Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
14/09/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Trefn. Rwy’n galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae’r cwestiwn cyntaf gan Nathan Gill.
Taflu Sbwriel
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i rwystro taflu sbwriel yng Nghymru? OAQ(5)0025(ERA)
Diolch. Mae’r camau i rwystro taflu sbwriel yn canolbwyntio ar raglenni gorfodi ac ar gydweithredu rhwng sefydliadau partner allweddol sy’n gweithio i newid agweddau ac ymddygiad cyhoeddus drwy ymwneud y gymuned a thrwy addysg. Bydd annog pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol a rhoi camau ar waith eu hunain yn arwain at welliannau cryfach a mwy parhaol.
Diolch yn fawr iawn. Y mis nesaf, bydd fy awdurdod lleol ar Ynys Môn yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos, ar ôl penderfynu yn erbyn casgliadau bob pedair wythnos am y tro. Ym mis Awst, llwyddodd pob un ond tri awdurdod lleol i gyrraedd eu targedau ailgylchu, sy’n dda iawn—hynny yw, mae hwnnw’n gyflawniad da—gan gynnwys pob awdurdod yng ngogledd Cymru. Yn achos Ynys Môn, llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw hefyd. Gwnaethom hynny wrth gasglu bob pythefnos. A allwch chi esbonio i bobl Ynys Môn pam ein bod yn awr yn newid i gasgliadau bob tair wythnos, sy’n teimlo i mi braidd fel pe baem yn cosbi pobl sydd wedi cyflawni yr hyn roeddent yn bwriadu ei gyflawni mewn gwirionedd?
Nid fy lle i yw egluro i bobl Ynys Môn pam y maent yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos; lle Cyngor Ynys Môn yw esbonio hynny. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod hi’n wythnos ailgylchu, ac os yw pobl yn ailgylchu’n gywir, o gofio bod gennym gasgliadau ailgylchu wythnosol—credaf fod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu yng Nghymru; ni yw’r bedwaredd wlad orau yn Ewrop—yna efallai na fyddai cymaint o sbwriel yn y biniau du. Ar hynny yr ydym yn canolbwyntio yn awr, oherwydd credwn y byddai modd ailgylchu 50 y cant o’r sbwriel sy’n mynd i’r biniau du.
Weinidog, ar ôl treulio llawer o oriau hapus yn cerdded 10 milltir y dydd drwy strydoedd Llanelli yn ystod yr ymgyrch etholiadol, bûm yn dyst uniongyrchol i’r broblem sbwriel sydd gennym yn y dref. Rwyf ar hyn o bryd yn trafod sefydlu tasglu sbwriel ar sail drawsbleidiol ar gyfer y dref gyda’r awdurdod lleol. Un o’r materion sy’n codi dro ar ôl tro gan breswylwyr ar Facebook yw canlyniad anfwriadol y canllawiau ar nifer y bagiau du y gellir eu rhoi allan ac effaith hynny ar gynnydd mewn tipio anghyfreithlon ar lonydd cefn. A allai’r Gweinidog roi ystyriaeth, wrth osod targedau ailgylchu, i’r canlyniadau anfwriadol posibl a sut y gellid eu lliniaru?
Yn sicr, nid ydym am weld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ac rwy’n eich canmol am drefnu tasglu sbwriel. Fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y maent yn trefnu eu casgliadau sbwriel ac ailgylchu a mater i’r awdurdodau lleol hefyd yw sut y maent yn gorfodi’r gyfraith mewn perthynas â sbwriel, gan fod taflu sbwriel yn drosedd. Unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni wneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn gwneud y rhan honno o’u gwaith hefyd.
Mae fy nghwestiwn yn dilyn o’r ddau gwestiwn a ofynnwyd yn flaenorol mewn gwirionedd. Mae camau i dreialu casgliadau bob pedair wythnos yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn achosi cynnwrf enfawr, gyda llawer o deuluoedd yn poeni bellach sut y maent yn mynd i allu ymdopi. Yn amlwg, mae’r pryderon yn ymwneud â biniau gorlawn a chynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Mae tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn costio £70 miliwn i’r amgylchedd bob blwyddyn. Beth yw eich ymateb i’r cynigion i newid i gasgliadau bob pedair wythnos—y rhai cyntaf yn y DU? Sut rydych yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella cyfradd lwyddiant sydd ond yn 0.2 y cant o ran gorfodi ac erlyn y rhai sy’n euog o dipio’n anghyfreithlon?
Cyfeiriaf yr Aelod at fy nau ateb blaenorol. Mater i Gyngor Conwy yw penderfynu a yw Cyngor Conwy yn cael casgliadau bob pedair wythnos, bob tair wythnos, neu bob pythefnos. Nid wyf yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Mewn perthynas ag awdurdodau lleol a’r 0.2 y cant, fel rwy’n dweud, mae taflu sbwriel yn drosedd a mater i’r awdurdodau lleol yw gwneud yn siŵr eu bod yn defnyddio eu holl bwerau gorfodi.
Dros yr haf, traeth Newgale yn sir Benfro oedd un o’r cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn ymgyrch i dacluso ein traethau. Roedden nhw’n gofyn i bobl ymuno gyda’r ymgyrch yma i gasglu sbwriel am ddwy funud. Fe wnes i hyn dros y penwythnos yn Whitesands. Hoffwn i ofyn a fyddech chi’n barod i gymeradwyo hwn fel ymgyrch ac a fyddech chi hefyd yn atgoffa pobl na fyddai angen i ni wneud hyn pe byddai pobl yn cymryd eu sbwriel nhw gartref yn y lle cyntaf.
Yn hollol. Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt pwysig iawn mewn perthynas â’r broblem sydd gennym gyda hyn. Rwy’n hynod o falch o glywed am y dull cydweithredol iawn oedd gennych yn eich cynllun yn Sir Benfro. Rwy’n credu ei bod yn ffordd hawdd o wella ansawdd ein hamgylchedd, fesul tamaid ar y tro. Nid yw dwy funud yn llawer iawn o amser i ofyn i bobl wirfoddoli. Felly, er mai un ymdrech yw honno, ar y cyd mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr.
Rhaglen Ynni Lleol
2. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ynni lleol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0028(ERA)
Diolch. Lansiwyd gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr eleni i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n darparu budd lleol. Mae ein cefnogaeth barhaus ers 2010 wedi helpu cymunedau i gyflawni wyth cynllun sydd wedi eu cwblhau. Mae wyth arall yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda naw arall i’w hadeiladu erbyn diwedd 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, a hefyd am ei hymweliad diweddar ag Awel Aman Tawe, yn fy etholaeth, i dynnu sylw at y pecyn cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Fel y bydd yn gwybod, mae cryn dipyn o bryder yn y sector am effeithiau hirdymor newidiadau Llywodraeth y DU i dariffau cyflenwi trydan a chymhwysedd y cynllun buddsoddi mewn mentrau. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effaith y newidiadau hynny ar y sector yng Nghymru ac unrhyw newidiadau y gallai fod angen i’r Llywodraeth eu gwneud i’w phecyn cymorth yn y tymor hwy?
Diolch. Wel, mae fy swyddogion yn monitro effaith polisi ynni Llywodraeth y DU yn gyson er mwyn sicrhau y bydd y sector yn gallu parhau i gyflawni dros Gymru. Rwy’n credu bod diffyg cynnydd wedi bod oherwydd y newid yn y cymorth a welsom gan Lywodraeth y DU. Rydym yn edrych ar fodelau a all gynnal parhâd datblygiad ynni adnewyddadwy. Felly, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r treial Ynni Lleol ym Methesda, ar gynhyrchiant lleol a defnydd o’r ynni hwnnw yn y gymuned, i ddarganfod a all y model helpu prosiectau i weithio, heb orfod dibynnu wedyn ar gymorthdaliadau fel tariffau cyflenwi trydan. Rydym hefyd yn ystyried ffurf cymorth y tu hwnt i’r gwasanaeth Ynni Lleol cyfredol sydd gennym, sy’n mynd â ni hyd at fis Rhagfyr 2017. Yn amlwg, bydd angen i ba gymorth bynnag a gyflwynir gennym adlewyrchu’r newid rydym yn ei weld yn y sector ynni.
Weinidog, yn y rhan fwyaf o wledydd sydd wedi llwyddo i annog cynhyrchu ynni’n lleol, maent wedi addasu’r farchnad er mwyn rhoi cymhelliant i ganiatáu hyn, gan gynnwys rheolaeth neu fynediad i’r grid. Gwn nad yw’r pwerau hyn yn eich dwylo chi, ond a ydych yn trafod gyda’r awdurdodaethau eraill pa ffyrdd y gallem agor y farchnad ac annog cynhyrchu ynni’n lleol?
Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno ers i mi gael y portffolio, ond gwn fod fy swyddogion yn cael y trafodaethau hynny, nid yn unig gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet, a’r llefarydd cyntaf yr wythnos yma yw llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n gwybod, efallai, bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn cynnal ymgyrch ar hyn o bryd i annog pawb i brynu o leiaf pum cynnyrch o Gymru. A fedrwch chi enwi'r pum cynnyrch diwethaf Cymreig y bu i chi eu prynu? A beth rydych chi’n ei wneud fel Gweinidog i ddiogelu bod cwsmeriaid yn gwybod bod eu cynnyrch nhw yn dod o Gymru?
Gallaf. Roeddwn yn y pwyllgor y bore yma, a bydd Simon wedi fy nghlywed yn dweud hyn, ond roeddwn yn Morrisons yn Wrecsam ddydd Sadwrn, ac fel y gwyddoch, ymwelais â Puffin Produce ym Mhenfro dros yr haf, lle mae ganddynt ddeunydd pacio sy’n hawdd iawn i’w adnabod. Felly, prynais gennin a thatws newydd, yn ogystal â blodfresych—dyna dri. Prynais gig oen Cymru. Rwy’n ceisio cofio’r pumed yn gyflym—ychydig o gregyn bylchog efallai. [Chwerthin.]
Halen Môn.
Halen Môn—ie.
Halen Môn i’w roi ar ben y tatws fyddai’n gwneud y tro.
Mae’r Aelod dros Ynys Môn yn gywir mewn gwirionedd.
Da iawn. Ac ychydig o seidr i olchi’r peth i lawr efallai.
Gan droi at y sefyllfa bresennol yr ydym ni ynddi, wrth gwrs, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud yn glir y bydd taliadau cymorth fferm a thaliadau amgylcheddol o dan y polisi amaethyddol cyffredin presennol yn parhau o’u safbwynt nhw tan y flwyddyn 2020. A fedrwch chi felly gadarnhau yn y Siambr heddiw ei bod hi’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i wneud yn union yr un peth ac na fydd felly unrhyw newid i daliadau fferm sengl yng Nghymru na’r taliadau o dan y cynllun datblygu gwledig tan y flwyddyn 2020?
Ie, wel, fel y mae’r Aelod yn gwybod o’r pwyllgor y bore yma, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn awr. Mae llawer iawn o waith a gweithgaredd wedi digwydd dros yr haf gyda’r sector ffermio, yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, mae’r materion sy’n ymwneud â chymhorthdal yn bwysig iawn i’n diwydiant ffermio, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn eu cefnogi. Hwy, yn y bôn, yw ein cynhyrchwyr bwyd, ac mae’n hynod o bwysig i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd ein bod yn gwneud hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond ni chlywais sicrwydd y bydd y taliadau’n parhau hyd at 2020. Pe bai hi’n gallu cadarnhau hynny, byddai’n ddefnyddiol i bawb sy’n rhan o hyn, rwy’n credu, oherwydd gallwn drafod wedyn beth fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond o leiaf rydym yn gwybod beth sy’n digwydd yn awr.
Y cwestiwn arall roeddwn am ei ofyn iddi oedd bod rhywfaint o ddryswch gan y Prif Weinidog ddoe ynghylch mynediad i’r farchnad sengl, a allai fod drwy drefniant masnach rydd, sy’n gallu cynnwys tariffau, neu aelodaeth o’r farchnad sengl, sy’n dod, wrth gwrs, gyda rhyddid i symud. O fewn y rhyddid i symud, a yw hi’n cytuno â mi, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hefyd, fod gweithwyr mudol yn chwarae rhan bwysig yn yr economi wledig? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud hyn:
Nid yw gwaith ymchwil ar ymfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru yn dangos unrhyw gynnydd cysylltiedig yn lefelau diweithdra dinasyddion y DU yn y sector, gyda mewnfudwyr yn gweithio mewn swyddi sy’n anodd eu llenwi,
ac wrth gwrs, swyddi gwag tymhorol. Mae 34,000 o weithwyr a aned y tu allan i’r DU yn cael eu cyflogi yn y sector hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â pharhad y gweithlu mudol pwysig hwn i amaethyddiaeth yng Nghymru, a chynhyrchiant bwyd hefyd wrth gwrs, sy’n gysylltiedig â hyn, ac onid yw’n amlwg, gan ein bod yn sôn am system sy’n seiliedig ar fisa o bosibl, neu system sy’n seiliedig ar bwyntiau, fod Cymru, o ddifrif, angen llais yn hyn, os nad ei pholisi mewnfudo ei hun?
Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod wedi dweud ‘y tu hwnt i 2020’. Yn hollol; gwyddom ein bod yn cael yr arian hwnnw tan 2020. Mae gennym y sicrwydd hwnnw, ac yn bendant, dyna’r achos. Mewn perthynas â’ch cwestiwn ynglŷn â gweithwyr mudol, rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae’r sector amaethyddol, a’r sector prosesu bwyd i raddau mwy yn ôl pob tebyg, yn dibynnu ar weithwyr mudol, ac unwaith eto maent yn rhan o’n trafodaethau parhaus ynglŷn â dyfodol y sector ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, yn amlwg, mae’n fater pwysig iawn, a gwn fod y sector amaethyddol a’r sector bwyd yn bryderus iawn ynglŷn â sut y maent yn mynd i lenwi’r swyddi anodd a chaled hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn pleidlais refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, fe ddywedoch fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle i arfer dull a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â ffermio. Yn sgil y datganiad hwnnw, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith dros yr haf i ddileu TB buchol yng Nghymru?
Fel y gwyddoch, mae gennym ein cynllun dileu, ac rwyf eisoes wedi dweud ein bod yn edrych yn fanwl ar hwnnw, a byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr hon y mis nesaf.
Wel, nid yw gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf yn ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod ffigurau’r Llywodraeth ei hun—eich ffigurau chi—yn dangos cynnydd o 37 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac yn fy sir fy hun, Sir Benfro, roedd cynnydd syfrdanol o 61 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Nawr, mae’n amlwg i mi nad yw’r Llywodraeth hon na Llywodraethau Llafur olynol yn trafferthu gyda materion gwledig, o ystyried eu methiant i fynd i’r afael â’r clefyd dinistriol hwn, sy’n parhau i fod yn falltod i’n ffermwyr. Felly, a wnewch chi ymrwymo yn awr i fynd ar drywydd pecyn mwy cynhwysfawr ar gyfer ymdrin â TB buchol sy’n cynnwys dull cyfannol o ymdrin â’r clefyd hwn, ac a wnewch chi gadarnhau nad oes unrhyw opsiwn na fyddwch yn ei ystyried, gan gynnwys, o bosibl, rhaglen wedi’i rheoli ar gyfer difa moch daear, er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r clefyd mewn gwartheg a bywyd gwyllt?
Yr hyn nad yw’r Aelod yn ei ddweud hefyd yw ein bod wedi gweld gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr achosion newydd mewn buchesi, ac er nad wyf am weld cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd, o ystyried y ffaith ein bod yn cynnal cymaint o brofion, nid wyf yn credu y gallwn ddisgwyl peidio â gweld cynnydd mewn gwartheg adweithiol. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn ystyried pob opsiwn dros yr haf. Rwyf wedi dweud hynny droeon ers i mi ddechrau yn y swydd bedwar mis yn ôl, a byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y diwydiant ffermio yng Nghymru os nad eir i’r afael â’r mater hwn yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae pryderon y bydd yn rhoi ffermwyr Cymru o dan fwy o anfantais hyd yn oed ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, sut y byddwch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, yn gwarantu na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r clefyd hwn hyd yn hyn? Ac a wnewch chi gadarnhau ar gyfer y diwydiant heddiw y bydd y Cynulliad hwn yn mynd i’r afael â TB buchol, fel y gall ffermwyr fod yn hyderus na fyddant yn dioddef cytundebau masnach gwannach ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Rwy’n credu ei fod eisoes yn cael ei drin yn y modd a nodwch, ac wedi cael ei drin felly ers sawl blwyddyn. Mae’r mater a grybwyllwyd gennych ynglŷn â masnach ar ôl i ni adael yr UE, rwy’n credu, yn un perthnasol iawn ac yn un rwyf eisoes wedi ei drafod gyda’r sector a byddaf yn parhau i’w drafod ar lefel weinidogol a gyda fy swyddogion hefyd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Wrth gwrs, mae siarad yn un peth a gweithredu’n beth arall. Rydym wedi gweld llawer o siarad a dim gweithredu. Mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth, yn anffodus, na’r hyn a nododd Paul Davies oherwydd heddiw cyhoeddwyd y ffigurau ar gyfer y mis nesaf ar ôl mis Mai ac maent yn waeth hyd yn oed. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016, cafodd 9,476 o wartheg eu lladd yng Nghymru—cynnydd o 43 y cant ers yr un cyfnod yn y 12 mis hyd at y llynedd. Felly, pa gamau pendant fydd yn cael eu rhoi ar waith yn y maes hwn? Mae pob un o’r achosion hyn yn drasiedi i’r ffermwyr dan sylw ac yn wir, wrth gwrs, i’r anifeiliaid sy’n cael eu lladd. Felly, rwy’n credu bod hwn yn fater sydd, yn rhy aml, yn cael ei esgeuluso neu ei anghofio’n wir gan bobl yn y Blaid Lafur. Am nad yw ffermwyr yn gyffredinol yn pleidleisio dros Lafur, nid oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o gwbl.
Yn amlwg, nid oedd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gwrando ar fy atebion i Paul Davies. Nid wyf yn cytuno â chi nad oes gweithredu wedi bod o gwbl. Unwaith eto, rydych yn dyfynnu’r 43 y cant, ond nid ydych yn sôn am y gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr achosion newydd mewn buchesi hefyd.
Ar 740 o achosion newydd mewn buchesi, o ran niferoedd, mae’n 740 set newydd o drasiedi ac nid wyf yn ystyried hynny’n dderbyniol mewn unrhyw fodd. O ran y trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall y gallai hyn fod yn gwbl angheuol yn y trafodaethau hyn i fuddiannau ffermwyr Cymru? Oherwydd rydym i gyd yn cofio beth ddigwyddodd gyda BSE, ac ymhell ar ôl i BSE beidio â bod yn broblem hyd yn oed, nid oedd y Ffrancwyr yn caniatáu i gig eidion Prydain fynd i Ffrainc a gallaf yn hawdd weld, yn ystod y trafodaethau hyn, sut y gallai’r sefyllfa mewn perthynas â TB mewn gwartheg yng Nghymru yn arbennig fod yn rwystr mawr i allu Llywodraeth Prydain i drafod mynediad di-dariff i gynnyrch ffermio o Gymru.
Rwy’n credu ei bod yn drueni mawr ein bod yn gorfod cael trafodaethau gadael yr UE o gwbl, i fod yn berffaith onest gyda chi. Clywsoch fy ateb i Paul Davies. Rwy’n deall y pryderon ynglŷn â hynny a byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny. Mae’n ddyddiau cynnar iawn yn y trafodaethau ar adael yr UE, fel y gwyddoch.
Rwy’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet ar ochr aflwyddiannus y ddadl â phobl Cymru ar ba un a oedd yn beth da i Gymru aros yn yr UE. Roedd yn drawiadol fod y niferoedd mwyaf o bleidleisiau o blaid gadael yr UE mewn seddi y mae Llafur wedi eu hystyried yn draddodiadol yn seddi cryfaf eu cadarnleoedd, sy’n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan y Blaid Lafur fodern â’u cefnogwyr traddodiadol eu hunain.
Ond ar fater arall sydd hefyd o ddiddordeb mawr i ffermwyr Cymru, y parthau perygl nitradau: dywedwyd wrthym y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa bryd y bydd yn dechrau, os yw’n mynd i ddechrau o gwbl? A yw hi’n deall y gallai hyn hefyd olygu cynnydd enfawr yn y costau i ffermwyr ar adeg pan fo incymau ffermio wedi bod yn plymio?
Byddwn yn ymgynghori yn nes ymlaen y mis hwn.
Nodyn Cyngor Technegol 1
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd TAN1? OAQ(5)0024(ERA)
Mae’r nodyn cyngor technegol 1 diwygiedig yn darparu methodoleg gyson i awdurdodau cynllunio lleol asesu’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn flynyddol yn seiliedig ar ffigurau gofynion tai a nodwyd yn eu cynlluniau datblygu lleol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae effeithiau canlyniadol y newidiadau i’r cyfrifiad argaeledd tir ar gyfer tai o dan y TAN1 diwygiedig bellach yn dechrau dod yn amlwg i breswylwyr yng Nghonwy ac ym mhob awdurdod ledled Cymru. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar TAN 1, roedd awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol yn anghytuno â defnyddio’r fethodoleg weddilliol yn unig ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai—dull sydd, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn brin o realaeth ac yn agored i gael ei wyrdroi gan gyfraddau adeiladu i gynhyrchu canlyniadau afrealistig ac anghyraeddadwy, ac sy’n arwain at golli llawer o’n safleoedd maes glas ar yr un pryd. O ystyried sefyllfa o’r fath, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar hyn yn yr adolygiad o’r cynllun datblygu lleol i awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n dod ym mis Hydref a chynnwys mwy o synnwyr cyffredin yn y broses mewn gwirionedd? Oherwydd, credwch fi, bydd y safleoedd sy’n cael eu cyflwyno yn awr yng Nghonwy yn ddinistriol a bydd colledion enfawr i’n safleoedd maes glas.
Rwy’n credu eich bod newydd ddweud yn union pam y dylid cael yr adolygiad o TAN 1. Rwy’n credu bod y nodyn cyngor technegol wedi cael ei ddiwygio am nad oedd safleoedd yn dod ar gael ac rwy’n credu ei fod wedi datgelu’r hyn a oedd yn digwydd o’r blaen. Felly, rwy’n credu ei fod yn ymwreiddio yn awr. Mae wedi gosod methodoleg ar gyfer cynnal yr adolygiad. Gellir cymhwyso honno’n gyson ledled Cymru, ac rwy’n credu bod hynny’n rhoi dangosydd allweddol i awdurdodau lleol ar gyfer monitro’r ddarpariaeth dai i ddiwallu’r gofynion a nodir yn eu Cynllun Datblygu Lleol.
Mae angen cynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae angen i’r tai hynny fod y math iawn o dai, ac mae angen iddyn nhw fod yn y llefydd iawn er mwyn diwallu gwir anghenion pobl Cymru. Yn eich datganiad chi ar y Ddeddf gynllunio yng Ngorffennaf eleni, gwnaethoch chi ddweud:
‘Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn yr ardaloedd hynny lle mae rownd gyntaf y Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u cwblhau a lle ceir meysydd a fyddai’n elwa o gael eu hystyried dros ardal ehangach nag ardal un Awdurdod.’
A ydw i’n darllen i mewn i hynny, felly, eich bod chi rŵan yn gweld bod angen adfer cydbwysedd yn y system gynllunio leol, lle yn aml mae’r tafluniadau poblogaeth wedi cael eu chwyddo allan o bob rheswm ac wedi arwain at ddatblygiadau niweidiol, i ddechrau yn ein cymunedau dinesig ni oherwydd gormodedd o safleoedd tir glas yn gorfod cael eu defnyddio ac, yn ail, yn y cymunedau Cymraeg, lle mae bygythiad i’r cydbwysedd ieithyddol?
Diolch. Daeth y cynlluniau datblygu strategol o’r Ddeddf gynllunio, fel y dywedoch, er mwyn ceisio annog awdurdodau lleol i weithio’n llawer agosach yn drawsffiniol. Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw’n ymddangos bod llawer o drafod rhwng awdurdodau lleol, ar wahân i’r 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru mewn perthynas â’r cytundeb dinas—rwy’n credu bod hynny’n rhan o’u trafodaeth yn ei gylch. Felly, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol i weld beth arall y gallwn ei wneud i annog trafodaethau ynglŷn â chynlluniau datblygu strategol.
Mae’r cynllun datblygu lleol yn rhoi fframwaith i drigolion ar gyfer herio ceisiadau cynllunio a chael llais yn yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal. Heb y cynllun datblygu lleol, mae trigolion o dan anfantais ac mae’n rhoi cyfle i ddatblygwyr anwybyddu barn awdurdodau lleol a thrigolion. Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gynllun datblygu lleol ar waith?
Mae’n bwysig iawn fod cynlluniau datblygu lleol ar waith. Mae fy swyddogion yn monitro hyn yn ofalus iawn. Llond llaw yn unig, bellach, o awdurdodau lleol sydd heb gyflwyno cynllun, ac rydym yn monitro hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno o fewn yr amserlen. Yr hyn y mae cynllun mabwysiedig yn ei olygu yw y gall awdurdodau lleol a chymunedau lywio a dylanwadu’n gadarnhaol ar y dyfodol er eu budd eu hunain, yn hytrach na bod eraill yn dweud wrthynt beth i wneud, fel y dywedoch.
Pysgota am Gregyn Bylchog ym Mae Ceredigion
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bysgota am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion? OAQ(5)0029(ERA)[W]
Diolch. Cafwyd lefel sylweddol o ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ar bysgodfeydd cregyn bylchog. Mae fy swyddogion wedi dadansoddi’r holl ymatebion ynghyd â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Ar hyn o bryd rwy’n ystyried cyngor a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ôl i mi wneud penderfyniad ynglŷn â’r bysgodfa arfaethedig ym mae Ceredigion.
Diolch. Mae llawer o bobl yn aros am y penderfyniad yma ar ddwy ochr y ddadl, fel petai. A gaf i ei roi ar gofnod fy mod i wedi cwrdd â deisebwyr, er bod ambell un yn meddwl nad ydw i, ond nid ydych chi, fel Gweinidog, wedi eu cwrdd â nhw? Rwy’n meddwl bod hynny’n wir. A ydych yn barod nawr, gan fod yr ymgynghoriad drosodd, i gwrdd â deisebwyr sydd am wahardd pysgota am gregyn bylchog ym mae Ceredigion i weld beth yw eu dadleuon nhw? A ydych yn meddwl bod y broblem sydd gennym ni yn fan hyn o ateb cwestiynau dyrys yn fan hyn yn deillio o’r ffaith nad oes gan y Llywodraeth eto gynllun morol cenedlaethol, ac felly nid oes gennym yr arfau eto i fynd i’r afael â’r problemau sy’n codi pan fydd pobl yn anghytuno ar y ffordd orau o gynnal cynefin a physgota hefyd?
Mae degau ar ddegau o bobl, yn llythrennol, wedi gofyn i mi am gyfarfod i drafod hyn ac fel y gwyddoch, nid oedd fy nyddiadur yn caniatáu hynny. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â chi os ydych am gyflwyno rhai o’r pryderon, oherwydd nid oedd yn bosibl cyfarfod â phawb. Fodd bynnag, rydym wedi ystyried pob un o’r ymatebion. Mae’n fater cymhleth iawn, ac rwy’n awyddus iawn i gael cynllun morol. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â swyddogion yr wythnos hon, ac fe fyddwch yn ymwybodol ei fod yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Mae canlyniad y refferendwm Ewropeaidd wedi creu ychydig o fwlch o ran cyflwyno’r cynllun morol, ond rwy’n gobeithio ymgynghori ar y cynllun drafft tua chanol y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg.
Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mehefin, cefais yr anrhydedd o gael fy mhenodi yn hyrwyddwr rhywogaeth y dolffin trwynbwl gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Ddydd Gwener, os yw’r tywydd yn caniatáu—pwy a ŵyr—byddaf yn ymweld ag ardal gadwraeth arbennig bae Aberteifi. Fe fyddwch yn gwybod fod y bae yn gartref i boblogaethau lled-breswyl ac mae’n ardal fagu arbennig o bwysig i ddolffiniaid benywaidd a’u lloi. Felly, fy nghwestiwn i chi cyn fy ymweliad ddydd Gwener yw: pa neges a gaf ei rhoi i’r bobl sy’n pryderu ynglŷn â gwarchod y rhywogaeth eiconig a’r ardal gadwraeth arbennig i’w sicrhau, pe bai’r Llywodraeth yn penderfynu caniatáu pysgota am gregyn bylchog ymhellach i mewn i’r ardal gadwraeth arbennig honno, na fyddwn yn dychwelyd at y difrod a oedd yn amlwg yn 2010 ac a arweiniodd at leihau pysgota am gregyn bylchog yn yr ardal honno mewn gwirionedd?
Wel, ni chefais gynnig y dolffin trwynbwl. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rhag ofn: y draenog oedd ef. Ond rwy’n credu bod y pwynt rydych yn ei wneud yn un pwysig iawn ac mae’n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, ac rwy’n ymwybodol bod anawsterau wedi bod yn ôl yn 2009-10 mewn perthynas â physgota am gregyn bylchog. Rwy’n credu mai’r neges y gallwch ei rhoi yw ein bod yn ystyried pob ymateb ac rydym am gael y cydbwysedd yn iawn. Nid yw hyn yn ymwneud ag un rhywogaeth yn unig: mae’n ymwneud â phob un o’n rhywogaethau.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o’r ymgynghoriad cafwyd peth trafod ar sefydlu bwrdd cynghori ar reolaeth i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i oruchwylio’r bysgodfa. A allwch gadarnhau felly fod Llywodraeth Cymru yn dal i fwriadu creu’r bwrdd hwn ac os felly, a allwch gadarnhau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y sefyllfa o ran ei ddatblygiad, os yw hynny’n wir?
Fel rwy’n dweud, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a bydd y manylion hynny yn y datganiad.
Effeithiau Negyddol Datblygiadau Busnes
5. Pa gamau y gall y Gweinidog eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol canlyniadol ar yr amgylchedd a gaiff eu hachosi gan ddatblygiadau busnes? OAQ(5)0020(ERA)
Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ein galluogi i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae ein targedau statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon yn helpu i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gyfer buddsoddi a busnes. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi i ni un o’r fframweithiau statudol mwyaf blaengar a chynhwysfawr yn y byd.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr, fel fi, eich bod yn cefnogi busnesau gwledig yn frwd. Fodd bynnag, mae llawer o densiwn rhwng rhai o’r busnesau gwledig mawr iawn—ysgrifennais atoch am nifer ohonynt yn y gorffennol—a’r effaith y maent yn ei chael, ac yn wir, byddwn yn mynd mor bell â dweud, yr effaith andwyol y maent yn ei chael ar drigolion lleol yn yr ardaloedd cyfagos. Rwyf wedi crybwyll y materion hyn wrth awdurdodau lleol yn ogystal â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y busnesau gwledig hyn yn cydymffurfio â’r gyfraith, yn dilyn y canllawiau, ac yn ceisio lliniaru effaith eu busnesau ar eu cymunedau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cynghorau lleol wedi dod yn ôl ataf dro ar ôl tro yn dweud nad oes ganddynt y pwerau statudol i gymryd camau o’r fath. Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi adolygu pa bwerau statudol sydd gan y sefydliadau hyn fel eu bod yn gallu cyflawni gorfodaeth gynhwysfawr a theg, nid er mwyn llyffetheirio busnesau, oherwydd nid oes yr un ohonom am weld hynny, ond er mwyn sicrhau bod y tensiwn rhwng busnes a’r gymuned leol y mae’n gweithredu ynddi yn deg ac yn gyfartal i bawb.
Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’n bwysig iawn fod ganddynt y pwerau hynny. Byddaf yn sicr yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt y pwerau hynny. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf droeon am fusnesau yn eich etholaethau eich hun ac rwy’n gwybod ein bod wedi gohebu. Ond byddaf yn sicr yn hapus iawn i edrych ar hynny gan ei bod yn bwysig iawn, er enghraifft, fod rheoliadau asesu effeithiau amgylcheddol—. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau gael—. Wyddoch chi, y rhai sy’n debygol iawn o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae’n rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i gydsyniad cyn y gallant fwrw ymlaen, felly mae’n bwysig iawn fod hyn yn digwydd.
Ysgrifennydd, rydw i wedi cael nifer o bobl yn dod ataf i yn ardal Aberafan sydd yn poeni ynghylch lleoliad tyrbinau morlyn bae Abertawe oherwydd y ffaith eu bod nhw’n credu y bydd yn effeithio ar y llif i mewn i’r môr a hefyd, wedyn, sut y bydd hynny’n effeithio ar eu gallu nhw i fod yn rhan o’r broses y maen nhw’n ei mwynhau yn yr ardal honno. A ydych chi wedi cael cyfle i edrych ar y cwyn hwnnw yn benodol ac wedi gallu trafod hynny gyda nhw er mwyn sicrhau na fyddai hynny’n digwydd pe bai’r morlyn yn mynd yn ei flaen?
Cefais fy nghyfarfod cyntaf yr wythnos hon mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe, ond ni edrychais yn fanwl ar y pwynt rydych yn ei grybwyll. Ond rwy’n hapus iawn i ysgrifennu atoch—i wneud hynny ac i ysgrifennu atoch.
David Rowlands.
Mae’n ddrwg gennyf, na.
Amaethyddiaeth Fanwl
6. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag amaethyddiaeth fanwl? OAQ(5)0030(ERA)
Diolch. Mae amaethyddiaeth fanwl yn un o nifer o arferion ffermio modern sy’n gwneud cynhyrchu’n fwy effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn drwy Cyswllt Ffermio. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffermio manwl ar gyfer da byw sy’n cnoi cil, a wneir ar fferm Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, a’r defnydd o wrtaith cyfradd newidiol mewn glaswelltir, ar fferm Troed y Rhiw yn Aberaeron.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynhyrchiant fferm gynyddu cymaint â 30 y cant drwy ddefnyddio data mawr a dadansoddeg. Mae meddylwyr blaenllaw ym maes arloesedd yn dweud mai amaethyddiaeth fanwl yw’r datblygiad pwysicaf yn y byd ffermio modern, gan annog defnydd effeithlon o adnoddau prin a lleihau’r defnydd o gemegau niweidiol. Byddwn yn annog y Gweinidog i fod yn feiddgar yn y maes hwn ac annog diwydiant newydd i Gymru. A wnaiff y Gweinidog gasglu bwrdd o arbenigwyr at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i fod ar y blaen yn y maes arloesedd pwysig hwn?
Rwy’n credu bod cryn dipyn o waith yn digwydd yn y cefndir yn ôl pob tebyg, felly byddwn yn bendant yn ystyried gwneud hynny, ond rydych yn llygad eich lle, mae’n defnyddio data lloeren manwl, dyfeisiau synhwyro o bell, technoleg casglu data procsimol, ac mae’n galluogi pobl i wneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol. Rwy’n credu eich bod yn gywir; mae angen i ni wneud y gorau o’r adenillion ar y mewnbwn, felly byddaf yn sicr yn ystyried hynny.
Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn rhoi sylw i’r maes pwysig hwn, ond pa waith rydych chi’n ei wneud yn benodol, neu y mae eich swyddogion yn ei wneud, i ymgysylltu â’r sectorau addysg—nid addysg uwch yn unig, ond y sector addysg bellach hefyd—i wneud y gorau o’r manteision posibl y gall amaethyddiaeth fanwl eu cynnig i faint y cynnyrch, yn enwedig o ran cnydau, ar draws Cymru yn y dyfodol? Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb yn y maes amaethyddol newydd hwn yng Ngholeg Llysfasi yn fy etholaeth fy hun, ac yn meddwl tybed pa waith, yn benodol, y gallech chi fod yn ei wneud gyda hwy.
Nid wyf wedi gwneud unrhyw waith penodol gyda’r sector addysg bellach. Rwy’n ymwybodol fod yr enghraifft a roddais i chi yn sôn am y sector addysg uwch, ac rydym yn gwneud cryn dipyn mewn nifer o brifysgolion. Ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ysgrifennu at yr Aelod.
Yr Amgylchedd yng Nghanol Ardaloedd Trefol
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru? OAQ(5)0026(ERA)
Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella’r mannau lle maent yn byw neu’n gweithio. Mae galluogi pobl i ddiogelu eu hamgylchedd eu hunain yn ein helpu i drechu anghydraddoldeb amgylcheddol. Ar ben hynny, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe ar lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar sut y gall Cymru wneud yn well mewn perthynas â rheoli llygredd aer a sŵn.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod yr amgylchedd ar garreg y drws, fel y’i gelwir, o bwys mawr iawn i lawer o bobl yng Nghymru, o ystyried nifer y bobl sy’n byw yn yr amgylcheddau penodol hynny. Os ydynt yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u hamgylchedd ac yn ei ystyried yn amgylchedd o ansawdd, rwy’n credu eu bod yn llawer mwy tebygol o fod â diddordeb yn yr amgylchedd yn gyffredinol ac o gymryd rhan, ac mae hynny’n golygu perfformiad ailgylchu da, er enghraifft. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrth y Siambr, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd gwaith Cynefin er enghraifft, a lwyddodd, yn fy marn i, i wneud llawer o waith da mewn perthynas â’r amgylchedd ar garreg y drws, yn cael ei ddatblygu wrth i ni symud ymlaen o gofio nad yw’r cynllun penodol hwnnw’n bodoli mwyach?
Ie, diolch. Roedd y rhaglen Cynefin yn treialu ffordd newydd, rwy’n credu, o gynnwys cymunedau yn y rhaglenni a’r gwasanaethau cyflenwi lleol a oedd wedi’u llunio i fod o fudd iddynt. Rydym bellach wedi ymestyn ein contract gydag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy am gyfnod o 12 mis er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen cymorth cyflenwi ledled Cymru a fydd yn adeiladu ar y dysgu a’r arbenigedd a ddatblygwyd gyda rhaglen Cynefin. Rwy’n credu bod yn rhaid lledaenu’r momentwm a welsom gyda rhaglen Cynefin drwy ddylanwad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n rhaid i’r momentwm hwnnw barhau. Rydym bellach yn gweithio gyda’r comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ledaenu arfer gorau ymhellach wrth gynnwys cymunedau.
Neil McEvoy.
Mohammad Asghar.
Diolch i chi, Fadam Lywydd. Un ffordd o wella’r amgylchedd ynghanol ardaloedd trefol yw annog sefydlu mannau gwyrdd cymunedol. Mae Tesco yn defnyddio’r arian a godwyd yn sgil y tâl am fagiau siopa i gefnogi cyfranogiad cymunedol ar gyfer datblygu a defnyddio mannau agored. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi a llongyfarch Tesco, a beth arall fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud i gynyddu nifer y mannau gwyrdd cymunedol ynghanol ardaloedd trefol yng Nghymru?
Ie, diolch, ac yn sicr rwy’n cymeradwyo Tesco. Ymwelais ag un yn fy etholaeth fy hun, wedi’i gefnogi gan Tesco. Rydym yn sicr wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol er mwyn gwella mannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol.
Rwy’n credu bod gwyrddu’r amgylchedd trefol yn bwysig iawn i iechyd a lles emosiynol trigolion, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod am y mudiad gerddi cymunedol yn Efrog Newydd. Gwelais rai o’r gerddi cymunedol yn ardal Lower East Side yn ystod y toriad ac roedd yn gwbl syfrdanol sut yr oedd pob darn bychan o dir dros ben yn cael ei ddefnyddio i dyfu llysiau, tyfu blodau, cadw gwenyn—cwbl syfrdanol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a oedd yna ryw ffordd y gallem efelychu hynny.
Yn hollol. Nid oeddwn yn gwybod amdano yn Efrog Newydd yn benodol, ond byddwn yn hapus iawn i ofyn i fy swyddogion roi gwybodaeth i mi a byddaf hefyd yn siarad â Julie am y peth. [Torri ar draws.] Neu fynd yno—nid oeddwn yn mynd i ddweud hynny. [Chwerthin.]
Ardaloedd Coediog
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog creu ardaloedd coediog yng Nghymru? OAQ(5)0022(ERA)
Mae cynllun Glastir—Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu coetiroedd newydd mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru. Mae Glastir—Adfer Coetir yn cefnogi ailblannu coetiroedd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum. Agorodd Llywodraeth Cymru gyfnod arall ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yn y ddau gynllun ar 30 Awst.
Diolch. Cefais ymateb gennych mewn llythyr ar 18 Awst ar ôl i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd—neu ConFor—gohebiaeth ar rwystrau i greu a rheoli coetiroedd masnachol yng Nghymru, a rhai atebion. Yn eich ateb fe ddywedoch fod eich rhagflaenydd wedi ymateb i’r un ddogfen ym mis Chwefror, ac wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny, ond maent hwy’n dweud mai ymateb i un o’r pwyntiau yn y ddogfen yn unig a wnaeth. Ysgrifenasant yn ôl ond oherwydd prysurdeb yr etholiad ni chawsant ateb i’r ohebiaeth honno. Dywedodd ei fod wedi gofyn i’w swyddogion archwilio eu hawgrym y dylid darparu cyngor ac arweiniad clir i ymgeiswyr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid ydynt wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Fe gyfeirioch at y cynllun gweithredu ar gyfer creu 1,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2020, ond mae eu haelodau wedi tynnu sylw at y rhesymau pam nad yw hyn yn debygol o lwyddo oni bai bod y rhwystrau’n cael eu datrys, ac maent yn dal i aros am ateb i’w cwestiynau i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ailstocio. Sut y byddwch chi, mewn ysbryd cadarnhaol—oherwydd maent hwy eisiau bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol—yn ymgysylltu ac yn helpu i lenwi’r bylchau hynny fel bod modd bwrw ymlaen â deialog gadarnhaol er lles pawb, a’r amgylchedd naturiol yn arbennig?
Rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n gadarnhaol â hwy. Mae’n ddrwg gennyf nad ydynt wedi cael ymateb dros gyfnod yr etholiad, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ar eich rhan. Nid wyf yn siŵr os oeddech yn dweud mai ein nod oedd plannu 1,000 hectar—ein nod mewn gwirionedd yw plannu 10,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn mis Mawrth 2020, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd. Mae’n peri pryder i mi glywed bod rhywfaint o bryder o du’r sector, fel y dywedwch, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny a byddaf yn hapus iawn i’w cyfarfod.
Cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwr yn fy etholaeth a oedd wedi clirio tir i greu coetir newydd o dan gynllun Glastir. Fodd bynnag, roedd yn cael problemau oherwydd bod y tir wedi ei oresgyn ers hynny gan Jac y Neidiwr, sy’n broblem ar bob rhan o dir ei fferm, ac roedd yna bosibilrwydd hefyd ei fod wedi lledaenu i lawr y bryn o un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr a rhywogaethau goresgynnol eraill yn ystod y pumed Cynulliad.
