Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Gwariant Cyfalaf sydd wedi’i Gynllunio

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf sydd wedi’i gynllunio yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0077(FLG)

Mae ein cynlluniau gwario, a gymeradwywyd ddoe gan y Cynulliad, yn darparu ar gyfer bron £7 biliwn o fuddsoddi cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Ac, ymhellach i hynny, mae’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Llywodraeth Cymru yn rhestru dros 350 o fuddsoddiadau ar draws Cymru, gyda chyfanswm gwerth dros £40 biliwn. Fe fyddwch chi’n ymwybodol o hynny. Nawr, mae’n amlwg na fydd setliadau cyfalaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, na gallu benthyg cyfyngedig y Cynulliad yma, yn ein galluogi ni i ddelifro’r gwelliannau i’n seilwaith sydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf. Ac, yn dilyn y ffaith bod yr ymgynghoriad ar greu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—NICW—wedi cau ddydd Llun, pa drafodaethau ydych chi’n mynd i’w cynnal gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynglŷn â dyfeisio system ariannu arloesol a fyddai’n ein galluogi ni i ddelifro mwy o brosiectau angenrheidiol, rhywbeth yn debyg i weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer y corff, er enghraifft—ein NICW ni, o’i gymharu â’ch NICW chi?

Wel, diolch yn fawr am yr ail gwestiwn yna.

I remain in regular discussions with the Cabinet Secretary for the economy on these matters. The draft final budget, approved yesterday, showed a significant increase in the capital allocations available to that portfolio for important capital investment purposes. We continue to look for further opportunities to be able to invest in those aspects of the Welsh economy that provide a return through the additional economic activity that they will generate. I know that Ken Skates looks forward to further discussions with Plaid Cymru on different models for enabling us to take that sort of investment forward.

Rwy’n hapus iawn â’r cynlluniau i godi adeilad newydd yn lle Canolfan Ganser Felindre ar dir Ysbyty’r Eglwys Newydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cyllid a fydd ar gael ar gyfer y Ganolfan Ganser newydd?

Diolch i Julie Morgan am ei chwestiwn pellach. Cyfeiria at waith a ddechreuwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, gan y bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 21 y cant yn is yn 2019 nag yn 2009, hyd yn oed gyda’r £440 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad cyfalaf a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, a golyga hynny ein bod wedi gorfod chwilio am ffyrdd arloesol y gallwn ariannu datblygiadau cyfalaf pwysig iawn yn y dyfodol. Mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn un o dri chynllun o’r fath sydd wrthi’n cael eu datblygu. Bydd cyfanswm eu gwerth cyfalaf oddeutu £1 biliwn. Nawr, yn ddiweddar, archwiliwyd model buddsoddi cydfuddiannol Cymru gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn sicrhau, pan fyddwn ymhen y rhawg mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ef, na fydd ei wariant yn cyfrif yn erbyn ein terfyn gwariant cyfalaf adrannol. A chredaf fod y sgyrsiau hynny wedi bod yn adeiladol, a gobeithiaf y byddaf mewn sefyllfa i roi gwybod i’r Cynulliad ynglŷn â’u canlyniad o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

Prynhawn da.

Just referring back to Dai Lloyd’s question, Cadw, as you probably know, will be using revenue raised at various Cadw sites in order to contribute to capital expenditure on some of our most important sites here in Wales. I’m thinking in particular of Neath Abbey, for which £0.25 million, or just over, has been earmarked for this year, but I don’t have much clarity on how much it’s going to take up from the capital budget over coming years. The mutual investment model that you just spoke about with Julie Morgan—is there a space for that sort of thinking when it comes to investing in our important historic buildings, which, in and of themselves, probably don’t raise an awful lot of money?

Wel, Gadeirydd, o flaen y Pwyllgor Cyllid y bore yma, bûm yn archwilio’r ffaith fod yna amryw o wahanol ffyrdd y gallwn fuddsoddi cyfalaf yng Nghymru—cyfalaf traddodiadol, cyfalaf trafodion ariannol, y gallu newydd y byddai gennym i fenthyca pe bai Bil Cymru’n cael ei basio, a modelau ariannu arloesol. Rydym yn ceisio defnyddio pob dull sydd ar gael i ni er mwyn cyflawni’r buddsoddiadau cyfalaf pwysig iawn sydd yno ar draws yr ystod o gyfrifoldebau y mae’r Cynulliad yn eu cyflawni. Nawr, yn achos Cadw, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal trafodaethau gyda Cadw ynglŷn â’r posibilrwydd eu bod hwy eu hunain yn cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf drwy’r refeniw a godir ganddynt, ac mae honno eto’n ffordd arall y gallwn wneud hyn, ond rydym yn parhau i fod yn barod i ystyried yr holl wahanol ddulliau sydd ar gael i ni er mwyn gwneud gwaith pwysig o’r math y mae’r Aelod newydd ei nodi.

Incwm Sylfaenol Cyffredinol

2. Ai polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi rhaglen beilot a gaiff ei harwain gan awdurdod lleol o ran incwm sylfaenol cyffredinol? OAQ(5)0072(FLG)

Diolch am y cwestiwn. Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru eto wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn chwilio am gymorth ar gyfer peilot incwm sylfaenol. Serch hynny, rwyf yn bwriadu monitro cynnydd y gwaith ymarferoldeb sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Fife a Glasgow. Er bod angen ymdrin â chwestiynau cymhwyster yma, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Rwy’n croesawu sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac mae wedi cyfeirio, wrth gwrs, at yr arbrawf arfaethedig yn yr Alban. Mae yna gefnogaeth helaeth, rwy’n credu, i’r syniad nawr, ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac, ie, ar y chwith—rhaid cofio mai Milton Friedman, wrth gwrs, oedd un o hyrwyddwr cynnar y syniad, a Richard Nixon a gynhaliodd y cynllun peilot cyntaf erioed. Pe bai llywodraeth leol am arbrofi, oni ddylem ni gymryd y cyfle yma i edrych ar sut gall y syniad hynod arloesol yma gyfrannu tuag at lesiant ein pobl yn arwain at y dyfodol?

Diolch am y cwestiwn.

I am very keen to remain in touch with the feasibility work being carried out in Fife and Glasgow. I think it’s important to be realistic about what they have embarked upon. They hope, over the months ahead, to arrange a feasibility study. That feasibility study would collect evidence and, if the evidence was strong enough, they would then establish a pilot. But, even so, that is a step forward in the UK context. Basic income in other parts of the world already has an established track record. Alaskan citizens have been paid a basic income since 1982 from the Alaska permanent dividend fund. And although it is a piece of work which, in Scotland, has secured support from the SNP—in Glasgow, it’s led by a Labour councillor, in Fife, it’s been supported by the Conservative group leader on the council there—nevertheless, we must anticipate that were we to move ahead on it, we would face headlines of the sort that ‘The Sun’ newspaper used when reporting the Glasgow experiment, saying that it was doling out pay for no work even to people who have a job. So, the idea, while attractive in the way that it can simplify and support people who currently have to rely on a very complex set of part-time work, part-time benefits and so on, the political world will face a job of convincing the public about the merits of the scheme.

Bydd papur newydd ‘The Sun’ yn gwneud yr hyn y mae papur newydd ‘The Sun’ yn ei wneud, os yw’n haeddu cael ei alw’n ‘bapur newydd’. Ond a gaf fi groesawu’r cwestiwn a ofynnwyd yn ogystal â’r ffordd gadarnhaol yr ymatebodd y Gweinidog? Ac er y byddai rhai o’r dde a’r chwith, sy’n cefnogi’r ymagwedd hon am wahanol resymau, yn dadlau na allwch dreialu hyn mewn gwirionedd, dim ond ei wneud, tynnaf ei sylw at waith diddorol a wnaed yng nghanol Llundain yn 2013, lle rhoddwyd yr hyn sy’n cyfateb i isafswm incwm cyffredinol i 13 o unigolion digartref, heb amodau, heb unrhyw amodoldeb, yn y gobaith y byddai rhywbeth cadarnhaol yn digwydd. Ac wrth gwrs, dywedodd yr amheuwyr ‘Wel, bydd yn cael ei wastraffu.’ Flwyddyn yn ddiweddarach, nid yn unig yr oedd 11 ohonynt mewn cartrefi, gyda llety, ond roedd llawer ohonynt mewn gwaith hefyd mewn gwirionedd. Nawr, credaf fod hwn yn faes diddorol i ni edrych arno a’i archwilio, ac o bosibl yn y dyfodol, wrth i ni ei weld yn esblygu mewn ardaloedd eraill, gallwn ei ystyried yng Nghymru hefyd ar ryw ffurf neu’i gilydd. Felly, croesawaf ymateb meddwl agored Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad. Mae’r enghraifft y cyfeiriodd ati yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, rhoddodd y Ffindir raglen dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar waith ar 1 Ionawr eleni, ac mae’n canolbwyntio’n bendant ar y math o boblogaeth y cyfeiriodd ati. Mae’n dreial mawr sy’n cynnwys 2,000 o bobl a ddewiswyd ar hap ac sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, er mwyn gweld beth y gallai incwm sylfaenol diamod ei wneud yn eu bywydau.

Nid yw’r syniad yn un newydd, Lywydd. Amser maith yn ôl, yn y 1970au a’r 1980au, treuliais amser yn cyfweld grŵp o bobl a oedd wedi gorymdeithio ar hyd y strydoedd yn ystod y 1930au yn mynnu’r hyn a alwyd ganddynt yn ‘ddifidend cymdeithasol’, sef cynllun incwm sylfaenol syml, mewn gwirionedd. Felly, mae’n syniad sydd â gwreiddiau cadarn yn ein polisi cymdeithasol—rydym bob amser wedi ei chael yn anodd dod o hyd i ffordd ymarferol o fwrw ymlaen ag ef. Ond mae’n gyfle i ni yng Nghymru edrych ar yr hyn y ceisir ei wneud mewn mannau eraill ac i weld a allem wneud unrhyw beth ymarferol gyda’r syniad ein hunain.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.

Rwyf mewn perygl o ailadrodd, gyda phwyllgor y bore yma, a grybwyllwyd gennych yn barod, ond mae’n fyw yn fy nghof ac yn hynod o bwysig: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’ch cytundeb gyda Llywodraeth y DU ar y fframwaith cyllidol hirddisgwyliedig?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac am ei ddyfalbarhad wrth fynd ar drywydd y mater hwn ar lawr y Cynulliad? Felly, bydd yr Aelodau’n cofio bod trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dechrau mor bell yn ôl â mis Gorffennaf y llynedd a’u bod wedi dod i ben yn fuan wedi i’r Cynulliad dorri cyn y Nadolig, gyda chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar lawr y Cynulliad ddydd Mawrth yr wythnos nesaf, gan fod y fframwaith cyllidol wedi ei greu yng nghyd-destun Bil Cymru a gobeithiaf allu adrodd i Aelodau’r Cynulliad ac ateb unrhyw gwestiynau cyn y ddadl y byddwn yn ei chael ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol Bil Cymru.

Diolch am eich ymrwymiad i roi datganiad yr wythnos nesaf ac am ymdrechion eich tîm yn hyn o beth. Credaf fod hyn yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru, y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd. Nid yw hynny wedi digwydd bob amser yn y gorffennol, ond mae’n dda gweld bod cynnydd wedi’i wneud. A allwch roi eglurhad ynglŷn â pharhauster y trefniant newydd hwn, yn ôl yr hyn a ddeallwch? A yw Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i drefniant hirdymor, yn hytrach na’r ymrwymiad blaenorol am dymor y Senedd, fel oedd yn wir bryd hynny yn ôl yr hyn a ddeallaf?

Ydy, Lywydd, mae’n bwynt pwysig i’w wneud, onid yw, na fydd y fframwaith cyllidol yn berthnasol oni bai bod Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud. Gan ragdybio am y tro ei fod gwneud hynny, mae hwn yn gytundeb parhaol. Cyflawnwyd tipyn o gamp yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, pan lwyddodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i negodi cyllid gwaelodol i Gymru. Roedd sefydlu hynny fel egwyddor yn bwysig iawn ac yn torri tir newydd, ond cyllid gwaelodol dros dro ydoedd, i bara am gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae’r cyllid gwaelodol a gytunwyd yn y fframwaith cyllidol hwn yn rhan barhaol o’r dirwedd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae hynny’n sicr yn newyddion da, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn un o brif fanteision y Bil Cymru presennol wrth iddo fynd rhagddo. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfnod cymhleth i’r Cynulliad o ran cyllid, gyda threthi newydd yn cael eu datganoli, yr amrywiant yn y grant bloc yn sgil hynny, dyfodiad pwerau benthyca—fe allwn barhau. Deallaf fod y cytundeb yn caniatáu ar gyfer adolygu’r trefniadau’n flynyddol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â threfniadau ar gyfer cyfryngu pellach rhwng y Llywodraethau os oes anghytundeb yn y dyfodol ynglŷn â’r arian a ddaw i Gymru? Sut rydych yn bwriadu diogelu annibyniaeth trefniadau ar y ddwy ochr, pan ddaw’r anghytundebau hynny’n amlwg yn y pen draw?

Diolch i Nick Ramsay. Un o nodweddion arbennig y cytundeb yw ei fod yn caniatáu i’r ddwy ochr gyflwyno dadansoddiadau a chyngor annibynnol os oes anghydfod rhyngddynt. Mae hynny’n un o nodweddion newydd y cytundeb ac nid yw’n rhywbeth y mae’r Trysorlys wedi bod yn awyddus i gytuno iddo yn y gorffennol.

Felly, mae’r fframwaith cyllidol yn nodi proses ar gyfer datrys unrhyw anghytundeb, ac yn caniatáu i’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru ddefnyddio cyngor annibynnol a sicrhawyd ar gyfer y ddwy ochr ar bob cam o’r broses honno, er mwyn helpu i ddatrys y materion hynny. Mae’n fater y byddaf yn parhau i’w archwilio dros y misoedd nesaf o ran y ffordd orau o sicrhau’r cyngor annibynnol hwnnw ar gyfer Cymru. Mae nifer o opsiynau ar gael. Byddaf yn awyddus i’w pwyso a’u mesur, ond mae’r egwyddor yn bwysig iawn: mewn cyfnod pan fo’r Trysorlys, yn gyffredinol, wedi bod yn farnwr ac yn rheithgor, wedi gallu bod â monopoli ar y dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau, bydd gennym elfen annibynnol y gallwn ei defnyddio, a bydd hynny’n creu math gwahanol o gae chwarae a math gwahanol o drafodaeth.

Diolch, Lywydd. Mae gwleidyddion o blaid Ysgrifennydd y Cabinet a fy mhlaid innau wedi cwyno ers peth amser am y ffaith fod buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth y DU wedi tueddu i fod o fudd i un rhan o’r wlad, de-ddwyrain Lloegr, uwchlaw pob rhan arall. A yw’n credu bod gan Lywodraeth Cymru well hanes o sicrhau buddsoddiad teg ar draws Cymru?

Wel, ni wneir penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar sail ddaearyddol. Ein huchelgais yw buddsoddi yn y prosiectau cyfalaf sy’n darparu’r budd mwyaf i Gymru, ac ansawdd y prosiectau, yn hytrach na’u lleoliad daearyddol, fyddai’r prif ffactor wrth benderfynu ar hynny. Wedi dweud hynny, mae yna syniadau da a phrosiectau da ym mhob rhan o Gymru, a chredaf fod ein cynlluniau cyfalaf, fel y nodwyd yn y gyllideb ddoe, yn dangos y bydd y Llywodraeth hon yn mynd ar drywydd gwaith pwysig sydd i’w wneud a syniadau sy’n haeddu buddsoddiad lle bynnag y bônt.

Iawn, ond a yw hynny’n egluro’r bwlch enfawr a welwn yn ffigurau Ysgrifennydd y Cabinet ei hun—fe’u darparwyd ganddo mewn cwestiwn ysgrifenedig—rhwng gwahanol ranbarthau Cymru? Rhoddaf un enghraifft, gwariant y pen. Mae buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru dros bedair blynedd, y pedair blynedd diwethaf, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn hanner y ffigur o dros £1,000 y pen ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd yn gostwng i 29 y cant. Ni all unrhyw beth gyfiawnhau bwlch ar y lefel honno. Mae’n rhaid i mi ddweud ein bod, yn y Siambr ddoe, wedi clywed llais dirmygus plwyfoldeb metropolitanaidd yn ymosod ar fy mhlaid am geisio sicrhau rhywfaint, o leiaf, o gonsesiwn, rhywfaint o fuddsoddiad yn y rhanbarthau a’r etholaethau yr ydym yn eu cynrychioli. Nid ydym yn ymddiheuro—[Torri ar draws.] Nid ydym yn ymddiheuro am gydraddoli lefel y buddsoddiad.

Mae’n wleidydd mwy meddylgar na rhai o’i gyd-Aelodau, a chyda llaw, gwelwyd yr agweddau hynny ar feinciau’r Ceidwadwyr hefyd, a chan Aelodau sydd naill ai’n cynrychioli neu’n byw yn ardal fwyaf llewyrchus Cymru. Gofynnaf hyn iddo: a wnaiff ymrwymo i gydraddoli lefel y buddsoddiad ledled Cymru, fel na fydd yn rhaid i fy mhlaid i fod yn gyfrifol am ymladd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, dros sbarion gwaedlyd ar waelod y gasgen?

Wel, Lywydd—. Edrychwch, mae yna bwynt difrifol wrth wraidd yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud, sef bod angen i bawb ohonom gydnabod bod angen i bob rhan o Gymru deimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhoi sylw i’w hanghenion, a bod yr hyn sy’n digwydd yma yn arwain at benderfyniadau lle y gallant weld y budd i’w bywydau. Yr hyn y mae’n anghywir yn ei gylch yw ceisio dweud nad oes gan y penderfyniadau a wnawn unrhyw ddiddordeb yn hynny o beth. Wrth gwrs bod. Dyna pam y gwelwch y buddsoddiadau mawr a welwch ym mhob rhan o Gymru. Nid yw’n syndod fod poblogaeth yn gwneud gwahaniaeth i fuddsoddiad. Mae mwyafrif helaeth poblogaeth Cymru yn byw mewn rhannau penodol o Gymru, ac mae’n anochel y bydd rhai o’r prif fuddsoddiadau’n dilyn hynny, ond mae ef—[Torri ar draws.] Na, na, nid yw’r ffigur y pen yn gwrthbwyso’r hyn rwyf newydd ei ddweud, oherwydd, o’u cronni, bydd y ffigurau gwariant y pen hynny’n arwain at grynhoi buddsoddiad mewn rhannau penodol. Ond os mai’r pwynt difrifol y mae’n ei wneud yw a oes angen i ni sicrhau ein bod yn buddsoddi ym mhob man lle y mae angen gwneud pethau pwysig, a’n bod yn gallu dangos i bobl ledled Cymru ein bod yn ystyried eu hanghenion o ddifrif, ni fuaswn yn anghytuno ag ef ar y pwynt hwnnw.

Yr unig lygedyn o gysur y gallaf fi, fel cenedlaetholwr Cymreig, ei gael o’r math o ffigurau a nodais—sy’n dangos bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur, yn anffodus, yn canolbwyntio’n bennaf ar Gaerdydd—yw y dylai un rhan o Gymru, o leiaf, fod yn gwneud yn dda. Ond gwelwn yr un math o gamreoli cronig yma, a gofynnaf iddo, yn ei rôl fel Gweinidog llywodraeth leol: a yw’n ymwybodol o’r ffaith fod yr hollt yng ngrŵp Llafur Caerdydd bellach yn bygwth peryglu’r fargen ddinesig £1.2 biliwn yn ei chyfanrwydd? Beth y mae hynny’n ei ddweud am y model datblygu economaidd rhanbarthol a ffefrir gan Ysgrifennydd y Cabinet, y model cyd-bwyllgor? Os na all y Blaid Lafur weithio ar y cyd â hi ei hun ar un awdurdod, sut y mae’n mynd i weithio’n drawsbleidiol ar draws 10 awdurdod gwahanol hefyd?

Credaf fod cyfeiriad cwestiynau’r Aelod y prynhawn yma yn ei roi mewn perygl o fod yn llai o genedlaetholwr Cymreig na ffracsiwn penodol o genedlaetholdeb Cymreig. Rwy’n hyderus y bydd y pleidleisiau mewn 10 o awdurdodau lleol gwahanol ledled Cymru sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau’r trefniadau llywodraethu a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda’r fargen ddinesig, y bydd y pleidleisiau hynny’n cael eu bwrw ac y bydd hynny’n digwydd yn llwyddiannus ar draws de Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma nad oedd yn anochel y byddai pwerau codi treth incwm yn cael eu datganoli ac y byddai ei grŵp yn pwyso a mesur hynny dros y penwythnos ac yn penderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddydd Llun. Tybed a allai fy helpu i ddatrys anghysondeb ymddangosiadol rhwng y datganiad hwnnw a’r fframwaith cyllidol a arwyddodd ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n dweud ym mharagraff 14

‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy ffrwd ariannu ar wahân yn y pen draw:

Refeniw o ardrethi busnes, trethi datganoledig (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi) a chyfraddau treth incwm Cymreig;

Cyllid grant bloc wedi’i addasu oddi wrth lywodraeth y DU.’

Dywedodd wrth ein pwyllgor y bore yma ei bod yn bosibl na fydd treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Pam, felly, y mae wedi arwyddo dogfen sy’n dweud y bydd cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli?

Wel, Lywydd, y gwaith a roddwyd i mi wrth drafod y fframwaith cyllidol oedd negodi fframwaith a fyddai’n addas ar ein cyfer pe bai treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Dyna pam y mae’r holl gytundeb hwn wedi’i ffurfio o amgylch y posibilrwydd hwnnw, ond roedd yn amlwg i’r Trysorlys drwy gydol y broses honno mai’r Cynulliad hwn a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn ag a fyddai Bil Cymru yn derbyn cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a phe na bai’r Cynulliad hwn yn rhoi’r cydsyniad deddfwriaethol hwnnw, yna byddai’r fframwaith hwn yn methu o ganlyniad i hynny a byddai’n rhaid ei ailnegodi yn seiliedig ar y ddwy dreth a fyddai’n cael eu datganoli. Ond nid yw’n ddirgelwch o gwbl. Cynlluniwyd y fframwaith hwn ar gyfer y sefyllfa a allai fod ohoni pe bai Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud, a dyna pam y cyfeirir at ddatganoli treth incwm yn rhannol drwyddo draw.

Ni chredaf y byddai David Gauke, Gweinidog y DU, yn arbennig o falch o glywed ateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod yntau, fel y gwnaethoch chi, wedi arwyddo datganiad sy’n dweud

‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys...yn y pen draw’

cyn mynd ati i restru gwahanol elfennau, sy’n cynnwys cyfraddau treth incwm Cymreig. Nid oes unrhyw gyfeiriad at gynllun wrth gefn neu amodau gwahanol. Mae’n dweud yn glir iawn y bydd cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli. Nawr, disgwylir i ni gredu nad yw’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud eto, ond onid y gwirionedd yw, hyd yn oed cyn y Darlleniad Cyntaf a chyhoeddi Bil Cymru, ac yn benodol, y cymal hwnnw sy’n diddymu’r gofyniad deddfwriaethol am refferendwm cyn cael pwerau codi treth incwm, mewn gwirionedd, a drefnwyd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a bod trafodaethau wedi digwydd rhwng y ddwy ochr er mwyn dod i’r casgliad hwnnw cyn i’r broses honno ddechrau hyd yn oed?

Na, credaf fod yr Aelod yn gwbl anghywir. Mae wedi camddeall y broses gyfan yma’n llwyr. Ni fydd Mr Gauke yn synnu at unrhyw beth o gwbl a ddywedais yn fy ateb cyntaf, gan ei fod, ym mhob trafodaeth a gefais gydag ef, yn deall mai rhagamod cyn y buasai’r Cynulliad hwn yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol, os mai dyna a wnaiff, fuasai fod yna fframwaith cyllidol boddhaol gerbron y Cynulliad a fuasai’n esbonio’n argyhoeddiadol i’r Aelodau yma sut y buasai’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn llywio’r canlyniadau cyllidol, pe bai—pe bai—treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Ar y sail bendant honno y lluniwyd y ddogfen hon, a buasai Mr Gauke yn deall hynny, ac yn adleisio hynny, rwy’n credu, pe bai’n sefyll yma y prynhawn yma.

A gall yr Aelodau weld y datganiad clir hwnnw, fel y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ym mharagraff 14 yn y ddogfen honno. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf fy mod wedi camddeall y broses gyfan, a do, rwyf wedi dod at hyn â llygaid ffres. Ac efallai oherwydd hynny, bu’n rhaid i mi ddibynnu i raddau ar ddogfennau cyhoeddus ac ar sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru. Rhoddwyd un enghraifft o’r sicrwydd hwnnw ar bapur pleidleisio refferendwm 2011, dim llai na hynny, a ddywedai, pe bai’r canlyniad o blaid datganoli pellach—pleidlais ‘ie’—na fyddai hynny’n arwain at ddatganoli pwerau trethu. Ond yn awr, er gwaethaf yr addewid hwnnw, bydd y pwerau trethu hyn yn cael eu gorfodi ar y cyhoedd yng Nghymru, nad oes arnynt fwy o awydd talu trethi uwch nag sydd arnynt i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Er hynny, bydd ei Lywodraeth yn anwybyddu canlyniad y refferendwm hwnnw yn 2011—y sicrwydd a roddwyd ar y papur pleidleisio—i’r un graddau ag y buasent yn dymuno anwybyddu penderfyniad y Cymry ynglŷn â’n haelodaeth o’r UE.

Wel, os oes gan yr Aelod gweryl, nid gyda mi y mae, ond gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod hwn yn benderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Geidwadol yn San Steffan, nid gan unrhyw wleidydd yn y Siambr hon. Ac nid yw’n gywir ychwaith—[Torri ar draws.] Nid yw’n gywir ychwaith yn awgrymu bod Bil Cymru yn darparu ar gyfer codiad awtomatig yn y dreth. Yn syml, mae’n darparu hyblygrwydd newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wneud penderfyniadau yn y maes hwnnw—penderfyniadau a allai arwain at godi rhai trethi, ond a allai arwain yr un mor hawdd at ostwng trethi. Ni fyddai trethi’n codi’n awtomatig o ganlyniad i Fil Cymru, pe bai’r Bil hwnnw’n cyrraedd y llyfr statud.

Datblygu Trysorlys Cymreig

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu trysorlys Cymreig? OAQ(5)0078(FLG)[W]

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae Trysorlys Cymru wedi sefydlu strwythurau i reoli ein hadnoddau cyhoeddus yn effeithiol, gan gynnwys ein pwerau trethi a benthyca newydd. Yn y misoedd i ddod, byddaf yn cyhoeddi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Diolch i chi am eich ateb, a, gobeithio, yn y misoedd i ddod, y byddwch chi’n cyhoeddi lle mae hwn yn mynd i gael ei leoli, oherwydd mae Ysgrifennydd yr economi, wrth gwrs, wedi dweud ei fod e’n edrych ar Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y banc datblygu. A fyddech chi’n barod i ystyried Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y trysorlys? Oherwydd rŷm ni’n gwybod bod y gweithlu a’r sgiliau yno. Mae HMRC yn cau canolfan yno cyn bo hir, ac felly mae yna sgiliau—mae yna adeilad, hyd yn oed. Mi fyddai modd creu wedyn, wrth gwrs, ‘hub’ ariannol yn y gogledd ddwyrain a fyddai efallai hefyd wedyn yn tanlinellu’r ffaith eich bod chi, fel yr ŷch yn ei ddweud, yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru.

Wel, diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Clywais i ddoe Sian Gwenllian yn holi’r Prif Weinidog, yn dadlau dros gael pencadlys yr awdurdod yng Nghaernarfon. Wrth gwrs, rydw i wedi derbyn nifer fawr o lythyrau gan Aelodau’r Cynulliad yn trio fy mherswadio i sefydlu’r pencadlys ledled Cymru. Wrth gwrs, rydw i’n deall hynny. Roedd y Prif Weinidog ddoe yn esbonio’r gwaith sy’n mynd ymlaen, ac mae trafodaethau gyda’r undebau hefyd am ble y gallwn ni sefydlu pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’n fwy na lle, ac mae hynny’n bwysig yn y ddadl hefyd. Bydd yn rhaid, fel y dywedodd y Prif Weinidog, recriwtio pobl gyda sgiliau arbennig mewn nifer o feysydd, a bydd hynny’n rhan o’r penderfyniad pan fyddaf i’n gallu ei wneud e.

Ysgrifennydd Cabinet, mae’r ail adroddiad blynyddol ynghylch cyflwyno a gweithredu Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn ei gwneud hi’n glir bod ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi canolbwyntio’n bennaf ar bobl broffesiynol a grwpiau arbenigol technegol hyd yn hyn. Felly, yn yr amgylchiadau, a allech chi ddweud wrthym ni ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r trysorlys Cymreig yn ehangach i’r cyhoedd yng Nghymru, fel bod pawb yn ymwybodol o’u rôl a’u cyfrifoldebau, ac nid yn unig gweithwyr proffesiynol treth?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Wrth i ni sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn enwedig pan fydd gennym gadeirydd, a bwrdd o unigolion i gefnogi’r cadeirydd hwnnw, un o’r pethau pwysig y byddaf yn disgwyl iddynt ei wneud yw bod yn wyneb cyhoeddus yr awdurdod newydd hwnnw. Mae’n sicr o fod yn sefydliad a fydd o gryn ddiddordeb i’r bobl sy’n treulio’u bywydau gwaith yn y maes hwn, ac mae’r Aelod yn llygad ei le i ddweud bod y rhan fwyaf o’r trafodaethau a gynhaliwyd hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar y byd hwnnw, ac ar fanteisio ar eu cymorth—yn y ffordd rydym wedi fframio’r ddau Fil treth sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, ond hefyd, er enghraifft, o ran sicrhau bod gennym y dewis gorau posibl o ymgeiswyr ar gyfer y swyddi pwysig hynny. Ond wrth i ni symud ymlaen, ac wrth i ni symud tuag at y dyddiad pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dod yn weithredol, bydd ganddo berthynas gyda phoblogaeth lawer ehangach o blith y cyhoedd yng Nghymru, a bydd angen gweithio i sicrhau bod cyfathrebu â’r cyhoedd ehangach hwn yn digwydd hefyd. Bydd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag Awdurdod Cyllid Cymru. Mewn ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ddoe, ymrwymais i gyflwyno adroddiad bob tymor i’r Cynulliad ar sut y mae hyn oll yn datblygu, a bydd hynny’n rhan o fy adroddiad.

Portffolio’r Amgylchedd

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i bortffolio’r amgylchedd? OAQ(5)0075(FLG)

Diolch i Joyce Watson. Fel y nodir yng nghyllideb 2017-18, a gymeradwywyd ddoe, mae’r dyraniad cyllideb ar gyfer y portffolio amgylchedd a materion gwledig y flwyddyn nesaf bron yn £384 miliwn.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn ystod y blynyddoedd diwethaf effeithiwyd yn enbyd ar lawer o fy etholwyr gan lifogydd a achoswyd gan dywydd garw, ac mae llawer yn dal i fod mewn perygl oherwydd lle y maent yn byw. Felly, mae’r cyllid cyfalaf o £33 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer cynlluniau llifogydd, yn ychwanegol at y cynllun rheoli risg arfordirol arloesol sy’n werth £150 miliwn, ac sydd i fod i ddechrau y flwyddyn nesaf, yn newyddion da iawn i’r bobl hynny. Mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ac yn rhagweithiol hefyd ynglŷn â diogelu cartrefi a busnesau pobl rhag llifogydd, ac mae hynny’n hollbwysig gan y rhagwelir y byddwn yn gweld tywydd garw yn amlach yn y dyfodol. O ystyried hyn, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol, fel y mae wedi ei wneud yn y gorffennol?

Diolch i Joyce Watson. Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft gennym yn ôl ym mis Hydref bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â buddsoddiadau cyfalaf er mwyn dod i ben ar yr arian a oedd ar gael i ni. Dywedais wrth y Pwyllgor Cyllid, yn fy sesiwn graffu gyntaf gyda hwy, pe bai unrhyw gyfalaf ychwanegol ar gael yn natganiad yr hydref, mai fy mhrif flaenoriaeth fyddai ailedrych ar y portffolios lle y bu’n rhaid gwneud rhai o’r penderfyniadau anodd hynny. Roeddwn yn falch iawn—a chefais nifer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol a bwysleisiodd hyn yn gadarn iawn wrthyf—o allu adfer y £33 miliwn at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd. Roeddwn yn falch iawn yn wir o allu gwneud hynny.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am dynnu sylw at y cynllun rheoli risg arfordirol arloesol gwerth £150 miliwn, oherwydd mae’n rhaid i chi weld y ddau beth gyda’i gilydd. Mae’n dilyn cwestiwn Suzy Davies yn gynharach ynglŷn â defnyddio’r ystod gyfan o adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn hyrwyddo buddsoddiad cyfalaf at ddibenion pwysig yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i baratoi ffrwd o gynlluniau buddsoddi ar gyfer y dyfodol gan ddefnyddio’r £150 miliwn hwnnw, ac rwy’n falch iawn o allu rhoi sicrwydd i’r Aelod y byddwn yn parhau i weithio’n galed yn y maes hwn i osgoi’r anawsterau y mae rhai o’i hetholwyr wedi’u hwynebu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio yn y ddadl ddoe ar y gyllideb derfynol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oedd cyllideb yr amgylchedd gerbron y pwyllgor, roedd yn ymddangos i mi, wrth i ni graffu ar linell y gyllideb, fod y Ddeddf wedi’i defnyddio lawer mwy i ddehongli’r gyllideb bresennol yn hytrach na’i siapio. Yn y dyfodol, gobeithiaf y byddwn yn gallu gweld sut y mae gwahanol linellau’n amrywio ac yn mynd i fyny ac i lawr, a rhaglenni’n dod i ben neu’n cael eu hehangu, mewn perthynas â’r blaenoriaethau yn yr hyn sy’n Ddeddf ddefnyddiol iawn yn fy marn i.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod? Darllenais yr hyn a oedd gan ystod o bwyllgorau craffu i’w ddweud ynglŷn â’r gyllideb yn ofalus iawn. Roedd yn thema mewn nifer o bwyllgorau—edrych am fwy o dystiolaeth o effaith fod penderfyniadau cyllidebol yn cael eu siapio drwy lens y Ddeddf. Roeddwn yn barod iawn i dderbyn, gerbron y Pwyllgor Cyllid, fod rhagor i’w wneud, ac wrth i ni lunio cyllideb y flwyddyn nesaf, byddaf yn edrych am ffyrdd, yn fewnol, y gallwn gryfhau’r ffordd y mae lens y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth i’n penderfyniadau ar y gyllideb, er mwyn gallu dangos i Aelodau’r Cynulliad fod ein dyraniadau cyllidebol yn cael eu siapio gan y Ddeddf honno.

Mewn perthynas ag atal llifogydd yn y dyfodol, credaf fod yna gyfres o ffyrdd y gallwch weld amcanion y Ddeddf, a’r pum ffordd o weithio y mae’n eu cynnwys, yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniadau buddsoddi hyn.

Rwy’n falch iawn i weld yr arian yn cael ei ddodi yn ôl i’r portffolio amgylchedd o gwmpas atal llifogydd. Ond, hoffwn ofyn i chi yn benodol heddiw ynglŷn â datganiad arall ychwanegol, sef y £40 miliwn dros bedair blynedd o arian cyfalaf rydych wedi’i ddodi ar gyfer effeithlonrwydd ynni. Os rwy’n cofio’n iawn, fe ddywedasoch chi ddoe fod hwn yn gallu bod yn ddigonol ar gyfer hyd at 25,000 o dai. Hoffwn i felly ofyn mwy ynglŷn â beth mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd ac ati wedi gofyn i chi amdano. Ai cynllun yw hwn ar gyfer tai yn unig? Ai cynllun ar gyfer tai a busnesau a’r sector cyhoeddus? Ac ym mha ffordd y medrwn ni fel Cynulliad weld llwyddiant y cynllun yma o ran effeithlonrwydd ynni, y nifer o eiddo sy’n cael ei warchod yn y ffordd yma, a’r arbedion ynni ac arian a ddaw i’r gymuned?

Mae’r arian ychwanegol yn fwy na thai. Mae lot o waith i’w wneud yn y maes tai, ac i helpu pobl sy’n byw mewn tlodi. Ond, ar ddydd Llun, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn cyfeirio at fwy na gwaith yn y maes tai, ond hefyd at bethau y mae hi eisiau gwneud ym maes twf gwyrdd yng Nghymru. Rwy’n siŵr, pan fydd cwestiynau yma ar y llawr, a chyfleoedd eraill, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwydo’n ôl y cynlluniau y mae hi nawr yn gallu eu paratoi gyda’r arian newydd.

Hyrwyddo Arfer Gorau mewn Llywodraeth Leol

5. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo arfer gorau mewn llywodraeth leol? OAQ(5)0070(FLG)

Mae nifer o fecanweithiau ar waith, Lywydd, i hyrwyddo arfer gorau mewn llywodraeth leol. Bydd lefel uwch o weithio rhanbarthol systematig a gorfodol yn darparu cyfleoedd newydd i lywodraeth leol rannu a gweithredu arfer gorau yn y dyfodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod nod arlwyo Bwyd am Oes Sir y Fflint yn enghraifft ardderchog o arfer da. Mae’n darparu prydau ysgol maethlon a blasus i blant, mae’n niwtral o ran cost ac mae’n darparu mwy o graffu ar darddiad bwyd, sy’n amlwg yn bwysig iawn wrth ymdrin â phlant. Mae hefyd yn rhoi mwy o arian i fusnesau lleol. Felly, pa gynigion sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymwybodol o fanteision y nod arlwyo Bwyd am Oes?

Diolch i Jenny Rathbone am dynnu sylw’r Cynulliad at gynllun Bwyd am Oes Sir y Fflint. Credaf ei fod yn enghraifft dda iawn o gynllun sy’n gwneud gwaith ymarferol ar lawr gwlad mewn ffordd sy’n dod â nifer o agendâu ynghyd, yn agendâu amgylcheddol, ac agendâu sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn ogystal, ac arfer da o ran paratoi bwyd, ond hefyd mae’n cynnwys y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn rhan allweddol ohono. Yn ddiweddar, derbyniodd wobr gan y cynllun Bwyd am Oes. Mewn ffordd, cynlluniwyd agenda’r gwobrau i allu tynnu sylw eraill at waith da sy’n mynd rhagddo mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd iddo drwy strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’. Byddwn yn defnyddio’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel ail ffordd o dynnu sylw eraill at yr arfer da hwnnw. Ac fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, mae’r ffaith ein bod wedi cychwyn ar drafodaeth gydag awdurdodau lleol ynglŷn â mwy o weithio rhanbarthol—mae hynny ynddo’i hun yn cynnig gwell cyfleoedd i rannu pethau sy’n digwydd mewn un awdurdod lleol gyda chynghorau cyfagos.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi tynnu sylw eich rhagflaenwyr at y mater hwn yn ystod y tymor diwethaf, ond o fis Ebrill y llynedd hyd at ddiwedd y flwyddyn, gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd yn rhannol neu’n gyfan gwbl o dros 28 y cant o gyfarfodydd cabinet awdurdodau lleol. Yn wir, gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd o lawer o gyfarfodydd gan dros hanner yr awdurdodau, gyda 100 y cant o gyfarfodydd yn etholaeth y Prif Weinidog, Pen-y-bont ar Ogwr, yn eu gwahardd, a 90 y cant yng Ngheredigion. Fodd bynnag, dros yr un cyfnod, fe’u gwaharddwyd unwaith yn unig yn Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr. Nawr, yn unol ag arferion gorau awdurdodau lleol mewn rhannau eraill o’r DU, oni fuasech yn cytuno â mi ei bod yn bryd i arweinwyr etholedig ein hawdurdodau lleol gydnabod nad yw gwahardd pobl o’n prosesau democrataidd yn y fath fodd yn dderbyniol? Ac felly, a fuasech yn cymeradwyo cymorth i awdurdodau lleol fel Sir Fynwy—ac eraill, dylwn ychwanegu, gan fod llawer mwy o awdurdodau yn gwneud hyn? Ymddengys bod y neges yn torri drwodd, ond nid yw’n torri drwodd yn ddigon cyflym. Gydag etholiadau llywodraeth leol yn agosáu, a fuasech yn cytuno â mi fod angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn a’i bod yn bryd i arweinwyr y cynghorau werthfawrogi a chydnabod y ffaith fod pob hawl gan y rhai sy’n talu trethi cyngor i gael eu cynnwys ym mhroses ddemocrataidd unrhyw awdurdod lleol?

Wel, Lywydd, rwy’n bendant yn cytuno y dylai trafodion awdurdodau lleol fod mor hygyrch â phosibl i etholwyr lleol yn eu hardaloedd. Credaf fod rhai enghreifftiau da iawn o dan reolaeth bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon sy’n rheoli cynghorau, ac mae angen i ni wneud mwy i gyflymu lledaeniad yr arfer hwnnw. Rwy’n bwriadu defnyddio’r cyfle a ddaw yn sgil Bil llywodraeth leol, os daw un i’m rhan yn ystod y Cynulliad hwn, i ddeddfu i gryfhau’r rhwymedigaethau ar gynghorau i sicrhau bod eu trafodion yn agored ac ar gael i’r cyhoedd ledled Cymru.

Gwasanaethau Cyhoeddus

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy awdurdodau lleol? OAQ(5)0073(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae gwasanaethau cyhoeddus da yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer yr holl awdurdodau lleol, er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae goleuadau stryd digonol mewn ardaloedd trefol yn wasanaeth hanfodol arall a ddarperir gan awdurdodau lleol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi ei bod yn ymddangos bod Cyngor Sir Powys wedi dechrau gweithredu polisi rhyfedd iawn o beidio â rhoi goleuadau stryd newydd yn lle’r rhai sy’n dod i ben yn ystod y gaeaf mewn ardaloedd fel Llanidloes am eu bod wedi ymgymryd â chynllun hirdymor i uwchraddio’r goleuadau stryd i oleuadau LED mwy effeithlon? Er na all neb wrthwynebu’r amcan hirdymor, onid yw’n annerbyniol fod yn rhaid i fy etholwyr ymbalfalu o gwmpas yn y tywyllwch drwy rannau helaeth o Lanidloes gan nad yw’r cyngor sir yn gosod bylbiau golau newydd yn lle rhai sy’n dod i ben?

Diolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at hynny. Nid oeddwn wedi clywed am y mater cyn hyn, ac rwy’n fwy na pharod i holi’r awdurdod lleol ynglŷn â’r mater. O ran y pwynt mwy cyffredinol, rwy’n cytuno ag ef, wrth gwrs: mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi’n sylweddol iawn drwy ein cynllun buddsoddi i arbed i gynorthwyo awdurdodau lleol i uwchraddio eu goleuadau yn y ffordd honno, sydd nid yn unig yn darparu lefel well o olau a ffordd o oleuo sy’n well i’r amgylchedd, ond sydd hefyd yn cynhyrchu arbedion sylweddol i awdurdodau lleol yn y tymor hwy.

