Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso nôl. Rydyn ni'n symud yn syth i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1 [OQ64914], James Evans, tynnwyd yn ôl. Cwestiwn 2, Andrew R.T. Davies. 

Adolygiad COVID-19

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad o ran cyflawni adolygiad COVID-19 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru? OQ64931

Mi gafodd hanes ei greu, a hynny efo dewrder a dygnwch rhyfeddol. Llongyfarchiadau enfawr i chi. 

13:35

Un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn anrhydeddu pawb sydd wedi'u heffeithio gan COVID yw sicrhau bod eu profiadau yn arwain at newid parhaol. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod profiad bywyd yn llywio'r adolygiad. Brif Weinidog, a allwch chi roi sicrwydd i bobl ledled Cymru y bydd eu lleisiau yn helpu i lunio casgliadau'r adolygiad yn ogystal â'r camau ymarferol a gymerwn i wneud Cymru yn fwy gwydn ac i baratoi ar gyfer y dyfodol?

Mae yna bwynt pwysig wedi cael ei wneud yn y fan yna, Lywydd, sef yr angen i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed. Mi fydd y panel, dan gadeirydd annibynnol, yn gweithredu yn annibynnol o'r Llywodraeth ac yn penderfynu eu hunain sut orau i weithio efo'r bobl hynny a'r grwpiau hynny sydd wedi cael eu heffeithio ac sydd am rannu o'u profiad nhw. Mi fydd profiad bywyd pobl yn rhan bwysig iawn o'r adolygiad hynny. Ein disgwyliad ni ydy y bydd y panel yma yn ymestyn mor eang ag y gall o er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cyfrannu eu safbwyntiau nhw.

Adfywio a Diogelwch Tomenni Glo

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith adfywio a diogelwch tomenni glo mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan orffennol diwydiannol Cymru? OQ64956

13:40
13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Galwaf yn gyntaf ar arweinydd Reform UK, Helen Jenner. Dyw hi ddim yn bresennol. Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates. 

13:50
13:55
Camwybodaeth cyn Etholiadau

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag camwybodaeth cyn etholiadau yng Nghymru? OQ64922

14:00

Ni ofynnwyd cwestiwn 6 [OQ64939].

Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ64957].

Capasiti Canolfannau Data

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o angen Cymru am gapasiti canolfannau data? OQ64960

14:05

Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OQ64916].

Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol

10. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi ar gydnabod Diwrnod Ewropeaidd Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol? OQ64962

Dŷn ni'n cydnabod pwysigrwydd Diwrnod Ewropeaidd Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol. Mae ffocws eleni ar adrodd yn foesegol yn y cyfryngau yn atgyfnerthu pa mor bwysig ydy hi ein bod ni'n diogelu hawliau a phreifatrwydd plant. Mae ein sylw ni ar weithredu'n barhaus, wrth gwrs, i atal cam-drin plant yn rhywiol, cryfhau'r mesurau diogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, a bydd hynny'n cael ei ategu gan ein strategaeth genedlaethol ni, a fydd yn para am 10 mlynedd.

Gofal mewn Coridor

11. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gofal mewn coridor yng ngogledd Cymru? OQ64917

14:10

Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn ymrwymo i ddod â gofal mewn coridorau i ben, ac yn croesawu'n fawr cyhoeddiad Llywodraeth Plaid Cymru yr wythnos hon i wneud hynny erbyn 2029. Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth dwi'n ei dderbyn gan etholwyr fod hyn yn parhau'n her yng ngogledd Cymru. Braf, felly, yw gweld Llywodraeth yn gweithredu ar frys i'w ddatrys.

Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo mi y byddai cyflawni'r targed hwn nid yn unig yn golygu bod pob claf yn derbyn y driniaeth briodol, mewn modd urddasol, ond y byddai hefyd yn gwella amgylchedd a diwylliant gwaith i'r staff anhygoel o fewn y gwasanaeth iechyd sydd wedi wynebu amodau gwaith heriol yn rhy aml yn y gorffennol?

Dwi'n cytuno'n llwyr efo hynny, achos dŷn ni'n amlwg yn rhoi'r sylw yn bennaf ar y claf a'r driniaeth mae'r claf yn ei gael, ond mor aml dwi'n teimlo dros y staff, fel y dywedais i eiliad yn ôl, sydd yn gwybod eu bod nhw yn gorfod darparu gofal mewn amgylchiadau sydd un ai yn anodd o ran darparu'r gofal hwnnw, neu eu bod nhw'n gwybod sydd yn disgyn llawer is na'r safon y bydden nhw'n ei ddymuno.

