Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Diwygio Llywodraeth Leol

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM)

Gwnaf. Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i wrando ar eu barn, cyn ystyried yr ymagwedd hirdymor tuag at ddiwygio llywodraeth leol, a chaiff datganiad ei wneud maes o law.

Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o’r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw’n adeg dda i fynd yn ôl i’r cychwyn a meddwl am gynllun y gallwn ni, gynghorwyr, a’r cyhoedd ei gefnogi? Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi am beint rywbryd i drafod hyn. [Chwerthin.]

Wel, rwy’n meddwl mai gwell yw cadw’r pethau hyn yn ffurfiol, ond diolch i’r Aelod am y gwahoddiad, er hynny. Wel, ie, bydd y trafodaethau hynny nawr yn dechrau. Mae’n ymddangos bod cytundeb cyffredinol fod angen symud ymlaen â diwygio llywodraeth leol ond ceir safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pha fodd y dylid gwneud hynny. A bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal trafodaethau ar hyn dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf.

Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o’r fath, mae awdurdodau lleol a chynghorau Cymru wedi parhau—[Torri ar draws.] Lywydd, os caf, maent wedi parhau i sefyll dros gymunedau Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cryfder ei argyhoeddiad a’i ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi darpariaeth effeithiol ac effeithlon llywodraeth leol o wasanaethau cyhoeddus?

Gwnaf, fe wnaf hynny. Gwn fod llywodraeth leol wedi wynebu heriau enfawr wrth ddelio â’r toriadau a orfodwyd arnom gan San Steffan, ac maent wedi ceisio gwasanaethu eu cymunedau’n dda. Wrth gwrs, mae yna feysydd lle gellir cael mwy o gydweithredu, yn fy marn i, a meysydd lle gellir cryfhau cysondeb yn well ar draws llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd yn awyddus i arwain ar hyn, mewn trafodaethau gyda phleidiau eraill ac yn wir, gydag arweinwyr llywodraeth leol dros y misoedd nesaf.

Gyda’r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi’i arwain gan ddatblygwyr? Oherwydd, os cofiwch, ar 24 Ebrill 2012, Brif Weinidog, fe ddywedoch mai anwiredd llwyr oedd eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe’i galwoch yn gelwydd pur, ond codwyd embaras arnoch gan eich plaid eich hun, a gyhoeddodd gynlluniau wedyn i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe wnaethoch ein camarwain ni i gyd. A wnewch chi yn awr wneud iawn am eich cam yn llygaid y cyhoedd a gweithredu polisi Plaid Cymru arall eto?

Wel, mae wedi cael y ffrae hon o’r blaen. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o’r fath erioed, fel Gweinidog, nac yn wir fel arweinydd unrhyw blaid, ac mae’n gwybod hynny’n iawn. Mae’n crybwyll pwynt pwysig. Mae’n bwynt a godwyd, yn wir, gan fy nghyd-Aelod, Hefin David hefyd, yr Aelod dros Gaerffili, sef nad yw datblygu cynlluniau datblygu lleol ar wahân i’w gilydd yn realistig. Mae synnwyr helaeth mewn cael fframwaith datblygu strategol, yn enwedig ar draws de-ddwyrain Cymru lle mae pwysau mawr. Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu’n gryf iawn a dylem groesawu hynny. Serch hynny, mae angen i ni sicrhau bod fframwaith rhanbarthol priodol ar waith er mwyn cynllunio ar gyfer twf y gwahanol rannau o Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)

Gwnaf. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe yn parhau i arwain ar alinio a chydweithio rhanbarthol er mwyn cyflawni dyheadau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.

Diolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy’n meddwl ein bod yn cytuno bod gan ddinas-ranbarth bae Abertawe gyfeiriad teithio clir. Rwy’n credu ym mhwysigrwydd dinas-ranbarthau fel sbardunau economaidd. Mae Caerdydd wedi derbyn cyllid y cytunwyd arno ar gyfer ei bargen ddinesig. A all y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyllid ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe, gan gynnwys y fargen ddinesig?

Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a’r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi’i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae’n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae’r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ledled Cymru ac yn wir, gweddill y DU. Felly, mae’r cyflwyniad hwnnw wedi’i wneud. Rydym yn awr, wrth gwrs, yn dymuno symud ymlaen gyda bargen ddinesig sy’n debyg i’r un y cytunwyd arni ar gyfer y prifddinas-ranbarth.

Byddwch chi’n ymwybodol, yn naturiol, Brif Weinidog, o ddatblygiad cyffrous y campws newydd ym mae Abertawe—Prifysgol Abertawe, felly. A, hefyd, byddwch chi’n ymwybodol o’r buddsoddiad anferthol sydd wedi bod yn y campws newydd yna, a’r rhan helaeth o hwnnw’n dod o arian Ewrop. Felly, a fyddech chi’n cytuno efo fi y byddai’r fath fuddsoddiad yn amhosib petai Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd?

Mae hynny’n iawn, ac mae’n wir i ddweud, heb i’r arian yna fod ar gael, na fyddai’r campws yna nawr.

Mae partneriaeth sgiliau bae Abertawe yn gonsortiwm dysgu seiliedig ar waith sydd wedi’i alw’n bennaf yn ddigonol yn unig gan Estyn. Gyda’r fath obeithion am botensial economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am drosi talent yn sgiliau dymunol yn cyflawni’r amcanion hynny mewn gwirionedd?

Credaf fod hynny yn digwydd. Mae bwrdd y dinas-ranbarth yn gwybod yn iawn mai’r allwedd i ddenu buddsoddiad yw sicrhau bod sgiliau ar gael fel y gall y buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Un o’r cwestiynau a ofynnir yn aml i mi gan fuddsoddwyr posibl pan fyddaf yn mynd dramor yw, ‘A oes gennych y sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn i ni ffynnu yn eich gwlad?’, ac rydym yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw iddynt. Os edrychwn, er enghraifft, ar gampws Prifysgol Abertawe, y gwn ei fod, fel y bydd fy nghyfaill, David Rees, yn fy atgoffa, yn etholaeth Aberafan, mae’n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol bae Abertawe—campws hynod bwysig ac arwydd bod y rhan honno o Gymru, fel y genedl gyfan yn wir, yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch y ddarpariaeth addysg a sgiliau.

Brif Weinidog, er mwyn i’r dinas-ranbarth weithio yn y modd mwyaf effeithiol, mae gofyn am fwy o gydweithredu ymhlith y partneriaid llywodraeth leol. Roedd eich cynigion ad-drefnu llywodraeth leol blaenorol yn anghydnaws â map y dinas-ranbarth. A fydd eich cynigion newydd ar gyfer uno llywodraeth leol yn ystyried yr angen i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gydweithio’n agosach â Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro?

Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae’r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrchu’r angen i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gyflawni ffyniant ar gyfer eu holl ddinasyddion.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog ac, yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn y cytundeb a gyrhaeddoch i ffurfio’r glymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennym fel Llywodraeth yma yng Nghymru heddiw, cafodd rhan o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â lleihau maint dosbarthiadau ei chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Cost hynny oedd tua £42 miliwn, neu £42 miliwn oedd yr amcangyfrif. Yn eich maniffesto eich hunain, fe ddywedoch y byddai’r Llywodraeth Lafur, pe câi ei hethol, yn darparu £100 miliwn i addysg dros oes y Cynulliad. A fydd y £42 miliwn hwn yn arian ychwanegol y bydd yn rhaid dod o hyd iddo er mwyn ei roi yn y gyllideb addysg, neu a yw’n rhan o’ch ymrwymiad cyfan o £100 miliwn?

Rydym yn falch o addo’r £100 miliwn fel prif addewid yn ein maniffesto etholiadol. Clustnodir yr arian ar gyfer gwella addysg. Mae’n fater yn awr, wrth gwrs, i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd archwilio sut y gellir bwrw ymlaen ar fater maint dosbarthiadau.

Sylwaf nad ateboch y cwestiwn, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig deall hyn: a fyddwch yn darparu arian ychwanegol at ymrwymiad eich maniffesto i gyflawni’r ymrwymiad newydd hwn rydych wedi’i gynnwys yn eich rhaglen lywodraethu? Mae’n gwestiwn hollol deg, oherwydd byddwn yn gobeithio, cyn i chi gytuno i hyn, eich bod wedi’i roi drwy beiriant y gwasanaeth sifil, fel petai, a gweld beth fyddai’r ymrwymiad, oherwydd nid yw £42 miliwn yn swm bach o arian. Felly, mae’n ateb syml: a fydd £42 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r gyllideb addysg i gyflawni’r ymrwymiad hwn, neu a oes rhaid iddo ddod o’ch blaenoriaethau presennol a nodwyd gennych yn eich cyllideb eich hun?

Na, gellir cyflawni’r ymrwymiad y tu allan i’r pot o £100 miliwn.

Felly, bydd arian newydd yn dod i’r gyllideb addysg i gyflawni’r ymrwymiad hwn. Rwy’n credu mai dyna’r pwynt roeddech yn ei wneud. Ond mae eich ymgynghorydd addysg, David Reynolds, wedi nodi efallai nad dyna’r defnydd gorau o arian i godi lefelau cyrhaeddiad addysg. Ond os ydych yn ysgol, yn bennaeth, ac yn gorff llywodraethol, er mwyn bodloni’r gofyniad hwn, a fyddai’n golygu y bydd rhaid i chi greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol, cael athrawon newydd, neu a fydd yn golygu isrannu dosbarthiadau’n unig i fodloni’r gofyniad sydd wedi’i dderbyn gan eich Llywodraeth? Credaf ei bod yn bwysig deall yn union sut y gweithredir hyn, fel bod llywodraethwyr a phenaethiaid yn gwybod (a) y bydd yr arian yn dod er mwyn cyflawni’r ymrwymiad, ond yn ail, y byddant yn gallu ei gyflawni o fewn yr ystadau ysgol presennol sydd ganddynt. Neu a fyddwch yn darparu arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer unrhyw waith adeiladu y gallai fod ei angen?

Mae’r rhain yn faterion sy’n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o’r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw’r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau. Yn gynyddol ledled Cymru, rydym yn gweld mwy a mwy o blant, a mwy a mwy o athrawon, yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau sy’n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y 1980au a’r 1990au o ddadfuddsoddi a thanfuddsoddi yn ein hysgolion.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

Nearly three years ago, the Prime Minister, David Cameron, described the congestion on the M4 corridor as like a foot on the windpipe of the Welsh economy. That coupled with the tolls on the Severn bridge, which act as a kind of tax on jobs and prosperity in south Wales, requires us to take immediate or very quick action, at any rate, to solve these two problems. As a result of the agreement that the Welsh Government has now reached with Plaid Cymru, it seems that we’ve kicked the solution to the problems of the M4 into the long grass. I wonder if the First Minister could perhaps put some kind of a timescale on coming up with a solution.

Wel, nid wyf yn cytuno ei fod wedi’i roi i’r naill ochr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen ateb i’r problemau sy’n ymwneud â thwnelau Bryn-glas. Mae’r broses o ran y llwybr du’n parhau, ond mae angen ymchwiliad priodol i hynny—mae angen ei archwilio’n briodol. Rwy’n awyddus i opsiynau eraill gael eu harchwilio hefyd fel rhan o’r broses gyhoeddus honno. Rwyf o blaid y tryloywder y byddai hynny’n ei ddarparu.

O ran tollau’r Hafren, nid ni sy’n eu rheoli. Rydym yn credu mai ni ddylai eu rheoli a phe baem yn eu rheoli, byddem yn diddymu’r tollau.

Rwy’n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru.

Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i’r etholiad diwethaf ar sail cefnogi’r llwybr glas yn hytrach na’r llwybr du. Ein barn ni yw y byddai’r llwybr du yn well na dim llwybr, ac nid ydym am fod mewn sefyllfa, fel rydym wedi’i chael ers blynyddoedd lawer bellach mewn perthynas ag ehangu Maes Awyr Heathrow, lle ceir siarad diddiwedd a dim gweithredu. Felly, mae’n ymddangos i mi fod yr argymhelliad i orfodi ymchwiliad cyhoeddus pellach yn debygol o greu oedi diderfyn, fel na fydd y problemau ond yn gwaethygu fwyfwy. Felly, mae’r ateb i broblemau’r diwydiant dur wedi’i gyfyngu’n rhannol gan yr anhawster hwn hefyd.

Na, mae hwn yn ofyniad cyfreithiol; nid yw’n rhywbeth y gallwn ddianc rhagddo heb fygythiad o adolygiad barnwrol ac ni fyddem eisiau dianc rhagddo. Mae’n rhan o’r broses o symud ymlaen gydag ateb i broblem twnelau Bryn-glas. Nid wyf yn credu ei fod yn effeithio ar y diwydiant dur mewn unrhyw ffordd o fath yn y byd, ond mae’n iawn dweud, i lawer o fusnesau ac yn wir, pan edrychwyd ar ddod â digwyddiadau mawr i Gaerdydd, mae problem tagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yn codi.

Y broblem arall, wrth gwrs, os yw’r tollau ar bont Hafren yn diflannu, yw y byddai’r brêc naturiol ar draffig sy’n bodoli yno yn pentyrru ar dwnelau Bryn-glas, gan wneud y sefyllfa’n waeth. Felly, nid oes ateb hawdd ar wahân i edrych ar ffyrdd o osgoi’r twneli hynny.

Rwy’n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i’r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae’r math o rôl y mae Plaid Cymru’n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu’r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn credu bod y llwybr du yn well na dim llwybr ac felly, os yw hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio’r dagfa, yna rydym yn barod i chwarae ein rhan ynddo.

Rwy’n clywed yr hyn y mae arweinydd UKIP wedi’i ddweud. Mae’n bwysig fod y broses yn awr yn symud yn ei blaen. Mae’n bwysig fod y broses mor dryloyw â phosibl. Mae’n bwysig fod y Llywodraeth yn ufuddhau i’r gyfraith, a dyna pam y mae gennym y broses sydd gennym. Rwyf wedi edrych ar hyn yn eithaf manwl a’r casgliad rwyf wedi dod iddo yw ei bod yn anodd gweld dewis arall yn lle’r llwybr du. Mae gan eraill farn wahanol, ac mae’n bwysig felly fod y broses a ddilynir yn dryloyw ac yn cymryd yr amser priodol er mwyn i arolygydd adrodd a rhoi canfyddiadau sy’n dryloyw i bawb eu gweld.

Diolch, Lywydd. Wel, mae’n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.]

Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac eraill i alw am ymestyn yr amser i gofrestru pleidleiswyr ar-lein, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cymryd rhan yn y refferendwm ar yr hyn a fydd yn un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu dyfodol ein gwlad?

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi’i ddweud. Nid yw’n dderbyniol gwrthod hawl pobl i bleidleisio oherwydd problem dechnolegol. Rwyf yn y broses o ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn, er ei bod yn ymddangos ei fod wedi dynodi, yn gynharach y prynhawn yma, y byddai’r amser cau yn cael ei ymestyn. Mae’n bwysig yn awr, wrth gwrs, gwneud yn siŵr (a) fod hynny’n digwydd, a (b) ein bod yn deall sut y gall hynny ddigwydd.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i’r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau’r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth—Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd—i greu’r cynllun cymorth ariannol a’r gronfa diogelu pensiynau. Er nad aeth honno cyn belled ag y byddem wedi’i ddymuno—90 y cant yn unig o’r pensiwn a warantai ac nid oedd yn fynegrifol—o ystyried y marciau cwestiwn presennol dros ddyfodol pensiynau’r gweithwyr dur, heb y mesurau diogelu hanfodol hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw yn waeth eu byd nag y maent yn awr?

Byddwn, mae hynny’n gywir. Rwy’n credu mai o dan erthygl 8 y confensiwn y rhoddwyd y camau ar waith, os cofiaf yn iawn, yn y llys yn 2007. Ac ydi, mae’n gywir dweud, o ganlyniad i ddehongliad y llys o gyfraith Ewropeaidd, cafodd mesur diogelu pellach ei roi ar waith ar gyfer y pensiynwyr hynny. Mae’n wir yn enghraifft o’r modd y mae’r Undeb Ewropeaidd, yn y ffordd hon ymysg nifer o ffyrdd eraill, wedi diogelu a gwella hawliau gweithwyr yng Nghymru.

Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o’r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth ‘chwiban y ci’ y dde eithafol sy’n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy’n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynyddu’r risg i fenywod o gael eu treisio?

Cefais fy syfrdanu a fy nychryn gan y sylw hwnnw. Nid wyf wedi fy synnu ganddo, ond mae arweinydd yr wrthblaid yn hollol gywir, mae’n sylw syfrdanol. Byddai’n gweddu’n dda i’r 1930au, mewn gwirionedd—gwleidyddiaeth y 1930au, a dweud y gwir, a rhai o’r pleidiau a fodolai bryd hynny. Y gwir amdani, yn anffodus, yw bod y ddadl ar ein haelodaeth o’r refferendwm Ewropeaidd wedi gorboethi—ac rwy’n dweud hyn: rwy’n credu ei fod yn wir ar y ddwy ochr yn Llundain. Mae’n dechrau edrych fel ffrae rhwng bechgyn ysgol fonedd ar y ddwy ochr, a chredaf fod pobl gyffredin a’u barn yn cael eu hanwybyddu. Wel, os caf ddweud, fel rhywun, fel hithau, a aeth i ysgol gyfun, sy’n cynrychioli hen gymuned lofaol, yn rhannol yn fy achos i o leiaf, ac sy’n cynrychioli pobl gyffredin sy’n gweithio, ni fyddwn yn dymuno ein gweld yn gadael a gweld y bobl hynny’n colli gwaith yn sgil y bleidlais?

Newid yn yr Hinsawdd

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â phroblem newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0030(FM)

Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru’n cael deddfwriaeth i ddelio’n effeithiol â’r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i’w gweithredu nhw’n llawn.

Diolch am yr ymateb yna. Mae’n amlwg bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar lot o’n cymunedau ni, yn arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gydag ardaloedd fel Powys a Thal-y-bont wedi dioddef llifogydd. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai hi o fudd i Gymru sicrhau ein bod ni’n parchu cyfreithiau Ewropeaidd sy’n mynnu y dylem ni gael egni adnewyddadwy ac y dylem ni gadw at y targedau yna, a’i bod hi’n gwneud synnwyr inni gydweithredu â’n cymdogion Ewropeaidd ni, a bod hynny’n rheswm arall pam y dylai pobl bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin?

Mae hynny’n iawn. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a’r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad—’nofio’ dylwn i ddweud—lan yr afon, ac mae hynny’n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i’n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o’r blaen.

Brif Weinidog, fe ddaeth y fenyw a oedd yn gyfrifol am y trafodaethau ym Mharis, trafodaethau’r COP, Christiana Figueres, i Gymru’r wythnos diwethaf. Fe ddaeth i siarad yng Ngŵyl y Gelli ac fe soniodd hi yn huawdl iawn am yr angen i Lywodraeth, busnesau a’r sector gwirfoddol, os liciwch chi, sector y gymdeithas sifil, i gydweithio â’n gilydd i wireddu’r freuddwyd a grëwyd yn y trafodaethau ym Mharis.

Fe ddywedodd hi hefyd, yn blwmp ac yn blaen, fod cynnydd o 2 y cant—cynnydd, mae’n ddrwg gen i, o 2 radd Celsius yn y tymheredd, yn ôl y diwydiant yswirio ei hunan, yn ‘systematically uninsurable’. Ac felly mae Paris, wrth gwrs, yn ceisio cael 1.5 gradd fel y cynnydd mwyaf posib. A ydych chi, felly, ar ran Llywodraeth Cymru yn ymrwymo’ch Llywodraeth chithau i gynnydd o ddim mwy na 1.5 gradd?

Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau hefyd fod yna weithredu’n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni’n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs—rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni’n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau’n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni’n chwarae rhan hanfodol yn hynny.

A gaf i dorri ar eich traws chi, Brif Weinidog? Rwy’n meddwl bod y cyfieithu ddim yn gweithio—. Na, mae’r cyfieithu nôl yn gweithio. Felly, mae’n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi, ond am funud roeddech ond yn cael eich deall mewn un iaith. Felly, os wnewch chi jest ddweud tamaid bach o beth ddywedoch chi nawr—

Mae’n rhaid i fi gofio nawr beth ddywedais i. [Chwerthin.]

Mae’n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae’n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw’n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni’n ei wneud, os yw pethau’n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gweld gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol.

Brif Weinidog, mae’r cysylltiad rhwng llygredd aer ac afiechyd, a hyd yn oed marwolaeth gynamserol, yn hysbys. Gyda hyn mewn golwg, tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn enwedig yn ein dinasoedd mawr yn y dyfodol.

Wel, un ffordd o wella’r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw’n fater sy’n codi yn ei ran ef o’r byd. Mae’n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy’n llygru llawer llai nag eraill, a dyna’r trywydd sy’n rhaid i ni a’r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau.

Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu’n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy’n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny’n helpu i leihau allyriadau, rwy’n siŵr, yn ei etholaeth.

Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM)

Wel, mae aelodaeth o’r UE a mynediad parhaus i farchnad sengl o dros 500 miliwn o bobl yn rhoi manteision enfawr i bobl Islwyn, a Chymru yn wir. Mae tua 40 y cant o’n hallforion yn mynd yno, mae’n helpu i gyllido buddsoddiadau hirdymor yn y seilwaith ac yn cefnogi ffermio yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â’r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny’n absenoldeb â thâl—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi—amser o’r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gallaf fynd ymlaen. Rydych hefyd wedi sôn am drethiant mewn perthynas â thariffau y byddai’r blaid gyferbyn yn hoffi eu dadlwytho ar Gymru. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Yn wyneb hyn—a dyma fy nghwestiwn, Lywydd—beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yn wyneb Thatcherwyr ailanedig yn y Siambr hon a fyddai’n ein gyrru yn ôl i’r 1980au?

Wel, rwy’n gwybod bod yr economegwyr sy’n cefnogi Prydain yn gadael yr UE yn tueddu i fod, gadewch i ni ddweud, yn lleiafol eu hagwedd tuag at ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae arch-Thatcherwyr o’r 1980au yn wir yn bobl nad ydynt yn credu bod gweithgynhyrchu yn bwysig. Dyna’r hyn rwyf wedi’i glywed gan yr Athro Minford, er enghraifft. Dyna y mae ef wedi’i awgrymu. Dyma’r realiti: rwy’n mynd dramor a phan ddof â buddsoddiad i Gymru—ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny—mae’r prif gwestiwn a ofynnant yn ymwneud ag aelodaeth o’r UE. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i Gymru. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i’r DU. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cael mynediad i’r farchnad o 500 miliwn. Os na allwn gynnig y mynediad hwnnw, ni ddaw’r buddsoddiad. Dywedir mai ein harian ni yw hwn. Nid arian Cymru ydyw. Dyma arian sy’n dod i Gymru o Frwsel a fyddai’n mynd o Frwsel i Lundain yn lle hynny. Gallwn warantu, oherwydd gwyddom yn y Siambr hon, os cyflwynwch y dyn canol, bydd y dyn canol yn cymryd cyfran. Mae Cymru’n elwa. Mae’n fuddiolwr net, a byddai’r arian hwnnw’n mynd i Lundain yn hytrach na dod i Gymru. O leiaf gyda’r sefyllfa sydd gennym yn awr, mae’n gywir dweud bod yr arian hwnnw’n dod i Gymru, ac mae’n sicr na fyddai’r arian hwnnw’n dod i Gymru yn y dyfodol ac y byddai pobl Cymru ar eu colled.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy’n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai’n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatgloi’r holl ffynonellau cyllid posibl i sicrhau dyfodol i Ffordd Goedwig Cwmcarn?

Yn bendant. Rwy’n gwybod bod problemau wedi bod ar y ffordd goedwig gyda chlefydau coed yn y gorffennol. Mae’n atyniad hynod ddefnyddiol i etholaeth Islwyn, ac rydym yn gwybod bod angen i ni allu manteisio ar yr holl botiau sydd ar gael i ni er mwyn hybu i’r eithaf yr effaith ar yr economi leol y mae’r ffordd yn ei darparu.

Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai’r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw’r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod dyfodol i gyllid strwythurol Ewropeaidd ar gyfer Cymru?

Ni fydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yno o gwbl ddiwedd y mis hwn os yw pethau’n mynd y ffordd na fyddwn eisiau iddynt fynd. Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddarparu gan Lundain. Gwyddom fod ein ffermwyr yn cael £260 miliwn y flwyddyn. Nid yw hwnnw’n arian sydd gennym y gallwn ei roi, ond caiff yr arian hwnnw ei ddarparu i’n ffermwyr er hynny. Nid oes unrhyw ffordd y gellir bwrw ymlaen â metro de-ddwyrain Cymru oni bai ein bod yn gallu cael mynediad at arian Ewropeaidd neu bot cyfwerth. Nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth y DU yn darparu’r arian, geiniog am geiniog, punt am bunt, y byddai pobl Cymru yn ei golli o ganlyniad i adael yr UE.

Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy’n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw’r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw’r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio’r etholaeth? Er enghraifft, llafur mudol, bron yn gyfan gwbl, sy’n cael ei gyflogi gan y rhan fwyaf o’r ffatrïoedd ar ystâd Oakdale yn Islwyn, fel sy’n wir, wrth gwrs, drwy Gymoedd y de benbaladr. A hoffech chi roi sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda?

Gallaf. Mae yna fentrau yng Nghymru, fel lladd-dy St Merryn, a fyddai’n cau oni bai am y ffaith eu bod yn gallu gwneud defnydd o rai gweithwyr mudol fan lleiaf. Ac mae’n golygu bod pobl sy’n byw yn yr ardal yn gallu cadw swydd a fyddai fel arall yn cael ei cholli iddynt. Ceir digon o enghreifftiau. General Dynamics. Mae’n sôn am Oakdale. At ei gilydd, mae General Dynamics yn cyflogi pobl sy’n lleol i’r ardal, ac maent yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Y realiti yw ei fod yn gweld pethau o safbwynt Llundain; rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymru. A’r gwir amdani yw ein bod yn cael arian o Ewrop. Byddai’r arian hwnnw’n aros yn Llundain—ni fyddech yn ei weld. Ni fyddem yn ei weld yng Nghymru i’r un graddau. Mae’n wir ein bod ni yng Nghymru yn cael mwy yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd nag a rown i mewn, ac rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymreig ac o safbwynt sicrhau ein bod yn cael ffyniant a mynediad i farchnadoedd ar gyfer pobl Cymru.

Cau Llysoedd

5. Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglŷn â llysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ(5)0027(FM)[W]

Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw’n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu’n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yng Nghymru. Ond, yn anffodus, nid felly yw barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Diolch, Brif Weinidog. Yn anffodus, un o’r llysoedd sydd wedi’i glustnodi ac sy’n mynd i gau yw’r prif lys yng Nghaerfyrddin, yng nghanol tref Caerfyrddin, sy’n adeilad hanesyddol i dref Caerfyrddin gyfan. Nawr bod y penderfyniad yna wedi’i gymryd, mae’r bobl yn y dref yn awyddus eu bod nhw’n cymryd yn ôl berchnogaeth o’r adeilad hwnnw ac yn ei droi’n rhyw fath o adnodd i’r dref—lle yn llawn hanes, wrth gwrs, ac yn llawn hanes cyfiawnder yn y dref yn ogystal. A oes modd i’r Llywodraeth fod yn lladmerydd ar ran y cyngor sir a’r cyngor tref i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan nad yw’r llythyrau rydw i wedi’u hysgrifennu wedi cael unrhyw ymateb o gwbl ganddyn nhw, i sicrhau bod trafodaethau yn dechrau er mwyn gweld os oes modd cadw’r adeilad yma er lles pobl Caerfyrddin?

Wel, mae’r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae’n adeilad pwysig; dyna’r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar—wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o’m hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny’n lot fawr o help ynglŷn â chefnogaeth yn y pen draw, ond, na. A gaf i ofyn, felly, i’r Aelod i ysgrifennu ataf fi ac fe wnaf i wrth gwrs ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau bod yna ateb ac er mwyn sicrhau bod yna fodd i bobl leol gymryd drosodd adeilad sydd yn hollbwysig i etifeddiaeth a hanes y dref?

Brif Weinidog, yn y sesiwn ddiwethaf buom yn trafod y rhaglen gau llysoedd a thynnais eich sylw’n benodol at fater llys ynadon Pontypridd, yn fwy o safbwynt yr hyn sydd, o amgylch Cymru, yn ymarfer torri costau gyda llysoedd, ond mae’n fater sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder i rai o’r cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed. Brif Weinidog, tybed ai nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru o leiaf gynnal adolygiad o effaith rhai o’r penderfyniadau hynny a wnaed gan Lywodraeth y DU ar ein cymunedau? Mewn gwirionedd, nid ydym erioed wedi cael atebion priodol i’r pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, a oedd i’w weld yn fwy o siarâd nag ymgynghoriad go iawn, ond mae materion difrifol iawn yn codi mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Un peth yw pasio deddfau a chael yr holl gyfiawnder yn y byd; os na all pobl gael mynediad ato, nid ydynt yn cael unrhyw gyfiawnder o gwbl, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam llwyr â ni yn hyn o beth.

Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru tan 1536, ac egwyddor sylfaenol o’r hyn y byddem yn awr yn ei ddisgrifio, mae’n debyg, fel cyfraith Cymru a Lloegr ers hynny, yw bod cyfiawnder yn dod at y bobl. Dyna’r rheswm pam y mae ynadon yr Uchel Lys yn teithio o gwmpas. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf awgrymir yn awr fod rhaid i bobl gyrchu cyfiawnder, a theithio pellter hir, a phan fyddant yn cyrraedd, nid ydynt yn cael cynrychiolaeth chwaith, tra’u bod wrthi. Mae hynny’n dangos faint o ddirywiad a fu yn y system gyfiawnder, ond rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod angen adolygu’r effaith ar bobl, oherwydd fel rhywun a fu’n gweithio yn y llysoedd am lawer iawn o flynyddoedd, ni allaf weld dim yn awr ond pethau’n arafu a chyfiawnder naill ai’n cael ei wadu neu ei ohirio i ormod o bobl.

Brif Weinidog, rwy’n gwybod bod gennych gysylltiad teuluol agos iawn â Gogledd Iwerddon a thybed, ar eich ymweliadau â Gogledd Iwerddon, a ydych wedi sylwi ar bolisi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gydgrynhoi cymaint o adeiladau gweinyddol, llywodraeth leol a chyfreithiol, ac adeiladau gwasanaethau cyhoeddus, ag y bo modd, fel y gallant gael canolfannau sy’n cynnal mynediad i’r dinesydd. A yw hwn efallai yn fodel y gallech edrych arno gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynifer o lysoedd ac adeiladau tribiwnlys yn aros ar agor?

Credaf fod hynny’n gwneud synnwyr perffaith. O ran y llysoedd troseddol, wrth gwrs, mae angen iddynt gael celloedd wrth law, felly maent mewn categori gwahanol i’r llysoedd sirol, sydd wedi bod mewn adeiladau gweinyddol ers blynyddoedd lawer ar draws Cymru. Ond rwy’n credu bod yr awgrym o rannu adeilad neu gyfleusterau penodol yn gwneud synnwyr perffaith er mwyn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig a chyson i’r cyhoedd.

Gweithgareddau’r Tasglu Dur

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithgareddau’r tasglu dur ers diddymiad y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0032(FM)

Ie, gwn fod hyn, wrth gwrs, yn fater o bwys mawr i’r Aelod a’i etholaeth, ond byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ychydig yn nes ymlaen ar lawr y Cynulliad ar Tata Steel yn gyffredinol ac ar waith y tasglu yn ystod fy natganiad llafar.

Diolch i’r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o’r pwyntiau, ond un o’r materion rwyf am dynnu sylw ato yw’r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o’r swyddi hynny’n mynd go iawn, ac ar ddiwedd y mis hwn bydd gweddill y swyddi hynny’n mynd. Nawr, mae’r rhannau cynharach wedi bod drwy ddiswyddo gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar, ond mae’r pentwr nesaf o swyddi sy’n mynd i gael eu colli yn mynd i gynnwys diswyddiadau gorfodol. Hoffwn wybod a yw’r tasglu yn awr yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn o golli swyddi i helpu’r bobl sy’n mynd i fod allan o waith, a’u teuluoedd yn arbennig, a fydd yn wynebu amser heriol dros y misoedd nesaf.

Rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r angen i gefnogi’r rheini sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i’r cyhoeddiad a wnaed eisoes. A byddaf yn ymdrin â hynny’n rhan o’r datganiad, os caf.

Brif Weinidog, yng nghofnodion blaenorol y tasglu nodais fod Nick Bourne wedi cynnig creu seminar ar ddympio dur fel y gallai’r cwmnïau dur ddod at ei gilydd i drafod y posibiliadau hynny. Yn bersonol rwy’n teimlo fod hynny’n fwy perthnasol nag erioed o ystyried ein bod yn clywed llawer o anwireddau amlwg gan rai yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â dympio dur o Tsieina. A yw’r seminar honno’n mynd i ddigwydd, ac os ydyw, a allwch ddweud wrthyf beth fydd yn digwydd gyda’r seminar a phwy fydd ynghlwm â hi fel y gallwn gael trafodaeth genedlaethol ar adeg hollbwysig, cyn y bleidlais ar Ewrop?

Nid wyf yn gwybod am y seminar, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am hynny. Mae’n tynnu sylw at bwynt pwysig, wrth gwrs, sef tegwch yn y farchnad. Nid y Comisiwn Ewropeaidd a roddodd feto ar y syniad o dariffau, ond Llywodraeth y DU—rhywbeth y credaf eu bod yn ei ddifaru bellach. Mae Llywodraethau eraill wedi gwneud hyn; nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Ewrop wneud yr un peth. Yr unig beth rydym yn edrych amdano, wrth gwrs, hi a minnau, ac wrth gwrs, yr Aelod dros Aberafan, yw tegwch i’n gweithwyr dur.

Ymchwiliad i Ddigwyddiadau Orgreave

7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau glowyr Cymru ac undeb NUM De Cymru am ymchwiliad i ddigwyddiadau Orgreave ym mis Mehefin 1984? OAQ(5)0026(FM)

Mater i Lywodraeth y DU yw hwn wrth gwrs ond byddaf yn ystyried ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i weld a yw wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â’r angen am ymchwiliad.

Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Cartref fel aelod o’r Orgreave Truth and Justice Campaign ac mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda hi ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Ers hynny, rhoddwyd cyflwyniadau manwl iawn gerbron. Wrth gwrs, ers hynny, cafwyd dyfarniad Hillsborough ac wrth gwrs, y cysylltiad uniongyrchol rhwng digwyddiadau yn Orgreave a’r ffordd y cafodd tystiolaeth ei defnyddio neu ei chamddefnyddio—maent yn ddigwyddiadau tebyg iawn, gyda’r un gwnstabliaeth, unwaith eto, yn Hillsborough—yn amlwg yn creu cysylltiad arwyddocaol iawn. Mae Andy Burnham AS wedi rhoi ei gefnogaeth i ymchwiliad, ac mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol De Swydd Efrog wedi croesawu un, ac rwy’n deall yn awr fod y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru hefyd yn gefnogol i’r angen am ymchwiliad i’r mater hwn. A gaf fi ofyn i’r Prif Weinidog sicrhau y bydd unrhyw sylwadau a wneir yn cefnogi’r angen i gael ymchwiliad i anghyfiawnder ers amser maith sy’n dal i fod ym meddyliau llawer o gyn-lowyr o dde Cymru?

Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna achos cryf dros ymchwiliad o’r fath. Gwelsom oll yr hyn a ddigwyddodd gyda Hillsborough, a faint o amser a gymerodd i’r gwirionedd ddod allan. Yn fy marn i, mae’n rhaid i’r un peth ddigwydd gydag Orgreave. Nid oedd y 1980au yn gyfnod o dryloywder, gyda Llywodraeth nad oedd yn credu mewn parchu hawliau pobl. Wel, mae’n rhaid i’r gwir ddod allan, ac mae ymchwiliad yn un ffordd o wneud hynny.

Fel mab i löwr oedd yn Orgreave yn ystod y streic, a gaf i ategu’n gryf iawn alwad Mick Antoniw ar gyfer ymchwiliad llawn? A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno hefyd fod eisiau i’r cylch gorchwyl fod mor eang ag sy’n bosib, er enghraifft, i edrych ar yr honiadau ynglŷn â defnydd y lluoedd arfog ar y pryd, i edrych ar gydlynu datganiadau gan yr heddlu, wrth gwrs, a oedd wedi digwydd yn achos Hillsborough, a’r defnydd, wrth gwrs, o’r cyfryngau i gamarwain pobl ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, yn achos Hillsborough gyda ‘The Sun’, ac yn achos Orgreave, wrth gwrs, y BBC?

Mae hynny’n iawn, wrth gwrs; rwy’n gwybod y stori ynglŷn â beth ddigwyddodd yn y fanna. Beth sy’n bwysig dros ben yw ein bod ni’n gallu gweld y gwir, bod yna ymchwiliad, ein bod ni’n deall beth yn gymwys digwyddodd, ac felly beth wnaeth ddim digwydd. Ond, beth sy’n bwysig yw bod y gwirionedd yn cael ei roi o flaen pobl Prydain er mwyn eu bod nhw’n gallu ystyried beth ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl.

Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop 2016

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd 2016 i Gymru? OAQ(5)0037(FM)[W]

The Football Association of Wales and the Welsh Football Trust are planning to use Euro 2016 as a catalyst to improve Welsh football and there will be a statement later this afternoon on this. May I take this opportunity, therefore, to wish the team very well, on behalf of the whole National Assembly for Wales? We’ve ensured that we are there, but it would be a great pleasure to see some wins over the ensuing weeks, particularly of course on 16 June, next week.

Mi wnaf i ategu’r geiriau yna gan y Prif Weinidog wrth i ni droi at fater Ewropeaidd yr ydym ni i gyd yma yn y Siambr yn gallu cytuno arno fo. Rwy’n gwybod ein bod ni i gyd yma yn dymuno’n dda iawn i’r tîm cenedlaethol. Mi fyddech chi’n ei gweld hi’n od iawn pe na bawn i’n cyfeirio at y cyfraniadau arbennig gan y rhai o Ynys Môn i’r tîm cenedlaethol, ac rwy’n falch iawn o allu dymuno’n dda iawn i Osian Roberts, fel aelod o’r tîm hyfforddi, ac i Wayne Hennessey hefyd yn y gôl. Mi wnaf grybwyll y gwaith y tu ôl i’r llenni gan Trefor Lloyd Hughes yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Ond, a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen defnyddio rŵan llwyddiant y garfan yma, a’r llwyddiant mawr a ddaw gobeithio yn Ffrainc, fel llwyfan, a’n bod ni yn defnyddio’r garfan fel ‘role model’ nid yn unig i hybu proffil Cymru ac i hybu pêl-droed fel camp, ond hefyd i hybu gweithgaredd corfforol sy’n rhywbeth mor bwysig, wrth gwrs, i iechyd ein poblogaeth ni?

Mae yna ddau beth fan hyn sy’n bwysig: yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae chwaraeon ac yn gweld pêl-droed fel rhywbeth i’w wneud er mwyn helpu eu hiechyd nhw ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi nid dim ond yn Ewrop, ond ar draws y byd. Fe welon ni beth ddigwyddodd gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 1990 pan aethon nhw i gwpan y byd. Gwnaeth e fyd o wahaniaeth i’w heconomi nhw a hefyd i’w twristiaeth nhw. Ces i gyfarfod yr wythnos hon gyda swyddogion i weld pa fath o baratoadau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi yn Ffrainc. Mae’r paratoadau hynny yn symud ymlaen yn dda, nid dim ond ym Mharis, wrth gwrs, ond yn y tair dinas lle mae’r gemau yn cael eu chwarae—wel, y tair gêm gyntaf sy’n cael eu chwarae—ar ran tîm Cymru.

Yn ein pobl ifanc y gwelir etifeddiaeth llwyddiant pêl-droed Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym 1,699 o chwaraewyr iau egnïol yn chwarae mewn 140 o dimau ac 16 o glybiau. Yn ogystal â hyn, mae gennym system academi lwyddiannus yn Sir Casnewydd, sy’n cefnogi ac yn datblygu sêr ein hyfory. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r FAW i gefnogi a meithrin talent ein sêr pêl-droed yng Nghymru ar gyfer y dyfodol?

Yn bendant. Roedd yn bleser gennyf agor yr academi yng Nghasnewydd, yr academi genedlaethol. Darparwyd cymorth ariannol gennym i’r FAW er mwyn ei sefydlu. Mae’n hynod o bwysig fod gennym gyfleusterau modern gyda mynediad at hyfforddiant da ar lefel elitaidd chwaraeon er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad. Ond mae’n bwysig hefyd i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau yn eu lle i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a dyna’n union y byddwn yn parhau i’w wneud, gan weithio gyda sefydliadau fel Chwaraeon Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris:

‘Mae cael Cymru yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn enfawr i glwb fel ni... Cymru mewn pencampwriaeth yw’r cyfle perffaith i helpu ein clwb.’

Felly, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda phobl fel Spencer Harris i sicrhau bod yr etifeddiaeth honno—etifeddiaeth Ewro 2016—yn cyrraedd Wrecsam a phob cwr o Gymru?

Mae’n bwysig deall hynny, a dyna pam y buom yn gweithio gyda’r FAW a’r ymddiriedolaeth i sicrhau bod llwyddiant disgwyliedig tîm Cymru yn cael ei adlewyrchu ar draws pob cwr o’n cenedl, ond yn arbennig wrth gwrs, ei fod yn cael ei weld fel cymorth i ysgogi buddsoddiad yn yr economi a thwristiaeth ym mhob rhan o Gymru am fisoedd a blynyddoedd i ddod.

Mae’n dda clywed bod yr awdurdodau pêl-droed yng Nghymru yn bwriadu defnyddio pencampwriaethau Ewrop fel ffordd o greu etifeddiaeth i chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd. Ond yn y tymor byr, cyn i ni sefydlu’r etifeddiaeth, mae’r digwyddiad ei hun. Mae’n newyddion da fod gennym barthau cefnogwyr yn cael eu creu bellach yn Abertawe ac yng Nghaerdydd, fel y gall mwy o bobl gymryd rhan go iawn ym mwynhad y cyhoedd o gemau’r Ewro. A yw’n werth ystyried a allai’r Llywodraeth gefnogi parthau cefnogwyr tebyg mewn canolfannau poblogaeth mawr yn rhanbarthau eraill Cymru? [Torri ar draws.]

Iawn, diolch.

Un o’r problemau gyda pharthau cefnogwyr—. Rwyf wedi gweld rhywbeth gan Gaerdydd ac rwy’n credu bod gan Abertawe ac efallai Casnewydd gynlluniau tebyg—nid ydynt wedi gofyn am gymorth gan y Llywodraeth. O’n safbwynt ni, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus. Os ydym yn cynnig cymorth i un, rhaid iddo fod yn gymorth i bawb ac mae terfyn, wrth gwrs, ar faint o gymorth ariannol y gellir ei gynnig. Ond rwy’n croesawu’r ffaith fod parthau cefnogwyr yn cael eu sefydlu ac y byddant yn cael eu sefydlu ar draws nifer o drefi a dinasoedd yng Nghymru.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwyf yn galw ar Jane Hutt.

Mae busnes yr wythnos hon fel y’i nodir yn agenda’r Cyfarfod Llawn gyda datganiadau llafar gan y Llywodraeth ar Fesur Cymru, Tata Steel a phencampwriaeth pêl-droed Ewrop. Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig gweithdrefnol i ethol Comisiynwyr y Cynulliad, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni atal y Rheolau Sefydlog. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w weld ymhlith papurau’r cyfarfod, ac sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Weinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar yr anghydfod diwydiannol parhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. Fel y gwyddoch, mae’r staff wedi bod ar streic am gyfnod amhenodol ers 21 Ebrill. Rwy’n credu bod y staff yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny, yn enwedig yn Big Pit lle mae’r streic wedi bod yn gadarn; mae’r amgueddfa wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau, ac rwy’n talu teyrnged i’r staff am yr ymrwymiad y maent wedi’i ddangos. Croesawaf ymdrechion cynnar yr Ysgrifennydd newydd i ddatrys yr anghydfod hwn yn fawr, ond mae angen ei ddatrys ar frys bellach, a byddwn yn ddiolchgar pe bai’n fodlon rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am ei ymdrechion.

Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw i’r datganiad busnes. Fel rydych wedi cydnabod, mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos diddordeb brwd iawn yn y cynnydd a wneir yn y mater hwn. Maent yn ymwybodol fod cyfarfodydd diweddar wedi’u cynnal rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac mae’r amgueddfa genedlaethol wedi cadarnhau ei bod wedi gwneud cynnig gryn dipyn yn well i’r Undeb dros y penwythnos, a chynhelir cyfarfod i drafod y cynnig hwn y prynhawn yma. Felly, arhoswn i weld beth fydd canlyniad y cyfarfod, wrth gwrs, a gobeithio y gellir dod i gytundeb er mwyn dod â’r anghydfod hir hwn i ben.

Gan mai dyma’r datganiad busnes cyntaf i ni ei gael ers rhai wythnosau, mae gennyf un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog Busnes ac rwy’n gobeithio y byddwn yn clywed gan y Llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn cefnogi’r hyn y mae Lynne Neagle newydd alw amdano, ac wrth gwrs, mae’r streic hon yn effeithio ar amgueddfeydd ledled Cymru, mewn gwirionedd, a llawer o amgueddfeydd mewn rhannau gwledig o Gymru yn ogystal. Rwy’n hyderus, Weinidog Busnes, y bydd Cymru yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n bosibl y bydd y DU yn pleidleisio dros adael. A allwch ddweud a yw’r Llywodraeth yn paratoi unrhyw gynlluniau wrth gefn pe baem yn cael pleidlais dros ‘adael’ ac effaith a sioc hynny i economi Cymru? A yw’n bosibl cael datganiad, felly, ar unrhyw gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud cyn y canlyniad posibl hwnnw?

Yr ail fater sydd wedi dod ar yr agenda yn ddiweddar iawn yw’r gostyngiad pellach ym mhrisiau llaeth i ffermwyr Cymru. Nid yw hon yn sefyllfa hawdd i’w datrys—rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi hynny—ond rwy’n meddwl y byddem oll yn gwerthfawrogi datganiad buan gan yr Ysgrifennydd newydd ynglŷn â phrisiau llaeth, cefnogaeth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac yn benodol, rwy’n credu, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda’r banciau, sydd wedi rhoi benthyg yn eithaf hael dros y blynyddoedd ar gyfraddau llog isel i lawer o ffermwyr llaeth, ond sydd bellach yn profi, wrth gwrs, rhai anawsterau llif arian go iawn, ac mae’r banciau, mewn rhai achosion, braidd yn llawdrwm mewn perthynas â rhai o’r ad-daliadau hynny. Ac rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i’w chwarae mewn trafodaethau gyda banciau a’r diwydiant llaeth yn y cyd-destun hwnnw.

Rwy’n credu bod y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn deillio, a bod yn deg, o’r cwestiwn a ofynnodd Arweinydd y blaid Geidwadol ynglŷn â pholisi presennol y Llywodraeth o leihau maint dosbarthiadau i ddisgyblion meithrin. Edrychais yn ofalus iawn ar hyn pan oeddwn yn gyfrifol am bolisi addysg Plaid Cymru, ac ni chefais fy argyhoeddi gan y dystiolaeth. Ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru bellach i gyfiawnhau’r gwariant hwn mewn perthynas â gwariant arall sy’n llawer mwy gwerthfawr, yn fy marn i, i fuddsoddi yn y proffesiwn ei hun a sgiliau a safonau datblygu addysgwyr proffesiynol—nid yn unig athrawon ond cynorthwywyr dosbarth yn ogystal. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gael datganiad buan gan yr Ysgrifennydd addysg newydd—rwy’n ei chroesawu i’w lle—ac y bydd y datganiad buan hwnnw’n nodi’r dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol bellach.

Diolch yn fawr i Simon Thomas am ei gwestiynau cyntaf i’r datganiad busnes yn y pumed Cynulliad hwn. Wrth gwrs, bydd Simon Thomas yn amlwg yn ymwybodol o’n sefyllfa ddatganedig fel Llywodraeth Cymru mai’r hyn sydd orau i Gymru yw bod yn aelod o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae’n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod hefyd yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol, ac rydym wedi cael cyfle i rannu rhai o’r pwyntiau hynny sy’n peri pryder y prynhawn yma, fel sy’n briodol. Rwy’n meddwl mai dyna ble byddwn am ganolbwyntio ein hymdrechion ar hyn o bryd.

O ran eich ail bwynt am brisiau llaeth, rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi gallu dechrau trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undebau ffermio, ac edrych ar faterion allweddol sy’n wynebu ac yn peri pryder i’r sector ffermio. Ac wrth gwrs, bydd y rhain yn faterion y bydd yn edrych arnynt yn ofalus iawn.

Wrth gwrs, o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod i lai na 25 o ddisgyblion, mae’n fater pwysig iawn i rieni ac wrth gwrs, gall effeithio’n gadarnhaol iawn ar lwyth gwaith athrawon. Mae’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; mae’n deillio o’n cytundeb blaengar a gydlofnodwyd gyda’r Prif Weinidog a Kirsty Williams, ac yn awr, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau y prynhawn yma, bydd hyn yn amlwg yn cael ei ddwyn ymlaen yn y ffordd orau ar gyfer cyflawni hynny.

Arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda a allem gael datganiad am fancio tir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant? Mae bancio tir yn broblem go iawn yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon a ledled Cymru, gyda safleoedd pwysig mewn llawer o drefi a phentrefi yn cael eu cadw, a thrwy hynny’n rhwystro’r adfywio a allai roi hwb i adeiladu tai, creu swyddi newydd a gwella ein hamgylchedd trefol. Roeddwn yn falch fod maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried opsiynau i fynd i’r afael â bancio tir ac rwy’n awyddus i gael gwybodaeth bellach ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â’r broblem hon.

Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn pwysig hwn. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn cynyddu lefelau adeiladu tai ac yn cefnogi cyflogaeth o ganlyniad i hynny—blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru. Mae adeiladwyr tai yng Nghymru yn mynnu nad ydynt yn bancio tir ac nid yw’r model busnes yn caniatáu iddynt ddal gafael ar asedau nad ydynt yn gweithio iddynt. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y defnydd gorau’n cael ei wneud o dir o ran cyflymu’r gyfradd adeiladu tai, gan gynnwys, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi. Rydym yn gwneud gwaith pellach ar archwilio a yw bancio tir yn broblem sylweddol yng Nghymru a bydd hynny’n cynnwys ailystyried a oes modd dysgu gwersi o adolygiad Barker o’r cyflenwad tai—roedd hynny yn ôl yn 2004—ac adolygiad Lyons 2014. Roedd hwnnw’n gwneud argymhellion penodol iawn ac wrth gwrs, byddwn yn ymateb i’r rheini—rydym yn ymateb i’r rheini, ond byddwn yn edrych eto i weld a yw hon yn broblem sylweddol. Felly, diolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn.

A gaf fi eich llongyfarch, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, dylwn ddweud—ar eich penodiad, neu eich ailbenodiad i’r Cabinet? Hoffwn ddau ddatganiad gennych, os caf—ac rwy’n datgan buddiant fel partner mewn busnes ffermio. Y cyntaf, yn amlwg, yw datganiad ar yr hyn y bydd Ysgrifennydd newydd y Cabinet yn ei wneud i geisio sicrhau perthynas waith well gyda’r undebau ffermio i fynd i’r afael â’r pwysau ar y pris wrth gât y fferm ar hyn o bryd, ac yn arbennig y pwysau parhaus, fel y soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn y sector llaeth. Mae pwysau enfawr yno, ac rwy’n gwybod ein bod wedi cael adolygiad ac rydym wedi cael dadansoddiad gan Lywodraethau blaenorol, ond mae rôl gystadleuol y gallai’r Llywodraeth ei chwarae yma drwy weithio gyda’r cynllun datblygu gwledig, a’r mesurau o fewn y cynllun datblygu gwledig, i gynorthwyo rhywfaint o fuddsoddiad mewn capasiti prosesu. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd cael datganiad manwl lle gellid nodi llinell amser yn y datganiad o ran darparu cymorth i’r sector llaeth.

Ac yn ail, i gefnogi llawer o fusnesau amaethyddol a llawer o fusnesau bach hefyd sy’n edrych am brosiectau microgynhyrchu—mae’r gallu i gael cysylltiad â’r grid yn broblem enfawr, ac yn aml iawn, yr ymateb symlaf gan Western Power Distribution a’r gweithredwr rhwydwaith dosbarthu arall yng ngogledd Cymru yw dweud ‘na’, ac yn sydyn bydd ffrwd incwm amgen y gellid ei dwyn i mewn i fusnes, ac a fyddai’n helpu’r busnes hwnnw drwy gyfnod anodd neu i barhau i ehangu a chreu swyddi newydd, yn cael ei thorri cyn iddo gael ei draed oddi ar y ddaear. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi a’i swyddogion yn eu cael gyda gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i weld sut y gallant gyflwyno cynllun cynhwysfawr i gynyddu capasiti grid, fel bod llawer o brosiectau microgynhyrchu yn gallu cysylltu â’r grid a cheisio refeniw amgen o’r fath, rhywbeth a allai wneud y gwahaniaeth rhwng bod y busnes hwnnw’n parhau’n hyfyw a’i fod yn methu.

Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau ac am ei sylwadau croesawgar. Rwy’n falch iawn o ymateb fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod yn gyflym â’r undebau ffermio ac wedi cael ymateb da iawn, ac mae wedi gallu rhannu pwyntiau agenda allweddol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y rhai rydych yn tynnu sylw atynt heddiw. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y ffaith fod prisiau llaeth wedi bod ar yr agenda, ond hefyd y capasiti o ran y grid ac mae’r cyfleoedd mewn perthynas â microfusnesau yn fater allweddol rwy’n gwybod y bydd yn awyddus i’w ddatblygu’n rhan o’i chyfrifoldebau newydd, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau y gall hyn alluogi’r busnesau hynny i ddatblygu, yn enwedig mewn ardal wledig.

A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i sylwadau Lynne Neagle am y streic yn yr amgueddfa? Rwy’n credu bod gwir angen datrys hyn ar frys. Yn dilyn y ddadl a’r trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, a fyddai’n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth am weithrediad y Bil cynllunio ac yn benodol, yr elfen cynllunio strategol a gafodd ei chynnwys yn y Bil hwnnw? Mae fy nghyd-Aelod, Hefin David, yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili, a minnau wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu ar fynydd Caerffili. Rydym yn awyddus nid yn unig i warchod yr amgylchedd unigryw, ond hefyd i ymdrin â’r cynnydd posibl mewn traffig a thagfeydd. Mae’n ymddangos yn bwysig iawn y dylid edrych yn strategol ar yr ardal gyfan. Felly, a fyddai’n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn edrych ar y mater hwn?

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pwysig hwnnw. Wrth gwrs, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol hwnnw. Mae’n galluogi grŵp o awdurdodau lleol i baratoi cynllun datblygu strategol ac felly bydd yn ymdrin â rhai o’r materion trawsffiniol rydych yn tynnu sylw atynt gyda’ch cyd-Aelod, Hefin David, yng nghyd-destun Caerffili a’r agosrwydd at fynydd Caerffili. Felly, un ffordd ymlaen wrth gwrs, yw gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Mae’n un o fanteision allweddol y dull strategol o gynllunio. Ond rwy’n credu y byddwn yn dweud o ran cynnydd fod cynnydd da wedi’i wneud ar weithredu’r gwelliannau i’r system gynllunio, gyda dwy ran o dair o’r darpariaethau eisoes wedi’u cychwyn a’u cynnal gan yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Felly, rwy’n siŵr y byddai diweddariad yn briodol.

Cyn gofyn cwestiwn a gwneud fy sylw, a gaf i ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn ddiweddar iawn wedi cael ei gwneud yn bartner ym musnes ffermio ei theulu? Ond yr hyn y byddwn i’n gofyn amdano yw datganiad buan gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddynesiad y Llywodraeth newydd tuag at fynd i afael â TB mewn gwartheg. Nawr, wrth ymateb i gwestiwn yn y Siambr yma bythefnos yn ôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog, ac rwy’n dyfynnu:

‘Un o’r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.’

Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod y polisi brechu ar stop. Rŷm ni’n gwybod hefyd fod tystiolaeth newydd yn dod o gyfeiriad Lloegr, lle mae yna bolisi o ddifa moch daear, ac mae yna wersi, yn amlwg, i’w dysgu yn hynny o beth. Felly, mi fyddwn i’n gofyn i chi sicrhau bod yna ddatganiad buan iawn yn dod ar bolisi’r Llywodraeth newydd yn y maes yma.

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, wedi ymrwymo i ddull wedi’i arwain gan wyddoniaeth o ddileu TB mewn gwartheg. Mae ein rhaglen dileu TB gynhwysfawr yn cynnwys cynnal profion blynyddol ar wartheg, mesurau bioddiogelwch llym a mesurau rheoli symudiadau, a nod y dull hwn yw mynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint. Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol y bydd hwn yn fater i Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi fynd ati i ddechrau ystyried y sefyllfa.

