Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
15/11/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Trefn. Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.
Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn effeithio arnynt? OAQ(5)0263(FM)
Mae ein hagwedd at iechyd anadlol wedi'i nodi yn y cynllun cyflawni cenedlaethol, ac mae'n cael ei arwain gan y grŵp gweithredu ar iechyd anadlol.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod â Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn ddiweddar i drafod mynediad at wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint i’r 2,000 o bobl yn fy etholaeth i sy'n byw gyda COPD. Er bod y rhai yng nghlwstwr meddygon teulu gogledd Cynon yn cael eu cludo i Ferthyr yn gymharol hawdd, gall y rhai yn y de wynebu anawsterau, gan orfod teithio i Donypandy, dros ddau fynydd yn aml, ar gyfer eu triniaeth adsefydlu. Cyn Diwrnod COPD y Byd yfory, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i wella mynediad at y driniaeth gost-effeithiol hon yng nghwm Cynon?
Wel, rydym ni yn cydnabod bod ardaloedd lle mae mynediad yn anodd, a dyna pam yr ydym ni’n gwella mynediad at raglenni ymarfer corff wedi'u dilysu yn rhan o feysydd blaenoriaeth y grŵp gweithredu ar glefyd anadlol. Mae'r grŵp yn creu set ddata Cymru gyfan, er mwyn deall yn well y ddarpariaeth a'r nifer sy’n manteisio arni, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyrhaeddiad mor ddwfn â phosibl, er mwyn i'r rhaglenni gael eu darparu’n briodol. Felly, mae mynediad yn fater sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Gall y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol helpu gydag adsefydlu pobl â COPD, yn ogystal, wrth gwrs, â phobl â phroblemau iechyd eraill. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ond, serch hynny, mae awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru yn codi tâl am y gwasanaeth. Ceir mynediad at y cynllun trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu ac, o gofio, yn amlwg, bod eich Llywodraeth yn cefnogi presgripsiynau am ddim, pam mae hyn, sy'n ymarfer corff ar bresgripsiwn i bob pwrpas, yn wahanol?
Wel, os bydd rhywun yn derbyn presgripsiwn, wrth gwrs, yna gall yr ymagwedd fod yn wahanol. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cydbwysedd teg rhwng yr hyn y disgwylir i unigolyn ei gyfrannu a’r hyn sydd ar gael i'r unigolyn hwnnw. Ac rydym ni’n gweld bod canlyniadau da. Er enghraifft, bu gostyngiad o 10 y cant i’r gyfradd gyffredinol o bobl sy'n marw o gyflwr iechyd anadlol, yn ogystal â gostyngiad o 11.1 y cant i nifer y derbyniadau brys yn ymwneud â chyflyrau anadlol rhwng 2013 a 2014.
Darpar-Arlywydd Unol Daleithiau America
2. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch croesawu darpar-Arlywydd Unol Daleithiau America i Gymru? OAQ(5)0266(FM)
Dim, hyd yma.
Diolch i chi am eich ateb cryno, Brif Weinidog. Nawr, rwy’n deall bod y trefniadau ynghylch yr Arlywydd newydd—y darpar Arlywydd—yn ymweld â Chymru, yn y dyfodol, ond, o ran masnach, tybed a fyddech chi’n cydnabod bod gennym ni erbyn hyn ddarpar Arlywydd sydd o blaid, ac mae wedi lleisio ei farn yn frwd ar y mater, taro bargen fasnachu gyda'r DU, a gallai hyn arwain at ragolygon gwell— [Torri ar draws.] Gallai arwain, er gwaethaf y gwaethafwyr, at ragolygon gwell i Gymru ar ôl Brexit—[Torri ar draws].
Ni allaf glywed y cwestiwn; gadewch i’r cwestiwn gael ei glywed.
Mae’n ddrwg gennyf, Lywydd.
Na, nid chi sydd angen ymddiheuro, ond y lleill.
Diolch, Lywydd, am ddweud y drefn wrthyn nhw. Brif Weinidog, a ydych chi’n frwdfrydig, fel yr wyf i, am y rhagolygon yn y dyfodol i Gymru ar ôl Brexit gyda’r Arlywydd Trump?
Wel, nid wyf wedi fy argyhoeddi hyd yn hyn. A'r rheswm pam rwy’n dweud hynny yw bod Donald Trump wedi ei ethol ar y sail o roi America yn gyntaf. Ar y sail honno, nid wyf yn gweld bod cytundebau masnach rydd yn mynd i fod yn uchel iawn ar ei agenda. Mae wedi dweud ei fod eisiau dadwneud trefniadau masnachu byd-eang. Felly, bydd yn rhaid i ni aros i weld. Hynny yw, yn amlwg, mae gwaith i'w wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU mewn sefyllfa mor gref â phosibl ar ôl Brexit, ond ni welaf unrhyw dystiolaeth hyd yma i awgrymu y bydd America o blaid cytundebau masnach rydd sy’n gytbwys ac nid yn ffafrio un ochr yn llwyr yn hytrach na'r llall.
Yn Islwyn, rydym ni’n dathlu’r berthynas arbennig hanesyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru gyda balchder mawr, yn General Dynamics, â'u canolfan yn Oakdale. Ac, yn yr uwchgynhadledd bwysig ddiweddar, ailfynegwyd y cysylltiadau agos hynny rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn lofnodi cytundeb gwerth £3.5 biliwn, i archebu 589 o gerbydau arbenigol SCOUT. Sicrhaodd y cytundeb hwnnw y bydd gan y 200 o weithwyr a gyflogir gan General Dynamics yn Oakdale waith pendant ar gyfer y degawd nesaf. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd ganddo i adeiladu ar ei daith lwyddiannus iawn i’r Unol Daleithiau ym mis Medi eleni a sicrhau bod mwy o gwmnïau o America eisiau buddsoddi yng Nghymru ac yn ein gweithlu rhagorol?
Gwnaf, y neges fu bod Cymru ar agor i fusnes, ac aethom â’r neges honno i America. Mae'r Unol Daleithiau yn fuddsoddwr aruthrol o bwysig yn economi Cymru. Mae dau gwestiwn a ofynnir gan fuddsoddwyr o’r Unol Daleithiau o hyd: yn gyntaf, a fyddan nhw’n gallu cael mynediad at y farchnad fawr Ewropeaidd os ydynt wedi eu lleoli yn y DU ar yr un telerau â nawr? Nid yw hynny wedi cael ei ateb eto. Yn ail, a fydd y drefn reoleiddio yn wahanol yn y DU o'i chymharu â'r UE? Mae hwnnw’n gwestiwn sy'n eu poeni. Felly, mae angen i ni weld atebion i'r cwestiynau hynny cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y llif o fuddsoddiad yn parhau.
Brif Weinidog, rwy’n meddwl y byddai'n ddoniol pe na byddai mor ddifrifol bod UKIP yn rhuthro i groesawu’r darpar Arlywydd i Gymru heb drafod y ffaith fod yr ymgeisydd hwn, y darpar Arlywydd, wedi bod yn arddel casineb at wragedd, rhywiaeth a homoffobia i weddill y byd, ac fe ddylem ni fod yn bryderus dros ben am hyn. Tybed, yn yr holl ddadl o amgylch Brexit, yr Unol Daleithiau a'r drafodaeth bresennol am wleidyddiaeth, sut y byddwch chi’n gweithio i adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth fel y gallwn ni geisio gweld trwy dywyllwch rhai o'r trafodaethau hyn. Roeddwn i mewn pryd bwyd Cyfiawnder Lloches neithiwr yn ceisio cefnogi'r rhai sydd angen ein help, yn hytrach na chodi rhwystrau yn erbyn eu cefnogi. Sut y gallwn ni, fel cenedl, gefnogi’r union bobl hynny sydd angen ein cefnogaeth pan fo gennym ni arweinwyr megis Trump yn y byd hwn?
Mae gwir arweinwyr yn codi pontydd, nid waliau—dyna'r un peth y mae'n rhaid i ni ei gofio. Nid yw dynoliaeth yn ffynnu pan fydd gwledydd yn ceisio torri eu hunain i ffwrdd oddi wrth ei gilydd. Mae hynny'n arwain at wrthdaro, ac mae hanes yn dangos i ni ble mae hynny’n arwain. Bydd gan y darpar Arlywydd dasg enfawr ar ei ddwylo i uno ei wlad hynod ranedig—nid oes amheuaeth am hynny. Rydym ni wedi gweld yn yr wythnos ddiwethaf fod America yn bell o fod yn wlad sy’n fodlon â’i hun, a bydd ganddo dasg sylweddol i’w gwneud er mwyn symud ymlaen tuag at wlad fwy unedig. Mae’n amlwg y bydd yn rhaid iddo ostegu, o leiaf, rhai o'r sylwadau a wnaeth yn ystod ei ymgyrch etholiadol. Ceir arwyddion y gallai hynny fod yn digwydd, ond rydym ni’n aros i weld beth fydd yn digwydd pan gaiff ei urddo ym mis Ionawr.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod toriadau i fudd-daliadau anabledd a newidiadau i asesiadau a gyflwynwyd gan Lywodraethau San Steffan wedi mynd yn rhy bell ac yn niweidio pobl sydd mewn gwir angen erbyn hyn?
Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl yn fy meddwl i bod yr hyn sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth y DU o ran budd-daliadau wedi targedu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae'r dreth ystafell wely yn un enghraifft o hynny, ac mae hi wedi crybwyll enghraifft arall yn y fan yna. O’m safbwynt i, bernir cymdeithas ar sail pa mor dda y mae'n gofalu am ei rhai mwyaf agored i niwed, nid trwy dargedu ei rhai mwyaf agored i niwed.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ffilm Ken Loach "I, Daniel Blake' yn cyseinio gyda phobl ym mhob man. Rwy'n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol bod y ffilm yn archwilio caledi, yr achosion sydd wrth wraidd caledi a sut y mae'n ymddangos bod y system wedi ei threfnu i weithredu yn erbyn y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth. Mae rhan fawr o'r caledi a ddioddefir gan bobl anabl wedi ei hachosi gan wallau yn y ffordd y mae asesiadau’n cael eu cynnal. A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn mai meddygon teulu a meddygon ddylai fod y bobl sy’n gwneud asesiadau o anabledd, ac na ddylai fod unrhyw rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cael y cymorth y maen nhw’n ei haeddu?
Ni allwn anghytuno â’r naill na'r llall o'r sylwadau hynny y mae hi wedi eu gwneud. Mae meddygon teulu yn gwbl gymwys i wneud asesiad ynghylch pa un a ddylai rhywun fod yn gymwys ar gyfer budd-dal penodol ai peidio. Yn yr un modd, wrth gwrs, rwy’n poeni am y ffaith bod y bobl hynny sy'n gorfod mynd trwy nifer o rwystrau er mwyn hawlio budd-dal yn cael eu hanghymell rhag gwneud hynny, ac mae hynny'n golygu mwy o galedi iddyn nhw. Ceir rhai efallai nad ydynt eisiau mynd drwy'r broses honno yn y lle cyntaf hyd yn oed, er gwaethaf y ffaith y gallai fod ganddyn nhw hawl i fudd-daliadau. Dyna lle’r ydym ni, yn anffodus, ar hyn o bryd fel cymdeithas, lle mae’r bobl hynny y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn sydd angen help gan y wladwriaeth yn cael eu hanghymell rhag cael y cymorth hwnnw.
Rwy’n rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwy'n falch eich bod chi’n cytuno â’m safbwynt i. Rhoddaf gyfle i chi ddangos faint yr ydych chi’n cytuno. Mae gennyf etholwr sy'n hawlio lwfans cymorth cyflogaeth ac yn dymuno hawlio grant anabledd er mwyn mynd i addysg. Mae ei meddyg teulu yn mynnu ei bod hi’n talu ffi o £95 am lenwi'r ffurflenni. Heb y ffurflenni hynny, ni fydd hi'n cael y grant ac, felly, ni fydd hi’n gallu astudio. Cadarnhawyd i mi y gallai fod yn rhaid i fyfyrwyr dalu i gael grantiau myfyrwyr anabl, ac y caiff meddygon teulu godi tâl am y gwaith hwn, ac mae canllawiau Cymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu y gallai hynny fod yn ffi o £90 am 20 munud o waith. Dyna maen nhw’n ei ddweud sy’n briodol, ac mae hynny'n fwy nag yr ydych chi’n ei ennill fel Prif Weinidog. A ydych chi'n meddwl ei bod yn briodol bod y GIG yr ydych chi wedi bod yn ei redeg ers 17 mlynedd yn rhoi rhwystrau ariannol sylweddol yn ffordd pobl anabl sy’n ceisio gwella eu bywydau? Ac a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y ffioedd hyn cyn gynted â phosibl?
Wel, dyma’r anhawster gyda'r model contractwyr annibynnol: mae meddygon teulu yn codi tâl am wasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r contract, a dyna pam, wrth gwrs, fel y mae’r Aelodau wedi fy nghlywed i’n dweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae modelau eraill y mae angen i ni eu hystyried yn y dyfodol. Mae hi wedi codi pwynt pwysig ar ran ei hetholwr. Os gwnaiff hi ysgrifennu ataf i gyda mwy o fanylion am yr achos y mae hi wedi ei godi, byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu yn ôl ati gydag ymateb personol.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf y bydd £50 miliwn ychwanegol yn cael ei roi ar gael ar gyfer pwysau’r gaeaf—rhywbeth yr ydym ni’n gobeithio fydd yn lleddfu peth o'r pwysau a wynebwyd gan y sector acíwt neu sylfaenol yr haf hwn, fel nad yw pobl yn dioddef yr amseroedd aros y bu’n rhaid iddynt eu dioddef yn hanesyddol. Un o'r pethau y mae’n gas gan bobl ei wneud y dyddiau hyn yw ffonio eu meddygfa deulu leol i geisio cael apwyntiad, yn enwedig apwyntiad ar y diwrnod penodol hwnnw, oherwydd yn amlwg mae'r galw mor fawr. A allwch chi ddweud wrthyf sut yn union y bydd y £50 miliwn, neu pa ran o'r £50 miliwn hwnnw, fydd yn mynd i feddygfeydd teulu i leddfu'r pwysau y mae meddygfeydd teulu yn benodol yn eu hwynebu wrth fodloni’r galw ychwanegol y maen nhw’n ei wynebu?
Wel, mae meddygfeydd teulu yn trefnu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn cynnig apwyntiadau ar y diwrnod hwnnw, ac rwyf i wedi eu gweld. Bydd eraill, am resymau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu hesbonio, yn aros am wythnos neu ddwy, neu’n hwy weithiau. Nid yw hynny’n dderbyniol i’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu, ond mae'r arian ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynllunio, wrth gwrs, i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu ymdrin ag unrhyw bwysau a allai godi o ganlyniad i dywydd oerach, lle mae pobl yn dod i mewn gyda chyflyrau anadlol, er enghraifft. Rydym ni’n gwybod os cânt eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau anadlol, eu bod nhw’n tueddu i gael eu derbyn ac aros yn hwy yn yr ysbyty. Ac rydym ni’n gwybod bod y byrddau iechyd, fel y maen nhw wedi ei wneud yn y blynyddoedd a fu, yn cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, a bydd yr arian ar gael er mwyn iddyn nhw allu ymateb i’r pwysau hwnnw.
Nid cwestiwn tric oedd hwn, Brif Weinidog; rwyf i wir eisiau gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnynt. Mae pedwar deg y cant o bobl yn dweud eu bod nhw’n cael problemau’n cael apwyntiad ar y diwrnod y maen nhw’n ffonio eu meddygfeydd, pa bynnag ran o Gymru y maen nhw’n byw ynddi. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud sut yn union y gellir cyflwyno’r gwelliannau mewn meddygfeydd teulu, gyda’r arian ychwanegol hwn—y £50 miliwn a fydd yn mynd i mewn i'r sector acíwt a sylfaenol—i leddfu peth o'r pwysau hwnnw, ond, yn bwysig, sut, yn ystod oes y Cynulliad hwn, gyda'r gyllideb sydd gennych, y byddwch yn cynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y sector sylfaenol a chael mwy o feddygon teulu i mewn i feddygfeydd, lle bynnag y byddant yn dewis gweithredu yng Nghymru, gan ei bod yn amlwg nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd.
Nid yw’n ymwneud â meddygon teulu yn unig; mae'n ymwneud â’r holl wasanaethau y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu cynnig. Er enghraifft, gellir cyfeirio pobl oddi wrth orfod mynd i'r ysbyty os byddant yn cael cymorth gartref trwy wasanaethau cymdeithasol, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gwneud yn siŵr nad yw'r gyllideb gwasanaethau cymdeithasol wedi cael ei thorri i'r graddau y mae hynny wedi digwydd mewn mannau eraill. Rydym ni wedi sicrhau, wrth gwrs, mewn lleoedd nad yw meddygfeydd teulu yn bodoli mwyach, bod y bwrdd iechyd yn cymryd y meddygfeydd hynny drosodd a’u bod yn cynnig gwasanaeth gwell, mewn gwirionedd—eu bod yn cynnig gwasanaeth gwell a mwy cyfannol na'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen, fel y bydd pobl Prestatyn yn ei esbonio. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod y bydd llawer o bobl a fydd yn gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty, ac mae'n hynod bwysig bod yr arian hwnnw ar gael i’r ysbytai ymdrin ag unrhyw gynnydd ychwanegol i dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys.
Brif Weinidog, rydym ni wedi gweld yr arian sy’n mynd i mewn i feddygfeydd teulu yn gostwng dros y pedair blynedd diwethaf—gostyngiad o £20 miliwn dros y pedair blynedd diwethaf. Dyna pam mae gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymgyrch ar hyn o bryd i gynyddu’r gyfran o gyllideb y GIG sy’n mynd i feddygfeydd teulu i 11 y cant o'r gyllideb erbyn 2020. A allwch chi ymrwymo i gyflawni’r dyhead hwnnw gan y coleg brenhinol ac, yn wir, a wnewch chi ymrwymo i gael mwy o feddygon teulu yng Nghymru ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn nag sydd gennym ar hyn o bryd? Rydym ni’n deall bod y pethau hyn yn cymryd amser, ond mae gennych chi bedair blynedd a hanner ar ôl o’r mandad nawr, pryd y gallwch chi wneud y newidiadau hynny, pryd y gallwch chi wneud y buddsoddiadau hynny y mae'r coleg brenhinol yn sôn amdanynt, ac y gallwch chi ddechrau recriwtio'r staff ychwanegol sydd eu hangen i greu’r porth hwnnw i mewn i'r GIG, o ystyried mai’r man cyswllt cyntaf i’r mwyafrif o bobl—90 y cant o bobl—yw eu meddygfa deulu.
Wel, mae coleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol yn edrych arno o ran nifer y meddygon teulu yn unig. Nid yw hynny’n ddigonol. Mae'n rhaid i ni edrych ar weithwyr proffesiynol eraill, fel therapyddion galwedigaethol, fel nyrsys cymuned. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw i bobl deimlo mai mynd i weld eu meddyg teulu yw’r man galw cyntaf bob amser. Byddai hynny'n mynd yn groes i’r hyn y mae Dewis Doeth wedi bod yn ei ddweud. Rydym ni’n gofyn i bobl fynd i weld fferyllydd yn gyntaf, i weld y nyrs sydd ar gael yn y practis mewn llawer o feddygfeydd teulu, ac yna gweld y meddyg teulu. Yr hyn na fyddwn eisiau ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae pobl yn meddwl y gallant osgoi gweld nyrs neu fferyllydd a mynd at feddyg teulu gyda chyflwr a allai fod wedi cael ei drin yn hawdd yn rhywle arall. Ydym, wrth gwrs, ein bod ni eisiau gweld niferoedd digonol o feddygon teulu yng Nghymru, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr hefyd bod dewisiadau eraill yn hytrach na gweld meddyg teulu er mwyn helpu i gymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn y cwestiwn gan Gareth Bennett yn gynharach am y darpar Arlywydd Trump, a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol masnach gyda'r Unol Daleithiau i Gymru? Mae dau ddeg dau y cant o'n hallforion yn mynd i'r Unol Daleithiau. Mae hynny'n gyfanswm o bron i £3 biliwn y flwyddyn. Dyna’r un gyrchfan genedlaethol fwyaf i’n hallforion, o'i chymharu â'r Almaen, er enghraifft, lle’r ydym ni’n allforio gwerth oddeutu £1 biliwn—traean yw hynny mewn cymhariaeth. Felly, beth bynnag yr ydym ni’n ei feddwl am yr unigolyn sydd ar fin dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hanfodol bwysig i Lywodraeth Cymru gyd-dynnu â gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau a’u hannog i fuddsoddi yng Nghymru a masnachu cymaint â phosibl â ni.
Wel, mae'n iawn i ddweud bod yr Unol Daleithiau yn farchnad bwysig i ni. Mae'r UE ddwywaith mor fawr fel marchnad ac yn yr un modd ag y mae e'n iawn bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac allforio i'r Unol Daleithiau, mae’n rhaid i ni hefyd wneud yn hollol sicr ein bod ni'n gallu cael mynediad at farchnad sengl Ewrop ar yr un telerau â nawr. Pam y byddem ni eisiau peryglu ein lle yn y farchnad sengl fwyaf sydd gennym ni?
Wel, does neb eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, ac mae bron pawb ym Mhrydain beth bynnag eisiau parhau i fasnachu gyda'r UE ar yr un sail ag yr ydym ni’n masnachu nawr, gyda mynediad di-dariff. Y perygl gyda'r UE yw y bydd y Comisiwn Ewropeaidd a lluoedd gwarchodol y tu mewn i'r UE yn awyddus i godi rhwystrau masnach yn ein herbyn, a fydd yn gwneud tro gwael a’u hunain, gan fod ganddyn nhw warged masnach enfawr gyda ni. Ond o ran yr Unol Daleithiau, hoffwn ddychwelyd at y pwynt hwn oherwydd dyna oedd pwynt fy nghwestiwn, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud beth bynnag fo polisïau domestig y darpar Arlywydd Trump i annog Llywodraeth yr Unol Daleithiau i adeiladu ar y duedd naturiol i fod yn gyfeillgar tuag at Brydain ac i annog masnach rhyngom? Mae gan yr Arlywydd Trump fuddiannau busnes yn y Deyrnas Unedig. Mae’n barod, fel y gwyddom o'r hyn y mae wedi ei ddweud, i roi Prydain ar flaen y ciw yn y trafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i annog datblygiad y broses honno?
Wel, mae wedi dweud y bydd yn rhoi America yn gyntaf ac y bydd unrhyw gytundeb gyda'r DU yn rhoi America yn gyntaf a dyna beth mae'n rhaid i ni warchod yn ei erbyn yn hynny o beth. Byddwn yn parhau, fel yr ydym yn y gorffennol, gyda’n swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau, i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau a cheisio denu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid. Pam y byddai'n newid? Cefais fy synnu pan ddywedodd nad oes neb yn argymell tariffau oherwydd rwyf i wedi clywed pobl yn sôn am dariffau. Clywais David Davis yn sôn am dariffau. Rwyf i wedi clywed Liam Fox yn sôn am dariffau fel pe byddai tariffau’n ddibwys. Pam fyddem ni eisiau gwaethygu ein mynediad at ein marchnad sengl fwyaf? Mae hynny'n gwbl ddisynnwyr. Yn yr un modd, beth bynnag fo’r sefyllfa wleidyddol yn yr Unol Daleithiau, byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau, i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac i hyrwyddo cynnyrch o Gymru ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid.
A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod efallai y gall UKIP gynorthwyo yn y broses hon? Mae’n siŵr y bydd wedi gweld y llun swynol a ymddangosodd yn ddiweddar iawn o arweinydd dros dro UKIP gyda darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, a beth bynnag y mae ef a minnau’n ei feddwl o’r ddau unigolyn hynny, serch hynny, i'r graddau y mae gennym ni gysylltiadau personol y gellir eu defnyddio er lles Cymru, yna dylid eu defnyddio. Yn y ddogfen, ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn gymharol ddiweddar, mae'n dweud:
‘Bydd ein llywodraeth ni yn un agored, yn croesawu syniadau newydd ac yn barod i weithio gydag eraill.'
A yw'r Prif Weinidog yn fodlon gweithio gydag UKIP er budd Cymru?
Yr unig beth y mae Nigel Farage wedi ei redeg yw i ffwrdd. Nid yw erioed wedi rhedeg dim. Mae’n unigolyn nad oes ganddo unrhyw brofiad o ran rhedeg unrhyw beth nac o ran diplomyddiaeth. Mae'r syniad o Nigel Farage fel diplomydd yn gyfwerth â rhoi llif gadwyn i blentyn, mae'n ymddangos i mi. Do, fe wnes i weld y lluniau o Nigel Farage, ond heb ei babi, ar Ddydd y Cofio—pwynt a wneuthum ddoe—er bod Arron Banks, y dyn arian, yn gwisgo pabi. Mae'n un peth i UKIP ddweud pa mor bwysig yw hi i gofio—ac maen nhw’n gywir yn hynny o beth. Mae'n un peth i Nigel Farage ddweud ei fod eisiau bod yn y Senotaff ac mae hwnnw'n bwynt y mae’n gallu ei wneud. Ond, nid oedd mewn gorymdaith goffa ddoe, nid oedd yn gwisgo pabi hyd yn oed. Pe byddai Mark Reckless wedi gwneud hynny, byddai wedi cael ei feirniadu. Pe byddai Neil Hamilton wedi gwneud hynny, byddai wedi cael ei feirniadu. Pe byddai unrhyw un ohonom ni yn y Siambr hon wedi gwneud hynny, yna byddem ni wedi cael ein beirniadu, ond mae Nigel fawr y tu hwnt i feirniadaeth. Wel, mae gen i ofn iddo gael ei ddadwneud gan ei ddadl ei hun ddoe. Nid yw rhywun nad yw’n ddigon doeth i beidio â chael tynnu ei lun ar Sul y Cofio mewn digwyddiad, yn gwenu, heb babi, yn haeddu cael unrhyw fath o swyddogaeth ddiplomyddol.
Gwella Iechyd y Cyhoedd
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei strategaethau i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru? OAQ(5)0259(FM)
Rydym ni wedi ymrwymo i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gwerthuso i sicrhau bod ein dull yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Mae ffigur Llywodraeth Cymru yn datgelu bod mwy na 60,000 o bobl wedi mynychu gwasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, ac mai dim ond 13 y cant a gwblhaodd y driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny'n golygu na chwblhaodd 87 y cant o bobl y driniaeth. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd y gwasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, sy’n amlwg yn methu â helpu mwyafrif y rhai sydd eu hangen nhw yma?
Rydym ni’n gwybod pan ddaw i adsefydlu yn dilyn cymryd cyffuriau, ei bod hi’n ffordd hirfaith i lawer iawn o bobl. I rai, nid ydynt yn llwyddo ar y cyfle cyntaf i roi'r gorau i'r arfer. Rydym ni’n gwybod i lawer ei bod yn broses sy'n cymryd cryn amser. Os edrychwn ni ar ein strategaeth camddefnyddio sylweddau, daeth yr adolygiad o honno i'r casgliad bod prif elfennau'r strategaeth wedi cael eu gweithredu. Fe wnaeth nodi nifer o feysydd lle byddai gwaith ychwanegol yn sicrhau mwy o fuddion, a chafodd camau gweithredu eu cynnwys yng nghynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau 2013-15, er mwyn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny.
Brif Weinidog, mae eich agenda ataliol yn bwysig i sicrhau iechyd y cyhoedd da i bobl yng Nghymru. Mae brechiadau yn rhan o'r agenda ataliol hwnnw, ac yn yr achos hwn yn benodol, brechiadau rhag y ffliw. Rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran y nifer sy’n manteisio, ond ceir her i staff rheng flaen y GIG o hyd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod staff rheng flaen y GIG yn cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar frechiadau rhag y ffliw i sicrhau y gallant gyflawni?
Gwn fod meddygfeydd teulu yn arbennig wedi bod yn arbennig o ragweithiol o ran sicrhau bod pobl yn ymwybodol o frechiadau rhag y ffliw, ac yn ymwybodol yn arbennig o frechiadau rhag y ffliw sydd ar gael am ddim i grwpiau agored i niwed. Ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, a diolchaf i feddygfeydd teulu—a fferyllwyr, o ran hynny—am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud.
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, yn naturiol, fod graddfeydd ysmygu wedi gostwng dros y blynyddoedd, yn rhannol wrth gwrs achos bod deddfwriaeth wedi dod ger bron achos roedd y niferoedd a oedd yn ysmygu yn dal yn ystyfnig o uchel nes i ni gael y gwaharddiad yna ar ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus. Yn yr un amser, yn y degawd diwethaf, mae graddfeydd gordewdra wedi codi yn lle disgyn. A fuasech chi’n cytuno bod mesurau deddfwriaethol megis treth ar siwgr ac isafswm pris ar uned o alcohol hefyd yn gallu cael lle i weithio yn yr holl agenda gordewdra? Ac a fyddech chi’n cytuno y buasai’r ddau fesur yna yn cryfhau unrhyw Ddeddf ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru?
Byddwn. Ynglŷn ag alcohol, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu’r ffaith bod llysoedd yn yr Alban wedi caniatáu beth mae Llywodraeth yr Alban eisiau ei wneud, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei astudio nawr yng Nghymru. Y broblem yw, wrth gwrs, cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i symud y mater hwn o Gaerdydd i Lundain, ac felly byddai pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol i greu deddfwriaeth ynglŷn â hyn yn cael eu cwtogi. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth i’w groesawu.
Brif Weinidog, cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Tachwedd. Os caiff ei basio, bydd y Bil, ymhlith pethau eraill, yn creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, yn creu cynllun trwyddedu ar gyfer gweithdrefnau arbennig fel aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o effaith ar iechyd o dan amgylchiadau penodedig, yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaeth leol ar gyfer cyfleusterau toiledau at ddefnydd y cyhoedd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio deddfu cyfreithiau sydd, â chanddynt wrth eu gwraidd, fesurau i fonitro gweithgareddau ar lawr gwlad yn systematig. Pa gyngor fyddai'r Prif Weinidog yn ei gynnig i Aelodau fel yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru gyferbyn, pan fyddant yn dod i bleidleisio ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), os ydynt yn dymuno i Lywodraeth Cymru fonitro effeithiolrwydd y strategaethau yr ydym ni’n eu pasio mewn cyfraith yn y lle hwn?
Rwy’n cymryd bod yr Aelod yn cyfeirio at yr Aelod a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol.
Ydw yn wir.
Wel, mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod yr Aelodau’n deall bod y Bil iechyd y cyhoedd yn rhan o strategaeth gyffredinol i wella iechyd a lles; nid ydynt yn fesurau annibynnol. Y bwriad, wrth gwrs, yw i ni i gyflwyno Bil sydd mor gynhwysfawr ag y gall fod gan gofio, wrth gwrs, yr anawsterau a gafwyd a safbwyntiau cryf rhai Aelodau o ran darnau o’r Bil blaenorol. Ac rydym ni’n gwybod hanes hynny, wrth gwrs.
Expo’r Byd
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn archwilio unrhyw fanteision posibl i Gymru pe bai Cymru’n cyflwyno cais i gynnal Expo’r Byd 2027/28 ai peidio? OAQ(5)0264(FM)
Rŷm ni wrthi’n ailedrych ar y sgôp ar gyfer denu digwyddiadau busnes rhyngwladol mawr i Gymru. Byddai angen i unrhyw benderfyniad i gyflwyno cais am ddigwyddiad o’r fath roi ystyriaeth fanwl i’r costau a’r enillion o’r buddsoddiad.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dweud y bydden nhw’n cefnogi cais o Brydain i gynnal yr Expo am y tro cyntaf, wrth gwrs, ers dros 150 o flynyddoedd. Mae Manceinion eisoes wedi datgan eu bod nhw’n bwriadu rhoi cais i mewn ar gyfer y prif Expo yn 2025, gan anelu at 28 miliwn o ymwelwyr. Mae hynny’n dair gwaith, bron, o gymharu â’r Gemau Olympaidd. O ystyried y budd, oni ddylai fod Cymru’n rhoi cais gerbron hefyd?
Wel, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n rhaid ystyried yn gyntaf beth yw’r gost i ni, yn ail, wrth gwrs, ble yn gwmws byddai safle’r Expo, ac mae’r rhain yn bethau rŷm ni’n eu hystyried ar hyn o bryd. Rŷm ni’n gwybod bod cost yr Expo yn mynd lan yn fwy na £1 biliwn, felly mae’n rhywbeth sydd yn sylweddol ynglŷn â chost, ond fe wnawn ni ystyried beth sy’n bosibl yn y pen draw.
Brif Weinidog, byddai'n rhaid i Expo yng Nghymru adeiladu, wrth gwrs, ar lwyddiant ein cymuned fusnes. Rydym ni’n gwybod bod bwlch amlwg mewn sgiliau busnes pobl ifanc. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr ardoll brentisiaeth yn cael ei dosrannu i sefydliadau datganoledig. A wnewch chi ymrwymo i neilltuo cyllid, fel y bydd busnesau Cymru yn gallu elwa ar yr ardoll brentisiaeth?
Wrth gwrs, rydym ni’n aros i weld beth fydd y ffigur—. Wel, mae gennym ni syniad beth fydd y ffigur ac rydym ni’n aros i weld sut y bydd y ffigur hwnnw’n cael ei ddosbarthu, gan gofio, wrth gwrs, o’r ffigur o tua £130 miliwn, bod £30 miliwn wedi cael ei dalu gan sector cyhoeddus Cymru eisoes. Felly, mae'n arian sy’n cael ei ddychwelyd, i bob pwrpas, i sector cyhoeddus Cymru, a byddwn yn ceisio defnyddio'r arian hwnnw, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i sicrhau y gallwn greu cymaint o brentisiaethau effeithiol â phosibl.
Triniaethau’r GIG yng Ngogledd Cymru
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at driniaethau’r GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0256(FM)
Gwnaf. Rydym ni’n disgwyl i'r bwrdd iechyd wella mynediad at wasanaethau i bobl y gogledd yn barhaus.
Brif Weinidog, fel finnau, rwy'n siŵr eich bod chi’n siomedig iawn ac wedi eich dychryn o ddarllen am achos yr ombwdsmon yr wythnos diwethaf o ran Mr Eifion Wyn Jones, a arhosodd 132 diwrnod am driniaeth canser y brostad. Yr wythnos hon, adroddwyd achos arall yn y 'Daily Post' am ŵr o Brestatyn, Mr Ian Taylor, a arhosodd dros dri mis am ei driniaeth. Rwy'n gweithio ar achos ar hyn o bryd lle arhosodd gŵr dros chwe mis i driniaeth ddechrau. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod gan eich Llywodraeth darged eglur iawn y dylai pobl ddechrau eu triniaeth, os byddant yn cael diagnosis o ganser, o fewn 31 diwrnod. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r sefydliad hwn—Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr—mewn mesurau arbennig, i wneud yn siŵr bod eich targed yn cael ei fodloni ar gyfer pobl y gogledd, fel y gallant gael mynediad at y driniaeth y maent ei hangen?
Betsi Cadwaladr, dros y flwyddyn ddiwethaf, fu un o'r byrddau iechyd a berfformiodd orau yn erbyn y ddau lwybr canser, gyda pherfformiad o tua 90 y cant yn erbyn y llwybr 62 diwrnod fel rheol a 98 y cant ar gyfer y llwybr 31 diwrnod. Felly, nid yw profiadau ei etholwyr—nid oes gen i unrhyw reswm i’w hamau—yn arferol, ond os yw’n dymuno ysgrifennu ataf gyda'r manylion, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio.
Rydw i wedi siarad yn y Siambr yma droeon am bwysigrwydd profion diagnostig. Mae e wedi cael ei dynnu i’m sylw i gan feddygon teulu yn fy etholaeth bod amseroedd aros am brofion endosgopi wedi cyrraedd lefelau pryderus yn y misoedd diwethaf, efo sôn am gleifion yn gorfod aros blwyddyn a saith mis ar ôl cyrraedd brig y rhestr. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i edrych ar beth sy’n digwydd o ran profion endosgopi yn y gogledd-orllewin i sicrhau bod cleifion yn cael profion a gofal priodol ac amserol—profion, wrth gwrs, sy’n gallu achub bywydau?