Dwi yn ffyddiog y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi gobaith i gleifion a staff ein bod ni ar y trywydd cywir. Oes, mae arian ynghlwm â hwn, ond mae yna hefyd newid agwedd, yn cynnwys diffinio beth yn union ydy 'gofal coridor' ac ati. Mae yna ddisgwyliad ein bod ni'n dod â'r arfer yma i ben a dyma'r Llywodraeth yn cymryd cam cynnar tuag at hynny.

Cynllun Pensiwn Gweithwyr Glo

12. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â rhyddhau cronfa'r gwarantwr ar gyfer aelodau o'r cynllun pensiwn gweithwyr glo? OQ64933

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn nawr at eitem 2, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes y Llywodraeth yr wythnos hon. Yn amlwg, mi fydd Aelodau yn ymwybodol bod yna ddadl wedi'i chyflwyno gan Reform, o ran rhyddid i lefaru. Nid yw statws hwnnw'n glir ar y funud i fi fel Trefnydd, felly dwi'n gobeithio byddwn ni'n cael eglurder o ran hynny yn fuan. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater yma. Fel byddwch chi'n ymwybodol, mae Cefin Campbell yn arwain ar y gwaith o ran strategaeth sgiliau. Mae'n berthnasol i bob portffolio, wrth gwrs. Mae'n berthnasol i'r portffolio dwi'n arwain arno fo, a phob un o'r Gweinidogion. Felly, mi wnaf i Cefin Campbell yn ymwybodol eich bod chi wedi codi hwn. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Mae'n eithriadol o bwysig, o ran cyflawni'r rhaglen llywodraethu hefyd, ein bod ni yn datblygu sgiliau mewn nifer o feysydd lle mae yna fylchau. Felly, diolch i'r Aelod am godi'r mater.

Wel, fel mae'r Aelod wedi amlinellu, mae'r DVLA yn gyflogwr pwysig yn Abertawe a'r rhanbarth yn ehangach, a bydden ni'n disgwyl i unrhyw gynigion sy'n effeithio ar ei ddyfodol gydnabod y pwysigrwydd economaidd hwnnw, a bydden ni'n ceisio ymgysylltu'n gynnar â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch unrhyw oblygiadau i'w gweithlu a'u gweithrediadau yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, does yna ddim cynigion ffurfiol wedi'u cyhoeddi, ac felly byddai'n rhy gynnar i wneud sylwadau ar rinweddau unrhyw fodel penodol. Er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw'r penderfyniadau ynghylch strwythur y DVLA a'r DVSA yn y dyfodol, mi fydden ni yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gael ei gynnwys yn llawn mewn unrhyw gynigion a allai effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau gyrwyr a cherbydau yng Nghymru, ac, fel gwnes i ddweud, yr effaith economaidd.

14:20

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, mater, dwi'n gwybod, fydd o bwys mawr i nifer o etholwyr am y rhesymau rydych chi wedi'u hamlinellu. Dwi'n deall gan y Gweinidog eich bod chi wedi ysgrifennu ato fo ar y mater hwn. Mae o'n ymwybodol a dwi'n deall y bydd o'n cysylltu â'r byrddau iechyd yn gofyn am ddiweddariad.

Wel, diolch i'r Aelod am godi mater dwi'n siŵr sydd o bwys mawr i bob un Aelod yma. Mae'r dioddefaint dyngarol pellach yn Gaza yn dilyn y glaw trwm a'r llifogydd diweddar yn anghrediniol o sobor a difrifol dros ben. Dydy'r cyfyngiadau parhaus ar gymorth rhyngwladol ddim yn help i neb, ac mae angen i'r gymuned ryngwladol a phawb sydd gyda llais yn hyn gynyddu'r momentwm wrth geisio rhoi diwedd ar ddioddefaint pobl yn Gaza a chyflymu'r ateb dwy wladwriaeth.

Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod darparu cymorth rhyngwladol y tu allan i gylch gwaith datganoledig Llywodraeth Cymru, ac ymateb i argyfwng rhyngwladol Llywodraeth Cymru ydy drwy gefnogi, fel arfer, pwyllgor argyfwng trychineb yng Nghymru. Os bydd y pwyllgor yn lansio apêl, bydd cyfraniad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ystyried bryd hynny yng nghyd-destun blaenoriaethau cyllido a'r gyllideb sydd ar gael. Ond, yn sicr, o ran defnyddio ein llais rhyngwladol fan hyn fel Senedd, fel rydym ni wedi'i wneud fel Senedd, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i godi llais dros ddioddefaint yn Gaza.

Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wrth i ymgyrch arbennig Athletau Cymru Ein Nos Ni ddirwyn i ben am flwyddyn arall? Yn ddiweddar, ces i'r fraint o gyfarfod efo Gwen o Môn Girls Run i drafod y profiadau gwael maen nhw wedi'u cael fel grŵp wrth redeg yn y tywyllwch ers i'r clociau droi. Roedd hynny'n cynnwys ceir yn bipio, pobl yn chwibanu a rhai dynion diarth hyd yn oed yn rhedeg ochr yn ochr â nhw. Ni ddylai merched orfod newid eu harferion na chyfyngu ar eu gweithgarwch corfforol am fod y nosweithiau'n tywyllu, a dwi'n falch o'r gwaith mae grwpiau fel Môn Girls Run ac Athletau Cymru yn ei wneud i dynnu sylw at y profiadau hyn a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau. Gofynnaf i'r Gweinidog wneud datganiad yn nodi gwerth y gwaith sydd wedi'i gyflawni dros yr wythnosau diwethaf, ac yn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod merched yn gallu ymarfer corff yn ddiogel drwy gydol y flwyddyn.

14:25

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Fel Aelod o wrthblaid mi wnes i noddi noson gan Athletau Cymru yn tynnu sylw at yr ymgyrch bwysig hon flwyddyn yn ôl. Fel Gweinidog, dwi wedi datgan fy nghefnogaeth i, ac mae'r Llywodraeth gyfan wedi datgan ei hymrwymiad i sicrhau bod pawb gyda'r rhyddid a'r hyder i ddefnyddio eu mannau cyhoeddus, gan gynnwys i ymarfer corff a chymryd rhan mewn chwaraeon, heb ofni aflonyddu, cam-drin na thrais. Mae hon yn ymgyrch bwysig dros ben. Mae hi'n dangos bod yna gyfrifoldeb ar bawb ohonom ni yng nghymdeithas i fynd i'r afael â hyn. Gadewch i fi fod yn glir: nid cyfrifoldeb ar ferched mo hyn; mae yna gyfrifoldeb ar bawb ohonom ni yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys nifer o ddynion a bechgyn sydd hefyd wedi bod yn cefnogi'r ymgyrch bwysig hon. Mae yna waith pellach, wrth gwrs, i'w wneud, ond mae yna ymrwymiad traws-Lywodraeth i sicrhau na ddylai unrhyw ferch orfod newid ble maen nhw'n mynd, pryd maen nhw'n gwneud ymarfer corff, na sut maen nhw'n byw eu bywydau oherwydd eu bod yn ofni am eu diogelwch neu fod y diogelwch hwnnw'n cael ei beryglu.

Diolch i'r Aelod. Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth sy'n arwain ar hyn ar ran Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae wedi clywed yr hyn rydych chi'n ei godi. Mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu ato fo efo'r esiamplau penodol hynny. Dwi'n gwybod mewn munud mae'n anodd cyfeirio atyn nhw, ond yn sicr y bydd o wedyn yn gallu edrych yn fwy manwl ar yr hyn yr ydych chi wedi'i godi.

Diolch. Mae'r Aelod yn berffaith iawn bod Grand Dèpart y Tour de France yn 2027 yn gyfle aruthrol i Gymru, gan roi Cymru o flaen cynulleidfa ryngwladol sylweddol pan fydd cymal Cymru yn dechrau yn y Trallwng ar 4 Orffennaf, a gorffen, wrth gwrs, yn ein prifddinas. Mae o'n bwysig dros ben, a dwi'n siŵr bod y sylwadau dwi wedi'u wneud ynglŷn â digwyddiadau mawr hyd yma wedi rhoi y sicrwydd i Aelodau fod hwn yn fater o bwys mawr i'r Llywodraeth hon, sicrhau'r budd mwyaf. A dyma'r math o bethau y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw cyn rhoi'r cais i mewn, yn hytrach nag edrych yn rhagweithiol.

Mi hoffwn i dalu teyrnged i waith yr Aelod o ran ymgyrchu, yn arbennig o ran y felodrom ym Maendy—rhywbeth yr oeddwn i’n ymgyrchu arno fo pan oeddwn i’n cynrychioli’r rhanbarth hwnnw o Ganol De Cymru ar y pryd. A dwi’n gwybod bod Aelodau wedi bod yn ceisio ymgyrchu am flynyddoedd lawer o ran hyn.