Weinidog, a allwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gwmni bysiau Silcox? Fe fyddwch yn gwybod bod y cwmni 134 mlwydd oed yn Noc Penfro wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Llun a bod hynny wedi arwain at golli tua 40 o swyddi. Wrth gwrs, mae’n drist iawn fod cwmni gyda’r fath hanes a gwreiddiau yn y gymuned wedi rhoi’r gorau i fasnachu. Serch hynny, rhaid i ni roi sylw yn awr i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn sgil colli swyddi a diogelu’r gwasanaethau roedd Silcox yn eu gweithredu yn Sir Benfro, yn enwedig cludiant i’r ysgol a gwasanaethau bws lleol hanfodol. Tybed felly, Weinidog, a allwn gael datganiad a fyddai’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r gymuned honno ein bod o ddifrif ynghylch y pryderon hynny yma.

Mae Joyce Watson wedi tynnu sylw, yn briodol, y prynhawn yma mewn cwestiwn i’r datganiad busnes fel ein bod yn ymwybodol, nid yn unig o’r effaith bosibl o ran y colli swyddi a gwasanaethau yn ei rhanbarth—ac yn amlwg, wrth gwrs, mae hwn yn fater y bydd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith yn edrych arno yn rhan o’i gyfrifoldebau newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu’r newyddion diweddaraf i’r tŷ am y mesurau arbennig a’u heffaith yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod 12 mis bellach ers i’r bwrdd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig ac ers cyhoeddi adroddiad gwarthus ar ofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac eto, yn ôl y papurau diweddaru a ddarparwyd i gyfarfod diweddaraf y bwrdd iechyd, nid oes unrhyw strategaeth iechyd meddwl ar waith o hyd ar gyfer y bwrdd iechyd, ac nid yw’r naill na’r llall o’r ddau adolygiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ar ganlyniad sgandal Tawel Fan wedi’i gwblhau. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i’r sefyllfa ofnadwy a ddigwyddodd ar y ward honno, ac mae’n hen bryd i rywun dalu am hyn. A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf ar frys er mwyn i ni allu ystyried hyn, gan fy mod yn credu bod pobl gogledd Cymru yn haeddu llawer gwell?

Wel, mae’n amlwg yn flaenoriaeth allweddol i’r Ysgrifennydd iechyd newydd. Ac wrth gwrs, nid yn unig y mae wedi gwneud yn siŵr mai un o’r pethau a gâi’r flaenoriaeth gyntaf ganddo oedd ymweld â Betsi Cadwaladr—mewn gwirionedd, rydym hefyd wedi cael ymateb da iawn gan gadeirydd Betsi Cadwaladr, o ran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb allweddol hwnnw fel Llywodraeth Cymru. Ond, hynny yw, yn amlwg, mae’n rhaid i ni gydnabod y ffaith hefyd fod y bwrdd iechyd wedi rhoi camau ar waith i wella ei ymateb i bryderon a chwynion cleifion, wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu a’i brosesau, ac wedi ymgysylltu’n llawer llawnach ac yn fwy effeithiol—ac mae angen i chi glywed fy ymateb i’ch cwestiwn, Darren Millar—ac wedi gwella, wrth gwrs, yr ymgysylltiad clir—ymgysylltiad pwysig—â’r cyhoedd, a’r staff hefyd, ac roedd yn ystyried hyn, yn amlwg, fel mater o flaenoriaeth. Ac er mwyn y cleifion, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ymateb i’r pryderon hynny.

Hoffwn ychwanegu fy llais at gais Julie Morgan am ddadl ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Byddwn yn dweud ei bod yn glod i Lywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi pasio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i greu cynlluniau datblygu strategol. Ond yn benodol yn y ddadl, hoffwn weld trafodaeth ar y cynllun strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y 10 awdurdod lleol. Rwy’n teimlo nad yw cynlluniau datblygu lleol yn cysylltu’n dda iawn, ac mae’r broses gynllunio strategol yn ffordd o ddatrys y pwysau anochel ar awdurdodau lleol.

Ac un gair am y ffordd y dylid cynnal y ddadl; rwy’n meddwl y gallem fod yn adeiladol yn y ddadl hon. Nid yw’n broblem ar gyfer gwleidyddiaeth plaid, a dyna pam y synnais yn gynharach, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, fod Neil McEvoy—gŵr tawel yn ôl yr hyn a glywais—wedi penderfynu ei gwneud yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol; rwy’n meddwl y gall fod yn ddadl adeiladol. Yr unig ffordd rydym yn mynd i ddatrys y broblem hon yw drwy weithio gyda’n gilydd, ar draws y pleidiau. Felly, hoffwn i ni fyfyrio ar hynny pan fyddwn yn cynnal y ddadl.

Wel, diolch i’r Aelod dros Gaerffili am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, ni cheir enghraifft well o’r modd y mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd nag a welwyd gyda datblygiad llwyddiannus y fargen ddinesig, y 10 awdurdod lleol, sydd hefyd o ganlyniad i ymgysylltiad trawsbleidiol rhwng arweinwyr awdurdodau lleol ar y lefel honno—ar lefel ranbarthol. Ond rwy’n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig, o ran y ddeddfwriaeth. Mae’n ymwneud â rhoi cynllun ar waith, ac mae gennym y cyfle hwnnw yn awr, cyfle a all adlewyrchu egwyddorion democratiaeth leol, a mater i’r awdurdodau lleol yw cydweithio a chyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, byddem yn croesawu hynny yn rhan o’r dull strategol o ddatblygu o ganlyniad i’n Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 newydd y llwyddwyd i’w chael.

3. 3. Datganiad: Bil Cymru

Rwy’n symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Fesur Cymru. Rwy’n galw ar Carwyn Jones.

Lywydd, hoffwn wneud datganiad am Fil Cymru Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn y Senedd ddoe.

Prin fod angen dweud bod y Bil hwn yn hanfodol bwysig i Gymru, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol ei fod wedi cael hanes cythryblus ers cyhoeddi’r ymgnawdoliad blaenorol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu fis Hydref diwethaf. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth fanwl a ddaeth i’r casgliad nad oedd y Bil yn addas at y diben, a byddai’n cyflwyno cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a fyddai’n anghyson â mandad refferendwm 2011. Cefnogodd rhanddeiliaid arbenigol a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad y dadansoddiad hwnnw ym mis Mawrth. Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid oedi taith y Bil i’w gwneud hi’n bosibl gwneud gwaith sylweddol pellach cyn ei gyflwyno, a’r Bil a gyhoeddwyd ddoe yw ffrwyth y gwaith hwnnw.

Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fod y Bil newydd yn bell o fod yn berffaith, ac mae angen gweithio ar lawer o fanylion pwysig o hyd, ond mae’n well na’r drafft blaenorol. Mae wedi elwa o drafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Buaswn wedi hoffi ei weld yn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach i ganiatáu i fwy o gynnydd gael ei wneud, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion yn parhau, ac y dylai fod lle i ailystyried darpariaethau’r Bil yn sylweddol eto yn ystod ei daith.

Ar sail hynny, rwy’n gallu rhoi croeso gofalus i’r drafft hwn. Rwy’n cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud, ond bydd angen gwelliannau pellach ar nifer o faterion allweddol. Rwyf wedi gwneud hynny’n glir i’r Ysgrifennydd Gwladol, a byddaf yn ysgrifennu ato i nodi’r safbwyntiau hyn yn fanwl. Ond a gaf fi amlinellu’n fyr y cynnydd cadarnhaol a wnaed, a chrynhoi’r materion pwysicaf sydd eto i’w gwneud?

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pwerau newydd mewn meysydd fel etholiadau, caniatadau ynni, trafnidiaeth a thrwyddedau morol. Rydym wedi croesawu’r rhain bob amser, ac mae’r drafft wedi’i wella. Nid yw’r darpariaethau cyfansoddiadol, sy’n ymdrin â pharhauster y Cynulliad a chonfensiwn Sewel wedi newid o ran eu sylwedd ac maent i’w croesawu at ei gilydd, er nad yw darpariaethau Sewel, fel yn yr Alban, yn cynnwys yr holl amgylchiadau lle mae angen cydsyniad y Cynulliad, yn anffodus. Mae dileu’r cyfyngiadau sydd wedi dyddio ar drefniadau mewnol y Cynulliad yn newid i’w groesawu hefyd wrth gwrs.

Roedd un o’r problemau mwyaf gyda’r drafft cynharach o’r Bil yn codi o’r darpariaethau a oedd yn ailgastio’r model rhoi pwerau yn fodel cadw pwerau. Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau bod diogelu awdurdodaeth ar y cyd Cymru a Lloegr o fewn y model newydd yn galw am osod cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Roedd hwn yn gyfyngiad annerbyniol ac anymarferol ar y cymhwysedd presennol, a oedd yn cynyddu cymhlethdod ac ansicrwydd ym mhwerau’r Cynulliad yn fawr. Mae’r Bil newydd yn welliant sylweddol, a bydd gan y Cynulliad bwerau helaeth i addasu’r gyfraith breifat a chyfraith droseddol mewn perthynas â materion o fewn ei gymhwysedd. Mae’n dal i fod angen cryn dipyn o waith manwl pellach ar y darpariaethau hyn i sicrhau rhywfaint o gysondeb, cydlyniad ac ymarferoldeb cyffredinol, ond maent yn dangos cynnydd cadarnhaol.

Ar yr un pryd, fodd bynnag, wrth ymestyn cymhwysedd y Cynulliad i feysydd newydd o’r gyfraith, bydd y Bil yn rhoi ffocws cliriach ar y tensiwn o fewn yr awdurdodaeth sengl a oedd yn amlwg yn y drafft gwreiddiol. Yn ein tystiolaeth graffu cyn deddfu atodol, dadleuasom dros awdurdodaeth ar wahân fel ateb i’r tensiwn hwn, a chyhoeddasom Fil drafft amgen, a oedd yn darparu ateb mwy hirdymor a chynaliadwy. Mae’r Bil drafft diwygiedig yn ei gwneud yn gwbl eglur y bydd y gwahaniaeth rhwng y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru a’r gyfraith sy’n gymwys yn Lloegr yn parhau i dyfu dros gyfnod o amser hyd at y pwynt lle y bydd awdurdodaeth benodol neu ar wahân i Gymru yn anochel. Byddaf yn parhau i ddadlau bod rhaid mynd i’r afael â’r mater hwn yn y Bil os yw’n mynd i fod yn gwbl gredadwy fel setliad hirdymor i Gymru. Nawr, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweld ei ffordd yn glir tuag at ateb cyflawn yn y Bil hwn, dylai o leiaf roi trefniadau ar waith sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer ateb mwy hirdymor.

Mae’r Bil newydd hefyd yn dynodi rhywfaint o welliant mewn perthynas â chaniatadau Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd eu hangen ar gyfer Biliau’r Cynulliad. Croesewir y lleihad yn yr angen am ganiatadau o’r fath, ond unwaith eto, mae yna gryn gymhlethdod, ac mae angen gwaith pellach cyn y bydd yn bosibl dweud a yw’r canlyniad cyffredinol yn dderbyniol ac yn ymarferol. Hefyd gwnaed cynnydd ar leihau nifer a chwmpas y cymalau cadw, ond byddwn yn pwyso am welliannau i gael gwared ar sawl un sy’n parhau, gan gynnwys, er enghraifft, ardoll seilwaith cymunedol a thrwyddedu alcohol.

Soniaf yn fyr am y materion eraill pwysicaf mewn perthynas â’r Bil. Mae’n dileu’r darpariaethau refferendwm yn Neddf Cymru 2014, gan olygu y byddai’r Trysorlys, drwy Orchymyn, yn gallu dechrau datganoli treth incwm heb ganiatâd y Cynulliad na Gweinidogion Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir na fyddaf yn gallu cefnogi datganoli treth incwm heb fframwaith cyllidol cyffredinol clir drwy gytundeb y ddwy Lywodraeth, ac y bydd y cytundeb hwn yn rhagamod i gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Credaf fod hynny’n gwbl resymol, lle ceir cytundeb y ddwy ochr.

Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer dŵr yn annerbyniol fel y maent—nid ydynt yn cyflawni ymrwymiadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae cyflogau athrawon yn parhau i fod yn gymal cadw yn y Bil, yn sgil trafodaethau sy’n parhau ar y trosglwyddo cyllid sydd ei angen i gefnogi datganoli, er bod cytundeb ar ddatganoli mewn egwyddor. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy nghlywed yn dweud bod yr amcangyfrif a roddwn ar y gost o gymryd cyflog ac amodau athrawon rywfaint yn wahanol i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn barod i’w gynnig. Ac mae’n rhaid i’r holl faterion hynny gael sylw.

I gloi, rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond mae angen cryn dipyn o welliant pellach i wneud y Bil yn addas i’r diben ac yn addas i’r Cynulliad ystyried rhoi ei ganiatâd. Lle y gallwn ddod i gytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau. Yn anochel, bydd anghytundeb yn parhau ynghylch rhai materion sylfaenol, megis ar ddatganoli plismona—digon da i’r Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion, ond nid i Gymru yn ôl pob golwg—lle bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac i annog trafodaeth Seneddol.

Lywydd, yn ystod y Cynulliad diwethaf, ceisiais ddatblygu’r drafodaeth ar y setliad datganoli cyn belled ag y bo modd drwy gonsensws trawsbleidiol. Byddaf yn parhau i ddefnyddio’r dull hwnnw o weithredu a byddaf yn rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i’r Bil gydag arweinwyr y pleidiau yma ac yn San Steffan. Mae llawer o waith i’w wneud o fewn amserlen dynn ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd, ar draws y pleidiau, i gael y canlyniad gorau i Gymru.

Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai’r Bil Cymru newydd yn sicrhau bod ein democratiaeth yn dod i oed drwy Fil sy’n darparu sefydlogrwydd ac atebolrwydd. Mae’n ymddangos i Blaid Cymru fod geiriau Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn rhai gwag.

Bydd y Bil Cymru newydd yn cadarnhau statws Cymru fel y perthynas tlawd yn yr undeb, gan gyfyngu ar allu ein Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd rhag gweithredu er budd y bobl y’i hetholwyd i’w cynrychioli, gan gadw cymaint o bŵer â phosibl yng nghoridorau Whitehall, gan ddatganoli cyn lleied ag y bo modd.

Ydy, mae’n welliant ar yr hyn a oedd gennym o’r blaen, ac wrth gwrs mae agweddau ar hyn y dylid eu croesawu. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru o’r farn nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ymddiried yn ein pobl i reoli eu materion eu hunain pan ymddiriedir cymaint yn fwy ym mhobl yr Alban i reoli eu materion hwy.

Brif Weinidog, rydych wedi argymell dro ar ôl tro y dylai Cymru gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal â gwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig. Yng ngweddill y byd sy’n arddel y gyfraith gyffredin, mae gan ddeddfwrfeydd eu hawdurdodaethau cyfreithiol eu hunain; mae Cymru yn unigryw yn yr ystyr honno, gan fod ganddi ddeddfwrfa ddatganoledig, ond ar gyfer rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn unig. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau cyfreithiol penodol eu hunain, ac eto mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn dal i wrthod cydnabod yr angen i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun—newid a gefnogir gan gorff o arbenigwyr cyfreithiol, academyddion a gwleidyddion. Buaswn yn ddiolchgar felly am gael gwybod pa asesiadau a wnaethoch, Brif Weinidog, i gynnal eich safbwynt, a safbwynt Plaid Cymru a’r holl arbenigwyr cyfreithiol, y dylai Cymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun.

Yn dilyn ymlaen o hynny, mae’r Bil newydd yn cynnwys adran newydd nad oedd yn y Bil Cymru drafft ac nid yw ychwaith wedi’i chynnwys yn y goddefebau ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yr adran y cyfeiriaf ati yw adran 10 y Bil—asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder. Er y gallai’r adran hon ymddangos yn ddiniwed ar wyneb y Bil, mae gennym bryderon y gallai weithredu fel rhwystr i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad. Sut y gallwn wneud yn siŵr nad y profion angenrheidrwydd wedi’u gwanhau yw hyn, ac na fydd yn gweithredu fel mecanwaith rhwystro yn erbyn deddfau a wneir yma?

Mewn ymateb i’r adran hon o’r Bil, mae’r Athro Richard Wyn Jones, arbenigwr blaenllaw ar ddatganoli, wedi dweud y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y pen draw yn gallu anwybyddu deddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae’n feddylfryd sy’n gweld y Cynulliad fel deddfwrfa ail ddosbarth. Nid oes darpariaeth debyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon na Senedd yr Alban. Pa asesiad a wnaethoch, Brif Weinidog, o’r cadernid y gallai newid yr adran hon ei gael o ran arwain at roi feto ar ddeddfau Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol?

Mae yna faterion eraill y byddem yn dymuno rhoi sylw iddynt yma. Un diddordeb arbennig sydd gennym, yn enwedig ers etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu, yw datganoli’r heddlu, a byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn nes ymlaen. Ond fy nghwestiwn olaf i chi, Brif Weinidog yw: o ran datganoli’r system etholiadol, a fyddech yn barod i ddynodi pa system etholiadol y byddech chi’n bersonol yn ei ffafrio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol? A fyddech yn cytuno â mi fod angen diwygio’r system er mwyn sicrhau bod etholiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn well? A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn barod i’w ystyried ar yr adeg briodol?

A gaf fi ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau hynny, a’r olaf efallai yn fwy direidus na’r gweddill? Gallaf ddweud wrthi, wrth gwrs, fod gan y pleidiau safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylai’r system etholiadol fod ac yn wir, yr hyn y dylai maint y Cynulliad hwn fod, ond nid oes unrhyw reswm pam na ellir cynnal trafodaethau ynglŷn â beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig pan ddatganolir y pwerau hynny.

Mae’n gwybod fy mod i wedi dweud, fel hithau, lawer gwaith yn wir, nad oes cyfiawnhad dros drin Cymru mewn ffordd israddol, fel un o wledydd cyfansoddol pedair gwlad y DU. Nid yw’r Bil hwn yn mynd cyn belled ag y dylai i ddarparu sicrwydd yn hynny o beth—nid oes amheuaeth am hynny. Pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran dull o weithredu? Nid wyf erioed wedi bod yn un i ddadlau, wrth gwrs, fod Cymru, mewn rhyw ffordd, yn wahanol i Ogledd Iwerddon sydd â hanner ein poblogaeth, na’n wir i’r Alban o ran dull gwahanol o weithredu.

Ar y pwynt ynglŷn â’r awdurdodaeth, un o’r pethau sy’n rhaid i mi ei ddweud wrth yr Aelodau yw na ddylent gymryd yn ganiataol fod y Bil hwn yn cael ei ysgogi mewn unrhyw fodd gan ryw fath o resymeg. Y realiti yw y gallem gyrraedd sefyllfa yn y pen draw lle bydd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn cael eu creu yng Nghymru ac yn cael eu plismona wedyn gan wasanaeth yr heddlu nad yw’n atebol yng Nghymru a bydd unrhyw un a gafwyd yn euog yn mynd i system gyfiawnder ac o bosibl, i garchardai na chânt eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw resymeg yn hynny o gwbl. Os caiff y rhan helaeth o’r gyfraith droseddol ei datganoli, fel sy’n debygol, ac eithrio rhai troseddau—tua 20 mae’n debyg—unwaith eto, bydd gennym sefyllfa lle bydd y ddadl dros gadw awdurdodaeth sengl yn gwanhau’n sylweddol eto yn fy marn i.

Rydym wedi cyflwyno’r hyn y credwn sy’n ateb hollol resymegol ac ymarferol, sef y byddai’r awdurdodaeth gyfreithiol yn dod yn ffurfiol wahanol, fel y mae yng Ngogledd Iwerddon, fel y mae yn yr Alban, neu Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey, neu o leiaf 50 o awdurdodaethau yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’n gam mawr ymlaen yn yr ystyr hwnnw; nid oes newid mawr o ryw fath, mae’n ei gwneud yn haws o ran deddfu, ond rydym yn rhannu’r system llysoedd. Gallem, yn realistig yn fy marn i, gael system o rannu llysoedd gyda Lloegr, lle mae’r gweithdrefnau bron yr un fath, lle rhennir y costau’n briodol, ac eto, wrth gwrs, byddai gennym y rhyddid i basio deddfau yng Nghymru. Rwy’n credu bod honno’n ffordd bragmataidd a synhwyrol ymlaen, a byddaf yn parhau i annog yr Ysgrifennydd Gwladol i ystyried hynny. Oni bai bod rhywfaint o symud ar yr awdurdodaeth neu blismona, mae’r setliad hwn yn gam ymlaen, ond nid yw’n gadarn ac nid yw’n gynaliadwy.

Fy ngobaith mawr oedd y byddem yn cael deddfwriaeth a fyddai at ei gilydd yn setlo mater statws cyfansoddiadol Cymru am rai blynyddoedd i ddod. Bydd ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau, efallai, ar yr hyn fydd diwedd y daith, ond er hynny, byddai wedi setlo’r ddadl am rai blynyddoedd. Ond nid dyna a gawn, er fy mod yn cydnabod, wrth gwrs, fod cynnydd wedi’i wneud yma. Nid wyf yn deall pam y mae plismona yn fater mor dotemaidd. Mae gan yr Alban drefn felly, a Gogledd Iwerddon, a Llundain, ond nid yw Cymru yn ei chael. Pan fyddaf yn gofyn y cwestiwn, yr ateb a roddir i mi yw, ‘Wel, mae’n llinell goch i ni’. Nid oes unrhyw sail resymegol drosto a lle Llywodraeth y DU yw esbonio hynny.

Ar asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder, nid wyf yn ei weld yn union yn yr un ffordd. Wrth gwrs, ni fyddwn am i’r Ysgrifennydd Gwladol gael unrhyw bwerau i roi feto ar ddeddfwriaeth sy’n cael ei chreu gan y ddeddfwrfa etholedig hon, ond mae’r profion effaith ar gyfiawnder yn debyg, yn fy marn i—nid wyf yn dadlau o’u plaid—i asesiadau effaith rheoleiddiol lle rydym yn pasio deddf ac yn dweud, ‘Wel dyma’r effaith y bydd yn ei chael ar y llysoedd’. Dyna ni. Nid oes dim arall o gwbl y gellid eu defnyddio ar ei gyfer. Nid ydynt yn sail i ryw fath o feto gan San Steffan dros gyfraith Cymru. Byddai’n ddogfen y byddai angen ei chynhyrchu, ond ni allai dim byd pellach ddod o’r peth. Dyna fy nehongliad ohono ac nid wyf yn eu hamddiffyn, ond nid wyf yn credu ei fod yn bwynt mor anodd â hynny, er na fyddwn yn eu ffafrio’n arbennig fel sydd wedi cael ei awgrymu o bosibl. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw broses—neu ni allaf weld unrhyw broses—lle gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio asesiad o’r effaith ar gyfiawnder nad oedd yn cytuno ag ef er mwyn atal cyfraith Cymru rhag cael ei rhoi ar y llyfr statud.

Bydd llawer mwy o gyfle, wrth gwrs, i edrych ar fanylion y Bil arfaethedig yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rwy’n gobeithio na fydd yr amserlen yn San Steffan mor frysiog nes ei gwneud yn broblematig iawn i gynnwys gwelliannau, gan fod angen gwelliannau. Er enghraifft, os yw’r drefn gyhoeddus yn mynd i gael ei datganoli a bod y gyfraith ar faterion trefn gyhoeddus, trwyddedu alcohol, heb ei datganoli, pan fo’r ddau ohonynt, i mi, mor agos at ei gilydd, ai amryfusedd yn unig yw hynny neu a oes rhyw fath o reswm rhesymegol dros hynny? Y rheswm a roddwyd i mi dros y misoedd diwethaf am beidio â datganoli trwyddedu yw ei fod yn rhan anwahanadwy o faterion trefn gyhoeddus. Wel, os yw materion trefn gyhoeddus wedi’u datganoli, yna dylai trwyddedu fod wedi’i ddatganoli hefyd.

Mae angen mwy o gyfle, wrth gwrs, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, i bleidiau edrych ar fanylion y ddeddfwriaeth. Mae angen i ni ymchwilio’n fwy trylwyr i rai meysydd i weld beth yn union y maent yn ei olygu. Wedi dweud hynny, nid yw’r cerbyd wedi torri i’r fath raddau â’r cerbyd diwethaf a gyflwynwyd i ni, ond mae angen gwneud llawer o waith ar yr injan a’r seddi a’r olwynion. Dyna’n union sydd angen i ni ei wneud dros yr ychydig wythnosau nesaf. O leiaf nid oedd yn rhywbeth a ymddangosodd heb injan a heb olwynion, sef yr hyn oedd y Bil diwethaf. Edrychaf ymlaen, wrth gwrs, at weithio gyda’r pleidiau eraill i wneud yn siŵr fod gennym rywbeth sy’n gydlynol, yn synhwyrol, yn deg ac yn anad dim, yn gynaliadwy.

Diolch yn fawr am eich datganiad, Brif Weinidog. Hoffwn innau hefyd ganmol yr Ysgrifennydd Gwladol am y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses cyn cyhoeddi’r Bil hwn, drwy gyfarfod â phob plaid yn y Siambr hon a llawer ar y tu allan i’r Siambr ac i fyny yn San Steffan, er mwyn cyflwyno Bil sy’n eithriadol o wahanol, ddywedwn ni, i’r Bil drafft y dadleuwyd yn ei gylch ac a drafodwyd yn y Siambr hon rai misoedd yn ôl. Rwy’n meddwl fod gennym Fil a fydd yn cynyddu cyfrifoldebau’r Cynulliad hwn yn ddramatig ac yn y pen draw, er budd cyflawniad gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn wir, yr economi ac yn anad dim, enw da’r Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl bod angen i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod y Bil yn symud ymlaen mewn modd amserol gan fod angen i rai o’r darpariaethau hyn gyrraedd yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Rwy’n clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am blismona, ond a fyddai’n cytuno, ar blismona, na ddylai hynny weithredu fel rhwystr rhag dod i gonsensws er mwyn i’r Bil hwn fynd yn ei flaen a mynd ati i gyflawni rhai o’r pethau eraill a fyddai’n amlwg yn elwa, megis yr etholiadau, megis caniatadau ynni, caniatadau morol, ac yn y blaen, sydd eu hangen yn ddirfawr er mwyn cynyddu gallu’r lle hwn i ddeddfu o blaid pobl Cymru?

Rwyf hefyd yn clywed yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud am gyflogau athrawon, ac rwy’n anghytuno ag ef ar y mater penodol hwnnw. Rwyf wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau a hefyd wedi bod mewn hustyngau lle y siaradodd Gweinidogion Llafur blaenorol yn helaeth ynglŷn â sut na fyddent eisiau cyflogau athrawon. Yn wir, dadleuodd Leighton Andrews, gynt o’r plwyf hwn, yn chwyrn yn erbyn y cyn lefarydd addysg, Nerys Evans, yn etholiad 2011 ynglŷn â pham na ddylid datganoli cyflogau athrawon i’r sefydliad hwn, gan ei fod yn gam tuag at gyflogau rhanbarthol, y mae, felly. Byddwn yn falch iawn o ddeall pam y mae’r Prif Weinidog mor awyddus i weld cyflogau athrawon yn cael eu datganoli. Oni fyddai’n dweud y byddai hynny’n gam tuag at greu strwythur cyflogau rhanbarthol y gellid ei ymestyn i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus? Unwaith eto, byddwn yn gobeithio’n fawr iawn na fyddai’r Prif Weinidog yn gweld hwn fel rhwystr arall y gellid ei roi ar waith i atal y Bil rhag symud ymlaen mewn modd amserol drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Cytunaf yn llwyr â’r fframwaith cyllidol y mae’r Prif Weinidog wedi’i grybwyll yn ei ddatganiad. Mae angen rhoi hynny ar waith i wneud yn siŵr fod y cyfnod pontio ar bwerau treth incwm ar gyfer unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gynhwysfawr, a bod angen iddo roi sicrwydd ac yn anad dim, fod angen iddo wneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled. Byddaf yn gweithio gydag ef ar hynny i sicrhau nad yw hynny’n digwydd, ac unrhyw drafodaethau y byddai’n hoffi’u cael ar hynny ac unrhyw gymorth, credaf fod hwnnw’n waith caib a rhaw hanfodol lle gall pob arweinydd yn y Siambr geisio sicrhau consensws a mynd yn y pen draw at y Trysorlys ac at Weinidogion Llywodraeth mewn ffordd unedig, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welsom yn y pedwerydd Cynulliad oedd ein bod yn cyflawni llawer iawn mwy pan fo’r Siambr hon yn siarad ag un llais. Rwy’n meddwl bod y gwelliant ar y Bil hwn wedi’i gyflawni’n fawr drwy’r llais unedig a ddaeth o’r Cynulliad hwn pan gawsom y ddadl yma a phan bleidleisiodd y Cynulliad cyfan ar deilyngdod, neu fel arall fel y digwyddodd, y Bil drafft gwreiddiol a gyflwynwyd i’w drafod gan y Siambr hon.

