Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a’r cwestiwn cyntaf, Paul Davies.

Addysg Uwchradd yn Sir Benfro

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu addysg uwchradd yn Sir Benfro? OAQ(5)0036(EDU)

Diolch yn fawr, Paul. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu eu gwasanaethau addysg, gan gydbwyso anghenion a gofynion lleol. Wrth argymell newid, mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cod trefniadaeth ysgolion statudol.

Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod nifer o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal ynglŷn â’r ddarpariaeth uwchradd yn Hwlffordd dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, sydd wedi oedi’r broses o wella addysg i blant a phobl ifanc. Mae’n bwysig yn awr fod Cyngor Sir Penfro yn dechrau cyflawni, gan fod y nifer hon o ymgynghoriadau, sydd wedi arwain at oedi enfawr, wedi bod yn niweidiol i ddyfodol plant yn yr ardal. Felly, o dan yr amgylchiadau, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i sicrhau nad oes unrhyw oedi pellach, a’n bod yn gweld ysgol cyfrwng Saesneg 11 i 19 oed yn cael ei sefydlu yn Hwlffordd cyn gynted ag y bo modd?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Paul, ac am y pwyntiau a wnewch am bwysigrwydd sicrhau newid yn Sir Benfro, er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant a phobl ifanc yn eich etholaeth. Os ceir newidiadau, fe fyddwch yn ymwybodol fod yna bosibilrwydd y bydd rhai o’r newidiadau hynny’n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi benderfynu yn eu cylch. Felly, ni fyddai’n iawn i mi wneud sylwadau ar rinweddau unrhyw argymhellion.

Fel y dywedais, rwy’n disgwyl i gynghorau gydymffurfio â’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod arnynt gan y cod trefniadaeth ysgolion. Rwy’n bwriadu ymgynghori ar gadernid y cod yn ddiweddarach y mis nesaf. Ond rwy’n awyddus i sicrhau bod pob awdurdod yn manteisio ar yr £1.4 biliwn sydd ar gael yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ddarparu cyfleusterau cyfoes o’r radd flaenaf y gwyddom eu bod yn effeithio’n enfawr ar yr addysg y mae’r athrawon sy’n addysgu yn yr adeiladau hynny yn ei darparu, a’r plant sy’n cael eu haddysg ynddynt.

Rwyf eisiau gofyn y cwestiwn yn Gymraeg. A oes gan y Gweinidog unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r sylw a glywais i yn ddiweddar bod ysgolion sydd yn cynnig addysg dim ond o 11 i 16 oed—hynny yw, lefel TGAU—yn gwneud yn well yn gyffredinol nag ysgolion sydd yn cynnig addysg i blant o 11 i 18? A oes yna unrhyw wirionedd yn y sylw yna?

Diolch i chi am y sylw hwnnw. Mae rhai o’n hysgolion mwyaf llwyddiannus yn ysgolion 11 i 16 oed, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw astudiaeth gynhwysfawr sy’n edrych ar ganlyniadau cymharol ysgolion sy’n cynnig cwricwlwm 11 i 16 oed, neu 11 i 18 oed. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod awdurdodau lleol yn ystyried nodweddion unigryw yr ardal lle y maent yn darparu addysg. Rydym yn gweld amrywiaeth eang o ysgolion, fel y dywedais, yn gweithio ar draws 11 i 16 oed, 11 i 18 oed, ac yn gynyddol, gwelwn ysgolion pob oed yn cael eu datblygu, lle y caiff plant eu haddysgu drwy gydol eu taith addysgol ar un safle penodol. Cefais y pleser mawr yn ddiweddar o ymuno â’r Llywydd i agor ysgol o’r fath yn Llandysul. Bydd yn ddiddorol gallu cymharu canlyniadau’r modelau gwahanol hyn, fel y gallwn ddysgu beth sy’n gweithio orau. Ond bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn ar gyfer eu poblogaeth leol.

Mae’r ddau gwestiwn yn creu penbleth diddorol, rwy’n credu—y saga sydd wedi digwydd yn Hwlffordd, a chwestiwn Eluned Morgan. Ac mae’n dasg anodd, oherwydd yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yn awr yn Sir Benfro yw ein bod yn debygol o gael rhai ysgolion 11 i 16 oed, rhai ysgolion â chweched dosbarth, a rhywfaint o ddarpariaeth mewn coleg addysg bellach, ond mewn darpariaeth chweched dosbarth ar wahân yn y coleg addysg bellach hwnnw. Ac mae’n ymddangos bod gennym ymagwedd dameidiog mewn cenedl fach o 3 miliwn o bobl, gan ganiatáu’r atebion lleol hyn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn wych, ond a ydynt mewn gwirionedd yn sicrhau’r safonau addysgol uchaf? A dyna ble y daw Llywodraeth Cymru i mewn i bethau. Felly, a yw hi wedi gallu ffurfio barn eto ai dull campws ysgol, neu ddull coleg addysg bellach yw’r ffordd orau o ddarparu addysg ôl-16?

Nid wyf yn ystyried mai fy ngwaith i, na gwaith Llywodraeth Cymru yn wir, yw dweud wrth gymunedau unigol sut ysgolion ddylai fod yn y cymunedau hynny. Rwy’n credu mai awdurdodau addysg lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu, mewn ymgynghoriad â rhieni, athrawon, disgyblion, a’u poblogaethau lleol ynglŷn â’r mathau o ysgolion sy’n gweddu orau iddynt hwy. Gwyddom fod rhai o’n hysgolion sy’n perfformio orau yn ysgolion 11 i 16 oed. Gwyddom fod ysgolion eraill sydd â chweched dosbarth hefyd yn perfformio’n dda. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb, hyd yn oed mewn cenedl fach, ac rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn pennu’r disgwyliadau sydd gennym ar gyfer pob ysgol, sef rhagoriaeth i bob disgybl a gwella safonau, ond o ran natur ysgolion unigol, mae’n well gadael i boblogaethau lleol benderfynu beth sy’n gweddu orau i’w cymunedau ac nid oes arnaf eisiau dweud wrth y cymunedau hynny beth i’w wneud o’r canol.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targedau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(5)0040(EDU)[W]

Mae angen inni weld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg os ydym am gyflawni’n targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y fersiwn derfynol o strategaeth y Gymraeg yn cynnwys targedau i fesur canlyniadau a chyflawniad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Diolch i’r Gweinidog am yr ateb, ac rwy’n cytuno gyda phob gair. Mae’n amhosib i gyrraedd y targed rydym ni i gyd yn dymuno’i weld heb fod yna gynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg. Hyd yma, nid oes cyswllt wedi bod rhwng y targedau sydd tu fewn i’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a’r strategaeth genedlaethol a oedd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. A yw’n ddymuniad ac yn fwriad felly gan y Gweinidog i briodi’r ddau yna yn un targed cenedlaethol, sydd wedyn yn cael ei rannu a’i ddosbarthu yn lleol? A beth mae e am ei wneud o ran y dadleuon anodd ond pwysig ym mhob cymuned nawr sydd yn wynebu troi addysg sy’n cael ei weld yn gyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae’r cam ymlaen, wrth gwr, yn mynd i fod o fudd i addysg yn y Gymraeg a’r Saesneg i’r cymunedau hynny?

Mi wnaf i barhau’r awyrgylch o gytundeb y prynhawn yma trwy gytuno â’r dadansoddiad yn y cwestiwn. Mae’n bwysig ein bod ni yn sicrhau targedau sydd yn gyraeddadwy ond hefyd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targed uwch ar gyfer Cymru gyfan. Rwy’n disgwyl cynlluniau addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr eleni, a fydd yn dangos sut mae awdurdodau lleol yn disgwyl cyrraedd eu targedau nhw yn ystod y pum mlynedd nesaf. A byddaf i’n sicr o edrych ar y rhain ac yn sicrhau eu bod nhw yn dargedau uchelgeisiol a’u bod nhw’n ein helpu ni i gyrraedd ein targedau cenedlaethol ni. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi strategaeth y Gymraeg yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, mi fydd yna dargedau cenedlaethol a bydd cyswllt cryf rhwng y targedau cenedlaethol a thargedau pob awdurdod lleol. So, ydw, rydw i yn gweld y cyswllt. Mae’r cyswllt yn hynod o bwysig, a bydd y cyswllt yn rhan bwysig o’r cynllun ar gyfer y dyfodol.

A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch ardal Castell-nedd Port Talbot, lle rydym yn gweld twf yn nifer y plant sydd eisiau mynd i ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg? A wnaiff groesawu’r ffaith hefyd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod hyn ac yn adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields? A wnaiff weithio gyda’i gyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd i sicrhau cludiant i’r ysgolion hynny fel bod modd i deuluoedd yn ardaloedd y Cymoedd deithio i’r ysgol yn ddiogel?

Gwnaf, yn bendant. Rwy’n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr am ymuno i groesawu’r datblygiadau rydym yn eu gweld ac mae’r datblygiadau yn yr etholaeth yn sicr i’w croesawu, fel y maent mewn mannau eraill. Ond mae galluogi plant a phobl ifanc i fynychu’r sefydliadau addysgol hyn yn gwbl hanfodol. Nid oes pwynt agor drysau os nad oes modd i fyfyrwyr gyrraedd yno. Felly, byddwn yn sicrhau, a byddwn yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau bod gennym bolisi cynhwysfawr a chyfannol sy’n cynnig darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a thwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ond sydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg ar ba lefel bynnag.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £1.6 miliwn yn y cynllun sabothol i alluogi athrawon i ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi denu llai na 250 o athrawon. Beth oedd y targed? Yn gyffredinol, a ydy’r cost o £6,400 fesul athro yn werth da am arian, ac a oes unrhyw un o’r athrawon hynny wedi symud i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Mae’r cynlluniau datblygu’r gweithlu wedi bod yn llwyddiannus yn y maes addysg, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi yn y maes addysg i sicrhau bod y llwyddiant yn parhau a’n bod ni’n gallu adeiladu ar y sylfaen sydd gennym ni. Mae gennym ni, fel yr oeddwn yn ei drafod gyda’r Aelod yn y pwyllgor y bore yma, gytundeb yn y gyllideb ar hyn o bryd a byddwn ni’n parhau i drafod sut rydym ni’n gweithredu’r cytundeb yn y gyllideb i weld sut ydym ni’n datblygu Cymraeg i oedolion, a hefyd i ddatblygu’r Gymraeg yn y gweithlu, sy’n cynnwys y gweithlu addysg, lle rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg, ac mae hynny’n meddwl gwneud yn sicr bod gennym ni ddigon o athrawon sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rydym ni’n symud yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.

Diolch i chi, Lywydd. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru ganolbwyntio ar addysg dechnegol a galwedigaethol heb gael eu dargyfeirio gan bynciau nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o bosibl?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Michelle. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar y gwaith uchelgeisiol o ddiwygio ein cwricwlwm cenedlaethol, yn seiliedig ar argymhellion yr Athro Donaldson, a fydd yn darparu ar gyfer ystod eang o brofiadau addysgol i bob un o’n plant, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi i chwarae rhan lawn yn ein byd gwaith modern.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ysgolion yn y sector preifat a’r sector annibynnol yn cyflawni canlyniadau gwell na rhai yn sectorau’r wladwriaeth. A ydych yn ceisio dysgu o arferion gorau yn y sector preifat a’r sector annibynnol?

Hoffwn wybod ar ba sail y mae’r llefarydd ar ran UKIP yn gwneud sylw mor ysgubol am y gymhariaeth â chyflawniad ein hathrawon a’n disgyblion gweithgar yn sector y wladwriaeth. Lywydd, hoffwn sôn am sgwrs a gefais yr haf hwn â rhiant a oedd yn dathlu llwyddiant y canlyniadau TGAU yn hen Ysgol Uwchradd John Beddoes—ysgol a oedd wedi cael ei gwneud yn destun mesurau arbennig ac sydd bellach yn rhan o gydweithrediad y Drenewydd—yn dathlu’r ffaith fod eu canlyniadau TGAU yn well na rhai’r ysgol breifat gyfagos yn Lucton.

Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i asesu a yw diwygiadau addysgol Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn. Rwy’n credu bod hwn yn syniad da, ond onid yw’n gyfaddefiad, ar ôl 17 mlynedd, fod Llywodraeth Cymru mewn dyfroedd dyfnion mewn perthynas â pholisi addysg?

Hoffwn atgoffa’r Aelod UKIP nad wyf wedi bod yn Ysgrifennydd y Cabinet ers 17 mlynedd, ond nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon, hyd yn oed y rhai ohonom a fu yma ers y dechrau, yn cytuno bod addysg yng Nghymru lle byddem eisiau iddi fod. Rydym yn gallu gwneud yn well, ac mae’n rhaid i ni wneud yn well. Nid yw fy ngwahoddiad i ofyn i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd brofi’r cynigion sydd gennyf ar gyfer codi safonau yn ysgolion Cymru yn gyfaddefiad o fethiant; mae’n gyfaddefiad o hyder fy mod yn credu ein bod ar y trywydd cywir a bod pethau’n gwella yn y byd addysg yng Nghymru, ond rwyf am brofi hynny yn erbyn y safonau rhyngwladol gorau.

Diolch, Lywydd. Mae Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig wedi sôn am fwriad ei Llywodraeth i leihau nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig trwy gyflwyno amryw o gyfyngiadau newydd. O gydnabod pwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion ac, yn wir, economi ehangach Cymru, a gaf fi ofyn pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y fath newidiadau ar Gymru ac, yn arbennig efallai, y cynnig i gysylltu cais ar gyfer fisa myfyrwyr gydag ansawdd y sefydliad y maen nhw’n gwneud cais amdano—rhywbeth y mae rhai arweinyddion prifysgolion Cymru wedi’i ddisgrifio fel ergyd cwbl ddinistriol?

A gaf fi ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am dynnu sylw at fater pwysig a difrifol iawn i’n sefydliadau addysg uwch? Rwy’n gresynu’n fawr iawn at y datganiadau gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â myfyrwyr rhyngwladol. Mae arolygon cyhoeddus yn dangos bod y cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn ychwanegiad at gymdeithas y DU sydd i’w groesawu’n fawr. Rydym wedi mynd ati’n gyflym iawn i sicrhau y gallwn ddarparu eglurder ar gyfer myfyrwyr o’r UE yn arbennig, a oedd yn bwriadu dod i astudio yng Nghymru. Mae croeso mawr iddynt ac rwy’n bryderus iawn y bydd effaith unrhyw bolisi mewnfudo ar lefel y DU yn effeithio ar addysg uwch. Rwy’n arbennig o bryderus fod Llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno cynllun peilot mewn perthynas â fisas ar gyfer Caerfaddon, Caergrawnt, Rhydychen a Llundain heb unrhyw ymgynghoriad â ni fel Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban, ac rwy’n parhau i godi’r pwynt hwn gyda fy Aelod cyfatebol yn Llywodraeth San Steffan, Jo Johnson. Byddaf yn cyfarfod â Mr Johnson yn fuan i drafod fy mhryderon.

Diolch i chi am eich ateb cynhwysfawr, ac rydw i’n falch o glywed bod yna gyfarfod i ddigwydd, oherwydd mae’r fath datganiadau ag yr ŷm ni wedi’u clywed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i danseilio statws y Deyrnas Unedig, ac, wrth gwrs, Cymru, yn sgil hynny, o safbwynt bod yn gyrchfan ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, ac ŷm ni wedi gweld, wrth gwrs, gydag ystadegau UCAS yr wythnos diwethaf ar geisiadau cynnar ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, fod yna draean o gwymp wedi bod, o safbwynt prifysgolion yng Nghymru, o safbwynt myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd, ac 11 y cant o gwymp o ran myfyrwyr rhyngwladol. Nawr, rŷch chi’n dweud bod yna gyfarfod yn digwydd, wrth gwrs, ond liciwn i wybod yn fwy pa gamau rhagweithiol rŷch chi yn eu cymryd i adfer ac i ategu enw da Cymru a’n prifysgolion ni yma yng Nghymru fel cyrchfan ar gyfer myfyrwyr. Pa raglenni rŷch chi yn eu cyflwyno er mwyn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan yn wyneb y datganiadau yma o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

Diolch. O ganlyniad i’r bleidlais i adael yr UE, fe fyddwch yn gwybod, Llyr, fy mod wedi sefydlu gweithgor addysg uwch ac addysg bellach i roi cyngor i mi ar effaith gadael yr UE. Gwyddom fod niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n tueddu i fynd i bob sefydliad ychydig yn wahanol, ac felly bydd y lleihad posibl yn niferoedd y myfyrwyr yn effeithio ar sefydliadau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r grŵp hwnnw’n edrych ar hyn o bryd i weld pa gynlluniau rhagweithiol y gallwn eu rhoi ar waith, nid yn unig i barhau i ddatblygu perthynas gyda myfyrwyr yr UE, ond hefyd i edrych ar farchnadoedd nad ydym wedi ceisio marchnata ein prifysgolion iddynt yn y gorffennol o bosibl. Rydym yn cael sylw da yn aml yn y dwyrain pell, ond nid yw’r farchnad yng Ngogledd America, er enghraifft, yn un y mae’r sefydliadau wedi mynd ar ei thrywydd yn arbennig, ac mae angen i ni geisio gwneud mwy. Rydym yn gweithio gyda Prifysgolion Cymru a phrifysgolion unigol i weld beth y gallwn ei wneud i gefnogi mentrau i farchnata ein hunain ar draws y byd gan fod gennym y fath gynnig addysg uwch gwych i fyfyrwyr rhyngwladol.

Diolch i chi unwaith eto, ac mae’n amlwg fod eich barn yn eithaf diamwys, ond rhaid i mi ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar symudiad rhydd pobl wedi bod yn hynod o anghyson, wrth gwrs. Rydym yn gwybod ei fod wedi’i hepgor o egwyddorion y Llywodraeth ar gyfer gadael yr UE dros doriad yr haf. Ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog wrthym fod mater symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio, ac erbyn 25 Medi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wrth y BBC

ni allwn gynnal symudiad rhydd pobl.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae symudiad rhydd yn un o saith maes allweddol cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Prydain yn Ewrop, felly efallai y gallech egluro i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno gydag arweinydd eich plaid ar hyn, neu a ydych yn cytuno ag arweinydd eich Llywodraeth.

Y rhai rwy’n cytuno â hwy, Llyr, yw’r prifysgolion ar draws Cymru sy’n dweud wrthyf fod myfyrwyr rhyngwladol yn rhan bwysig o ddyfodol llwyddiannus ehangach y sector addysg uwch yng Nghymru. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i ddiogelu buddiannau prifysgolion Cymru, ac i beidio â llesteirio’u gallu i ddenu myfyrwyr naill ai o’r UE neu o’r byd ehangach. Mae gennym gynnig ardderchog. Maent yn cyfrannu llawer at ein sector prifysgolion, fel y mae darlithwyr rhyngwladol sy’n dod i weithio yn ein sefydliadau. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau nad yw’r adnodd pwysig hwn yn cael ei lesteirio gan benderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth yn San Steffan.

Diolch eto, Lywydd. Mae Mudiad Meithrin wedi colli £470,000 y llynedd, ac yn mynd i gau’i ‘crèche’ yng nghanolfan yr Hen Llyfrgell yng Nghaerdydd oherwydd diffyg diddordeb yn y gwasanaeth. Ar yr un pryd, rwy’n clywed wrth staff y cylchoedd eu hunain eu bod nhw wedi ennill llai na’r cyflog byw yn ymarferol oherwydd na allant gwblhau eu holl waith paratoi, clirio a gwaith gweinyddol cyffredinol o fewn yr amser maent yn cael eu talu. Mae Mudiad Meithrin yn rhan sylfaenol o’r strwythur i ddatblygu defnydd y Gymraeg a hyrwyddo addysg Gymraeg. A yw’r broblem yn fodel ariannol gwael, neu a oes angen i chi edrych yn agosach ar hyn i weld beth sydd wedi mynd o’i le?

Rwy’n gweld ac yn clywed y pwyntiau mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi eu gwneud. Os oes gyda hi dystiolaeth, wrth gwrs, nad yw pobl yn cael y cyflog y dylen nhw fod yn ei gael, mae’n rhydd i ysgrifennu ataf i gyda’r manylion am hynny, a byddaf i’n hapus i ateb hynny. Ond, yn fwy cyffredinol, mae Mudiad Meithrin yn rhan, fel rydych chi wedi ei awgrymu, bwysig o’n cynlluniau ni i ehangu ar ac yn datblygu darpariaeth Gymraeg ar gyfer plant blynyddoedd cynnar, ac mae gyda ni hyder y gall y Mudiad Meithrin barhau i fod yn bartner i Lywodraeth Cymru.

Wel, rydw i’n fwy na falch o glywed hynny, ac, wrth gwrs, hefyd, rŷm ni’n rhannu eich nod i ddatblygu defnydd y Gymraeg mewn bywyd bob dydd, hyd yn oed mewn ardaloedd di-Gymraeg. Mae cyn-weithwraig Mudiad Meithrin wedi agor siop lyfrau ddwyieithog ym marchnad dan do Caerffili, lle mae hi’n gobeithio datblygu boreau coffi, clybiau ar ôl ysgol, a sesiynau darllen i annog defnydd lleol yr iaith Gymraeg. Mae’r stryd fawr yn lle delfrydol i bwnio pobl i ddefnyddio eu sgiliau cudd yn y Gymraeg, hyd yn oed os ŷm ni’n eu defnyddio nhw yn wael. Dyna’r egwyddor y tu ôl i’n menter ni, Tipyn Bach, Tipyn Mwy, sy’n cael ei gyflwyno yn araf yn fy rhanbarth gyda chymorth gan y fenter iaith leol. Faint o arian ychwanegol yn y gyllideb ddrafft sy’n mynd i gael ei ddefnyddio i sicrhau dyfodol a chael y canlyniadau gorau gan Mudiad Meithrin a’r mentrau iaith hefyd?

Rydym ni’n ystyried ar hyn o bryd sut yr ydym ni yn mynd i rannu’r arian ar gyfer y dyfodol, ond rydw i’n cytuno gyda’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Mae hybu defnydd y Gymraeg yr un mor bwysig â hybu dysgu’r Gymraeg. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni’n cydweithio â’r mentrau iaith i sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd i ddefnyddio a siarad a gwella eu Cymraeg nhw, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg yn iaith y stryd fel y cyfryw. Hefyd, rydym ni eisiau gweld Mudiad Meithrin yn gallu darparu cyfleoedd a darpariaeth ar gyfer plant sydd eisiau cael darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, lle bynnag mae hynny’n bosibl.

Mae’n rhaid i ni ffeindio cydbwysedd rhwng dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedyn defnydd y Gymraeg. Mae defnydd y Gymraeg yn rhywbeth nad ydym ni, siŵr o fod, wedi’i drafod digon yn ddiweddar, ond mae’n bendant yn mynd i fod yn rhan allweddol a chanolog o’r strategaeth y byddwn ni’n ei chyhoeddi ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Diolch am yr ateb hwnnw hefyd, ond nid wyf cweit yn glir faint o arian fydd yn dod i’r ddau sefydliad yna. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ar hynny.

Making the case for Welsh-language skills being an advantage in the economy is also an aim we share. Small Business Saturday is a month away, and, while promoting it to businesses in Swansea last week, both customers and staff indicated, rather cautiously in some cases, a willingness to use Welsh more in their business. The Welsh Language Commissioner’s report, which we were talking about earlier today, states that at least 10 per cent of all Welsh speakers over the age of 30 learned the language outside formal education or the home. So, I’m wondering how organisations such as the Federation of Small Businesses and chambers of trade can use their business links to help you reach your target of 1 million speakers through the business community.

Gobeithiaf y byddant yn gallu ein helpu i wneud hynny. O ran eich cwestiwn cynharach, nid ydym wedi cyrraedd penderfyniadau terfynol ar rai o’r materion hynny. Mae’r materion hynny’n dal i gael eu trafod o fewn y Llywodraeth. Ymrwymais i ysgrifennu at y pwyllgor pan fyddwn wedi cwblhau’r trafodaethau hynny y bore yma, a byddaf yn dosbarthu’r wybodaeth honno’n fwy eang i’r Aelodau os bydd angen.

O ran y defnydd ehangach o’r iaith Gymraeg mewn busnesau a busnesau bach, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod hwnnw’n un maes lle nad ydym wedi llwyddo’n gyfan gwbl yn y gorffennol, os mynnwch. Yn sicr, hoffwn weld busnesau’n teimlo’n hyderus i alluogi eu staff i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn galluogi cwsmeriaid i deimlo’n gyfforddus yn cychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg. Rwy’n credu mai un o’r pethau nad ydym wedi llwyddo i’w gwneud yn y blynyddoedd diwethaf oedd hyrwyddo defnydd achlysurol cyfforddus a hawdd o’r fath o’r iaith Gymraeg. Rwy’n meddwl bod pobl yn rhy aml yn teimlo, os nad yw eu Cymraeg o ansawdd neu safon ddigon da, na allant ddechrau sgwrs yn Gymraeg—maent yn teimlo y byddant yn cael eu cywiro, neu beth bynnag. Efallai fod gennych y mathau hynny o bryderon.

Ond rwy’n credu mai un o’r pethau sydd angen i ni eu gwneud—ac mae hwn yn bwynt rwyf wedi ceisio ei wneud i’r pwyllgor mewn gwrandawiad cynharach. Nid strategaeth y Llywodraeth yn unig yw hon, ond rhywbeth ar gyfer y wlad a’r gymuned yn gyffredinol. Mae hynny’n golygu pob un ohonom yn ymuno i helpu pobl i ddysgu siarad Cymraeg, i helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i alluogi pobl i deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth ddefnyddio’u Cymraeg, pa mor gadarn bynnag, neu’n llai na chadarn, efallai, yw hi. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y gallwn i gyd ymuno i’w wneud ac edrychaf ymlaen at fusnesau’n dod yn rhan gwbl allweddol a hanfodol o hynny.

Y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion? OAQ(5)0044(EDU)

Diolch yn fawr, Adam. Wedi’i ddatblygu gan y system ar gyfer y system, mae categoreiddio’n rhoi darlun o ba mor dda y mae ysgolion yn ei wneud a lefel y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud hyd yn oed yn well. Yn bwysig, mae’r system hefyd yn nodi’r ysgolion sydd â’r gallu i gefnogi ysgolion eraill, gan weithredu fel sbardun ar gyfer cydweithio a rhannu arbenigedd a rhagoriaeth.

Diolchaf i’r Ysgrifennydd am ei hateb. Rydym ni wedi gohebu ar y mater yma dros yr haf, felly fe fydd hi’n ymwybodol fy mod i wedi cwrdd â phrifathro mewn ysgol gynradd leol a oedd wedi mynegi pryderon i mi ynglŷn â’r posibilrwydd i ysgolion gyflwyno’r data mewn ffordd gamarweiniol er mwyn gwella eu categoreiddiad. Yn ei hateb i mi, roedd y Gweinidog wedi dweud nad oedd ei swyddogion yn ymwybodol o unrhyw bryderon helaeth. Ond, ers hynny, mae athrawon yn lleol wedi cysylltu â phapur newydd i ddweud eu bod nhw wedi cael eu rhoi o dan bwysau i drin y data yn y fath fodd. Felly, a allaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ddweud a ydy’r posibilrwydd yna’n bodoli i fanipiwleiddio’r data yn y ffordd sy’n cael ei awgrymu? Os yw e, a allwn ni gael ymchwiliad annibynnol i weld pa mor helaeth mae hyn ac, wrth gwrs, yn bwysicaf oll, a allwn ni newid y system er mwyn osgoi sefyllfa lle mae athrawon a phrifathrawon yn cael eu rhoi o dan bwysau i drin y data yn y ffordd yma?

Diolch yn fawr, Adam. Rwy’n credu mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw ei bod yn bwysig cofio nad yw’r system categoreiddio ysgolion yn system sy’n seiliedig ar ddata yn unig. Mae yna ffactorau gwahanol yn ogystal â data sy’n rhan o’r broses o gategoreiddio ysgol. Pe bai yna unrhyw dystiolaeth fod pobl yn gweithredu yn y fath fodd, byddai’n anonest a byddai’n amhroffesiynol. Os oes gan athrawon dystiolaeth o hynny, hoffwn ei gweld, a byddwn yn ei thrin yn ddifrifol iawn. Rwyf bob amser yn agored i edrych ar ffyrdd y gallwn berffeithio’r fethodoleg sydd ynghlwm wrth y cod trefniadaeth ysgolion. Os oes gan yr Aelod, neu unrhyw Aelod yn wir, syniad ynglŷn â sut y gallwn wneud methodoleg y cod trefniadaeth ysgolion yn fwy cadarn, rwyf bob amser yn barod i edrych ar hynny ac ni fyddwn yn ofni ei diwygio neu ei newid.

O ran asesiadau athrawon, fe wyddom fod angen gwella ansawdd asesiadau athrawon. Mae Estyn yn dweud wrthym ei fod yn gwella, yn enwedig pan fo gennym ddilysiad grŵp ac athrawon eraill yn edrych ar sut y mae athrawon o ysgolion eraill wedi ffurfio’u barn a gwerthusiad ar waith plentyn unigol. Ond mae’r cynnig yn un dilys i’r Aelod: os ydych yn teimlo bod gennych syniadau ynglŷn â sut y gallwn wneud y cod trefniadaeth ysgolion yn fwy cadarn, rwy’n barod i edrych ar hynny ac nid oes arnaf ofn ei newid.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn natganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ar 28 Ionawr eleni, dywedodd Huw Lewis nad oedd y system yn ymwneud â labelu neu greu tablau cynghrair moel. Dywedodd hefyd y byddai unrhyw ysgol sy’n perfformio islaw’r perfformiad y cytunwyd arno o ran prydau ysgol am ddim yn cael dyfarniad melyn ar y gorau. Gallaf weld y rhesymeg sy’n sail i hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gyda nifer fawr yn cael prydau ysgol am ddim, ond mae’n golygu bod rhai ysgolion sy’n perfformio’n dda iawn mewn ardaloedd eraill yn cael dyfarniad is. A yw hon yn dal i fod yn rheol absoliwt? A ydych yn cadw’r model hwn o dan arolwg? Sut rydych yn sicrhau’r cydbwysedd anodd iawn rhwng labelu, sy’n rhan angenrheidiol o hyn gyda’r cynllun lliw, a gwneud yn siŵr fod ysgolion yn cael eu trin yn deg?

Diolch i chi, Nick. Fel y dywedais wrth Adam Price, os yw’r Aelod—. Neu’n wir, mae’r cynnig wedi ei wneud i’r proffesiwn addysgu: os oes ganddynt syniadau ynglŷn â sut y gallwn wneud y system categoreiddio ysgolion yn fwy cadarn, er enghraifft ym maes gwerth ychwanegol, a sut y gallwn gynnwys hynny yn y system, yna rwy’n hapus i edrych arno ac fel y dywedais, ni fydd arnaf ofn ei newid. Rwy’n credu bod edrych ac enwi lefel y cymorth sydd ei angen ar ysgol unigol yn offeryn atebolrwydd pwysig. Ni roddaf unrhyw esgus; hyd yn oed lle y mae nifer fach o blant yn cael prydau ysgol am ddim mewn ysgol, mae angen i’r ysgol honno gyflawni ar gyfer ei holl ddisgyblion. Byddaf yn ddidrugaredd yn fy ffocws ar sicrhau bod ein plant tlotaf yn cael y cyfleoedd addysgol gorau, hyd yn oed os yw hynny’n golygu nad oes mwy nag un neu ddau ohonynt mewn ysgol benodol. Mae eu cyfleoedd bywyd yr un mor bwysig â rhai unrhyw un arall.

Rygbi Cyffwrdd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo rygbi cyffwrdd mewn ysgolion? OAQ(5)0048(EDU)

Rwyf am i bob person ifanc gael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gall ysgolion ddarparu amgylchedd diogel a strwythuredig ar gyfer chwarae rygbi ac mae rygbi cyffwrdd yn ffordd dda o gyflwyno’r gêm i chwaraewyr newydd.

Diolch. Cymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru yw pencampwyr iau Ewrop; fe wnaethant ennill y bencampwriaeth yn yr haf. Mae’r plant dan 18 oed wedi ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol, sy’n anhygoel. Mae’n gamp wych ar gyfer gwella sgiliau trin; ac mae’n fawr yn hemisffer y de. Mae fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â CBAC, ac rwy’n meddwl tybed a allwch helpu. Mae rygbi cyffwrdd yn cael ei hepgor o’r pynciau y gall disgyblion eu dewis ar gyfer TGAU, ac nid yw hynny i’w weld yn gwneud synnwyr. Cefais y fraint, mewn gwirionedd, o chwarae gêm o rygbi cyffwrdd yn ddiweddar gyda’r plant, ac mae’n wych, mae gennych ferched a bechgyn yn cymysgu, safon uchel, llawer o hwyl, ac yn wir, fe ddylai fod yn gamp sydd ar gael ar gyfer TGAU, yn fy marn i. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech edrych ar hyn.

A gaf fi ymuno â’r Aelod i longyfarch y timau ar eu llwyddiant? Gwn fod yr Aelod wedi gwahodd y timau yn ddiweddar—yr wythnos diwethaf rwy’n credu—i’r Siambr i ddathlu eu llwyddiant? Rwy’n rhannu eich brwdfrydedd dros rygbi ar bob ffurf. Yn wir, bu fy merch ieuengaf yn cystadlu’n ddiweddar yn nhwrnament rygbi tag yr Urdd, yma yng Nghaerdydd, ac fe fwynhaodd ei hun yn fawr iawn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod cymwysterau yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond rydym hefyd, fel y gwyddoch, yn datblygu ein cwricwlwm. Mae meysydd profiad a dysgu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac rwy’n siŵr y bydd cyfle i blant gymryd rhan yn y gamp hon yn ffurfio rhan o hynny.

Lywydd, os caniatewch i mi, carwn fanteisio ar y cyfle hwn, ar ran yr holl Aelodau, i ddymuno’r gorau i’n tîm cenedlaethol yn eu gêm agoriadol yng ngemau rhyngwladol yr hydref yn erbyn y Wallabies ddydd Sadwrn, a mynegi ein cydymdeimlad ag Alun Wyn Jones, a oedd fod yn gapten ar y tîm ddydd Sadwrn, ond na fydd yn gallu gwneud hynny yn sgil marwolaeth ei dad?

Os caf ategu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwedd y cwestiwn hwnnw, hoffwn wneud hynny. Fel rhywun sy’n dal i chwarae rygbi, er mai rygbi i chwaraewyr hŷn yw hwnnw, a rhywun sy’n dal i ymdrin â’r nifer o lythyrau gan yr unigolion a drawmateiddiwyd wrth fy ngweld wedi diosg fy nghrys ym Mharc yr Arfau Caerdydd—mae honno’n olygfa rhy frawychus—rwy’n derbyn y pwynt fod rygbi ar unrhyw ffurf yn lefelwr mawr ac yn y pen draw, yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd mewn meddylfryd tîm. Yn anffodus, mae chwaraeon tîm wedi dioddef ym maes addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf—yn y degawdau diwethaf, hyd yn oed—a hoffwn wybod pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith, gan weithio gyda’i chyd-Aelod yn y Cabinet, y Gweinidog iechyd, sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon, i wneud yn siŵr fod yna raglenni hyfforddi ac amser yn y cwricwlwm i athrawon sydd eisiau cael eu tystysgrifau hyfforddi er mwyn galluogi mwy o chwaraeon tîm yn ein hamgylchedd ysgol, boed yn ysgolion cynradd neu uwchradd.

A gaf fi ddiolch i arweinydd y Blaid Geidwadol am ei gwestiwn, ond o ran y llun y mae’n ei ddarlunio, unwaith eto, ohono heb ei grys, a gaf fi eich atgoffa mai ddydd Lun oedd Calan Gaeaf, nid heddiw? [Chwerthin.] Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, gyda Chwaraeon Cymru, £3.7 miliwn er mwyn cyflwyno rhaglenni llythrennedd corfforol yn ysgolion Cymru, a dangosodd arolwg 2015 o chwaraeon mewn ysgolion gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n gwneud chwaraeon am yr ail arolwg yn olynol, ac rwy’n siŵr fod hynny i’w groesawu. Rhaid i ni gydnabod, os ydym yn mynd i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, fod yn rhaid i ni gynnig ystod eang o weithgareddau chwaraeon, nid chwaraeon tîm yn unig; byddai’n well gan rai pobl ddewisiadau gwahanol. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod merched wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio stryd, efallai, yn hytrach na chwaraeon tîm. Ond fel chi, rwy’n credu yn y sgiliau bywyd pwysig y gall pobl ifanc eu datblygu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, a bydd chwaraeon ac addysg gorfforol yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o’n datblygiadau newydd ar gyfer y cwricwlwm wrth i ni fwrw ymlaen ag adolygiad Donaldson.

Cod Trefniadaeth Ysgolion

5. Pa ddarpariaeth sydd wedi cael ei wneud ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng nghod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0035(EDU)

Diolch i chi, Mark. Mae ystyriaeth o anghenion y plant hyn yn rhedeg drwy’r cod statudol. Mae’r cod yn amlinellu ffactorau y dylid eu hystyried, ac y dylai cyrff perthnasol osod buddiannau dysgwyr uwchlaw pob buddiant arall, gan roi sylw arbennig i effaith cynigion ar gyfer ysgolion ar grwpiau o blant sy’n agored i niwed.

