwyn, mae’r bobl angen arweinyddiaeth gref a chadarn Theresa May.

A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa pobl fod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan farchnad eilaidd yr Unol Daleithiau lle’r oedd pobl yn rhoi benthyg arian a banciau Prydeinig yn prynu eitemau nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth drostynt? Achubodd Llafur yn San Steffan y banciau rhag mynd i’r wal. Pe bai’r banciau wedi mynd i’r wal, byddai ein system gyfan wedi mynd i’r wal. A gaf fi—? [Torri ar draws.] Yn bendant.

Diolch i chi, Mike—dim ond rhoi tamaid o’ch meddyginiaeth eich hun i chi. Rydych yn iawn i ddweud bod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan America, ond wrth gwrs, aeth y Llywodraeth Lafur honno i mewn i’r argyfwng yn 2008 gyda diffyg o £80 biliwn. Nid oeddem yn dechrau o’r safle y dylem fod ynddo.

Wel, mater o farn yw hynny ac nid oes gennyf amser i drafod hynny y prynhawn yma. Rwy’n gobeithio y cawn gyfle i wneud hynny eto yn y dyfodol.

Rydych yn dod allan o ddirwasgiad drwy wneud dau beth: yn gyntaf, rydych yn dibrisio arian cyfred ac yn ail, rydych yn atchwyddo’r economi. Mae’r bunt yn hofran felly nid yw wedi mynd drwy ddibrisio ffurfiol ond mae wedi cael ei dibrisio rhwng 14 a 20 y cant yn erbyn y ddoler ers mis Mehefin 2016. Gwyddom hefyd fod dibrisiant yn rhoi hwb yn y tymor byr i allforion, ond yn dod â chwyddiant yn ei sgil. Gan fod gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi gostwng o dros 4 i rhwng 1.3 a 1.2 o ddoleri i’r bunt, cyn hir byddwn yn siarad am y ffordd arall rownd oni wneir rhywbeth. Nid oes budd hirdymor i ddibrisio, dim ond hwb byr, cicdaniad.

Mae chwyddiant ym Mhrydain, mewn byd heb chwyddiant, wedi dechrau gwneud ei ffordd i fyny ac mae prisiau tai wedi dechrau gwneud eu ffordd i lawr. Rydym wedi cael y ffyniant, yn awr rydym yn aros am y methiant. Bydd £500 biliwn ar brosiectau cyfalaf yn helpu i atchwyddo’r economi. Gan ragdybio bod y Llywodraeth yn benthyca ar 2 y cant drwy fondiau’r Llywodraeth neu fenthyca uniongyrchol, sy’n amcangyfrif uchel yn ôl pob tebyg, yna, dros 30 mlynedd, mae’r ad-daliad cyfalaf yn llai na £1.7 biliwn y flwyddyn a byddai llog ar 2 y cant yn rhywbeth fel £10 biliwn—[Torri ar draws.]—iawn, fe wnaf—ac ar 4 y cant byddai’n rhywbeth fel £20 biliwn. Gan ragdybio mai dim ond ei hanner fyddai’n mynd ar gyflogau—amcangyrif isel—yna bob blwyddyn, drwy drethi, bydd o leiaf £50 biliwn yn dod yn uniongyrchol i’r Llywodraeth—mewn gwirionedd mae’n gwneud mwy na golchi ei wyneb ac ailgylchdroi’r arian yn yr economi.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech—oherwydd rydych yn amlwg wedi gwneud ymchwil ar hyn—enwi un ariannwr, un person sy’n deall dyled gyhoeddus, a fyddai’n cefnogi’r polisi hwn o roi £500 biliwn arall ar gerdyn credyd y Deyrnas Unedig. Clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn cefnogi’r polisi hwnnw.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gefnogi, fel y mae nifer o economegwyr eraill, gan gynnwys rhai economegwyr Americanaidd mawr. Fe ysgrifennaf atoch i roi enwau i chi. Nid ydynt gennyf ar hyn o bryd. Nid oeddwn yn disgwyl gorfod ateb hynny. [Torri ar draws.] Soniwyd wrthyf am Paul Krugman ond ceir nifer ohonynt yn America sy’n credu hynny.

Rydych yn benthyg ar gyfer offer ac adeiladau. Nid ydym yn benthyca ar gyfer cyflogau, rydym yn benthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Gallwn edrych ar hanes America a Phrydain. Herbert Hoover oedd arlywydd America ar adeg o gyni. Trodd ddirywiad economaidd yn ddirwasgiad. Aeth Hoover ar drywydd llawer o bolisïau mewn ymgais i dynnu’r wlad allan o ddirwasgiad; yr hyn na wnaeth oedd atchwyddo’r economi. Cefnogai Hoover ddatblygiadau cyhoeddus newydd, ond nid oedd digon ohonynt. Felly yn awr mae gan Brydain Lywodraeth i’r dde o Herbert Hoover. Sut y daeth America allan ohoni? Drwy ethol Franklin Delano Roosevelt, nid comiwnydd, Trotscïad na dyn yr ystyrid ei fod ar yr asgell chwith hyd yn oed yn y byd ar y pryd; heddiw, mae’n debyg y byddai, gan fod y byd wedi symud gryn dipyn o ffordd i’r dde. Ac fe atchwyddodd yr economi—un enghraifft oedd prosiect dyffryn Tennessee. Roedd angen yr ail ryfel byd ar y Torïaid i atchwyddo economi Prydain drwy fod y Llywodraeth yn benthyca’n sylweddol i dalu am yr ail ryfel byd. Roedd yn rhaid talu am y benthyca a wrthodwyd ganddynt yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd, a fyddai wedi atchwyddo’r economi, yn ystod y rhyfel. Rwy’n siŵr fod y Ceidwadwyr yn edrych at y 1930au fel cyfnod o reolaeth Dorïaidd ddi-dor. Mae Llafur, a Phlaid Cymru rwy’n siŵr, yn edrych arno fel cyfnod o dlodi ac anobaith i lawer a oedd yn byw yng Nghymru.

Nid oes gennyf amser i esbonio sut y cynorthwyodd Cynllun Marshall i ailadeiladu economi gorllewin Ewrop. Gan droi at Lywodraeth gref a chadarn, rwy’n meddwl mai’r dyn sy’n siarad fwyaf am Lywodraeth gref a chadarn yw’r Arlywydd Erdogan, arlywydd Twrci; mae’n credu’n gryf mewn Llywodraeth gref a chadarn. Byddai rhai’n meddwl nad yw ei syniad ef o gryf a chadarn yn arbennig o debyg i’r math o Lywodraeth yr hoffem ei chael. Yr hyn sydd gennym yw Prif Weinidog Torïaidd sy’n gryf gyda’r gwan ac yn wan gyda’r cryf. Theresa May yw’r person lleiaf addas i fod yn Brif Weinidog ers Neville Chamberlain, ac fe weithiodd hynny’n dda, oni wnaeth? Yr hyn rydym ei eisiau yw arweinyddiaeth ar gyfer y wlad gyfan, nid i’r cyfoethog a’r grymus yn unig; parodrwydd i drafod, nid i droi cefn ar ddadleuon arweinwyr; a pharodrwydd i egluro, nid i sloganeiddio. Mae’r arweinwyr gorau bob amser wedi gwrando. Bydd yr arweinwyr gorau bob amser yn gwneud hynny.