Mi rydych chi hefyd wedi ysgrifennu ataf i yn ddiweddar ar y mater hwn, ac mae’n glir felly mai Cyngor Caerdydd sydd angen arwain ar unrhyw gais am arian; dydyn ni ddim yn ariannu’n uniongyrchol. Mae yna arian wedi cael ei fuddsoddi gan y Llywodraeth hon o ran sicrhau gwaddol i’r Tour de France, ond, yn sicr, mi fyddwn i’n gobeithio bod Cyngor Caerdydd yn edrych ar yr hyn rydych chi wedi'i godi efo nhw.

14:30

Diolch i’r Aelod am godi’r mater yma. Yn amlwg, mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi clywed yr hyn dŷch chi wedi’i godi. A’r ymrwymiad y gallaf ei roi ydy bod hwn yn rhan o’r cynllun canser, ein bod ni’n edrych ar bob canser yng Nghymru, ac eisiau rhoi’r sylw teilwng i hynny.  

Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod ynghylch amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol. Gwyddom fod lleihau amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy’n croesawu bod byrddau iechyd yn mynd i dderbyn cyfran o’r £5.6 miliwn drwy’r rhaglen gwella niwrowahaniaeth, gyda’r nod o gynnal y gwaith o ddileu amseroedd aros o dros dair blynedd am asesiadau niwroddatblygiadol i blant.   

Fodd bynnag, rwy’n clywed fwyfwy am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar y ddarpariaeth i oedolion, gyda nifer yn adrodd am amseroedd hirfaith am asesiadau awtistiaeth. Mae pryder hefyd ynglŷn â’r bobl ifanc hynny sydd ar hyn o bryd yn aros am asesiadau drwy’r system gwasanaethau plant, ac a allai gyrraedd 18 oed cyn dod yn agos at frig y rhestr aros. Felly, byddai datganiad yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi byrddau iechyd i reoli’r broses bontio honno, yn enwedig pan fo gwasanaethau oedolion eisoes yn wynebu amseroedd aros mor hir, o ddiddordeb i Aelodau yn y Siambr heddiw—efallai ddim heddiw, ond yn y Siambr hon—ac i’r rhai sy’n gweithio ar lawr gwlad. Diolch.

Diolch i’r Aelod am godi pwyntiau o bwys mawr, ac am eirioli mor gadarn dros bwnc dwi’n gwybod y bydd nifer ohonom ni wedi derbyn lot mawr o ohebiaeth gan etholwyr amdano fo, ac wedi eirioli ein hunain ar ran etholwyr oherwydd y diffygion hynny. A dyna’n sicr ydy’r gwaith sydd yn mynd rhagddo gan y Llywodraeth hon, i fod yn edrych sut y gallwn ni sicrhau’r gwella hwnnw, gan gydnabod bod y sefyllfa fel y mae hi rŵan ddim fel y dylai hi fod.

Mae yna sialensiau mawr oherwydd yr amseroedd aros hynny, fel rydych chi wedi’i amlinellu o ran yr asesiadau hynny, ac mi fyddwn ni yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid i weld pa wella gall fod, oherwydd mae’n rhaid bod yna wella, a dyna ymrwymiad y Llywodraeth hon.  

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mi wnaf i'n sicr wneud y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn ymwybodol o'r hyn rydych chi wedi ei amlinellu. Dwn i ddim a ydych chi wedi ysgrifennu ato fo hefyd, ond yn sicr, os nad ydych chi, mi fyddwn i yn gofyn i chi wneud hynny. Ond fel y gwnes i ei ddweud, mi fyddaf i'n ei wneud o'n ymwybodol. Rydych chi wedi creu darlun byw iawn o'r heriau y mae hyn yn ei greu i etholwyr, felly diolch i chi am godi'r mater.

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2027-28

Symudwn ymlaen i eitem 3, dadl ar ddatganiad: cyllideb ddrafft 2027-28. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Mae'n fraint.

Mae ffigurau'r gyllideb hon wedi cael eu cadarnhau gan Ganghellor y Deyrnas Gyfunol yng nghyllideb yr hydref dair wythnos yn ôl. Mae toriad o 0.5 y cant mewn termau real i'n cyllideb adnoddau yn 2027 a 2028, a thoriad termau real o 10 y cant yn ein cyllideb gyfalaf rhwng nawr a 2029-30. Mae hyn mewn cyd-destun o ansicrwydd byd-eang, sy'n parhau i effeithio ar dwf a chwyddiant ledled y Deyrnas Gyfunol. Ac eithrio blynyddoedd COVID, dyma'r setliad gwaethaf flwyddyn i flwyddyn ers i George Osborne, pensaer llymder, fod yn Ganghellor, yn 2014-15. Mae wedi mynnu penderfyniadau anodd iawn gan fy nghyd-Weinidogion.