Diolch. Fel y dywedoch, mae’r cod yn nodi’r angen i roi sylw arbennig i effaith y cynigion ar gyfer cau ysgolion ar grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Er hynny, yn ddiweddar fe benderfynoch gefnogi penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i gau Ysgol Uwchradd John Summers, sy’n darparu ar gyfer rhai o’r disgyblion mwyaf agored i niwed yn yr ardal, gan gymryd disgyblion o unedau cyfeirio disgyblion a phlant a waharddwyd o ysgolion uwchradd eraill na fyddent yn cael eu hanfon i ysgolion mwy o faint. Mae hanner y disgyblion yn byw mewn ardal sydd ymysg y 5 y cant uchaf o’r mynegai amddifadedd lluosog yng Nghymru, ac mae bron i draean o fewn categorïau gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy ac anghenion dysgu ychwanegol â datganiad, rhywbeth y methodd dogfen ymgynghori’r cyngor ei gydnabod. O ystyried bod Llywodraeth Cymru o dan y meini prawf arferol ar gyfer disgyblion, wedi gosod isafswm o 600 o ran niferoedd ysgolion yn ôl yr hyn a ddeallaf, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn fwy hyblyg o dan ei deddfwriaeth a’i chod presennol, lle y mae anghenion penodol yn codi, er mwyn galluogi ysgolion llai o faint i ddiwallu’r anghenion hynny yn y ffordd unigryw na all neb ond hwy ei wneud?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Mark. Nid yw cau ysgol John Summers yn benderfyniad hawdd nac yn un a wneuthum ar chwarae bach, ond cymerais y cyngor a roddwyd ynglŷn â’r ffordd orau o wella canlyniadau addysgol i bob plentyn yn yr ardal benodol honno. Fe fyddwch yn gwybod yn fy nghytundeb blaengar gyda’r Prif Weinidog fod yna sôn yn benodol am yr angen i adolygu’r cod trefniadaeth ysgolion, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion llai o faint. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar fy ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion a sut y gellid ei ddiwygio a’i gryfhau, os oes angen, yn ddiweddarach y mis hwn.

Yr hyn rwy’n pryderu yn ei gylch yw hawliau teuluoedd i gael asesiad annibynnol o anghenion dysgu ychwanegol, yn annibynnol ar yr ysgol a’r awdurdod addysg lleol. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr sy’n seicolegwyr addysg yn cysylltu â mi am absenoldeb rôl statudol i seicolegwyr addysg yn y Bil drafft, ac ni fu unrhyw rwymedigaeth statudol i deuluoedd allu cael mynediad at seicolegydd addysg yn y cod drafft ychwaith. Mae hynny’n golygu o bosibl mai dim ond teuluoedd sy’n gallu fforddio talu am seicolegydd addysg sy’n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. O ystyried nifer yr achosion rwy’n eu cael lle nad yw anghenion arbennig pobl wedi cael eu nodi pan oeddent mewn addysg amser llawn, mae hynny’n peri cryn bryder i mi. Roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwch ei wneud am y peth.

Diolch, Jenny, am godi’r pwynt pwysig hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw seicoleg addysgol; dyna pam rydym yn cefnogi’r cyrsiau datblygiad proffesiynol ar gyfer seicoleg addysgol yma yng Nghaerdydd. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog wedi datgan ei fwriad i gyflwyno’r Bil drafft cyn y Nadolig eleni. Mynegwyd safbwyntiau am rôl seicolegwyr addysg pan fu’r weinyddiaeth flaenorol yn ymgynghori ar y cod a’r Bil drafft yn 2015, ac mae’r materion hynny wedi cael eu trafod yn uniongyrchol wedyn â Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg. Fel rwy’n dweud, rydym yn cydnabod y rôl bwysig iawn y mae seicolegwyr addysg yn ei chwarae yn y system anghenion addysgol arbennig ar hyn o bryd, ac rydym yn gryf o’r farn y bydd angen iddynt barhau i wneud hynny o dan ein Bil ADY arfaethedig. Mae datblygiad parhaus y Bil, y cod a’r rhaglen ehangach i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol wedi digwydd yn sgil y trafodaethau hynny sydd wedi digwydd ac a fydd yn parhau i ddigwydd rhwng y Gweinidog a’r proffesiwn.

Yn amlwg, mae’r cod anghenion addysgol arbennig fel y mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn rhan o’r cod trefniadaeth ysgolion. Wrth ei ddarllen, roedd yn amlwg i mi ei fod yn dweud y dylid ateb anghenion plant, y dylid ceisio barn plant a’i hystyried a bod rôl rhieni yn hanfodol. Os awn â chi’n ôl at y ddadl a gawsom ar y Bil awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan gyfarfûm â phobl o fy rhanbarth, roedd yn amlwg iawn i mi nad oedd y rhieni na’r plant yn teimlo eu bod wedi cael eu hystyried yn llawer o’r trafodaethau hyn. Felly, pan ewch i siarad â sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tybed a fyddwch yn edrych ar y cod hwn mewn perthynas â’i ddiwygio fel y gellir clywed rhieni a phlant yn fwy effeithiol, fel nad ydynt yn dod atom â straeon yn dweud nad yw rhai plant yn mynd i’r ysgol o gwbl ar hyn o bryd mewn gwirionedd, yn syml am nad yw’r ddarpariaeth yno ar eu cyfer.

Diolch i chi am y pwynt hynod o bwysig hwnnw, ac rwy’n siŵr fod y Gweinidog a fydd yn tywys y Bil drwy’r Cynulliad wedi clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud. A gaf fi ddweud fy mod innau hefyd wedi cyfarfod â grŵp awtistiaeth lleol yn ddiweddar? O gofio bod fy etholaeth yn ffinio â’ch rhanbarth, roedd llawer o’r bobl a ddaeth i’r cyfarfod yn dod o’ch rhanbarth mewn gwirionedd. Roeddwn yn bryderus iawn o glywed bod y rhieni hynny’n teimlo na allent ddechrau cael eu plant ar y llwybr asesu oni bai eu bod yn cael caniatâd i wneud hynny gan ysgol. A gaf fi ddweud nad dyna’r gwir? Nid dyna fel y mae. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ysgrifennu at awdurdod addysg lleol Castell-nedd Port Talbot—ac yn wir, rydym wedi cael yr adborth hwn gan awdurdod Sir Benfro yn ogystal—i’w gwneud yn gwbl glir i’r Awdurdod Addysg Lleol nad yw hynny’n wir, nad dyna’r unig lwybr cyfeirio i mewn, ac na ddylent fod yn dweud hynny wrth rieni. Rydym hefyd yn datblygu adnodd newydd i rieni a fydd yn esbonio’n glir iawn beth yw eu hawliau presennol a sut y gallant gael gafael ar gymorth i’w plant, a bydd hwnnw, rwy’n gobeithio, yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Asesiadau Effaith Ieithyddol

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiadau effaith ieithyddol yn y broses o aildrefnu ysgolion? OAQ(5)0034(EDU)[W]

Mae’r cod trefniadaeth ysgolion statudol yn ei gwneud yn ofynnol i nifer o ffactorau gwahanol gael eu hystyried gan gyrff perthnasol sy’n datblygu cynigion ar gyfer aildrefnu ysgolion, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Pan fydd cynigion yn effeithio ar ysgol sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg.

Diolch i chi am eich ateb. Yn amlwg, mae yn ofynnol bod hyn yn digwydd, ond fy nghwestiwn i yw: pwy sy’n gwirio safon ac ansawdd a chywirdeb yr asesiadau yma? Oherwydd maen nhw’n sail i benderfyniadau pellgyrhaeddol. Nid oes dim byd i ddweud na allai unrhyw un ohonom ni fan hyn sefydlu cwmni a fyddai’n mynd ati i greu asesiadau o’r fath. Rwyf felly eisiau gwybod pwy sy’n heddlua y system, gan obeithio nad oes disgwyl i’r cyhoedd fod yn gwneud hynny, oherwydd yn amlwg mae angen elfen o arbenigedd er mwyn gwneud hynny yn effeithiol.

Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol allu gwneud hynny a sicrhau bod ganddyn nhw yr arbenigrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gael asesiadau sydd yn gywir ac yn gyflawn. Os nad yw hynny yn wir, neu os oes gennych chi neu unrhyw Aelod arall bryderon am y system a sut mae’n gweithio, mae croeso ichi ysgrifennu ataf i sicrhau bod yna newid, os oes angen gwneud hynny.

Bydd y mater o asesiadau effaith ieithyddol hefyd yn effeithio ar geisiadau cynllunio yn fwy cyffredinol ac mae’r cwestiwn hwn o hyfforddiant ac arweiniad ynglŷn â sut i gynnal yr asesiadau hyn yn berthnasol i’r ddau, rwy’n credu. A allwch chi egluro pwy sy’n gyfrifol am gynllunio’r hyfforddiant a’r canllawiau hyn, ac os mai’r Llywodraeth ydyw, o ba linell o’r gyllideb y bydd y gost yn dod?

Y Llywodraeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yna weithlu ym mhob un maes sy’n gallu cyflwyno’r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Rwy’n croesawu’r ychwanegiad at y gyllideb sydd gyda ni nawr i allu datblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, wedi rhyddhau datganiad y bore yma i ddatgan bod yna weithgor yn edrych ar sut yr ydym ni’n datblygu mwy o sgiliau yn y gweithlu drwy’r system addysg bellach. Rŷm ni’n cydnabod bod angen mwy o sgiliau arnom ni a bod yn rhaid i ni gynllunio’r gweithlu. Mae’r gweithgor yn mynd i fod yn rhan bwysig o wneud hynny.

Rhaglen Her Ysgolion Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddod â’r rhaglen Her Ysgolion Cymru i ben? OAQ(5)0037(EDU)

Diolch yn fawr, Vikki. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 7 a 10—

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes digon o amser i grwpio’r cwestiynau, felly bydd cwestiwn 7 yn cael ei gymryd ar ei ben ei hun.

Ymddiheuriadau. Vikki, ymyrraeth dros dro yw Her Ysgolion Cymru i gyflymu gwelliannau yn ein hysgolion sy’n wynebu fwyaf o her. Mae cyllid canolog y rhaglen yn dod i ben yn 2016-17. Fodd bynnag, byddaf yn ystyried canlyniadau TGAU a ddilyswyd a chanfyddiadau gwerthusiadau i sefydlu’r gwersi a ddysgwyd a llywio defnydd o’r addewid o £100 miliwn i godi safonau ysgolion.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Pontypridd yn fy etholaeth a chael trafodaeth ddefnyddiol gyda’r pennaeth ar sut roedd Her Ysgolion Cymru yn eu helpu i wella safonau. Er enghraifft, eu perfformiad yn 2016 oedd y gorau erioed o ran canlyniadau TGAU. Wedi dysgu mewn ysgol Her Ysgolion Cymru fy hun, yn yr ysgol a oedd wedi gwella orau ond un yng nghohort Her Ysgolion Cymru y llynedd, rwy’n gwybod hefyd am y manteision cadarnhaol y mae’r rhaglen wedi’u creu o ran morâl staff a morâl myfyrwyr hefyd. Mae Her Ysgolion Cymru o fudd i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, nid oes amheuaeth am hynny, ac rwy’n awyddus i sicrhau na chollir unrhyw gynnydd. Pa wersi y gall Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r rhaglen er mwyn i ni adeiladu ymhellach ar y cynnydd a wnaed a rhannu arfer gorau yn fwy eang o fewn y system addysg yng Nghymru?

Diolch. Fel chi, Vikki, hoffwn longyfarch Ysgol Uwchradd Pontypridd ar y gwelliannau a nodwyd. Rwy’n ymroddedig i adeiladu, fel y dywedais, ar y cynnydd a wnaed mewn ysgolion Llwybrau Llwyddiant, gan sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu ynglŷn â sut y gallwn rannu hynny ar draws y system ysgolion ehangach. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod cynlluniau ymadael ar gyfer pob ysgol yn gadarn ac yn eu lle a’n bod ag ymagwedd gyfannol, fel bod y llwyddiannau a welsoch yn yr ysgolion hynny rydych wedi ymweld â hwy yn parhau, ac fel bod modd rhannu arferion gorau yn rhan o’n hymrwymiad i system hunanwella i ysgolion.

Fel y mae’r Aelod dros Gwm Cynon newydd ei ddweud, mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mewn rhai ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys ysgol gyfun Aberdaugleddau yn fy etholaeth fy hun, ond rwy’n deall bod y canlyniadau i’w gweld yn anghyson ledled Cymru. Fodd bynnag, gan y bydd y rhaglen yn awr yn dod i ben dair blynedd yn unig ar ôl ei sefydlu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod rhaglen fel hon wedi cael yr amser angenrheidiol i brofi ei hun mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr, Paul. Unwaith eto, hoffwn longyfarch llwyddiant yr ysgol a grybwylloch. Rydych hefyd wedi cydnabod nad yw’r llwyddiannau hynny wedi digwydd yn yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen. Yn anffodus, mewn rhai achosion, rydym wedi gweld rhai ysgolion yn llusgo ar ôl, ac mae hynny’n destun pryder mawr.

Gadewch i ni fod yn glir, pan ddechreuodd y rhaglen Her Ysgolion Cymru, roedd yn ymrwymiad dwy flynedd a rhaglen dwy flynedd—dyna sut y cafodd ei lansio. Penderfynodd fy rhagflaenydd, Huw Lewis, ymestyn y rhaglen am flwyddyn ychwanegol, ond fe’i gwnaed yn gwbl glir mai rhaglen am amser cyfyngedig oedd hi. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw ein bod yn dysgu o’r hyn sydd wedi gweithio yn yr ysgolion unigol hynny a’n bod yn lledaenu’r arferion gorau i bob ysgol yng Nghymru, gan gofio mai 39 o ysgolion Cymru yn unig oedd yn rhan o’r rhaglen. Mae gwersi cadarnhaol i’w dysgu, ac rydym yn cynnal gwerthusiad manwl o’r rhaglen er mwyn i ni fod yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi gweithio a’n bod yn gallu ailadrodd hynny.

Cafodd Coleg Cymunedol y Dderwen yn fy etholaeth yn Ynysawdre ei roi o dan Her Ysgolion Cymru yn 2015. Mewn cyfnod hynod o fyr, o dan bennaeth gweithredol newydd, Nick Brain, gydag arweinyddiaeth gref iawn ar draws yr ysgol, nid yn unig gan Nick, ond ar draws yr ysgol yn awr, o dan Her Ysgolion Cymru, eleni cafodd ganlyniadau TGAU gwell nag erioed: cafodd 93 y cant o’r myfyrwyr o leiaf bum gradd TGAU A* i C—34 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol; cafodd 56 y cant o fyfyrwyr y safon aur o bum gradd TGAU A* i C fan lleiaf; ac yn fyr, y canlyniadau gorau a gyflawnwyd yn hanes byr Coleg Cymunedol y Dderwen a’r ddwy ysgol a’i rhagflaenodd, sef ysgol gyfun Ogwr ac ysgol gyfun Ynysawdre. Felly, i adleisio sylwadau fy nghyd-Aelodau a siaradodd yn flaenorol, Vikki a Paul, sut rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn parhau ymhell i’r dyfodol, fel bod fy holl ddisgyblion, ble bynnag y maent yn byw, a beth bynnag yw eu cefndir, yn cael y cyfle gorau mewn bywyd?

Unwaith eto, a gaf fi longyfarch y gwaith caled aruthrol a wnaed yn yr ysgol newydd honno am y gwelliannau y maent wedi’u gweld? Mae’n dyst i ymroddiad y staff ac ymrwymiad y disgyblion a’r rhieni, ac mae Nick Brain i’w longyfarch. Huw, rydych wedi crybwyll y pwynt canolog iawn sef sut y gallwn ysgogi newid addysgol yn y wlad hon a’r ateb yw drwy arweinyddiaeth ragorol. Rydym yn gwybod y gall hynny fod yn un o’r ysgogiadau pennaf i sicrhau newid addysgol, pa un a yw ysgol wedi’i chynnwys mewn rhaglen benodol ai peidio. Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu gallu arweinyddiaeth prifathrawon Cymru a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ysgolion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â fy academi arweinyddiaeth a chyllid mewn perthynas â hynny yn nes ymlaen y mis hwn.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod Her Ysgolion Cymru wedi dod i ben a byddai wedi bod yn well o lawer gennyf ei weld yn cael ei ailraddnodi yn hytrach na’i ddileu. Ceir sylfaen dystiolaeth y gallwn ddysgu oddi wrthi ym Manceinion a Llundain ble y mae wedi llwyddo ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, lle y ceir tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.

O ran dysgu’r gwersi, o fy nealltwriaeth o Her Ysgolion Cymru, rhan allweddol oedd y gair ‘her’ a’r defnydd o grŵp cymheiriaid i gynorthwyo a chraffu ar ysgol. Felly, sut y gellir cynnwys hynny mewn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan, a sut y gall yr Ysgrifennydd sicrhau nad yw’n cael ei lastwreiddio?

Diolch yn fawr iawn. Ni ddylai’r Aelod synnu bod y rhaglen wedi dod i ben, oherwydd fel y dywedais ar y cychwyn, ni fwriadwyd i’r rhaglen fod yn unrhyw beth ond ymyrraeth yn y tymor byrrach am y cyfnod o dair blynedd, ac rydym bellach wedi dod i ddiwedd y tair blynedd. Rydym yn cynnal gwerthusiad manwl o’r agweddau ar y rhaglen sydd yn bendant wedi sicrhau canlyniadau a newidiadau aruthrol mewn rhai ysgolion. Rydym eisiau gweithio ar hynny. Rydych yn dweud, ‘Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â’r cwestiwn o her?’ Wel, mae’r consortia rhanbarthol a’r cynghorwyr her a gyflogir gan y consortia rhanbarthol—dyna’n union yw’r rôl sydd ganddynt yn y consortia, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gydag ysgolion Her Ysgolion Cymru a’r consortia rhanbarthol i sicrhau nad yw’r cynnydd y maent wedi’i wneud yn cael ei golli, ac er mwyn i ni allu dysgu gwersi o’r hyn sydd wedi gweithio ac osgoi diffygion rhannau o’r rhaglen nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ag y byddech chi neu finnau eu heisiau, rwy’n siŵr.

Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi clywed gan bawb fod ysgolion sy’n tangyflawni’n cael eu gweddnewid gan arweinyddiaeth a disgwyliadau. Dylem ddisgwyl i’n pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir cymdeithasol, gael canlyniadau TGAU da iawn, ac yna dylai llawer ohonynt gael tiwtor ar unwaith wrth iddynt ddechrau ar eu safon uwch i’w tywys drwy’r broses o ymgeisio am le yn y prifysgolion gorau—dyna sut y mae sicrhau llwyddiant.

A gaf fi ddiolch i chi, David? Rydych yn hollol gywir. Arweinyddiaeth, yn ei holl ffurfiau, o bennaeth sefydliad unigol i’r rheolwyr haen ganol ac arweinwyr pynciau unigol yn yr ysgol—mae arweinyddiaeth ar bob lefel yn ein hysgolion yn gwbl hanfodol, a dyna pam y byddwn yn sefydlu academi arweinyddiaeth a byddaf yn cyhoeddi manylion amdani yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae’n rhaid i ni gael disgwyliadau uchel ar gyfer ein plant. Rwy’n ofni, yn y gorffennol, ein bod wedi diystyru gormod o’n plant. Rydym wedi gadael i’w cod post neu faint cyfrif banc eu rhieni benderfynu’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan y plant hynny. Dyna pam y mae’r Llywodraeth hon yn blaenoriaethu gwariant ar blant o’n cefndiroedd tlotach, drwy’r grant amddifadedd disgyblion, ac mae ein rhaglen Seren wedi ei chynllunio i sicrhau bod ein perfformwyr gorau, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ymgeisio a llwyddo i gael lle yn Rhydychen, Caergrawnt a phrifysgolion eraill Grŵp Russell, ac mae’r rhaglen Seren yn sicrhau llwyddiant mawr i ni.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Bil Cymru

1. Pa drafodaethau diweddar y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch Bil Cymru? OAQ(5)0005(CG)[W]

Diolch am y cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yr ateb hwn yn ddarostyngedig i gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau’r setliad gorau posibl i Gymru. I’r diben hwnnw, mae ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth y DU wrth i’r Bil fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi. Gallaf ddweud hefyd fy mod wedi cyflwyno darlithoedd ar Fil Cymru a materion ehangach yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a chynhadledd ddiweddar Cymru’r Gyfraith ym Mangor, ac mae copïau o’r areithiau hyn, gyda’r holl fanylion am y cynnwys, ar gael o ofyn amdanynt.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei wahoddiad caredig i ddarllen ei areithiau, ac rwy’n siŵr y bydd nifer o’r Aelodau yn gwneud hynny, cymaint o Aelodau ag a fydd yn gofyn y cwestiynau, rwy’n siŵr. [Chwerthin.] Pan edrychwn ar Fil Cymru a datblygiadau diweddar, gyda’r consesiwn ar ddatganoli cyflog ac amodau athrawon, gwelwn fod y drws wedi cael ei agor ychydig, o leiaf, i welliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi o’r Bil gwreiddiol, ac rwy’n siŵr y bydd y Llywodraeth yn croesawu hynny gymaint ag a wnaf innau. Ond mae’n dal i fod un mater nad yw wedi cael sylw sy’n gwneud y Bil hwn, yn fy marn i, yn anghynaliadwy ac yn anaddas ar gyfer y dyfodol, sef mater awdurdodaeth gyfreithiol. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn ei fod yn credu y gallwn sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol, a dyna fyddai’r ffordd orau ymlaen. Dywedodd hynny nos Lun ar ‘Sharp End’, a dyna pam roeddwn yn siomedig ddydd Llun yn Nhŷ’r Arglwyddi fod y llefarydd Llafur dros Gymru—nad yw yma, yn anffodus, er fy mod yn mynd i sôn amdani’n gwisgo’i het arall, sef y Farwnes Morgan o Drelái—wedi dweud ei bod yn gynamserol i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. A gaf fi awgrymu i’r Cwnsler Cyffredinol, er na fydd yn ymateb i’r math hwn o adroddiad gwleidyddol, ond a gaf fi awgrymu wrtho mai’r math hwn o ddryswch gan y Llywodraeth a’r blaid lywodraethol sy’n golygu bod y Ceidwadwyr draw yno yn rhoi tri thro am un i chi ar ddyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig? Ond, ar gwestiwn cyfreithiol, a yw’n cytuno â mi fod y proffesiwn cyfreithiol o leiaf, wedi cytuno ar safbwynt ystyriol ar hyn erbyn hyn, a’u bod yn credu ei bod yn anochel y bydd gennym ddwy awdurdodaeth gyfreithiol, un ar gyfer Lloegr ac un ar gyfer Cymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn atodol, a phan fydd yn darllen fy araith fe wêl safbwyntiau go fanwl o fy meddwl fy hun ar fater awdurdodaeth gyfreithiol ac wrth gwrs, y cyfaddawd trosiannol a gyflwynwyd rwy’n meddwl, sef, ar hyn o bryd, y byddai awdurdodaeth benodol yn gwneud llawer iawn o synnwyr ac yn gwneud llawer i ddatrys yr anghysondebau sy’n bodoli. Rwy’n credu y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen am fy mhryderon ynglŷn â’r math hwn o fytholeg sydd wedi datblygu ynglŷn â’r syniad o awdurdodaeth, fel pe bai’n rhywbeth ar wahân i weinyddiaeth. Yn y gorffennol, pan oedd ond un ddeddfwrfa yng Nghymru a Lloegr, roedd yn gwneud synnwyr i gael un awdurdodaeth. Erbyn hyn mae gennym ddwy ddeddfwrfa. Rwy’n credu fy mod am roi rhybudd ymlaen llaw i chi ynglŷn â fy araith, ar gyfer pan fyddwch yn manteisio ar y cyfle i’w darllen—credaf ei bod yn anochel y byddwn yn symud tuag at awdurdodaeth benodol ac yn y pen draw, awdurdodaeth ar wahân.

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod hefyd wedi darllen gyda diddordeb y sylwadau a wnaed yn adroddiad diweddar Tŷ’r Arglwyddi ar Fil Cymru a’r sylwadau sy’n cael eu gwneud yno, a chredaf eu bod yn bwysig iawn, oherwydd nid yn unig eu bod yn gwneud nifer o sylwadau ynglŷn â bod y rhestr o gymalau cadw yn rhy helaeth a bod y prawf cyfreithiol sy’n llywodraethu pwerau’r Cynulliad mor gymhleth ac amwys fel ei fod yn rysáit ar gyfer dryswch ac ansicrwydd cyfreithiol, ond y pwynt allweddol y maent yn ei wneud mewn gwirionedd, a bachodd hynny fy sylw, oedd pan ddywedant fod y pwyllgor yn nodi nad oes

unrhyw dystiolaeth o resymeg glir.

Credaf mai dyna’r broblem sylfaenol. Mae’n treiddio trwy Fil Cymru, nid yn unig o ran y rhestr o gymalau cadw, sy’n 35 tudalen, 195 o eitemau, ond hefyd o ran y ffordd o feddwl am y cysyniad o sut rydych yn gweinyddu ardal lle y mae gennych ddwy ddeddfwrfa a sut rydych yn sicrhau bod hynny’n effeithlon ac yn gyflenwol nid yn unig i’r ddeddfwrfa Gymreig, ond hefyd i’r ddeddfwrfa Seisnig.

Gallaf weld bod areithiau fy nghyfaill yn mynd i fod yn anrhegion poblogaidd iawn y Nadolig hwn, yn ddi-os. [Chwerthin.] Ond mae wedi crybwyll ei fod wedi cael amser eisoes i wneud peth gwaith darllen arall—adroddiad Tŷ’r Arglwyddi. Dylwn ddweud yn glir fod yna gyfle o hyd i wella’r Bil hwn os oes ewyllys i wneud hynny yn y camau sy’n weddill yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn ogystal—i’w wneud yn rhywbeth sy’n ddefnyddiol i’r Senedd, i’r Cynulliad ac i’r Llywodraeth hefyd. Ond mae gwaith i’w wneud. A nododd, fel y gwnes i, eu bod yn dweud yn adroddiad Tŷ’r Arglwyddi gan y Pwyllgor Cyfansoddiadol yno, fod y diffyg eglurder ynglŷn â phennu ffiniau pwerau rhwng Senedd y DU a Chynulliad Cymru nid yn unig yn creu risg o ymgyfreitha yn y dyfodol, ond yr angen am ddeddfwriaeth bellach i egluro’r setliad? Nawr, dyna faint y gwaith sydd angen ei wneud. Felly, a yw’n cytuno gyda’u hasesiad y gallai hyn olygu mewn gwirionedd—oni bai bod y gwelliannau yn cael eu gwneud—mwy o ymgyfreitha a llai o eglurder?

Rwy’n sicr yn cytuno. Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â’r model rhoi pwerau—ac rwy’n meddwl bod cytundeb ar yr angen i symud at fodel cadw pwerau—yn cael eu derbyn bron yn gyffredinol. Yr unig broblem yw bod model cadw pwerau yn dod yn hunandrechol os ceisiwch gadw unrhyw beth a phopeth a sinc y gegin yn fater a gedwir yn ôl. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n hunandrechol, ac unig ganlyniad hynny yw eich bod yn gorfod cael mwy a mwy o faterion wedi’u penderfynu yn y Goruchaf Lys mewn cryn dipyn o fanylder a chyda chryn dipyn o anhawster, ac nid yw’n rhoi yr hyn rydym i gyd ei eisiau mewn system ddeddfwriaethol, sef eglurder a sefydlogrwydd.

Rwy’n ymddiheuro, nid wyf wedi darllen holl areithiau’r Cwnsler Cyffredinol, ond mae’n bleser cael gofyn cwestiwn iddo. Mae’n rhagweld y cynnydd hwn mewn ymgyfreitha yn y Goruchaf Lys gydag anghytundeb ac ansicrwydd ynglŷn â sail Bil Cymru, yn ei ffurf bresennol o leiaf. Tybed pa ystyriaeth a roddodd i’r goblygiadau i’w swyddfa o ran adnoddau o ganlyniad i gynnydd o’r fath mewn ymgyfreitha.

Wel, po fwyaf o achosion sydd, y mwyaf o gostau a delir o’r pwrs cyhoeddus, ac mae hwnnw’n bendant yn rheswm arall pam y byddem eisiau eglurder a sefydlogrwydd, fel nad oes rhaid i faterion fynd i’r Goruchaf Lys ac fel nad oes rhaid cael dadleuon cyfreithiol braidd yn gymhleth a thimau o gyfreithwyr i’w datrys. Dyna un o’r pethau allweddol y ceisiwyd cael setliad cyfansoddiadol cliriach yn unswydd i’w hosgoi.

Cyfundrefnu Cyfraith Cymru

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am adroddiad Comisiwn y Gyfraith sy’n argymell cyfundrefnu cyfraith Cymru? OAQ(5)0006(CG)

Rwy’n croesawu adroddiad Comisiwn y Gyfraith, ac rwyf fi a’r Prif Weinidog yn ystyried yr argymhellion a’r goblygiadau yn ofalus. Byddaf yn darparu ymateb interim i’r comisiwn cyn diwedd y flwyddyn, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i’r Aelodau.

A all y Cwnsler Cyffredinol nodi’r trywydd ar gyfer y broses gyfundrefnu, a dynodi’r manteision a’r risgiau posibl a allai godi o gyfundrefnu?

Wel, rwy’n falch iawn o dderbyn yr adroddiad. Wrth i mi ddechrau yn fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, mae gwella hygyrchedd cyfreithiau Cymru nid yn unig o ddiddordeb mawr i mi, ond mae hefyd yn bwysig iawn i Gymru fel deddfwrfa, ac wrth gwrs, mae’n dilyn ymlaen yn bendant iawn o’r adroddiad rhagorol gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y credaf ei fod wedi gwneud llawer o’r pwyntiau hyn—gwaith sylweddol, ac adroddiad y cyfeiriwyd ato mewn llawer o adroddiadau dilynol fel un go awdurdodol ar y mater hwn.

Mae’r adroddiad cyfundrefnu yn nodi llawer o’r manteision a allai ddilyn o gyfundrefnu cyfraith Cymru, gan amcangyfrif, er enghraifft, yn ogystal â’r manteision cymdeithasol anfesuradwy, y gallai fod arbedion effeithlonrwydd o tua £24 miliwn y flwyddyn, pe baem yn rhoi trefn ar y gyfraith yn y modd hwn. Byddai’n well gennyf ryw lun o gyflwyno’r ddadl honno gan fy mod yn meddwl bod yna fanteision sylweddol i fusnesau, i fuddsoddwyr, yng Nghymru, o wybod beth yw’r gyfraith mewn gwirionedd, o wybod ble y mae, ac o wybod ei bod yn syml, ac wedi’i hegluro a’i chydgrynhoi.

Wrth gwrs, mae rhoi hyn ar waith yn gymhleth. Bydd yn galw am gysondeb dros gyfnod hir o amser—dros fwy nag un Cynulliad. I bob pwrpas, rydym yn sefydlu llyfr statud cyfreithiol ar gyfer Cymru—dyna fyddai’r nod. Felly, dyna’r argymhellion. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r argymhellion manwl tu hwnt a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Mae llawer o feddwl yn cael ei roi iddynt o ran sut y gallem eu rhoi ar waith, beth fyddai’r gofynion deddfwriaethol penodol o ran y Rheolau Sefydlog ac yn y blaen, a beth fyddai’r gost benodol a’r goblygiadau o ran adnoddau, sydd, unwaith eto, yn sylweddol.

Ond gallaf ddweud fy mod o’r farn nad yw’r status quo yn opsiwn bellach, fod angen i ni fynd i’r afael â’r materion ynglŷn â hygyrchedd deddfwriaeth, oherwydd, fel Llywodraeth, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei mynegi’n dda, ond hefyd ei bod yn hygyrch—yn hygyrch, nid yn unig i gyfreithwyr, barnwyr, a busnesau, ond i ddinasyddion Cymru yn ogystal. Ac rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn hanfodol i’n system wleidyddol a’n system gyfreithiol, ac mae’n fater o gryn bwys i bob sector, fel y crybwyllais gyda’r gymuned fusnes. Felly, byddaf yn gwneud adroddiad interim. O dan y protocol sy’n bodoli gyda Chomisiwn y Gyfraith, ceir adroddiad terfynol, ymateb terfynol, cyn diwedd mis Mehefin 2017.

Erthygl 50 a’r Setliad Datganoli

3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o oblygiadau cychwyn erthygl 50 ar y setliad datganoli? OAQ(5)0007(CG)

Diolch am y cwestiwn. Mae’r Aelodau’n gwybod bod y cwestiwn hwn yn ddarostyngedig i gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn golygu mynd ati’n ofalus i ystyried goblygiadau gadael i’r setliad datganoli.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r achos sy’n mynd rhagddo yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag erthygl 50. Pa gamau y mae wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu gwarchod mewn perthynas â’r achos hwn?

Daeth yr achos yn yr Uchel Lys i ben yr wythnos diwethaf. Roedd yn achos pwysig iawn yn ymwneud â defnydd o’r uchelfraint frenhinol i sbarduno erthygl 50. Mae pob math o gwestiynau wedi codi ynglŷn ag a yw’r dull hwn, er enghraifft, yn tramgwyddo’r ddeddf hawliau, a phenderfyniadau llys a deddfwriaeth ddilynol. Mae’n achos cyfansoddiadol mawr.

Cyfeiriwyd at y cyfansoddiad, materion datganoli a’r statudau datganoli yn yr achos hwnnw, felly rwyf wedi ystyried mai doeth oedd cynnal briff gwylio ar yr achos penodol hwnnw. Mae’r achos eisoes wedi’i restru i neidio dros y Llys Apêl i fynd i’r Goruchaf Lys, gan ddechrau ar 7 Rhagfyr. Pan gyflwynir dyfarniad yr Uchel Lys, byddaf yn rhoi ystyriaeth iddo, gyda golwg ar ystyried unrhyw faterion datganoli posibl, materion cyfansoddiadol, sy’n bwysig i Gymru ac i’r Cynulliad, ac ystyried unrhyw gamau pellach ar ôl hynny.

Yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun, cawsom dystiolaeth y gallai’r Bil diddymu Ewropeaidd, os yw’n unrhyw beth mwy na Bil arbed syml, dorri confensiwn Sewel ac adfachu pwerau gan Weinidogion Cymru. A yw’n cytuno bod angen i ni fod yn wyliadwrus na ddefnyddir y Bil diddymu, fel y mae Bil Cymru yn cael ei ddefnyddio, i dynnu’n ôl elfennau o’r setliad cyfansoddiadol Cymreig nad ydynt yn gyfleus i Lywodraeth y DU? Ac os yw’n cytuno â mi, pa gamau y gallwn eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau nad yw hynny’n digwydd?

Diolch. Fe gyfeiriaf at y pwynt am Sewel mewn munud, gan mai’r pwynt am dynnu pwerau yn ôl, wrth gwrs, yw’r union bwynt a wnaed am Fil Cymru gan bwyllgor dethol Tŷ’r Arglwyddi, pan ofynasant i’r Llywodraeth egluro a fwriadwyd i Fil Cymru leihau cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cymru mewn rhai meysydd mewn gwirionedd, ac os nad dyna’r bwriad, pa gamau y maent yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw cymhwysedd y Cynulliad yn cael ei leihau drwy amryfusedd. Ac mae’r pwynt hwnnw yr un mor berthnasol, rwy’n credu, i’r Bil diddymu mawr fel y’i gelwir. Y broblem yw nad oes gan neb unrhyw syniad ar hyn o bryd beth y gallai Bil diddymu mawr fod mewn gwirionedd, pa mor bell fyddai’n mynd, beth y gallai ei gynnwys mewn gwirionedd, a sut y byddai’n effeithio ar y Llywodraethau datganoledig, ar y statudau datganoli, ac yn wir ar gyfansoddiad cyffredinol y Deyrnas Unedig. Ond yn sicr, o ran confensiwn Sewel, mae’n gonfensiwn, felly mae’n fater na ellir traddodi arno, ond mae’n gonfensiwn lle y ceir cytundeb na fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli heb ganiatâd y Llywodraethau datganoledig. Mae hynny ar y llyfrau statud mewn perthynas â’r Alban, a bwriedir iddo fynd ar y llyfr statud mewn perthynas â Bil Cymru. Mae’n parhau i fod yn gonfensiwn, ond byddwn yn sicr o’r farn y byddai unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir, lle y bo’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig o dan gonfensiwn Sewel, yn gorfod dod gerbron y Siambr hon yma i gael ei hystyried ac i gynnal pleidlais arni.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau bod sbarduno erthygl 50 ond yn dechrau’r broses o drafod gyda’r UE ynglŷn â’r telerau y byddwn yn parhau i fasnachu â hwy neu’n cynnal unrhyw fath arall o berthynas rynglywodraethol? Nid oes ganddo ddim i’w wneud â datganoli o gwbl mewn gwirionedd, ar wahân i’r ffaith fod y broses o adael yr UE ynddi ei hun yn broses ddatganoli enfawr gan y byddwn yn ailwladoli pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd. Ac yn y cyd-destun hwn, mae’n gwella ac yn cadarnhau’r broses ddatganoli i Gymru, oherwydd bydd yn gwella pwerau’r Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru yn wir.