Rydym yn cefnogi gwaith rheoli ar raddfa dalgylch i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr drwy grwpiau gweithredu lleol. Rydym hefyd wedi cefnogi gwaith i ryddhau ffwng pathogenig newydd ar bum safle ar draws Cymru gyda’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol, fel cyfrwng rheoli biolegol i fynd i’r afael â’r pla hwn.
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o fanteision creu coetiroedd o ran bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, lliniaru llifogydd, dal carbon a chymaint mwy o’n systemau naturiol pwysig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ond rwy’n meddwl tybed a yw hi wedi cael amser i fyfyrio ar ei hymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi—30 hectar o dir wedi ei adfer o hen olchfeydd Maesteg a phwll glo Coegnant, a choetir gweithredol sydd ag ymgysylltiad aruthrol gyda’r gymuned leol. Nid y coetiroedd collddail a blannwyd a’r perllannau a’r harddwch naturiol yw’r unig bethau sy’n diffinio’r coetir, ond y ffaith ei fod wedi ei leoli yn un o’r ardaloedd lle mae’r ymyriadau sydd wedi eu targedu fwyaf ym maes iechyd ac addysg a materion eraill yn digwydd. Onid yw’n iawn fod cynllun gweithredu coetiroedd, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn golygu bod angen i ni weld y coed cywir yn y mannau cywir, ac mae hynny’n golygu eu plannu yn agos at gymunedau fel hyn?
Ydy, yn hollol. Mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn, er gwaethaf y glaw trwm ar y diwrnod hwnnw ym mis Awst. Yr hyn a oedd yn fy nharo am y cynllun oedd yr holl weithio mewn partneriaeth yn y gymuned, o’r sefydliadau amgylcheddol i’r ysgolion a phobl leol yn galw draw i helpu. Roedd gweld y miloedd o goed a blannwyd ganddynt yn wirioneddol wych.
Cefnogaeth i’r Diwydiant Bwyd a Diod
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau posibl y bleidlais yn refferendwm yr UE ar gefnogaeth i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru? OAQ(5)0031(ERA)
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried y goblygiadau gyda rhanddeiliaid. Mae 95 y cant o fwyd a diod Cymru yn cael ei werthu yn y wlad hon, ac mae 5 y cant yn cael ei allforio. Mae 90 y cant o’r 5 y cant hwn yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n bwriadu diogelu a thyfu’r fasnach hon drwy gynnal mynediad i’r farchnad sengl a thrwy gymorth Llywodraeth Cymru.
Lywydd, dylwn ymddiheuro i’r Siambr, oherwydd, pan gyflwynais y cwestiwn hwn, nid oeddwn yn sylweddoli y byddem yn cael nid un ond dwy ddadl ar adael yr UE ar ddiwrnod y gwrthbleidiau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Gorffennaf 2015, fe gofiwch i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bod yn awyddus i weld nifer y bwydydd Prydeinig a ddiogelir o dan gyfraith Ewropeaidd yn cynyddu o 63 i 200. O’r ceisiadau a gyflwynwyd i’r Comisiwn Ewropeaidd, roedd naw yn dod o Gymru, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, un ohonynt oedd y caws Cymreig traddodiadol, caws Caerffili. Mae gan gaws Caerffili hanes hir. Fel Aelod Cynulliad lleol—mae’n ddefod fel yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili; mae’n rhaid i chi ofyn cwestiwn am gaws Caerffili—rwyf am ddod a’r cynhyrchiant hwnnw yn ôl i fy etholaeth. Fodd bynnag, er mwyn cynhyrchu ac allforio caws Caerffili, mae’n bwysig ei fod yn cael gwarchodaeth arbennig o dan y dynodiad daearyddol gwarchodedig neu farc gwarant arbenigedd traddodiadol ar gofrestr bwydydd gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am gynnydd cais caws Caerffili a rhoi sicrwydd i mi na fydd y ffaith ein bod yn mynd i adael yr UE yn effeithio ar obeithion y cynnyrch o gael y statws gwarchodedig y mae cymaint o alw amdano?
Diolch. Mae’n dda gweld yr Aelod dros Gaerffili yn parhau â thraddodiad ei ragflaenydd mewn perthynas â chaws Caerffili. Rwy’n credu bod enwau bwydydd gwarchodedig o fudd enfawr i gynhyrchion o Gymru. Fel y dywedwch, rydym yn cefnogi wyth o geisiadau newydd mewn gwirionedd, ac un o’r ceisiadau hynny yw caws traddodiadol Caerffili. Nid yw canlyniad refferendwm yr UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r modd y caiff y ceisiadau eu prosesu. Felly, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, oherwydd, yn amlwg, ganddynt hwy y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros holl geisiadau’r DU, a’r Comisiwn, i sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu cefnogi a’u bod yn llwyddiannus. Hyd nes y bydd y DU yn gadael yr UE, bydd statws bwyd gwarchodedig yn parhau i fod â’r statws hwnnw, ac rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael cadw’r statws hwnnw, neu, os na chawn ei gadw ar ôl i ni adael yr UE, fod gennym statws bwyd ein hunain neu statws bwyd y DU, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael y statws cyfatebol hwnnw neu’r warchodaeth honno i’n cynnyrch o Gymru.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Halen Môn, sydd wrth gwrs yn destun gwarchodaeth Ewropeaidd, yn un o’r pum cynnyrch Cymreig diwethaf i’r Ysgrifennydd Cabinet eu prynu. Rwyf wedi bod yn trafod efo Halen Môn, yn digwydd bod, y syniad yma rydw i wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth iddo o datblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn. Rydw i’n bryderus iawn am beth sy’n mynd i fod yn digwydd i’r RDP yn y blynyddoedd i ddod. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo rhagflaenydd y Gweinidog ynglŷn â’r posibilrwydd—efallai drwy arian RDP, ac yn sicr, bron, drwy ddefnydd o arian Ewropeaidd—o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi a’i swyddogion am ymateb yn bositif i’r syniad yna. Mi fuaswn i’n gwerthfawrogi cadarnhad bod y Llywodraeth, o dan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn parhau i gefnogi’r syniad hwnnw mewn egwyddor ac yn barod i’w drafod ymhellach. A wnaiff yr Ysgrifennydd wneud sylw am beryglon Brexit i’r cyfleon i fwrw ymlaen efo cynllun o’r fath, a sut i oresgyn hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, y posibilrwydd o symud ymlaen yn gyflym iawn efo'r fath gynllun?
Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Halen Môn dros yr haf; llwyddais i gynaeafu ychydig o halen môr fy hun mewn rhwyd wallt ddeniadol iawn, ond roedd yn wych gweld cwmni mor ardderchog, ac mae’r perchnogion mor llawn o egni. Unwaith eto, hwy oedd yn dweud wrthyf pa mor bwysig yw’r statws bwyd gwarchodedig iddynt hwy. Rwy’n hapus iawn i barhau i gefnogi’r cysyniad y cyfeiriwch ato. Mae’r penderfyniad i adael yr UE wedi creu llawer o heriau. Fel y gwyddoch, mae’n ddyddiau cynnar iawn, ond yr hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno yw’r cyfleoedd y bydd gadael yr UE yn eu creu hefyd, ac efallai y gallem gael trafodaethau pellach yn yr un math o gyd-destun mewn perthynas â’ch syniad am barc cynhyrchu bwyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd y gellir cefnogi’r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yw drwy’r ardoll hyrwyddo sy’n cael ei rhoi ar dda byw wrth eu prosesu. Nawr, mae llawer o Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet, ynghyd ag Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet eraill o bob cwr o’r DU, wedi ceisio mynd i’r afael â’r ardoll hyrwyddo, gan ei bod yn cael ei chodi ar adeg y lladd, ac mae llawer o’r da byw yng Nghymru yn mynd i Loegr i gael eu prosesu. Mae yna ewyllys a chyd-ddealltwriaeth, fel rwy’n deall, i adolygu’r rheoliadau ynglŷn â hyn. A ydych wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â thrafodaethau’r gorffennol ac yn wir, i drafod gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sut y gallai’r ardoll ddychwelyd i Gymru lle mae llawer o’r da byw yn cael eu pesgi ar eu ffurf byw ond nid eu prosesu ar gyfer y farchnad?
Rwyf wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â gohebiaeth flaenorol. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda swyddogion am y peth. Nid wyf wedi trafod y mater yn uniongyrchol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond mae fy swyddogion wedi gwneud hynny ac mae’n rhywbeth rydym yn edrych arno. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod fy rhagflaenydd wedi cyflwyno adolygiad o Hybu Cig Cymru, ac unwaith eto, rydym yn edrych ar yr ardoll mewn agweddau ar hynny hefyd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Rŷm ni’n symud ymlaen i eitem 2, sef cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf—Bethan Jenkins.
Ardaloedd Adfywio Strategol
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd adfywio strategol? OAQ(5)0022(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae gweithgaredd adfywio yn parhau ledled Cymru o dan raglen adfywio cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae hon yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ardal adfywio strategol flaenorol y mae’r Aelod yn ei nodi ac a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015.
A allwch chi ddweud wrthyf pa waith sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod cwm Afan yn elwa ar y cynllun adfywio yma? Fe dderbyniais i lythyr gan gyngor Castell Nedd Port Talbot dros yr haf yn cadarnhau ei fwriad i leoli gwaith datblygu ar hyd coridor arfordirol yr ardal honno, gan gynnwys cwm Nedd uchaf a chwm Tawe uchaf yn ardaloedd o dwf strategol. Ond, beth rwy’n ei ddarganfod trwy gnocio drysau yn ardal Afan, yn y cymoedd, yw eu bod nhw’n teimlo bod pethau’n mynd oddi ar yr ardal honno a bod adnoddau’n cael eu tynnu o’r ardal, ac felly nid ydyn nhw’n cael yr un yr un flaenoriaeth â’r ardal arfordirol. A fedrwch chi ddweud wrthym ni a oes yna gynlluniau i gynnwys yr ardal yma yn benodol yn rhan o’r strategaeth?
Wel, awdurdodau lleol yw’r asiantau sy’n gyfrifol am nodi eu cynnwys Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac rydym yn cydnabod hynny pan fyddwn yn eu cael gan yr awdurdodau lleol. Rydym yn edrych ar y cam nesaf, yn dilyn y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Yn wir, os yw’r awdurdod lleol yn darparu enghreifftiau i nodi pam y maent yn dymuno i hynny gael ei flaenoriaethu, byddaf yn ystyried hynny’n ofalus.
Weinidog, a gaf fi ymuno â’r Aelod dros Orllewin De Cymru, oherwydd roeddwn innau hefyd am holi’r cwestiwn ynglŷn â sicrhau bod y prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, prosiect a welwn yn cyflawni canlyniadau rhagorol mewn gwirionedd ym Mhort Talbot, gydag ystad ddiwydiannol y Parc Gwyrdd yn cael ei thrawsnewid yn ardal werdd hyfryd a thai cymdeithasol, adfywio hen orsaf y frigâd dân, a chanolfan drafnidiaeth Port Talbot yn yr orsaf drenau—mae pob un ohonynt yn dwyn ffrwyth, yn dawel bach, ac yn gweld newid, ond mae angen i ni weld y newid hwnnw y tu hwnt i’r prif drefi yn yr ardaloedd. Felly, rwyf am eich annog, fel y gwnaeth Bethan, i ystyried ymestyn y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid y tu hwnt i’r prif drefi i gymunedau allanol er mwyn iddynt hwy allu elwa. Rwy’n deall eich bod wedi nodi mai mater ar gyfer yr awdurdodau lleol yw hynny, ond efallai y gellid rhoi canllawiau a meini prawf i awdurdodau lleol er mwyn mynegi’r safbwynt hwnnw, oherwydd, fel rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, mae hwn yn gynllun gwych ar gyfer adfywio canol trefi ac ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso ers tro, ond mae’r ardaloedd hynny hefyd yn y Cymoedd.
Rwy’n ddiolchgar iawn am sylwadau a chwestiwn yr Aelod. Rwy’n falch o glywed am y cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud mewn llefydd fel Port Talbot, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith pan fyddaf yn ymweld â Phort Talbot ddiwedd y mis. Rydym yn darparu £11.5 miliwn i gefnogi rhaglen amrywiol, ac mae’r prosiectau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn cyfrannu at adfywio’r dref. Wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mae’r awdurdodau lleol yn cael pentyrrau o gyfarwyddyd; nid ydynt byth yn gofyn am ragor, ar wahân i ofyn am ragor o arian, yn gyffredinol, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn cymryd y cynigion gan awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn eu hystyried wrth i ni feddwl am ardaloedd adfywio strategol, neu fel y mae yn awr, y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Weinidog, yng ngogledd Cymru, yn wir, y gwelwyd un o lwyddiannau dull y weinyddiaeth flaenorol o adfywio, ym Mae Colwyn, lle rydym wedi gweld adfywiad y dref honno. Ond wrth gwrs, mae llawer o drefi glan môr eraill o gwmpas Cymru a allai elwa o ddull adfywio strategol. A wnewch chi ystyried ein cynnig polisi yn etholiadau diweddar y Cynulliad ar gyfer menter trefi glan môr ledled Cymru, fel y gall cyrchfannau glan môr gwych ledled Cymru sydd wedi cael trafferthion yn ystod y degawdau diwethaf ymadfywio, yn yr un modd ag y mae Bae Colwyn wedi ei wneud?
Diolch i’r Aelod am gydnabod bod y weinyddiaeth Lafur flaenorol yng Nghynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Bae Colwyn. Bûm yno gyda’r Aelod, yn wir, i weld y llwyddiant mawr hwn, a hefyd mae llefydd fel y Rhyl ac ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid. Rwy’n credu ein bod ar hyn o bryd yn ystyried camau nesaf y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac mae’n bosibl y bydd hynny’n cynnwys rhyw gyfeiriad at drefi glan môr, ond mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid i mi roi ystyriaeth ofalus iawn iddo.
Ymgysylltiad Cymunedol Effeithiol
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau ymgysylltiad cymunedol effeithiol? OAQ(5)0026(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n credu’n gryf mewn ymgysylltiad cymunedol effeithiol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu fod cyrff cyhoeddus yn dangos cydweithrediad ac ymwneud wrth gyflwyno’r nodau llesiant. Mae’n rhaid cynnwys cymunedau mewn llywodraeth leol a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed a’u bod yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno â’r sylw am gymunedau lleol yn cael eu cynnwys, ac wrth gwrs, ar hyd a lled Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rwyf wedi dod ar draws nifer o grwpiau gwirfoddol. Rwy’n edmygu eu hysbryd cymunedol ac maent yn gwneud llawer iawn o waith ar ran y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Fodd bynnag—ac mae yna ‘fodd bynnag’ bob amser—rwy’n dod yn fwyfwy ymwybodol o grwpiau sy’n cael eu sefydlu gan honni eu bod yn cynrychioli cymunedau lleol pan nad ydynt ond yn cynrychioli un sector bychan iawn o fewn y gymuned leol mewn gwirionedd—grŵp bach o bobl mewn tref fawr. Mae hyn yn aml iawn yn achosi dicter a rhwystredigaeth ymysg aelodau o’r gymuned ehangach nad ydynt mewn gwirionedd eisiau sefydlu grŵp arall ond sy’n teimlo bod y sefydliadau llai hyn yn llywio eu trefi a’u pentrefi mewn ffordd nad ydynt am ei gweld. Mae gwleidyddion yn cael eu lobïo, gwneir cais am gyllid, mae’r cyllid yn cael ei dderbyn, ac roeddwn yn meddwl tybed beth y gallech ei wneud i sicrhau bod gwell arweiniad i’r sefydliadau bach hyn. Nid ydym am fygu eu hysbryd gwych, ond rydym am wneud yn siŵr eu bod, wrth ddweud eu bod yn cynrychioli pentref, tref neu grŵp, yn eu cynrychioli go iawn yn hytrach na chynrychioli hunan-les cul lleiafrif bach iawn.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r ffordd amhleidiol y llwyddodd i’w ofyn hefyd. Rwy’n credu efallai fod llawer o Aelodau’r Siambr hon yn gyfarwydd â’r enghreifftiau y mae’r Aelod yn eu nodi. Rwy’n credu mai’r hyn rydym yn awyddus iawn fel Llywodraeth i’w wneud yw sicrhau bod ein ffrydiau cyllido yn mynd tuag at y budd mwyaf i’n cymunedau mwy o faint, gan weithio gyda sefydliadau fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 44 corff sector cyhoeddus sydd bellach o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yn arwydd newydd o’r ffordd rydym yn datblygu polisi ar gyfer cymunedau lleol ac mae ymgysylltu ac ymwneud yn rhan allweddol o hynny—mae gallu dangos hynny i gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, yr archwilydd cyffredinol a’r llywodraeth yn broses bwysig iddynt.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Rydym ni’n symud nawr at gwestiynau’r llefarwyr, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. I gefnogi’r ymgyrch ‘Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl’ ar gyfer 2017-18, sydd bellach yn magu momentwm, ymwelais â nifer o brosiectau yn ystod yr haf. Yn ystod un ymweliad, dywedodd person alcoholig sy’n gwella wrthyf fod y rhaglen Cefnogi Pobl wedi achub eu bywyd i bob pwrpas: ‘gyda’u cymorth yn y gorffennol a’r presennol mae gennyf obaith o gael bywyd llawer gwell’. Dywedodd yr ail—ni chyfeiriaf at ragor—’cefais fy niod diwethaf ar 12 Mawrth eleni. Roeddwn yn llawn meddyliau negyddol, afiechyd a’r awydd i roi diwedd ar bopeth, nid oeddwn yn ddim byd ond straen ar gymdeithas, yn dreth ar y GIG, yr heddlu, meddygon, nyrsys, seiciatryddion, gweithwyr cymorth ym maes iechyd meddwl, ffrindiau, teulu a Duw a ŵyr pwy arall. Yr holl bobl ac adnoddau hyn ar waith oherwydd fy alcoholiaeth. Cost hyn i gyd: annirnadwy. Mae’r holl ymwneud a thriniaeth wedi rhoi cyfle arall i mi mewn bywyd unwaith eto’.
A ydych yn cydnabod, ac rwy’n siŵr eich bod, fod y prosiectau hyn yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol, ac a fyddwch yn cyflwyno sylwadau i’r perwyl hwnnw wrth i ni symud tuag at y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Byddaf.
Diolch. Fe fyddwch yn gwybod, ochr yn ochr â hynny, fod dwy gyllideb gydberthynol arall, yn arbennig y gyllideb atal digartrefedd, a welodd doriad o 8 y cant yn y flwyddyn gyfredol. Mae cynghrair o ddarparwyr—Shelter Cymru, Llamau, GISDA, Digartref Ynys Môn a Dewis—wedi gwneud y pwynt fod lleihau’r gyllideb sy’n cefnogi gwasanaethau ataliol allweddol, sy’n ganolog i ganlyniadau a llwyddiant gwasanaethau a darpariaeth a gefnogir gan y cyllidebau eraill, fod torri’r gyllideb hon yn hunandrechol. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y grant atal digartrefedd, gan ddweud ei fod wedi rhoi platfform i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio ar gyfer gwaith atal, ei fod yn arbed arian a bod gweithio gyda Cefnogi Pobl yn sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn cael cefnogaeth gynnar. Sut rydych yn ymateb i’r alwad honno ochr yn ochr â Cefnogi Pobl?
Rwy’n ddiolchgar iawn am gwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn amau ei uniondeb yn dwyn hyn i fy sylw heddiw, ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid rheoli ein buddsoddiadau yn strategol ar sail ein cyllidebau sy’n lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud, a’r hyn rydym wedi ei wneud yng Nghymru, yw diogelu’r gyllideb Cefnogi Pobl, pan fo’r gyllideb Cefnogi Pobl wedi diflannu yn Lloegr o dan weinyddiaeth y DU. Rydym yn awyddus iawn i gynnal y gyllideb honno. Ni allaf warantu y bydd yn cyrraedd yr un lefel, ond gallaf ddweud wrthych—a gofynnodd yr Aelod hyn yn benodol mewn perthynas â’r cwestiwn ar ddigartrefedd—rydym wedi mabwysiadu dull gwahanol iawn yma yng Nghymru. Mae’r gostyngiad o 63 y cant yn y ffigurau digartrefedd a gofnodwyd yma yng Nghymru yn ostyngiad sylweddol ar gyfer cefnogi gwasanaethau. Mae’n rhaglen sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU. Yng Nghymru, dylem fod yn dathlu’r gwaith atal a wnawn. Rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw cyllid i sefydliadau; ond a allaf ei warantu ar hyn o bryd? Na, ni allaf wneud hynny.
Fy nghwestiwn, yn hytrach, oedd pa sylwadau y byddech yn eu gwneud. Yn amlwg, rwy’n deall sut y mae cylch cynllunio’r gyllideb yn gweithio, ac nid oeddwn yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol. Roeddwn yn llwyr gefnogi diogelu’r gyllideb honno y llynedd a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, nid yn unig oherwydd digartrefedd, ond oherwydd effaith gysylltiedig ymyrraeth gynnar ar gamddefnyddio sylweddau, ar gam-drin domestig a chymaint o bethau eraill sy’n arwain at bwysau costus ar wasanaethau statudol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod hon yn ffordd o arbed arian ac yn ffordd o dorri cyllidebau drwy feddwl yn gyfannol yn Llywodraeth Cymru.
Y goes olaf ar y stôl mewn perthynas â hyn, ochr yn ochr â’r ddwy raglen honno, yw’r cyllid pontio ar gyfer tai—gan gefnogi pobl ar gyrion cymdeithas, lleihau’r galw ar adrannau damweiniau ac achosion brys, annog pobl i mewn i waith, helpu pobl i aduno gyda’u plant a llawer mwy. Mae Cymorth Cymru wedi gwneud y pwynt y bydd hwnnw—yn dilyn gostyngiad i £3 miliwn, rwy’n credu, y flwyddyn hon, o £5 miliwn y llynedd—yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ond os gellid ymgorffori hwn yn Cefnogi Pobl, byddai’r £130 miliwn, sef y swm wedi ei gyfuno, yn ein galluogi i fynd gam ymhellach i drechu ac atal ac ymyrryd a lleihau costau’r sector statudol fel rhan o setliad cyllideb tynn. Sut rydych yn ymateb i hynny?
Nid wyf yn twyllo fy hun ynglŷn â pha mor gadarnhaol yw’r ffrwd gyllido ar gyfer Cefnogi Pobl ac mae ei heffaith yn fawr o ran y dull ‘atal’ o ddarparu gwasanaethau. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn cydnabod hynny hefyd a dyna pam ein bod wedi gwneud ein gorau o dan y Gweinidog blaenorol hefyd i ddiogelu cymaint o gyllideb Cefnogi Pobl ag y bo modd. Ond ni allwn barhau yn yr un ffordd. Rydym mewn lle gwahanol iawn o ran ein setliad ariannol. Mae’n rhaid i ni gael trafodaethau beiddgar a pharchus gyda sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ynglŷn â sut y gallant eu darparu’n well.
Llefarydd UKIP—Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddod yn syth at y cwestiynau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a diogelu merched sydd mewn perygl yn sgil anffurfio organau cenedlu menywod a pha adnoddau a ddarparwyd i’r GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a’r ysgolion i gefnogi’r mesurau hynny?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym wedi deddfu yng Nghymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a chamfanteisio rhywiol. Mae gennym raglen ar y cyd gyda’r GIG sy’n ymwneud ag anffurfio organau cenedlu menywod—a sefydliadau trydydd sector eraill. Mae’n flaenoriaeth yn fy adran i wneud yn siŵr bod diogelwch ein cymunedau ac unigolion yn cael eu cynnal a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Mae llawer o bobl o gymunedau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael neu wedi cael ei arfer yn gweithio’n galed i’w atal yng Nghymru a helpu ei ddioddefwyr. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i elusennau sy’n ymwneud â’r gwaith hollbwysig hwn?
Nid oes gennyf unrhyw ffigurau ar gyfer yr Aelod heddiw, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion pellach. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn yn faes cymhleth iawn o ran yr hyn y credir ei fod yn dderbyniol yn gymdeithasol yn rhai o’r cylchoedd hyn. Mae’n amlwg nad yw’n dderbyniol. Nid ydym yn credu hynny. Ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector—mae’n ddrwg gennyf, y sector cyhoeddus, fel y GIG, a’r heddlu hefyd mewn perthynas ag euogfarnau yn erbyn unigolion sy’n gwneud hyn.
Caiff arferion diwylliannol eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, ac mae anffurfio organau cenedlu menywod yn benodol yn cael ei wneud i ferched bach gan oedolion, er budd dynion yn y diwylliant patriarchaidd yn y pen draw. Beth rydych chi’n ei wneud i herio’r gwerthoedd diwylliannol sy’n arwain at anffurfio organau cenedlu menywod, yn enwedig ymhlith dynion sy’n perthyn i ddiwylliannau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael ei arfer?
Mae gennym fforwm ffydd, fforwm rwy’n gadeirydd arno, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog. Rydym yn gweithio ar y gallu i helpu diwylliannau i newid o’r tu mewn, yn hytrach na dweud wrthynt beth y dylai pobl fod yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni weithio gyda sefydliadau cydymdeimladol sy’n gallu gweithio a gweithredu o fewn y diwylliant neu’r ffydd. Rydym yn cael peth llwyddiant ond mae llawer iawn mwy o waith i’w wneud yn y maes hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn oedd cyn refferendwm yr UE, a gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau ar faint o gynlluniau gwrthdlodi sy’n cael eu hariannu gan yr UE. Felly, gwyddom bellach, wrth gwrs, fod y rhai a fu’n ymgyrchu i adael yr UE, gan gynnwys rhai o aelodau’r Blaid Lafur, fel Gisela Stuart, wedi addo y bydd pob ceiniog sy’n cael ei derbyn oddi wrth yr UE yn cael ei chadw. Ond pa gynlluniau wrth gefn rydych wedi eu gwneud, gyda’ch swyddogion, os na chaiff rhai o’r cynlluniau gwrthdlodi hyn eu diogelu?
Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, ac mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn, o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut a phryd rydym yn disgwyl gweld cyllid yn cael ei gyflwyno. Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael fawr o arwydd, na fawr o lwc gyda hynny, ond mae’n pwyso’n galed iawn ar y DU. Rydym wedi gwneud rhai asesiadau o effeithiau gadael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â sgiliau, swyddi a’r ardal twf, sy’n destun pryder penodol i ni, ond yr hyn na allwn ei addo yw y gallwn liniaru’r symiau sylweddol o arian sy’n dod o Ewrop i Gymru—y gallwn ôl-lenwi’r bylchau hynny’n hawdd iawn. Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu ein rhaglenni yn y dyfodol. Rydym yn parhau i wneud gwaith ar hynny.
Diolch am eich ymateb. Mae llawer iawn o bryder/diddordeb wedi bod ymysg llawer o blith y sefydliad gwleidyddol fod llawer o’r ardaloedd a elwodd fwyaf o arian Ewropeaidd wedi pleidleisio dros adael. Ond er gwaethaf yr holl arian sy’n mynd i’r Cymoedd, mae tlodi, tai gwael a chyflogaeth ansicr yn parhau i fod yn ffeithiau bywyd i lawer o bobl sy’n byw yno. Felly, gellid gweld y bleidlais hon fel rheithfarn ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweinyddu biliynau o bunnoedd o arian yr UE, yn hytrach na’r sefydliad ei hun. A ydych yn derbyn, felly, nad yw trechu tlodi yn ymwneud yn unig â’r rhif y byddwch yn ei roi ar ôl yr arwydd punt ar y datganiad i’r wasg, ond yn hytrach â’r modd y byddwch yn gwario cyllidebau sy’n bodoli, ac os nad ydych yn rhoi’r hyn y mae cymunedau wirioneddol eu hangen iddynt, neu os nad ydych yn ymgynghori’n effeithiol â hwy, yna mae’n bosibl y bydd eu rhybuddio bod yr arian mewn perygl yn cael ei weld fel bygythiad gwag i’r mathau hynny o bobl?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt diddorol iawn. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o’i chyd-Aelodau yn y Llywodraeth hefyd yn hyrwyddo ac yn gwario peth o’r arian Ewropeaidd ledled Cymru dros nifer o flynyddoedd yn flaenorol.
I mi, a’r pwynt pwysig roedd yr Aelod yn ceisio ei wneud, rwy’n credu, oedd na ddylem godi ofn ar bobl o ran yr hyn sy’n mynd i ddigwydd—dylem fod yn cynnig gobaith a chyfleoedd iddynt. A’r hyn rwy’n ceisio ei wneud yn yr adran hon, mewn perthynas â dwy thema rwy’n eu gwthio’n galed iawn—. Mae un yn ymwneud â chadernid economaidd i gymuned, ac mae’r llall yn ymwneud â lles—lles y gymuned, lles yr unigolyn neu’r gymuned ehangach. Os gallwn gael y ddau beth hwnnw’n iawn, rwy’n credu y gallwn ddechrau tynnu pobl allan o dlodi. A chyfarfûm ag un o’r sefydliadau y bore yma, Sefydliad Bevan, i siarad am rai o’r materion sydd gennym mewn golwg ar gyfer newid ein strategaeth tlodi wrth i ni symud ymlaen.
Diolch am hynny, ond rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hefyd nad yw rhai o leiaf o’r biliynau hynny wedi cyflawni’r nod a fwriadwyd ar eu cyfer, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn agored am y ffaith honno. Mae’n sicr yn wir fod cyllid ar gyfer rhaglenni gwrthdlodi mewn perygl, a dylid gwneud cynlluniau wrth gefn, fel rydych wedi nodi, i ddod yn fwy cadarn.
Ond mae’n rhaid i ni dderbyn hefyd y gallai’r atebion gynnwys y nesaf peth i ddim costau er mwyn gwneud arbedion yn y tymor hir. Er enghraifft, rydym wedi ceisio deddfu ar wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, pleidleisiodd eich Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i ddiddymu angen blaenoriaethol fesul cam, a rhoi diwedd ar y prawf Pereira yn y system ddigartrefedd fel bod gan bawb hawl i dŷ. Felly, gallwch weld sut y gallem wneud hyn heb orfod pwmpio miliynau o bunnoedd eto i mewn i hynny. Sut rydych chi’n edrych ar fathau newydd o fentrau, o ganlyniad i’r bleidlais hon, a sut y byddwch chi wedyn yn ceisio eu gweithredu fel Llywodraeth?
Byddaf yn gwneud datganiad yn fuan y mis nesaf ynglŷn â’r is-adran cymunedau a’n gweledigaeth ar gyfer y cyfleoedd i gymunedau ar draws Cymru, a fydd yn fwy manwl o ran sut rydym yn gweld trechu tlodi yn ymddangos ar frig ein hagenda. Gwnaeth yr Aelod ddatganiad cyffredinol iawn am yr hyn sydd heb weithio gyda chyllid Ewropeaidd, ond ni roddodd unrhyw fanylion i mi ynglŷn â’r hyn sydd heb weithio, ond rwy’n fwy na hapus i gael trafodaeth bellach gyda’r Aelod. Yr hyn y dylem ei wneud yw peidio â bod yn amharod i wynebu risg yn rhai o’r pethau a wnawn. Weithiau mae’n rhaid i ni dreialu pethau mewn cymunedau, i weld os ydynt yn gweithio er mwyn gwneud y newid, ac rwy’n credu y dylem fod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r rhaglenni rydym wedi eu gwneud ac wedi eu darparu a pheidio â bychanu Cymru drwy’r amser.
Canolfannau Cymunedol
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau cymunedol? OAQ(5)0019(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Gall dod ag ystod o wasanaethau a sefydliadau at ei gilydd mewn canolfannau cymunedol wella’r modd y darperir gwasanaethau a mynediad cwsmeriaid.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda phwyllgor neuadd bentref Rhaglan yn fy etholaeth, sy’n gweithio’n galed i ddatblygu canolfan gymunedol ynghanol etholaeth Mynwy. Mae’r Loteri Fawr wedi darparu cyllid i ddatblygu cynlluniau. A allwch ddweud wrthyf sut y mae rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau megis y Loteri Fawr i ddatblygu canolfannau cymunedol ledled Cymru?
Diolch. Rwyf wedi cael y llythyr gan yr Aelod sy’n rhoi cefnogaeth lawn i gais neuadd bentref Rhaglan, ac roeddech yn iawn i ddweud eu bod wedi cael swm sylweddol o arian gan y Loteri Fawr ar gyfer cynllunio. Mae’r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn gynllun grantiau cyfalaf sy’n darparu hyd at £500,000 ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned i wella cyfleusterau cymunedol sy’n trechu tlodi. Gall hyn gynnwys canolfannau cymunedol.
Ymosodiadau Corfforol
4. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cynnal ynglŷn â deddfwriaeth fyddai'n sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn yr un ffordd ag oedolion rhag ymosodiadau corfforol? OAQ(5)0035(CC)[W]
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i ddatblygu deddfwriaeth, ar sail drawsbleidiol, a fydd yn cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru yn ddiweddar a byddaf yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, wrth i’r mater hwn symud ymlaen.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Rwy’n falch clywed bod cynnydd wedi bod ers inni ei holi ddiwethaf, cyn yr haf, ynglŷn â’r mater yma, ac yn benodol ei fod wedi cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru. Rwy’n siŵr ei fod wedi cael cefnogaeth lawn y comisiynydd tuag at yr amcan yna. A fyddai’n haws, efallai, i esbonio sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu dod â rhyw fath o ddarpariaeth drwy’r Cynulliad hwn, yn enwedig o gofio bod angen rhoi cyfle i Aelodau o bob plaid gefnogi, gobeithio, ac i ennill cefnogaeth ehangach i sicrhau bod amddiffyniad cyfartal yma i bobl ifanc a phlant?
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Rwy’n bwriadu dechrau trafodaethau gyda phob plaid i weld sut y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda’n gilydd drwy hyn. Fy man cychwyn yw darparu rhaglen rhianta cadarnhaol, gyda golwg gyfannol i deuluoedd, a chefnogaeth i bobl ifanc, o ran cynnig gwell i Gymru, ac ochr yn ochr â hynny, byddwn yn cynnwys y ddeddfwriaeth y soniodd yr Aelod amdani.
Rwy’n credu bod llawer o rieni yn credu bod yr amddiffyniad o gosb resymol eisoes wedi cael ei ddiddymu, ond a fyddai’r Gweinidog yn cytuno, wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd i ddod, ei bod yn bwysig iawn cyfathrebu â rhieni a theuluoedd, ac a yw’n gallu dweud wrthym sut y mae’n bwriadu gwneud hynny?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Er mwyn cydlynu’r gwaith hollbwysig hwn yn y Llywodraeth, rydym wedi sefydlu tîm rhianta pwrpasol, a fydd yn gyrru’r agenda hon. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau ar y broses o ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn llywio datblygiad y ddeddfwriaeth hon. Rwy’n dymuno bod yn gynhwysol yn y broses hon ac rwy’n siŵr y bydd gan yr Aelod lawer i’w ychwanegu.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe gewch gefnogaeth os byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, gan y Ceidwadwr hwn beth bynnag. [Torri ar draws.] Wel, rwy’n cofio fy mod i a nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, mewn Cynulliadau blaenorol, wedi dweud ei bod yn bryd symud ymlaen a rhoi diwedd ar yr arfer hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn cytuno’n llwyr â geiriad y cwestiwn, oherwydd, yn amlwg, byddai plant yn cael eu diogelu rhag ymosodiad corfforol o dan y gyfraith bresennol. Rydym yn siarad am yr hyn roedd cenedlaethau blaenorol yn ei alw’n ‘gosb resymol’. Ond rwy’n cytuno â Julie Morgan, mae’n ymwneud â chefnogi rhieni, ac nid addysg yn unig yw hynny, ond sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yno, fel bod gennym sefydliadau gofal plant effeithiol, er enghraifft, a meysydd eraill o gymorth, fel nad yw rhieni’n teimlo o dan bwysau mawr, a all weithiau arwain at rwystredigaeth a diffyg rheolaeth. Felly, mae’n becyn cyfan. Ond mae’n hen bryd bellach i ni basio deddf yn y maes hwn.
Diolch i’r Aelod am ei gefnogaeth. Gwneuthum amcan bras o Aelodau a allai fod yn gefnogol i’r ddeddfwriaeth, wrth inni symud ymlaen, a chredaf ein bod ar y trywydd iawn o ran hynny ar hyn o bryd. Gobeithiaf y gallwn barhau â’r ddeialog honno.
Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn ag amddiffyn pobl ifanc. Mae llu o ddeddfau eisoes ar waith, ond nid yw’r gwaith wedi ei gyflawni eto ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i rianta cadarnhaol, a dyna pam y credaf na ddylem droseddoli rhieni, ond y dylem geisio cefnogi rhieni, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ceisio ei wneud wrth i ni symud ymlaen.
Tlodi Plant yng Ngorllewin De Cymru
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â threchu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0021(CC)
Diolch i’r Aelod dros Aberafan. Mae strategaeth tlodi plant 2015 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant ledled Cymru. Maent yn cynnwys ffocws ar y blynyddoedd cynnar a chynyddu cyflogadwyedd. Rwyf hefyd yn archwilio cyfleoedd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a lleihau eu heffaith ar gyfleoedd bywyd plant.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad, ‘We Can Solve Poverty in the UK’, a dynnai sylw at bum pwynt. Un o’r rhain oedd cryfhau teuluoedd a chymunedau, sy’n rhan o’ch cylch gwaith. Maent hefyd yn cynnwys pedwar argymhelliad. Yn fy etholaeth i, sef Aberafan, mae llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd ac yn wynebu cryn heriau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall y teuluoedd hyn elwa o well cymorth i deuluoedd, megis Teuluoedd yn Gyntaf? A wnewch chi sicrhau y bydd cyllid Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod presennol?
Mae’r Aelod yn iawn i godi’r materion hyn ar ran ei etholaeth a llu o rai eraill ledled Cymru. Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn ddwy ran bwysig iawn o’n rhaglenni trechu tlodi a chymorth i deuluoedd. Byddaf yn ceisio sicrhau eu bod yn parhau yn y dyfodol.
Weinidog, beth yw eich asesiad chi o’r newidiadau diweddar i Jobs Growth Wales a sut ydych yn gobeithio lleihau'r nifer o deuluoedd lle nad oes neb yn gweithio er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant?
Credaf ein bod wedi cael cryn lwyddiant gyda Twf Swyddi Cymru, ac rwy’n sicr y byddai’r Aelod yn cefnogi ymrwymiad ein maniffesto i gynyddu nifer y prentisiaethau i bob oedran ledled Cymru i 100,000. Fel y mae’r Aelod yn cydnabod, ceir nifer o bethau sy’n effeithio ar gydnerthedd cymunedol a chydnerthedd teuluol: mae addysg, swyddi a sgiliau a lles i gyd yn rhan o hynny. Fel y dywedais yn gynt wrth yr Aelod blaenorol, byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos nesaf ynglŷn â’n gweledigaeth gymunedol, ynglŷn â’r hyn y dylai cymorth y rhaglen honno ei olygu a sut y gallwn ddatblygu hynny ar gyfer y dyfodol.
Mae hyder a sgiliau priodol i gynorthwyo pobl i ymuno â’r gweithlu, wrth gwrs, yn allweddol er mwyn trechu tlodi plant, ac mae’n bwysig fod plant yn cael eu magu mewn amgylchedd sy’n gwerthfawrogi eu doniau a’u galluoedd ac sy’n rhoi cymorth iddynt eu datblygu er mwyn ehangu eu gorwelion eu hunain. Ond efallai fod angen rhywfaint o gymorth ar yr oedolion ym mywydau rhai o’r plant hyn i helpu i greu’r amgylchedd hwnnw. Rwy’n cydnabod y bydd rhywfaint o orgyffwrdd gydag un o’ch cyd-Aelodau yma, ond mae dysgu yn y gymuned yn rhan bwysig iawn o gynorthwyo oedolion i greu’r amgylchedd hwnnw. A fyddech yn cytuno y gallai rhai o’r cyrsiau a gynigir yn y gymuned gynnwys elfennau megis sut i reoli cyllidebau a sut i sefydlu a marchnata busnesau a datblygu sgiliau iaith Gymraeg, nid fel pynciau ar wahân yn unig, ond fel rhan o’r hyfforddiant sgiliau sylfaenol hwnnw rydych yn tueddu i’w gael mewn cyrsiau dysgu yn y gymuned?
Credaf fod yr Aelod yn iawn, a’r hyn sydd angen inni ei wneud, a’r hyn rydym wedi ei wneud mewn nifer o ardaloedd, o ran y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, yw edrych ar ddarpariaeth gofleidiol ar gyfer y teulu—nid y plant yn unig, ond rhieni a gwarcheidwaid hefyd—ac ystyried yr anghenion gwirioneddol. Cefais fy meirniadu yn ddiweddar am rai camau a gymerais mewn perthynas â Teuluoedd yn Gyntaf o ran peth o’r gwaith mwy uniongyrchol ynglŷn â sut rydym yn cefnogi teuluoedd, lle rydym wedi diddymu rhywfaint o’r buddsoddiad ariannol mewn perthynas â hynny a’r sylfaen wybodaeth. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau’r Aelodau mai fy mlaenoriaeth yw gwneud yn siŵr fod gennym fecanwaith cymorth mewn perthynas â’r teulu, a beth bynnag yw’r problemau, gallwn eu cyfeirio a’u cynorthwyo i symud ymlaen i’r—. Mae’n ymwneud â chysylltiad ataliol yn hytrach nag ymateb i deulu neu unigolyn sydd mewn argyfwng yn hwyrach yn y dydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Aberafan rai o’r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru. Mewn un ward, mae bron i 46 y cant o’r plant yn byw mewn tlodi. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar Gyflwr y Wlad yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael y lefel gywir o effaith. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, pa newidiadau y gallwch eu cynnig i drechu tlodi plant yn fy rhanbarth dros y tair blynedd nesaf? Diolch.
Mae’r niferoedd a grybwyllodd yr Aelod yn y fan honno yn achos pryder i mi, hefyd, ond maent yn ffodus iawn o gael yr Aelod Cynulliad gwych Dai Rees yn ardal Aberafan. Mae’n tynnu fy sylw at y materion hyn yn rheolaidd, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan yr Aelod ac a nodwyd yn yr adroddiad. Yn wir, byddaf yn dod i’r Siambr i gyhoeddi datganiad i’r Aelodau er mwyn i’r Aelod ac eraill ddeall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a pha ymyriadau y byddwn yn eu cyflwyno.
