Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Prynhawn da, bawb. Gadewch i ni ddechrau gyda chwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Ac yn syth i gwestiwn 1 [OQ65021]—tynnwyd yn ôl. Felly, cwestiwn 2, Louise Emery.

Aelwydydd mewn Cymunedau Gwledig

2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw aelwydydd mewn cymunedau gwledig nad ydynt wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith nwy prif gyflenwad o dan anfantais yn sgil ei pholisïau ynni? OQ64982

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu aelwydydd gwledig ac aelwydydd oddi ar y grid. Rydyn ni’n cefnogi effeithlonrwydd ynni a mabwysiadu atebion ynni carbon isel, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, sectorau perthnasol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau nad yw aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy dan anfantais.

Dwi'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at y pecyn cymorth costau byw yn ei ymateb. Mae Bangor Conwy Môn yn gartref i nifer o dai sydd yn dibynnu ar olew gwresogi, neu LPG, ar gyfer cynhesu, a gwyddom y bydd y cymorth ychwanegol yn cymryd y pwysau oddi ar nifer o deuluoedd dros gyfnod y gaeaf. Ond yn ogystal â mesurau cymorth byrdymor, ydy'r Gweinidog Cabinet yn cytuno y bydd yr arian ychwanegol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Plaid Cymru ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni tai yn gwneud gwahaniaeth mawr i filiau ynni mewn eiddo hŷn dros yr hirdymor?

Wrth gwrs, fel mae'r Aelod yn crybwyll, mae gyda ni mewn lle becyn cymorth costau byw yn y tymor byr o £130 miliwn, yn cynnwys taliad o £250 i bob cartref sy'n gymwys i gael gostyngiad treth cyngor. Ond fel wnes i sôn yn yr ateb blaenorol, rŷn ni'n awyddus iawn hefyd i gael y shifft yma fel nad yw teuluoedd yn ddibynnol ar danwydd olew. Mae gyda ni gynllun i shiffto pawb dros gyfnod o amser ac mi fyddwn ni'n cynnig rhagor o wybodaeth ynglŷn â hwnna.

Mae gyda ni hefyd, wrth gwrs, wasanaeth Nest, sydd yn cynnig cyngor i bobl yn ogystal, ac mae'n bwysig i bwysleisio hynny—mae'r cyngor hynny ar gael. Ond mi fydd mwy gyda ni i'w ddweud ynglŷn â sut rŷn ni'n gallu helpu mwy o deuluoedd i drawsnewid draw i system sydd ddim yn ddibynnol ar olew neu LPG yn y dyfodol.

13:35
Masnachwyr a Busnesau Bach

3. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fasnachwyr a busnesau bach? OQ65033

Mae cymorth Llywodraeth Cymru i fasnachwyr a busnesau bach yn cynnwys cyngor drwy Busnes Cymru, cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru, rhyddhad ardrethi busnes a buddsoddi yng nghanol trefi. Mae cymorth hefyd ar gael i ddatblygu sgiliau, mabwysiadu technoleg ddigidol a datgarboneiddio.

13:40
13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Tom Montgomery.

13:50
13:55
14:00
Y Sector Ynni Niwclear

4. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r sector ynni niwclear yn ne Cymru? OQ65007

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r strategaeth ynni genedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer sector ynni carbon isel sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru.

14:05

Rwy'n gefnogwr mawr o dechnoleg newydd, ond dwi ddim yn credu mai ynni niwclear yw'r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, dwi yn credu bod hyn yn gyfle i drafod cadwyn ymchwil a chyflenwi cynaliadwy y gallai ein diwydiannau ddibynnu arno. Dwi'n cyfeirio'n benodol at led-ddargludyddion—microchips, semiconductors. Mae'r technolegau hyn yn chwarae rhan allweddol mewn cyfleusterau pŵer niwclear, gan fod eu technolegau arloesol yn cael eu defnyddio mewn systemau rheoli, monitro pelydriad a chynhyrchu pŵer, i enwi dim ond rhai o'u rolau. Rydyn ni'n lwcus iawn ein bod ni'n cael clwstwr lled-ddargludyddion yn y de-ddwyrain, sy'n enghraifft wych o fodel mittelstand Cymreig yn ne Cymru, ond byddai'n rhaid i ni hefyd ei efelychu ar draws sectorau.

I fanteisio'n llawn ar dechnoleg mor arloesol, mae angen cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf arnom, ac yn ffodus, mae gennym ni hyn ym Mhrifysgol Abertawe, yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-Dargludydd Integreiddiol. A allwch rannu eich opiniwn am fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi yng Nghymru a rôl cadwyn gyflenwi'r dyfodol i fusnesau a phrifysgolion Cymreig?

Dwi'n ddiolchgar i'r Aelod, sydd bob amser yn gwneud gwaith campus dros gampws Prifysgol Abertawe, a dwi'n ategu fy mrwdfrydedd dros ymweld â'r brifysgol, sydd yn gwneud cymaint dros arloesedd, nid yn unig yn y rhanbarth ond ar draws Cymru gyfan. Mae lled-ddargludyddion—gair cyfansawdd a ddylai fod ar ein tafodau ni i gyd oherwydd pwysigrwydd y sector i economi Cymru gyfan, a'r potensial sydd iddo fe yn yr amrediad ehangaf posib o gyd-destunau, gan gynnwys y sector ynni yn gyffredinol. Ac wrth gwrs, mae'r Aelod yn gywir, mae yna gyfleon yng nghyd-destun y sector ynni niwclear yn ogystal.

Rŷn ni fel Llywodraeth yn frwd iawn dros hyrwyddo cyfleon o fewn y gadwyn gyflenwi i gwmnïau yng Nghymru, ac mi roeddwn i, yn ddiweddar, mewn digwyddiad i bwyntio at y cyfleon sydd yna yn achos y datblygiad Gwyndod ar Ynys Môn. Felly, ym mhob achos, gan gynnwys ynni niwclear, nid jest bod yn gartref ar gyfer y dechnoleg rŷn ni eisiau ei wneud; rŷn ni eisiau adeiladu'r dechnoleg, rŷn ni eisiau elwa'n economaidd—pobl Cymru, busnesau Cymru a chymunedau ar draws Cymru—i sicrhau bod y buddion ehangaf yna'n dod i ni, nid yn unig nawr ond ar gyfer y dyfodol hefyd.

14:10
Yr Economi yng Ngheredigion Penfro

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Ngheredigion Penfro? OQ64968

Rydyn ni'n adeiladu economi gryfach a mwy gwydn yng Ngheredigion Penfro drwy gefnogi busnesau Cymru, cefnogi menter wledig, buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith a chadw mwy o gyfoeth yng Nghymru. Trwy gaffael lleol cryfach, cefnogaeth i dwf busnes a buddsoddi mewn ynni, trafnidiaeth a chysylltedd digidol, rydyn ni’n creu swyddi â chyflog gwell a thwf cynaliadwy.

14:15
Datblygiadau Mawr Ynni Adnewyddadwy

6. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r manteision economaidd a chymunedol sy'n deillio o ddatblygiadau mawr ynni adnewyddadwy? OQ64999

Mae'n hanfodol bod datblygiadau carbon isel yn darparu manteision i Gymru drwy fuddsoddiad, swyddi o ansawdd uchel, cadwyni cyflenwi, rhanberchnogaeth a manteision cymunedol ehangach. Bydd y strategaeth ynni genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod mwy o'r gwerth a gaiff ei greu gan ynni adnewyddadwy yn cael ei gadw yng Nghymru.

Maes Awyr Caerdydd

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi eu cael â Maes Awyr Caerdydd ynglŷn â sicrhau bod teithwyr yn gallu dewis talu mewn arian parod? OQ65016

Dydw i ddim wedi cael unrhyw drafodaethau â Maes Awyr Caerdydd am sicrhau y gall teithwyr ddewis talu mewn arian parod. Dim ond un safle manwerthu sydd ddim yn derbyn arian parod ar hyn o bryd. Mae pob safle manwerthu a bwyd a diod arall, ynghyd â'r meysydd parcio a'r lolfa, yn derbyn arian parod a chardiau.

Ac yn olaf, cwestiwn i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Cwestiwn 8, Safa Elhassan.

Cyfleusterau Gwefru Cerbydau Trydan

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ehangu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn gweithleoedd sector cyhoeddus? OQ65034

14:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet a Dirprwy Weinidog.  

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg. Cwestiwn 1, Elwyn Vaughan. 

Cryfhau Cymunedau Cymraeg

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau cymunedau Cymraeg yng nghanolbarth Cymru? OQ65011

Diolch yn fawr. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—yn y canolbarth, fel mae hi ymhob man arall yng Nghymru. Rŷm ni'n gweithio i gryfhau’r Gymraeg drwy gynllunio lleol a sicrhau mynediad at addysg Gymraeg. Byddwn yn adeiladu ar hyn yn ein strategaeth newydd ni ar gyfer y Gymraeg.

