Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/12/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett.

Lleddfu’r Tagfeydd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghanol De Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu’r tagfeydd traffig ar y ffyrdd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0344(FM)

Wel, mae gwella seilwaith a chysylltiadau thrafnidiaeth yn gynaliadwy, lleihau hyd teithiau a chynyddu’r dewis o drafnidiaeth, a chanolbwyntio ar ddiogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith ffyrdd yn flaenoriaethau i'r Llywodraeth hon.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Fel y byddwch yn sicr yn ymwybodol, mae datblygiadau tai mawr wedi’u cynllunio ar gyfer cyrion Caerdydd, a fydd, heb amheuaeth, yn cynyddu tagfeydd traffig ar y ffyrdd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Wrth gwrs, rydym ni’n obeithiol y bydd metro de Cymru yn cyrraedd yn y pen draw. Ond, yn y tymor canolig, a oes unrhyw gamau y gallai'r Llywodraeth yma eu cymryd i liniaru unrhyw gynnydd posibl i dagfeydd ar y ffyrdd, a allai o bosibl droi Caerdydd yn faes parcio enfawr, fel y mae defnyddwyr ffordd yn ei ddweud yn gynyddol?

Wel, mater i’r awdurdod lleol, wrth gwrs, yw sicrhau, pan fydd datblygiad, bod adran 106 yn cael ei defnyddio i'w heithaf ac y gellir defnyddio’r ardoll seilwaith cymunedol i wneud yn siŵr y gellir darparu seilwaith lle ceir datblygiad. A byddwn yn disgwyl i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru allu gwneud hynny. Ac, wrth gwrs, bydd y metro, ymhen amser, yn gallu ymestyn ei gyrhaeddiad i rannau o'r ddinas ac, yn wir, y tu hwnt, lle nad oes cyswllt rheilffordd trwm a lle byddai rheilffordd ysgafn, er enghraifft, yn gwneud synnwyr perffaith o ran symud pobl o gwmpas.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cwblhau'r ffordd gyswllt ar draws y Cymoedd yn Aberpennar yn lleihau tagfeydd yn y rhan benodol hon o Ganol De Cymru ac, yn ogystal, y bydd yn chwarae rhan bwysig i gynorthwyo’r llif dwyffordd o gyfalaf a llafur yng nghynlluniau economaidd y dyfodol, fel prifddinas-ranbarth Caerdydd?

Ydw, mi ydwyf. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn bwysig am ddau reswm, fel y dywedodd yr Aelod—yn gyntaf, i alluogi pobl i gyrraedd y gwaith yn gyflymach, ond, hefyd, i alluogi buddsoddiad i lifo'n haws i gymunedau lle bu’n anodd denu buddsoddiad yn y blynyddoedd a fu. Felly, i mi, mae cynlluniau fel y metro, fel y cyswllt ar draws y Cymoedd, yn gynlluniau pwysig i sicrhau y gall pobl a buddsoddiad symud o gwmpas yn fwy rhydd.

Brif Weinidog, yn Ewrop, mae 460,000 o bobl yn marw cyn pryd bob blwyddyn o lygredd aer. 6.5 miliwn yw’r ffigur yn fyd-eang. Yng Nghymru, mae miloedd yn marw bob blwyddyn, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhestru Caerdydd fel un o'r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd aer. Nawr, mae cynlluniau Llafur ar gyfer Caerdydd yn cynnwys rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Felly, sut mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gymryd i ystyriaeth y bydd y 10,000 o geir ychwanegol hynny yn chwythu mygdarthau gwenwynig ar fy etholwyr?

Wel, rwy’n llawn ddisgwyl, fel y dywedais yn gynharach, y dylai unrhyw ddatblygiad gynnwys y defnydd mwyaf posibl o gytundebau adran 106 a’r ardoll seilwaith cymunedol er mwyn gwneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy yn cael eu sefydlu i’r datblygiadau hynny. Mae'n gywir i ddweud bod y dyddiau pan yr oedd datblygiad yn cael ei yrru yn gyfan gwbl gan y car wedi dod i ben, ac mae'n bwysig bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu, neu yn ystyried dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy, wrth i ddatblygiad ddigwydd.

Brif Weinidog, byddwn yn eich gwahodd i gerdded trwy Cogan os ydych chi wir eisiau cael profiad o ansawdd aer gwael—mae'n rhyfeddol o wael yno. Rwy'n cerdded trwy Cogan yn eithaf aml. Mae'n amlwg bod angen i ni leihau nifer y teithiau diangen, neu deithiau nad ydynt yn cael eu rhannu—felly, wyddoch chi, dim ond un o’r rhai yn y car yn gyrru. Ceir llawer o fuddugoliaethau cyflym y gallwn ni eu hennill, a dyna ddylai fod hanner arall ein strategaeth teithio llesol. Mae gennym ni gyfraith dda; mae angen i ni ddechrau ei gweithredu.

Wel, yn gyntaf, mae hwn yn ddull amlochrog. Pan geir problemau traffig enfawr na ellir eu datrys trwy gludiant cyhoeddus, mae angen ymdrin â nhw. Mae'r M4 yn fater o'r fath. Ond ni allwn ddibynnu ar gludiant mewn ceir am byth. Pan fydd y fasnachfraint yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni gerbydau o ansawdd gwell ar reilffyrdd maestrefol Caerdydd, datblygiad y metro, mwy o reilffyrdd ysgafn, yn y blynyddoedd i ddod, fel y gall cymunedau sydd efallai wedi colli eu cysylltiadau â'r rhwydwaith rheilffyrdd trwm flynyddoedd yn ôl yn cael eu hailgysylltu drwy'r rhwydwaith rheilffyrdd ysgafn.

O ran beicio, rydym ni’n awyddus dros ben i wneud yn siŵr bod mwy o ddinasoedd yn ystyried beicio nid yn unig fel gweithgaredd hamdden ond fel modd o deithio. Mae gan Gaerdydd rwydwaith o lwybrau beicio—nid ydyn nhw i gyd wedi’u cysylltu. Nid yw trefi a dinasoedd eraill yn gwneud cystal. Mae'n bwysig i lawer o feicwyr nad ydynt yn yr un lonydd â thraffig—nid yw eu hyder yn ddigon cryf iddyn nhw wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i ni wneud mwy trwy deithio llesol, fel y mae’r Aelod yn ei ddweud, i wneud yn siŵr bod pob math o drafnidiaeth gynaliadwy yn cael ei hyrwyddo.

Datblygiadau Cyfansoddiadol

2. Pryd y cyfarfu Prif Weinidog Cymru ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OAQ(5)0330(FM)[W]

Cwrddais â hi yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 24 Hydref, a gwnaeth llawer o bethau gael eu trafod bryd hynny.

A all y Prif Weinidog nawr sicrhau’r Cynulliad Cenedlaethol yma na fydd unrhyw leihad yn ei rym cyfreithiol oherwydd yr eithriadau i Fil Cymru, y broses Frexit, fel y’i gelwir, nac ychwaith gwestiynau anghyfansoddiadol ambell Aelod Seneddol Ceidwadol?

Ynglŷn â’r broses Brexit, mae dau beth sy’n hollbwysig fan hyn, sef, yn gyntaf, dim lleihad ym mhwerau’r sefydliad hwn ac, wrth gwrs, sicrhau bod y pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel yn cael eu trosglwyddo i’r sefydliad hwn ac i bobl Cymru hefyd. A dyna’r egwyddorion yr ydym yn parhau i’w dilyn trwy’r siarad a’r drafodaeth rydym yn eu cymryd ymlaen gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r Prif Weinidog am barhau â’r trafodaethau rhwng ei blaid yntau a Phlaid Cymru ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac yn benodol am y cyfarfod a gawsom ni ddoe? Rydym ni’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau a fydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ynglŷn â Bil Cymru, i sicrhau’r broses hon.

Ond, hoffwn i godi mater arall gydag e heddiw, mater sy’n ymwneud â Senedd arall. Mae llywydd Senedd Catalwnia yn wynebu achos llys yn Sbaen am ganiatáu trafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiad Catalwnia—hynny yw, caniatáu trafodaeth yn Senedd Catalwnia am annibyniaeth. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod bod Sbaen yn sensitif iawn ynglŷn â’r cwestiwn o annibyniaeth, ond, mewn gwlad ddemocrataidd, fel rydym ni wedi’i weld yn yr Alban ac fel rydym ni’n gweld fan hyn yng Nghymru hefyd, mae trafodaeth am ddyfodol cenedl yn hollbwysig i ddangos bod cenedl yn gallu symud ar y broses yna, gam wrth gam, gyda’i gilydd. A fyddwch chi, felly, yn gallu codi’r materion hyn gyda Llywodraeth San Steffan, gan fynegi pryder bod llywydd Senedd yn wynebu achos llys am ganiatáu trafodaeth mewn senedd?

A gaf i ystyried hynny yn fwy manwl? Mi wnaf i hynny ac ysgrifennaf at yr Aelod ynglŷn â’r manylion. Rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn wahanol yn Sbaen. Pan es i i Gatalwnia i gwrdd ag Arlywydd Catalwnia ar y pryd, un o’r cwestiynau a gafodd eu gofyn i fi yng nghynhadledd y wasg oedd a oeddwn wedi cael caniatâd David Cameron i ddod i Gatalwnia. Ac fe ddywedais i ‘Na, nid oeddwn i wedi cael y caniatâd ac nid oeddwn yn erfyn cael y caniatâd, a byddai David ddim yn erfyn i fi ofyn am ganiatâd ta beth.’ Ond dyna beth yw’r cyd-destun yng Nghatalwnia. Ond a gaf i ystyried y sefyllfa yn fwy manwl ac wedyn ysgrifennu yn ôl at yr Aelod?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyn i mi ddechrau ar fy nghwestiynau, a gaf i ddymuno cyfarchion y tymor i chi, a dymuniadau gorau i'ch teulu dros gyfnod y Nadolig, a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn newydd yn arbennig hefyd?

Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion da iawn am Tata Steel a chyhoeddiad y cytundeb yr oedd yn ymddangos a gafwyd rhwng yr undebau a'r cwmni. O gofio ein sefyllfa yr adeg hon y llynedd, pan gyhoeddwyd colled 700 o swyddi, ac yna’r newyddion trychinebus ym mis Mawrth yr ymgysylltodd llawer ohonom ni yn y Siambr hon ag ef, a’r holl ffordd drwy'r broses etholiadol, roedd yn edrych braidd yn llwm. Mae'n annirnadwy i fod yn y sefyllfa gadarnhaol yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Ond ceir cafeat pwysig bod yn rhaid i’r cytundeb gael ei gadarnhau gan y gweithwyr o ran y pot pensiwn a'r trefniadau pensiwn yn y dyfodol. A ydych chi’n ffyddiog bod hwn yn gytundeb a ddylai gael ei gymeradwyo gan y gweithwyr pan fyddant yn pleidleisio arno?

A gaf i ymateb yn gyntaf oll trwy ddymuno cyfarchion y tymor iddo yntau hefyd, wrth gwrs? Mae’n codi mater pwysig ynghylch Tata. Ni fyddai Tata yn y sefyllfa y mae ynddi ar hyn o bryd yng Nghymru heblaw am y cymorth yr ydym ni wedi ei roi, ac nid y cymorth ariannol yn unig—y pecyn £60 miliwn—ond hefyd y gwaith caled a wnaed gan swyddogion Llywodraeth Cymru, mewn llawer iawn o gyfarfodydd. Rwyf i wedi siarad â Tata lawer iawn o weithiau, yma ac ym Mumbai, ac, er tegwch i Tata, mae’n gwmni sy'n gwrando. Maen nhw’n barod, os gwnewch chi gyflwyno’r achos cywir, i wrando ac i symud ymlaen, a dangosodd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf hynny.

Mater i’r gweithlu, wrth gwrs, yw’r hyn y maen nhw’n ei wneud, ond, os caf ei roi fel hyn, nid yw'n eglur beth fyddai'r dyfodol pe na byddai’r cytundeb yn cael ei dderbyn. Mae hwn yn gyfnod anodd, ac rwy'n credu bod yn rhaid i’r pwyslais fod ar barhau i gynhyrchu dur yng Nghymru, a bydd rhai penderfyniadau anodd yn gysylltiedig â hynny, rwy’n deall. Serch hynny, mae’n rhaid i hynny fod y brif amcan.

Rwyf i eisiau eich gwthio chi ar hyn, Brif Weinidog, gan fy mod i’n credu ei bod hi’n bwysig cael arwydd gennych chi o gymeradwyaeth i’r cytundeb hwnnw. Ac yn yr ymateb i fy nghwestiwn cyntaf, mae’n amlwg nad ydych chi wedi rhoi’r gymeradwyaeth honno. Rydych chi wedi cyfeirio, yn briodol, at y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi, ac y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi hefyd, a hefyd y newid cyfeiriad gan brif fwrdd Tata, wrth i Ratan Tata ddychwelyd a chymryd awenau’r cwmni hwnnw. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad pwysig yng nghyfeiriad Tata a'r ffordd y mae'n edrych ar ddur, oherwydd ei benderfyniad ef yn sicr oedd cymryd Corus drosodd. Ond mae'n bwysig eich bod chi’n cyflawni swyddogaeth yma yng Nghymru fel y gwleidydd etholedig uchaf, fel Prif Weinidog. Mae’r cytundeb hwnnw ar y bwrdd ac mae'n gwestiwn cymharol syml: a ydych chi’n cymeradwyo’r cytundeb sydd ar y bwrdd i’r gweithwyr bleidleisio arno?

[Anghlywadwy.]—ydw, rwy’n cymeradwyo'r cytundeb. Rwy'n credu ei fod yn gytundeb da iawn, o'i gymharu’n benodol â’n sefyllfa yn y gwanwyn, pan roedd y sefyllfa yn arbennig o lwm i ddur—y cynhyrchu dur pen trwm ym Mhort Talbot. Ac mae'n deyrnged i'r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud gan lawer iawn o bobl ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle gall Port Talbot yn enwedig edrych i’r dyfodol. Ac yn sicr, rwy’n meddwl bod y cytundeb hwn yn gytundeb y gallaf ei gymeradwyo’n bendant, ac yn gytundeb a all gynnig dyfodol i'r gwaith dur.

A diolch i chi am y gymeradwyaeth bendant honno i’r cytundeb; rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny ar y cofnod. Fel y dywedais, dyma ddarn olaf y jig-so sydd angen cytundeb y gweithwyr, wrth symud ymlaen. Ond yr hyn a oedd yn bwysig hefyd yn y trafodaethau oedd y materion yn ymwneud ag ardrethi busnes. Unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi’r sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud ynghylch hynny. Mae hwnnw’n faes cymhleth iawn, ac roedd y Llywodraeth yn mynd i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i weld a oedd posibilrwydd o gyflwyno cyfundrefn ardrethi busnes fwy ffafriol ar gyfer gweithrediadau Tata, sy’n amlwg yn talu ardrethi busnes o tua £12 miliwn. Ac roedd hwn yn gais uniongyrchol i Lywodraeth Cymru o ran pa un a allai helpu mewn gwirionedd. Ond, hefyd ar ardrethi busnes, roeddwn wedi gobeithio heddiw y gallem ni fod wedi cael cyhoeddiad yn fwy cyffredinol ar ardrethi busnes yma yng Nghymru fel anrheg Nadolig cynnar efallai, i fusnesau o ran rhyddhad ardrethi busnes—gan ei fod wedi llenwi bagiau post Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr hon. A allwch chi ddweud a fydd y Llywodraeth yn cyflwyno rhaglen cymorth trosiannol well ar gyfer busnesau yma yng Nghymru sydd wedi canfod eu hunain ar ben anghywir prisiadau sydd wedi mynd allan cyn y Nadolig, oherwydd, ar ôl i ni gyrraedd yr ochr arall i’r Nadolig, mae llawer o'r busnesau hynny yn mynd i fod mewn sefyllfa anodd dros ben? Felly, byddem yn ddiolchgar o gael rhywfaint o eglurder ynghylch pa un a yw'r Llywodraeth yn gwneud cyhoeddiad i gynorthwyo'r busnesau hynny.

Wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried yn rhan o'r gyllideb derfynol, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan iawn ynglŷn â hynny.

O ran ardrethi busnes yn Tata, wel, £60 miliwn yw’r pecyn yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd—mae'n gyfwerth, i bob pwrpas, â phum mlynedd o ardrethi busnes am ddim. Mae'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gallem ni fod wedi ei gynnig mewn ardrethi busnes, beth bynnag. Wrth gwrs, mae'n anodd iawn cynnig rhyddhad ardrethi busnes i un busnes penodol mewn un sector penodol heb i bobl eraill ofyn pam na ddylen nhw gael yr un peth. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw pecyn o gymorth nad yw’n gymorth gan y wladwriaeth, ond sydd wedi’i dargedu at Tata yn benodol.

Mae’n rhaid i mi ddweud, mae'n bwysig nawr nad yw Llywodraeth y DU yn colli golwg ar y ffaith bod llawer o ddiwydiannau eraill yn ogystal â Tata yn dweud bod prisiau ynni yn rhy uchel yn y DU. Felly, bydd angen i ddiwydiannau ynni-ddwys weld mwy yn cael ei wneud i’w helpu nhw. Ni allwn fforddio i gael ein hystyried fel economi lle'r ydym ni’n anghystadleuol oherwydd pris ynni. Mae ein cymysgedd ynni yn debyg iawn i lawer iawn o wledydd eraill yn Ewrop, ond oherwydd natur aneglur yr hyn sy’n honni bod yn farchnad ynni yn y DU, mae yn gwneud y DU yn ddrytach, ac mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy o waith yn hynny o beth hefyd.

Diolch, Lywydd. Ar ddiwedd y flwyddyn, mae'n adeg pryd y gallwn ni edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf ar yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, neu nad ydym, pa un bynnag sy’n wir. Ac rwy’n meddwl tybed a all y Prif Weinidog, yn gwbl onest, ddweud wrthym ni heddiw beth y mae'n credu y bu methiant mwyaf ei Lywodraeth. Ai mewn ysgolion, lle mae'r canlyniadau PISA wedi dangos mai Cymru yw’r gwaethaf yn y DU unwaith eto; ai yn y gwasanaeth iechyd, lle mae hanner ein byrddau iechyd naill ai’n destun mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i dargedu; neu ai tlodi yng Nghymru yn gyffredinol, oherwydd, ar ôl bod yn ail o waelod tabl incwm gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig pan ddaeth Llafur i rym bron i 20 mlynedd yn ôl, rydym ni ar waelod y domen erbyn hyn?

Wel, rydym ni wedi gweld tlodi—tlodi aelwydydd—yn gostwng yng Nghymru, a dweud y gwir. Rydym ni newydd gael y ffigurau diweddaraf—y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer. Rydym ni wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd gyda gofal cymdeithasol yn Lloegr a'r argyfwng sy'n bodoli yno, ac rydym ni wedi gweld gwariant ar iechyd yn cynyddu yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac rydym ni wedi gweld yr un peth gydag addysg. Ond mae'n gofyn cwestiwn teg i mi, a rhoddaf ateb teg iddo. Beth yw’r methiant mwyaf? Y methiant mwyaf cyn belled ag y mae'r Llywodraeth hon yn y cwestiwn yw ei weld ef gyferbyn â mi yn gofyn cwestiynau yn y Siambr hon.

Wel, rwy’n ddiolchgar am y ganmoliaeth, er mai dim ond yn ymhlyg oedd hi. Ond, o ran addysg, mae adroddiad PISA yn dweud na all 21 y cant o fyfyrwyr 15 oed ddarllen yn ddigon da i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gynhyrchiol mewn bywyd, na all 23 y cant ddatrys problemau a wynebir yn rheolaidd gan oedolion yn eu bywydau bob dydd gan na allant gyfrif, a dyma’r bedwaredd set o ganlyniadau PISA y mae Cymru wedi perfformio'n waeth ynddynt nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Cymru a'r Alban yw'r unig rannau o'r DU sydd wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Onid dyna fethiant gwirioneddol ei Lywodraeth?

Nid yw hynny'n wir os gwnewch chi gymharu ffigurau dros y tair blynedd diwethaf, er ein bod ni’n gwybod bod heriau yn bodoli. Atgoffaf arweinydd UKIP o'r hyn y mae'r OECD wedi ei ddweud, sef bod Cymru ar y trywydd iawn, y dylem ni barhau â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud, ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir ac y byddwn ni’n gweld gwelliannau yn y dyfodol. Rydym ni’n ei weld gyda chanlyniadau TGAU, rydym ni’n ei weld gyda chanlyniadau Safon Uwch. Yr hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud yw na fyddent yn cefnogi addysg ddetholus. Gwn fod hynny’n sail polisi pwysig i’w blaid ef, ond nid yw’r OECD yn cefnogi hynny. Maen nhw o’r farn fod hynny’n ei gwneud yn anoddach fyth i blant o gefndiroedd tlotach lwyddo mewn addysg. Nid ydynt yn cefnogi'r polisi y mae’n ei arddel.

Byddwn yn dychwelyd at hyn yn y man, rwy’n siŵr. Ond heb ddymuno difetha llymder hynaws ein trafodaethau wythnosol, a gaf i ei ganmol ef ar y steil a'r craffter, y ddawn a’r medrusrwydd y mae weithiau’n eu dangos wrth ateb fy nghwestiynau, ac yn amlach wrth eu hochrgamu? Ar ôl blynyddoedd lawer mewn sefyllfa debyg ym myd gwleidyddiaeth, mae'n cymharu'n dda iawn â'r holl wrthwynebwyr yr wyf i wedi eu hwynebu ar draws y blwch dogfennau. Dymunaf yn dda iddo ar gyfer y flwyddyn nesaf, a gobeithiaf y bydd ei Lywodraeth yn fwy llwyddiannus nag y mae wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae wedi, drwy’r geiriau yna, yn ôl pob tebyg wedi tanseilio fy sefyllfa ymhlith fy ngrŵp fy hun yn fwy nag unrhyw un arall yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, ond rwyf am dderbyn ei eiriau ar eu golwg a dymuno cyfarchion y tymor iddo yntau hefyd. Wrth gwrs, rwy'n siŵr bod pob Aelod yn edrych ymlaen atom ni’n croesi cleddyfau yn y Siambr hon am fisoedd a blynyddoedd lawer i ddod.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym y gwahaniaeth rhyngoch chi eich hun ac arweinydd Plaid Lafur y DU, Jeremy Corbyn, o ran polisi mewnfudo ac yn benodol o ran y cwestiwn o ryddid pobl i symud?

Gallaf. Rwy'n credu fy mod i’n agosach at ei safbwynt hi fel arweinydd Plaid Cymru, mewn gwirionedd, nag unrhyw un arall. Dywedodd hi a minnau rywbeth tebyg iawn yr wythnos diwethaf, sef y dylai fod rhyddid i symud at ddibenion gwaith. Gwnaeth hi’r pwynt ar ryddid i symud i chwilio am waith o fewn cyfnod penodol o amser. Rwy'n credu bod rhinwedd yn hynny. Mewn gwirionedd, dyna mae'r rheoliadau Ewropeaidd yn ei ddweud, os edrychwch chi arnynt gyda’r dehongliad llymaf. Nid wyf yn credu bod ganddi hi a minnau safbwynt gwahanol iawn pan ddaw i ryddid i symud.

Wel, mae'n ymddangos i mi mai prin iawn yw’r gwahaniaeth rhyngoch chi eich hun ac arweinydd eich plaid eich hun ar fewnfudo, ac mae'n eithaf calonogol gweld y Blaid Lafur yn unedig ar rywbeth am unwaith. Ond mewn gwirionedd, dywedasoch yr wythnos diwethaf fod gwahaniaeth rhyngoch chi eich hun a'ch arweinydd, pan ddywedodd na fyddai'n chwarae'r gêm rifau nac yn chwythu ar y fflamau o ran mewnfudo, ac eto roedd eich sylwadau chi ar fewnfudo ar 9 Rhagfyr yn awgrymu bod rhaniad neu anghytundeb sylweddol gyda’ch arweinydd a cheisiasoch awgrymu eich bod chi o wahanol feddylfryd iddo fe—eich bod rywsut yn llymach ar y cwestiwn o fewnfudo na fe.

Brif Weinidog, dim ond 2.6 y cant o holl boblogaeth Cymru sy’n dod o wledydd Ewropeaidd eraill. Mae hynny’n 79,000 o bobl. Rydych chi’n gwybod bod gan Gymru gyfran isel o ymfudwyr UE o’i chymharu â rhannau eraill o'r DU. Rydych chi wedi dehongli barn eich arweinydd ar fewnfudo fel chwarae i ddwylo UKIP. Ond trwy awgrymu nad oes llawer o broblem fewnfudo yma yng Nghymru, chi sy’n dawnsio i diwn UKIP. Byddwch yn gwybod, cystal â minnau, bod angen i gymunedau Cymru ddenu a chadw pobl i weithio'n galed ac i gynhyrchu refeniw treth yn y wlad hon a bod angen gweithwyr o dramor arnom yn ein gwasanaeth iechyd a rhai sectorau o'r economi. Felly, pam ydych chi’n awgrymu nad yw hynny’n wir? Brif Weinidog, a allwn ni symud ymlaen nawr o dybiaethau a chael trafodaeth onest ar fewnfudo, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yma yng Nghymru?

Rwy'n synnu oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae hi a minnau wedi dweud bron yn union yr un peth pan ddaw i’r mater o ryddid i symud. Mae’r hyn y mae'n ei ddweud yn berffaith gywir. Rydym ni’n dibynnu, wrth gwrs, ar weithwyr o dramor i lenwi cynifer o swyddi yn economi Cymru. Wedi dweud hynny, ni all hi na minnau, yn fy marn i, wadu bod y mater o fewnfudo yn flaenllaw iawn yn y refferendwm. Tybiaeth oedd hynny yn hytrach na gwirionedd, mae cymaint â hynny’n wir, o ystyried y niferoedd, ac felly, yn fy nhyb i, nid wyf yn credu y gallwn ddweud bod y system bresennol yn cael y gefnogaeth ehangach y dylai, felly mae'n rhaid i ni edrych ar ddewisiadau eraill. Mae hi wedi gwneud y pwynt, ac rwyf innau wedi gwneud y pwynt, y gellir addasu'r system honno lle ceir rhyddid i symud i swydd neu ryddid i chwilio am waith o dan amgylchiadau penodol. Rwy'n credu fod hynny'n rhesymol; rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn credu fod hynny’n rhesymol, ac rwyf yn meddwl y byddent yn gweld honno yn system o ryddid i symud y gallent ei chefnogi. Nid wyf yn gweld bod llawer rhyngom ni.

Brif Weinidog, dylech chi yn ymdrin â realiti ac nid tybiaethau. Ni ddylech chi fod yn cyd-fynd â’r chwedlau, iawn? Mae angen i ni gael y drafodaeth onest hon ar fewnfudo. Ni ddylech chi fod yn awgrymu bod gennym ni broblem pan nad oes gennym ni broblem. Mae problem fudo yng Nghymru. Mae gennym ni broblem allfudo. Mae gormod o weithwyr iau a medrus yn gadael y wlad hon, a cheir anghydbwysedd o fewn Cymru hefyd gan nad yw swyddi a ffyniant wedi eu dosbarthu'n gyfartal ar hyd a lled y wlad hon. Nid oes gennym ni unrhyw broblem o ran denu pobl yma i ymddeol ac mae croeso i'r bobl hynny yma o hyd, ond ar y cyfan, rydym ni’n wynebu sefyllfa lle mae ein poblogaeth o oedran gweithio ar fin gostwng yn ystod y blynyddoedd nesaf tra bydd y boblogaeth sydd wedi ymddeol yn cynyddu. Yn ogystal ag effeithio ar gymunedau Cymru a'r Gymraeg, nid yw'r sefyllfa gyffredinol yn gynaliadwy. Dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru gynnig y polisi a gynigiwyd gennym ar addysg uwch yn ystod yr etholiad diwethaf i ymdrin â’r broblem o allfudo. O ran atebion gan y blaid Lafur, nid ydych chi wedi cynnig unrhyw beth heblaw tanwydd i’r myth hwn o fewnfudo tramor—dadleuon mewnol gydag arweinydd y Blaid Lafur er mwyn tynnu sylw oddi wrth eich gwendidau polisi ei hun. Brif Weinidog, yn hytrach na boddhau UKIP, pryd ydym ni’n mynd i gael dadl wirioneddol am yr atebion gwirioneddol am y broblem fudo wirioneddol yma yng Nghymru?

Rwy’n gresynu’r ffaith na wrandawodd arweinydd Plaid Cymru ar yr atebion yr oeddwn i’n eu rhoi iddi, atebion yr oeddwn i’n gredu oedd yn rhesymol ac nid yn elyniaethus mewn unrhyw ffordd. [Torri ar draws.] A nawr mae hi'n gweiddi. Y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yw nad yw hi a minnau yn bell iawn oddi wrth ein gilydd, ond mae'n rhaid iddi ddeall—gwn ei bod hi’n deall—bod tybiaethau yn bwysig, a phan fo pobl yn credu bod rhywbeth yn wir, mae'n hynod bwysig gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gweld beth yw’r gwir. Dyna oedd y broblem yn y refferendwm ym mis Mehefin; roedd tybiaeth pobl yn gryfach, roedd hi'n iawn i ddweud, na realiti'r sefyllfa. Mae hi a minnau wedi awgrymu addasiad i'r rheolau rhyddid i symud presennol. Rydym ni’n agos iawn yn hynny o beth. Rwy’n credu bod ffyrdd synhwyrol ymlaen nad ydynt yn codi cysgod hiliaeth ac nad ydynt yn rhyddhau system o wleidyddiaeth sy'n ceisio beio eraill am ffaeleddau economaidd.

Mae hi'n gwneud y pwynt am yr economi. Mae diweithdra yn isel iawn—is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n wir i ddweud bod rhai cymunedau wedi symud ymhellach ymlaen nag eraill o ran datblygu economaidd, ac eto rydym ni’n gweld trefi fel Merthyr—mae Merthyr yn gwneud yn dda iawn—lle'r oedd anawsterau mawr am flynyddoedd lawer ar ôl y 1980au, a gwyddom yn iawn ei bod yn bwysig denu buddsoddiad i gymaint o gymunedau â phosibl. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni Tenneco a General Dynamics ym Merthyr a TVR yn dod i Lyn Ebwy. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau buddsoddi sylweddol na fyddent wedi dod i Gymru 10, 15, 20 neu 25 mlynedd yn ôl, ond rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Rydym ni’n gwybod bod Cymru yn lle deniadol i ddod i fyw ac yn lle deniadol i ddod i weithio ynddo, ac yn lle croesawgar, a byddwn yn parhau i fod yn wlad agored a chroesawgar gan ystyried, wrth gwrs, sut y gallwn sicrhau bod pryderon rhai am ryddid i symud yn cael sylw, ond yn cael sylw mewn ffordd synhwyrol, resymegol a theg.

Safon Ansawdd Tai Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? OAQ(5)0328(FM)

Mae pob landlord cymdeithasol, gan gynnwys cyngor Abertawe, ar y trywydd iawn i fodloni’r safon erbyn 2020. Mae'r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos bod 79 y cant o gartrefi cymdeithasol presennol yn bodloni’r safon ym mis Mawrth eleni—cynnydd o 8 pwynt yn ystod y flwyddyn—ac mae bron i 18,000 o aelwydydd yn byw mewn cartrefi o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn flaenorol erbyn hyn.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y llwyddiant o fodloni safon ansawdd tai Cymru, ac a gaf i ddweud hefyd ei fod yn enghraifft o darged uchelgeisiol sydd wedi cael ei gefnogi'n ariannol ac sydd wedi gwella bywydau llawer iawn o bobl, gan gynnwys llawer o’m hetholwyr i? Ond a ellir dyrannu’r arian a neilltuir ar hyn o bryd i uwchraddio tai cyngor, pan fo pob un ohonynt wedi bodloni safon ansawdd tai Cymru, ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd?

Ie, rydym ni’n awyddus iawn i sicrhau y gall mwy o gynghorau adeiladu tai cyngor, ac mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, mewn ystyried pob ffordd arloesol o gynyddu'r cyflenwad tai. Mae'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys awdurdodau lleol yn benthyg ymlaen i gymdeithasau tai er mwyn eu galluogi i ddatblygu. Mantais hynny, wrth gwrs, yw y gall yr awdurdod lleol fenthyg gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfradd is na fyddai ar gael gan fenthycwyr traddodiadol. Ceir enghreifftiau o bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd. Rydym ni wedi symud ymhell iawn oddi wrth y dyddiau pan na châi awdurdodau lleol adeiladu tai cyngor. Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gallu darparu ar gyfer eu poblogaethau ac, yn bwysig, bod y llety a ddarperir o’r ansawdd gorau posibl.

Nid oes neb yn tanseilio’r ffaith bod safon ansawdd tai Cymru yn un uchelgeisiol, ac fe fyddwn i’n gefnogol o hynny. Ond, rydym ni fel Aelodau Cynulliad yn parhau i gael nifer fawr o gwynion am wasanaethau tai cymdeithasol, er enghraifft nad yw gwaith yn cael ei wneud ar amser a bod diffyg ymateb gan rai o’r gwasanaethau tai yng nghyd-destun y ffaith ei fod yn amser gaeafol a bod pobl yn aros am amser hir i waith gael ei gwneud. A oes unrhyw fath o holiadur rydych chi wedi’i wneud, fel Llywodraeth, er mwyn sicrhau bod pob cymdeithas tai yn gweithio’n effeithlon er mwyn sicrhau bod pobl yn fwy hapus gyda’r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn yn y maes hwn?

Wrth gwrs. Fel Llywodraeth, rŷm ni’n erfyn ar gymdeithasau tai i sicrhau nid dim ond eu bod yn adeiladu, ond eu bod nhw’n cynnal tai hefyd a sicrhau bod tai mewn cyflwr da. Nawr ac yn y man, mae yna gwynion yn dod. Rwy’n cael yr un peth, wrth gwrs, ag y mae hi, ac mae’r cwynion hynny, yn fy mhrofiad i, yn cael eu delio gyda nhw mewn ffordd eithaf cyflym. Ond rŷm ni’n erfyn, wrth gwrs, fod y safon yn cael ei sicrhau pan fo tai yn cael eu hadeiladu, ac, wrth gwrs, pan fo tai yn cael eu cynnal drwy ystod bywyd y tai hynny.

Yn 2012, sef yr adeg pan roedd y safon i fod i gael ei bodloni gan bob landlord cymdeithasol, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y prif ddiffyg o ran bodloni’r safon i’w weld mewn ardaloedd lle pleidleisiodd tenantiaid yn erbyn cynigion i drosglwyddo. Dywedodd eich Gweinidog tai ar y pryd wedi hynny nad oedd gan dri awdurdod gynlluniau busnes realistig a bu’n rhaid iddyn nhw ailgyflwyno rhai newydd, a gymeradwywyd gan Weinidog dilynol. O gofio bod y terfyn a osodwyd ar gyfer benthyca yn gysylltiedig â thai yn rhan o'r cytundeb i adael y cyfrif refeniw tai wedi gadael amcangyfrif o le benthyca o ddim ond £471 miliwn ar draws pob awdurdod i fodloni safon ansawdd tai Cymru, sut y gellir cyflawni hynny i'r safon a fwriadwyd yn wreiddiol gyda'r darnau ychwanegol—adfywio cymunedol ehangach—pan fo hynny’n gadael amcangyfrif benthyca o ddim ond £118 ar gyfer Wrecsam—mae hynny'n dda—£74 miliwn ar gyfer Abertawe, ond dim ond £25 miliwn o dan y terfyn a sefydlwyd ar gyfer Sir y Fflint?

Rydym ni’n disgwyl i’r targed cartrefi fforddiadwy gael ei gyrraedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, pa un a yw hynny trwy awdurdodau lleol, trwy gymdeithasau tai, trwy bartneriaethau, wrth gwrs, rhwng y ddau, a ffyrdd eraill, i weld lle mae'n bosib ymyrryd yn y farchnad leol i wneud yn siŵr bod cyflenwad digonol o dai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu hystyried, wrth i ni edrych ar ffyrdd arloesol o ymdrin â'r mater hwn.

Ond yr hyn sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, yw, wrth i ni wneud yn siŵr bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael, nad ydym yn gweld y plwg yn cael ei adael allan o'r bath ar y pen arall a bod y cartrefi hynny’n cael eu gwerthu. Nid oes unrhyw obaith i chi gyrraedd targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy os ydych chi’n adeiladu ar y naill law ac yn gwerthu â'r arall, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu.

Trawsnewid Gwasanaethau Rheilffyrdd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflymder y newid sydd ei angen i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0341(FM)

Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli. Yn dilyn blynyddoedd o danfuddsoddi, rydym ni’n cymryd camau i fynd i'r afael â hyn lle y gallwn trwy ein caffaeliad o fasnachfraint Cymru a'r gororau a'r metro. Ond mae'n wir i ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i fuddsoddi yng Nghymru neu ddatganoli grym a chyllid fel y gallwn ni wneud hynny.

O ystyried bod Network Rail wedi dweud ei bod hi’n mynd i gymryd 28 mlynedd i ddod â'r diwydiant rheilffyrdd i’r safon ofynnol yng Nghymru, sy'n ymddangos i mi yn llawer rhy hir yng ngoleuni'r drafodaeth a gawsom ynghylch tagfeydd ar y ffyrdd yn gynharach, rwy'n falch o’ch clywed chi’n sôn am bwysigrwydd rheilffordd ysgafn yn y cyd-destun hwnnw. O edrych ar fetro de Cymru, hoffwn edrych ar sut y gall rheilffordd ysgafn redeg yn llawer nes at ei gilydd, sy'n golygu y gall trenau arafu a chyflymu yn llawer cynt, sy'n golygu y byddai amseroedd teithio o Ferthyr, dywedwch, yn cael eu lleihau gan fwy nag awr i 40 munud, sy'n gymharol debyg i deithio mewn car. Felly, hoffwn gael rhywfaint o ddealltwriaeth o faint o angerdd sydd gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen gyda rheilffordd ysgafn ar gyfer metro de Cymru, a fydd, mae'n ymddangos i mi, yn darparu’r canlyniadau yr ydym ni eu heisiau.