Hawliau Pobl Ifanc
6. Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i'r effaith y bydd gadael yr UE yn ei chael ar hawliau pobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0033(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth ac nid yw’r penderfyniad i adael yr UE yn newid hyn yn uniongyrchol. Mae buddsoddi mewn plant a phobl ifanc yn beth sylfaenol dda i’w wneud. Mae’n gwneud synnwyr er lles y gymdeithas ac er budd hirdymor yr economi.
Weinidog, mae’r canlyniad ar 23 Mehefin wedi achosi pryder ymysg llawer o bobl, ac nid yw pobl ifanc yn ddiogel rhag hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o’r gwrthdystiad mawr a gynhaliwyd y tu allan i’r adeilad hwn yn dilyn y penderfyniad i adael y DU, wedi’i drefnu gan fyfyrwyr. A ydych wedi ystyried eto pa effaith a gaiff y gostyngiad posibl i gyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion ar ragolygon pobl ifanc a’u gallu i gyrraedd eu potensial llawn? A ydych, er enghraifft, wedi cynnal trafodaethau â’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â cholli cyfleoedd o ran rhaglenni fel rhaglen Erasmus, a sut y gellir lliniaru hynny? Yn olaf, a fyddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i gefnogi senedd i’r ifanc yng Nghymru fel cyfrwng i bobl ifanc fynegi eu pryderon a dod at ei gilydd i weithredu ar y cyd ar faterion pwysig sy’n effeithio arnynt, fel gadael yr UE?
Rwy’n ddiolchgar am sylwadau a chwestiynau’r Aelod. Wrth gwrs, fe fydd yr Aelod yn ymwybodol o gyhoeddiad y Prif Weinidog ei fod wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet, sydd eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, i ystyried goblygiadau gadael yr UE a beth y mae hynny’n ei olygu i Lywodraeth Cymru, a’r trafodaethau ledled y DU. Nid wyf wedi cael cyfarfod uniongyrchol gyda fy nghyd-Aelodau ynglŷn â’r cyllid ymchwil, ond credaf fod hynny’n mynd rhagddo gyda’r adran honno.
O ran y senedd i’r ifanc, mae safbwynt y Llywodraeth wedi bod yn glir iawn: rydym yn cefnogi senedd i’r ifanc, ond credwn mai mater i’r Comisiwn ydyw, ac rwy’n siŵr fod y Comisiwn wedi clywed hynny’n glir iawn heddiw ac mewn gohebiaeth flaenorol.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn rhannu fy mhryder wrth ddarllen canfyddiadau ‘The Good Childhood Report’ Cymdeithas y Plant, a ddywed fod un o bob saith o ferched yng Nghymru yn anhapus gyda’u bywydau ac un o bob naw o fechgyn yn anhapus gyda’u bywydau hefyd? Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi’r duedd hon, sy’n ymddangos fel pe bai’n gwaethygu—nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig—er mwyn sicrhau rhywfaint o weithredu ar y cyd i ni allu delio â’r broblem hon?
Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn ac mae’n peri pryder i minnau hefyd. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar oblygiadau’r adroddiad hwnnw a faint yn fwy y gallwn ei wneud, nid yn unig gyda’r adran hon, ond hefyd drwy gymorth addysgol mewn ysgolion ac mewn sefydliadau trydydd sector o ran sut yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn gwrando ar eu barn. Yn aml, mae’r genhedlaeth hŷn yn gwneud pethau ar gyfer plant am eu bod yn meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud, yn hytrach na gwrando ar ba gamau gweithredu y dylid eu cymryd. Rydym wedi cyrraedd y cam hwnnw yn awr o ymgysylltu â phobl ifanc a gwrando ar beth sydd yn cael effaith ar eu bywydau.
Gofal Plant
7. A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i flaenoriaethu darpariaeth gofal plant mewn meithrinfeydd sy'n gysylltiedig ag ysgolion dros feithrinfeydd preifat? OAQ(5)0036(CC)
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddarparu addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y cyflenwir y ddarpariaeth hon, a gallant ddewis ei darparu mewn ysgolion neu feithrinfeydd y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Mae’r ddarpariaeth yng Nghymru yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ysgolion, o gymharu ag economi fwy cymysg dros y ffin. A yw’r Gweinidog wedi ystyried efallai y byddai llawer o rieni yn croesawu mwy o ddewis rhwng meithrinfeydd mewn ysgolion a meithrinfeydd annibynnol, ac efallai y byddent yn hoffi’r cyfle, er enghraifft, i gael nifer llai o ddiwrnodau llawnach yn yr wythnos yn hytrach na phum diwrnod o ddwy awr a hanner y dydd?
Yn wir, rydym wedi ystyried y mater o ddarparu gofal plant ymhellach, a bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd ein hymrwymiad maniffesto i ddarparu gofal plant o safon yn cael ei gyflwyno yn gynt, ac y byddwn yn rhoi’r rhaglen honno ar waith ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl ifanc ledled Cymru gyfan.
Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, cydnabyddir yn gyffredinol fod cynnwys ymarferwyr ar lefel raddedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn effeithio’n gadarnhaol iawn ar ganlyniadau addysgol y blynyddoedd cynnar hynny. Wrth gwrs, yn ôl yn 2014, drafftiodd y Llywodraeth ei chynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer gofal plant a chwarae y blynyddoedd cynnar. A allwch ddweud wrthym pa bryd y mae hwnnw’n debygol o weld golau dydd, gan eich bod braidd yn amwys, gawn ni ddweud, yn eich llythyr i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? A allwch roi rhywbeth i ni allu gweithio arno?
Rwy’n ddiolchgar am allu’r Aelod i neidio i gwestiwn 15 yn y cwestiwn atodol a ofynnodd heddiw. Ond mae’r cynllun drafft 10 mlynedd yn nodi’r cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu gofal plant y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar asesu effaith nifer o ddatblygiadau polisi cyn cwblhau cynllun y gweithlu. Mewn gwirionedd, credaf fod un o’r materion sy’n codi yn awr yn ymwneud â’r rhaglen ddarparu gofal plant rydym yn ceisio ei chyflawni. Gwn fod yr Aelod yn cefnogi gofal plant o ansawdd, a gofal plant wedi ei ddarparu gydag ansawdd. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni weithio drwyddo hefyd. Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill i sicrhau y gallwn gwblhau hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol gyda—ysgrifennais at y pwyllgor, ac nid wyf yn sicr a yw’r Aelod wedi derbyn copi o’r llythyr hwnnw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol.
Roedd maniffesto’r blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad yn addo cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio. Bwriadwyd i hyn gael ei ddarparu drwy amrywiaeth eang o ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion, gofalwyr plant, grwpiau chwarae a gofal dydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i’r Cynulliad pa gyfran o ofal plant yng Nghymru a ddarperir gan feithrinfeydd preifat o gymharu â’r rhai sydd ynghlwm wrth ysgolion?
Nid yw’r niferoedd hynny gennyf, ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ailadrodd ymrwymiad ein maniffesto a groesawyd yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn cyflawni hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ceisio dechrau’r rhaglenni peilot yn ystod hydref y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaglen gymhleth iawn, ond byddwn yn darparu ar gyfer pobl Cymru, a bleidleisiodd dros hynny.
Cyllid Adfywio
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â gweinidogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch cyllid adfywio yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0027(CC)
Mae cymunedau ledled Cymru wedi elwa’n fawr o gyllid Ewropeaidd. Drwy drafodaethau a arweiniwyd gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau y bydd y dyraniad presennol o gyllid adfywio ar gael tan 2020.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Aberafan wedi elwa o gronfeydd adfywio’r UE ac wedi gweld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn y cymunedau, gan gynnwys cwm Afan. Yn amlwg, bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr UE yn dod â’r ffrwd gyllido hon i ben. Ond nid yw hynny’n atal effaith y caledi sy’n deillio o San Steffan, yn enwedig ar yr awdurdodau lleol sy’n gorfod wynebu rhai o’r heriau, ac mae’r adroddiad heddiw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi bod hynny’n mynd i gynyddu eto fyth. Yn eich atebion cynharach i lefarydd Plaid Cymru mewn perthynas â’r UE, fe ddywedoch eich bod yn gwneud ychydig o ddadansoddi, ond pa baratoadau rydych yn eu hystyried i ni allu chwilio am ffrydiau cyllido amgen, gan eich bod yn gwybod y bydd y ffrydiau cyllido hynny’n diflannu a bod y cymunedau hynny’n dal i fod angen y cymorth?
Mae’r gwaith hwn yn wirioneddol anodd, a phe baem yn credu’r rhai a oedd eisiau gadael yr UE, yna ni ddylem boeni gormod ynglŷn â’r swm o arian y dylem ei gael yn ôl i Gymru, ond mae gennyf fy amheuon ynglŷn â’r swm o arian a gawn. Mae’r Prif Weinidog ac is-bwyllgor y Cabinet yn parhau i arwain y gwaith o ran sut olwg fydd ar y setliad ariannol a’r amodau ynghlwm wrtho. Wrth gwrs, rydym yn ystyried yn barhaol sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’n buddsoddiadau a’r arian cyfyngedig sydd ar gael yn amodol ar adael yr UE, ond mae’n dal yn rhy gynnar i geisio canfod yn union ble y gall y buddsoddiadau hynny fod ar gyfer y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd y cwestiwn yn ymwneud â’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud drwy drafodaethau gyda chymheiriaid yn San Steffan, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa gamau rydych wedi eu cymryd dros fisoedd yr haf i gyfarfod â’ch cydweithiwr—eich swyddog cyfatebol yn San Steffan—oherwydd bydd Llywodraeth San Steffan yn rhan bwysig o’r trafodaethau hyn, ac mae’n hanfodol bwysig fod y Llywodraethau a’r gweinyddiaethau datganoledig yn helpu, yn cynorthwyo ac yn bwydo i mewn i’r hyn fydd Llywodraeth San Steffan yn ei wneud. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod sut y byddwch yn bwrw ymlaen â’r ddeialog honno gyda chymheiriaid yn San Steffan, ac yn bwysig, pa gyfarfodydd a gawsoch yn ystod yr haf i fapio peth o’r diriogaeth sylfaenol rydych eisiau ei chynnwys.
Nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd penodol ynglŷn â hyn gydag unrhyw Weinidog, ond mae’r Prif Weinidog a’r tîm wedi cael cyfarfodydd. Y Prif Weinidog a’r Gweinidog cyllid yw’r Gweinidogion arweiniol ar gyfer trafodaethau Ewropeaidd, a chafwyd llawer o drafodaethau dros fisoedd yr haf.
Strategaeth i Fynd i’r Afael â Thlodi Plant
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng ngoleuni argymhellion adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos diwethaf, We Can Solve Poverty in the UK? OAQ(5)0034(CC)
Diolch i Jenny am ei chwestiwn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi plant yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu economi gref, cynyddu sgiliau, lleihau diweithdra, lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau addysg ac iechyd, a mynd i’r afael â’r premiwm tlodi. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd yn agos ag elfennau strategaeth gwrthdlodi Sefydliad Joseph Rowntree.
Mae un o fy etholwyr wedi tynnu fy sylw at y ffaith ei bod yn gorfod talu £8 yr wythnos i’w phlentyn hynaf ymgartrefu yn ei thymor cyntaf yn yr ysgol uwchradd, sy’n llai na 3 milltir i ffwrdd ond yn fwy na 2 filltir i ffwrdd. Rwy’n deall ei phryderon yn ystod y cyfnod anodd hwn ym mywyd y plentyn, ond dyma fenyw sydd ar fudd-dal tai a chymhorthdal incwm, ac mae £8 yr wythnos yn rhan fawr iawn o’r arian sydd ei angen arni i’w wario ar weddill ei theulu. Os ydym yn cymharu hynny â’r rhieni braidd yn ddi-hid hynny sy’n parhau i fynd â’u plant at gatiau’r ysgol yn eu ceir, heb ystyried y canlyniadau amgylcheddol, gallwch weld y gwahaniaethau yn ymagwedd plant tuag at addysg uwchradd.
Nawr, mae pum gofyniad yn adroddiad Rowntree mewn perthynas â thlodi plant, gan gynnwys cynorthwyo pobl i fod yn rhieni da, cymorth gydag iechyd meddwl rhieni a phlant, a mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel. Beth arall y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r achosion endemig hyn o dlodi plant parhaus?
Wel, mae’r gofynion y mae adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yn ymateb iddynt yn cyd-fynd yn agos iawn â datblygiad polisi Llywodraeth Cymru. Cytunaf fod cynorthwyo rhieni yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi penderfynu newid ffocws y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau ei bod yn datblygu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth i rieni. Bydd hynny’n cysylltu’n agos iawn â’r gwaith a wnawn ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae rhianta hefyd yn rhan annatod o Dechrau’n Deg. Rwy’n fwy na hapus, fel arfer, i gyfarfod â’r Aelod dros Ganol Caerdydd os oes gan yr Aelod fwy o syniadau ynglŷn â sut y gallwn wella ein mecanweithiau cymorth, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond rydym yn meddwl yn ofalus iawn am hyn, a byddaf yn gwneud datganiad yn fuan.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol mai’r unig beth sy’n mynd i drechu tlodi plant mewn gwirionedd yw polisi integredig iawn ar draws meysydd y Llywodraeth. Er enghraifft, mae’r lefel o anweithgarwch economaidd yn cael effaith fawr ar nifer y plant sy’n byw mewn tlodi. Gobeithiaf y byddwch yn siarad â’ch cyd-Aelodau, Gweinidog yr economi a’r Ysgrifennydd addysg, fel y gallwn sicrhau bod cyrsiau addysg bellach a chyrsiau addysg uwch, er enghraifft, yn fwy hygyrch—mwy o gyrsiau rhan-amser, mwy o gymorth ariannol—fel y gall pobl ddatblygu eu sgiliau, naill ai i fynd i mewn i’r farchnad lafur neu i gael swydd well o fewn y farchnad lafur honno.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym wedi gweld gostyngiad bychan o 2 y cant mewn tlodi plant yma yng Nghymru. Credaf fod hynny’n rhannol oherwydd economeg Cymru, gyda mwy o swyddi a llai o bobl ifanc yn byw mewn cartrefi di-waith. Mae’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn arwain arno o ran y strategaeth tlodi, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn cydgysylltu ar bob agwedd ar y gwaith a wnawn.
Diwygiadau Lles
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0030(CC)
Diolch i’r Aelod dros Dorfaen. Mae ymchwil diweddaraf y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i effaith diwygio lles a newidiadau i drethi personol yn amcangyfrif bod cyfanswm y golled flynyddol yng Nghymru oddeutu £600 miliwn.
Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o ba mor bryderus yw Cymorth i Fenywod Cymru ynglŷn â’r newidiadau i’r penderfyniad i gapio lwfans tai lleol. A wnewch chi roi sylwadau ar y camau hynny, ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich cefnogaeth i’r gwaith ardderchog y mae llochesi Cymorth i Fenywod yn ei wneud ledled Cymru? O gofio bod y newidiadau yn mynd i gael eu gohirio am gyfnod byr, a wnewch chi ymrwymo i fachu ar bob cyfle i bwyso ar Lywodraeth y DU i eithrio llochesi i fenywod o’r argymhellion hyn?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i’r nifer o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef o drais domestig, a chaiff achosion eraill eu cefnogi drwy Gymru a ledled y DU. Rwy’n bryderus iawn nad yw llety â chymorth, gan gynnwys llochesi i fenywod, wedi eu heithrio rhag y cap lwfans tai lleol. Rydym wedi cyflwyno sylwadau i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rwy’n gobeithio y bydd yr oedi cyn mabwysiadu’r polisi yn rhoi cyfle i’r Gweinidog feddwl ynglŷn â hyn ac y byddant yn newid eu meddwl ynglŷn â’r ddarpariaeth hon.
Wrth gwrs, un o’r ffyrdd y gallwn liniaru effeithiau diwygio lles y DU ar gymunedau Cymru yw dechrau datblygu system Gymreig unigryw yn ei le. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol, cyn toriad yr haf, i’r awgrym o ddatblygu ‘Nawdd Cymdeithasol Cymru’ fel cysyniad yn seiliedig ar wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd gennym gyda’r pwerau presennol, ond hefyd i geisio sicrhau rhagor o bwerau lles gan y wladwriaeth Brydeinig yn y dyfodol. Tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei fwriadau o ran bwrw ymlaen â’r syniad hwnnw.
Yn ddiddorol, cefais drafodaethau y bore yma ynglŷn â’r union fater hwnnw. Ond y prif bryder ynglŷn â hyn oedd y setliad ariannol sy’n rhaid i ni ei gael gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, hyd yn hyn, nid ydym wedi cael llawer o lwc o ran cytuno ar setliad ariannol sy’n iawn ac yn briodol ar gyfer Cymru, er bod yr Alban wedi cael cytundeb gwahanol. Rwy’n siŵr, o ystyried y cyfle i’r setliad hwnnw fod yn y man iawn, y byddai’r Gweinidog cyllid yn hapus i drafod gyda mi agweddau eraill ar ddatganoli pwerau a allai ddod i’r Cynulliad hwn.
Yn dilyn cyflwyno argymhellion eu hadroddiad ‘Dynamic Benefits: Towards welfare that works’, mae’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi bod mwy o bobl mewn cyflogaeth nag erioed o’r blaen, fod llai o bobl yn hawlio budd-daliadau a bod diweithdra yn y DU ar ei lefel isaf erioed o 4.9 y cant. Wrth gwrs, gwyddom fod gan Gymru hanes da o ran hynny. Fodd bynnag, mae’r gyfradd o anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru nad ydynt mewn cyflogaeth yn dal i fod bron 3 y cant yn uwch nag ar gyfer y DU. Pa ystyriaeth, felly, y byddwch yn ei rhoi i wneud pethau’n wahanol ac i ystyried beth allai fod yn gweithio mewn mannau eraill—yn yr Alban, yn Lloegr neu tu hwnt—er mwyn cau’r bwlch hwnnw?
Yn wir, credaf fod rhoi cyfle ac uchelgais i bobl yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn awyddus i’w gefnogi, a dyna pam y bydd ein rhaglen o 100,000 o brentisiaethau yn cael ei chyflwyno gan adran sgiliau’r Llywodraeth hon. Mae’r materion sy’n ymwneud â chynorthwyo pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhywbeth rwy’n canolbwyntio arno yn fy adran innau hefyd. Mae yna bethau rydym yn anghytuno arnynt yn aml, ond credaf y gallwn gytuno ar bwysigrwydd rhoi gobaith i bobl. Mae swyddi a sgiliau yn bethau y gobeithiaf y gallwn gytuno arnynt.
Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi cael ei heffeithio gan ddementia cynnar, a chynghorwyd iddi roi’r gorau i weithio a gwneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Roedd fy etholwr yn ofidus a theimlai nad oedd yn cael ei gwerthfawrogi gan fod ei hasesiad wedi canolbwyntio’n llwyr ar ei gallu corfforol yn hytrach na’i hanghenion iechyd meddwl. A ydych yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod hyn yn annerbyniol a’i fod yn amlygu nad yw diwygiadau nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU yn addas at y diben, ac a wnewch chi fynegi’r pryderon hyn yn yr holl drafodaethau perthnasol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn taliadau annibyniaeth bersonol, mae’n rhaid i unigolyn fod â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, sy’n cynnwys cyflyrau iechyd meddwl, ac yn benodol, cyflyrau cynyddol fel dementia. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion holi’r Adran Gwaith a Phensiynau am eglurhad pellach ynglŷn â sut y maent yn cyflawni eu hasesiadau ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol i bobl â chyflyrau iechyd meddwl, ac efallai yr hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf yn benodol ynghylch yr achos hwn, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny iddi.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM6083 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
(a) archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a deddfwriaeth;
(b) cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â phwynt (a) uchod;
(c) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;
(d) ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Symud yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau. Rwy’n galw eto ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM6091 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cynigiwyd y cynnig.
Symud yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl yn enw Plaid Cymru. Rwy’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6085 Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:
(a) diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd; a
(b) cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy:
(i) creu asiantaeth ddatblygu i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;
(ii) sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion gwyrdd; a
(iii) codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Credaf fod y ddadl hon, yn enw Plaid Cymru, yn canolbwyntio ar un o’r heriau allweddol, yn ôl pob tebyg—yr her ganolog—i’r Cynulliad hwn, sef bodloni gofynion topograffeg economaidd newydd, os mynnwch, y dirwedd wedi’r bleidlais i adael yr UE.
Y rhagofyniad cyntaf i sicrhau polisi da yw dealltwriaeth gyffredin: rydym oll ar yr un dudalen. Credaf fod hynny’n rhan o’r her sy’n ein hwynebu wrth ddatblygu strategaeth newydd, a deall graddau’r her. Yn ôl pob tebyg, mae economi Cymru, yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, wedi wynebu tri chyfnod pwysig o newid economaidd: yn syth ar ôl y rhyfel, yna’r cyfnod o ailstrwythuro diwydiannol o’r 1960au ymlaen, y 1960au hwyr, y 1970au a’r 1980au, yn bennaf drwy ddirywiad glo a dur, ac yna yn y cyfnod ar ôl 1996, yn enwedig yng nghyfnod y bunt uchel, ac mewn gwirionedd, roedd derbyn gwledydd dwyrain Ewrop yn aelodau hefyd yn creu heriau penodol i ni. Nawr, rydym ar fin wynebu her hyd yn oed yn fwy, o bosibl. Yn fyd-eang, pan edrychwn ar yr hyn a elwir yn farweidd-dra seciwlar yr amgylchedd, sef y math hwn o ddirywiad yn y cyfraddau twf economaidd rhyngwladol, polisi cyllidol ac ariannol—dau faswca mawr polisi economaidd, fel y’u gelwir weithiau—wedi eu dihysbyddu, yn ôl pob golwg, a chystadleuaeth fyd-eang gynyddol, wedi ei gyrru’n rhannol gan yr arafu mewn marchnadoedd domestig, hyd yn oed yn Tsieina, nid yw’n amgylchedd addawol i ni fod yn wynebu heriau domestig hefyd, ond dyma ble’r ydym ar hyn o bryd.
O ystyried y tri chyfnod hwnnw wedi’r rhyfel, yr hyn a welwch yw ymgais i greu set o bolisïau, patrwm polisi economaidd newydd a oedd, i ryw raddau, yn llwyddiannus: polisi rhanbarthol yn y DU yn symud gweithgarwch economaidd o amgylch y DU yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd; a mewnfuddsoddi yn y 1980au, a Chymru’n gwneud yn gymharol dda, ac weithiau, wrth gwrs, yn cyflawni cyfrannau mewnfuddsoddi mor uchel â 25 y cant o’r DU gyfan. Dyma’r trydydd cyfnod ers 1996 i ni weld gostyngiad serth yn ein cyfran o werth ychwanegol gros cymharol. Wrth gwrs, mae’r cyfnod hwnnw wedi cyd-daro â chyfnod datganoli. Roedd datganoli i fod yn ateb i broblemau economaidd Cymru. Nid yw’r difidend datganoli y cyfeiriwn ato’n aml wedi cyflawni, o ran polisi economaidd o leiaf. Credaf fod yr Aelod dros Lanelli yn hollol iawn wrth ein hatgoffa am y ddadl honno ynglŷn â’r difidend datganoli. Dywedodd yn ystod yr haf, o ran y prawf hwnnw, nad yw wedi llwyddo hyd yn hyn i gyflawni ei botensial er gwaethaf ymdrechion parhaus. Felly, mae’n her i bob un ohonom a etholwyd i’r lle hwn wynebu’r prawf hwnnw yn awr, a dod o hyd i strategaeth economaidd newydd sy’n gallu ateb prawf yr oes sydd ohoni.
Nawr, onid yw hynny’n bwysicach fyth wrth gwrs yng nghyd-destun gadael yr UE? Mae’r angen am ateb wedi cynyddu ymhellach byth. Mae’n rhaid i mi gyfaddef—ac rwy’n ceisio bod yn deg yn hytrach na’n orfeirniadol yma—nid wyf wedi fy argyhoeddi gan yr ymateb a glywsom hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru. Ydy, mae’n ddryslyd. Mae cymaint o opsiynau ar y bwrdd fel bod angen cwmpawd arnoch: Norwy, y Swistir, Canada; mae Lichtenstein yn un newydd—wrth gwrs, mae Lichtenstein yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ond roedd moratoriwm yno am naw mlynedd ar ryddid i symud; yr Ynys Las o chwith; undeb tollau; rheolau Sefydliad Masnach y Byd; a chynnig y bartneriaeth gyfandirol, a awgrymwyd gan felin drafod Bruegel dros yr haf ac sy’n meddu ar rai rhinweddau.
Credaf y byddem i gyd yn derbyn bod angen rhywfaint o hyblygrwydd ac ystwythder meddwl mewn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, ac yn sicr, mae cyfle hefyd i ni yng Nghymru—canfod ateb pwrpasol yn hytrach na dewis ateb prêt-à-porter: syniad newydd ar gyfer cyfnod newydd. Ond ni ddylai hynny fod yn rysáit ar gyfer dryswch. Credaf mai dyna a gawsom hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru ar y model sydd er lles gorau Cymru—y math o ymadawiad. Oherwydd, gadewch i ni fod yn glir, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE, fel y gwnaeth pobl y DU, ond yr hyn rydym yn dadlau yn ei gylch yn awr yw pa ddrws y byddwn yn gadael drwyddo, ac mae drysau o wahanol liwiau ar gael i ni; gwahanol drothwyon; a gwahanol gyrchfannau ar ben y daith. Mae’n bwysig fod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn mynegi’r hyn sydd er lles gorau Cymru.
Yn anffodus, mae’n rhaid i mi ddweud, clywsom dri pholisi gwahanol gan y Prif Weinidog mewn dau ddiwrnod, ambell waith yn ystod yr un sesiwn. Yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, pan gafodd ei herio gan fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, dywedodd nad oedd yn cefnogi aelodaeth o’r farchnad sengl, ond yn hytrach, y term mwy amwys, ‘mynediad’. Wel, pwy sy’n gwrthwynebu mynediad? Pan gafodd ei herio ar y cwestiwn hwn eto gan arweinydd yr wrthblaid, dywedodd ei fod, ac wedi bod erioed, o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl—yn y dôn nawddoglyd honno—a gofynnodd, ‘Ble mae e wedi bod? Onid yw wedi bod yn darllen y papurau newydd?’ [Chwerthin.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn ei fod yn ffafrio—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn ffafrio cytundeb masnach rydd, neu Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd, ond y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan y byddai hynny’n osgoi ymrwymiad i ryddid i symud—er iddo ddweud ddydd Llun ei fod yn ystyried mai modelau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd yw’r rhai mwyaf ymarferol o bell ffordd, a dweud yn fuan wedi’r bleidlais i adael yr UE fod rhyddid i symud yn llinell goch o’i ran ef. Felly, rwyf wedi drysu’n llwyr. Gwahoddaf Weinidog, unrhyw Weinidog, i fod yn nawddoglyd wrthyf ar bob cyfrif. Efallai y buaswn ychydig yn ddoethach pe baech yn ymyrryd, os nad yn awr, ac efallai y gallem gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gadael yr UE.
Gan symud ymlaen at y strategaeth economaidd, mae’n rhaid i mi ddweud bod hyn yn peri dryswch hefyd. Mae gennym strategaeth economaidd gyfredol o hyd: ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’. Fe’i cyhoeddwyd yn 2010. Yn swyddogol, honno yw strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru o hyd. Ar y pryd—roedd y cliw yn y teitl, ‘cyfeiriad newydd’—roedd i fod yn newid sylweddol yn y meddylfryd, oddi wrth yr hen ddiwylliant grantiau a thuag at ymagwedd fwy strategol, yn lle hynny, at greu’r amodau ar gyfer llwyddiant economaidd, yn hytrach na’r hen ffordd, yn y bôn, o lwyddiant economaidd yn dod drwy ysgrifbin gweinidogol ac arian yn cael ei ddyrannu i gwmnïau unigol. Roedd hefyd i fod yn fwy strategol drwy ganolbwyntio ar rai sectorau allweddol—nifer cyfyngedig o sectorau allweddol lle credem fod gan Gymru fantais gystadleuol benodol: arbenigo craff, fel y’i gelwir weithiau yn y jargon.
Yr hyn a ddigwyddodd, wrth gwrs, oedd y bu newid yn y weinyddiaeth, a chollwyd y meddwl tu ôl i’r strategaeth rywsut. Felly, y peth cyntaf a ddigwyddodd oedd ychwanegu tri sector ychwanegol, gyda rhai ohonynt yn eithaf mawr, fel adeiladu. Yn wir, cyfrifodd rhywun fod 90 y cant o fusnesau yng Nghymru, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r sectorau targed mewn gwirionedd. Wel, nid targedu yw hynny, nage? Nid blaenoriaethu yw hynny. Gwelsom y diwylliant grantiau’n ailymddangos yn araf bach; yr ysgrifbinnau gweinidogol hynny, yn y bôn, yn brif ysgogiad polisi i’r Llywodraeth ac yn microreoli’r economi. Mae’r dystiolaeth yn eithaf clir fod dewis enillwyr yn broses sy’n llawn anhawster. Yr hyn y dylai’r Llywodraeth ei wneud yw canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gennym fantais gystadleuol a buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. Ie, mewn datblygiadau penodol gyda chwmnïau a sectorau penodol, ond ei wneud gan ddefnyddio dull clwstwr yn hytrach na dim ond dyrannu arian yn y ffordd hen ffasiwn.
Do, rydym wedi cael dinas-ranbarthau fel rhyw fath o ymgais wan i gael strategaeth ofodol ar ôl i’r weinyddiaeth flaenorol gael gwared ar y cynllun gofodol. Ond beth y mae hynny’n ei olygu i’r Cymoedd? Beth y mae hynny’n ei olygu i gefn gwlad gorllewin Cymru? Ble mae’r strategaeth yno? Unwaith eto, yn anffodus, mae gwacter syniadol wrth wraidd strategaeth economaidd y Llywodraeth ar hyn o bryd. Er mwyn llenwi’r gwacter, rydym wedi awgrymu creu asiantaethau datblygu wedi eu targedu ac yn meddu ar ffocws er mwyn sicrhau’r math o arweinyddiaeth strategol nad ydym wedi ei chael gan y Llywodraeth hyd yn hyn. Yr obsesiwn sydd wrth wraidd polisi’r Llywodraeth yw swyddi. Nid niferoedd targed o swyddi—sy’n aml yn dwyllodrus, mewn gwirionedd, fel y gwelsom—yw’r broblem allweddol erbyn hyn ar lefel genedlaethol gydag economi Cymru. Hynny yw, mae’r Llywodraeth wrth gwrs yn tynnu sylw at y ffaith fod diweithdra yng Nghymru yn is yn awr na chyfradd ddiweithdra’r DU. Felly, nid y ffaith ein bod yn gwneud yn waeth o ran diweithdra sy’n egluro ein perfformiad economaidd gwanach; mae ar lefel lawer dyfnach na hynny mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â chystadleurwydd, mae’n ymwneud â chynhyrchiant. Nid yw’n ymwneud â nifer y swyddi, nid yw’n ymwneud â nifer y pennau. Mae’n ymwneud ag ansawdd swyddi, y mathau o sectorau busnes, nifer y busnesau newydd a’r diwylliant entrepreneuraidd y mae angen i ni ei greu er mwyn creu busnesau’r dyfodol. Dyna ble y dylem fod yn buddsoddi, yn hytrach nag yn y ffordd hen ffasiwn hon o gyfrif pennau, wedi ei gyrru gan ddatganiadau i’r wasg, o ddyrannu arian am ddim i fusnesau, nad ydynt, fel y gwelsom yn aml yn anffodus, yn darparu’r swyddi a addawyd. Rydym wedi gweld nifer o enghreifftiau o hynny yn ddiweddar: Universal Engineering, Kukd, Kancoat, ac ati.
Rydym yn sylweddoli bod methiant yn rhan annatod o’r economi, ond wrth siarad am arian cyhoeddus, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei fuddsoddi yn y mannau y bydd yn cael yr effaith fwyaf, yn enwedig ar ôl gweld yn y ffigurau cystadleurwydd a gyhoeddwyd heddiw—mae ei ddarllen yn sobreiddio onid yw? Allan o 379 o ardaloedd awdurdodau lleol, mae gan Gymru bump yn y 10 isaf, yn y 10 sydd ar y gwaelod: Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Ceredigion, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, ar y gwaelod un. Ac unwaith eto, mae’r cwpwrdd yn wag ar hyn o bryd o ran polisïau economaidd gan y Llywodraeth hon sydd wedi eu targedu at yr ardaloedd hynny. Mae Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn syniad ysbrydoledig, a byddwn yn annog y Llywodraeth i roi’r gorau i’w osgoi. Mae’r prosiect hwnnw wedi bod ar waith ers saith mlynedd ac mae’n addo trawsnewid yr ardal honno. Dyna’r math o feddwl a ddaw o’r sector preifat, pan fo’r sector cyhoeddus, yn anffodus, yn ein dal yn ôl drwy newid yr amodau’n gyson.
Rydym wedi cyflwyno ein syniadau ein hunain yn rhaglen yr wrthblaid. Credaf ei fod yn gam cadarnhaol, ac efallai ei fod yn dweud rhywbeth, mewn gwirionedd, pan nad ydym wedi gweld y rhaglen lywodraethu eto. Rydym wedi cael rhaglen yr wrthblaid. Mae mwy o syniadau yn dod oddi ar feinciau’r wrthblaid ar hyn o bryd nag sy’n dod gan y bobl â’u dwylo ar liferi grym. Mae’n rhaid i hynny newid os ydym am newid cyflwr economaidd Cymru mewn gwirionedd. Rydym yn gefnogol iawn i’r syniad o greu asiantaeth ddatblygu genedlaethol. Creasom dempled a gopïwyd drwy’r byd gydag Awdurdod Datblygu Cymru—brand gwych, ond patrwm o sut i ddatblygu ac ailstrwythuro economi. Wrth gwrs, rydym am ei wneud ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid ydym yn sôn am aros gyda pholisïau’r gorffennol. Credaf mai dyna’r broblem gyda’r Llywodraeth yn dychwelyd at yr obsesiwn hwn â chymorth grant. Rydym eisiau Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r Llywodraeth, drwy’r cyngor cynghorol ar arloesi, yn ymgynghori â busnesau—ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn yn ôl yr hyn a ddeallaf—ynglŷn â’r syniad o greu asiantaeth arloesi genedlaethol. Ai cwango yw hwnnw? Cawn ein beirniadu’n aml, ‘O, dim ond eisiau creu cwangos ydych chi’. Wel, mae’n gorff hyd braich sydd ag arbenigedd, sy’n siarad yr un iaith â busnesau, sy’n meddu ar ffocws penodol, ac a fydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith.
Ac mae’r un peth yn wir am ein cynnig i gynyddu buddsoddi yn seilwaith Cymru. Gwelsom y newyddion gan Lywodraeth yr Alban eu bod yn cyflwyno cynlluniau i sicrhau cynnydd o £4 biliwn o fuddsoddiad yn y seilwaith y flwyddyn nesaf. Dyna’r math o arweinyddiaeth sydd ei angen arnom, ac mae angen dulliau ar y Llywodraeth i allu gwneud hynny, pobl ag arbenigedd ar gyllido buddsoddiad yn y seilwaith, o ran rheoli prosiectau ar raddfa fawr. Ni fydd hynny’n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil yng Nghymru, a dyna pam y mae creu comisiwn seilwaith cenedlaethol mor bwysig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ac yn olaf, credaf fod y Llywodraeth angen chwistrelliad enfawr o greadigrwydd, ychydig o syniadau mawr a all ysbrydoli Cymru. Dros yr haf, cafodd cais Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ei ganslo, ond beth rydym wedi ei roi yn ei le i ysbrydoli ein gwlad a chreu’r sylfeini ar gyfer economi wahanol? Oddeutu’r un adeg ag yr oedd Ysgrifennydd yr economi yn cyhoeddi hynny, cyhoeddodd Manceinion gais uchelgeisiol i ddod â Ffair y Byd, yr Expo, y Gemau Olympaidd ar gyfer busnes a diwydiant, os hoffech, yn ôl i’r ynysoedd hyn am y tro cyntaf ers Arddangosfa Fawr 1851. Dyna ddigwyddiad mwyaf y byd—maent yn disgwyl 20 miliwn o ymwelwyr yno, ddwywaith maint y Gemau Olympaidd. Meddyliwch beth y gallai hynny ei wneud i economi Manceinion o ran hybu delwedd y ddinas a’i rhanbarth, ond hefyd o ran buddsoddi yn ei busnesau. Dyna’r math o feddwl sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi cael Gemau’r Gymanwlad; maent yn awr yn mynd am yr Expo. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dewis y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Nick.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'cyd-dynnu'n rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill cyn dechrau erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny.'
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd yn dda gwrando ar y syniadau hynny. Nid wyf yn siŵr fod gennyf lawer o amser ar ôl i roi fy syniadau fy hun hefyd; roedd yn agoriad braidd yn hir. Ond rwy’n falch i gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies ar y papur trefn. A gaf fi ddweud wrth agor ei bod bob amser yn dda clywed y cynllun gofodol, cynllun gofodol Cymru, yn cael ei ailddyfeisio a’i grybwyll? Rwy’n anghytuno, Adam Price; nid wyf yn credu ei fod wedi ei rwygo. Rwy’n credu ei fod wedi ei adael ar ôl ym mag lledr Andrew Davies rai blynyddoedd yn ôl ac nid ydym wedi clywed sôn amdano ers hynny. Ond mae’n enghraifft dda o’r ffordd y mae gennych, ar unrhyw bwynt mewn amser, un polisi economaidd a gall hwnnw fod yn bolisi economaidd Llywodraeth Cymru am gyfnod penodol o amser, ond wedyn caiff ei anghofio a symudwn ymlaen at rywbeth arall, ac yna at rywbeth arall yn nes ymlaen. Er bod hynny’n gweithio dros gyfnod o 50, 60 neu 70 o flynyddoedd—y pwynt a wnaethoch ar ddechrau eich araith—nid wyf yn siŵr fod hynny’n gweithio dros yr amser byrrach rydym wedi ei gael ers datganoli. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hynny, ac edrych ar bolisi mwy cynaliadwy dros y tymor canolig a fydd yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar yr economi.
Er nad oes amheuaeth fod angen inni amddiffyn Cymru rhag effeithiau uniongyrchol pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd o ran cael arian yn lle’r cyllid Ewropeaidd a fydd yn ddi-os yn cael ei golli—cyllid sy’n dod o Frwsel o leiaf—mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod yn hollbwysig ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a Llywodraethau datganoledig eraill yn wir, cyn dechrau proses erthygl 50 a’r trafodaethau fydd yn dilyn hynny. Yn ein barn ni, dylai hyn fod ar wyneb y cynnig, a dyna’r rheswm dros ein gwelliant.
Rydym wedi dadlau ers amser bod angen inni gau’r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn wir mae Plaid Cymru i’w gweld yn cytuno â hynny. Wrth gwrs, ers amser hir ystyriwyd bod cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn allweddol i wneud hyn, ac maent wedi bod â rhan i’w chwarae, ond gadewch i ni beidio ag anghofio, nôl ar gychwyn datganoli pan sefydlwyd hyn yn gyntaf, yn ôl yn y dyddiau hynny, rwy’n credu mai Rhodri Morgan a ddywedodd mai un cyfnod o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd fyddai ei angen ar Gymru a byddai hynny’n mynd i’r afael â’r mater. Felly, nid mater syml o dderbyn cronfeydd strwythurol neu gyllid o ble bynnag y gallai ddod yw hyn. Mae’n gwestiwn ynglŷn â’r ffordd orau o’i wario, ac mae’n gwestiwn ynglŷn â buddsoddi’r cronfeydd hynny mewn ffordd sy’n gwneud economi Cymru a rhannau rhanbarthol o economi Cymru fel gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn fwy cynaliadwy, a’i rhoi ar sail fwy cynaliadwy mewn ffordd sy’n galluogi’r ardaloedd hynny i greu eu cyfoeth eu hunain fel nad ydynt mor ddibynnol ar y diwylliant grantiau y cyfeiriodd Adam Price ato yn y dyfodol.
Mae’r cynnig yn crybwyll y WDA ac mae Plaid Cymru am greu neu ail-greu Awdurdod Datblygu Cymru sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae hwnnw’n bwynt allweddol. Ni all fod yn fater syml o ail-greu hen fodel y WDA yn y 1970au, model y WDA yn y 1980au. Ni allwn ac ni ddylwn geisio troi’r cloc yn ôl, ni waeth pa mor ddeniadol y gallai hynny ymddangos weithiau mewn rhai mannau. Yn syml, ni fydd yn gweithio. Wedi dweud hynny, roedd colli brand y WDA yn gamgymeriad wrth edrych yn ôl. Na, nid oedd y WDA yn berffaith, ond câi ei gydnabod ar draws y byd fel y ddelwedd o Gymru, ac fe wnaeth lawer iawn i ddenu mewnfuddsoddiad yma na fyddai wedi dod fel arall. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai byrdymor oedd rhai o’r buddsoddwyr hynny. Mae hynny’n amlwg. Fe ddaethant, cymryd y grantiau, a symud oddi yma, ac nid oedd hynny’n gynaliadwy. Rhaid i unrhyw fodel newydd o ddenu buddsoddiad ganolbwyntio ar ôl-ofal ac nid fel ôl-ystyriaeth yn unig, ond fel rhan allweddol o’r pecyn gwreiddiol. Gwn fod rhywfaint o ôl-ofal yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn gwneud y pwynt hwnnw. Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylid ailwampio hyn a’i atgyfnerthu gan wneud ymateb cyflym i bryderon busnesau a llinellau cyfathrebu clir yn ganolog i’r trefniadau newydd. Rydym wedi creu model o’r enw Cyrchfan Cymru. Mae modelau eraill i’w cael. Gwn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno eu cynigion eu hunain hefyd. Ond yn bendant, fel gwlad rhaid i ni wneud tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion yn nod.
Gan droi at y comisiwn seilwaith cenedlaethol, er nad oes unrhyw amheuaeth fod pwysigrwydd datblygu seilwaith yn fater sydd wedi cael ei esgeuluso yn rhy aml ers dechrau datganoli, rwy’n falch ei fod yn awr yn nheitl Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ac mae hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Rwy’n credu y byddwn yn dweud bod angen i ni sicrhau bod y comisiwn seilwaith, os cawn un, yn cyflawni’r hyn rydym ei eisiau mewn gwirionedd, a’n bod yn cael y model cywir o’r dechrau. Ond rwy’n cytuno bod y syniad o ddod â thrafnidiaeth, ynni a seilwaith gwyrdd at ei gilydd ar y cychwyn yn un da. Yn rhy aml, rydym wedi gweld seilos arferol y Llywodraeth lle mae adrannau’n gweithio ar wahân a lle nad oes rhyngweithio’n digwydd.
