Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, John Griffiths.

Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0493(FM)

Rydym yn bwriadu parhau i gefnogi busnesau wrth iddynt dyfu, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel ac i wella amodau datblygu economaidd.

Brif Weinidog, mae gan Gasnewydd botensial economaidd mawr, gyda'i chryfderau trafnidiaeth, daearyddol a diwydiannol. Ar yr M4, prif reilffyrdd a rhai’r arfordir, rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn agos i Fryste, mae'n ganolbwynt i’w heconomi ranbarthol ehangach. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y bydd ysgogi datblygiad economaidd yng Nghasnewydd yn ffactor pwysig os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd mawr?

Gwnaf, mi wnaf. Rydym ni eisiau gweld Casnewydd, fel pob rhan o Gymru, yn cael ei datblygu i'w llawn botensial. Mae llawer o waith eisoes ar y gweill, a fydd yn dod â budd i Gasnewydd, gan gynnwys y gweithgarwch adfywio parhaus, sefydlu’r Arloesfa, a'r cynigion sy'n cael eu datblygu o ran yr M4.

Nododd adroddiad gan y What Works Centre for Wellbeing a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod pedwar awdurdod lleol yn y de-ddwyrain ymhlith yr uchaf o ran anghydraddoldeb llesiant. Roedd y rhain yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn eglur bod nifer o ffactorau cyfrannol, wrth gwrs, a nifer o atebion posibl, ond ni ddylem wrthod y dangosyddion a ddefnyddiwyd, a oedd yn cynnwys pa mor werth chweil y mae pobl yn teimlo am eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae datblygu economaidd yn mynd i fod yn ganolog i roi sylw i’r teimladau dwfn iawn hynny yn y cymunedau hynny. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i wrthod nawr dull datblygu economaidd diferu i lawr, ac yn hytrach roi ar goedd ei ymrwymiad i ddull seiliedig ar le fel bod unrhyw gynlluniau economaidd yn y dyfodol y mae'n eu datgelu ar gyfer y wlad hon yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, sef pobl a'u cymunedau?

Gwnaf. Yn sicr nid yw'n wir ein bod ni’n derbyn economeg diferu i lawr, o bell ffordd. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymunedau wedi eu cysylltu—a dyna yw diben metro de Cymru, er enghraifft—ac wedi eu cysylltu’n ddigidol hefyd, dyna pam mae gennym ni Cyflymu Cymru, ac i sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella eu hincwm ac i gael swyddi yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n canolbwyntio’n helaeth arno fel Llywodraeth.

Brif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan Fanc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn yng Nghymru wedi gostwng gan fwy na chwarter dros y pum mlynedd diwethaf. Gostyngodd nifer y busnesau newydd gan fwy na 27 y cant yng Nghaerffili, mwy na 23 y cant yn Nhrefynwy, a llai na 9 y cant yng Nghasnewydd, ac 8 y cant ym Mlaenau Gwent. Nid yw hynny'n cynnig darlun da o fusnesau newydd yn y de-ddwyrain. Pa fesurau a chymhellion y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i greu'r amodau economaidd i annog busnesau newydd i sefydlu yn y de-ddwyrain?

Mae gennym ni’r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn arbennig yn cymryd rhan mewn busnesau ac yn dod yn llwyddiannus iawn mewn busnes. Mae'n iawn i ddweud bod Brexit yn cyflwyno elfen o ansicrwydd, ac mae hwn yn bendant yn gyfnod ansicr i fusnesau. Ond, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau, wrth gwrs, i gefnogi busnesau newydd a sicrhau bod llawer o'r busnesau hynny yn dod yn BBaChau a hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

Maes Awyr Caerdydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i Faes Awyr Caerdydd? OAQ(5)0494(FM)

Rydym ni’n parhau gyda'r gwaith o ddatblygu cynigion i wella mynediad at y maes awyr trwy gludiant cyhoeddus ac mewn car, gan gefnogi, ymhlith pethau eraill, wrth gwrs, y trefniadau bws a rheilffordd presennol.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn croesawu'r gwelliant enfawr ym mherfformiad y maes awyr ers ymyrraeth y Llywodraeth. Ond onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cyswllt rheilffordd yn cynyddu ei apêl yn fawr i'r teithiwr rhyngwladol ac yn rhoi mantais gystadleuol iddo dros feysydd awyr lleol eraill? Felly, a all ef ddweud wrthym ni pam nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y prosiect metro?

A gaf i groesawu'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y maes awyr, a’i sylwadau am y cynnydd y mae’r maes awyr wedi ei wneud ers i Lywodraeth Cymru ei gymryd drosodd? Nid ydynt yn sylwadau sy'n cael eu hadleisio ar yr ochr yna i'r Siambr, a fyddai wedi bod yn hapus gweld llystyfiant yn ei orchuddio erbyn hyn pe byddai wedi cael ei adael yn eu dwylo nhw. Fodd bynnag, mae'n gofyn cwestiwn pwysig. Gallaf ddweud wrtho fod y pwyslais ar hyn o bryd ar y gwasanaeth bws, ar geisio gwella amlder ar y rheilffordd bresennol, ac yna, y tu hwnt i hynny, ceisio gweld a ddylem ni ystyried sbardun rheilffordd—ceir problemau gyda hynny; bydd gwrthwynebiad, mae hynny'n wir—neu a fyddai’r derfynfa ei hun, mewn gwirionedd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn symud yn nes at y rheilffordd bresennol? Felly, ar hyn o bryd, mae'n fater o wella’r hyn sydd yno'n barod, ac edrych, yn y dyfodol, i weld a oes ffordd o leoli'r derfynfa yn nes at y cyswllt rheilffordd.

Croesewir y cytundeb a gyhoeddwyd ddoe rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Heathrow. Ond, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r hyn a gyhoeddwyd o ran yr Alban, nid oes unrhyw dargedau pendant yn y cytundeb, dim byd am swm y gwariant sy'n gysylltiedig ag adeiladu, dim am y targed swyddi cyffredinol, dim am daliadau glanio neu gronfa ddatblygu ar gyfer teithiau awyr. A yw hynny oherwydd bod y Prif Weinidog, yn y bôn, wedi colli unrhyw fantais oedd ganddo mewn trafodaethau trwy ddatgan ei gefnogaeth i Heathrow, heb gael y consesiynau hyn mewn gwirionedd, yn wahanol i'r hyn a wnaeth Llywodraeth yr Alban?

Wel, mae'r cwestiwn yn ymwneud â mynediad at Faes Awyr Caerdydd, ond rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiwn am Heathrow. Rwy'n synnu nad yw'n croesawu'r cyhoeddiad ddoe—y ffaith y bydd 8,000 o swyddi yn cael eu sicrhau, yr holl fuddsoddiad hwnnw, y ffaith einh bod wedi gweithio gyda Heathrow i—[Torri ar draws.] Ni wnaiff sgrechian main ei helpu. Y ffaith ein bod ni wedi sicrhau ymrwymiad i ganolfannau gweithgynhyrchu y tu allan i Gymru. Mae gennym ni ddigwyddiad ar 5 Gorffennaf i sicrhau bod busnesau Cymru—[Torri ar draws.] Wel, mae'n dal i sgrechian yn fain. Bydd busnesau Cymru yn gallu manteisio’n llawn—[Torri ar draws.] Nid yw wedi dysgu ei wers o hyd. Bydd busnesau Cymru yn gallu—

Rwy'n credu efallai fod yr Aelod yn sgrechian gan fod yr Aelod wedi croesawu'r datganiad ddoe. Parhewch.

Wel, rwy'n siŵr y gall yr Aelod siarad drosto'i hun, Lywydd, a dweud y gwir, ar y sail honno.

Dyma’r pwynt: byddwn yn creu miloedd o swyddi. Byddwn yn sicrhau y bydd canolfannau ar gyfer gweithgynhyrchu y tu allan i Gymru. Byddwn yn sicrhau y bydd llwybrau sy'n cael eu hystyried i feysydd awyr Cymru, nid dim ond Caerdydd—nid dim ond Caerdydd. Ac mae’r hyn a gyhoeddwyd ddoe yn llawer mwy sylweddol na'r hyn y mae'r Alban wedi'i gyflawni.

Wel, rwy’n mynd i roi croeso arall y prynhawn yma. Rwy’n mynd i groesawu’r twf i nifer y teithwyr ar wasanaeth bws T9. Credaf fod hynny’n newyddion gwych i’w groesawu. Nawr, o ystyried y ffaith bod y gwasanaeth hwn yn gymaint o lwyddiant a’i fod yn profi bellach ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y cymhorthdal ​​o £0.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth hwn ac yn hytrach cynnig cymorthdaliadau i wasanaethau bws eraill y rhoddwyd terfyn arnynt gan doriadau i'r grant gweithredwyr bysiau?

Yr hyn y mae'n ymddangos ei fod yn ei awgrymu yw na ddylem ni gael gwasanaeth bws i'r maes awyr. Ni allaf gytuno â'r safbwynt hwnnw. Mae'n dod yn ôl at y safbwynt a gymerwyd gan ei blaid—nid oedden nhw eisiau i’r maes awyr lwyddo. Yn y pen draw, nid oedd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau i’r maes awyr dyfu, roedden nhw’n hapus i weld y maes awyr yn dirywio, byddent wedi eistedd ar eu penolau a gweld y maes awyr yn cau. [Torri ar draws.] |Maen nhw’n dal i fod yn anhapus am y ffaith fod y maes awyr yn gwneud yn dda mewn gwirionedd. Nid ydyn nhw eisiau gweld gwasanaeth bws i'r maes awyr, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cysylltiadau cludiant cyhoeddus i’n maes awyr yng Nghaerdydd, a byddant yn parhau. Mae cael cysylltiadau cludiant cyhoeddus, yn sicr, i unrhyw faes awyr, pa un a ydynt yn fws neu’n rheilffordd, yn hynod bwysig i ddatblygiad unrhyw faes awyr ar gyfer y dyfodol.

Wel, rwy’n croesawu'r cytundeb partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Heathrow o ran cwmnïau hedfan sydd eisiau hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd Cymru i Heathrow, a'r potensial o filoedd o swyddi medrus newydd y gallai eu creu, ochr yn ochr â rhoi hwb i economi Cymru. Fodd bynnag, i’m hetholwyr i a phobl a busnesau ar draws y gogledd-ddwyrain, cysylltiadau cynyddol a gwell gyda meysydd awyr fel Lerpwl a Manceinion sy’n gwneud gwahaniaeth uniongyrchol iddyn nhw. Felly, Brif Weinidog, a gaf i annog bod gwell cysylltedd a mwy o effeithlonrwydd o ran cysylltiadau trên i feysydd awyr cyfagos gogledd-orllewin Lloegr yn rhan allweddol o gynlluniau metro gogledd-ddwyrain Cymru ac yn cael eu hystyried yn rhan o fasnachfraint Cymru a'r gororau?

Ie. Gallaf ddweud, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bod Trenau Arriva Cymru wedi sicrhau llwybrau ychwanegol o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dechreuodd y gwasanaethau ychwanegol hynny weithredu ym mis Mai y llynedd, ac rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Merseytravel i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd i Lerpwl ac i faes awyr John Lennon yn y fasnachfraint nesaf, ar droad Halton sydd wedi ailagor.

Brif Weinidog, cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth i Faes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru. Roeddwn i eisiau gwybod faint o arian a wariwyd ar gwmnïau lobïo, pa gwmnïau a gyflogwyd, a pha un a fu’r cwmnïau lobïo hyn trwy broses dendro ai peidio. Nawr, mae hwn yn eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru, felly mae gan y cyhoedd hawl i wybod y pethau hyn. Mae'r maes awyr wedi gwrthod ateb. Beth yw eich barn ar hyn?

Wel, hynny yw, mae ffyrdd o apelio, os yw’n teimlo nad yw ei gais wedi cael sylw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Tra bod y Prif Weinidog i ffwrdd yr wythnos diwethaf, efallai ei fod wedi gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ynghylch toriadau arfaethedig i wariant cyhoeddus ymhen dwy neu dair blynedd, a fydd yn gyfanswm o £3.5 biliwn. Mae'r Llywodraeth, eleni, yn rhedeg diffyg yn y gyllideb sy’n cyfateb i £60 biliwn. Llwyddodd George Osborne i gyflawni’r gamp unigryw o fenthyg dwywaith gymaint o arian mewn chwe blynedd ag a wnaeth Gordon Brown ac Alistair Darling. Mae’r ddyled genedlaethol yn £1,800 biliwn erbyn hyn, o'i gymharu â £1,200 biliwn chwe blynedd yn ôl. Mae hynny’n £28,000 ar gyfer pob person yng Nghymru—y Deyrnas Unedig, yn wir. Mae'n hawdd iawn gwario arian nad oes gennym, wrth gwrs, a byddai pawb yn hoffi gallu benthyg yn ddiderfyn a byth yn gorfod ei ad-dalu. O faint y mae'n credu y dylai gofyniad benthyg y Llywodraeth gynyddu ar sail barhaol?

Mae hwnnw'n achos cryf iawn yn wir dros fenthyg nawr i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Nid yw erioed wedi bod yn rhatach i fenthyg arian ar farchnadoedd y byd. Rydym ni’n gwybod o brofiad ar ôl diwedd yr ail ryfel byd, pan oedd y DU mewn sefyllfa waeth o lawer nag y mae ynddi nawr yn ariannol, bod Llywodraeth y dydd wedi cymryd y safbwynt y byddai'n ceisio benthyg arian er mwyn buddsoddi ar gyfer y dyfodol. Yna, gwelsom, wrth gwrs, dwf economaidd y 1950au a'r 1960au. Felly, rwy’n Keynesaidd heb gywilydd yn hyn o beth. Rwyf o'r farn y dylai'r Llywodraeth fod yn benthyg nawr er mwyn buddsoddi, er mwyn creu’r incwm a fydd yn ad-dalu cost y benthyca hwnnw a mwy yn y dyfodol.

Ond mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad yw hynny byth yn digwydd. Does dim ond rhaid iddo edrych ar hanes diweddar sefyllfa ddyled Llywodraeth y DU i weld beth yw’r gwirionedd. Mae gennym ni Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru—peth da iawn yw hi hefyd—ond yr hyn yr ydym ni’n ei wneud trwy barhau â’r sefyllfa 'hynt yr oferwr' hwn o fenthyg, wrth gwrs, yw trosglwyddo dyled enfawr i’r genhedlaeth nesaf, y bydd yn rhaid iddyn nhw ei had-dalu. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n safbwynt arbennig o foesol i ni ei fabwysiadu.

Ond, mae ateb gwell i hyn. Nid oes rhaid i ni fenthyg yr arian hwnnw o gwbl. Gallwn edrych ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn gwario arian arno ar hyn o bryd a thorri heb unrhyw berygl y bydd unrhyw un ym Mhrydain dan anfantais. Gadewch i ni ystyried y gyllideb cymorth tramor, er enghraifft, yr ydym ni’n gwario £12 biliwn arni eleni. Pe byddem ni’n tynnu dim ond 3.5 biliwn oddi ar y £12 biliwn, byddai hynny'n gyfystyr â’r un math o arbediad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid eisiau i Ganghellor y Trysorlys beidio â’i ddidynnu o gyllideb Llywodraeth Cymru. Ceir digonedd o resymau pam y dylem ni dorri’r gyllideb cymorth tramor. Felly, a yw’r Prif Weinidog yn rhoi buddiannau pobl mewn gwledydd tramor o flaen buddiannau pobl Cymru?

Rwy'n meddwl bod arweinydd UKIP yn bod yn naïf yn yr hyn a ddywed. Yn gyntaf oll, ceir y cwestiwn moesol amlwg o'r gwledydd hynny sy'n gyfoethog yn helpu'r gwledydd hynny sy’n dlawd. Mae enghraifft Norwy yn enghraifft berffaith o hynny. Sefydlwyd Grantiau Norwy gan Lywodraeth Norwy oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi gwneud yn dda iawn o olew a nwy ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i bobl sydd â llai. Felly, mae’r anhunanoldeb hwnnw a’r awydd i helpu dynoliaeth yn gryf dros ben.

Ond hefyd, os edrychwn ni ar y mater yn economaidd, mae cymorth yn prynu ffrindiau a chynghreiriaid. Os na fyddwch yn darparu cymorth i wledydd er mwyn eu helpu nhw ac y byddant yn parhau i fod yn ffrind i chi yn y dyfodol, bydd rhywun arall yn ei wneud. Felly, ydy, mae’n iawn dweud bod achos moesol cryf dros gymorth, ond, mewn termau diplomyddol, mae hefyd yn gywir i ddweud, os ydych chi’n cynnig cymorth i wledydd a fydd yn tyfu yn y dyfodol, byddant yn parhau i fod yn ffrindiau i chi ac yn masnachu gyda chi yn y dyfodol, gan gynyddu cyfoeth eu pobl eu hunain a phrynu'r nwyddau yr ydych chi’n eu gweithgynhyrchu, wrth gwrs.

Wrth gwrs bod achos dyngarol dros gymorth ac nid oes neb yn erbyn hynny, ond mae llawer o'n cyllideb cymorth yn mynd i wledydd sy'n gwario symiau enfawr o arian ar brosiectau na fyddem ni’n eu hystyried yn ddyngarol am eiliad. Er enghraifft, rydym ni’n cynyddu ein cymorth i Bacistan gan £100 miliwn eleni i bron i £450 miliwn y flwyddyn. Mae Pacistan, eleni, yn cynyddu ei chyllideb amddiffyn gan £635 miliwn i £6.7 biliwn. Maen nhw’n gwario llawer mwy y pen ar amddiffyn nag yr ydym ni’n ei wneud yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddyn nhw raglen niwclear a rhaglen ofod hefyd. Felly, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i bob pwrpas trwy gynyddu faint o gymorth yr ydym ni'n ei roi i Bacistan yw ariannu eu cyllidebau milwrol, gofod a niwclear yn anuniongyrchol.

Mae'n defnyddio un enghraifft. Ceir llawer iawn iawn o enghreifftiau eraill o wledydd lle mae pobl wedi dioddef yn fawr, llawer ohono oherwydd anfedrusrwydd pwerau Ewropeaidd a adawodd y gwledydd hynny gyda ffiniau artiffisial a chyda dryswch economaidd, ac a adawodd y gwledydd hynny heb draddodiad o lywodraethu. Fe’u gadawyd mewn anawsterau o ganlyniad. Mae gan lawer o'r gwledydd hynny lywodraethu da erbyn hyn. Os edrychwn ni ar Ghana, er enghraifft, mae Ghana yn wlad lle mae llywodraethu yn gadarn, ac eto mae llawer o'r bobl yno yn talu am y camgymeriadau a wnaed yn y 1960au ar ôl annibyniaeth. Nid wyf yn gweld dim byd o'i le o ran darparu cymorth i bobl er mwyn eu galluogi i oroesi, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn galluogi pobl i ddatblygu eu hunain yn economaidd ac, wrth gwrs, i alluogi'r bobl hynny wedyn i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd.

Roeddwn i yn Uganda ddwy flynedd yn ôl. Yr un peth wnaeth fy nharo i am Uganda oedd ysbryd entrepreneuraidd llwyr y bobl. Yr hyn nad oedd ganddynt oedd cyfalaf. Coffi oedd y prif gnwd arian parod. Roedden nhw’n arbed arian o goffi er mwyn darparu cyfalaf i’w hunain—nid oedd ganddynt unrhyw ffordd arall o’i wneud. Y peth gwych a ddigwyddodd yn Uganda oedd bancio trwy ffonau symudol—gallai pobl symud arian o gwmpas mewn ffordd na allent o'r blaen.

I lawer iawn o bobl ledled y byd, y cwbl sydd ei angen arnynt yw ychydig o gymorth er mwyn ffynnu, a dyna pam yr ydym ni’n rhoi cymorth i bobl—er mwyn gwneud yn siŵr y gallant ffynnu yn y dyfodol ac y gall eu cymunedau ffynnu yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, ar 16 Ionawr, cyflwynwyd Bil Undebau Llafur (Cymru) gennych. Bwriad y Bil hwnnw yw datgymhwyso agweddau ar Ddeddf Undeb Llafur 2016 Llywodraeth y DU. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hyn—credwn y dylai cysylltiadau diwydiannol gael eu penderfynu yma ac nid yn San Steffan. Bydd eich Bil undebau llafur yn gymwys o dan bwerau presennol y Cynulliad. A ydych chi’n credu y bydd yn gymwys o dan y model cadw pwerau yr ydym ni’n symud iddo o dan y Ddeddf Cymru newydd?

Bydd y cymhwysedd yn newid, ond ein cred ni yw hyn: byddwn yn pasio’r ddeddfwriaeth hon a byddwn yn gwneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Mae'n fater wedyn i Senedd y DU benderfynu a yw'n dymuno gwrthwneud Deddf a basiwyd gan bobl Cymru yn eu Senedd. Os bydd yn dewis gwneud hynny, bydd yn creu argyfwng cyfansoddiadol.

Mae Deddf Cymru yn cyflwyno rhestr drom o gyfyngiadau, ac mae cysylltiadau diwydiannol yn un o'r cyfyngiadau hynny. Clywsom ddoe gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod Llywodraeth y DU yn bwriadu deddfu ar gysylltiadau diwydiannol ar ôl i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym—maen nhw’n defnyddio’r geiriau 'ar y cyfle cyntaf'.

Os ydych chi eisiau lleihau streiciau, nid trwy gyfyngiadau cyfreithiol yw’r ffordd orau, ond trwy drafod, deialog a dull partneriaeth gymdeithasol sy'n cael ei argymell gan fwyafrif y bobl yn y Cynulliad hwn. Rydych chi wedi dweud eich bod chi’n dal i fwriadu mynd â’r Bil undebau llafur drwy'r Cynulliad hwn. Beth yw eich cynllun i sicrhau nad yw ei ddarpariaethau yn cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU?

Byddwn yn gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Byddwn yn mynd â’r ddeddfwriaeth hon drwy'r Cynulliad, ac rydym ni’n credu y bydd yn pasio gyda chefnogaeth nid yn unig y blaid lywodraethol, wrth gwrs, ond ei phlaid ei hun hefyd, rydym ni’n hyderu. Mae'n fater wedyn i Senedd y DU, a Thŷ'r Arglwyddi yn benodol, benderfynu a yw'n gyfansoddiadol briodol ceisio gwrthdroi deddfwriaeth a wnaed mewn senedd ddatganoledig gan Aelodau etholedig y senedd ddatganoledig honno yn gweithredu yn unol â’u cymhwysedd. Mae hwnnw'n fater cyfansoddiadol difrifol a fydd yn creu helynt i Senedd y DU os bydd yn dilyn y trywydd hwnnw.

Diolch. Tybed a fyddwn ni’n gweld achos Goruchaf Lys arall nawr, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno y byddai hynny'n farn ddamniol ar Ddeddf Cymru. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y cynnig cymhwysedd deddfwriaethol ar Ddeddf Cymru gan ein bod ni o'r farn y gallai arwain at gydio pŵer gan San Steffan. A fyddech chi’n cytuno bod hyn yn edrych fel cyfiawnhad erbyn hyn o’n safbwynt ni ar y bleidlais honno?

Ceir cytundeb ar draws y rhan fwyaf o'r Siambr hon nad yw Deddf Cymru yn mynd i gynnig setliad parhaol, fel y dywedodd Llywodraeth y DU oedd ei hamcan i’w sicrhau. A wnewch chi ddatgan heddiw pa un a ydych chi’n credu bod Deddf Cymru 2017 yn anymarferol? Os ydych chi’n credu ei bod yn anymarferol, a ydych chi’n cefnogi galwad Plaid Cymru am Fil Cymru newydd ar unwaith?

Nid yw’n anymarferol, ond mae'n anfoddhaol. Mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union ar hyn. Roedd y ddeddfwriaeth bresennol yn rhan o becyn—roedd rhannau ohono nad oeddem yn eu hoffi ac na wnaethom eu derbyn, ond, serch hynny, roedd yn mynd â’r Cynulliad hwn yn ei flaen o’i ystyried fel pecyn. A yw'n golygu bod busnes anorffenedig? Wrth gwrs. Nid yw’r mater o awdurdodaeth wedi ei ddatrys o hyd; nid yw’r mater o blismona wedi ei ddatrys o hyd; felly hefyd y ffaith fod ardrethi teithwyr awyr wedi eu datganoli yn yr Alban, ond nid yng Nghymru heb unrhyw reswm call, rhesymegol. Bydd, yn ddi-os, bydd Bil Cymru arall a fydd yn gwella ar y un yr ydym ni wedi ei gael yn ddiweddar.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, ceir y newyddion syfrdanol hyn heddiw bod pump o bobl yr wythnos yn marw yng Nghymru—pump o bobl y diwrnod, mae'n ddrwg gen i, yn marw yng Nghymru—oherwydd llygredd aer. Mae hwn yn ffigur brawychus y mae fy nghydweithiwr, David Melding wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, ac arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl ar hyn ym mis Gorffennaf. Bydd llawer o gymunedau yn briodol yn edrych at Lywodraeth Cymru i geisio deall pa fesurau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i wella ansawdd aer yn ystod oes y Cynulliad hwn? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi rhywfaint o ddealltwriaeth i ni o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod cymunedau fel y rhai ym mwrdeistref sirol Caerffili sy'n cael eu henwi yn rhaglen 'Week In Week Out' heddiw yn gallu cymryd cysur a gweld gwelliant gwirioneddol.

Mater i awdurdodau lleol yw adolygu ansawdd aer lleol. Rydym ni yn eu cynorthwyo o ran gwneud hynny. Rydym ni’n ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd ar y pwnc hwn. Roedd yn cydnabod y manteision iechyd ar unwaith a hirdymor i'w hennill trwy leihau amlygiad i lygredd ledled Cymru. Un maes, wrth gwrs, sy’n cael effaith fuddiol ar ansawdd aer yw annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a dyna pam, wrth gwrs, y pasiwyd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gennym, er mwyn i hynny ddigwydd. Mae angen i ni weld, wrth gwrs, mwy o fuddsoddiad mewn cludiant cyhoeddus yng Nghymru. Rydym ni’n chwarae ein rhan gyda'r metro, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld trydaneiddio yn digwydd i Abertawe nawr, fel yr addawyd gan Lywodraeth y DU, er mwyn cael mwy o bobl ar y trenau ac allan o geir. Ond po fwyaf y gallwn ni leihau'r defnydd o geir a chynnig dewis arall yn hytrach na defnyddio ceir, y gorau y bydd hi i ansawdd aer.

Fel y dywedais, mae pump o bobl yr wythnos yn marw oherwydd problemau ansawdd aer yng Nghymru—mae hynny'n 2,000 o bobl y flwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur brawychus, ac fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei nodi heddiw, dyma un o'r materion pwysicaf, os nad y pwysicaf yr ydym ni’n ei wynebu. Gwahoddwyd Llywodraeth Cymru gan raglen 'Week In Week Out' heddiw i gymryd rhan yn y rhaglen honno, ac yn anffodus dewisodd beidio â gwneud hynny gan gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn unig. A allwch chi ddeall pam mae pobl yn poeni nad ydynt yn gweld cynnydd gwirioneddol yn eu cymunedau pan na allant weld Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran gwneud y gwelliannau hyn? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, 18 yw nifer y troseddau, ac eto bu 57 o wahanol droseddau o ran ansawdd aer yn y gymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili y cyfeirir ato. Maen nhw’n dal i ddioddef ddydd ar ôl dydd gyda'r llygryddion yn atmosffer yr ardal benodol honno. Mae angen i ni gael synnwyr o'r hyn y gallwn ei raddnodi ar ddiwedd y Cynulliad hwn sy’n edrych fel llwyddiant yn y maes penodol hwn. Beth fyddech chi'n ei ystyried yn ganlyniad llwyddiannus o’r mesurau y byddwch yn eu cymryd erbyn 2021, Brif Weinidog?

Wel, byddai'n ostyngiad i gyfanswm y PM10s yn yr atmosffer, a PM2.5s hefyd o bosibl. Os edrychwn ni ar leihau allyriadau—soniais am yr ymgynghoriad yn gynharach a bydd ein hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Beth yw ein cyfraniad? Disgwyl i fetro de Cymru, disgwyl i’r metro yn y gogledd-ddwyrain gynnig dewis arall yn hytrach na defnyddio car—sy’n golygu gostyngiad i gyfanswm y nwyon llosg sy’n dod allan o geir—i wneud yn siŵr bod gan bobl y dewis arall hwnnw, gan hyrwyddo’r Ddeddf teithio llesol fel bod mwy o bobl yn gallu beicio hefyd—unwaith eto, gan beidio â defnyddio ceir.

Y broblem, wrth gwrs, yw bod y newidiadau newydd i ardollau ecséis cerbydau sy’n mynd i gael eu cyflwyno, os cofiaf yn iawn, ar ôl y flwyddyn gyntaf o fodolaeth car, pob car, waeth beth yw ei allyriadau, yn talu'r un dreth ffordd. Nawr, bu gennym ni system ers blynyddoedd lle mae’r ceir hynny sy’n llygru fwyaf yn talu'r mwyaf. Nawr rydym ni’n symud i system lle mae'n ffi unffurf. Nid wyf yn credu bod hynny'n iawn. Gallaf ddeall bod yn rhaid i Lywodraeth y DU newid y system, fel arall ni fydd braidd neb yn talu treth ffordd yn y pen draw—rwy’n deall hynny. Ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn i symud i system lle, i bob pwrpas, os oes gennych chi gar â llawer iawn o allyriadau, y byddwch yn talu’r un fath â rhywun y mae ei gar yn ysgafn dros ben o ran allyriadau. Ni fydd hynny’n helpu ansawdd aer yng Nghymru.

A wnewch chi gytuno, fel Prif Weinidog, i gynnull uwchgynhadledd ar y mater penodol hwn o’r holl gyrff cyhoeddus â buddiant, fel y gellir cael dull cydgysylltiedig ar ei gyfer, ar y sail ein bod ni, yn gyffredinol, ar draws y pleidiau eisiau gweld gwelliannau? Pan fo gennych chi fater iechyd y cyhoedd sy'n cymryd 2,000 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru—heb sôn am rannau eraill o’r Deyrnas Unedig—dylid ystyried hynny, byddwn yn awgrymu, fel y botwm cyntaf i’w wasgu ar eich rhestr o flaenoriaethau. Mae’n ymddangos bod elfen o wahaniaeth pan gaiff ei gyflwyno mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae angen ei ganoli rhywfaint a chydgysylltu yma. A wnewch chi gytuno i gynnal uwchgynhadledd, i wneud yn siŵr y gellir gwneud cynnydd ar yr eitem agenda hon, fel y gallwn weld gwelliannau gwirioneddol ledled Cymru, ond yn bwysig, gwelliannau i wneud yn siŵr nad ydym yn parhau i weld nifer y bobl sy'n marw oherwydd ansawdd aer gwael yn cynyddu yng Nghymru?

Un o'r materion sy'n broblem gynyddol hefyd, wrth gwrs, yw ceir sy’n segura mewn tagfeydd traffig—yn gadael eu hinjans ymlaen—ac mae hynny'n creu ardaloedd penodol o ansawdd aer arbennig o isel. Ceir sawl ffordd o ymdrin â hynny. Un yw gwneud yn siŵr bod y rhwystrau’n cael eu gwaredu. Mae hefyd yn golygu, wrth gwrs, ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o hyrwyddo mwy o hybridau a cheir trydan yn y dyfodol, a cheir nifer o ffyrdd y gellir gwneud hynny. Yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd, byddwn yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl yn ein dull. Mae'n rhaid i ni wneud hynny, wrth gwrs, gan weithio gyda llywodraeth leol hefyd, fel y prif fonitoriaid o ansawdd aer lleol, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i wella'r aer y mae pobl Cymru yn ei anadlu.

Cyflogaeth ar gyfer Pobl sydd â Chyflyrau Iechyd Hirdymor Cyfnewidiol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i leihau'r rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor cyfnewidiol? OAQ(5)0481(FM)

Rydym ni’n dilyn dull ataliol o gael gwared ar y rhwystrau iechyd i waith trwy raglen Cymru Iach ar Waith a bydd ein cynllun cyflogadwyedd pob oed newydd yn cryfhau ein dull o gefnogi grwpiau gweithgarwch isel, gan gynnwys cymorth i’r rheini â chyflwr iechyd tymor hwy, i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.

Ar ôl i Action for ME gyflwyno rhaglen cymorth cyflogaeth i bobl ag ME gydag Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, cyrhaeddodd 72 y cant o gleientiaid eu nodau cyflogaeth. Sut y gwnewch chi sicrhau, felly, y bydd Llywodraeth Cymru, gan edrych ar yr arfer da cyfagos iawn ar draws y ffin, yn mynd i'r afael â'r rhwystrau a wynebir gan bobl sydd â chyflyrau hirdymor anwadal, fel enseffalomyelitis myalgig a sicrhau bod y rhain yn cael eu cynhyrchu yn gyd-gynhyrchiol yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?

Rwyf wedi crybwyll eisoes, wrth gwrs, y cynllun cyflogadwyedd. Gallaf ddweud, o ran Cymru Iach ar Waith, bod dros 3,000 o sefydliadau sy'n cyflogi tua 460,000 o bobl wedi ymgysylltu â Chymru Iach ar Waith. Mae hynny'n cynrychioli tua 33 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio gyda buddsoddiad o dros £800,000 y flwyddyn yn y rhaglen. Rydym ni hefyd yn cynorthwyo gweithleoedd i fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl trwy addewid sefydliadol Amser i Newid Cymru.

Rwy’n croesawu eich cyfeiriad at faterion iechyd meddwl, sef yr hyn yr oeddwn i’n mynd i’w godi. Un mesur effeithiol i drin problemau iechyd meddwl yw therapi siarad, a all leihau'r angen i roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, a fyddai ynddo’i hun yn gwella gallu pobl i ymuno â’r farchnad swyddi. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda’r ddarpariaeth o therapi siarad yng Nghymru?

Rydym yn cydnabod, cyn belled ag y mae iechyd meddwl yn y cwestiwn, na all y cwbl fod yn ymyrraeth fferyllol. Mae cwnsela yn bwysig, ac felly hefyd, wrth gwrs, ymarfer corff. Mae ymarfer corff ar gael yn y rhan fwyaf o Gymru, rwy’n credu, o ran cael ei ragnodi i bobl. Mae ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yno, wrth gwrs, i helpu pobl yng Nghymru fod yn fwy gwydn a gallu mynd i'r afael â llesiant meddwl gwael pan fydd yn digwydd. Yn rhan o’r cynllun hwnnw, rydym ni’n edrych ar wahanol therapïau a fydd yn helpu pobl mewn ffyrdd gwahanol a mwy effeithiol.

Seilwaith Cyfathrebu Digidol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y seilwaith cyfathrebu digidol yng Nghymru? OAQ(5)0488(FM)

Trwy brosiect Cyflymu Cymru a thrafodaethau parhaus, rheolaidd gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol, Ofcom a Llywodraeth y DU, rydym ni wedi hwyluso mynediad at fand eang ffibr cyflym i dros 630,000 o adeiladau yng Nghymru ac wedi sicrhau cadarnhad y bydd 90 y cant o ardal ddaearyddol Cymru yn derbyn gwasanaeth symudol erbyn diwedd y flwyddyn hon.

A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd o ran cyflwyno band eang cyflym iawn? Wrth i ni symud i fynd i'r afael â'r bylchau terfynol yn hynny o beth a gwella cysylltedd symudol, mae'n amlwg bod topograffi Cymru, mor hardd ag ydyw, yn creu heriau penodol i gysylltedd digidol ac efallai fod angen mynediad mwy cymesur at seilwaith arnom na rhannau eraill o’r DU i gyrraedd yr un lefel o wasanaeth yn y diwedd. Rwy'n edrych ymlaen at gynllun symudol Llywodraeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys camau i bwyso ar weithredwyr i rannu seilwaith. Ond, hefyd, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid defnyddio tir sy’n eiddo cyhoeddus, lle bo'n briodol, i leoli seilwaith digidol—ac wrth i ni edrych y tu hwnt i Brexit ar sut yr ydym ni’n defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi rheolaeth tir, ein bod ni’n ystyried sut y gellir defnyddio rhaglenni yn y dyfodol i gymell lleoliad seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig lle gallant wneud gwahaniaeth i gysylltedd Cymru gyfan?

Byddwn yn edrych yn ofalus ar gyllid economaidd rhanbarthol yng nghyd-destun y cynllun gweithredu symudol sydd ar y gweill, ac yn ystod cam nesaf datblygiad band eang cyflym iawn, i weld sut orau y gallai hyn gefnogi’r ddarpariaeth wedi'i thargedu o seilwaith cyfathrebu ar sail fwy rhanbarthol neu leol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad oes gwasanaeth. Rydym ni’n gwybod bod rhai rhannau o Gymru—mae Ynys Môn yn un enghraifft, a godir yn aml yn y Siambr gan yr Aelod dros Ynys Môn—lle mae'n ymddangos bod gwasanaeth, ac eto nid yw'n ddigon cryf i ddarparu gwasanaeth data. Felly, mae problemau y bydd angen eu datrys ar gyfer y dyfodol ac mae defnyddio cyllid economaidd rhanbarthol yn un ffordd y gellid gwneud hynny.

Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn cwynion oddi wrth gynrychiolwyr yn y byd busnes ynglŷn ag ansawdd gwasanaethau Wi-Fi ar drenau sy’n rhedeg rhwng Abertawe a Paddington. Yn aml, mae hyn oherwydd signal gwael ar hyd y llwybr. Gan fod hwn yn wasanaeth allweddol bwysig i ni yng Nghymru, beth mae’ch Llywodraeth chi yn ei wneud wrth gydweithio â Llywodraeth San Steffan a chwmnïau preifat sy’n rhedeg y rhwydwaith i wella’r signal ar hyd y llwybr yma, a hefyd ar hyd llwybrau eraill ar draws Cymru?

Mae hyn yn hollbwysig. Fel un sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwnnw, gallaf ddweud y rhan fwyaf o’r amser nad yw’n gweithio. Wrth gwrs, mae’n un peth i gael y gwasanaeth ar y trên, ond mae’n rhywbeth arall bod y gwasanaeth yn gweithio yn effeithiol. Rydym yn cysylltu, wrth gwrs, gyda First Great Western er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gwella yn y pen draw. Rwy’n gwybod ei fod yn bosib—rwyf wedi ei weld ar drenau eraill lle mae’r system yn gweithio yn dda—ac rydym yn moyn sicrhau, wrth gwrs, drwy ystyried y franchise y flwyddyn nesaf, fod hwn yn rhywbeth sydd yn dod yn arferol ym mhob trên yng Nghymru yn y pen draw.

Brif Weinidog, soniasoch am ffibr cyflym yn eich ateb i gwestiwn gwreiddiol Jeremy Miles am wasanaethau band eang, a hoffwn ddechrau gyda’r newyddion da bod pentref Tyndyrn ar Afon Gwy yn fy etholaeth i wedi cael ei gysylltu yn ffodus iawn yn ddiweddar i flwch band eang cyflym iawn, sydd yn plesio’r pentref yn fawr. Ar y llaw arall, yng nghefn gwlad anghysbell Trellech Grange, pentref ar y cyrion, nid ydynt wedi elwa o'r blwch hwnnw, ac mae’n ymddangos bod BT o dan yr argraff bod yr ardal gyfan yn cael ei gwasanaethu gan fand eang cyflym iawn erbyn hyn a bod y broblem wedi cael ei datrys. A allwch chi gysylltu â BT i wneud yn siŵr, pan fo pentref mewn ardal wledig yn cael ei gysylltu, nad yw ardal gyfagos nad yw mor lwcus yn cael ei hystyried wedyn fel pe byddai wedi cael ei thrin yn yr un modd, gan nad oes gan y bobl hynny lawer o obaith wedyn o unrhyw ddyddiad terfyn ar gyfer eu problemau band eang?

Byddaf yn ymchwilio i'r mater i'r Aelod ac yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb.

Rwy'n credu bod fy nghwestiwn yn un syml ac efallai fod ateb syml iddo. Mae Cyflymu Busnes Cymru yn gwneud gwaith gwych yn eu sioeau teithio a’u gweithdai ledled y wlad, ac wrth i mi edrych trwy restr aruthrol o leoedd y maen nhw’n mynd iddynt, mae'n eithaf trawiadol sut y maen nhw’n cynyddu’r potensial o ran sut i sefydlu’r cysylltiadau hynny. Ond yr un lle sydd ar goll yn hyn i gyd—gogledd, de, dwyrain a gorllewin—yw un o gadarnleoedd diwydiant mawr y de, sef Pen-y-bont ar Ogwr. Felly, a gaf i awgrymu y gallem ni, trwy ei ymdrechion gorau ef a’m rhai innau, efallai eu perswadio i ddod ag un o'r sioeau teithio i Ben-y-bont ar Ogwr, o bosibl i'r gogledd o'r M4 yn ardal Ogwr? [Chwerthin.]

Gan sefyll yma, ni allaf wneud sylwadau ar ran Aelod y Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, ond rwy'n siŵr y bydd geiriau’r Aelod yn cyseinio â’r Aelod hwnnw.