Bargeinion Dinesig

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyfrannu at Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0067(FLG)

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyfrannu £503 miliwn at fargen ddinesig £1.2 biliwn prifddinas-ranbarth Caerdydd. Gobeithiaf y byddwn, cyn bo hir, yn cyrraedd y pwynt pan ellir arwyddo cytundeb penawdau’r telerau i sicrhau bargen ddinesig Abertawe a’r cyllid a fyddai’n ei chefnogi.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn cefnogi’r fargen ddinesig, gan ein bod yn credu y dylai datganoli ymestyn y tu hwnt i Fae Caerdydd. A gaf fi ofyn, lle y bo’r posibilrwydd o unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth y DU mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â bargeinion dinesig, a oes perygl y gallai’r fframwaith cyllidol a’r cyllid gwaelodol, a fuasai fel arall yn ddefnyddiol, olygu y buasai unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth y DU yn cael ei wrthbwyso gan lai o wariant ganddynt mewn mannau eraill yng Nghymru?

Lywydd, ni chredaf fod risg o hynny. Mae trafodaethau ynglŷn â chyfraniadau i’r fargen ddinesig yn digwydd ar wahân i’r fframwaith cyllidol ac yn ychwanegol ato. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £503 miliwn at fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a Llywodraeth y DU yn cyfrannu £500 miliwn. Yn y trafodaethau a gawn ynglŷn â bargen ddinesig Abertawe, rydym yn disgwyl sicrhau’r un math o drefniant tair ochrog, lle y mae awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ill tri’n gwneud cyfraniad ar wahân, a hynny oddi allan i’r trefniadau sy’n rhan o’r fframwaith cyllidol.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a’r cwestiwn cyntaf—Jeremy Miles.

Cyfleoedd i Ddisgyblion

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth lawnach o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith? OAQ(5)0072(EDU)

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau annibynnol a diduedd ynglŷn â chyfleoedd dysgu a gyrfaoedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r farchnad lafur. Mae’r cwmni’n mynd ati’n weithredol i gynorthwyo ysgolion i ymgysylltu â chyflogwyr a busnesau i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio â’r byd gwaith.

Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Cyn i mi gael fy ethol roeddwn yn gyfreithiwr, a phan oeddwn yn blentyn ysgol, nid oeddwn yn adnabod unrhyw gyfreithwyr. Nid oedd unrhyw un o rieni fy ffrindiau neu gyfeillion i’r teulu yn gyfreithwyr, ond rywsut, fe ddigwyddodd. Ond yn yr economi newidiol sydd ohoni efallai nad yw pobl yn gwybod pa fath o swyddi sydd ar gael wrth iddynt fynd drwy’r ysgol, ac mewn rhanbarthau fel fy un i rydym yn gobeithio gweld newidiadau sylweddol yn y math o gyfleoedd sydd ar gael. Bydd y Gweinidog yn gwybod am adroddiad Fforwm Economaidd y Byd y mis hwn, sy’n annog Llywodraethau i sicrhau bod byd gwaith yn rhan annatod o’r daith drwy’r ysgol o’r cyfle cyntaf. Felly, yn ychwanegol at y cyngor a’r canllawiau y cyfeiriodd atynt yn ei ateb, a fuasai’r Llywodraeth yn ystyried cyhoeddi canllawiau gorfodol i ysgolion ynglŷn ag ymgorffori byd gwaith, y profiad a’r cyfleoedd yn y cwricwlwm ysgol o oedran cynnar?

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu cwestiwn a sylwadau’r Aelod dros Gastell-nedd yn fawr? Rwy’n gyfarwydd â’i ddisgrifiad ac rwy’n cydnabod bod gormod o blant mewn ysgolion, yn rhy aml, yn colli cyfleoedd y bydd plant eraill yn eu cael i weld y llu o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae ein cyfaill yn disgrifio gyrfaoedd ym maes y gyfraith, ond wrth gwrs, mae gyrfaoedd mewn meysydd eraill a fyddai’n ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr un modd. A gaf fi ddweud ei bod yn ofynnol i ysgolion uwchradd ddarparu rhaglenni gyrfaoedd a byd gwaith, sy’n cynnwys profiadau’n canolbwyntio ar waith? Ond credaf fod pwynt yr Aelod yn un pwysig, a byddaf yn edrych ar y canllawiau sydd ar gael i ysgolion ar yrfaoedd a byd gwaith er mwyn gwneud yn siŵr fod y canllawiau hyn yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i blant yn yr ysgol ddeall hyn, a hefyd i roi cyfleoedd i bobl ymweld ag ysgolion ac i ysbrydoli plant i gyrraedd eu potensial llawn.

Weinidog, a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am hyrwyddo nod Gyrfa Cymru. Credaf ei bod yn fenter ardderchog a chredaf ei bod bellach yn denu aelodau o blith y rhan fwyaf o ysgolion Cymru ac yn arwain at ddewisiadau mwy gwybodus ynglŷn â gyrfaoedd ac o ran nodi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi i gamu i fyd gwaith. Ond deallaf fod problemau wedi bod yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda lleoliadau gwaith effeithiol, a byddai hyn yn effeithio hefyd ar bobl o’r tu allan sy’n dod i mewn i’r ysgolion i siarad am fyd gwaith, a bod chwilio am leoliadau gwaith effeithiol wedi cael ei wthio allan o gwricwlwm gorlawn. Credaf fod ysgolion yn gwneud anghymwynas â’u myfyrwyr os nad ydynt yn pwysleisio pwysigrwydd lleoliadau gwaith gwirioneddol effeithiol a’r math o weledigaeth ynglŷn â byd gwaith y gallant ei darparu i fyfyrwyr.

Rwy’n cydnabod yr anawsterau y mae’r Aelod yn eu disgrifio. Rwyf am ddweud bod Gyrfa Cymru bellach wedi sefydlu oddeutu 60 o bartneriaethau Dosbarth Busnes rhwng ysgolion a chyflogwyr. Yn sicr, mae rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn ymwneud ag ehangu’r mathau hyn o gyfleoedd a’r mathau hyn o sgyrsiau mewn ysgolion ac ar gyfer disgyblion a rhwng ysgolion a chyflogwyr. Os oes gan yr Aelod unrhyw faterion unigol y mae’n dymuno eu dwyn i fy sylw, ac os gwnaiff eu cofnodi’n ysgrifenedig, buaswn yn sicr yn fwy na pharod i ymateb yn fwy manwl i’r pryderon unigol hynny ac i roi’r ohebiaeth honno yn y llyfrgell er mwyn i’r holl Aelodau ei gweld.

Weinidog, mewn rhyw fath o rôl wrthgyfatebol i fy nghyd-Aelod o Gastell-nedd, cyfarfûm yn ddiweddar â Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, ac roedd ganddynt raglen a oedd yn annog athrawon i fynd allan i’r gweithle er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth ynglŷn â pheirianneg a meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, rhaglen y mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol hefyd yn ei hariannu. A wnewch chi edrych ar gynlluniau o’r fath er mwyn sicrhau bod gennym athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth y gellir eu hysbrydoli i fynd ati i hybu’r agenda am ragor o raddedigion peirianneg a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg a phobl i ymgymryd â’r proffesiynau hynny?

Yn bendant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sedd ac wedi clywed y pwynt a wnewch, a bydd yn ystyried hynny mewn perthynas â’r materion ehangach o ran hyfforddiant a chymorth i athrawon. Credaf fod hynny’n rhan bwysig iawn o’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni o ran arweinyddiaeth ysgolion hefyd. Mae’r ffocws ar arweinyddiaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ceisio ei greu ers iddi gael ei phenodi yn seiliedig ar y gwahanol resymau hyn. Croesawaf y ffaith fod Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn darparu’r cymorth hwn i athrawon gwyddoniaeth. Ac wrth gwrs, rydym yn bendant yn awyddus i ddarparu a chryfhau lle’r ysgol yn y gymuned ehangach mewn perthynas â byd busnes a’r economi.

Gwyliau Haf yr Ysgolion

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl mewn ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0063(EDU)

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant ysgol yn ystod gwyliau’r haf? OAQ(5)0077(EDU)

Diolch. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiwn 2 a chwestiwn 5 gan Joyce Watson gael eu grwpio.

Rydym wedi darparu £500,000 er mwyn cyflwyno clybiau hwyl a chinio yn ystod gwyliau’r haf. Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i weinyddu’r clybiau, gan adeiladu ar y cynlluniau peilot llwyddiannus iawn a gyflwynwyd eisoes gan Bwyd Caerdydd ac awdurdodau lleol a fu’n cymryd rhan.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o grwpiau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, wedi nodi mater newyn gwyliau, pan fo’r plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u rhieni yn aml yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau hir yr haf. Yn wir, dywed yr elusen fod y galw yn ei 35 o fanciau bwyd yng Nghymru ar ei uchaf yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Gall darparu’r cyllid hwn ar gyfer clybiau hwyl a chinio ledled Cymru chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r sgandal fod plant yng Nghymru yn mynd yn llwglyd, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cyrraedd y rhai sydd fwyaf o’i angen?

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gyfarwydd â’r sefyllfa y mae’r banciau bwyd yn ei nodi. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, darparwyd cynllun dros yr haf y llynedd yn Llandrindod a Threfyclo, sydd â banc bwyd annibynnol, i gynorthwyo teuluoedd yn yr ardaloedd hynny. Cynhelir cynlluniau bwyd a hwyl yn ôl y galw ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddatgan diddordeb ynddynt i gychwyn. Wedi i hwn ddod i law, bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cysylltu â’r awdurdod lleol ac yn cydweithio â hwy i benderfynu pa ysgolion fyddai’n addas ar gyfer cynnal clwb bwyd a hwyl.

Er bod y cynllun yn sicr yn cynnig brecwast a chinio iach am ddim i geisio mynd i’r afael â newyn gwyliau, rwy’n awyddus i ffocws y cynllun fod ar y gweithgareddau cyfoethogi sydd ynghlwm wrth y prydau hynny, er mwyn iddo gynnig cyfle i ddysgwyr sy’n bresennol gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, mewn ymweliadau ac mewn cyfleoedd dysgu na fyddai ar gael iddynt fel arall. Gwyddom o adborth cychwynnol y cynllun peilot fod y cynllun, lle y’i cynhaliwyd eisoes, wedi gwneud llawer i fynd i’r afael â mater colli dysgu, cysyniad y gwyddom ei fod yn bodoli, pan fo llawer o blant yn llithro ar ôl dros wyliau hir yr haf ac mae’n rhaid i ysgolion ddal i fyny pan fo’r tymor ysgol newydd yn dechrau eto ym mis Medi. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â bwyd yn unig, mae’n ymwneud â rhoi sylw i faterion yn ymwneud â cholli dysgu, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau cyfoethogi na fyddai ar gael i’r plant hyn fel arall, o bosibl.

Rwy’n falch iawn o’r cynllun hwn ac er fy mod yn cydnabod nad yw £500,000 yn swm enfawr o arian, mae’n arian sydd i’w groesawu’n fawr, a gwelaf ei fod ar gyfer eleni ac eleni yn unig. Felly, fy nghwestiwn yw fy mod yn gobeithio y gallwch barhau â hyn drwy gydol y Cynulliad hwn. Rydych yn sôn am y cyfoethogi parhaus y mae plant yn y cymunedau yn ei gael drwy’r clybiau hwyl hyn fel nad ydynt yn llithro’n ôl ac yn colli’r holl fomentwm a enillwyd yn ystod tymor yr ysgol. A wnewch chi edrych hefyd ar gymunedau ynysig lle nad oes llawer iawn yn digwydd oherwydd eu natur wledig, er mwyn i’r plant ifanc hynny gael yr un cyfle’n union â phlant sy’n byw mewn ardaloedd eraill?

Rwy’n gobeithio y byddwn yn derbyn datganiadau o ddiddordeb gan awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn ehangu’r cynllun. Mae’n bwysig iawn, os oes gan yr awdurdodau lleol nad ydynt yn gweithredu’r cynllun ar hyn o bryd—ac mae nifer ar draws de Cymru, ac un neu ddau yng ngogledd Cymru, yn ei weithredu eisoes—os oes gan yr awdurdodau lleol eraill ddiddordeb yn hyn, mae angen iddynt roi gwybod i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac i ninnau eu bod yn awyddus i gymryd rhan, er mwyn i ni allu nodi’r cymunedau a fydd yn elwa fwyaf o’r cynllun. Felly, os oes gan ysgolion unigol yn etholaethau pobl ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun hwn, yna unwaith eto, rwy’n eu hannog i gysylltu â’u hawdurdod addysg lleol i ddatgan diddordeb er mwyn i ni allu sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael y cyfle i elwa o hyn. Mae’r cynlluniau peilot wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rwy’n rhagweld y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn sicrhau ei fod ar gael i gynifer o blant Cymru â phosibl, pa un a ydynt yn byw mewn ardaloedd trefol neu mewn ardaloedd gwledig. Ond mae’r pwyslais ar awdurdodau lleol i ddatgan diddordeb a buaswn yn eu hannog i wneud hynny.

Diolch, Lywydd. Nid yw’n syniad da rhoi losin yn eich ceg cyn gofyn cwestiwn [Chwerthin.] Y fenter hon y mae’r Llywodraeth wedi ei chyflwyno, a fydd yn rhan o’r cynnig gofal plant sy’n cael ei gyflwyno, oherwydd yn ystod y cyfnod pwyllgor cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn amlwg y gallai ysgolion ffurfio rhan o’r cyfleuster drwy’r gwyliau ysgol? Rwy’n cydnabod mai am flwyddyn yn unig y bydd y fenter hon yn cael ei hariannu, ond a fydd yn cael ei hystyried yn rhan o gynnig y Llywodraeth i gynyddu darpariaeth gofal plant ledled Cymru er mwyn cyflawni ymrwymiad ei maniffesto?

Fel y gwyddoch, Andrew—ac O! nad rhoi losin yn eich ceg cyn gofyn cwestiwn fyddai’r unig syniad gwael a gawsoch erioed, neu’n wir, y rhoesoch wybod i’r Siambr amdano—[Chwerthin.] Os caf ddweud, rydym yn gweithio’n agos iawn ar draws y portffolios i sicrhau bod gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at hyn. Mae potensial gan y clybiau bwyd a hwyl sy’n gweithredu mewn ysgolion i effeithio ar holl blant Cymru. Mae’r cynnig gofal plant yn ymwneud â chyfle i’n plant ieuengaf oll. Mae’r clybiau hyn yn agored i blant oed cynradd a phlant oed uwchradd, felly er y gallai fod peth gorgyffwrdd, ni fwriedir i hyn fod yn rhan o’r cynllun hwnnw; mae’n ychwanegol at y cynnig gofal plant a fydd ar gael.

Mae yna ffordd arall o edrych ar hyn, wrth gwrs, ac mae yna ddadl gref dros ailstrwythuro’r flwyddyn ysgol a dosbarthu gwyliau’n fwy cytbwys ar hyd y flwyddyn. Mi fuasai dosbarthu gwyliau ysgol dros y flwyddyn yn hytrach na’u cael yn un bloc mawr dros yr haf yn helpu i wella lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion ac yn ei gwneud hi’n haws i rieni sy’n gweithio. Mae llawer o arbenigwyr yn dadlau bod plant, yn enwedig bechgyn, o gefndiroedd difreintiedig yn ei chael hi’n anodd i gadw gwybodaeth dros doriad maith ac y gallent fod ar eu hennill o gael gwyliau byrrach, amlach. Pan gododd Plaid Cymru’r syniad hwn gyntaf, mi oedd eich plaid chi a’r llefarydd dros addysg y pryd hynny, Jenny Randerson, yn gefnogol iawn, rwy’n credu. Felly, pa asesiad ydych chi wedi’i wneud o’r cynllun yma o ailstrwythuro gwyliau yn ystod y flwyddyn ysgol? Ac os nad oes yna ddim wedi digwydd, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o’r fath ac yna adrodd yn ôl i’r Cynulliad?

Diolch am eich cwestiwn. Nid oes asesiad wedi ei wneud ers i mi ymgymryd â’r swydd hon, er y cafwyd adroddiad annibynnol a rhywfaint o ymchwil ar ailstrwythuro’r wythnos ysgol—er enghraifft, cael wythnos ysgol bedwar diwrnod, er mwyn cael un diwrnod ar ddiwedd yr wythnos at ddibenion paratoi a hyfforddi athrawon—ond ni wnaed unrhyw beth i edrych ar y flwyddyn academaidd gyffredinol. Rwy’n llwyr gydnabod yr egwyddor hon fod gwyliau haf hir, yn achos rhai plant, yn arwain at y cysyniad o golli dysgu, fel y dywedais yn gynharach, a dyna pam na fydd y clybiau bwyd a hwyl hyn yn canolbwyntio’n unig ar fater newyn gwyliau, ond mewn gwirionedd byddant yn ceisio sicrhau eu bod—ac mae’r cynlluniau peilot yn awgrymu eu bod wedi llwyddo yn hyn o beth—yn mynd i’r afael â’r cysyniad o golli dysgu, yn enwedig o ran llythrennedd, rhifedd a llafaredd. Siaradais ag un pennaeth yn ddiweddar, a dywedodd na fuasai gan lawer o’r bobl ifanc hyn oedolyn i siarad â hwy am y rhan fwyaf o’r dydd ac y buasai eu lefelau llafaredd yn gostwng yn sylweddol oni bai bod ei hysgol uwchradd yn aros ar agor dros yr haf. Felly, gwyddom fod hyn yn broblem. Gobaith yr ymyriad polisi hwn yw mynd i’r afael yn llwyddiannus â nifer o broblemau a’u datrys.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr fod system addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU a’n bod oddeutu gwaelod y tabl rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Fe wyddoch gystal â minnau nad yw hynny’n ddigon da, ac rydym yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae gwyddoniaeth, yn arbennig, wedi gwaethygu, gyda sgoriau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gostwng ym mhob prawf ers 2006. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad mewn gwyddoniaeth yng Nghymru?

Diolch, Darren. Rydych yn gywir i ddweud nad ydych chi na minnau’n credu bod ein perfformiad ym mhrofion y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn ddigon da, ac mae ein perfformiad mewn gwyddoniaeth wedi bod yn arbennig o siomedig, yn enwedig ymhlith ein plant sy’n perfformio ar lefel uwch, a’n diffyg cynrychiolaeth ar lefel 6, lefel 5, a lefel 4 cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi rhwydwaith rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn gynharach y mis hwn. Mae’n adeiladu ar fy nghyhoeddiad blaenorol ar gyfer mathemateg. Nod y rhwydwaith fydd sicrhau bod ein hathrawon gwyddoniaeth gyda’r gorau y gallant fod. Bydd yn cynnwys gweithio a chysylltu ysgolion â sefydliadau addysg uwch, lle y mae gennym adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg rhagorol, a sicrhau hefyd y gellir mynd i’r afael â phrofiad plant o wyddoniaeth yn is i lawr y cwricwlwm, yn eu hysgolion cynradd, lle y mae pobl yn aml yn dechrau ffurfio rhagfarnau ynglŷn ag astudio pynciau o’r natur hon. Felly, mae’n becyn cynhwysfawr er mwyn gwella addysgu gwyddoniaeth, ac ansawdd addysgu gwyddoniaeth, yn gyffredinol.

Rwy’n falch eich bod wedi gallu taflu ychydig mwy o oleuni ar y rhwydwaith cenedlaethol er rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, oherwydd, wrth gwrs, nid oedd yn gyhoeddiad a wnaethoch yn y Siambr hon—fe’u gwnaethoch mewn datganiad i’r wasg, ac rydym yn dal heb dderbyn datganiad ysgrifenedig neu lythyr oddi wrthych, fel Aelodau Cynulliad, i roi gwybod i ni am y datblygiad pwysig hwn. Ond serch hynny, rwy’n croesawu’r ymdrech ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hynny o beth.

Ond fel y dywedoch yn gwbl briodol, yn eich ymateb i mi yn awr, mae angen i ni wella perfformiad athrawon gwyddoniaeth, a chael athrawon gwyddoniaeth o ansawdd uchel. Ond rydych chi’n gwybod, ac rwyf fi’n gwybod, fod dros 45 y cant o ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl a ddaeth yn gymwys i ddysgu gwyddoniaeth rhwng 2010 a 2015 o dan eich rhagflaenwyr. Ac mewn gwirionedd, gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn bioleg, gyda thros 67 y cant o ostyngiad yn y niferoedd a ddaeth yn gymwys i ddysgu’r pwnc hwnnw. Felly, pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael ag anghenion y gweithlu addysgu yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod gennym ddigon o athrawon gwyddoniaeth yn y dyfodol?

Rydych yn iawn: mae ansawdd addysgu’n allweddol wrth fynd i’r afael â’r agenda hon, a dyma fydd prif ffocws gwaith y rhwydwaith rhagoriaeth. Ar hyn o bryd rwy’n adolygu’r cymhellion i raddedigion sydd ar gael i ni i ddenu pobl i’r proffesiwn addysgu, ac yn edrych hefyd i weld a allwn adnewyddu ein rhaglen mynediad i raddedigion, fel bod pobl sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth neu dechnoleg yn dymuno symud i’r byd addysg yn nes ymlaen. Felly, mae’r rheini’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, fel y gallwn wneud yr hyn a allwn i ddenu ein graddedigion gorau ym maes gwyddoniaeth i ddilyn gyrfa mewn addysg.

Mae hwn yn fater sy’n galw am sylw, a gall fod yn arbennig o ddifrifol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â phynciau gwyddonol unigol, ac mae hynny wedyn yn gwadu cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg rhag gallu astudio tair gwyddor ar wahân, yn hytrach na chael gwybod mai gwyddoniaeth dwyradd yn unig sy’n rhaid iddynt ei wneud. Mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef, ond mae’n un pwysig.

Rwy’n falch iawn eich bod yn adolygu’r cymhellion sydd ar gael. Os ydych am ddilyn gyrfa mewn addysgu gwyddoniaeth yn Lloegr, rydym i gyd yn gwybod bod y bwrsariaethau’n llawer mwy hael nag y maent yma yng Nghymru. Yn wir, os ydych am fod yn athro ffiseg yn Lloegr, gallwch gael bwrsariaeth o hyd at £30,000, o gymharu â chyn lleied ag £11,000 yma yng Nghymru.

Tybed a gaf fi bwyso ychydig arnoch a gofyn i chi beth fydd yr amserlen ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o ystyried bod pobl yn awyddus i wneud y penderfyniadau hyn a chynllunio ymlaen llaw, yn enwedig gyda newidiadau eraill yn y system addysg uwch, fel petai, ar y gweill. A hefyd, pa gamau rydych yn eu cymryd i ysbrydoli plant iau ym maes gwyddoniaeth? Rydym i gyd yn gwybod bod yna ostyngiad wedi bod yn y grant i Techniquest yn ddiweddar, yn y gyllideb. Nawr, mae rhesymau dealladwy am hynny, o ran pwysau ar y gyllideb, ond beth a wnewch i sicrhau bod llefydd sy’n ysbrydoli, fel Techniquest, yn dal yn mynd i allu estyn allan ac ymgysylltu â phobl—pobl ifanc o oedran ysgol gynradd ac oedran ysgol uwchradd—yn y dyfodol?

Wel, diolch i chi, Darren. Rwy’n gobeithio gwneud cyhoeddiad am yr adolygiad o gymhellion i raddedigion yn fuan. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yw deall, os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i fuddsoddi arian ar hyfforddi’r athrawon hyn, nad ydynt yn mynd i ddysgu yn rhywle arall wedyn. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael gwerth da am fuddsoddi yng Nghymru, a bod yr athrawon hyn yn dysgu plant Cymru yn ysgolion Cymru wedyn yn hytrach na defnyddio’r sgiliau hynny yn rhywle arall. Rwy’n hyderus, ar ôl cyfarfod â phrif weithredwr Techniquest, ac er gwaethaf y gostyngiad yn y grant gan Lywodraeth Cymru, y byddant yn parhau i gynnig rhaglen allgymorth uchelgeisiol o’r ganolfan yma yng Nghaerdydd, a cheir llawer o sefydliadau, sefydliadau elusennol, ochr yn ochr â Techniquest sy’n parhau i ddarparu sgyrsiau am wyddoniaeth sy’n dda, yn ymarferol ac yn gyffrous iawn yn yr ysgolion. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad i’r Siambr yn nes ymlaen, yn y modd rydym yn bwriadu manteisio ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach am fyd gwaith, i allu datblygu cysylltiadau rhwng ysgolion a diwydiant. Mae’r diwydiannau gwyddonol a thechnolegol yn enghraifft berffaith o’r modd y dangosir i fyfyriwr os ydych yn dilyn pynciau gwyddonol ac yn rhagori ynddynt, dyma’r mathau o yrfaoedd y gallwch fynd ymlaen i’w dilyn yn nes ymlaen mewn bywyd, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag adnoddau i gefnogi’r gwaith hwnnw.

Diolch i chi, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi na fuasai’n rhaid i ysgolion Cymru wario cymaint o arian ar gyflogi staff cyflenwi pe bai gan ysgolion yng Nghymru fwy o athrawon yn aelodau amser llawn o’u staff?

Yn amlwg, swyddi parhaol, gydag athrawon sy’n adnabod eu myfyrwyr ac yn adnabod eu dosbarthiadau a’u hysgolion yn dda, yw’r ffordd y byddem yn ei ffafrio ar gyfer staffio ein hysgolion. Fodd bynnag, mewn system hunanwella i ysgolion, fe wyddom hefyd ein bod yn awyddus i rai o’n hathrawon symud o un sefydliad i’r llall er mwyn iddynt allu rhannu arferion gorau. Bydd yna adegau pan fydd yn hollol briodol cael absenoldeb wedi’i gynllunio o’r gwaith at ddibenion hyfforddi—secondiad, er enghraifft, i athrawon ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg—ond mae angen gwneud yn siŵr hefyd ein bod yn rheoli absenoldeb wedi’i gynllunio o’r fath a bod ysgolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd staff yn sâl, yn union fel y bydd pob un ohonom weithiau’n mynd yn sâl, ac unwaith eto, mae angen i ysgolion reoli hynny’n briodol.

Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn wyneb y sylwadau gan gyfarwyddwr undeb athrawon ATL Cymru fod cyfran sylweddol o’r arian a werir ar staff cyflenwi yn mynd i lenwi pocedi’r asiantaethau, ac y dylai pob plaid weithio gyda’i gilydd i ddatblygu system sy’n darparu gwell gwerth am arian, sy’n gwobrwyo athrawon cyflenwi’n well, ac sydd, yn anad dim, yn darparu gwell addysg ar gyfer ein plant, pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn fy ngwahodd i a llefarwyr addysg y pleidiau eraill i gydweithio gyda hi ar gynlluniau i fynd i’r afael â’r broblem hon?

Mewn gwirionedd, sefydlodd fy rhagflaenydd, Huw Lewis, grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar fater gwaith cyflenwi. Mae gwaith y grŵp hwnnw wedi dod i ben. Anfonwyd yr adroddiad ataf yn ddiweddar. Rwy’n ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw a’r ffordd ymlaen, ac rwy’n hapus iawn bob amser i gyfarfod â llefarwyr y gwrthbleidiau, neu bobl o feinciau cefn y pleidiau gwleidyddol eraill yn wir, i siarad am unrhyw syniadau da sydd ganddynt i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mae gwaith cyflenwi yn fater pwysig. Rydym yn gwybod ei bod yn gwbl angenrheidiol cael athrawon cyflenwi mewn ystafelloedd dosbarth o bryd i’w gilydd, ond mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hyfforddi’n dda, eu bod yn cael eu talu’n iawn, fod materion diogelu plant priodol wedi cael sylw, ac nad effeithir ar ddysgu plant yn sgil cael athro cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth, a gellir goresgyn hynny drwy gynllunio ac arweinyddiaeth wych yn yr ysgolion unigol.

Ar ddiwedd 2015, dywedodd y Llywodraeth Lafur,

Mae’n bwysig cofio nad yw cyflogi athrawon cyflenwi ymhlith y pwerau sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, sy’n golygu na allwn osod cyfraddau tâl neu orfodi awdurdodau lleol i weithredu cronfeydd o athrawon cyflenwi.

Pe bai’n cael y pwerau hyn fel rhan o ddatganoli pellach, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod set o reolau i ysgolion ar gyfer ymdrin â mater athrawon cyflenwi?

Fel y dywedais, nid ydym yn aros am Fil Cymru a datganoli tâl ac amodau athrawon er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Gweinidog blaenorol ac ar hyn o bryd rwy’n ystyried gwaith y grŵp hwnnw a byddaf yn gwneud datganiad cyn bo hir ar sut y byddwn yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Ond rwy’n awyddus i dâl ac amodau athrawon gael eu datganoli i’r sefydliad hwn. Gadewch i ni fod yn gwbl glir nad oes y fath beth â set genedlaethol o dâl ac amodau. Pan ddywedwn ein bod am i dâl ac amodau athrawon aros yn Llundain, yr hyn rydym yn ei ddweud yw ein bod eisiau system Lloegr yma i Gymru, gan fod gan yr Alban system wahanol eisoes. Rwy’n awyddus iawn i allu datblygu, ar y cyd â’r proffesiwn addysgu, ateb a luniwyd yng Nghymru i faterion yn ymwneud â thâl ac amodau athrawon. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn na fydd unrhyw athro yng Nghymru ar eu colled, ond mae hwn yn gyfle i sicrhau bod tâl ac amodau athrawon yn cyd-fynd â’n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg a rhagoriaeth mewn addysg.

Diolch. Mae fy nghwestiynau i Weinidog y Gymraeg. Roeddech chi, ddydd Gwener diwethaf, yn siarad ar y cyfryngau ac yn sôn eich bod chi’n credu bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhy gymhleth a bod angen adolygu’r ffordd y caiff y safonau iaith eu dylunio a’u gweithredu. A fedrwch chi ymhelaethu ychydig ar y safbwynt yna, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr. Rwy’n credu fy mod i wedi bod yn ddigon clir wrth siarad nifer o weithiau yn fan hyn, ac mewn mannau eraill, fy mod i’n credu ei bod yn amser adolygu’r fframwaith deddfwriaethol presennol sydd gennym ni, ac mae’r safonau yn rhan o hynny. Rwy hefyd wedi bod yn glir mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw edrych ar y strategaeth iaith ac wedyn mae’r ddeddfwriaeth yn dod o hynny. Mi fyddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar y materion yma yn y gwanwyn.

Diolch. Wrth gwrs, nid oes dim byd yn bod efo edrych ar y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio a’i symleiddio os yn bosib, ond mae’n rhaid bod yn ofalus oherwydd, hyd yn hyn, mae yna gwestiwn efallai ynglŷn â pharodrwydd ac ewyllys gwleidyddol y Llywodraeth i weithredu’r Ddeddf, ac felly mae’n bwysig mai pwrpas unrhyw adolygu ydy symleiddio’r broses o weithredu’r Ddeddf ac nid ei gwanhau hi. Yn wir, gellid dadlau bod lle i gryfhau ac ymestyn. Felly, mae’n rhaid gofyn pam mai dim ond un set o safonau sydd wedi cael eu cyflwyno mewn chwe blynedd. Efallai bod y broses yn fiwrocrataidd, ond rwy’n credu bod yna’n fwy na dim ond biwrocratiaeth y tu ôl i’r arafwch. Er enghraifft, y Llywodraeth a wnaeth ddewis gwrthod y safonau drafft a gyflwynwyd gan y comisiynydd, a’r Llywodraeth sydd wedi torri cyllideb y comisiynydd o 32 y cant mewn termau real dros gyfnod o bedair blynedd. A ydych chi’n meddwl bod un set o safonau mewn chwe blynedd yn ddigon da a phryd ydych chi, fel Llywodraeth, am gyhoeddi amserlen a fydd yn arwain at weithredu safonau yn y meysydd gofal, tai, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysys, a chwmnïau nwy a thrydan ac yn y blaen?

Ers i mi fod yn Weinidog yr unig oedi sydd wedi bod oedd oedi ar gais Plaid Cymru er mwyn newid y safonau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer addysg uwch. Rwy’n derbyn eich pwynt ond rwy hefyd yn gwbl glir: nid oes unrhyw ewyllys i arafu nac i beidio â gweithredu’r ddeddfwriaeth. Ond, nid wyf yn credu mai deddfwriaeth yw’r math o fframwaith deddfwriaethol a fydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Rwy eisiau sicrhau bod gennym ni ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gennym ni ffordd o weithredu polisïau i gefnogi’r Gymraeg lle bynnag rydym ni eisiau defnyddio’r Gymraeg, a byddaf yn gwneud hynny trwy Bapur Gwyn yn y gwanwyn.

Rydych yn sôn yn fanna am weithredu ac mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ffordd o weithredu. Mae’r rhain rŵan wedi cael eu cyflwyno gan holl awdurdodau addysg Cymru, ond yn ôl y sôn, maen nhw’n siomedig, a dweud y lleiaf. Nid oes rhaid i mi eich atgoffa chi pa mor allweddol bwysig ydy cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd yr uchelgais o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Cafodd hyn ei bwysleisio eto heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd hefyd yn galw am newid radical i’r system addysg os ydy’r nod i’w gyflawni.

Sut felly ydych chi am gefnogi’r awdurdodau addysg hyn i gryfhau’r cynlluniau o ble y maen nhw ar hyn o bryd? A wnewch chi ystyried rhoi rôl i Estyn, wrth iddyn nhw arolygu awdurdodau addysg, fel efallai bod rôl iddyn nhw fonitro a chynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u gwaith nhw?

Rwy’n hapus iawn i ystyried rôl i Estyn pe bai hynny o gymorth inni yn ystod y broses yma. A gaf i ddweud hyn amboutu’r cynlluniau strategol? Rydym ni wedi derbyn y cynlluniau fan hyn ac rwy’n ystyried y cynlluniau ar hyn o bryd. Pan fyddaf wedi cael cyfle i edrych arnynt yn fanwl, a phan rwy’n teimlo fy mod i’n barod i wneud hynny, byddaf yn gwneud datganiad ar sut rydym yn mynd i symud ymlaen. Rwy’n gobeithio fy mod i’n mynd i fod mewn sefyllfa i wneud hynny yn ystod y mis nesaf.

Consortiwm Addysg Ardal Abertawe

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y consortiwm addysg ar gyfer ardal Abertawe? OAQ(5)0061(EDU)

Diolch i chi, Mike. Mae ERW yn gwneud cynnydd cadarnhaol, fel y cadarnhawyd gan eu harolwg Estyn. Er bod lle i wella, rwy’n hyderus eu bod yn parhau i chwarae rhan bwysig yn darparu canlyniadau gwell ar gyfer dysgwyr. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda hwy i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac i sicrhau’r ymdrech a’r effaith fwyaf ar eu rhan.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Ac a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pam ei bod yn credu bod ardal consortiwm ERW yn fwy addas ar gyfer gwella addysg yn ardal Abertawe na hen ardal Gorllewin Morgannwg neu ddinas-ranbarth Abertawe?

Wel, Mike, fe fydd yn bwysig adolygu’r model cenedlaethol ar gyfer gwaith rhanbarthol yng ngoleuni unrhyw gyhoeddiadau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet, Mark Drakeford, yn eu gwneud mewn perthynas â diwygio llywodraeth leol. Bydd yn bwysig edrych ar statws cyfredol y consortia addysgol rhanbarthol a sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau i barhau i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion, ac a oes yna agweddau eraill ar addysg mewn gwirionedd y gellid eu cyflawni’n fwy effeithiol a strategol drwy awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Fel y dywedais, byddaf yn gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod llywodraeth leol wrth i’r Llywodraeth hon ddatblygu ei rhaglen ddiwygio llywodraeth leol i sicrhau bod rôl consortia addysg yn cyd-fynd yn agos â’r gwaith hwnnw.

Diben ERW yw darparu un gwasanaeth gwella ysgolion proffesiynol, cyson ac integredig. Pa dystiolaeth y mae ERW wedi’i rhoi i chi ei fod wedi gwella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern? Ac os ydych yn gallu cymryd y cwestiwn hwn, pa dystiolaeth y mae wedi’i rhoi i chi ei fod yn gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn Abertawe, gan helpu i greu ymagwedd fwy cadarnhaol mewn ysgolion ac yn yr awdurdod lleol tuag at yr iaith Gymraeg ?

Suzy, fel Gweinidog rwy’n ystyried perfformiad pob un o’n consortia rhanbarthol mewn dwy ffordd bwysig. Y gyntaf yw arolygon annibynnol Estyn o’r consortia. Mewn perthynas ag ERW, canlyniadau Estyn oedd bod eu cymorth ar gyfer gwella ysgolion yn dda, fod eu harweinyddiaeth yn dda, fod eu partneriaethau’n dda, a bod y modd y maent yn rheoli adnoddau’n dda. Fodd bynnag, barnodd Estyn mai digonol oedd gwella ansawdd. Fel gwaith dilynol yn sgil arolwg Estyn, cyfarfûm â’r holl gonsortia rhanbarthol fel rhan o fy nghyfarfod herio ac adolygu, lle rydym yn edrych i weld beth y gallem ei wneud gyda’n gilydd fel Llywodraeth Cymru a’r consortia rhanbarthol i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion ym mherfformiad y consortia ac i sbarduno gwelliant. Rwy’n cyfaddef nad yw ieithoedd tramor modern ac ansawdd addysg Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael eu trafod yn y cyfarfodydd hynny, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda’r dystiolaeth y mae am ei chael.

Yn dilyn cwestiwn Sian Gwenllian i Alun Davies yn gynharach, rydw innau hefyd wedi bod yn edrych ar y strategaethau addysg Gymraeg yn ardal ERW, ac yn benodol felly yn siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont. Mae’n rhaid i mi ddweud mai siomedig iawn, iawn ydy’r lefelau a’r targedau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’r strategaethau yna. Nid ydw i’n credu y gallwn ni orbwysleisio y tanseilio hwn, yn sylfaenol. Os ydych chi’n disgwyl cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif yma, mae’n wirioneddol rhaid diwygio y strategaethau yma achos, ar ddiwedd y dydd, nid oes fawr ddim gweledigaeth yn y fan hyn i godi capasiti ysgolion cynradd Cymraeg o gwbl yn yr ardaloedd yma. Buaswn i’n dwyn perswâd a phwysau enfawr ar y Gweinidog i allu adolygu a newid hynny, os gwelwch yn dda.

Diolch i chi am hynny. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, byddwn yn edrych ar ddigonolrwydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a ddaeth i law. Mae gan y Llywodraeth hon gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod ansawdd yr addysg honno cystal ag y gall fod. Nid yw’n ymwneud yn unig â’i chael yno, Dai; mae’n ymwneud â sicrhau ei bod o ansawdd da pan fydd hi yno. Ni ddylem dderbyn ail orau os ydym wedi penderfynu addysgu ein plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer y rhieni sydd am wneud y dewis hwnnw, ac mae gennym waith i’w wneud i annog mwy o rieni i weld manteision dewis yn gadarnhaol a chael addysg ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg i’w plant. Felly, mae llawer i’w wneud, ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel Llywodraeth Cymru, ar y cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i’n plant.

Darpariaeth Addysg Ôl-16 yn Nhorfaen

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(5)0073(EDU)

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am addysg chweched dosbarth. Wrth gynnig newid rhaid iddynt gydymffurfio â’r cod trefniadaeth ysgolion. Mae achos busnes amlinellol ar gyfer canolfan ôl-16 newydd yn Nhorfaen wedi cael ei gymeradwyo. Rydym yn aros am achos busnes llawn, a dylwn ddweud bod ceisiadau am gyllid cyfalaf yn cael eu trin heb ragfarnu cynigion statudol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r heriau unigryw sy’n wynebu pobl ifanc yng ngogledd Torfaen, nad ydynt wedi cael darpariaeth addysg ôl-16 yn lleol ers 2008, gyda rhai pobl ifanc yn gorfod ceisio cael addysg chweched dosbarth mewn ysgolion eraill, a llawer yn gorfod teithio’n hir ar fws i goleg Crosskeys, sy’n galw am ddwy daith fws yno a dwy daith fws yn ôl bob dydd. Fel y sonioch, mae cyngor Torfaen yn datblygu cynlluniau ar gyfer canolfan ôl-16 i wasanaethu’r holl bobl ifanc yn y fwrdeistref, ac rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth eich rhagflaenydd, Julie James, i helpu i ddatblygu’r prosiect hanfodol hwn. Weinidog, a gaf fi ofyn a ydych am fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn yn Nhorfaen ar frys, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn gwneud yn siŵr fod holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar yr achos busnes terfynol yn cael eu gwneud cyn gynted ag y bo modd?

Rwy’n ddiolchgar i fy nghyfaill a’m cymydog am fy nhemtio i gymryd cam gwag unwaith eto. Fe fydd hi’n gwybod yn iawn na allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynigion ar gyfer newid a allai fod dan ystyriaeth gan awdurdodau lleol; fe fydd y cynigion, neu fe allai’r cynigion hyn, wrth gwrs, gael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru ar gyfer rhai penderfyniadau, ac rydym yn derbyn hynny. Rwy’n ymwybodol bod Torfaen yn ystyried y mater, ac rwy’n credu y bydd y weithrediaeth yn ei ystyried, mewn gwirionedd, yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Gadewch i mi ddweud hyn: rwyf wedi gweld manteision y newidiadau ôl-16 a welsom yn fy etholaeth fy hun ym Mlaenau Gwent a buaswn am weld y manteision hynny’n cael eu hestyn i fyfyrwyr mewn rhannau eraill o’r wlad yn ogystal. Rwy’n credu bod angen i ni sicrhau cysondeb o ran cyfle, cysondeb o ran gwasanaeth a chysondeb o ran y ddarpariaeth. Nid yw cysondeb bob amser yn golygu unffurfiaeth, wrth gwrs, ac fe fydd dewisiadau gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad ac ar gyfer ardaloedd gwahanol. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn ymwybodol o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Dorfaen ac rydym yn ymwybodol o’r ddadl a’r drafodaeth sydd wedi bod yn digwydd gyda Thorfaen. Mae gennym berthynas dda gyda’r awdurdod lleol, sydd ag arweinydd newydd ardderchog yn awr yn Nhorfaen, a gallaf edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r awdurdod lleol yn Nhorfaen i gwblhau’r trafodaethau hyn.

Bydd y ganolfan chweched dosbarth newydd yng Nghwmbrân yn disodli pob chweched dosbarth yn ysgolion cyfrwng Saesneg Torfaen erbyn mis Medi 2019. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda chyngor Torfaen ynglŷn â helpu pobl ifanc gyda chostau cludiant i’r ganolfan newydd o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau tocynnau bws rhad yn Nhorfaen a hefyd yng Nghymru? Diolch.

Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy synnu braidd gan y cwestiwn. Dylai’r Aelodau fod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn siarad yn gyson gydag awdurdodau lleol am y materion hyn. Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Thorfaen am y materion hyn ers peth amser bellach, ac mae hynny wedi’i gofnodi’n gyhoeddus. Byddwn yn parhau i drafod a sgwrsio â’r awdurdod lleol ardderchog yn Nhorfaen, a byddwn yn parhau i wneud hynny nes y byddwn yn hapus â’r canlyniad.