Rwy’n nodi’r symud ar yr awdurdodaeth ar wahân. Rwy’n anghytuno ag arweinydd Plaid Cymru pan ddywed fod pob arbenigwr cyfreithiol eisiau awdurdodaeth ar wahân. Efallai fy mod wedi camglywed, ond rwy’n meddwl eich bod wedi dweud ‘pob’. Mae yna gorff o bobl sydd eisiau awdurdodaeth ar wahân, mae yna gorff o bobl sydd eisiau i’r sefyllfa bresennol barhau, ac mae yna gorff o bobl sy’n ddigon hapus i symud i’r sail hon o awdurdodaeth benodol tra bo corff cyfraith Cymru yn esblygu ac yn datblygu. Rwy’n meddwl ein bod wedi symud yn sylweddol i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n credu y dylid croesawu’r symudiad hwnnw’n fawr, ac mae’n gynnydd y gellir ei wella ymhellach wrth i gorff cyfraith Cymru dyfu yn y blynyddoedd nesaf.

Ond fel y dywedais, rwyf am weld y Bil Cymru hwn yn dechrau ar ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel y gallwn, yn y pen draw, gael y cyfrifoldebau ehangach a fydd yn galluogi’r Llywodraeth a’r ddeddfwrfa i fwrw ymlaen â’r gwaith o wneud yr hyn y mae pobl Cymru wedi ein hethol i’w wneud, sef ceisio gwelliannau mewn cymunedau a bywydau ar draws Cymru gyfan. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn weithio i adeiladu proses gyflym ar gyfer gweithredu Bil Cymru a lansiwyd ddoe.

A gaf fi ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau? Rwy’n cydnabod bod yr ymgysylltiad wedi bod yn llawer gwell. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud hynny. Yn sicr, cafwyd ymgysylltiad llawer gwell â Swyddfa Cymru, ond roedd yn anos ei gael ag adrannau fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd, mewn rhai adrannau, mae eu Gweinidogion yn rhywle arall ar hyn o bryd, ac nid yw’n hawdd dod o hyd iddynt am resymau y bydd yn gwybod amdanynt.

Ar blismona, mae hwn yn fater rhyfedd. Sut y gellir cael setliad parhaol lle mae gennych wasanaeth heddlu wedi’i ddatganoli ar draws y DU, ond nid yng Nghymru, lle rwy’n credu ​​y byddai’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu o blaid datganoli plismona—cawsant oll eu hethol—a lle pleidleisiodd pobl Cymru, at ei gilydd, dros bleidiau sydd am weld datganoli plismona? Felly, nid yw fel pe bai yna ymchwydd barn yng Nghymru nad ydynt am weld datganoli plismona. Bydd gofyn i’r heddlu, yn ystod y 10, 20 mlynedd nesaf, blismona deddfau gwahanol iawn, o bosibl, yng Nghymru a Lloegr. I mi, nid yw hynny’n gwneud llawer iawn o synnwyr.

Mae yna rai meysydd lle nad yw’n gwneud synnwyr eu datganoli: ymdrin â diogelwch cenedlaethol neu droseddau cyfundrefnol—wrth gwrs hynny. Mae yna rai materion y mae angen ymdrin â hwy, yn fy marn i, ar draws y DU. Yn wir, y realiti yw nad yw’n digwydd ar hyn o bryd, ond dylai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, ceir rhai meysydd o blismona y gallaf weld bod modd eu trin yn well ar lefel y DU, ac yn wir, ar lefel Ewropeaidd a’r byd, o ran hynny.

Ar gyflog ac amodau athrawon, roedd i’w weld yn rhoi’r argraff ei fod yn erbyn datganoli cyflog ac amodau athrawon. Nid dyna farn ei blaid yn San Steffan, sydd wedi cytuno, mewn egwyddor, i’r datganoli ddigwydd. Mae’n rhyfedd, unwaith eto, fod popeth mewn addysg wedi’i ddatganoli heblaw cyflog ac amodau. Ceir enghreifftiau mewn meysydd eraill yn y sector cyhoeddus lle mae cyflog ac amodau wedi’u datganoli. Nid yw’n anarferol. Mae’n sôn am gyflogau rhanbarthol. Wel, cofiwch, wrth gwrs, nid oes unrhyw gyflog ac amodau i’r DU—ni fu erioed. Mae cyflog ac amodau wedi’u datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac maent wedi’u datganoli yn yr Alban. Os mai’r pryder erioed oedd y byddai cyflog ac amodau yng Nghymru rywsut yn waeth nag yn unman arall yn y DU, yn bendant nid dyna fyddwn i na neb arall yn y Siambr hon, fe dybiaf, yn dymuno ei weld wrth gwrs. Ond yr hyn y mae’n ein galluogi i’w wneud yw llunio pecyn cydlynus o hyfforddiant, cyflog ac amodau yn y blynyddoedd nesaf ar gyfer ein hathrawon, nad yw’n bosibl ar hyn o bryd, ond sy’n bosibl ac wedi’i wneud, mewn gwirionedd, yn yr Alban. Felly, i ni yng Nghymru, mae yna gyfle yno.

Ar fater awdurdodaeth, o ran pobl gyffredin, gallaf weld nad yw hyn yn rhywbeth sy’n gwneud i bobl orymdeithio yn y strydoedd. Dyma’r unig awdurdodaeth cyfraith gyffredin yn unrhyw le ar y blaned lle ceir dwy ddeddfwrfa yn yr un awdurdodaeth. Nid yw’n bodoli yn unman arall o gwbl yn y byd. Pam y mae hynny’n bwysig? Oherwydd ei fod yn arwain at ddryswch. Darluniodd Simon Thomas y pwynt yn y Cynulliad blaenorol pan ddywedodd fod etholwr wedi dod i’w weld ac wedi gofyn pam nad oedd Bil a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond yn gymwys yn Lloegr yn unig. Pan fyddwn yn newid y gyfraith, y realiti yw nad ydym yn newid neu’n creu cyfraith Cymru, rydym yn newid cyfraith Cymru a Lloegr fel y mae’n gymwys yng Nghymru. Mae’n ffordd hynod o gymhleth o wneud rhywbeth syml iawn mewn gwirionedd. Cafodd ei wneud yng Ngogledd Iwerddon heb gwestiwn. Cafodd ei wneud yn yr Alban—mae bob amser wedi bod yno yn yr Alban.

Yn hanes y Gymanwlad, pa bryd bynnag y bydd Senedd yn cael ei chreu, boed yn annibynnol neu’n ymreolaethol, mae’r awdurdodaeth wedi dilyn bob amser, ac eithrio yng Nghymru. Nawr, unwaith eto, nid yw’r ddadl y dylai Cymru fod yn wahanol mewn rhyw ffordd, yn dal dŵr yn fy marn i. Rwy’n credu bod gwerth yn y ddadl nad ydym, ar hyn o bryd yn sicr, neu efallai am flynyddoedd lawer i ddod, yn dymuno creu system llysoedd ar wahân, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda’r gost sy’n gysylltiedig â hynny. Rwy’n credu bod honno’n ddadl ddilys a chryf, ond bydd angen ymdrin â’r mater hwn yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n drueni nad ymdrinnir â hynny yn awr cyn iddo ddod yn broblem yn ystod y pump neu 10 mlynedd nesaf.

Serch hynny, byddwn yn parhau i ymgysylltu, wrth gwrs. Rwyf am gyrraedd pwynt lle bydd gennym Fil sy’n mynd â ni yn ein blaenau o ran pwerau datganoledig. Rwy’n tybio ​y bydd yna rai meysydd lle ceir anghytundeb na chaiff ei ddatrys, ond rwy’n gobeithio y gellir cyfyngu cymaint â phosibl ar y meysydd hynny.

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac fel chithau, rwy’n rhoi croeso gofalus i’r Bil, am fod fy mhlaid yn blaid sy’n credu mewn datganoli. Ymwneud â hynny y mae ein cyfraniad i’r ddadl ar yr UE: datganoli pwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan neu i Gaerdydd. Ond yng nghyd-destun y Bil penodol hwn, fel y byddwch yn gwybod, mae cymal 16 yn ymwneud â chyflwyno pwerau i amrywio trethi, ond yn dileu’r gofyniad sydd yn y ddeddfwriaeth gyfredol i gynnal refferendwm cyn rhoi’r pwerau hynny mewn grym.

Mae eich datganiad yn dweud eich bod yn gwrthwynebu datganoli’r pwerau hyn heb ganiatâd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru a fyddai’n golygu felly eu bod yn cael eu gosod gan Weinidogion y Trysorlys. Wel, rwy’n cytuno â hynny i’r graddau hyn: os nad oes refferendwm i fod yna rwy’n sicr yn credu y dylai Cynulliad Cymru gael yr hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Ond ni welaf unrhyw reswm pam na ddylid gweithredu’r ddarpariaeth, sydd yn y gyfraith bresennol, i ymgynghori â phobl Cymru. Dyna oedd yr addewid a roddwyd cyn i’r Ddeddf Cymru ddiwethaf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn bellach yn fater o dorri gair i bobl Cymru. Mae’n benderfyniad mawr oherwydd nid yn unig gallai fod pwerau i amrywio trethi, ond wrth gwrs, gallai fod pwerau i godi trethi. Ni fyddai dim yn waeth i iechyd economi Cymru, yn fy marn i, na gwneud yr hyn y mae llawer o Lywodraethau Llafur wedi’i wneud yn ystod fy oes i—gosod cyfraddau trethi cosbedigaethol, sy’n dinistrio potensial creu cyfoeth economi Cymru.

Mae’r asesiad effaith sy’n dod gyda Bil Cymru yn dweud yn ddigyffro fod y ddadl bellach wedi symud yn ei blaen ac felly nad oes angen i ni gael y refferendwm hwn. Ni roddir unrhyw gyfiawnhad yn yr asesiad effaith dros y newid hwn, ac rwy’n gofyn i’r Prif Weinidog, sy’n ddemocrat honedig, i ymgynghori â phobl Cymru cyn iddo gydsynio i roi pwerau i amrywio trethi yn nwylo’r Cynulliad hwn.

Wel, roedd nifer o’r pleidiau yn y Siambr hon—a’i un ef, a bod yn deg—yn cynnwys argymhellion ar ddyfodol pwerau i amrywio’r dreth incwm yn eu maniffestos yn yr etholiad, a rhoddodd pobl Cymru eu dyfarniad. O safbwynt fy mhlaid i, dywedasom na fyddem yn cynyddu baich treth incwm ar bobl yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Aeth pobl i’r etholiad gan wybod hynny. Ni phleidleisodd niferoedd enfawr dros bleidiau a ddywedodd, ‘Rydym yn erbyn cael pwerau rhannol i amrywio treth incwm yng Nghymru’, na’n wir dros bleidiau a oedd yn mynnu y dylid cynnal refferendwm. Y pwynt yw hwn: mae’r Alban wedi cael cynnig pwerau amrywio trethi llawer mwy sylweddol na Chymru, heb unrhyw refferendwm; mae pwerau amrywio trethi wedi’u cynnig i Ogledd Iwerddon, yn enwedig mewn perthynas â’r dreth gorfforaeth, sy’n arwyddocaol iawn o ran yr hyn a allai ddigwydd yno—eto heb refferendwm. A oes gwir angen refferendwm bob tro y bydd newid yn y setliad datganoli? [Torri ar draws.] Wel, gwnaed yr addewid gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Er mwyn i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt, eglurodd yr holl bleidiau eu safbwyntiau yn yr etholiad y mis diwethaf a mynegodd yr etholwyr eu barn. Nid oedd yr etholwyr o’r farn eu bod yn dymuno pleidleisio dros bleidiau a ddymunai gael refferendwm na’n wir dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu pwerau i amrywio treth incwm. Rhaid defnyddio’r pŵer yn ddoeth. Rwy’n deall hynny. Mae’n sôn am adeg pan oedd cyfraddau treth incwm yn gosbedigaethol. Roeddwn i yn yr ysgol gynradd ar y pryd, felly rwy’n derbyn ei air o brofiad ar hynny. Ond yn sicr, nid fy mhrofiad o Lywodraethau Llafur diweddar oedd eu bod yn cyflwyno cyfraddau treth cosbedigaethol, ac ni fyddem eisiau gwneud hynny. Yr hyn y mae’n ei wneud, wrth gwrs, yw rhoi cyfle i ni greu ffrwd refeniw y gallwn fenthyg yn ddoeth yn ei herbyn. Os na chawn bwerau i amrywio treth incwm, ni allwn fenthyg arian ac ni fyddwn yn gallu adeiladu ffordd liniaru’r M4. Felly, mewn gwirionedd, mae pwerau i amrywio treth incwm yn arwain at gynlluniau mwy nag y byddai gennym obaith o dalu amdanynt fel arall. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae’n arferol, gyda’r pwerau benthyca sydd gan y Llywodraethau hynny, i fenthyca arian ar gyfer cynlluniau mawr. Os na chawn y gallu i wneud hynny, ni allwn wneud unrhyw beth gyda seilwaith trafnidiaeth mawr, er bod yn rhaid defnyddio’r pwerau’n ddoeth ac yn synhwyrol, wrth gwrs, ar ran pobl Cymru.

Mae gen i saith siaradwr arall. Os ydych i gyd yn gryno ac yn fyr gyda’ch cwestiynau, rwy’n gobeithio mynd drwy bob un ohonoch. Mick Antoniw.

Brif Weinidog, rwy’n meddwl bod rhaid i ni groesawu tôn datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei fod yn dangos parodrwydd i weithio i wella er mwyn cyflawni amcan cyffredin sef deddfwriaeth sy’n gweithio mewn gwirionedd. Os bydd hynny’n digwydd mewn gwirionedd, yna bydd hynny’n beth da. A gaf fi ddweud fod gennyf bryderon sylweddol am yr ymagwedd tuag at fater awdurdodaeth? Oherwydd, i mi, mae’n mynd at wraidd y ddeddfwriaeth ac nid ydym eisiau sefyllfa lle mae’n rhaid i ni geisio mynd ati’n barhaus i ddehongli’r berthynas rhwng ein pwerau, deddfau Cymru a Lloegr, a’r pwynt ynghylch awdurdodaeth. Roedd honno’n broblem y cafodd Ysgrifennydd Gwladol diwethaf Cymru gryn anhawster â hi. Cafwyd ymgais yn y Bil drafft hwn i ymdrin â hynny, ond ceir darn braidd yn rhyfedd yn y ddeddfwriaeth, sy’n dweud mai’r pwrpas yw

‘cydnabod gallu’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru i wneud cyfraith sy’n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.’

Nawr, mae’n ymddangos i mi mai dim ond parhau camddealltwriaeth sylfaenol ynghylch mater awdurdodaeth y mae hynny’n ei wneud. Nid oes unrhyw ddirgelwch yn perthyn iddo, nac unrhyw swyn. Y cyfan yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn y bôn yw deddfau a basiwyd yn San Steffan wedi’u cymhwyso i Gymru a Lloegr fel yr ardal lle mae’r awdurdodaeth yn bodoli, ond bellach mae gennym ddeddfwrfa ychwanegol, sef Cymru. Os ydym yn mynd i gydnabod a chreu fframwaith drwy statud sy’n dweud, ‘Rydym yn cydnabod bodolaeth benodol deddfwriaeth Gymreig’, ni all fod o fewn cyfraith Cymru a Lloegr, gan fod gennych Senedd y DU, sydd bellach yn eistedd—ac mae gennych bleidleisiau Seisnig ar gyfer deddfau Seisnig—fel Senedd Seisnig i bob pwrpas yn pasio deddfwriaeth ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid yr hyn a basiwn ni yn unig yw’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yng Nghymru, ond mae’n cynnwys y ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn San Steffan, ond sydd ond yn gymwys yn Lloegr neu heb fod yn gymwys yng Nghymru. Ac oni bai fod y gwrth-ddweud sylfaenol hwnnw’n cael ei ddatrys mewn gwirionedd, rydym yn mynd i barhau i gael y dadleuon hyn; ni fyddwn yn datrys hyn a byddwn yn ei drafod flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn amlwg am weld diwedd arno. Ac mae’r un broblem yn parhau. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch mewn perthynas â’r asesiadau effaith cyfreithiol, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir yn eu cylch o ran eu heffaith, ond os oes gennych un ar gyfer deddfwriaeth Gymreig, dylech gael un ar gyfer deddfwriaeth Seisnig yn ogystal. Felly, mae’n fater o gael y cydbwysedd hwnnw’n iawn.

Nawr, rwy’n meddwl bod y mater yn garbwl i ryw raddau, gan mai’r cynnig gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw sefydlu pwyllgor a fydd yn edrych i mewn i hyn mewn gwirionedd. Nawr, fy mhryder mwyaf yw bod gennym bwyllgor sy’n mynd i ystyried rhywbeth rwyf fi’n sicr yn meddwl, ac rwy’n credu bod llawer o bobl yn meddwl, sy’n hanfodol er mwyn cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, ac mae angen amserlen ar ei gyfer. Mae arnom angen fframwaith iddo weithio o’i fewn, oherwydd mae angen i ni ddatrys hyn fel rhan o’r ddeddfwriaeth hon. Ni all fod yn rhywbeth sy’n rhaid ei ychwanegu yn nes ymlaen. Roeddwn yn meddwl tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi neu y byddwch yn gallu eu cael mewn perthynas â’r cynnig penodol hwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ffurfiad y pwyllgor, yr amserlen a’r fframwaith y mae’n mynd i weithio o’i fewn.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y ffordd y mae wedi egluro cymhlethdod y sefyllfa bresennol yn ei ffordd ei hun? Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflwyno unrhyw amserlen. Yr hyn sy’n rhyfedd yw nad oes neb wedi dadlau y bydd yr awdurdodaeth yn para am byth. Mae pawb yn dweud y bydd yn rhaid iddi newid ar ryw adeg yn y dyfodol. Y cwestiwn yw, a ddylid ymdrin â’r mater hwnnw yn awr neu ar adeg pan nad oes cymaint o bwysau i wneud iddo ddigwydd yn gyflym? A hanes datganoli yng Nghymru yw bod camau’n cael eu rhoi ar waith pan fo’r pwysau’n cynyddu, yn hytrach na bod camau’n cael eu rhoi ar waith cyn i’r pwysau ymddangos.

Mae’n iawn dweud nad mater totemaidd yw hwn. Nid yw’r DU yn bodoli fel awdurdodaeth; nid yw erioed wedi bod yn un. Mae’r Alban wedi bodoli erioed fel awdurdodaeth ar wahân, a Gogledd Iwerddon ers 1920, Cymru a Lloegr ers 1536 yn unig. Mae’n amser hir, ond ers 1536 yn unig, ac ers hynny, sefydlwyd deddfwrfa yma yng Nghymru. Ar y sail honno, mae’r awdurdodaeth fel arfer yn dilyn y ddeddfwrfa, ond nid dyna’r sefyllfa y maent ynddi yn awr. Mae bron fel pe baent yn ceisio gwneud i’r deddfau ffitio’r awdurdodaeth, yn hytrach na fel arall. Y broblem gyda’r Bil blaenorol oedd mai diben y cyfyngiadau a gâi eu gosod, a oedd mewn gwirionedd yn mynd â ni yn ôl at y sefyllfa cyn 2011, oedd ceisio gwasgu cyfraith Cymru a Lloegr i awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Nawr mae’n ymddangos bod gennym sefyllfa lle bydd yr awdurdodaeth yn bodoli mewn enw’n unig i raddau helaeth, ond dros y blynyddoedd, mewn llawer o feysydd, bydd deddfau go wahanol yn cael eu creu. Yn fy marn i, nid yw hwnnw’n ateb cadarn. Gallwch ei reoli yn y tymor byr, o bosibl, ond yn y tymor hwy, nid yw’n mynd i ddigwydd. Rydym eisoes mewn sefyllfa—rwyf wedi gwrando ar farnwyr sydd wedi dweud hyn wrthyf—lle mae cyfreithwyr, boed yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr, wedi dod i Gymru ac wedi dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn cymryd yn ganiataol eu bod yn yr un awdurdodaeth, a bod y gyfraith yr un fath. Nawr, byddwn yn gosod gorchymyn costau a wastraffwyd arnynt—os yw hynny’n swnio’n rhy llym, efallai mai dyna pam nad wyf yn farnwr—er mwyn cyfleu’r neges. Ond mae honno’n broblem yn awr, ac oni bai yr ymdrinnir â mater yr awdurdodaeth mewn rhyw ffordd—nid o reidrwydd awdurdodaeth ar wahân, ond awdurdodaeth benodol—bydd y broblem yn parhau yn y dyfodol.

Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Roeddwn i wedi gobeithio, Brif Weinidog, mai hwn fyddai’r darn olaf o ddeddfwriaeth y byddai’r Deyrnas Unedig, yn y Senedd yr wyf i hefyd yn mynd iddi yn achlysurol, yn ei phasio ar gyfer cyfansoddiad Cymru. Ond mae’n ymddangos imi nad ydym ni wedi cyrraedd y fan honno eto. Felly, rwyf am osod—wrth ofyn cwestiwn i chi, a gofyn am eich cefnogaeth wrth ateb—rwyf am osod her i’r cyfeillion i lawr y tu hwnt i Paddington i ddefnyddio’r amser rhwng y drafodaeth yma heddiw, sef y drafodaeth gyhoeddus gyntaf, lawn ar y Bil yma, a Thrydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ddiwedd y broses a bod y Bil wedi pasio, i ddiwygio’r Bil yma’n ddigonol fel y gall fod yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol lawn i newid amgylchiadau Cymru.

Rwy’n meddwl bod yna ddigon o hadau yn y Bil yma i hynny ddigwydd. Rwy’n ffeindio, er enghraifft—a dim ond un enghraifft a chwestiwn byr—gydnabyddiaeth o gyfraith Cymru. Wel, rydym yn gwybod bod yna gyfraith Cymru achos rydym yn ei gwneud fan hyn. Felly, diolch yn fawr San Steffan am gydnabod bod y fath beth â chyfraith Cymru. Ond mae’n rhaid inni symud ymhellach na hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n bwriadu adrodd yn ôl ar eich trafodaethau diddorol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod rhwng beth rydym yn ei wneud heddiw a diwedd y broses seneddol yma er mwyn inni gyrraedd lle yr wyf i a chithau eisiau cyrraedd, rwy’n gwybod: cael Deddf weddol derfynol, gweddol glir, fel ein bod ni ddim yn dod yn ôl i ddeddfu ar gyfansoddiad Cymru bob tair blynedd?

Wel, a gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mae’n wir i ddweud bod yna gyfle fan hyn i greu setliad cyfansoddiadol cynaliadwy. Mae’r Bil yn mynd peth o’r ffordd tuag at hynny, ond nid yr holl ffordd. I fi, beth sy’n bwysig yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod yna faterion yn y Mesur ar hyn o bryd sydd eisiau cael eu datrys. Fel gwnes i sôn amdano yn gynharach, byddaf i’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwnaf yn siŵr y bydd yr arweinwyr yn y tŷ hwn yn gweld y llythyr hynny, ac wrth gwrs unrhyw ymateb. Mae’n bwysig dros ben bod Aelodau yn gwybod beth yw taith y drafodaeth dros yr wythnosau nesaf, gan fod yr amserlen yn mynd i fod yn fyr iawn.

Rwy’n falch iawn, fel y Prif Weinidog, o roi croeso gofalus iawn i’r cam hwn ymlaen, ond mae’n ymddangos fel pe bai bob amser yn gam ychydig yn betrusgar, prin yn dal i fyny â lle dylem fod. Felly, byddwn yn sicr yn annog y Prif Weinidog—ac rwy’n credu ei bod yn ymddangos mai dyma ewyllys y Siambr heddiw—i wthio’n galed yn y trafodaethau, i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, nid yn unig gyda Swyddfa Cymru, ond gyda chydweithwyr eraill, i geisio cael mwy allan o hyn, oherwydd, yn sicr, roedd ar flaen y gad, pan ymddangosodd y Bil Cymru diwethaf, o ran y feirniadaeth ymhlith y gymdeithas ddinesig yng Nghymru ac eraill. Nid oedd neb yn hoff ohono, roedd yn dioddef o ddiffyg maeth, ac yn y pen draw, cafodd ei adael yn yr anialwch cyfansoddiadol. Mae hwn yn gyfle, fel y mae’r gŵr bonheddig gyferbyn sydd hefyd â phrofiad o San Steffan newydd ei ddweud, i wneud rhywbeth da i bobl Cymru, nid yn unig er mwyn arbed embaras Gweinidogion Swyddfa Cymru. Byddwn yn ei gefnogi i’r eithaf i fwrw iddi gyda’r neges honno, gan fod pethau da yn y Bil hwn, ond nid yw’n agos at ble mae angen iddo fod eto.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Yr anhawster gyda’r Bil diwethaf, yn y bôn, oedd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ysgrifennu at adrannau eraill Whitehall a dweud, ‘Beth ddylid ei ddatganoli yn eich barn chi?’ Nawr, rhaid eu bod wedi meddwl ei bod hi’n Nadolig ar y pwynt hwnnw, a chawsom y Bil a gawsom, Bil a oedd yn anwybyddu hyd yn oed yr hyn a oedd wedi digwydd yn 2011 gyda chanlyniad ysgubol y refferendwm. Dyna pam ein bod wedi cael y Bil hwnnw. Mae’r Bil hwn wedi myfyrio ar y ddau brif fater cyfansoddiadol—mater caniatadau a mater deddfwriaeth a’n gallu i greu deddfwriaeth yn rhydd. Mae hynny wedi’i wneud, a chroesawaf hynny. Felly, mae ei strwythur yn llawer mwy diogel na strwythur y Bil blaenorol, ond mae llawer o waith i’w wneud ar y manylion.

A gaf fi groesawu tôn y Prif Weinidog, a hefyd ei uchelgais i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni darn cynhwysfawr iawn o gyfraith gyfansoddiadol yn awr? Os aiff y Bil hwn ymlaen i’r llyfr statud, dyma fydd y bedwaredd Ddeddf Cymru mewn 20 mlynedd, ac rwy’n meddwl fy mod wedi dweud o’r blaen nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn newid eu ceir mor gyflym â hynny, felly nid yw cael newidiadau mor aml mewn cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn rhywbeth i’w argymell yn arbennig, yn amlwg.

A gaf fi roi croeso cynnes i ddiwedd y prawf angenrheidrwydd? Yn yr araith ar yr adroddiad Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Siambr hon ym mis Mawrth—mae’n ddrwg gennyf, ym mis Ionawr—nodais fod yr Americanwyr wedi ymdrin â’r math hwn o gysyniad yn 1819 ac wedi symud ymlaen i sicrhau sefydlogrwydd mawr yn eu cyfansoddiad drwy beidio â chydnabod profion o’r fath. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi lleihau’r nifer o gymalau cadw. Mae hyn i’w groesawu. Roedd gennym dros 250—roedd yn anodd iawn eu cyfrif, mewn gwirionedd—ond yn awr, rwy’n meddwl mai ychydig o dan 200 sydd gennym. Ond byddwn yn argymell ein bod yn mynd yn ôl at y cysyniad sylfaenol o fodel cadw pwerau, sef neilltuo i Lywodraeth ganolog y pwerau sydd eu hangen arno i weithredu—ac rwy’n defnyddio ‘Llywodraeth ganolog’ yn y cyd-destun hwn i olygu Llywodraeth y DU. Fel yr awgrymoch, rwy’n credu mai mynd ati o’r cyfeiriad arall a wnaeth Whitehall, ac mae angen i hynny newid, er mwyn iddynt gydnabod cadernid a pharhauster y setliad datganoledig mewn gwirionedd. Mae gormod o gymalau cadw o hyd, ac nid yw’r egwyddor sydd angen i ni ei chymhwyso wedi’i chymhwyso’n llawn hyd yma. Roedd eich disgrifiad yn hynod o briodol mewn perthynas â thrwyddedu. A dweud y gwir, os na allwch ganiatáu i ddeddfwrfa genedlaethol ymdrin â thrwyddedu, a’ch bod yn credu bod yna broblem sylfaenol, yna rwy’n meddwl bod gennych anhawster mawr gyda’r ffordd rydych yn ymateb i’r cwestiwn cyfansoddiadol dan sylw yn ei gyfanrwydd.

