Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd: Penodi Prif Weithredwr a Chlerc Newydd y Cynulliad

Fel y gwyddoch, mae Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Claire Clancy, wedi penderfynu ymddeol, yn dilyn bron ddegawd yn ei swydd. Y clerc yw’r swydd uchaf yn y Comisiwn, a deiliad y swydd yw’r prif swyddog cyfrifyddu. Cyfrifoldeb Comisiwn y Cynulliad yw’r penodiad yma, a, thros y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnal proses recriwtio drylwyr a chystadleuol i ganfod olynydd i Claire. Roeddem am chwilio am unigolyn eithriadol, a daeth ymgeiswyr cryf i’r fei.

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi penodiad Manon Antoniazzi yn brif weithredwr a chlerc nesaf ein Cynulliad. Mae gyrfa Manon yn un nodedig, a daw â phrofiad helaeth ar adeg pan fo heriau a chyfleoedd newydd yn ein hwynebu. Manon yw cyfarwyddwr presennol diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth Llywodraeth Cymru, a hi, gynt, oedd prif weithredwr Croseo Cymru. Yn gynharach yn ei gyrfa, bu’n gweithio yn y BBC, ac S4C, a hefyd gyda Thywysog Cymru. Mae’r comisiynwyr yn sicr y bydd Manon yn dod â sgiliau a brwdfrydedd mawr i’r rôl, ynghyd ag ymrwymiad angerddol i lwyddiant y Cynulliad hwn.

Mae perfformiad Comisiwn y Cynulliad yn effeithio’n uniongyrchol ar lwyddiant ac enw da’r Cynulliad. Yn sgil hynny, rydym yn dibynnu ar y prif weithredwr i arwain mewn modd arloesol ac effeithiol, a chynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf. Diolch i Claire a’n staff ymroddedig a dawnus, ystyrir y Comisiwn yn sefydliad uchel ei barch, a edmygir gan seneddau eraill. Bydd Claire yn parhau yn ei swydd tan y Pasg, ac yna bydd Manon yn cymryd yr awenau yn ystod y cyfnod heriol, cyffrous nesaf yn natblygiad democratiaeth Cymru. Diolch.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Ac, felly, symudwn ni ymlaen i’r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, sef cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ac rwy’n galw ar y cwestiwn cyntaf—Janet Finch-Saunders.

Morlyn Llanw yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision economaidd posibl morlyn llanw yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0114(EI)

Gwnaf. Mae potensial gan forlyn llanw yng ngogledd Cymru i greu cryn dipyn o swyddi yng ngogledd Cymru. Ac rydym wedi datgan ein hymrwymiad cyson, mewn egwyddor, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiant môr-lynnoedd llanw cynaliadwy ledled Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n siŵr y buasech yn cytuno â mi y dylid croesawu adolygiad Hendry, a’r gefnogaeth gadarnhaol ynddo i ddatblygiadau môr-lynnoedd llanw ar draws Cymru. I ni yng ngogledd Cymru, buasai prosiect o’r fath yn darparu diogelwch hanfodol rhag llifogydd, yn darparu cyflogaeth sylweddol a chyfle ar gyfer mewnfuddsoddi economaidd, ac yn cyfrannu tuag at helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy. Mae nifer o randdeiliaid eisoes wedi addo eu cefnogaeth, ac rwy’n falch eich bod yn addo eich cefnogaeth mewn egwyddor. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn addo eu cefnogaeth i dechnoleg môr-lynnoedd llanw yng Nghymru. Ond a wnewch chi gefnogi hynny hefyd, os gwelwch yn dda, gydag ymrwymiad i ddarparu’r cyllid y bydd ei angen ar gyfer gwireddu’r prosiect?

Wel, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect, a byddaf yn cyfarfod â Charles Hendry yn ddiweddarach y prynhawn yma i siarad am y prosiect braenaru yn arbennig, a fuasai’n arwain yn y pen draw at greu morlyn llanw yng ngogledd Cymru. Mae’n brosiect a allai greu 27,000 o swyddi ar gyfer economi gogledd Cymru. Buasai hefyd, fel y nododd yr Aelod, yn cyfrannu at amddiffyn cymunedau arfordirol, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n peri llawer iawn o bryder i Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhywbeth y siaradais yn ei gylch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn ddiweddar iawn. Felly, rydym yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r prosiect hwn. Rydym yn gefnogol ac wrth gwrs, fe fyddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gyda’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod y sgiliau yno ar gyfer cyflwyno’r prosiect mewn modd amserol, pe bai’n mynd yn ei flaen.

Un amlygiad o economi las Cymru yw môr-lynnoedd llanw, economi sydd hefyd yn cwmpasu pysgota a dyframaeth, a thwristiaeth a hamdden yn ogystal ag ynni. Mae gan Gymru fantais gref yn y maes hwn o gymharu â gwledydd eraill nad oes ganddynt yr un arfordir a chyrhaeddiad llanw uchel. Pa flaenoriaeth fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i economi las Cymru yn y strategaeth economaidd newydd, a pha gamau y gall eu cymryd i sicrhau bod cwmnïau, mawr a bach, yn gallu manteisio ar y cyfle hwn?

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn, a diolch iddo hefyd am ddarn craff iawn ar ei wefan, yn ymwneud â’r economi las. Rwy’n credu ei bod yn amserol iawn ein bod yn sôn am y pwnc hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer 2018, a ddynodwyd yn Flwyddyn y Môr. Ac i’r diben o chwyddo niferoedd ymwelwyr, wrth gwrs, bydd yr economi las yn gynyddol bwysig.

O ran cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli, rydym wedi ymrwymo i fanteisio ar bob prosiect seilwaith economi las mawr ar draws Cymru, gan gynnwys prosiect braenaru morlyn llanw Bae Abertawe, yn amodol, wrth gwrs, ar sicrhau’r caniatadau angenrheidiol. Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr fod cymunedau arfordirol yn manteisio, nid yn unig ar fentrau megis Blwyddyn y Môr, ond hefyd ar brosiectau seilwaith mawr, a bod y gadwyn gyflenwi o amgylch Cymru, ac yn enwedig mewn cymunedau arfordirol, yn gallu manteisio ar y cyfleoedd mawr hynny ar gyfer twf economaidd.

Mi oedd hi’n braf clywed Charles Hendry yn briffio Aelodau’r Cynulliad amser cinio, ac un o’r pwyntiau roedd e’n ei wneud wrth gwrs, yw mai’r argymhelliad ganddo fe nawr bod oedi ar ôl datblygu’r prosiect cyntaf er mwyn dysgu nifer o’r gwersi. Mae rhywun yn deall pam byddai hynny yn fanteisiol, ond mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth y byddai hynny efallai yn achosi problemau i’r gadwyn gyflenwi newydd rydym yn gobeithio ei ffurfio a’i datblygu o gwmpas y project yn Abertawe. A, thra’i fod e’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos cynllun tymor hir o safbwynt prosiectau mawr, mae e hefyd yn awgrymu bod angen edrych ar gyfres o brosiectau llai er mwyn cynnal y gadwyn gyflenwi yna yn yr interim, nes ein bod ni’n cyrraedd y pwynt lle gallwn ni fod yn hyderus i symud ymlaen gyda nifer o brojectau mwy. Felly, a gaf i ofyn pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adnabod y potensial am gyfres o brosiectau llai o gwmpas arfordir Cymru, er mwyn sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yna yn cael y cynaliadwyedd a’r sicrwydd tymor canol y mae ei angen er mwyn goroesi yn y tymor hir?

Mae pwynt yr Aelod yn un pwysig iawn, ac rwyf wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i gael ffrwd gyson o fuddsoddiadau seilwaith mawr, ond un sydd hefyd yn cynnwys buddsoddiadau llai yn rhan o’r gymysgedd fel bod modd cynnal pobl a chyflogaeth wrth aros neu bontio o un prosiect mawr i’r llall. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, gyda darparwyr sgiliau, a chyda busnesau, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu nodi ffrâm amser ar gyfer cyflawni prosiectau mawr, ond hefyd un sy’n sicrhau, rhwng y prosiectau mawr, ein bod yn gallu nodi cyfleoedd i gwmnïau dyfu a ffynnu o brosiectau ar raddfa lai.

Un o’r materion allweddol y byddaf yn tynnu sylw atynt y prynhawn yma gyda Charles Hendry, ac mae’n rhywbeth y mae’r Aelod eisoes wedi ei grybwyll, yw pa mor hir y rhagwelir y bydd y rhaglen fraenaru’n para, oherwydd fel y mae’r Aelod yn gywir i ddweud, bydd yn arwain at sgil-effeithiau, nid yn unig ar brosiect bae Abertawe, ond hefyd ar brosiectau môr-lynnoedd llanw ledled Cymru.

Twf Busnesau

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â thwf busnesau yng Nghymru? OAQ(5)0111(EI)

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r Cabinet yn ehangach, i drafod ystod o faterion economi a seilwaith yn fy mhortffolio, gan gynnwys, wrth gwrs, twf busnes.

Diolch am hynny, oherwydd fel y byddwch yn cydnabod, mae datblygu a thyfu busnes yn yr hinsawdd heddiw yn anos nag erioed ac mae perchnogion busnes yn cyfeirio at nifer o broblemau sy’n rhwystr i dwf eu busnesau—mae diffyg benthyca a chyfalaf strwythuredig gan y sector bancio yn un. Fodd bynnag, mae llawer yn siarad am y rhwystrau o gyfeiriad yr awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, yn amrywio o Cyfoeth Naturiol Cymru i’r seilwaith trafnidiaeth. Mae cynllunio’n allweddol, ac rwy’n cydnabod nad chi a’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sy’n gyfrifol am hynny. Ond yr hyn rwy’n ceisio’i ganfod mewn gwirionedd yw ymdeimlad fod yna strategaeth gydlynol o gwmpas bwrdd y Cabinet sy’n annog ac yn grymuso busnesau i ffynnu. Mae’r economi yn hollbwysig i ni. Beth arall y gellid ei wneud yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau nad yw oedi anamserol, diffyg gweledigaeth a meddwl di-drefn yn y gwasanaethau cyhoeddus yn amharu ar dwf ein hiechyd economaidd?

Hoffwn ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd hon, rwyf wedi ymgymryd â nifer o gyfleoedd ymgysylltu â’r gymuned fusnes, ac mae’r pwyntiau a nododd yr Aelod heddiw wedi cael eu mynegi wrthyf ar sawl achlysur. Am y rheswm hwnnw, bûm yn ymwneud yn uniongyrchol ac yn adeiladol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn y gwaith o ddrafftio’r Papur Gwyn, a fydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir, ar lywodraeth leol. Ac rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol i ni gydnabod bod yna rwystrau sy’n dal i fodoli sy’n atal twf economaidd. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i bob adran yn y Llywodraeth fynd ati’n ffurfiol i ddrafftio cynllun cystadleurwydd a all danio twf economaidd yn y sector preifat.

Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd eich rhagflaenydd ardaloedd menter fel modd o fynd ati i dyfu’r economi mewn ardaloedd penodol ledled Cymru, a’r llynedd, cyflwynodd ardal fenter ym Mhort Talbot. Beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch cyd-Aelodau i sicrhau y gellir ymestyn y lwfansau cyfalaf uwch y tu hwnt i’r amser a roddwyd i ni eisoes, fel y gellir sefydlu’r ardal fenter, sy’n mynd i gymryd sawl blwyddyn i ymsefydlu fel y gŵyr pawb ohonom, yn hytrach na blwyddyn yn unig? Dywedodd wrthyf hefyd mewn trafodaethau rhyngom fod angen lwfansau cyfalaf i adeiladu’r safleoedd a thyfu gofod, sef troedfeddi sgwâr nad oes gennym mohonynt mewn mannau eraill yng Nghymru, er mwyn caniatáu i fusnesau ddod i mewn a’u defnyddio, gan eu galluogi i dyfu.

Mae hwn yn un o’r pwyntiau a gafodd eu dwyn i fy sylw gan Chris Sutton ar sawl achlysur yn ystod, unwaith eto, y rhaglen ymgysylltu a gefais gyda busnesau. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cydnabod bod llawer o’r safleoedd a adeiladwyd i ddenu buddsoddwyr yn awr yn cyrraedd pwynt lle y mae angen buddsoddi’n helaeth ynddynt neu adeiladu rhai newydd. Felly, mae’n mynd i fod yn agwedd gynyddol bwysig o’r strategaeth ffyniannus a diogel, wrth i ni symud ymlaen at y cyfnod ôl-Brexit.

Rwy’n credu hefyd o ran ardaloedd menter a’r gefnogaeth y gallasom ei darparu drwy ardrethi busnes, eisoes rydym wedi gallu cefnogi 200 o fusnesau gydag oddeutu £9 miliwn o gyllid drwy’r cynllun. Ond mae yna ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru weithredu fel galluogydd twf economaidd a thwf busnesau, ac wrth gwrs, mae darparu safleoedd modern addas i’r diben yn un o’r ffyrdd y gallwn annog twf economaidd a ffyniant.

Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae cynigion i ddatblygu cylchffordd Cymru wedi bod yn cylchredeg ers peth amser. Hyd yn hyn, mae’r tîm prosiect wedi methu codi’r arian angenrheidiol ar gyfer y prosiect. A fuasech yn gallu amlinellu pa ddatblygiadau a gafwyd yn ddiweddar?

Fel yr Aelod, rwy’n pryderu bod prosiect cylchffordd Cymru wedi cael ei drafod yn gyhoeddus ers blynyddoedd lawer heb fod y tîm eto wedi gallu codi’r cyllid preifat sy’n angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r prosiect. Mae’r cynigion wedi newid, wrth gwrs, dros y blynyddoedd, ers 2011. Fis Gorffennaf diwethaf, dywedais yn glir beth yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Nodais yn glir yn y Siambr ein bod angen i’r sector preifat ysgwyddo o leiaf 50 y cant o’r cyfalaf a 50 y cant o risg y prosiect. Pe bai hynny’n digwydd, byddwn yn ystyried unrhyw gynnig newydd yn erbyn y profion gwerth am arian a diwydrwydd dyladwy priodol. Mae pobl Glynebwy, fel y mae’r Aelod eisoes wedi nodi, yn haeddu cael gwybod a yw’r prosiect hwn yn mynd i ddigwydd, ac os ydyw, pa bryd, sy’n hollbwysig. Rwy’n awyddus i osgoi’r costau cyfle sy’n gysylltiedig â phrosiect heb ddyddiad cwblhau terfynol. Felly, ysgrifennais at gorfforaeth datblygu Blaenau’r Cymoedd heddiw, yn gofyn iddynt wneud cynnydd cyflymach ar y prosiect hwn ac yn gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth i mi o ddogfennau amodau buddsoddwr a enwir o fewn y pythefnos nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, cafodd fy nghyd-bleidwyr a minnau ein condemnio’n hallt am fynegi ein cred ddiffuant, a adleisiwyd gan lawer o weithwyr dur, fod angen gwella’r pecyn presennol o gynigion a gafwyd gan Tata yn sylfaenol i’w wneud yn deg ac yn dderbyniol i’r gweithwyr. Felly braf oedd gweld fel pennawd yn y ‘Llanelli Star’ yn gynharach yr wythnos hon y llun hwn o’r AC dros Lanelli a’r AS dros Lanelli, o dan y pennawd, ‘Leading Llanelli politicians tell Tata Steel: “Re-think pension deal”‘. Nawr, dywedodd AS Llafur Llanelli am gynigion Tata fod gan weithwyr dur bob hawl i fod yn ddig a mynegodd ei gobaith nad yw’n rhy hwyr hyd yn oed yn awr, ychydig ddyddiau cyn y bleidlais, i Tata edrych eto a chynnig bargen well, er ein bod wedi clywed y ddadl, wrth gwrs, gan rai ar feinciau Llafur nad oes unrhyw ddewis arall. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Amddiffyn fod gweithwyr yn iawn i fod yn ddig a bod angen i Tata ailfeddwl ei gynigion ar frys?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y dylai gweithwyr fod yn bryderus ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur, ond nid yw gwleidyddoli’r hyn sy’n fater eithriadol o sensitif yn gwneud unrhyw ffafr â neb. Nid yn aml y byddaf yn cytuno ag arweinydd yr wrthblaid, ond rwy’n meddwl ei fod yn iawn i drydar nad oedd unrhyw le i ymhonni gwleidyddol yn yr hyn sy’n ddadl hynod o bwysig am bensiynau, a allai bennu cynaliadwyedd hirdymor y diwydiant dur yn sgil hynny. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r Aelod dros Lanelli wedi’i ddweud yn adlewyrchu’r pryder, nid yn unig yn y Siambr hon, ond yn y cymunedau ehangach lle y mae dur mor bwysig, y dylai fod y cynnig gorau posibl i weithwyr dur ar y bwrdd ar gyfer eu pensiynau, ond dyma’r unig gynnig sydd yno ar hyn o bryd, ac mae’r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir iawn yn ein barn y dylai’r ddadl gael ei chynnal heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol o gwbl.

Rhoddais gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet yno i gefnogi ei aelodau ei hun—aelodau ei blaid ei hun—sydd ond yn gwneud eu gwaith, mewn gwirionedd, ac rwy’n eu cefnogi yn yr hyn y maent wedi ei ddweud mewn gwirionedd. Rydym ninnau wedi dweud yr un peth—nid yw’r cynnig hwn yn ddigon da ac yn wir, dylai ddefnyddio ei safle, a safle Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd i gael cynnig diwygiedig. Nawr, yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth ddiwydiannol ei hun, y Papur Gwyrdd. A gafodd ef yr un faint o syndod â mi wrth weld mai un waith yn unig y cyfeiriwyd at ddur mewn dogfen 132 tudalen o hyd?

I fod yn deg, roedd yna rai meysydd sy’n cynnig cyfleoedd i Gymru, felly a fydd yn cynnig dur fel un o’r meysydd ar gyfer cytundeb sector? A fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y cynnig o fforwm gweinidogol ar y cyd ar strategaeth ddiwydiannol? A yw’n croesawu’r ymrwymiad i symud sefydliadau diwylliannol a chyrff y Llywodraeth, gan gynnwys cyrff ymchwil, y tu allan i Lundain i gefnogi datblygiad economaidd? A yw’n croesawu’r ymrwymiad hirddisgwyliedig gan Lywodraeth y DU i ystyried yr anghydbwysedd rhanbarthol presennol o ran buddsoddi yn y seilwaith wrth wneud penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol?

Roeddwn yn falch o allu siarad yn helaeth â Greg Clark ddydd Llun cyn cyhoeddi’r strategaeth. Roeddwn yn cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y byddai cydgadeiryddiaeth y fforwm yn rhywbeth y buaswn yn ei ddymuno. Siaradais gydag ef hefyd am gytundeb penodol ar gyfer y sector dur—mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn ystod yr wythnosau nesaf.

Roeddwn yn synnu cyn lleied o gyfeirio at ddur a geir yn y strategaeth. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud yn glir fy mod yn dymuno gweld dur yn dod yn elfen bwysig o waith y strategaeth ddiwydiannol wrth symud ymlaen. Rwyf hefyd yn awyddus—mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod yn awyddus—i ddatganoli lle bynnag y bo’n bosibl. Felly, pa un a yw’n ymwneud â buddsoddi neu arloesedd, hoffwn weld mwy o gyfleoedd yn cael eu rhoi i gwmnïau y tu allan i’r ardaloedd trefol iawn lle y lleolir sefydliadau ariannol a chyrff arloesi yn draddodiadol.

Wrth gwrs, yn aml, mae’n rhy hawdd ymosod ar Lywodraeth y DU, ac weithiau maent yn ei wneud yn rhy hawdd i ni, ond mae rhai pethau y gallwn eu dysgu yma, yn sicr. Mae ganddynt strategaeth o leiaf. Chwe mis yn unig a gymerodd i’r weinyddiaeth newydd gynhyrchu strategaeth ddiwydiannol. Ble mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru a addawyd i ni ym mis Mehefin? A yw’r gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu? Pa bryd y cawn weld drafft? A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gydraddoli buddsoddiadau seilwaith rhwng y rhanbarthau? Mae yna fwlch 5:1 rhwng de-ddwyrain Lloegr a Chymru; mae yna fwlch 3:1 rhwng de-ddwyrain Cymru a fy rhanbarth i. A wnaiff ymrwymo i leoli Awdurdod Refeniw Cymru y tu allan i’r de-ddwyrain? Mae’n dda gweld y penderfyniad ar fin digwydd ar Gylchffordd Cymru, ond a fydd prosiectau buddsoddi eraill y tu allan i’r de-ddwyrain sydd wedi bod yn gorffwys ar ei ddesg weinidogol, fel Yr Egin yng ngorllewin Cymru, yn gweld penderfyniad yn cael ei wneud o’r diwedd fel y gallwn fwrw rhagom i greu buddsoddiad a swyddi y tu allan i un cornel o Gymru?

Rwy’n credu y dylai’r Aelod ystyried yr hyn a ddywedodd ei gyd-Aelod ddoe ynglŷn â sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ddilyn a’i gyflawni’n drylwyr—mae’n gwbl hanfodol. Felly, boed yn Yr Egin neu unrhyw brosiect arall, rydym yn cyflawni diwydrwydd dyladwy yn hytrach na rhuthro ar frys i mewn i fuddsoddiad nad yw efallai’n cynnig y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr.

O ran strategaeth Llywodraeth y DU, er bod yr Aelod efallai’n dymuno anwybyddu’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn bodoli, ni fyddwn yn anwybyddu’r ffaith honno. Un o’r negeseuon a fynegwyd yn glir gan fusnesau ar hyd a lled Cymru tra bûm yn ymgynghori â hwy dros gynnwys a gweledigaeth ein strategaeth yw bod angen i ni ystyried yr hyn y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn ei olygu i Gymru. Ni allem fod wedi cynhyrchu strategaeth nad oedd yn ystyried elfennau allweddol gweledigaeth Llywodraeth y DU, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio.

Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod busnesau bach yn hanfodol bwysig, wrth gwrs, i economi Cymru. Ond rhaid i mi ddweud nad yw busnesau bach wedi cael y sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Datganolwyd ardrethi busnes ers peth amser, ac mae busnesau’n dal i fod o dan anfantais sylweddol o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr—yn wir, maent yn crefu am gymorth. O gofio y bu gostyngiad o 26 y cant yn nifer y busnesau newydd ers 2011, a ydych yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi’r diogelwch sydd ei angen arnynt i ddarpar entrepreneuriaid a busnesau drwy godi gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach o 1 Ebrill eleni?

Wel, o ran rhyddhad ardrethi busnes, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth sydd yn nwylo fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond yr hyn rwy’n falch yn ei gylch yw bod y cynllun yn mynd i gael ei ymestyn ar gyfer 2017-18, a bydd cynllun parhaol newydd yn bodoli o 2018 ymlaen. Rydym eisoes yn darparu oddeutu £98 mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau yn 2016-17. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi, oherwydd eich bod wedi cymharu’n uniongyrchol â Lloegr, fod oddeutu 70 y cant o fusnesau yn gymwys i gael rhyddhad, ac nid yw oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Wel, mae busnesau Cymru eisoes ar eu colled o gymharu â’u cystadleuwyr yn Lloegr a’r Alban. Mae Lloegr a’r Alban eisoes wedi codi lefelau rhyddhad ardrethi busnesau bach yno. Ar ben hynny, model hybrid o Cyllid Cymru yw’r banc datblygu yr ydych yn ei gynnig—yn wir, hwy a ddarparodd yr achos busnes. Nawr, gwelais enghraifft yr wythnos diwethaf pan euthum i ymweld â busnes. Roedd eu gwerth ardrethol wedi codi. Buasent wedi cael rhyddhad ardrethi pe baent yn Lloegr—nid ydynt yn ei gael am eu bod yng Nghymru. Ar ben hynny, gwnaethant gais i Cyllid Cymru am gyllid—yn wir, eisteddodd Cyllid Cymru o amgylch y bwrdd a’u helpu i lenwi’r ffurflen gais—ac eto, fe’i gwrthodwyd. Felly, fe ddywedaf hyn: sut y mae eich Llywodraeth yn mynd i ddarparu sicrwydd a diogelwch i’r busnesau hynny? Er bod eich Papur Gwyn yn ymwneud â’r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael y farchnad sengl, nid oedd yn cynnig unrhyw gynllun addas ar gyfer busnesau bach yn benodol yn ystod y trafodaethau i adael yr UE. Nawr, gofynnwyd hyn i chi unwaith heddiw, ond rwy’n ei ofyn eto: ble mae eich strategaeth ddiwydiannol yn hyn o beth?

Bydd y strategaeth ffyniannus a diogel, sy’n ffurfio rhan o bedair strategaeth drawsbynciol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i’r Prif Weinidog, ynghyd â’r tair strategaeth arall, y gwanwyn hwn. Byddant yn cael eu cyhoeddi gyda’i gilydd, a thrwy bob un o’r pedair, rwy’n credu y bydd yr Aelodau’n gallu gweld bod modd gweu themâu ac ymyriadau ar draws y sector cyhoeddus, addysg ac iechyd yn ogystal â’r economi. Rydym yn byw mewn cymdeithas, ac rydym yn byw mewn amgylchedd, lle y mae blaenoriaethau economaidd yn aml yn cyd-fynd yn berffaith â blaenoriaethau meysydd eraill y Llywodraeth, ac mae’n hanfodol felly nad ydym yn llunio strategaeth ar gyfer yr economi sydd ar wahân i strategaethau eraill, ond ein bod yn ei wneud gyda’i gilydd. Ac mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn awyddus i fynd ar ei drywydd. Felly, erbyn y gwanwyn, byddwn wedi cyflwyno ein gwahanol strategaethau i’r Prif Weinidog—rydym eisoes yn cyfarfod fel cyd-Aelodau Cabinet i gytuno ar y cynnwys. Nid yw’n bosibl i mi wneud sylwadau am y mater unigol a gododd yr Aelod ynglŷn â Cyllid Cymru. Fodd bynnag, hoffwn ddweud y buaswn yn falch o fynd ar drywydd hyn ar ei ran ond iddo ysgrifennu ataf. Fe af ar ei drywydd yn uniongyrchol gyda Cyllid Cymru hefyd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn gwneud hynny ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Mae strategaeth ddiwydiannol y Prif Weinidog wedi nodi y bydd buddsoddiad sylweddol yn mynd tuag at ymchwil a datblygu, a hyfforddiant, fel bod ein gweithlu’n barod i wynebu’r heriau a ddaw yn sgil arloesedd. Yn wir, mae’n nodi y dylem

greu’r amodau cywir er mwyn i fentrau newydd a mentrau sy’n tyfu allu ffynnu, yn hytrach na diogelu safle’r rhai sydd yno’n barod.

Nawr, yng Nghymru, rhaid i ni ystyried hefyd beth yw goblygiadau Pwerdy Gogledd Lloegr, sydd wedi cael £4.7 biliwn yn ychwanegol erbyn 2020-21 mewn cyllid ymchwil a datblygu drwy ei gronfa fuddsoddi. A buaswn yn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, i fy nghwestiwn olaf fe ateboch ynglŷn â chael strategaeth gydgysylltiedig, ac rwy’n cytuno â’r safbwynt hwnnw. Ond buaswn yn gofyn: oni fuasai wedi bod yn well cael strategaeth i fynd gyda’r Papur Gwyn a gyflwynwyd gennych yr wythnos hon?

Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol, o ran Pwerdy Gogledd Lloegr, fod y cytundeb twf yng ngogledd Cymru yn plethu’n berffaith gyda’r dyheadau a’r weledigaeth sydd gan awdurdodau lleol a’r partneriaethau menter lleol ar draws y ffin. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi dweud yn eithaf clir y buaswn yn y pen draw yn rhagweld strwythur pwyllgorau ar y cyd sy’n croesi’r ffin o bosibl. Dyna fuasai’r amcan yn y pen draw o ran yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn economi dwyrain-gorllewin yn y gogledd. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol fod awdurdodau lleol, wrth iddynt symud o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i strwythur pwyllgorau ar y cyd, yn cydnabod bod cynnal busnes gyda phartneriaid ym mhob man, nid yn unig o ran tyfu’r economi, ond hefyd o ran cyflawni gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwella trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwbl hanfodol.

Diolch, Lywydd. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer y metro ac edrychaf ymlaen at ei weithrediad. Fodd bynnag, a allai amlinellu’n union pa welliannau strwythurol penodol y bydd y metro yn eu gwneud i un o fy etholaethau, sef Torfaen?

Wel, byddwn yn buddsoddi dros £700 miliwn yn y metro, a bydd hyn yn arwain at welliannau enfawr i seilwaith ac i brofiad teithio llawer iawn o gymudwyr ar draws de-ddwyrain Cymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod yr Aelod wedi gallu mynychu’r cyfarfod briffio yr wythnos diwethaf ar fasnachfraint nesaf y rheilffyrdd, a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth am y metro fel y caiff ei gyflwyno a chyda gwasanaethau newydd yn dechrau yn 2023, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol fod pob rhan o dde-ddwyrain Cymru sydd wedi teimlo’n ynysig, ar wahân ac ar y cyrion yng nghyd-destun twf economaidd yn y blynyddoedd diwethaf yn teimlo’u bod wedi eu grymuso drwy orsafoedd a seilwaith newydd, ac mae hynny’n cynnwys yn Nhorfaen, lle rwy’n edrych yn ofalus iawn ar ba welliannau i’r seilwaith presennol a seilwaith newydd y gellir eu cyflwyno fel rhan o’r weledigaeth ar gyfer y metro.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond rwy’n deall bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi addo tua £11 miliwn i’r prosiect. A yw’n teimlo o ddifrif fod y lefel hon o fuddsoddiad yn rhoi gwerth da am arian, o ystyried yr hyn y mae newydd ei amlinellu?

Wel, awdurdod lleol bach yw Torfaen; rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ac felly er y gallai £11 miliwn ymddangos yn swm bach fel rhan o’r darlun mawr, pan fyddwn yn sôn am fwy na £700 miliwn, mewn gwirionedd, i awdurdod lleol bach, i gyngor cymharol fach, mae £11 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol ac rwy’n teimlo ei fod yn dangos ymrwymiad i weledigaeth y credaf ein bod yn ei chefnogi ar draws y Siambr.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond a gaf fi ei annog, efallai, i wneud rhai gwelliannau i’r seilwaith yn Nhorfaen? Er enghraifft, mae gorsaf reilffordd Pont-y-pŵl a New Inn yn arbennig o anneniadol: mae’n oer, mae’n dywyll ac mewn gwirionedd, mae gryn dipyn o ffordd y tu allan i’r dref. Felly, a fyddai o leiaf yn ystyried uwchraddio’r cyfleusterau yng ngorsaf Pont-y-pŵl a New Inn, neu’n wir, yn ystyried ei symud yn nes at gytref Pont-y-pŵl?

Fe ystyriaf unrhyw brosiect yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan Network Rail sy’n darparu gwell gwerth am arian a gwell profiad i deithwyr. Rwy’n credu efallai fod yr Aelod yn ymwybodol o’r ystadegyn hwn—mae’n eithaf syfrdanol—fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy yn y cyfnod rheoli cyfredol yn y seilwaith rheilffyrdd na’r rhai sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny’n siarad cyfrolau am ymroddiad y Llywodraeth hon i wella’r rhwydwaith rheilffyrdd ac i sicrhau bod Cymru’n dod yn wlad fwy unedig a chysylltiedig.

Rôl Twristiaeth Ffydd

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl twristiaeth ffydd? OAQ(5)0107(EI)

Gwnaf. Mae Croeso Cymru yn parhau i hyrwyddo safleoedd ffydd a threftadaeth grefyddol fel rhan o’r cynnig treftadaeth yn gyffredinol. Bydd ein Blwyddyn y Chwedlau yn canolbwyntio’n fawr iawn ar bob agwedd ar dreftadaeth Cymru.

Mae hynny’n galonogol. Dylai safleoedd twristiaeth ffydd, megis Abaty Nedd, ac agweddau eraill ar dreftadaeth Ffordd y Sistersiaid, fod yn atyniad enfawr i ymwelwyr, o’r wlad hon ac o dramor, ac yn enwedig o’r Unol Daleithiau. Y llynedd, lansiwyd cynllun gweithredu twristiaeth ffydd i ddatblygu twristiaeth ffydd fel rhan o’r cynnig ehangach hwnnw i ymwelwyr. Sut rydych yn mesur ei lwyddiant, ac a allwch ddweud eto ei fod yn perswadio ymwelwyr i aros yn hwy a gwario mwy, ar safleoedd ac oddi arnynt?

Fe allwn os edrychwn yn benodol ar y safleoedd y byddwn yn mesur niferoedd ymwelwyr arnynt. Felly, er enghraifft, gyda safleoedd Cadw sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr. Ac o ran y gwariant cysylltiedig, unwaith eto rydym wedi gweld cynnydd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, gydag eiddo Cadw yn Nhyndyrn a Glyn y Groes ac Ystrad Fflur, rhyngddynt, maent wedi denu mwy na 84,000 o ymwelwyr. Nawr, o ran y cynllun gweithredu twristiaeth ffydd, wrth gwrs, mae’n ddyddiau cynnar iawn o ran cyflawni’r cynllun gweithredu hwnnw, ond mae Croeso Cymru—ac rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig iawn fod Croeso Cymru yn aelodau o’r fforwm newydd ei sefydlu a ddeilliodd o grŵp gorchwyl a gorffen y cynllun gweithredu twristiaeth ffydd, am ei bod yn hanfodol, o ran diogelu treftadaeth adeiladau ffydd yn y dyfodol, fod gennym y cyfrwng hyrwyddo allweddol yno, yn cynnig cyngor a hefyd yn cynnig parodrwydd i hyrwyddo rhai o nodweddion allweddol yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i bob cwr o’r byd.

Yr wythnos diwethaf, cefais ymweliad gan etholwr sydd â diddordeb mewn hybu twristiaeth ffydd ac a oedd mewn gwirionedd yn creu gwefan i wneud hynny ar gyfer ardal de Cymru. Roedd gan Iwerddon brosiect arwyddocaol ar Sant Padrig a’r dreftadaeth Gristnogol. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried prosiect tebyg ar Ddewi Sant ac a wnaiff y Llywodraeth hefyd ystyried polisi i warchod safleoedd allweddol a marchnata’r safleoedd hyn ar draws y byd?

Ie, rydym eisoes yn gwneud hynny gyda’r adran twristiaeth ffydd ar wefan Croeso Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld gormodedd o wefannau a thudalennau gwe ar yr un pynciau yn y bôn, ac yn lle hynny, ein bod yn gallu cyfeirio ymwelwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy am dwristiaeth ffydd at byrth allweddol. At y diben hwnnw, rwy’n mynd i annog yr Aelod yn ei dro i annog ei etholwyr i wneud yn siŵr fod unrhyw un sy’n creu gwefan ar ganolfan dreftadaeth unigol neu luosog neu atyniad treftadaeth i ymwelwyr yn cyfeirio pobl at wefan Croeso Cymru, lle y gallant ddysgu mwy nid yn unig am yr hyn a geir yn yr ardal leol agos iawn, ond ledled Cymru. Trwy Cadw, rydym wedi gallu datblygu cynllun dehongli treftadaeth ar gyfer Cymru gyfan—y cyntaf o’i fath yn Ewrop—ac mae’n dangos sut rydym wedi ymrwymo i gyfleu hanfod cynnig diwylliannol ar gyfer Cymru gyfan a’i hyrwyddo ar draws y byd. O ran y canlyniadau—ac mae’r Aelod yn sôn am yr angen i hyrwyddo ein safleoedd yn well ar draws y byd—o ran ymwelwyr rhyngwladol, roedd yn flwyddyn well nag erioed y llynedd ac un o’r ffactorau allweddol sydd wedi denu ymwelwyr i Gymru yw safleoedd twristiaeth ffydd. Rwy’n argyhoeddedig y bydd hynny’n parhau yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.

Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi

4. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau tagfeydd yng nghanol trefi? OAQ(5)0115(EI)

Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi’r ymyriadau yr ydym yn eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â thagfeydd a darparu dewisiadau cynaliadwy yn lle defnyddio ceir.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei fod yn newyddion da iawn fod cyngor Caerdydd wedi lansio cynllun yn ddiweddar i gael cymudwyr i gerdded neu feicio? Lluniwyd y cynllun gyda help o Copenhagen ac arbenigwyr yno sydd wedi datblygu strategaeth feicio lwyddiannus iawn yno. Y targed yw cael cymudwyr yn y ddinas allan o’u ceir erbyn 2021—a 60 y cant erbyn 2026. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r fenter hon gan Gaerdydd ac yn meddwl ei bod yn newyddion da iawn i’r ddinas?

Rwy’n croesawu’r fenter gan gyngor dinas Caerdydd yn fawr. Mae gennym gryn bellter i fynd cyn i ni ddal i fyny gyda rhai o’r gwledydd Sgandinafaidd, ond rydym ar y llwybr cywir. Yr allwedd i lwyddiant yw newid ymddygiad a diwylliannau pobl. Am y rheswm hwnnw, rwy’n arbennig o falch ein bod yn buddsoddi yn y fenter Teithiau Llesol, sy’n gweithredu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, hyd yma, mae oddeutu 232 o ysgolion ar draws y wlad wedi bod yn rhan o’r cynllun penodol hwnnw ac mae mwy na 30 ohonynt yng Nghaerdydd. Mae’r cynllun yn bwysig am ei fod yn creu newid canfyddiad a newid yn ymddygiad pobl ar gam cynharach. Gydag ailgylchu a’r newid mewn ymddygiad sydd wedi mynd law yn llaw ag ailgylchu, os gallwch argyhoeddi pobl ifanc i wneud pethau’n wahanol, gwyddom y byddant hwy yn eu tro yn argyhoeddi oedolion a rhieni.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym hefyd yn mynd i ryddhau £2 filiwn ar gyfer addysg diogelwch ar y ffyrdd. Bydd yr Aelod yn gwybod, gan ei fod ym maniffesto Llafur Cymru, ein bod wedi ailddatgan ein hymrwymiad i wella hyfedredd beicio, ac mae’r gronfa hon wedi ei chynllunio i wneud hynny.

Efallai y bydd yr Aelod yn gwybod hefyd fy mod yn cyllido cydgysylltwyr y cynllun teithio ledled Cymru, sydd â’r dasg o weithio gyda chyflogwyr yn eu hardaloedd i annog staff i ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth, neu’n wir i gerdded, lle nad oes angen car. Ategir hyn gan gynnig Her Teithio Cymru, sy’n ceisio annog cymudwyr, unwaith eto, i newid o’u ceir i fathau eraill o drafnidiaeth neu gerdded ar gyfer teithiau byr.

Cyfarfûm â’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, y llynedd mewn perthynas â system traffig unffordd y Trallwng, a Chyngor Tref y Trallwng hefyd. Cytunwyd ar y pryd y buasai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o waith i asesu’r opsiynau o droi Brook Street yn ôl o fod yn system draffig unffordd i system ddwyffordd er mwyn lleddfu’r problemau parhaus yn y dref. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am hyn.

Buaswn yn hapus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu nodi adnoddau ychwanegol i ddatrys problemau pwyntiau cyfyng ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru. Ond rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, lle y gallwn nodi atebion i dagfeydd mewn trefi, ein bod yn eu rhoi ar waith yn gyflym. Felly, buaswn yn barod iawn i edrych ar y cynnig penodol ar gyfer y Trallwng, a fydd, os gallwn wneud cynnydd arno, yn ategu’n fawr y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn y Drenewydd hefyd gyda’r ffordd osgoi yno.

Rwy’n datgan buddiant gan fy mod yn gyrru ar y ffyrdd hyn ac rwy’n aelod o gyngor Caerdydd. Rwy’n ei chael hi’n anhygoel fod Julie Morgan yn siarad am gynlluniau i leihau tagfeydd ar y ffyrdd a hithau’n cefnogi cynllun difa lleol Caerdydd, a fuasai’n rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y gallwch oleuo’r cyhoedd, ac egluro iddynt efallai, sut y mae cynllun datblygu lleol sy’n rhoi o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd yng ngorllewin y ddinas yn mynd i leihau tagfeydd, gan fod adeiladu ar gaeau gwyrdd, fel y bwriadwch ei wneud—a ydych yn mynd i ddweud nad yw’r bobl hynny’n mynd i yrru i mewn i dref? Hollol anhygoel.

Nid wyf yn credu y dylai’r Aelod anrhydeddus fod mor feirniadol o’i gyd-Aelodau yn y Siambr. Ond y pwynt pwysig i’w wneud am Gaerdydd yw ein bod yn cyflwyno un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol yn unman yng ngorllewin Ewrop ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar ffurf y metro. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylid ei gymeradwyo ac mae’n rhywbeth a fydd yn cyfrannu’n aruthrol at dynnu ceir oddi ar ein ffyrdd. Rwyf hefyd yn edrych ar ffyrdd arloesol eraill o gefnogi’r rhwydwaith bysiau. Efallai fod yr Aelod yn gwybod fy mod wedi cynnal yr uwchgynhadledd bysiau yng ngogledd Cymru yr wythnos hon—er ei fod yn ddigwyddiad ar gyfer Cymru gyfan; unwaith eto, rwy’n awyddus i ddatganoli ble bynnag y gallaf—ac roedd honno’n edrych ar sut y gallwn greu rhwydwaith bysiau mwy cynaliadwy ledled Cymru sy’n annog pobl i symud o’u ceir preifat a mynd ar fysiau. Rydym yn gwybod bod yna 101 miliwn o deithiau’n cael eu gwneud ar y bws bob blwyddyn, ond mae’r nifer wedi gostwng yn y cyfnod diweddar. Mae nifer y bobl sy’n teithio ar lwybrau masnachol wedi gostwng, ac ar yr un pryd mae’r defnydd o gludiant cymunedol wedi cynyddu. Heb rithyn o amheuaeth, mae lle i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau, ac mewn ardaloedd trefol iawn megis canol dinas Caerdydd, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn edrych i weld sut y gallwn annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau.

Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl

5. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl? OAQ(5)0116(EI)

Rydym yn gwbl ymroddedig i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl sy’n cael gwared ar rwystrau i deithio, sy’n grymuso pobl ac sy’n hybu byw’n annibynnol, yn hytrach na’i lesteirio. Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn grymuso grwpiau agored i niwed i gymryd rhan ym mywyd y gymdeithas, a dyna yw un o gonglfeini ‘Symud Cymru Ymlaen’.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i gynyddu rôl cludiant cymunedol yn y dyfodol, fel rhan o’r gymysgedd o drafnidiaeth sydd ar gael? Yr wythnos diwethaf, ymwelais â VEST a gweld ei fod wedi’i lethu gan geisiadau gan bobl yn gofyn am help i fynd i ganolfannau dydd ac i apwyntiadau meddyg, ac roedd yn ymddangos i mi fod yna rôl allweddol i gludiant cymunedol yn y dyfodol. Felly, pa gynlluniau sydd ganddo?

Fel yr wyf newydd ei ddweud wrth Neil McEvoy, rwy’n meddwl bod cludiant cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o fewn y cymysgedd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio cludiant cymunedol yn y cyfnod diweddar. Rwyf o’r farn fod trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl arbennig o bwysig i bobl sy’n methu defnyddio bysiau neu drenau confensiynol neu sydd ag anghenion iechyd penodol. Rwyf am i’r sector cludiant cymunedol fod yn rhan o’r ateb ar gyfer fy nghynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhewi a chynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn, sydd ar gael i drafnidiaeth gymunedol, ac rwy’n falch iawn fod y gronfa’n cael ei defnyddio gan lawer o’r gweithredwyr o gwmpas Cymru.

A gaf fi ganmol Julie Morgan am dynnu sylw at fater cludiant cymunedol? Oherwydd ar gyfer y bobl fwyaf anabl—sydd fwyaf agored i niwed ac yn lleiaf tebygol o wneud unrhyw fath o daith—mae cludiant cymunedol yn hanfodol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud fod llawer o arloesi wedi bod tan oddeutu 10 mlynedd yn ôl pan newidiodd y system grantiau rywfaint, ac nid yw wedi cael ei datblygu gyda’r un math o gyflymder ag y gwelwn gyda gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, boed yn rhai gwirioneddol neu arfaethedig. Ond mae yna ffyrdd o ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn modd arloesol ac effeithiol iawn, ond maent yn galw am lefel eithaf uchel o gymhorthdal, ac rwy’n meddwl bod y bobl hyn yn haeddu’r math hwnnw o gymorth gan y gweddill ohonom.

Ni allwn gytuno mwy. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddarpariaeth sy’n grymuso, ac y dylai pob unigolyn yn y gymdeithas ddisgwyl cael mynediad at ffurfiau ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd o ansawdd da. Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod fy mod wedi sefydlu grŵp hygyrchedd i roi cyngor i mi ar y fasnachfraint newydd ar gyfer y rheilffyrdd, ond hefyd gall y grŵp fy nghynghori ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus megis cludiant cymunedol. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod, unwaith eto, fel rhan o’r system gwbl integredig honno, y bydd cludiant cymunedol yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws y cymunedau, nid yn unig mewn ardaloedd mwy trefol ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes unrhyw atebion eraill ar gael yn aml.