Bydd, mi fydd y metro yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn, rheilffyrdd trwm a gwasanaethau bws cyflymach. Bydd rhai rheilffyrdd a fydd yn fwy priodol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn nag eraill. Mae angen i mi ychwanegu nawr ein bod ni wedi ei gwneud yn gwbl eglur i'r undebau llafur, os byddwn yn symud tuag at reilffyrdd ysgafn ar rai o reilffyrdd y Cymoedd, nad yw hynny'n rheswm i dorri swyddi na thelerau ac amodau. Rydym ni’n gwybod yn iawn ei bod hi’n hynod bwysig bod gan y rhai sy'n gweithio ar y rheilffyrdd hynny nawr yn cael yr un telerau ac amodau yn y dyfodol â’r rhai sydd ganddyn nhw nawr. Nid Chris Grayling yw Ken Skates. Ni fydd yn diolch i mi am y gymhariaeth honno, nid wyf yn credu, ond dyna ni. A byddwn yn gweithio gyda'r undebau llafur yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, mantais rheilffyrdd ysgafn yw eu gallu i ymestyn i rannau nid yn unig o Gaerdydd ond cymunedau'r Cymoedd lle nad yw rheilffyrdd trwm yn mynd i fynd oherwydd y gost ac oherwydd topograffi. Mae'r metro yr ydym ni wedi ei ragweld yn un lle mae gennym ni gyfuniad o ddewisiadau trafnidiaeth cyflym sy'n rhan o hynny. Ni allwn aros i Network Rail roi trefn ar ei hun. Rydym ni wedi cael problemau gyda Network Rail pan nad yw'n amlwg eu bod nhw’n gwybod beth yw cyflwr yr ased, neu ba un a oes arolwg priodol neu a yw wedi bod am 25 mlynedd, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n bwrw ymlaen â’r metro i wasanaethu ein cymunedau mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.

Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, fel y soniasoch, ynghylch timau rheoli ar y cyd ar gyfer rhyddfreintiau rheilffyrdd, a hefyd y bydd y rheilffordd Varsity newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, yn cael ei dylunio, ei hadeiladu a'i rhedeg gan gorff newydd o'r enw East West Rail, yn gwbl ar wahân i Network Rail. Felly, yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, a ydych chi’n cytuno bod lle i ddatblygu gwahanol fodel ar gyfer rheoli rheilffyrdd yma yng Nghymru trwy sefydlu fersiwn Cymru o East West Rail, a lle byddai penderfyniadau cyllido yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd yn cael eu gwneud yma yng Nghaerdydd ac nid yn Llundain? Os felly, o ystyried cyhoeddiadau diweddar, a wnewch chi gynyddu ymdrechion i gyflwyno’r achos i Lywodraeth y DU o ran datganoli rheolaeth y rheilffyrdd?

Rwy'n credu ei bod hi’n eithaf teg i ddweud ein bod ni wedi gweithredu’n ddi-baid yn hynny o beth. Mae gennym ni 9 y cant o'r trac. Nid ydym ni’n cael 9 y cant o'r buddsoddiad. Mater arall yr ydym ni wedi bod yn mynd i’r afael ag ef yn egnïol gyda Llywodraeth y DU yw'r sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd ym Mil Cymru lle na fydd yn agored i Lywodraeth Cymru ystyried asiantaeth sector cyhoeddus i redeg y rheilffyrdd, er y bydd Llywodraeth yr Alban yn gallu gwneud hynny. Mae'n wahaniaethu eglur, i fod yn blwmp ac yn blaen, os ydych chi eisiau fy marn i ar y mater. Felly, o'n safbwynt ni, byddai'n llawer haws pe byddai’r trac a'r gweithredwyr yn cael eu trin yn yr un modd. Yr un sefydliad. Mae'n rhy hawdd i'r cyrff sy'n gyfrifol am y trac, Network Rail a’r gweithredwyr roi bai ar ei gilydd pan fo problemau. Mae'n llawer haws cael system integredig yn hytrach na'r un dameidiog sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Gwarged Cynllun Pensiwn y Glowyr

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau adolygiad o warged Cynllun Pensiwn y Glowyr? OAQ(5)0331(FM)

Gwnaf. Fel y nodais yn y Siambr fis diwethaf, rydym yn cydnabod yr angen am drefniadau priodol, diogel ac wedi’u rheoli’n dda ar gyfer y cynllun pensiwn hwn. Nid yw pensiynau wedi'u datganoli, ond rydym ni wedi pwyso ar Lywodraeth y DU ar hyn, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Roeddwn yn falch iawn, ychydig wythnosau yn ôl, bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio’n unfrydol cynnig yn galw am adolygiad o'r gwarged MPS, a hefyd bod y cynnig hwnnw’n rhoi mandad i Lywodraeth Cymru greu cynghreiriau gydag arweinwyr rhanbarthol yn Lloegr a chyda Llywodraethau datganoledig eraill i roi pwysau cynyddol ar Lywodraeth y DU. A all ef roi sicrwydd y bydd y mandad y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei roi iddo yn cael ei ddatblygu yn y flwyddyn newydd ac y bydd hyn yn flaenoriaeth i’w Lywodraeth yn 2017?

Anfonwyd llythyr ym mis Mehefin eleni at Amber Rudd. Roeddem ni mewn cysylltiad â swyddogion Llywodraeth y DU y bore yma. Nid yw eu safbwynt nhw, yn ei hanfod, wedi newid. Yr anhawster yw nad yw'r ymddiriedolwyr wedi codi unrhyw faterion gyda Llywodraeth y DU ynghylch dymuno newid y broses bresennol. Felly, bydd angen sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn hapus gydag unrhyw newidiadau yn ogystal, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU.

Brif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth gyson i alwad Undeb Cenedlaethol y Glowyr i’r gwarged gael ei roi yn ôl yn y cynllun er budd y glowyr a’r gweithwyr diwydiant glo sydd wedi ymddeol. Bu Mr Ken Sullivan, sydd wedi casglu deiseb o 8,000 o enwau o’m hetholaeth i, yn gweithio ym mhwll glo Oakdale ger y Coed Duon am 24 mlynedd. Gweithiodd pobl Islwyn, fel fy nhad-cu a’m hen-ewythr, fel cynifer yng nghymoedd y de, dan amodau caled a pheryglus, yn aml ar draul eu hiechyd. Pa sylwadau pellach, felly, all Llywodraeth Cymru eu gwneud i Lywodraeth Dorïaidd y DU nad yw’n derbyn y sefyllfa, fel ei bod yn rhoi chwarae teg i lowyr Cymru?

Mae dyletswydd, rwy’n credu, ar yr ymddiriedolwyr i sicrhau eu bod yn egluro i aelodau’r cynllun pensiwn yn union beth maen nhw’n ei wneud, fel bod aelodau yn y cynllun yn teimlo’n fodlon ac yn teimlo bod y cynllun yn eu trin nhw’n deg. Felly, ceir pwyslais arnyn nhw i wneud hynny, ond byddwn, wrth gwrs, yn parhau i bwyso’r mater hwn gyda Llywodraeth y DU, fel yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers mis Mehefin, o leiaf.

Roedd Steffan yn iawn pan ddywedodd fod y Cynlluniad cyfan yn y ddadl honno wedi cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae'n bwysig bod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod trefniadau gyda Llywodraeth y DU sy'n dryloyw ac yn deg. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen iddi barhau i warantu’r gronfa bensiwn? Ac o ran y gwarged, mae’n edrych fel bod y trefniadau rhannu gwarged wedi bod o fwy o fudd i’r Llywodraeth nag i’r glowyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael ynglŷn â hyn, ac a ydych chi wedi ei gwneud yn eglur nad Llywodraeth Cymru yn unig sy'n siarad; y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd sy'n gwneud y pwyntiau hyn?

Wel, gwnaed yr ymholiadau hynny y bore yma, fel y dywedais. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi barn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae'r trefniadau penodol o amgylch y cynllun pensiwn yn golygu, ydy, yn wir, ei bod hi’n iawn i ddweud bod Llywodraeth y DU yn cael budd unrhyw warged cyfnodol yng nghyllid y cynllun, ac rydym ni wedi gwneud y pwynt ein bod ni’n credu y dylai’r gwarged hwnnw gael ei ailgylchu yn ôl i mewn i'r cynllun er budd ei aelodau, yn hytrach nag i Lywodraeth y DU.

Cysylltiad/Cangen Rheilffordd Heathrow

6. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cysylltiad/cangen rheilffordd Heathrow? OAQ(5)0332(FM)

Mae cysylltedd rhyngwladol trwy Heathrow yn bwysig i economi Cymru. Ddechrau 2016, ymgynghorodd Network Rail ar gynlluniau i wella cysylltiadau rheilffordd i Heathrow. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, croesawsom y gostyngiadau i’r amser teithio y byddai'r cyswllt rheilffordd arfaethedig yn eu cynnig.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y gŵyr, bydd y cyswllt rheilffordd Reading i Heathrow yn gwella mynediad at Faes Awyr Heathrow yn enfawr i deithwyr hamdden a busnes o dde Cymru a de-orllewin Lloegr, a gorllewin canolbarth Lloegr a llawer o ardaloedd eraill. Bydd yn lleihau amseroedd teithio i lawr i tua 26 munud, yn lleihau carbon, ac yn cludo mwy o bobl ar reilffyrdd ac oddi wrth gludiant preifat. Ond mae hefyd yn wir bod gan 1.3 miliwn o bobl swyddi gyda chwmni sy’n eiddo tramor sy'n cael eu hwyluso trwy deithio drwy Heathrow, ac mae 8.8 y cant o'r rheini yn byw yng Nghymru—dyna’r gyfran fwyaf o unrhyw ran o'r DU. Felly, mewn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog yn y dyfodol, ond hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU, a wnaiff ef bwysleisio pwysigrwydd y cyswllt rheilffordd hwn? Waeth beth yw ehangiad capasiti Heathrow, gallai’r cyswllt rheilffordd hwn, y sbardun hwn, gyflawni i bobl, i Gymru, yn gyflym iawn. Rydym yn deall bod y penderfyniad hwn yn mynd i gael ei wneud ryw bryd ar ddechrau 2019; gadewch i ni wneud y penderfyniad iawn, gan fod llywodraeth feiddgar yn llywodraeth dda, fel yr ydym ni wedi ei ddangos gyda Maes Awyr Caerdydd.

Wel, yn wir. Heathrow yw’r maes awyr prysuraf yn y DU o bell ffordd, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir. Mae ei ddaearyddiaeth yn mynnu y bydd hynny’n wir; mae Gatwick yn rhy bell o'r rhan fwyaf o gymunedau yn y DU i gyrraedd yr un lefel â Heathrow. Ond mae'n hynod o bwysig, gan adeiladu ar y thema gynharach, bod pobl yn teimlo bod dewisiadau cludiant cyhoeddus ymarferol a di-dor ar eu cyfer. Yn hytrach na gadael y trên yn Reading a mynd ar fws rheilffordd-awyr yn Reading, mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu mynd i mewn i Faes Awyr Heathrow yn y ffordd rwyddaf bosibl, a bydd hynny’n annog mwy o bobl allan o'u ceir ac, wrth gwrs, yn helpu tagfeydd o amgylch y maes awyr.

Mae ehangu Maes Awyr Heathrow yn sicr yn hwb mawr i fasnach a thwristiaeth yng Nghymru. Nawr, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu â denu llawer o hwb cadarnhaol i Gymru yn gyfnewid am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r ehangiad. Mewn memorandwm o gyd-ddealltwriaeth i Lywodraeth yr Alban, sicrhaodd Llywodraeth yr Alban 16,000 o swyddi newydd, gwariant cysylltiedig ag adeiladu o £200 miliwn yn yr Alban, cronfa datblygu llwybrau gwerth £10 miliwn, a gostyngiad tâl glanio. Nawr, a ydych chi’n difaru peidio â sicrhau memorandwm cyd-ddealltwriaeth tebyg fel y llwyddodd eich cymheiriaid yn yr Alban i’w wneud?

Wel, rydym ni wedi edrych ar y memorandwm, ac nid wyf yn siŵr beth yn union y mae'n ei ddarparu, mewn gwirionedd. Mae geiriau ynddo, ond o ran gweithredoedd, nid yw'n eglur o gwbl. Hynny yw, nid yw'n bosibl o ran caffael i ddynodi swm penodol o arian ar gyfer caffael i gwmnïau yn yr Alban. Mae hynny'n mynd yn gwbl groes i’r rheolau caffael. Felly, nid yw'n hollol eglur beth mae'n ei olygu. O'n safbwynt ni, fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio ers cryn amser gyda Maes Awyr Heathrow ar ddod i gytundeb gyda nhw ar ddatganiad o fwriad a fydd yn ystyried pethau fel y gadwyn gyflenwi, fel trafnidiaeth, fel cyfleoedd awyrennau a marchnata hefyd. Nid yw’r mater o slotiau glanio yn arbennig o berthnasol i ni; mae'n llawer mwy perthnasol yn yr Alban. Mae hynny'n wir. Ond yr hyn yr ydym ni’n ei archwilio yw'r cyfle i farchnata Cymru yn well yn Heathrow, gan bwysleisio’r pwynt, wrth gwrs, fod de Cymru yn enwedig yn agos iawn at Faes Awyr Heathrow ac y gall fod yn borth pwysig i dwristiaeth.

Gwasanaethau Rhewmatoleg

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghymru? OAQ(5)0338(FM)

Gwnaf, trwy gyfarwyddeb datblygu ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig, rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo pobl i leihau eu risg o’r cyflyrau hyn a, phan fyddant yn digwydd, i asesu, gwneud diagnosis a darparu gofal parhaus mor lleol ac mor gyflym â phosibl.

Diolch. Brif Weinidog, mae’r adroddiad ‘Rheumatology in Wales: The State of Play’ wedi canfod bod atgyfeiriadau ar gyfer diagnosis i adrannau rhewmatoleg wedi cynyddu 66 y cant ers 2012, ac eto dim ond 22 y cant o gleifion a oedd wedi cael diagnosis o arthritis gwynegol a welwyd gan arbenigwr o fewn tair wythnos. Roedd tri deg pump y cant yn ei chael hi’n anodd cael unrhyw apwyntiad, ac roedd 20 y cant wedi aros dros ddwy flynedd i ddechrau triniaeth. Mae nifer sylweddol wedi troi erbyn hyn at dalu i feddyg ymgynghorol preifat am ddiagnosis o ganlyniad i amseroedd aros y GIG yng Nghymru. Pa gamau y gwnewch chi eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod eich gwasanaeth iechyd yn cydymffurfio â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ac nad yw dioddefwyr arthritis yng Nghymru yn cael eu siomi mwyach gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru?

Wel, mae’n rhaid i mi ddweud, yn 2015-16, lle mae’r data diweddaraf ar gael, roedd ychydig yn llai na 94,000 o bresenoldebau cleifion rhiwmatoleg allanol ledled Cymru; roedd 24,000 yn bresenoldebau newydd a'r gweddill yn ddilynol; ac ni aeth 2,300 o gleifion allanol i’w hapwyntiadau, nad yw byth, yn amlwg, yn ddefnyddiol o ran gallu trefnu gwasanaeth.

Ddiwedd mis Hydref, roedd 14 o bobl yn aros dros 36 wythnos am apwyntiad, ac o'r rhain, roedd dau yn aros am apwyntiad cleifion allanol cyntaf, y ddau yng Nghaerdydd a'r Fro. Felly, oes, mae rhai pobl, mae'n wir i ddweud o'r ffigurau hynny, wedi aros yn hwy nag y byddem yn dymuno, ond mae'r mwyafrif llethol o bobl yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl.

Cofiwch, wrth gwrs, nad yw’n rhwydd iawn gwneud diagnosis o arthritis gwynegol. Ceir llawer o gyflyrau eraill y bydd meddygon teulu yn tueddu i’w hystyried yn gyntaf cyn ystyried arthritis gwynegol, cyn i’r profion gwaed gael eu cynnal wedyn yn edrych ar y—rwy’n credu mai’r ffactor gwynegol yw’r enw arno, cyn belled ag y mae arthritis gwynegol yn y cwestiwn. Felly, nid yw mor rhwydd â hynny i wneud diagnosis ohono fel cyflwr, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod meddygon teulu yn fwy ymwybodol, wrth gwrs, o’r angen i atgyfeirio ac yn y pen draw, wrth gwrs, bod pobl yn cael triniaeth—wel, yn gyntaf oll, diagnosis, oherwydd gorau po gyntaf y ceir diagnosis ar gyfer arthritis gwynegol, ac yn y pen draw, wrth gwrs, y lefel cywir o driniaeth iddyn nhw.

Yn aml iawn, mae pobl yn cysylltu cryd cymalau efo pobl hŷn, ond wrth gwrs mae o’n rhywbeth sy’n gallu taro pobl o bob oed. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb wasanaeth pediatrig ar gyfer rhiwmatoleg, er bod y cleifion o’r gogledd yn gallu cael triniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl. A ydy’r Prif Weinidog yn credu y dylai Cymru allu cynnig gwasanaeth rhiwmatoleg pediatrig?

Mae’n wir i ddweud y gall gwynegon ‘rheumatoid’ daro unrhyw un, unrhyw oedran. Nid rhywbeth i wneud â phethau yn wero lawr yw ‘rheumatoid arthritis’ ond rhywbeth lle mae’r corff yn ymosod ar ei hunan. ‘Auto-immune disease’, felly, yw e. Ond na, mae’n rhaid i fod yn ofalus fan hyn. Nid wyf yn moyn gweld pobl yn gorfod dod o Ynys Môn, er enghraifft, i Gaerdydd i ganolfan genedlaethol. So, felly, mae daearyddiaeth Cymru yn dweud wrthyf ei fod e’n bwysig bod pobl yn gallu cael triniaeth mor agos ag sy’n bosib i’w cartrefi nhw.

Ymddiheuraf am gwestiwn tebyg, ond, Brif Weinidog, gyda thua 400,000 o blant yn byw yn y de, mae'r ffaith bod y rhanbarth yn dal i fod heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaeth pwrpasol yn ddychrynllyd. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn rhan amser gan riwmatolegydd oedolion, ond nid oes rhwydwaith clinigol ffurfiol na mewnbwn amlddisgyblaeth digonol. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sefydlu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig trydyddol yn y de?

Mae llawer yn dibynnu, wrth gwrs, ar y trwybwn o gleifion o ran a allai’r uned fod yn ddigon arbenigol. Dyna’r hen gwestiwn yr ydym ni bob amser yn ei wynebu i fod yn effeithiol. Ond yr hyn a wnaf, cyn belled ag y mae’r Aelod dros Ynys Môn yn y cwestiwn a'r Aelod rhanbarthol, fydd ysgrifennu gyda manylion pellach am rewmatoleg pediatrig i esbonio pam mae'r sefyllfa fel ag y mae hi.

Symud Cymru Ymlaen

8. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, "Symud Cymru Ymlaen", yn cyfrannu at leddfu achosion o dlodi parhaus yng Nghymru? OAQ(5)0326(FM)

Wel, creu swyddi, cau'r bwlch cyrhaeddiad addysg a gwella lefelau sgiliau yw ein blaenoriaethau allweddol a’r rhain yw’r ysgogwyr mwyaf effeithiol sydd ar gael i ni ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â mosg Jamia yng Nghasnewydd, sef y mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chyfarwyddwr y Prince’s Trust Cymru, Mr Philip Jones, i godi ymwybyddiaeth am y gwaith y mae’r ymddiriedolaeth yn ei wneud i helpu pobl ifanc yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i wireddu eu potensial yn eu bywydau. Gan fod eich Llywodraeth yn cael gwared yn raddol ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a wnewch chi hysbysu’r Cynulliad pa ystyriaeth yr ydych chi’n ei rhoi i ddefnyddio rhaglenni sefydliadau fel y Prince’s Trust Cymru, sydd â hanes profedig o lwyddiant mawr o ran lliniaru tlodi parhaus yng Nghymru, i fodloni amcanion gwrthdlodi Llywodraeth Cymru?

Rydym ni’n edrych ar ffyrdd newydd o weithio ac yn gweithio gyda sefydliadau sydd â phrofiad llwyddiannus ar lawr gwlad heb golli, wrth gwrs, yr arbenigedd a ddatblygwyd eisoes dros y blynyddoedd trwy Cymunedau yn Gyntaf. Mae'n galonogol gweld bod nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi wedi gostwng yng Nghymru am y tro cyntaf ers cryn amser. Mae hynny'n arwydd bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran galluogi pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol, o ran denu buddsoddiad i Gymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.

Hyrwyddo Twristiaeth yng Nghymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0335(FM)

Bu tair blynedd erbyn hyn ers lansio strategaeth ar gyfer twristiaeth 2013-20. Mae honno'n gosod targed o dwf o 10 y cant mewn termau real o ran gwariant ymwelwyr dros nos yng Nghymru erbyn 2020. Rydym ni ar y trywydd iawn i ragori ar y targed twf hwnnw.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy’n ceisio manteisio ar bob cyfle rwy’n ei gael i hyrwyddo manteision twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni, yn enwedig o amgylch ein hanes diwydiannol a chymdeithasol cyfoethog. Rwyf i wedi bod yn ymchwilio i wella arwyddion i rai o'r atyniadau lu sydd gan yr ardal i'w cynnig. Fodd bynnag, mae fy ymchwiliadau wedi datgelu, ers mis Awst 2013, nad oes unrhyw gyrchfan i dwristiaid sydd wedi’i leoli ymhellach na 10 milltir o draffordd neu ffordd ddeuol aml-lefel, yn gymwys ar gyfer arwyddion brown twristiaeth. Nid yw arwyddion o’r cyfnod cyn hynny yn cael eu heffeithio.

Yn amlwg, rwy’n cydnabod bod angen rheoli unrhyw ormodedd o arwyddion, ond mae'n ymddangos yn afresymol i mi nad yw’r atyniadau hynny nad ydynt yn uniongyrchol oddi ar y brif briffordd i mewn i dde Cymru, h.y. yr M4, a allai elwa fwyaf ar arwyddion hyrwyddo, wedi eu cynnwys, tra bod y rhai sydd ag arwyddion eisoes yn mwynhau’r fantais o gael eu lleoli ger y briffordd, h.y. o fewn 10 milltir. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ymchwilio i'r posibilrwydd o feini prawf diwygiedig a fyddai'n caniatáu mwy o hyblygrwydd ynghylch lleoliad arwyddion twristiaeth, fel nad yw ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni o dan anfantais bellach oherwydd eu bod yn fwy na 10 milltir i ffwrdd oddi wrth y cyswllt traffordd agosaf?

O ran arwyddion, nid dim ond y traffyrdd yw hi, ond cefnffyrdd. Felly, er enghraifft, efallai y bydd cyrchfannau hyd at chwe milltir o ffordd unffrwd neu 10 milltir o ffordd ddeuol aml-lefel neu draffordd yn gymwys ar gyfer arwyddion twristiaeth. Mae’r A470 a'r A465 yn gefnffyrdd, felly maen nhw wedi eu cynnwys yn y meini prawf. Gallaf ddweud ein bod ni’n annog awdurdodau lleol, a byddem yn annog Merthyr, i wneud cais i gael arwyddion ar gyfer atyniadau twristiaeth. Mae’r cynnig hwnnw, wrth gwrs, yn dal i fod ar y bwrdd.

2. Cwestiwn Brys: Ysbyty Brenhinol Gwent

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Mohammad Asghar i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent? EAQ(5)0096(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mewn ymateb i faterion a godwyd yn adroddiad thematig 'y tu allan i oriau' yr ombwdsmon, a rhai achosion dilynol, bydd trefniadau ar gyfer rhaglen o adolygu gan gymheiriaid yn canolbwyntio ar reoli cleifion sy'n ddifrifol sâl mewn ysbytai acíwt, yn cael eu cwblhau yn fuan. Bydd gwaith yr adolygiad gan gymheiriaid yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adolygiad ar ôl cyhoeddi ymchwiliad ombwdsmon hynod feirniadol i ofal dyn 93 oed a fu farw dridiau ar ôl cael ei dderbyn i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Canfu'r adroddiad na welwyd y dyn gan feddyg am fwy na chwe awr ar y dydd Sul, y diwrnod cyn iddo farw, a hynny er gwaethaf pryderon bod ei iechyd yn dirywio a’r canllawiau a oedd yn nodi y dylai fod wedi’i adolygu’n feddygol o fewn 30 munud. Roedd y diffyg gofal echrydus hwn hefyd yn cynnwys methiant gan nyrsys i fynegi eu pryderon am yr oedi i uwch-reolwyr, sy'n golygu na roddwyd gwrthfiotigau mewn modd prydlon. Mae’r diwedd diurddas i fywyd y claf hwn yn warthus ac, yn anffodus, mae’n achos yr ydym wedi’i weld yn rhy aml yn ein hysbytai yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni wedi clywed geiriau gwresog o'r blaen, ond, yn anffodus, ychydig iawn o welliant mewn canlyniadau. Pa mor hyderus y gallwn ni fod y bydd eich Llywodraeth chi yn sicrhau y caiff lefelau uchel o ofal eu darparu ar benwythnosau ar gyfer cleifion ar draws Dwyrain De Cymru a gweddill Cymru, ac na fydd y mathau hyn o bethau yn digwydd yn y wlad hon eto?

Daw cwestiwn yr Aelod yr un diwrnod ag y mae'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr wedi nodi nad oes unrhyw ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr yn ymchwilio’n iawn i farwolaethau. Ceir heriau ar draws teulu’r GIG yma. Yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yma yng Nghymru yw cael dull priodol o gynnal adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer y cleifion hynny y dylem ni yn briodol fod yn pryderu amdanyn nhw. Mae un enghraifft o'r math hwn o ofal yn un enghraifft yn ormod. Yr her i ni yw: sut yr ydym ni’n sicrhau bod gennym ddull priodol o gynnal yr adolygiad cymheiriaid hwnnw er mwyn sicrhau bod craffu, dysgu ac, yn bwysicach, gwelliannau priodol o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol? Rwy'n credu ei fod yn arwydd o onestrwydd ac aeddfedrwydd yn ein system ein bod wedi cytuno ar broses briodol ar gyfer cynnal adolygiadau gan gymheiriaid. Byddaf yn sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar Aneurin Bevan, wedyn caiff ei gyflwyno ledled y wlad, ac, yn ystod y flwyddyn nesaf, rwy’n disgwyl gallu adrodd yn ôl i'r Aelodau ar yr hyn sydd wedi’i ganfod o fewn yr adolygiad gan gymheiriaid hwnnw neu ar y camau gwella a fydd yn cael eu cymryd o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru.

Rwyf eisiau datgan buddiant, sef bod fy ngwraig yn cael ei chyflogi gan y GIG. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ateb blaenorol am yr adolygiad gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr a ganfu bod methiant yno i ddysgu o farwolaethau cleifion a gwallau difrifol eraill yn y system. Mae hynny’n atal ac yn rhwystro prosesau rhag cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol, gan nad oes diwylliant o rannu, nid dim ond arfer gorau, ond arfer gwaethaf, mewn gwirionedd, oherwydd gellir dysgu llawer mwy, weithiau, pan fo pethau’n mynd o chwith. Rwy'n pryderu bod adroddiad yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ar y methiannau yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn cynnwys rhai elfennau tebyg i’r adroddiad gan y comisiwn ansawdd gofal yn Lloegr—bod materion tebyg a chamgymeriadau tebyg yn cael eu hailadrodd, yn aml yn cael eu hailadrodd mewn seilos, a gofal cleifion yn dioddef. Nodir bod ymchwiliadau y bwrdd iechyd ei hun hyd yn oed yn methu tynnu sylw at y problemau sydd wrth wraidd hyn pan fyddant yn codi. Felly, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i gleifion yn ardal Aneurin Bevan yn arbennig fod ymdrechion ar waith i safoni ac i wella'r broses o ymchwilio i farwolaethau cleifion a chamgymeriadau arwyddocaol eraill yn system y GIG, er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff y camgymeriadau hynny eu hailadrodd drosodd a throsodd?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y nodais yn gynharach, mae un achos o'r math hwn o ofal a heriau mewn gofal sy'n arwain at ddiwedd oes diurddas i unigolion yng Nghymru, yn un achos yn ormod. Mae gennym eisoes amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith. Cynhaliwyd adolygiad o farwolaethau o nodiadau gwahanol achosion. Ni yw’r wlad gyntaf o fewn y DU i ymgymryd â'r dull hwnnw. Mae hynny yn ymwneud â dysgu o'r hyn a ddigwyddodd. Dyna'r holl bwynt—sut yr ydym ni’n dysgu o'r hyn sy'n digwydd a sut yr ydym ni’n ceisio gwella. Nawr, gofynnir cwestiynau i mi yn rheolaidd yn y lle hwn ac mewn lleoedd eraill am yr hyn y mae'r GIG yn ei wneud, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn peidio â honni bod popeth o’i le pan fo rhywbeth yn mynd o chwith. Gwyddom, pan fo pethau'n mynd o chwith yn y gwasanaeth iechyd, ei fod yn cael effaith sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd. Nid wyf yn ceisio cuddio rhag hynny na’r gwirionedd hwnnw, ond gan amlaf o lawer, nid yw'n mynd o chwith. Nid wyf yn dymuno gweld yr achosion trasig iawn hyn yn cael eu defnyddio i geisio ymosod ar y gwasanaeth iechyd cyfan, er mwyn ceisio rhoi'r argraff bod popeth o’i le. Mae angen i ni ddeall natur ein her a mynd i’r afael â hi yn briodol.

Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaethom oedd dod â phobl o’r rhaglen Gwella 1000 o Fywydau ynghyd—cynrychiolwyr o'r byd meddygol, nyrsys, aelodau staff y gwasanaeth ambiwlans a chadeirydd y grŵp ymateb cyflym ar gyfer salwch acíwt i ddod at ei gilydd i gynllunio’r broses adolygu gan gymheiriaid benodol hon er mwyn sicrhau ein bod ni’n mynd i'r afael â'r pryderon a nodir gan yr ombwdsmon yn ei adroddiad thematig. Gallwn ni wedyn ddysgu’n briodol a chynnal gwaith craffu cyhoeddus gwirioneddol—caiff yr adroddiad ei gyhoeddi a bydd ar gael i’w ddarllen—a’r camau gweithredu pwysig ar gyfer gwella, a ddaw o hynny. Mae angen inni ystyried bob amser yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella ein system gyfan er mwyn sicrhau, pe byddech chi neu fi neu un o'n hanwyliaid yn y sefyllfa hon, y byddem ni’n cael rhywfaint o sicrwydd na fyddai'n digwydd, a byddem ni’n sicr yn lleihau’r siawns o hynny’n digwydd cymaint â phosib. Rydym ni’n gyson yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu a gwella.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, a chaiff busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd ei ddangos ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Yr wythnos hon, unwaith eto, yng nghyngor Caerdydd, rydym wedi gweld cynghorydd yn ymddiswyddo. Rydym wedi— [Torri ar draws.]

Wel efallai eich bod chi—. [Torri ar draws.] Â—

 phob parch, rwy’n codi mater pwysig iawn ynglŷn â gwleidyddion sy’n fenywod yn y ddinas hon yn cael eu bwlio. Byddaf yn datgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn yr awdurdod hwnnw. Dyma'r trydydd tro i mi godi’r mater hwn. Mae menyw arall eto wedi ymddiswyddo. Ceir penawdau ym mhapurau heddiw bod rhywun wedi ymweld â hi am 9.30pm, yn y nos, yn ei chartref, a bod llawer o bethau annerbyniol eraill wedi digwydd. A wnewch chi wneud datganiad os gwelwch yn dda y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn bwrw ymlaen ag arolwg o’r holl wleidyddion sy’n fenywod yng Nghymru a gosod amserlen ar gyfer hynny?

Datganiad busnes ar gyfer busnes y Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn ac ar gyfer Llywodraeth Cymru yw hwn, ac fe wnes i ymateb i'r cwestiwn hwn yn briodol ychydig wythnosau yn ôl.

Bydd yr Ysgrifennydd busnes yn gwybod fy mod wedi cynnal digwyddiad heddiw yn adeilad y Pierhead, yn agos at fan hon, yn ein Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dynnodd sylw at y gostyngiad tra sylweddol mewn rhywogaethau a chynefinoedd yn fyd-eang. Cafwyd cydnabyddiaeth, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y digwyddiad hwnnw o'r camau da y mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cefnogi, yn enwedig â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn y blaen, ond tybed—. Un o'r meysydd y tynnwyd sylw ato oedd y mater o gaffael. Yn wir, croesewir y ffaith ein bod ni yn y sector cyhoeddus erbyn hyn wedi ymwreiddio’r mater o gyrchu pysgod mewn modd cynaliadwy, sy'n fater o bwys, nid yn unig yn fyd-eang, ond ym môr y Gogledd, y môr Celtaidd ac yn y blaen. Tybed a allwn ni neilltuo amser i gael datganiad i drafod caffael cynaliadwy, fel y gallwn ystyried, nid yn unig y ffordd y gall y sector cyhoeddus arwain ar gyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, ond cyrchu coed mewn modd cynaliadwy, nad yw’n unig yn fater o deimlo'n dda ynghylch o ble yr ydym yn cael coed, ond o gefnogi cymunedau brodorol mewn gwirionedd ym mhellafoedd y byd a fydd fel arall yn gweld eu cynefinoedd, eu bywoliaeth a'u cymunedau yn cael eu dinoethi.

Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael digwyddiad llwyddiannus iawn yn ystod amser cinio. Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod caffael cynaliadwy wrth wraidd ein datganiad polisi caffael Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd ym mis Mehefin 2015. Rwy’n credu, os byddwn ni’n ystyried y mater hwn mewn cysylltiad ag asesiadau risg cynaliadwyedd ein holl gontractau a’n fframweithiau, mae hyrwyddo'r defnydd o fwyd cynaliadwy wedi’i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Morol yn hanfodol ar gyfer hynny. Rydym ni’n annog y defnydd o’r asesiad risg cynaliadwyedd hwnnw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn berthnasol i’n contractau bwyd newydd â’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sy’n ymwneud â chyrchu pysgod cynaliadwy, er enghraifft. Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn hefyd lle y mae lansiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol iawn iddo, ac mae hyn yn plethu â sawl elfen o'r Ddeddf o ran caffael cynaliadwy. Rwy'n siŵr y bydd cyfle i drafod neu i gael datganiad gan y Llywodraeth ar hyn maes o law.

Y trydydd o Ragfyr oedd y pumed flwyddyn ar hugain y cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl ag Anableddau, a’r thema oedd cyflawni 17 o nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a garem. Yn y cyd-destun hwn, a gaf i alw, yn ddelfrydol, am ddadl, neu o leiaf am ddatganiad, ar amcanion eleni o dan y diwrnod rhyngwladol, sy'n cynnwys asesu statws presennol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol a fydd yn cynnwys mwy o gynhwysiant ar gyfer pobl ag anableddau yng Nghymru? Gwn na wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys y confensiwn ar wyneb Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond ei bod wedi ei gynnwys yn Rhan 2 y cod ymarfer. Er gwaethaf hynny, ceir bwlch dealltwriaeth yn amlwg, lle y dywedodd un awdurdod lleol wrthyf, er enghraifft, nad oedd yn credu bod hyn yn berthnasol i'r broses dendro, dywedodd un arall nad oedd yn berthnasol i gyflogaeth a dywedodd un arall nad oedd yn berthnasol i ailgynllunio gwasanaethau i bobl wedi colli eu clyw a phobl fyddar, er gwaethaf y ffaith iddyn nhw ddweud bod eu hannibyniaeth yn cael ei gymryd oddi wrthyn nhw. Yn y cyd-destun hwn, ar ben-blwydd pump ar hugain amserol y diwrnod hwn, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno y byddai’n werth cael dadl neu o leiaf ddatganiad.

Diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn yna, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni gofio a myfyrio ar y ffaith mai 3 Rhagfyr oedd Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Ac, wrth gwrs, dyma lle, mewn gwirionedd, wrth ymateb i'r cwestiwn blaenorol, y mae cyfle yng Nghymru, rwy’n credu, wrth ddatblygu ein cod ymarfer, er enghraifft, ar gyfer caffael moesegol, lle y gallwn edrych yn benodol ar yr anghenion a’r materion hyn. Ond byddwn hefyd yn dweud fy mod i’n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn glir iawn o ran ei hamcanion cydraddoldeb strategol, ac, wrth gwrs, amlygodd yr adroddiad a’r ddadl ddiweddar yma yn y Siambr yr hyn yr ydym ni’n ei wneud nid yn unig i asesu sut yr ydym ni’n gweithredu'r statws, o ran ymateb i amcanion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y diwrnod rhyngwladol, ond hefyd sut yr ydym ni’n cyflawni hynny o ddydd i ddydd.

4. 3. Datganiad: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein busnes ni yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.

Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno'r Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru), gyda'i femorandwm esboniadol, i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae diwygio'r fframwaith statudol presennol ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau dysgu wedi bod ar yr agenda ers dros ddegawd. Rydym nawr yn ei wireddu.

Bydd gan bron i chwarter y plant a’r bobl ifanc yng Nghymru ryw fath o angen dysgu ychwanegol yn ystod eu haddysg. Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol i’w cefnogi yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, a’r teimlad cyffredinol yw nad yw bellach yn addas at ei ddiben. Mae'r Bil yn cynnig ailwampio'r system yn llwyr, a fydd yn effeithio ar bron bob lleoliad blynyddoedd cynnar, ysgol ac addysg bellach yng Nghymru.

Mae'r Bil yn ymateb i bryderon gan deuluoedd, sy'n dweud bod y system bresennol yn aneffeithlon, yn fiwrocrataidd ac yn gostus, ac nad yw'n canolbwyntio ar blant nac yn hwylus i’w defnyddwyr. Weithiau canfyddir anghenion yn hwyr, ac nid yw ymyraethau’n cael eu cynllunio na’u rhoi ar waith mewn modd amserol nac effeithiol. Mae teuluoedd yn dweud bod yn rhaid iddynt frwydro yn ystod pob cam o'r broses i gael y cymorth cywir i’w plentyn, ac nad ydynt yn gwybod ble i droi i gael cyngor a gwybodaeth. Mae'r Bil yn targedu’r pryderon hyn yn uniongyrchol, gan adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y system bresennol. Bydd yn sicrhau bod dysgwyr wrth wraidd y broses, ac yn gwneud y system yn decach, yn llawer symlach, ac yn llai gwrthwynebus i'r rhai sy'n ymwneud â hi.

Bydd y Bil yn creu un system statudol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o’u genedigaeth hyd nes eu bod yn 25 oed, yn hytrach na'r ddwy system ar wahân sy'n gweithredu ar hyn o bryd. Bydd yn cyflwyno’r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol' i gymryd lle’r termau 'anghenion addysgol arbennig' ac 'anawsterau a/neu anableddau dysgu'. Bydd yn disodli'r system o lunio datganiadau, ac yn creu un cynllun statudol—y cynllun datblygu unigol—i gymryd lle’r ystod bresennol o gynlluniau statudol ac anstatudol ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau tegwch hawliau waeth beth yw lefel angen y dysgwr neu’r lleoliad addysgol y mae’n ei fynychu.