A gaf fi ddweud, yn olaf, mai pwynt 3 o bosibl yw un o bwyntiau pwysicaf y ddadl, rwy’n credu—caffael? Oes, mae angen i ni gynyddu lefelau caffael. Nid oes neb yn dadlau yn erbyn hynny. Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y fan hon dros y blynyddoedd ac rwyf wedi dadlau o blaid strategaeth gaffael lawer cadarnach ar gyfer y sector cyhoeddus. Sut beth fydd y strategaeth honno? Wel, mae hynny i’w benderfynu. Ond mae angen inni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy na siarad am strategaeth gaffael genedlaethol, a bod gennym un sy’n gweithio go iawn ac wedi ei phwysoli tuag at fusnesau Cymreig cynhenid lleol ac nid yn unig tuag at y busnesau mwy o faint y mae wedi gogwyddo tuag atynt yn rhy aml yn y gorffennol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu is-bwynt (b)(i) a rhoi yn ei le:
'gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;'
Cynigiwyd gwelliant 2.
Cynigiaf yn ffurfiol.
Diolch. Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes amheuaeth, wrth gwrs, fod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai heriol, yn sicr. Ond rwy’n credu mai’r her wirioneddol yw sicrhau ein bod yn dod mas yn gryfach y pen arall nag yr ŷm ni, wrth gwrs, ar hyn o bryd o safbwynt yr economi yma yng Nghymru. Fel y cysgod-Weinidog â chyfrifoldeb dros addysg a sgiliau ac yn y blaen, mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud defnydd llawn o’r potensial sydd gennym yng Nghymru i adeiladu economi gryfach ar y seiliau cadarn yna o safbwynt creadigrwydd, arloesodd, mentergarwch—fel roedd Adam yn sôn amdanyn nhw yn gynharach—a defnyddio’r cyfle yma nawr sydd gennym i greu cyfundrefn well.
Mewn trafodaeth ddiweddar ynglŷn â phrentisiaethau yma yng Nghymru fe wnaethpwyd y pwynt, wrth gwrs, fod cyflogwyr yn amlwg yn allweddol i unrhyw gynllun prentisiaeth llwyddiannus ac mae’n rhaid cael cyflogwyr yn rhan annatod, yn bartneriaid parod, i gamu ymlaen i chwarae eu rhan. Ond yr un peth nad yw cyflogwyr yn ei licio, wrth gwrs, yw anghysondeb, yw rhaglenni sydd yn mynd a rhaglenni sydd yn dod ac wedyn mae pethau’n newid ac ar ôl blwyddyn neu ddwy mae’r ‘goalposts’ yn symud ac yn y blaen. Maen nhw angen cysondeb, maen nhw angen dilyniant, maen nhw angen sicrwydd.
Mae’r rhaglenni sydd gennym ni yng Nghymru, wrth gwrs, yn pwyso’n drwm iawn ar gyllid Ewropeaidd o safbwynt prentisiaethau a hyfforddiant yn y gweithle. Y tueddiad yw eu bod yn gynlluniau dwy neu dair blynedd, oherwydd y ffaith bod yr amodau hynny’n dod o gyfeiriad Ewropeaidd. A oes cyfle fan hyn, er enghraifft, nawr i greu rhaglenni sydd yn rhaglenni tymor hirach a meddwl yn wahanol, yn hytrach na’n bod ni’n gorfod newid mor aml, a’n bod yn creu tirlun mwy cyson sy’n fwy cydnaws ag ymwneud y sector busnes, a fydd wrth gwrs yn golygu wedyn ein bod ni’n llwyddo i ddatblygu mwy o’r sgiliau a mwy o’r arbenigeddau sydd eu hangen arnom ni?
Ond nid yw rhywun yn cael y teimlad o gyfeiriad Llywodraeth Cymru fod y strategaeth yno yn gadarn ac yn gyhyrog—yn sicr yn y misoedd cyntaf yma yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cyfeirio yn y gorffennol at y ffaith i’r Gweinidog sgiliau ddatgan—yn ddigon teg, a dweud y gwir—ei bod hi’n mynd i barhau â nifer o’r rhaglenni sy’n ddibynnol ar arian Ewropeaidd, oherwydd mae’r addewidion wedi cael eu gwneud y bydd yr arian yn dod o rywle arall, er, wrth gwrs, efallai nad oedd hawl gan rai o’r unigolion yna i wneud yr honiadau hynny. Ond mae’r agwedd yn ddigon cadarnhaol yn hynny o beth: rŷm ni’n mynd i gario ymlaen achos, os nad ŷm ni, beth ŷm ni’n ei wneud? Rŷm ni’n aros yn llonydd. Ond, ar yr union un diwrnod, mi oedd yna Weinidog arall, a oedd yn gyfrifol am amaethyddiaeth, yn cyhoeddi ei bod hi’n gohirio rhai o’r rhaglenni oherwydd yr ansicrwydd. Wel, dyna chi ddwy adran yn cymryd agweddau cwbl wahanol i’r un broblem. Yn sicr, i mi, roedd hynny’n amlygu’r ffaith nad oedd strategaeth benodol, nad oedd dynesiad pwrpasol gan Lywodraeth Cymru i’r sefyllfa fel rŷm ni yn ei hwynebu hi.
Wrth gwrs, mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad pwysig i’n sefydliadau addysg uwch ni yma yng Nghymru. Rŷm ni yn gwybod bod gwariant myfyrwyr rhyngwladol yn cefnogi dros 7,000 neu bron i 7,500 o swyddi yng Nghymru yn 2015, a bod yr ‘impact’ nid ond yn yr ardaloedd lle mae yna brifysgolion, ond mewn ardaloedd eraill o Gymru hefyd. Mae un swydd yn cael ei chreu am bob tri myfyriwr sy’n dod o du allan i’r Undeb Ewropeaidd; mae un swydd yn cael ei chreu am bob pum myfyriwr sy’n dod i Gymru o du fewn i’r Undeb Ewropeaidd. Mae £203 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae gwariant personol myfyrwyr rhyngwladol dros £300 miliwn. Mae yna berig, yn sgil, wrth gwrs, y bleidlais, i ni golli’r cysylltiad a’r berthynas bwysig yna sydd gennym ni, a’r ddelwedd yna sydd gyda ni o fod yn wlad sy’n estyn ein breichiau allan at fyfyrwyr tramor i ddod a’u sgiliau, i ddod a’u harbenigeddau, atom ni.
Ac wrth gwrs nid yn unig mae’r canlyniadau economaidd uniongyrchol a ddaw yn sgil hynny, ond mi fyddai’n costio. Meddyliwch chi am y rhain i gyd yn mynd nôl wedyn, ac wedi creu cysylltiadau posibl masnachol, rhyngwladol i Gymru. Byddai hi’n costio ffortiwn i chi drio creu hynny mewn unrhyw ffordd arall. Ac mae sylwadau Theresa May ac Amber Rudd ynghylch y posibilrwydd o gyfyngu’r nifer o fisas myfyrwyr er mwyn cwrdd ag addewidion o safbwynt mewnfudo, i fi, yn gonsyrn mawr, ac yn sicr yn creu ansicrwydd pellach, a fydd yn niweidiol i’r sector yna.
Pwysigrwydd ymchwil a datblygu hefyd, wrth gwrs—yn amlwg, mae’n ganolog i unrhyw strategaeth economaidd gwerth ei halen, ac mae’r dychweliad, neu’r ‘return’, ar y buddsoddiad yna yn gallu bod yn sylweddol iawn. Rydym ni wedi gweld y ffigurau. Yn 2014, fe amcangyfrifwyd bod cyfanswm o ryw £716 miliwn wedi ei wario ar ymchwil a datblygu yng Nghymru. Mae hynny’n cynrychioli, wrth gwrs, 2.4 y cant o gyfanswm gwariant ymchwil y Deyrnas Unedig. Mae’n hen ddadl ynglŷn â’r angen i gynyddu hynny, ac i sicrhau ein bod yn cael ein siâr deg. Wel, mae yna gyfle fan hyn, gyda’r tirlun yna yn newid, i ni wneud yn iawn, efallai, am y tanfuddsoddi sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Yn ddiddorol iawn, hefyd, mae’r sector preifat yn cyfrannu rhyw 55 y cant tuag at y cyfanswm yna, addysg uwch rhyw 40 y cant, a’r Llywodraeth 5 y cant. Efallai bod lle i gynyddu hynny. Ond, yn sicr, mae’r topograffi economaidd yn un newydd, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod e’n gweithio o’n plaid ni, er gwaethaf unrhyw heriau.
Diolch yn fawr iawn. Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth gyflwyno’r ddadl hon, ac yn gynharach yr wythnos hon, wrth gyhoeddi ein rhaglen ar gyfer yr wrthblaid, rwy’n meddwl bod Plaid Cymru yn ymateb i angen go iawn sydd gennym yn awr yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud na wnaeth y rhai a oedd mewn grym, a’r rhai a oedd yn gyfrifol am alw refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, baratoi ar gyfer y senario hon mewn unrhyw fodd o gwbl. Yn sicr ni wnaethant baratoi ar gyfer beth fyddai goblygiadau’r senario hon i weinyddiaeth ddatganoledig, a Llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru. Rwy’n meddwl ein bod wedi gweld llawer o hynny dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae wedi bod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb mewn ffordd gydlynol—fel y nodwyd eisoes gan Llyr Gruffydd, ac Adam Price—ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n gwella gan fod gennym Ysgrifennydd y Cabinet bellach sy’n gyfrifol am yr is-bwyllgor sy’n ymateb i’r her hon.
Ond mae Plaid Cymru yn sicr yn barod ar ei chyfer. Nid oeddem eisiau’r senario hon, ond fel y blaid sy’n cynrychioli Cymru ac sy’n awyddus i geisio cynrychioli pob rhan o Gymru, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn bachu ar y cyfle gorau yn y sefyllfa hon. Ac os yw’r caleidosgop wedi ei ysgwyd—ac nid oeddwn eisiau dyfynnu Tony Blair, ond dyna ni—os yw wedi cael ei ysgwyd, yna mae angen i ni wneud yn siŵr fod y darnau’n cael eu hailosod mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i’n heconomi, ein cymdeithas, a’n hamgylchedd. Ac rwy’n meddwl bod Adam Price wedi nodi’n glir eisoes ein bod yn barod i wneud hynny. Yn amlwg, rydym am weithio gyda Llywodraeth Cymru. Mae gennym eisoes drefniadau ar waith gyda Llywodraeth Cymru i geisio cyflawni rhai o’r syniadau hyn, ond rydym hefyd yn awyddus i geisio arwain y genedl Gymreig o ran y ffordd rydym yn ymateb i’n sefyllfa.
Mae dau beth rwy’n arbennig o awyddus i’w crybwyll yma y prynhawn yma. Mae un yn ymwneud a’n dyfodol fel cenedl ynni, a’r ail yw sut y gallwn ymateb o safbwynt cynhyrchu bwyd, gwasanaethau amgylcheddol a’n cymunedau ffermio. Nid oes amheuaeth ein bod wedi arafu o ran yr hyn rydym wedi ei wneud fel cenedl yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mewn perthynas ag ynni ac ynni adnewyddadwy. Rydym yn eistedd ym Mae Caerdydd, mewn prifddinas a grëwyd gan ynni carbon—a grëwyd gan lo, yn bennaf—ac eto nid ydym wedi cael y difidend datganoli a grybwyllodd Adam o ran ynni adnewyddadwy ychwaith. Ar un adeg, roeddem ar y blaen, ond yr wythnos hon, dywedodd y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd fod yr Alban yn awr yn arwain y DU o ran ymdrin â newid hinsawdd, ac mae ar y blaen gydag ynni adnewyddadwy.
Mae gennym 1,200 o filltiroedd o arfordir gogoneddus—y bydd rhai ohonom yn ei weld yr wythnos nesaf yng Nghei Newydd, gyda’r pwyllgor—porthladdoedd môr dwfn, sy’n hynod o bwysig ar gyfer datblygu a dal ynni, a dyfroedd Cymru a allai fod yn werth £3.7 biliwn, mewn ynni morol yn unig, i economi’r DU erbyn 2020. Mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi amcangyfrif y gallem ddatblygu 1 GW o gapasiti dros y ddau ddegawd nesaf. Ac yn ganolog i hyn, wrth gwrs, mae potensial morlyn llanw ym mae Abertawe ac o hynny, datblygu môr-lynnoedd llanw eraill yn aber yr Hafren.
Rwy’n deall bod y Llywodraeth yn cyfarfod â Charles Hendry, sy’n arwain yr adolygiad o fôr-lynnoedd llanw ar ran—nid yw wedi cael ei ddiswyddo gan Theresa May eto; mae pawb arall a benodwyd gan Cameron wedi cael eu diswyddo gan Theresa May, ond nid yw wedi cael ei ddiswyddo eto. Felly, os yw’n dal i fod yno yr wythnos nesaf, a bod y Llywodraeth yn ei gyfarfod, rwy’n gobeithio y byddant yn ei argyhoeddi bod yn rhaid i’r adolygiad hwn sylweddoli pa mor bwysig yw’r prosiect seilwaith hwn i Gymru, o ran ein capasiti sgiliau adeiladu, o ran yr hyn rydym yn barod i’w wneud gyda Tata Steel, a’r porthladd dwfn ym Mhort Talbot hefyd, ac yn wir, sut y gallwn ddatblygu ein hynni adnewyddadwy drwy forlyn yn y bae. Fe ildiaf i Huw Irranca.
Diolch i chi, Simon, am ildio. Mae eich pwynt yn un da iawn. Yn wir, mae’n debyg i’r buddsoddiad a wnaed yn yr ardaloedd o amgylch Hull a Grimsby. Cyn 2010, buddsoddwyd £60 miliwn i ehangu’r porthladd yno er mwyn ei gwneud hi’n bosibl ehangu ynni gwynt ar y môr; mae’n digwydd, ac mae Siemens wedi eu lleoli yno; mae ganddynt allu gweithgynhyrchu yn ogystal â phopeth arall. Gallai hwn gyfateb i hynny yng Nghymru, ac mae angen i ni ddweud wrthynt mewn gwirionedd, heb fynd i godi’r fowlen cardota, ‘Mae hyn yn dda i’r DU hefyd, ond mae’n arbennig o dda i Gymru.’
Rydych yn hollol gywir. Rwy’n cytuno, ac wrth gwrs, mae gennym y porthladdoedd dwfn, a’r Hafan yn Sir Benfro yn ogystal, lle gellir mynd â gwaith adeiladu allan i’r môr ar unwaith heb y buddsoddiad DU oedd ei angen yn y gogledd-ddwyrain. Câi hwnnw ei weld fel datblygiad rhanbarthol, ond roedd hefyd yn agor môr y gogledd i ynni gwynt ar y môr, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy’n credu bod honno’n enghraifft dda iawn, ac mae unrhyw bwysau y gellir ei roi yn awr yn y pythefnos hollbwysig nesaf i sicrhau bod y morlyn llanw yn cael ei weld fel potensial enfawr i Gymru—. Gallwn arwain y byd, unwaith eto, ym maes ynni, ynni adnewyddadwy, a hoffwn weld y cyfle hwn—pa un a ydym ei eisiau ai peidio, dyma ein cyfle i’w ddefnyddio i ail-ffurfio ein cenedl yn y ffordd honno.
Mae’r ail agwedd yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, a beth bynnag roeddem yn ei feddwl yn y gorffennol o’r rheolau Ewropeaidd ar amaethyddiaeth, gwelwyd tueddiad clir dros y 10 mlynedd diwethaf i symud o gefnogi talu am gynhyrchu bwyd i sefyllfa lle rydym yn cefnogi’r amgylchedd cyfan a chynhyrchu a phrosesu bwyd fel rhan o hynny. Yn hytrach na mynd drwy broses o ail-lunio ein rhaglenni bob pump neu chwe blynedd fel y crybwyllodd Llyr Gruffydd, dyma gyfle inni gael golwg lawer iawn yn fwy hirdymor ar sut y gallwn ddefnyddio’r adnoddau hyn yn awr i gefnogi ein cymunedau gwledig, ond hefyd i gynhyrchu bwyd yn fwy effeithiol, yn fwy cynaliadwy ac yn wir, yn fwy cynhyrchiol yn amgylcheddol. Yn sicr, mae Plaid Cymru yn ymgynghori â’n cymunedau ffermio ar hyn o bryd, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y syniadau yn ymuno â ni i wneud hynny.
Yr allwedd i’r ffordd y symudwn ymlaen yw’r cwestiwn sy’n dal heb ei ddatrys sef a ydym yn cael rhyw fath o fynediad i’r farchnad sengl drwy ryw fath o drefniant masnach rydd, a allai gynnwys tariffau, neu aelodaeth o’r farchnad sengl. Crybwyllodd Adam Price ein bod wedi cael o leiaf dri pholisi gwahanol. Gofynnais i Ysgrifennydd yr amgylchedd yn y pwyllgor y bore yma pa bolisi oedd gan y Cabinet mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud nad oes gan y Cabinet unrhyw bolisi. Nid oes gan y Cabinet bolisi o gwbl ynglŷn ag aelodaeth, neu fynediad neu beth bynnag. Nawr, gallwn weld ei bod yn adeg anodd, ac yn adeg ansicr, ond rwy’n credu bod angen inni gael gweledigaeth, ac rwy’n credu bod angen inni weld Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir iawn lle mae am i Gymru fod. Mae Plaid Cymru yn glir ac rwy’n gwbl glir; yn y tymor hir, rwyf am i Gymru fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, oherwydd rwyf am i Gymru fel gwlad annibynnol gymryd rhan o’i gwirfodd mewn undeb o wledydd eraill yn gweithio gyda’i gilydd dros yr amgylchedd, a thros gymdeithas a thros yr economi. Os nad yw hynny’n digwydd yn awr—ac rwy’n derbyn canlyniad y refferendwm wrth gwrs—ond os nad yw’n digwydd yn awr, yna pa gamau rydym yn eu rhoi ar waith i ddiogelu Cymru yn y cyfamser, a sicrhau mynediad, sy’n hanfodol, i’r farchnad sengl honno ar gyfer ein ffermwyr?
Rydym wedi siarad llawer y prynhawn yma am strategaeth economaidd, a dymunaf yn dda i Ysgrifennydd y Cabinet gyda datblygu strategaeth economaidd newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Rwy’n credu ein bod mewn cyfnod sy’n unigryw o heriol, ac rwy’n credu ei bod yn adeg amserol i ni edrych ar y strategaeth economaidd yn gyffredinol. Felly, rwy’n dymuno’n dda iddo gyda hynny, ac rwy’n ei gymeradwyo, mewn gwirionedd, am geisio mewnbwn gan bobl Cymru ar eu blaenoriaethau economaidd ar gyfer y dyfodol. Gwn fod yna ysgol o feddwl sy’n ffafrio strategaeth economaidd gyda datganiadau rhethregol o sicrwydd, ond nid wyf yn meddwl ein bod yn y diriogaeth honno yn y byd ar hyn o bryd. Ac rwy’n gwybod, o sgyrsiau ar draws y tŷ, y bydd llawer ohonom yn ceisio cynnal ymgynghoriadau yn ein hetholaethau ynghylch y blaenoriaethau hynny i fwydo i mewn i’r strategaeth, a chredaf fod hynny’n beth cadarnhaol i bob un ohonom.
O ran y cwestiwn ynglŷn â mewnfuddsoddiad, byddaf yn adleisio’r hyn a ddywedwyd sawl gwaith gan Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Weinidog am werthu Cymru i’r byd. Yn amlwg, mae’n hanfodol i ni gyfleu ar hyn o bryd ein bod yn economi agored, sy’n masnachu ac yn edrych tuag allan, ac mae hynny’n gwbl sylfaenol i lwyddiant yr economi yn y dyfodol. Yn amlwg, bydd sut y bydd hynny’n datblygu yn dibynnu ar y berthynas fydd gennym yn y pen draw gyda’r farchnad sengl Ewropeaidd. Ond hoffwn ddweud, yn ychwanegol at y ffocws hwnnw ar fewnfuddsoddi, rwy’n meddwl bod angen i ni edrych hefyd ar y cymorth a rown i’n heconomïau sylfaenol yng Nghymru—y sectorau lle mae galw ar gynnydd, sydd wedi eu lleoli yn ein cymunedau, sy’n llai symudol yn rhyngwladol, efallai, ac sy’n cynnig ac yn gallu parhau i gynnig cyflogaeth i lawer iawn o filoedd o bobl yn ein cymunedau, os maddeuwch fy obsesiwn gyda swyddi am y tro. Y sectorau hynny yw gofal, tai, ynni a bwyd. Rwy’n meddwl bod angen i ni hefyd wneud yn siŵr fod ein polisi yn mynd i’r afael ag anghenion y sectorau hynny. Bydd hynny’n gofyn am benderfyniadau concrid o ran polisi yn y misoedd nesaf. Er enghraifft, sut rydym yn ariannu rhai o’r 100,000 o brentisiaethau rydym yn edrych arnynt? Ar gyfer pa sectorau rydym am dargedu’r cymorth hwnnw? Felly, mae cwestiynau polisi go iawn ynghylch hynny.
Buaswn hefyd yn cymeradwyo’r gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Mae’n ymddangos i mi mai un o’r pethau pwysig yn y byd ar ôl gadael yr UE rydym yn anelu tuag ato yw ein bod yn cael ein hysbrydoli gan, ac yn wir, yn cymharu â gwledydd nid yn unig yn Ewrop, ond y tu hwnt i Ewrop yn ogystal. Felly, byddwn yn gobeithio y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyfeirio at y comisiwn hwnnw unigolion sydd â phrofiad sylweddol o seilwaith, nid yn unig yn y DU ac nid yn unig yn Ewrop, hyd yn oed, ond y tu hwnt i hynny hefyd.
Hoffwn ddweud un peth i gloi, sef am y gefnogaeth—. Bydd llawer o bobl a gefnogodd y penderfyniad i adael yr UE wedi gwneud hynny gan ei ystyried yn gyfle i dorri’n ôl ar rai o’r hawliau gweithle gwerthfawr sydd gennym yn rhinwedd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yr Undeb Ewropeaidd yw ffynhonnell llawer o hawliau y mae gweithwyr yng Nghymru yn eu hystyried yn gwbl sylfaenol. Maent yn llwyfan i arferion gweithio modern, i gefnogi bywyd teuluol a chyfyngu ar wahaniaethu, ac rwy’n gobeithio nad ydym yn gweld pwysau ar draws y DU i symud oddi wrth setliad sy’n diogelu’r gweithlu yng Nghymru ac rwy’n gobeithio ac yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo economi ar ôl gadael yr UE, os mynnwch, sydd â gweithlu medrus, cynhyrchiol yn ganolog iddi.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig yma ac rwy’n talu teyrnged yn y lle cyntaf i’r sawl sydd wedi siarad eisoes. Roedd Adam Price wedi agor yn arbennig o dda yn olrhain y tirlun sydd gyda ni rŵan wedi, wrth gwrs, y bleidlais sylweddol yna a chawsom yn ddiweddar ac sydd wedi symud popeth. Hynny yw: Brexit.
Mae yna her sylweddol o’n blaenau ni i gyd. Mae yna sawl un wedi olrhain yr her yna, ond yn sylfaenol rydym eisiau ymateb gyda hyder ac y mae gofyn i Gymru fynd amdani yn wir ac ymdrechu i’r eithaf i wneud y gorau o lle rydym ni’n ffeindio ein hunain ar hyn o bryd ac nid jest cario ymlaen i alaru am ganlyniad yr oeddem ni ddim o reidrwydd yn ei hoffi.
Mae gofyn bod yn anturus ac yn uchelgeisiol ac, wrth gwrs, ar y meinciau hyn, rydym wedi olrhain y mesurau yna y byddem ni’n licio eu gweld. Rwy’n cymeradwyo Nick Ramsay yn benodol hefyd. Roedd ei gyfraniad e yn dda iawn, a hefyd, wrth gwrs, Jeremy nawr yn sôn am y comisiwn seilwaith yna yn arbennig. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni gael comisiwn seilwaith efo dannedd go iawn i fynd i’r afael â’r her sylweddol sydd o’n blaenau ni. Mae angen comisiwn seilwaith sydd yn gallu gwneud pethau; nid rhyw fath o bwyllgor ymgynghori, ond corff sydd yn gallu benthyg, sydd yn gallu cynllunio ac sydd yn gallu trefnu ac yn gallu mynd amdani i fynd ar ôl y seilwaith yma rydym ni i gyd eisiau ei weld o ran trafnidiaeth a materion gwyrdd ac yn y blaen, fel sy’n cael ei nodi yn ein cynnig ni.
Roeddwn i jest yn mynd i siarad yn fyr am y rhan o’n cynnig ni sydd yn sôn am godi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’n deg i nodi, fel y mae rhai eisoes wedi’i nodi—Nick Ramsay yn bennaf—ein bod ni wedi cael sawl trafodaeth dros y blynyddoedd ar gaffael cyhoeddus yn y lle hwn. Rydym i gyd yn cytuno ei fod yn syniad gwych i ni allu codi lefelau o gaffael cyhoeddus sy’n cael ei benodi i gwmnïau sydd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’n gwneud synnwyr cyffredin, ac eto, rydym ni’n llai na llwyddiannus yn gwireddu’r dyhead yna achos, yn wir, yn y dyddiau ‘potentially’ anodd yma sydd o’n blaenau ni rŵan, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â phob arf sydd gyda ni. Mae gwir angen codi lefelau caffael cyhoeddus i gwmnïau yma yng Nghymru. Pan fyddwch chi’n edrych ar economi Cymru ar hyn o bryd, 25 y cant o’n cyfoeth ni sydd yn dod o’r sector preifat. Mae 75 y cant o gyfoeth Cymru yn dod o’r sector gyhoeddus. Mae angen dybryd i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
Ac, wrth gwrs, mae defnyddio’r sector gyhoeddus yn fodd hawdd iawn i helpu hynny. Ar hyn o bryd, o ran y sector gyhoeddus yn ein llywodraeth leol ni, lle maen nhw ishio darparu bwyd i ysgolion, ysbytai ac yn y blaen, mae lefel y caffael ar hyn o bryd dros 50 y cant i’r sector breifat. Felly, mae’r sector gyhoeddus yn gwneud ei siâr o ran helpu’r sector breifat, ond mae angen gwneud mwy. Mae yna ryw 98,000 o swyddi ar hyn o bryd yng Nghymru yn deillio o’r ffaith bod dros 50 y cant o’r cytundebau caffael yma efo cwmnïau yng Nghymru. Ond mae angen codi’r lefel yna o 55 y cant i 75 y cant, a dylem ni allu gwneud hynny wrth feddwl yn anturus ac yn glyfar ynglŷn â sut rydym yn setio’n cytundebau—efo cwmnïau llai, fel y mae Nick Ramsay wedi sôn, ac nid wastad yn mynd am y cwmnïau mawrion, ac, wrth gwrs, mynd ar ôl y meddylfryd bod hybu’r economi’n lleol yma yng Nghymru yn bwysig, bod edrych ar ôl safonau cymdeithasol yma yng Nghymru yn bwysig, ac, wrth gwrs, yn amgylcheddol, mae’n gwneud synnwyr cyffredin i gadw ein busnesau yma yng Nghymru.
Mae pob math o resymau call, synhwyrol dros godi lefel caffael cyhoeddus yma yng Nghymru, ac mae gennym gyfle nawr i ddefnyddio rheolau, efallai, sydd ddim wedi cael eu defnyddio’n aml. Ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hwn, achos mae yna her sylweddol o’n blaenau. Achos, ar ddiwedd y dydd, mae gwerth am arian yn golygu, yn fy nhyb i, fwy na mynd jest am y pris isaf bob tro. Diolch yn fawr.
Wel, mae Dai Lloyd wedi dweud wrthym ni am beidio â galaru, ond mae’n rhaid i fi ddweud fy mod yn dal i alaru—rwy’n dal i alaru am yr ardaloedd hynny yng nghefn gwlad, a’n amaethyddiaeth, sydd ddim yn gwybod nawr sut mae eu dyfodol yn edrych.
I’m still in mourning for those people in the poorest communities who would have assumed that that money was coming to them but who now have no idea whether that will be coming. And I’m in mourning more than anything for the country I love where I have seen division rear its head and we have seen the ugly head of intolerance within our communities. Promises were made and promises have been broken. I think that we have to be very careful also and we need to listen. We need to listen to the people of Wales who sent us a message. They sent us a message, and part of that message was that they want to take back control.
We now live in a country where the Bitcoin is more stable than sterling. We live in a country where we may see the living wage cut by 40p an hour due to the impact of Brexit. We’ve seen housing and banking shares being slashed, and we’ve gone from being the fifth biggest economy in the world to the sixth biggest economy, and we’ve lost our AAA status. But these are just the teething pains of Brexit; there are issues we haven’t even begun to address. How may extra skilled legislators will we need, even in Wales, to disentangle all those statutory instruments that are inbuilt into the complexities of our own legislature? How easy will it be for people from Ireland to land on our shores at Fishguard, Holyhead and Pembroke Dock? How easy will it be for them?
I think the First Minister is doing exactly the right thing: making it clear that what we want is tariff-free access to the single market, without any other technical barriers either in place. I think it’s important and it was a really good signal that he went to the United States to really demonstrate that we are still an outward-looking nation. But it strikes me that the most powerful way of selling our country is actually to ask the people who are already doing business here to act as ambassadors on our behalf, because the experience I have and the experience I’ve seen is that civil servants can go so far and, dare I say it, politicians can only go so far. The real experts are people who are doing business here, and there’s no reason we can’t ask them to be ambassadors on our behalf. It happens in the Foreign and Commonwealth Office, there’s no reason why we can’t ask people to do that here.
The other thing we have to make clear is that we can’t accept a country where we would be worse off as a part of the United Kingdom compared to having stayed in the European Union. What kind of signal is that sending to us, the people who want to remain part of the United Kingdom? It’s not just about structural funds, it’s about agriculture and rural payments, it’s about money for our universities, it’s about the enforcement of rules on environmental standards and standards for consumers. We’ve heard today the Institute for Fiscal Studies have estimated that over £500 million of money could be lost from Wales as a result of this. We must not put up with that. We must absolutely fight every step of the way. And we know that even if we weren’t to qualify for the next stage of European structural funds, there would have been some kind of tapering mechanism. We want that money as well. We want that money as well and they need to hear that loudly and clearly in the Treasury.
But, I’m afraid, I really believe that this vote is potentially a crisis for Wales. I don’t know if it is yet. We won’t know until we know the outcome of those negotiations. But I do think that we need to listen to what the Welsh people were telling us, and I think they were telling us a message about the impact of globalisation on their lives. I think that they were telling us that they want a degree more control of their lives and I think we need to work out how we empower those people who wanted to take back control, to genuinely offer them opportunities to take control in their communities over their own lives. We will see in Wales, like elsewhere, a huge increase in the number of people who are self-employed. What do they need? How can we support them within those communities? Yes, we do need to think about an economic strategy and an industrial strategy. Let’s look at places like France. How is their productivity so much better than it is in the UK? There are excellent models for us to follow in some of those countries. And I’ve got to tell you that during my time in industry it was very clear to me that, you’re right, people are not driven to invest in Wales because of grants. That is not what brings them here. What people want is a stable, regulatory and economic environment. I’m afraid that’s the one thing we don’t have at the moment. That’s part of the problem we are up against. So, this economic strategy does have to take into account the fact that that is a difficulty for us at the moment.
We also have to think about the jobs of the future. Week by week, month by month, year by year, technology will be getting rid of and making jobs redundant in these countries. Let’s try and look ahead to what those jobs will look like. I’ve got to end by saying that part of me is still angry and part of me is still sad and mourns for that future where my children will not be a part of the European Union.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod, rwy’n meddwl, yn drafodaeth adeiladol, sy’n gwneud i ni feddwl, trafodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ni i gyd wrth i ni ymdrechu gyda’n gilydd i feddwl ein ffordd drwy’r amgylchiadau rydym ynddynt yng Nghymru yn y cyfnod yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE? Dechreuaf drwy ddiolch i Adam Price am ei gyfraniad. Mwynheais y dechrau yn enwedig. Rwy’n credu bod ei gyfeiriad at batrymau polisi, a’r modd rydym wedi wynebu heriau blaenorol drwy feddwl eto am y strategaethau a’r camau ymarferol sydd angen i ni eu rhoi ar waith er mwyn ateb yr heriau hynny, yn gymorth i ni hyd yn oed yn y cyfnod anodd sy’n ein hwynebu a hyd yn oed gyda’r ergyd i hyder y mae cychwyn ar gyfeiriad gwahanol yn gallu ei achosi. Rwy’n meddwl ei fod wedi dangos ein bod wedi wynebu’r heriau hynny yn y gorffennol a thrwy ymaddasu i amgylchiadau heddiw byddwn yn gallu eu goresgyn yn y dyfodol. Mae ei bwynt cyffredinol, a’r pwynt cyffredinol sy’n sail i’r cynnig, yn ddiymwad onid yw? Mae’n rhaid i ni feddwl eto a rhaid i ni saernïo ein dyfodol o’r newydd o dan yr amgylchiadau a grëodd y bleidlais ar 23 Mehefin.
Mae’r amgylchiadau hynny, fel y dywedodd Nick Ramsay, yn ansicr iawn ac er mwyn mynd i’r afael â’r ansicrwydd rhaid i ni siapio dyfodol Cymru ochr yn ochr ag eraill. Treuliais ran o fy more mewn trafodaeth gyda Gweinidog newydd yr Alban sy’n gyfrifol am drafod o bersbectif yr Alban yn y trafodaethau ar adael yr UE. Buom yn rhannu syniadau ynglŷn â sut y gallwn lunio peirianwaith rhyng-lywodraethol a sut y gallwn greu agenda, lle mae gennym ddiddordebau cyffredin sy’n gorgyffwrdd, i weithio gyda’n gilydd i wireddu’r uchelgeisiau hynny. Dyna pam y bydd ochr y Llywodraeth yn pleidleisio o blaid y gwelliant a gynigiwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma. Mae arnom angen dyfodol penodol i Gymru ond nid dyfodol ar wahân; dyfodol lle gallwn weithio gyda’n gilydd i greu budd cyffredin i’r bobl sy’n byw yng Nghymru. A phan wnawn hynny, Ddirprwy Lywydd, o safbwynt yr ochr hon, nid ydym yn credu mai’r ffordd orau o saernïo’r cyfryw ddyfodol yw edrych yn ôl at atebion sy’n perthyn i’r gorffennol. Mae gwelliant y Llywodraeth, a gyflwynwn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, yn ei gwneud yn glir fod gennym uchelgeisiau ar gyfer economi Cymru yn y byd, ond ni allwn gyflawni’r uchelgeisiau hynny drwy atebion parod sy’n perthyn i’r gorffennol.
Mae’n amlwg hefyd, Ddirprwy Lywydd, mewn unrhyw ymateb i’r penderfyniad i adael yr UE, rydym yn rhan o stori sy’n datblygu, nid rhyw fath o ras fyrdymor. Ac roeddwn i’n meddwl bod cyfraniad Eluned Morgan yn rhoi cyfrif rhagorol o rai o’r ysgogwyr y bydd eu hangen arnom i ffurfio’r dyfodol hwnnw, yn ogystal ag ehangder y materion sy’n rhaid i ni eu cwmpasu wrth geisio llunio dull neilltuol o saernïo dyfodol Cymru. Mae’n rhaid i ni allu gwneud hynny, nid ar unwaith yn y presennol—gan nad yw’r darnau jig-so sydd o’n cwmpas y dibynnwn arnynt i saernïo dyfodol i Gymru yn eu lle. Nid ydynt yn eu lle yn Whitehall, nid ydynt yn eu lle eto yn Ewrop ychwaith. Roedd araith cyflwr y genedl Juncker—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy’n ddiolchgar. Rydych chi’n hollol iawn i ddweud bod yna lawer mwy o ddarnau jig-so i’w gosod at ei gilydd cyn i ni gael y darlun llawn, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, un o’r egwyddorion y safai Llywodraeth Cymru drostynt ym mis Mehefin oedd bod mynediad i’r farchnad sengl yn allweddol a nwyddau, gwasanaethau a phobl oedd yr elfennau sylfaenol yn ei safbwynt. Ymddengys bod y safbwynt hwnnw wedi newid dros yr haf. A allwch gadarnhau mai nwyddau, gwasanaethau a phobl yw’r gred sydd wrth wraidd meddylfryd Llywodraeth Cymru o hyd ac nid nwyddau a gwasanaethau yn unig?
Wel, rwy’n meddwl bod y Prif Weinidog wedi dweud yn glir ddoe, Ddirprwy Lywydd, fod Llywodraeth Cymru, yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm, wedi gosod yn ddiamwys gerbron pobl Cymru ein cred mai o fewn Ewrop y gellid sicrhau’r dyfodol gorau i Gymru, a thelerau masnach yn Ewrop yw bod gennych nwyddau, gwasanaethau a phobl yn cael symud yn rhydd. Mae’r telerau hynny wedi newid. Mae’r bleidlais ar 23 Mehefin yn golygu na allwn barhau i ddweud heddiw yr hyn roeddem yn ei ddweud bryd hynny. A’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yw bod gennym i gyd, mewn ystyr democrataidd, gyfrifoldeb i fynegi ein barn ein hunain a’n credoau ein hunain ynglŷn â’r hyn sydd orau i Gymru yn y dyfodol—ac nid oes rheswm pam y dylai unrhyw un ohonom newid ein meddyliau am hynny—ond mae’n rhaid i ni gynnwys yn hynny y neges a gawsom gan bobl yng Nghymru a oedd â barn wahanol i farn llawer o bobl yn y Siambr hon.
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Weinidog, a wnewch chi dderbyn nad oedd y cwestiwn ynglŷn â rhyddid pobl i symud ar y papur pleidleisio? Hoffwn ofyn a ydych yn ymwybodol o’r ymchwil a gyflawnwyd gan TUC Cymru, a ofynnodd i bobl, yn y Cymoedd yn arbennig, pam eu bod wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod y cwestiwn hwn ynghylch rhyddid pobl i symud neu fewnfudo wedi ei roi yn Rhif 6 neu Rif 7? Prif bryder pobl yw swyddi, masnach, swyddi o ansawdd da. Felly, a fyddech yn barod i edrych ar y gwaith ymchwil hwnnw ac adolygu safbwynt y Llywodraeth ar y mater hwn o bosibl?
Wrth gwrs, byddai unrhyw un yn barod i edrych ar y gwaith ymchwil hwnnw. Ni fyddwn byth yn gwybod, yn derfynol, beth oedd y rhesymau a oedd yn cymell pobl i bleidleisio yn y modd y gwnaethant ar 23 Mehefin. Mae fy mhrofiad mwy sobreiddiol fy hun o guro ar ddrysau mewn rhannau o Gaerdydd—
Edrychwch ar y dystiolaeth—[Anghlywadwy.]
Mae mwy nag un math o dystiolaeth, Ddirprwy Lywydd, ac ni ddylid diystyru tystiolaeth o’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthych yn uniongyrchol pan fyddwch yn sgwrsio â hwy. Ar garreg y drws, wrth geisio perswadio pobl i bleidleisio dros ddyfodol Cymru yn Ewrop, gallaf eich sicrhau bod materion yn ymwneud â mewnfudo a rhyddid i symud yn cael eu dwyn i fy sylw’n rheolaidd tu hwnt ac yn amlwg iawn—[Torri ar draws.] Y cyfan rwy’n ei ddweud, a’r cyfan a ddywedodd y Prif Weinidog, yw y byddem yn ffôl i ddiystyru hynny fel pe na bai’n bwysig o gwbl a bwrw ymlaen heb wrando arnynt.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Mae wedi bod yn garedig iawn—
Am y tro olaf efallai.
Ie, rwy’n ddiolchgar iawn iddo. Ond ar y pwynt penodol a nododd arweinydd y grŵp Ceidwadol ddoe, mae Llywodraeth Cymru, wrth osod ei chwe egwyddor allweddol yn dilyn y bleidlais i adael yr UE—nid cyn, ond yn dilyn—wedi dweud bod rhyddid i symud yn egwyddor allweddol, yn egwyddor greiddiol. Pa bryd y newidiodd hynny?
Mae’r Aelod yn anghywir yn ei roi yn y ffordd honno. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod yn rhaid i ni esblygu’r safbwynt y mae Cymru yn ei arddel mewn ymateb i’r ddadl sy’n datblygu. Rwyf wedi bod yn Weinidog iechyd yn y Cynulliad hwn. Nid oes angen i neb fy argyhoeddi bod ein gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau craidd i bobl yng Nghymru yn dibynnu ar ein gallu i ddenu pobl o bob cwr o’r byd sy’n barod i ddod yma i greu dyfodol iddynt eu hunain yng Nghymru. Nid oes dim yn safbwynt Llywodraeth Cymru sy’n wrthwynebus i hynny, ond ni allwn, ar yr un pryd, esgus mai’r byd roeddem yn byw ynddo ar 22 Mehefin yw’r byd rydym yn byw ynddo heddiw. Mae’n rhaid i ni gynnal ein huchelgeisiau a’n dymuniadau ar gyfer dyfodol Cymru yn ôl realiti ein sefyllfa. Dyna pam, fel Llywodraeth, y rhoesom gamau ar waith ar unwaith yn dilyn y bleidlais ar 23 Mehefin, gan alw’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, cyfarfod â’r Prif Weinidog newydd, mesurau ffres ac wedi eu hariannu i roi hyder i fusnesau, camau i gyflymu’r broses o dynnu cyllid Ewropeaidd i lawr ac ochr yn ochr â’r mesurau uniongyrchol hynny, deallwn fod yna gyfres o gamau gweithredu y bydd eu hangen i sicrhau dyfodol ein heconomi a phob dim sy’n gysylltiedig â hynny.
Roedd y pwyntiau a wnaeth Simon Thomas am ynni yn rhai pwysig iawn yn fy marn i, ynni adnewyddadwy, a sut y byddwn yn saernïo ein patrymau o gymorth i bobl sy’n gweithio ac yn byw mewn cymunedau gwledig yn y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at gadeirio’r pwyllgor ymgynghorol newydd, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, ac a fydd yn cael ei gyfarfod cyntaf yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy’n siŵr y bydd llawer o’r hyn sydd wedi cael ei drafod heddiw, y syniadau a gyfrannwyd, yn cael sylw yn y trafodaethau hynny, ynghyd â’r holl syniadau eraill y gallwn eu cael gan y gymuned ehangach sydd â diddordeb y tu hwnt i’r Siambr hon.