Ymgysylltiad Disgyblion â’r System Addysg

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgysylltiad disgyblion â’r system addysg? OAQ(5)0069(EDU)

Diolch i chi, Janet. Mae ymgysylltu a lles yn ffactorau pwysig wrth gynorthwyo plant i wneud yn dda yn yr ysgol. Gan gydnabod hyn, comisiynodd cylch gwaith Estyn ar gyfer 2016-17 adolygiad i effeithiolrwydd cyfranogiad disgyblion a chynhyrchu canllaw i helpu ysgolion i gynnwys disgyblion mewn dadl ystyrlon. Mae’r adroddiad hwn ar gael yn awr ar wefan Estyn.

Diolch. Mae 1,005 o ddisgyblion bellach wedi’u cofrestru mewn unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru, ac mae nifer y disgyblion yn cynyddu ym mhob grŵp oedran o tua 11 i 15. Mae dros 51 y cant o’r rhai a gofrestrwyd mewn un UCD a thros 40 y cant a gofrestrwyd yn ddeublyg oddeutu 15. Nawr, rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth, lle rwy’n ymdrin ag achosion, fod unedau cyfeirio disgyblion weithiau’n ymddangos yn gyfyngol—nid ydynt yn ymddangos yn gynhwysol, ac mae plant yn teimlo eu bod wedi’u cau allan o’r system addysg. Sut rydych yn gweithio gydag awdurdodau addysg o ran adnoddau fel y gallwn gael system addysg fwy cynhwysol yng Nghymru, system sy’n cydnabod cryfderau, gwendidau ac uchelgeisiau ein holl blant yn y gymdeithas heddiw ac sy’n caniatáu iddynt deimlo’n rhan o’n system addysg prif ffrwd, ac sy’n caniatáu iddynt gael eu haddysgu gyda’u ffrindiau a’u cyfoedion?

Janet, rydych yn codi mater hynod o bwysig. Rwyf am sicrhau fy mod yn llywyddu dros system addysg gynhwysol, a system sy’n diwallu anghenion pob plentyn, ble bynnag y maent yn byw, beth bynnag yw eu dewis iaith ar gyfer astudio neu, yn wir, unrhyw anghenion dysgu ychwanegol neu heriau y maent yn eu hwynebu o ran cael mynediad at eu haddysg. Roedd gan Estyn rai pethau difrifol iawn i’w dweud am yr ansawdd yn llawer o’n hunedau cyfeirio disgyblion a phlant sy’n cael eu haddysgu mewn lleoliadau heblaw yn yr ysgol. Fe fyddwch yn gwybod bod Ann Keane, cyn-brif weithredwr Estyn, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad hwnnw i wneud yr hyn a allwn i wella profiad disgyblion mewn UCDau ond hefyd mewn lleoliadau eraill lle y gwelwn ysgolion neu awdurdodau lleol, yn gynyddol, yn lleoli plant os nad ydynt yn gallu dal eu gafael ar le mewn addysg amser llawn. Mae’r Aelod yn hollol gywir i dynnu sylw at addysg y plant hyn. Mae mwy i’w wneud, a byddaf yn defnyddio rhai o’r adnoddau ychwanegol a gefais gan Ysgrifennydd y Cabinet fel cyllid i weithio ar y maes penodol hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn cytuno bod ymdrechion i ennyn diddordeb disgyblion yn gwella’n fawr os yw rhieni a’r gymuned ehangach yn ymwneud yn agos â’u hysgolion lleol, ac os felly, a wnewch chi weithio i ddyfeisio mecanwaith neu system y gallwn ei defnyddio i fod yn hyderus y bydd ysgolion o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu darparu gyda chysondeb ar draws Cymru.

John, fe fyddwch yn gwybod—gan ein bod wedi trafod hyn o’r blaen—na fydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo ein rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif oni bai bod elfen gymunedol sylweddol ym mhob un o’r cynigion sy’n cael eu cyflwyno. O edrych ar y gwerthusiad o’r grant amddifadedd disgyblion, gydag ysgolion sy’n defnyddio’r grant yn effeithiol, gwyddom fod llawer ohono’n cael ei ddefnyddio ar adeiladu perthynas gref rhwng teuluoedd a’r ysgol i sicrhau eu cefnogaeth i addysg eu plant. Ar y cyhoeddiad a wnaed gennym mewn perthynas â chlybiau bwyd a hwyl yn yr haf, un o elfennau mwyaf llwyddiannus y clybiau hyn yw bod y rhieni yn dod i mewn i’r clwb bwyd a hwyl ar y diwrnod olaf i gymryd rhan yn y cinio a gweithgareddau yn y prynhawn, unwaith eto er mwyn sicrhau ymrwymiad rhieni i’r rhaglenni hynny. Felly, fel Llywodraeth Cymru rydym yn gweithio mewn sawl ffordd—ar elfen ffisegol adeilad yr ysgol, yn ogystal ag ethos yr hyn sy’n digwydd yn yr adeiladau hyn—i adeiladu perthynas gref rhwng rhieni ac ysgolion, oherwydd ein bod yn gwybod mai dyna pryd y bydd plant yn gwneud orau. Nid oes raid eu bod yn mynd i’r ysgol hyd yn oed i fod yn ffocws ar gyfer Llywodraeth Cymru. Gwariwyd arian sylweddol gennym y llynedd, a byddwn yn gwneud hynny eto eleni, ar ddatblygu adnoddau i rieni helpu eu plant i baratoi ar gyfer bywyd yn yr ysgol, a’r hyn y gallant ei wneud fel rhieni i wneud y pontio o’r cartref i’r ysgol mor llwyddiannus ag y gall fod. Felly, byddwn yn parhau i weithio ar nifer o raglenni i gefnogi teuluoedd i gynorthwyo eu plant i fod y gorau y gallant fod yn yr ysgol.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0070(EDU)

Diolch i chi, Nick. Bydd buddsoddiad o fwy na £1.4 biliwn ym Mand A y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr 21ain Ganrif dros bum mlynedd y rhaglen, a fydd yn dod i ben yn 2019. Hyd yma, mae cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 127 o’r 150 o brosiectau yn y rhaglen, ac mae 102 o’r rheini naill ai wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu wedi cael eu cwblhau.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella’n anfesuradwy, yn y lle cyntaf, ysgolion cynradd yn Sir Fynwy, ac mae Ysgol Gyfun Trefynwy bellach yn cael ei hailadeiladu, gydag ysgolion cyfun eraill yn gorfod aros. Mae’n dal i fod problem wirioneddol gyda phresenoldeb asbestos mewn ysgolion ledled Cymru. Sut y gwnewch chi sicrhau bod cyllid rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei dargedu yn y ffordd orau, fel bod problemau gwirioneddol fel asbestos yn cael eu trin yn gyntaf ac yn cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru ?

Diolch i chi, Nick. Rwy’n falch eich bod wedi cydnabod y cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Sir Fynwy. Mae cyllid o tua £93.4 miliwn wedi’i ymrwymo ar gyfer Sir Fynwy, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £45.6 miliwn tuag at gyfanswm costau’r adeiladau newydd yn eich etholaeth, sy’n swm sylweddol o arian. Mae cyflwr adeilad ysgol yn un o’r ffactorau sy’n blaenoriaethu safle rhaglen adeiladu ysgol yn y rhaglen. Felly, mae safon yr adeilad ysgol a’i gyflwr gwael yn ffactor pwysig. Dylid cofio nad yw asbestos yn creu risg os caiff lonydd a’i gadw yn ei le a’i reoli’n ddigonol, ond fel y dywedais, mae awdurdodau lleol unigol yn cynnal arolwg ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynorthwyo yn y broses honno i edrych ar gyflwr adeiladau ysgol, ac mae hynny’n ffactor pwysig wrth ennill cymeradwyaeth ar gyfer cais o dan raglen ysgolion yr 21ain Ganrif.

Ysgogi Graddedigion i Weithio yng Nghymru

8. Pryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei chynlluniau, yn unol ag argymhelliad Adolygiad Diamond, i ysgogi graddedigion i weithio yng Nghymru, neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru? OAQ(5)0068(EDU)

Diolch yn fawr, Adam. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru i holl argymhellion adolygiad Diamond ar 22 Tachwedd. Rwy’n gwahodd unrhyw un sydd â chynigion penodol ar gymhellion i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Chwefror. Yna bydd angen i mi ystyried yr ymatebion cyn i mi amlinellu’r camau nesaf.

Rydw i’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb hi. A ydy’r Llywodraeth wedi comisiynu gwaith ymchwil? Er enghraifft, mae yna nifer fawr o gynlluniau sydd â’r nod creiddiol yma o ddenu graddedigion neu eu cadw nhw o fewn i wlad ar ôl graddio ar draws y byd. Rydw i’n ymwybodol, er enghraifft, bod dros 40 o daleithiau yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio gwahanol fathau o faddeuant ar ddyledion, gan amlaf—dyna’r erfyn mwyaf amlwg. Mae yna, wrth gwrs, fudd economaidd a chymdeithasol cryf i’r math yna o gynlluniau. A allem ni gael astudiaeth sy’n gosod gorolwg fel ein bod ni’n gallu dewis yr opsiwn gorau i Gymru?

Diolch. Credaf ei bod yn bwysig nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn amharod i ystyried defnyddio cymhellion i ddenu pobl i Gymru. Buom yn siarad yn gynharach am gymhellion hyfforddi athrawon, ac yn ddiweddar, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod o’r Cabinet raglen newydd a fydd yn sicrhau bod myfyrwyr nyrsio yn cael cynnig am fwrsariaeth nyrsio, nad yw ar gael ar draws y ffin yn Lloegr, os ydynt yn ymrwymo i barhau i gyfnod o ddwy flynedd o waith yn y GIG yng Nghymru ar ôl cymhwyso.

Fel y nodais yn fy ymateb i Diamond, rwy’n awyddus i weithio ar draws y Llywodraeth a chydag eraill yn yr adeilad hwn, a’r tu allan i’r adeilad hwn, i edrych ar y mater. Fodd bynnag, dylwn ddweud bod Diamond yn eglur mai’r hyn sy’n sicrhau’r effaith orau a’r gwerth gorau am fuddsoddiad y Llywodraeth yw cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, yn hytrach na pharhau i wneud yr hyn roeddem yn ei wneud, i bob pwrpas, sef dileu dyled benthyciadau i raddedigion. Byddwn yn parhau i gynnig dileu £1,500 i holl fyfyrwyr Cymru pan fyddant yn dechrau talu eu dyledion, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau system sefydlog a chynaliadwy o gyllid addysg uwch sy’n cyflawni ar gyfer myfyrwyr, prifysgolion a’r pwrs cyhoeddus. Ond rwy’n agored i awgrymiadau ymarferol, cynaliadwy a fforddiadwy ynglŷn â sut y gallem ddefnyddio system o gymhellion yn y ffordd a awgrymir gennych.

3. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Aelodau’r Cynulliad, cefais y pleser o gynrychioli etholaeth sy’n gartref i barc cenedlaethol Eryri, sy’n darparu profiad unigryw i ymwelwyr a chynefin naturiol diogel ar gyfer llawer o fflora a ffawna prin ein cenedl, a hyn oll gan warchod a gwella ein harddwch naturiol a’n treftadaeth ddiwylliannol, a’i gynllun datblygu lleol ei hun. Mae un rhan o bump o’r parc yn cael ei ddiogelu’n statudol am ei fywyd gwyllt a’i ddiddordeb daearegol, sy’n cynnwys 107 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, cyfanswm o dros 62,500 hectar, a 21 o warchodfeydd natur cenedlaethol, gyda rhai o’r ecosystemau naturiol a lled-naturiol mewndirol ac arfordirol pwysicaf ym Mhrydain. Mae’r parc yn denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau ei dirwedd anhygoel a’r amrywiaeth o weithgareddau. Mae mwy na 360,000 o gerddwyr yn dringo copa’r Wyddfa bob blwyddyn, ac mae’r parc yn un o’r cyrchfannau gorau yn y byd ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon antur. Gyda’i gilydd, mae ein parciau cenedlaethol yn cynhyrchu £557 miliwn o werth ychwanegol gros. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol iawn cymaint y mae’n rhaid i gyrff rheoli ein parciau ymdrin â materion mwyfwy cymhleth ac amrywiol ar adeg pan fo llai a llai o arian ar gael. Wrth groesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar broses o adolygu tirweddau dynodedig yng Nghymru, rydym yn croesawu’r adroddiad sydd ar y ffordd ac rydym yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio arno gyda’ch nodau chi. Ond rwy’n gadarn—

Ar 4 Tachwedd, gyda channoedd o bobl eraill, mynychais angladd un o fy etholwyr yn Ystrad Mynach, Cyril Thomas, a fu farw ar 12 Hydref y llynedd. Roedd Cyril yn gyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Lewis i Fechgyn yn fy etholaeth, lle bu’n dysgu hanes ac addysg grefyddol. Yn frawd i’r cyn-bencampwr paffio, Eddie Thomas, gweithiodd Cyril fel glöwr cyn dod yn athro a bu’n llywydd yr ysgol dros gyfnodau anodd i’r proffesiwn addysg yn y 1980au a dechrau’r 1990au.

Fodd bynnag, defnyddiodd Cyril rym ei bersonoliaeth a’i ofal am ei ddisgyblion i wneud gwahaniaeth parhaol a chadarnhaol i’w bywydau, rhywbeth y byddant yn ddiolchgar amdano am byth. Nid oes ond raid i chi edrych ar nifer y teyrngedau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol i Cyril gan gyfeillion, cydweithwyr a chyn-ddisgyblion i weld pa mor boblogaidd yr oedd a chymaint y câi ei werthfawrogi. Yn wir, yn fuan ar ôl iddo farw, rhoddwyd teyrnged iddo yn y Western Mail. Mae’n amlwg fod Cyril yn deall bod y grefft o addysgu a dysgu yn ymwneud â mwy na chanlyniadau arholiadau’n unig. Roedd yn ymwneud â phrofiad ehangach yr ysgol, ennill parch myfyrwyr ac yn ei dro, ei roi yn ôl iddynt, beth bynnag fo’u cefndir.

Roedd Cyril yn ganwr brwd ac yn bregethwr lleyg y tu allan i’r ysgol ac yn nes ymlaen yn ei fywyd, roedd ganddo golofn wythnosol yn y papur lleol am fywyd cymunedol Ystrad Mynach. Bydd colled fawr ar ôl Cyril, ond fe ysbrydolodd genhedlaeth o blant. Bydd y cof amdano’n parhau yn y gymuned leol ac yn y cyfan y bydd ei gyn-ddisgyblion wedi ei gyflawni.

Hoffwn ddefnyddio fy natganiad 90 eiliad cyntaf i dalu teyrnged i Rebecca Evans, a laddwyd mewn damwain car ar yr M4 ym Mhort Talbot y llynedd, ynghyd â’i baban wyth mis yn y groth. Bydd llawer o Aelodau yn y Siambr yn adnabod Rebecca drwy ei gwaith fel swyddog addysg ac ieuenctid Shelter Cymru. Yn wir, cefais sawl cyfarfod â hi i drafod fy Mil addysg ariannol. Roedd hi a’i gŵr, Alex, ar eu ffordd i’r gwaith yn Shelter Cymru pan ddigwyddodd y ddamwain, ac anafwyd eu mab dwyflwydd oed yn ddifrifol hefyd.

Dim ond 27 oed oedd Rebecca, ond dros y pum mlynedd y bu’n gweithio i Shelter Cymru, adeiladodd ei wasanaeth gwybodaeth addysg ac ieuenctid, sydd, yn ei dro, wedi helpu miloedd o bobl ifanc i ddeall y camau ymarferol sydd angen iddynt eu cymryd i fyw’n annibynnol. Dywedodd ei chydweithwyr trallodus y buasai llawer o bobl ifanc wedi wynebu digartrefedd a dyfodol ansicr heb ei hangerdd a’i hymrwymiad hi.

Ymgyrchodd hefyd gyda phobl ifanc dros gynnwys cymorth ymarferol ar gyfer gadael cartref yng nghwricwlwm Cymru. Un o’r pethau diwethaf a wnaeth Rebecca oedd gwaith gydag uned cyfeirio disgyblion Abertawe, i helpu pobl ifanc i ennill cymhwyster addysg bersonol a chymdeithasol Agored Cymru mewn digartrefedd a thai, uned a gynlluniwyd ganddi hi ei hun. Dywedodd gweithwyr yr uned wrth Rebecca fod ei phenderfyniad wedi cael pob un ohonynt drwy’r cymhwyster hwn, ac ni fyddai’n troi ei chefn ar neb a byddai bob amser yn dod o hyd i ffordd o wneud i bethau weithio.

Roedd Rebecca, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn rhan o Encore, ysgol berfformio Gymraeg a Saesneg i ddarpar sêr ifanc rhwng 4 a 18 oed. Roedd hi’n ddawnsiwr medrus hefyd. Rwy’n credu y bydd yr holl Aelodau’n cytuno y bydd Cymru’n dlotach yn sgil marwolaeth Rebecca.

5. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Parodrwydd y GIG ar gyfer y Gaeaf

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl yn enw’r Ceidwadwyr Cymreig, ac rydw i’n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6195 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i’r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy’n nodi: ‘Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol’, ac; ‘Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.’

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, ers cyflwyno’r cynnig hwn, mae pwysau’r gaeaf wedi cyrraedd y penawdau yng Nghymru ac yn Lloegr. Ac i fod yn onest, buaswn yn disgwyl bod yna bryderon ar draws y pedair gwlad. Gofynnwn am y newyddion diweddaraf gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut rydych yn meddwl y mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ymdopi a pha dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’ch safbwyntiau. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n ymwybodol iawn fod byrddau iechyd yn addo eu bod yn barod ar gyfer pwysau’r gaeaf, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae gennym sefyllfa lle y caiff pobl anhawster i roi a chael y lefelau cywir a diogel o wasanaeth.

Fel y dywedais ddoe, mae cael trafodaeth gyhoeddus mewn ymateb i bryderon cyhoeddus iawn—ac nid oes ond angen i chi edrych ar dudalen flaen y ‘Western Mail’ heddiw i ddeall y pwysau y mae staff yn teimlo bod yn rhaid iddynt weithredu oddi tano—. Nid yw cael y ddadl gyhoeddus honno yn taflu goleuni negyddol mewn unrhyw fodd ar staff yn y GIG. Y gaeaf hwn, fel mewn gaeafau blaenorol, mae llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i’r hyn y mae dyletswydd yn galw amdano. Maent wedi camu i’r adwy pan fo cydweithwyr yn dioddef o ffliw, maent wedi ymdrin â rhieni pryderus plant ifanc ofnus sy’n dioddef o bronciolitis, haint sy’n digwydd bob gaeaf, ac maent wedi cynnal ein haelodau mwy oedrannus ac agored i niwed o’r gymdeithas y mae’r gaeaf yn gallu bod mor anodd iddynt. Hoffwn ddiolch i’r holl staff rhagorol sy’n gweithio yn ein hysbytai, ein meddygfeydd, ein cartrefi nyrsio a’n hambiwlansys. Rydych i gyd yn glod i’ch proffesiwn, ac nid yw’r ffaith ein bod yn trafod y mater hwn yn adlewyrchiad ar eich gallu na’ch ymroddiad i’ch swyddi mewn unrhyw fodd. Rydych i gyd yn gweithio o dan bwysau aruthrol ac ar ôl bod yn ddefnyddiwr GIG amharod ond rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ni allaf ganmol digon ar y gwaith a wnewch.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd Coleg Brenhinol y Meddygon ymhlith llawer iawn o sefydliadau, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, y Coleg Nyrsio Brenhinol—a gallwn barhau â’r rhestr—a oedd yn nodi’r un pryderon yn eu hanfod am barodrwydd, lefelau staffio, niferoedd y gwelyau sydd ar gael, hyfforddiant a chyllid yn ystod tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r pwyllgor iechyd. Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon:

Mae’r heriau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu pwysau ehangach ar y GIG a gofal cymdeithasol.

Ac aethant ymlaen i ddweud:

Mae byrddau iechyd yn gweithredu mewn cyd-destun sydd wedi’i danariannu a’i orymestyn, a lle na cheir digon o feddygon.

O ystyried yr adroddiadau rydym yn eu cael yn ein hetholaethau, y straeon sy’n dod i’r amlwg yn y cyfryngau a’r pryderon sy’n cael eu mynegi gan lu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, rwy’n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am werthusiad gonest o sut y teimlwch y mae’r GIG yng Nghymru wedi perfformio y gaeaf hwn hyd yn hyn o dan eich goruchwyliaeth chi. Sut y mae’n ymdopi, ac a ydych yn teimlo ei fod mewn sefyllfa ddigon iach i allu ymdopi dros weddill tymor y gaeaf?

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, mewn tystiolaeth a roddodd i’r pwyllgor ac mewn sesiynau briffio pellach, yn nodi bod gormod o welyau ysbyty wedi’u cau dros y degawd diwethaf ac mae

diffyg buddsoddiad a chapasiti mewn gofal cymdeithasol yn effeithio’n gynyddol ar y ddarpariaeth gofal iechyd, yn enwedig ar adegau brig.

Eto i gyd, mewn tystiolaeth a roddwyd gennych ar 17 Tachwedd, fe ddywedoch:

nid ydym yn credu bod yna dystiolaeth fod capasiti drwy gydol y flwyddyn wedi’i orymestyn o ran ein niferoedd. Fodd bynnag, rydym bob amser yn edrych i weld a oes gennym y lefel gywir o gapasiti gwelyau yn rhan o’r system.

A ydych yn dal i arddel y safbwyntiau hyn, er bod Cymdeithas Feddygol Prydain i’w gweld yn meddwl fel arall?

Nawr, rwy’n cytuno bod llawer o’r sefydliadau hyn yn dweud bod y GIG o dan bwysau o’r fath drwy gydol y flwyddyn, ond mae ffurf y pwysau’n newid yn y gaeaf, gyda llawer mwy o unigolion ar ddau ben y sbectrwm yn wynebu risg—naill ai’r ifanc iawn neu’r hen iawn. Mae cymdeithas wedi newid a bellach, mae gan Gymru boblogaeth gynyddol o bobl sy’n heneiddio ac sydd, felly, yn fwy bregus, a golyga hyn fod yna anghenion mwy cymhleth a chynnydd yn nifer yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o salwch cyfyngol hirdymor yn y DU. Yn y naw mlynedd rhwng 2001-02 a 2010-11, cynyddodd nifer y bobl â chyflyrau hirdymor neu gronig o 105,000 i 142,000, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau.

Ac yn olaf, mae’r coleg pediatreg ac iechyd plant wedi tynnu sylw at y galw cynyddol gan blant a phobl ifanc am wasanaethau, ac maent yn mynd rhagddynt i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn teimlo bod nifer y gwelyau dibyniaeth uchel ac unedau gofal dwys yn annigonol. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe gofynnais nifer o gwestiynau i chi yn ystod y cwestiwn brys, a hoffwn gael eglurhad pellach ar rai ohonynt. Rydych yn derbyn bod nifer y gwelyau wedi gostwng, ond rydych wedi dweud bod arian yn cael ei glustnodi ar gyfer gwelyau yn ystod misoedd y gaeaf rhag ofn y bydd galw ychwanegol. A allwch ddweud wrthyf a ydych yn teimlo bod yna bellach ddigon o welyau ar gael yn y GIG yng Nghymru ac yn fwy penodol, a ydynt ar gael yn y lleoliadau cywir—yn y gymuned ac mewn gofal eilaidd? Mae’n hawdd cael gwelyau gwag ar gyfer cleifion, ond os nad ydynt wedi’u lleoli lle rydym fwyaf o’u hangen, cânt eu gwastraffu. Ddoe, gofynnais ynglŷn ag unedau asesu pobl oedrannus a bregus, y gellid eu sefydlu mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar adegau brig. Defnyddir unedau tebyg eisoes mewn ysbytai mewn rhannau eraill o’r DU. A gaf fi ymrwymiad wedi’i gofnodi i ystyried y dull hwn o weithredu, a allai helpu i leddfu’r pwysau uniongyrchol ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd a sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn fwy effeithlon, pwynt a wnaed ddoe gan y coleg meddygaeth frys?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd yr ymgynghorir â meddygon teulu, a pha bryd, wrth gynllunio ar gyfer ateb y galw am wasanaethau. A ydych yn annog byrddau iechyd i gynnwys uwch feddygon teulu yn ystod y cyfnod cynllunio, gan y bydd ganddynt farn wahanol iawn i staff ysbytai ar yr hyn a olygir wrth bwysau, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod pob rhan o’n GIG yn symud i’r un cyfeiriad ac yn dilyn yr un canllawiau ac argymhellion? Ac yn ystod y dystiolaeth a gawsom, roedd y meddygon teulu yn dweud yn glir iawn nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn rhan o’r paratoadau ar gyfer y gaeaf.

Byddwn yn cefnogi dau welliant Plaid Cymru yn llawn ac er y gallwn gefnogi bron bob un o welliannau’r Llywodraeth, nid wyf yn gweld y dystiolaeth dros y datganiad eich bod yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn y GIG. Mae ystadegau sydd gennyf yn dangos bod y cyllid eleni yn llai nag ar gyfer 2014-15 ac mae blynyddoedd o danariannu wedi arwain at y sefyllfa hon. Rwy’n falch eich bod yn galw arnoch eich hunain i ddarparu’r adroddiad statws hwn y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn amdano gan fy mod yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, oni bai eich bod chi’n cynnal y pwysau ar fyrddau iechyd, ni welwn unrhyw obaith y glynir at y cynlluniau y mae cyn lleied o’r gweithwyr proffesiynol yn honni eu bod wedi cael rhan ynddynt. Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl ‘pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol’ ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i’r GIG a’r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio’n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o’r radd flaenaf i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf.’

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 3, ar ôl ‘Byrddau Iechyd Cymru’, rhoi ‘a gwasanaethau gofal cymdeithasol’.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Yn naturiol, rydym yn sôn am barodrwydd y gwasanaeth iechyd gogyfer y gaeaf. Fel fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor iechyd, bydd pawb yn ymwybodol ein bod ni wedi bod yn cario ymlaen gydag adolygiad dros yr wythnosau diwethaf i’r mater yma. Wrth gwrs, mae’n wir i nodi, fel y cawsom dystiolaeth gerbron, bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o dan straen anferthol drwy’r flwyddyn, a dweud y gwir. Ond mae yna ambell bigyn yn digwydd wedyn amser y gaeaf.

Yn yr amser sydd gennyf, roeddwn yn mynd i nodi, ac yn dilyn ein gwelliant ni sydd yn olrhain pwysigrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol i hyn oll, bod yna berygl weithiau i’r rheini ohonom sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd i jest fynd ymlaen ac ymlaen am y gwasanaeth iechyd. Ond os nad ydym yn mynd i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol yn iawn, bydd hynny’n tanseilio holl ymdrechion y gwasanaeth iechyd i fynd i’r afael â’r materion yma. Yn benodol, felly, mae angen ehangu’r ddarpariaeth yn y gymuned o’n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y lle cyntaf, i atal rhai pobl rhag gorfod mynd rhywle yn agos i ysbyty yn y lle cyntaf. Felly, trio gwella gofal yn y gymuned. Mae hynny i lawr i’r meddygon teulu a’u timau hwythau, ond hefyd i lawr i ofal cymdeithasol yn y gymuned i alluogi pobl i aros yn eu cartrefi. Mae yna waith clodwiw yn mynd ymlaen, ond mae angen rhagor o’r ddarpariaeth yna i atal pobl rhag gorfod mynd unlle’n agos i ysbyty yn y lle cyntaf.

Wrth gwrs, yr ochr arall wedyn: pan mae pobl yn barod i ddod adref o’r ysbyty. Mae angen ehangu’r ddarpariaeth yna hefyd sydd o ochr y gofal cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth drosglwyddo cleifion i fynd adref. Yn benodol, felly, buaswn yn leicio gweld—ac rwyf wedi sôn am hyn o’r blaen—gweithwyr cymdeithasol ym mhob meddygfa deulu a hefyd gweithiwr cymdeithasol ar bob ward yn ein hysbytai ni. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai trefnu sut mae’r claf yna yn mynd adref mewn amser prydlon. Mae yna wahanol gynlluniau yn mynd rhagddynt yma yng Nghymru. Prosiectau yng Nghaerffili—rwyf wedi clywed am un sy’n cydweithio ac yn annog rhagor o weithwyr cymdeithasol yn ein meddygfeydd teuluol a hefyd yn ein hysbytai ac mae’n gwella’r ddarpariaeth ac yn gwella profiad y claf o’r gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl. Mae hynny o ochr y gwasanaethau cymdeithasol.

Wedi olrhain pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol, y peth arall sy’n bwysig adeg y gaeaf ydy bod pawb sy’n teilyngu cael brechiad yn erbyn y ffliw yn derbyn brechiad yn erbyn y ffliw. Mae hynny’n nifer fawr: pob un sy’n hŷn na 65 mlwydd oed, sydd â gwahanol gyflyrau tymor hir megis cyflyrau’r ysgyfaint a’r galon a’r clefyd melys ac ati, ond hefyd y staff yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Cawsom ddigon o dystiolaeth fod cyfartaledd nifer y staff yn y gwasanaeth iechyd a oedd yn derbyn brechiad i atal y ffliw yn gallu bod yn isel iawn mewn rhai mannau. Wedyn, mae eisiau dwyn perswâd, achos ar ddiwedd y dydd rydym eisiau cadw ein staff yn iach hefyd.

Fy mhwynt olaf i yn yr amser sydd gerbron yw i sôn wlâu, achos mae’r system o dan bwysau achos diffygion yn y capasiti. Un o’r rheini ydy gwlâu—ie, gwlâu yn ein hysbytai ni ac hefyd gwlâu yn gymunedol mewn gwahanol gartrefi preswyl ac ati. Rwyf yn gwybod fy mod wedi bod yn sôn am brinder gwlâu ers blynyddoedd. Mae pobl wastad yn fy nghyhuddo i o orsymleiddio’r broblem: ‘Mae’n llawer mwy na jest sôn am wely, Dr Lloyd’, maen nhw’n ei ddweud. Ond ar ddiwedd y dydd, y rhan fwyaf o’r amser, rydym ni jest eisiau gwely a dweud y gwir. Mi allwch chi sôn am ba fath o wely a phwy sy’n mynd i’w staffio fo, ond ar ddiwedd y dydd, rydym ni wedi gweld erydu yn y nifer o wlâu sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd a hefyd mewn gofal cymdeithasol. Mae yna ddisgyn yn y nifer o wlâu ac eto mae yna gynnydd yn y nifer o gleifion. Wel, nid yw hynny’n mynd i ffitio at ei gilydd ac mae’n rhaid i ni—David.

Diolch i’r Aelod am yr ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cytuno bod nifer y gwelyau’n lleihau—fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn cydnabod, cawn wybod yn aml po fwyaf o welyau sydd gennych y mwyaf y byddwch yn eu llenwi. Ond hefyd mae yna gwestiwn difrifol ynglŷn â staffio a’r gofynion nyrsio i wneud yn siŵr fod gwelyau wedi’u staffio’n ddiogel. Mae honno’n broblem sy’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi hefyd, ‘does bosibl.

Ie, buaswn i’n berffaith fodlon derbyn y pwynt yna. Wrth gwrs, rydym ni’n wastadol yn derbyn y pwynt yna, ond weithiau rydym ni’n colli’r ffaith bod angen mwy o wlâu arnom ni ta beth. Mae’r system ar ei mwyaf effeithlon pan mai 85 y cant o’r capasiti o ran gwlâu sydd yn llawn. Mae angen rhyw fath o lacrwydd a hyblygrwydd yn y system—pan mae popeth yn llawn o hyd, nid oes yna ddim yr hyblygrwydd yna i allu ymateb i wahanol argyfwng. Diolch yn fawr.

A gaf fi ddweud fy mod yn ei chael hi’n dra eironig mai’r blaid sy’n Llywodraeth yn San Steffan sy’n cyflwyno’r cynnig hwn ar gefn heriau sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru—yr un blaid sydd nid yn unig wedi torri cyllid yn gyson i Gynulliad Cymru ond sydd hefyd wedi goruchwylio dros yr argyfwng mwyaf sy’n wynebu’r GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr yn ystod ein hoes yn ôl pob tebyg?

Ond yma yng Nghymru, wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau ac nid pwysau’r gaeaf yn unig sy’n rhoi straen ar y GIG a gwasanaethau gofal. Mae galw cynyddol am wasanaethau yn ganlyniad i lwyddiant y GIG a’r sector gofal yn cadw pobl yn fyw yn hwy. Ynghyd â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae gennym gleifion sydd â chyflyrau mwy cymhleth a difrifol a dwys. Mae’r realiti hwn na ellir ei osgoi o alw cynyddol ac anghenion cymhleth yn her i’r sector iechyd a gofal drwy gydol y flwyddyn ac mae’r pwysau cyson yn cynyddu’n anochel yn ystod misoedd y gaeaf pan fo’n rhaid i’r GIG ymdopi hefyd â lefelau uwch o absenoldeb staff oherwydd salwch. Nid oes neb yn dweud ychwaith nad oes yna her yma yng Nghymru hefyd o ran recriwtio mwy o feddygon a gweithwyr proffesiynol eraill yn y GIG—

Ddim ar hyn o bryd, na wnaf. Roedd llawer o’r sylwadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn nodi cynllunio ar gyfer y gweithlu a phrinder staff fel mater allweddol i’n gwasanaethau gofal drwy gydol y flwyddyn.

Fodd bynnag, yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw Llywodraeth sy’n barod i ddyrannu cyllid ychwanegol a chyflwyno deddfwriaeth a chynlluniau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Roedd themâu cyffredin eraill yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn cynnwys potensial fferyllwyr a staff gofal eraill i ryddhau gwasanaethau meddygon teulu a’r angen am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well.

Nawr, yn fy etholaeth i, roedd bwrdd iechyd Cwm Taf yn rhan o gynllun peilot llwyddiannus lle roedd meddygon teulu’n brysbennu cleifion at sylw’r fferyllfa lle roedd hynny’n briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno’r cynllun Dewis Fferyllfa ymhellach ar draws rhannau eraill o Gymru. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr lle y cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan doriad yn y cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd yno. Yn arwyddocaol, mae gennym £60 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y gronfa gofal canolraddol arloesol y nododd y rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ei bod yn hanfodol i leddfu pwysau bob dydd ar ein gwasanaethau iechyd.

Felly, yr hyn y gallwn ei ddangos yma yng Nghymru yw mesurau i fynd i’r afael â’r problemau sy’n creu heriau gwirioneddol i’r GIG drwy gydol y flwyddyn, ond sy’n gwaethygu yn ystod misoedd y gaeaf. Rwyf wedi cyfeirio at rai o’r cynlluniau hynny eisoes ond mae mesurau eraill yn cynnwys y Ddeddf lefelau staff nyrsio; ymestyn y bwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd, wrth gwrs, wedi cael eu diddymu gan y Torïaid yn Lloegr; buddsoddi mewn gofal sylfaenol gyda chynllun gofal sylfaenol a’r gweithlu wedi’i gefnogi gan £43 miliwn; meddygfeydd teulu yn cael cynnig mynediad at becyn cymorth newydd; hyrwyddo’r ymgyrch Dewis Doeth i geisio lliniaru’r pwysau ar y gwasanaethau brys; £50 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw yn ystod misoedd y gaeaf; a sicrhau bod gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaeth ambiwlans Cymru gynlluniau wedi’u diweddaru a’u hintegreiddio ar gyfer y gaeaf. Mae’r holl gynlluniau hyn yn ymwneud ag atebion mwy hirdymor i’r heriau a wynebir gan ein gwasanaethau iechyd a gofal, ac maent yn rhan ganolog o’r £50 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd i helpu i ymdopi â phwysau’r gaeaf. Wrth gwrs, gyda’r holl gynlluniau hyn, dylem gydnabod bob amser na fuasent yn cynhyrchu’r effaith a ddymunir pe na baent yn seiliedig ar ymroddiad aruthrol yr holl staff sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal—

Na, nid oes gennyf ddigon o amser.

Felly, er nad oes neb yn bychanu’r heriau y mae pwysau’r gaeaf yn eu gosod ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol—yn hirdymor ac yn gynaliadwy—er mwyn osgoi’r math o argyfwng a wynebir ar hyn o bryd gan y GIG a’r sector gofal yn Lloegr.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Hyd yn hyn, mae gaeaf 2016-17 wedi bod yn un mwyn ac ar wahân i ogledd-ddwyrain Cymru, ni fu unrhyw achosion difrifol o salwch tebyg i ffliw. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi lleihau pwysau ar ein GIG. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn fel na all y system ymdopi â chynnydd tymhorol yn y galw. Os gwelwn gynnydd sydyn yn y galw tymhorol y gaeaf hwn, rwy’n ofni efallai na fydd ein GIG yn gallu ymdopi.

Ar y pwynt hwn, hoffwn gofnodi fy niolch i’n staff iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig sy’n gweithio’n anhygoel o galed drwy gydol y flwyddyn, ond hyd yn oed yn fwy felly ar yr adeg hon o’r flwyddyn, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal ardderchog er gwaethaf y pwysau. Yn wir, pe na bai ein staff iechyd a gofal cymdeithasol mor ymroddedig a gweithgar, buasai ein system gofal iechyd wedi chwalu amser maith yn ôl.

Nid yw’r buddsoddiad yn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol wedi dal i fyny â’r galwadau ar y system, ac fe’i gwaethygwyd gan gynllunio strategol gwael gan lywodraethau olynol. Un o’r penderfyniadau gwaethaf sy’n effeithio ar y GIG oedd lleihau capasiti gwelyau dros y ddau ddegawd diwethaf a chau ysbytai bwthyn. Mae hyn wedi’i waethygu gan ddiffyg buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol. Yn draddodiadol, yr ateb i bwysau’r gaeaf yw cynyddu capasiti drwy ganslo llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys. Dyma ymagwedd fyrdymor o’r math gwaethaf. Mae’n arwain at fwy o drallod i’r rhai ar restrau aros a gohirio’r broblem yn unig a wna, yn hytrach na’i datrys. Croesewir y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phwysau’r gaeaf, ond ateb byrdymor yn unig fydd hyn oni bai ein bod yn mynd i’r afael â thanariannu gofal cymdeithasol ac yn cynyddu capasiti ein hysbytai.

Mae gennym boblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, felly oni bai ein bod yn rhoi camau radical ar waith yn awr, bydd y straen ar ein GIG yn ei chwalu. Diolch yn fawr.

Mae’n wirionedd amlwg fod mwy o alw tymhorol yn rhoi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes o dan bwysau, gan arwain at amseroedd aros hir i gleifion. Fel y rhybuddiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru fis Hydref diwethaf, mae’r henoed bregus a chynnydd mewn cyflyrau anadlol yn arwain at dderbyn mwy o gleifion gyda chyflyrau gwahanol yn ystod y gaeaf. Mae meddygon teulu yn nodi anhawster i drefnu i gleifion gael eu hasesu neu eu derbyn drwy gydol y flwyddyn. Mae’n bosibl y bydd cleifion o’r fath yn cael eu cyfeirio yn y pen draw at yr adrannau brys lle y byddant yn ymuno ag eraill sy’n aros i wely ddod ar gael yn yr ysbyty. Dywedodd datganiad polisi cyhoeddus Age Cymru ar dlodi tanwydd fis Medi diwethaf fod tlodi tanwydd yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru—y grŵp sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil hyn—ac mae’n achosi cryn dipyn o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Roedd 90 y cant o’r 16,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yng Nghymru dros y degawd diwethaf yn bobl dros 65 oed, gyda’r gyfradd uchaf yn bobl dros 85, sef bron i 50 y cant o’r cyfanswm.

Yn 2012, amcangyfrifwyd bod bron i 30 y cant o gartrefi yng Nghymru yn wynebu tlodi tanwydd, ac yn gwario 10 y cant neu fwy o incwm yr aelwyd ar danwydd er mwyn cynnal digon o wres i sicrhau cysur ac iechyd. Yn sgil cynnydd yn incwm aelwydydd a gostyngiad ym mhrisiau tanwydd, disgynnodd y nifer i 23 y cant yn 2016, ond mae’n dal i fod yn 291,000 o gartrefi, gyda 43,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. Ni chyrhaeddwyd targedau Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi tanwydd i bob cartref sy’n agored i niwed erbyn 2010 a thai cymdeithasol erbyn 2012. Nid oes gobaith realistig o gyrraedd y targed o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac fel y mae Age Cymru yn nodi, mae llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 wedi dyddio neu’n amherthnasol bellach. Rwy’n credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy, a thargedau tlodi tanwydd newydd, wedi’u seilio ar gyflenwi yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.

Fel y dywed Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru achub bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar atal marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Ac er bod tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol yn y lle cyntaf, mae’r Prif Weinidog unwaith eto wedi gosod y cyfrifoldeb am ei leihau ar ysgwyddau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae’n hanfodol felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd i osod tlodi tanwydd wrth wraidd y camau i drechu tlodi, gyda phwyslais cryf ar sicrhau bod pob sector yn ysgwyddo cyfrifoldeb gyda’i gilydd. Rhaid i ni roi ymyrraeth gynnar a chamau atal ar waith, gan roi ystyr go iawn i ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a than gyfarwyddyd y dinesydd.

Dylid ehangu cynlluniau cynhesrwydd fforddiadwy lleol, dan arweiniad partneriaeth cynhesrwydd fforddiadwy Sir y Fflint, gan weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni sy’n bodoli’n barod yn y sector cyhoeddus a phreifat, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd penodol a phroblemau iechyd sy’n gyffredin yng Nghymru. Rhaid cefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol i bobl mewn tlodi tanwydd, gan achub y bobl sydd mewn argyfwng uniongyrchol nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol. Rhaid croesawu sesiynau Ynni: y Fargen Orau, a ariennir gan gyflenwyr ynni, Ofgem, a Chyngor ar Bopeth yn ogystal â chyfraniadau cwmnïau ynni, megis ymddiriedolaeth ynni elusennol Nwy Prydain, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n cael trafferth i dalu eu biliau ynni, a chynllun Health through Warmth Npower, sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed gydag afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel i brynu a gosod systemau gwresogi ac inswleiddiad yn eu cartrefi.

Ym mis Mawrth byddaf yn noddi digwyddiad yn y Senedd i hyrwyddo parhad rhaglen gynghoriaeth ynni Cymru wledig National Energy Action – Cymru a noddir gan Calor, i helpu aelwydydd lle y ceir tlodi tanwydd mewn cymunedau gwledig oddi ar y grid ar draws Cymru. Roedd ateb ysgrifenedig a gefais gan y Prif Weinidog ddoe yn dweud bod rhaglen allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd yn cynnwys ei rhaglen Cartrefi Cynnes, gan gynnwys y cynllun Nyth. Fodd bynnag, mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu y bydd meini prawf cymhwyster newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd llawer o aelwydydd sy’n gymwys ar hyn o bryd yn cael cymorth, gan atal ymyriadau sy’n arbed arian cyhoeddus.

