Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb. Croeso i chi i gyd. Symudwn yn syth nawr at gwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Janet Finch-Saunders.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

1. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sefydlogrwydd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn penderfyniad y Prif Weithredwr i gamu o'r neilltu? OQ64980

Mae prif weithredwr Betsi yn camu i lawr yn sicr yn un newid sylweddol yn nhrefniadau'r bwrdd. Dwi'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal nes ymlaen i glywed am unrhyw newidiadau pellach sydd i ddod. Wrth sôn am newid, mae'n glir bod rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Plaid Cymru wedi rhoi ar waith dros y chwe mis diwethaf, gyda'r bwriad o ddal byrddau iechyd i gyfrif yn fwy effeithiol, gan gryfhau atebolrwydd a hyrwyddo cydweithio yn fwy effeithiol ar draws y gwasanaeth, wedi gwneud gwahaniaeth. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo mi fod hyn yn ffordd wahanol o wneud pethau i'r hyn sydd wedi bod gan Lywodraethau'r gorffennol, a'i bod hi'n bwysig parhau i adolygu a gwella'r trefniadau hyn, gan ddechrau ar y gwaith hollbwysig o adeiladu gwasanaeth iechyd sy'n gallu cyflawni'r safon o wasanaeth y mae pobl ym Mangor Conwy Môn yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu?

Dwi'n credu'n gryf fod pobl Cymru yn aros i gael Llywodraeth sydd yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol, a dyna'n union ein bwriad ni. Dyna oedd y bwriad drwy'r math o fodel ar gyfer y gyllideb a gafodd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. Rydyn ni wedi cryfhau y gwaith craffu drwy ein fframwaith atebolrwydd a chymorth newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n gosod disgwyliadau clir ac yn rhoi sail gliriach i ni nodi risgiau yn fwy cynnar a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen. Ond, wrth gwrs, dydy ymyrraeth allanol ynddo fo'i hun ddim yn dileu cyfrifoldeb y bwrdd. Dwi'n disgwyl i fyrddau a'u timau gweithredol nhw ddeall y problemau sylfaenol maen nhw’n eu hwynebu, a chymryd cyfrifoldeb dros y gwaith o wella. Pan nad ydy’r ddarpariaeth yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig—ac mae hynny’n gwbl, gwbl wir, yn amlwg, yn achos Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—rydyn ni’n herio. Rydyn ni’n cefnogi, lle rydyn ni’n gallu gwneud hynny, ac yn ymyrryd mewn ffordd gadarn ond cymesur.

Rydyn ni wedi gweithredu’n bendant, ac mi fyddwn ni’n parhau i wneud hynny. Ac mae’r adolygiad annibynnol, rŵan, o arweinyddiaeth y bwrdd iechyd, yn gam pwysig iawn ymlaen i wella canlyniadau i bobl gogledd Cymru. Dyna ddiben hyn.    

13:35
Tresmaswyr

2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei hasedau rhag tresmaswyr? OQ65013

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
13:40
13:45
13:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Tanau Gwyllt

3. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi pobl yr effeithiodd y tanau gwyllt yr haf hwn arnynt? OQ65045

13:55
14:00

Yn sgil y tanau gwyllt a welwyd ar draws fy etholaeth i dros yr haf a'r niwed erchyll a welsom ni ar y Rhinogydd yn benodol, roeddwn i'n falch o'r cyfle i ymweld â'r ardal dros yr haf a thrafod yr heriau sy’n wynebu ein hucheldiroedd efo nifer o ffermwyr lleol. Mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf, mi wnes i ymweld â theulu sy’n ffarmio yng Nghesail Gyfarch ym mhentref Garn ger Porthmadog, lle cefais gyfle i drafod pwysigrwydd dulliau traddodiadol o ffermio wrth gynnal a rheoli ein tiroedd. Un neges sydd wedi dod i’r amlwg, dro ar ôl tro, yw pwysigrwydd y dulliau yma o ffermio, gan gynnwys pori da byw, wrth reoli ein hucheldiroedd a lleihau'r perygl o danau gwyllt. Mae'r argyfwng newid hinsawdd a'r tanau a welwyd wedi amlygu'r angen i sicrhau bod ein tiroedd ni yn cael eu rheoli'n effeithiol. Yr hyn sydd wedi'i amlygu yw bod gan arferion ffermio traddodiadol, sy'n rheoli'r gordyfiant sy'n porthi tanau, ran i'w chwarae, gan sicrhau, ar yr un pryd, bod y dulliau hyn yn cyd-fynd ag anghenion amgylcheddol a bioamrywiaeth. A yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad y dulliau traddodiadol hyn o reoli tir? Pa gamau y mae'n eu cymryd i alluogi cyfleoedd i ymarfer yr hen ddulliau yma, gan gynnwys mwy o bori ar ein hucheldiroedd, er mwyn lleihau'r risg o danau gwyllt?

14:05

Mae wedi bod yn werthfawr, dwi'n meddwl, dros y misoedd diwethaf, clywed y profiadau yn cael eu rhannu ynglŷn â rheolaeth tir yn y gorffennol, a sut bod yna wersi cyfoes iawn i ni o hynny, a dwi'n ddiolchgar i'r Aelod am rannu ei phrofiadau hi yn siarad efo unigolion a theuluoedd sydd yn rheoli'r tir. Dwi'n sicr yn cytuno, fel rydyn ni wedi'i grybwyll y prynhawn yma yn barod, bod lefelau pori cynaliadwy yn allweddol i reoli'r ardaloedd yma. Ond hefyd, ar yr un pryd, dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn ofalus rhag gorsymleiddio drwy ddweud mai'r cyfan sydd ei angen ydy rhagor o dda byw. Y cydbwysedd rydyn ni'n chwilio amdano fe ac, yn aml iawn, dyna oedd ein cyndeidiau ni'n llwyddo ei gael, yn effeithiol iawn. Ond yn dibynnu ar y lleoliad, efallai bydd angen adfer mawndir sydd wedi ei ddifrodi, er enghraifft, neu reoli rhywogaethau ymledol hefyd. Ac mae'r holl faterion yma, rŵan, yn cael eu hystyried wrth i ni baratoi i ddatblygu'r camau gweithredu fydd yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Trafnidiaeth yn Fflint Wrecsam

4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth yn Fflint Wrecsam yn ystod oriau brig? OQ65023

14:10
Datganoli Ystad y Goron

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch y budd economaidd y byddai datganoli Ystad y Goron yn ei roi i Geredigion Penfro? OQ65031

14:15
Seilwaith Ysbyty Athrofaol Cymru

6. Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn seilwaith Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd Ffynnon Taf? OQ65030

14:20
Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Ngŵyr Abertawe? OQ65032

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

8. Pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ymddiswyddiad ei Brif Weithredwr? OQ64979

14:25
Y Diwydiant Ffermio

9. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio? OQ65048

Diolch. Mae cwestiwn 10 [OQ65012] wedi ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 11, Llŷr Powell. 

Costau Byw

11. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chostau byw? OQ65044

Diolch yn fawr iawn. A'r cwestiwn olaf, cwestiwn 12, Becca Martin.

14:30
Sefydliadau Lles Anifeiliaid

12. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddatblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid? OQ65028

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Symudwn ymlaen at eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Croeso i chi. Cwestiwn 1, Carrie Harper. 

Datganoli Cyfiawnder

1. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith datganoli cyfiawnder i Gymru, ar fynediad at gyfiawnder? OQ64984

14:35
Bil Annibyniaeth Ynni Llywodraeth y DU

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r angen am gydsyniad y Senedd ar gyfer Bil Annibyniaeth Ynni Llywodraeth y DU? OQ64978

Tra bo’r gwaith dadansoddi yn parhau, mi fydd yn ofynnol i dderbyn cydsyniad gan y Senedd ar gyfer y Bil Annibyniaeth Ynni, a bydd rhaid ei geisio drwy’r broses cydsyniad deddfwriaethol.

A gaf i ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol? Dwi’n croesawu’r ymdrechion i leihau biliau ynni uchel i bobl ledled Prydain, ac nid oes lle sydd angen hwn yn fwy na fy etholaeth i, lle mae llawer gormod o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartref neu fynd i ddyled. Serch hynny, dwi’n bryderus pan fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod bod agweddau ar y Bil Annibyniaeth Ynni yn effeithio ar bwerau datganoledig. O ystyried hyn, pa sicrwydd sydd wedi ei geisio y bydd rôl y Senedd yn y broses cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei pharchu’n llawn ac y bydd gan Aelodau gyfle priodol i graffu ar ddarpariaethau perthnasol y Bil?