Recriwtio Meddygon Teulu

5. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu'r broses o recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0484(FM)

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan y gweithlu meddygon teulu yng Nghymru. Bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol o £27 miliwn ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ystod 2017-18, fel y cyhoeddwyd dros y penwythnos.

Diolch i chi am hynna. Rwyf wedi cyfarfod â llawer iawn o'r sefydliadau sy'n cynrychioli pob agwedd ar amgylchedd gwaith meddygon teulu ac, wrth gwrs, mae’r mater o indemniad proffesiynol yn un o'r prif bwyntiau sy'n cael eu cyfleu fel rhwystr i gael mwy o feddygon teulu sydd naill ai’n ystyried ymddeol a gweithio’n rhan-amser i ryddhau mwy o'u horiau meddygon teulu a mynd i mewn i feddygfeydd teulu, a fyddai wir yn helpu gyda’r holl giwiau a'r problemau a welwn mewn practisau meddygon teulu. Rwy’n ymwybodol bod rhywfaint o'r £27 miliwn wedi ei glustnodi i helpu i wrthbwyso rhywfaint ar yr indemniad hwnnw, ond yr hyn yr oeddwn i wir eisiau ei wybod oedd fy mod ar ddeall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu adroddiad gan gyfreithwyr Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf a yw'r adroddiad hwn wedi ei gwblhau, ac os felly, a allech chi rannu gyda ni y cyngor a roddodd i Ysgrifennydd y Cabinet?

Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn ymarferol gyda'r proffesiwn er mwyn symud ymlaen â hynny. Gallaf ddweud bod y pecyn a gyhoeddwyd dros y penwythnos wedi ei gynllunio, ymhlith pethau eraill, i gynyddu’r cyfraniad, fel y mae’r Aelod yn dweud, at y costau cynyddol o indemniad proffesiynol, yn ogystal, wrth gwrs, ag ymdrin â phethau fel costau cynyddol gweinyddu pensiynau, a chynnydd cyffredinol i ymdrin â chostau ymarfer cynyddol.

Un o’r rhwystredigaethau ydy bod myfyrwyr cymwys o Gymru sydd eisiau cael eu hyfforddi yng Nghymru mewn ysgolion meddygol ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Pan fyddwn yn edrych ar y canrannau yn Lloegr, mae 80 y cant o’r myfyrwyr mewn ysgolion meddygol o Loegr, 50 y cant yn yr Alban, er enghraifft, ond dim 20 y cant yng Nghymru. A allem ni warantu bod pob myfyriwr o Gymru sydd â’r gallu yn gallu cael lle i hyfforddi yma yng Nghymru? Wrth gwrs, mae hynny’n effeithio yn drwm iawn wedyn ar y gallu i’w cadw nhw yma o fewn y gwasanaeth iechyd.

Mae’n rhaid i fi ddweud—rwy’n siŵr ei fod e wedi clywed yr un peth—fod pobl wedi dweud wrthyf i eu bod nhw wedi gweld enghreifftiau o bobl ifanc sydd heb gael cynnig i astudio yng Nghaerdydd ond wedi cael cynnig i astudio yn Lloegr. Nawr, mae hwn yn rhywbeth sydd yn fy mhryderu—os ydyn nhw’n ddigon da i fynd i Loegr, wedyn fe ddylen nhw fod yn ddigon da i fynd i’r brifysgol yng Nghymru. Beth wnaf i—roedd hwn yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn ddiweddar—yw ysgrifennu at yr Aelod ar y pwnc hwn. Rwyf wedi clywed pobl yn dweud hynny wrthyf i—rwy’n siŵr ei fod e wedi ei glywed e hefyd. Mae’n hollbwysig ein bod ni yn deall y system o ddewis myfyrwyr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael y chwarae teg y dylen nhw gael.

Brif Weinidog, ceir sylfaen dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn fwy tebygol o fod eisiau ymarfer yn yr hirdymor yn y lle maen nhw wedi hyfforddi ynddo. Felly, rwy’n croesawu menter bwrdd iechyd Cwm Taf, lle, mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae 60 o fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn wedi cael cyflawni rhan gynnar eu hyfforddiant mewn meddygfeydd teulu yng nghymoedd y de. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod rhoi’r amlygiad hwn i ymarfer cyffredinol i fyfyrwyr meddygol yn gynnar yn hanfodol i’w hyrwyddo fel dewis gyrfaol, a sut arall allwn ni hyrwyddo'r Cymoedd fel lle da i feddygon teulu weithio ynddo?

Wel, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig, fel mae’r Aelod yn ei ddweud. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar glwstwr y Rhondda yng Nghwm Taf, mae hwnnw wedi bod yn arbennig o weithgar o ran recriwtio. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod myfyriwr yn mynd i rywle ac yn cael profiad cadarnhaol. Dyna pam mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gwneud hynny. Os edrychwn ni ar glwstwr y Rhondda fel enghraifft: mae ganddyn nhw swyddog cyfathrebu clwstwr i ddatblygu enw da'r Rhondda fel lle gwych i weithio ynddo, maen nhw wedi datblygu gwefan Rhondda Docs, sy'n disgrifio'r ffordd o fyw a’r yrfa sydd ar gael yn y Rhondda, ac maen nhw wedi datblygu arolwg a dadansoddiad recriwtio a chadw staff, a fydd yn rhan o gynllun cyflawni’r clwstwr yn y flwyddyn ariannol newydd. Dyna un enghraifft y gall clystyrau eraill ei defnyddio neu ei haddasu er mwyn gwneud yn siŵr, pan fydd myfyrwyr yn cyflawni eu hyfforddiant meddygon teulu yn ardaloedd y Cymoedd, eu bod yn teimlo eu bod yn dod i le sy’n flaengar, sydd â digon o adnoddau ac sydd â meddygon teulu sy'n ymroddedig i'w cymuned—ac o ran yr holl elfennau hynny, mae'r clwstwr yn cyflawni’r rhwymedigaethau hynny.

Arferion Bydwreigiaeth

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arferion bydwreigiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0483(FM)

Mae bydwragedd yn chwarae rhan hanfodol i gynorthwyo menywod trwy eu profiad rhoi genedigaeth. Mae gan bob menyw fydwraig benodol i ddarparu gofal unigol yn ystod beichiogrwydd. Mae'r pecyn ariannu addysg iechyd £95 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnwys cynnydd o 40 y cant i leoedd hyfforddi mewn bydwreigiaeth, a dyna yw’r lefel uchaf o leoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gomisiynwyd ers datganoli.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Tynnodd adroddiad Coleg Brenhinol y Bydwragedd eleni sylw at oedran cynyddol y gweithlu bydwreigiaeth a'r angen i sicrhau ein bod ni’n cael pobl newydd i gymryd lle’r gweithwyr hynod fedrus ac ymroddedig hynny pan fyddant yn ymddeol. Fel y dywedasoch, mae’r cynnydd o 40 y cant yn nifer y lleoedd mewn prifysgolion i fydwragedd dan hyfforddiant yn y flwyddyn academaidd i ddod a’r cymorth parhaus i fwrsariaethau i’w croesawu’n fawr. Mae ymrwymiadau fel hyn yn hanfodol i sicrhau bod ein gwasanaethau mamolaeth yn denu mwy o fydwragedd dros y blynyddoedd nesaf, fel y gallant ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i fenywod a babanod. A wnaiff Llywodraeth Cymru dalu teyrnged i'r gweithlu bydwreigiaeth ymroddedig sydd gennym ni ac a wnaiff y Llywodraeth weithio gyda byrddau iechyd ac undebau llafur i sicrhau y gall y rhai sy'n nesáu at ymddeoliad drosglwyddo eu sgiliau a'u profiad gwerthfawr i'r genhedlaeth nesaf o fydwragedd?

Gwnaiff, yn bendant. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi bydwragedd. Rydym ni’n gwybod ei bod yn hynod bwysig buddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol trwy wneud y buddsoddiad hwnnw nawr, yn hytrach nag aros am adeg pan fyddwn ni’n canfod bod gennym ni broblem ddemograffig gyda'r gweithlu. Rydym ni’n gwneud y buddsoddiad hwnnw nawr ar ran pobl Cymru.

Mi wnaf innau dynnu sylw’r Prif Weinidog at lythyr yr ydw i wedi’i dderbyn gan gangen y WI yn Llangoed, yn fy etholaeth i, yn rhoi’r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau bydwragedd. Yn benodol, maen nhw’n bryderus am gynaliadwyedd y gweithlu. Ydych, mi ydych chi’n dweud bod yna fuddsoddiad wedi cael ei wneud mewn rhagor o lefydd hyfforddi, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi, oni bai ein bod ni’n gweld cynnydd sylweddol yn y llefydd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru, y bydd hi’n amhosib i ni ddarparu ar gyfer mamau a’u teuluoedd yn y dyfodol y math o wasanaeth y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu?

Mae hynny’n iawn, a dyna pam rŷm ni wedi buddsoddi i sicrhau bod yna fwy o lefydd ar gael—fel y dywedais i, 40 y cant o gynnydd yn nifer y llefydd sydd ar gael i hyfforddi. Rŷm ni nawr, wrth gwrs, fel y dywedais i yn gynharach, ar y lefel uchaf ers 1999.

Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch enfawr flwyddyn neu ddwy yn ôl i sicrhau bod gennym ni wasanaethau bydwreigiaeth priodol a ward mamolaeth dan arweinyddiaeth meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd. Croesawyd gennym yn flaenorol y cynigion datblygu ar gyfer y ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, a byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr pe gallech chi ddiweddaru Aelodau yma heddiw ynghylch pa mor dda y mae hynny’n datblygu a sut y bydd hynny'n arwain at ddarparu gwasanaeth bydwreigiaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol o'r radd flaenaf i ni yn y gogledd.

Mae'r Aelod yn siarad am y SuRNICC ac mae'r SuRNICC, wrth gwrs, yn uned arbenigol. Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, y cynnig gwreiddiol oedd symud y gwasanaethau hynny i Ysbyty Arrowe Park. Roeddwn i o’r farn bod yn rhaid i ni adolygu'r penderfyniad hwnnw i weld a oedd yn bosibl ac yn ddiogel i’r gwasanaeth hwnnw gael ei ddarparu yng Nghymru, ac yn sicr ddigon, y SuRNICC yw canlyniad hynny. Mae'n datblygu’n dda o ran recriwtio ac o ran adeiladu ac edrychaf ymlaen at agoriad y SuRNICC ar safle Glan Clwyd.

Brif Weinidog, yn ystod y Cynulliad blaenorol, cynyddodd Llywodraeth Cymru nifer y lleoedd myfyrwyr bydwreigiaeth. Fodd bynnag, yn yr 'Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth' diweddaraf, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn nodi nad yw’n briodol mwyach cynnal nifer gyson o leoedd hyfforddi, gan fod y boblogaeth fydwreigiaeth yn heneiddio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i fydwragedd dan hyfforddiant yng Nghymru?

Fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiwn gwreiddiol, mae'r pecyn ariannu addysg iechyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys cynnydd o 40 y cant i leoedd hyfforddi bydwreigiaeth.

Lles Anifeiliaid

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi a gymerwyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ(5)0487(FM)

Gwnaf. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw gorfodi'r rheoliadau. Fodd bynnag, mae swyddogion yn gweithio gyda phenaethiaid safonau masnach yng Nghymru, trwy’r rhaglen cyflenwi mewn partneriaeth, i gasglu data er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheoliadau hyn.

Iawn, diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae gwybodaeth a dderbyniwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn ffermio cŵn bach yn dweud nad oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Yn ei adroddiad, ‘Animal Welfare in England: Domestic Pets’, argymhellodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth y DU wahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti ac y dylai cŵn fod ar gael i fridwyr trwyddedig a reoleiddir neu i sefydliadau ailgartrefu cymeradwy yn unig. Byddai hyn yn gwneud llawer i roi terfyn ar y diwydiant ffermio cŵn bach, sy'n arwain at gam-drin a dioddefaint cŵn a pherchnogion.

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu anwybyddu’r argymhelliad hwn. Os oes gan y Prif Weinidog y pwerau datganoledig i wneud hynny, a yw'n bwriadu gwahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti yng Nghymru? Ac os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â’r mater hwn?

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wahanu’r mater o ffermio cŵn bach a'r mater o werthiannau trydydd parti dilys. Gwn y bydd rhai yn dweud nad oes unrhyw wahaniaeth, gan fy mod i wedi ei glywed. Nid wyf yn derbyn y farn honno; rwy'n credu bod rhai sy'n gwerthu trwy lwybr trydydd parti yn ymroddedig i’w hanifeiliaid ac yn cadw at y safonau uchaf posibl, a cheir y rheini nad ydynt, a nhw yw’r ffermwyr cŵn bach. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod awdurdodau lleol yn neilltuo’r adnoddau y dylent i sicrhau bod y rheoliadau mewn grym a bod y gyfraith yn cael ei dilyn. Ac, yn wir, gwn y bu achos llys diweddar yng Ngheredigion lle gwnaeth Cyngor Ceredigion wneud yn union hynny—gorfodwyd y gyfraith ganddynt. Dilynwyd y broses farnwrol ganddynt a arweiniodd at erlyniad y bridiwr, ac maen nhw hefyd wedi sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud o ran cŵn yn cael eu symud o’r safle.

Felly, mae awdurdodau lleol yn gorfodi'r gyfraith. Mae'n hynod bwysig bod y bobl hynny, y cnafon go iawn, os gallaf ei roi felly—y ffermwyr cŵn bach—yn cael eu cosbi a bod y gyfraith yn darparu’r modd i wneud hynny.

O ran y mater ehangach o greulondeb anifeiliaid, yn amlwg, derbyniwyd yn eang bod creulondeb anifeiliaid yn cael ei ystyried yn ymddygiad sy’n arwain at drais yn erbyn pobl. Byddai llawer o'r troseddwyr hynny, rwy'n siŵr, fel gyda phethau eraill, yn gwadu eu cyfrifoldeb yn y gweithredoedd hyn o drais, ond beth ydych chi’n ei wneud i ystyried hyn yn rhan o ddeddfwriaeth cam-drin anifeiliaid ehangach? Ac a fyddech chi’n cefnogi'r alwad yr wyf i a phobl eraill yn y Siambr hon wedi ei gwneud i’ch Gweinidog lles anifeiliaid gynnal cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, oherwydd os gallwn olrhain y troseddwyr hyn sy'n cymryd rhan yn y trais hwn yn erbyn anifeiliaid ar y cam cynnar hwn, os byddant yn mynd yn eu blaenau wedyn i droseddu yn erbyn pobl, yna gallwn geisio tynnu sylw oddi wrth ddifrifoldeb y pethau posibl y gallant ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn? Felly, byddwn yn eich annog i ystyried hyn o ddifrif ac i wneud gwaith ymchwil yn y maes hwn.

A gaf i roi’r ystyriaeth honno ar ran yr Aelod? Mae'n syniad sy'n werth ymchwilio iddo. Nid wyf yn gwybod beth fyddai'r materion ymarferol ond, yn sicr, byddwn eisiau ystyried hyn ymhellach. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniadau'r ystyriaeth honno o ran y safbwynt y mae’r Llywodraeth yn ei gymryd ar hyn.

Brif Weinidog, rydw i’n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth yn casglu data ar hyn o bryd a fydd yn llywio unrhyw adolygiad i mewn i’r rheoliadau yma. Yn yr amgylchiadau, a allwch chi roi syniad inni pryd bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal? A allwch chi hefyd gyhoeddi amserlen ynglŷn â’r mater hwn?

Nid oes amserlen mewn lle eto, ond mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn rhoi i’r Cynulliad unwaith bydd yr amserlen wedi cael ei phenderfynu.

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn y cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Hannah Blythyn i ofyn y cwestiwn brys. Hannah Blythyn.

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot? EAQ(5)0141(EI)

Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gadeirydd Groupe PSA, Carlos Tavares, i amlygu pwysigrwydd safle Ellesmere Port i ogledd Cymru, yn arbennig ansawdd y gweithlu medrus sy'n cymudo yno yn ddyddiol, a'r cwmnïau cadwyn cyflenwi gwerthfawr yn y rhanbarth. Rwyf wedi gofyn hefyd am gyfarfod brys ac wedi siarad â swyddogion Vauxhall heddiw i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i safle Ellesmere Port y gall gweithwyr a chwmnïau yng Nghymru fanteisio arnynt yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cannoedd o fy etholwyr ar hyd a lled y gogledd-ddwyrain yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwaith Ellesmere Port ac, fel y dywedasoch yn eich atebion, mae hefyd pwysigrwydd y gwaith i'r gadwyn gyflenwi ehangach ac economi ein rhanbarth ni. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni’n gwybod bod yr ansicrwydd yn sgil Brexit yn cael effaith negyddol ar y sector modurol, a bod cyfrifoldeb ar bob Llywodraeth i weithio gyda’r sector a chynrychiolwyr yr undebau llafur i sicrhau swyddi a buddsoddiad yn y diwydiant yn y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod cytundebau llafur presennol yn dangos y bydd swyddi yn ddiogel tan 2020, ond mae angen i ni sicrhau bod Ellesmere Port yn cael y cynhyrchion newydd hynny ar ôl 2020, a gallai Llywodraeth y DU helpu gyda hyn drwy ddull mwy ymyrrol. Yn wir, rydym ni’n gwybod nad yw Llywodraeth y DU yn erbyn gwneud hyn, oherwydd ein bod wedi ei gweld yn camu i mewn, ar ôl refferendwm yr UE, gyda Nissan. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r math hwn o weithredu fod yn berthnasol ar draws sector modurol cyfan y DU, a bod cyllideb yfory yn cynnig cyfle amserol i weithredu?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dweud ein bod yn credu bod rhyw 450 o bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port? Hefyd, mae tua dwsin o gwmnïau yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi. Nid oes amheuaeth bod angen dileu’r ansicrwydd yn sgil Brexit er mwyn helpu safle Vauxhall Ellesmere Port, ac yn wir y gwaith yn Luton, i wneud y mwyaf o botensial ei weithlu cynhyrchiol. Fy marn gadarn i yw y dylai’r hyn sy'n dda i Nissan hefyd fod yn dda i Ford, ac i Vauxhall, ac i’r sector modurol cyfan yn y DU.

Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd busnes, Greg Clark, yn awyddus i wneud ei orau glas dros y sector modurol, ond mae angen hefyd i'r Canghellor a'r Prif Weinidog, a Llywodraeth gyfan y Deyrnas Unedig, fod yr un mor ymrwymedig i weithgynhyrchu yn y DU ag y maen nhw i ddinas Llundain. Fel yr wyf wedi ei ddweud, rwyf i wedi siarad â Vauxhall, rwy’n ceisio trefnu cyfarfod brys â chadeirydd Groupe PSA i drafod y cyfleoedd a allai ddod pe byddai oes y Vauxhall Astra yn parhau i'r degawd nesaf, neu pe byddai cynhyrchion newydd yn cael eu datblygu, yn enwedig ar gyfer y gadwyn gyflenwi yng Nghymru lle y credwn fod potensial i dyfu'n sylweddol nifer y cyfleoedd i gyflenwi Ellesmere Port a Luton.

A gaf i gefnogi’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ddau siaradwr hyd yma—yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Aelod dros Delyn? Yn amlwg, mae yna neges glir sydd angen ei rhoi i Ganghellor y Trysorlys gyda golwg ar y gyllideb yfory. Byddwn i yn gwerthfawrogi os byddech chi yn ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth yn union byddech chi’n hoffi ei weld o safbwynt cefnogaeth i sicrhau dyfodol mwy hirdymor Ellesmere Port. Ond hefyd rŷch chi wedi cyfeirio at y gadwyn gyflenwi. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chryfhau ac yn cael ei sicrhau yn y tymor canol a’r tymor hir? A gaf i ofyn hefyd, gan fod yna gyfeiriad wedi ei wneud at yr ansicrwydd sy’n deillio o safbwynt yr economi yn sgil Brexit, a fyddech chi yn cefnogi galwadau Plaid Cymru i ddatganoli rhai o’r lifers o safbwynt creu swyddi, megis treth ar werth, megis treth gorfforaethol, er mwyn sicrhau bod modd i ni gael ein harfogi i wneud mwy i amddiffyn nifer o’r swyddi fel y rhai rydym yn sôn amdanynt heddiw?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le? Mae swyddogaeth i Lywodraeth y DU—swyddogaeth bwysig iawn i Lywodraeth y DU—o ran sicrhau dyfodol, nid yn unig gwaith Vauxhall Ellesmere Port, ond y sector modurol cyfan yn y DU. Yfory, gallai Llywodraeth y DU, a’r Canghellor yn benodol, wneud datganiad cynnes iawn ar y buddsoddiad mewn gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi yn y sector modurol. Rydym ni’n gwybod bod yr Ysgrifennydd busnes eisoes wedi cyhoeddi y bydd adnoddau sylweddol ar gael i ddatblygu ceir modur newydd a gaiff eu gyrru ar drydan, ac rwy’n credu bod hyn yn cyflwyno cyfle gwych i sector modurol Cymru a'r sector modurol sy'n bwydo cadwyn gyflenwi Cymru. Rwyf hefyd yn credu y gallai adnoddau ychwanegol gael eu cynnig i waith Vauxhall Ellesmere Port os yw’r gwaith mewn sefyllfa i allu nodi cynnyrch newydd, neu ddatblygu cynnyrch ar y cyd â rhannau eraill o'r cwmni cyfunol.

Dim ond tua 24 y cant o’r cynnyrch Astra a wneir â chynnwys lleol ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych wrth i Vauxhall adael GM—ac mae GM, yn y gorffennol, yn draddodiadol wedi prynu o'r tu mewn i’r UE. Mae cyfle i gwmnïau o Gymru gael cyfran fwy o'r gadwyn gyflenwi. Am y rheswm hwnnw, roedd fy swyddogion eisoes mewn cysylltiad â Vauxhall cyn y cyhoeddiad yr wythnos hon i drafod sut y gall cwmnïau yng Nghymru baratoi eu hunain yn well i gael mwy o waith y gadwyn gyflenwi. Bydd y cydweithredu hwn yn parhau gyda Vauxhall.

Mae yna gyfleoedd hefyd o ran allforion, yn enwedig i Tsieina, wrth i Vauxhall gael ei ddatgysylltu oddi wrth GM. Y gobaith yw y gall y cwmni cyfunol archwilio cyfleoedd allforio ychwanegol yn y dwyrain pell, a allai gynyddu cynhyrchiant a galw yn safle Ellesmere Port. Rydym ni’n fodlon edrych ar unrhyw ysgogiadau sydd ar gael i ni, ac unrhyw ysgogiadau ychwanegol a fyddai'n diogelu’r sector modurol a gweithgynhyrchu yn y DU yn well. Ac mae'n deg dweud bod yna glwstwr cryf iawn o weithgarwch modurol yn y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain y mae llawer o gwmnïau ar draws ardal y gogledd a thrwodd i’r canolbarth, yn elwa arno. Rydym ni’n awyddus i weithio gyda chydweithwyr ar draws y ffin, gydag awdurdodau lleol, a gyda’r Aelodau Seneddol y siaradais i â nhw ddoe, i ddatblygu'r clwstwr hwnnw yn gryfach fyth a sicrhau bod ganddo ddyfodol disglair iawn wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd pennaeth y Grŵp PSA, sy'n prynu’r unedau General Motors yn Ewrop, ddoe rwy’n credu, fod Brexit yn golygu y gallai fod yn fwy pwysig, nid yn llai pwysig, cael gweithgynhyrchu yn y DU. Mynnodd y byddai'r cwmni cyfunol newydd yn cael cyfle i osod meincnodau mewnol newydd ar gyfer perfformiad, ond dywedodd hefyd y bydd hyn yn caniatáu i safleoedd gael eu cymharu a’u gwella; ac, wrth gwrs, mae ymrwymiadau cynhyrchu Ellesmere Port yn dod i ben yn 2021. O gofio bod y gwaith yn Lloegr, ond yn hanfodol bwysig i’r gogledd-ddwyrain ac i Gymru yn fwy cyffredinol, sut y byddwch chi, a sut yr ydych chi’n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, pan fo'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd busnes wedi bod mewn cysylltiad agos â'r Grŵp PSA a General Motors, ac wedi datgan y byddant yn parhau i weithio gyda PSA yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed gan GM i weithwyr a phensiynwyr Vauxhall yn cael eu cadw ac y bydd yn adeiladu ar lwyddiant Ellesmere Port, a safleoedd eraill yr effeithir arnynt, yn y tymor hwy?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod penderfyniad ar y Vauxhall Astra wedi ei ohirio ar ôl Brexit yn sgil ansicrwydd, ac mae'n eithaf amlwg mai’r hyn sydd ei angen fwyaf ar Vauxhall, Ford, Nissan—ar y sector modurol cyfan—yw sicrwydd ynghylch y fargen y bydd y DU yn ei tharo â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae Ellesmere Port, mewn gwirionedd, yn un o'r cyfleusterau mwyaf cynhyrchiol yn y cwmni cyfunol newydd ar hyn o bryd, ond bydd 24 o ffatrïoedd ledled yr UE yn rhan o'r cwmni newydd. Hwn fydd yr ail weithgynhyrchydd mwyaf yn Ewrop y tu ôl i Volkswagen. Rydym ni’n dymuno gweld Ellesmere Port yn cael y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a fydd yn ei alluogi i dyfu a ffynnu.

O ran y cymorth y gallwn ei roi, wrth gwrs, gyda chynifer o bobl o Gymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port, mae swyddogaeth hollbwysig gan ddarparwyr hyfforddiant sgiliau yn y gogledd, ac felly, ar gyfer y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, mae hwn yn waith hollbwysig. Gwn fod y colegau yn y gogledd wedi darparu gweithwyr eithriadol sydd â’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl ar y safle, ac rwy’n gwybod hefyd bod y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn ymwybodol iawn o'r heriau, ond hefyd y cyfleoedd, yn Ellesmere Port. Rwyf i wedi ceisio trefnu cyfarfod â Gweinidogion y DU i drafod y sector modurol. Hwn, wrth gwrs, yw'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau sy'n dangos yr angen mawr iawn i Lywodraeth y DU weithredu mewn modd mwy ymyrrol. Mae'r geiriau wedi’u rhoi ar bapur sy'n awgrymu bod y Llywodraeth yn fodlon gwneud hynny, ond yfory gall Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, neilltuo arian i gefnogi ei geiriau a buddsoddi yn y sector gweithgynhyrchu ledled y DU.

Nodaf o’r cyfryngau fod llawer o ofn ac ansicrwydd yn cael ei greu ynglŷn â’r mater hwn ar hyn o bryd. Nid yw Peugeot wedi dweud ei fod yn bwriadu cau'r gwaith. Yn wir, mae rheolwr Peugeot wedi awgrymu y bydd ei gwmni yn awyddus i gadw’r cynhyrchu ym Mhrydain i fanteisio ar gytundebau masnach y DU yn y dyfodol a allai fod o fudd i allforion. Mae hwnnw'n safbwynt eithaf rhesymegol, yn enwedig yn wyneb y ffaith mai’r Unol Daleithiau yw’r farchnad twf mwyaf ar gyfer ceir a wneir ym Mhrydain, gyda gwerthiant yn cynyddu gan 47 y cant y llynedd. Pa waith ydych chi’n ei wneud i dynnu sylw at fanteision adeiladu ceir yma, a pha ymdrechion ydych chi'n eu gwneud i ddenu Citroën-Peugeot i weithgynhyrchu yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei chwestiynau? Wrth gwrs, aros yn y farchnad sengl yn yr UE fyddai wedi bod y ffordd orau o sicrhau gweithgynhyrchu, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y DU, ond mae pobl Prydain wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwn, yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw ein bod yn buddsoddi yn nhechnoleg y dyfodol er mwyn diogelu’r sector modurol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth i ni ddechrau ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Yn hyn o beth, dywedodd cadeirydd y grŵp y rhagwelir y bydd £1.47 biliwn o arbedion y flwyddyn yn cael eu cyflawni erbyn 2026 yn y grŵp Vauxhall-Opel. Mae hynny’n cyflwyno heriau, wrth gwrs, i Ellesmere Port, ond y neges y byddwn i’n ei rhoi yn glir iawn i gadeirydd y grŵp yw bod gan waith Ellesmere Port un o'r gweithluoedd mwyaf medrus a chynhyrchiol mewn unrhyw le yn y teulu Vauxhall-Opel, ac yn lle ystyried toriadau neu leihau’r gweithlu yng ngwaith Ellesmere Port yn y blynyddoedd i ddod, dylai, yn hytrach, ystyried cynyddu’r gweithgynhyrchu sy'n digwydd yno.

Rydym ni’n buddsoddi'n drwm iawn yn natblygiad y gweithlu modurol ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector modurol i chwilio am gyfleoedd newydd, yn enwedig ym maes moduron trydan. Mae fforwm modurol Cymru eisoes wedi rhoi dadansoddiad i mi o effaith debygol penderfyniad PSA i gaffael Vauxhall-Opel, a chredir y gallai'r Astra ymestyn ei oes gweithgynhyrchu y tu hwnt i ddiwedd y degawd hwn. Byddai hynny'n rhoi digon o amser i nodi cynnyrch newydd a dod â hwnnw i waith Ellesmere Port, neu yn wir i’r cwmni cyfunol newydd gynhyrchu cynnyrch newydd ar y cyd a’i weithgynhyrchu yma yn y DU yn Ellesmere Port.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Nid oes newidiadau gennyf i'w hadrodd ar fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad busnes a’r cyhoeddiad ym mhapurau’r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddiffyg argaeledd adnoddau dysgu dwyieithog a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar addysg Gymraeg? Mae’n rhywbeth sydd wedi codi ei ben o dro i dro dros y misoedd diwethaf, ond mi wnes i ddeall heddiw na fydd TGAU seicoleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un lle y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd yr adnoddau angenrheidiol. Mae ysgolion Cymraeg Cymru wedi penderfynu peidio â darparu’r cwrs, ac mae ysgolion dwyieithog wedi dewis gwneud y cwrs Saesneg oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod yr adnoddau ar gael. Nawr, y perygl yn hynny, wrth gwrs, yw yn y dyfodol bydd yr awdurdodau yn dweud nad oes galw am y fath adnoddau, ac felly rŷm ni’n gweld cylchdro dieflig gwbl annerbyniol yn datblygu, yn fy marn i, ac mae hynny filiwn o filltiroedd i ffwrdd, wrth gwrs, o ble dylem ni fod os ydym ni am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae e yn gadael ysgolion Cymraeg i lawr. Mae’n gadael athrawon sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr, ac mae’n gadael disgyblion sydd am gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr. Ac mae e’n tanseilio pob uchelgais sydd gan y Llywodraeth yma o safbwynt yr iaith Gymraeg. Felly, mi fyddwn i’n gofyn yn garedig i’r Gweinidog perthnasol ddod ger ein bron ni i esbonio’n union beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a sut maen nhw’n tybio bod hyn yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.

Diolch yn fawr, Llŷr Gruffydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael tystiolaeth i gadarnhau'r pryderon hyn sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ran seicoleg, bydd yn peidio â bod yn y Gymraeg a'r Saesneg yn 2018—Cymraeg a Saesneg—felly mae’n amlwg fod hynny yn rhan fawr o’r penderfyniad hwnnw, a hefyd, bod y llyfr bioleg TGAU ar gael fis Hydref y llynedd. Felly, nid ydym yn gwybod pam oedd yr ysgol dan sylw—yr wyf yn deall bod y cwestiwn hwn wedi deillio yn rhannol o’r fan honno— heb gael copi. Mae’n amlwg, felly, bod hwn yn fater o archwilio beth sy’n cael ei honni o ran cael y dystiolaeth ac ymateb priodol.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych, arweinydd y tŷ, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda?  Ddydd Gwener, bu i mi gyfarfod â Chyngor Tref Llanilltud Fawr, a Chyngor Cymuned Llanmaes. Rwyf yn gwybod eich bod, yn rhinwedd eich swydd fel Aelod etholaeth Bro Morgannwg, wedi cyfarfod â nhw hefyd. Ond mae cryn bryder ynglŷn a’r ffordd fynediad ogleddol, y mae Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo o fewn yr ardal arbennig honno, a’r anallu sydd i ystyried barn y cynghorau o ran y dewisiadau trafnidiaeth yn sgil y datblygiad cyffrous gan Aston Martin yn awyrendy’r Ddraig Goch. Mae pawb yn gefnogol i'r datblygiad hwnnw—rhai o'r dewisiadau trafnidiaeth sydd wrthi’n cael eu trafod. Ac, mewn gwirionedd, mae yna deimlad eu bod yn cael eu gwthio ymlaen yn ormodol pan ystyrir fod y seilwaith presennol o gwmpas y fan honno, heol Eglwys Brewis, yn ddigonol, yn ôl rhai, i fodloni anghenion cludiant yr ardal honno i’r dyfodol. A hefyd mae’r mesurau atal llifogydd a nodwyd ar gyfer pentref Llanmaes yn awr, o'r hyn y mae'r cyngor cymuned yn ei ddweud wrthyf, wedi eu gwthio yn ôl, ac maen nhw’n dibynnu ar adeiladu a chwblhau’r ffordd fynediad ogleddol mewn gwirionedd.

Yn amlwg, rhoddwyd sicrwydd i’r gymuned ym mis Mawrth y llynedd, yn union o flaen etholiadau'r Cynulliad yn eironig iawn, y byddai £400,000, rwyf yn credu, ar gael er mwyn gwneud y gwaith ataliol hwn yn Llanmaes. Bellach, ar ôl yr etholiad, dywedir wrthynt na fydd hynny’n digwydd. Felly, a allem gael datganiad gan y ddau Weinidog ynglŷn ag atal llifogydd, ond hefyd ynglŷn â’r ôl-troed economaidd yn sgil y ffordd fynediad ogleddol, o ran pa ymgysylltu yn union a wneir â'r gymuned yn y dyfodol, ac, yn bwysig iawn, pa werthusiadau sydd wedi’u cynnal o'r llwybrau trafnidiaeth presennol o amgylch yr ardal honno? Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai ffolineb yw gwario £15 miliwn ar ffordd newydd pryd y gallai swm llawer llai gyrraedd y nod terfynol ar y seilwaith sydd yno’n barod. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar y naill neu’r llall o'r rhain.

A'r ail ddatganiad y byddwn yn ddiolchgar amdano yw datganiad am gyflwr yr A48 o Groes Cwrlwys i Ben-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn ymwybodol o nifer o ddamweiniau a gafwyd yno yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod chwech wedi digwydd i gyd, dywedir wrthyf, yr wythnos honno—[Torri ar draws.] Nid araith yw hon—rwy’n clywed rhywun ar ei eistedd yn dweud hynny. Pan gawn chwe damwain ar ddarn o ffordd, awgrymaf fod hynny’n destun pryder. Diolch byth, ni laddwyd neb, ond roedd rhai anafiadau difrifol. Ac, os ydych yn gyrru ar y darn o ffordd rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr, mae arwyneb y ffordd mewn cyflwr echrydus, gyda sawl twll dwfn iawn. Byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod pa werthuso sydd wedi ei wneud gan reoli traffig Llywodraeth Cymru ynghylch y gwaith cynnal a chadw a allai fod yn ofynnol ar y ffordd honno, ac, yn benodol, pa gamau diogelwch y gellid eu rhoi ar waith i leddfu rhai o'r peryglon traffig hyn sy'n bodoli ar y darn hwnnw o ffordd rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr.

Diolch yn fawr i R.T. Davies am y cwestiynau hynny—cwestiynau etholaethol i raddau helaeth yr wyf yn ymdrin â nhw fel Aelod Cynulliad Bro Morgannwg. Ond rwy'n credu, o ran y cwestiwn cyntaf, sydd mewn dwy ran, rwyf yn deall—ac rwyf wedi bod gwneud llawer, yn wir, i annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori â phob un o'r cynghorau tref a chymuned yr effeithir arnyn nhw o ran y cynnig ar gyfer y ffordd fynediad ogleddol, ac, yn wir, roeddwn yn gallu sicrhau bod arddangosfa’n cael ei chynnal yn Llanilltud Fawr, yn dilyn ei chynnal yn Sain Tathan, a Llanmaes hefyd. Felly, mae’n dilyn ei bod yn iawn ac yn briodol i gynghorau tref a chymuned ymateb i hynny. Ond, yn amlwg, rhywbeth i Gyngor Bro Morgannwg yw hyn nawr, o ran ceisiadau cynllunio. Ac yn wir, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn cymryd rhan lawn yn hyn, oherwydd, fel y dywedwch—ac yr ydych yn croesawu’r datblygiad cyffrous gan Aston Martin, sydd bellach ar gam cyntaf eu gwaith adeiladu yn Sain Tathan.

Rwyf yn meddwl bod eich ail bwynt, wrth gwrs, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yma gyda ni, o ran amgylchedd a materion gwledig—mae’r arian ar gyfer Llanmaes wedi cael ei addo ers blynyddoedd lawer. Rwyf yn teimlo mor rhwystredig â chi—a phobl Llanmaes. Mae angen cwblhau’r gwaith hwn. Ond, fel y gwyddoch, wrth gwrs, yn Nhrebefered, mae'r gwaith bellach wedi cychwyn yn y pentref, islaw Llanmaes a Threbefered, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr iawn, a bydd yr arian yn cael ei wario yn Llanmaes hefyd.

Eich ail bwynt: wrth gwrs, rydym ni, yn lleol, yn ymwybodol iawn o’r damweiniau hynny. Y rhew llym, annisgwyl—cafodd y ffyrdd eu graeanu, gwyddom, gan Gyngor Bro Morgannwg, ac, wrth gwrs, mae cyflwr yr A48 yn fater, mi wn, a gaiff ei ystyried.

Er nad yw gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn rhan o gynnig dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd, yn briodol iawn, yn seiliedig ar wella ffyniant economaidd, ac felly'r gwerth ychwanegol gros, mae angen am well cysylltiadau bws, ffyrdd a rheilffyrdd yn y ddinas-ranbarth. Mae rhai pobl yn byw ymhell o gyrraedd cyfleusterau cyflogaeth, manwerthu a hamdden, er nad ydynt mewn rhai achosion yn byw mor bell â hynny oddi wrthynt mewn gwirionedd, ond, o achos y diffyg cyfleusterau cludiant, nid yw’n hawdd cyrraedd yno. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar raglen i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe?

Mae'r rhain yn hanfodol o ran y cyfleoedd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn eu cyflwyno, yn enwedig o ran cyfleoedd y fargen ddinesig hefyd. Bu i ni gyhoeddi, fel y gŵyr Mike Hedges, bron £29 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru, er mwyn gwella diogelwch a helpu i ysgogi twf economaidd a hyrwyddo teithio llesol. Mae'r dinas-ranbarthau wedi gallu dylanwadu ar brosesau cynllunio trafnidiaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Ond, wrth gwrs, rydym wedi ariannu nifer o welliannau i seilwaith y rheilffyrdd a’r gwasanaethau ar gyfer Abertawe, a’i hardal economaidd, yn y blynyddoedd diwethaf.

Ac rwyf yn credu bod hwn yn bwynt hollbwysig o ran datblygiad strategol. Gallaf sôn llawer am welliannau i wasanaethau bws, ond mae ffyrdd hefyd, fel y dywedwch, yn hanfodol bwysig o ran cyllid grant ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol, sef £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i awdurdodau lleol yn y de ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth. Ac mae hyn yn cynnwys dyraniadau i ddinas a sir Abertawe i gwblhau ffordd ddosbarthu Morfa, ar gyfer coridor Ffordd Fabian yr A483—ar achos busnes—gwaith ar wella’r seilwaith, a hefyd, yn hollbwysig, gynllun cyswllt Kingsbridge, sef y darn allweddol o ran teithio llesol Abertawe.

Gallwn fynd ymlaen, ond rwy'n credu bod hynny'n ddigon i ateb y cwestiwn hwnnw.

Ddoe, cyhoeddodd Newsquest ei fod yn cau ei ganolfan yng Nghasnewydd, gan golli 14 o swyddi. Yn anffodus, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchiad o'r duedd gyffredinol ymhlith y cyfryngau print, ac, yn amlwg, rydym agored iawn i hynny yma yng Nghymru. Sylwaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn y Siambr. Tybed a allem gael datganiad ysgrifenedig o leiaf ganddo, a allai gynnwys gwybodaeth efallai am natur penderfyniad Newsquest i ddod â’i weithrediadau yng Nghasnewydd i ben ond eu cadw yn Weymouth, ac, yn benodol ac yn bwysig iawn, pa ymyriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gefnogi aelodau’r staff yno, o ran eu gobeithion am yrfa yn y dyfodol. Hefyd, yn fy marn i, gallai hyn fod yn gatalydd eto i fwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn sector y cyfryngau print, wrth inni symud ymlaen.

Wel, diolch, Steffan Lewis, am y cwestiwn hwn. Rwyf yn credu bod cwestiynau am hyn wedi'u codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet sawl tro o'r llawr. Yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth gynnal ein busnes. Felly, diolch ichi am y cwestiwn heddiw.