Mae’n rhaid i ni groesawu gwasanaethau ataliol cydgynhyrchiol, a gynlluniwyd i weithredu drwy gydol y flwyddyn, i leihau pwysau’r gaeaf a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion clinigol, gwasanaethau fel gwasanaeth cymorth y Groes Goch Brydeinig a gynlluniwyd ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan—mae eu cymuned yn llywio’r cynllun peilot hwn ym meddygfa Clarence House yn y Rhyl a’u canolfan les yn Wrecsam. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wrth y Cynulliad diwethaf y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen strategaeth ddiwygiedig ar dlodi tanwydd yn awr.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Ac rwy’n siŵr y byddwn yn treulio mwy o amser yn y Siambr hon, nid ddoe a heddiw’n unig, yn trafod realiti pwysau’r gaeaf ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y misoedd nesaf.

Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau real iawn wedi bod ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf yma yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig. A thestun clod i ymrwymiad a sgiliau ein staff, er gwaethaf yr amgylchiadau gwirioneddol anodd a heriol hyn, yw bod mwyafrif helaeth y cleifion yn parhau i gael gofal mewn modd proffesiynol ac amserol, a dylai ymroddiad ein staff fod yn ffynhonnell balchder cenedlaethol mawr.

Mae cynlluniau partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf yn cael eu gweithredu mewn ymateb i bwysau sy’n gyfarwydd i bawb ohonom. Mae rhannau o ofal cymunedol sylfaenol, er enghraifft, wedi cofnodi cynnydd o 30 i 40 y cant yn y galw am apwyntiadau meddygon teulu, a chynnydd dangosol o 10 i 15 y cant yn y galw am wasanaethau y tu allan i oriau. Ond o ran gweithredu mesurau newydd, fe wyddom fod cynllun braenaru 111 yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw dros y Nadolig—gan dderbyn dros 350 yn fwy o alwadau y dydd ar rai dyddiau na nifer arferol y galwadau ar adegau brig yn ystod misoedd cyntaf y cynllun peilot. Ond yn hollbwysig, mae’r gwasanaeth hwnnw hefyd i’w weld yn gweithio’n dda o ran darparu gofal, ond hefyd o ran atal pobl rhag gwneud teithiau diangen i ysbyty. Ac unwaith eto, mae hynny’n glod i sgìl ac ymroddiad ein staff, a chynllun a darpariaeth y gwasanaeth 111. Rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed gan amryw o Aelodau yn y ddadl hon am feddygon teulu â rhan hanfodol i’w chwarae, yn llunio cynlluniau ar gyfer y gaeaf, ac yn darparu gofal iechyd drwy gydol y gaeaf. Dyna pam y mae’n galonogol fod gwasanaethau sylfaenol a gofal cymunedol at ei gilydd yn ymdopi â’r cynnydd yn y gweithgarwch yn ddiweddar. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ystod o fentrau, gan gynnwys enghreifftiau lleol o frysbennu dros y ffôn, gwasanaethau fferyllol estynedig sydd hefyd yn helpu i reoli’r galw, ac rwy’n falch fod Dawn Bowden wedi llwyddo i dynnu sylw at nifer o’r cynlluniau hynny. Maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn nid yn unig i staff unigol, ond yn allweddol i’r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.

Ac unwaith eto, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi profi adegau pan oedd y cynnydd sydyn yn y galw’n enfawr. Er enghraifft, Ddydd Calan, roedd 46 y cant yn fwy o alwadau coch na’r cyfartaledd dyddiol yn 2016, ond mae’r gwasanaeth wedi gallu rhyddhau hyd at 200 o gleifion y dydd yn ddiogel heb orfod eu cludo i’r ysbyty—a hynny drwy ddefnyddio’i wasanaeth desg glinigol ychwanegol ar gyfer trin cleifion yn y fan a’r lle. Felly, nid sylw yw hyn ar y GIG yn mynd ati’n syml i roi mwy o arian i mewn i’r system flaenorol y mae bob amser wedi’i gweithredu—mae yma newid, diwygio ac arloesi go iawn ar waith, ac mae’n cael ei arwain gan ein staff a’i lywio gan y dystiolaeth real iawn o’r hyn sy’n gweithio ar lawr gwlad.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am dderbyn ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cefnogi’r pwynt fod yna ragoriaeth yn digwydd bob dydd yn y GIG, ac yn enwedig yn ein gwasanaeth ambiwlans. Ond a wnewch chi ymateb i’r adroddiadau heddiw am chwaraewr rygbi a dorrodd ei wddf ac y bu’n rhaid iddo aros am ddwy awr ar gae chwarae cyn i’r ambiwlans gyrraedd i’w gludo i’r ysbyty? A allwch gadarnhau mai un achos ar ei ben ei hun yw hwnnw i raddau helaeth iawn ac nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd i bobl mewn rhannau eraill o Gymru?

Nid wyf ond yn ymwybodol o’r prif faterion yn y pwynt penodol rydych yn ei nodi, ond rwy’n credu mai un achos ar ei ben ei hun ydyw. Ac mewn gwirionedd, mae ein tystiolaeth ystadegol o’r hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn gwneud galwadau yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael ymateb yn gynt o lawer, yn y categori coch a’r categori ambr. Ac mae hynny’n rhan o’r pwynt lle rwy’n meddwl y dylem fod yn falch o’r hyn y mae ein gwasanaeth yn ei wneud. Mae cydnerthedd y gwasanaeth ambiwlans yn arbennig, yn ystod y gaeaf hwn o gymharu â’r un cynt, a’r un cyn hynny—nid wyf yn meddwl y buasech wedi gweld y math o gydnerthedd a gyflawnwyd yn gyffredinol gan ein staff. Y rheswm am hynny yw oherwydd y staff, ac mae hynny’n deillio o newid yn y model a blaenoriaethu cleifion sydd â’r angen mwyaf. Ac unwaith eto, rwy’n falch iawn o’r hyn y mae ein gwasanaeth ambiwlans yn ei gyflawni, ar adeg fwyaf heriol y flwyddyn fel hyn. Ac mae gwybodaeth reoli hefyd yn dangos bod y nifer sy’n mynychu’r prif adrannau damweiniau ac achosion brys cymaint â 5 y cant yn uwch ar gyfer y dyddiau’n dilyn Calan eleni o gymharu â’r llynedd. Felly, mae’r galw’n parhau i gynyddu, ac mae data rheoli mewnol cynnar o’r ysbytai hefyd yn dangos bod nifer y derbyniadau brys wedi cyrraedd y lefel uchaf ers pum mlynedd ar 27 Rhagfyr.

Nawr, rydym yn cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan gynnwys cymorth ychwanegol o £50 miliwn a gyhoeddais yn flaenorol. Mae hynny ar ben y £43 miliwn ar gyfer y gronfa gofal sylfaenol, a’r £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal canolraddol eleni, i helpu i atal derbyniadau diangen ac oedi cyn rhyddhau. Ac ar oedi wrth ryddhau o ofal, unwaith eto mae gennym newyddion da i’w roi yng Nghymru. Rydym wedi mynd o gyfnod pan gafwyd lefel uchel ychydig flynyddoedd yn ôl i gynnal lefel sy’n gostwng. Mae rhagor i’w wneud bob amser, a dyna’n union yw’r ymagwedd sydd gennyf, sef deall a chydnabod y cyflawniadau a’r gwelliant sydd yno, gan ystyried hefyd beth arall sydd angen i ni ei wneud i sicrhau gwelliant pellach, a’r angen i wahanol bartneriaid gael eu cynnwys, a chymryd rhan a chael cyfran yn y gwelliant hwnnw. Mae hyn i gyd yn cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o galedi parhaus i wasanaethau cyhoeddus, ac mae hwnnw’n realiti anochel i bawb ohonom yn y Siambr hon, ond yn bwysicach, i’n staff a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Rydym wedi gwneud dewisiadau gwahanol i Loegr, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn y newyddion yn ystod yr wythnos ddiwethaf—gwahanol ddewisiadau mewn perthynas â chynllunio ac ariannu ein system iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Dyna pam ein bod yn dewis peidio â gwneud y toriadau i ofal cymdeithasol y mae Simon Stevens, ac eraill yn GIG Lloegr, bellach yn dweud eu bod yn broblem real iawn iddynt hwy. Cawsom ein beirniadu am ein dull o weithredu, wrth i ni edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd yn ystod y tymor diwethaf, ond rwy’n dweud wrth y bobl yn y Siambr hon, sydd bellach yn galw arnom i roi mwy o arian ar gyfer gofal cymdeithasol ac ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, i beidio ag edrych yn unig ar ddoe, yn y gyllideb derfynol, ond ar y cyhoeddiad o £25 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, a £310 miliwn ychwanegol ar ben hynny yn y gyllideb derfynol ddoe. Rydym yn ariannu gofal cymdeithasol ar lefelau nas gwelir mewn rhannau eraill o’r DU, a dylem i gyd fod yn falch o’r dewis rydym yn ei wneud, ond nid yw’n golygu nad oes canlyniadau o gwbl yn sgil hynny mewn rhannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedais o’r blaen yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ein bod wedi paratoi’n well ar gyfer y gaeaf nag erioed o’r blaen. Rydym wedi dysgu o’n gaeafau blaenorol. Ac yn ogystal, wrth gwrs, bydd gwersi i’w dysgu eto yn sgil y gaeaf hwn a mwy o welliannau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Ond rwy’n dweud eto y byddwn yn disgwyl dyddiau heriol o’n blaenau, pan fydd y pwysau’n gwaethygu ac yn lleihau eto. Dylai pob un ohonom yn y Siambr hon deimlo’n hynod o ddiolchgar ac yn ffodus ein bod ni yma ac nid yn wynebu’r pwysau y mae ein staff yn ei wynebu ar y rheng flaen.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r gofal gorau posibl ar yr amser mwyaf heriol o’r flwyddyn, ac ni fyddai hynny’n bosibl heb y staff sydd gennym ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych fy mod wedi disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy fforensig, o ystyried ein bod yn gofyn am adroddiad statws—adroddiad diweddaru. Yn wir, yn y gwelliant a gyflwynwyd gennych i’r cynnig hwn, fe ddywedoch y buasech yn darparu adroddiad statws. Yr hyn rydych wedi ei wneud yw rhoi cyfres gyfan o safbwyntiau ac enghreifftiau o arfer da, ac rwy’n eu croesawu’n gyfan gwbl, ond yr hyn nad wyf yn ei weld—. Dyma fy ngwaith: fy ngwaith yw eich herio a gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Eich gwaith chi wedyn yw gwneud y byrddau iechyd yn atebol. Yr hyn nad ydym yn ei weld neu’n ei deimlo, gan y byrddau iechyd, yw gwir gysylltiad a chydweithio â’r meddygon teulu, sy’n un o’r ddau brif ddrws blaen i mewn i’r gwasanaeth iechyd, ac sydd o dan bwysau aruthrol, ac adrannau damweiniau ac achosion brys, yr ail brif ddrws blaen i’r gwasanaeth iechyd gwladol, sydd hefyd dan bwysau aruthrol, fel y dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.

Nid wyf yn clywed ac nid wyf wedi clywed unrhyw gyfeiriad at gysylltu a chydweithio gyda’r sector gofal cartref a chartrefi gofal, oherwydd mae arnom angen iddynt fod yn gwbl weithredol a sicrhau bod y cynlluniau hynny ar waith. Yr hyn rwy’n gofyn i chi amdano yn y bôn, Weinidog, yw i chi ddarbwyllo pawb ohonom fod gennych y saith bwrdd iechyd ar flaenau’ch bysedd. Mae ganddynt gynlluniau—. Maent wedi dweud bod ganddynt gynlluniau ar waith i reoli pwysau’r gaeaf a’ch bod yn eu mesur—yn mesur eu gallu i ddarparu a mesur eu canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at yr adroddiad statws y dywedwch yn eich gwelliant eich bod yn mynd i’w ddarparu, oherwydd credaf mai chi yw’r unig un gyda streipiau digon mawr i ddwyn y byrddau iechyd i gyfrif mewn gwirionedd er mwyn sicrhau nad yw ein staff yn gorfod gweithio mor galed fel na allant ymdopi a bod ein cyhoedd yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr adeg anodd hon o’r flwyddyn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn yn awr at eitem 6, sef dadl arall gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Angela Burns i gynnig y cynnig. Angela Burns.

Cynnig NDM6196 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.

2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu’n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy’n rhwystro defnydd effeithiol o’r rhaglenni hyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon i’r Cynulliad heddiw, yn ystod Wythnos Genedlaethol Gordewdra. Er bod llawer ohonom—ac rwy’n un ohonynt, yn bendant—yn poeni am y pwysau ychwanegol y maent wedi’u hennill o bosibl ar ôl ychydig o or-fwyta dros gyfnod y Nadolig, mae gordewdra yn dod yn broblem gynyddol yn y DU gyfan ac yng Nghymru yn yr achos penodol hwn.

Mae lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru. Yn ôl yr arolwg iechyd cyhoeddus diweddaraf, cofnodwyd bod bron i 59 y cant o oedolion yn ‘rhy drwm’ neu’n ‘ordew’, fod 25 y cant ohonynt yn ‘ordew iawn’ a bod 27 y cant o blant yn ‘rhy drwm’ neu’n ‘ordew’. Mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar ei mentrau iechyd y cyhoedd—y bore yma’n unig bu’r Gweinidog a minnau’n siarad am y Bil iechyd y cyhoedd a thoriadau i gyllideb llywodraeth leol—i helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn rhaglenni iechyd y cyhoedd.

Dechreuaf drwy edrych ar un neu ddwy o ffeithiau allweddol. Mae un o bob pedwar oedolyn yn cael ei labelu’n ‘ordew iawn’ a dyma’r lefel uchaf yn y DU. Y rheswm pam y ceir pryderon ynglŷn â chario gormod o bwysau o’r fath yw’r cysylltiad rhwng hynny a chyflyrau meddygol cronig a difrifol sy’n arwain at dorri cymaint â 10 mlynedd oddi ar ddisgwyliad oes. Mae’n gyflwr y gellir ei atal ac mae’r GIG yng Nghymru yn gwario bron i £1 filiwn yr wythnos ar drin gordewdra, gydag unigolion gordew yn fwyaf tebygol o greu costau iechyd.

Er bod cynlluniau ar waith ar draws Cymru, y broblem yw bod y canlyniadau’n anghyson. Dau o saith bwrdd iechyd Cymru yn unig sy’n cynnig gwasanaethau gordewdra lefel 3 ac nid oes yr un yn cynnig y gwasanaethau bariatrig lefel 4, gan olygu bod y rhai sydd fwyaf o angen cymorth i golli pwysau yn methu â’i gael, neu’n gorfod mynd i Loegr i’w gael. Am y rhesymau hyn rydym yn galw am ymagwedd drawsbortffolio well gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r her gynyddol hon.

Cawn ein cefnogi gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sydd wedi galw am adeiladu ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a glodforwyd gan lawer. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Ddeddf wedi methu â chynnwys dangosyddion a fyddai’n mesur nifer yr achosion o ordewdra ym mhoblogaeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, rydym yn awyddus iawn i wybod beth yw eich barn ynglŷn ag a ydych yn credu y gellid newid hynny—maddeuwch i mi, ‘Weinidog’, nid ‘Ddirprwy Weinidog’.

Ac nid yw’r Llywodraeth ychwaith yn cyfeirio at ordewdra yn ei amcan lles, a ddaeth gyda’r rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’. Weinidog, pe baech yn unioni’r ddau ddiffyg mawr hwn, gallai helpu i ganolbwyntio mwy o sylw ar y problemau rydym yn eu profi ar hyn o bryd. Ni soniaf ormod am Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan eich bod chi a minnau wedi archwilio hwnnw’n fanwl iawn heddiw, ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar blant.

Mae’r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg wedi tynnu sylw at sut y gall ysgolion chwarae rhan yn mynd i’r afael â gordewdra drwy ymyriadau yn yr ysgol. Mae’n nodi bod yr ymyriadau canlynol wedi cael effaith gadarnhaol: ymestyn hyd gwersi addysg gorfforol ar hyn o bryd, rhywbeth y mae’n rhaid fy mod wedi’i nodi yn y Siambr hon ddwsinau o weithiau—mae’n ymddangos yn hurt ein bod yn torri’r amser y mae plant ifanc yn yr ysgol gynradd yn ei dreulio yn yr awyr agored, neu mewn neuaddau, yn rhedeg o gwmpas; newid y marciau ar feysydd chwarae i annog mwy o symud a chynyddu argaeledd rhaffau sgipio a mathau eraill o offer chwaraeon; bysiau cerdded i’r ysgol; tynnu sylw at niwed diodydd pefriog a chael gwared ar beiriannau sy’n gwerthu bwyd afiach; ymgorffori elfennau maethol mewn gwersi, gan adeiladu ar y Bil bwyta’n iach—

Roeddwn i eisiau mynd ymlaen at ochr arall y ddadl a gwneud yn siŵr hyd yn oed pan soniwn am ordewdra nad ydym yn annog pobl i fynd y ffordd arall tuag at ddatblygu anhwylderau bwyta. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl sydd wedi cael problemau gyda’u pwysau, sydd wedi bod yn ordew, ac yna maent wedi mynd i’r pegwn arall. Felly, os caf fi ychwanegu hynny at y ddadl yma heddiw.

Ac rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt da iawn. Rwy’n meddwl mai’r hyn y gallwn ei wneud yw defnyddio ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc, erbyn iddynt adael ysgol, yn cario pwysau addas, yn deall yr holl werthoedd maethol, ac yn deall pwysigrwydd ymarfer corff a phleser ymarfer corff, gan fod cymaint o bobl ifanc mewn gwirionedd yn ystyried bod ymarfer corff yn gwbl amhleserus yn yr ysgol, a dyna pam y mae angen dawns a symud a’r holl bethau eraill hyn, yn enwedig ar gyfer menywod ifanc. Oherwydd bydd plentyn iach, Weinidog, yn troi’n oedolyn iach.

Holl bwynt y cynnig hwn yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod ein dinasyddion o ddifrif yn deall a’u bod yn dechrau eu bywydau fel oedolion yn ffit, yn y lle iawn yn feddyliol ac yn gorfforol, oherwydd byddant wedyn yn aros yn fwy gosgeiddig am fwy o amser, gan olygu mwy o fanteision i’w hiechyd personol ac wrth gwrs, mantais anferth i’r GIG ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) a hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew yng Nghymru ers 2012 —ond ein bod am weld y niferoedd hynny’n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu’n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu’n ordew; a

c) bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio—gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol—i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau’n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o’r fath yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â gordewdra.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser i symud y gwelliant yma sydd yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau’n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o’r fath yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli ac yn gresynu bod Llywodraethau dilynol y Deyrnas Unedig wedi methu â defnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â gordewdra. Dyna beth mae ein gwelliant ni yn ei ddweud. Wrth gwrs, rydym yn mynd i’r afael yn y fan yna efo’r agenda ataliol yn y maes yma, drwy gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra. Wrth gwrs, mae eisiau mynd i’r afael efo’r agenda ataliol ac, fel yr oeddem yn sôn yn y pwyllgor iechyd y bore yma yng nghyd-destun y Bil iechyd cyhoeddus, mae yna bethau y gellid eu gwneud yn nhermau safonau maeth y bwyd rydym ni’n ei fwyta, yn ogystal â hygyrchedd gwell i ymarfer corff. Wrth gwrs, mae yna bosibiliadau trethi ar siwgr a diodydd sydd yn llawn siwgr, a hefyd mae yna le i drethu i gael gweld realiti isafswm pris alcohol hefyd. Mae’r materion hyn i gyd yn achosi gordewdra. Oes, mae yna agenda addysg, wrth gwrs, yn naturiol, ond mae yna le cryf hefyd i fod yn deddfu er mwyn gwthio’r agenda addysgiadol ymlaen.

Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r rhain y tu allan i’n gallu ni yma yn y Cynulliad, ond lle mae’r gallu i fyny yn San Steffan, nid oes yna rhyw lawer o awydd i fynd i’r afael efo’r agenda ataliol yna. Achos nid oes dwywaith, mae angen cydnabod bod y diwydiant bwyd a diod yn hynod bwerus yn y math hwn o beth, ac yn gallu dylanwadu yn drwm iawn. Rydym ni’n gresynu gweld gwanhau ar y safonau sy’n dod o San Steffan yn ddiweddar gogyfer hybu’r gwaith ataliol sy’n mynd ymlaen yn y mater yma o ordewdra.

Mae deiet yn rhan bwysig o’r mater yma ynglŷn â gordewdra. Rydw i’n derbyn, yn naturiol, y pwynt a wnaeth Bethan wrth fy ochr i. Hefyd, mae ffitrwydd hefyd yn rhan arall o hyn. Ond, wrth gwrs, mae hefyd eisiau bod yn synhwyrol ynglŷn â hynny, ac mae eisiau ei gwneud hi’n hawdd i bobl allu dod yn fwy ffit. Mae angen cerdded dim ond 10,000 o gamau bob dydd i gyrraedd lefel o ffitrwydd sy’n gallu dylanwadu’n ffafriol ar eich iechyd chi—10,000 o gamau. Rydym ni i gyd yn gallu gwneud hynny—y rhan fwyaf ohonom ni—yn fan hyn drwy jest defnyddio’r grisiau y rhan fwyaf o’r amser ac nid bod yn wastadol yn y lifftiau. Nid wyf i’n edrych ar neb yn benodol yn y fan yma, ond 10,000 o gamau yw e. Nid oes angen mynd—. Rwy’n deall beth mae’r Dirprwy Lywydd yn ei feddwl am hyn bob tro rydw i’n ei godi, ond petai ffitrwydd yn dablet—. Mae ffitrwydd yn golygu gostwng 30 y cant o’ch pwysau chi, ac os ydych chi’n ffit, mae lefel eich colesterol chi 30 y cant yn is ac mae’ch pwysau gwaed chi 30 y cant yn is. Petai hwnnw’n dablet, buasai pawb yn gweiddi arnom ni fel meddygon i fod yn ei ragnodi fe, ond, wrth gwrs, nid ydy ffitrwydd yn dablet, ac felly mae gofyn inni wneud rhywbeth ynglŷn â fe.

Hefyd, ar ddiwedd y dydd, mae yna rai pobl efo gordewdra nad ydym ni’n gallu gwneud dim byd drostynt drwy dabledi neu’r holl ffitrwydd ac ati. Mae yna rhai pobl sydd yn dew iawn, iawn ac mae angen gwell darpariaeth ar y rheini yng nghyd-destun llawdriniaeth bariatrig yma yng Nghymru. Rwy’n credu, ar y cyfrif diwethaf, mai dim ond tri llawfeddyg sydd yn arbenigo yn y maes yma o gael llawdriniaeth benodol i gael gwared â phwysau mawr iawn mewn unigolion. O gofio bod gan dros 50,000 o drigolion Cymru BMI o fwy na 40, sydd yn golygu eich bod chi’n beth maen nhw’n ei alw’n ‘morbidly obese’, ac mae yna ganran hefyd sydd efo BMI sydd yn fwy na 50, sydd yn golygu eich bod chi’n ordew tew iawn, ar ddiwedd y dydd mae’r bobl yna wedi ffaelu pob math o driniaethau ac ati a phob math o gyngor, felly mae angen i rywun—llawfeddyg—wneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem yna. Nid yw’r gwasanaethau, yn sylfaenol, ar gael. Fel rydw i’n ei ddweud, tri llawfeddyg sydd yma yng Nghymru sy’n gallu darparu’r gwasanaeth yna ac mae’r galw amdano fe yn sylweddol yn fwy. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw mater gordewdra ar yr agenda, ac yn ogystal â’r ffaith ei bod yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, ar ôl gormodedd y Nadolig, fel y soniodd Angela Burns yn ei haraith wrth gyflwyno’r ddadl, rwy’n credu bod llawer o bobl yn meddwl am droi at fwyta’n iach. Rwy’n cymeradwyo ymdrechion pobl i fod yn fwy iach ym mis Ionawr. Nid wyf yn llwyddiannus iawn fy hun, ond rwy’n credu bod gwneud mis Ionawr sych, torri’n ôl ar fwydydd sy’n cynnwys llawer o siwgr neu ddechrau ar drefn ymarfer corff newydd yn bwysig iawn. Rwy’n credu bod angen i bawb ohonom annog ein gilydd i wneud hynny.

Ond mewn gwirionedd, y cwestiwn yw sut rydym yn cyfleu’r neges honno ar hyd y flwyddyn gyfan, er mwyn meithrin arferion da yn y tymor hir. Rwy’n credu ein bod yn magu cenhedlaeth o blant a bwytawyr sy’n fwy ymwybodol o iechyd, oherwydd, yn sicr, dyma rywbeth sy’n cael sylw yn yr ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod bod plant nad ydynt yn iach yn tyfu’n oedolion nad ydynt yn iach. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i ni gyfleu’r neges i’r genhedlaeth iau.

Ond fel y crybwyllwyd eisoes, mae’r ffaith fod 26.2 y cant o blant Cymru yn rhy drwm yn peri pryder mawr. Ond rwy’n falch o weld bod 64 y cant o blant yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau bob dydd. Hoffwn pe bai’r ffigur yn uwch, ond serch hynny, mae’n 62 y cant, ac mae 52 y cant yn bwyta llysiau bob dydd, ac rwy’n meddwl mai 32 y cant o oedolion a ddywedodd eu bod wedi bwyta pum cyfran neu ragor o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt. Felly, yn amlwg, mae llawer o waith i’w wneud, ond rwy’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhai camau cadarnhaol iawn ar waith i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Rwyf am gyfeirio, unwaith eto, at y Ddeddf teithio llesol, am fy mod yn credu bod hon yn bwysig iawn a bydd yn cael effaith wrth annog pobl i gynnwys cerdded a beicio yn eu bywydau bob dydd. Ar hyn o bryd, gwyddom fod awdurdodau lleol yn paratoi i greu mapiau rhwydwaith integredig, a byddant yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd y mapiau hynny’n dangos ardaloedd ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol y bydd y cymunedau eu hunain yn credu y dylid eu blaenoriaethu. Felly, rwy’n gobeithio y gall bawb ohonom dynnu sylw at grwpiau cymunedol ac at y broses hon, ac annog etholwyr i gyfrannu.

Fel pob un ohonom, rwy’n bryderus iawn am effaith yfed llawer o ddiodydd llawn siwgr, ac roeddwn yn falch iawn heddiw o weld bod arbenigwyr iechyd wedi galw am wahardd taith lori Nadolig Coca-Cola. Cafodd hyn sylw eang yn y cyfryngau. Rwy’n teimlo o ddifrif bod hwn yn ddigwyddiad niweidiol iawn—lori Nadolig Coca-Cola. Mae’n aros mewn 44 o leoedd ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd. Y Nadolig hwn, roedd ar Stryd y Frenhines, ac roedd ciwiau am samplau am ddim, sy’n cael eu rhannu ac mae hynny’n annog plant yn arbennig i yfed mwy byth o Coca-Cola. Yn ôl ei wefan ei hun, mae saith llwyaid o siwgr ym mhob can o Coke arferol. Rwy’n teimlo’n arbennig o gryf yn erbyn yr ymgyrch arbennig hon oherwydd, yn 2016—

Darren Millar a gododd—

Iawn, mewn eiliad. Yn 2016, pan arhosodd yn Asda yn Coryton yn fy etholaeth, cafwyd tagfa draffig drwy Gaerdydd am fod cymaint o bobl yn mynd i gael y Coca-Cola am ddim. Nid wyf yn gallu gweld bod hynny’n gydnaws ag iechyd da.

Mae’n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo mor grintachlyd ynglŷn â lori Nadolig Coca-Cola. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Coca-Cola, fodd bynnag, am y ffordd y maent wedi cyfyngu ar siwgr yn eu diodydd ac wedi ehangu’r modd y mae’n hyrwyddo’r dewisiadau amgen heb siwgr, sef dros 50 y cant o’u gwerthiant yn y DU bellach?

Rwy’n croesawu unrhyw gyfyngu ar siwgr mewn diodydd, ond rwyf o’r farn nad yw’r gweithgaredd penodol hwn i’w groesawu. Rwyf hefyd yn siomedig ei bod yn ymddangos bod treth siwgr Llywodraeth y DU wedi cael ei glastwreiddio ac y bydd pethau fel ysgytlaeth sy’n cynnwys siwgr yn cael eu heithrio, gan y gall y rhain gynnwys yr un faint o siwgr â diodydd swigod. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd fod yr ardoll arfaethedig mor uchel ag y gallai fod.

Yn olaf, hoffwn sôn am yr her milltir ddyddiol, sydd wedi cael ei chrybwyll yma yn y Siambr hon o’r blaen ac wedi cael ei mabwysiadu gan ysgolion yn y DU. Wrth gwrs, roedd un o’r rhai cyntaf i wneud hyn yn yr Alban ac roeddwn yn meddwl tybed a oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw enghreifftiau, ond rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud wrthym, pan fydd yn siarad, pa un a oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod hwn yn gysyniad gwych ac mor syml i’w wneud, pan fydd y plant yn cyrraedd yr ysgol, i fynd i redeg milltir. Diolch.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw am gyflwyno’r ddadl hon ar ordewdra, yn enwedig yn union ar ôl y Nadolig, fel y mae Angela wedi dweud. Mae gwneud rhywbeth da ar gyfer mis Ionawr yn addewid y gall pawb ohonom ei gefnogi yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra. Mae’n fater o gywilydd cenedlaethol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean o blant Cymru yn rhy drwm neu’n ordew. Ond mae’n rhaid i ni ymdrin â gordewdra mewn modd sensitif gan fod pobl yn ymateb yn wahanol, ac nid ydym am i bobl edrych ar faint sero mewn cylchgrawn a chredu mai dyna’r ffordd sy’n rhaid iddynt fynd. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn fater o addysgu pobl mewn ffordd synhwyrol.

Mae’n rhaid i ni wrthsefyll yr awydd i geisio datrys yr argyfwng gordewdra drwy gyflwyno deddfwriaeth. Nid yw treth siwgr yn mynd i atal pobl yn wyrthiol rhag yfed diodydd llawn siwgr, yn yr un modd nad yw ardoll ar sigaréts wedi arwain at y canlyniad dymunol roeddem i gyd ei eisiau ac yn ei ddisgwyl. Nid ydym wedi gweld llawer o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n smygu. Mae’n cosbi’r rhai sydd leiaf abl i fforddio talu’r costau. Ar wahân i fod yn dreth anflaengar, ni fydd y dreth siwgr yn gwneud llawer i ddatrys y ffaith ychwaith fod bwyta’n iach yn aml yn ddrutach na bwyta bwyd sothach. Hynny yw, pa mor aml y mae pobl drwy—. Wyddoch chi, mae angen iddynt fynd adref yn gyflym ac maent yn galw heibio i gael McDonalds yn hytrach na mynd adref a choginio. Mae rhandiroedd bellach yn rhan o’r gorffennol, mewn gwirionedd, lle roedd gennym lysiau a ffrwythau gwych, a phopeth wedi’i dyfu gartref, pethau rydym yn awr yn eu galw’n organig, ac sydd i’r rhan fwyaf o bobl ymhell y tu hwnt i’r pris y gallant ei fforddio, neu eu cyllideb. Felly yr hyn y gallwn ei wneud yw sicrhau ein bod wedi ein haddysgu’n well am y bwydydd rydym yn eu bwyta. Mae cynlluniau fel Newid am Oes yn ddechrau gwych, ond yn hytrach na dibynnu ar ymgyrchoedd hysbysebu cenedlaethol dylem fod yn cyflwyno’r negeseuon hyn i bob plentyn ysgol yng Nghymru. Dylai rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol newydd ganolbwyntio ar addysgu pobl ifanc sut i fwyta’n iach a sut i fyw bywyd iach. Nid yw’r dull o’r brig i lawr wedi gweithio hyd yn hyn, felly gadewch i ni ddewis dull o’r gwaelod i fyny yn lle hynny. Diolch i chi—diolch yn fawr.

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra yn ymwneud â hyrwyddo’r ffyrdd y gall unigolion, y Llywodraeth a busnesau wella iechyd y cyhoedd. Y nod yw darparu’r wybodaeth a’r adnoddau a all greu newidiadau cadarnhaol hirdymor. Mae gwir angen hyn yng Nghymru hefyd. Mae yna lefel o ordewdra mewn plant ac oedolion sy’n her fawr i iechyd y cyhoedd. Mae bron i chwarter pobl Cymru yn cael eu hystyried yn ordew ar hyn o bryd.

Ddirprwy Lywydd, yn ôl Rhaglen Mesur Plant Cymru, mae mwy na 26 y cant o blant Cymru yn ordew ac yn rhy drwm. Yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw’r hyn rydym yn ei gymryd i mewn a’r hyn nad ydym yn ei dynnu allan yn y corff—mewn gwirionedd, nid ydym yn llosgi calorïau. Dyna’r maes y mae’n rhaid i ni edrych arno’n ofalus iawn, ac mae’n rhaid i ni ddechrau gyda’r plant, fel y mae fy nghyd-Aelodau anrhydeddus wedi’i grybwyll eisoes. Mae’r plant, pan fyddant yn mynd i ysgolion cynradd—rwy’n credu y dylai pob ysgol yng Nghymru feddu ar drampolîn. Dylai’r plant fwynhau’r chwarae a llosgi eu calorïau hefyd. Mae’r rhan fwyaf o gaeau ysgol wedi mynd ar gyfer datblygiadau tai. Er mwyn Duw, rhowch y gorau i nonsens o’r fath a gadewch y caeau chwarae hyn i blant fynd i chwarae ar dir yr ysgol a gwneud yn siŵr fod y calorïau’n cael eu llosgi, fel y gwnaethom ni yn ystod ein plentyndod.

Yn y bôn, mae yna lawer o bethau eraill mewn bywyd sy’n rhaid i ni ddysgu. Dim ond sefyll am ddwy neu dair awr y dydd—peidio â gwneud unrhyw beth—a fy ffrind, bydd yn cael gwared ar 4 kg mewn blwyddyn yn eich corff mewn gwirionedd, os ydych yn sefyll; trueni nad ydym ond yn sefyll yma am bum munud. Ond os adiwch mewn blwyddyn hanner awr o sefyll—menywod yn y gegin, plant yn chwarae, yr holl fân bethau hyn. Yr holl—[Torri ar draws.] Rhaid i ni, yn y bôn—[Torri ar draws.] Mae gordewdra yn tyfu’n broblem ddifrifol. Mae gennym un meddyg yn y Siambr hon. Mae yna glefydau difrifol iawn sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r broblem hon—y galon, yr ysgyfaint, yr arennau, yr afu; pa un bynnag—mae yna glefydau angheuol difrifol.

A’r plant, o 16 oed—a phan fyddwch yn ifanc ac yn olygus, ond pan fyddwch yn 40 a hŷn fe fyddwch yn mynd yn ordew. Nid yw hynny’n iawn. Mewn gwirionedd nid yw’n rhoi’r corff mewn bywyd gweithgar go iawn ac yna cyfrannu at y gymuned. Mae’n costio i Lywodraeth Prydain bron—mae’n costio i ni, Lywodraeth Cymru, £1.4 miliwn yr wythnos. Y gwasanaeth iechyd gwladol—mae hwn yn arian mawr. Nid yw’n destun chwerthin, fy ffrindiau. Mae’n bwynt difrifol: £1.4 miliwn yr wythnos. Mae ein GIG o dan bwysau i ofalu am y clefydau hyn sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gordewdra. Felly, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am y peth.

Dywed Sefydliad Prydeinig y Galon mai gan Gymru y mae’r nifer uchaf o achosion o fethiant y galon yn y Deyrnas Unedig, gyda mwy na 30,000 o bobl yn cael diagnosis. Dyna drueni. Mae’n amlwg fod angen rhaglen o fentrau ataliol i hybu iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ond mae dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â gordewdra yn cyflawni canlyniadau anghyson, heb fawr o arwydd y bydd y lefel yn gostwng. Mae’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) arfaethedig eisoes wedi cael ei feirniadu am beidio â chynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n anelu’n benodol at fynd i’r afael â gordewdra. Mae arnom angen strategaeth ar gyfer addysgu pobl a rhaid i hyn ddechrau yn ein hysgolion, fel y dywedais yn gynharach.

Ddirprwy Lywydd, mae yna ardaloedd eraill, mae yna lawer o ardaloedd yn y byd—. Mae’r Tseiniaid—pan ewch i Tsieina, India a gwledydd eraill, byddwch yn mynd allan yn y bore ac mae’r parciau’n llawn o bobl yn gwneud ymarferion. Ond edrychwch ar ein parciau, ein hardaloedd. Mae gennym dirweddau hardd yng Nghymru, ond rwyf eto i weld y bobl yn mynd allan i wneud ymarfer corff. Beth yw’r broblem? Mae hyn yn—[Torri ar draws.] Pam rydym yn gwario arian? Ni fydd yn costio dim i ni. Dowch allan i’ch gerddi a gwnewch rywfaint o ymarfer corff.

Rwy’n gwybod nad fi yw’r enghraifft iawn fy hun, ond—[Torri ar draws.] Rhaid i mi gyfaddef—[Torri ar draws.] Mae’n rhaid i ni wneud yr hyn rydym yn ei bregethu, ond y ffaith yw, mae ein plant—rydym yn sôn am genhedlaeth, credwch fi. Menywod sy’n ordew, nid yw’n helpu ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf. Mae’r rhai o oedran cael plant yn cael problemau; nid ydynt yn gallu cynhyrchu mwy o blant. Mae gordewdra yn un o’r achosion uniongyrchol—[Torri ar draws.] Mae’r meddyg yno. Mae’r meddyg yn eistedd yno. Gallwch gadarnhau hyn gyda’r meddyg. Mae hyn yn dirywio mewn gwirionedd. Mae yna hefyd—[Torri ar draws.] Fel y dywedais, mae yna lawer o broblemau yn uniongyrchol gysylltiedig, o ran iechyd, â gordewdra.

Ddirprwy Lywydd, y pwynt olaf yw bod yn rhaid i ni gefnogi—

Diolch yn fawr iawn. Mae’n rhaid i fi ddweud, fodd bynnag, hoffwn feddwl y gallai dynion sy’n sefyll mewn ceginau yn ogystal wneud rhywfaint o ymarfer corff wrth sinc y gegin. Mae fy ngŵr yn sicr yn ei wneud pan fydd yn golchi’r llestri. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hefyd, diolch i chi am ymdrin â’r pwynt hwnnw fel nad oedd rhaid i mi wneud. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am yr hyn sydd wedi bod ar y cyfan, rwy’n meddwl, yn ddadl ddiddorol a defnyddiol iawn. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn ein hymrwymo i ddatblygu a darparu pedair strategaeth drawsbynciol ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys ein strategaeth iach a gweithgar. Felly, bydd y dull hwn yn ysgogi newid yn y ffordd rydym yn nodi ac yn ymateb i rai o’r materion cymdeithasol ystyfnig iawn sy’n gymhleth a thrawsbortffolio ac sy’n galw am ddull aml-bartner o weithredu. Mae mynd i’r afael â gordewdra yn amlwg yn un mater o’r fath.

Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn gwneud llawer iawn i gynorthwyo pobl yng Nghymru i wneud dewisiadau iach a gweithgar ac i geisio cynnal pwysau iach, ond mae’n amlwg na allwn wneud y gwelliannau rydym am eu gwneud ar ein pen ein hunain. Os ydym i sicrhau bod gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei gwireddu, mae angen ymagwedd cymdeithas gyfan i sicrhau cymaint o lesiant â phosibl heddiw ac i sicrhau bod y patrymau ymddygiad sydd o fudd i iechyd yfory yn cael eu deall yn dda a’u rhoi ar waith gan y Llywodraeth, ein partneriaid eraill, ac yn allweddol, gan unigolion eu hunain.

Bydd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn datblygu ymhellach ein hymdrechion i ymgorffori iechyd a llesiant ym mhob polisi a rhaglen. Mae’n adeiladu ar waith Deddf cenedlaethau’r dyfodol drwy ddarparu pŵer i Weinidogion bennu’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o effaith ar iechyd, gan eu cynorthwyo i ystyried yn fwy systematig sut y gall eu penderfyniadau a’u cynlluniau gyfrannu at wella iechyd a llesiant gan leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Mae gordewdra’n broblem gymhleth heb unrhyw ateb hawdd. Rydym yn gwybod bod mynd i’r afael â gordewdra’n galw am ymrwymiad ar draws Llywodraeth Cymru. Mae llawer o feysydd polisi eisoes yn chwarae eu rhan: cynllunio, addysg, iechyd, caffael, chwaraeon—maent ganddynt hwy ac eraill gyfraniad mawr i’w wneud. Mae hefyd yn galw—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Yng Nghasnewydd, Weinidog, fel y gwyddoch rwy’n credu, mae gennym grŵp Ffit ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n dwyn ynghyd yr holl sectorau hynny a grybwyllwyd gennych i geisio cael poblogaeth leol sy’n gwneud mwy o ymarfer corff. Ai dyna’r math o fenter y gallai’r bondiau lles eu cefnogi maes o law?

Mae’r fenter a ddisgrifiwch yng Nghasnewydd—nid wyf wedi cael cyfle eto i ddod i ymweld, ond buaswn yn awyddus iawn i wneud hynny gan fy mod yn gwybod fod honno’n enghraifft dda iawn o bartneriaid yn dod at ei gilydd er mwyn ymdrin â gweithgarwch corfforol a llesiant ac iechyd yn ehangach.

O ran y bond lles, mae’r prosiect hwn ar gam cynnar iawn o ran y cysyniad ac rydym yn gweithio gyda swyddogion, unwaith eto ar draws gwahanol adrannau’r Llywodraeth, i ddwyn ynghyd y weledigaeth ar gyfer y bond lles. Byddwn yn sicr o fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny maes o law.

Mae mynd i’r afael â gordewdra, fodd bynnag, yn galw am ymrwymiad gennym ni yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Llywodraeth y DU a’r diwydiant bwyd ei hun. Mae llawer ohono’n dibynnu ar bobl eu hunain yn ein cyfarfod hanner ffordd a chymryd y cyfrifoldeb personol hwnnw. Ond i gefnogi hyn, mae angen i ni greu’r amgylchedd cywir, lle y mae dewis bwydydd a diodydd iachach yn opsiwn hawdd a lle nad oes rhwystrau i fod yn weithgar yn gorfforol. Mae angen hefyd i ni rymuso unigolion drwy sicrhau eu bod yn meddu ar ddigon o sgiliau, gwybodaeth ac ysgogiad i wneud y dewisiadau cywir.

Gan ymateb yn benodol i welliant Plaid Cymru, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i roi camau llymach ar waith mewn perthynas â hyrwyddo bwydydd afiach i blant yn enwedig. Rydym yn monitro datblygiad yr ardoll siwgr ar ddiodydd meddal yn agos a’r camau sy’n cael eu datblygu i leihau siwgr drwy dargedau gwirfoddol y diwydiant bwyd. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhain wedi gweithio o ran cyfyngu ar halen, ond os nad yw’n llwyddiannus ar gyfer siwgr, yna byddwn yn sicr yn ystyried galw am ddull gorfodol o weithredu.

