Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/10/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac i ofyn y cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.

Cefnogi Ffermwyr yng Nghwm Cynon

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0042(ERA)

Diolch. Y rhaglen datblygu gwledig yw’r prif fecanwaith ar gyfer cefnogi ffermwyr Cymru, gan gynnwys ffermydd mynydd a ffermydd ymylol llai o faint, megis y rhai yng Nghwm Cynon, drwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol a chynlluniau buddsoddi y maent yn gymwys ar eu cyfer. Mae cymorth ar gael hefyd drwy Glastir a Cyswllt Ffermio.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyfarfûm yn ddiweddar â grŵp o ffermwyr yn Ynys-y-bŵl, sy’n ardal o dir fferm ymylol yn fy etholaeth, mewn cyfarfod a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Buom yn trafod ansawdd asidig y pridd lleol, ac awgrymwyd y gallai calchu pridd yn yr ardal fod o fudd i ffermwyr, ond byddai hefyd yn arwain at welliannau amgylcheddol. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymgorffori’r syniad hwn mewn cynlluniau cymorth i ffermwr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?

Diolch yn fawr, ac rwy’n falch iawn eich bod wedi derbyn gwahoddiadau’r undeb ffermio i ymweld â ffermydd yn eich etholaeth. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn gynhyrchiol iawn gyda rhanddeiliaid ffermio ynghylch Glastir, ac mae hynny’n cynnwys, yn amlwg, yr undebau ffermio. Mae rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i gymorth amaeth-amgylcheddol dalu am weithgareddau y tu hwnt i arferion ffermio arferol, felly byddai calchu, mewn gwirionedd, yn rhan o arferion ffermio arferol. Credaf y bydd cefnogaeth yn y dyfodol yn ymwneud yn bennaf â sbarduno newid trawsffurfiol ar draws y diwydiant i ddod yn fwy cynaliadwy, proffidiol, a gwydn.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r cynllun datblygu gwledig yn cynnig lefel o gefnogaeth i amaethyddiaeth, boed hynny yng Nghwm Cynon, neu unrhyw le arall yng Nghanol De Cymru, neu’n wir yng Nghymru gyfan. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i gyflwyno cynllun grantiau bach yn ystod y tymor hwn. Pa bryd y credwch y bydd y cynllun grantiau bach hwnnw ar gael i ffermwyr, a beth sydd gennych mewn golwg o ran beth fydd yn cael ei ganiatáu o dan gynllun grantiau bach o’r fath pan fydd ar waith?

Fe fyddwch yn deall bod y trafodaethau hynny megis dechrau, bedwar mis i mewn i dymor y Llywodraeth hon, felly ni allaf roi dyddiad i chi pa bryd y bydd ar gael. Rwyf wedi dechrau trafod gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â hyn. Mae’n debyg fod yr ystyriaethau cynnar yn ymwneud ag edrych, efallai, ar ddarnau bach o offer, er enghraifft, drwy grantiau cyfalaf, ond fel y dywedais, mae’n ddyddiau cynnar iawn.

Risg o Lifogydd yng Ngorllewin Clwyd

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0040(ERA)

Diolch. Fel llawer o rannau o Gymru, daw perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd o afonydd, y môr a dŵr wyneb. Er mwyn lleihau’r risg hon, mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys gwaith ym Mae Colwyn, Rhuthun a Bae Cinmel.

A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau i ddiogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn fy etholaeth. Ond wrth gwrs, gall unigolion hefyd gymryd peth cyfrifoldeb dros amddiffyn eu heiddo eu hunain. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod grantiau o hyd at £5,000 i berchnogion tai unigol, dros y ffin yn Lloegr, i’w helpu i wneud eu heiddo yn fwy gwydn, ond nad oes unrhyw grantiau o’r fath ar gael yma yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i rhoi i sicrhau bod grantiau o’r fath ar gael, fel y gall pobl ysgwyddo peth cyfrifoldeb i sicrhau bod eu heiddo eu hunain yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn well?

Wel, nid ydym yn darparu’r mathau hynny o grantiau i berchnogion tai unigol; yn hytrach, rydym yn canolbwyntio ar ariannu cynlluniau llawer mwy er budd grwpiau o eiddo neu gymunedau. Rydym yn cefnogi gwydnwch ar lefel eiddo, pan gaiff ei gyflwyno fel ateb addas gan awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym yn darparu cyllid grant at y diben hwnnw. Credaf mai’r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw dyrannu cyllidebau ar gyfer cynlluniau lliniaru ar draws y gymuned, sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sicrhau gwell costau a manteision yn ogystal â lefel uwch o ddiogelwch.

Mae morlyn llanw ar gyfer gogledd Cymru, wrth gwrs, o bosibl yn un ffordd o gyfrannu tuag at daclo problemau llifogydd ac erydiad ar hyd yr arfordir yng Ngorllewin Clwyd. A allwch chi roi diweddariad i ni o le mae’ch Llywodraeth chi arni o safbwynt unrhyw gefnogaeth ymarferol rydych chi’n ei rhoi i ddatblygu potensial morlyn llanw yn y gogledd?

Gallaf, rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda’r cwmni morlynnoedd llanw, ac un o’r manteision y cyfeiriasant ato, wrth sôn am y morlyn llanw posibl o amgylch ardal Bae Colwyn, oedd y ffaith y byddai’n cynnig gallu i wrthsefyll llifogydd. Felly, unwaith eto, mae’r trafodaethau hynny’n parhau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet, ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Medi, fe ymateboch i gwestiwn ynglŷn â rheoliadau ffermio, gan ddweud eich bod yn bwriadu cryfhau rheoliadau mewn rhai meysydd wrth ystyried gofynion sy’n benodol i Gymru yn y dyfodol. A allwch egluro beth a olygwch wrth ‘cryfhau’ a dweud wrthym pa reoliadau penodol rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn y dyfodol agos iawn mewn gwirionedd?

Wel, nid oeddwn yn bod yn arbennig o benodol. Credaf mai’r hyn a ddywedais oedd pan fyddwn yn edrych, a phan fyddwn yn ymdrin—credaf i mi grybwyll bod 5,000 darn o ddeddfwriaeth yn fy mhortffolio yn ymwneud ag amaethyddiaeth a physgodfeydd—pan fyddwn yn ymdrin â hwy ac yn ystyried yr hyn sy’n benodol i Gymru ar gyfer y dyfodol, efallai y byddem yn atgyfnerthu peth o’r ddeddfwriaeth neu’r rheoliadau.

Diolch am yr eglurhad hwnnw. Wrth gwrs, mae un set o reoliadau y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arni yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Nawr, ni fyddwch yn synnu fy mod wedi cael cryn ohebiaeth ar y mater hwn, a bod pryderon difrifol ynglŷn â’r cynigion hyn a allai osod beichiau enfawr ar ffermwyr ac a allai, o ganlyniad i hynny, orfodi llawer ohonynt allan o fusnes oherwydd y goblygiadau ariannol, a bydd ffermwyr yn ystyried hyn yn ergyd arall i’r gymuned amaethyddol. Rwy’n sylweddoli bod y cynigion hyn ar gam ymgynghori ar hyn o bryd, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r ffermwyr yr effeithir arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn deall cost ac effaith y rheoliadau hyn ar eu busnesau, ac a wnewch chi gadarnhau pa un a fydd unrhyw gymorth ariannol ar gael i ffermwyr a fydd yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau newydd?

Mae’r Aelod yn gywir—rydym yn amlwg yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yn wir, ddydd Llun diwethaf, 10 Hydref, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Sir Benfro i drafod hyn, gyda ffermwyr lleol o Sir Benfro hefyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi clywed ei fod yn gyfarfod cadarnhaol iawn. Credaf fod ffermwyr yn awyddus iawn i ystyried y ffordd orau o atal gormod o lygredd nitrad mewn dyfrffyrdd, ac roeddent yn hapus iawn i gyflwyno eu barn. Yn amlwg, bydd yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried. Felly, rwy’n falch iawn eich bod wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth, a byddwn yn annog eich etholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Rwy’n ddiolchgar i chi am yr ateb hwnnw, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi y gall rheoliadau, mewn rhai achosion, fod yn rhwystr i arferion ffermio effeithlon a thwf busnes. Felly, yng ngoleuni adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’ y Llywodraeth flaenorol, a wnewch chi ymrwymo i werthuso’r costau sydd ynghlwm wrth reoliadau ffermio yng Nghymru ac edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru leddfu’r rheoliadau, a thrwy hynny ostwng eu cost i ffermwyr, cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?

Rwy’n derbyn y gallai fod mwy o gostau i rai rhannau o’r gymuned ffermio. Bydd yn rhaid eu hystyried pan fyddwn yn edrych ar yr asesiad effaith llawn a fyddai’n gysylltiedig ag unrhyw reoliadau newydd. A chredaf fod yn rhaid i ni edrych ar unrhyw gynnydd yn y costau sy’n rhaid eu pwyso a’u mesur ochr yn ochr â’r manteision i’r amgylchedd.

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn gwbl briodol y dylai ffermwyr gael taliadau am gyflawni tasgau amgylcheddol gyfrifol. Mae hynny’n bwysig i bob un ohonom, pa un a ydym yn ffermwyr ai peidio. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir - Tir Comin yn gynlluniau amaeth-amgylcheddol pwysig, ac mae hynny’n hollbwysig i lawer o ffermwyr mynydd fel cymorth incwm ar adeg pan fo incwm ffermydd yn gostwng. Gan fod y Trysorlys bellach wedi rhoi rhyw led-eglurhad, o leiaf, ynglŷn â chyllid wedi gadael yr UE, a fydd hi’n barod i ystyried agor cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer ceisiadau Glastir Sylfaenol a Glastir - Tir Comin, a chaniatáu i’r rhai sydd yn Glastir Sylfaenol eisoes ymestyn eu contractau y tu hwnt i bum mlynedd?

Yn sicr, rydym yn ystyried pa gyfnodau ymgeisio y gallwn eu hagor. Rwyf am sicrhau bod cymaint o gyfnodau ymgeisio ar agor cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni allu sicrhau cymaint o arian â phosibl.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Fel y bydd yn gwybod, bydd oddeutu 1,600 o ffermwyr yn cael eu gadael ar y clwt o fis Rhagfyr ymlaen os nad yw’r cynllun yn cael ei ymestyn, ac os nad yw’r polisi’n newid, bydd oddeutu 3,000 arall yn cael eu heffeithio yn y dyfodol. Mae llawer o bobl yn ystyried y cynllun hwn yn olynydd i’r cynllun Tir Mynydd ar ôl iddo ddod i ben, a throsglwyddwyd £25 miliwn o un gyllideb i’r llall yn rhan o hyn. Cred llawer o ffermwyr fod y ffaith fod y cyfnod ymgeisio wedi bod ar gau ers peth amser yn eu bradychu braidd, ac felly, a fyddai’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ei fod yn cael ei ailagor?

Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gyda’r ffermwyr fy hun, yn sicr mewn sioeau amaethyddol yr ymwelais â hwy yn ystod yr haf, a chyda ffermwyr unigol, ac rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod cyllid yn eu cyrraedd cyn gynted â phosibl.

Diolch. Gan symud at gynllun amgylcheddol arall—cytundebau adran 15 ar gyfer safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Ar gyfartaledd, mae ffermwyr yn cael oddeutu £2,175 y flwyddyn mewn taliadau o dan y cytundebau hyn, ac maent yn gwbl hanfodol ar gyfer diogelu tirwedd, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Torrwyd oddeutu chwarter y gyllideb yn 2011. Ym mis Awst, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai oddeutu 118 yn unig o’r 172 cytundeb rheoli unigol sydd i’w hadnewyddu eleni sy’n debygol o gael contract newydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw wybodaeth bellach i ni ynglŷn â hyn ac a fyddai’n cytuno y byddai’n sicr yn fanteisiol iawn pe baent yn cael eu hadnewyddu, nid yn unig i’r ffermwyr eu hunain, ond hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwledig, yn enwedig yn yr ucheldir?

Nid oes gennyf y wybodaeth honno wrth law ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda’r wybodaeth honno.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich cyfeirio at Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd? Ond ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, fframwaith yn unig ydyw, heb unrhyw dargedau tymor byr na chynllun cyflawni. A allwch amlinellu pa bryd a sut y byddwch yn cyflwyno’r targedau hyn a chynllun i leihau allyriadau, ac a allwch gadarnhau bod targed y Llywodraeth flaenorol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40 y cant erbyn 2020 yn parhau i fod yn darged i’r Llywodraeth hon?

Yn sicr, gallaf gadarnhau bod y targed i leihau 40 y cant erbyn 2020 yn bendant yn dal i sefyll ar gyfer y Llywodraeth hon hefyd. Rwy’n edrych ar weithrediad Deddf yr amgylchedd wrth symud ymlaen, ond unwaith eto, nid yw’r dyddiad hwnnw gennyf wrth law, ond byddwn yn fwy na pharod i roi gwybod i chi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, am gofnodi ei chadarnhâd o leiaf fod y targed 40 y cant yn dal yno, gan nad oedd yn rhan o’r rhaglen lywodraethu. Ond fe fydd hi’n gwybod bod adroddiad diweddar Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dweud ein bod, yn anffodus, yn annhebygol iawn o gyrraedd ein targed i leihau 40 y cant, ac nid wyf yn siŵr sut y gallwn wneud hynny o dan Ddeddf yr amgylchedd gan nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer pennu cyllidebau carbon dros dro, a fydd yn ddull pwysig o gyrraedd y targed hwnnw, i fod i ddod i ben tan 2018. Felly, o ystyried nad oes gennym unrhyw fath o gynllun i leihau allyriadau ac o ystyried ei bod hi newydd ddweud wrthyf nad oes ganddi unrhyw fanylion o’i blaen, sut y gallwn fod yn ffyddiog y bydd y targed hwnnw ar gyfer 2020 yn cael ei gyflawni?

Wel, nid yw popeth yn y rhaglen lywodraethu, dylwn ddweud hynny, ond mae’r targed hwnnw’n parhau. Ond mae’n anhygoel o anodd, ni fyddwn yn oedi rhag dweud hynny. O ran y gyllideb garbon, rwy’n cyfarfod â fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet ar hyn o bryd i drafod sut y mae pob un o’u portffolios, ar draws y Llywodraeth, yn helpu i leihau ein hallyriadau. Mae’r broses o gyllidebu carbon yn bwysig iawn, ac rydym yn amlwg wedi dechrau ar y gyntaf o’r cyllidebau hynny, ond mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo ac rwyf am dawelu meddwl yr Aelod.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, credaf ein bod wedi sylwi bod y rhaglen lywodraethu braidd yn denau, ac felly mae’n werth gofyn beth sy’n rhan o raglen y Llywodraeth ar hyn o bryd. Rwy’n sicr yn edrych ymlaen at archwilio sut y gall cyllidebu carbon weithio o fewn y Cynulliad a’r effaith a gaiff ar broses gyllidebu’r Llywodraeth ei hun.

Ond a gaf fi droi yn awr at Ddeddf arall a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae nod 7 o’r Ddeddf honno yn nodi ein bod ni yng Nghymru am fod yn

‘[G]enedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang’,

‘ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)’.

Yn y cyd-destun hwnnw, ar 4 Hydref, cadarnhaodd Senedd Ewrop gytundeb newid yn yr hinsawdd Paris yn ffurfiol ar ran yr UE. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, a ydych yn cytuno y byddai’n beth da yn awr i’r Cynulliad Cenedlaethol fod o ddifrif ynglŷn â’n cyfrifoldeb byd-eang, fel y nodir o dan nod 7 o ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac i ni fel Cynulliad hefyd ffurfioli a chadarnhau cytundeb Paris yn ffurfiol?

Wel, ymddengys na allwn ennill. Y tymor diwethaf, cawsom ein beirniadu am gael dogfen rhy fawr ar gyfer ein rhaglen lywodraethu, a’r tro hwn rydym yn cael ein beirniadu am ei bod yn rhy denau. Y tro nesaf, efallai y bydd gan Lywodraeth Lafur Cymru yr un gwbl berffaith. Credaf eich bod yn nodi mater pwysig ynglŷn â Pharis, a byddaf yn cynrychioli Cymru yn y COP22 ym Marrakech y mis nesaf, ond credaf fod hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn gael trafodaethau yn ei gylch gan ei bod yn bwysig iawn i ni ddangos ein bod yn fwy na pharod i chwarae ein rhan.

Cymunedau Gwledig

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau gwledig ledled Canol De Cymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0041(ERA)

Rydym wedi bod yn hollol glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy ledled Cymru. Rydym yn cyd-ariannu ein rhaglen datblygu gwledig gyda’r Undeb Ewropeaidd ac felly’n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu gwarant ddiamod y byddant yn cyllido pob prosiect dan gontract o dan y rhaglen drwy gydol eu hoes.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Un o’r pethau a gyflwynwyd gan y Llywydd yn y trydydd Cynulliad, pan oedd yn Weinidog dros faterion gwledig, oedd newid i’r system gynllunio ar gyfer anheddau gwledig o dan nodyn cyngor technegol 6. Rwy’n sylweddoli nad yw cynllunio yn eich portffolio o gyfrifoldebau—

Mae’n rhan ohono; gwell fyth felly—mae’r cwestiwn yn fwy perthnasol nag y credwn. [Chwerthin.] A minnau’n Aelod rhanbarthol, mae gennyf dri chyngor gwahanol yng Nghanol De Cymru sy’n dehongli’r canllawiau cynllunio hynny mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ar gyfer olyniaeth mewn busnesau fferm, ond hefyd ar gyfer busnesau gwledig, mae’r ddarpariaeth hon yn y system gynllunio yn ystyriaeth hanfodol i ganiatáu i fusnesau symud ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn ystyried cynnal adolygiad o’r modd y mae TAN 6 yn cael ei roi ar waith ledled Cymru oherwydd, yn amlwg, mae cysondeb yn hanfodol fel nad yw busnesau’n teimlo eu bod yn cael eu llesteirio wrth gynllunio ar gyfer olyniaeth neu o ran gallu ehangu eu busnesau ac arallgyfeirio i feysydd eraill?

Gallaf ddweud fy mod yn gyfrifol am gynllunio, ydw. Yn sicr, yn fy nhrafodaethau â ffermwyr, nid ydynt wedi crybwyll gormod o bryderon ynglŷn â TAN 6. Yn wir, maent yn ddiolchgar iawn ac yn hapus ei fod yno. Ond rwy’n credu bod cysondeb yn hollol gywir, ac yn amlwg mae gennym 25 o awdurdodau cynllunio ledled Cymru, a chydag unrhyw beth o’r fath, credaf y bydd yna bob amser lefel o anghysondeb. Rwy’n credu y bydd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, wrth i ni fwrw ymlaen â hi, yn helpu o ran hynny. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth y credaf y bydd yn gwella cynllunio yn y dyfodol.

Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fio-ddiogelwch ar ffermydd Cymru? OAQ(5)0044(ERA)[W]

Diolch. Bioddiogelwch yw rheng flaen ein hamddiffyniad yn erbyn clefydau heintus hysbysadwy difrifol fel clwy’r traed a’r genau neu TB buchol. Dylai fod yn rhan hanfodol o fywyd ffermio bob dydd, gan helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn aros yn iach a bod busnesau yn parhau i fod yn broffidiol.

Diolch i chi am eich ateb. Un o’r rhwystredigaethau mwyaf y mae ffermwyr yn ei wynebu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw’r rheol sefyll chwe diwrnod. Mae yna lawer o sôn wedi bod gan y Gweinidog blaenorol yn y Llywodraeth ddiwethaf bod yna fwriad i symud i fodel yn seiliedig ar unedau cwarantin. A allwch chi roi diweddariad inni ar le rydych chi arni ar y datblygiad yna a pha mor fuan y byddwn ni’n gweld ffermwyr yn cael yr opsiwn o ddefnyddio’r unedau yna yn hytrach na chloi’r fferm i lawr am chwe diwrnod?

Gallaf, mae hwn wedi bod yn waith arwyddocaol. Gwn fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r grŵp cynghori ar adnabod da byw ar y cynigion ar gyfer yr unedau cwarantîn, ac rydym yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid ar y gwaith o gyflawni’r prosiect. Credaf mai’r hyn y bydd y trefniadau newydd yn ei wneud yw symleiddio’r drefn gwahardd symud drwy ddisodli esemptiadau cymhleth ar gyfer cyfleusterau ynysu, ac rwy’n rhagweld ar hyn o bryd y bydd yr unedau’n cael eu cyflwyno ddiwedd y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Mae adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn datgan bod rheoli tir yn ffactor pwysig ym maes cadwraeth, gan fod dros 70 y cant o Gymru yn dir fferm. Mae rheoli, wrth gwrs, yn cynnwys rheoli diogelwch. Mae awduron yr adroddiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i wneud nifer o bethau, gan gynnwys cefnogi rheoli tir sy’n helpu i gynnal a gwella natur a gwydnwch ecosystemau, sydd wrth gwrs yn agored i niwed yn sgil camgymeriadau o ran bioddiogelwch. Beth sydd ar goll o’n cynlluniau amaeth-amgylcheddol o ran helpu i gefnogi bioamrywiaeth—bioddiogelwch, mae’n ddrwg gennyf?

Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw beth ar goll. Ond os yw’r Aelod o’r farn fod rhywbeth penodol ar goll, os hoffai ysgrifennu ataf, byddaf yn sicr o roi sylw iddo.

Y Gyfarwyddeb Nitradau

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â’r gyfarwyddeb nitradau ar gyfer busnesau unigol yn yr ardaloedd dynodedig arfaethedig? OAQ(5)0046(ERA)

Rwy’n ymgynghori ar hyn o bryd ar yr adolygiad o’r ardaloedd dynodedig a’r rhaglen weithredu i fynd i’r afael â llygredd nitradau yng Nghymru, ac yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, rwy’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd y flwyddyn nesaf. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol llawn yn cael ei gynhyrchu bryd hynny.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Roeddwn am awgrymu efallai y dylid cynhyrchu’r asesiad effaith rheoleiddiol yn gynt nag y mae’n ei ddisgwyl ar hyn o bryd, gan fod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ystyried effaith is-ddeddfwriaeth ar fusnesau, yn ôl eu cod ymddygiad eu hunain, a byddai’n llawer gwell pe bai hyn yn rhan o’r ymarfer ymgynghori ei hun gan y byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fwy gwybodus a gallai’r Gweinidogion wneud penderfyniadau gwell o ganlyniad i hynny.

Weinidog, o ran y cynigion ar gyfer parth perygl nitradau ar hyd afon Cleddau ac uwchben Pentywyn, mae gennyf bryderon mawr, oherwydd yn y ddwy ardal, un cyfeiriad teithio yn unig sydd yno—yn ôl tua’r tir. A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, neu pa ymdrechion y mae eich swyddogion wedi eu gwneud, i sicrhau neu i adolygu’r niwed posibl a allai ddigwydd i’r tir yn union y tu allan i’r parth perygl nitradau, a fyddai nid yn unig yn gorfod gwasgaru eu slyri eu hunain, ond mewn gwirionedd byddent yn gorfod bod yn dderbynwyr i’r rhai sy’n ceisio cludo eu slyri o’r parth?

Credaf fod rhan o’r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud, ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad i ymgynghori ar hyn. Byddwn yn bendant yn annog yr Aelod a’r holl etholwyr sydd wedi dangos diddordeb yn hyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed barn pobl. Os oes gan Aelodau eraill neu eu hetholwyr farn ar y dulliau gwahanol y credant y gallem eu defnyddio, rwy’n fwy na pharod i’w hystyried hefyd.

Awyr Agored Gwych Cymru

6. Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru? OAQ(5)0049(ERA)

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gael mynediad i’r awyr agored. Rhoddir ystyriaeth lawn ar hyn o bryd i’r ystod o faterion a nodwyd yn yr adolygiad cynharach, ond mae angen mwy o waith cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar gamau newydd posibl i gynyddu mynediad.

Tybed hefyd, Weinidog, a allwch roi mwy o fanylion i’r Siambr ynglŷn â’r amserlenni, oherwydd gwn fod llawer iawn o rwystredigaeth o ran bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, sydd wedi cael ei drafod a’i ystyried ers peth amser. Yn nes ymlaen, byddwn yn siarad ynglŷn â sut y mae sicrhau bod Cymru’n fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach, a chredaf mai rhan fawr o hynny yw agor amgylchedd awyr agored gwych Cymru i raddau mwy nag ar hyn o bryd.

Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o ymatebion i’r Papur Gwyrdd—credaf fod bron 6,000 ohonynt, os cofiaf yn iawn—felly mae’n cymryd peth amser i edrych ar bob un ohonynt. Ond yn ddiweddar, darparais ychydig dros £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol er mwyn iddynt edrych ar eu blaenoriaethau o ran gweithgareddau hamdden awyr agored. Credaf fod pobl yn llwyr werthfawrogi’r awyr agored, ac mae’n wych gweld hynny. Rwy’n gwybod yn fy etholaeth fy hun, roeddwn yn chwarel Maes y Pant yng Ngresffordd, lle y gwelwch y campfeydd awyr agored hyn yn dechrau ymddangos, ac rwyf wedi gweld rhai ym mhob rhan o Gymru. Felly, mae’n dda iawn gweld pethau felly’n digwydd. Credaf fod angen i ni ystyried y ffordd ymlaen yn ofalus iawn, a gobeithiaf allu cyflwyno rhywbeth yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Ymhellach i’r ateb hwnnw, ac ar yr un trywydd â John Griffiths, a dweud y gwir, a allaf eich gwthio ymhellach, a dweud y gwir, achos mae’r mater hwn yn hanfodol bwysig yn nhermau iechyd? Rwy’n gwybod ein bod ni’n sôn am faterion amgylcheddol yn fan hyn, ond yn naturiol mae croestoriad yn fan hyn a bydd yna fudd pellgyrhaeddol i’r gwasanaeth iechyd. Fel meddygon, rydym ni wastad yn argymell, ‘Ewch allan i gerdded’. Wel, mae hynny llawer iawn yn haws os yw’r llwybrau yna’n barod.

Yn bendant. Credaf fod Dr Lloyd yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe wyddoch ein bod wedi cynnal asesiad o fanteision iechyd cerdded ar lwybr arfordir Cymru yn ôl yn 2014, a daeth hwnnw i’r casgliad fod y gwerth economaidd a oedd yn gysylltiedig ag iechyd gwell drwy gerdded ar lwybr yr arfordir yn £18.3 miliwn bryd hynny. Felly, yn bendant, gallwn dderbyn bod hynny’n wir. Ac unwaith eto, rydym yn gwneud gwaith arwyddocaol ac yn rhyddhau cyllid sylweddol tuag at y mater hwn.

Gallai cynyddu mynediad i gefn gwlad sicrhau manteision sylweddol o ran gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon y gallai mynediad digyfyngiad i gefn gwlad achosi difrod amgylcheddol ac economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y mae am sicrhau y bydd y broses o ehangu mynediad yn ystyried yr angen i gynnal cefn gwlad gweithredol a hyfyw yng Nghymru?

Ydw, yn bendant, rwy’n cydnabod y pryderon hynny ac ni fyddwch yn synnu, yn fy mhortffolio, fy mod yn ei chael hi o’r ddwy ochr. Credaf mai dyna’r holl bwynt: mae’n ymwneud â chydbwysedd rhwng ehangu mynediad a sicrhau ein bod yn diogelu’r amgylchedd hefyd.

Diolch am eich atebion yn gynharach, Weinidog, ac roeddwn yn falch eich bod wedi crybwyll llwybr arfordir Cymru, sydd wedi bod ar gael i ni ers 2012, ac mae hwnnw’n gam mawr ymlaen. Ond wrth gwrs, mae llawer iawn o’r bron i 900 milltir yn cael ei ddifetha gan erydu arfordirol, a grybwyllwyd hefyd mewn dadl gynharach heddiw—neu gwestiwn. Tybed pa gamau y gallech eu rhoi ar waith i gynnal mynediad i’r llwybrau o ystyried yr erydu, sy’n effeithio’n benodol ar y llwybr rhwng Penarth a’r Barri yn fy ardal i.

Wel, mae hwnnw’n amlwg yn waith pwysig iawn, ac ar hyn o bryd, rydym yn llunio rhaglen reoli perygl arfordirol gwerth £150 miliwn ar y cyd ag awdurdodau lleol at y diben hwnnw.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb yn flaenorol ar hyn? Mae’r cynllun teithio llesol, y cyfeiriais ato ddoe, mewn gwirionedd, mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd o gwmpas ysgolion, hefyd yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru ddechrau llunio mapiau o rwydweithiau newydd arfaethedig ar gyfer llwybrau cerdded a beicio. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch mae’n debyg, ceir cyfleusterau rhagorol eisoes megis afon Taf, afon Bargoed a BikePark Wales sy’n hybu cerdded a beicio yn yr ardal honno. Ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a yw’n credu bod gofynion y cynllun teithio llesol yn darparu cyfle ardderchog i awdurdodau lleol edrych ar y posibilrwydd o ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru, mewn ymgynghoriad â’r rhai sydd eisoes yn darparu gweithgareddau o’r fath?

Ydw, yn bendant. Nid yw’r Ddeddf yn rhan o fy mhortffolio—mae’n rhan o un Rebecca Evans—ond byddwn yn fwy na pharod i wneud rhywfaint o waith pellach gyda Rebecca ar y mater hwnnw.

Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? OAQ(5)0052(ERA)

Diolch. Nododd yr adolygiad o lenyddiaeth wyddonol a gyflwynwyd yn gynharach eleni ystyriaethau lles mewn perthynas â’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac mewn digwyddiadau corfforaethol, adloniant a lleoliadau addysgol. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU, ac rwy’n ystyried pob opsiwn, a byddaf yn gwneud datganiad cyn toriad y Nadolig.

Diolch, Weinidog, ac rwy’n ymwybodol fod Cymru’n arwain y ffordd yn y maes hwn a bod eich rhagflaenydd wedi comisiynu adroddiad gan yr Athro Stephen Harris i geisio mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha fath o ystyriaethau rydych yn edrych arnynt, gyda golwg ar wella iechyd a diogelwch anifeiliaid o’r fath?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nododd yr Athro Harris yn ei adroddiad fod nifer fawr o anifeiliaid gwyllt caeth yn cael eu defnyddio, fel y dywedais, mewn adloniant corfforaethol ac mewn lleoliadau addysgol. I fod yn onest, mae’r maes hwnnw’n peri mwy o bryder i mi, am fy mod yn credu nad ydym yn gwybod faint ohonynt sy’n cael eu defnyddio nac unrhyw beth am eu lles. Fe fyddwch wedi gweld yr hyn sy’n cael ei wneud yn Lloegr. Cafwyd cyhoeddiad yn yr Alban yn ddiweddar eu bod yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth yn 2018. Nid oes gennym bwerau yn y maes hwn, felly rwyf wedi ysgrifennu at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig er mwyn dechrau’r trafodaethau hynny i weld pa waith y gallwn fwrw ymlaen ag ef. Ac fel y dywedais, byddaf yn cyflwyno datganiad cyn y Nadolig.

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu ymagwedd sy’n fwy seiliedig ar ddeddfwriaeth o ran lles anifeiliaid yn y Cynulliad hwn. Cofiaf yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ein bod wedi cael deiseb yn galw am gofrestr cam-drin anifeiliaid, a fyddai’n cynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, pe bai gofyn wrth gwrs. Ysgrifennodd y Gweinidog ar y pryd at y pwyllgor i ddweud nad oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny ar y pryd, ond tybed a fyddech o leiaf yn ymrwymo i archwilio’r syniad, o ystyried y manteision y gallai eu sicrhau, nid yn unig o ran lles anifeiliaid, ond o ran proffilio tramgwyddwyr mewn amgylchiadau eraill. Os ydych yn cam-drin anifail, gwyddom y gallech o bosibl fynd ymlaen i gam-drin pobl yn y dyfodol. Credaf ei fod yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn fater pwysig iawn.

Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag anifeiliaid. Rwy’n sicr yn hapus i edrych ar hynny, ydw.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai deddfau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, boed yn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu fywyd gwyllt, yn elwa o gael eu cyfuno’n un Ddeddf Cynulliad er mwyn sicrhau mwy o ddiogelwch a gorfodaeth yng Nghymru?

Credaf fod y ffordd y mae cymdeithas yn trin ei hanifeiliaid yn dweud llawer amdani, ac rwyf newydd fod draw—. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yr RSPCA i gyflwyno gwobrau am waith cymunedol sy’n digwydd ar draws ein sector cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae’n amlwg ein bod yn genedl sy’n hoff o anifeiliaid. Nid wyf wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un ddeddf. Fel y soniais yn fy ateb blaenorol i Bethan Jenkins, rwy’n edrych ar y codau ymarfer, beth sydd angen ei adolygu, beth sydd angen ei ddiweddaru, ac yn sicr, gallwn eu monitro. Byddwch wedi clywed fy ateb cynharach i Lynne Neagle ynglŷn ag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, oherwydd credaf ei fod yn faes nad ydym yn gwybod llawer amdano, a hoffwn yn fawr weld gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn y maes hwnnw.

Tân yn Safle South Wales Wood Recycling

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r tân yn safle South Wales Wood Recycling ger Heol y Cyw? OAQ(5)0039(ERA)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aros am ganlyniad ymchwiliad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r heddlu i achos y tân. Maent yn adolygu systemau rheoli’r safle, gan gynnwys y rhai ar gyfer pentyrru gwastraff, a byddant yn cynyddu arolygiadau o’r cyfleuster.

Diolch am eich ateb. Ofnaf i mi golli’r ddadl fer gan Huw Irranca-Davies ar y mater hwn, gan fy mod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol, ond hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi pob un o’i argymhellion, yn enwedig y rhai ynglŷn â chyfarwyddwyr a chyfyngu heriau cyfreithiol i hysbysiadau atal, nid yn lleiaf oherwydd y gallai hynny fod o fudd mewn ffyrdd eraill, megis mewn cloddio glo brig. Felly, cefais fy nghalonogi gan ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedodd y byddai’n ystyried rhai o’r argymhellion hynny, o leiaf, ar ryw ffurf neu’i gilydd.

Y mater sy’n cael ei ddwyn i fy sylw i’n bersonol gan etholwyr yn yr ardal honno yw bod un o uwch aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn y cabinet, hefyd yn ysgrifennydd y cwmni penodol hwn. Felly, a oes dadl, pe bai rheoliadau’n cael eu diweddaru, y dylent atal rhai sy’n gyfrifol am orfodi rhag bod yn rhan o unrhyw fusnes a allai wynebu camau gorfodi? A wnewch chi edrych ar hyn os gwelwch yn dda?

Cawsom ddadl fer dda iawn gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, a chyfrannodd Aelodau eraill o’r Cynulliad ati hefyd. Rwy’n mynd i gyfarfod â Huw Irranca-Davies. Cyflwynais rai argymhellion, fel y gwnaeth ef, a byddaf yn edrych ar yr holl opsiynau yn y dyfodol.

Ar ôl siarad â thrigolion yn yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y sefyllfa sy’n mynd rhagddi, credaf ei bod yn amlwg fod angen newid, a diolch am eich ymateb i’r ddadl fer yr wythnos diwethaf. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a ydych wedi ystyried defnyddio eich pwerau o dan adran 61 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio ei bwerau ei hun mewn modd penodol? Mae’r pwerau hynny’n cynnwys y pŵer i atal trwydded.

Nid wyf wedi edrych ar hynny’n benodol, ond cytunaf yn llwyr â chi fod angen newid, ac fel y dywedaf, bydd y trafodaethau hynny’n dechrau yn awr. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud hyn yn flaenoriaeth, oherwydd yn amlwg, credaf fod y ddadl fer wedi tynnu sylw at lawer o faterion y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy. Ond rwy’n eich sicrhau y byddwn yn ceisio newid pethau yn y dyfodol.

Diolch am yr atebion, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf innau hefyd yn cefnogi’r materion a’r angen i newid rheoliadau. Ond gadewch i ni edrych y tu hwnt i fater pentyrru yn Heol-y-Cyw, gan fod llawer o safleoedd biomas yn gweithredu trefn bentyrru o’r fath—mae dau yn fy etholaeth, a thrydydd yn yr arfaeth, un o’r rhai mwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod y rheoliadau cynllunio’n edrych yn ofalus iawn ar yr argymhellion hyn i sicrhau, wrth ddatblygu cynlluniau, fod yr amodau hyn yn cael eu gosod ar ddatblygwyr er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd mewn sefyllfa fel honno.

Yn hollol. Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae’n bwysig iawn fod y cynigion rydym yn eu cyflwyno yn briodol ac yn berthnasol.

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nifer y digwyddiadau a welwyd mewn safleoedd tebyg ledled Cymru a phryderon ynglŷn â goblygiadau iechyd y cyfeintiau mawr o ddeunydd gronynnol a gynhyrchir yn y math hwn o gyfleuster, a fydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried cyflwyno moratoriwm ar y math hwn o safle? A wnewch chi hefyd ystyried cyflwyno prosesau monitro llymach ar gyfer deiliaid trwyddedau presennol a chosbau llymach am dorri amodau trwyddedau yn y dyfodol?

Fel y dywedais yn fy ateb i Suzy Davies, rwy’n derbyn yn llwyr fod angen newid. Gwn eich bod wedi cymryd rhan yn y ddadl fer, felly fe fyddwch wedi clywed fy atebion. Felly, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Y Grid Cenedlaethol (Ynys Môn)

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn? OAQ(5)0050(ERA)[W]

Mae nifer o ofynion statudol ar waith er mwyn sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn ystyried effaith amgylcheddol ei argymhellion ar draws Ynys Môn. Agorodd y Grid Cenedlaethol ei ymgynghoriad diweddaraf yr wythnos diwethaf ar brosiect cysylltu gogledd Cymru i gysylltu Wylfa Newydd â’r grid presennol.

Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel. Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?

Bydd angen i’r Grid Cenedlaethol gwblhau asesiad o’r effaith amgylcheddol. Mae angen iddynt fod yn sensitif iawn i’r amgylchedd, ac mae hynny’n cynnwys llinellau o dan y Fenai, o ganlyniad i ddynodiadau tir penodol. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â phrif weithredwr newydd y Grid Cenedlaethol yr wythnos nesaf i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, a bydd hynny’n cynnwys trafodaethau ynghylch croesfannau’r Fenai.

Lansiodd y Grid Cenedlaethol ymgynghoriad ar leoliad arfaethedig peilonau a thwnnel o dan y Fenai ar 5 Hydref, a bydd yn mynd rhagddo tan 16 Rhagfyr. Rwy’n siŵr y gwnewch ymuno â mi i annog y trigolion lleol i ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Ond sut y bwriadwch fynd i’r afael â phryderon a fynegwyd gan grŵp Pylon the Pressure yng ngogledd Cymru fod geiriad dogfen bolisi nodyn cyngor technegol 8 Llywodraeth Cymru, fod

gosod ceblau foltedd uchel o dan y ddaear fel arfer 6-20 gwaith yn fwy drud na system ar bolion

yn, a dyfynnaf, ‘anghywir ac yn gamarweiniol’?

Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yn amlwg, penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw cydsynio i brosiect atgyfnerthu’r Grid Cenedlaethol yng ngogledd Cymru, felly er ein bod yn rhan o’r trafodaethau, fel y dywedais, mater i Lywodraeth y DU yw gwneud hynny.

Cefnogi Arfordir Cymru

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi arfordir Cymru? OAQ(5)0048(ERA)

Diolch. Mae ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau arfordirol wrth addasu i newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth ariannol i gefnogi ein harfordir yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar baratoi rhaglen fuddsoddi gwerth £150 miliwn ar gyfer rheoli perygl arfordirol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er, mae’n rhaid i mi gyfaddef mai arfordir byr iawn sydd yna yn fy etholaeth, sef safle picnic Black Rock—[Chwerthin.]—safle rwy’n ei fwynhau, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno fod arfordir Cymru yn eiddo i bob un ohonom. Mae llawer o fy etholwyr yn mwynhau ymweld â’r arfordir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Yn ddiweddar, mynychais ddigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Senedd ar arfordir Cymru, ac yn y digwyddiad hwnnw bûm yn trafod gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddatblygu eu buddiant yn arfordir Cymru. A allwch ddweud wrthym pa drafodaethau, os o gwbl, a gawsoch gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â blaenoriaethau ariannol ar gyfer diogelu ein harfordiroedd? A ydych yn dal i lynu at y polisi o gilio a reolir y credai llawer o’ch rhagflaenwyr ynddo, yn hytrach na chynnal ac amddiffyn ein harfordir yn briodol mewn gwirionedd rhag bygythiadau erydu a chynhesu byd-eang ?

Roeddwn yn meddwl hynny pan welais y cwestiwn, ond gwn fod yna fuddiannau ynghlwm wrth y peryglon arfordirol yn Sir Fynwy, ac rwy’n cytuno â chi am safle picnic Black Rock. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â’r mater hwn, ond byddaf yn edrych i weld a yw fy swyddogion wedi cael trafodaethau o’r fath, ac yn ysgrifennu at yr Aelod.

Cynllun Morol Cenedlaethol i Gymru

11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun morol cenedlaethol i Gymru? OAQ(5)0043(ERA)[W]

Diolch. Mae swyddogion wrthi’n drafftio’r cynllun morol cenedlaethol cyntaf erioed i Gymru. Yn ddiweddar cytunais i lansio’r ymgynghoriad ffurfiol erbyn haf y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun yn nodi ein polisi ar gyfer defnydd cynaliadwy o’r ardal forol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Diolch am yr ateb, ond mae’n siŵr y byddech chi’n cytuno bod y cynllun yma yn un hir-ddisgwyliedig. Byddwn ni wedi bod yn aros amdano fe mor hir ac mae’n siomedig nad ydym ni’n mynd i’w weld e tan yr haf nesaf. Ond a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau bod y cynllun yn mynd i fod yn seiliedig ar reolaeth cynefinoedd neu ecosystemau, ac mai hynny, yn fwy na’r cynllun gofodol, a fydd yn gyrru’r cynllun hwn?

Rwy’n sylweddoli ein bod wedi bod yn aros am hyn, ac rwyf wedi—credaf fy mod wedi dweud yn y pwyllgor wrth gael fy nghraffu fod hyn yn flaenoriaeth, ond mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae’n gymhleth iawn. Dyma’r cyntaf—credaf ein bod yn arloesi yng Nghymru wrth gael y cynllun hwn. Credaf ei fod yn bwysig iawn i’n helpu i reoli ein moroedd mewn modd llawer mwy integredig gan ein bod yn gweld llawer mwy o weithgaredd yn yr ardal forol. Roeddwn hefyd yn awyddus i ystyried adolygiad Hendry, a chyfarfu Ken Skates a minnau â Charles Hendry y mis diwethaf. Felly, dyna pam y cafwyd ychydig mwy o oedi. Os gallwn ei wneud yn gynharach na’r haf nesaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny, ond rydym yn ystyried yr holl opsiynau.