Tybed a allwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ. Mae’r cyntaf— gwelaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol—yn ymwneud â rheoleiddio safleoedd gwastraff pren. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sydd wedi ei godi o'r blaen, ond, o ystyried y tân yn Llandŵ, sydd wedi effeithio ar drigolion ac ar o leiaf un busnes bychan yn ddiweddar, credaf fod hyn efallai yn rhywbeth y byddem yn ddiolchgar iawn, iawn i glywed gennych chi amdano cyn bo hir. Hoffwn glywed, yn enwedig, a fydd gan adnoddau Naturiol Cymru y capasiti a'r adnoddau, mewn gwirionedd, i gefnogi, neu gyflawni, unrhyw newid rheoleiddio y byddwch efallai yn gallu ei gyflwyno. Ond byddai dim ond diweddariad ar hynny yn gymeradwy iawn.

Yr ail—ys gwn i, aeth cryn amser heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn stiwdios Pinewood. Mae’n amlwg, gwnaed y buddsoddiad ar sail ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol. Clywsom gryn dipyn ar y pryd am yr effaith economaidd leol a’r swyddi fyddai’n cael eu creu. Ond, fel y dywedais, roedd hynny gryn amser yn ôl erbyn hyn. Byddai'n eithaf defnyddiol, yn fy marn i, pe gallem gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa mor dda mae hynny wedi mynd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Suzy Davies. Yn wir, rwyf wedi ymwneud llawer ag effaith a chanlyniad pedwerydd tân ar stad ddiwydiannol Llandŵ, a ddigwyddodd nos Iau—ymwelais ar fore Gwener a ddoe eto, hefyd, gan gwrdd â Chyfoeth Naturiol Cymru, a gyhoeddodd orchymyn atal dros dro wedyn, gan weithio gyda busnesau lleol fel maes carafannau Llandŵ ac, yn wir, y gymdogaeth yno. Bydd y rhai sy'n byw yn yr ardal honno yn gweld y mwg a'r effaith ar y gymuned lawer ehangach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, ac Ysgrifennydd y Cabinet yn glir iawn, unwaith eto, ynghylch a oes cyfleoedd rheoleiddio y gellid eu gweithredu o ganlyniad i'r tanau anffodus iawn yn y safleoedd hyn.

Yr ail bwynt—byddai, mi fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus. Mae'n briodol—yn amserol—i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am stiwdios Pinewood.

Mae chwaraeon, fel y gwyddom, yn cynnig manteision lu, ond tybed a allwn ni ddod o hyd i amser am ddatganiad neu ddadl ar fater chwaraeon ac ymddygiad, ar y cae chwarae ac oddi arno hefyd, yn dilyn y sylw anffodus a roddwyd i’r ffrwgwd ar y maes yn ystod y gêm yn nhrydedd haen rygbi'r gynghrair yn ystod y penwythnos. Fel rhywun sydd wedi dilyn rygbi a hyd yn oed chwarae yn safle’r bachwr pan oeddwn yn ifanc, ac wedi dod allan ohoni waethaf o achos rhai o hen driciau’r fall ar waelod y sgrym neu ar y llinell ystlys, gallaf ddeall yr angerdd yn iawn. Ond pan fydd hyn yn berwi drosodd yn wylltineb neu hyd yn oed yn ymladdfa—nid yn unig ar y cae, ond rwyf wedi gweld hynny’n aml hefyd yn anffodus ar y llinell ystlys pan fydd pethau’n cynhyrfu’n ormodol.

Felly, byddai'n beth da cynnal dadl ar hynny er mwyn inni allu trafod hynny, swyddogaeth modelau rôl ar y cae, patrwm ymddygiad rhieni a gwylwyr, ond hefyd er mwyn trafod swyddogaeth y cyrff llywodraethu, megis Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill. Eithriad yw hyn, ond, pan mae’n digwydd, mae angen i ni godi llais yn ei erbyn a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto.

Rwy'n falch fod Huw Irranca-Davies wedi codi’r cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gallu mwynhau'r profiad ar ac oddi ar y cae, ac mae’n condemnio unrhyw drais yn ystod gemau a thu allan iddyn nhw, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio. Byddwn yn ymgynghori â chydweithwyr yn y Llywodraeth am y cyfleoedd sydd gennym i ymateb yn llawn i hyn mewn datganiad o bosibl neu ddadl ar ymddygiad mewn chwaraeon. Ond rwy'n credu, dim ond wrth edrych ar bêl-droed, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sefydlu Gwobr Chwarae Teg—ac mae hynny’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth er lles pêl-droed yng Nghymru. Ac mae yna wobr ariannol. Gall clybiau—ac, yn wir, enillwyr unigol, gael taliad ariannol gwerth £1,000 tuag at offer a gwelliannau i’r maes hefyd. Mae URC wedi dechrau ymchwilio i ddigwyddiadau yng Nghasnewydd ac, yn wir, mae hynny’n ymateb pwysig—mae ganddynt broses ddisgyblu fanwl ar waith ac, wrth gwrs, cysylltwyd â’r timau dan sylw ac ymdrinnir â nhw yn unol â hynny.

Tybed a ydy’n fwriad gan y Llywodraeth i ddod â dadl cyn bo hir, yn amser y Llywodraeth, ar y mater o fand eang i gymunedau Cymru, yn benodol, cynllun Superfast Cymru? Roedd nifer o gwestiynau wedi cael eu gofyn i’r Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau fe, ac rwy’n credu, pe buasai’r Llywydd wedi bod yn amyneddgar, buasai pob un ohonom ni wedi gallu codi i ofyn cwestiwn ynglŷn â’r cymunedau sy’n cael trafferth ar hyn o bryd i gael mynediad at Superfast Cymru.

Yr enghraifft ddiweddaraf rydw i wedi’i gweld yn fy rhanbarth i yw tro pedol gan BT i ddarparu band eang i Lanymawddwy. Roedd yna gyfarfod fis Mehefin diwethaf, gyda’r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts, yn bresennol, pan wnaed addewid y byddai Superfast Cymru yn dod i Lanymawddwy. Erbyn hyn, mae BT wedi gwneud tro pedol. Dyma’r tro cyntaf i fi weld tro pedol llwyr. Oedi, ie, ailraglennu, ie, ond nid tro pedol llwyr yn dweud na fydd band eang ar gael ar gyfer y pentref hwn, er gwaethaf addewid sydd wedi’i wneud yn y gorffennol.

I bobl sydd yn ystyried bod efallai llefydd pellennig yn rhy bell i gael technoleg fodern, digwydd bod, dyma’r ardal lle ffilmiwyd y ffilm gyntaf mewn lliw yng Nghymru erioed. Felly, dylem ni ailfeddwl, efallai, lle mae creadigrwydd a thechnoleg newydd yn dechrau yng Nghymru. Wrth gwrs, pwnc y ffilm yna oedd gwylliaid cochion Mawddwy. Felly, oni bai eich bod chi eisiau gwrthryfela ymysg bryniau Maldwyn a Meirionnydd, efallai ei bod hi’n amser ailedrych ar hyn mewn dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn inni i gyd ddeall i le y mae Superfast Cymru yn mynd ac a yw’n cadw at yr addewidion sydd wedi cael eu gwneud i Aelodau’r Cynulliad.

Mae Simon Thomas yn tynnu sylw at un lleoliad arbennig o bwysig lle cafwyd y rhwystredigaethau hyn. Yn wir, tynnodd Nick Ramsay sylw yn gynharach at lawenydd pobl Tyndyrn, gan dynnu sylw at ardaloedd cyfagos. Felly, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod problemau yn dal i fodoli ond, hyd yn hyn, mae dros 621,000 eiddo ledled Cymru yn gallu cael band eang cyflym iawn, diolch i’r rhaglen. Cymru sydd â’r ddarpariaeth orau o ran band eang cyflym iawn ymhlith y gwledydd datganoledig. Ond mae’n rhaid i’r gwaith hwnnw barhau, sy'n golygu bod nifer y safleoedd ledled Cymru gyda'r gallu i dderbyn band eang cyflym iawn yn parhau i gynyddu.

Mae ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y bydd yr Aelod yn hollol ymwybodol ohono, hefyd yn cynnig cymorth i'r rhai hynny nad ydynt yn rhan o'r broses a gafodd gymorth grant. Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd ein bod hefyd yn edrych ar sut y gallwn gyrraedd yr ychydig leoedd fydd ar ôl pan fydd Cyflymu Cymru yn dod i ben yn 2017, gyda buddsoddiad o hyd at £80 miliwn. Felly, bydd hynny’n llywio'r cynllun nesaf, ond yn amlwg mae yna faterion ynglŷn â seilwaith, argaeledd tir—sydd wedyn yn arwain at y siom y clywsoch gan eich etholwyr amdani. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi mynegi hynny heddiw ac rwyf wedi rhoi diweddariad i chi ar y cynnydd yr ydym wedi'i wneud. Felly, byddai siroedd cyfan—Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Sir Benfro a Cheredigion—wedi cael eu gadael heb unrhyw fynediad heb yr ymyrraeth, wrth gwrs, gan Cyflymu Cymru.

Rwy’n codi dwy eitem o fusnes. Yn gyntaf, rwy’n galw am ddatganiad yn cydnabod bod ddoe yn dynodi cychwyn degfed Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol y DU, nid er mwyn ailgylchu’r dadleuon yr ydym eisoes wedi eu cael yma ynglŷn â’r ardoll, ond y materion ehangach sy'n cael eu dwyn i'r amlwg. Er enghraifft, mae llawer o elusennau, fel y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, yn siomedig, i’w rhoi yn gwrtais, na fydd prentisiaethau yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu newydd arfaethedig fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd. A dangosodd ymchwil newydd gan Centrica, perchennog Nwy Prydain, y byddai bron un o bob dau berson ifanc yn cael eu denu i weithio i gwmni gyda chyfleoedd ar draws y DU, o'u cymharu ag ychydig dros un o bob pedwar person ifanc o Gymru, nad oeddent yn credu bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw. Er bod mynd i’r brifysgol yn cael ei ystyried o hyd yn ddechrau delfrydol, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn yr arolwg yn credu mai prentisiaethau yw’r man cychwyn gorau i ymgyrraedd at swyddi uwch, mae 90 y cant o brentisiaid Centrica, er enghraifft—rwy'n siwr fod cyfatebiaeth i hynny mewn mannau eraill—yn teimlo eu bod yn fwy parod ar gyfer byd gwaith na ffrindiau a aeth i goleg neu brifysgol.

Yn ail, ac yn olaf, rwyf yn galw am ddatganiad llafar o leiaf, ac yn ddelfrydol drafodaeth gan y Llywodraeth, ar 'Symud Gogledd Cymru Ymlaen', gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer metro’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i’r gogledd. Rydym wedi bod yn disgwyl am fisoedd lawer iawn i Lywodraeth Cymru roi manylion ei hymateb i'r cynigion a wnaed. Yn lle hynny, datganiad ysgrifenedig yn unig a gawsom ni ddydd Iau diwethaf yn llawn ystrydebau, megis

Bydd moderneiddio trafnidiaeth yn y Gogledd ... yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion lles,

ac

Mae cysylltiadau cryf rhwng economi’r gogledd-ddwyrain ac economi gogledd-orllewin Lloegr.

Nid oedd angen i ni gael datganiad i ddweud hynny wrthym. Ac rydym wedi derbyn cyhoeddiadau wedi eu hailgylchu, fel y rhai a gafwyd ar yr uwchgynhadledd bysiau. Er ei fod yn hanfodol bwysig, rydym wedi cael datganiad ar ôl datganiad ar ôl datganiad yn y Siambr, ac rydym wedi clywed y cynigion ar gyfer Glannau Dyfrdwy a Wrecsam sawl tro hefyd.

Yr unig gyfeiriad at weddill y gogledd oedd y drydedd bont dros y Fenai, sydd, mewn gwirionedd, yn ymgynghoriad wedi'i ailgylchu, gan fod argymhellion yr un olaf, naw mlynedd yn ôl, wedi eu hanwybyddu.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae'n cyfeirio at ddadlau

yr achos gyda Llywodraeth y DU dros gyfran decach o gyllid y rheilffyrdd,

gan wybod yn iawn fod hynny wedi ei seilio ar y weledigaeth twf ar gyfer y gogledd a Growth Track 360, a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU yn gynnar yr haf diwethaf. Maen nhw yn hanfodol i allu Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nhrydaneiddio’r gogledd a materion eraill, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda. Nid yw dweud y byddwch yn edrych ar

drefniadau rhanbarthol sy'n gysylltiedig â diwygio’r sector cyhoeddus a Thwf Cynigion

wrth iddyn nhw ddatblygu yn ddigon da. Hyd nes y byddwn yn gwybod sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynigion hynny, nid ydym yn gwybod sut y gall hyn fynd yn ei flaen.

Wel, credaf, o ran eich cwestiwn cyntaf, o safbwynt Llywodraeth Cymru, byddwn ond yn rhy falch i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, gan ystyried ein bod ni yn Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu 100,000 o brentisiaethau, hyd yn oed ar yr adeg anodd hon. Mae hyn yn ymwneud â dewis blaenoriaethau y gwyddom eu bod nhw yn cael y math o effaith a ddisgrifiwch mor dda, Mark Isherwood, o ran cyfleoedd i bobl ifanc. Yn wir, roedd yn dda iawn cael clywed, fore Llun rwy’n credu ar 'Good Morning Wales' am unigolyn ifanc a oedd wedi llwyddo i dderbyn prentisiaeth gyda Nwy Prydain, yn hytrach na mynd i brifysgol, a oedd yn opsiwn, neu nid oedd wedi bod yn gymwys. Ond rydym yn gwybod hefyd, o ran y cyfleoedd ar gyfer y cynllun prentisiaethau a ddatblygwyd gennym ni, wrth gwrs, mae wedi cael ei gefnogi gan arian o Ewrop, a siom i ni yw nad ydym yn gwybod sut y byddwn yn gallu defnyddio cyllid hollbwysig o Ewrop o ran sgiliau i symud hyn yn ei flaen yn y dyfodol. Ond bydd y 100,000 o brentisiaethau yr ydym yn eu cyllido yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

O ran symud y gogledd ymlaen, wel, ie, rwy'n siwr y byddech yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth wedi cydnabod, cymeradwyo a chroesawu'r cydweithio da iawn mewn partneriaeth ar draws yr awdurdod lleol yn y gogledd. Mae’r gogledd, wrth gwrs, wedi cael buddsoddiadau hael iawn. Felly, a ydych am i mi eich atgoffa chi eto, Mark Isherwood—rwy'n hapus iawn i wneud hynny—er enghraifft, am y gwaith ar yr A55, sy’n gwella diogelwch a gwydnwch, a gynhaliwyd yn ystod y gaeaf pan fydd llif y traffig ar ei isaf, gan gwblhau’r holl waith ar yr A55 a oedd i’w wneud yng ngolau dydd cyn y Pasg. Mae’n amlwg fod hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn o ran yr effaith yng ngolwg cyngor Conwy. Dyddiad ymchwiliad cyhoeddus i ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd— mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus ar gyfer y ffordd osgoi A487 Caernarfon i Bontnewydd, ac rydym wrthi’n cwblhau’r manylion.

Trydedd pont dros y Fenai—credaf eich bod wedi crybwyll hynny, fel un enghraifft yn unig.  Ymrwymiad hirdymor eglur i drydedd pont dros y Fenai. Ac rydym yn ystyried addasiadau posibl i'r bont Britannia bresennol, gan fod hyn yn hanfodol o ran mynediad i Wylfa Newydd. Mae'r ymgynghoriad ynglŷn â choridor Glannau Dyfrdwy [Torri ar draws.] Rwy’n mynd yn fy mlaen, gan eich bod wedi gofyn y cwestiwn i mi—mae’r ymgynghoriad ar brosiect coridor Glannau Dyfrdwy yn dechrau ar 13 Mawrth ac yn para 12 wythnos. Ac wrth edrych ar y materion hollbwysig hynny ynghylch y Fferi Isaf a Llaneurgain, mae hynny'n mynd i gynrychioli buddsoddiad o dros £200 miliwn, ac, wrth gwrs, o safbwynt y rheilffyrdd, bydd y gogledd yn elwa o ganlyniad i hynny ac wrth i ni fwrw ymlaen â gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r gororau ac ymgynghoriadau ynglŷn â metro yn y gogledd a’r de. Felly, welwch chi, roeddech yn croesawu'r uwchgynhadledd bysiau; un agwedd yn unig oedd hynny ar bwysigrwydd y gogledd yng ngolwg Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth.

A fyddai modd i arweinydd y tŷ, neu i’r Llywodraeth, egluro goblygiadau gwaharddiad diweddaraf Trump ar deithio a'i effaith ar drigolion Cymru a'u teuluoedd, drwy ddatganiad ysgrifenedig efallai? Mae'r rhestr o wledydd yn cynnwys Somalia, ac, fel y gŵyr arweinydd y tŷ, mae llawer o bobl o Somalia yn byw yng Nghaerdydd, a’r cyfan bron yn dod o Somaliland. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth egluro a yw'r gwaharddiad yn cynnwys Somaliland, sydd yn gweithredu fel gwlad ar wahân i bob pwrpas, ac, yn amlwg, os ydyw, a oes goblygiadau i drigolion Cymru a'u teuluoedd?

Mae Julie Morgan yn codi cwestiwn hanfodol iawn sydd o bwys mawr i’w hetholwyr a phobl yr ydym yn eu cynrychioli yma yng Nghymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi, gallaf gadarnhau, siarad heddiw â'u cymheiriaid yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Maen nhw wedi cadarnhau bod Somaliland fel arfer yn cael ei thrin gan y gymuned ryngwladol yn rhan annatod o Somalia. Felly mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn disgwyl y bydd y gwaharddiad teithio diweddaraf o du’r Unol Daleithiau yn effeithio ar bob Somaliad fel ei gilydd, gan gynnwys y rhai o Somaliland. Felly yr oedd, yn wir, pan gafwyd y gwaharddiad teithio blaenorol gan yr Unol Daleithiau. Nid oes arwydd ar hyn o bryd am unrhyw wahaniaethu y tro hwn, ond mae ein swyddogion wedi tynnu sylw at y pryderon ymhlith cymuned y Somaliaid yng Nghymru. Rydym wedi gofyn am unrhyw wybodaeth bellach am effaith debygol y gwaharddiad ar Somalia a’r gwledydd eraill sy'n cael eu cynnwys hefyd yn y gwaharddiad diweddaraf, a dylai hyn gael ei fynegi i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd. Fel yn achos y gwaharddiad teithio blaenorol i’r Unol Daleithiau, mae llawer yn aneglur ynghylch y manylion o hyd, ynghylch goblygiadau ymarferol y gwaharddiad, cyhoeddiad diweddaraf Arlywydd Trump. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bryderu’n ddifrifol am y cyfyngiadau sydd i’w gwneud yn weithredol, a byddwn yn gobeithio bod y pryderon hynny yn gyffredin ar draws y Siambr hon. Byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud popeth sy’n bosibl i sicrhau nad yw buddiannau na hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu niweidio.

Buaswn yn dweud hefyd, yn olaf, bod Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol at argyfwng y ffoaduriaid trwy dderbyn ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio lloches ym mhob rhan o'r wlad bron. Mae gennym ddyletswydd i helpu ac amddiffyn ffoaduriaid ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd hynny o ddifrif. Rydym wedi elwa ar fewnfudo, rydym yn credu bod mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru a’r gymdeithas ehangach, ac rydym yn sefyll mewn undod gyda'n holl bobl, waeth beth fo’u gwlad tarddiad na’u crefydd, a dylai Llywodraeth y DU gynrychioli pob un o'n dinasyddion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y cyhoeddiad am golli 60 swydd yn Gyrfa Cymru? Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth annibynnol am yrfaoedd, cyngor ac arweiniad i rai o bob oed yng Nghymru. Mae'n helpu pobl i wneud penderfyniadau realistig ynglŷn â gyrfa, boed drwy annog addysg bellach, hyfforddiant, datblygu sgiliau neu gyflogaeth. Mae'n destun pryder mawr, felly, fod 60 o swyddi—bron i 10 y cant o'r gweithlu—dan fygythiad oherwydd i Lywodraeth Cymru gwtogi ar ei chyllid. Un o swyddogaethau allweddol Gyrfa Cymru yw cynorthwyo i roi rhaglenni Llywodraeth Cymru ar waith. Yn wir, maen nhw yn gwneud cais ar hyn o bryd i ddarparu rhaglen hyfforddiant cyflogadwyedd a phrentisiaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid bod colli cymaint o swyddi yn bwrw amheuaeth ar allu Gyrfa Cymru i gyflwyno rhaglenni Llywodraeth Cymru yn effeithiol a rhoi cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr a phobl heb waith. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad ar y mater pwysig hwn yn awr. Diolch.

Wel, rwyf weithiau yn amau o ble tybed y mae Mohammad Asghar yn credu ein bod ni'n mynd i ddod o hyd i'r cyllid, gyda thoriad o £1.8 biliwn a rhagor o gyni i ddod. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar y cwestiwn difrifol hwn, y cwestiwn pwysig hwn, yn ofalus. Roeddem yn ymwybodol o benderfyniad Gyrfa Cymru i gychwyn ymgynghoriad ar gynllun rhyddhau gwirfoddol. Ac rydym yn gobeithio’n fawr ac yn disgwyl y gall Gyrfa Cymru a'i staff ac undebau llafur gydweithio ar y mater hwn er mwyn gwella a helpu cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth pwysig iawn hwn, sydd, fel y dywedwch chi, yn cynnig canlyniadau pwysig i'n dysgwyr—i ddysgwyr o bob oedran yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Arweinydd y tŷ, mae'n ymddangos bod tuedd gynyddol gan rai i fwrw amheuaeth ar annibyniaeth ein llysoedd barn, tribiwnlysoedd a chyrff tebyg. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, arweinydd y tŷ, bod effeithiolrwydd y cyrff hyn a'r diogelwch y maen nhw’n ei roi i ddinasyddion yn y wlad hon yn ddibynnol ar bob un ohonom yn parchu’r gwaith annibynnol y maen nhw’n ei wneud, hyd yn oed os nad ydym yn hoffi’r canlyniadau. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud datganiad, felly, sy'n nodi gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru, a’i annibyniaeth, fel y gallwn sicrhau nad yw ei uniondeb yn cael ei danseilio ac fel y gall y cyhoedd gael hyder yn y penderfyniadau a wneir ganddo?

Rwyf yn diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn pwysig hwnnw. Tribiwnlys annibynnol yw Panel Dyfarnu Cymru. Ei swyddogaeth yw dyfarnu ar dor-cyfraith honedig gan aelodau etholedig a chyfetholedig o gynghorau sirol, bwrdeistref sirol a chymuned Cymru, awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol, yn ôl cod ymddygiad statudol eu hawdurdod. Mae aelodau'r tribiwnlys yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru trwy broses benodi gan farnwyr annibynnol a gynhelir gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Nid oes unrhyw ran i Weinidogion Cymru ym mhenderfyniadau’r tribiwnlys, a wneir gan aelodau’r tribiwnlys ar sail y dystiolaeth ger eu bron.

4. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru

Eitem 3 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc. Galwaf ar Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 13 Chwefror eleni, cyhoeddais y cynllun cyflawni ar gyfer strôc wedi'i ddiweddaru. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y risg lleiaf posibl o gael strôc i bobl o bob oedran. Pan fo strôc yn digwydd, rydym ni eisiau sicrhau bod gan bobl siawns ardderchog o oroesi a bod yn annibynnol eto cyn gynted â phosibl. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi’r disgwyliadau gan yr holl randdeiliaid ac yn darparu fframwaith ar gyfer camau gweithredu i’w cymryd gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau GIG a sefydliadau partneriaeth. Bob blwyddyn, bydd tua 7,000 o bobl yng Nghymru yn cael strôc. Gall hyn gael effaith hynod ddifrifol a pharhaus ar fywydau unigolion a'u teuluoedd. Mae'r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod mwy na 60,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond gwnaed cynnydd da ers cyhoeddi’r cynllun strôc gwreiddiol ac, yn fwyaf arwyddocaol, mae nifer y bobl sy'n marw o strôc yn lleihau. Mae marwolaethau o ganlyniad i strôc yng Nghymru wedi gostwng 22 y cant rhwng 2010 a 2015. Mae'r canlyniadau diweddaraf a gyhoeddwyd y mis Mawrth hwn gan y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Sentinel Strôc yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon—cyfeiriaf ati fel SSNAP yn nes ymlaen yn y datganiad, os caf—dangosodd yr archwiliad hwnnw fod gwasanaethau strôc ledled Cymru yn parhau i wella. Y safle sydd wedi gwella fwyaf yn ystod y ddau archwiliad diwethaf yw Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae dau safle arall yng Nghymru wedi sicrhau cyfradd gadarnhaol gyffredinol dda debyg. Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Llwyn Helyg yw’r rheini.

Rydym ni mewn sefyllfa gref erbyn hyn i symud ymlaen yn gyflymach fyth. Y grŵp gweithredu ar gyfer strôc sy’n darparu ein harweinyddiaeth a’n cefnogaeth genedlaethol, ynghyd ag arweinydd clinigol cenedlaethol, a leolir yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Maen nhw’n ysgogi gwelliant a cheir cydgysylltydd strôc cenedlaethol a benodwyd yn ddiweddar hefyd. Prif swyddogaeth y cydgysylltydd yw cefnogi gweithrediad y cynllun cyflawni ar gyfer strôc. Mae'r grŵp gweithredu, yn debyg i grwpiau eraill, yn dod â byrddau iechyd, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i weithio ar y cyd. Mae'r grŵp wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer 2017-18 ac mae'r rhain yn cynnwys: nodi unigolion â ffibriliad atrïaidd; ad-drefnu gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan gynnwys datblygu gwasanaethau hyperacíwt; adsefydlu cymunedol; datblygu rhwydwaith ymchwil strôc a datblygu ac ymateb i fesurau profiad a chanlyniadau cleifion. Bydd y blaenoriaethau hyn yn parhau i gael eu cefnogi gan £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arloesi ac ymchwil i leihau'r risg o strôc a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion. Mae’r £1 filiwn honno yn parhau i gael ei darparu i bob un o'n grwpiau gweithredu ar gyflyrau difrifol.

Yn yr achos hwn, mae’r cyllid penodol hwnnw wedi helpu i ddarparu hyfforddiant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful er mwyn caniatáu i feddyginiaeth thrombolytig gael ei rhoi dan arweiniad nyrsys i gleifion yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys. Yng Nghaerdydd a'r Fro, fe’i defnyddiwyd i gefnogi’r fenter arbrofol Atal Strôc, ac mae honno’n hyfforddi aelodau staff i adnabod cleifion â ffibriliad atrïaidd a allai elwa o gyffuriau gwrthgeulo. Mae canlyniadau rhagarweiniol yn dangos pe bai’r canfyddiadau yn cael eu hailadrodd gyda llwyddiant tebyg ar draws byrddau iechyd eraill, dros gyfnod o bum mlynedd, y gellid atal mwy na 1,000 o achosion o strôc ledled Cymru. Mae'r grŵp gweithredu ar strôc yn ariannu treialon ychwanegol mewn byrddau iechyd eraill cyn eu cyflwyno’n genedlaethol o bosibl.

Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth am wasanaeth ambiwlans Cymru, gan ei fod yn chwarae rhan bwysig yn y llwyddiant o ran gwella canlyniadau strôc yma yng Nghymru. Mae’n llawer mwy na gwasanaeth cyflawni cyflym. Erbyn hyn, rydym ni’n asesu ac yn cyhoeddi'r gofal y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ei ddarparu yn rhan o'r dangosyddion ansawdd ambiwlans. Ceir lefel uchel iawn o gydymffurfiad â'r pecyn gofal strôc a ddarperir ganddyn nhw.

Ond rydym, wrth gwrs, yn parhau i ddibynnu ar dîm cryf o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy'n dioddef strôc. Felly, mae nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith a llawer o bobl eraill, yn ogystal â meddygon, yn rhan o'r tîm gofal iechyd hwnnw. Mae adsefydlu llwyddiannus hefyd yn dibynnu ar gael y cymorth gofal priodol ar waith. Fel llawer o bobl eraill yn yr ystafell hon, rwyf wedi gweld y cymorth hwnnw gan weithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn fy nheulu fy hun. Gallwn, rwy’n credu, fod yn hyderus bod rhywfaint o welliant pellach yn bosibl o ran canlyniadau strôc yn ein gwasanaethau presennol. Fodd bynnag, mae angen cynllunio ein gwasanaethau strôc mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig i wella canlyniadau a chynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r heriau o recriwtio staff arbenigol.

Y llynedd, comisiynwyd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr gan y grŵp gweithredu ar gyfer strôc i adolygu'r dewisiadau ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau strôc hyperacíwt yma yng Nghymru. Modelwyd gwasanaethau strôc i gynnwys daearyddiaeth, amseroedd teithio, materion yn ymwneud â ffiniau, gwasanaethau strôc presennol a chyd-ddibyniaethau. Mae prif weithredwyr GIG Cymru wedi gofyn i'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc a byrddau iechyd i weithio gyda'i gilydd i ystyried goblygiadau’r adroddiad hwnnw a pha gamau y mae angen eu cymryd ledled Cymru i ad-drefnu gwasanaethau strôc er mwyn sicrhau'r budd gorau posibl i gleifion.

Ond rydym eisoes wedi gweld manteision y gwaith o ad-drefnu gwasanaethau a'r hyn y gall hynny ei gynnig yng Nghymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan wedi gweld gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau a’u lefelau perfformiad o ran strôc, gan y darperir ei wasanaeth strôc amlddisgyblaeth saith diwrnod i gleifion o bob rhan o ardal y bwrdd iechyd erbyn hyn, gan uned strôc hyperacíwt yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymwelais â'r uned y llynedd, pan wnes i gyfarfod â nyrs y flwyddyn ar y pryd; dyna’r uned y mae’n gweithio ynddi. A chlywais yn uniongyrchol gan amrywiaeth o staff proffesiynol, gan gynnwys y rheini a recriwtiwyd i’r uned honno ac a oedd wedi dod i’r uned honno yng Nghymru yn benodol yn seiliedig ar y ffaith ei bod yn mynd i fod yn uned strôc hyperacíwt.

Ar gyfartaledd, mae cleifion yn derbyn tri diwrnod o ofal yn yr uned hyperacíwt. Erbyn hynny, os nad ydynt wedi cael eu rhyddhau eisoes i fynd adref o dan ofal y gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol, bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo i uned strôc arbenigol ar gyfer gofal cam-i-lawr acíwt cam yn nes at adref ar gyfer cam nesaf eu hadsefydliad ar ôl strôc. Mae'r amser sydd ei angen ar gyfer hyn yn amrywio, ond mae’n gyfartaledd o chwe wythnos. Rwy’n credu fod Ysbyty Gofal Gwent yn fodel gofal sydd yn esiampl yng Nghymru, ac mae'n arwain y ffordd i wasanaethau strôc eraill yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd byrddau iechyd eraill yn gweithio gyda'r grŵp gweithredu, clinigwyr a chleifion i gymryd camau tebyg i wella canlyniadau i gleifion.

Mae gan y dinesydd, wrth gwrs, ran ganolog i'w chwarae o ran osgoi strôc. Yn debyg i gymaint o gyflyrau difrifol sy'n achosi marwolaeth neu’n arwain at anabledd, mae ysmygu, deiet, ymarfer corff ac alcohol oll yn ffactorau risg sylweddol. Yn annefnyddiol, mae rhai pobl yn ceisio disgrifio hyn fel rhoi bai ar bobl am fod yn sâl. Ond rydym ni i gyd yn cydnabod na allai’r angen am newid sylweddol ac ar raddfa eang i’r dewisiadau yr ydym ni oll yn eu gwneud wrth fyw ein bywydau fod yn fwy eglur. Nid yw hyn yn berthnasol i ofal strôc yn unig. Mae angen i ni fel gwlad gael dadl llawer mwy aeddfed sy’n eglur ynghylch ein cyfrifoldebau unigol ein hunain, canlyniadau ein dewisiadau a sut yr ydym yn gwneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Rwy’n disgwyl i ofal strôc fod yn rhan o ymgyrch ar draws faes gofal iechyd i sicrhau perthynas fwy cyfartal rhwng y dinesydd a'r clinigwr. Mae angen i wasanaethau iechyd a gofal wrando ar ba ganlyniadau a phrofiadau sy’n bwysig i'r dinesydd a’u deall.

Yn 2016, gweithiodd y grŵp gweithredu ar gyfer strôc mewn partneriaeth â'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i ddatblygu mesurau profiad yn gysylltiedig â chleifion, neu PREMs, a mesurau canlyniadau cysylltiedig â chleifion, neu PROMs, ar gyfer cyflyrau strôc a niwrolegol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw cael golwg wirioneddol ar wasanaethau o safbwynt y claf, a defnyddio eu profiad bywyd go iawn i helpu i wella gwasanaethau. Erbyn mis Mawrth 2018, fy nod yw y bydd gan Gymru PREMs a PROMs y gellir eu gweinyddu, eu casglu a’u crynhoi ar lefel genedlaethol. Dylai'r rhain helpu i nodi anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal ledled Cymru, cefnogi’r gwerthusiad o ddatblygiad gwasanaethau a dangos newid gwirioneddol ac ystyrlon dros amser.

Datblygwyd y cynllun cyflawni ar gyfer strôc wedi’i ddiweddaru hwn trwy waith partneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithio parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, y GIG, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni gwell canlyniadau yn gynt a chyda mwy o effaith, oherwydd dylem ni oll gydnabod bod yr heriau sy’n ein hwynebu yn niferus ac yn sylweddol, ond gallwn edrych i’r dyfodol gyda synnwyr o gyfeiriad a hyder a rennir. Mae fy mhwyslais pendant ar lunio system iechyd a gofal sy'n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion strôc ledled Cymru.

Diolch i chi am y datganiad yna. Rwy'n credu bod gen i bedwar cwestiwn y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddynt. Mae cyfraddau goroesi wedi cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Mae technoleg newydd a gwell triniaeth wedi sicrhau hynny ac, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu hynny, a bu pwyslais eglur ar gyflwyno’r triniaethau newydd hyn ac ar wella cyfraddau goroesi. Ond rwy’n credu bod angen gwella’r gwasanaethau a gynigir ar ôl strôc, ac rwy’n meddwl bod y pwynt hwnnw’n cael ei dderbyn yn y cynllun cyflawni newydd. Mae angen i bawb sydd wedi goroesi strôc, nid dim ond rhai, gael yr adolygiad chwe mis, er enghraifft, a chael y gwasanaethau adsefydlu priodol. Mae hyn yn golygu, yn anochel, fod angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a sicrhau nad yw rhwystrau sefydliadol yn atal oediadau cyn darparu’r rhain. Ond ceir diffyg data o ran faint o oroeswyr sy’n derbyn yr adolygiadau mewn gwirionedd. Felly, fy nghwestiwn data arferol: pryd y bydd rhagor o ddata ar gael ar yr adolygiadau chwe mis? Ceir problemau iechyd eraill hefyd y gall strôc eu hachosi, ac felly byddai cleifion yn elwa o fonitro agosach, ar ôl strôc, rhag ofn y bydd y problemau hyn yn datblygu. Er enghraifft, gall strôc sbarduno dementia. Hefyd, mae tua 20 y cant o gleifion strôc yn dioddef iselder yn dilyn strôc. Felly, yr ail gwestiwn: a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried pa ffyrdd y gellir eu datblygu i fonitro hyn, er mwyn datblygu ymyriad?

Hoffwn droi at y trydydd sector a thynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir gan y Gymdeithas Strôc. Mae toriadau i gyllid—yn fy etholaeth i, yn sicr—yn golygu y bu’n rhaid cael gwared ar aelodau staff. Mae hynny'n golygu toriadau ac effeithiau ar wasanaethau, ac ar allu'r Gymdeithas Strôc i helpu cleifion drwy'r broses adsefydlu. Er enghraifft, mae 1,500 o bobl yn fy etholaeth i wedi goroesi strôc—sy’n uwch na'r cyfartaledd. Mae bron i 1,500 wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd— yn uwch na'r cyfartaledd, unwaith eto. Dyna’r sefyllfa bresennol; dyna'r her yr ydym ni’n ei hwynebu. Yn y dyfodol: mae dros 11,000 wedi cael diagnosis o bwysedd gwaed uchel, felly mae gennym ni lawer o bobl mewn categorïau risg uchel, tra bo gennym ni Gymdeithas Strôc sydd eisiau cyfrannu trwy ddarparu cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol, hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol hirdymor ac yn y blaen—mae'n rhestr hir. A gaf i ofyn, fel fy nhrydydd cwestiwn, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda byrddau iechyd, yn rhoi arweinyddiaeth o ran sicrhau y gellir cynnal a gwella gwasanaethau’r trydydd sector yn y dyfodol, fel rhan annatod o'r system ofal?

Ac yn olaf, mae cyfraddau goroesi ar draws y DU yn ddibynnol ar incwm. Maen nhw’n dilyn patrwm arferol anghydraddoldebau iechyd, ac mae pobl mewn ardaloedd tlotach, a dweud y gwir, yn llai tebygol o oroesi strôc. Ac er, yn amlwg, y byddai ffyrdd iachach o fyw—gallwn ni oll gytuno ar hynny—yn helpu i atal rhai achosion o strôc, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried pa un a yw'r gwasanaethau adsefydlu sydd ar gael mewn cymunedau tlotach gystal ag y maent mewn mannau eraill, a gwneud yn siŵr nad yw’r ddarpariaeth o wasanaethau yn hyn o beth yn dilyn y ddeddf gofal gwrthgyfartal?

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy’n cydnabod yr hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud i gychwyn am dechnoleg newydd, ond nid wyf yn credu bod y driniaeth well yr ydych chi’n cyfeirio ati yn fater syml o ddamwain, na’i bod yn anochel. Mae’r rheini’n ddewisiadau bwriadol y mae ein clinigwyr yn eu gwneud. Ac mewn gwirionedd, mae dod â’r cynllun cyflawni ar gyfer strôc a'r grŵp gweithredu at ei gilydd wedi helpu i ddatblygu’r dewisiadau hynny. Ceir llawer mwy o drafod ledled Cymru a chymorth a herio defnyddiol gan gymheiriaid ynghylch yr hyn sy’n fodelau gofal gwell—o ran gofal ar unwaith, ond hefyd yn yr ystyr o sut y gallai ac y dylai adsefydlu edrych. Mae hynny hefyd yn gorfod ysgogi’r drafodaeth ar ad-drefnu gwasanaethau strôc. Hoffwn i’r drafodaeth honno gael ei chyflymu a dod i gasgliad, oherwydd os gallwn wneud hynny, yna mae’r pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud am driniaeth ar y cychwyn—rydym ni’n fwy tebygol o ddarparu gwell triniaeth ar draws y wlad os gwnawn ni hynny, ac os oes gennym ni wedi ei gytuno ar gyfer y dyfodol hefyd.

Felly, mae hyn yn wirioneddol bwysig, oherwydd os gwnawn ni hynny, rydym ni’n fwy tebygol o achub mwy o fywydau ac atal anabledd hirdymor y gellir ei osgoi hefyd. Felly, ceir pris gwirioneddol i’w dalu o beidio â gwneud hyn, yn ogystal â budd go iawn os gallwn ei wneud. O ran eich pwynt—roedd nifer o bwyntiau a wnaethoch ynglŷn ag adsefydlu ac, os mynnwch, llesiant cyffredinol rhywun, nid ei lesiant corfforol yn unig. Rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud oherwydd, wrth gwrs, dyna pam yr wyf yn credu bod y mesurau PROM a PREM yn bwysig. Felly, i’r unigolyn hwnnw, yr hyn sy'n bwysig iddo fe, os mynnwch, o ran ei ganlyniadau clinigol, ond yr hyn sy'n bwysig iddo o ran ei brofiad, a’r hyn sy’n bwysig iddo. I rai pobl, efallai y byddan nhw eisiau derbyn adsefydliad fel y gallant gerdded i waelod eu stryd neu gerdded i gaffi lleol neu gerdded i ganolfan gymdeithasol leol. Ac nid yr elfen gorfforol o adsefydlu yn unig yw hynny a gallu gwneud hynny; mae'n golygu gallu cael y rhyngweithio cymdeithasol ehangach hwnnw hefyd, a'r pwyntiau ynghylch eu llesiant cyffredinol. O ran pob un o'r rhain, ceir perygl ein bod ni’n gweld y cyflwr yn unig, yn hytrach na’r unigolyn cyfan a’r hyn sy’n ei wneud yn rhywun sydd â bywyd y mae’n mwynhau ei fyw. Ac o ran eich pwynt ehangach am y tîm sydd i fod i ddarparu'r gofal hwn, dyna un o'r pwyntiau yr oeddwn i’n ceisio eu gwneud. Sicrhau bod y bobl gywir ar gael i ddarparu’r adsefydliad gwell hwnnw: mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y cyhoeddais yn yr wythnosau diwethaf y buddsoddiad o £95 miliwn hwnnw yn nyfodol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd angen mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arnom i ddarparu ansawdd y gofal y byddai pob un ohonom ni’n dymuno ei weld.