Diolch, Weinidog. Mae yna gyffro mawr ar droed yn nyffryn Dyfi, gyda Maldwyn Meirionnydd gyfan yn edrych ymlaen at groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r cyffiniau fis Awst nesaf—ardal Glyndŵr a'r gwylliaid cochion. Does dim dwywaith y bydd croeso cynnes yng Nghemaes i'r genedl gyfan ymhen ychydig fisoedd. Fodd bynnag, nid yw dyffryn Dyfi, dyffryn Dysynni a chymunedau ledled yr ardal yn imiwn i'r heriau ehangach sy'n wynebu ein cymunedau Cymraeg, gan gynnwys y dirywiad graddol yn nefnydd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.

Felly, Weinidog, sut gall y Llywodraeth weithio gyda'r Eisteddfod, awdurdodau lleol a chymunedau'r canolbarth i sicrhau bod yr ŵyl yn gadael gwaddol parhaol a chynaliadwy i'r Gymraeg? Sut allwn sicrhau bod y buddsoddiad, y brwdfrydedd a'r sylw a ddaw yn sgil yr Eisteddfod yn troi'n gyfleoedd i gefnogi cymunedau Cymraeg ymhell ar ôl i'r ŵyl ddod i ben?

Diolch yn fawr, ac rwy'n rhannu'r brwdfrydedd sy'n cael ei deimlo yn lleol ynglŷn ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf. Gwnes i yrru heibio'r caeau, sydd yn wag ar hyn o bryd, y dydd o'r blaen, ac mae e wir mewn lle godidog iawn ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n dod yna mewn lluoedd.

Mae e'n gyfle arbennig i ddathlu'r Gymraeg yn y canolbarth, yn sicr, ac mae'r gwaith ar y gwaddol, a chynllunio'n ofalus er sicrhau bod y gwaddol hwnnw yn un defnyddiol a pharhaol, yn waith pwysig. Roeddwn i, er enghraifft, yng ngwobrau'r mentrau iaith wythnos diwethaf, yn edrych ar rai o'r cyfraniadau oedd wedi dod yn sgil Eisteddfod y Garreg Las, a phrosiectau megis Glasu sir Benfro yn cysylltu cymunedau gyda'r murluniau yma ar draws y cymunedau—plant yn mynd o gwmpas yn tynnu hunlun gyda murlun. Roedd e'n effeithiol iawn, ac mae syniadau fel hyn yn rhai rwy'n credu bod gwerth eu rhannu yn ehangach. 

Rwy wedi sôn hefyd, fel rhan o'n hymateb ni i ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ein bod ni am ddefnyddio'r Eisteddfod fel lens penodol ar gyfer polisi iaith. Mae e'n gyfle i edrych ar siẁt y gall gweithgarwch o gwmpas yr ŵyl gyfrannu at ein nod ehangach o gryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau lle nad yw'r Gymraeg, efallai, mor gryf ar hyn o bryd.

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi lansio nawr fframwaith gwaddol i gefnogi'r ymdrechion yma, ac felly ein blaenoriaeth ni yw troi'r brwdfrydedd yma mewn i ddefnydd rheolaidd, hawdd ei gael yn y Gymraeg mewn gweithgareddau cymunedol, diwylliant, a bywyd bob dydd hefyd. Byddwn ni'n edrych yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw ar y cyfleoedd ac ar y gwaddol fydd yn dilyn Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd.

14:25

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae yna, wrth gwrs, ffocws penodol i'r gwaith rŷn ni wedi ymroi i'w gwblhau ynglŷn ag adolygu'r cwricwlwm. Mae yna waith hefyd sydd yn mynd law yn llaw â hynny, a byddaf i'n cyhoeddi mwy o fanylion yr wythnos nesaf ynglŷn ag ymgynghoriad fydd yn benodol yn edrych ar y Gymraeg mewn addysg a strategaeth wedi’i hadnewyddu ar gyfer cyrraedd nod 2050, a fydd yn gosod y cynlluniau sydd gennym ni er mwyn sicrhau bod cael mynediad at y Gymraeg o fewn cymunedau, ac yn yr ysgol, yn cael ei ddatblygu ar draws y cyfnod hwnnw. Mi fyddwn ni mewn sefyllfa bryd hynny, efallai, i drafod yn fanylach y gwaith sydd yn digwydd eisoes mewn llefydd fel Powys. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod, er enghraifft, yn nifer y disgyblion tair oed sy'n cael mynediad at addysg Gymraeg ac sy’n gallu siarad Cymraeg ym Mhowys. Mae yna bach mwy o heriau, efallai, i drosglwyddo wedyn i ysgolion cynradd ac i ysgolion uwchradd, ac wedyn siarad y Gymraeg yn y gymuned yn ehangach, a bydd hwnna'n waith manwl a phwysig y byddwn ni yn canolbwyntio arno fe yng nghyd-destun y strategaeth a'r fframwaith Cymraeg ac addysg.

Diolch, Weinidog, a diolch i Elwyn Vaughan am godi'r mater pwysig yma. Dwi eisiau canolbwyntio eto ar ysgolion, os gwelwch yn dda. Fel dywedodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae bywyd pentref yn canolbwyntio ar yr ysgol. Mae 75 y cant o bobl sy'n siarad Cymraeg o deuluoedd di-Gymraeg wedi dysgu Cymraeg yn eu hysgolion. Mae'r cod trafnidiaeth ysgolion wedi derbyn bod ysgolion yn un o'r llefydd mewn ardaloedd gwledig sy'n ffocws i'r gymuned. Un o'r pethau dwi wedi'i godi o'r blaen yn y Senedd yw sut y gall ysgolion Cymraeg yng nghefn gwlad fod yn hybiau Cymraeg, hynny yw, yn rhywle i rieni ddysgu Cymraeg, trefnu digwyddiadau Cymraeg, ac yn llefydd diwylliannol Cymraeg i'r gymuned. Mae yna, fel rydyn ni'n gwybod, rhwystrau i ysgolion bychan cefn gwlad, yn enwedig ym Mhowys, fel rydyn ni wedi gweld yn y wasg ddoe, dwi'n meddwl—yn The Guardian roedd yna erthygl ynglŷn ag ysgol ym Mhowys. Gaf i ofyn a oes diddordeb gan y Llywodraeth mewn datblygu rhaglen i helpu ysgolion i fod yn hybiau Cymraeg? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Roedd yna sawl elfen iddo fe, ac rwy'n siŵr y clywais i gyfeiriad yn benodol at drafnidiaeth, ac rwy’n gwybod bod hynny, trafnidiaeth ysgol a thrafnidiaeth ysgol i ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn rhywbeth sydd yn ffocws pendant i'n gwaith ni fel Llywodraeth, a hefyd yn flaenoriaeth i'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth.

Mae yna nifer o ysgolion rwyf wedi mynd i’w gweld nhw dros y misoedd a'r wythnosau diwethaf yma sydd, wrth iddyn nhw ddatblygu, hefyd yn cynnig cyfleusterau cymunedol lle mae'r cymunedau yn dod ynghyd, ac mae'r rheini yn adnoddau sydd hefyd yn gallu bod yn bwysig iawn o safbwynt hyfywedd y Gymraeg mewn cymunedau. A dwi'n credu mai dyna fydd yn bwysig wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar yr argymhellion yn ail gam y comisiwn yn yr ardaloedd hynny, efallai, sydd â llai o ddefnydd o'r Gymraeg: siẁt rŷn ni'n cynnal yr adnoddau yna mewn cymunedau ac yn defnyddio'r adnoddau sydd yna ar gyfer rhoi'r cyfleoedd hynny i blant a phobl ifanc, ond hefyd y gymuned yn ehangach.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

2. Sut y mae'r Gweinidog Cabinet yn sicrhau bod staff ysgolion a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn cael mewnbwn i gynllunio a datblygu'r ysgolion newydd a ddarperir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy? OQ65022

Diolch yn fawr. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a chyflawni prosiectau datblygu ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob prosiect a gefnogir drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys staff ysgolion, ar bob cam o'r broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod eu barn a'u profiadau nhw yn cael eu hystyried yn briodol.

Gwn y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi darparu adeiladau ysgol rhagorol sydd wedi gwella amgylchedd dysgu disgyblion. Gwyddom fod hyn yn ei dro yn cefnogi llesiant ac yn codi safonau. Roeddwn i'n falch o nodi yn y gyllideb ddrafft bod £407 miliwn wedi'i gynnig yn 2027-28 ar gyfer gwariant cyfalaf ym maes addysg, gyda £1.2 biliwn dros dair blynedd i wella'r ystâd addysg a chefnogi, ymhlith pethau eraill, y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad yw rhai rheolwyr prosiectau, nad ydynt yn arbenigwyr addysg yn aml, mewn rhai achosion, yn ymgynghori'n ddigonol ag aelodau staff ysgolion ar lawr gwlad i sicrhau bod anghenion disgyblion a staff yn cael eu diwallu a bod adeiladau ac ystadau newydd yn addas at y diben. Pa fesurau a chanllawiau sydd ar waith i sicrhau nid yn unig yr ymgynghorir ag arbenigwyr addysg ynghylch prosiectau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ond eu bod yn rhan ganolog o'r prosiect cyfan, o'r cam dylunio cychwynnol hyd at ei gwblhau? Diolch.