A gaf fi ddweud i gloi fy mod yn credu mai rhan o fod yn oedolyn yw byw gyda pharadocs? Mae’n her barhaus. Ond mae’n anodd deall mai allbwn y ddeddfwrfa hon yw cyfraith Cymru a Lloegr, pan fo’n amlwg mai cyfraith Cymru yn unig yw hi. Nawr, dyna’r sefyllfa, ac rwy’n meddwl bod ceisio egluro materion technegol cyfreithiol y modd rydym yn llunio cyfraith yn astrus iawn, ac ni all arwain at feddwl clir. Ond rwyf am wneud pwynt ymarferol yma, oherwydd rwy’n meddwl bod geiriau’r Prif Weinidog i’w croesawu’n gynnes, ac yn dangos ei fod yn mynd i weithio gyda Llywodraeth y DU i egluro’r ymgais hon i wneud cyfraith Cymru yn fwy penodol a rheoli canlyniadau gweinyddol ac ymarferol corff cynyddol o gyfraith benodol Gymreig. Ac mae’n fater o gael barnwyr sydd wedi’u hyfforddi’n gymwys i glywed achosion yn awr yng Nghymru, a’r cyfreithwyr sy’n dadlau’r achosion hynny hefyd. Nid yw hwn yn fater dibwys, gan fod ein cyfraith yn mynd i fod yn fwyfwy gwahanol, a thros faterion hynod o bwysig—cyfeiriodd rhywun yn gynharach yn y cwestiynau at ein deddf gynllunio newydd—felly mae’n rhaid i hyn gael ei wneud. A dylwn ddweud, wrth i ni fynd ar hyd y llwybr hwnnw, ac er tegwch i’r proffesiwn cyfreithiol, maent eisoes wedi cydnabod hyn, bydd yn gynyddol anodd i ni anwybyddu realiti’r gwahanu sydd bellach yn digwydd. Ar y pwynt hwnnw rwy’n tybied y byddwn oll yn cydnabod ein bod wedi cyrraedd awdurdodaeth ar wahân.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod, fel erioed, am ei sylwadau? Un o’r materion a godwyd sy’n peri pryder i mi yw cyfreithwyr yng Nghymru yn dweud, ‘Wel, os ydym yn awdurdodaeth ar wahân, a yw hynny’n golygu na fyddwn yn gallu ymarfer yn Lloegr?’ Nid yw hynny’n wir. Mae’n gwbl arferol i gyfreithwyr ymarfer ar draws awdurdodaethau cyfraith gyffredin. Pan oeddwn yn ymarfer, roedd yn bosibl ymarfer yng Ngogledd Iwerddon cyn belled â’ch bod yn ymuno â bar Gogledd Iwerddon, a oedd yn £70, rwy’n meddwl, yn y dyddiau hynny, ac yna gallech ymarfer. Cyn belled â’ch bod yn ymuno â’r gymdeithas broffesiynol briodol, nid oedd unrhyw rwystr i ymarfer o gwbl. Mae’r Alban yn fater hollol wahanol, gan fod cyfraith yr Alban yn llawer agosach at gyfraith yr Almaen, Sbaen neu Ffrainc, o ran hynny, nag ydyw i gyfraith Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, nid oes rhwystr i hynny ac ni fyddwn am greu sefyllfa lle byddai’n anodd i gwmnïau cyfreithwyr o Gymru gael gwaith y tu allan i Gymru. Mae hynny’n bwysig i’n heconomi. Nid dyna y mae awdurdodaeth ei wneud. Mae’n ei gwneud yn haws cymhwyso deddfau ac yn haws i’r cyhoedd eu deall, ond yn sicr nid yw’n ei gwneud yn anos i gwmnïau weithredu. Er enghraifft, dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf yn Belfast, mae llawer o gwmnïau o Lundain wedi symud i mewn, ac mae Gogledd Iwerddon yn awdurdodaeth hollol ar wahân. Nid ydynt wedi gweld hynny’n rhwystr i ymarfer yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rwy’n credu bod honno’n ddadl y gellir ei datrys, o ran y proffesiwn cyfreithiol.

Rwy’n croesawu’r newidiadau yn y Bil drafft newydd. Nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell, ond rwy’n meddwl bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, felly mae’n groeso gofalus. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym. Rwy’n meddwl bod croeso cyffredinol i’r ffaith fod trefniadau etholiadol yn mynd i gael eu datganoli i’r Cynulliad hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd modd i’r Cynulliad bleidleisio dros bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed yn etholiadau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai dyna un o’r pethau gwych yn y Bil na ddylem ei anghofio: y bydd gennym y pŵer hwnnw. A gaf fi ofyn hyn i’r Prif Weinidog: a fyddai’n rhoi’r pŵer i ni alluogi awdurdodau lleol i gael pleidleisiau i rai 16 a 17 oed? Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allai’r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw hefyd.

O ran mater plismona, rwy’n credu ei bod yn siomedig iawn nad oes unrhyw symud wedi bod ar fater plismona a byddwn yn gofyn i’r Prif Weinidog wneud popeth yn ei allu yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer y Bil hwn i geisio newid meddyliau Llywodraeth San Steffan gan nad oes esboniad drosto, yn enwedig o ystyried y ffaith fod plismona wedi’i ddatganoli i bob un o’r cyrff datganoledig eraill.

Yn olaf, tybed a allai fynd i’r afael â mater cyfiawnder ieuenctid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond nid y system cyfiawnder ieuenctid, a chredaf fod hynny’n ddryslyd iawn ac yn rhywbeth y gellid ei wneud yn gliriach yn syml iawn, yn ôl pob tebyg. A yw’n bosibl gwneud hynny yn y trafodaethau ar y Bil hwn?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Mae hi bob amser wedi bod yn bybyr ei chefnogaeth, wrth gwrs, i bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed. Byddai hynny o fewn pŵer y Cynulliad hwn o ran etholiadau’r Cynulliad. O ran etholiadau llywodraeth leol, o’r hyn a gofiaf am y Bil diwethaf, yn sicr, roedd etholfraint llywodraeth leol yn fater a gadwyd yn ôl. Byddai’n rhaid i mi edrych i weld a yw hynny wedi’i wneud yn gliriach yn y Bil hwn. Mae’n glir o’n rhan ninnau, ond nid yw’n glir o ran etholiadau llywodraeth leol. Yn amlwg, rwy’n croesawu ei sylwadau ar blismona. Ar gyfiawnder ieuenctid, dylai’r polisi a’r system fod gyda’i gilydd yn fy marn i a byddwn yn parhau i ddadlau dros hynny gyda Llywodraeth y DU.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. I’r rhan fwyaf o bobl Cymru, rwy’n credu nad yw rhai o’r materion ym Mil Cymru, materion rydym i gyd yn eu trafod ac yr ymddengys ein bod yn meddwl eu bod yn bwysig iawn, yn faterion y maent yn pryderu yn eu cylch go iawn. Yr un mater pwysig y mae bron bawb yn mynd i fod yn bryderus amdano, a’r mater rwy’n ei ofni, yw’r pwerau codi trethi a’r posibilrwydd o’u cael heb refferendwm. Yn 2011, pan gawsom y refferendwm ar bwerau pellach, dywedwyd wrthym bryd hynny nad oedd yn ymwneud â chael mwy o ACau ac nid oedd yn ymwneud â phwerau codi trethi: ymarfer tacluso ydoedd. Yn awr cawn wybod bod gan y ddwy Lywodraeth—y Llywodraeth yma a’r Llywodraeth yn San Steffan—gonsensws cysurus rhyngddynt a’u bod wedi penderfynu nad oes gwir angen i ni gyflwyno hyn gerbron pobl Cymru. Wel, mae Leanne Wood ei hun newydd sôn bod yn rhaid glynu at ewyllys pobl Cymru, a siaradodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fod yn rhaid i’r tŷ hwn siarad ag un llais. Nid yw’r tŷ hwn yn siarad ag un llais. Mae saith AC UKIP yma ac nid ydym yn cytuno—[Torri ar draws.] Nid ydym yn cytuno y dylid cael pwerau codi trethi heb refferendwm. Y flwyddyn nesaf, ceir etholiad i bob aelwyd yng Nghymru, ar gyfer y cynghorau. Yn 2017, mae etholiad ar gyfer pob cyngor. Os ydych am arbed arian, os ydych am fod yn ddemocrataidd a’ch bod am roi llais i bobl Cymru ar y mater hollbwysig hwn, pam na chawn ni refferendwm ar yr un pryd yn union a chaniatáu i bobl Cymru leisio’u barn? A ydym am i’r Llywodraeth hon yma gael pŵer dros eu pyrsau a’u waledi? Nid wyf fi yn bersonol am weld hynny.

Wel, y bobl sydd wedi ein hethol ni yma. Sefais ar y maniffesto yn fy etholaeth gan gynnwys polisïau ar bwerau amrywio treth incwm a chefais fy ethol fel y cafodd—[Torri ar draws.] Cefais fy ethol, yn y pen draw, yn fy etholaeth. [Chwerthin.] Ac etholwyd pob Aelod yma, yn wir. Ond y pwynt yw hwn: gofynnwyd i bobl Cymru am eu barn ar hyn y mis diwethaf ac maent wedi mynegi eu barn. Cafodd eich plaid saith sedd—do, mae hynny’n wir—ond mae 60 o Aelodau yma felly ni chafwyd ymchwydd o gefnogaeth enfawr i’ch plaid, er fy mod yn cydnabod eich bod, wrth gwrs, wedi cynyddu eich cefnogaeth ac mae’n amlwg yn y ffaith fod yna saith ohonoch yma.

Rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, nad oes gan eich plaid hanes cadarn o gefnogi datganoli. Roeddech chi a minnau gyda’n gilydd yn y Coed Duon yn ystod refferendwm 2011 ac roeddech yn gwrthwynebu pwerau deddfu sylfaenol ar y pryd. Roedd eich plaid, dros dri etholiad cyntaf y Cynulliad, o leiaf, yn gwrthwynebu bodolaeth y Cynulliad. Nawr, mae newid wedi bod. Iawn, rwy’n derbyn hynny. Ond i lawer o’ch aelodau, gwn nad yw bodolaeth y Cynulliad ynddo’i hun yn rhywbeth y maent yn gyfforddus ag ef. Duw a ŵyr, gwelsom lawer o’r llythyrau a anfonodd rhai ohonynt dros y blynyddoedd i rai o’r papurau newydd: nid oeddent yn arbennig o hapus gyda’r Cynulliad, Cymru na’r iaith Gymraeg. Mae hynny wedi newid.

Rwy’n derbyn y pwynt a wnewch heddiw eich bod yn ceisio datblygu setliad datganoli sy’n fwy cadarn, ond y pwynt rwy’n ei wneud yw hyn: yn yr Alban, ni fu refferendwm ac nid yw UKIP wedi galw am refferendwm ychwaith ar y pwerau eang y bydd yr Alban yn eu cael i amrywio trethi. Yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r dreth gorfforaeth yn cael ei datganoli, unwaith eto, nid yw UKIP wedi galw am refferendwm yng Ngogledd Iwerddon. Felly, beth sy’n gwneud Cymru yn wahanol, yn enwedig o ystyried y ffaith fod pob plaid yn eu maniffestos wedi ymdrin â’r mater hwn, a bod pobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno cefnogi pleidiau—a hynny gyda mwyafrif llethol—a fyddai’n dymuno gweld pwerau amrywio trethi wedi’u datganoli, ac a fyddai’n mynd ati’n benodol i wneud yn siŵr fod y pwerau hynny, pan fyddant yn cyrraedd, yn cael eu defnyddio’n ddoeth? Ond rwy’n dweud wrtho eto: heb bwerau amrywio trethi, ni chawn ffordd liniaru’r M4; nid oes unrhyw ffordd o gael un heb y llall.

4. 4. Datganiad: Tata Steel

Rwy’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Lywydd, cafodd y Cynulliad hwn ei ailymgynnull yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, yn rhannol ar fy nghais i, ond yn ei hanfod, i gydnabod y pryderon dwys sydd gan gymunedau dur ledled Cymru ac yn wir, pob un ohonom yn y Siambr hon ynghylch dyfodol gweithfeydd Tata. Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Tata, Llywodraeth y DU, undebau llafur a phrynwyr a buddsoddwyr posibl. Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y sefyllfa fel y mae a’r cynnydd sy’n cael ei wneud.

Mae’r Aelodau’n gwybod fy mod wedi bod yn Mumbai ychydig wythnosau yn ôl i barhau fy neialog gyda Tata ynglŷn â’r broses werthu. Trwy gydol y broses hon, fy mhrif bryder yw gweithlu Tata, y cymunedau dur a’r angen i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy ar gyfer holl weithrediadau Tata yng Nghymru. Dyma’r achos rwyf wedi’i gyflwyno’n gyson ac yn uniongyrchol i uwch arweinwyr Tata.

Bydd yr Aelodau’n deall yn iawn fod cyfrinachedd masnachol yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ddweud mewn unrhyw fanylder, ond gallaf gadarnhau bod ein trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn arwyddocaol, a safbwynt Tata o hyd yw mai ei flaenoriaeth yw cynnal proses werthu sy’n sicrhau canlyniad cadarnhaol. Ac mae Tata bellach yn y broses o werthuso’r cynigion y mae wedi’u cael.  Nawr, pa benderfyniad bynnag a wneir gan Tata, rydym yn barod i gefnogi unrhyw gynigwyr sy’n mynd drwodd i’r cam nesaf a fydd yn arwain at gadw swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yng Nghymru.

Ddydd Mercher diwethaf, gwelsom lansio British Steel, wedi i Greybull Capital brynu is-adran cynhyrchion hir Ewropeaidd Tata, sydd wedi’i leoli’n bennaf yn Scunthorpe. Mae hynny’n cynnig rhai rhesymau cadarn dros fod yn hyderus fod yna ddyfodol hyfyw i wneud dur yng Nghymru a’r DU yn ehangach, a dyna y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser.

Y bore yma, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Dur Llywodraeth y DU. Mae gwaith y Cyngor Dur yn cael ei ddatblygu drwy bedwar gweithgor sy’n ystyried nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond cynaliadwyedd hirdymor gwneud dur. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â Llywodraeth y DU a hefyd yn mynychu pedair ffrwd waith y Cyngor Dur.

Yn y cyfamser, mae gwaith ein tasglu Tata Steel yn parhau; cynhaliodd ei gyfarfod diweddaraf ar 9 Mai. Darperir cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithio’n agos gyda Tata, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r sesiynau ymwybyddiaeth, gyda thua 300 yn mynychu hyd yn hyn. Ar 28 Ebrill, cynhaliwyd ffair swyddi a fynychwyd gan 38 o weithwyr o galibr uchel, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ffair swyddi arall. Roedd cynrychiolwyr undebau yn gadarnhaol ynglŷn â’r cymorth a ddarparwyd hyd yn hyn.

Mae’r tasglu yn cydnabod y bydd angen cyfathrebu’n barhaus â chyn-weithwyr dros y misoedd nesaf, gan na fydd rhai unigolion yn awyddus i dderbyn cynigion o gymorth ar unwaith. Cynlluniwyd sesiynau cyngor pellach ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, a bydd y rhain yn cael eu hagor i’r gadwyn gyflenwi fel y bo’n briodol.

Mae ffrydiau gwaith y tasglu hefyd yn parhau â’u gwaith. Mae’r ffrwd waith iechyd yn asesu tystiolaeth ar ba effaith a geir ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Cynlluniwyd gweithdai cymunedol hefyd i ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gael eu diswyddo ac aelodau o’r teuluoedd ehangach. Mae’r ffrydiau gwaith hyfforddiant a sgiliau, a busnes a’r gadwyn gyflenwi hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, gan gysylltu hefyd, wrth gwrs, â gwaith y ffrwd waith iechyd. Mae’n helpu i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i gymorth ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithwyr uniongyrchol Tata. Lywydd, mae Busnes Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda 60 o brif gwmnïau cyflenwi Tata ar sail un i un, ac mae’n dod â chefnogaeth ehangach i mewn, gan gynnwys cymorth sgiliau a hyfforddiant yn ôl yr angen.

A gaf fi droi at gaffael? O ran caffael, rydym yn parhau i ddadansoddi’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy’n darparu gwelededd i’n rhaglen a’n prosiectau blaenoriaeth, er mwyn sefydlu rhagolwg o’r angen am ddur yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir i ddarparu eglurder ynghylch y gofynion hynny. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen yn dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU.

Yn ein dogfennau contract cludiant, rydym wedi gwthio pethau ymhellach eto o ran y defnydd o ddur y DU. Nid yn unig ein bod yn datgan bod yn rhaid i gontractwr sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ganddo a’i is-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion BES 6001, ond rydym hefyd wedi datgan yn benodol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar gyfer unrhyw ddur sy’n cael ei ddefnyddio ar y prosiect.

Gan symud i feysydd eraill o gefnogaeth, rydym wedi cyflwyno’r ardal fenter ym Mhort Talbot. Daw hyn yn sgil trafodaethau defnyddiol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot, y gymuned fusnes, a’r tasglu, gan bwyso ar arbenigedd y sector preifat drwy fwrdd yr ardal fenter, a gadeirir gan Roger Maggs, a hoffwn nodi ei gyfraniad arbennig yn gyhoeddus.

Lywydd, mae gweithwyr dur yn gwneud eu gwaith mewn amodau anodd, ac mae pensiwn diogel yn fudd hanfodol. Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 26 Mai ar opsiynau ar gyfer darparu diogelwch i gynllun pensiwn Dur Prydain. Nid yw pensiynau wedi’u datganoli, ond rwy’n gwbl glir fod yn rhaid diogelu uniondeb y cynllun pensiwn, a rhaid i’r ymddiriedolwyr, Tata a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad teg a phriodol i aelodau’r cynllun.

Lywydd, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i sicrhau canlyniad llwyddiannus i broses werthu Tata. Mae hon yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i’n cymunedau dur, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i sicrhau bod yr Aelodau’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gopi ymlaen llaw o’r datganiad. Mae Llywodraeth y DU yn ôl y sôn yn rhoi pwysau sylweddol ar Tata i newid ei benderfyniad i werthu ei asedau yn y DU yn gyfnewid am ddileu ei rwymedigaeth diffyg pensiwn a benthyciad o £900 miliwn. A allai’r Prif Weinidog egluro a chofnodi ei ddealltwriaeth o ba mor wir yw hynny? Ac a yw’n deall ac o bosibl hyd yn oed yn rhannu amheuon naturiol y gweithlu ynglŷn ag a yw cwmni sydd wedi ffafrio ei ffatri yn IJmuiden yn hytrach na Phort Talbot dro ar ôl tro—yn fwyaf diweddar drwy wrthod yn llwyr y cynllun achub ychydig fisoedd yn ôl—yn gallu bod ag unrhyw ymrwymiad hirdymor credadwy i gynhyrchiant dur yng Nghymru? Rhaid i mi ddweud y gallai unrhyw un sydd wedi gweld cynllun McKinsey gael eu gorfodi i ddod i’r casgliad fod y ffordd y cafodd Port Talbot ei gamreoli gan Tata Steel Europe ar y lefel honno yn ffactor sy’n cyfrannu at ddifrifoldeb y problemau a’i hwynebai. Yn sicr, nid yw trosglwyddo’r allweddi yn ôl i’r union bobl hyn sy’n gwneud penderfyniadau dros bennau rheolwyr a gweithwyr lleol yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn fodlon ei gefnogi, lle ceir dewisiadau eraill gwell mewn perchnogaeth leol.

A fyddai’r Prif Weinidog hefyd yn derbyn y byddai caniatáu i gwmni rhyngwladol byd-eang gydag adnoddau eithriadol fel Tata, a wnaeth tua £4 biliwn o elw net y llynedd, i droi cefn ar ei gyfrifoldebau pensiwn yn creu perygl moesol drwy osod cynsail a fyddai’n caniatáu i gwmnïau trawswladol eraill wneud yr un fath? A yw hefyd yn pryderu—fel minnau—fod dymuniad ymddangosiadol Downing Street i daro bargen gyflym a thwyllodrus o syml drwy’r drws cefn gyda Tata, yn hytrach na phroses werthu deg a thryloyw, wedi’i yrru gan awydd am newyddion da yn wleidyddol cyn 23 Mehefin, yn lle buddiannau hirdymor yr economi a chymunedau dur? Er ei fod ef a minnau yn rhannu’r un dyhead am ganlyniad tebyg o ran y refferendwm, a yw’n cytuno beth bynnag, gan nad yw’r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i fynegeio’r gronfa bensiwn y cyfeiriodd ati yn cau hyd nes 23 Mehefin, y byddai’n rhy fuan i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud mewn perthynas â Tata cyn y dyddiad hwnnw?

Yn olaf, o weld bod Tata bellach, yn rhyfedd ddigon, mae’n ymddangos, mewn sefyllfa i farnu ai hwy neu un o’r cynigwyr ddylai dderbyn buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sy’n cael ei gynnig, pan fydd yn cyfarfod â Tata nesaf, a allai ofyn, er mwyn sicrhau proses briodol o dryloyw, a fyddent yn derbyn ac yn caniatáu i’r Cyngor Dur y cyfeiriodd ato i gomisiynu asesiad cwbl annibynnol o’r opsiynau sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd o ran eu cost a’u budd, nid yn unig i Tata, ond i’r cyhoedd—y trethdalwr a’r gweithiwr dur fel ei gilydd?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Nid oes fawr ddim y byddwn yn anghytuno yn ei gylch. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw bod yna ddyfodol cynaliadwy hirdymor a diogel i’n swyddi dur. Mae’n wir fod Tata wedi dweud eu bod yn dymuno gwerthu; dyna yw safbwynt eu bwrdd o hyd. Nid wyf yn siŵr fod hwnnw o reidrwydd yn safbwynt a fydd yn para am byth, os caf ei roi felly. Gallaf ddychmygu y byddai’r gweithwyr ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill yn poeni pe bai’n wir fod Tata yn mynd i barhau heb i warantau gael eu rhoi ynghylch beth fyddai cynlluniau Tata yn y dyfodol. Pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth ariannol ar y bwrdd, byddwn yn disgwyl iddynt—ac nid wyf wedi clywed am unrhyw swm penodol—dderbyn gwarantau ynghylch buddsoddiad Tata yn asedau dur Cymru yn y dyfodol yn gyfnewid am hynny. Mae’n ymddangos i mi y byddai’n anodd amddiffyn unrhyw gamau i wneud fel arall.

O ran y cynllun pensiwn, mae’n llygad ei le: sefydlwyd y gronfa diogelu pensiynau i ymdrin â chronfeydd pensiwn sydd wedi methu, i bob pwrpas, am fod y busnes sy’n noddi wedi methu. Nid dyna a ddigwyddodd yma. Ni fyddem, beth bynnag, o blaid gweld cronfa bensiwn Dur Prydain yn mynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau. Mae’r dewis arall a gyflwynwyd yn dal i fod yn hynod o anodd o ran y buddiolwyr, a’r neges y bydd yn ei chyfleu. Er enghraifft, os ceir bargen lle bydd Tata yn parhau, lle ceir cymorth ariannol sylweddol i Tata, a lle bydd y rhwymedigaethau pensiwn yn cael eu dileu, y neges i bob busnes arall yn y DU yw, ‘Wel, gadewch i ni wneud yr un peth’ ac nid wyf yn credu y gall cyllid cyhoeddus ymdopi â hynny. Ar ddechrau’r broses hon, y bwriad bob amser oedd y byddai mater pensiynau yn cael ei ddatrys er mwyn cynorthwyo cynigydd newydd a phrynwr newydd. Mae gwneud hynny ar gyfer cwmni sy’n bodoli eisoes yn llawn o beryglon, fel y mae’n gywir i ddweud.

Rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried ystyriaethau gwleidyddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach, eu bod yn ystyried dyfodol ein swyddi a’n cymunedau yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y DU. Mae’n anodd gweld ar hyn o bryd a allai’r Cyngor Dur gynnal asesiad annibynnol, o ystyried maint y cytundebau peidio â datgelu sydd ar waith mewn perthynas â’r saith cynigydd. Mae’n hynod o bwysig, fodd bynnag, fod y broses geisiadau yn cael ei harchwilio’n fanwl. Mae Tata wedi fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd, y byddant yn edrych ar y cynigion yn ofalus iawn, ac yn y pen draw, wrth gwrs, mae gan Tata enw da yn fyd-eang. Bydd colli’r enw da hwnnw’n gostus iddynt, ac maent yn gwybod hynny. Felly, yn fy marn i, beth bynnag yw’r canlyniad—a’r canlyniad rwyf fi eisiau yw dyfodol cynaliadwy a diogel—bydd angen i Tata ddangos eu bod wedi rhoi chwarae teg i’r gweithlu a’u bod wedi creu’r amodau a fydd yn golygu bod dyfodol i’r diwydiant. Ac fel y dywedais, mae’r enw da hwnnw yn werth rhywbeth iddynt. Roeddent yn pwysleisio hynny wrthyf yn y cyfarfodydd y maent wedi’u cael.

Mae’r ffaith fod yr amserlen wedi ymestyn yn galonogol i’r graddau ei fod yn golygu bod Tata yn edrych o ddifrif ar y ceisiadau, yn fy marn i, ond fel y bydd yn gwybod, mae nifer o rwystrau sy’n rhaid eu goresgyn eto. Mae’r gefnogaeth a gynigiwn fel Llywodraeth yn dal i fod yno. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â dau o’r cynigwyr ac wedi gwrando ar eu cynlluniau, ac yn fy marn i, mae’r ddau gynigydd fel ei gilydd o ddifrif ynghylch eu cynigion. Rwy’n dweud unwaith eto ei bod yn bwysig i Tata roi ystyriaeth lawn i’r cynigion, a’u bod yn anelu i werthu’r asedau am bris teg a sicrhau dyfodol i’n cymunedau dur, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried y tymor hir, yn hytrach na meddwl bod ateb tymor byr yn gadarn, gan nad yw hynny’n wir. Mae angen i ni feddwl, nid am yr ychydig fisoedd nesaf, na’n wir am y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond am y ffordd rydym yn adeiladu’r dyfodol i’n diwydiant dur ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt.

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, a’r datganiadau blaenorol a wnaethoch i’r tŷ hwn, yn amlwg, y datganiadau ysgrifenedig a llafar. Rwy’n eich canmol am fynd allan i Mumbai, gyda Sajid Javid, a sefyll yno fel dwy Lywodraeth ysgwydd yn ysgwydd i ofyn am sicrwydd gan Tata Steel. Byddwn yn falch o ddeall yn union ar ba lefel y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny rhyngoch chi a Tata Steel, er mwyn i hynny, wrth gwrs, ar y sicrwydd a roddwyd, allu rhoi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â pha lefel o fewn y cwmni roeddent yn trosglwyddo’r sicrwydd hwnnw yn ôl i chi, oherwydd rwy’n credu ei bod yn hanfodol i ni ddeall y strwythur y mae Tata yn ei ddefnyddio, (a) i werthuso’r cynigion a (b) i sicrhau canlyniad llwyddiannus o’r broses hon.

Rwy’n anghytuno â sylwadau’r siaradwr blaenorol am safbwyntiau Llywodraeth y DU a tharo bargeinion drwy’r drws cefn. O’r Prif Weinidog i lawr, credaf fod pawb wedi siarad am ddiogelwch hirdymor a phwysigrwydd y diwydiant dur yma yn y Deyrnas Unedig i economi’r DU o ddiwydiant dur, yn hytrach na chynnal rhywbeth am dair neu bedair wythnos yn unig. O ystyried ymrwymiad y Prif Weinidog, Sajid Javid, a Llywodraeth y DU, ynghyd â Llywodraeth y Prif Weinidog ei hun, rwy’n credu bod yna barodrwydd i wneud yn siŵr fod hon yn fargen hirdymor yn hytrach na rhywbeth a fydd yn llosgi’n ddim ar ôl cyfnod byr iawn. Yn wir, roedd llawer o’r sylwadau mewn datganiadau blaenorol yn ymwneud â’r union faterion hynny, nad ydym yn dymuno gweld prynwr yn mynd i unrhyw un o’r safleoedd hyn—gan nad yw’n ymwneud â Phort Talbot yn unig, mae yna lawer o safleoedd eraill yng Nghymru a hefyd ar draws y DU—a datgymalu’r safleoedd a gostwng allbwn y safleoedd hynny. Rwy’n gobeithio eich bod wedi cael sicrwydd gan Tata eu bod, wrth werthuso’r ceisiadau, yn anelu i sicrhau dyfodol hirdymor pob un o’r safleoedd, ac yn wir, natur integredig y gwaith sydd ganddynt yma yn y Deyrnas Unedig, gan fod llawer o’r safleoedd lloeren, gawn ni ddweud, yn amlwg yn dibynnu ar gadw gwaith Port Talbot ac ar wneud yn siŵr fod allbwn yn parhau ar y lefelau cynhyrchu presennol a lefelau cynyddol yn y dyfodol.