Yn olaf, ar yr economi, nid wyf yn siŵr beth sydd dristaf, y rhai ar feinciau’r Ceidwadwyr sy’n gwybod bod angen atchwyddo’r economi ond a fydd yn pleidleisio dros y cynnig hwn, neu’r rhai nad ydynt.

Mae’r ddadl hon y prynhawn yma yn gyfle i dynnu sylw at y trawsnewid sydd wedi digwydd yn economi’r Deyrnas Unedig, diolch i bolisïau’r Llywodraeth Geidwadol. Gwastraffodd Llafur 13 mlynedd mewn grym a gadael etifeddiaeth economaidd ddigalon ar ei hôl. Credaf fod yn rhaid bod Adam Price yn cofio’n iawn yr hyn y mae newydd ei weiddi’n glir ac yn uchel iawn, gan ddweud wrth y Siambr hon am y gofid a’r gwae sy’n digwydd yn awr. Roedd Prydain wedi dioddef y dirwasgiad gwaethaf ers y rhyfel dan law’r Llywodraeth honno a Llafur yn Llundain, nid dan law ein plaid ni. Roedd y wlad yn benthyca £150 biliwn y flwyddyn ar y pryd. Roedd diweithdra wedi cynyddu bron i 0.5 miliwn. Etifeddiaeth o ddyled, dirywiad ac anobaith oedd un Llafur. Dyna oedd eu hetifeddiaeth pan ddaethom i rym yn Llundain. Diolch i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol, mae hanfodion yr economi’n gryf.

Y llynedd, tyfodd ein heconomi’n gyflymach na holl economïau gwledydd datblygedig eraill y byd, ar wahân i’r Almaen. Uwchraddiodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolwg o dwf y DU ar gyfer 2017 i 2 y cant o 1.24 y cant ers mis Tachwedd diwethaf. Mae honno’n dipyn o gamp. Mae cyflogaeth yn uwch nag erioed. Mae 2.8 miliwn yn uwch ers i Lafur fod mewn grym. Dyna 2.8 miliwn o bobl sydd â sicrwydd o ddod â phecyn cyflog rheolaidd adref i edrych ar ôl eu plant a’u teuluoedd. Dyna dwf economaidd. Rydym wedi torri’r diffyg ariannol bron i ddwy ran o dair. Nid fi sy’n dweud hynny; dyna ffigurau rhagolygon economaidd y byd a welwn. Peidiwch ag ysgwyd eich pen; mae hyn yn wir. Mewn arian parod, mae’r diffyg i lawr o £150 biliwn pan ddaethom i rym i ychydig dros £51 biliwn heddiw. Dangosodd arolwg ym mis Ebrill fod gweithgarwch y sector gweithgynhyrchu yn y DU wedi tyfu ar ei gyflymaf dros y tair blynedd diwethaf. Canfu’r arolwg hefyd fod archebion newydd yn cael eu derbyn ar y gyfradd gyflymaf ers mis Ionawr 2014. Y sector gwasanaeth yw oddeutu tair rhan o bedair o economi’r DU. Tyfodd gweithgaredd yn y sector hwn yn gynt na’r disgwyl ym mis Mawrth eleni. Mae allforion yn cynyddu ac mae’r bwlch masnach yn culhau. Dyna ble mae’r economi’n tyfu gyda pholisi Llundain.

Adam Price a gododd—

Arhoswch funud. Nid yw penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhwystro buddsoddiad tramor, gan fod cwmnïau’n dymuno manteisio ar ein heconomi gref a chadarn. Dewch, Adam.

A yw’n derbyn ffigurau ei Lywodraeth ei hun a ddyfynnais fod allbwn fesul gweithiwr yng Nghymru a sawl rhan o’r DU yn dal i fod yn awr mewn gwirionedd, yn y ffigurau diweddaraf, yn is nag yn 2007 pan gafodd ei ethol yn AC Plaid Cymru?

Adam, yr hyn rwy’n ei ddweud yw hyn: peidiwch â chymysgu orennau â—. Mae ein heconomi yng Nghymru, mewn gwirionedd—rydym wedi cael arian gwahanol gyda fformiwla Barnett. Mae ein Llywodraeth yno i ateb. Mae’r rhan fwyaf o’n heconomi yn cael ei rheoli gennym ni yma hefyd. Ni ddylech feio Llundain. Eich addysg, trafnidiaeth, iechyd—enwch unrhyw beth. Ugain maes sydd wedi’u datganoli, nid oes yr un ohonynt wedi cyrraedd y lefel rydych yn ei dyfynnu ar gyfer y rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Maent wedi cyflawni’n well na ni, ac mae’n fater ohonoch chi a hwythau, nid ni sydd wedi bod yn rheoli ein heconomi ers 1999 mewn gwirionedd.

Mae Qatar yn wlad fach, a bellach maent yn gwario £5 biliwn yn y tair blynedd nesaf yn y rhan hon o’r byd. Pam? Oherwydd eu bod yn gallu gweld y twf economaidd yn dod. Mae Google wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £1 biliwn mewn pencadlys newydd yn Llundain a allai greu 3,000 o swyddi newydd erbyn 2020. Mae Toyota, Jaguar, Land Rover a McLaren oll wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer buddsoddiad o £1 filiwn mewn ffatri weithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Wedi manteisio ar y cyfle yno, Adam. Wrth i ni i gyd adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Prydain yn parhau i fod ar agor i’r byd i gyd ar gyfer busnes. Rydym i gyd yr un fath. Rydym yr un wlad eangfrydig, hyblyg a dynamig sy’n meddwl yn fyd-eang ag y buom erioed ac rydym bob amser yma i wneud yn siŵr fod y byd yn dod i fasnachu gyda ni a byddwn yn masnachu â hwy. Nid Ewrop yw’r unig ran. Ar y pwynt hwn, mae’n rhaid i mi sôn am Jeremy Corbyn—[Torri ar draws.]

Rhywbeth y methodd y Prif Weinidog ei wneud wrth lansio ei ymgyrch ddydd Llun. Ni allwn ganiatáu—[Torri ar draws.]

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Aelod cryf a gweddol gadarn o’r Cynulliad hwn, rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Roedd yn ddigon teg fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi canolbwyntio ar gynnig y Blaid Lafur i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol. Wrth gwrs, mae Canghellor yr wrthblaid yn Farcsydd addefedig, ond rwy’n meddwl bod y polisi hwn yn fwy dyledus i Groucho nag i Karl. Rwy’n cofio bod Groucho Marx wedi dweud mai gwleidyddiaeth yw’r grefft o chwilio am drwbl, ei gael ym mhob man, gwneud diagnosis anghywir ohono, cyn darparu’r feddyginiaeth anghywir. A dyna’n union y mae polisi economaidd y Blaid Lafur yn ei wneud. Fodd bynnag, efallai y byddai mwy o rym i bwynt Andrew R.T. Davies pe na bai am hanes George Osborne fel Canghellor y Trysorlys, lle benthycodd fwy hyd yn oed na’r £500 biliwn y mae Llafur yn awr yn argymell ei wario. Yn wir, fe ddyblodd y ddyled genedlaethol yn y blynyddoedd ers 2010, a benthyciodd £850 biliwn, a’r flwyddyn diwethaf—2016—cynyddodd y ddyled genedlaethol £91.5 biliwn. Dyna £250 miliwn y dydd ac mae bellach yn gyfystyr â £26,000 ar gyfer pob person yn y Deyrnas Unedig. Mae’r llog a dalwn ar y ddyled genedlaethol yn gyfystyr â £40 biliwn y flwyddyn erbyn hyn, sydd bron mor fawr â’r gyllideb amddiffyn yn ei chyfanrwydd. Dyma beth y mae’r Blaid Lafur bob amser yn ei anghofio, wrth gwrs, fod yn rhaid ariannu’r ddyled genedlaethol ac yn y pen draw mae’n rhaid ei had-dalu. Gwnaf, fe ildiaf i’r Aelod.