Wrth gwrs, fe wnaf i edrych ar hynny ac ysgrifennu’n ôl at yr Aelod gydag ateb.
Ers i ysbyty’r Fflint gau, nid yw gofal cam i lawr o Ysbyty Glan Clwyd i Dreffynnon ar gyfer cleifion y Fflint yn gweithio, a cheir amseroedd aros gormodol am welyau ysbyty erbyn hyn. Pam ydych chi’n lleihau nifer y gwelyau lleol sydd ar gael pan fo gennym ni brinder gwelyau, er enghraifft, trwy gau ysbyty’r Fflint? A, gyda llaw, cynhaliwyd refferendwm yn y Fflint a ganfu fod mwyafrif pobl y Fflint eisiau eu hysbyty yn ôl, felly pryd yr ydym ni’n mynd i gael ein hysbyty yn ôl yn y Fflint, os gwelwch yn dda?
Rwy'n hyderus y bydd y gwasanaeth y bydd pobl y Fflint yn ei gael pan fydd y ganolfan iechyd newydd yn agor, yn llawer, llawer gwell na'r hyn yr oedd yr ysbyty yn gallu ei gynnig. Rydym ni wedi gweld hyn o'r blaen mewn gwahanol rannau o Gymru, lle mae pobl yn naturiol yn teimlo'n bryderus pan gaiff ysbyty ei golli. Ond pan fyddant yn gweld beth sy'n dod yn ei le, a’r cyfleusterau sydd ar gael, mae hynny’n tueddu i roi sicrwydd iddyn nhw.
Trais a Hunanladdiad mewn Carchardai
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ynghylch y galwad am ymchwiliad annibynnol i drais a hunanladdiad mewn carchardai? OAQ(5)0260(FM)
Nid yw carchardai wedi eu datganoli, a mater i Lywodraeth y DU yw unrhyw alwad am ymchwiliad annibynnol, ond yn amlwg ceir problemau o fewn y system carchardai y mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw iddynt.
Diolchaf i chi am hynna, ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, Brif Weinidog, y cyhoeddwyd Papur Gwyn diogelwch a diwygio mewn carchardai gan yr Adran Gyfiawnder ddechrau'r mis hwn. Ni allwn ysgaru toriadau’r Llywodraeth Geidwadol i’r gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf o’r gostyngiad i staff carchardai sydd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus i garcharorion ac i'r staff. Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyllidebu £104 miliwn ychwanegol erbyn hyn i helpu i recriwtio 2,500 o staff carchardai newydd, a rhywfaint o ddiwygio carchardai, ac rwy’n gobeithio mewn ffordd y bydd hynny’n helpu. Ond fy nghwestiwn i yw: pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i Lywodraeth San Steffan o ran ein cyllid Barnett canlyniadol a sut y gallai hwnnw ein helpu ni yma yng Nghymru i geisio clirio eu llanast?
Nhw sy’n gyfrifol am glirio eu llanast, yn bennaf. Mae'r gostyngiad o 25 y cant mewn swyddogion carchar rheng flaen yn golygu bod y rhai sy’n dal yno yn cael eu gorymestyn, eu gorlethu, a heb gefnogaeth, ac mae carcharorion a staff yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus. Fi oedd y cynghorydd lleol pan adeiladwyd carchar y Parc yn fy ward cyngor, a’r brif broblem oedd gan y carchar oedd ei fod yn brin o staff, ac nad oedd y staff wedi eu hyfforddi’n ddigonol. Roedd terfysgoedd yno yn rheolaidd, a bu’n rhaid i staff o Abertawe a Chaerdydd ddod i mewn i gynorthwyo'r sefyllfa. Llwyddodd un gŵr i ddianc trwy hongian o dan lori ac ni ddaethpwyd o hyd iddo. Roedd yr holl flynyddoedd cyntaf hynny o weithredu carchar y Parc yn draed moch oherwydd y ffaith fod y cwbl yn cael ei wneud yn rhad. Nawr, wrth gwrs, mae mewn sefyllfa llawer gwell, ond mae'n dangos, os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i fuddsoddi mewn swyddogion carchar, mai’r canlyniad yw anhrefn a charcharorion agored i niwed a swyddogion carchar agored i niwed. Mae angen iddyn nhw ailystyried eu cynlluniau.
Mae'r system carchardai mewn argyfwng ac mae miloedd o swyddogion carchar yn protestio yn erbyn eu hamodau gwaith peryglus. Pryd fydd y Prif Weinidog yn ystyried ei bod yn hanfodol i garchardai Cymru a lles carcharorion a staff carchardai Cymru ddod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol?
Pwynt diddorol, ond nid yw mor hawdd â hynny, oherwydd nid oes gennym ni’r ystâd carchardai hunangynhwysol. Er enghraifft, byddai’n dal i fod angen i chi brynu i mewn, fel petai, lleoedd mewn carchardai yn Lloegr, am bris y byddai Lloegr yn dymuno ei godi—ni fyddai gennym ni unrhyw reolaeth benodol dros hynny. Rydym ni’n brin o garchardai diogelwch uchel penodol hefyd, felly mae’n rhaid archwilio hyn i gyd er mwyn sicrhau na fydd gennym ni, yn y pen draw, reolaeth dros garchardai, nad oes gen i unrhyw wrthwynebiad iddo mewn egwyddor, a dweud y gwir, gytundeb ariannol sy'n llawer, llawer gwaeth yn y pen draw. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ni fu gennym ni’r system carchardai hunangynhwysol honno erioed. Mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni feddwl amdano wrth ystyried datganoli carchardai.
Ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(5)0262(FM)
Mae cynllun cyflawni ar ganser Cymru wedi’i adnewyddu, a lansiwyd heddiw, yn parhau i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o ganser, gan gynnwys canser y pancreas.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Heddiw, roeddwn yn falch iawn unwaith eto o gynnal digwyddiad i nodi mis ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yma yn y Senedd. Y llynedd, pan ofynnais i chi am hyn, pwysais arnoch ar yr angen i godi ymwybyddiaeth. Eleni, mae Pancreatic Cancer UK wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos na all tri chwarter y cyhoedd yn y DU enwi unrhyw symptom o ganser y pancreas. A fyddech chi’n cytuno â mi bod angen newid sylweddol arnom yn y maes hwn nawr, ac a wnewch chi gytuno i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod beth i chwilio amdano, fel eu bod yn mynd at y meddyg yn gyflym a rhoi gwell cyfle i’w hunain o oroesi canser sy’n ymosodol ac yn anodd iawn ei drin?
Anodd dros ben: rwyf wedi ei weld mewn mwy nag un unigolyn yn fy nheulu, ac, ar ôl cael diagnosis ohono, mae'n anobeithiol. Dyna’r ffordd arferol gyda chanser y pancreas ar hyn o bryd—cyfradd oroesi o 4 y cant. Yr anhawster, wrth gwrs, yw bod y symptomau yn eithaf cyffredinol ac amhenodol, a gallant fod yn symptomau o unrhyw nifer o gyflyrau. Wedi dweud hynny, mae'r cynllun cyflawni ar ganser yn cynnwys yr ymrwymiad i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol rheolaidd. O ystyried y ffaith nad yw canser y pancreas, mae'n ymddangos i mi, yn fath o ganser arbennig o anghyffredin, ac o ystyried ei natur farwol, mae angen i ni weithio gyda'r proffesiwn meddygol i gynorthwyo nid yn unig cleifion, ond meddygon teulu hefyd, o ran eu gallu i adnabod y canser cyn gynted â phosibl, er mor anodd yw hynny.
Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol na fu unrhyw welliant i gyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, er gwaethaf y camau rhyfeddol yr ydym ni wedi eu gwneud mewn llawer o feddyginaethau eraill a chyda llawer o gyflyrau eraill. Nawr, ceir prosiect ymchwil ar hyn o bryd sy’n casglu samplau o chwe ysbyty ar draws Gymru a Lloegr, gan gynnwys Singleton yn Abertawe, ac mae'n cael ei gynnal i ffurfio cronfa o feinweoedd a fydd yn helpu gwyddonwyr i astudio newidiadau genetig i’r celloedd canser. Y nod fydd helpu i ganfod achosion yn gyflymach, oherwydd, fel yr ydym ni newydd ei drafod, pan gaiff y canser ei ganfod, mae ychydig yn rhy hwyr fel rheol. Brif Weinidog, a wnewch chi gymryd golwg ar y prosiect hwn a gweld a oes unrhyw gymorth y gallai eich Llywodraeth ei roi i gefnogi'r prosiect hwn, naill ai trwy ein cyfleusterau ymchwil neu o ran cyllid i geisio symud yr agenda hon yn ei blaen?
Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni wrthi’n ariannu treialon ymchwil ar gyfer canser y pancreas trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hynny mewn cydweithrediad â Cancer Research UK. Mae ymchwilwyr yng Nghymru hefyd yn rhan o'r grŵp astudio Ewropeaidd ar gyfer treialon canser y pancreas. Mae hynny'n cynnwys astudiaethau seiliedig ar boblogaeth o ragdueddiadau genetig i ganser y pancreas. Felly, oes, mae rhywfaint o waith eisoes yn cael ei ariannu gennym ni fel Llywodraeth. Mae hi'n iawn i nodi nad yw cyfraddau goroesi wedi newid ers amser maith, felly, mae dod o hyd i ffyrdd lle gellir gwella diagnosis cynnar yn gwbl hanfodol i gynyddu cyfraddau goroesi pum mlynedd yn y dyfodol.
Cau’r Bwlch Cyflog rhwng Menywod a Dynion
8. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gau'r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yng Nghymru? OAQ(5)0270(FM)
Mae llawer iawn i’w wneud eto cyn i ni gau'r bwlch cyflog. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym ni’n parhau i roi sylw i'r problemau sylfaenol sy'n creu anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, ac mae’r cynlluniau hynny i’w gweld yn ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ac amcanion ein cynllun cydraddoldeb strategol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Fawcett yr wythnos diwethaf yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fesul awr llawn amser yng Nghymru yn 7.1 y cant, sy’n is na chyfartaledd y DU, ond yn erbyn cefndir o gyflogau is yng Nghymru. Ar sail y DU gyfan, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn gweithio am ddim i bob pwrpas o 10 Tachwedd, pan fyddwch chi’n cymharu eu cyflogau gyda rhai dynion, tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, beth arall allem ni ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hynod amlwg hwn?
Rydym ni’n gefnogwyr balch o Chwarae Teg, sydd, wrth gwrs, yn gweithio'n ddiflino i herio stereoteipiau rhyw, gwahanu galwedigaethol, ac i hybu arferion gweithle modern trwy, er enghraifft, rhaglen Cenedl Hyblyg 2 ac ymgyrchoedd fel Not Just for Boys, ond rydym ni hefyd yn parhau i herio stereoteipiau rhyw. Cynhaliwyd cynadleddau Mae Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn 2014 a 2015, gan annog merched i ddyheu ac i gyflawni yng Nghymru.
Pa gamau neu ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu yn dilyn adroddiad newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif cost ariannol gwahaniaethu ac anfantais ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, a ganfu fod busnesau yn y DU yn colli bron i £280 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i fenywod yn cael eu gorfodi allan o'u swyddi gan wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith?
Mae'n fater i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef, o ystyried y ffaith ein bod ni’n sôn yma am hawliau cyflogaeth, ond, serch hynny, mae unrhyw golled o dalent i unrhyw fusnes yn rhywbeth i'w resynu. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, sicrhau, lle ceir unrhyw wahaniaethu ar sail cyfnod mamolaeth, bod hynny’n cael ei herio ac yr ymdrinnir ag ef gan y tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Yr Wythnos Ewropeaidd Lleihau Gwastraff
9. Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer yr Wythnos Ewropeaidd Lleihau Gwastraff? OAQ(5)0268(FM)
Ein barn ni yw bod pob wythnos yn wythnos i leihau gwastraff. Ni yw'r unig wlad yn y DU i osod targedau lleihau gwastraff, ac, er 2006-07, rydym ni wedi lleihau ein gwastraff cartref gan 14 y cant.
Rwy’n credu bod gan Gymru stori wych i'w hadrodd, ac mae ein hardoll fach iawn ar fagiau plastig wedi cael effaith anhygoel o ran lleihau'r defnydd o fagiau plastig gan 70 y cant. Mae pwyslais yr wythnos Ewropeaidd ar leihau cyfanswm y deunydd pacio gwastraffus, ac rydym ni’n gwybod drwy Plastics Europe, sy’n gymdeithas fasnachu ar gyfer cynhyrchwyr plastig, bod tua dwy ran o dair o'r plastig a ddefnyddir bob blwyddyn yn y DU ar gyfer deunydd pacio. Nawr, cyflwynodd Llywodraeth yr Almaen ddeddfwriaeth ar hyn yn 1996, a oedd yn gorfodi cwmnïau gweithgynhyrchu i ailddylunio pecynnau gwastraffus allan o'u prosesau er mwyn osgoi gwastraff, a’r Almaen yw'r wlad Ewropeaidd uchaf o ran ailgylchu erbyn hyn: mae 70 y cant o'r gwastraff a gynhyrchir yn cael ei adfer yn llwyddiannus a’i ailddefnyddio bob blwyddyn. Beth ydych chi'n feddwl y gallai Cymru ei wneud i ddilyn esiampl yr Almaen, gan ein bod ni’n gwybod bod pobl yn ein cymuned yn cwyno am y ffaith fod cymaint o blastig diangen wedi ei lapio am beth bynnag y maen nhw’n ei brynu?
Yr anhawster, wrth gwrs, yw bod llawer o'r hyn yr ydym ni’n ei brynu yn dod o'r tu allan i’r UE hyd yn oed. O ran Tsieina yn arbennig, mae’r deunydd pacio yn sylweddol oherwydd y pellter y bydd nwyddau yn ei deithio. Felly, mae anhawster i mi ddweud, 'Iawn, rydym ni’n mynd i gael cylch caeedig yng Nghymru', gan fod Cymru mor fach. Rwy’n meddwl bod lle i’w wneud ar lefel y DU ac ar lefel yr UE i annog cael llai—fel bod llai o wastraff posibl ar ddechrau'r broses er mwyn peidio â gorfod ymdrin â’r deilliannau yn y diwedd. Ond, i mi, mae hyn yn rhywbeth y dylid ymdrin ag ef ar lefel lawer mwy, ar lefel rhyngwladol, ar lefel byd-eang, er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau cyfanswm y gwastraff posibl yn y lle cyntaf.
Wel, mae yna un peth y gallwn ni ei wneud yng Nghymru, Brif Weinidog, ar sail y lefi bagiau plastig, a chynllun dychwelyd blaendal yw hynny, fel bod y poteli plastig sy’n cael eu defnyddio heddiw yng Nghymru yn cael eu hailddefnyddio a’u dychwelyd, a blaendal yn cael ei dalu yn ôl, yn hytrach na’u bod yn bennu lan ar ein traethau ni.
Wel, ynglŷn â photeli plastig, wrth gwrs, mae yna fodd ailgylchu poteli plastig. Rwy’n gwybod bod awdurdodau lleol yn casglu’r poteli hynny ar wahân—rhai ohonyn nhw, ta beth—o wastraff cyffredin. So, felly, i ni, roedd yn hollbwysig sicrhau bod bagiau plastig yn cael delio â nhw yn y ffordd hyn achos y ffaith nad ydyn nhw ddim yn cael eu hailgylchu ac nid ydyn nhw yn ‘biodegradable’ hefyd. Ond, wrth gwrs, yn y pen draw, bydd yn rhaid ystyried ffyrdd eraill o sicrhau ein bod ni’n ailgylchu mwy.
Mynediad i’r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol Arfaethedig
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i gleifion o Gaerffili i'r ganolfan gofal arbenigol a chritigol arfaethedig? OAQ(5)0261(FM)
Gwnaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â gofynion cludo cleifion ac eraill sydd angen mynediad at y ganolfan, a bydd hynny, wrth gwrs, yn golygu gweithio i sicrhau bod gan ei etholwyr y mynediad gorau posibl at gludiant.
Mae wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol. Rwy’n croesawu'r ganolfan gofal arbenigol a chritigol hir-ddisgwyliedig yn fawr iawn. Un o'r pryderon—[Torri ar draws.] Naddo, wnes i ddim. Un o'r pryderon mwyaf i’m hetholwyr, fodd bynnag, yw cysylltiadau trafnidiaeth, fel y dywedwch, i’r uwch-ysbyty. Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus fodern, integredig arnom ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Felly, a wnaiff ef gytuno i weithio gyda'i gydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod yr uwch-ysbyty newydd yn cael ei wasanaethu'n ddigonol gan fetro de Cymru, gyda stop penodol yno yn ddelfrydol? Ac a fyddai'r Prif Weinidog hefyd yn derbyn y bydd angen i nifer o’m hetholwyr, yn enwedig yn ne Caerffili ac ym masn Caerffili, barhau, ac y dylid caniatáu iddyn nhw barhau, i ddefnyddio Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, yn y Mynydd Bychan, er ei fod y tu allan i fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan?
Mae'n eithaf cyffredin i bobl ddefnyddio ysbyty nad yw’n dechnegol yn ardal y bwrdd iechyd y maen nhw’n byw ynddi. Er enghraifft, mae pobl yn Aberogwr neu Ewenni yn naturiol yn defnyddio Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er nad ydynt yn ardal y bwrdd iechyd lleol, a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol. Mae'n hollol iawn i nodi bod cyfleoedd gyda'r metro i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio yn haws, ac mae'n gwneud pwynt pwysig a diddorol am gael stop yn y ganolfan.
O ran trafnidiaeth yn gyffredinol, gwn y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ac iechyd yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod gan y ganolfan y cysylltiadau trafnidiaeth hynny, a gwn fod yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans hefyd wedi cymryd rhan agos yn natblygiad lleol cynlluniau ar gyfer y ganolfan.
Cysylltiadau Masnach a Thrafnidiaeth ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd
11. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ynghylch cysylltiadau masnach a thrafnidiaeth ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0255(FM)
Wel, galwais uwchgynhadledd arbennig y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaerdydd yn yr haf, lle’r oedd yr economi a masnach a'r ardal deithio gyffredin yn bwyntiau trafod allweddol, a bydd goblygiadau gadael yr UE yn flaenllaw, rwy'n siŵr, yng nghyfarfodydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn y dyfodol.
Brif Weinidog, mae dau o'r llwybrau masnach pwysicaf gydag Iwerddon yn rhedeg trwy Gymru, yn y gogledd a'r de, ac maen nhw wedi derbyn arian sylweddol dros y blynyddoedd o raglenni Ewropeaidd, a, chan ein bod yn gweld Llywodraeth y DU yn dweud bod buddsoddi mewn seilwaith yn allweddol nawr, ar ôl Brexit, a allwch chi ein sicrhau eich bod yn trafod y materion hyn gyda nhw a Gweriniaeth Iwerddon, gan fod cynnal ansawdd ein porthladdoedd a'r ffyrdd a’r rheilffyrdd sy'n eu gwasanaethu yn hanfodol?
Wel, mae problemau i ni. Codwyd mater y ffin yn Iwerddon, gan eraill heblaw fi. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef na fydd y DU yn rheoli ei ffiniau, gan ei bod wedi dweud nad yw eisiau gweld ffin gaeedig rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Nid oes gen i unrhyw ddadl nac anghytundeb â'r penderfyniad hwnnw, ond mae'n golygu, wrth gwrs, y bydd gan y DU ffin agored gyda'r UE. Os gallwch chi gael i mewn i Weriniaeth Iwerddon, gallwch chi gael i mewn i'r DU. Ni fydd dim i’ch atal chi. Mae hynny’n mynd yn groes, wrth gwrs, i’r hyn a ddywedodd rhai yn refferendwm yr UE.
Beth yw'r goblygiadau i Gymru? Wel, ar un adeg, roedd rheolaethau tollau yn nhri phorthladd Cymru sydd â fferïau o Iwerddon—rwy’n eu cofio’n iawn—ond archwiliadau tollau ar hap oedden nhw. Nid oedd pawb yn cael eu harchwilio. Ond ni fu rheolaethau pasbort yn y terfynfeydd fferi hynny erioed, felly pe byddai ffin gaeedig rhwng y DU a'r UE trwy Iwerddon, byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, rheolaethau pasbort yn y porthladdoedd fferi, nad ydynt yn barod ar eu cyfer, ac oediadau. Byddai tagfeydd, yn enwedig yn mynd i mewn i’r porthladdoedd hynny. Felly, nid oes neb eisiau gweld ffin yn cael ei chyflwyno rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon, ond nid oes neb wedi gweithio allan sut i'w osgoi eto.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi egluro teitl datganiad yr Ysgrifennydd addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig y prynhawn yma, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar gyflogadwyedd at yr agenda heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi'i nodi yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Mae dau ddatganiad y byddaf i’n gofyn amdanyn nhw. Yn gyntaf, es i i ddau gyfarfod cyhoeddus yn Butetown ddydd Gwener ac mae llawer o ddicter yn y gymuned oherwydd bod pobl, dafliad carreg o’r Cynulliad hwn, yn chwistrellu, mae cannoedd o nodwyddau sydd wedi’u defnyddio ar hyd y lle, mewn rhai achosion mae plant yn chwarae gyda nhw, ac mae cyffuriau dosbarth A yn cael eu cyflenwi yn agored. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi datganiad o gefnogaeth, yn ddelfrydol? Yn rhan o'r ateb, mewn gwirionedd, a wnewch chi gefnogi parthau chwistrellu diogel dan do â goruchwyliaeth feddygol, fel y gallwn dynnu’r bobl fwyaf anffodus hyn allan o amgylchedd y stryd, fel y gallant chwistrellu yn ddiogel, a lleihau nifer y nodwyddau sydd ar y strydoedd hefyd?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, codwyd hyn rai wythnosau yn ôl mewn datganiad busnes a oedd yn edrych ar brofiad Glasgow o sefydlu uned o'r fath. Mi wnes i roi sicrwydd i’r Aelodau bryd hynny y byddem yn edrych ar ganlyniadau’r prosiect hwnnw ac yn rhoi ystyriaeth i brofiadau’r cymdogaethau a’r cymunedau, ac yn wir y plant a’r bobl ifanc sy’n agored i niwed, yn y sefyllfa honno.
Paul Davies.
Neil McEvoy a gododd—
Mae'n ddrwg gennyf, rydych chi wedi cael eich datganiad chi. [Torri ar draws.] Ymgais dda. Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, byddwn i’n ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, os gwelwch yn dda, i gyflwyno datganiad ar y bwriad i gau canghennau Banc Lloyds ledled Cymru. Lywydd, dylwn i ddatgan buddiant fel cyn-weithiwr i Grŵp Bancio Lloyds. Nawr, gwn nad fi yw'r Aelod Cynulliad cyntaf i godi’r mater ynghylch cau banciau yn y Siambr, ac yr wyf yn amau nad fi fydd yr olaf, ond mae’r cyhoeddiad diweddar hwn o ran Sir Benfro yn gwbl anghymesur â nifer y canghennau y mae Banc Lloyds yn bwriadu eu cau ledled y wlad, o ystyried bod tair o'r 49 o ganghennau y bwriedir eu cau yn digwydd bod yn fy etholaeth i. Wrth gwrs, mae’r banciau hyn yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny ac o’u cwmpas, a byddai eu cau yn cael effaith ddinistriol. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gyflwyno datganiad ar y mater hwn fel y gall pobl sy'n byw yn y cymunedau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ddeall yn union beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru effeithiau negyddol yr achosion hyn o gau canghennau ar gymunedau yn fy etholaeth i, ac yn wir ledled Cymru?
Mae Paul Davies yn codi mater pwysig iawn, ac yn wir, fel yr ydych wedi’i ddweud, mae’r achosion hyn o gau canghennau, sydd yn benderfyniadau masnachol gan fanciau, yn cael effaith negyddol iawn ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwyf ar ddeall nad oes disgwyl cau y tri Banc Lloyds yr ydych yn cyfeirio atyn nhw yn eich etholaeth chi yn Sir Benfro tan y gwanwyn nesaf, felly rwy'n siŵr eich bod yn manteisio, fel y bydd eraill yn ei wneud, ar gyfleoedd i godi eich pryderon gyda’r banc. Hefyd, bydd cyfleoedd i godi cwestiynau gydag Ysgrifenyddion y Cabinet ar y mater. Wrth gwrs, dyma fater, unwaith eto, pan yr ydym yn edrych ar ei effaith, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig fel Preseli Sir Benfro, ond ledled Cymru, ac mewn cymunedau mwy trefol, sydd hefyd yn colli’r gwasanaethau hanfodol hynny erbyn hyn, megis y banciau.
Rydym wedi clywed llawer am y newidiadau a gynigir o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Caerdydd. Gofynnaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynigion o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, yn benodol y cynigion megis ailagor gorsafoedd trenau, gwneud rhagor o’r A40 yn ffordd ddeuol, creu cysylltiadau bws a thrên a gwella’r ddarpariaeth o ran llwybrau beicio.
Mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, lle y mae angen i ni gyfeirio at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol o ran mesurau i sicrhau bod rhanbarth Bae Abertawe wedi’i gysylltu, fel y dywedwch, o ran agor gorsafoedd trenau lle bo hynny'n briodol, gan sicrhau, yn bennaf, fod gennym rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gwybod bod bwrdd y dinas-ranbarth yn edrych arno, o ran nodi blaenoriaethau ar gyfer twf a swyddi, gan edrych yn benodol ar seilwaith digidol a thrafnidiaeth y rhanbarth.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn gyntaf oll ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn penderfynu defnyddio’r lefi prentisiaethau? Rwy’n deall bod Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyhoeddi faint o arian fydd yn cael ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o dan y ‘lefi. Ond, wrth gwrs, fel sydd newydd gael ei grybwyll gan y Prif Weinidog, mae hynny’n cynnwys arian sy’n cael ei dalu gan gwmnïau a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru tuag at y lefi yn y lle cyntaf. Mae eisiau deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r lefi yma, yn enwedig, er enghraifft, yn achos pobl fel Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi codi gyda fi y ffaith eu bod nhw, fel corff cyhoeddus, yn talu lefi prentisiaethau, ond, wrth gwrs, yn draddodiadol, nid yw’r heddlu yn defnyddio prentisiaid—maen nhw’n defnyddio dulliau eraill o hyfforddi pobl newydd. Felly, mae angen inni ddeall sut y mae’r Llywodraeth am ddefnyddio’r lefi yn y modd yna ac ymateb i ofidiau pobl fel Heddlu Gogledd Cymru.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei glywed yw a yw’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb o gwbl i argymhelliad y crwner mewn achos anffodus iawn yn sir Benfro o farwolaeth criw llong bysgota yr Harvester. Bu farw dau ddyn o Gaeriw yn y môr oherwydd anffawd, ond un o’r ffactorau a nodwyd yn y cwest oedd y ffaith nad oedd y ddau, fel pysgotwyr, yn gwisgo siacedi achub. Roedd y crwner wedi cydnabod bod yna ‘ddiwylliant’, meddai fe, o beidio â gwisgo siacedi achub o ran pysgotwyr. Mae e am gysylltu’n uniongyrchol ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn ei wneud yn orfodol i bysgotwyr o borthladdoedd ym Mhrydain wisgo siacedi achub. Gan fod pysgodfeydd, os nad y materion iechyd a diogelwch yma, wedi’u datganoli, a yw hi’n fwriad gan y Llywodraeth hefyd i wneud datganiad ar y mater yma a hefyd i gysylltu â’r crwner ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn deall beth all gael ei wneud yn awr yng Nghymru i ddiogelu a chynyddu diogelwch ar y moroedd?
Diolch, Simon Thomas. O ran eich cwestiwn cyntaf, ynglŷn â chyllid ar gyfer yr ardoll prentisiaethau, byddwch yn gwybod, ac adroddwyd yn ôl arno mewn cwestiynau a godwyd gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, am drafodaethau helaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ers cyhoeddi'r ardoll prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen edrych yn ofalus ar y ffigurau hyn gan Lywodraeth y DU, gan nad ydynt yn golygu bod arian newydd sylweddol yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll prentisiaethau. Rydych yn codi pwynt dilys iawn ynghylch pwy sy'n talu hyn ar draws y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ond gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae'r arian hwn yn ei olygu—mae'n ymwneud yn bennaf, mewn gwirionedd, â chronfeydd sydd eisoes yn rhan o'n setliad yn sgil yr adolygiad o wariant ac sydd wedi eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn realistig, a bydd y trafodaethau hynny, rwy'n gwybod, yn parhau ynglŷn â’r effaith ar y sector cyhoeddus yn ogystal ag ar y sector preifat, ynglŷn â chyflogwyr a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw, o ran fformiwla Barnett.
Mae eich ail bwynt yn bwysig iawn i ni, oherwydd bod diogelwch ar y môr yn egwyddor allweddol o bolisi rheoli pysgodfeydd Llywodraeth Cymru. Rydych chi wedi cyfeirio at un farwolaeth drasig eisoes, ac yn 2016, rydym wedi dioddef marwolaethau trasig tri physgotwr o Gymru—marwolaethau cwbl annerbyniol. Felly, rydym wedi blaenoriaethu mynediad at gyllid o gronfa’r môr a physgodfeydd gyfredol Ewrop, ac adlewyrchir hyn hefyd yn strategaeth bwyd môr Cymru a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths ar 13 Hydref, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohoni: ymrwymiad i wella diogelwch pysgotwyr, lleihau risgiau, gan weithio gyda nhw—gyda'r diwydiant pysgota a rheoleiddwyr eraill y môr. Mae trafodaethau gweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, y diwydiant pysgota, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, a Seafish ynghylch diogelwch pysgotwyr, ac mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fod hyn yn edrych ar arwyddocâd yr Undeb Ewropeaidd i ni, gan fod cyllid sylweddol wedi ei gyfeirio at offer diogelwch ar gyfer y diwydiant pysgota drwy gronfa pysgodfeydd flaenorol Ewrop.
Galwaf am ddau ddatganiad, a’r cyntaf yn ymwneud â swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gefnogi merched sydd ag anghenion lluosog. Mae hyn yn dilyn adroddiad am hynny, o'r enw ‘Leading Change’, a anfonwyd ataf gan Ganolfan Merched Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf. Maen nhw’n dweud, er ei fod o safbwynt Lloegr, ei fod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i'n nodau a’n cydweithio a’n comisiynu yma yng Nghymru. Mae'n nodi—cyfeiriad bach iawn—fod rhwng hanner a dwy ran o dair o’r merched sydd yn y carchar yn dioddef o iselder, a bod bron eu hanner wedi ceisio cyflawni hunanladdiad, ac mae'n galw ar awdurdodau lleol i adolygu eu hasesiadau strategol ar y cyd o anghenion, eu strategaethau iechyd a lles ar y cyd a’u strategaethau atal hunanladdiad, er mwyn sicrhau y caiff anghenion merched eu diwallu yn unol â hynny. Mae hefyd yn galw am sicrhau bod merched sydd ag anghenion lluosog yn cymryd rhan yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu ymatebion newydd a gwell, gan weithio gyda merched i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad llafar ar y mater pwysig iawn ynghylch cymorth yn y dyfodol i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol? Datganolodd Llywodraeth y DU y cyfrifoldeb am hyn i Lywodraeth Cymru o 30 Mehefin y llynedd ymlaen. Penododd yr Alban reolwr busnes amser llawn ar gyfer y gronfa byw’n annibynnol a sefydlodd gynorthwyydd prosiect o fewn Inclusion Scotland, chwaer-gorff i Anabledd Cymru, fisoedd o flaen llaw; a phenodwyd ILF Scotland gan Ogledd Iwerddon i weinyddu'r Gronfa Byw'n Annibynnol i Ogledd Iwerddon. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, yr oeddwn innau’n ei gyd-gadeirio yn y Cynulliad diwethaf ac y gofynnwyd i mi ei gadeirio yn y Cynulliad hwn, wedi derbyn tystiolaeth ynghylch gweithredu grant byw'n annibynnol Cymru o 1 Gorffennaf y llynedd, ac, yn sgil nodi pryderon eang, ysgrifennwyd at y Gweinidog ar y pryd, cafwyd ymateb, ac yna cyhoeddodd ddatganiad ysgrifenedig ar hyn ym mis Chwefror, gan ddweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar ddewisiadau, gan gynnwys trefniant posibl gyda'r corff a sefydlwyd yn yr Alban i ddarparu taliadau i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol i wneud yr un peth i bobl Cymru. Ac ar y pryd, gallaf gadarnhau bod aelodau grŵp cyfeirio anabledd Cymru yn ffafrio’r dull gweithredu hwn. Er hyn, rydym bellach wedi cael, y mis hwn, ddatganiad ysgrifenedig yn unig gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol, yn nodi ei bod wedi dod i'r casgliad y bydd cymorth i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol, yn y dyfodol yn mynd trwy’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol arferol gan awdurdodau lleol, gan mai dyma’r dull mwyaf effeithiol, ac mae hi'n cydnabod y byddai rhai derbynwyr wedi dewis penderfyniad gwahanol. Nid yw’r methiant hwn, mae'n ymddangos, yn y datganiad hwn, i gyd-lunio, cyd-gynllunio, cyd-ddarparu a gweithio gyda dinasyddion a chymunedau yn bodloni gofynion y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol 2015, na’r cyfarwyddebau gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch cyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hyn yn effeithio ar fywydau gormod o bobl anabl, felly mae'n haeddu datganiad llafar, neu ddadl lawn, hyd yn oed, a galwaf am hyn yn unol â hynny.
Wel, mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, gan gynrychioli ei etholwyr yn y gogledd, yn arbennig o ran Canolfan Merched Gogledd Cymru a'i harbenigedd. Rwyf innau wedi cwrdd â phobl pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol, i sicrhau bod eu lleisiau, eu profiadau ac anghenion y merched y maen nhw’n eu cynrychioli ac yn eu cefnogi yn cael eu clywed a’u bod yn dylanwadu, nid yn unig ar bolisi Llywodraeth Cymru, ond ar bolisi lleol a rhanbarthol, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Rydych yn codi materion pwysig, lle y gallan nhw ein cynorthwyo, nid yn unig wrth ymateb, ond wrth lunio polisi priodol. Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi codi hynny ar ran merched yn y gogledd.
Ond, ynglŷn â’ch ail bwynt, rwyf yn ei chael yn anhygoel—. Mor aml, Mark Isherwood, byddwch chi’n dechrau siarad ac yn aml yn codi cwestiynau perthnasol ynglŷn â rhywbeth—y gronfa byw'n annibynnol, y cafodd eich Llywodraeth Geidwadol wared arni—i rai o'r bobl anabl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym wedi ei hachub dros y blynyddoedd. Gwnaethom ei hachub drwy ddyrannu adnoddau gwerthfawr, i wneud yn siŵr y gallem barhau â'r gronfa byw'n annibynnol. A hefyd, croesawyd hyn gan y grwpiau hynny sy’n cynrychioli pobl anabl yng Nghymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol yn ogystal, a gwneud yn siŵr bod gennym ddyraniadau ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn Llywodraeth Lafur Cymru, rydym yn ceisio diogelu pobl anabl yn y ffyrdd y gallwn ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd yn gynharach y prynhawn yma, ynglŷn â sut y mae pobl anabl yn cael eu heffeithio gan y toriadau yn sgil diwygio lles a’r newidiadau gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU.
Felly, oes, mae datganiad ysgrifenedig wedi ei gyflwyno. Wrth gwrs, bydd egluro a diweddaru ar hynny yn y dyfodol.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar raglen waith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru? Er fy mod i’n croesawu cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd yn fawr, a’r adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yng Nghymru, sy’n hir-ddisgwyliedig, yn fy marn i, rwyf yn pryderu y bydd mynediad at gyffuriau newydd yn parhau i gael ei gyfyngu gan yr amserlenni a nodwyd gan y Grŵp. Ar hyn o bryd, rwy’n ceisio helpu etholwr i gael gafael ar Avastin, ar gyfer canser ceg y groth. Mae ar gael ar y GIG yn Lloegr, ac yn yr Alban, ar gyfer canser datblygedig ceg y groth, sy’n rhoi fy etholwyr o dan anfantais, oherwydd bod y Grŵp dim ond yn dechrau ei werthuso yma.