Felly, byddwn yn ddiolchgar hefyd, pe bai Tata yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi ynglŷn â hyfywedd y cynigion a ddaeth i law—. Fe ddywedoch fod saith cynnig ar y bwrdd ac rwy’n gwerthfawrogi bod yna gytundebau peidio â datgelu yno am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd, ond a ydych mewn sefyllfa i roi rhagor o eglurder ynghylch cryfder y cynigion hynny a dynameg y cynigion, yn benodol ynghylch y dull cwmni cyfan o weithredu, neu a yw cryn dipyn o’r cynigion hynny ond yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar eu pen eu hunain?

Hefyd, hoffwn wybod gan y Prif Weinidog ynglŷn â’r gwaith y mae ei Lywodraeth yn arbennig wedi’i wneud ynglŷn ag ardrethi busnes. Rydych wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio ailwerthuso’r sail y gallent fod yn gweithio gyda—arni, dylwn ddweud—ar gyfer cyflwyno pecyn ardrethi busnes gwell. Oherwydd eich dealltwriaeth, y tro diwethaf i chi annerch y tŷ hwn, oedd mai pecyn bach iawn fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu ei gynnig, ond rwyf wedi gweld yn y wasg ac wedi eich clywed yn dweud o’r blaen fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith, ac rwy’n tybio mai’r gwaith hwnnw yw trafod gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a thrafod gyda Llywodraeth San Steffan pa fath o becyn gwell y gallech ei gyflwyno, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a wnaed rhagor o gynnydd ar y pecyn ardrethi busnes y gallech fod yn ei gyflwyno.

Hoffwn wybod hefyd: beth y mae’r ymadrodd ‘dur wedi’i ddympio’ yn ei olygu i’r Prif Weinidog? Mae nifer o’r Aelodau yn y tŷ hwn ac yn y wasg wedi canolbwyntio’n llwyr ar agweddau Tsieineaidd ar ddympio dur, er bod dur wedi’i ddympio o Rwsia ar y farchnad, a dur wedi’i ddympio o Dde Corea hefyd. A oes yna ddealltwriaeth bron, pan fyddwch yn ymdrin â chontractau—gan eich bod yn sôn yn eich datganiad am ei wneud yn rhan o derminoleg contractau a’r disgwyliad na fyddai dur wedi’i ddympio’n cael ei ddefnyddio yng nghontractau’r Llywodraeth? A ydych yn bod yn wlad-benodol? A oes yna gategori rydych yn canolbwyntio arno? Credaf fod hynny’n bwysig i’w wybod hefyd.

O ran y pensiynau a’r rhwymedigaethau pensiwn, rwy’n credu y byddai pawb yn cytuno â’r teimlad a nodwyd gennych yn eich datganiad, Brif Weinidog. Dyma faes sy’n llawn o heriau, ond rydym yn deall, yn amlwg, fod rhwymedigaethau pensiwn yn rhwystr mawr—i unrhyw brynwr llwyddiannus ysgwyddo’r rhwymedigaeth honno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar yr iaith a ddefnyddioch yn eich datganiad i ddeall yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn perthynas â’r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad penodol yn ffurfiol er mwyn cynorthwyo i liniaru rhai o’r rhwymedigaethau hynny ar gyfer unrhyw rai sy’n prynu’r safleoedd yn y dyfodol fel y gellir meddiannu’r safleoedd a gwarantu cynhyrchiant a sicrwydd swydd i’r gweithwyr ar y safleoedd, pa un a ydynt yn safle-benodol neu’n wir ar draws y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn a ofynnodd am yr ymgynghoriad ac yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r ymgynghoriad hwnnw. Rwy’n credu bod angen i ni wybod yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ar yr ymgynghoriad hwnnw a beth yw opsiwn dewisol Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhan mor annatod o gwblhau gwerthiant y gweithfeydd dur yn llwyddiannus.

Yr un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud hefyd yw eich bod yn cyffwrdd yn eich datganiad ar y cyfleoedd ailhyfforddi. Crybwyllwyd hyn gan David Rees, yr Aelod dros Aberafan. Yn anffodus, beth bynnag fydd canlyniad y broses werthu, bu diswyddiadau ar y safleoedd—yn enwedig Port Talbot—a chyhoeddwyd diswyddiadau ar safleoedd dur eraill—Llanwern yn arbennig. Mae’n bwysig deall bod y pecynnau hyfforddi a roddwyd ar waith yn bodloni gofynion y rhybuddion diswyddo a gyflwynwyd a’r gweithwyr fydd angen eu cadw a’u cynorthwyo. A ydych yn hyderus y bydd y pecynnau sydd ar waith yn diwallu anghenion y gweithwyr hynny ac yn benodol, mewn ffordd a fydd yn eu cael yn ôl i gyflogaeth mewn modd amserol? Diolch, Brif Weinidog.

Diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei gwestiwn. Roedd y cyfarfod a gefais ym Mumbai gydag uwch weithredwyr ac un aelod o fwrdd Tata. Parhaodd y cyfarfod am beth amser. Archwiliwyd nifer o faterion gennym, ac un ohonynt, er enghraifft, oedd pa gymorth pellach y gellid ei gynnig gydag ardrethi busnes ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn edrych arno. Yr anhawster, wrth gwrs, yw sut rydych yn teilwra cymorth i un fenter benodol heb agor y drws i bobl eraill hefyd, a sut rydych yn creu sefyllfa fel yna yn deg ac mewn modd fforddiadwy. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau.

O ran dur wedi’i ddympio, byddwn fel arfer yn diffinio hynny fel dur sy’n eithaf aml yn cael ei werthu ar farchnad yn is na’r gost o’i gynhyrchu, weithiau drwy gymhorthdal ​​refeniw a ddarperir gan y llywodraeth lle caiff y dur ei gynhyrchu, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond sydd wedyn yn gwerthu’n rhatach na chynhyrchiant dur mewn marchnad benodol nad yw’n denu cymhorthdal ​​refeniw. Dyna un o’r diffiniadau y gallwch ei roi i ddur wedi’i ddympio. Gwyddom fod y broblem sydd wedi digwydd yn y farchnad fyd-eang yn deillio o arafu economi Tsieina. Mae’r Tsieineaid wedi cynhyrchu dur na all eu heconomi eu hunain ei amsugno ac felly maent yn ei werthu mewn marchnadoedd eraill, ac mae hynny’n achosi i bris dur y byd ddisgyn, sy’n golygu mai’r mentrau dur gyda’r amodau mwyaf anodd a heriol sydd wedi’i chael hi anoddaf. Yn y DU, gwyddom fod prisiau ynni yn uchel, mae’r bunt, er ei bod bellach yn disgyn yn eithaf cyflym, wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi’i gwneud hi’n anodd allforio ac wrth gwrs, y trefniadau tariff a roddwyd ar waith gan farchnadoedd eraill o amgylch y byd.

Ar bensiynau, nid ydym eto wedi rhoi ein barn ar beth fyddai ein dewis gorau. Yn wreiddiol, yr argymhelliad a wneuthum oedd, pe bai prynwr newydd yn dod i mewn, yna byddid yn ymdrin â’r cynllun pensiwn mewn ffordd debyg i’r ffordd yr ymdrinwyd â chynllun pensiwn Glo Prydain er mwyn gwneud glo yn fwy deniadol ar gyfer preifateiddio; mewn geiriau eraill, ei dynnu allan o’r hafaliad er mwyn i Lywodraeth y DU gael cyfran—a gwyddom fod Llywodraeth y DU yn gwneud yn eithaf da o’r pensiwn hwnnw ar hyn o bryd—er mwyn gwarantu buddion y bobl yn y cynllun pensiwn, ond hefyd er mwyn cael gwared ar y cynllun pensiwn o’r hafaliad i brynwr newydd. Byddwn yn dadlau ei bod yn llawer mwy cymhleth os yw’r gwaith yn parhau o dan yr un perchennog. Mae’n gywir dweud mai’r ymddiriedolwyr a ofynnodd am yr adolygiad—rhaid iddynt wneud hynny o dan y gyfraith, a dyna pam y dechreuodd y broses.

Rwy’n meddwl fy mod wedi rhoi rhai manylion am yr hyn a wnaed i helpu pobl sy’n cael eu diswyddo. Er nad yw’r union ffigurau gennym eto, mae’n ymddangos y bydd nifer sylweddol yn ymddeol yn gynnar, a byddant mewn oed i allu gwneud hynny. Hyd yn hyn, fel y soniais yn gynharach, mae rhai wedi derbyn cymorth. Ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y rhai nad ydynt yn dod i gael cymorth yn syth yn cael help yn y dyfodol, fel y dywedais yn gynharach yn y datganiad, dros y mis hwn a’r mis nesaf, bydd y cymorth hwnnw yn parhau i fod ar gael.

Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy’n ategu’n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy’n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price—cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol—yn ei ymateb i’ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata.

Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â hyn yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â chronfa bensiwn Glo Prydain, ond y gwahaniaeth rhwng y ddau fater, wrth gwrs, yw bod diffyg yng nghronfa bensiwn Tata ac mae gwarged enfawr yng nghronfa bensiwn Glo Prydain, ac mae’r Llywodraeth wedi seiffno swm mawr iawn o arian oddi arni at ei dibenion ei hun.

Ni ellir caniatáu i Tata gerdded yn rhydd o’u cyfrifoldebau i weithwyr dur Port Talbot a mannau eraill. Mae’r gronfa bensiwn ar hyn o bryd yn werth tua £14.5 biliwn a cheir diffyg, rwy’n deall, o tua £500 miliwn. Nid dyma’r unig asedau y mae Tata yn berchen arnynt yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, maent yn berchen ar Jaguar Land Rover ac roedd elw Jaguar Land Rover am y flwyddyn ddiwethaf yr adroddwyd yn ei chylch yn £3.6 biliwn. Felly, gall Tata fforddio llenwi’r twll yn y gronfa bensiwn ddur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yn iawn, ac rwy’n meddwl y dylid mynnu eu bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldebau. Rwy’n sicr yn cymeradwyo’r pwynt a wnaeth Adam Price am berygl moesol.

Ategaf ymdrechion y Prif Weinidog yn frwd, gan gynnwys mynd i Mumbai, i geisio datrys yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, mae wedi’i gyfyngu gan y terfynau ar ei bwerau, fel yn wir y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad mai ei brif bryder oedd bod angen i gymunedau dur sicrhau diwydiant dur cynaliadwy hirdymor ar gyfer holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’n gallu gwneud hynny am fod prisiau ynni yn wlad hon 50 y cant yn uwch nag mewn mannau eraill yn yr UE ac nid ydym wedi llwyddo i orfodi—[Torri ar draws.] Dogfen Unite ei hun sy’n dweud hyn—yr undeb llafur—felly gallwch gymryd eu gair hwy am hyn neu godi’r peth gyda hwy os ydych yn anghytuno. Ac o ran tariffau ar ddur, rydym wedi cael ymateb pathetig o annigonol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac ymateb hyd yn oed yn fwy pathetig o annigonol gan Lywodraeth y DU gan mai’r cyfan y mae Comisiynwyr yr UE yn ei argymell yw tariff o 24 cant, ond mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi tariff o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer, sy’n elfen hanfodol o gynhyrchu ym Mhort Talbot.

Mae yna bosibilrwydd hefyd, wrth gwrs, y gellid dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer yr asedau dur hynny. Byddai Llywodraeth Prydain wedi’i chyfyngu’n druenus o ran faint o gymorth y gallai ei roi i brynwr newydd a byddai wedi’i chyfyngu hyd yn oed yn fwy os yw Tata yn cadw perchnogaeth oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Yn yr un modd, yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog mewn perthynas â dogfennau contractau cludiant, fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fyddai unrhyw gontractwyr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnad dramor. Wel, nid yw disgwyliad, wrth gwrs, yn werth y papur y mae wedi’i argraffu arno. Nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Prydain i’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dur yn y wlad hon eithrio dur wedi’i ddympio o’r hyn a wnant.

Felly, yn anffodus, yr hyn rydym yn ei wynebu, oherwydd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw bod y Llywodraeth naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd yn ddi-rym i allu gwneud y penderfyniadau sy’n hanfodol i barhau i gynhyrchu dur yn ne Cymru. Ac rwy’n ofni ein bod yn union fel ysbrydion yn y wledd. Rydym yn siarad yma heddiw fel pe baem yn gallu gwneud rhywbeth am y broblem hon, ond mewn gwirionedd, ni allwn wneud dim. Ar 23 Mehefin, cawn gyfle i wneud y penderfyniad sy’n rhoi liferi grym yn ôl yn nwylo Gweinidogion fel y Prif Weinidog yma yng Nghaerdydd ac yn wir y Prif Weinidog yn San Steffan.

Yn gyntaf oll, diolch i arweinydd UKIP am rai o’i sylwadau. Mae’n gywir, yn wir, ynghylch prisiau ynni. Rydym wedi bod yn dweud hyn wrth Lywodraeth y DU dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’n gywir dweud—rwyf wedi siarad â Celsa, er enghraifft, sydd wedi dweud wrthyf fod prisiau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is ac yn Sbaen, 37 y cant yn is. Pam? Dyna natur marchnad ynni’r DU. Dyna’r broblem; nid yw’n ddim i’w wneud â’r UE—mae’n ymwneud â’r ffordd y mae’r DU wedi ei strwythuro. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf, yn y bôn, yw eu bod yn cael cynnig tariffau a fyddai’n cael eu cynnig i ddefnyddwyr domestig. Yn yr Almaen a Sbaen ceir gostyngiadau i ddiwydiannau ynni-ddwys, ond nid yn y DU. Mae marchnad ynni’r DU yn ddirgel, yn anhydraidd ac nid yw’n dryloyw am ei bod yn gwbl glir fod prisiau ynni yn ddrutach yma. Nid fi’n unig sy’n dweud hynny; mae unrhyw ddiwydiant ynni-ddwys yn dweud hyn: maent yn rhatach mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae angen mynd i’r afael â hyn. Gwnaed rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth, ond nid yw’n ddigon, yn fy marn i.

Mae’n gywir i ddweud na ddylai Tata droi cefn ar ei gyfrifoldebau. Nid yw wedi nodi y bydd yn gwneud hynny. Mae wedi nodi i mi, wrth gwrs, fod ei enw da yn bwysig o amgylch y byd. Mae’r math o gymorth y gallwn ei gynnig yn hynod ddeniadol i unrhyw ddarpar brynwr—yr arian y gallwn ei roi ar y bwrdd fel Llywodraeth Cymru; yr adnoddau sylweddol y gall Llywodraeth y DU eu rhoi ar y bwrdd hefyd. Mae’r rhain i gyd yn cydymffurfio’n berffaith â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yr hyn na allwn ei wneud yw cynnig cymhorthdal refeniw parhaus—mae hynny’n wir—ond mae’n rhaid i ni gofio, yn y pen draw, fod dur angen marchnad. Nid yw’r DU yn ddigon mawr i ddarparu marchnad ar ei phen ei hun ar gyfer dur Prydain. Pe baem y tu allan i’r farchnad Ewropeaidd, byddai’r rhwystrau tariff yn codi a byddai hynny’n golygu y byddai dur o Brydain yn ddrutach wrth iddo ddod i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Nodais yr hyn a ddywedodd yr Athro Patrick Minford—dyna’r eilwaith i mi ei grybwyll yn y Siambr hon heddiw—pan soniodd mai ei ddull ef o fynd ati fyddai na ddylai fod unrhyw rwystrau o gwbl i nwyddau ddod i mewn i’r DU. Ni fyddai ganddo unrhyw dariffau ar unrhyw beth sy’n dod i mewn i’r DU, hyd yn oed os yw gwledydd eraill yn gosod rhwystrau tariff eu hunain. Nid wyf yn credu bod hynny’n synhwyrol—. Mae’n rhywun sy’n cael ei gyflwyno fel economegydd ar ran yr ymgyrch dros adael yr UE. Dyna’i farn ef; nid wyf yn cytuno â’r farn honno. Yn fy marn i, mae angen i chi gael mynediad at gymaint o farchnadoedd mawr ag y bo modd, a byddai gadael yr UE, yn enwedig gyda dur, yn creu risg o osod tariffau sylweddol rhag i ddur Prydain fynd i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Cawn y ddadl honno eto. Nid yw’n ddadl y mae Tata wedi’i defnyddio wrth gwrs; eu barn hwy yw eu bod yn waith Ewropeaidd. Yn wir, mae llawer o’r asedau yng Nghymru, fel Shotton, er enghraifft, yn cysylltu’n agos iawn â gweithfeydd mewn mannau eraill yn Ewrop, a byddai hynny’n eithaf anodd ei ddatod. Yr hyn sy’n gywir i’w ddweud yw bod yr holl weithfeydd yng Nghymru yn gysylltiedig â Phort Talbot.

Un o’r pryderon oedd y byddai ymgais i ddewis y gorau o blith y gweithfeydd hynny—y byddai gweithfeydd fel Orb, fel Llanwern, fel Shotton, fel Trostre, y felin rolio ym Mhort Talbot, sy’n gwneud arian, y byddai’r rheini yn cael eu dewis ac y byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn mynd. Ond fel y dywedais yn y Siambr hon o’r blaen, y gwirionedd yw mai dur o Bort Talbot sy’n cyflenwi’r holl weithfeydd hynny. Byddai’n cymryd tua chwe mis iddynt ddod o hyd i ffynhonnell o ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, maent yn dibynnu ar stociau, maent yn mynd i fod yn diswyddo pobl ac maent yn mynd i ddechrau colli cwsmeriaid. Felly, maent yn dibynnu ar Bort Talbot i wneud dur i gyflenwi’r gweithfeydd hyn. O’n safbwynt ni, i ailbwysleisio hyn, rydym o’r farn y dylai holl asedau Tata yng Nghymru gael eu prynu fel pecyn ac na ddylid dewis y gorau’n unig.

Cwestiynau cryno o hyn ymlaen ac efallai y gallaf fynd drwy bob un o’r naw siaradwr. Hannah Blythyn.

Diolch. Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf, Brif Weinidog. Mae llawer o fy etholwyr mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint yn pryderu’n ddealladwy am ddyfodol y safle yn Shotton ac yn ofni ei fod yn aml yn mynd ar goll yn yr holl benawdau.

Mae gan Shotton ddau fusnes llwyddiannus, hyfyw a phroffidiol sydd wedi codi, bron fel ffenics o ludw’r diswyddiadau torfol yn y 1980au na welwyd eu tebyg cyn hynny. Mae gan Shotton ddyfodol disglair gyda’r gefnogaeth gywir, ac ar y nodyn hwnnw, rhaid i mi ganmol yr arweinyddiaeth rydych wedi’i dangos ar hyn ac mae’r arweinyddiaeth honno, rwy’n gwybod, yn cael ei chydnabod gan y gweithlu yno. Rwyf wedi cydgysylltu cyfarfodydd â rheolwyr a’r undebau llafur ar safle Shotton ac yn adnabod y gweithlu hyblyg, gweithgar a medrus iawn. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi barhau i sicrhau nad yw Shotton yn cael ei anghofio a bod y gweithlu yno yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn?

Gallaf roi sicrwydd pendant fod hynny’n wir am Shotton, am Drostre ac yn wir, y gwaith yng Nghasnewydd hefyd. Gwn fod rhywfaint o ofn ymhlith y gweithwyr hynny, pa bryd bynnag y siaredir am ddur, mai am Bort Talbot y sonnir bob amser. Yno mae’r cyflogwr mwyaf, wrth gwrs, ond gwyddom fod ein holl weithfeydd dur yng Nghymru yn hynod o bwysig a gwyddom eu bod yn gyd-ddibynnol. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi ymweld â Shotton yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad; gwnes yr un peth gyda’r holl weithfeydd ledled Cymru a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fod y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei weld fel un diwydiant cyfan sy’n rhaid ei brynu yn ei gyfanrwydd, a’i ddatblygu, a buddsoddi ynddo yn y dyfodol.

Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am gyflwyno’r datganiad hwn ac rwy’n cytuno â rhai o’r sylwadau sydd wedi’u crybwyll yma heddiw, er y byddwn yn hoffi dweud, mewn perthynas â dympio dur, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod mesurau pellach ar ddympio dur o’r blaen, ac felly, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddech yn disgwyl gwrthwynebiad ar y lefel honno. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg yn y ddadl heddiw fod Llywodraeth y DU rywsut yn fwy cefnogol i osod tariffau uwch ar ddur o Tsieina.

Yr hyn sy’n peri pryder arbennig i mi yw’r cynsail y gallai Llywodraeth y DU fod yn ei osod gyda’r gronfa bensiwn, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae’r ddadl ynghylch perygl moesol yn un a ailadroddwyd droeon gyda Gweinidogion a’u swyddogion wrth ymdrin ag achosion ASW a Visteon, a’r cyfan yn ofer—disgynnodd ein rhybuddion ar glustiau byddar yn Whitehall.

Ond roeddwn eisiau canolbwyntio’n fyr ar y ddynameg fewnol yn Tata fel y soniodd gweithwyr dur wrthyf amdani. A yw’r Prif Weinidog wedi clywed bod swyddogion o Tata Europe wedi mynychu cyfarfod neuadd y dref ym Mhort Talbot yn y pythefnos diwethaf, lle codasant ar eu traed i feirniadu’r gweithlu’n hallt, gan beri i’r ddirprwyaeth ar ran yr undebau llafur godi a cherdded allan? Mae’n ymddangos mai dyma’r pryder diweddaraf ynghylch arweinyddiaeth Tata Europe a’i hymddygiad cyn ac yn ystod y cyfnod hwn.

Fe fyddwch yn gwybod ei bod yn cynnwys rheolwyr Hoogovens yn bennaf—y cwmni a gafodd ei achub i bob pwrpas rhag mynd yn fethdalwr drwy uno Corus a Dur Prydain. Ers i Tata brynu Corus, mae gweithwyr dur yn dweud bod gwaith IJmuiden wedi cael y rhan fwyaf o’r buddsoddiad, gan gynnwys yr un math o fuddsoddiad y mae Plaid Cymru wedi’i grybwyll mewn perthynas â gorsaf ynni newydd, yn bennaf oherwydd y rheolwyr o’r Iseldiroedd a’r dylanwad sydd ganddynt. A yw hynny’n rhywbeth rydych chi wedi’i glywed, Brif Weinidog?

Hefyd, honnwyd bod sefyllfa ariannol Port Talbot wedi’i gwneud i edrych yn waeth nag oedd hi i bob pwrpas, gan fod cost deunyddiau ar gyfer y ddau safle gwneud dur wedi’u harchebu ar gyfer Port Talbot yn unig. Felly, clywais am un enghraifft o lwyth o fwyn haearn a arhosodd yng Nghymru yn gyntaf cyn mynd i’r Iseldiroedd, gyda’r gost gyfan yn cael ei thalu gan safle Port Talbot. A yw hynny’n rhywbeth rydych wedi’i glywed, Brif Weinidog?

Wedyn, wrth gwrs, daw fy nghwestiwn at y llyfr archebion. Cyn belled ag y gwyddom, mae hwn wedi’i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae hyn yn destun cryn bryder i fy etholwyr sy’n ei weld fel cyfle i Tata Europe ddewis y contractau gorau er nad ydynt, fel rwy’n clywed, yn gallu cyflawni rhai ohonynt, gan adael Port Talbot a gweddill y gweithfeydd yn y DU i fethu. Felly, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi holi ble mae’r llyfr archebion ac wedi cwestiynu’r rhesymeg dros ei symud i’r Iseldiroedd, ac a wnaed ymdrechion gennych chi neu eich swyddogion i ddychwelyd y llyfr archebion cyn unrhyw werthiant posibl. A oes gennym sicrwydd gan y cwmni ei fod yn barod i agor ei lyfrau i ddarpar brynwyr ar gyfer cyfnod diwydrwydd dyladwy unrhyw werthiant? Rwy’n meddwl bod y rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb, er mwyn y gweithlu yn arbennig, sydd wedi crybwyll y pwyntiau hyn wrthyf, ond hefyd er mwyn y diwydiant dur ehangach yma yn y DU.

Rwyf wedi clywed llawer o’r sylwadau y mae’r Aelod wedi’u gwneud, fel mater IJmuiden. Nid oeddwn yn ymwybodol o’r cyfarfod yn neuadd y dref, er fy mod wedi clywed rhywbeth am yr hyn a oedd wedi digwydd, ond nid oeddwn yn ymwybodol mai ym Mhort Talbot y digwyddodd hynny. Rwyf wedi clywed bod Port Talbot wedi cael ei wneud i edrych yn waeth nag y mae. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, ond rwyf wedi clywed hynny’n cael ei ddweud. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod yna broblemau gyda’r porthladd, ac yn benodol y ffïoedd a godir gan y cwmni sy’n berchen ar y porthladd. Pam yn y byd y mae busnes ar wahân yn berchen ar y porthladd o gymharu â’r gwaith dur, dim ond y Torïaid yn yr 1980au allai esbonio hynny i chi, ond dyna yw’r sefyllfa yn y fan honno serch hynny. Soniwyd wrthyf am broblemau gyda’r taliadau yn y porthladd. Felly, mae yna nifer o faterion wedi codi lle nad oes ateb hawdd.

O ran y llyfr archebion, wel, wrth gwrs, byddai’n rhaid i unrhyw brynwr roi diwydrwydd dyladwy ar waith beth bynnag. Nid oes neb yn mynd i brynu asedau neu brynu busnes heb edrych ar y llyfrau. Mae’n deg dweud y cafwyd buddsoddiad yn y diwydiant dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Gwelsom ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei hailadeiladu. Rydym wedi rhoi cynnig ar y bwrdd mewn perthynas â’r pwerdy. Buom yn gweithio gyda’r cwmni dair blynedd yn ôl yn edrych i weld a ellid tyllu cloddfa o fewn ffiniau’r gwaith dur. Felly, mae’r holl bethau hyn wedi cael eu harchwilio.

Mae ymchwil a datblygu yn fater arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth i ni edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod y blynyddoedd nesaf, fod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Gwn fod Prifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb yn hynny, ac rydym yn awyddus i weithio i sicrhau bod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi llwyddo dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu mwy o ymchwil a datblygu i Gymru i ychwanegu at y gweithgynhyrchu a wnawn a bydd yr un peth yn bwysig ar gyfer dur yn y dyfodol.

Felly, mae’r holl waith hwn yn cael ei wneud. Cafodd llawer o’r materion a grybwyllwyd ganddi eu dwyn i fy sylw i ac eraill. Rwy’n clywed bod Port Talbot yn awr yn llwyddo i adennill costau ar ôl bod yn colli £1 miliwn y dydd dri mis yn ôl, sy’n newid cyfeiriad sylweddol, ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau, wrth i’r broses werthu fynd rhagddi, fod yna ddealltwriaeth o’r hyn yw’r sefyllfa ariannol go iawn mewn perthynas â’r diwydiant dur yng Nghymru.

Brif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yr Aelodau yn y Cynulliad hwn yn unig sy’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y drafodaeth gyda Tata, ond bod fy etholwyr a’r gweithwyr dur yn fy etholaeth mewn gwirionedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Roedd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn llygad ei le yn rhai o’i gwestiynau fod rhai o’r liferi hynny yn Llundain, yn anffodus, ac mae rhai o’r pryderon sydd gennym—a daethant at hyn yn hwyr yn y dydd, mae’n ddrwg gennyf ddweud—yn ymwneud â hwy ac mae gwir angen i ni fynd i’r afael â hynny.

Amlygodd Bethan Jenkins un neu ddau o bwyntiau, nad wyf am eu hailadrodd, felly rwyf am osgoi hynny os gallaf. Ond mae cwestiwn yn codi ynghylch hyder y gweithlu yn Tata. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg hyder llwyr ymhlith y gweithlu yn Tata. Rwy’n credu mai’r hyn y byddem yn ei ddymuno gan Lywodraeth Cymru yw sicrwydd y bydd yn gweithio gyda phrynwyr sy’n dod i mewn er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn yr holl weithfeydd eraill ar draws Cymru, i wneud yn siŵr fod dur yn dod ac yn parhau i fod yn ffactor pwysig yn strategaeth ddiwydiannol y DU.

A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU hefyd ar strategaeth ddiwydiannol? Cerddais gyda’r gweithwyr dur yn Llundain bythefnos yn ôl lle roeddent yn galw am strategaeth ddiwydiannol ar gyfer dur i Lywodraeth y DU, ac maent yn dal i’w gweld yn brin o ymdrech yn Llywodraeth y DU yn hynny o beth.

Fe sonioch am y porthladdoedd. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ar y defnydd o’r porthladd a’r cysylltiad rhwng y porthladd a’r gwaith dur? Felly, mae’n fater o sut y gallwn weithio gyda Tata Steel neu ei brynwyr i sicrhau bod y mewnbynnau sy’n dod drwy’r dociau yn gallu gweithio mewn gwirionedd mewn pris arall effeithiol iawn?