Wrth gwrs, mae yna ddewisiadau wrth osod cyllidebau. Gallai Canghellor y Deyrnas Gyfunol fod wedi gwneud dewisiadau i gynyddu gwariant cyhoeddus er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau termau real i wariant, a thrwy hynny gynyddu grant bloc Cymru. Fe ddewisodd e beidio â gwneud hynny. Roedd dewisiadau ar gael i Lywodraeth Cymru hefyd, i gynyddu'r gronfa o arian cyhoeddus sydd ar gael i'w gwario trwy gynyddu trethu. Rŷn ni wedi dewis peidio â gwneud hynny. O ystyried cyfraddau llog a morgeisi uwch, byddai unrhyw gynnydd yn ein treth trafodiadau tir wedi niweidio'r farchnad dai. O ystyried ymrwymiad y Llywodraeth hon i helpu aelwydydd â'r baich costau byw sy'n wynebu cymaint o bobl, byddai ceiniog ychwanegol ar y brif gyfradd dreth incwm yn sicr wedi bod yn wrthgynhyrchiol i'r ymdrech honno, a hynny yn enwedig o ystyried nad oes gyda ni reolaeth dros drothwyon treth incwm ar hyn o bryd er mwyn diogelu pobl sy'n ennill llai o arian rhag cynnydd o'r fath.

Er hynny, mae'n bwysig pwysleisio bod y rhain yn ddewisiadau go iawn. Byddai cael £389 miliwn ychwanegol o gyllid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy geiniog ychwanegol ar gyfraddau treth incwm wedi gwneud i’r dyraniadau yn y gyllideb hon edrych yn wahanol iawn heddiw.

14:50

Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet. Byddwn fel arfer yn symud at Reform UK, ond dydyn nhw ddim yn bresennol, felly Huw Thomas i agor. 

Felly, a gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw ac, wrth gwrs, am y cyfle i drafod rhai o'r manylion y bore yma a'r cyfle i weld y datganiad ymlaen llaw? Fe fyddai yna fwy o amser wedi bod petai eraill wedi bod yma i ofyn eu cwestiynau. Mae'r dogfennau yn gynhwysfawr. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymrwymiad sydd wedi bod i fod yn agored o safbwynt y newidiadau a sut ydyn ni'n eu dehongli nhw.

15:00

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:03.

15:20

Ailymgynullodd y Senedd am 15:20, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

Diolch yn fawr iawn am eich amynedd. Diolch yn fawr iawn. Mi fyddaf yn mynd yn syth nôl at Sam Rowlands, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn i chi.

15:25

Mae rhaglen lywodraethu Plaid Cymru yn gosod amcanion a blaenoriaethau clir sy'n cael eu cefnogi gan yr amlen gyllidol hon. Mae'r stori yn un o adnabod heriau, o ddangos ymroddiad ac uchelgais, o ddatblygu polisïau beiddgar ond realistig fydd yn symud ein cenedl gam yn nes at oresgyn rhai o anghyfiawnderau mwyaf heddiw.

Er gwaethaf degawdau o fuddsoddiad, mae lefelau tlodi plant yn warthus o uchel, eistedda Cymru ar waelod tablau safonau addysg PISA unwaith eto, ac mae'r argyfwng costau byw yn peri pryder a gofid i lawer gormod o aelwydydd ledled y wlad. Dyna pam rwyf yn cymeradwyo agwedd y Llywodraeth i wneud pethau'n wahanol gyda'r gyllideb hon: buddsoddi yn fwy strategol, gyda ffocws ar allbwn, nid ar faint y gwariant ei hun; cydnabod bod ffyrdd mwy cynhyrchiol a mwy effeithlon o redeg Llywodraeth ei hun a dynodi cyllid i wireddu'r uchelgais honno; ac edrych o'r newydd ar bron i 1,000 o linellau gwariant, gan ofyn y cwestiwn, 'A ydy'r cyllid cywir yn mynd i'r maes cywir am y rhesymau cywir?' Dyma themâu sy'n gyffredin drwy gydol y gyllideb hon, a dyna pam ei bod hi'n stori afaelgar o Lywodraeth sy'n benderfynol o beidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol.