Mae Lynne Neagle yn codi pwynt pwysig iawn, a dyma gyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ystyriaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Maen nhw’n cwblhau, yr wyf ar ddeall, gwmpas ac amserlenni o ran gwerthuso Avastin. Ac, wrth gwrs, dyma sefyllfa lle y gwyddom fod cyfle i wneud ceisiadau drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, ar ran cleifion. Ond rwy'n credu mai’r gwerthusiad cyffredinol, wrth gwrs, yw’r hyn a geisir, a bydd hynny'n dod yn fuan iawn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—un gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg a dysgu gydol oes, ar gymorth i bobl ag anableddau dysgu sy'n mynd i addysg bellach? Bydd yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yr wythnos hon yn y cyfryngau ynghylch y system gymorth sydd ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ôl-16 sydd ag anableddau dysgu. Wrth gwrs, mae datganiadau ar gael, y gellir cytuno arnyn nhw ag awdurdodau lleol, o ran pobl sy'n mynychu ysgolion, ond nid yw’r un system yn berthnasol i'r rhai mewn addysg bellach. Yn hytrach, rhoddir cyfle i Gyrfa Cymru benderfynu pa un a ddylai system gymorth fod ar gael. Ac nid oes unrhyw hawl i apelio yn erbyn y system honno os nad yw’r dysgwyr hynny yn cael y cymorth angenrheidiol.
Byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro a yw’n fodlon asesu’r sefyllfa hon, i weld a oes cyfle efallai i fynd i'r afael â'r annhegwch sydd i’w weld yn y system ar hyn o bryd, a, gobeithio, i sicrhau hefyd y gall Gyrfa Cymru ymestyn y cynnig o gymorth, o’r terfyn presennol, sef dwy flynedd, i dair blynedd, neu ragor, lle bo angen, oherwydd, wrth gwrs, efallai y bydd angen i rai o'r unigolion dan sylw fod mewn addysg ôl-16 a cholegau addysg bellach am gyfnod hwy na dysgwyr cyffredin, oherwydd eu hanableddau.
A gaf i hefyd gefnogi'r galwadau gan Simon Thomas am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar yr ardoll prentisiaethau? Mae'n amlwg bod llawer o ddryswch i’w weld ymysg cyflogwyr, ac, yn wir, darparwyr hyfforddiant, yn enwedig o ran unigolion a allai gael eu cyflogi gan fusnesau yng Nghymru ond sydd mewn gwirionedd yn byw dros y ffin, a pha un a oes ganddynt hawl i gael cymorth neu beidio, dan yr ardoll. Roeddwn i’n synnu’n fawr o'ch clywed yn dweud nad oes llawer o arian yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll. Y gwirionedd yw y bydd £400 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Felly, rwyf yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch Gweinidog cyllid, ac yn pennu sut yn union y bydd yr arian hwnnw yn cael ei wario. Rwyf i’n dymuno gweld yr arian yn cael ei wario ar gefnogi prentisiaethau ledled Cymru. Mae’n amlwg nad hynny—nid ydym yn cael yr argraff mai dyna fwriad y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae angen rhywfaint o eglurder ar hyn arnom—ac ar ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a gweithwyr hefyd.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch am oedolion yn arbennig sydd ag anawsterau dysgu yn bwysig. Rydym wedi ymrwymo, ac mae hwn yn gyfle i ailddatgan—yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i gael mynediad at ein system addysg. Wrth gwrs, pan nodir darpariaeth arbenigol, mae Gweinidogion yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud pob ymdrech i ymateb mewn modd amserol. Rydym ni o hyd yn ceisio ariannu darpariaeth sy'n rhedeg dros gyfnod tebyg i ddarpariaeth yn y sector addysg bellach prif ffrwd, ac rydym yn parhau i ystyried ceisiadau am ddarpariaeth hirach, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd edrych ar ein rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, a’r cynlluniau hynny am ddeddfwriaeth ddiwygiedig, wrth gwrs, i ddarparu cyfnod pontio mwy esmwyth. Mae'r canllawiau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i wneud yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei ariannu trwy’r llwybrau hynny yn gliriach. Felly, mae hynny'n bwynt pwysig iawn i ddychwelyd iddo.
O ran eich ail bwynt, rwy'n credu y bydd y Gweinidog yn awyddus yn sicr i egluro beth y bydd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gyflogwyr o ran yr ardoll prentisiaethau. Rwyf wedi dweud nad yw’r ffigurau a roddwyd gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd arian newydd sylweddol yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll prentisiaethau. Felly, rwy’n credu bod angen egluro ac esbonio beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd, wyddoch chi, fod yn rhaid i chi gydnabod y bydd hyn yn ffurfio rhan o'n setliad, ac felly y bydd yn fater o, unwaith eto, y dyraniad a gawn drwy ein grant bloc. Ni fydd yr hyn yr ydych chi’n awgrymu y bydd, yn fy marn i, heddiw.
Diolch i’r Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig. Rwy’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch, Lywydd. Mae’r Llywodraeth Cymru hon, fel y nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn ymrwymedig i gymunedau gwledig llwyddiannus, cynaliadwy. Rwy’n glir y gellir sicrhau buddion gwirioneddol—rhai academaidd, diwylliannol a chymdeithasol—i ddisgyblion a chymunedau drwy ddarparu addysg o safon uchel mewn ysgolion bach ac ysgolion gwledig. Fel y nodais yn fy natganiad i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf, mae cryfhau ac ymestyn perthnasoedd rhwng ysgolion, a blaenoriaethu arweinyddiaeth addysg, yn hanfodol i godi safonau ac ymdrin â'r bwlch cyrhaeddiad. Mae strategaeth genedlaethol benodol ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn cydnabod bod ysgolion a chymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru yn wynebu heriau gwahanol wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau.
Rwyf i’n gwybod, ac mae rhieni ar draws cymunedau gwledig yn gwybod, bod ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rhan bwysig mewn codi safonau ac ymestyn cyfleoedd i bawb. Yn wir, maen nhw’n aml yn hanfodol mewn cynnwys disgyblion a theuluoedd o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a chodi dyheadau disgyblion. Fel y gŵyr yr Aelodau, roedd y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd yma yr wythnos diwethaf yn profi ein diwygiadau. Mae'n werth nodi bod gan y Ffindir, system sy'n perfformio'n gyson dda mewn astudiaethau OECD, gyfran sylweddol o ysgolion bach ac ysgolion gwledig, ac mae’n cefnogi yn ymarferol eu safle a’u swyddogaeth o fewn y system addysg.
Rwyf wedi ymrwymo i ddiwygiadau addysg fel ein cenhadaeth genedlaethol. Mae ein pobl ifanc i gyd yn haeddu cyfle cyfartal, beth bynnag fo'u cefndir, i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Ac rwy’n uchelgeisiol dros ysgolion bach ac ysgolion gwledig, fel yr wyf dros bob ysgol yng Nghymru. Wrth gydnabod yr heriau a'r blaenoriaethau ar gyfer addysg mewn lleoliadau gwledig a lleoliadau llai, byddwn yn cymryd y camau canlynol: byddaf yn ymgynghori yn fuan ar welliannau i god trefniadaeth ysgolion, ynglŷn â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Gadewch imi fod yn glir, Lywydd, nad yw hyn yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Fodd bynnag, mae'n sicrhau bod ar awdurdod lleol angen achos cryf dros gau, a bod awdurdodau lleol yn ystyried yn gydwybodol yr holl ddewisiadau eraill dichonadwy heblaw cau, gan gynnwys ffedereiddio. Rwy’n cynnig rhestru a dynodi ysgolion gwledig am y tro cyntaf erioed. Wrth ystyried cau ysgol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sefydlu pa un a yw’r cau arfaethedig yn ymwneud ag ysgol o'r fath. A byddaf yn darparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad i'r rhai hynny sy'n ystyried cydweithio a ffurfio ffederasiwn. Bydd ein cynlluniau ehangach i ddatblygu arweinwyr ysgolion yn cynnwys cynigion i gynyddu gallu arweinwyr profiadol, llwyddiannus mewn ysgolion gwledig i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar draws grwpiau o ysgolion gwledig.
Rwy’n cynnig sefydlu grant ysgolion gwledig ac ysgolion bach o £2.5 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill 2017 ymlaen, i’w weinyddu gan y consortia addysg rhanbarthol, mewn cydweithrediad â'u hawdurdodau addysg partner lleol, i’w ddefnyddio i gefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion, gan gynnwys cydweithio a chysylltiadau anffurfiol; i annog ffyrdd arloesol o ddefnyddio, er enghraifft, technolegau newydd i ymdrin ag ymynysiaeth broffesiynol drwy harneisio grym technoleg gwybodaeth; i ddarparu cymorth gweinyddol mewn ysgolion lle mae gan y penaethiaid ymrwymiad addysgu sylweddol yn eu hamserlen; ac i gynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion.
Lywydd, nid strategaeth i sefyll yn llonydd yw hon. Mae'n cydnabod pwysigrwydd addysg yn ein cymunedau gwledig, fel y mae ar draws y wlad, ond bydd hefyd yn sicrhau y darperir addysg arloesol ac uchelgeisiol i’r disgyblion yn y cymunedau hynny.
I gloi, dim ond naw mis yn ôl, yn eistedd draw yn y fan yna, roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno dadl fer i'r Cynulliad am bwysigrwydd ysgolion gwledig. Nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gallu adnabod a hyrwyddo swyddogaeth hanfodol ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn ein cenhadaeth genedlaethol i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac i godi safonau ar gyfer pob un o'n pobl ifanc.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Mae’n hen bryd, rwy’n meddwl, i ni fynd i’r afael â rhai o’r trafferthion sydd wedi bod yn llethu ac yn gysgod mawr dros ysgolion bychan ac ysgolion gwledig dros y blynyddoedd. Fel rhywun sydd yn byw mewn cymuned wledig, fel rhywun sydd yn rhiant i blant sydd yn mynychu ysgol fechan wledig ac yn llywodraethwr ar ysgol honno, rwy’n arbennig yn croesawu’r datganiad, a hefyd, wrth gwrs, yn datgan fod gen i ddiddordeb yn hynny o beth.
Rŷch chi’n sôn, wrth gwrs, am fynd ati i greu strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig, ond nid ydych yn rhoi llawer o fanylion ynglŷn â sut, efallai, rŷch chi’n mynd i fynd ati i wneud hynny. Felly, efallai y gallech chi sôn ychydig am y broses sydd gennych chi mewn golwg am hynny, a phryd rŷch chi’n disgwyl y bydd y strategaeth yma yn ei lle.
Rwy’n croesawu yn fawr y newid yn y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion yn y cod trefniadaeth ysgolion. Yn sicr, mae hynny yn rhywbeth sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr. Wrth gwrs, prif ffactor y cod presennol, os rwy’n cofio’n iawn, wrth ystyried cau yw gwarchod deilliannau addysgol, ac nid wyf yn credu bod neb yn awgrymu y dylid newid hynny. Rwy’n gwybod mai rhoi ffocws ar ansawdd yr addysg sydd ei angen, ac nid, efallai, o reidrwydd ar bethau mwy ffisegol, fel lleoedd gwag ac yn y blaen. Rŷch chi wedi sôn am yr angen i ystyried opsiynau ehangach yn hytrach na chau. Efallai y gallech chi sôn ychydig ynglŷn â sut y gallwn ni ehangu'r fwydlen o opsiynau sydd yna, oherwydd, hyd y gwelaf i, mae clystyru a ffedereiddio ac efallai rhyw elfen o gydweithio ychydig yn fwy bwriadol. Ond, yn fwy na hynny, pa syniadau sydd yna i ysgolion i’w hystyried?
Gan fy mod i wedi cyfeirio at leoedd gwag a chan nad ŷch chi’n cyfeirio at lefydd gwag yn y datganiad, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ffocws cryf i’ch rhagflaenwyr chi beth bynnag o safbwynt y pwyslais ar aildrefnu ysgolion mewn ardaloedd gwledig, a gaf i ofyn i chi efallai sôn a ydych chi’n teimlo bod yna ormod o bwyslais wedi bod? A ydych chi am leihau'r pwyslais ar hynny? Yn sicr, mae wedi bod yn ffocws i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—yn un o brif amcanion band A, os rwy’n cofio yn iawn. Felly, a fydd yna lai o bwyslais ar lefydd gwag yn y dyfodol, pan fydd hi’n dod i edrych ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â bwriadau ehangach o safbwynt aildrefnu?
I mi, wrth gwrs, nid yw ysgol yn bodoli mewn ‘vacuum’, ac mae angen hefyd edrych ac ystyried beth yw’r cysylltiad rhwng addysg wledig a gwarchod, cefnogi a datblygu cymunedau gwledig yn ehangach. A gaf i ofyn pa drafodaeth rŷch chi wedi ei chael gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill ynglŷn â’r angen i fynd i’r afael â phroblemau ehangach, oherwydd symptom yn aml iawn yw cau ysgol fechan o’r ffaith bod yr economi leol ddim yn cynnal teuluoedd ifanc a bod pobl yn gadael a bod diboblogi yn digwydd. Felly, mae trio datrys un heb efallai rhywbeth mwy bwriadol i fynd i’r afael â’r llall ddim ond yn rhan o’r ateb.
Rydw i’n gwybod, yn yr Alban er enghraifft, yn dilyn y comisiwn a gawson nhw ychydig o flynyddoedd yn ôl i edrych ar ysgolion gwledig yn fanna, maen nhw wedi gosod ffocws, er enghraifft, ar gyflwyno canolfannau teuluol mewn ysgolion gwledig a gwasanaethau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion gwledig. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad amlwg, efallai, gyda rhai o’r pethau rŷm ni’n clywed oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ar gymunedau ynglŷn â gofal plant a’r parthau plant yma y bu cyfeirio atyn nhw fel cyfle posib. Byddwn i’n licio clywed pa gyfleon rŷch chi’n credu sydd yna o safbwynt darpariaeth wledig yn hynny o beth.
Hefyd, mae yna angen i annog sectorau eraill i chwarae eu rhan ac i gydweithio i gefnogi addysg wledig. Nid wyf i jest yn sôn am bethau fel y sector gwirfoddol, ond yn sicr addysg bellach ac addysg uwch, yn enwedig, efallai, mewn sefyllfa addysg uwchradd wledig. Byddwn i’n licio clywed sut rŷch chi’n meddwl bod yna gyfraniad posibl yn dod o’r cyfeiriad yna i fynd i gefnogi rhai o’r pethau rŷm ni am eu gweld yn digwydd.
Eto yn yr Alban, mae yna gyllid ychwanegol wedi’i darparu i brifysgol yr ucheldir ac ynysoedd yr Alban, i’w hannog nhw i weithio’n agosach gydag ysgolion gwledig. Rŷch chi’n cyfeirio at greu cronfa o £2.5 miliwn, a thra mod i’n croesawu hynny ac yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar y Llywodraeth, efallai yng nghyd-destun rhai o’r cynlluniau eraill, nid yw e cymaint â hynny. Yn sicr, o edrych ar faint yr her a faint yr angen am gefnogaeth ychwanegol sydd yn y cyd-destun gwledig, byddai rhywun wastad eisiau mwy. Ond mi ofynnaf i, efallai, ai man cychwyn yw hyn, oherwydd byddai rhywun yn tybio bod angen ymdrech ehangach. Mae rhywun yn meddwl am dechnoleg gwybodaeth, ac rŷch chi’n cyfeirio ato fel un o’r agweddau—i harneisio pŵer technoleg gwybodaeth gyda’r arian yna. Mi roeddwn i mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf lle’r oedd yr athro yn yr ysgol yn dweud wrthyf i os oes mwy na dau ddisgybl yn mynd ar y we ar yr un pryd, mae’r holl beth yn dod i stop. Felly, mae yna broblemau seilwaith. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol o hynny, ond nid yw rhywun efallai’n teimlo ein bod ni’n gwneud y cynnydd y dylem ei wneud.
Mae denu athrawon, wrth gwrs, i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig yn her. Os ŷch chi’n ddirprwy bennaeth mewn ysgol fawr, beth yw’r cymhelliad ichi fynd yn bennaeth mewn ysgol lai? Mae angen gofyn y cwestiwn, oherwydd nid yw’r cymhelliad ariannol o safbwynt cyflog yn gymaint â hynny o’i gymharu â’r baich ychwanegol a’r cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn dod yn sgil hynny. Felly, sut fydd y strategaeth rŷch chi’n sôn amdani, efallai, yn help i fynd i’r afael â’r pwysau hynny o safbwynt yr adnoddau staffio?
Ac yn olaf, allwn ni ddim edrych ar sefyllfa ysgolion gwledig heb ystyried hefyd, wrth gwrs, sefyllfa cludiant ysgolion mewn cyd-destun gwledig, oherwydd mae’r ddarpariaeth fel y mae wedi bod, yn crebachu. Beth rŷm ni’n ei weld, wrth gwrs, yw nifer o rieni’n mynd â’u plant gyda nhw i’r trefi neu’r canolfannau lle maen nhw’n gweithio i gael eu haddysgu oherwydd nad yw’r ddarpariaeth drafnidiaeth oedd yna yn y gorffennol yno bellach oherwydd gwahanol doriadau. A oes yna unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi, ac, os nad oes, pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i sicrhau a chryfhau’r ddarpariaeth drafnidiaeth ysgolion? Heb hynny, mae’n ei gwneud hi’n anodd iawn i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y gwasanaeth.
Diolch yn fawr iawn, Llyr, am groesawu’r datganiad polisi y prynhawn yma, rwy’n meddwl. I ddechrau drwy sôn am y mater o ffurfio’r polisi, roeddwn wedi gobeithio, drwy fy natganiad, y byddwn yn rhoi cyfeiriad teithio cryf ichi. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth lawn yn ffurfiol a fydd yn ein harwain i sicrhau ein bod yn buddsoddi'r £2.5 miliwn mewn modd sy’n seiliedig ar hynny.
Gyda golwg ar y cod trefniadaeth ysgolion, byddaf yn mynd allan i ymgynghoriad ynglŷn â’r rhagdybiaeth yn erbyn cau. Rydych yn hollol iawn: mae rhagdybiaeth o'r fath yn bodoli yn Lloegr; mae hefyd yn bodoli yn yr Alban. Nid yw wedi bodoli yng Nghymru hyd yma. Ond mae agweddau eraill ar y cod y gallai fod pobl yn dymuno gwneud sylwadau amdanynt ac mae hwn yn gyfle, o ystyried ei bod yn dair blynedd bellach ers i'r cod gael ei gyflwyno a’n bod wedi cael tair blynedd o brofiad o ymdrin â'r cod hwnnw. Rwy’n gwybod, o gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf, bod ganddynt rai problemau eu hunain o ran sut y maent yn meddwl y gellid gwella’r cod. Felly, mae hon yn un agwedd benodol, ond cawn gyfle i gael trafodaeth ehangach am y cod. Rwy’n meddwl y bydd yn newid natur y drafodaeth, neu'r man lle mae awdurdodau lleol yn dechrau, ac rwy'n credu mai dyna sy’n wirioneddol bwysig o ran cyflwyno’r rhagdybiaeth honno. Fel y dywedais yn fy natganiad, nid yw hynny'n golygu na ellir cael dim newid byth. Weithiau, am resymau addysgol da iawn a chryf, mae angen newid arnom, ond o leiaf byddwn yn dechrau o'r pwynt penodol hwnnw, a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi ystyried yn briodol ddewisiadau eraill i gynnal addysg yn yr ardaloedd hynny.
O ran lleoedd dros ben, byddwch yn ymwybodol bod y cytundeb rhyngof fi a'r Prif Weinidog—y cytundeb blaengar a ddaeth â mi i mewn i Lywodraeth—yn cyfeirio'n benodol at leoedd gwag. Mae hyn yn broblem mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n rhaid imi ddweud nad dim mewn ardaloedd gwledig yn unig y mae hyn yn broblem. Os bydd rhywun yn edrych ar ychydig o’r profiad mewn rhannau eraill, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyflym iawn i gymryd lleoedd dros ben allan o'r system, dim ond i weld wedyn bod ganddynt newidiadau demograffig o fewn eu hardal benodol sy'n golygu, i rai pobl, ei bod yn anodd iawn cael lle yn yr ysgol sy’n lleol iddyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar leoedd dros ben yn eu cyfanrwydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn edrych dros gyfnod ehangach, fel y gallwn ragweld yn well yr amrywiad a fydd yn anochel mewn derbyniadau posibl i ysgolion.
Rydych yn hollol iawn—ni all addysg ar ei ben ei hun ddatrys rhai o'r problemau demograffig sylweddol y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithiwr Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ym maes parthau plant, yn ogystal â'r cynnig gofal plant. Mewn rhai rhannau o Gymru wledig, Llŷr, byddwch yn gwybod, fel finnau, bod y cyfleoedd am ofal plant yn gyfyngedig iawn, iawn yn wir. Yn syml, nid yw’r farchnad yno, felly byddai gweithio ar y cyd â'r ysgolion yn gyfle perffaith i ymdrin â rhai o'r rheini. Ac wrth gwrs, mae dewis Gwynedd ac Ynys Môn fel un o'r ardaloedd treialu yn golygu y cawn y cyfle hwnnw i brofi’r cynnig gofal plant sylweddol hwn mewn ardal wledig. Nid oeddem eisiau cynnal y cynlluniau arbrofol i gyd mewn lleoliadau trefol; roeddem eisiau gallu profi’r cynigion hyn mewn ardal fwy gwledig, a dyna pam yr wyf yn falch iawn o weld Gwynedd a Môn yn rhan o'r cynllun arbrofol, i weld beth y gallwn ei wneud i weithio yn yr ardaloedd hynny. Ond mae angen gweithredu, a gwaith i bobl—swyddi cyflogedig o safon uchel mewn cymunedau gwledig. Ac yn hollbwysig i mi, mae angen i dai fforddiadwy fod ar gael; dyna un o'r rhwystrau mwyaf i rieni ifanc a theuluoedd sy'n byw yn eu cymunedau—diffyg fforddiadwyedd llwyr y tai a’r llety yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Mae gwir angen inni wneud cynnydd yn hynny o beth, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i adeiladu nifer sylweddol o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.
Llŷr, rwy’n cytuno y byddai mwy o arian yn ddefnyddiol bob amser, oni fyddai? Ond mae hyn yn ddechrau, i allu edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r arian hwn. Byddaf yn chwilio am dystiolaeth o newid gwirioneddol, fodd bynnag. Nid busnes fel arfer yw hyn. Nid dim ond arian ychwanegol i gynnal y status quo yw hyn. Mae hwn yn arian ychwanegol i sbarduno newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar wahanol fodelau. A gallai’r modelau hynny fod yn ffederasiynau a chydweithio cadarn, neu’n ffederasiynau a chydweithio meddal. Rydym yn gwybod bod gennym rai enghreifftiau o ysgolion cynradd yn gweithio mewn clystyrau, ond hoffwn weld datblygu’r swyddogaeth penaethiaid gweithredol. Gofynasoch am recriwtio a chadw staff—pam y dylai rhywun symud ymlaen? Wel, rwy'n meddwl bod y posibilrwydd o fod yn bennaeth gweithredol mewn cymuned wledig yn gyffrous iawn i ddarpar arweinydd ysgol ifanc ac uchelgeisiol. Felly, mae’r gwahanol fathau hynny o drefniadau yn un o'r ffyrdd y byddwn yn denu pobl i fod yn arweinwyr ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Hoffwn weld mwy o bobl yn ystyried y syniad o ffederasiwn rhwng uwchradd a chynradd. Yn aml, ystyrir ffederasiynau yng nghyd-destun un grŵp oedran penodol yn unig. Beth am edrych ar ffederasiynau ar draws ardal gymunedol benodol—rhywbeth sy'n digwydd mewn gwirionedd ar Ynysoedd Sili, er enghraifft, fel enghraifft yn y fan yna?
O ran cludiant, yn amlwg mater i fy nghydweithiwr Cabinet, y Gweinidog trafnidiaeth, yw hwn. Mae'r rheolau’n eithaf clir: os yw plentyn yn byw bellter penodol o’i ysgol, mae ganddo hawl i gael cludiant i'w ysgol addas agosaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws adrannau i edrych ar y materion sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn ei gyfanrwydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Gwn am eich ymrwymiad i ysgolion gwledig. Rwy’n gwybod y byddech yn arfer brwydro’n angerddol fel aelod o'r wrthblaid ar ran ysgolion ym Mhowys a oedd dan fygythiad o gau gan yr awdurdod lleol hwnnw, ac, wrth gwrs, roedd llawer o Aelodau Cynulliad eraill sy'n cynrychioli etholaethau gwledig yn y Siambr hon yn gwneud hynny gyda chi. Fel eich etholaeth chi, mae fy etholaeth innau hefyd wedi gweld nifer o ysgolion gwledig yn cau yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhai, yn anffodus, yn dal i fod dan fygythiad o gau. Felly, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith eich bod wedi dweud y bydd gennym nawr, yn y dyfodol, ragdybiaeth yn erbyn cau ac y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol edrych ar bob dewis arall a throi pob carreg wrth edrych ar y ffordd y mae eu hysgolion wedi’u trefnu. Yn rhy aml, mewn rhai rhannau o Gymru, mae awdurdodau lleol wedi bod yn ystyfnig o ganlyniad i'r canllawiau gwael, a dweud y gwir, gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu galluogi i wneud hynny, ac, o ganlyniad, mae rhai ysgolion da iawn wedi cau. Felly, mae wedi bod yn daith eithaf garw i ysgolion gwledig yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n newid.
Nawr, nid yw hynny’n golygu nad oes rhai cwestiynau yr wyf yn gobeithio y gallwch eu hateb heddiw ynglŷn â'r adnodd ychwanegol hwn yr ydych yn ei ddarparu. Rwyf wedi gweld y rhestr o bethau yr ydych yn gobeithio eu cyflawni gyda’r adnodd hwnnw. Gyda phob parch, nid yw £2.5 miliwn yn swm enfawr o arian i allu cyflawni’r holl ddyheadau ar y rhestr benodol honno. Tybed a allwch chi roi rhywfaint o eglurder inni ynghylch a yw hynny'n £2.5 miliwn ychwanegol ar ben eich cyllideb a fydd ar gael y flwyddyn nesaf, ynteu a yw hyn yn dod oddi mewn y gyllideb addysg yn ei chyfanrwydd ac y bydd yn golygu eich bod yn dwyn o'r naill law, mewn gwirionedd, i dalu’r llall, a hefyd, beth yn union yw eich diffiniad o ysgol wledig neu ysgol fach mewn gwirionedd. Oherwydd, yn amlwg, dyna fydd yn penderfynu i raddau helaeth i ble y bydd yr arian hwn yn llifo. Rydych yn ei roi i'r consortia rhanbarthol yn hytrach na'r awdurdodau addysg lleol i’w ddosbarthu. Os gallwch egluro pam yn union y mae hynny'n wir, byddai hynny hefyd yn ddefnyddiol.
Er fy mod yn derbyn y gall ffedereiddio fod yn fodel effeithiol iawn, ac, yn wir, mae'n rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer ysgol a oedd dan fygythiad ac sy’n dal i fod dan fygythiad o gau yn fy etholaeth i—Ysgol Llanbedr—sydd bellach yn gweithio gydag ysgol arall, yn groes i ddymuniadau'r awdurdod lleol, er mwyn goroesi, ac mae'n gwneud gwaith da iawn o hynny, ac mae niferoedd y disgyblion yn cynyddu. Ond, pe gallech ddweud wrthym sut yn union y bydd yr arian hwn yn cefnogi ffederasiynau, o gofio bod ffederasiynau mewn gwirionedd yn gyffredinol yn arwain at arbed symiau sylweddol o arian—ai dim ond arian i roi cychwyn ar bethau yw hwn, a yw’r rhain yn drefniadau tymor hir, ynteu ai cronfa tymor byr yw hon lle bydd cyfnod pan fydd y grantiau untro hyn ar gael i ysgolion ac yna y bydd y cyfnod hwnnw yn y pen draw’n dod i ben? Felly, rwyf yn croesawu'r arian ychwanegol, rwy’n croesawu’r datganiad ac rwy’n croesawu'r cyfeiriad teithio, ond rwy’n meddwl bod llawer yn dibynnu ar y diffiniadau hyn o ran beth yn union yw ysgol wledig neu ysgol fach. Rwy’n meddwl bod llawer yn dibynnu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio a pha mor denau y caiff y jam hwnnw ei daenu ar draws y cannoedd o ysgolion gwledig sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, efallai y gallwch roi rhywfaint o eglurder ar y pethau hynny ni.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am y croeso i’r datganiad. I ddechrau, fel y dywedais wrth Llyr ynglŷn â’r rhagdybiaeth o gau, rwy’n gobeithio wir y bydd hynny’n symud man cychwyn y sgyrsiau hyn—yn hytrach na bod cau y dewis cyntaf ar y rhestr, ac yn hytrach na'r dewis olaf ar y rhestr. Ond rwy’n gobeithio, yn ogystal, drwy'r ymgynghoriad ar y cod, y gallwn edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau'r ymarfer ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod llawer o bobl yn gweld nad yw’r ymarfer ymgynghori presennol mor gryf ag yr hoffent iddo fod, ac mae cyfle i gryfhau hynny ar gyfer pob ysgol, a dweud y gwir, a sut y mae’r system yn ymdrin â phob ysgol.
Gadewch imi fod yn gwbl glir, ac eglurais hyn i'ch cydweithiwr Mohammad Asghar yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a oedd yn garedig iawn—na, Andrew, a dweud y gwir, oedd yn dirprwyo yn ei absenoldeb. Gadewch inni fod yn gwbl glir, mae'r MEG addysg wedi cynyddu 3.5 y cant. Mae £53 miliwn ychwanegol yn mynd i mewn i fy mhortffolio i yn y cylch cyllideb hwn, sydd wedi fy ngalluogi i flaenoriaethu a chyflwyno mentrau newydd. Mae'r dyraniad o £2.5 miliwn ar gyfer cefnogi amrywiaeth o gynigion penodol sy’n cael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol ynglŷn â sut y byddant yn defnyddio'r arian hwnnw i gefnogi darpariaeth addysgol yn eu hardal benodol i godi safonau. Ochr yn ochr â hynny, bydd cyfle i ysgolion gwledig hefyd fanteisio ar gyllid sydd ar gael gennym ar gyfer arweinyddiaeth a chyllid a fydd ar gael gennym ar gyfer ffederasiynau a chydweithio agosach rhwng ysgolion sy’n gweithio yn ein system ysgolion hunan-wella. Byddaf eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl arian hwnnw’n cael ei wario yn y rheng flaen, i sbarduno gwelliannau a safonau yn ein haddysg i'n plant gwledig. Nid wyf yn disgwyl i'r arian hwnnw fod yn eistedd mewn neuaddau sir neu mewn swyddfeydd consortia rhanbarthol.
Mae hwn yn gyfle i godi safonau yng Nghymru wledig a rhoi sylw i’r heriau penodol iawn sy’n gysylltiedig â hynny: yr her o fod yn bennaeth â llwyth gwaith addysgu uchel, a sut yr ydych yn rheoli hynny; beth y gallwn ei wneud i ddatblygu swyddogaeth rheolwyr busnes ar draws ystod o ysgolion; heriau real iawn gweithlu sefydlog nad yw'n cael y cyfle i fynd allan a dysgu oddi wrth ysgolion eraill; y cwestiwn, mewn ysgol wledig, os oes gennych chi weithlu bach, yw sut y gallwch fod â’r arbenigedd i wneud yn siŵr bod eich cynllunio cwricwlwm a’ch adnoddau mor eang ag y gallent fod. Felly, rwyf wedi nodi rhai syniadau o sut yr wyf yn disgwyl i'r arian greu y newid, ond os daw ysgolion ac AALlau ataf â ffyrdd radical eraill sy'n dangos sut y byddent yn gwella cyrhaeddiad ar gyfer ein plant, rwy'n barod i’w hystyried. Ond, y peth hanfodol i mi yw mai fy nisgwyliad yw bod yr arian hwn yn cyrraedd y rheng flaen ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r plant hynny.
O ran diffiniad, nid oes gennym un, Darren. Mae hynny'n rhan o'r broblem, a byddwn yn gweithio ar sut yn union y gallwn gael diffiniad cadarn. Ar hyn o bryd, mae gan Swyddfa Archwilio Cymru ffigurau y byddwn yn eu hystyried, yng nghyd-destun fy etholaeth fy hun, fel bod yn ysgolion mawr. Felly, mae angen inni gydweithio'n agos i allu cytuno ar y diffiniad hwnnw.
Ond, fel y dywedais, yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw na ddylai pobl ystyried mai’r status quo yw hyn. Mae hyn yn rhan benodol o'n hymrwymiad cyffredinol i godi safonau ledled Cymru, ac mae rhai heriau penodol o ran sut yr ydym yn cyflawni hynny yn rhai o'n cymunedau mwy trefol, ac mae heriau penodol o ran sut yr ydym yn cyflawni hynny mewn cymunedau gwledig, a bydd hyn, rwy’n gobeithio, yn rhan o'r ateb, yn rhan o'n cenhadaeth genedlaethol gyffredinol.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cau ysgolion, a hyd yn oed y bygythiad o gau ysgolion, yn achosi rhaniadau o fewn cymunedau gwledig a rhyngddynt, yn enwedig pan fo cystadleuaeth rhwng disgyblion am leoedd mewn ysgol. Pan fydd yr ysgol yn cau, mae’r ardal yn colli adnodd cymdeithasol a diwylliannol a man cyfarfod ffisegol i aelodau'r pwyllgor. Mae'r ysgol leol yn gweithredu fel cyflogwr ac fel defnyddiwr yn yr ardal leol, ac mae rhai astudiaethau yn nodi bod rhieni'n teimlo’n llai tueddol i gyfrannu mewn ysgol newydd, fwy os yw eu hysgol leol yn cau. Gall ysgolion bach, gwledig greu manteision penodol i fyfyrwyr, fel dosbarthiadau llai ac ethos cymunedol.
Beth sy’n digwydd i'r ysgolion sy’n cael eu cau? Mae'r awdurdod lleol yn gwneud elw drwy gau'r ysgol a gwerthu’r tir i’w ddatblygu, ac ar yr un pryd, yn chwalu rhan bwysig o fywyd y gymuned. Yn ogystal, caiff barn y rhieni ei hanwybyddu neu ei diystyru i raddau helaeth. Dywedodd papur bro yn fy ardal i fod rhieni wedi cael eu syfrdanu gan y penderfyniad i gau Ysgol Maes Edwin ar fynydd Fflint. Nid oedd hyd yn oed AS Llafur lleol yr ardal, David Hanson, o blaid cau’r ysgol. Siaradodd Mr Hanson yn benodol am sut y mae datblygiadau tai newydd yn yr ardal, fel Croes Atti, datblygiad o 100 a mwy o dai o fewn dalgylch yr ysgol, yn golygu na fyddai'n iawn i gau'r ysgol, gan y gallai fod angen lleoedd ysgol ar blant y bobl a fydd yn symud i mewn i’r tai newydd hynny. Dylai'r awdurdod lleol wrando arno ef, efallai.
Rwy'n croesawu'r uchelgais y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi’i ddatgan ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig. Fodd bynnag, byddai wedi bod yn llawer gwell gennyf i weld ymrwymiad llawn ganddi, yn ogystal ag addewid i ddefnyddio adnoddau’n briodol, i gefnogi cadw ysgolion gwledig ac ysgolion bach ar agor a gwrthdroi penderfyniadau diweddar i gau ysgolion bach yn fy rhanbarth i, er enghraifft, yr ysgol ar fynydd Fflint. Diolch.
Lywydd, hoffwn ddiolch i Michelle Brown am ei chyfraniad. Mae hi'n gwneud pwynt gwerthfawr ynglŷn â phwysigrwydd yr adeilad ffisegol yn aml mewn cymuned, a dyna pam, fel y cyhoeddais yn fy natganiad, yr wyf yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod cymunedau’n defnyddio mwy ar adeiladau ysgol fel ffordd o gynnal rhan o wead bywyd yng nghefn gwlad Cymru. Ond, gadewch inni fod yn glir, mae ysgolion eisoes yn gwneud hyn yn effeithiol iawn. Mae ysgolion yn fy etholaeth i fy hun wedi camu i’r adwy ac wedi cymryd awenau’r gwaith o gynnal cyfleusterau chwaraeon a fyddai wedi cael eu colli yn y gymuned. Mae ysgolion yn ymwneud ar hyn o bryd, er enghraifft, â chymryd cyfrifoldeb am gyfleusterau llyfrgell a fyddai wedi cael eu colli i'r gymuned, a hoffwn annog defnyddio mwy ar adeiladau ysgol fel ased gwirioneddol i'r bobl sy'n byw yn yr ardal benodol honno.