Roeddwn i’n ddiolchgar i chi am godi’r materion yn eich etholaeth eich hun—nifer y bobl sydd wedi goroesi strôc, nifer y bobl sydd eisoes yn byw â ffactorau risg cynyddol eisoes, ond hefyd y ffigurau arbennig o drawiadol o bobl sy'n byw gyda phwysedd gwaed uwch a'r perygl ychwanegol sylweddol y maen nhw’n ei wynebu o nifer o gyflyrau. Mae hynny'n rhywbeth sy'n arbennig o bersonol i mi o ystyried fy hanes teuluol fy hun, oherwydd rwy’n deall beth all hynny ei olygu mewn gwirionedd a'r amrywiaeth o risgiau sy'n bodoli hefyd. Dyna pam y gwnes i’r pwynt, yn gwbl ddiedifar, a pham y bydd angen i ni gyd ddychwelyd at hyn dro ar ôl tro, fel y gwnaethoch chithau hefyd—. Mewn gwirionedd—mae'n ymwneud â gwneud dewisiadau iachach a lleihau’r perygl a geir trwy hynny, ac, mewn gwirionedd, yr hyn y mae hynny’n ei olygu wedyn o ran pobl nid yn unig yn byw bywydau hwy ond yn byw bywydau hwy ac iachach. Nid ydym wedi bod yn ddigon llwyddiannus fel gwlad o ran cael y drafodaeth honno ac o ran newid agweddau at y dewisiadau y mae pob un ohonom ni’n eu gwneud ac yr ydym ni’n eu gweld yn cael eu gwneud ym mhob un o'n cymunedau.

Mae'r trydydd sector yn rhan bwysig o hynny hefyd. Rwy'n falch o ddweud, pan edrychwch chi ar y dewis bwriadol yr ydym ni wedi ei wneud o ran sut i lunio ein grwpiau gweithredu, bod y trydydd sector yn bartner pwysig o fewn hynny, oherwydd yr arbenigedd y mae’n ei gynnig, naill ai trwy weithredu fel hyrwyddwyr yn y gwasanaeth neu ar gyfer cleifion, ac mae llawer ohonynt yn ddarparwyr gwasanaethau hefyd. Felly, maen nhw’n rhan o’r bensaernïaeth yr ydym ni wedi ei chynllunio’n fwriadol, ac yn sicr nid oes unrhyw fwriad nac unrhyw awydd gan y Llywodraeth hon i roi terfyn ar ei swyddogaeth o ran helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal hynny. Yr her bob amser fydd sut yr ydym ni’n defnyddio ein hadnoddau prin, ac, yn anffodus, nid wyf yn disgwyl newyddion da yfory o ran y ffordd y caiff cyllid ei ddosbarthu o gwmpas y Deyrnas Unedig. Yr hyn na allwn ei ddweud wrthych chi nac unrhyw un arall yn y sector statudol na'r trydydd sector yw y bydd swm sylweddol annisgwyl o arian yn dod i’r gwasanaethau hyn—ni waeth pa mor bwysig ydynt, bydd gan bob un ohonom ni ddewisiadau anodd dros ben i'w gwneud ynglŷn â lle bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddyrannu a’i flaenoriaethu a'i ddefnyddio er mwyn sicrhau’r effaith orau posibl i bob un o'n dinasyddion.

Ac yn olaf, gan ymdrin â'ch pwynt ar anghydraddoldebau—rydym ni wedi ystyried hyn o ddifrif o ran sut yr ydym ni’n deall risg. Dyna pam mae’r rhaglen Byw’n Hirach, Byw’n Well yn Aneurin Bevan, a’r rhaglen debyg yng Nghwm Taf yn cael eu cyflwyno, gan ein bod ni'n cyrraedd pobl nad ydynt yn rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd, ond sydd mewn perygl cynyddol sylweddol. Oherwydd sy’n cydnabod ein bod ni’n gweld lefel lawer rhy uchel o anghydraddoldeb mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol o hyd, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn credu sy’n dderbyniol.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Rwy’n croesawu’n enfawr y cynnydd sylweddol a wnaed o ran y ddarpariaeth o wasanaethau strôc. Roedd llawer yn yr adroddiad hwn a oedd yn newyddion da iawn yn fy marn i. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag, sy’n troelli ohono.

Y cyntaf yw’r ffaith bod canllawiau NICE yn awgrymu y dylai cleifion sy'n dioddef o strôc, fel y gwyddoch, ddechrau triniaeth thrombolysis o fewn tair awr o gyrraedd yr ysbyty. Rwyf wedi cyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth ynglŷn â hyn i’r holl fyrddau iechyd, ac o'r ymatebion yr wyf wedi’u derbyn hyd yn hyn, sef dim ond tri ohonyn nhw, maen nhw i gyd, yn gyson, wedi cael achosion o gleifion yn aros am rhwng tair a phum awr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau y gall y byrddau iechyd hyn ddechrau’r driniaeth hon o fewn y cyfnod amser o dair awr. Ac os caf i gyfeirio yn ôl at y ddadl yr wythnos diwethaf ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dyma’r union bwynt yr oeddwn i’n ceisio ei wneud ynglŷn â’r ffaith nad yw achosion o strôc yn y categori coch, oherwydd fy mhryder i yw, os ydyn nhw wedi bod yn aros am sbel yn y maes, a’u bod nhw’n dal i aros eto yn yr ysbyty, yna erbyn iddyn nhw gael y driniaeth honno mewn gwirionedd, mae llawer iawn o oriau wedi mynd heibio, ac felly mae’n llai tebygol y ceir llwyddiant.

Gan ein bod ni’n sôn am y canllawiau a argymhellir, a wnewch chi hefyd wneud sylwadau ar ganllawiau diweddar Coleg Brenhinol y Meddygon sy'n dweud eu bod yn credu y dylai pob claf strôc gael sgan ar yr ymennydd o fewn awr, a pha un a ydych chi’n credu y gallwn ni gyflawni hynny?

Mae fy ail faes o holi yn ymwneud ag achosion o strôc ymhlith plant a babanod. Nawr, rwy’n cyfaddef eu bod yn brin, ond tybed a wnaed unrhyw beth yn benodol i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ddigwyddiadau o'r fath. Mae'r fframwaith yn cyfeirio at y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn ymgynghori ar ganllawiau clinigol ar strôc yn ystod plentyndod. A allech chi roi syniad o bryd yr ydych chi’n disgwyl i’r rhain gael eu cyhoeddi a pha mor hir y gallai ei gymryd i weithredu unrhyw argymhellion? Yn amlwg, mae angen llwybr eglur ar gyfer trin plant a babanod a, gan ei fod yn brin, rwy’n derbyn ei bod yn afrealistig i bob bwrdd iechyd gael darpariaeth lawn, felly roeddwn i’n meddwl tybed pa gynlluniau y gallech chi fod yn eu rhoi ar waith fel y gall plant a babanod sy'n dioddef strôc gael mynediad at y gwasanaeth gwbl hanfodol hwnnw.

I gloi, y maes olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw'r agenda anghydraddoldeb—neu’r agenda cydraddoldeb. Yn ôl 'Cyflwr y Genedl', a'r ystadegau strôc a gyhoeddwyd y llynedd, mae pobl o gefndir du neu dde-Asiaidd yn dioddef strôc ar oedran sylweddol iau na phobl Gawcasaidd. A oes unrhyw beth yn cael ei wneud i dargedu addysg gofal iechyd a mesurau ataliol i'r cymunedau hynny yn benodol? Ar hyn o bryd, maen nhw o dan anfantais yn gyfan gwbl oherwydd nifer yr achosion yn eu cymuned ddiwylliannol, neu eu treftadaeth ddiwylliannol, a byddai'n ddefnyddiol iawn cael gwybod pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r maes penodol hwnnw.

Yn olaf, Cymru sydd â'r ganran uchaf o bobl â phwysedd gwaed uchel fesul poblogaeth yn y DU ac, unwaith eto, roeddwn i’n meddwl tybed, yn rhan o'r cynllun cyflawni ar gyfer strôc, a ydych chi’n edrych i weld a oes unrhyw ddiweddariadau y gallwch chi eu rhoi i ni ar yr hyn y gallem ni ei wneud i leihau hynny, os oes unrhyw beth wedi newid yn ystod y 18 mis diwethaf. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Ni fyddwn yn dweud bod eich cwestiynau yn troelli ohonoch; mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn llifo ohonoch. Ni fyddwn eisiau cael unrhyw sylwadau negyddol—[Anghlywadwy.]—am sbin ar yr adeg hon. Ond rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud ar amrywiaeth o wahanol fesurau gwella, ac yn benodol y mesurau risg ychwanegol sylweddol i rai grwpiau yn ein poblogaeth ac i bobl sy'n mynd ar draws —[Anghlywadwy.]

A dweud y gwir, un o’r blaenoriaethau a fu gan y grŵp gweithredu yw dull cyffredin o asesu risg cardiofasgwlaidd gyda grwpiau gweithredu eraill. Maen nhw wedi cyfuno rhywfaint o’u harian i gynnal asesiad risg cardiofasgwlaidd ehangach a mwy sylweddol. A bu hynny’n ddefnyddiol yn y sgyrsiau a gefais yn fy swydd flaenorol fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd o ran siarad â grwpiau trydydd sector blaenllaw ynghylch sut y gallai hynny weithio. Felly, bu— [Anghlywadwy.]—a dynwyd ynghyd o’r grŵp trydydd sector hwnnw, a bu hynny o gymorth mawr i ffurfio eu grwpiau gweithredu eu hunain, y maen nhw’n cysylltu â nhw’n benodol wedyn, i wneud darn o waith ar y cyd. Ceir cydnabyddiaeth, fel y dywedais yn fy natganiad, ar draws y byrddau iechyd bod y ffactorau risg yr ydym ni wedi eu trafod ac a ddisgrifir yma yn ffactorau risg mewn clefydau difrifol eraill ac achosion difrifol eraill o farwolaeth ac anabledd.

O ran eich pwynt ynglŷn â chanllawiau NICE ar yr amser ar gyfer thrombolysis ac yn benodol, eich pwynt am ganllawiau’r Coleg Brenhinol Pediatreg ar sganiau CT o fewn awr o dderbyn claf, mae’r pwyntiau y byddwn yn eu gwneud fel ymateb yn cyfeirio yn ôl at y gwelliant yr ydym ni eisoes wedi ei weld. Hynny yw bod yr archwiliad SNAP yn ystyried pob man yn y DU ac eithrio’r Alban ac mae wedi bod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer ysgogi gwelliant. Oherwydd pan ddechreuwyd ystyried hyn tua tair blynedd yn ôl, a dweud y gwir, roedd ganddyn nhw bum categori: A, sydd o’r radd flaenaf; B, sy'n dda iawn; C, sy’n dda; D, angen gwella; ac E, nad yw'n arbennig o dda. Ar y pryd, pan ddechreuwyd y gwaith, roedd gennym ni un safle yng Nghymru o’r rhai sy'n derbyn yn rheolaidd ar lefel D, ac roedd pob un o’r lleill ar lefel E. Felly, roedd gennym ni welliant sylweddol i'w wneud. Erbyn hyn, mae gennym ni dri neu bedwar safle ar lefel B, y mwyafrif ar lefel C neu B, ac, mewn gwirionedd, nid oes gennym ni unrhyw safleoedd ar lefel E. Felly, ar y cyfan yng Nghymru, rydym ni wedi gwella’n sylweddol. Fodd bynnag, yr her yw bod gennym ni ragor o waith gwella i’w wneud eto, a dyna pam mae’r pwynt a wnaethoch mai’r gwelliant yr ydym ni’n disgwyl ei weld fydd cydymffurfio mwy â chanllawiau NICE, ond hefyd y mesurau a'r meysydd y mae'r archwiliad SNAP yn eu mesur—. A bydd hynny yn newid yn unol â chanllawiau’r Coleg Brenhinol Pediatreg ar sganiau CT o fewn awr o dderbyn y claf.

Rhan o'n her fydd deall, os ydym ni’n mynd i ad-drefnu gofal strôc, sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd nad yw'n amharu ar ein gallu i sicrhau bod rhywun yn cael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir, fel ei fod yn cael ei gludo’n gyflym i’r ganolfan gywir ar gyfer ei driniaeth, ac wedyn, pan fydd yno, ei fod yn cael y driniaeth briodol yn y ganolfan honno. Rwy’n credu mewn gwirionedd ei fod yn atgyfnerthu'r achos dros ad-drefnu i sicrhau bod gennym ni ganolfannau priodol i ddarparu'r gofal priodol yn yr amser hwnnw. Dyna pam y dywedais yn gynharach fy mod i eisiau gweld y gwasanaeth cyfan—y clinigwyr yn gweithio gyda'i gilydd, yn gweithio gyda'r trydydd sector, a'r cyhoedd hefyd—i ddeall sut y gallai ac y dylai’r gwelliant hwnnw edrych, a chael sgwrs sy'n cyflwyno i’r cyhoedd yr opsiynau ar gyfer gwella a’r hyn y bydd yn ei olygu os byddwn yn ad-drefnu’r gwasanaethau hynny, nid yn unig o ran ble i leoli pethau yn ffisegol, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran ansawdd y gofal y gallech chi ei ddisgwyl pe bai’r argyfwng meddygol hwn yn eich taro chi ac y byddai’n rhaid i chi fynd yno. Rwyf i wir yn credu mai’r pris i'w dalu o beidio â gwneud hynny yw byw gyda, a goddef canlyniadau annerbyniol o ran lefel yr anabledd yr ydym ni’n debygol o’i gweld neu lefel y marwolaethau diangen y gallem ni ei gweld fel arall. Felly, rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud, ac wrth i ni fwrw ymlaen, yn dilyn rhagor o ganlyniadau archwiliadau SNAP, byddwch yn gweld mai’r hyn yr wyf yn disgwyl ei weld yw’r gwelliant graddol pellach hwnnw yn parhau.

I roi sylw i’ch pwynt am achosion o strôc ymhlith plant a babanod, mae'n faes gweithgarwch ymchwil ac mae’r flaenoriaeth ymchwil wedi ei phennu. Mae hwn yn faes o bryder penodol ynghylch datblygu ein gallu ymchwilio yng Nghymru a deall yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud. Ni allaf roi amserlen i chi ar gyfer gwaith y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ond, yn amlwg, pan fydd ar gael, byddwn yn disgwyl i’r Llywodraeth edrych arno, a byddwn yn disgwyl i'r GIG, ac, yn wir, y grŵp gweithredu, i edrych arno i ddeall sut y mae hynny'n effeithio ar eu blaenoriaethau, yr hyn y maen nhw’n credu y dylem ni ei wneud i gael yr effaith fwyaf ar wneud y gwelliant mwyaf posibl i bobl yng Nghymru sydd wedi cael strôc. Felly, maen nhw i gyd yn gwestiynau dilys, ac rwy’n disgwyl gweld y gwaith hwnnw’n parhau yn y dyfodol.

A gaf i groesawu'r datganiad hwn, ond hefyd y sylwadau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet am swyddogaeth y gwasanaeth ambiwlans yma ac ansawdd y gofal y mae’n ei ddarparu? A hefyd, bydd wedi gweld hynny yn ystod ei ymweliad yr wythnos diwethaf â gorsaf ambiwlans Bryncethin, a gallai weld ymroddiad a phroffesiynoldeb pob un o'r bobl yno wrth ymateb i anghenion cymunedau ar draws ardal Morgannwg. Ond a gaf i bwyso ychydig mwy ar y mater hwn a godwyd gan y Gymdeithas Strôc, ac y mae Angela newydd ei godi hefyd, ynghylch y safon o sganio'r ymennydd o fewn un awr? Maen nhw yn cydnabod y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud. Maen nhw hefyd yn cydnabod yr ymdrechion ar y cyd sydd wedi arwain at y cynnydd hwnnw. Ond yr un peth y maen nhw’n galw amdano ar hyn o bryd yw —ac maen nhw’n dweud y dylai pob gwasanaeth strôc acíwt ledled Cymru fabwysiadu’r nod cyffredinol o gyrraedd y safon o sganio'r ymennydd o fewn un awr. Dylid ei gynnwys yn yr holl raglenni gwella gwasanaethau presennol, a dylid ei gynnwys yn y gwaith o ad-drefnu gwasanaethau strôc hyperacíwt sydd ar fin cael ei wneud. Felly, rwy’n deall bod gwahanol ffyrdd o bwyso i gael y gwelliannau yr ydym ni’n eu ceisio, ac, mewn gwirionedd, y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, y dull cydweithredol hwn o weithio gyda’r holl bartneriaid, yw’r hyn sydd wedi cyflawni’r manteision. Ond maen nhw'n bendant ar y mater penodol hwn.

A gaf i, i gloi, ddweud pe bai’n dymuno trafod mwy ar y materion hyn gyda’r Gymdeithas Strôc, a hefyd teulu a ffrindiau yn ogystal â’r goroeswyr, mae croeso mawr iddo ddod draw unrhyw bryd i gymryd rhan gyda ni, rwy’n credu ei fod ar 21 Mai eleni, ar gaeau Newbridge, lle’r ydym yn cynnal y digwyddiad Step Out for Stroke yng Nghymru, lawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n glod aruthrol, mae’n rhaid i mi ddweud, i waith y Gymdeithas Strôc, a hefyd i'r goroeswyr a'u teuluoedd, ac mae'n dangos, fel y dylem ni fod yn ei ddweud, bod bywyd ar ôl strôc, yn wir.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau penodol iawn. Mi wnes i, hefyd, fwynhau, a dysgu llawer yn ystod yr ymweliad â Bryncethin. Rwy'n dysgu llawer iawn wrth fynd o gwmpas yn cyfarfod â staff rheng flaen, ac rwy'n gwbl hyderus fy mod i wedi cyfarfod dros 100 o staff rheng flaen yn y gwasanaeth ambiwlans yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae pob un ohonyn nhw wedi bod onest iawn gyda mi am yr hyn y maen nhw’n credu sydd wedi gweithio, ac, yn wir, y meysydd hynny lle maen nhw’n credu bod gwelliant i’w wneud o hyd. Mae o fudd i bawb nad wyf i’n un o'r parafeddygon hynny nawr, oherwydd rwy’n sicr na allwn i wneud yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Ac roedd gweld y cyfarpar a’r offer newydd sydd ganddyn nhw ar gyfer eu dysgu yn ymarfer diddorol iawn hefyd.

Ond rwy’n hapus i ymdrin â'ch prif bwynt, sef y pwynt am y sgan CT o fewn un awr o dderbyn claf, i ddilyn yr hyn y mae Angela Burns eisoes wedi ei ddweud hefyd. Rwy'n gobeithio y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd uniongyrchol i chi a’r Aelodau eraill y bydd hyn yn rhan o'r hyn y byddaf yn disgwyl ei weld yn cael ei fesur yn yr archwiliad SNAP. Felly, bydd gwasanaethau strôc ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu mesur ar sail eu gallu, rwy’n disgwyl, i gyflawni yn erbyn hynny mewn mesur agored a didwyll y gellir ei archwilio, i ddeall ein sefyllfa bresennol ac yn y dyfodol hefyd. Felly, rwy’n disgwyl i hynny gael ei adrodd yn rhan o wella disgwyliad hefyd. Ond dychwelaf at y pwynt hwn am ad-drefnu gwasanaethau hyperacíwt, y gwnaethoch chi sôn amdano hefyd, a byddwn yn disgwyl gweld hynny yn rhan o'r ymgyrch ad-drefnu honno. Oherwydd nid oes unrhyw bwynt dweud ein bod ni eisiau ad-drefnu gwasanaethau os nad ydym ni’n bodloni’r safonau gwasanaeth sydd gennym ni nawr, er ein bod ni’n disgwyl cyflawni hyn yn y dyfodol, oherwydd ni fyddwn yn gweld y math o lefelau yr hoffem ni i gyd eu gweld ar unwaith. Yr her yw: sut ydym ni'n sicrhau bod gennym ni staff yn y lle iawn a gwasanaethau yn y lle iawn i ddarparu'r gofal priodol? Felly, ydw, rwy’n disgwyl i hynny fod yn rhan o'r hyn y mae'r gwasanaeth yn bwriadu ei gyflawni wrth ddiwygio'r ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau strôc. Rwy’n gobeithio bod hynny’n ddefnyddiol, nid yn unig i chi ac i Angela Burns, ond i’r Aelodau eraill sy’n gwrando yn y Siambr hon, a’i fod yn rhoi’r sicrwydd hwnnw am y disgwyliadau ar gyfer unrhyw ad-drefnu.

O ran eich pwynt olaf, sef y gwahoddiad—nid wyf wedi edrych yn fy nyddiadur, ond rwy'n siŵr y bydd gwahoddiad ffurfiol yn dod. Oherwydd rwy’n cydnabod bod bywyd ar ôl strôc. Ac rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn marw hefyd. Rwyf wedi gweld gwellhad ar ôl strôc, ac rwyf wedi gweld fy nhad fy hun yn marw ar ôl ei bedwar strôc, felly rwy’n cydnabod y materion real iawn sy'n wynebu teuluoedd yn y sefyllfa benodol hon. Felly, byddaf yn hapus iawn i ystyried gwahoddiad ffurfiol, ond ni allaf ymrwymo’n bendant oherwydd, ar hyn o bryd, ni allwn ddweud wrthych yn union beth rwyf i fod i’w wneud ar 21 Mai.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strôc, yn anffodus, yn effeithio ar lawer gormod o bobl yng Nghymru—ac mae’n bosibl atal y rhan fwyaf ohonynt. Yma yng Nghymru, mae tua 7,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn. Mae un o bob wyth strôc yn arwain at farwolaeth o fewn y 30 diwrnod cyntaf, ac mae un o bob pedwar yn arwain at farwolaeth o fewn y flwyddyn gyntaf. Mae strôc yn lladd dwywaith gymaint o fenywod â chanser y fron, a mwy o ddynion na chanser y prostad a chanser y ceilliau yn gyfunol. Rwy’n croesawu’r ffaith y bu gostyngiad i nifer y bobl sy'n marw o strôc yng Nghymru. Bu gwelliannau enfawr yn y gadwyn oroesi, a bydd y cynllun cyflawni ar gyfer strôc newydd gwell, rwy'n siŵr, yn parhau’r duedd hon.

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni’n gwybod erbyn hyn sut i adnabod arwyddion strôc, sydd wedi ychwanegu at y canlyniadau strôc gwell. Mae hyn yn golygu bod mwy a mwy o bobl yn goroesi strôc, ond mae hynny’n arwain at heriau eraill. Mae gennym ni bron i 65,000 o bobl yng Nghymru yn byw ag effeithiau hirdymor strôc erbyn hyn. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni gynlluniau adsefydlu a gofal hirdymor priodol ar waith i gefnogi goroeswyr strôc. Strôc yw’r achos mwyaf o anabledd cymhleth, ac mae gan dros hanner y bobl sy’n goroesi strôc anabledd. O ystyried y pwyntiau hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gen i un neu ddau o gwestiynau i’w gofyn i chi.

Mae'r cynllun cyflawni newydd yn blaenoriaethu camau i atal strôc. Gan fod modd atal bron i dri o bob pedwar strôc, mae hyn yn allweddol i leihau nifer yr achosion o strôc yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, cynhaliodd y Gymdeithas Strôc, ar y cyd â fferyllfeydd cymunedol, yr ymgyrch Gostyngwch Eich Risg o gael Strôc, a oedd yn annog pobl i fynd i gael archwiliad pwysedd gwaed, i gael archwiliad curiad calon ar gyfer unrhyw afreoleidd-dra, ac i adnabod arwyddion pwl o isgemia dros dro. A oes gan eich Llywodraeth unrhyw gynlluniau i adeiladu ar yr ymgyrch hon a’i chyflwyno ym mhob lleoliad iechyd yng Nghymru?

Mae'r cynllun cyflawni yn cydnabod yn briodol pwysigrwydd ymchwil i strôc. Er ei fod lladd mwy o bobl na chanser, pan ddaw i ymchwil meddygol i strôc, mae'r DU yn gwario un rhan o bump yn unig o'r swm y mae’n ei wario ar ymchwil i ganser. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r swm o arian ar gyfer ymchwil i strôc yng Nghymru?

Ac, yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, gall bywyd ar ôl strôc fod yn anodd i lawer, ac rwy’n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen mwy o gydweithredu rhwng meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i ddarparu gwasanaeth adsefydlu a chymorth. Mae tua hanner y rhai sy’n goroesi strôc yn cael anabledd yn ei sgil, felly pa gyllid ychwanegol fydd ar gael i ddarparu ar gyfer y cymorth parhaus sydd ei angen ar bobl sy’n goroesi strôc?

Unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch i mi groesawu'r cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn gallu gostwng nifer yr achosion o strôc, a gwella'r canlyniadau i’r bobl hynny y mae’r salwch hwn yn amharu arnynt. Diolch.

Diolch i chi am y croeso cyffredinol i’r gwaith sy'n cael ei wneud, ac, yn arbennig, am gydnabod y nifer sylweddol o’r achosion o strôc y mae modd eu hatal. Yn dibynnu ar ba ddarn penodol o waith ymchwil yr ydych chi’n edrych arno, mae modd atal 70 i 75 y cant o’r achosion o strôc oherwydd eu bod yn digwydd yn sgil dewisiadau ffordd o fyw ac ymddygiad. Nid wyf yn credu ein bod byth yn mynd i fod mewn sefyllfa lle byddwn yn dileu strôc yn llwyr, ond gallem ni sicrhau gostyngiad ychwanegol sylweddol yn nifer yr achosion o strôc, gan adeiladu ar y gostyngiad sylweddol yr ydym eisoes wedi’i weld dros gyfnod o bum mlynedd, gyda gostyngiad o rhwng un rhan o bump a chwarter yn nifer y bobl sy'n cael strôc yma yng Nghymru. Ond rydym ni’n dal i fod o’r farn bod gennym lawer mwy i'w wneud.

O ran eich pwynt am ymchwil, dywedais yn gynharach fod blaenoriaeth ymchwil eglur ar gyfer y grŵp gweithredu ar gyfer strôc yn y dyfodol. Yn ogystal â bod honno’n flaenoriaeth eglur, byddwch yn clywed mwy gan y Llywodraeth yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf ynglŷn â sut y byddwn yn dyrannu arian ymchwil penodol yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ond ceir her yn y fan yma o ran y ffaith bod gan rai cyflyrau broffil uwch a mwy o allu i ddenu cyllid ymchwil, a'r blaenoriaethau sy'n cael eu gosod y tu allan, ac rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod ymchwil strôc o ansawdd uchel yn digwydd yma yng Nghymru.

Ynglŷn â'ch pwynt am adsefydlu, unwaith eto, bu nifer o gwestiynau, gan Rhun ap Iorwerth ac eraill, ynghylch sut yr ydym yn gwneud gwell defnydd o'r adnoddau adsefydlu sydd gennym, y staff hynny sydd eisoes yma, sut yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau er mwyn cyflawni hynny, a sicrhau bod y bartneriaeth yn mynd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, a'r dinesydd hefyd. Ond, hefyd, rwyf wedi ei gwneud yn glir ein bod yn buddsoddi yn nyfodol y gwasanaethau hynny, drwy'r grwpiau proffesiynol yr ydym yn buddsoddi ynddynt, ar hyn o bryd. A bydd y buddsoddiad o £95 miliwn a gyhoeddwyd gennyf yn ystod yr wythnosau diwethaf yn sicr yn rhan o ddarparu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol, i ddarparu'r gofal a’r iechyd yr ydym eisiau sicrhau eu bod gennym ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, nid Llywodraeth yw hon sy'n dweud y dylem ni wneud dim ond aros yn llonydd yn y maes hwn. Ac, mewn gwirionedd, ar adeg o gyni, pan fo pob un ohonom yn disgwyl yn hyderus y byddwn yn cael toriad mewn termau real yn ein cyllideb yn y blynyddoedd sydd i ddod, mae hwnnw'n ddewis arwyddocaol yr ydym yn ei wneud, i fuddsoddi yn nyfodol gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Ac yn olaf, ar eich pwynt am yr angen parhaus i atgyfnerthu lleihau risg, er mwyn i bobl allu cael cymorth yn gynharach a chael cyfle gwirioneddol i gymryd camau rhagweithiol, mae hynny'n glir iawn, yn y datganiad ac ym mlaenoriaethau’r grŵp. Gall fod yn ddefnyddiol, o ran ymrwymiad a chydnabyddiaeth y Llywodraeth hon, i atgoffa pobl y lansiwyd yr ymgyrch Lleihau Eich Risg o Gael Strôc ar yr adeg a nodwyd, gan y Gymdeithas Strôc a Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ac fe'i lansiwyd yn y Fferyllfa Well, tafliad carreg o adeilad y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac fe'i lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, ar y pryd.

A gaf innau hefyd groesawu'r cynllun newydd, a dymuno pob lwc i chi â hynny? Mae gennyf ychydig o gwestiynau, gan ddechrau, mewn gwirionedd, lle gorffennodd Huw Irranca-Davies, a'r cwestiwn am y defnydd o sganwyr. Rwy’n gwerthfawrogi na fyddwch yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw, ond tybed a wnewch chi ystyried gwneud datganiad ar ryw adeg ynglŷn â’r peiriannau sganio sydd ar gael nad oes ganddynt ddigon o bobl i'w gweithredu bob awr o’r dydd a’r nos. Rydym ni’n dal i gael darnau achlysurol o waith achos ar hyn—am bobl yn mynd i wahanol adrannau ag amheuaeth o strôc, a chyflyrau eraill, lle mae peiriannau sganio ar gael, ond nad oes unrhyw un ar gael i’w gweithredu. Felly, tybed a wnewch chi efallai roi datganiad inni am hynny, yn y dyfodol.

Ond, yn ymwneud yn benodol â hyn yn awr, a gaf i ofyn i chi am yr adolygiad goroeswr strôc chwe mis, a'r berthynas rhwng y GIG a'r trydydd sector a gweithwyr gofal ar hyn? Nawr, rwy'n rhagdybio, os bydd rhywun yn derbyn gofal yn bennaf gan aelod o'r teulu, fel y mae cynifer o bobl, bydd yr aelodau hynny o'r teulu yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau. Ond, pan nad oes gan rywun y fantais honno, a’i fod yn bennaf yn derbyn gofal gan weithwyr gofal, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni ynglŷn â phwy y byddech yn disgwyl iddynt fod yn rhan o'r trafodaethau hynny? Gallai fod yn weithiwr cymdeithasol unigol, os ydynt yn ddigon anabl o ganlyniad i'w strôc. Ond y cyfan rwy’n ei wneud yw chwilio am ffyrdd o wneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu hepgor yn ddamweiniol o'r weithdrefn ddefnyddiol hon.

Roeddwn wedyn eisiau gofyn i chi am y gwasanaeth rhyddhau â chymorth arbenigol, i alluogi pobl â strôc i gael eu hadsefydlu gartref, neu mewn cartref gofal. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn mae’n debyg yw, ‘Pam nad yw hyn yn digwydd nawr?’ Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn broblem wirioneddol, am nifer o resymau, ond un ohonynt yw y gall fod yn anodd iawn cael pecyn priodol o ofal at ei gilydd ar gyfer yr unigolyn sy’n ceisio gadael y lleoliad aciwt. Felly, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni o'r hyn sydd ar goll o’r pecynnau oedi wrth drosglwyddo gofal hyn i ddioddefwyr strôc, ac efallai rhoi syniad i ni ai cyfrifoldeb y lleoliad aciwt neu’r tîm gofal sylfaenol fydd y monitro parhaus o'r gweithgarwch adsefydlu y bydd yr unigolyn hwnnw yn ei gael? Oherwydd ei bod yn debygol y bydd wedi cael ei gynllunio gan y gweithwyr adsefydlu proffesiynol yn yr ysbyty, yn hytrach nag yn y lleoliad gofal sylfaenol. Felly, mae'n fater o wneud yn siwr, unwaith eto, bod rhywun yn cymryd y cyfrifoldeb cyffredinol am yr unigolyn hwnnw, yn hytrach na bod dau o bobl naill ai'n cytuno bod y ddau ohonynt yn gyfrifol neu nad yw’r naill na’r llall yn cymryd y cyfrifoldeb.

Ac yna, yn olaf—

Hwn yw’r un olaf. Rwy'n hynod, hynod falch eich bod wedi codi’r peryglon iechyd meddwl i ddioddefwyr strôc. Ac, i'w gadw'n fyr, rwy’n chwilfrydig i wybod sut y mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, ac, yn arbennig, y cyllid ychwanegol a gyflwynwyd y llynedd, ac a oes unrhyw ran o hwnnw'n cael ei glustnodi ar gyfer dioddefwyr strôc, gan gofio bod y rhain yn gyflyrau cydafiachedd cymhleth iawn. Diolch.

Fe wnaf ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Nid ydym wedi mabwysiadu dull o ddweud bod cyflyrau penodol lle byddwn yn ystyried, yn enwedig yn ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, anghenion iechyd meddwl yr unigolyn hwnnw, oherwydd rwy’n credu mai’r her fydd, y gallem yn hawdd gysylltu arian a gweithgareddau mewn modd a fyddai mewn gwirionedd yn gwastraffu ein hadnoddau, yn hytrach nag ychwanegu atynt. Yr her, rwy’n meddwl, yw bod â dull gwasanaeth cyfan i weld yr unigolyn cyfan, a dealltwriaeth o—fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth—nid dim ond gweld yr unigolyn hwnnw sydd â chyflwr corfforol, ond ei weld fel unigolyn cyfan, a beth sy'n bwysig iddo.

A dyna pam y mae’r gwaith ar fesurau yn ymwneud â’r profiad a adroddir gan gleifion yn wirioneddol bwysig, oherwydd bod hynny’n gofyn i’r unigolyn hwnnw am yr hyn sy'n bwysig iddo, a sut yr ydym wedyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu deall hynny a mesur hynny mewn ffordd sy'n ystyrlon iddo. Felly, hyd yn oed os yw ei ganlyniadau clinigol yn dda, mewn gwirionedd efallai nad yw hynny’n golygu ei fod yn gadael, os mynnwch chi, y rhan o'r gwasanaeth gofal corfforol nes ei fod, mewn gwirionedd, yn hapus a bodlon, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran ei les cyffredinol. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n rhoi amser a sylw gwirioneddol iddo, a dyna pam, rwy’n credu, pan fyddwn yn dod yn ôl i 2018 a deall beth fydd y mesurau hynny, bydd gennym lawer mwy o wybodaeth am yr hyn a allai ac a ddylai wneud gwahaniaeth a meddwl am lais y dinesydd wrth gyfarwyddo rhywfaint o'r gofal a pha ganlyniadau sy’n bwysig iddo fe. Felly, mae ymgais wirioneddol ac ystyrlon i gael y sgwrs honno ym mhob rhan o'r gwasanaeth, ac nid dim ond ceisio ei gyfyngu i rai meysydd. Rwy’n sylweddoli bod hwnnw’n un dull, ond nid wyf yn credu y byddai'n cyflawni'r gwerth gorau i ni.

O ran eich pwynt cyntaf ynghylch pa un a oes staff ar gael i ymgymryd ag unrhyw sganiau, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld enghreifftiau penodol o'r sefyllfa a sut y mae hynny'n cyd-fynd â’n gallu i gynllunio'r gweithlu, y buddsoddiadau yr ydym wedi'u gwneud o ran pa bobl a ble y maen nhw, ac, yn wir, ad-drefnu'r gwasanaeth. Byddwn i’n falch iawn pe byddech chi’n anfon gohebiaeth ataf ar yr enghreifftiau sydd gennych.

O ran gofal sylfaenol ac eilaidd, mae brwydr gyson i ddeall sydd pwy mewn gwirionedd sy’n gyfrifol, ond nid oes unrhyw un yn y Gymdeithas Strôc wedi sôn wrthyf am hynny a dweud ei fod yn pryderu, er enghraifft, nad oes dealltwriaeth o gyfrifoldeb, naill ai pwy sydd â'r cyfrifoldeb dros adsefydlu na deall pwy, mewn gwirionedd, fydd yn cynnal yr adolygiadau o gleifion. Mae eu pryderon ehangach nhw wedi bod yn ynghylch pa un a oes gennym y nifer iawn o bobl yn gweithio yn y timau cywir yn hytrach na pha un ai gofal sylfaenol neu eilaidd sy’n arwain ar yr adeg honno.

O ran rhai o'ch pwyntiau am eiriolaeth, lle nad oes gan bobl aelodau o'r teulu i fynd gyda nhw pan fo rhai adolygiadau yn cael eu cynnal, unwaith eto, mae gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a oes gennych chi enghreifftiau penodol o fylchau yr ydych chi’n eu nodi yn hytrach na sylwadau mwy cyffredinol. Gallai fod. Byddai gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae hynny'n ei olygu a’r sefyllfa ar hyn o bryd, a byddwn i’n falch iawn o ymdrin yn briodol â hynny. Gwn fod y grŵp trawsbleidiol i fod i gyfarfod ymhen ychydig wythnosau. Nid wyf yn credu y gallaf ddod i'r cyfarfod cyntaf, ond rwy’n disgwyl y bydd nifer o bwyntiau o’r grŵp hwnnw a allai fod yn ddefnyddiol i’w coladu a'u hanfon ataf, a gallaf, gobeithio, ymateb mewn ffordd gynorthwyol ac adeiladol i sylwadau a gaiff eu gwneud. Ond, yn gyffredinol, o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, mae gennym hanes da. Mae nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, ac mae goruchwyliaeth a disgwyliad y gweinidogion yn parhau ar gyfer gwelliannau pellach. Mewn unrhyw feysydd lle yr ydym yn gweld bod bylchau eraill yn dal i fodoli, rwyf eisiau deall pam y mae’r rheiny yno a beth y gallwn ni ddisgwyl i’n system iechyd a gofal gyfan ei wneud yn eu cylch. Felly, byddwn yn falch iawn o dderbyn yr ohebiaeth honno ac wedyn edrych ar rai o fanylion yr hyn y gallwn ei wneud i weld gwelliant pellach mewn gwasanaethau strôc ledled Cymru.

5. 4. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17

Eitem 4 ar yr agenda heddiw yw trafodaeth ar yr ail gyllideb atodol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6236 Jane Hutt

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo’r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’r ail gyllideb atodol hon yn rhan safonol o’r broses reolaeth ariannol flynyddol. Mae’n rhoi cyfle olaf inni addasu’r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad hwn yn y gyllideb atodol gyntaf fis Gorffennaf diwethaf. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar yr ail gyllideb atodol hon. Byddaf yn ymateb i’r Cadeirydd maes o law ynglŷn â’r argymhellion penodol yn yr adroddiad.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn bennaf, mae’r gyllideb hon yn gyfle i roi trefn ar y newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i reolaeth ariannol ganol blwyddyn. Mae’n alinio’r adnoddau sydd ar gael gyda blaenoriaethau’r Llywodraeth, ac mae mwyafrif y newidiadau i gynlluniau yn rhai gweinyddol. Eleni, mae’r ail gyllideb atodol hefyd yn cynnwys nifer o ddyraniadau allweddol o gronfeydd wrth gefn. Mae darparu sefydlogrwydd ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Felly, mae’r gyllideb hon yn cynnwys gwerth £168.9 miliwn o ddyraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau iechyd gwladol Cymru.

This sum includes the £50 million announced by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport in November to address winter pressures and to sustain and improve performance during the winter period. In addition, it includes an additional funding package of £102.9 million to support the NHS in Wales. This will help address the forecast deficits in two local health boards and the estimated shortfall of income from the pharmaceutical price regulation scheme.

Llywydd, this supplementary budget also reflects allocations made to pursue early progress against our programme ‘Taking Wales Forward’. In November 2016, additional capital funding of £30 million was announced by the Cabinet Secretary for Communities and Children in support of our commitment to provide 20,000 affordable new homes across Wales. This will include continued support for construction via schemes such as the social housing grant and Help to Buy. In January of this year, funding of £16 million was announced by the Welsh Government to support the launch of the new treatment fund to give people in Wales fast access to new and innovative treatments. An additional £20 million in revenue funding goes to the Higher Education Funding Council for Wales and is formalised in this budget to respond to current and future financial pressures, including the implementation of the Diamond report recommendations.

This second supplementary budget increases funding to develop the Welsh economy and our transport infrastructure: £47 million in capital has been allocated to support construction and maintenance of the trunk road network in Wales, with a further £8.5 million in revenue funding to establish Transport for Wales in preparation for franchise responsibilities. This supplementary budget also aligns additional investment of £33.4 million in capital grants and loans to deliver economic development priorities, supporting sustainable jobs and growth across the length and breadth of the country.

Llywydd, as supplementary budgets are mainly administrative in nature, this budget details the various other adjustments to be made to our budgets in this financial year, including any changes to the Welsh block arising from the UK Government decisions, revisions to forecasts of annually managed expenditure, and other transfers both between and within ministerial portfolios.

I’d like to thank the Finance Committee once again for the scrutiny of this supplementary budget and I ask Members to support it this afternoon.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydw i’n siarad, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi adrodd ar y gyllideb atodol, ac mae’r adroddiad llawn a’r argymhellion ar gael, wrth gwrs, i Aelodau. Rydw i ond yn ffocysu ar bedwar maes yn fan hyn lle'r oedd y Pwyllgor Cyllid yn chwilio am fwy o wybodaeth neu fwy o waith gan y Llywodraeth.