14:30

Dwi'n cytuno'n llwyr ei bod hi'n hanfodol bwysig bod gan ddefnyddwyr yr adeiladau newydd yma, staff yr ysgolion a'r disgyblion, lais o ran sut mae'r prosiect yn datblygu—eu gofod nhw, eu lle nhw, eu man addysg nhw yw e wedi'r cwbl. Dwi wedi gweld nifer o enghreifftiau lle mae hyn wedi gweithio'n dda—roedd y disgyblion yn yr ysgol yn adnabod yr adeiladwyr wrth eu henwau cyntaf yn y lle roeddwn i yr wythnos diwethaf—a lle maen nhw'n rhan ofalus, wedi'i gynllunio, o sut mae'r adeiladau yma'n datblygu. Roeddwn i yn Ysgol Ein Harglwyddes yn ddiweddar, ym Mangor, lle'r oedd y disgyblion yn symud i adeilad newydd, ond wedi creu llinell amser yn disgrifio hanes yr hen ysgol, ac wedi mynd ag e gyda nhw, i sicrhau eu bod nhw â chysylltiad rhwng yr hen a'r newydd, i'r ysgol newydd. Mae yna enghreifftiau bendigedig o hyn yn digwydd, ac mae'n bwysig iawn bod y cyfleoedd yna yn eu lle i gael y deialog hwnnw, i gael y dylanwad hwnnw. Os nad yw staff ysgolion a disgyblion yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn ddigonol, buaswn i'n eu hannog nhw i godi hynny gyda'r awdurdod lleol lle bo'n briodol, fel eu bod nhw yn cael y llais hwnnw, achos bydd pawb ar eu helw o wneud hynny.

Diolch am y cwestiwn. Mae'r cynigion busnes yn dod atom ni ar lefel eithaf uchel o ran penderfynu dyraniad yr arian er mwyn adeiladu'r ysgolion yma. Penderfyniad a chyfrifoldeb yw e i'r awdurdod lleol i edrych yn fanwl ar sut mae'r prosiect yn mynd rhagddo. Ond fel y dywedais i yn fy ateb blaenorol, mae yna enghreifftiau gwych a allai gael eu hailadrodd ar draws Cymru o ran sut y mae'r gwaith yma'n cael ei wneud. Mae gyda ni gwmnïau adeiladu nawr sydd yn brofiadol iawn o safbwynt adeiladu ysgolion ac wedi meithrin perthynas dda ar bob lefel o'r gymdeithas y maen nhw'n ei gwasanaethu. Felly, byddwn ni'n annog pobl i edrych ar y modelau hynny ac arddel y math yna o arfer da ar bob achlysur.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Catherine Cullen.

14:40
14:45
14:50
Prydau Ysgol am Ddim

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith prydau ysgol am ddim ar y broses o gyfrifo grantiau amddifadedd disgyblion? OQ65027

14:55
Colegau Addysg Bellach

4. Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog Cabinet o ddigonolrwydd y dyraniad ar gyfer colegau addysg bellach yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28? OQ65015

15:00
Addysgu Gartref

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn Sir Fynwy Torfaen? OQ65029

Mae cwestiwn 6 [OQ65024] wedi cael ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 7, Safa Elhassan.

Polisi Addysg a Sgiliau

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael â'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ynglŷn â chysoni polisi addysg â’r sgiliau sydd eu hangen at y dyfodol? OQ65040

15:05
Hoci

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ysgolion ledled Cymru i gynnig hoci fel rhan o addysg gorfforol? OQ64990

Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet a Dirprwy Weinidog. 

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Symudwn ymlaen at eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 1, Sarah Cooper-Lesadd. 

Presenoldeb Aelodau mewn Cyfarfodydd Llawn a Chyfarfodydd Pwyllgor

1. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i gyhoeddi gwybodaeth am bresenoldeb Aelodau mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn uniongyrchol ar dudalennau proffil yr Aelodau? OQ65019

15:10
Materion Adnoddau Dynol

2. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod prosesau digonol ar waith i gefnogi Aelodau a'u staff mewn perthynas â materion Adnoddau Dynol? OQ64969

15:15
Ymgysylltiad y Cyhoedd â'r Senedd

3. Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella a chefnogi ymgysylltiad y cyhoedd â'r Senedd a'u canfyddiad ohoni? OQ65018

Mynediad y Cyfryngau i'r Senedd

4. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod mynediad y cyfryngau i'r Senedd yn deg, yn wleidyddol ddiduedd, ac yn dryloyw? OQ64995

15:20
Diogelwch a Pharch at Staff

5. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ei staff yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gweithle? OQ64998

15:25
Telerau ac Amodau Cyflogaeth

6. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael â'r Bwrdd Taliadau Annibynnol am wahaniaethau rhwng y telerau a'r amodau cyflogaeth ar gyfer staff Comisiwn y Senedd a staff cymorth yr Aelodau? OQ65042

15:30
Coffáu Diwrnod y Cofio

7. Pa drefniadau wnaeth y Comisiwn ar gyfer coffáu Diwrnod y Cofio yn y Senedd? OQ65005

Dyma'r tro cyntaf i mi nodi Diwrnod y Cofio fel Aelod o'r Senedd ac roedd yn wirioneddol ysbrydoledig i fynychu gymaint o ddigwyddiadau ledled fy etholaeth, yn ogystal ag yma yn y Senedd ei hun. Dwi'n falch iawn bod cefnogaeth drawsbleidiol i'n milwyr, a bod cytundeb rhyngom ynghylch pa mor bwysig yw gofalu am ein cyn-filwyr.

Fodd bynnag, rhaid i ni gofio, er mai unwaith y flwyddyn y daw'r cyfnod sy'n gysylltiedig â Diwrnod y Cofio, mae ein cyfrifoldebau yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Beth mae Comisiwn y Senedd yn bwriadu gwneud i sicrhau nad ydym byth yn anghofio ein rhwymedigaethau ar adegau eraill o'r flwyddyn? Diolch yn fawr.

15:35
Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd

8. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd? OQ64985

Fel Aelod sy'n cynrychioli un o'r etholaethau pellaf o'r Senedd yng Nghaerdydd, ac fel rhiant i fab tair oed gyda chyfrifoldebau gofalu, rwy'n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw trefniadau sy'n wirioneddol gyfeillgar i deuluoedd er mwyn galluogi pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae 'Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd'—. Sori, dwi wedi gofyn y cwestiwn. Sori, ymddiheuriadau. Mi wnaf i gychwyn eto. Y cwestiwn ydy: a wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr 'Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd'?

Rydym am i'r Senedd fod yn lle croesawgar a chynhwysol, lle caiff Aelodau eu cefnogi i gymryd rhan yn llawn. Ystyriodd y Comisiwn argymhellion yr adolygiad ar 9 Tachwedd, ac mae gan Vikki Howells bellach rôl prif Gomisiynydd, sy'n rhoi ffocws clir ar waith y Comisiwn o ran bod yn ystyriol o deuluoedd. At hynny, mae'r Comisiwn yn cadw ei rôl oruchwyliol a'i gyfrifoldeb ar y cyd. Byddaf innau'n arwain gwaith thematig ar ddiogelwch, urddas a pharch ar-lein. Gall Aelodau deimlo'n sicr bod gwaith eisoes wedi'i gyflawni mewn rhai meysydd a bod gwelliannau ymarferol yn cael eu datblygu. At hynny, mae gwaith pellach eisoes ar y gweill. Lle mae angen datblygiad pellach ar gynigion, bydd ail gam o waith yn egluro opsiynau. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, cynaliadwy, yn hytrach nag ymrwymiadau cyn i'r goblygiadau gael eu deall. Rhaid i ni hefyd fod yn onest na ellir gweithredu pob argymhelliad a wneir i'r Comisiwn yn y ffordd a gynigir. Mae rhai yn gofyn am benderfyniadau neu gamau gan gyrff eraill; mae eraill yn codi cyfyngiadau cyfreithiol neu adnoddau.