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod yn ystyried bod y pwyntiau y mae’n eu gwneud yn sylfaenol anghywir yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol. [Torri ar draws.] Mae sbarduno erthygl 50 yn broses ddi-droi’n-ôl. Yr awdurdod ar hynny yw’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn yr achos diweddar y cyfeiriwyd ato mewn gwirionedd, a goblygiad hynny yw bod Deddf 1972 ar ôl proses ddwy flynedd yn peidio â bod yn weithredol. Bydd yr holl ddeddfwriaeth ddilynol a grëwyd o ganlyniad i hynny, yn ogystal â’r holl ddeddfwriaeth ryngberthynol sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru a setliadau datganoli’r holl Lywodraethau datganoledig yn dod i ben mewn gwirionedd. Felly, mae’r Aelod nid yn unig yn anghywir; mae ei ddealltwriaeth o’r digwyddiadau’n ddiffygiol.

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Dawn Bowden i ofyn y cwestiwn brys. Dawn Bowden.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r cyhoeddiad bod 350 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp 2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw? (EAQ(5)0065(EI)

Roedd y penderfyniad ddoe yn hynod o siomedig, ac mae ein meddyliau yn amlwg gyda’r gweithwyr yno a’u teuluoedd. Byddwn yn gweithio gyda’r cyfarwyddwyr a’r rheolwyr yn y lladd-dy, gyda golwg ar allu lleihau effaith y penderfyniad ar y safle ac unrhyw swyddi a gollir yn sgil hynny. Cynhelir trafodaethau pellach gyda chyfarwyddwyr y grŵp ehangach er mwyn nodi cyfleoedd a allai liniaru’r effeithiau gwaethaf, os daw’r cyfnod ymgynghori i ben gyda swyddi’n cael eu colli.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yn sicr, roedd yn syndod mawr clywed y cyhoeddiad hwn brynhawn ddoe, a gwyddom ein bod bellach yn dechrau ar broses ymgynghori statudol 45 diwrnod o hyd. Yn gynharach yr wythnos hon roeddwn mewn cynhadledd, yn siarad yn Sefydliad Bevan, ar y cyflog byw, ac roeddwn yn sôn am arwyddion o gynnydd yn yr economi ym Merthyr—rydym wedi cael llawer o swyddi newydd yn dod i mewn i’r ardal—felly roedd hon yn ergyd wirioneddol i’r ardal, fel rydych eisoes wedi nodi. Os eir ymlaen â’r argymhellion hynny, bron nad oes raid dweud ein bod yn sôn am 350 o weithwyr a’u teuluoedd a fydd yn cael eu heffeithio, yn ogystal â’r effaith ar yr economi leol, a hyn oll yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Rwy’n falch fod y cwmni wedi cytuno i gyfarfod â mi ac â Gerald Jones, yr AS, a gyda chi a’r Prif Weinidog, rwy’n credu, i edrych ar y sail dros eu hargymhellion a’r awgrym y byddant yn symud eu gwaith manwerthu cyfan i’r safle yng Nghernyw, sydd, o’r hyn rwy’n ei wybod ar hyn o bryd, i’w weld braidd yn afresymegol pan fo’r safle dosbarthu neu’r ganolfan ddosbarthu ar gyfer y ffatri gig ym Merthyr yn Avonmouth mewn gwirionedd. Os eir â’r safle pacio i Gernyw, yna nid yw’n ymddangos yn rhesymegol iawn fod gennych ladd-dy ym Merthyr, y gwaith pacio cig yng Nghernyw a’i fod yn cael ei gludo’n ôl i ganolfan ddosbarthu yn Avonmouth. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pob un o’r pethau hyn yn cael eu hystyried pan fyddwn yn trafod hyn. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth a all i gefnogi’r bobl a allai gael eu heffeithio gan y cynigion hyn?

Gallaf, fe allaf ac fe wnaf, wrth gwrs, gyfarfod â’r cwmni, ynghyd â Dawn Bowden a’r Prif Weinidog, a byddaf hefyd yn cysylltu’n agos gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol mewn ymgais i sicrhau bod ein hymateb yn digwydd ar draws sawl adran.

Rwy’n credu bod y cyhoeddiad yn rhoi cryn dipyn o achos pryder i’r staff sy’n gweithio yng ngwaith pecynnu manwerthol y cwmni ar safle Merthyr Tudful. Rhoddwyd sicrwydd i ni fod y 700 o swyddi eraill yn ddiogel. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau ymateb cydgysylltiedig i unrhyw swyddi a gollir ar ôl i’r cyfnod ymgynghori 45 diwrnod ddod i ben.

Rwy’n meddwl bod angen i ni ddeall hefyd beth yw’r rhesymeg sy’n sail i benderfyniad y cwmni am yr union resymau y mae’r Aelod wedi’u hamlinellu, yn enwedig o ystyried bod y cwmni wedi cytuno i amodau cymorth gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn golygu y byddai swyddi’n ddiogel ar y safle hwnnw hyd at 2021.

Hoffwn innau hefyd ymestyn fy nghydymdeimladau i’r gweithwyr a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y datganiad yma. Mae hyn yn ergyd i’r gymuned—cymuned sydd eisoes yn wynebu digon o sialensiau economaidd a chymdeithasol.

Rwy’n derbyn eu bod yn ddyddiau cynnar, ond a ydyw’n glir eto pam bod y cwmni wedi penderfynu ail-leoli’r swyddi yma yng Nghernyw? Rwy’n derbyn beth mae’r Ysgrifennydd newydd ei ddweud, ond gan fod yna eisoes wedi bod buddsoddiad gan y Llywodraeth ar sail addewid ar gyfer swyddi, sut all fod yn sicr na fydd gweddill y swyddi yn dilyn ail-leoliad i Gernyw neu safle arall?

Beth yw’r strategaeth benodol nawr ar gyfer y Llywodraeth ar gyfer y cyfnod ymgynghori sydd wedi cychwyn? A oes gobaith, yn nhyb yr Ysgrifennydd, fod yna modd i ymyrryd er mwyn achub rhai, os nad pob un, o’r swyddi sydd o dan fygythiad? Fel rwyf yn ei ddweud, mae yna fuddsoddiad wedi bod yn y gorffennol, a oes efallai ystyriaeth yn cael ei rhoi ar gyfer buddsoddiad pellach? A yw hwnnw’n opsiwn er mwyn ceisio arbed ac achub y swyddi?

Ddoe, cawsom ni ddatganiad ynglŷn â grŵp gorchwyl y Cymoedd—y ‘Valleys taskforce’. A oes rôl gan y grŵp yma mewn sefyllfa fel hon? A oes gohebiaeth wedi bod rhwng yr Ysgrifennydd a’r grŵp yma i weld a oes rôl ehangach yn y sefyllfa yma ym Merthyr?

Yn olaf, a ydy’r Ysgrifennydd yn meddwl bod y datganiad yma yn adlewyrchu problem ehangach yn y sector prosesu cig? Mae rhai undebau wedi codi’r cwestiwn eisoes. A ydy’r Llywodraeth, felly, yn ystyried asesiad risg ehangach ar gyfer y sector yn genedlaethol er mwyn inni allu ymateb cyn i ddatganiadau o’r fath ddigwydd yn y dyfodol?

Ie, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac unwaith eto, a gaf fi rannu ei bryderon ynghylch y gweithwyr yr effeithir arnynt o ran y rhesymau a roddwyd gan y cwmni a’r sail resymegol y clywsom amdani? Mae’r sector cig coch yn y DU, wrth gwrs, yn wynebu heriau sylweddol, ac mae’r cwmni’n credu nad yw ei safle ym Merthyr yn gynaliadwy bellach. Rydym yn awyddus i wybod pam, a pham y gwnaed y penderfyniad i adleoli’r swyddi hynny i Gernyw. O ran yr amodau a roddwyd ar y cymorth hael iawn a roesom i’r cwmni, nid yn unig i feddiannu’r safle hwnnw, ond safleoedd ar Ynys Môn ac yn Sir y Fflint hefyd, roedd yna amod o ddim llai na 1,000 o swyddi am wyth mlynedd. Os collir y 350 o swyddi hyn, byddai 700 o swyddi yn parhau i fod yno. Fodd bynnag, byddai angen addasu’r cymorth a rown i’r cwmni, ac felly byddai potensial i adennill y cymorth hwnnw. Rwyf wedi cael sicrwydd heddiw nad oes unrhyw oblygiadau i swyddi mewn safleoedd eraill ar Ynys Môn neu yn Sir y Fflint, a bod y 700 o swyddi eraill ar safle Merthyr yn ddiogel. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gadw mewn cysylltiad agos â’r cwmni yn ystod y cyfnod ymgynghori gyda golwg ar allu cynorthwyo i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’r holl bobl hynny a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn.

Rwy’n datgan diddordeb gan fy mod yn cyflenwi cynnyrch i’r ffatri, ond mae hyn yn newyddion trychinebus a dweud y lleiaf. Y cwmni sy’n rhedeg y safle hwnnw ar hyn o bryd yw’r trydydd perchennog mewn 17 mlynedd. Felly, mae hynny’n rhoi syniad i ni o faint o gwmnïau sydd wedi bod drwy’r broses o ad-drefnu’r safle hwn. Holl bwynt y safle hwnnw oedd ei fod yn safle integredig, yn yr ystyr eich bod yn troi’r cynnyrch yn gynnyrch sy’n barod ar gyfer y silffoedd, yn barod ar gyfer y defnyddiwr, a byddwn yn awgrymu ei bod yn hanfodol fod yr integreiddio hwnnw’n parhau, ond mae gan y cwmni, yn amlwg, y gallu masnachol i ddewis ble y maent yn cyflawni’r gwaith hwnnw. Mae’n hanfodol, Weinidog, eich bod yn cael sicrwydd nad yw gweddill y safle yn y fantol. Pe bai’r safle hwnnw’n diflannu, byddai’r goblygiadau i’r diwydiant da byw yng Nghymru yn wirioneddol ddinistriol. Byddwn yn ei ystyried ar yr un lefel—ac nid wyf am or-ddweud—â Phort Talbot yn cau, o ran y goblygiadau i’r gymuned leol, ond hefyd y goblygiadau i’r gymuned amaethyddol ehangach. Byddai’r effaith ganlyniadol yn enfawr yn enwedig ar adran wartheg y diwydiant da byw yng Nghymru. Clywais eich bod yn mynd i gyfarfod â’r cwmni, ond byddwn yn eich annog i fynd i’r ffatri, Weinidog, gyda’r Prif Weinidog—a oedd yn Weinidog materion gwledig, rwy’n credu, ar yr adeg pan agorodd y ffatri—a gweld natur integredig y broses yno â’ch llygaid eich hun mewn gwirionedd, a chael sicrwydd gan Grŵp Bwyd y 2 Sisters fod y swyddi eraill ar y safle hwnnw’n ddiogel, nid yn unig am y chwe mis nesaf, ond y byddant yno yn y tymor hir. Os oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru gamu i mewn a diogelu natur integredig y safle hwnnw drwy gadw’r 350 o swyddi sydd dan fygythiad, rwy’n eich annog i wneud popeth yn eich gallu—popeth—gan fod y goblygiadau ehangach i’r economi yn enfawr.

Ie, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Am y rhesymau a amlinellwyd ganddo, mae’n hanfodol fod fy adran yn gweithio gydag adran fy nghyd-Aelod i nodi unrhyw gyfle i gadw cyfleuster sy’n gwbl integredig ac sy’n bwysig iawn, nid yn unig i’r sector amaethyddol, ond i economi Merthyr Tudful hefyd. Rwyf eisoes wedi gofyn am sicrwydd, ac wedi’i gael, fod y 700 o swyddi hynny—y 700 o swyddi ychwanegol ar y safle—yn ddiogel, ond byddaf yn ceisio sicrwydd ynglŷn â hyfywedd hirdymor y safle os na allwn ei gadw fel cyfleuster integredig. Ond byddwn yn dal i ddymuno cefnogi’r broses o gynnal dros 1,000 o swyddi ar y safle. Yn ystod y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod, dywedais wrth swyddogion am wneud popeth yn eu gallu i roi’r gobaith gorau posibl o gyflogaeth barhaus gyda’r cwmni i’r 350 o bobl ar y safle a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad.

Diolch, Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad. Yn ogystal â’r ergyd drom i bobl leol ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau, wrth gwrs, fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae hon yn ergyd i’r gadwyn fwyd yn gyffredinol yng Nghymru. Fe glywsom ni yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y bore yma gan eich cyd-Weinidog, Lesley Griffiths, am y twf sydd wedi bod yn y diwydiant bwyd yng Nghymru dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf. Mae’n un o’r diwydiannau sydd yn ffynnu, ac wrth golli’r swyddi yma, nid ydym ni yn unig yn colli’r gallu i brosesu bwyd ar ôl iddo gael ei lladd yn y lladd-dy, ond rydym ni hefyd yn colli sgiliau, rydym ni’n colli buddsoddiad ac rydym ni’n colli cyfle, wrth gwrs, i adeiladau busnesau eraill o gwmpas y prosesu sy’n digwydd ar y safle. Felly, mae’n hynod o bwysig, rydw i’n meddwl, fod y Llywodraeth yn gwneud pob ymdrech i wyrdroi’r penderfyniad fel y mae ar hyn o bryd gan y cwmni, gan fod cadw swyddi yma yng Nghymru nid yn unig yn bwysig i Ferthyr Tudful, ond yn bwysig i’r gadwyn fwyd yn gyffredinol yng Nghymru.

Un cwestiwn olaf penodol iddo fe: a all e wirio i ni heddiw nad oes yna unrhyw arian cyhoeddus arall yn cael ei ddefnyddio yng Nghernyw i ddenu’r swyddi yma o Gymru? Rydw i eisiau gwneud yn siŵr nad yw Cernyw, sydd yn ardal cymorth Ewropeaidd—yr un peth â Merthyr Tudful, wrth gwrs—yn defnyddio arian Ewropeaidd i ddenu swyddi o un rhanbarth sy’n denu cefnogaeth ariannol i ranbarth arall.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei gwestiwn, a dweud ein bod yn ceisio canfod pa un a oes unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddenu’r swyddi hynny o Gymru, yn bennaf gan fod arian cyhoeddus eisoes yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r swyddi hynny yma yng Nghymru. Cyn gynted ag y bydd gennyf unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r defnydd o arian cyhoeddus i ddenu’r swyddi o Gymru, byddaf yn ei rhannu gyda’r Aelodau wrth gwrs.

Ond mae’r Aelod hefyd yn gwbl gywir yn dweud bod y sector bwyd yn sector sy’n tyfu yng Nghymru. Mae’n rhywbeth y gallwn fod yn hynod o falch ohono, a gwn drwy fy ngwaith ei fod yn un o’r rhannau pwysicaf o bortffolio allforio Cymru, nid yn unig drwy gefnogi gweithgarwch economaidd gwerthfawr, ond hefyd o ran sicrhau bod gan Gymru frand o ansawdd dramor y gall fod yn falch iawn ohono.

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem nesaf ein hagenda ni yw’r eitem newydd ar ddatganiadau 90 eiliad. A gaf i atgoffa Aelodau taw datganiadau 90 eiliad yw’r rhain, nid 90 munud? Felly, fe fyddaf i’n disgwyl i bob datganiad ddod i ben o fewn 90 eiliad. Mae’r anrhydedd o gyflwyno’r datganiad 90 eiliad cyntaf yn mynd i Jeremy Miles.

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle hwn i drafod a dathlu gwaith haearn abaty Nedd, a diolch am yr ychwanegiad newydd hwn yn y Siambr.

Mae’r gwaith haearn heddiw yn safle dadfeiliedig, ond fel llawer o safleoedd diwydiannol yng Nghymru, roeddent yn arfer bod yn fan lle y bu cryn arloesi, o’r mwyndoddi copr cynharaf, ac yn fwy diweddar, lle y sefydlwyd gwaith haearn a oedd yn hanfodol yn strategol i economi Cymru. Allforiwyd ei gynnyrch i India, ac roedd yn fan pwysig o ran cyflogaeth i bobl Castell-nedd a thu hwnt. Yn ei anterth yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, golygai fod Castell-nedd yn dref â chysylltiadau byd-eang.

Mae arnom ddyled i gyfeillion y gwaith haearn am gynnal ymwybyddiaeth o’r safle, ac yn ddiweddar i ddarlith gyhoeddus yn y dref gan yr Athro Huw Bowen o Brifysgol Abertawe, a oedd yn olrhain y gwaith o adfer dyfodol i’r safle fel man archwilio a menter, lle y gall ein treftadaeth fod yn ganllaw i’n dyfodol. Ni ddylai ysbryd yr arloesedd a ymgorfforir yn y gwaith haearn aros yn rhan o’n hanes. Dylai lle a oedd yn allforio’r peiriannau ager cynharaf o gwmpas Ewrop ddeffro dychymyg plant ysgol a’n helpu ni oll i godi ein golygon wrth i ni adeiladu economi ein gwlad ar gyfer y dyfodol. Felly, ein tasg yw troi’r enghraifft werthfawr hon o dreftadaeth economaidd Cymru yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o arloeswyr mewn Castell-nedd fodern a Chymru fodern.

Diolch, Lywydd. Mae’r wythnos hon yn nodi 177 mlynedd ers gwrthryfel y Siartwyr a’r orymdaith i Gasnewydd a alwai am ddiwygio gwleidyddol a democrataidd. Ar 4 Tachwedd 1839, saethwyd a lladdwyd dros 20 o Siartwyr. Gorweddant mewn beddau anhysbys yn eglwys gadeiriol Sant Gwynllyw. Rhoddwyd eu harweinwyr, John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar brawf yn Neuadd y Sir Trefynwy, ac fe’u cafwyd yn euog o uchel frad a’u dedfrydu i gael eu crogi, eu diberfeddu a’u chwarteru, ond newidiwyd y ddedfryd yn ddiweddarach i alltudiaeth am oes i’r byd newydd. Heddiw, gelwir Casnewydd yn ddinas democratiaeth a chaiff y digwyddiadau pwysig hyn eu coffáu bob blwyddyn. Ddydd Gwener, bydd plant o ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol gynradd Maendy yn fy etholaeth, yn ail-greu’r digwyddiadau. Bydd Jayne Bryant a minnau yn eglwys gadeiriol Sant Gwynllyw am y coffâd, a bydd confensiwn Siartaidd a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal.

Lywydd, Siartiaeth oedd y mudiad torfol dosbarth gweithiol cyntaf a gwrthryfel Casnewydd oedd y gwrthryfel arfog mawr olaf yn erbyn awdurdod ym Mhrydain. O chwe phwynt y siarter, seneddau blynyddol yw’r unig bwynt nas gweithredwyd. Etifeddiaeth y Siartwyr yw’r bleidlais gyffredinol rydym yn ei mwynhau hyd heddiw.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddefnyddio’r 90 eiliad i dynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan Ganolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig yn fy rhanbarth i. Sefydlwyd Canolfan Hunangymorth Sandville ym 1983 ac mae’n elusen sy’n agored i bawb sy’n dioddef o broblemau iechyd, gan gynnig cymorth mewn awyrgylch hamddenol a hapus iawn. Maent yn darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan roi gofal cymdeithasol a seicolegol i gleifion a’u teuluoedd. Eu harwyddair yw,

Bydd Gwrando, Edrych, Dysgu, Caru, a Chwerthin yn eich galluogi i Fyw Bywyd Hirach ac Iachach,

sy’n rhywbeth rwy’n siŵr y gallwn oll ei gefnogi. Maent yn darparu cludiant o ardal Pen-y-bont ar Ogwr i ysbyty Felindre ar gyfer cleifion sydd angen radiotherapi neu gemotherapi. Bob wythnos, maent yn cynnig ystod o therapïau cyflenwol a gweithgareddau mewn amgylchedd prydferth ymhell o fwrlwm bywyd bob dydd. Gyda golygfeydd prydferth ac amgylchedd croesawgar, mae Canolfan Hunangymorth Sandville yn falch o fod yn gartref oddi cartref, gydag amgylchedd teuluol cynnes, nad yw’n edrych yn glinigol. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno â mi y byddai’r byd yn llawer tlotach heb lefydd fel canolfan Sandville a phobl fel Gwyneth Poacher a’r staff a’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n ei rhedeg. Diolch.

5. 4. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6130 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil McEvoy (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6131 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynigion.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Newid yn yr Hinsawdd

Mae hynny’n ein harwain ni at yr eitem nesaf, sef dadl Plaid Cymru ar newid yn yr hinsawdd. Rwy’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6129 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon.

2. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd â’r neges hon i’r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym Marrakech ym mis Tachwedd 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno dadl Plaid Cymru i’r Cynulliad heddiw, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pawb yn y Cynulliad yn ei chefnogi, gan mai diben y ddadl yw dangos cefnogaeth o Gymru i’r cytundeb rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd a gafwyd ym Mharis ychydig cyn y Nadolig y llynedd. Rydym yn gwneud hynny cyn i’r cytundeb gael ei roi ar waith yn rhyngwladol ar 4 Tachwedd, a’r ffaith y bydd y cytundeb yn cael ei drafod yng Nghynhadledd y Partïon ym Marrakesh yn nes ymlaen y mis hwn. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu’r gynhadledd honno. Rwyf am ei grymuso ac rwyf am iddi fynd â neges gref o Gymru ein bod yn rhan o’r frwydr ryngwladol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’n bod yn dymuno chwarae ein rhan, a’n bod yn dymuno gwneud mwy na chwarae ein rhan—rydym yn dymuno arwain mewn cynifer o ffyrdd ag y gallwn fel cenedl.

Rwyf am i Gymru fod yn ‘arwr sero’, fel y dywedant, yn arwr di-garbon, a gweithio ar lwybr sy’n ein harwain i gyfeiriad gwahanol i ddefnyddio carbon ar gyfer ein hynni, a defnyddio ffynonellau amgen. Gwnaf hynny â diddordeb personol iawn hefyd, gan i mi ymweld yn ddiweddar iawn â Phen y Cymoedd yn etholaeth fy nghyfaill, etholaeth Vikki Howells, a’r cwm lle y cefais fy magu, sef Aberdâr a Chwm Cynon.

Pen y Cymoedd yw’r fferm wynt ynni adnewyddadwy fawr, sydd newydd gael ei hadeiladu ar draws Blaenau’r Cymoedd, ac sy’n ymestyn o Ogwr bron â bod, draw tuag at Ferthyr Tudful. Mae oddeutu saith deg o dyrbinau wedi cael eu codi uwchben Glofa’r Tŵr. Rydych yn pasio Glofa’r Tŵr er mwyn cyrraedd Pen y Cymoedd. Roedd fy hen ewythr yn gweithio yng Nglofa’r Tŵr. Yn wir, yn y 1950au, ef oedd arweinydd y criw a dorrodd drwodd o Aberdâr i’r Rhondda. Nid oeddent yn siarad gormod am hynny; nid oedd cymaint o gystadleuaeth rhwng y Cymoedd yn y dyddiau hynny. Ond fe dorrodd drwodd o Lofa’r Tŵr ac arwain y criw a dorrodd drwodd i uno’r pyllau o dan y mynydd hwnnw. Ac mae’r mynydd hwnnw bellach ar gau ar gyfer glo, ond mae’n agored ar gyfer gwynt, mae’n agored ar gyfer ynni adnewyddadwy, mae’n agored ar gyfer dyfodol newydd.

Ac mewn gwirionedd, mae’r ddadl hon yn ymwneud â chroesawu’r dyfodol. Nid ydym yn edrych yn ôl i’r gorffennol. Yn yr un dyffryn, mae pwll glo brig ym Mryn Pica lle y bu fy nhad yn gweithio. Nid wyf yn dymuno dychwelyd i’r gorffennol hwnnw, rwy’n dymuno dychwelyd i ddyfodol ynni yn y Cymoedd a gweddill Cymru sy’n wirioneddol ddiogel a chynaliadwy, sy’n darparu swyddi o ansawdd uchel ar gyfer ein pobl ifanc, ac sy’n iach—ac sy’n iach. Pan fydd yr oddeutu saith deg o dyrbinau hynny ym Mhen y Cymoedd yn ddiangen, neu pan fydd angen eu hailbweru, efallai, neu hyd yn oed yn cael eu tynnu i lawr am ein bod wedi symud ymlaen, ni fyddant yn gadael unrhyw beth ond mawn ar eu holau. Ni fyddant yn gadael tomenni glo i gladdu pentrefi, ac ni fyddant yn gadael llygredd i ddinistrio ein hafonydd. Felly, dyma pam y mae’n rhaid i ni groesawu chwyldro di-garbon go iawn a chwyldro ynni go iawn yng Nghymru. A dyna pam fod Paris mor bwysig. Pan fydd gennych sefyllfa lle y mae Tsieina—dywedir wrthym mai Tsieina yw’r llygrwr carbon mwyaf ac nad yw’n gwneud dim ynglŷn ag ynni adnewyddadwy, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych fod Tsieina wedi goddiweddyd yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy—yn cwyno y bydd Trump yn tynnu allan o gytundeb Paris, mae’r byd wedi newid. Mae’r byd wedi newid ac mae’n rhaid i ni newid gyda hynny, ac yn fwy na hynny, mae’n rhaid i ni arwain y newid hwnnw yma yng Nghymru.

Felly rydym wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan obeithio y bydd y Cynulliad cyfan yn ymuno gyda ni i anfon y neges honno. Mae hefyd yn gyfle i adolygu’r hyn y mae’r Llywodraeth wedi ei nodi ar gyfer ei hun a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i gyflawni yn y dyfodol agos, gan fod y Llywodraeth hon wedi nodi targedau cadarnhaol ac uchelgeisiol da iawn, o ran polisi ac o ran deddfwriaeth. Felly, i ddechrau, mae gennym ostyngiad o 3 y cant yn ein basged ein hunain o ostyngiadau nwyon tŷ gwydr domestig i’w cyflawni o flwyddyn i flwyddyn o 2011 ymlaen. Rydym yn ceisio anelu at ostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr gros erbyn 2020 yn erbyn llinell sylfaen 1990, ymrwymiad y mae Gweinidogion wedi cadarnhau wrthyf ei fod yn parhau’n ymrwymiad i’r Llywodraeth hon, er nad yw yn y rhaglen lywodraethu. A phasiwyd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gennym yn y Cynulliad blaenorol, a oedd yn nodi dull newydd o fesur a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys y nod hirdymor, erbyn 2050, o gyrraedd 80 y cant yn is na’r llinell sylfaen o allyriadau nwyon tŷ gwydr, a dyna ble rydych yn dechrau nesu at fod yn ddi-garbon o ddifrif, a lle y byddwn yn dechrau gweld newidiadau go iawn yng Nghymru.

Felly, rydym eisiau gwybod beth y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i wneud o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys saith nod lles gyda nifer ohonynt—tri ohonynt, mewn gwirionedd—yn ymwneud yn benodol â newid yn yr hinsawdd. Felly, y cyd-destun yw, os oes unrhyw un yn amau na ddylem gymeradwyo cytundeb rhyngwladol gan nad ydym yn senedd aelod-wladwriaethol ryngwladol, rwy’n derbyn hynny, ond mae ein deddfwriaeth eisoes wedi golygu ein bod bron â bod yno, felly pam na ddylem ddatgan yn rhyngwladol yn awr ein bod yn dymuno ymuno â chenhedloedd eraill i wneud hynny? Fodd bynnag, mae yno wendid, a byddai’n esgeulus peidio â defnyddio dadl fel hon i dynnu sylw at rai o’r gwendidau yn fframwaith y Llywodraeth ei hun.

Ceir cynnig o dan y Ddeddf amgylchedd am gyllidebau carbon a thargedau interim, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi tan 2018, felly rydym eisoes yn colli peth o’r ysgogiad cychwynnol a’r symud ymlaen y dylem fod yn ei weld. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynhyrchu rhaglen lywodraethu, ond cynhyrchodd raglen lywodraethu a chyllideb ddrafft cyn iddi gyhoeddi ei nodau ar gyfer Deddf cenedlaethau’r dyfodol, felly mewn gwirionedd dyna roi’r drol o flaen y ceffyl—siarad am yr hyn rydych yn ei wario cyn i chi benderfynu ar beth y dylech fod yn gwario’r arian hwnnw, a dyna’r ffordd anghywir o wneud pethau. Mae’n gyfle a gollwyd yn y cylch cyllideb hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn ei gywiro yn y cylch cyllideb nesaf.

Ac yn anffodus, mae Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd y DU sy’n archwilio—[Torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf; rwyf am orffen y pwynt hwn. Mae Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd y DU sy’n archwilio rhaglen y Llywodraeth ar gyfer lleihau allyriadau carbon yn dweud nad ydym yn mynd i gyrraedd ein targed ar gyfer 2050 oni bai ein bod yn rhoi camau mwy cadarn a mwy dwys ar waith. Ildiaf i Mark Reckless.

Mae’r Aelod yn dweud y dylem wybod faint y mae’r Llywodraeth yn ei wario. Bydd yn cofio, fel y cofiaf innau, y Llywodraeth Lafur yn gwneud môr a mynydd, cyn yr etholiad, ynglŷn â’r oddeutu £70 miliwn y byddent yn ei wario bob blwyddyn ar brosiectau newid yn yr hinsawdd. Yn wir, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol feirniadu’n go hallt y rhai a gredai y byddai’n well gwario’r arian hwn mewn mannau eraill, ac eto fe ddysgom heddiw yn ein pwyllgor y bydd gostyngiad o 35 y cant i £49 miliwn yn y gyllideb hon dros y ddwy flynedd nesaf, ac mai’r meysydd mwyaf yw’r rhai a ailddosbarthwyd i mewn i’r gyllideb hon er mwyn rhoi’r argraff o weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond yr hyn oeddent mewn gwirionedd oedd amddiffyn rhag llifogydd, sy’n gostwng oddeutu 45 y cant, a’r rhaglen tlodi tanwydd i helpu pobl dlotaf ein cymdeithas gydag inswleiddio, sy’n gostwng 28 y cant. Beth y mae’n ei gredu y mae hynny’n ei ddweud am ymrwymiad go iawn y Llywodraeth hon?

Roeddwn yn credu am eiliad fod datganiad wedi tyfu’n araith, ond dyna ni. Mae’r Aelod yn gywir, wrth gwrs, a chawsom y dystiolaeth y bore yma yn y pwyllgor. Mae’r ymrwymiad wedi lleihau, a chredaf fod cwestiwn go iawn gan y Llywodraeth i’w ateb. Bydd fy nghyd-Aelodau’n mynd i’r afael â’r pwynt ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni, yn benodol, yn ystod y ddadl hon, gan fy mod yn credu bod her yma i’r Llywodraeth hon wneud yr hyn mae’n ei ddweud, fel petai.

Byddai’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, fodd bynnag, fod hyd yn oed gostyngiad o oddeutu £70 miliwn i £50 miliwn yn well na dileu’r gyllideb yn gyfan gwbl, sef yr hyn y credaf a oedd yn ei ymrwymiadau maniffesto, felly—. Credaf fod yn rhaid i ni ddweud hynny. Ond bydd gweddill fy araith yn canolbwyntio ar ddiffygion y Llywodraeth yn hyn o beth.

Credaf ein bod yn colli cyfle enfawr yma hefyd i symud ymlaen mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy. Gwn fod rhai yma’n amau gallu ynni adnewyddadwy i ateb ein problemau o bosibl, ond mae ynni adnewyddadwy yn pwtgylchedu’r sawl biliwn o flynyddoedd y mae’n ei gymryd i greu nwy a glo. Mae gennym blanhigion sy’n gallu defnyddio cloroffyl i gymryd ynni’r haul a’i droi’n garbon. Nid oes angen hynny arnom bellach; mae ein technoleg wedi symud ymlaen. Rydym yn cymryd ynni’r haul yn uniongyrchol drwy ynni solar ac ynni gwynt, gan fod ynni gwynt yn ynni solar, ac rydym yn ei gymryd a’i ddefnyddio’n uniongyrchol at ein dibenion eu hunain. Yr unig beth sydd ei angen arnom yw ffordd o’i storio—storio yw’r bwlch sydd ar goll—ond mae gwaith anhygoel yn cael ei wneud mewn mannau mor bell oddi wrth ei gilydd â Llanbedr Pont Steffan a Threfforest ar ddatblygu ffyrdd gwirioneddol arloesol o storio ynni adnewyddadwy.

Felly, gadewch i ni ystyried hwnnw’n gyfle, a gadewch i ni hefyd groesawu heriau anferth ond prosiectau seilwaith pwysig fel y morlyn llanw ym mae Abertawe y mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan ei gefnogi yn awr, prosiect y mae’n rhaid iddo ddigwydd, o ran gwariant ar seilwaith a sgiliau, ond hefyd fel arwydd o newid yn yr agwedd y byddwn yn ei mabwysiadu tuag at ynni yn y dyfodol. Gwn fod y Llywodraeth yn cefnogi hynny, ond gobeithiaf yn fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn gefnogol mewn ffordd ymarferol, ac y bydd yn edrych ar ffyrdd y gall gefnogi’r gadwyn gyflenwi o’i gwmpas, yn edrych ar ffyrdd y gall anfon neges i San Steffan ein bod yn barod i gychwyn gyda’r morlyn llanw, a bod gan Gymru y sgiliau a’r bobl a’r gallu i greu swyddi a’r uchelgais i weld hynny’n digwydd yma.

Fel sydd eisoes wedi’i grybwyll—oherwydd roedd fy sylwadau terfynol ar y toriadau i’r dyraniad cyfalaf, ond mae Mark Reckless eisoes wedi eu crybwyll, felly rwyf am gloi drwy ddweud fy mod yn edrych ymlaen ar y cam hwn at y ddadl hon gan fy mod yn credu’n wirioneddol fod hyn yn rhywbeth a ddylai ein huno. Credaf yn gryf fod hyn yn rhywbeth lle y gallwn ddadlau ynghylch manylion yr hyn y dylem ei wneud i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond y syniad yw y gall Cymru, gyda thraddodiad anrhydeddus o gynhyrchu ynni, gyda thraddodiad sgiliau cryf iawn o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ar gyfer anghenion ynni, a thraddodiad anrhydeddus iawn hefyd o gydweithredu a chydweithio’n rhyngwladol, anfon neges gref iawn. Caiff ei chlywed ym Marrakesh—bydd, bydd llais Cymru, hyd yn oed, yn cael ei glywed ym Marrakesh. Gwn y byddai’r Gweinidog yn dymuno gwneud hynny beth bynnag, ond drwy ddod at ein gilydd fel Cynulliad, gallwn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. Gobeithiaf hefyd y gall y Cynulliad ei hun gael ei gynrychioli ym Marrakesh, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig i seneddau fynychu digwyddiadau cydweithredol rhyngwladol hefyd. Gwn y bydd seneddau eraill yno, a gobeithiaf y byddwn yn manteisio ar y cyfle.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Mae’n llygad ei le fod llawer o dir cyffredin ar y mater hwn. Mae cytundeb Paris, a gymerodd 23 mlynedd i’w gwblhau, yn enghraifft ddigynsail o undod byd-eang ar un o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu. A dyna yw ein cyfle gorau, hyd yn oed os nad yw’n mynd yn ddigon pell, i fynd i’r afael â newid di-droi’n-ôl a thrychinebus yn yr hinsawdd. Cytunaf ag ef hefyd nad yw’r Llywodraeth yn gwneud digon, a bod rhai polisïau yn ein harwain i’r cyfeiriad anghywir.

Credaf mai’r enghraifft fwyaf dybryd yw’r polisi a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer cymhorthdal tuag at barcio am ddim yng nghanol trefi—£3 miliwn a roddwyd i mewn am fod Plaid Cymru wedi mynnu polisi untro, nad oes unrhyw dystiolaeth drosto, i gynyddu’r ddibyniaeth ar geir. Felly, credaf fod yna rywfaint o safonau dwbl yma. A chredaf ei bod yn her i bawb ohonom—mae’n her i bawb sy’n rhan o wleidyddiaeth fodern. Rydym yn cydnabod bod hon yn her hirdymor, rydym yn deall y pwysau tymor byr i’n harwain ar wahanol lwybrau, ond mae’n rhaid i ni fod yn ddigon dewr i lynu at ein hargyhoeddiadau a gwrthsefyll hynny. Roeddwn yn siomedig iawn ac yn teimlo’n rhwystredig iawn fod y gyllideb ddrafft wedi cynnwys y polisi hwn, a ninnau fel Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio yn ei erbyn ychydig wythnosau yn ôl yn unig. Mae’n rhaid i ni wrthsefyll y wleidyddiaeth pot mêl sy’n mynd i’n taro ni sydd heb fwyafrif yn y Cynulliad hwn, ac mae temtasiwn i gael penawdau mewn papurau newydd lleol. Ond mewn gwirionedd, mae angen i ni edrych y tu hwnt i hynny.