Mae’r Gweinidog priodol wedi ysgrifennu at gyfeillion yn Llundain i egluro y byddai’n rhaid i bethau newid cyn i unrhyw gydsyniad ddod ymlaen o’r Senedd hon. Mae’r Bil Annibyniaeth Ynni yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth. Mae’n cynnwys 186 o gymalau a 10 Atodlen sy’n ymdrin ag ystod eang o feysydd polisi. Felly, mae ymgysylltu cynnar, tryloyw ac ystyrlon rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraeth hon yn hanfodol wrth weithredu confensiwn Sewel ac wrth gynnal y prosesau cydsyniad deddfwriaethol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amcanion cyffredinol y Bil, sef cryfhau diogelwch ynni, gwella fforddiadwyedd a datgarboneiddio. Ond fe fydd yn rhaid cael rhagor o drafod—amserol, rydyn ni'n gobeithio—cyn y bydd y Senedd hon mewn sefyllfa i roi sêl bendith i'r Mesur, serch y ffaith ein bod ni'n cytuno efo'r rhan fwyaf ohono fo. Felly, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau eu bod nhw'n ystyried yr amser sydd ei angen yn fan hyn i baratoi ac edrych ar y ddeddfwriaeth honno cyn dod ag unrhyw awgrym o gydsyniad ymlaen.

Fel dwi wedi'i nodi o'r blaen yn y Siambr, dwi'n disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgysylltu ynghylch yr ymrwymiad maniffesto i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gonfensiwn Sewel, gyda'r nod yn y pen draw o'i osod ar sail statudol rwymol. Er nad yw memorandwm cyd-ddealltwriaeth ynddo'i hun yn mynd mor bell ag yr hoffem, mae'n cynnig cyfle ar hyn o bryd i gael ymrwymiadau o ran ymgysylltu, tryloywder a newidiadau gweithdrefnol er mwyn gwneud y broses cydsyniad deddfwriaethol yn fwy effeithiol.

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Llefarydd Reform UK, Adrian Mason.

14:45
14:50
14:55
Deddf Hawliau Dynol i Gymru

3. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Deddf Hawliau Dynol i Gymru? OQ64994

15:00

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Gwnsler Cyffredinol. 

Adolygiad COVID-19 Cymru

4. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion Cymru i sicrhau tystiolaeth ar gyfer Adolygiad Covid-19 Cymru? OQ64971

15:05
Hawl y Gymuned i Brynu

5. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran y bwriad arfaethedig i gyflwyno hawl y gymuned i brynu? OQ64988

15:10
Ail Gartrefi

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio cyfarwyddiadau Erthygl 4 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi? OQ64986

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Marw-enedigaethau

7. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau y gyfraith bresennol o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru, sy'n ymwneud ag ymchwiliad coronaidd i farw-enedigaethau? OQ64981

15:15
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn nawr at eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Llywydd. Mae yna ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Mi fydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ddatganoli pellach i Gymru y prynhawn yma. Yn ogystal, mae trefn y datganiadau ar TB buchol a Betsi Cadwaladr wedi eu newid. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod yna gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yfory, felly mae yna gyfle i'w holi'n uniongyrchol. Mi fedraf i hefyd roi sicrwydd, byddwch chi wedi clywed y Gweinidog yn sôn amryw weithiau am y berthynas adeiladol mae hi yn ei hadeiladu efo undebau. Mae hi yn ymweld efo ysgolion yn gyson ac eisiau wir ddeall sut rydyn ni'n gallu cydweithio gyda'r ysgolion, gyda'r sector addysg, oherwydd mae'r sefyllfa rydyn ni wedi'i hetifeddu, yn amlwg, yn un sydd yn peri gofid aruthrol.

Dylai gwaith ieuenctid drwy'r Gymraeg fod wrth galon ein cymunedau ledled Cymru. Er bod £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid gan awdurdodau lleol, mae llai na 2 y cant yn cyrraedd darparwyr gwasanaethau ieuenctid Cymraeg. Mae angen strategaeth ieuenctid Gymraeg cenedlaethol i sicrhau bod awdurdodau lleol, yr Urdd a sefydliadau eraill sy'n gweithio yn y maes, fel y mentrau iaith, yn cydweithio'n effeithiol. Trwy fuddsoddi'n deg a chydweithio, gallwn ehangu cyfleoedd i bobl ifanc gryfhau'r Gymraeg a datblygu gweithlu Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, a wnaiff Llywodraeth Cymru sefydlu strategaeth benodol ar gyfer gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg?

15:20

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog yma ac wedi clywed hyn, ond hefyd, mae hwn yn fater, dwi'n gwybod, sydd o bwys mawr iddo fo ac i ni fel Llywodraeth. Mae cynlluniau strategol gwaith ieuenctid pum mlynedd bellach wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gwerthuso, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir o'r angen i'r cynlluniau ddangos uchelgais gref ar gyfer yr iaith Gymraeg a sut y byddan nhw'n cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r Aelod yn ymwybodol bod y Gweinidog yn diweddaru'r Senedd hon yn rheolaidd o ran rhestrau aros. Mae o'n fater rydyn ni'n craffu arno fo, yn cael ein dwyn i gyfrif arno, a lle mae yna gynlluniau manwl wedi'u rhoi ar waith. Yn wahanol i'r hyn y gwnaethom ni ei etifeddu, dydyn ni ddim yn edrych ar ddatrysiadau tymor byr fel y gwnaethpwyd gan y Blaid Lafur yn dilyn i fyny i'r etholiad. Mi gawsoch chi 27 mlynedd. Rydyn ni rŵan wedi etifeddu hynny, ac yn mynd i'r afael efo rhoi cynlluniau yn eu lle sydd yn mynd i newid pethau nid dros dro, ond yn barhaol—strategaeth gadarn. Mi fyddwn ni'n cael ein craffu; mae hynny'n digwydd yn rheolaidd. Mae'n iawn fod Aelodau'n craffu ar hynny. Ond mae'r cynlluniau yn eu lle i fynd i'r afael, ac felly mi fydd yna ddigon o gyfleoedd i graffu ar hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn—mater, wrth gwrs, rydych chi wedi eirioli arno fo'n gyson. Fel rydych chi wedi'i amlinellu, mi fydd yna fwy o wybodaeth ar gael pan fydd y wybodaeth yna wedi'i gyhoeddi gan y bwrdd iechyd, ac mi fyddai fo'n gynamserol i ni fod yn gwneud datganiad, ond mi wnaf i, wrth gwrs, wneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'r cais heddiw.

15:25

Wel, fel mae'r Aelod wedi sôn yn ei gwestiwn i mi, yn amlwg, mater i'r awdurdod lleol ydy nifer o'r hyn rydych chi wedi'u hamlinellu. Mae yna rôl gan yr holl Aelodau sy'n cynrychioli i eirioli, gyda chynghorau, wrth gwrs. Os oes yna fater penodol rydych chi'n credu ein bod ni fel Llywodraeth angen edrych arno fo, byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog, Siân Gwenllian. Yn amlwg, byddwch chi wedi gweld o'n rhaglen lywodraethu ni bod cefnogi cymunedau i fod yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros asedau cymunedol yn flaenoriaeth i ni. Rydyn ni'n gwybod bod hwnna yn rhwystr mewn nifer o lefydd yng Nghymru. Mae yna hefyd enghreifftiau gwych lle mae cymunedau wedi gallu gwneud hyn. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Aelod gymryd y camau hynny.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. A fedraf i ddim ond dychmygu beth fyddai effaith o'r fath ar y plant dan sylw. Yn amlwg, fel Llywodraeth, mae sicrhau bod fframwaith Cymru sy'n ymwybodol o drawma yn cael ei ymgorffori gan yr holl wasanaethau cyhoeddus yn bwysig dros ben. Yn sicr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi'i godi. Mae yna berthynas—. Wrth gwrs, dydy heddlua ddim wedi'i ddatganoli, ond mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r heddlu yn digwydd yn rheolaidd ac mae'n rhywbeth y gallwn ni, wrth gwrs, godi. Ond, mi fyddwn ni hefyd yn gofyn i'r Aelod gyfathrebu yn uniongyrchol gyda Heddlu De Cymru am y mater penodol hwn, gan dynnu sylw at yr enghraifft.