Diolch, Neil Hamilton, am ildio. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud bod y ddyled genedlaethol, wrth gwrs, wedi cynyddu ers 2010, ond y diffyg oedd y pwynt. Mae’r diffyg wedi cael ei leihau, ac roedd y Canghellor George Osborne bob amser yn onest am y ffaith y byddai’n cymryd amser hir i droi’r llong fawr hon o gwmpas. Ni allwch wneud hynny dros nos, oni bai eich bod am achosi difrod enfawr i’r economi.

Mae’n sicr yn wir ei bod yn cymryd amser hir i glirio’r diffyg, ac mae’r Canghellor presennol newydd ymestyn y dyddiad y mae’n honni y byddwn yn dychwelyd i warged i 2025, neu wedi hynny o bosibl, felly nid oes gennyf lawer o hyder y bydd cangellorion Ceidwadol yn y ffrâm honno o feddwl yn gwireddu eu rhethreg.

Ond rhaid i mi ddweud nad yw Plaid Cymru yn cynnig unrhyw ateb i’r broblem hon chwaith, oherwydd, wrth gwrs, pe bai Cymru’n dod yn annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig, byddai yna ddiffyg ariannol anferth i’w leihau. Ac nid oes unrhyw ffordd y gellid gwneud hynny heb greu crebachiad enfawr yn economi Cymru, a fyddai’n achosi crebachiad mwy nag y mae Gwlad Groeg wedi’i brofi ers i’r argyfwng ariannol ddechrau, oherwydd gŵyr pawb ohonom fod Llywodraeth Cymru—. Mae pawb ohonom yn cofio bod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhoi ffigurau inni y llynedd, fod yna ddiffyg ariannol o £15 biliwn y flwyddyn yma a bod gwariant y Llywodraeth £15 biliwn yn fwy nag y gellid ei godi o drethi yng Nghymru. Mae hynny’n cyfateb i 24 y cant o economi Cymru. Ni allwch, yn yr amgylchiadau hynny, gyflwyno cynlluniau mawreddog ar gyfer gwariant ar brosiectau cyfalaf neu unrhyw bethau eraill y byddem i gyd yn hoffi gwario arian arnynt os nad yw’r arian gennych ac os nad oes gennych fodd o fenthyg. Yn sicr, ni fydd gennych fodd i fenthyg byth os na allwch gynhyrchu cynllun credadwy ar gyfer sut rydych yn mynd i’w dalu’n ôl. Ildiaf i Mike Hedges.

Oni fyddech yn derbyn bod benthyca ar gyfer cyfalaf yn hollol wahanol i fenthyca ar gyfer refeniw? Mae’n cyfateb i gael morgais i brynu tŷ a benthyca i dalu am y bil bwyd.

Rwy’n cytuno, wrth gwrs, yn amlwg, os yw prosiect cyfalaf yn fasnachol hyfyw, yna mae’n werth ei wneud. Y drafferth gyda chymaint o brosiectau cyfalaf y Llywodraeth yw nad ydynt yn hyfyw. Rydym wedi gweld cymaint o ffiasgos mewn cymaint o feysydd fel nad wyf yn credu bod hwnnw’n mynd i fod yn bolisi credadwy iawn ar gyfer gwario £500 biliwn.

O ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel y soniodd Adam Price yn gywir ddigon yn y ddadl hon, byddwn yn cael llawer o ryddid, wrth gwrs, i gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant economi Cymru fel rhan o economi fwy cynhyrchiol y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, ceir difidend Brexit o’r arian a dalwn i Frwsel, sef cyfanswm o tua £8 biliwn y flwyddyn, a fydd ar gael naill ai ar gyfer lleihau diffyg neu i’w wario ar y gwasanaeth iechyd gwladol neu beth bynnag. Mae llawer o welliannau eraill yn y ffordd y bydd yr economi’n gweithredu a allai ddeillio o’r rhyddid a fydd gennym i ddyfeisio drosom ein hunain y systemau rheoleiddio sy’n berthnasol yn y wlad hon, systemau y gellir eu teilwra i anghenion economi’r Deyrnas Unedig ac yn wir, economi Cymru.

Mae UKIP yn cychwyn yr ymgyrch etholiadol hon, fel yn wir y cychwynnodd ei ymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai diwethaf a’r etholiad cyffredinol yn ôl yn 2015, drwy gynnig ein bod yn cael toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus mewn rhai meysydd er mwyn dargyfeirio’r arian i rywle arall. Hoffem dorri £8 biliwn oddi ar y gyllideb cymorth tramor er mwyn ei ddargyfeirio i brosiectau gwerth chweil fel y gwasanaeth iechyd yn y cartref. Hoffem dorri £300 y flwyddyn oddi ar filiau trydan pobl drwy gael gwared ar drethi gwyrdd sy’n cynhyrchu’r fforestydd o felinau gwynt o gwmpas y wlad. Ond yn bennaf oll, drwy reoli mewnfudo, byddem yn cyfyngu ar gywasgu cyflogau, sydd wedi effeithio’n andwyol ar y rhai sydd ar waelod y raddfa incwm. Gwnaeth Banc Lloegr astudiaeth yn 2015 sy’n dangos, am bob cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr mewn sector economaidd, roedd cyflogau sector gwasanaeth lled-grefftus a heb sgiliau yn gostwng 2 y cant. Felly, y bobl sydd wedi teimlo gwasgfa mewnfudo torfol o ddifrif yw’r rhai na allant fforddio ymdopi ag ef.

Roedd Adam Price yn hollol iawn i dynnu sylw—fy mhwynt olaf yn yr araith—at y ffaith fod cyflogau Cymru yn 75 y cant o’r cyfartaledd cenedlaethol yn y DU. Mae tlodi yng Nghymru yn warthus. Rydym yn un o ardaloedd tlotaf yng ngorllewin Ewrop, ac mae angen i ni ddefnyddio’r rhyddid newydd a gawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn trawsnewid economi Cymru o fod yn anialdir y Deyrnas Unedig i fod yn ucheldir eang a heulog y dyfodol.

Nod y ddadl hon heddiw yw tynnu sylw at yr angen i sicrhau’r cynnydd economaidd ardderchog y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’i wneud ers dod i rym, ac nid ydym am weld dim yn peryglu hwnnw. Wrth gwrs, Theresa May a Llywodraeth y DU sydd â’r cynllun i hybu ffyniant economaidd drwy broses Brexit a thu hwnt.