Y farn gyffredinol ydy bod y cerbydau sy’n cael eu defnyddio gan y fasnachfraint drenau bresennol yng Nghymru o safon wael. Mi fydd angen buddsoddiad sylweddol ynddyn nhw er mwyn gwella ansawdd y stoc sy’n effeithio’n negyddol ar brofiadau teithwyr. Ond, yn ogystal â hynny, erbyn 1 Ionawr 2020, mi fydd angen i’r cerbydau gydymffurfio â’r rheolau newydd ar fynediad ar gyfer pobl anabl. Yn ôl yr arolwg diweddaraf, ni fyddai 73 y cant o gerbydau Cymru a’r gororau yn cyrraedd y safon ofynnol. A ydych chi’n hyderus bod modd i 100 y cant o gerbydau’r fasnachfraint Cymru a’r gororau newydd gyrraedd y safonau hynny erbyn 2020?

Mae’n hanfodol fod y PRM 2020 yn cael ei fodloni gan weithredwyr y fasnachfraint newydd. Mae’r pedwar cynigydd yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau sy’n rhaid iddynt eu bodloni erbyn 2020. Gan ein bod ynghanol proses drafod gystadleuol gyda’r cynigwyr ar hyn o bryd, ni allaf ddatgelu unrhyw fanylion am yr hyn y maent yn ei gynnig, ond gallaf sicrhau’r Aelod ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu system drafnidiaeth sydd nid yn unig yn cynnig trafnidiaeth gyflym, ddibynadwy ar gyfer y bobl fwyaf abl, ond sydd yno hefyd ac yn gallu bodloni pob un o’r mesurau cyfredol yn ogystal â’r mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos.

O ran hygyrchedd i ddefnyddwyr rheilffyrdd, rwyf wedi crybwyll y grŵp hygyrchedd a sefydlwyd i roi cyngor ar y fasnachfraint nesaf ac rwyf hefyd wedi gofyn am gytundeb—ac mae wedi cael ei roi—pob un o’r pedwar cynigydd i’r grŵp hwnnw gysylltu’n uniongyrchol â hwy ynglŷn â sut y gallant gyflawni’r rhwymedigaethau a fydd yno yn 2020.

Prosiectau Seilwaith Critigol (Gogledd Cymru)

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith critigol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0105(EI)

Gwnaf. Fel y nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, rydym yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i foderneiddio seilwaith trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Grid Cenedlaethol i archwilio sut y gellid defnyddio trydydd croesiad ar draws y Fenai i gludo pŵer o Wylfa Newydd i’r grid cenedlaethol.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi bod yn bryderus iawn ers peth amser ynglŷn â pha mor agored yw’r seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd i lifogydd, yn enwedig o gwmpas ardal Hen Golwyn. Wrth gwrs, cafodd Llywodraeth Cymru adnoddau ychwanegol, adnoddau cyfalaf, o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU y llynedd—£400 miliwn ychwanegol. Pa waith yr ydych yn ei wneud gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i sicrhau bod y seilwaith allweddol hwnnw—yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru—yn cael ei amddiffyn yn ddigonol rhag y môr? Oherwydd rydych chi a minnau’n gwybod bod yr amddiffynfeydd hynny rhag y môr wedi cael eu difrodi’n sylweddol yn y storm ychydig wythnosau’n ôl. Maent yn cael eu pwyo bob tro y ceir llanw uchel gyda gwyntoedd tua’r tir ac rwy’n bryderus, yn bryderus iawn yn wir, os na fydd rhywbeth yn digwydd yn fuan, y bydd rhyw fethiant trychinebus yn digwydd a allai arwain at golli bywyd.

Roeddwn yn falch o gyfarfod â’r Aelod ddydd Llun yng Nghyffordd Llandudno i drafod cynnig y morlyn llanw ac yn ystod y drafodaeth, soniwyd am y posibilrwydd y gallai morlyn amddiffyn cymunedau arfordirol mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn fy mod yn parhau i weithio gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet i ddod o hyd i atebion sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r trethdalwr.

O ran Hen Golwyn, mae’r Aelod yn hollol iawn; mae hwn yn brosiect arbennig o gymhleth sy’n cynnwys nifer o adrannau’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, os yw Cyngor Conwy yn dymuno cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect sydd angen cyllid, buaswn yn fwy na pharod i’w ystyried.

Mynediad Pobl Ifanc at Drafnidiaeth

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad pobl ifanc at drafnidiaeth? OAQ(5)0113(EI)

Gwnaf. Rwy’n dal yn awyddus iawn i gael cynllun etifeddol wedi i’r mytravelpass cyfredol ddod i ben ar 31 Mawrth. Mae fy swyddogion wedi cael trafodaethau calonogol gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chydffederasiwn y gweithredwyr bysiau. Rwy’n obeithiol y byddaf yn gallu cadarnhau manylion y rhaglen olynol yn fuan iawn.

Diolch. Mae hynny’n galonogol, gan fy mod yn siomedig iawn nad oedd y cynllun mytravelpass yn mynd i gael ei barhau, yn enwedig gan mai un o’r rhesymau a roddwyd i’r cyfryngau oedd mai ar gyfer teithio’n lleol yn unig yr oedd pobl ifanc yn ei ddefnyddio, er na ddylai hynny fod yn fawr o syndod, yn fy marn i, yn achos rhai 16 a 17 oed. Fy mhryder yw y bydd pobl ifanc yn cael eu hatal rhag cael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau ieuenctid. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch am weithio gydag awdurdodau lleol a’r cydffederasiwn trafnidiaeth bws, ond fy mhrofiad i yn lleol, yn bendant, yw bod gwasanaethau bws yn cael eu torri oherwydd y pwysau cyllido ar awdurdodau lleol. Hoffwn wybod pa werthusiad a wnaethoch o’r cynllun hwn a pha benderfyniadau a’ch arweiniodd i benderfynu dod ag ef i ben.

Dylwn nodi wrth yr Aelod mai cynllun peilot oedd hwn, ac felly, roedd yn rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho. Ac rydym wedi dysgu oddi wrtho. Y ffaith amdani yw nad oedd y nifer a fanteisiodd ar y cynllun mor uchel ag y buasem wedi’i ddymuno, a dyna pam rwy’n awyddus iawn i’r rhaglen olynol gyrraedd mwy o bobl ifanc ar draws Cymru. Rwy’n credu bod oddeutu 10,000 o bobl ifanc wedi manteisio ar gynllun mytravelpass; hoffwn weld y rhif hwnnw’n cynyddu’n helaeth gyda’r cynllun sydd i ddod, a gobeithiaf ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.

Teithiau Cerbydau o amgylch Casnewydd

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gasglu mannau cychwyn a chyrchfannau’r 43 y cant o deithiau cerbydau o amgylch Casnewydd o lai na 20 milltir? OAQ(5)0104(EI)

Rydym wedi cynnal arolygon ar ymyl y ffordd ac arolygon cerdyn post ar groesfannau’r Hafren, ac rydym hefyd wedi gwneud defnydd arloesol o dechnoleg ffôn symudol i ddeall teithiau a wneir yng Nghasnewydd a’r cyffiniau.

Byddai’n amlwg yn ddiddorol iawn i bob un ohonom weld hyn, oherwydd, yn amlwg, mae’n wybodaeth hanfodol os ydym yn mynd i gael y newid moddol gan bobl gyda’r buddsoddiad y gobeithiwn y byddwn yn ei wneud yn y metro. Yn amlwg, ceir toreth o dystiolaeth na fydd pobl yn newid oni bai bod amseroedd teithio’n gwella a/neu fod eu teithiau’n costio llai. Roeddwn yn meddwl tybed a allwch ddweud unrhyw beth arall am hynny, o ystyried bod y wybodaeth gennych chi ac nad yw gennym ni.

Gallaf. Mae’r Aelod yn hollol gywir. Bydd data a gasglwyd gan gerbydau o ran darganfod o ble y daethant a’u cyrchfannau yn ein galluogi i ddeall sut y mae pobl yn symud o gwmpas y rhanbarth. Bydd y data a gasglwyd yn rhan o brosiect yr M4 yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y metro, a hynny’n briodol, oherwydd mae angen gweledigaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y datblygiad metro. Mae gwerthiant tocynnau rheilffyrdd a data arall o ddiwydiant hefyd yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth wrth gynllunio ymyriadau trafnidiaeth, a bydd yn llywio’r achos busnes a’r gwaith o gynllunio cam 2 y metro yn ogystal.

Cynhyrchiant Economi Cymru

9. Pa fesurau sydd yn eu lle i wella cynhyrchiant economi Cymru? OAQ(5)0109(EI)

Rydym yn datblygu amrywiaeth o fesurau er mwyn cynyddu cynhyrchiant yng Nghymru, gan gynnwys codi lefelau sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a chefnogi arloesedd hefyd.

Rwy’n credu bod sgiliau’n allweddol i gynhyrchiant, ac un maes sy’n aml yn cael ei anwybyddu yw sgiliau rheoli, yn enwedig rheolaeth ganol. Mae llawer o dystiolaeth fod hwnnw’n sector allweddol, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac efallai fod angen buddsoddi mwy o fenter yno i gael y rheolaeth o’r ansawdd gorau y gallwn ei chael.

Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac rwy’n credu bod hwn yn bwnc y mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi bod yn ei ystyried yn ofalus iawn yn ddiweddar. Trwy wasanaeth Busnes Cymru, gallwn ddarparu gwasanaeth mentora sy’n cynyddu argaeledd cyngor sgiliau ar draws y gymuned fusnes. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i ddweud bod sgiliau’n hanfodol ar gyfer hybu gwelliant mewn cynhyrchiant. Fel rhan o’r gwaith ar y strategaeth ffyniannus a diogel, rydym wedi bod yn gweithio ar amrywiannau cynhyrchiant is-ranbarthol, a’r hyn a welsom yw bod dosbarthiad sgiliau anffafriol yn bendant yn ffactor allweddol yn y cyfraddau cynhyrchiant is. Gwelsom hefyd fod dwysedd is o weithgaredd, neu ddiffyg crynhoad os mynnwch, hefyd yn nodwedd, sy’n egluro pam y mae cyfraddau cynhyrchiant yn tueddu i fod yn uwch mewn dinasoedd mwy o faint.

Felly, mae amryw o resymau pam nad yw cynhyrchiant mor uchel ag y buasem yn dymuno, ond gan fod gennym y sylfaen dystiolaeth yn awr i allu bwrw ymlaen â strategaeth, rwy’n argyhoeddedig y bydd y strategaeth yn gallu cyflawni ar ddyhead a rennir ar draws y Siambr hon i wella cyfoeth a ffyniant Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch yn gynharach fod Adam Price wedi dyfynnu o’r ‘Llanelli Star’ yr wythnos hon, a oedd yn adrodd yn ffyddlon yr hyn a ddywedais yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Ers hynny, mae Nia Griffith—yr AS dros Lanelli—a minnau wedi gohebu ymhellach gyda gweithwyr dur yn ein hetholaeth, ac mae gennym bryderon gwirioneddol fod y cynnig, sydd ond yn bosibl oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, yn wynebu pleidlais i’w wrthod. A fuasai’n adleisio fy mhryderon wrth gadeirydd Tata y gallai’r cytundeb hwn gael ei golli oni bai bod newidiadau pellach yn cael eu gwneud, ac y bydd yr effaith ar gynhyrchiant a chyfoeth economi Cymru yn sylweddol? A fuasai hefyd yn cytuno bod galw am gynnig gwell, a galw am wrthod y cynnig, yn gwbl wahanol, oherwydd buasai hynny’n anghyfrifol?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith y gallai annog pobl i bleidleisio yn erbyn cynnig—fel y mae Plaid Cymru wedi ei wneud—arwain at fethiant y diwydiant dur. Nid yw hynny o fudd i neb, pa un a ydych yn gyflogedig fel gweithiwr dur, neu’n byw mewn cymuned neu’n perthyn i weithiwr dur, fel yr wyf fi.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y cwestiwn cyntaf, Nathan Gill.

Rhaglen Wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhaglen wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0109(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Adroddodd y bwrdd iechyd yn erbyn y cerrig milltir a nodwyd o dan y fframwaith gwella ym mis Tachwedd y llynedd, ac roedd yn tynnu sylw at gynnydd da. Rwy’n disgwyl gweld cyflawniad y canlyniadau gwella angenrheidiol yn parhau ac yn cael ei gynnal cyn y gallaf ystyried ei dynnu o’r categori mesurau arbennig.

Diolch i chi am yr ateb. Cefais e-bost gan rywun yn Hen Golwyn a oedd yn pryderu am y ffaith fod eu meddyg teulu yn awr yn ymddeol, ac mae 1,200 o’r cleifion yn mynd i gael eu dosbarthu ymhlith gwahanol feddygfeydd. Nawr, mae’n ymddangos i mi mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw meddwl yn greadigol am broblem meddygon teulu sy’n ymddeol, a dod â rhai ohonynt yn ôl o ymddeoliad o bosibl, neu bobl sy’n mynd i fod yn ymddeol, gan eu hannog i barhau ar sail ran-amser. Un o’r prif rwystrau i hyn yw’r ffaith y gall yswiriant indemniad amrywio rhwng £5,000 a £40,000 y flwyddyn i feddyg teulu. Gall Llywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a gweld a allant ddod o hyd i ffordd greadigol i gynorthwyo meddygon teulu i dalu’r costau hyn er mwyn iddynt allu cyflenwi dros feddygon teulu ar y rota?

Diolch am y cwestiwn. Mae amrywiaeth o bethau yr ydym eisoes yn siarad amdanynt gyda meddygon teulu a’r gymuned gofal sylfaenol ehangach—mae hynny’n cynnwys yr hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn dewis ymddeol; y modd y mae gan gleifion fynediad di-dor at wasanaeth gofal sylfaenol priodol; a’r math o ymyriadau y gall y bwrdd iechyd eu cyflawni os nad ydynt yn gallu rheoli proses bontio lefn i bractis arall a pharhau. A dweud y gwir, yr hyn a ddylai fod yn destun cysur i’r Aelodau yw na fu unrhyw doriad yn y ddarpariaeth yn yr un o’r achosion lle yr ymddeolodd rhywun a dychwelyd eu contract, daethpwyd o hyd i bractisau newydd i bob claf fynd iddynt, ac mae’r bwrdd iechyd ei hun wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth gofal sylfaenol priodol.

Rwy’n cydnabod y mater penodol a nododd yr Aelod am yswiriant indemniad. Mae’n rhywbeth yr ydym yn cael sgyrsiau gweithredol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yn ei gylch, ac rwy’n obeithiol y gallwn ddod o hyd i ateb yn y dyfodol agos.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o’r pryderon sydd wedi’u mynegi ynghylch cyflymder y cynnydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, yn enwedig o ran y cynnydd i ymdrin â rhai o’r heriau iechyd meddwl yn y rhanbarth. Yn dilyn sgandal Tawel Fan, yn gwbl briodol, gosododd y Llywodraeth y bwrdd iechyd o dan weithdrefn mesurau arbennig, ac un o’r rhesymau y gwnaeth hynny oedd oherwydd ei fethiant i roi sylw i bryderon ynglŷn â materion iechyd meddwl. Fodd bynnag, cafwyd oedi o chwe mis cyn i’r gwaith dilynol a addawyd yn sgil Tawel Fan ddechrau mewn gwirionedd. O ganlyniad i hynny yn awr, rydym yn llithro i mewn i gyfnod hwy. Dywedwyd wrthym y buasai’r gwaith wedi ei orffen erbyn mis Mawrth; yn awr rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i bobl aros tan yr haf fan lleiaf. Nid oes neb wedi’i ddwyn i gyfrif am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhawel Fan. Mae yna bobl sy’n dal i fod wedi’u gwahardd dros dro ar gyflog llawn, er mawr syndod i drethdalwyr yn y rhanbarth. Pa bryd y gallwn ddisgwyl gweld y newid mawr yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, fel y gall pobl fod yn hyderus eu bod o ansawdd uchel? Ni cheir unrhyw strategaeth iechyd meddwl eto. Cyfarwyddwr gofal iechyd meddwl sylfaenol a chymunedol dros dro yn unig sydd gennym. Mae’r rhain yn bethau a ddylai fod wedi digwydd yn gyflym er mwyn i bobl allu troi cefn ar y gorffennol ac edrych ymlaen at y dyfodol.

Rwy’n meddwl bod yna ddwy ran benodol i’r sylwadau y mae’r Aelod yn eu nodi. Mewn gwirionedd, mae yna gyfarwyddwr gwasanaethau iechyd meddwl parhaol, ac mae’n arwain y ffordd ar ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Felly, dros y misoedd nesaf, fe fyddwch yn gweld gwaith ar y strategaeth iechyd meddwl newydd, sydd ei hangen yn bendant, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl yn un o’r heriau mwyaf sylweddol y mae’r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn y dyfodol, ac mae’n debyg mai dyma’r un a fydd yn cymryd y cyfnod hiraf o amser i’w ddatrys yn iawn. Mewn sawl ffordd, dyna pam ein bod wedi nodi hyd yr amser y disgwyliwn i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig. Rwy’n credu mewn gwirionedd fod y cyfarwyddwr newydd wedi cael effaith sylweddol, ond mae’n bwysig fod hynny’n parhau ac yn cael ei gynnal.

Mae’r ail bwynt y credaf eich bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ymchwiliad sydd ar y gweill. Gwnaeth y bwrdd iechyd y peth iawn mewn gwirionedd yn mynd at y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwiliad priodol ac annibynnol, a’r hyn sydd wedi digwydd yw bod yr ymchwiliad hwnnw wedi ymestyn ac ehangu. Wrth iddynt fynd drwodd, mae mwy o deuluoedd wedi cysylltu â hwy a mwy o gyfweliadau wedi eu cynnal. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent eisoes wedi gorfod adolygu 300,000 o dudalennau o ddogfennau ac mae yna ragor o bobl sy’n dal i fod angen eu cyfweld. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf yw rhoi digon o amser i wneud hyn yn iawn, ac nid wyf am osod unrhyw derfynau amser artiffisial ar gyfer amserlenni a allai beryglu trylwyredd a digonolrwydd yr adroddiad y byddwn yn ei gael yn y pen draw. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod y byddai o fudd i bawb pe gellid ymdrin â’r mater hwn hyd yn oed yn fwy prydlon a chyflym o safbwynt ffrâm amser. Mae yna bobl a fydd eisiau gwybod beth ddigwyddodd, o’r teuluoedd a’r unigolion eu hunain i aelodau staff sydd ynghlwm wrth hyn hefyd. Mae’n fanteisiol i bawb ohonom fod hyn yn digwydd yn gyflym; fodd bynnag, ni ddylai cyflymder yr ymchwiliad beryglu canlyniad a chadernid yr ymchwiliad yn y pen draw. Ond rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â beth rwy’n disgwyl iddynt ei wneud. Mae angen i ni feddwl hefyd ynglŷn â goruchwylio a llywodraethu hyn. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwy’n gobeithio y buasai’r Aelodau’n cefnogi ac yn cydnabod hynny.

Mae’r bwrdd iechyd, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig nawr ers blwyddyn a hanner, ac rydw i’n cytuno â llawer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r problemau sydd yn bodoli. Ond a fyddech chi’n cytuno â fi bod yna rai materion llawer mwy sylfaenol sydd angen mynd i’r afael â nhw ac a fyddech chi’n cytuno bod angen i dri pheth penodol ddigwydd i’r perwyl hynny? Un yr ydym ni wedi clywed amdano fe yw bod angen mwy o ddoctoriaid a nyrsys er mwyn ateb y galw. Yr ail bwynt, wrth gwrs, yw bod angen gwneud llawer mwy i integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn drydydd, hefyd, mae angen ailagor gwlâu mewn ysbytai cymunedol er mwyn hwyluso’r llif yna o gleifion o’r ysbytai cyffredinol, neu, fel arall, wrth gwrs, nid ydym ni’n mynd i’r afael â’r gwir broblemau.

Diolch i chi am y cwestiynau. Rydym yn cydnabod ac rydym yn rheolaidd yn trafod yr angen am gymysgedd newydd o staff, nid nifer y staff sydd gennym yn unig, ond pwy yw’r staff hynny a sut y cânt eu defnyddio. Felly, mae’r modelau gofal yn bwysig iawn yn ogystal â nifer y staff sydd gennym: meddygon, nyrsys, therapyddion, fferyllwyr—ceir amrywiaeth eang o bobl wahanol y bydd eu hangen arnom yn y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, gan weithio mewn ffordd ychydig yn wahanol. Rwy’n cytuno â chi ynglŷn ag integreiddio rhwng iechyd a gofal. Mae hwnnw’n gyfeiriad teithio clir i’r Llywodraeth hon, ac rydym yn disgwyl clywed mwy am hynny yn ystod yr adolygiad seneddol a’r argymhellion y bydd yn eu rhoi i ni a phob plaid yn y Siambr hon.

Ar eich trydydd pwynt, unwaith eto, rydym yn sôn am lif cleifion, yn yr ystyr o gadw’r cleifion nad oes angen iddynt fynd i ofal eilaidd, nad oes angen iddynt fynd i welyau ysbyty, neu i ofal sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw, eu cadw lle y maent, perthynas well â gofal preswyl a gofal cartref, yn ogystal â gofal sylfaenol a gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â deall pa gymysgedd o welyau sydd ei angen arnom a pha ddarpariaeth sydd ei hangen arnom. Weithiau, bydd hynny mewn gwasanaethau preswyl. Mae’n ymwneud â mwy na chael mathau eraill o ysbytai cymuned. Mae angen i ni feddwl am yr holl gymysgedd sydd ei angen arnom, ac nid gosod terfyn penodol neu nifer penodol o welyau. Mae angen dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen ar ein system gyfan, sut y mae pobl yn cyrraedd y lle iawn ar gyfer eu gofal ac yn hollbwysig, sut rydym yn dychwelyd pobl i’w cymuned a’u cartref i barhau i dderbyn gofal, lle y mae’n dal i fod angen gofal nad oes angen iddo gael ei roi mewn gwely ysbyty.

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol mewn Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol

2. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ehangu’r amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol? OAQ(5)0108(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Disgwyliwn weld rôl hyd yn oed yn fwy helaeth i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan o’r tîm gofal sylfaenol. Mae byrddau iechyd eisoes yn ehangu rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd drwy eu cynlluniau lleol i gryfhau gofal sylfaenol, a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn o’ch croesawu i Gydweli yn ddiweddar i ymweld â meddygfa Minafon, a oedd, flwyddyn yn ôl, pan wynebodd argyfwng wrth i’r meddygon adael, wedi cynllunio gwasanaeth, gan weithio’n agos gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ystod o gynghorwyr Llafur lleol a’r gymuned, lle y ceir fferyllydd, ffisiotherapydd a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd yn cydweithio, ac mae’r gwasanaeth y mae’r cleifion yn ei gael wedi gwella’n anfesuradwy. Beth y gellir ei wneud i ymestyn y model i wasanaethau meddyg teulu ledled Cymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Roedd yn ymweliad diddorol iawn yn wir, gan gydnabod bod yna fygythiad gwirioneddol i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghydweli heb fod mor hir yn ôl. Ac roedd yn ddefnyddiol gweld ysbryd gwirioneddol heriol ond cefnogol gan gynrychiolwyr etholedig lleol. Ac mewn gwirionedd, mae’r staff yn y practis wedi ei gadw i fynd, yn enwedig rheolwr y practis, a oedd â rôl wirioneddol arwyddocaol i’w chwarae yn cadw hynny gyda’i gilydd.

Ac mae’n enghraifft dda ac ymarferol o rai o’r pethau yr ydym yn siarad amdanynt yn rhan o’r theori ehangach—pam y mae arnom angen tîm gwahanol o staff o ran y cymysgedd, o ran gallu ymdrin ag anghenion gofal iechyd ac o ran gweithwyr proffesiynol. Ac yn aml, mae hynny’n golygu bod pobl yn cael eu gweld yn gynt, gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol. Yn benodol, gwnaeth y fferyllydd, yr uwch-ymarferydd nyrsio a’r ffisiotherapydd argraff fawr arnaf, gan eu bod yn cymryd baich oddi ar feddygon teulu. Roeddent yn llwyddo i wneud mwy o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud, o ran gweld cleifion mwy cymhleth, ac roedd y bobl hynny mewn gwirionedd yn cael eu gweld a’u trin yn briodol ac yn ddiogel. Ac mae wedi bod yn boblogaidd gyda chleifion hefyd. Clywsom hynny’n uniongyrchol gan y cyngor iechyd cymuned.

Felly, mae angen i ni weld mwy o hyn, nid llai, yn y dyfodol, ym mhob rhan o Gymru—nid Cydweli’n unig, nid Hywel Dda yn unig, ond ar draws y wlad. Dyna’n gynyddol yw dyfodol gofal sylfaenol—meddygon teulu ynghanol gofal sylfaenol, gyda mwy o weithwyr proffesiynol o’u cwmpas, i allu diwallu a gweld ac ymdrin ag anghenion eu cleifion yn briodol, lle bynnag y bônt yn y wlad.

Weinidog, mae mwy o waith datblygu polisi yn cydnabod na allwn weithio mewn seilos ac y bydd gan lawer o bobl gydafiacheddau a fydd yn galw am wybodaeth a sgiliau pob gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chyrff proffesiynol sy’n cynrychioli gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd er mwyn pennu bod y gofynion hyfforddi ar gyfer y cyrff hyn yn adlewyrchu nid yn unig anghenion ein poblogaeth ar hyn o bryd, ond yn y dyfodol hefyd?

Byddaf yn cael trafodaethau rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cynrychioladol. Rwy’n eu hystyried yn lobi effeithiol a phroffesiynol iawn. A dônt atoch gydag ystod o dystiolaeth i gefnogi’r datganiadau a wnânt am ddyfodol y gwasanaeth. Maent hefyd yn grŵp o bobl sy’n barod iawn i newid y model gofal, ac i ddweud bod yna dystiolaeth y bydd gwneud pethau mewn ffordd wahanol yn darparu canlyniadau gwell i gleifion, ac mae hynny’n galonogol tu hwnt. Maent wedi sôn wrthyf am y potensial o edrych eto ar rai o’r gofynion penodol. Ond mae’r rhan fwyaf o’r sgwrs rwy’n ei chael gyda hwy yn ymwneud â’r niferoedd sydd gennym a sut y caiff y staff hynny eu defnyddio.

Yn y gweithlu gofal sylfaenol yn y dyfodol, fe welwch yn ail hanner y flwyddyn hon, ffocws penodol ar weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a fferylliaeth, a grwpiau eraill, i ddeall y niferoedd o bobl sydd eu hangen arnom a’r hyn y byddwn am ei wneud wedyn i recriwtio mwy o bobl, lle y gwyddom fod arnom angen mwy o niferoedd—wrth gwrs, rydym yn hyfforddi mwy o bobl mewn amrywiaeth o wahanol broffesiynau perthynol i iechyd—a hefyd sut y caiff y staff presennol, a’u sgiliau eu defnyddio. Felly, rwy’n meddwl bod yna lawer o resymau dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd, yn ogystal â chydnabod yr her sy’n bodoli. Felly, rwy’n hapus i barhau i gael sgwrs reolaidd â hwy a chynrychiolwyr eraill y gweithlu gofal sylfaenol.

Yn dilyn ymlaen o’r cwestiwn a gyflwynodd y mater, a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliad y bore yma â meddygfa Tynycoed yn Sarn? Ac fe welodd frwdfrydedd ac arbenigedd ystod eang o weithwyr proffesiynol, ond nid yn unig y meddygon teulu, nid yn unig y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, pobl sy’n ymwneud â mentrau cymdeithasol, pobl sy’n ymwneud â’r trydydd sector. A byrdwn hyn oll oedd camu i ffwrdd, tuag at system lle y mae’n ymwneud â llesiant yn hytrach na’r costau atgyweirio yn nes ymlaen.

A yw’n rhannu fy ngobaith, a gobaith cyd-Aelodau eraill yma, y bydd yr enghreifftiau arloesol hyn o gydweithio—fel model clwstwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—sydd wedi’u hysgogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, yn y pen draw yn profi’r manteision o gadw pobl yn iach yn hwy yn eu cymunedau, gan leihau’r baich ar ein gwasanaethau GIG sydd dan bwysau’n barhaol a gwasanaethau iechyd ehangach, a sicrhau arbedion o ran costau hefyd o bosibl, drwy wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu cadw’n iachach yn hwy, yn hytrach na chyrraedd gwasanaethau gofal acíwt, eilaidd, neu ein practisau meddygon teulu hyd yn oed?

Ydw. Ac roedd yr ymweliad y bore yma ar gyfer lansio’r rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig o ddiddorol, nid yn unig o ran cyfarfod â meddygon teulu o bob rhan o’r clwstwr, ond hefyd o ran cyfarfod â gweithwyr cymorth gofal iechyd, sy’n mynd i fod yn rhan allweddol o symud y rhaglen benodol honno yn ei blaen. Mae’n enghraifft dda o adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghwm Taf, ac yn Aneurin Bevan hefyd. Mae llawer o wersi i’w dysgu yno am fynd ati i ddeall rhan o’r boblogaeth nad ydynt yn mynd i weld eu meddyg teulu yn aml iawn, ond sydd mewn perygl gwirioneddol o gael cyflyrau iechyd yn y dyfodol. Felly, mae’n ymwneud â gofal wedi’i gynllunio ymlaen llaw, ac osgoi cyflyrau mwy hirdymor a mwy cronig yn y dyfodol.

Ac roeddwn yn llawn edmygedd, nid yn unig o’r ffocws ar lesiant, ond o’r modd yr oeddent yn datblygu’r gwersi a ddysgwyd. Rwyf am weld hynny’n cael ei gyflwyno ar sail gyson. Dyna un o’r pethau, os ydym yn onest, nad ydym wedi ei wneud mor gyson neu mor effeithiol ag y dylem fod wedi’i wneud yn y gorffennol. Ac mae rheidrwydd gwirioneddol i wneud mwy o hynny yn y dyfodol. Y neges bwysig arall a glywais y bore yma oedd bod clystyrau’n rhywbeth y mae meddygon teulu eu hunain yn gweld mwy a mwy o fudd gwirioneddol ohonynt—y ffordd y gallant weithio gyda’i gilydd, y ffordd y maent yn ei wneud gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal a’r trydydd sector—ac mae’r ffordd yr ydym yn rhyddhau arian yn uniongyrchol iddynt wedi bod yn rhan fawr o ennill ymddiriedaeth yn hynny o beth. Mae ymddiriedaeth yn elfen enfawr, ac roeddwn yn falch iawn o glywed bod y meddygon teulu a oedd yno heddiw yn cydnabod bod yna Lywodraeth yma sy’n barod i wrando arnynt ac i weithredu gyda hwy.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Yn amlwg, rydym yn croesawu’r £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb nesaf a fwriedir ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ond nid yw hwnnw wedi ei neilltuo, felly pa sicrwydd a gawsoch gan awdurdodau lleol y bydd yn cael ei wario ar wasanaethau y mae sylwebyddion yn y sector yn dweud y buasent ar goll hebddo?

Rhoddodd y gyllideb eleni ddyraniadau ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhoddasom £25 miliwn cychwynnol i’r gwasanaethau cymdeithasol, £4.5 miliwn i adlewyrchu’r cynnydd yr ydym wedi ei roi o ran y terfyn cyfalaf, a £10 miliwn pellach a oedd yn benodol ar ffurf arian grant eleni i fynd i’r afael â’r heriau y mae awdurdodau lleol a’r sector yn eu hwynebu o ran gweithredu’r cyflog byw cenedlaethol newydd. Felly, gan fod £10 miliwn ar ffurf grant eleni, mae’n rhoi’r trosolwg ychwanegol hwnnw i ni.

Fy nealltwriaeth i, yn seiliedig ar atebion i gwestiynau blaenorol a ofynnais i chi, yw bod y cyflog byw wedi creu problem gyda dyranu’r gyllideb gychwynnol, a bod y £10 miliwn i fod i ryw fath o wneud iawn am hynny, yn rhannol o leiaf. Felly, nid yw’n uniongyrchol ar gyfer y codiad yn y cyflog byw mewn gwirionedd; mae yno ar gyfer llenwi’r bwlch y mae’r cyflog byw wedi’i adael, os caf ei roi felly.

Er hynny, ni wnaethoch ateb fy nghwestiwn penodol ynglŷn â pha wasanaethau oedd dan fygythiad. Gan fod yr arian ychwanegol hwn wedi’i roi i ddiwallu angen penodol yn hytrach na bod yn hwb cyffredinol yn unig i’r grant cynnal refeniw, a’i fod wedi’i godi’n rhannol drwy gynyddu uchafswm y cyfraniad y mae pobl yn talu tuag at eu gofal, rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, ei bod yn weddus i ni’n dau ddilyn yr arian a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wario gyda’r bwriadau a oedd gennych yn wreiddiol. Felly, pan ddywedodd arbenigwyr y sector wrthych fod rhai gwasanaethau mewn perygl, pa enghreifftiau a greodd ddigon o argraff arnoch i chi hyd yn oed ystyried codi’r arian ychwanegol hwn?

Mae’r penderfyniad i fuddsoddi ymhellach mewn gofal cymdeithasol eleni yn adlewyrchiad uniongyrchol o’r trafodaethau a gawsom gydag arbenigwyr yn y maes. Cynaliasom dri chyfarfod bwrdd crwn gyda llywodraeth leol, gyda darparwyr ac eraill, er mwyn gwrando ar heriau’r sector gofal cymdeithasol, a chanfod ffordd i ni allu ymateb ar y cyd iddynt. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol—rydych yn gywir wrth ddweud hynny—ond rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol gomisiynu gwasanaethau mewn ffordd gosteffeithiol ac i fuddsoddi yno. Hefyd, mae cyfrifoldeb ar y darparwyr eu hunain yn ogystal, er mwyn gwneud gofal cymdeithasol y math o yrfa y mae pobl am weithio ynddi. Mae’n annerbyniol ar hyn o bryd fod trosiant staff yn y sector yn un o bob tri, a phob tro y bydd yn rhaid penodi aelod newydd o staff, mae’n costio £3,500 i’r darparwr, gyda’r holl wiriadau a’r hyfforddiant ac yn y blaen. Felly, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod gennym ofal cymdeithasol cynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol.

Fe gyfeirioch at godi’r cap ar ofal cartref i £70 eleni. Bydd hynny’n rhoi £4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ar ben y cyllid arall y cyfeiriais ato hefyd. Roedd hi’n bryd ystyried codi’r cap yn fy marn i am ei fod wedi bod yn £60 bellach ers y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, rwy’n meddwl bod y cynnydd yn un rhesymol i’w wneud.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac nid wyf yn eich herio ar eich ateb ar y cynnydd yn y cap ar daliadau tuag at ofal cartref, ond rwy’n dal i gael trafferth i ganfod ar beth yn union y gwerir y £10 miliwn hwn. Yr hyn rwy’n ei gasglu o’ch ateb yw ei fod yn ymwneud yn bennaf â chadw staff, a gallai hynny’n bendant fod yn wir, ond dyna rwyf am allu ei weld yn digwydd o ganlyniad i’r arian ychwanegol hwn sy’n dod i mewn i’r system.

Rwy’n credu ein bod yn ôl pob tebyg yn cytuno bod atal dibyniaeth y gellir ei osgoi ar ofal cymdeithasol yn werth chweil, i’n dinasyddion ac yn amlwg i’r gwasanaethau sy’n darparu’r gofal hwnnw. Yn fy nghyfarfod gydag aelodau o Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru heddiw, crynhodd y rif chwaraewyr—a hwy yw’r prif chwaraewyr yn hyn, nid oes dwywaith am hynny—y sefyllfa bresennol fel hyn: dywedasant fod gan Gymru atebion ar gyfer y galw cynyddol am ofal cymdeithasol mwy cymhleth, ond mai’r strwythur sy’n mynd yn y ffordd. Clywais ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i gwestiwn Lee Waters, ac i’r cwestiynau atodol, ynglŷn â sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fod yn rhan o hyn a bod dealltwriaeth lwyr eu bod yn barod i gymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd o weithio.

A oes gennych bellach ddigon o dystiolaeth am weithio mewn partneriaeth, cyllidebau cyfun a’r gweddill i gyd gan yr awdurdodau iechyd lleol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector hyd yn oed—tystiolaeth sy’n ddigon cryf i ddechrau datblygu polisi ar sail Cymru gyfan bellach sy’n seiliedig ar niferoedd mwy a rhagor o gyfrifoldeb i therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd, i’w rhyddhau o’r seilo hwn o ymyrraeth eilaidd yn unig?

Rwy’n meddwl bod y gronfa gofal canolraddol yn rhoi’r dystiolaeth honno i ni. Mae gennym gronfa gofal canolraddol o £60 miliwn, sy’n trawsnewid yn wirioneddol y ffordd y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd, gan gynnwys diwallu anghenion pobl.

Y bore yma, roeddwn yn Ystradgynlais, yn gweld y gwaith da y maent yn ei wneud yno o ran dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, ac roeddent yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthynol hefyd. Mynychais un o’r cyfarfodydd tîm lle y câi’r achosion eu trafod, ac roedd yn gwbl anhygoel gweld pa mor gyflym y gallai pecynnau gofal ddod ar waith pan oedd ganddynt yr holl bobl iawn o gwmpas y bwrdd. Felly, rydym yn casglu’r dystiolaeth honno.

Mae prosiectau’r gronfa gofal canolraddol yn darparu gwybodaeth i ni yn chwarterol ac rydym yn dadansoddi hynny, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn gwirionedd. Oherwydd rydym yn dechrau cyrraedd y pwynt yn awr pan allwn ddangos nifer y nosweithiau a arbedir i’r GIG, er enghraifft, ac mae gennym arolygon o fodlonrwydd pobl sydd wedi cael gofal drwy’r gronfa gofal canolraddol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi ein rhyfeddu gan y llwyddiant a welsom yn y gwahanol brosiectau ledled Cymru. Rwyf wedi ymweld â phrosiectau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, ac un neu ddau i fyny yn y gogledd hefyd. Er bod y dulliau gweithredu’n wahanol mewn gwahanol leoedd, rwy’n credu ei bod yn bwysig fod gwahanol brosiectau mewn gwahanol ardaloedd yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Rwy’n meddwl bod y ffaith fod gweithwyr proffesiynol yn cael eu rhyddhau i wneud eu gwaith ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac i beidio â chael rhwystrau artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gofal y mae pobl yn ei gael.

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau innau hefyd yn mynd i’r Gweinidog. Mae pwysau ar adrannau brys ysbytai yn effeithio ar y ddwy ochr i glawdd Offa ac wedi bod yn y penawdau eto, ac mae yna lawer o resymau dros y problemau hynny. Ond rwyf am ganolbwyntio ar rôl gofal cymdeithasol. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rôl bwysig wrth atal pobl rhag gorfod mynd i ysbytai ac yn gadael iddyn nhw adael yr ysbytai yn gynt?

Ydw, cytunaf yn llwyr fod gan ofal cymdeithasol rôl i’w chwarae yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gwasanaeth cam-i-lawr er mwyn dychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwybod bod aros yn yr ysbyty am gyfnod rhy hir yn amlwg yn ddrwg i’r unigolyn o ran eu hiechyd a’u lles, sef yr union beth y mae’r gronfa gofal canolraddol yn ei wneud o ran darparu’r gwasanaethau cam-i fyny a cham-i-lawr hynny. Fel y dywedais, gallwn ddangos nifer y nosweithiau a arbedwyd i’r GIG, ond y tu ôl i bob noson a arbedir i’r GIG, yn amlwg, mae stori unigolyn y mae ei ofal wedi’i wella o ganlyniad i hynny.

Rydym yn gwybod wrth gwrs gymaint o gyfran o’n cyllid ni sy’n mynd i’r NHS, ond nid yw’r un sylw, yr un bri, yn cael ei roi i gyllidebau gofal cymdeithasol. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri ar yr arian sydd ar gael i ofal cymdeithasol ac mae effeithiau hynny, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno, wedi bod yn amlwg o ran cynyddu pwysau ar ysbytai. Yma, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo nad ydy cyllidebau gofal cymdeithasol wedi cael eu torri gymaint ag yn Lloegr. Ond, pam felly fod nifer yr addasiadau i gartrefi pobl wedi gostwng 21 y cant ers Ebrill 2011 a pham bod faint o offer sy’n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau wedi gostwng 15 y cant dros yr un cyfnod?

Rydych yn hollol gywir i ddweud bod gennym ddull o weithredu sy’n wahanol iawn i’r un a welwn yn Lloegr o ran ein cefnogaeth i wasanaethau cymdeithasol oherwydd, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi ymwrthod â’i chyfrifoldeb dros y gwasanaethau cymdeithasol drwy roi’r baich ar gynghorau i godi’r dreth gyngor i dalu am ofal cymdeithasol yn lleol, a chredaf fod hwnnw’n ddull annheg ac yn un na fuasem yn ceisio’i fabwysiadu yma.

Ar oedi wrth drosglwyddo gofal, rydym yn gweld gwelliannau yn y ffigurau a chredaf fod hynny’n deillio o’r gwaith a wnawn drwy’r gronfa gofal canolraddol. Ond o ran y manylion penodol ynglŷn â pham y gwelwn lai o gymhorthion ac addasiadau, ni allwn ddweud wrthych pam y gwelwn hynny gan y dylai pobl fod yn cael eu hanghenion wedi’u diwallu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad unigol o anghenion pob unigolyn, a fydd yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau, a dylent fod ar gael i’r bobl sydd eu hangen.

Efallai y dylai’r Gweinidog geisio darganfod pam y mae nifer yr addasiadau hynny wedi bod yn gostwng a pham nad yw’r offer wedi bod yn mynd allan i’r un graddau ag yn y gorffennol gan fod hyn i gyd yn cael effaith ganlyniadol ymhellach yn nes ymlaen yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.

Gadewch i mi dynnu eich sylw at wasanaeth arall nad yw’n cael ei werthfawrogi o gwbl—gofalwyr di-dâl. Y llynedd, canfu Carers UK fod 55 y cant o ofalwyr yng Nghymru yn teimlo bod eu hiechyd corfforol eu hunain wedi dioddef oherwydd eu dyletswyddau gofalu. Dyna’r ganran uchaf yn y DU drwyddi draw. Mae faint o ofal seibiant a ddarperir yng Nghymru—nifer y nosweithiau o ofal a ddarperir yng Nghymru—wedi gostwng 24 y cant ers 2011, sy’n ostyngiad syfrdanol. Mae hyn wedi digwydd ar yr un adeg ag y bu’r Llywodraeth hon a’r un flaenorol yn llywyddu dros raglen o gau ysbytai cymunedol, wrth gwrs, gyda gostyngiad cyffredinol o 7 y cant yn nifer y gwelyau GIG sydd ar gael yng Nghymru. Nid oes raid i mi nodi y gallai’r gwelyau hyn mewn ysbytai cymunedol fod wedi sicrhau pontio llyfn i gleifion yn ôl i’r gymuned, gan fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ogystal, wrth gwrs, â darparu gofal seibiant y mae ei ddirfawr angen ar y fyddin o ofalwyr di-dâl sy’n cadw ein system i fynd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gyfaddef yn awr fod yr ymgyrch i gau ysbytai cymunedol wedi bod yn gamgymeriad mawr ac at ei gilydd, er mwyn cryfhau ein system gofal cymdeithasol, ei bod hi’n bryd dechrau gwrthdroi’r rhaglen honno?

Wel, i fynd ar ôl y sylw a wnaethoch am gymhorthion ac addasiadau, rwy’n meddwl y dylem edrych i weld a yw anghenion pobl yn cael eu diwallu, yn hytrach na gweld a fu cynnydd neu ostyngiad yn y ganran o’r cymhorthion a’r addasiadau sy’n cael eu darparu. Os oes gennych enghreifftiau penodol yn lleol o bobl nad yw eu hanghenion wedi’u diwallu drwy gymhorthion ac addasiadau, yna ar bob cyfrif, dowch â hwy i fy sylw os gwelwch yn dda.

Rhannaf eich edmygedd o ofalwyr di-dâl. Maent yn gwneud gwaith hollol wych ar draws Cymru. Ni fuasem wedi cyrraedd lle yr ydym hebddynt. Dyma pam rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i gyflwyno ac i ddatblygu strategaeth seibiant genedlaethol, oherwydd gwyddom fod darpariaeth leol ar gyfer gofal seibiant yn amrywio ar draws Cymru. Pan fyddwn yn gwrando ar ofalwyr, maent yn dweud wrthym mai’r un peth sydd ei angen arnynt a’r un peth y maent ei eisiau yw’r gallu i gael gofal seibiant. Dyma pam y gofynasom i Gronfa’r Teulu, pan oeddent yn edrych ar y math o gefnogaeth y maent yn ei chynnig i deuluoedd yma yng Nghymru, roi ffocws ar ofal seibiant a seibiannau byr, gan mai dyma’r pethau y mae teuluoedd pobl anabl wedi bod yn gofyn i ni ganolbwyntio ein sylw arnynt.

Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd ein bod yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr ar hyn o bryd, ac unwaith eto, gwnawn hyn drwy wrando ar ofalwyr ynglŷn â beth yw eu blaenoriaethau. Mae’r blaenoriaethau cynnar sy’n dod yn amlwg o’r trafodaethau hynny, fel y buasech yn disgwyl, yn cynnwys seibiant. Maent hefyd yn cynnwys gofalwyr ifanc, gofalwyr hŷn a rhai sy’n gofalu am bobl hŷn yn ogystal.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’n harfau mwyaf effeithiol ar gyfer ymladd canser yw sgrinio ar lefel y boblogaeth. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog iechyd y cyhoedd ynghylch y newid i ddulliau gwell o sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Fodd bynnag, ni waeth sut y byddwn yn gwella’r technegau sgrinio, ein brwydr fwyaf yw argyhoeddi’r cyhoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wrthdroi’r duedd ar i lawr mewn sgrinio ceg y groth a chynyddu’r nifer sy’n cael eu sgrinio am ganser y coluddyn?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog yn arwain ar ein rhaglenni sgrinio iechyd y boblogaeth fel rhan o’i chyfrifoldebau iechyd cyhoeddus. Rydym ninnau hefyd yn pryderu am y ffigurau sy’n cadarnhau bod cyfraddau sgrinio ceg y groth wedi gostwng, ac rydym yn disgwyl gweld mwy o wybodaeth gyhoeddus, a thrafodaethau hefyd rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion ynghylch y budd gwirioneddol a geir o sgrinio ystod o wahanol gyflyrau posibl. Ar sgrinio’r coluddion, rwy’n meddwl y byddwn yn gweld y nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth yn cynyddu am fod y prawf yn haws i’w weinyddu. Heb fynd i fanylion ynglŷn â’r hen brawf a’r prawf mwy newydd, mae’n brawf sy’n haws ei weinyddu, ac rydym yn disgwyl y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y dynion, yn arbennig, a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio benodol honno.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un maes a allai elwa o well sgrinio yw canser y prostad. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn ‘The Lancet’ fod defnyddio MRI amlbarametrig ar ddynion a oedd â lefelau uchel o antigenau prostad-benodol yn cynyddu’r gallu i ganfod tiwmorau ymosodol, ac yn arbed llawer rhag yr angen i gael biopsi a’i sgil-effeithiau cysylltiedig. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflwyno’r dechneg newydd hon ar draws y GIG yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae canser y prostad yn faes ffocws arbennig, ac nid yn unig oherwydd bod yna fudiad trydydd sector gweithgar iawn—ac rwy’n croesawu eu gweithgarwch—yn gysylltiedig â chanser y prostad, sy’n ein hannog yn rheolaidd i ddarganfod mwy drosom ein hunain ac i annog eraill i feddwl am y ffyrdd presennol o ddeall a oes canser y prostad ar bobl a’r opsiynau posibl o ran triniaeth. Rhan o’r her yw bod gennym brawf ar gyfer canser y prostad sy’n llai na digonol ar hyn o bryd, ac mae’n rhan o’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny. Mae gennym ddiddordeb mewn hyrwyddo’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer profion mwy effeithiol er mwyn deall a oes gan bobl ganser y prostad a pha fath penodol o ganser y prostad, ac un o’r rheini yw’r dystiolaeth y cyfeiriwch ati yn ‘The Lancet’. Mae angen i ni ddeall yr holl dystiolaeth honno, a deall faint o hynny sy’n mynd i mewn i ddiagnosis a faint sy’n mynd i mewn i sgrinio hefyd. Dyma un o’r meysydd hynny lle y mae’r galw a’r awydd i gael prawf sgrinio ehangach—mae angen i ni wybod a oes tystiolaeth mai’r prawf sgrinio mewn gwirionedd yw’r peth iawn i’w wneud, yn hytrach na gwahanol fathau o ddiagnosis lle y ceir amheuaeth o ganser y prostad. Fel erioed, yn y maes hwn ac eraill, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth orau a’r manteision gorau o ran canlyniadau i gleifion o unrhyw fath newydd o sgrinio neu ddiagnosis.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y greal sanctaidd ym maes sgrinio am ganser yw datblygu cyfundrefn brofi ddibynadwy ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gwelodd Prifysgol Caerdydd, mewn treial diweddar, nad yw’r defnydd o sganiau CT dos isel ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yn cael unrhyw effaith seicogymdeithasol hirdymor ar gleifion, gan ei wneud yn offeryn ardderchog ar gyfer canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fo gwell gobaith o oroesi. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio sgrinio CT dos isel ar gyfer canser yr ysgyfaint i unigolion risg uchel?

Rwy’n meddwl bod fy sylwadau olaf i’ch cwestiwn blaenorol yn dal i sefyll. Rydym yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â’r ffordd briodol naill ai o ddeall ein diagnosis lle y ceir amheuaeth o ganser yr ysgyfaint, neu’r posibilrwydd o sgrinio’r boblogaeth. Ond rwy’n credu, mewn gwirionedd, gyda chanser yr ysgyfaint, mai ein her fwyaf yw’r ffaith nad yw pobl yn mynd at y meddyg yn ddigon buan mewn achosion o ganser yr ysgyfaint. Mae’n bryder mawr iawn. Yn arbennig, rydym yn cydnabod bod gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y grwpiau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig, a’r rhai sydd fwyaf tebygol o ofyn am gymorth. Dyna yw ein her fwyaf, ac mae’n her y mae’r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi ei chydnabod eu hunain. Mae clinigwyr o fewn y gwasanaeth ac elusennau canser a grwpiau ymgyrchu yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i gael pobl i fynd at y meddyg yn gynharach, ar ganser yr ysgyfaint yn arbennig, pan fo mwy o obaith o achub bywydau. Ond fel y dywedais, rwy’n edrych ymlaen at y dystiolaeth ar yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, a sut rydym yn gweithredu hynny wedyn yn gynyddol ac yn llwyddiannus ar draws y gwasanaeth cyfan.

Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i Oriau (Canol De Cymru)

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0099(HWS)

Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd yng Nghanol De Cymru ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau sy’n ddiogel ac yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob claf yn cael eu trin o fewn amser sy’n briodol yn glinigol.

Iawn. Y broblem yw—a daw hyn gan bobl yn y gwasanaeth—fod adegau dros y 12 mis diwethaf yng Nghaerdydd pan na fu unrhyw feddyg ar gael o gwbl yn y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Beth y gellir ei wneud i sicrhau nad yw hynny’n digwydd yn y dyfodol?

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n ymwybodol fod yna ddau achlysur, un ym mis Awst ac un ym mis Rhagfyr, pan nad oedd meddyg teulu ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser am ran o’r noson. Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd i wneud yn siŵr y gallai’r bwrdd iechyd ddarparu gwasanaeth priodol oedd bod gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yno, ac roedd yno gymorth ar alwad gan fyrddau iechyd cyfagos hefyd. Mae’n her ar draws y wlad, i raddau amrywiol. Er enghraifft, mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi bod yn llawer mwy sefydlog a diogel, ac mae ganddynt fwy o feddygon teulu yn mynd i mewn i’w gwasanaeth. Cynhaliodd Caerdydd a’r Fro ddiwrnod recriwtio arall ganol y mis hwn, ac maent yn gobeithio y bydd mwy o feddygon teulu yn dod i mewn i’r gwasanaeth. Mae’n ymwneud â sut rydym yn gwneud y model cyfan yn fwy cynaliadwy yn ogystal. Nid yw’n ymwneud yn unig â gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Mae’n ymwneud â sut rydym yn deall yr holl anghenion. Er enghraifft, mae 7 y cant o’r galwadau yn ystod y mis diwethaf wedi ymwneud â phroblemau deintyddol—a dyna rywbeth y mae gennyf gydymdeimlad arbennig ag ef ar hyn o bryd—ond mae angen i ni weld yr holl ystod o weithwyr proffesiynol yn cyflenwi ac yn gwneud hynny. Dylai hynny ei gwneud yn fwy deniadol i feddygon teulu ymgymryd â’u rhan hwy o’r gwasanaeth.

Mewn sawl ffordd, mae’n fater tebyg i’r cwestiynau a’r trafodaethau cynharach a gawsom ar y tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae arnom angen tîm ehangach o fewn y gofal tu allan i oriau i wneud yn siŵr fod rhan y meddyg teulu o’r rôl yn ddiddorol ac yn ddeniadol i feddygon teulu ymgymryd â hi, er mwyn iddynt ddarparu’r gofal iawn a gwneud y penderfyniadau cywir na all neb ond hwy eu gwneud fel rhan o’r gwasanaeth y tu allan i oriau. Ond mae’n sicr yn rhywbeth sydd ar fy radar, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach dros weddill y flwyddyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch am wneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy, y gwasanaeth meddygon teulu, a’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn wir. Yn amlwg, asgwrn cefn hynny yw cael meddygon ar lawr gwlad a all ddarparu’r gwasanaeth pan fo’i angen. Mewn ateb blaenorol a roesoch i Nathan Gill, clywais am yr yswiriant, ac yswiriant indemniad yn benodol, ar gyfer meddygon sy’n dod at ddiwedd eu gyrfa a allai fod eisiau gweithio’n rhan-amser ac a allai gynnig y gwasanaeth hwn yn ôl i’r GIG, a thrwy hynny leddfu peth o’r pwysau ar staff. A ydych yn mynd i gyflwyno cynllun yswiriant indemniad cenedlaethol, fel sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r DU y telir amdano o gronfa risg y GIG? Byddai hyn yn mynd yn bell tuag at allu manteisio mewn gwirionedd ar adnodd enfawr meddygon wedi ymddeol a fuasai’n dymuno parhau i ymarfer, ond nad yw’n ymarferol yn ariannol iddynt wneud hynny oherwydd y gost sy’n eu hwynebu wrth yswirio eu hunain.

Nodais yn gynharach, fel y byddwch wedi clywed yn fy ymateb i Nathan Gill, ein bod wrthi’n trafod gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â cheisio datrys mater indemniad. Mae’n destun pryder arbennig iddynt hwy ac i gymuned y meddygon teulu yn ei chyfanrwydd. Nid mater sy’n ymwneud â diwedd gyrfa ydyw ychwaith—mae’n rhywbeth sy’n rhedeg ar hyd gyrfa meddyg teulu, wrth i gostau indemniad godi. Nid wyf yn mynd i oedi’r trafodaethau hynny drwy geisio siarad hanner ffordd drwyddynt am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Ond rydym yn ystyried ystod o opsiynau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac fel y dywedais, dros y misoedd nesaf, rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu cyflwyno cynnig priodol y byddwn wedi gweithio drwyddo mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain. Unwaith eto, dyna’r pwynt—rydym am weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu a gweddill y gymuned gofal iechyd.

Damweiniau ac Achosion Brys (Derbyn Pobl i’r Ysbyty)

4. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud ar y cynnydd i leihau nifer y bobl a gaiff eu derbyn i’r ysbyty yn dilyn damweiniau ac achosion brys? OAQ(5)0102(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i leihau derbyniadau damweiniau ac achosion brys drwy nifer o fentrau, gan gynnwys Dewis Doeth, GIG 111 ac ystod o wasanaethau ymateb i gwympiadau. Mae’r byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cefnogi hyn a mentrau tebyg er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu mor effeithlon â phosibl.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i ganmol y gwasanaeth atal cwympiadau sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae’r gwasanaeth hwn a lansiwyd fis Hydref wedi helpu 183 allan o 229 o alwadau brys i godi’n ôl ar eu traed heb orfod eu cludo i adran ddamweiniau ac achosion brys. Nid yn unig y mae hyn yn atal derbyniadau i ysbytai, ond mae’r tîm hefyd yn cynnal asesiad cartref i atal cwympiadau pellach yn y dyfodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadw llygad barcud ar y dystiolaeth a chanlyniadau’r cynllun peilot yng Ngwent? Beth arall y gellir ei wneud i atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl cael codwm pan fo camau eraill yn fwy priodol?

Diolch i chi am y cwestiwn ac yn arbennig, am dynnu sylw at un o’r cynlluniau peilot yr ydym wrthi’n edrych arnynt. Roeddwn yn falch o weld hefyd ei fod wedi cael sylw mewn adroddiad ar ITV Wales o’r blaen hefyd—y gwaith gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a sut y caiff eu staff eu defnyddio mewn ffordd sy’n osgoi derbyniadau brys i’r ysbyty ac sy’n osgoi anfon ambiwlansys brys allan hefyd. Mae’n ymwneud â’r defnydd doethach o’n holl adnoddau, ac mae hynny’n rhywbeth y mae gwir angen i ni wneud rhagor ohono yn awr ac yn y dyfodol—mae’n ymwneud â phobl yn eu cartrefi unigol, ond hefyd â phobl mewn gofal preswyl.

Mae gennym amrywiaeth o gynlluniau peilot hefyd—er enghraifft, mae rhai’n ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn ogystal. Felly, ceir rhaglen o wahanol gynlluniau peilot mewn gwahanol rannau o’r wlad. Rydym yn awyddus i asesu a deall beth yw’r rheini, a bydd hynny’n cael ei wneud drwy’r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys. Yna byddwn yn disgwyl dysgu gan y rheini a deall i ba raddau, yn gynyddol, y gellir eu cyflwyno ar draws y wlad—pa dystiolaeth sy’n gweithio a beth sy’n briodol ym mhob rhan o Gymru, ac yna mynd allan a gwneud hynny’n llwyddiannus. Er y bydd y rhain yn lleihau nifer y derbyniadau a fyddai fel arall yn dod i mewn i adran ddamweiniau ac achosion brys, fe wyddom ein bod yn dal i weld niferoedd cynyddol yn dod i mewn i’n hadrannau. Felly, mae angen mwy o waith yn y maes hwn, nid llai.

Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylai unrhyw glaf aros mwy na 12 awr am driniaeth mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn ein hysbytai. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr am driniaeth 31 y cant yn uwch ym mis Rhagfyr 2016 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn cynt. Mae hyn er gwaethaf gostyngiad o 5.5 y cant yn nifer y derbyniadau i’n hysbytai. Pa reswm y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi dros y cynnydd hwn yn yr amseroedd aros pan fo nifer y derbyniadau i’n hysbytai wedi gostwng mewn gwirionedd?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd i mewn i ysbytai ac mewn cyfraddau derbyn. Yr her i ni, fodd bynnag, nid yn unig yw derbyn bod llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir, ond beth y gallwn ei wneud yn eu cylch. Mae hynny’n mynd yn ôl, unwaith eto, at gwestiynau blaenorol ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei wneud i gadw pobl allan o’r ysbyty yn llwyddiannus a’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i gydnabod y ffaith fod gennym boblogaeth hŷn a salach ar y cyfan a thlotach na Lloegr ei hun. Mae hynny’n golygu ein bod yn fwy tebygol o weld pobl sy’n dod i mewn yn y gaeaf yn arbennig y bydd angen eu derbyn i’r ysbyty. Sut y gwnawn yn siŵr fod y bobl hynny mewn gwirionedd yn cael profiadau da wrth fynd drwy’r ysbytai a derbyn gofal ynddynt? Nid oes unrhyw bwynt esgus bod hon yn her hawdd i’w datrys, ond dyma pam y mae angen i ni gael ymateb system gyfan—nid ymateb wrth ddrws blaen yr ysbyty yn unig, ond drwy system gyfan yr ysbyty, pobl yn cymryd cyfrifoldeb, ac ar y pen blaen a’r pen ôl gyda gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol yn ogystal. Felly, yn bendant nid wyf yn hunanfodlon ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu, ac rwy’n disgwyl y bydd yr Aelodau’n parhau i ofyn cwestiwn i mi hyd nes y gwelwn ostyngiad cyson a pharhaus yn nifer y rhai sy’n aros 12 awr. Oherwydd rwy’n cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd yn brofiad gwych i unrhyw un sy’n aros mor hir â hynny cyn iddynt gael eu rhyddhau.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd i leihau’r pwysau ar unedau damweiniau ac achosion brys mewn gwirionedd yw edrych ar sut y gellir defnyddio’r unedau mân anafiadau yn effeithiol. Nawr, yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn Singleton ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar y gweill ynglŷn â lleihau’r oriau, ond rhan o’r broblem yw staffio ac ariannu’r unedau hynny. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hyfforddiant uwch-ymarferwyr nyrsio mewn gwirionedd fel y gallwn ddarparu unedau mân anafiadau a fydd yn gweithio’n effeithiol, gan dynnu pwysau oddi ar adrannau damweiniau ac achosion brys, galluogi cleifion i fynd drwy’r adrannau damweiniau ac achosion brys a’r prif unedau yn gyflymach, a chaniatáu i gleifion felly i gael eu gweld o fewn oriau yn hytrach nag oriau hwy o bosibl? Ac o brofiad personol, rwy’n gyfarwydd â’r teimlad hwnnw.

Diolch am y cwestiwn. Rydych yn iawn i nodi bod gan ein hunedau mân anafiadau o gwmpas y wlad hanes da iawn o weld pobl yn gyflym, eu gweld, eu trin, eu rhyddhau, neu drefnu iddynt gael eu derbyn os oes angen. Maent yn cael eu harwain, yn y rhan fwyaf o achosion, gan uwch-ymarferwyr nyrsio sy’n darparu gofal o ansawdd uchel ac sy’n gallu gwneud penderfyniadau y buasai pobl yn meddwl o bosibl fod angen meddyg i’w gwneud. Nawr, rhan o’r her yw sut y deallwn beth sy’n gynaliadwy yn y ffordd honno, oherwydd rydych yn gywir mai nifer fach iawn o bobl sy’n mynychu rhai o’r unedau hynny ar wahanol oriau yn y dydd, ac felly bydd angen i fyrddau iechyd ddeall yn iawn sut i wneud y defnydd gorau o’u staff i ateb y galw sy’n bodoli.

Mae rhywbeth i’w wneud hefyd ynglŷn â ffrydiau mân anafiadau o fewn unedau mawr yn ogystal, ac os gallwn gael hynny’n iawn, rydym yn fwy tebygol o weld amseroedd cyflymach, nid yn unig i bobl yn yr uned arbennig honno mewn ysbyty, ond o ran y modd y deallwn sut i gyfeirio drwodd i’r rhan gywir o’r gwasanaeth. Felly, unwaith eto, mae’n mynd yn ôl at gael y dull system gyfan hwnnw o weithredu a deall yr hyn sydd ei angen arnom yn ein hunedau mân anafiadau, lle y dylai’r rheini fod, beth yw’r dystiolaeth eu bod ar gael ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, ond hefyd mae angen i ni weld gwelliant o hyd yn y prif unedau mewn perthynas â’r ffrwd fân anafiadau.

Camddefnyddio Alcohol

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau nifer yr achosion o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru? OAQ(5)0106(HWS)

Rydym yn buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, sy’n cynnwys gweithredu amrywiaeth o gamau i helpu i leihau camddefnyddio alcohol yng Nghymru. Nodir y manylion yn ein cynllun cyflawni diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer 2016-2018.

Rwy’n croesawu hynny, ond mae alcohol ym mhobman yn ein cymdeithas—caiff ei bortreadu mewn modd atyniadol ar y teledu, caiff ei hyrwyddo fel rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei gael er mwyn ymlacio, neu hyd yn oed i gymdeithasu. Caiff ei hysbysebu mewn digwyddiadau chwaraeon, ar hysbysfyrddau, mewn arosfannau bysiau a chylchgronau. Gan gadw hynny mewn cof, nid yw’n syndod, yn seiliedig ar werthiannau alcohol, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi bod 75 y cant o boblogaeth Cymru yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel. Deallaf fod y Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiwethaf yn gobeithio cyflwyno isafswm pris yr uned ar alcohol fel ffordd o helpu i leihau’r defnydd o alcohol yng Nghymru, ond rwy’n deall efallai nad oes gennym bŵer i ddeddfu yn awr o dan y model cadw pwerau newydd. Felly, fy nghwestiwn, yn gyntaf oll, yw hwn: a oes gennym bŵer i ddeddfu? Os nad oes gennym bŵer i ddeddfu, pa ffyrdd eraill yr ydym yn eu cynllunio i helpu i leihau dibyniaeth ar alcohol a chamddefnyddio alcohol hyd yn oed ymhellach?

Diolch am y cwestiwn. Ar hyn o bryd, o dan ein setliad presennol, mae gennym bŵer i ddeddfu, ond yn anffodus, er gwaethaf nifer o ddadleuon a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU, dyma un o’r pwerau y maent wedi ceisio’i dynnu oddi wrth y Cynulliad ar gyfer y dyfodol—ond rydym yn bendant yn cefnogi’r syniad o gyflwyno isafswm pris yr uned fel dull ychwanegol o leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac rydym wrthi’n ystyried yr angen i gyflwyno deddfwriaeth ar y mater hwn. Mae’n rhan o gyfres ehangach o gamau yr ydym yn eu rhoi ar waith. Er enghraifft, mae ein byrddau cynllunio ardal yn gwneud gwaith gwych yn lleol, ac yn y Drenewydd, yn eich ardal chi, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae mynd i’r afael ag yfed dan oed yn bwysig—ac rydym wedi buddsoddi yno drwy gefnogi datblygiad partneriaeth alcohol gymunedol, sy’n dwyn ynghyd rhanddeiliaid lleol, safonau masnach, yr heddlu, ysgolion a manwerthwyr alcohol, i gynorthwyo pobl ifanc yn benodol i osgoi cael perthynas niweidiol ag alcohol.

Weinidog, efallai eich bod yn gwybod am brosiect Cymunedau gyda’i Gilydd Alcohol Concern yng ngogledd Sir Benfro, a fydd yn cynnal cynhadledd ym mis Mawrth i ddysgu mwy ynglŷn â sut y gall cymunedau lleol leihau niwed alcohol mewn gwirionedd, a sut y gallwn ddatblygu perthynas iachach ag alcohol. A ydych yn cytuno fod prosiectau fel hyn yn ffordd wych o hyrwyddo byw’n iach, ac a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i hyrwyddo ac annog y mathau hyn o brosiectau ledled Cymru?

Wel, mae gweithio mewn partneriaeth, fel y disgrifiwch, yn gwbl hanfodol, gan fod cymaint o bartïon yn rhan o’r broses o helpu pobl sydd eisoes â pherthynas afiach ag alcohol i roi’r gorau i yfed, ond hefyd i hybu yfed cyfrifol hefyd. Mae’r bartneriaeth alcohol gymunedol yr wyf newydd ei disgrifio i Joyce Watson, yn un enghraifft o sut y gwnawn hynny. Ym mis Rhagfyr hefyd, cyhoeddais ein fframwaith economi’r nos newydd ar gyfer Cymru, a diben hwnnw mewn gwirionedd yw darparu strwythur ar gyfer yr holl randdeiliaid allweddol er mwyn helpu i ddatblygu a chadw economïau nos cynaliadwy, iach a diogel ledled Cymru. Ac unwaith eto, mae hynny’n ymwneud â dod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Amseroedd Aros Ysbytai (Gorllewin De Cymru)

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0114(HWS)

Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd wella mynediad at wasanaethau’n barhaus, a lleihau amseroedd aros ar draws yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir. Dylai byrddau iechyd wneud hynny yn unol â’u cynlluniau tymor canolig integredig eu hunain, gan gynnwys y mesurau a nodir yn y rhaglen gofal wedi’i gynllunio dan arweiniad clinigwyr.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru’n gwario llawer mwy ar iechyd fesul y pen nag y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi arwain at ganlyniadau sy’n sylweddol well. Yn gyffredinol, mae cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy am driniaeth na chleifion yn Lloegr—ddwywaith mor hir am lawdriniaeth cataract a bron dair gwaith mor hir am lawdriniaeth ar y glun. A allwch egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, pam nad ydym mor effeithlon mewn perthynas â gwariant ar iechyd?

Mae yna amrywiaeth o wahanol bwyntiau i’w gwneud mewn ymateb i’r cwestiwn. Y cyntaf, buaswn yn dweud, yw eich bod yn sôn am amseroedd aros mewn gwirionedd, ac nid yw hynny o reidrwydd yn trosi’n ganlyniadau. Mae’r canlyniadau clinigol i gleifion yng Nghymru yn gyffredinol yn dda iawn, ac rydym yn cymharu’n ffafriol â sawl rhan o Loegr yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dyna ran o bwynt y rhaglen gofal wedi’i gynllunio: gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth i wella ansawdd, gan fod ansawdd yn ysgogiad pwysig i wella yn ein system, a bydd yn parhau felly, ond hefyd rydym yn awyddus i leihau hyd yr amser y gall pobl ddisgwyl aros. Rwy’n llawn ddisgwyl, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, pan gyrhaeddwn ddiwedd mis Mawrth, y bydd ein ffigurau yn dangos gwelliant arall o ran amseroedd aros yn y gwasanaeth yma yng Nghymru, ond mewn rhai meysydd, mae angen i ni gydnabod bod llawer mwy sydd angen i ni ei wneud. Mae llawdriniaeth ar y glun yn un enghraifft. Rydym yn cymharu mewn ffordd nad wyf yn credu ei bod yn dderbyniol, ond ar amrywiaeth o bethau eraill, er enghraifft trawsblaniadau arennau a llawdriniaethau’r galon yn ogystal, rydym wedi gwneud yn hynod o dda dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ar y blaen i Loegr yn y pethau hynny. Felly, mae yna ddarlun cyflawn yma i’w gydnabod ac i fyfyrio’n onest ar feysydd lle’r ydym yn perfformio’n well na Lloegr a’r rhai lle y mae angen i ni wneud yn well—nid yn unig oherwydd cymhariaeth â Lloegr, ond oherwydd mai dyma’r peth iawn i’w wneud ar gyfer ein gwasanaeth o ran cydbwyso’r amser y mae pobl yn aros gydag ansawdd yr ymyrraeth a’r canlyniadau y mae ein cleifion yn eu cael.

Mewn adroddiad ym mis Ionawr 2015 ar amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol, siaradodd Archwilydd Cyffredinol Cymru am egwyddor Pareto, sy’n cyfrifo nifer y diwrnodau gwely a ddefnyddir gan gleifion unigol, a darganfu fod 5 y cant o gleifion yn defnyddio 51 y cant o’r diwrnodau gwely, a darganfu hefyd nad oedd y cyfrifiad hwnnw’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan fyrddau iechyd yn gyffredinol. Tybed pa gasgliad y daw Ysgrifennydd y Cabinet iddo o ran hynny ac a yw’n teimlo y byddai’r egwyddor honno yn un bwysig i fyrddau iechyd ei hystyried.

Ie, rwy’n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn am y manylion a’r data sydd gennym ar gael i ni a sut y dylid ei ddefnyddio i ysgogi gwelliant. Dylai’r data hwnnw ddangos, mewn gwirionedd, ar gyfer y nifer fach honno o gleifion, y gallai gwelliant mewn perthynas â’r bobl hyn ryddhau llawer o ddiwrnodau gwely i wneud yn siŵr fod pobl eraill yn dod drwy’r system ac yn cael gofal mewn modd mwy amserol. Mae angen i ni ddeall beth yw’r broblem mewn perthynas â’r garfan fechan honno o gleifion a pham eu bod yn cymryd cymaint o amser. A yw’n ymwneud â chymhlethdod, a oes mwy o welliannau y gallwn eu gwneud ar draws y system, a yw’n ymwneud â gwelliant o un clinigydd i’r llall yn ogystal? Felly, mae angen i ni ddeall bob amser yr hyn y mae’r data yn ei ddweud wrthym am y broblem, ac yna deall beth yw’r ateb i hynny, ac yna deall yr amseroedd y disgwyliwn weld gwelliant o’u mewn. Unwaith eto, dyma pam rwy’n dychwelyd at hyn: nid opsiwn ychwanegol i’r byrddau iechyd yw’r rhaglen gofal wedi’i gynllunio, ond yr hyn rwy’n disgwyl iddynt ei gyflawni, ac mae deall data a deall cytundeb ac arweiniad clinigol ar draws y wlad ar wella ystod eang o’r meysydd hyn, mewn orthopedeg ac offthalmoleg yn benodol, lle y ceir nifer fawr o bobl sy’n aros—niferoedd mawr y gallwn wella eu profiad ac y gallwn wneud rhywbeth am eu canlyniadau hefyd. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld y dystiolaeth honno’n cael ei defnyddio’n briodol gan fyrddau iechyd ac arddangos y gwelliant yr ydym i gyd yn disgwyl ei weld.

Ddoe, soniodd Gofal a Thrwsio wrthyf am eu cynllun cartrefi cynnes ar bresgripsiwn, sy’n defnyddio gwybodaeth leol gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i helpu i nodi pa bobl sydd mewn perygl o ddirywiad yn eu hiechyd am nad yw eu cartrefi wedi’u gwresogi’n ddigonol, ac yna maent yn ymyrryd i helpu gyda gwresogi mwy effeithlon. Os yw’n gweithio, bydd yn lleihau nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty, a fydd yn cynnwys gofal dewisol ar gyfer cyflyrau cronig penodol, ac yn lleihau nifer y bobl sy’n wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal hefyd wrth gwrs. Nawr, caiff y cynllun ei ariannu o gyllideb tai Llywodraeth Cymru ac mae’n enghraifft dda o gyllideb nad yw’n gyllideb iechyd yn cael ei defnyddio i ddatrys problem iechyd. Os yw’n llwyddiannus, a fydd yn parhau i gael ei ariannu o’r gyllideb iechyd neu a fydd y math hwn o ysbryd cyllidebu trawsbortffolio yn cael ei brofi dros lawer os yw’r cynllun peilot hwn yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod prawf y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer yn awr?

Rwy’n ddiolchgar iawn iddi am dynnu sylw at y defnydd penodol hwn o arian Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwelliannau ar gyfer pobl yn eu tai a’u hiechyd. Rydym yn cydnabod, ym maes tai, mewn addysg, ac mewn ystod o feysydd eraill, fod cysylltiadau arwyddocaol ag iechyd y genedl hefyd a sut y maent yn effeithio ar draws ei gilydd. Mae angen i ni ddeall bob amser pam y mae rhywbeth wedi bod yn llwyddiannus ac i ba raddau y gallwn ei gyflwyno ar sail ehangach. Felly, rwy’n awyddus iawn i ddeall y gwersi o’r cynllun peilot penodol a ariannwyd gennym a beth y mae hynny’n ei olygu o ran sut y defnyddiwn arian ar draws y Llywodraeth. Weithiau, gallwn ganolbwyntio gormod—yn y blaid hon neu yn y pleidiau eraill—ar ble y mae’r symiau o arian yn cael eu dyrannu yn hytrach na’r hyn y maent yn ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae gennyf ddiddordeb yn yr ansawdd a ddarparwn, a’r canlyniadau yr ydym yn eu sicrhau i bobl. Dyna pam rydym wedi buddsoddi mwy o arian yn y gyllideb ar wella ansawdd tai a nifer y tai sydd gennym yn ogystal. Rydym yn cydnabod bod yna effaith wirioneddol o ran ansawdd ar draws ystod gyfan o bethau ac nid y ffactor tai yn unig ychwaith. Felly, rwy’n disgwyl y byddwch yn gweld gan y Llywodraeth ein hasesiad ein hunain gyda byrddau iechyd a chyda phartneriaid tai o lwyddiant neu fethiant y cynllun hwnnw a’r hyn y byddwn yn awyddus i’w wneud yn y dyfodol.

Amseroedd Aros yn ymwneud â Chanser

7. Pa gynnydd sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cysylltiad ag amseroedd aros yn ymwneud â chanser? OAQ(5)0105(HWS)

Mae perfformiad yn ymwneud â chanser ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar lefelau uwch nag mewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Betsi Cadwaladr yn dangos bod bron i 99 y cant o bobl o fewn y mesur 31 diwrnod a bod bron 92 y cant o fewn y mesur 62 diwrnod. Bydd amseroedd aros canser, wrth gwrs, yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi.

Fel y nodwyd mor aml yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, mae yna restr hir o gleifion o hyd sydd wedi cael cam gan Betsi Cadwaladr yn ystod triniaeth ganser ac afiechydon eraill. Ni fuasai unrhyw clinigydd yn esgeuluso claf yn fwriadol neu’n gwneud cam â chleifion yn eu gofal. Mae’r ffaith fod y camgymeriadau hyn wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd yn deillio o gamreoli gan y bwrdd iechyd lleol. Beth fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrth y teuluoedd sydd wedi cael cam gan Betsi Cadwaladr ac sydd efallai’n aros yn awr am ganlyniadau hwyr ac fel un o fy etholwyr, am ganlyniad triniaeth hwyr, gan ofni na fydd eu hanwyliaid yn byw cyn hired am fod eu canser wedi lledaenu o bosibl?

Diolch am y cwestiwn. Nid wyf yn rhannu eich barn ar y darlun cyfan yn llwyr. Fel y nodais, mae Betsi Cadwaladr yn gwneud yn arbennig o dda ar amseroedd aros ar gyfer canser. Yr her yw bod unrhyw un sy’n aros yn rhy hir—. Hyd yn oed os ydych yn cael eich gweld o fewn yr amser gall fod yn broses sy’n peri pryder ac mae hynny’n cael effaith fawr ar yr unigolion a’u teuluoedd. Os cewch eich gweld y tu allan i’r amser hwnnw, wrth gwrs, mae pobl yn poeni mwy am yr effaith bosibl ar eu canlyniadau. Rydym yn gwybod bod ymchwiliadau’r ombwdsmon wedi dangos bod adegau wedi bod pan nad yw’r bwrdd iechyd wedi gweithredu yn y modd y gallent ac y dylent fod wedi gwneud. Mae’n bwysig nad ydym, wrth gydnabod ansawdd uchel y gofal sy’n cael ei ddarparu a’r perfformiad da o ran amseroedd aros, yn osgoi edrych ar y meysydd hynny hefyd lle y gallai ac y dylai’r bwrdd iechyd wella. Mae gwersi i’w dysgu o hynny, ac rwy’n deall os ydych yn un o’r teuluoedd sy’n teimlo nad yw’r bwrdd iechyd wedi gweithredu fel y gallent ac y dylent, ni fydd o bwys mawr i chi a yw’r profiad cyffredinol, profiad y mwyafrif llethol o bobl, yn un cwbl wahanol. Mae yna bwynt go iawn i’w wneud am ddysgu gwersi ac atebolrwydd ar gyfer hynny ac yn ein hymgyrch ein hunain i wella ac un y bwrdd iechyd hefyd. Felly, rwy’n disgwyl i Betsi Cadwaladr, fel pob bwrdd iechyd arall mewn gwirionedd, ddysgu’n iawn o gamgymeriadau a gwneud popeth y gallent ac y dylent ei wneud i sicrhau nad ydynt yn digwydd yn y dyfodol.

Meddygon Teulu

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am pa gyfran o feddygon teulu a gaiff eu cyflogi’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol? OAQ(5)0103(HWS)

Nid oes ond 15 feddygfeydd ledled Cymru sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol. Yr hyn sydd bwysicaf i mi yw bod byrddau iechyd yn sicrhau bod y tîm gofal sylfaenol cyfan y mae meddygon teulu yn rhan hanfodol ohono yn darparu gofal sy’n diwallu anghenion y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.

Rwyf wedi gweld yn fy ardal fy hun yn ne-ddwyrain Cymru mewn sawl cymuned yn y Cymoedd fod Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi cyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol i wella argaeledd ac i ddenu pobl i’r ardaloedd hynny, am rai blynyddoedd o bosibl yn hytrach nag ar gyfer eu gyrfaoedd ar eu hyd. A yw hyn yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Iechyd yn ystyried ei ddefnyddio ar sail achosion unigol mewn rhyw fodd, neu a yw’n bolisi gan y Llywodraeth i geisio symud y ddarpariaeth dros gyfnod o amser a chynyddu’r gyfran o feddygon teulu a gyflogir yn uniongyrchol o gymharu ag ymarferwyr annibynnol?

Nid wyf yn poeni o gwbl a yw pobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd neu mewn ymarfer annibynnol. Mae oddeutu 95 y cant o’r holl feddygon teulu yn y wlad yn rhan o’r model contractwyr annibynnol. Rwy’n awyddus i weld ansawdd y gofal hwnnw’n gwella. O ran yr hyn a ddywedais yn gynharach am glystyrau, mae’n galonogol iawn fod meddygon teulu yn cymryd mwy o berchnogaeth ar eu dyfodol gyda’r tîm gofal sylfaenol cyfan. A mater iddynt hwy ei benderfynu yw a ydynt yn meddwl bod yna fodelau newydd ac ychwanegol—gallant barhau i gynnal statws contractwr annibynnol—a fydd yn darparu’r ansawdd gofal a lledaeniad a chyrhaeddiad y gofal yr ydym am ei weld, boed hynny yn y model ffederal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, boed yn gwmni buddiant cymunedol megis Red Kite yn Aberhonddu, neu boed yn wahanol fathau o fodelau sy’n bodoli. Rydym yn deall y rheini drwy wrando a gweithio gyda’r proffesiwn. Dyna pam y mae’r tasglu gweinidogol yn bwysig iawn. Nid ymgyrch recriwtio yn unig ydyw; mae’n ymwneud â deall yr hyn y gallwn ei wneud i alluogi a grymuso ymarfer cyffredinol i wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy, i wneud eu swyddi hyd yn oed yn fwy diddorol—a rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac eraill o’i gwmpas. Yn hanfodol, yr hyn y gall y Llywodraeth hon ei wneud yw gwrando’n briodol. Dyna pam y mae’r dewis a wneuthum ynglŷn â llacio’r fframwaith ansawdd a chanlyniadau hyd at ddiwedd mis Mawrth wedi cael ei groesawu gan feddygon teulu. Unwaith eto, gwnaeth y meddygon teulu y bore yma, pan oeddwn gyda Huw Irranca, bwynt penodol o ddweud ‘diolch yn fawr’ am y penderfyniad hwnnw. Mae wedi bod yn help gwirioneddol iddynt. Mae’n dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth i feddygon teulu yn awr pan fydd y Llywodraeth hon yn gwrando, a chredaf y bydd perthynas o’r fath yn hanfodol i ddenu mwy o feddygon teulu i ddod yma i hyfforddi, gweithio a byw yn y dyfodol.

4. Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni symud at yr eitem nesaf, mae’n bleser gen i gyhoeddi canlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw. Dai Lloyd fydd yn gofyn i’r Cynulliad gytuno i gyflwyno Bil Aelod ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Felly, llongyfarchiadau i Dai Lloyd a phob lwc.

5. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Canolbwyntiodd fy natganiad 90 eiliad cyntaf ychydig cyn y Nadolig ar Guto Nyth Brân a Nos Galan. Gyda marwolaeth drist Bernard Baldwin MBE ychydig ddyddiau ar ôl Nos Galan 2016, nid yw ond yn briodol fy mod yn defnyddio ail ddatganiad i dalu teyrnged i etifeddiaeth Bernard fel crëwr digwyddiad rasio enwocaf Cymru.

Ganed Bernard yn y Barri yn 1925, a chafodd ei hyfforddi’n athro a chael swydd yn ysgol Mill Street, Pontypridd. Roedd Bernard yn athletwr brwd, daeth yn bencampwr iau Cymru am redeg milltir a threuliodd naw mlynedd fel ysgrifennydd Cymdeithas Athletau Amatur Cymru, gan eu cynrychioli yn y DU a ledled y byd. Derbyniodd yr MBE yn 1971 am wasanaethau i athletau. Hefyd, sefydlodd Bernard amrywiaeth o ddigwyddiadau athletaidd. Yr enwocaf oedd y ras ffordd Nos Galan i goffáu Guto Nyth Brân, gyda rhedwr dirgel i ddenu’r tyrfaoedd. Ond hefyd, sefydlodd Bernard ras Stryd Taf, ras gyfnewid Caerdydd i Aberpennar a gormod o rai eraill i’w rhestru, ond nod pob un oedd ceisio dod ag athletau at y bobl.

Ysgrifennodd Bernard yn doreithiog ar athletau ac am ei gartref mabwysiedig sef Aberpennar, a rhoddwyd rhyddid y fwrdeistref iddo gan Rondda Cynon Taf yn 2014. Daeth tyrfa i’w angladd yn Eglwys St Margaret ddydd Mercher diwethaf i ddathlu’r cof am Bernard a thalu teyrnged i fywyd a gafodd ei fyw’n dda, yn llawn o angerdd a gwasanaeth i’r gymuned. Bydd llwch Bernard yn cael ei wasgaru ar fedd Guto yn Eglwys Llanwynno a thrwy’r ras Nos Galan, bydd y cof am Bernard yn cael ei gadw’n fyw.

Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i dalu teyrnged i David Pugh, cyn-faer y Drenewydd a hanesydd lleol o fri, a fu farw yr wythnos diwethaf. Roedd David Pugh yn hanesydd lleol blaenllaw ers sawl degawd, yn allweddol yn y gwaith o sefydlu grŵp hanes y Drenewydd yn 1995 a’i gylchgrawn ‘The Newtonian’, ac mae’r ddau’n parhau i ffynnu heddiw. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gael ei weld gyda’i gamera yn tynnu lluniau adeiladau ar gyfer cofnodion hanesyddol, a cheir cyfnodolyn chwarterol 64 rhifyn bellach o’r enw ‘The Newtonian’, sy’n cynnwys llyfrgell o dros 28,000 o gyfeiriadau a 26,000 o ffotograffau o’r dref a’i phobl.

Diolch i ymroddiad a phenderfyniad parhaus David Pugh, yn ddi-os mae ‘The Newtonian’ wedi darparu cofnod awdurdodol o hanes y dref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Etifeddiaeth David yw y bydd hanes cofnodedig y Drenewydd ar gael bellach am flynyddoedd i ddod. Wrth sefydlu grŵp hanes y Drenewydd, derbyniodd Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2013, ac roedd hefyd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Ddinesig y Drenewydd a’r Cylch. Roedd David yn aelod hirsefydlog o’r Blaid Lafur a dywedodd ei wraig, Anna, wrthyf yr wythnos hon ei fod bob amser yn gwisgo sanau coch pan âi i bleidleisio. Roedd ei gyfraniad i gymdeithas ddinesig yn y Drenewydd yn eithriadol, a byddaf fi a’r gymuned yn y Drenewydd yn gweld ei golli.

6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a Gwaith Ymgysylltu ar gyfer y Dyfodol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle.

Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel Cadeirydd y pwyllgor, rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed wrth graffu ar feysydd allweddol o bolisi a deddfwriaeth dros gyfnod mor fyr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dros yr haf, aethom ati i ymgynghori ar yr hyn y dylai blaenoriaethau ein pwyllgor fod. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau amrywiol a manwl gan bron i 90 o sefydliadau ac unigolion o bob rhan o Gymru. Arweiniodd hyn y pwyllgor i agor dau ymchwiliad a nodwyd gan y rhanddeiliaid: gwasanaethau eiriolaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc a chanlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Rydym wedi gorffen cymryd tystiolaeth ar y ddau bwnc a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn fuan.

Gan edrych ymhellach i’r dyfodol ac yn fwy strategol, nododd ein pwyllgor, yn y broses o’i gynllunio, yr egwyddorion a’r dyheadau ar gyfer ein gwaith dros bumed tymor y Cynulliad hwn. Bydd ymwneud plant a phobl ifanc yn sail i bopeth. Drwy ein gwaith, byddwn yn sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu casglu mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol.

Yn ein hymchwiliad ciplun i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl eu barn ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Roedd eu cyfraniad yn rhan hanfodol o’n canfyddiadau a’n hargymhellion, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fo’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae’r effaith yn sylweddol. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn gatalydd i’w helpu i ddatblygu sgiliau a hyder a gwneud dewisiadau gwell yn eu bywydau.

Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ni weithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid, gofalwyr, athrawon a rhieni. Rwy’n llwyr ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bwyllgor eang ei orwelion a diddorol. Yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, bydd ein haelodau yn cynnal digwyddiadau gyda rhieni a gofalwyr yng ngogledd a de Cymru.

Rwyf hefyd yn falch o hysbysu’r Aelodau y bydd cyfres o weithdai’n digwydd i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwn yn rhan bwysig o’n gwaith craffu ar y Bil ADY ac rwy’n edrych ymlaen at weld safbwyntiau pobl ifanc yn llywio ein gwaith. Byddwn hefyd yn cynnal cynhadledd ar gyfer addysgwyr a rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i roi eu barn ar y Bil.

Buasai’n esgeulus ohonof i beidio â diolch i TSANA a SNAP Cymru am eu gwaith partneriaeth gwych gyda’n pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth hon wedi ein galluogi i ymgysylltu’n ystyrlon â’r rhai y bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Bydd ein gwaith partneriaeth a’n dull o weithredu sy’n edrych tuag allan drwy gydol y gwaith craffu deddfwriaethol hwn yn sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd ein gwaith a bydd gwaith craffu ar y Bil ADY yn rhan sylweddol o’n gwaith tan ddiwedd y gwanwyn.

Lywydd, mae aelodau’r pwyllgor a minnau wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn un o’n hymgynghoriadau cyfredol, rydym yn archwilio pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn o feichiogrwydd hyd at yr ail ben-blwydd. Mae’r amser ffurfiannol hwn yn rhan hollbwysig o fagwraeth plentyn ac yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad deallusol ac iechyd gydol oes.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl gynnar rhiant yn y 1,000 diwrnod cyntaf ac yn hollbwysig, pa mor effeithiol yw’r rhain am gefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant yn y tymor hir. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad pwysig hwn yn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaeth genedlaethol fawr ar sut y gallwn fynd ati o ddifrif i baratoi ein dinasyddion yn y dyfodol ar gyfer bywydau hapus ac iach.

Mae’r pwyllgor yn gofyn am fewnbwn gan athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill i’n hymchwiliad i ddysgu ac addysgu proffesiynol athrawon. Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r ffordd y mae athrawon newydd yn cael eu hyfforddi cyn iddynt gymhwyso a hefyd eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.

Weithiau mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn gaeth i amserlenni anhyblyg ac oherwydd materion capasiti a chynllunio, yn aml yn methu cael yr amser i wella’u hunain yn broffesiynol. Ni all hyn barhau o ystyried y newidiadau parhaus i’r system addysg yng Nghymru, felly byddwn yn edrych yn benodol ar drefniadau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol; rôl addysg gychwynnol i athrawon; a digonolrwydd y gweithlu addysg yn y dyfodol. Fel rhan o’n hymgynghoriad, byddwn yn gweithio gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymgysylltu ar y cyd â’r proffesiwn addysgu fel rhan o’u gwaith ar gonsortia.