Diolch i'r Aelod am godi mater dwi'n gwybod bydd o bwys mawr i etholwyr ledled Cymru. Mae deintyddiaeth a mynediad at ddeintyddiaeth yn heriol dros ben mewn nifer o ardaloedd, ac fe fyddwch chi wedi clywed, dwi'n siŵr, y Gweinidog yn datgan hynny ar fwy nag un achlysur. Yn sicr, mi wnaf i ei wneud o'n ymwybodol eich bod chi wedi gofyn am ddiweddariad, a rhoddir y wybodaeth i chi o ran pryd fydd hynny nesaf

15:30

Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r cod trefniadaeth ysgolion. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried amrywiaeth o ffactorau, a’r brif ystyriaeth wastad yw buddiannau dysgwyr. Felly, o ran datganiad gan Lywodraeth Cymru: mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater. Fel rydych chi'n dweud, â ninnau efo Dydd Rhuban Gwyn yr wythnos yma, mae o'n amserol. Ond hefyd, yn anffodus, mae o'n fater sydd yn gyson. Gadewch i fi fod yn glir: mae'r Llywodraeth yma yn condemnio'n llwyr y defnydd o gasineb a thrais, boed hynny ar-lein, boed hynny ym mywyd cyhoeddus, boed hynny yn y gweithle, mewn unrhyw ran o fywyd. Mae gan bawb yr hawl i fyw heb drais yn eu bywydau. Felly, er bod nifer o'r meysydd rydych chi wedi cyfeirio atynt ddim wedi'u datganoli ac felly ddim o dan reolaeth y Senedd hon, mi fedrwch chi fod yn sicr fod y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud yn glir safbwynt y Senedd hon o ran hynny a'r Llywodraeth hon. Hefyd, wrth i ni ddatblygu'r strategaeth VAWDASV nesaf, mae gennym ni gyfle i gryfhau ein hymateb i'r mathau newydd hyn o gam-drin a sicrhau bod ein dull yn cadw i fyny efo'r newidiadau technolegol hyn. Mi fyddwn i hefyd yn erfyn ar bob Aelod o'r Senedd hon i ystyried y rôl sydd gennym ni i'w chwarae yn y maes hwn. Mae'r ffordd rydyn ni'n siarad am ein gilydd ar-lein yn bwysig ac yn cyfrif. Mae'r iaith rydyn ni'n ei defnyddio efo'n gilydd yn bwysig. Mae pobl yn edrych at y Senedd hon am arweiniad, ac mi fyddwn i yn gofyn am gefnogaeth pob Aelod o'r Senedd hon i sicrhau ein bod ni ddim yn ychwanegu at gasineb a thrais yn erbyn menywod.

Prynhawn da, Drefnydd. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cefnogi beth rydych chi wedi'i ddweud.

Diolch i'r Aelod am godi mater rydych chi wedi bod yn ei godi'n gyson, wrth gwrs. Yr un peth fyddwn i yn dweud yw ei fod o'n dda iawn bod Llais wedi cyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran gwrando a rhoi'r pryderon hyn gerbron yn yr adroddiad. Dyna fyddai rhywun yn ei ddisgwyl gan Llais, ac mae o'n dda iawn bod y profiadau hynny'n cael eu hadlewyrchu. Mae yna gyfrifoldeb rŵan ar y bwrdd iechyd i wrando ar y pryderon hynny ac ymateb yn ystyrlon—a dwi'n pwysleisio 'yn ystyrlon'—a dangos sut maen nhw’n ystyried y sylwadau hyn, a darparu tystiolaeth glir bod unrhyw newidiadau arfaethedig yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn gyflawnadwy, ond hefyd, o ran y broses ac unrhyw bryderon sydd wedi’u mynegi gan Llais, sut maen nhw’n ymateb i’r rheini. Felly, mi ddylai’r cyhoedd, yn sicr, fod â’r hyder bod eu barn yn cael ei chlywed, a bod penderfyniadau ynghylch gwasanaethau’r gwasanaeth iechyd yn destun craffu priodol, a bod yr ymgynghori yn briodol hefyd.

15:35

O ran yr ail bwynt mae’r Aelod yn ei godi, wrth gwrs fe gawsoch chi ymateb cadarn iawn gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw.

O ran y mater cyntaf, mae yna gwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yr wythnos nesaf, felly mae yna gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau iddo fo bryd hynny.  

Diolch. Fel mae’r Aelod wedi sôn, mi fydd yna gynllun o ran y gweithlu yn cael ei gyhoeddi, a chyfle i graffu a holi cwestiynau bryd hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae yna gwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ar 9 Rhagfyr, felly os oes yna gwestiynau pellach bryd hynny—. Ac, wrth gwrs, fel arfer, mae’r Aelod yn gallu ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet neu ofyn cwestiynau ysgrifenedig.   

Wel, o ran yr hyn rydych chi wedi’i ofyn, yn amlwg mae yna gwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad ar 8 Rhagfyr. Mae o wedi gwneud datganiadau rheolaidd. Rydyn ni yn dryloyw. Mae llawer o’r wybodaeth rydych chi wedi gofyn amdani, os nad y cyfan, ar gael yn gyhoeddus. Mae yna wasanaeth ymchwil ar gael i ni hefyd, fel Aelodau o'r Senedd hon. Felly, dwi'n credu bod y Gweinidog yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Senedd hon. Rydyn ni, yn fwy nag unrhyw Lywodraeth arall, yn bod yn gyfan gwbl dryloyw o ran yr hyn rydyn ni eisiau ei sicrhau o ran gwerth am arian ac effeithiolrwydd, ac mae hwn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn arwain arno fo. Felly, dwi ddim yn credu ei bod hi'n briodol cael datganiad pellach. Fe fydd yna, wrth gwrs, ddigon o gyfleoedd i fod yn craffu ar y Gweinidog a'r gwaith yn y maes hwn.

15:40

Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n falch iawn clywed bod Cymru fach yn mynd i fod yn cynnal Cwpan y Byd FIFA i Ferched yn 2035. Roeddwn i'n fwy balch fyth bod y Cae Ras yn Wrecsam yn mynd i fod yn cynnal gemau yn fanna. Mae'n gyfle i mi atgoffa pobl mai dyna stadiwm ryngwladol hynaf y byd. Mae hwn yn gyfle gwych i ferched a bechgyn ar hyd a lled Cymru i weld eu harwyr yn chwarae yn eu gwlad eu hunain ac i ni arddangos Cymru ar lwyfan byd eang. A gawn ni ddatganiad felly gan y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon ar sut y mae'r Llywodraeth yn cynllunio i adeiladu gêm y menywod yng Nghymru cyn 2035, yn y gobaith y byddwn ni'n barod i godi'r tlws yr adeg hynny?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi hwn. Mae o'n newyddion rhagorol i Gymru, onid ydy, ac i bêl-droed yng Nghymru. Rydych chi'n iawn i ddweud ei fod o i bawb yng Nghymru o ran y cyfleoedd gwych yma. Mae'r ffaith bod Wrecsam a Chaerdydd yn mynd i gael gemau yn eithriadol o bositif. Dwi'n cael fy atgoffa—. Rydych chi'n sôn am Gymru fach: we may be small, but we are mighty. Peidiwch â meddwl bod Cymru ddim yn mynd i fod yna erbyn hynny.

Dwi'n meddwl mai un peth sydd yn fy nghyffroi i am hyn rŵan ydy bod gennym ni naw blynedd i wir gynllunio a gwneud y mwyaf o'r cyfle hwn. Yn rhy aml, pan rydyn ni wedi llwyddo i ddenu digwyddiadau mawr i Gymru, mae'r cynllunio gwaddol wedi digwydd ar ôl y digwyddiad. Felly, does gennym ni ddim esgus y tro yma: mae yna naw blynedd. Yr hyn y byddaf i'n ei wneud rŵan, efo Cymdeithas Bêl-droed Cymru a phartneriaid eraill, ydy sicrhau, fel rhan o'n strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ni—strategaeth a fydd am ddegawd a mwy—fod hwn yn rhan ganolog o hynny a'n bod ni'n gweithio i sicrhau'r gwaddol a'r budd mwyaf posib i bawb yng Nghymru o ran y cyfle aruthrol hwn.

Gaf i ddiolch i'r Aelod? Yn amlwg, mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i godi. Fe fyddwn i yn gofyn i chi ysgrifennu ato fo'n benodol o ran hynny hefyd. Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yna gwestiynau iddo fo yr wythnos nesaf yn y Siambr hon.