Ond mae problemau gyda’r economi yma yng Nghymru: gwyddom fod enillion wythnosol yn dal i fod yn is na’r tair gwlad arall; mae gwerth ychwanegol gros Cymru yn dal i fod yn 71 y cant o gyfartaledd y DU; ac mae’r gyfradd gyflogaeth yn is nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru fawr o hygrededd economaidd ar ôl, ddywedwn i, wedi cyfres o fethiannau buddsoddi, ac nid wyf yn meddwl eu bod wedi cael eu crybwyll heddiw—Triumph Furniture, Kancoat, Newsquest, cronfa buddsoddi Cymru ar gyfer adfywio, i enwi rhai yn unig. Byddai llawer yn bryderus wrth weld y Prif Weinidog yn cymeradwyo ymagwedd economaidd Jeremy Corbyn yn ddiweddar, fel yr amlygwyd yn ein cynnig a chan arweinydd yr wrthblaid yn y sylwadau agoriadol i’r ddadl hon.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi—. Mae’r diffyg wedi gostwng bron i ddwy ran o dair, mae cyflogaeth wedi codi 2.8 miliwn, mae twf yn 1.8 miliwn mewn termau real, yn ail yn unig i’r Almaen, ac nid oes rhaid i’r rhai ar y cyflogau isaf dalu treth incwm o gwbl, a cheir cyflog byw cenedlaethol newydd. Y rhagolwg presennol yw y bydd economi’r DU yn tyfu 2 y cant eleni, a rhagwelir y bydd cyflogau’n codi bob blwyddyn hyd at 2021. Ac wrth gwrs, pan adawodd Gordon Brown ei swydd, onid yw’n ddiddorol fod ansawdd seilwaith y DU ar safle 33 ar draws y byd, o dan wledydd fel Namibia a Slofenia? Yn awr, diolch i’r camau y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’u cymryd, rydym yn seithfed yn y byd. Rydym bellach yn cefnogi prosiectau mawr yng Nghymru, wrth gwrs, fel y gwyddom, megis cytundebau dinesig Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â chytundeb gogledd Cymru.

A all gadarnhau y bydd y maniffesto Ceidwadol yn ymrwymo i’r morlyn llanw ym mae Abertawe?

Wel, nid wyf yn rhan o’r trafodaethau ar y maniffesto Ceidwadol, ond roedd maniffesto’r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn rhoi’r ymrwymiad hwnnw, ac yn gwneud yr ymrwymiad hwnnw, wrth gwrs, yn ôl yn etholiad cyffredinol 2015. Yn yr hydref, cyhoeddodd y Canghellor y bydd yn darparu—. Cyhoeddodd y bydd yn darparu £400 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario hwnnw ac yn blaenoriaethu hwnnw ar drafnidiaeth, seilwaith digidol, tai, ac ymchwil a datblygu. Oherwydd gwyddom y byddai buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth yn creu seilwaith o’r radd flaenaf a bydd hynny’n arwain, wrth gwrs, at swyddi gwell a chyflogau gwell. Mae gennym broblemau cysylltedd enfawr ledled Cymru ac mae’n rhwystr i economi Cymru. Rwy’n gwybod yn iawn am hynny yn fy etholaeth fy hun. Mae angen technolegau newydd arnom i’w gwneud yn haws i gwmnïau tramor fasnachu yma, gan gynnwys datblygu a buddsoddi mewn technoleg ddigidol megis band eang a thechnoleg symudol. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol ar waith, i wneud Cymru’n lle cryfach, tecach, a mwy llwyddiannus—

Mewn munud. Mewn munud. Ond rydym yn—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Ond rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei strategaeth economaidd dros flwyddyn—dros flwyddyn—ar ôl ei haddo, ac wrth gwrs, caiff dur ei grybwyll yn helaeth yn y ddogfen honno yn ogystal. Rwy’n gobeithio y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet newyddion i ni heddiw am ei gynlluniau ar gyfer ei strategaeth economaidd. Mae Prif Weinidog Cymru yn parhau i feio, i roi’r bai ar Lywodraeth y DU, wythnos ar ôl wythnos, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau yn ei dwylo ei hun i wneud penderfyniadau yma, pwerau nad yw’n eu defnyddio. Felly, mewn ymateb i’r ddadl hon heddiw, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd yn ymgysylltu’n adeiladol gyda’i gymheiriaid yn y DU er mwyn sicrhau y bydd potensial llawn strategaeth ddiwydiannol y DU yn cael ei wireddu yma yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Geidwadol y DU weledigaeth ar gyfer Cymru fodern, lwyddiannus, uchelgeisiol sy’n sicrhau bod pob rhan o’r DU yn gweithio hyd eithaf ei gallu, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannu’r un uchelgais.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon yn y Siambr heddiw. Heddiw, mae’r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y DU oddeutu 1.5 y cant. Cyn y dirwasgiad roedd yn 3 y cant. Ar ddechrau datganoli, roedd yn 6 y cant. Mae wedi haneru a haneru eto, ac o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf, yn erbyn cefndir y dirwasgiad a blynyddoedd o gyllidebau caledi, mae’n amlwg fod economi Cymru wedi perfformio’n dda—nid ar gyfer yr ychydig, ond ar gyfer y lliaws. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael llwyddiant amlwg—llwyddiant amlwg a hanes o ddarparu dros dymor y Cynulliad diwethaf. Ac ers datganoli, mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ond pedwar o gymharu â holl genhedloedd a rhanbarthau’r DU yn ei gwerth ychwanegol gros ers datganoli.

Ar adeg y cwymp economaidd, pan ostyngodd hyder yn yr economi a phan ddechreuodd cwmnïau ddiswyddo pobl, yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ochr yn ochr â busnesau, undebau, a phartneriaid eraill, a luniodd raglenni ProAct a ReAct. Y gwaith a wnaethom a ataliodd fwy na 15,000 o bobl ifanc rhag profi diweithdra, oherwydd ein bod wedi cyflwyno Twf Swyddi Cymru. Ac yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, cafodd bron i 150,000 o swyddi eu cynnal drwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gyda llawer mwy mewn rhwydweithiau cadwyni cyflenwi lleol. Er mwyn parhau i gyflawni’r llwyddiant hwn, rydym wedi nodi ein blaenoriaethau yn ein rhaglen lywodraethu. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi gweledigaeth o ffyniant i bawb, drwy greu Cymru sy’n fwy ffyniannus a diogel, Cymru sy’n fwy unedig a chysylltiedig, yn fwy egnïol, yn fwy uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn fwy cysylltiedig.

Dirprwy Lywydd, mae caledi a orfodwyd gan Lywodraeth y DU wedi parhau bellach ers saith mlynedd, ac eto benthyciodd y Torïaid—

Ac eto benthyciodd y Torïaid—. Fe wnaf mewn munud. Ac eto benthyciodd y Torïaid fwy yn y Llywodraeth ddiwethaf na phob Llywodraeth Lafur arall mewn hanes wedi’u cyfuno.

Rwy’n ystyried hynny’n eironig. Un funud rydych yn lladd arnom am galedi, a’r funud nesaf rydych yn dweud ein bod yn benthyca gormod, ydych, yn y fan honno, ond clywsom gan y prif siaradwr ar ran Plaid Cymru am Gymru nad yw’n debyg mewn unrhyw fodd i’r Gymru roeddech chi’n sôn amdani, Ysgrifennydd y Cabinet. Pwy sy’n iawn? Chi neu ef?