O fewn ein cymhwysedd, rydym yn parhau i weithio drwy ddulliau sy’n seiliedig ar leoliadau, gan gynnwys drwy ysgolion, ysbytai a gweithleoedd, ac rydym yn gweithredu’r dulliau deddfwriaethol drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’n safonau maeth. Rydym hefyd yn defnyddio marchnata cymdeithasol ac ymgyrchoedd eraill, megis 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae yna nifer o gynlluniau gwahanol yn cael eu datblygu ar lefel gymunedol, ac rwy’n credu bod yn rhaid i’r rhain sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd, digon i gydnabod gwahanol anghenion ein cymunedau lleol gwahanol. Ni fuasai gennyf ddigon o amser, mewn gwirionedd, yn yr oddeutu pedwar munud sydd gennyf i siarad yn fanwl am bob un o’r rhain heddiw, ond rwyf wedi eu disgrifio mewn datganiadau a dadleuon blaenorol ac rwy’n fwy na pharod i roi manylion pellach yn y dyfodol, ond rwy’n cydnabod mai un peth nad wyf wedi sôn amdano’n fanwl yn y Siambr o’r blaen yw’r llwybr gordewdra ar gyfer Cymru gyfan, sy’n nodi ein dull o fynd ati i atal a thrin gordewdra, a chafodd ei grybwyll gan nifer o siaradwyr heddiw. Mae’n cynnwys gofynion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau y dylai byrddau iechyd fod yn gweithio tuag atynt, ac roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i’r Aelodau fy mod wedi herio’r byrddau iechyd yn bersonol drwy fy nghyfarfodydd â’r cadeiryddion i gyflymu’r broses o weithredu’r llwybr hwnnw, yn enwedig ar lefel 3 a lefel 4 ac yn amlwg buaswn yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau maes o law hefyd.

Rwy’n gobeithio, mewn gwirionedd, fod yr hyn rwyf wedi gallu ei nodi wedi rhoi sicrwydd i’r Aelodau fod gordewdra a mynd i’r afael â gordewdra yn bendant yn ffocws allweddol i’r Llywodraeth hon, ac rydym yn rhoi’r seilwaith angenrheidiol yn ei le ar gyfer gweithio mewn ffordd lawer mwy systematig ac effeithiol ar draws adrannau a phortffolios Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf fi, fel Oscar, yn sefyll yma heb fod mewn sefyllfa o gryfder yn union, ond rwyf am gyfrannu a chrynhoi’r drafodaeth heddiw. Cawsom ddadl Aelod unigol ychydig cyn toriad y Nadolig, os cofiwch, a gosodwyd y cefndir ar gyfer y ddadl hon bryd hynny. Agorodd Jenny Rathbone y drafodaeth honno gyda thair ffordd o fynd i’r afael â’r hyn rwy’n meddwl ein bod i gyd yn derbyn bellach sy’n broblem gynyddol gydag effeithiau hirdymor, cyflwr y mae cymdeithas yn tueddu i’w ddarlunio drwy gyfrwng ffasiwn, drwy ddelwedd y corff, drwy ddeietau mympwyol—y mathau o bethau roedd Caroline Jones yn sôn amdanynt. Ac os nad yw’r cylchgronau a brynwn a’r rhaglenni a wyliwn a’r hysbysebion a welwn yn dechrau newid y naratif hwnnw, yna o ddifrif, rwy’n meddwl eich bod chi fel Llywodraeth a ni fel Cynulliad yn mynd i wynebu brwydr anodd yn ceisio cael ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth achlysurol yn seiliedig ar anogaeth i gael unrhyw effaith o gwbl. Ac ar yr un pryd, mae pobl o bob oed yn parhau i fod yn agored i ochr dywyll y cylchgronau sgleiniog hynny a chyfryngau cymdeithasol a’r rhaglenni Sky Living rydym i gyd yn gwybod amdanynt, fel ein bod yn y pen draw yn wynebu’r math o bethau—neu’r bygythiadau, gawn ni ddweud—y soniodd Bethan Jenkins amdanynt yn gynharach yn y ddadl, yn ei hymyriad i Angela.

Rwy’n ofni mai dyna pam nad wyf yn cefnogi defnyddio anghymeradwyaeth gyhoeddus o fwyd a bwyta fel offeryn ar gyfer newid patrymau ymddygiad y boblogaeth fel rydym wedi ei wneud, efallai, gydag ysmygu ac fel rydym yn dechrau ei wneud yn awr gydag alcohol. Mae’n bendant yn galw am ymagwedd hollol wahanol. Ni ellir anwybyddu’r un o’r syniadau a glywsom heddiw. Maent oll wedi bod yn syniadau gwirioneddol dda; clywsom lawer ohonynt o’r blaen, ond mae’n rhaid i ni wynebu realiti mewn rhyw ffordd, rwy’n meddwl, o ran sut olwg y gallai fod ar y pethau hyn mewn bywyd go iawn. Mae angen ewyllys wleidyddol ddiffuant a chadarn yma yn ogystal ag addysg gyhoeddus er mwyn torri drwodd, neu wneud yn siŵr nad yw’r syniadau gwirioneddol dda hyn yn cael eu dal yn ôl gan bethau nad ydynt yn gweithio, a rhoddaf rai syniadau i chi ynglŷn â’r hyn rwy’n siarad amdano.

Felly, er enghraifft, rwy’n meddwl ein bod i gyd, yn ein tro, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canmol y syniad o ailgyflwyno economeg y cartref, a soniodd Angela heddiw am ragor o le i addysg gorfforol ar gwricwlwm yr ysgol, ond a oes yna ewyllys wleidyddol i greu lle ar y cwricwlwm hwnnw, neu hyd yn oed i greu diwrnod ysgol hwy i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnwys? Mae’r cynlluniau ysgolion iach amrywiol—roeddwn yn hoff iawn, mewn gwirionedd, o’r dystiolaeth a roesoch yn y ddadl flaenorol, Jenny, am brofiad Sir y Fflint a’r hyn sy’n digwydd yno, ond wyddoch chi, rwy’n tueddu i feddwl, pa mor wybodus bynnag yw person ifanc yn ei arddegau, pa mor gynnar bynnag y dywedwn fod bwyta afalau yn dda, fel rydym yn ei wneud yn yr ysgolion cynradd yn eithaf effeithiol, rhowch chi gyfle i berson ifanc cyffredin yn ei arddegau i fynd allan amser cinio a bachu McDonalds a dyna fydd yn ei wneud. Felly, a oes ewyllys wleidyddol i ddweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylai neb adael yr ysgol yn ystod amser cinio’? Nid wyf o reidrwydd yn argymell hynny, ond mae’r rhain yn gwestiynau rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni eu hateb er mwyn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd.

Treth siwgr: pa mor uchel rydych chi’n mynd? Yn drist iawn, rwyf wedi olrhain cost bar siocled Mars, o’r adeg pan gyflwynwyd y system ddegol, o 3c i 65c dros oes. Mae maint Mars wedi crebachu’n sylweddol. Rwy’n dal i’w prynu. Gwn eu bod yn ddrwg i mi. Pa mor ddrud sy’n rhaid i chi eu gwneud er mwyn gwneud i bobl roi’r gorau i’w prynu? Ac mae’r cwestiwn hwnnw’n bwysig mewn cymunedau tlotach lle y mae mynediad at amrywiaeth o siopau’n wirioneddol anodd.

Ar ymarfer corff, Dai, fel person byr, mae’n debyg fy mod yn cymryd llawer mwy o gamau dros bellter penodol na Nathan Gill yma. [Chwerthin.] A wyddoch chi, rydych yn llygad eich lle ynglŷn â cherdded: mae am ddim, ond mae unigolion swrth heb ddigon o amser—ac nid wyf yn siarad amdanaf fy hun hyd yn oed y tro hwn—yn colli awydd i gerdded oherwydd pethau syml fel y tywydd ac mewn perthynas â phobl iau, oherwydd diogelwch. Mae pobl wedi bod yn y Cynulliad hwn ers digon o amser i wybod fy mod wedi siarad am ddiogelwch. [Torri ar draws.] Fe soniaf am feicio mewn eiliad, ond rwy’n brin o amser, iawn? Felly, yn olaf, yr hyn roeddwn eisiau ei ddweud am deithio llesol, ac am feicio hefyd, yw hyn: gwnewch ‘ddiogelwch yn gyntaf’ yn brif elfen, oherwydd os na wnewch hynny, nid yw’n mynd i weithio.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Sector Addysg Uwch Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Cynnig NDM6198 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy’n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac

e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf ddod â’r cynnig yma gerbron yn enw Plaid Cymru. Mi rydym ni, wrth gwrs, o’r farn bod myfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig—boed nhw’n dod o oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd neu du hwnt, wrth gwrs—yn dod â budd diwylliannol, economaidd ac addysgol aruthrol i’n prifysgolion a’n colegau ni yma yng Nghymru ac, yn wir, i gymdeithas yn ehangach. Mae’n bwysig, felly, yn wyneb y newidiadau mawr sydd o’n blaenau ni yn gyfansoddiadol bod hynny yn parhau ac, yn wir, ein bod ni’n gwneud beth y gallwn ni i gryfhau’r berthynas ryngwladol yna sydd rhwng ein prifysgolion ni a’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

I wneud hynny, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle deniadol iddyn nhw ddod iddo fe. Yn fy marn i, mae cynnig y cyfle i fyfyrwyr i aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl astudio yn rhan bwysig o hynny: rhywbeth hefyd yn ei dro fyddai’n helpu i leihau’r bwlch sgiliau mewn sawl sector hefyd yma yng Nghymru. Mae presenoldeb cryf myfyrwyr tramor hefyd, wrth gwrs, yn caniatáu inni ddatblygu partneriaethau rhyngwladol newydd. Yn wir, gan fod y Deyrnas Unedig yn mynd i fod dros y blynyddoedd nesaf yma yn y broses o ddatblygu perthynas newydd gyda gwledydd ar draws y byd, yna mae mwy o angen nag erioed am raddedigion llythrennog yn rhyngwladol, os leiciwch chi—’internationally literate graduates’—unigolion all ddarparu’r arweinyddiaeth sydd ei angen i greu partneriaethau a pherthnasau newydd ar lefel fyd-eang yn y dyfodol. Nid yw lleihau ymwneud prifysgolion Cymru â’r gymuned ryngwladol yn mynd i helpu i gyflawni hynny.

Mae amrywiaeth ryngwladol ein campysau prifysgolion ni yn sylweddol gyfoethogi profiad addysgol myfyrwyr cartref hefyd drwy’r gymysgedd o ddiwylliannau a safbwyntiau gwahanol y mae myfyrwyr o rannau eraill o’r byd yn eu cyfrannu i’r cymunedau hynny. Mae hyn oll yn fanteision pwysig, heb sôn am y manteision economaidd hefyd, wrth gwrs, sy’n cael eu cyfeirio atyn nhw yn ein cynnig ni y prynhawn yma.

Os cyfrwch chi wariant prifysgolion, eu staff a’u myfyrwyr, mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn cael effaith uniongyrchol bwysig iawn ar yr economi. Yn 2013, mi gynhyrchon nhw werth £2.4 biliwn o bunnau o GVA Cymru, yn cyfateb i 4.6 y cant o holl GVA Cymru yn y flwyddyn honno. Mi gynhyrchodd prifysgolion Cymru £600 miliwn o enillion allforio yn 2014. Mae prifysgolion yn gyfrifol am bron 47,000 o swyddi yng Nghymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan gynrychioli bron 3.5 y cant o gyflogaeth gweithlu Cymru yn 2013. Yn 2014, fe amcangyfrifwyd fod cyfanswm o bron i £0.75 biliwn wedi’i wario ar ymchwil a datblygu yng Nghymru, yn cynrychioli bron i 2.5 y cant o gyfanswm gwariant ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Unedig. Nid yw gymaint ag y byddem ni’n dadlau y dylem fod yn ei gael, ac mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, yn ôl ym mis Medi, ddweud y dylid fod mwy yn cael ei fuddsoddi yn y maes yma. Ond, yn sicr, mae hynny yn ei hunan fel y mae yn ffigwr sylweddol iawn, iawn.

I amddiffyn y buddiannau yma, mae angen i ni ddiogelu cynaliadwyedd y sector addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gwybod bod sefyllfa gyllidol y sector yn fregus fel ag y mae hi ar hyn o bryd. Mae adroddiad gan Prifysgolion Cymru wedi amlinellu y pwysau sylweddol sydd ar gyllid y sector addysg uwch ar hyn o bryd. Ers 2011, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y cyllid cyhoeddus uniongyrchol ar gyfer ein prifysgolion ni drwy HEFCW ac yn y blaen yn gostwng o bron £400,000 i rhyw £112,000 dros y pum mlynedd ddiwethaf, a hynny’n bennaf, wrth gwrs, oherwydd y ffordd y mae ffioedd dysgu bellach yn ariannu llawer o’r sector. Tua 10 y cant o gyllid y sector sy’n deillio o’r arian cyhoeddus yma ar hyn o bryd—HEFCW ac yn y blaen—50 y cant yn dod o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr cartref, gyda’r gweddill yn deillio o grantiau ymchwil, cytundebau masnachol ac elusennau ac yn y blaen. Ac mae prifysgolion yn fwyfwy wedi gorfod benthyg nawr er mwyn gwneud buddsoddiad cyfalaf er mwyn aros yn gystadleuol gyda phrifysgolion eraill. Tan yn ddiweddar, roedd gan brifysgolion Cymru lefelau benthyg yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, ond mae’r rhagolygon diwethaf yn awgrymu y bydd y lefelau yma yn codi yn sylweddol iawn ac efallai yn codi’n uwch na’r gyfartaledd honno yn y blynyddoedd nesaf.

Felly, beth sydd angen i ni ei wneud? Mae’r cynnig, wrth gwrs, yn amlinellu sawl cymal sydd yn ceisio awgrymu rhai o’r meysydd y dylid mynd i’r afael â nhw. Yn amlwg, i gychwyn, mae angen diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac addysg uwch, neu o leiaf ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle. Mae Cymru, wrth gwrs, wedi derbyn, fel rŷm ni’n ei wybod, dros €140 miliwn o raglen fframwaith yr Undeb Ewropeaidd yn ystod rownd 2007-2013. Mi dderbyniodd prosiectau yng Nghymru tua £12 miliwn mewn cyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig. Mae prifysgolion Cymru wedi derbyn tua £180 miliwn o gyllid gan y Banc Buddsoddi Ewropeaidd yn y pum mlynedd ddiwethaf ar gyfer datblygu campysau a gwella cyfleusterau dysgu ac ymchwil ac yn y blaen ac yn y blaen. Felly, mae hwn yn faes pwysig. Mae rhai prifysgolion eisoes yn dweud wrthym ni bod partneriaid yn tynnu allan o’r trefniadau sydd yn eu lle yn barod oherwydd consyrn na fyddan nhw’n gymwys fel partneriaid rhyngwladol, wrth gwrs, am ariannu, os nad yw’r holl bartneriaid o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Nawr, mae cydweithio rhyngwladol yn hollbwysig i brosiectau ymchwil. Maen nhw’n cyfoethogi profiadau myfyrwyr a’n staff academaidd ni. Fe welwch chi gyfeiriad at Erasmus yn y cynnig yma—dros 200,000 o fyfyrwyr ac aelodau staff Prydeinig wedi cymryd rhan yng nghynllun Erasmus, nid dim ond o’r sector addysg uwch ond o’r sector addysg bellach hefyd, wrth gwrs, sydd wedi cael budd sylweddol iawn o’r rhaglen yma. Roedd arolwg barn gan y British Council ddechrau’r mis yn dweud bod 69 y cant o Brydeinwyr yn meddwl y dylem ni barhau i gymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid megis Erasmus. Mae mantais, wrth gwrs, a dylanwad rhyngwladol i’w ennill o groesawu myfyrwyr rhyngwladol yma. Mae myfyrwyr a staff rhyngwladol sydd wedi byw yng Nghymru yn fwy tebygol o ymddiried ynom ni, i ymweld â Chymru, ac, wrth gwrs, yn bwysig iawn, i ddechrau partneriaethau busnes gyda chwmnïoedd Cymreig. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs—mae e wedi cael ei drafod cyn heddiw—bod modd cymryd rhan yn Erasmus heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae gwledydd fel Gwlad yr Iâ, Rwsia, Norwy a Thwrci i gyd yn dyst o hynny ac rwyf hefyd yn gwybod bod y Llywodraeth eisoes wedi cytuno â’r farn bod angen gwneud beth y gallwn ni i sicrhau bod y berthynas yna yn parhau.

Mae hefyd angen sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio ym mhrifysgolion Cymru, a’r peth cyntaf i’w ddweud, wrth gwrs, yw mai dyna ydy’r peth moesol-gywir i’w wneud oherwydd pobl ydyn nhw wedi’r cyfan, nid rhyw gardiau chwarae mewn gêm wleidyddol. Mae gennym ni gyfundrefn fisa ar gyfer academyddion ac ymchwilwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sydd mor llym fel ei bod hi, yn ôl y dystiolaeth rydw i wedi’i chael gan brifysgolion, wedi llesteirio nifer o brosiectau ymchwil ac mae e yn cael effaith negyddol ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Er enghraifft, dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae nifer y myfyrwyr o India sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig wedi cwympo o ryw hanner—50 y cant—ac mae yna drafod, wrth gwrs, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am wneud y gyfundrefn yn fwy llym, sydd wedyn yn creu pryder go iawn, wrth gwrs, ymhlith staff a myfyrwyr rhyngwladol ac yn golygu i rai ohonyn nhw ddiystyru Cymru fel cyrchfan, sydd yn golled economaidd, academaidd, diwylliannol ac yn y blaen. Mae Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin wedi galw ar y Llywodraeth i eithrio gwyddonwyr ac ymchwilwyr yr Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn gweithio yn y Deyrnas Unedig o unrhyw newidiadau i’r rheolau mudo fel bod modd cadw staff talentog ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n rhywbeth y byddem ni, wrth gwrs, yn ei ategu.

Hefyd, mae angen galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio. Mae Jo Johnson, Gweinidog y Deyrnas Unedig dros brifysgolion a gwyddoniaeth wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n ceisio am le mewn prifysgol Brydeinig yn 2017 yn ddiogel o’u lle a’u cyllid hyd ddiwedd eu cyrsiau, hyd yn oed os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r cyrsiau yna ddod i ben. Ond, wrth gwrs, heb y cyfle i aros am flwyddyn neu ddwy yn y Deyrnas Unedig ar ôl graddio, mae’n gwbl bosib y bydd llawer o’r myfyrwyr hynny’n dewis astudio mewn gwledydd eraill ta beth. Felly, er mwyn denu myfyrwyr i astudio yng Nghymru, dylid ystyried ailgyflwyno cynllun fisa a fyddai’n galluogi myfyrwyr i aros yn y wlad i weithio ar ôl gorffen eu hastudiaethau, efallai o’r fath a gafodd ei ddiddymu, wrth gwrs, yn 2012: y ‘tier 1 post-study’—

Diolch i chi, Llyr. A ydych hefyd yn cytuno nad ar gyfer gweithio’n unig y mae hyn; mae hefyd yn cynnwys agweddau ôl-ddoethurol, gan y bydd llawer o fyfyrwyr o dramor yn parhau â’u hastudiaethau yma drwy waith ôl-ddoethurol?

Ie, rydw i’n cytuno. Llaw fer, efallai, oedd ‘gweithio’; rŷch chi’n berffaith iawn i fy nghywiro i a diolch am hynny.

Wrth gwrs, roedd y ‘tier 1 post-study work visa’ a gafodd ei ddiddymu yn 2012 yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol aros am ddwy flynedd ychwanegol ar ôl graddio, ac mae prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru yn gefnogol i hynny ddigwydd. Mi fyddai cynllun fel hyn, wrth gwrs, o fudd i’r economi, gan alluogi myfyrwyr talentog i aros yma gyda ni.

Mae cynllun peilot, wrth gwrs, ar hyn o bryd yn caniatáu i bedwar prifysgol yn Lloegr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros wirio cymwysterau darpar-fyfyrwyr am fisa ‘tier’ 4. Fel rhan o’r cynllun, mae myfyrwyr cymwys yn cael aros yn y wlad am chwe mis ar ôl graddio er mwyn dod o hyd i waith, ac wedyn ceisio am fisa ‘tier’ 2, ond mae’r cynllun hwnnw’n bell o fod cystal â’r un a oedd gennym ni’n flaenorol. Mae Plaid Cymru hefyd, wrth gwrs, wedi galw am system o fisas Cymreig a fyddai’n galluogi Cymru i gyhoeddi ei thrwyddedau astudio ei hun yn lle bod yna risg o San Steffan yn gweithredu fel rhyw rwystr yn y cyd-destun yma, rhwng Cymru a’r byd, ac wrth gwrs, mae’n rhywbeth wnaeth y grŵp pob plaid ar integreiddio cymdeithasol yn San Steffan ei amlygu’r wythnos diwethaf hefyd.

Yn olaf, wrth gwrs, mae angen dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y Deyrnas Unedig, ac erbyn hyn, mae unigolion fel George Osborne a Boris Johnson wedi datgan y bydden nhw o blaid hynny. Mi ddatgelodd arolwg barn diweddar gan Universities UK nad yw mwyafrif o’r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol fel mewnfudwyr—75 y cant yn croesawu niferoedd uwch o fyfyrwyr rhyngwladol a 91 y cant yn meddwl y dylai fod hawl ganddyn nhw i aros yn y Deyrnas Unedig i weithio ar ôl graddio. Felly, mae yna lawer i’w wneud, ond yr hyn, wrth gwrs, sy’n ddi-gwestiwn yw bod myfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwneud cyfraniad diwylliannol academaidd ac economaidd pwysig a sylweddol iawn i Gymru, ac mae angen gwarchod a chryfhau hynny, yn fy marn i. Mae’n rhaid i San Steffan beidio â bod yn rhyw fath o rwystr, fel yr oeddwn i’n ei ddweud, rhwng Cymru a’r byd. Mi allwn ni anfon neges ynglŷn â rhai o’r pethau y bydden ni am eu gwneud o’r Siambr y prynhawn yma drwy gefnogi’r cynnig yma heddiw.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle:

a) manteisio i’r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru;

b) cefnogi mentrau cydweithredu sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol;

c) archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â’r UE i fynd i’r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru;

d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i’w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU;’

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddiolch hefyd i gynrychiolydd Plaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Rwy’n credu bod pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod y sector addysg uwch yn bwysig iawn i Gymru. Rydym yn gwybod bod ein prifysgolion, fel y dywedwyd eisoes, yn gyflogwyr pwysig a bod ganddynt gyfraniad sylweddol, a wneir ganddynt ar sail flynyddol, i’n heconomi. Maent hefyd, wrth gwrs, yn cyfrannu at lwyddiant allforion o Gymru ac mae’r enillion hynny wedi bod yn tyfu yn y blynyddoedd diwethaf. Wrth gwrs, maent yn cynnig gwaith i’r rhai a gyflogir yn uniongyrchol ganddynt, ac wrth gwrs, caiff rhai eu cyflogi, drwy economeg o’r brig i lawr, mewn swyddi o ganlyniad uniongyrchol i gael prifysgolion yn eu cymunedau lleol. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl, oherwydd natur gynyddol fyd-eang marchnadoedd a natur gynyddol fyd-eang ein heconomi yma yn y DU, y bydd angen i ni fod yn wlad yma yng Nghymru gyda gweithlu hynod o fedrus, ac mae’r prifysgolion hynny’n helpu i gyflawni hyn ac mae gan lawer ohonynt berthynas waith dda ac agos iawn gyda chyflogwyr er mwyn diwallu eu hanghenion.

Rwy’n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain heddiw nad prifysgolion yn unig sy’n darparu addysg uwch. Mae llawer o golegau addysg bellach ar draws Cymru bellach â chyfran gynyddol o’u hincwm yn deillio o ddarparu’r hyn a fyddai’n cael ei ddarparu yn y sector prifysgolion yn draddodiadol. Yn ôl y cyfrif diweddaraf, rwy’n meddwl bod tua 8 y cant o incwm colegau addysg bellach yng Nghymru yn gysylltiedig ag addysg uwch mewn gwirionedd. Yn wir, mae’r ganran mor uchel ag 20 y cant yn rhai o’n colegau addysg bellach.

Felly, gadewch i ni beidio ag anghofio mai dyna’r cyd-destun rydym yn sôn amdano. Nawr, rhaid i mi ddweud, ym mhwynt 4 heddiw rydym wedi cyflwyno gwelliant arwyddocaol sy’n newid natur llawer o’r pwyntiau a wnaed. Y rheswm pam ein bod wedi gwneud hynny yw oherwydd ein bod yn deall bod angen gwneud y gorau o’r ffynonellau incwm hynny neu ddarparu ffynonellau incwm eraill yn eu lle mewn perthynas ag incwm ymchwil ar gyfer ein sector prifysgolion yng Nghymru yn y dyfodol os na fydd gennym fynediad at gronfeydd fel Horizon 2020 mwyach o ganlyniad i Brexit.

Nawr, mae Horizon 2020 yn ffynhonnell sylweddol o gyllid ar gyfer ymchwil—dyma yw oddeutu 20 y cant o gyllid ymchwil ar hyn o bryd yma yng Nghymru—ond nid dyma’r unig ffynhonnell o gyllid ymchwil. Daw 80 y cant o lefydd eraill. Rydym hefyd yn gwybod bod yna risgiau yn y dyfodol i’r gyfran o’r arian ymchwil Ewropeaidd a gawn ar hyn o bryd—nid yn unig oherwydd Brexit, hyd yn oed os ydym yn rhan o Horizon 2020 ar ôl Brexit—a gallai hynny fod yn wir, yn sicr, yn dibynnu ar y trafodaethau a gynhelir—ac fe wyddom fod yna awgrymiadau o’r Undeb Ewropeaidd y bydd ffocws cyllido ymchwil Horizon 2020 ar hyrwyddo a datblygu diwylliant ymchwil o ansawdd mewn rhannau o’r UE a’r gwledydd eraill sy’n cymryd rhan lle nad oes ganddynt ymchwil o ansawdd uchel ar hyn o bryd. Felly, byddwn ar ein colled yn ôl pob tebyg o ran ein cyfran o’r arian hwnnw yn y dyfodol. Felly ni wyddom beth fydd y newidiadau hynny eto ac mae’n anodd dyfalu. [Torri ar draws.] Iawn, ond nid oes gennyf lawer o amser.

Diolch i chi, Darren, am dderbyn yr ymyriad. Ond rydych hefyd yn cydnabod mai rhan o Horizon 2020 mewn gwirionedd oedd edrych ar sut y gallwn annog busnesau i fod yn rhan o’r proffil ymchwil, a sicrhau bod cydweithio’n digwydd ar draws y gwahanol wledydd, ac felly mae’r ffocws mewn gwirionedd ar fwy o gydweithio, yn enwedig gyda busnes y tro hwn.

Ie, wrth gwrs, rwy’n cydnabod hynny, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn bosibl cymryd rhan yn Horizon 2020 ar ôl Brexit, ac rwy’n credu mai dyna’r pwynt y mae Llyr Huws Gruffydd yn ei wneud, sy’n bwynt pwysig iawn. Dylai’r pethau hyn gael eu trafod a dylent fod ar y bwrdd, ond y pwynt rwy’n ei wneud yw bod yna gyfleoedd i brifysgolion ddatblygu cysylltiadau eraill yn rhyngwladol, y tu allan i hynny, a chredaf yn ôl pob tebyg, oherwydd yr orddibyniaeth ar Horizon 2020, efallai bod diffyg ffocws wedi bod ar ddatblygu’r cysylltiadau hynny yn rhai o’n prifysgolion yng Nghymru. Mae’r un peth, wrth gwrs, yn berthnasol i Erasmus +—mae’n gynllun pwysig, mae’n galluogi rhaglen gyfnewid, ond nid dyma’r unig raglen gyfnewid sy’n gweithredu yng Nghymru ac nid dyma’r unig raglen gyfnewid sy’n gweithredu ar draws y DU. Rwy’n credu nad ydym yn gwneud cyfiawnder â’r sector prifysgolion drwy ddweud mai dyma’r unig gynllun o bwys o ran y rhaglenni cyfnewid hynny.

O ran fisâu, os caf am ychydig eiliadau, mae yna raglenni fisa ar waith ar hyn o bryd sy’n cynorthwyo myfyrwyr ôl-raddedig i gael hawl i aros yn y DU er mwyn dechrau eu busnesau eu hunain, mae yna rai sy’n rhoi hawl iddynt aros yn y DU os ydynt wedi cael cynnig swydd, mae yna rai sy’n rhoi hawl i bobl aros ac astudio y tu hwnt i gwrs ôl-raddedig yn ogystal. Y rheswm pam y newidiodd y gyfundrefn fisâu oedd oherwydd ei bod yn cael ei chamddefnyddio’n eang. Rydym yn gwybod ei bod yn cael ei chamddefnyddio—roedd llawer o golegau’n caniatáu i bobl gael fisas pan na ddylent fod wedi’u cael, yn enwedig mewn perthynas â chymwysterau iaith Saesneg. Roedd llawer o’r rheini, wrth gwrs, yn y wlad honno—India, Pacistan ac eraill y cyfeiriwyd atynt wrth agor y ddadl hon. Dyna pam y mae’r gyfundrefn fisa wedi newid.

Nawr, rwy’n cytuno â Phlaid Cymru o ran yr angen i ni eithrio myfyrwyr o’r ffigurau mudo net hynny, a dyna pam y byddwn yn cefnogi’r rhan benodol honno o’r cynnig heddiw. Ond rwy’n gobeithio y byddwch yn deall bod angen i ni gael rhywfaint o drefniant o’r ochr arall hefyd â’r UE, o ran dinasyddiaeth a’r gallu i barhau i weithio yn y prifysgolion lle y mae gennym staff yn cael eu cyflogi. Rwy’n derbyn nad yw’r ansicrwydd yn helpu dim ar hyn o bryd, ond mae angen i hynny fod yn ddwyochrog yn y dyfodol.

Wel, yn amlwg, fel y dywedwyd eisoes, mae’r sector addysg uwch yn hanfodol bwysig i’n cymdeithas a’n heconomi, nid yn lleiaf am fod ei brosiectau ymchwil a datblygu yn allweddol i greu economi fwy ffyniannus yma yng Nghymru.

Mae amheuon ynglŷn â chyllid ymchwil yn gwneud hwn yn gyfnod ansicr i’r sector. Gallai rhoi diwedd ar ein mynediad at gyllid gan gyrff rhyngwladol arwain at sector prifysgolion sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi, a bydd hynny yn ei dro yn cael effaith ganlyniadol negyddol sylweddol ar Gymru. Gallai Brexit, a diwedd posibl ar arian ymchwil o dramor ysgwyd sylfeini ein heconomi’n sylweddol. Gyda llawer llai i ddenu pobl alluog i astudio ac aros yng Nghymru, rydym yn gwthio ein hunain yn nes byth at farchnad McJob. Mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain: mae graddedigion yn ennill bron i £10,000 y flwyddyn yn fwy na phobl heb radd. Soniodd Llyr am India yn gynharach, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni edrych y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd yn hyn o beth. Byddem yn ffôl i amcangyfrif yn rhy isel, mewn gwirionedd, y cyfoeth, nid yn unig o ran talent, ond y cyfoeth ym mhocedi’r myfyrwyr hyn a ddaw yma i Gymru, a’r ffaith fod llawer ohonynt yn aros a gweithio yng Nghymru, ac yn gwneud Cymru yn gartref iddynt yn sgil eu hastudiaethau yma yng Nghymru, a hir y parhaed hynny.

Mae effaith y sector addysg uwch wedi ei ledaenu ar draws Cymru, gan gefnogi hyd yn oed yr ardaloedd nad oes ganddynt brifysgolion, a gyfrannodd chwarter y cyfanswm gwerth ychwanegol gros hwnnw. Yn yr un modd, roedd dros 25 y cant o’r swyddi a gefnogwyd gan y sector yn 2013 wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol heb brifysgol—ardaloedd fel Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i, lle y cynhyrchodd y sector addysg uwch dros 2,000 o swyddi.

Dylem fod yn falch fod prifysgolion Cymru yn gwneud yn well na’r disgwyl mewn perthynas ag ymchwil. Gennym ni y mae’r ganran uchaf o waith ymchwil o’r radd flaenaf o ran ei effaith o holl wledydd y DU, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, ac ystyrir bod bron ei hanner yn effeithio’n drawsnewidiol ar yr economi a’r gymdeithas. Felly, o ystyried y gefnogaeth ariannol sylweddol a gafodd Cymru gan yr UE, bydd Brexit yn creu heriau sylweddol i ymchwil a datblygu. Yn 2015 yn unig, cafodd bron £25 miliwn o gyllid datblygu rhanbarthol Ewropeaidd ei gymeradwyo ar gyfer cynigion i wella’r seilwaith ymchwil ac arloesi a meithrin gallu ar draws Cymru, yng nghampws arloesi a menter Aberystwyth, a Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd. Agorodd campws gwyddoniaeth ac arloesedd y bae ym Mhrifysgol Abertawe yn fy rhanbarth ym mis Hydref 2015 a chafodd fuddsoddiad gwerth €60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Ni allwn fychanu pwysigrwydd y buddsoddiad i economi Gorllewin De Cymru.

Soniodd Darren Millar am Horizon 2020 yn gynharach, ac er ei bod yn wir ein bod yn dal i allu cael mynediad at Horizon 2020 ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynnwys y trafodaethau na pha fath o gytundeb Brexit a gawn i ni wybod a fyddwn yn gallu cael yr un lefel o fynediad at Horizon 2020 ag sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn cyflwyno achos dros fod yn rhan o’r mathau hynny o gynlluniau, boed yn un o lawer ai peidio.

Efallai’n wir na fydd ymrwymiad y Canghellor i ychwanegu £2 biliwn ychwanegol y flwyddyn at wariant ar ymchwil a datblygu erbyn diwedd Senedd bresennol San Steffan yn arwain at ddim os yw cyllid grant Ewropeaidd yn diflannu, o ystyried mai 1.67 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros oedd gwariant gros y DU ar ymchwil a datblygu yn 2014, un o’r isaf o wledydd y G7, ac rydym yn mynd tuag at yn ôl. Ond yn fwy na hynny, beth y mae’n ei olygu ar gyfer prosiectau newydd? Beth y byddai’n ei olygu i ganolfan ymchwil a datblygu dur ar gampws arloesedd Abertawe, er enghraifft—prosiect y mae llawer ohonom wedi bod yn pwyso amdano ers peth amser bellach? Os mai dim ond llenwi tyllau y mae unrhyw gyllid ychwanegol yn ei wneud, gan redeg er mwyn aros yn llonydd, yna mae’n dilyn y bydd buddsoddiad newydd yn annhebygol iawn o gael ei ystyried, ac mae’n bosibl y byddai argymhellion fel y cynllun ymchwil a datblygu dur, a fyddai’n tanategu hyfywedd yr ardal fel canolfan gynhyrchu dur—rhywbeth sy’n hynod o bwysig i economi Cymru—yn wynebu mwy o gystadleuaeth fan lleiaf.

Mae hwn yn gyfnod bregus iawn i addysg uwch, a rhaid i ni sicrhau, fel llunwyr cyfraith a pholisi, ein bod yn deall yn llawn beth fydd effaith y newid sylweddol hwn i’r tirlun gwleidyddol ar ein sefydliadau, os a phan fyddwn yn pleidleisio ar y cynllun Brexit yn y pen draw.

Hoffwn ddatgan buddiant, Lywydd, fel darlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwy’n mynd i fod yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw, ac roeddwn yn neidio i fyny ac i lawr mewn cytundeb ag araith Llyr Gruffydd. Yn benodol, hoffwn dynnu sylw at bwyntiau—nid yw’n digwydd yn aml iawn, ond dyna ni. [Chwerthin.]—4(d) a 4(e) y cynnig. Mae addysg uwch yn alwedigaeth ryngwladol, ac mae cydweithrediad ar draws y gwledydd ym maes addysgu ac ymchwil yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned academaidd. Yn wir, yn fy rôl flaenorol fel uwch ddarlithydd, roeddwn yn diwtor cyswllt gyda choleg yng Ngwlad Groeg, lle roeddem yn dilysu cyrsiau, yng Ngholeg Perrotis/Ysgol Fferm Americanaidd yng Ngwlad Groeg, yn Thessaloniki, ac roeddwn yn ystyried fy hun yn gynnyrch wedi’i allforio o Gymru.

Credaf fod rheolaethau fisa Llywodraeth y DU y mae Llyr eisoes wedi’u crybwyll, ac a gyflwynwyd gan ein Prif Weinidog pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref, yn rhan o ymosodiad ehangach ar werth myfyrwyr rhyngwladol a’r sector myfyrwyr rhyngwladol i’r economi. Rwy’n meddwl, Darren Miller—fel cyn-ddarlithydd addysg uwch—eich bod wedi siarad llwyth o sbwriel tuag at ddiwedd eich araith, mae’n rhaid dweud. Cafodd Theresa May wared ar fisas gwaith ôl-astudio yn 2012. Roedd y rhain wedi caniatáu i fyfyrwyr o’r tu hwnt i’r UE aros yn y DU a gweithio am hyd at ddwy flynedd ar ôl iddynt raddio. Nawr ni chânt aros am fwy na phedwar mis. Roedd hi eisiau mynd ymhellach ar y pryd a diarddel myfyrwyr rhyngwladol o Brydain yn syth ar ôl iddynt raddio, hyd nes i arweinwyr busnes ei chael i weld rhywfaint o synnwyr drwy sôn am yr effaith negyddol bosibl ar yr economi.

Yn fy swydd flaenorol, roeddwn yn dysgu MBA Met Caerdydd. Yn 2008, roedd cyfartaledd o 150 o fyfyrwyr MBA rhyngwladol ar y rhaglen bob semester. O ganlyniad uniongyrchol i bolisi Llywodraeth y DU, roedd 30 o fyfyrwyr ar ôl ar y rhaglen pan roddais y gorau i weithio amser llawn yn 2016. Dyna ganlyniad uniongyrchol i bolisi Llywodraeth y DU, ac mae’n sarhaus—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Mae’n sarhaus dweud bod hyn oherwydd camymddwyn ar ran y myfyrwyr hynny. Nid oedd hynny’n wir.

Nid wyf yn cyhuddo unrhyw un o’r myfyrwyr hynny o wneud cais twyllodrus am fisa. Rwy’n gwneud y pwynt yn syml iawn fod twyll wedi’i ganfod yn y system ac angen rhoi sylw iddo. Nid oedd y system flaenorol yn gweithio. Mae yna gyfleoedd o hyd o dan y trefniadau fisa presennol i bobl wneud cais am fisâu a’u cael.

Nid yng Nghymru. Nid oedd hynny’n digwydd yng Nghymru. Fe ddywedaf rywbeth arall wrthych: fel Ceidwadwr, eich polisi fel arfer yw tynnu’r wladwriaeth allan o bethau. Wel, fe ddywedaf un peth: rydych yn defnyddio gordd i dorri cneuen. Pe baech chi eisiau datrys rhai o’r pethau hyn yn y colegau lle roedd yna gamymddwyn, rydych chi’n eu datrys drwy gau’r colegau hynny. Nid ydych yn ei wneud drwy niweidio economi Cymru.

Mae myfyrwyr tramor hefyd yn cael eu cynnwys yn ffigurau ymfudo net y DU. Mae hynny’n gwbl hurt. Myfyrwyr yw’r bobl hyn, nid ymfudwyr, ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi, ac yn dal i wneud hynny. Yn 2013-14, yn y flwyddyn academaidd honno, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r diwygiadau dinistriol hyn, myfyrwyr rhyngwladol oedd ychydig o dan un rhan o bump o’r bobl mewn addysg yn y DU. Os awn ymlaen ymhellach â’r cynigion hyn gyda fisâu myfyrwyr, rydym yn mynd i niweidio ein heconomi. Felly, mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd myfyrwyr tramor i addysg uwch yng Nghymru. Rwy’n aelod o Undeb y Prifysgolion a Cholegau, a chynhaliwyd arolwg ganddynt a ganfu fod dwy ran o bump o staff a myfyrwyr, ar ôl Brexit, bellach yn fwy tebygol o ystyried peidio â dod i’r DU neu adael cyfundrefn addysg uwch y DU o ganlyniad i Brexit, oherwydd ofnau fod yr amodau y mae myfyrwyr rhyngwladol y tu allan i’r UE yn eu dioddef—byddant yn wynebu’r un problemau o fewn yr UE. Cyfarfûm ag is-ganghellor prifysgol a ddywedodd wrthyf fod staff rhyngwladol yn hanfodol i ddatblygiad addysgu ac ymchwil sy’n edrych tuag allan. Iawn, David.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych hefyd yn cytuno nad ar gyfer graddio a chael graddau’n unig y maent yn dod? Maent am fynd i mewn i’r meysydd ymchwil ar ôl hynny mewn gwirionedd. Felly, maent yn dod am eu bod yn gwybod bod yr ymchwil yno. Maent yn awyddus i barhau â’u hastudiaethau ar ôl graddio, a hyd yn oed ar ôl doethuriaeth, maent am barhau i weithio mewn ymchwil. Felly, mae’n ddarlun cyfan.

Ie, myfyrwyr MBA yw ein myfyrwyr doethurol yn y dyfodol a’n hymchwilwyr yn y dyfodol. Ie, yn hollol. Mae ganddynt werth deallusol a ddylai aros yn ein heconomi. Gallai gwneud gwladolion yr UE yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau llym â gwladolion nad ydynt o’r UE ar ôl Brexit effeithio’n drychinebus ar ein system brifysgolion, a bydd yn anfantais i’n twf economaidd sydd eisoes yn arafu. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy’n gweithio ym mhrifysgolion Cymru, fel y mae’r cynnig yn ei nodi’n gwbl briodol. Mae ein gallu i ateb y galw am swyddi sgiliau uchel yn dibynnu ar hynny, a dyna pam y byddaf yn llwyr gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Mae’n dda gen i ychwanegu at y cytundeb sy’n torri mas yn y Siambr. Rwy’n cytuno’n llwyr gyda’r hyn a ddywedodd Hefin wrth gyflwyno ei araith yntau. Yn amlwg, os gallwn ni gadw draw o borc, gallwn gytuno ar nifer o bethau yn y Siambr yma. Rwyf am ganolbwyntio ar dri pheth y gallwn eu gwneud i sicrhau dyfodol addysg uwch yng Nghymru, yn dilyn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a rhai o’r agweddau eraill sydd wedi cael eu crybwyll gan Aelodau eraill. Dewch inni fod yn glir am ba mor bwysig yw’r sector yma. Fel sydd wedi cael ei ddweud—ond mae’n hynod bwysig ailadrodd y peth—dyma un o’r ‘exports’ mwyaf sydd gennym ni. Rydym yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau ynglŷn â’r ymwneud rhyngwladol sydd yn y sector addysg uwch drwy ynysoedd Prydain. Rydym ni eisiau cadw hynny a sicrhau bod hynny yn parhau i fod o fudd i Gymru.