Bydd yr Aelodau’n falch o glywed y bydd ein pwyllgor yn gwneud mwy na chynnal cyfres o ddarnau penodol o waith, ond y bydd hefyd yn sicrhau bod craffu parhaus yn digwydd ar feysydd polisi sy’n datblygu. I’r perwyl hwn, rydym yn parhau—[Torri ar draws.]—mae’n ddrwg gennyf; mae’n amser gwael iawn i ddechrau peswch. I’r perwyl hwnnw, rydym yn parhau i archwilio gweithrediad adolygiadau Donaldson a Diamond yn agos. Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau llwyddiant y diwygiadau pwysig sy’n cael eu cyflwyno. Yn gysylltiedig â’n gwaith craffu parhaus ar ddiwygiadau’r cwricwlwm, byddwn yn archwilio perfformiad Cymru yn y PISA yn agosach ac yn archwilio sut yn union y bydd y diwygiadau cwricwlwm yn effeithio ar ein safle rhyngwladol.

Bydd iechyd plant yn chwarae rhan fawr yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda sefydliadau megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a chroesawu prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru i’r pwyllgor ym mis Mawrth i amlinellu ei weledigaeth ar gyfer gwella iechyd plant.

Mae aelodau’r pwyllgor yn frwdfrydig iawn ynglŷn ag ansawdd a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cynnal gwaith craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y maes pwysig hwn. Bydd y pwyllgor yn parhau i edrych ar y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc mewn argyfwng, ac yn benodol, ar achosion o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol.

Mae’r fenter senedd ieuenctid sy’n cael ei harwain gan y Llywydd yn foment wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Nid yn unig y mae’n un a ddylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol rhwng ysgolion, pobl ifanc a’r Cynulliad, ond mae’n gydnabyddiaeth o wir werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth. Rwyf am gynnig cefnogaeth lawn a diwyro ein pwyllgor i sefydlu’r senedd ieuenctid, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn chwarae rhan lawn yn ei datblygiad.

Wrth gloi fy natganiad heddiw, Lywydd, hoffwn ddiolch i’r bobl ifanc, gofalwyr, rhieni ac arbenigwyr sydd wedi cyfrannu’n barod at ein cylch eang o waith ers sefydlu’r pwyllgor. Dros bumed tymor y Cynulliad hwn, gobeithiaf y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gyfrwng go iawn i leisiau pobl ifanc allu siapio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad. A gaf fi gofnodi pa mor effeithiol y bu yn ei chadeiryddiaeth hyd yn hyn, fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw—yn dod â’r pwyllgor at ei gilydd, gan ein galluogi i weithio mewn ffordd lle y ceir consensws o amgylch y bwrdd i ni allu bod mor effeithiol ag y gallwn? Hoffwn dalu teyrnged i chi, Lynne, am eich gwaith, eich ymroddiad a’ch ymrwymiad i’r dasg.

Fel y mae’r Cadeirydd wedi dweud eisoes, cafwyd llawer iawn o drafod a dadlau o amgylch y bwrdd ynglŷn â ble y dylai pwyslais gwaith y pwyllgor fod. Yn gynnar iawn yn y trafodaethau hynny, penderfynasom fel pwyllgor y buasem yn parhau i fynd ar ôl y materion hynny a etifeddwyd gan gyn-bwyllgorau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod holl bwyllgorau’r Cynulliad yn dod yn ddoethach ynglŷn â gwneud gwaith dilynol ar argymhellion a gwaith y maent wedi ei wneud yn y gorffennol. Mae’r Cadeirydd wedi cyffwrdd â nifer o’r rhain, gan gynnwys ein gwaith dilynol ar Donaldson, a cheir eraill, wrth gwrs, ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, gofal newyddenedigol ac ystod eang o faterion a fu’n destun gwaith yn y gorffennol. Rwy’n falch iawn fod y Cadeirydd wedi cofnodi ei phenderfyniad i wneud yn siŵr fod y rheini yn ôl ar agenda’r pwyllgor yn barhaus, fel y gallwn ddwyn y Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gyfrif am eu cyflawni ac am addewidion ar y materion hynny.

Roeddwn yn falch iawn mai un o’r darnau cyntaf o waith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yw mater eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Gwyddom fod rhywfaint o ddiogi wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem hon a chael gwasanaeth priodol, cwbl weithredol ledled Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, un sy’n deg o ran mynediad, ac rwy’n falch iawn, er bod yr adroddiad hwnnw heb gael ei gyhoeddi eto, ei fod eisoes wedi cael effaith wrth annog y Llywodraeth, a llywodraeth leol yn ogystal, i ddod at ei gilydd a symud pethau ymlaen yn sylweddol. Ac rwy’n gwybod, o ran y gwaith yr ydym yn ei wneud ar grantiau Sipsiwn/Teithwyr a lleiafrifoedd ethnig mewn addysg, fod y gwaith hwnnw hefyd yn tynnu sylw at rywbeth nad yw wedi cael llawer o sylw, a dweud y gwir, yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n bwysig taflu goleuni ar y materion penodol hyn.

Rhaid i mi ddweud, rwyf wedi bod yn siomedig gydag ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ar rai o’n hymholiadau o bryd i’w gilydd. Rydym wedi gwneud gwaith gwirioneddol wych, rwy’n meddwl, ar wasanaethau ieuenctid a gwaith ieuenctid ledled Cymru. Ac mae wedi bod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru o bosibl wedi bod yn gwneud penderfyniadau cyn i ganlyniad ein gwaith gael ei gyhoeddi—penderfyniadau byrbwyll weithiau, y bu’n rhaid iddi gamu’n ôl oddi wrthynt wedyn. Ac rwy’n meddwl bod yna wers yno i Lywodraeth Cymru.

Mae gennym rôl i’w chwarae fel seneddwyr yn y Cynulliad, gan helpu i gyfrannu at lunio’r gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ac rwy’n meddwl bod gennym gyfraniad defnyddiol iawn i’w wneud. Felly, mae hynny wedi bod ychydig yn siomedig, ac roeddwn yn falch iawn fod y Cadeirydd wedi mynegi teimladau cryf y pwyllgor yn dda iawn pan nad oedd pethau fel y dylent fod, er mwyn dod â phethau yn ôl ar y trywydd iawn, o ran y berthynas bwysig honno.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi’r ymrwymiad y mae’r Cadeirydd wedi’i roi heddiw hefyd i weithio’n agos iawn ac yn ofalus gyda phlant a phobl ifanc, i wneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn rheolaidd yn rhaglen waith y pwyllgor. Gwnaethom waith allgymorth fel rhan o’n hymchwiliad i’r gwasanaethau ieuenctid, ond wrth gwrs, mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn rhoi cyfleoedd pellach i ni wneud hynny. Ac mae’r Cadeirydd yn hollol gywir i nodi’r ffaith, pan fydd gan y Cynulliad Cenedlaethol senedd ieuenctid i Gymru, y bydd yn gallu cydweithio â hi, bydd hynny’n rhoi fforwm arall i ni, un y gellir ei defnyddio’n adeiladol i sicrhau bod safbwyntiau ein plant a’n pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein gwaith.

Felly, nid oes gennyf gyfres o gwestiynau ar gyfer y Cadeirydd, yn anffodus, ac eithrio dweud, ‘Daliwch ati gyda’r gwaith ardderchog.’ Rwy’n falch iawn gyda’r gwaith cychwynnol a wnaed, ac yn sicr mae gennych ymrwymiad fy mhlaid i gydweithio gyda chi, ac aelodau eraill y pwyllgor, i sicrhau ein bod yn gwneud gwaith effeithiol.

Nid wyf yn gwybod beth i’w ddweud, ar wahân i ‘diolch’. [Chwerthin.] Diolch i chi, Darren, am eich geiriau caredig. A gaf fi ddweud fy mod yn awyddus tu hwnt i’r pwyllgor weithio gyda’i gilydd fel tîm? Cawsom ddiwrnod cynllunio strategol rhagorol, ac roedd yn amlwg iawn ein bod i gyd yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu parhau yn yr un modd ag y dechreusom, a gwneud hynny. A wyf fi i fod i ymateb i’r pwyntiau eraill?

Wel, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, a chyd-fynd yn llwyr â’r sylwadau a wnaed yn gynharach am eich rôl yn cyflawni eich swydd fel Cadeirydd? Ac rwy’n cytuno’n llwyr â chynnwys eich datganiad. Ond rwy’n cynnig ychydig o sylwadau—a chwestiynau—nid ar ymchwiliad penodol, efallai, ond yn sicr ar lefel thematig.

Nawr, rwy’n arbennig o awyddus i’r pwyllgor archwilio’r cyfleoedd i Lywodraeth Cymru bontio’n fwy pendant at ymagwedd ataliol tuag at ei gwaith, o ran buddsoddi a pholisi, ar draws ehangder y polisïau sy’n ymwneud â’r pwyllgor wrth gwrs. Nawr, mae Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, yn siarad yn gynyddol am hynny, symud i’r cyfeiriad hwnnw, ac yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yma, sydd, a bod yn deg, wedi bod yn eithaf brwd ynglŷn â hyn, a dweud y lleiaf, ac rwy’n croesawu hynny. Ond a ydych yn cytuno y gellid gwneud mwy i weithredu a chyflymu symudiad i’r cyfeiriad hwnnw, a beth y credwch y gall y pwyllgor gyfrannu, er mwyn annog y Llywodraeth i symud, yn gynyddol, i’r cyfeiriad hwnnw?

Nawr, maes allweddol arall wrth gwrs, rwy’n credu, yw cyfrannu at sicrhau mwy o barch cydradd rhwng addysg a chymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Ac rwy’n gobeithio y gall hyn fod yn etifeddiaeth bwysig gan y Cynulliad hwn, yn sicr o ran ymagwedd fwy hirdymor, ac yn sicr mae’n rhywbeth y dylem fod yn dod ato, yn fy marn i—neu’n mynd ar ei drywydd, dylwn ddweud—fel pwyllgor. A hoffwn glywed eich barn ynglŷn â sut y credwch y gallwn geisio gwneud hynny yn y modd mwyaf effeithiol.

Yn drydydd, ar nodyn llai cadarnhaol, mewn perthynas â’n hymchwiliad ar waith ieuenctid, ac rydym eisoes wedi clywed cyfeiriad ato—a hoffwn ddatgan buddiant fel un o lywyddion anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—a gaf fi ofyn a ydych yn rhannu fy siom, ar ôl ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar dri achlysur gwahanol, ein bod yn dal i aros am atebion i chwe chwestiwn eithaf uniongyrchol, eithaf syml am y ffordd y gwnaed y penderfyniad ynglŷn â chyllid Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol? Anfonwyd y llythyr cyntaf yn gynnar ym mis Tachwedd, llythyr arall ym mis Rhagfyr. Rydym wedi cael ein gorfodi unwaith eto i ysgrifennu y mis hwn, ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros am atebion. Os yw’r pwyllgor yn mynd i gyflawni ei rôl yn craffu ar Lywodraeth Cymru, o ran dwyn Gweinidogion i gyfrif, yna mae ymatebion osgoilyd o’r fath gan y Gweinidog, nad ydynt yn gwneud unrhyw ymdrech mewn gwirionedd i ateb y cwestiynau a ofynwyd gennym, nid yn unig yn rhwystro ein gwaith, ond yn gyfan gwbl annerbyniol yn fy marn i. Felly, a ydych yn rhannu fy siom yn hynny o beth? Ac yn ail, pa gamau yr ydych yn argymell y dylai’r pwyllgor eu cymryd os byddwn, ar ôl gofyn am y trydydd tro, yn dal i fethu cael atebion i’n cwestiynau?

Yn olaf, rwy’n gobeithio y gall y pwyllgor adlewyrchu egwyddorion craidd gwaith ieuenctid drwy ein gwaith, o ran cynnig profiadau addysgiadol, mynegiannol, cynhwysol a chyfranogol sy’n grymuso i bobl ifanc. Ac fe gyfeirioch at yr ymgysylltiad ystyrlon iawn â phobl ifanc a fydd—ac sydd wedi bod, ac yn parhau i fod—yn nodwedd ganolog o’n gwaith. Ond rwy’n meddwl tybed a allwn fynd â hynny ymhellach. A allem, er enghraifft, ddirprwyo’r dewis o ymchwiliad i bobl ifanc yn y dyfodol? Gallem ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc gysgodi aelodau’r pwyllgor mewn rhyw ffordd? A ddylid cael gweledigaeth i bobl ifanc ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, efallai fel rhan o’r cynulliad arfaethedig ar gyfer pobl ifanc, fel y gallwn fanteisio o ddifrif ar gyfraniad plant a phobl ifanc yn ein trafodaethau fel pwyllgor dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod?

Hoffwn ddiolch i Llyr am ei sylwadau caredig i mi, a diolch iddo hefyd am ei gwestiynau, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb. Cytunaf yn llwyr mewn perthynas ag atal. Rydym yn gwybod ei fod yn gwbl allweddol ym mhob math o feysydd, ac mae’n rhywbeth y mae angen i ni geisio gwneud mwy ohono bob amser. Rwy’n meddwl mai dyna un o’r rhesymau pam y bydd ein hymchwiliad i’r 1,000 diwrnod cyntaf mor bwysig, oherwydd gwyddom fod y ddwy flynedd gyntaf honno o fywyd plentyn yn gwbl allweddol, ac rwy’n gobeithio y gallwn ychwanegu gwerth at y gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn i geisio gwneud hwnnw’n amser pan allwn ganolbwyntio ar atal.

Y maes arall, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Rydym yn gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at CAMHS arbenigol nad ydynt angen CAMHS arbenigol o bosibl, a dylent fod yn cael cymorth yn y system ysgolion, drwy wasanaethau ieuenctid. Ac rwy’n meddwl bod y gwaith a wnawn yn craffu ar Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn helpu, gobeithio, i roi hwb i’r gwaith hwnnw mewn ysgolion, mewn canolfannau ieuenctid, a chyda chwnselwyr, ac yn gwneud cyfraniad pwysig at hynny.

Rwy’n cytuno â chi ynglŷn â phwysigrwydd parch cydradd rhwng addysg alwedigaethol ac addysg. Fel y gwyddoch, nid yw’n faes yr ydym wedi treulio llawer o amser arno hyd yn hyn, ar wahân i ystyried pethau fel Diamond, lle y gallodd y pwyllgor groesawu’r pwyslais a roddodd yr Athro Diamond ar gyllido myfyrwyr mewn hyfforddiant galwedigaethol hefyd. Ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu parhau hynny. Hoffwn ei gweld yn elfen mewn llawer o’n hymholiadau, ac fe fyddwch yn gwybod yn ein gwaith craffu cynnar ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, mai un o’r materion sy’n codi’n rheolaidd yw gofyn pam nad yw’r Bil yn cwmpasu pethau fel prentisiaethau. Ac rwy’n credu bod angen i ni barhau i wneud hynny, mewn gwirionedd, i brif ffrydio i mewn i’n holl waith.

O ran y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, yn amlwg roeddwn yn rhannu pryderon y pwyllgor ynglŷn â’r ffordd y cafodd y ddeialog gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol ei thrin. Roeddwn yn glir iawn am hynny ar y pryd, ac roeddwn yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y pryderon hynny gyda’r Gweinidog. Yn amlwg, byddai wedi bod yn well pe baem wedi cael atebion gonest o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod Gweinidogion yn ymgysylltu mor agored â phosibl gyda phwyllgorau. Gwn fod y Gweinidog wedi cael ein llythyr diweddaraf, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn yn awr yn cael ateb pendant a’n bod yn gallu symud ymlaen, mewn gwirionedd, i ystyried yr hyn sy’n fater enfawr, sef holl ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.

Ac yna, yn olaf, rwy’n meddwl bod eich pwyntiau ynglŷn â phobl ifanc a’r rhan y maent yn ei chwarae yn bwysig iawn. Gwn fod y pwyllgor diwylliant a’r cyfryngau wedi cynnal ymarfer mewn ymgysylltu â’r cyhoedd, gan ofyn i bobl ddewis ymchwiliad, a buaswn yn sicr yn frwdfrydig iawn ynglŷn â gwneud hynny gyda phobl ifanc. Rwyf hefyd yn awyddus tu hwnt, mewn gwirionedd, i edrych ar unrhyw bethau arloesol y gallwn roi cynnig arnynt, megis cyfleoedd cysgodi neu efallai gael pwyllgor cysgodi hyd yn oed. Hoffwn ein gweld yn cael pobl ifanc i mewn yma a’u cynnwys. Rwy’n credu bod unrhyw beth sy’n annog pobl ifanc i gymryd rhan yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, yn enwedig gyda’r heriau sy’n ein hwynebu wrth symud ymlaen.

Os caf ofyn dau gwestiwn yn ymwneud â’ch datganiad: rydych yn cyfeirio at ymchwiliad y pwyllgor i’r canlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Tybed a allwch ddweud wrthyf a gymeroch dystiolaeth gan Ysgol Uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, sydd wedi chwarae rhan fawr ac arweiniol wrth ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr leol a gwella canlyniadau addysgol i bobl ifanc? Mae’r gymuned a’r ysgol wedi mynegi pryderon nad yw hynny wedi’i gynnwys yn y penderfyniadau ynglŷn â chau’r ysgol, a allai effeithio’n andwyol ar y cysylltiad a gafwyd â’r gymuned.

Yn ail ac yn olaf, fe gyfeirioch at y craffu a fydd yn parhau gyda’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Fe gyfeirioch at blant, yn gwbl briodol, yn chwarae rhan, a rhanddeiliaid ac ymarferwyr. Nid ydych yn sôn am rieni. A allwch gadarnhau y bydd rhieni yn cymryd rhan er mwyn i chi allu rhannu eu profiad ymarferol o bryder y gallai hyn arwain, ar sail y profiad hyd yn hyn, i ddogni, os na chaiff ei drin yn briodol, lle y mae’r symud i ffwrdd o ddatganiadau i weithredu ar ran yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy, wedi arwain, mewn rhai achosion, at nifer fwy o waharddiadau, yn enwedig ymhlith plant ar y sbectrwm awtistig ac fel arall, ac yn aml mae llesteirio mynediad at wasanaethau?

Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiynau hynny. Hyd y gwn i, ni chawsom unrhyw dystiolaeth gan ysgol John Summers oherwydd bod ein hymchwiliad yn ymwneud yn benodol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i uno’r cronfeydd a roddwyd i gefnogi dysgu Sipsiwn/Teithwyr a dysgu lleiafrifoedd ethnig i mewn i un grant mawr, a elwir yn grant gwella addysg. Bu’n ymchwiliad gweddol fyr ac rydym i fod i adrodd cyn bo hir. Fe ofynnaf i’r gwasanaeth pwyllgorau a gawsom rywbeth yn ysgrifenedig o bosibl, ond nid wyf yn credu ein bod. Roedd yn ymchwiliad ag iddo ffocws manwl iawn.

Diolch i chi am eich pwyntiau am y Bil ADY. A dweud y gwir, roedd fy natganiad yn cyfeirio at ymgynghori â rhieni. Mae gennym ddigwyddiadau gyda rhieni yng ngogledd a de Cymru a chynhelir ymgynghoriad ysgrifenedig yn ogystal, a fydd hefyd yn gyfle i rieni. Wrth gwrs, mae rhieni’n cymryd rhan weithredol iawn yn rhai o’r sefydliadau sy’n rhoi tystiolaeth.

Rydych wedi gwneud y pwynt o’r blaen, rwy’n gwybod, am y perygl o wanhau’r gefnogaeth drwy symud i system lle y mae gan bawb gynllun dysgu unigol ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn ei archwilio. Mae wedi codi ym mhob cyfarfod, mewn gwirionedd, yn y gwaith craffu hyd yn hyn, ac rwy’n meddwl y gallaf ddweud bod pawb eisiau i’r Bil hwn weithio. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol ddigynsail mewn gwirionedd i gael rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Ac rwy’n siŵr fod y Llywodraeth yn awyddus iawn i gael rhywbeth sy’n gweithio. Gallaf yn sicr roi’r ymrwymiad y byddwn i gyd yn craffu ar hynny’n ofalus iawn. Mae hyn yn ymwneud â gwella pethau i blant a phobl ifanc ac nid dogni mewn unrhyw fodd neu wneud pethau’n waeth mewn unrhyw ffordd.

Diolch yn fawr am ddyfalbarhau drwy hynny gyda’ch llais fel y mae. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn parhau â’i waith ac y byddwch yn dod yn ôl atom gyda mwy o ddatganiadau. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig

Dangoswyd cyflwyniad PowerPoint i gyd-fynd â’r drafodaeth. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Eitem 5 ar yr agenda yw dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar waed halogedig. A galwaf ar Julie Morgan i gynnig y cynnig. Julie.

Cynnig NDM6191 Julie Morgan, Dai Lloyd, Rhun ap Iorwerth, Mark Isherwood, Hefin David, Jenny Rathbone

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a’r 1980au.

2. Yn nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a bod eraill yn dal i fyw gyda’r heintiau hyn.

3. Yn cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda chanlyniadau’r drychineb hon.

4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn nodi ymhellach nad yw’r teuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt wedi cael atebion llawn ynglŷn â’r rhesymau pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a’u bod yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw i agor y ddadl hon gan Aelodau unigol, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i drasiedi gwaed halogedig yr 1970au a’r 1980au, a diolch i’r Aelodau trawsbleidiol sydd wedi cyflwyno’r cynnig hwn gyda mi: Dai Lloyd, Mark Isherwood, Hefin David, Jenny Rathbone a Rhun ap Iorwerth, a fydd yn cloi’r ddadl, ac rwy’n gwybod bod yna siaradwyr eraill hefyd.

Mae 70 o bobl Cymru wedi marw yn yr hyn a gafodd ei galw’n drasiedi genedlaethol fwyaf erioed y GIG—cafodd 273 o bobl eu heintio gan waed halogedig yng Nghymru. Mae llawer ohonynt yn dal i ddioddef ac mae’r boen yn dal i barhau iddynt hwy a’u teuluoedd. Yn y 1970au a’r 80au, cafodd 4,670 o bobl yn y DU a oedd yn dioddef o hemoffilia eu heintio â hepatitis C, a rhwng 1983 a dechrau’r 1990au, cafodd 1,200 eu heintio â HIV. Mae enwau 49 o’r 70 a fu farw yn ymddangos ar y sgriniau yn y Siambr yn awr, a byddant yn ymddangos eto yn ystod yr araith i gloi. Rydym am i hwn fod yn gyfle i Aelodau’r Cynulliad glywed hanesion rhai o’r bobl hynny, ac rwy’n gobeithio y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon neges glir i’r Llywodraeth yn San Steffan fod arnom angen ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar sgandal y gwaed halogedig.

Diolch i chi Julie am ildio. A gaf fi ddweud bod y ddadl heddiw, ond hefyd yr alwad am yr ymchwiliad cyhoeddus, yn cael cefnogaeth fy etholwyr yn Llanhari a hefyd ym Maesteg, y bûm yn ymwneud â hwy dros lawer iawn o flynyddoedd? Efallai y bydd hanes un o fy etholwyr o Lanhari yn tynnu sylw at ddisgrifiad yr Arglwydd Winston o hon fel y drychineb waethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y GIG. Cafodd ei mab ei heintio gan hepatitis C yn 12 oed ac mae ei afu’n agos at fod yn sirotig. Heintiwyd ei dau nai ar yr un pryd, ac mae un ohonynt wedi marw ers hynny a’r llall wedi cael trawsblaniad iau. Mae fy etholwr yn eich cefnogi, ac yn cefnogi’r alwad hon am ymchwiliad cyhoeddus, fel y mae llawer o bobl eraill.

Diolch i’r Aelod am y cyfraniad hwnnw. Ar y pwynt hwn, a gaf fi dalu teyrnged i Lynne Kelly a Hemoffilia Cymru am y gwaith y maent wedi ei wneud, nid yn unig i dynnu sylw at y mater a’r angen am ymchwiliad cyhoeddus, ond hefyd am y gwaith y maent wedi’i wneud i geisio sicrhau taliadau teg i’r rhai sydd wedi dioddef, ac i’w teuluoedd? Fe wyddom mai yn awr y mae’r ymgynghoriad ar y taliadau arian yn dod i ben yng Nghymru, ac y bydd y Gweinidog Iechyd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â beth fydd y taliadau hynny. Rydym yn gwybod bod y teuluoedd yn anhapus am y cynllun yn Lloegr, ac yn tueddu i deimlo mai briwsion yn unig a gawsant.

Mae’r rheswm pam y mae pobl yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal, a arweinir gan Hemoffilia Cymru, yn teimlo eu bod angen ymchwiliad cyhoeddus yn awr yn syml: mae’n gais i ddod o hyd i’r gwirionedd. Maent wedi bod ar daith hir, o’r adeg y cafodd unigolion a’u teuluoedd wybod gyntaf eu bod wedi cael gwaed halogedig ac y gallent ddatblygu HIV neu glefyd yr afu, i ymdopi â salwch cynyddol, i ymladd am daliadau iawndal. Yn y gorffennol, roedd llawer ohonynt yn teimlo y gallent ymddiried yn y Llywodraeth i wneud y peth iawn, y byddent yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt am fod eu bywydau wedi cael eu difa’n llwyr heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Mae’r farn honno wedi newid yn awr. Maent eisiau ymchwiliad cyhoeddus er mwyn cael y gwirionedd am yr hyn a ddigwyddodd pan gawsant waed halogedig. Roedd adroddiad Archer yn ymchwiliad annibynnol, ond nid oedd yn cyflawni diben ymchwiliad cyhoeddus llawn. Nid oedd yn ymchwiliad statudol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, nid oedd ganddo unrhyw bŵer i orfodi unrhyw un i roi tystiolaeth, neu i gyflwyno dogfennau. Mewn gwirionedd gwrthododd yr Adran Iechyd ddarparu tystion i roi tystiolaeth yn gyhoeddus. Yn ogystal, nid ei gylch gwaith oedd darganfod beth a ddigwyddodd, pwy oedd ar fai, ond yn hytrach i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Felly pam eu bod eisiau ymchwiliad cyhoeddus? Maent eisiau ymchwiliad cyhoeddus i ddarganfod pam y parhawyd i roi gwaed yn y 1970au a’r 1980au pan oedd y perygl o heintio’n hysbys. Dywedodd adroddiad Archer fod y diwydiant gwaed yn lobi bwerus. Pam y parhawyd i fewnforio gwaed o’r Unol Daleithiau, lle roedd cyfran fawr o’r gwaed yn cael ei roi gan bobl a gâi eu talu amdano a chan y rhai a oedd fwyaf o angen arian, y rhai a oedd fwyaf agored i haint, ac yn aml, haint heb ei drin? Pam y diflannodd y papurau gweinidogol? Yn 1975 neilltuwyd arian gan yr Arglwydd Owen, a oedd yn Weinidog iechyd ar y pryd, er mwyn i’r DU ddod yn hunangynhaliol, felly ni fuasai angen mewnforio gwaed mwyach. Yn 1987, ac yntau wedi hen adael ei swydd, pan glywodd na lwyddwyd i sicrhau hunangynhaliaeth, gofynnodd am gael gweld y papurau gweinidogol ar y pryd a gwelodd eu bod wedi cael eu dinistrio o dan y rheol 10 mlynedd. A oes unrhyw un yn gwybod beth yw’r rheol 10 mlynedd? Mae angen clirio hyn i gyd o’r diwedd. Ymddiheurodd David Cameron am y drychineb y llynedd, ond ni chyhoeddodd ymchwiliad cyhoeddus. Am hynny y gofynnwn am y tro.

Cyn i mi gloi, hoffwn gyfeirio at rai o’r bobl a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal hon. Mae Barbara Tumelty yn un o fy etholwyr, ac mae’n dweud wrthyf:

Rwy’n ysgrifennu fel aelod o deulu sydd mewn galar yn sgil y sgandal gwaed halogedig. Hoffwn i chi grybwyll enwau fy mrodyr yn nadl y Cynulliad, sef Haydn a Gareth Lewis. Buont farw ym mis Mai a mis Mehefin 2010, ac roedd y ddau wedi’u heintio â HIV a hepatitis C, a CJD hefyd o bosibl. Hoffwn ofyn i chi alw am ymchwiliad cyhoeddus llawn fel y rhoddwyd i deuluoedd Hillsborough yn y pen draw. Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymddiheuriad, rydym ni, fel teuluoedd, yn dal i geisio dod o hyd i atebion ac atebolrwydd am weithredoedd nad oes neb wedi cael eu beio amdanynt dros yr holl flynyddoedd. Roedd Gareth yn gyd-sylfaenydd Grŵp Birchgrove, grŵp cymorth a sefydlwyd i helpu hemoffiliaid, a’u teuluoedd a gafodd eu heintio â HIV, ac ef oedd sylfaenydd Hemoffilia Cymru.

Un o etholwyr Mick Antoniw yw Leigh Sugar, a dyma’r hyn y gofynnodd ei weddw, Barbara Sugar, mi ei ddweud,

Roedd fy ngŵr, Leigh Sugar, yn dioddef o ffurf ysgafn ar hemoffilia a chafodd ei heintio â hepatitis C yn 14 mlwydd oed, yn dilyn cwymp o ben ceffyl. Ni chafodd ei rieni eu rhybuddio am y risg oedd ynghlwm wrth y ffactor VIII newydd. Ni ddywedwyd wrth rieni Leigh fod y driniaeth newydd â chrynodiad ffactor VIII yn cynnwys rhoddion gwaed gan hyd at 20,000 o roddwyr. Byddai un rhoddwr â hepatitis C neu HIV yn ddigon i halogi’r llwyth cyfan. Â’i driniaeth gyntaf â ffactor VIII, cafodd Leigh ei heintio â hepatitis C, firws marwol a ddinistriodd ei afu a’i ladd yn 44 oed. Gweithiodd Leigh tan y flwyddyn cyn ei farw. Hyfforddodd fel mecanig a phrynodd ei garej ei hun ac adeiladu busnes llwyddiannus i gynnal ei ddwy ferch ifanc. Mae’r stigma sy’n gysylltiedig â hepatitis C yn golygu na ddywedodd wrth unrhyw un, hyd yn oed ei bartner busnes, a phan aeth yn sâl, parhaodd i gadw’r gyfrinach. Cafodd Leigh ddiagnosis o ganser yr iau a threuliodd flynyddoedd olaf ei oes mewn poen a dioddefaint mawr. Bu farw ym mis Mehefin 2010. Cafodd ei frawd hefyd ei heintio â hepatitis C yr un pryd a chafodd drawsblaniad afu llynedd. Ni fydd rhieni Leigh byth yn dod drosti ac mae ein teulu wedi cael ei rwygo gan waed halogedig. Trwy ddarganfod y gwir, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu symud ymlaen â’n bywydau a deall pam y caniatawyd i hyn ddigwydd.

Wel, fel y clywsom, yn y 1970au a’r 1980au, cafodd cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG eu halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd tua 4,670 o gleifion sydd â’r anhwylder ceulo gwaed, hemoffilia, eu heintio, ac mae dros 2,000 wedi marw yn y DU o effeithiau’r firysau ers hynny, ac fel y clywsom, roedd 70 ohonynt yng Nghymru. Mae Llywodraethau olynol yn y DU wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiadau hyn ers hynny. Gwnaeth ymchwiliad annibynnol 2009 o dan yr Arglwydd Archer argymhellion cryf i’r Llywodraeth, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu rhoi ar waith.

Yn 2008, sefydlodd Llywodraeth yr Alban ymchwiliad cyhoeddus o dan yr Arglwydd Penrose. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol ymchwiliad Penrose ym mis Mawrth 2015, fe ymddiheurodd David Cameron am y drychineb halogi gwaed ac addawodd wella cymorth ariannol. Ymddiheurodd Nicola Sturgeon hefyd ac yn sgil ymgynghoriad llawn â’r rhai yr effeithiwyd arnynt yno, cyhoeddodd gynllun newydd yn yr Alban yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus. Mae cynllun yr Alban yn cynnig taliadau gwell i’r rhai sydd â HIV a hepatitis C mwy datblygedig, yn ymdrin â’r rhai sydd â’r angen ariannol mwyaf ac am y tro cyntaf, mae hawl gan weddwon i daliadau rheolaidd a bellach, ni fydd yn rhaid iddynt wneud cais am gymorth disgresiynol drwy brawf modd, sy’n cynnig rhywfaint o ddiogelwch drwy daliadau blynyddol o tua £20,000. Yn Lloegr, taliad untro yn unig o £10,000 fydd gweddwon yn ei gael.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth rhannol i rai unigolion a theuluoedd drwy ymddiriedolaethau elusennol amrywiol a ariennir gan yr Adran Iechyd. Yn dilyn ymgynghoriad yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth o £125 miliwn i wella cymorth i ddioddefwyr yn Lloegr, gyda gweinyddiaethau datganoledig yn cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau a thaliadau yn y dyfodol yn eu gwledydd eu hunain.

Ym mis Hydref 2016, fel mesur interim, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yma daliadau ar gyfer gweddill blwyddyn ariannol 2016-17 ar yr un lefel â Lloegr, gan ychwanegu,

‘Fodd bynnag, efallai bod gan y rhai a effeithiwyd syniadau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio’r arian hwn i’w helpu yn eu bywydau bob dydd ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol. I’n helpu gyda’n trefniadau ar gyfer y dyfodol, rwyf nawr yn gofyn am fwy o sylwadau am gynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen.’

Mae cynllun Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei glodfori’n eang gan ddioddefwyr fel y model gorau, gan gynnig dewis o daliad untro neu daliadau parhaus, yswiriant bywyd a diogelu morgais, a cherdyn gwella iechyd sy’n sicrhau mynediad at driniaeth a chymorth.

Gan gyfeirio at

y sefyllfa gwbl drasig hon i bawb sy’n gysylltiedig â hi—

dywedodd Cruse Bereavement Care wrthyf fod

pobl wedi bod yn byw gyda hyn ers 30-40 mlynedd. O ystyried y stigma sydd ynghlwm wrth anhwylderau gwaed, rhaid i aelodau o’r teulu ymdopi â’r adweithiau sy’n dod gyda’r salwch. Mewn rhai achosion mae hyn yn amlygu ei hun ar ffurf angen i deimlo nad ydynt wedi gwneud dim o’i le ac i gael eu poen wedi’i gydnabod—yn breifat yn ogystal ag yn gyhoeddus. Yn fras, pan fydd Cruse yn gallu cynnig cymorth mewn profedigaeth, gwelwn mai profiad y rhai sydd mewn galar yw na all y cwestiynau barhau heb atebion mwyach, a gall hynny effeithio’n ddwfn ar bobl sydd wedi cael profedigaeth. Yn anffodus, rydym hefyd yn gweld hyn mewn achosion o hunanladdiad neu achosion pan fydd amheuaeth o hunanladdiad neu drosedd, ond nid yw’r teulu/ffrindiau byth yn berffaith sicr. Gall yr elfen anhysbys fod yn ddeifiol a gall arwain at bobl yn mynd i gylch o feddwl ynglŷn â’r hyn a allai fod wedi digwydd neu’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Mae ein gorffennol yn bwysig i ni, ac mae hyn yn rhoi peth o’n hunaniaeth i ni. Gyda chymaint o bethau fel hyn yn anhysbys, gall wneud i bobl deimlo’n sigledig.

Gadewch i mi ddyfynnu’n fyr—i ychwanegu at yr enghreifftiau a roddwyd—Monica Summers, y bu farw ei gŵr, Paul, a halogwyd â gwaed o fanc gwaed, ar 16 Rhagfyr 2008, yn 44 oed. Roedd eu merch yn bump oed. Mae Monica’n dweud,

Bob dydd am 18 mis gofynnodd "pryd y mae Dad yn dod adref?" Roedd hi’n 13 oed ym mis Hydref, ac rydym ein dwy’n ei chael hi’n anodd. Nid oedd gan fy ngŵr ddewis, cafodd ei wneud drosto a chollodd ei fywyd oherwydd penderfyniadau a wnaed gan eraill. Eto i gyd dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i geisio cael rhywfaint o gytundeb. Gadewch i’r penderfyniadau nesaf gael eu gwneud gan leisiau pobl sydd ar hyn o bryd yn dioddef o HIV a hepatitis C, gan y gweddwon a’r teuluoedd a adawyd ar ôl i geisio gwella ac adeiladu bywyd newydd normal.

Mae gwaed halogedig wedi cael, ac yn parhau i gael, effaith ddinistriol ar fywydau’r miloedd o bobl sydd â hemoffilia a’u teuluoedd. Mae’r rhai a heintiwyd yn byw gydag effeithiau firysau ar eu hiechyd, gyda mwy o farwolaethau bob blwyddyn. Fel y dywed Hemoffilia Cymru,

Ymchwiliad cyhoeddus yw’r unig ffordd ymlaen i gyrraedd y gwir am y modd y camdrafodwyd y digwyddiadau hyn gan y Wladwriaeth.

Ddirprwy Lywydd, mae hon yn fwy o alwad i weithredu na dadl heddiw. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar ran y rhai sy’n ceisio cyfiawnder i’w hunain ac i’w teuluoedd.

Yn ei chyfraniad agoriadol, soniodd Julie Morgan am un o etholwyr ein cyd-Aelod, Mick Antoniw—Mr Leigh Sugar—a fu farw o hepatitis C. Mae modryb Mr Sugar yn un o fy etholwyr—Mrs Dorothy Woodward. Mae hi wedi sôn wrthyf am ei gobaith y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn heddiw ac yn cydnabod yr effaith a gafodd y drychineb hon ar fywydau’r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Mae’n dda gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yno i wrando ar yr apêl honno.

Hoffwn siarad hefyd am hanesion dau arall o fy etholwyr a gysylltodd â mi cyn y ddadl heddiw. Mae Mr Kirk Ellis yn 35 mlwydd oed. Mae ganddo hemoffilia a chafodd ei heintio â hepatitis C pan oedd ond yn ddwy oed. Mae Kirk wedi parhau i weithio, hyd yn oed wrth gael gwahanol driniaethau tebyg i gemotherapi i ddileu hepatitis C. Mae wedi cael sgil-effeithiau mor ddifrifol nes ei orfodi i roi’r gorau i’r driniaeth am ei bod yn golygu na all weithio, ac ni allai fforddio peidio â gweithio. Yn anffodus, cafodd Kirk wybod yn ddiweddar fod ganddo sirosis yr afu, a achoswyd gan hepatitis C. Nid yw ei glefyd wedi cael ei fonitro’n ddigonol oherwydd yr oedi a achoswyd wrth benodi hepatolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Cafodd Kirk ei anghofio, a phan gafodd ei weld yn y pen draw gan yr hepatolegydd a benodwyd, cadarnhawyd bod sirosis arno mor gynnar â Mai 2015. Gan nad oedd yn ymwybodol o’r dirywiad yn ei afu, penderfynodd Kirk a’i bartner ddechrau teulu, a bellach mae ganddynt fabi 15 wythnos oed. Ers ei ddiagnosis, mae Kirk wedi parhau i weithio ond mae wedi colli ei lwfans byw i’r anabl a’i fudd-dal tai. Mae’n teimlo ei fod yn cael ei gosbi am geisio aros yn y gwaith er ei fod yn sâl gyda sgil-effeithiau’r driniaeth.

Cysylltodd un arall o fy etholwyr â mi i ddweud y stori drasig ynglŷn â sut yr effeithiwyd ar ei deulu. Cafodd ei ddau frawd iau a oedd yn efeilliaid eu heintio â HIV a hepatitis C gan drallwysiadau gwaed halogedig a gyflenwyd gan y GIG i drin hemoffilia. Ar ôl blynyddoedd lawer o afiechyd ofnadwy, bu’r ddau farw o effeithiau HIV. Dioddefodd brodyr fy etholwr wahaniaethu, yn ogystal â cham-drin geiriol a chorfforol—ac fe roddodd hyn mewn dyfynodau—’am fod ganddynt AIDS’. Ni ddaeth eu mam dros farwolaeth ei meibion ​​ieuengaf a bu’n dioddef o iselder drwy ei blynyddoedd olaf. Mae wedi bod yn anodd iawn iddo gysylltu â mi a siarad am hyn, ond mynegodd i mi ei obaith y bydd straeon personol yr holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn help iddynt symud ymlaen gyda’u bywydau, a dyna pam y mae enwau’r ymadawedig ar y sgrin heddiw, a pham rwy’n dweud y straeon hyn.

Dwy enghraifft yn unig yw’r rhain o bobl yng Nghaerffili. A all unrhyw un ohonom ddychmygu sut y mae’n rhaid bod hyn yn effeithio ar bobl sy’n dioddef heb fod unrhyw fai o gwbl arnynt hwy? Mae’n anghyfiawnder enbyd, ac mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i weld pam y digwyddodd hyn. Nid yw’n fater pleidiol. Mae angen i’r ymchwiliad gynnwys y DU gyfan, gan fod y digwyddiadau hyn wedi digwydd cyn datganoli ac ym mhob cwr o’r DU.

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet newydd orffen ymgynghori yn ddiweddar ar y pecyn iawndal cynaliadwy i bobl yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y drychineb hon. Buaswn yn ei annog i wrando ar eu barn cymaint â phosibl, a’u straeon, wrth roi ei gynlluniau ar waith.

Mae Kirk Ellis yn teimlo’n gryf fod angen i Gymru fabwysiadu cynllun iawndal tebyg i’r un yn yr Alban fel y gall ei deulu gynnal eu hunain pe bai unrhyw beth yn digwydd iddo. Nid yw llawer o’r rheini yng Nghymru sy’n byw gydag effeithiau’r drychineb hon yn teimlo bod y cynllun iawndal presennol, sy’n adlewyrchu’r un yn Lloegr, yn mynd yn ddigon pell. Rwy’n gobeithio, heddiw, ein bod ni fel Aelodau’r Cynulliad wedi rhoi llais i etholwyr yr effeithiwyd arnynt gan y drychineb ofnadwy hon.

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma prynhawn yma. Mae yna unfrydedd barn. A gaf i ddechrau drwy gydnabod gwaith y grŵp aml-bleidiol yma yn y Cynulliad o dan gadeiryddiaeth Julie Morgan? Rydw i’n diolch iddi am ei geiriau agoriadol. Wrth gwrs, rydw i hefyd yn diolch i Haemophilia Wales o dan lawr Lynne Kelly am bob cefnogaeth, a’u tystiolaeth gryf iawn nhw, angerddol, yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi’u mynychu dros y misoedd diwethaf yma.

I may have mentioned in passing before that I’ve been a GP in Swansea for the last 32 years.

‘Imported blood products from the United States have caused the problems. US blood products tend to be sourced from prisons. Furthermore, people are paid for donating blood in the US, and therefore high-risk groups, such as drug addicts, tend to take part. No UK Government has been self-sufficient in terms of blood products. That goal was first promised in 1945, but we still have not achieved it. Hepatitis C is a significant condition and should not be dismissed as a minor infection. It can attack the liver, and is potentially life threatening. Up to 80 per cent of those infected can develop chronic liver disease, up to 25 per cent, according to certain studies, can develop cirrhosis of the liver, and up to 5 per cent have a risk of developing liver cancer.’

Some of that information needs to be updated, because those words were first heard by my fellow Assembly Members at the time when I held a short debate in the Assembly on 8 March 2001—8 March 2001. This same issue—a public inquiry, compensation. Our people are still suffering. I was taking evidence then from people who have sadly passed away—Haydn Lewis, Gareth Lewis—they were part of the campaign, and I talked to them at length. Those were the fruits of the debate I’ve just quoted from the Cofnod of 16 years ago. Nothing has changed for the people on the ground here in Wales and in other parts of the United Kingdom. Jane Hutt was the health Minister at the time, who ably replied. We were in a different Chamber. The debate, infuriatingly, is the same—is the same. We’ve heard the history of the Archer inquiry. We’ve heard all about the simmering injustice. Because this is a simmering injustice. We must have that full public inquiry. It is shameful the United Kingdom Government have dodged the issue, denied access to papers, just hoping that the issue goes away and that people pass away. That is not the way to run government in the United Kingdom. We all have the stories of families suffering: young widows with young children in poverty because the father has died sadly young because of contaminated blood products as a haemophiliac; people living with hepatitis C, unfit for work—it’s a lifelong penury of tremendous, extreme fatigue and malaise—as well as those risks that I enunciated nearly 16 years ago here. You cannot get life assurance protection or mortgage protection, and yet also you cannot get adequate compensation for something that is not your fault. We lag behind Scotland, we certainly lag behind the Irish republic—we’ve been talking about the need for compensation here for our people in Wales for years. We look to the Cabinet Secretary to change that situation, because we have people living in poverty through no fault of their own.

So, we need to compensate families adequately. I tell the United Kingdom Government: time is well overdue, justice is well overdue—hold that full public inquiry into that contaminated blood products tragedy. ‘Scandal’ is not too strong a word. The enormity of suffering has gone unrecognised for too long—huge enormity.

I’m proud to take part in this debate today, as I was proud 16 years ago to take part in a similar debate. Hold that public inquiry now. Diolch yn fawr.

Fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio â naill ai HIV neu hepatitis C o ganlyniad i gynhyrchion gwaed halogedig, a ddaeth iddynt fel triniaeth, ac fel y nododd Hefin David, fel plant ifanc ar sawl achlysur. Yn anffodus, mae llawer o’r rhai a heintiwyd wedi marw. Nid yw poen y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid wedi diflannu, na’r stigma na dioddefaint y rhai sy’n dal i fyw gyda salwch wrth iddynt barhau i wynebu heriau’r bywydau sydd o’u blaenau.