Brif Weinidog, fe dynnoch chi sylw at y colledion hefyd. Rwyf innau hefyd wedi cael gwybod bod y colledion yn llawer is ac yn gweithio tuag at adennill costau, ac mae’n bosibl y bydd ffigurau mis Mai yn adennill costau mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awr yn cyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle mae’r diwydiant yn dod yn gynnig hyfyw a deniadol i unrhyw brynwr, ac rwy’n credu mai dyna un o’r rhesymau pam y mae Tata bellach yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad mawr ym mis Ionawr pan wnaethant y cyhoeddiadau hynny, ac un mwy fyth ym mis Mawrth.

Ond gadewch i ni fynd yn ôl hefyd at y cwestiwn a ofynnais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â’r tasglu a’r gefnogaeth a roddir i’r gweithwyr sydd naill ai wedi colli eu swyddi ar y pwynt hwn, neu ar fin colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau nesaf. A allwch roi sicrwydd nid yn unig fod y pecynnau hyfforddi ar waith, ond y bydd yna gyfleoedd gwaith? Oherwydd gallwn hyfforddi cynifer o bobl ag y dymunwn, ond os nad oes cyfleoedd iddynt gael gwaith yna’r cyfan fydd yn digwydd fydd eu bod, ymhen ychydig wythnosau, yn wynebu heriau gwneud dim ond eistedd gartref. Mae angen i ni sicrhau bod yr ardal fenter yn dod yn weithfan lwyddiannus, fod y pecynnau a’r ffrydiau gwaith y buom yn sôn amdanynt gyda’r tasglu ar gyfer edrych ar fusnesau yn denu buddsoddiad a swyddi mewn gwirionedd fel bod y bobl hynny, ar ôl cael eu hyfforddi, yn gallu cael gwaith. Mae hynny’n hollbwysig iddynt. Y peth olaf y maent am ei wneud yw cael eu hyfforddi a dychwelyd i’w cartrefi wedyn heb swydd. Mae’n hanfodol eu bod yn cael yr urddas hwnnw.

Ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda’n ASEau a’r elfennau Ewropeaidd? Oherwydd fe wrthododd Senedd Ewrop y ddadl ar statws economi’r farchnad yn bendant iawn, ac roeddwn yn siomedig o glywed pa mor negyddol oedd arweinydd UKIP ynglŷn â dur go iawn. Mae yna lawer o agweddau cadarnhaol yn ein tref, mae yna lawer o uchelgais a gobaith yn ein tref, ac nid ydym am weld y darluniau negyddol sy’n cael eu cynhyrchu gan y blaid honno.

Nawr, y cwestiwn arall am Roger Maggs—roeddech yn ei ganmol, ond wrth gwrs, mae hefyd yn gadeirydd yr ardal fenter. A allwch roi eglurhad i ni ynglŷn â’r gwahaniad rhwng y ddwy swyddogaeth sydd ganddo, gydag Excalibur a’r ardal fenter, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ac mewn modd cadarnhaol?

Y pwynt olaf, Brif Weinidog: rwyf am eich canmol am yr arweinyddiaeth rydych wedi’i rhoi dros y cyfnod hwn. O ystyried yr ymgyrch etholiadol, pan oedd ei hangen arnom, yn sicr fe ddangosoch yr arweinyddiaeth gref roeddem ei hangen yn ein tref a’n hetholaeth. Fe ddangosoch i weddill y DU beth y gellir ei wneud. Rwyf ond yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn eich esiampl.

Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am y geiriau caredig ac a gaf fi ymateb drwy ddweud ei fod wedi bod yn ymgyrchydd pybyr a brwd dros y bobl y mae’n eu cynrychioli? Rwy’n gwybod hyn fy hun drwy’r galwadau ffôn hwyr y nos a gefais ganddo, ac mae’n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i ddiogelu eu buddiannau.

Rwy’n credu ei fod yn gwbl gywir i ddweud bod yna ddiffyg hyder ymhlith gweithwyr Tata—sut y gallai beidio â bod—oherwydd mae’r dyfodol yn ansicr o hyd. Nid oes neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ac mae pobl yn siŵr o deimlo ansicrwydd, heb wybod beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.

O ran strategaeth ddiwydiannol, nid yw hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyflwyno. Maent wedi canolbwyntio ar y mater dan sylw. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn dweud y gallent fod wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd yn gyflymach. Wedi dweud hynny, rwy’n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn ceisio dod o hyd i ateb ac yn sicr, mae Sajid Javid wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â mi er mwyn esbonio’r hyn y mae wedi bod yn ei wneud, felly mae’n rhaid i mi gydnabod hynny. Hynny yw, roedd yn eithaf rhyfeddol, drwy’r ymgyrch etholiadol ar ei hyd, ni wnaed unrhyw elw gwleidyddol o’r mater mewn unrhyw ffordd, ac rwy’n credu bod hynny’n adlewyrchu’r hyn y byddai pobl Port Talbot ei eisiau—y pleidiau gwleidyddol yn gweithio gyda’i gilydd yn drefnus i ddod o hyd i ateb i bawb.

O ran Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, nid yw’r porthladdoedd wedi’u datganoli eto, wrth gwrs, ond fe fyddant. Mae’n rhyfedd fod gennym borthladd ym Mhort Talbot sydd i bob pwrpas ond yn bodoli ar gyfer y gwaith dur, ac a fyddai mewn byd rhesymol, yn eiddo i’r cwmni sy’n berchen ar y gwaith dur. Nid felly y mae. Felly, i bob pwrpas, nid oes llawer iawn o ddewis heblaw dod â’r glo a’r mwyn haearn i mewn drwy’r porthladd. Yn realistig, ni all fynd i unrhyw le arall. Dywedwyd wrthyf, gan un o’r cynigwyr yn bendant, fod pryder ynghylch y gost o ddefnyddio’r porthladd. Nid yw’n ddefnyddiol o ran y dyfodol, ac mae hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi’i ddweud, ac roeddent yn cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain i wneud yn siŵr fod y porthladd yn rhesymol o ran yr hyn roedd yn ei godi i ddod â deunyddiau crai drwyddo.

Wrth gwrs, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Derek Vaughan. Mae’r Aelod yn gywir i ddweud nad yw statws economi marchnad wedi’i gytuno mewn perthynas â Tsieina am nifer fawr o resymau. Gofynnodd, wrth gwrs, am y bobl y mae hyn yn effeithio arnynt—cymorth yn enwedig. Rwyf wedi amlinellu eisoes beth sydd ar gael. Mae’n iawn dweud bod angen datblygu’r ardal fenter yn gyflym—rydym yn cydnabod hynny—ac mae’n iawn dweud bod y sgiliau’n bwysig, ond hefyd mae’r swyddi sy’n briodol i’r sgiliau hynny yn bwysig. I gyflawni hynny y cynlluniwyd yr ardal fenter. Hyd yn hyn, mae’r niferoedd sy’n dod ymlaen wedi bod yn eithaf isel, gan adlewyrchu, rwy’n credu, sefyllfa lle mae llawer o’r rhai sydd wedi dewis diswyddo gwirfoddol yn awyddus i ymddeol, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a oes pobl yn dal i fod heb ddod ymlaen eto i gael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Byddwn yn barod i helpu’r bobl sy’n gweithio ym Mhort Talbot ac mewn rhannau eraill o’r diwydiant yng Nghymru i’w helpu i ailhyfforddi a chael y swyddi sydd eu hangen arnynt.

Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, yn enwedig eich sylwadau ynglŷn â chaffael. Yn eich datganiad fe sonioch am ymrwymiad i ddiwydiant dur cynaliadwy hirdymor ac fe gadarnhaoch i Neil Hamilton, yn ddiweddarach yn y ddadl heddiw, fod hynny’n cynnwys yr hyn a alwoch yn ben trwm y gwaith ym Mhort Talbot. Eto i gyd, ychydig ddiwrnodau yn ôl yn ‘The Guardian’ adroddwyd nad oedd unrhyw un o’r cynigwyr yn gwarantu dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot a’u bod yn chwilio am arian parod gan Tata yn ogystal â gan y ddwy Lywodraeth. A ydych chi’n credu felly na ddylai unrhyw gais nad yw’n cynnwys dyfodol i’r ffwrneisi chwyth oroesi asesiad y broses geisiadau sy’n cael ei chynnal gan Tata ar hyn o bryd?

Fe ddywedoch hefyd yn eich datganiad mai blaenoriaeth Tata yw cynnal gwerthiant. Mae’n fy mhoeni eu bod wedi cadarnhau wrthych, ac fel y sonioch yn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn ystod y toriad, fod Tata wedi dweud wrthych y byddai’n llawer gwell ganddynt beidio â gwerthu. Dywedasant wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, mor bell yn ôl â’r Nadolig, rwy’n meddwl, eu bod yn bwriadu gwerthu ac yn awr, hyd yn oed yr wythnos hon, mae Tata yn dynodi efallai nad ydynt am werthu Port Talbot wedi’r cyfan. Rwy’n rhannu barn Aelodau eraill yn y Siambr hon ynglŷn ag anniffuantrwydd Tata, efallai, os gallaf ei alw’n hynny. Felly, yn eich trafodaethau adeiladol ac arwyddocaol, fel rydych yn eu galw, a’ch awgrym eich bod yn barod i gefnogi unrhyw gynigydd, a allai gynnwys Tata wrth gwrs, gan gofio eu bod wedi nodi efallai y byddant am ddal gafael ar ran o’r gwaith yma yng Nghymru, pa eglurder a gwarantau rydych wedi’u sicrhau, neu’n debygol o sicrhau, o ystyried y ffaith eich bod yn barod i ymrwymo £60 miliwn neu fwy o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario mewn mannau eraill, pan fuoch yn siarad â’r cyrff hynny?

Yna’n drydydd, os oes gennych amser i ateb hyn, wrth dargedu cymorth swyddi, pa sgyrsiau penodol a gawsoch gyda bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe ynghylch nodi natur wedi’i thargedu y cynnig y mae’r ymgysylltiad â’r tasglu wedi gallu ei ddarparu hyd yn hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid edrych am unrhyw swydd y byddem yn ei wneud ar gyfer y gweithwyr dur hyn, ond swyddi sydd â dyfodol iddynt hefyd.

O ran y cwestiynau a ofynnwyd, o ran y pen trwm, mae’r ddau gynigydd y bûm mewn cysylltiad â hwy yn dymuno cadw’r pen trwm. Mae ganddynt ymagweddau gwahanol tuag ato, ac mae hyn yn gyhoeddus—mae’n hysbys fod un o’r cynigwyr am edrych ar y defnydd o sgrap yn y dyfodol, yn hytrach na mwyn haearn. Byddai’r cynigydd arall yn cadw’r broses fel y mae. Er hynny, byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn parhau. Mae’n gwestiwn anoddach, rwy’n meddwl, os gofynnir i gynigwyr warantu y bydd pob swydd yn aros. Nid wyf yn credu y gall cynigwyr gynnig sicrwydd o’r fath ar hyn o bryd, ond gallant gynnig y sicrwydd—y ddau rwyf wedi siarad â hwy—y bydd y pen trwm yn parhau, ac mae hynny’n hynod o bwysig. Oherwydd os yw’r pen trwm yn mynd, ni fydd byth yn cael ei adfer. Nawr, pan fydd cyflwr y farchnad yn parhau i wella, mae’n bosibl cyflogi mwy o bobl wedyn, ac mae hynny’n bwysig. Felly, mae diogelwch yno i’r pen trwm.

Ni fyddem yn cefnogi cynnig a fyddai, mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhoi diwedd ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot oherwydd dyna ble mae rhan sylweddol o’r gwaith, ac yna bydd yn cael effaith niweidiol ar weddill y gweithfeydd o amgylch Cymru mewn perthynas â thunplat, Tata Steel Colors ac arbenigwyr fel Orb yn Llanwern.

Cyn y Nadolig, mewn cyfarfod a gefais, fe’i gwnaed yn glir i mi nad oedd gwerthiant yn debygol—a’i fod yn fater o fwrw ymlaen neu gau. Ar ôl y Nadolig, newidiodd y sefyllfa. Gwell hynny na chau, mae hynny’n wir, ond mae’n iawn dweud y bu newid meddwl yn Tata ar yr adeg honno. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gwerthiant yn debygol. Cyn y Nadolig, yr arwyddion oedd bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i adroddiad McKinsey ac y byddid yn edrych o ddifrif ar newid cyfeiriad. Ni awgrymwyd cyn y Nadolig fod cau’n debygol, os gallaf ei roi felly, ond yn sicr nid oedd gwerthiant yn debygol ar unrhyw adeg cyn yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai dyna sy’n digwydd nawr.

Wrth gwrs, mae’r pecyn rydym wedi’i roi ar y bwrdd wedi’i fwriadu yn bennaf ar gyfer cynigwyr newydd. Roedd hynny ar adeg pan na chredid y byddai Tata am aros beth bynnag. Nid oes amheuaeth y bydd angen rhoi rhai gwarantau o ran unrhyw help gan y Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi arian ar y bwrdd a gweld, mewn blwyddyn neu ddwy, fod arian wedi diflannu i bob pwrpas oherwydd bod yr asedau’n cael eu lleihau o ran nifer swyddi ac o ran cynhyrchu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i Lywodraeth y DU ag i ninnau. Ac rydym yn cydnabod hynny, a bod yn deg, gan y byddai angen gwneud hynny.

Os daw cynigydd newydd gerbron sy’n wneuthurwr dur sefydledig, byddai’n dybiaeth resymol y byddant am barhau i wneud dur beth bynnag. Os oes gennych dynnwyr asedau’n dod i mewn, yna yn amlwg bydd yna broses wahanol iawn o feddwl ar waith. Nid yw byth yn glir, wrth gwrs, lle mae gennych weithredwr presennol, beth fydd eu bwriad yn y dyfodol, ac fe fydd angen, ar ran y gweithlu ac ar ran y pwrs cyhoeddus, cael gwarantau penodol ynghylch buddsoddiad yn y dyfodol a chynllun i’r dyfodol ar gyfer diwydiant dur Cymru.

O ran cymorth swyddi, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y bydd y dinas-ranbarth yn edrych arno. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym broses sefydledig ar gyfer delio â sefyllfaoedd fel hyn, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig y gefnogaeth honno. Mae’n hollol hanfodol, wrth gwrs, mai’r sgiliau sy’n cael eu cynnig yw’r sgiliau sydd eu hangen yn yr economi leol ac wrth gwrs, bydd mewnbwn defnyddiol iawn gan fwrdd y dinas-ranbarth o safbwynt gallu asesu pa sgiliau sydd angen eu darparu er mwyn i bobl gael y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich cydnabyddiaeth o safle a sefyllfa Casnewydd yn y darlun cyffredinol o’r diwydiant dur yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod o’ch ymweliad diweddar â Llanwern am y dur o’r safon uchaf sy’n cael ei gynhyrchu yn ffatri Zodiac, er enghraifft, ar gyfer y diwydiant ceir yn y DU a thu hwnt. Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â gwaith dur Orb, lle mae eu duroedd trydanol o’r safon orau ac yn cael eu hallforio ar draws y byd. Mae’n allweddol fod Orb yn rhoi gwerth mawr ar eu partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Dywedasant wrthyf am y berthynas oedd wedi’i hadeiladu a’r gefnogaeth a gânt o ran eu cynhyrchiant a’u prosesau a hyfforddiant sgiliau, a’u bod yn awyddus iawn i adeiladu ar hynny ac ymgysylltu ymhellach.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â Liberty Steel gyda Jayne Bryant fel AC dros Orllewin Casnewydd a dau AS Casnewydd, ac yn yr un modd, maent yn awyddus iawn i ymgysylltu ac fel y gwyddoch, mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol iawn, nid yn unig ar gyfer dur, ond hefyd ym maes ynni adnewyddadwy, môr-lynnoedd llanw, a throi gorsaf bŵer sy’n defnyddio glo i ddefnyddio biomas. Felly, maent yn uchelgeisiol iawn yn wir, a dywedodd pob un o’r cynhyrchwyr dur hyn yng Nghasnewydd wrthyf, Brif Weinidog, ac wrth y cynrychiolwyr gwleidyddol eraill pa mor awyddus ydynt i adeiladu ar y berthynas sy’n bodoli gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau, drwy gefnogaeth a phartneriaeth a buddsoddi, ein bod yn gwneud yn siŵr fod dur yng Nghasnewydd nid yn unig yn meddu ar yr hanes gwych sy’n cael ei gydnabod yn eang, ond fod ganddo ddyfodol cryf iawn hefyd. Felly, hoffwn eich sicrwydd pellach heddiw fod Llywodraeth Cymru o’r un farn ac y bydd yn gweithio gyda phob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol lleol i sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn partneriaeth â’r cwmnïau dur hynny.

Yn hollol, a gwn fod yr Aelod wedi bod hyrwyddo’r diwydiant dur yn huawdl yn ei ddinas. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gan Gasnewydd farchnad allforio sylweddol hefyd—mae tua 30 y cant o’r dur a gynhyrchir yn cael ei allforio ac maent yn llwyddiannus ac yn broffidiol. Mae’n hynod o bwysig fod ffyniant a chynaliadwyedd yr holl safleoedd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael sylw. Ond unwaith eto, maent i gyd yn gysylltiedig â Phort Talbot a’r dur sy’n cael ei wneud ym Mhort Talbot sy’n bwydo’r gwaith a gyflawnant. Felly, gallaf roi sicrwydd i’r gweithwyr yn Shotton, yn Nhrostre, yng Nghasnewydd ac wrth gwrs, ym Mhort Talbot ein bod yn gweld y diwydiant dur yn integredig yng Nghymru, yn broffidiol yng Nghymru, ac yn meddu ar ddyfodol yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad dros bawb o’r gweithwyr hynny.

5. 5. Datganiad: Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd, ac rwy’n galw ar Ken Skates.

Diolch i chi, Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos hon bydd pymthegfed Pencampwriaeth UEFA Ewrop yn dechrau yn Ffrainc ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, eleni, yn un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y bencampwriaeth sydd newydd ei ymestyn i 24 tîm. Ar ran Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, a gaf fi ddechrau drwy longyfarch tîm Cymru ar yr hyn a fu’n ymgyrch hynod lwyddiannus i ennill eu lle a dymuno pob lwc iddynt hefyd ar gyfer y bencampwriaeth sydd i ddod?

Wrth gwrs, dyma gemau terfynol y bencampwriaeth fawr gyntaf i Gymru gystadlu ynddi ers 1958. Bydd llawer ohonom yn cofio’n eithaf clir y gyfres boenus o siomedigaethau y mae’r tîm wedi’u profi dros y blynyddoedd ac felly gyda phleser mawr, a balchder yn wir, fe welsom y tîm yn cyrraedd y bencampwriaeth eleni. O dan gyfarwyddyd Chris Coleman, mae’r garfan wedi dangos cadernid, penderfyniad a gwaith tîm gwych ac nid yw ond yn deg i ni gofnodi ein cydnabyddiaeth o’r arweinyddiaeth y mae ei dîm hyfforddi a’r FAW wedi’i dangos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llwyddo i fynd drwodd i’r rowndiau terfynol yn deyrnged addas i Gary Speed, a helpodd i osod llawer o sylfeini llwyddiant presennol y tîm ac a gâi ei barchu a’i edmygu gan gymaint o bobl ledled Cymru.

Bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia yn dechrau am 6 pm amser y DU ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn Bordeaux, gyda gemau grŵp pellach yn cael eu chwarae yn erbyn Lloegr yn Lens am 2 pm ddydd Iau Mehefin 16, a’r gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia, yn dechrau am 8 pm ddydd Llun 20 Mehefin yn Toulouse. Y bencampwriaeth Ewropeaidd yw un o’r digwyddiadau chwaraeon sydd â’r proffil uchaf yn y byd. Yn Ewro 2012 cafwyd cynulleidfa deledu gyfunol o 1.9 biliwn i gyd a bydd y proffil byd-eang y bydd Cymru yn ei gael yn yr wythnosau nesaf yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio i’r eithaf arno.

Ochr yn ochr â’r gwledydd eraill sy’n cystadlu yn Ewro 2016, bydd Cymru’n cael ei chynrychioli mewn Pentref Ewropeaidd ym Mharis, a drefnwyd gan swyddfa maer y ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda hwy a chyda Llysgenhadaeth Prydain, ond yn sgil y llifogydd diweddar yn y ddinas gohiriwyd agoriad y pentref, yn anffodus, oherwydd ei lleoliad ar lan yr afon Seine. Mae ein meddyliau gyda’r rhai ym Mharis sydd wedi gweithio’n galed i baratoi’r Pentref Ewropeaidd mewn pryd. Pan fydd y pentref yn agor, bydd y stondin a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn arddangos rhai o gyrchfannau twristiaid amrywiol a chyffrous ein gwlad a mannau antur, i ddathlu ein Blwyddyn Antur ac i ddarparu presenoldeb arbennig i Gymru yng nghanol prifddinas Ffrainc ac ochr yn ochr â gwledydd eraill.

Mae canolfan gyfryngau tîm Cymru wedi’i lleoli yng nghanolfan y tîm yn Llydaw—lleoliad addas o ystyried y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a Llydaw. Bydd hysbysebion am Gymru mewn nifer o ieithoedd yn cael eu harddangos yn ystod y bencampwriaeth, a bydd gwybodaeth am Gymru yn cael ei darparu i’r mwy na 300 amcangyfrifedig o gyfryngau rhyngwladol a fydd yn cofnodi taith Cymru yn y bencampwriaeth. Mae Croeso Cymru hefyd wedi trefnu i fideos hyrwyddo gael eu dangos ar y sgriniau yn y parthau cefnogwyr arbennig yn Toulouse a Bordeaux, y disgwylir iddynt ddenu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop. Yn nes at adref, bydd adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys cestyll Cadw, wedi’u goleuo’n goch i gefnogi’r tîm yn ystod y gemau grŵp.

Mae’r galw am docynnau ynddo’i hun yn brawf o faint y mae’r wlad gyfan yn bwriadu bod yn rhan o’r pencampwriaethau. Disgwylir i oddeutu 30,000 o gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc. Mae’r FAW wedi dweud yn glir fod y cefnogwyr wedi chwarae rhan enfawr yn y llwyddiant hwn a byddant, rwy’n sicr, yn cyfrannu eu hangerdd i’r bencampwriaeth. Mae Cymru yn chwarae gemau grŵp yn erbyn Slofacia yn Bordeaux a Rwsia yn Toulouse—dinasoedd go fawr gyda digon i ddiddanu’r cefnogwyr. Fodd bynnag, mae gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae yn Lens, tref gryn dipyn yn llai. Nawr, er fy mod yn siŵr y bydd trigolion Lens yr un mor groesawgar tuag at y cefnogwyr ag unrhyw le arall yn Ffrainc, y tu allan i’r stadiwm nid oes llawer o leoedd ar gael i wylio’r gêm. Rwy’n llwyr gefnogi’r negeseuon a roddwyd i gefnogwyr Cymru gan yr heddlu na ddylent deithio i Lens os nad oes ganddynt docynnau i’r gêm.

Rydym i gyd yn ymwybodol o’r amgylchedd diogelwch presennol, yn y DU ac yn Ffrainc. Mae angen i gefnogwyr adael digon o amser i deithio i gemau gan y bydd mesurau diogelwch ychwanegol. Dylent roi gwybod i’r heddlu am unrhyw beth amheus. Y cyngor cryf yw y dylid cymryd sylw o gyngor teithio’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ei wefan drwy gydol y bencampwriaeth. Mae’r heddlu hefyd wedi cynghori bod angen i gefnogwyr archebu llety ymlaen llaw ac edrych ar ôl eu pasbortau, ac maent wedi pwysleisio bod y cefnogwyr yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran ein gwlad. Rwy’n llwyr gefnogi’r pwynt olaf. Rwy’n gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn teithio i Ffrainc i fwynhau eu hunain, i wneud ffrindiau ac i wneud argraff gadarnhaol barhaol o Gymru ar y bobl y maent yn eu cyfarfod.

Mae hwn yn amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros ddigwyddiadau mawr. Ceir teimlad gwirioneddol mai dim ond dechrau yw mynd drwodd i’r rowndiau terfynol i’r grŵp talentog hwn o chwaraewyr. Rwyf fi, yn bendant, yn methu ag aros i weld y tîm yn rhedeg allan ar y cae yn Bordeaux ac yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae’r tîm, y chwaraewyr a’r holl gefnogwyr yn sicr wedi cofleidio’r thema ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, a gwn ein bod i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y tîm. Mae’r genedl gyfan y tu ôl iddynt.

Mae pawb yng ngrŵp y Blaid yn dymuno taith lwyddiannus, bleserus a diogel i Ffrainc i dîm pêl-droed Cymru a’r holl gefnogwyr. Mae cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn gwireddu breuddwyd i lawer ohonom, ac mae cyflawniad y chwaraewyr, y rheolwr a’r FAW wedi bod yn enfawr, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau ac yn ein gwneud ni i gyd yn falch ohonynt. Rwy’n falch eich bod wedi sôn hefyd am gyfraniad enfawr Gary Speed.

Mae pawb yma’n gwybod bod chwaraeon mor bwysig i Gymru, felly rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch ymagwedd y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Ar y naill law, mae gennym Weinidog ar gyfer chwaraeon elitaidd, ac ar y llaw arall mae gennym Weinidog dros chwaraeon ar lawr gwlad. Un cwestiwn: er mwyn cyrraedd y lefel elitaidd mewn chwaraeon onid ydych yn sylweddoli eich bod angen chwaraeon ar lawr gwlad? Mae hollti’r portffolio yn dweud wrthyf nad ydych ormod o ddifrif ynglŷn â hyn. Felly, y cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, yw: a allech ddweud wrthyf beth yw chwaraeon elitaidd?

Yn ail, i symud ymlaen, filltir i lawr y ffordd mae yna gae pob tywydd, sydd wedi’i gloi ac yn wag, ac nid oes neb yn chwarae arno, bron byth. Mae’r plant lleol yn Grangetown wedi’u cloi allan, mewn rhai achosion gyda’u hwynebau’n gwasgu yn erbyn y ffens, yn methu â chwarae oherwydd bod cyngor Llafur Caerdydd eisiau iddynt dalu rhwng £34 a £39 yr awr. O ran chwaraeon elitaidd, sut y mae Gareth Bale yfory yn mynd i fod yn bêl-droediwr elitaidd os nad yw ef neu hi yn gallu defnyddio caeau chwarae am eu bod yn costio gormod? [Torri ar draws.] Felly, a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad â Channel View i siarad â’r plant a’r rhieni? Hefyd, ar lefel ymarferol prosiect etifeddiaeth Ewro 2016, a wnewch chi gomisiynu archwiliad o’r holl gyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled Cymru, gyda golwg ar ddatblygu cynlluniau i gael cyfleusterau wedi’u defnyddio er mwyn hyrwyddo datblygiad chwaraeon elitaidd a gwella iechyd y cyhoedd?

Finalement, je dirais bonne chance à nos garçons en France et ‘Allez les rouges’. Merci. Thank you.

Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad a dweud, i lawer ohonom, mai dyma’r tro cyntaf erioed mewn gwirionedd i ni weld ymgyrch sgwad genedlaethol Cymru ar lwyfan y byd, felly mae’n mynd i fod yn dro cyntaf mewn bywyd i lawer ohonom ac rwy’n siŵr ein bod yn gyffrous iawn am hynny. Ar y pwynt olaf ynglŷn â chynnal archwiliad o gyfleusterau ledled Cymru—rwy’n maddau i’r Aelod am nad oedd yn y Siambr hon ar yr adeg honno—cafodd ei gynnal mewn gwirionedd tuag at ddiwedd y Cynulliad blaenorol. Felly, mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud ar y cyd â Chwaraeon Cymru. O ran ffïoedd caeau chwarae, mae hwn wedi bod yn fater dadleuol ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf, ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gywir, mae hefyd wedi bod yn broblem yn ei ran ef o Gymru, yn Sir Gaerfyrddin. Efallai y gallem ymweld ag un o’r caeau chwarae yno hefyd.

O ran chwaraeon elitaidd a chwaraeon ar lawr gwlad, dylai’r Aelod fod yn ymwybodol bellach fod y ddau yn nwylo Gweinidogion gyda chyllidebau llawn; nid oedd hynny’n wir o’r blaen. Felly, mewn gwirionedd, byddwn wedi meddwl y byddai’n croesawu’r ffaith fod gennym ddau o bobl wrth fwrdd y Cabinet bellach sydd â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon ar lefel gymunedol a chwaraeon ar lefel elitaidd. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn ymwneud â mwy na hamdden a chwaraeon elitaidd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi iechyd a lles. Drwy ei roi yn nwylo Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, credaf y gallwn ehangu chwaraeon ar lawr gwlad i gynnwys pob math o weithgarwch corfforol sy’n hybu iechyd a lles yng Nghymru.