Ailgylchu yn Nwyrain De Cymru

12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau ailgylchu yn Nwyrain De Cymru? OAQ(5)0036(ERA)

Diolch. Mae ailgylchu yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant, er bod rhai awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain yn wynebu heriau. Mae tri awdurdod lleol wedi methu â chyrraedd y targed ailgylchu ar gyfer 2015-16. Gofynnwyd i bob awdurdod esbonio pam nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd y targed, a byddaf yn ystyried yr esboniadau hyn.

Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd am yr ateb hwnnw. Fel mae hi’n ei ddweud, mae amrywiaeth ymhlith yr awdurdodau lleol o ran eu perfformiad gydag ailgylchu. Yn sgil datganiadau’r Llywodraeth ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, gyda chydweithio a hyd yn oed rhanbartholi, efallai, yn digwydd, a yw hi’n rhagweld yn y dyfodol agos y bydd prosiectau ailgylchu yn digwydd ar lefel ranbarthol, neu efallai hyd yn oed yn genedlaethol, yn hytrach na chael amrywiaeth o awdurdod i awdurdod?

Mwy na thebyg fod hynny’n rhywbeth y byddai angen i ni ei ystyried yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar lefel awdurdodau lleol. Soniais ei fod yn llwyddiant gwirioneddol, ailgylchu yng Nghymru. Rydym ymhell ar y blaen, a phe baem yn cael ein cyfrif ar sail unigol yn Ewrop, byddem yn bedwerydd yn y tablau cynghrair. Soniais fod tri wedi methu â chyrraedd eu targedau, ac rwyf wedi ysgrifennu at bob arweinydd cyngor i ofyn pam, er mwyn i mi allu ystyried hynny. Ond credaf fod ailgylchu yng Nghymru yn rhywbeth y dylem ei ddathlu.

Cymysgedd Ynni

13. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd polisïau ynni Llywodraeth Cymru yn arwain at arallgyfeirio o ran y cymysgedd ynni? OAQ(5)0045(ERA)

Yn ystod y newid i economi carbon isel, mae ein polisïau’n cefnogi cymysgedd ynni amrywiol yng Nghymru, sy’n darparu cyflenwad diogel a fforddiadwy i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas am gost nad yw’n bygwth diwydiant a swyddi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae fy rhanbarth wedi cael ei ddifetha gan ddiwydiannu ynni gwynt o ganlyniad i TAN 8 ac mae’n cael ei dargedu ar gyfer echdynnu nwy anghonfensiynol. Hefyd bydd gennym forlyn llanw cyntaf y byd. Mae arnom angen cymysgedd ynni gwirioneddol amrywiol, ond ni ddylid trin technoleg adnewyddadwy fel gweithfeydd pŵer yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennydd y Cabinet, a gytunwch â mi fod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig i’w chwarae yn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol, ond mae’n rhaid i gynlluniau fod yn brosiectau ar raddfa fach wedi’u cefnogi gan y gymuned leol yn hytrach na gorsafoedd ynni adnewyddadwy mawr?

Wel, rydym yn cefnogi buddsoddiadau ynni mawr sydd wedi’u lleoli’n briodol, ac mae hynny’n cynnwys ein hynni adnewyddadwy ar y tir a’r môr, yn ogystal â’r sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol carbon isel. Unwaith eto, rwy’n meddwl ein bod wedi cael llwyddiant da iawn yma yng Nghymru, ac rwy’n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o dan y fframwaith a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gynllunio’r pontio i gymdeithas carbon isel yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys camau gweithredu i ddatgarboneiddio ein sector ynni.

Gwahardd Defnyddio Maglau

14. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wahardd defnyddio maglau yng Nghymru? OAQ(5)0047(ERA)

Mae lles anifeiliaid yn ganolog i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer maglau. Cyhoeddwyd y cod y llynedd ac mae’n rhoi arweiniad clir ar y modd y caiff maglau llwynog eu defnyddio a’u harolygu. Byddwn yn barod i ystyried rhoi camau pellach ar waith, os yw’r cod yn profi’n aneffeithiol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb calonogol. Rwy’n siŵr ei bod yn ymwybodol fod mwy na 1,000 o anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt yn cael eu dal mewn maglau bob dydd yng Nghymru, a chaiff 370,000 o anifeiliaid eu dal mewn maglau bob blwyddyn, yn ôl ffigurau gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon. Mae’r farn gyhoeddus yn amlwg o blaid gwaharddiad. Felly, a gaf fi ei hannog i weld sut y mae’r cod ymarfer yn gweithredu mewn gwirionedd? Yn sicr, mae galw cyhoeddus am wahardd maglau, felly a wnaiff hi edrych ar hynny, os gwelwch yn dda?

Dywedais mewn ateb cynharach i Mohammad Asghar fod y ffordd rydym yn trin ein hanifeiliaid mewn gwirionedd yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas. Fel y mae’r cod ymarfer yn datgan, ni ddylid defnyddio maglau ac eithrio lle nad oes dulliau eraill o reoli ar gael. Rwy’n hapus iawn i sicrhau’r Aelod y byddaf yn ei fonitro, ac os nad yw’n effeithiol, byddaf yn edrych ar gamau pellach. Rydym hefyd yn trafod gyda rhanddeiliaid sut y mae’r cod yn cael ei weithredu er mwyn i mi gael y sicrwydd hwnnw.

Llifogydd

15. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i rwystro afonydd rhag gorlifo? OAQ(5)0038(ERA)

Yn fy natganiad ar 28 Mehefin, nodais ddull gweithredu a blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Rydym yn buddsoddi £55 miliwn eleni ar leihau risg a chynnal ein hasedau presennol. Mae hyn yn cynnwys gwaith mawr yn Llanelwy, Trebefered, Rhisga, Casnewydd a Thal-y-bont yng Ngwynedd.

Yn gyntaf oll, Weinidog, a gaf fi dynnu sylw at lwyddiant y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd yn fy etholaeth, a hanner milltir yn unig o ble rwy’n byw? Mae’n ardal a arferai fod dan lawer iawn o lifogydd dros gyfnod o amser, ond mae hynny bellach wedi dod i ben oherwydd bod y gorlifdir wedi gweithio mor llwyddiannus. A oes cynlluniau i gyflwyno gorlifdiroedd ar gyfer afonydd eraill, fel y gallant gael y budd a gawn yn Ynysforgan?

Diolch i Mike Hedges. Mae bob amser yn dda cael adborth cadarnhaol ar sut y mae ein cynlluniau llifogydd yn perfformio, ac rwy’n credu bod y cynllun £7 miliwn yn Abertawe yn enghraifft o sut y gall buddsoddiad llifogydd sicrhau manteision lluosog, ac yn sicr, ar ôl edrych arno, mae’n sicrhau manteision i fioamrywiaeth, er enghraifft, a gwelliannau i amwynderau.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.

That was a textbook question-and-answer session.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwy’n symud ymlaen nawr i’r eitem nesaf ar yr agenda: cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf—Lee Waters.

Tai Fforddiadwy ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael mynediad at dai fforddiadwy? OAQ(5)0052(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i ateb anghenion tai pobl ifanc sy’n gadael gofal. Yn ddiweddarach y mis yma byddaf yn lansio fframwaith llety newydd ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, fframwaith a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Barnardos a Shelter Cymru i hyrwyddo arferion gorau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fis Mehefin diwethaf, rhybuddiodd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru fod llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn wynebu prinder tai fforddiadwy a naid gynharach i fyw’n annibynnol na’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Mae eu hadroddiad yn galw am fframwaith llety cenedlaethol a chefnogaeth i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru. A allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut yr eir i’r afael â chynnwys eu hadroddiad?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Roedd yr adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn cynnwys camau rydym yn eu cymryd, nid yn unig ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, ond ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fwy cyffredinol—camau a gymerwyd eisoes yn unol ag argymhellion yr adroddiad, er enghraifft: datblygu fframwaith llety ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, fel y dywedais, a byddaf yn ei lansio ar 19 Hydref, ac yn parhau â’n hymgyrch i weithredu er mwyn dileu’r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc drwy gryfhau canllawiau, cydweithio, a threfniadau gwirfoddol newydd, a dyma fydd y dystiolaeth a’r gwelliannau sydd eu hangen.

Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe fe fynychoch chi a minnau fforwm i bobl ifanc a drefnwyd gan y comisiynydd plant ar gyfer rhai rhwng 15 a 24 oed sydd â phrofiad o ofal, a daeth neges glir o’r fforwm nid yn unig fod angen help ar rai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i lety fforddiadwy, ond maent hefyd angen cymorth i gadw eu llety. Mewn adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant, cafwyd galwad i eithrio pobl sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor hyd nes eu bod yn 25 oed. Nawr, er bod yr alwad honno’n canolbwyntio ar Loegr, rwy’n siŵr y gallwn weld beth fyddai’r manteision posibl yma yng Nghymru. Yn sicr, byddai’n rhoi hwb mewn gwirionedd i’r cynlluniau llwybr sy’n ofynnol er mwyn paratoi pobl sy’n gadael gofal ar gyfer gweddill eu bywydau. Felly, a yw hynny’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i ystyried?

Wel, mae gennyf weithgor i ystyried plant mewn lleoliadau gofal a phlant sy’n derbyn gofal. Byddaf yn gofyn iddo roi cyngor pellach i mi ar y materion hyn. Nid wyf yn credu ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer y bobl ifanc hyn, a dylem uno’r grwpiau sy’n rhan o’r rhaglenni ymyrraeth i roi dechrau gwell i bobl mewn bywyd. Mae’r rhain yn bobl ifanc agored iawn i niwed ac mae angen i ni ymateb i’r her.

Weinidog, cyfeiriodd adroddiad Cymdeithas y Plant hefyd at y ffaith fod addysg ariannol yn wael iawn a bod llawer o bobl ifanc yn ei chael yn anodd cadw eu tenantiaethau ar ôl iddynt adael gofal. Ac unwaith eto, yn y fforwm ddoe, roedd yn eithaf amlwg fod galw am roi’r hawl i weithwyr cymorth weithio ochr yn ochr â rhai sy’n gadael gofal hyd nes eu bod yn 25 oed Nid yw’n rhywbeth sydd ar gael ar hyn o bryd yma yng Nghymru. Pa ystyriaeth a roesoch i ymestyn y ddarpariaeth i weithwyr cymorth weithio gyda’r bobl ifanc sy’n gadael gofal hyd nes eu bod yn 25 oed, ac a yw’n rhywbeth y gellid ei ychwanegu o bosibl at y fframwaith llety y cyfeirioch chi ato?

Ie, bydd y fframwaith llety ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn helpu sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i helpu plant sy’n gadael gofal, er mwyn eu paratoi ar gyfer byw’n annibynnol a sicrhau eu bod yn dod o hyd i gartref addas. Mae gennyf ddiddordeb yn y mecanwaith cymorth i ddilyn hynny. Trwy Cefnogi Pobl rydym hefyd yn darparu £124 miliwn i helpu pobl sy’n agored i niwed gael mynediad at lety, gan gynnwys £13.7 miliwn o hwnnw ar gyfer rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc.

Mae cwestiwn 2 [OAQ(5)0039(CC)] wedi’i drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Felly, cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac, yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe clywsom gan eich Llywodraeth sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â throseddau casineb. Yn anffodus, mae’r hinsawdd wleidyddol yn awr yn golygu bod troseddau casineb wedi’u cyfreithloni’n rhannol gan y rhethreg a ddaw gan lawer o wleidyddion ac elfennau o’r cyfryngau. A allwch ddweud wrthym heddiw pa un a ydych yn credu bod mewnfudo i Gymru wedi bod yn beth da o ran helpu i ddatblygu ein cenedl yma yng Nghymru a’i gwneud yn genedl fwy amrywiol?

Prin y cefais amser i eistedd. [Chwerthin.] Rwy’n falch eich bod yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwnaeth y Llywodraeth flaenorol yn San Steffan benderfyniad i wrthod arian cyhoeddus i lawer o ymfudwyr, gan gynnwys rhai o wledydd A8. Arweiniodd hyn at adroddiad Amnest Rhyngwladol yn 2008 a nododd ei fod wedi arwain at fenywod yn methu â chael mynediad at loches wrth ffoi rhag perthynas dreisgar, ffactor y nodwyd ei bod yn elfen arwyddocaol mewn nifer o lofruddiaethau menywod ac achosion o fenywod yn diflannu. Y flwyddyn ganlynol, canfu astudiaeth Shelter Cymru ar gyflwr tai gweithwyr mudol o ddwyrain Ewrop fod yna ddigartrefedd sylweddol am nad oedd ganddynt hawl i arian cyhoeddus, gan gynnwys menywod beichiog. Rydym hefyd yn gwybod am achosion lle roedd plant dan fygythiad o gael eu gosod mewn gofal, ac erbyn 2010 roedd tua 1,000 o blant mewn canolfannau cadw mewnfudwyr. A ydych yn gresynu at ddull Llafur Newydd o gyfyngu ar gymorth i blant ymfudwyr, a sut y byddwch yn gweithio i gefnogi’r sector hwn yn y dyfodol?

Roedd y cytundeb yn mynd yn dda iawn ar y dechrau. [Chwerthin.] A gaf fi ddweud bod egwyddor ei chwestiwn yn rhywbeth sy’n peri pryder i mi, ac mae diffyg mynediad at arian cyhoeddus i unigolion yn rhywbeth rwy’n edrych arno? Mae gennyf grŵp cynghori newydd yn edrych ar y materion sy’n ymwneud ag amgylchiadau trais domestig, ac mae rhan o’r ymchwiliad rwy’n gofyn iddynt edrych arno’n ymwneud â hynny—a’r elfen gyllid ar gyfer lloches a chymorth cyfreithiol hefyd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er gwaethaf yr enghreifftiau trawmatig a roddais yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, nid oedd unrhyw effaith ar y polau piniwn ynglŷn â mewnfudo, gyda lleiafrif sylweddol yn credu nad oedd unrhyw reolaethau’n bodoli hyd yn oed, er gwaethaf yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Felly, mae hyn yn dangos nad yw tawelu’r dde eithaf yn gweithio ar ei delerau ei hun. Nid yw’r bobl sydd, yn ôl y sôn, yn cael eu calonogi gan gamau llym yn sylweddoli bod camau llym yn digwydd mewn gwirionedd. Yr wythnos hon, fe fyddwch wedi gweld bod Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion wedi uno i gyhoeddi datganiad yn condemnio’r rhethreg a ddaeth gan y Blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf, ond nid yw eich plaid eich hun yn San Steffan wedi gwneud mwy na galw’n syml am leihau mewnfudo. A wnewch chi heddiw felly fod yn wahanol i’ch cydweithwyr Llafur yn San Steffan ac ymuno â Phlaid Cymru a’r SNP i gondemnio’r rhethreg negyddol, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad wrth fynd i’r afael â’r mythau am fewnfudo?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn olaf. Ni yw’r Blaid Lafur yng Nghymru a ni yw’r Llywodraeth yng Nghymru ac mae gennym safbwynt pendant iawn ar droseddau casineb. Rwy’n bwriadu arwain y gwaith ar hyrwyddo fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu troseddau casineb. Yr hyn rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â ni i’w wneud yw condemnio gweithredoedd unigolion a phleidiau gwleidyddol sy’n ceisio ennill cefnogaeth drwy’r troseddau casineb y credaf eu bod yn eu hachosi mewn cymunedau, gan achosi tryblith mawr i lawer o bobl. Rwy’n credu nad oes raid i ni edrych yn rhy bell mewn gwirionedd i weld ble mae hynny’n digwydd yn eithaf lleol.

Diolch. Ddoe, fe ddywedoch wrthym eich bod yn dymuno dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac y byddwch yn edrych o’r newydd ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau cryf wedi’u grymuso gyda llais cryf yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rhennais lu o enghreifftiau gyda chi o sefydliadau yn y sector statudol a’r trydydd sector lle maent yn bwrw ati i wneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad drwy ddefnyddio cydgynhyrchu, nad yw’n ymwneud â chaledi, ond sy’n rhan o chwyldro byd-eang gyda’i wreiddiau’n estyn yn ôl bron hanner canrif. O gofio bod y prosiectau hyn eisoes yn helpu i adeiladu cymunedau cryf yng Nghymru, a allwch roi eich diffiniad o beth y mae cydgynhyrchu yn ei olygu?

Wel, cyfeiriaf at fy natganiad ddoe y mae’r Aelod wedi dyfynnu ohoni. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gael cynnig newydd ar gyfer mynd i’r afael â materion i wneud cymunedau’n gryf ar gyfer y dyfodol. Dyna a amlinellais ddoe yn fy natganiad. Mae cyflwyno’r 100,000 o swyddi prentisiaeth newydd gan y Llywodraeth Lafur hon yn un mater pwysig i gymunedau y mae’n ei rannu, ac rwy’n ei rannu hefyd. Mae gofal plant o ansawdd, sef y cynnig gorau i rieni sy’n gweithio yn unrhyw le yn y DU, yn rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd yn ymuno â mi i’w ddathlu wrth wasanaethu’r cyhoedd a gynrychiolwn.

Mae yna lawer o opsiynau lle mae angen i ni fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a galluogi er mwyn cymunedau’r dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth a nodais yn fy natganiad, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y flwyddyn newydd.

Mae cydgynhyrchu yn galluogi dinasyddion a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth gyfartal, gan greu cyfleoedd i bobl gael cymorth pan fyddant ei angen a chyfrannu at newid cymdeithasol, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.

Ddoe hefyd dyfynnais Oxfam Cymru pan ddywedasant fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau newid parhaol, gan ymgorffori dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, sy’n golygu helpu pobl i adnabod y cryfderau a’r asedau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ganolog sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu potensial.

O ystyried, unwaith eto, fod y dull hwn wedi cael croeso gan rai o Aelodau Llywodraeth Cymru ac y dylai fod yn ganolog i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni newydd, a allwch ddweud beth yw eich dealltwriaeth o ystyr y term ‘dull seiliedig ar gryfderau’?

Rwy’n meddwl bod yna lawer o brosiectau safonol yn ein cymunedau nad ydynt yn cael eu harwain gan Cymunedau yn Gyntaf ond yn hytrach gan lawer o’r sefydliadau y cyfeiriodd yr Aelod atynt heddiw a ddoe, ac rwy’n cefnogi hynny. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw cysylltu’r rhaglenni hynny â chamau gweithredu ac ymyriadau gan y Llywodraeth a chyrff trydydd sector i wneud yn siŵr ein bod yn effeithio cymaint â phosibl ar bobl sydd angen cefnogaeth. Felly, nid wyf yn diystyru’r rhaglenni y mae’r Aelod yn eu crybwyll—mewn gwirionedd, rwy’n meddwl y gallwn adeiladu ar y rhaglenni hynny, a thrwy weithio gyda ni, gallant sicrhau cynnig gwell i’n cymunedau.

Diolch. Wel, rwy’n gobeithio wrth symud ymlaen y byddwch yn croesawu’r diffiniad o’r dull seiliedig ar gryfderau, sy’n ymwneud â newid o system lle y caiff anghenion pobl eu hasesu a’u hateb gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill i system sy’n diogelu annibyniaeth, cydnerthedd, gallu i wneud dewisiadau a lles unigolion, drwy gefnogi eu cryfderau mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt arwain a rheoli eu bywydau annibynnol o ddydd i ddydd. Rwy’n gobeithio y bydd y cysyniadau hyn yn ganolog i ysgogi’r newid rydym oll o ddifrif yn ei geisio.

Unwaith eto, yn olaf, ac mewn cyd-destun tebyg, yn ystod y sesiwn gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn y toriad, fe ddywedoch y byddai Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth tlodi plant yn ystod y Cynulliad hwn. Mae tua 200,000 o blant ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi—cyfradd uwch na’r lefelau yn y DU, Lloegr a’r Alban. Pa ystyriaeth a rowch i ‘Adroddiad Plentyndod Da 2016’ Cymdeithas y Plant, sy’n dangos bod defnyddio mynegai amddifadedd materol sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn gallu egluro mwy am amrywiadau yn lles plentyn na’r mesur traddodiadol o incwm y cartref? A wnewch chi ystyried defnyddio’r dulliau hyn yn eich strategaeth ddiwygiedig?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll y mater pwysig hwn. Rwy’n credu mai’r hyn y dylem edrych arno yw’r dangosyddion cywir, a byddaf yn nodi’r adroddiad hwnnw pan fyddwn yn diweddaru’r ddogfen. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y manylion sy’n sail i hynny a sut y gallwn ddylanwadu ar newid mewn cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc, wrth symud ymlaen—hwy yw cenhedlaeth y dyfodol.

Diolch i chi, Lywydd. Cyhoeddwyd y penderfyniad gweinidogol i gau Ysgol Uwchradd John Summers yn 2017 gan Kirsty Williams ym mis Awst 2016. Cofnodwyd bod Ysgol Uwchradd John Summers wedi gwasanaethu mwy o blant teithwyr nag unrhyw ysgol arall yn Sir y Fflint ac o bosibl ar draws Cymru. A all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd anghenion addysg cymuned y teithwyr yn Sir y Fflint yn cael eu diwallu? A wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cyfarfod â’r gymuned i sicrhau bod unrhyw gamau a roddir ar waith yn ateb eu hanghenion?

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae hwn yn fater sy’n codi yn fy etholaeth i hefyd, Lywydd, ond fe seiliaf fy ymateb fel Gweinidog. Rwyf wedi gohebu gyda Chyngor Sir y Fflint ac rwyf hefyd wedi gohebu gyda thrigolion yr ardal honno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig mai mater i’r awdurdod lleol yw’r trefniadau pontio ac rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â’r union faterion hyn. Mae’n bwysig i’r gymuned honno fod yna system addysg gadarn sy’n addas ar gyfer y gymuned honno.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, caewyd llawer o’r prif orsafoedd heddlu yn ein trefi, yn sicr yn y gogledd. Dilynwch yr arwydd at yr heddlu ac fe ddowch at ffôn ar y wal. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i’r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau’r heddlu i sicrhau bod y gwasanaeth heddlu’n weladwy, yn hygyrch ac yn adeiladu perthynas effeithiol â chymunedau lleol?

Rwy’n cyfarfod gyda’r comisiynwyr heddlu yn rheolaidd ac rwyf eisoes wedi cael dau gyfarfod ers dod yn Weinidog sy’n gyfrifol am gymunedau. Ond mae’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol nad yw plismona wedi’i ddatganoli i’r sefydliad hwn.

Ond mae gallu dod o hyd i’r heddlu’n rhwydd yn dal i fod yn fater cymunedol, ac yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru fewnbwn i faint o fynediad sydd gan y gymuned leol at yr heddlu, a pha mor weladwy a hygyrch yw’r gwasanaeth heddlu.

Fel y dywedais, rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Roedd un o ymrwymiadau cadarnhaol Llafur Cymru yn ymwneud â chyflwyno 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i’n cymunedau ledled Cymru, a chafodd groeso mawr yn ein holl gymunedau. Mater i Lywodraeth y DU ydyw, ac mae’n swyddogaeth sydd heb ei datganoli, ond rwy’n cydnabod y ffaith fod y gwaith y mae’r heddlu’n ei wneud yn ein cymunedau mewn gwirionedd yn cael ei werthfawrogi gan lawer.

Mynediad i Chwarae

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at chwarae i blant yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0043(CC)

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant, gan gynnwys yr effaith ar les, iechyd, a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol.

Diolch. Roeddwn yn falch yr wythnos diwethaf o allu mynychu agoriad dwy ardal chwarae hygyrch yn fy etholaeth, yng Nghilfynydd a Glyn-coch. Yn y ddau achos, gwnaed gwelliannau o ganlyniad i ymgyrchoedd cymunedol a gafodd gefnogaeth dda a buddsoddiad i’w groesawu’n fawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi hawl i chwarae. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid, fel awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddynt ardaloedd chwarae sy’n hygyrch i bob plentyn?

Hoffwn longyfarch Rhondda Cynon Taf ar eu buddsoddiad yn eich cymuned leol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu, a lle bo hynny’n ymarferol, i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol sy’n diwallu anghenion, megis mynediad a chynhwysiant plant a’u teuluoedd. Rydym wedi cynhyrchu pecyn cymorth a hefyd yn ariannu Chwarae Cymru i’w cynorthwyo i gyflawni’r ddyletswydd hon.

Weinidog, yn amlwg, un o brif elfennau iechyd y cyhoedd yw codi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau iach, ble bynnag y maent. Mae’n amlwg mai o’r pethau sy’n achosi trafferth i nifer o glybiau chwaraeon ar draws fy rhanbarth, sef Canol De Cymru, yw ffioedd lleiniau a ffioedd am gyfleusterau. Rwy’n sylweddoli mai mater i lywodraeth leol yw hwn, ond bron nad oes gennych amcan polisi yn y fan hon sy’n gwrthdaro â phenderfyniadau a wneir yn neuadd y sir.

Rydym yn deall bod yn rhaid cael ffi am fod y cyfleusterau hyn yn costio, ond yr hyn sy’n peri pryder yw’r ffaith fod llawer o’r clybiau hyn yn nodi enghreifftiau mewn ardaloedd eraill lle mae’r costau’n wahanol, yn aml iawn o fewn ardal yr un awdurdod lleol. Sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i ddatblygu polisi mwy cydlynol sy’n cysylltu’r negeseuon iechyd cyhoeddus â chyfranogiad cymunedol, ac yn benodol, â ffioedd llywodraeth leol am gyfleusterau cymunedol?

Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig ynglŷn â hygyrchedd, a gall pris fod yn ffactor weithiau sy’n cyfrannu at anallu pobl i wneud defnydd o’r pethau hyn. Byddaf yn dwyn hyn i sylw’r Gweinidog perthnasol, er mwyn cael trafodaeth gyda hi. Ond fe wnaethom ddeddfu y llynedd gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n edrych ar wella lles pawb yn hirdymor. Bydd hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i awdurdodau ddangos eu bod yn ei ystyried yn eu gweithredoedd mewn perthynas â mynediad at chwarae hefyd.

Cynlluniau Adfywio Tai

4. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau adfywio tai yng Nghymru? OAQ(5)0050(CC)

Diolch i’r Aelod dros Ddelyn am ei chwestiwn. Mae ein hardaloedd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar y lle cyfan mewn perthynas ag adfywio, ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr agenda tai yng Nghymru, o ran cynyddu’r cyflenwad, gwella safonau a gwella ynni cartrefi.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o raglen tai ac adfywio strategol Cyngor Sir y Fflint, y gyntaf o’i bath yng Nghymru i arloesi gyda chynlluniau buddsoddi uchelgeisiol mewn tai. Mae’r cyngor wedi arwain drwy esiampl ar sut i fynd i’r afael â phrinder tai, gan gynnwys adeiladu tai cyngor newydd am y tro cyntaf mewn nifer fawr o flynyddoedd. Yn fy etholaeth i, mae canol tref y Fflint wedi cael ei drawsnewid fel rhan o uwchgynllun y Fflint, a fydd yn arwain at adeiladu 30 o dai cyngor newydd a thros 60 eiddo fforddiadwy. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ymuno â mi i gydnabod yr arweiniad y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i roi ar hyn, ac a wnewch chi annog eraill i roi camau tebyg ar waith ar draws y wlad?

Diolch iddi am y cwestiwn. Rwy’n gyfarwydd â’r rhaglen tai ac adfywio strategol. Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ardderchog gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge yn arwain yr ymgyrch o ran y ddarpariaeth yn yr ardal honno ac rwy’n ddiolchgar iawn fod awdurdodau lleol yn dechrau datblygu rhaglenni tai cyngor eto. Bydd hynny, ynghyd â diddymu’r hawl i brynu, yn dechrau cynhyrchu’r stoc a gofiwn ers tro byd, sef tai o ansawdd yn y sector cyhoeddus, ar gyfer pobl sydd eu hangen, a chan gydnabod yn arbennig y gwaith da sy’n mynd rhagddo yn ei hetholaeth.

Wel, yn amlwg, nid yw hawl i brynu yn adeiladu tai newydd a benthyca cyfyngedig sy’n cael ei alluogi drwy ddiddymiad system cymhorthdal y cyfrif refeniw tai, sy’n rhywbeth i’w groesawu er ei fod yn hwyr iawn yn digwydd. Mae adfywio tai yn ymwneud â mwy na brics a morter; mae’n ymwneud â phobl a chymunedau. Sut felly y byddwch yn sicrhau bod awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc, yn aml oherwydd bod tenantiaid wedi cael eu dychryn gan gamwybodaeth, yn gallu dysgu—ie, wyddoch chi—o waith da llefydd fel Cartrefi Conwy a Chartrefi Cymunedol Gwynedd yn enwedig, sydd wedi cynnal digwyddiadau a fynychwyd gennyf—digwyddiadau i denantiaid—yn dangos sut y mae adfywio’r gymuned yn ehangach yn helpu i gynorthwyo pobl i fynd i’r afael â’r pethau sy’n eu dal yn ôl ac i fyw bywydau annibynnol a llawn?

Mae’r sector tai a’u gallu i arallgyfeirio yn creu argraff wirioneddol arnaf, ac nid adeiladu brics a morter yn unig, ond adeiladu cymunedau cryf. Mae hynny hefyd yn wir am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a throsglwyddo stoc, ond hefyd yr awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc. Ac nid wyf yn credu bod yr achos y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn gamwybodaeth; mewn gwirionedd dyna oedd dewis y bobl. Dyna oedd y peth pwysig. Roeddent yn dewis cadw eu stoc ac maent yn gwneud gwaith da iawn o hynny ac yn adeiladu mwy o dai cyngor yn yr ardaloedd sydd eu hangen.

Byddwn yn sicr yn adleisio hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn sicr yn achos cyngor Caerdydd. Roeddwn i eisiau edrych eto ar fater cartrefi gwag, oherwydd gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o waith ar geisio cael tai gwag yn ôl i ddefnydd. Ond mae’n dal i fod dros 20,000 o gartrefi gwag a allai fod yn darparu cartrefi i bobl sydd eu hangen yn daer. A chan nad yw ond yn costio tua £30,000 i ddod â chartref gwag yn ôl i ddefnydd, mae’n amlwg ei fod yn costio llawer llai nag adeiladu un newydd. Yn anffodus, mae adeiladwyr tai yn amharod i adfer cartrefi gwag am nad oes cymaint o elw yn hynny, ac yn lle hynny, maent eisiau adeiladu cytiau cwningod yn aml, yn hytrach na diogelu cymeriad traddodiadol yr ardal. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth arall y gall y Llywodraeth ei wneud, gyda’r awdurdodau lleol, i sicrhau bod pob tŷ yn gartref y mae pobl ei eisiau.

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn nodi ac yn cydnabod yr ymyrraeth bwysig a gawsom gyda’n cynllun cartrefi gwag, ac yn sicr rydym wedi bod yn cyflawni hwnnw. Soniais hefyd yr wythnos o’r blaen am yr 20,000 o gartrefi rydym yn dymuno eu hadeiladu, gyda chymysgedd o ddaliadaethau a thenantiaethau. Rwyf hefyd yn credu y bydd tai gwag yn cyfrannu’n fawr at gynyddu’r cyflenwad, yn ogystal â’r 20,000 o gartrefi, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf eu bod yn stoc dda at ei gilydd sydd ond angen eu hadnewyddu, ac mae hynny’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm roi cyngor pellach i mi yn ei gylch.

Pobl sy’n Fyddar neu’n Drwm eu Clyw

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw? OAQ(5)0054(CC)

Mae pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn cael eu diogelu rhag gwahaniaethu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw priodol i hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n fyddar neu’n anabl a’r rhai nad ydynt yn fyddar neu’n anabl.

Diolch. Mae Action on Hearing Loss wedi canfod bod 84 y cant o’r 575,000 o bobl yng Nghymru sy’n fyddar neu’n cael anawsterau am eu bod yn drwm eu clyw yn teimlo bod hyn yn amlwg yn ei gwneud yn anos iddynt gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wrth gwrs, sydd â’r gyfran uchaf yng Nghymru, sef 23 y cant, gyda 27,000 o bobl angen cefnogaeth briodol o’r fath. O ran Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru, efallai eich bod yn ymwybodol fod cyllid y ddarpariaeth wedi ei dorri. Rwyf wedi ysgrifennu at yr awdurdod yn ddiweddar iawn, ac yn gwrtais iawn, wedi gofyn am adfer yr arian hwn sy’n fawr ei angen i gefnogi’r gwasanaeth hollbwysig hwn. A wnewch chi, yn eich rôl, ysgrifennu hefyd i gefnogi ein hymgais i sicrhau bod y cyllid yn cael ei adfer?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn ariannu Action on Hearing Loss Cymru, gan weithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru, i hyfforddi a chefnogi pobl â nam ar y synhwyrau i rannu eu profiadau personol gyda darparwyr gwasanaethau ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r sector tai. Bydd pecyn cymorth rhithwir hygyrch a dwyieithog ar y synhwyrau yn cael ei greu i helpu sefydliadau i fod yn fwy ymatebol i anghenion pobl â nam ar y synhwyrau—dros £144,000 dros dair blynedd o 2014 i 2017. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn croesawu hynny, ac y bydd hefyd, yn ei llythyr at yr awdurdod lleol, yn sôn am y buddsoddiad rydym yn ei wneud ar hyn o bryd fel Llywodraeth Cymru.

A gaf fi ddatgan buddiant yn gyntaf fel llywydd grŵp pobl drwm eu clyw Abertawe, ac mae gennyf chwaer sy’n fyddar iawn hefyd? Mae’n hawdd iawn gwahaniaethu mewn cyflogaeth: nid oes ond yn rhaid i chi nodi bod ateb y ffôn yn rhan o’r swydd ac yn syth, ni fydd rhywun sy’n fyddar yn gallu ymgeisio. Yr un peth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr yw parch cydradd rhwng iaith arwyddion fel iaith gyntaf a Saesneg a Chymraeg iaith gyntaf, er mwyn i bobl sy’n fyddar gael yr un cyfleoedd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet archwilio hyn?

Diolch i chi am dynnu’r mater i fy sylw, Mike. Cydnabu’r Llywodraeth hon Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun ym mis Ionawr 2004. Ers hynny, rydym wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwys yng Nghymru ac wedi sicrhau bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar draws y Llywodraeth hon yng Nghymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch i bawb. Mae’n iawn i grybwyll y mater yn y Siambr heddiw.

Gall cysylltu efo gwasanaethau cyhoeddus drwy’r dulliau traddodiadol, fel canolfannau galw, fod yn brofiad anodd a rhwystredig i ni gyd ar adegau, ond wrth gwrs mae’n gallu bod yn anoddach fyth i bobl fyddar neu drwm eu clyw. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yna ffyrdd gwahanol o gysylltu ar gael i bobl fyddar neu drwm eu clyw er mwyn sicrhau nad ydyn nhw ddim yn cael eu rhwystro rhag cysylltu efo’r gwasanaethau cyhoeddus?

Rwy’n cytuno. Mae’r Aelod yn iawn i sôn am y mater penodol hwn a gall fod yn anodd iawn a dyna pam ein bod yn buddsoddi yn y pecyn cymorth—pecyn cymorth rhithwir hygyrch a dwyieithog ar y synhwyrau—i helpu sefydliadau i fod yn fwy ymatebol i anghenion pobl â nam ar eu synhwyrau.

Dechrau’n Deg

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, gan roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant sy’n byw yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Mae Dechrau’n Deg wedi gwella cyfleoedd bywyd llawer o fy etholwyr yn fawr. Mae’n golygu bod plant yn dechrau yn yr ysgol ar lefel eu hoedran cronolegol neu’n agos ato. Er fy mod yn credu y dylai fod yn seiliedig ar gymunedau, nid ar ardaloedd cynnyrch ehangach a grëwyd ar fympwy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnaiff y Gweinidog ailadrodd ei gefnogaeth i Dechrau’n Deg?

Gwnaf yn wir. Mae Dechrau’n Deg yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn 2015-16. Cefnogodd y rhaglen dros 38,000 o blant a’u teuluoedd a rhagorodd ar y targed o 36,000 a osodwyd gennym. Mae’n rhaglen wych gyda staff gwych a chanlyniadau gwych; hir y parhaed.

Mae’n amlwg fod yna bryderon am y meini prawf cymhwyso ar gyfer Dechrau’n Deg a ffocws daearyddol hynny, ac roedd yn destun pryder a fynegwyd yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf hefyd gyda wardiau etholiadol ac o bosibl un ochr i’r ffordd yn rhan o’r cynllun a’r ochr arall i’r ffordd heb fod yn rhan o’r cynllun. Crybwyllais hyn ddoe yn eich cyhoeddiad ar y parthau plant arfaethedig. A allech gadarnhau na fydd parthau plant yn defnyddio dull mor ffwr-bwt o weithredu? A allwch ddweud yn glir pa un a fydd y parthau arfaethedig yn ardaloedd lle bydd yn rhaid i bobl fyw o’u mewn er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth, neu a fydd y gwasanaethau’n cael eu darparu mewn parthau penodol y gall unrhyw un gael mynediad atynt?

Wel, fel y dywedais wrth yr Aelod ddoe—mae dau ymateb i’r Aelod—yn gyntaf, Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf: yr hyn rwy’n ceisio ei wneud yw rhoi mwy o hyblygrwydd gyda’r cynlluniau hynny yn ariannol, ac felly gallwn ddechrau cynnwys pobl o’r tu allan i’r dull seiliedig ar ardal, pobl mewn angen sydd angen y gwasanaethau hynny, a gobeithio y byddwn yn gallu dechrau cyflwyno’r rhaglen honno. Elfen arall o barthau plant yw rhaglen sy’n tyfu lle rydym yn ceisio treialu cynlluniau gwahanol. Felly, bydd rhai’n seiliedig ar ysgolion, a rhai’n seiliedig ar ardaloedd cymuned a bydd yn rhaid i ni weld pa rai sy’n gweithio orau. Rwyf wedi dechrau trafodaethau eisoes heddiw â sefydliadau eraill sy’n ceisio gwneud pethau tebyg. Felly, mae’r NSPCC, Iechyd Cyhoeddus Cymru a thimau Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr oll yn ceisio creu canolbwynt ar ffurf dull profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym yn mynd i weld sut y mae hynny’n gweithio a phwy all ddarparu’n well yn yr ardaloedd hynny. Felly, ni allaf roi ateb pendant i chi heddiw, ond mewn gwirionedd byddwn yn treialu beth sy’n gweithio orau.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb i Llyr Gruffydd. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn awyddus i ehangu mynediad at Dechrau’n Deg. Rwy’n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac mae’n drueni fod cymaint o bobl wedi cael eu heithrio rhag cael mynediad at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Dechrau’n Deg hyd yn hyn. Ond a allwch roi amserlen ar gyfer pa bryd rydych yn disgwyl gweithredu’r penderfyniad hwn yr ymddengys bellach eich bod wedi’i wneud, gan y credaf ei bod yn bwysig i hyn ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?

Wel, rydym wedi dechrau’r drafodaeth ar egwyddor ehangach Cymunedau yn Gyntaf ac fel y nodwyd ddoe, bydd y naratif ynglŷn â ble rydym am weld yr is-adran yn symud, tuag at roi hyblygrwydd i Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn cael ei bennu, wrth gwrs, o gwmpas adeg y gyllideb. Ar y sail eich bod yn hyderus ynglŷn â’r rhaglen hon, rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi’r gyllideb ymhen ychydig wythnosau er mwyn i mi weithredu hyn a gwneud y newidiadau. Dyna rwy’n ei geisio.

YMCA

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r YMCA yng Nghymru? OAQ(5)0050(CC)

Mae help a chyngor ar gael i sefydliadau YMCA drwy’r cyllid craidd o £4.4 miliwn a roddaf i fudiadau trydydd sector yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Cafwyd 27,000 o ymweliadau â’r YMCA yng Nghastell-nedd y llynedd, fel rhan o rwydwaith o ganolfannau YMCA ledled Cymru, sydd gyda’i gilydd yn darparu llety â chymorth, hyfforddiant, addysg a ffitrwydd a lles yn ogystal ag ystod o wasanaethau eraill. Mae nifer wedi bod yn gweithredu ar sail clystyrau at ddibenion cydweithio. A yw’n croesawu hynny a pha gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i’r egwyddor honno?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll y gwaith da y mae’r YMCA yn ei wneud ar draws y DU ac yn wir, yn ei etholaeth. Rwy’n sicr yn ymwybodol o’r nifer o wasanaethau sy’n cael eu darparu. Yn anffodus, nid wyf yn gallu cefnogi pob un o’r 33,000 o fudiadau trydydd sector yng Nghymru yn uniongyrchol, ond mae’r YMCA ar hyn o bryd eisoes yn elwa o gyllid a chymorth anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, diolch i’r Aelod am ddwyn y mater i fy sylw heddiw, gan godi proffil yr YMCA, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt wrth iddynt ddatblygu rhagor o wasanaethau yn eich cymuned ac mewn cymunedau eraill.

Mae’r YMCA, wrth gwrs, yn cynnwys pobl ifanc o bob math o gefndir economaidd-gymdeithasol ac mae ganddo hanes da iawn o weithio gyda grwpiau eraill. Gobeithiaf y byddant yn edrych ar enghraifft Matt’s Cafe yn Abertawe, sy’n gweithio gyda nifer o archfarchnadoedd i fynd â bwyd heb ei werthu i’w ddefnyddio mewn caffi cymunedol. O ystyried y cyhoeddiad ddoe fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael gwared ar 230,000 o brydau bwyd y llynedd a bod byrddau iechyd yng Nghymru yn cael gwared ar 3,000 o brydau bwyd y dydd ar gyfartaledd, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â chyfyngu ar wastraff bwyd drwy gefnogi’r mudiadau cymunedol hynny megis YMCA a Matt’s Cafe? Gallwch chi ddelio â’r galw, hyd yn oed os mai eich cyd-Ysgrifennydd Cabinet sy’n delio â’r broblem gyflenwi.

Rwy’n credu ei fod yn ddull arloesol o reoli ein ffrydiau gwastraff hefyd. Byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ar yr union fater hwnnw.

Y Blynyddoedd Cynnar

8. Beth yw’r camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella profiadau blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru? OAQ(5)0047(CC)[R]

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae adolygiad a diweddariad o ‘Adeiladu Dyfodol mwy Disglair’, ein cynllun blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar y gweill i sicrhau bod ein polisïau a’n rhaglenni yn parhau i gefnogi a gwella bywydau plant a’u teuluoedd ledled Cymru.

Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae rhai plant yn ffodus iawn i gael eu geni i deuluoedd cynnes, cariadus, cefnogol, diogel a sefydlog, ond mae yna ormod o blant heb fod yn y sefyllfa ffodus honno. Tybed a allwch ddweud rhywbeth am bolisi Llywodraeth Cymru ar gaffael iaith yn gynnar, rhywbeth y credaf ei fod yn allweddol i gyfleoedd bywyd, yn enwedig mewn perthynas â phlant difreintiedig. Felly, beth a wnawn i gefnogi’r gweithlu i raddau mwy na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd? Beth a wnawn i gefnogi rhieni yn fwy cadarn a beth a wnawn o ran ariannu? Os gallech ddweud ychydig mwy am barthau plant yn ychwanegol at eich sylwadau cynharach yn y cyd-destun hwnnw, byddwn yn ddiolchgar iawn.