Mae’r Aelod hefyd yn gwneud pwynt gwerthfawr ynglŷn â’r economi. Hwn oedd y pwynt a wnaeth aelodau, ac aelod arweiniol, Cyngor Gwynedd imi pan gyfarfûm â hwy fore Gwener. Roedden nhw’n cydnabod hynny. Dyna pam maen nhw’n edrych arnynt eu hunain, ac ar gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i ddod o hyd i ffyrdd arloesol y gallant ei mabwysiadu i gynnal lleoliadau addysg mewn amrywiaeth eang o gymunedau, oherwydd maent yn cydnabod yr union bwynt hwnnw a’u cyfrifoldeb cyffredinol.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau cyn bo hir. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus i gymryd rhan lawn ynddo, ond mae’n rhaid imi ddweud nad wyf ar hyn o bryd yn bwriadu edrych eto ar unrhyw benderfyniadau a wnaethpwyd yn flaenorol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Yn enwedig, croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am ddarparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws pob ysgol a gynhelir, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Rydych yn ymwybodol o fy mhryderon ynghylch y mater hwn.
Hefyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedasoch am yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion fel cyfle i'r holl bartïon dan sylw i gyfrannu. Fel y gwyddoch, nid dim ond ysgolion gwledig sy'n gweld cau ysgolion yn fater anodd iawn. Mae pob ysgol, yn fy mhrofiad i, yn tueddu i fod wrth galon eu cymuned, ac rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol bod gennyf rai pryderon ynghylch y cod trefniadaeth ysgolion. Rwy'n credu ei bod yn bendant yn bryd ei adolygu, a hoffwn ofyn sut yr ydych yn gweld y broses honno yn mynd yn ei blaen, ac yn benodol, sut y byddwch yn sicrhau bod rhieni a chymunedau’n cael llais yn y diwygiadau yr ydych yn edrych arnynt.
Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau? Rwy’n gobeithio nad wyf yn datgelu gormod o gyfrinach wrth ddweud y byddai Lynne a mi, yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad, yn anfon negeseuon ar draws y Siambr am yr union bwnc hwn, sef ein rhwystredigaethau â'r cod trefniadaeth ysgolion.
Rwy’n meddwl ei bod yn amserol, dair blynedd ar ôl ei sefydlu, i adolygu ei effeithiolrwydd. Rwyf yn arbennig o awyddus i edrych ar sut y gallwn ei newid i edrych ar egwyddor y rhagdybiaeth yn erbyn cau, ond rwy’n gwybod bod rhwystredigaethau ar draws y Siambr, gan Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli pob gwahanol fath o gymunedau, ynghylch pa un a yw mor gadarn ag y gall fod. Rwy’n gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, oherwydd mae’r Aelod yn llygad ei le: mae ysgolion yn bwysig, beth bynnag yw natur y gymuned. Rwy'n ymwybodol bod yr ysgolion mewn rhai cymunedau ym mhen uchaf y Cymoedd yn ôl pob tebyg yr un mor anghysbell â rhai o'r ysgolion yr wyf i’n gwybod amdanynt ac yn hoff iawn ohonynt. Felly, mae angen inni edrych ar hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn sicr nid yw hyn yn gosod safon wahanol ar gyfer un math o ysgol o gymharu ag un arall.
Mae’r Aelod yn iawn am sut y gallwn ymgysylltu â rhieni a chymunedau. Byddaf yn defnyddio'r ystod lawn o beiriannau cyhoeddusrwydd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Rwy’n gobeithio ein bod wedi cael dechrau da heddiw o ran rhoi cyhoeddusrwydd i hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r cyfryngau am dynnu sylw at y datganiad y prynhawn yma, ond byddaf yn dibynnu ar Aelodau'r Cynulliad eu hunain, mewn gwirionedd—byddwn yn ddiolchgar iawn i Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr pe bydden nhw eu hunain yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn sicrhau bod yr ymgynghoriad ar gael yn eang i bobl y maent yn gwybod bod ganddynt ddiddordeb yn y mater penodol hwn. Po fwyaf o leisiau y gallwn eu clywed, y mwyaf y cyfleoedd y bydd gennym i sicrhau cod sefydliad priodol sydd wir yn adlewyrchu pryderon y bobl yr ydym i gyd yn eu cynrychioli.
Fel y dywedwch, gall ysgolion bach ac ysgolion gwledig ddarparu manteision academaidd, diwylliannol a chymdeithasol gwirioneddol. Pan alwais ar Lywodraeth flaenorol Cymru i ymateb i bryderon bod Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio data hen ac anghywir ac yn gweithredu’n groes i'r cod trefniadaeth ysgolion ynglŷn â chynigion i gau nifer o ysgolion yno, gan gynnwys ysgolion bach ac ysgolion gwledig, Ysgol Gynradd Sirol Llanfynydd ac Ysgol Maes Edwin ar fynydd y Fflint, y cyfeiriwyd ati’n gynharach, dywedodd eich rhagflaenydd,
ni allaf roi sylwadau ... o ran y cod trefniadaeth ysgolion a'r canllawiau, oherwydd, wrth gwrs, gallai hyn ddod gerbron Gweinidogion Cymru.
Wrth gwrs, yng nghyd-destun ysgolion bach ac ysgolion gwledig, nid oedd hynny wedi bod yn wir ers 2013. Nawr, er bod yn rhaid i gynghorwyr gadw at dystiolaeth faterol sy’n berthnasol i'r cod trefniadaeth ysgolion a chywirdeb y data a ddefnyddir gan gabinet y cyngor fel sail i'w penderfyniad i argymell cau ysgolion, pan ddaeth y cynigion cau hyn i'r cyngor, nid oedd y sylwadau hynod wleidyddol gan arweinydd y cyngor yn berthnasol i'r materion y mae'n rhaid i'r cyngor eu hystyried, ac roedd yr arfer hwn o sgorio pwyntiau gwleidyddol ar y ddau achlysur yn codi pryderon difrifol ynghylch ar ba sail y gwnaeth ei gabinet eu penderfyniadau.
Rydych yn dweud nad ydych yn mynd i edrych eto ar benderfyniadau a wnaethpwyd yn flaenorol. A yw hynny, felly, yn golygu eich bod yn bolltio drws y stabl ar ôl i Lywodraeth flaenorol Cymru a'r Prif Weinidog presennol adael i'r ceffylau ddianc, neu, o dan amgylchiadau fel hyn, a wnewch chi ailystyried y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau cau i aelodau ac i'r cyhoedd, yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn ofynnol gan y cod trefniadaeth ysgolion mewn gwirionedd?
Mark, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ei gwneud yn gwbl glir wrth ateb Michelle Brown nad wyf yn fodlon ailagor achosion sydd wedi eu gweithredu eisoes. Mark, ni allaf ond bod yn gyfrifol am y sefyllfa yr wyf ynddi nawr. Nid yw hyn yn fater o gau drws y stabl ar ôl i'r ceffyl ddianc. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gydnabod yr heriau penodol o ddarparu addysg mewn ardal wledig a'r rhwystrau a all ei gwneud yn anoddach i’r addysg honno gyflawni rhagoriaeth absoliwt, ac rwy’n benderfynol o wneud hynny. Mae'n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo bod y polisi hwn—. Yn wahanol i’ch llefarydd addysg, sy’n gweld rhinwedd yn yr hyn yr wyf yn ei wneud, mae'n ddrwg gennyf nad ydych wedi gallu rhannu’r brwdfrydedd hwnnw.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar gyflogadwyedd. Rwy’n galw ar y Gweinidog hynny i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae cefnogi pobl i fynd i mewn, aros a symud ymlaen o fewn cyflogaeth barhaus yn rhan hanfodol o sicrhau dyfodol ffyniannus a diogel i Gymru. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ail-lunio
cefnogaeth cyflogadwyedd ar gyfer unigolion sy'n barod am swyddi, a'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, i gael y sgiliau a'r profiad i ennill a chadw cyflogaeth gynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn datblygu cynllun cyflogadwyedd y bwriadaf ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd, a fydd yn nodi sut y byddwn yn creu'r amodau i gyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y byddwn yn mesur llwyddiant.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Amlinellais ym mis Gorffennaf syniadau cynnar Llywodraeth Cymru ar ddatblygu rhaglen gyflogadwyedd sengl ar gyfer pob oed, gan ddwyn ynghyd y gweithgareddau o'n rhaglenni cyflogadwyedd presennol i ddiwallu’n well anghenion y rhai sydd angen cymorth i fynd i mewn, aros a symud ymlaen yn y gweithle. Fel y dywedais bryd hynny, bydd y rhaglen hon yn ein galluogi i ymateb yn well i heriau'r farchnad lafur yr ydym yn awr yn eu hwynebu: yr her barhaus o gynnal cyfradd ddiweithdra isel, yn enwedig o ystyried yr angen i fynd i'r afael â lefelau anghymesur o ddiweithdra mewn rhai grwpiau ac ardaloedd daearyddol, gan gydnabod yr achos clir dros ganolbwyntio mwy ar leihau anweithgarwch economaidd.
Fodd bynnag, gwyddom nad yw'n ddigon i ganolbwyntio yn unig ar gael pobl i mewn i waith. Mae angen sicrhau bod unigolion yn cael gwaith gweddus a chynaliadwy a'u bod yn symud ymlaen i, ac o fewn, swyddi diogel. Er bod mynd i mewn i gyflogaeth yn ffactor allweddol o ran lleihau tlodi, mae hefyd yn bwysig cydnabod y mater cynyddol o dlodi mewn gwaith yng Nghymru. Erbyn hyn mae mwy o aelwydydd sy'n byw mewn tlodi lle mae rhywun yn gweithio, nag sydd ddim.
Bydd ein cynllun cyflogadwyedd, felly, yn nodi sut y gellir targedu ein cymorth yn fwyaf effeithiol i symud mwy o unigolion ymlaen o anweithgarwch economaidd i waith, gan gadw pwyslais ar ddilyniant mewn a thrwy gyflogaeth gynaliadwy. Bydd y cynllun yn cydnabod bod cael pobl i mewn i gyflogaeth gynaliadwy ac ystyrlon yn golygu mwy na chynyddu sgiliau. Mae angen ymagwedd gyfannol sy'n ceisio nodi a mynd i'r afael ag anghenion a rhwystrau y mae pob unigolyn yn eu hwynebu wrth ennill, cadw a symud ymlaen o fewn cyflogaeth.
Rydym yn credu mewn dull cyflogadwyedd integredig, sy’n cysylltu mentrau sgiliau â gwasanaethau cyflogaeth ac â gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n mynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd, yn benodol integreiddio gwaith a gwasanaethau iechyd i gefnogi pobl â chyflyrau iechyd ar y cyfle cyntaf posibl i gael mynediad i neu i aros mewn gwaith. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda chyflogwyr i integreiddio cymorth busnes a sbardunau caffael Llywodraeth Cymru yn llwyr o fewn ein dull cyflogadwyedd ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r potensial i dargedu recriwtio i swyddi newydd a grëwyd o grwpiau gweithgarwch isel.
Er mwyn blaenoriaethu a thargedu ein hymyraethau cyflogadwyedd a sgiliau yn fwy effeithiol, byddwn yn datblygu dull systematig o nodi angen ac o atgyfeirio at gymorth cyflogadwyedd drwy wasanaeth cyngor ar gyflogaeth newydd. Bydd y gwasanaeth cyngor ar gyflogaeth yn cryfhau ac yn uno'r gwasanaethau asesu, broceriaeth, atgyfeirio a chyngor, a bydd yn gweithredu yn gyfan gwbl annibynnol ar y ddarpariaeth cymorth cyflogadwyedd er mwyn sicrhau pwyslais clir, diduedd ac absoliwt ar anghenion yr unigolyn. Bydd cyngor a broceriaeth barhaus yn cael eu darparu drwy'r gwasanaeth cyngor cyflogaeth i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi yn effeithiol ar eu taith i mewn i ac o fewn cyflogaeth.
Bydd y cynllun cyflogadwyedd yn nodi fframwaith ar gyfer gweithredu gan ddefnyddio tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio. Byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid dros yr wythnosau nesaf i ddatblygu'r fframwaith hwn, gan adeiladu ar y themâu allweddol o'n hymgysylltu hyd yn hyn sydd wedi gosod y sail ar gyfer ein dull cyffredinol. Bydd y dull hwn yn un pob oed a hollgynhwysol. Byddwn yn symud i ffwrdd o ymagwedd a yrrir gan garfan, sy’n targedu grwpiau penodol o bobl ddi-waith neu bobl sy'n anweithgar yn economaidd gydag ymyriadau penodol, ac yn hytrach yn canolbwyntio cefnogaeth o gwmpas anghenion yr unigolyn. Mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod cymorth pwrpasol a dwys sydd wedi'i deilwra i anghenion unigolion er mwyn cynyddu cyflogadwyedd a mynd i’r afael â rhwystrau yn hanfodol. Byddwn hefyd yn cael gwared ar y ffiniau rhwng darpariaeth mewn gwaith ac allan o waith i greu continwwm o gymorth i unigolion ar ôl iddynt gael mynediad i'r gweithle, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o roi'r gorau i gyflogaeth.
Bydd ein dull wedi ei integreiddio a'i gymell. Byddwn yn atgyfnerthu nifer y rhaglenni a gynigir drwy ddod ag ymyriadau at ei gilydd drwy ein dull pob oed a hollgynhwysol a, chan weithio drwy ein cymorth busnes a’n sbardunau caffael, byddwn yn cymell creu cyfleoedd swyddi wedi’u targedu yn fwy ar gyfer unigolion dan anfantais ac yn gosod premiymau ar gymorth mewn ardaloedd dan anfantais arbennig. Bydd ein dull hefyd wedi ei foderneiddio ac yn effeithlon. Byddwn yn cyrraedd mwy o unigolion drwy gyflwyno ac ehangu gwasanaethau cyflogadwyedd digidol a byddwn yn rhyddhau adnoddau trwy fodelau darparu mwy effeithlon ac arloesol, fel y dull a gomisiynir yn genedlaethol, a reolir yn rhanbarthol ac a ddarperir yn lleol y byddwn yn ei fabwysiadu ar gyfer y rhaglen gyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oed.
Bydd y dull hwn yn gofyn am ymdrech a phwyslais cydgysylltiedig, nid yn unig ar draws Llywodraeth Cymru, ond hefyd gydag adrannau Llywodraeth y DU, yn enwedig yr Adran Gwaith a Phensiynau, gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector preifat, a chyda grwpiau rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni. Bydd angen i'r ymdrech hon groesawu hyblygrwydd ac arloesedd gan gadw pwyslais diwyro ar wella a chanlyniadau. Bydd ein gwaith gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn bartner allweddol yng Nghymru, yn parhau er mwyn gwneud pob ymdrech i ymgorffori eu rhaglenni o fewn agenda gyflogadwyedd ehangach Cymru. Mae egwyddorion ein cynllun cyflogadwyedd yn sail i'r rhaglen gyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oed a’n gwaith o gyd-gynllunio rhaglen gwaith ac iechyd yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru. Mae hyn yn gyfle i alinio ehangder y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i unigolion ar draws Cymru yn fwy effeithiol.
Wrth ddatblygu'r cynllun, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda’r holl chwaraewyr allweddol i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb. Bydd ein dull newydd o gefnogi cyflogadwyedd yn hyblyg, wedi’i gomisiynu yn genedlaethol, wedi’i reoli yn rhanbarthol, wedi’i gyflwyno yn lleol ac, yn bwysicaf oll, yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn credu y bydd y dull hwn o fudd i unigolion ar draws Cymru wrth ennill, cadw a symud ymlaen o fewn gwaith, a bydd yn cyflwyno'r dyfodol llewyrchus a diogel ar gyfer Cymru sydd ei angen arnom i symud Cymru ymlaen. Diolch.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Weinidog? Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod yna gynllun cyflogadwyedd yn mynd i fod, a’r egwyddor gyffredinol o greu cynnig haws ei ddeall, mwy hyblyg, gyda chefnogaeth unedig drwy, yn yr achos yma, wrth gwrs, y gwasanaeth cyngor cyflogaeth. Ond, wrth gwrs, mae’r datganiad yn codi lot o gwestiynau hefyd, gan ei fod, yn ei hanfod, yn cyhoeddi bod yna gynllun cyflogadwyedd a bod yna wasanaeth cyngor cyflogaeth yn mynd i fod i chi ei wneud. Efallai y gallwch chi sôn ychydig ynglŷn â phwy fydd yn datblygu’r cynllun cyflogadwyedd. Rwy’n amau mai’r Llywodraeth y bydd, ond byddai’n dda gwybod, oherwydd, os ydych chi’n ei gyhoeddi erbyn mis Ionawr, nid oes llawer o amser i gynnwys gwahanol rhanddeiliaid yn y drafodaeth yna. Pryd ydych chi’n rhagweld y bydd y cynllun yn mynd yn weithredol? Ac efallai y gallwch chi sôn ychydig ynglŷn â’r adnoddau a chost gweithredu’r cynllun, a hefyd y gwasanaeth cyngor cyflogaeth rydych chi’n sôn amdano fe—pa fath o gapasiti fydd gan y gwasanaeth hwnnw, gyda faint o bobl rydych chi’n ei rhagweld y byddan nhw’n gweithio â nhw yn flynyddol—ac efallai sôn ychydig am y gost rydych chi’n ei rhagweld, ac o ba gyllideb rydych chi’n dychmygu y bydd yr ariannu’n dod ar gyfer hwnnw.
Rŷch chi’n sôn eich bod chi am gomisiynu’n genedlaethol, rheoli’n rhanbarthol, a delifro’n lleol. Rwy’n tybio—ac efallai fy mod i’n anghywir—eich bod chi’n rhagweld y bydd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ran i’w chwarae. Pa ystyriaeth ŷch chi wedi ei rhoi, wrth feddwl am y model yna, i efallai datganoli ychydig yn fwy o gyfrifoldeb i’r partneriaethau yna, yn sicr, efallai, o ran y cyllidebau ac yn y blaen sydd ynghlwm â’r maes yma? Byddwn i’n falch o glywed i ba raddau rŷch chi’n credu bod yna fwy o sgôp, efallai, i wneud hynny.
Hefyd, rŷch chi’n sôn, wrth gwrs, am ddarpariaeth pob oed—‘all-age’. Rwy’n tybio ein bod ni’n sôn am ôl-16 oed, ac efallai y byddech chi’n gallu dweud wrthym ni a ydych chi wedi ystyried estyn hynny i ôl-14, oherwydd byddwch chi’n gwybod cystal â fi, yn aml iawn, mae nifer o bobl wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw wedi gwneud penderfyniadau erbyn eu bod nhw’n cyrraedd yr oed yna, ac efallai ein bod ni’n eu dal nhw ychydig yn rhy hwyr, neu yn methu â’u dal nhw oherwydd ei bod hi’n rhy hwyr cyn iddyn nhw efallai wynebu sefyllfa o’r fath. Mae’r datganiad yn crybwyll y byddai’r ‘approach’ yn ‘all-age and all-encompassing’, ac eich bod chi’n edrych ar ‘approach’ sydd wedi integreiddio ac yn ‘incentivised’.
Rŷch chi’n sôn am foderneiddio ac effeithlonrwydd, ond nid wyf yn gweld y pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithiol hefyd. Rwy’n meddwl bod hynny’n ystyriaeth bwysig ac efallai y gallwch ehangu ynglŷn â sut rŷch chi’n bwriadu gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth. Sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant o dan y trefniadau newydd rŷch chi’n sôn amdanynt heddiw? Mae llawer o lwyddiant yr hyn rŷch chi yn gobeithio ei gyflawni, o beth rwy’n ei weld yn y datganiad, yn mynd i ddibynnu hefyd, i raddau beth bynnag, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac efallai nad yw'r record yn y cyfnod diwethaf yma yn rhoi lot o hyder i rywun pan fyddem ni’n edrych ar y modd mae’r lefi prentisiaethau, er enghraifft, wedi cael ei drin ag ef. Efallai, gan fy mod i’n sôn am y lefi, gallwch chi efallai ddweud sut rŷch chi’n rhagweld y gallai hwnnw atgyfnerthu neu ‘complement-io’ y ddarpariaeth yma yr ydych yn ei chyhoeddi heddiw. Mi glywsom ni yn gynharach am y cyhoeddiad ddigwyddodd ddoe ynglŷn â lefel yr ariannu a fydd yn cael ei chlustnodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i hefyd yn awgrymu bod yn rhaid i ni beidio â thybio bod hynny’n arian newydd o reidrwydd oherwydd, wrth gwrs, rŷm ni’n colli mewn ffyrdd eraill hefyd. Ond byddai’n ddiddorol gweld sut rŷch chi’n gweld cyfraniad y lefi yna yn chwarae allan o fewn y cyd-destun yma.
Pan fyddem ni’n sôn am y maes yma, wrth gwrs, un elfen gwbl greiddiol yw’r elfen a’r angen i farchnata a hyrwyddo gwerth caffael y sgiliau yma i bobl sydd ddim mewn cyflogaeth neu hyd yn oed mewn cyflogaeth—efallai yn fwy felly. Mae angen, byddwn i’n tybio, ymdrech farchnata gref y tu cefn i raglenni o’r fath ac efallai y byddwch chi’n gallu sôn ychydig—oherwydd mi fydd y DWP, awdurdodau lleol a’r darpariaethau yng nghyd-destun iechyd ac yn y blaen yn gyrru ac yn creu ychydig o alw, ond, wrth gwrs, yn benodol efallai yn fwy i bobl sydd mewn cyflogaeth—am ble rŷm ni’n sicrhau ein bod ni yn gwerthu hwn i gyflogwyr, i bobl ifanc, i rieni a’r gwahanol grwpiau yna allan yna rŷm ni am eu gweld yn manteisio ar y ddarpariaeth. Diolch.
Diolch am y cwestiynau yna, Llyr. Byddaf yn dechrau gyda'r ardoll brentisiaethau, dim ond i fod yn glir. Rwy’n teimlo, ddirprwy Lywydd, fy mod wedi gwneud y sylwadau hyn sawl gwaith yn y Siambr hon, ond rwyf am eu gwneud nhw eto. Nid yw'r ffigurau sydd wedi eu rhyddhau gan y Trysorlys yn golygu bod arian newydd sylweddol yn dod i Gymru, oherwydd nad ydynt yn ystyried gostyngiadau a wneir i raglenni cymaradwy yn Lloegr, gan gynnwys prentisiaethau ac, felly, mae angen eu hystyried yn rhan o'r darlun mwy, sy'n dangos—ni fyddwch yn synnu i glywed—toriadau mewn termau real i'r cyllid sydd ar gael i Gymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac nid ydynt ychwaith yn dangos effaith tua £30 miliwn a fydd yn cael ei dalu’n ôl i'r Trysorlys gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy'r ardoll. Felly, dim ond i fod yn glir: nid yw’r ardoll yn ddim mwy na threth gyflogaeth Llywodraeth y DU. Mae’n gwrthdaro yn uniongyrchol â meysydd lle mae'r pwerau wedi'u datganoli. Mae gennym ein hymagwedd wahanol a phoblogaidd iawn ein hunain at brentisiaethau, y mae'r Aelod yn gwybod amdanynt ac mae wedi bod yn gefnogol iawn iddi, ac mae hyn yn torri’n syth ar ei thraws. Felly, nid yn unig nad oes gennym unrhyw arian newydd ond, yn amlwg, mae’n rhaid i’n gwasanaethau cyhoeddus i gyd dalu'r ardoll ac felly maen nhw'n cael eu hamddifadu o arian. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl ac rydym yn flin iawn am y peth. Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn dweud unrhyw beth newydd: rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith o'r blaen. Mae’n ddirgelwch i mi sut y gallaf fod yn fwy clir. Nid oes unrhyw arian newydd. Rydym yn parhau â'r rhaglen oedd gennym o'r blaen. Rwy'n credu mai dyma’r degfed tro o leiaf yr wyf wedi dweud hynny yn gyhoeddus ac wrth bawb arall sydd wedi gofyn i mi. Felly, nid wyf yn deall sut y gallaf fod yn fwy clir, Lywydd. Felly, dyna'r sefyllfa yr ydym wedi ein cael ein hunain ynddi. Bydd datganiad yr hydref, wrth gwrs, yn egluro'r sefyllfa yn llwyr ac, os yw pethau'n newid, byddaf, wrth gwrs, yn hysbysu'r Aelodau yn rheolaidd ond nid ydym yn disgwyl newid a dyma’r sefyllfa fel yr wyf yn ei deall. Felly, dyna'r pwynt ynghylch yr ardoll brentisiaethau.
O ran y gweddill ohono, beth rwy'n ei gyhoeddi heddiw yw dechrau rhaglen bolisi i ddatblygu'r rhaglen hon, ac rwy'n gofyn i’r Aelodau am eu mewnbwn i fframwaith y rhaglen. Dydw i ddim eto mewn sefyllfa i ddweud wrthych faint mae'n ei gostio a phob dim arall gan nad ydym wedi gorffen ymdrin â’r polisi yn gyfan gwbl. Bu proses o ymgynghori. Mae croeso mawr i bob un, pob AC sydd eisiau cyfrannu at hynny yn bersonol ar ran eu hetholwyr, a byddaf yn dod yn ôl yn y flwyddyn newydd gyda chynnig priodol o ran y polisi cyffredinol. Ond ei hanfodion yw, ar y pwynt cyswllt, na ddylai'r unigolyn orfod ymgodymu â pha fath o gyllid y maent yn ei gael. Felly, yn hytrach na gorfod dweud yn awr, 'Wel, nid ydych wedi gwneud cais—gwnaethoch gais am Twf Swyddi Cymru ond, yn anffodus, rydych yn 25 a dylech fod wedi gwneud cais am rywbeth arall', byddwn yn cael gwared ar hynny. Yr hyn a fydd gennym fydd y gwasanaeth cyngor cyflogaeth hwn, a fydd yn broceru gallu'r unigolyn i ddweud beth sydd ei angen arnynt ac yna’n eu helpu i gael yr hyn sydd ei angen arnynt.
Rydw i wedi bod yn hynod o glir bod yn rhaid i hynny gael ei wahanu’n llwyr oddi wrth y cymorth gwirioneddol y maent yn ei gael, oherwydd a dweud y gwir—a byddaf yn hollol glir ynglŷn â hyn—nid wyf yn dymuno cael unrhyw gysylltiadau o gwbl â’r math o asesiad sydd wedi bod yn gysylltiedig â sancsiynu budd-daliadau ac yn y blaen, yr wyf yn credu ei fod yn ffiaidd ac yn wir sydd ond yn gyrru pobl anobeithiol i fwy o anobaith. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw broceru ar gyfer yr unigolyn ffordd iddynt fynegi eu hanghenion eu hunain wrth y Llywodraeth, ac i ni roi'r gwasanaethau iddynt y maent arnynt eu hangen. Gallai hynny fod yn sgiliau a gallai fod yn hyfforddiant—hyfforddiant cyflogaeth neu hyfforddiant mewn cyflogaeth—ond gall hefyd fod yn ddarpariaeth iechyd neu ofal plant neu deithio neu beth bynnag. Felly, byddaf yn cynnull grŵp traws-Lywodraeth i edrych ar hyn, a byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ni o ddifrif ac yn gyfannol edrych ar y rhwystrau y mae unigolyn yn eu hwynebu i gyflogaeth gynaliadwy, neu yn wir i’r camau tuag at gyflogaeth, a allai gynnwys gwirfoddoli a gwaith cymunedol ac yn y blaen, i'w cael ar hyd y llwybr hwnnw, gan ein bod yn gwybod bod y math hwnnw o gysylltiad yn gyrru pobl allan o dlodi ac i mewn i iechyd.
Felly, mae hwn yn wir yn ddiweddariad cynnar iawn i’r Cynulliad o ran ein cyfeiriad polisi, gan fy mod yn awyddus iawn i wybod beth oedd yr Aelodau yn ei feddwl am y cyfeiriad polisi hwnnw, ac yna byddaf yn dod yn ôl atoch chi ar ôl i ni gael y peth mewn ffurf fwy cynhwysfawr.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn bwriadu ail-lunio cymorth cyflogadwyedd er mwyn i unigolion sy'n barod am swyddi gael gwaith gweddus a chynaliadwy. Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n gadael addysg y sgiliau cywir i'w helpu yn y byd gwaith yn hanfodol i hyn. Mae’r Gweinidog yn dweud ei bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda chyflogwyr i wneud y gorau o’r potensial i helpu grwpiau gweithgarwch isel i fynd i gyflogaeth. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddi i gryfhau cysylltiadau gyda'r gymuned fusnes i sicrhau bod hyn yn digwydd yng Nghymru?
Rwy’n croesawu'r cadarnhad y bydd y dull hwn ar gyfer pob oedran ac yn hollgynhwysol. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod ei dull yn lleihau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein gweithlu, a pha gamau penodol y bydd hi’n eu cymryd i gynorthwyo pobl hŷn i fynd yn ôl i mewn i'r gweithlu yng Nghymru?
Dywed y Gweinidog fod cyflogaeth yn golygu mwy na chynyddu sgiliau. Mae cynyddu sgiliau, fodd bynnag, yn chwarae rhan allweddol o ran cael pobl i mewn i gyflogaeth gynaliadwy. Rwy’n gresynu, felly, at y ffaith y bu diffyg ymrwymiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru i ailfuddsoddi’r arian hwn mewn gwell hyfforddiant prentisiaeth. Dyma'r arian a roddwyd gan y busnesau— [Torri ar draws.] Dyma'r arian a roddwyd gan y busnesau, ac mae'n hanfodol bod hwn yn cael ei ailfuddsoddi mewn hyfforddiant. A yw'r Gweinidog yn gwerthfawrogi siom grwpiau fel consortiwm adwerthu Cymru fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyllid canlyniadol yr ardoll yn ffrwd refeniw ac nad ydynt yn ei gysylltu â’r rhai sydd wedi cyfrannu ato? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod neilltuo’r arian hwn i gefnogi busnesau? Mae Llywodraeth Cymru wedi brolio ei thasglu’r Cymoedd. [Torri ar draws.] Mae Llywodraeth Cymru wedi brolio ei thasglu’r Cymoedd. Oni ellid defnyddio’r cronfeydd hyn i ddarparu hyfforddiant sgiliau ar gyfer pobl yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf yn ein Cymoedd?
Mae’r sicrwydd o ran cyllid a roddir gan Lywodraeth y DU i’w groesawu’n fawr, a bydd cyflogwyr yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan Lywodraeth dan arweiniad Llafur os yw'n gwrthod buddsoddi’r arian hwn mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yng Nghymru, er, ar y cyfan, fy mod yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud fan hyn.
Er bod perygl i hyn ymddangos fel tiwn gron, nid oes unrhyw arian ychwanegol. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd â sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Felly, yr hyn y mae'r Trysorlys wedi ei wneud yw cyhoeddi cyllid canlyniadol mewn un rhan heb ddangos y cyllid anghanlyniadol mewn rhan arall i chi. Felly, er enghraifft, mae toriad o 17 y cant yn y cyllid sylfaenol, sy'n cyfateb i’r cyllid ar gyfer prentisiaethau. Dim ond un ohonynt yw hynny; mae nifer o rai eraill. Felly, byddwch yn gwybod mai un o egwyddorion sylfaenol datganoli yw bod yr arian yn dod i Lywodraeth Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru bennu ei blaenoriaethau. Mae'r syniad y gallwch newid trethiant cyffredinol am dreth gyflogaeth benodol ac yna cwyno am y ffaith nad yw’n cael ei neilltuo yn eithriadol o—wel, chwerthinllyd, a dweud y gwir. Nid yw'n glir chwaith sut y caiff ei wario yn Lloegr. Felly, er ei bod yn wir y bydd system dalebau ar gyfer rhai cyflogwyr sy'n talu'r ardoll, nid yw'n gwbl glir i mi sut y bydd busnesau bach a chanolig nad ydynt yn talu’r ardoll yn cael cyllid, ac nid yw'n glir chwaith sut y bydd cyrff y sector cyhoeddus sy’n talu'r ardoll yn gallu gwario’r cyllid hwnnw. Felly, nid yw’n ddim byd mwy na thoriad mewn trethiant cyffredinol, a threth benodol yn lle hynny. Ac yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, nid oes gennyf eiriau eraill i fynegi hyn. Rwy'n teimlo fy mod i wedi ei ddweud hyd at syrffed.
O ran y gweddill ohono, gwnaeth yr Aelod bwynt rhesymol am yr angen i fusnesau gael eu cynnwys yn ein cynlluniau, ac, wrth gwrs, maent yn cael eu cynnwys. Rwyf wedi siarad llawer am gynlluniau a gomisiynir yn genedlaethol ac sydd â phwyslais rhanbarthol. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd â gwaith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac, wrth gwrs, ymgynghorwyd â nhw yn y ffordd yr ydym wedi edrych ar ein polisi cenedlaethol, a byddwn yn parhau i ymgynghori â nhw, ac, yn wir, maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ar roi eu cynlluniau eu hunain at ei gilydd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae wedi bod yn bwysig iawn edrych ar ble’r ydym yn mynd i fynd i’r afael â rhai o'r problemau sy'n effeithio ar rai o'r cymunedau o amddifadedd mwyaf. Roeddwn yn mynd i ofyn i chi am yr ardoll, ond yr wyf yn credu eich bod wedi ateb hynny yn eithaf clir. [Torri ar draws]. Na, mae’n iawn.
Ond y materion y buom yn siarad amdanynt—yn amlwg, rydych chi wedi sôn amdanynt ychydig bach, ond roeddwn yn siomedig o weld yn y papur, yn y datganiad ei hun, nad oes sôn am gludiant. Rydych wedi sôn amdano yn eich ateb i Llyr Gruffydd, mewn un pwynt, ond rwy’n credu bod y mater o gludiant yn hanfodol. Oherwydd, os ydych yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, ei fod yn ymwneud â sut mae unigolyn yn cael mynediad at rai o'r gwasanaethau hynny, nid dim ond rhai o'r cyfleoedd cyflogaeth, ond hefyd rhywfaint o'r cyngor a all fod ar gael yn ogystal. Felly, rwy’n credu bod angen i ni edrych ar y mater o gludiant.
Yn eich datganiad, rydych yn dweud ei fod yn mynd i gael ei gomisiynu yn genedlaethol, a’i reoli yn rhanbarthol. Nawr, a yw hynny'n golygu mewn gwirionedd fod swyddogaeth i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol? Beth yw eu swyddogaeth, ac a allwch chi o bosibl ganolbwyntio ar bartneriaeth y de, yn arbennig, a’r cynllun sydd ganddynt, a sut y mae hynny'n ffitio i mewn i agenda’r gwasanaeth cyngor cyflogaeth?
A allwch chi hefyd edrych efallai ar sut y byddai'r cynllun hwn yn gweithio gyda chynlluniau eraill sydd ar waith, yn enwedig yn fy ardal i, gyda'r tasglu dur, a sut y mae hynny'n mynd i ffitio i mewn i'r darlun cyfan hwn yn ogystal—oherwydd, yn amlwg, fod gennym lawer o unigolion sydd angen y cymorth a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu—a sut y mae hynny'n ffitio i mewn i hynny?
Weinidog, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan ein cymunedau o amddifadedd—ein cymunedau ôl-ddiwydiannol— sy'n wynebu cyfnodau anodd. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y mae hyn yn gweithio i'r bobl hynny.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny, David Rees. Rwy’n credu, ar y pwynt ynghylch cludiant, ei bod yn wir nad oeddwn yn sôn amdano yn y datganiad ei hun, ond mae hynny yn unig oherwydd y byddai gennych restr siopa fawr, hir yn y diwedd pe byddech yn cynnwys popeth—ond nid yw hynny’n bychanu ei bwysigrwydd. Yn amlwg, yr hyn yr ydym yn edrych arno yw edrych i weld pa rwystrau y mae pob unigolyn yn eu hwynebu, ac, os oes anhawster o ran cludiant, yna mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o atal hynny.