Yn gyntaf, hoffwn groesawu’r Ysgrifennydd y Cabinet i’w rôl newydd a diolch iddo am y datganiad y prynhawn yma ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd sydd ar y gorwel. Am y tro cyntaf ers 1958—ymhell cyn i mi gael fy ngeni—bydd pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i wylio ein tîm gyda balchder mewn pencampwriaeth bêl-droed fawr, a hoffwn ymuno â chi i ddymuno’r gorau i Chris Coleman a thîm pêl-droed Cymru. Rwy’n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn cytuno y byddwn yn ymfalchïo yn nhîm Cymru a’n bod yn gobeithio y bydd holl wledydd cartref y DU yn aros yn Ewrop mor hir â phosibl.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau felly y bydd cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru yn gallu mwynhau’r bencampwriaeth mewn parthau cefnogwyr ar draws y wlad? Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ymwelodd bron 150,000 o bobl â pharthau cefnogwyr ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ond cafwyd peth pryder ymhlith cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru na fydd parthau cefnogwyr yn cael eu defnyddio i’r un graddau yn ystod Ewro 2016. Felly, hoffwn wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i annog awdurdodau lleol, FAW a sefydliadau partner eraill i sefydlu parthau cefnogwyr er mwyn i gymunedau ledled Cymru allu cefnogi tîm Cymru a rhannu’r profiad gyda’i gilydd. Wrth gwrs, bydd yn hwb enfawr i’r chwaraewyr allan yn Ffrainc i wybod bod cefnogwyr yn ôl adref y tu ôl iddynt.

Yn ail, mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn creu diddordeb a galw am weithgareddau chwaraeon ar lefel iau ac ar lawr gwlad. Felly, byddwn yn awgrymu y dylid defnyddio cynnydd sydyn yn y diddordeb i wella iechyd ein cenedl. Mae yna gyfle euraidd i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon fel y gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a gwella iechyd y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddefnyddio Ewro 2016 fel modd o hybu rhinweddau ffordd egnïol o fyw a manteision eraill gweithgareddau chwaraeon i iechyd?

Yn drydydd, fe gyfeirioch at y posibilrwydd o fygythiadau i ddiogelwch yn y pencampwriaethau. A gaf fi gefnogi’n llawn eich cyngor i wylwyr fod yn wyliadwrus a chymryd sylw o gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth Ffrainc yn dilyn datganiadau gan Scotland Yard ac eraill yng ngweinyddiaeth fewnol Ffrainc ei bod yn amhosibl gwarantu diogelwch cefnogwyr sy’n teithio i Ffrainc. Ac yn olaf, mae gan lwyddiant tîm pêl-droed Cymru, yn amlwg, botensial i ddod â manteision economaidd i Gymru. Rydych wedi darparu rhai manylion yn eich datganiad, ond efallai y gallech hefyd roi sylwadau ar sut y mae gan y digwyddiad hwn botensial i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol i sicrhau y bydd llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 yn creu etifeddiaeth barhaus. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Lywydd, hoffwn ymuno ag eraill i ddymuno pob llwyddiant i dîm Cymru.

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ei eiriau caredig, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y pumed Cynulliad hefyd. Os caf grybwyll y pwynt olaf ynglŷn â hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, dim ond dechrau yw hyn, wrth gwrs, ar yr hyn rwy’n ei weld fel cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru ac i Gymru yn hyrwyddo’r gêm ar lwyfan byd-eang, oherwydd y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, yng Nghaerdydd y cynhelir rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr—y diwrnod mwyaf yn y calendr chwaraeon. Bydd yn achlysur enfawr ac mae hwn yn gyfle perffaith i fynd ymlaen i sôn am achlysur pêl-droed mawreddog arall.

O ran parthau cefnogwyr, rwyf wrth fy modd fod Caerdydd ac Abertawe yn trefnu parthau cefnogwyr ar gyfer y bencampwriaeth. Rwy’n ymwybodol fod llawer o’r Aelodau wedi cysylltu â’u hawdurdodau lleol eu hunain i bwyso arnynt i wneud yr un peth, gan gynnwys fy nghyd-Aelod o Wrecsam, sydd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn ymwybodol fod awdurdodau lleol eraill wedi cytuno i greu parthau cefnogwyr. Ond yn sicr mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a chyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn trafod ble a pha fathau o gynulliadau cyhoeddus y gellid eu trefnu. Rwy’n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn, fodd bynnag, fod y bencampwriaeth hefyd yn cynnig cyfle gwych i dafarndai a thai bwyta i fanteisio ar y digwyddiadau, a bragdai yn wir. Felly, lle cynhelir parthau cefnogwyr o’r fath, byddwn yn annog trefnwyr, pan a phryd y bo modd, i sicrhau bod cyflenwyr a gwasanaethau lleol o Gymru yn manteisio ar y cyfleoedd hynny.

O ran ein hyrwyddiad, hoffwn roi gwybod i’r Aelodau mai fy mwriad—dywedaf ‘os a phan’ fyddwn yn mynd drwodd i’r camau bwrw allan—yw agor yr holl safleoedd Cadw ar y Sul cyntaf ar ôl mynd drwodd i roi mynediad am ddim i bawb, fel yr hyn y gallech ei alw’n ‘ddydd Sul y dathlu’ yn ystod y bencampwriaeth. Rwy’n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y bencampwriaeth i Gymru, ac yn rhoi cyfle i bobl o bob oed brofi peth o’n treftadaeth wych, sef yr hyn y mae cymaint o bobl yn dod i Gymru i’w brofi.

O ran etifeddiaeth y bencampwriaeth a beth rydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad y gêm ar lefel llawr gwlad yn arbennig, rydym yn buddsoddi rhywbeth tebyg i £1 filiwn y flwyddyn mewn pêl-droed ar lawr gwlad drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am wneud gwaith gwych, nid yn unig o ran hyrwyddo’r gêm, ond yn ymgysylltu â llawer o bobl ifanc a allai ymddieithrio o addysg fel arall. A thrwy wneud hynny, maent yn eu cadw mewn addysg ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael addysg dda.

Nawr, gan edrych tua’r dyfodol, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn bwriadu defnyddio’r ffaith fod y tîm wedi mynd drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2016 fel catalydd i symud yn nes at eu gweledigaeth o bêl-droed fel rhywbeth sy’n fwy na gêm, a bydd pedwar llwybr cyflawni yn arwain at wneud pêl-droed yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, a phêl-droed yn galluogi cymunedau i weddnewid. Mae’r pedwar llwybr yn cynnwys hybu clybiau ar lawr gwlad, ac felly ceir uchelgais, er enghraifft, i greu 100 o ddyddiau recriwtio pêl-droed cymunedol ar draws Cymru yn ystod yr haf. Mae tri deg o ddyddiadau wedi’u pennu hyd yn hyn, ond bydd hyn yn help sylweddol i glybiau ar lawr gwlad.

Yr ail elfen yw hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden o fewn y gymuned. Ac felly, yn hyn o beth, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio Cwpan y Bobl, sef cystadleuaeth hamdden genedlaethol bump bob ochr gyda phum grŵp cyfranogol, gan gynnwys grŵp i ddynion a menywod hŷn, grŵp iau, grŵp pêl-droed cerdded, a chyfranogiad pobl anabl hefyd, i wneud yn siŵr ei fod yn wirioneddol gynhwysol.

Y drydedd elfen yw cyfranogiad hamdden o fewn amgylchedd yr ysgol, ac unwaith eto, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Lidl hefyd, yn gwneud gwaith rhagorol yn y cyswllt hwn. A’r pedwerydd yw defnyddio pêl-droed fel arf i ysbrydoli a chynorthwyo addysg, ac efallai eich bod yn ymwybodol o lansiad rhaglen addysg ysgolion cynradd Ewro 2016, sydd ar gael i ysgolion cynradd gan CBAC ar Hwb.

Mae’n gyflawniad sylweddol i sgwad Cymru fynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd, felly hoffwn ychwanegu llongyfarchiadau grŵp UKIP Cymru at rai pawb arall am lwyddo i gyrraedd yno i Chris Coleman a’i dîm a’r garfan. Mae’n dda gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i chwaraeon ar lawr gwlad yn y dyfodol gyda’r buddsoddiad yn Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau. Drwy gydol y bencampwriaeth efallai y byddai’n syniad—efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthyf a ellir cyflawni hyn—pe bai modd i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru chwifio baner Cymru cyhyd ag y bydd Cymru’n rhan o’r bencampwriaeth mewn gwirionedd. Mae’n bosibl y gallai fod yn fwy trawiadol pe baem yn cael gwared ar faneri’r UE yn y cyfamser oherwydd wedyn byddai’n fwy amlwg, a phwy a ŵyr, erbyn i’r bencampwriaeth ddod i ben, efallai na fydd angen i ni eu codi byth eto. [Chwerthin.]

Pe baent yn tynnu’r faner Ewropeaidd mewn rhai mannau, mae arnaf ofn y gallent gael eu taflu a’u hystyried yn sbwriel yn y strydoedd, ac yna efallai y bydd gennym wleidyddion yn cyhuddo mewnfudwyr o’i wneud. [Chwerthin.] Byddwn yn croesawu’r modd y mae’r Aelod wedi cofleidio’r ysbryd cenedlaethol rydym yn ei deimlo ar hyd a lled Cymru, ac ar wahân i ddweud y byddwn yn annog pob adeilad cyhoeddus i godi baner Cymru uwch eu pennau, hoffwn nodi yn ogystal, mewn perthynas â sylwadau Russell George ynglŷn â diogelwch, ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ynghylch bygythiad terfysgaeth, a’r angen i gefnogwyr ymddwyn ar eu gorau mewn gemau. Byddwn yn annog yr holl gefnogwyr i edrych yn rheolaidd ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae yna adran o’r enw ‘Be on the Ball’ ar y wefan, a byddwn yn annog yr holl gefnogwyr sy’n teithio i Ffrainc i gadw llygad manwl arni.

Roeddwn wedi dechrau ofni na fyddai Cymru byth eto yn ennill ei lle mewn pencampwriaeth fawr yn ystod fy oes. Blwydd oed oeddwn i pan aethant drwodd i’r rowndiau terfynol ym 1958; mae’n debyg na fyddai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’u geni. Ond mae’n gamp aruthrol i Gymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ac rwy’n falch dros ben eu bod wedi gwneud hynny.

Credaf fod angen i ni edrych arno, nid yn unig fel rhywbeth sy’n dda i forâl ac yn dda i hunanhyder yng Nghymru, ac mae hynny’n wir, ond am yr effaith y mae’n mynd i’w chael ar hyrwyddo Cymru. Mewn sawl rhan o’r byd mae Abertawe yn hynod o adnabyddus oherwydd llwyddiant eu tîm pêl-droed. Hynny yw, faint fyddai wedi’i gostio mewn gwirionedd i gael yr un lefel o gyhoeddusrwydd â’r hyn y mae Cymru yn mynd i gael ar y teledu ac mewn papurau newydd print dros yr wythnosau nesaf, a thros y bencampwriaeth gyfan gobeithio? Rwy’n cofio Gwlad Groeg yn ei hennill, rwy’n cofio Denmarc yn ei hennill, felly nid ydym yn gofyn am yr amhosibl. Faint fyddai’n ei gostio mewn gwirionedd i gael y lefel honno o gyhoeddusrwydd i Gymru ag a gawn yn awr?

Ond a gaf fi ychwanegu ple, ac rwy’n credu ei bod yn debyg iawn i’r hyn roedd Neil McEvoy yn ei ddweud? Credaf fod angen i ni gael mwy o gaeau chwarae 3G a 4G yng Nghymru oherwydd mae angen i ni gryfhau pêl-droed ar lawr gwlad, ac mae angen cael mwy o bobl ifanc yn ei chwarae a’r cyfle iddynt wneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weld tîm pêl-droed y menywod hefyd yn mynd drwodd ac rwy’n siomedig iawn eu bod wedi colli 2-0 neithiwr i Norwich—Norwy, mae’n ddrwg gennyf—sy’n golygu na allant fynd drwodd yn awr. Rwy’n siomedig am hynny, ond credaf, gyda’r cynnydd y mae pêl-droed menywod wedi’i wneud yng Nghymru, y cynnydd y mae pêl-droed dynion wedi’i wneud yng Nghymru, rydym yn sicr yn cyflawni’n well na’r disgwyl a byddwn yn gobeithio y gallwn gael rhagor o gaeau chwarae 3G a 4G allan yno, er mwyn cael mwy o bobl i chwarae am fwy o’r amser. Oherwydd efallai nad ydych wedi sylwi, ond yn y gaeaf yng Nghymru mae’n mynd yn ofnadwy o wlyb ac nid oes modd chwarae ar rai o’r caeau glaswellt am gyfnod hir o amser.

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad? Nid oeddwn wedi sylweddoli nad oedd ond yn flwydd oed yn 1958; rwy’n gwybod ei oedran yn awr. Byddai’r cyfwerth hysbysebu yn llawer iawn o filiynau o bunnoedd ar gyfer y bencampwriaeth. Yn wir, pan lansiwyd y Flwyddyn Antur gennym ar ddechrau’r flwyddyn hon, fe gyfrifasom, yn y 72 awr gyntaf, fod y cyfwerth hysbysebu drwy hyrwyddo Cymru yn 2016 fel Blwyddyn Antur yn unig, wedi dod i gyfanswm o fwy na £800,000 yn fyd-eang, gyda’r sylw a gafodd yn y wasg. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn debygol y byddai talu am hyrwyddo o’r math y mae Cymru yn mynd i’w fwynhau yn ystod y bencampwriaeth yn anfforddiadwy.

Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y gwaith o greu 100 o gaeau chwarae 3G newydd ledled Cymru—[Torri ar draws.]—mewn safleoedd allweddol, gan gynnwys, mae’r Aelod yn iawn, yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hyn yn cysylltu â phwynt a grybwyllwyd gan Neil McEvoy am yr angen am ymagwedd strategol i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud defnydd o gyfleusterau modern mor agos at eu cymunedau ag y bo modd.

O ran hyrwyddo Cymru, yn ychwanegol at y gwerth anhygoel y bydd hyn yn ei greu i ni o ran y cyfwerth hysbysebu i Gymru fel cyrchfan i dwristiaid, rwy’n falch ein bod yn gallu mynd â rhai profiadau sy’n rymus ac yn unigryw i Ffrainc hefyd. Felly, er enghraifft, yn y Pentref Ewropeaidd sy’n cael ei lwyfannu ym Mharis, yn y parth Cymreig, bydd yna brofiad rhithwir i alluogi ymwelwyr â Pharis i wibio ar draws amgylchedd diwydiannol a naturiol gogledd Cymru.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad da a chynhwysfawr iawn? Mae’n rhaid i mi gyfaddef ar y dechrau mai bachwr aflwyddiannus wyf fi. Rwy’n un o ddilynwyr y ffurf wasgedig ar bêl-droed ac yn methu â deall y rheolau’n iawn o hyd, ond byddaf yn gwylio a byddaf yn cefnogi ein tîm.

Mae yna ddau ganlyniad rwy’n chwilio amdanynt o’n camp hynod yn mynd drwodd i’r bencampwriaeth Ewropeaidd. Un yw mai hyn bellach—ymhell y tu hwnt i rygbi, ymhell y tu hwnt i unrhyw gamp arall—yw llwyfan y byd ar gyfer y gamp fwyaf, y cyrhaeddiad enfawr sydd ganddi—. Rwy’n gobeithio, o ran yr effaith uniongyrchol ar fwytai a chaffis a bariau a mannau eraill, ond hefyd o ran effaith fwy hirdymor hyrwyddo twristiaeth i Gymru, y lle gwych hwn sydd gennym, y baradwys antur hon i dwristiaid sydd gennym yng Nghymru, ond hefyd paradwys chwaraeon yn ogystal—dyna un o’r canlyniadau, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dangos rhai o’r mentrau gwych sydd eisoes ar y gweill ar hynny.

Yr ail yw i’r timau hynny—ac mae llawer mwy o dimau pêl-droed na thimau rygbi yn fy nghwr i o’r byd, mae’n rhaid i mi ddweud—yn y Gilfach Goch a Chwm Ogwr, Llangeinwyr, Maesteg, Caerau, mae pob un o’r timau hynny’n mynd i elwa, rwy’n siŵr, o’r cyfranogiad llawr gwlad hwnnw—a’u hiechyd a’u lles—drwy weld hyn ar y teledu. Ac mae’n rhaid i mi ddweud hefyd, carfan a thîm merched iau Cymru sydd wedi cael blwyddyn mor llwyddiannus hefyd. Maent yn hyfforddi yng Ngholeg Pen-y-bont, ar gampws Pencoed yn fy etholaeth. Ond hoffwn roi’r nodyn hwn o obaith hefyd i’r aficionados pêl-droed yma a gofyn i’r Gweinidog a fyddai’n cytuno â mi y gall fod adegau pan fydd ambell Ddafydd yn curo ambell Oliath. Mae tîm rygbi ieuenctid Nantyffyllon—mae fy nhri mab wedi chwarae i’r tîm hwnnw—maent newydd ennill cwpan cynghrair Cymru—eu cynghrair eu hunain—a hefyd cwpan Cymru, gan guro ar y ffordd yno, gydag ymddiheuriadau i gyd-Aelodau, Caerffili, Pontypridd, Pen-y-bont a sawl tîm arall hefyd. Fe all Dafydd guro Goliath. Na adewch i ni roi’r gorau i obeithio. Dyma ein pencampwriaeth Ewrop ni. [Chwerthin.]

Wel, mae’r Aelod yn gwbl iawn. Dyma bencampwriaeth lle gall ambell Ddafydd fod yn hynod o lwyddiannus. Rydym wedi gweld rhai rhyfeddodau mawr mewn pencampwriaethau diweddar gyda chenhedloedd fel Denmarc a Gwlad Groeg yn eu hennill. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar safle Cymru a’r timau eraill yn y grŵp, gwelwn fod Cymru ar hyn o bryd yn safle 26 drwy’r byd, a Slofacia yn safle 24, Lloegr yn safle 11—roeddem ar y blaen i Loegr heb fod yn hir yn ôl—a Rwsia yn safle 29. Mae’n un o’r grwpiau mwyaf cywasgedig a bydd yn anodd iawn rhagweld canlyniad llawer o’r gemau. Felly, rwy’n credu’n gryf os mai Cymru yw Dafydd yn y bencampwriaeth hon, Dafydd fydd fwyaf llwyddiannus.

O ran twristiaeth, rydym yn gwneud yn well nag erioed yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy’n falch iawn fod Ewro 2016, ac yn 2017, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, yn gymorth i hyrwyddo Cymru 2017 fel Blwyddyn y Chwedlau, a fydd unwaith eto yn fy marn i yn elwa i’r eithaf ar ein natur unigryw fel lle sy’n meddu ar ddiwylliant a threftadaeth wych. Felly, rwy’n gyffrous iawn am hynny hefyd.

O ran llawr gwlad a rôl Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru yn hyrwyddo—. Ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir i nodi gêm y merched. Erbyn hyn mae 3,500 o chwaraewyr cofrestredig o dan 18 oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 1,465 o chwaraewyr benywaidd sy’n oedolion, felly gallwn weld bod twf aruthrol wedi digwydd. Ond mae gan Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru uchelgais mawr yn hyn o beth. Eu nod yw tyfu’r gêm. Maent ar hyn o bryd wedi ennill statws safon aur y gymdeithas o dan siarter llawr gwlad UEFA i gydnabod maint a safon y rhaglenni a gyflwynwyd. Ac mae’n ddiddorol i’r Aelodau nodi mai Cymru yw’r genedl gyntaf i ddarparu addysg ar-lein sy’n denu hyfforddwyr o’r radd flaenaf i’n cyrsiau, gan gynnwys Thierry Henry.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n amau ​​ein bod yn cefnogi Cymru’n unfrydol fel ein tîm ar gyfer y bencampwriaeth hon, ni waeth pwy mae rhai o’r Aelodau wedi cefnogi yn y gorffennol. Serch hynny, bydd llawer o’r Aelodau yn ymwybodol o achosion a gafodd lawer o sylw o fanwerthwyr mawr yng Nghymru sy’n hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yn eu siopau ac ar eu nwyddau. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol, yn enwedig gan fod Cymru yn mynd i fod yn chwarae Lloegr yn y bencampwriaeth. Rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i Lindsay Whittle, rhagflaenydd Steffan Lewis, oherwydd, pan ddarganfu fod Panini yn gwerthu llyfrau sticeri Lloegr yn Tesco ac nid llyfrau sticeri Cymru, roedd yn dringo’r waliau, a gall unrhyw un sy’n adnabod Lindsay Whittle ddychmygu hynny. [Chwerthin.]

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cael unrhyw sgyrsiau gyda sefydliadau manwerthu masnachol mawr ynghylch priodoldeb hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yng Nghymru yn ystod Ewro 2016? A wnaiff eu hatgoffa i weithredu’n fwy sensitif mewn perthynas â nwyddau eu siopau er mwyn i ni i gyd gefnogi Cymru a dymuno’n dda iddynt yn ystod y mis i ddod?

Mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig, ond byddwn yn dweud y byddwn yn hoffi gweld ymwelwyr â Chymru o Loegr yn gallu prynu eitemau pêl-droed sy’n cario baner Cymru yn ogystal â baner Lloegr os ydynt yn dymuno er mwyn gwella economi Cymru. Rwy’n ymwybodol fod yna siopau—ac mae wedi bod yn fater cynhennus—wedi bod yn gwerthu nwyddau Seisnig, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae’r ffin yn hydraidd iawn. Nid yw hyn yn newydd i’r digwyddiad hwn; mae hwn yn fater sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Rwy’n credu mai’r peth allweddol i ni fel gwleidyddion yw cofio mai hwn yw’r cyfle cyntaf i Gymru gystadlu ers 1958 ac yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallai gwledydd eraill fod yn ei wneud, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y mae Cymru wedi’i gyflawni a’r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud a dathlu llwyddiant carfan Cymru.

Rwy’n cytuno â chi y dylem fod yn canolbwyntio ar lwyddiant ein tîm ein hunain. Rydych wedi crybwyll eisoes y bydd parth cefnogwyr yn Abertawe a Chaerdydd, ac rwy’n falch iawn o longyfarch cyngor Caerdydd ar ddenu’r nawdd i gael parth cefnogwyr ym mharc Bute ar gyfer y tri digwyddiad. Roeddwn am sôn wrthych pa mor bwysig yw ei wneud yn ddigwyddiad sy’n ystyriol o deuluoedd fel y gall pobl ddod â’r teulu cyfan, yn ddiogel o ddeall fod hwn yn mynd i fod yn ddigwyddiad y byddant eisiau i’w plant fynd iddo. Rwyf ychydig yn bryderus ynghylch adroddiadau yn y wasg na chaniateir unrhyw fwyd neu ddiod yn y parth cefnogwyr, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd hwn yn gyfle i geisio gorfodi pobl i brynu lluniaeth drud pan fo’n hynod o bwysig fod pobl yn yfed dŵr os yw’n boeth. Roeddwn yn meddwl tybed a allech edrych ar hynny a gwneud yn siŵr nad yw’n gyfle i fynd ag arian oddi wrth bobl yn hytrach na dathlu llwyddiant ein tîm.

Iawn. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chyfraniad? Mae’n gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau poeth hyn, fod pobl yn yfed cymaint o ddŵr ag o alcohol. Mater i Gyngor Dinas Caerdydd yw pwy sydd ganddynt yn gwerthu lluniaeth, ond fel y dywedais ychydig yn gynharach, rwy’n credu ei bod yn bwysig i gynhyrchwyr Cymru a chyflenwyr o Gymru gael pob cyfle i fanteisio ar y digwyddiad.

Mae’r Aelod yn iawn, o ran ymddygiad y cefnogwyr, nid y chwaraewyr yn unig sy’n llysgenhadon dros Gymru tramor, ond y cefnogwyr hefyd—y rhai sy’n teithio dramor a’r rhai sy’n aros yng Nghymru—felly, byddwn yn eu hannog i gyflwyno Cymru yn y ffordd orau a mwyaf parchus posibl ac i ymatal rhag yfed gormod.

6. 6. Cynnig i Atal Rheol Sefydlog

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6017 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau’r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rydych yn newydd i’ch rôl, fel rwyf fi i’r Cynulliad hwn, ac nid yw fy sylwadau ar y Rheolau Sefydlog yn adlewyrchiad arnoch chi na’ch swydd. Yn wir, rwy’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau adeiladol rydym wedi’u cael ar y broblem.

Nid oes dianc rhag y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn torri ein Rheolau Sefydlog, ac nid yw’n lle cyfforddus i unrhyw ddeddfwrfa fod. Fel egwyddor, mae gennym dryloywder ac mae gennym atebolrwydd. Rwy’n deall efallai na fydd llawer o’n hetholwyr yn darllen y Rheolau Sefydlog hyn, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig i’r rhai a allai fod am ymgysylltu â’r Cynulliad a’n gweithdrefnau allu cyfeirio at y ddogfen hon yn y ffordd rwyf wedi ceisio ei wneud, er mwyn deall y gweithdrefnau a’r rheolau rydym yn eu cymhwyso yn y lle hwn.

Mae’n ofynnol i ni benodi Comisiwn y Cynulliad o fewn 10 diwrnod i benodi ein Pwyllgor Busnes. Rydym bellach 14 diwrnod ar ôl hynny ac wedi torri’r gofyniad hwnnw. Mae gennym faterion pwysig i Gomisiwn y Cynulliad, er enghraifft mewn perthynas â’r refferendwm Ewropeaidd a rhai o’r materion cyfreithiol sy’n ymwneud â hynny a neilltuaeth. Mae gennym yn awr, yn eitem 6, gynnig rwy’n ei ystyried yn amwys. Mae’n datgan ei fod

‘yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau’r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes’.

Yn ôl pob tebyg nid ydym ond yn atal y rhan honno sydd â’r gofyniad 10 diwrnod, yn hytrach na’r holl destun rwyf newydd ei ddarllen. Wedyn, yn eitem 7, bydd gennym gyfeiriad yn ôl at

‘yn unol â Rheol Sefydlog 7.1’,

sydd, wrth gwrs, newydd ei atal gennym i raddau braidd yn annirnadwy neu amwys. Yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yw gweithredu fel sy’n ofynnol yn adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ond rwy’n poeni, lle nad ydym yn gweithredu o dan y Rheolau Sefydlog, ein bod yn eu diwygio mewn ffordd sy’n amwys, ac ni ddylem fod yn y fan hon. Rwyf wedi clywed amryw o bobl â statws uchel yn y lle hwn yn cyfeirio, yn amrywio, at ddehongliadau hyblyg neu bragmataidd o’r Rheolau Sefydlog, ac rwy’n gwneud y pwynt fod hon yn sail ddifrifol ar gyfer gweithdrefn. Dylai’r rheolau gael eu cyhoeddi, dylent fod yn glir, dylai ein hetholwyr allu eu gweld a dylai’r rhai ohonom sy’n edrych ar y pethau hyn allu dibynnu arnynt fel arweiniad i sut y bydd busnes yn cael ei wneud yn y lle hwn mewn gwirionedd.

Pan gyfarfuom 14 diwrnod yn ôl, yr opsiwn y credwn y dylem fod wedi’i ddewis fyddai gohirio’r ein trafodion er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i gynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad a dod yn ôl wedyn i gytuno ar y cynnig. Pe na baem wedi gwneud hynny, gallem fod wedi cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog, neu’r rhan berthnasol—10 diwrnod gwaith efallai yn hytrach na 10 diwrnod—yn benodol yn ôl yr angen, yn hytrach na’u gadael i ni eu tramgwyddo, yna ceisio’u diwygio’n unig i unioni hynny wedyn, yn ôl pob golwg. Nid wyf yn bwriadu gwrthwynebu unrhyw un o’r cynigion hyn, ond roeddwn eisiau dweud hynny ar gyfer y cofnod. Diolch.

A gaf i ddiolch i’r Aelod am gyfrannu at y ddadl ar y cynnig yma? Rwy’n cytuno nad yw’n ddelfrydol bod angen atal y Rheolau Sefydlog fel hyn. Fodd bynnag, fe weithiodd amgylchiadau yn ein herbyn ni y tro yma. Fe roedd y Pwyllgor Busnes, fel mae’r Aelod yn ymwybodol, yn ei hystyried hi’n anffodus nad oedd modd cydymffurfio â’r Rheolau Sefydlog ar yr achlysur yma, ond fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i adolygu’r terfyn amser 10 diwrnod sydd wedi arwain at y sefyllfa o gynnig gohirio’r Rheolau Sefydlog yn yr achos yma. Felly, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am wneud y sylwadau hynny.

Rwy’n symud felly nawr i’r cwestiwn a ddylid derbyn y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Cynnig i Benodi Comisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw.

Cynnig NNDM6018 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Joyce Watson (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy’n gofyn, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:56.