Diolch yn fawr. Fel Aelod sy'n cynrychioli un o'r etholaethau pellaf o'r Senedd, ac fel rhiant i fab tair oed â chyfrifoldebau gofalu, dwi'n ymwybodol iawn o ba mor bwysig ydy trefniadau sy'n wirioneddol gyfeillgar i deuluoedd, er mwyn galluogi pobl o bob cefndir i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Fel rydych chi wedi cyfeirio ato fo, mae'r adroddiad yn cynnwys 50 o argymhellion i helpu i gyflawni hynny, sy'n cynnwys y Comisiwn yn creu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cyfartal, megis sicrhau amser gorffen sy'n gyfeillgar i deuluoedd ar gyfer y Cyfarfod Llawn, darpariaeth gofal plant, ac ymyrraeth gynnar i atal camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, rhag rhwystro pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Mae argymhellion eraill yn ymwneud â gweithrediad pwyllgorau a sicrhau bod allbynnau deddfwriaethol y Senedd yn helpu i leihau anghydraddoldebau. Fel un o'r Aelodau sydd wedi profi gwerth un o argymhellion yr adroddiad yn uniongyrchol, sef rhannu'r swydd o gadeirio pwyllgor, dwi'n ddiolchgar i'r Comisiwn am ei waith parhaus yn gweithredu ar nifer o'r argymhellion. Rydych chi eisoes wedi sôn pwy fydd yn arwain ar waith yr argymhellion, ond hefyd pa mor bwysig ydy'r elfen yna o weithio efo partneriaid eraill yn gydlynol. Allwch chi ymhelaethu ar sut, efallai, y bydd Aelodau yn gallu cael mewnbwn yng ngham nesaf y broses? Diolch.

15:40
4. Cwestiynau Amserol

Symudwn ymlaen at eitem 4, cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol gerbron. Y cwestiwn cyntaf, Mair Rowlands.

Pont Menai

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad am yr oedi i'r gwaith cynnal a chadw ar Bont y Borth? TQ1519

Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb. Rydw i, fel y bydd nifer fawr o bobl bob ochr i'r bont, yn rhannu'r rhwystredigaeth. Dwi'n ddiolchgar iddo am fod yn weithgar wrth ddal y cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith i gyfrif. Lywydd, mae'n anodd credu ein bod ni yn y fan hyn unwaith eto; cwestiwn arall ar lawr y Siambr am oedi pellach i'r rhaglen waith dros bont y Borth. Gyda'r amserlen newydd, mae'n golygu y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ers i'r bont gau ar frys nôl yn 2022, cyn i'r gwaith cynnal a chadw dod i ben, a dros ddwy flynedd yn hwyrach na pryd roedd y gwaith i fod i orffen yn wreiddiol. Mae'n gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid i'r cwmni sy'n gyfrifol am y rhaglen waith, ac sydd wedi bod yn gyfrifol am warchod y bont ers 1998, gymryd cyfrifoldeb.

15:45
15:50

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. A'r ail gwestiwn, Jane Dodds.

Y Diwydiant Dur

2. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar yr adroddiadau ynghylch diffyg cyllid i Gymru o gronfa ddur £2.5 biliwn Llywodraeth y DU? TQ1523

Nid oes unrhyw ddosrannu daearyddol yn gysylltiedig â’r Gronfa Gyfoeth Wladol. Eto i gyd, wrth i ni gysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwnaethom bwysleisio'r angen i sicrhau bod cyfran deg o unrhyw gyllid sydd ar gael yn cael ei dyrannu i fusnesau a chymunedau dur ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys drwy'r Gronfa Gyfoeth Wladol.

15:55
16:00

Rydym allan o amser. Rydw i'n mynd i alw un Aelod o'r rhestr sydd gen i, os yw hynny'n iawn. Jason O'Connell.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Rhaid inni symud ymlaen yn awr at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Beca Brown.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, mae hi'n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, a'r cyntaf o 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd. Hoffwn dynnu sylw'r Senedd at waith pwysig yr ymgyrch hon, sy'n galw ar bob un ohonom i chwarae ein rhan wrth roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. 'It takes all of us' yw thema eleni.

Mae trais, aflonyddu a cham-drin yn gadael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac mae sicrhau hawl merched a menywod i fyw heb ofn yn gyfrifoldeb arnom i gyd. Nid condemnio trais yw unig bwrpas y Rhuban Gwyn. Mae'n ymwneud â newid diwylliant. Mae'n ymwneud â herio agweddau niweidiol, gwrthod ymddygiad amhriodol, a dangos i fechgyn a dynion ifanc beth yw parch, cydraddoldeb a pherthynas iach.

Rwyf i, a sawl un yn y Senedd yma, eisoes wedi cymryd addewid y Rhuban Gwyn, sef i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched, ac rwy'n annog pob Aelod yma i wneud yr un fath eleni. Beth am i bawb ledled Cymru wisgo'r rhuban gwyn, cymryd yr addewid, a bod yn rhan o'r newid sydd ei angen arnom ni i roi terfyn ar drais yn erbyn merched, unwaith ac am byth?

16:05

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth, cyfle i ni ddiolch i’r holl eiriolwyr ar draws Cymru am eu gwaith rhagorol drwy gydol y flwyddyn, a tharo golau ar yr heriau parhaus o fewn y sector. Fel cyn-reolwr gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl, a dwi'n gorfod datgan diddordeb fan hyn, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth trawsnewidiol y gall eiriolwyr annibynnol ei wneud. Maent yn cefnogi cleifion i ganfod llais, deall eu hawliau a gwneud dewisiadau gwybodus dros eu hunain. Maen nhw’n gefn i bobl mewn cyfnod anodd ac yn rhoi rheolaeth yn ôl i bobl dros eu bywydau.

Eleni, mae’r ymgyrch yn rhoi ffocws penodol ar gadw eiriolaeth yn ddynol a’r pwysigrwydd o roi ystyriaeth gref i brofiad byw wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Er mor wobrwyol y gall gyrfa fel eiriolwr fod, mae’n rhaid cydnabod bod amgylchiadau gwaith i nifer yn datblygu i fod yn fwyfwy heriol. Mae galw yn cynyddu, ond ar yr un pryd mae llai a llai o bobl yn cychwyn yn y proffesiwn. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen at gydweithio efo’r Llywodraeth dros y tymor seneddol o’n blaenau ni i wella’r amgylchiadau hynny a sicrhau bod eiriolaeth yn yrfa ddeniadol ar gyfer y dyfodol. Ond am y tro, hoffwn ddiolch i eiriolwyr ledled Cymru am eu hymroddiad a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud i fywydau pobl bob dydd. Diolch.

Mae eleni yn nodi 50 mlynedd ers sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, sydd ers 1976 wedi bod yn golofn ddiwylliannol, gymdeithasol a gwleidyddol i genedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg yn y brifysgol. Gyda’r 1970au yn drobwynt i’r Gymraeg yng Nghymru, roedd y cyfnod sefydlu yn gyfnod o ymgyrchu diwyro, protestio dygn a gwrthdaro, gan greu momentwm a fyddai'n siapio dyfodol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt am genedlaethau i ddod. Drwy'r gweithredoedd hyn, lluniwyd sylfeini UMCB. Ers dros 50 mlynedd mae UMCB wedi cynrychioli, gwarchod a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Bangor. Wrth i'r degawdau fynd heibio, datblygodd UMCB yn gorff aeddfed, deinamig ac yn allweddol i fywyd y brifysgol.

Ond nid hanes rhyw oes aur sydd yma chwaith. Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae UMCB wedi esblygu, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr. Wrth ddathlu'r 50, rydyn ni'n canfod pam fod UMCB yn parhau'n hanfodol heddiw wrth gefnogi myfyrwyr Cymraeg Bangor. Mae'r Gymraeg yn wynebu heriau newidiol, ac yn y cyd-destun hwn mae'r gymuned ym Mangor yn parhau'n gadarn ac yn fywiog, yn parhau i sicrhau bod cyrff gweinyddol y brifysgol yn ystyried y Gymraeg yn eu polisïau, ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr sy'n dymuno byw ac astudio trwy gyfrwng Gymraeg. Hoffwn felly ddymuno pen-blwydd hapus i UMCB yn 50, a dwi'n siŵr bod nifer, fel fi, yn barod i fwynhau a dathlu mewn gig Cymraeg yn Pontio ym Mangor dros y penwythnos. Diolch yn fawr.

16:10
6. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26

Symudwn ymlaen nawr at yr eitem nesaf, eitem 6, cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26. Galwaf ar y Comisiynydd i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM9372 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2025-26, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Dwi'n gwneud y cynnig, Lywydd. Diolch yn fawr. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma ar yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithyddol swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26. Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd lunio cynllun ieithyddol swyddogol sy'n amlinellu safonau cadarn ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn ddwyieithog, yn ogystal ag argymhellion ar ffurf themâu i'w cyflawni dros gyfnod y cynllun. Mae'n ofynnol hefyd i'r Comisiwn adnewyddu ei gynllun ar ôl pob etholiad.

Un o brif ofynion y cynllun ieithoedd swyddogol yw i'r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad blynyddol gerbron Cyfarfod Llawn o'r Senedd er mwyn adrodd ar y gwaith dros y flwyddyn sydd wedi bod. Mae'r ddadl yn gyfle i Aelodau graffu ar ran pobl Cymru ar y gwaith yn y maes. Wrth gwrs, mae'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw yn ymwneud â blwyddyn olaf y chweched Senedd a'r gwaith o baratoi ar gyfer y seithfed Senedd. Dwi'n siŵr y byddwch chi wedi gweld ffrwyth y paratoadau hynny wrth i chi ymgymryd â'ch gwaith yn ystod misoedd cyntaf y Senedd yma.