15:45

Mae yna gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yfory yn y Siambr hon a chyfle i ofyn yn uniongyrchol. Hefyd, mae yna ddatganiadau wedi bod gan y Gweinidog ynglŷn â chynlluniau'r Llywodraeth hon i sicrhau budd i'n cymunedau ni, y cyfleoedd hynny, ond hefyd ein bod ni'n cadw'r budd, y gwerth economaidd a'r swyddi yma yng Nghymru. Felly, mae yna gyfle wedi bod i graffu, mi fydd yna gyfleoedd i graffu, ac, fel rwy'n dweud, mae yna gyfle yfory hefyd.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i godi. Rydyn ni wedi bod yn glir fel Llywodraeth. Rwy'n gwybod o fy amser yn yr wrthblaid yn craffu ar hyn bod unrhyw oedi yn annerbyniol, a'r effaith mae hynny yn ei gael ar gleifion. Bydd y Gweinidog wedi clywed hyn. Rwy'n gobeithio hefyd—a dwi'n siŵr, o'ch adnabod chi, Janet, eich bod chi—eich bod yn gwneud yr achos yn gryf iawn efo'r bwrdd iechyd, sydd wrth gwrs yn atebol o ran hyn ac o ran yr amserlen. Felly, dwi'n mawr obeithio y bydd yna gyfle hefyd i chi godi hyn yn uniongyrchol a cheisio cael y tryloywder yna mae aelodau'r cyhoedd yn ei haeddu.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganoli pellach i Gymru

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar ddatganoli pellach i Gymru. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.

Lywydd, mi oedd yna deimlad newydd yn perthyn i fy sgyrsiau cynnar efo'r Prif Weinidog, Andy Burnham—teimlad o'r diwedd fod tenant newydd Rhif 10 Downing Street yn deall gwerth datganoli ac yn rhannu fy nyhead i i weld penderfyniadau'n cael eu cymryd yn agosach at y bobl a'r cymunedau maen nhw'n effeithio arnyn nhw.

Dyna eiriau Andy Burnham ddiwedd Mehefin. Ond bum mis yn ddiweddarach, mae'r llythyr—ac mae ei lofnod o ar y gwaelod—yn gwrth-ddweud y datganiad hwnnw yn llwyr. Nid yn unig mae gan y Llywodraeth hon fandad clir i wneud yr achos dros ddatganoli pellach, ond mae corff sylweddol o dystiolaeth yn bodoli, wedi ei ddatblygu dros gyfnod o flynyddoedd, yn annibynnol neu yn drawsbleidiol, i gefnogi’r achos mai dyma’r peth iawn i’w wneud.

Lywydd, dwi wedi bod yn barod i weithio’n adeiladol, ac mae hynny’n parhau yn wir. Mae’n bwysig nodi, felly, bod ambell bwynt yn ymateb y Prif Weinidog i’w groesawu o ran sgôp i wneud cynnydd. Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i’r trefniadau hynny gael eu cytuno heb unrhyw oedi nac ansicrwydd pellach. 

Mae angen cadarnhau’r trefniadau trethiannol angenrheidiol yng nghyd-destun peilot taliad plant Cynnal hefyd. Oes, mae sgyrsiau yn digwydd, ond am bob wythnos sy’n mynd heibio heb benderfyniad, mae gallu’r Llywodraeth hon i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i daclo tlodi plant yn cael eu rhwystro. 

Elfen arall o’r llythyr i’w groesawu ydy’r iaith gadarnhaol o gwmpas y bartneriaeth twf yr ydw i wedi ei gyflwyno i’r Prif Weinidog a chynnig cydweithio arno. Mi fydd hyn parhau i ffurfio rhan o’n trafodaethau ar yr economi. Dwi hefyd yn eiddgar i fwrw ymlaen efo'r sprints polisi a drafodwyd fel cyfle ymarferol i ddangos cydweithio gwirioneddol drwy archwilio tystiolaeth a datblygu datrysiadau. Ond mae darlun ehangach yma lle mae Whitehall, er gwaetha’r addewidion, yn dal i frwydro yn erbyn dyheadau Cymru.

15:55
16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
16:25
16:30

Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth a fynegwyd dros y penwythnos gan Carwyn Jones a Mark Drakeford ar elfennau o'r llythyr a rannwyd ddydd Gwener. Felly, dwi'n croesawu ail ymrwymiad arweinydd Llafur Cymru heddiw i ddatganoli pellach. Dwi hefyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan Brif Weinidog Cymru bod yna elfennau o'r llythyr a oedd yn symud tuag at fwy o ddatganoli.

16:35

Dwi'n falch o glywed yr Aelod yn sôn am ei rwystredigaethau, ac, ydw, dwi wedi bod yn barod iawn i groesawu camau positif dros yr wythnosau diwethaf, fel y gwnes i yng Nglasgow. Dwi yn ystyried mai camau cwbl sylfaenol ydi mynd i'r afael â hyblygrwydd ffisgal er mwyn sicrhau bod y system trethiant ddim yn tynnu arian o bocedi teulu tlawd yng Nghymru wrth i ni weithredu ein cynllun Cynnal ni.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Diweddariad ar ymyrraeth Lefel 5 ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad annibynnol o drefniadau arwain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Symudwn nawr at yr eitem nesaf, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, dwi wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o ansawdd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mi wnes i gomisiynu'r adolygiad hwn ym mis Mehefin fel rhan o'r ymyrraeth lefel 5, sydd yn parhau. Mi roeddwn i eisiau deall pam nad ydy'r gwelliant wedi'i gynnal yn gyson, er gwaethaf y cymorth a'r ymyriadau dro ar ôl tro.

Yn wahanol i ddulliau blaenorol, lle'r oedd y bwrdd iechyd yn arwain ei adferiad ei hun efo cymorth allanol, mi oedd yr ymyrraeth hon yn rhoi Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn y rôl arweiniol. Mi roeddwn i eisiau cael asesiad annibynnol i farnu a oedd trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd, diwylliant a gallu'r bwrdd iechyd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau effeithiol. Mi roeddwn i hefyd eisiau gwybod beth sydd angen ei newid er mwyn gwella'r gwasanaethau'n barhaol i bobl yn y gogledd. Dwi eisiau diolch i aelodau'r panel annibynnol am eu gwaith trylwyr ac am lunio adroddiad manwl. Dwi hefyd yn ddiolchgar i'r staff am eu gwaith parhaus yn gofalu am gleifion ac am rannu eu profiadau efo'r panel. Dwi eisiau nodi o'r dechrau: dyw canfyddiadau'r adroddiad ddim yn tanseilio ymroddiad, gwaith caled na phroffesiynoldeb y staff bob dydd, a hynny'n aml o dan amgylchiadau hynod heriol.

Mae prif gasgliad yr adroddiad yn glir, yn ddifrifol ac yn gondemniol. Ar hyn o bryd, dyw'r bwrdd iechyd ddim yn dangos yr amodau sefydliadol sydd eu hangen i gyflawni a chynnal gwelliant yn gyson. Mi ddylai'r ffaith ein bod ni'n dal yn y sefyllfa yma, ar ôl mwy na degawd o fesurau arbennig, beri i ni i gyd oedi a myfyrio.

Yn gyntaf, mae'r adroddiad yn dweud nad oes gan y sefydliad gyfeiriad strategol digon clir, naill ai o safbwynt gwasanaethau clinigol nac o safbwynt y sefydliad yn ehangach. O ganlyniad, mae ei allu i flaenoriaethu adnoddau wedi'i wanhau. Yn ail, dyw'r trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd ddim yn darparu cysylltiad digon cryf rhwng gwasanaethau rheng flaen a goruchwyliaeth y sefydliad. Dyw cyfrifoldebau a lefelau awdurdod ddim yn cyd-fynd yn ddigon da, ac mae prosesau canolog yn arafu gweithredu. Yn drydydd, mae ansefydlogrwydd sefydliadol wedi gwanhau parhad a'r gallu i gyflawni newid. Mae angen i glinigwyr gael rhan fwy cyson wrth lunio strategaethau, cynllunio gwasanaethau, a gwneud penderfyniadau gweithredol. Yn bedwerydd, mae diffyg ymddiriedaeth a diogelwch seicolegol yn bryderon sefydliadol difrifol. Mae angen i staff fod yn hyderus y bydd codi pryderon yn arwain at gamau gweithredu ystyrlon, a'u bod nhw'n gallu cyfrannu at wella'r sefyllfa.

Mae'r adolygiad hefyd yn nodi bod y gwaith hirfaith ar raglen newid sefydliadol y bwrdd iechyd, 'sylfeini'r dyfodol', wedi cynyddu'r ansicrwydd. Mae'r panel yn argymell rhoi'r gorau i'r rhaglen honno a bod yn gliriach ynglŷn â sut mae'r bwrdd yn gweithredu. Mae'r panel o'r farn ei bod hi'n bosib sicrhau gwelliant cynaliadwy o fewn strwythur presennol y bwrdd iechyd, os bydd ei argymhellion yn cael eu gweithredu. Nid newid strwythurol ar ei ben ei hun ydy'r ateb, ond dyw hynny ddim yn golygu nad oes angen newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae'r bwrdd yn gweithredu'n fewnol.