Fel y nodwyd, yn ystod y 1970au a’r 1980au, yn ymchwiliad yr Arglwydd Archer o Sandwell, a oedd yn ymchwiliad annibynnol—. Fel y dywedodd, roedd yr Adran Iechyd yn ffafrio buddiannau masnachol a chostau ar draul diogelwch y cyhoedd, ac roedd y DU yn araf i ymateb i beryglon HIV a hepatitis C. Roedd hefyd yn araf i ddod yn hunangynhaliol mewn gwaed a chynhyrchion gwaed, gan ddibynnu i raddau helaeth ar brynu’r cynhyrchion hynny i mewn, yn enwedig o America. Rydym i gyd yn deall bod gwaed yn cael ei gasglu yn America, wrth gwrs, drwy daliad ariannol am roi gwaed ar lawer o achlysuron—nid oedd pethau fel y maent heddiw.

Ddirprwy Lywydd, fel sydd eisoes wedi’i nodi, rwyf am dynnu sylw at yr effaith ar un o fy etholwyr i, David Farrugia. Derbyniodd ei dad, Barry, a dau ewythr, y ffactor VIII halogedig a ddefnyddid i drin hemoffilia. Canlyniadau hyn oedd bod ei dad ac un o’r ewythrod wedi dod yn HIV positif ac yn dilyn hynny aethant ymlaen i ddatblygu AIDS, a chafodd yr ewythr arall ei heintio â hepatitis C. Ar wahanol adegau, yn anffodus, bu’r tri farw—rhwng 1986 a 2012.

Fodd bynnag, y boen a’r stigma a brofodd y teulu ac y maent yn parhau i’w brofi—maent yn parhau i ddioddef heddiw, er bod eu hanwyliaid wedi marw. Ddyddiau ar ôl marwolaeth eu tad, gwahanwyd meibion ​​Mr Farrugia a chafodd dau ohonynt—efeilliaid—eu hanfon i gartrefi gofal 100 milltir oddi wrth ei gilydd. Ond cyn y gellid eu derbyn, mynnodd y cartrefi gofal eu bod yn cael prawf gwaed i sicrhau nad oeddent wedi’u halogi. Nawr, mae hynny’n rhywbeth sy’n annerbyniol. Pa effaith a gaiff hynny ar unrhyw un sy’n mynd yno, heb sôn am blentyn sydd newydd golli ei riant? Mae’n ymddygiad annerbyniol gan y sector cyhoeddus.

Roedd pedwar brawd i gyd, ac ni chawsant eu haduno eto am dros 20 mlynedd. Dyna yw effaith emosiynol a seicolegol marwolaeth rhywun annwyl o gynhyrchion gwaed halogedig, ac mae gwir angen rhoi sylw i’r hyn a ddigwyddodd iddynt ar ôl hynny.

Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant personol, gan fod gennyf nai sy’n dioddef o hemoffilia mewn gwirionedd, a chafodd ei heintio gan waed halogedig yn yr Unol Daleithiau. Mae’n ddinesydd Americanaidd, felly ni fydd unrhyw beth a wnawn yma heddiw yn effeithio arno. Ond mae’r heriau y mae’n eu hwynebu, ac y mae wedi eu hwynebu, yn parhau, a’r un heriau ydynt ag sy’n wynebu pobl yng Nghymru heddiw.

Yn yr Unol Daleithiau, rhoddwyd camau ffederal ar waith i gefnogi’r rhai a heintiwyd gan waed halogedig. Dylid rhoi camau tebyg ar waith ar draws y DU gyfan. Rwy’n pryderu nad yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn ystyried ymchwiliad i’r defnydd o waed a chynhyrchion gwaed halogedig. A dweud y gwir, ysgrifennodd Gweinidog iechyd cyhoeddus y DU ar y pryd, Jane Ellison, at fy nghyd-Aelod, yr AS dros Aberafan, Stephen Kinnock, ym mis Ionawr 2016, yn datgan:

Ni fuasai ymchwiliad arall er budd gorau dioddefwyr a’u teuluoedd gan y byddai’n gostus ac yn arwain at oedi rhag gweithredu ymhellach i roi sylw i’w pryderon ac yn peri oedi sylweddol i gynlluniau i ddiwygio cynlluniau cymorth taliadau presennol.

Nid yw hynny’n ddigon da. Mae’r teuluoedd a’r dioddefwyr hyn am gael atebion ynglŷn â sut y cawsant hwy a’u hanwyliaid eu heintio. Mae’n ddrwg gennyf, ond mae ystyried na fuasai’n effeithio arnynt yn annerbyniol i unrhyw wleidydd sy’n pryderu go iawn am fywydau’r unigolion a’r bobl yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol i roi atebion iddynt, ac mae’n rhaid iddi gyflawni ei rhwymedigaeth i ddarparu cymorth, gan gynnwys iawndal i’r rhai a heintiwyd a’u teuluoedd. Mae yna faterion allweddol sy’n rhaid i’r Adran Iechyd fynd i’r afael â hwy yn ymwneud ag atebolrwydd a chysondeb cynlluniau cymorth ar draws y pedair gwlad. A chlywyd eisoes—credaf fod Mark Isherwood wedi nodi’r cynlluniau ar draws y DU yn eithaf clir—ac rwy’n credu bod gofyniad i gael mwy o sicrwydd i bobl yma yng Nghymru.

Efallai y dylai’r sicrwydd gofynnol fod yn unol â’r taliadau argymelledig a nodwyd gan ymchwiliad Archer, sydd eisoes wedi cael eu rhoi ar waith yn ne Iwerddon. A system yr Alban a gyflwynwyd i siarad am gynorthwyo gweddwon—efallai y gallem ni yng Nghymru fynd gam ymhellach, a chefnogi teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, oherwydd mae yna blant sy’n ddibynyddion i unigolion a fu farw. Rydym wedi gweld teuluoedd yn chwalu o ganlyniad i waed halogedig a’r heintiau a grëwyd o’i herwydd. Beth sy’n digwydd i blant y teuluoedd hynny? Efallai y gallem fynd ymhellach na chymorth unigol yn unig, a chymorth i weddwon, a helpu’r teuluoedd yn ogystal. Ymddengys bod y system gyfan wedi’i llunio i wneud i chi deimlo fel cardotyn. Nid yw’n dderbyniol—ni ddylai neb orfod ymbil i gael cymorth y dylem ni fel Llywodraethau fod yn ei ddarparu ar eu cyfer heb gymhlethdod, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ddwyn hyn i sylw Llywodraeth y DU fel mater o bwys a brys.

Hoffwn ddiolch i Julie, Dai, Rhun, Mark, Hefin a Jenny am gyflwyno’r ddadl hon gan Aelodau unigol ac am roi’r cyfle i bawb ohonom drafod y pwnc pwysig hwn. Mae’r sgandal gwaed halogedig yn un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith fod pobl a ofynnodd am gymorth gan y gwasanaeth iechyd yn agored i firysau marwol yn frawychus ddigon, ond mae’r ffaith eu bod wedi methu cael esboniad priodol ynglŷn â sut y caniatawyd i hyn ddigwydd yn anfaddeuol. Ymddiheurodd Llywodraeth flaenorol y DU i gleifion a heintiwyd gan waed halogedig a’u teuluoedd, ond gwrthodwyd rhoi ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol iddynt er hynny.

Mae Llywodraethau olynol wedi methu mynd i’r afael â phryderon dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig yn llwyr. Mewn cymhariaeth, yn dilyn pwysau gan bwyllgor iechyd Senedd yr Alban, gorchmynnodd y Llywodraeth SNP a oedd newydd ei hethol yn 2008 y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r modd y cafodd pobl eu heintio â hepatitis C a HIV a ddaliwyd yn sgil triniaeth y GIG. Dechreuodd yr ymchwiliad yn 2009 a chyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2015. Mae’r adroddiad yn bum cyfrol a thros 1,800 o dudalennau o hyd, ac mae’n ystyried y ffordd y câi anhwylderau gwaedu a thrallwysiadau gwaed eu trin yn yr Alban rhwng 1974 a 1991.

Nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai. Mae arnom angen ymchwiliad llawn, annibynnol yn cwmpasu’r defnydd o waed a chynhyrchion gwaed yn y GIG yng Nghymru. Mae 70 o bobl wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i’r sgandal gwaed halogedig ac mae nifer o bobl eraill yn byw gyda chlefydau a gawsant o ganlyniad i’w triniaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod faint o bobl eraill sydd wedi cael triniaeth, wedi dal haint, ond sy’n parhau i fod heb gael diagnosis. Argymhellodd yr ymchwiliad yn yr Alban y dylai pawb a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991 gael prawf hepatitis C. Dyna ddiben ymchwiliadau o’r fath: sefydlu’r ffeithiau, gwneud argymhellion a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu fel nad ydym yn gwneud yr un camgymeriadau eto.

Mae angen i ni sefydlu’r ffeithiau am yr hyn a ddigwyddodd yn ein gwasanaeth iechyd yn ystod y 1970au, y 1980au a’r 1990au. Mae’r teuluoedd hyn yn haeddu esboniad. Sut y cafodd cwmni fferyllol mawr Americanaidd ganiatâd i gasglu gwaed gan garcharorion yn America ac o’r trydydd byd heb gynnal profion ar unrhyw un o’r rhoddwyr? Sut y cafodd y cynhyrchion a gynhyrchwyd o’r gwaed hwn eu trwyddedu? A oedd cynnyrch a gynhyrchwyd gan y cwmni hwn yn dal i gael eu defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru ar ôl iddynt gael eu tynnu’n ôl yn yr Unol Daleithiau? A ydym wedi dysgu unrhyw beth o’r cyfnod tywyll hwn yn hanes y GIG, ac a ydym yn sicr na allai rhywbeth fel hyn byth ddigwydd eto? Ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all ateb y cwestiynau hyn. Ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all ddarparu atebion i ddioddefwyr y sgandal hon. Ac ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all gau’r drws ar hyn o ran y rhai sydd, yn anffodus, wedi marw o ganlyniad i gael y gwaed halogedig hwn, a’u teuluoedd. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i wneud y peth iawn a gorchymyn ymchwiliad o’r fath tra bo llawer o’r dioddefwyr yn dal i fod gyda ni. Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddechrau heddiw drwy ddiolch i’r Aelodau y mae’r cynnig hwn yn ymddangos yn eu henwau ar yr agenda heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, lle y mae gennym gyfle i alw am iawndal i’r rhai y mae eu bywydau wedi’u cyffwrdd gan y drychineb gwaed halogedig. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar hanes dau o fy etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon. Daw’r stori gyntaf gan etholwr sydd, yn ddealladwy, yn dymuno aros yn ddienw. Mae’n dweud hyn:

Roeddwn yn 17 oed ac yn barod i ddechrau ar fy mywyd pan ddywedodd fy meddyg Hemoffilia wrthyf fod gennyf HIV, a dywedwyd wrthyf am beidio â dweud wrth neb, yn cynnwys fy mam hyd yn oed. Dywedwyd wrthyf y buaswn yn byw am oddeutu 18 mis. Roeddwn wedi gweld dioddefwyr AIDS ar y teledu ac felly roeddwn yn meddwl y buaswn yn marw yn yr un ffordd. Roedd hon yn ddedfryd o farwolaeth, rhyddheais fy hun o’r ysbyty a dechrau cymryd tabledi cysgu, gan nad oeddwn yn meddwl am realiti’r hyn oedd yn digwydd pan oeddwn yn cysgu. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf cymerais fwy a mwy o dabledi cysgu, morffin a phethidin, unrhyw beth mewn gwirionedd i rewi’r effaith ac atal yr artaith feddyliol. Buaswn yn cymryd 5 neu 6 ar y tro, hyd at 90 yr wythnos. Cefais chwalfa nerfol a chefais fy nerbyn i ysbyty meddwl yr Eglwys Newydd a cheisiais roi’r gorau i’r arfer. Am flynyddoedd treuliais gyfnodau i mewn ac allan o’r ysbyty lle y gwelais bobl hemoffilig eraill yr oeddwn yn eu hadnabod yn marw o AIDS. Un dioddefwr o’r fath oedd Mathew, dyn ifanc a oedd ychydig o flynyddoedd yn iau na mi ac roedd ganddo dipyn o feddwl ohonof. Roedd ar fin marw, a gofynnodd y meddygon hemoffilia i mi aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau’n hwy tan y byddai farw. Roeddwn wedi mynd yn gaeth i dabledi cysgu a thabledi lladd poen a stopiodd fy meddyg y cyfan un diwrnod. Roeddwn yn dringo’r waliau gan na chefais unrhyw help, a thorrais i mewn i’r fferyllfa leol i geisio cael tabledi i rewi’r boen. Ceisiais ladd fy hun sawl gwaith, ac roedd fy mam yn dyst i hyn i gyd.

Yn 1994 dywedwyd wrthyf fy mod wedi fy heintio â hepatitis C hefyd. Cefais sawl triniaeth gyda sgîl-effeithiau ofnadwy ac yn y pen draw cefais wared ar y firws 3 blynedd yn ôl. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi cael sirosis oherwydd hepatitis C ond gwrthodwyd taliadau parhaus cam 2 o Gronfa Skipton i mi. Ar hyd fy oes nid wyf wedi gallu cael yswiriant bywyd neu ddiogelu morgais oherwydd HIV a hepatitis C. Rwy’n byw o ddydd i ddydd. Cyfarfûm â fy ngwraig dros 20 mlynedd yn ôl, a buasem yn hoffi cael rhywfaint o gydnabyddiaeth o’r hyn sydd wedi digwydd i mi a sut y mae fy mywyd wedi cael ei ddifetha. Hoffem gymorth ariannol i gynnig rhywfaint o sicrwydd i ni. Yn lle hynny mae’n rhaid i ni wneud ceisiadau am gymorth sy’n dibynnu ar brawf modd, ac fel arfer, mae’r ceisiadau’n cael eu gwrthod.

Daw’r ail stori gan fy etholwr, Jeff Meaden, sydd wedi bod yn gohebu â mi ers rhai misoedd. Mae Jeff yn ysgrifennu’n deimladwy am ei wraig annwyl, Pat. Bu farw Patricia Meaden o ganser yr afu a methiant yr afu ym mis Ionawr 2014. Heintiwyd Pat â hepatitis C drwy driniaeth a gafodd at anhwylder ceulo gwaed. Roedd yn sâl am y rhan fwyaf o 2013, ond ni chafodd ei hatgyfeirio i gael trawsblaniad afu a datblygodd ganser yr iau. Dywed ei gŵr gweddw, Jeff:

Roeddem yn byw ar yr un stryd yn blant a byddem yn chwarae gyda’n gilydd yn blant. Dechreuasom ganlyn pan oeddem yn 14. Roedd ei marwolaeth mor ddiangen, rwy’n torri fy nghalon. Byddai fy ngwraig wedi bod yn fyw oni bai am hepatitis C. Mae wedi difetha ein bywydau ac nid oes neb yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am hynny.

Mae straeon fy etholwr dienw a Pat Meaden yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd y mae bywydau wedi cael eu newid o ganlyniad i’r sgandal gwaed halogedig: yr effaith seicolegol; caethiwed i feddyginiaeth; ceisio cyflawni hunanladdiad; gwrthod yswiriant bywyd neu ddiogelu morgais; ansicrwydd ariannol; a marwolaeth. Ond mae eu straeon hefyd yn tynnu sylw at y ffordd y mae’r sgandal gwaed halogedig wedi effeithio ar y rhai o’u cwmpas ac rwy’n falch fod yr agwedd hon hefyd wedi cael sylw yn y cynnig heddiw. Ni phetrusaf ddim rhag cefnogi’r cynnig hwn heddiw a’i alwad am gyfiawnder. Diolch.

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at yr achos dros gydnabod y sgandal gwaed halogedig a’i ganlyniadau parhaus er mwyn cefnogi’r ymgyrch am gyfiawnder gan deuluoedd yr effeithiwyd arnynt a Hemoffilia Cymru a’r angen am atebion llawn ynglŷn â sut y caniatawyd i’r drasiedi ddigwydd. Ddirprwy Lywydd, roedd gŵr un o fy etholwyr, Lynn Ashcroft, sef Bill Dumbelton, yn dioddef o hemoffilia ac yn un o’r rhai cyntaf i drin ei hun gartref â cryoprecipitate. O ganlyniad i gael ei halogi, daliodd HIV a hepatitis C a bu farw’n 49 oed, gan adael ei wraig yn weddw yn 35 oed. Nid oedd gan Bill yswiriant bywyd: ni allai gael yswiriant bywyd fel person hemoffilig. Gadawyd Lynn i ymdopi â’r morgais a’r holl bwysau ariannol eraill. Teimlai fod y cymorth a oedd ar gael yn annigonol ac yn ei digalonni ac mae’n credu y dylai Llywodraeth y DU sicrhau diogelwch ariannol i oroeswyr. Mae Lynn yn dweud nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gydwybod a’i bod wedi colli gafael ar realiti. Nid yw eisiau’r taliad untro o £10,000 sy’n cael ei gynnig, ac mae’n ei ystyried yn gynnig sarhaus.

Cafodd bywydau fy etholwyr Janet a Colin Smith eu chwalu gan farwolaeth eu mab, Colin. Roedd Colin bach yn dioddef o hemoffilia a chafodd gynnyrch gwaed halogedig yng nghanol yr argyfwng AIDS. Yn 7 oed, ar ôl blynyddoedd o ddioddef, bu farw ym mreichiau ei fam yn pwyso 13 pwys. Mae Colin a Janet yn meddwl fod Colin bach yn gwybod ei fod yn mynd i farw. Dywedodd wrth ei frodyr y gallent gael ei deganau. Roedd yn amlwg yn gwybod y buasent yn cael eu defnyddio am amser hwy nag y câi ef, ac roedd wedi troi at ei frawd, Daniel, a dweud, ‘Fe fyddwch yn fy ngholli, wyddoch chi.’ Ac mae Daniel yn gweld ei golli, fel y mae ei frodyr eraill, Patrick a Darren. Ddirprwy Lywydd, mae’r teulu wedi methu cael atebion ynglŷn â pham y caniatawyd i’r ddarpariaeth o gynnyrch halogedig ddigwydd. Mewn gwirionedd, cais rhyddid gwybodaeth a ddatgelodd fod y gwaed yn dod o garchar yng Arkansas ac nid tan dair blynedd ar ôl ei farwolaeth y darganfu rhieni Colin fod ganddo hepatitis C. Roedd hynny wedi cael ei gadw’n gyfrinachol rhagddynt. Maent yn parhau i gael eu hanwybyddu a theimlant yn gryf fod yn rhaid iddynt barhau i frwydro dros gyfiawnder i Colin bach a phawb arall yr effeithiwyd arnynt yn sgil y drasiedi hon.

Ddirprwy Lywydd, mae’r teuluoedd a Hemoffilia Cymru bellach wedi aros oddeutu 30 i 40 mlynedd am y gwirionedd ac maent yn hollol glir: maent angen ymchwiliad cyhoeddus i ddod o hyd i’r gwirionedd hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Julie Morgan fel cadeirydd, aelodau’r grŵp trawsbleidiol a phawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Cafwyd tystiolaeth rymus o bob ochr, nid yn unig o’r anghyfiawnder a’r annhegwch, ond yn arbennig o’r effaith ar unigolion a theuluoedd, boed yn effaith ar waith, y gallu i gael yswiriant, ond hefyd y stigma sy’n gysylltiedig â gwaed halogedig a’r cywilydd y mae pobl yn ei deimlo. Mae pa un a ydynt yn iawn i deimlo cywilydd yn fater cwbl wahanol—nid wyf yn meddwl y dylent fod â chywilydd o gwbl—ond dyna sut y mae pobl o ddifrif yn teimlo a’r modd y mae wedi effeithio ar eu bywydau. Ac yna, wrth gwrs, ceir problemau meddygol eraill, yn enwedig problemau iechyd meddwl. Felly, rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn cefnogi’n gryf yr alwad ar y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar draws y DU i’r amgylchiadau a arweiniodd at bobl yn dal hepatitis C, HIV neu’r ddau o gynhyrchion gwaed halogedig a ddarparwyd gan y GIG. Rwy’n gwybod bod hyn wedi’i ddisgrifio fel y driniaeth waethaf yn hanes y GIG. Heintiwyd pobl gan driniaeth GIG ac ni ddylid byth fod wedi gadael i hynny ddigwydd, ond fe wnaeth ac mae’n wirioneddol ddrwg gennyf am y niwed a achoswyd a’r effaith y mae hyn wedi ei gael ac yn parhau i’w gael ar y rhai yr effeithir arnynt.

Mae effaith yr heintiau hynny ar iechyd a lles pobl wedi bod yn hynod o fawr ac amlygwyd hynny eto yn y Siambr heddiw, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i fywydau, breuddwydion a dyheadau. Ac wrth gwrs, mae rhai wedi colli eu bywydau yn barhaol, fel yr amlinellodd Julie Morgan wrth agor y ddadl. Rwyf wedi cael cyfle i glywed o lygad y ffynnon, yn y grŵp trawsbleidiol ond hefyd mewn cyfarfodydd gweinidogol preifat, am farn unigolion yr effeithir arnynt a’u teuluoedd, gan gynnwys cynrychiolwyr o Hemoffilia Cymru ac Aelodau’r Cynulliad. Rwyf wedi cael gwybodaeth bellach o adborth a gefais gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn dilyn y gweithdai diweddar a gynaliasant gyda’r rhai yr effeithir arnynt i helpu i lywio ein cyfeiriad yn y dyfodol yng Nghymru o ran y cymorth ariannol y byddwn yn gallu ei ddarparu.

Yr hyn sy’n amlwg i mi a phawb yn y Siambr hon sydd wedi gwrando yw cryfder anhygoel y teimlad ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd, a galwad blaen a syml i gael gwybod yr holl amgylchiadau a’r ffeithiau am yr hyn a ddigwyddodd. Ac rwy’n eu cefnogi yn yr alwad honno, oherwydd gwn eu bod eisiau atebion er mwyn gallu symud ymlaen. Ac mae’r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd ar draws mwy nag un Llywodraeth gan y rhai sy’n ymgyrchu wedi cael eu hanwybyddu. I lawer, rydym yn deall bod hyn wedi rhoi halen ar y briw. Rwy’n sicr yn credu ei bod yn iawn ac yn briodol cael ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r amgylchiadau. Ym mis Hydref y llynedd, ysgrifennais at yr Arglwydd Prior yn dilyn ymrwymiad y Prif Weinidog i ystyried adolygiad i fater gwaed halogedig, a gofynnais sut y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys. Yna, ysgrifennais at Jeremy Hunt ar 20 Rhagfyr i ychwanegu fy llais at yr alwad am ymchwiliad cyhoeddus ar draws y DU. Ac mae’n glir na fydd yr ymchwiliad hwnnw’n gallu digwydd heb i Lywodraeth y DU weithredu, nid yn unig oherwydd bod y pethau hyn wedi digwydd cyn datganoli, nid yn unig oherwydd na allwn bob amser wybod lle y cafodd pobl eu heintio. Ond wrth gwrs, Llywodraeth y DU yn unig sydd â mynediad at y wybodaeth a’r pwerau ar gyfer ymchwiliad gyda’r cwmpas a’r trylwyredd angenrheidiol i sicrhau ymchwiliad ystyrlon i helpu pobl i gyrraedd at y gwirionedd.

Mae hefyd yn wir, fodd bynnag, nad oedd y sgandal yn unigryw i’r DU. Yr hyn sy’n wahanol, fodd bynnag, yw bod llywodraethau mewn rhai o’r gwledydd eraill fel Iwerddon a Chanada wedi cynnal yr ymchwiliadau hynny. Rwy’n derbyn na all unrhyw ymchwiliad unioni’r difrod a wnaed, ond gall sicrhau ein bod yn deall yn llawn ac mewn ffordd dryloyw sut y gallodd digwyddiadau’r drychineb hon ddigwydd. Mae’n bwysig sicrhau hefyd fod y rhai yr effeithiwyd arnynt mor uniongyrchol gan y drychineb yn gwybod ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn dysgu unrhyw wersi sydd i’w dysgu er mwyn helpu i atal unrhyw beth o’r fath rhag digwydd yn y dyfodol.

Gofynnodd Caroline Jones yn uniongyrchol: a ydym wedi dysgu unrhyw beth? Y gwir yw ein bod, mewn gwirionedd, oherwydd os edrychwch ar gynhyrchion gwaed yma yng Nghymru, mae diogelwch wedi gwella’n sylweddol o ran y gallu i olrhain a phrofi. Rwyf wedi gweld rhai o’r systemau hynny ar waith, a’r mesurau diogelwch ar ymweliadau a wneuthum â Gwasanaeth Gwaed Cymru. Ond nid yw hynny’n tynnu dim oddi wrth yr anghyfiawnder sylfaenol i’r bobl a heintiwyd.

Fel y mae pobl yn gwybod—ac wrth gwrs, fel y soniwyd yn y ddadl—mae gwaith ar y gweill i ddiwygio’r system gymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Byddai wedi bod yn well gennym fod wedi gwneud hyn ar sail gyson ledled y DU, ond dyma ble rydym. Mae’r pum cynllun haint penodol a sefydlwyd ers 1988 wedi esblygu mewn modd ad hoc, a thros amser mae’r system wedi dod yn gymhleth. Gwnaed rhai gwelliannau cyn ac ar ôl datganoli, megis cyflwyno taliadau blynyddol yn 2009 ar gyfer pobl sydd â HIV a thaliadau blynyddol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf difrifol gan hepatitis C o 2011.

Fodd bynnag, mae yna anfodlonrwydd eang sy’n parhau am y ffordd y caiff pobl yr effeithiwyd arnynt eu cynorthwyo, ac i ba raddau. Wrth ddiwygio cymorth i’r rhai yr effeithiwyd arnynt a fydd yn cael eu cynnwys o dan y cynllun yng Nghymru, mae gennyf dair blaenoriaeth. Rhaid i unrhyw newid i system newydd fod yn deg a gweithredu’n dryloyw. Mae angen i welliannau fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy o fewn y gyllideb iechyd, a bydd angen i benderfyniadau ystyried y safbwyntiau a fynegwyd gan y rhai yr effeithir arnynt.

Felly, ym mis Hydref y llynedd ysgrifennais at unigolion yn eu gwahodd i gwblhau arolwg i adael i mi gael eu barn ar y ffordd orau o ddarparu cymorth a sut y gellid ei deilwra’n well i ddiwallu eu hanghenion. Hefyd, cynhaliodd fy swyddogion ddau weithdy, un yng ngogledd Cymru ac un yn ne Cymru. Mae’r broses gyffredinol hon wedi bod yn amhrisiadwy o ran cael gwybod yn uniongyrchol am effaith y drychineb ar fywydau pobl a bywydau eu teuluoedd mewn llawer o achosion. Daeth yr arolwg i ben ar 20 Ionawr a byddaf yn ystyried yn ofalus y wybodaeth a’r safbwyntiau a fynegwyd wrthyf wrth wneud penderfyniad ar lwybr ymlaen. Wrth gwrs, cafodd mwy o arian ei ddyrannu yn y gyllideb derfynol eleni. Ond bydd yn dasg anodd ar y ffordd ymlaen ac rwy’n gwybod yn iawn yn ôl pob tebyg na fyddaf yn gallu bodloni’r holl ofynion—a gofynion dealladwy—y bydd teuluoedd yn dymuno eu cael gennyf a chan y Llywodraeth hon. Ond byddaf yn hollol dryloyw ynglŷn ag unrhyw benderfyniad a wnaf, sut y’i gwneuthum a’r hyn y gallaf ei wneud i helpu i gynorthwyo teuluoedd yma yng Nghymru. Felly, byddaf yn ystyried y materion hynny’n ofalus wrth wneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen i Gymru.

Ond rwyf eisiau gorffen—oherwydd mai galwad am y gwirionedd a ffordd ymlaen oedd yr alwad hanfodol yn y ddadl heddiw—ac rwy’n credu’n llwyr ei bod yn iawn ac yn briodol i bobl gael atebion i’w cwestiynau ynglŷn â sut a pham y cafodd pobl eu heintio yn ogystal â derbyn cymorth priodol i’w helpu i fyw gyda’r effaith y mae’r drasiedi hon wedi’i chael ac yn parhau i’w chael.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mi hoffwn i ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mi wnaf i ddiolch hefyd i ambell un sydd ddim wedi cael y cyfle yn y ddadl y prynhawn yma i gael ei safbwynt ar y cofnod. Gwnaf i enwi Jenny Rathbone, wrth gwrs, sy’n un a oedd wedi arwyddo’r cynnig hwn ac sydd yma yn y Siambr yn cefnogi 100 y cant y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. A gaf fi ddiolch hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i’r cais, i’r alwad benodol iawn sy’n cael ei gwneud gennym ni heddiw? Ond mae fy niolch i yn bennaf i’r unigolion a’r teuluoedd hynny sydd wedi byw efo’r anghyfiawnder yma ers cymaint, a theuluoedd y rheini sydd wedi colli eu bywydau, ac am eu hurddas a’u dygnwch wrth bwyso arnom ni i sicrhau eu bod nhw rŵan, gobeithio, yn gallu cael cyfiawnder.

All Members today have told us about the real experiences of constituents, of friends, of family members even—they’ve recounted heart-wrenching experiences that highlight to us why it is that we are demanding this action. Julie Morgan eloquently put the case for an inquiry. Mark Isherwood described the scale, UK-wide, of this tragedy, this scandal, and the inadequacies of the compensation scheme. Dai Rees reminded us of the stigma that runs alongside ill health. Dai Lloyd reminded us that it’s 16 years since this Assembly discussed this very issue and still we await action. And Hefin David summed up our intention quite simply today as a call for action. That call is a very simple call.

Mae’r hyn rydym ni’n gofyn amdano fo y prynhawn yma yn syml iawn, iawn. Fel yr ydym ni wedi ei glywed, mi gafodd 283 o bobl yng Nghymru eu heintio efo hepatitis C neu HIV ar ôl derbyn cynnyrch gwaed wedi’i heintio yn y 1970au a’r 1980au. Mae 70 o’r rheini wedi marw bellach. Mae eu henwau, unwaith eto, i’w gweld ar y sgriniau o gwmpas y Siambr yma, a’r tu ôl i bob enw, mae yna unigolyn a wnaeth orfod byw bywyd yn dioddef salwch a stigma drwy ddim o’u bai eu hunain. A’r tu ôl i bob enw, mae yna deuluoedd sydd wedi gorfod galaru drwy ddim o’u bai eu hunain.

Yn y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi’i heintio, rydym ni wedi clywed disgrifiadau pwerus o brofiadau dioddefwyr a’u teuluoedd. Nid yn unig symptomau meddygol ac effaith gorfforol yr heintiau ond hefyd yr effaith seicolegol arnyn nhw a’u teuluoedd a’u ffrindiau, am ragfarnau pobl tuag atyn nhw pan oedden nhw’n dweud bod ganddyn nhw HIV neu hepatitis C, ac euogrwydd y rhai ohonyn nhw a oedd wedi heintio gwŷr, gwragedd neu fabanod yn ddiarwybod. Oherwydd hynny, ffactorau fel hyn, mae llawer wedi dewis dioddef yn dawel. Ond i ddwysáu’r dioddefaint, mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth hefyd wedi dewis aros yn dawel a gwrthod datgelu neu fynd at wraidd beth yn union aeth o’i le a pham. Mae dioddefwyr a’u teuluoedd yn haeddu cael gwybod ac maen nhw’n haeddu cael cyfiawnder.

Un o ganlyniadau’r diffyg atebion a’r diffyg canfyddiad o beth aeth o’i le ydy’r diffyg trawiadol, fel rydym wedi clywed y prynhawn yma gan sawl Aelod, yn y pecyn o iawndal sy’n cael ei dalu i ddioddefwyr a’u teuluoedd. Nid yw’r galwadau yma heddiw am ymchwiliad yn cymryd lle’r galwadau am well pecyn cymorth ariannol i ddioddefwyr. Rydw i’n reit siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn clywed hynny. Yn sicr—

[Yn parhau.]—ni ddylai ymchwiliad cyhoeddus llawn fod yn ffordd i alluogi’r Llywodraeth i ohirio, ymhellach, gwneud setliad cyfiawn i’r bobl a effeithiwyd. Wrth gwrs, rwy’n barod i gymryd yr ymyrraeth.

A fuasech yn cytuno â mi mai’r hyn sydd ei angen yw ymchwiliad cyhoeddus llawn ac effeithiol, yn debyg i’r un a gynhaliodd Charles Hendry i’r morlyn llanw, nid un sy’n cymryd chwe blynedd ac sy’n cynnig un argymhelliad llipa, fel a ddigwyddodd yn yr Alban? Mae arnom angen ymchwiliad cyhoeddus llawn, fel ein bod yn gwybod bod y GIG yn sefydliad sy’n dysgu a’i fod wedi dysgu o’r camgymeriadau erchyll a wnaed.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, mai’r hyn yr ydym ei eisiau yw ymchwiliad llawn a chyflawn. Rydym wedi aros yn ddigon hir i gael yr atebion i’r cwestiynau a ofynnwn. Rwy’n ddiolchgar fod y pwynt hwnnw wedi’i wneud. Mae’r ymchwiliadau a welsom yn yr Alban wedi bod yn ddefnyddiol o ran y strwythur iawndal, ond nid yw’n ddigon ynddo’i hun.

Following the Penrose inquiry in Scotland in 2005, the SNP Government did introduce a new improved, fairer system of financial support, because they believed that the Scottish Government had a moral responsibility to do that. Let us here, too, support demands for an inquiry, but a fuller public inquiry, as part of the steps towards giving full support to victims in Wales and their families, too.

Let me quote a constituent of mine, whose wife, Jennifer, is suffering from hepatitis C. She was infected in the 1970s. This is what he said:

Yn y 14 mlynedd ers iddi fynd yn sâl, mae hi wedi bod yn methu gwneud y rhan fwyaf o’r pethau y byddai’n eu gwneud o’r blaen. Yn y dyddiau cynnar, roedd hi mor wan fel na allai goginio; pellter byr yn unig y gallai ei gerdded; ni allai yrru; roedd yn ei chael hi’n anodd deall pethau sylfaenol; roedd hi angen help i ymolchi a gwisgo. Mae hi wedi gwella’n araf, ond 12 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dal i ddioddef o flinder cronig, gan dreulio’r rhan fwyaf o’r prynhawniau’n cysgu fel arfer. Ni all ymdopi â gwaith tŷ a choginio o ddydd i ddydd, ond mae’n ceisio gwneud ychydig, gan wneud camgymeriadau’n aml.

Yn allweddol, meddai:

Yn ei geiriau hi, nid yw hi byth yn cael diwrnod da; dim ond gwael neu wael iawn.

Rwyf wedi cyfarfod â Jennifer a’i gŵr ar sawl achlysur. Cefais fy nharo gan eu hurddas; urddas yn wyneb yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef o ran eu hiechyd ac yn wyneb strwythur iawndal anghyfiawn, a gormod o gwestiynau heb eu hateb. Nid yw 70 o’r 283 a gafodd waed halogedig yng Nghymru gyda ni mwyach. Rydych wedi gweld eu henwau yn y Siambr heddiw. Ein dyletswydd iddynt hwy a’n dyletswydd i bawb sy’n dal i fyw gyda chanlyniadau’r sgandal gwaed halogedig yw mynnu atebion unwaith ac am byth. Er cyfiawnder, cefnogwch y cynnig heddiw.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dinasoedd ac Ardaloedd Trefol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddinasoedd ac ardaloedd trefol. Galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig. David.

Cynnig NDM6215 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r tueddiad rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar feini prawf sy’n ymwneud â’r gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a’u cynaliadwyedd.

2. Yn credu bod dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd.

3. Yn cymeradwyo gwerth yr amcanion a’r strategaethau canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol:

a) mynediad at ofod glân ac agored:

b) argaeledd tai fforddiadwy;

c) rheoli traffig yn effeithiol a darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel;

d) datblygu llwybrau trafnidiaeth llesol, gan gynnwys ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a cherdded;

e) safonau uchel o ran ansawdd yr aer;

f) buddsoddi yn ansawdd dylunio adeiladau cyhoeddus a nodweddiadol;

g) cynnwys dinasyddion mewn cynlluniau gwella amwynderau, o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a

h) bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn cyflwyno’r cynnig hwn mewn ysbryd adeiladol? Rydym yn awyddus i archwilio lle ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn ein bywyd cenedlaethol, yn enwedig fel sbardun ar gyfer twf a rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer Cymru ffyniannus a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. A gaf fi ddweud ein bod yn derbyn gwelliant y Llywodraeth, sy’n ychwanegu at ein cynnig, a’n bod yn hapus i dderbyn hynny?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’r gallu i fyw ynddynt ac ymgysylltiad â dinasyddion yn allweddol i lwyddiant dinasoedd modern ac ardaloedd trefol yn gyffredinol. Ym mhob cwr o’r byd, mae dinasoedd yn mwynhau adfywiad, mae pobl yn symud yn ôl i ddinasoedd, ac ni chafodd eu lle mewn bywyd cenedlaethol erioed mo’i bwysleisio cymaint. Un duedd nodedig yw’r ffafriaeth gynyddol am ddinasoedd llai a chanolig eu maint. Clywn yn bennaf am y mega-ddinasoedd a’u heriau a’r lle sydd iddynt yn economi’r byd, ond mewn gwirionedd, y dinasoedd mwy arloesol, y dinasoedd sy’n tyfu ac yn gwneud y mwyaf i drawsnewid eu heconomi ac economïau eu cefnwledydd, yw’r dinasoedd llai a chanolig eu maint. Yma, mae potensial gwych gan Gaerdydd, Abertawe, Casnewydd, a buaswn yn cynnwys Wrecsam hefyd. Maent eisoes wedi gwneud llawer—ac nid wyf am i unrhyw beth yn y ddadl heddiw dynnu dim oddi wrth hynny—ond credaf fod angen i ni gydnabod asedau mor wych ydynt, a gwneud hyd yn oed mwy o waith gyda hwy.

Ffactor allweddol arall yw mater cynaliadwyedd. Yn y genhedlaeth ddiwethaf, rwy’n credu ein bod wedi gweld y cysyniad hwn yn dod yn rhan annatod o’n hymwybyddiaeth genedlaethol, a bellach, credaf fod yr angen am weledigaeth a chynllunio trefol da a chynaliadwy yn cael ei dderbyn gan bawb. I gael hynny, mae angen rhai nodweddion allweddol: mynediad at fannau agored glân, er enghraifft, ac nid wyf yn golygu parc Bute yn unig, er bod hwnnw’n enghraifft wych, ond hefyd parciau cymdogaeth, yn enwedig, efallai, yn y rhannau tlotach o ddinasoedd ac ardaloedd trefol, lle y ceir cyfle ar gyfer hamdden, yn enwedig i bobl ifanc a phlant. Caiff hyn ei anwybyddu’n aml, rwy’n credu, ond gall ymyriadau eithaf bach agor y lleoedd sydd yno, a gwella’r rhai sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer, ac mae angen i ni roi blaenoriaeth wirioneddol i hynny.

Mae ansawdd yr aer wedi cael ei drafod yn eithaf aml yn ystod y misoedd diwethaf yma yn y Cynulliad, ac fe grybwyllaf hynny, ond mae bob amser yn her. Mewn ardal drefol, rydych yn mynd i gael mwy o lygredd posibl a chanlyniad hynny, os na chaiff ei reoli’n iawn, neu os na chaiff canlyniadau anfwriadol polisi cyhoeddus penodol megis annog diesel 10 neu 20 mlynedd yn ôl eu rheoli’n effeithiol, yw mai’r ifanc iawn, yr hen, y rhai mwyaf agored i niwed sy’n dioddef ac yn cael eu gyrru allan o’r ardal drefol i bob pwrpas.

Tai ecogyfeillgar o ansawdd da—rwy’n credu mai dyna un o’r meysydd adfywio penodol a welsom yn ôl pob tebyg. Mae yna rai enghreifftiau da yng Nghymru, ond rwy’n credu bod angen i ni sylweddoli y gellid marchnata Caerdydd, Abertawe a dinasoedd eraill mewn gwirionedd fel llefydd i ddod i weld bod tai carbon niwtral, neu garbon minws, hyd yn oed—nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn defnyddio’r term cywir—yn bosibl. Ddirprwy Lywydd, fel adeilad mae’r Cynulliad Cenedlaethol ei hun yn parhau i fod yn un o’r adeiladau cyhoeddus mwyaf ecogyfeillgar yn y byd, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn falch iawn o hynny. Gwyrdd sydd orau. Mae gwyrdd o ddiddordeb mawr i bobl yn ogystal, ac os ydych yn cyflawni’r holl flaenoriaethau cenedlaethol gwych hyn, ac yn bod yn wyrdd am y peth, credaf fod hynny’n arwydd o ansawdd gwych, nad yw’n cael ei ddiystyru pan ddaw pobl i’n gweld wrth ein gwaith.

Roedd gennyf ddiddordeb yn y ffaith fod rhai dinasoedd Americanaidd bellach yn bendant yn troi at y cysyniad hwn o farchnata eu hunain fel mannau gwyrdd ac ardaloedd lle y ceir potensial mawr ar gyfer economi werdd. Bellach mae Pittsburgh, y bydd rhai ohonoch yn gwybod amdani efallai, yn Pennsylvania, yr hen dref gwneud dur a’r gweithfeydd glo o’i hamgylch, dinas yr ystyrid am flynyddoedd lawer mai hi oedd y ddinas anoddaf i’w gweddnewid o bosibl, mae hi wedi elwa llawer yn y blynyddoedd diwethaf o farchnata ei hun fel dinas wyrddaf yr Unol Daleithiau, neu’r ddinas wyrddaf sy’n datblygu, ac mae wedi pwysleisio mai ganddi hi y mae’r ganolfan gynadledda werdd gyntaf, yr amgueddfa blant werdd gyntaf a’r cyfleuster celfyddydau cyhoeddus gwyrdd cyntaf. Credaf mai dyna’r ffordd y mae angen i ni edrych ar Gaerdydd, er enghraifft. Gallwn yn bendant anelu at hynny ac arwain y ffordd ym Mhrydain ac yn Ewrop yn wir.

Daw hyn â mi at yr holl gysyniad o ansawdd dylunio. Mae rhai dinasoedd ar draws y byd wedi buddsoddi mewn dylunio yn arbennig, fel eu bod, er enghraifft, yn rhoi cymorth pan fydd pobl yn cynllunio beth bynnag ydyw—ystadau tai bach, adeiladau cyhoeddus neu adeiladau masnachol. Gallwch gael help i logi penseiri, er enghraifft, a fydd yn rhoi llawer o bwyslais ar ansawdd dylunio. Rwy’n credu mai dyna’r mathau o gynlluniau sydd angen i ni edrych arnynt.

A gaf fi droi yn awr at drafnidiaeth, oherwydd rwy’n credu mai hyn, efallai, yw un o’r pethau sydd wedi dal llawer o ddinasoedd yn ôl yn draddodiadol, oherwydd y dewisiadau a wnaed ar ôl yr ail ryfel byd yn benodol? Ond mae yna lawer o obaith hefyd gyda’r systemau modern newydd sydd ar gael i ni, ac mae technoleg hefyd yn gwella. Rwy’n credu bod trafnidiaeth gyhoeddus ei hun yn mwynhau adfywiad hynod wrth i bobl weld y manteision—nid oes angen i lawer o bobl fod yn berchen ar gar a rhedeg car mewn gwirionedd. Buaswn yn falch iawn pe bai modd i mi gael gwared ar fy nghar. Nid yw’n gwbl ymarferol, o ystyried fy swydd ar hyn o bryd, ond a minnau’n byw ym Mhenarth, byddai’n eithaf ymarferol i mi gael bywyd llawn iawn heb gar, gan ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu logi car weithiau pe bai angen penodol i mi wneud hynny, a dibynnu hefyd ar drafnidiaeth lesol fel cerdded a beicio. Mae metro de Cymru yn cynnig gobaith mawr y ceir rhwydwaith trafnidiaeth integredig a fydd yn cyflawni llawer, ac yn gwneud llawer i rai o’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae uwchraddio rhwydwaith rheilffyrdd Caerdydd a’r gwaith sydd ar y gweill ar osod signalau newydd—. Un pwynt arall yma ar drafnidiaeth: bydd cerbydau trydan yn chwyldroi llawer o’r hyn sy’n digwydd, gan gyfyngu ar lygredd, ond bydd angen sylfaen dreth newydd arnoch i ddechrau, gan na fyddwch bellach yn gallu trethu petrol a diesel. Mae’n debygol y bydd cysyniadau fel prisio ffyrdd—nid wyf yn sôn am lefelau chwerthinllyd, ond mae’n fwy tebygol mai dyna fydd y ffordd o drethu modurwyr ac mae hynny’n agor pob math o bosibiliadau o ran rheoli llif y traffig mewn dinasoedd yn fwy effeithiol.

Rwyf eisiau siarad yn awr am gynnwys dinasyddion, oherwydd rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n ganolog i gyflawni’r math o newid y mae dinasyddion ei eisiau mewn gwirionedd, a rhoi llefydd trefol yn ôl i bobl, i’n dinasyddion, oherwydd credaf fod tueddiad yn arfer bod i beidio â gweld y dinesydd yn ganolog, mewn gwirionedd, i fywyd a gwaith dinasoedd. Yma, hoffwn bwysleisio rhai o’r cynlluniau a fu gennym ers peth amser yn awr, ond rwy’n dal i feddwl eu bod yn hynod o effeithiol—trosglwyddo asedau cymunedol, er enghraifft. Roeddwn yn falch o weld yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn pwysleisio’r angen i arferion gorau yma gydweddu’n fwy ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Cymru), ond gall rymuso cymunedau, ac rwy’n credu ei fod yn hynod o bwysig. Gyda llaw, yn hynny o beth, hoffwn weld systemau lle y gallwn gael, efallai, rhai o’r cymdogaethau cyfoethocaf i efeillio gyda rhai o’r rhai tlotaf a throsglwyddo peth o’r sylfaen wybodaeth sydd ganddynt, ac efallai y dylai rhai o’n mecanweithiau grant ddibynnu ar y math hwnnw o feddwl ochrol.