Mae'r cynllun ieithoedd swyddogol yn un o gonglfeini gweinyddiaeth Comisiwn y Senedd, yn gosod yr egwyddor sylfaenol bod gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, a bod gan bob unigolyn yr hawl i ddefnyddio'r naill neu'r llall wrth ymwneud â ni. Mae'r cynllun yn gosod disgwyliadau clir ac yn adlewyrchu uchelgais y Senedd i ddatblygu a chynnal diwylliant gwirioneddol ddwyieithog. 

Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod y Senedd wedi parhau i wneud cynnydd o ran y themâu o fewn y cynllun. Wrth ystyried y cynnydd yma, mae'n bwysig cydnabod nad mater o gydymffurfio â gofynion ffurfiol yn unig ydy hyn. Yr her i Gomisiwn y Senedd ydy sicrhau diwylliant ac ethos ddwyieithog a chynhwysol lle gall Aelodau a staff cymorth weithio, a lle gall dinasyddion Cymru ymgysylltu â ni, yn eu dewis iaith swyddogol, a hynny yn ddiofyn. Mae'r adroddiad yn cynnig tystiolaeth glir o arbenigedd ac ymrwymiad staff ar draws y Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. 

Wrth gwrs, mae’r adroddiad hefyd yn ein hatgoffa nad oes lle i orffwys ar ein rhwyfau. Yn unol â gofynion y Ddeddf, mae’n rheidrwydd ar Gomisiwn y Senedd i adrodd ar unrhyw achosion o dorri’r cynllun ieithoedd swyddogol neu unrhyw gwynion sydd wedi dod i law. Mae’r Comisiwn, wrth gwrs, yn gresynu pan na fyddwn yn cyrraedd y safonau uchel a bennwyd, ond mae pob digwyddiad o’r fath hefyd yn gyfle i ddysgu ac i wella ein prosesau a’n darpariaeth.

Yn olaf, wrth edrych tua’r dyfodol, bydd ein gwaith eleni yn canolbwyntio ar ddrafftio a rhoi cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y seithfed Senedd ar waith. Mae’n bwysig adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y chweched Senedd, gan greu cynllun uchelgeisiol sy’n addas ar gyfer y seithfed Senedd. Wrth inni ddatblygu’r cynllun newydd, bydd cyfle i Aelodau fwydo eu syniadau i mewn i’n gwaith. Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn ymgynghori â staff cymorth, staff y Comisiwn a’r cyhoedd hefyd. Edrychaf ymlaen at ddod â’r cynllun newydd gerbron y Senedd yma cyn gynted ag y bo’n bosibl, a hoffwn eich annog i fwydo unrhyw syniadau neu sylwadau sydd gennych i’r tîm ieithoedd swyddogol er mwyn inni eu hystyried yn fuan. Diolch yn fawr.

16:15

Mae Plaid Cymru o ddifrif ynghylch grymuso’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, ac mae’n rhaid i’r uchelgais hwnnw ddechrau yma, yn ein Senedd genedlaethol, yn ein gwaith bob dydd ac yn y ffordd rydym yn gwasanaethu pobl Cymru. Dylai ein sefydliadau cenedlaethol adlewyrchu tirwedd ieithyddol ein gwlad. Dylent sicrhau bod gan bobl Cymru gyfle gwirioneddol i gymryd rhan yn ein democratiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, heb rwystrau a heb deimlo bod angen newid iaith er mwyn cael eu clywed. Mae gennym ni, fel Aelodau o’r Senedd, gyfrifoldeb arbennig i gynnal y Gymraeg yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i’w defnyddio. I mi, mae’n fraint wirioneddol cael gweithio yma yn y Senedd, mewn awyrgylch cwbl Gymraeg, lle mae gen i’r cyfle i ddefnyddio fy iaith ymhob agwedd o’m gwaith. 

Dwi wedi bod yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ers 27 mlynedd, ar ôl ailgydio yn yr iaith yn dilyn cyfnod o 17 mlynedd heb ei defnyddio. Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod gweithio drwy’r Gymraeg dros y blynyddoedd wedi newid fy mywyd. Mae wedi’i gyfoethogi, wedi agor ffenest newydd ar fywyd, a hefyd wedi rhoi gwerthfawrogiad llawer dyfnach o’m diwylliant Cymraeg. Dyna rym iaith. Nid cyfrwng cyfathrebu yn unig yw hi, ond rhywbeth sy’n siapio ein profiadau, ein hunaniaeth a’n perthynas â’n cymunedau a’n diwylliant. A dyna’r cyfle y dylem fod eisiau ei gynnig i eraill hefyd. Dylai pawb gael y cyfle i brofi’r manteision hynny, ac ni ddylai’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ddibynnu ar ble rydych yn gweithio neu gyda pha sefydliad rydych yn ymwneud ag ef. Dyna pam mae’r cynllun ieithoedd swyddogol mor bwysig. 

Rydym yn cefnogi’r egwyddor o ddod â Chomisiwn y Senedd o dan safonau Comisiynydd y Gymraeg. Mae hynny’n gam naturiol ac angenrheidiol os ydym o ddifrif am sicrhau bod ein sefydliadau’n atebol ac yn arwain drwy esiampl. Ond mae angen inni fod yn glir: nid yw gwelededd y Gymraeg ar arwyddion, mewn dogfennau nac ar ein gwefannau yn ddigon ar ei ben ei hun. Yr hyn sy’n bwysig yw galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol ac yn hyderus wrth ymwneud â’r Senedd. Does dim ots faint o'r iaith sydd ganddyn nhw—beth bynnag sydd ganddyn nhw. Oherwydd os yw’r Gymraeg wedi cyfoethogi fy mywyd i gymaint, hoffwn weld mwy o bobl yn cael yr un cyfle i brofi’r cyfoeth yma. Felly, hoffwn ofyn am eglurder ynghylch y camau ymarferol sydd eu hangen i ddod â’r Comisiwn o dan y safonau. Pwy fydd yn gyfrifol am gyflawni’r gwaith hwn? Beth yw’r amserlen? A pha gerrig milltir fydd ar waith er mwyn gallu craffu ar gynnydd?

Dwi'n falch o gofnodi cefnogaeth fy ngrŵp i gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd. Dwi'n ddiolchgar i'r Comisiwn ac i'r swyddogion a fu'n rhan o lunio'r adroddiad hwn, ac fel y nodwyd gan yr Aelod a agorodd y ddadl hon, mae llawer o waith wedi ei wneud i gryfhau dwyieithrwydd yn y Senedd. Wrth gwrs, fel siaradwr Cymraeg fy hun, dwi'n arbennig o ddiolchgar i staff y Comisiwn sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod trafodion y Cyfarfod Llawn, gwaith pwyllgorau a dogfennau swyddogol ar gael yn gyson yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae eu gwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi Aelodau a'r cyhoedd i ymgysylltu'n llawn â'r broses ddemocrataidd yn yr iaith o'u dewis.

Un o themâu’r adroddiad hwn yw sgiliau iaith, a dwi'n falch o nodi bod ystod eang o gymorth a chyfleoedd hyfforddi ar gael i’r rhai sy'n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau yn y Senedd. Mae'r adroddiad yn nodi hefyd fod rhai o'r bobl sydd wedi treulio amser yn dysgu Cymraeg wedi teimlo'n fwy hyderus i wneud cais am swyddi sydd â gofynion iaith uwch. Yn fy marn i, mae hynny'n ganlyniad cadarnhaol iawn, gan ei fod yn dangos bod buddsoddiad y Comisiwn mewn dysgu iaith yn gwneud mwy na dim ond gwella sgiliau ieithyddol. Yn wir, mae'n rhoi'r hyder i staff fanteisio ar gyfleoedd datblygu gyrfa, tra hefyd yn meithrin diwylliant dwyieithog go iawn yn y Senedd. Felly, o ystyried pwysigrwydd y gwaith hwn, efallai y bydd y Comisiynydd, wrth ymateb i'r ddadl, yn dweud ychydig mwy wrthym ni am sut mae staff yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg a sut mae'r ddarpariaeth hyfforddiant yn cael ei theilwra i ddiwallu anghenion gwahanol rolau ac ymrwymiadau gwaith unigolion. Y nod yw sicrhau bod cynifer o staff â phosib yn gallu manteisio ar y cyfleoedd iaith hyn.

Nawr, agwedd bwysig arall yr adroddiad yw'r adran sy'n ymwneud â monitro a chydymffurfio. Fel mae Aelodau'n ymwybodol, torrwyd y cynllun ieithoedd swyddogol y llynedd am nifer o resymau, gan gynnwys diffyg capasiti a phresenoldeb staff. Roedd yn gyfnod lle'r oedd llawer iawn o ddeddfwriaeth yn mynd trwy'r Senedd. O ganlyniad, darparwyd llawer o'r dogfennau briffio mewnol ar gyfer Aelodau mewn cyfarfodydd pwyllgor yn Saesneg yn unig. Yn ddealladwy, cododd hyn bryder ymhlith ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg. Felly, dwi'n falch o ddarllen, yn dilyn y tor rheol hon, fod y gwasanaeth cyfieithu wedi dechrau rhoi mesurau ar waith i leihau'r risg y bydd hyn yn digwydd eto.