Byddwn yn cytuno ag Adam Price am gydraddoldeb rhanbarthol ar draws y DU, a dyna pam yr ydym wedi bod yn glir wrth amlinellu ymyrraeth yng Nghymru a fydd yn seiliedig ar atebion yn ymwneud â llefydd ar lefel ranbarthol, gan greu economïau rhanbarthol cryf i ledaenu’r cyfoeth mewn modd dilys, rhywbeth y dylai Torïaid y DU edrych arno. Mae’r Aelod yn sôn am fenthyca gormod. Roedd y Llywodraeth Dorïaidd rhwng 2010 a 2015 wedi benthyg mwy na £500 biliwn, a beth oedd ganddynt i’w ddangos amdano? Wel, gadewch i ni edrych ar yr hyn oedd ganddynt i’w ddangos amdano: y dreth ystafell wely—rhoesant dreth ystafell wely i ni, oni wnaethant? A’r dreth ar basteiod. A gofiwch y dreth ar basteiod? Maent bellach wedi gwneud llanast o drethi ar gyfer pobl hunangyflogedig. Rhoesant dreth y pen anfad i ni yn y gorffennol, wrth gwrs. A wyddoch chi beth y mae pobl yn eu galw yn Ne Clwyd? Taxastrophe Tories. Dyna beth ydynt. Maent yn feistri ar dreth ar werth uwch. Hwy a bedlerodd y dreth ar damponau. Ni allwch ymddiried yn y Torïaid gyda threthi nac arian cyhoeddus.

Dirprwy Lywydd, mae’n hollol amlwg o’n galwadau ar Lywodraeth y DU fod yn rhaid i galedi ddod i ben. Mae angen ysgogiad ariannol arnom i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac i gynyddu buddsoddiad ar gyfer gweithgareddau economaidd mawr eu hangen, yn enwedig yn awr gan ein bod yn wynebu her ddigynsail sy’n galw am ymateb digynsail. Argymhellwyd buddsoddi mewn seilwaith gan ystod eang o gyrff, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud dro ar ôl tro fod tanfuddsoddi wedi bod yn y seilwaith dros flynyddoedd o Lywodraethau Torïaidd, ac mae’n rhaid rhoi sylw i hynny. Y cyngor gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd oedd i wledydd fanteisio ar gostau benthyca isel i ariannu buddsoddiad cyhoeddus. Mae buddsoddi yn y seilwaith yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, gan adlewyrchu tystiolaeth fod seilwaith da’n allweddol i ddatblygiad economaidd, yn ail yn unig i sgiliau uwch. Rydym wedi anfon neges glir i’r farchnad fod Cymru’n agored i fusnes, gydag ymrwymiad i ffrwd o bartneriaethau cyhoeddus-preifat mawr. Mae’r ffrwd yn cynnwys cwblhau gwaith deuoli ar yr A465, adeiladu cyfleuster gofal canser arbenigol, a chyfran ychwanegol o fuddsoddiad yng nghyfnod nesaf y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Dirprwy Lywydd, mae ein record o gefnogi 150,000 o swyddi yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, o ymladd am ddyfodol i’r diwydiant dur, o atal mwy na 15,000 o bobl ifanc rhag profi diweithdra, o sicrhau mewnfuddsoddiad mwy nag erioed, yn dangos y bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros fuddiannau Cymru.

Diolch. Wel, os nad oeddech yn ymwybodol fod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn arweinyddiaeth gref a chadarn cyn y ddadl hon, rydych yn gwybod hynny bellach, ac mae ein cynnig a’r cyfraniadau a wnaed heddiw, yn sicr o’r ochr hon i’r Siambr, wedi ailadrodd yr angen i’r arweinyddiaeth honno yn y DU barhau y tu hwnt i 8 Mehefin. Nawr, wrth gwrs, er bod Plaid Lafur Jeremy Corbyn yn creu bygythiad go iawn i economi a lles y DU, nid yw o reidrwydd yn golygu y dylid paentio Llywodraeth Lafur Cymru â’r un brwsh. Mae’n debyg mai chi yw’r rhan fwyaf synhwyrol o’r Blaid Lafur sydd ar ôl yn y DU. Nid yw honno’n ganmoliaeth fawr, fe wn, ond cymerwch hi yn yr ysbryd y’i bwriadwyd. Mae’n eironig iawn mai gwaith Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer seilwaith, Ken Skates, oedd amddiffyn Jeremy Corbyn—nid yr Aelod mwyaf Corbynaidd ar y fainc flaen, ond dyna ni. Gwerthfawrogais yr eironi, Ken.

Gallwch ddychmygu ein siom pan gymeradwyodd y Prif Weinidog y cynnig i fenthyg £500 biliwn ychwanegol. Byddai cynnydd o £500 biliwn i’r gofyniad benthyca sydd gan Brydain ar hyn o bryd yn gyfan gwbl wallgof. Cofiwch, gallwch weld efallai fod Plaid Lafur y DU bellach yn teimlo bod yn rhaid iddynt fabwysiadu polisïau cyllidol gwallgof o’r fath er mwyn ariannu eu rhestr gynyddol o ymrwymiadau gwariant heb eu hariannu—rhestr wariant a fyddai’n creu risg o suddo’r economi, pe bai’n cael ei gweithredu, yn y glymblaid o anhrefn rydym wedi siarad cymaint o weithiau amdani heddiw. A phe bai’r sefyllfa honno’n digwydd i economi’r DU, diolch i Blaid Lafur y DU, Llywodraeth Cymru yn y fan hon a fyddai’n dioddef yn y pen draw, pa bynnag liw gwleidyddol fydd i honno. Oherwydd os oes gennych bolisi cyllidol heb ei reoli a gofyniad benthyca heb ei reoli’n cynyddu dros y blynyddoedd i ddod, yna ni fyddai gennych arian i’w wario, yn y pen draw, gan na fyddai’r arian yn cael ei gynhyrchu ar draws lefel y DU i ddod yma i’ch cynnal.

A all ddweud wrthyf ar sawl achlysur yn y 100 mlynedd diwethaf y mae’r DU wedi bod â gwarged ac wedi bod heb unrhyw ddyled genedlaethol o gwbl?

Mae dyled yn rhan bwysig, yn arf cyllidol pwysig, ac rydym wedi bod mewn dyled. Ond rydych yn mynd yn ôl i’r 1990au, pan oedd y diffyg oddeutu £20 biliwn, ac rydych yn edrych ar yr adeg pan adawodd y Blaid Lafur yn 2010, pan oedd ymhell dros £150 biliwn. Felly, yn amlwg, mae wedi bod ar lwybr tuag i fyny ac mae angen ei reoli. Gan fod Plaid Cymru wedi dod i mewn i’r ddadl hon, a gaf fi ddweud—? Nid oes gennyf lawer o amser, ond fe ddywedaf hyn: Adam Price, fe siaradoch yn angerddol, ond roeddech yn ymddangos yn awyddus i feio’r blaid Geidwadol am holl broblemau Cymru. Wel, Adam, nid y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ers 100 mlynedd. Ac rydych yn gwybod hynny yn eich calon. Nid y Ceidwadwyr oedd yn dominyddu Prydain rhwng 1997 a 2010, pan gynhyrchwyd cymaint o’r ddyled hon yn y lle cyntaf a’n gadael yn y sefyllfa hon. Ac nid fy mhlaid i yn y fan hon, fy ngrŵp yma, a fu’n dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ac yn dominyddu’r Cynulliad hwn ers dyfodiad datganoli yn 1997. Pleidiau eraill a fu’n llywyddu dros hyn. Felly, os oes gennych broblemau gyda’r olwg sydd ar Gymru heddiw—ac rwy’n deall bod gennych—yna peidiwch ag edrych draw ar yr ochr hon i’r Siambr am y broblem. Edrychwch yma am yr atebion, ond nid am y broblem, gan fy mod yn gwybod ble mae honno.