Enghraifft arall yw’r astudiaeth ddichonoldeb y mae Simon Thomas wedi bod yn galw amdani, ar gyfer y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Unwaith eto, credaf y byddai pob un ohonom sydd wedi gwneud y daith honno wrth ein boddau’n gweld hynny, ond y gwir yw y gallai cost yr astudiaeth ddichonoldeb ddyblu nifer y bysiau sy’n cyflawni’r un daith yn awr. Gallem weithredu yn awr. [Torri ar draws.] Gyda chyllideb gyfyngedig, Simon Thomas, y naill neu’r llall yw hi ar hyn o bryd. Negodwyd rhywbeth gennych ynglŷn â pharcio ceir a aeth â ni i’r cyfeiriad anghywir, ac mae’r astudiaeth ddichonoldeb i’r rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn mynd ag adnoddau oddi wrth rywbeth y gellid ei wneud i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn awr yn y tymor byr. Credaf y dylem—[Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad.

Rwy’n awyddus i wybod sut rydych chi’n dylanwadu ar y gyllideb, fel Aelod Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn, os ydych mor flin ynglŷn â sut y mae Plaid Cymru yn dylanwadu ar y gyllideb?

Wel, rwy’n siŵr fod y Gweinidogion yn gwrando’n ofalus iawn arnaf yn awr—dyma sut rwy’n dylanwadu ar y gyllideb. Nid oes gennyf yr un pŵer â phlaid leiafrifol o ran pasio’r gyllideb. Ond mae pwynt difrifol yma. Credaf y gallwn uno ar hyn, ac yn sicr, cytunaf y dylem roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu mor bendant ag y bo modd er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein holl rethreg ar yr angen i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn gytuno yn ei gylch.

Mae Simon Thomas wedi crybwyll y morlyn llanw ym mae Abertawe, a chredaf fod gan hwnnw gefnogaeth drawsbleidiol, ac mae hefyd wedi crybwyll effeithlonrwydd ynni mewn tai, a byddwn, unwaith eto, yn hoffi pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy ar hynny. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud gyda chynlluniau Nyth ac Arbed a hoffwn pe gallem fynd y tu hwnt i hynny. Beth am gymryd mantais ar y gyfradd llog isel i fuddsoddi mewn cynllun mwy uchelgeisiol? Am gost o oddeutu £3 biliwn, gallem greu 9,000 o swyddi gyda chynllun uchelgeisiol a allai dynnu cryn dipyn o garbon allan o’r amgylchedd, cynhyrchu sgiliau lleol, manteision enfawr i iechyd—a phe bai hynny’n cael ei gyflawni ar lefel y DU gyfan, gallai gael gwared ar 23 tunnell fetrig o garbon o’r atmosffer. Felly, mae angen i ni gael dychymyg. Credaf fod angen i ni feddwl yn hirdymor, mae angen i ni wrthsefyll pwysau tymor byr a dilyn y dystiolaeth o ran beth sy’n gweithio. Yn y ffordd honno, credaf y byddwn yn parchu ysbryd cytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd.

Mae llawer y gallwn gytuno arno, ond mae Simon Thomas yn iawn—mae camgymeriadau yn cael eu gwneud ar hyn o bryd—ond credaf fod angen i Blaid Cymru gymryd cyfrifoldeb am eu rôl yn hynny hefyd.

Rwyf am ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, ond yn gyntaf roeddwn am grybwyll rhywbeth a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â’r ffermydd gwynt a chau’r pyllau yn Aberdâr. Dylai fod yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cloddio glo brig yn dal i ddigwydd yng Nglofa’r Tŵr, ac mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn droi cefn arno yma yng Nghymru, a dyna pam y credaf fod canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy mor bwysig i Gymru.

Yn 2011, nododd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd y gallai yn agos at 80 y cant o gyflenwad ynni’r byd gael ei ddarparu gan ynni adnewyddadwy erbyn canol y ganrif pe bai’r polisïau cyhoeddus iawn yn galluogi hynny i ddigwydd, ac wrth wneud hynny, gallai dorri oddeutu traean oddi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Felly, ein huchelgais o hyd yw cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. 

Gwyddom fod gennym gryn botensial yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol i elwa ar ein hadnoddau naturiol. Er fy mod yn cefnogi’r hyn sy’n dod mewn perthynas â chael pwerau o hyd at 350 MW, ni fydd yn syndod i neb yma heddiw glywed bod Plaid Cymru eisiau gweld pob un o’r pwerau dros ein hadnoddau naturiol yn cael eu datganoli i’r sefydliad hwn fel y gallwn harneisio ein pwerau a’n holl botensial. Un o’r problemau mwyaf i mi oedd bod dŵr yn fater wedi’i gadw’n ôl yn San Steffan yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru gyntaf, pan fo dŵr yn adnodd naturiol allweddol i ni a dylai fod yn rhywbeth y gallwn fod yn berchen arno a’i drefnu yma yng Nghymru.

Nid wyf ychwaith yn derbyn y ddadl nad yw’n bosibl i ni yma yng Nghymru newid y tirlun er nad yw rhai o’r pwerau hynny o fewn ein gafael. Dywedodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad yn ei adroddiad, ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’, ei fod yn argymell sefydlu cwmni gwasanaeth ynni ambarél dielw, er mwyn i awdurdodau lleol, dinas-ranbarthau neu gymunedau allu cynnig cyflenwad ynni’n lleol, a diwygio polisi cynllunio fel ei fod yn blaenoriaethu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol. Rydym wedi dweud dro ar ôl tro y byddai’r pethau hyn yn helpu i lunio ein dyfodol ein hunain yma yng Nghymru, a dyna pam, fel Aelod sy’n cynrychioli cwm Tawe, ei bod yn wych gweld datblygiadau yno, megis Awel Aman Tawe, sy’n datblygu’r datblygiadau llai o faint hyn. Ond mae’n rhaid i ni weld llawer mwy o fuddsoddi yn hyn, oherwydd, fel delfrydwr, hoffwn weld sefyllfa lle nad oes corfforaethau rhyngwladol yn rhedeg ein ffermydd gwynt ac yn mynd ag elw oddi wrthym yng Nghymru. Rwyf am weld Cymru yn y dyfodol sy’n cael ei rhedeg gennym ni fel cenedl. Mae angen i ni edrych ar wledydd fel Denmarc a gwledydd Nordig eraill—gan fod gennyf ryw led-obsesiwn â’r gwledydd Nordig am wahanol resymau, credaf y dylem edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud gyda’r agenda amgylcheddol. Pan edrychwch ar ffermydd gwynt, maent ym mhobman ac mae’n normaleiddio sut y mae pobl yn eu gweld ac yn eu hystyried, ac mae ganddynt yr ymagwedd hamddenol iawn honno tuag at eu datblygiad, ond ymddengys fod datblygiadau o’r fath bob amser yn broblem i ni.

Mae Awel Aman Tawe wedi sefydlu cwmni solar ffotofoltaig cydweithredol, Egni, sy’n datblygu ynni solar ffotofoltaig ar adeiladau cymunedol. Gwn fod ein cynghorwyr yn Wrecsam, er enghraifft, wedi gwneud ymdrech i osod paneli solar ar bob un o’u tai cymdeithasol—ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwybod am hynny—er mwyn iddynt allu helpu’r bobl yn y tai hynny’n uniongyrchol, ond hefyd er mwyn helpu Cymru a’r mentrau cymdeithasol yn y sector penodol hwnnw. Mae hefyd yn y broses o sefydlu fferm wynt gymunedol sy’n cynnwys dau dyrbin yn Nyffryn Aman Uchaf a Chwm Tawe, a bydd yr holl elw o’r cynllun yn mynd tuag at y broses adfywio yn lleol. Maent yn ceisio cyflawni hyn, ac er bod pobl leol yn gefnogol, nid yw wedi mynd ymhellach na’r camau cynllunio. Felly, mae’n ymwneud â gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd ynni adnewyddadwy.

Gyda’r seilwaith cywir yn ei le, gan gynnwys newidiadau i’r system gynllunio, gallai hynny alluogi llawer mwy o’r cynlluniau hyn ledled Cymru. Credaf fod 104 o gynlluniau ynni cymunedol yng Nghymru ac roedd llawer mwy—mae’n ddrwg gennyf fy mod yn cymharu â’r Alban eto—ond roedd dros 11,940 o safleoedd ynni adnewyddadwy unigol yn yr Alban. Felly, hoffwn wybod pam rydym yn llusgo ar ôl yr Alban pan allwn fuddsoddi llawer mwy, ‘does bosibl, yn y maes hwn. Diolch yn fawr.

Rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig hwn, fel y mae plaid y Ceidwadwyr Cymreig. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma?

Mae cytundeb Paris, fel rydym wedi’i nodi, yn bwysig iawn. Gobeithiwn y bydd yn sicrhau ein bod yn cadw’r cynnydd yn y tymheredd o dan 2 radd canradd a’n bod yn anelu am ostyngiad o 1.5 gradd—mae hynny’n uchelgeisiol tu hwnt ac mae llawer o bobl yn teimlo bod cynnydd o’r fath eisoes yn anochel. Felly, mae’n galw am i allyriadau gyrraedd eu brig cyn gynted ag y bo modd, ac am ostyngiadau cyflym ar ôl hynny. Mae’n bwysig iawn ein bod, fel gweinyddiaeth ddatganoledig, fel y ddeddfwrfa yma, yn archwilio blaenoriaethau ac ymrwymiadau’r Weithrediaeth a’r hyn y maent yn nodi yn eu cyllideb ddrafft a gofyn y mathau hyn o gwestiynau ynglŷn â sut y byddwn yn chwarae ein rhan i sicrhau’r math hwnnw o gynnydd.

Hoffwn ganolbwyntio ar bethau sy’n effeithio ar Gymru’n arbennig. Yn amlwg, mae’n gytundeb rhyngwladol ac mae llawer o bethau am y bartneriaeth rydym yn ei harwain gyda’r byd sy’n datblygu y credaf eu bod yn arbennig o berthnasol—ond ar gyfer diwrnod arall efallai. Mae arnom angen partneriaethau gyda dinasyddion gweithgar a chyrff anllywodraethol. Rwy’n credu’n wirioneddol fod hyn yn allweddol i’r ddadl gyfan. Heb fod dinasyddion yn cytuno â’r dewisiadau ac yn ein hannog i wneud rhai o’r dewisiadau—megis, efallai, peidio â chael meysydd parcio yng nghanol dinasoedd bob amser a gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol mewn pob math o ffyrdd—a hefyd y cyrff anllywodraethol i chwarae rôl graffu a chynnig arferion gorau a datblygu syniadau newydd yn ogystal. Mae hynny’n amlwg yn eithriadol o bwysig.

Sylwaf fod cytundeb Paris yn cyfeirio at ddinasoedd â rôl allweddol i’w chwarae o ran lleihau allyriadau. Rwy’n credu ein bod angen chwyldro ym maes dylunio trefol, a dweud y gwir, a’r modd rydym yn byw yn ein dinasoedd. Gallwn droi hynny’n fantais fawr, ac mae’n golygu ein bod yn rhoi pobl, yn enwedig plant, yn gyntaf yn hytrach na thrafnidiaeth fodurol a thechnolegau eraill fel aerdymheru, hyd yn oed mewn hinsawdd fel ein hinsawdd ni, ym mhob math o adeiladau yn awr. Rhaid ailedrych ar y pethau hyn a’u herio.

Roeddwn yn falch iawn fod Theresa May wedi defnyddio ei haraith gyntaf yn y Cenhedloedd Unedig i addo bod y DU yn mynd i gadarnhau cytundeb Paris erbyn diwedd y flwyddyn, a bod Llywodraethau eraill wedi symud ymlaen yn ogystal, gyda hyd yn oed mwy o gyflymder mewn rhai achosion, fel bod cytundeb Paris yn dod yn ffurfiol, rwy’n credu, o ran ei roi mewn grym ddydd Gwener. Felly, rwy’n meddwl y dylem gofio hynny ddydd Gwener. Yn allweddol i’r hyn y mae’r gwladwriaethau’n ei addo, mae cael cyfraniadau a bennir yn genedlaethol, a’u bod yn cael eu hadolygu bob pum mlynedd i’w gwneud yn fwy uchelgeisiol. Rwy’n credu y bydd yn bwysig iawn fod y gweinyddiaethau datganoledig yn rhan o’r broses honno, ac os oes gan y Gweinidog unrhyw wybodaeth am hynny a sut y byddwn yn cymryd rhan yng nghyfraniad a bennir yn genedlaethol y DU, byddwn yn falch iawn o glywed.

A gaf fi gloi drwy atgoffa pawb pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa bresennol? Erbyn hyn mae yna lefelau carbon deuocsid o 400 rhan y filiwn yn yr atmosffer: mae hynny 40 y cant yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae hyn yn fesuradwy. Mae hyn yn rhywbeth na ellir ei wrthbrofi. Mae yna bobl sy’n cwestiynu effaith y cynnydd ar yr atmosffer, wrth gwrs, er bod rhaid i mi ddweud ei bod yn hynod gredadwy bellach mai dyna’r prif gyfrannwr at y cynnydd cyflym yn y tymheredd rydym wedi’i weld. Yn y pedair blynedd diwethaf, mae mwy na thriliwn o dunelli o iâ wedi cael eu colli oddi ar len iâ Gwlad yr Iâ. Byddai hynny’n llenwi 400 miliwn o byllau nofio Olympaidd. Mae yna hefyd berygl clir bellach o ddolenni adborth yn datblygu a fydd yn cyflymu’r broses o golli iâ o’r Arctig. Mae dŵr tawdd, er enghraifft, yn gallu treiddio i’r creigwely, iro’r sylfaen a chyflymu symudiad rhewlifau. Mae hyn wedi cael ei alw gan un unigolyn yn ‘ganibaliaeth dŵr tawdd’, ac mae’n ystyriaeth go frawychus yn wir. Ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf, Lywydd, cododd lefel y môr fwy na throedfedd bob degawd. Nid oes gennym gymaint o iâ ag a oedd ganddynt bryd hynny, ond mae canlyniadau diflaniad rhew’r Arctig, gyda pheth ohono—mae rhan go helaeth ar yr Ynys Las ar dir, wrth gwrs, ac mae llawer o iâ ar dir yn yr Antarctig—ac er na fydd rhew sy’n arnofio yn effeithio ar lefel y môr, fe fydd hyn yn effeithio ar y lefel, a gallem wynebu angen cyflym i addasu i’r hyn sydd eisoes yn rhan anochel o’r system. Ond dylem wneud cymaint â phosibl yn awr i atal unrhyw ddifrod gwaeth na’r hyn sydd bellach yn anochel.

Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad byd-eang wrth gwrs, ac yn galw am ymateb byd-eang. Bydd cydweithrediad rhyngwladol, gyda phob cenedl yn gwneud ei rhan, yn hanfodol er mwyn lliniaru’r bygythiad y mae newid yn yr hinsawdd yn ei greu, ac i ymateb i effeithiau cynhesu ar ein byd. Bydd cytundeb Paris, fel y crybwyllwyd, yn dod i rym ymhen deuddydd, ar 4 Tachwedd. Ar ôl cael ei gytuno ym mis Rhagfyr 2015, cafodd ei gadarnhau’n hynod o gyflym o ystyried ei fod yn gytundeb rhyngwladol, sy’n gynsail, gobeithio, i gytundebau eraill a allai fod ar y gorwel yn y dyfodol cymharol agos. Mae’n awgrymu bod yna gydnabyddiaeth gynyddol o’r angen dybryd i wneud rhywbeth cyn y gwneir difrod anadferadwy i’n planed. Un canlyniad annisgwyl o’r gynhadledd oedd bod y nod ar gyfer allyriadau wedi ei godi y tu hwnt i’r hyn a gytunwyd yn flaenorol. Er bod penderfyniad eisoes wedi’i wneud i gadw tymereddau’n llawer is na 2 radd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol ac ymdrechu i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd i 1.5 gradd yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol, mae’r cytundeb bellach yn gosod nod hefyd i allyriadau gyrraedd eu brig cyn gynted â phosibl ac i sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau o weithgarwch dynol a’u hamsugno gan ddalfeydd carbon rywbryd yn ystod ail hanner y ganrif.

Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r cynnydd hwn yn yr uchelgais byd-eang. Mae pob gwlad, beth bynnag fo’i maint, yn gallu chwarae rhan ystyrlon yn lleihau allyriadau, ond bydd angen ymagwedd newydd, radical arnom. Yn wir, ategaf alwad David Melding am chwyldro. Rydym wedi gweld Cymru yn llusgo ar ôl gwledydd eraill, fel y mae fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins wedi sôn. Yn yr Alban, bu cynnydd gwirioneddol ac fel gwlad ddatganoledig, dylai fod yn ysbrydoliaeth i ni yma. Nid yw’n ddigon da nad yw allyriadau wedi lleihau mwy na 18 y cant yng Nghymru ers 1990, wrth i rew môr leihau ac wrth i lefelau’r môr godi.

Mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymrwymo Cymru i fod yn genedl sydd, wrth iddi fynd ati i wneud unrhyw beth i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a yw gwneud rhywbeth o’r fath yn gyfraniad cadarnhaol i les byd-eang. Rhaid i hyn fod yn fwy na dyhead dymunol ar bapur. Rhaid iddo arwain at roi camau go iawn ar waith, a hynny ar frys. Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau drwy ategu cytundeb Paris cyn mynychu cynhadledd newid hinsawdd Marrakesh yn ddiweddarach y mis hwn. Byddai hyn yn arwydd fod Cymru o ddifrif ynglŷn â’i chyfrifoldeb i weithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ochr yn ochr â’n cymdogion ac fel rhan o’r gymuned fyd-eang.

Bydd pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud pethau’n anos. Gallai gwaith ar y cyd â gweddill y cyfandir fod mewn perygl ar adeg pan fo’i angen yn fwy nag erioed, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i Gymru ddilyn trywydd penodol a mwy uchelgeisiol. O ystyried yr awyrgylch gwleidyddol presennol yn Lloegr, ni fyddai’n syndod pe gwelem ddeddfwriaeth amgylcheddol yn cael ei glastwreiddio pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gan fod cyfrifoldeb dros yr amgylchedd eisoes wedi’i ddatganoli, gall Cymru fod yn fwy radical a pharhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i leihau allyriadau. Ar y pwynt hwn—rwy’n teimlo mewn hwyliau optimistaidd iawn heddiw—rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yn dangos a yw ei Llywodraeth yn barod i fanteisio ar y cyfle sy’n dod yn y blynyddoedd i ddod i Gymru gymryd ei lle ym mhob cynhadledd fyd-eang a sefydliad rhyngwladol fel aelod yn ei hawl ei hun, fel cenedl is-wladwriaethol, o ran newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd—y byddwn yn mynd ati i geisio aelodaeth i’n gwlad mewn sefydliadau byd-eang lle y bu’r Undeb Ewropeaidd yn ein cynrychioli yn y gorffennol efallai, ac i sicrhau nad yw’r Deyrnas Unedig yn siarad ar ein rhan ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth gwrs, mae effaith gadael yr UE yn fwy na gwleidyddol yn unig. Bydd cyllid yr UE sydd ar hyn o bryd yn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn cael ei golli. Bydd angen i raglenni fel Glastir, y cynllun rheoli tir cynaliadwy, ddod o hyd i gyllid amgen i gymryd lle’r cymorth o gronfa amaethyddol yr UE ar gyfer datblygu gwledig. Ni allwn adael i fentrau newid yn yr hinsawdd fel hyn ddiflannu pan ddaw’r cyllid o Ewrop i ben. Bydd canlyniadau methu gweithredu yn ddifrifol. Bydd yna effaith enfawr ar fywydau pobl ar draws y byd. Wrth i dymheredd byd-eang godi, bydd ardaloedd cyfannedd y byd yn newid, gan beryglu cyflenwadau bwyd a chan arwain at fwy byth o ddadleoli poblogaethau nag a welwn yn awr. Mae newid hinsawdd eisoes yn argyfwng rhyngwladol, ac ni all ond gwaethygu os na weithredwn. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan ei hun, yn llawer mwy na maint ein poblogaeth, mewn ymdrechion byd-eang i atal y trychineb hwn rhag digwydd.

Mae môr yr Arctig yn cynhesu, mae mynyddoedd iâ’n prinhau ac mewn rhai mannau mae’r dŵr yn rhy boeth i’r morloi, yn ôl adroddiad i’r Adran Fasnach ddoe gan Consulafft, yn Bergen, Norwy.

Mae adroddiadau gan bysgotwyr, helwyr morloi a fforwyr i gyd yn pwyntio at newid radical yn yr hinsawdd a thymereddau nas clywyd am eu tebyg hyd yma yn yr Arctig. Mae teithiau archwilio yn adrodd na cheir fawr ddim rhew mor bell i’r gogledd ag 81 gradd 29 munud. Mae plymiadau i ddyfnder o 3,100 metr yn dangos bod llif y Gwlff yn dal yn gynnes iawn. Aeth yr adroddiad rhagddo i ddweud bod crynswth mawr o iâ yn cael ei ddisodli gan farianau o bridd a cherrig, ac ar lawer o bwyntiau mae rhewlifoedd cyfarwydd wedi diflannu’n gyfan gwbl.

Ni welir ond ychydig iawn o forloi a dim pysgod gwyn yn yr Arctig dwyreiniol, ond mae heigiau enfawr o benwaig a brwyniaid môr nad ydynt erioed wedi mentro mor bell i’r gogledd o’r blaen, yn cael eu codi wrth hen fannau pysgota morloi. Mewn ychydig flynyddoedd, rhagwelir y bydd y môr yn codi am fod y rhew’n toddi ac yn gwneud y rhan fwyaf o ddinasoedd arfordirol yn anghyfannedd.

Rhaid i mi ymddiheuro, gan fy mod wedi anghofio sôn mai adroddiad o 2 Tachwedd 1922 oedd hwn fel y’i cyhoeddwyd yn y ‘Washington Post’. Ie, fe wnaethoch i gyd ei weld yn dod, oni wnaethoch? Ond nid yw’n gwneud y datganiad hwn yn llai pwerus mewn unrhyw fodd, a gobeithio ei fod yn peri i rywun feddwl. Rwy’n tynnu eich sylw at yr erthygl hon am fy mod am i Aelodau’r Cynulliad hwn edrych yn feirniadol ar y data y mae’r hyn a elwir yn ddadl newid hinsawdd yn seiliedig arno. Yn aml, dywedir bod cytundeb barn ymhlith mwyafrif helaeth o’r sefydliad gwyddonol fod yr hinsawdd yn cynhesu oherwydd gweithgaredd pobl. Yr hyn nas datgelir yw nad yw’r mwyafrif helaeth o’r corff gwyddonol hwn yn hinsoddegwyr o gwbl ac ymhlith hinsoddegwyr go iawn, mae canran y rhai sy’n credu yn lleihau’n ddramatig.

Ceir llawer iawn o dystiolaeth hefyd i brofi nad yw gwyddonwyr sy’n gwrthwynebu’r ddadl ynglŷn â chynhesu byd-eang yn cael cyllid ac anaml y caiff eu gwaith ei gyhoeddi, ond mae unrhyw un sy’n ychwanegu ‘o ganlyniad i gynhesu byd-eang’ ar ddiwedd eu gwaith yn ddieithriad yn cael eu cyhoeddi. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod yna fuddiannau breintiedig enfawr i’w cael yn y byd gwyddonol a’r byd masnachol, o hyrwyddo’r agenda cynhesu byd-eang—heb sôn am yr agenda wleidyddol. Fodd bynnag, mae arfarniad cywir o’r data gwyddonol yn dangos gwybodaeth empirig sy’n seiliedig ar gyfnod hanesyddol eithriadol o fyr. Caiff ffeithiau am y dystiolaeth hanesyddol hwy eu hanwybyddu’n ddeddfol, fel y mae’r erthygl rwyf newydd ei chyflwyno yn ei dystio.

Nid oes ond angen bwrw golwg sydyn ar hanes hinsoddol, gyda phersbectif diduedd, i weld bod newid yn yr hinsawdd, mewn gwirionedd, yn gylchol. Yn y Brydain Rufeinig, câi grawnwin eu tyfu mor bell i’r gogledd â Newcastle, ac yn oes Fictoria, roedd rhew dros y Tafwys yn rheolaidd. Dywedir wrthym dro ar ôl tro fod y rhew yn yr Arctig yn toddi i lefelau critigol. Eto i gyd, mae cipolwg brysiog hyd yn oed ar yr hanes yn dangos bod hyn yn digwydd yn rheolaidd. Yn 1962, er enghraifft, cyfarfu dwy long danfor Americanaidd ym Mhegwn y Gogledd, gan falu’r rhew o’u blaenau nad oedd ond yn ddwy droedfedd o drwch yn ôl y sôn. Mae llongau tanfor wedi gallu ailadrodd yr ymarfer hwn ar sawl achlysur ers hynny. Gyda llaw, ni fyddai modd gwneud hyn ar hyn o bryd.

O edrych arni’n wrthrychol, mae llawer iawn o dystiolaeth wyddonol i brofi patrwm cylchol hinsawdd y byd, gyda llawer iawn ohono’n llawer mwy dramatig na’r hyn rydym yn ei brofi ar hyn o bryd. Rwy’n eich gadael gydag un sylw olaf: ni fu unrhyw gynnydd amlwg yn y tymheredd dros y 15 mlynedd diwethaf—cyfaddefiad gan neb llai na’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd sy’n peri peth embaras. Mae’r rhai sy’n credu mewn cynhesu byd-eang yn dweud mai toriad byr yw hwn, ac rwy’n dyfynnu un erthygl yma—dim ond saib yn y cylch cynhesu byd-eang.

Rwy’n cyflwyno’r papur hwn i chi am un rheswm yn unig, sef i roi gwybod i chi na allwch dderbyn tystiolaeth wyddonol a roddwyd ger eich bron gan gyrff sydd â diddordeb heb gwestiynu’r wybodaeth honno. Gofynnaf i chi edrych ar hyn—fe gytunaf â phob un ohonoch, a phob dim y mae Simon wedi’i ddweud, a’r cyfan a ddywedodd Bethan, o ran cael ynni adnewyddadwy. Rwy’n gredwr mawr mewn ynni adnewyddadwy. Mewn gwirionedd, rwy’n meddwl y dylai Cymru edrych ar ynni a gynhyrchir gan ddŵr, yn hytrach nag ynni a gynhyrchir gan y gwynt—wedi’r cyfan, rydym yn un o’r mannau gwlypaf ar y ddaear. Felly, nid yw hyn yn dweud na ddylem barhau â’r busnes hwn. Yn syml iawn, ei ddiben yw gwneud i chi gwestiynu’r rhesymau pam rydym yn gwneud hynny. Diolch.

Rwy’n credu y dylem i gyd gwestiynu’r rhesymau pam rydym yn gwneud hyn. Ac os nad ydym yn gwrando ar gyrff sydd â diddordeb, a ddylem wrando ar gyrff nad oes ganddynt ddiddordeb, felly, neu sut rydym i symud ymlaen? Mae’n rhaid i mi ddweud eich bod yn iawn i dynnu sylw at ychydig o archwilio beirniadol fel rhywbeth sydd ei angen mewn unrhyw drafodaeth o’r math hwn—mae’n gweithio’r ddwy ffordd, mewn gwirionedd, yn ogystal â bod yn wrthrychol ac yn ddiduedd hefyd. Felly, wyddoch chi, mae’n iawn i farn pawb gael ei chlywed, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod y mwyafrif llethol—gwirioneddol lethol—o dystiolaeth yno, ac na allwch wadu bod newid hinsawdd yn realiti, beth bynnag a ddywedai’r ‘Washington Post’ yn 1922, gyda phob parch. Ac mae’n rhywbeth na allwn ddianc rhagddo, ac mae’n rhywbeth, yn sicr, na fyddwn yn claddu ein pennau yn y tywod yn ei gylch.

And what I want to do in my contribution this afternoon is remind Members, as I have done previously in this Chamber, of the work done by the Environment and Sustainability Committee in the previous Assembly. One of the final acts of the committee, indeed, was to publish its report on the future of smarter energy for Wales. There were all sorts of recommendations, of course, contained within that report, and one is concerned on occasion that some of these reports do become lost between Assemblies. And I don’t apologise for the fact that I am reminding Members of the existence of that report, and, certainly, the Cabinet Secretary too, because one does feel that a number of those recommendations have perhaps been lost, when I believe they have an important contribution to make, particularly, perhaps, in terms of the main focus of my contribution, from a saving energy perspective, and ensuring that we reduce the demand for energy, and that we help people to use energy in a more efficient way. For example, Germany, as we know, is committed by 2050 to ensure that 80 per cent of its energy comes from renewable sources, but it’s also committed to cutting its energy use in buildings by 80 per cent too. The one goes hand in hand with the other, of course, and that in turn, of course, according to the German plans, will create millions of jobs and contribute constructively to its gross domestic product too.

Now, we know that homes in the UK spend some 80 per cent of their energy costs on heating rooms and water in their homes. So, as we know, we need to ensure that homes are as efficient as possible in terms of energy usage, in terms of retaining heat and, therefore, reducing costs, as well as the other benefits that ensue from that. I have mentioned, of course, dozens of times the energy performance of buildings directive from the European Union—this aim that we currently still have, for the time being at least, of getting close to zero in terms of emissions by the end of 2020. And the decision by the Welsh Government in the previous Assembly to consult on achieving energy performance standards that are 25 per cent or 40 per cent more effective than the 2010 standards, and then settle for 8 per cent, was very disappointing.

Although, of course, there is going to be a change in terms of the European commitments, I suspect, that we will be duty-bound to meet, I would be hopeful that reaching that aim would be the beginning of the journey, rather than the end of that journey. Because the current system of continuing to construct homes that aren’t sufficiently energy efficient does lock that inefficiency in for the lifespan of those homes, which means that we can’t achieve the level of energy efficiency that we’d all want to see whilst those homes remain in existence, without, of course, going into the additional costs of retrofitting those homes. Therefore, it is a crucially important part of that work, and the retrofitting as well, as we do have so many homes that will still be here in 50 years’ time. Arbed and Nest make a contribution, as we’ve heard, but it’s a very small contribution, of course, despite its importance, in the context of the scale of the challenge facing us. Plaid Cymru, of course, wanted to invest billions of pounds over the next two decades to meet that challenge, through the national infrastructure commission for Wales, and I do feel that we have to raise our game in this particular area.

We heard reference to the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 earlier. Well, of course, we are talking here not only about environmental benefits in terms of reducing carbon emissions, but also economic benefits in terms of job creation and social benefits in terms of tackling energy poverty. So, if we are serious about achieving sustainable development in Wales, and if we are serious about delivering the commitments that we want to meet in terms of the Paris agreement, then we have to start at our feet and ensure that we reduce the use of energy in Wales, and do so mainly through the housing stock.

Nid wyf eisiau ymladd brwydrau newid yn yr hinsawdd gyda’r rhai sy’n amau ac yn gwadu bodolaeth newid yn yr hinsawdd eto. Byddwn yn dweud yn syml, i’r rhai sydd â diddordeb mewn edrych ar y wyddoniaeth ar hyn—rhoddwyd darlith dda iawn gan yr Arglwydd Stern yn y Gymdeithas Frenhinol ar 28 Hydref y mis hwn ar bwysigrwydd allweddol y 10 mlynedd nesaf, a hefyd, gyda llaw, yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw o hynny os ydym yn ymateb iddo yn y ffordd iawn. Felly, nid wyf yn mynd i barhau i ymladd brwydrau’r gorffennol sydd eisoes wedi’u datrys a bod yn onest.

Rydym mewn cyfnod digynsail o newid yn yr hinsawdd, ac oni bai ein bod yn gweithredu, a hynny’n gyflym—. Dywedodd yr Arglwydd Stern yn wreiddiol, ymhell yn ôl yn adroddiad Stern, fod yn rhaid i ni roi camau ar waith ar unwaith, mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn y mesurau cywir, a buddsoddi’n drwm i hybu newid yn y broses o liniaru ac addasu. Mae bellach yn dweud ein bod ar ei hôl hi eto. Mae’n rhaid i ni gyflymu pethau’n sylweddol. Ac mewn gwirionedd, roedd adroddiad yr Arglwydd Deben a gynhyrchwyd y llynedd gan y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd, ac a gyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, yn dweud yr un peth yn union—mae mwy fyth o frys i symud ymlaen. Ac fe allwn wneud hynny, ac mae gennym oll ran i’w chwarae, fel unigolion, fel teuluoedd, fel cymunedau, ac fel Llywodraethau ar bob lefel. Ac roedd yn wych gweld, ddydd Sadwrn diwethaf—ni allwn ymuno â hwy am fod gennyf gyfarfodydd eraill—fod Surfers against Sewage—pwy na fyddai yn erbyn carthffosiaeth a bod yn onest—ynghyd ag Atal Anhrefn Hinsawdd i lawr ar y traethau ym Mhorthcawl yn clirio’r traethau, ond hefyd—. Roedd yna oddeutu 50 o bobl yno mae’n debyg—gyda’r ieuengaf yn llythrennol yn fabi bach, ac wrth gwrs, pobl a oedd yn fwy oedrannus—yn glanhau’r traeth, ond hefyd yn siarad gyda’i gilydd am yr hyn y gallent ei wneud yn lleol o ran mentrau i wneud y blaned yn well ac i ddatblygu cynlluniau ynni cymunedol ac yn y blaen.

Roeddwn i yno yn ôl yn 2009 pan ddigwyddodd llifogydd Cumbria—pan wnaethant daro. Roeddwn yn sefyll yn y Swyddfa Dywydd mewn gwirionedd. Roedd Hilary Benn, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, wedi dod â’r Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd at ei gilydd ar ffurf cynllun arloesol y ganolfan darogan llifogydd yn Llundain. Roeddwn yno’n edrych ar y paneli fel y gallem ddweud, gyda rhybudd o tua 36 awr ymlaen llaw, beth oedd maint yr hyn a oedd yn mynd i’n taro, ac fe wnaeth daro. Fel y gwyddom, nid oedd y gost i Cumbria yn bell o £300 miliwn o ddifrod, yn economaidd, i’r ardal leol. Cafodd pontydd eu hysgubo ymaith ac fe newidiodd afonydd eu cyrsiau dros nos. Collodd Bill Barker, heddwas lleol, ei fywyd ar bont a gafodd ei hysgubo i ffwrdd gan y llifogydd. Ac roedd mwy na hynny hefyd: y dinistr i gannoedd, os nad miloedd o bobl y bu’n rhaid iddynt adael eu tai, nid dros dro’n unig, ond am fisoedd, ac mewn rhai achosion, am flynyddoedd i ddod hefyd mewn gwirionedd. Ers hynny, rydym wedi gweld mwy a mwy a mwy.

Ni all fod dim yn ddadleuol yn awr ynglŷn â dweud bod pawb yn cydnabod bellach fod amlder a dwyster digwyddiadau tywydd trawmatig yma a thramor yn fwy difrifol, yn fwy aml, ac yn fwy dinistriol i fywydau. Ac er ei fod yn ein taro ni yn wlad hon—. Ac roeddwn yno hefyd, gyda llaw, pan gynhyrchwyd y mapiau a oedd yn dangos y straeon arswyd ym mhapurau newydd y wlad a oedd yn dangos y posibilrwydd, dros y 50 i 100 mlynedd nesaf, o orlifo arfordirol, a gwelsom beth fyddai effeithiau hynny mewn llefydd fel East Anglia a Fenland. Ond fe gynhyrchwyd cynlluniau gweithredu gennym hefyd a’r pecyn cymorth a fyddai’n dweud beth y gallem ei wneud i osgoi hyn rhag digwydd yn ei gyfanrwydd—i weithio gyda natur lle roedd rhaid i ni ac i amddiffyn lle roedd rhaid hefyd. Mae yna ffyrdd allan o’r sefyllfaoedd hyn os ydym yn dewis ei wneud mewn gwirionedd. Ond mae’r angen yn daer ac mae brys.

Roedd yn wych fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynrychioli yno y llynedd yn COP21 ym Mharis, a’i bod nid yn unig yn rhan o’r trafodaethau a oedd yn mynd rhagddynt ond hefyd ei bod yn rhan o gadarnhau’r hyn a fyddai’n cael ei wneud gan wneuthurwyr polisi, felly, yn y rhanbarthau ac yn y cenhedloedd yma ar lawr gwlad. Roeddwn yno’n rhan o’r gynghrair fyd-eang o ddeddfwrfeydd, yn edrych ar weithrediad ymarferol yr hyn a ddeilliodd o COP21. Ac roedd COP21 yn arwyddocaol—am y tro cyntaf, roedd gennym y chwaraewyr mawr, byd-eang roedd angen i ni eu cael yno. Cafwyd cytundeb nad dyna oedd diwedd y mater—mai dechrau’n unig oedd hynny. Yna roedd angen i ni ddwysáu’r gwaith.