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig iawn, ac roedd ddoe yn enghraifft ohonof yn dweud yn glir fod yna lawer o raglenni y mae angen i ni eu gwneud i gynnwys y teulu a’r person ifanc. Mae’r gwaith proffilio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel yr awgrymais yn y datganiad ddoe, yn bwysig, lle rydym yn mynd i’r afael â’r union bethau sy’n creu ansefydlogrwydd i deulu neu i unigolyn. Os gallwn drechu’r pethau hynny, gwyddom fod y canlyniadau’n llawer gwell, yn foesol ac yn gyllidol, i’r Llywodraeth yn y tymor hir.

Mae’r materion sy’n ymwneud â chaffael iaith yn rhai pwysig. Cyfarfûm â therapyddion iaith ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ymgorffori hynny’n rhan o’r system o wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ifanc. Os buddsoddwn yn y blynyddoedd cynnar, rwy’n gwbl grediniol y bydd yn arbed llawer o arian i ni yn y tymor hir. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn rhyw ddechrau cytuno â fy ffordd o feddwl hefyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa mor hyderus ydych chi ynglŷn â’r system fonitro sy’n edrych ar newid perchnogaeth ar feithrinfeydd oherwydd, wrth gwrs, gellir yn hawdd werthu busnes i fusnes arall neu i unigolyn arall sydd heb y sgiliau a’r ddealltwriaeth briodol, o bosibl, a heb y gwiriadau priodol yn eu lle, a hyd yn oed os yw’n drosglwyddiad heb ymyrraeth, rwy’n dal i feddwl bod angen i ni gael sicrwydd fod yna system fonitro gadarn ar waith i sicrhau bod rhai o’n hunigolion ieuengaf a mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu’n llwyr.

Byddwn yn cytuno â’r Aelod. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi hyder iddi fod gennym system ar waith i ymdrin â’r union fater y mae’n ei grybwyll.

Cymorth i Gyn-filwyr

9. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn gwella cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(5)0037(CC)

Mae’r polisïau yn ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu’r ddeialog barhaus gyda’n partneriaid allweddol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy’n diwallu anghenion ein cyn-filwyr.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae’r rhaglen lywodraethu yn gwneud nifer o addewidion i wella gwasanaethau cymorth i gyn-filwyr. Fodd bynnag, nid oes sôn am gardiau i gyn-filwyr, a fyddai, o dan argymhellion eraill, yn darparu teithiau bws am ddim a mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd Cadw. Byddent yn rhoi mynediad â blaenoriaeth i driniaeth GIG ac addasiadau i’r cartref, os oes angen, o ganlyniad i anaf a gafwyd wrth wasanaethu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried cyflwyno’r cerdyn i gyn-filwyr yng Nghymru os gwelwch yn dda?

Rwy’n ddiolchgar iawn am gwestiwn yr Aelod a’r bwriad da a oedd yn sail iddo. Hoffwn atgoffa’r Aelod er hynny fod opsiynau i ddatblygu cerdyn adnabod i gyn-filwyr wedi cael eu hystyried gan y grŵp gorchwyl a gorffen a gyfansoddwyd o gynrychiolwyr o’n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Daethant i’r casgliad mai gwerth cyfyngedig fyddai i gyflwyno cerdyn adnabod i gyn-filwyr. Yn dilyn yr argymhelliad hwn, cytunwyd i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i gerdyn braint presennol y weinyddiaeth amddiffyn fel yr opsiwn dewisol. Dyna rydym yn ei wneud.

Ni ofynnwyd cwestiwn 10 (OAQ(5)0042(CC)).

Adfywio yng Nghwm Cynon

11. Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer hyrwyddo adfywio yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0044(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn cefnogi ystod o raglenni adfywio ar draws y Cymoedd. Mae hyn yn cynnwys cyllid i bartneriaeth canol tref Aberdâr i hyrwyddo canol y dref a chefnogi gweithgareddau sy’n cynyddu bywiogrwydd a hyfywedd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cronfa bartneriaeth canol y dref wedi sicrhau llawer o fanteision, gan gynnwys i Aberdâr yn fy etholaeth. Pan fyddaf yn siarad â phobl mewn llawer o ganol trefi a phentrefi eraill, maent yn teimlo y gallent hwy hefyd gael budd o gymorth. A fyddai gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer edrych ar ba wersi y gellir eu dysgu o’r gronfa bartneriaeth, i ddatblygu cymorth wedi’i dargedu fel y gall trefi a phentrefi megis Hirwaun, Aberpennar, Penrhiw-ceibr ac Abercynon yn fy etholaeth hefyd gael budd ohono a ffynnu?

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Nid ydym byth yn brin o raglenni adfywio y mae pobl yn dymuno iddynt gael eu datblygu ar gyfer eu cymunedau, a diolch am gydnabod y gwaith sy’n digwydd yn ei chymuned yn uniongyrchol. Bwriadwn werthuso a dysgu gwersi o’r rhaglen hon, a bydd y canfyddiadau’n cael eu hystyried ar gyfer polisïau yn y dyfodol a’u rhannu gyda’n rhanddeiliaid. Rwy’n falch o glywed am y gwelliannau sydd ar y gweill yn Aberdâr ac yn croesawu ei sylwadau heddiw.

Y Sector Gwirfoddol

12. A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi’r sector gwirfoddol ledled Cymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0051(CC)

Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith hanfodol a phwysig y mae’r trydydd sector yn ei wneud yn ein cymunedau. Ein blaenoriaethau yw sicrhau bod gennym drydydd sector ffyniannus gyda seilwaith cryf i gefnogi eu gwaith, tyfu’r sylfaen o wirfoddolwyr a sicrhau bod gan y trydydd sector lais yn y gwaith o helpu a siapio cymunedau.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto, mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn hanfodol. Yn fy etholaeth i, mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn llyfrgelloedd cymunedol, canolfannau cymunedol a gwasanaethau cymorth ar draws y dref a’r etholaeth i sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n parhau yn y cymunedau. Mae’r gwirfoddolwyr unigol hyn yn allweddol i waith y sector, ac mae rhai o’r bobl yn gwneud yr un swyddi ar sawl achlysur. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i annog mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu’r llwyth gwaith hwnnw, i gymryd mwy o ran yn y cymunedau a sicrhau y gall y gwasanaethau hyn barhau, gan ein bod yn rhoi gormod o faich ar y bobl sy’n gwneud hynny yn awr?

Yn wir, a dylem longyfarch a gweithio gyda’r gwirfoddolwyr yn ei etholaeth ac mewn llawer o etholaethau ar draws Cymru—maent yn gwneud gwaith gwych. Mae’r cynllun trydydd sector yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu polisi gwirfoddoli newydd, a ddatblygwyd drwy weithgor a sefydlwyd gan gyngor partneriaeth y trydydd sector. Mae’r polisi hwn yn nodi rolau Llywodraeth Cymru, sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a chyrff y trydydd sector, gan gynnwys gwirfoddolwyr eu hunain.

Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig, rwy’n meddwl, fod llawer o’r gwirfoddolwyr y gofynnir iddynt godi’r darnau pan fydd awdurdodau lleol yn tynnu gwasanaethau yn ôl yn ddefnyddwyr gwasanaethau eu hunain, ac yn aml iawn yn ofalwyr hefyd. Enghraifft ddiweddar a ddaeth i fy sylw yw canolfan ddydd y Drenewydd, y bwriedir ei chau am resymau logistaidd ac ariannol, a’r baich y mae hynny wedyn yn ei roi ar y gweithlu gwirfoddol lleol. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau ymagwedd fwy integredig tuag at gynnal o leiaf rai o’r canolfannau hyn a ariennir ac a gefnogir gan y cyngor, ac nid yn unig recriwtio gwirfoddolwyr newydd, ond sicrhau hefyd bod gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo yn cael gofal seibiant eu hunain, os mynnwch chi, fel y gallant barhau i gyfrannu at eu cymdeithas?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i grybwyll trosglwyddo asedau a pherchnogaeth gymunedol. Rwy’n credu mai’r hyn rydym yn ceisio ei wneud fel Llywodraeth yw galluogi cymunedau i gymryd meddiant a deall y risgiau hefyd, gan fod llawer o’r sefydliadau hyn sy’n cael eu symud o berchnogaeth gyhoeddus i berchnogaeth gymunedol yn anodd iawn i’w rhedeg weithiau yn ariannol ac yn gorfforol. Mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm weithio arno gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i weld a oes rhaglen y gallwn ei defnyddio i helpu cymunedau i ddod yn gryfach yn hynny o beth.

Digartrefedd

13. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru? OAQ(5)0046(CC)

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sicrhau bod pawb sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae ystadegau’n dangos bod digartrefedd wedi’i atal y llynedd i 65 y cant o’r holl aelwydydd a ddaeth dan fygythiad o fod yn ddigartref. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i adeiladu ymhellach ar y dechrau cadarnhaol hwn.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sicr yn falch o glywed bod y cyrff a’r sefydliadau sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru wedi rhoi adborth cadarnhaol ar ganlyniadau’r newidiadau a ddeilliodd o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. O’m rhan i, rwy’n sicr wedi fy nghalonogi gan y ffordd y mae’r mentrau hyn wedi fy nghynorthwyo i gefnogi etholwyr sy’n wynebu digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae’n debyg y gellir cymharu’r ffigurau a gyhoeddwyd ar y gwahaniaeth sylweddol yn y cyfraddau llwyddiant rhwng ardaloedd awdurdodau lleol o ran canlyniadau atal llwyddiannus—canlyniadau cymorth digartrefedd llwyddiannus a chyflawniadau cadarnhaol. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, felly, pa gamau sydd ar waith i alluogi awdurdodau lleol ledled Cymru i ddysgu o arferion gorau, lle y ceir tystiolaeth ohonynt yn ffigurau’r canlyniadau?

Wel, rwyf wedi gofyn i bob awdurdod lleol a grwpiau â diddordeb i adolygu’r ffigurau sy’n cael eu darparu ar eu cyfer fel bod yna ddull mwy safonedig o fesur hyn. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y 65 y cant, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn mesur yr un pethau. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sicrhau bod pawb sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael yr help sydd ei angen arnynt. Byddaf yn edrych ymhellach o ran gofyn am gyngor gan fy swyddogion ar sut rydym yn bwriadu dilyn y polisi hwn a chynyddu ein heffaith yn y dyfodol.

Hawliau Tenantiaid

14. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r gwahanol hawliau a roddir i denantiaid awdurdodau lleol a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? OAQ(5)0048(CC)

Cynhaliwyd asesiad llawn o hawliau tenantiaid landlordiaid cymdeithasol yn ystod y broses o ddatblygu Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Mae’r hawliau yn debyg yn fras, er bod rhai gwahaniaethau, megis yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael; eir i’r afael â gwahaniaethau eraill drwy Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Wel, a gaf i ofyn i’r Gweinidog adolygu hyn unwaith eto, achos fe welom ni drwy’r broses o gyfuno cymdeithasau tai Cantref a Wales & West Housing broses oedd yn gwbl ddiffygiol, yn fy marn i, am sawl reswm, ond, yn y cyd-destun yma, oherwydd diffyg ymgynghori llwyr gyda thenantiaid? Roedd cyfeiriad ganddo gynnau i’r broses o drosglwyddo stoc. Mae balot yn digwydd yn achos trosglwyddiadau stoc, ond, yn yr achos yma, nid oedd unrhyw ymgais i gael barn y tenantiaid. Mae’r Gweinidog yn dweud ‘na’, ond gallaf i ddweud wrtho fe mai rhyw bwt yn y cylchlythyr aeth i’r tenantiaid, er gwaetha’r ffaith, wrth gwrs, fel y dylai wybod, o dan y Ddeddf Tai 1985, mae gan denantiaid diogel, wrth gwrs, yr hawl statudol i ymgynghoriad, sydd ddim yn wir, wrth gwrs, am denantiaid sicr—cyferbyniad arall. Roedd y broses yn gwbl ddiffygiol. A gaf i ofyn iddo fe i roi’r un hawl i denantiaid RSLs ag sydd yna ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol?

Gallaf gymryd yn ganiataol yn ôl cwestiynau’r Aelod ei fod yn anghytuno gyda’r canlyniad. Yn anffodus, dyna oedd y canlyniad. Roedd y penderfyniad i uno a’r dewis o bartneriaid ar gyfer uno yn benderfyniad unfrydol a wnaed gan fwrdd Cantref. Dywedodd yr Aelod nad oedd unrhyw ymgynghori ac yna, fod ychydig o ymgynghori. Fe ymgynghorwyd â thenantiaid—ysgrifennodd Cantref at bob un o’i denantiaid, gan eu hannog i ymateb gydag unrhyw bryderon. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda grwpiau tenantiaid. Os yw’r Aelod yn argyhoeddedig fod hynny’n anghywir, yna dylai ysgrifennu ataf gyda’r manylion.

Caethwasiaeth Fodern

15. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ(5)0038(CC)

Fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid eraill ar ystod o faterion. Yn y cyd-destun hwn, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth, cefnogi dioddefwyr a helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Y ffaith amdani yw bod mwy na 13,000 o gaethweision yn y wlad hon, ac nid wyf yn gwybod faint yng Nghymru. A ydych yn ymgysylltu gyda’r heddlu mewn gwirionedd? Ceir canfyddiad cyffredinol nad oes ganddynt adnoddau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth, sydd hefyd yn cynnwys pob math o gaethwasiaeth—mae yna gaethweision rhyw, llafur rhad a Duw a ŵyr faint o broblemau cymdeithasol gwahanol ynghlwm wrth hyn. A oes digon o adnoddau yn eich adran i’r heddlu allu mynd i’r afael â’r gaethwasiaeth hon yng Nghymru, a’i dileu am byth?

Wrth gwrs rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn. Bydd yr Aelod yn gwybod fod plismona’n fater sydd heb ei ddatganoli, ond ni yw’r unig ran o’r wlad sydd â chydgysylltydd atal caethwasiaeth a gyflwynasom yma yng Nghymru. Mae’n gweithio’n hynod o galed ac mae cynhadledd ar y gweill yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf i ddod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Rwy’n trafod hyn gyda’r heddlu mewn perthynas â’r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn hyn o beth, ond mae hon yn drosedd gudd ac rydym yn annog pobl ym mhob cymuned, os ydynt yn ymwybodol o gaethwasiaeth gudd o’r fath, i roi gwybod i’r heddlu.

3. 3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol

Rydym ni’n symud ymlaen i eitem 3, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rydw i’n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6089 Lee Waters, Rhun ap Iorwerth, Huw Irranca-Davies, John Griffiths

Cefnogwyd gan David Melding, Janet Finch-Saunders

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol.

2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy’n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.

3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai’n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o fod ymhlith llawer o Aelodau o bob rhan o’r Siambr sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer dadl heddiw i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Fel y noda’r cynnig, mae gweithgarwch corfforol yn creu manteision lluosog i iechyd a lles, ac rydym yn wynebu bom amser o ordewdra. Rydym o’r diwedd yn cydnabod cystudd iechyd meddwl sy’n rhy aml yn gudd, ac mae yna heriau ehangach: y niwed a wnaed i’n hamgylchedd naturiol gan ollyngiadau carbon cynyddol y cyfranwyd atynt gan ein gorddibyniaeth ar geir; yr anghyfiawnder cymdeithasol o leoli gwasanaethau gan dybio bod gan bob teulu yng Nghymru gar at eu defnydd, a gorfodi’r 20 y cant tlotaf i dreulio chwarter eu hincwm ar redeg car. Rydym yn aml yn siarad am dlodi tanwydd fel rhywbeth sy’n berthnasol i aelwydydd sy’n gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar danwydd, ond nid ydym yn sôn am dlodi trafnidiaeth, sy’n taro’r tlotaf yn galetach na neb.

Mae yna rai ymyriadau a all effeithio ar draws heriau eang a hollbresennol o’r fath, ac mae teithio llesol yn un ohonynt. Efallai na fyddwch yn gallu perswadio pobl nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol i fynd i gampfa neu ar gae pêl-droed, ond mae modd creu amgylchedd sy’n annog teithio llesol, sy’n ymgorffori gweithgarwch corfforol yn rhan o’u harferion dyddiol. Mae potensial sylweddol i newid y ffordd rydym yn gwneud teithiau byr. Mae 20 y cant o deithiau car yn deithiau o dan un filltir o hyd, y math o daith y gellir ei gwneud mewn 20 munud ar droed. A hanner yr holl deithiau car—hanner—yn deithiau o dan bum milltir o hyd. Dyna bellter taith feic 30 munud nodweddiadol ar lwybr di-draffig, fel llwybr arfordir y mileniwm yn fy etholaeth, neu Lwybr Taf yma ym mae Caerdydd.

Ond mae yna rwystrau, nid yn lleiaf yr amgylchedd ffisegol sydd wedi annog y defnydd o geir ac wedi lladd awydd pobl i gerdded a beicio ar deithiau byr. Mae’r panel Foresight ar ordewdra wedi bathu’r ymadrodd ‘sy’n achosi gordewdra’ i ddisgrifio’r amgylchedd rydym wedi ei adeiladu, ac maent yn credu y bydd yn arwain at wneud 60 y cant o ddynion yn ordew erbyn 2050.

Nawr, gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 chwarae rhan bwysig yn herio hynny. Mae ganddi’r potensial i fod yn un o’r deddfau mwyaf radical o’r rhai a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r ymyrraeth iechyd cyhoeddus bwysicaf y gallwn ei chyflwyno i leihau’r pwysau ar y GIG. Mae data o gyfres hir o astudiaethau wedi dangos manteision helaeth annog gweithgarwch corfforol, o lai o risg o glefyd coronaidd y galon, canser, strôc, diabetes math 2, i wella’r gallu i ganolbwyntio, gwella hyder a lliniaru straen.

Ond un o’r heriau i weithredu’r agenda hon yw nad lle gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd yw ei gweithredu, ond gweithwyr proffesiynol trafnidiaeth. Ac o ran trafnidiaeth, mae hon yn agenda ymylol. Ers 50 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth wedi canolbwyntio’n bennaf ar greu mwy o le i geir ac adeiladu ffyrdd i ganiatáu i geir deithio’n gyflymach. Mae cerddwyr a beicwyr wedi cael eu gwthio o’r neilltu yn llythrennol. Felly, yr her ar gyfer gweithredu hyn yw newid y diwylliant hwnnw ac ni ddylem fychanu pa mor anodd fydd hyn. Yn ôl ym mis Chwefror, roedd y pwyllgor menter yn llygad ei le’n nodi’r ffaith fod angen arweiniad pendant ar y Ddeddf er mwyn iddi lwyddo. Ond yn yr un modd ag y mae angen arweiniad ar lefel weinidogol—a gwn fod Rebecca Evans a Ken Skates wedi ymrwymo’n llwyr i’r agenda hon—mae’n rhaid i ni weld arweiniad ar bob lefel i osod esiampl, i normaleiddio ymddygiad, fel roedd yn normal rai cenedlaethau’n ôl yn unig.

Mae arnom angen arweiniad gan rieni: yn hytrach na chlicio’u plant i mewn i gefn ceir ar gyfer teithiau byr—byr iawn weithiau—gwneud ymdrech i gerdded yn lle hynny. Mae arnom angen arweiniad gan beirianwyr priffyrdd, archwilwyr diogelwch a chynllunwyr trafnidiaeth, er mwyn cynnwys llwybrau croesawgar a chyfleus fel mater o drefn. Nod y rhwydwaith beicio cenedlaethol, er enghraifft, a ddatblygwyd gan yr elusen trafnidiaeth werdd, Sustrans, yw llunio llwybrau a fyddai’n teimlo’n ddiogel i berson ifanc 12 oed ar feic ar ei ben ei hun. Faint o’n lonydd beicio neu lwybrau cyd-ddefnyddio presennol y gellir dweud yn onest eu bod yn pasio’r prawf hwnnw?

Mae arnom angen arweiniad gan feddygon teulu sydd â’r hyder i annog pobl sy’n cario gormod o bwysau neu dan straen neu’n dioddef o un o’r nifer o gyflyrau y cyfrennir atynt gan anweithgarwch corfforol, i gadw’n heini, yn hytrach na rhagnodi tabledi fel mater o drefn. Mae arnom angen arweiniad gan ysgolion. Mae plant egnïol yn dysgu’n well. Mae Wythnos y Beic yn iawn, ond sut mae gwneud pob diwrnod yn ddiwrnod Cerdded i’r Ysgol, a phob wythnos yn Wythnos y Beic? I gyflogwyr, ceir digon o dystiolaeth fod gweithwyr sy’n beicio i’r gwaith yn absennol yn llai aml o’r gwaith oherwydd salwch, a bydd buddsoddi mewn cawodydd a mannau parcio beiciau yn cael ei ad-dalu mewn cynhyrchiant.

Felly, yn union fel y ceir manteision lluosog yn sgil cael hyn yn iawn, ceir cyfrifoldebau lluosog hefyd er mwyn ei gael yn iawn. Rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ystyried yn gyfrifoldeb sylfaenol, ac yn un sy’n cael ei grybwyll yn y cynnig, sef sicrhau ymgysylltiad llawn â chymunedau.

Nid pobl sy’n cerdded a beicio yw’r gynulleidfa darged ar gyfer yr agenda hon—maent yn ei wneud yn barod. Y bobl nad ydynt yn ei wneud yw’r gynulleidfa. Ni fydd stribed liw o darmac ar hyd ffordd brysur sy’n diflannu’n sydyn o dan geir wedi parcio yn gwneud y tro. Nid oes ond raid i ni edrych ar y strydoedd sydd wedi ceisio gwneud hynny i weld nad yw’n gwneud y tro. Y demtasiwn i gynghorau yw datblygu yn y man hawsaf, nid lle y ceir fwyaf o botensial i’w ddefnyddio. Mae hon yn agenda uchelgeisiol; bydd yn anodd a bydd yn cymryd amser. Ond mae angen i ni wybod i ble mae pobl yn dymuno mynd—y llwybrau y byddent yn cael eu temtio i roi cynnig arnynt. Mewn rhai cymunedau, efallai mai’r daith ddyddiol i’r gwaith fydd y llwybr sy’n annog pobl i fynd ar eu beiciau, mewn eraill, efallai mai taith ddydd Sadwrn i’r ganolfan hamdden leol fydd y llwybr hwn.

Mae angen i ni wybod hefyd am ymyriadau ehangach, y tu hwnt i seilwaith, a fydd yn eu hannog: hyfforddiant beicio ar ffyrdd go iawn i oedolion a phlant, mapiau ac arwyddion hawdd eu darllen, a bysiau cerdded i blant fynd i’r ysgol. Yr hyn sy’n hollbwysig yw na fyddwn yn gwybod hyd nes y byddwn yn gofyn. Eto i gyd, yn y broses ddiweddaraf i sefydlu a mapio’r holl lwybrau sydd eisoes yn bodoli, ni wnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau fwy na’r lleiafswm—holiadur ar-lein am y cyfnod gofynnol o 12 wythnos yn unig. Ar draws Cymru, 300 o bobl a gymerodd ran. Mae hynny’n llai na 0.01 y cant o boblogaeth Cymru. Mae’n hanfodol fod lleisiau ehangach yn cael eu clywed, ac os yw’r Ddeddf hon yn mynd i fod yn llwyddiant fel y gwn y gall fod, mae hynny’n golygu targedu pobl nad ydynt yn cerdded a beicio ar hyn o bryd.

Rwy’n canmol y fenter ar y cyd gan Sustrans Cymru, Living Streets, Cycling UK a Beicio Cymru i lansio adnodd syml, hawdd ei ddefnyddio ar y we i’w gwneud yn hawdd i bobl awgrymu llwybrau newydd ac wedi’u gwella. Ond gadewch i ni fod yn ddychmygus yn y ffordd rydym yn ei ddefnyddio—wrth gatiau’r ysgol ac mewn parciau trampolîn, mewn sinemâu a digwyddiadau dros dro, mewn gweithleoedd a meddygfeydd meddygon teulu. Bydd hyd oes y cynlluniau teithio llesol hyn rhwng 10 a 15 mlynedd a byddant wedi’u cysylltu â chyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Os na chawn yr ymgynghoriad cychwynnol hwn yn iawn, bydd adnoddau yr ymladdwyd yn galed amdanynt yn cael eu gwastraffu.

Mae’r manylion yn wirioneddol bwysig. Gellid gwario £500 ar lwybr newydd, ond gall giât neu rwystr heb ei ystyried yn iawn olygu na fydd yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi gweld llawer o lwybrau’n dioddef o hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cynnwys her yn y system. Dylai pobl leol allu herio ac awgrymu gwelliannau’n hawdd i gynghorau lleol. Mae angen i Lywodraeth Cymru gryfhau ei chyngor, er mwyn iddi allu herio’r cynlluniau a gyflwynir iddi gan yr awdurdodau lleol. Rydym wedi gweld o’r rownd gyntaf o fapiau fod yna ddigon o le i herio. Mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Mae’r Llywodraeth wedi penodi’r cynllunydd lleoedd mawr ei barch, Phil Jones, i arwain y grŵp arbenigol ar gyfer cytuno’r canllawiau statudol i gyd-fynd â’r Ddeddf, ac mae’r canllawiau hynny’n dda iawn.

Mae angen hyfforddiant a chymorth ar y rhai ar y rheng flaen yn awr i sicrhau y gallant ei gymhwyso’n iawn, ac argymhelliad allweddol y canllawiau cynllunio ar gyfer y Ddeddf teithio llesol yw ymgynghori da ar gamau cynnar er mwyn helpu i osgoi penderfyniadau gwael. Fel y mae’n dweud:

Po fwyaf o gyfle a gaiff pobl i lunio a dylanwadu ar gynlluniau cerdded a beicio ar gyfer eu hardal leol, y mwyaf tebygol y byddant o’u defnyddio.

Cael hyn ar y llyfr statud, Lywydd—y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gwblhau’r daith o ddeiseb i dderbyn cymeradwyaeth frenhinol—oedd y rhan hawdd. Mae hon yn ddeddfwriaeth radical a dylid cymeradwyo’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i ddangos tuag at agenda sy’n cael ei hesgeuluso’n rhy aml. Ond ni fydd y ddeddf bwysig hon yn gweithio oni chaiff ei gweithredu’n radical, a dyna pam rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw. Diolch.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl arbennig o bwysig yma, a diolch yn fawr i Lee Waters am agor y ddadl mewn ffordd liwgar fel yna ac am esbonio hanfodion y ddadl, yn enwedig ynglŷn â phwysigrwydd y Ddeddf teithio llesol, a hefyd yr angen i ni feddwl nid jest bod y ddeddfwriaeth yna, ond bod angen i ni i gyd weithredu arni hi, achos mae e i gyd i lawr i ni fel cymdeithas i ddilyn yr egwyddorion a gweithredu. Achos, fel rwyf wedi dweud o’r blaen yma, mae pwysigrwydd cadw’n heini yn allweddol—bod yn ffit yn allweddol. Bydd rhai ohonoch chi yn bownd o fod yn cofio’n awr achos rwyf wedi olrhain y ffigurau yma o leiaf dwywaith yn y mis diwethaf: os ydych chi yn ffit, yn heini, mae lefel y siwgr yn eich gwaed chi 30 y cant yn llai, mae lefel y colesterol yn eich gwaed chi 30 y cant yn llai na phetasech chi ddim yn ffit, mae’ch pwysau gwaed chi 30 y cant yn is na phetasech chi ddim yn ffit, ac mae’ch pwysau chi’n gyffredinol yn llai o fod yn ffit. Fel rwyf i wedi darogan eisoes, nid oes yna dabled ar wyneb daear sydd yn dod â’r math yna o ganlyniadau llwyddiannus.

Hefyd, i ateb un o’r pethau ynglŷn â’n bod ni feddygon teulu weithiau yn rhy barod i roi tabledi allan i bobl, wel, dyma’r ateb. Dyma i chi ffurf—cadw’n heini—sy’n cymryd lle’r dabled a hefyd yn hynod fwy effeithiol na thabled arferol. Deg mil o gamau sydd angen eu cymryd bob dydd. Deg mil, ac mae’n ddigon posib cyflawni hynny hyd yn oed yn y lle yma drwy beidio â defnyddio’r lifftiau.

Wrth gwrs, nid jest y rheini sy’n gorfforol ffit ydym ni’n sôn amdanyn nhw rŵan. Mae’r sawl sydd hefyd â salwch hirdymor—os ydych chi’n dod yn fwy ffit, hyd yn oed pan fo yna glefyd ar eich ysgyfaint chi fel COPD ac ati, neu glefyd y galon, er bod y clefydau tymor hir yna gennych chi, mae e hefyd yn gwella safon ac ansawdd eich bywyd chi. Mae’ch symptomau chi’n gwella. Rydych chi’n llai byr o anadl o ddod yn ffit er bod yna nam ar eich ysgyfaint chi neu eich calon chi. Dyna ydy sail y rhaglenni adferiad yna ydych chi’n eu cael yn eich ysbytai ac hefyd yn ein meddygfeydd ni—y ‘pulmonary rehabilitation’ a ‘cardiac rehabilitation’, y gwasanaethau yna. Maen nhw’n gwneud pobl yn fwy hyderus ac yn fwy ffit yn gyffredinol iddyn nhw allu ymdopi â’r salwch tymor hir sydd gyda nhw eisoes.

Felly, mae’n galw am sialens ac mae’n ein galw ni i gyd—yr agenda hwn—i ni fynd i’r afael â’r peth o ddifrif rŵan, achos rydym ni’n gwybod yr ystadegau am ordewdra a phob peth fel yna. Mae angen mynd i’r afael â’r sefyllfa yma.

Hefyd, gan fynd nôl at yr agwedd o’r Ddeddf teithio llesol, mae angen ei gwneud hi’n haws i allu mynd ar feic neu gerdded i lefydd fel mae Lee Waters wedi olrhain eisoes. Mae angen buddsoddiad, os ydym ni’n mynd i farchogaeth beic i’n lle gwaith, i gael cawodydd a llefydd i newid yn y lle gwaith, yn ogystal. Mae hynny angen buddsoddiad, ond mae angen y weledigaeth i greu hynny yn unol â’r Ddeddf teithio llesol, sydd yn fwy pwysig. Ond mae angen meddwl yn ehangach. Os ydych chi wedi trio erioed i gerdded o gwmpas Bae Caerdydd—mynd o fan hyn i ganol y ddinas yma, mae’n anodd ar droed. Wrth gerdded, mae e’n anodd iawn. Mae’n anodd iawn ffeindio palmant yn y lle cyntaf, heb sôn am fynd ar feic o Fae Caerdydd i ganol y ddinas yma. Felly, y neges yw: mae hon yn sialens i ni i gyd, ffit ai peidio ar hyn o bryd. Nid yw hi byth yn rhy hwyr. Fe allwn ni i gyd wella ansawdd ein hiechyd jest wrth gerdded i bob man. Mae hi i lawr i awdurdodau sy’n cynllunio ffyrdd, a ffyrdd eraill o fynd o gwmpas y lle. Mae angen i’r datblygiadau hynny gymryd i mewn i gof yr angen i’w gwneud hi’n hawdd inni allu marchogaeth beic a cherdded i bob man. Cerdded am 30 munud, bum gwaith yr wythnos: dyna’r lefel ffitrwydd sydd ei hangen. Bydd llai o alw wedyn ichi fynd i weld y meddyg teulu i gael eich tabledi ar ddiwedd y dydd. Diolch yn fawr.

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar weithgarwch corfforol. Yn gyntaf oll, rwyf am ailadrodd pa mor bwysig yw hi fod plant yn cael cymaint o weithgarwch corfforol â phosibl, a dylid adeiladu’r gweithgarwch corfforol hwnnw’n rhan o’u diwrnod. Nid ydym eisiau magu cenedl o bobl ddiog, gan ein bod yn gwybod pa mor dda yw gweithgaredd corfforol i ni, fel y mae ein meddyg newydd ddweud wrthym. Wrth gwrs, fe wyddom ei fod yn dda iawn ar gyfer iechyd meddwl yn ogystal. Ddoe, roedd llawer o sôn am achlysur emosiynol iawn digwyddiad y Samariaid yn y Pierhead, pan siaradodd Nigel Owens mor deimladwy am ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn dda iawn i’ch iechyd meddwl.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei adroddiad ar gyfer 2016, ‘Gwneud Gwahaniaeth’, bob blwyddyn, mae anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru a gallai mwy o feicio a cherdded mewn ardaloedd trefol arbed £0.9 biliwn i’r GIG yng Nghymru dros 20 mlynedd. Felly, mae llawer iawn o wahaniaeth y gellid ei wneud i’r ffordd y caiff ein gwasanaeth iechyd ei weithredu. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw annog plant i ddechrau patrymau ymddygiad da, iachus o gam cynnar yn eu bywydau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio ar y pwynt hwn fod llawer o’r gweithgareddau y mae plant yn eu gwneud y tu allan i’r ysgol yn costio cryn dipyn o arian i rieni. Clybiau pêl-droed, nofio a thenis—mae’n rhaid i rieni dalu am lawer o hyn o’u pocedi eu hunain mewn gwirionedd. Dyna pam y mae hi mor bwysig fod llawer o’r hyn sy’n cael ei wneud yn cael ei gynnwys yn rhan o’n system addysg.

Hoffwn ganmol y mentrau bysiau cerdded a grybwyllodd Lee Waters yn ei gyflwyniad. Yn benodol, hoffwn ganmol y fenter bws cerdded yn Ysgol y Wern yn fy etholaeth i, sy’n cael ei chefnogi erbyn hyn gan gyd-heddlu y Rhingyll Louise Lucas, a laddwyd mor drasig wrth iddi groesi’r ffordd yn Abertawe ym mis Mawrth y llynedd. Yn anffodus, bu mwy o gyhoeddusrwydd am hynny dros y dyddiau diwethaf. Mae ei chydweithwyr yng ngorsaf yr heddlu Llanisien yn benderfynol o barhau â’r bws cerdded i’r ysgol roedd hi wedi’i ddechrau. Euthum ar y bws cerdded fy hun yr adeg hon y llynedd. Rwy’n meddwl bod y fenter bws cerdded yn ffordd dda iawn o gynnwys ymarfer corff ym mywydau plant, ac rwy’n meddwl ei fod yn wych i rieni wybod bod eu plant yn ddiogel wrth gerdded i’r ysgol. Felly, credaf fod honno’n fenter sydd angen i ni ei hybu a’i rhannu gymaint â phosibl. Cafodd y fenter benodol honno ei chefnogi’n gryf iawn gan Sustrans, yr awdurdod lleol a’r heddlu.

Cerdded, wrth gwrs, yw’r gweithgaredd hawsaf a mwyaf hygyrch y gallwn i gyd ei gynnwys yn ein bywydau. Dyna pam rwy’n cefnogi’r Ddeddf teithio llesol yn fawr, fel pobl eraill yma, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar gynllunio llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio. Mae Lee Waters eisoes wedi crybwyll y methiant—efallai—i ymgysylltu yn y rownd gyntaf o ymgynghori. Rwy’n credu ei fod wedi dweud mai 300 o ymatebion yn unig a ddaeth i law i’r ymgynghoriad cyntaf drwy Gymru gyfan. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn awr ein bod yn ceisio cael llawer mwy o safbwyntiau ynglŷn â ble y dylai’r llwybrau fod. Os bydd pobl yn cymryd rhan yn y broses o benderfynu ble mae’r llwybrau hyn, mae’n llawer mwy tebygol y byddant yn eu defnyddio.

Y pwynt olaf roeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd ynglŷn â rhai o’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau sy’n bodoli o ran cerdded a beicio. Roedd gwybodaeth gan Sustrans yn gynharach eleni yn tynnu sylw at y ffaith y dylai awdurdodau lleol gofio bod yna wahaniaeth rhwng y rhywiau yn y ffordd y mae menywod eisiau beicio, er enghraifft. Mae menywod, er enghraifft, yn llawer mwy awyddus na dynion i feicio pan fo llwybrau beicio ar wahân ar gael.

Y mater arall yw fy mod yn meddwl bod yna wahaniaeth mawr rhwng nifer y menywod sy’n beicio a nifer y dynion. Dim ond 34 y cant o fenywod yng Nghaerdydd a ddywedodd eu bod yn beicio, o gymharu â 66 y cant o ddynion. Felly, mae hwnnw’n wahaniaeth eithaf mawr, ac unwaith eto, yng Nghaerdydd oedd hynny—arolwg a gynhaliwyd gan Sustrans. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gadw mewn cof pan fyddwn yn cynllunio’r pethau hyn fod yna gwestiynau rhyw-benodol y dylem edrych arnynt.

Yn olaf, cawsom Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch ddoe. Rwy’n meddwl bod y dyddiau rhyngwladol hyn yn bwysig iawn, gan eu bod yn gwneud i ni gofio a thynnu sylw at faterion gwahanol. Hoffwn sôn yn gyflym am ferched a chwaraeon oherwydd, yn anffodus, mae merched yn dal i lusgo ar ôl bechgyn o ran gwneud gweithgarwch corfforol ar ffurf chwaraeon. O ran y rhai sydd â’u bryd ar chwaraeon, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwaraeon yn mynd â bryd 52 y cant o fechgyn a 44 y cant yn unig o ferched. Mae wedi codi, ond mae yna hefyd wahaniaeth mawr rhwng plant ysgol mewn ardaloedd difreintiedig ac yn ôl grŵp ethnig, gyda’r lefel isaf o gyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith merched Asiaidd, gyda 28 y cant yn unig yn cymryd rhan. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o bethau i edrych arnynt.

Rwy’n ddiolchgar iawn yn wir i Lee Waters AC am gychwyn y ddadl hon, i gofnodi, mewn gwirionedd, peth cydnabyddiaeth o’r gwaith a wnaethoch yn flaenorol dros flynyddoedd lawer yn ymladd, wyddoch chi, gyda brwdfrydedd ac angerdd dros greu ffocws gwirioneddol i brif nodau a diben y Ddeddf teithio llesol.

Wyddoch chi, mae wedi cael ei ddweud yma, onid yw, fod effeithiau a manteision gweithgarwch corfforol rheolaidd i iechyd a lles wedi’u cofnodi’n dda, ac yn fwy na hynny hyd yn oed, wedi’u profi. Gall ymarfer corff rheolaidd leihau cyfraddau marwolaethau 39 y cant, ymestyn disgwyliad oes, lleihau’r risg o gael strôc 27 y cant, lleihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2 60 y cant, a’r risg o ddatblygu canser y colon, y fron neu’r groth 20 y cant, a gall osgoi crebachu’r ymennydd i helpu i atal dementia. Ceir hwb i endorffinau a serotonin fel therapi naturiol i’r rhai sy’n cael teimladau o ddiffyg hunan-barch, ynysu, straen ac iselder—ffactor allweddol sy’n cyfrannu at ein hymyrraeth atal a’n hagenda gofal iechyd darbodus. 35 y cant yn unig o blant Cymru sy’n gwneud awr y dydd o weithgarwch corfforol. O’r rheini sy’n byw o fewn llai na hanner milltir i’w hysgol gynradd, caiff 30 y cant eu cludo yno yn y car bob dydd, a 2 y cant yn unig sy’n beicio i’r ysgol gynradd—a llai na hynny hyd yn oed, 1 y cant, i’r ysgol uwchradd.

Mae anweithgarwch corfforol yn fater sy’n effeithio ar oedolion hefyd—mae 34 y cant o bobl heb wneud unrhyw fath o deithio llesol yn y saith niwrnod diwethaf, ac yn fwy trawiadol, roedd 35 y cant yn dweud mai anaml, os o gwbl, roeddent wedi cerdded yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hwnnw’n ystadegyn eithriadol o wael. Siaradwch ag unrhyw un sydd wedi colli eu gallu i symud drwy gwymp neu ddamwain, a sut y mae eu bywydau wedi newid yn sylweddol er gwaeth, ac nid ydynt yn cael y cyfle mwyach, ar ôl colli eu gallu i symud, i allu cymryd rhan mewn unrhyw beth.

Nododd yr Athro Stuart Cole yn ei adroddiad i’r Gweinidog blaenorol y llynedd fod lefelau cyllid ar gyfer teithio llesol yn isel, ar £5 y pen yn unig, o’i gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU, sy’n gwario ddwywaith cymaint. Canfu Cycling England fod £10 y pen yn unig wedi arwain at gynnydd o 27 y cant mewn beicio yn eu trefi arddangos beicio dros dair blynedd. Yn yr Iseldiroedd, maent yn gwario tua £25 y pen, ac mae bron i draean o’r bobl yn rhestru beicio fel eu prif fath o gludiant. Yn Sydney—cynnydd o 82 y cant mewn beicio mewn dwy flynedd yn unig o ganlyniad i fuddsoddiad pum mlynedd yn strategaeth feicio’r ddinas, gan gynnwys adeiladu 55 km o draciau beicio i’w cwblhau eleni. Cymharwch hynny â ni yma yng Nghymru.

Mae cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â chanllawiau cynlluniau’r Ddeddf teithio llesol i oedolion yn hanfodol. Maent wedi cyflawni’r hyfforddiant technegol, ond mae’n rhaid nodi pryderon am effeithiolrwydd monitro cyllid grantiau teithio llesol yn y fan hon heddiw, a byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod sut y mae hyn yn cael ei weithredu mewn gwirionedd. Ar ben hynny, mae ymgysylltiad eang a chynnar awdurdodau lleol yng ngham nesaf y Ddeddf teithio llesol yn hanfodol. Mae’r adnodd ar-lein a lansiwyd gan Cycling UK, Sustrans Cymru, Living Streets a Beicio Cymru i alluogi pobl i gysylltu â’u hawdurdodau lleol wedi arwain at dros 600 o bobl yn cymryd rhan yn y ffordd hon, mwy na dwbl y nifer a gymerodd ran ar y cam cyntaf. Fodd bynnag, rydym yn awr yn bwriadu gwella’r ymgysylltiad hwnnw â grwpiau lleol o bobl â nam ar y synhwyrau i sicrhau bod lleisiau pobl ddall, pobl rhannol ddall neu bobl sy’n drwm eu clyw yn cael eu clywed.

Mae adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru 2015 ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn methu ystyried cynnydd yn y defnydd o lwybrau teithio llesol a sut y mae hyn yn mynd i gael ei ystyried pan fydd y mapiau rhwydwaith integredig yn eu lle. Hoffwn alw felly am adolygiad gan Lywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu’n allanol ar sut y caiff cynnydd ei gofnodi o dan y Ddeddf, er enghraifft gan ddefnyddio profiad y bwrdd teithio llesol gyda phartner academaidd. Mae Sustrans a rhanddeiliaid eraill ar y bwrdd teithio llesol wedi galw am gyflwyno targedau ystyrlon ar gyfer cynyddu teithio llesol. Mae’n effeithiol yn yr Alban, lle mae set o ddangosyddion yn y cynllun gweithredu ar feicio wedi’u cysylltu ag 1 y cant y flwyddyn o gynnydd mewn cyllid trafnidiaeth, gan arwain at adroddiadau o ansawdd llawer gwell. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud a fyddwch yn ceisio cyflwyno targedau o’r fath?