Yn wir, bûm yn ymweld â llyfrgell i fyny yn y Blaenau, yn Abertyleri, dim ond y diwrnod o'r blaen, a siaradais â nifer o bobl yno a oedd yn ein grwpiau cynhwysiant digidol, a llyfrgellydd yno, a oedd yn unigolyn rhagorol mewn gwirionedd. Dywedodd bron pawb yno mai cludiant oedd un o'r problemau mwyaf oedd ganddynt o ran cael mynediad at y swyddi yr oeddent yn chwilio amdanynt, yn rhan o'u chwiliad budd-daliadau. Felly, rwy'n gyfarwydd iawn â hynny, a byddwn yn sicr yn edrych ar hynny. Mae fy nghydweithiwr, Ken Skates, a minnau yn rhan fawr o'r cynnig hwnnw.
O ran sut y mae'n cysylltu â mentrau eraill sydd gennym, soniasoch am y tasglu dur, er enghraifft, ond mae gennym hefyd dasglu’r Cymoedd, ac mae nifer o fentrau eraill, pob un ohonynt yn gweithio yn yr un ardal mewn gwirionedd, ond gyda phwyslais penodol ar grŵp penodol o bobl, gyda phroblemau penodol. Yr holl bwynt am y cynllun cyflogadwyedd yw ei fod yn eu tynnu at ei gilydd ac yn eu gosod mewn fframwaith polisi trosfwaol, fel y gallwn sicrhau nad ydynt yn gweithio yn erbyn ei gilydd, ond, mewn gwirionedd, yn gweithio mewn cytgord.
Pe gallwn ddefnyddio’r tasglu dur yn enghraifft o beidio â chael polisïau sy'n cael eu gyrru gan garfan, yn amlwg, bydd cyllid ReAct ar gael i unrhyw un sydd wedi colli eu swyddi, ond byddwch yn gwybod nad yw hynny ond yn berthnasol i weithwyr cyflogedig, a bod llawer o'r bobl sy'n cael eu dadleoli pan fydd diwydiant yn mynd yn un llai o faint mewn gwirionedd yn gontractwyr cadwyn cyflenwi a phobl hunangyflogedig, ac yn y blaen. Felly, rydym yn bwriadu cael system fwy byd-eang sy'n caniatáu i bobl nad ydynt y tu mewn i'r categori penodol gael gafael ar gymorth hefyd. Felly, mae honno’n enghraifft dda iawn o sut y byddai hynny'n gweithio.
Ac yna, yn olaf, o ran partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydw i wedi bod yn mynd o gwmpas Cymru, rydw i wedi cyhoeddi’r ddau gynllun—ar gyfer y gogledd a’r de-ddwyrain—ac, yn fuan iawn, byddaf yn cyhoeddi cynllun ar gyfer y bartneriaeth ranbarthol ar gyfer y de-orllewin, wrth i bob un o’r tair partneriaeth sgiliau ranbarthol fynd o'u blwyddyn beilot i’w blwyddyn gyntaf o weithredu. Yn y de-orllewin, er enghraifft, maent wedi gweithio'n galed iawn gyda'r dinas-ranbarth, ac, yn wir, gyda'r ardaloedd menter, er mwyn sicrhau bod yr holl sgiliau ar gyfer y diwydiannau twf yr ydym yn dymuno eu cael ar gyfer y dyfodol yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun, ac yna bydd ein cyllid yn dilyn hynny, fel y gallwn sicrhau, pan fyddwn ni'n rhoi cyllid yn ei le ar gyfer sgiliau yn benodol, ein bod yn ariannu sgiliau ar gyfer y dyfodol ac nid sgiliau ar gyfer y gorffennol.
Rwy’n croesawu'r datganiad heddiw a chroesawaf yn arbennig y dull cyfannol y mae'r Gweinidog yn ei fabwysiadu, a bod materion ynghylch cludiant, gofal iechyd a chymorth i unigolion pan fyddant yn ennill gwaith yn cael eu hystyried yr un mor bwysig â'r sgiliau sydd eu hangen.
Un o'r materion mawr, wrth gwrs, yw gofal plant a chyflogadwyedd merched. A yw'r Gweinidog yn credu bod cyflogadwyedd merched yn cael ei effeithio gan y ffaith bod gwyliau ar gyfer gofal plant yn dal yn tueddu i gael eu cymryd gan ferched? Beth allwn ni ei wneud am hynny? Beth y mae'r Gweinidog yn credu y gallwn ni ei wneud am y ffaith ein bod yn awyddus i ferched gael mynediad at swyddi a fydd yn talu’n dda? Rydym i gyd yn gwybod y ffigurau bod 80 y cant o weithwyr gofal yn ferched a 90 y cant o'r gweithlu yn y pynciau STEM yn ddynion, felly sut ydym ni’n mynd i symud ymlaen a rhoi'r gefnogaeth i geisio chwalu hynny?
Y mater arall, wrth gwrs, yw rhagfarn ymhlith cyflogwyr a phobl eraill yn y gymuned. Beth allwn ni ei wneud i gael gwared ar y rhagfarnau hynny? Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi edrych ar wahaniaethu ar sail beichiogrwydd, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll yma yn y Siambr hon heddiw, ac mae'n dangos bod cryn dipyn o wahaniaethu ynghylch merched sy'n feichiog neu sy'n debygol o fod yn feichiog. Felly, rwyf wir yn croesawu popeth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud heddiw, ond os ydym yn mynd i edrych ar hyn mewn modd cyfannol, mae’n rhaid i ni mewn rhyw fodd gynnwys hynny i gyd, yn ogystal.
Ymhlith rhai o'r sbardunwyr polisi yr ydym wedi bod yn edrych arnynt wrth lunio’r cynllun, fel yr oeddwn yn ei grybwyll wrth Llyr, mae edrych i weld beth y gallwn ei sbarduno drwy fuddsoddiad arall gan y Llywodraeth. Felly, un o'r pethau yr ydym ond yn ei archwilio ar hyn o bryd, ond sydd wedi cael derbyniad da gan y rhai yr wyf wedi siarad â nhw hyd yn hyn, yw pan ein bod yn cynorthwyo cwmni, er enghraifft, yn y sector peirianneg neu dechnoleg, lle mae'r swyddi yn talu’n well, efallai y byddwn yn gallu darparu cymorth ychwanegol os ydynt yn fodlon cael arferion gweithio hyblyg, oriau hyblyg ac yn y blaen, er mwyn annog y math hwnnw o weithio, yr ydym yn gwybod sy’n cynorthwyo menywod i aros yn y gyrfaoedd hynny a dychwelyd iddynt ar ôl mynd yn rhan-amser neu, yn wir, ar ôl seibiant gyrfa i ofalu am eu plant.
Felly, rydym yn ymchwilio i raddau helaeth sut y gallwn ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid buddsoddi i roi bachau, os mynnwch, i mewn i'r cyllid er mwyn annog y mathau o ymddygiad mewn cyflogwyr yr hoffem ei weld. Mae hynny'n wir hefyd am geisio sicrhau gweithlu mwy amrywiol mewn nifer o feysydd—rwy’n gweld Joyce Watson yn edrych arnaf—felly mae adeiladu yn amlwg yn un ohonynt. Gwnaethoch chi a minnau ymweld â chwmni gofal iechyd diddorol iawn yn eich etholaeth ddoe ddiwethaf i siarad am eu cynlluniau, ac roedd un o'r trafodaethau a gawsom yn ymwneud â sut y maent yn cyflogi eu gweithlu a beth allai'r trefniadau hyblyg fod. Felly, rydym yn dechrau edrych ar y math hwnnw o fachyn i fod ynghlwm nid yn unig i ariannu hyfforddiant sgiliau, ond mewn gwirionedd i’n cyllid caffael ac i rywfaint o'n cyllid cymorth grant a rhywfaint o'n cyllid buddsoddi, i weld pa bethau eraill y gallwn eu cyflawni wrth i ni ddilyn ein hagenda i gael gweithlu amrywiol.
Rwyf am ailadrodd rhywbeth yr wyf yn gwybod ein bod i gyd yn cytuno ag ef: bod gan bob cwmni sy'n dangos amrywiaeth yn eu gweithluoedd linellau sylfaen gwell na'r cwmnïau hynny nad yw hynny ganddynt. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â rhywbeth braf sy'n costio i chi; mae hyn yn ymwneud â rhywbeth sy'n sbarduno eich llinell sylfaen, yn ogystal â darparu swyddi da i bobl dda.
Yn olaf, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am rywfaint o'r sicrwydd yr ydych chi newydd ei roi o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran y ffordd ymlaen. Roeddwn yn awyddus i gael gwybod ble y gallai sgiliau yn y Gymraeg ddod i mewn i'ch ystyriaethau yn y fan yma. Yn amlwg, bydd y gwasanaeth cynghori newydd yn lle priodol i nodi sgiliau Cymraeg cudd rhywun, ond byddai darparwyr gwirioneddol y cymorth cyflogaeth yn gallu gwneud hynny hefyd. Felly, mae'n debyg mai’r hyn yr wyf yn ei ofyn yw: a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd inni heddiw ynghylch ble yn union y byddai'r cyfrifoldeb am nodi ac amlygu sgiliau Cymraeg rhywun yn gorwedd yn hyn o beth? Yn amlwg, y peth olaf y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddymuno yw i hyn syrthio drwy'r bwlch rhwng y gwasanaeth a'r darparwyr gwirioneddol. Wrth gwrs, mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo gennym ardaloedd tlotach sy’n colli eu sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn yn wir. Byddem yn disgwyl i hynny weithio'r holl ffordd drwyddo i’r polisi. Byddwn wir yn disgwyl i'r gwasanaeth cyngor cyflogaeth fod yn gallu dewis rhywun sydd â sgiliau Cymraeg a’i gynorthwyo i hyfforddi fel ei fod yn gallu gwneud rhywbeth gyda'r Gymraeg sy'n helpu eu cyflogadwyedd, a byddwn wir yn gwthio hynny. Ond byddwn hefyd yn ceisio cael gwasanaethau cynghori dwyieithog, yn amlwg, fel bod pobl sy’n dymuno cael mynediad i'r gwasanaeth yn Gymraeg—efallai y byddai’r rhai sydd bellaf o'r farchnad swyddi yn enghraifft benodol berthnasol, felly os ydych chi'n wynebu anawsterau economaidd neu gymdeithasol penodol o ran cael mynediad at gyflogaeth, efallai y byddwch yn dymuno gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mai dyna’r iaith yr ydych yn gyfforddus â hi; byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny’n cael ei hwyluso. Hefyd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth briodol o’u hanghenion Cymraeg yn eu cynlluniau sgiliau. Felly, unwaith eto, wrth gyfeirio at y cyflogwr Gofal Iechyd Pelican y cyfarfuom ag ef ddoe, roeddent yn siarad â ni am eu hangen am bobl gwasanaeth cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn eu gwaith, ac yn amlwg mae hwnnw'n faes twf mawr yng Nghymru ac yn un o'n pwyntiau gwerthu mawr. Felly, byddwn yn gwbl bendant yn cynnwys hynny. Mae fy nghydweithiwr, Alun Davies a minnau wedi bod yn trafod sut y gallwn gael y gorau allan o'n nodweddion Cymraeg, i helpu unigolion, ond hefyd i helpu cyflogwyr i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt fel y gallwn ariannu hyn yn briodol drwy'r cynllun sgiliau rhanbarthol. Felly, mae'n sicr yn rhan o'r gymysgedd, yn yr un ffordd yn union, mewn gwirionedd, ag yr ydym yn sôn am amrywiaeth. Felly, mae'n sicr yn rhan o'r gymysgedd amrywiaeth, ac rydym yn gwybod ei fod yn sbarduno’r llinell sylfaen. Unwaith eto, byddwn yn pwysleisio i unrhyw gyflogwyr sy'n gwrando ar hyn nad yw’n rhywbeth sydd yn rhoi baich ychwanegol arnyn nhw; mewn gwirionedd mae'n ymwneud â sbarduno eu llinell sylfaen drwy ddarparu gwell gwasanaeth.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar Flwyddyn y Chwedlau—Ken Skates.
Enwyd Gogledd Cymru yn ddiweddar yn un o ranbarthau gorau’r byd gan Lonely Planet. Mae'n addas ac yn dystiolaeth i waith Croeso Cymru fod hyn yn dod ar ddiwedd y Flwyddyn Antur, gyda’r cyhoeddiad yn datgan bod Gogledd Cymru wedi ennill ei lle yn sgil y trawsnewid y mae’r rhanbarth wedi mynd drwyddo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Atyniadau antur cyntaf y byd, llwybr arfordirol godidog, rhywfaint o’r beicio mynydd gorau yn y DU: mae’r ailddyfeisio, wrth gwrs, wedi'i yrru gan weledyddion ac entrepreneuriaid, ond rydym ni wedi chwarae ein rhan hefyd gydag arweinyddiaeth, cyllid ac ymgyrchoedd marchnata rhagorol Llywodraeth Cymru, ac uchafbwynt hyn oedd 2016 gwych.
Mae’r uchafbwyntiau yn ystod 12 mis llawn gweithgareddau yn cynnwys arddangosfa 'Trysorau' yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 'Penwythnos Mawr o Antur’ ym mis Ebrill, haf ‘Anturiaethau Hanesyddol' Cadw, dau ddigwyddiad Red Bull a strafagansa Roald Dahl 'Dinas yr Annisgwyl' yng Nghaerdydd. Ac, wrth gwrs, daeth antur cyffrous pêl-droed Cymru yn Ffrainc yn gynharach eleni yn gyfle i hyrwyddo Cymru i gynulleidfaoedd newydd ledled Ewrop, gydag arddangosfa ym Mharis a’n hymgyrch deledu gyntaf erioed ym marchnad yr Almaen yn ystod wythnos y rownd gynderfynol. Roedd yr un hysbyseb Croeso Cymru eisoes wedi cael ei dangos ar y teledu ac mewn sinemâu yma yn y DU ac yn Iwerddon, yn ogystal â sinemâu yn Lloegr a'r Almaen fel rhan o ymgyrch integredig, a oedd hefyd yn cynnwys marchnata print a digidol, yn ogystal â sioe deithiol antur, a ariannwyd ar y cyd â'r ymgyrch GREAT, a ymwelodd â Munich, Cologne, Paris ac Amsterdam.
Cafodd prosiect gosodiad haf 'EPIC' ei gynllunio i greu sylw yn y cyfryngau cymdeithasol i dymor yr haf yng Nghymru, gan dynnu dros 8,000 o ymwelwyr i safle Rhosili yn unig a rhoi hwb i ddilyniant cymdeithasol Croeso Cymru gyda dros 900,000 o bobl yn ei dilyn. Mae'r ymgyrch yn ehangach wedi helpu i greu lefelau ymateb defnyddwyr sy’n uwch nag erioed, gan ddenu dros 4.8 miliwn o ymwelwyr â gwefannau Croeso Cymru mewn 12 mis, a sbarduno mwy o fusnes i gwmnïau trefnu teithiau. Rwy'n arbennig o falch o'r effaith yr ymddengys bod y flwyddyn wedi ei chael yma yng Nghymru. Nid yn unig y mae'r diwydiant wedi cefnogi’r fenter yn llawn, gydag un grŵp o fusnesau hyd yn oed yn trefnu eu hysbysebion eu hunain yng ngorsaf Euston, ond mae ein llysgenhadon antur wedi ysbrydoli'r cyhoedd, a hoffwn ddiolch iddynt yn llwyr am eu hysbrydoliaeth a’u chwys drwyddi draw. Mae’r Flwyddyn Antur wedi bod yn destun rhaglenni teledu oriau brig a sylw helaeth yn y cyfryngau yng Nghymru, ac mae'n ymddangos i mi nad yw’n gyd-ddigwyddiad bod nifer yr ymwelwyr dydd yn arbennig o gryf eleni. Yn wir, mae'r cynnydd o dros 40 y cant yng ngwariant cyfartalog ymwelwyr dydd yn un o amrywiaeth o ddangosyddion cadarnhaol sy'n awgrymu y gallai fod yn flwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer twristiaeth. Gwelwyd twf o 15 y cant mewn ymweliadau gan dwristiaid rhyngwladol yn ystod chwe mis cyntaf 2016 a chynhaliwyd neu llwyddwyd i gynyddu lefelau deiliadaeth ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Does dim rhyfedd bod rhyw 85 y cant o fusnesau wedi dweud wrthym eu bod yn hyderus am y flwyddyn hon. Mae’r holl weithgarwch yn parhau i ddarparu twf economaidd a chyfleoedd cyflogaeth sylweddol mewn cymunedau ledled Cymru.
Ac nid yw’r antur yn gorffen yn y fan yma; mae’r etifeddiaeth yn parhau gydag agoriadau antur newydd o safon fyd-eang yn gynnar y flwyddyn nesaf, buddsoddiad pellach mewn cynllunio cynhyrchion antur o’r math cyntaf yn y byd a marchnata antur parhaus, hyd yn oed wrth i ni ychwanegu haen newydd i'n naratif: chwedlau. Ein gweledigaeth wrth inni edrych ymlaen at “Flwyddyn Chwedlau” 2017 yw adeiladu ar lwyddiant y Flwyddyn Antur gyda dimensiwn newydd a’r un mor gystadleuol i'n stori. Oherwydd mae 2017 yn ymwneud â sicrhau bod ein diwylliant a'n treftadaeth wrth wraidd ein brand cenedlaethol. Yn sicr, nid yw’n ymwneud ag edrych yn ôl: mae’r Flwyddyn Chwedlau yn ymwneud â dod â'r gorffennol yn fyw fel na welwyd erioed o'r blaen, gydag arloesi blaenllaw. Mae'n ymwneud â chreu a dathlu chwedlau Cymreig newydd, personoliaethau, cynnyrch a digwyddiadau'r presennol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, neu’n cael eu cyfoethogi drwy ddod yma.
Bydd ein hasedau diwylliannol yn cael eu chwistrellu â’r un faint o greadigrwydd ag y gwelsom yn tanio’r sector antur, gyda gweithgareddau sydd yn ddigamsyniol yn perthyn i Gymru, ac yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r uchelgais hwn yn hanfodol oherwydd nid oedd 2016 yn ymwneud ag antur yn unig, roedd hefyd yn flwyddyn refferendwm yr UE, gan newid y cyd-destun ar gyfer y Flwyddyn Chwedlau yn llwyr. Roedd hyn yn ei gwneud yn bwysicach byth i ryngwladoli ansawdd y cynhyrchion a gynigir gennym gydag arloesedd o safon fyd-eang ac i werthu Cymru i'r byd gydag egni o'r newydd. Yn wir, yr wythnos hon, rwyf hefyd wedi lansio dull newydd o hyrwyddo Cymru ar gyfer busnes—sy’n rhyngwladol o ran cwmpas, ond yn dweud straeon lleol. Mae'r weledigaeth yn frand cydgysylltiedig, integredig gydag apêl fyd-eang wedi’i gwreiddio mewn synnwyr nodedig o le, a Blwyddyn y Chwedlau yw cyfraniad twristiaeth i'r dull beiddgar hwn.
Mae'r gyllideb ychwanegol o £5 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Croeso Cymru yn golygu, o safbwynt twristiaeth, y byddwn yn ymateb i'r her hon gyda chyllid ar gyfer profiadau a digwyddiadau o ansawdd rhyngwladol ac sy’n diffinio brand. Bydd manylion am gronfeydd partneriaeth y flwyddyn nesaf yn cael eu rhyddhau yn fuan. Mae hefyd yn ein galluogi ni i roi hwb sylweddol i'n hymdrechion marchnata domestig a rhyngwladol gydag ymgyrchoedd wedi’u cryfhau yn y DU, yr Almaen, dinasoedd allweddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae prosiect i ategu'r gwaith hwn drwy drawsnewid llwyfannau porth digidol Cymru a’i galluoedd cynnwys eisoes ar y gweill.
'Chwedlau' yw'r thema berffaith ar gyfer y gwaith hwn. Rydym yn gwybod bod diwylliant a threftadaeth yn atyniadau cryf ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol, ond mae’r thema hefyd yn cynnig y dilysrwydd dwfn y mae marchnadoedd domestig heddiw yn chwilio amdano. Y lleol yn cwrdd â’r byd-eang; yr hen yn cael ei drwytho gyda’r newydd. Mae ein rhaglen yn anelu at ddod â’r agweddau hyn at ei gilydd mewn ffyrdd cyffrous. Bydd gennym galendr o weithgareddau creadigol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen mewn digwyddiadau yng nghestyll Cymru—mwy o ddigwyddiadau awyr agored, twrnamaint canoloesol gwefreiddiol yng Nghonwy, a dadorchuddio dau waith celf newydd pwysig o fri rhyngwladol. Byddwn yn dathlu gwlad o adrodd straeon, gan weithio gyda VisitBritain i ddathlu rhyddhau ffilm newydd am y Brenin Arthur, ac yn cydnabod doniau byd-eang a ysbrydolwyd gan Gymru, o Dahl i Dylan Thomas i Tolkien, gyda theithiau a llwybrau.
Bydd rhaglen gyfoethog ac ysbrydoledig o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliadau yn cael eu darparu gan ein partneriaid diwylliannol mawr, gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bydd yn cynnwys gweithiau a themâu chwedlonol. Ym mis Mehefin, rydym yn croesawu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd, yr achlysur chwaraeon mwyaf yn y byd y flwyddyn nesaf. Gallwch ddisgwyl ymgyrchoedd digidol amlieithog, gosodiadau yn ymwneud â phrofiad a sylw yn y cyfryngau byd-eang, wrth inni baratoi’r llwyfan ar gyfer digwyddiad chwaraeon chwedlonol arall. Bydd tlws pencampwyr criced a chystadleuaeth agored uwch golff yn ychwanegu at y pecyn o ddigwyddiadau chwaraeon.
Bydd yr haf hefyd yn ein gweld ni yn creu ac yn dathlu gwyliau a digwyddiadau chwedlonol, ac yn lansio prosiect llety glampio, sydd eisoes yn denu sylw amlwg yn y cyfryngau. Byddwn yn tynnu sylw at ein harwyr bwyd a diod ym mis Medi, cyn dadorchuddio llwybrau teithiol brand newydd chwedlonol ar draws ein gwlad, wedi'u hanelu at farchnadoedd rhyngwladol, yn yr hydref.
Mae'r ymgyrch fawr, aml-sianel, aml-farchnad eisoes wedi dechrau ym Marchnad Deithio'r Byd yr wythnos diwethaf, lle'r oedd yn amlwg bod gan gynnig diwylliannol gwahanol ac amrywiol Cymru botensial gwirioneddol, wedi'i gyfuno ag antur, i fynd â’n brand a’n perfformiad i lefel newydd, gyda'r nod, wrth gwrs, o gael Cymru gyfan ar restrau byr fel un Lonely Planet yn y dyfodol, yn ogystal â thyfu ein heconomi. Ond hefyd, ac yn bwysicaf oll, mae gweledigaeth hirdymor i ymfalchïo ynddi ac i gryfhau a gwella ffabrig go iawn y diwylliant a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu i’w hyrwyddo yn y lle cyntaf, gan ddarparu sail gadarn i roi amlygrwydd i chwedlau’r dyfodol.
Mae Cymru o ddifrif yn wlad o chwedlau. Ond, yn rhy aml o lawer, maent yn cael eu hanwybyddu. Rwyf wedi sôn am Billy Boston yma cwpl o weithiau, chwedl Tiger Bay, ond does dim byd wedi cael ei wneud am y peth. Gobeithio y gall hynny newid. Cyn pob digwyddiad chwaraeon rhyngwladol, byddwn yn canu 'Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri', ac mae'n glir bod Cymru yn wlad o feirdd, cantorion ac enwogion o fri. Ond pan fyddwch yn cerdded o amgylch ein prifddinas, rydych chi'n fwy tebygol o weld strydoedd wedi’u henwi ar ôl y Normaniaid a’n gorchfygodd ni yn hytrach na'r Cymry a geisiodd ein hachub ni. Os byddwch yn mynd allan ar 25 Ionawr, Santes Dwynwen, os ydych i gyd yn mynd allan, rydych chi'n fwy tebygol o ddod ar draws hagis a Noson Burns na Santes Dwynwen, nawddsant cyfeillgarwch a chariad Cymru. Ac, fel y gwyddoch, mae’r un fath ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan fy mod yn cofio, yn 2011, crëwyd ar gyngor Caerdydd Ŵyl Dydd Gŵyl Dewi, ac ni allem gael cwmni Brains, o bawb, i gefnogi'r ŵyl, ond eto maent yn barod i gefnogi Diwrnod Sant Padrig-rhyfedd.
Felly, chi'n gwybod, er y dylid dathlu ein bod yn gwerthu Cymru a'n diwylliant dramor, mae angen i ni hefyd werthu ein diwylliant i'n pobl ni ein hunain yng Nghymru. Pwy sy’n gwybod am Sycharth, llys Owain Glyndŵr a chanolbwynt bywyd diwylliannol yr adeg honno? Gallai fod yn atyniad mawr i dwristiaid, ond mae'n fryn segur ag iddo hen arwydd tolciog sydd prin yn datgan ei bwysigrwydd. I mi, mae hynny'n dweud y cwbl am Gymru. Wyddoch chi, faint o bobl yma sy’n gwybod am Dafydd ap Gwilym? Roedd yn rhaid i Americanwr ddweud wrthyf i pwy oedd ef rai blynyddoedd yn ôl—bardd gwych, a oedd yn enwog yn rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg; un o feirdd mwyaf Ewrop. Eto i gyd mae pawb yn gwybod pwy oedd Shakespeare. Nawr, mae gennym yr holl eiconau diwylliannol hyn nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Digwyddodd y daith reilffordd gyntaf erioed rhwng gweithfeydd haearn Merthyr ac Abercynon ym 1804, a beth sydd yno nawr? Unwaith eto, dim ond llwybr a hen arwydd a phlac tolciog budr. Yn rhan fwyaf o wledydd y byd, byddech yn cael taith trên thema i fyny yno a rhyw fath o ganolfan ymwelwyr yn dathlu hanes Cymru a'r chwyldro diwydiannol. Mae gennym wlad a diwylliant yr ydym yn falch ohonynt, ond mae angen eu gwerthu. Ac os ydym yn eu gwerthu, byddai pobl yn eu prynu. Mae Prif Weinidog Cymru yn mynd ar dripiau i America, ond dwi ddim yn gweld llawer o ganlyniadau, gan fod Hollywood wedi disgyn mewn cariad ag Iwerddon ac â'r Alban, gyda ffilmiau mawr yn dathlu eu chwedlau. Ond, wyddoch chi, fel cefnder Celtaidd iddynt, rydym yn parhau i fod yn anhysbys. Mae hyd yn oed ein harwr rygbi, Gareth Thomas, a ysbrydolodd cynifer o bobl pan ddaeth allan, wel, yn y ffilm amdano, Gwyddel yw ei gymeriad, oherwydd eu bod yn teimlo nad yw bod yn Gymro yn ddigon hysbys yn rhyngwladol i gyfiawnhau cymeriad.
Croesawaf y fenter ffilm am y Brenin Arthur-gwych, gwych. Ond beth am ffilm am dad democratiaeth Cymru, Owain Glyndŵr? Mae’r seren fyd-eang Matthew Rees eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn benderfynol o wneud ffilm Gymreig sy’n cyfateb i 'Braveheart'. Nawr, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect o'r fath? Weinidog, beth am gynnal digwyddiad, efallai ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2017, a gwahodd y sgriptwyr a’r actorion mwyaf disglair a'r gorau i Gaerdydd, i Gymru, i siarad am symud y prosiect hwn yn ei flaen? Rwyf i’n credu y gallai ffilm am Owain Glyndŵr wneud i Gymru yr union beth a wnaeth 'Braveheart' i’r Alban. Ac yn y llyfr ‘Tourism in Scotland’, roedd yn dangos bod 39 y cant o’r ymwelwyr â Stirling, ym 1997, wedi dweud bod 'Braveheart' wedi dylanwadu ar eu penderfyniad, a dywedodd 19 y cant mai dyna oedd y rheswm dros ei hymweliad. Felly, chi'n gwybod, mae llawer o bethau da yno, ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch yn llwyddiant ac yn dod â swyddi y mae mawr angen amdanynt i Gymru, gan fod angen i Gymru ddathlu ei chwedlau, felly croesawaf eich menter. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd nad ydynt yn gwneud hyn am un flwyddyn yn unig; mae'n amser rhoi’r balchder yn ôl yng Nghymru o'r dydd hwn ymlaen a phob dydd wedi hynny, ac mae'n amser i ni gael gwared ar glogyn llethol gwladychiaeth. Diolch.
Rwy'n credu fy mod yn synhwyro cwestiwn yna. Mae'n ddatganiad, a dylai fod yn gwestiynau i’r Gweinidog [Torri ar draws.] Na, mae hynny'n iawn. Ydw, rwy’n meddwl fy mod wedi synhwyro cwpl yno, felly efallai yr hoffech ateb y rheini, Weinidog.
Oedd, roedd nifer o bwyntiau ynghylch arwyr lleol, arwyr cymunedol a chwedlau cenedlaethol yr wyf yn credu bod yr Aelod wedi’u codi, yn gyntaf oll o ran Billy Boston. Mae hwn yn fater y mae’r Aelod wedi’i godi yn y gorffennol, a byddwn i'n falch iawn o dderbyn unrhyw ddiddordeb gan unrhyw grwpiau lleol ynghylch cais am adnodd i helpu i ddathlu'r anfarwolyn penodol hwn. Mae gennym, fel yr amlinellais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, nifer o ffrydiau ariannu, gan gynnwys y gronfa arloesi twristiaeth rhanbarthol, sy'n gallu helpu gyda'r math hwn o ddatblygiad. A byddaf yn fwy na pharod i gael swyddogion i drafod y gronfa honno a llwybrau eraill posibl o gymorth gydag unrhyw grwpiau cymunedol sy'n edrych ar unrhyw ddigwyddiadau neu unrhyw osodiadau i ddathlu Billy Boston yn ystod 2017, neu yn wir yn y dyfodol.
Soniodd yr Aelod am Gaerdydd. O ran Caerdydd ac yn arbennig Bae Caerdydd, neu Tiger Bay, fel y'i gelwid tan y blynyddoedd diwethaf, mae sioe gerdd o'r radd flaenaf yn cael ei datblygu a fydd yn adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Tiger Bay gyda'r nod o’i dyrchafu ar lwyfan y byd. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill i ddatblygu cynnig cynnyrch rhithwir arloesol i Fae Caerdydd a fydd yn trwytho ymwelwyr ymhellach yn stori treftadaeth ddiwydiannol Cymru ac yn cyflawni'r hyn yr wyf yn meddwl fydd yn gynnyrch gwirioneddol aml-ddimensiwn.
Rwy'n credu ei fod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod, y flwyddyn nesaf, y byddwn yn gweld cwblhau un o'r prosiectau adnewyddu treftadaeth mwyaf yn unrhyw le yn y wlad, gyda chwblhau’r gwaith ar y Gyfnewidfa Lo restredig yma ym Mae Caerdydd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth, pan fydd yr adeilad arbennig hwnnw yn agor fel gwesty ac fel amgueddfa leol, y bydd yn denu sylw o bob cwr o'r byd, yn bennaf oherwydd bod llawer o anfarwolion cerddoriaeth a ffilmiau sydd yn dal yn fyw wedi perfformio yn y Gyfnewidfa Lo cyn iddi gael ei chau. Felly, rydym yn gobeithio y byddant yn ymuno â ni i ddathlu ailagor yr adeilad pwysig hwn.
Ond mae treftadaeth ddiwydiannol gyda ni ledled Cymru, a gwn, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, fod llawer o Aelodau wedi codi yn y Siambr ac yn ysgrifenedig eu gobeithion bod mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo ein treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog. Yn wir, mae'n bwysig iawn i'r cynnig twristiaeth yn fy etholaeth fy hun, nid yn unig gyda rheilffyrdd treftadaeth, ond gyda chyn safleoedd dur a glo yn denu llawer o ymwelwyr. Rwy'n awyddus yn ystod Blwyddyn y Chwedlau ein bod yn dathlu treftadaeth ddiwydiannol yn fwy nag erioed o'r blaen.
O ran gwerthu Cymru i America, wel, mae ein diwydiannau creadigol yn perfformio'n well nag yn unman arall yn y DU ar wahân i Lundain, gan ddenu buddsoddiadau sylweddol i Gymru a galluogi Cymru i gael ei dal ar y sgrin fawr. Credaf fod y llwybr ffilm sy'n cael ei roi at ei gilydd gan Sgrin Cymru yn cofnodi llawer o'r lleoliadau allweddol ar gyfer ffilmiau sylweddol, er ei fod yn peri gofid o hyd na welsom 'Spectre' yn cael ei ffilmio yn y Siambr hon, gan fy mod yn meddwl y byddai hynny'n wedi ychwanegu diddordeb anhygoel yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Ond mae'r Aelod yn iawn—mae’n rhaid i hyn ddigwydd am sawl blwyddyn. Mae'n rhaid i ni gadw'r cynnyrch yn ffres. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod balchder yn cael ei adnewyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, a dyna pam rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod y blynyddoedd thematig yn parhau. Ar ôl 2017 a Blwyddyn y Chwedlau byddwn yn symud ymlaen i 2018, Blwyddyn y Môr. Mae’r blynyddoedd ar ôl hynny eto i gael eu penderfynu, ond credaf fod llwyddiant y Flwyddyn Antur yn golygu y gallwn fynd ymlaen gyda'r sector cyfan ochr yn ochr â ni.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod Lonely Planet wedi cyhoeddi yn ddiweddar bod y gogledd yn un o'r pedwar lle gorau yn y byd i ymweld ag ef. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y rhan fwyaf o'r mannau gorau yn y gogledd yn Nyffryn Clwyd wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd.
Nid ydych yn cael unrhyw amser ychwanegol. [Chwerthin.]
Rhof gynnig arni beth bynnag. Rwy’n amau bod Sir Drefaldwyn, wrth gwrs, yn Rhif 1 hefyd. Hoffwn feddwl bod hynny'n wir.
Ond hoffwn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i groesawu'r cynnydd a adroddir o 25 y cant yn nifer yr ymwelwyr â Chymru, a chynnydd yn y gwariant cysylltiedig gan ymwelwyr hefyd, sydd erbyn hyn yn £3.5 biliwn. Rwy'n siŵr y gellir priodoli’r llwyddiant yn rhannol i’r Flwyddyn Antur.
Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y cynnydd o 15 y cant yn nifer yr ymwelwyr tramor â Chymru, ac mae hyn yn dangos bod gan Gymru botensial anhygoel fel cyrchfan twristiaeth byd-eang. Wrth gwrs, mae cymaint y gellir ei wneud i ddenu ymwelwyr tramor drwy weithio gyda Maes Awyr Caerdydd, felly mae gen i ddiddordeb yn hynny. Credaf fod Maes Awyr Caerdydd yn cynnig llwybrau sydd wedi eu hanelu’n fawr at fynd â phobl allan o Gymru, ond rwy'n awyddus, wrth gwrs, fod Maes Awyr Caerdydd hefyd yn denu pobl i mewn i Gymru.
Hefyd, o ran marchnad yr Unol Daleithiau—rwy’n gwerthfawrogi y bu cwestiwn yn gynharach am hyn—mae cyfle enfawr yma o ran ymwelwyr o’r Unol Daleithiau yn ymweld â Chymru. Mae ymwelwyr o’r Unol Daleithiau yn tueddu i aros yn hwy a gwario mwy o arian, ac, wrth gwrs, mae’r gyfradd gyfnewid yn fantais i ni ar hyn o bryd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael rhagor o fanylion am yr ymgyrchoedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu’r rhai yr ydych yn bwriadu eu rhedeg yn y dyfodol, yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl a ddeallaf, mae'r cynnydd mwyaf yn y niferoedd o dramor sy’n dod i Gymru yn dod o'r 13 gwlad yn nwyrain Ewrop a ymunodd â'r UE yn ddiweddar. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ar y cyd â'r sector twristiaeth, wrth ymateb i'r her a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi dweud bod y ffigurau addawol hyn yn profi bod marchnata Croeso Cymru yn gweithio'n dda ac yn cael effaith. Byddwn yn dweud, fodd bynnag, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, mai’r busnesau twristiaeth sy'n haeddu llawer o'r clod am gofleidio’r themâu, fel Blwyddyn y Chwedlau.