Wel, mae’r ymateb yn eithaf syml, onid yw? Maent wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 100 mlynedd. Am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw yn San Steffan, rydych wedi bod mewn grym. Rydych yn gyfrifol am gyflwr ofnadwy ein heconomi a’n cymdeithas fel cenedl. Cywilydd arnoch.

Ac roedd Plaid—[Torri ar draws.] Ac roedd Plaid Cymru yn rhan o’r Llywodraeth honno yng Nghymru rhwng 1999 a—[Anghlywadwy.]

[Anghlywadwy.]—thros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae’n drueni fod Plaid Cymru’n dewis ymosod ar y Blaid Geidwadol er nad hi sydd i’w beio. Gadewch inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddarparu arweinyddiaeth gref a chadarn ar gyfer y DU.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio yn awr. Iawn, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru ar breifateiddio’r GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 33, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 11, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6303.

Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fenthyca a’r economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, un yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 33, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6302.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 25, neb yn ymatal—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 0, Ymatal 22.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6302.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y byddai Cymru a’i heconomi’n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy’n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o’r wlad.

2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.

3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o’i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru’n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.

4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a’r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi’u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.

5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.

6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy’n nodi cynlluniau wedi’u prisio ar gyfer:

a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;

b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;

c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;

d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;

e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;

f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni’n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.

Agorwch y bleidlais. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi, nid yw’r bleidlais wedi cael ei chyhoeddi, os gwelwch yn dda. Os ydych am i’ch pleidlais gael ei chario—[Torri ar draws.] Na, yn eich sedd, os gwelwch yn dda. A yw pawb sydd am bleidleisio wedi pleidleisio? Iawn, caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 22, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd.

9. 9. Dadl Fer: Ailadeiladu Bywydau drwy Chwaraeon Cymunedol

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno’r pwnc y mae wedi’i ddewis.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis defnyddio fy nadl fer heddiw i dynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a wneir gan elusen nad oes llawer yn gwybod amdani yn fy rhanbarth, Bulldogs Boxing & Community Activities. Mae’r Bulldogs yn defnyddio grym bocsio i gynnwys, addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Cymru, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arbennig, drwy raglen datblygiad personol eang ag iddi bum piler. Mae canolfan bocsio a datblygu cymunedol Bulldogs wedi’i lleoli ym Maglan ac mae’n ysbrydoli, yn ysgogi ac yn rhyfeddol o’r eiliad y byddwch yn cerdded i mewn. Mae’n ganolfan o gyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd ar adeg pan fo llawer o gyfleusterau eraill, yn arbennig gwasanaethau sector cyhoeddus, yn cau. Daw â phobl at ei gilydd a gwneud gwahaniaeth eithriadol a pharhaol i fywydau pobl leol. Dyma’r ganolfan gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n aelod o barnteriaeth alumni byd-eang Fight for Peace sy’n defnyddio bocsio a chrefft ymladd wedi’u cyfuno ag addysg a datblygiad personol i wireddu potensial pobl ifanc mewn cymunedau yr effeithir arnynt gan droseddu a thrais.

Mae rhaglen bum piler Bulldogs yn agored i bawb yn y gymuned. Mae’n rhaglen datblygiad personol gyfun-cydwedd a gynlluniwyd i weddu i unigolion. Gellir dilyn bob un o’r pileri ar unrhyw adeg, gan ddefnyddio cymaint neu gyn lleied ag y bo angen o gymorth. Mae’r rhaglen yn agored i bobl gyflogedig a di-waith ble bynnag y maent yn byw. Prif ffocws Bulldogs yw pobl o dan 30 oed, er bod cefnogaeth ar gael ar gyfer pobl o bob oed. Daw llawer o’r bobl hyn o gefndiroedd difreintiedig, ac mae’r Bulldogs yn credu y gall pob unigolyn lwyddo gyda’r arweiniad, y gefnogaeth a’r ysgogiad cywir, sydd i’w cael o fewn y pum piler.

Mae’r rhaglen bum piler yn gynllun gweithredu a ddewisir gan y bobl eu hunain ac mae’n cynnwys: datblygiad personol, sy’n defnyddio mentora ac ysgogiad i helpu i feithrin hyder, ac sy’n dysgu sgiliau bywyd a gwerthoedd craidd drwy annog unigolion i wirfoddoli; mynediad agored, sy’n galluogi pobl ifanc i ddefnyddio’r gampfa a chlybiau ar ôl ysgol am ddim; addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, sy’n cynnig cymorth cyflogaeth, gan gynnwys hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd a mynediad at gyflogwyr lleol a lleoliadau gwaith; ffitrwydd a bocsio i weddu i bob lefel ffitrwydd a sgiliau; a gwasanaethau cymorth, sy’n dod ag asiantaethau lluosog ynghyd.

Mae’r rhaglen bum piler wedi’i haddasu i weithio gyda grwpiau penodol yn ychwanegol at brif grŵp targed y Bulldogs, sy’n cynnwys llwybr cyflogadwyedd Bulldogs—partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Maent yn darparu cymorth cyflogaeth a hyfforddiant helaeth drwy eu piler cyflogadwyedd pwrpasol. Mae hon yn gangen lwyddiannus iawn o’r Bulldogs ac yn tyfu o un wythnos i’r llall, gyda llwyddiant ar gyfer pobl o bob oed. Lles Bulldogs: rhaglenni ymarfer corff a maeth wedi’u teilwra i greu cymuned iachach. Mae hyn yn rhywbeth i bawb yn Bulldogs, gan ddechrau o’r math mwyaf sylfaenol o ymarfer corff hyd at raglen ddwys. Sesiynau galw heibio Bulldogs/Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA) ar gyfer y lluoedd arfog: dull amlasiantaeth yw hwn i helpu’r rhai sydd wedi gwasanaethu neu sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Maent hefyd yn helpu pobl ifanc i ddod yn aelodau o’r lluoedd arfog drwy eu llwybr cyflogadwyedd. Grŵp LACES Bulldogs: partneriaeth â gwasanaethau addysg plant sy’n derbyn gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot er mwyn newid sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Troseddwyr ifanc: partneriaeth â chyfiawnder ieuenctid Bae’r Gorllewin, gan greu strategaethau ymadael ar gyfer troseddwyr ifanc, a defnyddio disgyblaeth bocsio er mwyn helpu i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol.

Mae’r Bulldogs yn darparu llwyfan i dros 30 o sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu cyfle teg mewn bywyd ar gyfer y cenedlaethau nesaf yn ardaloedd Port Talbot ac ardal bae Abertawe a’r cylch. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno bod eu gwaith yn wirioneddol drawiadol, fel y mae eu canlyniadau. Daeth y Bulldogs i fy sylw yn gyntaf oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud gyda SSAFA, yr elusen ar gyfer y lluoedd arfog. Ers gadael y fyddin, mae fy ngŵr wedi cefnogi SSAFA yn frwd iawn, ac mae’n helpu gyda gwaith i gynorthwyo cyn-filwyr i addasu i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mae hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma, a thrwy’r gwaith hwn daethom yn ymwybodol o gampfa Bulldogs.