Rŷn ni bellach mewn Senedd newydd lle defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg mewn sesiynau llawn, cyfarfodydd pwyllgorau a phob math arall o waith y Senedd. Mae'r adroddiad yn nodi bod 2025-26 wedi bod yn flwyddyn o baratoi strategol, ac yn cadarnhau bod adolygiad o'r fframwaith ieithoedd swyddogol presennol, a gwaith i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer y Senedd hon, eisoes ar y gweill. Mae'n bwysig bod y fframwaith yn addas ar gyfer y dyfodol. Rhaid iddo adeiladu ar y gwaith da a welwyd eisoes, ond hefyd ystyried cwestiynau anodd ynglŷn â chapasiti ac adnoddau, er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog llawn yn y dyfodol.

Mae'r ffordd y mae'r Senedd yn cyfathrebu â'r byd y tu allan wedi ei chryfhau yn sgil caffael system rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid a chreu porthol o fewn y system honno sy'n galluogi pobl i ymgysylltu yn yr iaith o'u dewis. Yn ogystal, mae gwaith wedi ei wneud i gasglu gwybodaeth fewnol gan Aelodau a staff cymorth ynglŷn â'r ieithoedd y maent yn eu dewis. Bydd yr ymgysylltu cadarnhaol hwn yn helpu i gryfhau'r cynllun ieithoedd swyddogol a dwi'n siŵr, Lywydd, yn helpu i wreiddio diwylliant dwyieithog llawn yma yn y Senedd. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr i'r ddau ohonoch chi am gymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Mi wnaf i ymateb yn syth i Paul. Diolch yn fawr am y stwff cadarnhaol rydych chi wedi pigo fyny o'r adroddiad, ac mae hynny'n beth hynod o dda. Dwi'n meddwl bod y gwersi Cymraeg, yr holl waith sydd yn mynd i gynorthwyo Aelodau, aelodau o staff ac eraill i ymgymryd â dysgu'r iaith a defnyddio'r iaith mewn ffordd naturiol o gwmpas yr adeilad—. Dwi'n meddwl byddai cael yr adborth yna gennych chi fel Aelodau, a gan aelodau o staff sydd wedi bod drwy'r prosesau, i'n helpu ni i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf i ddod â'r cynllun gerbron yn hynod o bwysig.

Dwi hefyd yn falch eich bod chi wedi cydnabod bod gwersi yn cael eu dysgu pan mae pethau'n mynd yn anghywir, achos rydyn ni yn dysgu o'r rheini, ac yn rhoi pethau mewn lle wedyn i drio osgoi hynny rhag digwydd yn y dyfodol. Hefyd, buaswn i'n licio rhoi ar gofnod ein bod ni'n diolch yn fawr i'r staff hynny sydd wedi gweithio'n galed iawn i ddod yn ôl i mewn i'r safon y byddem ni'n ei ddisgwyl, i ddod drwy'r cyfnod lled anodd yna ar ddiwedd 2025 i gael yn ôl i le rydyn ni erbyn hyn. Felly, y ple dwi'n wneud ydy eich bod chi'n ymgysylltu yn ôl trwy'r ymgynghoriad y flwyddyn nesaf.

Wedyn, Lis, diolch yn fawr iawn i ti am dy ymateb di. Dwi'n cytuno bod atebolrwydd yn bwysig, a bod gan ein Senedd genedlaethol gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl o ddefnyddio'r Gymraeg. O ran dod â'r Comisiwn o dan safonau'r Gymraeg, yn bersonol, mae'r egwyddor yn glir iawn i fi. Mae yna broses y byddai'n rhaid ei dilyn, a dwi'n meddwl mai'r cam cyntaf yn y broses honno ydy, fel roeddwn i'n dweud wrth Paul Davies, i ymgymryd yn gryf yn yr ymateb i'r cynllun sy'n mynd i gael ei osod y flwyddyn nesaf, fel ein bod ni wedyn yn ffidio mewn i'r ymgynghoriad hwnnw i ddangos beth ydy barn y lle yma—barn Aelodau, barn staff, barn y cyhoedd—a fyddai eisiau dod â'r Senedd o dan safonau'r Gymraeg.

Byddai'n rhaid ymgysylltu wedyn gyda Chomisiynydd y Gymraeg a mynd trwy'r prosesau mewnol o ymgynghoriad, mynd trwy'r prosesau hynny, a gweithio allan lle mae'r Ddeddf sydd gennym ni yn cydweithio efo safonau'r Gymraeg. Felly, mae yna job o waith i'w wneud, os ydy'r Comisiwn yn gwneud y penderfyniad i fynd ymlaen efo hynny, ond y cam cyntaf ydy'r ymgynghoriad y flwyddyn nesaf i wneud hynny. Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig, a dwi'n meddwl fy mod i wedi ei ddweud o lot o weithiau, fod pobl yn ymgymryd â'r ymgynghoriad y flwyddyn nesaf, ac i unrhyw un sy'n gwrando ar y ddadl yma heddiw i wneud hynny hefyd. Y peth dwi yn gallu ymrwymo iddo fo heddiw yw gwneud yn siŵr bod y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn y ddadl yma yn cael eu cymryd i mewn i'r ymgynghoriad ac i lunio'r cynllun newydd.

Wrth edrych wedyn at y dyfodol, bydd ymgynghoriad efo'r Aelodau, efo staff cymorth, staff y Comisiwn ac, wrth gwrs, pobl Cymru ar y cynllun ieithoedd swyddogol yn y seithfed Senedd, a dwi'n annog pawb eto i fanteisio ar y cyfle yma i ddylanwadu ar y gwaith. Ond, Lywydd, beth bynnag yw'r fframwaith cyfreithiol sydd gyda ni, dylai hynny ddim cyfyngu ar ein huchelgais ni ynglŷn â dwyieithrwydd a defnydd o'r Gymraeg. Nid mater o gydymffurfio â deddfwriaeth yn unig ydy hyn; mae o'n fater o greu diwylliant lle mae defnyddio'r Gymraeg yn rhywbeth naturiol, lle mae pobl yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio, a lle nad oes yna unrhyw rwystrau i wneud hynny. Dyna ddylai fod uchelgais y Comisiwn, a dyna ddylai fod uchelgais y Senedd genedlaethol hefyd. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Atal hunanladdiad ymhlith dynion

Felly, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): atal hunanladdiad ymhlith dynion. Galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9364 Lynne Neagle, Darren Millar, James Evans, Niamh Salkeld

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Catherine Cullen, Claire Archibald, Cristiana Emsley, David Hughes, Gareth Beer, Gwyn Williams, Helen Jenner, Huw Thomas, Iain McIntosh, Jane Dodds, Jayne Bryant, Ken Skates, Mike Hedges, Natasha Asghar, Nigel Williams, Paul Rock, Shav Taj, Steve Bayliss, Steven Rodaway

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddiad ystadegau hunanladdiad blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr ar 13 Hydref 2026.

2. Yn cydnabod bod y niferoedd hyn yn cynrychioli bywydau go iawn a gollwyd a theuluoedd a ffrindiau sydd mewn galar.

3. Yn nodi, am flwyddyn arall, mai'r gyfradd hunanladdiad uchaf yng Nghymru yw ymysg dynion 45-49 oed.

4. Yn credu bod atal hunanladdiad yn gofyn am ymateb tosturiol, ar draws y llywodraeth sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, ac yn croesawu gwaith y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru.

5. Yn nodi’r cyngor yn adroddiad blynyddol cyntaf y ganolfan y dylai gweithgareddau atal hunanladdiad flaenoriaethu dulliau sydd wedi’u teilwra i ddynion gyda sylw arbennig i’r rhwystrau y mae dynion yn eu hwynebu wrth geisio cymorth, ochr yn ochr â hyfforddiant ac adnoddau i staff mewn ymatebion a chyfeirio priodol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi rhaglen o gamau gweithredu clir i atal hunanladdiad dynion ynghyd ag amserlenni ar gyfer eu gweithredu; a

b) sicrhau bod y rhaglen hon o gamau gweithredu yn cynnwys datblygu llwybrau clir i'r rhai sy'n ceisio cymorth mewn lleoliadau gofal iechyd ar gyfer trallod neu hunan-niweidio, gyda dulliau penodol wedi'u teilwra i ddynion.

Cynigiwyd y cynnig.

16:40
16:45
16:50
16:55
17:00
17:05

Dwi'n ddiolchgar i Lynne Neagle ac i'r holl Aelodau ar draws y pleidiau sydd wedi cyd-gyflwyno a chefnogi'r ddadl Aelod hollbwysig sydd o'n blaenau ni y prynhawn yma.

17:10

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell. 

Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid ar draws y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau ehangach sydd yn gysylltiedig â hunanladdiad. Mae’r rhain yn cynnwys unigedd cymdeithasol, fel dŷn ni wedi clywed, amddifadedd, camddefnyddio sylweddau, a mynediad at y cymorth priodol. Mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill, gan gynnwys cyhoeddi protocol cenedlaethol o leoliadau o bryder, protocol ymateb cyflym pan fydd amheuaeth o hunanladdiad, a phrotocol arbennig i ymateb i glwstwr o hunanladdiadau. Bydd y mesurau ymarferol hyn yn helpu i sicrhau bod gan sefydliadau ar draws Cymru drefniadau clir a chyson ar gyfer adnabod risg, ymateb i ddigwyddiadau o hunanladdiad, ac atal niwed pellach.

17:20
17:25

Diolch yn fawr, Lynne. Diolch, bawb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Reform UK: Cynllun dychwelyd ernes

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn nawr at eitem 8, dadl Reform UK, cynllun dychwelyd ernes. Galwaf ar Louise Emery i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9371 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y bydd cynllun dychwelyd ernes arfaethedig presennol Llywodraeth Cymru:

a) yn arwain at ddargyfeirio diangen oddi wrth Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon; a

b) yn trosglwyddo gwerth ariannol deunyddiau ailgylchadwy i ffwrdd o gyllidebau awdurdodau lleol Cymru i sefydliad dielw preifat sy’n cael ei reoli gan gynhyrchwyr diodydd, ac na fydd gan awdurdodau lleol na threthdalwyr Cymru unrhyw reolaeth uniongyrchol dros sut y caiff ernesau heb eu hadennill eu gwario.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ohirio rhoi’r cynllun dychwelyd ernes arfaethedig ar waith, hyd nes y cynhelir adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol, a fydd:

a) yn amlinellu unrhyw ganlyniadau negyddol i aelwydydd, busnesau, awdurdodau lleol a'r sector lletygarwch;

b) yn cynnal asesiadau clir o safonau mynediad ac effeithiau ar aelwydydd, gan gynnwys mesurau i ddiogelu pobl na allant gael mynediad rhwydd at bwyntiau dychwelyd neu ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu ar-lein yn rheolaidd; ac

c) ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o Iwerddon, yn enwedig Dulyn, am sbwriel cynyddol a'r costau ychwanegol o ran staffio, cerbydau a chostau gweithredu sy'n gysylltiedig â glanhau biniau cyhoeddus ar ôl i bobl chwilio ynddynt am gynwysyddion y talwyd ernes ar eu cyfer, ac i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad cyn bwrw ymlaen i roi’r cynllun ar waith.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

17:30
17:35

Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu penodi Exchange for Change yn sefydliad rheoli ernes ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru, a’i gydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni cynllun sy’n cyd-fynd â chynlluniau eraill yn y DU ac sydd hefyd yn cydymffurfio â’r rheoliadau a basiwyd gan y Senedd.

2. Yn cydnabod y byddai gohirio’r cynllun ar y cam hwn yn arwain at wyrdroi’r farchnad, perygl sylweddol o dwyll, costau ychwanegol ac ansicrwydd i fusnesau.

3. Yn croesawu’r ffaith bod manteision allweddol cynllun dychwelyd ernes Cymru yn cynnwys mynd i’r afael â’r cynnydd mewn sbwriel gwydr a chreu llwybr clir ar gyfer ailddefnyddio poteli, gan gyfrannu at gyfraddau ailgylchu Cymru sydd eisoes ymhlith yr uchaf yn y byd.

4. Yn cydnabod bod y cynllun dychwelyd ernes yn fath o gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, a bod y cynllun cysylltiedig dros becynwaith eisoes yn creu swm sylweddol o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff awdurdodau lleol.

5. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio ag Exchange for Change a rhanddeiliaid allweddol i gyflawni cynllun dychwelyd ernes sy’n llwyddo dros Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynnig yn ffurfiol. 

Diolch. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. 

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon busnesau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnwys cynwysyddion gwydr o fewn y cynllun dychwelyd ernes, gan gydnabod y costau ychwanegol posibl, cymhlethdod gweinyddol, a'r diffyg aliniad â'r dull sy'n cael ei fabwysiadu ar draws gweddill y DU.

Cynigiwyd gwelliant 2.

17:40
17:45
17:50
17:55
18:00

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle yma i ymateb i'r ddadl ac i osod allan pam fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes fel rhan allweddol o'n huchelgais ni i symud tuag at economi gylchol, i leihau gwastraff ac i adeiladu, wrth gwrs, fel rydyn ni wedi ei glywed, ar record gref Cymru yn y maes ailgylchu. Ond hefyd, er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod yna gyfleoedd economaidd sylweddol i ni hefyd yn y cyd-destun yna—ac mi ddof i at hynny mewn munud.

18:10
18:15

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pum Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r y bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, a 44 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Reform UK - cynllun dychwelyd ernes. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 33, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, a 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl Reform UK - cynllun dychwelyd ernes. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 44, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, a 44 yn erbyn. [Torri ar draws.] Sori, 34 o blaid. Dwi ddim yn cofio beth ddywedais i. Gwnaf i gychwyn eto. O blaid 34, neb yn ymatal, a 44 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Reform UK - cynllun dychwelyd ernes. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 34, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

18:20

Felly, galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM9371 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu penodi Exchange for Change yn sefydliad rheoli ernes ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru, a’i gydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni cynllun sy’n cyd-fynd â chynlluniau eraill yn y DU ac sydd hefyd yn cydymffurfio â’r rheoliadau a basiwyd gan y Senedd.

2. Yn cydnabod y byddai gohirio’r cynllun ar y cam hwn yn arwain at wyrdroi’r farchnad, perygl sylweddol o dwyll, costau ychwanegol ac ansicrwydd i fusnesau.

3. Yn croesawu’r ffaith bod manteision allweddol cynllun dychwelyd ernes Cymru yn cynnwys mynd i’r afael â’r cynnydd mewn sbwriel gwydr a chreu llwybr clir ar gyfer ailddefnyddio poteli, gan gyfrannu at gyfraddau ailgylchu Cymru sydd eisoes ymhlith yr uchaf yn y byd.

4. Yn cydnabod bod y cynllun dychwelyd ernes yn fath o gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, a bod y cynllun cysylltiedig dros becynwaith eisoes yn creu swm sylweddol o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff awdurdodau lleol.

5. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio ag Exchange for Change a rhanddeiliaid allweddol i gyflawni cynllun dychwelyd ernes sy’n llwyddo dros Gymru.

Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal a 33 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Diolch yn fawr iawn.

Eitem 8. Dadl Reform UK - cynllun dychwelyd ernes. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 44, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Wrecsam—Ein Cartref, Ein Diwylliant, Ein Dyfodol

Symudwn ymlaen i'r ddadl fer. Os ydych chi'n gadael y Siambr, plis gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel.

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Carrie Harper i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi.

18:35

Diolch yn fawr. Follow that, fel maen nhw'n ei ddweud. Mae yna lanw a thrai ym mhob diwylliant ac ym mhob cymuned, ac mae'r llanw o blaid Wrecsam ar hyn o bryd. Mi fydd cael bod yn Ddinas Diwylliant yn 2029 yn benllanw arbennig i'n tref ni. Mae'n fwrlwm o weithgaredd.

Roedd cefnogwyr Wrecsam yn canu 'Yma o Hyd' ymhell cyn i Dafydd Iwan feddwl am riteirio. Roedden ni yma gyntaf, nid yn unig i ddathlu'n hunaniaeth fel cenedl, achos mae hwnna'n bwysig, ond hefyd i ddathlu'r ffaith ein bod ni wedi goroesi a'n bod ni wedi achub ein clwb ni ar ôl cyfnod tywyll iawn. Roedd bodoli, roedd bod yma o hyd, yn llwyddiant. Mae'r slogan 'yma o hyd' hefyd wedi gweithio o ran Saith Seren—ac mae'n rhaid i mi enwi Saith Seren, onid oes? Roedd o'n arwyddocaol iawn. Rydyn ni'n dathlu 15 mlynedd ers ei hagor hi yn y flwyddyn newydd, ac mae yna ddiolch mawr i Chris Evans a'r criw am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud yn cynnal digwyddiadau rif y gwlith.

Mae'n bum mlynedd hefyd ers i galeri gelf gymunedol y Drawing Board agor ei drysau a chynnal cyfle i artistiaid lleol arddangos eu gwaith. Maen nhw'n crafu bywoliaeth, ond maen nhw hefyd yma o hyd. Ym mhob rhan o Wrecsam, mae yna gnewyllyn bach o bobl ddaru ddim digalonni yn y cyfnodau llwm yn ystod y trai. Mi aeth y criwiau bach yna ati i greu celf, i fod yn greadigol yn y ffordd y cawsant eu hariannu, ac i herio'r syniad yma nad oes yna ddim byd da yn dod o'u cymuned nhw. Dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni'r gymuned gyfan yn syrffio ar frig y don yn 2029. Diolch yn fawr iawn.