Bydd yn sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni’n cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio, fel eu bod yn ei gweld fel rhywbeth sy'n cael ei wneud gyda nhw yn hytrach nag yn cael ei wneud iddyn nhw, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth. Ac, yn olaf, bydd yn annog gwell prosesau cydweithio rhwng asiantaethau, drwy gyflwyno a sefydlu swyddogaethau statudol newydd ym meysydd iechyd ac addysg, fel bod anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar a bod y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu.

Mae'r Bil, wrth gwrs, eisoes wedi bod yn destun ymgynghori helaeth. Mae’n seiliedig ar ymchwil gweithredol a dau ymgynghoriad Papur Gwyn. Cyhoeddwyd drafft o'r Bil yn ystod 2015 ar gyfer ymgynghori, a bu cyn Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn craffu arno cyn y broses ddeddfu. Effaith hyn oedd atgyfnerthu’r cynnig deddfwriaethol yr ydym wedi’i gyflwyno, a rhoi sail i ddatblygu pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau ehangach. Mewn ymateb i adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Bil drafft, rydym wedi datblygu'r ddeddfwriaeth mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, ynglŷn â swyddogaeth y gwasanaeth iechyd a sefyllfa cymorth cyfrwng Cymraeg. Nid oes gennyf ddim amheuaeth o gwbl y byddwn yn trafod y materion hyn wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r broses graffu, ond rwyf hefyd yn hyderus bod y Bil yn gryf ac yn weithredol gadarn—rhywbeth y dylem ddiolch i randdeiliaid a gweithwyr proffesiynol allweddol amdano.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn innau ddiolch i weithwyr proffesiynol a phartneriaid am y rhan y maent wedi’i chwarae wrth gyd-gynhyrchu drafft gweithio nesaf y cod anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhaglen helaeth o waith wedi ei gwneud i ddatblygu’r drafft a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2015. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhyddhau’r drafft hwn ym mis Chwefror 2017 yn y gobaith y gall gynorthwyo â’r gwaith o graffu ar y Bil. Ar yr un pryd, rwy’n bwriadu cyhoeddi dewisiadau ymgynghori ar gyfer cyflwyno'r system statudol newydd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn gyflwyno'r system newydd, a hoffwn sicrhau bod manteision y dull newydd ar gael yn amserol, gan sicrhau bod yr amserlen yn realistig ac yn ymarferol i bartneriaid cyflawni. Felly, hoffwn glywed eu barn nhw am y dulliau yr ydym yn eu defnyddio.

Rydym wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf ein bod yn cydnabod y bydd symud o'r system bresennol i'r system newydd yn heriol. Byddwn yn gofyn llawer gan bartneriaid cyflenwi, ond bydd ganddynt ein cefnogaeth lwyr. Mae ein grŵp gweithredu strategol ar anghenion dysgu ychwanegol eisoes wedi’i sefydlu ac mae eisoes yn gweithio ar ddulliau ymarferol o ateb yr her o bontio’n effeithiol. Byddwn hefyd yn darparu pecyn sylweddol o gymorth ariannol. Mae hyn eisoes wedi dechrau; mae cronfa arloesi gwerth £2.1 miliwn ar waith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddaf yn dweud mwy am ein bwriadau ynghylch y cyllid pontio y flwyddyn nesaf.

Er bod y ddeddfwriaeth yn darparu'r fframwaith statudol ac yn ysgogi newid, ni all fod ac ni ddylai fod y stori gyfan. Dyna pam mae'r Bil yn rhan o raglen ehangach sydd â’r nod o drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau dyfodol llwyddiannus i’n holl ddysgwyr. Mae ein rhaglen drawsnewidiol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o ffrydiau gwaith sydd â’r nod o gyflwyno gwelliannau i ymarfer nawr, heddiw, er budd i ddysgwyr o fewn y system bresennol, ac un agwedd sylfaenol ar hynny yw datblygu'r gweithlu. Ond mae angen inni hefyd wneud y newidiadau diwylliannol a gweithredol sydd eu hangen i sicrhau y rhoddir y system newydd ar waith yn effeithiol, gan gynnwys datblygu arferion gweithio aml-asiantaeth. Mae'n bwysig cofio nad yw’r diwygiadau hyn yn fater ymylol. Byddant yn effeithio'n uniongyrchol ar chwarter y dysgwyr yng Nghymru, a bydd yr effaith yn ymestyn y tu hwnt i hyn. Mae gwneud pethau'n iawn i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn golygu gwneud pethau'n iawn i bawb. Felly, bydd y gwelliannau y bydd y Bil a'r diwygiadau ehangach yn helpu i’w cyflwyno yn arwain at well canlyniadau i bob un o'n dysgwyr.

Mae hefyd yn wir na ellir cyflawni'r diwygiadau i’r system ehangach, fel y weledigaeth a nodwyd yn 'Cwricwlwm i Gymru', oni bai bod gennym system, a gweithlu, sy'n cofleidio addysg gynhwysol ac yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad. Mae hyn yn fater o wella’r system gyfan. Mae'n un o gonglfeini ein rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru. Felly, byddwn nawr yn symud i gyfnod newydd gyda’r diwygiadau hyn. Rwyf am barhau â'r ddadl, ond rwyf hefyd am symud y drafodaeth yn ei blaen. Rwyf wedi egluro fy mwriad i weithio ar y cyd ac ar draws pob plaid yn y lle hwn heddiw. Hoffwn gael Deddf dda, ac nid Bil cyflym. Mae gennym ddyletswydd i ddarparu'r fargen orau ar gyfer ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Dyna’r her inni i gyd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i’w chyflawni. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad a chroesawu’r ffaith bod y Bil wedi cael ei osod yr wythnos yma, a hefyd datgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol, oherwydd mae yna gryn ddyletswyddau yn cael eu gosod ar fyrddau llywodraethwyr, wrth gwrs, yn y Bil yma? A gaf i hefyd ddweud fy mod yn cytuno mai cael Deddf dda, nid Bil cyflym, sydd yn bwysig yn hyn o beth, er, wrth gwrs, ei bod hi’n hen bryd, rwy’n credu, i ni fod wedi cyrraedd y pwynt yma ar ôl blynyddoedd lawer o gydnabod nad yw’r gyfundrefn bresennol efallai ddim yn ffit nac yn addas at y diben?

Mae Plaid Cymru yn cefnogi amcanion y Bil yma fel rŷch chi wedi eu hamlinellu yn eich datganiad. Mi oedd y Bil, wrth gwrs, yn ein maniffesto etholiadol ni, ac mi oedd e hefyd yn rhan o’r cytundeb a wnaethom ni gyda Llafur ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Felly, mae sicrhau deddfwriaeth newydd ar anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth i ni, ond, wrth gwrs, nid unrhyw ddeddfwriaeth, ac mi fyddwn ni, fel pob plaid arall, yn craffu ar y Bil ar ei daith drwy’r Cynulliad yma er mwyn sicrhau bod gennym ni yn y pen draw ddeddfwriaeth gref a phwrpasol a fydd yn gwneud gwahaniaeth real a phositif i addysg a bywydau rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Nawr, mae’r Bil, wrth gwrs, yn rhoi dyletswydd ar gyrff iechyd, ac mae hynny wedi bod yn destun trafodaethau o safbwynt y Bil drafft blaenorol ac yn y blaen, ond, yn y Bil sydd wedi’i osod, rŷch chi’n sôn am ddyletswydd i orfod sicrhau triniaeth neu wasanaeth i blentyn neu berson ifanc pan fo hwnnw’n angenrheidiol ac ar gael, ond a allwch chi roi eglurder i ni a fydd hynny ar gost y gwasanaeth iechyd, neu’r ysgol drwy’r bwrdd llywodraethwyr, neu’r awdurdod addysg? A allwch chi ymhelaethu ynglŷn â sut fydd y cwestiwn yma o pwy sy’n talu yn cael ei ateb o dan y Bil? Achos mae yna bwysau mawr ar gyllidebau ysgolion, fel sydd yna ar draws y sector gyhoeddus, a’r gofid yw y gallai hwn fod yn destun anghydfod pan fo’n dod i ddarparu gwasanaethau. Ac a oes yna risg, Weinidog, yn eich barn chi, oherwydd y diffyg adnoddau sydd yna, y bydd y trothwy ar gyfer ymyrraeth neu gefnogaeth ychwanegol yn codi’n uwch ac yn uwch er mwyn osgoi gwariant? Sut y mae’r Bil yn taclo’r risg yna? Hynny yw, beth sydd yna yn y Bil fydd yn gwarchod yn erbyn y risg honno?

Nawr, mae’r Bil hefyd, wrth gwrs, yn creu swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol—cryn gyfrifoldeb i un person, o bosib—a hynny’n gofyn am ystod o sgiliau a phrofiadau perthnasol. Ac rŷch chi, o bosib, yn mynd i ddweud wrthyf i na fydd hynny yn wahanol iawn i’r SENCOs presennol o ran rhai o’r dyletswyddau hynny, ond, yn adran 54 yn y Bil sydd wedi ei osod, rŷch chi’n dweud y bydd rheoliadau’n cael eu creu i’w gwneud hi’n ofynnol fod gan y cydlynyddion yma gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig neu’r ddau. Nid yw’r rheoliadau hynny, wrth gwrs, wedi cael eu llunio ar hyn o bryd, ond a ydych chi’n rhagweld newid o safbwynt y cyfrifoldebau hynny o’u cymharu â’r SENCOs presennol? A ydych chi’n credu y bydd angen lefel uwch o sgiliau, lefel uwch o brofiad? Sut y bydd hynny’n cael ei ddarparu, os felly, a sut y bydd hynny’n cael ei ariannu? Oherwydd mae athrawon yn poeni, yn sgil y Bil yma, wrth gwrs, y bydd baich ychwanegol sylweddol yn cwympo ar eu hysgwyddau nhw.

Mae’n dda gweld bod yna elfennau wedi eu cryfhau o ran eiriolaeth yn y Bil, a hefyd yr hawl i gyngor a mynediad at wybodaeth; mae hynny’n sicr i’w groesawu. O safbwynt darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn rhywbeth a oedd wedi cael sylw yn y cyfryngau neithiwr, rydw i’n gweld yn y Bil y dylid bod yn cymryd pob cam rhesymol—dyna’r dyfyniad—i sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol trwy’r Gymraeg. Nawr, mae pawb yn derbyn, wrth gwrs, fod prinder ymarferwyr mewn rhai meysydd ac na fydd hi’n hawdd cyflawni hynny, ond a allwch chi ymhelaethu ar eich cynlluniau chi i sicrhau y bydd y gweithlu addas yn ei le, ac nid dim ond mewn iaith benodol? Rydym ni’n gwybod bod seicolegwyr addysgiadol, ac yn y blaen, yn frid prin iawn, ynghyd, efallai, â nifer o ddisgyblaethau eraill, ond, yn arbennig, felly, hefyd, sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar gael i sicrhau’r ddarpariaeth yma? A wnewch chi, efallai, ystyried, o safbwynt y Bil, fod iaith yn angen fel egwyddor sylfaenol ar wyneb y Bil, a, thrwy hynny, sefydlu’r hawl i ddewis a derbyn darpariaeth neu wasanaeth cefnogol drwy gyfrwng y Gymraeg? Ac, wrth gwrs, nid dim ond y gweithlu sy’n bwysig fan hyn, o safbwynt yr iaith. Hynny yw, mae adnoddau hefyd yn rhan bwysig o’r hafaliad yna: adnoddau i gael diagnosis, er enghraifft, deunydd prawf ar gyfer dyslecsia, ac yn y blaen. Rydym ni’n gwybod bod yna ddiffygion o safbwynt y Gymraeg yn hynny o beth. Felly, sut ŷch chi’n gobeithio y bydd y Bil yma yn cynorthwyo i ddatrys rhai o’r heriau yna?

Nawr, mae’r cod ymarfer, wrth gwrs, rŷch chi’n cyfeirio ato fe yn mynd i fod yn gwbl allweddol—bron yr un mor allweddol â’r Bil ei hunan—o safbwynt y broses craffu, ac rydw i’n ddiolchgar eich bod chi’n barod i ryddhau drafft o hwnnw i fod yn rhan o’r broses graffu honno ym mis Chwefror. Nawr, nod y ddeddfwriaeth, wrth gwrs, neu un o nodau’r ddeddfwriaeth, yw lleihau anghydfod o fewn y broses, ond mae’n anochel, am wn i, y bydd hynny’n digwydd ar achlysur, ac yn enwedig, efallai, yn y blynyddoedd cyntaf. Nawr, ar hyn o bryd, fel y mae cyd-Aelod i fi, Steffan Lewis, wedi ei amlygu yn ddiweddar, nid oes cwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, a dim ond tri darparwr cymorth cyfreithiol addysg sydd yna ar draws Cymru a Lloegr, a’r tri yn digwydd bod yn Lloegr. Mae cael mynediad at gefnogaeth arbenigol o’r math yna, beth bynnag, am fod yn anodd. Nawr, tra bydd y Bil a’r system tribiwnlys newydd arfaethedig yn lleihau, gobeithio, yr angen am gefnogaeth gyfreithiol arbenigol annibynnol, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a’u teuluoedd, yn cael mynediad i’r cyngor angenrheidiol fydd ei angen arnyn nhw pan fydd hi’n angenrheidiol?

Nawr, rŷch chi wedi crybwyll mewn ateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn ynglŷn â chonsýrn gan Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant ynglŷn â’r gofidiau sydd gan blant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd penodol—. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i’r rhai ag anghenion gofal iechyd yma, sydd efallai’n teimlo eu bod nhw wedi’u drysu neu mewn ychydig o ‘limbo’, y bydd eu hanghenion nhw yn cael eu diwallu o dan y Bil yma?

Ac, yn olaf, tra bod darpariaeth a dyletswyddau clir yn y Bil yma i blant a phobl ifanc sydd mewn oed addysg statudol, nid wyf yn siŵr os yw hynny’n wir, i’r un graddau, beth bynnag, i’r rhai sydd o oed cyn ysgol a’r rhai hŷn i fyny at 25, er enghraifft, o ran hyfforddiant yn y gweithle, prentisiaethau, ac yn y blaen. Nawr, mi oedd e yn bryder a gafodd ei adnabod gan nifer yn y Bil drafft. A allwch chi ymhelaethu efallai ynglŷn â sut yr ydych chi wedi ymateb i hynny yn y Bil yma? Fel rwyf i’n ei ddweud, rydym yn gyffredinol yn croesawu’r hyn sydd yn y Bil ond, yn amlwg, yn edrych ymlaen at graffu ar y materion rwyf i wedi eu codi, ac rwyf i’n siŵr y bydd yna nifer o faterion eraill y byddwn ni am eu codi yng nghwrs taith y Bil yma drwy’r Cynulliad.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau o gefnogaeth. Dewch imi ddweud hyn fel pwynt cyffredinol cyn ceisio ateb y cwestiynau penodol: rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael dadl eang am y materion hyn yn y ffordd y mae'r Aelod wedi ceisio ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni’n edrych ar y materion y bydd ef ac eraill yn eu codi y prynhawn yma. Hoffwn wrando ar y pryderon hynny a’r cwestiynau hynny. Hoffwn geisio eu hateb heddiw ac yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, ond rwyf hefyd yn barod i wrando eto os nad yw’r atebion hynny’n ddigonol. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ogystal â gwrando ar yr hyn a ddywedir yma, yn gwrando ar draws y proffesiynau ac yn gwrando ar ymarferwyr ac yn parhau i wrando. Felly, dyma gychwyn ar broses a fydd yn cynnwys dadl sylweddol, dadl bellach, ac, ar bob adeg, gallaf roi ymrwymiad y byddwn yn mynd ati i wrando a chlywed yr hyn sy'n cael ei ddweud ac yna, os oes angen, gwneud y gwelliannau y mae angen inni eu gwneud.

Dechreuodd yr Aelod ei sylwadau sylweddol drwy sôn am y gwasanaeth iechyd, a bydd yn cydnabod bod y Bil a gyhoeddwyd ddoe yn llawer cryfach na'r drafft a gyhoeddwyd y llynedd. Rwy'n gobeithio bod hynny’n mynd rywfaint o ffordd, neu’n mynd yn bell, at ateb y pryderon a godwyd wrth i’r pwyllgor ystyried y mater hwn cyn yr etholiad eleni. Mae'n amlwg yn fater i’r gwasanaeth iechyd, os ydynt yn canfod problemau neu gyflyrau penodol ac yn rhoi diagnosis ohonynt, i sicrhau bod y cyflyrau hynny’n cael eu trin a'u trin yn unol â’r diagnosis a wnaethpwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol, a byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hynny’n digwydd. Does dim trothwy yn y Bil hwn na’r ddeddfwriaeth hon ar gyfer cyflyrau a fyddai'n galluogi cais neu’n golygu y gellir ysgrifennu cynllun datblygu unigol ar gyfer dysgwr unigol. Rydym yn deall bod deddfwriaeth arall yn cynnwys y trothwyon hynny. Nid yw hon yn gwneud hynny. Mae hon yn ceisio bod yn ymateb cynhwysfawr i anghenion dysgwyr o ba bynnag oedran neu ym mha bynnag leoliad. Felly, does dim trothwy ar gyfer triniaeth, does dim disgwyl y bydd hyn yn golygu baich gweinyddol ychwanegol i’r ysgolion, ac, yn sicr, y profiad a gawsom hyd yma wrth dreialu’r system hon yw bod ymarferwyr yn ei chael yn system sy'n eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, sy'n darparu cynllun llawer mwy cyfoethog sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn canolbwyntio ar y plentyn, os mynnwch chi, wedi’i ddarparu gan asiantaethau sy’n gweithio gyda'i gilydd, ac yn sicr dyna yw ein huchelgais ni. Nid creu biwrocratiaeth ychwanegol, ond dod â phobl at ei gilydd a lleihau'r baich ar ymarferwyr unigol wrth wneud hynny.

Felly, bydd, fe fydd yna gyfrifoldebau newydd, a bydd, fe fydd yna gyfrifoldebau ychwanegol i’r staff a nodir yn adran 54, fel y mae ef wedi’i ddweud. Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu, a dyma pam yr wyf yn ceisio bod yn glir iawn, iawn, wrth ddadlau a thrafod y ddeddfwriaeth hon, bod y Bil a gyhoeddwyd gennym ddoe yn elfen o, ac yn rhan o, ond nid yn gyfanrwydd, y rhaglen drawsnewidiol yr ydym yn ceisio ymgymryd â hi ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant ar gael i’r gweithwyr proffesiynol sy'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Byddwn yn sicrhau bod y canllawiau statudol, a gyhoeddir ym mis Chwefror, ar gael ar gyfer ymgynghoriad fel bod y bobl hynny y bydd angen iddynt weithio gyda nhw yn eu deall ac yn cael cyfle i graffu arnynt cyn inni ddod â nhw gerbron y lle hwn mewn gwirionedd. A byddwn yn sicrhau, pan fydd gennym gyfrifoldebau newydd, bod hyfforddiant ar gael ar eu cyfer.

O ran adnoddau, sef mater arall a gododd yr Aelod, mae’n deall bod y datganiad a wneuthum rai wythnosau'n ôl wedi darparu £2.1 miliwn. Byddwn yn edrych, a byddwn yn parhau i edrych, ar adnoddau. Mae ei ddadansoddiad yn hollol gywir—oni bai bod adnoddau ar gael i ni i gefnogi cyflwyno'r system hon, ni wnaiff weithio ac ni wnawn ni gyflawni ein gweledigaeth, felly byddwn yn ceisio sicrhau bod adnoddau ar gael. Ac wrth wneud hynny, dewch imi ddweud hyn a gwneud hyn yn hollol glir: mae'n gwbl anghywir bod yn rhaid i rieni a theuluoedd ymladd, ymladd ac ymladd eto i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant i ddysgu'n effeithiol ac i gyflawni eu potensial. Mae'n gwbl anghywir. Diben y ddeddfwriaeth hon yw symud i ffwrdd oddi wrth y system honno, nad yw wedi cyflawni yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl a’i ragweld, symud i ffwrdd oddi wrth natur wrthwynebol gormod o'r achosion hyn, a symud at system sy’n canolbwyntio ar blant, lle mae pobl yn gweithio ac yn cydweithio â’i gilydd heb iddynt orfod ymladd ac ymgyrchu dros addysg y dylid ei darparu fel hawl. Mae'r system tribiwnlys yno os bydd angen mynd i’r afael ag unrhyw faterion, ond rwy’n meddwl, er mwyn i’r Bil hwn weithio ac er mwyn i’r rhaglen drawsnewid gyflawni ein gweledigaeth, yr hoffem weld llai o angen am gynrychiolaeth gyfreithiol a chymorth cyfreithiol. Dyna un o'r meini prawf y byddwn yn barnu’r Bil hwn yn eu herbyn yn y dyfodol.

Pryd bynnag y byddaf yn dadlau ac yn trafod unrhyw wasanaethau sydd ar gael i blant o dan y ddeddfwriaeth hon, cewch chi gymryd yn ganiataol fy mod i’n disgwyl i’r gwasanaethau hynny fod ar gael yn ddwyieithog ac yn yr iaith Gymraeg lle bo angen. Rwy’n gobeithio bod y geiriad yr ydym wedi’i defnyddio yn y ddeddfwriaeth hon yn ddigon cryf i gyflawni hynny, ond nid wyf yn disgwyl mewn unrhyw ffordd o gwbl y byddwn yn darparu system sy'n cyflawni dros bobl yn yr iaith Saesneg yn unig. Mae'n rhaid darparu hyn yn ddwyieithog ar draws Cymru, ac mae'n rhaid i blant gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y naill neu’r llall o'n dwy iaith genedlaethol lle bo angen. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fy hun, wrth ddilyn y ddeddfwriaeth hon, mai ein disgwyliadau ni fel Llywodraeth yw y bydd darparwyr gwasanaethau’n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen yn y Saesneg neu'r Gymraeg yn ôl yr angen, ac y bydd pob plentyn sydd ag angen gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cael.

A gaf i hefyd wneud datganiad o fuddiant fel llywodraethwr ysgol? Rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac, yn wir, am y nodyn briffio a ddarparwyd gennych chi a'ch swyddogion yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod eich bod chi yn bersonol yn ymroddedig iawn i ymdrin â'r diffygion yn ein fframwaith statudol presennol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, ac rwy’n gwerthfawrogi'r modd yr ydych wedi ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd plant a phob un o'r rhanddeiliaid eraill ers cyhoeddi’r ddeddfwriaeth ddrafft yn gynharach eleni. Rydym ni i gyd yn gwybod nad yw'r system bresennol yn gweithio, ac rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith bod llawer o bobl yn treulio llawer gormod o amser yn gorfod ymladd yn erbyn y system er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu plant ar hyn o bryd, ac yn syml, nid yw hynny’n ddigon da. Pan fyddwch yn ystyried y ffaith mai dim ond 23 y cant o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol y llynedd a enillodd bum TGAU neu fwy o gymharu â 59 y cant o'u cyfoedion, rydym yn gwybod, yn syml, nad yw’r system yn gweithio. Mae'n rhaid inni wella pethau.

Rydym yn croesawu rhai o'r darpariaethau yn y Bil yn fawr. Rwy’n gwerthfawrogi'r gwaith yr ydych wedi ei wneud i ymestyn cwmpas y Bil hyd at 25 oed fel bod pobl ifanc sy’n mynd i golegau a mannau addysg eraill yn gallu elwa ar rywfaint o gefnogaeth, ac, yn wir, y cyfleoedd sydd ar gael i wneud yn iawn os nad ydynt yn cael y cymorth hwnnw. Nid yw hynny ar gael iddynt ar hyn o bryd, wrth gwrs. Ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith yr ydych wedi ei wneud er mwyn gwella’r Bil o ran gwneud yn siŵr ein bod yn dal y gwasanaeth iechyd gwladol i gyfrif am ddarparu mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol ac, yn wir, am iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau i ddiwallu anghenion unigol dysgwyr. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud i gynyddu'r pwyslais ar gefnogaeth cyfrwng Cymraeg, ac rwy’n croesawu'n fawr y sylwadau a wnaethoch wrth ymateb i Llyr Huws Gruffydd ar hynny.

Ond mae gennyf rai pryderon. Rwy’n gwybod fy mod wedi trafod rhai o'r rhain gyda chi, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni hefyd yn eu rhoi ar y cofnod yma yn y Siambr, yn enwedig o ran y dysgwyr hynny sydd ag anghenion iechyd. Efallai nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, ond gall fod ganddynt anghenion iechyd sy'n golygu bod angen ymyraethau yn y dosbarth neu eu man dysgu. Nid yw plant sydd â diabetes, epilepsi a chyflyrau eraill, er enghraifft, o fewn cwmpas y Bil ar hyn o bryd, ond gall fod angen rheoli eu cyflyrau yn ystod y diwrnod ysgol, yn ystod oriau addysgol, i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu fel y gallant ddal i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Rwy'n bryderus iawn, gan nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Bil, y gallem fethu â bodloni Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi, Weinidog—ac rydych eisoes wedi nodi eich bod yn barod i edrych ar welliannau i'r Bil yn y dyfodol, ac rwy’n gwybod bod hynny'n gynnig diffuant, fel petai—pe gallech ystyried hynny’n fwy eang ac efallai ddweud wrthym beth y gallech ei wneud i ymdrin â'r pryderon penodol hynny.

Mae'r Bil hefyd, wrth gwrs, yn methu â sôn am gludiant o'r cartref i'r ysgol, yn benodol. Rydym yn gwybod bod y Cynulliad hwn wedi pasio deddfwriaeth yn y Mesur teithio i ddysgwyr lawer o flynyddoedd yn ôl ynglŷn â chludiant o'r cartref i'r ysgol, ond mae ar rai unigolion angen trefniadau arbennig ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol o ganlyniad i’w hanghenion dysgu ychwanegol neu o ganlyniad i’w hanghenion iechyd, yn enwedig os oes ganddynt deithiau hir iawn i'r ysgol, fel sy'n digwydd yn aml mewn rhannau gwledig o Gymru. Felly, rwy’n meddwl tybed a allech ddweud wrthym a fydd y cod sydd ar y gweill, o ran y gwaith ar y cod, yn ymdrin â rhai o'r materion hynny mewn gwirionedd.

Un o nodweddion pwysig y Bil, wrth gwrs, yw cyflwyno’r cynlluniau datblygu unigol newydd hyn a'r gefnogaeth y byddant yn sail iddi. Rydych wedi ei gwneud yn gwbl glir yn y gorffennol, ond nid yn eich datganiad heddiw, mai un o brif nodweddion hynny yw y bydd yn gludadwy rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, fel nad oes yn rhaid i bobl wynebu cynnwrf a all fod yn ddinistriol os ydynt yn symud o un awdurdod lleol i'r nesaf, ac yna’n gorfod ailddechrau’r frwydr, ailgychwyn y frwydr, gyda'r awdurdod lleol newydd i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plentyn yn yr ysgol. Rwy’n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae’r Bil hwn yn ceisio ymdrin ag ef drwy sicrhau y bydd yn gludadwy, ond dim ond yn gludadwy o fewn Cymru, wrth gwrs, yn enwedig yn fy rhan i o’r gogledd ac, yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru, mae'r mater o bobl sy'n adleoli o un wlad i'r llall, i mewn i Gymru, yn broblem. Tybed, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau o ran gwneud yn siŵr bod trefniadau dros dro tymor byr ar gyfer y disgyblion hynny sy'n symud o system addysg yn rhywle arall yn y DU i Gymru gyda phecyn o gefnogaeth y maent wedi arfer ei chael, ac a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion barhau i’w gynnal yn y tymor byr, tra eu bod yn trosglwyddo i'n fframwaith newydd, pan fydd y Bil hwn yn gyfraith yn y pen draw yng Nghymru.

Mae undebau’r sector addysg wedi mynegi rhai pryderon am y gofynion y gallai'r ddeddfwriaeth newydd eu rhoi ar y gweithlu addysg, a hynny’n gwbl briodol. Rydych wedi sôn am hyn yn eich ymateb i Llyr Huws Gruffydd, dim ond o ran y meithrin gallu y mae angen ei wneud o fewn y gweithlu addysg. Rwy’n gwybod eich bod wedi darparu rhai adnoddau i wella sgiliau'r gweithlu, ac rwy’n meddwl yr hoffai pawb yn y Siambr hon weld gweithlu proffesiynol yn ymdrin â’r maes hwn, a all fod yn faes arbenigol iawn, ond, yn amlwg, bydd yn her arbennig i ysgolion llai allu bodloni’r rhwymedigaethau newydd hyn. Tybed a allwch ddweud wrthym a hoffech weld ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn datblygu arbenigedd digonol, sy'n lleol iddyn nhw, fel petai, ac yn hygyrch iddynt, er mwyn sicrhau bod y weledigaeth y mae’r Bil hwn yn ceisio ei chyflawni yn cael ei chyflawni mewn gwirionedd.

A wnewch chi hefyd roi rhywfaint o sicrwydd inni ynghylch mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol? Rydym wedi clywed am seicolegwyr addysg, ac mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi cael ein lobïo gan seicolegwyr addysgol am yr angen iddynt gymryd rhan, fel y bo'n briodol, yn y broses o sicrhau bod pecyn cymorth priodol ar gael, ond beth am therapyddion lleferydd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill na fydd rhiant neu ysgol, weithiau, yn gwybod bod angen iddynt gael mynediad atynt i sicrhau bod person ifanc yn cael ei asesu’n ddigonol? Rwy’n meddwl tybed a allai fod gan y cod rywbeth i'w ddweud am hyn ac am y math hwnnw o fynediad, yn enwedig i’r rhieni hynny a allai fod yn ceisio llywio drwy system a all fod yn gymhleth, weithiau am y tro cyntaf erioed.

Yn olaf, dim ond gair ar drosglwyddo i'r trefniadau newydd, mae hyn yn destun cryn dipyn o bryder ar hyn o bryd, yn enwedig i rieni a disgyblion sydd eisoes yn y system bresennol ac yn cael cymorth rhagorol, mewn rhai achosion, ar draws y wlad. Bydd llawer o'r rhieni hynny’n bryderus iawn y gallai’r trefniadau newydd olygu bod eu plant yn cael llai o gefnogaeth yn y dyfodol. Rwy'n meddwl ei bod hi’n bwysig, Weinidog, eich bod yn rhoi ar y cofnod rhyw fath o sicrwydd am y gefnogaeth a ddarperir iddynt: na chaiff hi ei lleihau o ganlyniad i'r Bil, a bod y plant hynny sydd eisoes yn y system, yn cael cymorth—. Ie, yn hollol, mae'n briodol adolygu’r gefnogaeth honno o bryd i'w gilydd, ond does dim byd yn y Bil hwn a fyddai'n peri lleihau’r cymorth hwnnw i'r plant hynny. Rwy’n meddwl, efallai, Weinidog, pe gallech roi rhywfaint o sicrwydd inni ynglŷn â hynny, y byddai croeso mawr i hynny. Fel y dywedais ar y dechrau, rwy'n falch iawn o weld y Bil yn cael ei gyhoeddi. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y ffordd yr ydych wedi bod yn gweithio ar sail drawsbleidiol, a gyda rhanddeiliaid hyd yn hyn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i wella’r Bil hwn drwy'r broses ddeddfwriaethol cyn iddo o'r diwedd ddod yn gyfraith.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig. Rwy’n gwybod bod y Ceidwadwyr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y ddeddfwriaeth hon, a bod Angela Burns wedi cadeirio'r pwyllgor yn y Cynulliad blaenorol. Byddwn yn sicr yn cofnodi fy niolch i Angela am y gwaith a wnaeth ar y pryd. Yn sicr, mae wedi ein helpu i ddatblygu'r drafft newydd.

Rwy'n ddiolchgar i Darren am edrych ar y Bil, o ran yr hyn y gwnaethom ei gyhoeddi ddoe, ond hefyd y broses a'r rhaglen drawsnewidiol ehangach yr ydym yn dechrau arni ar hyn o bryd. Felly, heb ddymuno bod yn anfoesgar yn syth bin, byddwn yn dweud yn ysgafn iawn nad ydym yn ceisio dal y GIG i gyfrif yn y diwygiadau hyn. Yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau bod y GIG yn gweithio'n ddi-dor gydag awdurdodau lleol, gydag ysgolion, gyda'r gwasanaethau addysgol, er mwyn sicrhau bod y plentyn yn dod yn gyntaf, ac nid pa mor hawdd ydyw i rai gweithwyr proffesiynol weld bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu. Anghenion y plentyn yw’r hyn yr ydym yn sôn amdano, a lles y plentyn a ddylai ddod yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd. Diben y ddeddfwriaeth hon yw dod â’r gwasanaethau hynny at ei gilydd. Mae’r pwynt olaf a wnaethpwyd am y darpariaethau a’r cymorth presennol i ddysgwyr yn un yr hoffem adeiladu arno, nid ei leihau. Yn sicr, pwysigrwydd sicrhau bod gennym y gwasanaethau hynny ar waith i adeiladu arnynt—dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn rhan o’r agenda drawsnewidiol ehangach hon.

Dewch imi ddweud, o ran anghenion iechyd a'r mater a godwyd gan Llyr Gruffydd hefyd—mater, rwy’n ymddiheuro, na wnes ei ateb yn llawn, nac, a dweud y gwir, o gwbl. Rwy’n ymddiheuro am hynny. Rydym yn credu bod gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu eisoes gyfrifoldebau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd. Rydym yn darparu ac yn adolygu canllawiau penodol ar y materion hyn, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd. Os yw Aelodau, ar ôl darllen drwy’r canllawiau hynny, yn credu bod angen eu gwella neu eu cryfhau, cawn gyfle i wneud hynny yn y flwyddyn newydd. Dewch imi ddweud hyn: nid yw’r Bil yn sôn am y materion hynny, ond mae ein meddyliau’n agored i sgyrsiau am y materion hynny. Os na fydd y canllawiau a gyhoeddir yn darparu'r math o sicrwydd yr hoffai pobl ei weld, fe wnawn ni ystyried hynny yng Nghyfnod 2.

O ran cludiant, rydym yn ymwybodol bod deddfwriaeth eisoes yn rhoi sylw i gludiant i ddysgwyr. Nid ydym yn credu bod angen haen ychwanegol o ddeddfwriaeth ar y materion hyn, ond rydym yn cydnabod grym y ddadl, ac rydym yn cydnabod yr hyn sydd wedi'i ddweud am allu pobl i gael mynediad at y cyrsiau a'r cymorth sydd ei angen, ac y bydd y cymorth gofynnol yn golygu weithiau bod angen cludiant hefyd. Os ydym yn credu, wrth edrych drwy’r broses o graffu ar y ddeddfwriaeth hon, bod angen cryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol ar gludiant, yna, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn barod i'w ystyried. Ar hyn o bryd, rydym yn credu bod y ddeddfwriaeth bresennol yn cwmpasu pob un o'r materion hyn.

Rwyf wedi bod yn gohebu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyddiau diwethaf am faterion trawsffiniol. Rydym yn cael sgwrs am y materion hyn. Am rai o'r materion hyn, rydym yn cael sgwrs gadarn; ar eraill, rydym yn cael sgyrsiau o natur wahanol. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod yr agenda polisi, ac rwy’n meddwl bod y ddwy Lywodraeth yn rhannu'r un uchelgais ar gyfer ein dysgwyr, a'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod gennym wasanaeth di-dor ar gael ar draws y ffin. Mae'n bwysig, cyn belled ag y mae dysgwyr dan sylw, bod y ffin yn dod bron yn anweledig, a bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt lle bynnag y mae’r gwasanaethau hynny wedi'u lleoli, a’n bod yn darparu deddfwriaeth sy'n galluogi hynny i ddigwydd. Fe gafwyd rhai problemau trawsffiniol. Rwy’n cydnabod hynny, ond, yn sicr, rwy’n gobeithio bod y ddeddfwriaeth yn mynd i’r afael â nhw.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi bod yn glir iawn, iawn yr hoffai weld ysgolion yn rhannu gwasanaethau ac yn rhannu cyfleusterau, ac mai’r hyn yr hoffem ei wneud yw cyflwyno hyblygrwydd i ysgolion bach, yn enwedig, i allu cael mynediad at ragoriaeth o ran y gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer dysgwyr. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn adeiladu ar yr uchelgeisiau hynny, ac mae’n ddigon posibl y bydd y ddeddfwriaeth hon yn brawf i’r uchelgeisiau hynny hefyd. Yn sicr, bydd y newidiadau a amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet yma rai wythnosau'n ôl yn galluogi a, gobeithio, yn sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd i sicrhau bod gennym fynediad at y gwasanaethau gorau ac y byddant yn gallu rhannu gwasanaethau lle bo angen.

O ran gweithwyr iechyd proffesiynol, mae’r agenda drawsnewidiol ehangach, a'r rhaglen drawsnewidiol ehangach, yn un sy'n edrych ar ddod â phobl at ei gilydd, cryfhau'r system, cryfhau’r hyn sydd ar gael inni, a galluogi pobl i weithio gyda'i gilydd. Bydd arweinydd clinigol dynodedig ym mhob bwrdd iechyd unigol, rwy’n gobeithio, yn galluogi hynny i ddigwydd, fel nad oes gennym y ffyrdd beichus, or-gymhleth o weithio yr ydym wedi’u gweld yn rhy aml rhwng gwahanol elfennau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, pan fyddwn yn dadlau ac yn trafod y materion hyn yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2, rwy’n gobeithio y cawn y cyfle i brofi cryfder y Bil hwn—i brofi cryfder y Bil a'r cod, y canllawiau statudol a gyhoeddir ym mis Chwefror—i'n galluogi ni i ddeall a oes angen inni wneud darpariaethau pellach i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gallu gweithio gyda'i gilydd.

Ac, i gloi, gwnaf ymddiheuro i'r Dirprwy Lywydd, a oedd, wrth gwrs, yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw. [Chwerthin.]

Diolch, Ddirprwy Lywydd a chyn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. [Chwerthin.] Ac am waith da a wnaeth hi yno, hefyd.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Roeddwn i mor falch o weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno ddoe, ac rwy’n meddwl bod y sgyrsiau yma heddiw’n dangos lefel bron yn ddigynsail, a dweud y gwir, o gefnogaeth drawsbleidiol i greu darn o ddeddfwriaeth sydd wir yn gweithio ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan ystyried yr anawsterau yr ydych wedi tynnu sylw atynt lle mae rhieni yn aml yn eu cael eu hunain yng nghanol brwydr hirfaith i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Hefyd, hoffwn groesawu yn bersonol yr ymagwedd gydweithredol yr ydych wedi ei dangos tuag ataf fel Cadeirydd y pwyllgor a'r sicrwydd yr ydych wedi ei roi i’r Siambr am barhau yn y modd hwnnw heddiw.