Rwy’n meddwl y dylid cynnwys cymdogaethau wrth nodi blaenoriaethau. Ai lleihau sbwriel yw’r flaenoriaeth? Ai sicrhau diogelwch ac efallai gael ychydig mwy o heddlu ar y strydoedd? Terfynau cyflymder—efallai y byddant am gael terfyn cyflymder o 20 mya fel blaenoriaeth yn eu cymdogaeth. Pam, yn wir, y mae gennym ragdybiaeth o 30 mya mewn ardaloedd trefol? Pam na ddylai fod yn 15 mya neu 20 mya yn awr? Neu efallai y gallant bwysleisio meysydd chwarae. Hoffwn ganmol yma y gwaith a wnaed yn Atlanta, Georgia, sydd wedi gwneud dinasyddion yn ganolog i’w strategaeth drefol. Maent yn ei alw’n Atlanta BeltLine, lle y maent yn ceisio integreiddio trafnidiaeth, mannau agored, celf gyhoeddus a thai fforddiadwy—a phob un yn nodi ac yn cynnwys dinasyddion a blaenoriaethau’r dinasyddion.

A gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn credu bod y fframwaith polisi yn eithaf cryf, ond mae angen i wneud yn siŵr ei fod yn integredig ac yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol? Rwy’n meddwl bod Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig tu hwnt. Cydweithredu â Llywodraeth y DU: edrychwn ar fargen prifddinas-ranbarth Caerdydd, er enghraifft, a bargen twf bae Abertawe a gogledd Cymru. Mae’r rhain yn ddatblygiadau eithriadol o bwysig. Llefydd llewyrchus llawn addewid: rwy’n cytuno gyda’r prif ffocws yno, gyda chreu swyddi a buddsoddiad i’w ddenu i mewn, a chynorthwyo pobl i gael gwaith. Felly, mae yna bosibiliadau da yno, ond rwy’n meddwl yn awr fod angen i ni godi ein huchelgais hefyd. Dylai ein dinasoedd fod yn well na’r gorau yn eu dosbarth yn unig, gallent fod ymhlith y gorau yn y byd. Mae yna lawer o botensial, ond mae yna lawer o gystadleuaeth hefyd, nid yn unig yn rhyngwladol, ond o fewn y DU. Rwy’n credu y bydd addasu mawr ar lefelau’r gweithgarwch economaidd sy’n llifo i mewn i’r de-ddwyrain ar hyn o bryd, gan y bydd llawer o’r rhai yn y genhedlaeth newydd—y bobl na allant fforddio cartrefi teuluol—yn dymuno symud i lefydd lle y gallant fwynhau bywyd o ansawdd llawer gwell. Felly, am yr holl resymau hyn, rwy’n meddwl y dylem fod yn optimistaidd, ond dylem hefyd sylweddoli fod angen i ni wella ein gêm, ac ehangu ein huchelgais. Diolch.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen ar gyfer datblygu economi gryfach a thecach ac yn cydnabod pwysigrwydd y mesurau i ddatblygu economïau rhanbarthol cynaliadwy sy’n gwasanaethu pob cymuned ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Croesawaf y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod yn ddadl amserol iawn, o ystyried y trafodaethau sy’n parhau yng Nghymru am rôl dinasoedd a’r rôl y gall dinasoedd ei chwarae’n adfywio rhanbarthau Cymru. Rwyf am gyflwyno’r achos dros ddau ddull o weithredu yn y drafodaeth hon heddiw. Y cyntaf yw’r achos dros edrych ar ddinas-ranbarthau, nid dinasoedd eu hunain yn unig. Yn amlwg, rwy’n siarad fel Aelod dros etholaeth sydd o fewn un o’n dinas-ranbarthau, ond nid yn ei ganol yn ddaearyddol. Felly, mae’r materion hyn yn bwysig i fy etholwyr sy’n edrych ar y ddadl hon gyda golwg ar gael cyfleoedd economaidd yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth sy’n canolbwyntio ar ddinasoedd yn seiliedig ar y syniad o grynodref: po fwyaf o fusnesau a gweithgarwch economaidd sydd gennych yn agos at ei gilydd yn ddaearyddol, y mwyaf tebygol y byddwch o gael twf. Mae honno’n ddamcaniaeth economaidd hirsefydledig. Mae rhai’n ei hamau ac ar ryw ystyr, caiff ei herio fwyfwy gan rôl technoleg a chysylltedd digidol ac yn y blaen. Mae’n gwestiwn ai’r agosrwydd daearyddol ffisegol hwnnw yn dal i fod yw’r glud a fu mor ddefnyddiol yn y gorffennol. Ond mae’n ymddangos i mi, beth bynnag fydd canlyniad y ddadl, fod y syniad o ddinas-ranbarth lle y mae gennych ddinas graidd sy’n gyrru twf economaidd, y gobeithiwn y bydd y polisi wedyn yn lledaenu i ardaloedd cyfagos, yn amlwg, mae’n ymddangos i mi, yn ffordd ymlaen ymarferol sy’n tarddu o synnwyr cyffredin.

Yr agwedd arall rwyf am gyflwyno’r achos drosti heddiw yw y dylai’r math o dwf a welwn mewn dinasoedd a dinas-ranbarthau fod yn dwf cynhwysol, lle y gall yr holl breswylwyr gymryd rhan yn deg yn y cyfleoedd a ddaw yn sgil polisïau economaidd llwyddiannus a gweithgarwch economaidd llwyddiannus. Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Sefydliad Joseph Rowntree ar dwf cynhwysol mewn dinasoedd. Yn union fel yr oedd David Melding yn nodi nifer o enghreifftiau rhyngwladol, edrychodd Sefydliad Rowntree ar ddinasoedd fel Barcelona, ​​Helsinki, Malmö ac Efrog Newydd o ran rhai o’u strategaethau llwyddiannus i sicrhau bod yr holl drigolion yn gallu cymryd rhan mewn twf.

Cafwyd dwy strategaeth gyffredinol. Mae un yn well dosbarthiad o’r cyfleoedd sy’n bodoli eisoes, sef drwy well cysylltedd, boed hynny’n drafnidiaeth neu’n gysylltedd digidol. Yr ail strategaeth—strategaeth fwy uchelgeisiol efallai—yw ceisio newid y model economaidd ei hun i geisio newid natur y farchnad swyddi, y farchnad lafur yn lleol, a chanolbwyntio o ddifrif ar gynyddu nifer y cyfleoedd swyddi lled-fedrus. Mae’r dinasoedd sydd wedi llwyddo wedi defnyddio cyfuniad o bolisïau gweddol sefydledig, er enghraifft, hyrwyddo’r defnydd o fenter gymdeithasol yn yr economi lleol, gan ddefnyddio cymalau cymdeithasol yn y broses caffael cyhoeddus, ac ymyrraeth yn seiliedig ar le, y soniodd David Melding amdano, sy’n edrych ar yr holl wariant, er enghraifft, sy’n digwydd mewn cymdogaeth benodol neu ran benodol o’r dinas-ranbarth, ac edrych yn ddeallus ar sut y gellir ei wario i gael mwy o effaith o bosibl.

Y pwynt olaf, yn bwysig iawn, yw’r cwestiwn ynghylch cynnwys dinasyddion. Gall hynny fod o safbwynt comisiynu. Mae Lambeth, er enghraifft, wedi cymryd y cam dewr iawn o greu cwmni cydweithredol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid, er enghraifft. Felly, mae rhai enghreifftiau beiddgar iawn i’w cael. Gan adeiladu ar hynny, rwyf eisiau edrych ar un agwedd benodol, sef rôl cyrff cyhoeddus yn ein dinasoedd a’n dinas-ranbarthau, a’r gallu sydd ganddynt i yrru rhai o’r pethau rydym wedi cyffwrdd arnynt heddiw. Yn aml yng Nghymru, mae pobl yn nodi bod maint y sector cyhoeddus yn fwy, yn gyfrannol, nag mewn rhannau eraill o’r DU, ac fel arfer edrychir ar hynny mewn ffordd negyddol, ond mewn gwirionedd mae’n un o’n hasedau. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent hefyd yn weithredwyr economaidd sylweddol yn eu heconomïau lleol. Ac os edrychwch arnynt fel sefydliadau angor, credaf y dylem edrych am fframwaith lle nad ydynt yn caffael ar sail cost y contract, na hyd yn oed ar sail weithrediadol mewn gwirionedd, ond yn fwy uchelgeisiol, gan edrych ar sut y mae eu gweithgaredd economaidd, ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill efallai, yn gallu meithrin cadwyni cyflenwi lleol mewn gwirionedd a datblygu cyflenwyr lleol. Bydd hynny’n gofyn am gydweithredu rhwng y byrddau iechyd a’r prifysgolion ac awdurdodau lleol, ond rwy’n meddwl y dylem edrych am y math hwnnw o uchelgais. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hynny yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, yn Cleveland, lle y mae hynny wedi gweithio’n llwyddiannus.

Hoffwn hefyd ein gweld yn edrych ar y data sydd ar gael i ni o ran gwariant cyhoeddus. Dylem fod mewn sefyllfa i edrych ar sail cod post ar yr holl wariant cyhoeddus sy’n digwydd yn yr ardal honno, a gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau ei fod yn cael cymaint o effaith ag y gall. Yn olaf, yn fyr, unwaith eto ar fater data, oni fyddai’n wych pe baem yn cael cyfle i ryddhau’r holl ddata sydd gennym am y ffordd y mae ein dinasoedd a’n dinas-ranbarthau’n gweithio, i drosglwyddo hynny i’r cyhoedd a gofyn i bobl ddod â’u syniadau ynglŷn â sut y gallant wella—neu sut y gallant ofyn i’r gwasanaethau cyhoeddus a’r Llywodraeth wella—yr ardaloedd lle y maent yn byw? Felly, rwy’n credu bod yna agenda yma sy’n agenda lawn dychymyg, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.

Diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gymryd rhan hefyd. Rwy’n credu ei bod yn mynd i fod yn ddadl eithaf meddylgar ynglŷn â sut rydym eisiau i’r Gymru drefol edrych, nid yn unig yn llythrennol, ond yn athronyddol yn ogystal, gan fod hyn yn ymwneud yn helaeth iawn â lle’r dinesydd wrth gynllunio ein hamgylchedd.

Er fy mod yn awyddus i siarad yn uniongyrchol am y cynnig heddiw, yn gyntaf roeddwn am gyfeirio at y ddadl ddoe a’r cyfraniadau a wnaed ar ansawdd aer, yn syml oherwydd fy mod am atgyfnerthu pwynt a wnaed am ewyllys gwleidyddol. Soniodd David Melding yn ei gyfraniad agoriadol am y fframweithiau, ond hyn a hyn yn unig y gall fframweithiau ei wneud, a heb ewyllys gwleidyddol, ni fydd syniadau da iawn yn digwydd. Rwyf am roi’r enghraifft hon yn unig: efallai y bydd yr Aelodau’n cofio fy mhrotestiadau ynglŷn â’r aer brwnt sy’n dod o dro i dro i mewn drwy ffenestr fy ystafell wely wrth iddo groesi bae Abertawe. Mae yna rai boreau pan wyf yn teimlo fel band teyrnged Emily Brontë, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Ond mae’r un aer brwnt yn amgylchynu ein hadeilad prifysgol newydd gogoneddus yn Jersey Marine. Mae’n effeithio ar ein hatyniad twristiaeth byd-eang: arfordir gwych de Cymru. Yr un mwrllwch, yn y bôn, ag sy’n cripian ar draws ein llwybrau beicio glan môr. Mae’n cymysgu â mygdarth egsôst pan wyf yn eistedd yno yn y traffig yn chwarae cysylltu’r dotiau gyda’r nifer helaeth o oleuadau traffig sydd i’w gweld yn bla ynghanol dinas Abertawe. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw beth i ennyn bywyd yn yr arwyddion dargyfeirio nowcaster hynny a gostiodd £100,000 i bawb ohonom i’n helpu i osgoi ardaloedd o lygredd uchel. Maent yn dal i weithredu fel fawr ddim mwy na cherfluniau braidd yn ddiflas ar ochr y ffordd.

Felly, pan ddywedodd Simon Thomas ddoe fod gwir angen i’r Llywodraethau fod o ddifrif ynglŷn â’u cyfrifoldebau gorfodi rheoliadau amgylcheddol, roedd yn llygad ei le. Nid pethau tebyg i’r nowcasters yw’r cyfleoedd gorfodi—pethau addurniadol yn unig ar ochr y ffordd. Nid yw’n ymwneud yn llwyr â rheoleiddio ychwaith. Rwy’n credu y byddai’n gamgymeriad i fychanu’r cyfleoedd—cyfrifoldebau, hyd yn oed—i’n dinasyddion, ac nid yn unig o ran pethau fel ailgylchu, fel yr ailadroddwyd gennym yma yr wythnos diwethaf, ond o ran y cynlluniau gwella amwynderau fel y nodir yn y cynnig, ac fel y mae David a Jeremy wedi crybwyll. Mae’n wythnos pan fuom yn trafod y gwahaniaeth rhwng pobl ac uchelfreintiau a’r Senedd a’r Weithrediaeth, ond ni allwn fynd ati i fynnu’r hawl i gael ein clywed os nad ydym yn barod hefyd i fod o ddifrif ynglŷn â’n cyfrifoldeb i wneud hynny.

Rwy’n credu bod yna ddadl arall i’w chael yma ynglŷn â beth yw ymgynghori, ond mae’n rhan o gwestiwn llawer mwy y mae’r ddadl hon yn cyffwrdd ag ef, am ymgysylltu â dinasyddion fel porth i gyfranogiad dinasyddion. A ydym wedi cael ein magu fel poblogaeth i feddwl bod ein hamgylchedd yn gyfrifoldeb i rywun arall? A ydym wedi cael ein magu i feddwl y dylem wneud rhywbeth am y peth? Ai gwaith rhywun arall yw poeni am y peth? A ydym wedi cyrraedd cam lle nad yw ein dinasyddion yn hyderus fod ein syniadau’n werthfawr neu’n berthnasol neu’n ddylanwadol?

Rwy’n credu ei bod yn werth cofio mai’r athroniaeth sy’n sail i gais dinas diwylliant Abertawe oedd y byddai’n helpu i newid y ffordd rydym yn meddwl am ein hamgylchedd a’n cymunedau, a’u gwneud yn rhan o fynd i’r afael â phroblemau yn hytrach na rhoi’r gorau i’r problemau hynny a gadael iddynt gael eu datrys gan gynghorau. Rwy’n meddwl bod y morlyn llanw ym mae Abertawe yn enghraifft dda o’r hyn rwy’n siarad amdano. Mae’r ewyllys gwleidyddol wedi cael ei gryfhau, nid yn unig gan ddadleuon academaidd ond drwy greu dadleuwyr o’r bobl sy’n byw yn lleol—eu cael i feddwl am syniad mawr newydd mewn maes polisi eithaf cymhleth a chredu eu bod yn ddigon grymus, yn ddigon dewr a digon hyderus i helpu i wneud y newid gweledigaethol hwn. Gall yr un peth yn sicr fod yn wir am geir trydan maes o law, David.

Rwy’n meddwl y gallai’r cynnig hwn, sy’n awgrymu bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio, fod yn gywir yn sicr, ond rwy’n meddwl y gallai’r ddau gais yng Nghymru ddysgu un neu ddau o bethau o stori’r morlyn ynglŷn â dod â dinasyddion i mewn i ganol newid gweledigaethol. Gall y newid gweledigaethol hwnnw fod yn seiliedig i raddau helaeth yn y gymdogaeth, wrth gwrs. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad tai yn fuan. Os nad yw’n sôn am wneud dinasyddion yn rhan o bolisi tai drwy eu hannog i feddwl sut y byddant yn cynllunio ar gyfer eu hanghenion gydol oes yna byddaf yn siomedig. Fe gymhwysaf yr un peth i gynllunio canol trefi, os mynnwch. Mae rhai o’r cynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn fy rhanbarth yn adlewyrchu elfennau o hyn. Nid ymwneud â chartrefi cychwynnol fforddiadwy ar y stryd fawr yn unig a wnânt heb fod unman i fynd wedyn. Ystyriwyd bywydau go iawn, eiddo rhent canolradd, yn ogystal ag eiddo llai o faint hygyrch i symud iddo, fel y gall pobl ddod o hyd i gartrefi newydd yn ddiweddarach mewn bywyd mewn cymuned gyfarwydd, gan ryddhau eiddo mwy o faint i alluogi teuluoedd newydd i ddod i mewn, gan ailfywiogi cydlyniant cymunedol ac wrth gwrs, annog cyfranogwyr newydd yn yr economi leol.

Ond yn syth pan fyddaf yn meddwl bod gwir anghenion bodau dynol go iawn yn dechrau dod yn weladwy iawn wrth galon syniad mawr trawsnewidiol, daw yn erbyn offeryn di-awch cynlluniau datblygu lleol sy’n cael eu gyrru gan dargedau. Efallai nad yw’r dinesydd yn ddigon grymus eto i wneud yr holl newidiadau gweledigaethol pan fo casglwyr data datblygu polisi’r Llywodraeth yn ddall i’r data pwysig sy’n bendant yn ganolog i lywio ewyllys gwleidyddol. Diolch.

Rwy’n datgan buddiant, gan y bydd rhai o’r materion yn cyffwrdd ar Gaerdydd, ac rwy’n gynghorydd yng Nghaerdydd. Hoffwn hefyd ddymuno Diwrnod Santes Dwynwen hapus i bawb. Rwy’n gobeithio bod pawb yn mynd â’u partner allan heno ac yn mynd â hwy am bryd o fwyd ac yn y blaen.

Yn ôl i hyn—dinasoedd gwyrdd. Rwy’n croesawu’r ddadl ar ddinasoedd gwyrdd. Bydd fy mhlaid yn cefnogi’r cynnig, ond os yw Llafur yn pleidleisio o blaid hyn, rwy’n meddwl mai dyna fydd y rhagrith pennaf yn y pen draw, o ddifrif. Mae’n wir mai’r duedd ryngwladol yw gwerthuso dinasoedd ar feini prawf yn ymwneud â gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a’u cynaliadwyedd, ond nid yw hynny’n digwydd yng Nghymru. Mae cynghorau Llafur ar hyd a lled Cymru wedi cynllunio i ddinistrio ardaloedd tir glas drwy gynlluniau datblygu lleol, fel y soniodd fy nghyd-Aelod yno. Ond rwy’n credu bod cynlluniau difa lleol, fel y’u gelwir yn fwy cywir—. Yma yng Nghaerdydd, ceir cynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai ar gaeau gwyrdd. Mae’n mynd i ddifetha mynediad at ofod agored glân, mae’n mynd i ddinistrio coetiroedd hynafol, ac mae’n rhoi diwedd ar unrhyw obaith o reoli traffig yn effeithiol yn y ddinas hon, oherwydd bydd o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Gyda ‘carmagedon’, gallwch anghofio popeth am ansawdd yr aer. Mae cymaint o bobl eisoes yn marw o lygredd aer yng Nghymru, a bydd cynlluniau Llafur yn y ddinas hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn marw cyn pryd, gan mai llygredd aer yw’r ysmygu newydd.

Mae cyfranogiad dinasyddion mewn cynlluniau datblygu lleol ar draws Cymru wedi cael ei anwybyddu. Eto, yn y ddinas hon, etholwyd y Blaid Lafur i ddiogelu safleoedd tir glas—roeddent yn dweud y buasent yn gwneud hynny. Celwydd oedd hynny fel digwyddodd hi, oherwydd o fewn misoedd o ennill yr etholiad yn 2012, roeddent yn cyhoeddi cynlluniau i adeiladu dros ddarnau helaeth o gaeau gwyrdd yng ngorllewin y ddinas hon. Cynhaliwyd ymgynghoriadau yng Nghaerdydd, a gwrthododd bron bawb gynllun datblygu lleol Caerdydd. Cafwyd refferenda, pleidleisiodd miloedd—miloedd—o bobl yn erbyn y cynllun datblygu lleol, ond cawsant eu hanwybyddu.

Nid yw canologrwydd y cysyniad o ddinas-ranbarth yn bodoli, gyda’r cynlluniau datgysylltiedig hyn ledled Cymru. Mae cynghorau lleol yn bwrw ymlaen heb unrhyw ystyriaeth i’r dinas-ranbarth yma, heb unrhyw ystyriaeth i’r hyn sy’n digwydd mewn awdurdodau cyfagos. Diolch i’r drefn, drwy weithgaredd ymgyrchwyr Plaid Cymru, cafodd cynllun datblygu lleol Caerffili ei daflu allan. Yn y Fro, mae gan ein cynghorwyr bryderon enfawr yno hefyd ynglŷn â chynlluniau Llafur i ddinistrio cefn gwlad. Yn y gogledd, bydd Bodelwyddan yn cael ei lyncu gan ddatblygiad tai newydd, bydd y caeau gwyrdd wedi mynd, ac efallai y bydd yr iaith Gymraeg wedi mynd hefyd. Cynllunio rhanbarthol yw’r ateb, ond y gwir syml yw nad yw’n digwydd.

Y broblem yw na wnaiff Llafur fynd i’r afael â’r problemau ychwaith. Pan fyddaf yn sôn am y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd, caf fy sarhau am fod yn erbyn i bobl ddod i mewn, hyd yn oed gan y Prif Weinidog. Ai dyna beth y mae Llafur yn ei feddwl o’r miloedd o bobl a bleidleisiodd yn erbyn y cynllun datblygu lleol yn y refferenda? Rwy’n credu mewn lleoliaeth, ac rwy’n rhoi fy etholwyr yn gyntaf. Dylem fod yn darparu ar gyfer angen lleol, sy’n synnwyr cyffredin—ac mae’n gwneud synnwyr yn amgylcheddol hefyd.

Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r Llywodraeth yn pleidleisio ar y cynnig hwn, ac os ydynt yn barod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr yma yn galw am ddinasoedd gwyrdd gyda gofod agored, yna ni allaf ond tybio y byddant yn cefnogi cynnig Plaid Cymru nos yfory ar Gyngor Caerdydd, yn galw am ddiddymu’r cynllun datblygu lleol, oherwydd rydym am ddiogelu’r caeau gwyrdd a’r gofod gwyrdd ac ysgyfaint gwyrdd y ddinas hon. Oherwydd os pleidleisiwch dros un, a bod eich cydweithwyr ar draws y ffordd yn pleidleisio yn erbyn y llall, yna mae hynny’n datgelu rhagrith enfawr mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl o ddifrif y buasai’n chwalu unrhyw fath o syniad fod eich plaid yn credu mewn cynaliadwyedd o gwbl. Ni fyddwn yn pleidleisio o blaid gwelliannau Llafur, am nad ydym yn pleidleisio dros eiriau gwag. Rydych yn gwneud un peth i mewn yma—rydych yn siarad am ansawdd aer—ac eto rydych yn mynd i roi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd, heb unrhyw seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae blynyddoedd nes y daw’r metro, a chawn weld a gaiff hwnnw ei wireddu hyd yn oed. Beth y dylem ei wneud yn y ddinas hon yw edrych ar atebion gwyrdd, sut y gall pawb fyw yng Nghaerdydd a mwynhau ein dinas, yn hytrach na dympio tai ar safleoedd tir glas a dinistrio cymunedau, fel yn y 1970au. Rydym yn yr unfed ganrif ar hugain yn awr, a dylem i gyd fod yn meddwl sut y gallwn ddiogelu ein hamgylchedd lleol, a byw mewn dinasoedd gwirioneddol wyrdd. Diolch yn fawr—diolch i chi.

Rwy’n falch o siarad am yr hyn y credais ei fod yn gynnig cydsyniol—nid wyf mor siŵr erbyn hyn, ar ôl gwrando ar sylwadau Neil McEvoy, ond rwy’n gobeithio y gall pob plaid yn y Siambr gytuno ynghylch rhai o ddaliadau allweddol y cynnig hwn. Mae hon wedi bod yn wythnos hanesyddol, wedi’r cyfan: hanner canmlwyddiant creu tref newydd Milton Keynes—byd newydd dewr o ryddid, neu diriogaeth rwystredig y gylchfan, yn dibynnu ar eich safbwynt a’ch barn am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn ein dinasoedd, ac wedi bod ers y rhyfel. Rydym yn trafod llawer o faterion gwahanol yn y Siambr, ac mae llawer ohonynt yn effeithio ar fywydau pobl—rhai yn fwy na’i gilydd. Ond mae’r amgylchedd yn syth o’n cwmpas yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau, yn ein datblygiad fel bodau dynol, ein hapusrwydd a’n lles. Oherwydd hyn, mae adnewyddu ac adfywio trefol wedi’u cysylltu’n agos â lles, a chydnabuwyd hynny ers amser hir iawn, yn ôl i ddatblygiad yr ardd-ddinas gyntaf yn y DU yn Letchworth, yn y 1900au cynnar, a phan edrychwyd arno wedyn wrth ailddatblygu dinasoedd newydd ar ôl yr ail ryfel byd yn rhaglen Llywodraeth Clement Attlee ar gyfer trefi newydd.

Rydym yn trafod y pwnc hwn heddiw yn yr adeilad anhygoel hwn y cyfeiriodd David Melding ato yn ei sylwadau agoriadol fel patrwm o gynaliadwyedd ym Mae Caerdydd, mewn ardal a drawsnewidiwyd o ganlyniad i bolisïau adfywio canol dinas a ddechreuwyd yn y 1980au, wedi’u harwain, yn y dyddiau hynny, gan gyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Heseltine. Felly, mwy na thebyg fod hwn yn lleoliad addas iawn i drafod i ble yr awn o’r fan hon a sut y gwnawn y gorau o’n hamgylchedd trefol yng Nghymru a sicrhau’r math o fanteision y gwyddom eu bod o fewn cyrraedd, gyda’r ymagwedd gywir a’r meddylfryd cywir.

Rwy’n credu ei bod yn briodol ein bod yn trafod hyn yn sgil llofnodi bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy’n ddigwyddiad hanesyddol mor bwysig ar gyfer adfywio rhannau o dde Cymru, megis Cymoedd y De ac yn wir, rhai o’r rhannau tlotaf o’n hardaloedd gwledig, sydd mor aml yn cael eu hesgeuluso wrth ystyried adfywio. Nid mater o adfywio ardaloedd trefol yn unig yw hyn; mae angen adfywio ein hardaloedd gwledig yn ogystal ac o ganlyniad i’r fargen ddinesig, bydd eu tynged wedi’u cysylltu mewn llawer o ffyrdd.

Gosododd David Melding yr olygfa ar gyfer y ddadl hon gyda chyflwyniad eang iawn. Os caf ganolbwyntio ar yr elfen drafnidiaeth yn y ddadl, y soniodd ef amdani, ac yn benodol, yr elfen drafnidiaeth o’r fargen ddinesig, am eu bod yn perthyn yn agos, rwy’n meddwl, ac yn anad dim, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo cerdded a beicio yng Nghymru. Yn y pen draw, mae hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar fathau eraill o drafnidiaeth, mathau o gludiant, yn uwch i fyny’r gadwyn. Felly, os na allwch gael cerdded a beicio yn iawn, ni allwn gael yr elfennau eraill yn gywir ychwaith, oherwydd bydd gormod o ddibyniaeth arnynt.

Mae’n rhaid gwneud gwelliannau i’r seilwaith os yw prifddinas-ranbarth Caerdydd yn mynd i hyrwyddo teithio gwyrdd yn llwyddiannus, ac mae cryn dipyn o amser bellach ers i ni basio Deddf Teithio Llesol (Cymru)—credaf mai yn ôl yn 2013 y gwnaed hynny. Felly fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, fy mhryder oedd y buasai Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn dihoeni ar silff yn rhywle, ac nid yn gwella pethau allan yno yn ein cymunedau mewn gwirionedd. Iawn, wel, rydym wedi bod wrthi ers dwy flynedd ac rwy’n credu nad oes modd barnu o hyd pa mor llwyddiannus y bydd, ond rwy’n meddwl mai un peth yr ydym i gyd yn sylweddoli fwyfwy yw bod arnom angen i’r Ddeddf honno lwyddo; mae angen hyrwyddo ac annog cerdded a beicio.

Edrychodd y cyn-Bwyllgor Menter a Busnes ar docynnau integredig hefyd—fel y disgrifiodd yr Athro Stuart Cole y peth, rhywbeth cythreulig o anodd i’w gyflawni. Mae integreiddio gwasanaethau yn gwneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn symlach, yn hyblyg ac yn fwy cyfleus i deithwyr, sy’n gallu cael cysylltiad di-dor rhwng teithio ar drenau a bysiau. Yn y sefyllfa honno, buasai gan deithwyr fwy o wybodaeth o ba mor helaeth y gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn eu hardal a gall annog mwy o bobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn anffodus, fel y gwyddom, diddymwyd cynlluniau peilot fel Go Cymru cyn iddynt gael eu traed oddi tanynt, fel petai. Yn y dyfodol, mae angen i ni ddatblygu tocynnau mwy integredig, ar ba ffurf bynnag, a bydd technoleg newydd yn caniatáu ar gyfer mathau newydd o drafnidiaeth integredig o fath nad ydym wedi’i ystyried yn iawn eto.

Wrth ddod i ben, buaswn yn dweud bod Neil McEvoy wedi paentio darlun eithaf llwm o ble rydym ar hyn o bryd yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd yn benodol. Wel, os ydych yn meddwl bod pethau’n ddrwg yn awr—fe sonioch am y 1970au, Neil, ac mae’n anodd credu bod adroddiad Buchanan, bryd hynny, yn cynghori’r gwrthwyneb i’r hyn yr ydym yn sôn amdano yn awr. Roedd yn cynghori y dylid cau’r rheilffyrdd yng Nghaerdydd, dymchwel miloedd o dai, a chreu rhwydwaith traffyrdd trefol, gan gynnwys yr Hook Road fondigrybwyll yr oedd pawb yn ei chasáu. Roedd mor helaeth fel y byddai hynny i gyd wedi cymryd tan 2001 i’w gwblhau. Rhodfa’r Dwyrain yn unig a adeiladwyd o’r rhaglen honno yng Nghaerdydd yn y diwedd. Felly, rwy’n meddwl mai’r wers yw nad yw cynllunwyr bob amser yn iawn, nid yw Llywodraethau bob amser yn iawn, ond rwy’n meddwl bod Llywodraethau yn ceisio, ac rwy’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet hwn yn gwneud ei orau i sicrhau nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, ein bod yn ystyried ble rydym ac yn symud ymlaen at ddyfodol mwy disglair, gwell, gwyrddach a mwy cynaliadwy.

Diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl heddiw. Cafodd llawer o’r materion sydd dan sylw heddiw eu crybwyll hefyd, i ryw raddau, yn nadl y Llywodraeth ddoe ar greu amgylcheddau lleol gwell. Rwy’n meddwl bod y termau ‘creu amgylcheddau lleol gwell’ a ‘dinasoedd y gellir byw ynddynt’—y math hwn o beth—yn bwnc braidd yn hollgynhwysol, felly weithiau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau yn y mathau hyn o ddadleuon.

Mae’r cynnig yn sôn yn benodol am ddinas-ranbarthau fel ysgogwyr datblygu economaidd, a allai fod, yn ddamcaniaethol, yn gysyniad canolog, mae’n wir, er nad yw’n syniad newydd, gan fod dinasoedd arfordirol Caerdydd ac Abertawe bob amser wedi bod â’u cefnwledydd economaidd yn y Cymoedd, lle y câi’r mwyn haearn, ac yna’r glo, ei gloddio. Felly, i ryw raddau, nid yw’r cysyniad o ddinas-ranbarth ond yn gydnabyddiaeth o’r cefnwledydd economaidd hirsefydledig hyn. Y broblem yw, ers cau’r diwydiannau cloddio, fel glo, fod mwy a mwy o’r bobl sy’n byw yn y Cymoedd wedi gorfod teithio i lawr i’r dinasoedd i gael gwaith. Mae hyn yn achosi problemau mawr gyda thagfeydd ar y ffyrdd a gorlenwi trenau. Ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, fe wyddom fod y metro yn dod ar ryw adeg, felly gall hyn liniaru’r problemau yn y pen draw. Ond yn y cyfamser, mae teithio i mewn i Gaerdydd yn dipyn o hunllef.

Mae’r tagfeydd ofnadwy hefyd yn gwaethygu ansawdd aer i bawb, gan gynnwys trigolion y ddinas, fel yr oeddem yn ei drafod ddoe. Gall plannu coed a chynlluniau eraill liniaru’r broblem hon, ond rwy’n ofni na fydd y rhaglenni hyn yn y pen draw ond yn lliniaru ychydig iawn o’r pwysau amgylcheddol ychwanegol a achosir drwy adeiladu tai mawr ym maestrefi Caerdydd, a llawer ohono, yn wir, ar y llain las, fel y soniodd Neil McEvoy yn awr. Ac er bod ei grynodeb yn ymddangos yn llwm o bosibl, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhannu’r rhan fwyaf o’i ofnau ynglŷn â’r dyfodol i Gaerdydd. Mae’r rhaglen adeiladu tai yn deillio o’r ffaith fod poblogaeth y ddinas yn ehangu. A yw’r ehangu hwn yn beth da neu’n beth drwg? I mi, mae i’w weld yn bygwth y gallu i fyw yn y ddinas wrth i fannau gwyrdd ddiflannu. Felly, ar ôl ystyried, nid wyf yn ei ystyried yn beth da. Y rhaglen adeiladu tai: a yw hyd yn oed yn cynnig llawer o ran tai fforddiadwy, mater arall a grybwyllir yn y cynnig heddiw? Wel, yn aml, gwaetha’r modd, nid yw’n gwneud hynny. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau tai yn ddatblygiadau preifat i raddau helaeth gydag elfen fach yn unig o dai cymdeithasol.

Iawn, fe wyddom fod cynlluniau beicio a cherdded yn cael eu gwthio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u rhaglen teithio llesol. Ond mae hyn yn gwrthdaro â realiti cynlluniau olynol i ad-drefnu ysgolion sy’n gorfodi rhieni i anfon eu plant i ysgolion ymhellach ac ymhellach i ffwrdd—y rheswm dros yr anhrefn traffig wrth gludo plant i’r ysgol. Nodaf fod ysgolion yn meddu ar y gallu i fod yn hyblyg gydag amser y diwrnod ysgol. Tybed ym mha ffyrdd y gallai cynghorau lleol eu hannog i wneud hyn yn fwy aml, gan y gallai helpu i liniaru’r tagfeydd pe gellid perswadio digon o ysgolion i fod yn fwy hyblyg.

Un o’r effeithiau mawr eraill yn sgil ehangu’r boblogaeth yw’r cynnydd cyflym ym mhoblogaeth myfyrwyr, sydd hefyd yn cymryd llawer o le ac nid yw’n ddatblygiad i’w groesawu’n ddiamod ar unrhyw gyfrif. Mae llawer o fyfyrwyr yn gyrru y dyddiau hyn, felly daw hynny â mwy o broblemau traffig a pharcio yn ei sgil. Rydym yn cydnabod bod amcanion cynnig y Ceidwadwyr yn rhai canmoladwy. Felly, rydym ni yn UKIP yn cefnogi’r cynnig. Ond mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod ei bod yn aml yn anodd trosi amcanion canmoladwy yn fesurau ymarferol effeithiol. Diolch.

Disgwylir i boblogaeth Cymru gynyddu’n ddramatig dros y degawd nesaf, a disgwylir y bydd nifer y bobl hŷn dros 85 oed yn dyblu. Rhaid i addasrwydd ac ymarferoldeb ein dylunio trefol, ein tai a chysylltiadau trafnidiaeth ein trefi a’n dinasoedd i gyd-fynd â’r angen demograffig hwn barhau i esblygu yn unol ag angen cynyddol a disgwyliadau mwy. Mae Age Cymru wedi tynnu sylw at y gofyniad i adeiladau cyhoeddus gydymffurfio ag ystyriaethau mynediad penodol, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ag anghenion anabledd neu nam ar y synhwyrau. Mae demograffeg ein poblogaeth sy’n heneiddio yn newid yn gyflym a rhaid i’r Llywodraeth symud ar gyflymder tebyg.

Er mwyn ymdopi â’r cynnydd yn y tagfeydd a mwy o gymudwyr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo cerdded a beicio yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn technolegau newydd â breichiau agored a buddsoddi yn nyfodol seilwaith trafnidiaeth modern ar raddfa Cymru gyfan, nid yng Nghaerdydd yn unig. Galluogydd hanfodol i lawer o’n poblogaeth hŷn yw mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gadarn a dibynadwy sy’n darparu cysylltiadau rhwng ein cymunedau gwledig, ein hardaloedd trefol a gwasanaethau cyhoeddus: ysbytai, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a siopau. Mae trafnidiaeth sy’n effeithiol ac yn hygyrch i bawb yn hanfodol i ddileu effaith arwahanrwydd, unigrwydd ac anobaith.

Rhaid gwrthsefyll yr argyfwng tai os yw Cymru i ymdopi â galw poblogaeth yn ein dinasoedd, ond hefyd yn ein trefi. Ar ben hynny, rhaid rhoi mesurau ar waith i warantu bod yr holl brosiectau tai newydd yn defnyddio ynni’n effeithlon ac wedi’u haddasu i anghenion y demograffig lleol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei chynllunio i sicrhau agenda newid newydd a chyffrous. Felly, mae angen cynlluniau arnom sy’n gwella effeithlonrwydd ynni ein tai presennol. Mae angen mesurau arnom i leihau cyfraddau presennol o dlodi tanwydd. Mae’r cartref cyfartalog yng Nghymru ym mand D y dystysgrif perfformiad ynni, nad yw’n ddigon uchel i ddiogelu aelwydydd rhag tlodi tanwydd. Yma yng Nghymru, amcangyfrifwyd bod 23 y cant o gartrefi—sef 291,000 o gartrefi—mewn tlodi tanwydd yn 2016, a llawer o hyn yng Nghaerdydd. Mae hynny’n fwy na dwywaith y ganran yn Lloegr. Dylid defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol fel dull o weithio ochr yn ochr â Nyth i gynnig cymorth i fentrau Llywodraeth y DU sydd wedi llwyddo i leihau tlodi ynni, megis y rhwymedigaeth cwmnïau ynni, ECO. Felly, dylai unrhyw eiddo newydd yn ein dinasoedd—yng Nghaerdydd neu rywle arall—fod wedi’i ddiogelu rhag tlodi tanwydd mewn gwirionedd.

Yn 2013, cyhoeddodd y Ceidwadwyr gynllun sy’n darparu rhwymedigaethau ar gyflenwyr ynni i ddarparu mesurau arbed ynni i gartrefi ledled y DU. Mae hyn yn bwysig er mwyn ein helpu i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o’r sector preswyl yng Nghymru—chwarter ein targed gostyngiadau blynyddol o 3 y cant. Yr wythnos hon, rwyf wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar lygredd aer ac unwaith eto, i’n trefi a’n dinasoedd mae’n hanfodol, wrth i ni dyfu, nad ydym yn tyfu’r llygredd a ddaw yn eu sgil.

Rwy’n croesawu darpariaethau Bil Cymru, a fydd yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddatblygu cynllun tariff cyflenwi trydan penodol i Gymru i gefnogi’r gwaith o osod paneli solar. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio yn erbyn gorddibyniaeth ar ynni gwynt, ac rydym yn llwyr groesawu canfyddiadau adolygiad Hendry yn ei gefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw yng ngogledd a de Cymru. Bydd ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn rhai o’r sbardunau allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer hirhoedledd a lles ein demograffig unigryw yma yng Nghymru.

Wrth groesawu statws dinas yn benodol, hoffwn ychwanegu Llanelwy yng ngogledd Cymru, y dref fach a ddaeth yn ddinas. Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) y tymor diwethaf, rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom fel gwleidyddion i beidio â cheisio dyblygu deddfwriaeth neu gymhlethu amcanion y Ddeddf hon ymhellach. Bydd dehongli a gweithredu nodau’r Ddeddf hon yn llawn, a darparu adnoddau digonol ar eu cyfer gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn symud Cymru ymlaen gyda chamau breision yn fy marn i. Bydd hynny’n digwydd yn ein hardaloedd trefol, ein hardaloedd gwledig ac yn sicr yn ein dinasoedd. Diolch.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac rwy’n croesawu cyfraniad rhagarweiniol David Melding, ynghyd â’r ffaith ei fod yn derbyn gwelliant y Llywodraeth.

Rwyf am fynd ar ôl ei bwynt olaf yn gyflym, gan fy mod yn credu bod hynny’n arbennig o bwysig, ac mae’n ymwneud â chyfranogiad y dinesydd, a nodwyd gan nifer o’r Aelodau o gwmpas y Siambr wrth gwrs. Mae cyfranogiad y dinesydd o bwys aruthrol i bobl oherwydd ei fod yn cyfleu ymdeimlad o reolaeth dros eu bywydau, dros eu hamgylchedd, dros y lle sy’n bwysig iddynt, eu tref, eu dinas, ac mae’n ymwneud, wrth gwrs, â hierarchaeth anghenion Maslow lle y mae rheolaeth yn angen sylfaenol i bob person os ydynt yn mynd i fyw mewn ffordd sy’n lleddfu anobaith a phryder ac sy’n ymgorffori ymdeimlad o les yn eu bodolaeth. Wrth gwrs, caiff ei adlewyrchu yn ogystal yn ffyrdd o weithio Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol lle y darperir ymgynghoriad â’r cyhoedd fel elfen hanfodol o’r holl benderfyniadau y dylai cyrff y sector cyhoeddus fod yn eu gwneud.

Credaf fod nifer o faterion pwysig wedi cael eu crybwyll heddiw gan yr Aelodau, a hoffwn fynd i’r afael â phob un. Mae’r cyntaf yn gwestiwn pwysig iawn, rwy’n meddwl, sef: pa rôl y mae ein dinasoedd a hefyd ein hardaloedd trefol mawr eraill yn ei chwarae wrth gefnogi twf economaidd? Wel, rydym wedi hen gydnabod bod dinasoedd yn hanfodol i ysgogi ffyniant cenedl, o ystyried y dystiolaeth doreithiog. Mae’n dangos sut y mae ardaloedd trefol mwy yn cynhyrchu twf economaidd yn gyflymach nag ardaloedd gwledig. Gwelsom botensial y dinas-ranbarthau gyntaf yn ôl yn 2011 pan aethom ati i gomisiynu adroddiad a sefydlu grŵp ymgynghorol i ystyried y dystiolaeth ar gyfer y dinas-ranbarthau, ac arweiniodd hyn, wrth gwrs, at sefydlu bwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd a bwrdd dinas-ranbarth Bae Abertawe i ymgymryd â’r gwaith sylfaen sydd wedi arwain at ddatblygu’r bargeinion dinesig.

Wrth gwrs, mae bargeinion dinesig yn cynnig cyfle pwysig i Gymru a’n rhanbarthau ddatgloi cyllid ychwanegol o’r Trysorlys i gefnogi ymyriadau a all gyflawni twf economaidd, ond ni ddylid ystyried bargeinion dinesig yn syml fel cyfrwng ar gyfer cyflawni a chyllido prosiectau. Maent yn cynnig cyfle i ymgysylltu â dinasyddion ac maent yn arfau hanfodol wrth ddarparu fframwaith sy’n caniatáu i ranbarthau sbarduno ffordd newydd o weithio ar y cyd, gan osod blaenoriaethau fel un llais sy’n cefnogi uchelgeisiau ac amcanion economaidd lleol ac sy’n cyflawni swyddogaethau allweddol ar lefel strategol wrth gwrs. Maent yn hanfodol i wireddu’r weledigaeth yn y cynnig o ddinasoedd a rhanbarthau ehangach sy’n lân, yn wirioneddol gynaliadwy, ac wedi’u cynllunio’n dda.

Ni ddylid bychanu cydweithrediad go iawn ymhlith rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol yn arbennig o ganlyniad i’r bargeinion dinesig os ydym i gyflawni’r weledigaeth o ddinasoedd annwyl, ffyniannus—dinasoedd y buasem yn dymuno iddynt gael eu diffinio, nid yn unig yn ôl pa mor gyfoethog ydynt, ond hefyd yn ôl eu hansawdd fel lleoedd, yn ôl y modd y gall amgylcheddau trefol wella lefelau hapusrwydd a lles yn hytrach na chyfyngu arnynt. Rwy’n credu y gellir profi bod pob un o bwyntiau’r cynnig yn cyfrannu at hyn.