Rwy’n meddwl mai dyna ble y mae angen i ni edrych ar Gymru. Sut rydym yn dwysáu’r gwaith? Pa mor uchelgeisiol rydym am fod? Yn fy sylwadau olaf, gadewch i mi ddweud y gallwn wneud hyn—fe allwn wneud hyn. Pa mor benderfynol yr ydym o gadw tanwydd ffosil yn y ddaear? Pa mor benderfynol yr ydym o hybu ynni cymunedol ac ynni glân, gwyrdd, a datblygu swyddi gwyrdd o amgylch hynny, gan ddefnyddio effeithlonrwydd ynni fel seilwaith cenedlaethol i hybu twf economaidd, a defnyddio ynni adnewyddadwy, gan gynnwys y morlyn llanw? Mae’n gwbl warthus nad ydym yn defnyddio’r cwymp llanw ail uchaf yn y byd yma ar garreg ein drws. Beth arall y gallwn ei wneud gyda nwy petrolewm hylifedig a chael gwared ar betrol a diesel a symud at LPG a thrafnidiaeth drydanol? Datblygu trafnidiaeth gyhoeddus integredig cost isel yn ne Cymru a gogledd Cymru—system wedi’i datgarboneiddio neu system carbon isel; cymell lleihau carbon yn y diwydiannau uwch-ddwys, gan gynnwys i lawr y ffordd yma yn y diwydiant dur; nid cartrefi di-garbon yn unig, ond cartrefi ynni-bositif, fel y tŷ SOLCER; a chydnabod a mynd ati i wobrwyo nwyddau cyhoeddus ac amgylcheddol, yn cynnwys addasu i’r newid yn yr hinsawdd a lliniaru llifogydd yn ein polisïau gwledig ac amaethyddol—hyn oll a chymaint mwy. Rydym wedi arwain y ffordd yng Nghymru o’r blaen. Gallwn wneud hynny eto, a gallwn wneud mwy eto hyd yn oed. Ac rwy’n meddwl bod yna ewyllys yn y Siambr hon heddiw i annog y Gweinidog i fod yn eofn a’i holl gyd-Aelodau yn ogystal.

Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r ddadl hon ar newid yn yr hinsawdd heddiw, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP22, ym Marrakesh, y byddaf yn ei fynychu i gymryd rhan mewn trafodaethau ar yr her fyd-eang hon.

Fel y clywsom, y llynedd, roedd fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, yn ei rôl fel y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, yn bresennol ym Mharis yn COP21 a gweithiodd gyda phartneriaid allweddol eraill i ychwanegu at y momentwm i sicrhau cytundeb byd-eang. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod preifat gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon, ynghyd â grŵp bach o lywodraethau taleithiol a rhanbarthol eraill, sy’n cael eu cydnabod fel arweinwyr byd-eang, lle roedd yn trafod ein heffaith ar y cyd i weithredu ar yr hinsawdd. Felly, er na allwn gadarnhau’r cytundeb yn ffurfiol ein hunain, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i wneud hynny.

Felly, roedd 2015 yn flwyddyn bwysig, lle y gwelsom nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cael eu mabwysiadu a’r cytundeb ar fframwaith rhyngwladol rhwymedigol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn 21ain Cynhadledd y Partïon, lle y llofnodwyd cytundeb rhyngwladol newydd gan 195 o Lywodraethau cenedlaethol. Mae hyn yn gosod cyd-destun ar gyfer mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ond mae hefyd yn gosod y cyd-destun ar gyfer datgarboneiddio’r economi fyd-eang.

O ran cynnig heddiw a phwynt 1, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn cefnogi cytundeb Paris. Mae ein Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu deddfwriaeth i’n galluogi i chwarae ein rhan fyd-eang a chyflawni ar y cytundeb pwysig hwn. Yn rhan annatod o gytundeb Paris, mae amcan hirdymor i osgoi newid hinsawdd trychinebus ac mae’n gosod nod hirdymor ar gyfer allyriadau sero net yn ystod ail hanner y ganrif hon, a bydd pob gwlad yn cydweithio i gyrraedd y nod hwnnw.

Bydd cyd-Aelodau’n ymwybodol fod ein Deddf yr amgylchedd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol eleni ac fe’i cynlluniwyd yn bwrpasol gyda’r cyd-destun rhyngwladol mewn golwg. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni leihau ein hallyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050, ond yn bwysicach, mae yna ddarpariaethau yn y Ddeddf hefyd ar gyfer cynyddu’r targed hwn yn y dyfodol, gan ein galluogi i ddilyn y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, polisi rhyngwladol a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Felly, mae ein targed o 80 y cant fan lleiaf o ostyngiad erbyn 2050 yn unol â rhwymedigaethau ehangach y DU a’r UE.

Mae Cymru, ynghyd â’r DU, yn rhan o grŵp blaenllaw o wledydd sy’n rhoi camau deddfwriaethol ar waith i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn yr un modd, mae Deddf yr amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod targedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040, gyda chyfres o gyllidebau carbon pum mlynedd i adolygu ein cynnydd a sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau. Hefyd, mae’n ofynnol i ni osod y targedau interim a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf erbyn diwedd 2018, gan ystyried nifer o feysydd, megis gwyddoniaeth, technoleg a’r adroddiad tueddiadau’r dyfodol diweddaraf, i enwi ond ychydig, a bydd yn cymryd amser i gwblhau’r holl waith dadansoddi. Trwy osod targedau interim a chyllidebau carbon, gallwn sicrhau gostyngiad parhaus a blaengar, yn seiliedig ar dystiolaeth, technoleg a chyfnod arweiniol. Bydd angen i ni gymryd cyngor hefyd gan y corff ymgynghorol ynglŷn ag ar ba lefelau y dylid gosod y cyllidebau, gan sicrhau ein bod yn gadarn.

Roedd cytundeb Paris yn sefydlu mecanwaith byd-eang i wledydd gael cynlluniau datgarboneiddio cenedlaethol, i leihau allyriadau ac ailedrych ar y rhain bob pum mlynedd o 2020 ymlaen, gyda golwg ar gynyddu uchelgais yn y dyfodol. Mae hyn yn debyg ac yn cyd-fynd yn agos iawn â’n fframwaith Deddf yr amgylchedd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi adroddiad ym mhob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, yn nodi cynigion a pholisïau ar gyfer cyflawni’r gyllideb garbon, gan gynnwys y meysydd cyfrifoldeb ar gyfer portffolio pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru. Bydd y polisïau a’r cynigion hyn yn ffurfio ein cynllun cyflawni, gan ddarparu tryloywder ac atebolrwydd, ac wedi’u llunio i helpu i sicrhau arbedion ar allyriadau a darparu sicrwydd er mwyn hybu buddsoddi mewn economi carbon isel.

Y llynedd, yn COP21 daeth Llywodraeth Cymru yn un o’r llofnodwyr a sefydlodd y fenter RegionsAdapt, sy’n canolbwyntio ar y camau addasu y gallwn eu cymryd fel Llywodraethau taleithiol a rhanbarthol. Mae’r enghreifftiau hyn yn cadarnhau bod gweithio mewn partneriaeth ar lefel talaith a rhanbarth yn gallu darparu camau gweithredu ar raddfa fyd-eang, yn groes i’r myth nad oes unrhyw effaith fyd-eang i’n camau gweithredu yng Nghymru. Yn ehangach, mae’r cytundeb yn parhau’r ymrwymiad i helpu gwledydd sy’n datblygu, yn enwedig y gwledydd tlotaf a’r rhai mwyaf bregus. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’n rhaglen Cymru o blaid Affrica, sy’n dathlu ei dengmlwyddiant eleni. Dros y pum mlynedd diwethaf, plannwyd dros 4.2 miliwn o goed yn Mbale, Uganda. Bydd y prosiect, sy’n rhan o Maint Cymru, yn canolbwyntio ar leddfu tlodi a lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Fel rhan o’r dathliad, rwy’n ymwybodol fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn Uganda yr wythnos diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn amlwg iawn, o ganlyniad i’r prosiect hwn, fod dwsinau o blanhigfeydd coed yn y gymuned yn hyrwyddo amaeth-goedwigaeth wedi eu creu ar draws rhanbarth Mbale, ac mae hynny wedi codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd i filoedd o bobl, yn Uganda ond gartref yma hefyd.

Gan droi at bwynt 2 y cynnig, unwaith eto rydym yn cefnogi hwn. Byddaf yn mynd â neges i Marrakesh ynglŷn â sut rydym ni, yma yng Nghymru, yn cymeradwyo’r cytundeb, ond hefyd am y ffordd mae gennym ddeddfwriaeth ar waith eisoes yma yng Nghymru i gyflawni’r nod pwysig hwn yn y tymor hir. Hefyd, ym Marrakesh, byddaf yn gallu tynnu sylw at ein deddfwriaeth arloesol iawn sydd eisoes yn ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol, ynghyd â’n camau gweithredu ar wastraff, rheoli adnoddau naturiol a’n rhaglen Cymru o blaid Affrica. Fel rhan o fy ymweliad, ac fel is-lywydd Rhwydwaith rhyngwladol y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, byddaf yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn tynnu sylw at yr effaith sylweddol rydym yn ei chael, ond hefyd byddaf yn defnyddio’r cyfle i ddysgu gan eraill.

Neges bwysig arall rwy’n meddwl sy’n rhaid i mi ei rhoi yw bod angen i ni gyflawni’r ymrwymiad hwn, nid yn unig am resymau deddfwriaethol, ond yn bwysicach, mae’r achos dros weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn glir iawn, ac mae’n achos sy’n hanfodol i’n ffyniant, ein cydnerthedd ac iechyd ein cymdeithas, gan fframio pob agwedd ar ein dyfodol.

Os caf droi at un neu ddau o bwyntiau a grybwyllwyd gan yr Aelodau, clywais yr hyn a ddywedodd Mark Reckless am y £70 miliwn, a gwnaed gwaith craffu cyn y pwyllgor y bore yma. Rwy’n credu ei bod yn dda iawn fod Simon Thomas wedi ein hatgoffa’n ddefnyddiol fod UKIP eisiau cael gwared ar y gyllideb newid yn yr hinsawdd yn gyfan gwbl. Mae camau gweithredu a pholisïau newid hinsawdd yn gwbl draws-lywodraethol, felly bydd y £70 miliwn ar draws yr holl weithgareddau portffolio, nid fy un i yn unig. Ond rwy’n gobeithio fy mod wedi tawelu meddwl aelodau’r pwyllgor y bore yma ynglŷn â hynny.

Mae gennyf bortffolio eang ac amrywiol iawn, ac rwy’n meddwl bod rhan o hynny, y rhan ynni adnewyddadwy o’r portffolio, yn gyffrous iawn, yn enwedig mewn ardaloedd lle rydym yn gweithio gyda phrosiectau ynni cymunedol. Yr wythnos diwethaf, agorais gynllun dŵr Taf Bargoed, ac rwyf hefyd wedi ymweld â fferm wynt gymunedol. Mae’n dda iawn gweld sut y mae’r cymunedau hyn yn dod ynghyd, a sut y gallwn eu cefnogi.

Cytunaf yn llwyr â Lee Waters ynglŷn â’r rhaglenni effeithlonrwydd ynni Arbed a Nyth. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod mwy am gyflwr ein tai a’n stoc dai, ac rwy’n cyd-ariannu arolwg gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas â chael y wybodaeth honno.

Rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaeth Steffan Lewis ynglŷn ag a fyddwn yn gallu bod yn aelod yn ein hawl ein hunain ar ôl yr UE yn un da iawn. Pa mor dda fyddai hynny, gallu mynd a gwneud hynny? Felly, mae hynny’n rhywbeth y gallwn edrych arno. Cyfeiriodd Llyr Gruffydd at adroddiad ‘Ynni Cymru: newid carbon isel’, a bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymateb i hynny cyn gwyliau’r Nadolig. Hefyd, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nid ydych am ddadlau eto ynglŷn â newid yn yr hinsawdd. Mae’r dystiolaeth wyddonol yn eglur tu hwnt. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u hachosi gan bobl yn hynod o debygol o fod yn brif achos. Mae dylanwad pobl ar ein hinsawdd yn glir iawn, ac allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw’r rhai uchaf mewn hanes.

Felly, i gloi, rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli Llywodraeth Cymru ym Marrakesh yn COP22.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, a dechrau drwy ddiolch yn arbennig i Ysgrifennydd y Cabinet am gefnogi’r cynnig heddiw, ac yn enwedig y ffordd y nododd sut y mae ein deddfwriaeth ein hunain yn ein helpu mewn gwirionedd i gyflawni ein hymrwymiad ym Mharis, rhywbeth a nodais ar y dechrau hefyd. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed yr hyn a ddywedodd am fenter RegionsAdapt a sut y gallwn chwarae ein rhan yno. Dyna’n union roeddwn eisiau ei glywed, a dyna’n union, rwy’n meddwl, yr hyn rydym am uno y tu ôl iddo pan fyddwn yn anfon Gweinidog i rywle fel Marrakesh. Nid yw hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid yn yr ystyr honno, a dyna pam roeddwn ychydig yn siomedig ynglŷn â chyfraniad Lee Waters, a oedd i’w weld wedi’i gynllunio’n fwy fel ymateb i Blaid Cymru yn cyflwyno hyn yn hytrach na chynnwys yr hyn a gyflwynwyd gennym. Ond dyna ni.

Roedd gweddill y cyfraniadau yn amrywiol ac yn gadarnhaol ar y cyfan. Rwyf yn arbennig o awyddus i ddechrau gyda chyfraniad David Melding, am fy mod yn meddwl ei fod yn gwneud pwynt pwysig iawn fod hyn wedi mynd y tu hwnt i wledydd. Mae wedi mynd y tu hwnt i wladwriaethau unigol; mae hyn yn awr yn rhywbeth sy’n eiddo i bawb ohonom. Rwy’n meddwl yr hoffwn ddwyn sylw’r Siambr yn arbennig at y ffaith fod Paris cyn y Nadolig wedi’i ddilyn gan Baris yn y gwanwyn gyda’r uwchgynhadledd busnes a’r hinsawdd, lle y cynrychiolwyd 6.5 miliwn o fusnesau, ac a gytunodd hefyd i gyflwyno eu cynlluniau busnes eu hunain yn unol ag amcanion Paris. Dyma’r realiti. Nid amau dyfarniad toriadau papur newydd o 1922 yw hyn. Dyma beth y mae busnes yn ei wneud heddiw, a dyma beth y mae’r sector gwirfoddol, cyrff anllywodraethol yn y gymuned a’r sectorau ehangach yn ei wneud, a dyna rydym eisiau gweithio gydag ef mewn gwirionedd. Hefyd, fe’n hatgoffwyd gan David Melding fod ffigurau NASA bellach yn dangos ein bod wedi pasio’r trothwy pwysig hwnnw o 400 rhan y filiwn o garbon deuocsid. Y tro diwethaf roedd gennym y trothwy hwnnw roedd dinosoriaid yn crwydro’r ddaear ac nid oedd unrhyw rew ym mhegwn y gogledd na phegwn y de.

Daw hynny â mi at gyfraniad UKIP, ac mae’n rhaid i mi ddweud hyn: wyddoch chi, gallwch gymryd clip o bapur newydd yn 1922 os ydych eisiau, a gallwch osod hwnnw yn erbyn y 97 y cant o’r gymuned wyddonol sy’n dweud bod newid hinsawdd yn digwydd. Ydy, mae wedi digwydd dros filoedd o flynyddoedd; ydy, mae wedi digwydd ers biliynau o flynyddoedd; ond mae’n digwydd yn awr ac mae wedi’i waethygu gan effaith dyn ar yr amgylchedd. A dyna’r hyn sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. Ac oes, mae yna fuddiannau breintiedig, David Rowlands. Gadewch i mi ddweud wrthych am y buddiannau breintiedig: £26 miliwn a wariwyd yn lobïo seneddwyr yr UE, rhwng mis Hydref 2013 a mis Mawrth 2015 yn unig, gan gwmnïau olew a nwy. Dyna’r buddiannau breintiedig sy’n ein dal yn ôl.

Nid oes cynllwyn yma. Mae dyfodol carbon isel i Gymru yn dda i’n hiechyd, mae’n dda i’n heconomi, mae’n dda i’n hamgylchedd, mae’n dda i’r genhedlaeth nesaf, ac mae’n rhoi mwy o annibyniaeth i ni am nad ydym yn dibynnu ar fewnforio olew a nwy. Pa gynllwyn sydd yma i ddweud rywsut fod newid yn yr hinsawdd yn cael ei ddefnyddio i daro pobl? Mae hyn yn ymwneud â’r dyfodol. Mae’n ddrwg gennyf, rydych chi yn y gorffennol. Arhoswch yno, oherwydd nid ydym am newid y llwybr rydym yn ei ddilyn.

David J. Rowlands a gododd—

Ni allaf. Rwyf wedi ateb eich pwyntiau wrth grynhoi ac mae’n rhaid i mi grynhoi yn awr. [Torri ar draws.] Rydych chi wedi cael pum munud. Rwyf wedi ateb eich pwyntiau wrth grynhoi. Rhaid i mi fwrw ymlaen.

Rhaid i mi fwrw ymlaen, gan fod pawb wedi cael eu cyfle i gael eu clywed a dyma fy nghyfle yn awr i ymateb i’r hyn y maent wedi’i ddweud.

Hoffwn ddiolch i Bethan yn arbennig am dynnu sylw at ynni noir, fel petai—yr ochr bositif iawn i ynni yn y gwledydd Sgandinafaidd. Rwy’n falch o ddweud fy mod wedi bod yn Nenmarc fy hun dair wythnos yn ôl ac wedi mwynhau’n fawr iawn, yn croesi’r bont sawl gwaith y dydd, ond yn bwysicach, yn dysgu am berchnogaeth gymunedol. Ymwelais â fferm wynt ar y môr yno gyda sawl dwsin o dyrbinau, ond roedd dau o’r tyrbinau yn eiddo i 10,000 o unigolion—dau dyrbin sy’n eiddo i 10,000 o bobl. Nawr, os gallant drefnu hyn yn Nenmarc, gallwn drefnu hynny yma. Oes, mae gennym gynlluniau ynni cymunedol; oes, mae gennym Ynni Ogwen a phethau fel hynny; ond mae gwir angen i ni gael grid wedi’i ddatgymalu lle y gallwch fod yn berchen ar eich ynni lleol mewn gwirionedd a chyfrannu allan gyda hynny. Dyna sut y bydd hi yn y dyfodol a dyna beth y maent yn ei wneud yng ngogledd-orllewin yr Almaen ar hyn o bryd gyda phrosiect cyffrous iawn yno lle y maent yn defnyddio ynni gwynt mewn ardaloedd anghysbell nad ydynt yn cynhyrchu ar gyfer gweithgynhyrchu mewn gwirionedd—yn debyg iawn i ganolbarth Cymru—a chyfrannu’n ôl wedyn i weddill yr Almaen. Felly, mae hynny’n bwysig iawn.

Gwnaeth Steffan Lewis bwynt pwysig am adael yr Undeb Ewropeaidd ac rwy’n meddwl, a bod yn deg, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i’r pwynt hwnnw hefyd. Gwnaeth Llyr Huws Gruffydd bwynt pwysig iawn i’n hatgoffa am adroddiad pwyllgor amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol, y credaf ei fod yn dal i fod yn waith darllen dilys, ar ddyfodol ynni craffach. Mae’n seiliedig i raddau helaeth ar gymariaethau rhyngwladol hefyd, yn enwedig yr Energiewende yng nghyd-destun yr Almaen.

Yn olaf, Huw Irranca-Davies, diolch i chi am eich profiad yn ymdrin â’r llifogydd a bod yn rhan o Lywodraeth sydd wedi gorfod ymdrin â rhai o’r heriau sy’n deillio o hynny. Rydych chi’n iawn i’n hatgoffa am Nicholas Stern, sy’n byw yng Nghymru rwy’n credu, a’i waith caled dros y blynyddoedd, nid yn unig i’n perswadio bod yr hinsawdd yn newid, ond hefyd i’n perswadio bod gennym ran yn hynny, ac yn bwysicach i ddweud mai ni a’i creodd, ond y gallwn ei ddatrys hefyd. Mae hyn yn ymwneud â thechnoleg. Mae hyn yn ymwneud â’r dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd rydym yn trefnu ein bywydau. Dim cynllwyn, dim mynd yn ôl i’r gorffennol, dim ond bachu’r dyfodol, a gallai Cymru fod ar flaen y gad yn hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fynediad i fand eang, ac rwy’n galw ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6126 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.

2. Yn cydnabod mai gan Gymru y mae’r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol;

(b) diwygio’r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a defnyddio rhwydwaith;

(c) ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a

(d) darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn mynediad i fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies a dangos cefnogaeth fy mhlaid i ddau welliant Plaid Cymru heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, ar y sail nad yw’n adlewyrchu nac yn cydnabod yn ddigonol y methiant i gyflwyno ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011 i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf i bob eiddo erbyn 2015.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nid yw ei gwelliant ychwaith yn dangos unrhyw fath o frys i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i fynd ati i ddatrys y diffyg signalau ffonau symudol mewn ardaloedd helaeth o Gymru. Y tu hwnt i fwriad llac i weithio gyda’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydwaith, a bwriad i ddiwygio’r system gynllunio, a bwriad i bwyso a mesur cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth yr Alban, ychydig iawn o ymrwymiadau a roddwyd i dawelu meddyliau cymunedau ledled Cymru sydd heb gysylltedd band eang digonol neu signalau ffonau symudol.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, nid wyf am fod yn angharedig wrth y Llywodraeth; yn ddi-os mae prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella argaeledd band eang ffeibr ar draws Cymru, er budd trigolion a busnesau yn yr ardaloedd ymyrryd, ac rwy’n cyffroi’n arw pan welaf fan Openreach wedi parcio mewn mannau amrywiol yn fy etholaeth, yn gweithio ar gabinet gwyrdd arbennig, ond gadewch i ni ddatgan y ffeithiau yma: ni ellir gwadu bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais yn 2011 i, ac rwy’n dyfynnu,

‘sicrhau y bydd gan bob cartref a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn 2016, gyda’r uchelgais y bydd gan 50% neu’n fwy gyswllt 100Mbps.’

Nawr, y realiti yw ein bod ymhell o fod yn darparu mynediad band eang cyffredinol at fand eang y genhedlaeth nesaf, ac yn ôl adroddiad Ofcom, ‘The Connected Nations Report 2015’, dim ond 26 y cant o safleoedd sydd â chyflymder lawrlwytho o 100 Mbps. Felly, dim ond hanner yr amcan a nododd y Llywodraeth yw hynny. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, ymatebodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, i’r Gweinidog mewn perthynas â datganiad, a’r hyn a ddywedodd oedd bod y Llywodraeth wedi goraddo mewn perthynas â band eang cyflym iawn ac wedi methu cyflawni, a gwrthododd y Gweinidog ei sylwadau. Wel, mae’n gywir: mae’r pyst gôl wedi cael eu symud dro ar ôl tro, cafodd pobl eu troi ymaith gan esgusodion, ac mae busnesau wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae etholwyr yn dal i ofyn i mi pam na all Llywodraeth Cymru roi gwybod iddynt pa bryd y bydd eu busnesau neu eu heiddo’n cael band eang cyflym iawn. Maent yn cael clywed ‘cewch’, yna cânt glywed ‘efallai’, ac yna, ‘na’. Y cyfan y mae pobl ei eisiau yw i Lywodraeth Cymru ddweud wrthynt yn agored pa un a yw eu gwasanaeth yn mynd i gael ei uwchraddio. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i gyflwyno amserlen ar gyfer eich ymrwymiad i ddarparu contract i ymestyn mynediad band eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.

Nawr, o ystyried y ffaith fod gennych gyfran o’r budd wedi ei chynnwys yn y contract Cyflymu Cymru, lle y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran o’r elw pan fo’r lefelau manteisio yn cyrraedd mwy na 21 y cant mewn unrhyw ardal, rwy’n gofyn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar fand eang fel y dylai, a pham y mae ymelwa wedi bod mor druenus hyd yn hyn. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod 0.6 y cant o ddyraniad y gyllideb wreiddiol ar gyfer prosiect Cyflymu Cymru wedi’i bennu ar gyfer marchnata a chyfathrebu, felly byddwn yn dweud nad yw’n syndod mai gan Gymru y mae’r lefel uchaf o hyd o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ym Mhrydain, a byddwn yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn trafferthu annog pobl i’w defnyddio, er ei bod yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ceisio ei darparu. Yn wir, amlygodd y gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru ddiffyg cydlyniad a dull strategol o farchnata a chyfathrebu a beirniadodd darged manteisio Llywodraeth Cymru o 50 y cant am ei ddiffyg uchelgais, pan fo disgwyl eisoes i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog nodi heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog pawb i fanteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf a sut y mae’n bwriadu gwella llythrennedd digidol, ac rwy’n awgrymu y bydd hynny’n hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

Nawr, mae fy mewnflwch, yn rheolaidd, yn llawn o bobl sy’n pryderu am nad oes ganddynt wasanaeth band eang. Bob dydd, rwy’n cael mwy nag un e-bost yn gofyn i mi pa bryd y maent yn mynd i gael band eang yn eu hardal hwy. Y mater arall sy’n llenwi fy mag post—neu fy mewnflwch, mae’n debyg nawr, yn agosach ati—yw signalau ffonau symudol. Nawr, byddwn yn dweud ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gweithio gyda’r rheoleiddiwr a’r gweithredwyr rhwydwaith i hyrwyddo buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu a defnydd o’r rhwydwaith. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod ein cynnig hefyd yn dangos ymagwedd Llywodraeth yr Alban. Nid oes gan Lywodraeth yr Alban unrhyw bwerau ychwanegol i’r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac eto maent wedi sefydlu cynllun gweithredu darpariaeth symudol, sy’n ymrwymo i ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd mewn ardaloedd anfasnachol, diwygio’r system gynllunio i gefnogi buddsoddiad masnachol mewn seilwaith symudol, a gwella asedau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant telathrebu, a gwahanol fathau o waith ar y cyd gyda’r diwydiant telathrebu. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwelliant i’r cynnig hwn yn ymrwymo i ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth yr Alban. Pam na wnewch chi fwrw iddi a chyflwyno cynllun tebyg ar gyfer Cymru?

Byddwn yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn gyson yn gorfod ceisio dal i fyny yma. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi argymhellion ar waith i’w gwneud yn haws uwchraddio safleoedd presennol ac adeiladu mastiau newydd, ac er gwaethaf sylwadau a gyflwynwyd gan y gweithredwyr rhwydwaith darpariaeth symudol, a gohebiaeth gennyf fi at eich Gweinidog blaenorol, Carl Sargeant, rydym yn dal i fod heb ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yma yng Nghymru, ac rydym yn llusgo ar ôl Lloegr a’r Alban. Os gwelwch yn dda, Weinidog, peidiwch â dweud wrthyf eich bod yn mynd i gael trafodaethau gyda chyd-Aelodau. Peidiwch â dweud wrthyf fod eich swyddogion yn siarad â swyddogion eraill. Dywedwch wrthyf fod gennych gynllun gweithredu wedi’i gytuno, a bod gennych amserlen.

Mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau’n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy’n mawr obeithio cael ymateb cadarnhaol a chynllun gweithredu gan y Gweinidog.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben yn 2017.

2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i:

a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau symudol ar draws Cymru;

b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac adleoli’r rhwydwaith;

c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu cynigion yng Nghymru; a

d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai Lloyd.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

‘archwilio sefydlu ac ariannu cynllun dal popeth i alluogi awdurdodau lleol i ariannu cynllun wedi’i deilwra er mwyn sicrhau nad oes yr un cartref na busnes yng Nghymru heb y gallu i gysylltu â band eang y genhedlaeth nesaf.’

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod band eang digonol yn hanfodol ar gyfer masnach, byw’n iach, llai o effaith amgylcheddol, rhyngweithio cymdeithasol, addysg a hawliau dynol.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma, ac yn falch hefyd o gydnabod bod y Ceidwadwyr wedi derbyn ein dau gwelliant ni fel plaid. Felly, band llydan uwch gyflym neu band eang cyflym iawn—rydym ni yn naturiol yn derbyn ac yn dathlu’r ffaith, yn wir, fod dros 89 y cant o gartrefi yng Nghymru erbyn hyn yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Mae’n bwysig cydnabod hynny, ond, wrth gwrs, mae’r profiadau yn rhai o awdurdodau lleol Cymru yn hollol wahanol. Mae rhai yn gwneud yn dda iawn—ym Merthyr, mae 98.32 y cant o dai yn gallu derbyn band eang cyflym iawn, ac ym Mlaenau Gwent, mae 97.9 y cant o dai yn gallu derbyn yr un un band eang. Ond, mae rhai awdurdodau lleol eraill—yn bennaf, rhai gwledig—yn colli allan.

Fel rydw i wedi dweud yn y Siambr yma o’r blaen, yng Ngheredigion, dim ond 64.44 y cant o dai sy’n gallu derbyn band eang cyflym iawn. Ym Mhowys, dim ond 65.67 y cant o dai sy’n gallu derbyn yr un un band eang cyflym iawn. Mae ffigurau BT yr wythnos yma yn cadarnhau bod llai nag 1 y cant o dai Cymru ar hyn o bryd yn derbyn cyflymder is na 2 Mbps a llai na 7 y cant o dai Cymru o dan 10 Mbps. Rydym ni’n deall, wrth gwrs, bod sicrhau mynediad i’r gwasanaeth yma yn mynd i fod yn anoddach mewn rhai ardaloedd gwledig ac mewn rhai ardaloedd trefol hefyd lle mae problemau lleol, fel cyfyngiadau cynllunio neu rwystrau ffisegol sy’n eu hatal rhag gosod ceblau. Tra’i bod hi’n amlwg bod yna angen mwy o wariant i dargedu’r ardaloedd hyn, mae hefyd angen cydnabod bod angen gweld mwy o gydlynu lleol rhwng unigolion a grwpiau cymunedol er mwyn delifro gwasanaeth uwch gyflym.

Mae cynllun mynediad i fand eang Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn un sy’n galluogi unigolion i wneud cais am gymorth ariannol, ond pwrpas ein gwelliant ni heddiw ydy rhoi rôl flaenllaw i lywodraeth leol yng Nghymru, fel bod yna ddisgwyl ar gynghorau lleol i gydweithio gyda chymunedau a chydlynu’r anghenion sirol mewn ffordd strategol, yn hytrach na’r system adweithiol sydd yn nodweddiadol o’r system bresennol sydd gennym ni.

Unwaith bod yr isadeiledd mewn lle, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sy’n codi o’r mynediad hwnnw. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, bod llai nag un o bob tri person sy’n gallu cael gwasanaeth uwch gyflym yn bachu ar y cyfle hwnnw. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno ymgyrch marchnata a chyfathrebu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o fand eang unwaith ei fod ar gael mewn ardaloedd, ond mae angen edrych ar effeithiolrwydd yr ymgyrch hon i sicrhau bod mwy o unigolion a busnesau yn gwneud defnydd o’r dechnoleg newydd sydd ar gael.

Mae’r dechnoleg yma’n hollbwysig i Gymru wrth i ni geisio gau’r gagendor economaidd gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Rwy’n croesawu’r ffaith bod BT Cymru yn awr yn profi gwasanaeth G.fast yn Abertawe ac yn edrych ymlaen at weld adolygiad y peilot yma. Ond, wrth i ni groesawu’r ffaith bod rhai ardaloedd Abertawe yn derbyn cyflymdra oddeutu 500 Mbps fel eu band eang cyflym iawn fel rhan o’r peilot yma, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio am yr ardaloedd hynny sydd yn dal ddim yn derbyn gwasanaeth sylfaenol. Ar sail hynny, rwy’n annog Aelodau i gefnogi’r gwelliant sydd gerbron. Diolch yn fawr.

Mae cysylltedd digidol yn hanfodol yn ein bywydau modern. Mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy hanfodol i gael mynediad at amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r bobl sy’n meddu ar y wybodaeth a’r offer i ymgysylltu â’r technolegau digidol yn tueddu i ennill cyflogau uwch, gan adlewyrchu eu cynhyrchiant uwch. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae diffyg seilwaith digidol a sgiliau digidol gwael yn golygu bod cymunedau ar draws y wlad yn wynebu lefelau uchel o allgáu digidol.

Cymru sydd â’r cyfartaledd uchaf o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ym Mhrydain. Methwyd â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i ddarparu band eang cyflym i gartrefi a busnesau. Mae dyddiadau cyflawni wedi’u hymestyn gyda chanlyniadau niweidiol i swyddi a’r economi. Mae cyflymder didostur technolegau digidol sy’n dod i’r amlwg eisoes wedi trawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn gweithio. Mae busnesau angen gweithlu â sgiliau arbenigol lefel uchel.

Adroddodd Sefydliad Tinder fod bron i 90 y cant o swyddi newydd eisoes yn galw am sgiliau digidol. Gwelsant fod 72 y cant o gyflogwyr yn dweud eu bod yn amharod i gyfweld ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Daeth astudiaeth yn 2014 i’r casgliad y gallai 35 y cant o swyddi gael eu hawtomeiddio dros yr 20 mlynedd nesaf. Swyddi ym maes cymorth swyddfa a chymorth gweinyddol, cludiant, gwerthiant a gwasanaethau, adeiladu a gweithgynhyrchu yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu hawtomeiddio neu eu troi’n waith a wneir gan gyfrifiaduron. Dyma’r her sy’n wynebu Cymru—her y mae Llywodraeth Cymru yn methu ei goresgyn. Yng Nghymru heddiw [Torri ar draws.]—Iawn, ewch chi.

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad gan Google Digital Garage i ddod i Gymru am gyfnod o dri mis i sefydlu cynlluniau hyfforddi yma yng Nghymru—yn wir, roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud llawer iawn â hwy er mwyn dod â hwy i Gymru mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael yr hyfforddiant digidol hwn.

Mae hynny’n newyddion da, ond rydym yn dal i lusgo ar ôl llawer o wledydd eraill. Yng Nghymru heddiw, mae yna dros 14 y cant o bobl nad ydynt byth yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae honno’n ffaith, David. Mae 38 y cant o bobl heb sgiliau digidol sylfaenol. Sut y maent yn mynd i gyflogi pobl? Mae busnesau newydd sylfaenol a mentrau bach a chanolig eu maint ar eu colled oherwydd prinder gweithwyr domestig. Rwy’n cydnabod bod dyletswydd ar gyflogwyr staff heb lawer o sgiliau i wella sgiliau eu gweithlu. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn yr ysgolion a’r colegau yn cyfateb i’r hyn y mae busnesau yng Nghymru ei angen.

Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol yn anelu i ddatblygu sgiliau digidol sy’n ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd ac yn drosglwyddadwy i fyd gwaith. Rwy’n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae’n anodd gweld pa mor effeithiol fydd y fframwaith hwn heb gyflwyno seilwaith band eang yn llawn a heb hyfforddiant sgiliau effeithiol i athrawon a rhieni.

Addysg yw’r peiriant ar gyfer gweithlu mwy medrus yn ddigidol. Mae’n rhaid i system addysg Cymru gael ei chynllunio i sicrhau bod gan bawb sgiliau rhifedd a llythrennedd cryf, gan gynnwys llythrennedd gwybodaeth. Mae tystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr a oedd ond yn cael addysg ddigidol mewn dosbarthiadau TGCh dynodedig yn dioddef anfantais amlwg o gymharu â’r rhai roedd eu hysgolion yn dewis prif ffrydio technoleg a sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Ond nid yw sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth yn ddigon ar ei ben ei hun.

Unwaith eto, diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych felly yn croesawu adolygiad Donaldson, sy’n gosod cymhwysedd digidol a’r fframwaith digidol yn ganolog i rywfaint o’i waith, ac felly bydd y cwricwlwm mewn gwirionedd yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddweud?

Ydw, rwy’n cytuno ag ef. Dyna rwy’n ei ddweud, rydym yn llusgo ar ôl oherwydd y polisïau yn y gorffennol gan y Llywodraeth Lafur. Rydym ar ei hôl hi; dyna rydym yn ceisio’i ddatrys er mwyn ei gynnwys cyn gynted ag y bo modd.

Ond nid yw myfyrwyr yn defnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth yn ddigon ar ei ben ei hun. Trwy addysgu da yn unig y mae hyn yn trosi i ddysgu sgiliau digidol allweddol. O ystyried cyflymder datblygiadau technolegol, mae angen i ysgolion ddal i fyny gyda’r datblygiadau diweddaraf. Mae angen gwella sgiliau athrawon yn barhaus fel y gellir prif ffrydio sgiliau digidol yn well yn hytrach na bod yn bwnc ar ei ben ei hun.

Rhaid i ni beidio â bychanu rôl rhieni. Mae rhieni sy’n gyfarwydd â TG ac yn ei ddefnyddio’n rheolaidd yn gallu chwarae rhan hollbwysig yn y defnydd y mae eu plant yn ei wneud o TG mewn ffordd nad yw’n tynnu sylw oddi ar ddysgu. Felly, mae angen i rieni gael yr adnoddau yn y cartref i alluogi hyn i ddigwydd. Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad mewn seilwaith a sgiliau digidol yn cyfateb i gyflymder y twf yn y sector hwn. Mae hyn yn hollbwysig os yw Cymru i sicrhau lle fel arweinydd yn y byd digidol. Diolch.