Lywydd, mae uchelgeisiau’r Ddeddf teithio llesol i’w canmol, ond mae llawer i Lywodraeth Cymru ei wneud yn awr i wireddu’r uchelgeisiau hyn. Diolch.

Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, Lywydd, ein bod wedi bod yn cael cyfarfodydd ers peth amser bellach yng Nghasnewydd, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o’u galw ynghyd rhwng y bwrdd iechyd lleol, ac iechyd y cyhoedd yn arbennig, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau tai, gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a gymerodd y gwaith trosglwyddo stoc a’r prif stadau gan gyngor Dinas Casnewydd, clybiau chwaraeon ac amryw o rai eraill. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw ceisio gwneud poblogaeth Casnewydd yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach. Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi rhai o’r mentrau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hynny i weld a ydynt yn effeithiol, eu bod yn gweithio ac y gellid eu cyflwyno ledled Cymru, oherwydd rwy’n credu ein bod angen cynlluniau peilot i brofi rhai o’r partneriaethau hyn. Oherwydd oni bai ein bod yn adeiladu partneriaethau gwirioneddol eang, a dwfn yn wir, mae’n ymddangos i mi nad ydym yn mynd i gael y newid ar y raddfa fawr sydd ei angen arnom i gael Cymru’n fwy gweithgar yn gorfforol ac yn iach, gyda’r holl fanteision amlwg sy’n deillio o hynny.

Mae angen i ni fod ar y droed flaen mewn perthynas ag iechyd, yn hytrach na bod yn adweithiol yn bennaf, ac rwy’n credu bod poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yn rhan fawr o’r ymdrech honno. Felly, yn yr un modd ar gyfer teithio llesol, rwy’n credu bod arnom angen partneriaeth system gyfan os ydym yn mynd i wneud teithio llesol ar gyfer teithiau byr yn ddewis rheolaidd. Bydd angen cynllunwyr arnom i gefnogi’r gwaith, a bydd arnom angen awdurdodau lleol a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus o ran y ffordd y maent yn hwyluso teithiau llesol i ac o’r gwaith ymhlith eu staff. Wrth gwrs, bydd angen i ni gael ysgolion, efallai, i wneud hyd yn oed rhagor ar lwybrau diogel i ysgolion, hyfforddiant beicio, a darparu beiciau weithiau, gobeithio, i blant mewn amgylchiadau mwy difreintiedig nad oes ganddynt feiciau, efallai drwy gynlluniau cymunedol lle y caiff beiciau eu rhoi, eu trwsio a’u gwneud yn ddefnyddiadwy eto. Hefyd, wrth gwrs, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. Rydym yn siarad am bartneriaethau sector cyfan os ydym yn mynd i gael newid ar raddfa fawr; credaf fod hynny’n berthnasol i weithgarwch corfforol yn gyffredinol, ac mae’n berthnasol i deithio llesol hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gamu ymlaen yn yr ysbryd hwnnw ar lefel Llywodraeth Cymru, ar lefel llywodraeth leol, gyda’r holl bartneriaid allweddol ar ôl y ddadl hon heddiw.

Clywsom yn gynharach, Lywydd, gan Lee Waters, wrth agor y ddadl, am fanteision gwych a natur radicalaidd y Ddeddf teithio llesol. Wel, os caf ddweud, Lywydd, fel y Gweinidog a gafodd y fraint o dywys y ddeddfwriaeth teithio llesol drwy’r Cynulliad a’i rhoi ar y llyfr statud, cytunaf yn fawr iawn â fy nghyd-Aelod Lee Waters a llawer o siaradwyr eraill yn y ddadl hon heddiw, rwy’n siŵr. Rwy’n credu ei bod yn radical. Rwy’n credu y gallai gyflawni newid sylweddol o ran gweithgarwch corfforol ac iechyd, yr amgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd yn gyffredinol yng Nghymru. Felly, o ystyried yr addewid hwnnw, y potensial hwnnw, rwy’n gobeithio’n fawr iawn, ar ôl heddiw, y byddwn yn symud ymlaen i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn llawn, yn frwdfrydig ac mewn modd amserol. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau y cyflwynwyd y cynnig hwn yn eu henwau heddiw. Fe ganolbwyntiaf fy sylwadau ar ddau bwynt cyntaf y cynnig, ac wrth wneud hynny, fe ddychwelaf at thema a gafodd sylw gennyf ychydig wythnosau’n ôl yn fy nadl fer ar addysg awyr agored yng Nghymru.

Fel y noda’r cynnig, nid yw ychydig o dan ddwy ran o dair o blant Cymru yn cael yr awr a argymhellir o weithgarwch corfforol bob dydd sydd ei hangen arnynt i aros yn iach. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac i adleisio maint yr her, hoffwn ailadrodd ystadegyn arall a wnaeth argraff fawr arnaf: mae tri chwarter y plant yn y DU yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai.

Mae gweithgarwch corfforol yn yr awyr agored, boed ar ffurf teithio llesol neu addysg yn yr awyr agored, yn dda i iechyd corfforol a lles meddyliol, ac mae yna heriau sylweddol sydd angen i ni fynd i’r afael â hwy mewn hen gymunedau diwydiannol, fel fy un i yn arbennig. Er enghraifft, mae ystadegau diweddar yn dangos bod tua 63 y cant o oedolion yn ardal fy awdurdod lleol sef Rhondda Cynon Taf yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, mae 14 y cant o drigolion yn dweud eu bod yn cael triniaeth at salwch meddwl, ac mae dros chwarter yr oedolion yn ysmygu. Mae codi lefelau gweithgarwch corfforol o oed cynnar yn cynnig un ateb i’r canlyniadau iechyd gwirioneddol heriol hyn.

Rydym hefyd yn wynebu anhwylder diffyg natur, lle mae ein plant a phobl ifanc wedi’u hynysu rhag y byd y tu allan i garreg eu drws, sydd ynddo’i hun yn codi cwestiynau ynglŷn â’n hymagwedd tuag at faterion pwysig yn ymwneud â chynaliadwyedd yn y dyfodol. 13 y cant yn unig o blant Cymru a oedd yn ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â’r awyr agored, yn ôl y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ffigur is nag yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Llundain hyd yn oed. Ac unwaith eto, er nad dyna’r unig ateb, ni all annog teithio llesol niweidio ein cysylltiad â’r byd ehangach.

Rwyf hefyd yn credu bod pedwaredd ran y cynnig yn gwneud pwynt pwysig am ein dull o weithredu. Mae angen i ni ddatblygu atebion cydgysylltiedig rhwng cymunedau a rhanddeiliaid, er mwyn cysylltu cyrchfannau â llwybrau teithio newydd a gwell. Er enghraifft, roedd papur pwysig a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfleoedd naturiol a ddarperir gan y tirlun yn y Rhondda yn nodi bod dros 700 km o lwybrau a llwybrau cerdded sefydledig yn fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, yn cysylltu cymunedau a phentrefi â choetiroedd a mynyddoedd. Mae’n amlwg fod gan y rhain ran i’w chwarae yn annog teithio llesol.

Ar bwynt tebyg, er fy mod wrth fy modd mai Parc Gwledig Cwm Dâr, yn fy etholaeth, fydd y lleoliad ar gyfer ysgol feithrin natur gyntaf Cymru i blant rhwng dwy a phump oed, rwy’n awyddus i rwydweithiau teithio llesol gael eu datblygu i alluogi plant a’u teuluoedd i gyrraedd y cyrchfan hwn. Os mai diben yr ysgol feithrin yw annog ein plant i allu cymryd rhan yn yr addysg awyr agored sydd wedi bod mor fuddiol o ran iechyd, hyder a lles mewn gwledydd eraill, yn sicr mae’n rhaid i ni weithio i ddatblygu cyfleoedd teithio llesol ategol, fel bod y daith yn dod yr un mor bwysig â’r cyrchfan. Diolch.

Diolch i Lee am gychwyn y ddadl. Oes, mae manteision iechyd hirdymor i weithgaredd corfforol, a allai hefyd drosi’n fanteision ariannol hirdymor, hynny yw, os gallwn leihau cyflyrau megis gordewdra a diabetes. Rwy’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn awr yn ceisio defnyddio dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â’r mater hwn, sydd yn anochel yn rhychwantu nifer o wahanol adrannau’r Llywodraeth.

Yn UKIP Cymru, rydym yn croesawu cyfranogiad Chwaraeon Cymru, er enghraifft, yn hyrwyddo chwaraeon ymysg y rhai nad ydynt wedi bod yn gorfforol egnïol o’r blaen, ac mae hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Mae’n bosibl y gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) chwarae rhan fawr yn helpu gyda’r amcan o gynyddu gweithgarwch corfforol. Mae angen i ni gael mwy o bobl i deithio i’r ysgol, i’r gwaith, a hyd yn oed i’r siopau. I’r perwyl hwn, gall targedau helpu weithiau—pwynt a wnaeth Janet yn gynharach—a nodaf eu bod ar hyn o bryd yn Lloegr yn ystyried targed i sicrhau bod 55 y cant o blant ysgol yn cerdded i’r ysgol erbyn 2025. Er bod hwn yn darged uchelgeisiol, os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru), yna efallai y dylem ystyried gosod targed tebyg yma yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol yma yn dechrau ymateb i ysgogiad grwpiau fel Living Streets, sy’n cefnogi cerdded, a Sustrans, sy’n hybu seiclo. Rydym yn gweld y grwpiau hyn yn dod â’r gymuned leol i mewn gyda mentrau fel archwiliadau stryd cymunedol, sy’n ceisio edrych ar wahanol lwybrau o safbwynt cerddwyr. O hyn, gall cynghorau ddysgu pa fesurau sydd angen eu cyflwyno i wella mynediad i gerddwyr, fel bolardiau a rheiliau mewn rhai achosion, sy’n galw am fuddsoddiad bach, ac mewn achosion eraill, adleoli person lolipop, neu groesfan sebra. Yn fy ardal i, sef Treganna yng ngorllewin Caerdydd, mae gennym bellach gynllun rhedeg a pharcio a rhodio, sy’n gwneud i blant gerdded rhan o’r llwybr i’r ysgol. Yn gyntaf, maent yn cerdded i fan parcio diogel, ac yna fe gânt eu cludo, ond o leiaf fe gânt gerdded rhywfaint o’r ffordd. Y cynllun arall a hyrwyddir gan Cymru Fyw ar gyfer cerdded yw’r bws cerdded, fel y soniwyd eisoes, lle mae plant yn cerdded yr holl ffordd mewn gorymdaith wedi’i threfnu, gan hel mwy o gerddwyr ar y ffordd.

Beicio yw’r gweithgaredd pwysig arall sy’n gallu helpu iechyd hirdymor. Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau. Mae Sustrans yng Nghaerdydd, er enghraifft, wedi cwestiynu’n gyson y cyfleusterau sydd ar gael i feicwyr yng ngorsaf fysiau Caerdydd sydd i’w hailddatblygu’n fuan. Fel y mae’r Gweinidog yn ymwybodol mae’n siŵr, mae yna waith mawr yn digwydd ar ailddatblygu swyddfeydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, a fydd yn arwain at orsaf fysiau lai o faint. Mae’r newid hwn hefyd wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â chyfleusterau beicio. Felly, rwyf am ofyn pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i sicrhau bod cynghorau lleol yn cadw at amcanion teithio llesol drwy ddarparu cyfleusterau beicio digonol yn ein prif ganolfannau trafnidiaeth? Ac a ydym i gael unrhyw dargedau ar gerdded i’r ysgol? Diolch.

Gan ei bod yn ymddangos fod consensws eang ar draws pob plaid yma, rwyf eisiau cyflwyno ychydig o frys a her i’r ddadl hon o bosibl. Mae’r pedwerydd cymal yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai’n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da. Rhif 1: Hoffwn awgrymu bod Dai Lloyd yn rhoi cynnig ar Rodfa Lloyd George fel llwybr i ganol y ddinas, gan ei fod yn llwybr beicio a cherdded gwych nes i chi gyrraedd Sgwâr Callaghan ac yna mae’n beryg bywyd. Felly, byddai’n wych pe gallech ei ddilyn ac yna gwneud argymhellion i gyngor Caerdydd ar sut i’w wneud yn fwy diogel, gan ei fod yn wych wrth i chi fynd ar hyd Rhodfa Lloyd George ac mae’n eithaf erchyll ar ôl i chi gyrraedd canol y ddinas. Felly, dyna un peth.

Un o’r pethau pwysicaf rydym yn ei wneud yw derbyn ysgolion sy’n ymweld â’r Senedd o’n hetholaethau, ac fe addewais ofyn fel mater o drefn i’r holl ysgolion sy’n ymweld o fy etholaeth i ‘Sut y teithioch chi i’r ysgol y bore yma?’, oherwydd mae’n ddadlennol iawn, rwy’n teimlo, er bod cyfran sylweddol sydd naill ai’n cerdded neu’n beicio, serch hynny mae yna gyfran sylweddol iawn o bobl ifanc hefyd sy’n byw o fewn milltir i’w hysgol gynradd ac sy’n mynd yno mewn car. Mae hynny’n nonsens llwyr yn wir. Nid yw’n dda i’r plentyn, nac yn dda i’r amgylchedd, nac yn dda i’r gymuned. Felly, mae gwir angen i ni osod hyn yn uwch ar yr agenda. Dylai fod yn hollol orfodol i bob ysgol feddu ar bolisi teithio llesol fel bod modd i ni ddweud wrth unrhyw un sy’n cytuno i fynychu’r ysgol honno, ‘Dyma’r llwybr teithio llesol y dylech fod yn ei deithio heddiw. ‘

Roeddwn yn siarad â phennaeth ysgol yn un o etholaethau’r Cymoedd, rwy’n meddwl, a ddywedodd, ‘Wel, mae fy ysgol ar gopa bryn uchel.’ Rwy’n cydnabod bod honno’n her fawr i blentyn feicio i’r ysgol, nid yn unig am ei fod i fyny’r rhiw, oherwydd gall pobl ifanc feicio i fyny rhiwiau, ond oherwydd mai mynd i lawr rhiwiau yw un o’r pethau mwyaf peryglus am feicio ac ni ddylai’r dibrofiad wneud hynny. Ond mae ei phlant yn cerdded i’r ysgol, am mai dyna beth rydym yn ei wneud, a beth rydym bob amser wedi’i wneud. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fynnu llawer mwy gan ein rhieni a gofyn iddynt pam y maent yn cludo eu plant i’r ysgol er ein bod yn gwybod y byddant yn fwy parod i ddysgu yn y bore o fod wedi gwneud i’r gwaed lifo’n gynt yn eu pennau drwy gerdded neu feicio i’r ysgol.

Mae gennym raglen addysg i’w gwneud gyda’n teuluoedd, gan fy mod yn credu y byddai llawer o blant nad ydynt yn cerdded neu’n beicio ar hyn o bryd yn hoffi gwneud hynny. Felly, yn union fel y mae gennym gynllun prynu beic ar gyfer ein staff yn y Cynulliad Cenedlaethol, a nifer wych wedi manteisio arno yn fy marn i, hoffwn awgrymu, fel y mae John Griffiths wedi awgrymu, y dylem geisio cael cynllun prynu beic ar gyfer ein holl ysgolion, yn enwedig i’r rhai sy’n gwario hyd at 20 y cant o’u hincwm, fel y dywedodd Lee Waters, ar deithio, sy’n amlwg yn fater o bwys o ran eu hincwm teuluol ac un a fyddai’n lladd sawl aderyn ag un garreg. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem fod yn cynnwys y sector gwirfoddol ynddo a chael grantiau i bobl allu ad-dalu cost y beic yn raddol wedyn.

Rwy’n sylweddoli bod y darlun yn llawer mwy cymhleth mewn ardaloedd gwledig, ond rwy’n cynrychioli etholaeth drefol ac nid oes unrhyw esgus, mewn gwirionedd, pam na all unrhyw un o’r bobl ifanc yn fy etholaeth, ac eithrio rhai yn y system ofal o bosibl neu blant anabl wrth gwrs—.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod yn mynd i’r ysgol naill ai drwy gerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae llawer mwy sydd angen i ni ei wneud. Rwy’n credu bod yr ysgol yn lle da i ddechrau drwy ymwneud â theuluoedd a’u herio o ddifrif, ‘A ydych yn mynd i fod yn mynd â’ch plentyn i’r gwaith?’, oherwydd pam ar y ddaear rydym yn mynd â hwy i’r ysgol uwchradd? Felly, os gallwn gael ysgolion i fod yn fan lle gallwn drafod sut y gallai plant gyrraedd yr ysgol yn ddiogel drwy wneud mân newidiadau i’r dirwedd amgylcheddol sy’n achosi gordewdra, sef ein cynlluniau ffyrdd, yna gallai hynny (a) eu cael i ddeall yn well fod yna lwybrau diogel i’r ysgol a (b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hynny’n wir. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth yn gryf i sicrhau bod hyn yn rhan lawer mwy canolog o’i hagenda les yn gyffredinol.

Rwy’n galw ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Diolch i chi, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod wedi nodi yn fy natganiad llafar yn ddiweddar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Nghymru a beth rydym yn ei wneud yn fwy eang i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rwy’n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i’r cynnig sy’n cael ei drafod heddiw, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau am y diddordeb diffuant a’r brwdfrydedd y maent yn ei gyfrannu i’r agenda hon.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gynorthwyo pobl i fod yn iach ac yn heini. Mae cyflawni hyn, fodd bynnag, yn galw am weithredu ar draws y portffolios i greu’r amgylchedd a’r cyfle i bobl ddewis ffyrdd o fyw iachach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystod wirioneddol eang o sefydliadau trydydd sector i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision gweithgarwch corfforol ac yn cael eu hysgogi, a bod cyfleoedd yn cael eu darparu iddynt allu cynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd. Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o raglenni ar waith sy’n annog pobl ifanc yn arbennig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac rwy’n wirioneddol falch o ddweud bod y cyfraddau sy’n cymryd rhan yn cynyddu, ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud.

Dros yr haf, rydym wedi ystyried, ochr yn ochr â rhai sydd â diddordeb, amrywiaeth o argymhellion i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol. Bydd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn cadeirio grŵp trawsbynciol sydd newydd ei sefydlu i flaenoriaethu ein camau gweithredu i gefnogi’r agenda hon. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio ein strategaeth iach a gweithgar yr ymrwymasom iddi yn ein rhaglen lywodraethu.

Mae ail bwynt y cynnig heddiw yn cyfeirio at ddata arolwg iechyd Cymru ar y cyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith plant. Mae’n rhaid i wella lefelau gweithgarwch corfforol ymysg plant fod yn flaenoriaeth oherwydd bod manteision ffordd iach a gweithgar o fyw yn ystod plentyndod yn cael eu gwireddu drwy gydol oes yr unigolyn. Hefyd ceir cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a chyrhaeddiad addysgol. Gwelais enghraifft go iawn o hyn yn ddiweddar pan ymwelais ag Ysgol Gynradd Pantysgallog i weld sut y maent wedi cyflwyno taith gerdded, loncian neu redeg 1 filltir o hyd i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, ac sy’n digwydd rhwng y clwb brecwast a dechrau’r diwrnod ysgol. Yn ogystal â’r manteision iechyd, mae’r athrawon yn yr ysgol wedi sylwi ar ostyngiad mewn ymddygiad aflonyddgar yn ystod y gwersi a dywedodd y plant wrthyf am eu lefelau canolbwyntio gwell. Roeddent hefyd yn dweud wrthyf faint o hwyl oedd gwneud hyn, ac ni allwn orbwysleisio pa mor bwysig yw hynny.

Dangosodd canlyniadau’r arolwg iechyd Cymru diweddaraf fod y gyfradd o blant oedran ysgol sy’n cyrraedd y lefel a argymhellir gan y prif swyddog meddygol o weithgarwch corfforol wedi cynyddu 1 y cant i 36 y cant, felly mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond rydym am gyflymu’r gwelliant hwnnw. Mae hyn yn galw am ymateb y gymdeithas gyfan.

Mae gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae. Mewn ymateb i’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan yr Athro Donaldson, rydym yn datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus. Bydd gweithredu chwe maes newydd o brofiadau dysgu yn ganolog i’r cwricwlwm newydd ac un ohonynt fydd iechyd a lles. Mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewis ffyrdd iach o fyw.

Mae Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach yn cefnogi ymagwedd ysgol gyfan tuag at iechyd. Mae 99 y cant o’r holl ysgolion a gynhelir yn rhan o’r cynllun a chaiff ei ystyried yn un o’r goreuon yn Ewrop. Ar ben hynny, mae’r cynllun wedi ei ymestyn yn llwyddiannus bellach i gynnwys lleoliadau cyn ysgol.

Mae’r rhaglen Teithiau Llesol, sy’n gweithio mewn ysgolion i hyrwyddo teithio llesol i ac o’r ysgol, yn ategu’r ymdrechion hyn mewn ffordd wirioneddol ymarferol ac yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i ysgolion ledled Cymru. I adeiladu ar hyn, gallaf gyhoeddi heddiw y byddaf yn comisiynu Living Streets i gyflwyno prosiect Cerdded i’r Ysgol yng Nghymru a fydd yn tynnu sylw at fanteision teithio llesol i iechyd. Bydd hefyd yn cynorthwyo nifer o ysgolion i gyflawni eu hadolygiad eu hunain o lwybrau cerdded yn eu hardal, gan gynnig ffordd gynaliadwy o asesu a nodi ffyrdd o wella’r seilwaith teithio llesol.

Mae amgylchedd y cartref hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae ymgyrch 10 Cam at Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu rhieni i ennyn arferion iach yn eu plant drwy nodi camau hawdd y gallant eu cymryd i gynorthwyo eu plentyn i ddatblygu a chynnal pwysau iach, fel cyfyngu amser o flaen sgrîn ac annog chwarae awyr agored. Drwy ein rhaglen sydd newydd ei lansio, Plant Iach Cymru, byddwn yn sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu cynorthwyo teuluoedd i wneud dewisiadau iach o’r cyfnod cyn geni hyd at saith oed.

Mae’r trydydd pwynt yn y cynnig yn tynnu sylw at botensial y Ddeddf teithio llesol i godi lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth. Rydych wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen fy mod yn gweld teithio llesol fel elfen allweddol o gynnwys gweithgarwch corfforol ym mywydau pob dydd pobl a bod y Ddeddf yn gosod fframwaith i gefnogi hyn. Mae’n gwneud hynny drwy sicrhau bod rhwydweithiau cerdded a beicio cydlynol yn cael eu cynllunio yn ein cymunedau ar draws Cymru a thrwy hyrwyddo eu defnydd. Er mwyn sicrhau bod y rhwydweithiau hyn yn addas i’r diben a’u bod yn diwallu anghenion pobl mewn gwirionedd, mae angen i awdurdodau lleol gynnwys y rhai sy’n cerdded ac yn beicio’n rheolaidd, ond hefyd, yn hollbwysig, y rhai nad ydynt yn gwneud hynny, fel rydym wedi clywed. Roeddwn yn falch o gael cyfarfod yn ddiweddar gyda’n bwrdd teithio llesol, er mwyn dangos fy mod yn gwbl o ddifrif ynglŷn â’u gwaith. Ac rwyf wrth fy modd fod Dr Adrian Davis wedi cytuno i ymuno â’n bwrdd gan ei fod yn cyfrannu cryn dipyn o arbenigedd ym maes teithio llesol ac ym maes iechyd cyhoeddus.

Mewn perthynas â phedwerydd pwynt y cynnig, rydym yn cytuno bod ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned yn allweddol i bennu’r ffordd orau o gynllunio seilwaith teithio llesol lleol, ac mae hwn yn ofyniad rydym yn ei fynnu gan awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu ag anghenion ac asedau amrywiol eu cymunedau lleol.

Diolch i chi am ildio. Rwy’n credu bod tua thair blynedd bellach ers i mi fod yn holi’r Aelod dros Lanelli mewn bywyd blaenorol, pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes ac yntau’n rhoi tystiolaeth ar ran Sustrans. Felly, mae tair blynedd wedi mynd heibio ac roeddem yn siarad am hyn i gyd bryd hynny. Mae hyn i gyd yn wych, ond beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad gyda’r rhwydweithiau beicio hyn? A ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn eu darparu?

Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar weithrediad y Ddeddf ac un o’r pethau cyntaf a wneuthum ar ôl dod i’r swydd oedd eu hatgoffa am eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, ond mae’n gyfrifoldeb nid yn unig i bobl ym maes teithio; mewn gwirionedd mae’n gyfrifoldeb ar bobl mewn llywodraeth leol drwyddi draw. Felly, mae awdurdodau lleol yn awr yn paratoi eu mapiau integredig a byddwn yn gweld datblygiadau yn y dyfodol i lenwi’r bylchau y mae pobl yn eu nodi drwy’r prosiect fel y crybwyllodd Janet Finch-Saunders. Dyna’r ymgyrch gan Cycling UK, Living Streets, Sustrans Cymru a Beicio Cymru er mwyn helpu pobl i ymgysylltu â’r broses a gadael i’r awdurdodau lleol wybod yn union ble mae angen gwelliannau lleol i rwydweithiau beicio a cherdded.

Felly, o ran pedwerydd pwynt y cynnig, rydym yn cytuno pa mor bwysig yw ymgysylltiad lleol. Gallwn, ac fe fyddwn yn parhau i ddarparu’r arweiniad ar lefel genedlaethol fodd bynnag i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith. Felly, rwy’n credu ei bod yn amlwg iawn o’r cyfraniadau ystyriol a gawsom i’r ddadl heddiw ein bod i gyd yn cytuno ar rôl bwysig gweithgarwch corfforol i’n cadw ni i gyd yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy’n gobeithio bod ymrwymiad y Llywodraeth hon i’r maes—nid yn lleiaf drwy’r amlygrwydd a roddir iddo yn ein rhaglen lywodraethu, ond hefyd drwy ddwyn ynghyd y cyfrifoldebau yn y maes i mewn i un portffolio—yn glir i’r Aelodau ei weld ac edrychwn ymlaen at gael cefnogaeth gyda’r agenda teithio llesol yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i gael fy nghysylltu efo’r cynnig yma ac i gefnogi’r Aelodau eraill sydd wedi siarad mor frwd heddiw dros yr angen i hybu gweithgaredd corfforol ac i sicrhau bod yr isadeiledd priodol yn ei le o ran teithio llesol, i allu sicrhau i hynny ddigwydd o fewn ein cymunedau ni fel rhan o fywyd bob dydd.

Mae iechyd pobl Cymru, a phlant Cymru yn arbennig, wrth gwrs, yn fater sy’n achos pryder i bob un ohonom ni yma. Mae yna ddigon o arwyddion ein bod ni’n creu problemau iechyd a chymdeithasol enfawr ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae’r ffaith ein bod ni’n gwario 10 y cant o gyllideb yr NHS ar drin diabetes yn rhybudd digon clir i ni. Fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, nid oeddwn yn falch iawn o weld Môn yn codi i frig un tabl y llynedd, pan wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi mai ym Môn bellach oedd y gyfran uchaf o blant sydd dros eu pwysau neu’n ordew. Un rhan o dair o blant yr ynys dros eu pwysau neu’n ordew; mae’r ffigurau yna’n gwbl, gwbl frawychus.

Wrth gwrs, mae diffyg gweithgaredd corfforol wrth wraidd llawer o hynny. Y broblem, fel dywedodd Julie Morgan yn gynharach, ydy bod patrymau plant yn gynnar yn eu bywydau’n aml iawn yn cael eu hefelychu pan mae’r plant hynny’n troi’n oedolion. Felly, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem wrth ei gwraidd. Rwy’n gwneud tipyn o hyfforddi rygbi yng nghlwb rygbi Llangefni. Rwy’n ymddiheuro wrth y plant am safon y rygbi rwy’n ei ddysgu iddyn nhw, ond un peth sy’n fy ngyrru heb os ydy’r elfen o hybu gweithgaredd corfforol. Mae yna enghreifftiau lu ar draws Ynys Môn o gyfleon sy’n cael eu darparu ar gyfer ein pobl ifanc ni, o rygbi i bêl-droed i hoci i gymnasteg i athletau i hwylio—mae yna ormod i’w henwi. Mae’n olygfa wych bod yng nghanolfan codi pwysau a ffitrwydd Caergybi pan fydd ysgol Caergybi sydd gerllaw yn cau ar ddiwedd y dydd a’r bobl ifanc yn llifo i mewn oherwydd bod yna adnoddau yna ar eu cyfer nhw a bod yna bobl yna i’w hysbrydoli nhw i edrych ar ôl eu hiechyd eu hunain drwy ymarfer corff.

Ond, rhywsut, mae’n rhaid inni sicrhau bod rhagor o weithgaredd corfforol yn digwydd yn ein hysgolion ni. Wrth gwrs, mae yna addysg gorfforol wedi’i hamserlenni. Ond, fel mae’r cynnig yn ei nodi, dim ond rhyw draean o blant Cymru sy’n cael yr awr ddyddiol o weithgaredd corfforol sy’n cael ei argymell. Maddeuwch i fi am beidio â chyffroi gormod bod y ffigur wedi codi o 35 y cant i 36 y cant. Rwy’n meddwl mai drwy’r ysgol, ar gyfer pobl ifanc, y mae gwthio’r ffigur hwnnw i fyny. Rwy’n gredwr cryf, er enghraifft, mewn ymestyn y dydd yn yr ysgol er mwyn rhoi amser i hybu gweithgarwch. Mae’n rhaid sicrhau bod yr adnoddau yno yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, mae hybu teithio llesol ar gyfer cyrraedd yr ysgol yn cynnig haen ychwanegol o weithgarwch corfforol. Rwy’n sicr yn croesawu’r gwaith newydd sydd wedi cael ei gomisiynu gan y Llywodraeth, ond mae’n amser, fel dywedodd Nick Ramsay, inni weld addewidion yn troi’n realiti.

Gadewch inni edrych ar ychydig yn hwyrach mewn bywyd, lle mae gweithgaredd corfforol yr un mor allweddol. Mae Age Cymru yn ein hatgoffa ni bod sicrhau lefelau digonol o ymarfer corff yn hanfodol i’r boblogaeth hŷn er mwyn eu hiechyd yn gyffredinol, ond hefyd er mwyn eu hannibyniaeth nhw a’u gallu nhw i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. A’r hyn sy’n wych, wrth gwrs, ydy bod yr ymarfer corff yna yn gallu bod yn rhan greiddiol o fywyd bob dydd. Un arf sydd gennym ni, sydd i fod i helpu, ydy’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Yn anffodus, nid yw manteision iechyd teithio llesol yn cael eu gwerthfawrogi digon. Mae’r system i werthuso cost a budd prosiectau yn gadael nifer o’r manteision iechyd allan o’u dadansoddiad, er enghraifft, sy’n golygu nad ydy cynlluniau teithio llesol yn sgorio mor uchel ag y dylen nhw. Mae Sustrans—rydym wedi clywed llawer amdanyn nhw heddiw—o’r farn nad ydy pob adran o lywodraeth yn gwerthfawrogi manteision teithio llesol. Eu profiad nhw ydy mai, hyd yma, dim ond yr adrannau trafnidiaeth sydd efo hyn ar eu radar. Rydym wedi clywed hynny’n cael ei ddweud heddiw’n barod. Ond, er mwyn creu diwylliant o deithio llesol yng Nghymru, mae arnom ni angen gweithlu llawer ehangach yn gwneud iddo fo ddigwydd. Mae’n rhaid i’r meddylfryd seilo yna ddod i ben.

Fel y mae’r cynnig yn ei ddweud, ac fel y dywedodd yr Aelod dros Lanelli, mae angen gweithio yn effeithlon efo cymunedau i adnabod sut i gael y gorau o’r arf deddfwriaethol yna sydd gennym ni. Gadewch i ni felly hybu teithio llesol efo egni newydd. Mae’n amlwg ar draws y Siambr yma ein bod ni’n rhannu uchelgais. Mae’n amlwg ein bod ni’n rhannu syniad cyffredin ynglŷn ag i le rydym ni eisiau mynd, felly mae’n amser gwireddu’r weledigaeth a oedd gan John Griffiths fel Gweinidog a’r Siambr yma yn gyffredinol—y Cynulliad yn gyffredinol—nôl yn 2013 pan gafodd y Ddeddf ei phasio. Gadewch inni hybu teithio llesol, gadewch inni hybu gweithgarwch corfforol drwy’n cymdeithas ni, a gadewch inni wneud Cymru yn wlad fwy iach. Rwy’n eich annog chi i gefnogi’r cynnig yma heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiwn Brys: Cyfleuster Cynnal a Chadw British Airways

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd? EAQ(5)0054(EI)[W]

Mae newyddion heddiw am ddiswyddiadau yng nghyfleuster cynnal a chadw British Airways yn anffodus. Mae BA yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol lle bo hynny’n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda BA. Gofynnir i’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i gefnogi’r holl staff yr effeithir arnynt, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad wrth i ni ddod i wybod mwy.

Yn amlwg, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, mae hwn yn newyddion annymunol iawn wrth gwrs mewn cyfnod economaidd ansicr iawn, a bydd yn bryder mawr i’r gweithwyr yr effeithir arnynt a’u teuluoedd. Ac wrth gwrs, mae’n ergyd ddifrifol i’r sector awyrofod, sy’n ffynhonnell bwysig o swyddi medrus iawn a chyflogau uchel ledled Cymru, ond yn enwedig yn yr ardal fenter y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth ynddi, nid yn lleiaf, wrth gwrs, wrth gaffael Maes Awyr Caerdydd ei hun. A allai’r Gweinidog ddweud wrth y Cynulliad ar ba bwynt y daeth y Llywodraeth yn ymwybodol fod y swyddi hyn yn mynd i gael eu colli? Ymddengys bod yna batrwm yn ddiweddar sy’n peri pryder gyda rhai o’n cwmnïau mawr yn gwneud y cyhoeddiadau hyn. A yw antenâu Llywodraeth Cymru yn ddigon effro i’r posibiliadau hyn?

A all y Llywodraeth hefyd rannu’r hyn y mae’n ei wybod am y diben sylfaenol sy’n sail i’r cyhoeddiad hwn? Mae’r cwmni wedi cyfeirio at ailstrwythuro corfforaethol. Ai achos o doriadau yn y niferoedd cyffredinol yw hwn, neu a oes rhywfaint o’r gweithgaredd cynnal a chadw yn cael ei adleoli mewn man arall? A yw’n wir, fel y clywsom gan aelodau o’r gweithlu, fod yna awgrym hefyd fod rhai staff yn cael eu hail-raddio ac yn wynebu colli cyflog o ganlyniad i hynny?

Mae’r cwmni ei hun wedi gwneud cyfres o rybuddion elw yn ystod y misoedd diwethaf, yn sgil dibrisiant y bunt a’r ansicrwydd yn dilyn y refferendwm. A oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd o unrhyw gysylltiad rhwng y penderfyniad hwn a’r rhybuddion elw hynny? A fyddai’r Gweinidog yn cytuno, os yw’n achos syml o dorri costau, y byddai hynny’n destun pryder mawr iawn pe bai’n cael ei wneud ar draul y gweithlu ac yn wir, diogelwch cwsmeriaid BA, yn enwedig gan gwmni sydd, er gwaethaf y rhybuddion elw hynny, yn dal i ddangos elw o dros £1 biliwn ac sy’n talu miliynau o bunnoedd i’w brif weithredwr, sef prif weithredwr y grŵp awyrennau rhyngwladol, Willie Walsh? Dyna pam rwy’n teimlo y bydd y gweithlu, yn sicr, yn ei chael hi’n eithriadol o anodd derbyn y penderfyniad hwn a’r rhesymeg sy’n sail iddo. Yn olaf, a all hi ddweud ble mae hyn yn gadael y strategaeth y cyfeiriais ati o ran yr ardal fenter, ac o ran y sector awyrennau, sy’n un o’n sectorau allweddol yma yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, sydd i gyd yn bwysig iawn yn wir, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb yn llawn. O ran pa bryd, mae’r Llywodraeth, drwy ei swyddogion ac ar lefel wleidyddol, wedi bod mewn cysylltiad â BA trwy gydol y flwyddyn hon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ar lefel uwch yn gynharach eleni yn Llundain. Mae amrywiaeth o swyddogion yn ymwneud â BA ar bob adeg fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu’r cwmni.

Cawsom wybod yn ffurfiol y bore yma am y swyddi sy’n mynd i gael eu colli, gan ei bod yn iawn ac yn briodol fod BA yn dweud wrth ei staff, ei weithlu, yn gyntaf cyn iddynt roi gwybod i unrhyw drydydd parti a rhanddeiliaid eraill, ond cawsom wybod yn syth wedyn. Rydym mewn cysylltiad cyson â hwy, felly nid oedd yn syndod, ond ni chawsom wybod yn ffurfiol tan ar ôl i’r gweithlu gael ei hysbysu’n ffurfiol. Mae angen proses gyfreithiol briodol yn awr, cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod, ac mae’r undebau’n ymwneud â hynny. Mae BA yn pwysleisio’n gryf eu bod yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol, a’u bod yn gobeithio osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Wrth gwrs, nid ydynt yn gallu gwarantu hynny, gan na all neb wneud hynny byth mewn proses fel hon, ond maent yn obeithiol iawn y gallant wneud hynny.

Mae hyn yn sicr yn rhan o’u cynlluniau pum mlynedd i ailstrwythuro’u cwmni, ac nid oes arnaf eisiau i neb fynd oddi yma heddiw dan gwmwl o anobaith a digalondid. Yn amlwg, mae’n newyddion drwg iawn i’r staff dan sylw, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynorthwyo pob un ohonynt mewn unrhyw ffordd y mae eu hamgylchiadau’n galw am ei wneud, ond mae gan BA ddyfodol da ar y safle, mae’n rhan o gynlluniau ailstrwythuro cyffredinol, ac nid oes gennym unrhyw reswm dros feddwl ei fod yn arwydd o unrhyw anhawster parhaus. Yn sicr, nid wyf am roi unrhyw argraff o gwbl fod yna broblem ynglŷn â diogelwch neu unrhyw beth tebyg. Nid oes unrhyw reswm o gwbl dros feddwl y fath beth, ac nid wyf eisiau i’r Aelodau fynd oddi yma â’r argraff honno.

Felly, ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd. Mae hyn yn rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol, mae’n rhan o strategaeth gyffredinol y buom yn ymwneud â hi. Rwy’n credu eu bod yn dilyn y prosesau cywir. Nid oes gennym unrhyw reswm dros gael ein brawychu’n fawr. Mae gennyf bob cydymdeimlad gyda staff y bydd hyn yn effeithio arnynt, ond nid oes rheswm dros bryderu’n fwy eang ac mewn gwirionedd, mae pob rheswm dros deimlo’n obeithiol y bydd y cynllun pum mlynedd yn y pen draw yn amlygu diwydiant mwy cynaliadwy a mwy cadarn yma yng Nghaerdydd.

Weinidog, diolch i chi am eich ymateb hyd yn hyn i’r cwestiwn brys. Rwyf wedi ymweld â’r safle ar nifer o achlysuron ac rwy’n sylweddoli safle mor gymhleth ydyw, gyda thîm amlddisgyblaethol yno sy’n cyflawni ar y blaen yn eu maes, ond mewn amgylchedd cystadleuol iawn, gyda Dubai a Singapore yn cynnig arbedion maint mawr iawn i rai gweithredwyr, ond mae BA, er tegwch iddynt, wedi ymrwymo i’r safle hwn ac maent wedi buddsoddi arian sylweddol yn y safle. A allech ymhelaethu ychydig ar eich trafodaethau chi a thrafodaethau’r Llywodraeth gyda BA ynglŷn ag a gyflwynwyd unrhyw geisiadau ffurfiol i’r Llywodraeth am gymorth i ailgategoreiddio cyflogaeth ar y safle, am help gydag ailhyfforddiant, neu am gymorth o unrhyw fath i gadw rhai o’r 66 o swyddi? Clywaf yr hyn a ddywedwch, mai y bore yma’n unig y cafodd y cyhoeddiad ffurfiol ei gyfleu i chi, ond fe roesoch awgrym, yn amlwg, eich bod, mewn trafodaethau cychwynnol, wedi cael gwybod y gallai fod heriau o fewn y sylfaen gyflogaeth yno.

Yn ail, rydym yn ymwybodol, yn amlwg, o’r newyddion cadarnhaol a gyhoeddwyd y llynedd amdanynt yn ennill y contract Dreamliner ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol, ond mae yna gyfnod rhwng cael gwared ar yr awyrennau 747 yn raddol a bod y Dreamliners angen eu hamserlenni cynnal a chadw, gan ei bod yn awyren newydd iawn, wrth gwrs. A yw’r swyddi hyn a gollir yn symptom o’r cyfnod byr—gobeithio y bydd yn fyr—o bontio rhwng cael gwared ar yr awyrennau 747 sydd yn fflyd BA yn raddol a mynd â gwaith cynnal a chadw Dreamliner ar y safle, fel bod elfen o lacrwydd yn y system sy’n amlwg yn gofyn am rywfaint o ailgydbwyso’r gweithlu? Yn fwy na dim, a allwch gadarnhau pa un a yw’r swyddi a gollir mewn adran benodol ar y safle, neu a ydynt ar draws y gweithlu ar y safle, sy’n cyflogi tua 700 o weithwyr?

Mae’n amlwg yn adeg bryderus i’r teuluoedd a’r gweithwyr eu hunain, ond rwyf innau hefyd—fel chi, Weinidog—yn rhannu optimistiaeth ynglŷn â diogelwch y safle ac yn wir, wrth gwrs, ynglŷn â’r llyfr archebion yn y dyfodol, sy’n edrych yn gadarn, ond fel y dywedais, mae yna gyfnod o bontio rhwng yr awyrennau 747 a’r Dreamliners.

Wel, nid wyf mewn sefyllfa i roi manylion llawn ynglŷn â strategaeth BA ar y safle i chi; rwy’n credu mai mater iddynt hwy yw gwneud hynny fel endid corfforaethol. A dyna a ddywedais, pan ddywedais y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn hysbysu’r Cynulliad am unrhyw newyddion—gan ei bod yn iawn ac yn briodol i’r Cynulliad gael gwybod beth yw’r cynllun, ac wrth iddo gael ei gyhoeddi i’r gweithlu ac yn y blaen, byddwn yn rhoi gwybod am hynny i’r Cynulliad. Felly, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i roi holl gynnwys y cynllun i chi mewn manylder, ond rwyf am ddweud ein bod wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r cwmni, ein bod yn chwarae rhan lawn, a bod gennym bob gobaith ar gyfer dyfodol y safle ac y bydd yn cael ei roi ar sylfaen gynaliadwy i’r dyfodol rhagweladwy, a dyna y mae pawb ohonom ei eisiau. Rwyf am ailadrodd fy nghydymdeimlad â staff sy’n wynebu diswyddiadau. Mae gennym bob cydymdeimlad â phobl yr effeithir ar eu bywydau yn y ffordd honno—mae’n beth ofnadwy i unrhyw un ei wynebu—ond nid wyf am i neb fynd oddi yma heddiw gyda’r syniad digalon fod hynny’n golygu bod rhyw ansicrwydd strwythurol neu unrhyw beth arall yn BA. Yn bendant iawn, nid dyna’r neges rydym am ei chyfleu.