Cyfeiriwyd at lawer o enghreifftiau o ddinasoedd o gwmpas y byd heddiw. Mewn gwirionedd gallem ddathlu’r rhai sy’n agos at adref, yn y fan hon, y ffaith fod Caerdydd yn cael ei hadnabod fel un o’r mannau gorau i bobl ifanc dyfu i fyny ynddi. Y drws nesaf mae gennym Ganolfan Mileniwm Cymru, sydd wedi cael gwobr am fod yn theatr fwyaf cyfeillgar Prydain. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud y buasem yn dymuno gweld ein dinasoedd a’n trefi yn cael enw am fod y llefydd mwyaf cyfeillgar y gall pobl ymweld â hwy, oherwydd dyna beth sy’n mynd i ddenu pobl yma o lefydd fel y de-ddwyrain, pwynt y tynnodd David Melding sylw ato, a bydd hynny’n tyfu ac yn ehangu i bwynt lle y bydd llawer o bobl iau yn chwilio am ddinasoedd eraill a threfi eraill i fagu teuluoedd a chwilio am waith ynddynt. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein dinasoedd a’n trefi ymhlith y lleoedd mwyaf deniadol i fyw a gweithio ynddynt.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. A wnaiff gydnabod pwysigrwydd y math rhanbarthol hwn o gynllunio ac yn benodol, pwysigrwydd gwneud ein dinasoedd a’n trefi yn ddeniadol iawn? Oherwydd bellach, gyda’r meiri a etholwyd yn uniongyrchol sydd â phwerau a chyfrifoldebau adfywio enfawr ym Mryste, Birmingham a Lerpwl, yn union ar draws y ffin—i’r gogledd, y canolbarth a’r de—mae’r ffatrïoedd ailddatblygu, adfywio, hyn yn mynd i fod yn cael eu rheoli’n uniongyrchol yn lleol gan y dinasoedd hyn.

Boed drwy feiri a etholwyd yn uniongyrchol neu ffurfiau eraill ar bolisïau, rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol fod gennych brosesau democrataidd sy’n cyfleu ymdeimlad o reolaeth gan y dinesydd, ond sydd hefyd yn syml, yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae hynny’n berthnasol nid yn unig i ddinasoedd, ond hefyd i ardaloedd mwy gwledig, rwy’n credu. Ond wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gydnabod cyfyngiadau dinasoedd hefyd, lawn cymaint â’u potensial. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud, o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf, fod economi Cymru wedi perfformio’n eithriadol o dda. Gwyddom fod diweithdra’n is nag erioed, fod cyflogaeth yn uwch nag erioed, a bod Llywodraeth Cymru y llynedd wedi helpu i greu a diogelu 37,500 o swyddi.

Felly, nid oes amheuaeth fod rhannau o Gaerdydd ac Abertawe ac ardaloedd trefol mawr eraill wedi cyflawni twf trawiadol. Ond fel y dywedais heddiw mewn erthygl yn y ‘Western Mail’, rwy’n meddwl mai ein her yn 2017 yw adeiladu ar hanfodion economi gref ym mhob rhan o Gymru ac yn fy marn i, rhaid i’n hymagwedd fynd y tu hwnt i ganolbwyntio’n syml ar ddatblygu ein dinasoedd i ddull mwy manwl sy’n adlewyrchu’n well yr anghenion a’r cyfleoedd ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd ledled Cymru. Mae hyn yn rhywbeth a gafodd ei gydnabod yn rhan (h) pwynt 3 y cynnig heddiw, ac mae nifer o’r siaradwyr wedi ei grybwyll, gan gynnwys Nick Ramsay, a oedd hefyd yn hyrwyddo, yn gywir, yr angen am docynnau integredig—ac rwy’n credu y byddwn, gyda’r fasnachfraint newydd a gallu Trafnidiaeth Cymru i reoli’r mecanweithiau tocynnau, yn gallu gwireddu’r weledigaeth sydd wedi bod ar goll mewn sawl man.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn hanfodol i ni gefnogi twf a ffyniant economaidd mewn ffordd sy’n cydnabod bod dimensiwn rhanbarthol sylweddol yn perthyn i economi Cymru, rhywbeth a gafodd sylw, unwaith eto, gan nifer o’r Aelodau. Wrth wneud hynny, rwy’n credu bod angen i ni dyfu ein prif ganolfannau rhanbarthol—y trefi a’r ardaloedd trefol mawr nad ydynt o reidrwydd yn ddinasoedd, ond sy’n ardaloedd deniadol o bwys gyda photensial i greu’r math o grynodref y siaradodd Jeremy Miles amdano, sy’n gweithredu fel grym ysgogol i ffyniant economaidd.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i rannu’r cyfoeth a mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r problemau strwythurol ac economaidd sy’n dal i beri trafferth i ormod o gymunedau. Dyna pam ein bod wedi annog a chefnogi datblygiad y dinas-ranbarthau a’r bargeinion dinesig, a pham hefyd ein bod yn frwd ein cefnogaeth i waith y bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, cytundeb twf gogledd Cymru a pherthynas gogledd Cymru â Phwerdy Gogledd Lloegr.

Yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, mae yna gyfle i gydweithio rhagor o fewn y rhanbarth ac ar draws y ffin, ac mae’n rhywbeth rwy’n ei annog yn fawr. Rwy’n meddwl bod y ddadl heddiw wedi crybwyll rhai themâu pwysig iawn, ac mae’n amlwg fod ymagwedd gydgysylltiedig a thrawslywodraethol yn hanfodol i sicrhau twf a ffyniant ledled Cymru.

Un pwynt terfynol—ac mae’n rhywbeth a gododd Janet Finch-Saunders yn ei chyfraniad—sef pwysigrwydd y modd y dylai’r amgylchedd adeiledig gael ei ddylunio a’i adeiladu i adlewyrchu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio. Credaf fod Janet Finch-Saunders yn gwbl gywir, a buaswn yn mynd un cam ymhellach a dweud y dylai dylunio fod yn seiliedig ar sail pobl yn gyntaf, ac nid ar sail cerbydau yn gyntaf o gwbl. Am y rheswm hwnnw, rwy’n meddwl bod Nick Ramsay yn hollol gywir yn honni bod yn rhaid i’r Ddeddf teithio llesol fod yn llwyddiannus.

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu’n ddadl adeiladol a chraff iawn yn fy marn i. Ac mae llawer o themâu cyffredin wedi dod yn amlwg.

A gaf fi ddechrau gyda Jeremy Miles? Rwy’n meddwl bod y pwynt y gall technoleg guro daearyddiaeth yn gywir, ond rwy’n meddwl mai’r ochr arall i hynny yw ei fod wedi gwneud ein holl ardaloedd trefol yn rhan, felly, o’r union ddinasoedd y soniwn amdanynt: Castell-nedd Port Talbot i mewn i Abertawe, ond erbyn i chi gyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr, mae’n fater o Abertawe neu Gaerdydd. Mae hyn, rwy’n meddwl, yn rhyddhad mawr. Gwnaeth Gareth Bennett y pwynt ein bod wedi edrych bob amser ar y gefnwlad—mae hynny’n wir—ond yn awr rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud llawer mwy â’r cynnig trefol cyffredinol, yn hytrach na diwydiannau cloddio yn benodol. Ac mae dinasoedd yn boblogaidd iawn. Rwy’n credu bod hynny’n un peth sy’n rhaid i ni gofio—poblogaidd iawn gyda phobl iau; i’r mannau hynny y maent yn symud, yn gyffredinol. Siaradodd Jeremy hefyd am y cysyniad hwn o gynnwys dinasyddion a chynwysoldeb, a chyfeiriodd sawl un o’r siaradwyr heddiw ato eto, ond soniodd y Gweinidog amdano hefyd a’i gysylltu â lles. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn ac yn rhywbeth rwy’n cytuno’n llwyr ag ef.

Siaradodd Suzy am ei phrofiad uniongyrchol o ansawdd aer gwael a llygredd yn hofran dros fae Abertawe, a soniodd am y campws prifysgol newydd gwych ar fae Abertawe. Roeddwn ar fai yn anghofio sôn am brifysgolion oherwydd maent yn elfennau allweddol yn ein dinasoedd mewn gwirionedd. Ond ydy, mae hon yn broblem go iawn. Fe sonioch am ymwneud dinasyddion â’r morlyn llanw, ac rwy’n meddwl bod y rhai ohonom a wrandawodd ar Charles Hendry yn gynharach—fe ddywedodd mai un o’r pethau rhyfeddol yw bod yna gefnogaeth amlwg i’r cysyniad ymhlith y dinasyddion.

Neil McEvoy, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn diogelu mannau gwyrdd, ac rwy’n falch eich bod wedi crybwyll coetiroedd, oherwydd credaf fod coetiroedd trefol yn eithriadol o bwysig. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid i ddinasoedd ddatblygu. Mae angen mwy o dai ac rwy’n meddwl bod Janet wedi crybwyll yr argyfwng tai. Ond efallai fod angen i ni ofyn cwestiynau yn awr, ac ymgysylltu â’r bobl sy’n mynd i fod yn eu tridegau canol neu hwyr, dyweder, ymhen 10 mlynedd a dweud, ‘Wel, pa fath o gynnig tai a fyddai’n dderbyniol i chi yn awr?’, oherwydd bydd yn rhaid i ni newid. Yr hen syniad o dŷ pâr eithaf mawr gyda thir o’i amgylch: ni allwn adeiladu’r math hwnnw o annedd. Gall fod yn fwy—. Dewis arall yw un mwy cryno, ond yn dal i fod, mae’n fwy na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Nid yw llawer o fflatiau’n addas, mewn gwirionedd, ar gyfer bywyd teuluol. Ewch i’r cyfandir: fflatiau mawr. Os ewch i un o ddinasoedd mawr canolbarth Ewrop—Prag neu Fienna—yr hyn sy’n eich taro, os ewch i gartref rhywun, yw pa mor fawr yw eu fflatiau, ac yna bydd ganddynt ardd gymunedol y gall pawb ei mwynhau. Gall hynny fod yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno, fel ein bod yn defnyddio ein tir yn fwy effeithiol.

Soniodd Nick Ramsay am Milton Keynes, sy’n 50 oed; fe sonioch am y cylchfannau, ond nid y gwartheg concrid, a oedd yn ddewis da, rwy’n siŵr. Mae bae Caerdydd yn y math hwnnw o gategori, rwy’n meddwl, o ran yr uchelgais ar gyfer ei drawsnewid, ac rwy’n meddwl bod Milton Keynes, gallech ddweud, yn enghraifft o gynllunio da, ar y cyfan, mewn gwirionedd, ond cafwyd enghreifftiau o gynllunio erchyll yn y gorffennol. Roeddech yn iawn i sôn am hynny. Roedd yr enwog Sue Essex, wrth gwrs, yn Aelod o’r Cynulliad yn ystod y ddau Gynulliad cyntaf, ac rwy’n credu mai cynllunydd tref oedd hi. Roedd hi’n sicr yn gadeirydd y pwyllgor cynllunio a thaflodd gryn dipyn o oleuni ar y materion hyn, ond mae gostyngeiddrwydd, weithiau, yn eithaf pwysig hefyd.

A gaf fi ddiolch i Gareth Bennett am siarad am y tagfeydd ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd? Mae hwnnw’n bwnc o bwys mawr. Gellir ei reoli, ond unwaith eto, mae angen llawer o atebion hyblyg. Rwy’n meddwl bod y myfyrwyr yng Nghaerdydd yn ychwanegu llawer at ein dinas. Yno, mae’r brifysgol wedi bod yn hyblyg iawn ac yn arloesol o ran y cynnig tai, ac maent yn codi adeiladau newydd gwirioneddol drawiadol, ac mae gan fyfyrwyr lawer o ofynion. Mae pam nad yw pobl ifanc yn mynnu cymaint â’r myfyrwyr o ran eu tai yn ddirgelwch i mi, ond efallai y dylem ddarganfod pam.

Soniodd Janet hefyd am her ddemograffig pobl oedrannus ac anabl yn arbennig. Mae angen i ni eu cofio wrth gynllunio ein trefi—pwysig iawn—a siaradodd hi a sawl un arall am yr angen i gael trafnidiaeth amgen—cerdded a beicio. A gaf fi ddweud—rwy’n mynd yn ôl—fod angen i ni edrych ar ein rhwydweithiau ffyrdd eto? Dylid dynodi rhai ohonynt ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn unig. Dylai rhai ddod yn llwybrau beicio a cherdded yn awr. Mae arnom angen uchelgais go iawn i newid ein mannau trefol gwych er mwyn iddynt ddod yn well nag unman arall yn y byd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig heb eith ddiwygio yn unol â rheol sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4, 5, 6 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth, gwelliant 2 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 7 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl UKIP, ac rwy’n galw ar Caroline Jones i wneud y cynnig. Caroline Jones.

Cynnig NDM6214 Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai’r tro cyntaf, a’r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â’r GIG yw drwy bractis cyffredinol.

2. Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn, yn cael llai nag wyth y cant o’r gyllideb iechyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau cyffredinol drwy roi buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig ger eich bron a gyflwynwyd yn fy enw i.

Y cyswllt cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gael yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yw drwy ein meddyg teulu. Diolch byth, i’r mwyafrif llethol ohonom, hwn yw’r unig gysylltiad â’r GIG. Mae ychydig o dan 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru yn gweithio yn y 454 practis cyffredinol ledled Cymru. Er bod hyn yn swnio’n llawer, mae’n cyfateb i ychydig dros hanner meddyg teulu i bob 1,000 o gleifion. Hefyd, mae traean o boblogaeth Cymru sy’n oedolion yn dweud bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig, ynghyd â’r ffaith, yn y degawd diwethaf, fod niferoedd meddygon teulu wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth.

Rydym yn gwybod y bydd effaith cyflyrau cronig yn gwaethygu dros y degawdau nesaf wrth i nifer y bobl 65 oed a hŷn gynyddu oddeutu traean. Mae ein poblogaeth o feddygon teulu hefyd yn heneiddio, ac mae chwarter ein meddygon teulu bellach yn 55 oed a hŷn. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi—

A fuasech yn cytuno â mi ei bod hi fel arfer yn gywir i Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog fod yn bresennol yn y ddadl i ymateb i chi ac i bawb arall ohonom sydd am gyfrannu at drafodaeth UKIP?

Diolch. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi, y ffaith fod llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol yn gynnar, a’r nifer fawr sy’n ceisio gweithio’n rhan-amser oherwydd pwysau gwaith, yn rysáit ar gyfer trychineb.

Mae ymarfer cyffredinol yn wynebu pwysau cynyddol a digynsail. Ceir bwlch sylweddol a chynyddol rhwng y galw arno a’i allu i ymateb. Nid yw’r pwysau hwn wedi’i gyfyngu i un ardal; mae ymarfer cyffredinol yn cael ei orfodi i geisio ymdopi gydag adnoddau annigonol, llwyth gwaith anghynaladwy, a gweithlu o dan bwysau sylweddol ar draws Cymru gyfan—[Torri ar draws.]

Ni allaf gymryd un arall, Jeremy, mae’n ddrwg iawn gennyf.

Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond sylwadau Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn rhybuddio ers tair neu bedair blynedd fod argyfwng ar y ffordd mewn ymarfer cyffredinol. Maent wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y meddygon teulu, ond weithiau cafodd eu galwadau eu hanwybyddu. Ydy, mae Llywodraeth Cymru yn gwrando: lansiwyd ymgyrch newydd ganddi ar gyfer recriwtio meddygon teulu ym mis Hydref, ond nid yw’n ddigon. Mae angen i ni recriwtio oddeutu 200 o feddygon teulu y flwyddyn. Yn lle hynny, rydym yn cael trafferth i lenwi 125 o’r lleoedd hyfforddi sydd ar gael bob blwyddyn. Bydd yr ymgyrch recriwtio newydd yn helpu, ond nid yw’n ddigon.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi gofyn am roi mwy o bwyslais ar fyfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru, gan mai’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf tebygol o aros yng Nghymru. Mae Caerdydd yn gofyn am yr hyn sy’n cyfateb i wyth A* lefel TGAU ar gyfer eu cyrsiau. Mae llawer o’r meddygon sy’n gweithio yn y GIG heddiw wedi cyfaddef yn barod na fuasent yn ateb y meini prawf. Nid ydym yn gofyn am wneud cyrsiau’n haws, ond am ofynion mynediad mwy realistig, dyna’i gyd, a mwy o ffocws ar fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru.

Nid niferoedd y meddygon teulu’n unig sydd angen i ni eu cynyddu. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru sydd â ffocws cryfach ar, ac ymrwymiad i ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol. Mae’r rhan fwyaf o gyllideb y GIG yng Nghymru yn mynd tuag at ofal eilaidd. Cyn 2004 roedd gwariant ar ymarfer cyffredinol dros 10 y cant o gyfanswm cyllideb y GIG. Roedd yna gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu, ar gyfer gwasanaethau newydd, cystadleuaeth am swyddi, mwy o geisiadau am leoedd hyfforddi nag o leoedd, a morâl yn uchel. Ers hynny, mae’r cyllid wedi gostwng i rhwng 7 ac 8 y cant, ac nid oes gan ymarfer cyffredinol ddigon o arian ar gyfer y gweithlu, y safleoedd na’r gwasanaethau. Dros yr un cyfnod, mae cyfraddau ymgynghoriadau wedi saethu i fyny a mwy o feichiau’n cael eu rhoi ar ymarfer cyffredinol gan ofal eilaidd.

Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod 84 y cant o feddygon teulu yn poeni y gallant fethu canfod rhywbeth difrifol oherwydd llwyth gwaith afresymol, ac mae 92 y cant o feddygon teulu yn poeni bod diffyg adnoddau yn rhoi gofal cleifion mewn perygl. Mae dros hanner y meddygon teulu a holwyd yn dweud eu bod naill ai wedi cynllunio i leihau eu horiau neu adael ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl o fewn y pum mlynedd nesaf. Mae 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am gymorth ar gyfer straen sy’n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwn am un meddyg teulu sydd fel mater o drefn yn gorfod gweld dros 100 o gleifion yn ystod sesiwn ymgynghori. Nid yw hyn yn dda i gleifion na meddygon.

Rydym yn gweld effeithiau’r pwysau ar ymarfer cyffredinol ar draws y GIG. Un o’r rhesymau pam y gwelwn ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n hysbytai a phobl sy’n aros mwy na 12 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yw o ganlyniad uniongyrchol i orweithio mewn ymarfer cyffredinol. Mae pobl nad ydynt yn gallu gweld eu meddyg teulu yn mynd i’r ysbyty.

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am gynyddu cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol i dros 12 y cant o gyllideb y GIG. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar ymarfer cyffredinol arbed dros £90 miliwn i’r GIG yng Nghymru erbyn 2020. Mae ffigurau’r coleg brenhinol yn seiliedig ar ymchwil manwl gan Deloitte. Mae’r ymchwil yn dangos y gallai cynnydd o tua £3.5 miliwn y flwyddyn ar ymarfer cyffredinol ar draws Cymru i dalu am bethau megis rhagor o feddygon teulu a nyrsys practis dorri dros chwarter yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys a sicrhau arbedion o tua £21.5 miliwn bob blwyddyn ariannol, gan godi at arbedion blynyddol o tua £34 miliwn erbyn diwedd y degawd hwn.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn cytuno bod angen i ni fuddsoddi a gwella’r seilwaith sydd ar gael i ymarfer cyffredinol. Mae angen i ni wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i wella gofal cleifion, cyflymu diagnosteg a symleiddio gwasanaethau. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn dal i aros i ragnodi electronig gael ei gyflwyno, rhywbeth y mae eu cydweithwyr ar draws y ffin yn ei fwynhau. Mae rhagnodi electronig yn gwella profiad y claf, mae’n fwy diogel i gleifion ac yn lleihau’r baich gwaith ar feddygon teulu. Mae’r seilwaith TG sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru yn ofnadwy. Mae’n unfed ganrif ar hugain ac rydym yn dal i ddibynnu ar y post traddodiadol a pheiriannau ffacs. Mae gwelliannau, pan fyddant yn dod, yn araf yn cyrraedd. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith sydd gennym ar waith yn addas i’r diben, yn gallu addasu i anghenion y dyfodol ac yn lleihau llwyth gwaith ein meddygon teulu mewn gwirionedd, yn hytrach nag ychwanegu at y baich biwrocrataidd.

Gyd-Aelodau, rydym yn wynebu argyfwng mewn ymarfer cyffredinol. Bydd argyfwng sy’n cael ei adael i ddigwydd yn tanseilio ein gwasanaeth iechyd gwladol yn ei gyfanrwydd. Ni allwn barhau i anwybyddu’r broblem neu dincran â’i hymylon. Mae angen buddsoddi’n sylweddol mewn ymarfer cyffredinol, buddsoddi’n sylweddol mewn pobl, buddsoddi’n sylweddol mewn adnoddau a buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith. Ond mae angen y buddsoddiad hwnnw yn awr.

Anogaf yr Aelodau i ddangos i’n meddygon teulu gweithgar, neu ein meddygon teulu sy’n gorweithio, dylwn ddweud, ein bod yn eu cefnogi 100 y cant drwy gefnogi’r cynnig sydd ger eich bron heddiw. Ni fydd UKIP yn cefnogi’r gwelliannau gan Lywodraeth Cymru a byddwn yn gwrthod gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig am ei fod yn ychwanegu at y ddadl, ac nid yw’n tynnu oddi wrth y neges graidd yr hoffwn ei gweld yn mynd allan o’r Siambr hon heddiw.

Mae meddygon teulu ac ymarfer cyffredinol yn bwysig i ni. Hwy yw conglfaen ein GIG, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu yn cael y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn trin cleifion mewn modd diogel ac amserol. Diolch yn fawr.

Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1, 3, 4, 5, 6 ac 8, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o gleifion gyflyrau cronig y gellir eu rheoli orau yn y gymuned, ac mae hyn yn galw am ofal sylfaenol cryf, gydag ymarfer cyffredinol yn ganolog i hynny.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod cyllidebau gofal cymdeithasol wedi wynebu pwysau ariannol sylweddol, ac yn gresynu bod rôl gofal cymdeithasol o ran cyfrannu at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol wedi cael ei diystyru.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yn nodi y bydd angen mwy o lawer o feddygon teulu i gydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn gwasanaeth gofal sylfaenol cryf; yn credu y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ategu a chefnogi’r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan feddygon teulu, ac na ddylid eu defnyddio i wneud y gwaith yn eu lle.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod llawer o feddygon teulu wedi dewis dod i weithio yng Nghymru o’r tu allan i’r DU, ac y gallent ddewis gadael os yw’r drwgdeimlad parhaus tuag at weithwyr mudol yn parhau.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynorthwyo cleifion i reoli eu cyflyrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau ysbyty; gan gydnabod y bydd angen cynllunio hirdymor priodol ar gyfer hyn, buddsoddi mewn seilwaith a pholisïau ehangach o du’r llywodraeth i hybu iechyd da.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad rheolaidd ar gyfer gofal sylfaenol, gyda dangosyddion perfformiad a thargedau yn cael eu sefydlu mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4, 5, 6 ac 8.

Thank you very much, Llywydd.

Rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae’n ddadl amserol a phriodol, ac nid am y rhesymau y mae’r blaid gyferbyn yn ei feddwl efallai. Mae’n amserol oherwydd, unwaith eto, mae arweinydd newydd y blaid wedi cadarnhau mai nod hirdymor ei blaid yw preifateiddio’r GIG—[Torri ar draws]. Mae wedi cofnodi ei farn, unwaith eto, nad yw wedi newid ei feddwl fod holl fodolaeth y GIG yn mygu cystadleuaeth. Felly, rhaid i’r ddadl hon gael ei gweld yn y cyd-destun hwnnw. Yn anffodus, mae ffigyrau blaenllaw UKIP yn dal ati i wneud camgymeriadau mewn materion sy’n ymwneud ag iechyd. Rydym yn gwybod nad yw Nigel Farage yn credu nad oes unrhyw gysylltiadau rhwng ysmygu a chanser. Mae Roger Helmer wedi galw ar y GIG i ariannu therapi iacháu hoywon. Yr wythnos diwethaf, siaradodd y llefarydd iechyd yma yn erbyn trethu sigaréts ar y sail nad ydym wedi lleihau nifer yr ysmygwyr o ryw lawer. Gwiriad cyflym o’r ffeithiau hynny: 20 mlynedd yn ôl, roedd bron i 30 y cant o ferched 15 oed a bron i 25 y cant o fechgyn yn ysmygwyr. Yn awr, mae ysmygu ymhlith rhai yn eu harddegau ar ei lefel isaf erioed, gydag 8 y cant o fechgyn a 9 y cant o ferched yn unig yn ysmygu. Mae ysmygu ymhlith oedolion wedi gostwng o tua 30 y cant i 19 y cant dros yr un cyfnod, ond beth a ŵyr yr arbenigwyr, a beth y mae’r ystadegau yn ei ddangos, e?

Gan roi’r pwyntiau hynny i’r naill ochr, yn rhyfedd iawn, rydym yn cefnogi teimladau’r cynnig, ond rydym yn credu bod angen newidiadau sylweddol i adlewyrchu’n gywirach yr heriau a’r mathau o atebion sydd eu hangen arnom yn y GIG. Mae gwelliant 1 yn adlewyrchu’r ffaith fod y rhan fwyaf o gleifion sy’n cael gofal yn y GIG modern, yn amlddefnyddwyr y gwasanaeth mewn gwirionedd, pobl sydd angen cyswllt a gofal cyson gan wasanaethau iechyd sylfaenol i reoli eu cyflyrau cronig. Nid yw hyn yn ymwneud â’r defnyddiwr untro y mae ei gyswllt cyntaf a’i unig gyswllt gyda meddyg teulu.

Mae gwelliant 2 yn nodi pwysigrwydd gofal cymdeithasol da wrth gyfrannu tuag at y nodau hyn—rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano yma y prynhawn yma eisoes—gan nodi’r pwysau ariannol sydd wedi ei osod ar ofal cymdeithasol, yn ôl pob tebyg o ganlyniad i agenda adain dde nad yw’n deall rôl gofal cymdeithasol ac sy’n credu bod caledi yn ddewis gwleidyddol heb ganlyniadau.

Gwelliant 3: mae hwn wedi’i dargedu at Lywodraeth Cymru. Mae’n nodi y bydd meddygon teulu yn parhau bob amser yn ganolog i wasanaeth sylfaenol da. Rydym yn nodi’r gostyngiad yn y niferoedd, er bod y Llywodraeth yn hoffi dangos cyfres wahanol o ffigurau ar adegau. Mae’r ffeithiau’n glir: roedd gennym 2,026 o feddygon teulu yn 2013, a 1,997 o feddygon teulu yn 2015, sef yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn rhan hanfodol bwysig o ofal sylfaenol, ond ni ddylid eu defnyddio yn lle meddygon teulu. Dylid eu defnyddio, wrth gwrs, i ategu eu gwaith. O gyfrifiadau Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, nodwn ein bod angen 400, efallai, o feddygon teulu ychwanegol yng Nghymru. Mae’n ffigur na welwn unrhyw reswm i’w amau yn sicr, ac rwy’n tynnu eich sylw, wrth gwrs, at safbwynt hirsefydlog Plaid Cymru: fod angen i ni symud dros gyfnod o flynyddoedd tuag at gyflogi, hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru.

Yng ngwelliant 4, dychwelwn at y gwrthddywediad ym mholisïau iechyd UKIP, drwy nodi bod llawer o feddygon teulu, er mawr syndod, nad ydynt yn Brydeinwyr mewn gwirionedd, ac os yw’r hinsawdd o elyniaeth tuag at weithwyr mudol y mae UKIP wedi helpu i’w danio yn parhau, efallai y byddant yn dewis gadael y GIG. Rwy’n meddwl tybed a ydynt o ddifrif ynglŷn â—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf; a hoffech ymyrryd?

Rwy’n teimlo bod hyn yn haerllug braidd. Rydych yn gyson yn gwneud sylwadau ar draws y Siambr ynglŷn â’r ffaith nad yw Neil Hamilton yn byw yma, ac yn byw yn Lloegr, ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eithaf haerllug, mewn gwirionedd.

Fe gymeraf ymyriad arall, ar bob cyfrif, neu gallwn ddychwelyd at y pwnc dan sylw.

[Yn parhau.]—o Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. O Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. Mae’r dystiolaeth yno.

Nid oes unrhyw ymyrraeth am fod yr Aelod, a bod yn hollol onest, yn bod yn chwerthinllyd.

Yng ngwelliant 5, rydym yn fwy penodol ynglŷn â sut y mae angen i ofal sylfaenol wella. Mae’n galw am gyfuniad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd lawer mwy, gyda buddsoddiadau’n cael eu gwneud yn y lle mwyaf priodol yn hytrach na gosod canrannau mympwyol, a gweithio ochr yn ochr â pholisïau ehangach y Llywodraeth sy’n hybu iechyd da—er enghraifft, trethu sigaréts yn drwm.

Yng ngwelliant 6, rydym yn nodi bod gwir angen i ni weld, ochr yn ochr â’r buddsoddiadau hyn—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fy mod wedi’i drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o achlysuron, gan gynnwys yn y Siambr hon—cymaint ag sy’n bosibl, ac ystod mor eang ag y bo modd o ddata perfformiad ar ofal sylfaenol yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd. Er mwyn mapio’r ffordd ymlaen ar gyfer gofal sylfaenol, mae angen i ni gael yr offer at ein defnydd, ac mae hynny’n sicr yn cynnwys cael y data cywir a’r data gorau at ein defnydd. Cefnogwch ein gwelliannau heddiw.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Cyn iddo wneud hynny, rwy’n siŵr y bydd yn awyddus i ymddiheuro i’r Siambr ac i gynigydd y cynnig heddiw am gyrraedd yn hwyr i’r ddadl.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a’r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn wir, Lywydd. Rwy’n cydnabod mai fy nghyfrifoldeb yw bod yma ar amser, ac rwy’n ymddiheuro i’r cynigydd ac i’r Siambr am fod yn hwyr ar gyfer dechrau’r ddadl heddiw. Felly, rwy’n ymddiheuro heb betruso, ac rwy’n cynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Galwaf yn awr ar Angela Burns i gynnig gwelliant 7 yn enw Paul Davies. Angela Burns.

Gwelliant 7—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu’n effeithiol.

Cynigiwyd gwelliant 7.

Diolch, Lywydd. Gyda pheth anesmwythder rwy’n mynd i geisio arllwys ychydig o olew ar y dyfroedd cythryblus hyn, oherwydd rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Ni all unrhyw un ddadlau pa mor anhygoel o bwysig yw ymarfer cyffredinol i gynnal a darparu gwasanaethau iechyd gwladol. Rydym hefyd yn cefnogi’r gwelliannau gan Blaid Cymru, oherwydd eich bod yn manylu ar y ffeithiau mewn gwirionedd, er fy mod yn meddwl eich bod yn ddrwg iawn, Rhun ap Iorwerth, yn ceisio priodoli pechodau ein tadau i ni, neu bechodau’r brawd mawr ar yr ochr arall i’r wal, oherwydd yma, mae’r blaid hon yn cefnogi gofal cymdeithasol yn fawr, ac rydym wedi dangos hynny ar sawl achlysur. Hoffwn ddweud hefyd, gan gyfeirio at welliant 5, nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn goddef unrhyw un sy’n ymosod ar, yn cam-drin neu’n dangos unrhyw elyniaeth at unrhyw aelod o’r gwasanaeth iechyd gwladol, gan fod hynny’n drosedd nad yw’n dderbyniol ar unrhyw lefel.

Mae gofal sylfaenol yn hanfodol bwysig i’n gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy’n ddiolchgar i chi am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy’n teimlo na allaf gefnogi gwelliant y Llywodraeth tan ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet siarad, oherwydd hoffwn weld beth y mae’n bwriadu ei wneud i gefnogi gofal sylfaenol, gan fy mod yn teimlo bod gwasanaethau gofal sylfaenol wedi’u hesgeuluso. Rydym yn credu y dylai fod yn flaenoriaeth flaenllaw i Lywodraeth Cymru, mewn ymdrech i wella’r GIG. Ran amlaf o lawer, daw cleifion i gysylltiad cyntaf â’r gwasanaeth iechyd drwy ymarfer cyffredinol, ac o’r herwydd, hwy yw un o’r agweddau pwysicaf ar y rhyngweithio rhwng y cyhoedd a’r GIG. Er gwaethaf hyn, rydym wedi gweld nifer y meddygfeydd yng Nghymru’n gostwng bron i 9 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae gofal sylfaenol o ansawdd yn hanfodol wrth leihau’r baich ar ein hysbytai a’n gwasanaethau brys. Po fwyaf o adnoddau y gallwn eu rhoi i’n meddygon teulu ar gyfer gwneud diagnosis yn gyflym a thrin cleifion, y mwyaf o le y gallwn ei ryddhau mewn mannau eraill yn y gwasanaeth iechyd. Rwy’n credu ein bod wedi gweld dro ar ôl tro o dan Lywodraeth Lafur Cymru fod amseroedd aros am driniaeth a diagnosis yn ein GIG wedi llusgo ar ôl. Rwyf am ddweud yn glir wrth Lywodraeth Cymru, nid am y tro cyntaf, mai’r hyn sydd fwyaf o’i angen, ac eto yr hyn sy’n cael ei esgeuluso fwyaf wrth geisio unioni’r anghysondeb, yw buddsoddiad ychwanegol mewn gofal sylfaenol.

Yng Nghymru, mae ein meddygon teulu yn ysbrydoledig yn eu gallu i wneud y gorau o’r hyn a roddir iddynt. Fodd bynnag, yn rhy aml nid oes ganddynt ddigon o adnoddau ac yn sgil hynny, ni allant ymdopi â’r sefyllfa eu hunain, gan eu gorfodi i atgyfeirio eu cleifion i ysbyty neu at arbenigwr. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, ac mae angen i ni roi’r gallu i feddygon teulu gymryd cymaint o’r pwysau ag y bo modd oddi ar y sector gofal eilaidd.

Hoffwn roi un neu ddau o enghreifftiau o ble rwy’n gweld hyn yn gweithio. Dyma pam rydym wedi cyflwyno ein gwelliant ynglŷn â rôl hynod o bwysig y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n ymwneud â gwaith amlddisgyblaethol mewn practis meddyg teulu. Rwyf am gyfeirio at un enghraifft, Meddygfa Argyle Street yn Noc Penfro, sy’n un o’r meddygfeydd ymarfer cyffredinol mwyaf, os nad y fwyaf, yng Nghymru gyfan. Mae’r tîm gwaith amlddisgyblaethol y maent wedi’i roi at ei gilydd, ac sydd wedi bod yn weithredol bellach ers peth amser, wedi caniatáu i bobl gael eu gweld gan y person cywir ar yr amser cywir. Eu geiriau hwy yw’r rhain, nid fy ngeiriau i: maent yn dweud mai’r budd y mae’n ei gynnig yw ei fod yn caniatáu dilyniant gofal gan y person mwyaf priodol, ac nid oes rhaid i hynny olygu meddyg teulu; fod lleihad wedi bod yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty, gwell gofal i gleifion ac yn anad dim, cleifion sy’n fwy bodlon gyda’r gwasanaeth. Maent yn dweud ei fod yn galluogi pobl i arfer eu sgiliau a’u doniau, ei fod wedi arwain at well gofal diwedd oes a llai o gleifion sydd â chanser a chleifion heb ganser yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Yn fwy na dim, mae wedi cynyddu boddhad swydd.

Mae eu tîm amlddisgyblaethol—rwyf wedi bod yn ei weld, ac mae’n eithaf eithriadol. Maent wedi dwyn llu o bobl ynghyd, ac maent yn gweithio fel tîm ymroddedig sy’n ateb anghenion y claf. Mae gan Ddoc Penfro rai ardaloedd hynod o ddifreintiedig gyda phobl â phroblemau cymhleth a llawer o gydafiachedd, ac eto mae’r ffactor hapusrwydd yn cynyddu’n araf yno, oherwydd bod pobl yn deall eu bod yn gweld therapydd galwedigaethol yn eu cartref eu hunain; maent yn gallu cael mynediad at ffisiotherapydd heb orfod mynd i’r ysbyty; neu gallant weld yr un nyrs gofal lliniarol ag sy’n mynd i ofalu amdanynt drwy gydol y broses ddiwedd oes, nid ar y diwedd yn unig, ond o ddechrau’r diagnosis yr holl ffordd drwodd.

Dyna pam rwy’n credu ei bod mor hanfodol bwysig ein bod nid yn unig yn cydnabod pwysigrwydd y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond ein bod yn cydnabod bod yn rhaid i bractis meddyg teulu da yn yr unfed ganrif ar hugain gynnwys mwy na meddyg, a bydd y meddygon yn dweud hyn hefyd. Hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro i ni sut y mae’n mynd i sicrhau digon o arian a digon o hyfforddiant ar gyfer ymarfer cyffredinol er mwyn galluogi meddygon teulu i allu datblygu ar hyd y ffordd hon. Rwy’n sylweddoli bod y clystyrau’n dechrau gweithio’n dda mewn rhai ardaloedd, ond mae’n dal i fod anghysondeb o ran dilyniant mewn ymarfer ledled Cymru, ac mae angen i ni sicrhau y gall lle fel Meddygfa Argyle Street ddod yn batrwm ar gyfer ymarfer cyffredinol ledled Cymru mewn gwirionedd. Diolch.

Rwyf bob amser yn cael fy niddanu gan ddadleuon UKIP, am eu bod yn darlunio gwlad o oes a fu. Rwy’n edrych ar y cynnig y maent wedi’i gyflwyno heddiw a chlywn sôn yn unig am feddygon teulu—rydym yn gwneud eilun o’r meddyg teulu. Mae’n thema gyson fod UKIP yn paentio llun o’r 1950au, ac nid yw’r cynnig heddiw yn wahanol i hynny. Roedd yn fy atgoffa o rai o’u polisïau diweddaraf—y polisïau mwyaf od y maent wedi’u llunio, sy’n cydweddu’n llwyr â’r darlun gwladaidd hwn y maent yn ei baentio o’r Brydain wledig—

Gadewch i mi ddatblygu rhywfaint ar fy mhwynt. Polisïau a awgrymwyd ganddynt chwe mlynedd yn ôl yn unig o wisg briodol yn y theatr, ailbaentio trenau mewn lliwiau traddodiadol, mwy o dyngu llwon o deyrngarwch i’r Frenhines, cwrw rhatach ac adfer mesurau imperial. Y 1950au yw hyn, pan oedd y meddyg teulu, wrth gwrs, yn echel y model gofal sylfaenol. Wrth ddarllen cynnig UKIP heddiw, gellid maddau i rywun am feddwl eu bod am ail-greu’r ymagwedd hon tuag at ofal iechyd sylfaenol heddiw.

Ond wrth gwrs, mae’r amser wedi newid. Mae’r galw wedi cynyddu—fel y nododd Caroline Jones yn ei sylwadau agoriadol ei hun, mae’r pwysau ar feddygon teulu yn sylweddol bellach. Mae meddygon teulu’n gweld mwy na 50,000 o gleifion y dydd. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar y system iechyd gyfan. Roeddwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli yn ddiweddar, ac fe eglurwyd wrthyf fod cyfartaledd oed cleifion yno yn awr yn 82 mlwydd oed. Felly, mae galw aruthrol ar y system gyfan, ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddi newid i fodloni’r gofynion hynny.

Un o’r heriau y mae gofal iechyd modern yn ei hwynebu yw’r gallu i ddatblygu system newydd wrth weithredu’r hen system yn gyfochrog ar yr un pryd. Felly, fe fydd yna straen a brwydrau o bryd i’w gilydd, ond mae’r model newydd yn dod yn amlwg yn raddol. Mantais y model newydd yw ei fod yn parchu ac yn dyrchafu sgiliau a hyfforddiant meddyg teulu, ac yn eu rhyddhau i edrych ar yr achosion mwy cymhleth, tra bo rhai o’r pethau eraill y gallai meddyg teulu wedi eu gwneud yn draddodiadol, neu wasanaethau nad oeddent hyd yn oed yn bodoli yn ôl yn y 1950au yn wir, yn cael eu gwneud gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Felly, er enghraifft, mewn llawer o leoliadau gofal iechyd sylfaenol modern bellach, mae gennym ymarferwyr parafeddygol, fferyllwyr-ragnodwyr, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, a phob un yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bobl ar yr adeg y byddant ei angen, yn aml pan nad yw meddyg teulu yn gallu gwneud hynny. Er enghraifft, soniais yn gynharach fy mod wedi croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i feddygfa Minafon yng Nghydweli yn ddiweddar, lle y gwelsom fferyllwyr-ragnodwyr sy’n gweithio’n rhan-amser yn y feddygfa, ac sydd wedi gallu cynnal adolygiad o’r holl gleifion sydd ag asthma yn y practis, i adolygu eu meddyginiaeth ac i roi cyngor iddynt, sy’n rhywbeth na fuasai model dan arweiniad meddygon teulu yn unig wedi gallu ei wneud—ni fuasai ganddynt amser i fod wedi’i wneud. A hefyd, mae angen i ni dalu sylw i egwyddorion gofal iechyd darbodus—eich bod ond yn gwneud yr hyn na all neb ond chi ei wneud. Ac rwy’n meddwl bod y model newydd hwn yn gweddu’n berffaith i’r athroniaeth honno.

Wrth gwrs, mae yna heriau o ran gallu ailadrodd y model hwn. Fel y clywsom yr Ysgrifennydd Iechyd yn dweud yn gynharach, nid oes ond 15 o bractisau a reolir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn amlwg pan fyddwch yn cael eich rheoli gan y bwrdd iechyd, mae gennych fwy o ryddid a hyblygrwydd i allu arloesi, ac i allu dechrau o’r dechrau ac ailosod model sy’n addas i’r diben. Mae’r system yn cael ei newid yn organig. Siaradais â meddygon teulu yn Llanelli yn ddiweddar, sy’n cael problemau gyda recriwtio—mae ganddynt feddygon yn mynd ar gyfnod mamolaeth, maent yn cael problemau enfawr i recriwtio, ac mae staff locwm, er enghraifft, bellach yn mynnu £1,500 y dydd mewn rhai achosion am ateb anghenion meddygfa, ac maent yn dweud wrth y feddygfa beth y maent am ei wneud, pa oriau y byddant yn eu gweithio, pa bethau y maent am eu gwneud am yr arian hwnnw, ac yn eu dal yn wystlon. Felly, mae yna straen enfawr ar wasanaethau meddygon teulu, ac mae’r model contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol dan straen enfawr ac angen ei newid. A dyna pam rwy’n credu bod cynnig UKIP yn gyfeiliornus, gan ei fod yn seiliedig ar fodel sy’n araf ddadfeilio.

Rydym wedi clywed sôn gan Angela Burns am y model clwstwr, sy’n anghyson yn ôl yr hyn a ddywedodd, ac rwy’n meddwl mai un o heriau’r model clwstwr yw ceisio annog meddygon teulu sy’n gweithredu o fewn y model contractwr presennol—a rhywbeth y mae pobl o’r tu allan i’r GIG yn aml yn anghofio yw mai busnes preifat yw hwn i lawer o hyd—mae angen i’r clystyrau meddygon teulu hyn annog y practisau i ddod ynghyd, i uno, ac mewn rhannau o Gymru’n unig y mae cefnogaeth ar gael i’r gwasanaethau ymarfer cyffredinol hyn allu gwneud hynny—cymorth ar gyfer contractau TG, cyllid, ac yn y blaen. Rwy’n meddwl bod Aneurin Bevan a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth i wneud hynny. Ac oherwydd bod hyn yn mynd â chymaint o le, nid oes gan lawer o bractisau meddygon teulu ofod i fod yn fwy strategol. A dyna ddychwelyd at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach—mae gennym yr her o ddatblygu model newydd o ofal iechyd, gan weithredu’r model presennol o ofal iechyd, sydd o dan straen enfawr, ar yr un pryd.

Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bryd i UKIP adael y 1950au, ymuno â ni yn y byd modern, a derbyn bod y meddygon teulu—[Torri ar draws.] Yn anffodus, David, nid oes gennyf amser ar ôl.

Mae adlais yma. Mae fy amser ar ben, mae’n ddrwg gennyf.

A derbyn na all y model newydd ddibynnu’n syml ar feddygon teulu, fel yn y dyddiau a fu. Diolch.

Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cynnig hwn yma heddiw, ac fe wnaethoch hynny mewn modd huawdl a chytbwys iawn. Rwy’n croesawu’r ddadl hon, sy’n amlygu pwysigrwydd llwyr y rôl a chwaraeir gan ein meddygon teulu, ac nid wyf yn eu gwneud yn eilunod—fel yr awgrymodd yr Aelod fod fy nghyd-Aelodau yn UKIP yn ei wneud—ond maent yn gam cyntaf sylfaenol i unrhyw glaf sy’n ceisio cael diagnosis. Gofal sylfaenol yn wir yw’r pwynt cyswllt cyntaf â’r GIG i fwy na 90 y cant o’n cleifion, ac eto mae meddygfeydd yn fy etholaeth a ledled Cymru yn wynebu pwysau difrifol, gyda chleifion yn cysylltu â mi ynglŷn â mynediad yn ddyddiol. Terfynodd Meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy ei chontract â’r GIG y llynedd o ganlyniad i lwyth gwaith na ellid ei reoli, gyda’r ddau feddyg teulu yn gweithio 12 awr y dydd. Mae meddygfeydd Bae Penrhyn a Deganwy wedi gweld eu darpariaeth o feddygon teulu yn disgyn o bump i ddau. Sut rydych chi’n rheoli’r niferoedd hynny o gleifion—miloedd ohonynt?