15:30
15:35
15:40
15:45

Yn gyntaf, ar gyfer fy mhlaid—ond dwi ddim yn arweinydd ers ddoe, wrth gwrs—dwi eisiau dweud ei fod o mor warthus bod Reform UK ddim yma i graffu ar gyllideb ar gyfer y bobl rydyn nhw'n eu cynrychioli. Mae o'n ofnadwy, a dwi ddim yn gwybod beth i ddweud, ond dwi'n siŵr y bydd o'n glir iddyn nhw, dwi'n gobeithio, bod eu sefyllfa nhw ynglŷn â'r Senedd ddim yn gallu cario ymlaen, a dwi'n gobeithio y bydd hynny'n newid.

Yn ail, allaf i ddweud fy mod i'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Gweinidog i gael yr amser heddiw i gael trafod y gyllideb yma?

Ac rydw i'n ddiolchgar iawn am hynny.

15:50
15:55
16:00
16:05

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am y gyllideb yma y prynhawn yma. Fel roedd Alun yn ei ddweud, ein job ni ydy craffu ar Lywodraeth Cymru, ac i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau yna yn cael eu gwneud yn dda. Ond i graffu, rhaid i chi fod yn bresennol, ac os nad ydych chi'n bresennol, rydych chi'n methu craffu. Mae'n warthus nad yw Reform ddim yn y Siambr y prynhawn yma i ymgymryd â'r cyfrifoldeb yna ar ddiwrnod hanesyddol, sef cyllideb gyntaf Plaid Cymru a'r cyfle cyntaf i ddangos sut y gallwn ni gyflawni dros Gymru.

Rhaid i ni nodi na fydd cyllideb gyntaf, ar ôl bron i 30 mlynedd o gyllidebau pleidiau eraill, ddim yn troi pethau rownd dros nos, ond mae'n ein galluogi ni i roi sylfeini mewn lle ar gyfer y dyfodol. Dwi'n croesawu'n arbennig y ffocws ar ganlyniadau ac ar symud tuag at atal problemau cyn iddyn nhw godi, mynd i'r afael â'r heriau wrth eu gwraidd a sicrhau bod pob punt o arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi yn y mannau cywir ar draws holl waith y Llywodraeth. Yn rhy aml, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb ar ôl i broblemau ddod yn fwy difrifol, yn fwy niweidiol ac yn fwy costus i'w datrys, yn hytrach nag ymyrryd yn gynnar.  

Mae'r setliad gan San Steffan wedi bod yn ostyngiad mewn termau real. Mae hyn wedi ei wirio'n anibynnol, ond dwi'n falch bod Llywodraeth newydd Cymru wedi gwneud eu blaenoriaethau yn glir, ac wedi cyflwyno cyllideb uchelgeisiol lle mae eu blaenoriaethau blaengar yn amlwg. Fel rhywun sydd â diddordeb mawr mewn strwythurau cyllidebol a chraffu Llywodraeth, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd yma, mae'r dull newydd o sicrhau effeithlonrwydd y Llywodraeth yn dangos bod Llywodraeth Plaid Cymru o ddifrif ynglyn â chryfhau rheolaeth ariannol.

Mae effeithiolrwydd Llywodraeth yn ymwneud â sicrhau bod Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio yn well. Dwi'n falch o weld y gronfa drawsnewid gwerth £25 miliwn i gychwyn y gwaith hwn—£5 miliwn i gefnogi trawsnewid o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon, a £20 miliwn ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach. Dwi'n gwybod hefyd bod yna bethau, fel rydyn ni wedi clywed y prynhawn yma, sy'n bwysig i ni i gyd, ac mae'n bwysig felly bod y trafodaethau yn ffrwythlon yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, yn ogystal â chraffu ystyriol a chadarn.

Fel y dywedais, mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol gyda chyllideb gyntaf Plaid Cymru. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei rhaglen, ac at weld llawer mwy o gyllidebau Plaid Cymru yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. I'll try to talk and not be distracted by the echo next to me from the void left by Reform, but if you do see me bat away some tumbleweed as I'm talking, please do bear with me.

Er mai cenedl fach ydym ni, rydym ni'n rym diwylliannol mawr. Felly, rwy'n falch iawn i weld fod y Llywodraeth yn bwriadu nid yn unig hyrwyddo diwylliant a chwaraeon, ond hefyd eu defnyddio i adeiladu cymunedau bywiog a chydlynus, gwella canlyniadau iechyd a chyfoethogi dysgu, yn ogystal â chydnabod y cyfraniad enfawr y gall hyn ei wneud i economi Cymru ac i'n hyder ni fel cenedl.