Yn gyntaf oll, byddech chi’n cofio, gobeithio, fy mod i wedi siarad o’r blaen ar y gyllideb ddrafft ynglŷn â’r angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddangos sut mae dyraniadau cyllidebol yn cael eu dylanwadu gan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Er ein bod ni, wrth gwrs, yn sylweddoli ac yn derbyn mai cyllideb atodol yw hon, roeddem wedi gobeithio, serch hynny, gweld mwy am sut y mae’r Ddeddf honno wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â dyraniadau mewnol yn sgil y gyllideb ddiwethaf. Mewn cyfarfod pwyllgor, rhestrodd Ysgrifennydd y Cabinet nifer o ddyraniadau fel tystiolaeth o’r modd y mae gwariant yn cyd-fynd â’r nodau lles. Roeddem ni’n ddiolchgar ei fod ef wedi dod yn barod ac wedi paratoi i wneud hynny. Serch hynny, roedd y pwyllgor yn teimlo bod y rhestr hon braidd yn artiffisial mewn ffordd, a rhestr o ddyraniadau a oedd yn digwydd bodloni gofynion y Ddeddf yn hytrach na thystiolaeth bod gan y Ddeddf rôl flaenllaw yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Fel y gwnaethom ni adrodd ar y gyllideb ddrafft ddiwethaf, roeddem ni’n teimlo bod angen gwella ar y mater yma o sut y mae’r Ddeddf yn dylanwadu ar ddyraniadau. Mae hynny yn amlwg yn waith y byddem ni i gyd yn dychweled ato faes o law.

Yn ail, ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phwysau’r gaeaf, fel yr ŷm ni’n ei nodi yn ein hadroddiad, mae dros 70 y cant o’r dyraniadau refeniw cyllidol ychwanegol a wnaed yn y gyllideb atodol hon yn mynd i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon—yn bennaf, rhyw £75 miliwn i helpu i liniaru’r gorwariant a ragwelir gan fyrddau iechyd, a £50 miliwn i liniaru pwysau’r gaeaf.

Er bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu er mwyn lliniaru pwysau’r gaeaf i’w groesawu, rydym yn pryderu nad yw’r amrywiadau tymhorol hyn yn cael eu hystyried yn y broses gynllunio tair blynedd. Felly, mae’n siom i’r pwyllgor bod Llywodraeth Cymru heb fanteisio ar y cyfle sy’n cael ei roi yn Neddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 i sicrhau bod y byrddau iechyd yn cynllunio yn well dros gyfnod o dair blynedd.

Rydym, serch hynny, yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i archwilio’r posibilrwydd bod materion strwythurol ynghlwm wrth y gorwariant a welir gan rai byrddau iechyd. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu, os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i achub croen byrddau iechyd sy’n gorwario, er mewn ffordd o dalu drwy’r adran yn hytrach nag i’r byrddau iechyd yn uniongyrchol, na fydd gan y byrddau iechyd unrhyw gymhelliant i weithredu polisïau gwariant llym er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at eu cyllidebau.

Y trydydd maes yr oeddem ni’n adrodd yn ei gylch oedd y dyraniad yn y gyllideb atodol o £20 miliwn ychwanegol i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Pwrpas y dyraniad hwn yw at ddibenion lliniaru’r pwysau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r argymhellion a gafwyd yn adroddiad Diamond. Credwn fod angen rhagor o waith craffu ar y drefn o gyllido addysg uwch, gan gynnwys monitro sut mae argymhellion adolygiad Diamond yn cael eu gweithredu. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried. Os nad yw’n briodol i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried, mae’n debygol y bydd y Pwyllgor Cyllid am wneud gwaith dilynol ar yr hyn yr edrychodd y Pwyllgor Cyllid blaenorol arno yn y Cynulliad diwethaf.

Y maes olaf sydd yn destun argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yw’r economi a’r seilwaith. Gwnaethom ni nodi bod dyraniadau refeniw i’r portffolio hwn, ac eithrio newidiadau nad ydynt yn newidiadau arian parod, wedi cynyddu bron £40 miliwn, a bod dyraniadau cyfalaf wedi cynyddu dros £45 miliwn. Daethom i’r casgliad y gallai’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gyllideb atodol fod wedi darparu mwy o dryloywder ynghylch rhai o’r dyraniadau hyn, yn enwedig y cynnydd o dros £30 miliwn a welwyd yn y cam gweithredu sectorau mewn perthynas â blaenoriaethau datblygu economaidd a’r cyllid cyfalaf o £22 miliwn a ddarperir ar gyfer datblygu llwybr yr M4.

Cawsom ein synnu gan y dyraniad ar gyfer datblygu llwybr yr M4, yn enwedig o gofio fod y cyllid hwn yn bennaf ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Felly, rydym yn argymell bod y ddogfennaeth sydd ynghlwm â chyllidebau’r dyfodol yn darparu llawer mwy o fanylder a llawer mwy o dryloywder ynglŷn â phwrpas y dyraniadau. Gwnaethom nodi hefyd y benthyciad cyfalaf ychwanegol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu proffil manwl o’r cyllid a ddarparwyd i Faes Awyr Caerdydd, a manylion ynghylch pryd y bydd symiau sy’n ddyledus yn cael eu had-dalu. Diolch yn fawr.

Cyn i fi alw ar y siaradwr nesaf, fe fydd Aelodau’n ymwybodol bod yna sain uchel iawn yn y Siambr ar hyn o bryd. Rŷm ni’n edrych i mewn i’r mater ac, os bydd angen, fe fyddaf yn gohirio’r sesiwn ar ddiwedd y ddadl yma. Ond, fe wnawn ni gario ymlaen am gyfnod. Adam Price.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch, fel arfer, i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am rannu sylwadau ei bwyllgor ef ar yr ail gyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

Yn gyffredinol, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n ategu’n fawr unwaith eto fyrdwn argymhellion y pwyllgor, a amlinellwyd gan fy nghyfaill Simon Thomas, ac yn benodol yn pwysleisio’r angen i fynd i’r afael â diffyg gwybodaeth a thryloywder unwaith eto, sydd yn mynd yn thema gyson gyda ni yn y dadleuon hyn.

Rŷm ni’n ddiolchgar, wrth gwrs, i’r Ysgrifennydd Cabinet am y nodiadau esboniadol a gawsom ni gyda’r gyllideb atodol—rhyw 50 o dudalennau. Ond nid da lle gellir gwell. Mae’r diffyg tryloywder, fel clywsom ni, yn amlwg iawn, er enghraifft, yn y materion sy’n ymwneud â’r gyllideb iechyd. Mae’r pwyllgor wedi tynnu sylw at hyn o’r blaen, ac yn benodol at sut mae’r gyllideb yn cael ei gwario rhwng gofal sylfaenol, eilaidd, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen. Mae yna drosglwyddiad, er enghraifft, yn y gyllideb atodol o dros £15 miliwn o’r cam gweithredu polisïau cefnogaeth iechyd meddwl a deddfwriaeth i’r anghenfil o gam yna, y cam gweithredu cyllid craidd y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, sef swm o dros £6.2 biliwn. Y pryder yn gyffredinol, wrth gwrs, yw y bydd yr arian yna yn cael ei lyncu gan y cam craidd ac yn anodd iawn i’w fonitro yn y dyfodol. Felly, fe fyddwn i’n ymbil ar yr Ysgrifennydd Cabinet unwaith eto i gynnig mwy o dryloywder yn y dyfodol ynghylch y dyraniadau yma yn gyffredinol ac yn sicr o fewn y gyllideb iechyd.

Mae yna sôn yn y gyllideb atodol am ddyraniadau ychwanegol o’r gronfa buddsoddi-i-arbed—£3.4 miliwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, £0.5 miliwn ar gyfer rhifedd a llythrennedd, er enghraifft, yn ogystal ag ad-daliadau i’r gronfa—hynny yw, y gronfa buddsoddi-i-arbed, ‘invest-to-save’, rydym ni’n sôn amdano fe fan hyn. Unwaith eto, nid oes llawer o fanylion pellach ar gael am y symiau a fenthycwyd ac a ad-dalwyd, na chwaith am amserlennu’r ad-dalu o dan y rhaglen yma.

Os ydym ni’n mynd i wneud ein priod waith yn y lle yma i graffu’n iawn ar effeithlonrwydd y gronfa, mae angen yr wybodaeth yma yn glir. Mi fyddai adroddiad blynyddol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor, yn syniad da, felly. Yn gyffredinol, felly, y pryder sydd gyda ni—ac mae’n cael ei grisialu yn y cynnig yma ar gyfer y gyllideb atodol hefyd—yw bod yna ddiffyg tryloywder unwaith eto. Nid yw hynny yn caniatáu i ni, felly, ddal y Llywodraeth i gyfrif.

I have to say, in reference to the economy and infrastructure main expenditure group—and that has one of the largest capital transfers, about £80.6 million, for example—the problem there, and it’s a theme that was right at the heart of my friend the leader of Plaid Cymru’s recent speech in Plaid Cymru’s conference, is: how can we actually see that there is an equitable distribution of investment across Wales, you know, a Wales-wide approach to Government investment, on the face of this supplementary budget? It’s impossible to draw that conclusion based on the information that we’re given, other than to say that, actually, of the geographically identified projects, over 95 per cent of them are in Cardiff and south-east Wales. We’ve had reference already to the rather curious additional preparatory funding for the M4 project in south-east Wales, reference to Cardiff Wales Airport. There’s a reference in the supplementary information to reserves being held back for the Cardiff city deal. There’s the eastern bay link road, there’s the international conventions centre in Newport, and there’s the Heads of the Valleys work up in Brynmawr. So, the only exception outside of south-east Wales and Cardiff actually is £0.5 million to ActionAid in Swansea, and £4 million spread across Tata’s sites throughout Wales. I have to say to the Cabinet Secretary that it’s simply not acceptable. It may well be that, in the opacity of the supplementary budget, there are projects in north Wales and mid and west Wales and in the Valleys of Glamorgan that we don’t know about, but that’s the point: we don’t know about them, we can’t know about them, based on the information that we have, and, for those two reasons—the lack of transparency and the lack of evidenced equity of Government investment across Wales—we will be voting against this supplementary budget.

A gaf i groesawu trafodaeth heddiw ar y gyllideb atodol? Yn ôl pob tebyg nid y gyllideb sy'n cael y sylw mwyaf yn y byd gan y wasg—o leiaf yn y DU —yr wythnos hon. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod bod y gyllideb hon yn cynnwys proses reoli yn ystod y flwyddyn gyda’r nod o gyfochri adnoddau â blaenoriaethau—y broses braidd yn anodd honno, fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ati yn ei sesiynau gyda'r Pwyllgor Cyllid. Rydym hefyd yn cydnabod y cynnydd sy'n deillio o wariant uwch y Llywodraeth a throsglwyddiadau eraill a gafodd eu hystyried. A gaf i hefyd gytuno â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Cawsom nifer o sesiynau defnyddiol yn y pwyllgor yn edrych ar hyn ac yn nodi llawer o'r meysydd y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt, yn enwedig yr hyn y cyfeiriwyd ato gan argymhelliad 1, sy'n cwestiynu effeithiolrwydd gweithredu Bil cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n credu bod cwestiwn ehangach yn y fan yma am y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad yn ei phasio, a pha un a yw mewn gwirionedd yn cyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud ar lawr gwlad. Mae llawer o'r lleisiau dan sylw—. Mae llawer o'r pryderon a leisiwyd, ddylwn i ddweud, ar adeg pasio’r Bil fel petaent yn dwyn ffrwyth. Rydym angen i Lywodraeth Cymru ail-ymroi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei hymgorffori'n briodol o fewn diwylliant gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Ni ddylai fod yn ychwanegyn yn unig; dylai fod yno ar bob lefel, a dylai gael ei hystyried felly.

Rwyf am adael argymhelliad 2 ar y gronfa buddsoddi i arbed i’m cydweithiwr Mike Hedges—nid wyf yn gwybod hyn fel ffaith, ond rwyf yn siŵr ei fod am ddweud rhywbeth amdano; ydi, gallaf ddweud wrth ei wên ei fod —heblaw i ddweud fy mod yn credu bod buddsoddi i arbed wedi bod yn gynllun da yn y gorffennol ac yn cyflawni canlyniadau.

Yr hyn sy’n peri mwy o bryder, yn fy marn i, ac mae hyn yn dilyn ymlaen o rai o'r sylwadau a wnaed gan Adam Price, yw mater tryloywder. Rydym yn dychwelyd at hyn dro ar ôl tro, ym maes trafodaethau ar y gyllideb ond hefyd mewn meysydd eraill yr ydym yn eu trafod yma. Cyfeirir ato yn argymhelliad 3, yn benodol yn yr achos hwn diffyg tryloywder ynghylch y cyllid a ddyrannwyd yn y portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon, a'r rhesymau dros y penderfyniadau ariannu sy’n aml fel petaent yn fwy adweithiol ac yn gysylltiedig ag ymdrin â phroblemau wrth iddynt ymddangos yn hytrach na mynd at wraidd y problemau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu, ac mae'n debygol y bydd, yn dadlau mai cyllideb atodol yw hon—ail gyllideb atodol—felly efallai na ddylem fod yn disgwyl gormod o hyn heddiw. Ond, mae'n gyllideb serch hynny ac mae'n gwneud rhai newidiadau allweddol i'r sefyllfa a oedd gennym o'r blaen. Felly, rydym yn edrych i weld bod newidiadau yn cael eu cefnogi’n dda gyda thystiolaeth dda, ac rydym yn sicr yn edrych, fel y dywedodd y Pwyllgor Cyllid, i’r newidiadau hyn gael eu holrhain ac i fod yn amlwg mewn prosesau pennu cyllidebau yn y dyfodol. Rydym wedi bod yn galw am hyn ers peth amser, ac yr ydym wir am weld tystiolaeth bendant a chadarn ar gyfer hyn wrth i ni symud ymlaen.

Gan droi at y rhan sy’n ymdrin â ffyrdd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, unwaith eto crybwyllodd Adam Price y £15 miliwn ar gyfer ffordd gyswllt dwyrain y bae. Fel yr wyf wedi ei ddweud yn y cyllidebau blaenorol, nid yw hyn wrth gwrs ar gyfer ffordd gyswllt dwyrain y bae i gyd—mae ar gyfer un rhan o un adran o'r ffordd gyswllt a fydd yn dod i ben ar y cylchfan i unman, fel y’i gelwir, ar Rover Way. Rwyf wedi cael problemau gyda hyn yn y gorffennol—ac rwyf yn dal i gael. Rwy’n cefnogi’r ffordd yn ei chyfanrwydd, ond rwyf yn cwestiynu a fydd gwerth am arian wrth gyflwyno un rhan o'r ffordd honno yn y tymor byr. Mae potensial i rai problemau tagfeydd mawr gael eu symud i rywle arall yng Nghaerdydd heb unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol i barhau i adeiladu gweddill y ffordd honno.

O ran y £22 miliwn ar gyfer datblygu llwybr yr M4, mae’r saga yn parhau yn y fan honno, onid yw hi? Roedd y pwyllgor yn pryderu nad oedd digon o wybodaeth yn y gyllideb am y £22 miliwn hwn. I fod yn deg, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn y sesiwn dystiolaeth, roi rhagor o fanylion, ond nid oeddent yno ar y dechrau. Rwy’n deall bod yr arian hwn ar gael i ddarparu cefnogaeth ar gyfer mwy o waith ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus ac i ymdrin â nifer uwch na'r disgwyl o wrthwynebiadau. Nid wyf yn hollol siŵr pam y disgwylid y byddai nifer is o wrthwynebiadau, oherwydd nid yw'r cynllun y lleiaf dadleuol yn y byd.  Credaf y gellid bod wedi cynnwys hynny ar y dechrau.

Fel yr wyf yn dweud, i gloi, Lywydd, rwyf yn gobeithio y gall cyllidebau yn y dyfodol weld gwell tryloywder—y greal sanctaidd i'r Pwyllgor Cyllid. Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaed yn yr ail gyllideb atodol hon a’r trosglwyddiadau cyllid dan sylw. Fodd bynnag, gan fod gennym broblemau â thryloywder a bod gennym broblemau â'r gyllideb wreiddiol y mae'r ddwy gyllideb atodol wedi eu seilio arni, ni allwn gefnogi'r gyllideb atodol hon.

Diolchaf i Nick Ramsay am ei gyfraniad. Roeddwn yn teimlo bod y casgliad 'ni allwn gefnogi' braidd yn Ddelffig, am ei fod yn gadael dau ddehongliad posibl.

Y sefyllfa a ganfyddwn ar y gyllideb hon yw nad oedd UKIP yn rhan o'r Cynulliad ar adeg pasio’r gyllideb gychwynnol ar gyfer eleni. Mae nifer o'r newidiadau o ben i ben neu’r prif grwpiau gwariant, rwy’n credu, yn anodd eu gwrthwynebu. Rwy'n credu bod gennym ychydig o faterion penodol. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhaid i mi ganmol Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod o leiaf wedi paratoi’n dda, yn fy marn i, ar gyfer ein cwestiynau ar y maes hwnnw o ran sut yr oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi dylanwadu ar ffurfiant y gyllideb atodol. Dywedodd wrthym am y £10 miliwn ar gyfer ffordd Blaenau'r Cymoedd—a oedd yn ymwneud â Chymru fwy ffyniannus—ac yna £16 miliwn ar gyfer y gronfa triniaethau newydd—a oedd yn ymwneud â Chymru iachach. Felly, llongyfarchiadau ar hynny, ond rwyf yn teimlo ein bod yn dal i fod heb ein hargyhoeddi ynghylch y graddau y mae’r Ddeddf hon yn mynd i graidd y mater ac yn penderfynu ar gamau gweithredu’r Llywodraeth i'r graddau y byddai’r rhai sy’n ei chanmol yn ei honni.

Cawsom drafodaeth ddiddorol iawn, yn fy marn i, yn y pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gorwariant o fewn y MEG iechyd, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud achos cryf ynghylch pam yr oedd yn briodol cyllido’r gor-ariannu hwnnw ar lefel gyffredinol y MEG iechyd. Ond, nid oedd eisiau cynyddu'r gyllideb i gydnabod y gorwariant hwnnw oherwydd byddai hynny'n lleihau'r cymhelliant i reoli gwariant yn briodol yn y dyfodol, ond hefyd oherwydd bod y gorwario hwnnw, yn fy marn i, yn anad dim mewn meysydd yr oedd yn credu ar sail angen eu bod yn cael dyraniad uwch. Yn sicr, pe byddem yn edrych ar ganlyniadau incwm ac iechyd ar fformiwla, roedd gan fy ardal i yn y de-ddwyrain o bosibl ddyraniad cymharol lai o'r blaen, a byddai cydnabod y gorwariant hwn mewn mannau eraill yn golygu y byddai’n cael ei wneud yn bendant, a chytunasom na fyddai honno yn ffordd briodol ymlaen.

Mae'r gwaith ar yr ochr seilwaith—y £15 miliwn ar gyfer ffordd liniaru dwyrain y bae—o leiaf yr wyf yn credu ei fod yn welliant y gallwn wedyn ddefnyddio Rover Way i gyrraedd y gylchfan, ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud unrhyw beth ynglŷn â phryd y mae’n bwriadu ymgymryd â’r gwaith deuoli, i gwblhau beth fyddai i bob pwrpas yn ffordd gylchol ar gyfer Caerdydd, ac yn gwneud y £15 miliwn hwnnw ei hun yn llawer mwy cynhyrchiol o ran ei wariant?

Mae fy mhrif bryderon—a bydd gennyf ddiddordeb mawr clywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w ddweud mewn ymateb—unwaith eto yn ymwneud â'r setliad cyllido addysg uwch. Yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd y Pwyllgor Cyllid:

Ni weithredwyd ar y pryd y trosglwyddiad technegol o £21.1 miliwn o gyllideb CCAUC i'r llinell gyllideb y telir y grant ffioedd dysgu ohoni.

Gan hynny roeddem yn golygu yn y gyllideb derfynol. Yna, dywedasom:

Mae'r Gyllideb Atodol hon yn adfer y cam o drosglwyddo’r £21.1 miliwn hwn'.

A yw'n gywir mai trosglwyddiad technegol yw hwn, neu a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gywir â’r hyn a ddywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Dywedodd hi:

Cyhoeddais lythyr cylch gwaith diwygiedig i CCAUC ar 17 Hydref, a oedd yn nodi’n glir bod y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn awgrymu y bydd gwariant ar y TFG yn fwy na’r amcangyfrifon gwreiddiol o £257.6m ar gyfer 2016-17. Felly, byddwn yn mynd ati i drosglwyddo £21.1m o CCAUC i Lywodraeth Cymru yn yr ail gyllideb atodol yn rhannol i dalu am y gwariant ychwanegol.

Felly, a yw’r trosglwyddiad hwnnw’n fater technegol, neu a yw'n cael ei ysgogi gan yr angen i gyllido’r costau uwch? A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn egluro'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel cael ei ffurfioli yn y gyllideb hon, yr oeddem wedi cyfeirio ato yn y pwyllgor fel dyraniad ychwanegol o £20 miliwn i CCAUC ar gyfer cyfres o fesurau i ymdrin â phwysau ariannol nawr ac yn y dyfodol yn ymwneud â gweithredu argymhelliad adroddiad Diamond? Hynny yw, onid yw adolygiad Diamond oherwydd ein bod yn cydnabod bod cynnal y grant ffioedd dysgu fel yr oedd yn anghynaladwy, ac roedd costau hynny yn cynyddu’n gyflym, ac roedd am gymryd arian o fannau eraill yng nghyllideb Cymru? Pam, er gwaethaf adolygiad Diamond, yr ydym yn dal i fod â’r pwysau, ac mae gweithrediad adolygiad Diamond yn rheswm arall i ddod o hyd i hyd yn oed fwy o arian i’w roi yn y gyllideb hon? Ai blaenoriaeth ei Lywodraeth mewn gwirionedd yw rhoi cymaint o arian â phosibl i mewn i ddosbarthu grantiau i fyfyrwyr, yn hytrach na’i ​​roi mewn meysydd o'r economi a’r seilwaith, ac yn hytrach na’i roi i mewn i'r gwasanaeth iechyd? Croesewir y ffaith nad yw bellach yn mynd ar sail prawf modd i deuluoedd sy'n ennill £81,000, ond eto, a oes ganddo’r arian mewn gwirionedd, ac ai ei flaenoriaeth ef mewn gwirionedd yw amddifadu meysydd gwariant eraill er mwyn canolbwyntio gwariant ar y maes hwn, i raddau mor helaeth?

Rwy’n siarad o blaid yr ail gyllideb atodol, ond mae tri phwynt yr hoffwn eu codi. Yn gyntaf, ar y gyllideb iechyd, yn ôl y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyllid—ac rwyf am ddyfynnu o'r adroddiad—

Mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys £180 miliwn o refeniw cyllidol, neu refeniw arian parod, £4 miliwn o refeniw nad yw'n arian parod a £3 miliwn o gyfalaf i'r portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. O'r dyraniadau refeniw cyllidol ychwanegol a wnaed i adrannau, mae 71.5% yn mynd i'r portffolio hwn.'

Mae'n 71.5 y cant pan fo’r gyllideb yn nes at 50 y cant, felly petai wedi ei gael ar sail pro rata yn unig byddai wedi bod yn rhedeg ar tua 50 y cant, yn hytrach na 71.5 y cant.

'Mae hyn yn cynnwys £75.9m i helpu i fynd i’r afael â gorwariant o’i gymharu â’r rhagolygon gan fyrddau iechyd (cyhoeddwyd £68.4m ym mis Tachwedd a dyrannwyd £7.5m arall ym mis Ionawr).'

Roedd hynny’n syndod. Fy mhrofiad i o fyrddau iechyd a'r hen fyrddau ysbyty oedd eu bod yn gorwario yn y chwarter cyntaf —yn aruthrol—yn gorwario ychydig yn yr ail chwarter, ac yna’n dechrau dod â phethau yn ôl yn y trydydd a'r pedwerydd chwarter. Yr hyn yr ydym wedi ei weld yma mewn gwirionedd yw parhau i orwario yn y trydydd chwarter, sydd i mi yn syndod, yn siomedig ac yn creu problemau.

£50m i liniaru pwysau’r gaeaf ac i gynnal a gwella perfformiad yn ystod cyfnod y gaeaf; £27m i fynd i'r afael â'r diffyg incwm amcanol yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol; £16m i gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd; £1m ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans awyr.'

Mae cyllid ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynnwys mewn ail gyllidebau atodol yn y blynyddoedd diweddar; £50 miliwn yn 2016-17; £45 miliwn yn 2015-16 a £40 miliwn yn 2014-15.'

Rwy'n fodlon cael fy nghywiro gan eraill, ond nid yw wedi bod yn aeaf arbennig o oer, ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o achos mawr o ffliw, felly nid wyf yn deall pam mae angen i arian ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf fod yn y gyllideb atodol. Naill ai mae ei angen bob blwyddyn, ac fe ddylai fod yn y gyllideb sylfaenol, neu nid oes ei angen.

A gaf i droi at argymhelliad 1 y pwyllgor, sef

y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a oes unrhyw ffactorau strwythurol, nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn nyraniadau’r byrddau iechyd, sy'n effeithio ar allu’r byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau a ddyrannwyd iddynt. Llywodraeth Cymru ddylai roi unrhyw newidiadau i'r dyraniadau cyllid ar waith?

Os oes dau fwrdd iechyd angen arian ychwanegol bob blwyddyn, yna naill ai mae’r fformiwla sy’n dyrannu'r cyllid yn anghywir ac yn golygu nad ydynt yn cael digon o arian—sy'n golygu eu bod yn gorfod gofyn am arian ychwanegol bob blwyddyn—neu nid ydynt yn rheoli eu hadnoddau’n effeithiol, neu gyfuniad o'r ddau. Rwy’n falch dros ben bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi dweud yn y Pwyllgor Cyllid

ei fod yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon er mwyn canfod a oedd materion yn sail i'r gorwariant a oedd y tu hwnt i reolaeth y byrddau iechyd dan sylw.

Ond ni allwn barhau i gynyddu canran yr arian yr ydym yn ei wario ar iechyd—nes i ni gyrraedd 100 y cant; bryd hynny, mae'n rhaid i ni stopio. Ond mae llawer iawn o wasanaethau eraill hefyd. Rwy’n mynd i fod yn ddiflas nawr, oherwydd fy mod yn dweud hyn drwy'r amser: dylem fod yn gwario mwy o arian ar geisio atal pobl rhag bod yn sâl yn y lle cyntaf, gwella iechyd pobl, ceisio gostwng diabetes math 2 drwy wneud i bobl golli pwysau a pheidio â chyrraedd y sefyllfa honno, ceisio cael pobl i symud mwy fel nad ydynt yn tueddu i gael y problemau sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch. Ac yn bwysicaf oll—yr oeddwn am ddyfynnu David Melding am rywbeth a ddywedodd rai blynyddoedd yn ôl, cyn i mi ddod yn Aelod yma—y peth pwysicaf y gellir ei wneud yw atal pobl rhag ysmygu. Ac os gallwn wneud mwy i atal pobl rhag ysmygu, yna gallwn ymdrin â rhai o'r problemau iechyd. Y peth arall yw—ac rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith o'r blaen, ond rwy'n mynd i’w ddweud eto—a allwn ni sicrhau nad yw meddygon yn ymgymryd ag ymyraethau sydd naill ai’n gwneud drwg neu'n gwneud dim lles?

Yn fyr, ar ddau bwynt arall: mae fy nghefnogaeth i fuddsoddi i arbed yn gwbl hysbys, ac rwyf yn diolch i Nick Ramsay am fy arwain i ar hyn, ond byddai dalen incwm a gwariant yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n deall y bydd rhai cynlluniau buddsoddi i arbed yn cymryd mwy o amser i’w talu yn ôl nag yr ydym yn ei ddisgwyl. Mae hynny'n anochel, ac os na fyddent, ni fyddem yn defnyddio'r cynllun yn effeithiol oherwydd na fyddem ond yn chwarae’n saff. Mae gennym grŵp o bobl resymol ar y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf yn credu os byddwn yn gweld bod rhai ohonynt yn cymryd pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd, ond bod y bwriad yno, yna nid ydym yn mynd i feirniadu ac ymosod ar y Llywodraeth am wneud rhywbeth os yw'n gwneud lles. Mae hefyd yn golygu y gall pobl adnabod y rhai nad ydynt yn werth eu hefelychu mewn meysydd eraill. Nawr, rwyf yn credu mai’r perygl yw, os nad ydym yn nodi’r rhai sy'n cymryd ychydig mwy o amser i dalu yn ôl, gallai pobl benderfynu efelychu’r rheiny pan nad yw'n fanteisiol.

Yn olaf, mae nifer o newidiadau yn y gyllideb atodol yn gysylltiedig ag ariannu benthyciadau i fyfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio system fodelu gymhleth i amcangyfrif y gost o ddarparu benthyciadau i fyfyrwyr a gwerth presennol y llyfr benthyciadau presennol. Fy mhryder i yw—ac nid yw ar gyfer y gyllideb atodol hon, ond mae'n cael ei grybwyll mewn ffordd ar gyfer y Llywodraeth—30 mlynedd ar ôl dechrau’r system benthyciadau, bydd benthyciadau’n dechrau cael eu dileu. A oes unrhyw risg yn wynebu Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn dod at ddileu’r benthyciadau i fyfyrwyr cyntaf? Pwy fydd yn talu’r gost? Pan fyddwn yn cyrraedd yr adeg o 30 mlynedd wedi iddynt fynd i fyny i £9,000, mae'n mynd i fod yn waeth byth. Felly, dim ond cwestiwn ydyw mewn gwirionedd—nid ar gyfer nawr, ond efallai ar gyfer y dyfodol. Beth fydd yn digwydd â'r benthyciadau i fyfyrwyr wrth iddynt beidio â chael eu talu?

Cytunaf yn llwyr â Mike Hedges am wario mwy o arian ar atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Hoffwn godi rhai pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch ffordd liniaru dwyrain y bae, oherwydd nid oes pwynt adeiladu ffordd ac yna dim ond cwblhau tri chwarter ohoni. Ar ôl gwneud y ffordd gyswllt, yr unig beth sy’n rhaid i ni ei wneud yw ei chwblhau, a bydd y swm bach o arian hwn, yn gymharol, i’r gost gyffredinol, mewn gwirionedd yn—. Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw beth yn digwydd yn Rover Way; mewn gwirionedd mae yn ei chysylltu, wedyn, â’r A48, ac rwy'n gobeithio y bydd wedyn yn mynd â llawer o draffig oddi wrth Heol Casnewydd brysur iawn—yn enwedig y pen preswyl ohoni.

Diolch am ildio. Rwy'n credu mai’r gair allweddol a ddefnyddiwyd gennych yn y fan yna, Jenny, oedd 'gobeithio', ac ie, yn y pen draw, byddem yn gobeithio y byddai llawer o draffig yn cael ei symud o'r canol, ond fy mhwynt i yw: tan y bydd cynlluniau i adeiladu’r ail ran o ffordd gyswllt dwyrain y bae, mae rhan gyntaf ffordd gyswllt dwyrain y bae yn bygwth gwneud pethau'n llawer gwaeth i Rover Way.

Ar ôl gwneud y cyswllt hwn, rwyf yn credu y bydd hynny, wedyn, yn ei chwblhau, ond nid wyf wedi edrych ar y manylion yn ddiweddar. A dweud y gwir, os nad yw'n gwyro’r ffordd, bydd yn rhaid i ni gymryd camau eraill i sicrhau ei fod yn gwneud hynny. Roeddwn eisiau defnyddio'r cyfle hwn i siarad am y cynnig gofal plant yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac edrych ar faint o arian sydd wedi ei ddyrannu hyd yma i gyflawni'r adduned honno. Mae £10 miliwn eleni yn y gyllideb cymunedau a phlant i dreialu'r adduned gofal plant am 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n adduned uchelgeisiol iawn, ac rwy’n ei chroesawu’n fawr. Mae £20 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb addysg ar gyfer y flwyddyn ganlynol i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal plant ochr yn ochr â rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Nodaf fod Carl Sargeant wedi dweud wrth y pwyllgor plant a phobl ifanc, yn ôl ym mis Tachwedd, mai'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o’r gost flynyddol o gyflawni'r adduned gofal plant yn gyffredinol yw £100 miliwn. Felly, 30 awr o addysg a gofal plant y blynyddoedd cynnar yn rhad ac am ddim i rieni sy'n gweithio, gyda phlant sy’n dair a phedair oed—yn amlwg, mae gan yr holl blant hynny hawl i 10 awr o addysg feithrin o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Felly, yr her yw darparu'r 20 awr arall o ofal plant, ynghyd â 30 awr yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru wedi canolbwyntio ar anghenion datblygiadol plant ifanc hyd yma. Mae'r cyfnod sylfaen a Dechrau'n Deg wedi eu seilio ar dystiolaeth o'r hyn sy'n cael yr effaith fwyaf ar gyfleoedd bywyd plant, ond maen nhw’n strategaethau costus. Mae lle gofal plant Dechrau'n Deg yng Nghymru yn costio £11.32 o'i gymharu â’r £5.62 yr awr y mae darparwr gofal plant yn Lloegr yn ei gael am le gofal plant difreintiedig. Yng Nghaerdydd, mae heriau penodol i ddiwallu’r adduned gyffrous iawn hon. Mae gennym 26 o ysgolion cynradd gyda darpariaeth feithrin ar hyn o bryd, ond nid yw dim ond ymestyn oriau plant o fod yn yr ysgol i 30 yn bosibl am fod 3,300 o leoedd yn cael eu darparu ar y cyfan mewn dwy garfan. Felly, mae gennych feithrinfa’r bore a meithrinfa’r prynhawn, i gyd yn yr un ystafell. Felly, bydd yn rhaid dod o hyd i atebion eraill a, beth bynnag, nid oes gan ysgolion canol dinas fawr o gapasiti sbâr i ehangu oherwydd eu bod wedi eu hamgáu gan adeiladau eraill.

Mae rhai enghreifftiau da o ofal cofleidiol yn fy etholaeth i yn Ysgol y Berllan Deg, sydd â meithrinfa ddwyieithog breifat yng ngwaelod yr ardd, ac yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, sydd â meithrinfa breifat rownd y gornel. Yn y ddau achos, maent yn ddigon agos at yr ysgol i blant tair oed i allu cerdded yno ar gyfer eu hawl meithrin. Mae'r rhain yn enghreifftiau da o gydweithio cyhoeddus-preifat, ond mae rhannau eraill o’m hetholaeth yn annhebygol o weld atebion marchnad i ddarparu’r adduned hon. Un ardal o'r fath yw ward Pentwyn, sef y stad dai fwyaf yng Nghymru. Yr unig gynnig gofal plant ar hyn o bryd yw gwarchodwyr plant. Yn ddiweddar, ymwelais â’r ganolfan wych i blant yn Nhrelái, yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n darparu addysg meithrin a gofal plant rhagorol yn ogystal ag arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer darparwyr blynyddoedd cynnar eraill. Ond dyma’r unig ganolfan i blant yng Nghaerdydd gyfan: y ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a'r fwyaf yng Nghymru. Yn fy marn i bydd angen llawer mwy o ganolfannau plant fel Trelái os yw'r adduned 30 awr am gael ei darparu i bob rhiant sy'n gweithio, nid yn unig y rhai yn yr ardaloedd mwy cefnog lle bydd y farchnad yn darparu. Mae rhywfaint o dystiolaeth o hynny o'r profiad yn Lloegr. Felly, rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd angen i ni ei ystyried ymhellach pan fyddwn yn trafod y gyllideb yn y dyfodol.

Wel, diolch yn fawr, Lywydd.

Can I begin by thanking Simon Thomas for what he said on behalf of the Finance Committee? I look forward to replying to the recommendations that the Finance Committee has made in detail. I’ll do my best to be as constructive as possible and as informative as possible in doing so. I could, though, associate myself for a moment with the point made by the Delphic Nick Ramsay, when he said that drawing general conclusions from a supplementary budget may not be the most sensible course of action. And in the speeches we’ve heard this afternoon there are some valiant attempts to create very large super structures on the narrow foundations of what is, after all, a technical standard part of the financial management process. I’ve agreed previously with the Finance Committee about the fact that more has to be done to draw on the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 in the way that we shape these things. I came to the Finance Committee with what I thought was a very genuine attempt to try and illustrate some of the ways in which the decisions made in the supplementary budget reflect the advice of that Act. But a supplementary budget is never going to be the complete answer to an Act of that sort, and I look forward to doing more on it in the future.

As far as invest-to-save is concerned, the invest-to-save scheme already publishes every year an annual report into its work, and my predecessor, Jane Hutt, provided the last Finance Committee with exactly what Mike Hedges asked for in terms of an income and expenditure layout, and if it’s helpful, I’m happy to update that for the current Finance Committee.

Can I just attempt to answer some of the points raised by Mark Reckless, particularly in relation to the education MEG? As far as revenue is concerned, this supplementary budget contains three main additions to the education resources: £3.5 million to contribute towards student finance pressures, and that is because we have cohort protection for students in the current system as we move to Diamond; £4.47 million as a down payment on this Government’s commitment to £100 million to raise school standards over this Assembly term; and then £20 million for the Higher Education Funding Council for Wales for the four purposes that I set out in front of the Finance Committee when I was before it.

Felly, a yw'r £21.1 yn ailddosbarthiad technegol, neu a yw er mwyn talu am fynd y tu hwnt i’r gyllideb?

Clywais yr Aelod yn gwneud y pwynt hwnnw yn ei gyfraniad, Lywydd. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi'r ateb mwyaf cywir i'w gwestiwn, felly byddaf yn ymateb iddo ar wahân i drafodaeth heddiw i wneud yn siŵr ei fod yn cael yr adroddiad mwyaf cywir mewn ymateb i'w ymholiad.

A gaf i ddweud yn gyffredinol mewn perthynas ag iechyd nad yw’r Llywodraeth hon yn ymddiheuro o gwbl am ddefnyddio cyfleoedd sy'n dod i’r amlwg i fuddsoddi ymhellach yn y gwasanaeth iechyd? Dyna fu ein blaenoriaeth erioed; bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Wrth gwrs rwy’n cytuno â phwynt Mike Hedges mai gwell rhwystro’r clwy na’i wella, ond mae’r Aelodau yma wedi clywed datganiad y prynhawn yma ar wasanaethau strôc. Ni fydd unrhyw Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am iechyd byth mewn sefyllfa i ddweud wrth rywun sydd eisoes wedi cael strôc ac sydd angen triniaeth, 'Mae'n ddrwg gen i, nid ydych am gael y driniaeth honno am fy mod wedi dargyfeirio arian i atal rhywun arall rhag dioddef yn y ffordd hon yn y dyfodol.' Nid yw'n bosibl gweithredu yn y modd hwnnw. Mae'n rhaid i chi rywsut ymdrin ag anghenion gwirioneddol heddiw ac ar yr un pryd gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i ffyrdd o fuddsoddi fel y gallwn atal pwysau yn y dyfodol.

Lywydd, a gaf i orffen trwy droi at yr hyn yr oeddwn yn credu oedd yn gyfraniad hynod o annoeth gan Adam Price? Bydd yn falch o wybod bod neges Plaid Cymru i bobl Caerdydd fod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud gormod iddynt, a bod gormod o arian yn cael ei wario yng Nghaerdydd eisoes yn dra adnabyddus i—. [Ymyriad.] Na, wna i ddim. Na, na. Mi gaiff ef wrando arna i am unwaith. Nid wyf yn ildio, Lywydd.

Nid wyf yn ildio. Caiff ef wrando am eiliad. Bydd yn falch o wybod bod fy etholwyr i eisoes wedi clywed y neges honno yn gwbl glir gan ei blaid. Cyn belled ag y maen nhw yn y cwestiwn, mae’r Llywodraeth Cymru hon yn gwario gormod arnynt, a dylid cymryd arian oddi wrthynt i'w wario yn rhywle arall. Ond yn fwy rhyfedd fyth, Lywydd—yn llawer mwy rhyfedd—fydd y ffaith ei fod yn bwriadu bwrw ei bleidlais y prynhawn yma i amddifadu’r cyhoedd sy'n byw yn ei etholaeth—ac, yn wir, etholaethau bron pob Aelod arall o Blaid Cymru y gallaf eu gweld—o’r cymorth y byddai’r gyllideb atodol hon yn ei roi iddynt: yr arian y mae’r gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda; yr arian y bydd y gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr; yr arian sy'n ei gwneud yn bosibl i wasanaethau barhau i gael eu darparu— [Ymyriad.] Rwyf eisoes wedi dweud wrtho nad wyf am ildio. Felly, yr arian y bydd y gyllideb atodol hon yn ei ddarparu i bobl sy'n byw yn ei etholaeth—[Ymyriad.]—a bydd yn pleidleisio heddiw i wrthod y cymorth hwnnw iddynt. Roedd yn gyfraniad hynod o annoeth. [Ymyriad.] Rwyf yn gobeithio na fydd Aelodau eraill yn teimlo rheidrwydd i’w ddilyn yn y ffordd honno. Bu’n bosibl i ni glustnodi cronfeydd wrth gefn drwy ein rheolaeth ariannol ofalus. Byddwn yn parhau â’r rheiny lle y gallwn i'r flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym wedi eu defnyddio yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—byddant yn cefnogi blaenoriaethau allweddol, byddant yn darparu arian wrth gefn ychwanegol. Mae pasio’r gyllideb atodol hon yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr bod y pethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt bob dydd yn parhau i gael—

Nid oes unrhyw bwynt o drefn. Ysgrifennydd y Cabinet, parhewch.  Ysgrifennydd y Cabinet sydd â’r llawr.