Er mwyn bwrw ymlaen â chamau penodol i gryfhau goruchwyliaeth a llywodraethiant y bwrdd, mi fyddaf yn gwneud gorchymyn ymyrryd. Y bwriad fydd darparu cymorth penodol, wedi ei dargedu ac efo terfyn amser clir, er mwyn sicrhau cynnydd tuag at isgyfeirio. Yr hyn sy'n wahanol y tro hwn ydy y bydd y cymorth a'r oruchwyliaeth ychwanegol yn cael ei gefnogi gan ofynion ffurfiol, capasiti gweithredu penodol, ac un cynllun gwella clir efo terfynau amser pendant.

Nid monitro'r bwrdd iechyd yn fwy manwl yn unig ydy hyn. Mae'n ymwneud â newid y ffordd y mae'r sefydliad yn gweithio, efo cyfrifoldebau clir. Mi fydd unrhyw isgyfeirio yn y dyfodol yn dibynnu ar dystiolaeth amlwg o welliant parhaus. Yn syml, mae hynny'n golygu gweld mwy o gleifion yn cael gofal o safon uchel yn gyson, fel mae ganddyn nhw hawl i'w ddisgwyl. Mae'n rhaid i staff, cleifion a phartneriaid fod wrth galon y gwaith hwn. Y gwir amdani ydy bod hynny wedi bod ar goll am gyfnod rhy hir. Eu profiad nhw fydd y prawf go iawn i weld a ydy'r newidiadau yn gwneud gwahaniaeth ymarferol.

Mi fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig cymorth a her, gan gadw'r ffocws yn gadarn ar ganlyniadau i bobl y gogledd. Mae'r cyfnod o obeithion ffug, cyfleoedd wedi'u colli a gadael i bethau lithro yn dod i ben yn awr. Dydw i ddim o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her sydd o'n blaenau, ond dwi'n benderfynol o sicrhau bod hyn yn nodi dechrau newydd go iawn i wasanaethau iechyd yn y gogledd. Dwi'n hyderus y bydd y camau dwi wedi eu hamlinellu heddiw, ar sail cyngor arbenigol, yn ein helpu i symud tuag at ddyfodol gwell i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mi fyddaf yn gwneud datganiad pellach ar statws uwchgyfeirio sefydliadau eraill yn yr NHS ar 15 Rhagfyr.

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac am y camau pendant mae e wedi eu cymryd yn ei chwe mis cyntaf yn ei swydd i ddechrau ar y gwaith o droi ffawd Betsi Cadwaladr o gwmpas. Dwi'n croesawu'r pwyslais mae'r Gweinidog yn ei roi ar yr angen i ddilyn y drefn sefydlogi, gwella a chynnal ac ar ganolbwyntio ar y sylfeini fel man cychwyn. Serch hynny, mae'n rhaid hefyd cydnabod bod gwelliannau wedi bod mewn nifer o wasanaethau rheng flaen yn Betsi yn ddiweddar, a hynny oherwydd mesurau cynnar mae'r Llywodraeth yma wedi eu cyflawni. Sut felly mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau na fydd gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad yn torri ar draws y cynnydd sydd eisoes yn cael ei wneud i wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru?

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau yna. Dwi'n cytuno'n llwyr: mae'n rhaid cydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn gwahanol arbenigeddau, yn arbennig wrth leihau rhestrau aros yn y gogledd o ran gofal wedi ei gynllunio a diagnostics. Rhaid cydnabod hefyd y gwaith mae'r staff sy'n darparu'r gwelliannau hynny wedi'i wneud. Mae'n rhaid i'r camau sy'n cael eu hargymell yn yr adroddiad gefnogi'r cynnydd hwnnw, nid amharu arno. Mae'n rhaid datrys y problemau sydd yn y llywodraethiant tra bod y gwelliannau rheng flaen yn parhau a chreu'r amgylchiadau er mwyn cael gwelliannau sydd yn gynaliadwy.

Bydd y cynllun gwelliant integredig unedig yn cyfuno yr argymhellion gyda chamau cynnydd presennol. Bydd ganddo flaenoriaethau clir, perchnogaeth benodol a cherrig milltir mesuradwy—nid rhaglen ar wahân yn cystadlu am bobl ac am adnoddau, ond yn gweithio ar y cyd. Mi fydd rhaid i'r chwe mis cyntaf ganolbwyntio ar arweinyddiaeth sefydlog, cyfrifoldebau cliriach a chynnwys clinigol cryfach.

Diolch. Mae hwnna yn gwestiwn da a phwysig, oherwydd mae'r adroddiad wedi adnabod mai un o'r problemau sylfaenol sydd wedi bod yno ydy bod nifer helaeth o bobl wedi bod yn gweithio yn y bwrdd, a'r churn yna o bobl ar y brig. Ac ymhellach na hynny, bod y bwrdd dros y blynyddoedd wedi methu â datblygu talent mewnol ac adnabod pobl a fyddai'n gallu cymryd yr awenau pe bai angen. Felly mae'n rhaid i hynny newid, a dyna'r bwriad yn y camau ymyrraeth rydyn ni'n eu cymryd.

Y sicrwydd rydyn ni'n ei roi ydy y byddwn ni'n cyflwyno dirprwy gadeirydd a fydd yn gweithio ar y cyd ac yn rhoi sicrwydd efo'r cadeirydd presennol a'r bwrdd annibynnol. Rydyn ni'n gofyn i'r bwrdd eu hunain apwyntio dirprwy brif weithredwr er mwyn gweithio ar hynny—gweithio ar lawr gwlad, sicrhau bod llais y clinigwyr yn cael ei wrando arno, a bod yr elfennau llywodraethiant yna yn cael eu cryfhau. Ac mi fydd gennym ni gynghorydd annibynnol ar yr ochr llywodraethiant yna er mwyn bod penderfyniadau yn cael eu craffu, er mwyn bod atebolrwydd yn glir, a bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb am y camau yna sydd angen eu cymryd er mwyn gwella canlyniadau i bobl yn y gogledd.

17:15

Unwaith eto, dwi am ddiolch am y sylwadau pwysig yna o ran hawl y gweithlu i rannu eu profiadau a chael eu llais wedi ei wrando arno, a sut, os nad ydy'r gweithlu sydd yn rhannu'r profiadau hynny'n cael ei wrando arno, ei fod o, yn y pen draw, yn effeithio ar ddiogelwch. Mae hynna'n cael ei adlewyrchu'n glir yn yr adroddiad, ac mae'r ffaith eu bod nhw'n nodi nad oes yna ddiogelwch seicolegol i staff yn bryder. Dyna pam mae'n rhaid inni weld y gwelliannau yma sy'n cael eu hargymell yn cael eu gweithredu.

Rŵan, dwi'n deall y cwestiwn penodol roedd yr Aelod yn ei ofyn, a dyna pam ein bod ni, er mwyn cryfhau rôl y cadeirydd yna, er mwyn cryfhau rôl yr aelodau annibynnol, yn cyflwyno dirprwy gadeirydd efo'r rôl benodol yma o wneud yn siŵr bod llywodraethiant yn cael ei gryfhau, a bod hynna'n cael ei gyflwyno yn ddiwylliannol ar draws y system.

Rŵan, un o'r pethau diwethaf sydd angen eu gwneud, pan fydd rhywun yn ystyried bod y bwrdd wedi colli prif weithredwr, wedi colli'r COO, wedi colli'r CFO, wedi colli'r CNO ac eraill, a bod yr adroddiad yn glir bod yr ansicrwydd yna wrth golli aelodau arweinyddol yn achosi mwy o niwed i'r bwrdd—. Y peth olaf mae rhywun eisiau ei wneud ydy creu mwy o ansicrwydd ar draws y bwrdd. Mae'n rhaid cael cyfnod o sefydlogrwydd rŵan, a dyna pam ein bod ni, yn hytrach na gwanhau'r bwrdd, yn mynd i'w cryfhau nhw efo'r camau ymyrryd dŷn ni'n eu cymryd heddiw.

17:20

Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn yn fanna o ran y ffaith nad ydy'r uwch swyddogion ar y bwrdd wedi bod yn gwrando. A dylai e ddim cymryd Aelod etholedig o'r Senedd yma yn troi i fyny ar ymweliad i unrhyw ysbyty neu ganolfan iechyd er mwyn i'r bwrdd, aelodau'r bwrdd, wrando ar lais y cleifion, neu'r staff yn yr achos yma. Mi ddylai hwnna fod yn rhan ddiwyllianol naturiol o waith y bwrdd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

17:25
6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Y Rhaglen Dileu TB Mewn Gwartheg—Newid Sylweddol

Eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: y rhaglen dileu TB mewn gwartheg—newid sylweddol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd.

Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Yn ystod dadl yn y Senedd yma ar TB buchol ar 15 Gorffennaf, mi wnes i ymrwymiad i ddatblygu cynllun TB buchol newydd, fydd yn holistig ac a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar wyddoniaeth. Bydd yn ymgorffori tair elfen—gwartheg, pobl a bywyd gwyllt—gan adlewyrchu ein hymrwymiad ni yn y rhaglen lywodraethu.

Heddiw, dwi'n cyhoeddi'r cyngor diweddaraf gan fwrdd y rhaglen dileu TB buchol, tystiolaeth y grŵp cynghori technegol ac ymateb Llywodraeth Cymru i hynny. Dwi am ddiolch, os caf i, i fwrdd y rhaglen a'r grŵp cynghori technegol am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud ers i fwrdd y rhaglen gyhoeddi eu papur safbwynt ar TB buchol yng Nghymru nôl ym mis Mawrth eleni.

Mae TB buchol yn dal i fod yn un o'r heriau mwyaf difrifol ym maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru. Mae ei heffeithiau'n llawer mwy na chyfres o ystadegau. I deuluoedd amaethyddol, gall achos o TB olygu misoedd, neu yn wir flynyddoedd, o gyfyngiadau, o ansicrwydd a dewisiadau anodd, gan effeithio ar eu busnes, effeithio ar iechyd a lles eu gwartheg, ac, wrth gwrs, roi straen enfawr ar eu hiechyd meddwl a'u lles nhw eu hunain hefyd. 

Nawr, mae cynnydd wedi'i wneud diolch i ymdrechion a gwaith caled ffermwyr, milfeddygon a'r rhai sy'n cefnogi'r diwydiant. Mae bron i 96 y cant o fuchesi Cymru bellach yn rhydd o TB, ac mae nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng bron i 60 y cant ers 2009. Ond mae prif neges bwrdd y rhaglen yn gwbl glir: fel mae pethau ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn debygol y gwnaiff Cymru ennill y statws yna o fod yn rhydd o TB yn swyddogol erbyn 2041.

Er mwyn gwireddu'r uchelgais honno, mae'n rhaid cydnabod na fydd un mesur ar ei ben ei hun yn ddigon i ddileu TB buchol, a bydd unrhyw welliant yn dibynnu ar bartneriaeth effeithiol ac ymdrech a gwaith diflino gan bawb. Er mai clefyd heintus mewn gwartheg yn bennaf yw TB buchol, wrth gwrs, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â phob llwybr a phob ffynhonnell heintio, gan ystyried gwartheg, pobl a bywyd gwyllt gyda'i gilydd, yn hytrach na thrin pob un ohonyn nhw ar wahân.

Yn eu papur, mae bwrdd y rhaglen wedi galw am newid mawr o ran sut rŷn ni'n mynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru a pha mor gyflym rŷn ni'n gwneud pethau. Dwi'n cytuno â nhw o ran yr angen am newid. Rŷn ni'n cefnogi cyfeiriad y bwrdd, a byddwn ni'n dechrau rhoi eu cyngor strategol ar waith.

Nawr, dyw hynny ddim yn golygu y gallwn ni nac y dylem ni, wrth gwrs, wneud hynny i gyd ar unwaith. Mae peth o'r cyngor yn gofyn am ragor o dystiolaeth, gwaith modelu, ymgynghori neu newid deddfwriaethol. Ond fe allwn ni fwrw yn ein blaenau â pheth o'r cyngor nawr. Rŷn ni felly am weithredu ac addasu, gan weithio i newid pethau lle gallwn ni a gwneud gwaith pellach ochr yn ochr â hynny lle mae ei angen e.

Ar gyfer gwartheg, mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar y pethau all wneud y gwahaniaeth mwyaf: gwella polisïau sy'n cefnogi buchesi sydd ag achosion parhaus o'r clefyd, profion diagnostig, cadwyni cyflenwi bioddiogel, cyngor a gwybodaeth glir i ffermwyr a gwell defnydd o wybodaeth am glefydau a risg. Nawr, i ffermwyr sy'n cael eu taro gan achosion parhaus, mi fyddwn ni'n defnyddio ein profiad o'r prosiectau yn sir Benfro, yng ngogledd Cymru a Nant-y-Garth. Mi fyddwn, felly, yn gadael i ffermwyr a'u milfeddygon ddewis sut maen nhw am fynd ati, fel eu bod nhw'n gallu penderfynu ar lefel y fferm ar eu mesurau bioddiogelwch a sut i nodi a rheoli eu gwartheg risg uchel. Mae lleihau'r amser y mae'r buchesi hyn o dan gyfyngiadau yn brif flaenoriaeth i ni hefyd, nid yn unig i leihau'r risg o ledaenu'r clefyd a gwella gallu busnes i'w wrthsefyll, ond hefyd i helpu i fynd i'r afael â'r effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles y gall cyfyngiadau TB hir eu cael ar deuluoedd ffermio.

Mi fyddwn ni'n archwilio sut y gall profion diagnostig ychwanegol ar wartheg nodi haint yn gynharach a helpu i reoli'r risg mewn ffordd fwy rhagweithiol, tra'n cadw'r rhaglen profion croen statudol. Gan weithio gyda'r diwydiant ac APHA, mi fyddwn ni'n ystyried yr opsiynau cyfrifol ar gyfer symud gwartheg o fuchesi dan gyfyngiadau drwy farchnadoedd diogel. Gyda'n gilydd, mi fyddwn ni'n chwilio am atebion ymarferol i gefnogi ffermwyr a fydd hefyd yn cynnal y mesurau cadarn sydd eu hangen i amddiffyn buchesi eraill rhag TB buchol.

Gan weithio gyda'r diwydiant a milfeddygon, byddwn ni'n gwella'r cyngor a'r gefnogaeth ymarferol i ffermwyr. Mae bwrdd y rhaglen wedi dweud yn glir fod angen cymorth rhagweithiol ar ffermwyr—hynny yw, nid dim ond ymyrraeth unwaith y bydd achos wedi codi. Mae hynny'n golygu mwy o gydweithio, felly, rhwng ffermwyr, milfeddygon preifat, APHA a'r Llywodraeth, gan ddefnyddio gwybodaeth leol ymarferol i helpu rheoli'r clefyd.

Byddwn hefyd yn ei gwneud hi'n haws cael at wybodaeth ar lefel buches ac anifail i helpu ffermwyr i ddeall yn well beth mae statws TB yn ei olygu a'r risg, wrth gwrs, o ledaenu'r clefyd wrth brynu gwartheg. Nawr, mae APHA eisoes yn cynnal prosiect fydd yn rhannu data am brofion croen, ac roeddwn i'n falch o glywed bod milfeddygon a ffermwyr o'n grŵp cynghori technegol a bwrdd y rhaglen yn helpu APHA i baratoi'r gwaith pwysig yma. Ynghyd â'r camau hyn, mi fyddwn ni'n parhau, wrth gwrs, i weithio gydag APHA a Llywodraethau eraill Prydain ar y mesurau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, brechu gwartheg a phrofion DIVA.

Nawr, all y Llywodraeth ddim gwneud y gwaith yma ar ei phen ei hunan. Mae llwyddiant yn gofyn bod ffermwyr, milfeddygon preifat, APHA, gwyddonwyr, rhanddeiliaid a'r Llywodraeth i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y rheini y mae disgwyl iddyn nhw gyflawni'r polisi yma'n deall y polisi hwnnw ac felly yn gallu ei roi ar waith yn effeithiol hefyd.

17:35
17:40
17:45
17:50
17:55
18:00

Diolch, Weinidog. Gaf i groesawu'r datganiad heddiw? Mae'n rhaid i ni wynebu realiti: mae blynyddoedd o bolisïau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio’n anghymesur ar wartheg yn unig ac wedi methu ystyried y darlun llawn sy’n allweddol os am waredu'r haint hon o Gymru. Ers 1996, mae 18 o wartheg wedi'u difa'n ddyddiol yng Nghymru oherwydd y clefyd, gyda dros 90,000 o wartheg wedi'u difa rhwng 2016 a 2025 yn unig. Mae hyn wedi costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr bob blwyddyn, a hynny heb gydnabod yr effaith ddinistriol y mae’r clefyd yma yn ei chael ar iechyd meddwl a bywoliaethau ein ffermwyr a’u teuluoedd. Ac felly, mae'n werth nodi bod yr undebau amaethyddol heddiw wedi croesawu'r cyhoeddiad yma heddiw fel cam ymlaen.