Mae gyda ni gyfle gwych i arddangos Cymru i'r byd, gyda'r Tour de France a'r Ewros yn 2028 ar y gorwel. Rwy'n falch gweld buddsoddiad yn cael ei wneud i gyflawni hynny, ond mae’n galonogol hefyd gweld buddsoddiad ar lefel leol. Bydd cyflwyno'r rhaglen Nofio Ysgol ledled Cymru gyda £3 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf yn helpu i gynyddu gweithgarwch corfforol, meithrin hyder a chefnogi iechyd ataliol. Rwy'n arbennig o falch hefyd o weld llawr ariannu isafswm o 2.5 y cant ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.

16:10

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Mae yna newidiadau yn y gyllideb yma. Dwi eisiau cyfeirio at rai ohonyn nhw yn syth. Mae’r rhain yn newidiadau strwythurol ac yn symud yn y gyllideb oherwydd ambell i newidiadau i'r baselines a newidiadau cyfrifoldebau, a rhai newidiadau strwythurol y byddaf i'n sôn amdanynt nes ymlaen. Fe wnaeth Darren Millar yn ei gyfraniad gyfeirio at y gostyngiad i'r gyllideb amaeth, ac wedyn y gyllideb dwristiaeth. Mae yna esboniadau i rai o'r newidiadau yma, ac fe fydd y broses sgrwtini yn caniatáu hwnna i gael ei amlygu. Mae yn y ddogfennaeth fanwl, a dwi'n gwerthfawrogi nad yw Aelodau ddim wedi cael cyfle i edrych ar hwnnw—y wybodaeth fanwl sydd yn dod gyda'r gyllideb.

Mae yna sawl mater sydd wedi cael eu codi sawl gwaith gan Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma. Yn gyntaf, fe wnaf i droi at anghenion dysgu ychwanegol. Roedd y cytundeb ar yr ail gyllideb atodol wedi caniatáu gwario, fel mae pawb yn gwybod, £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol eleni. Cyllid am flwyddyn oedd hwnnw, a doedd e ddim wedi’i osod yn y llinell sylfaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod. O fewn y gyllideb ddrafft yma, felly, rŷn ni'n diogelu'r cyllid penodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol sydd eisoes yn y gyllideb ac yn cynyddu'r setliad llywodraeth leol mewn termau real sy'n ariannu ein hysgolion, sy'n hynod bwysig, wrth gwrs.

Ond dim ond dechrau'r broses yw'r gyllideb ddrafft yma, ac fe fyddwn i'n croesawu trafodaethau gyda phleidiau eraill a mudiadau tu allan i'r Senedd yma ynglŷn â sut mae datblygu ymhellach y cynllun cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn gwybod ein bod ni, yn yr ail gyllideb atodol, wedi clustnodi £1.5 miliwn ar gyfer datblygu cynllun hirdymor i'r gwaith yna.

Mae yna gwpwl o faterion manwl hefyd. Gwnaeth Huw Thomas gyfeirio at newidiadau cyllidol i'r gwasanaeth tân. Mae hwnna'n symud i fan arall yn y gyllideb mewn perthynas â llywodraeth leol. Ac i gadarnhau i Lynne Neagle, o ran iechyd meddwl mewn ysgolion, does dim gostyngiad yn y gyllideb yna. Eto, mae hwn yn cael ei drosglwyddo i gyfrifoldeb BEL gwahanol. Ond daw'r materion yma yn gyhoeddus ac yn amlwg i bawb wrth i'r sgrwtini fynd yn ei flaen.

O ran y sylwadau sydd wedi cael eu rhoi ar gyflogadwyedd ac adolygiad Milburn heddiw, fel y dywedais i yn fy nghyflwyniad, gweithio gyda graen adroddiad Milburn mae'r Llywodraeth yma yn moyn ei wneud. Mae'r Gweinidog wedi dweud eisoes taw cryfhau'r ochr demand sydd angen blaenoriaeth nawr er mwyn darparu cyfleoedd i bobl ifanc, ac mae hwnna yn ysbryd yr hyn yr oedd Milburn ei hunan yn ei ddweud heddiw. Yn y gyllideb yma, rŷn ni'n dal yn clustnodi arian ar gyfer y dulliau mwyaf traddodiadol o gefnogi pobl ifanc drwy hyfforddiant a chefnogaeth, ond rŷn ni angen outcomes gwell ar gyfer ein pobl ifanc ni. Ac rŷn ni fel Llywodraeth eisiau gweithio'n bositif gyda Llywodraeth San Steffan ar wneud ein cyfraniad ni yma yng Nghymru i ostwng graddfa NEET yma, fel y mae hi, o 13 y cant ar draws gwledydd Prydain ar hyn o bryd i 5 y cant, fel mae Milburn wedi sôn heddiw, erbyn 2036. 