Mae llawer o'r pwyntiau yr oeddwn am eu gwneud wedi cael sylw, ac rwy'n edrych ymlaen at y craffu manwl yn y pwyllgor. Roeddwn am sôn am ddau bwynt penodol, ac mae’r ddau’n ymwneud ag iechyd. Y cyntaf oedd: yn eich ateb i Darren Millar, dywedasoch nad ydych yn gweld y Bil fel cyfrwng i ddal y gwasanaeth iechyd i gyfrif, ac rwy’n cydnabod hynny’n llawn. Ond a gaf i ofyn ichi a ydych chi hefyd yn cydnabod, mewn llawer o achosion lle mae rhieni’n ymladd i gael gwasanaethau, mai’r diffyg mynediad at wasanaeth iechyd sydd mewn gwirionedd yn creu’r rhwystr rhag iddynt gael y cymorth addysgol sydd ei angen arnynt? Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ymdrin â hynny drwy'r ddeddfwriaeth hon.

Roedd y pwynt arall hefyd yn ymwneud ag anghenion meddygol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i geisio gweld a allwn gael hynny wedi’i gynnwys yn y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud—nad yw i mewn yno ar hyn o bryd—ond hefyd eich sicrwydd eich bod yn agored i wrando ar safbwyntiau ar hynny. A gaf i ofyn a ydych yn cydnabod, er bod canllawiau newydd yn cael eu datblygu, bod teimlad cryf iawn, heb gynnwys dyletswydd statudol i ddiwallu anghenion meddygol ar wyneb y Bil, bod y canllawiau yn rhy aml yn cael eu gweithredu mewn ffordd anghyson, ac weithiau’n cael eu hanwybyddu? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rwyf wedi cael fy hun i drafferth ofnadwy drwy geisio’n rhy galed i fod yn rhy neis ac yn rhy hael. Gallaf sicrhau Aelodau ar draws y Siambr na wnaiff hynny ddigwydd eto.

Rwy'n ddiolchgar i Lynne am ei dull o weithio fel Cadeirydd y pwyllgor. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y system pwyllgorau yn rhywbeth sy’n annwyl iawn imi, ac rwyf wedi gwasanaethu fel Aelod a Chadeirydd fel ei gilydd mewn pwyllgorau. Rwy’n gobeithio y gallwn roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i'r pwyllgor er mwyn iddynt allu craffu mor fanwl â phosibl ar y ddeddfwriaeth hon. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn darparu'r wybodaeth ichi—yr wybodaeth ariannol a'r memoranda esboniadol y mae’r Gorchmynion Sefydlog yn eu mynnu—ond hefyd ein bod yn mynd ymhellach na hynny ac yn cyflwyno ichi’r math o ganllawiau y byddwn yn bwriadu eu rhoi i wasanaethau cyhoeddus er mwyn cyflawni'r ddeddfwriaeth hon. Byddwn hefyd yn ceisio ymgynghori ar sut yr ydym yn ceisio gweithredu’r ddeddfwriaeth hon hefyd, a byddwn yn ddiolchgar iawn am farn y pwyllgor am bob un o'r materion hynny.

O ran y pwyntiau a wnaethpwyd gan Lynne Neagle, rwy’n cytuno’n llwyr mai diffyg mynediad at wasanaethau'r GIG, yn rhy aml, sydd wedi effeithio ar deuluoedd ar hyd a lled y wlad. Mae hyn yn annerbyniol. Dewch inni ei gwneud yn hollol glir: mae'n annerbyniol, nid yw'n iawn, ac ni wnawn oddef system lle mae’n rhaid i deuluoedd a rhieni ymladd yn barhaus i gael y math o gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant er mwyn dysgu yn yr ysgol, neu ba bynnag leoliad ydyw.

Dyna yw pwrpas y ddeddfwriaeth hon. Dyna yw diben y rhaglen drawsnewidiol ehangach. Dyna'r weledigaeth, ond dyna hefyd yw beth y cawn ein dal i gyfrif amdano o ran cyflawni. Byddwn wedi methu os oes rhieni'n dal i orfod brwydro’n galed flwyddyn ar ôl blwyddyn i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant, sy’n ofynnol iddynt ac y dylent ei chael fel hawl. Diben y rhaglen drawsnewidiol hon yw newid hynny a chyflawni newid gwirioneddol i bobl ar draws y wlad. Rwy’n gobeithio, drwy ddod â'r system at ei gilydd, drwy sicrhau bod y plentyn yn ganolog, ein bod yn cyflwyno nid yn unig strwythur newydd, proses newydd, ffordd newydd o weithio, ond yn cyflwyno newid diwylliannol o fewn nifer o wahanol wasanaethau cyhoeddus er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Mae'n rhaid imi ddweud hyn wrth yr Aelodau: rydym yn treialu hyn mewn gwahanol ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'r hyn yr wyf wedi’i weld wedi bod yn gwbl ysbrydoledig o ran dod â phobl ynghyd i weithio gyda'i gilydd a darparu, drwy'r system IDP, y gefnogaeth sydd ei hangen ar y plentyn pan fo ei hangen. Mae'n gweithio yn y mannau lle’r ydym yn gallu ei darparu. Ein her ni heddiw yw creu fframwaith statudol sy'n golygu y caiff ei darparu ledled y wlad gyfan.

Rwy’n deall y pwynt sydd wedi’i godi am anghenion meddygol yn yr ysgol. Does gen i ddim problem gyda’r hyn y mae’r Aelodau wedi'i ddweud y prynhawn yma. Byddwn yn dweud: edrychwch ar y canllawiau pan gânt eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae'r gwahoddiad i barhau â'r sgwrs yn wahoddiad agored, ac mae'n un yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu cytuno arno. Os yw Aelodau neu bobl eraill yn parhau i gredu nad yw’r canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd yn ddigonol, yna yn sicr byddwn yn ystyried o ddifrif gwneud newidiadau a gwneud gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn ystod y ddadl am y Bil.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae llawer i'w argymell am y Bil anghenion dysgu ychwanegol, er bod y Bil yn codi nifer o gwestiynau yn fy meddwl. Mewn egwyddor, mae'r ddarpariaeth ar gyfer cod ymarfer yn gam da. Fodd bynnag, bydd llawer yn dibynnu ar gynnwys y cod a sut y caiff ei gymhwyso. Sut y byddwch yn sicrhau bod y cod ymarfer yn cyflawni ei amcanion? Er bod y Bil yn nodi unigolion y mae'n rhaid ymgynghori â nhw am gynnwys y cod, nid yw hyn yn cynnwys grwpiau sy'n cynrychioli plant a’u rhieni. Beth yw'r rheswm am hyn? Pam nad oes dyletswydd yn cael ei rhoi ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â rhieni, plant a phobl ifanc ynglŷn â chod a fydd yn effeithio'n uniongyrchol arnynt? Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni yn y broses o wneud penderfyniadau, ond pa bwysau a gaiff ei roi i’w barn yn y broses honno o wneud penderfyniadau? Bydd y gofyniad yn ddiystyr yn y pen draw os nad yw eu barn a'u dymuniadau’n cael digon o flaenoriaeth. Hefyd, bydd angen sefydlu strwythur effeithiol i sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried yn briodol. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod y ddyletswydd hon yn gweithredu er lles pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a bod gan y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau perthnasol yr adnoddau i gynnwys y dysgwyr a'u rhieni yn effeithiol?

Rwy’n croesawu'r ddarpariaeth yn y Bil i ffafrio lleoli plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd lle bo hynny'n bosibl. Mae ei gwneud yn anoddach i ysgolion prif ffrwd wrthod plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn gam da. Fodd bynnag, dylid cofio, os yw ysgol brif ffrwd yn gwrthod plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, mae’n ddigon posibl bod hyn oherwydd, yn syml, nad oes ganddynt yr adnoddau i ddarparu ar gyfer y plentyn hwnnw. Sut yr ydych yn mynd i sicrhau bod ysgolion prif ffrwd yn cael y cymorth y bydd ei angen arnynt? Mae'r ddyletswydd a roddir ar ysgolion a gynhelir i dderbyn plant ag anghenion dysgu ychwanegol, os yw'r ysgol honno wedi’i henwi yn y cynllun datblygu unigol, i’w weld yn fesur cadarnhaol. Fodd bynnag, does dim gofyniad bod gan yr ysgol y gallu i gymryd y dysgwr ychwanegol. Felly, gallai'r ddyletswydd fod yn ffordd sicr o wneud llanastr o bethau os nad yw'r adnoddau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith yn yr ysgol.

Ond does dim llawer o bwynt darparu'r adnoddau os na allwch warantu y cânt eu gwario fel y bwriadwyd. A all y Gweinidog roi sicrwydd inni y caiff digon o adnoddau eu darparu i'r ysgolion hyn ac y caiff unrhyw arian a ddarperir i awdurdodau lleol at y diben hwnnw ei neilltuo? Rwy’n nodi bod y Bil yn darparu ar gyfer system gofrestru ar gyfer darparwyr annibynnol. A all y Gweinidog roi rhywfaint o fanylion am sut y bydd y system gofrestru’n gweithio, ac yn benodol, a gaiff darparwyr annibynnol eu harchwilio’n ofalus cyn cael eu rhoi ar y gofrestr?

Nid yw'n ymddangos bod y Bil yn mynnu bod darparwyr annibynnol nad ydynt yn cael arian gan awdurdodau lleol yn cael eu cofrestru; mae’n ymddangos bod hynny’n gadael rhieni sy’n anfon plant i ysgolion arbenigol yn breifat ar eu pennau eu hunain o ran ansawdd yr addysg sy’n cael ei chynnig neu safonau’r staff. A fydd y gofrestr ar gael i rieni ei harchwilio? Fel y dywedais yn gynharach, mae llawer i'w argymell am y Bil hwn. Fodd bynnag, i weithredu'n effeithiol, bydd angen i awdurdodau lleol, ysgolion ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau fod â’r prosesau, y staff a’r arian i allu ei weithredu. Heb hynny, ni fydd y Bil yn fawr o werth. Diolch.

Rwyf wedi dweud sawl gwaith wrth ateb nifer o gwestiynau ein bod yn ceisio cyflawni newid diwylliannol yn ogystal â newid strwythurol a statudol. Dewch imi ddweud hyn: rwy’n ymddiried mewn gweithwyr iechyd proffesiynol ac rwy’n ymddiried mewn arweinwyr ysgolion. Y dôn yr ydym wedi ceisio ei mabwysiadu yn y Llywodraeth yw gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ac nid yn eu herbyn nhw, neu weithio ar sail drwgdybiaeth. Os ydych yn gwrando ar y gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud o ran arweinyddiaeth addysgol, mae'n ymwneud â chreu tîm o bobl a fydd yn gweithio gyda'i gilydd. Nid yw’n golygu rhoi strwythurau ar waith sydd naill ai’n agored i gael eu cam-drin neu yno i ymdrin â drwgdybiaeth. Nid dyna ein hymagwedd yn y Llywodraeth hon ac nid dyna’r ymagwedd yr hoffwn ei defnyddio â'r ddeddfwriaeth hon.

Bydd y cod ymddygiad yn ganllaw statudol. Bydd ganddo rym y gyfraith a bydd yn rhywbeth a fydd yn sicrhau cysondeb o ran darpariaeth ar draws y wlad. Mae eisoes wedi bod yn seiliedig ar ymgynghori â'r gweithwyr proffesiynol a’r ymarferwyr ac â rhanddeiliaid dros y blynyddoedd diwethaf. Caiff ei gyhoeddi ym mis Chwefror er mwyn parhau i roi sail i waith craffu yma yn y lle hwn, ond hefyd er mwyn galluogi ymarferwyr, rhanddeiliaid ac eraill i ddeall nid yn unig y ddeddfwriaeth, ond sut y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu. Yna byddwn yn ymgynghori eto ar faterion sy’n ymwneud â gweithredu i sicrhau nad ydym yn unig yn cyflwyno'r system orau bosibl ond yn ei darparu yn y ffordd orau bosibl.

Mae’r holl wahanol ddulliau ymgynghori, dadlau a thrafod hyn wedi’u cynllunio i’n galluogi i glywed gan bobl ac i weithio gyda phobl. Rwyf wastad wedi ceisio rhoi pwyslais mawr, o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma ac mewn meysydd eraill yn ogystal, ar weithio gyda gweithwyr proffesiynol, a gweithio gyda nhw ar sail ymddiriedaeth.

Mae'r pwyntiau am wneud penderfyniadau’n bwyntiau sydd wedi’u gwneud yn dda. Mae yna, yn rhy aml, achosion lle mae teuluoedd, rhieni, pobl ifanc a phlant yn teimlo bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar eu cyfer a’u cyfleu iddynt, nid gyda nhw a ganddyn nhw. Diben a thôn hyn yw symud oddi wrth y system honno: ein bod yn creu system sy'n canolbwyntio ar y plentyn neu’r unigolyn, ein bod yn gwneud penderfyniadau gyda'r teulu, gyda'r unigolyn, gyda'r plentyn, gyda'r person ifanc, a’n bod yn gwneud y penderfyniadau hynny ar y cyd, gan fanteisio ar gymorth, cefnogaeth a chyngor gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd i lywio’r penderfyniadau hynny. Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gyda'r plentyn a gyda'r teulu, nid dim ond ar eu cyfer a’u cyflwyno iddynt. Dyna'r math o newid diwylliannol yr ydym ni’n ceisio mynd ar ei drywydd a’i gyflawni drwy'r rhaglen drawsnewidiol hon.

O ran yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion, yn amlwg rydym eisiau i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael eu haddysgu yn rhan o'r gymuned ehangach. Nid ydym yn dymuno i’r plant hynny gael eu tynnu allan o'u cymunedau eu hunain, ac eithrio lle mae hynny'n hollol angenrheidiol a lle mae angen cymorth a chefnogaeth arbenigol, ac rydym wedi trafod materion yn ymwneud â chludiant a sut yr ydym yn gwneud hynny, boed yng Nghymru neu dros y ffin, er mwyn gwneud hynny, ac yn sicr, byddwn yn gwneud hynny lle bo angen. Ond y peth allweddol yr hoffem ei gyflawni yw bod pawb yn teimlo’n rhan werthfawr o gymuned yr ysgol ac yn rhan werthfawr o amgylchedd yr ysgol. Yr hyn yr wyf yn gobeithio y gallwn ni ei wneud, gan weithio gydag arweinwyr ysgolion, yw darparu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny. Rwy'n teimlo'n gryf iawn bod gennym arweinyddiaeth wych mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Yr hyn yr hoffai’r Llywodraeth hon ei wneud yw gweithio gyda'r bobl hynny i ddarparu'r gorau ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael pob un o'r prif siaradwyr, ac rwyf wedi caniatáu iddynt ofyn llawer o gwestiynau. Mae hynny'n ein gadael mewn cyfyng-gyngor: mae gennym bum siaradwr ar ôl ac ychydig iawn o amser. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiadau agoriadol cyflym yn unig ac yna’r cwestiwn? Weinidog, os gallwch chi ateb yn gryno, hefyd, byddai hynny o gymorth. Julie Morgan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r Bil, ac mae llawer o Aelodau eisoes wedi cyfeirio at y brwydrau y mae teuluoedd yn teimlo bod yn rhaid iddynt ymgymryd â nhw er mwyn cael y cyfleoedd cywir i’w plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, felly rwy'n meddwl bod hwn yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac rwy’n ei groesawu’n fawr iawn. Mae llawer o'r pwyntiau wedi cael sylw. Yr un pwynt penodol yr oeddwn am ei godi oedd cyfranogiad y plant a phobl ifanc yn y broses. Rwy’n falch iawn y bydd y broses nawr yn cael ei chanoli o amgylch anghenion y person ifanc a’r teulu, ond rwy’n arbennig o bryderus bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi, yn enwedig, y person ifanc yn y broses honno. Rwy'n meddwl ein bod ni eisoes wedi cael rhywfaint o drafodaeth am y cymorth i'r teulu, ond gall fod gan rai o'r plant a'r bobl ifanc hyn anghenion cymhleth iawn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn, os oes ganddynt anawsterau cyfathrebu, er enghraifft, y cymerir pob cyfle i roi amrywiaeth o wahanol adnoddau iddynt fel y gellir deall eu barn a rhoi’r cyfle iddynt fynegi eu hunain. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt y mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn ei wneud yn arbennig: bod angen cymhorthion gweledol ar blant, mapiau siarad ac amrywiaeth eang o adnoddau, os yw'n mynd i fod yn ystyrlon ac os yw'r plant a'r bobl ifanc a'r teuluoedd yn mynd i fod wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Ac os ydynt, bydd yn llwyddiant; mae hynny’n sicr. Bydd yn rhaid inni wneud ymdrech fawr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a bod y plant, yn arbennig, yn cael y cymorth unigol hwn i gael eu llais wedi’i glywed ac i fod yn rhan o'r broses.

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod. Rwy'n meddwl ei bod hi'n hollol gywir. Does dim pwynt i Weinidog sefyll yn y Siambr hon a dweud bod yn rhaid iddo ganolbwyntio ar yr unigolyn a chanolbwyntio ar y plentyn os nad ydym yn rhoi ar waith y dulliau a'r mecanweithiau i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Mae hynny'n golygu edrych ar yr holl faterion y mae’r Aelod wedi eu codi a sicrhau bod yr holl faterion hynny’n cael eu rhoi ar waith i alluogi'r plentyn neu'r person ifanc unigol, nid yn unig i fod yn ganolog i ddamcaniaeth gwneud penderfyniadau, ond yn ganolog i wneud y penderfyniadau hynny yn ymarferol hefyd.

Da iawn, Weinidog. Rwy'n hynod o falch o weld y Bil hwn ger ein bron heddiw. Doeddwn i wir ddim yn meddwl y byddem yn ei weld ac, a dweud y gwir, Huw Lewis, er clod tragwyddol iddo, a dynnodd yr un diwethaf, oherwydd nad oedd yn gallu ennill tir mawr o ran darparu’r elfen iechyd y mae ei hangen arnom yma. Rydych chi wedi gwneud hynny ac rwy’n falch iawn ag ef. Dydy’r Bil ddim 100 y cant yn iawn—mae llawer y gellid ei wneud o hyd, a gallwn fynd drwyddo fesul llinell, ond nid wyf yn mynd i wneud hynny, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o glywed hyn, yn enwedig gan mai fi a drefnodd ac a arweiniodd camp yr wrthblaid a wnaeth i’ch Llywodraeth gytuno i gyflwyno’r Bil hwn.

Mae dau beth yr wyf yn meddwl bod yn rhaid i’r Bil hwn eu cyflawni. Y cyntaf yw addysg dda i'r plant hynny sydd ei angen, oherwydd bydd 22 y cant—ychydig o dan chwarter—o’n pobl ifanc yn tyfu i fyny i fod yn ychydig o dan chwarter ein hoedolion nad ydynt yn gallu bod cystal ag y gallant fod ac nad ydynt yn gallu cyfrannu at ein cymdeithas, helpu ein heconomi, ychwanegu atom na theimlo parch atynt eu hunain, yn y bôn. Felly, yn sicr, gallu eu haddysgu nhw yw eich prif amcan.

Yr ail amcan, Weinidog, ac rwyf mor falch o glywed yr holl bethau yr ydych chi wedi’u dweud y prynhawn yma, yw ailadeiladu ymddiriedaeth gyda'r teuluoedd a'r rhieni. Ddydd Gwener, gwelais gwpl gyda phlentyn awtistig iawn, a ddaeth i fy ngweld am fod SNAP Cymru wedi bod yn gweithio—un swyddog yno—gyda hwy ers blynyddoedd i gael datganiad ar eu cyfer. Mae’r swyddog hwnnw bellach yn gweithio i'r cyngor lleol ac, yn sydyn, mae’r un person â'r un hyfforddiant yn dweud, 'Does dim angen datganiad arnoch ar gyfer y plentyn hwnnw—does dim angen ein help ychwanegol ar y plentyn hwnnw.' Pam? Cyllid. Mae gan gynghorau sir agenda wahanol ac mae gan y trydydd sector agenda wahanol i deuluoedd. Mae’n rhaid i unrhyw beth a phopeth y mae’r Bil hwn yn ei wneud ymwneud â chael gwared ar y tensiwn hwnnw a chaniatáu i rieni fynd yn ôl dro ar ôl tro at yr awdurdodau perthnasol, oherwydd bydd eu plant yn newid ac yn datblygu—bydd rhai’n gwella, bydd rhai’n gwneud cynnydd, bydd rhai na fyddant byth yn newid a bydd rhai’n gwaethygu.

Yr un peth sydd yn y Bil, ac yr wyf yn pryderu ychydig amdano, yw ei bod yn ymddangos nad yw’n caniatáu i rywun fynd yn ôl am ailasesiad wedi ichi gael yr asesiad cyntaf hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi drwy Gyfnodau 1, 2 a 3 i gyflwyno hyn.

Fy nghwestiwn olaf ichi yw hyn: a allech chi, ar gyfer y cofnod, wneud ymrwymiad pendant—? Mae’r broses ddeddfwriaethol yn tueddu i fod â’i bwyell ei hun—amser. Rydym yn ymroddedig iawn i bob un o'n camau—mae'n rhaid iddo fynd drwy bwyllgor yn y modd priodol. Os, yn ystod y broses hon, y daw'n amlwg bod angen inni gymryd saib, cymryd seibiant bach, ymgynghori â mwy o rieni ac ymgynghori â rhanddeiliaid, a wnewch ymrwymo i atal y broses ddeddfwriaethol? Dydw i ddim yn gofyn ichi ei ohirio na’i atal am fisoedd—yn llythrennol, dim ond sôn yr ydym am wneud yn siŵr bod yna graffu digonol gan bob plaid, oherwydd hwn yw’r un Bil y gallai’r holl bleidiau a’r holl wleidyddion yn y lle hwn wir ei gyflwyno i Gymru a fyddai'n gwneud gwahaniaeth rhagorol i'r bobl yn ein gwlad ni ac, yn y pen draw, i’n gwlad ni.

Rwy'n gobeithio y gallaf roi’r ymrwymiad hwnnw ichi. Wrth gwrs, mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw’r broses ddeddfwriaethol, nid i’r Llywodraeth, ond dewch imi ddweud hyn: nid fy mwriad yw cadw at amserlen os nad yw’r amserlen honno’n cyflawni craffu cadarn ac yn ein galluogi ni i wneud y gwelliannau yr ydym yn teimlo eu bod yn ofynnol gan hynny. Rwy’n gwybod bod Lynne Neagle, fel Cadeirydd y pwyllgor, yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod gennym graffu cadarn ar waith, ac rwy'n gwbl hyderus y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cael y cyfleoedd i graffu, ond wedyn, yn hanfodol , i wneud y gwelliannau yr ydym yn credu eu bod yn angenrheidiol.

Dewch imi ddweud hyn: rwyf wedi eistedd ar ddigon o bwyllgorau deddfwriaeth ac wedi treulio llawer o flynyddoedd ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, felly rwy’n gobeithio fy mod yn deall y materion hyn. Nid fy mwriad—. Ni fyddaf yn syml yn ceisio atal gwelliannau'r gwrthbleidiau am eu bod wedi’u geirio'n wael neu am ein bod yn anghytuno â hyn a’r llall. Fy mwriad yw dilyn proses fel y bydd y Bil hwn yn dod yn gyfraith. Bydd yn dod yn gyfraith dda, bydd yn gyfraith wych a bydd yn darparu’r hyn yr ydym yn ei ddweud—bydd yn cyflawni ein gweledigaeth, bydd yn cyflawni ein huchelgeisiau, ond, yn bennaf oll, bydd yn darparu ar gyfer y bobl sydd ag angen y ddeddfwriaeth hon.

Mae'r bobl y gwnaethoch ddisgrifio eu cyfarfod ddydd Gwener—. Dewch imi ddweud hyn wrthych: cyfarfûm â rhieni plant awtistig ddoe yn fy etholaeth a chefais sgwrs debyg iawn gyda nhw. Rwy’n benderfynol o beidio â’u siomi, ac os yw hynny'n golygu ein bod yn cymryd mis neu ddau yn ychwanegol i’w wneud yn iawn, felly y bydd hi—gadewch inni fod yn hollol glir ynglŷn â hynny. Rydych yn llygad eich lle: mae angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth, ac nid ydych yn ailadeiladu ymddiriedaeth drwy geisio rhuthro rhywbeth.

[Yn parhau.]—efallai y bydd yn rhaid imi ysgrifennu at y Gweinidog, oherwydd mae hwn yn fater eithaf cymhleth.

Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad yma yn y Senedd, i godi ymwybyddiaeth o rywbeth a elwir yn syndrom Irlen. I'r rhai ohonoch nad oeddech yn gallu dod draw i’r digwyddiad, mae syndrom Irlen yn broblem canfyddiad gweledol a all effeithio ar blant ac oedolion o bob oed, ond mae rhieni plant sydd â syndrom Irlen yn cael anhawster o ran (a) adnabod y cyflwr, a (b) cael triniaeth iddo. Mae'n achosi anawsterau darllen a dysgu, sensitifrwydd i olau, cur pen, meigryn, problemau â chanfyddiad o ddyfnder, ac yn y blaen. Ac mae'n arbennig o arwyddocaol yn ifanc, oherwydd mae'n effeithio ar berfformiad plentyn, ac yn gyffredinol nid yw'n cael ei adnabod fel Irlen. Yn gyffredin, mae'n cael diagnosis anghywir o ddyslecsia, ac, o ganlyniad, nid yw triniaeth briodol yn cael ei darparu, er bod y cyflwr yn hawdd iawn ei drin â throshaenau a lensys lliw. Felly, pan nad yw plentyn yn gwneud cynnydd yn gynnar, dylai fod ysgolion yn edrych ar syndrom Irlen fel rheswm posibl, cyn iddynt ddechrau edrych ar ddyslecsia neu ADHD, neu o leiaf ar yr un pryd.

Y cwestiwn yw, oherwydd rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd addysg a'r Ysgrifennydd iechyd am hyn, oherwydd dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru—cyngor Caerffili—sy’n cydnabod syndrom Irlen mewn gwirionedd, ac sydd â sgrinwyr Irlen yn yr ysgolion, sy'n gweithio’n gynnar i geisio rhoi diagnosis o’r broblem benodol hon. Nawr, y cwestiwn, am wn i, yw a all y Gweinidog edrych ar y posibilrwydd, o fewn paramedrau’r Bil hwn, ac o dan y cod, o gynnig sgrinio cynnar ar gyfer Irlen ym mhob ysgol yn unol â'r cod drafft a nodwyd, fel y byddai ei adnabod ac ymyrryd yn gynnar yn dod o fewn y cwmpas. Mae llawer iawn mwy iddi na hynny, Gadeirydd—

Rwy'n meddwl ein bod ni wedi cael y pwynt, ond rwy’n meddwl bod llawer o gyflyrau eraill yr hoffai pobl eu codi hefyd. Felly, Weinidog.

A gaf i ddweud hyn? Mae'n amlwg bod gan yr Aelod bwynt da iawn i’w wneud yn ei sylwadau. Mae ei sylwadau ar y cofnod. Byddaf yn ysgrifennu ati i roi ymateb llawnach i hynny, a byddaf yn rhoi’r ohebiaeth honno yn y Llyfrgell i’r holl Aelodau ei gweld.

Rwy'n credu efallai mai fi yw’r unig Aelod sydd ar ôl o bwyllgor yr ail Gynulliad a gynhyrchodd yr adroddiad tri chyfnod y mae’r cynigion hyn yn seiliedig arnynt. Mae hynny'n mynd yn ôl yn bell, ac mae hyn yn ailadrodd llawer o argymhellion y pwyllgor hwnnw. Cawsom dystiolaeth gan y Farwnes Warnock; ei hargymhellion gwreiddiol hi a arweiniodd at gyflwyno datganiadau yn 1981. A dywedodd hi wrthym fod y system wedi dod yn ddiangen o fiwrocrataidd, mai’r bwriad gwreiddiol oedd y gallai fod angen datganiadau ar 1 y cant o ddisgyblion a bod hynny wedi codi i 5 y cant, ond, serch hynny, bod yr angen i ddiogelu anghenion y garfan benodol honno ag anghenion penodol cymhleth yn dal i fodoli.

Sut y byddwch chi’n sicrhau, felly, ac yn tawelu meddyliau rhieni fel fi, a llawer o bobl eraill, a oedd yn gorfod brwydro am ddatganiad, i gael mynediad at y gwasanaethau a oedd fel arall yn cael eu dogni; rhieni fel fi ac eraill, a oedd, ar ôl cael datganiad, yn gallu, dim ond oherwydd ei statws cyfreithiol, cael mynediad at wasanaethau a gafodd eu tynnu’n ôl oddi wrth fy mhlentyn ac eraill yn ei uned, oherwydd bod y datganiad hwnnw gennym; a rhieni ledled Cymru sydd wedi gweld cyfraddau eithrio plant heb ddatganiadau, ond sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn dyblu ers i’r pwyslais ar ddatganiadau gael ei dynnu’n ôl, na fydd disodli dogfen gyfreithiol, sef y datganiad, â’ch cynigion ar gyfer cynllun datblygu unigol generig i ddiwallu anghenion pob dysgwr, yn lleihau’r statws cyfreithiol a’r cryfder a ddarparodd y ddogfen gyfreithiol honno—y datganiad pwysig iawn hwnnw—i rieni fel fi, a'r statws y mae’n parhau i’w ddarparu i lawer o rieni eraill ledled Cymru?

Rwy’n cydnabod pŵer a chryfder ei ddadleuon, ond y diben yw symud oddi wrth y system honno. Mae'r Aelod wedi rhoi disgrifiad da iawn o system sy'n methu, ac nid ydym am ddilyn na chynnal system nad yw’n darparu'r gwasanaethau sy'n ofynnol gennym, boed hynny ar gyfer ei deulu ef neu ar gyfer teuluoedd eraill. Ac, o ganlyniad, sail, os hoffwch chi, y system newydd hon yw'r cynllun datblygu unigol, a fydd yn ein galluogi i ddeall anghenion plentyn ac yna ddiwallu’r anghenion hynny heb fod angen yr ymgyrchu gwrthdrawiadol, y dadlau a’r ymladd sydd wedi eu disgrifio'n dda gan yr Aelod ac eraill y prynhawn yma. Rydym yn cydnabod nad yw'r system bresennol yn addas at ei diben, nad yw'n gweithio, a dyna pam yr ydym am ei disodli â system wahanol, system sy'n golygu ein bod yn symud oddi wrth y math hwnnw o ymagwedd wrthwynebol at un sy'n seiliedig ar gydweithio a chydweithredu. Mae arnom angen profiad a gwybodaeth Mark Isherwood ac eraill i'n galluogi i wneud hynny'n iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs yn ystod y broses graffu.

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru

Symudwn ymlaen at eitem 4 ar yr agenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar fanc datblygu Cymru. Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyhoeddi bod fy swyddogion wedi derbyn cynllun busnes ar gyfer banc datblygu Cymru, sy'n dal i fod mewn sefyllfa dda i gael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoliadol. Bydd pencadlys y banc yn y Gogledd, a’i brif flaenoriaeth yw helpu meicrofusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael cyllid yn haws, ac yn benodol i fynd i'r afael â bylchau ariannu lle ceir methiant yn y farchnad. Gan weithio ochr yn ochr â darparwyr ariannol eraill, bydd banc datblygu Cymru yn elwa i’r eithaf ar drosoledd y sector preifat. Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru, bydd y banc yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chyngor rheoli. Bydd cyllid gwell, cefnogaeth well yn golygu busnes gwell. Mae Cyllid Cymru wedi ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ei gynllun busnes yn ystyried y materion ariannol y mae busnesau yn eu hwynebu, ac i nodi atebion priodol.

Rwy'n arbennig o falch eu bod wedi datblygu perthynas waith agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, a bydd hefyd yn ymgysylltu â'r byd academaidd. Maen nhw’n creu uned wybodaeth i olrhain yr amrywiaeth o faterion ariannol y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu o bryd i'w gilydd, ac yn nodi’r modd gorau o fynd i’r afael â’r rhain er budd economi Cymru. Bydd yr uned wybodaeth hon yn datblygu i gyflawni swyddogaeth ymchwil strategol, gan greu ystod o atebion arloesol newydd yn amrywio o gronfeydd cyd-fuddsoddi i gronfeydd wedi'u teilwra sy'n benodol i ddiwydiant. Yn y modd hwn, bydd y banc yn helpu busnesau unigol i gynyddu trosiant a swyddi, ac i helpu i dyfu economi Cymru hefyd.

Bydd y banc datblygu yn cynyddu’r cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru, gyda tharged o ddarparu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi dros y pum mlynedd nesaf. Rwy’n dweud ‘mwy na’ gan fy mod i’n dymuno i'r banc datblygu fod yn uchelgeisiol ac i chwilio am ffyrdd arloesol o wella trosoledd sector preifat. Bydd y banc yn creu ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi y flwyddyn erbyn 2022. Rhoddwyd y dasg i’r banc o gynyddu lefelau buddsoddi uniongyrchol i £80 miliwn y flwyddyn. Rwyf hefyd yn herio'r banc i wella ei werth am arian yn barhaus, ac i weithio tuag at drosoledd sector preifat uchelgeisiol i leihau'r gost fesul swydd. Bydd yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cymorth angenrheidiol ag arweinyddiaeth, mentora a hyfforddiant yn dod law yn llaw â’r cymorth ariannol er mwyn helpu busnesau entrepreneuraidd a busnesau sy’n tyfu i fod yn llwyddiannus. Rwy’n herio'r banc i wella symlrwydd a hygyrchedd ei lwyfan digidol. Rwy’n awyddus i’w weld yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu un porth mynediad a chynyddu nifer y busnesau sy'n derbyn cyngor gan Lywodraeth Cymru o'r lefel bresennol, sef 30,000 y flwyddyn.

Bydd y banc yn gallu cefnogi rhaglenni ar draws nifer o bortffolios, gan gynnwys rhai fy nghydweithiwr hybarch, yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Bydd yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ym maes tai ar y cynllun Cymorth i brynu-Cymru llwyddiannus, a chyflawni ein buddsoddiad o £290 miliwn mewn ail gam i gefnogi adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae’r estyniad i’r cynllun Cymorth i Brynu-Cymru wedi ei groesawu'n eang gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd. Bydd yr estyniad hefyd yn helpu'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto i sicrhau bod 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ar gael ledled Cymru. Ceir hefyd y gronfa busnes Cymru newydd, gwerth £136 miliwn, a gyhoeddais yn ôl ym mis Medi. Mae'r gronfa hon, a gefnogir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, yn un o brif ffynonellau’r banc, gan y bydd yn cynnig atebion ariannu hyblyg i gannoedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf.

Bydd y banc datblygu yn ceisio cryfhau a thyfu’r ecosystem ariannol yng Nghymru. Ni fydd yn ceisio cymryd lle na chystadlu â darparwyr ariannol eraill, ond yn hytrach, bydd yn gweithio gyda nhw i gefnogi eu cyllid ar gyfer busnesau. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â busnesau a banciau, gan ddarparu cyllid ychwanegol lle bo angen. Cafwyd methiant eang yn y marchnadoedd ariannol ar draws y byd o ganlyniad i’r wasgfa gredyd ac achosodd y dirwasgiad byd-eang gwaethaf mewn cenhedlaeth.

Heddiw, yng Nghymru, mae’r marchnadoedd ariannol wedi bod yn ailagor yn araf deg a fesul dipyn i gefnogi ein hadferiad, ond mae methiant yn y farchnad yn dal i fodoli mewn meysydd fel meicrofusnesau a busnesau bach, mewn cwmnïau sy’n dechrau ac mewn busnesau entrepreneuraidd lle nad yw'r model busnes wedi ei brofi. Mae'r banc datblygu yn cydnabod pa mor anodd yw hi o hyd i fusnesau bach a chanolig eu maint gael gafael ar gyllid ecwiti. Bydd y banc yn cynnal rhwydwaith o angylion buddsoddi ledled Cymru ac yn annog buddsoddiad ecwiti mewn busnesau sy’n tyfu yng Nghymru trwy gronfa cyd-fuddsoddi angylion ar y cyd. Wrth i fusnesau canolig eu maint gynllunio i dyfu, bydd y banc yn hwyluso cysylltiadau â sefydliadau ecwiti mwy o faint yn Llundain. Bydd hefyd yn helpu busnesau yng Nghymru i gael mynediad at gyllido torfol a ffynonellau arloesol eraill o gyllid.

Wrth i’r economi barhau i adfer, rydym yn disgwyl i natur a graddfa methiant y farchnad newid ac rwy'n falch o weld y bydd y banc yn monitro amodau’r farchnad ac anghenion busnes sy'n newid, gan ymateb yn briodol drwy gynnig cynnyrch newydd a dulliau gweithio newydd. Rwy’n disgwyl i'r banc, fel sefydliad di-elw, feithrin cysylltiad â mentrau cydfuddiannol a chymdeithasol, gan gynnwys cymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol, gweithiwr sy’n prynu cwmni ac undebau credyd. Rwy’n gofyn i'r banc gysgodi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ac i edrych ar gyfleoedd ar gyfer partneriaeth.

Gan fod y banc datblygu yn sicrhau bod cyllid preifat ar gael yn fwy hwylus, bydd yr angen am gymorth grant gan y Llywodraeth yn lleihau. Drwy ddarparu cefnogaeth ariannol drwy'r banc datblygu a manteisio i’r eithaf ar drosoledd cyllid preifat, bydd y banc datblygu yn helpu i wella gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru yn sylweddol. Rwy'n credu y bydd y banc datblygu yn dod yn frand Cymreig cryf, gan ddarparu cymorth ariannol cadarnhaol lle mae ei angen fwyaf i wneud y mwyaf o’r effaith fuddiol ar gyfer economi Cymru. Rwy’n gofyn i fy swyddogion yn awr ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y cynllun busnes newydd ar gyfer banc datblygu Cymru yn bodloni anghenion busnesau ac yn helpu pob un i wireddu ei botensial.

Mae banc datblygu Cymru yn arwydd clir o'r dull strategol yr ydym yn ei arddel i sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus a diogel. Mae'n enghraifft o sut yr ydym ni’n galluogi'r amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu ac i greu a chadw swyddi o ansawdd uchel. Mae'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yn dangos sut yr ydym am ganolbwyntio ein hymyraethau ar gyflawni mwy o ddiogelwch ariannol i fusnesau fel y gallant ddatblygu twf a ffyniant i bawb.