18:40

Diolch, a diolch i Carrie yn arbennig am ddod â’r ddal hon gerbron a dangos y fath angerdd dros Wrecsam. Mae’r Aelod eisoes wedi crybwyll bod Wrecsam yn llawer mwy na chanol y ddinas; mae’r cymunedau clòs yna sy’n amgylchynu’r ddinas yn cyfrannu at gymeriad amrywiol, gwydn a llawn bywyd yr ardal. Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol I.D. Hooson ym mhentref arbennig Rhosllannerchrugog. Yn ogystal â chael fy nghwestiynu gan y disgyblion yn drwyadl, cefais fy atgoffa o’r balchder, hunaniaeth a’r cryfder cymunedol arbennig sydd i’w gweld mor glir mewn llefydd fel Rhos, Rhiwabon a Chefn-mawr. Cymunedau yw’r rhain sydd wedi’u hadeiladu ar galedi, chadernid ac undod. Cymunedau sydd wedi wynebu heriau, wedi addasu ac wedi dyfalbarhau, ond heb golli eu hymdeimlad o pwy ydyn nhw erioed. Edrychwch ar Blas y Mwynwyr, y Stiwt, sy’n sefyll yn falch yng nghanol Rhos; mae’n llawer mwy nag adeilad, mae’n symbol o’r hyn y gall pobl ei gyflawni pan fyddant yn dod at ei gilydd ac yn buddsoddi yn eu cymuned. Wrth i ddinas Wrecsam dyfu a llwyddo, rhaid i ni sicrhau bod y cymunedau balch a bywiog hyn ar ei chyrion yn tyfu ac yn llwyddo gyda hi. Diolch.

Galwaf ar y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Heledd Fychan.

Mae o'n amserol iawn ein bod ni'n trafod hyn pan mae'n gyfnod mor gyffrous i Wrecsam. Mae nifer wedi cyfeirio at y cyfoeth o bethau sydd gan Wrecsam i'w gynnig. Roeddwn i'n falch iawn o gael bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd a hefyd, wrth gwrs, ar gyfer agoriad swyddogol Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac ailagor Amgueddfa Wrecsam. A dwi'n gwybod bod yna lawer o bobl yn y Siambr hon wedi bod yn gyfrifol am ymgyrchu am amgueddfa bêl-droed i Gymru—rhai ar y ddesg flaen, rhai y tu cefn i fi—ac mae'n wych bod hynny wedi digwydd. Ond weithiau mae'n bosib, oherwydd yr amgueddfa bêl-droed, colli golwg hefyd ar y buddsoddiad sydd wedi bod yn Amgueddfa Wrecsam. Ac i mi, mae hwnna wedi bod yn fuddsoddiad pwysig hefyd, oherwydd o fewn yr amgueddfa honno mae straeon pobl Wrecsam a gwrthrychau sy'n bwysig i gymunedau Wrecsam. Ac os ydych chi heb fod eto, byddwn i yn eich annog chi i ymweld, oherwydd mae'r orielau cymunedol yn y fan honno yn bwysig hefyd.

Mae gan Wrecsam gymaint i'w gynnig, onid oes, ac fel y gwnaeth Carrie sôn, mae wedi cyfrannu'n fawr at hanes Cymru. Roeddech chi'n sôn bod yr hanes yn mynd nôl 700 mlynedd, ond, wrth gwrs, mae'n mynd nôl hyd yn oed yn hirach os ydyn ni'n ystyried Stori Brymbo, sydd hefyd wedi derbyn buddsoddiad yn ddiweddar. Felly, heb os, mae digon o bethau i bobl fod yn ymweld â nhw ac i fod yn ymgysylltu â nhw.

Dwi'n falch iawn fod yna gadarnhad wedi bod fis diwethaf fod y ddinas, unwaith eto, wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig. Mi oedd hi'n siomedig dros ben peidio â chyrraedd y brig y tro diwethaf, ond beth ddigwyddodd i bobl Wrecsam? Dim rhoi fyny, ond mynd amdani go iawn. A buaswn i'n hoffi llongyfarch y tîm a phawb sydd wedi bod ynghlwm â'r cais. Maen nhw wedi gweithio'n ddiwyd i gyrraedd y pwynt yma, gyda chefnogaeth gyson yr Aelod, Aelodau trawsbleidiol, fel soniodd Sam, ond hefyd Aelodau y tu hwnt i Wrecsam. A dwi'n gobeithio eich bod chi yn teimlo bod Cymru gyfan y tu cefn i Wrecsam ac eisiau gweld Wrecsam yn cael y teitl haeddiannol hwnnw.

Ond mae'n bwysig hefyd adlewyrchu nad dim ond teitlau sy'n bwysig. Mae yna rywbeth cyffrous wedi bod yn digwydd rŵan o ddod â phawb ynghyd y tu hwnt i'r cais yma, ac mae'n bwysig bod y momentwm, yr egni a'r ymdeimlad o obaith hwnnw yn parhau. Mae statws Dinas Diwylliant wrth gwrs yn bwysig, ond mae Wrecsam eisoes yn ddinas diwylliant. Mae hynny yn glir, ac mae ei hasedau diwylliannol, economaidd a chymunedol yn adlewyrchu hynny. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn glir ein bod ni'n cefnogi'r cais ffurfiol hwn, a dwi'n falch iawn fod hynny yn gallu cael ei ategu heddiw.

Mae'r cyfleoedd sydd yn dod dros y blynyddoedd nesaf yma i Wrecsam wedi cael cryn dipyn o sylw. Mi gyfeiriwyd, wrth gwrs, o ran hanes balch Wrecsam a'r cysylltiad efo Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Wel, braf iawn, wrth gwrs, oedd gweld bod y Cae Ras yn dal efo posibilrwydd o fod yn rhan o Gwpan y Byd Merched ym 2035. Mi fyddai hynny'n gyffrous dros ben, a dwi'n hoffi'r stori'n fawr yr oeddech chi'n sôn amdani hi efo 1876. Ys gwn i ba bethau eraill ddaw allan dros y naw mlynedd nesaf yma a'r straeon hynny.

Mae hyn wrth gwrs yn newyddion gwych i chwaraeon yng Nghymru, ac i chwaraeon menywod yn arbennig, ac mae o'n adeiladu, wrth gwrs, nid dim ond ar stori'r Cae Ras, ond ar ddigwyddiadau eraill sydd wedi bod yn Wrecsam yn ddiweddar sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, megis sefydlu pencampwriaeth tenis Agored Wrecsam a'r Gylchdaith Tenis y Byd, a gweld y datblygiad amlwg ym mhroffil y digwyddiad gyda'r chwaraewyr o'r 100 uchaf yn cystadlu. Dwi'n falch iawn y bydd ein cefnogaeth i'r digwyddiad yn parhau yn 2027, a bod ein cyllid ni yn helpu Tenis Cymru i ymgysylltu â chwaraewyr tenis a chlybiau ledled gogledd Cymru, er mwyn gwneud i'r bencampwriaeth hon gael effaith a gwaddol ymhell y tu hwnt i wythnos y digwyddiad.

Mae'r holl ddigwyddiadau hyn, yr holl gyfleoedd diwylliannol, yn cryfhau amrywiaeth ac ansawdd cynnig chwaraeon a diwylliant Wrecsam. Felly, wrth i'r cais fynd rhagddo, mae hwn yn gyfle pwysig, ond gadewch inni heddiw, fel mae Carrie wedi gwneud, ddathlu a hyrwyddo diwylliant a hanes unigryw Wrecsam a'r holl gymunedau o gwmpas Wrecsam—dathlu cryfder ei phobl, cyfoeth ei diwylliant a balchder Wrecsam o ran hunaniaeth sydd wedi llunio'r ddinas hon erioed.

Efallai bod rhai pobl ddim ond wedi darganfod Wrecsam yn y blynyddoedd diweddar yma, ac mae'n braf, onid ydy, os ydych chi'n mynd ledled y byd—

Dyna ydy'r cwestiwn. A phan ydych chi'n dweud, 'Do', maen nhw'n ysu eisiau dod, ac mae hynny'n grêt.

Ond beth rydyn ni ei eisiau ydy pobl yn dod i Wrecsam, nid dim ond i fynd i'r Cae Ras, ond mynd i weld y cyfoeth sydd i weld yn ardal Wrecsam, eu bod nhw'n aros yn Wrecsam, eu bod nhw'n darganfod Cymru. A dyna beth sy'n bosib efo'r cais Dinas Diwylliant: mynd â stori Wrecsam yn ehangach, a gwneud i bawb ddod i adnabod Tŷ Gwraig Sam a'r holl gyfoeth o straeon—o straeon trist Gresford i'r straeon o obaith fel sydd yn stori'r Stiwt. Mae'r ystod yna'n bwysig. Felly, ar ran pawb yma, gobeithio, pob lwc i Wrecsam, ac mae Cymru gyfan y tu cefn i chi.

18:50

Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw a'r wythnos yma i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.