Mae un swydd yn cael ei chreu yng Nghymru o bob tri myfyriwr sy’n dod o’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd. Mae un swydd yn cael ei greu o bob pum myfyriwr sy’n dod o’r tu fewn i’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae hynny yn gyfystyr â dros £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys £160 miliwn o daliadau mewn ffioedd dysgu. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cadw’r llif incwm yma i brifysgolion, yn ogystal â’r ffaith, wrth gwrs, fod nifer o’n prifysgolion ni bob blwyddyn o fewn rhyw 150 i 200 o lefydd i fod yn fethiant neu’n lwyddiant ar y nifer o ‘recruitment’ sydd yn digwydd i’r prifysgolion yna. Mae myfyrwyr tramor nid yn unig yn bwysig yn rhyngwladol ac yn economaidd; maen nhw’n bwysig yn ddeallusol achos maen nhw’n cyfoethogi ein prifysgolion ni, maen nhw’n dod â sgiliau newydd, maen nhw’n dod â phersbectif newydd, maen nhw’n ymwneud â’n myfyrwyr ni, y rhai domestig, os liciwch chi, ac maen nhw’n cyfoethogi’r holl broses drwy hynny.

There are three quick things that we could do to ensure the viability of the sector going forward. First of all, as Hefin David concluded upon, we need to ensure the visa status of EU students and teachers and lecturers in universities, and researchers, who are here with us already. We’re already reading some quite frightening stories about EU nationals being asked to prove their nationality and their right to remain in this country. We don’t want to see any more of that. We need a clear commitment from the UK Government that these students and members of staff are entitled to stay within the university sector in Wales. There are about 1,300-odd staff who are EU nationals in Welsh universities alone, and they really need to be encouraged to remain.

The second thing we need to see is a visa system that’s fit for purpose. On a day that the aptly, or unaptly, named Robert Goodwill said that we’ll have a £1,000 levy for all EU citizens coming to work in this country, I think we need to revisit very quickly how we differentiate between students and workers within those figures, because we do not want to see the already reducing number of students who are applying to Welsh universities—down something like 32 per cent already in the early applications following the referendum result from EU countries—we don’t want to see that developing into a real disaster for our universities. So, a visa system that’s fit for purpose. That, in Plaid Cymru’s view, includes a visa system that’s regionalised within the UK context, so Wales has its own visa demands. That’s nothing new. Sadiq Khan, the Mayor of London, has called for that, relying on a PricewaterhouseCoopers report produced for the City of London Corporation. Canada has a visa system like that and has been running that visa system for many years within the provinces. Only last week, the all-party group on social integration within the Westminster House of Commons also called for a visa system that had a regional immigration system. We can make use of that then to tailor both students and migrant workers to the needs of the Welsh economy.

The final thing that we need to do to ensure the future of the higher education system and international students is to take international students out of those immigration targets. It’s not widely known, but of the immigration numbers that we always talk about, 30 per cent of them—one in three—are students and they do return home. I have to say to Darren Millar that the numbers—and these are the official numbers—of those who overstay their visas is 1 per cent. That’s the nature of the beast. It’s not worth wasting the 99 per cent in order to deal with that. Yes, by all means deal with failing colleges, by all means deal with exploitation—[Interruption.] I don’t have time, sorry; my time is up. By all means deal with those who are abusing the system, but for the 99 per cent, we need to take them out of the figures and we need an honest debate about the true number of migrants that are coming to Wales and the part that they play, and students are not migrants.

Er y gall addysg uwch fod yn brofiad sy’n datblygu cymeriad, mae’r rhuthr i droi pob pwnc a galwedigaeth yn gwrs gradd wedi bod yn brofiad sy’n dinistrio cymeriad i lawer o bobl ifanc. Mae’r farchnad swyddi wedi gorlifo â graddedigion nes bod eu cyflogau’n is nag erioed o’r blaen, mae eu dyledion yn uwch, ac mae’r trethdalwr yn talu bil llawer mwy am weinyddu system fenthyciadau wrth i lai o raddedigion gyrraedd y trothwy ad-dalu pan fo disgwyl iddynt wneud hynny. I raddau helaeth, mae cyflogwyr yn hidlo ymgeiswyr rhwng y rhai sydd â 2:1 a’r gweddill. Mae rhai sefydliadau mwy o faint yn dweud erbyn hyn fod yna gymaint o raddedigion fel eu bod bellach yn trin graddau Meistr fel y radd anrhydedd newydd.

Mae cynaliadwyedd y system addysg uwch yng Nghymru yn dibynnu, nid yn unig ar gyllid Llywodraeth, ond hefyd ar ei henw da mewn perthynas ag ymchwil a datblygu ac ar safon yr addysg a phrofiadau eraill y gall sefydliadau addysg uwch eu cynnig yma. Byddai’n anghywir i fynd ati’n ddall i fabwysiadu barn yr UE ar wario ar addysg uwch wrth ystyried cymorth ariannol. Nid yw’r UE wedi bod yn enwog am ei ddarbodusrwydd na’i atebolrwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru farnu drosti ei hun a yw cronfeydd o’r fath yn creu elw digon da ar fuddsoddiad cyn ailddarparu’r cyllid. Mae hi mewn sefyllfa well na neb arall i wybod beth sy’n fforddiadwy ac i ymateb i anghenion economi Cymru.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych yn barod i dderbyn bod myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu £22 miliwn yn uniongyrchol i economi’r DU?

Rwy’n derbyn hynny ac rwyf hefyd yn dadlau, pe bai ein sefydliadau addysg uwch yn ehangu eu rhwyd, gallent wneud llawer mwy o arian yn y tymor hir mewn gwirionedd, a bod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir, yn hytrach na chanolbwyntio ar fyfyrwyr o’r UE y mae’n rhaid cynnig yr un telerau iddynt â myfyrwyr o’r wlad hon.

Bydd y rhai sy’n gweithio ym mhrifysgolion y DU ar hyn o bryd yn cael caniatâd i aros. Mae dweud efallai na fyddant, unwaith eto, yn dod o bosibl gan blaid sy’n gwneud popeth yn ei gallu i godi bwganod a mynnu pethau a fydd yn digwydd beth bynnag fel y gallant geisio hawlio buddugoliaeth ymhellach i lawr y lôn. Mae UKIP wedi dweud, dro ar ôl tro, y dylai gwladolion yr UE sy’n byw yma ar hyn o bryd gael hawl i aros. Dylai Theresa May gyhoeddi hynny ar unwaith a rhoi’r gorau i ddefnyddio pobl sydd wedi setlo yma fel rhyw fath o ddarn bargeinio. Ni ddylai’r Aelod Torïaidd a gynigiodd y gwelliant fynnu dim llai na hynny. Rwy’n ofni bod ei welliant gwangalon i edrych yn unig ar drefniadau ar gyfer cytundeb dwyochrog yn llawer llai na hynny. Mae UKIP yn dweud y dylai’r rhai sydd yma ar hyn o bryd gael caniatâd i aros heb ystyried unrhyw gytundeb dwyochrog. Mae’r gyfraith yn awgrymu mai felly y mae beth bynnag.

Mae fisâu gwaith ar ôl astudio yn rhan hanfodol o ddenu a chadw graddedigion o ansawdd uchel yn y wlad, ac rwy’n cefnogi eu defnydd. Fodd bynnag, o dan drefniadau rhyddid i symud yr UE, rydym wedi dod yn gyfarwydd â gorsymleiddio dosbarthiadau’r rhai sy’n dod yma. Nid oedd gennym unrhyw ddewis yn hynny. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dod i Gymru i astudio. Dylem o leiaf eu cyfrif ac ystyried a allwn ymdopi â’r niferoedd neu a oes angen i ni ddenu mwy. Nid oes unrhyw reswm pam na allwn gael targedau ar wahân ar gyfer niferoedd myfyrwyr, ond mae angen i ni gydnabod bod pen draw ar ein hadnoddau a’n gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Mae esgus fel arall yn anghyfrifol.

Mae cyllid ymchwil rhyngwladol yn bwysig, ond rhaid iddo basio prif brawf ansawdd addysg. Nid oes y fath beth â chinio am ddim a buasai’n drueni gweld ymchwil yn cael ei wneud yn unig am ei fod yn cael ei noddi gan gwmnïau rhyngwladol sy’n canolbwyntio ar elw. Mae’n mynd yn groes i’r hyn y dylai addysg fod. O ran graddedigion y dyfodol, rwy’n llwyr gefnogi gallu graddedigion rhyngwladol i aros, gweithio a setlo yma. Ond mae polisi ymfudo drws agored yr UE ar hyn o bryd yn golygu y byddai person graddedig cymwys iawn o Nigeria yn cael anhawster mawr i aros yma ar ôl eu hastudiaethau, neu hyd yn oed i ddod yma yn y lle cyntaf.

Yn dilyn Brexit, mae gennym ddyletswydd i wneud yn siŵr fod ein polisi mewnfudo yn seiliedig ar deilyngdod, nid ar genedligrwydd fel y mae yn awr. Mae enw da iawn gan sefydliadau addysg uwch y DU ar draws y byd. Mae saith o 11 prifysgol orau Ewrop yn y DU, ac er bod gan y DU bedair prifysgol yn 20 prifysgol orau’r byd, nid oes yr un gan wledydd eraill yr UE. Mae gennym fanteision nad oes gan lawer o wledydd eraill mohonynt. Rhaid i Lywodraeth Cymru hyrwyddo a marchnata addysg uwch Cymru ar draws y byd, pan gânt y rhyddid i wneud hynny ar ôl Brexit. Diolch.

Mae yna bryderon cyffredinol ynghylch dyfodol y sector addysg uwch yng Nghymru, nid yn unig o ganlyniad i Brexit, wrth gwrs; mae cynaliadwyedd y sector wedi bod yn fregus ers blynyddoedd erbyn hyn. Ond, mae goblygiadau Brexit ar gyfer ein prifysgolion yn golygu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn fuan i ddiogelu dyfodol y sector.

Fel mae llawer wedi dweud y prynhawn yma, mae sector addysg uwch llwyddiannus yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd y sector. I gychwyn, mae angen diogelu cyllid a rhaglenni cyllido presennol yr Undeb Ewropeaidd, neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle.

Gan gyfrif gwariant prifysgolion, y staff a myfyrwyr, mae prifysgolion Cymru’n cael effaith uniongyrchol, bwysig a phellgyrhaeddol ar economi Cymru. Roedd holl effaith economaidd y sector addysg uwch yng Nghymru yn dod at gyfanswm o £4.6 biliwn yn ystod 2014-15, efo £251 miliwn o hynny yn dod i Wynedd. Mae yna 3,000 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor, sy’n rhan bwysig o’r economi leol, efo llawer mwy yn cael cyflogaeth anuniongyrchol yn sgil bodolaeth y coleg ar y bryn.

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi codi pryderon ynghylch y sefyllfa gyllidol ers tro, gan bwyntio at y bwlch ariannol, y ‘funding gap’, rhwng sefydliadau yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i’r grant ffioedd dysgu, ac amcangyfrifwyd bod y bwlch rhwng £73 miliwn a £115 miliwn yn 2015. Y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd argymhellion Diamond yn llwyddo i waredu rhywfaint ar y bwlch yma, ond mae’r effaith hanesyddol ar y sector wedi bod yn ddifrifol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tanariannu prifysgolion ein gwlad. Mae Plaid Cymru wedi gallu sicrhau na fydd toriadau pellach yng nghyllideb 2017-18, ond mae’r sefyllfa yn parhau yn hynod o heriol. Mae’r bwlch ariannol wedi golygu toriadau i gyrsiau, gyda Phrifysgol Bangor, er enghraifft, yn gorfod cau’r ysgol gydol oes, er bod yna obaith y bydd y ddarpariaeth yn cael ei chynnig mewn ffordd arall.

O ystyried y pwysau cyllidol yma, felly, mae grantiau’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil a dysgu, yn ogystal â chyllid cyfalaf, wedi bod yn hynod o bwysig i gefnogi ymdrechion y sector addysg uwch yng Nghymru a’i galluogi hi i aros yn gystadleuol: £12 miliwn mewn cyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig; £180 miliwn o gyllid gan yr European Investment Bank rhwng 2011 a 2016 ar gyfer datblygu adeiladau dysgu a gwella cyfleusterau dysgu ac ymchwil. Er enghraifft, fe dderbyniodd Prifysgol Bangor gyllid gwerth €10 miliwn ym mis Mawrth 2016 gan y banc Ewropeaidd i’r perwyl yna, a phecyn cyllido arall gwerth €54 miliwn gan y banc yn 2014, sydd yn arian pwysig iawn, nid yn unig i’r brifysgol, ond i’r economi, fel roeddwn i’n dweud.

Mae Philip Hammond wedi addo sicrhau diogelu cyllid unrhyw brosiect sy’n derbyn cyllid o Horizon 2020 hyd at ddiwedd y prosiect, hyd yn oed os byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r rhaglen orffen, ond beth sy’n digwydd ar ôl hynny? Clustnododd ddatganiad yr hydref arian ar gyfer ymchwil a datblygu, ond beth am yr ystod ehangach o waith ymchwil academaidd sydd hefyd yn cael cyllid o’r undeb Ewropeaidd? Mae modd cymryd rhan yn Horizon 2020 heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Norwy, Twrci ac Israel, er enghraifft, yn llwyddo i wneud, a hefyd mae modd derbyn cyllid o’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd heb fod yn aelod—er enghraifft, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir. Mae’n bwysig bod pob ymdrech yn digwydd rŵan a’n bod ni’n troi pob carreg i sicrhau bod ein sector addysg uwch yn parhau i gael mynediad at y ffynonellau hyn ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hoffwn ddiolch i Llyr am gyflwyno’r ddadl hon ac rwy’n cefnogi llawer o’r cyfranwyr eisoes sydd wedi siarad o blaid y cynnig. Nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd rhai o’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud eisoes, oherwydd credaf eu bod yn werth eu nodi’n bendant iawn. A gaf fi hefyd ddiolch yn fawr iawn i Brifysgol Caerdydd, Prifysgolion Cymru ac eraill am y deunydd briffio a ddarparwyd ganddynt cyn y ddadl hon yn tynnu sylw at rai o’r materion perthnasol iawn sydd eisoes wedi cael eu crybwyll yn y Siambr?

Mae’n dda fod gennym bellach grŵp prifysgolion, grŵp trawsbleidiol a sefydlwyd yn y Cynulliad sy’n edrych ar y materion hyn, yn ogystal â’r grŵp a gadeirir gan Rhun ap Iorwerth ar Gymru yn y cyd-destun rhyngwladol, sydd wedi edrych ar nifer o’r agweddau hyn ar ein cyrhaeddiad gyda’n haddysg, gyda’n myfyrwyr a’n harbenigedd staffio yn rhyngwladol, ond hefyd, pwysigrwydd parhau i fod yn lle deniadol iawn i ddod i astudio, i ymchwilio, ac i weithio yn ogystal, ac i ymestyn y cyfleoedd gwaith hyn. Mae’n werth dweud bod y gerddoriaeth naws a osodwyd gennym fel Llywodraeth Cymru a hefyd fel Llywodraeth y DU yn rhyngwladol yn gefndir i’r ddadl hon a’r cyd-destun ar ei chyfer: sut y mae’n swnio dramor? Rydym yn gwybod ein bod wedi bod drwy gyfnod eithaf anodd. Mae yna farchnad ryngwladol gystadleuol iawn am fyfyrwyr. Rydym yn gwybod y bydd y dystiolaeth yn dangos bod pobl wedi bod yn pleidleisio gyda’u harian a’u traed, a’u bod yn dewis mannau eraill, yn rhannol oherwydd y rhwyg a ddigwyddodd y llynedd—y teimlad nad oedd cymaint o groeso yma i bobl o dramor.

Rwy’n credu bod angen i ni newid hyn, ac roedd yn dda gweld bod araith Ysgrifennydd y Cabinet ym Mhrifysgol Caerdydd ac araith y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor ym mis Tachwedd yn ogystal, yn etholaeth Sian Gwenllian, wedi cael derbyniad da iawn gan y sector prifysgolion yng Nghymru. Maent yn dweud eu bod wedi cael llawer o dawelwch meddwl mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru oedd y blaenoriaethau cywir ar gyfer y sector prifysgolion yn y wlad hon, ond hefyd dywedwyd y pethau cywir ynglŷn â sut y dylem edrych allan ar y byd a chroesawu myfyrwyr rhyngwladol o’r UE a thu hwnt, yn ogystal â chroesawu’r cyfleoedd sydd gennym a gwneud yn siŵr ein bod yn cadw’r cyfleoedd hynny a bod ein harbenigedd a’n myfyrwyr ni hefyd yn mynd allan i’r byd a bod arbenigedd ein staff yn cael ei rannu. Mae’r pwyntiau hyn wedi cael eu gwneud mewn rhyw ffordd eisoes gan y cyfranwyr i’r ddadl hyd yn hyn.

Ond rwy’n awyddus i nodi rhai ffeithiau eglur yn y ddadl. Wrth i ni siarad, ar hyn o bryd, ceir bron 5,500 o fyfyrwyr o’r UE o bob math, ar bob lefel, amser llawn a rhan-amser, ôl-raddedig ac israddedig, ym mhrifysgolion Cymru eleni. Mae’n cyfateb i fwy na 4 y cant o boblogaeth y myfyrwyr. Mae’r myfyrwyr UE hyn yng Nghymru wedi cynhyrchu oddeutu £150 miliwn i economi Cymru—os ychwanegwch bob myfyriwr rhyngwladol at hynny, mae oddeutu £235 miliwn i economi Cymru—ac mae hwn, fel rwy’n dweud, nid yn unig yn gyfraniad sylweddol ond mae hefyd yn farchnad gystadleuol iawn allan yno ar gyfer y dyfodol. Rwy’n clywed y geiriau o sicrwydd gan Darren Millar, y bydd pethau’n iawn yn y dyfodol er gwaethaf yr ansicrwydd. Rydym yn gobeithio’n fawr fod hynny’n wir, ond rhaid i mi ddweud mai’r ansicrwydd ar hyn o bryd yw pam y mae Prifysgolion Cymru yn lleisio’r pryderon hyn, yn enwedig ar ôl y flwyddyn rydym newydd droi cefn arni.

Os edrychwch ar yr effaith ar y staff, pa mor allweddol yw staff o’r UE i gynnal rhagoriaeth ein sector prifysgolion yng Nghymru, wrth i ni siarad, mae yna bron i 1,400 o staff o rannau eraill, o wledydd eraill yn yr UE—ac rydym yn dal i fod yn yr UE ar hyn o bryd—yn ein prifysgolion yng Nghymru, yn staff academaidd, a heb fod yn staff academaidd, gyda llaw. Felly, pan edrychwn ar fater fisâu—gyda sgiliau, heb sgiliau, graddau gwahanol o sgiliau ac yn y blaen—rhaid i ni fod yn ofalus, wrth i’r Swyddfa Gartref edrych ar hyn, nad ydym, heb i ni sylwi, yn sydyn yn gweld y canlyniad negyddol ein bod wedi denu rhai pobl i gael caniatâd i fod yma a’n bod wedi gwahardd pobl eraill sydd yr un mor hanfodol i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Yn olaf, rwyf am gyfeirio’n fyr iawn, Lywydd, at bwysigrwydd ymchwil yr UE: cydweithredu a’r incwm a gawn. Wrth i ni siarad, mae cyfanswm grantiau ymchwil yr UE ac incwm contractau ar gyfer Cymru oddeutu £46 miliwn. Bydd eraill yn y Siambr hon yn ein sicrhau y gellir dod o hyd i’r arian mewn mannau eraill. Rwy’n falch eu bod mor hyderus. Hoffwn wybod o ble y mae’n mynd i ddod. Ond mae hynny’n arwyddocaol, mae’n 20 y cant o’n hincwm o ran ymchwil, a dyna pam ein bod yn gwneud mor dda ar hyn o bryd. Fe roddaf y gorau iddi ar y pwynt hwnnw, oherwydd mae llawer o’r pwyntiau roeddwn am eu gwneud wedi’u gwneud eisoes. Ond mae angen i ni gael hyn yn iawn yma wrth symud ymlaen. Ond rwy’n dod yn ôl at y cyd-destun i’r hyn rydym yn ei ddweud, sef bod yn gyrchfan deniadol yn rhyngwladol i fyfyrwyr o’r UE, ond o’r tu hwnt i’r UE hefyd. Mae angen i ni gadw hynny a’r arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny.

Rwy’n credu y gellir arddangos perthnasedd addysg uwch yng Nghymru drwy’r cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ei bod yn mynd i wario £23 miliwn ar adeilad mathemateg a chyfrifiaduraeth newydd a £32 miliwn ar lety newydd i fyfyrwyr. Yn wir, mae wyneb Caerdydd wedi’i drawsnewid yn y 10 neu 20 mlynedd diwethaf, a llawer ohono drwy fuddsoddiad ein prif brifysgol, ac rwy’n falch iawn o ddweud fy mod yn un o raddedigion y brifysgol honno.

Credaf ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar yr hyn fydd ei angen i sicrhau bod carfan prifysgolion y DU yn parhau i fod, yn ôl pob tebyg, yn ail orau yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Yr Unol Daleithiau yn unig sydd â nifer uwch na ni o enillwyr gwobrau Nobel ac os edrychwch ar gyfeiriadau academaidd, rydym filltiroedd ar y blaen i unrhyw wlad arall, ac eithrio’r Unol Daleithiau’n unig, unwaith eto. Hynny yw, rydym yn arweinydd byd go iawn, a hynny, gyda llaw, am fuddsoddiad cymharol fach mewn perthynas â chyfanswm yr arian sy’n angenrheidiol. I baratoi ar gyfer y ddadl hon, edrychais ar wefan Universities UK a cheir pedwar gofyniad hanfodol mewn gwirionedd o ran y math o sector prifysgolion fydd ei angen arnom a’r hyn fydd ei angen ar y sector i ffynnu mewn amgylchedd ôl-Brexit.

Mae cydweithio rhyngwladol ar ymchwil yn gwbl allweddol, ac ni ddylai hynny fod yn syndod i neb, ond rydym yn debygol o fod mewn byd sy’n symud oddi wrth yr awydd naturiol i gydweithredu â’n cymdogion, ac unrhyw symud tuag at fyd caeedig—. A chlywsom sut y mae polisi fisâu yn ffordd ymarferol iawn o greu canlyniadau nas bwriadwyd. Ond hefyd fel lle deniadol i ddod i astudio a chael gyrfa yn y dyfodol, o bosibl, os ydych yn y grŵp elît sy’n mynd i arwain ymchwil ar gynhyrchion newydd a phob math o bethau.

Yn ail, rhaid i’r DU gael ei gweld fel un o’r prif gyrchfannau ar gyfer myfyrwyr. Nawr, yn anochel, wrth i brifysgolion yn India a Tsieina, er enghraifft, ddatblygu, byddant yn cadw llawer o’u myfyrwyr disgleiriaf ac nid yw hynny’n beth gwael. Ond bydd mwy o gystadleuaeth yn gyffredinol am y sector elît o fyfyrwyr rhyngwladol. Yn y bôn, rydym yn ail o ran y dewis o gyrchfannau ar hyn o bryd, yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau unwaith eto, ac mae’n rhaid i ni weithio’n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnal hynny.

Yn drydydd, mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn y sylfaen ymchwil. Dyna pam y mae ein prifysgolion mor eithriadol. Roedd y rhan fwyaf ohonom yma yn israddedigion ac mae’n bwysig iawn, yr addysg israddedig sy’n cael ei darparu gan ein prifysgolion gwych, ond mewn gwirionedd mae’n—. Maent yn gwneud hynny mewn gwirionedd o ganlyniad, fel effaith eilaidd ddymunol iawn, i fod ag ymchwil sy’n rhagorol. Dyna pam eu bod ar y blaen yn yr ymchwil am wybodaeth. Heb y sylfaen ymchwil, fe fyddwch yn fuan iawn yn colli’r gallu i addysgu israddedigion i lefel uchel.

Mae angen i staff a myfyrwyr gael mynediad at gyfleoedd rhyngwladol. Roeddwn yn ffodus iawn i gael astudio am flwyddyn fel myfyriwr ôl-raddedig yn Virginia ac roedd gennyf ddiddordeb arbennig pan oeddwn yno yng nghyfansoddiad America a ffederaliaeth. Nawr, er gwell neu er gwaeth, rwyf wedi ei ddefnyddio yng nghyd-destun y DU ac yn y cyd-destun Cymreig, ac mae’n debyg fy mod wedi eich diflasu chi ar yr holl faterion hynny dros y blynyddoedd, ond yn y bôn, deilliai o fy astudiaethau tramor.

Felly, yr hyn rwy’n ei ddweud—wyddoch chi, mae newidiadau addysgol a diwylliannol mawr yn digwydd yn y byd. Rwyf wedi crybwyll rhyngwladoliaeth. Y symud oddi wrth brofiadau fflangellol dau ryfel byd, ac yna adeiladu cryfder drwy ddulliau o gydweithredu’n rhyngwladol—ac roedd addysg yn allweddol i hynny, fel yr oedd adeiladu sefydliadau rhyngwladol. Y parch at dystiolaeth—. Wyddoch chi, dyma’r oleuedigaeth—wel, ar hynny y mae’n seiliedig, parch at dystiolaeth. Nid wyf am eich diflasu am y traddodiad empirig Torïaidd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig pennu’r hyn y gellir ei brofi, yr hyn sy’n gweithio, a chymryd y dystiolaeth a derbyn tystiolaeth, weithiau, a oedd yn groes i’ch rhagdybiaeth gychwynnol o bosibl. Yn fwy na dim, yr ymchwil am wybodaeth—yr ymchwil am wybodaeth sy’n gwella canlyniadau i bobl ac sydd wedi arwain at y datblygiadau mwyaf rhyfeddol, a llawer ohonynt na ellid eu rhagweld, ond a ddigwyddodd o ganlyniad i’r wreichionen naturiol honno, a dyna y dylem fod yn mynd ar ei drywydd yn hytrach na slogan ddisylwedd fel ‘adfer rheolaeth’.

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy sicrhau David Melding na fyddaf fi, yn un, byth yn diflasu ar eich defnydd o’r gair Ff—ffederaliaeth—yma yn y Siambr hon, David? A gaf fi ddiolch hefyd i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig y prynhawn yma ac am y nifer fawr o gyfraniadau gwerthfawr gan yr Aelodau? Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i ni drafod a chydnabod rôl hanfodol bwysig y sector addysg uwch yng Nghymru.

Mae ein sefydliadau yn asedau cenedlaethol sy’n cael eu parchu’n fawr ledled y byd, ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi amser i gydnabod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’n lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rwyf wedi ymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ein prifysgolion. Felly, y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig. Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag arweinwyr prifysgolion a chymheiriaid yn Llywodraethau eraill y DU i hyrwyddo buddiannau ein sefydliadau addysg uwch yn y DU, yr UE, ac yn y cyd-destun byd-eang. Mae hyn yn cynnwys, er nad yw’n gyfyngedig i ymchwil, arloesi a symudedd myfyrwyr.

Rydym yn rhannu’r safbwyntiau a fynegwyd gan nifer o’r Aelodau yma heddiw y dylai myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion barhau i allu cael mynediad at fanteision cydweithio rhyngwladol a chynlluniau cyfnewid a’r ffynonellau cyllid pwysig y mae rhaglenni’r UE yn eu darparu. Ni fydd y Llywodraeth, felly, yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n gwanychu’r ymrwymiad i fynd ar drywydd y canlyniad gorau posibl i Gymru a sefydliadau addysg uwch Cymru o’r trafodaethau Brexit sydd i ddod.

Mae addysg uwch yn rhan annatod o’n synnwyr o hunan, ein hymdeimlad o hanes ac ymchwil, a’n lle yn y byd. Mae ein prifysgolion a’n colegau yn hyfforddi ein hathrawon, ein meddygon, ein nyrsys, ein hieithyddion, ein hartistiaid a’n peirianwyr a’r rhai sy’n gallu ysbrydoli a hyfforddi eraill i gyrchu eu nodau ac i wireddu eu breuddwydion. Ond er cymaint rwy’n hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru, mae hefyd yn ddyletswydd arnaf i herio a chymell is-gangellorion a chadeiryddion weithiau. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr angen i’n sefydliadau gydnabod eu cenhadaeth ddinesig a’u pwysigrwydd i gymdeithas. Rwyf am iddynt adfer eu rolau fel stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad. Dylent berthyn i’w hardal ac i’w pobl. O’r stiwardiaeth hon y bydd prifysgolion yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau cenedlaethol, dinesig a rhyngwladol a’n gwaith ni felly, fel Llywodraeth, yw rhannu’r risgiau a’r manteision sy’n deillio o fuddsoddi, diwygio polisi ac anghenion sgiliau yn y dyfodol.

Nawr, mae yna lawer o heriau eraill yn wynebu’r sector, ond maent yn debyg i’r sectorau allweddol eraill sy’n wynebu’r ansicrwydd yn sgil Brexit, y dull marchnadeiddio a ffefrir gan y Llywodraeth yn Lloegr, a thueddiadau economaidd a chymdeithasol ehangach. Wrth gwrs, mae yna hefyd lawer o gyfleoedd, a bydd ein hymateb i Diamond yn cyflwyno cyfundrefn ariannu sefydlog a chynaliadwy a system eang o gymorth i fyfyrwyr a fydd y gyntaf o’i bath yn y DU ac o bosibl, y gyntaf yn Ewrop. Rwyf hefyd yn ystyried yr adroddiad ar systemau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru a gyflwynwyd gan yr Athro Hazelkorn y llynedd. Rwy’n bwriadu cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn fuan.

Mae’r bleidlais i adael yr UE yn cyflwyno heriau penodol i’r sector addysg uwch, ac nid yw popeth o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Felly, ychydig cyn y Nadolig, cynhaliodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a minnau gyfarfod gyda’r pedwar Gweinidog addysg uwch ar draws gweinyddiaethau’r DU. Er bod pob un ohonom yn cynrychioli gwahanol Lywodraethau, gwledydd, a phleidiau gwleidyddol yn wir, rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gallu dod o hyd i dir cyffredin, yn enwedig ar faterion rhyngwladol yn ymwneud ag addysg uwch. Rwy’n awyddus i ddatblygu cydweithredu ar lefel y DU gyfan fel hyn a’r modd y gall pob Llywodraeth weithio gyda’i gilydd a chyda’n sectorau. Rwy’n hyderus y gallwn gynorthwyo ein prifysgolion yn well wedyn i barhau â chysylltiadau a chyfleoedd ar draws y DU a chyda phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â meithrin cysylltiadau a chyfleoedd newydd.

Fel y dywedwyd y prynhawn yma, mae’n hanfodol cofio bod ein prifysgolion yn gweithredu mewn sector rhyngwladol tra chystadleuol. Mae sefydliadau ledled y DU, Ewrop, ac o amgylch y byd yn cystadlu am fyfyrwyr, staff a chyfleoedd ymchwil. Felly, wrth i ni barhau i hyrwyddo a diogelu sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ein sector, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd—rhaid iddynt—gydnabod, er eu bod yn treulio’r mwyafrif llethol o’u hamser addysg uwch yn meddwl am Loegr a materion Seisnig, fod ganddynt gyfrifoldeb ledled y DU hefyd mewn perthynas â materion rhyngwladol ac ariannu ymchwil. Mae angen i bedair llywodraeth y DU gydweithio ar faterion o’r fath, sy’n tanlinellu ymhellach yr angen am gynrychiolaeth ar draws y DU ar fwrdd newydd Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig. Yn syml iawn, nid yw’n gwneud synnwyr i’n gwlad droi cefn ar y cyfleoedd ariannu a gyflwynwyd gan Horizon 2020. Ni yw’r wlad sy’n derbyn fwyaf o’r cronfeydd hynny ar ôl yr Almaen, ac fe gofiwn hefyd pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol wedi bod i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Nawr, roedd y rhai a ymgyrchodd dros adael yr UE, a’r rhai a gafodd eu perswadio gan yr ymgyrch honno, yn gwneud hynny ar yr addewid na fyddai er anfantais i Gymru, ac rwy’n credu bod gennym hawl i bob ceiniog o arian y cronfeydd strwythurol sydd wedi dod i’r wlad hon ac sydd wedi cynorthwyo ein sefydliadau yng Nghymru i fod yr hyn ydynt heddiw.

Mae’r cynnig heddiw yn cydnabod: yn gyntaf, pa mor bwysig yw hi i’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gymryd rhan yn rhaglenni’r UE a chael cyllid o’r UE, yn ogystal â phwysigrwydd myfyrwyr a staff rhyngwladol; ac yn ail, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU am sicrhau nad yw’r sector addysg uwch yn cael ei niweidio o ganlyniad i’w hymagwedd at bolisi mewnfudo a’r UE.

Gadewch i mi fod yn gwbl glir, Lywydd: mae Cymru yn croesawu myfyrwyr a staff o bob rhan o Ewrop ac ar draws y byd. Mae ein prifysgolion a’n cymunedau yn elwa o’r amrywiaeth honno, a’r egni hwnnw. Mae ein myfyrwyr ein hunain yn elwa ar gyfleoedd fel Erasmus sydd wedi gadael iddynt rannu eu profiadau ar draws Ewrop. Byddaf fi a’r Llywodraeth hon yn gwneud popeth a allwn i gefnogi dyfodol cyfleoedd ac ymagwedd agored o’r fath yn y sector. Mae’n warthus nad oes cyfleoedd fisa ar ôl gwaith wedi bod ar gael i fwy na phedwar lle yn Lloegr heb unrhyw ymgynghori naill ai â’r Llywodraeth hon na Llywodraeth yr Alban. Rhaid tynnu niferoedd myfyrwyr o’r ffigurau mewnfudo ac ymfudo, ac ni ddylid cysylltu fisâu â’r fframwaith rhagoriaeth addysgu sydd ar y ffordd. Buasai’n drychinebus.

Mae’r cynnig yn nodi meysydd pwysig lle y mae prifysgolion angen i Lywodraeth y DU roi camau ar waith a fydd yn diogelu cynaladwyedd y sector yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r achos hwnnw a chefnogi’r cynnig. Diolch.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl? Rydw i’n credu bod nifer o’r cyfranwyr wedi adlewyrchu pwysigrwydd y pwnc sydd o dan sylw, ac wrth gwrs consyrn nifer ohonom ni ynglŷn â’r effaith posib fydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, addysg bellach hefyd wrth gwrs, fel sydd wedi ei gyfeirio ato, a’r economi yn ehangach. Fe wnes i fethu â chyfeirio yn fy sylwadau agoriadol at welliant y Ceidwadwyr. Ni fyddwn ni yn cefnogi’r gwelliant am y rheswm sydd eisoes wedi cael ei awgrymu: mae’n gwanhau’r cynnig gwreiddiol. Buaswn i, wrth gwrs, yn dadlau bod y cynnig gwreiddiol yn well na’r gwelliant sydd wedi cael ei roi gerbron.

Fe gyfeiriodd Darren Millar at ffynonellau ymchwil y tu hwnt i Horizon 2020, ac mae hynny’n bwynt digon teg, wrth gwrs. Mae yna ffynonellau amgen y tu hwnt i ariannu Ewropeaidd, ond y gwir yw bod sefydliadau ‘post-92’, fel y maent yn cael eu galw, yn fwy dibynnol ar ariannu Ewropeaidd, efallai, na rhai o’r sefydliadau eraill. Mae’n nhw’n fwy ‘exposed’ i’r risg sydd yn dod yn sgil peryglu dyfodol ariannu Undeb Ewropeaidd. Yr hyn sydd angen, felly, wrth gwrs, yw buddsoddi. Os ydy’r pres yna’n mynd i gael ei golli, mae angen datblygu ffynonellau incwm amgen, ac mae angen buddsoddiad i wneud hynny, wrth gwrs. Yn yr hinsawdd sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y sector yma o doriadau a thanariannu ac yn y blaen, mae ffeindio’r ffynhonnell honno yn dipyn o her. Mae un prifysgol wedi ei ddisgrifio fel yr angen i gael rhyw fath o ‘bridging loan’ er mwyn gallu buddsoddi i ddatblygu, ac mae’n bosib y dylai Llywodraeth Cymru—o gymryd sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych y tu hwnt i’r sefyllfa yn Lloegr—fod yn ystyried cyfrannu i’r perwyl yna.

Nid af ar ôl pwyntiau a wnaethpwyd gan bob cyfrannwr, ond fe wnaeth Simon Thomas ein hatgoffa ni bod un swydd yn cael ei greu am bob tri myfyriwr o du hwnt i’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, a bod un swydd am bob pum myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd. Ond nid dim ond y cyfraniad economaidd—ac wrth gwrs mae hwnnw’n gyfraniad sylweddol—ond y cyfraniad deallusol hefyd, fel yr atgoffodd e ni, o safbwynt y myfyrwyr yma’n dod â’u profiadau gwahanol, eu persbectif gwahanol ac yn y blaen.

Mi awgrymodd Michelle Brown y dylai prifysgolion daflu eu rhwydi yn ehangach. Wrth gwrs, mae’n anodd iawn gwneud hynny pan fo Llywodraeth San Steffan yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n cael dod, felly nid wyf i’n siŵr iawn sut mae modd cysoni hynny. Mi oedd Huw Irranca-Davies hefyd yn berffaith iawn i’n hatgoffa ni nad dim ond staff academaidd yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw pan ydym ni’n sôn am staff rhyngwladol. Mae yna garfan bwysig iawn sydd, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad mewn ffordd arall hefyd.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma, mi wnes i ddarganfod bod Prifysgol Bangor, er enghraifft, ymhlith y 100 prifysgol mwyaf rhyngwladol yn y byd, yn ôl y ‘Times Higher Education’. [Torri ar draws.] ‘Wrth gwrs, wrth gwrs’ medd un neu ddau yn fan hyn. Ie, wel, pam ddim, yn sicr? Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar y brig o holl brifysgolion Prydain pan mae’n dod i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol yn y flwyddyn ddiwethaf yma ac, yn wir, ar bum achlysur yn flaenorol. Rwy’n siŵr bod gan bob prifysgol ei stori ei hun i’w ddweud o ran niferoedd myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, eu cyfraniad nhw, ariannu Ewropeaidd, manteision symudoledd myfyrwyr a manteision i ymchwil a datblygu ac yn y blaen ac yn y blaen.

Ond ar y pwynt yma, yn y cylch ymgeisio i brifysgolion, rydw i’n gwybod am un brifysgol yng Nghymru lle mae ceisiadau gan fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd lawr 32 y cant—32 y cant; traean. Nawr, beth mae hynny’n ei ddweud wrthym ni am effaith Brexit ar addysg uwch yng Nghymru? Beth mae hynny’n ei ddweud wrthym ni am beth sy’n rhaid inni ei wneud i sicrhau bod y manteision yr ydym ni’n eu cael o’r berthynas ryngwladol sydd gennym ni ar hyn o bryd yn parhau ac yn wir yn cael eu cryfhau? Beth mae hynny’n ei ddweud wrthym ni ynglŷn â’r angen—gobeithio y byddwch chi’n cytuno—i gefnogi’r cynnig yma’r prynhawn yma?

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ac rydw i’n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6197 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto’i hun beth yw’r beichiau a’r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn nodi bod y beichiau a’r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i’r UE ai peidio.

3. Yn credu:

a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a

b) byddai aelodaeth o’r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i’r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru.

4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i’r DU bob mis nag y mae’r DU yn ei allforio i’r UE.

5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â’r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig yn fy enw ar yr agenda. Rwy’n falch iawn o weld bod y Prif Weinidog wedi dod i’r ddadl heddiw. Cawsom rywfaint o ragflas ddoe yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog, gan nad oeddwn wedi rhagweld y byddai’n cymryd rhan yn y ddadl hon, ond croesawaf ei bresenoldeb yn fawr. Ond ddoe nodais efallai nad Norwy yw’r model gorau y gallem ei ddilyn o ran y trefniadau y byddwn yn ceisio eu rhoi ar y gweill gyda’r UE yn dilyn Brexit. Er bod Norwy a’i phobl wedi bod yn gadarn yn erbyn dod yn aelod o’r UE, o’r refferendwm cyntaf yn ôl ym 1972, mae sefydliad gwleidyddol Norwy yn arddel safbwynt cwbl wahanol. I’r graddau hynny, mae’n debyg, ceir peth tebygrwydd i’r sefydliad gwleidyddol yng Nghymru, oherwydd pleidleisiodd pobl Cymru yn go bendant o blaid gadael yr UE, ond yn anffodus, nid yw Plaid Cymru a’r Blaid Lafur i’w gweld yn cynrychioli’r farn honno mewn unrhyw ddull na modd.

Byddai’r trefniant Norwyaidd, wrth gwrs, mewn sawl ffordd hyd yn oed yn waeth na’r hyn sydd gennym yn awr am fod Norwy yn derbyn y rhwymedigaethau o fod yn rhan o Schengen, sy’n golygu, i bob pwrpas, fod mynediad cwbl ddilyffethair i Norwy o ran ymfudo. O dan gyfraith yr UE, ceir rhyddid i symud; dyna un o’r pedwar rhyddid sylfaenol allweddol y mae’r UE wedi’u sicrhau. Pan oedd aelodau’r UE, ar yr un lefel o ffyniant economaidd yn fras, nid oedd hynny’n achosi llawer o broblem mewn gwirionedd, ond achoswyd problemau sylweddol wrth ehangu’r UE i gynnwys economïau sydd gryn dipyn yn dlotach nag economïau gorllewin Ewrop. Rwy’n credu y byddai’n ffôl i ni wadu bod hyn wedi creu pryder cyhoeddus eang ac felly, mae’r awydd i adennill rheolaeth ar ffiniau rhyngwladol y DU yn gwbl ganolog i benderfyniad y refferendwm. Byddai ceisio symud yn ôl tuag at y sefyllfa sydd gennym yn awr drwy ein haelodaeth o’r AEE i bob pwrpas yn llyffetheirio ac yn gwadu’r dymuniad a fynegwyd gan bobl Prydain.

O leiaf yn y cyswllt hwn, mae Plaid Cymru yn onest ac yn agored. Maent yn gwrthod effaith canlyniad y refferendwm. Nid yn unig eu bod o blaid bod yn rhan o’r AEE, ond mewn gwirionedd, maent o blaid bod yn rhan o undeb tollau’r UE. O ran y Blaid Lafur, nid oes gennym unrhyw syniad beth yw eu polisi mewnfudo, ac mae gennym eiriau dirprwy arweinydd y Blaid Lafur ei hun ar hynny. Ddydd Sul fe ddywedodd nad oedd yn gwybod beth yw polisi’r Blaid Llafur. Ymddengys mai ‘left leg in, left leg out, and shake it all about’ ydyw. Mae ganddynt ryw fath o bolisi ‘hokey-cokey’ ar hyn. Mae Jeremy Corbyn wedi dweud nad ydynt o reidrwydd wedi ymrwymo i ryddid i symud, ond nid ydynt yn ei ddiystyru. Dyna yw polisi cyfredol y Blaid Lafur yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond yn sicr nid dyna y mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Llafur a’r rhai a bleidleisiodd i Lafur o’r blaen yng Nghymru ei eisiau.