Rwy'n croesawu'n fawr y diweddariad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r copi ymlaen llaw o’i ddatganiad. Mae 30 mlynedd ers i Gymru colli ei hunig sefydliad bancio annibynnol ar y pryd, Banc Masnachol Cymru, ac rwy’n credu ein bod wedi dioddef o ganlyniad i'r bwlch amlwg hwnnw yn ein pensaernïaeth sefydliadol fel economi. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn y mae’n rhaid ei holi nawr yw: a ydym ni’n mynd i achub ar y cyfle hwn yn llawn, oherwydd rydym wedi bod yma o'r blaen? Crëwyd Cyllid Cymru ei hun, wrth gwrs, yn 2000 i weithredu mewn modd tebyg i fanc, fel y gwelsom, doedd yn ddim byd tebyg i fanc. Ac rydym wedi gweld ymdrechion eraill, onid ydym: y Banc Buddsoddi Gwyrdd, Banc Busnes Prydain, Banc Buddsoddi’r Alban, sydd i bob pwrpas yn gronfa cyfalaf gyhoeddus a weithredir gan Scottish Enterprise, nid banc mewn gwirionedd yn yr ystyr llafar neu dechnegol yr ydym ni yn ei ddeall.

Felly rwy’n credu mai dyna'r safon y mae’n rhaid i ni gymharu’r sefydliad newydd â hi, ac yn hynny o beth, mewn gwirionedd, yr hoffwn i gael synnwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet o beth yw ei uchelgais, pa mor uchel yw ei uchelgeisiau ar gyfer y banc hwn, a pha led a chwmpas sydd ganddo mewn golwg ar gyfer datblygu'r math o arloesedd y mae wedi cyfeirio ato, yn y blynyddoedd sydd i ddod. A fydd yn darparu gwasanaethau fel y gwarantau benthyciadau sy'n cael eu cynnig trwy gronfa twf yr Alban, gwarantau allforio, sy’n hanfodol bwysig wrth i ni fynd i’r cyfnod anodd ar ôl Brexit? Mae wedi sôn am drosoledd. Wrth gwrs, un o'r mathau gorau o drosoledd sydd gan unrhyw fanc, wrth gwrs, yw bancio wrth gefn ffracsiynol, dod yn sefydliad sy’n cymryd adneuon, boed hynny yn adneuon fel a geir mewn rhai banciau cyhoeddus, sy’n dod mewn gwirionedd oddi wrth y sector cyhoeddus—byddwn ni’n cael ein derbyniadau treth ein hunain cyn bo hir, beth y gallem ni ei wneud â'r rheiny, o’u defnyddio’n bwyllog—neu’n dod yn sefydliad sy’n cymryd adneuon o'i gleientiaid busnes. Felly, a oes gan y banc hwn y gallu i ddatblygu yn y cyfeiriad hwnnw?

Ac mae ychydig o bethau, wrth gwrs, yr awgrymodd yr adolygiad mynediad at gyllid na ddylai'r banc eu gwneud o bosibl, ac mae'n ymddangos efallai y bydd yn dal i fwrw yn ei flaen a’u gwneud: y cyfeiriad at weithredu cronfeydd mewn gwirionedd, rheoli cronfeydd, yn Lloegr. A yw hynny mewn gwirionedd yn arwain at iddo golli ei bwyslais ar ei brif nod polisi cyhoeddus? A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gan Gyllid Cymru ac felly, yn ôl pob tebyg, y banc datblygu, gynlluniau i weithredu pump neu chwech o gronfeydd yn Lloegr? Roedd cronfeydd cyfalaf menter, hefyd, yn faes arall yr awgrymodd yr adolygiad mynediad at gyllid y byddai’n well ei roi i is-gontractiwr sy’n arbenigo mewn cronfeydd cyfalaf menter, mewn gwirionedd, ynghyd â’r gronfa gwyddorau bywyd, yn hytrach na bod Cyllid Cymru yn gwneud hynny’n fewnol. Ai dyna’r model y bydd y banc datblygu yn ei ddatblygu? Yn olaf, er mwyn i ni allu cael y trafodaethau angenrheidiol hyn mewn mwy o fanylder nag yr ydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd, a gawn ni weld copi o'r cynllun busnes, fel y gallwn ni sicrhau craffu priodol ar y materion hyn a llawer o faterion eraill?

Yn olaf, olaf, croesawaf y ffaith nad yw’r sefydliad cenedlaethol newydd pwysig hwn yn mynd i fod wedi’i leoli yma yng Nghaerdydd ond yn y gogledd, mewn gwirionedd. Mae Plaid Cymru wedi cyfeirio o'r blaen at Wrecsam fel prifddinas ariannol Cymru. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â hynny. Ond a allwn ni gael rhai niferoedd hefyd o ran nifer y bobl a fydd yn cael eu lleoli yn y pencadlys? Ac a yw hyn—. Gan ein bod yn sôn am sefydliadau newydd—yr awdurdod refeniw Cymru newydd, beth am roi hwnnw yn y gogledd, hefyd, a datblygu mewn gwirionedd ar yr ochr cyllid masnachol, a hefyd ar yr ochr ariannol, rywfaint o arbenigedd go iawn a datblygu prifddinas ranbarthol ar gyfer Cymru yn y gogledd?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod yn cytuno ag ef ar lawer o'r pwyntiau y mae wedi’u gwneud am yr angen i sicrhau ein bod yn datganoli lle y gallwn ni wneud hynny a rhannu cyfleoedd ledled Cymru. Byddwn yn fwy na hapus i drafod gyda fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y syniad o sicrhau hefyd bod awdurdod refeniw Cymru yn cael ei leoli y tu allan i'r brifddinas, o bosibl yng ngogledd Cymru, o bosibl yn Wrecsam.

O ran symud i Wrecsam, rydym yn edrych ar ddau ddewis achos busnes yn ymwneud â sefydlu pencadlys y banc yn y gogledd, er mai dim ond un sy’n cynnig awgrym o’r gost debygol. £5 miliwn yw’r gost honno fel y mae’n sefyll. Ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried yr holl gyfleoedd ar gyfer datganoli, fel y dywedais, nid yn unig sefydliadau cenedlaethol ond llawer o'r gweithgareddau sy'n creu cyfoeth o fewn ein gallu. Nid yw'r dewis a ffefrir i atgyfnerthu swyddogion a swyddogaethau penodol yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi ei gostio ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y bydd swyddogion yn ei werthuso pan fydd rhagor o ddata ar gael, ac mae angen i swyddogion weld dadansoddiad manwl a chostau’r dewis penodol hwnnw cyn y gellir dod ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion ataf i, wrth gwrs, yn y flwyddyn newydd.

O ran y pwyntiau eraill y mae'r Aelod yn eu gwneud, mae 30 mlynedd ers colli’r banc masnachol olaf yng Nghymru, ac mae amser wedi hedfan. Ond, ers datganoli, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud y byddwn ni cyn bo hir yn bancio ac yn adeiladu mewn ffordd nas gwelwyd ers 1999, ac rwy’n croesawu cyfraniad cadarnhaol yr Aelod at y ddadl heddiw yn fawr iawn. I roi rhywfaint o gefndir, mae gwreiddiau banc datblygu Cymru yn dod o’r grŵp gorchwyl a gorffen, a hefyd dau adroddiad pwyllgor gan y Cynulliad blaenorol. O ran uchelgais, fy uchelgais i ar gyfer y banc datblygu yw nodi a mynd i'r afael ag unrhyw rwystr a phob rhwystr y mae meicrofusnesau, busnesau bach neu fusnesau canolig eu maint yn eu hwynebu wrth gael gafael ar y cyllid angenrheidiol i dyfu ac i greu swyddi. Rwyf eisoes wedi gosod targedau penodol, gan gynnwys codi gwerth £1 biliwn o leiaf dros y pum mlynedd nesaf, ond fe fydd yna lythyrau cylch gwaith blynyddol, felly byddwn yn gosod targedau ac uchelgeisiau penodol yn y rheiny, a bydd sesiynau monitro a gwerthuso rheolaidd yn cael eu cynnwys ym mhob blwyddyn ariannol.

O ran gweithredu yn Lloegr a'r cynlluniau i reoli cronfeydd y tu allan i Gymru, rwy’n cydnabod bod hyn yn fater eithaf dadleuol, ond mae'r graddau y mae’r gweithgaredd hwn wedi digwydd ac y bydd yn digwydd yn gwbl gyfyngedig, ac nid yw'n amharu, rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud—nid yw ac ni ddylai amharu—ar fusnesau yng Nghymru na'r cymorth sydd ar gael. Yn wir, credaf fod yna uchafswm wedi’i bennu ar faint o incwm y gellir ei godi drwy weithgareddau y tu allan i Gymru, a bod y cap hwnnw wedi ei osod ar hyn o bryd, rwy’n credu, ar 10 y cant, a byddwn yn dymuno gweld y cap yn cael ei gynnal. Rwy’n credu bod gweithgaredd y tu allan i Gymru yn arwydd, ar hyn o bryd, o broffesiynoldeb Cyllid Cymru, ac, yn y dyfodol, banc datblygu Cymru, ac mae’n dangos hefyd eu bod yn gallu cystadlu'n effeithiol am gontractau y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn bwysig bod staff banc datblygu Cymru yn parhau i wella yn gyson o ran eu sgiliau a’u gwybodaeth, ac, unwaith eto, gall cael profiad o weithgareddau ar draws y ffin helpu yn hyn o beth.

O ran y cwestiwn am is-gontractio cronfeydd cyfalaf menter, pan ofynnodd Llywodraeth Cymru am geisiadau cystadleuol gan wasanaethau rheoli cronfeydd, roedd achosion lle nad oedd unrhyw gynigwyr eraill heblaw am Cyllid Cymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn ymwybodol o hyn. Ac mae achos busnes banc datblygu Cymru yn nodi y byddai gwasanaethau cymorth a rheoli buddsoddi ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu cytuno ar sail achos unigol, gan ddibynnu ar ofynion prosiect unigol. O ran y cynllun busnes hwnnw yr wyf yn cyfeirio ato, mae’r Aelod wedi codi’r cwestiwn hwn yn y gorffennol ac rwy'n falch o ddweud y byddaf yn ymrwymo i gyhoeddi'r cynllun busnes pan fydd yn barod. Ar hyn o bryd, mae'n dal i fod ar ffurf ddrafft, ac rydym yn parhau i ystyried adborth gan randdeiliaid sydd â diddordeb, ond gallaf ymrwymo heddiw i’w gyhoeddi.

Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd y banc datblygu yn cael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn newydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn ychydig yn siomedig bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ychydig iawn yn y datganiad heddiw o ran yr achos busnes ar gyfer model hybrid y banc datblygu i ganiatáu ar gyfer craffu heddiw gan Aelodau'r Cynulliad. Rwy’n falch ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn darparu achos busnes i'r Aelodau. Efallai pe gallech roi gwybod i ni pryd y byddwch yn disgwyl i hynny fod, byddai hynny o gymorth heddiw.

Mewn ffordd, i mi, y cyfan sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw, mae’n ymddangos—. Mae'n ymddangos i mi yn ymarfer ailfrandio cosmetig, ac mae cynnwys gweinyddiaeth y swyddogaeth cymorth i brynu, sydd eisoes yn cael ei arfer gan Cyllid Cymru, rwy’n meddwl, yn cadarnhau’r pwynt hwnnw. Mae gen i ychydig o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pam y dewisodd y model hybrid hwn yn benodol, gan fynd yn groes i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, nad oedd yn awyddus i weld Cyllid Cymru yn esblygu yn fanc datblygu. Awgrymodd Cyllid Cymru yn ddiweddar y byddai cymorth busnes yn rhan o gylch gwaith y banc datblygu, ond nid yw’n ymddangos mai dyna yw tôn eich datganiad chi heddiw. Beth fyddai’n digwydd pe byddai Busnes Cymru yn y pen draw yn dod yn rhan o'r banc datblygu? Byddwn yn ddiolchgar am eich barn a rhywfaint o eglurder ynghylch hynny.

A ydych chi wedi diystyru esiampl Llywodraeth yr Alban o ran darparu cyllid ar ffurf gwarantau benthyciadau hyblyg heb fod angen cyfalaf cyfochrog? Gallai hyn, wrth gwrs, gefnogi rhai o'r busnesau bach mwyaf arloesol yng Nghymru sydd â'r potensial mwyaf i dyfu’n sylweddol, ond nad oes ganddynt, wrth gwrs, yr asedau i fenthyca yn eu herbyn.

Rydych chi hefyd wedi dweud na fydd y banc yn cystadlu yn erbyn benthycwyr eraill yn y sector preifat, ond yn hytrach yn darparu cyllid atodol i fynd i’r afael â methiant yn y farchnad, a darparu cyllid i’r busnesau bach a chanolig hynny na fyddent yn ei gael fel arall. Sut y byddwch chi’n sicrhau na fydd y banc datblygu yn cael ei ystyried yn fenthyciwr pan fetho popeth arall, ac y bydd yn trosoli cyllid sector preifat? Ac a ydych chi’n disgwyl y bydd y banc yn y pen draw yn ariannu ei hun, ac, os felly, pa asesiad ydych chi wedi’i wneud o oblygiadau hyn ar y cyfraddau llog sy'n ofynnol er mwyn gwneud elw?

Rwyf innau hefyd yn croesawu, fel Adam Price, y penderfyniad i leoli'r banc datblygu y tu allan i'r brifddinas. Rwyf innau’n croesawu hynny’n fawr, hefyd. A fydd staff presennol Cyllid Cymru yn symud i leoliad newydd, ac, os byddant, a oes yna oblygiad cost i hynny a beth yw’r gost honno? Pa ystyriaeth a roddwyd gennych i fodel a fyddai'n gweld busnesau bach a chanolig eu maint yn cael y cyfle i gael mynediad at gyllid yn lleol, trwy system o fanciau buddsoddi rhanbarthol sy’n atebol yn ddaearyddol a fyddai'n dod â chyllid yn nes at fusnesau mewn gwahanol rannau o Gymru? Yn olaf, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yr ydych chi’n gweld perthynas y banc datblygu â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, unwaith eto, am ei gefnogaeth eang ar gyfer yr hyn yr ydym wedi’i gyflwyno heddiw i'r Cynulliad. Rwyf hefyd yn falch bod yr Aelod yn cydnabod y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi. Byddwn yn gobeithio bod mewn sefyllfa i’w gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Unwaith eto, mae'n amodol ar dderbyn yr adborth gan randdeiliaid â buddiant ac ystyried yr adborth hwnnw yn llawn, fel y gall y cynllun busnes symud y tu hwnt i'r ffurf ddrafft.

Nid wyf yn credu nad yw hyn ond yn achos o ailfrandio Cyllid Cymru yn gosmetig, oherwydd, yn ei hanfod, mae banc datblygu Cymru mewn gwirionedd yn adlewyrchu dau adroddiad pwyllgor, y cyntaf o 2014. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ar y pryd ei adroddiad ar Cyllid Cymru, gan ddatgan ei fod wedi canfod bod Cyllid Cymru, ar y cyfan, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi Cymru ac mae’r hyn yr oedd ei angen oedd eglurhad o'i swyddogaeth a chylch gwaith yn hytrach nag ailwampio’r holl beth. Ac yna, yn 2015, pwysleisiodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar y pryd a hefyd y Pwyllgor Cyllid bwysigrwydd datblygu arbenigedd a phrofiad Cyllid Cymru fel sail ar gyfer model y banc datblygu. Felly, rwy’n meddwl bod yr hyn yr ydym yn ei gyflwyno yn adlewyrchu'n llawn yr hyn yr oedd pwyllgorau yn y sefydliad cenedlaethol hwn yn galw amdano, ond, ar yr un pryd, yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu’r cyllid sydd ar gael a gwella’r mynediad ato ar gyfer meicrofusnesau, busnesau bach a busnesau o faint canolig.

O ran y cwestiwn am gronfeydd hyblyg, efallai y byddai o fudd pe bawn i’n amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran datblygiad cronfa fuddsoddi hyblyg Cymru, sy’n faes yr wyf yn gwybod bod gan yr Aelod ddiddordeb mawr ynddo. Mae fy swyddogion yn datblygu’r gronfa newydd honno gyda Cyllid Cymru, ac, ar yr amod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cytuno, gallai maint y gronfa fod yn £77.75 miliwn, gyda dyhead i gyrraedd cyfanswm o £100 miliwn yn y pen draw. Y bwriad fyddai lansio’r gronfa benodol honno erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Byddwn, wrth gwrs, yn herio banc datblygu Cymru i ddenu cyllid preifat ychwanegol, a bydd hyn yn cael ei nodi bob blwyddyn yn y llythyr cylch gwaith, ynghyd â thargedau i’w cyrraedd. Dros gyfnod pob blwyddyn ariannol, bydd, fel y dywedais yn gynharach, perfformiad banc datblygu Cymru yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn defnyddio pob modd o ddenu cyllid sydd ar gael iddo i gynyddu faint o gyllid preifat y mae’n ei ddenu ac i sicrhau bod hynny'n cael ei ddefnyddio yn y modd gorau gan gwsmeriaid busnes.

Rwy’n meddwl y cododd yr Aelod y cwestiwn am gyfraddau llog a chost cyllid. Mae'n werth amlinellu, rwy’n meddwl, bod cyfraddau llog blynyddol Cyllid Cymru yn amrywio o 4 y cant i 12 y cant. Rwy’n cydnabod mai beirniadaeth a ddyfynnir yn aml am Cyllid Cymru yw y bu’n rhy ddrud i fenthyg oddi wrtho, ond nid yw hynny'n gywir, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael i ni nawr. Yn wir, yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o gyfraddau llog a bennwyd gan Gyllid Cymru, a chanfuwyd y codwyd cyfraddau a oedd yn is na chyfraddau’r farchnad ar fwy na 70 y cant o fusnesau, a barnwyd bod 6 y cant ar gyfraddau’r farchnad: roedd y mwyafrif llethol, felly, yn benthyca ar gyfraddau’r farchnad neu islaw hynny. Byddwn yn disgwyl i hyn barhau wrth i’r banc newydd ddatblygu, a byddwn yn disgwyl i fusnesau o bob maint allu manteisio ar y ffurfiau hynny o gyllid am gost is.

O ran staff—ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei gefnogaeth i sefydlu banc datblygu Cymru yn y gogledd. O ran y staff a fydd yn symud yno, fel yr amlinellais wrth Adam Price, mae dau gynnig wedi eu cyflwyno. Mae un wedi’i gostio—amcangyfrifir mai tua £5 miliwn fydd y gost; ond nid yw'r llall yn cynnwys amcangyfrif o gost eto, ond byddwn yn craffu ar yr ail ddewis hwnnw cyn gynted ag y bydd rhagor o fanylion ar gael i ni. O ran banciau buddsoddi rhanbarthol, byddai hyn, yn fy marn i, yn cymryd mwy o amser i'w sefydlu, ond rwy’n meddwl y bydd swyddogaeth a dyletswydd ar fanc datblygu Cymru i fod yn berthnasol ac i fod yn hygyrch i bob cymuned ledled Cymru. Felly, bydd yn gwbl hanfodol ei fod yn cydweithio â Busnes Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd a'r gweithgareddau y mae’n cymryd rhan ynddynt.

Rwy’n croesawu'r datganiad heddiw. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae'n bwriadu ehangu'r set sgiliau—y gronfa o bobl sydd ar gael i weithio yn y banc datblygu a’i ddatblygu? Oherwydd, yn amlwg, mae'n anodd denu pobl sydd â gwybodaeth a sgiliau’r sector ariannol, sef sector sydd wedi’i wreiddio gymaint yn Llundain. Rwy'n falch iawn bod Cyllid Cymru yn sail i'r banc datblygu, oherwydd ei hanes cadarnhaol o gyflawni. Ac a fyddai'n cytuno bod y ffaith ei fod wedi darparu gwasanaethau yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr yn deyrnged i sgiliau Cyllid Cymru ac, mewn gwirionedd, yn bluen yn ei gap? Roeddwn i ar y Pwyllgor Cyllid, y mae wedi cyfeirio ato yn ei ddatganiad heddiw, a wnaeth edrych ar Cyllid Cymru, ac yn wir fe wnaethom lunio’r argymhelliad y dylai cylch gwaith Cyllid Cymru fod yn fwy eglur a dylai gael yr hawl i ddatblygu. Felly, rwy’n credu mai hwn yw’r llwybr cywir i’w ddilyn yn bendant. Tybed a fyddai’n gallu rhoi ei farn i ni ynghylch sut y gallwn ehangu nifer y bobl yma yng Nghymru sy'n gallu cyfrannu at y datblygiad hwn.

Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith y bydd y banc datblygu yn edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido. Rwy'n credu iddo gyfeirio at gyllido torfol a ffyrdd arloesol eraill o gyllido. Ni wn a all ymhelaethu ar hynny o gwbl—sut y byddant yn helpu busnesau bach i wneud hynny. Rwyf hefyd yn cefnogi'n arbennig y cymorth sy'n mynd i gael ei gynnig ar gyfer cydweithfeydd ac undebau credyd. Tybed a all ymhelaethu ar hynny.

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Byddaf mor gryno ag y gallaf wrth eu hateb. Yn gyntaf oll, o ran cyllido torfol, mae amcangyfrif y bydd cyllido torfol yn tyfu’n sylweddol iawn erbyn diwedd y ddegawd hon. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad yw pob busnes, ac yn wir, nid yw pob sefydliad trydydd sector, yn ymwybodol o'r potensial na sut i fynd ati i ddenu adnoddau cyllido torfol. Bydd swyddogaeth yma, nid yn unig i fanc datblygu Cymru, ond hefyd o bosibl i Busnes Cymru, a hefyd, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud, i Ganolfan Cydweithredol Cymru, sydd eisoes wedi rhoi cyngor cadarn i lawer o sefydliadau trydydd sector ar botensial cyllido torfol.

O ran gweithgareddau yn Lloegr, fe fyddwn i unwaith eto’n cytuno â'r Aelod, ac yn dweud fy mod i’n credu bod y ffaith iddo allu sicrhau contractau ar draws y ffin yn brawf o lwyddiant Cyllid Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol, wrth dyfu sylfaen sgiliau staff yn y banc datblygu, fod ganddynt fynediad at gyfleoedd ar draws y ffin a’r cyfle i ddysgu gan y goreuon. Mae'r Aelod yn llygad ei le: rydym ni’n bell i ffwrdd o Lundain, ond byddwn yn disgwyl i fanc datblygu Cymru allu gwneud cysylltiadau a gallu sefydlu perthynas â sefydliadau ariannol yn Llundain, a allai wedyn gael eu defnyddio i gefnogi meicrofusnesau, busnesau bach a busnesau canolig eu maint yng Nghymru. O ran ehangu'r sylfaen sgiliau, ar hyn o bryd, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan Cyllid Cymru gyfarwyddwyr anweithredol newydd, cadeirydd newydd a phrif weithredwr newydd. Gallaf hefyd hysbysu'r Aelod bod Cyllid Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd i nodi’r strwythur corfforaethol a chyfalaf gorau posibl.

Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gadarnhau bod fy mhlaid i yn cefnogi’r cysyniad o fanc datblygu Cymru yn llwyr? Wedi dweud hynny, rydym yn credu bod yn rhaid i’w gylch gwaith fod yn benodol ac wedi’i gynllunio i gyflawni ei amcan sylfaenol, sef cyflenwi cyllid i'r sector busnesau bach, lle na allant gael arian heb ymyrraeth uniongyrchol gan y WDB. Ar ôl darllen yr astudiaeth o ddichonoldeb, sydd wrth gwrs yn adroddiad cynhwysfawr, rwyf ychydig yn siomedig â’i argymhellion. Ymddengys ei fod yn cyfleu’r syniad y dylai banc datblygu Cymru fod yn fenthyciwr pan fetho popeth arall, yn hytrach nag yn fan cychwyn. Ac oni fyddai’n cytuno bod yr adroddiad yn pennu’r defnydd o drosoledd cyfalaf preifat, megis banciau stryd fawr, sefydliadau buddsoddi, cyllid angel, cynlluniau gwarantu benthyciadau a llu o ddewisiadau benthyca eraill, a'r banc yn ddarparwr dim ond lle ceir bwlch amlwg yn y strwythur benthyca? Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i fenthycwyr fynd drwy’r felin cyn hyd yn oed yn cael eu hystyried ar gyfer benthyciad uniongyrchol gan y banc datblygu neu, yn wir, unrhyw fath o ymyrraeth uniongyrchol gan y banc.

Onid yw’n cytuno bod yr adroddiad i’w weld yn awgrymu nad yw’r banc yn ddim byd ond sefydliad cyfeirio, gan wneud dim ond cyfeirio benthycwyr posibl at sefydliadau benthyca eraill? Mae'n ymddangos bod yr union fusnesau, busnesau newydd, meicrofusnesau, busnesau bach a chanolig a hyd yn oed busnesau o faint canolig y mae’r banc wedi’i sefydlu i’w helpu yn gorfod mynd at lu o fenthycwyr eraill cyn iddynt allu cael gafael ar gyllid gan y banc datblygu ei hun, yn hytrach na'r hyn sydd ei ddirfawr angen: proses ymgeisio syml sy'n rhoi mynediad uniongyrchol at gronfeydd. Onid dyma pam y sefydlwyd y banc, i fod yn fenthyciwr cyntaf ac uniongyrchol i’r busnesau bach hyn. Y rheswm dros sefydlu’r banc hwn, a’i raison d'être, yw'r ffaith na all busnesau bach yn amlwg gael gafael ar arian gan fanciau masnachol arferol.

Gallaf eich sicrhau na fyddem ni yn y blaid hon fyth yn condemnio’r Llywodraeth hon am gymryd risgiau wrth fenthyca i fusnesau eraill, ac os oes canlyniad i hynny, os na fydd rhai o’r busnesau hynny yn datblygu neu’n tyfu yn y ffordd a ragwelwyd gan y Llywodraeth rywbryd yn y dyfodol, ni fyddwn yn condemnio’r Llywodraeth hon, na’r banc ei hun, am wneud hynny. Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud y bydd y cylch gorchwyl yn glir? Nid benthyciwr pan fetha popeth arall mohono, ond yn hytrach, sefydliad a fydd yn mynd i'r afael â methiant y farchnad a bylchau ble y mae’n hysbys bod yna fylchau, a chredaf fod hynny yn cael ei adlewyrchu eisoes. Mae'r ffaith bod y cyfraddau llog yn is mewn gwirionedd nag y mae llawer o bobl yn ei gredu eisoes yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn mynd i'r afael â methiant y farchnad, yn hytrach na chodi cyfraddau uchel fel benthyciwr pan fetha popeth arall. Ond bydd y gwaith hwn yn mynd ymlaen, a bydd, fel y dywedais, lythyr cylch gwaith blynyddol ar eu cyfer, yn nodi disgwyliadau helaeth o ran buddsoddi mewn busnesau bach, busnesau microfusnesau a busnesau canolig eu maint. Ond mae'n mynd i fod yn fwy na chorff cyfeirio yn unig, y mae’r Aelod yn ofni y gallai fod. A gadewch i mi amlinellu pam mae hynny’n wir, yn seiliedig yn bennaf ar ddau gyhuddiad. Yn gyntaf oll—ac mewn gwirionedd, mae’r Aelod wedi sôn am hyn—y cyhuddiad bod Cyllid Cymru yn rhy amharod i gymryd risgiau. Wel, y gwir amdani yw y bydd y banc datblygu yn gweithredu mewn rhan o’r farchnad lle bydd yn cymryd mwy o risg na Cyllid Cymru, ac mae hwn yn fater allweddol y bydd swyddogion yn edrych arno yn rhan o’r gwerthusiad o’r cynllun busnes. Mae'n gyhuddiad y mae Cyllid Cymru yn ei wynebu’n aml, ac rydym ni'n ymwybodol iawn ohono, ond bydd y banc datblygu yn gweithredu lle na fydd y sector preifat yn ymyrryd o gwbl, neu lle nad oes digon o gyllid yn cael ei gyflenwi yn y farchnad. Ei brif bwrpas fydd mynd i’r afael â’r methiant yn y farchnad. Fel y cyfryw, bydd angen i'r banc datblygu brisio ei fuddsoddiadau ar lefel sy'n gymesur â’r risgiau y mae'n eu cymryd, wrth gwrs, ac mewn meysydd lle nad yw’r sector preifat yn gweithredu i raddau helaeth. Wedi dweud hynny, bydd y cyfraddau llog, wrth gwrs, yn parhau yn gystadleuol.

O ran y cyhuddiad yn erbyn Cyllid Cymru, sef ei fod yn cystadlu yn erbyn y sector preifat, wel, ni fydd banc datblygu Cymru yn cystadlu â'r sector preifat; yn hytrach, bydd yn ceisio gweithio'n agos gyda darparwyr y farchnad ac ategu ac ychwanegu pan fydd peth methiant yn y farchnad ar hyn o bryd, fel yr wyf wedi’i ddweud. A’r rheswm dros hyn yw oherwydd mai ei brif swyddogaeth yw llenwi'r bwlch cyllido a grëwyd pan na all archwaeth risg arianwyr y sector preifat ddiwallu anghenion busnesau bach sy’n chwilio am gyllid. Fe fydd felly, rwyf yn credu ei fod yn deg i ddweud, yn mynd ati’n fwriadol i geisio osgoi gwthio’r sector preifat allan, a bydd yn gweithio gyda busnesau newydd yn eu cyfnod cynnar lle na all y farchnad gymryd y risg cyllido.

Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn arbennig ei sylwadau am lenwi'r bwlch yn y farchnad, os mynnwch chi, o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer rhannau penodol o'r sector. Yn ogystal â busnesau bach, wrth gwrs, mae gan fusnesau canolig eu maint anghenion penodol, ac un o'r materion a wynebir yw ceisio cymell rheolwyr-berchnogion i beidio â gadael eu cwmnïau yn gynnar yng nghylch oes y busnes. A wnaiff ef roi ystyriaeth arbennig, yng nghylch gwaith y banc datblygu, i annog y banc i gynnig datrysiadau cyfalaf tymor estynedig i rai o'r busnesau hynny, a fyddai'n annog cadw eu hecwiti dros oes y cwmni, yn hytrach na gwerthu’r cwmni yn gynnar?

Diolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn. Mewn gwirionedd, mae'r syniad o gyfalaf tymor estynedig yn un rhagorol, ac fe allai’n wir fod yn rhan o gylch gwaith banc datblygu Cymru, ochr yn ochr ag addewidion maniffesto eraill Llywodraeth Cymru, yn bennaf, un sy'n ymwneud â thyfu busnesau cynhenid Cymru canolig eu maint i fod yn fusnesau sydd â photensial gwirioneddol fyd-eang. Yn fy marn i, rhwng y gefnogaeth y gallai banc datblygu Cymru ei rhoi a'r gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi drwy Busnes Cymru o ran cymorth, cyngor a lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â thwf ac, yn benodol, lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â recriwtio staff ychwanegol, byddwn yn galluogi mwy o fusnesau canolig eu maint yng Nghymru i ddod yn fusnesau graddfa-fawr a byd-eang o ran eu gweithrediadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu porth sy’n un pwynt mynediad. A gaf i bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi bod y banc datblygu yn gweithio'n adeiladol, yn rhagweithiol ac yn effeithiol gyda Busnes Cymru, a hefyd bod y banc datblygu a'i swyddogaethau yn hawdd i ficrofusnesau gael gafael arnynt? Yn olaf, yn amlwg, byddwn ar fai pe na byddwn i’n croesawu’r ffaith bod pencadlys y banc datblygu wedi’i leoli yn y gogledd, a thra byddwn i'n disgwyl i'r banc wasanaethu busnes ym mhob cwr o’r wlad, rwy’n gobeithio y bydd lleoliad y banc yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal ei hun.

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? O ran y rhyngwyneb â Busnes Cymru, mae'n mynd i fod yn gwbl hanfodol bod banc datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cymorth, cyngor ac arweiniad priodol yn cael ei roi gan y cyrff perthnasol.

Ddirprwy Lywydd, mae’n fwriad gennyf sefydlu gweithgor ymateb cyflym sy'n cynnwys uwch swyddogion Busnes Cymru, a Cyllid Cymru, i ddatblygu'r maes hwn ymhellach ac i ddiffinio ymagwedd fanwl tuag at y gefnogaeth a gynigir i ficrofusnesau. Mae'r Aelod yn llygad ei lle, ac rwy’n ymwybodol o lawer o ficrofusnesau yn etholaeth Delyn. Mae’r Athro Dylan Jones-Evans ei hun yn credu y dylai'r banc datblygu ddarparu lefelau uwch o fuddsoddiad ar gyfer busnesau bach a microfusnesau, a byddwn yn cytuno’n llwyr â hynny. I gefnogi hyn, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyraniad yn y gyllideb ddrafft o £46 miliwn ar gyfer banc datblygu Cymru, a fydd yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa benthyciadau microfusnesau Cymru. Rwy’n falch ein bod ni’n mynd i weld sefydliad o’r fath â’i bencadlys yn y gogledd, ac rwy'n hyderus, wrth i’r ganolfan gyllid ranbarthol— sef Wrecsam, fel y nododd Adam Price—dyfu, bydd mwy o gyfleoedd hefyd i bobl gael eu cyflogi yn y sector hollbwysig hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gen i gwestiwn cyflym: beth ydych chi'n ei wneud i leoleiddio’r banc datblygu newydd? Rwy’n deall eich rhesymau dros ei leoli yn y gogledd. Rydym yn croesawu hynny, ac mae Aelodau eraill wedi gwneud hynny. Ond rhan o'r feirniadaeth o Cyllid Cymru bob amser fu ei ddiffyg presenoldeb lleol mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. Yr oedd hynny'n rhan o'r rheswm pam, ychydig flynyddoedd yn ôl, y gwnaethom ddwyn ymlaen ein cynllun ar gyfer 'Buddsoddi Cymru', a gynlluniwyd i fod â mwy o bresenoldeb ar y stryd fawr, os mynnwch—yn sicr presenoldeb lleol. Felly, sut ydym ni’n mynd i gael ymdeimlad o fanc sy’n perthyn i Gymru gyfan, nid dim ond i'r gogledd a'r de, ond hefyd ar gyfer strydoedd mawr ym mhob cwr o’r genedl?

Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymgodymu ar hyn o bryd â banciau stryd fawr sy'n ystyried cau canghennau ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi. Ond mae’n rhaid i ni hefyd ystyried y ffaith bod mwy o weithgarwch yn cael ei wneud ar-lein. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i Cyllid Cymru adrodd ar sut y bydd yn gwella'r porth digidol a gwasanaethau digidol wrth iddo esblygu yn fanc datblygu i Gymru. Yn fy marn i, mae’n gwbl hanfodol bod y banc datblygu i Gymru yn cael ei ystyried yn gyfleuster ac yn sefydliad a fydd yn gallu cefnogi pob cymuned yn y gogledd, y de, y dwyrain, y gorllewin, a’r canolbarth, a’i fod yn berthnasol i weithrediadau pob busnes.

Unwaith eto, bydd y llythyr cylch gwaith yn cynnwys y gofyniad i brofi ymhle y mae’n buddsoddi a byddwn yn disgwyl, drwy ddangos ymhle y mae’r buddsoddiadau hynny yn cael eu gwneud, y byddwn yn gallu gweld pa mor berthnasol ydyw i bob rhan o'r wlad. Os bydd bylchau yn ymddangos, yna byddem yn disgwyl i fanc datblygu Cymru fynd i'r afael â hwy.

6. 5. Datganiad: Strategaeth Tlodi Plant Cymru—Adroddiad Cynnydd 2016

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y strategaeth tlodi plant ar gyfer Cymru ac adroddiad cynnydd ar gyfer 2016. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y bore yma, gosodais gopi o adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant gerbron y Cynulliad. Mae hwn yn ofyniad statudol o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Rwy'n falch o adrodd ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni ein hamcanion tlodi plant mewn nifer o feysydd. Mae cyflogaeth yng Nghymru yn agos at y nifer uchaf erioed ac mae nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi heb waith ar ei lefel isaf erioed. Rydym wedi lleihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt, gan ragori ar ein targed ar gyfer disgyblion sy'n cyflawni'r lefel ddisgwyliedig yn y cyfnod sylfaen.

Nododd ein strategaeth tlodi plant 2015 bum maes lle gallwn wneud mwy i fynd i'r afael â thlodi plant. Gwnaed cynnydd yn y meysydd hyn drwy weithio ar y cyd a rhywfaint o feddwl arloesol, gan arwain at bartneriaethau pwysig megis y gynghrair tlodi bwyd a'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod angen inni wneud mwy. Mae anweithgarwch economaidd yn dal yn uchel yng Nghymru ac yn 2015 roedd bron 72,000 o blant yn dal yn byw mewn cartrefi heb waith. Mae'r rhain yn blant sydd mewn perygl arbennig o fyw mewn tlodi parhaus ac sy'n fwy tebygol o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae tlodi mewn gwaith yn broblem sy'n cynyddu ac rydym bellach mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae gennym fwy o aelwydydd mewn tlodi lle mae rhywun yn gweithio nag sydd ddim. Nid yw ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant mewn amheuaeth. Mae cyflawni ar ein huchelgais i ddileu tlodi plant, fel y'i diffinnir gan y mesur incwm cymharol, erbyn 2020, yn dibynnu'n helaeth iawn ar benderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth y DU. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles yn chwarae rhan bwysig yn y cynnydd a ragwelir mewn tlodi ac mae hyn, ochr yn ochr â newidiadau yn y farchnad lafur, yn golygu nad ydym yn gallu cyflawni'r targed hwn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal y polisi sylfaenol a’r dulliau ariannol, yn enwedig o ran y diwygio lles yr ydym yn sôn amdano, sydd eu hangen er mwyn ein galluogi i gyflawni'r newidiadau sylweddol mewn incwm cymharol y byddai eu hangen cyn 2020. Ni allwn aros tan hynny i gael y drafodaeth hon. Mae amcanestyniadau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn dangos y bydd tlodi plant cymharol yn y DU yn codi'n sylweddol wrth i 2020 agosáu, yn rhannol o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU. Bydd safonau byw dros y blynyddoedd nesaf hefyd yn cael eu taro gan gyfuniad o brisiau uwch ac enillion is. Rhagwelir y bydd enillion real ar gyfartaledd yn dal i fod yn is na'u lefelau 2008 yn 2021. Mae hyn yn golygu mwy na degawd heb dwf enillion gwirioneddol. Nid yw cyfnod fel hwn wedi cael ei weld yn ystod y 70 mlynedd diwethaf.