Am y rheswm hwnnw, rwyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n fodlon ei gefnogi y prynhawn yma. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6246 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei ail adroddiad blynyddol fel y prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Yn ogystal â darparu tystiolaeth ar berfformiad a safonau, bydd adroddiad y prif arolygydd yn llywio datblygiad polisi ac yn ein helpu i ysgogi gwelliannau yn ein system addysg. Mae'r adroddiad yn glir ein bod yn gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, ond mae llawer o heriau yn dal i fodoli.

Fel y mae Estyn yn adrodd, mae angen rhagor o welliant. Rwy'n croesawu canfyddiadau'r arolygydd sy'n dangos y bu cynnydd parhaus yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar, mewn llythrennedd a rhifedd, ymddygiad a phresenoldeb plant a bod perfformiad dysgwyr difreintiedig yn gwella hefyd. Mae'r adroddiad yn iawn i dynnu sylw at y ffaith mai ansawdd yr addysgu yw’r dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae dysgwyr yn dysgu ac mae’n trafod beth sydd ei angen er mwyn gwella addysgu sef dysgu proffesiynol a datblygiad staff gwell, ac rwy’n cytuno’n llwyr â'r prif arolygydd. Mae athrawon ac arweinyddion yng Nghymru yn rhannu cenhadaeth unigol, broffesiynol a chenedlaethol i helpu pob un o'n plant i lwyddo.

Rwyf wedi bod yn glir fy mod yn credu y dylai athrawon fod yn fyfyrwyr gydol oes eu hunain, gydag ymrwymiad parhaus i’w twf proffesiynol, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd, gwella’n barhaus ac astudio a gweithredu arferion gorau. I gefnogi hyn, rydym yn gweithio tuag at sicrhau dull Cymru gyfan cyson at ddysgu proffesiynol, a ddarperir ar sail ranbarthol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ymarferwyr, gan gynnwys staff cymorth ac ymarferwyr addysg bellach, yn gallu datblygu sgiliau mewn addysgeg ac arweinyddiaeth i wireddu gofynion ein cwricwlwm newydd.

Mae cyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer athrawon ac arweinyddion yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r proffesiwn a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu a phrofi safonau proffesiynol newydd a fydd yn ysbrydoli, herio a chefnogi pob ymarferydd o’r hyfforddiant cychwynnol hyd at arweinyddiaeth ysgol. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cefnogi dysgu gan gymheiriaid. Bydd y safonau proffesiynol diwygiedig yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw i welliant parhaus a chydweithio drwy gefnogi ymarferwyr i ymgyrraedd tuag at arferion rhagorol parhaus ar bob lefel a phob cam o'u gyrfa.

Mae’n rhaid i safonau proffesiynol hefyd gyd-fynd â’n gwaith o ddiwygio addysg gychwynnol athrawon a'r cwricwlwm newydd. Hwy fydd yn pennu’r safon ar gyfer mynd i mewn i'r proffesiwn a chefnogi ymarferwyr i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiad angenrheidiol i fodloni heriau’r cwricwlwm diwygiedig a datblygu’r gallu i arwain ar bob lefel.

Mae'r adroddiad yn crynhoi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, roedd yn siom fawr i mi bod canlyniadau Cymru unwaith eto yn is na rhai tair cenedl arall y DU a chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Fodd bynnag, rhywbeth sy’n rhoi mwy o foddhad o’i ddarllen yw adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd dim ond y mis diwethaf a drafodwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch chi, Lywydd, ar ôl dod yn Ysgrifennydd y Cabinet, gwahoddais y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ddod i Gymru i herio a phrofi ein diwygiadau ac maen nhw wedi dod i'r casgliad ein bod yn gwneud cynnydd a bod gennym y weledigaeth hirdymor gywir ar waith er mwyn parhau i wella. Felly, fy ngwaith i yw cadw'r momentwm hwnnw i fynd a’i gyflymu lle bo angen. Byddaf yn parhau i gael fy arwain gan arferion gorau rhyngwladol a thystiolaeth gadarn. Bydd gan adroddiad Estyn swyddogaeth allweddol o ran tynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella a chefnogi gweithrediad ein diwygiadau pellgyrhaeddol. Mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu ein cenhadaeth genedlaethol yn briodol i ddiwygio addysg i wella safonau a helpu pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, i gyflawni ei wir botensial a’i botensial llawn. Diolch.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Estyn, hefyd, am y gwaith y mae’n ei wneud ledled Cymru. Mae ei arolygiadau, wrth gwrs, yn rhoi cipolwg gwerthfawr iawn i ni ar yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion ledled y wlad, ac, yn wir, mewn lleoliadau addysg bellach a’r blynyddoedd cynnar. Mae'r adroddiad hwnnw y mae’n ei gyhoeddi yn flynyddol yn rhoi cyfle i ni edrych—ar y darlun mawr, os mynnwch chi—ar y system addysg gyfan, mewn trosolwg.

Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd safbwynt realistig o'r hyn a oedd gan yr adroddiad i'w ddweud. Nid oedd hi’n arbennig o hapus heddiw—mae hi'n aml felly y tu allan i'r Siambr hon—ond fe wnaeth hi dynnu sylw at ran o’r newyddion da a oedd yn yr adroddiad, ac mae yno newyddion da y gallwn ei ddathlu, yn enwedig o ran arweinyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar, ac arweinyddiaeth, yn wir, yn y sector addysg bellach, hefyd.

Ond yr hyn a oedd yn achosi pryder i mi yn yr adroddiad hwn gan Estyn oedd bod adleisiau o broblemau a ddylai fod wedi eu datrys erbyn hyn—pethau sydd wedi cael eu hamlygu gan Estyn o'r blaen ac, yn wir, gan asiantaethau eraill cyn hynny, sy’n dal i godi, dro ar ôl tro yn yr adroddiadau hyn. Mae ein gwelliant ni yn ceisio tynnu rhywfaint o sylw at y rhain. Rydych chi wedi cyfeirio at rai o'r rhain eisoes, wrth gwrs, yn eich araith agoriadol. Mae ein gwelliant cyntaf yn canolbwyntio ar ansawdd ac amrywioldeb yr addysgu. Rydym ni’n gwybod bod Estyn wedi dod i'r casgliad mai dyna’r agwedd wannaf ar y ddarpariaeth ar draws sectorau yn y system addysg yng Nghymru, a dyna sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ddeilliannau dysgwyr. Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r mater hwn, unwaith ac am byth, ac rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod yn deg i chi, eich bod wedi cymryd rhai camau cychwynnol i sicrhau rhywfaint o welliant. Rwy'n falch iawn bod gennym ni rai safonau proffesiynol newydd, sydd wedi'u datblygu, er nad wyf yn deall o hyd pam nad y Cyngor Gweithlu Addysg sy'n pennu’r safonau hynny, a pham yr ydych yn dal i deimlo ei bod yn angenrheidiol, fel Llywodraeth, i wneud hynny, er gwaethaf y ffaith nad dyna yw’r arfer yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau eraill. Nodaf hefyd eich bod yn cymryd camau i wella hyfforddiant cychwynnol athrawon a byddaf yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am eich cynigion penodol ar hynny yn y dyfodol.

Wrth gwrs, roedd hi’n ddigalon—yn ddigalon iawn—gweld bod Cymru ar waelod tablau cynghrair PISA y DU ac, yn wir, yn hanner isaf y tablau cynghrair byd-eang, ac mewn sefyllfa a oedd yn waeth y tro hwn na’r sefyllfa yr oeddem ni ynddi 10 mlynedd yn ôl. Mae'n rhaid i ni gyflymu’r newid er mwyn dringo i fyny’r tabl cynghrair a dysgu oddi wrth y gorau. Felly, rwy'n falch o’ch clywed chi’n cyfeirio hefyd at ddysgu oddi wrth ganolfannau rhagoriaeth rhyngwladol mewn gwledydd eraill er mwyn cael ein sefyllfa ni yn iawn.

Mae yna bethau y gall ysgolion, wrth gwrs, eu gwneud i wella'r cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a chymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Byddant yn gallu gwneud llawer o hynny os cânt eu rhyddhau o rywfaint o'r fiwrocratiaeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei hwynebu ar hyn o bryd a dyna pam yr ydym ni’n rhoi cryn groeso i'r argymhelliad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod angen i ni wneud defnydd o fwy o reolwyr busnes yn ein hysgolion. Gwn fod honno'n farn yr ydych chithau’n ei rhannu hefyd.

Ond, wrth gwrs, dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd bod angen arweiniad llawer cryfach gan y Llywodraeth o ran yr eglurder ynghylch y weledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut yn union yr ydych chi’n mynd i gyrraedd yno. Gwn eich bod yn ceisio mynd i'r afael â'r argymhelliad penodol hwnnw ac fe wnaethoch gynnal cynhadledd yr wythnos ddiwethaf yn edrych ar rai o'r pethau penodol hyn a cheisio tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gan ysgolion, penaethiaid, y consortia rhanbarthol ac eraill i’w cyflawni mewn gwirionedd.

Soniasoch am geisio cael athrawon i mewn i'r proffesiwn hefyd, a tybed pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i’w gwneud yn haws i bobl drosglwyddo o yrfaoedd eraill i'r sector dysgu, os oes ganddynt y tueddfryd i fod yn athrawon da, a’r potensial i fod yn athrawon da. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gennych ynghylch hynny.

O ran arweinyddiaeth, cefais fy nharo yn benodol gan y rhagoriaeth yr ydym wedi’i weld mewn arweinyddiaeth, yn enwedig yn y sector addysg bellach, yn yr adroddiad. Ac, wrth gwrs, rhoddwyd gwobr i David Jones o Goleg Cambria yr wythnos diwethaf, a oedd hefyd yn cydnabod ei sgiliau arweinyddiaeth. Tybed a oes cyfle, mewn gwirionedd, i’r gwahanol rannau o'r sector addysg gydweithio i wella sgiliau ein harweinyddion a manteisio ar ran o'r arbenigedd hwnnw, yn enwedig yn y sefydliadau mwy hynny, yr ysgolion mwy lle y gellir gwneud rhywbeth efallai i ymestyn pobl ychydig bach yn fwy a datblygu'r sgiliau hynny.

Rwy’n credu hefyd, o ran galluoedd y disgyblion mwy abl a thalentog, ein bod ni’n gwybod bod hyn hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Dyna un o'r rhesymau pam nad oedd ein sgoriau PISA cystal ag y dylent fod ac mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth sydd wedi ei ailadrodd yn adroddiad Estyn. Rwy’n gwerthfawrogi hefyd bod Llyr yn mynd i fod yn siarad am ddisgyblion eraill ac unedau cyfeirio disgyblion, er enghraifft, ond mae’n amlwg bod angen i ni wneud yn siŵr bod pob un o'n disgyblion yn cyrraedd ei botensial llawn. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am eich cynlluniau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, nid dim ond y rhaglen Seren, ond beth arall y gellir ei wneud er mwyn cael y bobl hynny, y bobl iau hynny yn benodol, i fyny yna, yn cyrraedd eu llawn botensial, a gwneud yn siŵr ein bod yn dringo i fyny’r tablau cynghrair hynny yn y dyfodol. Diolch.

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Lywydd. A gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi ei fynegi i’r prif arolygwr a’i dîm yn Estyn am y gwaith maen nhw’n ei wneud, a hefyd am y modd y maen nhw yn ymgysylltu â’r pwyllgor plant a phobl ifanc yma yn y Cynulliad drwy gynnig tystiolaeth a bod mor barod—yn y cyd-destun yma beth bynnag—i ddod â’u adroddiad blynyddol ger ein bron ni?

Rydw innau hefyd am ffocysu ar amrywioldeb, a rydw i’n ddiolchgar bod y cynnig wedi cael ei osod gan y Ceidwadwyr. Yn sicr, mi fyddai’n rhywbeth y byddem ni wedi gwneud oni bai eich bod chi wedi gwneud o’n blaenau ni. Mi godais i hyn yn uniongyrchol gyda’r prif arolygydd pan ddaethon nhw i roi tystiolaeth i ni, ac mi roedd ef hefyd yn poeni nad oes digon wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i fynd i’r afael â hyn. Wrth gwrs, mae modd gweithredu ar lefel ysgolion—mae angen gweithredu ar lefel ysgolion, ar lefel awdurdodau addysg a chonsortia, ac ar lefel genedlaethol i’w daclo. Mae yna sawl haen o weithgarwch sydd angen eu gweld i fynd i’r afael â hyn, ac mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth, wrth gwrs, i fynd i’r afael ag ansawdd y dysgu a’r addysgu, ac mae’n ymwneud â gwella datblygiad staff hefyd. Yn yr ysgolion, yn sicr, mae angen gwneud mwy i greu’r diwylliant, i greu’r amodau lle mae athrawon yn gallu rhannu a thrafod eu hymarfer a’u harfer gyda’u cydweithwyr mewn ffordd agored er mwyn dysgu oddi wrth ei gilydd o fewn sefydliad, yn ogystal â rhwng sefydliadau gwahanol hefyd.

Yn fwy hirdymor, ar lefel genedlaethol, wrth gwrs, fel rŷm ni’n gweld, mae yna waith nawr yn digwydd i edrych ar wella ansawdd hyfforddiant cychwynnol i athrawon a gwella ansawdd yr arweinyddiaeth drwy’r academi ac yn y blaen. Felly, amrywiaeth rhwng ysgolion ac amrywiaeth o fewn ysgolion hefyd, a dyna oedd un o’r negeseuon gan y prif arolygydd—hynny yw, yr un yw’r broblem yn ei hanfod. Pan fydd Estyn yn dweud bod ysgol yn dda, beth maen nhw’n ei ddweud yw bod yr ysgol yn gyson yn dda. Ond, wrth gwrs, pan fydd ysgol efallai yn ddigonol, wel, nid yw’r cysondeb yna; mae yna bocedi o arfer da, ond i’r gwrthwyneb hefyd, a dyna le rŷm ni’n cael yr amrywioldeb, mewn gwirionedd.

Fe arolygwyd y consortia llynedd, wrth gwrs, ac fe ddywedodd Estyn bryd hynny nad oedd digon wedi ei wneud i fynd i’r afael ag amrywioldeb, yn enwedig ar lefel uwchradd. Mae’r neges yna, wrth gwrs, yn cael ei hategu yn yr adroddiad blynyddol. Mae yn nodwedd, wrth gwrs, o’r ysgolion gorau eu bod nhw’n creu rhwydweithiau eang, eu bod nhw’n rhagweithiol iawn yn mynd o gwmpas yn dysgu oddi wrth eraill, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cael profiad positif o wneud hynny—mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Nodwedd gyson o’r darparwyr salaf, wrth gwrs, yw eu bod nhw’n ynysig, yn edrych i fewn ar eu hunain, ac efallai nid allan ar eraill. Mae hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei newid. Rydw i’n credu bod modd taclo hynny yn gymharol—wel, mae ‘hawdd’ efallai yn air rhy gryf, ond yn sicr un o’r materion fan hyn yw gallu rhyddhau staff i fod yn gallu gadael y dosbarth i fynd i rannu profiadau, ond mae gwerth hynny, rydw i’n meddwl, mor gryf nes ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni bwysleisio mwy ohono.

Agwedd arall o amrywioldeb, wrth gwrs—ac mae hyn yn cyffwrdd, efallai, ar yr angen i ddiwallu anghenion pob dysgwr, fel sy’n cael ei amlinellu yn yr ail welliant—yw’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched, a disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion eraill. Mae’r bwlch hwnnw yn dueddol o dyfu wrth iddyn nhw symud drwy eu gyfra ysgol, ac rydw i’n gwybod yn sicr o safbwynt difreintedd, ac rydw i’n siŵr hefyd o safbwynt bechgyn a merched, fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i fynd i’r afael â hyn. Ond, gan fod y bwlch yna’n dueddol o dyfu, wrth gwrs, beth mae hynny yn ei ddweud wrthym ni ynglŷn â’n llwyddiant ni i daclo yr amrywioldeb yma sydd o fewn y gyfundrefn? Efallai ei bod hi’n her i gymdeithas ehangach, ond mae yna rôl ganolog i ysgolion, a dyna, rydw i’n meddwl, ydy un o’r heriau yn symud ymlaen.

O safbwynt gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs, ni chafodd un o’r unedau cyfeirio disgyblion eu barnu yn rhagorol gan Estyn yn y flwyddyn dan sylw. Fe nodwyd gwendidau sylweddol o ran darpariaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ym mhob un o’r pedwar a gafodd eu harolygu. Mae perfformiad yr unedau wedi bod yn destun pryder, wrth gwrs, ers sawl blwyddyn. Mi godwyd eu perfformiad cymharol wael fel testun gwelliannau i’r dadleuon ar adroddiadau Estyn yn 2012-13 gan y Democratiaid Rhyddfrydol, eto yn 2013-14 gan y Ceidwadwyr, ac felly, am wn i, ein tro ni yw hi y tro yma, ysywaeth. Felly, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth y dylid wedi gwneud mwy i fynd i’r afael ag e dros y blynyddoedd. Mae’r adroddiad diweddar, yn ogystal ag adroddiadau blynyddol, yn cynnwys yr adroddiadau thematig hefyd, wedi profi bod mawr angen gweithredu ar fyrder yn y maes yma.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, wedi sôn am ei bwriad i wella profiad disgyblion yr unedau cyfeirio disgyblion yma, gan nodi y byddai’n defnyddio peth o’r adnoddau ychwanegol sydd ar gael iddi yn dilyn y gyllideb i’r perwyl yma. Rydw i hefyd yn cydnabod ei bod hi’n cydweithio â’r cyn-brif arolygydd i edrych ar y sefyllfa yma, ond mae’r broblem yn hen, hen hanes erbyn hyn. Mi oedd yna gyfeiriad yng Ngorffennaf y llynedd at gymeradwyo argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar addysg heblaw yn yr ysgol, a bod hynny’n ffurfio rhan o’r fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n dod i’r amlwg—yr ‘emerging framework for action’. Dyna’r cyfeiriad yn ôl ym mis Gorffennaf, ac nid wyf i wedi gallu ffeindio llawer mwy o fanylion ynglŷn â hynny, ac mi fyddwn i’n falch, wrth ymateb i’r ddadl, petai’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi gwell syniad inni o beth yw’r cynlluniau sydd ar waith, beth yw’r amserlenni a lle’n union yr ydym ni’n mynd ar y maes yma. Diolch.

Hoffwn—nid am y tro cyntaf—godi mater yr ysgolion bro, yr wyf yn dal i gredu eu bod yn bwysig iawn i berfformiad ein system addysg yng Nghymru. Rwy'n credu mai un mater y mae Estyn wedi’i godi yn ei adroddiad, ac mae’n ei godi’n gyson, yw amrywioldeb yn y system addysg yng Nghymru. Mae'r amrywioldeb hwnnw yn berthnasol i ysgolion bro. Mae rhai ysgolion yn dda iawn am ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned ehangach, nid yw eraill cystal. Rwy’n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig. Mae llawer o bobl, rwy’n credu, yn ddig, ac yn briodol felly, o weld bod ysgolion wedi’u cau i’r gymuned gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae'n wastraff adnoddau ar adeg o straen mawr ar gyllid cyhoeddus, ac nid yw'n gwneud y gwaith hwnnw o ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned a ddylai fod yn digwydd yn gyson ledled Cymru.

Mae hyn wedi ei godi gyda mi, Lywydd, sawl gwaith yn fy etholaeth fy hun—ac rwy'n siŵr bod hyn yn wir ledled Cymru—nad oes yn aml, mewn rhai teuluoedd a rhai cymunedau, digon o werthfawrogiad o addysg a dim digon o ymrwymiad i addysg, y byddem ni i gyd yn hoffi ei weld. Felly, mae hynny'n adlewyrchu ei hun mewn presenoldeb yn yr ysgol. Rwy'n aml yn clywed pobl yn dweud, er enghraifft, bod eu plant wedi llwyddo i gael presenoldeb o 95 y cant, fel bod hynny’n rhywbeth neu’n gyfradd i fod yn falch ohoni, er bod hynny, wrth gwrs, yn golygu colli llawer gormod o ysgol. Yn wir, ceir cyfraddau presenoldeb llawer gwaeth na hynny. Mae'n amlygu ei hun, rwy’n credu, mewn diffyg cefnogaeth weithiau i blant wneud eu gwaith cartref, adolygu’n briodol ar gyfer arholiadau, ac mae'n gostwng uchelgais o ran addysg uwch. Felly, un peth yr wyf yn aml yn ei glywed—yn rhy aml—yw y gallwch fynd i'r brifysgol ac efallai y byddwch yn y pen draw yn dal i fod heb swydd, neu heb swydd sy’n rhoi mwy o foddhad o gwbl na swydd y byddech chi efallai wedi ei chael pe na byddech wedi mynd i’r brifysgol. Felly, nid wyf yn credu y gallwn ni gyffredinoli, ond mae rhai teuluoedd a phobl mewn rhai o'n cymunedau lle y mae’r mathau hyn o agweddau yn rhy gyffredin. Un ffordd o’u cyrraedd yw ymgysylltu o ddifrif ac yn gyson â'r teuluoedd hynny a'r cymunedau hynny, hyd yn oed o gofio bod rhai teuluoedd wedi cael profiad gwael o addysg eu hunain ac efallai eu bod yn gweld ysgolion fel sefydliadau dosbarth canol iawn, yn llawn i raddau helaeth o bobl broffesiynol dosbarth canol nad ydynt yn teimlo’n arbennig o hyderus yn ymgysylltu â nhw, neu efallai nad ydynt yn dymuno ymgysylltu â nhw, hyd yn oed. Felly, ceir rhwystrau gwirioneddol—rhwystrau anodd—y mae'n rhaid eu chwalu. Ond, Lywydd, yr unig ffordd y bydd hynny'n digwydd, gyda chysondeb, yw os bydd ymgyrch gref, byddwn i’n dweud, ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol ac eraill i gyflawni'r cysondeb y mae angen inni ei weld. Rwy’n credu ei bod yn angenrheidiol sefydlu mecanwaith, beth bynnag y bo, i sicrhau bod cysondeb a diffyg amrywioldeb ledled Cymru gyfan.

Rwy'n aml yn clywed gan lywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion ei bod yn bosibl y byddai'r gofalwr eisiau rhywfaint o arian ychwanegol i agor yr ysgol—nid yw byth yn llawer o arian, ond gwelir hynny fel problem—ac mae yna faterion diogelwch o ran y safle os yw'r ysgol yn agored i'r gymuned. Unwaith eto, nid yw hwnnw'n fater na ellir ei oresgyn gyda’r math iawn o ewyllys ac ymrwymiad. Yn wir, rwy’n credu bod llawer o ysgolion yn gweld bod agor y safle, mewn gwirionedd, yn cynorthwyo diogelwch, oherwydd bod pobl o gwmpas yn amlach pan fo’r ysgol ar gau i sicrhau nad yw pobl yn gallu gwneud pethau heb gael eu gweld, a bod tystion i weithredoedd.

Nid yw hyn ychwaith yn ymwneud ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn unig, Lywydd. Mae'n ymwneud â'r stoc presennol o ysgolion. Felly, os ydym ni’n mynd i gael y cysondeb sydd ei angen arnom ledled Cymru, mae'n rhaid iddo fod yn ddull sy'n sicrhau cynnydd yn y stoc presennol o ysgolion, nid yn unig yn yr ysgolion unfed ganrif ar hugain. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywbeth yn ei chyfraniad i'r ddadl hon a fyddai'n rhoi rhywfaint o gysur i mi y byddwn o bosibl yn gweld y cysondeb hwnnw’n cael ei gyflawni a bod dull ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn rheoli addysg ar ryw ffurf neu'i gilydd ers sefydlu'r Cynulliad. Weithiau maen nhw wedi cael cymorth drwy glymblaid â Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae elfennau ar adroddiad Estyn heddiw yn dangos yn glir i bobl Cymru yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r rheolaeth dros bolisi addysg i un o'r partïon hyn a elwir yn flaengar.

Yn gyntaf, mae Estyn yn cyfaddef mai dim ond lleiafrif o'r disgyblion sydd â sgiliau rhesymu cadarn ac sy’n gallu datrys problemau yn rhesymegol. Mae'r cyfaddefiad hwn yn gwbl syfrdanol. Mae ein hysgolion i fod i baratoi pobl ifanc ar gyfer busnes, entrepreneuriaeth, gwyddoniaeth ac ymchwil o'r safon uchaf, ond nid oes gan y mwyafrif ohonynt, yn ôl Estyn, yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, sgiliau rhesymu a datrys problemau cadarn, na chrap ar resymeg. Os mai dyma yw canlyniad polisi clymblaid flaengar, mae'n rhaid i gyhoedd Cymru feddwl tybed beth y mae Llywodraeth Cymru, trwy ei chwricwlwm, yn cyfarwyddo athrawon a myfyrwyr i dreulio eu hamser yn ei wneud. Mae'r adroddiadau yn sôn am amser yn cael ei dreulio ar eco-bwyllgorau—

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na wnaf. [Yn parhau]—cynghorau disgyblion, datrys gwrthdaro, gweithgareddau cymunedol a chodi arian i elusennau a phethau o’r fath, ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau rhesymu, datrys problemau, a rhesymeg drwy bynciau traddodiadol.

Yn ail, rwyf eisiau siarad am gadw athrawon, ac effaith hyn ar y meysydd y mae Estyn yn eu monitro. Mae Estyn yn sôn am ddatblygu'r proffesiwn. Mae'n amlinellu datblygu'r diwylliant cywir, perthynas gefnogol, ymgysylltu â thystiolaeth ymchwil, defnyddio data a thechnoleg newydd, ac arweinyddiaeth. Mae’n pwysleisio bod sefydliadau elusennol na chawsant eu hethol—a dywedaf eto, na chawsant eu hethol—y trydydd sector megis y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Ymddiriedolaeth Sutton, The Education Endowment Foundation, a’r Joseph Rowntree Foundation, yn chwarae rhyw ran mewn casglu tystiolaeth i effeithio ar y diweddariadau hyn. Ni ddylai’r pynciau hyn, ni waeth pa mor dda eu bwriad, guddio neu fod yn fwy o flaenoriaeth na chadw athrawon. Nid yw mor syml â chymryd unigolyn sydd newydd raddio a lawrlwytho’r diweddariadau a’r ymchwil diweddaraf, mwyaf gwleidyddol gywir i mewn iddynt. Mae addysgu yn rhywbeth sy'n datblygu gydag ymarfer a phrofiad. Mae athrawon profiadol yn ased hanfodol i ysgolion Cymru, ond mae ysgolion Cymru yn eu colli’n gyflym. Dywed StatsCymru wrthym bod ysgolion Cymru wedi colli 334 o athrawon â chwe blynedd neu fwy o brofiad yn y flwyddyn 2014-15 yn unig. Mae'r ystadegau yn cyflwyno ffigurau tebyg ar gyfer pob blwyddyn academaidd o 2007 i 2015. Pam nad yw athrawon profiadol yn cael eu cadw? A yw’n bosibl mai’r holl amser a dreulir ar ddiweddariadau, hyfforddiant, monitro data, a phethau o’r fath, yn hytrach nag addysgu ymarferol, wyneb yn wyneb, yw’r rheswm mewn gwirionedd pam y maen nhw’n cael eu dadrithio ac yn gadael? Mae UKIP yn pwysleisio bod athrawon yn cyflawni orau pan eu bod yn cael cymaint o brofiad â phosibl drwy addysgu wyneb yn wyneb. Rydym ni hefyd yn pwysleisio mai cadw’r athrawon hynny yw’r ffordd ymlaen.

Yn drydydd, hoffwn siarad am yr ysgolion yng Nghymru sydd wedi methu, yn benodol, disgyblion NEET—y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae Estyn yn dweud, ar ddiwedd 2015, bod ychydig dros 10 y cant o bobl 16 i 18 mlwydd oed yn y categori NEET—mae hyn yn 11,500 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n adrodd yn 2015 bod 19 y cant o'r grŵp oedran 19 i 24 oed yn y categori NEET—sef 42,200 o bobl ifanc.

Nid pa un a yw’r ystadegau hyn yn rhyw fath o welliant ar flynyddoedd blaenorol ai peidio yw’r pwynt. Mae'r ffigurau hyn yn llawer, llawer, llawer rhy uchel. Maen nhw unwaith eto yn dystiolaeth bod y clymbleidiau blaengar sydd wedi rheoli addysg cyhyd yn siomi niferoedd mawr o bobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru drwy beidio â rhoi'r sgiliau iddynt fyw bywyd cyflawn a chynhyrchiol.

I gloi, hoffwn i am y tro olaf fyfyrio ar bartïon clymblaid Cymru sy'n gyfrifol am addysg. Maen nhw’n hoffi disgrifio eu hunain fel blaengar neu’r chwith blaengar, ond nid yw ysgolion Cymru wedi symud ymlaen, o leiaf nid yn y meysydd yr wyf i wedi tynnu sylw atynt. Ni allaf ond dyfalu mai cyfrinair yw 'blaengar' ar gyfer dinistrio’r holl arfer gorau, rhesymeg a phrofiad blaenorol yn llwyr, a rhoi diweddariadau a hyfforddiant gwleidyddol gywir yn eu lle gan sefydliadau ac elusennau arbenigol trydydd sector na chawsant eu hethol. Diolch.

Hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n arfer cael fy nhalu i sefyll ar y stryd a stopio pobl a gofyn eu barn ar faterion y dydd. Byddai rhai pobl yn stopio, byddai rhai yn gweiddi sarhad. Yn wir, wrth feddwl am y peth, nid yw fy mywyd wedi newid cymaint â hynny o gwbl. Rwy'n eithaf ffyddiog, pe byddwn i’n gofyn barn pobl ar y stryd heddiw ac yn gofyn am beth yr oedden nhw’n pryderu fwyaf, yr adroddiad PISA neu'r adroddiad Estyn, y bydden nhw’n edrych yn syn arnaf. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn poeni’n ormodol am y pethau hyn, ond mae ganddyn nhw farn ar eu hysgol leol, ac mae fel arfer yn farn gadarnhaol.

Wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o bobl, mae ysgolion yn ymwneud â llawer mwy na data; maen nhw’n ganolbwynt ar gyfer eu cymunedau. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, treuliais 10 mlynedd fel llywodraethwr ysgol gynradd, a saith ohonyn nhw fel cadeirydd gweithredol ysgol lwyddiannus, ysgol lle nad oedd y tîm arwain yn cymryd amddifadedd eu cymuned fel esgus dros berfformiad ond yn hytrach fel sbardun ar gyfer rhagoriaeth. Un o'r pethau a ddysgais oedd gwerth data wedi eu defnyddio'n briodol i gyfeirio dysgu ac addysgu er mwyn ceisio sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.

Pe byddwn i’n cael fy stopio yn rhan o ymarfer gofyn barn y bobl, byddwn i’n dweud fy mod i’n pryderu llawer mwy am adroddiad Estyn nag yr wyf i am rancio PISA. Nid wyf i’n diystyru pwysigrwydd PISA; rwy'n credu ei fod yn iawn ein bod ni’n cymryd sylw ohono. Ond, yn fy marn i, mae adroddiad blynyddol y prif arolygydd ysgolion yn cynnwys casgliadau sy’n peri llawer mwy o bryder am berfformiad ein hysgolion o ddydd i ddydd. Y materion hyn sy'n penderfynu pa un a allwn ni greu system ysgolion llwyddiannus, sef, yn y pen draw, yr hyn y mae PISA yn ei fesur.

Rwyf eisiau canolbwyntio ar rai o’r pwyntiau o'r adroddiad am ysgolion sydd yn amlwg iawn i mi. Yn amlwg, mae gennym ni broblem o ran ansawdd yr addysgu. Mae Estyn yn ystyried bod addysgu yn un o'r agweddau gwannaf ar y system addysg. Dylem ni fod yn glir: mae addysgu o safon byd-eang yn digwydd yn ysgolion Cymru—safon byd-eang—ond mae llawer gormod o amrywiaeth;

mae’r bwlch rhwng darparwyr sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy fawr,

meddai’r prif arolygydd ysgolion yn ei adroddiad blynyddol. Ac, fel y noda'r adroddiad, bydd diwygiadau cwricwlwm Donaldson yn mynnu rhagor gan ein hathrawon, yn enwedig ym maes dysgu digidol, maes y mae'r adroddiad yn dweud wrthym mai dim ond 'ychydig iawn o ysgolion' sy’n rhagori a bod llawer yn methu yn llwyr â rhoi’r sgiliau hyn i bobl ifanc, sy’n hanfodol ar gyfer y byd cyfoes.

Yn ogystal â mynd i'r afael â recriwtio a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae Estyn yn dadlau bod angen i ni fynd i'r afael â dysgu a datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon presennol, maes yr ydym wedi ei esgeuluso—a, byddwn i’n ychwanegu, nid dim ond ar gyfer athrawon. Mae bron iawn i hanner ein staff ysgol yn gweithio mewn swyddi cymorth. Maen nhw’n hollbwysig i lwyddiant ein system addysg, ond nid ydym yn eu gwerthfawrogi, nid ydym yn eu hyfforddi yn dda, ac nid ydym yn eu talu yn ddigon da.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dechrau gweithio ar wella arweinyddiaeth yn ein hysgolion, ac rwy’n cefnogi hynny'n fawr. Mae bod yn bennaeth yn swydd hynod heriol. Gallwch chi weld un gwych filltir i ffwrdd, ac rwy’n rhyfeddu atynt. Rwyf i bob amser yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i fod yn bennaeth rhagorol, yn feistr ar bopeth o'r plymio i addysgeg. Mae’r goreuon, fel y canfu Estyn, yn gwybod cryfderau a gwendidau yr addysgu yn eu sefydliadau. Ond, ymhlith darparwyr lle ceir diffygion yn yr addysgu, dywed Estyn,

nid oes syniad clir gan arweinyddion o’r hyn sydd angen ei wella, ac yn aml mae adroddiadau hunanwerthuso yn brin o fanylion ynglŷn â’r addysgu.’

Arweinyddiaeth yw'r allwedd i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae’n bryder mawr i mi bod 23 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, heb bennaeth parhaol. Rwyf i wedi fy nghalonogi bod saith o bob 10 ysgol gynradd a arolygwyd eleni yn dda neu'n well, sydd ychydig yn well na'r llynedd, ond mae’n peri pryder mawr mai dim ond pedair o bob deg o'n hysgolion uwchradd y bernir eu bod yn dda neu’n well—yr un fath â’r llynedd—a dim ond chwarter â rhywfaint o ragoriaeth, i lawr o 38 y cant y llynedd.

Nawr, yn yr un modd ag y dylem ni ddathlu rhagoriaeth, ni ddylem oddef cyffredinedd—mae pob un ohonom yn gwybod pan fyddwn yn gweld hynny, hefyd, ond nid yw'r system yn tynnu sylw ato. Nid yw llywodraethwyr yn herio’n ddigonol ac mae penaethiaid gweddol yn aml yn amgylchynu eu hunain â llywodraethwyr gweddol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu herio. Nid yw awdurdodau addysg lleol yn gwneud digon i fynd i’r afael â phenaethiaid sy’n tanberfformio. Un o fy siomedigaethau o ran diweddu’r prosiect Her Ysgolion Cymru yw ei fod yn dod i ben cyn bod rhai o'r diffygion arweinyddiaeth yn cael eu datrys yn llawn yn ein hysgolion sy’n perfformio waethaf.

Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed y prif arolygydd ysgolion yn dweud wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rai misoedd yn ôl nad oedd yn bwriadu arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf, ond y byddai, yn hytrach, yn canolbwyntio ar y consortia rhanbarthol. Yn amlwg, mae ganddynt rywfaint o waith egluro o ran yr amrywiaeth mewn perfformiad ar draws ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ond byddwn i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ar ba un a allwn ni fforddio tynnu ein sylw oddi ar awdurdodau addysg lleol.

Does bosib nad gwers yr 20 mlynedd diwethaf o ddatganoli’r polisi addysg yw y gallwn ni arloesi ac y gallwn ni gyflawni rhagoriaeth, ond dim ond wrth fod yn gwbl onest â ni ein hunain am sut y mae'r system gyfan yn perfformio. Mae adroddiad blynyddol Estyn eleni yn amhrisiadwy i’n hatgoffa na allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma, sydd, ar y cyfan, wedi bod yn hynod o gadarnhaol a chefnogol ac sy’n ychwanegu at y ddadl ar sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’n taith diwygio addysg? Os caf ddechrau trwy fynd i'r afael â rhai o'r materion yn ymwneud â'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi gwelliant 3 a gwelliant 4.

Gan ddechrau gyda gwelliant Plaid Cymru, rwy’n derbyn yn llwyr, Llyr, fod angen gwella o ran unedau cyfeirio disgyblion. Roeddwn i'n poeni amdanyn nhw pan oeddwn i’n eistedd draw yn y fan yna ac rwy’n parhau i boeni amdanyn nhw nawr fy mod i’n eistedd yn y fan yma, ac rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwelliant hwnnw. Fel y dywedasoch, Llyr, ni nodwyd bod gan yr un o'r pedair uned a arolygwyd eleni arferion rhagorol, a gosodwyd pob un o’r pedair yn y categori statudol 'gwaith dilynol', ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni gael nod uwch ar gyfer y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed hyn.

Un o gryfderau mwyaf ein system addysg heblaw yn yr ysgol—EOTAS—yw’r gallu i ddarparu cymorth pwrpasol ac unigryw i fodloni anghenion annodweddiadol ei dysgwyr heriol. Er ein bod yn cydnabod bod angen diwygio yn y sector, rwyf hefyd yn awyddus iawn i gynnal cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd. Gwyddom fod arferion da yn bodoli mewn UCDau. Yr her yw prif ffrydio’r arferion da hynny fel bod yr holl bobl ifanc sy'n defnyddio'r ddarpariaeth yn cael safon uchel o addysg, gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.

Fel y cyfeiriodd Llyr, Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y grŵp gorchwyl a gorffen EOTAS yn 2015 gyda'r bwriad o ddatblygu mesurau ymarferol gyda'r nod o wella deilliannau ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth. Mae'r grŵp yn dal i fod wrthi’n cwblhau ei fframwaith ar gyfer gweithredu, yr wyf yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno i mi ei ystyried yn ddiweddarach eleni, ac yna byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr sut yr ydym ni’n bwriadu gweithredu'r fframwaith ar gyfer gweithredu ac ysgogi newid yn y maes hwnnw.

Os caf droi at y gwelliant gan y Ceidwadwyr, byddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr ar arweinyddiaeth. Bydd y Siambr hon yn ymwybodol bod hybu a chefnogi arweinyddiaeth yn ganolog i’m hagenda ddiwygio. Fel yr amlinellwyd yn y lle cyntaf, byddwn yn gobeithio cael pobl i ymuno â’r system newydd cyn gynted â phosibl. Dylwn ddatgan yn glir nad yr academi ei hun fydd y darparwr gwasanaethau—hi fydd y brocer, gan gydgysylltu gwasanaethau, a sicrhau ansawdd yr amrywiaeth o raglenni arweinyddiaeth a fydd ar gael.

Er y byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant, byddaf, wrth gwrs, yn ailadrodd bod pethau’n cymryd amser, ond mae angen i ni weithredu’n gyflymach. Er fy mod wedi nodi rhai o'r egwyddorion cyffredinol ar gyfer y sefydliad newydd, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y bwrdd cysgodol ar ddatblygiad yr egwyddorion sylfaenol cyffredinol. I ddechrau, bydd y bwrdd cysgodol yn ystyried arweinyddiaeth gan benaethiaid, sy'n cysylltu â’r pwynt a wnaed mor huawdl gan Lee Waters: mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd yr arweinyddion sydd gennym yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rhan y gall yr academi ei chwarae wrth gefnogi darpar benaethiaid, y genhedlaeth nesaf o arweinyddion ein hysgolion.

Ond, yn y tymor hwy, rwyf eisiau i’r academi gynnwys datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y sector addysg cyfan. Gwnaeth Darren Millar bwynt da iawn, iawn am arweinyddiaeth AB: unwaith eto, mae ansawdd AB yn disgleirio yn adroddiad yr arolygydd, a hoffwn longyfarch David Jones ar ei wobr ddiweddar. Mae'r rhaglen arweinyddiaeth AB wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. Mae gennym ni hefyd raglen arweinyddiaeth debyg ar waith ar gyfer AU—sydd wedi bod ar gael am nifer o flynyddoedd, ac yn amlwg mae yna wersi i ni eu dysgu oddi wrth y sector AB a'r sector AU wrth ddatblygu'r rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer ein hysgolion. Mae'n drueni nad ydym wedi cael rhaglen debyg, ond mae'n rhaid i ni ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio mor dda o ran AB ac AU, a throsglwyddo’r syniadau hynny i gael yr effaith yr ydym yn dymuno ei chael. Felly, mae datblygu’r academi arweinyddiaeth yn gam pwysig ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon a'n gwaith diwygio i addysg gychwynnol athrawon wrth ddatblygu a mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â safonau addysgu anghyson sydd wedi’u hamlygu yma.