Mae Norwy, wrth gwrs, yn achos rhyfedd iawn yn economaidd oherwydd ei bod yn economi sy’n dibynnu’n helaeth ar olew. Maent yn talu i’r UE fel rhan o drefniadau’r AEE—£400 miliwn y flwyddyn. Un o fanteision gadael yn llwyr yw y byddwn yn rhoi’r gorau, unwaith ac am byth, i gyfrannu at gyllideb yr UE a bydd yr arian hwnnw ar gael i’w wario ar bethau eraill ym Mhrydain. Rydym newydd gael dadl ar addysg uwch. Un o’r pethau y gallem wario cyfran o’r arian hwnnw arno yw addysg uwch. Mae Norwy, wrth gwrs, yn dibynnu llawer mwy ar fasnach yr UE na Phrydain; mae 80 y cant o’i hallforion yn mynd i’r UE. Maent yn mwynhau gwarged o £10 biliwn y flwyddyn gyda’r UE. Mae Prydain, ar y llaw arall, yn dioddef diffyg masnach sylweddol iawn gyda’r UE—£60 biliwn y flwyddyn, ar hyn o bryd. Oherwydd ein bod yn gwerthu cyfran lawer llai o’n hallforion, llawer llai na 50 y cant bellach, i’r UE—ac mae wedi bod yn gostwng yn eithaf cyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf—ac oherwydd bod gennym ddiffyg masnach enfawr gyda’r UE, mae gennym safbwynt negodi llawer mwy a llawer gwell nag y byddai’n bosibl i Norwy, sy’n economi fach iawn o 5 miliwn o bobl, ei gael.

Y dewis arall yw’r trefniant y mae De Corea wedi ei negodi gyda’r UE: cytundeb masnach rydd a roddwyd mewn grym bum mlynedd yn ôl. De Corea yw’r unfed ar ddeg economi fwyaf yn y byd, ac mae’n economi sy’n ehangu, yn wahanol i’r UE, sy’n economi sy’n crebachu. O ganlyniad i Brexit, rydym eisoes wedi cychwyn trafodaethau gydag Awstralia, Tsieina, India, Seland Newydd, Norwy, a’r chwe aelod o Gyngor Gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff, sy’n un o brif gyrchfannau allforio Cymru. Mae Wilbur Ross, aelod o weinyddiaeth Trump, wedi dweud y bydd cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn un o’u prif flaenoriaethau. Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad allforio bwysig iawn i Brydain. Rydym yn allforio gwerth £36 biliwn o nwyddau y flwyddyn iddynt. Nid yw’n ofynnol i ni fod yn rhan o’r farchnad sengl â’r Unol Daleithiau er mwyn allforio’r swm aruthrol hwnnw iddynt. Y tu allan i’r UE, byddwn yn parhau i fod yn farchnad allforio fawr i wledydd yr UE, a byddent yn ffôl i fod eisiau gosod unrhyw rwystrau ar eu gallu i allforio i ni, yn enwedig yr Almaen. Rydym yn allforio gwerth oddeutu £35 biliwn o nwyddau y flwyddyn i’r Almaen. Maent yn allforio gwerth £77 biliwn y flwyddyn i ni. Felly, mae gennym ddiffyg masnach arwyddocaol iawn gyda’r Almaen. Nid wyf yn ddiffyndollwr, ac yn bendant nid wyf yn fercantilydd. Nid wyf yn credu y dylem anelu at gael cydbwysedd masnach absoliwt â phob gwlad y gwnawn fusnes â hwy. Dylem fasnachu er mwyn sicrhau’r fantais fwyaf i’r ddwy ochr, ac mae masnach yn gweithio’r ddwy ffordd. Serch hynny, o ran y trafodaethau ynglŷn â’r berthynas fasnachu fydd gennym yn y dyfodol gyda’r UE, yn sicr bydd gan wledydd fel yr Almaen lais sylweddol iawn ynddynt. Bydd manteision parhau i fasnachu’n ddilyffethair â Phrydain yn amlwg i bawb eu gweld. Yn wir, mae Cecilia Malmström, comisiynydd masnach yr UE yng nghyd-destun y cytundeb masnach â De Corea, wedi dweud y dylai tystiolaeth llwyddiant y cytundeb hwnnw helpu i argyhoeddi’r rhai nad ydynt wedi’u hargyhoeddi bod Ewrop yn elwa’n fawr o fwy o fasnach rydd. Mae’n sbarduno twf Ewropeaidd, ac mae’n diogelu ac yn creu swyddi.

Dyna’r ysbryd wrth i ni anelu tuag at y newid yn y berthynas newidiol rhwng Prydain—a Chymru o fewn Prydain wrth gwrs—a’r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym yn cloi ein cynnig drwy ddweud ein bod yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU wrth iddi geisio cymaint â phosibl o fasnach rydd gyda’r UE, ond yn gyson â rheolaeth gadarn ar fewnfudo. Gan mai’r DU yw’r bumed economi fwyaf yn y byd, a bod gennym £60 biliwn y flwyddyn o ddiffyg masnach gyda’r UE, ‘does bosibl nad yw synnwyr cyffredin yn ogystal â chryfder gwleidyddol ar ein rhan yn mynnu y dylem allu negodi canlyniad eithaf da i bawb. Byddai’n bendant yn achos o dorri’ch trwyn i sbeitio’ch wyneb pe bai biwrocratiaid ym Mrwsel yn ceisio rhwystro dymuniadau pobl Prydain i barhau i gael mynediad dilyffethair at y farchnad sengl heb fod yn aelod ohoni.

Ond dylem gofio bod 85 y cant o economi’r byd y tu allan i’r UE, ac er y diffyg twf yn ein masnach â’r UE, mae’n tyfu’n gyflym iawn gyda rhannau eraill o’r byd. Nid yw’r farchnad sengl o reidrwydd y rhodd fwyaf a fu erioed i ddynoliaeth. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol yn Llywodraeth Major mai’r ymagwedd sylfaenol yr oedd yn rhaid i mi ei mabwysiadu bob amser wrth bennu safbwynt negodi oedd ceisio’u hatal rhag gwneud pethau a oedd yn mynd i niweidio economi Prydain ac economi Ewrop yn ogystal. Newidiodd Jacques Delors holl bwyslais yr UE yn ôl yn y 1980au pan oedd proses y farchnad sengl, a ddechreuwyd gan Lywodraeth Thatcher, yn cael ei llunio. Ein safbwynt ni oedd y dylem gael y rhyddid mwyaf posibl wrth gyfnewid masnach, ond peidio â datblygu rhyw fath o god rheoliadol cyffredinol o gyfreithiau i’w gosod ar bawb o’r canol. Nid oedd hynny’n angenrheidiol, ac oherwydd ei fod wedi dilyn y llwybr hwnnw y mae’r UE wedi aros yn ei unfan yn y byd o gymharu â gwledydd eraill dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Felly, yr hyn y pleidleisiodd pobl Prydain drosto, a’r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto fis Mehefin diwethaf yn y refferendwm oedd parhau â’r fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl â’r UE. Mae’n gyrchfan masnach pwysig i Gymru—ni ellir gwadu hynny—ond penderfynodd pobl Cymru fod cael hynny ar gost rhyddid pobl i symud, heb unrhyw fath o gyfyngiad ystyrlon, yn bris rhy fawr i’w dalu. Felly, mae ein cynnig yn cysoni’r ddwy elfen bwysig hon yn y ddadl, ac rydym yn aros i glywed gan y Prif Weinidog a chan Lafur fel plaid sut yn union y maent yn mynd i barchu canlyniad y refferendwm, fel y maent yn dweud o hyd eu bod yn awyddus i’w wneud, ar y naill law, ond ar y llaw arall i gysoni hynny â’u methiant i ddatgan i ni pa fath o reolaethau mewnfudo y maent yn barod i’w gweld o ganlyniad i’r newidiadau a fydd yn awr yn cael eu gwneud. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed rhywfaint o eglurhad ar hynny efallai gan y Prif Weinidog heddiw.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â’r Undeb Ewropeaidd, sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig ac i Gymru.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy’n hanfodol i ddyfodol economi Cymru.

3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy’n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau’r UE sy’n masnachu ac yn gweithredu yn y DU.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Theresa May wedi dweud yn glir mai ei gweledigaeth ar gyfer y DU y tu allan i’r UE yw y bydd yn wladwriaeth sofran gwbl annibynnol ac y bydd y cytundeb gorau ar gyfer y DU wrth i ni adael yr UE yn un unigryw yn hytrach nag ateb parod. Fel y dywed ein gwelliant, rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu bwriad y Prif Weinidog i adeiladu perthynas newydd bwerus gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio ar gyfer y DU a Chymru, yn cydnabod pwysigrwydd masnachu gydag Ewrop a gweddill y byd, yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru, ac yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy’n rhoi rhyddid i gwmnïau’r DU fasnachu a gweithredu yn y farchnad sengl ac y dylid cynnig trefniadau cyfatebol i fusnesau’r UE sy’n masnachu a gweithredu yn y DU.

Wrth iddo ymweld â Norwy, dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru angen mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl Ewropeaidd, gan honni hefyd ei fod yn derbyn yr angen am ailwladoli rheolaeth ar ffiniau, gan wybod yn iawn am y cwestiynau y mae hyn yn eu codi. Mae Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, Keir Starmer, wedi cynnig rheolaethau rhesymol ar y niferoedd sy’n dod i’r DU, ac mae cyn-Weinidog ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, wedi dadlau bod angen yn wleidyddol i gyfyngu ar fewnfudo o’r UE fel rhan o gytundeb Brexit y DU. Fel y dywed Theresa May,

Byddwn yn penderfynu drosom ein hunain sut rydym yn rheoli mewnfudo. A byddwn yn rhydd i basio deddfau ein hunain.

Rydym am roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau o’r DU fasnachu â’r farchnad sengl a gweithredu o’i mewn, a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth yma. Fel y mae Theresa May’n pwysleisio hefyd, mae sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer y DU yn golygu peidio â rhoi ein holl gardiau ar y bwrdd. Efallai y bydd rhai’n awgrymu mai’r rhai sy’n ceisio tanseilio Brexit yn unig a fyddai’n dweud fel arall, ond ni allwn yn fy myw wneud sylwadau ar hynny.

Rhybuddiodd rhai ynglŷn â’r canlyniadau difrifol a’r dirwasgiad uniongyrchol yn economi’r DU pe bai’r bobl yn pleidleisio dros adael yr UE fis Mehefin diwethaf. Yn lle hynny, y DU oedd yr economi G7 a dyfodd gyflymaf yn 2016. Mae busnesau byd-eang fel Google a Nissan wedi dweud y byddant yn creu swyddi newydd yn y DU. Mae cyflogaeth y DU ar lefel uwch nag erioed. Mae gweithgynhyrchu yn y DU—[Torri ar draws.]—un eiliad. Tyfodd sector gweithgynhyrchu’r DU yn gyflymach nag y gwnaeth ers dros ddwy flynedd a hanner, tyfodd y sector adeiladu yn y DU yn gyflymach nag y gwnaeth ers bron i flwyddyn a thyfodd y sector gwasanaethau yn y DU yn gyflymach nag y gwnaeth ers 17 mis. Rwy’n ildio.

A fuasech yn derbyn bod gostyngiad o rhwng 18 a 20 y cant wedi bod yng ngwerth y bunt, a bod y gostyngiad wedi rhoi hwb i’r economi, neu a ydych yn disgwyl i ni i ddibrisio’r bunt 18 y cant bob blwyddyn?

Wrth gwrs, mae symudiadau yng ngwerth arian yn un o’r effeithiau sy’n deillio o hynny. Mae’n ddoniol nad oedd wedi’i ystyried yn ffactor gan y rhai a oedd yn rhagweld gwae. Efallai y gallech ddweud wrthym pa Jeremy Corbyn oedd yn iawn ddoe, yr un sy’n dweud ei fod am weld mewnfudo dan reolaeth neu’r un a ddywedodd ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod rhyddid i symud yn parhau?

Mae gwledydd ledled y byd fel Tsieina ac Awstralia yn archwilio sut i fasnachu mwy gyda ni ar ôl i ni adael yr UE. Ddoe, clywsom gan gadeirydd pwyllgor cysylltiadau tramor Senedd yr Unol Daleithiau y byddai cytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau a’r DU yn flaenoriaeth.

Dangosodd datganiad yr hydref y Canghellor arbediad o £11.6 biliwn yn y cyfraniad net yn 2019-20, ar ôl i ni adael yr UE. Mae astudiaeth Civitas newydd wedi canfod, er y byddai angen i Lywodraeth y DU ddarparu bron i £9 biliwn o gymorth i fusnesau i ymdopi ag effaith methu â sicrhau cytundeb masnach â’r UE yn sgil Brexit, byddai’r gost yn cael ei thalu gan dariffau ar allforion cyfatebol o’r 27 gwlad sy’n parhau’n aelodau o’r UE i’r DU. Mae hyn yn atgoffa arweinwyr yr UE yn glir am yr angen i gychwyn trafodaethau Brexit gyda’r nod o sicrhau canlyniad sydd o fudd i bawb.

Fel y dywedodd is-lywydd yr NFU ar Ynys Môn ddydd Iau diwethaf:

Rydym yn mynd i adael yr UE ac mae’n rhaid i ni uno a symud ymlaen—rhaid i ni weld hyn fel cyfle yn hytrach na bygythiad.

Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddydd Sul:

Rydym yn gadael. Rydym yn dod allan. Nid ydym yn mynd i fod yn aelod o’r UE rhagor... Felly, y cwestiwn yw beth yw’r berthynas iawn i’r DU ei chael gyda’r Undeb Ewropeaidd pan fyddwn ar y tu allan.

Pan fyddaf wedi gorffen y paragraff hwn, gwnaf.

Bydd gennym reolaeth ar ein ffiniau, rheolaeth ar ein deddfau, ond rydym yn dal am gael y cytundeb gorau posibl i gwmnïau yn y DU fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd a gweithredu o’i fewn, a chwmnïau Ewropeaidd hefyd i fasnachu â’r DU a gweithredu o’i mewn.

Os byddwch yn gyflym.

Mae hwnnw’n destun trafod. Nid wyf yn gwybod mwy na chi am hynny.

Pan bleidleisiodd pobl yn y refferendwm ar 23 Mehefin, iawn, fe wnaethant bleidleisio dros adael yr UE, ond roeddent hefyd yn pleidleisio dros newid, ac eleni, 2017, yw’r flwyddyn pan fyddwn yn dechrau gwneud i hynny ddigwydd.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.

2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant, yn amlwg, yn ein henw, sy’n nodi ein safbwynt cyson, sef: o’r modelau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, opsiwn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)/Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yw’r un sy’n cynnig y budd cenedlaethol economaidd gorau i Gymru.

Mae gennyf ymlyniad athronyddol ac emosiynol i’r syniad o fod yn Gymro Ewropeaidd, ond hoffwn gael y ddadl hon heddiw ar lefel nad yw’n cyrraedd y dwymyn emosiynol y mae’r dadleuon hyn weithiau’n digwydd ynddi, am ei fod yn flinedig ac nid yw’n taflu cymaint â hynny o oleuni ar bethau, ac edrych ar y ffeithiau economaidd yn unig, oherwydd credaf fod llunio rhagolygon yn y cyd-destun cythryblus hwn bron yn amhosibl. Yn bendant nid yw’n wyddoniaeth. Gallaf ddeall y lefel o amheuaeth yn iawn, yn enwedig ar y meinciau gyferbyn, o ran y rhagolygon, sydd wedi bod yn ddieithriad, wrth gwrs, i gyfeiriad negyddol, ac os ydych yn symud yn y sbectrwm tuag at Brexit caletach, maent yn mynd yn fwy negyddol hyd yn oed. Ond rwy’n barod i dderbyn, yn y tymor hir, y bydd economi’r DU yn llwyddo i wrthsefyll unrhyw storm. Yn y tymor hir, wrth gwrs, fel y dywedodd Keynes, rydym i gyd yn farw. Rwy’n meddwl mai’r broblem arbennig sy’n ein hwynebu yw na fydd wedi’i ddosbarthu’n gyfartal—y gallu i ymaddasu mewn ymateb i’r heriau ac efallai na fydd y cyfleoedd newydd yn sgil Brexit wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar draws y DU. Ac mae yna sectorau penodol a thiriogaethau penodol sy’n wynebu heriau penodol: Gogledd Iwerddon, yn amlwg, oherwydd ei lefel uchel o integreiddio gydag economi’r Weriniaeth. Yn eironig, yn y cyd-destun hwn, mae Dinas Llundain yn wynebu heriau penodol yn ymwneud ag a fydd ganddi hawliau mynediad drwy basbortio ac yn y blaen. Ac yna buaswn yn dweud bod casgliad o economïau sy’n seiliedig ar weithgynhyrchu, hen economïau gweithgynhyrchu, yn arbennig, sydd â chwmnïau amlwladol mawr ynghlwm wrth sectorau sydd â chadwyni cyflenwi global iawn, yn enwedig y sector modurol, a byddai awyrofod yn enghraifft arall; nid yw electroneg yr un mor berthnasol i economi Cymru, ond mae’r ddau sector arall yn bwysig tu hwnt. A dyna pam y buaswn yn dweud, beth bynnag yw eich barn am y rhagolygon macroeconomaidd ar draws y DU gyfan, mae Cymru’n wynebu heriau difrifol iawn os nad ydym o fewn y farchnad sengl.

O ran y sefyllfa wirioneddol, Cymru sydd â’r gyfran uchaf o’i hallforion yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd, o gryn dipyn: 67 y cant yn 2015. Mae dros ddwy ran o dair o’n hallforion yn mynd i’r UE—o nwyddau. Y cyfartaledd ar gyfer y DU yw 48 y cant. Y nesaf yw gogledd-ddwyrain Lloegr, gyda 58 y cant. Ni yw’r rhan fwyaf UE-ddwys, o ran ein hallforion, o holl economïau’r Deyrnas Unedig, ac felly hoffwn apelio ar yr Aelodau gyferbyn: mae Cymru yn achos arbennig. Mae ganddi set unigryw o ffactorau sy’n arwain Plaid Cymru—[Torri ar draws.] Iawn, rwy’n falch o ildio.

Ar y pwynt hwnnw’n unig, a fuasech yn derbyn, y llynedd mewn gwirionedd fod cyfran Cymru yn llai na chyfartaledd y DU o gryn dipyn, a bod llawer o’r newid yn deillio o dwf yn yr UE wedi’i wrthbwyso gan gwymp mewn masnach ryngwladol arall, lle y mae angen i ni edrych ar Ewrop a’r byd wrth i ni symud ymlaen?

Wel, rwyf o blaid tyfu ein hallforion i bob cyfeiriad, ac nid oes unrhyw beth o’i le gydag ychydig o optimistiaeth, ond nodi’r ffeithiau fel y maent ar hyn o bryd rwy’n ei wneud. Rwy’n derbyn bod y ffigurau hyn yn newid mewn ymateb i’r amgylchedd economaidd ansicr tu hwnt rydym ynddo, ond y ffaith amdani yw ein bod, fel y mae pethau ar hyn o bryd—o ystyried lle rydym o ran y cylch economaidd, yna rydym yn siarad am oddeutu dwy ran o dair o’n sylfaen allforio yn ei chyfanrwydd. Ac yn anffodus, nid ydym yn genedl-wladwriaeth; pe bai gennym bob dull at ein defnydd, yna efallai y gallem ymateb i’r amgylchedd newydd hwn yn fwy ystwyth, ond nid felly y mae. Mae gennym o leiaf un fraich wedi’i chlymu y tu ôl i’n cefn, y ddwy fraich yn ôl pob tebyg. Felly, nid ydym yn gallu ymaddasu ac ymateb gyda chymaint o ystwythder ag y buasem yn hoffi ei weld o dan amgylchiadau eraill. Ac felly buaswn yn apelio: gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, gadewch i ni gael dadl yn seiliedig ar Gymru mewn gwirionedd. Rwy’n dal yn gwbl argyhoeddedig, fel y mae pethau ar hyn o bryd, ei bod yn gwbl hanfodol i economi Cymru ein bod yn parhau i gyfranogi’n llawn yn y farchnad sengl.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Neil Hamilton am gynnig y ddadl hon heddiw. Mae’r rhai a oedd yn gwrthwynebu i’r DU adael yr UE yn benderfynol o ddod o hyd i unrhyw ffordd bosibl o’n cadw wedi ein clymu at fiwrocratiaeth anetholedig, annemocrataidd, wedi’i llethu gan reoliadau cyfyngol heb allu rheoli ein ffiniau ein hunain—a’r cyfan er mwyn sicrhau mynediad at yr hyn a elwir yn farchnad sengl. Ymwelodd y Prif Weinidog â Norwy yr wythnos diwethaf i edrych ar ffyrdd y gallai Cymru efelychu’r model Norwyaidd. Y broblem, Brif Weinidog, yw na phleidleisiodd pobl Cymru ar 23 Mehefin y llynedd i adael yr UE a dod yn aelod cysylltiol ohono’n syth wedyn. Fe wnaethom bleidleisio i gael gwared ar y maen melin y mae aelodaeth o’r UE yn ei osod am ein gyddfau. Fe wnaethom bleidleisio i ryddhau ein hunain rhag bloc masnachu mwyfwy ynysig sy’n crebachu, ac fe wnaethom bleidleisio i raddau helaeth iawn dros wrthod y rhyddid i symud. Rydym yn prynu mwy gan y farchnad sengl nag a werthwn ac mae’r diffyg yn tyfu. Pam felly y dylem gael ein llethu gan y rheoliadau a’r cyfyngiadau y buasai aelodaeth o’r farchnad sengl yn eu gorfodi arnom? Yn y cyfnod yn arwain at y bleidlais y llynedd, ceisiodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd ddylanwadu ar y bleidlais drwy honni na fyddai’r DU yn cael cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau. Diolch byth, cafodd ei anwybyddu gan bobl y DU ac yn fuan bydd gennym breswylydd gwahanol yn y Tŷ Gwyn sy’n awyddus i gynyddu cysylltiadau masnachu gyda’r DU. Y Blaid Weriniaethol sy’n dal yr awennau yn awr yn yr Unol Daleithiau ac maent am weld cytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Maent am fasnachu gyda ni, maent am fasnachu gyda ni ac rwy’n cefnogi masnach yn llwyr. Rwy’n cefnogi masnach yn llwyr. Rwy’n cefnogi’r budd i Gymru o fasnachu â gwledydd eraill yn llwyr.

Pan ddown yn rhydd o hualau ein haelodaeth o’r UE yn y diwedd, byddwn yn rhydd i fynd ar drywydd cytundebau masnach buddiol gyda’r byd ehangach. Nid yw allforion Cymru i’r UE ond yn 41 y cant o’n hallforion byd-eang ac mae hynny wedi bod yn gostwng dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae angen i’n cytundebau masnach fod yn uchelgeisiol, gan edrych ar y farchnad fyd-eang. Nid oes angen i ni orlwytho ein hunain â biwrocratiaeth er mwyn cynnal mynediad at y farchnad sengl. Mae’n rhaid i ni groesawu masnach rydd â’r byd i gyd, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar floc masnachu mwyfwy ynysig.

Yn ogystal â mynd ar drywydd cysylltiadau masnachu agosach gyda’r Unol Daleithiau rhaid i ni feithrin cysylltiadau agosach â gwledydd yn America Ladin ac Asia. Mae economïau’r gwledydd yn Asia wedi ehangu fwyfwy dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac eto twf gwan a welodd economi’r DU, ac economi’r UE, dros yr un cyfnod. Cyn gynted ag y byddwn yn rhydd o reolaeth yr UE dylem fanteisio ar y marchnadoedd hyn.

Cymru yw’r wlad lle y cefais fy ngeni ac yma rwyf wedi byw ar hyd fy oes. Rwy’n parchu pleidlais pobl Cymru, a byddaf yn ymladd dros bob ceiniog i wneud Cymru’n ffyniannus. Rwy’n obeithiol ynglŷn â’n dyfodol y tu allan i’r UE. Buaswn yn awgrymu y buasai’r Prif Weinidog yn gwneud defnydd gwell o’i amser pe bai’n mynd ar drywydd cysylltiadau masnachu gyda gwledydd fel Tsieina, India a Brasil, yn hytrach na chwilio am ffyrdd o gynnal ein cysylltiadau â’r UE. Diolch.

Efallai ei bod hi’n briodol ein bod ni yma heddiw ychydig gannoedd o lathenni o’r eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd gan Norwy fflyd fasnachol enfawr a pherthynas fasnachu wych gyda Chymru. Wedyn, daeth yn lle y gallai morwyr Norwyaidd gael seibiant yn ystod yr ail ryfel byd pan na allent ddychwelyd adref i’w gwlad a oedd wedi cael ei goresgyn gan ffasgiaeth. Felly, wrth chwilio am ysbrydoliaeth gan Norwy, mae’n gymdeithas wahanol iawn ond mewn gwirionedd gwelwn yno y mynediad gorau y gallwch ei gael at y farchnad sengl Ewropeaidd heb fod yn aelod a gwelwn rywfaint mwy o reolaeth ar fewnfudo. Rydym wedi clywed, ac rydym wedi sôn yn y Siambr hon o’r blaen fod y fersiwn o ryddid i symud yn Norwy yn fersiwn ychydig yn llymach na’r hyn sydd wedi bod gennym yn y DU. Mae un gwahaniaeth hanfodol y credaf nad yw wedi cael ei archwilio’n ddigonol yn y berthynas rhwng Norwy a’r UE. Nid yw cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cydnabod dinasyddiaeth yr UE yn yr un modd, a dinasyddiaeth yr UE sy’n arwain at nifer o’r hawliau roedd gan bobl lawer o bryderon yn eu cylch yn ystod dadl y refferendwm. Mae rhai o’r rheini’n hawliau nawdd cymdeithasol ac mae rhai ohonynt yn ymwneud â’r rhwymedigaeth i gynorthwyo myfyrwyr yn yr un modd, pa un a ydynt yn ddinasyddion yr UE neu’n ddinasyddion y DU. Felly, rwy’n meddwl bod cyfle i archwilio rhai o’r gwahaniaethau yno. Rydym yn troi at Norwy am arweiniad, ond nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd ar hyn o bryd sut beth fydd y setliad terfynol. Efallai y bydd gennym fwy o reolaeth dros rai agweddau ar fewnfudo na’r hyn sydd gan Norwy.

Ond gadewch i ni beidio â syrthio i’r fagl o gredu mai’r fersiwn gyfredol o ryddid i symud yw’r unig ffordd y gallwn fynegi a pharhau i fynegi ein rhyngwladoliaeth fel gwlad. Gallwn edrych ar wledydd fel Canada, sydd ag ymagwedd ryngwladolaidd ryddfrydol a meddwl agored tuag at y byd, ond mae ganddi reolaethau mewnfudo nad oes gennym ni ar gyfer dinasyddion yr UE. Credaf yn gryf, ac rwyf wedi ymgyrchu’n angerddol ar y sail fod aelodaeth o’r UE yn fuddiol i Gymru a’r DU yn y tymor hir, ac rwy’n dal i gredu hynny, ond nid yw hynny yr un fath â gwneud y rheolau rhyddid i symud presennol yn gyfystyr â bod yn rhyngwladolaidd neu fod yn dosturiol neu fod yn Ewropeaidd hyd yn oed.

Rydym yn edrych yn y Siambr hon ar y broses o adael yr UE—erthygl 50, penderfyniadau’r Goruchaf Lys ac yn y blaen—maent oll yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau bod gan Gymru ei llais yn y broses o adael yr UE. Ond rwy’n teimlo mai 2017 yw’r flwyddyn y bydd gofyn i ni symud y tu hwnt i fecanwaith Brexit a dechrau mynegi sut wlad rydym am i Gymru fod ar ôl i ni adael yr UE.

Cafodd ymgyrch y refferendwm a’r ymgyrch i adael ei rhedeg gan bobl fusnes asgell dde gyfoethog iawn. Nid dyma’r gair olaf, dyma’r cam cyntaf mewn prosiect llawer mwy i newid Cymru a newid y DU mewn ffordd nad wyf yn dymuno i ni ei weld yn digwydd. Gwelsom hynny ar y penwythnos gyda Theresa May yn siarad am bleidlais dros newid sylfaenol. Wrth i’n sylw gael ei dynnu i ryw raddau gan yr hyn sy’n faterion pwysig iawn yn ymwneud â gadael yr UE, ofnaf fod y rhai a oedd yn rhedeg yr ymgyrchoedd hynny eisoes yn cynllunio’r mathau o newidiadau y maent yn awyddus i’w cyflwyno ar draws y DU. Rydym yn gweld hynny yn y Bil diddymu mawr. Rydym wedi penderfynu bod y rhan fwyaf o’r Bil yn ymwneud â gwarchod y ddeddfwriaeth bresennol mewn gwirionedd, ond y gwir amdani yw mai dechrau yw hyn ar naratif gwleidyddol ynglŷn â diddymu sylfaen o amddiffyniadau a hawliau rydym yn amlwg wedi’u cymryd yn llawer rhy ganiataol yng Nghymru ac yn y DU.

Rwy’n credu mai un o’r agweddau lleiaf ysbrydoledig o ddadl y refferendwm oedd absenoldeb y llais dinesig bron yn llwyr o drafodaethau, felly rydym wedi cael golwg ar Gymru ôl-Brexit fel lle economistig a rhagfarnllyd. Gwleidyddion yn dadlau dros arian ydoedd, felly y rhai na ellid ymddiried ynddynt yn dadlau dros yr hyn na châi ei gredu, ac o ganlyniad rwy’n credu bod yn rhaid i ni bellach fynegi’r math o weledigaeth rydym am ei gweld ar gyfer Cymru ar ôl Brexit, ffurfio cynghreiriau ac ymladd dros y weledigaeth honno.

Byddai llawer o bobl yn cytuno mai ffactor pwysig yn y bleidlais Brexit oedd pryder cyhoeddus ynghylch mewnfudo. Nid fy nghasgliad i a fy nghyd-Aelodau yn UKIP yw hyn, dyna farn Theresa May hefyd, a oedd gynt o blaid aros yn yr UE wrth gwrs, a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Dyna hefyd yw barn y Prif Weinidog yma ym Mae Caerdydd, sydd wedi dweud wrth y Siambr ar sawl achlysur fod mewnfudo yn fater o bwys ar garreg y drws yn ystod ymgyrch y refferendwm. Mae’n ymddangos mai Plaid Cymru yn unig sy’n amharod i dderbyn y realiti hwn, neu o leiaf nid ydynt yn dymuno gwneud unrhyw beth ymarferol i fynd i’r afael â’r realiti drwy geisio cyfyngu ar fewnfudo. Felly, mae angen gwthio’r awydd y mae Plaid Cymru wedi ei ddatgan yn fynych i gadw’r rhyddid i symud o’r neilltu. Nid yw’n ymddangos bod y Blaid Lafur yn gwybod ble y maent ar hyn. Nid oes unrhyw bwynt disgwyl safbwynt synhwyrol neu hyd yn oed un cyson gan Jeremy Corbyn. Mae’n newid ei farn weithiau wrth yr awr, ac yn amlwg nid oes ganddo syniad ynglŷn â’r mater hwn, fel ar lawer o faterion eraill.

Y broblem i Brif Weinidog Cymru, sydd i’w weld ychydig yn fwy rhesymegol mewn cymhariaeth yw hon: a yw’n credu bod mynediad at y farchnad sengl yn fater pwysicach na rhyddid i symud, ac a fydd ei farn o unrhyw bwys o gwbl i fainc flaen Llafur yn San Steffan?

Safbwynt UKIP o hyd yw mai rhoi diwedd ar fewnfudo heb ei reoli i mewn i’r DU o’r UE yw’r nod pennaf. Y rheswm am hynny yw ein bod yn credu mai’r mater hwn oedd y prif bryder i’r rhai a bleidleisiodd dros adael.

Diolch, Lywydd. Gwrandewais yn ofalus ar y safbwyntiau a fynegwyd o amgylch y Siambr. A gaf fi adleisio’r hyn a ddywedodd Adam Price, fod angen i ni gael dadl sy’n seiliedig ar ffeithiau ac nid yn gymaint ar yr aer poeth a gynhyrchwyd gan y ddadl hon dros y misoedd diwethaf?

Gofynnir i mi amlinellu’r hyn rwy’n meddwl yw’r ffordd ymlaen i Gymru a’r DU. Rwy’n hapus i’w rhoi—roeddwn yn meddwl fy mod wedi bod yn dweud hynny. Nid wyf yn credu y gallwch gael mynediad at y farchnad sengl a dweud ar yr un pryd eich bod am gael rheolaeth lawn ar fewnfudo. Rydych yn dewis y naill neu’r llall. Rwyf wedi gwneud y dewis i ddweud fy mod yn credu mai blaenoriaethu mynediad at y farchnad sengl yw’r mater pwysicaf i ni yng Nghymru. Pam? Yr Undeb Ewropeaidd yw ein marchnad allforio fwyaf o bell ffordd. Gwae i ni chwarae o gwmpas gyda’r farchnad honno. Mae’n farchnad lawer iawn yn fwy o faint i ni na’r Unol Daleithiau, yn farchnad lawer iawn yn fwy o faint i ni na rhai o’r gwledydd sy’n datblygu, ac mae’n bwysig ein bod yn cynnal mynediad at y farchnad honno.

Ni fyddai ein ffermwyr, ein ffermwyr mynydd, yn bodoli, a dweud y gwir, pe na baent yn gallu allforio. Buasai gosod tariff enfawr ar gig oen Cymru yn mynd i dde Ewrop yn dinistrio ffermio yng Nghymru. Gwn mai un o’r materion sy’n codi’n aml yw y gallwn reoli polisi ffermio ein hunain: gallwn, ond ni fydd gennym arian. O 2020 ymlaen, ni fydd ceiniog goch ar gael ar gyfer ffermio yng Nghymru—dim byd. Ni fuasai gwerth £260 miliwn o bunnoedd o gymhorthdal ar gael mwyach. Rydym yn clywed synau o’r tu mewn i DEFRA nad ydynt yn gweld cymorthdaliadau ar gyfer ffermio fel rhan o ddyfodol ffermio. Rwy’n gwybod, fel rhywun sydd wedi treulio 17 mlynedd fel Gweinidog—yn hwy nag unrhyw un arall ar yr ynysoedd hyn bellach—nad oes gan DEFRA unrhyw gariad tuag at ffermio mynydd. Eu syniad hwy o ffermio yw ffermio llaeth ar lawr gwlad a ffermio âr ar lawr gwlad. Nid oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn ffermio mynydd o gwbl. Mae gennyf lawer mwy o hyder, ar hyn o bryd, ym Mrwsel na Whitehall mewn perthynas ag amaethyddiaeth, oherwydd gwn nad oes unrhyw gydymdeimlad yn Whitehall tuag at ffermio yng Nghymru ac nid oes cydymdeimlad tuag at ffermio mynydd Cymru. Ac mae’r Torïaid yn dawel ar hyn. Nid ydynt yn dweud dim am yr arian a fyddai’n cael ei golli i ffermio yng Nghymru ar ôl 2020. Ble mae eu hangerdd? I grŵp o bobl a bleidleisiodd drostynt am flynyddoedd lawer, maent wedi cael cam gan y Blaid Geidwadol.

Mae yna ddau fater sy’n rhaid i ni ymdrin â hwy: yn gyntaf, rwy’n meddwl bod angen chwistrellu rhywfaint o realiti i mewn i’r ddadl hon. Ym mis Mawrth 2019, os na fydd cytundeb o unrhyw fath, bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn dod yn gymwys. Byddant yn gymwys; nid oes amheuaeth am hynny. Bydd tariffau’n dod i rym a byddwn yn wynebu tariffau wrth i ni geisio allforio i’n marchnad fwyaf. Mae hynny’n golygu, nid bod hyn yn rhywbeth sy’n hwb i drysorlys y Deyrnas Unedig, oherwydd yr hyn sy’n digwydd gyda thariffau, ac nid yw byth yn cael ei grybwyll gan y rhai sy’n dweud nad ydynt yn broblem, yw bod tariffau’n cael eu gosod ar nwyddau wrth iddynt ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, ac mae’r tariffau hynny’n cael eu trosglwyddo’n syml i’r defnyddiwr; mae’n dreth ar bobl. Telir tariffau gan y defnyddiwr, nid gan fusnesau Ewropeaidd. Felly, efallai y bydd y Trysorlys yn elwa, ond mae’n golygu y bydd aelodau o’r cyhoedd yn y DU yn talu treth ychwanegol i dalu am dariffau. Dyna beth yw tariffau yn y pen draw. Nid yw’n rhyw fath o arian am ddim i Drysorlys y DU; y cyhoedd fydd yn talu amdano.

Yn ail, mae busnesau’n ofni gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio mewn gwahanol rannau o Ewrop ac wrth gwrs, niwsans pur gwaith papur sy’n ymwneud â thollau. Adiwch hynny ar gyfer pob trafodiad ac mae’n creu rhwystr rhwng y DU a’r UE y gallem wneud hebddo.

Beth, felly, am fewnfudo? Nid wyf yn derbyn bod pobl wedi pleidleisio—

Neil Hamilton a gododd—

Mae Prif Weinidog Cymru yn gwneud pwynt am y fiwrocratiaeth a allai gael ei gosod o ganlyniad i adael yr UE ar gwmnïau’n masnachu gyda’r UE, ond y gwir amdani yw nad yw 95 y cant o gwmnïau yn masnachu gyda’r UE ac mae allforion i’r UE yn llai na 15 y cant o’n cynnyrch domestig gros. Ni fydd 85 y cant o werth masnach Prydain yn cael ei effeithio gan hyn o gwbl.

Mae dros 40 y cant o’n masnach yn mynd i’r UE; dyna yw’n ein marchnad fwyaf. Fel rwy’n dweud, gwae i ni chwarae o gwmpas â hynny. Efallai nad yw rhai busnesau bach a chanolig yn masnachu’n uniongyrchol gyda’r UE, ond maent yn masnachu gyda chwmnïau mwy o faint sy’n masnachu gyda’r UE, a bydd unrhyw effaith ar y cwmnïau mwy o faint hynny, fel Tata, er enghraifft, fel Ford, yn effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Os edrychwch ar gynllun injan Ford yn fy etholaeth i, mae pob injan yn cael ei hallforio—pob un. Nid oes marchnad ddomestig ar gyfer yr injans hynny. Rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn colli’r manteision, yn economaidd, sydd gennym yn awr.

Gyda mewnfudo, rwyf wedi dweud o’r blaen ac rwy’n mynd i ddal ati i ddweud na fydd y DU yn rheoli ei ffiniau ei hun. Ni allwch reoli ffiniau’r DU oni bai eich bod yn barod i weld ffin galed yn Iwerddon—nid oes ffordd arall o’i wneud—a derbyn y gwrthdaro a’r helbul a fydd yn digwydd yn sgil hynny. Os ydych am ddod i mewn i’r DU, dim ond mynd i Iwerddon fydd angen i chi ei wneud. Gallant gerdded i mewn i’r DU; ni fydd unrhyw reolaeth ar fewnfudo, dim rheoli ffiniau o gwbl. Felly, y gwir amdani yw na all y DU reoli ei ffin yn y modd y byddai rhai am ei weld.

Nawr, mae’n iawn dweud—ac rwy’n credu bod hyn yn gywir—fod pobl yn pryderu am y system bresennol o ryddid i symud. Rwy’n derbyn y pwynt hwnnw. Rhoddodd pobl sawl barn i mi ar garreg y drws: nid oedd rhai pobl yn dymuno gweld mewnfudo o gwbl; roedd rhai pobl yn awyddus i roi cic allan i fewnfudwyr—rwy’n derbyn mai lleiafrif bach o bobl ydynt; ond roedd llawer o bobl yn pryderu am resymau gwahanol am y rhyddid i symud. Fy nghynnig i yw ein bod yn ystyried gwneud yr hyn y mae Norwy yn ei wneud yn barod. Mewn geiriau eraill, mae yna ryddid cyfyngedig i symud: rhyddid i symud i swydd a rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn â hynny, ond daw adeg, os nad oes gan rywun swydd, pan na allant weithio neu aros yn y DU. Y gwir amdani oedd bod y DU yn mynd y tu hwnt i’r hyn a oedd yn ofynnol o dan y rheolau. Pe baent yn cael eu dehongli yn yr un modd ag y mae Norwy’n dehongli’r rheolau, er bod rhyddid i symud gan Norwy, rydych yn cyflwyno system synhwyrol yn fy marn i, a byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei derbyn. Nid oes neb wedi dweud wrthyf, ‘Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, welwch chi, yw atal yr holl feddygon, y nyrsys a’r myfyrwyr hyn rhag dod i mewn i Brydain.’ Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal i allu manteisio ar yr arbenigedd gorau o bedwar ban byd. Rwy’n credu bod rhyddid i symud i weithio yn ffordd hynod o synhwyrol a rhesymegol o ymdrin â phryderon pobl heb ein hynysu rhag gweddill y byd.

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus hefyd ynglŷn â chytundebau masnach rydd; nid ydynt yr hyn y credir eu bod. Gallai cytundeb masnach rydd yn Tsieina ei gwneud yn amhosibl gosod tariffau ar ddur o Tsieina, a byddai hynny’n golygu diwedd Tata a chynhyrchu dur yng Nghymru. Byddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn creu risg o fwy o gig oen Seland Newydd yn dod i Gymru, a byddai hynny’n arwain, wrth gwrs, at sefyllfa lle y mae ffermwyr Cymru, unwaith eto, yn cael eu taro gan ergyd ddwbl dim cymhorthdal a gorfod cystadlu yn erbyn cig oen a fydd bob amser yn rhatach. Beth bynnag a wnawn, bydd cig oen Seland Newydd bob amser yn rhatach na chig oen yng Nghymru oherwydd daearyddiaeth a thopograffeg a hinsawdd Seland Newydd. Ni all ein ffermwyr fforddio gweld hynny’n digwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Tra’i fod ar y pwynt ynglŷn ag allforion amaethyddol, a fyddai’n cytuno â mi fod angen i ni edrych ar yr enghraifft lle y ceisiwyd ymestyn ein diwydiant llaeth i Rwsia, ac yna, golygodd cyrchoedd Rwsia i’r Ukrain a’r Crimea fod sancsiynau wedi’u gosod ar Rwsia. Os ydym yn gwneud cytundebau strategol gyda’n gelynion posibl, neu o leiaf ein gwrthwynebwyr mewn cytundebau masnach, byddwn yn torri ein trwynau i sbeitio’n hwynebau.

Ac rwy’n ofni’r hyn sy’n cael ei ddweud yn yr Unol Daleithiau. Nid wyf yn credu am funud y bydd yr Unol Daleithiau yn dod i gytundeb gyda’r DU a fydd yn unrhyw beth heblaw manteisiol i’r Unol Daleithiau. Etholwyd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar blatfform o ddiffyndollaeth. Nid yw’n mynd i wneud unrhyw gymwynasau â’r DU. Mae’n naïf i feddwl mai dyna fydd yr Unol Daleithiau yn ei wneud.