Dyna pam roedd pwynt Jeremy Miles mor bwysig, ac mae’n bwysig mewn perthynas â rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd i mi. Mewn perthynas â’r economi, mae Ken Skates, fel yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol, wedi dechrau drwy ofyn, nid yn unig i fusnesau a sefydliadau, ond i bobl sy’n byw yng Nghymru, pobl sy’n bwrw eu pleidleisiau, pobl rydym wedi methu â’u perswadio i fwrw eu pleidlais yn y modd y byddem yn hoffi iddynt fod wedi gwneud, gofyn iddynt am eu syniadau ac am eu blaenoriaethau ar sut y byddwn yn mynd ati i saernïo’r economi yn y dyfodol, oherwydd mae angen i ni gynnwys eu lleisiau hwy yn y sgwrs hon, os ydym i gael y llwyddiant y dymunwn ei gael. Mae Ysgrifennydd yr economi eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu banc datblygu Cymru a chomisiwn seilwaith Cymru. Mae’n bwrw ymlaen â’r gwaith o wneud Cymru’n fwy ffyniannus a diogel—uchelgeisiol, fel y dywedodd Dai Lloyd, ac yn barod i dorri tir newydd mewn ymateb i amgylchiadau newydd, ond yn benderfynol o barhau i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, gan fasnachu a chyfathrebu ag eraill ac wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol teg, ffyniannus a diogel i Gymru.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Adam Price i ymateb yn fyr i’r ddadl, os gwelwch yn dda.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y ddadl hynod ddefnyddiol yma? Heb law am ddiolch i chi, ychydig iawn o amser sydd gen i. Roedd yna elfen o gytundeb ar draws y pleidiau. Braf i weld Nick Ramsay yn cefnogi’r angen am gomisiwn isadeiledd. Rwy’n cytuno gyda Jeremy Miles am bwysigrwydd y sectorau sylfaenol. Mae Karel Williams wedi bod yn gwneud gwaith difyr arno fe. Rwy’n cytuno gydag ysbryd yr hyn a oedd gan Eluned Morgan i’w ddweud. Hynny yw, os gallaf i grynhoi efallai: pesimistiaeth y meddwl ac optimistiaeth yr ewyllys o ddyfynnu Gramsci, am y tro cyntaf i fi.
Nid y tro olaf, mae’n siŵr.
O ran yr Ysgrifennydd Cabinet, mae gennyf i lot o barch tuag ato fe. Roeddwn i’n siomedig ein bod ni ddim wedi cael mwy o eglurder ynglŷn â pholisi a safbwynt y Llywodraeth. Rwyf i’n rhyw synhwyro nad arno fe mae’r bai am hynny. Rwy’n meddwl bod polisi yn cael ei ysgrifennu bob dydd, yn anffodus. Nid oes yna atebolrwydd hyd yma, efallai, i’r Cabinet, ond yn sicr ddim i’r Siambr yma, ac nid yw hynny yn ddigon da. Mae’n rhaid i ni ddod at ein gilydd gyda gweledigaeth i Gymru yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac mae arnaf ofn nad ydym wedi cael hynny o’r Llywodraeth mor belled.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gan fod Aelod wedi gwrthwynebu, byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Simon Thomas.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda heddiw, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig: gweithlu’r GIG. Galwaf ar Angela Burns i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6084 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cadw’r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru.
3. Yn cydnabod, â phryder, bod salwch sy’n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol am y ffaith bod staff gwasanaethau ambiwlansys yn absennol o’r gwaith, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy’n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff rheng flaen ac yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â morâl isel y staff yn ystod y Pumed Cynulliad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies, lle gofynnwn i’r Cynulliad Cenedlaethol nodi bod cadw’r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru, ac i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy’n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff rheng flaen.
Gofynnwn hefyd i’r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod bod salwch sy’n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol am y ffaith fod staff y gwasanaeth ambiwlans yn absennol o’r gwaith, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy. Yn ogystal, o ystyried y ffigurau moel ar salwch sy’n gysylltiedig â straen yn y gwasanaeth ambiwlans, hoffem glywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â morâl isel staff yn ystod y pumed Cynulliad. Mae gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig ymarfer meddygol, yn wynebu storm berffaith. Mae cyfuniad o ddigwyddiadau, penderfyniadau ac amgylchiadau, y gellid ymdrin â phob un ohonynt ar eu pen eu hunain, yn cyfuno i greu sefyllfa ddigynsail lle mae’r gwasanaeth yn ei chael hi’n anodd darparu gofal amserol a chynhwysfawr i’r cyhoedd mewn nifer fawr o feysydd. Mae’r llanw cynyddol o afiechyd sy’n pwyso ar wasanaethau rheng flaen yn creu tensiwn enfawr mewn ymarfer meddygol. Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n ceisio triniaeth.
Dangosodd arolwg iechyd Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, fod 51 y cant o bobl yng Nghymru yn ymladd salwch, mae achosion o bwysedd gwaed uchel wedi codi i 20 y cant o’r boblogaeth, salwch anadlol i 14 y cant, a salwch meddwl i ychydig dros 4 y cant—a phob un ohonynt yn rhoi straen cynyddol ar ymarfer meddygol. Mae’n destun pryder fod canfyddiad pobl ynglŷn â’u hiechyd wedi gostwng hefyd, gydag un o bob pump o bobl yn ystyried bod eu hiechyd yn wael. Rhaid i ni gofio hefyd, wrth drafod pwysau ychwanegol ar wasanaethau, fod gan Gymru gyfran lawer yn fwy o bobl 85 mlwydd oed a hŷn, o gymharu â gweddill y DU. Gyda phobl yn byw’n hirach rydym yn gweld cynnydd yng nghyfraddau salwch sy’n gysylltiedig ag oedran megis dementia a rhai mathau o ganser.
Un enghraifft fyddai’r cynnydd mewn diagnosis o ganser. Roedd achosion o ganser, yn gyffredinol, 14 y cant yn uwch dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda’r cynnydd mwyaf ymysg menywod rhwng 65 a 69 oed. Mae achosion o ganser yr ysgyfaint mewn menywod yn unig wedi codi 57 y cant. Enghraifft arall fyddai diabetes. Ers 1996 mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes wedi dyblu yng Nghymru: mae gan 8 y cant o’r boblogaeth bellach naill ai diabetes math 1 neu fath 2, ac mae amcangyfrifon yn dangos bod nifer syfrdanol o bobl yng Nghymru, sef 540,000, mewn perygl o gael diabetes math 2. Ar ben hynny, amcangyfrifir mai diabetes sydd i gyfrif am 10 y cant o gyllideb flynyddol GIG Cymru, ond caiff 80 y cant o’r arian ei wario ar reoli cymhlethdodau y gellid bod wedi atal y rhan fwyaf ohonynt.
Fel cenedl, dylid ystyried ein cyfraddau gweithgarwch corfforol hefyd mewn unrhyw drafodaeth ar ein hiechyd cyffredinol. Mae unigolion anweithgar yn gorfforol yn treulio, ar gyfartaledd, 38 y cant yn fwy o ddiwrnodau yn yr ysbyty; mae nifer eu hymweliadau â meddygon teulu 5.5 y cant yn uwch, mae eu defnydd o wasanaethau arbenigol 13 y cant yn uwch, ac mae nifer eu hymweliadau â nyrsys 12 y cant yn uwch nag unigolion egnïol. Mae anweithgarwch yn llofrudd cudd, sy’n cyfrannu at un o bob chwe marwolaeth yn y DU—yr un lefel ag ysmygu. Fodd bynnag, mae mwy nag un o bob tri pherson yng Nghymru yn anweithgar, yn methu bod yn egnïol am fwy na 30 munud yr wythnos.
Hefyd, mae angen i lawer mwy o bobl dderbyn bod llawer o achosion afiechyd yn gymdeithasol yn hytrach na meddygol o ran eu tarddiad. Defnyddiaf y gair ‘derbyn’ yn ofalus iawn gan fy mod yn credu bod yna gydnabyddiaeth fod llawer o’r hyn sy’n peri salwch mewn pobl yn deillio o achosion cymdeithasol; fodd bynnag, nid pawb sy’n derbyn mai gwaith system sy’n seiliedig ar fodel meddygol yw delio ag afiechydon cymdeithasol canfyddedig.
I ddangos fy mhwynt, mewn cyfarfod diweddar gyda meddygon sy’n ymarfer, dywedodd un fod gwrando ar fenywod di-glem yn gymdeithasol yn crio am fod eu cariadon wedi eu gadael yn creu pwysau ar eu hamser. Os gallwn dderbyn efallai fod pobl sy’n crio yno am eu bod yn dioddef o iselder ac angen cwnsela, ac y gallwn eu cyfeirio at gwnselwyr, yna byddwn yn dadlau mai gofal sylfaenol ar ei orau yw hynny a sut y mae angen i ni ei siapio. Mae cyfle mewn gofal sylfaenol i atal tristwch rhag troi’n iselder; rhag troi’n anobaith; rhag troi’n ormod o alcohol neu gyffuriau; a rhag troi’n afiechyd ac analluogrwydd tymor hir. Boed yn gymdeithasol neu’n feddygol, mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n chwilio am help yn cymhlethu’r pwysau ar bractisau cyffredinol sydd eisoes yn cael trafferth gyda’r newid cynyddol yn nemograffeg meddygon mewn ymarfer cyffredinol. Rwy’n derbyn bod niferoedd meddygon teulu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad, ac nid wyf yn dymuno tynnu sylw oddi ar y materion sy’n ymwneud â recriwtio meddygon teulu, ac rwy’n siŵr y byddwch yn dod at hynny’n fuan. Ond o’r hyn rydych wedi ei drafod hyd yn hyn, y strategaeth Dewis Doeth yr argymhellodd Llywodraeth Cymru y llynedd, neu yn ystod y sesiwn olaf, a gofal iechyd darbodus yw’r ffordd gywir mewn gwirionedd o fynd i’r afael â rhai o’r materion rydych newydd eu trafod.
Peth ohono, mae’n wir, ac wrth i chi wrando ar weddill y ddadl, rwy’n meddwl efallai y cewch eich calonogi rywfaint. Rwy’n derbyn bod nifer y meddygon teulu yn parhau i fod yn weddol sefydlog. Fodd bynnag, nid oes llawer o gydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw llawer ohonynt yn gweithio amser llawn. Nid yn unig mae rôl y meddyg teulu wedi newid, ond mae’r ffordd y mae cleifion yn dymuno cael mynediad at eu meddyg teulu wedi newid hefyd. Mae cleifion yn dal yn awyddus i weld meddyg teulu penodol, a gallu eu gweld o fewn cyfnod byr o amser. I ddyfynnu un meddyg, sy’n crynhoi barn llawer o bobl yn daclus: ‘Mae cleifion eisiau ymateb ar unwaith, ond ymateb ar unwaith gan feddyg o’u dewis ar adeg o’u dewis, a dyna yw’r safon aur. Byddem oll yn hoffi hynny, ond nid yw’n ymddangos bod llawer o ddealltwriaeth ymhlith cleifion nad yw hynny’n bosibl mewn gwirionedd.’
Mae yna gydnabyddiaeth hefyd fod lefelau hunanofal wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw cleifion bellach yn ystyried y meddyg teulu fel cam olaf pan fyddant yn dangos arwyddion o salwch, ond y cam cyntaf. Hefyd, er bod amseroedd apwyntiadau wedi bod yn cynyddu, dengys ffigurau mai’r DU sydd ag un o’r amseroedd apwyntiad byrraf, a dywedodd cyfanswm o 73 y cant o’r holl feddygon teulu yn y DU eu bod yn anfodlon gyda’r amser y gallent ei dreulio gyda phob claf. Mae arolwg BMA Cymru yn ddiweddar, ym mis Chwefror eleni, yn dangos yn glir bod 57 y cant o bractisau meddygon teulu wedi adrodd bod ansawdd y gwasanaeth wedi gostwng yn ystod y 12 mis diwethaf; a dywedodd 64 y cant nad oeddent yn gallu ymdopi â’u llwyth gwaith naill ai lawer o’r amser neu drwy’r amser. Gellid ymdrin â llawer o’r materion hyn drwy gynllunio’r gweithlu’n well, drwy fwy o addysg a chyfeirio. Mae gwir angen i ni ddeall y darlun sydd gennym. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i adolygu’r broses o gasglu a rhannu data o fewn y sector gofal sylfaenol, er mwyn i ni ffurfio darlun clir a rhannu’r sylfaen wybodaeth â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau?
Nodais yn eich dogfen, ‘Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio i Gymru’ fod yna ddymuniad i annog clystyrau gofal sylfaenol i asesu angen lleol a chael adnoddau i gyd-fynd â hynny. Fodd bynnag, mae angen i gynlluniau cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu ystyried argaeledd ac anghenion hyfforddi ar gyfer gweddill y gweithlu gofal sylfaenol, megis ffisiotherapyddion, nyrsys, optometryddion, fferyllwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, gweithwyr cymorth gofal iechyd a seicolegwyr clinigol. Rydym eisoes yn gwybod o ymchwiliadau pwyllgorau, fel y rhai ar blant sy’n derbyn gofal, mabwysiadu a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, ein bod yn wynebu prinder drwy Gymru gyfan o therapyddion lleferydd ac iaith, clinigau anhwylder bwyta, gweithwyr cymorth ymddygiadol a gofal cymdeithasol, a bod mynediad amserol at wasanaethau iechyd meddwl yn anodd iawn i’w gael.
Mae’r meddyg teulu heddiw yn llai o feddyg cyffredinol ac yn fwy o ymarferydd gofal cymhleth. Mae disgwyl iddynt fod ar y rheng flaen mewn perthynas ag ystod hynod o amrywiol o afiechydon. Maent yn cael eu hannog i reoli cymaint ag y gallant er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar y sector gofal eilaidd. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid iddynt wybod i sicrwydd fod yna lu o weithwyr proffesiynol hyfforddedig y gallant atgyfeirio cleifion atynt. Yn anffodus, nid yw hynny’n wir, a dyna pam, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwn yn gofyn am gynllun cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu ym mhob rhan o’r sector sylfaenol, a’i fod yn edrych ar oriau yn hytrach na phennau, ac anghenion y dyfodol a gofynion hyfforddi yn hytrach na’r status quo.
Mae hyfforddiant ac annog pobl i weithio mewn gofal sylfaenol yn gwbl allweddol er mwyn cryfhau a chynllunio ar gyfer rheoli’r gweithlu yn y gwasanaethau rheng flaen. Mae’r BMA wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer y lleoedd hyfforddi cyffredinol ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru, er gwaethaf ymrwymiadau gan Lywodraethau Cymru olynol dan arweiniad Llafur, yn parhau’n ddisymud. Maent hefyd yn dweud bod angen buddsoddi nid yn unig mewn hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig o ansawdd uchel yng Nghymru, ond mewn datblygiad proffesiynol parhaus hefyd. Mae angen i ni edrych am weithlu meddygol cenedlaethol. Mae angen i ni greu gorfodaeth i hyfforddiant meddygon iau yng Nghymru gynnwys cylchdroadau meddygon teulu fel rhan o’u hyfforddiant. Mae meddygon teulu lleol wedi ategu’r neges hon ac maent hefyd yn mynegi pryderon ynglŷn â dealltwriaeth ysgolion meddygol mewn gwirionedd o bwysigrwydd cylchdroadau fel ffordd o sicrhau nad yw ymarfer cyffredinol yn cael ei weld fel yr adran sinderela yn y proffesiwn meddygol. Ychwanegwch at hyn y farn nad yw hyfforddeion yn ystyried bod dod yn feddyg teulu yn yrfa ddymunol oherwydd costau indemniadau cysylltiedig, adeiladau sy’n heneiddio, wyddoch chi, mwy o bwysau gwaith—nid yw pobl eisiau gweithio mewn rhan angenrheidiol iawn a gwerthfawr iawn o weithlu’r GIG.
Yn olaf, hoffwn droi’n gyflym at welliant Plaid Cymru, y byddwn yn ymatal arno. Nawr, rwy’n derbyn yn llwyr fod yna dystiolaeth empirig sy’n awgrymu’n glir fod myfyrwyr meddygol yn aml yn aros yn yr ardal lle cânt eu hyfforddi, ac rwy’n cydnabod bod y gwelliant hwn yn adlewyrchu’r galw gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Fodd bynnag, ceir y fath brinder o feddygon fel y byddwn yn awgrymu os oes Albanwr, Eidalwr neu rywun sy’n byw yng Nghymru yn hyfforddi yn ein hysgolion meddygol, yna dylem eu croesawu gyda breichiau agored a cheisio’u cadw yn y wlad lle cawsant eu hyfforddi. Hoffwn ddeall yn well hefyd faint o fyfyrwyr o Gymru y gwrthodir hyfforddiant iddynt neu sy’n dewis cael hyfforddiant i ffwrdd o gartref am na allant gael lle yn lleol. Felly byddwn yn ymatal, oherwydd gallaf gael fy mherswadio os gallwch ddangos y dystiolaeth i ni. Credaf mai dadl gryfach, y bydd fy nghyd-Aelod yn ei datblygu, yw y dylem gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael ac ehangu’r ymchwil ddaearyddol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n argyfwng ar ymarfer cyffredinol. Felly, i grynhoi, byddem yn hoffi gweld rhaglen recriwtio sy’n crynhoi anghenion partneriaid a theuluoedd, cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu sy’n cynnwys holl haenau gofal iechyd sylfaenol er mwyn sicrhau bod ymarfer cyffredinol yn gallu atgyfeirio cleifion ym mhob man mewn modd amserol, fod yna newidiadau yn cael eu gwneud i hyfforddiant meddygon iau er mwyn sicrhau bod cylchdroadau’n cynnwys ymarfer cyffredinol fel mater o drefn a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cylchdroadau hyfforddiant ym maes cardioleg neu feddygaeth acíwt, fod adolygiad yn cael ei gynnal i’r pwysau ariannol mewn ymarfer cyffredinol, o wariant cyfalaf i yswiriant indemniad, fod pecyn cynhwysfawr yn cael ei lunio gyda byrddau iechyd a’r ymddiriedolaeth ambiwlans i wella dealltwriaeth o achosion y lefelau uchel o salwch sy’n gysylltiedig â straen y mae’r gwasanaethau yn eu hwynebu a bod rhaglen hygyrch o ymyrraeth i unigolion wneud defnydd ohoni yn cael ei rhoi ar waith, a bod llais ymarfer cyffredinol yn cael ei gryfhau a’i roi ar y blaen ac yn y canol yng nghynlluniau’r byrddau iechyd a’r Llywodraeth. Os gallwch gyflawni hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn atal y storm sy’n hel yn y gwasanaethau rheng flaen, a byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn eich cefnogi yn yr ymdrech hon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac felly galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Gwelliant 1—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i strategaeth recriwtio a chadw gynnwys ymrwymiad i godi nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y gwelliant yna ac o siarad yn y ddadl yma. Rydw i’n credu bod cynllunio gweithlu ac ymateb i’r broblem o brinder staff, neu’r argyfwng o brinder staff mewn rhai meysydd o’r gwasanaeth, yn un o’r materion mwyaf allweddol sy’n ein hwynebu wrth inni geisio cynllunio NHS sydd wir yn ateb gofynion pobl Cymru. Rwy’n croesawu’r cyfle, unwaith eto, hefyd, i amlinellu gweledigaeth bositif Plaid Cymru ar gyfer recriwtio yn yr NHS—ni ydy’r unig blaid, rydw i’n meddwl, sydd yn gyson wedi bod yn tanlinellu’r angen am ragor o feddygon yn benodol, ond hefyd am weithwyr iechyd eraill.
Mae’r ddadl yma’n amserol iawn, hefyd. Mae’n dod wrth i’r BMA rybuddio eto am argyfwng recriwtio ymhlith meddygon teulu, efo 20 practis wedi’i roi yn ôl i ofal byrddau iechyd yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ac mae’r ffeithiau’n ddigon clir: Cymru sydd â’r nifer isaf o feddygon i’r boblogaeth o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Ac ydym, mi ydym ni’n clywed y Llywodraeth yn sôn am gynnydd yn niferoedd meddygon teulu, ond beth sydd gennym ni ydy mwy yn gweithio rhan amser—mwy o bennau, o bosibl, fel y clywsom ni gan y Ceidwadwyr, nid mwy o swyddi llawn amser fel meddygon teulu. Gostwng mae hynny, yn berffaith, berffaith glir.
Mae yna bryder, wrth gwrs, am beth a ddaw yn y blynyddoedd nesaf, efo dros 23 y cant o’r gweithlu dros 55 oed, a’r ffigwr yna yn cynyddu i lefel brawychus o 50 y cant mewn ardaloedd fel Cymoedd y de. Mae Deoniaeth Cymru yn nodi bod y targed ar gyfer recriwtio ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu yn is yng Nghymru nag yn weddill gwledydd y Deyrnas Unedig, ac mi gafodd y targed diwethaf ei osod ddegawd yn ôl. Felly, efallai na ddylem ni synnu o weld rhai o’r problemau rydym ni’n eu hwynebu rŵan.
Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, ar adeg pan fo meddygfeydd—naw allan o bob 10 ohonyn nhw, yn ôl ymchwil gan y BMA—yn dweud bod y galw am eu hapwyntiadau nhw yn cynyddu. Nid ydy hynny yn gynaliadwy. Rwy’n gobeithio bod pawb ohonom ni yn y Siambr yma yn gytûn ar hynny.
Gadewch inni edrych ar nyrsys ardal hefyd. Yn ôl yr RCN, os ydy’r dirywiad presennol mewn niferoedd yn parhau, ni fydd gennym ni gwasanaeth nyrsys ardal ymhen cyn lleied â phum mlynedd. Mae nifer y nyrsys ardal wedi gostwng o 876 i 519 swydd llawn amser mewn cyfnod o ddim ond pum mlynedd.
Mi symudwn ni o ofal sylfaenol. Mae problemau recriwtio yn un o’r prif achosion am golli gwasanaethau mewn ysbytai cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl ffigyrau, eto gan y BMA, rydym ni’n meddwl bod dros 10 y cant o arbenigwyr yng Nghymru bellach yn ‘locums’. Rydym ni’n gwybod beth ydy’r gost o hynny, hefyd, yn ogystal â’r ansicrwydd. Mae’r ffigwr yna o 10 y cant dros ddwbl y lefel ar gyfer Lloegr. Mae angen recriwtio, mae angen fod yn arloesol wrth wneud hynny, ac mae angen cynnig cymhellion ariannol a chymhellion eraill, ond mae angen edrych hefyd ar y cwestiynau fel ‘indemnity’ meddygol.
Ond mi rof fy sylw olaf i’r hyn yr ydym ni’n galw amdano yn ein gwelliant ni yn benodol heddiw.
Our amendment today is about the long-term need to train a new generation of doctors and nurses. This doesn’t mean that there are no short-term measures, of course, that we want to see being put in place now. Recruitment from outside Wales is vital, of course, into medical training, but we must train more doctors and nurses from Wales in Wales. It’s not just us saying that; it is the experts in the field saying that. We need to do so at our current training centres and a new centre in Bangor, too. Doctors who train in Wales are more likely to stay in Wales. Doctors from Wales who train in Wales are certainly far more likely to stay in Wales. Look at the figures from the Royal College of Physicians, who agree with us wholeheartedly on that need for home-grown medical training: only 30 per cent of students at Welsh medical schools are from Wales, compared with 55 per cent in Scotland, 80 per cent in England and 85 per cent in Northern Ireland. And, yes, we would support a quota system. Quotas have worked well in increasing recruitment to rural areas in many countries, including Australia. Quotas are supported by the GP arm of the Wales Deanery and many academics already working in our medical schools, and we want to get to the point where any Welsh student who has the required academic grades can study medicine in Wales if he or she wants to. I’ll give way.
Byddaf yn garedig. Ewch ymlaen.
Diolch.
Rwyf bron â gorffen.
Yn gyflym iawn, a oes gennych dystiolaeth sy’n dweud bod myfyrwyr Cymru yn cael eu gwrthod rhag gallu hyfforddi mewn ysgolion meddygol yng Nghymru am eu bod eisoes yn llawn o bobl eraill? Os oes gennych dystiolaeth o hynny, hoffwn ei chlywed.
Wrth gwrs mae yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd. Mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud. Rwy’n credu ei fod eisoes ar y gweill yn awr. Mae’n waith sy’n hanfodol. Gwyddom o dystiolaeth anecdotaidd fod hyn yn digwydd. Mae arnom angen y dystiolaeth empirig, yn bendant. Rwy’n gwbl argyhoeddedig mai felly y mae. Gallwn sôn hefyd, wrth gwrs, am yr angen i wneud hyn ac i sicrhau bod gennym ddigon o staff Cymraeg eu hiaith yn y GIG—nid oherwydd ei fod yn beth braf, ond am ei fod yn hanfodol, ar gyfer cleifion dementia er enghraifft. Ac wrth gwrs mae angen i ni wneud meddygaeth yn gynnig deniadol i bobl ifanc eto, fel ein bod yn gwrthdroi’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n gwneud ceisiadau. Felly, gadewch i ni gael dull mwy rhagweithiol o gynllunio’r gweithlu. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w ddweud.
Mae capasiti rheng flaen yn y GIG ar fin troi o fod yn wendid i fod yn fygythiad i gynaliadwyedd y gwasanaeth fel y mae wedi ei fodelu heddiw. Efallai fod y bygythiad hwnnw yn amlygu ei hun ar draws y DU i raddau amrywiol, ond yma yng Nghymru y mae bwysicaf bellach. Ni chyflwynwyd y ddadl hon er mwyn lladd ar Lywodraeth Cymru, er ein bod yn gofyn i chi fod yn onest yn y fan hon. Nid yw pryderon y Cynulliad ynglŷn â chynllunio’r gweithlu, y ddeoniaeth a’r agwedd ddiog tuag at sganio’r gorwel am fylchau yn y ddarpariaeth glinigol yn newydd. Felly, rydym yn eich dwyn i gyfrif am eich amharodrwydd i newid cyfeiriad pan nad yw dulliau blaenorol o fynd i’r afael â hyn wedi gweithio ac rydym yn eich dwyn i gyfrif am fod toriadau digynsail i’r gyllideb iechyd yn ystod y Cynulliad diwethaf wedi gwneud y GIG yng Nghymru yn llai deniadol i weithio ynddo.
Er fy mod yn siŵr y byddwch eisiau tynnu’r sylw oddi ar hynny yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydym yn poeni cymaint â hynny am eich barn am y GIG yn Lloegr; rydym yn poeni llawer iawn am eich cynlluniau ar gyfer y GIG yng Nghymru. Felly, cyflwynwyd y ddadl hon yn bennaf gyda bwriad diniwed, sef eich helpu i gael gwared ar yr heriau, syniadau newydd gan bob un o’r pleidiau—rydych wedi clywed gennym ni a chan Blaid Cymru—a’r camau â blaenoriaeth y byddem yn falch o’ch cefnogi arnynt. Gadewch i’r Cynulliad hwn eich helpu. Byddwch yn ymwybodol na allwn, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, dderbyn yr un hen strategaethau a gyflwynir gennych yn y gobaith y bydd y broblem hon yn diflannu ohoni ei hun.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i chi am strategaeth gynhwysfawr. Mae hynny’n golygu bod rhaid iddi gynnwys, neu o leiaf gael ei llunio ar y cyd â strategaeth i leihau’r galw ar y GIG yn y lle cyntaf. Mae hynny’n golygu galluogi, annog ac efallai mynnu hyd yn oed, mewn rhai achosion, ein bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ein hiechyd ein hunain. Felly, ni ddylech ddiystyru syniadau megis codi tâl am apwyntiadau a gollir neu hysbysu cleifion am gost eu cyffuriau presgripsiwn am mai’r Ceidwadwyr Cymreig a gynigiodd y syniadau hynny. Ar bob cyfrif, ystyriwch amrywiadau ar y rhai sy’n ymddangos yn fwy atyniadol i chi. Peidiwch â gwrthod yr asesiadau gwirfoddol yn y cartref a’r wardeniaid yn y cartref yn syml am mai ymrwymiadau’r Ceidwadwyr Cymreig ydynt. Yn y bôn, mae’r rhain yn gynigion cadarn ar gyfer helpu pobl â chyflyrau dirywiol, sy’n gysylltiedig ag oedran neu fel arall, i reoli eu bywydau eu hunain heb orfod troi’n gynamserol at y proffesiwn meddygol.
A pheidiwch â bod ofn tynnu bathodyn Llywodraeth Cymru oddi ar negeseuon iechyd cyhoeddus. Nid wyf yn mynd i roi’r gorau i brynu toesenni am fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf—mewn ymgyrchoedd hysbysebu achlysurol—eu bod yn ddrwg i mi, ond efallai y gwnaf pe na baent yn cael eu defnyddio fel nwyddau ar golled mewn archfarchnadoedd neu os gwelaf rybuddion siwgr a braster arnynt dro ar ôl tro neu luniau o galonnau wedi blocio ar y bocs. Gludwch arwydd ar y lifft i ddweud y gallech fod wedi defnyddio 20 o galorïau drwy ddefnyddio’r grisiau, ond peidiwch â glynu logo Llywodraeth Cymru arno. Gydag iechyd y cyhoedd, deddfwch neu sicrhewch fod eraill yn tanio eich bwledi strategol ar eich rhan.
Eich asedau allweddol wrth leihau’r galw ar y GIG yw gwerth a grym gwasanaethau eraill. Crybwyllodd Angela rai, ond rwy’n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol yma, cyrff megis cymdeithasau tai, y trydydd sector wrth gwrs, neu gymdeithas ei hun. Dylai ein pobl ifanc dyfu i fyny yn gweld cyfrifoldeb dros eraill fel rhan naturiol o fywyd, hyd yn oed os nad yw’n ddim mwy na deall eich bod yn cael cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol drwy fod yn aelod o ryw fath o gymuned. Felly gellid cefnogi llawer o’n hiechyd da o’r tu allan i’r GIG drwy wthio ein diwylliant i ffwrdd o’r meddylfryd ‘pilsen at bob dolur’, yn union fel y dywedodd Angela. Gall parhad da mewn gofal cymdeithasol, er enghraifft, lle mae barn yr unigolyn yn gwbl berthnasol i’r math o ofal, helpu pobl hŷn drwy gynnal eu hyder yn y cartref os yw pob pwynt cyswllt, o fewn neu y tu allan i’r GIG, wedi atgyfnerthu’r wybodaeth, dyweder, ynghylch atal cwympiadau, pa help y gallech ei gael mewn fferyllfa, a sut y mae technoleg yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n bwysig i chi.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid oes dim o hyn yn dod yn lle gweithlu rheng flaen proffesiynol, cadarn y GIG wedi eu hyfforddi’n dda. Ond ni fyddwn yn atal rhai sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol—ni fydd dewis doeth yn golygu dim—nes y gall pobl gael gafael ar feddyg teulu neu nyrs arbenigol pan fyddant yn bryderus am eu hiechyd, ni waeth faint o linellau cymorth sydd gennym. Ni fyddwn yn atal pobl rhag cyrraedd argyfyngau iechyd meddwl nes y bydd gennym fwy o seicolegwyr, yn ogystal â seiciatryddion, yn y gwasanaeth iechyd. Ond mae ymyrraeth gynnar, boed hynny trwy’r GIG neu beidio, yn rhan o leihau pwysau’r galw sy’n aml yn andwyol, byddwn yn dweud, ar y rhai rydym yn meddwl amdanynt fel staff rheng flaen. Mae hynny, ynddo’i hun, yn gwneud y GIG yng Nghymru ychydig yn fwy deniadol fel lle i hyfforddi ac aros ynddo. Diolch.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon a thalu teyrnged i amrywiaeth ac ymroddiad ein gweithlu GIG Cymru sy’n gweithio’n galed, ddydd ar ôl dydd, yn wyneb llawer o heriau, rai ohonynt yn acíwt: gweithlu sydd ond yn rhy aml nid yn unig yn y rheng flaen, ond sydd hefyd yn dioddef difrod cyfochrog yr hyn a all deimlo iddynt hwy fel beirniadaeth gyson, yn anffodus, mewn ymwneud cyhoeddus. Nid yw’n syndod fod llawer o’r ddadl heddiw a llawer o’r amser yn canolbwyntio ar y staff rheng flaen rydym yn fwyaf cyfarwydd â hwy—y meddygon, y nyrsys, y parafeddygon. Hoffwn gymryd eiliad i sôn am y staff niferus rwyf wedi cael y fraint o weithio ar eu rhan cyn cael fy ethol i’r Cynulliad hwn yn gynharach yn y flwyddyn—yr ystod o bobl sydd nid yn unig yn ffurfio rheng flaen, ond hefyd asgwrn cefn ein GIG, ac yn ei gadw’n weithredol: y clinigwyr, y gwyddonwyr, yr ymwelwyr iechyd, y ffisiotherapyddion, y porthorion, staff yr ystadau a chynnal a chadw, a llawer mwy—staff y mae’r pwysau ariannol y mae’r GIG yn ei wynebu yn real iawn iddynt ond staff sydd hefyd yn cydnabod y gwaith partneriaeth cadarnhaol—wel, mae’n gadarnhaol y rhan fwyaf o’r amser, oherwydd, fel pob perthynas, mae ei natur yn anwastad—rhwng undebau llafur a gweithwyr y Llywodraeth yng Nghymru. Er fy mod yn gwybod o fy mhrofiad fy hun nad yw trafodaethau bob amser yn cyflawni popeth y gelwir amdano, mae’r drws bob amser ar agor i drafodaeth yma yng Nghymru, sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr, mewn gwirionedd, â’r hyn sy’n digwydd dros y ffin, yn anffodus, lle mae cydweithwyr yn yr undebau llafur yn aml yn gweld y drws yn cael ei gau’n glep yn eu hwynebau. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad fod gweithredu diwydiannol yn digwydd yn Lloegr ac nad yw’n digwydd yng Nghymru. O ganlyniad i’r berthynas hon, mae staff a gyflogir yn uniongyrchol yn y GIG bellach yn cael cyflog byw, ac rwy’n falch o fod wedi chwarae rhan fach iawn yn gwneud yn siŵr fod hyn yn digwydd drwy chwarae fy rhan fach yn y trafodaethau partneriaeth a gweithio i wneud yn siŵr nid yn unig fod hyn yn digwydd, ond bod telerau ac amodau gwell ar gael hefyd i weithwyr y GIG yng Nghymru.
Oes, fel y mae pobl wedi’i ddweud, mae yna heriau yn y GIG ac mae yna bob amser ffyrdd y gallwn wella. Rwy’n gwybod drwy brofiad personol, fel rwy’n siŵr y bydd llawer yn yr ystafell hon, ac mae’r Gweinidog ei hun yn gwybod, fod y rhai ar y talcen caled bob amser yn fwy na pharod i gynnig eu cyngor a’u syniadau, ac yn wir, y gweithwyr eu hunain sydd yn y sefyllfa orau yn aml i ddweud wrth wleidyddion nid sut y mae, ond hefyd sut y gellid ei wneud yn y dyfodol. Er na fydd hynny o bosibl yn arwain at chwyldro radical o fewn y GIG, gallai’r syniadau hynny gyda’i gilydd arwain at newid cadarnhaol yn y dyfodol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Hoffwn wneud y pwynt fod llawer o fy araith wedi bod yn seiliedig ar y trafodaethau rwyf wedi eu cael gyda meddygon teulu a Choleg Brenhinol y Meddygon a Chymdeithas Feddygol Prydain. Felly, rydym yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Eu syniadau hwy yw llawer o’r syniadau hyn a hoffem i Lywodraeth Cymru wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud.
Yn sicr, ac rydych chi bron â bod wedi crynhoi’r hyn roeddwn yn mynd i’w ddweud i gloi, sef y byddwn, fel y dywedais, wrth symud ymlaen, yn annog y Llywodraeth ac eraill i sicrhau bod y gweithlu cyfan, drwy eu cyrff proffesiynol a’u hundebau llafur amrywiol, yn rhan o’r gwaith o lunio GIG o’r radd flaenaf ac un y gall pawb fod yn falch o fod yn rhan ohono.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae’n gyfle i edrych ar fater sy’n effeithio ar yr holl wasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ac yn wir ar draws y byd gorllewinol cyfan, ynglŷn â chreu amgylchedd staffio modern a’r timau amlddisgyblaethol sy’n ffurfio asgwrn cefn y gwasanaeth iechyd ym mha wlad orllewinol bynnag rydych yn digwydd byw ynddi. Ond mae’n ymddangos bod gan Gymru broblem barhaus gyda denu ac yn bwysig, gyda chadw staff i wneud yn siŵr y gall timau amlddisgyblaethol o’r fath barhau i weithio a darparu’r gwasanaeth. Yn aml iawn, nid oes fawr o bwynt os o gwbl mewn cael 90 y cant o’r tîm yn gyfan pan fydd yr un elfen bwysig, y 10 y cant, i ffwrdd, gan fod y tîm cyfan yn disgyn ar adegau felly.
Dysgais hynny yn y trydydd Cynulliad, pan gynhaliodd y pwyllgor iechyd ymchwiliad i wasanaethau strôc, ac aeth Dai Lloyd a minnau i’r uned strôc yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac rwy’n credu ein bod i gyd yn falch iawn ein bod wedi cael uned newydd gan fod y cyfleusterau yno’n hynafol iawn—mae wedi cael ei symud i Landochau yn awr. Trwy weld sut oedd y tîm yn rhyngweithio â’i gilydd, gwelsom fod tynnu un elfen allan o’r tîm amlddisgyblaethol yn golygu y byddai’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth adsefydlu a oedd ar gael i’r cleifion yn cael ei ohirio yn y bôn a byddai’r claf yn cael ei adael mewn limbo, heb unrhyw fai ar y tîm, ond oherwydd salwch efallai, neu absenoldeb neu anallu syml i ddenu gweithiwr allweddol, fel yn achos y therapydd lleferydd allweddol y soniodd Suzy Davies amdano—yr unigolyn allweddol a all hybu’r adsefydlu ac ailfywiogi bywyd y person hwnnw.
Mae’r ddadl hon heddiw, a agorwyd gan Angela Burns, yn gofyn yn awr i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd geisio mapio, gyda chynllun pum mlynedd, yr hyn y mae am ei gyflawni drwy fynd i’r afael â rhai o’r melltithion—gadewch i ni eu galw’n hynny—sydd wedi andwyo’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, am yr atyniad sydd angen i’r gwasanaeth iechyd ei gael i gadw pobl yn eu swyddi mewn amgylchedd llawn straen lle mae pobl yn gweithio ar eu gorau, gan dorchi llewys a chyflawni er lles y cyhoedd, ond sy’n teimlo yn y bôn, o flwyddyn i flwyddyn, wythnos ar ôl wythnos, o ddydd i ddydd, fod y pwysau’n mynd yn fwyfwy tebyg i amgylchedd coginio dan bwysedd. Maent naill ai’n troi cefn ar yr amgylchedd hwnnw neu’n gorfod cymryd cyfnodau hir o amser o’r gwaith oherwydd salwch ac nid ydynt yn cael y cymorth a fyddai’n caniatáu iddynt weithredu ar eu gorau. Rwy’n credu bod hwn yn gyfle yn awr, gyda’r etholiad y tu ôl i ni a ninnau yng nghamau cynnar y Llywodraeth hon, i roi sylw i rai o’r problemau anodd iawn hyn nad ydym wedi llwyddo i’w datrys dros lywodraethau olynol. Y peth pwysig yma yw sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle gall pobl gael hyder i ofalu am eu lles yn y tymor hir, i greu gallu i gamu ymlaen yn eu gyrfa, ond yn anad dim, i ymateb i’r galwadau cynyddol y mae’r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu ddydd ar ôl dydd heddiw yma yng Nghymru ac yn wir, ledled y Deyrnas Unedig.
Yn y Cyfarfod Llawn ddoe soniodd Julie Morgan am y ffaith fod cynnydd o rhwng 10,000 a 15,000 o bobl ym mhoblogaeth Caerdydd bob blwyddyn. Mae’n gynnydd enfawr mewn un ardal yn unig—mewn ardal sy’n gallu estyn allan a denu pobl newydd yn ôl pob tebyg. Ond pan estynwch hynny dros weddill Cymru ac yn arbennig, i rai o ardaloedd mwy gwledig Cymru, mae yna broblem wirioneddol gyda chael pobl i deithio i rannau pellaf gorllewin Cymru, er enghraifft. Mae Ysbyty Llwynhelyg, fel y mae fy nghyd-Aelodau, Paul Davies ac Angela Burns, wedi amlygu yma, yn ei chael hi’n anodd llenwi rotas a rhestrau dyletswyddau. Ni all fod yn ddigon da fod gwasanaethau’n cael eu hatal dros dro am ychydig o fisoedd eto am fod y mater hwn wedi codi’i ben eto. Rhaid cael ateb y gellir ei roi ar waith gan y Llywodraeth sydd â mandad i ddarparu GIG sy’n gweithio yma yng Nghymru, gwasanaeth y mae pobl eisiau gweithio ynddo.