O ran y drafodaeth ar hyfforddiant, rydym wedi bod yn cynorthwyo BAMCE gyda hyfforddiant yn y ffordd rydym yn cynorthwyo llawer o’n cwmnïau angor a chwmnïau pwysig yn rhanbarthol, ac yn y blaen. Felly, mae gennym raglen hyfforddi rydym yn eu cynorthwyo â hi—rydym yn eu cynorthwyo gyda phrentisiaid, er enghraifft, ac anghenion hyfforddi eraill. Mae hynny’n sicr yn rhan o’r berthynas strwythuredig rhwng y Llywodraeth a’r cwmni, ac mae hynny’n parhau. Nid oes gennyf unrhyw reswm dros deimlo bod hynny’n unrhyw beth heblaw’r llwyddiant y soniais yn ei gylch yn y Siambr hon sawl gwaith o ran y prentisiaid, ac yn y blaen. Felly, nid oes unrhyw reswm dros ofni yn hynny o beth. Mae angen mynd drwy’r broses. Mae angen i ni fod yn obeithiol y gallwn sicrhau diswyddiadau gwirfoddol, na fydd unrhyw angen i bobl nad ydynt eisiau mynd i fynd, ac fel y dywedais, mae ein staff a staff y Ganolfan Byd Gwaith wrth law ar gyfer unigolion a sicrhau bod eu hamgylchiadau a’u hanghenion unigol yn cael eu diwallu, a dyna’r math o wasanaeth personol a gynigiwn i staff yn y sefyllfa hon.

Felly, unwaith eto, rwyf am ailadrodd nad oes gennym unrhyw reswm dros feddwl bod yna broblem strwythurol sylfaenol gyda hyn, nac unrhyw reswm i weddill y staff yno ofni. Mae gennym gynllun pum mlynedd ar y gweill a pherthynas dda gyda’r cwmni. Mae gennym bob rheswm dros feddwl y bydd hynny’n parhau i’r dyfodol.

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Iechyd Meddwl

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru, ac rydw i’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6115 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a’r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i fynd i’r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith; a

b) sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyflwyno’r cynnig yma. Rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth y prynhawn yma, a hithau yn wythnos lle rydym ni wedi bod yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl.

Yn gyffredinol, rwy’n meddwl bod yna ddwy fath o drafodaeth rydym yn eu cael pan fyddem ni’n siarad am iechyd meddwl: yn gyntaf, y ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn ymateb i bobl sydd angen triniaeth. Er enghraifft, yn aml mi soniwn ni am driniaeth yn cael ei gadael yn rhyw hwyr, ac yn y blaen. Mae’r ail yn ymwneud â’r ffordd mae cymdeithas yn ehangach yn ymddwyn tuag at y rhai sydd efo neu sydd wedi bod â phroblemau iechyd meddwl. Bwriad y ddadl yma heddiw ydy trafod yr ail agwedd yna. Mae’n anodd iawn trafod y ffordd orau o gael mynediad at driniaeth i bobl yn sydyn, ond os bydd y gymdeithas yn ehangach yn rhwystro adferiad pobl drwy wahaniaethu, er enghraifft, yna bydd wastad cyfyngiadau ar beth all yr NHS ei gyflawni.

The bare facts I think speak for themselves. One in four adults are likely to have a mental health problem in any one year. This will have a profound impact on their lives and ability to sustain relationships, employment, or perhaps just to get through the day. Equally challenging is the estimate that only about a quarter of people with a mental health problem receive ongoing treatment, leaving the majority of people grappling with mental health issues on their own. The latest estimates from the labour force survey show that stress accounted for 35 per cent of all work-related ill health cases and 43 per cent of all working days lost due to ill health. The cost of mental health problems in Wales is estimated at £7.2 billion a year, and this includes the cost of health and social care provided for people with mental health problems—the cost to the Welsh economy as a result of people being unable to work due to their distress. The cost associated with poor mental health in the workplace amounts to nearly £1.2 billion a year alone, equivalent to £860 for every employee in the Welsh workforce.

Often, front-line staff in our public services are more likely to experience problems than people in other industries, and also less likely to receive help. This is why we have specifically asked for public services to examine how their own practices can be improved as part of this motion.

It is, sadly, beyond doubt that widespread discrimination adds to the problems faced by people with mental illness. Many people with mental illness are subjected to systematic disadvantages in many—you could argue most—areas of their lives. These forms of social exclusion occur at home, at work, in personal life, in social activities, in healthcare and also in the media, too.

But the Time to Change campaign has been effective in challenging certain aspects of discrimination, and attitudes towards people with mental illness are more favourable, according to the survey, in 2014 than they were in 2008. I’ll give you response rates to a number of statements given as part of that survey. The first one: ‘anyone with a history of mental problems should be excluded from public office’—from 21 per cent agreeing in 2008, that fell to 16 per cent agreeing in 2014. Another statement: ‘it’s frightening to think of people with mental problems living in residential neighbourhoods’, down from 16 per cent agreeing to 12 per cent. ‘I would not want to live next door to someone who has been mentally ill’, down from 12 per cent to 9 per cent. ‘People with mental illness should not be given any responsibility’, down from 15 per cent to 11 per cent. So, a move in the right direction, but, of course, those figures are still far, far too high, and it says a lot about attitudes in society. It’s still the case that problems persist.

Employment is one area where people with mental health problems are less likely to flourish. They’re less likely to be in employment and, when they’re in employment, they’re less likely to be given help. Unemployment and mental health problems appear to have a causal link both ways. People with mental health problems are much less likely to be in paid employment and people who have been unemployed for at least six months are more likely to develop depression or other mental health conditions, so creating a cycle of problems.

I’ll give you one figure: around a third of new jobseeker’s allowance claimants reported that their mental health deteriorated over a four-month period, while those who entered work noted improved mental health. My colleagues will elaborate on those points in their own contributions this afternoon.

Rydym ni hefyd wedi tynnu sylw at addysg yn benodol yn y cynnig yma. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o ymyrraeth yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posib, ond mae’n dod yn fwyfwy amlwg i ni fod yr arddegau’r un mor bwysig. A dyna pam rydym ni am i ysgolion fod yn barod i hybu iechyd meddwl da ymhlith yr holl ddisgyblion.

Mae yna arfer da; mae yna waith rhagorol yn cael ei wneud yn barod. Roedd yr Samariaid yn y Pierhead yma yn gynharach yn yr wythnos yn amlinellu’r cynlluniau sydd ganddyn nhw i weithio efo ysgolion ar draws Cymru. Mi oedd hi’n dda siarad efo tîm Hafal yn y Cynulliad echdoe, yn siarad am eu cynllun Clic, sydd yn creu fforwm ar-lein ar gyfer pobl ifanc a hŷn sydd am gael cymuned i drafod yr hyn sydd yn eu poeni nhw oherwydd y problemau iechyd meddwl. Mae camau fel hyn i’w canmol.

Yn olaf, mae’n rhaid inni gydnabod bod hybu iechyd meddwl da hefyd yn ymwneud â’r amgylchedd ehangach. Mae angen mynediad at fannau gwyrdd, mae angen mynediad at weithgarwch corfforol, fel rydym ni wedi bod yn ei drafod mewn dadl yn gynharach heddiw. Dyna pam byddwn ni’n gwrthod gwelliant y Ceidwadwyr. Mae therapïau siarad yn bwysig, ond nid dyna’r unig beth ychwanegol y dylai wasanaethau cyhoeddus eraill fod yn ei wneud. Mae’r gwelliant yn rhy gul a dyna pam rydym ni’n mynd i fod yn pleidleisio yn erbyn hwnnw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mi gyfeiriaf i hefyd at welliant y Llywodraeth. Efo’r hinsawdd wleidyddol fel y mae, allwn ni ddim, rydw i’n meddwl, ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i beidio â thynnu amddiffyniad yn ôl i bobl sy’n agored i niwed yn y gweithle. Mae yna arwyddion, onid oes, bod y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar radar y Llywodraeth yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym ni’n teimlo y byddai’n anghyfrifol i Lywodraeth Cymru beidio â cheisio cael y pwerau dros gyfraith gyflogaeth fel y gall pobl mewn gweithleoedd yng Nghymru gael eu hamddiffyn a chael yr amddiffyniad maen nhw’n ei haeddu. Cefnogwch y cynnig fel y mae o heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau’r prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a

b) gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae’r materion a nodwch yn eich cynnig wedi cael cryn dipyn o sylw, mewn gwirionedd, yn y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond rwy’n credu, fel chi, ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar y stigma sydd ynghlwm wrth gyflyrau iechyd meddwl, gan y gall effeithio ar unigolyn am weddill ei oes.

Fel y dywedoch, bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef o ryw fath o broblem iechyd meddwl, boed yn iselder, sef y mwyafrif llethol, gorbryder, dementia, iselder amenedigol neu salwch seicotig. Am ei fod yn effeithio ar gymaint ohonom, mae’n rhaid i ni feddwl tybed pam rydym yn ei gwneud mor anodd i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl gredu eu bod yr un mor werthfawr i gymdeithas ag unrhyw un arall. Er enghraifft, os edrychwch ar y dystiolaeth ar gyfer y rhai sydd wedi cael salwch seicotig, mae’n amlwg mai un cyfnod o salwch yn unig y bydd un o bob tri yn ei gael, ac eto, ar ôl mynd yn rhan o’r system, gall fod yn anodd iawn iddynt dorri’r cylch, symud ymlaen, dysgu sut i ymdopi â’u salwch a dychwelyd i fyd addysg neu’r gweithle. Dangosir bod stigma, ac ofn stigma, yn chwarae rhan fawr yn yr anallu hwn i ailintegreiddio. Bydd traean arall yn ymdopi drwy feddyginiaethau, ac unwaith eto, mae’r un peth yn wir am yr ystadegyn hwnnw—mae stigma, ac ofn stigma, wedi ei gwneud yn anodd iawn dychwelyd i’r gweithle. Os edrychwch ar y bobl sydd heb waith oherwydd iechyd meddwl—y dyddiau hyn maent yn tueddu i fod yn bobl yn eu 40au, 50au a 60au—ar adeg pan oedd y byd hyd yn oed yn fwy anodd i bobl â phroblemau iechyd meddwl nag y mae heddiw.

Mae’r bobl rwy’n siarad â hwy am eu problemau iechyd meddwl yn sôn am yr hyn rwyf wedi ei alw’n ‘chwa o anghymeradwyaeth’. Mae pobl ifanc yn eu harddegau wedi dweud wrthyf fod pobl yn dychryn am eu bod yn hunan-niweidio, nid yw eu teuluoedd yn eu deall, neu credant fod angen iddynt ddod at eu coed os ydynt yn cael trafferth gydag anhwylderau bwyta. Weithiau, gallai person sydd â phroblemau iechyd meddwl—ac rwy’n pwysleisio’r gair ‘gallai’—droi at alcohol neu gyffuriau i ymdopi. Mae’r rhan fwyaf o bobl ddigartref, y rhai ar y stryd, yn dioddef o broblem iechyd meddwl sylfaenol ac i fod yn onest, nid yw pobl yn hoffi’r digartref—y weino digartref sy’n loetran o gwmpas mynedfa’r archfarchnad—ond yr hyn nad ydynt yn ei weld yw’r person sydd wedi colli popeth, ac fel arfer, yr achos sylfaenol yw diffyg cefnogaeth neu ddiagnosis cynnar o gyflwr iechyd meddwl. Efallai mai dyma’r broblem, gan fod coes neu fraich sydd wedi torri yn hawdd i’w gweld, mae cyflyrau cronig yn cael eu derbyn, mae pobl sydd â chanser neu broblemau’r galon yn gymharol hawdd i sylwi arnynt a’u cefnogi neu gydymdeimlo â hwy, ond iechyd meddwl—maent yn anweladwy, yn anodd eu hadnabod, ac yn aml yn agored i’w camddehongli.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o hunanladdiad, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dyna yw prif achos marwolaeth i rai rhwng 20 a 34 oed. Mae pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig, gyda 90 y cant amcangyfrifedig o’r bobl sy’n ceisio marw, neu yn marw, drwy hunanladdiad ag un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl. Ceisio cyflawni hunanladdiad, cyffuriau, alcohol—dyma’r pethau nad yw cymdeithas yn eu hoffi, ond nid ydym yn edrych y tu hwnt i hynny i weld beth yw’r achos, ac mae hynny’n atgyfnerthu’r stigma difrïol y bydd person sydd â phroblem iechyd meddwl yn aml yn ei deimlo; chwa o anghymeradwyaeth.

Bydd addysgu pobl ifanc yn mynd yn bell i wrthsefyll hyn. Rydym eisoes yn well am dderbyn anableddau corfforol ac mae plant yn dysgu am faterion iechyd personol a materion amgylcheddol, am fod ysgolion yn canolbwyntio ar y ffrydiau hyn. Byddem yn hoffi gweld gwaith yn cael ei gomisiynu, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y ffordd orau o roi dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl i blant ifanc. Yn yr ysgol uwchradd, mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y straen eithriadol sydd ar ein pobl ifanc.

Gan droi at ran arall o’ch cynnig, mae’n hanfodol addysgu cyflogwyr, boed yn gyflogwyr preifat neu gyhoeddus, ac yn arbennig, addysgu’r gwasanaethau hynny sy’n rhyngwynebu ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn sicrhau mynediad a pharch cydradd i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod ymgyrch Amser i Newid wedi cyfrannu llawer iawn tuag at wneud hyn, ac roedd yn bleser mawr gennyf gyfarfod â hyrwyddwyr yr ymgyrch Amser i Newid ddydd Llun yr wythnos hon a ddaeth o gwmpas gyda’u ci cymorth i siarad â ni am y materion hyn.

Felly, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig gweryl gyda Phlaid Cymru ynglŷn â’u cynnig, heblaw am saith gair:

‘a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth.’

Roeddwn yn drist o weld y pwyslais cenedlaetholgar hwn ar yr agenda, oherwydd mae hon yn agenda nad yw fel arfer yn ein gwahanu. Felly, rydym wedi diwygio—ac rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—ac os gwrthodir ein gwelliant, byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy’n anffodus, oherwydd, ym mhob ffordd arall, rydym yn cyd-fynd yn llwyr â’r cynnig hwn, ac rwy’n diolch i chi am ei gyflwyno.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Yn is-bwynt 3a, dileu ‘a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith’ a rhoi yn ei le:

‘yn y gweithle a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau cefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.’

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl bwysig yma heddiw. Rwyf am ganolbwyntio ar sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu helpu o safbwynt gofal iechyd meddwl, ond hefyd sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael effaith andwyol yn y maes yma. Gan ddechrau efo’r gwasanaeth iechyd, yn anffodus rydym yn cynnal y ddadl hon tra bod ymchwiliad arall yn digwydd i ofal iechyd meddwl yn ardal Betsi Cadwaladr. Mae’n bwysig cofio pam y bu i’r bwrdd fynd i fesurau arbennig, er gwaethaf gwaith rhagorol y rhan fwyaf o’r staff rheng flaen. Roedd sgandal Tawel Fan yn erchyll, ac mae’n dangos yr angen clir i wella’r ffordd y mae cleifion iechyd meddwl yn cael eu trin o fewn yr NHS.

Mae yna ddiffyg gwasanaethau yn y gogledd, a diffyg gwlâu yn sicr. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle, rhwng Ebrill a Gorffennaf y flwyddyn yma, dros gyfnod o ddim ond pedwar mis, fe anfonwyd 91 o gleifion o ardal Betsi i Loegr i dderbyn triniaeth—91, a hynny ar gost o bron £1 miliwn, heb sôn am yr effaith ar yr unigolion. Wythnos diwethaf hefyd, cafwyd hanes un claf a oedd wedi derbyn triniaeth yn ardal Betsi eisoes, ond yn gorfod mynd wedyn i dderbyn triniaeth yn Essex oherwydd prinder gwlâu, gan fod uned Hergest ym Mangor yn llawn. Yn wir, mae’r uned honno wedi bod yn llawn bob mis heblaw am un ers mis Hydref y flwyddyn diwethaf.

Mae hyrwyddo iechyd meddwl da yn gyfrifoldeb i bob un o’r gwasanaethau cyhoeddus, ac mae pob gwasanaeth yn gallu cyfrannu at hyn. Er enghraifft, mae angen i adrannau cynllunio ac amgylcheddol hyrwyddo mynediad at lefydd gwyrdd, agored, ac i deithio llesol, sef y pwnc y buom yn ei drafod yn gynharach. Mae yna dystiolaeth bendant fod mynediad at fannau gwyrdd, hyd yn oed o fewn ein dinasoedd, yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl. Fe wnaed astudiaeth gan ysgol feddygol Exeter a oedd yn profi hyn, ac mae yna astudiaeth a wnaed yn yr Iseldiroedd, drwy holi dros 300,000 o bobl, yn dangos nifer o bethau—er enghraifft, bod cysylltiad positif rhwng llai o salwch meddwl a mwy o lefydd gwyrdd. Roedd y cysylltiad cryf ar gyfer anhwylder pryder ac iselder, ac roedd y cysylltiad cryfaf ar gyfer plant a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is.

Mae gan y gwasanaethau cyhoeddus hefyd ddyletswydd i ofalu am eu gweithwyr eu hunain. Mae straen yn fwy o broblem mewn meysydd sector cyhoeddus fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn. Mae aelodau’r gwasanaethau brys yn wynebu risg hyd yn oed yn fwy, ond eto maent yn llai tebygol o chwilio am help. Ond, o’r holl wasanaethau cyhoeddus sydd angen codi eu gêm, mae un gwasanaeth yn sefyll allan ac angen ei feirniadu yn galed, sef yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r ganolfan waith. Mae yna le i gredu bod y DWP yn gwneud problemau iechyd meddwl yn waeth. Mae ymchwil trwyadl iawn gan Mind yn tanlinellu’r problemau. Mae tair gwaith yn fwy o sancsiynau budd-dal wedi’u cyflwyno i bobl efo problemau iechyd meddwl na’r nifer a gafodd eu cefnogi i fynd i mewn i waith. Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Waith wedi gwaethygu problemau. Mae canfyddiadau Mind yn erchyll. Er enghraifft, roedd 83 y cant yn dweud eu bod eu hunan-barch nhw yn waeth, ac roedd 76 y cant yn dweud eu bod yn teimlo’n llai parod i weithio ar ôl bod i un o’r cynlluniau a oedd i fod i’w hannog i fynd yn ôl i waith. Roedd 86 y cant yn dweud eu bod nhw angen mwy o help, a bu’n rhaid i un o bob pedwar fynd i’r ysbyty tra’n mynychu rhaglenni nôl i waith—sefyllfa hollol annerbyniol. Mae diwygio lles wedi cael effaith anghyfartal ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r asesiadau yn methu â rhoi ystyriaeth i anghenion y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl—yn yr asesiad ei hun, ac yn sicr o ran y straen y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu wrth wneud y prawf asesiad incwm.

Yn anffodus, mae’r straen o gwmpas methu asesiad gallu i weithio, ac wedyn y broses apêl hirwyntog, wedi arwain at nifer o hunanladdiadau trasig. Mae arferion a diwylliant yr Adran Gwaith a Phensiynau o dan sawl Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud pobl yn sâl, a dylai’r Cynulliad yma anfon neges glir i ddweud bod sefyllfa felly’n warthus ac yn annerbyniol. Rhaid inni bwysleisio bod angen stopio niweidio pobl cyn bod modd inni eu helpu nhw.

Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi dewis iechyd meddwl fel pwnc ar gyfer y ddadl yr wythnos hon, wythnos pan gafodd diwrnod iechyd meddwl ei nodi ar draws y byd. Mae ffigurau’n dangos y bydd salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl yn ystod eu bywydau, ac erbyn 2020, bydd y problemau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn ail i glefydau’r galon fel prif gyfrannwr i’r baich clefyd yn fyd-eang. Dyna pam y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth fawr i’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Yr wythnos diwethaf, pleser oedd mynychu digwyddiad ‘Mae angen i ni siarad’ yn adeilad y Pierhead, cynghrair o elusennau iechyd meddwl y trydydd sector a sefydliadau proffesiynol sy’n ymgyrchu dros wella mynediad at therapïau seicolegol i bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd ‘Mae angen i ni siarad’ yn nodi cost problemau iechyd meddwl yng Nghymru, yr amcangyfrifir ei bod yn £7.2 biliwn y flwyddyn. Ac mae’r gost sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael yn y gweithle bron yn £1.2 biliwn y flwyddyn yn unig, ac mae hynny’n cyfateb i £860 am bob person sy’n cael ei gyflogi yn y gweithlu yng Nghymru. Ac er bod y ffigyrau hyn yn wirioneddol syfrdanol, mae’r gost i Gymru’n uwch byth, gan fod pob unigolyn sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn unigolyn: mam neu dad neu fab neu ferch; person cariadus sy’n dioddef, yn aml yn anweledig ac ar ei ben ei hun. Ni ellir gorbwysleisio gwerth diwrnodau a enwir megis Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a dadleuon fel hon. Mae stigma yn dal i fodoli ar y pwnc, ac er bod anafiadau corfforol megis torri coes yn ddealladwy, mae’n wir y gall effeithiau parlysol posibl problemau iechyd meddwl achosi her dawel i ni i gyd.

Wrth siarad am broblemau iechyd meddwl yr wythnos hon yn fy swyddfa, cafodd hunangofiant cricedwr Lloegr, Jonathan Trott, a oedd newydd ei gyhoeddi ei ddwyn i fy sylw. Roedd Trott yn gricedwr rhyngwladol hynod o lwyddiannus a chwaraeai dros Loegr, fel y bydd llawer o bobl yn gwybod rwy’n siŵr, cyn cyrraedd y penawdau newyddion yn 2013 pan ddychwelodd adref o Awstralia ar ôl prawf cyntaf cyfres y Lludw. Mae’r chwaraewr criced hwn, sydd i’w weld yn eithriadol o iach ac ar anterth ei bwerau yn ysgrifennu:

Nid oeddwn wedi cysgu, nid oeddwn wedi bwyta ac nid oeddwn wedi gallu atal y cur yn fy mhen.

Roedd yn dweud ei fod wedi gorfod ffonio’i dad i ddweud wrtho nad oedd yn gallu ymdopi mwyach a’i fod yn hedfan adref.

Ni ddywedodd hynny,

meddai,

ond gwyddwn y byddai’n siomedig.

Ac ysgrifennodd:

Roeddwn wedi siomi’r dyn roeddwn fwyaf o eisiau ei wneud yn falch ohonof.

Mae ei ddefnydd o iaith yn ddadlennol ac yn dorcalonnus. Yn ddiddorol, mae ei ddisgrifiad o’i salwch sy’n gysylltiedig â gorbryder a’i benderfyniad amlwg a chyhoeddus i ddisgrifio ei sefyllfa fel salwch sy’n gysylltiedig â gorbryder yn hytrach nag iselder wedi achosi dadl ynddo’i hun. Dywedodd cyn-gapten Lloegr, Michael Vaughan, ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei dwyllo ychydig bach, gan ddweud:

Pan glywaf chwaraewyr yn siarad am orweithio, rwy’n tybio ​​mai esgus yw hynny.

Mae enghraifft gyhoeddus Jonathan Trott, a gamddeallwyd gan ei gyd-chwaraewyr, ac a oedd i’w weld yn llwyddo ym mhob ffordd, yn rhybudd clir i ni o’r stigma sy’n parhau i chwyrlïo fel niwl diharebol Baker Street yn ‘Sherlock Holmes’. Mae’n dal i amgylchynu materion iechyd meddwl. Mae naw o bob 10 o bobl sydd â salwch meddwl yn canfod bod stigma a gwahaniaethu yn gallu bod yn rhwystr i weithgareddau bob dydd, a dyna pam y mae un o themâu canolog ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yn ymwneud â newid agweddau at iechyd meddwl yn ddiwylliannol, a pham y mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn y rhaglen lywodraethu.

Cefais fy nghalonogi o glywed datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ail gynllun cyflawni strategaeth drawslywodraethol 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Rwy’n cydnabod bod yna feirniadaeth, ac er bod Mind Cymru yn croesawu’r cynllun, soniodd eu cyfarwyddwr, Sarah Moseley, am eu pryderon fod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu tanariannu’n sylweddol, ond eto, yn 2015-16, mae’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn £587 miliwn, i fyny o £389 miliwn yn 2009-10. Mae hyn yn cyfateb i 11.4 y cant o gyfanswm cyllideb y GIG yng Nghymru, y maes unigol mwyaf o wariant y GIG yng Nghymru. Fel y dywedodd y Gweinidog iechyd ddoe, dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Mae’r cynllun cyflawni yn nodi maes blaenoriaeth sy’n anelu i sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella’n gynt. Ddoe roeddwn yn ffodus i fynychu dathliadau pen-blwydd Childline yn 30 oed yn y Senedd gyda’r Fonesig Esther Rantzen, ac mae’n werth nodi bod NSPCC Cymru, wrth roi sylwadau ar y ddarpariaeth, yn croesawu’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar flaenoriaethu’r mater hwn. Dylai buddsoddiad ychwanegol diweddar mewn gwasanaethau i blant a’r glasoed yng Nghymru barhau, ac mae’n bwysig fod llai eto o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau. Mae’n drueni, felly, fod Plaid Cymru wedi canolbwyntio eu cynnig newydd ar eu diddordeb arferol mewn pwerau i wleidyddion, yn wahanol i welliant y gwrthbleidiau sy’n mynd i’r afael â’r pwnc hwn. Fel y cyfryw, rwy’n croesawu’n fawr—

[Yn parhau.]—y ddadl bwysig hon ac yn yr un modd, penderfyniad cadarn Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â heriau darparu iechyd meddwl. Diolch.

Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd ar iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl, yn amlwg, ei bod wedi bod yn her i ni drafod hyn, ond yn fwy o her i bobl allu darparu gwasanaethau yn y maes hwn, ac i siarad am brofiadau personol, fel y mae llawer wedi’i wneud yn yr ystafell hon heddiw.

Fel arfer, rwy’n dechrau trwy siarad am hawliau a diogelu’r dioddefwyr, ond heddiw rwyf am ddweud stori fach am rywun sy’n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd meddwl yn ne Cymru a siaradodd â mi dros y penwythnos. Gweinyddwraig yw hi sy’n gweithio ar ran canolfan iechyd meddwl yn fy rhanbarth, ac nid yw wedi’i hyfforddi ym maes iechyd meddwl o gwbl. Yn wir, mae hi wedi gofyn ar sawl achlysur am gael hyfforddiant fel ei bod yn gwybod, pan wêl rywun yn dod drwy’r drws, y gall ymdopi â’r sefyllfa. Mae hi wedi cael profiad dair neu bedair gwaith lle mae un gŵr wedi ffonio i ddweud wrthi ei fod yn trywanu ei hun yn gorfforol yn ei stumog am nad yw eisiau byw mwyach, ac yn gofyn sut y gall hi ei helpu. Weithiau ni all ei atgyfeirio at feddyg, oherwydd bod y meddyg yn gweld rhywun arall yn y clinig a dywedodd wrthyf, ‘Mae arnaf ofn gan nad oes gennyf unrhyw gymwysterau, ond rwy’n delio â’r dyn hwn. Beth os yw’n llwyddo i ladd ei hun wrth wneud hyn? Oherwydd y tro nesaf, fe fydd yn marw, ac ni fyddaf yn gallu ei achub.’ Rwy’n credu bod clywed straeon felly—. Mae’r ystadegau’n bwysig, ond pan ddywedodd hynny wrthyf, roeddwn yn meddwl bod y wraig hon, sydd ar y raddfa gyflog isaf ar draws y GIG yn yr ardal honno, yn gorfod ymdopi â phrofiad mor drawmatig, ac mae’n rhaid iddi fynd â hynny yn ôl at ei theulu bob nos. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem i gyd ei gofio yn y drafodaeth hon.

Wrth gwrs, rwyf am drafod cyflogwyr hefyd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn mewn perthynas â sut y gallwn ddiogelu cyflogwyr yng Nghymru. Nid trafodaeth am bropaganda cenedlaetholgar mohoni. Mae’n ymwneud â sut y gallwn ddiogelu gweithwyr yn ein safleoedd GIG ac yn ein gwaith sector cyhoeddus oherwydd y bleidlais i adael yr UE pan fyddant yn diddymu’r union hawliau gweithwyr y dadleuodd y Blaid Lafur drostynt yn y lle cyntaf. Os nad ydym eisiau’r pwerau hynny yma, a’n bod eisiau i’r Ceidwadwyr yn San Steffan reoli dros y pwerau hynny, yna pam rydym yn ymhél â gwleidyddiaeth? Rwyf eisiau’r pwerau hynny yn y fan hon fel y gallwn ddiogelu’r bobl sy’n gweithio yn ein hamgylchedd a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel wrth weithio mewn amgylcheddau o’r fath.

Rydym wedi siarad yma heddiw am gyflogwyr sydd, o bosibl, wedi gwrthod neu na fydd yn cyflogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod y stigma yn dal i fod yno, er fy mod i a Llyr ac eraill, a David Melding, wedi siarad allan. Rwyf wedi cael negeseuon gan bobl yn dweud wrthyf, ‘Wel, mae’n wych eich bod wedi gwneud hynny, Bethan, ond nid wyf am ddweud wrth fy nghyflogwr fy mod yn dioddef naill ai o anhwylder deubegynol neu iselder, gan fy mod yn gwybod os af i’r gwaith yfory y byddant yn edrych arnaf yn wahanol a byddant yn fy ngweld yn wahanol, a byddant yn meddwl na allaf wneud fy ngwaith, yn rhinwedd y ffaith fy mod wedi fy labelu ag iselder.’ Rwy’n credu bod honno’n dal i fod yn her enfawr i Lywodraeth Cymru allu delio â hi.

Mater arall rwy’n angerddol yn ei gylch hefyd yw cael mwy o wersi hunan-barch a hyder mewn ysgolion. Nid wyf o reidrwydd yn dweud y dylem gael gwersi iechyd meddwl, oherwydd gallai hynny fod yn berygl ynddo’i hun, lle byddem yn dweud wrth rywun am gyflwr ac efallai y byddent yn teimlo’n nerfus ynglŷn â gwybod mwy am y clefyd hwnnw ar oedran mor ifanc. Felly, dyna pam, dros y blynyddoedd, y cefais gyfarfod gyda Jane Hutt, pan oedd Jane Hutt yn Weinidog Addysg, ynglŷn â cheisio cael gwersi llesiant o’r fath mewn ysgolion fel bod pobl, merched ifanc yn arbennig, yn gallu cael yr hyder i fynd allan heb gredu nad ydynt yn ddim mwy na gwrthrych rhywiol wrth iddynt gerdded ar hyd y stryd, gyda’r hysbysebion ar fyrddau arddangos, a’u bod yn mynd i gael eu gwrthrycholi am weddill eu bywydau, ac i gael anhawster i rymuso eu hunain pan fyddant yn tyfu i fyny i fod yn fenywod yn y gymdeithas hon.

Rwy’n meddwl y dof i ben drwy ddweud ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dadleuon hyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn llawer mwy pwysig ein bod yn gweld camau gweithredu ar waith yn awr. Mae gwasanaethau yn ei chael yn anodd ac mae gan ysgolion wasanaethau cwnsela sy’n gwegian o dan y pwysau. Mae angen i ni gael gwared ar rethreg o’r Siambr hon a gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn ymgyrchu yn ein priod ardaloedd er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar stigma a hefyd yn siarad â phobl mewn ffordd gadarnhaol ynglŷn â pham nad yw eu salwch meddwl yn eu diffinio. Efallai na fydd rhai pobl byth yn gallu—. Fel salwch corfforol, efallai y bydd modd ei drin ac y bydd yn diflannu am byth, ond weithiau bydd yn aros gyda chi. Ni ddylid gweld hynny fel peth gwael ac ni ddylai ddiffinio pwy ydych chi fel person. Ni ddylai fod yn fwy na rhan yn unig o ddarlun ehangach o bwy yw’r person hwnnw. Rwy’n gobeithio y gallwn adael y Siambr hon heddiw yn meddwl am hynny. Diolch yn fawr.

Rwyf am ffocysu fy sylwadau i ar wasanaethau i blant a phobl ifanc. Wrth gwrs, ni allwn ni sôn am wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc heb sôn am amserau aros CAMHS. Rydym yn gwybod eu bod nhw’n dal yn llawer rhy hir a heb eu hadfer i lefelau 2013, heb sôn am wireddu’r gwelliant rwy’n gwybod y mae pob un ohonom ni yn awyddus i’w weld yn digwydd. Mae amserau aros hefyd, wrth gwrs, yn bwysig o ran canlyniadau. Mae arolwg Gofal o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl wedi dangos bod yna gyd-berthynas glir rhwng amserau aros hir am driniaeth a’r tebygrwydd na fydd rhywun yn dweud bod eu hiechyd meddwl a llesiant wedi gwella. Ond, wrth gwrs, un mater yw rhestrau aros.

It’s just the tip of the iceberg. Waiting times are just the tip of the iceberg—it’s one aspect. Depression, anxiety and self-harm have become too common amongst a generation that have many worries about things like cyber bullying, pressure to fit an ideal body weight and, also of course, being handed a future of zero-hours contracts, massive students debts and endless austerity from a generation of politicians, let’s be honest, who faced none of those in their day. We all know that investment in early years is crucial for positive outcomes in terms of education and health, and in particular in preventing some of the problems that can arise later on in life.

Developments in neuroscience are also showing that the teenage years can be just as crucial for a person’s development as the early years. The rates of mental health problems rise steeply in mid-to-late adolescence. For adolescents aged 11 to 16 years, the rate of mental health problems is 13 per cent for boys and 10 per cent for girls. This figure approaches adult rates of around 23 per cent—a quarter—by the age of 18 to 20 years. We know also that 70 per cent of children and adolescents who experience mental health problems haven’t had appropriate interventions at a sufficiently early age—wholly unacceptable.

Whilst the Welsh Government have made a great deal about the launch of—or relaunch, maybe, of Healthy Child Wales for children up to the age of seven, there is, of course, no strategy for improving the health of teenagers, but the need for one is clear. The mortality rate for teenagers between 15 and 19 years old is higher in Wales than it is in England, and there’s been no reduction in deaths from intentional injury among the age group between 10 and 18 years old in three decades.

There’s also a need, of course, for supporting children who have adults with mental health problems in their lives. Looking after a family member with a mental health problem can lead to significant impacts on the carer’s own mental health, and of course that’s another reason why I’m sure we all agree that carers need better support.

So, what can we do? Well, schools clearly have a key role to play here and we need a whole-school approach towards promoting mental health and well-being. Pupils need to be taught about potential mental health problems that can happen and steps that can be taken to maintain good health. We need more proactive lessons, particularly aimed at girls in relation to having a healthy body image—but not just girls, boys as well are not to feel pressure to conform to unrealistic body images. Healthy relationships education also needs to happen and there’s much more, of course, that could be done.

I would like, as I come to the end of my contribution, to refer to the situation particularly in north Wales.

Rwyf eisiau sôn yn benodol am y sefyllfa yng ngogledd Cymru fel y mae hi heddiw. Y realiti yw bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wynebu £106 miliwn o ddyled erbyn diwedd y tair blynedd ariannol yma. Ac mae disgwyl, wrth gwrs, iddyn nhw wneud yn iawn am y ddyled yna. Ond mi fyddai torri £106 miliwn yn golygu rhyw 10 y cant yn llai o wariant y flwyddyn nesaf. Ac mae’n rhaid i mi ddweud bod cofnodion diweddara’r bwrdd yn datgelu bod 27 o reolwyr cyllid wedi gwrthod cytuno i doriadau yn eu cyllidebau, a fan hyn mae’r glec, wrth gwrs—mae’r mwyafrif o’r rheini yn gweithio ym maes iechyd meddwl, a hefyd nifer ym maes anableddau dysgu. Felly, mae’r toriadau mae Betsi Cadwaladr—bwrdd iechyd mwyaf Cymru, wrth gwrs, bwrdd sydd o dan fesurau arbennig hefyd, wrth gwrs—. Mae’r toriadau yna yn golygu y bydd y gwasanaeth pwysig yma yn dod o dan hyd yn oed mwy o bwysau yn y cyfnod sydd i ddod. Mae nifer eisoes yn cwyno ei fod e yn wasanaeth sinderela—wel, gyda’r esgid yn amlwg yn mynd i wasgu yn waeth dros y misoedd nesaf, mae e yn destun gofid pellach rwy’n siŵr i ni gyd, ac mi fyddwn i’n awyddus i glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r sefyllfa benodol yna yng ngogledd Cymru yn ei ymateb ef i’r ddadl hon.

Rhoddodd Bethan Jenkins enghraifft bwerus iawn o rywun yn gorfod delio â phroblemau iechyd meddwl ar sail dydd i ddydd, heb ddim o’r hyfforddiant y byddech fel arfer yn ei ddisgwyl. Mae fy merch, fel athrawes ysgol gynradd, yn aml yn dweud wrthyf am amgylchiadau poenus iawn y mae’n eu disgrifio am blant yn ei gofal, sy’n brofiad dyddiol i unrhyw athro ysgol gynradd, yn anffodus, mewn ardaloedd difreintiedig. Maent yn wir yn dod â dagrau i’ch llygaid, am fod y plant hynny’n dibynnu ar yr ysgol i fod yn fan diogel iddynt. Roeddwn i eisiau siarad am bwysigrwydd yr ysgol yn helpu i ddatrys rhai o’r problemau y mae plant yn eu hwynebu, problemau sy’n rhaid eu datrys yn yr ysgol, neu byddant yn tyfu’n broblemau iechyd meddwl eithaf sylweddol yn y pen draw wedi iddynt dyfu’n oedolion.

Gwyddom o ffigurau Llywodraeth Cymru ar gyfer y llynedd fod hunan-niweidio ymysg pobl ifanc wedi cyrraedd lefel uwch nag y bu ers pum mlynedd, gyda mwy na 1,500 o bobl ifanc rhwng 10 a 19 yn cael eu trin yn ysbytai Cymru am niweidio’u hunain. Rydym hefyd yn gwybod bod plant yn defnyddio hunan-niwed fel ffordd o geisio ymdrin â chyflyrau emosiynol anodd iawn. Yn aml, bydd plant yn camddehongli digwyddiadau y byddai oedolion yn eu hystyried yn fach ac yn ddibwys, ond heb allu eu trafod yn iawn gydag oedolyn, byddant yn dod yn broblemau mawr ym meddwl y plentyn. Rwyf am dynnu sylw at y ffaith fod adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a gyhoeddwyd ar y we ym mis Chwefror yn canolbwyntio ar y ffaith fod disgyblion a gefnogir gan y grant amddifadedd disgyblion mewn mwy o berygl o ddioddef problemau iechyd meddwl na disgyblion eraill.

Ddoe, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant am y ffocws ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r angen i’w lleihau os nad ydym yn mynd i gael mwy a mwy o’r un problemau’n ailadrodd o un genhedlaeth i’r llall, gyda phobl yn mynd yn ddi-waith, neu’n cael eu derbyn i ysbytai iechyd meddwl, neu’n mynd i’r carchar. Cytunaf yn llwyr â hynny. Felly, rwy’n meddwl bod yna lawer y gellir ei wneud mewn ysgolion, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn deillio o gam-drin geiriol yn bennaf a rhieni’n gwahanu, rhag cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

Roeddwn eisiau nodi’r pwynt a wnaethoch am ardaloedd difreintiedig. Ymwelais â ffrind sy’n gweithio mewn ysgol breifat yn Llundain i siarad ag ef am lawer o’r materion hyn, ac mewn gwirionedd, roedd yna ynysu oddi wrth eu rhieni yno am eu bod yn byw i ffwrdd oddi wrthynt, ac roeddent yn dioddef problemau iechyd meddwl, yn union fel pobl mewn ardaloedd difreintiedig.

Ni fyddwn yn anghytuno â hynny, ond rwy’n dal i feddwl bod amddifadedd yn cyfrannu’n sylweddol at afiechyd emosiynol.

Hoffwn dalu teyrnged i Angela Rayner, sef Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Addysg mewn man arall, a siaradodd mor ddewr am anallu ei mam i’w charu, ac roedd hyn ym mhresenoldeb ei mam, o flaen tua 1,000 o fenywod. Rwy’n meddwl bod honno’n weithred mor ddewr, ar ran ei mam a hithau, a oedd yn rhan o’i thaith mewn gwirionedd i sicrhau na fydd yr anallu hwnnw i garu yn cael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Un o’r pethau rwy’n meddwl fy mod wedi siarad amdanynt o’r blaen yw’r rhaglen Roots of Empathy y mae Gweithredu dros Blant wedi bod yn ei chyflwyno yn Ysgol Gynradd Llanedeyrn yn fy etholaeth i, ac sydd wedi cael ei gwerthuso fel rhywbeth sy’n delio o ddifrif â gwewyr plant ynglŷn â’r anallu i ddeall beth sy’n gwneud perthynas gadarnhaol. Ac mae hyn yn ymwneud â chael rhiant a babi i ddod i mewn i’r ysgol unwaith bob pythefnos, a galluogi’r plant hyn i ddatblygu’r berthynas honno. Mae hyn yn lleihau ymddygiad ymosodol ar y buarth ac absenoldeb.

Yn Ysgol Uwchradd Cathays, mae gennym hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar ac arferion adferol, sydd hefyd wedi sicrhau bod cydnerthedd emosiynol yn cael ei ddatblygu yn ein pobl ifanc ar gyfer yn nes ymlaen mewn bywyd. Rwy’n meddwl ei bod yn gwbl glir o adroddiad cynnwys y cleifion a’r cyhoedd ac adroddiadau eraill a wnaed fod yn rhaid iddi fod yn ymagwedd systematig, ar sail yr ysgol gyfan tuag at iechyd emosiynol, llesiant a chydnerthedd. Ni all ddigwydd mewn un wers yn unig; rhaid iddo fod yn rhywbeth a wneir ar draws yr ysgol, ac rwy’n meddwl ei fod wedyn yn cynorthwyo plant sy’n cael amser anhapus mewn mannau eraill i gael, neu o leiaf i ddatblygu cydnerthedd emosiynol i oresgyn y problemau hynny.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, gan ein galluogi i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif fod un o bob pedwar ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae’n amlwg fod angen i ni roi blaenoriaeth uchel i iechyd meddwl.