Mae'n amlwg, felly, fod y newid trywydd yma'n un i’w groesawu—un sy’n adlewyrchu’r realiti sy’n wynebu ein ffermwyr ac sy’n barod i edrych ar bob ystyriaeth a’r wyddoniaeth wrth fynd i’r afael â’r felltith hon. Gaf i felly ofyn sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y dystiolaeth a’r gwersi sy’n dod i’r amlwg o ardaloedd prosiect peilot sir Benfro a gogledd Cymru yn cael eu trosi’n bolisi cenedlaethol ystyrlon, gyda phrofiadau ein ffermwyr wrth galon y gwaith o daclo'r clefyd yma?

18:05

Wel, diolch am y sylwadau. Yn sicr, gallwn ni edrych yn ôl a dadansoddi pam ein bod ni lle ŷn ni nawr. I fi, fel Gweinidog, mae'r amser nawr i edrych ymlaen, i edrych ar strategaeth newydd, fel rwyf wedi ei hamlinellu. Ond mae llawer o hynny yn seiliedig ar y gwaith dysgu rŷn ni wedi ei gymryd o'r prosiectau yn sir Benfro ac yng ngogledd Cymru. Ac maen nhw yn bwysig, oherwydd maen nhw wedi caniatáu i approaches newydd gael eu profi, a chael eu profi hefyd wrth gwrs mewn cyd-destun ffermio go iawn ar lawr gwlad. Ac mae hynny yn bwysig.

Mae gwersi nawr y gallwn ni eu cymryd yn uniongyrchol o'r rheini, fel roeddwn i'n ei ddweud yn gynharach, o safbwynt adnabod y risg, rheoli'r risg, taclo'r broblem cyn iddo fe ddod yn rhywbeth sydd yn arwain at broblemau mwy, ond ar yr un pryd hefyd, adeiladu ar y berthynas allweddol yna. Ac mae yna acsis allweddol fan hyn yn y berthynas rhwng ffermwyr a'u milfeddygon. Mae eisiau ymbweru'r bartneriaeth yna i allu adnabod y risg a delio ag e yng nghyd-destun fferm unigol, yn ogystal ag edrych ar strategaethau ar draws ardaloedd cyfan.

Mae trosglwyddo'r dysgu yna nawr yn fwy eang ar draws Cymru yn gyfle gwirioneddol i ni fwrw mewn i'r clefyd yma mewn ffordd efallai sydd ddim wedi digwydd o'r blaen. Byddwn ni'n dysgu'r gwersi a bydd hynny'n helpu i siapio ein strategaeth ni. A dwi wir yn credu hefyd wrth gwrs y bydd e, fel soniais i'n gynharach, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, achos mae ffermwyr yn aml iawn yn teimlo bod ganddyn nhw ddim rheolaeth—mae pobl yn troi lan, gwneud y profion a dweud wrthyn nhw os ydyn nhw'n glir neu beidio. Nawr, gyda rhai o'r profiadau rŷn ni wedi eu dysgu o'r prosiectau yma, dwi'n teimlo y bydd ffermwyr yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o rym o fewn y sefyllfa yna i drio effeithio a dylanwadu ar eu tynged nhw eu hunain, gorau gallan nhw, o fewn y cyd-destun yma.

18:10
18:15

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: Adolygiad o Gwricwlwm ac Asesiadau

Symudwn nawr at eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Anna Brychan. 

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn ceisio rhoi'r gallu i'n pobl ifanc ni i feddwl yn ddwfn, i gwestiynu'n hyderus, ac i ddysgu mewn ffyrdd sy'n eu paratoi nhw ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau nhw. Mae hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ein gweithlu addysg, gan roi i ymarferwyr y gydnabyddiaeth a'r ymddiriedaeth y mae eu proffesiwn yn ei haeddu.

Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'r adolygiad yn ceisio gwneud nifer hylaw o welliannau ymarferol i ddisgwyliadau a chanllawiau’r cwricwlwm cenedlaethol er mwyn gwella cysondeb profiadau dysgwyr a lleihau'r llwyth gwaith diangen i ymarferwyr. Mae hyn yn ymwneud â gwneud cyflwyno'r cwricwlwm yn haws drwy gael gwared ar amwysedd a rhoi mwy o hyder i athrawon yn y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud. Rwyf eisiau grymuso athrawon i dreulio mwy o'u hamser yn cynllunio dysgu o ansawdd uchel, yn myfyrio ar gynnydd ac ymarfer, ac yn ymgysylltu gyda'u dysgwyr, yn hytrach na llywio cymhlethdod a llenwi bylchau mewn dogfennaeth sydd ei hun, weithiau, yn anghyson.

Bydd y panel yma o chwech yn archwilio tystiolaeth, yn cynnal eu hymchwil desg eu hunain ac yn ymgysylltu'n eang ar draws y system addysg i helpu nodi sut y gellir cryfhau'r Cwricwlwm i Gymru er budd dysgwyr a'r gweithlu. Rwyf wedi gofyn i'r tîm adolygu adrodd yn ôl i fi yn nhymor yr haf.

Lywydd, adolygiad wedi'i dargedu yw hwn, nid cychwyn o'r newydd ar drywydd gwahanol. Dylai cwricwlwm fod yn destun cylch parhaus o werthuso. Mae'r hyn rŷn ni'n ei addysgu a'r ffordd dŷn ni'n ei addysgu bob amser yn destun mireinio a myfyrio, ac felly y dylai fod. Mae heddiw yn nodi cam cyntaf pwysig ar ein taith ni, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyflawni'r addewid a wnaethon ni cyn yr etholiad i roi'r eglurder sydd ei angen am y ffordd ymlaen i bawb sydd â diddordeb yn ein system addysg ni. Rwy'n edrych ymlaen yn frwd at weithio gyda'r ymarferwyr, y dysgwyr, y rhieni a gofalwyr a phartneriaid ledled Cymru wrth i'r adolygiad yma fynd rhagddo. Diolch.

18:25
18:30
18:35
18:40
18:45
18:50
18:55

Diolch i chi, Weinidog Cabinet, am y datganiad heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod i'n cytuno mai'r penderfyniad i beidio ag ailwampio'r Cwricwlwm i Gymru yn sylfaenol yw'r penderfyniad cywir. Mae newid systemig o'r maint hwn yn cymryd amser, ac rwy'n credu mai'r peth iawn i'r sector yw i'r pedair blynedd nesaf ganolbwyntio ar wreiddio'r diwygiadau sydd eisoes wedi'u gwneud, yn hytrach na newid cyfeiriad a dechrau o'r newydd. Ond fel rydych chi wedi nodi, nid yw hynny'n golygu na ddylem ni fynd i'r afael â'r meysydd lle nad yw pethau'n gweithio cystal ag y dylent. Mae codi safonau ac asesu yn rhan bwysig o'r adolygiad hwn.

Tynnodd yr ymchwil gan Lywodraeth flaenorol Cymru y llynedd, oedd yn rhan o'r gwerthusiad o Gwricwlwm i Gymru, sylw at yr amrywiaeth o ddulliau o asesu a chodi safonau mewn ysgolion. Rwy'n nodi eich ymateb i Aelodau eraill heno, ac rwy'n nodi hefyd gyfraniad yr Athro Wiliam yn y maes hwn. Hoffwn gael gwell syniad gennych chi heno, os yn bosib, faint o strwythur y gallwn ddisgwyl ei weld o ran safonau ac asesu o ganlyniad i'r adolygiad hwn. Oes unrhyw syniad eisoes o'r cyfeiriad y mae pethau'n debygol o fynd iddo? Neu a yw hynny'n gwestiwn cwbl agored ar hyn o bryd, hyd nes bydd cyngor yr Athro Wiliam ac eraill a chanfyddiadau’r adolygiad ehangach ar gael? Diolch.

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy'n petruso cyn meiddio gwneud gwaith y panel drostyn nhw, yn enwedig yng nghyd-destun profiad Dylan Wiliam. Felly, dŷn ni ddim wedi rhoi cyfarwyddyd penodol, ond beth rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud, fel rwy'n credu y gwnes i gyfeirio ato'n gynt, yw bod hwn yn adolygiad o gwricwlwm ac asesu yn y meysydd rŷn ni wedi'u gosod. Felly, rŷn ni yn disgwyl y bydd y ddeubeth yn cael eu hystyried law yn llaw. Oherwydd, yn aml, rwy'n credu bod eu gwahanu nhw wedi bod yn niweidiol i ddealltwriaeth pawb o sut mae'r system addysg yn gweithio ar ei orau fel un strwythur. Rwy'n gobeithio bod hwnna'n rhoi hyder i chi ei fod e'n ffocws pendant, ond bod yr arbenigwyr yn mynd i gyfrannu yn helaeth iawn at y gwaith.