Ddoe ddiwethaf yn wir cawsom y ffigurau sydd, yn anffodus, yn dangos bod gostyngiad o 15 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i astudio meddygaeth yma yng Nghymru. Gwelwyd y gostyngiad hwnnw ar draws y Deyrnas Unedig, rwy’n derbyn hynny, ond yma yng Nghymru mae’r gostyngiad yn fwy amlwg na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rhaid bod hynny’n ffynhonnell pryder mawr pan feddyliwch am y mentrau amrywiol a gyflwynwyd i geisio gwneud meddygaeth yn broffesiwn mwy deniadol dros y pump neu 10 mlynedd diwethaf, yn ffordd fwy deniadol o ddod â phobl i mewn i Gymru—nid ydym yn gwneud hynny. Nid ydym yn gweld hynny’n digwydd ar lawr gwlad yn ôl y ffigurau hynny. Ond yn bwysig hefyd, er ei bod yn bwysig meddwl am ddenu staff, mae cadw staff yn rhan wirioneddol bwysig, ‘does bosibl, o’r hyn y dylai gweithlu modern ymwneud ag ef. Rydym yn buddsoddi ac mae’r Llywodraeth yn buddsoddi a’r byrddau iechyd yn buddsoddi swm enfawr o arian i ddatblygu sgiliau a thalentau unigolion mewn amgylchedd hynod gymhleth ac eto, yn aml iawn drwy reoli gwael ac esgeulustod, mae’r unigolion hynny’n troi cefn ar yr yrfa honno, a gyrfa nad ydynt yn aml iawn wedi mynd ymhellach na hanner ffordd drwyddi neu efallai dri chwarter y ffordd drwy’r hyn a allai, o bosibl, gynnig cymaint mwy yn ôl. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’r cyfle i ymateb i’r pwyntiau dilys a roddwyd gerbron, oherwydd mae ganddo fandad newydd. Mae ganddo fandad i’w gyflawni ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi rhyw deimlad i ni sut y bydd yn bwrw ymlaen â chynigion y Llywodraeth newydd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau strwythurol hirdymor hyn sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddarparu gwasanaeth iechyd modern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yma yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon. Mae i’w chroesawu’n fawr. Hefyd, hoffwn ganmol staff y GIG am y gwaith y maent yn ei wneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae problemau gyda recriwtio a chadw staff rheng flaen, clinigwyr yn arbennig, wedi cael llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o lwyth gwaith nag y gall llawer o staff rheng flaen ei reoli. Mae llwyth gwaith na ellir ei reoli wedi effeithio ar forâl staff, wedi arwain at gynnydd mewn salwch sy’n gysylltiedig â straen ac wedi gorfodi llawer o glinigwyr i adael y maes yn gyfan gwbl. Mae hyn i’w weld yn fwyaf amlwg mewn ymarfer cyffredinol. Mae baich achosion rhai meddygon teulu wedi dyblu yn y blynyddoedd diwethaf gyda meddygfeydd yn methu recriwtio meddygon teulu. Nid yw’n gwbl anarferol i feddyg teulu weld 80 o gleifion yn ystod ymgynghoriad bellach. Mae llwythi gwaith na ellir eu rheoli o’r fath wedi arwain at lawer o feddygon teulu yn rhoi’r gorau i ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl, gan waethygu’r broblem. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn datgan bod angen i ni recriwtio 400 o feddygon teulu ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf gan ein bod yn methu llenwi’r lleoedd hyfforddi sydd gennym yn barod.
Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fwy creadigol wrth fynd ati i recriwtio clinigwyr. Mae’n rhaid i ni gymell clinigwyr i hyfforddi a gweithio yng Nghymru. Mae recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg yn bwysig hefyd i ymdopi â chleifion sydd ond yn gallu siarad Cymraeg ac efallai’n dioddef o ddementia, fel y dywedodd Rhun. Yn anad dim, rhaid i ni gymell clinigwyr i aros yng Nghymru. Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae’n amlwg fod yna ddiffyg gwaith ymchwil i ddeall y ffactorau ysgogol ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Nid yw penderfyniadau ar strategaethau recriwtio meddygol yn y dyfodol wedi eu seilio ar dystiolaeth gadarn. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn casglu rhagor o ddata i’n helpu gydag ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol. Ond nid ar staff rheng flaen yn unig sy’n rhaid i ni ganolbwyntio, er mor bwysig ydynt. Y GIG yw cyflogwr mwyaf Cymru gyda thua 72,000 o bobl yn gweithio ynddo. Mae ychydig o dan 6,000 o glinigwyr ysbyty a 2,000 o feddygon teulu yn gweithio yn GIG Cymru. Heb y nifer enfawr o nyrsys, staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, ni allai cleifion gael eu trin. Heb y staff gweinyddol a staff cymorth ni fyddai ein hysbytai a’n practisau meddygon teulu yn gallu gweithredu. Felly, ni allwn recriwtio mwy o glinigwyr heb sicrhau bod digon o staff i drefnu apwyntiadau, cynnal y profion diagnostig, cludo a nyrsio cleifion. Mae angen iddynt sicrhau bod digon o staff ar draws y GIG i ymdopi â’r galw cynyddol ar wasanaethau.
Felly, nid yw cynllunio gweithlu yn y dyfodol yn y GIG wedi—ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu neilltuo ar gyfer cynllunio’r gweithlu neu fel arall byddwn yn cael yr un drafodaeth mewn pum mlynedd arall.
Bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig heddiw, oherwydd mae’n argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu a gallem wynebu argyfwng mewn meysydd clinigol eraill yn fuan.
Rydym hefyd yn gofyn am y posibilrwydd—oherwydd pan fydd pobl yn mynd i gael eu hyfforddi i fod yn feddygon rhaid iddynt gael wyth TGAU A* ac ar hyn o bryd rydym yn gofyn—pan fuom yn siarad â rhai meddygon sydd ar hyn o bryd yn eu pedwardegau neu eu pumdegau, dyweder, mae llawer wedi dweud y byddent yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r graddau hyn. Felly, tybed a ellid rhoi’r pwyslais efallai ar y graddau lefel A yn hytrach na’r wyth A*. Nid yw hyn yn golygu gostwng safonau, dim ond sicrhau nad yw prifysgolion Cymru, wrth geisio denu’r myfyrwyr mwyaf disglair yn y byd, yn rhoi myfyrwyr Cymru o dan anfantais. Mae Caerdydd yn gofyn am wyth A*, ac rydym yn teimlo na ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar ganlyniadau TGAU os oes gan y myfyriwr y lefelau A sy’n ofynnol. Efallai y gallai Caerdydd ailedrych ar y cymhwyster hwn. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet a’i gynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â recriwtio yn y GIG. Diolch.
Diolch i chi, Fadam Lywydd. Iechyd yw cyfraith gyntaf y wlad, felly rydym i gyd am weld y GIG yng Nghymru yn darparu gofal iechyd o safon uchel. I gyflawni hyn, mae arnom angen gweithlu gydag adnoddau da ac sy’n perfformio ar lefel uchel. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod recriwtio a chadw staff rheng flaen wedi dod yn her fawr sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru heddiw.
Rydym i gyd yn gwybod bod staff y GIG yn gweithio’n ddiflino i gwrdd â gofynion gofal iechyd cleifion. Ond mae meddygon mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn adrodd am lwythi gwaith cynyddol na ellir eu rheoli.
Lywydd, ers 2009-10, mae’r galw ar ein hysbytai wedi codi 2.5 y cant—cynhaliwyd 22,000 yn fwy o gyfnodau ymgynghorol yn 2014-15. Canfu arolwg diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain fod 30 y cant o feddygon iau yn dweud bod eu llwyth gwaith yn anghynaliadwy ac nad oedd modd ei reoli. Adlewyrchir y pwysau hwn yn y cynnydd mewn afiechydon cysylltiedig â straen ymhlith staff y GIG. Mae traean o staff y GIG yng Nghymru yn adrodd eu bod wedi dioddef o straen sy’n gysylltiedig â gwaith neu salwch oherwydd straen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Y llynedd, arweiniodd salwch sy’n gysylltiedig â straen a oedd yn cynnwys pryder, iselder a chyflyrau eraill at golli 13,400 o ddiwrnodau gan staff y gwasanaeth ambiwlans yn unig.
Mae recriwtio staff i leddfu’r pwysau hwn wedi bod yn broblem. Mae byrddau iechyd yn wynebu anhawster wrth lenwi’r swyddi gwag hyn. Mae ychydig o dan 17 y cant o’r holl swyddi meddygon iau heb eu llenwi yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i brinder o 3,000—mae’n ddrwg gennyf, mae prinder o 331 o feddygon mewn gwirionedd ar hyn o bryd yng Nghymru. Ym mis Medi y llynedd, roedd 1,240 o swyddi heb eu llenwi yng Nghymru. Roedd y nifer uchaf o swyddi gwag yn fy ardal fy hun, bwrdd iechyd Aneurin Bevan—roedd 260 o swyddi’n wag. Mae’r methiant hwn i recriwtio wedi arwain at ganlyniadau ariannol difrifol: gwariwyd mwy na £60 miliwn ar staff nyrsio asiantaeth yn y pum mlynedd diwethaf. Er ei bod yn hanfodol llenwi bylchau yn y ddarpariaeth nyrsio, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, ac mae angen newid strategaethau.
Ceir tystiolaeth fod problem prinder staff yn debygol o dyfu. Mae’r BMA yn adrodd bod nifer cynyddol o feddygon yn cynllunio ar gyfer ymddeol yn gynnar neu wedi ystyried gwneud hynny. Mae gweithlu sy’n heneiddio, ynghyd ag anhawster i recriwtio hyfforddeion yn dangos yr angen i fynd i’r afael â’r heriau hyn ar frys. Mae angen i ni hyfforddi mwy o feddygon newydd mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Yn ôl y BMA, mae nifer cyffredinol y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru yn parhau’n ddisymud. Mae meddygon teulu a nyrsys practis yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Rhaid i recriwtio a chadw’r staff hyn fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio’r gweithlu yn y dyfodol. Rhaid defnyddio gweithio agosach yn drawsffiniol a chymhellion effeithiol i lenwi bylchau daearyddol ac arbenigol yn ein gwasanaeth iechyd.
Mae’n rhaid i ni ddarparu’r sgiliau i fabwysiadu’r anghenion gofal iechyd modern rydym eu heisiau yng Nghymru. Mae modelau gofal traddodiadol yn dod yn gynyddol anaddas ar gyfer anghenion gofal iechyd heddiw. Mae darparu gofal iechyd yn fyd sy’n newid yn gyflym. Mae addysg ac ymchwil yn ysgogi arloesedd. Rhaid i ni sicrhau bod sgiliau’r gweithlu presennol yn cael eu diweddaru’n barhaus i gyflawni newid gwirioneddol. Mae’n rhaid i ni symud y pwyslais yn y gyllideb hyfforddiant ac addysg i ariannu datblygiad proffesiynol parhaus yng Nghymru, a rhaid i ni ei fonitro.
Mae arnom angen mentrau iechyd y cyhoedd effeithiol hefyd i leddfu’r baich ar gyllid y GIG a rhyddhau arian ar gyfer gwasanaethau craidd rheng flaen. Lywydd, rwy’n adnabod dau feddyg. Roedd cefndir eu rhieni Pacistanaidd yn dlawd. Roedd un yn fasnachwr marchnad, ac un arall, a fu farw, hefyd yn gwerthu dillad o ddrws i ddrws. Mae’r ddau yn feddygon ifanc. Rwy’n eu cyfarfod bob wythnos bron. Dywedodd un, ‘Wncwl, rwy’n gweithio mewn ysbyty, ond credwch fi, mae fy mywyd teuluol ar chwâl’, oherwydd ei fod yn rhy flinedig i fynd adref ac edrych ar ôl ei deulu. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu trafod am broblemau’r meddygon hyn hefyd nad ydynt wedi cael eu hystyried yn y Siambr hon eto.
Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth glir, mynd i’r afael â phroblem recriwtio a chadw staff y GIG—yr holl staff, o ofalwyr i feddygon ymgynghorol. Mae hyn yn hanfodol os ydym am greu GIG gydag adnoddau da ac sy’n perfformio ar lefel uchel y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu yma. Diolch.
Mae llawer o siaradwyr heddiw wedi siarad am y gwaith rhyfeddol a wneir gan weithwyr iechyd yng Nghymru, a phwy sydd heb glywed am sensitifrwydd eithafol rhai o’n nyrsys gofal lliniarol tuag at bobl ar ddiwedd eu hoes? Pwy sydd heb glywed y straeon anhygoel am lawfeddygon yn achub bywyd plentyn sy’n marw gan drawsnewid ac adfer ystyr i fywydau’r rhieni hynny? Pwy sydd heb ryfeddu at allu meddygon teulu i weld claf bob 10 munud heb ymlâdd yn llwyr, ac rwy’n gwybod, gan fy mod yn byw gydag un?
Nid wyf yn siŵr o ble cafodd Caroline Jones ei ffigyrau o ran y 10 A*. Roeddwn yn mynd i orfod mynd yn ôl a rhoi trefn ar fy mab, am ein bod cymaint o angen meddygon teulu, rwy’n meddwl bod angen i ni i gyd i wneud cyfraniad yma. Nid yw byth yn mynd i gael 10 A yn ôl y ffordd y mae’n mynd yn awr. Ond yn ffodus, rydych angen B mewn mathemateg, B mewn Saesneg a thair A a B mewn gwyddoniaeth, felly efallai y byddwn yn lwcus.
Ond y peth allweddol sy’n rhaid i ni ei ddeall, rwy’n meddwl, fel y nododd Hannah, yw bod angen i ni gofio am fwy na’r bobl sy’n gweithio yn y rheng flaen. Mae’n rhaid i ni gofio’r bobl, yr arwyr di-glod, sydd yr un mor bwysig—y glanhawyr sy’n gwneud yn siŵr nad oes gennym C. difficile ac aethom i’r afael â phroblem MRSA yn ein hysbytai.
Rydym yn gwybod bod bron bob un o weithwyr y GIG o dan bwysau eithafol, ac mae hynny’n rhannol am fod gennym yn awr boblogaeth sy’n heneiddio. Mae ein GIG hefyd o dan bwysau eithafol gan fod yn rhaid i ni ariannu’r datblygiadau technolegol newydd drud a’r meddyginiaethau newydd hyn y mae cleifion yn galw amdanynt. Mae Angela Burns yn llygad ei le yn nodi bod disgwyliadau cleifion heddiw yn anodd iawn eu bodloni.
Ar gyfartaledd, mae’n ffaith ein bod yn gwario llai o ran canran yn y wlad hon ar iechyd na Phortiwgal, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Wrth gwrs, er bod lle i wella effeithlonrwydd, rwy’n credu y daw adeg pan fydd yn rhaid i ni gael trafodaeth onest â’r cyhoedd—y bydd yn rhaid iddynt ddeall, os ydynt eisiau mwy, fod yn rhaid iddynt dalu mwy, neu bydd yn rhaid i ni dorri’n ôl ar wasanaethau eraill er mwyn talu am y cymorth hwnnw. Mae’n ymddangos ein bod ni i gyd yn arswydo rhag cael y ddadl onest honno gyda’r cyhoedd, ac ar ryw adeg, bydd yn rhaid i ni wneud hynny.
Mae’r GIG yng Nghymru yn ymdopi’n rhyfeddol o dda o dan yr amgylchiadau. Mae gennym boblogaeth hŷn a salach, ac eto nid yw ein GIG yn waeth nag unrhyw ran arall o’r DU yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, rydym yn debygol o weld anghenion gofal mwy cymhleth yn datblygu—gofal nad yw o reidrwydd yn galw am aros yn yr ysbyty, ond sy’n mynd i fod angen nyrsio helaeth. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhagweld cynnydd o 44 y cant yn nifer y bobl dros 65 oed yn ystod y 25 mlynedd nesaf. Cynnydd o 44 y cant. Os meddyliwch am bobl dros 80 oed, erbyn 2040, bydd gennym dros 30,000 o bobl dros 80 oed yn byw yng Nghymru. Dyna Lanelli’n gyfan—pob person yn Llanelli dros 80 oed. A ydym yn barod am hynny? A ydym wedi paratoi ar gyfer hynny? Nac ydym wir. Nid oes gennym y math o gynllun neu strategaeth fydd ei angen. Mae angen i ni feddwl am hynny, ac mae angen i ni ddeall nad yw’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ymwneud yn unig ag iechyd, mae’n ymwneud â’n gwasanaethau gofal—y gwasanaeth sinderela rydym bob amser yn anghofio amdano. Mae’n bwysig ein bod yn deall ei fod yn cael ei ariannu mewn ffordd wahanol a bod angen i ni ddeall y berthynas. Mae’r Llywodraeth wedi deall y berthynas honno. Mae gennym y cynllun gofal canolraddol. Mae’n dechrau magu gwraidd. Bydd angen mwy o hynny arnom, yn bendant. Os ydym am osgoi trin cleifion ar drolïau yn ysbytai’r dyfodol, mae angen i ni wybod y gallwn ryddhau pobl yn ôl i’w cartrefi a’u cymunedau.
Rwy’n credu bod yn rhaid i ni newid y gwasanaeth sinderela hwnnw. Mae’n rhaid i ni newid ein hagweddau, mae’n rhaid i ni werthfawrogi’r gwasanaeth hanfodol hwn rydym oll yn mynd i fod ei angen mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac mae’n rhaid i ni gael trafodaeth ddifrifol ynglŷn â sut ar y ddaear rydym yn mynd i dalu amdano. Nid yw gweithwyr gofal yn cael eu talu’n dda, nid oes ganddynt lawer o gymwysterau ac mae angen mwy o gefnogaeth arnynt. Mae angen i ni gynllunio sut i gymell pobl i’w denu at y gwasanaeth pwysig hwn, ac mae angen i ni gadw pobl yn y sector i ateb galwadau’r dyfodol.
Rwy’n credu ei bod yn werth gofyn hefyd sut y gallwn edrych ar wahanol fodelau. Os edrychwch ar fodel Gofal Solfach, sy’n fodel diddorol iawn, mae gennym wirfoddolwyr o’r gymuned yn gwneud rhywfaint o’r gwaith gofal nad yw’n galw am hyfforddiant nyrsio, wrth gwrs, ond gall hynny leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein gwasanaethau gofal yn ogystal. Hyd nes y byddwn yn mynd i’r afael â mater gwasanaethau gofal byddwn yn gweld mwy o oedi wrth drosglwyddo gofal, byddwn yn gweld cynnydd mewn derbyniadau brys, gan roi pwysau pellach ar weithlu’r GIG. Ar ryw adeg, bydd angen i ni gael dadl onest gyda’r cyhoedd ynglŷn â’r ffordd rydym yn ariannu hyn.
Mae’n hollol amlwg gan bawb yn y Siambr sydd wedi siarad heddiw bod angen strategaeth, a hynny ar frys, i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Nghymru. Rwyf i’n mynd i ddadlau bod y strategaeth yma yn gorfod bod yn un sydd yn digwydd ar draws Cymru. Mae gennym ni ddwy ysgol feddygol—un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe—ond nid oes gennym unrhyw beth o gwbl yn y gogledd nac yn y canolbarth. Os ydym yn mynd i ddechrau llenwi’r bylchau ar gyfer doctoriaid a meddygon teulu yn y gogledd, mae’n rhaid inni gynnig yr hyfforddiant yn y gogledd. Fel yr ydym wedi ei glywed droeon, mae myfyrwyr yn aros i fod yn feddygon yn yr ardal lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Os nad ydym yn eu hyfforddi yn y gogledd, nid oes gobaith, nag oes? Mae’n mynd yn anodd iawn, felly, i gadw pobl yn yr ardal achos nid oes gennych chi ddim byd yno yn y lle cyntaf. Mae adroddiad gan yr Athro Longley o Brifysgol De Cymru yn dangos bod 95 y cant o ddoctoriaid sydd yn cael eu hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru, sydd yn wych. Ond beth yr ydym ei eisiau yw bod mwy o ddoctoriaid yn aros yng Nghymru, ac yn sicr mae angen mwy yn aros ac yn symud i’r gogledd neu bydd y broblem jest yn mynd i fynd yn argyfwng gwaeth nag ydy o ar hyn o bryd.
Rwy’n falch iawn o glywed bod yna fomentwm y tu ôl i’r syniad o ysgol feddygol ar gyfer Bangor. Rwy’n falch iawn bod yna achos busnes yn cael ei lunio o’r diwedd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld. O ran y bobl yr wyf i wedi siarad â hwy—Prifysgol Bangor, bwrdd iechyd y gogledd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y gymdeithas feddygol—mae pawb o blaid yr egwyddor yma. Felly, mae o’n gwneud synnwyr llwyr i symud ymlaen ag o. Mae nifer o resymau penodol pam bod angen meddwl am hyn o ddifri rŵan. Mae’r brifysgol ym Mangor a’r bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth yn barod. Mae Prifysgol Bangor yn barod yn cynnig amrediad eang o addysg iechyd meddygol a gofal cymdeithasol. Cam naturiol, felly, ydy atgyfnerthu safle Bangor fel canolfan ymchwil ac addysgol sydd o bwys rhyngwladol. Mi fyddai’r bwrdd iechyd a’r brifysgol yn elwa fel endidau. Byddai’n cryfhau’r ddau gorff, gan ddenu a chadw’r myfyrwyr gorau a’r staff academaidd a meddygol gorau. Yn ei dro, byddai hynny’n atgyfnerthu’r economi leol, efo dau sefydliad yn gyflogwyr lleol mawr.
Mi fedrid sefydlu canolfan i ddysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Dyma yw’r lle naturiol i hynny ddigwydd, o gofio cryfder yr iaith yn yr ardal. Bydd hynny, yn ei dro, yn cynyddu’r cyflenwad o ddoctoriaid dwyieithog sydd eu hangen yn y gymdeithas. I gyflawni strategaethau eich Llywodraeth chi, er enghraifft, y strategaeth ‘Mwy na geiriau…’, mae angen y doctoriaid dwyieithog, ac nid oes digon ohonynt ar hyn o bryd. Byddai ysgol feddygol â phwyslais ar feddygaeth wledig yn unigryw, nid yn unig yng Nghymru. Byddai’n gallu cynnig atebion arloesol a denu myfyrwyr ar draws y byd sydd â diddordeb mewn cynnig gofal i boblogaeth sy’n heneiddio mewn cyd-destun gwledig mewn rhannau eraill o’r byd hefyd. Mwy na dim, byddai ysgol feddygol yn y gogledd yn gwella’r gwasanaeth y mae pobl y gogledd yn ei gael—nid oes dwywaith am hynny. Mae’r gogledd yn teimlo ei bod yn cael ei hanghofio. Byddwch yn ymwybodol o hynny. Mae yna deimlad ei bod yn cael ei gadael ar ôl. Dyma gyfle gwirioneddol rŵan i Lywodraeth Cymru ddangos cefnogaeth i’r gogledd ac i’r ardaloedd gwledig. Beth am fod yn uchelgeisiol? Beth am symud ymlaen a hyn? A pwy â ŵyr, yn ei dro, mi fyddai ysgol feddygol yn sbarduno hyfforddiant arall yn y gogledd—deintyddion, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, ac yn y blaen. Felly, mae’r achos yn reit glir. Mae cyfres newydd ddechrau ar S4C o’r enw ‘Doctoriaid Yfory’. Roeddwn yn ei gwylio neithiwr. Mae cymaint o dalent yma. Mae angen rŵan cynnig cyfleoedd i fwy o bobl ifanc, fel y rhai yr ydym yn eu gweld yn y rhaglen yna, gael eu hyfforddi yma yng Nghymru ac yn y gogledd yn benodol. Pen draw hynny yw gwella y gwasanaeth iechyd i bawb.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl heddiw, a’r cyfle y mae’n ei gynnig i nodi’r gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud yn y maes hwn gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru. Mae yna heriau wrth gwrs o ran recriwtio a chadw staff yng Nghymru, ar draws teulu’r GIG yn y DU a thu hwnt yn y rhan fwyaf o systemau gofal iechyd gorllewinol. Gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig a’r gwelliant heddiw. Rydym eisoes wedi cael rhai llwyddiannau yma yng Nghymru, a dylem gydnabod hynny. Ond nid cyfle i’r Llywodraeth fod yn hunanfodlon yw hwn. Fel y dywedais, rydym yn cydnabod bod heriau, ac rydym yn y broses o weithredu.
Mae’n deg dweud bod ein cyfraddau cadw a recriwtio yng Nghymru wedi aros yn gyson, gyda llai o staff yn gadael, er enghraifft, o gymharu â Lloegr. Fodd bynnag, mae yna anawsterau gwirioneddol mewn rhai meysydd. Rydym yn gwybod am rolau penodol y mae galw mawr amdanynt a lle mae trosiant staff yn gymharol uchel.
A rhan o’r her i ni yw’r ffordd rydym yn siarad am y GIG yng Nghymru. Gwyddom ei fod yn cael effaith wirioneddol ar forâl a recriwtio, ac nid yw rhannau o’r feirniadaeth a glywir yn rheolaidd yn deg nac yn gywir yn wrthrychol. Disgrifiwyd hyn wrthyf yn rheolaidd gan barafeddygon, er enghraifft, yn ystod y cyfnod olaf o flwyddyn neu ddwy. Er enghraifft, soniodd Ceri Phillips amdano yr wythnos hon wrth sôn am y gallu i annog pobl i ystyried gyrfaoedd mewn meddygaeth a phroffesiynau cysylltiedig. Ond mewn gwirionedd rwy’n cael fy nghalonogi gan y modd—y modd adeiladol—yr agorodd y ddadl a chyfraniad yr Aelodau o gwmpas y Siambr. Gall y ffordd rydym yn siarad yn adeiladol am y gwasanaeth wneud gwahaniaeth i gael trafodaeth ymchwilgar go iawn am y gwasanaeth iechyd, ond ei wneud yn y fath fodd fel nad ydym yn gwneud galwadau sy’n tynnu sylw’r penawdau ac na ellir eu cefnogi.
Rwy’n cydnabod bod cadw staff yn faes ffocws allweddol, ac mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill ar hyn o bryd, gyda byrddau iechyd yn ystyried yr agwedd ehangach o ymgysylltu â staff, megis arfarnu a datblygu, fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae arolwg staff y GIG eisoes ar y gweill, gyda chefnogaeth undebau llafur, er mwyn ein helpu i ddeall y materion sy’n wynebu ein staff, a bydd ei ganlyniadau yn bwydo i mewn i’r newidiadau rydym am eu gwneud i helpu i gadw staff. Wrth gwrs, lle mae trosiant a swyddi gwag yn bodoli, mae angen i ni recriwtio yn rheolaidd, ac mae byrddau iechyd eisoes yn gweithredu ystod o fesurau i geisio llenwi’r swyddi gwag hynny. Maent yn cynnwys ymgyrchoedd recriwtio Ewropeaidd a rhyngwladol, dyrchafiad ac ymestyn cynlluniau dychwelyd i weithio, gweithgaredd marchnata a recriwtio lleol, i enwi ond ychydig.
Er bod y drafodaeth heddiw wedi canolbwyntio ar heriau recriwtio a chadw staff, mae’n ffaith bellach fod yna fwy o staff rheng flaen yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Mae niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu fwy na 2,200 yn y flwyddyn ddiwethaf. Dyna gynnydd o 3.1 y cant, a dwbl y cynnydd yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n ffaith fod nifer y meddygon ymgynghorol, meddygon eraill, nyrsys a bydwragedd wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed. Mae hynny’n golygu bod gweithlu’r GIG yng Nghymru yn parhau i dyfu yn wyneb caledi parhaus, ac eto, er gwaethaf y niferoedd uwch nag erioed o staff, gwyddom ein bod yn dal i wynebu marchnad recriwtio heriol, a dyna pam y mae’r Llywodraeth eisoes yn rhoi camau ar waith i gynorthwyo byrddau iechyd i recriwtio a hyfforddi meddygon ychwanegol. Rydym yn adeiladu ar ymgyrch y llynedd drwy lansio ymgyrch fawr yn genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru fel lle gwych i feddygon hyfforddi, gweithio a byw. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ym mis Hydref ac mae wedi cael ei datblygu i gefnogi byrddau iechyd a gweithgaredd ymddiriedaethau yn gyson, dan faner GIG Cymru. Bydd ei ffocws cychwynnol ar feddygon, ond bydd wedyn yn ymestyn i ystyried gweithlu ehangach y GIG, ac rwy’n falch o glywed amryw o siaradwyr yn y Siambr heddiw yn crybwyll y ffaith nad meddygon yn unig yw’r GIG, na nyrsys yn unig, ond ystod eang o wahanol grwpiau proffesiynol a grwpiau cefnogi. Byddaf yn gwneud datganiad llawnach ar yr ymgyrch honno yn y Siambr yr wythnos nesaf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Gwnaf, ychydig o eiliadau.
A yw’r ymgyrch honno wedi cael ei thrafod a’i phrofi gyda’r proffesiynau, megis y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain, er mwyn gweld a allai’r mewnbwn y gallent ei roi yn y cyfnod cynnar hwn fod yn fuddiol wrth gyflwyno’r ymgyrch honno? Felly, a yw’r drafodaeth honno wedi digwydd?
Rwy’n falch iawn o ddweud bod y drafodaeth honno yn digwydd. Yn y grŵp gorchwyl gweinidogol a sefydlais—fe’i cadeiriais ychydig wythnosau yn ôl—mae’n rhan o’n trafodaeth barhaus ac ymgysylltiol. Yn wir, yn ystod misoedd cynnar fy amser yn y swydd hon, rwyf wedi cyfarfod â’r rhanddeiliaid hynny, ac maent yn parhau i weithio gyda’r Llywodraeth ar gynllunio a chyflwyno ein hymgyrch. Rwy’n gadarnhaol mewn gwirionedd ynglŷn â’r ffordd adeiladol a chadarnhaol yn gyffredinol y maent yn ymgysylltu â ni, ac maent yn gefnogol i’r cyfeiriad rydym yn anelu tuag ato.
Rwyf wedi dweud o’r blaen yn y Siambr hon ein bod wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer gweithlu’r GIG. Dylai fod yn weledigaeth glir, gyda meysydd gwaith â blaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth, ar gyfer GIG Cymru, ac ar gyfer ein partneriaid, i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Rhaid i’r cynllun ystyried yr ystod lawn o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y GIG a bod yn seiliedig ar fodelau newydd o ofal, ac nid llenwi bylchau mewn gwasanaethau presennol—unwaith eto, mae hyn wedi cael ei grybwyll yng nghyfraniadau’r Aelodau eraill, yn cynnwys Angela Burns wrth agor—am ein bod yn gwybod bod angen i ni newid y ffordd rydym yn darparu iechyd a gofal er mwyn parhau i gyrraedd y lefelau cynyddol o gymhlethdod a galw sy’n ein hwynebu. Ni fydd ceisio cynyddu capasiti yn unig yn ddigon i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal sydd eu hangen arnom.
Yn ystod toriad yr haf, cyfarfûm ar y cyd â deoniaid y ddwy ysgol feddygol yng Nghymru, ac roeddent yn nodi pwysigrwydd adolygu’r gweithgareddau sydd eisoes ar waith i annog myfyrwyr Cymru i anelu at yrfa mewn meddygaeth ac i’w hannog i ystyried dechrau eu haddysg ar gyfer yr yrfa honno yma yng Nghymru. Rydym wedi ceisio nodi rhwystrau a allai fodoli neu a allai roi ymgeiswyr o Gymru dan anfantais.
Gan droi at yr ymddiriedolaeth ambiwlans a grybwyllwyd yn y cynnig, mewn gwirionedd mae absenoldeb oherwydd salwch yn y gwasanaeth ambiwlans wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, ond rydym yn cydnabod ei fod yn rhy uchel o hyd. Mae undebau llafur staff wedi sôn wrthyf am gefnogaeth i staff, yn fy nhrafodaethau gyda hwy, yn yr amgylchedd llawn straen y maent eisoes yn gweithio ynddo. Rwy’n falch o ddweud bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn buddsoddi’n sylweddol yn eu gwasanaethau iechyd a lles eu hunain. Mae hynny’n cynnwys rhaglen gymorth i weithwyr newydd gyda mynediad uniongyrchol 24/7 at wasanaethau cwnsela a phecynnau cwnsela wedi’u teilwra’n llawn.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru yn sefydliad sy’n gwella, er nad yw’n berffaith yn sicr, nid yn unig o ran amseroedd ymateb, ond ym myd cystadleuol iawn recriwtio parafeddygon. Mae staff bellach yn bendant yn dod i Gymru i ddilyn gyrfa mewn parafeddygaeth, ac rydym yn disgwyl gweld cyfrifiad llawn neu’n agos at hynny eleni. O ystyried y sefyllfa roedd yr ymddiriedolaeth ambiwlans ynddi 18 mis yn ôl hyd yn oed, mae’n welliant rhyfeddol ac yn stori lwyddiant go iawn y gobeithiaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn ei chydnabod ac yn ei chroesawu.
Ein gweledigaeth yw cael gwasanaeth iechyd gwladol tosturiol o ansawdd uchel yma yng Nghymru gyda chanlyniadau sy’n gwella gyda’n dinasyddion ac ar eu cyfer. Ni ellir gwadu, wrth gwrs, fod recriwtio a chadw staff yn heriau sylweddol i’w goresgyn er mwyn gwireddu’r weledigaeth honno yma yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithredu gyda phartneriaid i recriwtio’r staff sydd eu hangen arnom i ddarparu a gwella ar y gofal tosturiol o ansawdd rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn ei ddarparu gyda chymunedau, ac ar eu cyfer ledled Cymru fel profiad rheolaidd rydym eisoes yn ei gael.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy nghalonogi’n fawr o glywed ymateb y Gweinidog i’r cynnig rydym wedi ei gyflwyno heddiw. Rwy’n credu ei bod yn dda fod Llywodraeth Cymru o leiaf yn cydnabod yn awr fod cynlluniau’r gweithlu yn y gorffennol, a’r ffordd yr aethpwyd ati i gynllunio’r gweithlu, wedi bod yn annigonol a bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r rhanddeiliaid ar lawr gwlad sy’n barod i ymgysylltu ac sy’n awyddus i gyfrannu at wneud Cymru yn rhywle y bydd clinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n awyddus i weithio ym maes iechyd eisiau dod iddo, a gweithio yn ein GIG yma.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn falch hefyd fod y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, wedi cydnabod pwysigrwydd gwerthu Cymru i’r teulu ehangach ac nid i’r clinigwyr eu hunain yn unig, fel rhan o’r ymarfer recriwtio rhyngwladol y mae Llywodraeth Cymru ar fin ei lansio. Felly, dechrau calonogol iawn yn wir, ac rwy’n gobeithio y gwneir rhagor o waith i sicrhau y gall pawb weithio gyda’i gilydd er mwyn cyflawni’r hyn rydym i gyd yn gwybod bod ei angen arnom, sef gweithlu sy’n addas ar gyfer y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain fel y mae pawb ohonom ei eisiau.
Roeddwn yn falch o glywed y gydnabyddiaeth hefyd nad cynyddu capasiti’r gweithlu presennol yn unig sydd angen i ni ei wneud, ond bod angen i ni hefyd ddelio â’r galwadau—galwadau afrealistig weithiau—ar y gweithlu a’r GIG gan gleifion. Mae’n rhaid i mi ddweud ein bod wedi bod yn frwd ein cefnogaeth i agenda gofal iechyd darbodus Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny, a gobeithiaf yn fawr—ac mae’n sicr yn swnio felly—fod Llywodraeth Cymru yn dechrau cytuno â ni o ran cleifion yn derbyn mwy o gyfrifoldeb eu hunain am y ffordd y maent yn defnyddio’r GIG ac adnoddau’r GIG. Roeddwn yn falch o glywed nifer o siaradwyr yn ystod y ddadl yn cyfeirio at bwysigrwydd iechyd y cyhoedd ac yn wir, y system gofal cymdeithasol a’r ffordd y gall honno hefyd helpu i atal galw diangen rhag cael ei wthio dros garreg drws y gwasanaeth iechyd gwladol.
Ni wnaeth y Gweinidog ymateb yn y ddadl hon i’r gwelliant a gyflwynwyd yn benodol gan Blaid Cymru. Gwn ei fod wedi dweud y byddai’n ei gefnogi. Ond ni wnaeth ymateb i’r angen i sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Er fy mod yn gwybod bod yna rywfaint o waith sy’n mynd rhagddo, gawn ni ddweud, yn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu ysgol feddygol i fyny yno, rwy’n credu ei bod yn hynod o bwysig ein bod yn sicrhau bod cylchdroadau hyfforddiant yn digwydd yng ngogledd Cymru a fydd yn denu pobl i weithio yn yr ardal honno yn y dyfodol. Tybed, Weinidog—mae ychydig o amser ar ôl—a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw waith sy’n cael ei wneud i ddatblygu cylchdroadau hyfforddiant rhwng gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru hefyd, sydd yn draddodiadol wedi ein helpu i sicrhau bod cyflenwad digonol o feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol meddygol eraill yn yr ardal honno.
A allwch ddarparu rhyw fath o ddiweddariad? Os na allwch, rwy’n sylweddoli nad oes amser ar ôl. Efallai y gallai ysgrifennu at yr Aelodau i roi rhywfaint o hyder i ni fod hynny’n mynd i ddigwydd mewn gwirionedd, o ystyried ymrwymiadau’r Gweinidog blaenorol yn y gorffennol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, fe dderbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies a gwelliant 2 yn enw Simon Thomas. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn methu.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol. Galwaf ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6087 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.
2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wrth i ni nesáu at ddiwedd diwrnod caled arall yn y felin eiriau, gellir maddau i’r Aelodau am feddwl, wrth i ni gael dadl arall am adael yr UE, fod y pwnc yn ddihysbydd, ond nad ydym ni. Ond rwy’n codi i gynnig ein cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth; yn croesawu’r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru; ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau mwyaf sy’n bosibl i Gymru.
Efallai fod y drafodaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ers misoedd lawer, wedi taflu mwy o wres nag o oleuni. Ymhlith y rhai a oedd yn erbyn i Brydain adael yr UE, mae byd wedi cael ei gonsurio—rywbeth yn debyg i baentiad gan Hieronymus Bosch—o gythreuliaid a diafoliaid ac yn llawn ofn. Rwy’n gobeithio ein bod bellach wedi symud y tu hwnt i hynny. Yn sicr cefais fy nghalonogi gan eiriau’r Prif Weinidog ddoe mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, lle’r oedd yn amlwg ei fod yn awr wedi dechrau meddwl yn gadarnhaol iawn am y dyfodol i Gymru, a chymeradwyais yr hyn a ddywedodd am gytundeb masnach rydd fel y ffordd ymlaen.
Gwnaeth yr araith a glywsom y prynhawn yma gan Adam Price argraff fawr arnaf hefyd. Rwy’n credu ei fod yn berson eangfrydig a chadarnhaol iawn, ac rwy’n meddwl ei fod wedi cyflwyno nifer o syniadau defnyddiol iawn—mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag arweinydd ei blaid, yn anffodus, sy’n dal i geisio ailgynnal y refferendwm ar y ddadl ar fewnfudo, er gwaethaf y ffaith fod ei hetholaeth ei hun, y Rhondda, wedi pleidleisio hyd yn oed yn fwy niferus dros adael yr Undeb Ewropeaidd na gweddill Cymru.
Mae’r dyfodol yn ddisglair i Gymru, yn fy marn i, yn sgil y cyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu rhoi i ni. Nid yw’n wir dweud y byddai popeth yn sefydlog pe baem wedi aros yn rhan o’r UE, rywsut neu’i gilydd, ac na fyddai gennym broblemau. Wrth gwrs, mae byd busnes yn newid yn gyson. Mae unrhyw un sydd wedi rhedeg busnes erioed, yn enwedig busnes masnachu, yn gwybod bod y byd yn llawn o ansicrwydd: y ffordd rydych yn manteisio arno yw’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant. Mae’n bwysig i ni, wrth gwrs, ein bod yn cael mynediad di-dariff i’r farchnad sengl, ond nid yw’n rhywbeth y dylem fod yn barod i dalu unrhyw bris i’w gael. Mae yna faterion polisi cyhoeddus pwysig eraill sy’n rhaid eu hystyried hefyd.
Mae’n wir ein bod yn allforio 5 y cant, efallai, o gynnyrch mewnwladol crynswth Prydain i’r UE. Yn amlwg, mae hynny’n bwysig, ond mae’n rhaid i ni gofio, mai ochr arall y ddadl yw nad yw 95 y cant o’n heconomi yn ymwneud ag allforio i’r UE. Felly, dylem gadw’r cwestiynau hyn mewn persbectif. A hyd yn oed o’r rhan honno o’n masnach sy’n allforio i’r UE, byddai 65 y cant ohono’n ddarostyngedig i dariff o lai na 4 y cant pe na baem yn cael cytundeb o gwbl o ganlyniad i adael yr UE gyda’n partneriaid ar draws y sianel. Felly, dim ond 35 y cant o’n hallforion sy’n wirioneddol berthnasol yn y trafodaethau masnach hyn.
Y mwyaf pwysig, wrth gwrs, yw’r diwydiant modurol. Ond yno eto, cyfleoedd sydd gennym yn hytrach na heriau yn fy marn i: rydym yn allforio gwerth £8.5 biliwn o geir i’r UE, ond maent yn allforio gwerth £23 biliwn o geir i ni—h.y. rydym yn mewnforio gwerth hynny o geir ganddynt hwy. Felly, maent yn gwerthu tair gwaith cymaint i ni â’r hyn rydym yn ei werthu iddynt hwy. O’r £23 biliwn rydym yn ei brynu gan weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd, daw £20 biliwn o’r Almaen yn unig. Felly, mae’r Almaen yn mynd i chwarae rhan enfawr yn y penderfyniadau sydd i’w gwneud ar y berthynas fasnachu yn y dyfodol rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymddangos yn gwbl ryfedd i mi i ddychmygu bod gwneuthurwyr ceir yr Almaen am un eiliad yn mynd i oddef tariffau ar fasnach rhyngom oherwydd byddai’r Almaen lawer iawn yn fwy ar eu colled. Hyd yn oed o ran punnoedd y pen neu ewros y pen, y sefyllfa yw mai’r Almaen yw’r enillydd o gymharu â Phrydain.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Diolch i’r Aelod am ildio. A yw’n cydnabod na fydd y Deyrnas Unedig yn trafod gyda’r Almaen yn y trafodaethau masnach? Bydd yn trafod gyda’r Undeb Ewropeaidd cyfan, ac felly efallai ei fod yn cymryd llawer gormod yn ganiataol yn ei agwedd tuag at yr Almaenwyr yn gyffredinol.
Wel, mae’n wir mai’r Comisiwn Ewropeaidd fydd y corff sy’n trafod telerau, ond bydd unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am yr UE yn gwybod pwy sy’n dal yr awennau o’i fewn. Bûm yn aelod o Gyngor Gweinidogion Ewrop, er bod peth amser ers hynny, ond os credwch mai ychydig o ddylanwad fydd gan yr Almaen yn y penderfyniadau hyn, rwy’n ofni nad ydych yn byw yn yr un byd â’r gweddill ohonom.
Unwaith eto, mae amaethyddiaeth yn bwysig i ni, nid yn lleiaf yn fy rhanbarth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond hyd yn oed ar fwyd a diod, mae gennym ddiffyg o £17 biliwn y flwyddyn gyda’r UE. Mae cynnal y fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl rhwng ein dau gorff—Prydain a’r hyn sy’n weddill o’r UE—yn aruthrol er eu lles. Mae bod allan o’r UE yn rhoi cyfle i ni wneud newidiadau i’r gyfraith sy’n effeithio ar ein diwydiannau, ac ni allwn ei wneud o’i fewn am yr union reswm y cyfeiriodd Steffan Lewis ato eiliad yn ôl, sef bod yn rhaid i chi gael cytundeb 27 neu 28 o wledydd eraill er mwyn pasio deddfwriaeth yr UE. Felly, o ran y diwydiant dur, fel y gwyddom, cawn gyfle i wneud gostyngiadau sylweddol ym mhrisiau ynni, os ydym am wneud y penderfyniadau hynny, ac ni allwn eu gwneud ar hyn o bryd, neu ni allwn ond ei wneud yn amherffaith ar hyn o bryd. Mae prisiau ynni yn 6 y cant o gostau’r diwydiant dur yn gyffredinol, felly, os gallwn haneru ein prisiau ynni, hyd yn oed i’r hyn y maent yn ei godi yn yr Almaen, byddai hynny’n fudd mawr i ddiwydiant dur Prydain, ac nid i’r diwydiant dur ym Mhort Talbot yn unig, ond Shotton hefyd.