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn troi at y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun i helpu i leihau’r stigma sy’n dal i fod yn gysylltiedig â salwch meddwl. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’n wirioneddol annifyr fod yn rhaid i bobl sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael ddelio hefyd â stigma, aflonyddu a diffyg dealltwriaeth lwyr. Mae arolwg a gynhaliwyd gan Amser i Newid wedi gweld bod stigma a gwahaniaethu yn hollbresennol, gydag yn agos at naw o bob 10 defnyddiwr gwasanaethau yn sôn am ei effaith negyddol ar eu bywydau. Mae dwy ran o dair wedi rhoi’r gorau i wneud pethau oherwydd stigma a dwy ran o dair wedi rhoi’r gorau i wneud pethau oherwydd eu bod ofn stigma a gwahaniaethu. Pa mor aml y clywsom am bobl sy’n dioddef o iselder yn cael eu gorchymyn i ymwroli neu fod angen iddynt roi’r gorau i lyfu clwyfau, ac i ddod at eu coed? Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae’r agweddau hyn yn atal pobl sy’n dioddef o salwch meddwl rhag siarad allan neu rhag ceisio cymorth hyd yn oed. Mae llawer gormod o bobl yn cael eu gwneud i deimlo cywilydd a’u bod wedi’u hynysu ac yn ddi-werth o ganlyniad i’w problemau iechyd meddwl. Mae gennym i gyd ran i’w chwarae i’w gwneud yn haws i bobl â phroblemau iechyd wneud ffrindiau, gweithio a byw bywyd hollol lawn.

Yn ogystal â mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu, mae’n rhaid i ni sicrhau triniaeth amserol i unrhyw un sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad fel therapi gwybyddol ymddygiadol yn gwella adferiad ac yn lleihau’r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell na ddylid aros yn hwy na 28 diwrnod am atgyfeiriad am driniaeth gyntaf, a phan fydd rhywun yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, mae’n rhaid i’r amser aros fod yn fyrrach.

Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid i ni sicrhau bod yr arian cywir yn ei le. Problemau iechyd meddwl yw tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru a wariwn ar iechyd meddwl. Yn Lloegr, lle nad yw’r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei neilltuo, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl. Mae un bwrdd iechyd lleol, Aneurin Bevan, yn gwario dros 17 y cant yn fwy na’r dyraniad a neilltuwyd ar ei gyfer fel mater o drefn. Mae PricewaterhouseCoopers, yn eu hadolygiad o’r trefniadau neilltuo cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad yw’r dyraniad o arian a neilltuwyd yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i newid y trefniadau neilltuo arian.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi’r cyfle hwn i gynnal y ddadl hon. Rwy’n croesawu ac yn cefnogi eu galwad i addysgu pobl ifanc am faterion iechyd meddwl. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.

Rwy’n meddwl bod llawer eisoes wedi cael ei ddweud yn rymus iawn yn y ddadl hon, ac wedi’i gynnwys, felly nid wyf yn mynd i sôn am y meysydd sydd wedi cael sylw eisoes. Rwyf am gyfyngu fy sylwadau, yn eithaf byr, i gefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl yn y gweithle.

A gaf fi ddechrau drwy ganmol y bwriad sy’n sail i’r cynnig hwn gan Blaid Cymru? Ond rwy’n credu bod trydydd argymhelliad y cynnig yn gwyro oddi wrth yr hyn a ddylai fod yn brif fyrdwn y ddadl. Gallem dreulio misoedd lawer neu fwy mewn dadleuon cyfreithiol â Llywodraeth y DU dros gymhwysedd y weinyddiaeth ddatganoledig hon i ddeddfu ar faterion cyflogaeth. Ac mae’r dadleuon hynny’n sicr yn ganolog wrth fynd i’r afael, er enghraifft, â chymhwyso darpariaethau’r Ddeddf Undebau Llafur 2016 lechwraidd yma yng Nghymru i wasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond nid ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio wrth i ni sôn am faterion iechyd meddwl yn y gweithle.

Wrth gwrs, mae gennym gyfraith cyflogaeth eisoes sy’n darparu diogelwch i weithwyr rhag gwahaniaethu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, er fy mod yn deall amheuon y cynigydd ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i hynny. Mae ‘A yw’r ddeddfwriaeth yn ddigon cryf?’ yn gwestiwn y gellir ei ofyn bob amser, wrth gwrs, ond efallai mai ‘A yw’r ddeddfwriaeth yn cael ei chymhwyso’n effeithiol yn y gweithle?’ ddylai’r cwestiwn fod. Un peth rwyf wedi’i ddysgu yn ystod yr oddeutu 30 mlynedd a dreuliais yn aelod gweithredol ac yn drefnydd undeb llafur, yw y gallwch roi cymaint o ddeddfwriaeth ag y dymunwch ar waith, ond ni fyddwch byth yn rhoi terfyn ar wahaniaethu o unrhyw fath yn y gweithle, oni bai eich bod yn mynd i’r afael â’r diwylliant o ragfarn yn y gwaith ac yn sicrhau bod mecanweithiau cymorth cadarn ar waith ar gyfer dioddefwyr gwahaniaethu. Dyna pam rwy’n llwyr o blaid y gwelliant gan Jane Hutt, sy’n cydnabod rôl bwysig cyflogwyr yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.

Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ei ddatganiad yn y Siambr hon ddoe wedi cyfeirio at gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau a sefydliadau i gydnabod na ddylai salwch meddwl fod yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Ceir rhai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr yng Nghymru, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy’n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr i’w gweithwyr, nid yn unig i’w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae’r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl fel rhan annatod o’u strategaethau iechyd a diogelwch.

Rwyf hefyd yn awyddus i gydnabod y rôl bwysig y mae undebau llafur yng Nghymru yn ei chwarae yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn y gwaith, ond hefyd drwy fod ar y blaen yn darparu’r gefnogaeth gadarn honno yn y gweithle. Rwy’n arbennig o falch o’r gwaith a wnaed gan fy undeb fy hun, Unsain Cymru, sydd wedi trefnu cyrsiau hyfforddiant i benodi hyrwyddwyr iechyd meddwl er mwyn eu galluogi i roi cymaint o gymorth â phosibl i gydweithwyr sy’n dioddef o straen, gorbryder ac iselder.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n ddiolchgar o fod wedi cael cyfle i siarad yn y ddadl hon ac i gefnogi’r gwelliant gan Jane Hutt, a fyddai, fel y dywedais, yn gwneud hwn yn gynnig y gallai’r holl Siambr ei gefnogi yn fy marn i, a byddai’n darparu’r ysgogiad ar gyfer mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ein gweithleoedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl a’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at ddadl aeddfed a synhwyrol, a chredaf ei bod yn adlewyrchu agwedd y Siambr hon dros amryw o dymhorau ar y mater hwn. Oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud, rydym i gyd yn cydnabod y bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg neu’i gilydd, boed yn uniongyrchol fel unigolion sy’n dioddef, neu ffrindiau, teuluoedd neu anwyliaid. Rwy’n cefnogi egwyddorion y cynnig heddiw.

Wrth gwrs, dydd Llun oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, pan lansiais ail gynllun cyflawni’r Llywodraeth i gefnogi ein strategaeth 10 mlynedd drawslywodraethol, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, a ddoe, yn ystod fy natganiad llafar, aethom drwy’r cynllun cyflawni’n fwy manwl ar gyfer y tair blynedd nesaf. Nodwyd 10 maes blaenoriaeth gennym ar gyfer gwella, a sut y disgwyliwn weld hynny’n cael ei ddatblygu a’i gyflwyno mewn gwirionedd.

Fe ddechreuaf gyda stigma a gwahaniaethu, materion, unwaith eto, y buom yn eu trafod ddoe. Rwy’n falch o glywed amryw o Aelodau’n crybwyll y mater hwn yn eu cyfraniadau heddiw, a hefyd i ymateb i’r Aelodau hynny yn y Siambr hon a fu’n siarad am eu profiadau hwy eu hunain o ddioddef salwch meddwl mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod i gyd yn arddangos elfen o arweiniad yma, fel unigolion ac fel aelodau yn y lle hwn, yn y ffordd rydym yn ymddwyn. Mae’r ffordd rydym yn siarad am y materion hyn yn gwneud gwahaniaeth.

Er ein bod yn gwybod bod agweddau’n newid, mae’n dal i fod llawer mwy i’w wneud. Dyna pam y mae’n flaenoriaeth yn y rhaglen lywodraethu newydd ac mae hefyd yn elfen allweddol o’r cynllun cyflawni, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Rwy’n falch iawn fod Aelodau eraill yn y Siambr hon, ym mhob plaid, wedi cydnabod gwerth yr ymgyrch Amser i Newid Cymru. Dyma’r ymgyrch genedlaethol gyntaf o’i bath i helpu i roi diwedd ar wahaniaethu a stigma i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl. Wrth gwrs, prif nod hyn yw herio’r problemau hynny ond hefyd i geisio newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn siarad am y materion hyn. Mae’r bartneriaeth sydd wedi dod â hynny at ei gilydd gyda Mind, Hafal a Gofal, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi cefnogi hynny gyda £0.5 miliwn o gyllid.

Byddwn hefyd yn cefnogi digwyddiad ar stigma yn gynnar yn y flwyddyn newydd a gynhelir mewn partneriaeth â Mind, Gofal a Hafal, i wneud yn siŵr nad yw’r mater yn llithro oddi ar yr agenda. Rydym wedi gwneud llawer, a dylem fod yn falch ohono, ond mae’n dal i fod llawer mwy i’w wneud.

Bydd y materion ynglŷn â stigma a gwahaniaethu hefyd yn llywio’r rhaglen wrth-stigma newydd i bobl ifanc a fydd yn cael ei harwain gan bartneriaeth Amser i Newid. Dros gyfnod y prosiect, rydym yn disgwyl i hyrwyddwyr ifanc ymgysylltu ag o leiaf 5,000 o bobl ifanc ac yn anelu i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, negeseuon gwrth-stigma a gweithgaredd i atgyfnerthu hynny.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer o Aelodau wedi cyfeirio at fyd gwaith yn eu cyfraniadau. Wrth gwrs, fel y nodwyd gennym ddoe, unwaith eto, gall problemau iechyd meddwl effeithio’n enfawr ar allu rhywun i weithio, ond hefyd mae gwaith da yn dda i iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl hefyd. Felly, drwy ein rhaglen Cymru Iach ar Waith, rydym yn cynorthwyo cyflogwyr i gydnabod nad yw iechyd meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio ac mai cyflogaeth gynaliadwy yn aml yw’r ffordd orau o gynorthwyo unigolion i’w helpu i wella o unrhyw gyfnodau o salwch meddwl. Mae’r rhaglen Cymru Iach ar Waith yn ein galluogi i gynorthwyo cyflogwyr i gynorthwyo eu staff eu hunain i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain. Mae dros 3,000 o gyflogwyr eisoes yn ymwneud â Cymru Iach ar Waith a rhyngddynt, maent yn cyflogi dros 460,000 o bobl yng Nghymru. Felly, mae cyrhaeddiad y rhaglen honno eisoes yn arwyddocaol.

Er mwyn adeiladu ar hyn a symud ymlaen, rydym wedi datblygu rhaglen, a ariennir drwy gronfeydd strwythurol Ewrop, i gadw pobl mewn gwaith a helpu pobl i symud yn nes at waith yn ogystal. Mae ffocws y rhaglen ar gefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Felly, mae’r gwasanaeth cymorth mewn gwaith yn anelu i helpu dros 4,000 o bobl a 500 o gyflogwyr drwy ddarparu mynediad cyflym at therapïau sy’n canolbwyntio ar waith i bobl sydd mewn perygl o fod yn absennol o’r gwaith yn hirdymor. Nod y gwasanaeth i’r di-waith yw cynorthwyo 6,000 o bobl i oresgyn rhwystrau iechyd i gyflogaeth, gan eu symud yn agosach at waith neu i gael gwaith. Mae’r rhaglenni hyn wedi sicrhau dros £8 miliwn o gymorth cyllid strwythurol Ewropeaidd dros dair blynedd.

Unwaith eto, rwy’n hapus i gydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, nid yn unig yn y ddadl heddiw, ond yn ystod y datganiad ddoe a sawl un arall, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn wir yn y dyfodol, sef y modd rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc. Unwaith eto, mae hon yn elfen allweddol, fel y byddech yn disgwyl iddi fod, o’n dull o wella iechyd meddwl a lles a mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn parhau i ddadlau ynghylch CAMHS a’r hyn rydym yn ei wneud hyd nes ein bod yn cydnabod bod amseroedd aros mewn man lle mae pawb ohonom yn cydnabod ein bod mewn sefyllfa dderbyniol a’n bod yn gweld gwelliant go iawn a pharhaus. Nid wyf yn cilio rhag hynny. Dyna pam y mae’n flaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni. Yn benodol, yr amcan ehangach i ddatblygu cydnerthedd a lles emosiynol ymhlith plant a phobl ifanc i wneud yn siŵr ein bod wedi helpu i ddatblygu cydnerthedd a lles emosiynol plant cyn iddynt gyrraedd eu harddegau, fel ein bod yn gweld llai o broblemau’n codi ar yr adeg honno ac yn ddiweddarach yn eu bywydau fel oedolion.

Fel y byddwch wedi clywed ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mae yna dystiolaeth gref fod lles plant yn gysylltiedig â’u canlyniadau addysgol. Ar gyfartaledd, mae plant sydd â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol yn cyrraedd lefelau uwch o gyflawniad academaidd. Maent hefyd i’w gweld yn cymryd mwy o ran yn yr ysgol, addysg uwch, gwaith ac agweddau eraill ar fywyd mewn blynyddoedd diweddarach. Dyna pam y byddwn yn cryfhau ein gwaith gydag ysgolion a cholegau i helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n well a gobeithio, i drechu rhai o’r problemau mwy newydd na fu’n rhaid i bobl fel fi eu hwynebu. Er enghraifft, mae’r rhyngrwyd a rhwydweithio cymdeithasol yn creu gwahanol heriau a phroblemau sy’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt.

Felly, rydym yn anelu at wneud mwy nag ymyrryd pan fydd problemau’n dechrau dod yn amlwg; rydym yn anelu at fynd ati i hyrwyddo’r lles cadarnhaol hwn. A dyna pam rydym yn cefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Maent ym mhob ysgol uwchradd ac ar gael i ddisgyblion blwyddyn 6 hefyd. Roeddwn yn falch o glywed Jenny Rathbone yn sôn am y ffaith fod rhai ysgolion yn defnyddio’u harian Grant Amddifadedd Disgyblion yn gadarnhaol i helpu gyda chwnsela mewn ysgolion er mwyn hyrwyddo lles plant a chymuned y rhieni yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, mae cyfle yn rhan Addysg Bersonol a Chymdeithasol y cwricwlwm: mae’n safonol, mae’n ddisgwyliedig, ac felly mae’n rhan o bob cwricwlwm ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, ac mae’r cyfle yno i feddwl sut rydym yn hyrwyddo negeseuon yn gadarnhaol yn y maes hwn hefyd. Ond fel mater o—. Mae hwn yn fater lle rydym wedi buddsoddi £13 miliwn mewn cyllid grant dros bum mlynedd yn y maes hwn. Mae bellach yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw ar gael ar gyfer gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.

O ran rôl gwasanaethau cyhoeddus—ac unwaith eto, rwy’n falch o weld y rhain yn cael sylw yn y cynnig—fe fyddwch yn ymwybodol fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd at y nodau lles, ac mae hynny’n ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol a lles yn ogystal. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod Comisiwn y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill—dros 30 o gyrff cyhoeddus—wedi llofnodi adduned sefydliadol Amser i Newid Cymru.

Rwyf am ymdrin â’r cyfeiriad at gyfraith cyflogaeth yn y cynnig, ac yma rwy’n cytuno â Dawn Bowden a adwaenwn mewn bywyd gwahanol, pan oedd ganddi swydd roedd pobl yn ei pharchu mewn undeb llafur ac roeddwn i’n gyfreithiwr, swydd nad oedd o reidrwydd yn cael ei pharchu gan bawb, ond y realiti bob amser oedd y byddai’r gyfraith yn dweud un peth, ond roedd y cyfan yn ymwneud â sut roeddech yn mynnu eich hawliau. A dweud y gwir, gyda stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl, yr her oedd sut roeddech yn cyrraedd y pwynt lle byddech wedi datrys y materion hynny heb orfod troi at y gyfraith. Roedd hynny bron bob amser yn ymwneud â diwylliant sefydliadol a newid meddyliau cyflogwyr, oherwydd yn aml roedd y safbwynt polisi a oedd gan bob cyflogwr yn swnio’n berffaith. Yr her bob amser oedd: sut rydych yn ymdrin â hynny a sut rydych yn gwneud y newid hwnnw? Mae’r gyfraith yn rhan ohono, ond mae’r her ddiwylliannol honno’n rhan hyd yn oed yn fwy. Rwyf am ddweud wrth gyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru y byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Os nad yw hwnnw’n cael ei basio, byddwn yn gofyn i’r Siambr gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Ond nid yw anghytuno gonest ynglŷn â datganoli cyfraith cyflogaeth yn golygu nad ydym yn poeni. Nid yw’n golygu nad yw hyn yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Yn syml, anghytundeb ydyw ynglŷn â sut rydym yn cyrraedd yno a ble y dylai’r pwerau fod.

Rwyf am orffen ar y rhan hon, oherwydd, yn y ddadl heddiw ac yn flaenorol, cafwyd cryn dipyn o gefnogaeth drawsbleidiol a chonsensws. Dyna sut y pasiwyd y Mesur iechyd meddwl yn y lle cyntaf, ac mae pob plaid yn y Siambr hon sydd wedi bod yma dros yr ychydig dymhorau diwethaf wedi haeddu canmoliaeth am y ffordd y cyflwynwyd y Mesur hwnnw a’r modd y caiff ei weithredu. Rwy’n gobeithio ein bod yn cynnal y consensws eang hwnnw, gan fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd a gallu i ddylanwadu ar y ddadl hon yn gadarnhaol, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl ar draws y pleidiau i gyd, gan ein bod yn cydnabod bod llawer rydym eisoes wedi ei gyflawni, ond mae llawer mwy i’w wneud hefyd cyn y gall pob un ohonom ddweud ein bod yn hapus ac yn fodlon. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth adeiladol y prynhawn yma am y cyfraniadau o ar draws y Siambr? Diolch. Rydym ni wedi clywed straeon pwerus iawn. Mi wnaf i enwi Bethan Jenkins fel un a ddaeth â phrofiad un etholwraig i’n sylw ni fel rhan o’r drafodaeth yma mewn modd cryf iawn.

So, thank you for all your contributions. Not surprisingly, there is much agreement on this principle of what we’re trying to achieve in terms of people’s attitudes, and I welcome the contributions of Members from across the Chamber, across political divides. In practical terms, in policy terms, Angela Burns said that the differences between us came down to seven words. I do regret that the Conservatives, along with Labour and UKIP, won’t take on the challenge of seeking devolution of employment law. Angela Burns said it was a nationalist thrust. We seek devolution in this area with a purpose, and with the threats her party at Westminster are posing to the rights of people in employment, we need to ensure that we have in our hands—us, the people of Wales—the powers to guard the interests of the people of Wales, especially some of the most vulnerable in our society. So, UKIP agreed with the Conservatives; Labour also, in their amendments, choose to reject the notion of taking responsibility in this area and to trust the Tory UK Government instead, even though the Member for Merthyr Tydfil acknowledged that we are in a very different context following that vote in June, perhaps facing a very real threat to some of the laws that do protect people within our society, and laws that protect workers with mental health problems.

But, putting that very important issue to one side, this debate rightly brings us all together in our determination to address prejudice in our attitudes towards mental health. On that point of disagreement, I would appeal to Labour and the Conservatives to reconsider their amendments to protect our most vulnerable workers, and I would say, ‘Be brave and seek the powers that will potentially make fighting that prejudice more easy in the future’.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth

Symudwn ymlaen at ein heitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awtistiaeth. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6114 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy’n effeithio ar fwy nag un o bob 100 o blant ac oedolion yng Nghymru—34,000 amcangyfrifedig o bobl awtistig, pob un wedi’i effeithio mewn ffordd wahanol. Gyda theuluoedd a gofalwyr, mae tua 136,000 o bobl yn y gymuned awtistiaeth yn byw yng Nghymru. Mae ein cynnig yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad.

Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth i Gymru. Cafodd hyn ei basio, gyda 29 o Aelodau yn pleidleisio o blaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o bob plaid, a neb yn pleidleisio yn erbyn, er bod 21 wedi ymatal. Mae’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru yn troi atom heddiw i fynd ymhellach a rhoi neges glir ac ysgubol ei bod yn disgwyl Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl. Er mai cynllun gweithredu strategol Cymru ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig oedd y cyntaf o’i fath yn y byd, nid oes gan awtistiaeth hunaniaeth statudol yng Nghymru, sy’n golygu bod pobl yn aml yn methu â chael cymorth effeithiol oni bai fod ganddynt broblemau iechyd meddwl cysylltiedig neu anawsterau dysgu. Mae yna bryderon difrifol na fydd diweddariad Llywodraeth Cymru o’r strategaeth yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau rydym i gyd am eu gweld oni bai ei fod wedi’i gefnogi gan ddeddfwriaeth. Er mwyn i Gymru ailfynnu ei lle ar flaen y gad gydag awtistiaeth, mae angen Deddf awtistiaeth, i roi i bobl ag awtistiaeth yr hyder y byddant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Pleidleisiodd cyfarfod llawn o grŵp awtistiaeth trawsbleidiol y Cynulliad ym mis Tachwedd 2014 yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth.

A wnaiff yr Aelod ildio? Mae awtistiaeth yn gyflwr niwrolegol gyda chyflyrau cydforbid trallodus fel gorbryder ac anhwylder obsesiynol cymhellol. Mae’n effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae syndrom Tourette yn anhwylder niwrolegol gyda chyflyrau cydforbid trallodus fel anhwylder obsesiynol cymhellol a gorbryder. Pam y mae un yn haeddu Deddf ac nid y llall?

Siaradwch â’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru—mae yna faterion trawsbynciol—gan y byddech yn dysgu ganddynt. Ond mae’r cynnig hwn yn ymwneud yn benodol â phryderon cymuned sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers nifer o flynyddoedd a chânt eu gadael ar ôl o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig ar hyn.

Nawr, o Ystradgynlais, clywsom yn y cyfarfod hwnnw fod pobl yn cael cam a’u bod yn ddig fod yn rhaid iddynt ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, a’i bod yn bwysig nad yw pobl ag awtistiaeth yn anweledig i wasanaethau. O Ferthyr Tudful, clywsom na ddylai awtistiaeth fod yn loteri cod post. O Flaenau Gwent, clywsom nad oes gwasanaethau i oedolion yn bodoli yn y bôn, a’i bod yn rhwystredig iawn i riant orfod ymladd i’r eithaf er mwyn i’w plentyn gael y gwasanaethau y mae eu dirfawr angen; o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, fod y strategaeth wedi addo cyflawni cymaint, ond mae pobl yn cael eu gwthio i argyfwng pellach; o Wynedd ac Ynys Môn, fod angen Deddf awtistiaeth i ddiogelu a chryfhau gwasanaethau a sicrhau cysondeb o ran y cymorth; ac o Ben-y-bont ar Ogwr, fod pryder ynglŷn â ble’n union y mae awtistiaeth yn ffitio i mewn. Mynegwyd pryder wrthyf hefyd ynglŷn â chymorth yn Sir y Fflint a Wrecsam. Roedd gohebiaeth gan wasanaethau cymdeithasol Sir Ddinbych wedi datgan y byddai plentyn ag awtistiaeth ond yn gymwys i gael gwasanaeth gan yr adran os oedd ganddo anabledd corfforol neu anabledd dysgu ychwanegol. Ond mae cyflwr ar y sbectrwm awtistig, neu ASD—er nad wyf yn hoffi’r gair ‘disorder’—yn gyflwr yn ei hawl ei hun, ac mae’r strategaeth awtistiaeth yn datgan na ddylai

diagnosis ffurfiol... fod naill ai’n rhagofyniad cyn cael asesiad llawn o anghenion ehangach pob person ac ni ddylai ychwaith fod yn rheswm dros beidio ag ymyrryd mewn modd amserol.

Yn anffodus, nid yw hynny’n cael ei werthfawrogi’n llawn gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau ond heb fod dyletswydd statudol arnynt i wneud hynny. Nid yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac yn anhawster dysgu, ond mae’n disgyn rhwng dwy stôl, gan nad oes unman arall i fynd.

Cadeiriais gynhadledd awtistiaeth flynyddol gyntaf gogledd Cymru ddydd Gwener diwethaf, ble y cefais gopi o lythyr at y bwrdd iechyd gan wahanol rieni yn datgan bod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, neu CAMHS, yn methu, gydag asesiadau awtistiaeth preifat gan arbenigwyr a gyflogir fel arall gan CAMHS yn cael eu diystyru. Mae e-bost a ddaeth i law ddoe gan fam yn Sir Fynwy yn dweud:

Mae fy mhlentyn yn haeddu cael ei addysgu a derbyn gofal iechyd a’r cyfle i ennill cyflogaeth ystyrlon fel oedolyn. Ni ddylwn i, fel mam, orfod dioddef y pwysau a’r straen aruthrol er mwyn ennill y pethau hyn sy’n dod fel mater o drefn i blant eraill.

Ysgrifennwyd yr ymateb gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i’r ddogfen ymgynghorol ar ddiweddariad y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig gyda mewnbwn ac adborth gan aelodau eu canghennau ledled Cymru. A gadewch i ni gofio bod hwn yn sefydliad a arweinir gan yr aelodau sy’n cynrychioli pobl ar y sbectrwm eu hunain, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod. Rwyf wedi cyfarfod, fel yntau rwy’n siwr, â llawer o’r grwpiau a grybwyllodd yn ei araith. Soniodd am y cynllun gweithredu. Yn sicr, un o’r pethau y dylem fod yn edrych arno yw archwilio sut y mae’r cynllun gweithredu yn gweithio a sut, ymhen amser, y gallai fod angen i ni roi hynny ar sylfaen statudol i sicrhau’r mynediad cywir a’r chwarae teg y siaradodd amdanynt. Gellir gwneud hynny drwy Ddeddf, neu gellid ei wneud drwy ddulliau deddfwriaethol eraill, ond yr hyn sy’n bwysig yw bod pobl â hawl statudol i’r gwasanaethau hynny.

Mae’n bwysig fod ganddynt hawl statudol i’r gwasanaethau hynny. Ni allwn aros am ddiweddariad arall o’r strategaeth; rydym wedi aros yn rhy hir, a byddaf yn mynd i’r afael â’r pryderon sy’n cyfiawnhau’r safbwynt hwnnw a fynegwyd wrthyf gan y gymuned wrth i mi ddatblygu fy araith.

Wel, roedd hwn yn datgan bod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur llawer mwy manwl o’r cynnydd tuag at gyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid rydym i gyd am ei weld i blant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd. Mae hynny’n seiliedig ar adborth gan bobl yn y gymuned ei hun. Derbyniodd arolwg ar-lein NAS Cymru 2015 i ddarganfod beth sy’n bwysig i bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth 668 o ymatebion gan bobl awtistig sy’n byw yng Nghymru, neu lle nad oeddent yn gallu cymryd rhan, gan eu rhieni neu eu gofalwyr. Roedd bron i 90 y cant yn dweud bod angen deddfwriaeth awtistiaeth benodol yng Nghymru sy’n debyg i’r hyn sy’n bodoli eisoes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, er mwyn bywiogi eu strategaethau. Dywed yr adroddiad ar yr arolwg:

er gwaethaf y cynnydd a wnaed, mae anghenion pobl awtistig yn dal i gael eu hanwybyddu ar lefel leol. Mae teuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm yn sôn am orfod aros blynyddoedd i gael diagnosis. Nid yw awdurdodau lleol yn gwybod faint o bobl awtistig sy’n byw yn eu hardal ac felly nid ydynt yn cynllunio’n briodol ar gyfer y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid yw gweithwyr proffesiynol yn gallu cefnogi pobl ar y sbectrwm yn iawn, gan nad ydynt wedi cael digon o hyfforddiant a dealltwriaeth. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg fod angen camau pendant gan y Llywodraeth.

Mae’n argymell bod Deddf awtistiaeth i Gymru

yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd i sicrhau... llwybr clir i ddiagnosis o awtistiaeth ym mhob ardal; yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gofnodi nifer y plant ac oedolion awtistig sy’n byw yn eu hardal er mwyn llywio prosesau cynllunio.

A pheidiwch â dweud wrthyf na ellir ei wneud, gan fod y rhannau eraill o’r DU yn llwyddo i’w wneud. Mae’n dweud y dylai pob ardal leol

ddefnyddio’r data hwn, ynghyd ag ymgynghori â phobl leol ar y sbectrwm a’u teuluoedd i ddatblygu cynllun ar sut y byddant yn ateb anghenion y boblogaeth awtistig leol; sicrhau bod y data hwn yn cael ei adolygu a’i rannu rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn rheolaidd er mwyn sicrhau prosesau pontio llyfn i bobl ifanc awtistig; sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu datblygu i nodi pa weithwyr proffesiynol sydd angen pa lefel o hyfforddiant i sicrhau bod plant ac oedolion awtistig yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol sy’n eu deall; gwneud yn glir na ddylai plant ac oedolion awtistig gael eu troi ymaith rhag gwneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn ‘rhy alluog’ a bod eu IQ yn ‘rhy uchel’; adolygu’r data’n rheolaidd a’i fonitro i sicrhau bod cynnydd clir yn cael ei wneud.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd un ymateb i’w ymgynghoriad ar y cynllun ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf, nid oedd Deddf awtistiaeth yn rhan o’r ddogfen ymgynghori na’r cwestiynau ymgynghori. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw eto, ond rydym yn amau ​​bod llawer o gyfeiriadau at yr hyn y gallai ac y byddai Deddf yn ei wneud, h.y. sicrhau llwybr clir at ddiagnosis; hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol; datblygu cynlluniau lleol ar gyfer gwasanaethau; a chymorth yn seiliedig ar angen yr unigolyn. Heb ddeddfwriaeth, nid yw strategaeth yn ddim ond rhestr wirfoddol o ddymuniadau heb unrhyw rwymedigaeth ar awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol i’w gweithredu, na ffordd felly o sicrhau iawn. Yn ôl yr ymgynghoriad ar y strategaeth awtistiaeth ar ei newydd wedd, roedd y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd i fod i ddechrau o 2016 ymlaen, ond newydd ddechrau casglu data ar sut ffurf ddylai fod i’r gwasanaeth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sefydlu saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol y mae’n rhaid iddynt ymateb i asesiad o’r boblogaeth. Mae un o themâu craidd y cynlluniau ardal yn dilyn asesiadau o’r boblogaeth yn cynnwys iechyd meddwl ac ‘anabledd dysgu/awtistiaeth’. Fodd bynnag, mae awtistiaeth yn gyflwr yn ei hawl ei hun, ac ni fydd ei gyplysu unwaith eto gydag anableddau dysgu yn rhoi darlun clir o anghenion pobl ag awtistiaeth. Yn wir, mae’n eu sarhau.

Mae gan awdurdodau lleol dîm iechyd meddwl ac anabledd dysgu ond nid tîm awtistiaeth penodol o reidrwydd. Mae’r risg yn aros felly y bydd pobl awtistig yn parhau i ddisgyn i’r bwlch rhyngddynt. Nid oes unrhyw hyfforddiant awtistiaeth gorfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae’r asesiad o’r boblogaeth yn asesiad cyffredinol ac efallai na fydd yn ddigon manwl i allu gwneud asesiad o awtistiaeth, sy’n galw am fewnbwn gan sawl asiantaeth.

Mae yna lawer o syndromau genetig, fel syndrom X frau, a all fod wrth wraidd diagnosis o awtistiaeth. Dylid ystyried y diagnosisau hyn hefyd fel rhai ystyrlon gan wasanaethau a’u defnyddio i helpu i arwain cymorth. Nid yw’r Ddeddf yn cyfeirio at ddiagnosis, a gallai’r meini prawf cymhwyster newydd olygu mewn gwirionedd y pennir nad yw pobl awtistig yn gymwys i gael gofal a chymorth. Felly, ni allwn ddibynnu ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i ateb anghenion a hawliau’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru.

Mewn ymateb i ddadl Ionawr 2015, dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, y byddai ei swyddogion yn monitro gwariant ar ôl rhoi’r gorau i neilltuo arian awtistiaeth ar gyfer awdurdodau lleol. Mae angen i ni wybod faint y mae pob awdurdod lleol wedi ei dderbyn a sut y mae’r arian yn cael ei wario.

Oedolion yn unig sydd wedi’u cynnwys yn Neddf awtistiaeth Lloegr. Mae Deddf Gogledd Iwerddon yn cynnwys pob oedran a holl adrannau’r Llywodraeth. Mae ar Gymru angen Deddf awtistiaeth i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Mae pedwar o’r pum plaid a gynrychiolir yma wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth awtistiaeth yn eu maniffestos eleni, ac mae miloedd wedi arwyddo deiseb ar-lein o blaid Deddf awtistiaeth i Gymru. Mae’n bryd gwneud iddi ddigwydd.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma i dynnu sylw at rai o’r materion y mae pobl sy’n byw gydag awtistiaeth yn eu hwynebu yng ngorllewin Cymru, yn ogystal â dangos fy nghefnogaeth i am Ddeddf awtistiaeth.

Rwy’n siŵr bod Aelodau wedi derbyn gohebiaeth torcalonnus oddi wrth etholwyr sy’n gwbl rhwystredig gyda’r amser aros hir i gael diagnosis ar gyfer eu plant. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i’r rhieni hynny wylio eu plant yn parhau drwy’r system addysg heb fynediad at y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt, a gall hyn yn ei dro niweidio sgiliau cymdeithasol eu plant, niweidio sgiliau cyfathrebu, a niweidio eu cynnydd addysg yn fwy cyffredinol. Yn sir Benfro, rŷm ni’n lwcus iawn i gael cangen Cymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol benderfynol a threfnus sy’n parhau i ymgysylltu yn gadarn â’r bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod lleol, ac wrth gwrs, yr Aelodau Cynulliad lleol. Rydw i eisiau, felly, cymryd y cyfle yma i ddiolch i’r bobl sy’n ymwneud â’r gangen leol—rhai ohonyn nhw sydd yn y galeri heddiw—sydd yn parhau i weithio gyda fi ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fi am yr heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw gydag awtistiaeth yn sir Benfro. Drwy’r ymgysylltu hwn—dyna pam fy mod i’n gwybod mwy am y ddarpariaeth leol a pha welliannau sydd eisiau eu gwneud.

Mae’n eithaf clir ein bod ni yng nghanol newidiadau sylweddol o ran gwasanaethau awtistiaeth yng ngorllewin Cymru. Nid oes gennyf amheuaeth fod pethau’n ceisio cael eu rhoi yn eu lle i wella pethau. Fodd bynnag, fe allai bwrdd iechyd Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro wneud mwy i gyfleu yn well unrhyw ddatblygiadau i grwpiau cymorth lleol a rhieni, fel y gallwn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen ac nad oes neb yn llithro drwy’r bylchau.

Mae’n hanfodol bod yr awdurdodau cyfrifol yn ymgysylltu â rhanddeiliad yn rheolaidd fel bod pobl yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i wasanaethau. Yn anffodus, mae’r adborth diweddar rwyf wedi’i dderbyn gan rieni lleol yn fy ardal i yn awgrymu nad yw grŵp rhanddeiliad y bwrdd iechyd lleol wedi cyfarfod ers mis Mawrth. Felly, nid yw pryderon a phroblemau lleol yn cael y sylw y maent yn ei haeddu. Mae hyn yn dangos pam y mae’n bryd cael Deddf awtistiaeth yng Nghymru.

Mae amseroedd aros am ddiagnosis wedi dod yn fwy ac yn fwy o broblem yn sir Benfro oherwydd yr anhawster i gael y ffigurau diweddaraf ar ddiagnosis gan y bwrdd iechyd lleol. Mae’n gwbl hanfodol bod y bwrdd iechyd yn casglu’r data priodol diweddaraf er mwyn iddynt allu cynllunio’r ddarpariaeth gwasanaethau lleol yn glir. Byddai Deddf awtistiaeth yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gofnodi nifer y plant ac oedolion awtistig yn eu hardaloedd lleol, ac felly byddai hynny’n arwain at lywio eu prosesau cynllunio yn well.

Fel rydym ni yn sir Benfro eisoes yn gwybod, ni fydd strategaeth newydd ar ei phen ei hun yn ddigon i gyflawni’r newid sydd ei angen i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth leol. Yn 2013, trefnodd cangen y Gymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol yn sir Benfro ddeiseb a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau diagnosis amserol ar gyfer plant ag awtistiaeth, lle bynnag roeddent yn byw yng Nghymru, er mwyn iddynt fyw bywydau llawn. Enillodd y ddeiseb dros 900 o lofnodion mewn ychydig wythnosau ac roedd yna gefnogaeth nid yn unig o sir Benfro, ond ar draws Cymru.

Fe welsom ni welliannau yn dilyn yr ymgyrch hynny, ac fe roddwyd ar waith gynllun er mwyn lleihau’r rhestr aros. Ond, cafodd y cynllun yna ei roi ar waith am un flwyddyn yn unig. Dyna yn union pam fod angen deddfwriaeth: i osod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ar draws Cymru i sicrhau bod llwybr clir i ddiagnosis o awtistiaeth ym mhob rhan o Gymru. Yn anffodus, nid yw rhieni sir Benfro’n ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Me angen sefydlu llwybr clir gan y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol fel bod rhieni’n gwybod pa wasanaethau penodol sydd ar gael a sut y gellir cael mynediad atynt.

Mae’n eithaf amlwg i fi ar hyn o bryd nad yw’r bobl rwy’n eu cynrychioli yn ymwybodol bod llwybrau clir. Felly, nid ydyn nhw’n ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallent gael mynediad atynt. Byddai Deddf awtistiaeth yn sicrhau bod dyletswydd yn cael ei rhoi ar yr awdurdodau perthnasol fel bod pobl wedyn yn glir ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael a sut y mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yn ein cymunedau.

Mae’n rhaid bod yna gydnabyddiaeth nad yw un dull gweithredu cyfan i bawb yn addas ac nad hynny yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer cefnogi pobl sy’n byw gydag awtistiaeth. Mae awtistiaeth yn gyflwr sbectrwm sy’n golygu er bod pawb sydd ag awtistiaeth yn rhannu rhai meysydd o anhawster, nid oes dau o bobl ag awtistiaeth yn union yr un fath. Byddai cyflwyno deddfwriaeth yn sicrhau y gallai materion lleol fel amseroedd aros ar gyfer diagnosis gael eu taclo, oherwydd byddai data’n cael eu casglu ar lefel briodol ac, yn bwysicach, byddai’r pobl hynny sy’n byw gydag awtistiaeth yn gwybod pa gymorth y gellid ei ddisgwyl ar lefel leol.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae mwy o gefnogaeth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru yn hanfodol ac rwy’n credu mai’r ffordd orau y gall y Cynulliad yma roi’r gefnogaeth honno yw i gyflwyno Deddf awtistiaeth yn ystod y Cynulliad hwn.

Mae fy mhrofiad o waith wedi cael ei gyffwrdd gan awtistiaeth. Fel darlithydd prifysgol, roeddwn yn dysgu myfyriwr a dreuliodd ddosbarth cyfan yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur heb roi unrhyw sylw i mi, ac rwy’n cofio bod hyn wedi codi fy ngwrychyn. Ar ddiwedd y sesiwn, cyn i mi allu siarad â’r myfyriwr mewn gwirionedd, daeth ataf a dweud, ‘Roeddwn i’n gwerthfawrogi eich addysgu chi heddiw’n fawr, ond mae angen i chi wybod bod gennyf syndrom Asperger a’r ffocws ar sgrîn fy nghyfrifiadur yw sut rwy’n canolbwyntio ac yn dileu peth o’r sŵn sy’n digwydd yng ngweddill y dosbarth’. Fe wnaeth argraff fawr arnaf ac effeithio’n sylweddol arnaf fel darlithydd prifysgol. Felly, mae’r ddadl hon heddiw, rwy’n teimlo, yn un hynod o bwysig.

Fel Aelod newydd, rwyf wedi sylwi bod dadleuon diwrnod y gwrthbleidiau’n tueddu i gyflwyno cynigion mewn termau syml iawn—a ydym o blaid neu yn erbyn rhywbeth—ac rwy’n teimlo nad yw’r cynnig hwn yn adlewyrchu’r gwirioneddau cymhleth sy’n bresennol yn ein hetholaethau, ac yn sicr mewn rhai o’r achosion rwyf wedi eu gweld yn fy etholaeth i. Felly, os mai diben y cynnig yw creu trafodaeth ehangach, ddyfnach a mwy ystyriol yn y Siambr hon, yna rwy’n gobeithio y gallaf gyfrannu ati. Pa un a oes angen deddfwriaeth benodol, hoffwn ystyried hynny. Sylwaf yn y cynnig fod gofyn i ni ystyried ac ymrwymo i ddeddfwriaeth benodol yn y pum mlynedd nesaf, ond rwy’n dal yn ansicr ynglŷn â beth yn union y gallai deddfwriaeth ei gynnwys. Gwrandewais yn astud iawn ar Mark Isherwood, a soniodd am rai pryderon difrifol iawn. Soniodd am y loteri cod post, gwasanaethau anweledig a chysondeb cymorth, a dadleuodd fod y pethau hyn yn arwain at ddyletswydd statudol arnom i ymyrryd. Fe soniodd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Byddwn yn hapus iawn i roi copi o Fil awtistiaeth drafft arfaethedig i chi, a’r rheswm rydym wedi cyflwyno hyn heddiw yw ein bod, nes heddiw, yn credu bod y rhan fwyaf o’r bobl yn y Siambr hon yn cefnogi Deddf o’r fath, felly mae’n dipyn o agoriad llygad heddiw, nid yn unig i’r blaid hon, ond i lawer iawn o bobl eraill.

Rwy’n derbyn y pwynt, ac rwy’n meddwl bod y Bil awtistiaeth drafft yn werth edrych arno. Y pwynt rwy’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw na ddylai’r angen am ddeddfwriaeth gael ei ddiystyru, a bod angen ymchwilio’r Ddeddf honno ymhellach.

Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda thrigolion yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn fy nghymuned, ac sy’n effeithio ar eu teuluoedd, ac rwyf wedi ymdrin â’r pryderon hynny gyda fy nghyngor lleol fel cynghorydd, ac rwyf wedi ymdrin â’u pryderon fel Aelod o’r Cynulliad, felly rwy’n gwybod yn union am beth rydych yn sôn, ac rwy’n bwriadu parhau i fod yn eiriolwr dros awtistiaeth a phobl ag awtistiaeth. Byddaf yn cyfarfod â changen Caerffili o NAS Cymru yn Bryn Meadows ar 11 Tachwedd, a bydd Steffan Lewis yno hefyd ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Mae Mark Isherwood wedi sôn am y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a ddaeth i rym y mis Ebrill hwn, a’r cwestiwn sydd gennyf yw hwn: a yw’r Ddeddf honno’n cynnwys mesurau a fydd yn darparu cymorth i bobl ag awtistiaeth, yn enwedig dyletswyddau statudol ar gyfer gofal? [Torri ar draws.] Rwy’n derbyn hynny. Nid ydym yn gwybod hynny; ym mis Ebrill y daeth i rym, ac mae angen i ni roi amser i ganfod hynny. Mae angen i ni wybod a fydd y Ddeddf yn mynd i’r afael â rhai o’r diffygion sydd wedi bodoli hyd yn hyn, ac ni fu digon o amser i ni wybod hynny i sicrwydd.