Wrth gwrs, mae Croeso Cymru wedi dod yn bell o ran ei allbwn marchnata, o'i gymharu â'r hysbyseb ddrwg-enwog erbyn hyn a oedd mewn gwirionedd yn hyrwyddo Cymru fel gwlad y signal ffôn symudol gwael iawn.[Chwerthin.] Mae pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Mewn arolwg yn gynharach eleni, roedd llai na thraean y busnesau twristiaeth yn credu bod ymgyrchoedd diweddar wedi bod yn effeithiol o ran hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaid, a thri chwarter yn dal i deimlo y gallai Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru wneud gwell defnydd o adnoddau i hyrwyddo twristiaeth.
Mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, ein bod yn dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrchoedd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol—rwyf i hefyd wedi ysgrifennu ato a gofyn cwestiynau ar y pwynt nesaf yn ystod y pwyllgor yn ddiweddar, —fy mod yn pryderu na all Croeso Cymru ar hyn o bryd ddarparu dadansoddiad o'r ffigurau ar gyfer pob ymgyrch yn ôl print, teledu a marchnata digidol. Nid ydynt yn gallu rhoi’r manylion hynny i mi, ac, yn bwysicach, ni allant eu rhoi i chi er mwyn dadansoddi pa mor effeithiol yw’r ymgyrchoedd hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymrwymo i wneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn pan fyddwch wedi cael gwybod am y gwariant marchnata, oherwydd credaf fod angen i ni i fesur pa mor llwyddiannus yw pob ymgyrch. Mae angen i ni fesur pa mor llwyddiannus oedd y Flwyddyn Antur, yn ogystal â Blwyddyn y Chwedlau ac, wrth gwrs, y tro nesaf, Flwyddyn y Môr. Efallai y gallech hefyd ehangu eich ateb ar hynny o ran sut yr ydych yn mesur, a sut yr ydych yn mynd i fesur, llwyddiant Blwyddyn y Chwedlau hefyd.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, gan gyfeirio'n benodol at Flwyddyn y Chwedlau, nid wyf yn cofio ichi gyfeirio yn eich datganiad at y penderfyniad i ohirio'r gystadleuaeth ryngwladol i ddylunio ac adeiladu dau dirnod yn coffáu chwedlau cenedlaethol yn 2017—un yng nghastell y Fflint ac un ar safle Cadw ar wahân. Felly, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu'r rhesymau dros y gohirio hwn a chadarnhau a fydd y prosiect blaenllaw yn symud ymlaen fel y bwriadwyd?
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto am eich datganiad. Rwyf i hefyd, fel yr ydych chi, yn gobeithio y bydd ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau yn parhau i godi proffil Cymru ac yn dod â llawer o ymwelwyr i Gymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
A gaf i eich cynghori chi i beidio ag ehangu eich atebion i'r Aelod, ond eu cadw yn gryno a chyfeirio at y datganiad, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn ceisio ymdrin â'r cwestiynau mor gryno ag y bo modd. Mae'n wir bod hon yn bartneriaeth sydd wedi tyfu yr economi ymwelwyr. Mae hynny nid yn unig oherwydd gwaith da gan Lywodraeth Cymru neu Croeso Cymru—mae'n fater o weithio mewn partneriaeth agos â'r sector cyfan. Credaf fod llwyddiant y Flwyddyn Antur yn dangos, yn awr yn fwy nag erioed, ein bod yn gweithio fel un wrth hyrwyddo Cymru.
O ran y ffigurau, rydych yn hollol gywir: rydym yn profi’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr, ond y gwariant sydd fwyaf pwysig i fusnesau, ac mae gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru wedi cynyddu 8.3 y cant. Mae hynny ar ôl y flwyddyn orau erioed cyn hynny, a’r flwyddyn orau erioed cyn hynny eto. Yr hyn sydd efallai yn bwysicaf nawr yw bod gwariant gan ymwelwyr dydd i Gymru yn uwch na chyfartaledd y DU. Yma yng Nghymru, bydd ymwelydd yn gwario £38 ar bob ymweliad, o'i gymharu â £34 yn y DU. Yr awgrym yma yw bod ansawdd y cynnig ar gyfartaledd yma yng Nghymru yn awr yn fwy nag ansawdd y cynnig ac ansawdd y cynnyrch ar draws y DU. Mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono a dylem ddiolch i'r sector amdano hefyd.
O ran Maes Awyr Caerdydd, wel, wrth gwrs, mae Maes Awyr Caerdydd yn un o'r meysydd awyr rhanbarthol sy'n tyfu gyflymaf yn unrhyw le yn Ewrop, ac mae’n llwyddo’n well nag erioed. Byddai datganoli toll teithwyr awyr yn ddiau yn helpu i sicrhau ei dwf parhaus, ond rwy'n hyderus bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd ati’n egnïol i chwilio am lwybrau newydd a fydd yn dod â thwristiaid newydd i Gymru.
O ran yr Unol Daleithiau, ystyrir ei bod yn un o'n marchnadoedd allweddol ni, a byddwn yn gobeithio bod cyfran o'r £5 miliwn—y £5 miliwn ychwanegol—fydd yn cael ei wario gan Croeso Cymru yn ymgorffori mwy o gyfleoedd marchnata. Mae hyn yn dod â mi at y pwynt arall am ddatgrynhoi data ar gyfer ymgyrchoedd marchnata rhwng print, digidol, teledu, ac yn y blaen. Rwy'n credu fy mod wedi addo yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ac addawaf eto heddiw, y byddaf yn edrych ar ddarparu data manwl yn hynny o beth.
Ni ddenodd y gystadleuaeth gosodiad celf, yn y lle cyntaf, ddigon o ddiddordeb ac roedd cwmnïau hefyd a ddywedodd y byddent yn hoffi cymryd rhan, ond nad oeddent mewn sefyllfa i wneud hynny o fewn yr amser byr, felly bydd yn dechrau yn gynnar ym mis Rhagfyr. Bydd yn cael ei gynnal, a byddwn mewn sefyllfa yn ystod Blwyddyn y Chwedlau i ddadorchuddio'r gosodiadau buddugol. O ran sut yr ydym yn barnu llwyddiant Blwyddyn y Chwedlau, wel, rydym yn edrych ar y ffeithiau caled, sef yr hyn yr wyf yn meddwl y mae’r Aelod yn gofyn amdano. Ein nod yw sbarduno mwy na £320 miliwn o wariant defnyddwyr ychwanegol yng Nghymru o’r farchnad ddomestig, a mwy na £7 miliwn o fusnes masnach teithio i Gymru gan ein 100 o brif weithredwyr. Os byddwn yn llwyddo i wneud hyn, dylai fod yn flwyddyn arall sy’n torri record i dwristiaeth yng Nghymru.
A gaf i yn gyntaf oll groesawu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop sy’n dod i Gaerdydd? Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd chwaraewr o Gaerdydd yn chwarae yn y gêm, sef Gareth Bale. A gaf fi hefyd atgoffa'r Gweinidog—ac rwy’n gobeithio y bydd yn croesawu hyn—bod 19 o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn, a bod Abertawe yn chwarae yn y gynghrair fwyaf yn y byd, sy'n dod â nifer sylweddol o bobl i mewn, nid yn unig o Loegr ond o bob cwr o'r byd, i’w gwylio? Os ydym yn cyflwyno cynigion, fel yr ymddengys bod Neil McEvoy yn ei wneud, a gaf i gyflwyno Ivor Allchurch a Robbie James am lwyddiant mawr mewn chwaraeon?
Yr hyn yr wyf yn mynd i siarad amdano, fodd bynnag, yw: ydw i wedi sôn am Joseph Jenkins, John Elias, Henry Rees, Christmas Evans ac, efallai'r un sy'n datgelu’r cyfan, Evan Roberts? Pregethwyr mawr yng Nghymru. Mae gan Gymru enw da iawn am bregethwyr a chredaf, os ydym yn edrych ar y farchnad Americanaidd ac os ydym yn edrych ar rannau crefyddol America, a’r rhan a chwaraeir gan y bobl hyn ac eraill-. Ac nid dim ond America, ond Singapore, er enghraifft. Mae gennym y sefyllfa lle mae eglwys y Singapore wedi cymryd drosodd Siloh Newydd yng Nglandŵr. Ond, mae gennym hefyd gapel enfawr, y Tabernacl, yn Nhreforys. Felly, y cwestiwn gen i yw: a ddylem fod yn anelu at y farchnad Americanaidd, ond a ddylem fod yn anelu rhywfaint o'n hanes crefyddol mawr, rhai o enwau mawr ein hanes crefyddol, gan gynnwys Evan Roberts, atynt? A ddylem fod yn gwneud hynny er mwyn ceisio denu twristiaid Americanaidd i ymweld â chapeli Cymru? Mae'n anhygoel, mewn gwirionedd, faint sy’n ymweld ag Ebeneser yn Abertawe, sydd yn hen gapel i Christmas Evans, er gwaethaf y ffaith nad yw'n cael ei hysbysebu ac mae'n rhaid i chi wneud ymchwil sylweddol i gael gwybod lle’r oedd y capel a beth ydyw yn awr. Felly, rwy’n meddwl bod cyfle enfawr yno, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ceisio manteisio ar hynny.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwyf innau, hefyd, yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, ac rwy'n falch iawn bod clwb pêl-droed Abertawe yn aros yn yr uwch gynghrair ac, yn wir, byddwn yn defnyddio eu digwyddiadau, eu gemau, i hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer masnach a buddsoddi drwy wahodd buddsoddwyr posibl i ymuno â ni yn rhai o gemau allweddol y tymor presennol. Mae llawer, llawer o chwedlau dwi'n siŵr y byddai Aelodau yn gallu cyfeirio atynt, o ddiddordeb cenedlaethol a lleol i’w hetholaethau, gan fod 2017 yn ymwneud â dathlu nid yn unig y chwedlau cenedlaethol sy'n gwneud Cymru yn enwog ar y llwyfan byd-eang, ond hefyd yn dathlu chwedlau lleol sydd, efallai, wedi cael eu colli neu eu hanghofio, ond sy'n haeddu cydnabyddiaeth. Byddwn yn annog pob Aelod i weithio gyda grwpiau cymunedol i'w hannog i gymryd rhan ym Mlwyddyn y Chwedlau yn 2017 ac, os oes angen, i wneud cais am gyllid i gynnal digwyddiadau arloesol neu i gynhyrchu cynhyrchion arloesol iawn hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Yn gyntaf, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar y Flwyddyn Antur lwyddiannus iawn? Byddwn yn ychwanegu, yn dilyn ei ymwneud personol ef ei hun â Bear Grylls a Richard Parks, rydym i gyd yn ddiolchgar ei fod wedi dewis peidio â dilyn gyrfa yn y cyfeiriad hwnnw. Rhaid peidio ag anwybyddu’r gwaith hyrwyddo ardderchog ar gyfer atyniadau eiconig fel ZipWorld ym Methesda a’r trampolîn tanddaearol mwyaf yn y byd yn chwareli llechi Llechwedd, ynghyd â'r atyniadau mwy sefydledig fel llwybrau arfordirol Sir Benfro a llu o weithgareddau antur eraill sy’n rhy niferus i'w crybwyll yma. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld Blwyddyn y Chwedlau yn cael yr un canlyniad, os nad canlyniad gwell, wrth ddenu ymwelwyr newydd a mwy o ymwelwyr i Gymru. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn cytuno bod digonedd o chwedlau yma yng Nghymru, a thirwedd yr un mor doreithiog o gestyll a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol.
Er bod y cyfeiriad hwn i'w groesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylem hefyd geisio cadw'r ymwelwyr newydd hyn yng Nghymru am gyfnodau hirach? Felly, a allai amlinellu unrhyw gynigion sydd ganddo i gyflawni hyn? Rwy'n dod â hyn at eich sylw oherwydd bod nifer o westai yng Nghaerdydd sy’n pryderu’n fawr am y mynediad at y gwestai, sy'n dod yn sgil datblygiad yr orsaf fysiau a'r cynigion gan gyngor dinas Gaerdydd. Felly, a allech chi amlinellu i ba gyfeiriad yr ydych chi’n credu y dylem fynd o ran hynny? Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r sector cyfan yn ystod y Flwyddyn Antur ac yn enwedig y llysgenhadon sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith rhagorol wrth hyrwyddo Cymru dramor. Soniodd yr Aelod am ZipWorld ac rwy'n credu mai’r hyn sy’n werth tynnu sylw ato yw y byddwn, y flwyddyn nesaf, yn gweld lansio cynnyrch unigryw newydd yn y gogledd-orllewin—sef ‘coaster’ alpaidd. Bydd yn anodd dod o hyd i unrhyw atyniad tebyg yn unrhyw le yn y DU ac, unwaith eto, bydd yn cyfrannu at yr enw da a chadarn sydd gan y rhanbarth fel cyrchfan ar gyfer antur.
Y pwynt arall i'w godi o ran rhai cynhyrchion newydd sydd wedi eu creu yng Nghymru wledig yw eu bod yn arwain at swyddi a chyfleoedd yn arbennig i lawer o bobl ifanc a fyddai fel arall, efallai, wedi gorfod symud allan o'u cymunedau. Felly, yn hynny o beth, mae’r economi ymwelwyr, neu berfformiad yr economi ymwelwyr, wedi bod yn gwbl hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr ei fod yn parhau i dyfu hyd at 2020, a fydd yn ddiweddbwynt y strategaeth bresennol, sef 'Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth 2013-2020: Partneriaeth ar gyfer Twf.
Tynnodd David Rowlands sylw at yr angen i droi ymwelwyr dydd yn gyfleoedd i ymwelwyr gymryd gwyliau yng Nghymru, ac mae hynny'n hollol gywir. Rydym wedi ariannu rhai o'r rhaglenni rheoli cyrchfan yng Nghymru i lunio teithiau ac rydym hefyd yn apelio ar weithredwyr teithiau i drawsnewid Cymru o fod yn lle sy'n cael ei weld fel gwlad wych i ymweld â hi am ddiwrnod i fod yn wlad wych i ymweld â hi am o leiaf benwythnos neu’n hirach. Rydym hefyd ar hyn o bryd yn llunio prosiect llwybrau Cymru a fydd yn galluogi ymwelwyr i ddod i Gymru am gyfnod sylweddol o amser i gael profiad o rai o'r llwybrau diwylliannol a threftadaeth pwysicaf mewn unrhyw le yn y wlad.
Ac, yn olaf, Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddwn yn falch o’ch clywed yn agor drwy ailadrodd sut y cafodd y gogledd ei bleidleisio yn un o’r rhanbarthau gorau yn y byd gan Lonely Planet. Ni fydd yn syndod i gydweithwyr ddysgu na allaf glywed hynny ddigon. Mae Blwyddyn y Chwedlau yn gyfle unigryw i arddangos ein hanes a'n treftadaeth, mythau a chwedlau godidog ein grym diwydiannol, a’r gweithwyr cyffredin a helpodd i wneud hyn yn bosibl, gan ddod â manteision diwylliannol ac economaidd i bob rhan o Gymru.
Heddiw ac yfory cynhelir arddangosfa Wyddgrug Hanesyddol yn fy etholaeth i—digwyddiad sy'n cynnwys hanes cryno o'r Wyddgrug, gan ddysgu mwy am feirdd ac awduron fel Daniel Owen ac, wrth gwrs, clogyn aur yr Wyddgrug. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gyfarwydd â hanes clogyn aur yr Wyddgrug, a ddarganfuwyd ym 1833 gan weithwyr oedd yn cloddio am gerrig mewn claddfa, ac erbyn hyn caiff ei ystyried yn un o 10 prif drysor yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gwrdd â mi i drafod sut y gellir dychwelyd clogyn aur yr Wyddgrug i'r man lle cafodd ei ddarganfod i gael ei arddangos, ac i’w stori gael ei dweud fel rhan o Flwyddyn y Chwedlau? Byddai croeso i chi hefyd ymuno â mi ar ymweliad â'r Wyddgrug i edrych ar ble y gellid arddangos y clogyn aur, a'r rhan y gallai partneriaid lleol ei chwarae er budd economi diwylliannol ac ymwelwyr â’r gogledd-ddwyrain.
A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn, a dweud fy mod i hefyd yn mwynhau yn fawr ailadrodd y ffaith mai’r gogledd yw'r pedwerydd lle gorau i ymweld ag ef ar y blaned, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch iawn ohono? O ran Blwyddyn y Chwedlau, bydd 2016, y Flwyddyn Antur, yn gweld un o'r digwyddiadau mwyaf yn cael ei ddal yn ôl ar gyfer diwedd y flwyddyn—yr adeg pan fyddwn yn symud yn ddi-dor i mewn i Flwyddyn y Chwedlau—a’r digwyddiad hwnnw fydd y profiad Nutcracker a gynhelir yn Theatr Clwyd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr, unwaith eto, gyda chynnyrch unigryw. Bydd yn brofiad sglefrio iâ awyr agored wedi’i gyfuno â phrofiad Nutcracker y tu mewn i'r theatr.
O ran y clogyn aur, mae hwn yn arteffact hynod o bwysig. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan ddaeth i amgueddfa Wrecsam, roeddwn yn meddwl ei fod wedi ei gyflwyno mewn modd gafaelgar a llawn dychymyg er mwyn denu ymwelwyr i'r cyfleuster penodol hwnnw. Ond byddwn wrth fy modd yn gweld y clogyn aur yn dychwelyd i’w dref enedigol, ac felly byddwn yn hapus i gwrdd â'r Aelod ac unrhyw bartïon sydd â diddordeb o'r Wyddgrug, ei hetholaeth, ac awdurdod lleol Sir y Fflint, i drafod sut y gallem weithio gyda'r Amgueddfa Brydeinig, ac, yn wir, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, i ddod o hyd i le yn nhref enedigol y clogyn aur fel y gall ddychwelyd, o leiaf am gyfnod byr o amser, os oes modd, yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â bod yn barod am y gaeaf, a galwaf ar Vaughan Gething i wneud y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â sut y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cynllunio cyflenwi gwasanaethau cadarn i ddinasyddion ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd i ddod.
Y gaeaf diwethaf, cafodd y gwasanaethau brys ac argyfwng ddiwrnodau lle'r oedd ymchwydd sylweddol yn y galw, yn enwedig gan gleifion a chanddynt anghenion gofal mwy cymhleth. Rai diwrnodau, roedd y galw yn uwch o lawer na’r hyn y gellid ei ragweld yn realistig ar gyfer ambiwlansys brys, gofal sylfaenol y tu allan i oriau ac, yn wir, derbyniadau brys i'r ysbyty drwy adrannau damweiniau ac achosion brys. Er enghraifft, ar droad y flwyddyn, cyrhaeddodd nifer yr ambiwlansys a oedd yn cyrraedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys uchafbwynt o 22 y cant yn uwch na'r cyfartaledd ym mis Ionawr 2015, ac roedd hyd at 23 y cant yn fwy o bobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys na'r cyfartaledd ym mis Ionawr 2015.
Erbyn hyn, cydnabyddir bod pwysau ar y system gofal yn wirionedd drwy gydol y flwyddyn, ac eto profiad y rhan fwyaf yw bod ein staff rheng flaen yn parhau i ddarparu gofal proffesiynol a thosturiol. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr yn ymuno â mi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n haelodau staff ymroddedig, sy'n helpu pobl pan fyddant ei angen fwyaf.
Eleni, rhoddwyd cyfarwyddiadau gennym i GIG Cymru ac awdurdodau lleol ddatblygu cynlluniau integredig yn gynt nag o'r blaen er mwyn cynllunio ar y cyd eu hymateb i’r heriau y bydd y gaeaf yn anochel yn eu cyflwyno. Cynhaliodd y GIG a phartneriaid gyfres o ddigwyddiadau cynllunio cenedlaethol lle craffodd aelodau allweddol o staff ar gynlluniau i rannu arferion dysgu o’r gaeafau a fu ac enghreifftiau o arferion gorau.
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld ein system yn cryfhau drwy ddatblygu dull system gyfan, felly mae cynllunio a sefydliadu gyda’i gilydd wedi adeiladu ar gynlluniau a phrofiadau y flwyddyn diwethaf er mwyn paratoi at y gaeaf hwn. Mae yna, wrth gwrs, amrywiaeth o gamau gweithredu cadarnhaol wedi’u cynllunio i gryfhau gwasanaethau ymhellach, gan gynnwys cynnyddu nifer y gwelyau, o ystyried y cynnydd tebygol yn nifer y cleifion â llawer o gyflyrau y bydd angen eu derbyn i'r ysbyty. Caiff gwasanaethau triniaeth ddydd brys eu cryfhau i alluogi cleifion â chyflyrau penodol i gael eu trin heb fod angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty dros nos, lle bo hynny’n bosibl. Ac rydym wedi gweld tuedd gyffredinol o leihad yn yr oedi wrth drosglwyddo gofal, ac mae partneriaethau rhanbarthol wrthi’n gweithio i gyflawni gwelliannau pellach.
Mae cynnal llif cleifion da ar draws y system gyfan yn allweddol, a rhoddir pwyslais cryf ar hwyluso'r broses o ryddhau cleifion drwy wneud y mwyaf o nifer ein gwelyau drwy gydweithio. Mae meysydd eraill i’w cryfhau yn barod at y gaeaf hwn yn cynnwys gwasanaethau cam-i-fyny a gwasanaethau cam-i-lawr ychwanegol ar draws Cymru er mwyn darparu gwelyau arhosiad byr i bobl sy'n gadael yr ysbyty ac sy'n feddygol iach, ond nad ydynt yn barod eto i ddychwelyd adref. A chaiff y gwelyau hynny hefyd eu defnyddio fel rhai cam-i-fyny i bobl yn y gymuned er mwyn osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae pob bwrdd iechyd yn bwriadu cynyddu darpariaeth ymgynghorol yn ystod y cyfnodau penwythnos heriol, a bydd hynny’n cynnwys sicrhau bod uwch swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau yn ystod y penwythnos yn bresennol, er enghraifft, wrth y drws ffrynt neu ar wardiau cleifion mewnol er mwyn helpu i gefnogi rhyddhau cleifion yn brydlon. Bydd cymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau a gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol yn yr ysbyty er mwyn hwyluso’r gwaith o asesu a rhyddhau, i enwi ond ychydig.
Ond rydym ni hefyd yn disgwyl dysgu o'r gorffennol, ac rwy’n awyddus i fodelau newydd o ofal gael eu gweithredu yn eang i gefnogi anghenion cleifion. Cefais fy mhlesio gan amrywiaeth eang o ddulliau arloesol, er enghraifft, y fenter 'pontio'r bwlch' sydd wedi ennill gwobrau, sef dull integredig yn ardal Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar gefnogi cleifion sy'n mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys neu sy’n ffonio am ambiwlans yn rheolaidd, er mwyn helpu i wella canlyniadau a lleihau'r galw; y model gofal uwch Môn yn Ynys Môn, sy'n darparu gofal dwys yn y cartref i gleifion oedrannus â salwch difrifol drwy weithio fel tîm gan ddefnyddio adnoddau cymunedol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio a meddygon teulu fel partneriaid allweddol; a rhaglen gwasanaethau cymunedol bae’r gorllewin yn Abertawe, sydd eto’n dîm aml-ddisgyblaethol, a fwriedir er mwyn ei gwneud hi’n haws cael gafael ar wasanaethau gofal canolraddol a chadw pobl yn iach ac yn annibynnol. Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud bod y cynllun peilot braenaru ‘pathfinder 111’ wedi cychwyn ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ym mis Hydref ac mae'n darparu cyfle gwirioneddol i gyfeirio cleifion at y gwasanaeth priodol.
Rydym ni wedi cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau diogel a phrydlon dros y gaeaf a thu hwnt drwy fuddsoddi’n sylweddol, ac rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol. Wrth gwrs, ar 3 Tachwedd, cyhoeddais fod y Llywodraeth hon wedi darparu £50 miliwn ychwanegol i GIG Cymru er mwyn helpu i reoli'r galw dros y gaeaf a chefnogi perfformiad y GIG. Mae hynny yn ychwanegol at y £3.8 miliwn i gefnogi rhaglen genedlaethol o brosiectau braenaru a phrosiectau sy’n pennu cyfeiriad er mwyn profi ffyrdd newydd ac arloesol o gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, a daw £10 miliwn o’r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol i gefnogi datblygiad clystyrau gofal sylfaenol. Mae hynny'n golygu 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys meddygon teulu, swyddi nyrsio, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr i enwi ond rhai ohonynt. Hefyd, rhoddwyd £60 miliwn ar gael gennym ar gyfer y flwyddyn hon drwy'r gronfa gofal canolraddol er mwyn helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac oedi wrth ryddhau. Mae’r holl fentrau hyn gan Lywodraeth Cymru yn gwneud gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarperir i bobl.
Yn bwysig, wrth feddwl yn ôl i'r llynedd, mae ein gwasanaeth ambiwlans eleni mewn sefyllfa lawer gwell ar gychwyn tymor y gaeaf, yn dilyn gwelliant parhaus mewn perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos mai dim ond pedwar munud a 38 eiliad yw’r amser ymateb cyfartalog i gleifion lle mae eu bywydau yn y fantol.
Am y tro cyntaf mewn blwyddyn, rydym wedi gweld dros 1 miliwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae’r galw hwn, ynghyd â'n poblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd yn nifer y cleifion a chanddyn nhw anghenion cymhleth, yn rhoi pwysau gwirioneddol ar ein system. Gwelir pwysau tebyg ar draws teulu’r GIG yn y DU. Mae yna, wrth gwrs, lawer mwy i'w wneud er mwyn cyflawni'r gwelliannau yr ydym ni’n dymuno eu gweld, ond rydym wedi gweld gwelliannau cyffredinol mewn perfformiad yn erbyn targedau allweddol o ran mynediad at ofal brys dros y chwe mis diwethaf. Wrth gwrs, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan fel dinasyddion i helpu'r GIG drwy sicrhau bod mwy o’r bobl hynny sy’n gymwys i gael brechlynnau ffliw am ddim, yn eu derbyn, ac ystyried yn ofalus ai fferyllydd yw'r dewis gorau pan fyddwn ni’n teimlo’n sâl.
Yn olaf, wrth gwrs, rydym ni’n annog pobl i wneud 'Dewis Doeth' y gaeaf hwn drwy gadw eu hunain yn gynnes. Bydd hynny'n helpu i atal annwyd, y ffliw neu gyflyrau iechyd mwy difrifol megis trawiad ar y galon, strôc, niwmonia neu iselder. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod y gaeaf yn gyfnod heriol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi gweld galw yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn a fydd yn parhau i herio'r system gyfan, ac mae hynny’n atgyfnerthu'r angen am ddull system gyfan. Ni ddylai neb gymryd arnynt y bydd y gaeaf yn hawdd, ond rwy’n credu'n gryf y bydd paratoi’n helaeth ar lefel leol a chenedlaethol yn darparu gwasanaethau cadarn a chryf fel y gall pobl gael gafael ar y gofal y maen nhw ei angen pan fyddant ei angen.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Fel mae’n digwydd, mae’r pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad yn ymchwilio ar hyn o bryd i barodrwydd y gwasanaeth iechyd am y gaeaf. Rydym ni’n edrych ymlaen at y sesiwn dystiolaeth efo’r Ysgrifennydd Cabinet yn y dyddiau nesaf. Oes, mae yna dystiolaeth sydd wedi cael ei chlywed fel rhan o’n hymgynghoriad ni hyd yma sydd yn dangos elfennau o bwysau ychwanegol—mae pediatreg yn un penodol sydd wedi dod i’r amlwg. Ond, wir, yr hyn sy’n dod i’r amlwg fwyaf ydy hyn: petasai’r gwasanaeth iechyd â’r capasiti cyffredinol i ymdopi gydol y flwyddyn, mi fuasai ganddo fo’r capasiti i ddelio efo unrhyw gynnydd dros dro sy’n digwydd, p’un ai yn y gaeaf neu ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, er enghraifft yr haf, pan fo adrannau achosion brys ar eu prysuraf. Beth sydd gennym ni, wrth gwrs, yn y datganiad yma heddiw ydy amlinelliad o nifer o bethau mae’r Llywodraeth yn eu gwneud i drio ymateb i sialensau y gaeaf, ond rydw i’n credu bod yna anwybyddu’r ffactorau ehangach yna. Mae o’n sôn am geisio lleihau mynediad i adran damweiniau ac achosion brys ac arosiadau dros nos, ond nid ydy o’n sôn llawer am ofal cymdeithasol ar wahân i ddweud bod gweithwyr cymdeithasol yn mynd i fod mewn ysbytai er mwyn cyflymu’r broses o gael pobl allan. Ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod yna ddiffyg integreiddio yn y system fel ag y mae hi.
Four quick questions if I could: the statement acknowledges that pressure on the system is year-round, as I stated. Is the Cabinet Secretary happy that the overall capacity of the system is capable of dealing with the pressures each season brings? And we remember that winter happens every year. Secondly, extra beds: perhaps you could give us a little bit more detail about the kind of extra beds that you are seeing coming on stream. Thirdly, a specific question on keeping patients away from their general practitioner: NHS England has had a great deal of publicity over its scheme to let pharmacists see people with sore throats to determine whether the infection is viral or bacterial. Is NHS Wales looking at that specifically? And, finally, turning it on its head somewhat, the focus of many of the Government’s efforts, it seems, is on speeding up discharge, but we know of research showing dangers for some patients in being discharged too early. What is the Government doing to ensure that hospitals pay just as much attention to keeping people in hospital, if that is the right clinical decision, whatever the pressures of winter, so discharges are never, ever motivated by the short-term pressures to clear space?
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. O ran eich sylwadau agoriadol, nid wyf yn derbyn eich asesiad na cheir llawer o sôn am ofal cymdeithasol. Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau bod y system gyfan yn gweithio. Nid yw’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol o fewn ysbytai yn unig—wrth feddwl am yr ICF a'r ffordd y mae’n gweithio, mae’n rhaid iddo fod yn bartneriaeth â gofal cymdeithasol. Ac, yn eich etholaeth eich hun, mae’r enghraifft benodol y gwnes i ei chrybwyll ynglŷn â’r gwasanaeth gofal uwch yn Ynys Môn, dim ond yn gweithio gan fod gennych chi ofal cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio a meddygon teulu yn gweithio gyda'i gilydd. Ac, mewn gwirionedd, mae meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd yn gadarnhaol iawn, iawn ynglŷn â’r cynllun, oherwydd eu bod yn cydnabod y gwir fanteision a ddaw yn ei sgil. Ceir cynlluniau tebyg o amgylch y wlad sydd dim ond yn gweithio oherwydd bod gennych chi’r bartneriaeth system gyfan honno ar waith, a dyna beth y mae angen i ni weld mwy ohoni drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag yn ystod cyfnod prysuraf y gaeaf wrth gwrs.
I fynd i’r afael â'ch pwynt ynglŷn â’r galw yn ystod yr haf a'r gaeaf, a pha un a oes gennym ni’r capasiti cywir, wel, mae’r proffil o ran galw yn wahanol. Ceir mwy o niferoedd yn ystod yr haf, ond, mewn gwirionedd, mae proffil y cleifion a ddaw i mewn yn ystod y gaeaf yn golygu, mewn gwirionedd, eu bod yn fwy tebygol o gymryd lle mewn ysbyty, gan ei fod yn fwy tebygol o fod y dewis cywir ar eu cyfer nhw, ac maen nhw’n fwy tebygol o aros am fwy o amser hefyd, oherwydd gwyddom eu bod yn fwy tebygol o fod yn bobl hŷn sy'n fwy sâl ac sydd â chasgliad mwy cymhleth o gyflyrau sydd angen sylw. Felly, dyna pam yr ydym ni’n gwybod bod y pwysau yn hollol wahanol yn y gaeaf, er bod y niferoedd eu hunain yn llai. Felly, dyna pam yr ydym ni’n ystyried yr ymchwydd mewn capasiti o fewn y system gofal difrifol. Mae hynny'n beth synhwyrol i gynllunio ar ei gyfer, o ran y ffordd y mae gennych chi’r cydbwysedd rhwng gofal heb ei drefnu a gofal wedi'i gynllunio yn y gaeaf hefyd: mae’r cydbwysedd yn newid. Ond hefyd, dyna pam y soniais i am y cyfleuster cam-i fyny a cham-i-lawr. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â defnyddio ein casgliad o ysbytai cymunedol, ond mae hefyd yn ymwneud â chomisiynu capasiti’n fwy deallus o fewn y sector gofal preswyl. Gallem ni a dylem ni wneud mwy dros amser gyda'r sector annibynnol er mwyn ystyried pa gapasiti sy’n bodoli ac i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac ynglŷn â sut yr ydym ni’n gwario’r arian cyhoeddus hwnnw, oherwydd gallai fod yn lle mwy priodol i rywun adfer y tu allan i’r ysbyty os yw’n feddygol iach i gael ei ryddhau.
Mae hynny'n fy arwain at eich pwynt olaf—soniaf eto am fferylliaeth—ynglŷn â chadw pobl i mewn os mai hynny yw’r dewis clinigol cywir. Nid oes gennyf lawer iawn o enghreifftiau o gwbl lle y mae pobl yn ysgrifennu ataf ac yn dweud, 'Dylai fy mherthynas neu fi fod wedi aros yn hirach mewn gwely ysbyty: dyna oedd y lle iawn i mi.' Bron bob amser, mae pobl yn dweud, 'Roeddwn i eisiau mynd, roeddwn i'n barod i fynd, ond roedd angen mwy o gymorth arnaf i’m galluogi i wneud hynny'. Ac rydym ni mewn gwirionedd yn credu mai’r broblem fwyaf o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yw dewis y cleifion, lle nad yw pobl yn dymuno gadael am nad yw’r lle y maen nhw’n dymuno mynd iddo ar gael. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, eu bod yn aros mewn gwely ysbyty, gan olygu bod rhywun sydd â llawer mwy o angen ddim yn gallu ei ddefnyddio. Ceir heriau anodd yn y fan yma, ond nid wyf yn credu y ceir her ar draws y system o ran rhyddhau pobl o’r ysbyty cyn eu bod yn barod. Wrth gwrs, pe byddai hynny’n digwydd, byddai hynny'n destun pryder, ond mae’r her fawr sydd gennym o ran y system mewn gwirionedd yn helpu i ryddhau pobl pan fyddant yn barod i adael a’u lleoli mewn rhan fwy priodol o'r system ofal, naill ai i gael gofal gartref, gyda chymorth neu heb gymorth, neu i gael gofal mewn lleoliad gwahanol.
Yn olaf, gan na fyddaf yn anwybyddu'r pwynt ynglŷn â fferylliaeth, nid dim ond dolur gwddw y mae gennym ni ddiddordeb ynddo. Mae'r cynllun anhwylderau cyffredin sydd gennym yn llawer ehangach na hynny, ac rwy’n disgwyl, y gaeaf hwn, y caiff y cynllun anhwylderau cyffredin ei gyflwyno, ac y caiff hynny ei alluogi, wrth gwrs, o ganlyniad i’r buddsoddiad a wnaed gennym ni mewn seilwaith TG ac o ran rhannu cofnodion meddyg teulu.
Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Y pwynt cyntaf yr hoffwn i gytuno â chi yn ei gylch yw dangos gwerthfawrogiad i'r aelodau staff sy'n helpu i gynnal ein gwasanaethau GIG yn ystod y gaeaf, pan geir, rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, pwysau eithriadol, a hoffwn dalu fy nheyrnged iddyn nhw hefyd.