Lywydd, dim ond trwy ffyrdd newydd o weithio y gellir mynd i'r afael â’r problemau sy'n ein hwynebu. O fewn cyd-destun o adnoddau wedi’u hymestyn a chyllidebau yn lleihau, mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion lle y gallwn gael yr effaith fwyaf gyda’r dulliau sydd ar gael gennym eisoes. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn amlinellu sut y byddwn yn sicrhau newid a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru; sut y byddwn yn creu mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach; sut y byddwn yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; a sut y byddwn yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Mae cynyddu lles a ffyniant economaidd yn sylfaenol i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi. Bydd yr ymrwymiadau allweddol a amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu yn helpu i yrru'r agenda trechu tlodi dros dymor y Llywodraeth hon, gan ddarparu cyfeiriad ar gyfer ein gwaith, a fydd yn cefnogi plant difreintiedig i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Bydd ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn parhau i ddarparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yma yng Nghymru. Fel yr ydych yn ymwybodol, mae hyn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus penodol i osod amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym hefyd y cyfle i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gefnogi dull Cymru gyfan, cenedlaethol o drechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau, a hyrwyddo i'r eithaf ein heffaith ar y cyd mewn cyfnod ansicr gan ddefnyddio’r dulliau sydd gennym eisoes. O dan Ddeddf 2015, bydd set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol i Gymru yn mesur cynnydd cenedlaethol tuag at gyflawni'r saith nod lles. Mae nifer o'r rhain yr un fath â'r dangosyddion poblogaeth sy’n cael eu defnyddio i asesu cynnydd wrth gyflawni amcanion y strategaeth tlodi plant 2015, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, cyflogaeth, canlyniadau iechyd a sgiliau.

Bydd cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant ar lefel Cymru yn cael ei asesu gan ddefnyddio'r dangosyddion cenedlaethol sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) y gall Llywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf arnynt. Lywydd, byddwn yn adrodd ar y dangosyddion cenedlaethol drwy’r adroddiad lles blynyddol i Gymru. Yn 2019, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad strategaeth nesaf ar i ba raddau y mae'r amcanion yn ein strategaeth tlodi plant wedi cael eu cyflawni, fel sy'n ofynnol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru).

Rydym wedi dweud o'r blaen: ni allwn drechu tlodi ar ein pennau ein hunain. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y gallwn obeithio cyflawni lefel a chyflymder y newid sydd ei angen i leihau tlodi plant yng Nghymru. Ym mis Tachwedd, nodwyd yr amcanion lles a fydd yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd ac yn canolbwyntio’n glir ar drechu tlodi. Yn benodol, mae amcan 1 yn anelu at greu amodau i roi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Credaf yn gryf mai nawr yw’r amser ar gyfer dull newydd, Llywodraeth gyfan o adeiladu cymunedau cydnerth i'n helpu ni i gyflawni'r agenda hon. Bydd hyn yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso—cyflawni cymunedau a all gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant; cymunedau sy'n barod ac yn gallu gweithio; a chymunedau sy'n cael eu grymuso a’u hymgysylltu, yn ogystal â bod yn ddiogel ac yn gryf.

Rwyf hefyd wedi gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu parthau plant i helpu i wella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghymru. Lywydd, mae angen i ni gefnogi teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf ac arfogi gwasanaethau i ymateb i heriau ein cyfnod modern. Ein huchelgais yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam yn eu bywydau, yn awr ac ar gyfer y tymor hwy. Diolch.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli bod yn rhaid i chi wneud y datganiad hwn, oherwydd ei fod yn ofyniad statudol, ond nid oes llawer yn yr hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw nad ydym wedi’i glywed eisoes mewn datganiadau eraill. Er fy mod yn sylweddoli eich bod yn rhoi’r mesurau hynny ar waith, rwy’n credu, weithiau, fod angen i ni, o bosibl, ystyried, os ydych yn dod â datganiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, sut y gallwn ychwanegu gwerth at y trafodaethau sydd gennym, yma heddiw fel Cynulliad, oherwydd r ydym yn awyddus i fod mor effeithiol ag y gallwn.

Mae'r ffigurau a ryddhawyd y bore yma mewn cysylltiad â thlodi plant yn dangos gostyngiad i'w groesawu mewn tlodi plant o 31 y cant i 29 y cant. Ond mae hyn yn dal i fod yn uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon gyda'i gilydd. O ystyried bod eich datganiad hefyd yn crybwyll bod cyflogau yn aros yn eu hunfan, a allai, ynddo'i hun, ddod â rhagor o deuluoedd yn uwch na 60 y cant o'r incwm canolrifol, a ddylem fod yn ystyried y gostyngiad hwn o 2 y cant fel tystiolaeth o gynnydd sylweddol neu yn syml yn gyfuniad o hynodrwydd ystadegol?

Yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth dlodi plant, wrth gwrs, yw plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae'r rhieni, neu riant, neu warcheidwad yn dlawd. O ystyried bod y ffigurau hefyd yn dangos bod cyfraddau tlodi yn gyffredinol wedi aros yr un peth, ac mae llawer o aelwydydd heb blant yn dymuno bod yn aelwydydd â phlant yn y dyfodol, a fyddech yn derbyn, heb ymdrech ehangach i fynd i'r afael â thlodi fel y cyfryw, na ellir byth dileu tlodi plant?

Nid yw’r ffigurau hyn heddiw, wrth gwrs, yn mesur gwariant ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd pan mae chwyddiant yn codi pris hanfodion. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol ac, unwaith eto, mae’n pwysleisio'r angen am fwy o gynhwysiant ariannol ac addysg yn ein hysgolion. Ni allaf oramcangyfrif y pwyslais y mae angen i ni ei roi ar hyn fel bod gan bobl y sgiliau bywyd hynny pan fyddant yn gadael yr ysgol. Felly, sut ydych chi yn awr yn gweithio gyda'r Ysgrifennydd Addysg i gryfhau addysg ariannol fel y gall teuluoedd fod yn fwy grymus? Rydyn ni wedi gweld o gynlluniau fel ailgylchu ac ati fod plant yn dod â’r sgiliau hynny a ddysgwyd ganddynt yn ôl at eu rhieni. Os ydym yn cynnig mwy o addysg ariannol i blant o oedran iau, gallai plant iau ddefnyddio’r sgiliau hynny.

Y llynedd, cyhoeddodd cyn-bwyllgor cymunedau'r Cynulliad diwethaf adroddiad hynod feirniadol ar eich strategaeth. Un mater a godwyd oedd bod llawer o'r gwasanaethau cynghori, mewn gwirionedd, yn rhai generig iawn—nid oedd unrhyw fuddsoddiad mewn gwasanaethau i bobl ag anghenion penodol, fel anabledd. Pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud ers yr adroddiad i ystyried y canfyddiadau penodol hyn?

Hoffwn hefyd wybod pa newidiadau eraill y byddwch yn eu gwneud o ran yr adroddiad hwnnw, oherwydd gwn fod y pwyllgor cydraddoldeb newydd, dan arweiniad John Griffiths, yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar dlodi yng Nghymru, er gwaethaf edrych ar sut y byddwch yn newid Cymunedau yn Gyntaf, o bosibl, os ydych yn bwriadu gwneud hynny. Felly, byddwn yn eich annog i edrych yn ôl ar yr adroddiad etifeddiaeth i weld sut y gallwch wneud newidiadau cyn i ni roi hyd yn oed fwy o argymhellion i chi i geisio eu gweithredu.

Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud â pharthau plant. Rydych yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar y rhain yn eich datganiad, ond pan rydych wedi dod atom ni, fel pwyllgor, rydych chi wedi dweud mai dim ond cysyniad ydynt. Rwyf am geisio deall, os mai cysyniad ydyw, sut y bydd y cysyniad mewn gwirionedd yn newid sut mae pethau yn mynd i weithio. Oherwydd os nad oes arian yn mynd i’w ddilyn, mae'n mynd i gymryd cryn dipyn o waith i rai o'r sefydliadau hynny , o bosibl, wedyn, i newid y ffordd y maent yn gwneud pethau.

Hoffwn hefyd ofyn a allem gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad sy’n ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn cysylltu â mi o ran ceisio deall sut y gallant mewn gwirionedd gael mewnbwn. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well yn gyffredinol fel gwleidyddion yw ceisio cael pobl i gymryd rhan yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Sut ydych chi'n mynd i estyn allan at gymunedau a gofyn iddynt, os ydych yn bwriadu ei newid, sut beth fydd y newid hwnnw a sut y gallant fod yn rhan o'r ateb ar gyfer newid, yn hytrach na’u bod yn teimlo bod pethau bob amser yn digwydd o'r brig i lawr ac y dywedir wrthynt sut mae’r newidiadau hynny’n mynd i ddigwydd?

Rydym yn gwybod o Brexit ac o drafodaethau eraill a gafwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl eisiau bod yn rhan o'r newidiadau hyn, neu ni fydd dim byd yn newid yn y pen draw. Rydym wedi siarad ers i mi gael fy ethol yn 2007 am dlodi plant ac am y ffaith—. Rydym yn clywed dro ar ôl tro nad yw’r holl ddulliau gennym ni, ond mae'n rhaid i ni ddefnyddio’r dulliau sydd gennym yn llawer, llawer gwell. Onid ydym eisiau gweld ein hetifeddiaeth yn cynnig atebion ac nid yn llusgo dro ar ôl tro y tu ôl i wledydd eraill yng nghyd-destun tlodi plant?

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n gobeithio ei bod hi wedi cael blas o’r cyfraniad a wneuthum yn y datganiad ei bod yn amser am newid—mae'n golygu sefyll i fyny a dweud nad yw’r hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio cystal ag y gallai. Mae angen i ni newid y rhaglenni yr ydym yn cynnig eu cyflawni.

Rwy’n credu bod yr Aelod wedi codi'r mater ynghylch y gostyngiad canran o 2 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Credaf fod hynny yn ôl pob tebyg yn hynodrwydd ystadegol—nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn sy'n digwydd. Rydym wedi gweld dros gyfnod o 15 mlynedd bod yr ystadegau tlodi plant wedi bod yn gyson agos i’r gwaelod. Mae'n ddangosydd ystyfnig iawn i’w symud, a dyna pam yr wyf o’r farn bod yn rhaid i’r Llywodraeth gyfan ailystyried ein hymyriadau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn addas iawn ar gyfer hynny. Erbyn hyn nid yw’n ymwneud yn unig â chyfrifoldeb y Llywodraeth am dlodi, ond mae’n ymwneud â'r 44 o gyrff cyhoeddus sy’n bodoli yn cymryd rhan hefyd ac yn ystyried yr hyn yr ydym ni’n ei wneud dros ein pobl ifanc a’n cymunedau, a’r cydnerthedd sy’n bodoli.

Cododd yr Aelod y mater penodol am Gymunedau yn Gyntaf. Mae hi'n gywir i ddweud nad wyf wedi gwneud penderfyniad eto, ond mae’r cyfranogiad sy'n rhan o egwyddor y Ddeddf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol —rydym wedi cael dros 1,500 o ymatebion yn barod o ran hynny, ac rwy’n credu bod honno’n ffordd effeithiol iawn o sicrhau bod fy nhîm i’n galluogi mynediad yn ddigidol i gymunedau ac unigolion ond hefyd yn cynnal sgyrsiau â chlystyrau. Rydym wedi bod allan yno yn siarad—yn wir, rwy’n credu bod John Griffiths wedi cynnal digwyddiad yr oedd fy swyddogion yn bresennol ynddo ddydd Gwener diwethaf, ac fe gawsant drafodaeth gadarnhaol iawn am sut y bydd neu na fydd y dyfodol yn edrych o bosib.

O ran meysydd eraill y soniodd yr Aelod amdanynt, rwy’n cytuno â'r Aelod—mae'n sôn am gynhwysiant ariannol, a byddwn yn lansio strategaeth cynhwysiant ariannol ddrafft yr wythnos hon, yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus iawn i gael trafodaeth bellach arni. Ond egwyddor ehangach o'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw galluogi pobl ifanc a theuluoedd—mae'n ymwneud â rhoi cydnerthedd i deuluoedd iddynt allu helpu eu hunain hefyd.

O ran y mater ynghylch parthau plant yng nghwestiwn yr Aelod—ac, unwaith eto, mae un o'i chydweithwyr bob amser yn gofyn cwestiwn tebyg iawn ynghylch parthau plant—rwyf eisoes wedi dechrau gweithio gyda nifer o sefydliadau. Rydym wedi gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb am sut y gallai hyn edrych yn eu cymunedau, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yno—felly, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, gweithwyr cymdeithasol, awdurdodau lleol, cyrff ymyrryd y Llywodraeth—a lapio’r gwasanaethau hynny o amgylch uned deuluol. Ac nid yw'n gysyniad newydd; cafodd ei dreialu mewn gwledydd eraill, ac rydym yn credu y gallwn wneud hyn. Ond ni allaf addo, ac mae’r Aelod yn realydd—y ffaith yw, nid yw hyn yn golygu arian ychwanegol, ond yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud gyda’r hyn sydd gennym, mae'n rhaid i ni gael gwell gwasanaethau, ac mae’r cysyniad o barthau plant yn un o'r pethau hynny. A chefais gyfarfod â Chymru Well Wales yr wythnos diwethaf, sydd yn un o nifer o sefydliadau, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, sy'n dod at ei gilydd i edrych ar gyflwyno parthau ACE a pharthau plant, a sut y maent yn cyfuno a sut y maent yn gweithredu. Felly, mae gen i bartneriaid allanol sy'n edrych ar sut maent yn darparu’r polisïau hyn.

Fel y dywed Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, mae ffigurau swyddogol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod 29 y cant o'r holl blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i 200,000 o blant. Roedd y Rhwydwaith yn dweud bod hyn yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn fwy na’r gwledydd datganoledig eraill. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru, yn gyntaf i ddarparu arweiniad clir a chryf ar fynd i'r afael â thlodi plant i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cyrraedd ei botensial llawn, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus yng Nghymru a phob sector, gan gynnwys cyflogwyr; yr alwad i sefydlu monitor, cynllun darparu tlodi plant penodol sy’n cynnwys, ac rwy’n dyfynnu,

cerrig milltir a thargedau uchelgeisiol ... sy'n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau gyda thystiolaeth;

a’r drydedd alwad, i sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod mesurau atebolrwydd clir ar waith.

Mae eich datganiad yn cyfeirio at gynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yn cael ei asesu gan y dangosyddion cenedlaethol sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac rydych yn cyfeirio at gyhoeddi cyfres o amcanion lles ym mis Tachwedd, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd a chael pwyslais clir ar drechu tlodi. Sut, felly, fyddwch chi’n sicrhau bod diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i wneud i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda'i gilydd, gan gymryd, ac rwy’n dyfynnu, 'dull cydgysylltiedig', a ddisgrifiwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei hadroddiad cyntaf fel 'cyd-gynhyrchiad', mewn gwirionedd yn mynd yn ei flaen ar lawr gwlad? Dydw i ddim eisiau dechrau hollti blew am dermau; mae'n derm rhyngwladol a gefnogir gan gannoedd o sefydliadau bellach ledled Cymru. Mae'n ymwneud yn fwy â sut mae’r dull cydgysylltiedig hwnnw ar lefel y stryd yn digwydd mewn gwirionedd, gan droi'r grym wyneb i waered, dylunio’r system tuag yn ôl, gan sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud gyda’r bobl, yn hytrach nag iddynt neu ar eu cyfer.

Rydych yn dweud ei bod yn amser am ddull Llywodraeth gyfan newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwyf i’n credu hynny yn amlwg hyd heddiw ac yn flaenorol yng nghyd-destun eich safbwyntiau am y dyfodol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Ar y pryd, gofynnais i chi a fyddech yn gallu ymateb i'r alwad gan Oxfam Cymru i Lywodraeth Cymru ymgorffori ei dull o weithredu bywoliaethau cynaliadwy wrth ddarparu pob polisi a gwasanaeth, gan fod hwnnw wedi ei anelu at helpu pobl i dorri’n rhydd o dlodi. Roedd hynny’n seiliedig ar eu rhaglen tair blynedd Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru, a helpodd dros 1,100 o bobl ac a gafodd ganlyniadau clodwiw a mesuradwy iawn. Rwy’n gobeithio, erbyn hyn, eich bod wedi cael cyfle i edrych ar hynny ac y gallech ymateb gyda’ch sylwadau ar eu galwad a’r model hwnnw fel rhywbeth y gellid ei ddatblygu.

Rydych chi yn amlwg, ac yn briodol, wedi cyfeirio at yr angen i liniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ac wrth gwrs rydych wedi penodi fy nghydweithiwr, David Melding i gadeirio gweithgor sy’n edrych ar y maes hwn. Ond beth yw eich disgwyliadau chi o ran sut y bydd yr hyn yr ydych yn ei wneud yn y maes hwn yn newid pethau? Ac, yn benodol, o ran un demograffig, sut y bydd hyn yn ail-lunio naratif y plant mewn gofal a gofal maeth?

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, mae’r elusennau Cynhalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei bwriad i wneud toriadau ariannol o £5.5 miliwn, sy'n darparu grantiau hanfodol i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant difrifol wael neu anabl yng Nghymru. Maen nhw’n dweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad heb ystyried yr effaith y byddai hynny’n ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl neu, byddwn yn ychwanegu, y costau ychwanegol llawer mwy y byddai hyn yn ei olygu i’r sectorau statudol, yn enwedig iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol neu blant.

Rydych yn cyfeirio at bron 72,000 o blant yn byw mewn cartrefi heb waith. Mae hynny'n agos at ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, a oedd yn dweud bod un o bob wyth o blant Cymru yn byw mewn cartref heb waith tymor hir—yn uwch na chyfartaledd y DU. Diffinnir y rhain yn gartrefi lle mae pob oedolyn wedi bod allan o waith am fwy na blwyddyn neu ddim erioed wedi bod mewn gwaith cyflogedig. O ystyried y gwaith ymchwil sy’n dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith yn y tymor hir yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod mewn mwy o berygl o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet, yn enwedig eich cydweithiwr Democratiaid Rhyddfrydol yn hyn o beth, gan gydnabod hynny a'r cydgysylltiad a’r rhyngberthynas â’ch agenda?

Mae'r gyfres olaf o gwestiynau sydd gennyf yn ymwneud â'r comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant a'i adroddiad ar gyflwr y genedl 2015 sy'n ymwneud â Chymru. Dywedodd y comisiwn, er bod tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r un cyfeiriad â'r DU yn ei chyfanrwydd,

“mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd gweithio tlawd”.

Maent yn dweud bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel yn parhau i fod yn annerbyniol o isel ac yn sylweddol is na rhannau eraill o'r DU. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd ffigurau diweddar, ond yn syml maent yn atgyfnerthu’r pryderon hynny. Dywedodd y comisiwn

“mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig”.

Felly sut ydych chi’n ymateb, yn eich ystyriaeth ehangach am y dyfodol, am adeiladu cymunedau cydnerth, i’w canfyddiadau fod mwy na 65,000 o blant y mae eu teuluoedd yn derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yng Nghymru nad ydynt yn byw mewn ardaloedd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac, mewn gwirionedd, mae mwy na 25,000 o blant mewn teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yn byw yn y 40 y cant uchaf o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, ond yn dal ddim mewn ardaloedd sy'n elwa ar Gymunedau yn Gyntaf; ac at eu hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gymryd ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth fwy trylwyr at leihau tlodi gydag adolygiad er mwyn sicrhau bod eglurder ynghylch pa broblem y mae’r polisïau yn ceisio mynd i'r afael â nhw, yr hyn y maent wedi ei gyflawni a sut y byddant yn ei gyflawni; ac i’w galwad ar Lywodraeth Cymru i wella ansawdd y gweithlu mewn ysgolion, gan argymell gwneud addysgu yn fwy deniadol i athrawon o ansawdd da ac annog myfyrwyr i ddod yn athrawon yng Nghymru; a’u galwad ar Lywodraeth Cymru, yn olaf, i wella busnes yn ei hymgyrch i leihau tlodi plant a chynyddu symudedd cymdeithasol, gan weithio gyda chwmnïau a datblygu compact busnes i hyrwyddo mynediad tecach at gyflogaeth o ansawdd uchel? Rwy'n siarad am addysg a chyflogaeth, ond mae hyn yng nghyd-destun tlodi plant a sut yr ydym yn mynd i'r afael, nid yn unig â’r achosion sylfaenol yn eu bywydau ifanc nhw, ond hefyd y ffactorau cyfrannol economaidd-gymdeithasol ehangach. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau niferus. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddynt. Nid oes llawer y gwnaeth yr Aelod ei gyfrannu nad wyf yn cytuno ag ef arnynt. Mae llawer o bethau yno y mae ein safbwyntiau yn gyson arnynt, ar wahân i'r term 'cyd-gynhyrchiad', ond byddwn fwy na thebyg bob amser yn cael y drafodaeth honno o ran sut y mae hynny wedi gweithio. Ond mae egwyddor yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn hollol gywir: mae’n ymwneud â gwneud pethau gyda phobl yn hytrach na gwneud pethau iddyn nhw. Dywedais wrth Bethan Jenkins yn gynharach na allwn, fel Llywodraeth, drwsio tlodi; rhaid cael ymateb ar y cyd i weithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau ein bod yn adeiladu cydnerthedd cyfan o gwmpas hynny.

Mae llawer o bethau sy'n cael effaith ar dlodi a chododd yr Aelod y materion am swyddi, sgiliau a thwf. Rwy'n gweithio gyda fy nghyd-aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ken Skates, sydd yr aelod arweiniol ar dlodi, ond mae gennym i gyd ddyletswydd a chyfrifoldeb i ymdrin â'r materion hyn. Roedd y ddwy thema a grybwyllais yn gynharach yn ymwneud ag adfywio economaidd, rhoi swyddi, sgiliau a hyder i bobl i allu mynd i mewn i'r gweithle neu’r farchnad wirfoddoli, ac mae'r llall yn ymwneud â lles a dilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a chanolbwyntio’n benodol iawn ar fynd i'r afael â mater ACEs. Rwy'n ddiolchgar iawn bod David Melding yn cadeirio'r grŵp cynghori plant sy’n derbyn gofal ar fy rhan. Mae'n ffaith y byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu maethu neu sy'n byw mewn amgylchedd gofal, y byddech yn gallu pentyrru’r ACEs y mae’r bobl ifanc hynny wedi eu datblygu. Gwyddom os ydych yn cael pedwar neu fwy o ACEs, y bydd yn cael effaith enfawr ar eich bywyd yn y tymor hir. Nid yw'n fater unwaith ac am byth. Gellir eich trwsio a gallwch gael cefnogaeth i symud i le gwahanol. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod ein holl raglenni yn edrych ar bobl a'u hangen, a dyna pam, yn rhannol, fy mod wedi dechrau’r adolygiad o Gymunedau yn Gyntaf.

Roedd y rhaglen yn seiliedig ar ardaloedd lleol iawn. Nid wyf yn derbyn ein bod wedi cael hyn yn anghywir, oherwydd mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud rhywfaint o waith gwych ar draws llawer o etholaethau ar hyd a lled Cymru, yn dilyn egwyddorion mynegai amddifadedd lluosog Cymru o ran sut y cafodd hynny ei asesu. Ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod hefyd yw bod ardaloedd o amddifadedd y tu allan i'r ardaloedd hynny, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn ni ystwytho rhaglenni fel Teuluoedd yn Gyntaf, fel Dechrau'n Deg, fel Cymunedau yn Gyntaf—sut bynnag y byddant yn edrych yn y flwyddyn newydd—i wneud yn siŵr y gallwn ymgysylltu’n llawn â phobl sydd mewn angen fel y gallwn eu cefnogi.

O ran y pwynt ar ymgysylltiad ac atebolrwydd, rwy’n disgwyl bod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a chynlluniau lles fudd yn hyn er mwyn deall eu cymunedau yn well, deall lle mae lefelau o amddifadedd a'r hyn yr ydym yn ei wneud am hynny gyda'n gilydd. Nid yw'n fater o weld bai; mae'n ymwneud â chyfrifoldeb a gwneud yn siŵr bod gan bawb ohonom ran yn y gwaith o reoli lles ein cymunedau. Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—gwn y gall ein barn wahaniaethu yma. Mae'r Aelod yn defnyddio llawer iawn ar y Ddeddf hon, ac mae Aelodau ar feinciau Plaid sy'n defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel ffon i geisio curo’r Llywodraeth â hi. Mewn gwirionedd, os ydym yn defnyddio egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori’n iawn yn y Ddeddf, gallwn gael newid mawr mewn demograffeg gymdeithasol yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gallai'r DU ei ddilyn hefyd. Rwy'n credu bod gennym gyfle enfawr a fyddai'n cael ei wastraffu os na fyddwn yn cael hyn yn iawn. Rwy'n siŵr y bydd gan y comisiynydd a'r archwilydd cyffredinol rywbeth i'w ddweud wrth i ni ddatblygu’r broses hon, ond rwy’n croesawu cyfraniad yr Aelod.

Mae'r rhaglen bywoliaethau cynaliadwy yn un yr wyf wedi'i nodi. Dydw i ddim yn dweud fy mod i wedi diystyru’r rhaglen; yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod gennym lawer o raglenni sy'n cael effaith fawr, ac mae'n rhaid i mi edrych ar yr effaith fwyaf posibl. Bydd yn rhywbeth y byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach iddo wrth i mi symud ymlaen a deall yr hyn yr ydym yn ei ddatblygu o ran gofod Cymunedau yn Gyntaf, a sut fydd hynny’n edrych yn y dyfodol.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n braf nodi bod cynnydd wedi'i wneud o ran lleihau tlodi plant. Fodd bynnag, mae gennym ffordd hir ofnadwy i fynd os ydym i gyflawni’r nod yr ydym i gyd yn ei rannu o ddileu tlodi plant unwaith ac am byth. Sylwaf o'ch datganiad heddiw na fyddwch yn gallu cyrraedd eich targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac i raddau yr ydych wedi beio diwygio lles Llywodraeth y DU. Ydy hyn yn golygu eich bod wedi rhoi'r gorau i'r targed yn gyfan gwbl? Roedd yr adroddiad blynyddol ar gyflwr y genedl gan Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael yr effaith gywir. Felly, a ydych yn cymryd rhywfaint o'r bai yma efallai am beidio â chydnabod hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac efallai newid rhywbeth i ddileu'r tlodi yn gynt yng Nghymru nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd?

Nodwn hefyd fod gan bobl mewn ardaloedd llai cefnog ddisgwyliad oes is. Felly, mae hyn yn golygu anghydraddoldeb i bawb. Mae gan fy rhanbarth i, yn benodol, rai o'r lefelau uchaf o dlodi plant yn y DU—rhwng 26 a 28 y cant; mae'n amrywio ar draws y rhanbarth—ac er bod y lefelau yn gostwng, nid ydym yn gwneud cynnydd yn ddigon cyflym. Yn amlwg, gyda thlodi plant daw anghydraddoldeb mewn cymaint o ffyrdd—mewn addysg, llai o fynd ar drywydd gweithgareddau hamdden oherwydd cyllid is, gan arafu, felly, dwf emosiynol a lles y plentyn. Nid yw deiet gwael chwaith yn galluogi esgyrn plant, er enghraifft, i ddatblygu mor effeithiol â phobl sydd ar ddeiet da. Felly, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno mai nawr yw’r amser i gael strategaeth tlodi plant ddiwygiedig sydd â thrywydd ac amserlen glir ar gyfer dileu, neu geisio dileu tlodi, mewn rhanbarthau fel fy un i a ledled Cymru yn gyfan gwbl ? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Ni ddylem fod yn swil wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Yn y 1980au, roedd Cymru yn agored i lefelau uchel iawn o ddiweithdra, o’r glowyr i’r gweithwyr dur, lle’r oedd cymunedau'n cael eu difrodi a’u dileu yn llwyr yn nhermau cyflogaeth. Mae hynny wedi cael effaith enfawr ar les cymunedau yn y dyfodol. Gyda thlodi, ni allwch droi'r golau ymlaen a’i ddiffodd; mae hwn yn llwybr tymor hir, a dyna pam fy mod yn dweud, dros y 15 mlynedd diwethaf, ein bod wedi bod yn gyson agos i’r gwaelod yma, a phan rydym wedi ceisio gwneud ymyriadau, rwy’n credu ein bod wedi atal cymunedau rhag mynd yn dlotach. Yr hyn sydd angen ei wneud yn awr adeiladu’r cymunedau hynny er mwyn iddynt dyfu’n gryfach.

Dydw i ddim yn swil wrth ddweud fy mod o’r farn bod yr hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yn ddewr iawn. Rydym yn symud i ofod newydd o ran cyfle. Mae rhywfaint o risg yno, ond rwy’n meddwl bod eich cydweithwyr ar y meinciau wedi dweud yn gynharach ei bod yn risg wedi’i mesur a sut mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn sydd angen ei wneud yn y dyfodol. Dyna pam mae'n rhaid ystyried rhai o ymyriadau’r rhaglen gyda'i gilydd, oherwydd ni fyddwn byth yn newid y cymunedau hyn. Gallwn baentio cymunedau—eu paentio mewn lliw pert a gwneud i adeiladau edrych yn wych—ond yn y bobl y mae’r ffabrig ac mae'n rhaid i ni helpu'r bobl yn y cymunedau hynny. Dyna pam mae mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hanfodol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â chefnogi unigolion.

Roedd ffigur 2020 yn uchelgais ac roedd yn uchelgeisiol, ond ni ddylem fod yn brin o uchelgais yn y Llywodraeth. Yn fy marn i, nid ydym yn cael gwared ar hynny nawr; byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd yno. Ond dyma realiti’r sefyllfa, a dyna pam mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn addas iawn ar gyfer mesur llwyddiant dull hirdymor o newidiadau yn y modd y mae Cymru'n gweithredu a phobl Cymru yn ymateb i'r newid hwnnw. Felly, mae gennym broses fesur i edrych arni. Rwy’n credu bod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i fynd i'r afael â materion tlodi fel Llywodraeth, fel cenedl ar y cyd, gyda'n partneriaid cyhoeddus. Mae'n rhywbeth yr wyf yn credu, ar y cyd—. Nid wyf yn credu bod neb yn y Siambr hon nad yw'n dymuno gweld dileu tlodi plant. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn wneud hynny.

Mae mwyafrif y plant sydd mewn tlodi yn byw mewn cartrefi lle mae un neu'r ddau riant yn gweithio. Nid cyflog isel yn unig yw’r rheswm dros hyn, ond hefyd arferion gweithio yr oedd rhai ohonom yn credu a ddiflannodd gyda diwedd yr ail ryfel byd. Rydym wedi gweld twf, nid yn unig mewn contractau dim oriau a chontractau oriau gwarantedig isel, ond hefyd twf enfawr mewn gweithwyr asiantaeth a chontractwyr hunangyflogedig. Er bod rhannau o'r economi’n bodoli lle mae pob un o'r rhain yn addas i’r cyflogwyr ac i’r gweithwyr—contractau dim oriau ar gyfer pethau fel digwyddiadau chwaraeon nad ydynt yn rhai rheolaidd, gweithwyr asiantaeth i lenwi bwlch sgiliau, isgontractwyr hunangyflogedig ar gyfer anghenion tymor byr, ac oriau gwarantedig isel i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu—yn anffodus, nid y rheini yw'r unig resymau dros ddefnyddio’r mathau uchod o gontractau.

Nid yw contractau dim oriau yn cynnig unrhyw leiafswm oriau gwarantedig o waith; gall fod yn ofynnol i weithiwr fod ar gael i weithio ar bob adeg a rhoi rheolaeth lwyr i’r cyflogwr dros faint o waith a gaiff pob gweithiwr bob wythnos. Mae oriau gwarantedig isel, megis un awr y dydd dros wythnos o bump neu chwe diwrnod, yn debyg i gontractau dim oriau, ond maent yn sicrhau bod pawb yn clocio i mewn bob dydd, fel y gall y cyflogwr wedyn benderfynu pa mor hir y bydd eu hangen i weithio. Mae gan weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig yr hyn sy'n cyfateb i gontractau dim oriau heb hyd yn oed ddiogelwch cyflogaeth lleiaf. Mae’r uchod i gyd yn esbonio pam mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru hefyd mewn gwaith.

Nid plant yw'r prif enillwyr cyflog mewn unrhyw gartref. Mae plant yn byw mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni yn byw mewn tlodi. Yr unig ffordd o ymdrin â hyn yw cael y rhieni allan o dlodi. Yr hyn rwy'n gofyn i'r Gweinidog yw: beth sy'n cael ei wneud i sicrhau-a soniasoch yn gynharach wrth ateb Bethan Jenkins am 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru-beth sydd i sicrhau eu bod i gyd yn talu cyflog byw priodol? A beth sydd yno i wneud yn siŵr eu bod i gyd yn cyflogi pobl dan gontractau gweddus, nid un o'r pedwar i mi siarad amdanynt yn gynharach? A beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr isgontractwyr sy'n dod i mewn hefyd yn gweithio i’r telerau a’r amodau gweddus hynny? Y math o delerau ac amodau pan ymunais i â'r gweithlu ar ddiwedd y 1970au oedd y norm, sy'n ymddangos yn awr i fod yn annormal. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod punt Cymru yn cael ei defnyddio i gyflogi pobl dan gontractau gweddus, gyda thelerau ac amodau gweddus a chyflog teg?

Diolch i'r Aelod unwaith eto am ei gyfraniad da iawn o ran dealltwriaeth o’i waith yn y gymuned a chymunedau ar draws Cymru. Mae’r Aelod yn iawn fod yn rhaid i ni alluogi'r uned deuluol—rhieni—i allu sicrhau swyddi gweddus o ansawdd da. Rwy’n meddwl, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ein bod wedi gwneud yn siŵr bod hynny’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a dyna pam mae'n rhaid i'r 44 corff cyhoeddus ystyried hyn. Nid yw'n ddewisol bellach. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried hyn mewn ffordd bwyllog ochr yn ochr â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i weld pob un o'n partneriaid yn talu’r cyflog byw, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog cyllid yn gwrando’n ofalus iawn. Byddaf yn cael trafodaeth bellach gydag ef i weld beth sydd angen ei wneud i fynd ar drywydd hynny gyda rhywfaint o egni.

Un o'r unedau teuluol sy’n fwyaf agored i dlodi yw’r un sy’n cael ei harwain gan fenyw, ac mae menywod yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi am gyfnod hwy o amser a chael cyfnodau mwy rheolaidd o dlodi, sy’n amlwg yn effeithio ar blant mewn teuluoedd lle mae'r fam yn rhiant sengl. Felly, rwy’n credu bod gennych batrymau penodol o deuluoedd lle mae angen rhywfaint o help neu gefnogaeth ychwanegol. Cymeradwyaf Lywodraeth Cymru ar ei chynnig dewr o ran gofal plant, gan fy mod i o’r farn bod hon yn un o'r ffyrdd yr ydym mewn gwirionedd yn trechu tlodi, drwy roi cyfle i fenywod yn benodol, oherwydd maent yn dioddef yn anghymesur, cyfle i ymuno â’r gweithlu. Yn amlwg, pan fyddant yn ymuno â'r gweithlu, yna bydd yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r holl faterion y mae Mike Hedges wedi’u codi yn ei gyfraniad ef am gyflog byw a chontractau dim oriau. Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn bwrw ymlaen â’r cam hwn yn ymrwymiad gwirioneddol i ddileu tlodi plant, ac yn un o'r pethau mwyaf hanfodol y gallwn ei wneud. Felly, a yw'n disgwyl, pan fyddwn wedi gwneud y cynlluniau peilot a phan fyddwn mewn gwirionedd yn gweithredu'r polisi hwnnw, y bydd hyn yn helpu yn uniongyrchol i ymdrin â thlodi?

Roeddwn eisiau sôn eto am yr anghydraddoldebau enfawr daearyddol o ran lefelau tlodi. Edrychwch ar Gaerdydd, ein prifddinas. Mae gennym y lefelau isaf o dlodi plant, ac mae gennym y lefel uchaf o dlodi plant. Mae'n anodd iawn meddwl yn unffurf sut i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gan fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd un o'r lefelau isaf o dlodi plant, ac eto ceir ardaloedd lle’r wyf yn gwybod bod teuluoedd unigol a phlant unigol nad ydynt yn cyflawni eu potensial fel y byddem i gyd yn dymuno iddynt ei wneud. Yn fy marn i, un o’r heriau mawr yw sut o ddifrif y gallwn fynd i fanylder ymdrin â'r materion hynny ar lawr gwlad. Yn sicr mae ymrwymiad yma i roi terfyn ar dlodi plant. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni—. Mae’n rhaid i ni gofio ac ailadrodd nad yw’r holl ddulliau gennym. Yn ôl pob tebyg nid oes gennym y dulliau pwysicaf r mwyn dileu tlodi plant, ond rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda’r hyn sydd gennym. Fel y dywedais, rwy’n cymeradwyo'r cynnig gofal plant fel ffordd bwysig o wneud hynny.

Diolch i Julie Morgan am ei chyfraniad. Rwy'n meddwl bod yr addewid gofal plant y mae hi’n ei godi, fel y dywedais yn gynharach, yn un o’r addewidion gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn unrhyw le yn y DU, a’r nod yw dechrau ei gyflwyno yn yr hydref y flwyddyn nesaf. Rwy'n gweld yr addewid gofal plant fel rhywfaint o agenda gofal plant ychwanegol, mewn gwirionedd. Nid yn unig y bydd gennym sbardun economaidd sy’n rhoi’r cyfle i rieni i fynd allan i weithio a mwy o swyddi o ansawdd da, rwy’n gobeithio, ond bydd hefyd yn gyfle am ofal plant o ansawdd da. Felly, rydym yn cael ergyd ddwbl ar gyfer yr un polisi yr ydym wedi'i gyflawni. Ond mae'r Aelod yn iawn, er bod rhai ardaloedd mawr o amddifadedd mewn rhai mannau, yr ydym yn gwybod eu bod ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru, mae gennym deuluoedd neu strydoedd sydd y tu allan i'r ardaloedd cod post y mae ein rhaglenni wedi’u trefnu ar eu cyfer, ac nid ydym yn estyn allan atynt. Weithiau maen nhw hefyd mewn angen i’r un graddau, a dyna pam rwy'n gobeithio, yn achos rhaglenni’r dyfodol, y gallwn edrych ar anghenion penodol yr unigolion yn hytrach nag ar ardaloedd cod post. Yn wir, yn rhai o'r ardaloedd y gwyddom sydd â phroblemau amddifadedd, nid yw pawb sy'n byw yno ag angen cymorth ychwanegol arnynt chwaith. Felly, does dim ateb hawdd i hyn. Ond rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych yn ofalus iawn ar unigolion, ble bynnag y maent yn byw. Os yw unigolyn mewn angen, os yw teulu mewn angen, yna dylem edrych am ffordd o integreiddio dull lle gallwn fod yn gefn i’r teulu hwnnw a’i gofleidio i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cymorth iddo yn y dyfodol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac yn arbennig am eich pwyslais ar bartneriaeth, yr wyf yn gobeithio, wrth gwrs, sy’n cynnwys partneriaeth gyda’r dinasyddion eu hunain. Dim ond un neu ddau o gwestiynau—y cyntaf yw hwn: tybed a fu unrhyw symudiad ar fater yr wyf wedi’i godi o'r blaen, sef y gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn fy marn i fy hun, dylai hynny fod yn ddyletswydd yn hytrach nag yn opsiwn, ac rwy’n credu y bydd yn eich helpu chi o ddifrif yn yr hyn yr ydych yn gobeithio ei wneud, fel y nodir yn y datganiad a wnaethoch heddiw. Yn sicr, un o'r arfau cryfaf mewn arfogaeth yn erbyn tlodi yw eiriolaeth, yn enwedig hunan-eiriolaeth, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. A chredaf y byddai, gydag erthygl 12 mewn golwg, yn syniad da magu ein pobl ifanc gyda'r gallu i ddadlau eu hachos lle mae'n cyfri, yn hytrach na chyfyngu eu hunain i gyfryngau cymdeithasol mewn cymaint o achosion.