19:00

Diolch, Lywydd. A dwi'n ymddiheuro hefyd os dwi ddim yn swnio fel fy hunan; mae tipyn bach o annwyd gyda fi, so dwi ddim fy hunan. Croesawaf y datganiad a dwi'n falch bod y Llywodraeth yn mynd ati i wella'n system addysg. Dwi wedi treulio amser yn ymweld â llawer o ysgolion yng Ngwŷr Abertawe dros y misoedd diwethaf, ac mae sefyllfa'r sector addysg yn un sydd angen llawer o gymorth. Mi fydd adolygu a chryfhau'r cwricwlwm yn gam pwysig, wrth gwrs, i gael i’r afael â’r sefyllfa ddifrifol ar hyn o bryd, a dwi'n croesawu'n gryf y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Ond mae'r sefyllfa sydd yn wynebu ein hysgolion yn un sydd wedi dod yn fwy difrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod darpariaeth ALN wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf yn aruthrol, sydd wedi rhoi straen ar ein hathrawon, a dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi sicrhau ariannu yn y maes hwn i helpu cael i’r afael â’r sefyllfa.

Rydym ni'n gwybod hefyd nad yw cyfleusterau rai ysgolion yn addas ar hyn o bryd. Mewn un ysgol yn Nhreforus a ymwelais, er enghraifft, y toiledau oedd y gwaethaf i mi weld erioed, a dwi wedi trafaelu’n eang. Er mwyn i blant allu dysgu, rhaid gwella'r cyfleusterau hyn, a hynny'n reit gyflym.

Ydy'r Gweinidog Cabinet yn cytuno efo fi fod angen golwg holistaidd ar sefyllfa ysgolion er mwyn gwneud yn sicr bod ein sector addysg yn wydn ac yn barod am y dyfodol? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Fyddwn i ddim yn anghytuno o gwbl amboutu’r angen i gael system addysg wydn, a dwi’n gobeithio bod y mesurau rŷn ni eisoes yn rhoi yn eu lle yn gyfraniad swmpus tuag at hynny.

O ran yr anghenion dysgu ychwanegol, dwi’n credu bod hwnna yn bwynt teilwng iawn a dyna pam rŷn ni wedi trio ffocysu ar ddau beth ar unwaith, sef mynd i'r afael â’r gofynion sydd yn y system nawr, a’r pwysau sydd yn y system nawr, ac ar yr un pryd edrych ar sut gallwn ni symud tuag at system fwy cynaliadwy dros amser, fel ein bod ni'n gallu darparu ar gyfer yr ystod helaethaf posibl o ddisgyblion y ddarpariaeth addysg maen nhw'n ei haeddu mewn system gynhwysol. Felly, byddwn i’n ei wahodd e i ddilyn y gwaith hwnnw yn ofalus.

O ran toiledau ac adeiladau ysgolion, yn amlwg mae'r rheini yn ystyriaethau i'r awdurdod lleol, ond mi fyddwn i hefyd yn ategu bod sicrhau toiledau addas yn rhywbeth nad yw'n fater bach pan ydych chi'n siarad â dysgwyr yn ein hysgolion ni. A dwi’n cofio yn glir bod y comisiynwyr plant, un ar ôl y llall, fel dwi’n cofio, mewn adroddiadau blynyddol, wedi codi pryderon ynglŷn â hyn. Ond dwi wedi bod mewn nifer o ysgolion yn ddiweddar ac wedi gweld cyfleusterau arbennig mewn nifer fawr ohonyn nhw hefyd.

Felly, ie, gwaith i'w wneud, fel arfer.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

8. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Man Gwefru Cerbydau Trydan) (Cymru) 2026

Symudaf ymlaen i eitem 8, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Man Gwefru Cerbydau Trydan) (Cymru) 2026. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9368 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Man Gwefru Cerbydau Trydan) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 26.

Cynigiwyd y cynnig.

Ddirprwy Lywydd, dwi'n cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Man Gwefru Cerbydau Trydan) (Cymru) 2026. Ym mis Awst, fe wnes i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig llawn ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan a'r mannau parcio cysylltiedig am y 10 mlynedd nesaf. Fe fydd hyn yn gohirio'r adeg pan fydd y sector yma'n dod yn atebol am ardrethi, gan gefnogi twf y rhwydweithiau gwefru sydd eu hangen i hwyluso'r pontio i gerbydau trydan yng Nghymru. 

Rŷn ni'n cydnabod bod angen lleihau'r rhwystrau i fuddsoddi, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwasanaethu'n wael gan y seilwaith yma, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau darparu'r rhyddhad hwn eleni drwy ariannu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau yn ôl disgresiwn i roi'r rhyddhad. Mae hyn wedi ein galluogi ni i'w gyflwyno'n gyflym mewn ymateb i newidiadau yn y ffordd mae mannau gwefru’n cael eu prisio, a hynny wrth i'r sector yma esblygu. Mae'r rheoliadau hyn heddiw yn rhoi'r rhyddhad hwn ar sail statudol o fis Ebrill 2027 tan fis Mawrth 2036 er mwyn hyrwyddo ymestyn yn sylweddol yr isadeiledd gwefru trydanol i gerbydau trydan sydd mawr ei angen.

19:05

Wel, dim ond i bwysleisio pwysigrwydd yr hyn rŷn ni'n ei gyflwyno heddiw er mwyn hyrwyddo ymestyn y gyfundrefn, yr isadeiledd, y gwefru yna ar gyfer ceir trydan. Rŷn ni'n moyn gweld fwy o geir trydan yn cael eu defnyddio a'n cymunedau ni yn gallu cymryd y penderfyniad i drosi i gar trydan.

Ac fel dwi wedi dweud yn fy nghyfraniad i ar y gyllideb yr wythnos diwethaf, pe byddech chi wedi bod yma, Reform—fe ddywedais i bryd hynny ein bod ni'n ystyried camau pellach i fynd a hyrwyddo defnydd o drethi busnes er mwyn lleihau byrdwn trethi busnes ar fusnesau yng Nghymru, ac mae yna gamau nesaf i'w cymryd ar hynny, ond, am heddiw, y rheoliadau ar wefru trydan.

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2026

Eitem 9, Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2026. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig. Diolch.

Cynnig NDM9369 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel rydych chi'n ei ddweud, addasiad i Atodlen 1 o'r rheoleiddiad 2026—cais i wneud hynny ydy'r rhain. Felly, dwi'n cynnig yn ffurfiol y rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, a dwi'n argymell bod y Senedd yn cefnogi Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2026, ac rwy'n gofyn i Aelodau i gefnogi rheoliadau yn hwyrach heddiw.

19:10

Diolch. Does gen i neb sydd eisiau siarad ar yr eitem yma, felly dwi ddim yn siŵr a ydych chi eisiau cario ymlaen i lenwi'r pum munud, neu ydych chi'n fodlon inni symud ymlaen?

Wel, mae'n hwyr yn y dydd ac mae'r diwrnod wedi bod yn reit brysur. Y cwbl sydd gen i i'w ddweud yw fy mod i'n falch bod y rheoliadau yn mynd trwodd; doedden nhw ddim yn gynhennus na dadleuol, a dwi ddim yn synnu nad oes unrhyw wrthwynebiad.

Diolch yn fawr iawn. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A diolch yn fawr iawn i chi, Gwnsler Cyffredinol, am aros mor hir.

11. Cynnig i ddiswyddo'r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 6.27

Symudaf ymlaen, felly. Gan nad oes unrhyw beth i bleidleisio arno o dan eitem 10, symudaf ymlaen i eitem 11, cynnig i ddiswyddo'r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 6.27. Galwaf ar Helen Jenner i wneud y cynnig. 

Cynnig NNDM9374 Helen Jenner, Laura Anne Jones, Llŷr Powell, Cai Parry-Jones, Francesca O'Brien, Stephen Senior, Cristiana Emsley, Iain McIntosh, Jason O'Connell, Steven Rodaway

Cefnogwyd gan David Hughes, Joe Martin, Steve Bayliss

Cynnig bod y Senedd: 

Yn unol â Rheol Sefydlog 6.27, yn penderfynu diswyddo'r Llywydd. 

Cynigiwyd y cynnig.

19:15
19:20
19:25
19:40
19:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pump Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

12. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidleis ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Helen Jenner, Laura-Anne Jones, Llŷr Powell, Jason O'Connell, Stephen Senior, Iain McIntosh, Cai Parry-Jones, Cristiana Emsley, Francesca O'Brien a Steven Rodaway. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dau ddeg naw o blaid, ymatal dim, yn erbyn 55. Mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 11. Cynnig i ddiswyddo'r Llywydd yn unol Ô Rheol Sefydlog 6.27: O blaid: 29, Yn erbyn: 55, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:46.