Mae hwn yn ddatganiad eithaf gobeithiol, ac rwy'n eithaf siŵr ei fod yn adlewyrchu yn eithriadol eich gobeithion o ran ein gallu ni i ymdrin â phwysau’r gaeaf, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, Weinidog, nid yw'n adlewyrchu'r dystiolaeth yr ydym wedi’i chlywed yn ystod ein sesiynau pwyllgor. Felly, un neu ddau o bwyntiau allweddol yr hoffwn eich holi chi yn eu cylch: rydych chi’n siarad am gael amrywiaeth o gamau cadarnhaol wedi’u cynllunio er mwyn cryfhau gwasanaethau ymhellach. A ydych chi wedi’ch llwyr fodloni fod y byrddau iechyd wedi gweithredu hyn? Oherwydd o fod yn siarad â meddygon teulu a siarad â nifer o glinigwyr o’r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, y colegau brenhinol, ac ati, rydym wedi sylwi eu bod yn llai argyhoeddedig y bu trafodaeth cwbl integredig ynglŷn â sut y gallwn ymdrin â phwysau’r gaeaf. Felly, hoffwn gael sicrwydd eich bod chi’n fodlon bod hyn dan reolaeth gan y byrddau iechyd, oherwydd, fel y dywedais, nid yw'n adlewyrchu'r hyn yr ydym wedi’i glywed.
Rwy’n awyddus i ddeall, Ysgrifennydd y Cabinet, o le y daw’r aelodau staff, o le y daw’r gwelyau ychwanegol hyn. Rydych chi’n sôn y gallai fod yna ragor o welyau mewn ysbytai ar gael ar gyfer ymdopi â phwysau’r gaeaf, rydych chi’n sôn am welyau cymunedol, ond mae gostyngiad gwirioneddol wedi bod yn nifer y gwelyau mewn ysbytai ac o fewn y gymuned, a hoffwn ddeall sut y caiff hynny ei gywiro mewn cyfnod o amser mor fyr, o gofio bod y gaeaf bron â chyrraedd. Un enghraifft y byddwn i’n ei rhoi i chi yw y bu gostyngiad o 30 y cant yn nifer y nyrsys ardal. Felly, sut yr ydym ni am lwyddo i gadw pobl yn y gymuned ac allan o'r ysbyty, i gael gofal gan feddygon teulu a chan wasanaethau eraill?
Gwnaethoch chi sôn am duedd gyffredinol o leihau’r oedi wrth drosglwyddo gofal, ond, Weinidog, bob mis, mae tua 450 o bobl yn aros mewn ysbytai i becynnau gofal cymdeithasol gael eu gweithredu fel y gallant adael yr ysbyty a pharhau â'u bywydau. Sut yr ydych chi’n cysoni’r rhif hwnnw sydd eisoes gennym ar gyfer mis Gorffennaf, mis Awst, mis Medi, mis Hydref—ac mae hynny cyn i bwysau’r gaeaf ein taro ni—pan fo’r cymysgedd o achosion yn newid yn sylweddol, fel yr ydych wedi cydnabod eich hun, a bod gennym ni lawer mwy o bobl hŷn, mwy o bobl bregus eu hiechyd, a mwy o bobl sy’n agored i niwed ac, wrth gwrs, llawer mwy o blant ifanc sy’n dod i’r ysbyty gydag anghenion difrifol?
A wnewch chi, efallai, egluro sut yr ydym ni am lwyddo i ymdrin â’r diffyg hwnnw, o gofio bod prinder hefyd o weithiwr cymdeithasol? Oherwydd mae popeth yn eich datganiad yn swnio'n hollol wych, ond rydym i gyd yn gwybod ein bod yn cael trafferth i gael digon o aelodau staff i fod yn rhan o’r system iechyd, ac nid wyf yn deall yn iawn sut y maen nhw wedi llwyddo i ddatrys hynny’n sydyn a bod hyn am weithio'n hynod effeithiol dros y tri neu bedwar mis nesaf.
A gaf fi hefyd ofyn i chi os ydych chi wedi gofyn i'r byrddau iechyd ystyried datblygu mwy ar y syniad o gael clinigwyr acíwt i fod yn gyfrifol am adrannau penodol megis yr adran orthopedeg, megis yr adran pediatreg, er mwyn gallu ailgyfeirio pobl o’r adrannau damweiniau ac achosion brys i leihau’r pwysau? Oherwydd mae’n ymddangos bod y dystiolaeth yn dangos ein bod yn gallu dargyfeirio tua 30 y cant o bobl i ffwrdd o’r adran damweiniau ac achosion brys at wasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau—ond, eto, nid yw’r gwasanaethau hyn yn gallu bod yn weithredol oni bai bod ganddyn nhw weithwyr cymdeithasol ar alwad, os oes ganddyn nhw’r ffisiotherapyddion, os oes ganddyn nhw’r gweithwyr iechyd meddwl i roi cefnogaeth.
Felly, datganiad gwych, cadarnhaol a gobeithiol iawn, rwy’n gwerthfawrogi eich bod wedi cael y trafodaethau â'r byrddau iechyd, ond rwy’n ei chael hi’n anodd iawn derbyn bod newid sylweddol wedi bod yng nghyfundrefnau’r ysbytai a'r gwasanaethau cymunedol sydd ar gael i ni, o ystyried y prinder o ran aelodau staff sydd gennym, sydd am ganiatáu inni ymdopi’n dda yn ystod y gaeaf mewn ffordd rwy’n ofni efallai y bydd y byrddau iechyd yn gobeithio y gallant wneud. Wedi'r cyfan, rydym wedi bod yn yr un sefyllfa bob blwyddyn, yn siarad am bwysau’r gaeaf. Mae profiad yn dechrau mynd yn drech na gobaith yn hyn o beth, ac rydym ni’n awyddus i ddod o hyd i rai atebion sy'n gwbl gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy'n credu y gallaf fod yn obeithiol ac yn uchelgeisiol ynghylch lle y gallem fod ac ynghlych lle y dylem fod a siarad am wasanaeth cryf, ond, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith yn fy natganiad, bydd y gaeaf yn her; fel y mae bob amser. Gwyddom fod y proffil o ran galw yn newid yn ystod y gaeaf. Gwyddom, wrth i ni sôn am y pwysau sydd ar y gwasanaeth, ein bod ni’n sôn am ein haelodau staff ac rwy'n falch iawn eich bod wedi talu teyrnged i aelodau staff y GIG. Mae gan aelodau staff yn y GIG ac aelodau staff ym maes gofal cymdeithasol swydd anodd iawn i'w chyflawni, ac, mewn gwirionedd, mae system y GIG yn parhau oherwydd yr ymdrechion ychwanegol gan yr aelodau staff gofal cymdeithasol, i sicrhau eu bod yn gallu cael pobl allan o leoliadau acíwt mewn ysbytai ac i leoliadau gofal cymdeithasol. Felly, mae'r gwelliannau yr ydym wedi’u gweld yn y blynyddoedd diwethaf o ran sicrhau bod pecynnau o ofal ar gael o hyd, er enghraifft, wedi bod yn hanfodol wrth gadw llif y gwaith o fewn y system gyfan. Wrth gwrs, dyna oedd un o'r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol, fod gan bob bwrdd iechyd leoliad ychydig yn amrywiol, ond eu bod wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw mewn gwasanaethau cymunedol, nid yn unig wrth ystyried—gwn y ceir her o ran nifer y nyrsys ardal, ond, mewn gwirionedd, mae nifer y nyrsys yn y gymuned wedi cynyddu dros y chwe blynedd diwethaf, ond hefyd, y bartneriaeth ag amrywiaeth o bobl yn y trydydd sector ac o ran tai hefyd, ac maen nhw wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod y mecanwaith cymorth cymunedol hwnnw’n bodoli mewn gwirionedd er mwyn eu galluogi i fynd yn ôl i’w cartrefi eu hunain neu i leoliad gofal gwahanol y tu allan i wely ysbyty acíwt.
Rwyf, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at fod yn bresennol yn y pwyllgor ac, ydw, rwy’n edrych ymlaen at ateb yr holl gwestiynau ychwanegol nad ydych chi’n cael cyfle i’w gofyn heddiw. Ond, wyddoch chi, ceir amrywiaeth o bethau hefyd yr wyf am dynnu sylw atyn nhw. O ran y peth hwnnw ynglŷn â’r llif i mewn ac allan o'r ysbyty hefyd, ynglŷn â chadw pobl draw o'r ysbyty pan nad yr ysbyty yw’r lle priodol iddyn nhw—pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth—ond, o ran yr oedi wrth drosglwyddo gofal, mae'n gyflawniad sylweddol i lwyddo i gydbwyso a lleihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo, ac nid wyf i na neb arall yn cymryd arnom nad yw hyn am fod yn bwysau drwy gydol y gaeaf. Yn ystod gaeaf y llynedd, gwelsom gynnydd yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ystod rhai o gyfnodau prysuraf y gaeaf, a byddech chi’n disgwyl i hynny fod yn wir; byddai'n afrealistig i feddwl fel arall. Ond, mae'r system yng Nghymru wedi gweld tuedd ar i lawr dros nifer o flynyddoedd o’i chymharu â’r cynnydd uchaf erioed a’r lefelau uchaf erioed o achosion o oedi wrth drosglwyddo—maen nhw’n eu galw’n achosion o oedi cyn rhyddhau—yn Lloegr, a phroblemau tebyg yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni mewn sefyllfa well o’i chymharu â’r gweddill gan ein bod wedi gweld gostyngiad, ond ein huchelgais ni yw gweld gostyngiad pellach, yn hytrach na bod yn fodlon â’n sefyllfa.
Ac o ran y pwyntiau a wnaed ynglŷn â llif yr ysbyty, o fewn y system ysbytai, rydym yn cydnabod y ceir her. Nid wyf yn siŵr pa mor ddiflewyn ar dafod y nodwyd hyn gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ond gwyddom y ceir teimlad weithiau, wrth y drws ffrynt, lle mae llawer o’r pwysau mwyaf, fod angen mwy o bobl sy'n gwneud penderfyniadau, fel y dywedais yn fy natganiad, fel y mae pob system ysbyty yn cydnabod, ond hefyd i ystyried sut nad yw’r cyfrifoldeb wrth y drws ffrynt yn dechrau ac yn gorffen wrth y drws ffrynt ychwaith. Yr hyn a olyga hynny yw fy mod yn awyddus i weld cleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty, ond hefyd yn dilyn y system hefyd, ac mae hynny'n rhan o'r her ym mhob ysbyty ledled Cymru i raddau, i sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng y gwahanol adrannau, a pheidio â gadael yr adran damweiniau ac achosion brys i ymdopi ar ei phen ei hun, yn y bôn.
Nawr, i gloi, gwnaethoch chi ofyn i mi a oeddwn i'n llwyr fodlon ar y sefyllfa fel ag y mae hi. Byddai pwy bynnag a fyddai’n gwneud fy swydd i ac yn dweud eu bod yn gwbl fodlon â’r sefyllfa bresennol, yn unigolyn dewr, os nad ffôl. Rydym ni’n cydnabod bod y sefyllfa’n gwella o ran cynllunio a pharatoi at y gaeaf ac mae'n bwysig nodi hynny. Rydym ni mewn sefyllfa well yn awr nag yr oeddem ni’r gaeaf diwethaf neu'r gaeaf cyn hynny. Ond, fel y dywedais, ni ddylai neb gymryd arnyn nhw y bydd y gaeaf yn hawdd neu y bydd yn berffaith; rydym ni’n disgwyl y bydd adegau heriol ac y bydd angen dysgu mwy o’r gaeaf hwn hefyd, ond rwy’n disgwyl i'r system fod yn gadarn. Yn wahanol i rai rhannau o Loegr y gaeaf diwethaf a'r gaeaf cyn hynny, rwy’n disgwyl i’r drysau gael eu cadw ar agor, oni bai mewn gwirionedd y ceir galw sydd wirioneddol, eithriadol, y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol. A dyna beth yw fy uchelgais: gofal diogel, tosturiol, a gaiff ei gynnig ag urddas i bobl sydd wir ei angen, a dysgu eto a gwella eto ar gyfer y gaeaf nesaf, hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â chi; rydym ni i gyd eisiau ymdrechu i sicrhau gofal diogel a thosturiol i'n holl etholwyr a phobl yng Nghymru, ac felly rwy’n croesawu'r datganiad yr ydych chi wedi’i roi heddiw, yn enwedig o ran yr ymdrechion i sicrhau ein bod ni’n gallu cyflawni hynny yn ystod misoedd prysuraf y gaeaf. A gaf i hefyd ymuno â chi i ganmol proffesiynoldeb ac ymroddiad ein haelodau staff? Rwy’n datgan buddiant gan fod fy ngwraig yn un o’r aelodau hynny o staff y rheng flaen. Ond, mae'n bwysig eu bod mewn gwirionedd yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled, ac rwy’n cytuno ag Angela Burns ar ambell bwynt. Rwy’n pryderu am lefelau’r gweithlu, yn enwedig, weithiau, pan welwn gynnydd yn lefelau o salwch o ganlyniad i'r pwysau y mae hynny’n ei roi ar weddill aelodau’r staff, a hoffwn i chi, efallai, ystyried sut yr eir i'r afael â hynny, yn enwedig hefyd mewn cysylltiad â nyrsys ardal, gan fod nyrsys ardal—fel y gwnaethoch chi nodi, ceir mwy ohonyn nhw yn y gymuned, ond ceir prinder o nyrsys ardal ar draws y meysydd ac, o ganlyniad, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol bod anawsterau o bryd i’w gilydd o ran cael nyrsys ardal i ddod allan a chefnogi unigolion, oherwydd y pwysau sydd arnynt.
Ynglŷn â’ch datganiad, ambell bwynt: roeddech chi’n sôn am y gwelyau ychwanegol. Rwyf am ofyn yr un cwestiwn ynglŷn â’r lefelau staffio a'r lefelau adnoddau ar gyfer y gwelyau ychwanegol hynny, oherwydd yr hyn nad wyf yn dymuno—. Yr hyn a ddywedir wrthyf yn aml gan fyrddau iechyd, yw ‘Mwy o welyau ac fe wnawn ni eu llenwi’n gyflym'. Nid wyf eisiau gweld mwy o welyau’n cael eu llenwi ac wedyn yn cael eu gadael, oherwydd o bryd i’w gilydd nid yw oedi wrth drosglwyddo gofal yn fy ardal i gystal, efallai, ag ydyw ar draws Cymru. Mae'n bwysig bod gennym ni ddigon o aelodau staff er mwyn sicrhau bod y rhai hynny’n cael eu defnyddio'n effeithiol.
Rydych chi’n sôn am ddefnydd gwell o weithwyr cymdeithasol, nid mwy o weithwyr cymdeithasol. A ydym ni am ystyried mwy o weithwyr cymdeithasol mewn ysbytai fel y gallwn ni sicrhau’r pecynnau gofal hynny yn hytrach na gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol? Gwnaethoch chi sôn am wasanaethau cam-i-fyny, a cham-i-lawr ychwanegol yn eich datganiad, ac y caiff y gwelyau eu defnyddio fel cam-i-fyny ar gyfer pobl yn y gymuned er mwyn osgoi derbyniadau i'r ysbyty, ond pwy mewn gwirionedd sy'n mynd i’w derbyn i’r unedau hynny? Pwy sy'n mynd i wneud y penderfyniad ynghylch a ydyn nhw am gael eu cyfeirio at yr unedau hynny? Ai meddyg teulu fydd hynny? Ai nyrs fydd hynny? Ai’r unigolyn fydd hynny? Pwy mewn gwirionedd sydd am benderfynu a ydyn nhw am gael eu derbyn i’r unedau penodol hynny a’r gwelyau penodol hynny?
Rwyf hefyd eisiau gofyn cwestiynau efallai ynglŷn â llawdriniaethau dewisol sydd yn aml yn cael eu gohirio neu’u canslo. Y llynedd yn fy ardal bwrdd iechyd fy hun, gwnaethon nhw ganslo nifer o achosion o lawdriniaethau dewisol. Am ychydig o fisoedd, o ganlyniad, achoswyd oedi pellach a mwy o boen a gofid i gleifion wrth iddyn nhw aros am y llawdriniaeth nesaf. Pa fath o awgrym sydd wedi’i roi gan y byrddau iechyd hynny eu bod yn ystyried y materion hynny ac na fydd cleifion yn profi’r oedi maith hynny? Maen nhw’n aml yn gorfod disgwyl hyd at 36 wythnos, ac weithiau y tu hwnt i'r targed o 36 wythnos, ond nid wyf yn dymuno gweld y cleifion hyn yn gorfod aros yn hirach na hynny dim ond oherwydd nad ydynt wedi ystyried sut y byddant yn mynd i'r afael â llawdriniaeth ddewisol yn ystod cyfnod y gaeaf.
Diolch am y pwyntiau—nifer o bwyntiau tebyg i rai Angela Burns, a rhai newydd hefyd. O ran yr her yn ymwneud â’r gweithlu, fel y dywedais, rydym ni’n cydnabod hynny. Ym mhob datganiad rwyf yn ei wneud yn y Siambr hon, pob cyfres o gwestiynau, rwy’n disgwyl cael fy holi am yr heriau yn ymwneud â’r gweithlu. Mae'r rhain yn heriau nad ydynt yn unigryw i Gymru, ond mae gennym gyfrifoldeb i geisio eu datrys. Rwy’n cydnabod yr her o ran y nyrsys ardal, er bod mathau eraill o nyrsys cymunedol wedi cynyddu o ran nifer, a'r her bob amser yw: sut yr ydym ni’n darparu'r gwasanaeth cywir fel ei fod ar gael i ddinasyddion, er mwyn iddyn nhw gael gofal, cyngor a chefnogaeth o ansawdd da? A dweud y gwir, mae nyrsys yn bwysig iawn wrth gadw pobl draw o'r ysbyty yn ogystal â gofalu amdanyn nhw ble maen nhw. Rydym ni’n gwneud defnydd gwell o lawer o sgiliau'r proffesiwn nyrsio i frysbennu ac i gefnogi pobl a'u cadw yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach, a chael mwy o annibyniaeth.
A dweud y gwir, mae staff nyrsio yn hanfodol, wrth gwrs, i sicrhau bod gwelyau ychwanegol yn gweithio’n effeithiol mewn lleoliad acíwt. Ceir bob amser her o ran sut yr ydych chi’n mynd ati i fod yn hyblyg a beth ydych chi’n bod yn hyblyg yn ei gylch. Mae rhai o'r aelodau staff o fewn y system yn barod i weithio oriau hirach, ond am gyfnod o amser. Ni allwch chi ddisgwyl i’r lefel honno o weithgarwch barhau trwy'r flwyddyn gyfan yn ychwanegol at y posibilrwydd o gael trefniadau contract ac asiantaeth priodol hefyd. Nawr, mae’r her bob amser yn ymwneud â deall y galw ariannol a ddaw yn sgil hynny hefyd, ond ceir angen—os byddwch chi angen gwelyau ychwanegol a’r gallu i ymdopi ag ymchwydd ychwanegol o ran staff, bydd yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r broses gynllunio. Dyna pam yr ydym ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd, â’u hawdurdod lleol a’u partneriaid gwasanaeth, ddeall yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn rhan o’r cynllun cyfan.
Mae'n rhaid i mi gadarnhau, ynglŷn â gweithwyr cymdeithasol, ein bod ni’n gweld mwy o weithwyr cymdeithasol yn cael eu lleoli mewn ysbytai fel rhan o'r tîm. Nid yw'n ymwneud yn syml â threfnu ac ymdrin â phobl mewn gwahanol rannau o'r system. Gwyddom y ceir her â’r gweithlu cymdeithasol o ran niferoedd, ond mewn gwirionedd ceir cydnabyddiaeth ei fod yn lle gwell i gael mwy o weithwyr cymdeithasol yno fel rhan o'r tîm hwnnw er mwyn helpu i gefnogi pobl i ddychwelyd i'r gymuned. O ran cael eich derbyn i unrhyw gyfleuster, y clinigwr neu'r tîm o glinigwyr fydd yn gorfod gwneud y dewis hwnnw. Ni chaiff y penderfyniad ei lywio gan safbwyntiau ynglŷn â chyllid; caiff ei lywio gan y lle yr ystyrir ei fod yn glinigol briodol i rywun dderbyn gofal a chymryd rhan mewn gofal.
Yn olaf, rwy’n dymuno ymdrin efallai â'r prif bwynt newydd yr ydych chi’n ei wneud, ynglŷn â derbyniadau dewisol a gweithgarwch dewisol. Gwyddom, yn y gaeaf, y ceir cryn dipyn o weithgarwch dewisol. Nid yw'n wir dweud na cheir unrhyw weithgarwch dewisol yn y gaeaf. Ceir cyfaddawdu o ran gofal heb ei drefnu pan geir cynnydd yn nifer y gwelyau sy’n cael eu llenwi o ganlyniad i ofal heb ei drefnu, ond mae gweithgarwch dewisol yn digwydd o hyd. Yn wir, y gaeaf diwethaf, o gymharu ystadegau rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2016 ag ystadegau rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015, gwelsom fwy na 4,000 o weithdrefnau dewisol ychwanegol yn digwydd o fewn y GIG yng Nghymru, felly mae gwir angen parhau i weld mwy o weithgarwch yn digwydd er mwyn sicrhau nad yw pobl yn aros am gyfnodau annerbyniol o amser.
Nid wyf am grwydro at bwynt hollol wahanol, ond rwy’n cydnabod yr her a’r pwysau sydd ar weithgarwch dewisol yn y gaeaf, a bydd rhywfaint o'r adnoddau gwerth £15 miliwn yr ydym wedi’u dyrannu yn cael eu targedu at gefnogi gweithgarwch dewisol yn ystod y gaeaf.
Yn olaf, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr, a gaiff ei groesawu'n fawr? Rwyf yn credu ei fod yn dangos bod y Llywodraeth wedi rhoi llawer o sylw ac ystyriaeth i'r mater hwn, gan ei fod yn amlwg. Ceir amrywiaeth eang o ffactorau sy'n effeithio ar barodrwydd gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i ymdopi â’r pwysau ychwanegol hynny yn ystod y gaeaf, ac mae’r rhai hynny i gyd wedi'u trafod yn helaeth dro ar ôl tro. Ond mae’r datganiad hwn yn rhoi rhywfaint o obaith i mi fod y materion a nodwyd yn y dystiolaeth wedi’u hystyried a bod hynny wedi’i wneud heb hunanfodlonrwydd, ac mae'n rhoi hyder i mi y caiff yr hyn y gellir ei wneud, yn fy marn i, ei wneud. Rwy’n credu y byddwn ni’n edrych ymlaen at aeaf gwell nag ein cydweithwyr yn Lloegr, yn anffodus, o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.
Felly, hoffwn ofyn dau gwestiwn syml iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf: un yr wyf wedi’i godi yn y gorffennol, ac mae’n ymwneud â'r ymgyrch Dewis Doeth a'i gyfraniad at amseroedd ymateb ambiwlansys a gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys; a hefyd ynglŷn â nifer yr aelodau staff sy’n manteisio ar frechlynnau ffliw. Nodaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y cyfeiriasoch yn eich datganiad at yr ymgyrch Dewis Doeth, ond tybed a allech chi ddweud yn benodol sut yr ydych chi’n credu y gall yr ymgyrch gyfrannu at strategaeth y Llywodraeth. Caiff ei chrybwyll yno wrth fynd heibio, ond sut y gall gyfrannu at y strategaeth i liniaru’r cyfnodau prysur hynny, yn enwedig mewn cysylltiad â derbyniadau i'r ysbyty?
A allech chi hefyd ddweud wrthym beth arall yn eich barn chi y gellir ei wneud i annog aelodau staff y GIG i fanteisio ar frechlynnau ffliw, gan olygu, felly, nid dim ond lleihau'r risg o drawsheintio, ond helpu i fynd i'r afael â’r lefelau staffio is o ganlyniad i absenoldebau oherwydd salwch a achosir gan bobl yn methu â gweithio oherwydd y ffliw yn ystod y cyfnod allweddol hwn?
Ysgrifennydd y Cabinet.
Helo. Mae'n ddrwg gennyf i?
[Anghlywadwy.]—i’w ateb.
Mae'n ddrwg gennyf i. Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau—wedi’u datgan gydag awdurdod cyn bennaeth iechyd Unsain, wrth gwrs. Rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod y pwynt a wnaethoch yn gynnar ar y dechrau ynglŷn â’r system yn Lloegr—. Rhan o'n her ni yng Nghymru yw cydnabod yr heriau y mae’r system fwy darniog yn Lloegr wedi’u cyflwyno i’w haelodau staff a’i dinasyddion, ond hefyd i wireddu’r manteision damcaniaethol a’u gwireddu’n ymarferol drwy gael system integredig wedi’i chynllunio yma yng Nghymru—sydd â’r bwriad mewn gwirionedd o fod yn fwyfwy blaengar drwy bob gaeaf, ond hefyd drwy weithgarwch dewisol a heb ei drefnu yn ystod gweddill y flwyddyn.
Rwy'n falch eich bod wedi sôn am yr ymgyrch Dewis Doeth. Cafodd ei harwain eto eleni gan Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru. Mae rhywbeth yma sy’n ymwneud ag ymgysylltu dinasyddion â’u dewisiadau gofal iechyd eu hunain a helpu'r system mewn gwirionedd. Wrth wneud hynny, ceir manteision gwirioneddol i'r unigolyn. Mae’n dibynnu ar ba gyfres o ffigurau y byddwch yn edrych arnynt, ond, yn dibynnu ar bwy fyddwch yn siarad â nhw, mae rhwng 9 a 30 y cant o’r bobl sy'n dod i adran damweiniau ac achosion brys nad ydynt angen unrhyw fath o ymyrraeth gofal iechyd. Gellid ymdrin â rhai pobl mewn lleoliad gofal iechyd gwahanol. Hefyd, mae angen i chi feddwl am awduron y gwahanol ffigurau hynny, ond ceir nifer sylweddol o bobl sy'n dod i’r adrannau damweiniau ac achosion brys nad oes angen iddyn nhw fod yno o gwbl, naill ai oherwydd nad oes angen ymyrraeth gofal iechyd arnyn nhw neu oherwydd y gallen nhw ei chael yn rhywle arall, naill ai o fewn y gymuned, mewn fferyllfa neu yn rhywle arall. Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn o hyn.
Yr her yw sut yr ydym ni’n ymgysylltu â’r cyhoedd wrth wneud y dewisiadau hynny, oherwydd os byddwch chi’n dod i adran damweiniau ac achosion brys a’ch bod chi’n aros am gyfnod o amser am ymyrraeth weddol syml y gallech chi ei chael ar y stryd fawr, rydych chi wedi gwastraffu eich amser eich hunan yn ogystal â dargyfeirio’r bobl hynny sy'n gwneud penderfyniadau, o bosibl, a’r bobl hynny sy'n rhoi gofal yn y lleoliad hwnnw oddi wrth bobl sydd ag anghenion difrifol iawn, ac sydd mewn adran ddamweiniau ac achosion brys o ganlyniad i ddamwain ddifrifol neu argyfwng gwirioneddol. Felly, mae rhywbeth yn y fan yma ynglŷn â sicrhau bod pobl yn ymgysylltu, a’i gwneud hi’n haws mewn gwirionedd i’w ffrindiau a’u hanwyliaid eu hunain a allai fod yn y sefyllfa honno o fod angen y gofal ychwanegol hwnnw, i gael gafael arno’n gyflymach.
Byddwn, wrth gwrs, yn bwriadu gwerthuso'r ymgyrch Dewis Doeth. Rwyf eisoes wedi gofyn, ar gyfer diwedd cyfnod y gaeaf hwn, am gael gwerthusiad priodol er mwyn deall yr effaith y mae eisoes wedi’i gael i roi gwersi gwirioneddol i ni ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, hefyd.
Ynglŷn â’r brechlyn ffliw—rwy’n falch eich bod chi wedi sôn am hyn, gan fy mod wrth fy modd â'r gwaith y mae Rebecca Evans wedi bod yn ei arwain ynglŷn ag ymgyrch y brechlyn ffliw eleni. Mae angen deall y cydbwysedd rhwng fferyllfeydd a meddygon teulu wrth gyflwyno'r brechlyn ffliw, ond hefyd, yn arbennig, meddwl am bobl sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol neu'r gwasanaeth iechyd i sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn cael y brechlyn ffliw eu hunain. Yn amlwg, mae’r bobl hynny yn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, a'r her yw, os nad ydyn nhw’n cael y brechlyn ffliw, mae pwynt yn y fan yna am ddilyniant iechyd a gofal cymdeithasol o ran gallu darparu ac ymarfer eu hunain beth bynnag, ond hefyd y posibilrwydd ar gyfer gwneud rhai o'r bobl fregus hynny yn salach a chynyddu’r posibilrwydd iddyn nhw ddal y ffliw yn y lle cyntaf.
Felly, rwy’n edrych ymlaen at ganlyniad cadarnhaol i ymgyrch eleni. Byddwn yn dysgu oddi wrth ymgyrch eleni, beth bynnag fo'r canlyniadau, i weld rhagor o gynnydd a gwelliant ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Ond rwy’n meddwl bod her wirioneddol yn y fan yma ar gyfer y sector gofal cymdeithasol annibynnol yn arbennig, i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n ymwneud â dilyniant busnes o ran sut yr ydym yn cyflawni hyn mewn ffordd wirioneddol, sydd wedi ei hymgorffori, o bosibl mewn comisiynu, ac efallai y bydd gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny ym mhwyllgor yr wythnos hon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef eitem 7, Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl.
Cynnig NDM6135 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2016.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiaf yn ffurfiol.
Diolch. Nid oes siaradwyr ar gyfer y ddadl hon, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. Galwaf ar Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6136 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015-16.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2015-16. Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd swyddogaeth y comisiynydd wrth hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu ei blwyddyn lawn gyntaf yn y swydd ac mae'n nodi llawer o gyflawniadau. Mae hefyd yn dangos ei annibyniaeth glir o Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad. Yn sylfaen i’r annibyniaeth honno y mae’r ffaith bod cyfrifoldeb y Llywodraeth ar gyfer y comisiynydd wedi ei wahanu o allu'r Cynulliad i’w dwyn hi i gyfrif. Byddwn, felly, yn gwrthwynebu gwelliant 2 Plaid Cymru, a fyddai'n cyfuno’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd yn nwylo'r Cynulliad.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r adroddiad yn gyfraniad pwysig at y ddeialog barhaus rhwng y comisiynydd, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, pawb sy'n gweithio gyda phlant, rhieni ac, wrth gwrs, plant eu hunain. Lywydd, byddwn yn cyhoeddi ymateb ystyrlon Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar ddiwedd y mis, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn croesawu ac yn derbyn rhai o'r argymhellion, fel y rhai ar hybu iechyd meddwl cadarnhaol i blant a chryfhau darpariaeth eiriolaeth statudol. Bydd angen mwy o feddwl ar rai o’r argymhellion eraill, yn ogystal â thrafodaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn nodi’r ffordd orau ymlaen er budd plant.
Heddiw, rydym yn gofyn i'r Cynulliad nodi'r adroddiad er mwyn cychwyn ar y broses o ymgysylltu’n ehangach ar yr argymhellion, a byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1 Plaid Cymru, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu argymhellion penodol, ond oherwydd y byddai'n anghywir i achub y blaen ar y ddadl ehangach sy'n ofynnol. Mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid a chyfle i’r comisiynydd a'r Llywodraeth ac, ym mis Mai, gwnaethom adrodd ar weithrediad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roeddynt yn canmol Cymru yn benodol am gyflwyno trosedd cam-drin domestig newydd, cymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, cyflwyno amddiffyniad statudol ar gyfer pob plentyn posibl a allai fod yn dioddef yn sgil masnachu plant, a deddfu ar gyfer chwarae.
Er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddiwygio addysg, trwy ddatblygu darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar, sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael, mynd i'r afael â throseddau casineb a gwahaniaethu, a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein rhaglen i ysgogi gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, gan gyflawni Cymru sy'n ffyniannus, diogel, iach a gweithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam yn eu bywydau, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Lywydd, gan droi at rai materion penodol, mae adroddiad y comisiynydd a phwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi tynnu sylw at y mater salwch meddwl, gan bwysleisio'r angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed, yr angen am fwy o gefnogaeth mewn ysgolion a gwell cydweithio gwasanaeth. Mae’r broblem barhaus hon i blant a phobl ifanc yn ystyriaeth ddifrifol iawn i ni. Mae ein cynllun cyflawni 10 mlynedd ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yn cynnwys cynllun i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc i fod yn fwy cydnerth a gallu ymdopi yn well â diffyg lles meddwl, pan fo angen. Mae'r broses ddiwygio cwricwlwm yn elfen allweddol o sut y byddwn yn cyflawni hyn. Mae'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a’n buddsoddiad CAMHS o bron i £8 miliwn yn ategu ei gilydd ac yn symud ymlaen ochr yn ochr â’i gilydd. Mae cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith y rhaglen yn hanfodol.
Caiff anghenion dysgu ychwanegol eu hamlygu hefyd yn yr adroddiad. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac yn faes sy’n destun ymgysylltiad pwysig parhaus rhyngom ni a swyddfa'r comisiynydd. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y comisiynydd i'n hymgynghoriad ar y Bil drafft a chyfranogiad ei swyddfa i’r gwaith o ddatblygu diwygiadau yn fwy cyffredinol, yn enwedig drwy'r grŵp datblygu cynnwys cod. Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn disgwyl cyflwyno'r Bil yn y Cynulliad cyn toriad y Nadolig. Un rhan yn unig o raglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol llawer ehangach yw’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Nid y newid yn y gyfraith yw pen y daith: hwn fydd dechrau proses drawsnewidiol o ddysgu.
Cododd y comisiynydd bryderon hefyd ynghylch plant sydd yn syrthio drwy rwyd y gwasanaethau iechyd ac addysg cyffredinol. Rydym wedi edrych eto ar ein canllawiau ar addysg ddewisol yn y cartref ac wedi eu cryfhau, a chaiff y rhain eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd angen i ni ystyried ac ymgynghori yn ofalus pa un a ddylid symud y tu hwnt i hynny, ond rwyf am fod yn glir bod ein dull gofalus yn ymwneud â sicrhau’r mesurau diogelu ymarferol gorau ar gyfer pob plentyn. Rwy’n cydnabod bod ymyrraeth gynnar yn allweddol i iechyd a lles yn y tymor hir ac rwyf wedi amlinellu fy mlaenoriaethau o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod ac adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwy’n credu bod y rhain yn cyfochri â llawer o'r materion sy'n peri pryder i'r comisiynydd.
Rwyf am sicrhau bod ein polisïau’n mynd i'r afael â’r problemau sylfaenol sy'n gallu arwain at brofiadau niweidiol mewn plentyndod a chael effeithiau hirdymor ar fywyd. Dros y misoedd sydd i ddod byddwn yn edrych o'r newydd ar sut y gall y Llywodraeth hon gefnogi cymunedau cydnerth, sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant. Rwy'n hyderus, Lywydd, fod y Llywodraeth hon yn gweithio i wireddu hawliau plant ym mhob rhan o Gymru ac fe hoffwn ddiolch i'r comisiynydd a'i swyddfa am yr adroddiad blynyddol hwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion ac yn annog y drafodaeth gyhoeddus ehangaf bosibl fel y gallwn sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Edrychaf ymlaen heddiw at wrando ar y ddadl hon.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac yn benodol y rhai sy'n berthnasol i:
a) gwella profiadau plant o ofal iechyd meddwl;
b) cyflwyno trefn weithredu genedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol fel mater o flaenoriaeth; ac
c) cryfhau'r gofynion cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Plaid Cymru. Rwyf am ddechrau drwy longyfarch y comisiynydd plant, nid yn unig am yr adroddiad blynyddol, ond am ei gwaith yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, fod y gwaith hwnnw wedi’i osod ar seiliau cadarn yn dilyn yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa?’ a gynhaliwyd—yr ymgynghoriad mwyaf erioed gyda phlant a phobl ifanc gan swyddfa’r comisiynydd, gyda dros 7,000 o ymatebion, a hynny, felly, wrth gwrs, yn sylfaen gref iawn ar gyfer adnabod y blaenoriaethau, cynllunio rhaglen waith ac, wrth gwrs, gyrru rhai o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad.
Mae’r gwelliant cyntaf wedi’i osod yn syml iawn nid am nad wyf yn hapus i nodi adroddiad blynyddol y comisiynydd—wrth gwrs fy mod i’n hapus—ond rwyf jest ddim yn teimlo bod nodi yn ddigon. Nid yw fel pe bai’n gwneud cyfiawnder â’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Rwy’n teimlo y byddai’n fuddiol i ni anfon neges gryfach i adlewyrchu pa mor benderfynol yr ŷm ni mewn gwirionedd i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad yma.