Felly, nid wyf yn deall sut y gallwn gael plaid genedlaetholaidd gyferbyn nad yw’n dymuno i’w deddfau gael eu llunio yng Nghaerdydd ac sy’n hapus, nid yn unig iddynt gael eu gwneud yn San Steffan, ond hyd yn oed ymhellach i ffwrdd ym Mrwsel. Mae hyn yn ymddangos i mi fel cyfle enfawr i Gymru, nid yn unig i’r DU, i ddatganoli llawer o faterion i Gaerdydd yn hytrach nag i San Steffan. Felly, nid oes gennyf unrhyw ofnau ynglŷn â gallu Cymru yn y dyfodol i gystadlu yn y byd yn gyffredinol. Mae James Dyson, un o’n hentrepreneuriaid mawr, ac allforiwr enfawr, yn nodi bod gennym ddiffyg o £100 biliwn y flwyddyn gyda’r UE yn ein masnach a hyd yn oed pe bai tollau mewnforio yn cael eu gosod arnom, yna, o’i gymharu â phendiliadau arian cyfred, mae hynny’n ymylol. Felly, mae’r byd o ansicrwydd y mae busnesau’n byw ynddo eisoes yn gorfod ymdopi â’r mathau o ansicrwydd y mae gadael yr UE wedi ychwanegu atynt, ac maent yn ymdopi’n dda dros ben.
Mae bod allan o’r UE yn rhoi cyfle i ni ddiwygio’r polisi amaethyddol, er enghraifft, yn enwedig ail ran ein cynnig heddiw, ac i gynllunio polisi amaethyddol penodol ar gyfer amgylchiadau arbennig Cymru. Mae gennym lawer mwy o ffermwyr yr ucheldir yng Nghymru nag yng ngweddill y DU, ac yn sicr mwy na sy’n wir yng ngweddill yr UE. Byddwn yn gallu llunio polisi amaethyddol sy’n benodol i’w hanghenion. Ni sydd i ddewis. Rwy’n gobeithio y bydd y polisi amaethyddol yn cael ei ddatganoli’n llawn i ni yma yng Nghaerdydd. Ac o ganlyniad i adael yr UE, bydd holl gyfrifoldebau’r Comisiwn Ewropeaidd yn dod i’r Cynulliad hwn ac i Lywodraeth Cymru, gan y bydd yn ein galluogi—[Torri ar draws.] Ie, a’r arian parod hefyd. Rwyf eisoes wedi dweud laweroedd o weithiau, wrth ymateb i Carl Sargeant, y dylai Cymru gael pob ceiniog o arian cyhoeddus sydd ar hyn o bryd yn cael ei wario yng Nghymru gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny’n golygu trafod telerau gyda Llywodraeth y DU, am wn i, ond ni ddylem osgoi hynny a’n harian ni ydyw, felly mae difidend gadael yr UE ar ei ben, oherwydd, fel y gwyddom, gwerir £10 biliwn y flwyddyn o’n harian mewn mannau eraill yn yr UE, nid yn ôl yn y DU. Felly, rydym eisiau ein cyfran o hwnnw hefyd, a fyddai, ar sail y pen, yn £500 miliwn ychwanegol y flwyddyn i’w wario yng Nghymru er budd pobl Cymru.
Mae bod y tu allan i’r UE yn rhoi cyfle i wneud newidiadau micro i bolisi amaethyddol yn ogystal, ar reoliadau chwynladdwyr a phlaladdwyr, ar faterion iechyd a diogelwch, lle gall y costau a godir fod yn gwbl anghymesur â’r manteision sy’n cael eu sicrhau. Felly, er enghraifft, gadewch i ni edrych ar enghraifft gyffredin a di-fflach iawn sef rheoli rhedyn ar y bryniau: yn wahanol i nawr, byddwn yn gallu aildrwyddedu Asulam fel modd o reoli rhedyn, deunydd a gafodd ei achredu’n llawn o dan gyfundrefn reoli flaenorol, ac nid oedd gennym unrhyw broblemau gyda hynny. Ond pan drosglwyddwyd rheolaeth i’r Undeb Ewropeaidd, yna nid oedd gennym unrhyw lais a chafodd ei wahardd. Felly, ceir llawer o enghreifftiau o’r fath hefyd lle bydd gennym gyfle i leihau costau ein cynhyrchwyr a’n ffermwyr a chyrff masnachu eraill i ni allu dod yn fwy cystadleuol yn y byd. Mae’n gyfuniad o fanteisio ar farchnadoedd newydd, a byddwn yn gallu gwneud hynny oherwydd byddwn yn rhydd yn awr i drafod cytundebau masnach rydd drosom ein hunain gyda rhannau eraill o’r byd—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch yn fawr iawn. Gyda’r parch mwyaf, rydym wedi clywed yr araith hon sawl gwaith o’r blaen. Yn y sesiynau briffio amser cinio yn y Cynulliad, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid mai’r consensws bellach ymhlith economegwyr yw bod economi Prydain yn mynd i grebachu o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, er ein bod yn clywed mwyfwy o sylwadau gwybodus am yr effeithiau negyddol a ddaw ger ein bron, mae’r araith hunanfoddhaus a hunanfodlon rydym yn ei chlywed dro ar ôl tro gan Neil Hamilton yn dreuliedig braidd.
Wel, rwy’n meddwl tybed a yw Lee Waters yn ddigon hen i gofio’r 364 economegydd a ragwelai drychineb ar ôl cyllideb 1981, a brofodd yn sbardun i economi Prydain, ac a roddodd y twf enfawr i ni—[Torri ar draws.] A roddodd y twf enfawr a ddigwyddodd wedyn yn economi Prydain yn y 1980au. Yn draddodiadol galwyd economeg yn ‘wyddor ddiflas’ ac am reswm da iawn. Ond rwy’n—[Torri ar draws.] Gall pawb ohonom ddyfynnu ein hoff economegwyr, ond yn y pen draw, mae rhagfynegiadau economegwyr i gyd yn seiliedig ar ragdybiaethau a modelau cyfrifiadurol. Felly, y canlyniad yw bod cyfle gennym i wneud y gorau ohonom ein hunain. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y gorau o sefyllfa nad oedd ei heisiau. Rwy’n derbyn yn llwyr ei bod ar yr ochr a gollodd y ddadl—fel yr holl ACau Llafur a phob AC Plaid Cymru o ran hynny. Mae pobl Prydain wedi gwneud y penderfyniad hwn ac felly, rhaid i ni symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol i wneud y gorau o’r cyfle a roddir i ni ac rwy’n falch fod y Prif Weinidog yn symud i’r cyfeiriad hwn. Gobeithiaf y bydd Plaid Cymru hefyd yn symud i’r cyfeiriad hwn, yn dilyn yr arweiniad a roddwyd heddiw gan Adam Price.
Felly, nid wyf yn petruso o gwbl rhag cymeradwyo ein cynnig i’r Cynulliad am fod gan Gymru ei dyfodol yn ei dwylo ei hun yn awr, nid yn nwylo’r bobl nad ydynt yn cael eu hethol gennym, y bobl y mae eu henwau, yn wir, yn parhau i fod yn ddirgelwch i fwyafrif llethol o bobl y wlad. Byddwn wedi meddwl y byddai plaid genedlaetholaidd wedi cefnogi a chymeradwyo’r cyfle i ni fel Cymry ac fel pobl Prydain i wneud y penderfyniadau hyn, yn hytrach na phobl o wledydd eraill a hyd yn oed pobl nad ydynt yn cael eu hethol o gwbl mewn gwirionedd. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn hwb enfawr i ni ac mae’r byd yn ein dwylo.
Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1 caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. [Torri ar draws.] Rwy’n cael cystadleuaeth, rwy’n credu, gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ar addysg. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
'Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.'
Cynigiwyd gwelliant 1.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Llun, mae’r cwestiwn a ddylem fod yn rhan o’r UE wedi cael ei benderfynu. Rhaid hyrwyddo gadael yr UE yn awr fel cyfle i hybu masnach, diwydiant, cyflogaeth, amaethyddiaeth a physgota, ond ni fydd hyn yn digwydd os nad ydym yn achub ar y cyfle. Rwy’n cynnig gwelliant 1 felly, sy’n cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.
Roedd rhybuddion y Prif Weinidog yn America ynglŷn ag argyfwng cyfansoddiadol sydd ar ddod a risg o niwed economaidd yn enghraifft o sut i beidio â gwerthu Cymru i’r byd. Fe wnaeth ddatgan hefyd bod Cymru yn dal ar agor ar gyfer busnes, ond y neges bendant y dylid ei chyfleu o hyn ymlaen yw y bydd Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn lle gwych i fuddsoddi a gwneud busnes. Ddau fis yn ôl, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd fod gan y DU 10 o gytundebau masnach yn yr arfaeth eisoes ar gyfer y cyfnod ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd bod y DU wedi allanoli ei phwerau i drafod telerau masnach i Frwsel ers 43 mlynedd, mae Llywodraeth y DU yn awr yn cryfhau ei thîm ar gyfer trafod telerau masnach a staff arbenigol eraill. Yn uwchgynhadledd y G20 y mis hwn, nododd Prif Weinidog y DU ei huchelgais i weld y DU yn dod yn arweinydd byd mewn masnach rydd fel gwladwriaeth feiddgar, hyderus ac allblyg. Dywedodd arweinwyr India, Mecsico, De Korea a Singapôr y byddent yn croesawu trafodaethau i gael gwared ar y rhwystrau i fasnach rhwng ein gwledydd ac ymwelodd Gweinidog Masnach Awstralia â’r DU yr wythnos diwethaf ar gyfer trafodaethau archwiliadol ar ffurf cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia. Felly, mae datganiadau gan Brif Weinidog Cymru yn y pwyllgor materion allanol a’r cyfarfod llawn yn gwrthod ymwneud mewn trafodaethau cyn llunio cytundebau masnach ac yn difrïo’r rhai sy’n trafod telerau masnach y DU yn creu risg y bydd Cymru ar ei cholled. Ac roedd tystiolaeth mai naw busnes yn unig y cyfarfu’r Prif Weinidog â hwy yn ystod y pedwar mis rhwng dyddiad galw’r refferendwm a’r diwrnod pleidleisio yn ychwanegu at y pryder nad aeth Llywodraeth Cymru ati i gynllunio’n fanwl ar gyfer y posibilrwydd y byddai pobl yn pleidleisio dros adael yr UE yng Nghymru.
Er bod gan Gymru warged masnach gyda’r UE y llynedd, mae ffigurau allforio y mis hwn yn dangos bod gwerth allforion o Gymru i wledydd yr UE wedi gostwng £586 miliwn, bron 11 y cant, wrth i allforion i wledydd y tu allan i’r UE gynyddu. Mae allforion nwyddau a gwasanaethau’r DU i’r UE wedi gostwng 54 y cant i 44 y cant o’r cyfanswm dros y degawd diwethaf. Yn 2014, roedd cyfran allforion nwyddau y DU a oedd yn mynd i wledydd y tu allan i’r UE yn uwch na phob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE heblaw Malta. Ers 2014, mae allforion o Gymru i’r UE wedi gostwng o 44 y cant i 39 y cant o’r cyfanswm allforion. Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2016, gostyngodd allforion o Gymru i’r UE 6 y cant arall, wrth iddynt gynyddu dros 9 y cant i farchnad Asia-Cefnfor Iwerydd.
Croesawir cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd pob prosiect strwythurol a buddsoddi, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a lofnodir cyn datganiad yr hydref yn cael eu hariannu’n llawn hyd 2020, fel y croesawir taliadau gwarantedig i brifysgolion sy’n cymryd rhan yn Horizon 2020, hyd yn oed lle bydd prosiectau’n parhau y tu hwnt i adael yr UE. Hefyd, cyhoeddodd y Trysorlys y bydd rhagor o fanylion am drefniadau cyllido gwarantedig ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddi penodol a lofnodir ar ôl datganiad yr hydref yn cael eu darparu cyn datganiad yr hydref. Unwaith eto, mae’r modd y diystyrodd y Prif Weinidog drafodaeth ar hyn ddoe yn creu risg y bydd Cymru ar ei cholled.
Fel y dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar ôl i’r UAC gyfarfod â Gweinidog Gwladol y DU dros Adael yr UE:
mae angen i Lywodraeth Cymru leoleiddio datganiad y Canghellor yng nghyd-destun Cymru.
Fel y dywedodd hefyd:
nid ydym am fodloni ar gopïo unrhyw fodel masnachu arall. Mae’n hanfodol ein bod yn sefydlu model masnachu sy’n addas i amaethyddiaeth y DU a Chymru, a dyma ein cyfle i wneud yn union hynny... mae ein statws TB buchol ar hyn o bryd yn fygythiad sylweddol yn y trafodaethau masnach hynny a bydd yn rhaid datrys hyn ar frys
gan Lywodraeth Cymru. Ac fel y dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr:
Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid i ddiogelu cyflenwadau bwyd weithredu fel catalydd ar gyfer uchelgais newydd, beiddgar i ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth y mae NFU Cymru yn benderfynol o fanteisio arno er mwyn sicrhau hyfywedd hirdymor a thwf ein diwydiant.
Felly gadewch i ni ail-ymgysylltu â gweddill y byd a chau’r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gwledydd eraill Ewrop o’r diwedd.
Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Gwelliant 2—Simon Thomas
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi fod gan Gymru warged masnach â'r UE a bod cadw aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn hanfodol i fusnesau Cymru.
2. Yn gresynu at yr ansicrwydd y mae'r diwydiant amaeth yn ei wynebu o ganlyniad i adael Ewrop.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i'r sector addysg uwch, yn arbennig ym meysydd ymchwil a datblygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau trafodaethau rhwng y pedair gwlad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau y caiff buddiannau cenedlaethol Cymru eu cynnal yn ystod y broses o adael yr UE.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Simon Thomas.
Rwy’n ofni na fydd fy nghyfraniad mor llawn o newydd da o lawenydd mawr â chyfraniad y siaradwyr blaenorol. Efallai ar ryw bwynt y caf egluro wrth Neil Hamilton y gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Cymreig ac ymynysiaeth Brydeinig, ond nid oes digon o amser i fynd drwy hynny heddiw.
Yn ystod y 48 awr ddiwethaf taflwyd goleuni annifyr ar safbwynt Llywodraeth Cymru, yn enwedig datganiadau cyhoeddus y Prif Weinidog ar dri phwynt sylfaenol: yn gyntaf, y broses o adael yr UE ei hun, yn ail, natur perthynas Cymru a’r DU â’r UE ar ôl gadael, ac yn drydydd, statws cyfansoddiadol Cymru.
Ar y pwynt cyntaf, mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod am i Gymru gymryd rhan yn y broses o adael, ond nid yw wedi cadarnhau pa ffurf fyddai i hynny ar wahân i ddweud ei fod yn aros i glywed safbwynt Llywodraeth y DU yn gyntaf. Nid yw wedi ymhelaethu ychwaith ar natur y trafodaethau ar ôl dechrau proses erthygl 50. A ydyw, er enghraifft, yn cefnogi model cam wrth gam am yn ôl drwy’r broses o ddod yn aelod? A yw’n awyddus i’r trafodaethau eu hunain gael eu cynnal yn y DU—gyda rhai yng Nghymru efallai lle sy’n benodol berthnasol i fuddiannau Cymru? Pa fecanweithiau goruchwylio y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w cael ar waith i sicrhau nad yw San Steffan yn cythru am bŵer wrth ddychwelyd meysydd polisi o’r UE i’r DU?
Ar yr ail bwynt sy’n ymwneud â pherthynas Cymru a’r DU â’r UE ar ôl gadael, yn benodol ar y farchnad sengl, ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog wrthyf fi a’r pwyllgor materion allanol nad oedd yn ffafrio aelodaeth o’r farchnad sengl. Ddoe yn y Siambr hon, dywedodd wrth arweinydd yr wrthblaid ei fod, cyn dweud wedyn ei fod yn ffafrio cytundeb masnach rydd. Yn ei dystiolaeth i’r pwyllgor materion allanol ddydd Llun, aeth y Prif Weinidog ati gyda phleser i amlygu diffyg arbenigedd y DU mewn trafodaethau masnach cyn diystyru recriwtio swyddogion o Gymru i drafod telerau masnach er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu gwarchod a’u gwneud yn glir i adran Dr Liam Fox yn Whitehall.
Mae hyn i gyd yn cael ei ddrysu ymhellach gan y ffaith fod y Prif Weinidog i’w weld wedi gwneud rhyddid pobl i symud yn fater llinell goch drwy awgrymu moratoriwm ar ryddid i symud yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd—moratoriwm y byddai’n well gan Brif Weinidog Cymru ei weld yn cael ei reoli’n gyfan gwbl o San Steffan oherwydd ddydd Llun eto fe dywalltodd ddŵr oer ar yr awgrym y gallai Llywodraethau datganoledig roi fisas gwaith i sectorau o’r economi a gwasanaethau cyhoeddus lle ceir prinder sgiliau. Gallai hyn fod yn drychinebus i’r GIG yng Nghymru ac ymchwil a datblygu yn y wlad hon. Mae yna bwynt cymdeithasol ehangach i’w wneud, rwy’n meddwl, Lywydd, ar fater ymfudo, a hoffwn ofyn i bawb sy’n pleidio cynnydd yn y Siambr hon a thu hwnt i fod yn wyliadwrus rhag cael eu gweld yn porthi’r math o wleidyddiaeth sy’n creu bychod dihangol o fewnfudwyr am y penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd gwael a wnaed gan bobl yn Llundain.
Ar y trydydd pwynt sef cyfansoddiad Cymru, roedd bygythiadau a wnaeth y Prif Weinidog yn Chicago ar y goblygiadau gwleidyddol posibl pe bai’r cytundeb ar ôl gadael yn annerbyniol i Gymru yn rhai gweigion erbyn dydd Llun, am ei fod wedi diystyru unrhyw refferendwm ar ddyfodol Cymru o dan unrhyw amgylchiadau. I fod yn glir, mae hynny’n golygu y gall San Steffan wneud eu gwaethaf i Gymru—ni fydd unrhyw ganlyniadau difrifol mewn perthynas â’r wlad hon.
Mae’n gwbl glir nad oes gan Lywodraeth y DU fawr o syniad ble mae’n mynd, heb sôn am sut i gyrraedd yno. Am gyfle i Gymru fapio llwybr iddi ei hun a all wneud y gorau o’r sefyllfa rydym ynddi yn awr a chryfhau ein gwytnwch cenedlaethol yn wleidyddol ac yn economaidd ar yr un pryd. Ni all Plaid Cymru dderbyn sefyllfa lle mae Cymru yn gwylio’n ofnus o’r cyrion. Mae’n rhaid i ni weiddi mor uchel a chyson â’r gwledydd datganoledig eraill os ydym yn mynd i gael unrhyw obaith o warchod ein buddiannau cenedlaethol. Gofynnaf i’r Llywodraeth, unwaith eto, i lunio cynllun cynhwysfawr a set o gynigion ar gyfer y tri cham y mae Cymru bellach yn eu hwynebu: ein trafodaethau treigl ar adael yr UE, y cytundeb rydym am ei weld i Gymru ar ôl gadael yr UE a’r canlyniad cyfansoddiadol i Gymru sy’n mynd y tu hwnt i eiriau gwag am fodel ffederal ac sy’n mynegi’n union sut beth fyddai’r model hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Yn y dyddiau a’r wythnosau cyn y bleidlais ar adael yr UE a’r dyddiau a’r wythnosau a ddilynodd hynny, cawsom rybuddion enbyd o fethiant economaidd o ganlyniad i’n penderfyniad i adael yr UE. Ond yn yr wythnosau diwethaf, mae data economaidd wedi profi nad oedd y rhybuddion yn fawr mwy na chodi bwganod. Ond yr wythnos hon, mae Siambrau Masnach Prydain wedi adolygu eu ffigurau twf rywfaint ar i lawr ar gyfer y DU, ond maent wedi datgan na fydd y DU yn wynebu’r dirwasgiad a ragwelwyd gan lawer ac ar hyn o bryd, fe fydd yna amrywiadau economaidd.
Er gwaethaf y codi bwganod yn gynharach, rwy’n teimlo bod hyder busnesau, hyd yn oed mewn ffyrdd bach, yn dod yn amlwg yng Nghymru—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A yw’n derbyn ein bod, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac y gallem ddisgwyl amrywiadau gwleidyddol ac economaidd a helbul i ddigwydd ar ôl dechrau proses erthygl 50, ac yn ystod y trafodaethau a’r blynyddoedd o ansicrwydd a fydd yn dilyn erthygl 50, a bod cymryd yn ganiataol fod pethau yn mynd i redeg yn llyfn ychydig yn naïf o bosibl?
Gobeithiaf weld proses erthygl 50 yn cael ei dechrau yn weddol fuan, er mwyn i bawb allu—[Torri ar draws.] Bydd ychydig o ddyfalu yn ei chylch. Rydym i gyd yn dyfalu ar hyn o bryd, ac mae yna amrywiadau sy’n mynd i ddigwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs ei fod yn bwysig i mi, rwy’n byw yng Nghymru. Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n bwysig i mi? [Chwerthin.] Brensiach. O ble rydych chi’n meddwl rwy’n dod? [Torri ar draws.]
Parhewch, Caroline Jones.
Diolch yn fawr iawn. Yr wythnos diwethaf, cefais wahoddiad i agoriad dau fusnes newydd yn fy rhanbarth. Felly, os yw pobl ar y raddfa lai yn barod i fuddsoddi’r arian y maent wedi gweithio’n galed i’w ennill, yna gallaf weld busnesau eraill yn manteisio hefyd, busnesau mawr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Beth fyddai eich neges i’r busnes bach llwyddiannus yn fy etholaeth sydd wedi penderfynu gohirio pob buddsoddiad am y tro hyd nes y bydd mater gadael yr UE wedi ei ddatrys? Hyd yn oed os yw popeth yn mynd i fod yn wych ar y diwedd, byddwn wedi colli dwy, tair, pedair neu bum mlynedd o fuddsoddi posibl yn y busnes hwnnw.
Wel, y cyfan y gallaf ei ddweud, Rhun, yw bod y busnesau yn fy rhanbarth, o brofiad personol—llawer o fusnesau—yn agor busnesau newydd, mae eiddo gwag yn cael ei lenwi, ac nid wyf wedi clywed neb yn dweud wrthyf fod—. Fel cyn-wraig fusnes fy hun, nid oes neb wedi dod ataf i ddweud nad ydynt yn mynd i fanteisio ar unrhyw gyfle oherwydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb wedi dod ataf, felly gallaf siarad ar sail y profiad sydd gennyf. Diolch.
Yr wythnos diwethaf cefais wahoddiad i ymweld â dau fusnes—pobl sy’n barod i fuddsoddi mewn ffordd fach a chreu cyflogaeth—yn fy rhanbarth. Mae’r penderfyniad i adael yr UE yn cynnig cyfle gwych i’r DU a Chymru, a gallwn weld hynny. Mae Airbus wedi dweud nad oes ganddynt unrhyw fwriad i dynnu allan. Mae banciau HSBC a Barclays wedi dweud nad ydynt yn mynd i unman a byddant yn aros ym Mhrydain am mai Llundain yw canol y byd ariannol. Felly, yn amlwg, mae hynny’n mynd i ddiferu i lawr i Gymru. [Torri ar draws.] Ydy mae. Wrth gwrs y gwnaiff. Os mai Llundain yw’r canolbwynt, yna mae pob man arall yn mynd i—[Torri ar draws.] Felly, beth bynnag am y penderfyniad i adael yr UE, mae Austin Martin yn dal yn mynd i ddod—
Aston Martin.
Ie, mae gennym Aston Martin yn dod i Sain Tathan, gan greu 750 o swyddi. Felly nid ar chwarae bach mae hynny’n digwydd. Felly, rwy’n dweud bod gadael yr UE yn cynnig cyfle gwych i’r DU a Chymru hybu masnach, tyfu ein diwydiant, a chynyddu cyflogaeth. Pan fyddwn wedi cael ein rhyddhau hefyd, rwy’n credu y bydd yn cynyddu hyd yn oed ymhellach, pan fyddwn yn dechrau proses erthygl 50. Credwn yn gryf fod angen masnach rydd gyda’r UE, nid aelodaeth o’r farchnad sengl gyda’i holl gyfyngiadau. Mae angen i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â thrafod gadael yr UE cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu manteisio ar y cyfleoedd y mae gadael yn eu cynnig. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru ar y blaen mewn unrhyw drafodaethau gadael. Ni ddylem gael ein llethu gan drafodaeth ynglŷn â pha fodel y dylid ei fabwysiadu. Rydym yn dymuno masnachu gyda’r UE, dyna i gyd. Mae angen i’n delwedd fod yn galonogol ynglŷn â gadael. Mae angen i ni werthu ein gwlad a’r cyfan sy’n werthfawr ynddi ym mhob ffordd y gallwn. Mae angen i ni elwa ar ein gwlad a’r harddwch y mae’n ei gynnig a’r holl fasnachu y gallwn ei wneud â gweddill y byd.
Rydym hefyd yn dweud mai 41 y cant yn unig o’n hallforion byd yw allforion Cymru i’r UE, ac mae wedi bod yn gostwng dros y pedair blynedd diwethaf. Felly, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd—pob plaid—i ddarparu’r ateb a’r canlyniad gorau posibl i Gymru. Mae angen i’n cytundebau masnach fod yn uchelgeisiol, gan edrych ar y farchnad fyd-eang. Nid oes angen i ni lethu ein hunain yn ormodol â biwrocratiaeth er mwyn cadw mynediad i’r farchnad sengl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ddim eto. Mae’n rhaid i ni groesawu masnach rydd â’r byd i gyd, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar floc masnachu mwyfwy ynysig. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewid fod gadael yn golygu gadael, ac mae angen i ni adael cyn gynted â phosibl.
Nid wyf am ailadrodd pethau a ddywedwyd eisoes yn y ddadl flaenorol ar adael yr UE a glywsom yn gynharach heno, ond rwy’n ofni bod y cyfraniadau a glywsom yn y ddadl hon yn symptomatig o’r modd gor-syml y cyflwynwyd y sefyllfa rydym ynddi a’r risgiau sy’n ein hwynebu.
Rwy’n synnu, fel llawer o bobl eraill, fod cymaint o ffermwyr wedi dewis pleidleisio dros adael, heb fawr o sylw i’r golled a allai ddigwydd i’w hincwm. Clywais yn ddiweddar am un ffermwr a bleidleisiodd dros adael sy’n derbyn £69,000 o’r cynllun taliad sylfaenol, sy’n amlwg yn swm da iawn o arian, o’i gymharu â’r cyflog cyfartalog. Faint o elw a wnânt o’u busnes ffermio? Dim ond £5,000, sy’n amlwg yn bwrw amheuaeth ar hyfywedd y busnes os oes posibilrwydd na cheir unrhyw daliadau ffermio yn y dyfodol. Ni allwn ddibynnu ar y Trysorlys i drosglwyddo’r arian. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni wrando ar y rhesymau pam y byddai pobl o’r fath wedi pleidleisio dros adael. Maent yn siarad am yr angen i gael gwared ar reoleiddio, ond â siarad ar ran fy etholaeth drefol, mae rheoleiddio’r diwydiant bwyd a’r warant y mae’r polisi amaethyddol cyffredin wedi ei rhoi i ddefnyddwyr ynghylch taith bwyd o’r fferm i’r fforc yn rheoliad hanfodol sy’n rhaid i ni ei gadw; fel arall, byddwn yn parhau i ddioddef yn sgil y posibilrwydd o beryglon ofnadwy i iechyd y cyhoedd. Felly, rwyf eisiau ein rhybuddio rhag meddwl bod atebion syml i’r broblem hynod o gymhleth a roddwyd i ni yn awr, ac i sicrhau ein bod yn ymwybodol, nid yn unig o’r gwaith anhygoel o galed sydd ynghlwm wrth ffermio—mae’n debyg mai dyna’r swydd fwyaf anodd yn gorfforol y bydd neb yn ei gwneud yng Nghymru—ond hefyd o’r rhan y mae ffermwyr yn ei chwarae yn sicrhau ein bod yn diogelu ein hamgylchedd ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd. Felly, mae gan gymunedau ffermio a’r gymuned wledig ran eithriadol o bwysig i’w chwarae, ond hefyd mewn perthynas â diogelu’r bwyd rydym yn ei fwyta ac i sicrhau bod gennym ddyfodol iach. Ond nid wyf yn meddwl bod ei gyflwyno fel pe bai’n bosibilrwydd hawdd, ac yn rhywbeth i’w ddatrys yn syml oherwydd bod busnes newydd yn cael ei greu mewn maes penodol, yn cyfleu cymhlethdod y broblem sy’n bodoli yma. Yn sicr mae angen i ni gymryd rhan lawn yn y broses o edrych ar yr heriau economaidd y bydd y Gweinidog cyllid yn eu hwynebu, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, nid y rhai sy’n gweiddi uchaf yn unig.
Wel, mae’n fy rhyfeddu—yr agwedd negyddol sydd mor aml yn dod o ochr arall y tŷ hwn. Rydym wedi clywed llawer o bethau’n cael eu canmol yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd. Cyfeiriodd un o’r ACau y bore yma at y diogelwch i weithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd, a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a roddodd ddiogelwch i’r rheini. Fe gyfeirioch chi at hynny mewn gwirionedd. Wel, hoffwn ofyn pa ddiogelwch y mae hynny wedi ei roi i weithwyr mudol yn y wlad hon. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld toreth o bethau megis cyfleusterau golchi ceir yng Nghymru, fel eu bod yn awr bron yn rhan hollbresennol o bron pob tref a phentref. Wel, gallaf ddweud wrthych nad yw deddfwriaeth Ewrop wedi diogelu’r bobl hynny mewn unrhyw ffordd. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl hynny yn gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, am gyn lleied â £3 yr awr. Nid oes ganddynt gontractau—na’r contractau dim oriau gwarthus hynny hyd yn oed. Nid yn unig hynny, ond nid oes ganddynt unrhyw ddillad diogelwch yn eu gwaith. Felly, nid yw hyn oll y dywedwch ei fod yn deillio o’r Undeb Ewropeaidd i ddiogelu gweithwyr yn diogelu’r rhan honno o’r boblogaeth sy’n gweithio.
Yn ychwanegol at hynny, rydych yn sôn o hyd hefyd am ddiogelu’r amgylchedd. A dweud y gwir, mae pob un o’r cyfleusterau golchi ceir hyn mewn gwirionedd yn golchi’r elifiant y maent yn ei ddefnyddio i olchi ceir i mewn i’n ffrydiau dŵr. Pa fath o ddiogelwch sydd gennym rhag hynny? Rydych yn ddetholus iawn ynglŷn â sut rydych yn ymdrin â diogelwch i bobl—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Mae ychydig yn frawychus gwrando ar yr anecdot rydym yn ei gael yn lle tystiolaeth a ninnau’n wynebu heriau economaidd mor ddifrifol. Roedd Paul Johnson, pennaeth uchel ei barch y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yn dweud y bydd ein heconomi gryn dipyn yn llai o ganlyniad i adael yr UE. Felly, gadewch i ni siarad am ffeithiau a barn ddifrifol, yn hytrach nag anecdotau.
Anecdot? Felly, yr anecdot yw y gall miloedd o bobl weithio yn y wlad hon o dan amodau gwaith ofnadwy, ac rydych yn ei alw’n anecdot.
Rwyf am ymyrryd eto. Rhoddodd Caroline Jones araith yn seiliedig ar rai busnesau y cyfarfu â hwy, ac mae hyn rywsut yn ymateb sylweddol i bob un o’r economegwyr sy’n dweud bod ein heconomi yn mynd i ddirywio. Ac rydych yn dweud wrthym am elifiant yn dod o gyfleusterau golchi ceir. Felly, anecdot yw hwnnw.
Onid yw hynny’n bwysig? Onid oes gan hynny unrhyw ddylanwad ar sut rydym yn cadw’r wlad hon yn lân? Wel, mae’n bwysig. Rwyf am ymateb i bwynt arall, beth bynnag, gyda’r AC arall a siaradodd am ffermwr yn cael £68,000 o dan y taliadau PAC. Wel, mae yna ffermwyr yn Lloegr sy’n cael £1 filiwn y flwyddyn o dan y taliadau PAC am beidio â thyfu cynhyrchion, ac mae llawer o’n ffermwyr yng Nghymru—y rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru mewn gwirionedd yn niwydiant ffermio’r ucheldir, lle maent yn cael cyn lleied â £10,000 neu £12,000. Prin fod hwnnw’n gyflog byw. [Torri ar draws].
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf wrth gwrs.
Diolch. Felly, a ydych yn dweud mewn gwirionedd y bydd ein ffermwyr yng Nghymru yn well eu byd ar ôl y trafodaethau i adael yr UE?
Ydw. Rwy’n credu’n wirioneddol y gellir defnyddio’r manteision a gânt o adael yr Undeb Ewropeaidd i roi cymorthdaliadau i’n ffermwyr ni i raddau llawer mwy yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffermwyr aneffeithlon Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Gwlad Groeg. Ond rwy’n cytuno â hyn: fod yn rhaid i ni i gyd weithio, yn drawsbleidiol, yn y Cynulliad hwn i wneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn darparu’r bonws a gawn o Ewrop, ac mae’n rhaid i ni i gyd weithio dros hynny. Diolch.
Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Ceisiaf ychwanegu rhywbeth gwahanol i ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers prynhawn ddoe ac mewn dadl yn gynharach yn y Cynulliad. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn oedd gan Neil Hamilton i’w ddweud. Y pwynt cyntaf sy’n rhaid ei bwysleisio yw nad oes neb yn dadlau y dylai tariffau gael eu gosod, ond mae ef yn rhoi ei ffydd yng nghynhyrchwyr ceir yr Almaen. Mae’n rhaid i mi ddweud wrtho nad gyda BMW mae’r trafodaethau; mae’r trafodaethau gyda Chomisiwn yr UE, gyda 27 o aelod-wladwriaethau a Senedd Ewrop. Mae’n rhaid i ni eu hargyhoeddi hwy i gyd i gael cytundeb masnach rydd ac nid BMW, Volkswagen, Audi a Mercedes-Benz yn unig. A byddant yn parhau i werthu i farchnad y DU oherwydd ni fydd y tariff yn effeithio arnynt. Maent yn frandiau sydd â bri arnynt; bydd pobl yn talu £3,000 neu £4,000 ychwanegol am BMW oherwydd eu bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Nid yw’n effeithio arnynt hwy gymaint ag y mae’n effeithio ar Ford.
Mae 50 y cant o’r allforion y mae’r DU yn eu hanfon allan bob blwyddyn yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd—50 y cant. Yr Undeb yw ein partner masnachu mwyaf o lawer. Mae unrhyw beth sy’n amharu ar ein mynediad i’r farchnad fel y cyfryw yn ddrwg i’r DU. Nawr, pan oeddwn yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, y cyfan roeddent yn awyddus i siarad amdano oedd beth oedd yn mynd i ddigwydd i’r DU. Nid ydynt yn gweld y DU yn ddigon mawr i fuddsoddi ynddi ohoni ei hun. Mae 440 miliwn o bobl yn byw yn yr UE. Mae India, Tsieina a Rwsia yn llawer iawn mwy na’r DU. Mae’n rhaid i ni symud oddi wrth y syniad hwn, rywsut, fod ar y byd fywoliaeth i’r DU a bod y DU rywsut yn bwysig iawn. I fod yn bwysig iawn, mae angen i chi gael llawer o bobl neu lawer o olew, yna byddant yn gwrando arnoch. Mae’n bwysig cael ffrindiau yng ngweddill Ewrop a ledled y byd i wneud yn siŵr eich bod yn gallu masnachu â hwy. Roedd yr Undeb Ewropeaidd yn ein galluogi i wneud hynny, ond mae pobl Cymru wedi siarad.
Ac o ran y pethau eraill y soniodd amdanynt, bwyd a diod—ni fyddwn byth yn gallu diogelu’r cyflenwad bwyd. Mae’n amhosibl i’r DU beidio â mewnforio bwyd. Nid oes gennym yr hinsawdd i fwydo ein hunain mewn gwirionedd. Byddai’r rhyfel wedi dysgu hynny i bobl, yn sicr. Ac felly, os gosodir tariffau ar fwyd, bydd yn rhaid i bobl ddal i brynu’r bwyd, ond byddant yn talu’r tariffau ar ben hynny. Os edrychwch ar y ffrwythau a’r llysiau sy’n dod i mewn i’r DU, daw llawer ohonynt o’r Undeb Ewropeaidd. Os caiff tariffau eu rhoi ar ben hynny, nid oes cynhyrchwyr yn y DU sy’n gallu cymryd eu lle; ni allwch gael tomatos yn lle’r rhai sy’n cael eu mewnforio gydol y flwyddyn, oherwydd ni all y DU wneud hynny. Felly, yn y pen draw, nid yw’n bosib dweud fod hyn oll yn ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd, gan mai myth yw diogelwch y cyflenwad bwyd mewn perthynas â’r DU a bydd hynny bob amser yn wir. Dyma ble rydym yn y byd ac mae’n ymwneud â’n lledred a’n hinsawdd.
Nawr, roedd un mater yn arbennig yn fy mhoeni, ond rwy’n amau bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei weld dros yr ychydig fisoedd nesaf gan rai o’r bobl fwyaf penderfynol o adael yr UE, sef sut rydym yn delio â’r holl reoliadau felltith hyn: chwynladdwyr, plaladdwyr, hawliau cyflogaeth—yr holl bethau hyn sydd wedi mynd yn y ffordd i atal y DU rhag bod yn gystadleuol. Fe sonioch am yr amgylchedd. Roedd gan y DU record warthus ar yr amgylchedd yn y 1980au. Roeddem yn llygrwyr mawr; roeddem yn achosi glaw asid dros Ewrop. Roedd rhai o’n hafonydd yn fflamadwy pe baech yn taflu matsis i mewn iddynt, ac roedd yn rhaid i weddill Ewrop lusgo’r DU i mewn i bolisi amgylcheddol gwell. Ni fyddem fel Llywodraeth yn caniatáu i’n safonau amgylcheddol lithro mewn unrhyw amgylchiadau. Mae ein pobl yn haeddu gwell na hynny.
Mae’n sôn am y £10 biliwn sy’n mynd i ddod. Nid oes neb yn credu hynny mwyach. Nid oes neb yn defnyddio’r ffigur hwnnw mwyach, y myth o £10 biliwn. Rwy’n edrych ymlaen at weld y £620 miliwn y byddai gennym hawl iddo yn dod yn syth i Gymru, yn ddigwestiwn. Nid wyf yn credu y bydd hynny’n digwydd.
Soniodd am gyllideb 1981—y gyllideb fwyaf trychinebus a gynhyrchwyd erioed gan unrhyw Lywodraeth erioed yn Ewrop ers diwedd yr ail ryfel byd, cyllideb a greodd chwyddiant o 22 y cant, 3.2 miliwn o bobl yn ddi-waith. Roedd y gyllideb honno yn un o’r rhesymau pam fod pobl wedi teimlo’n ddigon blin i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, am fod pobl yn gweld gweithgynhyrchu yn cael ei ddinistrio yn y DU, yn gweld Llywodraeth Geidwadol nad oedd yn poeni am weithgynhyrchu—a gwelwn adleisiau o hynny gan rai economegwyr sy’n dweud bod diwydiannau gwasanaeth yn bwysicach na dim byd arall. Mae’n rhaid i mi ddweud bod Llundain yn ganolfan ariannol yn wir o ran cyllid byd-eang, ond os na all gwasanaethau ariannol yn Llundain weithredu yn yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd yn ganolfan am lawer iawn eto. Bydd pobl y Swistir yn dweud wrthych nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau ariannol yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny’n golygu, wrth gwrs, nad ydynt yn gallu gweithredu yno.
Nawr, mae’n rhaid i ni gydnabod y problemau hyn er mwyn cyrraedd sefyllfa well. Nid yw’r byd mor syml ag y byddai rhai siaradwyr yn hoffi ei ddweud. Dywedodd Caroline Jones—efallai fy mod yn gwneud cam â hi—’Gadewch i ni adael fwy neu lai ar unwaith’. Beth sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon? Beth sy’n digwydd gyda’r Weriniaeth? Y cwestiwn mawr sydd heb ei ateb yw beth sy’n digwydd i’r ffin honno. Roedd pobl yn dweud wrthyf ar garreg y drws, ‘Rydym eisiau rheolaeth dros ein ffiniau’. Nid yw hynny byth yn mynd i ddigwydd, gan nad yw’r DU yn rheoli’r ffin â Gweriniaeth Iwerddon. Dechreuwch roi mannau archwilio ar y ffin yn ôl yno, neu swyddogion diogelwch, a byddwch yn torri cytundeb Gwener y Groglith. Un canlyniad sydd i hynny, ac mae’n un difrifol.
Rhaid i’r pethau hyn gael eu trin yn ofalus. Nid yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hyd yn oed am weld ffin galed yn ôl yn Iwerddon. Os gwnewch y pethau hyn heb feddwl yn ofalus am y canlyniadau—ac mae’r canlyniadau’n ddifrifol tu hwnt i bobl Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth ac yn wir i weddill y DU. Felly, rhaid ystyried y pethau hyn yn eithriadol o ofalus.
O ran yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood, mae llawer o’r hyn a ddywedodd yn cyd-fynd â ble mae’n eistedd yn y Siambr, buaswn yn awgrymu, o ran yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond unwaith eto, mae’n rhaid iddo ddeall—hynny yw, roedd rhai o’r pethau a ddywedodd yn naïf a bod yn onest. Yr hyn y mae’r Trysorlys wedi ei ddweud—gadewch i ni fod yn onest—yw y bydd prosiect yn cael cyllid os caiff ei lofnodi cyn datganiad yr hydref. Mae hynny’n wir. Ar ôl hynny, nid ydynt yn rhoi unrhyw sicrwydd o gwbl. Dim byd. Mae’r cyfan ar sail achosion unigol a ‘Ni fydd yn penderfynu pa un a ydych yn cael arian ai peidio’. Mae’n golygu y bydd arian a fyddai wedi dod i Gymru bellach yn wynebu rhwystr yn Llundain yn hytrach na bod yr arian yn llifo’n uniongyrchol i ni. Dyna beth y maent wedi ei ddweud. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
O ystyried eu bod wedi dweud eu bod yn gwneud datganiad ar hyn cyn datganiad yr hydref, onid yw’n hanfodol felly fod Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau agos â hwy ynghylch hynny?