Y pwyntiau eraill a wnaethpwyd, Darren—rwy’n falch eich bod yn cydnabod amrywiaeth a chwmpas gwaith Estyn; nid yw’n ymwneud ag ysgolion yn unig. Rwy'n pryderu llai ynghylch pwy sy'n gosod y safonau addysgu nag yr ydw i am eu deilliannau. Rwy'n siŵr y bydd y ddau ohonom ni’n hapus iawn os byddwn ni’n gweld gwelliant mewn ansawdd yn yr adroddiadau blynyddol ar addysgu yn y dyfodol, o ganlyniad i'r safonau addysgu newydd.

Rydym yn gweithio ar fersiwn newydd o 'Cymwys am Oes', a fydd yn cynnwys yr eglurder o ran ein cenhadaeth genedlaethol o wella addysg, fel yr awgrymwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rydym yn archwilio amrywiaeth o ffyrdd newydd i ddenu pobl sydd wedi treulio rhan o’u gyrfa mewn proffesiwn gwahanol, i ddod i'r proffesiwn addysgu, oherwydd y gallent ddod â chyfoeth o brofiad yn eu sgil. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn edrych ar bobl sydd wedi gweithio yn y diwydiant, yn y gwyddorau, a dod â nhw i’n hysgolion. [Torri ar draws.] Yn sicr.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi’n cytuno â mi felly, bod yn rhaid i ni hefyd ystyried y system bwrsariaethau, er mwyn defnyddio hynny efallai i ddenu pobl, yn enwedig yn y meysydd hynny y cyfeiriasoch chi atyn nhw lle y ceir prinder?

Ydw, ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn greadigol. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod system Lloegr yn rhagori ar ein system ni ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni fod yn greadigol yn yr hyn y gallwn ei gynnig i bobl. Nid yw'n ymwneud ag arian bob amser. Nid yw pobl yn hyfforddi i fod yn athrawon er mwyn gwneud llawer iawn o arian, felly mae'n rhaid i ni fod yn greadigol o ran sut y gallwn ni ddefnyddio ein system fwrsariaeth i ddenu pobl yma.

Y rhai mwy abl a thalentog—mae’n destun pryder mawr i mi. Rydym yn cydnabod adroddiad Nesta ynglŷn â’n plant mwy abl a thalentog yn y sector cynradd, nad ydyn nhw’n gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni’n hoffi ei weld, ac yna rydym yn gweld hynny wrth iddo barhau drwy'r system. Byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi cynlluniau newydd yn ddiweddar mewn cysylltiad â fframwaith rhagoriaeth ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth, er mwyn ceisio codi safonau—mae'n canolbwyntio'n bennaf ar wella profiad addysgu y mae pobl yn ei gael yn yr ystafell ddosbarth.

Llyr, rydych chi’n hollol iawn; ein hysgolion mwyaf llwyddiannus yw’r ysgolion hynny sy'n edrych tuag at allan. Maen nhw’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, maen nhw’n ystyried ac yn cydnabod arferion gorau, maen nhw’n myfyrio ar waith ymchwil, yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer plant, ac maen nhw’n gweithredu hynny ac yn ei wneud yn eu hymarfer unigol eu hunain. Mae ein hymrwymiad i ddysgu proffesiynol yn ymwneud yn llwyr â hynny. Dyna pam yr ydym ni’n newid y ffordd yr ydym ni’n mynd i hyfforddi ein hathrawon, a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol y bydd gennym ar gyfer athrawon presennol. Soniasoch am y bylchau sy'n bodoli rhwng y gwahanol garfannau o ddisgyblion. Yr hyn sydd wirioneddol yn braf yw bod arolygiad Estyn yn nodi bod y bwlch rhwng bechgyn a merched, a'r bwlch rhwng y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai sy'n well eu byd, yn cau yn y sector cynradd. Felly, rydym ni’n gwneud rhywbeth yn iawn yn y sector cynradd, ond bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny'n parhau. Ond gadewch i ni fod yn glir; rydym ni wedi gweld y bwlch yn cau gan 4 y cant ar lefel 2 ac uwch ar gyfer plant sy’n gwneud eu TGAU, dros gyfnod o 3 blynedd. Mae hynny oherwydd gwaith caled ysgolion a sefydliadau unigol, a gefnogir gan grant amddifadedd disgyblion hael, sy'n ysgogi rhywfaint o’r newid hwnnw.

John, ynglŷn â’ch ymrwymiad i ysgolion bro, rwy’n credu bod gan ysgolion y potensial i ysgogi newid gwirioneddol ar gyfer eu cymuned gyfan, ac mae gennym eisoes rai enghreifftiau gwirioneddol wych o hynny yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau y gellir addasu’r egwyddorion hynny. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r rhaglenni y mae’r ddau ohonom yn gyfrifol amdanynt ac ysgolion fel canolbwynt i ysgogi’r newid hwnnw. Mae ymgysylltu â’r teulu yn gwbl hanfodol. Yn ddiweddar, cawsom gyflwyniad gan Joe Cudd. Mae e'n gweithio yn y Morfa, yn Llanelli, fy nhref enedigol. Mae'r rhai hynny ohonoch sy’n gyfarwydd â’r ardal yn gwybod ei fod yn lle eithaf anodd i dyfu i fyny ynddo. Mae yna rai pethau eithaf annymunol yn digwydd heb fod ymhell iawn o giatiau ei ysgol. Ond mae’r dyn hwnnw—mae’r dyn hwnnw yn hollol wych. Mae'n gweld ei ysgol, a'i ymrwymiad i’w blant, yn mynd y tu hwnt i’r plant unigol hynny. Mae'n gweithio'n galed iawn gyda mamau a thadau i fynd i'r afael â'r amgylchedd dysgu sydd gan blant gartref a mynd i'r afael â’r rhwystrau sy’n atal plant rhag dysgu yn y cartref. Mae'n gwahodd mamau i’r ysgol ac maen nhw wedyn yn mynd ymlaen i gwblhau cymwysterau pellach eu hunain ac yn mynd allan i weithio eu hunain—ac yn gwneud gwaith anhygoel. Mae hynny’n digwydd yn y Morfa. Mae'n digwydd yn ysgol gynradd Woodlands yng Nghwmbrân; eto, rhyngweithio anhygoel gyda'r teulu sy'n arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'r plant hynny. Felly, mae'n rhaid i ni weithio'n llawer caletach i roi neges gyson gan Lywodraeth Cymru ar sut y gall ysgolion fod yn ganolbwynt ar gyfer newid gwirioneddol, nid dim ond ar gyfer plant unigol, ond cymunedau cyfan. Mae Joe Cudd yn mynd i gynhadledd yn America y flwyddyn nesaf i siarad am ei waith yn y Morfa. Pa mor wych yw hynny? Mae’r hyn mae’n ei wneud wedi creu cymaint o argraff arnyn nhw fel eu bod nhw eisiau clywed am ysgol fach iawn yn Llanelli draw yno yn yr Unol Daleithiau a dylem ni ganmol pobl fel Joe a’r hyn yr ydym ni’n ei wneud. Ond wyddoch chi, bydd gennym ni glybiau bwyd a hwyl yn defnyddio ysgolion yn ystod haf eleni i ddarparu’r cyfleoedd hynny.

A gaf i ddweud, Michelle—? Efallai nad ydych chi’n credu bod y gostyngiad yr ydym ni wedi’i weld yn nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn un sylweddol, ond rwy'n dweud wrthych chi, i bob un o'r plant hynny, mae hwnnw'n welliant aruthrol. Yn ddiweddar, roedd Dawn a minnau yng ngholeg Merthyr, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant nad ydyn nhw’n mynd ymlaen i astudio ôl-16. Mae'n wych ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r plant hynny. Wn i ddim amdanoch chi—efallai eich bod chi’n credu bod Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Sutton a phobl felly â’r bwriad o wneud pethau da, ond rwy’n eu hystyried yn gymhorthion hanfodol wrth ysgogi’r newid yn ein system, oherwydd nid pedlera’r peth diweddaraf y maen nhw’n ei wneud; yr hyn y maen nhw’n ei wneud yw pedlera tystiolaeth—tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i blant. Byddaf yn cael fy ysgogi a byddaf yn dilyn y dystiolaeth honno ac rwy’n credu bod angen i chi fyfyrio ar yr hyn a ddywedasoch am y sefydliadau uchel eu parch hynny yn y Siambr hon heddiw.

I gloi, Lywydd, rwy’n falch iawn, wrth gwrs, fod Estyn o’r farn bod llawer o'n hysgolion yn gwneud defnydd da o ymchwil ac yn manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddylanwadu ar eu gwaith gyda'r dysgwyr mwyaf difreintiedig. Mae llawer i'w wneud yn y system addysg yng Nghymru ac ni fyddaf yn gorffwys a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr bod pob un o'n plant—pob un o'n plant—yn cael y cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

7. 6. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig. Carl Sargeant.

Cynnig NDM6247 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, rwy'n falch o agor y ddadl hon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017. Cynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf dros 100 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad gwirioneddol fyd-eang—diwrnod pan mae cyflawniadau merched a menywod yn cael eu cydnabod waeth beth fo'u cenedligrwydd, ethnigrwydd, iaith, diwylliant, cyfoeth neu wleidyddiaeth. Mae'n enghraifft wych o sut y gall pobl ddod at ei gilydd, fel un, ar gyfer un achos cyffredin.

Mae gan ddynion ddyletswydd i siarad ar gydraddoldeb, trais a cham-drin ac mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod oherwydd ni chafodd y brwydrau hynny eu hennill eto. Hyd nes daw’r amser hwnnw, rwy’n falch o sefyll gyda'r rhai sy’n tynnu sylw at gamdrinwyr, pobl ag agwedd rywiaethol a’r rhai sy’n difrïo merched, pwy bynnag y bônt a lle bynnag y maent yn pedlera eu casineb gwenwynig tuag at wragedd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru eleni yw 'creu dyfodol cyfartal' ac rydym yn falch o gefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wrth gyflwyno pedwar digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd merched a menywod ar draws Cymru, gan greu dyfodol cyfartal iddynt. Mae'n rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi ei wneud, mae merched a menywod yn dal i wynebu rhwystrau ac anghydraddoldeb. Mae creu dyfodol cyfartal yn cyd-daro’n dda ag amcanion ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. O fynd i'r afael â thlodi a darparu cronfa fwy amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus i leihau'r bwlch cyflog a mynd i'r afael â thrais a cham-drin, mae ein hamcanion cydraddoldeb yn sicrhau bod camau gweithredu yn canolbwyntio ar y meysydd sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a grwpiau eraill a ddiogelir.

Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod unig rieni yn fwy tebygol o fod yn fenywod. Ac fel y rheini sydd â gofal plant a chyfrifoldebau gofal eraill, gall menywod o fewn y grwpiau hyn eu cael eu hunain mewn tlodi a gall fod yn anodd iawn iddynt gael gafael ar hyfforddiant neu waith. Rydym yn gwybod mai cyflogaeth sy’n cynnig y llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, a dyna pam mae mynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflogaeth yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae rhaglenni fel Esgyn a Chymunedau am Waith yn gwneud gwahaniaeth pwysig drwy ddarparu cefnogaeth bwrpasol wedi'i thargedu at y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r gweithle. Rwy'n falch o ddweud, hyd at ddiwedd mis Ionawr, mai menywod oedd 55 y cant o’r rheini a gymerodd ran mewn rhaglenni Cymunedau am Waith. Gall gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael yn hawdd ac yn hygyrch, fod yn rhwystr mawr i ferched rhag cael gafael ar hyfforddiant a chyflogaeth. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed am gyfnod o 48 wythnos i rieni sy'n gweithio. Yn ogystal â chefnogi menywod i ddod o hyd i gyflogaeth, rhaid i ni hefyd adeiladu ar hyder a sgiliau menywod fel y gallant wneud cynnydd pellach mewn ystod eang o sectorau, a chyflawni swyddi dylanwadol.

Yn ddiweddar, derbyniasom yr holl argymhellion yn yr adroddiad ‘Menywod talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Ei nod yw mynd i'r afael â'r prinder difrifol o fenywod mewn swyddi STEM yng Nghymru, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu hyn.

Mae Llywodraeth Cymru fel cyflogwr wedi addunedu i ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â sefydliadau a chyflogwyr eraill ym mhob sector yng Nghymru. Mae ymuno â'r ymgyrch yn dangos ymrwymiad cyhoeddus cyflogwyr i weithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal y rhywiau mewn swyddi sy’n gwneud penderfyniadau a swyddi dylanwadol yma yng Nghymru.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n galed i annog a chefnogi menywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir i ymgeisio am benodiadau cyhoeddus. Mae amrywiaeth o ran cynrychiolaeth yn dod ag amrywiaeth o safbwyntiau— syniadau ffres, safbwyntiau newydd a gwell dealltwriaeth o'n cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau, ac mae gennym ddyletswyddau cadarn ar waith ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydym ond yn adrodd ar y bwlch cyflog yn unig, ond ein bod hefyd yn gweithredu ar yr achosion sylfaenol, gan gynnwys y gwahanol ddosbarthiad o ddynion a menywod o ran graddau, galwedigaethau, patrymau gwaith a mathau o gontract. Nid yw'n ddigon da bod menywod yn canolbwyntio ar sectorau a galwedigaethau sy'n aml yn gysylltiedig â chyflog isel, ac oriau isel a chontractau achlysurol neu gontractau dim oriau. Mae ein cymdeithas yn dal i fod yn seiliedig ar normau rhagfarnllyd o ran rhywedd, felly mae'n rhaid i ni barhau i herio stereoteipiau rhyw ac annog merched a menywod i ddewis gyrfaoedd anhraddodiadol, sy’n talu'n well.

Lywydd, mae ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir mewn partneriaeth â Chwarae Teg ac a ariennir ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cefnogi 2,207 o fenywod ac yn gweithio gyda 500 o gyflogwyr i hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod ac i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar naw sector allweddol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, iechyd ac ynni.

Fel y dywedais, mae'n rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd dynion yn chwarae eu rhan mewn gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gennym i gyd ran i'w chwarae. Heb ddynion fel cynghreiriaid ymrwymedig a phartneriaid cefnogol yn yr ymgyrch hon a arweinir gan fenywod, ni fydd newid gwirioneddol yn digwydd. Mae effeithiau cadarnhaol cydraddoldeb rhywiol yn dda i bob un ohonom—ein teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol.

Mae'n rhaid i ni hefyd sefyll gyda'n gilydd yn erbyn cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, a all gael canlyniadau dinistriol a thymor hir. Mae ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth. Bwriedir iddi roi pwyslais strategol ar y materion hyn i atal trais lle bynnag y bo modd, ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr. Ond yr allwedd yw newid agweddau a chyflwyno’r neges nad yw ymddygiad treisgar yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau, ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymdeithas ni.

Mae hwn yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod, Lywydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae gennym Lywydd benywaidd a Dirprwy Lywydd benywaidd. O fewn Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgrifennydd Parhaol, y prif swyddog gwyddonol a'r prif swyddog milfeddygol i gyd yn fenywod. Mae’r pedwar comisiynydd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, pobl hŷn, plant a'r iaith Gymraeg i gyd yn fenywod. Am fodelau gwych, bob un ohonynt, Lywydd. Rwy'n siŵr bod eu cyflawniadau yn fodd i dynnu sylw at y dalent sydd gennym yma yng Nghymru, a byddwn yn annog merched eraill i ymgeisio am yr uwch swyddi hynny. Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon. Mae llawer mwy i'w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi creu dyfodol cyfartal. Ond mae gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi menywod a merched i anelu a chyflawni yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr, a diolch am ddod â’r ddadl bwysig yma gerbron. Mae’n wir i ddweud bod sefyllfa merched wedi newid yn syfrdanol ers dyddiau’r suffragettes, ond mae cydraddoldeb yn bell, bell o fod yn realiti. Gobeithio bod gwelliannau Plaid Cymru yn nodi mewn ffordd ymarferol un neu ddau faes lle gall y Llywodraeth yma gael dylanwad.

Mae un o’n gwelliannau ni yn ymwneud â gwersi perthynas iach yn yr ysgol. Mae’r sector addysg yn Lloegr wedi cyhoeddi bod addysg rhyw a pherthynas am fod yn orfodol yn yr ysgolion. Mi fydd addysg perthnasau iach yn cael ei dysgu yn yr ysgolion cynradd yno, gyda’r ffocws ar adeiladu perthnasau iach ac aros yn ddiogel. Ac mi fydd yn ddyletswydd ar ysgolion uwchradd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau, lle bydd y disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o berthynas iach ymhlith oedolion, gydag addysg rhyw yn cael ei dysgu yn yr un un cyd-destun. Nid oes gan ysgolion yng Nghymru ddim dyletswydd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau ymhellach na dysgu myfyrwyr am HIV, AIDS a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae adroddiad gan y Senedd Ewropeaidd yn nodi taw’r gwledydd Nordig a Benelux sydd ag addysg rhyw a pherthnasau o’r safon uchaf. Mae’r adroddiad hwnnw yn awgrymu hefyd fod lefelau uchel o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau yn digwydd mewn gwledydd pan fo addysg rhyw a pherthnasau yn cael ei dysgu’n rhy hwyr yn eu bywydau nhw. Fe nodwyd mewn adroddiad o brifysgol Bryste yn 2016 fod addysg LGBT yn anweledig o fewn addysg rhyw a pherthnasau ac yn atgyfnerthu’r rhagfarn yn erbyn pobl LGBT. Mae ymchwil yn dangos bod addysg rhyw a pherthnasau effeithiol nid yn unig yn lleihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ond fe all hefyd, wrth gwrs, agor trafodaethau yn ymwneud â cham-drin merched a chyfrannu’n sylweddol i’r broses o leihau trais yn erbyn menywod.

Bu i 8.3 y cant o fenywod rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru ddioddef cam-drin domestig yn ystod 2016, o gymharu â 4.3 y cant o ddynion. Yn y ffigur hwn, bu i 3 y cant o fenywod ddioddef ymosodiad rhywiol, o gymharu â 0.5 y cant o ddynion, bu i 6.5 y cant o fenywod ddioddef cam-drin gan bartner, o gymharu â 2.7 y cant o ddynion, a bu i 4.4 y cant o fenywod ddioddef stelcio, o gymharu â 3.5 y cant o ddynion. Mae hyn yn dangos anghydraddoldeb ‘gender’ clir. Er mwyn newid hyn, mae angen cyflwyno addysg perthnasoedd iach cyn gynted â phosib. Rydw i yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg wedi sefydlu panel i helpu gyda’r gwaith yma yng Nghymru. Ond rwyf yn nodi pryder gan rai nad ydy’r agwedd yma o ddatblygu’r cwricwlwm cenedlaethol yn cael cymaint o flaenoriaeth ag y gallai gan y Llywodraeth yma a bod perig inni golli’r cyfle gwirioneddol y mae adolygiad Donaldson yn ei gynnig i ni.

Rwy’n troi at un arall o’n gwelliannau yn ymwneud â chynrychiolaeth. Yn 2014 dim ond dau o bob 100 busnes gorau Cymru oedd â menyw fel prif weithredwr. O ran llywodraeth leol, dim ond 18 y cant o brif weithredwyr sy’n fenywod, a 27 y cant yn unig o gynghorwyr sydd yn ferched. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â staff awdurdodau lleol oedd â 72 y cant o fenywod yn 2014. Mae’r gyfran o Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod wedi disgyn i 41.7 y cant o 50 y cant yn 2003, ac mae gan fy mhlaid i le i wella. Mae angen ailgyflwyno system fwriadol a mecanwaith bwriadus i godi’r ganran yn ôl i fyny, yn fy marn i. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cyflwyno byrddau rheoli sydd â chydbwysedd rhyw yn y sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dau faes yn unig yr ydw i wedi cyffwrdd â nhw’r prynhawn yma, ond dau faes y gall y Llywodraeth yma, mewn ffordd hollol ymarferol, efo’r ewyllys cywir, wneud rhywbeth yn eu cylch a’n helpu ni i symud tuag at Gymru llawer mwy cyfartal. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cynnig heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn

dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Gyda hyn mewn golwg, mae'n iawn ein bod yn cydnabod gwneuthurwyr hanes (history), neu a ddylwn i ddweud gwneuthurwyr herstory, a’r cyfraniadau mawr a wnaed i'n gwlad. Ond hoffwn i gymryd yr amser heddiw i dalu teyrnged i rai o'r menywod gwirioneddol ryfeddol sy’n gwneud gwahaniaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd yn fy etholaeth i, sef Delyn ac ar draws Sir y Fflint—y gwragedd gwych hynny sydd prin yn gwneud y penawdau, ond y nhw yw curiad calon ein cymunedau a'n gwlad a nhw yw'r glud sy'n ein clymu ni at ein gilydd, y merched sy'n gwneud pethau nid am gydnabyddiaeth neu wobr, ond dim ond oherwydd mai dyna’r peth iawn i'w wneud, neu dim ond oherwydd mai dyna beth rydym yn ei wneud fel menywod.

Felly, yr wythnos diwethaf, fe es i at y cyfryngau cymdeithasol—ac nid aeth dim o'i le—i gael awgrymiadau o fenywod gwych i sôn amdanynt heddiw. Fel yn achos llawer o Aelodau yma, mae Delyn yn adlewyrchu traddodiad Cymreig balch gyda Chôr gwych Meibion ​​y Fflint, ond er mwyn iddynt beidio â chael eu gadael ar ôl, yn 2013, cafodd Côr Merched y Fflint ei ffurfio. Mae Côr gwych Merched y Fflint wedi mynd o nerth i nerth, ac yn cael ei lywio, i raddau helaeth, gan gadeirydd y Côr am y tair blynedd diwethaf—Mel Buckley. Mae Mel yn neilltuo ei hamser gyda brwdfrydedd ac egni fydd yn gweld y côr yn mynd o nerth i nerth yn y gymuned a thu hwnt, gan gynnig cyfleoedd i gymaint o fenywod lleol. Erbyn hyn mae gan y côr bron 70 o aelodau ac rwy’n gobeithio eu croesawu nhw yn y Senedd rywbryd yn ddiweddarach eleni.

Mae Sarah Way, a enwebwyd gan ei gwraig, Sue, yn rhywun sy'n ymgorffori gwerth absoliwt gwirfoddolwyr a sut mae gwirfoddoli yn dwyn ein cymunedau at ei gilydd. Yn gyfarwyddwr gwirfoddol llawnamser a di-dâl i RainbowBiz Limited, mae Sarah yn ddiflino yn rhoi o’i hamser ddydd a nos i’r fenter gymdeithasol hon. Mae’n cefnogi llawer o bobl anhygoel y mae'n gweithio gyda nhw ar brosiectau a digwyddiadau ar draws Sir y Fflint, gan gynnwys y prosiect garddio Cloddio Glannau Dyfrdwy poblogaidd, y gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd ag ef, ac mae hwnnw wedi dod yn achubiaeth i lawer o'r gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan. Yn wir, gwirfoddolwyr yw ffabrig hanfodol ein cymunedau a’n sefydliadau lleol.

Bob blwyddyn, mae llawer ohonom yma yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau i nodi Sul y Cofio. Mae mwyafrif llethol y rhain ond yn bosibl oherwydd bod pobl yn gwirfoddoli eu hamser a'u hymroddiad. Mae Val Nevitt yn un person o'r fath, ac yn enghraifft ddisglair yn y gymuned leol—trefnydd apêl leol y pabi yn y Fflint ers pedair blynedd bellach, gan godi £13,000 y llynedd yn unig. Oherwydd ymroddiad a gwaith caled diysgog Val, mae apêl y pabi yn y Fflint wedi mynd o nerth i nerth ac mae Val wedi codi dros £50,000 i apêl y pabi yn ystod ei chyfnod fel trefnydd.

Mewn digwyddiad y penwythnos diwethaf, cyfarfûm â grŵp o ferched ifanc ysbrydoledig o Ysgol Alun yr Wyddgrug a oedd yn gwirfoddoli fel rhan o ymgyrch Girl Up Sefydliad y Cenhedloedd Unedig—ymgyrch sy'n ymgysylltu â menywod ifanc i gymryd camau i gefnogi merched a menywod ifanc yn y byd sy’n datblygu, mewn mannau lle mae'n aml yn anodd iawn bod yn ferch. Mae disgyblion anhygoel Ysgol Alun yn newid y canfyddiadau ac yn gwneud eu rhan i chwalu'r rhwystrau yn eu hysgol eu hunain, ac ar yr un pryd yn hyrwyddo achos merched ifanc ar draws y byd.

Yn olaf ond nid yn lleiaf—Viv Williams, sy’n eistedd yn yr oriel yma heddiw. Yn un o sylfaenwyr Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, mae Viv a'r tîm gwirfoddol yn Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, sy’n fwy hysbys ar lafar i ni ac yn fwy cyfarwydd fel Enwau ar Gerrig ar Twitter, wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n ddiflino i adrodd hanesion y rhai a wasanaethodd ac a syrthiodd yn lleol yn y rhyfel byd cyntaf ac yr ydym yn aml wedi eu hadnabod fel enwau ar gerrig yn unig. Mae Viv hefyd yn trefnu teithiau astudio i Fflandrys ac yn gweithio'n ddiflino i rannu straeon a gwaith Cofebion Rhyfel Sir y Fflint gyda sefydliadau a grwpiau ledled yr ardal, o ysgolion i Sefydliad y Merched a llawer mwy.

Wrth gwrs, mae llawer mwy o ferched allan yna yn fy etholaeth i ac ar draws ein gwlad yn gwneud gwahaniaeth, yn gwneud mwy na’u rhan, ac i bob un ohonoch heddiw a bob dydd, rydym yn dweud 'diolch '. Diolch i chi am y cyfan yr ydych yn ei wneud, diolch i chi am fod yn fenyw ysbrydoledig a diolch am ddangos y ffordd i bob un ohonom.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod o ddathlu ar draws y byd. Mae'n ddiwrnod i ddod at ein gilydd i ddathlu cyflawniadau a llwyddiannau menywod, yn aml mewn amodau anffafriol, ym mhob maes. Nid yw’n amser i ddathlu yn unig, mae hefyd yn amser i fyfyrio, yn amser i sylweddoli bod cymaint yn dal i fod y gellid ei wneud o ran cydraddoldeb rhywiol. Efallai ei bod yn 2017, ond rydym yn wynebu'r perygl o symud yn ôl os bydd pobl fel Nigel Farage ac UKIP yn cael eu ffordd. Rydym wedi clywed yr holl ddatganiadau hynny ganddynt yn galw am ddileu absenoldeb mamolaeth â thâl a deddfau gwrthwahaniaethu.  Ni all neb wadu nad oes bygythiadau presennol i'r hawliau yr ymladdodd menywod yn galed amdanynt hyd yn hyn.

Nid wyf eisiau gweld fy merch i neu ei merched hi yn cael eu magu mewn cymdeithas sy'n eu trin yn waeth neu'n talu llai o gyflog iddynt oherwydd eu rhyw. Nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas a allai ei hanwybyddu am ddyrchafiad oherwydd ei rhyw. Nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae’n fwy tebygol o gael ei bwlio yn ei gweithle neu ar-lein oherwydd ei rhyw. Ac nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae’n fwy tebygol o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig neu drais rhywiol oherwydd ei bod yn fenyw. Eto, oni bai ein bod yn gweld rhywfaint o newid eithafol, dyna’r dynged sy’n ei disgwyl hi a phob merch arall sy’n tyfu i fyny yng Nghymru ac, mewn gwirionedd, mewn llawer o'r byd. Ni waeth faint yr ydym yn eu haddysgu i fod yn hyderus, neu ddweud wrthynt y gallant wneud neu fod yn unrhyw beth y maent yn ei ddewis, dyna'r realiti sy’n eu hwynebu nhw.

Yn y ganrif ddiwethaf, rhoddodd carfan gref o ferched eu bywydau ar y lein, yn llythrennol, er mwyn sicrhau pleidlais gyffredinol. Nid oedd arnynt ofn neb. Nid oeddent yn barod i fod yn ddinasyddion eilradd. Ganrif ers hynny, ac rydym yn dal i ymdrechu am gydraddoldeb rhywiol a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a chasineb at wragedd, ac rydym yn dal i ymdrechu am lawer mwy o fesurau cydraddoldeb. Dyna pam yr wyf yn falch i alw fy hun yn ffeminydd—dyna pam yr wyf eisiau cydraddoldeb, a dyna pam y byddaf yn ymuno â miliynau o bobl eraill ledled y byd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Fel y mae’r thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 yn ei ddatgan, rhaid inni fod yn feiddgar ar gyfer newid a chamu i fyny i helpu i sbarduno cydraddoldeb rhywiol. Byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r holl welliannau. Er gwaethaf y cynnydd mewn rhai meysydd, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n dal i atal menywod rhag chwarae rhan mor llawn â dynion ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Mae Oxfam Cymru yn galw am economi sydd o fudd i fenywod a dynion fel ei gilydd. Dangosodd ymchwil Oxfam Scotland i waith gweddus bod menywod yn gwerthfawrogi nifer o ffactorau yn uwch na dynion, er enghraifft rheolwr llinell cefnogol, cymorth i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb, budd-daliadau ychwanegol y tu hwnt i gyflog, hyblygrwydd wrth ddewis oriau gwaith, a swydd sy'n hawdd ei chyrraedd. Fel y mae’r elusen Chwarae Teg / FairPlay yn ei ddatgan, gall camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau helpu i sbarduno twf economaidd, ac eto ni fydd camau i sbarduno twf economaidd, o reidrwydd yn sicrhau cydraddoldeb. Wrth i strategaeth economaidd newydd i Gymru gael ei datblygu, maen nhw wedi dweud ei fod yn hanfodol bod y tri chwestiwn canlynol yn cael sylw: sut y gall y strategaeth gyflawni’n gyfartal ar gyfer dynion a menywod? Sut y gall y strategaeth roi ystyriaeth gyfartal a theg i gyfraniad dynion a menywod? A sut mae sicrhau nad yw'r strategaeth yn creu unrhyw rwystrau ychwanegol i fenywod rhag cyrraedd eu llawn botensial? Maent yn pwysleisio nad yw economi Cymru ar hyn o bryd yn gwneud y gorau o botensial merched, lle mae cyfranogiad economaidd menywod yn parhau i fod yn is nag un dynion, lle mae menywod yn parhau i gael eu cyflogi yn fwy cyffredin mewn sectorau sy'n cael eu talu llai ac yn cynnig llai o gyfleoedd i wneud cynnydd, ac yn llai tebygol o gael eu cynrychioli mewn swyddi uwch, a lle mae merched i’w gweld yn gweithio yn aml yn is na lefel eu sgiliau gyda diffyg gofal plant priodol a/neu opsiynau gweithio hyblyg yn cael eu nodi fel ffactorau sy'n cyfrannu. O ganlyniad, mae bwlch cyflog o ryw 16 y cant rhwng y ddau ryw yn parhau yng Nghymru.

Mae profiad Chwarae Teg wrth gyflawni cynllun datblygu ein cyn Lywydd, sef Merched mewn Bywyd Cyhoeddus, yn cadarnhau bod digon o fenywod yng Nghymru sydd â’r diddordeb a’r profiad a’r cymwysterau addas i allu darparu cronfa barod o ferched talentog i lenwi swyddi sydd ar gael ar fyrddau a helpu'r byrddau i gyflawni eu nodau. Maent hefyd yn cynnig defnyddio caffael cyhoeddus, buddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol da, megis gwasanaethau gofal plant ac iechyd, a mynd i'r afael â stereoteipiau rhyw fel camau ychwanegol i fynd i'r afael ag achosion cymhleth y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae hyn yn cynnwys addysg cydberthynas iach, gan helpu disgyblion i ddatblygu gwell dealltwriaeth o swyddogaethau’r ddau ryw a sicrhau bod athrawon ac ysgolion yn cael eu cefnogi i greu amgylcheddau dysgu sy’n cynnwys y ddau ryw. Fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 3 Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae’r rhai ohonom, fel fi, sydd wedi mynd allan yno, er enghraifft ar brosiect Sbectrwm Hafan Cymru, yn dysgu plant a phobl ifanc am gydberthynas iach, cam-drin, ei ganlyniadau ac ymhle i geisio cymorth, yn gwybod am yr effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael.

Cafwyd sicrwydd gan y tair gwrthblaid yn ystod Cyfnod 4 y Ddeddf y byddai rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn cymryd rhan wrth ddatblygu cynigion i sicrhau bod addysg cydberthynas iach yn cael ei datblygu o fewn y cwricwlwm Cymreig—rhywbeth y clywsom amdano amser cinio yn y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant. Yn 2014, adroddodd y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol am ganfyddiadau bod 43 y cant o bobl ifanc yn cael dim gwybodaeth am gydberthynas iach yn yr ysgol, a bod un o bob tair merch ac un o bob chwe bachgen yn profi trais rhywiol yn yr ystafell ddosbarth. Eu hargymhelliad nhw oedd bod addysg cydberthynas yn cael ei gwneud yn orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn ofynnol cael addysg cydberthynas mewn ysgolion cynradd ac addysg rhyw a chydberthynas mewn ysgolion uwchradd.

Yn ddiweddar dywedodd y Prosiect Grymuso Menywod Awtistig wrth y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth fod y dulliau gwahanol y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai'r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod mewn gwirionedd yn agosach o lawer, gan fod llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, yn cael camddiagnosis neu nid oes cymorth ar gael iddynt. Fel y mae rhieni llawer o ferched sydd wedi cael diagnosis anghywir wedi dweud wrthyf, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, bod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched, a bod llawer o fenywod ddim yn gallu cael diagnosis oherwydd safbwyntiau stereoteip, gan adael merched a menywod awtistig yn agored i hunanwerth isel, pryder, iselder a hunan-niweidio.

Wel, gydag etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, byddaf yn cloi drwy gyfeirio at ffigurau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan ddangos mai dim ond 26 y cant o gynghorwyr yng Nghymru sy’n fenywod. Wel, mae fy ngwraig y yn gynghorydd yn Sir y Fflint, a hyd nes y byddwn yn mynd i'r afael â'r casineb at wragedd a ddioddefodd hi yno, sy’n niweidiol iawn i iechyd, ni fydd llawer mwy o fenywod yn cael eu hannog i ddod ymlaen.

A gaf i ddweud fy mod yn hapus iawn o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel rhan o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae’n ddathliad yr wyf yn wirionedd eisiau ei wneud. Heddiw, rydym wedi clywed, a byddwn yn clywed, am nifer o fenywod ysbrydoledig—yr enwog a'r nad ydynt mor enwog—bob un ohonynt wedi gwneud eu marc, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Yn fy nghyfraniad i, rwyf yn awyddus i grybwyll rhai ohonynt.

Yn y byd chwaraeon, yr enghraifft ddisglair o Tanni Grey-Thompson, a wnaeth fwy nag unrhyw un arall fwy na thebyg i hyrwyddo achos chwaraeon anabl yn y wlad hon. Yn ystod ei gyrfa, enillodd gyfanswm o 16 o fedalau Paralympaidd, gan gynnwys 11 aur, roedd yn dal dros 30 o recordiau byd ac enillodd ras marathon Llundain chwe gwaith. Yn ddiweddarach daeth yn gyflwynydd teledu ac mae bellach yn aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.

Ym myd gwleidyddiaeth, roedd yn rhaid i fenywod ymladd am yr hawl i bleidleisio. Swffragét flaenllaw o Gymru oedd Margaret Haig Mackworth, a ffrwydrodd flwch postio yn Heol Rhisga, Casnewydd i ddangos pa mor gryf yr oedd hi'n teimlo am bleidlais i ferched. Etholiad 1929, wrth gwrs, oedd y cyntaf lle’r oedd pob menyw dros 21 oed yn gallu pleidleisio. Nid yn unig gallai merched nawr bleidleisio, ond gallent hefyd sefyll i gael eu hethol i'r Senedd, ac allan o'r tri oedd yn sefyll yng Nghymru, yr un a lwyddodd i gael ei hethol, wrth gwrs, oedd Megan Lloyd George, merch y cyn Brif Weinidog, David . Fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Fôn, gan weld y goleuni yn ddiweddarach, wrth gwrs, a dod yn AS Llafur dros Gaerfyrddin. Wrth gwrs, ni ddylem anghofio Julia Gillard, cyn Brif Weinidog Awstralia a aned yn y Barri, a ddaeth yn ôl i Gymru i annerch y Cynulliad yn 2015. Roedd y digwyddiad mor boblogaidd fel y bu’n rhaid ei symud o'r Pierhead i’r Senedd ac fe’i darlledwyd ar senedd.tv ar gyfer y rhai nad oeddent yn gallu cael tocynnau.

Ym myd diwydiant, nid yw'n syndod, o ystyried treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Merthyr Tudful, bod arloeswyr benywaidd ym myd diwydiant yn hannu o'r dref. Un oedd yr Arglwyddes Charlotte Guest, gwraig John Josiah Guest, perchennog y gwaith haearn mwyaf yn y byd yn Nowlais, ac Aelod Seneddol cyntaf Merthyr. Pan fu farw ym 1852, cymerodd Charlotte reolaeth dros y busnes, ac er ei bod yn cael ei chofio orau am ei gofal dyngarol dros weithwyr yn yr ardal, parhaodd i redeg y gwaith nes iddi ailbriodi ym 1855. Un arall oedd Lucy Thomas, a elwir yn fam y diwydiant glo, a gymerodd drosodd y gwaith o redeg busnes ei gŵr pan fu yntau farw ym 1833, gan adael iddi ystad a oedd yn werth llai na £1,000. Roedd wedi darganfod gwythïen lo gyfoethog ym Merthyr, a daeth yn un o'r mwyngloddiau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Erbyn adeg ei marwolaeth hi ym 1847, roedd gwerth y busnes hwnnw wedi cynyddu i dros £11,000. Ac yn fwy diweddar, roedd y cynllunydd ffasiwn Laura Ashley, a aned mewn tŷ teras dinod yn Nowlais ym Merthyr Tudful, ac a aeth ymlaen i fod yn un o ddylunwyr a gwneuthurwyr dillad a dodrefn mwyaf blaenllaw'r byd.

Mae cymaint o fenywod ysbrydoledig eraill o Gymru y gallwn siarad amdanynt, ond nid yw hyn yn ymwneud ag unigolion yn unig. Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, rwyf hefyd am dalu teyrnged i fenywod sydd wedi ymddwyn ar y cyd yn eu hundebau llafur, gan wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint. Mae’r hanes am ferched yn gweithredu ar y cyd yn un balch: o streic y merched matsis ym 1888, a arweiniodd at wahardd matsis ffosfforws gwyn peryglus a gwelliannau yn eu hamodau gwaith, at streic gyffredinol 1926, pan ymladdodd menywod am y tro cyntaf i amddiffyn hawl dynion i gyflog teg. Ym 1934, pan gymerodd y Llywodraeth gamau yn erbyn y gost gynyddol o dalu’r dôl a budd-daliadau i'r di-waith—a yw hynny’n swnio’n gyfarwydd—gadawodd gorymdaith newyn Donypandy ac ymhlith y cannoedd o lowyr roedd dwsin o fenywod yn gwisgo sachau teithio a berets coch. Roeddent wedi eu hyfforddi mewn siarad cyhoeddus fel y gallent annerch cyfarfodydd mewn mannau aros dros nos ar y ffordd i Gaerdydd. Wrth gwrs, yn ystod streic y glowyr 1984, protestiodd menywod ochr yn ochr â'u gwŷr, eu tadau a’u brodyr i wrthwynebu cau 28 o byllau yn ne Cymru. Yn ogystal â phrotestio am golli swyddi, roeddent yn ymladd i amddiffyn eu cymunedau. Ymunodd menywod â llinellau piced, roeddent yn gorymdeithio mewn ralïau ac roeddent yn darparu parseli bwyd. Fe wnaeth Menywod yn Erbyn Cau Pyllau wleidyddoli menywod mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen yn y cymunedau glofaol hyn, ac aeth un ohonynt, Siân James, ymlaen i fod yn AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe.

Mae menywod mewn undebau llafur wedi ymgyrchu yn ddiflino ar faterion sy'n effeithio arnynt yn anghymesur, gan fynd ar drywydd hawliadau cyflog cyfartal, hawliau cyfartal i weithwyr rhan-amser, cyfnod penodol, asiantaeth a’r rhai ar gyflog isel, ac, fel y dadleuwyd yr wythnos diwethaf, ymladd yn erbyn ecsbloetio contractau dim oriau, sydd hefyd yn effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac wrth gwrs ymgyrchu dros gydraddoldeb a gofal plant fforddiadwy, y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Lywydd, rwy’n teimlo yn hynod freintiedig o fod wedi cael fy ethol i Gynulliad Cymru, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar i’r menywod a aeth o fy mlaen i ac arloesi mewn gwleidyddiaeth ac yn y mudiad undebau llafur, gan ei gwneud yn bosibl i mi a menywod eraill fel fi fod yma heddiw. Ein cyfrifoldeb ni yn awr yw paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod a fydd yn gwneud eu marc ym mywyd Cymru.