Mae meddygon teulu yn dweud wrthyf yn awr fod y system ar ymyl y dibyn. Rydym wedi gweld blynyddoedd o danfuddsoddi cronig—do, Aelodau—ac mae 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, wedi’i chynnal gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi bod yn gyfrifol am gyllido ein gwasanaethau meddyg teulu ledled Cymru. Rydym wedi gweld y cyllid yn gostwng o £20 miliwn dros bedair blynedd a’r sector yn wynebu prinder staff difrifol a meddygfeydd yn cau, gan arwain at Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhybuddio bod meddygon teulu yng Nghymru yn wynebu storm berffaith o gynnydd yn y galw, llwyth gwaith cynyddol a gweithlu sy’n crebachu. Tynnodd Cymdeithas Feddygol Prydain sylw at ei chanfyddiadau yn yr hydref fod mwy na chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn awr yn ystyried gadael y proffesiwn. Mae 60 y cant yn teimlo nad oes ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, ac mae 80 y cant yn poeni am gynaliadwyedd eu darpariaeth eu hunain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd wedi’i ddisgrifio fel argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol.

Yn amlwg, mae’r system o dan bwysau aruthrol. Yn 2005-06, roedd gofal ymarfer cyffredinol yn derbyn dros 10 y cant o wariant y GIG; nawr, mae i lawr i lai nag 8 y cant. Lle y caiff buddsoddiad ei wneud, nid yw’n cael yr effaith a ddymunir. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud am y £42.6 miliwn a fuddsoddwyd yn ddiweddar mewn gofal sylfaenol, fod

unrhyw arian sy’n dod drwy’r system clwstwr i’w weld yn araf iawn yn gwneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd i’r rhan fwyaf o bractisau. Mae’r ffordd y mae’r clystyrau’n gweithio yn amrywio’n fawr ledled Cymru, felly mae hynny’n rhoi mwy o anghydraddoldebau i mewn yn y system.

Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi’n monitro hyn? Yn y Pedwerydd Cynulliad, galwodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oeddwn yn aelod ohono ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae gan yr Alban nifer gryn dipyn yn uwch o feddygon teulu y pen na Chymru, gyda 8.1 i bob 10,000, o’i gymharu â 6.5 yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o naw wedi bod yn nifer yr ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru ers mis Medi 2014, i 1,997. Ar ben hynny, mae’r gyfran a’r nifer o feddygon teulu 55 oed a throsodd bellach yn 23 y cant o’r gweithlu. Felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei ddiogelu at y dyfodol cyn ymddeoliad haeddiannol llawer o’n meddygon teulu gweithgar.

Yn olaf, mae ein gwelliant, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yn ceisio cydnabod pwysigrwydd y rhan y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a pharafeddygon yn ei chwarae yn sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ddarparu’n effeithiol. Mae integreiddio a chydweithio effeithiol rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn lleddfu pwysau ar feddygon teulu. I gloi, mae’r pwysau aruthrol ar y sector yn golygu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn adnoddau, pobl a seilwaith. Dyma fy nghwestiynau, i orffen: a wnewch chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau gweithredu eich cynllun ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol heddiw ac effaith cyflwyno’r arweinydd clinigol ar gyfer gofal sylfaenol? Sut dderbyniad a gafodd y cynnig cyflogaeth ar ei newydd wedd a chymhellion i feddygon teulu sy’n dod i weithio yng Nghymru? Rydym eisiau gwybod. Ac yn olaf, sut rydych yn gweithio gydag ysgolion meddygol yng Nghymru i gynyddu profiad o ymarfer cyffredinol yn ystod hyfforddiant meddygol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol yn real; nid yw gwadu’n opsiwn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw, sy’n amlygu pwysigrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel, a’r cyfle i ymateb i rai o’r sylwadau a wnaed, ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws Cymru, ac mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol i wella gofal i bobl ledled Cymru.

Rydym yn gwybod bod y galw am wasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu a gwasanaethau ehangach yn parhau i gynyddu, gydag oddeutu 19 miliwn o gysylltiadau â chleifion y flwyddyn. Dyma yw mwyafrif llethol y cysylltiadau rhwng cleifion a’r GIG ac mae’n gweithredu fel porth i ystod o wasanaethau eraill. Ac rwy’n cydnabod bod y gaeaf yn gosod pwysau arbennig ar bob rhan o’n system iechyd a gofal. Ni fyddai ein system gyfan wedi ymdopi heb ymrwymiad anhygoel y staff iechyd a gofal. Ac rwyf am nodi bod ymrwymiad o’r fath gan feddygon teulu heb gael ei wobrwyo’n hael o gwbl ar draws y ffin yn Lloegr, gydag ymgais gwbl gywilyddus gan y Prif Weinidog i feio meddygon teulu am bwysau’r gaeaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, rwyf am ddatgan yn gwbl eglur: nid dyna fy agwedd yma yng Nghymru, ac nid dyna fydd fy agwedd. Yn fwy na pheidio â beio meddygon teulu, gwneuthum y penderfyniad i weithredu mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain pan euthum ati i lacio’r fframwaith ansawdd a chanlyniadau hyd at ddiwedd mis Mawrth, a dylai hynny leihau’r pwysau ar feddygon teulu a darparu mwy o amser ar gyfer cleifion. Mae’n enghraifft glir o’r modd y mae’r Llywodraeth yn gwrando ac yn gweithredu, a dyna’r adborth uniongyrchol a gefais gan feddygon teulu eu hunain.

Nawr, mae meddygon teulu eu hunain hefyd yn cydnabod yn gynyddol eu bod angen ac eisiau bod yn rhan o’r tîm gofal sylfaenol ehangach hwnnw. Bydd hynny’n golygu bod rôl meddygon teulu’n newid, lle y byddant yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion mwy cymhleth ac yn cydlynu tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi camau gweithredu allweddol er mwyn darparu gwasanaeth mwy integredig ac amlbroffesiynol ym mhob cymuned. Ac yn gynyddol, mae’r timau hynny’n cael eu creu o amgylch ein 64 o glystyrau. Bydd y tîm yn cynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys, therapyddion, timau deintyddol, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, y trydydd sector ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gofal cywir ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.

Ac ymhell o fod yn fygythiad i ymarfer cyffredinol, fel yr oedd rhai yn ei ofni, mae’r dull newydd hwn wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth bellach gan ein cymuned o feddygon teulu. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o feddygon teulu a oedd, a bod yn onest, yn gyffredinol amheus ynglŷn â’r dull clwstwr a thîm ehangach o weithredu, ond maent yn argyhoeddedig bellach mai dyma’r dull cywir ac na fuasent yn dychwelyd i’r ffordd y gwneid pethau yn y gorffennol. Ac mae’r defnydd o arian yn uniongyrchol wedi bod yn rhan bwysig o hynny. Nid wyf yn cydnabod sylwadau Janet Finch-Saunders nad yw hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn. Cyfarfûm â meddygon teulu heddiw, fel rwy’n ei wneud ar bob ymweliad ymarfer cyffredinol, sy’n gallu pwyntio at y cyswllt uniongyrchol a’r defnydd uniongyrchol o’r arian hwnnw a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w clwstwr, oherwydd eu bod yn adnabod eu poblogaethau ac yn defnyddio’r arian hwnnw’n unol â hynny.

Mae’r £43 miliwn yr ydym wedi’i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi ychwanegol—meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, parafeddygon, therapyddion galwedigaethol ac eraill. Ceir nifer o enghreifftiau da iawn o uwch-ymarferwyr nyrsio yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Roedd un enghraifft dda a welais yn etholaeth Carl Sargeant, yn yr Hob, lle y mae hynny’n helpu’n fawr i ymdopi â rhai o’r anawsterau y maent wedi’u cael yn recriwtio meddyg teulu arall, ac maent yn cydnabod bod hynny wedi bod yn ychwanegiad pwysig iawn at eu tîm staff. Rwyf wedi gweld mwy o fferyllwyr yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan glystyrau i gefnogi meddygon teulu, i fynd â gwaith oddi wrthynt ac i ddarparu gofal o ansawdd gwell i’r etholwyr unigol hynny, ond gall ddigwydd er mwyn i’r meddyg teulu gael mwy o amser gyda chleifion y mae arnynt wir angen eu gweld. Wrth gwrs, Dewis Fferyllfa—rydym wedi siarad amdano o’r blaen—yw’r llwyfan sy’n golygu y gall ac y bydd rhagor o gymorth yn cael ei ddarparu mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws y wlad.

Rwy’n falch iawn fod llawer o’r Aelodau wedi cydnabod, heddiw yn y ddadl hon ac mewn cwestiynau cynharach, swyddogaeth gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Angela Burns i gynllun peilot Argyle Street gydag iechyd galwedigaethol, a buom yn siarad yn gynharach am Gydweli a nifer o wahanol therapyddion yno yn ogystal. Ond yn benodol, mae gan ffisiotherapi rôl fawr i’w chwarae yn y dyfodol. Bydd hyd at 30 y cant o faich achosion meddyg teulu yn faterion iechyd cyhyrysgerbydol, ond gall ffisiotherapydd ymdrin yn effeithiol ag oddeutu 85 y cant o’r rheini heb fod angen iddynt weld meddyg teulu. Mae cynllun peilot yng ngogledd-orllewin Cymru wedi gosod ffisiotherapydd mewn pedwar practis meddyg teulu, gan arbed bron i 700 o apwyntiadau meddygon teulu dros dri mis. O ganlyniad, mae hynny bellach wedi’i ymestyn i gynnwys mwy na 40 practis ar draws gogledd Cymru. Felly, unwaith eto, dysgu o’r hyn sy’n gweithio a gwneud pethau’n wahanol, yn hytrach na meddwl yn syml am fodelau o’r gorffennol.

Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio ar y cyd â meddygon teulu yng Nghymru, a mynd i’r afael yn benodol â heriau recriwtio meddygon teulu, fel rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i Gymru. Yr hyn sy’n unigryw yw’r dull o eistedd o gwmpas bwrdd yn siarad, trafod a chytuno ar yr hyn y dylem ei wneud. Felly, mae gennym yr ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol a lansiwyd ym mis Hydref 2016, sy’n dangos yn glir fod Cymru yn lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, i hyfforddi, gweithio a byw, a bydd gennyf fwy i’w ddweud am hynny yn y misoedd i ddod ac am ganlyniadau’r ymgyrch honno. Yn rhan o hynny, fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi cynllun cymhelliant. Felly, bydd hyfforddeion sy’n derbyn lle hyfforddi mewn ardal benodol sy’n anodd recriwtio iddi yn gymwys i gael taliad o hyd at £20,000, ac o fis Awst eleni, bydd y cynllun hwnnw’n dechrau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Hefyd, cyflwynir ail gymhelliant o daliad untro o £2,000 at gostau arholiad pob hyfforddai ar raglen hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu er mwyn helpu i dalu am arholiadau terfynol ar ôl astudio yng Nghymru. Unwaith eto, mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r ddau fesur. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i edrych ar ble y bydd hyfforddiant meddygol yn digwydd, ar niferoedd hyfforddeion meddygol ac yn arbennig, wrth gwrs, ar gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o fewn hynny.

Rwyf am fod yn wirioneddol glir nad ydym wedi torri’r cyllid i ofal sylfaenol. Rwyf wedi fy aflonyddu gan rai o’r ffeithiau amgen heddiw sy’n awgrymu ein bod wedi mynd ag arian allan o ofal sylfaenol. Nid ydym wedi gwneud hynny o gwbl. Yn wir, ni fu ein buddsoddiad ariannol cyffredinol ar draws gofal sylfaenol erioed yn uwch. Yn 2015-16, roedd yn £878.5 miliwn. Roedd hynny’n 13.7 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ran canran, mae hynny’n fwy nag y mae’r Alban yn ei wario ar ofal sylfaenol ar yr un sail, o ran y diffiniad o ofal sylfaenol, ag y cytunodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn yr Alban. Yr her bob amser yw sut rydym yn rhannu cyllideb gyfyngedig i gyflawni ein blaenoriaethau sy’n cystadlu ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd a’r system integredig gyfan.

Cyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gyllideb derfynol o £40 miliwn i ailbeiriannu’r ystad iechyd yma yng Nghymru ac i ddarparu mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn cael ei dargedu at y genhedlaeth newydd o ganolfannau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu mwy o ofal yn nes at adref. Ond rydym yn gwybod bod meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach yn wynebu her real iawn, ac nid yn y gaeaf yn unig. Dyna pam y mae gofal sylfaenol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Dyna pam y gelwais am ddigwyddiad cenedlaethol ym mis Hydref i ddod â byrddau iechyd at ei gilydd i edrych ar yr hyn y maent wedi’i wneud i fynd i’r afael â’u heriau, i ddeall beth yw’r heriau ar hyn o bryd, yr hyn y maent yn ei wneud yn eu cylch, faint o gefnogaeth sydd iddynt ymhlith cymunedau meddygon teulu a thu hwnt. Ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus, oherwydd roeddwn yn gallu gweld y ffordd y mae meddygon teulu yn cael mwy o ran a mwy o rôl arweiniol wrth bennu, gyda’u partneriaid yn y bwrdd iechyd, yr hyn y byddant yn ei wneud a chyda phwy y byddant yn ei wneud.

Rwy’n gyffrous iawn ynglŷn â’r cyfle i gael mwy o ddysgu ar draws ein system gyfan ac ni fydd hynny’n digwydd heb ffocws parhaus a phwyslais cyson ar bartneriaeth. Dyna sy’n fy nghalonogi’n fawr ynglŷn â’n clystyrau—yr ethos partneriaeth sy’n datblygu, y modd y mae meddygon teulu yn arwain eu tîm gofal iechyd sylfaenol lleol. Mae hynny’n rhan hanfodol o’n llwyddiant yn y dyfodol o ran gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n meddygon teulu a’n tîm gofal sylfaenol ehangach i ddarparu’r gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel y byddai pob un ohonom yn dymuno eu gweld.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ac rwy’n croesawu’r cyfraniadau a wnaed gan Angela Burns a Janet Finch-Saunders yn arbennig, a ychwanegodd at y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones yn ei datganiad agoriadol. Rwy’n anghymeradwyo’r modd y dechreuodd llefarydd Plaid Cymru ei araith heddiw, ac roedd yn sicr yn tynnu o gyfanswm gwybodaeth ddynol drwy gamliwio safbwynt fy mhlaid ar y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ddim ar hyn o bryd, ond fe ildiaf yn nes ymlaen. Oherwydd fe safodd UKIP yn gadarn yn ei maniffesto ym mis Mai yng Nghymru, ac yn yr etholiad cyffredinol yn Lloegr y tro diwethaf, ar yr egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol wedi’i ariannu gan drethi ac am ddim i’r defnyddiwr yn y man darparu. Roedd yn sen ac rwy’n ofni ei fod wedi diraddio ansawdd y ddadl a diraddio ei hun drwy’r ffordd yr agorodd ei araith. Rwy’n siomedig, a dweud y gwir. Rwy’n siomedig gydag ef oherwydd bod gennym lawer iawn o gydymdeimlad â’r pwyntiau a wneir yng ngwelliannau Plaid Cymru, ar wahân i welliant rhif 5. Nid oes unrhyw wlad yn y byd eisiau mewnfudo cwbl ddigyfyngiad. Nid oes gennym fewnfudo digyfyngiad o weddill y byd y tu allan i’r UE, ond tôn gwelliant 5 yw bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu pob math o reolaeth ar fewnfudo mewn gwirionedd am eu bod yn ystyried hynny fel rhyw fath o hiliaeth a gynlluniwyd i gynyddu gelyniaeth tuag at fewnfudwyr. Y rheswm pam y ceir unrhyw elyniaeth tuag at fewnfudwyr heddiw i raddau helaeth iawn yw oherwydd methiant Llywodraethau i reoli mewnfudo. [Torri ar draws.] Mae Plaid Cymru yn amlwg yn methu derbyn y gwir—mae 86 y cant o’r wlad, yn ôl Papur Gwyn y Llywodraeth, sy’n dwyn enw arweinydd Plaid Cymru, am i fewnfudo gael ei leihau; nid yw Plaid Cymru eisiau hynny ac rwy’n hapus iawn i gychwyn ar ymgyrch etholiadol ar sail hynny.

Fel ninnau.

Ac nid oes amheuaeth y byddwch yn gwneud cystal ag y gwnaethoch yn y gorffennol.

Mae’n rhy hwyr yn awr. Nid oes gennyf amser ac a dweud y gwir nid wyf yn meddwl y byddai’n werth chweil. [Torri ar draws.] Ond rwyf am gyfeirio hefyd at—[Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl y bydd gennyf amser i ymateb i’r ddadl.

Mater i’r Aelod yw penderfynu a yw’n dymuno cymryd ymyriad ai peidio. Ewch ymlaen, Neil Hamilton.

Gresynaf hefyd fod fy ffrind, Lee Waters, wedi difetha yr hyn a oedd fel arall yn araith dda iawn y cytunwn i raddau helaeth â hi, drwy wneud rhai pwyntiau dychanol am UKIP yn dymuno mynd yn ôl i’r 1950au. Nid yw’n werth ymateb i hynny hyd yn oed. Hoffwn pe bai’r Aelodau yn y lle hwn yn cyrraedd y safon o ran y parch y maent yn ein hannog ni i’w ddangos ond sydd mor brin ganddynt hwy eu hunain mor aml. Fe ildiaf i Mark Isherwood.

A wnewch chi gydnabod—[Anghlywadwy.]—nad oes angen i chi fynd yn ôl ymhellach na phum mlynedd at yr adeg yr oedd Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn anelu ymgyrchoedd at Aelodau’r Cynulliad yn eu rhybuddio y buasem yn cyrraedd y fan hon, fod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn gysylltiadau ag ymarfer cyffredinol ac eto fod cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi gostwng, ac maent wedi gorfod ail-lansio’r ymgyrchoedd hynny yn awr am na wnaethant wrando.

Ac felly y pwynt yr hoffwn ei wneud i Lee Waters yw nad yw’r ffaith nad oedd ein cynnig yn sôn am lawer o bethau da eraill, megis y pethau y cyfeiriodd atynt yn ei araith, yn golygu ein bod am fynd â’r GIG yn ôl i’r 1950au neu ein bod yn gweld y problemau gyda lleihau’r gyfran o wariant y GIG ar feddygon teulu fel yr unig achos dros ei anawsterau. Rwy’n ofni nad yw Plaid Cymru yn rhan o’r ateb; maent yn rhan o’r broblem, oherwydd maent wedi cefnogi toriadau Llafur Cymru dros y blynyddoedd i’r gyfran o gyllideb y GIG a werir ar feddygon teulu, ac maent yn cefnogi, ac yn parhau i gefnogi, cyllidebau a pholisïau sydd wedi cynyddu’r baich ar ymarfer cyffredinol. Felly, rydym yn gwybod yn dda iawn, mewn gwirionedd, eu bod yn rhan o’r clefyd, yn hytrach na’r meddygon sy’n ei wella.

Yn ei haraith, cyfeiriodd Caroline Jones at realiti ymarfer cyffredinol, fel y gwnaeth Angela Burns a Janet Finch-Saunders. Mae gennym nifer sefydlog o feddygon teulu yng Nghymru, mae gennym weithlu sy’n heneiddio ymhlith meddygon teulu ac mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, fel ein bod wedi ein dal mewn gefail yn awr, rhwng y cyfyngiadau yn y cyflenwad o wasanaethau meddygol ar y naill law a chynnydd yn y galw.

Mae recriwtio yn anhawster mawr. Rwy’n derbyn bod y Llywodraeth yn gwneud llawer iawn i ddatrys yr argyfwng recriwtio, ond serch hynny, yn y bôn, mae’n ymwneud ag ailgydbwyso cyllideb y GIG a rhoi mwy o arian tuag at ymarfer cyffredinol, fel arall byddwn yn yr un sefyllfa ag a geir yn Lloegr, lle y caiff adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai eu llethu am fod yr arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yn annigonol.

Un o’r ffeithiau diddorol na chafodd ei chrybwyll heddiw am y GIG yng Nghymru yw bod nifer yr ymarferwyr cyffredinol wrth gefn wedi disgyn mor yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf—pobl sy’n gweithio am ychydig o oriau’r wythnos yn unig. Mae honno’n ffordd o gynyddu hyblygrwydd o fewn y system a’i gwneud yn bosibl mynd i’r afael â’r pwysau. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymdrin ag ef yn y blynyddoedd i ddod.

Dylai’r Llywodraeth ddweud wrthym sut y mae’n bwriadu cyrraedd y targed y mae hi ei hun wedi’i osod o uchafswm amser aros o chwe awr i gleifion sy’n gaeth i’w cartrefi nad ydynt yn gallu mynd i’r feddygfa. Gwn am nifer o achosion, yn anecdotaidd, lle y mae pobl yn aros hyd at 20 awr am ymweliad cartref, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol yn y byd modern. Felly, nid dychwelyd i’r 1950au ydyw. Dyma ni yn yr unfed ganrif ar hugain, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod yna derfyn, yn amlwg, i faint o arian y gellir ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Mae terfyn ar faint o arian sydd ar gael, ond serch hynny, rwy’n credu, o fewn y cyfanswm, mae angen ailgydbwyso’n llwyr er mwyn dychwelyd at ble roeddem bum mlynedd yn ôl, pan werid cyfran lawer mwy ar feddygon teulu, ac rwy’n cymeradwyo ein cynnig i’r Cynulliad y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, fe symudwn ni i’r bleidlais. Felly’r bleidlais gyntaf ar ddadl UKIP Cymru. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pump o blaid, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6214.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 20, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6214.

Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 24, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6214.

Cafodd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol.

Rydym ni’n symud, felly, i welliant 7. Galwaf am bleidlais ar welliant 7 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6214.

Galwaf ar bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 20, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 8 i gynnig NDM6214.

Cynnig NDM6214 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai’r tro cyntaf, a’r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â’r GIG yw drwy bractis cyffredinol.

2. Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a’r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu’n effeithiol.

Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6214 fel y’i diwygiwyd: O blaid 38, Yn erbyn 12, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6214 fel y diwygiwyd.

Nid yw’r trafodion ar ben. Mae’r ddadl fer eto i’w chynnal. Rydw i’n gofyn i Aelodau i adael yn dawel ac i adael yn gyflym.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

11. 9. Dadl Fer: Her Ailgylchu i Fusnesau a Thrigolion yng Nghymru Wledig

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda. Diolch. Galwaf yn awr ar Russell George i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Russell George.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer heddiw yw ‘Her ailgylchu i fusnesau a thrigolion yng Nghymru wledig.’ Rwy’n mynd i ddechrau fy nghyfraniad drwy gymeradwyo’r Llywodraeth a dweud gwaith mor dda y maent yn ei wneud, yna rwy’n mynd i gyflwyno rhai achosion sy’n dangos, os nad ydym yn cynnal y momentwm, y bydd pethau’n newid. Wedyn hefyd rwy’n mynd i ddangos clip fideo sy’n tynnu sylw at rai o’r achosion yn fy etholaeth i. Rwy’n mynd i roi munud o fy amser i Darren Millar, a dylwn ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Gyngor Sir Powys.

Felly, fe ddechreuaf drwy nodi bod y darlun cyffredinol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru yn un cadarnhaol. Mae strategaeth wastraff gyfredol Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, wedi gosod targed uchelgeisiol iawn o ailgylchu 70 y cant erbyn 2014-25 yn gyffredinol, ac mae cyfraddau ailgylchu Cymru eisoes yn uwch na’r targed ailgylchu statudol o 58 y cant, a bennwyd yn 2015-16. Felly, mae 19 allan o 22 o gynghorau wedi cyrraedd neu ragori ar y targed hwnnw, ac eithrio materion sy’n dal heb eu datrys yn ne-ddwyrain Cymru. Mae perfformiad Llywodraeth Cymru ar ailgylchu i raddau helaeth yn un y gallwn ni yng Nghymru fod yn falch ohono. Yn wir, mae’r ymagwedd gyffredinol yn dda, gyda thargedau da a chlir, a monitro a gwerthuso priodol, felly mae’n ymagwedd safon aur, rwy’n meddwl, gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhywbeth y gall gweddill Ewrop ddysgu oddi wrtho a’i fabwysiadu. Felly, dyna ni.

Felly, agwedd dda hyd yn hyn. Ond mae hanes Cymru o ailgylchu hefyd yn adlewyrchu newid mewn agweddau ar draws y gymdeithas tuag at ailgylchu, ac mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, os ydym i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70 y cant erbyn 2025, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm drwy ddarparu atebion arloesol i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan leihau’r rhwystrau i ailgylchu, ac at hynny rwy’n dod—y rhwystrau i ailgylchu. Felly, rwy’n bryderus fod awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cyfyngu ar gasgliadau gwastraff preswyl a masnachol, yn bennaf fel ymarferion torri costau, heb ddarparu’r cyfleusterau i alluogi trigolion a busnesau i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu. Felly, mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw polisïau rheoli gwastraff, megis symud i gasgliadau tair wythnos, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran cynyddu troseddau amgylcheddol megis tipio anghyfreithlon, a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn arweinydd Ewropeaidd ym maes ailgylchu. Felly, er enghraifft, mae awdurdodau lleol fel fy un i ym Mhowys wedi newid i gasglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos ac mewn rhai ffyrdd, maent yn creu rhwystrau diangen i drigolion a busnesau o ran annog ailgylchu. Yn wir, rwy’n ofni bod polisïau presennol, onid eir i’r afael â hwy, yn effeithio’n andwyol ar gyfraddau ailgylchu yn y sir.

Hoffwn yn awr ddangos fideo byr sy’n dangos rhai o’r heriau y mae perchnogion busnes a thrigolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Ychydig o funudau’n unig ydyw, ac yna byddaf yn archwilio pob un o’r achosion. Gofynnaf yn awr am i’r fideo gael ei ddangos.

Dangoswyd DVD. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar ar y DVD. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Lorna Hamer: ‘Helo, Lorna ydw i o Quality Pipe Supports yn y Drenewydd, Powys. Dyma’r fan lle rydym yn ailgylchu. Rydym yn ailgylchu plastig, sy’n rhaid i ni ei gludo dros y ffin i Groesoswallt gan nad oes unman ym Mhowys i’w ailgylchu. Mae’r un peth yn wir am bapur a chardbord; mae’n rhaid i ni fynd â hwy i Groesoswallt. Rhaid i ni fynd â metelau at gwmni lleol. Pren—rydym yn ailgylchu hwnnw, ond nid oes unman ym Mhowys y gallwn fynd ag ef. Yna byddwn yn ailgylchu’r cwpanau plastig hyn, gan fod modd eu hailgylchu—[Anghlywadwy.]—nid oes unman ym Mhowys i’w hailgylchu. Mae hi’r un fath gyda ffabrigau ac erosolau; nid oes unman i fynd â hwy. Rydym yn talu am drwydded i’r cyngor ar gyfer ailgylchu ein nwyddau, ond nid oes unman iddynt fynd.’

Paul Martin: ‘Fel y gallwch weld, mae’r bin ar waelod fy lôn yn llawn o wastraff cartref. Mae yna lawer o fagiau du, na ddylent fod yma o gwbl—dylent fod yn borffor. Bydd hwn yn gollwng dros yr ochrau erbyn yr adeg y caiff ei gasglu, sef ymhen tua 10 diwrnod. Rydym wedi sylwi ar gynnydd mawr yn y gwastraff yn y bin hwn ers cau uned ailgylchu Ceri ychydig fisoedd yn ôl.’

Dan Morgan: ‘Helo, fy enw i yw Dan Morgan. Fi yw’r rheolwr cyffredinol yma ym mharc Cefn Lea yn y Drenewydd, Powys. Gwybodaeth am ein sbwriel ar hyn o bryd, gan fod hyn wedi dod yn dipyn o broblem i ni fel busnes: nifer o flynyddoedd yn ôl, arferai fod gennym tua 10 o’r biniau olwyn hyn yn llawn o sbwriel bob wythnos. Yn ystod y tair neu bedair blynedd diwethaf, ers i’r ailgylchu ddod ar waith gan y cyngor, rydym wedi torri hyn i lawr i ddau fin yr wythnos, tra bo llond wyth bin arall o sbwriel bob wythnos yn cael ei ailgylchu yn y biniau gwastraff bwyd a phlastig ac yn y blaen. Yn awr, o 1 Chwefror, mae’r cyngor yn torri gwasanaethau ailgylchu i fusnesau, sy’n broblem fawr i ni.’

Diolch. Felly, fe archwiliaf bob un o’r achosion hyn. Roedd y clip cyntaf gan Lorna Hamer o Quality Pipe Supports, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu pan ddywedodd Lorna na all ailgylchu cardbord a phlastig yn unman ym Mhowys. Pan holais i hi, roedd un lle yn y dref nesaf, ond yn anffodus, nid oedd y cwmni’n ei dderbyn yn y ffurf yr oeddent yn ei gynhyrchu ac roedd lleiafswm gofynion ar gyfer derbyn y cardbord yn ogystal. Felly, roedd yn rhaid iddynt fynd dros y ffin i Groesoswallt. Dylwn egluro hefyd—mae gan y cwmni drwydded, sy’n golygu ei fod yn cael cludo ei wastraff ailgylchadwy i ddepo ychydig i fyny’r ffordd, a oedd yn gweithio’n dda iawn hyd nes ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond wedyn yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y cyngor wedi cyfyngu ar lawer o’r eitemau y gellir eu hailgylchu. Maent wedi eu croesi oddi ar y rhestr a dweud, ‘Ni all busnesau fynd â’r eitemau hyn i’r pwynt ailgylchu mwyach.’

Pan holais y cyngor ynglŷn â hyn, dywedasant eu bod yn gwneud hyn er mwyn arbed costau; nid oedd yn hyfyw o safbwynt ariannol iddynt dderbyn yr eitemau hyn mwyach a dylai busnesau ddefnyddio busnesau preifat—ond nid oes unrhyw fusnes preifat sy’n gallu dod i mewn i’r ardal am ei bod mor wledig; nid yw’n ymarferol yn ariannol iddynt hwy wneud hynny chwaith. Felly, mae llawer o wastraff ailgylchu naill ai’n pentyrru neu’n cael ei roi i mewn gyda’r gwastraff gweddilliol. Nid dyna y mae’r cwmni am ei wneud. Maent yn ei roi yn y gwastraff gweddilliol, ac mae’n costio mwy o arian i wneud hynny hefyd, wrth gwrs. Felly, i bob pwrpas, mae hon bellach yn dreth ar fusnesau gwledig, oherwydd ni fydd neb arall yn derbyn eu gwastraff ailgylchadwy.

Paul Martin—nid busnes yw hwn, mae’n un o gynheiliaid y gymuned leol yng Ngheri. Nawr, mae’n gwneud y pwynt fod y bobl yn ei bentref yn arfer ailgylchu’n dda iawn, ond wedyn, wrth gwrs, cafodd y cyngor wared ar y cyfleuster ailgylchu yn y pentref a dywedwyd wrthynt i gyd am fynd i’r dref nesaf, ‘Ewch i’r Drenewydd, ewch â’ch holl wastraff ailgylchadwy yno.’ Ond y peth yw, mae’r cyngor yn awr yn bwriadu cau naill ai hwnnw neu gyfleuster ailgylchu’r Trallwng. Felly, dyma’r achos y mae yntau’n ei ymladd hefyd. Rydym yn gwybod, y llynedd, fod y cyngor wedi cau cyfleuster ym Machynlleth ac wedi dweud wrth eu holl drigolion yno, ‘Rhaid i chi fynd â’ch gwastraff ailgylchu i’r Drenewydd yn awr’. Dyna daith gron o 60 milltir. Felly, pan euthum i gymhorthfa gynghori ym Machynlleth y llynedd, daeth un preswylydd yno gyda llwyth o fagiau a dweud, ‘I ble rydych chi’n mynd ar ôl hyn?’, A dywedais, ‘Yn ôl i’r Drenewydd’. Dywedodd, ‘A allwch chi fynd â’r rhain i gyd gyda chi?’, a bu’n rhaid i mi eu rhoi i gyd yn fy nghar, gan gynnwys pot o olew. Dyna daith gron o 60 milltir. Ni allai’r preswylydd fynd â’r eitemau ei hun yn syml am mai beic modur yn unig oedd ganddo. Nid oedd lle iddo ar ei feic modur. Felly, dyna’r broblem. Yr hyn fydd yn digwydd, os yw cyfleuster y Drenewydd yn cau, yw y bydd disgwyl i’r trigolion deithio o Fachynlleth—taith gron o 112 milltir. Felly, rydych yn mynd o ben gorllewinol Cymru yr holl ffordd at y ffin. Dyna’r sefyllfa rydym ynddi. Rwy’n sylweddoli y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, ‘Wel, mater i’r cyngor sir yw hwn’, ond y cwestiwn yw: a yw hyn yn dderbyniol? A oes angen i ni gyflwyno deddfwriaeth, a dof at hynny, ac a ddylai hyn fod yn digwydd? Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud fy mod yn gynghorydd sir ym Mhowys, ond y gwir amdani yw mai penderfyniad cabinet Cyngor Sir Powys yw hwn, ac mae’n benderfyniad sy’n digwydd ar draws yr awdurdodau gwledig, ble bynnag y boch. Mae’n achos rwy’n ei gyflwyno ac yn dweud, ‘Dyma rywbeth rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn ac ymdrin ag ef.’

Yr achos olaf yw achos Daniel Morgan o barc Cefn Lea, lle y mae ganddynt 20,000 o westeion bob blwyddyn. Roedd yn dweud bod ganddynt 10 o sgipiau i gyd yn mynd i wastraff gweddilliol—roedd y cyfan yn mynd i safleoedd tirlenwi yn flaenorol. Maent wedi newid eu systemau; felly, dau yn unig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ac mae wyth yn cael eu hailgylchu. Nawr, maent yn dychwelyd i’r sefyllfa lle y bydd pob un yn mynd i safleoedd tirlenwi eto. Mae hyn ar y rhagdybiaeth, er enghraifft, fod ganddynt lawer o wastraff bwyd. Mae’r cyngor bellach yn dweud, ‘O’r wythnos nesaf ymlaen, nid ydym yn mynd i fod yn casglu eich gwastraff bwyd mwyach; mae’n rhaid i chi fynd ag ef eich hun i’r ganolfan ailgylchu’, ond nid oes ganddynt gerbyd i fynd â’u gwastraff bwyd i’r ganolfan ailgylchu, a dyna’r sefyllfa y maent ynddi.

Hoffwn hefyd gyflwyno un achos olaf, sef siop Dafarn Newydd, siop fechan yn Llanwddyn, y bydd eu casgliad ailgylchu masnachol yn dod i ben ddiwedd yr wythnos hon. Mae’r siop wedi fy hysbysu na chawsant wybod ymlaen llaw fod y gwasanaeth yn cael ei adolygu, a bod y cyngor wedi dweud yn syml y bydd hyn yn digwydd o’r wythnos nesaf ymlaen. Anfonais e-bost at y cyngor am hyn—yr aelod o’r Cabinet—a dyma’r ateb a gefais. Rwy’n darllen oddi ar y sgrin: ‘Rydym yn dal i allu darparu casgliad gwastraff gweddilliol masnachol, h.y. heb fod yn ailgylchadwy, ond ni allwn gyfiawnhau’r gost o gasglu deunydd ailgylchu. Felly, yn anffodus, yr unig opsiwn yw i’r masnachwyr yr effeithir arnynt roi’r holl wastraff yn y bin gweddilliol, neu fynd ag ef i’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref drwy gynllun trwyddedau.’ Maent wedi rhoi cyngor i mi mewn gwirionedd y dylwn ddweud wrth y busnes am ei roi i mewn gyda gwastraff gweddilliol. Dyma’r sefyllfa yr ydym ynddi. Wrth gwrs, mae’n daith gron o 70 milltir iddo, ac os yw’r ganolfan ailgylchu honno’n cau, yna mae’n mynd i fod yn bellter pellach byth.

Ymwelais â nifer o ganolfannau ailgylchu fy hun o gwmpas Sir Drefaldwyn ar sawl achlysur, a gwelais â’m llygaid fy hun pa mor boblogaidd yw’r canolfannau, gyda rhesi o bobl yn aml yn ffurfio. Mae hynny’n dda, onid yw? Dyna rydym ei eisiau. Felly, wrth gwrs, rwy’n pryderu am y cyfyngu ar oriau agor rhai o’r canolfannau hyn, a hefyd y perygl y bydd un ohonynt yn cau. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried newid y ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio yn hyn o beth. Rwy’n edrych ar Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n datgan bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i’w drigolion lle y gallant fynd â’u gwastraff cartref. Felly, credaf fod gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae yma yn diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd, nad yw’n addas i’r diben ar hyn o bryd yn fy marn i. Nid yw’n sefyllfa dderbyniol mai un ganolfan ailgylchu yn unig a geir drwy sir gyfan—ac rwy’n meddwl am siroedd gwledig fel Powys. Nid yw’n addas i’r diben, ac mae angen diweddaru’r ddeddfwriaeth. Cafodd ei chyflwyno, wrth gwrs, cyn ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, pan gafodd ei chyflwyno, roedd yna dri chyngor ym Mhowys mewn gwirionedd. Dyma’n union pam y mae angen ei diweddaru.

Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd yr hyn a ddywedais yn y ddadl fer hon heddiw, a’r hyn a ddywedodd y trigolion yn yr astudiaeth achos a ddangoswyd yn gynharach, yn argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet o’r angen i ddiwygio’r Ddeddf, a hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gymell a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Byddai’n economi ffug pe baem yn lleihau cost rheoli gwastraff ar y naill law ac yna, ar y llaw arall, ein bod yn ei weld yn effeithio’n andwyol ar gyfraddau ailgylchu a throseddau amgylcheddol.

Rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i grybwyll y materion hyn yn y ddadl fer heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at gael ateb cadarnhaol ac adeiladol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw dweud wrthyf y byddai’n well gennych weld Cyngor Sir Powys yn datrys y mater yn dda i ddim; cynghorydd ar feinciau cefn cyngor sir Powys wyf fi, ac aelodau’r cabinet sy’n gwneud y penderfyniadau. Nid mater i Bowys yn unig yw hwn—mae’n fater i bob awdurdod gwledig, ac rwy’n gobeithio y gallaf weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno deddfwriaeth i ddatrys y mater. Rwy’n rhoi un funud i Darren Millar.

Diolch i chi, Russell, ac a gaf fi eich llongyfarch ar ddod â’r mater hwn i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol? Nid wyf yn mynd i siarad am gasgliadau bin bob pedair wythnos heddiw ac effaith hynny ar ymddygiad ac ymgysylltiad pobl gydag ailgylchu, sy’n negyddol iawn, gallaf ddweud wrthych. Ond rwyf eisiau siarad am fynediad at safleoedd amwynder dinesig, oherwydd mae llawer iawn o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan aelwydydd nad yw’n cael ei gasglu ar ymyl y ffordd yn ardal fy awdurdod lleol fy hun yng Nghonwy. Nid yw trigolion lleol yn ne’r sir honno yn gallu cael mynediad at safleoedd amwynderau dinesig yn ardaloedd yr awdurdodau lleol cyfagos. Yn syml, ni chânt fynd i safle yn Sir Ddinbych er mwyn cael gwared ar eitemau trydanol bach neu wastraff sydd wedi’i greu o ganlyniad i hen ddodrefn, neu unrhyw beth felly. Yn anffodus, cânt eu gorfodi i wneud taith gron o ddwy awr o hyd i’w safle amwynder dinesig agosaf, sydd ar yr arfordir yng Nghonwy, sefyllfa sy’n amlwg yn annerbyniol. Felly, rwy’n llwyr gefnogi’r hyn y mae Russell George wedi ei ddweud am yr angen i edrych ar fynediad at y mathau hyn o safleoedd ailgylchu ac amwynder dinesig i wneud yn siŵr fod deiliaid tai unigol yn ogystal â busnesau yn gallu cael budd o hyrwyddo ailgylchu a’i wneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr lleol. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Llywodraeth i’w ddweud ynglŷn â’r hyn y gall ei wneud i hwyluso mynediad.

Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl. Lesley Griffiths.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Russell George, am gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Fel y dywedoch yn eich sylwadau agoriadol, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod wedi gosod ein cyfeiriad fel arweinydd ym maes ailgylchu a rheoli gwastraff. Ni yw’r uchaf yn y DU, a’r pedwerydd uchaf yn Ewrop. Credaf yn wir y bydd ein huchelgeisiau a’n targedau yn mynd â ni i’r safle uchaf yn Ewrop, a’r byd wedyn fe gredaf, yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ond rwy’n credu hefyd fod yn rhaid i ni dalu teyrnged i’r cyhoedd. Fe ddywedoch ein bod wedi mynd â’r cyhoedd gyda ni ar y daith hon, ac mae ein targedau ailgylchu wedi eu cyrraedd oherwydd y ffordd y mae’r cyhoedd wedi agor eu breichiau i hyn. Rwy’n credu fy mod wedi dweud yn y ddadl a gawsom ddoe—mae’n ail natur bellach i gymaint o bobl yng Nghymru.

Felly, er fy mod yn cytuno bod yna heriau i fusnesau a thrigolion yng nghefn gwlad Cymru, rwy’n meddwl bod yna gyfleoedd yn ogystal. Mae gan awdurdodau gwledig fel Powys heriau penodol wrth gwrs, ac mae pellteroedd rowndiau casglu gwastraff gwledig, fel rydych wedi sôn, yn fwy, a chyfleusterau megis canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu yn aml yn bellach i ffwrdd i drigolion nag yn ein hawdurdodau mwy trefol. Ond rwy’n credu fod angen i ni fod yn ofalus iawn sut rydym yn disgrifio ein hawdurdodau lleol. Mae gan rai awdurdodau dinesig a’r Cymoedd ardaloedd gwledig, tra bo gan lawer o awdurdodau gwledig drefi gweddol fawr. Rwy’n credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffactorau hyn pan fyddant yn cynllunio ac yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau i fusnesau a thrigolion. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn—ac eto, fe gyfeirioch chi at hyn—nad oes rhwystrau’n cael eu rhoi yn ffordd pobl.

Rwyf hefyd yn meddwl bod awdurdodau gwledig yma yng Nghymru wedi rheoli’r heriau hyn yn dda iawn. Y llynedd, cyflawnwyd cyfradd ailgylchu drefol o 60.2 y cant yng Nghymru. Os edrychwch yn fanwl ar y ffigurau hynny ac edrych ar yr awdurdodau penodol, cyflawnodd awdurdodau gwledig gyfartaledd o 62 y cant; cyflawnodd awdurdodau yn y Cymoedd 59.3 y cant; ac awdurdodau trefol 59 y cant. Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymgynghori ar leihau nifer y canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu a ddarperir ganddynt, ac rwy’n gwybod bod rhai safleoedd wedi cau. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig, pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried a ddylent gau safle, neu hyd yn oed agor safle, fod angen iddynt edrych ar beth y mae archfarchnadoedd yn ei gynnig gyda’u safleoedd da iawn ar gyfer derbyn deunydd—banciau ailgylchu, er enghraifft—a chasgliadau ymyl y ffordd da hefyd.

Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am chwarter arwynebedd Cymru, felly gallwch weld yn union pa mor fawr ydyw, ac mae ganddynt lawer o ardaloedd tenau eu poblogaeth lle y gall darparu gwasanaethau fod yn her, rwy’n gwybod. Ond rwy’n deall bod Powys, er gwaethaf yr heriau hyn, yn gwneud—[Torri ar draws.] Iawn.

Derbyniaf eich pwynt ynglŷn â dod â deunydd i ganolfannau mewn archfarchnadoedd, er enghraifft, ond ni all busnes wneud hynny. Pe bai busnes yn gwneud hynny, buasent yn cael eu dirwyo.

Na, yn hollol. Roeddwn yn gwneud pwynt cyffredinol yn unig fod yna safleoedd da iawn bellach sy’n derbyn deunydd ailgylchu, ac mae’n rhaid eu hystyried. Ond rydych yn llygad eich lle—yn amlwg, ni all busnesau eu defnyddio.

Felly, er gwaethaf yr heriau y credaf fod Powys yn eu hwynebu, maent yn gwneud cynnydd rhagorol ar ailgylchu, ac unwaith eto, maent wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu cyfradd ailgylchu o’r 59.1 y cant a gofnodwyd y llynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai sydd ag ardaloedd gwledig mawr, drwy ein rhaglen newid gydweithredol. Ein nod yw helpu awdurdodau i wella cyfraddau ailgylchu drwy ddarparu gwasanaethau rhagorol, nid yn unig i breswylwyr, ond i fusnesau hefyd. Rwy’n cyfarfod ag awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â gwastraff. Ddydd Llun nesaf byddaf yn cadeirio cyfarfod o’r bwrdd rhaglen gweinidogol ar wastraff i drafod yr heriau hyn ymhellach. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw trosi ein cyfraddau ailgylchu trefol trawiadol yn swyddi lleol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddi ac adfywio cymunedol. Dyna’r economi gylchol y soniwn amdani. Ac mae’n rhaid i mi ddweud bod eich fideo wedi profi’r pwynt hwnnw’n fwy na dim, sef os nad oes cyfleusterau ym Mhowys ar gyfer y deunyddiau ailgylchadwy hyn, nid ydym yn mynd i gyflawni’r economi gylchol honno. Felly, buaswn yn awgrymu bod hynny’n rhywbeth y gellid edrych arno o bosibl.

Mae pob awdurdod lleol yn rhan o’r agenda optimistaidd hon sy’n gwella bywydau y credaf ei bod yn cael ei chyflawni ar gyfer, a chan bobl a chymunedau Cymru. Rwy’n falch iawn o ddathlu’r ffaith fod Cymru yn arweinydd byd yn y maes hwn. Soniais am gyfraddau ailgylchu da iawn Powys, felly fe heriaf Russell George: fel cynghorydd, gallwch gymryd y clod am hynny, ond i’r un graddau, rydych yn rhan o’r ateb, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am fod yn aelod o’r meinciau cefn, ond mae’n bwysig iawn fod cyngor Powys yn darparu’r cyfleusterau hyn.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.