Fe roddaf y neges yn awr o ran y drafodaeth: rydym am weld ein cyllid yn cael ei warantu ar ôl datganiad yr hydref yn unol â’r addewid a roddwyd gan y rhai a oedd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rhybuddiais ar y pryd y byddem yn wynebu sefyllfa yn y pen draw lle byddai’r Llywodraeth yn Llundain yn gweithredu fel brêc ar arian a ddaw i Gymru yn awtomatig. Nid dyna safbwynt UKIP hyd yn oed, a bod yn deg. Maent am weld yr arian yn dod yn awtomatig. Mae safbwynt y Blaid Geidwadol ar hyn yn wahanol i safbwynt UKIP hyd yn oed, drwy beidio â sefyll dros Gymru a mynnu bod yr arian y byddem wedi ei gael yn parhau i lifo i Gymru.
O ran rhai o’r sylwadau eraill a wnaed, crybwyllodd Steffan Lewis rai pwyntiau diddorol. Ceir llawer o gwestiynau nad oes atebion ar gael iddynt ar hyn o bryd. Nid yw’r atebion gan Lywodraeth yr Alban. Mae gan Lywodraeth yr Alban ateb o ran bod eisiau annibyniaeth, o bosibl, ond nid oes ganddi atebion o ran cynllun manwl. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch i’r Prif Weinidog am ildio. Mae safbwynt Llywodraeth yr Alban yn glir iawn. Pleidleisiodd yr Alban dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a safbwynt Llywodraeth yr Alban yw bod yr Alban yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Os yw’n cael ei llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ei hewyllys, yna, mae hwnnw’n fater cwbl wahanol wrth gwrs. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwch gymharu’r sefyllfa yn y wlad hon, lle mae gennym Lywodraeth sydd o blaid yr UE mewn gwlad a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth yn yr Alban a oedd yn awyddus i aros yn yr UE gyda gwlad a bleidleisiodd dros hynny hefyd. Mae’r sefyllfa’n wahanol yma, felly rwy’n credu ei bod yn haeddu ymateb unigryw, rhagweithiol gan Lywodraeth y wlad hon.
A dyna sy’n ei wneud yn fwy cymhleth, sef pam y cawsom, er enghraifft, y cyfarfod â’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yma ym mis Gorffennaf wrth gwrs, rhywbeth y mynnais ei gael, yn Glasgow, gan ein bod yn gwybod bod gweinyddiaethau eraill yn wynebu’r un dryswch. Ydym, rydym mewn sefyllfa wahanol i’r Alban, ond nid wyf yn meddwl bod yr Alban yn deall yn iawn ble mae eisiau mynd nesaf. Nid yw’n gyfrinach fod yr Alban yn awyddus i gael rhyw fath o statws arbennig o fewn yr UE. Nid oes unrhyw arwydd y caiff hynny ei gynnig mewn unrhyw ddull na modd. Nid ydym yn gwybod, ac mae cymaint o gwestiynau anodd sy’n rhaid eu hateb eto o ganlyniad i hynny.
Rydym yn siarad am y farchnad sengl. Nid oes ots os ydych yn siarad am aelodaeth neu fynediad; yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn gallu gwerthu, heb dariffau, eich nwyddau a’ch gwasanaethau yn y farchnad sengl, beth bynnag rydych yn ei alw. Pa wahaniaeth sydd yna? Mae aelodaeth, am wn i, yn golygu aelodaeth o’r UE, aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd o bosibl, lle mae gennych fath o aelodaeth wledig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae yna ddewisiadau eraill sy’n anodd, yn hynod o anodd, megis cytundebau masnach rydd, sy’n bosibl mewn egwyddor ond yn hynod o anodd yn ymarferol. Ond yr egwyddor sylfaenol yw hon: mae’n rhaid i ni gael mynediad, di-dariff, i nwyddau a gwasanaethau i’r farchnad Ewropeaidd, ac yna gweithio ar y model y byddem yn ei ddymuno.
Rydym yn siarad am ryddid pobl i symud. Gwyddom ei fod yn fater sy’n codi ar lawr gwlad. Byddai ef a minnau’n rhannu’r un farn ar hyn yn ddiau. Ond ni allwn esgus bod y bobl ar lawr gwlad—llawer ohonynt, nid pob un, ond llawer ohonynt—heb bleidleisio oherwydd mater rhyddid pobl i symud. Felly, mae hwnnw’n fater sy’n rhaid ei drin yn ofalus tu hwnt o ran Cymru.
Mae’n sôn am refferendwm. Yn fy marn i, dylid cael proses gadarnhau sy’n cael ei pharchu, lle mae pob un o’r pedair Senedd yn cadarnhau unrhyw gytundeb sydd ar y bwrdd. Nid yw hynny’n golygu nad ydym yn cymryd rhan yn ystod y trafodaethau; rydym yn sicr yn rhan o’r trafod—mae hynny’n hynod o bwysig. Y peth olaf rydym ei eisiau yw fait accompli yn cael ei gyflwyno i ni heb fod gennym unrhyw ran yn ei greu. Ond mae refferendwm arall yn awgrymu naill ai ail-gynnal refferendwm ar aelodaeth—a byddwn yn awgrymu fod peryglon yno—neu refferendwm ar annibyniaeth. Rwy’n deall mai dyna bolisi ei blaid; dros hynny y mae’n dadlau. Os yw am fod yn ddigon eglur a dadlau dros annibyniaeth o fewn yr UE, yna nid yw hynny’n gyfrinach. Nid wyf yn rhoi geiriau yng ngheg ei blaid. Nid dyna ble rydym fel Llywodraeth. Nid ydym mewn sefyllfa lle rydym yn dadlau dros annibyniaeth. Byddwn yn gadael hynny i’r blaid gyferbyn.
O ran rhai o’r pethau a ddywedodd Caroline Jones, byddwn yn annog yr Aelodau i beidio â defnyddio anecdotau. Oes, wrth gwrs fod rhai busnesau yn mynd i dyfu. Nid effeithir ar rai busnesau mewn unrhyw ddull na modd gan y penderfyniad i adael yr UE. Mae yna rai, ond caiff eraill eu heffeithio’n aruthrol ac mae buddsoddwyr yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd yn dal yn ôl er mwyn gweld beth fydd y DU yn ei wneud. Maent am weld beth fydd canlyniad terfynol unrhyw gytundeb mewn gwirionedd. Roeddent yn dweud wrthyf—maent wedi dweud wrthyf lawer gwaith mai felly y mae. Maent eisiau sicrwydd ac maent eisiau sicrwydd yn fuan.
Yn olaf, rwy’n dod i ben. Cyfraniad David Rowlands—yr hyn roedd yn ei ddweud i bob pwrpas oedd ‘Mae’n warthus fod tramorwyr yn dod i’r wlad hon ac yn golchi ein ceir’. Ac yna dywedodd eu bod yn cael eu hecsbloetio. Bai’r y DU yw hynny, nid yr UE. Bai’r DU yw hynny. [Torri ar draws.] Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny—[Torri ar draws.] Gadawaf i chi siarad mewn eiliad. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw atal pobl rhag cael eu hecsbloetio yn y gwaith—dim i’w wneud â’r UE, methiant Llywodraeth y DU yw hynny.
Ni ddywedais na ddylai mewnfudwyr ddod yma i olchi ein ceir. Yr hyn a ddywedais oedd nad ydym yn rhoi unrhyw ddiogelwch i weithwyr mudol o ran y ffordd y maent yn cael eu hecsbloetio. Y rheswm am hynny yw bod gorgyflenwad enfawr o lafur rhad yn y farchnad, ac os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am economeg, maent yn gwybod bod gorgyflenwi cynnyrch yn golygu bod pris y cynnyrch yn gostwng. At hynny rwy’n tynnu sylw. Ac rwy’n nodi nad yw’r Llywodraeth hon yma yn rhoi unrhyw ddiogelwch i’r bobl sy’n gweithio yn y mathau hyn o ddiwydiannau. Nodais y diwydiant golchi ceir gan ein bod i gyd yn gwybod bod yna is-ddiwydiant enfawr yn y wlad hon, yng Nghymru, lle mae pobl yn cael eu hecsbloetio’n syml oherwydd bod gorgyflenwad o lafur yn y farchnad. Diolch.
Rwyf wedi gwrando ar gyfraniadau David Rowlands dros yr wythnosau ac mae’n rhannu barn benodol ar y byd gyda mi: nid yw am weld pobl yn cael eu hecsbloetio. Ond mae digon yn ei blaid nad ydynt yn poeni, gallaf addo iddo. Maent yn fwy na hapus i weld pobl yn cael eu hecsbloetio yn lle eu pobl eu hunain, gan fod eu byd yn ymwneud â lefel isel o reoleiddio, cyflogau isel a phwy sy’n malio. Dyna beth y mae llawer yn ei blaid yn y fan honno—dyna yw eu barn hwy. Ond unwaith eto, daw’n ôl i’r pwynt nad oes gan hyn ddim i’w wneud â’r UE—methiant Llywodraeth y DU yw hyn. Pam mae gennym isafswm cyflog? Pam nad yw’n cael ei orfodi gan yr awdurdodau yn y DU? Dyna’r cwestiwn—y cwestiwn teg—a ofynnodd. Felly, mae’n hynod o bwysig. Nid oes gennyf broblem gyda phobl yn dod yma—rwy’n eu hadnabod. Mae llawer ohonynt yn berchen ar eu busnesau eu hunain, i ddechrau—nid ydynt yn ecsbloetio’u hunain—ond yn y pen draw, mae’n priodoli’r methiant i’r UE er mai bai’r DU yn bendant yw’r methiant i wneud yn siŵr mewn gwirionedd nad yw pobl yn cael eu hecsbloetio. Mae’n gwneud pwynt teg yn hynny o beth. Ond serch hynny, nid wyf yn cytuno â’r ffordd y mae wedi ei grybwyll.
Mae’n siarad am ffermio, mae ffermio yn yr Eidal ymhlith y mwyaf effeithlon yn y byd, mewn gwirionedd. Mae ffermio yn yr Almaen yr un fath. Mae ffermio ym Mhrydain yn cael cymorthdaliadau, ac nid wyf yn dadlau yn erbyn hynny oherwydd fy mod yn gwybod pa mor bwysig yw cymorthdaliadau i’n diwydiant ffermio. Ond myth llwyr yw awgrymu bod ffermio ym Mhrydain yn eithriadol o effeithlon o gymharu â gwledydd eraill yn Ewrop. Nid yw’n wir. Rwyf wedi eu gweld yn hynny o beth. Felly, rhaid i ni fod yn ofalus tu hwnt wrth awgrymu rywsut fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi ei gynllunio i weithredu yn erbyn ffermwyr Cymru a Phrydain.
Yn olaf—rwy’n dod i ben ar y pwynt hwn—rwy’n croesawu’r ail bwynt. Ydy, mae’n hynod o bwysig y dylem allu llunio polisïau penodol ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd yng Nghymru. Mae’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r hyn a ddywedodd Mark Reckless ddoe pan ddywedodd mai’r hyn roeddem ei eisiau oedd polisi a oedd yn gweithredu ar draws y DU heb unrhyw hyblygrwydd yn ôl pob golwg o ran Cymru. Felly, croesawaf y trawsnewid dros y 24 awr ddiwethaf.
Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Wel, siaradais yn rhy fuan yn gynharach—rydym wedi clywed yr un corws o Jeremeiaid ag a glywsom dros y blynyddoedd; mae’r Prif Weinidog yn ail-ymladd cyllideb 1981 hyd yn oed. Mae’r Blaid Lafur yn gaeth i feddylfryd sy’n perthyn i’r gorffennol. Y rheswm pam oedd yn rhaid inni gael cyllideb 1981 oedd oherwydd gaeaf anniddig 1979, y tro diwethaf i Lafur ddifetha’r wlad ar raddfa fawr. Ond nid ydym yma i ail-ymladd brwydrau’r 1980au—rydym yma i ennill brwydrau’r 2010au. A chyda’r math o feddylfryd rydym wedi ei glywed ar y meinciau eraill heddiw, ni fyddwn byth yn ennill y frwydr honno, oherwydd, fel y dywedodd Mark Isherwood yn gywir wrth fy nilyn yn y ddadl ar y dechrau, os ydych yn mynd i werthu rhywbeth, os ydych yn mynd i werthu eiddo, mae’n rhaid i chi gredu ynddo ac mae’n rhaid i chi fynd allan a bod mor bositif ag y bo modd. Nid yw hynny byth yn mynd i ddigwydd gyda’r math o feddylfryd a glywn gan y Prif Weinidog, yn anffodus.
O ran gwneuthurwyr ceir yr Almaen a pha un a oes arnynt ofn na fydd cytundeb masnach yn cael ei drafod gyda Phrydain, maent yn dweud mai dyma’r flaenoriaeth uchaf i Lywodraeth yr Almaen yn eu barn hwy, ac mae’r syniad nad oes gan y bobl sy’n rhedeg Mercedes, Audi neu BMW ddylanwad ar Lywodraeth yr Almaen, ac nad oes gan Lywodraeth yr Almaen ddylanwad ar y Comisiwn Ewropeaidd yn nonsens llwyr ac yn bell iawn oddi wrth realiti.
Rydym wedi clywed llawer o gyfraniadau heddiw, gyda rhai ar ein hochr ni sydd wedi bod yn optimistaidd a chadarnhaol, ac eraill sy’n dal yn gaeth i feddylfryd negyddol. Dywedodd Jenny Rathbone ein bod yn cynnig atebion gor-syml. Nid oes neb yn cynnig ateb gor-syml. Mae unrhyw un sydd erioed wedi rhedeg busnes yn gwybod nad yw’r byd yn syml; mae’n newid o ddydd i ddydd. Y cyfan rwy’n ei ddweud yw bod yr heriau a’r risgiau o fod y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn llawer llai na’r heriau a’r risgiau o aros ynddi, oherwydd mae’r UE yn brosiect sy’n methu ac mae ardal yr ewro yn drychineb llwyr. Mae Ewrop bellach yn hanner y maint a oedd o ran masnach o’i gymharu â gweddill y byd yn 1980—yr UE oedd i gyfrif am 30 y cant o fasnach y byd bryd hynny, a 15 y cant yn unig bellach. Mae dyfodol Cymru i’w benderfynu y tu allan i’r UE o ran masnach ryngwladol, ac mae’r rhyddid hwn, a roddwyd inni o ganlyniad i’r refferendwm, bellach yn rhoi’r offer a’r dulliau sydd eu hangen i roi hwb i economi Cymru yn y dyfodol yn ein dwylo ni. Sut y gall plaid genedlaetholaidd beidio â bod eisiau’r pŵer yn ei dwylo ei hun yma yng Nghymru neu yn y DU, nid ym Mrwsel—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Yn parhau.]—wedi ei ddefnyddio gan bobl y gallwn eu hethol a’u dadethol a chael gwared arnynt os nad ydym yn hoffi’r penderfyniadau a wnant. Mae hynny’n rhywbeth na allwn ei wneud yn yr UE.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwyf wedi dod i ddiwedd fy araith, Fadam Lywydd, ac felly rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i’r tŷ heddiw yn yr ysbryd optimistaidd y’i hysgrifennwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Mae’r bleidlais gyntaf felly ar ddadl Plaid Cymru a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, ac yn erbyn 42. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 42, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6085.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 45, yn ymatal neb, ac yn erbyn 10.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 45, Yn erbyn 10, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6085.
Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, yn ymatal 10 ac 11 yn erbyn. Mae’r gwelliant felly wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 11, Ymatal 10.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6085.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6085 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:
(a) cyd-dynnu'n rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill cyn dechrau erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny; a
(b) cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy:
(i) gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;
(ii) sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion gwyrdd; a
(iii) codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd cynnig NDM6085 fel y’i diwygiwyd: O blaid 55, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6085 fel y’i diwygiwyd.
Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 6, yn ymatal neb ac yn erbyn 48. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 48, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6087.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, yn ymatal 0 ac yn erbyn 15. Mae’r gwelliant felly wedi ei gymeradwyo a, gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 39, Yn erbyn 15, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6087.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Rwy’n galw felly am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6087 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.
Rwy’n agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 49, yn ymatal neb ac yn erbyn 6. Felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd cynnig NDM6087 fel y’i diwygiwyd: O blaid 49, Yn erbyn 6, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6087 fel y’i diwygiwyd.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A gaf fi ofyn i’r Aelodau, os ydynt yn gadael y Siambr, i wneud hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Jenny Rathbone i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Jenny.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gydnabod y cymorth ymchwil a gefais gan staff y Cynulliad Cenedlaethol, yn cynnwys cyngor cyfreithiol clir iawn. Hoffwn hefyd ddiolch i Catherine Iannucci, myfyriwr blwyddyn olaf a wnaeth waith effeithiol iawn yn casglu gwybodaeth am asiantaeth Cardiff Lettings, gan ddilyn gwaith diweddar a wnaed gan Shelter ar y sefyllfa fel y mae gydag asiantaethau gosod tai ledled Cymru. Yng ngoleuni adroddiad Shelter, rwy’n synnu braidd nad oes unrhyw Aelod arall wedi gofyn am gael siarad, ond rwy’n hapus iawn o weld bod cymaint ohonoch yn dymuno aros.
Ar fy ffordd yma y bore yma, ar fy meic—heddiw yw Diwrnod Beicio i’r Gwaith—roeddwn wrth fy modd yn gweld hysbyseb ar gefn bws yn dweud wrth landlordiaid fod angen iddynt gofrestru erbyn y dyddiad cau ar 23 Tachwedd. Dyna un ffordd arloesol o gyfleu’r neges a fydd, gobeithio, yn addysgu landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd ynglŷn â’r newid amserol a phwysig hwn yn y gyfraith, ond rwy’n ofni ei fod yn annhebygol o fod yn ddigon i ddal yr holl bobl a ddylai wybod am hyn, ac nid yw 23 Tachwedd yn bell iawn i ffwrdd.
Pa mor dda y mae Rhentu Doeth Cymru, sydd wedi cael y dasg o gofrestru a thrwyddedu landlordiaid ar gyfer Cymru gyfan, neu unrhyw un o asiantaethau eraill y Llywodraeth, yn egluro’r newidiadau sy’n ofynnol bellach o dan Ddeddf Tai 2014? Erbyn canol mis Mehefin, roedd bron i 13,000 o landlordiaid wedi cofrestru. Erbyn 1 Medi, roedd 19,500 wedi cofrestru—da iawn hyd yn hyn, ond roedd hynny allan o nifer posibl o rywle rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid preifat sy’n gweithredu yng Nghymru. Felly, mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd. Onid yw landlordiaid yn ymwybodol o’r newid yn y gyfraith? A ydynt yn bwriadu ei anwybyddu yn y gobaith na fydd canlyniadau i hynny, neu a ydynt yn mynd i’w adael tan y funud olaf, ac mae ganddynt hawl i wneud hynny wrth gwrs, ond gallai beri oedi cyn cyhoeddi eu trwydded? Os oes miloedd o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai yn ei gadael tan y funud olaf, rwy’n gobeithio na fyddwn yn gweld Rhentu Doeth Cymru yn llacio’r asesiad eu bod yn berson addas a phriodol a’i bod yn briodol caniatáu trwydded iddynt.
Nid mater rheoleiddio bach yw hwn. Ar ôl perchen-feddiannaeth, rhentu preifat yw’r ail fath mwyaf o ddaliadaeth tai ar draws y DU. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif y bydd bron i 40 y cant o’r holl bobl ifanc yn byw mewn llety rhent preifat erbyn 2020, sydd ar y gorwel. Mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchu methiant Llywodraethau olynol dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf i adeiladu digon o dai cymdeithasol ac i gymryd yn ganiataol, yn ystod blynyddoedd ffyniannus yr arian hawdd, y gallai unrhyw un a phawb anelu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Chwalodd y rhith yn 2008, ac rydym yn dal i dalu’r pris yn sgil cost enfawr budd-dal tai i’r pwrs cyhoeddus. Gadewch i ni gofio bod y rhan fwyaf o’r cartrefi a brynwyd gan denantiaid o dan yr hawl i brynu yn mynd i ddwylo’r sector rhentu preifat yn y pen draw, nid i ddwylo deiliaid tai bodlon, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd ar ystadau i wybod pwy sy’n gyfrifol am gymdogion swnllyd neu atgyweiriadau.
Y gost o ran lles teuluoedd sy’n byw mewn llety rhent preifat yw eu bod yn aml yn cael eu gorfodi i symud bob 12 mis. Gall landlordiaid preifat droi pobl allan heb roi unrhyw reswm, gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn rhybudd adran 21. Mae’r effaith ar blant yn arbennig o ofnadwy. Mae’r cyfuniad o farchnad y gwerthwr a’r cap ar fudd-dal tai yn ei gwneud bron yn amhosibl dod o hyd i lety rhent preifat arall addas yn ardal Caerdydd, os mai o’r fan honno y maent yn dod; dyna fy mhrofiad fel cynrychiolydd o Gaerdydd. Mae cael eich gorfodi i symud bob 12 mis, hyd yn oed os ydych yn denantiaid perffaith, yn costio’n ddrud dros ben o ran atal teuluoedd rhag gallu magu gwreiddiau, gwneud a chadw ffrindiau a gallu cwblhau eich addysg mewn un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn unig. Rwy’n cydnabod bod teuluoedd eraill wedi rhentu’r un eiddo ers blynyddoedd lawer gan landlordiaid da y mae ganddynt berthynas dda â hwy, ond yn sydyn gwelant eu cartref yn cael ei gymryd oddi arnynt oherwydd bod y landlord yn wynebu trafferthion ariannol ac angen gwerthu. Y tenant yw’r dioddefwr diniwed. Nid oes unrhyw sicrwydd deiliadaeth mewn llety rhent preifat.
Mewn theori, mae rhentu preifat yn iawn ar gyfer pobl ifanc sy’n symud o gwmpas a heb setlo eto, ond mae’r oes pan fyddwch yn troi at yr awdurdod lleol i gael eich cartrefu ar ôl i chi gael plant yn dadfeilio o dan bwysau tangyflenwad o gymharu â’r galw. Mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i ddefnyddio’r sector preifat i gyflawni eu dyletswyddau i gartrefu pobl ddigartref gan nad oes ganddynt ddigon o dai cymdeithasol i allu cyflawni’r dyletswyddau hynny. Felly, mae’r Ddeddf tai yn gam cyntaf pwysig wrth reoleiddio’r sector rhentu preifat er mwyn sicrhau bod safonau ansawdd gofynnol yno pan fyddwn yn cyfeirio pobl agored i niwed i gael eu cartrefu ganddynt.
Yn y gorffennol, tyrrodd pob math o landlord amatur at y sector rhentu preifat, wedi eu hannog gan y gostyngiadau treth sydd ar gael a’r enillion deniadol o gymharu â ffyrdd eraill o fuddsoddi cynilion. Os ystyriwch yr hyn a gewch o roi eich arian mewn cyfrif cynilo yn y banc, gallwch weld pam fod pobl yn buddsoddi mewn brics a morter, heb sôn am y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae gormod ohonynt wedi esgeuluso eu rhwymedigaethau fel landlordiaid yn gyfnewid am y fraint o godi rhent. Bydd cofrestru, gobeithio, yn gorfodi’r bobl hyn i wneud yn well neu roi’r gorau iddi.
Rwyf wedi ymdrin â landlordiaid nad oeddent yn credu ei bod hi’n flaenoriaeth i ddarparu drws allan sy’n cloi, neu sy’n gofyn i gontractwyr atgyweirio’r to ar adeiladau pedwar llawr heb sgaffaldiau, gan dramgwyddo rheoliadau iechyd a diogelwch mewn modd dychrynllyd. Dylai cofrestru ganiatáu i ni o leiaf gael gwybod pwy yw’r bobl hyn mewn modd amserol, gan fod yn rhaid iddynt roi enw a manylion cyswllt, gan gynnwys eu rhifau ffôn. Dylai hyn roi diwedd ar landlordiaid neu asiantaethau gosod tai sy’n methu’n llwyr â darparu manylion cyswllt ystyrlon. Nid yw cyfeiriad e-bost yn ddigon os yw’r dŵr yn arllwys i lawr y muriau o ganlyniad i bibell ddŵr wedi byrstio, neu os nad oes clo ar y drws allan. Yn yr un modd, mae asiantaethau gosod sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i rif ffôn, ond byth yn ei ateb yr un mor ddrwg. O fis Tachwedd, ni fydd neb sy’n methu cofrestru yn cael trwydded, ac os nad oes gennych drwydded, yna, yn amlwg, bydd y canlyniadau’n ddifrifol iawn.
A yw hyn yn mynd i gael gwared ar Rachmaniaid modern o’r busnes landlordiaeth? Gobeithio. Mae’r landlordiaid amatur neu absennol hyn nad ydynt mewn sefyllfa i gyflawni rhwymedigaethau trwyddedu yn cael penodi asiant gosod tai i weithredu ar eu rhan; fel arall gwrthodir trwydded iddynt. Ac os nad oes gennych drwydded, gallwch gael dirwy—nid yw’n ddirwy fawr iawn, £150 i £250—ond yn fwy arwyddocaol, ni fydd gennych hawl i gyhoeddi hysbysiad troi allan ‘dim bai’ yn erbyn eich tenantiaid—yr hyn y cyfeiriais ato’n flaenorol fel rhybudd adran 21. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwch hefyd fod yn ddarostyngedig i orchmynion atal rhent neu ad-dalu rhent. Felly, mae’n rhaid i ni gymryd yn ganiataol y bydd cymhelliad cryf i gydymffurfio, fel landlord, neu benodi asiant gosod tai i gydymffurfio.
Hoffwn dreulio gweddill fy amser yn edrych ar rôl yr asiantau gosod tai, sydd o bosibl yn mynd i gael y gyfran fwyaf o’r busnes o ganlyniad i’r Ddeddf hon. Mae angen iddynt gydymffurfio â chod ymarfer fel rhan o’r trefniant trwyddedu gydag un o’r pedwar sefydliad cymeradwy, yn cynnwys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, sy’n cynnwys eich galluogi i gael gostyngiad. Dyna ffordd gyflym o sicrhau o leiaf fod ganddynt gynllun gwarantu blaendal i denantiaid, fel nad yw’r arian yn diflannu os byddant yn mynd yn fethdalwyr, a phroses datrys cwynion. Ond mae cofrestru a chydymffurfio yn ddau beth gwahanol.
Pa rôl y gallai’r asiantaethau cymeradwy hyn ei chwarae yn codi safonau ymhlith yr asiantaethau gosod tai? Er enghraifft, treuliais y rhan orau o wythnos yn ceisio cael gafael ar asiantaeth gosod tai o’r enw Pinnacle ynglŷn â cheisio adennill blaendal i gyn-denant, blaendal sydd heb ei dalu ers diwedd mis Mehefin. Dau o bobl, perffaith gwrtais ar y ffôn, ond nid y naill na’r llall yw’r adran gywir ar gyfer ymdrin â’r mater. Rwyf wedi cael gwybod, o ganlyniad i’r cysylltiad ffôn, eu bod yn aelod o rywbeth a elwir yn Gynllun Gosod Tai Cymeradwy Cenedlaethol. Mae gwefan y Cynllun yn sicrhau landlordiaid a thenantiaid fod gan eu holl aelodau drefn gwyno y maent yn glynu ati, a’u bod yn ymateb i ohebiaeth mewn modd amserol. A yw prif weithredwr y Cynllun wedi ymateb i fy ngalwadau ffôn a fy ngohebiaeth? Ddim hyd yn hyn, yn anffodus. Mae’r sefydliad brenhinol, RICS, yn codi’r ffôn, ond maent yn barod i gyfaddef mai arolygu asiantaethau sy’n manteisio ar eu bathodyn cymeradwyaeth bob tair blynedd yn unig y byddant hwy yn ei wneud, a detholiad cyfyngedig o’r asiantaethau hynny’n unig. Felly, rwy’n ofni mai Rhentu Doeth Cymru a’r awdurdodau lleol fydd â’r gwaith o ymdrin â phobl sydd naill ai’n methu cydymffurfio neu’n methu glynu at delerau’r Ddeddf.
Ar hyn o bryd, y pryder mwyaf sy’n cael ei leisio wrthyf yw’r camddefnydd eang a wneir o faterion yn ymwneud â ffioedd a thaliadau. Er enghraifft, rhaid i landlordiaid ac asiantau gosod tai ddychwelyd blaendal o fewn 10 diwrnod i gytundeb rhwng y tenant a’r landlord ynglŷn â faint y byddant yn ei gael yn ôl, ond y man gwan yw na roddir amser penodedig ar gyfer cytuno ar faint y byddant yn ei gael yn ôl. Ac rwy’n meddwl bod myfyrwyr, yn arbennig, yn agored i arferion amheus. Pan fyddant yn mynd ati i lofnodi’r cytundebau gosod tai hyn, cofiwch eu bod rywle rhwng 18 a 19 oed, dyma’r tro cyntaf y byddant wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol, eu tro cyntaf oddi cartref, ac mae llawer ohonynt yn gwbl anymwybodol o’u hawliau. Yn eu hymchwil ar asiantaethau gosod tai ledled Cymru, daeth Shelter o hyd i un asiantaeth gosod tai yn Rhondda Cynon Taf a oedd yn batrwm o arfer da, yn ôl yr hyn a ddywedai, ac mae hynny’n gwbl wych, ond nid oes yr un yng Nghaerdydd. O fy ngwaith ymchwil ar 30 o asiantaethau gosod tai yng Nghaerdydd, nid oes yr un ohonynt, yn anffodus, yn cyrraedd y safon honno.
Ceir sefydliad o’r enw Cardiff Student Letting Agency, sy’n eiddo i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a gallent fod yn batrwm o arfer rhagorol yng Nghaerdydd, ond un o’r problemau y maent yn eu hwynebu o bosibl yw nad oes ganddynt ddigon o eiddo i ateb y galw gan eu cyrff myfyrwyr, heb sôn am unrhyw un arall, i sicrhau bod eu harfer o beidio â chodi ffioedd yn dod yn norm.
O edrych ar adroddiad Shelter a’r dystiolaeth a gaf gan etholwyr, ychydig o asiantaethau gosod tai sy’n cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, lle gofynasom i Dŷ’r Cyffredin gynnwys rhywbeth ar hyn yn ystod taith y ddeddf drwy’r tŷ. Nid ydynt yn cydymffurfio oherwydd nad ydynt yn arddangos eu ffioedd, ac nid yw myfyrwyr neu unrhyw un arall yn cael gwybod nes ei bod braidd yn hwyr yn y broses pa mor uchel yw’r ffioedd hyn. Felly, dywedodd un myfyriwr wrthyf y byddent yn codi £150 ar bob tenant mewn ffioedd asiantaeth, a hynny’n unig er mwyn tynnu’r eiddo oddi ar y farchnad ‘tra byddwn yn datrys y contract’. Felly, mewn cartref gyda chwe aelod, mae hynny’n £900 am 10 munud o waith. Mewn asiantaeth arall, ym mhrint mân y contract datgelwyd y byddent yn mynd â £65 oddi wrth bob un o’r tenantiaid ar gyfer glanhau proffesiynol ar ddiwedd y contract, waeth beth oedd cyflwr y tŷ. Cynddeiriogwyd yr unigolyn gan fod y tŷ a gawsant mewn cyflwr mor wael fel ei bod hi’n amlwg nad oedd glanhau proffesiynol wedi digwydd wedi i’r tenantiaid blaenorol adael. A bod yn gwbl onest, mae gweithgareddau o’r fath, os ydynt yn digwydd yn systematig, yn dwyll.
Felly, sut y mae modd dweud fod glanhau proffesiynol wedi digwydd os yw’r gegin yn gollwng ac yn pydru, a bod y nenfwd wedi cwympo o fewn wythnos oherwydd bod dŵr yn gollwng i fyny’r grisiau, a bod yr ystafelloedd ymolchi yn drewi o lwydni a phiso?
Mae llawer o bobl yn dadlau mai’r ffi yw’r agwedd waethaf ar y berthynas sydd ganddynt â’r asiantaethau gosod tai, a’r cyngor cyfreithiol a gefais gan bennaeth y gwasanaeth cyfreithiol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn wir yw bod gennym y pwerau i ddilyn esiampl yr Alban a gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai. Y landlord ddylai dalu’r asiantaeth gosod tai, nid y tenant. Nawr, rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi dadlau bod hyn yn dod o dan ddiogelu’r defnyddiwr, maes nad yw wedi’i ddatganoli, ond nid dyna’r cyngor cyfreithiol rwyf wedi ei gael. Maent yn dweud bod dadl gref iawn fod ffioedd asiantaethau gosod tai wedi eu datganoli, fel y gallai’r Cynulliad basio Bil sy’n cynnwys eu gwahardd. Yn dilyn ymlaen o lwyddiant Bil Sector Amaethyddol (Cymru), y dyfarnodd y Goruchaf Lys yn ei gylch, mae’n eglur ei farn fod
y berthynas rhwng y 'Landlord' a 'Thenant' yn ffurfio cangen hirsefydlog a ddeellir yn dda o’r gyfraith
fel gwasanaeth yn hytrach na pherthynas defnyddiwr. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog, nid yn lleiaf am fod angen i chi gofio bod y rhai sydd ar fudd-dal tai yn y pen draw yn gorfod talu ffioedd asiantaethau gosod tai o’u cymhorthdal incwm, oherwydd bod y budd-dal tai eisoes yn cael ei gymhwyso i’r eithaf i dalu’r rhent. Felly, mae hynny’n achosi llawer iawn o galedi, ac a dweud y gwir, mae’r asiantaethau gosod tai yn cael rhyddid i beidio â darparu gwasanaeth yn gyfnewid am y ffi. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen rhoi diwedd arno ar fyrder.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl. Carl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Jenny, am eich cyfraniad heno. Croesawaf y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y dull o foderneiddio’r sector rhentu preifat, sydd wedi chwarae rhan gynyddol bwysig yn y broses o ddiwallu anghenion tai pobl.
Fel y dywed Jenny, mae sawl math o landlord diegwyddor. Gall landlord diegwyddor fod yn rhywun sy’n methu â chydymffurfio â’r gyfraith drwy anwybodaeth, rhywun sy’n gosod eiddo yn gyfreithiol ond heb roi sylw i’w gyflwr ac o bosibl y peryglon y gallai eu hachosi i’w denantiaid, neu rywun, yn wir, sy’n anwybyddu’r gyfraith ac yn defnyddio bwlio ac ymddygiad bygythiol i gael yr hyn y maent ei eisiau. Mae llawer o landlordiaid da yn y sector rhentu preifat, ond mae eu henw da wedi cael ei niweidio gan yr elfen ddiegwyddor y mae’r Aelod yn cyfeirio ati. Rwy’n falch o ddweud y bydd y mesurau rydym wedi’u cyflwyno o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn helpu i fynd i’r afael â’r holl fathau hyn o landlordiaid a grybwyllwyd.
Bydd Rhentu Doeth Cymru, am y tro cyntaf, yn sicrhau bod yna gofnod cynhwysfawr o ba eiddo sy’n cael ei osod yn y sector rhentu preifat a phwy a drwyddedwyd i’w reoli. Bydd yn drosedd i berson heb drwydded reoli neu osod eiddo.
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn ysgafn yn fwriadol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ofynion y ddeddfwriaeth newydd. Erbyn diwedd Awst 2016, roedd tua 20,000 o landlordiaid preifat eisoes wedi cofrestru, gyda thua 34,000 o landlordiaid ac asiantau wedi agor cyfrifon, sef y cam cyntaf yn y broses gofrestru a thrwyddedu. Mae’n rhaid i unrhyw landlord neu asiant sy’n dymuno gosod neu reoli eiddo basio’r prawf person addas a phriodol hefyd. Os na ellir ystyried person yn addas a phriodol ni fydd yn cael trwydded. Heb drwydded mae’n anghyfreithlon i reoli neu osod eiddo. Mae mor syml â hynny.
Bydd yr holl landlordiaid, asiantau a gweithwyr sy’n ymwneud â gosod a rheoli tai yn dilyn cwrs hyfforddi, a fydd yn eu hatgoffa o’u rhwymedigaethau ac yn eu cyfeirio at yr adnoddau cymorth. O’r bobl sydd wedi dilyn y cwrs, mae 96 y cant o’r rhai a gwblhaodd yr hyfforddiant gofynnol yn dweud ei fod wedi eu gwneud yn landlordiaid gwell. Mae hyn yn golygu y bydd Rhentu Doeth Cymru nid yn unig yn mynd i’r afael â landlordiaid diegwyddor, ond hefyd mae’n helpu i wneud pob landlord yn landlord gwell. Bydd bod yn rhan o’r cynllun yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfreithiau sy’n berthnasol i osod eiddo ar rent.
Pan fydd landlord neu asiant wedi cael eu trwydded, un amod gorfodol yw cydymffurfio â’r cod ymarfer; mae’r cod yn amlinellu nifer o’r dyletswyddau statudol y mae’n ofynnol i landlordiaid neu asiantau eu cyflawni. Os byddant yn methu cydymffurfio, bydd eu trwydded mewn perygl. Bydd unrhyw landlord neu asiant nad yw wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth erbyn 23 Tachwedd mewn perygl o dorri’r gyfraith a chael eu categoreiddio fel landlord diegwyddor. Rydym felly yn cryfhau ein dull o weithredu ar ddiffyg cydymffurfiaeth. Yn naturiol, ni fydd gan rywun sy’n amlwg ar fin gweithredu i gydymffurfio ddim i’w ofni. Fodd bynnag, bydd landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio, neu’n methu cydymffurfio, yn destun camau gorfodi.
Lansiwyd ail gam ein hymgyrch gyhoeddusrwydd yn gynharach yr haf hwn, ac rydym yn awr yn ehangu cyfathrebu a gweithgareddau gyda’n partneriaid. Rwy’n falch fod yr Aelod wedi ei weld ar gefn bws wrth feicio i mewn heddiw. Mae’n amlwg yn gweithio.
Ym mis Tachwedd eleni byddaf yn gweithredu’r rheoliadau gorfodi, sy’n golygu ffocws cynyddol ar gydymffurfiaeth, a ffocws cryfach byth ar gamau i fynd i’r afael â landlordiaid diegwyddor. Bydd unrhyw landlord neu asiant sy’n torri’r gyfraith yn agored i hysbysiad cosb benodedig neu ddirwy. Os ydynt yn parhau i wrthod cydymffurfio, gallent wynebu gorchymyn ad-dalu rhent a/neu orchymyn atal rhent yn wir. Hefyd, gallent golli’r hawl i droi tenant allan drwy rybudd adran 21. Byddaf yn cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth cyn hir i wneud i hynny ddigwydd.
Rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod adnoddau ar gael i orfodi’r ddeddfwriaeth yn llawn, ac rwy’n talu teyrnged heddiw i’r gwaith a wnaed gan ein holl awdurdodau lleol, ond nid yw ein gweithgarwch yn dod i ben yn y fan honno. Mae troi allan dialgar yn enghraifft o ymddygiad diegwyddor gan rai landlordiaid, ac rwy’n falch o ddweud bod hyn hefyd yn cael sylw o dan fesurau a roddwyd ar waith ac sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 os yw landlord yn ceisio meddiant drwy’r llys. Yn dilyn cwyn ynglŷn â diffyg atgyweirio gan ddeiliad contract, gall llys wrthod caniatáu’r gorchymyn adennill meddiant os yw’n ystyried ei fod yn ddialgar ei natur.
Darperir hawliau i ddeiliaid contractau o fewn y contract na all landlord eu dileu na’u newid. Bydd hyn yn ei gwneud yn llawer haws i ddeiliaid contractau wneud landlordiaid yn atebol os na fyddant yn glynu at eu rhwymedigaethau yn y contract. Rwy’n cydnabod yn llwyr y mater a grybwyllodd Jenny ynglŷn â chysylltu. Weithiau, nid yw cyfeiriad e-bost nad yw’n cael ei ddefnyddio neu rif ffôn ffug yn ddefnyddiol o gwbl yng nghanol y nos pan fydd y nenfwd yn disgyn drwodd, ac mae hyn yn rhan o’r broses gofrestru.
Ei phwyntiau olaf: nodaf yr awgrym y dylai Cymru ddilyn yr Alban eto mewn perthynas â gwahardd asiantau rhag codi ffioedd ar denantiaid. Rwy’n dal i gael fy mherswadio ynglŷn â’r ddadl hon, nid am nad wyf yn cytuno â bwriad yr Aelod, ond rwy’n poeni ynglŷn â’r risg ddifrifol sydd ynghlwm wrth y broses o drosglwyddo—. Yn syml iawn, bydd yr asiantau’n trosglwyddo’r ffioedd i landlordiaid a bydd hynny’n cynyddu rhent yr unigolion y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt. Felly, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar asiantau ar hyn o bryd i gyhoeddi eu ffioedd ac wynebu dirwy o £5,000 a cholli eu trwydded o bosibl os ydynt yn methu gwneud hynny. Ond yr hyn a wnaf, ac rwy’n ddiolchgar am y pwyntiau a grybwyllodd yr Aelod heddiw—. Ac ynglŷn â gallu Cymru i ddeddfu ar hynny, byddaf yn gofyn am gyngor cyfreithiol pellach ac efallai y byddai’r Aelod yn hoffi rhannu ei chyngor cyfreithiol gyda mi. Ond yn sicr, byddaf yn edrych ar hynny eto, a byddaf yn edrych ar y risg ganfyddedig i denantiaid yn y weithdrefn hon os yw’r ffi’n trosglwyddo, oherwydd ni fyddwn am weld y ffioedd—ffioedd afresymol mewn rhai achosion—yn cael eu trosglwyddo i’r tenant. Byddai hynny’n gamenwi o ran y ffordd rydym yn gweithredu.
Hoffwn ddysgu o’r dystiolaeth, o’r profiad, yn yr Alban cyn penderfynu a yw’r mesurau hyn yn angenrheidiol, ond rwy’n ddiolchgar, unwaith eto, i’r Aelod am dynnu ein sylw yma heddiw at fater mor bwysig, a byddaf yn trafod hyn gyda fy nhîm, a gobeithio y gallaf drafod ymhellach gyda’r Aelod a gyflwynodd y ddadl fer hon heddiw.
Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.