Mae’r Bulldogs yn gweithio gyda phersonél y lluoedd arfog ac eraill sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, gan gynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i ddioddefwyr siarad â’i gilydd am eu profiadau, a chaniatáu iddynt weithio gyda’i gilydd i ymdopi â’r cyflwr. Mae’r Bulldogs yn gweithio gydag asiantaethau partner i gynorthwyo dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma. Mae astudiaethau wedi dangos y gall chwaraeon egnïol iawn megis bocsio helpu i reoli eu symptomau anhwylder straen wedi trawma, a chyda campfa Bulldogs, gall dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma gymryd rhan yn y chwaraeon hyn, yn ogystal phobl eraill sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae’r Bulldogs hefyd yn helpu rhai sydd wedi gwasanaethu neu sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog drwy gynnig sesiynau galw heibio ar gyfer y lluoedd arfog a chyn-filwyr.

Drwy ddod â phobl o’r un anian at ei gilydd, mae’r Bulldogs yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â’r cyfnod pontio i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mantais ychwanegol yw y gall cyn-filwyr yn y gampfa helpu pobl ifanc sy’n ystyried ymuno â’r lluoedd arfog. Daw llawer o’r bobl ifanc hyn o gefndiroedd difreintiedig ac mae’r Bulldogs yn eu helpu i gyflawni eu potensial llawn drwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad, ynghyd ag ysgogiad. Defnyddir y dull hwn hefyd i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth y system cyfiawnder ieuenctid. Profwyd bod y ddisgyblaeth y mae bocsio yn ei meithrin yn helpu i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar wahân i’r manteision hyn, cynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yw prif fudd campfa Bulldogs.

Fel y dywedais sawl gwaith, mae’n gywilydd cenedlaethol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc a phlant. Mae campfa Bulldogs yn cynnig mynediad am ddim i’r gampfa a’i chyfleusterau i bobl ifanc yn ystod y prynhawniau, yn ogystal â rhedeg clwb galw heibio ar ôl ysgol. Trwy gynnig y cyfleusterau hyn, mae Bulldogs yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng gordewdra’n uniongyrchol.

Mewn ymgynghoriad diweddar gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, amlygodd Cymdeithas Feddygol Prydain yr angen i gynyddu mynediad at weithgareddau chwaraeon—y cyfleoedd i ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn amcangyfrif bod cost anweithgarwch corfforol yng Nghymru oddeutu £650 miliwn y flwyddyn. Mae cyfleusterau megis y rhai a ddarperir gan Bulldogs yn galluogi’r gymuned leol i ymarfer corff mewn amgylchedd diogel sy’n cynnig cymorth. Maent yn gwneud hyn i gyd heb fawr o gymorth sector cyhoeddus, gan ddibynnu’n bennaf ar eu gweithgareddau elusennol.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Bulldogs am ddarparu’r cyfle hwn i fy etholwyr, ond fel ysgrifennydd yr wrthblaid UKIP dros iechyd a lles, rwyf am weld pobl yng ngweddill Cymru yn mwynhau manteision tebyg. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bulldogs Boxing & Community Activities i archwilio sut y gellir efelychu’r rhaglen ar draws y wlad.

Gadewch i ni sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at y rhaglen bum piler. Gadewch i ni roi llwybr i droseddwyr ifanc o bob rhan o’r wlad oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gadewch i ni helpu ein holl gyn-filwyr i ymdopi â phontio i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog, a gadewch i ni sicrhau bod y rhai sy’n byw yn ein trefi a’n dinasoedd yn cael mynediad at eu Bulldogs eu hunain. Diolch yn fawr. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Caroline am y disgrifiad o waith campfa Bulldogs. Mae gwaith y mathau hyn o grwpiau gweithgareddau cymunedol yn rhan bwysig iawn o wead ein cymdeithas. Rwy’n siŵr fod grwpiau o’r fath yn etholaethau a rhanbarthau pawb.

Yn fy rhanbarth i, mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd, er enghraifft, wedi’i lleoli yng nghaeau Pontcanna, ac wedi’i hamgylchynu gan 35 erw o barcdir. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn 1970 ac mae’n eiddo i, ac yn cael ei gweithredu gan gyngor Caerdydd fel rhan o’u darpariaeth hamdden ar gyfer y trigolion. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i gynnig amrywiaeth o wersi a chyrsiau am brisiau fforddiadwy ar gyfer plant, oedolion ac yn bwysig, ar gyfer marchogwyr anabl. Yn ogystal â sgiliau marchogaeth, mae marchogwyr anabl yn arbennig yn adeiladu ar eu gallu i symud, rheolaeth, sgiliau gwrando, cydsymud, hunan-gred a hyder.

Mae tua 40 o geffylau a merlod yn yr ysgol, a naw ohonynt yn geffylau sy’n eiddo i eraill, ceffylau hur, a rhai ohonynt yn cael eu defnyddio mewn gwersi, ceffylau hur sy’n gweithio. Mae’r gwasanaeth yn denu 35,000 o ddefnyddwyr y flwyddyn ar gyfartaledd. Cafodd y ganolfan ei chydnabod yn ddiweddar gan y Gymdeithas Marchogaeth i’r Anabl, a ddyfarnodd iddynt statws y marc hygyrchedd cyntaf yng Nghymru. Mae’r ganolfan hefyd wedi’i chymeradwyo gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae 10 o staff amser llawn yn y ganolfan, a gefnogir hefyd gan Gyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sy’n trefnu digwyddiadau codi arian hanfodol a diwrnodau agored. Hoffwn ganmol yr ysgol farchogaeth am y gwaith y mae’n ei wneud yn cynnal y gwasanaeth hanfodol hwn, yn enwedig ar gyfer marchogwyr anabl.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl—Rebecca Evans.

Diolch. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i ymateb i’r ddadl a diolch i Caroline Jones am arwain y ddadl hon heddiw, a hefyd am ddweud wrthym am waith da Bulldogs Boxing & Community Activities. Hefyd, diolch i Gareth Bennett am ddisgrifio peth o’r gwaith da a wneir gan Ysgol Farchogaeth Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision sicrhau bod cymunedau ledled Cymru gyfan yn dod yn fwy egnïol. Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a gwyddom fod hyn yn bendant yn rhan sylfaenol o greu cenedl iach ac egnïol.

Mae gan chwaraeon y pŵer i adfywio ysbryd cymunedol, gwella iechyd, meithrin hyder, ysbrydoli, a dysgu sgiliau bywyd newydd i bobl. Mae ganddo hefyd y gallu unigryw i oresgyn rhwystrau cyffredin a dod â phobl at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin. Ceir elfennau eraill, megis hyfforddi a gwirfoddoli, sydd hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu chwaraeon a gall hefyd gael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl.

Mae ein hagwedd tuag at chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Gwyddom y gall diffyg gweithgarwch corfforol fyrhau ein hoes yn sylweddol, yn ogystal â chynyddu’r tebygolrwydd o ddioddef o glefydau cronig. I gefnogi hyn, mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a cheir rhai enghreifftiau da iawn o weithio mewn partneriaeth yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn.