Cymeradwyaf y Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad heddiw. Rwy’n credu bod Russell George wedi nodi’n daclus iawn y problemau rydym wedi’u hwynebu yn y gorffennol a chyfyngiadau’r hyn sydd gan y Llywodraeth i’w gynnig i ni ar gyfer y dyfodol. Bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig, a diwygiadau Plaid Cymru iddo, yn wir, ac rwy’n gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn eu cefnogi.

Roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedodd Russell George am ddiffyg brys y Llywodraeth yn galw am ei bwysleisio a’i danlinellu er mwyn cyflwyno band eang cyflym iawn i’r mwyafrif llethol o bobl Cymru. Rhaid cyfaddef, mae’r rhaglen Cyflymu Cymru wedi gweld cynnydd cyflym, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr, ond rwy’n dal i feddwl bod yn rhaid i ni gymharu ein hunain â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o Ewrop yn wir i weld pa mor bell ar ei hôl hi rydym ni yng Nghymru. Yn ôl y wefan thinkbroadband heddiw, mae 88.3 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn cael cyflymder o 24 Mbps, ond nid 24 Mbps yw’r mesur yn yr Alban, ond 30—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?

Mae’n ddrwg gennyf. Wel, os felly, rwy’n ymddiheuro ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar ddilyn yr Alban. [Chwerthin.] Dylwn fod wedi mynd yn ddiplomydd a dweud y gwir.

Ond mae’r amrywiadau rhwng rhanbarthau ac etholaethau, wrth gwrs, ynghudd yn y ffigur cyffredinol hwnnw. Os edrychwn ar fy rhanbarth, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn erbyn cyfartaledd Cymru o 89.4 y cant ar gyfer 24 Mbps, mae’n mynd i lawr i 58 y cant ar gyfer Ceredigion; 61 y cant ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; 61 y cant ar gyfer Sir Drefaldwyn; 63 y cant ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed; a 74 y cant ar gyfer Dwyfor Meirionnydd. Ar gyfer Llanelli, mae’n 92 y cant a dyna’r unig etholaeth yn y rhanbarth cyfan sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Rwy’n meddwl bod hyn yn gwbl annerbyniol yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Mae llwyddiant busnesau’n dibynnu’n helaeth heddiw, ac mae rhan fawr o ffyniant Cymru’n dibynnu ar gysylltedd ar y cyflymder cywir ac mae hyn yn ein dal yn ôl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

Un pwynt na chafodd ei wneud yn y ddadl heddiw y credaf ei fod yn haeddu mwy o sylw yw treiddiad band eang yn ôl grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl adroddiad Ofcom yn 2015—ac rwy’n deall y bydd datblygiadau diweddar wedi’i oddiweddyd, i raddau—ond yn 2015, dim ond 63 y cant o oedolion ar incwm aelwydydd o dan £17,500 y flwyddyn a oedd yn defnyddio band eang, o’i gymharu â 92 y cant o bobl ar gyflogau uwch na’r trothwy hwnnw o £17,500 y flwyddyn. Felly, mae allgáu digidol i’r rhai ar ben isaf y raddfa incwm yn realiti ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gywilyddio, yn y Cynulliad hwn, ein bod wedi mynd i’r fath sefyllfa yn awr. Ni all gwella’r ystadegau hyn ddigwydd yn rhy fuan.

Cyfeiriodd Russell George yn ei araith at fag post gorlawn, neu fag post digidol, o gwynion, ac er ei fod yn ôl pob tebyg yn cael mwy o Sir Drefaldwyn na minnau, rwy’n cael rhywfaint o’i sir, ond hefyd, wrth gwrs, o siroedd eraill yn fy rhanbarth. Mae’n rhyfeddol mewn gwirionedd, o fewn pellter byr iawn i ardal gymharol drefol, sut y gall pobl fod bron yn gwbl amddifad o gysylltedd. Rwyf wedi aros yng ngwesty Waun Wyllt ym Mhum Heol ger Llanelli, er enghraifft, sydd ond tafliad carreg o Lanelli—a methu cael unrhyw signal ffôn symudol o gwbl. Mae’n broblem fawr, rwy’n meddwl, i lawer o westai gwledig a busnesau eraill, fod eu busnesau’n cael eu llyffetheirio gan ddiffyg yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried yn gwbl angenrheidiol ar gyfer bywyd modern, nid yn unig at ddibenion busnes, ond hefyd ar gyfer rhyngweithio rhwng pobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

Mae gennyf gŵyn gan etholwr yn Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin sy’n dweud ei fod wedi bod yn aros am ffeibr ers blynyddoedd lawer, ond mae ei gyflymder rhyngrwyd BT yn parhau i fod yn druenus, ar 0.2 Mbps. Dywed: ‘Rwy’n sylweddoli bod gosod ffeibr yn brosiect anodd, ond ar naw achlysur, mae Openreach neu Cyflymu Cymru wedi rhoi amserlen i mi ond wedyn wedi’i hymestyn ar ôl methu ei chyflawni. Ym mis Mehefin 2016, newidiwyd fy nyddiad gosod unwaith eto i fis Medi 2016’—ac mae’n dal heb gysylltiad, hyd yn oed yn awr. Rwy’n sylweddoli mai achos unigol yw hwnnw, ond pe bai ond yn un achos, yn hytrach nag un o lawer, yna gallem ei anwybyddu—nid anwybyddu, ond o leiaf gallem ei roi mewn persbectif. Ond oherwydd bod cymaint o’r achosion hyn, hyd yn oed yn awr, rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth gael ei gwneud yn atebol am ei methiannau yn y gorffennol, a hefyd am ei diffyg brys presennol i fynd ati i gyflwyno rhaglen cysylltedd band eang cyflym iawn sy’n briodol ar gyfer Cymru gyfan.

Mae’r ddadl hon yn amserol iawn, yn enwedig o ystyried rhai o’r anawsterau sydd i’w gweld bellach mewn perthynas â materion band eang ledled Cymru, ac nid yn lleiaf yn Aberconwy. Yn hytrach na meithrin cysylltedd, mae Llywodraeth Cymru bellach â rhaniad digidol mawr ar ei dwylo, gyda llawer wedi’u dal mewn loteri cod post o ran mynediad a chyflymder lawrlwytho. Nid oes ond 60 y cant o eiddo yng nghefn gwlad Cymru â mynediad at gyflymder sefydlog o 10 Mbps, o’i gymharu â 95 y cant mewn ardaloedd trefol. Mae gennyf lawer o etholwyr nad ydynt yn gallu cael cyflymder o 1 Mbps hyd yn oed, ac yn yr un modd, gan Gymru y mae’r gwasanaeth 3G gwaethaf o blith y gwledydd datganoledig. Problem benodol yn fy etholaeth yw bod llawer o’r eiddo yn ardaloedd gwledig Aberconwy wedi’u cysylltu â chabinetau sydd filltiroedd i ffwrdd o’u heiddo. O ganlyniad, hyd yn oed pan fydd y cabinetau wedi’u huwchraddio â ffeibr i’r cabinet, ni all safleoedd fanteisio ar y datblygiad digidol. Yn syml iawn, nid yw’r cysylltedd llinell ffôn a’r seilwaith sylfaenol yno, ac ni fydd yn syndod mai Conwy a Sir Ddinbych sydd â’r gyfradd isaf o ddefnydd o’r rhyngrwyd, gyda 18 y cant o bobl nad ydynt yn defnyddio’r adnodd hanfodol hwn sy’n cael ei ystyried bellach yn bedwerydd cyfleustod hanfodol.

Ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi symud ceisiadau ffermio a chofrestriadau ar-lein, megis Taliadau Gwledig Cymru ac EID Cymru. Fodd bynnag, heb gysylltiad dibynadwy, mae llawer o ffermwyr bellach yn gorfod talu i rywun arall wneud y gwaith hwn neu wynebu cosbau difrifol o bosibl. Yn 2014, casglwyd bron i £0.5 miliwn o gosbau gan ein ffermwyr gweithgar: nid yw’n deg o gwbl. Mae’r methiant i ddarparu band eang cyflym iawn i lawer o ardaloedd anghysbell wedi ynysu ein cymunedau gwledig fwyfwy, gan greu bwlch digidol enfawr rhwng y rhai mwy ffodus a’r tlodion. Gyda banciau’n cau yn wythnosol, mae banciau’r ddinas yn tybio y bydd perchnogion busnesau’n mynd ar-lein, pe baent ond yn gallu gwneud hynny. Cymerir yn ganiataol bellach, felly, fod yn rhaid i bob cymuned gael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf a blas o’r cysylltedd y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ei gymryd yn ganiataol. Mae 90 y cant o fusnesau bach yng Nghymru wedi dweud bod rhyng-gysylltiad dibynadwy yn hanfodol i’w gweithgarwch, ac fe’i hystyrir yr un mor bwysig ag unrhyw gyfleustod sylfaenol arall. Felly pam mai dim ond 58 y cant o gartrefi a busnesau sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn sy’n gweithio’n effeithiol?

Ond wrth siarad, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog Julie James AC am ei chyngor a’i chymorth gyda rhai o’r materion anodd rwyf wedi eu dwyn i sylw ei hadran yn ddiweddar. Rwy’n credu’n wir eich bod yn gwneud eich gorau i gyflawni’r targedau a addawyd a’r amcanion hynny. Ond rhaid i mi ddweud, mae angen ymagwedd gorfforaethol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan yr holl Ysgrifenyddion Cabinet a’r Prif Weinidog ei hun, er mwyn darparu mwy o adnoddau ac i’ch cynorthwyo i wneud eich gwaith a’r dasg o’ch blaen.

Yn ddiweddar iawn, cafodd gogledd Cymru ei enwi yn ‘Lonely Planet’s Best in Travel 2017’ fel un o’r ardaloedd gorau yn y byd—gwych. Ond os yw’r rhai yn y diwydiant lletygarwch a’n busnesau gwledig ond yn cynnig gwasanaeth rhyngrwyd trydydd dosbarth, mae hyn yn mynd i gael effaith negyddol. Amcangyfrifir y gallai cynnydd yng ngalluoedd digidol busnesau bach a chanolig ar draws y DU ryddhau adenillion economaidd o £18.8 miliwn. Mae’n rhaid cefnogi’r rhain er mwyn manteisio ar gyfle o’r fath.

Mae twf digidol yn allweddol i ysgogi arloesedd yn ein heconomi, gyda 12 y cant o gynnyrch domestig gros yn cael ei gynhyrchu drwy’r rhyngrwyd. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae gennym seilwaith sydd wedi dyddio ar gyfer cynnal darpariaeth band eang cyflymach. Materion a grybwyllwyd yn lleol yn fy nghymorthfeydd yw nad yw BT Openreach a phrosiect y band eang cyflym iawn yn siarad â’i gilydd—gan weithio mewn seilos. Nid oes ymagwedd gydgysylltiedig pan fo anawsterau’n digwydd, ac mae llawer o daflu baich yn digwydd. Felly, mae’n dilyn, ar ran pobl a busnesau yn Aberconwy, fy mod am gofnodi fy siom eithafol fod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais ei hun yn rhaglen lywodraethu 2011 i sicrhau y byddai pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf.

Mae’r datganiad diweddar gan y Gweinidog yn ei gwneud yn glir y gellid defnyddio £12.9 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy’r lefelau manteisio a ragwelir, gobeithio, i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd y contract presennol ar 27 o Ragfyr. Fodd bynnag, cytunaf na fydd yr arian ychwanegol hwn ond yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r safleoedd sy’n weddill heb gysylltedd a rhaid rhoi mwy o ffocws ar berfformiad cyffredinol BT mewn perthynas â’u seilwaith. Unwaith eto, rwyf am ailadrodd fy mod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi a gweithredu ar alwadau’r Gweinidog Julie James AC i geisio ymestyn y gwaith i 2018 a thu hwnt, i wynebu’r her a sicrhau bod y pedwerydd cyfleustod hwn yn cael ei ddarparu i bawb.

Er bod cysylltedd digidol yn hanfodol bellach i’n bywydau o ddydd i ddydd, mae gormod o gymunedau ledled Cymru yn wynebu lefelau uchel o allgáu digidol, a chan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y DU. Yn erbyn ei tharged i brosiect Cyflymu Cymru gyrraedd 96 y cant o eiddo presennol yn 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dyddiad cwblhau’r cyfnod adeiladu i fis Mehefin 2017 yn dilyn adolygiad marchnad agored a ddangosai fod nifer y safleoedd sydd angen eu cynnwys yn y prosiect wedi cynyddu. Pan holais y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ynglŷn â hyn ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru

ond â hawl i ymyrryd yn y farchnad lle nad oedd unrhyw weithredwyr masnachol wedi dweud y byddent yn mynd.

Soniodd, er enghraifft, nad oedd Cyflymu Cymru yng nghanol Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd. Dywedodd

os edrychwch ar fap o Cyflymu Cymru, mae’n hepgor yr holl ardaloedd lle y mae cwmni masnachol wedi dweud y byddent yn darparu gwasanaeth.

Ond pan gynhaliwyd adolygiad marchnad agored arall ganddynt, ar ôl i sawl Aelod, yn fy nghynnwys i, fynegi pryderon wrthi, dangosai’r adolygiad fod y gweithredwyr masnachol wedi diwygio eu cynlluniau ac na fyddent yn darparu yn yr ardaloedd diwydiannol hynny. O ganlyniad i hynny, ychwanegodd, roedd 42,000 o safleoedd wedi’u hychwanegu at y targed gwreiddiol a’r dyddiad cwblhau wedi’i ymestyn flwyddyn.

Datblygwyd FibreSpeed ​​yng ngogledd Cymru fel partneriaeth gyhoeddus-preifat ar ôl ennill tendr cystadleuol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn ar draws ystadau diwydiannol, parciau busnes a lleoliadau eraill yng ngogledd Cymru i gynyddu twf economaidd. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru yn sylweddol yn hyn, buddsoddiad y deellir ei fod yn filiynau lawer. Wrth holi’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yma ym mis Mehefin 2014, cyfeiriais at lythyr a anfonwyd at yr Aelodau gan FibreSpeed ​​yn mynegi pryder fod Cyflymu Cymru yn goradeiladu buddsoddiad FibreSpeed a’u bod yn ceisio arweiniad gan Gomisiwn yr UE ar achos posibl o dorri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Mewn llythyr at yr Aelodau ym mis Hydref 2014, atebodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, sef y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth presennol, fy nghwestiwn, gan nodi bod adolygiad marchnad agored 2014 wedi penderfynu, drwy drafodaethau gyda FibreSpeed ​​Ltd, a thrwy ymarfer technegol cyfreithiol blaenorol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai’r 793 o godau post safleoedd busnes yn unig yn cael eu cynnwys bellach yn rhan o gwmpas prosiect mewnlenwi newydd Cyflymu Cymru ar y sail nad yw FibreSpeed yn bwriadu darparu cysylltedd band eang i safleoedd busnes yn y dyfodol a bernir bod ei bris yn anfforddiadwy. Felly, Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru gwestiynau difrifol i’w hateb. Faint o filiynau o filoedd o bunnoedd a wastraffwyd ar brosiect Llywodraeth Cymru yn deillio o dendr Lywodraeth Cymru? Beth a aeth o’i le a pham y cafodd FibreSpeed ​​eu rhoi yn y sefyllfa hon?

Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, fe ddywedoch hefyd fod Llywodraeth Cymru newydd bennu canran a nifer yn ei chontract Cyflymu Cymru ac mai mater i’r darparwr, BT, yn llwyr oedd cyrraedd nifer y safleoedd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn deall bod BT wedi methu miloedd o ddefnyddwyr drwy gategoreiddio safleoedd fel neuaddau preswyl myfyrwyr a pharciau gwyliau fel cyfeiriadau sengl. Yng ngogledd Cymru, mynychais ddau gyfarfod gyda changen Clwyd o Gymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain a rheolwr mynediad y genhedlaeth nesaf BT Cymru i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth band eang yn y Gymru wledig, sy’n parhau i effeithio ar fusnes parciau a’u gallu i ateb gofynion cwsmeriaid—yr ymwelwyr y mae economi twristiaeth gogledd Cymru yn dibynnu arnynt, gan adleisio sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders. Mae’r rheolwr rhaglen BT wedi bod yn gyswllt gwerthfawr iddynt, gan roi gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys cynllun Llywodraeth Cymru i helpu busnesau fel y rhain i gael mynediad at ffeibr ar alw. Fodd bynnag, mae busnesau parciau wedi dweud wrthyf mai’r broblem yw dod o hyd i rywun i werthu’r cynnyrch. Gwadodd BT Local Business eu bod yn gwybod am gynllun ffeibr ar alw Llywodraeth Cymru, a phan ddaethant o hyd i gwmni yn y diwedd a oedd yn barod i werthu hwn, roedd yn Lloegr. Fel roeddent yn dweud, maent yn anniddig fod yn rhaid iddynt fynd at gwmni yn Lloegr i brynu prosiect Cymreig sy’n cael ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru. Roeddent yn dweud hefyd fod prisiau manwerthu, yn un peth, yn ei roi allan o gyrraedd llawer o fusnesau yng Nghymru.

Yn erbyn y targed o 95 y cant yn Lloegr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganfyddiadau ei chynllun peilot ar gyfer cronfa arloesi gwerth £10 miliwn ar gyfer y 5 y cant olaf o gymunedau mwyaf anghysbell Lloegr ym mis Chwefror. Felly, yn olaf, Weinidog, pryd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i gyrraedd y 4 y cant olaf o safleoedd yma, ac nid y 96 y cant cyntaf yn unig? Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw? Diolch hefyd i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl. Rwy’n diolch iddynt am ei bod yn glir iawn fod seilwaith digidol yn hanfodol o bwysig i bobl, cymunedau ac economi Cymru. Fel y dangosodd y cyfraniadau heddiw yn glir iawn, nid oes angen ailadrodd pwysigrwydd cynyddol cysylltiadau band eang cyflym o safon uchel i gartrefi a busnesau ledled Cymru. Rwyf am fynd i’r drafferth i ailadrodd ein bod, fel Llywodraeth Cymru, wedi dweud yn eglur iawn ein bod am i gymaint o bobl â phosibl allu cael mynediad at wasanaethau band eang cyflym a dibynadwy, ac yn hollbwysig, iddynt allu manteisio i’r eithaf ar fynediad o’r fath.

Gwnaeth Mark Isherwood waith da iawn ar fy rhan yn egluro sut y mae prosiect Cyflymu Cymru’n gweithio, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddo am hynny, ond rwyf am ailadrodd un neu ddau o bwyntiau. Mae Cyflymu Cymru yn brosiect a gynlluniwyd i ddarparu lawrlwythiadau 30 Mbps, ac nid 24 Mbps, i bobl Cymru. Ymyrraeth yn y farchnad ydyw. Heb ymyrraeth rhaglen y Llywodraeth, mae hynny’n golygu na fyddem wedi cael unrhyw fand eang cyflym iawn na darpariaeth arall o unrhyw fath o wasanaeth band eang i ardaloedd nad ydynt yn gallu ennyn marchnad fasnachol.

Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn ers peth amser, ac rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU bellach wedi gweld gwerth mewn cyflwyno Bil sy’n gosod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar waith, ond mae’n bwysig cofio nad ystyrir mai seilwaith yw hyn ar hyn o bryd. Felly, nid yw’n rhywbeth y gallwn fynd i’w wneud pryd bynnag y dymunwn. Ni allwn daflu arian ato ac adeiladu rhagor na dim byd arall. Mae’n rhaid i ni fynd drwy raglen cymorth gwladwriaethol er mwyn ymyrryd yn y farchnad. Felly, mae wedi cymryd amser hir iddo ddod yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rydym wrth ein bodd â hynny, ond byddai’n werth i’r Aelodau gofio bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar hyn o bryd yn argymell 10 Mbps, ac nid 24 Mbps neu 30 Mbps, a’n bod ar hyn o bryd yn gweithio’n galed iawn i wneud i Lywodraeth y DU weld synnwyr a chyflymu hynny, fel ei fod, fan lleiaf, yn codi o 10 Mbps yn y dyfodol, hyd yn oed os nad oeddent yn gweld gwerth yn ei osod yn uwch na hynny yn y gorffennol.

Rwy’n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am gydnabod y cyfarfodydd rydym wedi’u cael ac yn y blaen. Ond rwy’n wirioneddol ddiffuant ynglŷn â hyn—nid yw’n fater gwleidyddiaeth plaid mewn unrhyw ffordd. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol y Llywodraeth yn addas i’r pwrpas ac yn ein cynorthwyo yn ein cenhadaeth i gael y band eang hwn ar draws Cymru. Felly, os oes unrhyw Aelod yn awyddus i gysylltu â mi, fe ddywedaf wrthynt beth yw ein pryderon—ac rwy’n meddwl fy mod wedi’u rhoi i Janet Finch-Saunders eisoes. Rwy’n hapus i’w rhoi i unrhyw un arall sydd eu heisiau, fel y gallant ein cynorthwyo i helpu Llywodraeth y DU i gyrraedd sefyllfa lle y mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yn rhywbeth gwerth ei gael mewn gwirionedd, ac y gallwn ei ariannu wedyn yn unol â hynny. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwyntiau hynny.

O ran yr ymrwymiadau y clywsom lawer ynglŷn â’n bod wedi’u torri, yn amlwg ni fyddwch yn synnu clywed fy mod yn gwrthod hynny. Mae’n bwysig cofio bod y canrannau a niferoedd yr eiddo’n newid drwy’r amser. Pe baem ond yn gosod lefel o eiddo yn 2011 a dweud, ‘Fe wnawn y rheini i gyd’, yna ni fyddai unrhyw beth a adeiladwyd ar ôl hynny wedi cael band eang. Mae’n wireb i ddweud hynny, ond mae’n werth ei hailadrodd. Ac mewn gwirionedd, un o’r rhesymau y gwnaethom yr adolygiad marchnad agored pellach oedd er mwyn cynnwys peth o’r eiddo a adeiladwyd ar ôl hynny. Unwaith eto, mae’n fater o gryn bryder i ni nad yw Llywodraeth y DU yn gweld gwerth mewn cynnwys y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol honno ym mhob gwaith adeiladu newydd ar hyn o bryd. Felly, mae gennych sefyllfa chwerthinllyd lle rydych yn adeiladu stad o dai newydd ac yna byddwch yn cloddio’r ffordd i roi band eang i mewn wedyn. Yn amlwg, nid yw’n gwneud synnwyr. Apeliaf ar bob Aelod o bob plaid wleidyddol i fynd ati i geisio perswadio pobl i gynnwys rhywfaint o synnwyr cyffredin yn rhai o’r rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol hyn.

Beth bynnag, gan droi at yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a’r gweithredwyr rhwydwaith i ddarparu gwell seilwaith digidol gyda’r hyn sydd gennym yn awr, ledled Cymru. Rydym wedi bod yn ceisio gwella’r ddarpariaeth band eang ym mhob man. Hefyd, mae’n rhaid i chi gadw mewn cof fod y galw cynyddol am ddata symudol wedi cymhlethu pethau. Pan ddechreuasom y rhaglenni hyn, roedd band eang a darpariaeth symudol yn ddau beth gwahanol iawn, ond nid yw hynny’n wir bellach. Felly, mae’r dechnoleg wedi newid yn sylweddol iawn hefyd, ac rydym yn awyddus iawn i gadw ar y blaen gyda hynny.

Rwy’n cynnal cyfarfod bwrdd crwn yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ofcom a’r diwydiant, er mwyn trafod sut y gallwn wella cysylltedd symudol yng Nghymru. Bydd y ddadl yn canolbwyntio nid yn unig ar gynlluniau’r diwydiant i ehangu darpariaeth a gallu symudol, ond hefyd yn archwilio pob dull sydd ar gael i ni yma yng Nghymru. Yn amlwg, un o’r dulliau sylfaenol yw’r gyfundrefn gynllunio. Rwyf wedi comisiynu ymchwil i edrych ar newidiadau a newidiadau arfaethedig i’r drefn gynllunio yn Lloegr a’r Alban mewn perthynas â seilwaith ffonau symudol, sut y maent yn gymwys i Gymru, a dulliau amgen sy’n gweddu i’n topograffi a’n dwysedd poblogaeth yng Nghymru. I roi hynny’n symlach, nid wyf yn sicr o gwbl fod y bobl sy’n byw yn ein parciau cenedlaethol am gael mast 250 troedfedd bob 10 metr er mwyn cael cysylltedd symudol mewn gwirionedd. Felly, yn amlwg, mae yna gyfaddawd i’w gael rhwng yr hyn rydych eisiau ei gael a beth sy’n rhaid i chi ei gael er mwyn ei gael. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael hynny’n iawn i bobl Cymru. Rwy’n gwybod bod Russell George yn cael trafferth gyda mathau eraill o fastiau gyda generaduron ar eu pennau, ac nid wyf yn rhy siŵr y byddai ei etholwyr mor fodlon â hynny â mastiau sy’n cario signalau symudol ychwaith.

Felly, rydym yn gwybod ein bod am ei wneud, ond rydym am ei wneud yn iawn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw’n iawn, a bod pobl yn cael cysylltedd, ond nid ar draul mwynderau eraill, a dyna pam y mae pobl yn byw yn y parciau cenedlaethol ac yn awyddus i ddod i ymweld â ni yn y lle cyntaf.

Felly, rydym yn gwneud y gwaith ymchwil hwnnw. Rydym yn awyddus i’w gael yn iawn i Gymru. Rydym yn gwybod bod sicrhau mynediad at y technolegau digidol, a’r cymhelliant a’r sgiliau i’w defnyddio’n effeithiol yn bwysicach nag erioed, ac mae canfyddiad pobl o’r hyn y maent yn barod i’w oddef er mwyn eu cael yn newid. Felly, rydym yn awyddus i gael hynny’n iawn.

O ran allgáu digidol, rydym yn ymrwymedig iawn i fynd i’r afael ag allgáu digidol a gwella llythrennedd digidol, nad ydynt yr un pethau’n hollol. Felly, hoffwn ddiolch i Mohammad Asghar am ei gyfraniad, ond gan nodi nad yw llythrennedd digidol sylfaenol—y gallu i fynd ar-lein, trefnu ffeiliau a ffolderi, gwneud rhai pethau sylfaenol gyda gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen—yr un peth â meddu ar y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn economi ddigidol. Mae arnom angen y ddau beth yn ein cymdeithas ac rydym yn gweithio’n galed iawn i’w cael.

Mae gennym fframwaith cymhwysedd digidol y gobeithiaf fod pob Aelod yn gyfarwydd ag ef, ac a lansiwyd gennym yn ddiweddar. Yn wir, ymwelais ag ysgol arloesi yn etholaeth fy nghyd-Aelod Mike Hedges fore Llun i edrych ar y fframwaith cymhwysedd digidol ar waith, ac roedd yn drawiadol iawn yn wir. Rwy’n siŵr y bydd gan yr holl Aelodau ysgolion yn eu hardaloedd a fydd yn gallu dangos iddynt sut y mae hynny’n gweithio. Credaf ei bod yn bwysig sylweddoli bod Donaldson yn gweithio’n wirioneddol dda yng Nghymru, a bod y cynnydd rydym wedi’i wneud yma yng Nghymru drwy ddweud bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn fframweithiau sylfaenol i addysg fodern yn fyw ac yn iach ac yn bendant ar flaen y meddwl addysgol yng Nghymru.

Rydym hefyd yn cyflawni ein rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, gan gynnwys Hwb, y platfform Cymru gyfan ar gyfer ysgolion, ac yn cynyddu cyflymder band eang ar gyfer ysgolion fel rhan o’r rhaglen.

Mae angen i ni gael cefnogaeth, fodd bynnag, i’r holl sefydliadau a’r gymdeithas ehangach fel y gallwn sicrhau ein bod yn genedl wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Felly, yn ystod datganiad llafar a wneuthum yn ddiweddar ar y mater hwn, darparais ddiweddariad i’r Aelodau ar amserlenni ymyrraeth bosibl yn y dyfodol i ymestyn band eang cyflym iawn ymhellach. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar gynlluniau i lansio proses adolygiad marchnad agored ffurfiol pellach yn ddiweddarach yr hydref hwn. Pan fyddwn wedi cael canlyniad yr adolygiad hwnnw, byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau a ellir datblygu proses gaffael newydd i ddarparu mynediad at safleoedd pellach a sut i wneud hynny. Fe ddarparaf ragor o wybodaeth am hynny wrth i’r broses barhau, fel y dywedais yn fy natganiad. Fe wnaf yn siŵr fod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Hoffwn gywiro’r camsyniad, fodd bynnag, fod Cyflymu Cymru wedi llithro. Symudwyd y dyddiad cwblhau yn ôl o ganlyniad i drafodaethau a ragwelwyd rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar y cynllun band eang cenedlaethol. Bydd yr Aelodau’n cofio bod y 40,000 o safleoedd pellach yn dilyn adolygiad marchnad agored ac roedd yn unol â chontractau tebyg o’r maint hwn. Felly, dyna ni.

I orffen ar hyn—ac rwyf wedi’i ddweud sawl gwaith ac fe’i dywedaf eto—rwy’n gwneud yr un cynnig ag a wneuthum i bawb ar ddiwedd fy natganiad: os oes gennych broblemau penodol yn eich etholaeth, rwy’n hapus iawn i ddod gyda chi ac egluro sut y gallwn fynd i’r afael â hwy. O ran y rhaglen gyffredinol, rydym yn bendant iawn yn pwyso ar BT. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda hwy. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ynglŷn â’u perfformiad tuag at y dyddiadau targed. Rwy’n sicrhau’r Aelodau nad ydynt o dan unrhyw argraff fy mod yn hunanfodlon ynglŷn â’u gallu i gyflawni’r contract. Rwy’n rhannu rhwystredigaeth yr Aelodau fod yr amserlenni’n llithro i unigolion, ond yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod y contract cyfan yn cyflawni’n gyffredinol, ac rwy’n sicrhau’r Aelodau y bydd yn cyflawni yn y modd hwnnw, neu bydd BT yn wynebu’r canlyniadau ariannol difrifol iawn sy’n codi o ganlyniad i’r methiant a byddwn yn defnyddio’r arian hwnnw wedyn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud iawn am eu methiant. Fodd bynnag, dywedaf ar ran BT eu bod yn hynod o gydweithredol gyda hynny, eu bod yn dod i’r cyfarfodydd gyda’r holl wybodaeth ac nad oes gennym unrhyw reswm dros feddwl na fydd canlyniad llwyddiannus i’r contract.

Rwy’n meddwl bod yr Aelodau wedi cael eu gwahodd gan BT i gael diweddariad pellach ar hynny, ac rwy’n gobeithio mynychu’r cyfarfod fy hun. Mae BT hefyd yn gymwynasgar iawn yn dod allan i etholaethau Aelodau gyda mi ac esbonio rhai o’r manylion ar lawr gwlad. Yn gyffredinol, rwyf am i’r Aelodau ddeall bod hwn yn gontract llwyddiannus iawn mewn gwirionedd, fod Cymru ar flaen y gad o ran cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol a chysylltedd digidol, ac er bod rhai o’r ffigurau i’w gweld yn isel, mewn gwirionedd maent yn uchel iawn. Yn ddiweddar, cefais brofiad mewn prifddinas Ewropeaidd lle na allwn gael fy ffôn i gysylltu ag unrhyw beth o gwbl. Felly, rwy’n credu ein bod mewn perygl o fychanu ein hunain. Rwy’n deall rhwystredigaethau’r Aelodau, ond mewn gwirionedd, dylem fod yn falch iawn, fel y mae pob un ohonom, o ymrwymiad Llywodraeth Cymru a lle Cymru yn y dyfodol digidol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fe sylwais nad oedd unrhyw Aelodau o feinciau cefn Llafur wedi cyfrannu, ar wahân i David Rees yn neidio ar ei draed unwaith neu ddwy i ymyrryd, felly efallai fod hynny’n arwydd fod band eang yn dda ym mhob un o’r etholaethau hynny, a byddai hynny’n newyddion da. A dylwn ddweud yn ogystal—David. [Chwerthin.]

Diolch. Dim ond i egluro pwynt, mae band eang yn broblem mewn rhai ardaloedd yn fy etholaeth i hefyd.

Diolch i chi, David, am eich trydydd ymyriad yn ein dadl heddiw—mae i’w groesawu.

Dylwn ddweud, er mwyn bod yn garedig wrth y Gweinidog, fy mod yn cytuno’n llwyr â Janet Finch-Saunders: credaf fod y Gweinidog yn angerddol iawn ynglŷn â’i maes yma ac rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae hi wedi cytuno i ddod i wahanol etholaethau gydag Aelodau ac esbonio’r sefyllfa. Hyd yn oed os oes ychydig gannoedd o bobl yn berwi o gynddaredd, mae hi’n barod i ddod, ac rwy’n meddwl y dylid croesawu hynny’n fawr. Rwy’n talu teyrnged hefyd i BT sydd hefyd yn ymgysylltu’n dda, rwy’n meddwl, gydag Aelodau’r Cynulliad—bob amser yn barod i gyfarfod a gohebu hefyd, a dod i etholaethau yn ogystal. Felly, diolch i’r Gweinidog am hynny.

Mae yna ychydig o faterion yr hoffwn eu crybwyll. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae yna rwystredigaeth fawr—mae’r Gweinidog yn iawn ac mae hi’n derbyn hynny—ond yn sicr, ceir rhwystredigaethau mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol yn ogystal, byddwn yn dweud, fel y mae David Rees wedi nodi. Fe gymerais gyfraniad Neil Hamilton—gwrandewais yn ofalus iawn arno—cyfraniad da iawn, ac wrth gwrs mae ei ranbarth yn cynnwys naw etholaeth, rwy’n credu, a dim ond un etholaeth mewn gwirionedd sydd â chyflymder band eang cyflym iawn sy’n uwch na chyfartaledd Cymru. Rwy’n meddwl bod hynny’n dangos mai problem wledig yw hon i raddau helaeth—nid yn llwyr, ond i raddau helaeth, mae’n broblem wledig. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cysylltu hefyd â phwyntiau Janet Finch-Saunders mewn perthynas â’r gymuned ffermio. Gwyddom fod y broblem fwyaf yng nghefn gwlad Cymru—dyna ble y mae busnesau ffermio wedi’u lleoli—ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy a mwy o bwysau ar sicrhau bod busnesau ffermio yng Nghymru yn cyflwyno ceisiadau a dogfennau penodol ar-lein. Wel, yn syml iawn, ni allant wneud hynny os nad oes ganddynt fand eang da, sy’n gyflym a dibynadwy.

Gwnaeth y Gweinidog y pwynt hefyd, yn gwbl briodol, fod yna newidiadau i’r ffordd y mae rhwydweithiau symudol a gweithredwyr symudol—. Mae darpariaeth symudol yn newid ac yn esblygu. Mae’r ddarpariaeth symudol ar gyfer data bellach yn ogystal â galwadau llais, ac rwy’n derbyn hynny. Mae hynny wedi digwydd yn fwy yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n derbyn bod yna faterion yn codi yn hynny o beth o ran darparu band eang. Ond mewn sawl ffordd, gallai hynny fod yn ateb, wrth gwrs, i ddarparu band eang mewn ardaloedd penodol; os oes yna ddarpariaeth symudol dda sy’n gyflym ac yn ddibynadwy, yna, wrth gwrs mae hynny hefyd yn ateb y galw am fand eang, drwy fynediad dros y rhwydwaith symudol.

Galwodd Dai Lloyd hefyd, yn ei gyfraniad fel llefarydd Plaid Cymru, am sefydlu cynllun lleol pwrpasol i sicrhau nad oes unrhyw gartref neu fusnes yng Nghymru yn mynd heb fynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf. Mae rhinwedd i hyn yn bendant, rwy’n meddwl, ac rwy’n sicr yn credu bod hwnnw’n fater y dylid ei archwilio. Tynnodd sylw hefyd, wrth gwrs, at Flaenau Gwent a’r ffaith fod 99 y cant o Flaenau Gwent â mynediad at fand eang cyflym iawn. Ond wrth gwrs, mynediad yw hynny; nid yw’n golygu eu bod wedi cael band eang, mae’n golygu eu bod wedi cael mynediad ato. Ac fe welwch, mewn gwirionedd, mai cyfran fechan yn unig o’r bobl ym Mlaenau Gwent sy’n gallu cael mynediad at y band eang sydd wedi manteisio ar hynny mewn gwirionedd, a dyna, wrth gwrs, yw pwynt ein dadl heddiw o ran tynnu sylw at y diffyg yn y lefelau manteisio, sy’n bwynt a wnaeth ef ei hun yn nes ymlaen.