Rwy’n croesawu'r ddadl heddiw yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y gwragedd adnabyddus heddiw a thrwy gydol hanes Cymru. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ganmol y cyfraniadau a wneir gan fenywod cyffredin yng Nghymru—menywod a helpodd i adeiladu’r wlad hon, gan weithio yn y cartref, y fferm, y ffatri a chymaint o leoedd eraill. Ni fyddwn byth yn gwybod eu henwau, ond ar eu hysgwyddau hwy y mae ein gwlad ni’n sefyll. Heb i famau Cymru addysgu eu plant yn eu mamiaith eu hunain, ni fyddai'r Gymraeg wedi goroesi, ac ni fyddai ei llên gwerin neu ei barddoniaeth chwaith. Mae UKIP felly yn galw ar y lle hwn i gydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy at ein gwlad, cyfraniad sy’n gyfochrog â chyfraniad y dynion.

O ran y gwelliannau a gynigir gan Blaid Cymru, ydy, mae’n wir bod menywod yn cael eu tangynrychioli ar fyrddau cyrff anllywodraethol, cwmnïau a byrddau llywodraethol. Fodd bynnag, byddai cynyddu niferoedd yn artiffisial drwy osod cwota yn edrych yn dda efallai, ond byddai'n ddiystyr yn y pen draw heb ddeall a mynd i'r afael â’r rheswm pam mae llai o ferched yn aelodau o’r byrddau yn y lle cyntaf. Gallwch baratoi rhestrau byr sy’n cynnwys dim ond menywod wrth fodd eich calon. Fodd bynnag, drwy dalent a gallu y dylai menywod gael y swyddi gorau o fewn cwmnïau. [Torri ar draws.] Ni ddylem gefnogi codi menywod uwchlaw dynion, ond yn hytrach geisio cystadlu ar faes chwarae gwastad, gan drin pob rhyw gyda chydraddoldeb llwyr.

Drwy ddadleuon fel hon, a’r ymwybyddiaeth a godwyd gan ymgyrchwyr mewn digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y byddwn yn symud ymlaen ymhellach tuag at gydraddoldeb llwyr yn y gweithle a thu hwnt.  Mae Plaid yn gywir i resynu at gyflog canolrifol ac enillion cymharol is menywod yn erbyn dynion yn y gweithle. I raddau helaeth mae hyn yn adlewyrchiad o'r galwedigaethau y mae menywod yn cael eu cyflogi ynddynt o hyd. Er enghraifft, ar gyfartaledd, mae menywod yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwaith rhan-amser, ar gontractau dim oriau neu ar gyflog isel oherwydd eu bod yn gofalu am blant ac mae ganddynt gyfrifoldebau gofal eraill.

Ni fydd UKIP yn pleidleisio o blaid gwelliant 4 gan nad oes cysylltiad achosol rhwng gwersi cydberthynas iach mewn ysgolion a chyrhaeddiad addysgol, a’r cyrhaeddiad addysgol yw'r ffactor mwyaf arwyddocaol yng nghyflogau ac amodau gweithwyr benywaidd. I'r rhai sy'n cwyno am y cyflog ychydig yn is y mae menywod yng Nghymru ac yn y DU yn ei gael, byddwn i'n dweud hyn: mae eich delfrydau ar gyfer cydraddoldeb perffaith yn ganmoladwy, ond dylem fod yn falch bod y DU yn un o'r llefydd gorau ar y ddaear i gael eich geni a byw fel menyw ynddo.

Mae nifer o heriau y mae menywod yn eu hwynebu mewn cymdeithas heddiw y tu hwnt i'r gweithle—materion sydd, i lawer, yn annymunol eu trafod neu hyd yn oed eu cydnabod. Mae menywod, ac yn wir llawer o ferched o oedran ifanc, wedi dioddef o arferion diwylliannol yn ymyrryd â’u cyrff a'u dyfodol. Wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod agosáu, galwaf ar y Cynulliad hwn ac ymgyrchwyr i fynd i'r afael â'r mater o anffurfio organau rhywiol menywod. Fel cymdeithas, mae gennym ddyletswydd i ofalu am y rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r weithred erchyll hon ac i wneud popeth i ymladd yn erbyn y cymhellion y tu ôl i’r drosedd hon. Ar yr un pryd, rhaid i ni siarad ar ran y miliynau o fenywod ledled y byd nad ydynt yn rhannu'r un hawliau yr ydym ni’n ffodus i’w dal.

Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld miloedd o ferched yn protestio yn erbyn Llywydd newydd yr Unol Daleithiau. Rwy’n gofyn iddynt: ble’r oedd y gorymdeithiau a’r protestiadau dros eu chwiorydd dramor, lawer ohonynt wedi dioddef tynged waeth na anffurfio organau cenhedlu menywod am iddynt gamu y tu allan i normau diwylliannol? Mae angen ymdeimlad o bersbectif arnom. Oes, mae angen i ni fynd i'r afael â rhywiaeth ac anghydraddoldeb yn y gymdeithas bob dydd, ond yn bwysicach mae angen i ni ddarparu esiampl o obaith ar gyfer menywod sy'n cael eu hamddifadu o'u hawliau dynol sylfaenol drwy siarad am faterion sydd yn gywilyddus yn dal i barhau yn yr unfed ganrif ar hugain .

Felly, gadewch i ni ddathlu ein llwyddiannau fel menywod. Gadewch i ni gofio’r menywod hynny sydd wedi mynd o'n blaenau, y rhai a fu'n ymgyrchu ac yn sicrhau ein rhyddid. Ond, gadewch i ni beidio ag anghofio'r miliynau o ferched nad oes ganddynt lais a sicrhau, yfory, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod yn rhoi’r llais hwnnw iddynt. Diolch.

Yn fy nghyfraniad heddiw rwyf am siarad am y goblygiadau i fenywod o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf am ddechrau gyda’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn werth £2 biliwn i Gymru rhwng 2014 a 2020. Mae'r Trysorlys wedi gwarantu y bydd pob prosiect a ddechreuwyd cyn i'r DU adael yr UE yn cael eu hariannu'n llawn nes eu cwblhau. Ond nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hynny. Nid ydym yn gwybod beth fydd y polisi rhanbarthol ar ôl i ni adael. Yn amlwg, rydym yn cael y trafodaethau yma yng Nghymru i geisio dylanwadu ar beth fydd hynny, ond nid ydym yn gwybod. Ond, rydym yn gwybod y bydd yn cael effaith fawr ar fenywod.

Mae cydraddoldeb rhywiol wedi bod yn un o amcanion craidd yr Undeb Ewropeaidd erioed. Ers i'r DU ymuno ym 1973, mae aelodaeth wedi helpu i sicrhau gwelliannau o ran cydraddoldeb cyflog, amddiffyn rhag gwahaniaethu, gofal plant, absenoldeb rhieni a gofal i fenywod beichiog a mamau newydd. Hefyd, mae cydweithrediad rhyngwladol ar draws yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i fynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu menywod, oherwydd mae angen cydweithio ar faterion megis anffurfio organau cenhedlu menywod. Fel y gwyddom, mae'n digwydd yng Nghymru. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd yng Nghaerdydd. Nododd pwyllgor diweddar yng Nghaerdydd achosion lle mae anffurfio organau cenhedlu menywod wedi digwydd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd ar y mater hwn.

Ceir cydweithredu rhyngwladol hefyd ar fasnachu mewn pobl. Rydym yn gwybod bod merched yn llawer mwy tebygol o gael eu masnachu i'r diwydiant rhyw. Yn wir, mae’r UE yn dweud bod 30,146 o bobl wedi eu cofrestru fel dioddefwyr masnachu mewn pobl ar draws yr UE 28 genedl yn ystod y tair blynedd hyd at 2013; roedd 80 y cant o'r dioddefwyr yn fenywod; 69 y cant o'r holl rai sy'n cael eu masnachu wedi dioddef camfanteisio rhywiol; ac roedd mwy na 1,000 o blant sy'n ddioddefwyr yn cael eu masnachu ar gyfer camfanteisio rhywiol. Felly, mae angen inni fod mewn sefyllfa lle y gallwn weithio ar y cyd ar y materion hynny. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y ffyrdd cydweithredol hyn o weithio yn dal i fod gennym, gan ei bod yn hanfodol i’r menywod hyn sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed ein bod yn gwneud hynny.

Bydd gadael yr UE yn golygu colli arian a dargedwyd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Yn 2012, roedd 28 y cant o gyllideb cymorth yr UE yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau neu rymuso menywod fel amcan allweddol. Dyma beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yn holl waith yr UE, ei holl bolisïau—cydnabyddiaeth o'r anghydraddoldebau sy’n bodoli. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn colli'r holl waith da sydd wedi cael ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn taro menywod galetaf. Mae'r holl dystiolaeth wedi dangos, pan fydd pethau'n mynd yn anodd, mai menywod sy'n dioddef fwyaf. Dyna yn sicr beth sydd wedi digwydd gyda thoriadau'r Torïaid. Mae adroddiad 2015 gan yr LSE yn dangos bod 78.9 y cant o doriadau lles wedi digwydd i fenywod, yn enwedig rhieni sengl, ac mae menywod duon a lleiafrifoedd ethnig hefyd yn cael eu heffeithio yn anghymesur. [Torri ar draws.]

Mae Cymdeithas Fawcett wedi galw am gael menyw ar dîm negodi Brexit, o ystyried bod y triawd presennol i gyd yn ddynion, sy'n cynnwys, wrth gwrs, David Davis, Liam Fox a Boris Johnson. Rwy’n meddwl bod angen i ni gael menyw yno i geisio negodi. Hynny yw, mae’r trafodaethau hyn mor bwysig i fenywod. Beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl Brexit, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r enillion a sicrhawyd wedi ymdrech galed dros fenywod yn cael eu colli ac nad yw’r themâu trawsbynciol sydd wedi'u hymgorffori yn y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, er enghraifft, yn cael eu colli.

Mae'r Pwyllgor Dethol Menywod a Chydraddoldebau yn San Steffan wedi gwneud argymhellion ôl Brexit. Un ohonynt yw y dylid cael cymal ar gydraddoldeb yn y Bil diwygio mawr, ac rwy’n meddwl fod hwnnw’n awgrym synhwyrol iawn. Maen nhw wedi awgrymu hefyd y dylai’r Senedd a'r llysoedd ddatgan a yw deddfau newydd yn gydnaws ag egwyddorion cydraddoldeb. Unwaith eto, credaf fod hwn yn argymhelliad pwysig iawn, oherwydd rydym yn symud i sefyllfa lle na fydd gennym unrhyw sicrwydd y bydd cydraddoldeb wedi’i ysgrifennu mewn deddfwriaeth, mewn unrhyw bolisi rhanbarthol yn y dyfodol, mewn cydweithrediad rhwng y gwledydd. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddefnyddio popeth o fewn ein gallu i wneud hynny. Nid oes unrhyw amheuaeth bod yr Undeb Ewropeaidd, a’n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, wedi bod yn fantais enfawr i fenywod ac mae wedi ein helpu i gymryd camau mawr ymlaen.

Rydym ni, yma yn y Cynulliad, yn sefydliad ifanc. Ond, yn wir, mae gan y Cynulliad hwn hanes balch iawn o anrhydeddu a gweithredu egwyddorion a nodau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, fel sydd gan Lywodraethau olynol a arweinir gan Lafur Cymru. Ers datganoli, rydym wedi bod ymhlith y deddfwrfeydd mwyaf cytbwys yn y byd o ran rhywedd—y cyntaf i ethol nifer cyfartal o fenywod galluog a dynion galluog. Ni ellir ac ni ddylid byth anwybyddu canlyniadau'r gynrychiolaeth honno o ran polisi a deddfwriaeth.

Un o’r polisïau pwysig hynny yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU a dyma'r unig gyfraith yn Ewrop i gael pwyslais penodol ar drais yn erbyn menywod. Mae hynny, yr ydym wedi clywed, wedi cael ei herio yn y Cynulliad hwn, a byddaf yn sefyll, fel y bydd fy nghydweithwyr, yn gadarn tu ôl i hynny.

Rwy’n mynd i adrodd stori wrthych a glywais ddydd Sadwrn. Nid yw’n stori neis, ac mae'n stori am fenyw ifanc a gafodd ei hun yn y carchar—mae hi bellach wedi cael ei ryddhau ar brawf. Ni ddywedwyd wrthyf pwy oedd yr unigolyn, ond dywedwyd ei stori wrthyf. Mae ei stori hi yn un o fod yn gaeth i gyffuriau, gan ddechrau pan oedd yn naw oed, pan gymerodd dabledi Valium ei mam. Cymerodd dabledi Valium ei mam oherwydd nad oedd yn gallu wynebu'r diwrnod. Roedd ei mam yn ei chloi hi a'i brawd yn y cwt glo, oherwydd dyna oedd yr unig ffordd y gallai gadw’r ddau yn ddiogel rhag tad a gŵr a oedd yn ymddwyn yn sarhaus. Roedd y ddau blentyn yn eistedd yn y cwt glo. Tra byddent yn clywed eu mam yn sgrechian roeddent yn gwybod ei bod yn fyw—roedden nhw'n ofnus iawn pan oedd yn dawel.

Aeth yn ei blaen yn ystod ei hoes, o ganlyniad i’r cam-drin hwnnw a'r ddibyniaeth yn gynnar iawn ar Valium, i fod yn gaeth i gyffuriau a chanfod ei hun yn y carchar. Felly, dyna pam—straeon fel yna, ac nid ydynt yn hawdd gwrando arnynt. Ond mae'r rhain yn unigolion—ni allwn ddechrau dychmygu'r ofn oedd yn mynd trwy fywydau’r fam a’i phlant. Dyna pam rydym yn cefnogi'r dull gweithredu ar sail rhyw o ran cam-drin domestig, ac rydym yn ei wneud gyda balchder.

Roeddwn i eisiau adrodd y stori honno, oherwydd nid yw’r straeon hynny byth yn cael eu hadrodd. Mae pobl yn gweld rhywun o fewn y system carchar, maent yn gweld rhywun sydd yn gaeth i gyffuriau, ond ni fyddant byth yn aros i feddwl—nid ydynt byth yn gofyn pam. Felly, fe wnes i hynny'r penwythnos diwethaf, ac roeddwn i eisiau rhannu hynny gyda chi heddiw, oherwydd mae'n hanfodol, pan fydd menywod yn cael eu hethol i swydd, eu bod yn gwneud y peth iawn ar ran y merched na fydd byth yn cael eu hethol i swydd. Ac mae gwneud y peth iawn yn golygu weithiau adrodd straeon nad yw pobl eisiau eu clywed, a chyflwyno deddfwriaeth a fydd mewn gwirionedd yn gobeithio na fydd y plant hynny yn mynd yn ddioddefwyr yn nes ymlaen mewn bywyd.

Y maes arall yr wyf am ganolbwyntio arno yw gweithgarwch economaidd menywod, ac rydym wedi clywed datganiadau mawreddog am hynny heddiw o'r meinciau eraill.  Dywedodd datganiad hydref 2016 wrthym fod 86 y cant o'r enillion net i'r Trysorlys drwy fesurau treth a budd-daliadau yn dod oddi wrth ferched, ac roedd hynny’n gynnydd o 5 y cant o 2015. Ond mae Llywodraeth y DU wedi parhau i osgoi ei dyletswyddau o dan Ddeddf cydraddoldebau 2016, ac wedi gwrthod cynnal asesiad ar sail rhyw, yn wahanol i Lywodraeth Cymru. Pe byddent yn gwneud hynny, ac o gofio bod y gyllideb yn disgyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, efallai y byddent yn gweld bod y toriadau a wnaethant i'r sector cyhoeddus wedi taro menywod yn benodol 80 y cant—mae 80 y cant o'r holl doriadau hynny wedi taro menywod, ac rwy'n credu ei bod yn amser iddynt gynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud.

Gan fynd ar drywydd gwahanol yma: mis Mawrth yw Mis Hanes Menywod. A beth yw pwynt Mis Hanes Menywod? Wel, mae 50 y cant o'r boblogaeth ond yn meddiannu 0.5 y cant o hanes cofnodedig. Ac mae hynny'n bwysig os yw cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi bod yn agored i'r anghydbwysedd hwnnw fel gwirionedd am werthoedd. Gwn fod rhai Aelodau yma yn y Siambr yn hoffi mynd yn ôl at yr ugeinfed ganrif i wneud eu pwyntiau gwleidyddol, fel pe bai dim wedi digwydd yn y cyfamser. Ond i esbonio'r broblem o 0.5 y cant ar gyfer hanner y boblogaeth, a'i effeithiau ar ein DNA diwylliannol, mae Dr Bettany Hughes yn credu bod angen i ni fynd yn ôl a dechrau yn y cychwyn gyda chynhanes, lle’r oedd y gwrthwyneb yn wir.

Os edrychwch ar yr holl ffigurynnau a wnaed rhwng 40,000 CC a thua 5,000 CC, cyfnod sydd mewn gwirionedd yn gweld blodeuo’r meddwl modern, ar y pryd roedd tua 90 y cant o'r holl ffigurynnau hynny yn fenywod. Felly, mae menywod yn bresennol iawn yn y cofnod archeolegol, ond yna yn dechrau diflannu unwaith y mae cynhanes yn troi’n hanes. Ar enedigaeth cymdeithas wâr, mae gennych setliadau cynhyrchiol a soffistigedig iawn, gyda menywod yn cael statws uchel—roeddent yn uwch offeiriadesau, roedd ganddynt hawliau eiddo, roeddent yn berchen tir, roeddent yn ysgrifennu barddoniaeth. Ond roedd y gwareiddiadau newydd yn awyddus i ehangu, ac roedd angen pŵer cyhyrau i wneud hynny. Ar y pwynt hwnnw, mae’r gymdeithas yn dod yn fwy militaraidd, ac mae’r cydbwysedd o ran grym yn newid. Dyna pryd y gwelsom y newid cwantwm yn hanes y byd, ac rydym yn dechrau canfod duwiau rhyfelwyr pwerus yn ymddangos yn yr archaeoleg, yn ogystal ag yn y chwedlau epig, yn cynrychioli newid gêr yn y modd yr ydym yn adrodd hanes dynoliaeth.

Twf drwy ddulliau milwrol—roedd y cyhyrau’n bwysig, ac mae'n dal yn bwysig. Mae'r status quo hirhoedlog hwn wedi dod yn nodyn sylfaenol i gymdeithas. Yn flaenorol, tra byddid yn mesur llwyddiant drwy oroesiad a meithrin cymuned, ac ansawdd bywyd, mae’n wir, hyd yn oed yn awr, fod ehangu a llwyddiant yn bwysig.  Roedd swyddogaethau menywod yn parhau i leihau, a chollwyd bri cryfderau menywod. Felly, pam ydyn ni'n gwybod am rai merched ond nid am eraill? Wel, os ydych yn meddwl am rai o'r menywod mewn hanes yr ydym wedi clywed amdanynt—rhai fel Cleopatra a Helen o Droea—un o'r rhesymau pam mae’r straeon amdanyn nhw wedi para mor hir yw eu bod yn cael eu portreadu fel menywod rhywiol iawn. Maen nhw'n llawn cyffro, ond mae’r perygl a ddaw o’u dylanwad hefyd wedi dod yn stori foesoldeb wyrdroedig. Rydym yn eu cofio fel rhai a oedd yn hudo dynion i’r gwely ac i’w marwolaeth, neu, mewn diwylliant Judeo-Gristnogol, i golli eu pwer a’u hawdurdod. Yn aml, ni chaiff menywod fod yn gymeriadau dynol unigol mewn hanes—rhaid iddynt fod yn stereoteipiau.

Mae llenyddiaeth hŷn wedi cyfrannu at hynny hefyd. Roedd Cleopatra yn fardd ac yn athronydd. Roedd hi'n hynod o dda mewn mathemateg, ac nid oedd yn arbennig o brydferth. Ond, pan fyddwn yn meddwl amdani, rydym yn meddwl am yr hudoles â bronnau mawr, yn ymdrochi mewn llaeth, gyda pherthynas ryfedd iawn ag asbiaid. Yn aml, hyd yn oed pan fydd menywod wedi gwneud eu marc ac yn cael eu cofio mewn hanes, rydym yn cael fersiwn ffantasi o’u bywydau. Yn awr, wrth gwrs, hyd yn oed os nad ydym yn credu’r pethau hyn mwyach, ac rydym yn cyhoeddi â llais uchel fod dynion a menywod yn gyfartal, sut mae’n dal i effeithio arnom ni gymaint? Sut mae'n dal yn bosibl i unrhyw Aelod o’r Senedd Ewropeaidd—fel y gwnaeth un yr wythnos diwethaf—ddatgan, yn ddiedifar, y dylai menywod gael eu talu yn llai oherwydd ein bod yn llai o faint, yn wannach ac yn llai deallus? Sut y gall fod yn bosibl dweud hynny'r dyddiau hyn? Nawr, mae Dr Hughes yn dweud bod problem wedi bodoli yma am o leiaf 3,500 o flynyddoedd, felly, nid yw'n syndod bod gennym rywfaint o waith ennill tir i'w wneud, oherwydd rydym mewn gwirionedd yn goresgyn cof ffug cyfunol cynhenid.

Mae straeon am fenywod wedi cael eu hanwybyddu mewn hanes yn hytrach na’u cynnwys. Ond mae'r oes yn newid ac rwy’n credu bod gennym fwy o ddiddordeb yn awr yn hanes yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol, yn hytrach na bod yn ddyn neu'n fenyw. Mae'n broblem sydd wedi gwreiddio’n ddwfn iawn a hoffwn yn wir y gallem fod yn siŵr o gael ein hadnabod ar y cyd fel y genhedlaeth a agorodd yn hytrach na chau’r meddyliau, ac a agorodd y straeon hyn, eu rhoi yn ôl ar y dudalen a dechrau ailraddnodi’r cof cyfunol hwnnw, oherwydd do, wrth gwrs, fe wnaeth menywod effeithio ar hanes. Ond mae angen i ni wybod am y peth ac mae'n anodd dathlu neu gydnabod ein llwyddiannau fel menywod, fel y dywed y cynnig, os nad ydym yn gwybod amdanynt. Felly, rwy’n diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am roi rhai enghreifftiau. Mae angen i ni fynd yn ôl i edrych am straeon am fenywod a'u rhoi yn ôl i mewn i'r naratif hanesyddol, yn fyd-eang, yn genedlaethol, ac yn lleol. Wrth gwrs, mae'n fater i raddau helaeth i—. Mae'n rhan o swydd yr hanesydd i lenwi'r bylchau mewn hanes, a dyna pam yr wyf yn meddwl y dylem wrthsefyll unrhyw ymgais i fychanu rôl hanes yng nghwricwlwm newydd Cymru, ond mae angen holi a oes modd ailystyried ei werth. Gadewch i ni ei gael i wneud y peth iawn, Joyce. Gadewch i ni fod yn feiddgar—credaf fod rhywun arall wedi sôn bod angen i ni fod yn feiddgar—wrth ailraddnodi’r cof cyfunol hwnnw fel bod cryfderau menywod yn cael eu gwerthfawrogi ar draws amser ac nid dim ond yn y 100 mlynedd diwethaf. Efallai fod y Natsïaid wedi methu â choncro Ewrop, ond maent wedi gwneud gwaith da iawn o dra-arglwyddiaethu ar ein cwricwlwm hanes, ac rydym yn dal i siarad am gyhyrau a cholli hanner ein hanes ganrif ar ôl y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf. Diolch.

Rwyf yn wirioneddol falch o godi i siarad yn y ddadl hon i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.  Heddiw, fe wnes i a fy nghyd Aelodau Cynulliad Llafur benywaidd ymgynull ar risiau'r Senedd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at ferched o Gymru sydd wedi cael effaith ar fywyd cyhoeddus ledled Cymru.

Efallai eich bod wedi clywed am Benjamin Hall, a oedd yn ddyn o Islwyn, fy etholaeth i, yr enwyd Big Ben ar ei ôl. Ond heddiw, nid wyf yn mynd i siarad am ŵr; rwy’n mynd i siarad am y wraig, ac nid yw hi yn cael ei diffinio ganddo. Gwraig yw hon o'r enw Augusta. Roedd yn fenyw Gymraeg ryfeddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwaraeodd ran ddiwylliannol yn mabwysiadu'r wisg genedlaethol Gymreig sydd bellach yn gyfarwydd fel ein gwisg genedlaethol, rhywbeth y mae pob un ohonom fel gwleidyddion yn gyfarwydd â hi. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, ar Ddydd Gŵyl Dewi yr wythnos diwethaf, roedd merched yn gwisgo’r wisg hon â balchder, ochr yn ochr â'r crysau rygbi, ac ochr yn ochr â'r amrywiaeth o wisgoedd ar hyd a lled Cymru. Mae'r eglwys a'r mandad addysgol a freintiwyd gan Augusta yn Abercarn yn Islwyn yn cael ei hadnabod yn lleol fel yr 'eglwys Gymreig' ac rwy'n falch o ddweud imi briodi ynddi. Mae'n dal i sefyll yn falch ar ochr y dyffryn ac mae i’w gweld ar fathodyn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon. Dros y blynyddoedd, mae miloedd o ddisgyblion wedi dysgu am y cysylltiad hanesyddol a diwylliannol ag Augusta Hall. Mae'n iawn fod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein hannog i ganfod modelau rôl fel Augusta ym mhob un o'n cymunedau wrth i ni barhau i ymdrechu am wir gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob maes o fywyd.

Heddiw, mae Llafur Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n hawdd dweud hynny. Yn y Cynulliad ar hyn o bryd mae gennym ni yn Llafur Cymru, unwaith eto, grŵp cytbwys rhwng y rhywiau, gyda 15 o Aelodau benywaidd allan o 29. Mae hyn yn ganlyniad polisi ac ewyllys, ac nid breuddwyd gwrach ddi-asgwrn-cefn. O ganlyniad i weithredu gan Lafur Cymru, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i fod yn llawer mwy cynrychioliadol o'r boblogaeth na Senedd y DU. A dyna pam mae gennym y ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod sy'n torri tir newydd—y gyntaf yn y DU—ac mae'n ddeddfwriaeth y dylem i gyd fod yn falch ohoni, ac yn gwbl briodol, bob un ohonom yn y Siambr hon.

Rwy’n falch o fod yr ail Aelod Cynulliad benywaidd Llafur Cymru dros Islwyn. Yn blentyn, roeddwn yn angerddol am wleidyddiaeth ac yn edrych am gyfleoedd, yn ddigywilydd, i wasanaethu mewn bywyd cyhoeddus. Fel menyw, roeddwn yn gwybod fy mod yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gyrraedd y nod hwn. Ond heddiw, mae sefyllfa cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru wedi gwella'n fawr. Ond ni sicrhawyd cydraddoldeb rhywiol o hyd. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, llanast pensiynau Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, yn dangos hyn. Rwyf wrth fy modd bod cynyddu nifer y menywod sydd mewn swyddi o rym a dylanwad yn flaenoriaeth i Lywodraeth bresennol Lafur Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn credu bod llawer rhy ychydig o fenywod yn dal i fod mewn swyddi amlwg—yn wahanol i rai yn y Siambr hon—ar draws bywyd cyhoeddus. Mae angen i leisiau menywod gael eu clywed a rhaid i’r cyrff sy’n gwneud penderfyniadau, megis y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae maniffesto Llafur Cymru yn gwneud ymrwymiad i geisio cyflwyno data rhyw gwell ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod o leiaf 40 y cant o'r penodiadau hynny yn fenywod. Ni ddylid bod â chywilydd o hyn.

Ym mis Hydref 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru alwad am dystiolaeth er mwyn cynyddu dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau sy'n cyfrannu at dangynrychiolaeth grwpiau penodol ar fyrddau yn y sector cyhoeddus, a'r mesurau i ymdrin â hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru a gwledydd eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r canfyddiadau i ddatblygu ei hymatebion i dangynrychiolaeth mewn penodiadau cyhoeddus. A’r hyn a ddylai ein pryderu ni i gyd yw’r bwlch cyflog parhaus rhwng y rhywiau. Mae bylchau cyflog yn fater cymhleth a hirsefydlog, ac mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i sbarduno rhai newidiadau. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn mynnu bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn mynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig hynny yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ac mae'n iawn ein bod yn ystyried effaith y mudiad Ewropeaidd o ran sut yr ydym yn symud ymlaen ar ôl Brexit, a'n bod yn diogelu’r rhinweddau hynny ar draws Cymru.

Mae llawer o fenywod mewn cyflogaeth yng Nghymru yn dal i ennill llai na dynion, ac mae hyn oherwydd bod llawer o lwybrau gyrfa benywaidd traddodiadol a menywod yn fwy tebygol o weithio'n rhan-amser na dynion, oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Ac yn olaf, mae'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom yn y Siambr hon a phawb sy’n gwylio ymroi i’w herio. Ni allwn mwyach weld yr unfed ganrif ar hugain yn treiglo ymlaen gyda gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Mae'n staen ar fywyd Cymru ac mae’n rhaid iddo ddod i ben. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau â'r daith anodd hyd nes y byddwn yn cyflawni cydraddoldeb—parch cydradd, cyflogau cydradd, cydraddoldeb cydradd a chymdeithas wir gyfartal ledled Cymru. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael siarad yn y ddadl hon heddiw. Yn wir, mae llawer o fy nghydweithwyr yma wedi fy ysbrydoli i, ac mae'n fraint ymuno â hwy ac eraill yn y Siambr hon.

Gwn fy mod yn sefyll ar ysgwyddau pobl eraill. Mae llawer o fenywod o'n blaenau ni wedi aberthu ac ymladd brwydrau fel y gall menywod gael y bleidlais, mynd i brifysgol, gweithio a dewis sut i fyw eu bywydau. Rydym wedi dod yn bell ers y swffragetiaid megis Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda, ond mae llawer mwy i'w wneud. Fel Aelod newydd, dyma’r cyfle cyntaf i mi ei gael yn y Siambr i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd fel yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, y Fonesig Rosemary Butler. Mae Rosemary yn sicr wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o fenywod eraill yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Fel Llywydd, defnyddiodd ei safle i annog a chefnogi menywod mewn bywyd cyhoeddus. Deallodd fod gweithlu amrywiol yn well i bawb. Mae'n bwysig sicrhau nad yw menywod mewn swyddi uwch yn tynnu’r ysgol i fyny, ond yn dal llaw allan i fenywod eraill.  Gwnaeth ymgyrch Rosemary, sef Merched mewn Bywyd Cyhoeddus, wahaniaeth yn sicr.  Yng Nghasnewydd, trefnodd ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dros nifer o flynyddoedd, gan ddwyn ynghyd menywod o bob cefndir i gyfarfod, dysgu oddi wrth ei gilydd a chael hwyl. Roedd bob amser yn awyddus i gefnogi ac annog menywod i roi cynnig ar rywbeth newydd, i roi cynnig arni a pheidio bod ofn methu, rhywbeth y gwn y bydd yn parhau i’w wneud.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn ymwneud â chydnabod gwerth merched mewn swyddogaethau allweddol, megis gofalwyr cyflogedig a di-dâl. Mae ffordd bell i fynd i ddatrys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac mae'n frawychus yn 2017 y gall eich rhyw effeithio ar faint yr ydych yn cael eich talu. Yn wir, amcangyfrifodd Fforwm Economaidd y Byd na fydd y bwlch cyflog byd-eang rhwng y rhywiau yn cau tan 2186. Mae hyn yn anfaddeuol. Ar hyn o bryd y DU yw’r ugeinfed yn y byd, y tu ôl i Nicaragua, Burundi, Iwerddon, Slofenia a'r Almaen. Gallwn wneud yn llawer gwell.

Nid yw hawliau cyfartal yn frwydr i fenywod yn unig. Roedd fy nhad-cu, a oedd yn of o Lyncorrwg, yn falch o alw ei hun yn ffeminydd. Bu farw bum mlynedd yn ôl pan oedd yn 89, ac roedd yn credu’n llwyr mewn cydraddoldeb ac yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr oedd angen i ddynion ymladd drosto hefyd. Ac rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu hynny, ac mae e'n hyrwyddwr cydraddoldeb.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni fyfyrio a dathlu gwaith gwych a chyflawniadau menywod yn ein cymuned. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cwrdd â menywod sy'n ymgyrchwyr, arweinwyr ac sydd yn cyflawni pethau—menywod dygn, lawer ohonynt yn bwrw ymlaen heb sylweddoli'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud. Y thema eleni yw 'Byddwch yn feiddgar ar gyfer newid', a, dim ond tri mis wedi mynd ers cychwyn 2017, rydym eisoes wedi gweld merched yn gorymdeithio ar strydoedd ledled y byd i brotestio’n heddychlon yn erbyn gwleidyddiaeth ymrannol. Gallwn weld o'r iaith atgas ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn menywod nad yw’r frwydr dros gydraddoldeb ar ben. Mae'n rhaid i ni wynebu'r heriau hynny a phrofi'r datblygiadau a wnaed.

Mewn sawl rhan o'r byd, ni fydd menywod yn dathlu. Yn wir, efallai y byddant yn brwydro i oroesi’r diwrnod. Mewn gwledydd fel Syria, Irac a Nigeria, mae merched yn wynebu trais rhywiol fel arf rhyfel. Rydym yn clywed sut, mewn rhai gwledydd, mae menywod a merched yn cael eu gorfodi i briodi, eu cam-drin yn rhywiol a’u treisio gan eu gwŷr honedig a'u gwerthu i bobl eraill. Mae hefyd yn gyfle i feddwl am y ffoaduriaid hynny sydd wedi teithio cannoedd o filltiroedd i chwilio am ddiogelwch, lawer ohonynt yn famau, yn cael eu gorfodi i gario eu plant o un parth perygl i'r nesaf. Ymddengys bod brwydrau yr oeddem yn meddwl oedd wedi eu hennill yn plygu yn y gwynt. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd, yn dathlu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni ac yn cymryd camau beiddgar ar gyfer newid.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi dod yn achlysur o bwys yn y calendr cydraddoldeb ac mae'n dda gweld ei fod yn llwyddo i gael sylw cadarnhaol ac eang yn y cyfryngau a’i fod yn tanio cymaint o drafodaeth ar y mater hwn. Bydd tynnu sylw at anghydraddoldeb a chyflwyno'r dystiolaeth lwyr sy'n bodoli i ddangos sut mae menywod yn dal i gael eu trin yn annheg yn hwyluso newid ystyrlon.

A gaf i droi at rai o'r cyfraniadau gan Aelodau yn y Siambr heddiw? Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei darn meddylgar, darn lleol iawn i’w hetholaeth. Mae'r bobl y soniodd amdanynt—côr merched y Fflint, y RainbowBiz, Val o'r apêl pabi, Vicky Perfect—ceidwad allwedd castell y Fflint—yna, yn wir, Viv Williams yn y Siambr heddiw, o Enwau ar Gerrig. Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, Hannah, fy mam, am ei bod hefyd o Delyn, felly hoffwn i wneud hynny'n glir iawn.

Cyfraniadau eraill yn y Siambr heddiw—siaradodd Leanne Wood, unwaith eto, yn agored iawn am y dathliad, ond hefyd ystyriodd gydraddoldeb rhywiol o gwmpas y byd, ac rwy'n ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus. Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud yw nad yw hwn yn fait accompli. Mae’r dewisiadau o newid i herio pleidlais yn nwylo pob un ohonom, gan gynnwys arweinwyr o fewn y Siambr hon a'r holl Aelodau, ac rwy'n ddiolchgar am ei chyfraniad.

Cododd Michelle Brown rai materion diddorol. Rhaid i mi ddweud, dim ond un rhan o'r drafodaeth nad oeddwn yn cytuno’n hollol â hi—ei chyfraniad ar gydberthynas iach. Nid wyf yn cytuno â hynny, oherwydd ceir cysylltiad llwyr rhwng cydberthynas iach a lles unigolyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn falch iawn o fod yn gweithio arno gyda'r Gweinidog addysg o ran y rhaglen lwyddiannus honno ar gyfer y dyfodol .

A gaf i droi at welliannau heddiw? Byddwn yn cefnogi gwelliant 1, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ystod o gamau gweithredu, gan gynnwys amrywiaeth ym myrddau'r sector cyhoeddus—nid dim ond menywod, ond pob grŵp sy’n cael ei dangynrychioli—ac rydym yn gwybod nad ydym yno eto ond mae cynnydd yn cael ei wneud. Yfory, bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf 'Pwy sy'n Rhedeg Cymru?' a bydd yn amlygu'r ffaith bod rhai sectorau—er enghraifft, y GIG—wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran cael rhagor o fenywod i swyddi uwch. Serch hynny, rwy’n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud, yn enwedig mewn llywodraeth leol.

Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, i gydnabod bod bwlch cyflog gwirioneddol rhwng y rhywiau yng Nghymru, fel ag sydd yng ngweddill y DU. Byddwch yn ymwybodol mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod; efallai na fydd rhai ohonoch yn gwybod bod heddiw, 7 Mawrth, wedi cael ei frandio fel Diwrnod Cyflog Menywod. Dyma'r diwrnod pan fydd y fenyw gyffredin sy’n cael ei thalu yn y DU yn dechrau cael tâl sy’n cymharu â'r dyn cyffredin. I bob pwrpas, mae menywod yn gweithio 66 diwrnod cyntaf y flwyddyn am ddim. Ni all hynny fod yn iawn. Mae anghydraddoldeb cyflog yn fater cymhleth ac mae’r dyddiau pan oedd swyddi yn cael eu hysbysebu gyda chyfraddau cyflog gwahanol i ddynion a menywod wedi hen fynd, ond mae'r bwlch cyflog yn parhau. Dim ond drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb cyflog y gallwn obeithio ei ddileu. Rydym yn mynd i'r afael â'r problemau mewn nifer o feysydd, ac, fel y soniais yn gynharach, mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, gwahanu galwedigaethol a diffyg gofal plant fforddiadwy.

Lywydd, gan symud at welliant 4, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 4 heddiw, sy’n ymwneud â chydberthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion. Cytunaf yn llwyr â chyfraniad yr Aelod Plaid Cymru mewn cysylltiad â chydberthynas iach mewn ysgolion ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n gweithio arno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a gyhoeddodd fod panel o arbenigwyr cydberthynas iach wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael ag anghenion ac i gefnogi ysgolion i ddarparu addysg cydberthynas iach gynhwysol o ansawdd da. Byddai'n anghywir i achub y blaen ar y gwaith hwnnw, ond byddwn yn dod yn ôl i'r Siambr i drafod ymhellach gyda chydweithwyr ynghylch canlyniad hynny.

I ddod yn ôl at ffocws y ddadl heddiw, Lywydd, mae'n ymwneud â dathlu cyfraniad menywod i fywyd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Ein swyddogaeth, fel Llywodraeth, yw sicrhau bod menywod yn cael yr un cyfleoedd â dynion i gyflawni eu potensial llawn. Dim ond rhai o'r miliynau o fenywod a merched o Gymru yr hoffwn ddweud diolch wrthynt—diolch i bobl fel Hannah Blythyn, Dawn Bowden, Jayne Bryant, Rebecca Evans, Lesley Griffiths, Vikki Howells, Jane Hutt, Julie James, Ann Jones, Eluned Morgan, Julie Morgan, Lynne Neagle, Rhianon Passmore, Jenny Rathbone, Joyce Watson, Sian Gwenllian, Bethan Jenkins, Elin Jones, Leanne Wood, Angela Burns, Suzy Davies, Janet Finch-Saunders, Michelle Brown, Caroline Jones a Kirsty Williams. Gymrodyr, daliwch i fod yn eofn, a gadewch i ni adeiladu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gwell. Dylai cydraddoldeb fod yn flaenllaw ym mhob Llywodraeth a phopeth y mae Llywodraeth yn ei wneud ac ni ddylem golli golwg ar hyn byth. Diolch yn fawr. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar welliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Gwelliant 2—na? Iawn. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar welliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 3 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, iawn, diolch. Byddwn yn dychwelyd at bleidleisio ar hynny ar yr adeg pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd yn awr, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy’n bwriadu symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

8. 7. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn i’r cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar yr ail gyllideb atodol a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, dim ymatal, 26 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 27, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6236.

Trown yn awr at bleidlais ar adroddiad blynyddol Estyn a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, dim ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6246.

Symudwn at bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, dim ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni chaiff y gwelliant ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6246.

Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 3, yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 53 o blaid, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6246.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 53, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6246.

Cynnig NDM6246 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

2. Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

3. Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 53, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6246 fel y’i diwygiwyd: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6246 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn i bleidlais ar welliant 4 ar y ddadl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, dim ymatal, yn erbyn y cynnig 33. Felly, ni chaiff gwelliant 4 ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 20, Yn erbyn 33, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6247.

Cynnig NDM6247 as amended:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

2. Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

5. Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 52, un yn ymatal, dim un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig fel y'i diwygiwyd ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6247 fel y’i diwygiwyd: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6247 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:15.