Soniasoch am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn eich datganiad, ond ni wnaethoch unrhyw gyfeiriad penodol at yr iaith Gymraeg, ac o gofio bod hon bellach yn cael ei phrif ffrydio, neu i fod i gael ei phrif ffrydio, drwy gydol polisi'r Llywodraeth, rwy’n credu y byddai wedi bod yn gyfle da i atgyfnerthu hynny. Yn realistig, mae rhai rhannau o'n cymdeithas sy'n dal i ystyried yr iaith Gymraeg fel rhywfaint o ychwanegyn, yn dipyn o niwsans, yn enwedig pan fydd ganddynt ystyriaethau cymdeithasol mawr i’w hystyried. Ond rwy'n credu, os ydym yn edrych ar godi rhagolygon economaidd pawb neu unrhyw un drwy wella eu sgiliau, yna rydym yn gwneud anghymwynas â’n plant tlotach os ydym yn caniatáu iddynt barhau i dderbyn y neges hen ffasiwn honno, yn hytrach nag edrych ar yr iaith Gymraeg fel ffordd o wella eu rhagolygon economaidd eu hunain, gyda sgiliau iaith Gymraeg ddim ond yn rhan o'r hyn a allai eu helpu, ynghyd â sgiliau eraill—yn amlwg, nid wyf yn dweud mai dyma’r ateb i bopeth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac ydy, mae hi wedi codi mater hawliau'r plentyn a chyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol. Byddaf yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth bellach i hynny eto, mewn gwirionedd. Rwyf wedi cael sgwrs gyda’r comisiynydd plant yn y gorffennol ynglŷn â hyn, a byddaf yn ymchwilio ymhellach i’r hyn y gall neu na all hynny ei olygu.

Rwy'n credu bod mater eiriolaeth yn un pwysig iawn am bobl yn ymgysylltu a'r gallu i wrando ar brofiadau gwirioneddol pobl. Bellach, rhan o’m hagenda bolisi yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael profiadau bywyd gwirioneddol yn dod yn ôl, yn rhoi adborth, i mewn i'r system. Felly, mae gennym bobl sydd yn eistedd ar y grŵp ymgynghorol trais yn y cartref—mae gennyf oroeswyr yno. Rwy'n edrych ar yr elfen plant sy’n derbyn gofal o hyn ac yn gwneud yn siŵr bod gennym blant sy'n derbyn gofal mewn gwirionedd ar y bwrdd cynghori hefyd. Rwy’n credu fy mod i wedi dweud wrth Aelodau yn y gorffennol na fyddem yn meddwl ddwywaith am ariannu comisiwn o £20,000, £30,000, i gorff allanol wneud adolygiad i ni ar fater penodol, ond nid ymddengys ein bod yn meddwl am gael rhywfaint o brofiad bywyd gwirioneddol i mewn yno a’u talu am eu profiadau a'u dwyn i’r rheng flaen. Felly, rwy’n rhoi ystyriaeth i hynny o ddifrif.

A gaf i ddweud bod y mater am yr iaith Gymraeg y mae’r Aelod yn ei godi yn un pwysig? Ac Alun Davies yw'r Gweinidog sy'n arwain ar hyn, ac nid yw'n gadael i mi anghofio hynny, nac unrhyw Weinidog eraill. Oherwydd absenoldeb y mater o’r datganiad, nid yw'n golygu nad ydym yn ystyried hyn, ond byddwn i hefyd yn dweud bod gan rai o'n cymunedau tlotaf, pobl sy'n byw mewn tlodi, lawer o heriau yn eu bywydau. Efallai bod y Gymraeg yn un o’r heriau hyn ond, mewn gwirionedd, pan edrychwn ar y rhai sy'n cael effaith enfawr yn y tymor hir o ran proffil ACE unigolyn, a gall yr iaith Gymraeg fod yn gefnogol yn y broses honno, ond mae'n rhaid i ni drwsio’r holl ddarnau hyn hefyd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater hwn, ond, os gwelwch yn dda, rwy’n ymddiheuro nad yw wedi’i gynnwys yn y datganiad, ond nid yw'n un sydd wedi ei anghofio chwaith.

A gaf i ymuno ag Aelodau eraill wrth groesawu'r datganiad hwn heddiw a'r pwyslais a ddaw yn ei sgil ar dlodi plant a lleihau tlodi plant? A gaf i ddechrau, Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ddiolch ichi am bresenoldeb eich staff mewn cyfarfod diweddar mewn canolfan gymunedol yn Nwyrain Casnewydd i drafod dyfodol Cymunedau yn Gyntaf a rhaglenni trechu tlodi, a oedd yn ddefnyddiol iawn? Dau fater a ddaeth i’r amlwg o’r digwyddiad hwnnw, rwy’n credu, oedd pwysigrwydd y ganolfan arbennig honno i rymuso'r gymuned leol, a chydnerthedd y gymuned leol hefyd. Rwy'n gwybod bod y rhain yn faterion yr ydych yn eu hystyried yn ofalus iawn o ran mynd i'r afael â thlodi plant a’r ffordd gyffredinol ymlaen. Gwn fod y canolfannau cymunedol hynny'n cyflawni o ran mynd i'r afael â thlodi plant drwy weithio gyda rhieni a phlant yn yr ardal leol, a gwn fod hynny'n wir mewn mannau eraill. Felly rwy'n siŵr y byddech eisiau sicrhau i ac eraill y byddwch yn ystyried yn ofalus y manteision hynny a ddaw o ganolfannau cymunedol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen gyda Chymunedau yn Gyntaf.

Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am ysgolion bro. Rwyf i hefyd yn credu eu bod yn bwysig iawn o ran gweithio gyda rhieni a chymunedau lleol ynghylch materion tlodi plant ac ansawdd bywyd yn gyffredinol i blant. Rwy’n credu nad yw ein hadeiladau ysgol yn cael eu defnyddio cystal ag y dylent bob amser. Mae llawer ohonynt yn dal dan glo ar benwythnosau, yn ystod gwyliau'r ysgol a fin nos. O gofio bod adnoddau’n brin, nid yw'n ymddangos i fod yn ddefnydd da iawn o'r adeiladau hynny sydd eisoes yn bodoli.

O ran y blynyddoedd cynnar, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am Dechrau'n Deg, yr wyf yn meddwl sy’n gweithio'n dda, ond efallai y gellid ei ehangu o ran y rhai sy'n cael mynediad ato i weithio eto’n well. Mae'n amlwg yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn i gaffael iaith yn gynnar, sy'n hanfodol ar gyfer cyfleoedd bywyd. Ac yn amlwg, rwy’n gwybod eich bod am wella ansawdd gweithlu’r blynyddoedd cynnar, ac efallai y byddai cael mwy o gyfranogiad gan raddedigion prifysgol mewn lleoliadau Dechrau'n Deg yn cynorthwyo gyda hynny, a hefyd, efallai, gyd-leoli, yr wyf i o’r farn sy’n ddefnyddiol o ran lledu'r mynediad i Dechrau'n Deg—cyd-leoli gyda gwasanaethau bydwreigiaeth, er enghraifft.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Cafwyd digwyddiad diddorol iawn a gynhaliwyd gan Julie Morgan yn y Cynulliad heddiw lle clywsom yn gadarnhaol iawn am y profiad mewn mannau eraill, gan gynnwys Iwerddon, a pha mor bositif yw hynny o ran grymuso rhieni â thechnegau rhianta cadarnhaol, deall yr agenda hawliau plant a dod â’r rheini i'r amlwg o ran mynd i'r afael â materion plant. Pe gallech ddweud ychydig am yr amserlen ar gyfer rhoi diwedd ar yr amddiffyniad o gosb resymol, credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Diolch i John Griffiths am ei gyfraniad ac, unwaith eto, rwyf wedi cael adroddiad llawn yn ôl gan fy nhîm mewn cysylltiad â'r cyfarfod y soniodd amdano ddydd Gwener. Rwy'n ddiolchgar am ei adborth a'i fod o ddefnydd iddo ef a'i gydweithwyr.

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater ynghylch grymuso a chydnerthedd. Rwy'n defnyddio’r termau hynny’n aml oherwydd credaf fod y cymunedau’n ymwneud â hynny. Mae sut rydym yn cyrraedd yno yn fater diddorol arall, oherwydd bod sefydliadau sy’n cael eu herio yn ariannol—ni ein hunain fel Llywodraeth ac awdurdodau lleol—mae'n rhaid i ni greu ffordd newydd o wneud busnes a chymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Er bod Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n deall, yn eich ardal benodol chi, yn darparu cyllid i ganolfannau cymunedol, mewn ardaloedd eraill nid oedd hynny’n wir. Felly, mae’n debyg fod ffyrdd o fynd trwy hyn, ond mae angen inni gael trafodaeth tymor hwy am yr hyn y gall neu na all hyn ei olygu. Nid wyf wedi gwneud y penderfyniad, fel y mae’r Aelod yn ymwybodol ohono, ar Gymunedau yn Gyntaf. Ond nid wyf yn credu ei fod yn beth gwael cynnal y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor sefydliadau ar flaen y gad yn ein holl drafodaethau wrth i ni symud ymlaen.

Ysgolion cymunedol—rwy’n cael fy nghalonogi mewn gwirionedd gan frwdfrydedd yr Aelod am hyn. Rwy’n cytuno ag ef. Rwy'n credu bod cyfle gwych yno i roi pwyslais cymunedol ar adeiladu y tu hwnt i beth yw addysg, gyda golwg llawer mwy cyfannol at yr hyn y gallwn ei gyflawni yn ein cymunedau. Es i am dro i Drelái rhyw bythefnos yn ôl, ac roedd yn gyfle ardderchog—roedd ysgol wych yno, yn cyflawni cymaint mwy na dim ond addysg. Roedd hon yn gwneud llawer iawn o waith gyda theuluoedd a phlant y tu hwnt i'r hyn y byddai eu cylch gwaith arferol yn ei wneud. Byddwn i'n dweud wrth fy holl bartneriaid bod yn rhaid iddynt edrych y tu hwnt i hynny nawr—y tu hwnt i'n gwaith bob dydd—i edrych ar beth y gallwn ei wneud yn ychwanegol. Mae cymaint o sefydliadau sydd eisoes yn gwneud hyn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw eu cyfuno, a gwneud yn siŵr bod pob un o'r cyrff hyn yn dod ynghyd. Dyna pam fod yr egwyddor o barthau plant yn rhywbeth yr wyf i'n teimlo’n llawn cyffro yn ei gylch, sef dod â’r arbenigwyr hyn i mewn o gwmpas unigolyn i wybod beth y gallant neu na allant fod ei angen ar gyfer y dyfodol.

Ymrwymais yr wythnos diwethaf—yn wir, yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd—yng nghynhadledd ar y cyd Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, ymrwymais i ddatblygu’r ddwy raglen hynny ymhellach drwy roi cyllid iddynt, oherwydd credaf eu bod yn hanfodol o ran siapio'r ffordd y mae ein hamgylchedd yn gweithio. Mae sut yr ydym yn eu hintegreiddio â'r blynyddoedd cynnar yn mynd i fod yn drafodaeth ddiddorol, ond rwy'n credu bod hyn yn hanfodol.

Y pwynt terfynol—rwy’n ymwybodol iawn o'r amser—yw’r mater o roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae cyfres o ddulliau’n ymwneud â hynny hefyd. Mae rhianta cadarnhaol yn rhywbeth yr ydym yn dechrau ei wthio allan yn galed iawn a, gyda llaw, byddwn yn deddfu hefyd. Ni allaf roi dyddiad cyflwyno hynny i’r Aelod, ond byddaf yn ysgrifennu ato pan fydd gennyf y manylion.

7. 6. Datganiad: Codau Cyfraith Cymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar godau cyfraith Cymru. Rwy’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Diolch i chi, Lywydd. Fel deddfwrfa ifanc gyda phwerau cymharol newydd i ddeddfu, mae gennym ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyfle unigryw i ddod â threfn i’r deddfau yr ydym wedi'u hetifeddu ac i ddefnyddio dull gwahanol o wneud deddfau newydd. Byddai'r dull hwn yn rhoi’r dinesydd—defnyddwyr deddfwriaeth yn y pen draw—yn gyntaf, drwy sicrhau bod ein cyfreithiau yn glir, yn hygyrch ac wedi’u cadw yn dda. Fel y dywedodd Aristotle,

mae cyfraith yn drefn, ac mae cyfraith dda yn drefn dda.

Ein cyfle yw arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy ddechrau ar lwybr o gyfuno a chodeiddio ein cyfraith. Gallai codau cyfraith Cymru fod yn sail i'n hawdurdodaeth gyfreithiol ac yn fwy cyffredinol ffurfio rhan o sylfeini ein cenedl. Mae pryderon wedi'u codi am nifer o flynyddoedd am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig a chyflwr anhrefnus ein llyfr statud helaeth a gwasgarog. Mae'r problemau yn arbennig o ddwys o ran Cymru gan nad yw ein cyfreithiau yn gyffredinol yn adlewyrchu ein safbwynt gwleidyddol a chyfansoddiadol o fewn y DU. Er bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, mae’r cyfreithiau sy'n berthnasol i Gymru yn unig yn gymharol brin. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf yn dal yn berthnasol i Gymru ac i Loegr, neu i Brydain Fawr neu i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae rhywfaint o'r cymhlethdod yn deillio o'r ffaith nad oes unrhyw gorff ffurfiol o gyfraith Cymru. Nid ydym yn gallu sôn am gyfraith Cymru, dim ond cyfraith Cymru a Lloegr—a adnabyddir gan y rhan fwyaf, fel y mae’n rhaid ei ddweud, fel cyfraith Lloegr. Mae absenoldeb awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn rhan o'r rheswm pam mae’r sefyllfa gyfreithiol yn gybolfa ddryslyd, anhreiddiadwy i'r rhan fwyaf o bobl. Mae gwneud deddfau Cymru o fewn y cyd-destun hwnnw, a dyna wrth gwrs yw ein swyddogaeth ni fel deddfwyr, yn fwy anodd nag y dylai fod. Efallai mai diffyg mwyaf Bil Cymru yw nad yw’n cynnig unrhyw ateb i'r broblem hon, problem na allwn ni yn y ddeddfwrfa hon fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain.

Mae llawer o'r cymhlethdod, fodd bynnag, yn deillio yn fwy syml o’r cynnydd yn nifer y deddfau sydd wedi datblygu dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'r llyfr statud yn cynnwys bron i 5,000 o Ddeddfau a mwy na 80,000 o offerynnau statudol, llawer ohonynt yn ddegawdau neu hyd yn oed yn ganrifoedd oed. Gan gymryd cyfraith addysg fel enghraifft, ceir bron i 30 o Ddeddfau Seneddol a Mesurau a Deddfau'r Cynulliad, yn ogystal â rhai cannoedd o offerynnau statudol sy'n cael effaith yng Nghymru ar y pwnc hwnnw yn unig. Mae'r gyfraith felly yn anodd i gyfreithwyr ei llywio, heb sôn am y dinesydd lleyg.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno’r gyfraith mewn meysydd datganoledig, fel y mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi ei wneud hefyd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru' yn dilyn prosiect dwy flynedd a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn golygu cryn ymgynghoriad â chymdeithas ddinesig Cymru a thu hwnt. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi argymell bod rhaglen barhaus, hirdymor o gyfuno cyfraith Cymru yn cael ei datblygu, gan ddod i'r casgliad y byddai hyn yn cyflwyno manteision cymdeithasol ac economaidd clir. Yn eu barn hwy, mae proses o gyfuno a ffurf o godeiddio wedyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein cyfreithiau yn hygyrch. Byddai'r broses hon hefyd yn arwain at weld ein cyfreithiau yn dod yn gwbl ddwyieithog, a fyddai yn ei dro yn helpu i ddatblygu'r Gymraeg ymhellach fel iaith y gyfraith. Yn sylfaenol, hefyd, byddai hyn yn y dyfodol yn gwneud ein gwaith mewn datblygu deddfau newydd ac wrth graffu arnynt gryn dipyn yn symlach a mwy effeithlon.

Mae codeiddio ein cyfreithiau yn rhywbeth nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen yn y DU ac ni allaf ond dyfalu pam mae hynny’n wir, ond rwy’n amau ​​ei fod oherwydd maint a chost y dasg, ac efallai oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol oherwydd bod dewisiadau proffil uwch eraill yn cymryd blaenoriaeth. Felly, mae gwneud hyn yn flaenoriaeth efallai'n fwy anodd nag erioed, o gofio’r gostyngiadau mewn cyllidebau sy'n ein hwynebu. Ond gellid dweud y byddai dod â threfn i'r gyfraith yn fwy na gwerth chweil, o gofio’r manteision cymdeithasol y byddai'n eu rhoi i bobl Cymru, y mae eu mynediad at gyfiawnder yn fwy cyfyngedig nag erioed o'r blaen yng ngoleuni toriadau i gymorth cyfreithiol a chau llysoedd. Byddai hefyd enillion effeithlonrwydd ar draws pob sector, gan ddod â manteision ariannol i'r economi a mwy o eglurder i'n system gymhleth iawn o lywodraethu. Mae'r rhain hefyd yn faterion a ddylai fod yn destun pryder i ni fel deddfwrfa gyfrifol sy’n aeddfedu.

Mae'r sefyllfa bresennol, yn fy marn i, yn dod yn fwyfwy anghynaladwy. Nid wyf yn credu bod gennym fawr o ddewis heblaw cychwyn ar yr hyn a fydd yn llwybr hir ac anodd i ddatrys yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac i ddatblygu systemau mwy trefnus o wneud a chyhoeddi’r gyfraith yn y dyfodol. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch cymhlethdod a maint y dasg, a hyd y llwybr. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ein bod yn byw mewn cyfnod ansicr ac yn debygol o wynebu heriau cyfansoddiadol eithriadol eraill yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Digwyddodd canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl datblygiad argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ac ni ystyriwyd dylanwad cyfraith Ewrop ar ein trefniadau cyfansoddiadol yn uniongyrchol. Mae’r angen tebygol dros y blynyddoedd nesaf i ailddatgan neu ddisodli cyfraith Ewrop, fodd bynnag, yn gysylltiedig â'r mater o gyfuno’r gyfraith. Mae cyfraith Ewrop yn ychwanegu at gymhlethdod y llyfr statud, ac mae'n amlwg bod gorgyffwrdd rhwng ein dyhead i godeiddio’r gyfraith a'r hyn a allai ddod yn angen na ellir ei osgoi i ailddatgan cyfraith Ewrop yn y cyd-destun domestig. Fodd bynnag, nid yw'n glir eto beth fydd yn deillio o'r tynnu allan sydd ar fin digwydd yn y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw'n glir, o safbwynt Llywodraeth Cymru, pa oblygiadau o ran adnoddau a ddaw i’r swyddogion hynny sy'n ymwneud â datblygu deddfwriaeth. Efallai y bydd angen yr un adnoddau prin y gellid eu defnyddio i gyfuno'r gyfraith at ddibenion eraill.

Ond ni ddylai’r anawsterau hyn ein hatal rhag cychwyn ar y llwybr o leiaf. Yng ngeiriau'r athronydd Tsieineaidd Lao Tzu, mae taith o 1,000 o filltiroedd yn dechrau gydag un cam bach. Felly, efallai y byddwn yn gwneud cynnydd cyflym ar rannau o'r daith, ond gwn y bydd angen i ni droedio'n ofalus a byddwn heb os yn cael ein harafu ar hyd y ffordd. Felly, fy nghynnig, felly, yw ein bod yn cychwyn prosiect o gyfuno, codeiddio a gwell cyhoeddi ar y gyfraith fel cynllun arbrofol, i gael ei werthuso tuag at y flwyddyn nesaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y cynllun arbrofol yn ddechrau proses tymor hir a fydd yn arwain at godau yn y rhan fwyaf o feysydd y gyfraith sy'n effeithio ar ddinasyddion Cymru. Felly, yn ystod y cynllun arbrofol hwn, byddwn yn dechrau ar y dasg hanfodol o gyfuno ein rhannau helaeth o gyfraith bresennol yn y meysydd datganoledig. Byddwn hefyd yn gwerthuso’r argymhellion niferus a manylach a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, megis creu swyddfa cod deddfwriaethol bwrpasol a datblygu rhaglen ffurfiol o gyfuno a chodeiddio.

Cyn cychwyn ar broses newydd a fyddai'n gofyn am adnoddau sylweddol dros flynyddoedd lawer, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y byddai digon o fuddion yn cronni. Er y byddai’n anodd mesur, rwy’n credu y byddai'n ddoeth gwerthuso budd cyfuno a chodeiddio deddfau a’u cyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru, Law Wales, mewn nifer fach o feysydd cyn symud ymlaen ymhellach. Yn yr un modd, bydd angen i ni werthuso’r galwadau y bydd cyfuno’r gyfraith yn eu rhoi ar adnoddau prin, yn enwedig yng ngoleuni'r tasgau eraill sy'n debygol o gymryd blaenoriaeth.

Felly, yn rhan o'r broses hon, mae hefyd yn hanfodol i sicrhau ein bod ni, ar y cyd, fel Cynulliad, yn gwbl gefnogol i'r fenter hon, mewn egwyddor ac, yn fwy penodol, o ran cyfuno'r gyfraith mewn meysydd penodol sy'n cynnwys darpariaethau, er enghraifft, y gellid eu hystyried yn wleidyddol ddadleuol. I gyrraedd diwedd ein taith, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Felly, oni bai bod yr ewyllys gwleidyddol yn bodoli i hwyluso cyfuno trwy fabwysiadu gweithdrefnau addas, ni fydd y fenter yn llwyddo. Rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd ac rwy’n gobeithio ymgynghori yn eang â chydweithwyr a chynrychiolwyr y Cynulliad yn y gobaith y gallwn gydweithio.

I gloi, rwy’n credu bod gennym gyfrifoldeb i ymdrin â phroblem na chafodd ei chreu gennym ni, ond mae gennym gyfle hefyd i arwain y ffordd. Bydd digwyddiadau yn ymyrryd, a gall y cynnydd fod yn araf ar adegau, ond rwy’n cynnig ein bod yn dechrau ar y broses o gyfuno cyfraith Cymru a chychwyn ar lwybr tuag at ddatblygu codau cyfraith Cymru.

A gaf i ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad, croesawu’r bwriad a chefnogi yn frwd y bwriad i gydgrynhoi a chodeiddio cyfreithiau Cymru? Mae yna ddirfawr angen i symleiddio a’i gwneud hi’n haws i bobl allu deall a darllen un Ddeddf yn yr un lle ar yr un pryd, achos dyna beth yr ydym yn sôn amdano fe yn y bôn yn y fan hyn. Wrth gwrs, rŷm ni’n dyfynnu Aristotle fan hyn. Buaswn i hefyd yn mynd yn ôl i’n hanes ni fel Cymry a Deddfau Hywel Dda. Yn ôl yn y flwyddyn 962, wrth gwrs, roedd gennym ni Ddeddf Gymreig flaenorol—roedd gennym ni Ddeddfau Cymreig, yn naturiol, a oedd yn fwy syml, efallai, na’r rhai sydd wrthi heddiw. Nid wyf yn credu, efallai, fod Hywel Dda wedi meddwl am yr angen i gydgrynhoi a chodeiddio ei gyfreithiau bryd hynny, ond roedd yn arloesi yn y maes, a dyna Ddeddfau cyntaf yn y wlad yma a oedd yn gwneud rhywbeth i edrych ar ôl buddiannau menywod. Roedd Hywel Dda yn arloesi, a buaswn i’n licio meddwl ein bod ni hefyd yn gallu arloesi rŵan, fel yr ydych yn ei ddweud, fel Cynulliad ifanc iawn, yn y materion yma o greu deddfwriaeth.

Ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig cael unrhyw ddarn o Ddeddf y gallwn ni gyd ei ddarllen yn synhwyrol yn yr un lle o dan yr un clawr—dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae angen gradd yn y Ddeddf i fynd i’r afael â hynny. Fel yr ydych wedi sôn eisoes, mewn lle pan nad yw pobl rŵan yn gallu fforddio cael cyfreithwyr, weithiau, ac yn rhedeg eu hachosion eu hunain, mae’n rhaid inni gael y gallu, neu mae’n rhaid inni gael y gallu cyffredinoli i allu darllen Deddfau heb yr angen i gael gradd yn y maes. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y bwriad i’w gwneud hi’n haws i ymdrin â’r gyfraith ac i dacluso beth sydd gennym ni. Fel yr ydych wedi dweud eisoes, mae yna doreth o Ddeddfau ac maen nhw’n gallu cymryd drosodd adeiladau cyfan. Nid yw hynny’n mynd i helpu’r bwriad o allu dilyn unrhyw Ddeddf yn hawdd.

Mae yna gwpwl o gwestiynau, wrth gwrs. Rŷm ni yn creu Deddfau Cymraeg rŵan. Mae yna nifer o Ddeddfau ym maes addysg ac ym maes iechyd yng Nghymru sydd yn sylweddol wahanol rŵan ers datganoli. Wrth gwrs, nid ydyn nhw’n cwympo’n hawdd iawn i mewn i’r maes ‘England and Wales’ yma, fel yr ydych yn ei nodi, felly rŷm ni wedi bod yn creu Deddfau Cymreig, a nifer ohonyn nhw, ers datganoli, yn enwedig yn ddiweddar—nid jest ym meysydd addysg ac iechyd, ond arloesi gyda’r Ddeddf rhoi organau, er enghraifft, sef yr enghraifft gyntaf yn yr ynysoedd hyn. Felly, mae yna gyfle inni fod yn adeiladu ar hynny ac nid jest ein bod ni’n gallu arloesi yn y syniadau am Ddeddfau ond hefyd arloesi o ran sut yr ydym yn ymdrin â’r Deddfau hynny.

Wrth gwrs, mae gennym ni broblem—neu her y dylwn i ei ddweud—yn absenoldeb un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Rŷm ni’n rhannu awdurdodaeth gyfreithiol efo Lloegr. Buaswn yn hoffi gofyn, gyda’r holl siarad yma ynglŷn â Bil Cymru, pa drafodaethau yn benodol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael i fynd i’r afael â’r broblem yma. Buasai pethau yn llawer haws petai un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Buasai’n llawer haws—mi fuasai hefyd yn llawer haws petawn ni hefyd wedi cael yr heddlu, y llysoedd ac ati wedi cael eu datganoli i Gymru eisoes, fel gwledydd eraill Prydain, ac fel Manceinion. Beth sydd yn bod arnom ni’r Cymry? Yn wyneb yr her o golli rhai pwerau ym Mil Cymru, buaswn i’n licio gwybod mwy am rôl y Cwnsler Cyffredinol yn gwthio am un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, a fuasai’n gwneud pethau’n lawer haws, a hefyd ddim colli’r gafael ar yr angen inni ddatganoli’r heddlu a’r llysoedd yma i Gymru. Buasai hynny’n gwneud pethau lawer yn haws hefyd, gan ein bod ni’n deddfu yn y lle yma, ar ddiwedd y dydd.

Nawr, yn nhermau—roeddech yn sôn am gymhlethdodau posib yn ymwneud ag Ewrop a dod allan o Ewrop. Yn naturiol, mae yna nifer o gymhlethdodau yn fanna, ond beth nad ydym eisiau ei weld eto ydy colli pwerau. Rŷm ni’n disgwyl gweld Deddfau Ewropeaidd sy’n ymwneud â Chymru yn dod i Gymru. Buaswn i’n hoffi cael sicrwydd, yn yr holl drafodaethau, nad ydym ni mewn perygl o golli’r Deddfau yna sy’n berthnasol inni yng Nghymru. Wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o hynny, mi allwn ni dacluso fel rŷm ni’n ymdrin â bod yn rhan o’r cydgrynhoi a chodeiddio yma, ond hefyd, yn bwysicach, efallai, nid ydym eisiau colli pwerau dros y rhannau hynny o Ddeddfau Ewrop sydd nawr yn berthnasol inni yma yng Nghymru.

Mae yna ddimensiwn Cymreig, fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, ac mae yna yn benodol hefyd ddimensiwn iaith Gymraeg. Rŷm ni wedi bod yn datblygu is-ddeddfwriaeth a Deddfau dwyieithog yma ers cychwyn y Cynulliad, ac, wrth gwrs, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol nad yw un iaith yn gyfieithiad pur o iaith arall—mae yna elfen o ddehongli hefyd. Ac, wrth gwrs, fel rŷm ni’n datblygu’r arbenigedd cyfreithiol yna yn yr iaith Gymraeg, mae eisiau hefyd ddatblygu’r arbenigedd i allu dehongli i wneud yn siŵr bod beth sy’n cael ei ddweud mewn un iaith yn llwyr yn cael ei drosglwyddo i’r iaith arall, ac mae yna fater o ddehongli, nid jest mater o gyfieithu, ac na choller hynny mewn unrhyw fater o dacluso’r ddeddfwriaeth sydd gerbron.

Fel rŷch chi’n dweud yn fan hyn, mae’n her sylweddol—i gloi—ac rŷch chi’n dyfynnu:

‘a journey of 1,000 miles begins with one small step.’

Yn y Gymraeg, mae yna ddywediad, sy’n dweud, ‘deuparth gwaith ei ddechrau’.

Two thirds of the work is in actually getting started.

Felly, pob lwc i’r Cwnsler Cyffredinol ar ei waith arloesol ymlaen. Diolch yn fawr.

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau meddylgar, a hefyd am fynd â ni yn ôl i 962? Dros yr wythnos ddiwethaf, rwy’n meddwl fy mod i wedi treulio cryn dipyn o amser yn y Goruchaf Lys, gan archwilio rhyw 20,000 o dudalennau o ddogfennau yn mynd â ni yn ôl at y 1300au, ac roedd rhywfaint o gyfeirio at gyfraith Cymru, ond mae hanes y gyfraith yn bwysig. Mae hwn yn brosiect cyffrous, yn gam cyffrous ymlaen, oherwydd ein bod yn edrych ar ddechrau proses o godeiddio trefn newydd gyfan o gyfraith Cymru, o godeiddio'r gyfraith yn arwain at yr hyn yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, sy’n anochel, a hynny yw sefydlu awdurdodaeth. Mae sut yr ydym am gyrraedd yno, pa mor hir cyn i ni gyrraedd yno yn amlwg yn fater o ddadl, ac, wrth gwrs, cododd yr Aelod y mater o Fil Cymru, a bydd yn ymwybodol iawn o'r datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r awdurdodaeth a hefyd y datganiadau yr wyf wedi'u gwneud. Bydd rhywfaint o gydnabyddiaeth o gorff cyfraith Cymru o fewn Bil Cymru, ond ni fu, cyn belled ag y gwn i, unrhyw gonsesiwn o ran y pwynt awdurdodaeth penodol. Ond fel y dywedais, rydym ar y ffordd ac rwy'n credu ei bod yn anochel y byddwn yn y pen draw yn cyrraedd yno.

Rwyf wedi bod yn ofalus iawn o ran yr ymagwedd yr wyf yn ei mabwysiadu, oherwydd yr hyn yr wyf yn wyliadwrus iawn ohono yw bod llawer o waith; mae hon yn dasg anhygoel o gymhleth, ac mae'n dasg sy'n cael ei gyrru gan adnoddau yn ogystal, ac rwy'n wyliadwrus iawn o'r amgylchedd yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd, gyda'r newid cyfansoddiadol mawr yr ydym yn mynd drwyddo, nid yn unig yn nhermau'r DU ond o ran y dimensiwn Ewropeaidd ac yn y blaen. Ac mae'n bwysig na wneir dim a fydd mewn gwirionedd yn rhwystro (1) rhaglen ddeddfwriaethol y lle hwn, ond hefyd y ffaith y gallai fod angen i ni ymateb yn gyflym ac yn gyfrifol o ran ein meysydd datganoledig, ein statws cyfansoddiadol ein hunain a'r mater o ddeddfau Ewrop a’r cymhlethdodau a allai godi yn y fan honno. Ond rwy'n credu drwy fabwysiadu'r dull cynllun arbrofol, y gallwn eisoes nodi bod cyfreithiau lle mae rhyw gymaint o godeiddio eisoes wedi digwydd, lle y ceir yr hyn y gallech ei ddisgrifio fel 'enillion cyflym' o ran codeiddio, gan ddechrau’r broses a dysgu o'r broses honno, yn ogystal â'r adnoddau y bydd eu hangen, ond hefyd lle y gallai hyd yn oed fod gorgyffwrdd yn yr hyn y gallai fod yn ofynnol i ni ei wneud o ran deddfau Ewrop. Yr hyn sy'n ddiddorol iawn hefyd, yw i ba raddau yr ydym bellach yn gweld cyhoeddiadau cynyddol ynglŷn â chyfraith Cymru. Roeddwn i yn y lansiad yr wythnos o’r blaen o lyfr ar y gyfraith weinyddol yng Nghymru. I rai, efallai nad yw hynny’n ymddangos i fod yn noson neu’n bosibilrwydd arbennig o gyffrous, ond mae’r ffaith bod gennych erbyn hyn gyhoeddiad sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â’r mater o gyfraith weinyddol Cymru a bod gennym bellach symudiad tuag at benodi llywydd tribiwnlysoedd Cymru—. Mae'r pethau hynny’n bwysig ac maent i gyd yn mynd gyda'i gilydd.

O ran y mater o newidiadau Ewropeaidd a'r mater o bwerau datganoledig a beth allai ddigwydd yno, mae hynny, wrth gwrs, yn symud i ddadl arall. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wneuthum ynglŷn ag erthygl 50. Mwy na thebyg, yr hyn fyddai orau yw fy mod i’n gohirio gwneud sylwadau eto, mynd dros hen dir ar hynny, oherwydd rydym ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn aros am ddyfarniad y Goruchaf Llys. A bydd yr Aelod hefyd wedi gweld y cyflwyniadau manwl iawn yr ydym wedi’u rhoi i mewn, a oedd yn nodi sut yr ydym yn gweld setliad datganoli Cymru, y materion a godwyd yn yr achos erthygl 50 hwnnw ar sofraniaeth, ond hefyd swyddogaeth y lle hwn o ran confensiwn Sewel a statws hynny o fewn strwythur datganoli y DU.

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod wedi dysgu rhywbeth bod cyfreithiau Hywel Dda yn dyddio o 962, a soniodd Dai hefyd am hyn, ond bu farw Hywel yn 950? Ond mae'n debyg ei fod wedi cymryd peth amser i fynachod Hendy-gwyn ar Daf greu'r llawysgrif. Ond, beth bynnag, mae'n ymddangos bod gwneud cyfraith ac ymdrin â’n cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn cymryd ychydig o amser, felly efallai y dylwn gadw hynny mewn cof. A gaf i groesawu'r datganiad a hefyd adroddiad Comisiwn y Gyfraith ‘Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru'? Edrychaf ymlaen at ymateb llawnach i'r adroddiad hwnnw, sydd bellach ynghlwm yn y prosiect arbrofol, mae'n ymddangos i mi, os wyf i wedi deall yn iawn, o'r hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol. Ond pan ddaw'r ymateb hwnnw yn fwy cynhwysfawr, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn adroddiad rhagorol yn fy marn i.

A gaf i ddweud fy mod i’n cytuno bod gennym bellach rywfaint o gyfle i gyfuno a hyd yn oed codeiddio llawer o gyfraith Cymru?  Rwy’n ystyried cyfuno fel bod yn ddymunol iawn, ond pen arall y sbectrwm rhinweddol hwnnw yw codeiddio llawn, a fyddai yn wir yn ein gwneud yn unigryw yn ynysoedd Prydain ac rwy'n credu y byddai'n esiampl ddisglair yn ysbryd Hywel Dda mewn sawl ffordd. Byddai'n sicr yn gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn fwy hygyrch. Mae gennym y cyfle hwnnw oherwydd ein bod yn sefydliad newydd, er ein bod erbyn hyn yn ein pumed Cynulliad. Wrth gwrs, dim ond yr ail ydyw, mewn gwirionedd, sydd â phwerau deddfu. Ond ni fydd y cyfle hwn yn para am byth, felly rwy’n croesawu'r cam cyntaf yr ydych yn ei gymryd.

Rwy’n cymeradwyo'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd am ddeddfu dwyieithog. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei esgeuluso weithiau. Pan eich bod yn deddfu yn ddwyieithog gallwch egluro egwyddorion cyfreithiol yn well mewn un iaith nag mewn un arall weithiau, felly mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Yn sicr nid yw'n fath soffistigedig o gyfieithu; y mae mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n mynd gyda'i gilydd ac yn bwydo oddi ar broses ddeallusol yn ein dau draddodiad ieithyddol. A gaf i ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn awyddus ac yn barod iawn i gydweithredu yn y diwygiad mawr ei angen hwn?

A gaf i roi prawf i chi, felly, ar sut y mae hyn yn mynd i gael ei ddatblygu? Mae dichonoldeb cyfuno bellach am gael ei werthuso mewn cynllun arbrofol. Rydych yn dweud y bydd hwnnw’n dod i ben y flwyddyn nesaf, yn ôl pob tebyg tua diwedd y flwyddyn, ond a gaf i eich annog i gadw at yr amserlen dynn honno oherwydd byddwn ymhell i mewn i bumed tymor y Cynulliad erbyn hynny? A hoffwn wybod sut y mae'r cynllun arbrofol yn mynd i weithredu. A fydd yn cymryd darn o ddeddfwriaeth sydd ar ddod ac mewn gwirionedd yn ei gyflwyno mewn dull cyfunol? Collwyd cyfle ar ôl cyfle yn y pedwerydd Cynulliad—credaf yn fwyaf dybryd, y Ddeddf treftadaeth—ac felly rwy'n gobeithio y gallem ddod o hyd i enghraifft fyw o Fil Cymru cyfunol, neu, fel yr oedd yn ymddangos o’ch datganiad, gallem hefyd ddod i’r casgliad nad ydych ond yn mynd i gychwyn ar ymarfer ôl-weithredol i weld, mewn gwirionedd, yr hyn a fyddai'n ofynnol gyda'r corff presennol o gyfraith. Felly, rwyf yn eich annog mewn gwirionedd i gynhyrchu Bil cyfunol i’r Cynulliad hwn ei ystyried; rwy’n credu y byddai hynny’n ddefnyddiol iawn.