Soniodd hefyd am y ffaith fod cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o fywyd modern, sy’n cyfrannu nid yn unig at ffyniant economaidd a darparu cynnydd pendant mewn sgiliau a pherfformiad addysgol, ond sydd hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar fyw’n iach a’r amgylchedd. Yn wir, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod mynediad at y band eang yn prysur ddod yn hawl ddynol, ac nid yn fraint.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud mai bwriad y Ceidwadwyr Cymreig yn y cynnig hwn heddiw yw galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo llawer mwy o amser, ymdrech ac adnoddau i sicrhau bod gennym seilwaith telathrebu sy’n addas ar gyfer economi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Boed ar gyfer cysylltu â theulu neu ffrindiau, neu helpu plant i astudio yn eu cartrefi a gwneud eu gwaith cartref, neu gynnal twf ar gyfer busnesau lleol, mae cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o’n bywydau o ddydd i ddydd ac ni all Cymru fforddio bod ar ei hôl hi ym Mhrydain, fel y mae ar hyn o bryd yn anffodus. Ond mewn perthynas â’r nifer sy’n manteisio ar fand eang a darpariaeth symudol, rwy’n credu bod yn rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd yn sicr fe hoffwn fod yma ymhen ychydig flynyddoedd pan fydd fy mewnflwch yn llawer llai llawn o bobl yn cysylltu â mi i drafod problemau gyda’r band eang a ffonau symudol. Ond rwy’n sicr yn gobeithio y bydd ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd gan Gymru gyfan fand eang cyflym iawn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn cael ei gyflawni. Rwyf eisiau sefyll yma yn y dyfodol a dweud, ‘Diolch, Lywodraeth Cymru, am gyflawni hyn ac am leihau cynnwys fy mewnflwch yn sylweddol.’ Ond rwy’n bendant yn cymeradwyo’r cynnig hwn i’r Cynulliad heddiw ac yn annog yr Aelodau i’w gefnogi.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliant. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 7. Dadl UKIP Cymru: Canser yr Ysgyfaint

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliannau 2 a 4 yn enw Paul Davies a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef dadl gan Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar ganser yr ysgyfaint, a galwaf ar Caroline Jones i gynnig y cynnig. Caroline Jones.

Cynnig NDM6128 Neil Hamilton, Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.

2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;

(b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;

(c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes;

(d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a’u gweithredu; ac

(e) gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint, a hoffwn i’r cynnig gael ei gynnig yn ffurfiol.

Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf erioed wedi’i wneud o’r blaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyflwyno’r cynnig ger eich bron heddiw i nodi ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac i gydnabod, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn parhau i fod ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Canser yr ysgyfaint yw’r canser sy’n lladd fwyaf ledled y byd. Bob blwyddyn, mae mwy na 1.5 miliwn o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint. Yn y DU, mae un person yn marw bob 15 munud, ac erbyn y bydd y ddadl hon ar ben, bydd canser yr ysgyfaint wedi hawlio pedwar bywyd arall.

Yma yng Nghymru, mae canser yr ysgyfaint yn hawlio bywydau tua 2,000 o bobl bob blwyddyn, sef chwarter yr holl farwolaethau canser. Diolch i’r drefn, mae datblygiadau mewn diagnosteg a thriniaethau canser yn golygu nad yw cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bellach yn ddedfryd farwolaeth awtomatig. Mae mwy a mwy o bobl yn goroesi, ond yn anffodus, nid oes digon.

Yn ddiweddar, lansiodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU ymgyrch, 25 erbyn 25, sy’n ceisio codi cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn y DU i 25 y cant erbyn 2025. Caiff yr ymgyrch ei chefnogi gan Cymorth Canser Macmillan, sy’n aelodau sefydlol, a chaiff ei chefnogi’n llawn gan grŵp UKIP yn y Cynulliad.

Mae ein cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Yn wir, yn yr astudiaeth ddiweddaraf ar draws Ewrop, roedd Cymru ar safle 28 o 29. Dim ond 6.6 y cant o gleifion canser yr ysgyfaint yng Nghymru sy’n dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis, o gymharu ag 16 y cant yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau ac wedi buddsoddi mewn gofal canser yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi canser yn gyffredinol wedi gwella, ac mae cynnydd wedi bod yn y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ar gyfer canser yr ysgyfaint, ond mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn dal i lusgo ar ôl gwledydd eraill y DU a’n cymheiriaid Ewropeaidd.

Yn syml, nid ydym yn gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ddigon cynnar. Yng Nghymru, 12 y cant yn unig o gleifion canser yr ysgyfaint sy’n cael diagnosis yn ystod camau cynnar y clefyd. Mae’r mwyafrif llethol o gleifion yn cael diagnosis yn ystod cam 3 neu gam 4, sy’n lleihau eu gobaith hirdymor o oroesi yn sylweddol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU arolwg, a gwelwyd mai mynediad at brofion ymchwiliol ac atgyfeirio sy’n peri fwyaf o oedi o hyd rhag cael diagnosis cyflym, gyda 36 y cant o’r cleifion a holwyd yn aros dros fis i gael diagnosis pendant ar ôl amheuaeth gychwynnol o ganser, ac 17 y cant yn aros dros ddau fis. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella mynediad at brofion diagnostig, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy.

Cynhaliodd Cancer Research UK astudiaeth o wasanaethau canser yng Nghymru, a gwelsant fod problemau gyda chapasiti diagnostig yn peri oedi cyn bod rhai cleifion yn cael diagnosis pendant, ac felly cyn dechrau triniaeth. Gwelsant hefyd fod amrywio ym mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig. Yn ôl Cancer Research UK, mae angen ymchwilio ymhellach i ddeall y capasiti sydd ei angen o ran gweithlu a chyfarpar i ateb y galw. Bydd y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser, yn ogystal â phenderfyniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ostwng y trothwy atgyfeirio pan fo amheuaeth o ganser, yn cynyddu’r galw am brofion diagnostig yn y blynyddoedd i ddod.

Argymhellodd Cancer Research UK y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o gyflwr mynediad uniongyrchol at brofion diagnostig ar gyfer meddygon teulu. Fodd bynnag, un o’r rhwystrau mwyaf i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint o hyd yw diffyg ymwybyddiaeth ymysg cleifion. Mewn arolwg diweddar o gleifion canser yr ysgyfaint, 27 y cant yn unig o gleifion a aeth i weld eu meddyg oherwydd eu bod wedi sylwi eu bod yn profi arwyddion a symptomau o ganser yr ysgyfaint. Nid oedd dros 40 y cant o’r cleifion yn gwybod fod poen yn y frest, colli pwysau a blinder yn symptomau posibl o ganser yr ysgyfaint. Dyma pam fod dadleuon fel yr un rydym yn ei chael heddiw a digwyddiadau fel Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint mor hanfodol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser yr ysgyfaint ymhlith cleifion.

Yr haf hwn, am y tro cyntaf, cynhaliodd y GIG yng Nghymru ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint. Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am gymryd y cam hwn. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gynnal yr ymgyrch hon bob blwyddyn. Mae Lloegr wedi bod yn cynnal yr ymgyrch ers 2010 ac wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer y cleifion sy’n cael diagnosis ar gam 1. Efallai mai dyma pam y mae Lloegr wedi bod mor llwyddiannus yn cynyddu ei chyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd, sydd wedi dyblu bron ers 2004 i ychydig dros 16 y cant.

Mae diagnosis cynnar yn un o’r pethau y mae’n rhaid i ni eu gwella yma yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod cleifion, ar ôl cael diagnosis, yn cael y lefel orau posibl o ofal. Dangosodd arolwg profiad cleifion canser Cymru yn ddiweddar fod pobl sydd â chanser yr ysgyfaint wedi cael profiadau gwaeth na phobl sydd â mathau eraill o ganser. Nid oes gan un o bob 10 o gleifion Cymru fynediad at nyrs glinigol arbenigol. Mae Macmillan Cymru wedi galw am well cymorth pan fydd pobl yn cael diagnosis ac yn aros am driniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint. Maent hefyd wedi gofyn i ni sicrhau bod pawb sy’n cael diagnosis yn cael eu hanghenion wedi’u hasesu a’u cynnwys mewn cynllun gofal ysgrifenedig, fel yr amlinellir yn y cynllun canser cyfredol.

Mae adroddiad Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y safonau canser cenedlaethol presennol ar gyfer Cymru, y dylid eu diweddaru wedyn ar sail yr argymhellion a ddarperir; adolygu gwasanaethau diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint; sicrhau bod gan bob claf fynediad at nyrs profion clinigol canser yr ysgyfaint ym mhob agwedd ar eu gofal; a gweithio gyda chyrff eraill i asesu a mynd i’r afael ag amrywiadau lleol mewn triniaeth canser yr ysgyfaint. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Hyd yn oed pe baem yn cyflawni 25 erbyn 25, mae’r rhan fwyaf o gleifion canser yr ysgyfaint yn marw o’r clefyd o hyd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cleifion nad ydynt yn goroesi yn marw gydag urddas. Mae’n ffaith drist mai 46 y cant yn unig o’r rhai a fu farw o ganser a gafodd ofal lliniarol arbenigol.

Canfu arolwg Marie Curie diweddar nad yw saith o bob 10 o bobl sydd â salwch terfynol yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, bydd 7 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gyda chanser erbyn 2030 a bydd nifer y bobl sy’n marw yng Nghymru yn cynyddu 9 y cant. Rydym yn gwybod nad yw oddeutu 6,200 o bobl sy’n marw bob blwyddyn yn cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, ond ffigurau Marie Curie yw’r rhain—nid ffigurau’r GIG ac felly nid ydynt yn bwydo i mewn i gynllunio’r gweithlu.

Yn Lloegr, mae’r GIG yn cynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth, o’r enw ‘VOICES’, sy’n dangos lefel y gofal a’r gefnogaeth a roddir i deuluoedd ar ddiwedd bywydau eu hanwyliaid. Nid ydym yn cynnal yr arolwg hwn yng Nghymru. Os ydym am sicrhau y gall pawb sydd angen gofal lliniarol arbenigol ei gael a’n bod am sicrhau y gellir nodi, dogfennu, adolygu, parchu a gweithredu ar anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigolion ar gyfer gofal diwedd oes, yna mae’n rhaid i ni gynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth yma yng Nghymru.

Yn olaf, hoffwn fynd i’r afael â’r gwelliannau. Byddwn yn cefnogi dau welliant y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n destun gofid fod cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y menywod sydd â chanser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau achosion mewn dynion un rhan o dair yn uwch na menywod bellach, o gymharu â dwbl 10 mlynedd ynghynt. Fodd bynnag, rwy’n eich annog i wrthod gwelliannau Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Nid ydym yn beirniadu Llywodraeth Cymru na’r diffyg buddsoddiad. Oes, mae cynnydd wedi’i wneud, yn enwedig mewn cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn, ond mae llawer iawn mwy y gallwn ei wneud. Y prif reswm dros gynnal y ddadl hon heddiw yw codi ymwybyddiaeth o’r materion a gweithio gyda’n gilydd i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint.

Ni ddylai Cymru fod yn safle 28; dylem fod yn arwain y ffordd. Mae gennym wasanaeth iechyd gwych gyda staff hynod o ymroddedig; gadewch i ni roi’r adnoddau iddynt wella gofal canser. Gadewch i ni sicrhau fod pawb sydd â chanser yr ysgyfaint yn cael diagnosis cynnar a thriniaeth briodol. Gadewch i ni sicrhau hefyd fod gan bawb sydd ei angen fynediad at ofal lliniarol arbenigol a sicrhau y gall pawb farw gydag urddas pe bai’r amser yn dod. Rwy’n eich annog i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol:

a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau canser yr ysgyfaint;

b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017;

c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal diwedd oes.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol, Gadeirydd.

Gwelliant 2—Paul Davies

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

‘gwella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.’

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gymryd rhan yn y ddadl hon a gyflwynwyd gan UKIP heddiw. Hoffwn gynnig gwelliant 1 a gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Mae gwelliant 2 yn gresynu at y ffaith fod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf. Yn wir, mae’r gyfradd ar gyfer menywod yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn Ewrop ac wedi dringo o 54.8 y cant o achosion ym mhob 100,000 i 69.2 y cant, sydd, yn ôl safonau unrhyw un, yn naid eithaf sylweddol. Rydym hefyd yn cynnig gwelliant 4, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru wella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.

Nawr, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, nodaf, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi crybwyll bod yna £1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes. A gaf fi ofyn i chi egluro a yw hwnnw’n unig ar gyfer canser yr ysgyfaint, ar gyfer gwasanaethau canser, neu ar gyfer gofal diwedd oes yn gyffredinol ac a fyddai’n cynnwys oedolion a phlant, oherwydd, wrth gwrs, byddai hynny’n dangos faint o arian y byddem yn meddwl ei fod yn dod i bobl sy’n dioddef â chanser yr ysgyfaint? Yn y gwelliant, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych hefyd yn sôn am y cynllun cyflawni ar gyfer canser a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn egluro pa bwyslais, yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser ar ei newydd wedd, fydd yn cael ei roi ar ganlyniadau canser yr ysgyfaint, oherwydd, fel y dywedodd Caroline Jones mor fedrus, mae mwy o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd, ac eto mae’n achos llawer llai adnabyddus o ran codi arian ar gyfer ymchwil.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn dadlau y dylid rhoi triniaeth arbennig i ganser yr ysgyfaint—dim o gwbl. Fodd bynnag, gan ei fod yn achos salwch mor enfawr, yn enwedig mewn pobl o ardaloedd llai cyfoethog, mae’n haeddu cael ei drin yn deg. Mae angen i ni gael gwared ar y stigma mai clefyd ysmygwyr yw canser yr ysgyfaint. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac yn y proffesiwn meddygol i sicrhau diagnosis cynnar gwell a fyddai’n sicrhau gwell cyfraddau goroesi. Fel y dywedodd Caroline eisoes, mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yng Nghymru ymysg yr isaf yn Ewrop, ac eto gellir goroesi cam 1 canser yr ysgyfaint os ceir diagnosis yn ddigon cynnar.

Yn anffodus, mae loteri cod post yn bodoli gyda diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint cam 1 y gellid ei drin yn 90 y cant yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru ac mae hynny’n rhywbeth i’w gymeradwyo ac yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar iawn amdano. Eto i gyd, os ydych yn berson tlawd, os ydych yn byw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae eich gobaith o oroesi canser yr ysgyfaint yn gostwng i 74 y cant yn unig. Mae hwnnw’n fwlch anferth—yn rhaniad anferth—rhwng y rhai sy’n fwy cefnog a’r rhai sy’n llawer mwy difreintiedig. Y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yw’r rhai isaf yn y DU a’r ail isaf yn Ewrop.

Gall diagnosis cynnar sicrhau canlyniad hynod o wahanol. Rwyf am ddweud stori fach wrthych am rywun sydd wedi bod yn gohebu â mi. Roedd ei wraig yn ddigon ffodus i gael diagnosis cynnar oherwydd, fel y dywedodd, roedd y meddyg teulu’n meddwl y tu allan i’r bocs ac felly cafodd driniaeth yn gyflym. I gychwyn, cafodd ei wraig ddiagnosis terfynol—peth ofnadwy, o ystyried nad oedd hi ond yn 43 mlwydd oed. Ond ymatebodd yn wych i radiotherapi, cafodd oncolegydd rhagweithiol a ddaeth o hyd i lawfeddyg gwych a daeth yr hyn nad oedd yn llawdriniadwy yn llawdriniadwy. Ar hyn o bryd, mae’r sganiau, 18 mis yn ddiweddarach, yn glir. Rwy’n rhannu’r stori hon, am ei fod yn dweud, ‘Rwy’n fedrus am ddefnyddio’r rhyngrwyd; gwthiais i gael triniaeth; telais am sganiau yn Lloegr a threuliais lawer o amser yn dilyn cadwyni papur y GIG i ddod o hyd i’r driniaeth gywir neu’r arbenigwr cywir, a chefais gefnogaeth ragorol gan Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle’. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes llawer o bobl sydd mor lwcus â’r dyn hwn a’i wraig.

Y trydydd pwynt rwy’n awyddus iawn i sôn amdano—. Rydym wedi siarad am gael gwared ar y stigma, rydym wedi siarad am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn arwain at gyfraddau goroesi gwell, ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr, mae angen i ni weld cyfran fwy o gyllid ymchwil yn mynd tuag at ganser yr ysgyfaint. Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrannu at 22 y cant o’r holl farwolaethau canser, ond 7 y cant yn unig o gyfanswm yr arian ymchwil canser y mae’n ei gael. Yn sicr, dyma anghydraddoldeb arall eto y mae angen i ni geisio ei unioni i atal pobl mewn ardaloedd tlotach rhag bod yn fwy tebygol o farw ohono, a rhoi mwy o arian ymchwil tuag at yr achos llai ffasiynol hwn, achos ysmygwyr, gyda’r stigma hwnnw ynghlwm wrtho, ac eto, achos sy’n lladd mwy o bobl yng Nghymru na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda’i gilydd.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r buddsoddiad mewn gwasanaethau diagnostig a gofal diwedd oes a gafodd ei gyflawni gan Blaid Cymru yn y trafodaethau ar gyllideb ddrafft 2017-18, ac yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i wella’r gwasanaethau hyn.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu, heb os, yng Nghymru o ran triniaeth canser. Mae yna bobl yn goroesi heddiw na fyddai wedi gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwil blaengar yn digwydd yn ein prifysgolion ni, ond mae yna gymaint o le i wella. Mae amseroedd aros afresymol o hir am brofion diagnostig yn broblem sydd wedi bodoli ers blynyddoedd. Mae hynny wedi cyfrannu at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Rydym ni’n gwybod hefyd mai darlun cymysg iawn ar y gorau sydd yna o ran gofal diwedd bywyd, ac rydym ni’n nodi’r ddau faes yna fel meysydd blaenoriaeth yn ein gwelliant byr ni heddiw.

Er fy mod i’n cytuno efo llawer o’r hyn sydd yn y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno gan y Llywodraeth Lafur, allwn ni ddim gefnogi y geiriad fel ag y mae o. Efo Cymru yn rhif 28 mewn tabl o 29 gwlad Ewropeaidd, fel rydym ni wedi’i glywed, o ran cyfraddau goroesi, nid ydw i’n credu y gall y Llywodraeth fod yn sôn mewn gwirionedd am welliant sylweddol. Mae cyfraddau goroesi yn gwella yn gyffredinol ar gyfer canser. Mae hynny’n adlewyrchu gwelliannau mewn triniaeth, ac mae’n adlewyrchu gwaith caled gan feddygon a gan nyrsys, a hynny ar draws Ewrop i gyd. Y gwir amdani yma yng Nghymru ydy bod diagnosis yn dal i ddigwydd yn rhy hwyr mewn gormod o achosion, a bod cyfraddau goroesi yn is yma na mewn gwledydd sydd â chyfraddau llawer iawn uwch o bobl sydd yn ysmygu.

Wrth gwrs, allwn ni ddim sôn am ganser yr ysgyfaint heb sôn am ysmygu. Mae’n werth nodi yn fan hyn, rwy’n meddwl, bod arweinydd interim y blaid sydd wedi cyflwyno’r cynnig yma heddiw wedi gwadu, mae’n debyg, y cysylltiad yma rhwng ysmygu a chanser, ac wedi dweud ‘doctors have got it wrong’. Mi allwn ni ddewis, os ydym ni’n dymuno, anwybyddu y sylwadau hynny a’u gweld nhw fel ymgais i ddenu sylw a dim byd arall, ond mae yna bwynt difrifol iawn iawn yn fan hyn. Mi wnaeth y diwydiant tybaco dreulio degawdau a gwario miliynau lawer yn gwadu bod eu cynnyrch nhw yn lladd pobl, mewn modd tebyg i beth welwn ni efo gwadwyr newid hinsawdd heddiw, fel rydym ni wedi cael enghraifft arall ohono eto gan y blaid gyferbyn yma yn y Cynulliad. O ganlyniad, mi gymerodd y neges am ysmygu a chanser lawer hirach i dreiddio i feddyliau y cyhoedd. Mi oedd yna oedi llawer gormod cyn i lywodraethau weithredu, a’r canlyniad oedd bod miliynau o bobl wedi colli eu bywydau yn y cyfamser. Mae’n dal i ddigwydd mewn rhai gwledydd lle mae’r lobi tybaco yn dal i allu prynu dylanwad. Felly, pan fo gwleidydd amlwg yn dweud pethau fel hyn, mae’n tanseilio yr ymdrechion i atal canser ac yn peryglu bywydau, ac mi ddylai’r blaid gyferbyn ystyried hynny, ynghyd â’u hagweddau tuag at wyddoniaeth ac at arbenigwyr yn gyffredinol.

Mae’r niferoedd sy’n ysmygu wedi gostwng, wrth gwrs, ac yn debyg iawn, gobeithio, o ostwng ymhellach, ond mae wedi cymryd degawdau i gyrraedd at y pwynt yma, ac os gwnewch chi faddau i fi am eiliad i fynd ar ychydig bach o ‘tangent’, mae yna wers, rydw i’n meddwl, y gallwn ni ei dysgu o hynny ar gyfer gordewdra a phroblemau eraill sy’n cael eu gweld yn aml fel problemau sy’n deillio o ffordd o fyw. Y wers ydy allwn ni ddim dim ond dweud wrth bobl i newid eu ffordd o fyw; mae’n rhaid i ni eu helpu nhw i wneud hynny. Nid yw pŵer ewyllys yn aml yn ddigon yn ei hun i alluogi rhywun i roi’r gorau i ysmygu. Mae angen help patsys neu, ie, e-sigarennau i roi’r gorau iddi, a chamau fel trethiant uwch, gwaharddiadau ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus er mwyn dad-normaleiddio ac yn y blaen. Efallai y dylem fod yn meddwl am ordewdra yn yr un ffordd. Nid yw ewyllys a phŵer ewyllys ddim yn ddigon i daclo gordewdra ym mhob achos—mae angen help. Mae angen i Lywodraethau weithredu.

Yn ôl at yr hyn rydym ni’n ei drafod heddiw, mi ddylem ni hefyd, wrth gwrs, gofio bod canser yr ysgyfaint yn taro pobl sydd ddim yn ysmygu ac erioed wedi ysmygu. Mae’r Ceidwadwyr wedyn yn tynnu sylw at ferched yn benodol yn eu gwelliant nhw, gwelliant 2. Yn sicr, mi wnawn ni gefnogi’r gwelliant hwnnw ac mi gefnogwn ni welliant 4 hefyd. Mae codi ymwybyddiaeth a brwydro’r stigma y cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr ato fo yn bethau mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw. Beth bynnag ydy achos yr afiechyd, pwy bynnag sydd yn dioddef, mae pob un ohonom ni, rydw i’n gobeithio, yn gytûn mai cynnig y gofal gorau posib ydy’r nod ac anelu at y diwrnod lle byddwn ni mewn gonestrwydd yn gallu dweud ein bod ni wedi ennill tir sylweddol yn y frwydr yma.

Mae’r ffaith fod gwelliant wedi bod mewn cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yn amlwg yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae ystadegau cyfraddau goroesi cleifion canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn tynnu oddi ar y llwyddiant hwnnw i raddau helaeth. Mae’n syfrdanol fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn llusgo mor bell ar ôl y cyfraddau yng ngweddill y DU. Mae diagnosis cynnar yn allweddol. Mae angen torri amseroedd aros i weld ymgynghorwyr i gael profion a chael asesiadau ar gyfer triniaeth a hynny ar frys. Rwy’n cydnabod y cyllid ychwanegol i’r GIG yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, ni ddaw’r cronfeydd hyn â budd go iawn i gleifion canser oni bai eu bod yn cael eu gwario ar staff rheng flaen ychwanegol yn hytrach na mentrau ffansi, siopau siarad a staff ystafell gefn anfeddygol.

Er bod gofal diwedd oes yn hynod o bwysig i unrhyw glaf sydd â salwch terfynol, y nod yn amlwg yw cadw cleifion canser yn fyw yn y lle cyntaf fel nad oes arnynt angen y math hwnnw o ofal diwedd oes. Ni all cynigion y Llywodraeth yn hyn o beth, ni waeth pa mor dosturiol ydynt, fynd i’r afael â chyfraddau goroesi gwael cleifion canser.

Edrychwn ymlaen at weld manylion cynllun cyflawni’r Llywodraeth ar gyfer canser ar ei newydd wedd, ac edrychwn ymlaen yn arbennig at weld a yw’r cynllun hwnnw’n cynnwys meddwl arloesol neu a fydd yn ailwampiad o bethau y rhoddwyd cynnig arnynt eisoes. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi gweithwyr proffesiynol meddygol yn eu hymdrechion i gynyddu cyfraddau goroesi yng Nghymru. Nid wyf am un eiliad yn meddwl bod y canlyniadau gwael hyn wedi’u hachosi gan ddiffyg tosturi ar ran Llywodraeth Cymru nag unrhyw un yn y Siambr hon na thrwy esgeulustod ar ran ein staff meddygol. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw ein strategaeth hyd at yn awr yn gweithio. Mae’n bryd cael syniadau newydd, dychmygus a phragmatig ar ran Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed ei chynigion newydd maes o law.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae canser yr ysgyfaint yn her enfawr i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fel y mae ar draws y DU a ledled y byd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cofio y gellir gwneud cynnydd a bod cynnydd yn cael ei gyflawni. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych yn ôl ar y cyfraddau goroesi ar gyfer mathau eraill o ganser. A ydych yn cofio sut roedd hi ar ganser y fron heb fod cymaint â hynny’n ôl? Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer canser y fron wedi gwella’n ddramatig. Mae pob cam bach sy’n cael ei gymryd gyda chanser yr ysgyfaint yn mynd â ni gam yn agosach at gael cyfraddau goroesi llawer gwell. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol fod llawer o ganserau bellach wedi datblygu i fod yn glefydau cronig, fod llawer o bobl yn byw gyda chanser, a dyna’r sefyllfa rwy’n credu y dylem symud tuag ati, ac rydym yn symud tuag ati, gyda chanser yr ysgyfaint.

Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan ganser Felindre yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth, ac maent wedi tynnu fy sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gyda’r triniaethau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint a’r gwelliannau a ddaeth yn sgil ymchwil a thrwy gael mynediad at brofion clinigol cenedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig cofio hefyd, pan fyddwn yn sôn am ganser yr ysgyfaint, fod yna wahanol fathau o ganser yr ysgyfaint. Ond mae enghreifftiau o’r triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint, a fydd ar gael yng Nghymru dros yr ychydig fisoedd nesaf ar gyfer y gwahanol fathau o ganser yr ysgyfaint, yn cynnwys crizotinib, a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Medi 2016, a chymeradwywyd osimertinib gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru ym mis Hydref. Fis diwethaf yn unig oedd hynny; mae’r rhain yn gymeradwyaethau diweddar iawn. Mae triniaeth gynnal pemetrexed bellach wedi cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Awst, a bydd hwnnw ar gael gennym yn fuan. Felly, mae’n gyffrous iawn fod gennym y datblygiadau newydd hyn ar gyfer triniaeth.

Mae cleifion yn Felindre hefyd yn elwa o gael mynediad at brofion clinigol a mwy o gyfleoedd i gael triniaethau megis y prawf clinigol Matrix, sy’n ymwneud â chyflwyno meddyginiaeth bersonol wedi’i thargedu, yn seiliedig ar gynnal profion genetig ar eu canser. Mae’r rhain i gyd yn ddatblygiadau sy’n digwydd yn gyflym iawn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu manteisio arnynt, fel y gwn ein bod, a chyda’r gronfa driniaeth newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi, bydd mynediad at gyffuriau newydd yn sicr yn haws.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig dweud ein bod yn gwneud gwaith ymchwil eithriadol yng Nghymru. Roeddwn am dynnu sylw at rywbeth sydd wedi digwydd yn Felindre yn fy etholaeth. Mae myfyrwyr PhD o Felindre wedi cyflawni ymchwil sydd wedi arwain at brofion DNA di-gell ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint, sy’n defnyddio profion gwaed yn lle biopsïau. Cynhelir profion ar gleifion o Loegr yn ogystal â chleifion o Gymru yng Nghaerdydd, yn y ganolfan eneteg ranbarthol. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig; nid ydym am fychanu ein hunain. Mae’r pethau gwirioneddol arloesol hyn yn digwydd yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny.

Felly, ceir datblygiadau calonogol, ond rydym i gyd yn gwybod mai’r mater allweddol yw atal a diagnosis cynnar, a rhoddwyd sylw da i hynny yma heddiw. Rwy’n credu ein bod yn derbyn bod cysylltiad rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint, ac rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei gwaith i leihau ysmygu ac i atal pobl ifanc rhag dechrau yn y lle cyntaf, oherwydd credaf fod hynny’n hanfodol—ac i’w hamddiffyn rhag mwg ail-law. Rwy’n credu bod y ddeddfwriaeth a gyflawnwyd yn y meysydd penodol hyn wedi bod yn hollol arloesol. Mae wedi trawsnewid y gwasanaeth iechyd yn fawr. Rwy’n arbennig o falch ei bod yn anghyfreithlon, ers 1 Hydref 2015, i ysmygu mewn cerbydau preifat os oes rhywun o dan 18 oed yn bresennol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Fil iechyd y cyhoedd, pan fydd ysmygu sigaréts, fel y gwyddom, yn cael ei gyfyngu ymhellach mewn parciau, ar dir ysbytai a mannau eraill. Mae hyn i gyd wedi digwydd gyda chytundeb a chefnogaeth y cyhoedd.

Felly, rydym wedi bod yn gweithio ar atal. Mae angen i ni gael diagnosis cynnar, ac rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi gweld lansio ymgyrch Bod yn Glir am Ganser i helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint drwy wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt. Felly, mae llawer o waith ar y gweill, ac fe hoffwn ddirwyn i ben, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad mawr i ddatblygu’r ganolfan driniaeth canser newydd yn Felindre, lle y mae llawer iawn o gyfalaf yn mynd i mewn i sicrhau y bydd y math o wasanaethau y byddwn yn gallu eu cynnig i bob claf canser, gan gynnwys cleifion canser yr ysgyfaint sy’n gorfod mynd i’r ysbyty fel cleifion mewnol, yn driniaeth o’r radd flaenaf.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon ac am helpu i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr effaith y mae canser yr ysgyfaint yn ei gael ar unigolion a’u teuluoedd. Fel sydd wedi cael ei gydnabod heddiw, mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda’i gilydd. Dyma’r canser sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf wedi’i safoni yn ôl oedran o bob math o ganser, ac mae’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig wedi ehangu mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn ystyried y data diweddaraf, sy’n dangos bod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl blwyddyn wedi cynyddu draean mewn menywod a bron i chwarter mewn dynion. O ystyried cyfradd marwolaethau uchel a chyflym canser yr ysgyfaint, a’r anhawster i wneud diagnosis, sydd wedi cael ei gydnabod mewn rhai cyfraniadau heddiw, yn ystod ei gamau cynharaf a mwyaf triniadwy, mae hwn mewn gwirionedd yn llwyddiant go iawn i’w gydnabod, ac i adeiladu ar y cyfraddau goroesi uwch hynny.

Yn wir, wrth ymdrin â heriau gwneud diagnosis yn ystod y camau cynharach a thriniadwy, rhan o’r her yw ei fod yn anodd ei ganfod. Rhan o’r her fawr wrth wella cyfraddau goroesi mewn gwirionedd yw cael diagnosis a’i ganfod yn gynharach. Dyna pam ein bod wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd y trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o hyn ac yn arbennig, gyda phartneriaid mewn gofal sylfaenol. Gall y symptomau cynnar gynnwys peswch parhaus, peswch gwaed, diffyg anadl parhaus, blinder a cholli pwysau anesboniadwy a dolur neu boen wrth anadlu neu besychu. Felly, mae ymwybyddiaeth o’r symptomau hyn a cheisio cymorth os ydynt yn digwydd yn rhan allweddol o godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis cynharach.

Ar bwynt o eglurder, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli bod y cyfraddau goroesi mewn menywod wedi cynyddu os ydynt wedi cael diagnosis yn ddigon cynnar, ond yn gyffredinol, oni fyddech yn cytuno bod mwy o fenywod bellach yn dioddef ac yn cael canser yr ysgyfaint nag yn y gorffennol?

Yn wir. Rydym yn cydnabod bod mwy o bobl yn cael eu trin a bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, a dyna’r realiti. Mae’n rhywbeth am y boblogaeth sydd gennym, ac mae hefyd yn ymwneud â bod mwy o gydnabyddiaeth i’r ffaith fod pobl yn cael diagnosis yn ddiweddarach mewn bywyd nag y byddent fel arall. Rydym yn cydnabod nad ni yw’r unig wlad ôl-ddiwydiannol gyda phoblogaeth sy’n heneiddio i fod â phroblem gyda chanser yr ysgyfaint. Fodd bynnag, mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yn gymharol wael o gymharu â llawer o ganserau eraill yn y rhan fwyaf o wledydd, ond ein huchelgais, fel y nodir yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, yw cau’r bwlch rhyngom ni a’r gorau yn Ewrop. Rydym yn cydnabod nad ydym yno ar hyn o bryd.

Mae cynllun canser 2013 yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gan rwydwaith canser Cymru, a byddaf yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi cynllun newydd erbyn diwedd y mis. Mae gwelliant y Llywodraeth a chyfraniad Rhun ap Iorwerth yn cydnabod y byddwn yn darparu £15 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2016-17 ar gyfer diagnosteg, a bydd hwn yn cefnogi gwaith i wella diagnosis canser yn ychwanegol at y £10 miliwn rydym eisoes wedi’i fuddsoddi ar ailosod cyflymyddion llinellol a’n hymrwymiad i’r Ganolfan Ganser newydd gwerth £200 miliwn yn Felindre a grybwyllwyd gan Julie Morgan yn ei chyfraniad. Wrth gwrs, cytunwyd ar y £15 miliwn o arian cyfalaf yn rhan o gytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru, gan gydnabod ein blaenoriaethau ar y cyd i wella gwasanaethau diagnostig.

Mae’r grŵp gweithredu canser cenedlaethol eisoes wedi bwrw ymlaen â menter ganser yr ysgyfaint dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roeddwn yn falch o glywed hyn yn cael ei grybwyll yn y cyfraniad agoriadol gan Caroline Jones. Mae’n cynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau a gynhaliwyd dros yr haf, a rhaglen i helpu i wella canlyniadau llawdriniaethau canser yr ysgyfaint, sy’n rhan bwysig iawn o wella cyfraddau goroesi. Rydym hefyd am helpu pobl i fod yn barod ar gyfer llawdriniaeth, felly ymarferion cryfhau cyn llawdriniaeth, ac i ddarparu adferiad gwell.

Drwy gyfranogiad GIG Cymru yn archwiliad canser yr ysgyfaint Prydain, rydym eisoes wedi gweld gwelliannau yn safon gwasanaethau, gan gynnwys cynnydd yn ein cyfraddau echdorri’r ysgyfaint. Mae mwy i’w wneud o hyd, ond mae rhai o’n gwasanaethau’n perfformio’n anhygoel o dda yn erbyn nifer o elfennau’r safonau cenedlaethol hynny. Er enghraifft, mae 88 y cant yn cael triniaeth gan nyrs arbenigol yng Nghymru, o gymharu â chyfartaledd o 78 y cant ym Mhrydain, ac mae tîm amlddisgyblaethol canser yr ysgyfaint yn trafod rheolaeth y cyflwr yn yr unigolyn mewn 99.6 y cant o achosion yng Nghymru o gymharu â chyfartaledd Prydain o 94 y cant. Felly, nid yw popeth yn wael. Mae yna rai meysydd lle rydym yn perfformio’n dda iawn o gymharu â’n cymheiriaid yn y DU.

Mae’r pwyllgor gwasanaethau arbenigol yng Nghymru hefyd yn adolygu gwasanaethau llawdriniaeth thorasig yma yn ne Cymru gyda golwg ar wella’r model sydd ar gael. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi sefydlu partneriaeth â Novartis i ailddylunio a byrhau llwybr canser yr ysgyfaint, ac roedd gwella’r llwybr yn rhan bwysig iawn o wella canlyniadau i gleifion yn gyffredinol. Mae’r cytundeb meddygon teulu’n cynnwys maes blaenoriaeth cenedlaethol ar gyfer atal a chanfod canser, ond mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r holl achosion o ganser yr ysgyfaint yn 2015 i lywio datblygiad practisau a chynlluniau gweithredu clystyrau. Gobeithiaf y bydd hynny’n ymdrin ag un o’r pwyntiau a wnaed yn yr araith agoriadol.

Wrth gwrs, rydym wedi sefydlu partneriaeth gyda Macmillan i gefnogi gwelliant yn y broses o nodi amheuaeth o ganser mewn gofal sylfaenol, yn ogystal â chymorth a thriniaeth ar ôl cael diagnosis. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithredu rheoliadau mewn perthynas â pheryglon amgylcheddol megis asbestos a llygredd aer, ond fel sydd wedi’i gydnabod mewn nifer o gyfraniadau heddiw, ysmygu yw’r ffactor risg uchaf o hyd ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gyda chyfraddau ysmygu o hyd at 29 y cant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gallwn weld pa mor bwysig yw parhau i ganolbwyntio ar reoli tybaco a rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn mynd i’r afael â phrif achos canser yr ysgyfaint y gellir ei atal a’r anghydraddoldebau yn nifer achosion a chanlyniadau canser.

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y Deyrnas Unedig ym mis Hydref yn dweud bod

camau sylweddol wedi’u cymryd yng Nghymru i wella canlyniadau i bobl sy’n cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.