Felly, yn ogystal â’i nodi, fel y mae’r gwelliant cyntaf yn ei awgrymu, rwy’n cynnig y dylem ni benderfynu gweithredu ar yr argymhellion hynny—ei fod yn ddatganiad clir o gefnogaeth, yn bleidlais glir o hyder yn ein comisiynydd plant a’i fod yn ddatganiad ein bod ni yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda hi a chyda phlant a phobl ifanc Cymru, drwy beidio â bodloni jest i gydnabod bod yna broblemau ond i fod yn fwy bwriadol a rhoi mwy o bwys ar ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau hynny. Ond rwyf yn clywed beth mae’r Ysgrifennydd yn ei ddweud, wrth gwrs: mi fydd y Llywodraeth yn ymateb. Rwyf jest yn teimlo y byddai’r neges sy’n mynd o fan hyn y prynhawn yma lawer yn gryfach petaem yn derbyn y gwelliant.
Wrth gwrs, rŷm ni yn croesawu’r targedau uchelgeisiol newydd ar gyfer gofal iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond fel mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae’n ddarlun anghyson iawn ar draws Cymru. Mae yna rai ardaloedd wedi llwyddo i leihau amserau yn sylweddol iawn, gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ac wedi mynd lawr o 550 yn aros i 82 o bobl ifanc eleni—y gostyngiad mwyaf dramatig, efallai, yr ŷm ni wedi ei weld yng Nghymru. Ond wedyn rŷm ni’n edrych ar y ffigurau yn rhywle fel Abertawe Bro Morgannwg, ac rŷm ni’n gweld cynnydd yn y nifer sy’n aros, i fyny i 630 o blant yn aros i gael eu gweld gan y gwasanaethau CAMHS—dros 200 ohonyn nhw, wrth gwrs, yn aros dros 14 wythnos. Mae’r ffigurau yna yn wahanol iawn i wasanaethau meddwl oedolion, lle mae’r niferoedd sy’n aros yn llawer, llawer is ymhob bwrdd iechyd. Felly, mae’r cynnydd wedi bod yn araf mewn rhai ardaloedd ac yn anghyson beth bynnag ar draws Cymru, ac rwyf yn teimlo bod angen datganiad cryfach o fwriad i weithredu i fynd i’r afael â hynny.
Mae pwysigrwydd wedyn, wrth gwrs, eiriolaeth a galluogi plant sy’n derbyn gofal i gael mynediad i eiriolwyr annibynnol yn fater allweddol, yn enwedig ers i ymchwiliad Waterhouse ganfod nad oedd neb wedi credu y rhai a oedd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn gorfforol dros ddegawdau mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, ac nad oedd neb wedi gwrando arnyn nhw, i bob pwrpas. Mi siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynghylch yr ymateb araf cychwynnol i argymhellion yr oedd e wedi eu gwneud am eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad ‘Lleisiau Coll’ a’r adroddiad a ddaeth yn sgil hynny, ‘Lleisiau Coll: Cynnydd Coll’. Mae’r angen i weithredu yr ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol i blant a phobl ifanc yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fan hyn yn y Cynulliad ar hyn o bryd. Ac rydym yn dal i aros am gadarnhad ynghylch a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i gyd-fynd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn olaf, ac mae hyn yn rhywbeth rwy wedi ei godi gyda’r Prif Weinidog cyn heddiw, nid oes gofyniad cyfreithiol i rieni i gofrestru gyda’r awdurdod lleol os ydyn nhw’n addysgu eu plentyn yn y cartref, nac unrhyw ofyniad ar awdurdodau lleol i fonitro neu archwilio’r ddarpariaeth dysgu yn y cartref chwaith. Nid yw hynny yn dderbyniol, yn fy marn i. Yn ei hadroddiad, mae’r comisiynydd yn codi’r mater yng nghyd-destun marwolaeth Dylan Seabridge. Mi gafodd e ei addysgu yn y cartref, a chafodd e ddim cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y saith mlynedd cyn iddo fe farw. Rwy’n deall y consyrn ymhlith nifer o bobl fod yna berygl i ni bardduo pawb drwy geisio mynd i’r afael â delio â’r risg yna, ond tra bod yna elfen o risg i un plentyn yng Nghymru, nid wyf yn meddwl ei fod yn or-ymateb i ni fynd ymhellach na’r hyn rydym wedi ei weld yn digwydd hyd yn hyn. Ac nid yw hi’n dderbyniol, yn fy marn i, fod y sefyllfa bresennol yn parhau. Mae angen mynd i’r afael â hyn ar fyrder.
Mae’r ail welliant, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i drosglwyddo cyfrifoldeb am y comisiynydd plant o’r Llywodraeth i’r Cynulliad. Mae hwn yn fater sydd wedi cael ei wyntyllu yn y cyd-destun yma a chyd-destun comisiynwyr eraill yn y gorffennol. Rwy’n teimlo bod y dadleuon fel y’u cyflwynwyd nhw bryd hynny yr un mor ddilys heddiw, ac rwy’n meddwl y byddai’n ddymunol iawn i’r Cynulliad gefnogi y gwelliant hwnnw. Dyna hefyd, wrth gwrs, yw barn y comisiynydd ei hun, ac mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio hynny yn y drafodaeth yma.
Diolch i chi, Weinidog, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw yn amser y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod bob amser yn ddefnyddiol iawn i ni fel Cynulliad Cenedlaethol fyfyrio ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a'r gwaith rhagorol y mae hi a'i thîm yn ei wneud ledled Cymru gyfan. Rwyf am gofnodi fy niolch iddi am ymweld â’r gogledd yn rheolaidd, gan gynnwys lleoedd yn fy etholaeth i, i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yno.
Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried yr amryfal argymhellion yn adroddiad y comisiynydd, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi tynnu sylw at nifer ohonynt yn y gwelliannau y maent wedi'u cyflwyno. Rwy’n cefnogi’n llwyr eu galwadau am fwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar ymdrin â rhai o'r amseroedd aros ofnadwy ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni hanner ffordd drwy raglen sydd i fod i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir hyn, ac eto mae’r amseroedd aros hynny yn union yr un fath ar hyn o bryd ag yr oeddynt ar ddechrau'r rhaglen. Mae rhai newidiadau wedi bod mewn rhai rhannau o'r wlad, ond, yn anffodus, maen nhw'n parhau’n rhy hir. A dweud y gwir, nid yw'n ddigon da ein bod ni'n trin ein plant a’n pobl ifanc fel dinasyddion eilradd pan ddaw i gael mynediad at rai o'r gwasanaethau pwysig iawn hyn. Mae’n fantais i mi, yn fy etholaeth i, bod gennym uned CAMHS flaenllaw yn Abergele, wrth ymyl yr ysbyty yno, ac mae'n drasiedi mawr i mi nad yw’r uned honno’n llawn—nid yw pob un o'r gwelyau yn cael eu defnyddio—ac eto mae pobl ifanc o’r gogledd yn cael eu hanfon allan o'r wlad er mwyn defnyddio gwasanaethau filltiroedd lawer i ffwrdd o’u rhwydwaith cymorth. Felly, mae angen mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r gwelliant hwnnw.
Rwy’n nodi hefyd, wrth gwrs, y sgwrs sydd wedi bod yn digwydd ynghylch marwolaeth Dylan Seabridge, ac rwy’n nodi ymateb y Llywodraeth i hynny yn gynharach eleni ac, yn wir, y sylwadau a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw am ei ddull o fwrw ymlaen â pheth o'r hyn a ddysgwyd o'r achos trasig iawn, iawn hwnnw. Credaf fod dull y Llywodraeth yn briodol yma o ran symud ymlaen yn ofalus heb neidio i gasgliad bod angen cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, heb os, yn gyfarwydd â'r ffaith bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio gan y gwasanaethau cymdeithasol na phlant ysgol neu blant o dan bump oed, ac eto hanner mor debygol o gael eu gosod ar gynllun amddiffyn plant. Felly, mae'n arwydd clir ei bod yn ymddangos bod llai o risg yn gysylltiedig â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac nid mwy o risg, sef yr hyn y mae’n ymddangos y mae Plaid Cymru yn ei honni. Felly, gadewch i ni beidio ag ymateb yn ddifeddwl. Credaf mai dull gofalus y Llywodraeth yw'r un cywir, ac ar y mater penodol hwnnw, nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cytuno ag ef o ran un o'r argymhellion a nodwyd, mewn gwirionedd, gan y comisiynydd plant.
Rydym yn gwybod hefyd, wrth gwrs, yn enwedig yn achos Dylan Seabridge, bod y teulu hwn yn hysbys i'r awdurdodau statudol; roeddynt yn hysbys i'r gweithwyr proffesiynol mewn gwahanol sefydliadau, a gwnaeth chwythwr chwiban gysylltu â'r awdurdod lleol i fynegi pryderon am y teulu, ac ni wnaeth y pethau hyn sbarduno, yn fy marn i, yr ymatebion priodol gan yr awdurdodau. Felly, nid ydym yn gwybod beth fyddai'r canlyniad pe byddai pethau wedi eu trin yn wahanol, ond rwy’n amau’n fawr iawn y byddai rhywbeth mor syml â chael cofrestr orfodol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Rwyf i hefyd yn rhannu dyhead Plaid Cymru, fodd bynnag, ynghylch yr angen i sicrhau bod y comisiynydd plant yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae gennym nifer o swyddi comisiynwyr yma yng Nghymru, erbyn hyn, yn ogystal â chorfforaethau undyn eraill, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac mae’r holl ddulliau o’u penodi yn anghyson. Ni all hynny fod yn iawn. Mae angen i ni gael mwy o gysondeb ynglŷn â’r mathau hyn o swyddi, ac felly, byddwn yn falch pe byddai’r Llywodraeth yn defnyddio dull gwahanol o benodi’r comisiynydd plant. Gwn o sgyrsiau blaenorol gyda’r Llywodraeth bod yna awydd i gael mwy o gysondeb, ond am ryw reswm, mae'n ymddangos nad oes neb yn symud ymlaen, mewn gwirionedd, i wneud unrhyw newidiadau. Felly, byddwn ni’n cefnogi gwelliant 2 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y mater hwnnw.
Ond mae'n bwysig ein bod ni’n cael y sgwrs hon. Rwy'n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae llawer o argymhellion yn y ddogfen hon. Rwyf wedi tynnu sylw at yr ychydig ohonynt y mae gennym yr amser i’w trafod y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio'n fawr y bydd ei phwerau hi hefyd, yn rhan o unrhyw adolygiad, yn cael eu hymestyn, fel bod ganddi ddannedd mwy i frathu pobl â nhw os yw’n angenrheidiol.
Roeddwn i eisiau codi dau beth sydd yn yr adroddiad ac un nad yw ynddo. Yn gyntaf, hoffwn i hefyd glywed gan y Gweinidog am y plant sydd mewn perygl pan fyddant yn cael eu haddysgu gartref, dim ond oherwydd nad ydynt yn cael eu gweld yn gyson gan wasanaethau eraill. Fel y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi, mae angen iddynt gael eu gweld gan weithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn, er mwyn iddynt allu mynegi eu barn am eu profiadau addysgol, ar wahân i unrhyw beth arall. Felly, byddwn yn pwyso ar y Gweinidog am ymateb ar y pwynt penodol hwnnw.
Un o'r pethau mwyaf pwysig a godir yn yr adroddiad blynyddol yw hawliau plant i allu cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddiogel. Rwy'n falch o weld ei bod hi wedi llunio’r adroddiad hwn am deithiau ysgol gyda Sustrans. Mae’r neges gan y plant yn gwbl glir: maent yn mwynhau cerdded, neu fynd ar sgwter neu feic i'r ysgol, ac mae bron eu hanner yn gwneud hynny, ond mae nifer craidd o blant sy'n dal i deithio i'r ysgol mewn car—43 y cant—ac mae hynny’n eithaf niweidiol i'w hiechyd, yn ogystal ag i’r amgylchedd. Felly, hoffwn weld llawer mwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gweithredu’r Ddeddf teithio llesol, gan ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ofyn i bawb yn yr ardal ynglŷn â gwella llwybrau ar gyfer teithio ar feic neu ar droed. Felly, hoffwn weld awdurdodau lleol yn gofyn i bob ysgol i fod yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun teithio llesol gyfer yr ysgol honno, fel bod plant yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, rhieni yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a gallwn fod yn weithgar yn hyrwyddo hyn fel y ffordd orau o deithio i'r ysgol, fel eu bod yn barod i ddysgu. Rwy’n credu bod awdurdodau lleol yn gwneud symiau mawr o arian o ffioedd parcio, yn sicr yn fy awdurdod lleol i, ac rwyf am weld mwy ohono yn cael ei wario ar deithio llesol.
Y peth nad yw yn yr adroddiad, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw yn yr adroddiad, yw adlewyrchiad o'r lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru. Ni yw’r wlad fwyaf ordew neu dros bwysau yn y DU, a hefyd yn Ewrop. Felly, mae gwir angen i ni boeni am hyn, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw wedi’i adlewyrchu yn argymhellion y comisiynydd plant. Mae gennym 26 y cant o blant pedair a phum mlwydd oed sy'n cyrraedd yr ysgol dros bwysau neu'n ordew, o’i gymharu â 21 y cant yn Lloegr. Mae hynny yn wael hefyd, ond y pwynt yw ein bod yn gwneud hyd yn oed yn waeth na gwledydd eraill y DU, ac mae gwir angen inni roi llawer mwy o bwyslais ar hyn.
Mae gan blant hawl i gael eu bwydo bwyd arferol, ac rwy’n ei chael yn hollol anobeithiol o weld pobl yn bwydo diodydd llawn siwgr mewn poteli i fabanod. Mae angen i ni wybod ein bod wir yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy’n gwybod bod angen i’r gwiriadau iechyd estynedig sylwi ar hyn, ond mewn gwirionedd mae angen sylwi ar hyn yn ystod y camau cynnar iawn, h.y. ar ddechrau beichiogrwydd ac yn ystod 12 mis cyntaf bywyd y plentyn. Rwy’n meddwl bod angen i ni hefyd fabwysiadu yr esiampl o Ysgol Gynradd St Ninians yn Stirling, lle mae pob plentyn yn yr ysgol gynradd hon yn rhedeg milltir bob dydd. Mae'r athrawon yn mynd â’u disgyblion allan o’r gwersi ar gylched a adeiladwyd yn arbennig o gwmpas yr ysgol am filltir yn ddyddiol, a hynny pryd bynnag sy’n gweddu orau yn yr amserlen ar gyfer y dosbarth penodol. Mae wedi bod ar waith ers dros bedair blynedd ac nid oes un plentyn yn yr ysgol honno dros ei bwysau. Pam nad ydym ni'n gwneud hyn nawr? Oherwydd, nid oes angen adnoddau ychwanegol; efallai y byddai angen addasu rhywfaint ar iard yr ysgol, ond mewn gwirionedd nid yw hyn yn costio llawer o arian, ac mae gwir angen am gamau gweithredu ar y mater hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y comisiynydd plant yn rhoi mwy o bwyslais ar y mater pwysig hwn. Mae gan blant yr hawl i dyfu i fyny yn iach, ac mae hynny'n cynnwys bwyd iach ac ymarfer corff iach.
Rwy’n llwyr gefnogi'r weledigaeth ar gyfer Cymru sydd gan Sally Holland, Comisiynydd Plant newydd Cymru, sy’n nodi y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle cyfartal i fod y gorau y gallant fod. Rydym i gyd yn dymuno hynny ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru a gweddill y DU. Ar y funud, mae'n rhy gynnar i roi barn ar p'un a yw'r swydd ei hun a'r costau cysylltiedig yn fuddiol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dim ond amser a ddengys. Fodd bynnag, yr ymateb mwyaf trawiadol fydd ymateb plant Cymru eu hunain a'u hadborth.
Roeddwn i eisiau nodi un elfen o'r adroddiad sy'n agos at fy nghalon, sef tudalen 37 a'r darn ar ymgynghoriad i gau ysgol. Ysgrifennodd disgyblion, trwy eu cyngor ysgol, at y comisiynydd yn cwyno am eu hanfodlonrwydd â'r broses ymgynghori a weithredwyd gan yr awdurdod lleol yn gysylltiedig â chynigion i gau ysgolion. Roedd y plant o’r farn bod y broses ymgynghori wedi ei chynnal yn wael, ac roeddynt o’r farn nad oedd eu lleisiau wedi'u clywed. Mae'n ymddangos, o ddarllen yr adroddiad, bod yr ysgol wedi ei chau beth bynnag, a’r mwyaf a gafodd y disgyblion o hyn oedd bod eu lleisiau wedi cael eu clywed o ran y trefniadau i drosglwyddo i'w hysgol newydd. Y cwestiwn yr hoffwn i wybod yr ateb iddo yw hwn: a yw hyn yn golygu nad yw awdurdodau lleol, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai Llafur yng Nghymru, yn gwrando ar bobl a phlant yn ardal eu cartrefi. A yw Llywodraeth Cymru yn cyfaddef yma mai trwy’r comisiynydd plant yn unig y caiff lleisiau’r disgyblion eu clywed? Os felly, mae'n hynny’n sefyllfa wael iawn.
Rwyf hefyd yn croesawu'r adroddiad hwn ac yn llongyfarch Sally Holland arno. Rwyf hefyd yn croesawu'n benodol yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa’ a gynhaliwyd, oherwydd, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, ei fod yn sylfaen gadarn iddi seilio ei hargymhellion arni. Cymerodd chwe mil o blant ran yn yr ymgynghoriad hwnnw, o dair i 18 oed, i geisio darganfod beth oedd prif bryderon plant yng Nghymru—beth yw cyflwr plant yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod y comisiynydd yn dweud yn ei hadroddiad nad y lleisiau y byddem efallai yn fwy tebygol o’u clywed yn unig y gwrandawodd arnynt ond lleisiau’r plant hynny nad ydym yn eu clywed yn aml. Rhestrodd plant digartref, rhai sy'n gadael gofal, a phlant Sipsiwn a Theithwyr. Wrth gwrs, roeddwn i o’r farn ei bod yn arbennig o dda y cafwyd 758 o ymatebion gan blant dan saith oed, oherwydd gwn mai ein pwyslais ni yn y Cynulliad hwn yw ceisio cyrraedd plant mor ifanc â phosibl, ac rwy’n meddwl bod cyrraedd y plant hynny sydd dan saith oed yn llwyddiant mawr, oherwydd rwy’n meddwl bod angen i ni ymgynghori â phlant yn ifanc iawn a chael gwybodaeth ganddyn nhw am sut y maen nhw’n teimlo am eu bywydau o'u cwmpas. Un o'r pethau diddorol, nad yw’n syndod, yw mai un o’r pethau yr oedd y plant ieuengaf yr ymgynghorwyd â nhw ei eisiau oedd mwy o leoedd i chwarae, oherwydd rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor hanfodol bwysig yw chwarae, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chanmol am ddeddfu ar gyfer chwarae. Ym 1926, dywedodd David Lloyd George:
Yr hawl i chwarae yw hawliad cyntaf plentyn ar y gymuned. Chwarae yw hyfforddiant natur ar gyfer bywyd. Ni all unrhyw gymuned ymyrryd â'r hawl hwnnw heb wneud niwed parhaol i feddyliau a chyrff ei dinasyddion.
Rwyf wir yn credu y dylem fod yn gwneud defnydd o bob cyfle sydd gennym i greu cyfleoedd i chwarae i’n plant. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr amgylchedd, yn enwedig yr amgylchedd adeiledig, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion ein plant.
O edrych ar yr arolwg yr anfonodd y comisiynydd plant allan, roedd yr arolwg yn gofyn i blant ddewis hyd at dri o’u hoff lefydd i chwarae, o restr o naw o leoedd. Mae'n ddiddorol bod 61 y cant ohonynt wedi dewis y pwll nofio yn un o'r tri o hoff lefydd i chwarae, a’r ddau arall mwyaf poblogaidd oedd parciau a thraethau. Ychydig iawn o blant mewn gwirionedd a ddewisodd y stryd fel un o'u hoff lefydd i chwarae. Credaf fod hyn yn adlewyrchu sut y mae cymdeithas wedi newid yn y bôn, ac nad yw plant yn gallu mynd y tu allan i'w drws a chwarae. Yn amlwg, rydym yn gwybod bod hynny oherwydd y twf mewn traffig, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn cymryd llawer mwy o gamau gweithredu yn ei gylch mewn gwirionedd, gan greu mannau diogel i chwarae. Rwy’n gwybod bod pethau fel strydoedd chwarae a gemau chwarae ar y stryd, mentrau chwarae ar y stryd. Ond, er mwyn cael plant i chwarae’n naturiol yn rhan o'u bywydau bob dydd, rwy’n meddwl y dylem fod yn cynnal llawer mwy o fentrau o’r math hwnnw. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gallai'r Llywodraeth ei wneud i annog mwy o gau strydoedd, gan greu lleoedd mwy diogel.
Yn bersonol, rwy’n credu y dylid cael mwy o leoedd yng nghanol y ddinas i blant chwarae. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn mewn amgylchedd trefol, ac mae'n bwysig ein bod yn cael yr adborth gan blant ar y lleoedd sydd gennym a'r hyn y maent yn ei olygu iddyn nhw. Un o bleserau mawr y swydd hon, yn fy marn i, yw cwrdd â chynghorau ysgolion pan fyddant yn dod i'r adeilad hwn ac rydym yn clywed ganddynt, o lygad y ffynnon, yn union beth yw eu barn nhw, gan fod ymgynghori â phlant a rhoi cyfle iddynt ddweud eu barn, rwy’n meddwl, wir yn gwneud iddynt sylweddoli y gallant benderfynu pethau ac y gallant newid pethau.
Rwy'n credu eu bod wedi gallu gwneud hynny trwy waith y comisiynydd plant, oherwydd rwy’n siŵr y bydd pobl yn cofio, am flynyddoedd lawer, y bu cwynion enfawr trwy adroddiadau’r comisiynydd plant am doiledau ysgol. Nawr, mae'r toiledau ysgol yr ydw i wedi ymweld â nhw erbyn hyn yn well o lawer; yn well o lawer. Nid wyf yn gwybod os yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan Aelodau eraill, ond, nawr, rwy’n credu bod angen i ni symud ymlaen at ddarpariaeth toiledau cyhoeddus sy'n addas i blant eu defnyddio ac sydd ar gael yn rhwydd, oherwydd credaf fod hynny’n sefyllfa sy'n mynd yn waeth bob dydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod toiledau cyhoeddus ar gael a bod toiledau cyhoeddus ar gael mewn llyfrgelloedd, oherwydd nid yw hynny'n digwydd ym mhob llyfrgell.
Hoffwn i orffen gydag enghraifft gwirioneddol wych lle yr ymgynghorwyd â phlant yn fy etholaeth i. Mae gennym grŵp yno o'r enw ‘Awen yn y Llyfrgell’. Mae wedi ei sefydlu i gefnogi'r celfyddydau a datblygu'r llyfrgell ar gyfer ei defnydd ehangach yn y gymuned, ac yn ddiweddar cafodd cystadleuaeth ei chynnal i blant i dynnu llun o’u llyfrgell ddelfrydol. Rwy’n meddwl bod gweld y lluniau hynny mor ysgogol ac mor ddiddorol. Gan gysylltu yn ôl at yr ymgynghoriad, mae'n ddiddorol iawn i weld bod gan lawer o'r plant—y rhan fwyaf ohonynt—byllau nofio yn y llyfrgelloedd. Roedd ganddynt ystafelloedd lle y gallent fynd i eistedd yn dawel, ac roedd ganddynt ffynhonnau soda—mae’n ymddangos eu bod eisiau dod â holl bleserau eu bywyd i mewn i'r llyfrgelloedd. Roeddwn i'n meddwl bod hynny’n adlewyrchiad diddorol iawn o ba mor bwysig yw llyfrgelloedd iddyn nhw a sut y maent yn dymuno iddynt gael eu hymestyn. Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, a gaf i ymuno â phawb arall i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru a'i staff am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr i ni? Unwaith eto, fel eraill, dylid ei chanmol, rwy’n credu, am yr ymgynghoriad ar raddfa eang a gynhaliwyd ganddi hi a'i staff, ar ôl iddi gyfarfod â’r miloedd o blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol hynny.
Mae'r adroddiad yn ymdrin â sawl maes pwysig, ac mae eraill wedi ymdrin â hynny, mewn gwirionedd, felly rwyf am godi dau faes, os yw’n iawn i mi wneud hynny. Yn gyntaf, mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad am lefel y pryder am y drefn bresennol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhywbeth yn sicr sydd wedi ei godi gyda mi gan rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, sy'n dweud wrthyf am eu brwydr i gael y cymorth cywir ar gyfer eu plentyn. Ac, yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd o dros 6,000 yn nifer y plant ag AAA ers 2011 a, dim ond ym Merthyr, mae 2,500 o blant ag AAA, bron i 200 ohonynt â datganiadau. Felly, roeddwn yn falch iawn, ym mis Gorffennaf eleni, pan ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y bydd Bil anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg newydd yn cael ei gyflwyno cyn y Nadolig, sy’n gam sylweddol tuag at fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gan y comisiynydd plant, wrth ein symud ni tuag at ddull mwy modern, amlasiantaeth, o ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ail, o ystyried yr heriau economaidd a wynebir o hyd mewn llawer o etholaethau, fel fy un fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, roedd gennyf ddiddordeb yng nghasgliadau'r adroddiad ar dlodi plant, a gallwn dreulio llawer mwy o amser na'r ychydig funudau sydd gen i yn y ddadl hon y prynhawn yma yn siarad am y mater penodol hwnnw, ond rwy'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod nad yw trechu tlodi plant yn fater o rieni yn sicrhau cyflogaeth yn unig. Rydym yn gwybod bod llawer o ddynion a menywod sy’n gweithio’n galed yn gorfod ymdopi’n ddyddiol â chystudd tlodi mewn gwaith, fel yr amlinellwyd yn gynharach gan Julie James yn ei datganiad. Mae teuluoedd â phlant yn parhau i wynebu toriadau niweidiol i gymorth lles a orfodir gan y Torïaid yn San Steffan, gan eu cadw mewn tlodi er gwaethaf y ffaith eu bod yn aml mewn cyflogaeth lawn-amser. Mae'r camau enfawr a wnaethpwyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf i leihau tlodi plant wedi eu gwrthdroi, wrth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas barhau i ddioddef mesurau caledi, sy’n taro’r tlotaf galetaf. Mae tlodi mewn gwaith, felly, yn sicr yn thema yr wyf i wedi bod yn canolbwyntio arno yn fy etholaeth i ac, ym maes cyflogaeth, gan bwysleisio'r angen i sicrhau, os bydd swyddi newydd yn dod i ardal, eu bod yn talu'n dda, nad ydynt ar gontractau dim oriau, a’u bod yn cael eu darparu gan gwmnïau sydd wedi ymrwymo i ddod yn rhan gynaliadwy o'r gymuned leol, ac sydd bellach yn gallu cysylltu â'r rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’ gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant lleol i ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant y mae eu hangen ar gyflogwyr. Oherwydd mae rhieni sydd mewn cyflogaeth fedrus, ddiogel, hirdymor yn elfen hanfodol wrth godi plant allan o dlodi.
Rwyf hefyd yn obeithiol y bydd yr ymrwymiad o'r newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf gyda fframwaith trechu tlodi mwy hyblyg ac ymagwedd gydlynol yn y gymuned i drechu tlodi plant, drwy gyflogaeth foddhaol, gynaliadwy, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny’n angenrheidiol, yn dechrau mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan y comisiynydd, oherwydd, a dweud y gwir, ni allwn ganiatáu i’n hunain fethu’r genhedlaeth hon o blant.
Rwy’n siarad yn y ddadl hon heddiw yn fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, awgrymodd y pwyllgor yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylem ystyried archwilio materion ynghylch penodiad ac atebolrwydd comisiynwyr. Fe wnaeth hyn oherwydd ei fod yn gweld y rhain fel materion o egwyddor gyfansoddiadol. Yn dilyn ein hadroddiad ar Fil Cymru, rydym wedi dechrau mynd i’r afael â’n blaenraglen waith, ac, fel rhan o’r broses honno, rydym wedi bod yn ystyried ymgymryd â pheth gwaith ynghylch penodiad ac atebolrwydd comisiynwyr. Fel cam gyntaf o’r broses honno, fe gafwyd cyfarfod anffurfiol a chynhyrchiol ddoe gyda rhai arbenigwyr yn y maes. Er nad ydym eto wedi datblygu ein syniadau yn llawn ar y materion hyn, roeddwn yn meddwl ei bod yn briodol tynnu sylw’r Cynulliad at y tebygolrwydd y bydd y pwyllgor yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn. Gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Busnes, rwy’n bwriadu gwneud datganiad pwyllgor yn ei dro ar y ffordd yr ydym wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ar yr adroddiad heddiw. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu gwaith rhagorol y comisiynydd a'i swyddfa, ac yn codi materion ymarferol pwysig sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc. Gwrandewais yn astud iawn ar gyfraniadau’r Aelodau yma y prynhawn yma.
Rwy’n parhau i weithio'n agos gyda'r comisiynydd i sicrhau y cynigir eiriolaeth yn weithredol i bob plentyn. Mae'r cynnig hwn yn flaenoriaeth yn y cynllun gweithredu ar gyfer dull cenedlaethol o eirioli, ac rwy'n ymwybodol bod Llyr ac eraill wedi codi’r mater penodol hwnnw. Mae ein rhaglen o ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys ystod o ymrwymiadau a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni amcanion ein strategaeth tlodi plant. Gwnaeth Dawn Bowden gyfeiriadau cryf at yr effaith y mae tlodi mewn gwaith yn ei gael, yn arbennig ar deuluoedd a phobl ifanc. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono, ac rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda Ken Skates, y Gweinidog arweiniol, yn arbennig. Mae trechu tlodi yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol ohono o ran ein hymrwymiadau maniffesto ar swyddi, twf a chyfle.
Mae'r comisiynydd wedi croesawu ein hymrwymiad i ddarparu amddiffyniad cyfartal i blant. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn ailddatgan ein bwriad i fwrw ymlaen â deddfwriaeth ar sail drawsbleidiol a fydd yn cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae angen i ni helpu rhieni gan gynnig ffyrdd iddynt fod y gorau un y gallant ar gyfer eu plant. Gwnaeth Jenny grybwyll y mater o dyfu i fyny yn iach, a rhan o'r rhaglen honno yw annog rhieni i fod yn rhieni da fel y gallant roi dechrau da mewn bywyd i'w plant ifanc.
Hoffwn gyfeirio at rai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u codi ac mae ganddynt farn gref arnynt yma heddiw. Byddaf yn ceisio ymateb i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau hynny, os caf. O ran y mater cyntaf, soniodd Darren Millar am gofrestru addysgu yn y cartref, yn ogystal â Llyr, ac roedd eu safbwyntiau yn gwrthwynebu ei gilydd ychydig, ond yr un egwyddor, rwy’n meddwl, sydd y tu ôl i sylwadau'r ddau Aelod, sef amddiffyn pobl ifanc, ac rwy'n credu mai dyna y mae’n rhaid i ni fod yn ystyriol ohono. Mae Kirsty Williams a minnau yn trafod sut y gallai edrych yn y dyfodol, ond, yn y pen draw, y peth pwysig i ni i gyd yw diogelu’r unigolyn. Rwy'n credu mai dyna ddylai lywio ein proses o wneud penderfyniadau, ond rwyf yn cydnabod bod hefyd lawer o dystiolaeth o’r naill ochr a gyflwynir i ni ac i Aelodau, o ran gwneud penderfyniadau tymor hwy.
A gaf i godi mater y gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc? Unwaith eto, rwy’n credu ein bod wedi cymryd camau breision o ran cyflenwi. Soniodd Darren Millar am yr uned yn ei etholaeth ef, uned flaenllaw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am godi'r mater hwnnw yma heddiw, gan gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yno. Ond rwy'n credu mai’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud hefyd yw troi’r telesgop y ffordd arall, mewn gwirionedd, gan fod trin iechyd meddwl yn ffaith, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny, a pharhau i wneud hynny, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw atal pobl ifanc rhag dioddef problemau iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Dechrau'r daith honno yw’r pethau y siaradodd Jenny amdanynt—lles unigolyn, gydag ymagwedd gynhwysfawr tuag at lwyddiant, mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod fel nad ydym yn syrthio i mewn i’r fagl honno o wasanaethau iechyd meddwl yn nes ymlaen. Mae ymateb i’r broblem yn llawer anoddach bryd hynny. A dweud y gwir, yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw atal y cyflenwad, eu hatal rhag dod i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Dyna pam mai dull y Llywodraeth o ymdrin ag iechyd a lles yw atal ac ymyrryd yn gynnar. Rwy'n sicr mai hwn yw’r peth iawn i'w wneud. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau yn y system CAMHS, ond rydym yn ymdrechu i gyflawni hynny.
Cyfeiriodd Darren Millar at annibyniaeth y comisiynydd a chomisiynwyr, a byddai'n anghywir i ddweud nad oes gan y Cynulliad swyddogaeth yn hyn, gan fod gweithdrefnau craffu a galw i mewn pwyllgorau yn gyfredol, a gall Aelodau alw y comisiynydd i graffu ar y broses honno yn annibynnol o’r Llywodraeth. Felly nid wyf yn cydnabod y mater ynghylch cyfaddawdu comisiynwyr a'u gallu i fod yn annibynnol. Mae gan y Cynulliad swyddogaeth gref yn hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy’n ymwybodol o'r amser, gwnaf, os caf.
Y mater o sicrhau ein bod yn edrych ar bobl ifanc drwy eu ffordd o fyw a sut y maent yn tyfu i fyny: Jenny, byddwch yn gyfarwydd, gobeithio, â’r prosiect 1000 o ddyddiau yr ydym yn ei redeg yn rhan o rai o'r rhaglenni, lle byddwn yn edrych ar y cyfnod cyn yr enedigaeth hyd at ddwy flwydd oed—rhaglen lwyddiannus iawn, unwaith eto, yn edrych ar y cyfleoedd a sut y mae'r ymennydd yn ffurfio mewn person ifanc yn y cyfnod hynny o ddwy flynedd; mae'n un pwysig iawn.
O ran y filltir ddyddiol, y gwnaethoch sôn amdani, mewn ysgolion, gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ysgolion. Rwy’n datgan buddiant, nid o ran gwneud y filltir ddyddiol, ond mae fy ngwraig yn ysgol Bryn Deva yn Sir y Fflint, sy'n gwneud hynny bob dydd. Felly, dylid eu llongyfarch, ac mae llawer o ysgolion eraill ledled Cymru yn cyfrannu at les ein pobl ifanc.
O ran pwynt Michelle Brown. Rwyf ychydig yn siomedig â’i sylwadau hi o ran ceisio awgrymu nad ydym yn gwrando ar bobl, ac yn benodol nad ydym yn gwrando ar bobl ifanc. Rwy’n atgoffa'r Aelod mai’r Llywodraeth hon a gyflwynodd y comisiynydd plant a’r Llywodraeth hon a gyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw bregeth gan yr Aelod ar hyn. Y peth mwyaf niweidiol yr wyf yn credu y mae’n rhaid i ni ei ystyried gyda'n plant yw ein hymagwedd tuag at Brexit a'r sylwadau hiliol a nodwyd gan ei phlaid ynglŷn â phobl ifanc yn y cymunedau yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli. Dyna'r broblem go iawn sydd gennym ar gyfer ein pobl ifanc.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau, fel y crybwyllais yn gynharach, ar y sail y byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i adroddiad y comisiynydd ac yn cyd-drafod y cynnwys dros yr ychydig wythnosau nesaf, drwy raglen ymgynghori. Rwy'n ddiolchgar am y rhan fwyaf o sylwadau’r Aelodau, ac rwyf hefyd yn dymuno cofnodi’r ffaith bod y Llywodraeth hon yn llongyfarch y comisiynydd a'i swyddfa.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni’n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 1 ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru, y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid, wyth, yn ymatal, neb, 35 yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 8, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6136.
Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid, 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 18, Yn erbyn 25, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6136.
Rydw i’n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid, 43, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn..
Derbyniwyd cynnig NDM6136: O blaid 43, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6136.
Dyna ddiwedd y trafodion am y diwrnod heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:33.