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog—rwy’n derbyn y pryderon a fynegwyd, ac rwyf wedi eu mynegi fy hun wrth y Gweinidog. Dywedodd wrthyf ei bod hi o’r farn y dylid rhoi amser i’r gwasanaeth awtistiaeth integredig a mesurau eraill gael eu gweithredu a’u hasesu’n llawn cyn ystyried a oes angen deddf awtistiaeth, a dywedodd y byddai hyn yn caniatáu i ni nodi unrhyw fylchau neu faterion sy’n weddill, a bydd yn caniatáu asesiad o’r angen am ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â hwy. Casglais o hynny nad yw’r Gweinidog yn diystyru deddfwriaeth. Ddoe a heddiw gohebais drwy e-bost gydag un o drigolion Caerffili a ddywedodd wrthyf ei bod wedi brwydro i gael diagnosis i’w phlentyn o oedran cynnar iawn, ac rwy’n credu ei bod hi’n bresennol yn yr oriel heddiw. Teimlai nad oedd neb i wrando ar ei phryderon, ac mae hi’n dal i gael trafferth oherwydd y creithiau a adawyd gan y profiad hwnnw. [Torri ar draws.] Iawn, fe gymeraf ymyriad.

Cysylltodd un o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd â mi heddiw ynglŷn â’r ddadl hon—mae ganddi ddau fab gydag awtistiaeth, ac mae wedi cael anawsterau mawr yn cael diagnosis a chymorth ar ôl cael diagnosis, ac un o’r problemau oedd y cyfuniad o awtistiaeth a gorbryder eithafol. A yw’r Aelod yn cytuno bod yn rhaid mynd i’r afael â’r materion hyn, ac mai’r hyn rydym yn ei archwilio, mewn gwirionedd, yw a fyddai Bil awtistiaeth yn mynd i’r afael â’r materion hyn, neu a fyddai modd mynd i’r afael â hwy mewn ffyrdd eraill?

Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac mae’n ymddangos bod yr Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi cael sylwadau tebyg iawn i’r rhai rwyf fi wedi’u cael.

Felly, os ydym yn mynd i bleidleisio gyda’r Llywodraeth heddiw, byddwn yn awgrymu ein bod yn gofyn i’r Gweinidog roi rhywfaint o sicrwydd yn ei hymateb fod y materion hyn yn mynd i gael sylw a chael eu monitro’n agos, a bod yr angen am ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn parhau i gael ei ystyried. Os yw hi’n gallu darparu’r sicrwydd hwnnw, rwy’n barod i dderbyn, am y tro, y cyngor a gefais y bydd deddfau newydd a diweddariadau o fesurau yn cael effaith gadarnhaol ar faterion yn ymwneud ag asesu anghenion, ac y byddant yn destun adolygiad parhaus. Byddaf yn derbyn hynny os yw’r Gweinidog yn barod i roi sicrwydd o’r fath. Byddwn yn ychwanegu, os yw adolygiad o gynnydd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn datgelu diffygion, ac os nad eir i’r afael â hwy wedyn hefyd yn y Bil anghenion dysgu ychwanegol, yna byddwn yn dadlau dros ddeddfwriaeth ychwanegol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo’n gryf na fydd ymrwymo i ddeddfwriaeth yn awr yn datrys y broblem os yw’r ddeddfwriaeth yn gorgyffwrdd â’r ddarpariaeth sy’n dechrau cael effaith. Felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig, ond yn gofyn i’r Aelodau yn y Siambr hon a’r rhai yn yr oriel i dderbyn ein bod yn cadw’r hawl i alw am ddeddfwriaeth yn nes ymlaen, os bydd angen.

Weinidog, Hefin David a Julie Morgan, y rhesymau pam rydym yn gofyn am Ddeddf awtistiaeth a’r rheswm pam roedd hyn ym maniffestos y pleidiau eraill, a’r rheswm pam y mae pleidiau eraill y lle hwn o’r un farn yw nad yw’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig wedi gweithio. Nid yw’r cynllun ar ei newydd wedd yn edrych fel pe bai’n mynd i weithio. Nawr, rwy’n fodlon derbyn—yn hapus i dderbyn—fod rhai gwelliannau wedi’u gwneud, nid yn lleiaf, mewn gwirionedd, mewn addysg bellach ac addysg uwch, a bod rhai gwasanaethau cyhoeddus wedi datblygu gwell ymwybyddiaeth a rhai teuluoedd wedi teimlo eu bod yn cael eu cynnwys wrth lywio’r ddarpariaeth. Serch hynny, nododd y gwerthusiad o’r cynllun gwreiddiol nifer o wendidau a arweiniodd at effaith anwastad ac anhawster wrth gyfeirio datblygiadau ar draws Cymru.

Ac mae hynny wedi arwain at rai gwirioneddau anghysurus. Edrychwch ar ein gwaith achos ni ein hunain—bydd pawb wedi gweld hyn—yr hyn nad yw’r cynllun gweithredu strategol wedi ei ddatrys ac nad yw’n ei ddatrys o hyd. Nid yw cleifion awtistig y mae eu hatgyfeiriadau ar gyfer salwch meddwl, boed yn gysylltiedig â’u hawtistiaeth ai peidio, yn cael eu symud ymlaen ar ôl i’w hanhwylder ar y sbectrwm awtistig ddod yn hysbys. Ai diffyg ymwybyddiaeth yw hynny, neu ddiffyg staff arbenigol? Plant yn aros am ddwy flynedd neu fwy am ddiagnosis ffurfiol, weithiau dros y cyfnod anodd o bontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd—diffyg ymwybyddiaeth neu ddiffyg staff arbenigol? Gwnaeth un awdurdod lleol yn fy rhanbarth y fath lanast o’i gynllun lleol fel ei fod, un flwyddyn, ar ôl gwneud fawr ddim gyda’r arian a oedd wedi’i neilltuo, wedi rhoi’r cyfan fwy neu lai ar y funud olaf i elusen geisio gwneud rhywbeth ag ef—diffyg ymwybyddiaeth a diffyg staff arbenigol. Mae’r e-byst taer sy’n adlewyrchu hynny yn dal i ddod i mewn.

Nid oes unrhyw sicrwydd yn y cynllun ar ei newydd wedd y bydd codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant yn cael ei wneud gan y rhai yn y sefyllfa orau i’w wneud, ac nid yw’n ei gwneud yn glir pwy sydd angen yr hyfforddiant hwnnw. Mae wedi bod yn braf clywed bod timau achub mynydd wedi gofyn am hyfforddiant, ond pam nad yw gyrwyr bysiau wedi gwneud? Efallai fod staff yr ysgol wedi cael hyfforddiant, ond ble mae’r derbynyddion gwesty a’r cynorthwywyr siop sy’n gofyn am hyfforddiant hwn? Fel sy’n ymddangos yn amlwg i mi yn awr wrth i mi edrych yn ôl ar fy ngyrfa flaenorol, ble mae’r cyfreithwyr sy’n gofyn am yr hyfforddiant hwn? Oherwydd, yn anffodus, nid yw pobl â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn byw mewn byd o wlân cotwm o wasanaethau cyhoeddus ymatebol, maent yn byw mewn byd go iawn nad yw bob amser yn gwneud synnwyr, lle mae anghenion yn mynd heb eu hateb, a lle mae pobl eraill yn anwadal, yn gamarweiniol ac weithiau’n anghywir.

Gyda chymaint o bwysau ariannol a mathau eraill o bwysau cyflenwi ar awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd, byddwn yn dal i fod yn siarad am ddiffyg y peth hwn a diffyg y peth arall oni bai ein bod yn sicrhau hawliau yn sail i’r holl fwriadau da hyn—hawliau gorfodadwy i bobl â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig a’u gofalwyr, os oes ganddynt rai. Bydd yn dal i fod angen cynllunio unrhyw strwythurau, yn enwedig cynllunio’r gweithlu, ar sail tystiolaeth y data, ac nid wyf yn siŵr y gall cynlluniau strategol fynd i’r afael o ddifrif â chasglu data a diben hynny. Rwy’n gwingo wrth glywed yr awgrym y dylai cynghorau adrodd ar eu gwariant awtistiaeth sydd heb ei neilltuo bellach, oherwydd beth wnewch chi os nad yw’n fawr iawn a bod y canlyniadau’n wael, Weinidog? Arfogwch eich hun â phwerau statudol i gael yr holl sectorau i gyflawni eich blaenoriaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth: capasiti diagnostig, cyflenwi cymorth amserol a pherthnasol, a hyfforddiant trylwyr ac eang—[Torri ar draws.]—dwy eiliad yn unig, ie—i weithwyr proffesiynol allweddol a staff sy’n ymwneud â chwsmeriaid y bydd pawb ohonom yn eu cyfarfod yn ein bywydau bob dydd. Byddwch yn gyflym os gwelwch yn dda.

Diolch. Ie, iawn, yn gyflym iawn, rwy’n deall bod rhai awdurdodau lleol i’w gweld yn oedi cyn rhoi diagnosis o awtistiaeth, oherwydd pan fydd person yn cyrraedd 18 oed, nid ydynt bellach yn gyfrifol am y person hwnnw. ‘Does bosibl na allai Ddeddf osod terfynau amser i awdurdodau lleol gychwyn y broses o wneud diagnosis.

Wel, un o ddibenion Deddf awtistiaeth fyddai gwneud yn siŵr ei bod yn cynnwys pob oedran, fel bod oedran pontio o 16, 18, neu hyd yn oed 21 neu 25 mewn rhai achosion, yn amherthnasol. Mae hyn yn ymwneud ag unigolion, waeth pa mor hen ydynt, eu hawliau a’r hyn y dylent allu ei hawlio gan y gwasanaethau cyhoeddus a gweddill y gymdeithas.

Saith mlynedd yn ôl, ac mae hyn yn ôl yn 2009, ar ôl strategaeth ASD Cymru, Deddf Awtistiaeth 2009 oedd y ddeddf gyntaf ar gyfer anabledd penodol a basiwyd yn Lloegr. Nid oedd yn mynd yn ddigon pell, nid oedd yn cynnwys plant, ac nid oedd y canllawiau yn creu rôl i’r trydydd sector a chydgynhyrchu mewn gwirionedd. Ac os byddwch yn cyfarfod ag aelodau o ganghennau NAS lleol yn fy rhanbarth, byddwch yn cyfarfod ag arbenigwyr yn eu maes. Maent yn gwybod sut beth yw cymorth da i bobl ag awtistiaeth, eu gofalwyr a’r darparwyr gwasanaeth proffesiynol, felly pam y byddem yn gwastraffu’r cyfalaf cymdeithasol hwn?

Roedd y Ddeddf Awtistiaeth yn Fil meinciau cefn a ddaeth yn gyfraith ac yn ogystal â rhoi ein henwau yn y blwch yma i berwyl tebyg, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’n gyson arnoch chi, Lywodraeth Cymru, i gyflwyno eich Deddf awtistiaeth well eich hun. Ac er y byddwch efallai’n cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) fel rheswm dros beidio â gwneud hynny, nid yw’r Ddeddf honno wedi gwella diagnosis ac ni fydd yn cefnogi casglu data na hyfforddiant.

Mae’r Cynulliad hwn yn gytbwys. Os ydych yn gwrthod cyflwyno eich Deddf awtistiaeth hun, rydych yn wynebu’r tebygolrwydd o Fil meinciau cefn yn ystod y Cynulliad hwn, ac rwy’n cofio ymrwymiadau maniffesto’r pleidiau eraill. Bydd unrhyw un sy’n tynnu’n ôl rhag yr ymrwymiadau maniffesto hynny yn bradychu 36,000 o deuluoedd yng Nghymru, felly rwy’n gofyn i chi feddwl yn ofalus iawn am hynny. A fyddech chi’n ddigon dewr i ddefnyddio’r chwip ar Aelodau Llafur i wrthod Bil awtistiaeth Aelod Cynulliad? A fyddwch yn gwrthod y Bil yn syml am fod cyflyrau eraill y gellid deddfu arnynt hefyd yn yr un modd? Neu a fyddwch yn Llywodraeth ddoeth a cheisio consensws trawsbleidiol ar eich Bil eich hun?

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma fel cadeirydd cyntaf un o’r grwpiau amlbleidiol cyntaf yn y Cynulliad hwn nôl yn y flwyddyn 2000, a grŵp amlbleidiol ar awtistiaeth oedd hwnnw. Roedd yna ddiffyg gwasanaethau nôl yn 1999 ac rydym yn cael yr un dadleuon nawr. Nid oes yna ddim byd wedi newid. Rwy’n darllen cynnig y Torïaid yn fan hyn, sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

‘Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad.’

Rwyf yn cytuno â hynny. Rwy’n cytuno â hynny ar ôl bod yn feddyg am 32 o flynyddoedd yn Abertawe, ar ôl bod yn un o’r Aelodau cyntaf yn y Cynulliad yma. Rydym wedi bod yn cael y dadleuon yma ynglŷn ag awtistiaeth, gwasanaethau, a diffyg gwasanaethau ers cychwyn cyntaf y Cynulliad yma. Rydym wedi cael cynllun, rydym wedi cael plan, rydym wedi cael strategaeth ac rydym wedi cael cyfarfodydd â phawb. Rwyf yn dal i gyfarfod â chleifion, efallai y byddwch yn ymwybodol—efallai nad wyf wedi sôn yn ddigon clir fy mod yn dal i fod yn feddyg teulu y dyddiau yma. Rwy’n dal i gyfarfod â chleifion gydag awtistiaeth—. Hefin.

Dim ond pwynt—wyddoch chi, rydych yn dweud nad yw pethau wedi newid ers 1999, ond a fyddech yn cydnabod y gallai’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a gynlluniwyd yng Nghymru, a aned yng Nghymru ac a gyflwynwyd yng Nghymru yn gallu cael yr effaith honno? A fyddech yn derbyn hynny?

Nid oes tystiolaeth i dderbyn hynny ar hyn o bryd, iawn, Hefin. A byddaf yn datblygu’r dadleuon, gobeithio, a fydd yn helpu eraill i weld hynny.

Because, essentially, the problem is when a patient and a family come to me and they believe that their child has autism, or even that an adult has autism—there have been huge delays in diagnosis of autism over the years. Sometimes, we don’t get the diagnosis right until people are adults, and that’s why it’s not appropriate to have it under the additional learning needs legislation, because adults also need diagnosis.

There is new legislation that has been brought forward, but the system is extremely complex. It’s not just a matter for social services and care services, it’s an issue of education, it’s an issue in the health service, and it’s an issue for the voluntary sector, too. It does need huge co-ordination, and that co-ordination doesn’t happen most of the time. Because you get diagnosis within the health service, very often after lengthy delays and various specialists are involved. It will sometimes take years to get that diagnosis. The provision is sometimes outwith the health sector—in education, with social services, and occasionally better provision is actually available in the voluntary sector. There is wonderful work being done in the voluntary sector that we couldn’t do without. The provision is poor, and we’re failing our families given this complex diagnosis. The diagnosis is complex, the behaviours of the individual with autism are complex and difficult to understand on occasion, and it’s difficult to treat these people and there is never enough support available.

I’ve been preaching about this in this place for almost 17 years, with that brief unfortunate period of five years when I wasn’t here and I was actually dealing with people with autism on a full-time basis. The situation hasn’t changed. Something needs to change, because we are still talking about strategies, plans, provision here, provision elsewhere, but at the end of the day, nothing has changed. That is why I support the need for specific legislation. These people have been waiting for years—as a rule, suffering, with very little or no support, because there aren’t enough professionals working on the ground to support them as families. It’s time to acknowledge that. We here can change things and that’s why we went into politics and that’s why we are politicians. We can legislate and we need to use that ability today. Thank you.

Fel y dywedwyd eisoes gan Mark Isherwood, mae awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar y modd y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill. Fel fy nghyd-Aelod o Gaerffili, deuthum ar draws sawl unigolyn yn ystod fy amser yn y byd addysg.

Fel y rhan fwyaf o’r Aelodau a glywsom ar draws y Siambr y prynhawn yma, rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag ASD, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus yn cefnogi’r teuluoedd hyn sydd, o ddydd i ddydd, yn wynebu llawer o heriau y maent yn mynd i’r afael â hwy hyd eithaf eu gallu er mwyn eu teuluoedd.

Mae’r teuluoedd sydd wedi dod i fy ngweld wedi dweud wrthyf am eu dicter a’u rhwystredigaeth wrth orfod cymell, dadlau a mynnu cymorth i’w hanwyliaid, er mwyn cael y gefnogaeth a’r gofal angenrheidiol i helpu rhai sy’n byw ag ASD i symud ymlaen a gwella eu lles. Mae’r rhwystrau niferus a diangen sy’n rhaid iddynt eu goresgyn yn cynyddu’r pwysau a’r pryderon y maent yn eu profi ac yn peri oedi cyn cyflwyno gwasanaethau cymorth pan fo’u hangen, gan rwystro datblygiad lles eu plentyn. Mae’r rhwystrau hyn yn ymestyn o gael diagnosis i gael cymorth gydag addysg, bywyd y cartref neu’r gweithle.

Roedd strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008 yn enghraifft o Gymru’n arwain y ffordd yn y DU drwy sefydlu’r polisi hwn i gefnogi pobl ag ASD a’u teuluoedd. Cyflwyno gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd cenedlaethol ar gyfer pob oedran—eto, Cymru yn arwain yn y DU. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau’r ymrwymiad hwn, fel bod ein plant a’n pobl ifanc yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac ni ddylai eu teuluoedd orfod brwydro dros eu hawliau sylfaenol.

Ym mis Mai 2015, cawsom gynllun dros dro ar gyfer 2015-16, a oedd yn cynnwys camau ar gyfer mynd i’r afael ag oedi cyn cael diagnosis a gwella llwybrau diagnostig ASD. Profiad y teuluoedd yn fy etholaeth yw nad ydynt yn gweld yr amseroedd aros hyn yn lleihau ac maent yn wynebu brwydr yn erbyn diagnosis wyth mis ar gyfer eu plant. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar yr angen brys am gymorth addysgol a chymorth i deuluoedd, ond lles yr unigolyn sy’n byw ag ASD a’u teuluoedd yn y tymor hir hefyd. Y llynedd, rhyddhaodd ASDinfoWales ffigurau sy’n dangos bod 64 y cant o deuluoedd pobl wedi cael problemau gyda chael atgyfeiriad cyntaf; bu 70 y cant yn aros mwy na chwe mis; a 47 y cant yn aros mwy na 12 mis. Yn ychwanegol at hynny, roedd 44 y cant o’r rhai a holwyd yn graddio’r broses asesu yn ‘wael’ a ‘gwael iawn’. Byddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol ac mae’n rhaid i ni wneud yn well.

Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y strategaeth awtistiaeth yn cael ei darparu’n gyson gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd a’i bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw gydag ASD; ein bod yn adolygu’r meini prawf ar gyfer atgyfeirio plant i gael diagnosis, fel nad yw bob amser yn dod gan yr awdurdod addysg, gallai ddod o lwybrau eraill, a’n bod yn hwyluso’r llwybr y maent yn ei ddilyn; a bod yr awdurdodau addysg yn edrych y tu hwnt i’w hymrwymiadau i ystyried nid yn unig addysg, ond holl ddyfodol lles y plentyn sy’n byw ag ASD, ac mae hynny’n cynnwys yr effaith ar eu bywydau y tu hwnt i addysg.

Yn ystod toriad yr haf, cyfarfûm ag uwch gynrychiolydd o Gwm Taf sy’n gyfrifol am CAMHS yn fy ardal i drafod yr oedi cyn cael diagnosis a wynebir gan nifer o deuluoedd. Roedd yn amlwg fod newid wedi digwydd yn yr asesiadau, ond roedd yr ôl-groniad yn heriol. Roeddent o’r farn y gall y ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gyflwyno’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer darparu gwasanaeth ASD. O ganlyniad, cyfarfûm â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol a gofynnais iddi edrych ar rwymedigaethau pob corff cyhoeddus o ran y ddarpariaeth ASD fel rhan o’i rôl o dan y Ddeddf honno.

Yn y Pedwerydd Cynulliad, cyflwynwyd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gennym. Gwn fod Mark Isherwood wedi nodi nad yw’n credu bod y Ddeddf yn gwneud hynny—ond mae hi’n darparu eglurder ar nodi anghenion unigolyn, y cymorth y dylent ei gael ac mae’n rhoi mwy o reolaeth dros y gwasanaethau a dderbynnir. Mae hefyd yn rhoi hawliau newydd i gymorth i ofalwyr—rhywbeth y mae teuluoedd yn aml yn ei golli; ysgogiad arall a allai helpu sydd eisoes yn ei le, o bosibl. Rydym hefyd yn aros am y ddeddf anghenion dysgu ychwanegol, ac rwy’n gwybod bod Dai Lloyd wedi nodi efallai nad yw hynny’n wir, ond rydym eto i’w gweld yn cael ei chyhoeddi, ac rydym eto i weld ei goblygiadau. Gallai fod yn ysgogiad arall—o bosibl.

Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn derbyn yr ymyriad. Hoffwn wneud y pwynt y gall person gydag anghenion dysgu ychwanegol yn hawdd wella drwy gydol eu bywyd, a gadael yr ysgol yn y pen draw heb yr angen hwnnw. Mae person ag awtistiaeth â chyflwr sy’n annhebygol iawn o newid, a dyna pam y mae angen Deddf a fydd yn edrych arnynt o’r dechrau i’r diwedd.

Rwy’n derbyn yn llwyr nad yw awtistiaeth yn rhywbeth a fydd yn newid; bydd yno ar hyd eu hoes, ond yr hyn rwyf newydd ei nodi yw bod yna bosibilrwydd o edrych i weld a all y Bil helpu mewn gwirionedd ai peidio. At hynny roeddwn yn cyfeirio—[Torri ar draws.] At hynny roeddwn yn cyfeirio.

Weinidog, fel fy nghyd-Aelod o Gaerffili, rwy’n gobeithio y byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid, yn gwerthuso’r ysgogiadau deddfwriaethol hyn ac yna’n asesu eu heffaith ar ddarparu gwasanaethau i’r rhai sy’n byw gydag ASD, yn blant ac oedolion. Os nad ydynt, fel fy nghyd-Aelod o Gaerffili, byddwn yn gobeithio y byddech yn sicrhau mewn gwirionedd fod y rhwystrau a brofir ac, rwy’n meddwl, y gwasanaeth nad yw’n cael ei ddarparu, ac y byddwch yn cyflwyno Bil i’r Siambr o fewn y cyfnod hwn o bum mlynedd a fydd yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mae’n rhaid i ormod o deuluoedd oresgyn rhwystr ar ôl rhwystr ar ôl rhwystr, ac yn eu geiriau hwy, ymladd am bob elfen o gefnogaeth i’w plant i gael diagnosis. Ni ddylent orfod—

Dwy frawddeg, a byddaf wedi gorffen. Dylent gael y sicrwydd y bydd eu plentyn yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen heb ymladd ag unrhyw awdurdod, boed yn gyngor neu’n awdurdod iechyd. Maent am i’w plant gael yr hyn rydym ei eisiau i’n plant ni; gadewch i ni eu helpu i gyflawni hyn.

Diolch yn fawr i’r bobl hynny sydd eisoes wedi siarad yn y ddadl hon, yn enwedig Mark Isherwood, wrth gwrs, sydd wedi bod yn cenhadu ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer, ac wedi cyflawni rôl ragorol fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth.

Rhaid i mi ddweud, rwy’n synnu braidd ynglŷn â safbwynt y Blaid Lafur ar hyn. Cyflwynwyd y ddadl mewn ysbryd o ewyllys da, gan ddisgwyl cefnogaeth yr holl bleidiau. Cafwyd llawer o gonsensws ar faterion yn ymwneud ag awtistiaeth yn y gorffennol ac yn wir, cefnogodd y blaid hon ddatblygiad y strategaeth bresennol a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn 2008. Ond mae’n gwbl glir nad yw’r strategaeth yn cyflawni’r hyn roeddem i gyd yn disgwyl iddi ei gyflawni a bod pobl, yn anffodus, yn cael cam. Nid wyf eisiau parhau i oedi a gohirio, fel y mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur eisiau gwneud, a dweud, ‘Gadewch i ni aros i weld beth fydd yn digwydd gyda hyn, gadewch i ni aros i weld beth fydd yn digwydd gyda hynny,’ pan fo’n gwbl glir nad yw’r systemau presennol yng Nghymru yn addas at y diben ac nad ydynt yn gweithio—

David Rees a gododd—

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A yw’n deg dweud, ac rwy’n cydnabod eich sylwadau, ers i’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant ddod i rym ym mis Ebrill mewn gwirionedd, nad ydym wedi cael cyfle i asesu’r dystiolaeth, a gwnaed sylwadau ar hyn o’r blaen, ynglŷn ag a yw’r Ddeddf honno mewn gwirionedd yn cyflawni’r nod roeddem am ei gyrraedd o dan yr amgylchiadau?

Roeddech chi a minnau’n aelodau o’r pwyllgor hwnnw, a edrychai ar y Ddeddf honno. Rwy’n gobeithio ac yn credu y bydd yn sicrhau gwelliannau yn fwy cyffredinol yn ein system gofal cymdeithasol, yn enwedig o ran annog a hyrwyddo gwaith gyda’r GIG. Ond nid yw’n mynd i ddatrys y broblem, sy’n rhychwantu nid yn unig y system gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd ein system addysg a rhannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal. Dyna pam y mae angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, fel sydd ar gael bellach yn Lloegr. Yn wir, hoffwn pe baech i gyd yn gwrando ar eich cydweithiwr David Hanson AS, a oedd yng nghynhadledd awtistiaeth gogledd Cymru yr wythnos diwethaf, yn canu clodydd y ddeddfwriaeth yn Lloegr, sy’n gweithio, sy’n dechrau sicrhau gwelliannau dros y ffin. A dweud y gwir, os yw’n gweithio yno, gallwn ei gael i weithio yma yng Nghymru yn ogystal, a dyna beth rwyf am ei weld.

Nid ein gwasanaethau cyhoeddus yn unig sydd angen i ni eu cynnwys yn y gwaith o wella gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru, mae angen i ni gynnwys y trydydd sector hefyd. Mae gwaith rhagorol yn digwydd yn y trydydd sector, nid yn unig y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, sy’n gwneud gwaith aruthrol, ond hefyd y sefydliadau llai hynny ar hyd a lled Cymru sy’n aml yn cynnwys unigolion sydd wedi profi’r system drostynt eu hunain neu sydd â phlant a wynebodd broblemau yn y system ac sydd wedi dod at ei gilydd. Maent yn aml yn wedi ffurfio sefydliadau ac elusennau bach sy’n rhoi eu cefnogaeth ac yn rhannu eu profiadau â’i gilydd, gan helpu pobl i lywio system gymhleth iawn os nad ydych erioed wedi cael profiad ohoni o’r blaen, a cheisio cael y cymorth i’w hanwyliaid.

Lee Waters a gododd—

Nid yw’n dderbyniol, yn yr oes sydd ohoni—fe gymeraf yr ymyriad mewn eiliad—fod gennym bobl ifanc ag awtistiaeth mewn unedau ymddygiadol oherwydd methiant i wneud diagnosis, yn hytrach nag mewn ysgolion prif ffrwd. Nid yw’n dderbyniol fod hynny’n digwydd, ac eto mae’n digwydd yng Nghymru hyd yn oed heddiw. Rwy’n fodlon cymryd yr ymyriad.

Diolch. Mae fy nheulu’n cael cymorth gan elusen fach sy’n gweithio gyda theuluoedd ag awtistiaeth. Rwy’n gwybod yn iawn am yr anhawster i lywio drwy’r system. Mae gennyf ffrindiau agos sydd wedi llywio drwy’r system gyda rhwystredigaeth enfawr. Nid yw’r system bresennol yn ddigon da. Nid oes neb yma yn anghytuno â hynny; rydym yn gweithio i’w gwella. Ond atebwch fy nghwestiwn i Mark Isherwood: pam rydym yn blaenoriaethu un cyflwr niwrolegol dros un arall, pan fo’r problemau y maent yn eu hwynebu yn gyffredin ac angen sylw?

Y realiti yw nad yw pob sefydliad yn gofyn am ddeddfwriaeth benodol. Dyma un sy’n croesi nifer o rwystrau. Rwyf wedi dweud eisoes: gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, iawn, gadewch i ni gael y byrddau iechyd yn gweithio gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Ond beth am ein system addysg? Nid yw’n cwmpasu’r holl wasanaethau cyhoeddus sydd angen eu cynnwys.

Rwyf am ddefnyddio’r ychydig eiliadau sy’n weddill i siarad am sefydliad rhagorol yn fy etholaeth, sy’n cefnogi pobl, nid yn unig yng Ngorllewin Clwyd, ond ledled gogledd Cymru: Createasmile. Roedd yn un o’r sefydliadau hynny a sefydlwyd o dan yr union amgylchiadau a ddisgrifiais yn gynharach. Cafodd ei sefydlu gan Eddie a Sharon Bateman, dau berson lleol ym Mae Cinmel a oedd yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau i’w plant. Yn awr, o ganlyniad i’r elusen honno, mae dwsinau o bobl wedi gallu cael y cymorth roeddent ei angen. Ond ni ddylai fod yn fater o’r corff hwnnw’n gorfod darparu’r cymorth. Mae ein system yng Nghymru, ein system addysg, ein system iechyd ac yn wir, ein hawdurdodau lleol, angen gweithio gyda’i gilydd yn fwy cyson. Mae angen i ni gael y diagnosisau hyn yn llawer iawn cynharach, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cychwyn a’r cyfle gorau mewn bywyd i’r bobl ifanc hyn yn arbennig, yn ogystal â phobl hŷn sydd ag awtistiaeth. Nid ydynt yn cael hynny ar hyn o bryd, a dyna pam y mae angen i ni ddeddfu.

Agorodd Mark Isherwood y ddadl gydag achos cryf a chynhwysfawr dros y Bil hwn, ac rwyf wedi fy synnu gan rai o’r ymyriadau gan Aelodau Cynulliad Llafur. Rwy’n credu fy mod yn iawn yn dweud fy mod wedi cyfarfod â Lee Waters am y tro cyntaf mewn hustyngau yn Llanelli a drefnwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Rwy’n gwybod ei fod, wrth gwrs, yn berson dyngarol iawn. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud wrtho yw: peidiwch â gwneud y gorau yn elyn i’r da. Mae angen gweithredu yn awr. Rydym wedi bod yn siarad ers llawer gormod o amser. Gadewch i ni roi rhywfaint o gig a gwaed ar y dadleuon deallusol a gyflwynwyd heddiw gan bob plaid.

Mae gan etholwraig a ysgrifennodd ataf ddau o blant ag awtistiaeth. Mae hi’n dweud bod y daith drwy’r systemau amrywiol sydd ar waith wedi bod yn wahanol iawn er gwaethaf y ffaith eu bod ill dau ar y sbectrwm awtistig. Mae hi’n dweud:

Cafodd fy mab ddiagnosis yn weddol gynnar mewn bywyd, yn fuan ar ôl ei drydydd pen-blwydd. Cafodd ddatganiad a dyfarnwyd gweithiwr cymorth iddo am ddwy awr a hanner yr wythnos, a oedd yn cynyddu i bedair awr dros y gwyliau. Cawsom 24 diwrnod o gymorth seibiant y flwyddyn, ar ôl brwydr aruthrol, ond ar adeg a oedd yn gyfleus i’r darparwr gwasanaeth, nid i ni fel teulu. Ni chafodd fy merch ei diagnosis nes yn ddiweddarach iawn yn ei bywyd, pan oedd yn saith a hanner. Bu’n rhaid i mi fynd â’r awdurdod lleol i dribiwnlys cyn iddynt gynnal asesiad statudol o’i hanghenion addysgol, er ei bod erbyn hynny wedi cael diagnosis o syndrom Asperger. Dilynwyd hynny hefyd gan frwydr dros ddarpariaeth gweithiwr cymorth, ac yn y diwedd dyfarnwyd dwy awr yr wythnos iddi, heb unrhyw gynnydd ar adeg gwyliau. Brwydr arall, a chafodd ei gynyddu yn y pen draw i ddwy awr a hanner. Er fy mod wedi gofyn sawl gwaith, ni ddyfarnwyd unrhyw nosweithiau cymorth seibiant i fy merch erioed. Ar hyn o bryd, rwy’n aros am asesiad gofalwr, ond mae hwnnw 12 mis yn hwyr. Rwyf hefyd yn aros i gael gwybod a fyddwn yn cael mynychu sesiynau therapi teuluol am fod fy merch wedi datgelu’n ddiweddar nad yw’n teimlo fel gwryw na benyw ac felly byddai’n well ganddi pe bai pawb yn cyfeirio ati mewn modd niwtral o ran rhywedd. Mae hyn wedi arwain at nifer o byliau o hunan-niweidio, gan gynnwys taro ei phen, brathu ei breichiau a chrafu ei hwyneb. Diolch byth, hyd yn hyn, nid oes unrhyw ddigwyddiadau torri wedi bod, ac rwy’n mawr obeithio na fydd byth. Mae pobl yn sôn am loteri cod post o ran pa wasanaethau sydd ar gael, ond mae yna hefyd loteri diagnosis ar waith. Mae arnom angen y Ddeddf hon i roi trefn ar fater awtistiaeth yng Nghymru.

Mae gennyf etholwraig arall sydd hefyd wedi ysgrifennu ataf mewn ffordd emosiynol iawn, ond dyma yw ei bywyd bob dydd. Nid wyf am ddarllen y llythyr i gyd. Wrth siarad am ei mab, mae’n dweud:

Mae wedi mynychu uned anghenion dysgu ychwanegol yn ei ysgol ers dros ddwy flynedd, gan fynychu yn y bore a mynychu dosbarth prif ffrwd yn y prynhawn. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn cael cymorth i ganolbwyntio ar wersi ac nad yw eraill yn tynnu ei sylw ef nac yntau’n tynnu sylw eraill, a’i fod hefyd yn integreiddio i’r dosbarth ac yn cymysgu gyda’i gyfoedion.

Mae hi’n dweud:

Cefais wybod ddoe, heb drafodaeth gyda’i rieni, ei fod bellach yn mynychu’r uned drwy’r dydd, ac rwy’n aros am eglurhad am hyn. Er y bydd yn sicr yn gwella ei sylw, rwy’n poeni ei fod yn colli’r cyfle i gymysgu gyda’i gyd-ddisgyblion. Nid yw wedi cael diagnosis ar hyn o bryd. Mae’r bwrdd iechyd o’r farn ei fod yn gwneud cyswllt llygad da a’i fod yn gymdeithasol. Dau farciwr yn unig yw’r rhain mewn sbectrwm eang iawn. Pam y dylai fy machgen ddioddef heb y dulliau cywir i’w helpu? Rwy’n poeni gan ei fod bellach ym mlwyddyn 4 nad oes llawer o amser nes y bydd yn dechrau yn yr ysgol gyfun. Gyda diffyg cydgysylltiad ymddangosiadol rhwng yr adran addysg a’r adran iechyd, ynghyd â diffyg dealltwriaeth amlwg o’r cyflwr, faint o blant sy’n mynd i gael cam a gorfod byw bywyd lle nad ydynt yn gallu cyflawni eu potensial llawn? Efallai na fydd yn tyfu fyny i reoli’r byd, ond ef yw fy myd i, ac ni ddylai unrhyw beth ei rwystro rhag estyn am y sêr.

Mae’n dweud,

Nid oes llais gan lawer o unigolion sydd ag awtistiaeth neu mae rhwystrau yn eu ffordd sy’n atal y llais hwnnw rhag cael ei glywed. Os gwelwch yn dda, sefwch drostynt a sicrhau eich bod yn cael eich clywed. Byddwch yn llais iddynt; llais y dyfodol.

Dyna’r cyfle sydd gennym heddiw ac ydw, rwy’n deall y dadleuon deallusol rydym wedi eu clywed gan Aelodau Cynulliad Llafur, ond yr hyn rydym ei angen yw gweithredu. Mae angen i ni weithredu ar hyn yn awr, nid treulio 20 mlynedd arall yn siarad am y posibilrwydd o wella’r hyn a gyflwynir heddiw. Os credwch fod gennych ffordd well, yna cyflwynwch honno. Os nad oes gennych ffordd well, yna gadewch i ni bleidleisio dros y Bil hwn.

Diolch yn fawr, ac rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon, gan fod llawer o fy etholwyr yma heddiw. Mae’r diwrnod y mae lluniau ysgol yn dod adref yn uchafbwynt blynyddol i bob rhiant—fel y gallwch ddychmygu, rwy’n siŵr—sy’n eu rhannu gyda balchder i’w teulu fel y gall pawb gymharu’r plant â sut roeddent flwyddyn yn ôl a sylwi cymaint y maent wedi tyfu. Felly, dychmygwch lun eich plant yn dod adref gyda nodyn ‘post-it’ arno’n dweud ‘ASD’, sy’n golygu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Nid oes dim o’i le ar y lluniau; dau blentyn hardd yn gwenu ar gyfer y camera, ond gyda label wedi’i gysylltu wrtho sy’n dweud bod eich ysgol yn gweld eich plant fel ‘dioddefwyr’ awtistiaeth, nid athletwyr addawol, egin arlunwyr, mathemategwyr talentog, ond plant ag awtistiaeth. Dychmygwch nad dyna oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mewn gwirionedd, dyna’r trydydd tro, a digwyddodd i un o fy etholwyr ym Mhort Talbot wythnos yn ôl.

Mae angen i ni gychwyn o’r math hwn o brofiad, a’r sylweddoliad y gall hyd yn oed ein hysgolion fynd ati’n ddidaro i stigmateiddio’r plant y maent i fod i’w haddysgu, yna mae angen i’r Cynulliad hwn gymryd yr awenau a newid agweddau cymdeithas fel bod pobl ag awtistiaeth yn cael eu gweld yn yr un ffordd gymhleth ag y mae pawb ohonom yn gweld ein gilydd. Cyn ac ers i’r ddadl hon gael ei chyflwyno, cefais negeseuon e-bost, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl a ddaeth i fy swyddfa’n crio am eu sefyllfaoedd. Yn ystod yr etholiad—bydd Julie James yn cofio hyn gan ei bod ar y panel gyda mi—dywedodd un fenyw yn ystod y ddadl honno—a bydd hyn bob amser yn aros gyda mi—’rwyf o dan fwy o straen yn ymladd y system nag wyf fi yn delio gyda fy mab a’i broblemau bob diwrnod o’r wythnos.’ Mewn e-bost a gefais gan rywun arall, mae’n dweud:

Ar ôl cael diagnosis yn bedair blwydd oed, dywedwyd wrthyf nad oedd posibl gwneud dim ynglŷn ag awtistiaeth. Mae hwn yn gelwydd creulon. Nid oes gwellhad, ond mae yna lawer o therapïau sy’n cael eu hanwybyddu gan wasanaethau prif ffrwd.

Dywedodd un arall, ac rwy’n dyfynnu:

Roedd ein mab yn saith. Fe wnaethom gysylltu â’n meddyg teulu, gan ein bod yn bryderus y gallai fod ar y sbectrwm. Cawsom yr ymateb, "A ydych yn sicr nad yw ond yn shit bach? Mae llawer o blant yn shits bach." Yn amlwg, gadawsom y cyfarfod hwnnw wedi ein synnu.

Mae un arall yn dweud:

Roedd ein rheolwr practis yn tybio nad oedd ond ychydig iawn o gleifion awtistig. Mewn gwirionedd, mae yna nifer debyg i nifer y cleifion dementia, ac roedd gwybodaeth am ddementia wedi’i blastro dros waliau’r ystafelloedd aros.

Yn olaf:

Rydym am iddo wireddu ei freuddwyd o fod yn yrrwr trên, ond mae cymorth i blant ag awtistiaeth yn anghyson ar y gorau. Ni ddylai ein profiad ni fod yn norm, a dyna yw ar hyn o bryd. Mae ein mab eisiau gweithio pan fydd yn oedolyn. Heb gymorth yn awr, ofnwn na fydd yn gallu gwneud hynny.

Canfu ymchwil gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth mai dau blentyn yn unig o bob pump sy’n cael yr holl gymorth a amlinellwyd yn eu datganiad. Felly, dylai unrhyw ddeddfwriaeth geisio mynd i’r afael â’r broblem hon hefyd. Mae Bil anghenion dysgu ychwanegol ar y ffordd, ond mae Plaid Cymru’n credu y gallai hwn fod yn brin o’r hyn sydd ei angen am nad yw’n cynnig fawr ddim cymorth, os o gwbl, i oedolion ag awtistiaeth ac nid yw’n gwahaniaethu rhwng plant â syndrom Asperger, sy’n aml yn cyflawni llawer yn academaidd, ac eraill ar y sbectrwm awtistig. Mae Plaid Cymru’n credu y dylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Felly, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn, fel ffordd o atgoffa Llywodraeth Cymru o’n hymrwymiad maniffesto i ddeddfu yn y maes hwn, a byddwn yn dweud bod rhaid i hynny ddod ar ffurf Bil.

Mae Lee Waters wedi gwneud llawer o ymyriadau yma heddiw, a’r hyn yr hoffwn ei ddweud wrtho yw y gallai hyn fod yn batrwm, yn dempled, ar gyfer cyflyrau eraill. Nid oes angen ei gyfyngu i awtistiaeth. Mae gennym y pwerau yma yng Nghymru i sicrhau bod deddfu’n gweithio. Os nad yw strategaethau’n cyflawni ar gyfer y bobl sydd eu hangen, mae’n ddyletswydd arnom i edrych a gweld sut y gallwn wneud y sefyllfa honno’n well iddynt ar lawr gwlad. Os oes gennym ddeddfwriaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, yna bydd yn rhaid iddynt weithredu a bydd yn rhaid i ni eu dwyn i gyfrif. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â’i ddiystyru yn awr cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw yn y drafodaeth hyd yn oed. Fe gymeraf ymyriad.

Os felly, faint o gyflyrau eraill y bwriadwch gyflwyno deddfwriaeth ar eu cyfer?