Rwy’n hapus i ddweud fy mod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y gynghrair ym mis Chwefror a chyfarfu fy swyddogion â hwy eto ym mis Mehefin. Mae gwaith yn bwrw ymlaen eisoes ar lawer o’u hargymhellion. Mae hwn yn faes lle rydym yn cydnabod bod angen mwy o welliant, ond rydym yn parhau i fuddsoddi dros £6.4 miliwn bob blwyddyn mewn gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu bywydau yma yng Nghymru fynediad at ofal lliniarol arbenigol o safon uchel. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gefnogi gwasanaethau hosbis yn y cartref, gan ddatblygu ymagwedd gyson tuag at gynlluniau gofal uwch, a chyflwyno’r ddogfen penderfyniadau gofal ar gyfer y dyddiau olaf. Hefyd, rydym yn sicrhau bod trefniadau gofal lliniarol pediatrig cynhwysfawr ar waith.

Rwy’n hapus i ddweud fy mod, yr wythnos hon, wedi cael sgyrsiau â rhanddeiliaid ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau gofal diwedd oes pediatrig ac i oedolion. Mae £1 filiwn o gyllid eisoes ar gael i’r grŵp gweithredu ar gyfer canser a’r grŵp gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes. Mae’r bwrdd gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes yn ariannu cymorth ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y cartref i alluogi pobl i farw’n gyfforddus yn y lle y maent yn dymuno marw. Rydym yn cydnabod bod llawer gormod o bobl yn dal i farw mewn gwely ysbyty, er nad dyna ble y dewisant dreulio’u dyddiau olaf, ac yn yr un modd, nid dyna’r lle mwyaf priodol i hynny ddigwydd. Mae £159,000 wedi’i ddyrannu hefyd i gefnogi staff â sgiliau cyfathrebu uwch sy’n darparu gofal diwedd oes.

Mae’r cynllun gofal diwedd oes hefyd yn cael ei ddiweddaru ac rwy’n disgwyl cyhoeddi’r cynllun newydd ym mis Ionawr. Gan weithio gyda phleidiau eraill yn y Cynulliad, yn enwedig gyda Phlaid Cymru yn dilyn ein trafodaethau ar y gyllideb, rydym wedi cynnwys £1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes yn y gyllideb ddrafft. Mae hwn ar gyfer yr holl wasanaethau gofal diwedd oes, yn hytrach nag adran benodol neu gyfres benodol o gyflyrau. Ni chredaf y byddai modd rheoli hynny, ac a dweud y gwir, ni fyddai’n ddymunol yn foesegol chwaith.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys ehangu gwasanaethau hosbis yn y cartref ymhellach ac ymestyn cyrhaeddiad trafodaethau salwch difrifol, ond rwy’n credu y dylem gydnabod ein bod, yma yng Nghymru, mewn gwell sefyllfa na’n cymheiriaid yn y DU o ran gofal diwedd oes. Fodd bynnag, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud wrth gwrs. Mae gwelliant y Llywodraeth yn cadarnhau gwelliannau diweddar yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl blwyddyn a’r dull o weithredu a nodir yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser a’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal diwedd oes. Rydym hefyd yn tynnu sylw at y trefniadau partneriaeth pwysig sydd gennym gyda’r trydydd sector, yn enwedig Cynghrair Canser Cymru a’r sector hosbisau, a’r £240 miliwn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn y gyllideb ddrafft.

Dylem gydnabod a dathlu’r cynnydd sydd wedi’i wneud, ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r trydydd sector ac yn croesawu ei her adeiladol, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n clinigwyr ar draws y GIG. Felly, mae’r Llywodraeth hon yn ailymrwymo i’r gwelliant pellach y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cytuno bod y ddadl hon wedi cael ei chynnal yn y modd mwyaf amhleidiol posibl. Dyna oedd yr ysbryd y cyflwynodd UKIP y cynnig hwn ar y papur trefn heddiw a’r modd yr agorodd fy nghyfaill anrhydeddus, Caroline Jones, y ddadl gyda’i haraith. Rwy’n gresynnu at y ffaith fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant sy’n ceisio dileu’r rhan fwyaf o’n cynnig a’i ddisodli gyda’i geiriad ei hun. Byddem wedi bod yn eithaf hapus i dderbyn y rhan fwyaf o eiriad gwelliant y Llywodraeth oni bai am eu dymuniad i ddileu ein gwelliant yn y lle cyntaf.

Mae’n amlwg iawn bod yr Ysgrifennydd iechyd yn ei araith, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar y meysydd lle y gallai dynnu sylw at welliannau, ond nid ydych yn llwyddo mewn gwirionedd i wneud cymaint o welliannau ag y gallwch drwy anwybyddu neu geisio cuddio’r meysydd lle rydych yn methu. Ydy, mae’n iawn siarad am y gwelliannau yn y cyfraddau goroesi canser ar ôl blwyddyn, ond beth am y ffigurau ar gyfer y cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd y cyfeirir atynt yn ein cynnig?

Yn y ddogfen strategaeth 10 mlynedd ‘25 erbyn 25’ a gynhyrchwyd gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU, rhoddir ffigurau sy’n dangos mai’r gyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd yn Lloegr yw 16 y cant, cyfradd yr Alban yw 10 y cant, cyfradd Gogledd Iwerddon yw 11 y cant a chyfradd Chymru yw 6.6 y cant. Mae lle i welliannau anferth yn y ffigur hwnnw. Credaf fod y Cynulliad hwn yn iawn i dynnu sylw at y sefyllfa bresennol gyda chyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd ac mae’n anghywir i’r Llywodraeth geisio cael gwared ar hynny o’r cynnig ar y papur trefn heddiw.

Rydym yn derbyn gwelliannau’r grŵp Ceidwadol. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith. Wrth gwrs, mae llawer y gallwn ei gymeradwyo yn ei gynnig ef hefyd, ond oherwydd ei fod wedi cyfeirio at gyflawniad Plaid Cymru yn ei thrafodaethau yng nghyllideb 2017-18, credaf fod hynny’n mynd yn erbyn y math o ysbryd amhleidiol rydym wedi cyflwyno’r ddadl hon ynddo heddiw. Felly, byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliant hwnnw.

Soniodd am Nigel Farage yn ei araith fel rhywun sydd, rywsut, yn sgeptig ysmygu. Nid oes gennyf syniad a yw hynny’n wir ai peidio. Fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, nid ydym yn siarad â’n gilydd. [Chwerthin.] Ond nid yw Nigel Farage yn gywir am bopeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Yn un peth, nid oedd am i mi ddod i’r lle hwn. Felly, os yw’r Aelodau anrhydeddus yn credu ei fod yn anghywir am bopeth, yna mae hynny’n awgrymu bod croeso i mi fel Aelod o’r tŷ hwn, a diolchaf iddynt am hynny. Ond mae wedi bod yn ddadl ddiddorol a defnyddiol, gan fod ein cynnig yn seiliedig, wrth gwrs, ar bwynt 1, sy’n nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac mae’r ddadl hon, rwy’n gobeithio, wedi helpu i wella ymwybyddiaeth.

Mae pawb, bron, wedi crybwyll heddiw pa mor bwysig yw diagnosis cynnar wrth drin canser yn llwyddiannus, a gwnaeth Julie Morgan bwynt pwysig iawn, rwy’n credu, nad yw diagnosis o ganser heddiw o reidrwydd yn ddedfryd farwolaeth nac yn wir, yn ddedfryd o farwolaeth gynnar, ac roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar yr hyn roedd ganddi i’w ddweud am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn Felindre a’r llwyddiannau y maent wedi’u cael gyda’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yno. Ac rwy’n talu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd hefyd, oherwydd mae ef yn sicr wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at y gwelliannau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac rwy’n cymeradwyo ei uchelgais i gau’r bwlch rhwng cyfraddau goroesi ar gyfer canser o bob math yng Nghymru a gweddill Ewrop. Wrth gwrs, rydym yn cymeradwyo ac yn croesawu’r holl fuddsoddiad ychwanegol a’r gwelliannau eraill a grybwyllodd yn ystod ei araith.

Fe wnaeth Angela Burns rai pwyntiau pwysig iawn yn ei haraith hefyd, ynglŷn â’r angen am sgrinio cynharach, mwy o ymwybyddiaeth drwy addysg ac yn y blaen, ac yn bwysig iawn fe wnaeth y pwynt am y loteri cod post sy’n dal i fodoli, yn anffodus, o ran gwneud diagnosis o ganser cam 1. Felly, er ein bod yn canmol y Llywodraeth am eu llwyddiannau a’u cyflawniadau hyd yn hyn, mae llawer mwy i’w wneud eto, ond oherwydd nad ydynt yn barod i gyfaddef eu methiannau yn y gorffennol, rwy’n gobeithio, yn ystod y bleidlais y prynhawn yma, y bydd ein cynnig yn cael ei dderbyn, ac y bydd gwelliant y Llywodraeth yn cael ei wrthod.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Felly, gohiriwn y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

We move to voting time, then, and I call for a vote on the motion tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. For clarity, it is the Welsh Conservative debate. Close the vote. For the motion 15, no abstentions, against the motion 31.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 15, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6126.

Felly, symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, mae 4 yn ymatal, yn erbyn 18. Felly, derbynnir gwelliant 1, ac mae gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol—gwelliannau 2 a 3, mae’n ddrwg gennyf, yn cael eu dad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 18, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6126.

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6126 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben yn 2017.

2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i:

a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau symudol ar draws Cymru;

b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac adleoli’r rhwydwaith;

c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu cynigion yng Nghymru; a

d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 29, mae 9 yn ymatal, yn erbyn 12. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6126 fel y’i diwygiwyd: O blaid 29, Yn erbyn 12, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6126 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl UKIP Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 7, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6128.

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, yn erbyn y gwelliant 23, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Felly mae gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 23, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6128.

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6128 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.

2. Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

3. Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol:

a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau canser yr ysgyfaint;

b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017;

c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal diwedd oes.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 39, mae 9 yn ymatal, yn erbyn 2. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6128 fel y’i diwygiwyd: O blaid 39, Yn erbyn 2, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6128 fel y’i diwygiwyd.

10. 9. Dadl Fer: Economi Newydd i Ogledd Cymru

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Os ydych am sgwrsio, a wnewch chi sgwrsio y tu allan, os gwelwch yn dda? Brysiwch. Mae’r Cynulliad yn dal i drafod. Symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar Hannah Blythyn i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Hannah Blythyn.

Diolch. Fy mwriad yw ceisio rhoi munud i Jeremy Miles, Mark Isherwood, Llyr Gruffydd a Michelle Brown.

Mae gogledd Cymru yn falch o’n treftadaeth ddiwydiannol—dur, glo, llechi a gweithgynhyrchu—ond hefyd o’r harddwch a’r diwylliant y gellir ei ganfod ar flaenau ein bysedd, o Eryri, castell Caernarfon a marina Conwy yn y gorllewin, i fryniau Clwyd, castell y Fflint a Theatr Clwyd yn y dwyrain. Yr wythnos diwethaf, gogledd Cymru oedd yr unig ranbarth yn y DU i gael ei gynnwys yn un o’r 10 rhanbarth gorau yn y byd gan Lonely Planet. Roeddem yn safle rhif 4, gyda’r modd y mae ein tirwedd ddiwydiannol flaenorol wedi cael ei hailddyfeisio i greu cyfres o atyniadau o’r radd flaenaf yn dal llygaid y beirniaid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o ymyrryd a gweithredu i roi hwb i’n heconomi yng ngogledd Cymru—yn llythrennol felly wrth i Ysgrifennydd y Cabinet roi tro ar y wifren sip yn Eryri—ond yr her i ni wrth symud ymlaen yw canfod y ffordd orau o wella cyfleoedd buddsoddi yn ein hasedau treftadaeth a thwristiaeth rhyfeddol er mwyn creu economi newydd ar gyfer gogledd Cymru, un sy’n adeiladu ar ein henw da yn rhanbarthol ac sy’n cynnig llwybr cynaliadwy i ffyniant ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau—economi newydd sy’n cydnabod ein balchder yn ein gorffennol diwydiannol ac sy’n manteisio i’r eithaf ar hynny i roi hwb i’n cynnig treftadaeth, ond sydd hefyd yn dangos ein huchelgais a’n gobaith ar gyfer y dyfodol yn ymarferol.

Fel llawer o bobl eraill, cafodd fy ngwleidyddiaeth a fy ngwerthoedd eu siapio i raddau helaeth gan anrheithio gwaith dur Shotton yn ystod y 1980au. Er fy mod yn cydnabod bod y diwydiant dur yn dal i fod mewn cyflwr difrifol, mae safle Shotton wedi codi o ludw’r 1980au i greu nid un, ond dau fusnes proffidiol, hyfyw, sef Colorcoat a phaneli. Gyda Shotton, nid yw’n ymwneud yn unig ag achub ein dur, mae’n ymwneud ag adnewyddu’r diwydiant. Mae’n eicon arloesol posibl, gan fod dur Shotton, yn wir, yn rhan o adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm a’r Shard yn Llundain.

Mae gennym sylfeini economaidd cryf i adeiladu arnynt ledled gogledd Cymru, ac mae’r sector gweithgynhyrchu uwch yn un o gonglfeini ffyniant y rhanbarth, o weithgynhyrchu enfawr Airbus UK i’r parciau diwydiannol a busnes yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llanelwy ac i’r gorllewin o Delyn. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn y rhanbarth yn meddu ar y sgiliau sy’n ateb galw cyflogwyr, ond sydd hefyd, yn bwysig, yn darparu pasbort personol i gyflogaeth gynaliadwy a boddhaol. Mae cysylltiadau rhwng addysg bellach, busnes a’r farchnad lafur yn tyfu. Mae gan Goleg Cambria gyfleuster hyfforddi awyrofod newydd sydd wedi elwa o dros £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r ganolfan awyrofod, menter ar y cyd rhwng Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe, sy’n golygu bod gan fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau awyrenneg a pheirianneg yn y rhanbarth fynediad at gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf.

Ond rwy’n credu y dylem gychwyn hynny un cam yn gynharach, a chroesawu’r cwricwlwm newydd a gynlluniwyd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o farchnadoedd cyflogaeth a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, a’r sgiliau sydd eu hangen gyda myfyrwyr ysgol. Byddai canolfan weithgynhyrchu uwch yng ngogledd ddwyrain Cymru yn allweddol i ddatblygu ein sgiliau rhanbarthol, gan wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r sgiliau i bobl fynd i’r byd gwaith, yn ogystal â chynorthwyo’r rhai sydd eisoes mewn gwaith i ddatblygu eu potensial ar sail barhaus. A chan symud ychydig i’r gorllewin, mae porthladd Mostyn, yn ddaearyddol ac yn ymarferol, yn cysylltu’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y dwyrain â’r sector ynni yn y gorllewin, gan gludo’r adenydd A380 o safle Brychdyn i Toulouse, ac yn y blynyddoedd diwethaf daeth yn un o’r prif ganolfannau yn Ewrop ar gyfer adeiladu a gosod tyrbinau yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr.

Yn wir, mae’r sector ynni yn sector economaidd o werth uchel i ddyfodol gogledd Cymru, gyda chyfle i fanteisio ar gyfleoedd yn sgil Wylfa Newydd, gwynt ar y môr, prosiectau biomas ac ynni’r llanw. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, bydd angen i ni fanteisio i’r eithaf ar gysylltiadau â sefydliadau addysgol a chanolfannau ymchwil, nid yn unig yng Nghymru ond dros y ffin yng ngogledd orllewin Lloegr. Hefyd, mae potensial clir gan y sector hwn i greu cyfleoedd cadwyn gyflenwi trawsffiniol.

Mae’n bwysig bod gennym y mecanweithiau ar waith i gefnogi prosiectau ym maes awyrofod, pecynnu, deunyddiau uwch, a bwyd a diod, ochr yn ochr â gweithredu i sicrhau ein bod ar flaen y gad yng ngogledd Cymru mewn ardaloedd twf sy’n dod i’r amlwg fel diwydiannau digidol a chreadigol, ond hefyd diogelu diwydiant traddodiadol ar gyfer y dyfodol i ateb gofynion byd mwy digidol—creu’r sgiliau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i fod yn arweinydd byd ac arwain y ffordd.

Cychwynnais y ddadl hon drwy sôn am yr asedau twristiaeth rhyfeddol sy’n bodoli ledled gogledd Cymru. Wel, mae hyn yn rhoi gwerth economaidd yn ogystal â gwerth diwylliannol i’n rhanbarth. Twristiaeth yw’r brif ffynhonnell gyflogaeth mewn sawl rhan o’r rhanbarth ac mae’r economi ymwelwyr yn sylweddol. Mae’n bosibl dwyn ynghyd ein hanes a’n gobaith ar gyfer y dyfodol, gan fwrw ymlaen ag addewid maniffesto Plaid Lafur Cymru i greu coridor diwylliant ar draws gogledd Cymru—mwy o arwyddion, a chefnogi a hyrwyddo perlau ein twristiaeth yn well—ond cyfuno hyn gyda llwybr arloesedd sy’n cynnig swyddi, cyfleoedd a sgiliau da. Fel Aelod Cynulliad dros etholaeth lle y mae twristiaeth yn gyfrannwr mawr, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o fyd diwydiant a’r gymuned i fynd i’r afael ag unrhyw heriau a wynebwn ac i fwrw yn ein blaenau yn lleol. Rwy’n bwriadu gweithredu fel arwyddbost i gymorth ar gyfer lleoliadau a mentrau twristiaeth, gan ddod â chyfran deg i’n hardal.

Wrth adeiladu a chynnal economi newydd ar gyfer gogledd Cymru, mae partneriaeth yn hanfodol—partneriaeth rhwng y gweithlu, y gweithle a Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid eraill yn y sector a diwydiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod—o ran y gwaith rydym yn ei greu a chymorth ar gyfer y sgiliau rydym yn eu hannog—y rôl y mae ein cymunedau a’n hundebau llafur yn ei chwarae yn cynhyrchu ffyniant economaidd. Fel undebwr llafur, rwyf wedi galw ers amser am gynnwys caffael a mynediad at gymorth ariannol fel cafeat mewn cymalau cymunedol, megis creu prentisiaethau, gwellau sgiliau gweithluoedd sy’n bodoli’n barod a chynnal telerau ac amodau da.

Mae gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig y potensial i chwarae rhan arwyddocaol yn datgloi piblinell o brosiectau a chaffael yn y rhanbarth sy’n cefnogi twf economaidd ac yn creu cyfleoedd i’r bobl sy’n byw yn yr ardal. Byddwn yn annog ystyriaeth ofalus o strwythur a safbwynt y comisiwn i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu ac yn cynrychioli anghenion amrywiol ein cenedl yn well.

Gellir defnyddio ysgogiadau economaidd yn strategol i rymuso mentrau lleol a galluogi unigolion i gyflawni eu potensial mewn swyddi gwell yn nes at adref. Rydym yn gwybod mai busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn cyflogaeth leol a’n heconomi leol, ac yn aml maent yn elfen allweddol yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Dylai unrhyw gamau i adeiladu economi newydd ar gyfer gogledd Cymru ystyried gwerth busnesau bach a chanolig eu maint a mentrau a ddatblygwyd i gefnogi eu twf a diwallu ein hanghenion yng ngogledd Cymru.

Ni ddylai unrhyw berson ifanc yng ngogledd Cymru deimlo bod yn rhaid iddynt adael eu teulu, eu cartref a’u cymuned er mwyn hyrwyddo eu rhagolygon. Neu os ydynt yn dewis mynd i ffwrdd i weithio, fel y gwnes i, ein lle ni yw sicrhau bod modd denu pobl yn ôl adref—croesawu’r cyfleoedd a grëwyd gan ddatganoli a’r swyddi y mae hyn wedi’u creu, gwneud i ddatganoli weithio’n well i ni a phobl ifanc gogledd Cymru, drwy greu mwy o amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd da yn ein hardal.

Mae gwella seilwaith trafnidiaeth ein rhanbarth yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth i ddatblygu ein heconomi, ac yn y pen draw, i ddatgloi potensial economaidd gogledd Cymru. Mae gwella’r A55, yr A494 a’r A43 yn rhan hanfodol o alluogi economi ddeinamig, ranbarthol yn ogystal â chaniatáu i bobl gael mynediad ymarferol at waith a busnes. Rydym yn gwybod bod y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin ac fel arall yn allweddol ar gyfer teithio i ac o’r gwaith yn yr ardal, ond mae hefyd yn caniatáu mynediad at nifer o’n hatyniadau twristiaeth anhygoel, ac mae teithio rhwydd yn elfen graidd o hybu ein hapêl fel cyrchfan twristiaeth ac yn ganlyniad economi ymwelwyr. Gyda hyn mewn cof, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wella rhannau o’r A55 a’r A494, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd ychwanegol y gellir lleddfu traffig a gwella’r brif ffordd i mewn ac allan o ogledd ddwyrain Cymru. Rwy’n gwybod bod hyn yn bwysig i etholwyr, cymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Byddai system trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n adlewyrchu realiti gwaith a bywyd modern yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gallu pobl i gyrraedd y gwaith, ond hefyd i fuddsoddiadau ac ymwelwyr allu ein cyrraedd. Mae datblygiad y system fetro, fel y’i cynigir ym maniffesto Plaid Lafur Cymru, yn cynnig ateb yn y tymor hir, ond yn y cyfamser mae angen i ni roi camau ar waith i sicrhau bod bysiau a threnau yn cysylltu’n well ac i wneud teithio’n llai trafferthus gyda system dalu integredig sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r gallu i weithio ac i gyfathrebu wrth symud, boed hynny drwy Wi-Fi neu bwyntiau gwefru, hefyd yn allweddol wrth wneud ein trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol i bobl weithio, chwarae neu aros yn ein rhanbarth. A chan droi at fasnachfraint newydd Cymru a’r gororau, rydym ni yng ngogledd Cymru yn chwilio am ateb i’r heriau rydym wedi’u hwynebu droeon bellach wrth deithio i ac o’n prifddinas—teithiau sy’n fwy cydgysylltiedig o ran teithio a chysur—yn ogystal â gwell cysylltiadau â meysydd awyr yng ngogledd orllewin Lloegr a hyrwyddo mentrau ac atyniadau ledled gogledd Cymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud ein cysylltiadau trawsffiniol yn fwy cystadleuol a deniadol. Mae’r llinell o Wrecsam i Bidston yn wythïen hanfodol yn ein cydgysylltedd. Mae gwir angen y gwelliannau i’r rheilffordd a’r gwasanaeth hwn. Nid yn unig y mae gogledd Cymru wedi’i chysylltu’n ffisegol â’n cymdogion agos yn ngogledd orllewin Lloegr, rydym wedi ein cysylltu’n economaidd hefyd. Gyda hyn mewn cof, rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal uwchgynhadledd i arweinwyr o ardal Mersi Dyfrdwy a Phwerdy’r Gogledd er mwyn sefydlu cyfeiriad teithio, a’i chynnal, fel yr addawyd, o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon.

Yn awr yw’r amser i roi’r cynllun hwn ar waith, gan barhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid rhanbarthol, megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, ac i Lywodraeth Cymru ddarparu’r ysgogiadau i hwyluso datblygiad economaidd ar draws gogledd orllewin a gogledd ddwyrain Cymru. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ymrwymo iddo’n bersonol ac yn wleidyddol.

Heddiw, hoffwn wneud yn glir fy mwriad i sefydlu grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, fel Aelodau’r Cynulliad, i ychwanegu cefnogaeth a chryfder gwleidyddol i’r gwaith sy’n allweddol i lunio economi newydd ar gyfer gogledd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gymryd y cyfle hwn i’ch gwahodd i fynychu cyfarfod agoriadol yn y Senedd a hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiad lansio yng ngogledd Cymru?

Er na allwn ni yng Nghymru osgoi cysgod caledi a’r dyfroedd dieithr rydym ynddynt yn dilyn refferendwm yr UE, mae yna gyfle o hyd, ac yn fy marn i, mae yna ewyllys wleidyddol i wneud pethau’n wahanol; i gydweithio â’r Llywodraeth, rhanddeiliaid rhanbarthol, busnes, entrepreneuriaid, addysgwyr ac undebau llafur i greu economi newydd i ogledd Cymru—cydweithio ar economi newydd sy’n buddsoddi yn ein pobl, yn ein cymunedau a’n gwlad a gwneud i ddatganoli weithio ar gyfer gogledd Cymru.

Diolch i Hannah Blythyn am roi munud o’i hamser i mi. Yn amlwg, rwy’n cynrychioli etholaeth yn ne Cymru, ond fy nghyfraniad i’r ddadl, mewn gwirionedd, yw dweud bod y blaenoriaethau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith yn rhai y dylem eu canmol a’u cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Maent yn hanfodol ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n dyfodol economaidd cadarn, ym mha ran bynnag o Gymru rydym yn byw.

Hoffwn sôn am un agwedd, sy’n gyffredin i fy rhan i o’r byd a rhan Hannah Blythyn, sef datblygu technoleg môr-lynnoedd llanw, y gobeithiwn eu treialu yn ardal bae Abertawe. Ond mae’n amlwg fod yna gynnig, ac rwy’n gobeithio y daw’n realiti, i hwnnw gael ei gyflwyno ledled gogledd Cymru yn ogystal. Mae’n gwbl hanfodol, nid yn unig ar gyfer yr economi werdd yn gyffredinol, ond o ran buddsoddi yn economi Cymru—bydd bron i hanner y buddsoddiad yn aros yng Nghymru. Bydd y swyddi a gaiff eu creu gan y môr-lynnoedd hyn yn swyddi da, nid yn unig ar y safle, ond hefyd, fel y soniodd yn ei haraith, ar draws y gadwyn gyflenwi, ar gyfer gwahanol rannau o’n heconomi. Amcangyfrifir y bydd y morlyn yn Abertawe yn ychwanegu tua £76 miliwn y flwyddyn i economi Cymru dros 100 mlynedd. Dychmygwch sut beth fyddai hynny pe gallem ei efelychu ledled Cymru.

Mae cydweithrediad trawsffiniol yn ganolog i weledigaeth twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru, a gefnogir gan bob un o’r chwe chyngor, y prifysgolion, y colegau a’r sector busnes, ac a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod yr haf hwn. Fel y mae’n ei ddweud, mae hyn yn ymwneud â datblygu strategaeth ar gyfer Pwerdy’r Gogledd, i gyd-fynd â Phwerdy’r Gogledd, wedi’i hintegreiddio’n llawn â chais strategaeth twf Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, gyda chynllun Growth Track 360 ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn ganolog iddo. Yr hyn nad yw’n galw amdano yw’r metro a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn y mae’n galw amdano, ochr yn ochr â buddsoddiad, yw datganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan nodi y byddai hyn yn rhoi hwb i’r economi, swyddi a chynhyrchiant. Byddai’n creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn cynyddu gwerth yr economi leol i £20 biliwn erbyn 2035. Felly, yr hyn y mae angen iddynt ei wybod, ynghyd â Llywodraeth y DU, yw a yw Llywodraeth Cymru am gytuno i siarad â hwy am ddatganoli’r pwerau hynny, ochr yn ochr â phwerau sy’n cael eu datganoli i Bwerdy’r Gogledd, ai peidio. Heb hynny, candi-fflos yw’r gweddill.

A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu a diolch am gyfraniad Hannah Blythyn y prynhawn yma? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod yn datblygu economi gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rhinwedd ei hun—mae hynny’n allweddol. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau pob budd economaidd posib o Bwerdy’r Gogledd yn Lloegr, ond fy ngofid i, wrth gwrs, os nad oes yna ffocws cryf ar economi’r gogledd ynddo’i hun, mae yna berygl go iawn y gallwn ddisgyn rhwng dwy stôl fan hyn—rhwng Pwerdy’r Gogledd yng ngogledd Lloegr a’r dinas rhanbarthau yn ne Lloegr. Nid atodiad i’r rheini yw economi gogledd Cymru ac mae’n bwysig cydnabod, fel y mae Hannah wedi’i wneud, fod yna gynsail cryf nawr yn ei le i ddatblygu economi gogledd Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny, ac y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd y Llywodraeth.

Mae gweithredu trawsffiniol yn awgrym i’w groesawu—yn wir, rwy’n credu ei fod yn syniad gwych. Fe fyddwn yn dweud hynny serch hynny, mae’n debyg, oherwydd ei fod yn ein maniffesto y llynedd. Y realiti yng ngogledd Cymru yw ein bod wedi ein cysylltu’n agos â gogledd orllewin Lloegr o ran economeg, trafnidiaeth, busnes a chysylltiadau teuluol. Mae llawer ohonom yn cymudo bob dydd i Loegr i ennill cyflog y byddwn yn ei wario yng Nghymru yn sgil hynny. Fodd bynnag, mae arnom angen cyflogaeth o ansawdd yn y gogledd. Y realiti i lawer o bobl yw y byddant yn cael addysg wych, ond wedyn cânt eu colli i Loegr am mai dyna ble y mae’r gwaith. Mae cysylltiadau â Lloegr, ac yn fwy pwysig â gweddill y byd drwy ein mynediad at lwybrau môr rhyngwladol, yn rhoi cyfle i ni ffynnu, ond mae angen i ni gael gwared ar y rhwystrau i fusnesau bach a chanolig eu maint, lleihau biwrocratiaeth a chaniatáu i bobl fusnes gyflawni eu busnes heb ymyrraeth dadol gan y Llywodraeth. Felly, byddwn yn bendant o blaid meithrin cydweithrediad trawsffiniol ar y ddwy ochr, ond hoffwn glywed gan Hannah sut y mae hi’n gweld hynny’n gweithio mewn gwirionedd, oherwydd nid oedd yn glir yn eich cyfraniad. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Ddelyn am gyflwyno’r ddadl bwysig a pherthnasol hon heddiw ar economi gogledd Cymru, o gofio bod datganiad yr hydref ar ei ffordd yn fuan iawn? Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r sylwadau a wnaed gan nifer o’r Aelodau, ac rwy’n credu y dylwn gychwyn fy nghyfraniad ar ddyfodol gogledd Cymru drwy gydnabod cryfderau’r economi ranbarthol fel y mae heddiw.

Mewn nifer o feysydd, megis awyrofod, ynni a gweithgynhyrchu uwch, mae gogledd Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant, ac o gymharu â Chymru yn gyffredinol, mae gan ogledd Cymru gyfradd gyflogaeth uwch, cyfradd ddiweithdra is a chyfradd anweithgarwch economaidd is na gweddill Cymru. Mae allbwn economaidd ac incwm aelwydydd y pen yn uwch yng ngogledd Cymru nag yng ngweddill Cymru. Rwyf am adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, a dyna pam rydym yn rhoi camau gweithredu clir ar waith i annog datblygu economaidd pellach yng ngogledd Cymru. Mae’r Aelod dros Ddelyn yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith fod Lonely Planet wedi datgan yn ddiweddar mai gogledd Cymru yw’r pedwerydd rhanbarth gorau ar y blaned, ac ni allem obeithio am well cymeradwyaeth i waith Llywodraeth Cymru a gwaith Croeso Cymru yn gwella gogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae o werth mawr i’r economi ac mae hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o falchder o’u hardal sydd gan bobl gogledd Cymru.

Rydym wedi cydnabod ers tro bod gogledd ddwyrain Cymru’n elwa o ardal economaidd drawsffiniol sy’n ymestyn i ogledd orllewin Lloegr ac i lawr i ganolbarth Lloegr. Yn wir, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy ar ei phen ei hun yn cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i hanner holl werth ychwanegol gros Cymru, ac yn sicr nid yw gogledd Cymru’n bodoli mewn arwahanrwydd gogoneddus oddi wrth unrhyw un o ranbarthau Lloegr neu weddill Cymru. Felly, mae cysylltedd trawsffiniol yn gwbl hanfodol. Mae gwaith cydlynol, cydweithredol ar draws y ffin, fel yr hyn sy’n digwydd yng nghyd-destun Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Growth Track 360, yn enghraifft gadarnhaol o bartneriaid trawsffiniol yn dod at ei gilydd ac yn cyfuno adnoddau’n effeithiol, yn gyflym a chyda phwrpas clir. Rwy’n awyddus iawn i adeiladu ar y math hwn o gydweithio ar y ddwy ochr i’r ffin, yn enwedig o ystyried yr amcanion cyffredin sydd gennym i sicrhau buddsoddi mewn moderneiddio rheilffyrdd, yn ogystal â’r cryfderau sectoraidd a rannwn a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig.

Pan gychwynnais weithio ar y portffolio economaidd, un o fy mlaenoriaethau cyntaf oedd cynnal uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru â rhanddeiliaid trawsffiniol allweddol i geisio cael cytundeb ar ddiffinio gweledigaeth gydlynol ar gyfer gogledd Cymru sy’n alinio â Phwerdy’r Gogledd. Gwnaed hyn ym mis Gorffennaf ac fe’i trefnais am fy mod yn gweld cyfle i ni adeiladu bwa o ffyniant economaidd o Gaergybi yn y gorllewin sy’n cysylltu â Phwerdy’r Gogledd ac yn alinio economïau Lerpwl, Manceinion a Leeds gydag economi gogledd Cymru mewn ffordd gydlynus. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn cynnal ymweliadau casglu ffeithiau yn y gogledd orllewin i gyfarfod ag unigolion allweddol ac i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i rannu cyfleusterau strategol. Er enghraifft, ymwelais yn ddiweddar â chyfleusterau ymchwil gweithgynhyrchu uwch prifysgol Sheffield a chyfleusterau strategol eraill ar draws Pwerdy’r Gogledd.

Yn ychwanegol at hyn, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws y ffin, yn ogystal ag ystod eang o randdeiliaid ar draws rhanbarth gogledd Cymru, ar ddatblygu cynnig i’r Trysorlys am gais twf i ogledd Cymru. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan weithio gyda Chyngor Busnes Gogledd Cymru, wedi bod yn datblygu’r cynigion, ac mae’n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn gyflym. Mae angen i ni gael gwybod gan Drysorlys y DU, drwy ddatganiad yr hydref, pa un a fydd y drws yn cael ei agor i drafodaethau.

O ran buddsoddiad, rwy’n credu bod piblinell gref o brosiectau buddsoddi yn cael ei chynllunio, sy’n golygu y bydd ynni a gweithgynhyrchu uwch yn parhau i fod yn sbardunau twf allweddol i economi gogledd Cymru ac yn darparu cyflogaeth leol hirdymor am lawer o ddegawdau i ddod. Mae Jeremy Miles yn hollol gywir i dynnu sylw at arwyddocâd y prosiect morlyn llanw ym mae Abertawe, oherwydd os yw hwnnw’n llwyddiant, fe welem fwy o fôr-lynnoedd llanw’n cael eu datblygu yn ei sgil o amgylch Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys, yn bwysig i ogledd Cymru, ym Mae Colwyn.

Fel rhan o raglen moderneiddio trafnidiaeth ehangach, mae swyddogion wedi dechrau gweithio ar ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru, gan nodi ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Mae hyn yn gwbl allweddol os ydym o ddifrif am fanteisio i’r eithaf ar gysylltedd trawsffiniol, a nodwyd hyn gan y rhai a ddatblygodd Growth Track 360 ac sy’n cytuno bod y cysyniad o fetro gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer ein rhanbarth.

Ym mis Ebrill, cyflwynasom yr achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a ddatblygwyd, unwaith eto, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a gyllidir gennym, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Merseytravel ar gyflwyno ailagoriad tro Halton, a fydd yn caniatáu trenau uniongyrchol rhwng Lerpwl, maes awyr Lerpwl, Caer a gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar opsiynau i gynyddu capasiti gweithredol rheilffyrdd yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam a Chaer a thrwy gyflwyno signalau bloc newydd i’r gogledd ac i’r de o Wrecsam. Rwy’n falch o allu cyfrannu swm ychwanegol o £10 miliwn, y cytunwyd arno gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o gytundeb cyllideb blaenorol, i gefnogi llwybrau cyflymach rhwng y gogledd a’r de.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi bwrw ymlaen â gwelliannau mawr i ffyrdd megis trydydd croesiad y Fenai ac wrth gwrs rydym yn asesu opsiynau i fynd i’r afael â thagfeydd ar yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy y mae ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, wedi bod yn pwyso amdano ers blynyddoedd lawer. Gallaf gadarnhau y bydd ymgynghoriad ar ddau opsiwn ar gyfer y prosiect ffordd £200 miliwn hwnnw’n dechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Cynllunnir buddsoddiad o oddeutu £32 miliwn hefyd ar gyfer uwchraddio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 fel ffordd o wella diogelwch ac amseroedd teithio.

Er mwyn parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn yng ngogledd Cymru, mae angen i ni ddwysáu ein gwaith cydweithredol ar y ddwy ochr i’r ffin, nid yn unig yn y sector cyhoeddus, ond hefyd yn y sector preifat. Rwy’n croesawu’r ddadl hon am ei bod yn ein helpu i wneud hynny. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod grŵp trawsffiniol wedi’i sefydlu yma yn y Cynulliad ac rwy’n awgrymu, mewn ysbryd cydweithredol, fod y grŵp, y byddaf yn falch o ymuno ag ef, yn cyfarfod yn fuan gyda’r grŵp trawsffiniol hollbleidiol seneddol sydd newydd gael ei ffurfio hefyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:58.