Yn gynharach eleni, mynychais wobrau Chwaraeon Anabledd Cymru. Eu gweledigaeth a’u cenhadaeth yw gweddnewid bywydau drwy rym chwaraeon, wedi’i ysgogi gan eu hymrwymiad i greu Cymru lle mae gan bob unigolyn hawl, beth bynnag fo’u gallu, i allu cymryd rhan lawn a gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru bellach yn cefnogi rhaglen gymunedol gyda bron 18,000 o aelodau ac yn gweithio gydag ysgolion a chlybiau i gynnal cyfres o ddigwyddiadau wedi’u cefnogi gan wirfoddolwyr.

O ddiddordeb arbennig mae eu partneriaeth gyda bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddarparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon sydd wedi helpu i ailadeiladu eu bywydau. Hoffwn rannu rhai o’r straeon hynny gyda chi. Angeline, sydd ag anabledd, oedd un o’r bobl ifanc cyntaf yng Nghonwy i elwa o’r bartneriaeth sy’n cynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Cafodd Angeline ei chyfeirio at Chwaraeon Anabledd Cymru gan ei ffisiotherapydd, a chyflwynwyd pêl-fasged cadair olwyn iddi gyda chymorth gan hyfforddwyr a gwirfoddolwyr. Gwn fod y profiad wedi helpu i feithrin hyder Angeline, ac mae ei rhieni’n dweud wrthym ei fod hefyd wedi helpu i newid bywyd eu merch.

Ar ôl cael ei fwlio yn yr ysgol a’i eithrio o gemau pêl-droed am fod y bechgyn eraill yn teimlo ei fod yn rhy araf, cyflwynwyd criced i Mathew drwy Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae ei fam yn dweud ei bod yn wych gwylio hunanhyder Mathew yn tyfu wrth iddo gymryd rhan mewn criced. Mae’n rhyngweithio â phobl eraill yn awr, ac yn chwerthin ac yn cellwair, ac nid yw’n cael ei fwlio mwyach.

Roedd James yn hyfforddwr pêl-droed a golffiwr brwd cyn iddo ddioddef nifer o strociau, a rhoddwyd ymdeimlad newydd o benderfyniad iddo pan gafodd ei gyflwyno i swyddog datblygu lleol Chwaraeon Anabledd Cymru yng Nghonwy. Trwy gymryd rhan yn rhaglenni Anabledd Cymru, cafodd James ei ysgogi i gyrraedd ei nodau adsefydlu ac mae’n gobeithio cymryd rhan mewn cystadlaethau golff. Ceir enghreifftiau eraill o chwaraeon yn helpu i gefnogi bywyd cymunedol.

Mae clybiau’r gynghrair bêl-droed hefyd yn cymryd rhan weithredol yn gweithio gyda phobl ifanc, yn bennaf o gefndiroedd difreintiedig, sy’n tangyflawni, gyda’r nod o’u helpu i wella eu canlyniadau addysgol. Mae GemauStryd Cymru, sy’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru, yn annog pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol drwy ddarparu ystod o weithgareddau chwaraeon ar garreg y drws ar gyfer pobl ifanc na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Maent wedi sefydlu dros 60 o glybiau chwaraeon ar garreg y drws yng Nghymru, ac yn anelu i ddod yn rhan gynaliadwy o wead y gymuned.

Trwy Chwaraeon Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £0.5 miliwn mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i annog mwy o bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn chwaraeon a manteision pellach ehangach. Mae’r rhaglen yn weithredol ar draws pedair ardal, gan gynnwys Abertawe. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Phêl-droed Stryd Cymru, ac rwy’n falch iawn o gefnogi eu gwaith, sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo dynion a menywod ifanc sydd ag ystod o heriau cymdeithasol, drwy ddefnyddio pêl-droed fel bachyn i’w helpu i drawsnewid eu bywydau. Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi cynorthwyo dros 3,900 o gyfranogwyr. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 94 y cant o ymatebwyr fod eu hyder a’u hunan-barch wedi gwella. Dywedodd 93 y cant fod eu hiechyd corfforol wedi gwella, a dywedodd 92 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi gwella. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Ry’n ni’n gwisgo’r un crys’, sy’n helpu i fynd i’r afael â stigma salwch meddwl drwy ymwneud â phêl-droed.

Mae Gymnasteg Cymru wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn mae ganddynt dros 20,000 o aelodau clwb, gan gynnwys clwb penodol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn Butetown yr ymwelais ag ef fis Medi y llynedd a chael fy ysbrydoli’n fawr ganddo.

Yn fwy diweddar, ym mis Mawrth, ymwelais ag un o brosiectau canolfannau clybiau ysgol Undeb Rygbi Cymru yn Hwlffordd. Mae’r prosiect yn cynnwys rhoi cyfle i ferched a bechgyn gymryd rhan mewn rygbi mewn 89 o ganolfannau yng Nghymru. Trwy’r rhaglen, maent yn cael cymorth ac arweiniad amhrisiadwy’r swyddogion rygbi ac arweinwyr rygbi wedi’u hyfforddi i’w helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a chaffael gwybodaeth am bob agwedd ar y gêm, gan helpu i gryfhau cysylltiadau â chlybiau rygbi cymunedol, a gwella cynaliadwyedd rygbi clwb ac ymwneud chwaraewyr yn fwy hirdymor.

Hefyd, mae’n galonogol gweld mwy o bobl yn ceisio dod yn egnïol drwy grwpiau rhedeg cymdeithasol Rhedeg Cymru. Nod y rhaglen yw chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r GIG yng Nghymru drwy ddarparu’r ysbrydoliaeth hon i bobl Cymru a’r gefnogaeth a’r cyfle i helpu eu hunain i ddod yn iachach, yn hapusach, ac yn fwy egnïol yn gorfforol. Yn yr un modd, mae cynllun Breeze Beicio Cymru, sef teithiau beic i fenywod yn unig, yn hynod o boblogaidd, ac mae hyn yn newyddion gwych, gan ei fod yn annog mwy o fenywod a merched yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae gweithgareddau hamdden egnïol yn un o’n blaenoriaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mawr fel cam pwysig ar daith tuag at genedl iach ac egnïol. Er ei bod yn anodd dangos cysylltiad pendant ac uniongyrchol, ceir peth tystiolaeth i awgrymu bod cynnal achlysuron chwaraeon elitaidd, lle bydd y goreuon yn y byd yn perfformio, yn helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn nes at adref. Mae digwyddiadau chwaraeon yma yng Nghymru yn tynnu sylw at ein lleoliadau chwaraeon, a’n tirweddau hardd yn aml, ac yn darparu digwyddiad cartref lle gall athletwyr Cymru gystadlu, gan ysbrydoli pobl eraill i barhau â’r math o chwaraeon y maent wedi’i ddewis, neu i roi cynnig ar fathau newydd. Mae rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA eleni yn enghraifft dda o hyn, gan ddod â rhaglen etifeddol yn eu sgil a fydd yn darparu lleoliad cymunedol newydd, a thrwy rownd derfynol y menywod, yn taflu sbotolau ar y gwaith pwysig i annog menywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Felly, rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu dangos sut y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn gweithio’n adeiladol gydag amrywiaeth o bartneriaid i helpu ein cymunedau i fod yn fwy egnïol. Yn ddi-os, mae chwaraeon yn faes sy’n cyfrannu’n sylweddol at helpu i ailadeiladu a thrawsnewid bywydau pobl, a’n nod yw adeiladu ar y momentwm sydd gennym eisoes er mwyn helpu Cymru i ddod yn genedl iachach a mwy heini. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.