Wrth werthuso'r cynllun arbrofol, pa fesurau fydd yn allweddol—cost, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd neu allu? Rwy'n siŵr bod angen i ni wybod ble mae ein cryfderau, ble mae angen iddynt gael eu datblygu a pha bryd y byddai eu datblygu o fudd i gymdeithas Cymru. Er enghraifft, proffesiwn cyfreithiol mwy effeithiol gyda mwy o allu lefel uchel yng Nghymru, mae hynny ymddangos i mi fel rhywbeth a fyddai'n ddymunol iawn. Rydych yn canmol Comisiwn y Gyfraith, ond ni ddywedasoch sut y gallent gydweithredu yn hyn i gyd oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n adnodd allweddol wrth greu deddfwriaeth gyfunol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i chi efallai ei ddwyn i sylw'r Cynulliad.

Yna, a gaf i ofyn: beth yw'r canlyniad tebygol os ydym, fel rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gobeithio, yn credu bod yr amcanion hyn yn ymarferol? A ydych chi wedyn yn mynd i greu amserlen ar gyfer prif feysydd y gyfraith i gael eu cyfuno, oherwydd bydd hynny'n amlwg yn cymryd, wn i ddim, rhaglen bum neu 10 mlynedd? Ond bydd rhai adegau yn y Cynulliad pan fyddwn yn cael cyfnod arbennig o ddefnyddiol i gyfuno meysydd llai dadleuol y gyfraith, efallai yn gynnar yn ystod tymor newydd y Cynulliad pan nad oes yn aml fawr o ddeddfwriaeth ger ein bron. Mae hwnnw’n gyfle allweddol, rwy’n credu.

A gaf i ddweud hefyd, Lywydd, ei bod yn amlwg y bydd yn rhaid i’n gweithdrefnau ein hunain—gweithdrefnau’r ddeddfwrfa yma yn y Cynulliad—gael eu haddasu hefyd, a byddwn yn hynod gydweithredol yn hyn o beth? Bydd angen cyfres eithaf cynnil o weithdrefnau, yn fy marn i: cyfuno pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gyfraith, dim ond datganiad cliriach, rwy’n credu y gallant fod yn weithdrefnau cymharol benodol; cyfuno gyda rhai diwygiadau nad ydynt yn ddadleuol, ni fyddem eisiau’r broses lawn o graffu o reidrwydd ar ddiwygiadau nad ydynt yn ddadleuol—er enghraifft, pan fo'r gyfraith yn cael ei gwneud yn fwy hygyrch trwy fod yn llai hynafol, nid oes angen y broses ddeddfwriaethol lawn ar y mathau hynny o ddiwygiadau yn ôl pob tebyg; ac yna bydd cyfuno sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddiwygio mewn rhai meysydd dadleuol yn gofyn am sylw arbennig iawn, ac efallai y bydd angen ei wahanu o statud mawr fel y gellir craffu’n llawn arno. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, a hefyd diolch yn fawr iawn am fwy neu lai arwain y ffordd, mewn gwirionedd, drwy'r adroddiad CLAC ar y maes cyfan o godeiddio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny’n cael ei gydnabod, gan fod cryn dipyn o waith wedi mynd ymlaen dros y blynyddoedd blaenorol, nid yn unig drwy hynny, ond gyda fy rhagflaenydd ac eraill hefyd. Ac wrth gwrs, maes o law, hoffwn wneud datganiad pellach a darparu gwybodaeth ychwanegol.

Mae ymgysylltiad y Cynulliad a'r holl grwpiau gwleidyddol ac Aelodau Cynulliad unigol yn bwysig, oherwydd bydd yn bwysig i ddeall yr hyn y mae’r mater o gyfuno a chodeiddio yn ymwneud ag ef. Bydd codeiddio yn darparu categorïau cliriach o gyfraith, ond mae'r rhan gyfuno o hyn yn cymryd deddfau amrywiol ac yn dod â nhw at ei gilydd mewn ffurf symlach a dealladwy, gan ddileu anghysondeb a gwrthddweud, ac yn y blaen, a allai fod yn bodoli, ac a fydd bron yn sicr yn bodoli. Wrth gwrs, yr hyn nad ydym yn awyddus i’w wneud yw defnyddio o angenrheidrwydd yr un broses o graffu yr ydym yn ei defnyddio ar gyfer cyfreithiau newydd lle mai’r hyn yr ydym yn ei wneud yw dod â’r gyfraith bresennol at ei gilydd yn effeithiol ar ffurf fwy hygyrch. Felly, mae cael system wedi’i chyflymu sy'n dderbyniol ac yr ymddiriedir ynddi gan bawb sy'n cymryd rhan yn mynd i fod yn hynod o bwysig. Mae Comisiwn y Gyfraith yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â hynny, ond rhan o'r broses ymgysylltu, gyda swyddfa'r Llywydd ac ag Aelodau'r Cynulliad eu hunain, fydd gweithio hynny allan mewn gwirionedd ac edrych ar y broses honno. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn mynd i’w ddechrau mewn gwirionedd, yn ogystal â'r ystyriaeth o sut yr ydym am ei ffurfioli ac o bosibl symud at sefydlu swyddfa benodol a fydd yn ymdrin â'r broses hon ac yn dod ag adroddiadau rheolaidd i'r Cynulliad am raglenni codeiddio.

Fel y dywed yr Aelod, mae'n broses tymor hir iawn, ond mae hefyd yn un a fydd wedyn yn gosod y paramedrau o ran sut yr ydym yn deddfu yn y lle hwn, felly os ydym yn diwygio deddfwriaeth, rydym yn diwygio o fewn cod, ond os ydym yn deddfu mewn maes newydd, rydym yn achub ar y cyfleoedd i sicrhau ei fod wir yn cyd-fynd â chyd-destun y cod. Felly, mae llawer o waith i'w wneud ar hynny o hyd.

O ran sut y gallem werthuso gwaith, rwy’n credu mai’r cam cyntaf, mewn gwirionedd, yw ceisio nodi'r meysydd hynny, fel yr wyf wedi’i ddweud, lle y gallai fod atebion cyflym, a lle mae diwylliant a threftadaeth yn un. Mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud gyda Chomisiwn y Gyfraith o ran cynllunio. Mae cynllunio nid yn unig yn faes eithriadol o bwysig o ran buddiannau masnachol a busnes Cymru, ond mae hefyd yn faes sydd, oherwydd faint o waith sydd eisoes wedi ei wneud, yn brosiect mawr sy'n mynd i fod yn barhaus ac a fydd yn rhan o'r broses honno. Gallwn edrych ar rywfaint o'r ddeddfwriaeth yr ydym eisoes wedi ei gwneud o ran gofal cymdeithasol lle, er enghraifft, mae cryn dipyn o godeiddio wedi digwydd.

Felly, rwy’n meddwl dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, bod posibilrwydd o ddangos yn ymarferol sut y gallwn godeiddio rhai meysydd, ond tra ein bod yn dysgu oddi wrth y broses honno, a dysgu hefyd am yr hyn y gall fod angen ei newid o ran Rheolau Sefydlog, ond hefyd yr hyn fydd yn ofynnol yn ôl pob tebyg o ran deddfwriaeth i roi hyn ar sail statudol, gan fy mod yn credu, pan fyddwn wedi ei gwerthuso hyn yn iawn, bod angen i ni barhau yn y dyfodol. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n camu i mewn ac allan ohono. Rwyf yn dweud hynny yn ofalus oherwydd, fel yr wyf wedi’i ddweud, rwyf eisoes wedi rhoi’r cafeatau sydd gennyf o ran adnoddau ac o ran y gofynion penodol a allai fod eu hangen arnom, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ymarferol, ond ei fod hefyd â’r hyblygrwydd fel nad yw’n broses sydd mewn gwirionedd yn ein rhwystro fel deddfwrfa weithredol. Rwy’n credu fy mod i wedi cynnwys y rhan fwyaf o'r pwyntiau. Diolch yn fawr iawn.

Mae'n ymddangos i mi, ar ddydd Mawrth tawel yn y cyfnod cyn y Nadolig tua 05:05, bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sefyll ar ei draed yn y Siambr mewn ffordd bwyllog a thawel iawn a dweud rhywbeth a oedd yn dipyn o garreg filltir o ran deddfwrfeydd o fewn y DU ac yn rhyngwladol, ac rwy’n ei gymeradwyo am wneud hynny. Mae wedi rhoi ei sylwadau ymlaen mewn ffordd bwyllog iawn, mewn ffordd dawel iawn, ac wedi rhoi sicrwydd i’r Senedd hon y bydd yn bwrw ymlaen â hyn, ac y bydd yn 'troedio'n ofalus' rwy'n credu oedd ei eiriau, ar daith hir iawn a gallai hyn gymryd blynyddoedd lawer. Ond tybed, ar y prynhawn tawel hwn, pe byddai'n llwyddiannus, efallai y bydd ôl-effeithiau’r daith y mae wedi cychwyn arni nid yn unig yn barhaol, ond yn eithriadol o ddylanwadol, hefyd, ar draws deddfwrfeydd eraill. Yr hyn y mae wedi’i ddweud, mewn gwirionedd, yw ei fod yn mynd i fynd at faterion eglurder, symlrwydd, tryloywder a hygyrchedd y gyfraith, nid yn unig i'r rhai sy'n gwneud y gyfraith, ond i aelodau'r cyhoedd y mae angen iddynt ddeall y gyfraith—dinasyddion y wlad hon—mewn ffordd wahanol iawn.

Rydym yn edrych ar draws y doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi cronni, nid dim ond yn ystod y blynyddoedd a’r degawdau, ond dros y canrifoedd, a’r jyngl cymhleth o ddeddfwriaeth y mae hynny wedi’i adeiladu sy'n sail i'n deddfwriaeth gyfredol, a pha mor anodd yw hi, wedyn, i lywio’r ffordd drwy hynny. Felly, wrth osod allan ar hyn y mae wedi ei ddisgrifio yn gymedrol iawn, mewn termau cymedrol iawn y prynhawn yma, rwy’n meddwl ei fod eisoes wedi ennyn archwaeth aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, awydd i ddymuno'n dda iddo yn y gobaith y bydd yn llwyddo wrth iddo gymryd y camau hyn ymlaen.

Talaf deyrnged, gyda llaw, i bwyllgorau blaenorol yn ogystal—y pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o dan stiwardiaeth Cadeiryddion blaenorol, gan gynnwys David Melding ei hun, a roddodd rywfaint o feddwl tanategol i hyn, ochr yn ochr â gwaith eraill, megis Comisiwn y Gyfraith. Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd adroddiad cynhwysfawr ac eang iawn, 'Deddfu yng Nghymru', ym mis Hydref 2015, ac yn yr adroddiad hwnnw nodwyd bod Comisiwn y Gyfraith yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau agosach gyda'r pwyllgor a darparu diweddariadau rheolaidd ar ei waith bob chwe mis. Wel, cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hynny, gallaf adrodd i'r Cynulliad, ddechrau mis Rhagfyr, pan gawsom sesiwn friffio ar adroddiad 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru' Comisiwn y Gyfraith, a buom yn trafod ei ganfyddiadau yn drylwyr. Yn amlwg, roedd ein dau adroddiad yn cwmpasu tir tebyg iawn. Wrth wraidd pob un y mae awydd i sicrhau bod y gyfraith a wneir yng Nghymru gan y Cynulliad hwn yn hygyrch i'n holl ddinasyddion. Mae'n golofn sylfaenol o'n democratiaeth.

Argymhellodd yr adroddiad 'Deddfu yng Nghymru',

y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Gyfraith, ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer cyfuno cyfraith yng Nghymru.

Felly, mae'n ddymunol, felly, bod y Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru yn dangos cefnogaeth ar gyfer datblygu gweithdrefnau ar gyfer cyfuno’r Bil, a oedd hefyd yn argymhelliad y pwyllgor a’n rhagflaenodd.

Ni wnaeth y pwyllgor hwnnw edrych ar y mater o godeiddio. Rwy'n siŵr y byddwn ni’n dymuno edrych ar y mater hwn ymhellach, gan gadw datganiad heddiw mewn cof, ond rwy’n credu ei fod wedi casglu eisoes, o sylwadau aelodau'r pwyllgor, fod diddordeb clir ac, mewn rhai ffyrdd, bod cyffro o amgylch potensial y cynnig hwn. Credaf, fel pwyllgor, ein bod mewn sefyllfa dda i archwilio sut y gallwn fwrw ymlaen â chyflawni cyfraith fwy hygyrch i'n dinasyddion.

Felly, dymunwn yn dda iawn iddo ar y daith hon, gan ddechrau gydag ychydig o gamau bach, gan edrych ar dreialu hyn o fewn rhai meysydd. Mae David Melding eisoes wedi gwneud sylwadau y gallai fod meysydd y gallem edrych arnynt o fewn y sesiwn hwn y Cynulliad hwn y gallem mewn gwirionedd eu cyflwyno a gweld cyfraith wedi’i chodeiddio, os mai dyna'r ffordd ymlaen. Ni allaf gystadlu gyda Hywel Dda nac Aristotle, ond mae'n fwy na thebyg yn berthnasol i ddefnyddio'r llinell o hen jôc, sef, 'Ni fyddech eisiau dechrau o'r fan yma.' Mae hon yn mynd i fod yn dipyn o daith. Gallai cymhlethdod yr hyn a etifeddwyd fod yn eithaf llethol, ond ein mantais yw ein bod yn sefydliad ifanc a deinamig. Os gall unrhyw un wneud hyn, gallwn ni. Yn hynny o beth, mae'n gyffrous iawn yn wir. Felly, pob lwc i'r Cwnsler Cyffredinol. Pob lwc i ni wrth fwrw ymlaen â hyn hefyd. Rydym yn arloesi, a dyna beth ddylai’r lle hwn ei wneud.

Diolch i'r Aelod am y sylwadau cadarnhaol a chalonogol iawn yna, ac am ddymuno yn dda i mi. Roeddwn yn teimlo am funud fel pe byddwn i'n mynd at floc y dienyddiwr o ran faint o hynawsedd oedd yn cael ei gyfeirio tuag ataf.

Mae'r cynigion hyn yn brawf o aeddfedrwydd y sefydliad hwn fel Senedd ac mae e’n gywir wrth wneud y pwynt mai hon fydd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fynd i lawr y ffordd hon mewn modd, rwy'n credu, disgybledig a threfnus. Mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw’r egwyddorion sylfaenol. Yr egwyddorion hynny yw, fel deddfwrfa, fod y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chreu o ansawdd, rhagoriaeth a pherthnasedd, ond yn sylfaenol hygyrch, ac yn hygyrch i ddinasyddion Cymru, ond hefyd ei bod yn esiampl i'r rhai a fyddai'n buddsoddi a gwneud busnes yng Nghymru bod gennym gyfraith eglur, hygyrch sydd ar gael, sy'n ei gwneud gymaint yn haws. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth nid yn unig o ran ein swyddogaeth o fewn y DU ond o fewn Ewrop, ac yn rhyngwladol hefyd. Felly, ydi, mae'n her. Mae'n mynd i fod yn her i’r Cynulliad cyfan oherwydd bydd yn rhaid i ni gael y ddisgyblaeth i gyflawni hyn gyda'n gilydd mewn gwirionedd. Ac, ydi, mae e'n dweud efallai na fyddwn yn dymuno cychwyn o'r fan yma. Byddwn i’n dweud nad oes byth amser da i ddechrau ond dechrau sydd raid i ni.

Rydym wedi cychwyn yn bendant, rwy’n credu, ar y daith hon. Diolch, Gwnsler Cyffredinol.

8. 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol

Yr eitem nesaf yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur cyllid troseddol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6183 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, Lywydd.

Diolch, Lywydd. Rydw i, yn syml iawn, yn codi i nodi bod y Pwyllgor Cyllid wedi cymeradwyo’r dull yma o ddelio â’r mater yma. Mae’n amlwg, gyda phwerau trethiannol yn dod i’r Cynulliad am y tro cyntaf, y byddwn ni’n awyddus yn y Pwyllgor Cyllid ein bod ni’n deddfu yn y fan hon ar bob cyfle posibl, os yw hynny’n ymarferol. Ond, yn y cyd-destun hwn, sydd yn ymwneud ag osgoi trethi dros y Deyrnas Gyfunol—ac, wrth gwrs, sy’n cynnwys osgoi trethi Cymreig pan fydd y rheini wedi cael eu dodi yn eu lle—rydym ni’n gweld bod yna fudd i ddeddfu ar y cyd gyda San Steffan, er efallai nad yw San Steffan bob tro yn cytuno y dylem ni fod efallai’n mynnu ein llais yn y mater yma. Y ffaith yw y bydd y Cynulliad hwn yn y flwyddyn newydd yn cael ei ofyn gan y pwyllgor i ystyried y dreth newydd, y dreth drethiannol gyntaf, y dreth sy’n ymwneud â thrafodion tir. A bydd honno’n cynnwys rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, sydd yn cynnwys modd o ddelio â threthi ar draws Cymru a Lloegr. Felly, mae yn briodol ein bod ni’n lleisio barn ar hwn, ond mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd o’r farn bod dynesiad y Llywodraeth yn y cyd-destun yma yn dderbyniol, ac felly yn cymeradwyo bod y cynnig deddfwriaethol yn cael ei dderbyn.

Rwyf hefyd yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y mesur hwn. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei alwad ffôn ddoe yn egluro rhywfaint o gefndir hyn, er, wrth gwrs, rwyf i hefyd yn ymwybodol o'n gwaith ar y Pwyllgor Cyllid. Os nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried bod angen cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, nodaf ei methiant i atal troseddau efadu trethi rhag cael eu hwyluso yn y DU, sef cymal 37 o'r Bil Cyllid Troseddol gan San Steffan. Ac rwy’n tybio a ydyn nhw’n ystyried bod hynny’n cyfeirio at efadu trethi’r DU ac yn dehongli hynny i beidio â chynnwys trethi datganoledig, neu a ydym yn sôn am efadu trethi yn y DU, a fyddai, o’i ddarllen yn naturiol, yn cynnwys treth ddatganoledig o’r fath? Mae Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gan y Biliau treth yr ydym yn eu pasio ddeddfwriaeth efadu wahanol i’r hyn sydd i’w weld yn y DU. Croesawaf y ffaith y bydd gennym yr un rheolau gwrth-efadu, ac rwyf hefyd yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno dadleuon argyhoeddiadol ynghylch gwahaniaethu o ran y rheolau efadu. Proses cynnig cydsyniad deddfwriaethol weddol glir a syml sydd gennym ac, os bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy’n hapus i gefnogi'r dull hwnnw.

Rwy'n cytuno â safbwyntiau Mark Reckless a hefyd â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ger ein bron heddiw.

Rwyf wedi clywed bod pryderon, os caf ei fynegi mor bendant â hynny, gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, ar ôl edrych ar hyn fy hun, nid wyf yn credu bod cyfiawnhad i’r pryderon hynny yn yr achos hwn. Ond credaf, wrth i’r Cynulliad hwn symud ymlaen at yr agenda gwneud trethi, ffurfio trethi, a phasio deddfwriaeth ar drethi, bod angen i ni wneud yn hollol siŵr ein bod yn diogelu’r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio ar gyfer y dyfodol, yn enwedig mewn maes newydd megis trethiant. Felly, rwyf i o’r farn bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr holl elfennau wedi eu cynnwys, nid yn unig heddiw, ond yn y dyfodol hefyd. Pan fydd awdurdod refeniw Cymru yn weithredol a phan fydd gennym ni drethi’n cael eu cyflwyno yn y dyfodol, rwy'n credu y bydd hwn yn gam angenrheidiol ymlaen ac rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud gair o ddiolch i’r pwyllgor ac i Simon Thomas am y gwaith maen nhw wedi ei wneud i graffu ar yr ‘LCM’ a jest dweud diolch i bob Aelod arall sydd wedi cyfrannu i’r ddadl?

Rŷm ni’n cytuno â beth ddywedodd Simon Thomas. Mae safbwynt y Llywodraeth yn glir.

It's our clear view that this Assembly has an interest in the domestic offence created by the UK Criminal Finances Bill, as it will capture cases where a tax evaded is a Welsh devolved tax. That is why we have thought it right to bring the LCM before this Assembly for it to make a determination. And Nick Ramsay's absolutely right that, as we move into this area more, there will be a job of learning and education for other parts of the system to understand the way that we work here. However, having said that, we do support the creation of a single criminal offence that will apply to all taxes across the UK. We believe that it will enable a consistent and co-ordinated approach to be taken to tackling this type of criminal activity, regardless of the tax that has been evaded or the authority responsible for its collection, and I'm grateful for the indication from other parties of their willingness to support that position this afternoon.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Yr eitem nesaf yw’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol. Rydw i’n galw ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6184 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy’n falch o gael siarad am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am graffu ar y memorandwm, ac rwy'n falch nad yw’r pwyllgor wedi codi unrhyw wrthwynebiad i gytundeb y cynnig.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol i'r Senedd ar 19 Mai 2016. Ar ôl cwblhau’r gwaith o graffu arno yn Nhŷ'r Arglwyddi, cafodd y Bil ei Ddarlleniad Cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar 24 Tachwedd. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi gwelliant iddo, sydd erbyn hyn wedi’i fabwysiadu ar ffurf cymal ac mewn Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae’n amddiffyn y chwythwyr chwiban rhag gwahaniaethu yn eu herbyn gan ddarpar gyflogwyr awdurdod lleol wrth iddyn nhw wneud cais am swyddi gwaith cymdeithasol i blant.

Mae'r cymal y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn berthnasol iddo yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn unigolyn sy'n gwneud cais am swydd gwaith cymdeithasol i blant oherwydd ei fod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad a ddiogelir. Ceisir cydsyniad y Cynulliad i’r gwelliant hwn gan ei fod yn ymwneud â'r gweithlu gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithrediad y darpariaethau hyn yng Nghymru er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen a allai rhoi gweithwyr dan anfantais yma, er mwyn cefnogi tegwch wrth recriwtio i swyddi gwaith cymdeithasol i blant, ac, yn y pen draw, er mwyn helpu i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol i blant yng Nghymru yn cael eu darparu i safon uchel. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cynigiaf y cynnig.

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr yn y ddadl, ac felly rwy’n tybio nad yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb i'r ddadl na ddigwyddodd.

Therefore, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 9. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016

Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Adrethu Annomestig (Symiau a Godir) Cymru 2016. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6187 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016, y gofynnir i’r Aelodau eu cymeradwyo heddiw, yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi trosiannol i fusnesau bach y mae ailbrisio trethi annomestig 2017 yn effeithio arnyn nhw. Mae angen y rheoliadau hyn i sicrhau bod y £10 miliwn a gyhoeddwyd at y diben hwn ar 30 Medi yn cyrraedd y buddiolwyr y bwriedir eu cyrraedd. Cafodd yr ailbrisiad ei hun ei gyflawni gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef y corff statudol sy'n gyfrifol am asesu a dyrannu gwerthoedd ardrethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r swyddfa ar wahân i Lywodraeth Cymru ac mae’n gwbl annibynnol wrth gyrraedd ei gasgliadau prisio. Gan fod yn rhaid i'r ailbrisio fod yn niwtral o ran refeniw, mae'n ailddosbarthu'r ardrethi sy'n daladwy rhwng eiddo ar sail eu gwerthoedd cymharol ar adeg yr ailbrisio. Yn anochel, golyga hyn fod rhai gwerthoedd ardrethol yn codi ac eraill yn disgyn, ac, mewn rhai ardaloedd, mae’r effaith yn waeth yn sgil hyd yr amser ers yr ailbrisio diwethaf.

Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y gall y newidiadau hyn olygu mwy o gostau i fusnesau bach, yn enwedig y rhai y gallai eu hawl i ryddhad ardrethi busnesau bach leihau o ganlyniad i'r ailbrisio. Felly, mae ein cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn yn cael ei dargedu'n benodol at y busnesau bach hynny, sy’n eu caniatáu i gyflwyno unrhyw gynnydd i rwymedigaeth yn raddol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y cynllun hwn sy’n werth £10 miliwn yn rhoi cymorth ychwanegol i fwy na 7,000 o drethdalwyr.

Lywydd, bydd y cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, a chefnogwyd y cynllun hwnnw gan nifer o randdeiliaid allweddol mewn ymateb i'n hymgynghoriad. Ar y llaw arall, mae'r rhyddhad trosiannol sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU yn Lloegr yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan y trethdalwyr eu hunain. Pan fydd y cynllun rhyddhad trosiannol neu’r rhyddhad ardrethi busnesau bach gwerth £100 miliwn a gostyngiadau gorfodol a dewisol eraill yn cael eu hystyried, bydd gwerth £200 miliwn o gymorth ariannol yn cael ei ddarparu at y dibenion hyn yn 2017-18. Bydd hyn o fudd i fwy na thri chwarter yr holl drethdalwyr yng Nghymru.

Nawr, rwy’n deall bod llawer o’r Aelodau yma wedi gofyn am ragor o gymorth y tu hwnt i'r £10 miliwn sydd wedi ei gynnwys yn y rheoliadau hyn. Byddwch chi wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma bod y mater hwn yn parhau i gael ei ystyried. Mae angen i mi fod yn glir, Lywydd, nad yw dim o hynny’n berthnasol i'r rheoliadau hyn. Maen nhw’n cyfeirio at y cynllun a gyhoeddwyd ar 30 Medi ac, os nad yw’r rheoliadau hyn yn cael eu pasio ni fydd y cymorth hwnnw ar gael.

Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw fel y gall y rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn gael ei ddarparu i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Fel mae’r Ysgrifennydd wedi’i esbonio, wrth gwrs, mae’r rheoliadau yma’n cynnig rhyw gymaint o ryddhad dros dro i fusnesau, yn arbennig yn sgil yr ailbrisiant. I’r graddau hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid croesawu hynny oherwydd, fel rydym wedi’i glywed o’r blaid hon ac o bleidiau eraill yn y Siambr, mae yna fusnesau sydd yn mynd i ddioddef yn eithaf enbyd, a dweud y gwir, oherwydd yr ailbrisiant yma. Mae yna batrwm daearyddol tra gwahanol i’w weld—hynny yw, cynnydd o bron 9 y cant, er enghraifft, yng Ngwynedd, a 9.2 y cant, yr uchaf, yng Nghonwy, er enghraifft. Ac wrth gwrs, y tu fewn i hynny, mae yna fusnesau unigol, yn arbennig yn rhai o’r sectorau sydd yn cael eu dadlennu yn y memorandwm esboniadol—er enghraifft, gwestai—sydd yn wynebu pwysau arbennig iawn.

Mae e wedi rhagweld beth roeddwn i’n mynd i’w ddweud, wrth gwrs: nid yw £10 miliwn yn ddigon. Mae’r Ysgrifennydd yn berson rhesymol, mae’n fodlon gwrando, a byddwn i’n ymbil arno i wrando eto nawr. Mae wedi ei ddweud—ac, fel roedd y Prif Weinidog wedi ei ddweud, mae’r Llywodraeth yn dal i ystyried y sgôp sydd yna ar gyfer rhagor o help y tu fas i’r ffrâm rydym ni’n sôn amdano heddiw gyda’r £10 miliwn. Byddai hynny yn sicr yn cael ei groesawu gan fusnesau ar hyd Cymru o fewn y sectorau sydd yn wynebu’r cynnydd yma, ond yn arbennig yn yr ardaloedd hynny sydd wedi eu nodi fan hyn.

Felly, a allaf i ofyn iddo fe i fynd ymhellach? Yn naturiol, ni fyddem ni eisiau gwrthwynebu hyn heddiw achos, fel roedd yr Ysgrifennydd yn esbonio, wrth gwrs, pe baem yn gwneud hynny, byddai’r £10 miliwn sydd ar y ford ar hyn o bryd yn cael ei golli. Yn sicr, rydym ni eisiau mwy o arian, yn sicr nid ydym ni eisiau tynnu’r £10 miliwn sydd yna’n barod. Ond a gaf i ofyn iddo fe, yn ysbryd y cyfnod Nadoligaidd yr ŷm ni ynddo fe—? Ond, o ddifri calon, mae busnesau bach, asgwrn cefn ein heconomi, yn gofyn am help gan Lywodraeth Cymru—a allaf i ofyn iddo fe unwaith eto i wrando ar y lleisiau hynny?

A gaf i gytuno â'r sylwadau y mae Adam Price wedi’u gwneud? Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae ailbrisio’r ardrethi busnes yn parhau i fod yn destun pryder aruthrol i'r busnesau hynny sy'n wynebu cynnydd sylweddol yn eu gwerth ardrethol. Mae'r pryder hwn yn ymestyn i'r cynllun rhyddhad y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu arno a’r rhyddhad trosiannol yr ydym yn pleidleisio arno y prynhawn yma.

Darllenais i drwy'r memorandwm esboniadol, ac mae'r tri dewis a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru wedi'u rhestru. Yn amlwg, nid oedd dewis 1—gwneud dim—yn ffordd hyfyw ymlaen; rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno â chi ar hynny. Fodd bynnag, gwelsom rywfaint o rinwedd yn newis 3, sef llunio rheoliadau ar sail y cynllun rhyddhad trosiannol a ddarperir yn Lloegr. Mae cynllun Lloegr yn hunan-gyllidol, neu mae i fod yn hunan-gyllidol, beth bynnag, a gellid bod wedi defnyddio hynny yn sail i’r cynllun. Ond deallaf nad ydych chi wedi dilyn y llwybr hwnnw. Roeddem ni o’r farn bod rhinwedd i’r syniad o drosglwyddo arian o’r rhai a fydd yn gweld gostyngiad yn eu hardrethi yn sgil yr ailbrisio i’r meysydd eraill lle bydd cynnydd, ac rydym yn drist eich bod wedi diystyru hynny. Fodd bynnag, fel y mae Adam Price wedi’i ddweud, mae angen i ni gael cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol, ac mae mis Ebrill nesaf yn prysur agosáu erbyn hyn, a byddai busnesau yn poeni mwy am beidio â chael cynllun o gwbl na chael un sy’n ddiffygiol. Byddwn i’n nodi, fodd bynnag, y gallai’r cynnydd hwn i’r cyfraddau sy'n daladwy arwain at dranc rhai busnesau—lleiafrif o fusnesau, eto i gyd nifer sylweddol o fusnesau ledled Cymru. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried darparu cymorth ychwanegol i'r busnesau hynny cyn i’r cynllun gychwyn fis Ebrill nesaf.

Mae gennym bryderon difrifol am y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddefnyddio yn y maes hwn, felly byddwn yn ymatal ar y rheoliadau hyn heddiw. Ond rydym ni’n cydnabod bod angen cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol, felly ni fyddwn yn atal nac yn ceisio atal hwn rhag mynd trwyddo. Ond byddem yn eich annog i edrych unwaith eto ar y system sydd ar waith ac i sicrhau y bydd y busnesau hynny a fydd yn profi’r cynnydd gwaethaf ardrethi yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Fel y dywedwyd eisoes, gan ein bod yn trafod y rheoliadau byddai’n esgeulus peidio ag ystyried rhai o'r anawsterau sydd wedi eu hachosi mewn rhai sectorau ac mewn rhai rhannau o Gymru gan y cynnydd mewn ardrethi sydd wedi digwydd dan y swyddfa brisio. Mewn rhannau o Wynedd ac yn sicr yn y sector twristiaeth a lletygarwch, bu materion penodol yr wyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn eu hystyried wrth edrych ar y broses ail-werthuso bosibl o faint o arian a allai fod ar gael ar gyfer rhyddhad trosiannol.

Ond roeddwn i eisiau, hefyd, dynnu sylw'r Llywodraeth, a'r Cynulliad cyfan mewn gwirionedd, at fater penodol yr wyf wedi cael gwybod amdano sy’n eithaf newydd, rwy’n credu, ac na fu sôn amdano yn y trafodaethau hyd yn hyn, sef y posibilrwydd y bydd y prisiadau newydd yn rhwystro rhai cynlluniau ynni adnewyddadwy. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod ailbrisio eiddo â phaneli solar, er enghraifft, at ddibenion ardrethi busnes—sy’n cynnwys ysgolion—wedi arwain at brisiad uwch i’r eiddo hwnnw, oherwydd, os ydych chi’n gweld eiddo â phaneli solar arno, mae gwerth mwy iddo erbyn hyn nag oedd iddo heb y paneli solar. Ond os ydyn nhw wedyn yn talu mwy o ardrethi busnes oherwydd y paneli solar, ni all y naill law na’r llall gydgysylltu a chydweithio ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Nawr, ni allwn roi sylw i hynny yn y rheoliadau hyn. Mae’r rheoliadau hyn ar gyfer rhyddhad trosiannol. Ond dyma'r cyfle cyntaf yr wyf wedi’i gael i’w roi ar gofnod bod hwn yn fater a allai, yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ddod i’n poeni ni a datgelu bod rhai o'r pethau y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i annog ynni adnewyddadwy—bu paneli solar yn fater penodol a ddaeth i’m sylw, oherwydd cânt eu gosod ar adeiladau ac, felly, maen nhw’n weladwy iawn i'r swyddfa brisio. Efallai nad yw pwmp gwres solar mor weladwy i’r swyddog sy'n dod i edrych ar eich eiddo newydd. Mae'r rhain yn bethau y credaf y dylai'r Llywodraeth fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Ni allwn reoli'r hyn y mae’r swyddfa brisio yn ei ddweud am werth a chynnydd mewn gwerth adeilad mewn termau ardrethol. Ond gallwn, wrth gwrs, ddylunio system ardrethi busnes sy'n cydnabod nwyddau cyhoeddus megis ynni adnewyddadwy. Wrth symud ymlaen, mewn gwirionedd, dyna'n union yr hyn sydd ei angen arnom: adolygiad o'r system ardrethi busnes sy’n rhoi llawer mwy o ystyriaeth i nwyddau cyhoeddus megis ynni adnewyddadwy, i fanteision cyhoeddus megis busnesau bach a lleol, ac i anfanteision cyhoeddus megis parcio am ddim mewn meysydd parcio archfarchnadoedd.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddechrau trwy gydnabod y ffaith bod Adam Price wedi croesawu beth sydd yn y cynllun o flaen y Cynulliad y prynhawn yma a dweud, wrth gwrs, rydw i’n dal i wrando ar bopeth mae pobl yn y Cynulliad yma yn ei ddweud wrthyf fi? Rydw i wedi clywed beth mae Nick Ramsay wedi ei ddweud o’r blaen a beth mae e wedi ei ddweud y prynhawn yma. Mae’r pwynt y mae Simon Thomas wedi’i godi yn rhywbeth newydd, ond, wrth gwrs, rydym ni wedi dweud yn barod yr ydym ni’n mynd i ailwampio’r system sydd gennym ni yma yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ar ôl yr un nesaf.

All I would say to Nick Ramsay on the English scheme is that I saw it’s attractions as well, because it would have cost the Welsh Government absolutely nothing, but what it would have cost would have been the steel sector in Wales and GP surgeries in Wales, which would have ended up paying to support other businesses, whereas the scheme in front of the Assembly this afternoon is one where £10 million-worth of new money, Welsh Government money, is being used for those purposes instead. I believe that this is preferable. I’m grateful to those Members who’ve indicated some support for it, and I do hope that these regulations will be approved today.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr ‘Gweithiwr Gofal Cymdeithasol’) 2016 a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy’n cynnig bod y ddau gynnig o dan eitemau 10 ac 11, felly, yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw wrthwynebiad?

11. 10. & 11. Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr ‘Gweithiwr Gofal Cymdeithasol’) 2016, a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016

Galwaf, felly, ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynigion—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6186 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr ‘Gweithiwr Gofal Cymdeithasol’) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.

Cynnig NDM6185 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch i chi, Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Ymgynghorwyd ar y ddwy set o reoliadau sydd gerbron y Cynulliad yn ystod yr haf ac maen nhw’n cefnogi cam cyntaf rhoi ar waith Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Maen nhw’n ymwneud â'r system newydd o gofrestru’r gweithlu sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.

Mae Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr 'Gweithiwr Gofal Cymdeithasol') 2016 yn rhagnodi disgrifiadau ychwanegol o bersonau sydd i gael eu trin yn weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion Rhannau 3-8 o'r Ddeddf. Mae'r Rhannau hyn yn ymwneud ag arfer swyddogaethau penodol Gofal Cymdeithasol Cymru. Maen nhw’n cynnwys ei swyddogaeth o ran hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth; ei swyddogaeth o ran ymddygiad, arfer a hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol; a'i swyddogaeth o ran cynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Fel gweithwyr gofal cymdeithasol, gallai’r bobl hyn fod yn atebol i godau ymarfer a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru a gallent gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyrsiau penodol a gymeradwywyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Effaith arfaethedig y rheoliadau yw cwmpasu amrywiaeth eang o'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan roi'r rhyddid a'r pwerau sydd eu hangen ar Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Maen nhw’n hanfodol i ddarparu eglurdeb ynghylch pwy sy’n weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion y Ddeddf.

Mae Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yn berthnasol i adran 80 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol, disgrifiadau penodol o weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sy’n ymweld o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir. Mae'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cofrestru rheolwyr gwasanaethau rheoledig, gweithwyr gofal preswyl i blant a gweithwyr cymdeithasol i fyfyrwyr. Maen nhw’n cyflwyno ein bwriad polisi o sicrhau y bydd y rhai y mae'n ofynnol iddyn nhw gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar hyn o bryd yn parhau i gael eu cofrestru. Maen nhw hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru gweithwyr gofal cartref a gofal preswyl i oedolion.

Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol i roi ar waith system newydd o reoleiddio a chofrestru’r gweithlu, i’w gweithredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Fel y cyfryw, rwy’n eu cymeradwyo i'r Aelodau. Lywydd, rwy’n achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad ac i’n swyddogion am y gwaith sylweddol y maen nhw wedi’i wneud wrth ddatblygu’r rheoliadau hyn.

Diolch i’r Gweinidog. Nid oes gennyf i siaradwyr yn y ddadl yma ar y rheoliadau yma, felly rwy’n cymryd bod y Gweinidog ddim eisiau ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. 12. Cyfnod Pleidleisio

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cyfnod pleidleisio ac un bleidlais ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016. Felly, rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig hwnnw a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, 27 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 25, Yn erbyn 0, Ymatal 27.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6187.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:09.