Fel y dywedais, gallwn edrych ar gyflyrau eraill yn nes ymlaen. O ddifrif, nid wyf yn credu y dylem ei ddiystyru oherwydd bod cyflyrau eraill y byddai angen deddfu ar eu cyfer o bosibl. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan dynnwyd yr adran anghenion dysgu ychwanegol o’r ddeddfwriaeth benodol honno, ac nid oedd ond yn ymdrin â phobl yn y system addysg. Mae awtistiaeth yn ddadl ehangach o lawer nag addysg yn unig, ac felly dyna pam y byddaf fi ac eraill ar yr ochr hon i’r meinciau yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gryno iawn, a diolch i chi am adael i mi siarad. Rwyf wedi gweithio fel athro, a bûm yn gweithio fel athro am 23 blynedd. Felly, rwyf wedi gwneud y gwaith yn y rheng flaen, ac yn fwy diweddar bûm yn dysgu llawer iawn o blant â’r cyflwr hwn a oedd wedi cael cam gan y system. Gwelais rwystredigaethau teuluoedd, gwelais a phrofais pa mor wael y cafodd y plant hyn eu trin, ac mae angen Deddf. Yr hyn a ddywedaf yw, os nad yw’r bleidlais hon yn unfrydol, mae yna Aelodau yn y Siambr hon y dylai fod cywilydd arnynt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn heddiw i amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella bywydau plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth a’u teuluoedd yng Nghymru. Ond cyn i mi wneud hynny, ar nodyn personol, rwyf am atgoffa’r Aelodau fy mod yn arfer gweithio yn y sector awtistiaeth cyn i mi ddod i fyd gwleidyddiaeth, felly rwy’n deall y problemau y mae pobl ag awtistiaeth, a’u teuluoedd, yn eu hwynebu, ac rwyf wedi gweithio’n agos gyda phobl sydd ag awtistiaeth ers blynyddoedd. Felly, os gwelwch yn dda, credwch fod lles pobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn agos at ein calonnau. Sut yr awn i’r afael â’r anghenion hynny yw’r mater y byddwn yn ei drafod.

Rydym wedi sefydlu ysgogiadau deddfwriaethol ac ysgogiadau polisi newydd er mwyn torri tir newydd a sicrhau datblygiadau gwirioneddol mewn perthynas â gwasanaethau a chymorth, ac mae’n rhaid i’r datblygiadau hyn gael amser a chyfle i weithio. Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd rydym yn ateb anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth a’u gofalwyr. Mae’n gosod yr unigolyn yn y canol o ran y penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal a’u cymorth, ac mae’n rhoi pŵer iddynt ddiffinio’r canlyniadau y maent am eu cyflawni. Ei hamcan yw diwallu anghenion unigolion, nid eu diagnosis. Fodd bynnag, ym mis Ebrill eleni yn unig y daeth y Ddeddf i rym, ac rydym yn derbyn adborth cynnar ardderchog gan randdeiliaid ac unigolion ac ymarferwyr, ac mae angen i ni roi’r amser i’r Ddeddf honno ymsefydlu.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi ymrwymo, os na fydd y Ddeddf honno wedi gweithio, i gyflwyno Deddf awtistiaeth?

Wel, dyna ble rydym yn anelu, Mike, yn ystod yr araith.

Felly, yn wir, mae’r Ddeddf hon yn rhoi ffocws arbennig ar awtistiaeth. Mae’n gosod dyletswydd ar y cyd i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol gyflawni’r asesiad o anghenion y boblogaeth ac i lunio adroddiad arno erbyn mis Mawrth 2017. Nodir awtistiaeth ac anableddau dysgu fel themâu craidd i’r gwaith hwnnw, a rhaid i’r asesiad nodi’r ystod a’r lefel o wasanaethau ataliol sydd eu hangen i ateb anghenion pobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu yn yr ardaloedd hynny. Gan aros gyda deddfwriaeth, rydym hefyd yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae disgwyl y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg sydd ar y gweill, ac sy’n ffurfio rhan o’r rhaglen ehangach hon, yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad cyn y Nadolig a bydd yn ystyried anghenion plant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistig. Bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â materion allweddol y mae rhieni wedi eu dwyn i’n sylw, megis yr angen i ddysgwyr a’u rhieni fod yn y canol wrth wneud penderfyniadau ac yn y canol yn y broses gefnogi a chynllunio, a phwysigrwydd gweithwyr proffesiynol medrus a hyderus gyda rhagor o gydweithredu amlasiantaethol. Ond nid ydym yn aros i’r ddeddfwriaeth gyrraedd y llyfr statud cyn dechrau’r broses hon o drawsnewid. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda eisoes ac mae’n cael effaith ar lawr gwlad.

O ran ein hysgogiadau polisi, ni oedd y wlad gyntaf i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth yn 2008 ac rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y cynllun gweithredu drafft ar ei newydd wedd, sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a nodwyd gan randdeiliaid. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, gwella mynediad at ddiagnosis, mynd i’r afael ag anghenion nad ydynt wedi’u diwallu a ffocws newydd ar addysg a chyflogaeth gefnogol. Cafwyd 76 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu, ac mae’r adborth a ddaeth i law yn dangos bod cefnogaeth eang i’n dull gweithredu. Byddaf yn cyhoeddi’r diweddariad o’r cynllun gweithredu ym mis Tachwedd gyda chynllun cyflawni i fonitro’i weithrediad ac i fesur y cynnydd rydym yn ei wneud.

Rydym eisoes yn rhoi camau ymarferol pwysig ar waith i gyflawni ein hymrwymiadau i wella bywydau pobl ag awtistiaeth. Ym mis Ebrill eleni, cychwynasom ar y broses o gyflwyno gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd, ac mae’r gwasanaeth hwn yn drobwynt yn y ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu i bobl ag awtistiaeth. Mae’n rhaid rhoi cyfle i’r gwasanaeth hwn ymsefydlu a chael effaith hefyd.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog. Rwy’n ei chael hi’n anodd cysoni’r hyn y mae’n ei ddweud wrth y Siambr heddiw â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrthyf ar 28 Mehefin, pan ofynnais iddo’n benodol am Ddeddf awtistiaeth ac atebodd fod hynny, ac rwy’n dyfynnu:

‘[y]n cael ei ystyried ar hyn o bryd... ynglŷn â gweld ym mha ffordd y gallwn ni ddatblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn enwedig a oes yna fodd sicrhau bod y cynllun gweithredol yn cael ei gryfhau trwy ddod yn statudol yn y pen draw.’

Mae hi’n canolbwyntio ei gobeithion ar y cynllun gweithredu yn unig. Dywedodd y Prif Weinidog wrthyf eu bod yn edrych ar ddeddfwriaeth. Pam na allwch chi dderbyn y cynnig heddiw?

Nid oes gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog a’r hyn rwy’n ei ddweud wrthych heddiw. Y pwynt yw, a’r hyn rwy’n ei ddweud wrthych yw bod yn rhaid rhoi cyfle i’r ysgogiadau deddfwriaethol a’r ysgogiadau polisi rydym wedi eu rhoi ar waith ymsefydlu cyn y gallwn benderfynu a oes angen cyflwyno deddfwriaeth i lenwi unrhyw fylchau sy’n bodoli. Felly, heddiw, ni ofynnir i ni bleidleisio ynglŷn ag a yw anghenion pobl ag awtistiaeth yn agos at ein calonnau, ni ofynnir i ni bleidleisio ar ba fentrau rydym am eu cyflwyno i wella bywydau pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd; yr hyn y gofynnir i ni ei wneud yw clymu ein dwylo ac ymrwymo i ddeddfwriaeth yn y Cynulliad hwn, ac nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw ar hyn o bryd, gan nad ydym yn gwybod eto pa effaith y bydd y mentrau hyn rydym wedi sôn amdanynt yn ei chael.

Cefnogir y gwasanaeth rwyf newydd ei ddisgrifio gan £6 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd a bydd yn cael ei ddarparu drwy ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, a ffurfir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i sicrhau gwaith cydweithredol ac integredig ar draws byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Bydd y gwasanaeth yn sicrhau bod timau arbenigol newydd ym mhob rhanbarth, yn darparu diagnosis ar gyfer oedolion, cymorth yn y gymuned a chyngor a gwybodaeth ar gyfer oedolion ag awtistiaeth yn ogystal â’u rhieni a’u gofalwyr. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer grwpiau proffesiynol. Bydd cymorth ataliol ar gael ar gyfer oedolion ag awtistiaeth i’w helpu i aros yn annibynnol ac osgoi’r angen am gymorth mwy dwys.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed yn cefnogi’r gwelliannau rydym yn eu cyflawni ym maes diagnosis, triniaeth a gwasanaethau cymorth i blant drwy’r rhaglen ‘Law yn Llaw Dros Blant a Phobl Ifanc’, a gefnogir, unwaith eto, gan £2 filiwn o gyllid bob blwyddyn. Mae gan y rhaglen ffrwd waith benodol wedi’i neilltuo ar gyfer gwella cyflyrau niwroddatblygiadol, gyda byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a chytuno ar lwybr diagnostig lefel uchel cenedlaethol i sicrhau darpariaeth gyson ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.

I gefnogi ein dull gweddnewidiol ym maes addysg ac mewn ymateb i adborth a gawsom gan rieni, rydym hefyd wedi datblygu adnoddau awtistiaeth newydd ar gyfer ysgolion. Yn gynharach eleni, lansiwyd y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd, adnodd a phecyn cymorth ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan, gan gynnwys athrawon, staff cymorth a phlant. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gwobr archarwr awtistiaeth i’r disgyblion, sy’n eu gwobrwyo am eu hymwybyddiaeth o awtistiaeth. Mae’r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd bellach yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, ac i adeiladu ar ei llwyddiant, mae rhaglenni ysgol tebyg wedi’u teilwra ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac ysgolion uwchradd yn cael eu datblygu hefyd. Felly, fel y gwelwch, ar ddechrau’r tymor Cynulliad hwn, rydym yn dechrau ar bennod newydd yn natblygiad a darpariaeth cymorth i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod wedi gwneud ymrwymiad ar gyfer y dyfodol i ystyried yr angen am ddeddfwriaeth awtistiaeth os bydd bylchau sylweddol yn y gwasanaethau a’r cymorth yn parhau yn y blynyddoedd i ddod, ac mai’r unig ffordd i fynd i’r afael â hwy fydd drwy ddeddfwriaeth newydd.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Pan ddywedwch ‘yn y blynyddoedd i ddod’, pa mor hir yw hynny?

Yn sicr, hoffwn roi cyfle i’r ddeddfwriaeth a’r gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd ymsefydlu, gwasanaeth a ddaeth i rym mor ddiweddar â mis Ebrill eleni, fel rwy’n dweud. Ond rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig iawn yw fy mod wedi cyfarfod yn ddiweddar â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ac wedi gofyn iddynt ddarllen drwy eu Bil drafft, sydd, rwy’n tybio, yr un peth â’ch Bil drafft chi, gyda fy swyddogion, gan nodi meysydd nad ydynt yn credu y gellir ymdrin â hwy eisoes drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 neu’r cyfeiriad polisi a ddisgrifiais i chi yn y ddadl heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen at gael canlyniadau’r gwaith hwnnw er mwyn deall ble mae bylchau yn yr hyn y byddai eich Bil yn dymuno ei gyflawni o gymharu â’r ddeddfwriaeth a’r polisi sydd eisoes yn bodoli. Mae’r gwaith hwnnw gyda’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar y gweill ar hyn o bryd. Rwy’n credu, i gloi, fod angen rhoi amser yn awr i’r ddeddfwriaeth a’r polisïau newydd gyflawni eu hamcanion, amser iddynt ymsefydlu ac i ddangos eu heffaith, cyn y gallwn benderfynu a oes angen cyflwyno deddfwriaeth arall.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rydym bob amser yn aros. Yn bwysicach, mae’r bobl hyn bob amser yn aros. Nid oes neb byth yn dod i eistedd yn y Siambr hon ar yr adeg hon o’r nos a gwrando arnom yn siarad am unrhyw beth. Ond mae’r bobl hyn wedi gwneud hynny oherwydd ei fod o ddifrif yn fater personol iddynt ac un sy’n agos at eu calonnau. A’r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw yw oherwydd ein bod yn credu ei fod yn hwb bach i’ch gwthio dros yr ochr, oherwydd fe wyddom eich bod yn ceisio gwneud pethau da iawn mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Gwyddom fod hyn ym maniffesto Plaid Cymru. Gwyddom ei fod ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae UKIP o’i blaid ac roedd ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig. Gwyddom fod y Gweinidog dros y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol wedi dweud, ac rwy’n dyfynnu,

‘Mae angen i ni sicrhau bod Deddf awtistiaeth yn ymddangos ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth nesaf, ac mae angen i ni sicrhau bod dannedd gan y ddeddfwriaeth honno a’i bod yn cyflawni ar gyfer pobl a theuluoedd ledled Cymru.’ 

Rwyf hefyd yn gwybod fod y Prif Weinidog wedi dweud, mewn ymateb i Andrew R.T. Davies,

‘mae’n rhywbeth yr ydym ni’n rhoi ystyriaeth ymarferol iddo. Nid wyf yn dweud y byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn San Steffan. Rwy’n credu bod angen ei ystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall, ond, yn sicr, mae’n rhywbeth yr ydym ni’n barod i’w drafod gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sydd gennym ar gyfer awtistiaeth y gorau y gallant fod.’

Nid yw fy mhlaid wedi cael unrhyw drafodaethau o’r fath, na chynigion am drafodaethau o’r fath, i siarad ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau awtistiaeth ar gyfer pobl sydd â’r cyflwr yng Nghymru. Rydym wedi siarad am hyn ers cyhyd, a chredaf fod Suzy Davies wedi crisialu’r peth—pa bryd a beth yw’r amserlen? Ac os caf droi at Lee Waters am eiliad, oherwydd fe ofynnoch yr un cwestiwn dair gwaith. Rhoddodd Bethan ymateb da iawn i chi ac rwyf am ychwanegu ato: nid oes neb arall yn gofyn, ac mae maint y broblem gydag awtistiaeth yn aruthrol yma yng Nghymru. Mae’n broblem enfawr iawn. A gadewch i ni fod yn glir, fel y dywedodd Bethan, os gallwn gael rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer awtistiaeth, bydd hwnnw o gymorth i bob cyflwr niwrolegol arall. Ac rwyf am gloi—oherwydd gwn mai ychydig iawn o amser sydd gennyf—gyda stori am ddau ddyn ifanc. Rwy’n adnabod y ddau ohonynt yn dda iawn. Ni all un ohonynt wneud paned o de heb orfod dilyn yr arwyddion sydd wedi’u gosod ar y cwpwrdd. Aeth y llall i’r brifysgol a chafodd radd dosbarth cyntaf, ond mae bellach yn gweithio’n rhan-amser mewn siop bwyd brys, oherwydd, cyn gynted ag y mae’n crybwyll y ffaith ei fod yn awtistig, mae pobl yn troi eu cefnau arno. Oherwydd yr hyn nad oes neb ohonom yn ei wneud, neb ohonom, na neb yn ein cymdeithas, yw gwerthfawrogi’r ffordd wahanol, arbennig, hudol, anhygoel y mae unigolyn awtistig yn edrych ar ein byd. Oherwydd, mawredd mawr, gellir edrych ar ein byd mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd. Ac mae gennym gyfle i’w helpu, a charwn erfyn arnoch, Weinidog, i ailystyried hyn, ac rwy’n addo i chi, ac yn rhybuddio Llywodraeth Cymru, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yma ymhen chwe mis, ymhen 12 mis ac ymhen 18 mis i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y pen draw.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n bwriadu symud yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Diolch.

7. 6. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf ar ddadl yr Aelodau unigol ar deithio llesol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lee Waters, Rhun ap Iorwerth, Huw Irranca-Davies a John Griffiths. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pleidleisiodd 50 o blaid y gwelliant. Roedd 1 yn ymatal, felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6089.

Symudwn yn awr at y bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar iechyd meddwl, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig, 9, 5 yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 9, Yn erbyn 37, Ymatal 5.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6115.

Symudwn yn awr at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pleidleisiodd 42 o blaid y gwelliant, neb yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 42, Yn erbyn 9, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6115.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6115 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a’r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a

b) gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pleidleisiodd 51 o blaid y cynnig, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd cynnig NDM6115 fel y’i diwygiwyd: O blaid 51, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6115 fel y’i diwygiwyd.

Trown at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awtistiaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pleidleisiodd 24 o blaid y cynnig, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 24, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6114.

8. 7. Dadl Fer: Ymuno â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad—Rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y Cyfnod ar ôl Gadael yr UE

Symudwn yn awr at y ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Joyce Watson. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, os gwelwch yn dda. Mae’n ddrwg gennyf, os oes Aelodau’n gadael, a allant wneud hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda? Diolch. Symudwn at y ddadl fer, a gyflwynwyd gan Joyce Watson ar bwnc y mae wedi’i ddewis, ‘Ymuno â’r achos: Menywod Cymru a’r Gymanwlad—rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE’. Galwaf ar Joyce Watson i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Joyce.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heno, a diolch i’r Aelodau am fynegi diddordeb mewn cyfrannu at yr hyn a fydd, rwy’n siŵr, yn drafodaeth ddiddorol a gwerthfawr. Rwy’n caniatáu amser i Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore, a Suzy Davies gyfrannu, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddynt.

Yn ystod dadl ynghylch mynediad Prydain i’r Farchnad Gyffredin yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 1962, roedd Clement Attlee yn amheus, ac rwy’n dyfynnu o’r hyn a ddywedodd:

Mae’n newid gwirioneddol eithriadol. Arferem roi’r Gymanwlad yn gyntaf. Mae’n eithaf amlwg yn awr fod y Gymanwlad yn dod yn ail. Byddwn yn ffrindiau agosach â’r Almaenwyr, yr Eidalwyr a’r Ffrancwyr nag â’r Awstraliaid neu’r Canadiaid. Mae pobl yn sôn am yr hyn a fydd yn digwydd ymhen deng mlynedd ar hugain: ond... ugain mlynedd yn ôl ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn ystyried yr Almaenwyr yn ffrindiau agosach na’r Canadiaid, yr Awstraliaid, pobl Seland Newydd, yr Indiaid neu unrhyw un arall... Mae’n... chwyldroi safbwynt hanesyddol y wlad hon yn llwyr. Nid wyf yn awgrymu bod hen bethau o reidrwydd yn iawn... Mae’n bosibl eu bod yn iawn; ond peidiwch â chamgymryd: mae hwn yn newid enfawr.

Wel, 20 mlynedd yn ôl, ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dyma ni. Roedd gan Attlee farn hefyd ar y mecanwaith sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon—refferenda—ond nid wyf am drafod hynny i gyd eto. Felly, wrth i ni baratoi i adael yr UE rydym yn wynebu newid aruthrol arall: chwyldro arall yn safbwynt hanesyddol y wlad hon, ond mae’n rhaid i ni beidio â gadael y cyfeillgarwch ar ôl yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a dal ein gafael ar ein lle yn y Gymanwlad. Wedi’r cyfan, yn yr un modd, y tu allan i’r UE, mae’n rhaid i ni gadw ein lle yn Ewrop.

Rwy’n sicr yn cefnogi’r safbwynt mai her fawr ein hoes yw cynnal safle Prydain a Chymru yn y byd fel gwlad agored, oddefgar ac allblyg. Roedd araith gynhenidol Amber Rudd i’r blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf yn rhybudd yn hynny o beth. Diolch byth, mae hi wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i orfodi cwmnïau i ddatgelu faint o weithwyr tramor y maent yn eu cyflogi. Serch hynny, mae’n frawychus i mi fod Ysgrifennydd Cartref Prydain wedi awgrymu syniad o’r fath yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i Gymru herio’r ffordd chwyrn newydd hon o edrych ar y byd. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni weithio i siapio’r trafodaethau ar adael yr UE a’u plygu er ein lles, ond rwyf hefyd yn credu bod cyfle mawr i ni o fewn y Gymanwlad yn awr.

Ym mis Mai, cefais fy ethol gan aelodau o ranbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad i gynrychioli eu grŵp ar Bwyllgor Rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad—gwn ei fod yn llond ceg, ond nid oes ffordd arall o’i ddweud. Dyma’r tro cyntaf i Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael y swydd hon, ac mae’n anrhydedd yn wir. Fel rwy’n dweud, yn ogystal ag adfywio cyfeillgarwch yn yr UE ar ôl gadael, dylem hefyd gadarnhau ac adnewyddu cysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad. Ond beth ydynt? Beth sydd gennym yn gyffredin? Wedi’i chreu o’r ymerodraeth, mae’r Gymanwlad heddiw yn deulu o genhedloedd. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn cynnwys mwy na 180 o ganghennau o ddeddfwrfeydd yn Affrica, Asia, Awstralia, rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir, Canada, Môr y Caribî, yr Amerig, Môr yr Iwerydd, India, y Môr Tawel, a de-ddwyrain Asia. Mae’n gyfeillgarwch byd-eang sy’n seiliedig ar werthoedd beth bynnag fo’r rhyw, hil, crefydd na diwylliant. Cawn ein huno gan ein hymrwymiad i reolaeth y gyfraith, i hawliau a rhyddid unigolion, ac i ddelfrydau democratiaeth seneddol.

Wrth gwrs, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod rhai arferion crefyddol a diwylliannol yng ngwledydd y Gymanwlad yn gormesu ac yn gwthio rhannau o’r boblogaeth i’r cyrion, yn benodol, lleiafrifoedd a menywod, ond dyna ble y mae Seneddwragedd y Gymanwlad yn ceisio dylanwadu. Fe’i sefydlwyd gan gynrychiolwyr benywaidd ym 1989, ac mae wedi ymdrechu ers hynny i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn seneddau, i sicrhau bod ystyriaeth o’r rhywiau’n cael ei phrif ffrydio yn holl weithgareddau a rhaglenni Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, i herio gwahaniaethu, a nodi a dilyn camau ymarferol i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i ddiogelu a grymuso menywod a merched. Yn 1991, ymgorfforodd y Gymanwlad yr amcanion hyn yn natganiad Harare.

Felly, dyna’r hanes yn gryno, ond beth rydym yn ei wneud? Wel, byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo tair thema: rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, menywod mewn arweinyddiaeth, a grymuso menywod yn economaidd. Mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn darparu fframwaith ar gyfer y gwaith hwnnw. Wrth edrych ar y drefn fyd-eang ar hyn o bryd, mae cynnydd wedi bod: mwy o gynrychiolaeth menywod mewn seneddau cenedlaethol, mwy o ferched wedi’u cofrestru mewn ysgolion, a newid yn hawliau menywod, ond os crafwn yr wyneb, mewn gwleidyddiaeth, ar draws y Gymanwlad, mae cynrychiolaeth seneddol i fenywod wedi aros ar yr un lefel. Ni cheir ond 22 y cant yn unig o seneddwragedd cenedlaethol. Mae gan y sefydliad hwn hanes balch o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, fel fy mhlaid fy hun. Ar hyn o bryd, yn ein plaid ni, mae un yn fwy na’n hanner yn fenywod, ond os edrychwn yn agos at adref, 29 y cant yn unig o Aelodau Tŷ’r Cyffredin sy’n fenywod. Fodd bynnag, cafwyd camau pwysig ymlaen yng ngwledydd y Gymanwlad dros y blynyddoedd diwethaf: cafodd y fenyw gyntaf ei hethol yn St Kitts; cyrhaeddodd Trinidad a Tobago darged o 30 y cant o ran cynrychiolaeth menywod; Prif Weinidog benywaidd cyntaf Namibia; Prif Weinidog Canada Justin Trudeau yn penodi Cabinet sy’n gytbwys rhwng y rhywiau; mae Rwanda yn parhau i arwain y byd gyda thros 60 y cant o’i Senedd yn fenywod; ac wrth gwrs, mae’r DU wedi cael ei hail Brif Weinidog benywaidd.

Ond nid yw hawl a enillwyd o reidrwydd yn hawl a fydd yn cael ei chadw. Felly, rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yw datblygu a hyrwyddo mecanweithiau i gynnal a hybu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Ond nid yw hwnnw’n ben draw ynddo’i hun. Pan gawn ein hethol, rhaid i ni siapio polisi a deddfwriaeth. Yn y Cynulliad hwn, mae gan fy mhlaid, fel y dywedais, stori dda i’w hadrodd, ond ni allwn fforddio gorffwys ar ein bri. Bydd unrhyw un a fu’n ymwneud â’r rhestr fer i fenywod yn unig yn tystio pa mor galed oedd y brwydrau ac mae’n brofiad y gallwn ei rannu gyda’n cyfeillion yn rhyngwladol. Gadewch i ni beidio ag anghofio mai 9 y cant yn unig o Aelodau Seneddol benywaidd oedd gan y DU ym 1992. Mecanweithiau caled, nid rhethreg feddal sydd wedi dod â ni i’r sefyllfa hon.

Ym maes addysg, do, cafwyd gwelliant cyffredinol, eto i gyd bydd yn dal i fod dros 63 miliwn o ferched na fyddant yn yr ysgol heddiw. Yn ôl Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, ni fydd 16 miliwn o ferched rhwng 6 ac 11 oed byth yn cael cyfle i ddysgu sut i ddarllen neu ysgrifennu mewn ysgol gynradd—ddwywaith y nifer o fechgyn—ac mae addysg, fel rydym i gyd yn gwybod, yn arf trawsnewidiol sy’n lleihau tlodi ac anghydraddoldeb. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod cyfranogiad economaidd ac annibyniaeth yr un mor bwysig. O ran hynny, rwy’n credu bod angen i ni edrych ar ein record ein hunain. Fe wyddom mai menywod yn y DU sy’n cael eu taro galetaf gan galedi; gwyddom y bydd safonau byw mamau sengl a gweddwon yn gostwng 20 y cant erbyn 2020 yn ôl y Grŵp Cyllideb Menywod.

Mae’n rhaid i bob cymdeithas gydnabod eu rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol sy’n rhaid i fenywod eu hwynebu. Yn y rhanbarth o’r Gymanwlad rydym yn perthyn iddo, mae gennym gymunedau clòs—Ynysoedd y Sianel, Gibraltar, Malta, Ynys Manaw, St Helena a’r Falklands—lle mae dianc rhag trais yn anodd. Felly, gyda’n gilydd, rydym yn rhannu syniadau ynglŷn â sut i ddiogelu menywod a phlant yn yr amgylchiadau hynny. Mae Gibraltar wedi arwain y ffordd o ran hynny. Mae’n un o’r rhesymau rwyf wedi blaenoriaethu gweithio’n rhyngwladol ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, sy’n cynnwys dynion yn y mudiad i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

Yn dilyn ein trafodaeth yn Fforwm cyntaf Menywod y Gymanwlad a gynhaliwyd y llynedd yng Nghyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad ym Malta, darganfûm mai ym Malta y mae Aelodau Seneddol gwrywaidd bellach yn cymryd rôl arweiniol yn yr ymgyrch honno. Darganfûm hefyd fod gan Sandra James, cyn-seneddwraig yn Guernsey, ymgyrch i ethol mwy o fenywod yn Guernsey ac mae’r ymgyrch honno wedi gweithio hefyd.

Yma, ddoe, bûm mewn digwyddiad NSPCC yn y Senedd, lle roeddent yn trafod eu hymgyrch ar y cyd â Bawso sy’n gweithio o fewn y gymuned Somali yng Nghaerdydd i frwydro yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae’r ymgyrch honno’n cael ei hyrwyddo gan Rebecca Kadaga, cadeirydd rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad yn Uganda. Mae hwnnw’n benderfyniad dewr iawn.

Rydym wedi gweld yr Alban yn datblygu deddfwriaeth i sicrhau gwarcheidiaethau i blant sy’n cyrraedd y wlad ar eu pen eu hunain. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y DU yn arwain prosiect rhyngwladol ar drosolwg seneddol ar y nodau datblygu cynaliadwy newydd. Ychydig o enghreifftiau yn unig ydynt, a gallaf weld y cloc yn tician. Ond drwy waith rhyngwladol a thrwy ein dealltwriaeth a’n haddysg rydym yn datblygu. Rwy’n teimlo’n gryf iawn na allwn ac ni ddylwn byth leihau ein profiad rhyngwladol.

Fy natganiad diwethaf un yw ein bod ni yng Nghymru yn rhoi’r fantais honno i bobl ifanc o Gymru, ac rydym yn helpu disgyblion, drwy Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, i gael cyfle i gynrychioli Cymru mewn digwyddiadau rhyngwladol, a digwyddodd hynny ychydig o flynyddoedd yn ôl gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Aman. Drwy raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, anfonodd Coleg Sir Gâr fyfyrwyr i Uganda i helpu i adeiladu prosiectau yno. Mae’r profiadau hynny, sy’n gwneud i bobl ifanc Cymru edrych tuag allan, yn hytrach nag i mewn, yn gwbl hanfodol. Yn fy marn i, cyhyd â’n bod yn aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, mae’n rhaid i ni wneud yn fawr ohoni a rhannu’r profiadau hynny.

Yn fyr iawn, fel cadeirydd cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwy’n falch iawn o allu talu teyrnged i Joyce Watson am y gwaith a wnaeth hi fel y cadeirydd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Mi oedd hwnnw yn gyfnod, wrth gwrs, pan wnaeth y gangen gynnal cynhadledd rhanbarth ynysoedd Prydain a gwledydd Môr y Canoldir yma yn y Senedd yn 2014. Thema’r gynhadledd bryd hynny oedd mynediad teg i ddemocratiaeth, ac mi oedd hybu a sicrhau’r rôl bwysig oedd gan ferched yn benodol i’w chwarae yn rhan annatod o’r gynhadledd honno. Rwy’n gwybod y bydd Joyce yn dilyn yr agenda honno yn ei rôl hi rŵan fel cadeirydd seneddwragedd ein rhanbarth ni o’r Gymanwlad. Mi allwn ni ymfalchïo yn ei hetholiad hi i’r rôl honno.

Yn gynharach heddiw, mi fues i’n cadeirio cyfarfod cyntaf grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol. Mae annog cysylltiadau rhyngwladol newydd a meithrin a chryfhau cysylltiadau presennol yn mynd i fod yn gwbl hanfodol i ddyfodol Cymru—yn bwysicach nag erioed rŵan ar ôl y bleidlais ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Gymanwlad yn cynnig cysylltiadau hanfodol o’r math yna. Mi ddylem ni fod yn chwilio am bob cyfle i hyrwyddo’r cysylltiadau hynny.

Yn gyntaf oll, diolch i chi, Joyce Watson, am adael i mi gymryd rhan yn y ddadl fer hon. Yn gyntaf, er hynny, hoffwn longyfarch yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei gwaith ardderchog yn cynrychioli seneddwragedd y Gymanwlad o ranbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir ar bwyllgor llywio seneddol rhyngwladol y Gymanwlad—mae’n lond ceg. Mae’n wych gweld Cymraes yn y swydd hon sydd o bwys rhyngwladol, felly da iawn.

Ar adeg fel hon yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE, bydd fforwm Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a fydd yn cael ei gynnal yn San Steffan yr wythnos nesaf, yn gyfle i’w groesawu i seneddwyr o bob rhan o’r Gymanwlad ddod at ei gilydd i gael trafodaethau adeiladol a chytûn. Fel is-gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y Cynulliad, rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod ysbryd tebyg o gydweithredu a goddefgarwch yn parhau i ffynnu yng Nghymru, fel y mae wedi gwneud yn flaenorol.

Mae’r cyfnod yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE yn adeg arbennig o addas i gydnabod y rôl bwysig sydd gan fenywod yn gwthio materion lles a hawliau dynol i fyny’r agenda wleidyddol, ac mae gwaith pob un ohonom yma yn y Senedd, yn ddynion a menywod, yn brawf o hyn. Yn ddiweddar, cefais y fraint o gyfarfod â dirprwyaeth o Senedd Botswana y mis diwethaf, ac roedd esiampl seneddwragedd yn y Senedd yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnynt. Rydym yn falch, ac mae gennym le i fod yn falch, o’n record ardderchog yma mewn perthynas â chydbwysedd rhwng y rhywiau. Gadewch i ni barhau i gynnal yr esiampl hon i fenywod ledled Cymru ac wrth gwrs, yn Senedd San Steffan, y Gymanwlad a’r byd ehangach. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu fy llongyfarchiadau i Joyce hefyd? Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, ond chi yn bennaf oll.

Mae trosglwyddo ieithoedd o un genhedlaeth i’r llall yn tueddu i fod yn gyfrifoldeb menywod—nid yn llwyr, wrth gwrs—ond rwy’n meddwl tybed a oes rhywbeth yma a allai fod yn fantais i’r DU ar ôl gadael yr UE o ran caffael ieithoedd tramor modern. Bydd y sgiliau hyn, sydd ond yn cael sylw bregus yn y cwricwlwm ysgolion ar hyn o bryd, yn fwy pwysig ar ôl gadael yr UE, pan fydd amlieithrwydd yn ein helpu i fod yn fwy deniadol fel partner masnachu, yn enwedig o ystyried y gallai goruchafiaeth y Saesneg fel lingua franca Ewrop newid, wrth gwrs. Ac wrth gwrs, rydym yn fwy ymwybodol fod ieithoedd gwledydd y Gymanwlad yn dod yn fwyfwy amlwg ar y llwyfan byd-eang hefyd.

Rwy’n credu bod y sefyllfa’n fwy cyfartal yn ddiweddar o bosibl, ond yn hanesyddol roedd mwy o ferched na bechgyn yn astudio ieithoedd tramor modern, ac o ganlyniad, efallai bod amlieithrwydd a chyfathrebu chwim yn gyffredinol wedi cal eu gosod yng nghategori sgiliau sy’n cael eu tanbrisio a gysylltir yn bennaf â menywod. Ond maent yn angenrheidiol, nid yn unig er mwyn masnachu, ond er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth, a dyna’r rhagofyniad i hybu cydraddoldeb a mynnu hawliau.

Roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn cytuno bod yna rôl i seneddwragedd godi statws caffael ieithoedd tramor modern, nid o reidrwydd drwy addysg ffurfiol, ond am y rhesymau a roesoch—nid oes cymaint o ferched ag o fechgyn yn astudio o gwbl—ac i ddefnyddio eu sgiliau eirioli eu hunain i hyrwyddo ieithoedd tramor modern fel cyfle i fenywod ledled y byd, ond yn enwedig yn ein perthynas ag Ewrop a’n cefndryd yn y Gymanwlad. Diolch.

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei haraith agoriadol ac am y rôl arweiniol y mae hi wedi’i chwarae ac yn ei chwarae, fel yr amlygir yn ei hymrwymiad i sicrhau bod rôl a dylanwad seneddwragedd y Gymanwlad yn cael eu hymestyn a’u hehangu mewn gwirionedd. Mae cael Aelod Cynulliad sy’n Gymraes yn arwain y ffordd ac yn arwain hyn mor dda wedi cael ei gydnabod—wedi’i gydnabod gan Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore a Suzy Davies heddiw. Felly, dyna’r man cychwyn pwysicaf.

Wrth gwrs, mae’r corff hwn rydych yn ymwneud cymaint ag ef ac yn cyflawni’r rôl arweiniol hon ynddo—ac yn wir, Rhun, o ran eich rôl chi, ac is-gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Rhianon—mae’n allweddol i gynhyrchu trafodaeth ar y lefel uchaf ar y materion a’r rhwystrau niferus sy’n wynebu menywod ar draws y Gymanwlad, ac mewn digwyddiadau ar draws y byd. Yn eich cynhadledd ym mis Chwefror eleni ar ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth er mwyn grymuso menywod, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod menywod Cymru wedi rhannu eu harbenigedd a’u profiad—Adele Baumgardt ar gyllidebu ar sail rhyw a Dr Alison Parken ar bolisïau cyflogaeth a chyflog cyfartal. Felly, roeddech yn galluogi menywod Cymru i rannu eu harbenigedd gyda seneddwragedd y Gymanwlad. Hefyd yn y gynhadledd honno, rhannodd Joyce wybodaeth—mae hi wedi siarad am hyn y prynhawn yma—am ein deddf arloesol, Deddf Trais erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a’r ffaith ein bod wedi penodi cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod.

Un o rolau allweddol seneddwragedd y Gymanwlad yw edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer y menywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ar draws y DU ac yn wir, yma yng Nghymru, nid oes cynrychiolaeth ddigonol i fenywod o hyd yn ein strwythurau gwleidyddol a’n prosesau gwneud penderfyniadau. Mae diffyg menywod yn y broses o wneud penderfyniadau, diffyg ffocws ar faterion o bwys i fenywod a merched, a phrinder ffyrdd i gael eu barn wedi’i chlywed yn aml yn arwain at ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth a sylfaen wan ar gyfer creu deddfwriaeth a pholisïau effeithiol. Yng Nghymru, rydym yn parhau â’n hymrwymiad i gynyddu nifer y menywod mewn bywyd cyhoeddus a sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn safleoedd o rym. Rydym hefyd, drwy ein gwaith yn mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol i fenywod ar fyrddau sector cyhoeddus, yn ogystal â’n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth i hybu hynny, yn herio ac yn newid y status quo.

Rydym wedi ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â chyflogwyr a sefydliadau ym mhob sector yng Nghymru. Rydym wedi addunedu fel Llywodraeth Cymru i gyflawni cydbwysedd 50 y cant rhwng y rhywiau yn yr uwch wasanaeth sifil erbyn y flwyddyn 2020, ond rydym hefyd yn sicrhau bod arian ar gael i’r prosiect cydbwyso grym, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth, sy’n addysgu ac yn grymuso menywod ledled Cymru i fagu sgiliau, hyder a meddylfryd i ddod yn arweinwyr yn eu cymunedau, ac yn bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel o fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod ein comisiynwyr benywaidd yng Nghymru—Sophie Howe, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn, Sally Holland, y comisiynydd plant, a Meri Huws, comisiynydd y Gymraeg. Mae’r rhain yn swyddi cyhoeddus pwysig. Maent yn arddangos y talent, y mentrau a’r camau rydym wedi’u cymryd yma yng Nghymru i wneud yn siŵr fod gennym y gorau, ein bod yn annog menywod i gamu ymlaen, ac yna cânt eu penodi i’r swyddi pwysig hyn. Rydym ni yng Nghymru, wrth gwrs, ar flaen y gad o ran dod â chydraddoldeb rhwng y rhywiau i fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth, gyda menywod yn chwarae rhan allweddol mewn nifer o feysydd.

Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod fod gennym stori dda i’w hadrodd yng Nghymru. Mae’n wybodaeth gyffredin mai ni oedd y Cynulliad neu Senedd ddatganoledig gyntaf i gyflawni cydbwysedd 50/50 rhwng y rhywiau. Rhwng 2000 a 2005, roedd dros hanner ein Gweinidogion Cabinet, a rhwng 2005 a 2007, dros hanner holl Aelodau’r Cynulliad, yn fenywod. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod ein bod wedi cymryd cam yn ôl o ran nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd, sydd bellach yn 42 y cant. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd i annog a chynorthwyo menywod i sefyll fel Aelodau Cynulliad yn y dyfodol, ac mae’r ddadl hon yn ein galluogi i wneud y pwynt hwnnw eto.

Mae tystiolaeth yn dangos yn glir fod cael cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fyrddau, seneddau a thimau arwain yn well, nid yn unig i fenywod, ond i’r gymdeithas yn gyffredinol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Mae gennym, er enghraifft, y cynadleddau Merched yn Gwneud Gwahaniaeth, a gynhaliwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a gyflwynai fodelau rôl mewn ystod o yrfaoedd gwahanol i ferched blynyddoedd 12 a 13. Roedd y siaradwyr yn ysbrydoli ac yn annog menywod ifanc i ystyried ystod eang o yrfaoedd anhraddodiadol.

Mae perygl y gallai ymdrechion i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal a chydraddoldeb rhwng y rhywiau gael eu tanseilio yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE, ac mae Joyce Watson wedi tynnu sylw at hyn, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth y prynhawn yma. Gallai menywod fynd yn llai gweladwy. Mae’n bosibl na fydd eu lleisiau yn cael eu clywed yn y trafodaethau sy’n penderfynu ar ein bywydau a’n dyfodol. Mae Suzy Davies yn gwneud pwynt pwysig am ieithoedd tramor modern, ac efallai y gallwn chwarae rôl o ran datblygu’r rheini a sicrhau y gall merched fod ar flaen y gad. Rydym am sicrhau na fyddwn yn colli’r cyfleoedd hyn ar ôl gadael yr UE, fod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a’n bod yn cadw ac yn cryfhau’r rhwydweithiau sydd gennym ar draws Ewrop, a bod yn rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a merched o ran cyfleoedd arweinyddiaeth. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y byd yn ehangach, fel rydych chi wedi’i wneud heddiw, Joyce, ac edrych, er enghraifft, ar ein hymrwymiad parhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica. Ers 2006, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau buddiol i’r ddwy ochr rhwng Cymru ac Affrica, gan gyfrannu at yr ymgyrch i roi terfyn ar dlodi, ac i gyflawni nodau datblygu’r mileniwm y Cenhedloedd Unedig. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru, cyfarfûm â menyw a oedd yn Weinidog yn Kenya a oedd wedi mynychu’r un ysgol â mi, ysgol y llywodraeth yn Eldoret, Kenya yn ystod fy mhlentyndod yn nwyrain Affrica. Daethom ein dwy yn Weinidogion mewn amgylchiadau gwahanol iawn. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael ei chyfarfod.

Addysg yw’r cyswllt hanfodol o hyd wrth helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yng ngeiriau Dr James Emmanuel Kwegyir Aggrey, addysgwr gwych o Ghana—gadewch i ni gofio hyn—os ydych yn addysgu dyn, rydych yn addysgu unigolyn, ond os ydych yn addysgu menyw, rydych yn addysgu teulu, cenedl. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn Affrica—mae Joyce wedi crybwyll hyn—o ran menywod yn cael swyddi mewn safleoedd o rym, ac ers 2015, mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ffocws i’n hymdrechion, gan gynnwys nod 5, sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod a merched. Fe wnaethom gryfhau ein hymrwymiad y llynedd drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym am adeiladu Cymru lewyrchus, ond rydym yn ystyried effaith fyd-eang ein penderfyniadau a’n gweithredoedd.

Yn olaf, rwyf am dynnu sylw at waith Sefydliad Safe yma yng Nghymru. Ar 24 Hydref, bydd 10 o bobl ifanc yn cynnwys pedair Cymraes ifanc—pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yw’r rhain—yn teithio i Uganda i weithio ar brosiect menter gymdeithasol. Byddant yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned leol a’i heconomi. Byddant yn adeiladu popty o glai ac yn cyflwyno gweithdai ar sut i wneud bara. I’r bobl ifanc o Gymru, nid oes gennyf amheuaeth—ac fe sonioch am Senedd Ieuenctid y Gymanwlad a’r gyfnewidfa honno—y bydd hwn yn brofiad a fydd yn newid eu bywydau. Bydd yn helpu i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau arweinyddiaeth, ac yn cydnabod bod ganddynt gymaint i’w gynnig. Ar yr un pryd, bydd y prosiect yn darparu manteision cynaliadwy gwirioneddol yn Affrica o ran incwm, maeth a sgiliau. Ac wrth gwrs, bydd yn gyfle i’r bobl ifanc hynny, fel rydych yn ei ddweud, Joyce Watson, edrych allan a chydnabod yr hyn y gallant ei rannu ar draws y byd.

Felly, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl heddiw. Unwaith eto, diolch i Joyce am ei holl waith yn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru’n wlad lle y caiff menywod eu cynrychioli’n gyfartal ar bob lefel, a lle y ceir tegwch a chydraddoldeb i bawb, ac rydym eisiau rhannu hynny ar draws y byd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.