Rwyf hefyd yn credu bod angen ysbryd o gydweithrediad wrth fynd i mewn i’r trafodaethau hyn—nid ysbryd o’r hyn rwy’n ei alw’n haerllugrwydd ymerodrol, gan feddwl y bydd y byd yn plygu ger ein bron. Wrth gwrs, mae’r UE yn allforio mwy o ran arian parod i’r DU. Byddai’n rhyfedd pe na bai: mae wyth gwaith yn fwy na’r DU. Ond y gwir amdani yw bod mwy na 40 y cant o allforion y DU yn mynd i’r UE, a dim ond 8 y cant y ffordd arall. Felly, mewn gwirionedd, mae marchnad yr UE yn llawer pwysicach i’r DU o ran y ganran o allforion nag y mae’r DU i’r farchnad Ewropeaidd. Mae llawer o gynhyrchwyr Ewropeaidd yn gwybod y byddant yn dal i allu gwerthu i’r DU, hyd yn oed gyda thariffau, oherwydd nad oes gan bobl ddewis arall. Os ydych am brynu car, nid oes gennych fawr o ddewis heblaw prynu car sydd wedi’i gynhyrchu dramor yn rhannol o leiaf. Nid yw fel pe bai yna ddewis arall o ran car wedi’i weithgynhyrchu ym Mhrydain. Felly, mae’r syniad mai’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hi ac y bydd y byd yn plygu ger bron Prydain yn agwedd anghywir ar ran Prydain. Mae Prydain yn economi fawr, ond nid yw’n farchnad fawr. Rhaid i ni gadw hynny mewn cof wrth i ni ystyried beth ddylai ein safbwynt fod.

Amserlen: nawr, awgrymwyd bod cytundebau masnach rydd yn un ffordd bosibl ymlaen. Nid wyf yn argyhoeddedig o hynny. Dywedodd arweinydd UKIP ei hun ei bod wedi cymryd pum mlynedd i drafod cytundeb â De Corea. Dwy flynedd yn unig sydd gennym. Mae’n amhosibl negodi cytundeb masnach rydd gydag unrhyw un mewn dwy flynedd. Rwyf wedi siarad â swyddogion o Lywodraethau eraill sydd wedi gwneud hyn, ac maent i gyd yn dweud wrthyf ei bod yn cymryd dwy flynedd i gytuno i gael y trafodaethau yn y lle cyntaf. Mae cael cytundeb masnach rydd mewn dwy flynedd yn gwneud i’r DU edrych yn wirion, pan fydd pobl yn awgrymu hynny mewn gwirionedd. Saith mlynedd, 10 mlynedd—dyna’r amserlen ar gyfer cytundebau masnach rydd. Felly, mae’r trefniadau trosiannol ar ôl Mawrth 2019 yn hynod o bwysig. Ni allwn gamu dros ymyl clogwyn a cheisio dringo yn ôl i fyny wedyn. Mae’n rhaid cael pont rhwng y canlyniad terfynol a mis Mawrth 2019. Nid oes digon o feddwl wedi’i wneud ynghylch hynny.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood. Rhaid i mi ddweud, yn yr holl flynyddoedd y bûm mewn Llywodraeth nid wyf erioed wedi gweld Llywodraeth y DU sy’n fwy digyfeiriad. Nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Rwy’n clywed safbwyntiau gwahanol gan wahanol Weinidogion. Mae’r farchnad arian yn ymateb bob tro y mae Theresa May yn dweud rhywbeth am nad ydynt yn gwybod beth y mae hi—. Mae arweinydd y Ceidwadwyr newydd gerdded yn ôl i mewn i’r Siambr. Pe baech chi eisiau chwarae rhan yn y drafodaeth, buasech wedi bod yma o’r cychwyn cyntaf yn hytrach na cherdded i mewn ar y diwedd un. Mae’n siarad am rwgnach diddiwedd o’r meinciau hyn; mae’n feistr ar y gelfyddyd honno. Pe bai wedi gwrando ar y dadleuon, efallai y byddai wedi dysgu mwy yn hytrach na dod i mewn ar y diwedd gyda meddwl caeedig.

Ond nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw arweiniad i ni o gwbl. Rwy’n clywed rhai yn Llywodraeth y DU yn siarad am dariffau fel pe na baent o unrhyw bwys. Rwy’n clywed David Davis yn newid ei safbwynt, a chroesawaf hynny, mewn gwirionedd. Mae wedi newid ei safbwynt i’r hyn y credaf sy’n safbwynt mwy pragmatig. Gobeithio y bydd y pragmatyddion yn Llywodraeth y DU yn gryfach na’r dogmatwyr, sy’n malu awyr cenedlaetholgar, a bod yn onest. Dyna’r unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio—fel cenedlaetholdeb ar gyfer y DU. Os gwaeddwch ar estroniaid ddigon byddant yn rhoi’r hyn rydych ei eisiau i chi. Yn y bôn, dyna y mae rhai o’r Blaid Geidwadol ei eisiau, ac mae’n rhaid datrys y mater hwn er lles pobl Prydain, nid er mwyn yr hyn sy’n wleidyddol gyfleus oherwydd y rhwygiadau o fewn y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Gwelliant Plaid Cymru—byddwn yn cefnogi’r gwelliant hwnnw. Rwy’n falch eu bod yn croesawu’r ymweliad â Norwy. Gofynnwyd i mi heddiw a oedd yn ymweliad hwyliog. Roeddwn yn gwybod y byddai rhywun yn gofyn hynny i mi wrth i mi sefyll mewn tymheredd o -16 gradd C yn yr eira. Gallaf eich sicrhau nad oedd yn teimlo felly ar y pryd. Trafodais aelodaeth o Ardal Masnach Rydd Ewrop gyda hwy. Yn sicr, mae cryn bryder ymhlith aelodau EFTA ynglŷn â’r DU yn ymuno, oherwydd ei maint. Norwy yw’r wlad fwyaf yn EFTA ar hyn o bryd wrth gwrs. Er mai dim ond 5 miliwn o bobl sydd ganddi, mae’n allforiwr olew enfawr. Daw hanner olew’r DU o Norwy. Dim ond 5 miliwn o bobl, ond ceir cronfa gyfoeth sofran o £700 biliwn a gronnodd wrth i DU wario’i holl arian olew hi. Felly, mae’n chwarae rhan go bwysig, er gwaethaf ei maint. Mae angen cael trafodaeth gyda Norwy ac aelodau eraill o EFTA ynglŷn ag a fyddai’r DU yn cael croeso yn EFTA oherwydd ei maint. Ond rwy’n falch o weld mai’r trydydd pwynt a gyflwynwyd yn y gwelliant, gan ddefnyddio’r ymadrodd rwyf wedi’i ddefnyddio, yw ‘mynediad llawn a dilyffethair’ at y farchnad sengl. Mae aelodaeth o EFTA yn sicr yn bosibilrwydd. Mae aelodaeth o’r AEE, unwaith eto, yn rhywbeth i edrych arno. Mae’r undeb tollau o bosibl yn llai deniadol ar hyn o bryd, oherwydd yr hyn y byddai hynny’n ei wneud. Rwy’n credu bod aelodaeth o EFTA a/neu’r AEE mewn gwirionedd yn opsiwn gwell ar hyn o bryd, ar ôl archwilio’r dystiolaeth. Ond rhaid i mi ddweud, po fwyaf yr edrychwch ar hyn, y mwyaf cymhleth y mae’n mynd. Yr un peth y dylem ei osgoi yw meddwl, ‘Mae hyn i gyd yn hawdd iawn, bydd y cyfan yn cael ei ddatrys mewn dwy flynedd.’ Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae hyn yn mynd i alw am ymdrech fawr, gwaith caled, ac rwy’n benderfynol ein bod yn cael hyn yn iawn i bobl Cymru.

Diolch, Lywydd. Rwy’n llongyfarch arweinydd fy mhlaid ar agor y ddadl hon; diolch i Mark Isherwood am ei welliant; i Adam Price am ei un ef; a diolch Caroline Jones, Jeremy Miles, Gareth Bennett a’r Prif Weinidog am eu cyfraniadau i’r ddadl hon. Mae yna hefyd un cyfraniad eisteddog yr hoffwn ei ateb, ac rwy’n meddwl ei fod wedi dod gan Lee Waters, a ddywedodd ar un pwynt—os clywais ef yn iawn—’Pam rydym yn parhau i gael y dadleuon hyn?’ Fy ateb yw, ‘Oherwydd bod safbwynt yr holl bleidiau eraill yn y Siambr hon yn newid o hyd.’

Mae gennym y gwelliant gan y Ceidwadwyr heddiw, ac rwy’n weddol hapus gyda gwelliannau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr; yr unig ran rwy’n ei wrthwynebu’r yw’r ‘Dileu popeth’ ar y dechrau. Ond o siarad â Mark Isherwood, mae’n ymddangos ei fod yn disgwyl i mi wybod yn well nag ef beth yw safbwynt diweddaraf y Ceidwadwyr yn y DU. Hynny yw, maent wedi sefydlu Adran Masnach Ryngwladol Liam Fox, ac eto, mae gennym y briff hwn yn awr ac yn sicr gan y Canghellor, Philip Hammond, awgrymiadau ein bod yn aros yn yr undeb tollau. Felly, rydym yn gadael y farchnad sengl, ond yn aros yn yr undeb tollau, ac yn gwastraffu llwyth o amser ac egni yn cael Adran Masnach Ryngwladol na fydd byth yn gallu gwneud unrhyw beth. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr, ac rwy’n gobeithio nad dyna’r sefyllfa y byddwn yn dod iddi.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Prif Weinidog am ddod i’r ddadl hon. Pan glywais gyntaf, pan gefais fy ethol gyntaf, ei fod yn mynd i fod yn gyfrifol am bortffolio Brexit ar ôl y refferendwm, roeddwn ychydig yn amheus. O ystyried ei holl dasgau a’i ymrwymiadau yn arwain y Llywodraeth a phopeth oedd ganddo i’w wneud, credwn na fyddai lefel y sylw y gallai ei roi i’r portffolio Brexit yn fawr. Rhaid i mi ddweud, Brif Weinidog, rydych wedi rhoi sylw iddo, ac rwy’n meddwl eich bod wedi cynnal trosolwg ar y portffolio hwn. Rydych wedi bod yn y Siambr ar gyfer yr holl bethau allweddol, ond rwy’n teimlo bod eich safbwynt yn newid o hyd. Fe ddywedoch yn union ar ôl y refferendwm mai’r peth hollol allweddol oedd cadw rhyddid i symud. O fewn 24 awr roeddech wedi tynnu hynny’n ôl, ac ymddangosai nad dyna fel oedd hi. Yna, fe deimlem ei bod hi’n ymddangos eich bod yn symud i’r cyfeiriad cywir. Roedd gan Blaid Cymru y cynnig gwych hwnnw eu bod eisiau bod yn y farchnad sengl, ond fe wnaethoch chi, gyda ni, drechu’r cynnig hwnnw ac fe ddywedoch yn glir iawn yn y ddadl honno nad aelodaeth o’r farchnad sengl oedd yn bwysig, ond mynediad at y farchnad sengl. Yn anffodus, rwy’n canfod yr wythnos hon bellach, mewn cwestiynau ddoe ac i raddau yn y ddadl heddiw, eich bod wedi troi cefn ar y safbwynt hwnnw eto, a’r hyn rydych ei eisiau yw bod yn y farchnad sengl, a bod hynny’n werth ei gael yn gyfnewid am ryddid i symud. Rydych eisiau’r ddau beth, ar ôl dod o safbwynt lle nad oeddech eisiau’r naill na’r llall. Dyna pam rwy’n credu bod angen i ni barhau i gael y dadleuon hyn, i geisio egluro ein dealltwriaeth o’r materion hyn. Hynny yw, rydym wedi llunio—

Y Prif Weinidog a gododd—

Ni fuaswn fel arfer yn ymyrryd, ond—rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am adael i mi ymyrryd—yn gyntaf, mae’n gywir dweud bod y safbwynt yn newid, oherwydd rydym mewn sefyllfa mor gyfnewidiol. Mae yna gymhlethdodau newydd yn codi bob amser ac fel y dywedodd Keynes, ‘Pan fo’r ffeithiau’n newid, rwy’n newid fy meddwl’, ac rwy’n credu bod hynny’n un o’r pethau y mae’n rhaid i chi fod yn agored iddo.

Un pwynt roeddwn am ei egluro: soniodd am welliant Plaid Cymru, a dywedodd nad oedd ganddo unrhyw drafferth gyda gwelliant Plaid Cymru. Mae gwelliant Plaid Cymru yn sôn am aelodaeth o EFTA ac aelodaeth o’r AEE fel posibiliadau ar gyfer Cymru. A oes unrhyw un o’r senarios hynny yn rhywbeth y mae’n barod i’w hystyried?

Nid yw hyn yn hollol gywir. Nid yw’n sôn am aelodaeth o EFTA ac aelodaeth o’r AEE, mae’n dweud aelodaeth o EFTA a/neu’r AEE. Rwy’n credu y byddai fy mhlaid yn hapus iawn, yn wir yn frwdfrydig, dros aelodaeth o EFTA, ond nid aelodaeth o’r AEE. Mae’r gwelliant yn ddryslyd. Nid wyf yn meddwl bod gennym unrhyw broblemau gydag unrhyw ran arall ohono. A/neu’r AEE, iawn, rydym yn fodlon gydag aelodaeth o EFTA. Ond yr hyn y mae cefnogi’r gwelliant yn ei wneud yw caniatáu i’r Prif Weinidog barhau â dryswch ei blaid, ‘A ydynt eisiau aelodaeth o’r farchnad sengl?’ h.y. yr AEE—o bosibl gyda dryswch y Ceidwadwyr y gallech fod y tu allan neu o fewn yr undeb tollau—neu a yw’n dweud, gyda ni, y dylem gael perthynas fasnach rydd, gan geisio manteisio i’r eithaf ar ein mynediad at y farchnad sengl o’r tu allan? Dyna mewn gwirionedd yw’r hyn sy’n rhaid iddo benderfynu.

Nid wyf yn credu bod y ffeithiau wedi newid. Pleidleisiodd y bobl dros adael yr UE. Yn sicr, mae polisi Llywodraeth y DU yn newid, ond rwy’n meddwl bod pobl yn dysgu mwy am gymhlethdodau’r UE ac yn ystyried y mater ac ie, o bosibl yn newid eu barn dros amser, ond nid wyf mor siŵr fod y ffeithiau wedi newid i’r graddau hynny.

Yr anhawster gyda mater Plaid Cymru yw eu bod yn siarad am fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl Ewropeaidd, ond nid wyf yn siŵr fod yna’r fath beth. Nid oes gennym fynediad llawn a dilyffethair ar hyn o bryd. Mewn llawer o feysydd nid yw gwasanaethau wedi’u rhyddfrydoli. Mewn nwyddau cawsant wared ar—. Yn y bôn mae’r egwyddor Cassis de Dijon o gydnabod y ddwy ochr a arferai fod gan yr UE wedi cael ei disodli gan, ‘Wel, gadewch i ni gytuno’n wleidyddol ar un safon sengl, o’r brig i lawr sy’n rhaid i bawb gydymffurfio â hi er mwyn gallu gwerthu o gwbl.’ Nid wyf yn galw hynny’n fynediad llawn a dilyffethair. Ac yn yr un modd mewn gwirionedd, fe wnaethant ddefnyddio cymhwysedd cyfraith yr UE i geisio atal ein mynediad pan oeddent yn edrych, dyweder, ar wahardd clirio’r ewro—os nad oeddech yn ardal yr ewro, byddent yn ceisio defnyddio cyfraith yr UE. Yn yr un modd gyda rheoliadau’r gwasanaethau porthladd—buasent yn rhyw fath o rannu a chael marchnadoedd mewnol ym mhob porthladd yn y DU a buasai’n gwbl chwerthinllyd ac yn llesteirio ein mynediad at y farchnad sengl yn ogystal â marchnadoedd eraill. Unwaith eto, byddai hynny’n cael ei wneud yn ôl cyfraith yr UE. Rydym yn awyddus i gael cymaint o fynediad â phosibl, yn gyson â chyfyngu ar ryddid i symud, a phenderfynu pwy sy’n dod i’n gwlad. Nid ydym yn mynd i gael ffin galed, nid ydym yn mynd i fod eisiau archwilio pob lori sy’n dod ar draws y farchnad Wyddelig, nid ydym yn ceisio atal pobl o’r UE sy’n ymweld â’r DU; rydym yn ceisio’u hatal rhag gweithio yn y DU ar sail hollol ddilyffethair i ostwng cyflogau pobl ar ben isaf ein marchnad lafur sy’n cystadlu â hwy. Dyna’r hyn y mae ein cynnig yn ei ddweud, a hoffwn pe bai Prif Weinidog Cymru yn dod â rhywfaint o eglurder drwy gefnogi ein cynnig, yn hytrach na chefnogi peth Plaid Cymru, sy’n parhau’r amwysedd a’r ansicrwydd a fu’n nodwedd o safbwyntiau pleidiau eraill yn y Siambr hon. Diolch.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno inni ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

9. 9. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl y Ceidwadwyr ar barodrwydd yr NHS ar gyfer y gaeaf, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6195.

Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 23, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6195.

Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 19, Yn erbyn 32, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6195.

Dad-ddetholwyd gwelliant 3.

Cynnig NDM6195 fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i’r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy’n nodi: ‘Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol’.

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i’r GIG a’r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio’n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o’r radd flaenaf i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig NDM6195 fel y’i diwygiwyd: O blaid 36, Yn erbyn 11, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6195 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ordewdra, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6196.

Ar welliant 1, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 24, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6196.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6196 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) a hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew yng Nghymru ers 2012—ond ein bod am weld y niferoedd hynny’n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu’n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu’n ordew; a

c) bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio—gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol—i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, 12 yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6196 fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 5, Ymatal 12.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6196 fel y diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar y sector addysg uwch, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 16 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 35, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6198.

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl UKIP Cymru ar aelodaeth o’r farchnad sengl Ewropeaidd. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Mae’r cynnig, felly, wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6197.

Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, un yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 11, Yn erbyn 39, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6197.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 17 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6197.

Cynnig NDM6197 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.

2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. 34 o blaid, 11 yn ymatal, chwech yn erbyn, ac felly mae’r cynnig fel y’i ddiwygiwyd wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6197 fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 6, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6197 fel y diwygiwyd.

Os gwnaiff bawb adael y Siambr yn dawel; mae un eitem yn weddill i’w chwblhau. Felly, mae’r Cynulliad yn parhau i gwrdd, os gwnaiff bob Aelod—.

If all Members would leave the Chamber quietly; the Assembly is still in session. Please leave quietly. Leave.

10. 10. Dadl Fer: O'r Golwg yng Ngolwg Pawb—Unigrwydd yng Nghymunedau Cymru, a Beth i'w Wneud Amdano

Ac felly rydw i’n gofyn i Joyce Watson gynnig y cynnig am y ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw hi—Joyce Watson.

Diolch, Lywydd. Byddaf yn siarad heddiw am unigrwydd, ac rwy’n falch o ganiatáu amser ar gyfer Eluned Morgan a Mark Isherwood i wneud cyfraniadau, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet.

Cefais fy ysgogi i gyflwyno’r ddadl hon gan ddau beth. Yn gyntaf, e-bost a gefais cyn y Nadolig gan y Groes Goch Brydeinig. Mae’r elusen wedi ymuno â’r Co-op i helpu pobl ym Mhrydain y cyfyngir ar eu bywydau gan unigrwydd. Maent wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr o’r enw ‘Trapped in a bubble’, a bydd yn lansio pedwar prosiect newydd yng Nghymru—un yn Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen. Yna, yn fuan ar ôl y Nadolig, darllenais adroddiad am lansio’r comisiwn ar unigrwydd yn ddiweddarach y mis hwn, comisiwn a ddyfeisiwyd gan y diweddar Jo Cox a Seema Kennedy AS.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae’n wir ein bod yn teimlo mwy o gysylltiad â phobl eraill adeg y Nadolig, ond yn fwy ar ein pen ein hunain pan ydym yn unig. Felly, roedd y straeon hyn yn taro tant. Cyn ei marwolaeth annhymig, helpodd Jo Cox i gasglu tystiolaeth am unigrwydd mewn gwahanol rannau o gymdeithas: plant sy’n drist ofnadwy, mamau newydd, pobl anabl ynysig, dynion sy’n dioddef o iselder, a phobl hŷn. Ac mae ei gwaith yn byw ar ei hôl, ac yn cael ei barhau gan Rachel Reeves AS. Mae academyddion ac elusennau, gan gynnwys y Campaign to End Loneliness, Age UK, Gweithredu dros Blant, y Co-op a’r Groes Goch Brydeinig, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, a Sense, wedi cyfrannu at y comisiwn. Mae eu tystiolaeth yn dangos bod mwy na 9 miliwn o bobl ym Mhrydain, bron un o bob pump o’r boblogaeth, yn dweud eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-operative yn ategu’r ffigur hwnnw. Dywedant fod bron i un o bob pump o bobl yn unig drwy’r amser neu’n aml. ‘Yn unig drwy’r amser neu’n aml’—i mi, mae hwnnw’n ymadrodd trist dros ben, yn ffigur syfrdanol. Ond beth y gallwn ni ei wneud am y peth? Mae unigrwydd yn rhan o fywyd. Yr awdur a’r athronydd Americanaidd, Henry David Thoreau a ysgrifennodd:

Mae dynion drwy’u trwch yn byw bywydau o anobaith tawel.

Mae pobl wedi disgrifio hon fel oes pryder. Ond gallwn weithredu, ac fe ddylem weithredu, oherwydd mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn bryder cyhoeddus, yn ogystal ag anhapusrwydd preifat. Yn un peth, mae’n fater iechyd y cyhoedd. Mae unigrwydd yn gysylltiedig â symptomau corfforol fel pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, iselder, afiechyd meddwl, yfed a chamddefnyddio sylweddau. Buom yn trafod gordewdra yn gynharach y prynhawn yma, a bydd peth ymchwil yn awgrymu y gall unigrwydd fod mor niweidiol i iechyd â gordewdra neu ysmygu. Felly, mae yna ddadl eglur o ran iechyd y cyhoedd. Yn fwy cyffredinol, mae unigrwydd yn gyfuniad o faterion personol, cymunedol, a chymdeithasol ehangach. Mae’n effeithio’n negyddol ar gymunedau yn ogystal ag unigolion. Bydd pobl yn encilio. Byddant yn ymddieithrio. Byddant yn cyfrannu llai. Byddant yn absennol o’r gwaith. Felly, mae’n effeithio ar bawb yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Fel y mae teitl y ddadl yn awgrymu—’O’r golwg yng ngolwg pawb’—mae unigrwydd yn broblem ar bob stryd, ym mhob cymdogaeth, ac ym mhob teulu bron, yn ôl pob tebyg.

Felly, sut y mae mynd i’r afael ag ef? Yn gyntaf, rhaid i ni ei adnabod, a dyna ble y gall y comisiwn a’r ymchwil helpu’n aruthrol. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-op yn dangos bod bron i dri chwarter y bobl a ddywedodd eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml yn perthyn i un o chwe chategori sy’n gysylltiedig â newid amgylchiadau neu yn sgil digwyddiadau bywyd. A’r rhain yw: bod yn fam ifanc, y rhai sydd â phroblemau iechyd, pobl sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar, pobl â symudedd cyfyngedig, pobl sydd wedi ysgaru neu wahanu’n ddiweddar neu wedi ymddeol, a phobl sy’n byw heb blant yn y cartref. Yr hyn sy’n amlwg yw nad oes un achos syml dros unigrwydd. Felly, ni cheir un ateb sy’n gweddu i bawb. Yn hytrach, mae angen cymysgedd o weithgareddau i atal y problemau hyn, i ymateb i brofiadau pobl, ac i adfer hyder y rhai yr effeithiwyd arnynt ers peth amser.

Mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, fod oed yn ffactor risg amlwg sydd wedi’i ddogfennu’n dda mewn perthynas ag unigrwydd. Yn ei gyflwyniad i’r comisiwn, cynhaliodd Age Cymru arolwg o bobl dros 60 oed yng Nghymru fis Tachwedd diwethaf, ac mae’r canlyniadau’n amlygu pwysigrwydd pethau fel cludiant fforddiadwy i ac o ddigwyddiadau cymdeithasol, clybiau cinio, clybiau cymdeithasol, ac ymweliadau wyneb yn wyneb. Dyna pam y mae pobl yn parhau i ymgyrchu’n angerddol i achub gwasanaethau fel eu canolfannau dydd lleol, a pham y mae grŵp Llafur ar Gyngor Powys hefyd wedi ymgyrchu, ac eraill yn parhau i ymgyrchu ym mhob man. A dyna pam roedd camau pendant Llywodraeth Cymru i achub y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn hanfodol. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad mwy am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cymunedau gwydn. Mae tueddiad i orddefnyddio’r gair hwnnw, ‘cymuned’, a chaiff ei ddefnyddio’n rhy llac. Rwy’n gwingo pan glywaf bethau fel ‘cymuned sy’n rhoi benthyciadau morgais’. Ond mae cymuned—gwir ystyr cymuned—yn rhan annatod o fywyd Cymru, ac rwy’n credu hynny’n gryf.

Mae gwledigrwydd yn ffactor risg arall ar gyfer unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae’n gyffredin yn fy rhanbarth i, er, wrth gwrs, gall pobl fod ar wahân heb fod yn unig, a gallant fod yn unig heb fod ar wahân. Mae trafnidiaeth a chyfleusterau yn arbennig o bwysig mewn lleoliad gwledig ond mae hynny’n wir hefyd am gysylltiad rhyngrwyd da, ac mae Cyflymu Cymru wedi helpu mewn rhai ffyrdd. Ond unwaith eto, yr hyn sy’n amlwg o waith ymchwil y comisiwn yw bod unigrwydd yn cyffwrdd â phob rhan o gymdeithas: menywod a dynion, trefol a gwledig, hen ac ifanc. Mae ChildLine wedi helpu mwy na 4 miliwn o bobl ifanc, gyda mwy a mwy yn cysylltu â hwy yn y blynyddoedd diwethaf i ddweud pa mor ddiobaith a thrist ac unig y maent yn teimlo. Mae cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs, yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, ond nid yw’n cymryd lle siarad â phobl wyneb yn wyneb. Yn aml gall wneud i bobl deimlo’n fwy unig, a gall amlygu cymaint o gysylltiadau sydd gan bobl eraill, yn ymddangosiadol o leiaf.

Felly, mae angen dull cyfannol arnom i fynd i’r afael ag unigrwydd, un y bydd yn rhaid iddo, yn ddi-os, dorri ar draws meysydd polisi ac adrannau’r Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol. Am y ddwy flynedd nesaf, bydd y Groes Goch yn darparu cymorth uniongyrchol personol i 12,500 o bobl mewn 39 o leoliadau ym Mhrydain, gan gynnwys y pedair ardal yng Nghymru y soniais amdanynt yn gynharach—Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen. Bydd timau o gysylltwyr cymunedol ymroddedig a staff cymorth yn y cartref a gwirfoddolwyr yn darparu cymorth seicogymdeithasol arbenigol, cymorth diogelu a help i bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Byddant yn darparu 12 wythnos o ofal dwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi gweithgareddau, grwpiau diddordeb, a gwasanaethau lleol i helpu pobl fagu hyder.

Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect yn Sir Gaerfyrddin, lle y mae bron i draean o’r boblogaeth yn byw eu hunain. Cyfeiriwyd un defnyddiwr gwasanaeth yno, Janet—nid ei henw iawn—at y Groes Goch yn ystod y gwanwyn y llynedd, ar ôl iddi gael strôc yn ddiweddar a oedd yn cyfyngu ar ei gallu i gerdded. Er ei bod wedi bod yn dioddef o orbryder cyn y strôc, ers hynny roedd hi wedi datblygu agoraffobia a phyliau o banig. Nid oedd wedi gadael ei thŷ na chamu allan drwy’r drws cefn hyd yn oed ar ei phen ei hun ers iddi ddychwelyd o’r ysbyty sawl wythnos cyn hynny. Roedd hi eisiau gallu cerdded at waelod y dreif un diwrnod i gyfarch ei gŵr pan ddôi adref, ac roedd hi hefyd yn awyddus i allu ymweld â’i mab yn Copenhagen adeg y Nadolig a gallu cerdded yn annibynnol o’r trên i fflat ei mab, a oedd tua 400m. Cafodd Janet ei chyflwyno i wirfoddolwr o’r Groes Goch, Heather, ac roedd y ddwy’n gyrru ymlaen yn dda ar unwaith. Dechreuodd Heather ymweld â hi’n wythnosol a byddent yn ymarfer mynd y tu allan i’r drws ffrynt, dim ond sefyll yno, a dod yn ôl i mewn. Mewn cyfnod byr iawn o amser aethant yng nghar Heather ar ymweliad â’r arfordir, ar gais Janet, a chynyddodd ei hyder. Yn fuan wedyn, roeddent yn cerdded ar hyd y dreif, a dechreuodd Janet gerdded ar ei phen ei hun, gyda Heather yn sefyll ar y pen arall. Erbyn yr adeg y daeth cymorth Heather i ben, ar ôl y tri mis, roedd Janet yn defnyddio’i sgwter symudedd i deithio pellteroedd hwy ar ei phen ei hun i’r swyddfa bost leol, ac roedd hi’n ymarfer cerdded ar ei phen ei hun yn rheolaidd. A do, fe lwyddodd i ymweld â’i mab yn Denmarc adeg y Nadolig.

Mae Age Cymru hefyd yn gwneud gwaith aruthrol yn y maes hwn ac maent yn lansio ymgyrch fawr newydd yn fuan. Felly, beth y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud? Mae unigrwydd yn rhychwantu llawer o feysydd polisi, fel rwy’n dweud, ond drwy lunio a chraffu ar fwy o bolisi a deddfwriaeth drwy lens unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gallwn ddechrau mynd i’r afael ag ef yn fwy effeithiol. Dyna’r wleidyddiaeth. Ond yn bersonol, gall pawb ohonom weithredu a gall pawb ohonom wneud mwy. Wrth i lewyrch y Nadolig bylu ac wrth i oerni’r gaeaf barhau, fe allem, mewn gwirionedd, ddechrau sgwrs: gallem godi’r ffôn a siarad â pherthynas oedrannus neu unig a gallem, mewn gwirionedd, wneud amser ar gyfer pobl.

Roeddwn i’n meddwl bod hwnnw’n gyflwyniad emosiynol iawn gan Joyce Watson a hoffwn ddiolch yn fawr iawn iddi, nid yn unig am y cyflwyniad, ond hefyd am gychwyn y drafodaeth hon heddiw.

Rwy’n credu bod unigrwydd yn felltith, mewn gwirionedd, yn enwedig i’r oedrannus a dyna’r pwynt yr hoffwn ganolbwyntio arno oherwydd, rwy’n credu, gyda mwy o bobl yn symud o’r ardal lle y cawsant eu magu, maent yn gadael eu rhieni a chaiff pobl eu gadael ar eu pen eu hunain. Mae hynny’n arbennig o wir, rwy’n meddwl, mewn ardaloedd gwledig, lle y mae’n rhaid i ni fod yn arbennig o sensitif, rwy’n credu. Ond rydym bellach mewn oes o galedi ac er bod y sefyllfa’n ddrwg yn awr, fe wyddom mewn gwirionedd ei bod yn debygol o waethygu. Cawsom wybod gan ein Gweinidog cyllid ein hunain fod awdurdodau lleol yn mynd i orfod tynhau eu gwregysau yn y dyfodol—mae wedi bod yn hael eleni, ond mae angen i ni baratoi.

Yn anffodus, canlyniad Llywodraeth y DU yn gorfodi caledi ar Gymru ac ar awdurdodau lleol yw cau cartrefi gofal. Maent yn achubiaeth i bobl sy’n dioddef unigrwydd. Rwy’n ofni ein bod yn mynd i orfod dibynnu mwy, yn y dyfodol, ar gymdogion, ar gymunedau, ar sefydliadau gwirfoddol, i helpu llywodraeth leol yn yr achosion hyn. Nid yw’n golygu bod y Llywodraeth yn troi cefn ar hyn. Mae’n wirioneddol bwysig fod yna rôl i’r wladwriaeth, ond rwy’n meddwl, efallai, mai’r hyn y dylem ei wneud yw creu seilwaith gwell i ni allu cefnogi gwirfoddolwyr. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pennu un rhif ffôn, er enghraifft, lle y gallai pobl ar draws Cymru gyfan ffonio a byddai peiriant, i bob pwrpas—peiriant o bobl yn cyfeirio galwadau i’r mudiad gwirfoddol cywir. Rwy’n meddwl y gallem leddfu unigrwydd yn y ffordd hon, ond gallem helpu pobl yn ymarferol hefyd. Newid bylbiau—nid ydych eisiau i hen berson newid bylb golau oherwydd gallent syrthio, torri eu clun a bydd hynny’n effeithio ar y GIG. Mae hi cymaint haws i ni eu helpu.

[Yn parhau.]—yr angen, rwy’n meddwl, i ddarparu fframwaith cyllid hirdymor i helpu sefydliadau sy’n tynnu’r pwysau oddi ar y GIG a gwasanaethau gofal. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn ystyried ariannu gwell a fframwaith cyllid hirdymor yn hytrach na’r broses ad hoc sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â swyddfa’r Groes Goch Brydeinig yn Abergele i glywed mwy am brosiect Cyswllt Cymunedol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac ailgysylltu pobl â’u cymunedau, y cyfeiriodd Joyce Watson ato, gan elwa o’r bartneriaeth rhwng y Groes Goch a’r Co-op. Y rheswm am hyn oedd bod Conwy yn un o’r pedair ardal y cyfeirioch chi atynt gyda 32 y cant o bobl yn byw ar aelwyd un person a 25 y cant yn 65 oed a hŷn. Ond fel y dywedoch, mae hyn ar gyfer pobl o bob oedran, ac nid pobl hŷn yn unig—i’w helpu i dorri’r cylch o unigrwydd ac arwahanrwydd a’u hailgysylltu â’u cymunedau.

Mae cymorth personol gan y Groes Goch hefyd yn cynnwys cynlluniau fel Camau Cadarn i wella bywydau pobl dros 50 oed ledled Cymru, gydag wyth wythnos o gymorth dwys, wedi’i ddilyn gan gymorth mwy hirdymor dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y gymuned gan RVS Cymru.

Yn fwy na dim, heb y cymorth iawn ar yr adeg iawn, mae teimlo’n unig neu’n ynysig yn effeithio ar les, mae’n cyfrannu at afiechyd a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus, felly mae’n rhaid helpu pobl yn gydgynhyrchiol, i adnabod y cryfderau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n eu dal yn ôl.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am roi’r cyfle i drafod yr heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael ag unigrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru. Yn draddodiadol, mae ein cymunedau wedi bod, ac yn parhau i fod yn llefydd lle y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Ond wrth i gymdeithas newid, mae nifer cynyddol o bobl yn dioddef arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Lle y byddai cenedlaethau o’r un teulu, unwaith, wedi byw eu bywydau o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd, yn yr un stryd, yr un gymuned, heddiw mae aelodau o’r un teulu’n aml wedi’u gwasgaru ar draws y wlad neu hyd yn oed ar draws y byd wrth iddynt fynd ar drywydd cyfleoedd gwaith neu ddechrau eu teuluoedd eu hunain. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd y genhedlaeth hŷn yn cael ei gadael ar ôl, fel y pwysleisiodd Eluned Morgan yn ei chyfraniad.

Nid ffenomen sy’n gysylltiedig â heneiddio’n unig yw unigrwydd ac arwahanrwydd wrth gwrs. Mae pawb ohonom yn profi cyfnodau o unigrwydd ac fel yr amlygwyd yn glir iawn yn y ddadl hon, mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn creu risg fawr i iechyd y cyhoedd—yn aml cyfeirir atynt fel y lladdwyr tawel, ac yn aml maent yn gysylltiedig â salwch meddwl, clefyd cardiofasgwlaidd, pwysedd gwaed uchel a chynnydd yn y risg o ddementia. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth a fydd, o reidrwydd, yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan ac ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Ond mae’n rhaid iddi gwmpasu nid yn unig y Llywodraeth yn genedlaethol ac yn lleol—mae llywodraeth leol yn chwarae eu rhan, a’r gwasanaeth iechyd—ond y trydydd sector a’n cymunedau hefyd.

Mae yna nifer o ddulliau sy’n seiliedig yn y gymuned o gefnogi pobl sydd bellach yn unig ac wedi’u hynysu a chawsant eu crybwyll heddiw. Rhoddodd Joyce sylw iddynt yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod ein strategaeth, unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth, yn hyrwyddo modelau cynaliadwy sy’n cael eu hintegreiddio yn y cymunedau. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru drwy ystod o raglenni a chynlluniau ac mae rhai o’r rhain wedi cael eu crybwyll. Sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol raglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr, a gâi eu galw weithiau’n gymunedau tosturiol. Mae’r rhain yn cefnogi pobl sy’n unig ac wedi’u hynysu drwy fodel presgripsiynu cymdeithasol ac yn cynorthwyo i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymunedau ar ddiogelu cyfleusterau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac amgueddfeydd. Mae’r rhain yn bwysig iawn i bobl hŷn ac i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, pobl sy’n mynd drwy gyfnodau o ddiweithdra neu arwahanrwydd. Wrth gwrs, rhaid i’r cyfleusterau hyn fod ar gael iddynt ac yn wir, mae llawer o’r cyfleusterau wedi cael eu bygwth a’u cyfyngu gan galedi ac mae angen i ni sicrhau y gallwn eu hamddiffyn a’u diogelu.

Mae’r tocyn bws consesiynol yn bwynt pwysig. Mae wedi dod yn achubiaeth gymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru, gyda 92 y cant yn dweud bod eu tocyn bws yn cynnal eu hannibyniaeth ac 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywydau’n dioddef hebddo. Felly, mae ein gwasanaethau bws yn allweddol, fel y dywedodd Joyce Watson. Maent yn galluogi a grymuso pobl—nid pobl hŷn yn unig, ond pobl anabl a’u gofalwyr hefyd. Crybwyllwyd yn adroddiad y Groes Goch fod cyfyngiadau ar symudedd yn arwain at wneud pobl yn agored i niwed, gan arwain at unigrwydd ac arwahanrwydd—heb ddulliau annibynnol o adael eich cartref, cynlluniau cyfeillio, yn ogystal â chyfleoedd teithio a thocyn bws. Mae’r rhain i gyd yn rhan o’r cysylltiadau pwysig sy’n galluogi pobl i fod yn rhan o fywyd y gymuned.

Felly, mae cynllun y Groes Goch Brydeinig—wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol—i gefnogi prosiect cyfeillio Camau Cadarn yn amlwg yn bwysig. Mae’n allweddol i hyn. Mae’r ddau sefydliad yn cydweithio i greu rhaglen newydd i gynorthwyo pobl hŷn sy’n profi unigrwydd dwys, arwahanrwydd ac afiechyd. Rydym wedi ariannu’r comisiynydd pobl hŷn yng Nghymru i weithredu fel ein llais annibynnol, i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru ac i ddarparu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Daw hon ag unigolion a chymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru yn lle da i dyfu’n hen. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bum thema, yn cynnwys unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae wedi datblygu ymgyrch i roi diwedd ar unigrwydd, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, y Groes Goch Brydeinig a Siediau i Ddynion yn ogystal, sy’n bwysig ei nodi.

Rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru, prosiect blaengar sy’n anelu at ddatblygu a chyflwyno rhaglen newydd o gymorth i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sy’n wynebu risg: y bobl sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd a gwahaniaethu, allgáu ariannol a thai gwael. Ac un o brif nodau ein cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yw lleihau’r anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag afiechyd meddwl. Gall gwahaniaethu atal pobl rhag cael y cyfleoedd y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol, a gall stigma wneud pobl yn amharod i ofyn am gymorth, gan waethygu’r arwahanrwydd a’r trallod y gall salwch meddwl ei achosi. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i ymgysylltu â phobl mewn angen, i siarad onest ac yn agored am y problemau sydd, o’u gadael heb eu datrys, yn arwain at arwahanrwydd a thrallod meddyliol, ond mae angen i ni symud y tu hwnt i drafodaethau. Nid oes amheuaeth fod y mater wedi cael sylw grymus iawn gan y cyfryngau, yn ogystal â chan dystiolaeth gan y sefydliadau a’r ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig, ond mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych ar rôl y Llywodraeth yn ogystal â ni fel unigolion ac yn ein cymunedau er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Felly, rwyf am orffen fy ymateb i’r ddadl fer am unigrwydd ac arwahanrwydd drwy gyfeirio eto, fel y gwnaeth Joyce Watson ar ddechrau ei dadl heddiw, at yr astudiaeth ‘Trapped in a Bubble’ gan y Groes Goch Brydeinig a’r Co-op. Unwaith eto, mae’n werth ailadrodd yr hyn y mae’r astudiaeth wedi ceisio ei wneud ac yn ei gyflawni. Archwiliodd yr elfennau sy’n sbarduno unigrwydd yn y DU, gan nodi pedair ardal yng Nghymru—unwaith eto, rwy’n ailadrodd: Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen—lle y mae pobl angen cymorth ychwanegol. Rhaid i ni i gyd ddysgu o’r astudiaeth honno yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau. Mae Mark Isherwood eisoes wedi nodi ac wedi cysylltu yn ei ranbarth ac wrth gwrs, yn Nhorfaen, mae cyfle, yn ogystal â Chasnewydd, Conwy a Sir Gaerfyrddin; maent i gyd yn etholaethau y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w dilyn yn agos iawn.

O ganlyniad i ymdrechion cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid y Co-op, codwyd £50,000 i alluogi’r Groes Goch i roi cymorth i’r bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd yn yr ardaloedd hynny. Unwaith eto, mae gweld haelioni parhaus pobl mewn cymunedau yng Nghymru yn y cyfnod anodd hwn yn ariannol yn galonogol iawn. Ond rwy’n credu hefyd fod yr ysbryd hwn o haelioni yn dangos yn glir fod yn rhaid i’r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol—nid yn unig ddarparu ond datblygu strategaeth genedlaethol sy’n croesi pob portffolio adrannol er mwyn ein helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac i ddwyn ynghyd rai o’r elfennau o’r camau y mae’r Llywodraeth eisoes wedi’u rhoi ar waith i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar hyn o safbwynt strategol a bod yn glir hefyd ynglŷn â’r hyn y gall ein partneriaid ei ddarparu. Ac rwy’n meddwl bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn gwirionedd yn darparu’r fframwaith hwnnw o ran pa gamau y gellir eu cymryd, ac rwy’n meddwl bod yr egwyddor allweddol gyntaf, sef canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, yn gwbl allweddol o ran mynd i’r afael â phroblem unigrwydd ac arwahanrwydd.

Ar y diwedd un, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am grybwyll gwaith arloesol y diweddar Jo Cox AS a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ddatblygu gan ASau benywaidd Llafur a Cheidwadol yn San Steffan, ac fe fyddwn ni, rwy’n siŵr, yn ymwneud â’r gwaith hwnnw. O ran Jo Cox, roedd y frwydr yn erbyn unigrwydd yn rhan bwysig iawn o’i gwaith ysbrydoledig fel AS: ei hymgyrch ‘Gobaith nid casineb’. Mae mwy sy’n ein huno nag sy’n ein gwahanu, ac rwy’n credu mai dyma’r polisi a’r athroniaeth lle y bydd pobl yng Nghymru yn disgwyl i ni uno er lles pawb yn unol â hynny.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.