Dwi yn derbyn y pwynt wnaeth Lynne Neagle ynglŷn â'r pwysau ar gyllideb Medr. Mae gyda ni faterion dyrys a phwysig i edrych arnyn nhw o ran addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru, ac mae cyllideb Medr yn amlwg yn hyrwyddo'r agweddau yna o waith. O ran yr hyn a ddywedodd Lynne am y cynnydd yna sydd yn y myfyrwyr mewn addysg bellach, ac sydd angen ei weld, mae hwnna'n rhywbeth i'w groesawu, ond mae angen inni edrych ar sut rŷn ni’n ei ariannu e, ac wedyn y problemau rŷn ni’n eu clywed sydd yn rhai o’n prifysgolion ni ynglŷn â recriwtio is sydd yn digwydd ym mhrifysgolion a’r pwysau ariannol arnyn nhw. Felly, fe fydd yna drafodaeth, dwi'n siŵr, ynglŷn â sut rŷn ni’n symud ymlaen i fod yn cyrraedd sefyllfa lle rŷn ni'n gallu ariannu a chefnogi y sectorau pwysig yma, sef addysg uwch ac addysg bellach, yn y Llywodraeth yma.

I ymateb i’r materion a godwyd ar drethi gan Sam Rowlands, does yna ddim cynnydd i dreth trafodiadau tir yn y gyllideb yma, na chwaith yr hyn roedd Sam yn cyfeirio ato, sef gostyngiad. Felly, dyna sefyllfa'r gyllideb o'n blaenau ni o ran trethi busnes, wrth gwrs. Fe wnes i sôn ein bod ni'n edrych i glustnodi, cyn y gyllideb derfynol, arian ychwanegol i gefnogi busnesau ac i ostwng trethi busnes, a dwi'n awyddus iawn i drafod sut mae blaenoriaethu’r gwariant hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n cefnogi busnesau a chymunedau ar draws Gymru.

Mae nifer wedi codi materion rhyngwladol. Mae'r gyllideb ar gyfer materion rhyngwladol yn ei chyfanrwydd nawr yn cael ei throsglwyddo at gyfrifoldeb y Prif Weinidog, ac fe fydd cyfrifoldeb byd-eang, global responsibility, yn rhan allweddol o'r cynllun newydd rhyngwladol y bydd y Prif Weinidog yn ei gyhoeddi maes o law. Ac yn benodol ar Maint Cymru a'i chynllun coedwigo'n Affrica, mi oedd y cynllun yma yn dod i ben ym Mawrth 2027, ond mae trafodaethau yn parhau rhwng y Llywodraeth a Maint Cymru i ddatblygu’r drafodaeth yna ymhellach ynglŷn â dod â'r cynllun yna i ben.

O ran yr asiantaeth datblygu economaidd y gwnaeth Darren Millar gyfeirio ati, cadarnhaf taw’r asiantaeth yma fydd yn gyfrifol am yr holl gefnogaeth cefnogi a hybu busnesau—busnesau newydd, busnesau sy'n tyfu yng Nghymru a'r rhai sydd eisiau cael eu denu i ddod i mewn i Gymru. Felly, yn y gyllideb ar gyfer y gwaith datblygu economaidd a chreu'r asiantaeth yma, bydd yna waith i hyrwyddo a chefnogi busnes yn cael ei sianelu drwy'r asiantaeth newydd, ac unwaith eto, bydd yna fwy o fanylion yn y cyfnod sgrwtini ar y datblygiadau pwysig yna sydd yn rhan o ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Plaid Cymru. Rwy'n falch clywed y gefnogaeth mewn egwyddor sydd gan y Torïaid i weld y gwaith yma yn datblygu ymhellach.

16:20
4. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Diweddariad ar sefydlu Unnos—Corff datblygu cenedlaethol newydd a hwylusydd tai cymdeithasol

Symudwn nawr at eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr iawn. Lywydd, cartref diogel, cynnes a fforddiadwy ydy sylfaen bywydau pobl. Mae o'n cefnogi iechyd da, yn rhoi sefydlogrwydd i blant ac yn rhoi diogelwch i bobl weithio, cymryd rhan yn eu cymunedau a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030.

I gyflawni'r uchelgais honno, rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Mae buddsoddiad yn hanfodol, a dwi'n arbennig o falch o gyhoeddiad pwysig y Gweinidog cyllid y prynhawn yma yn y maes tai. Ond mae angen mwy nag arian i adeiladu cartrefi. Ledled Cymru, mae materion tir, gofynion cynllunio, cyfyngiadau o ran seilwaith, pwysau o ran hyfywedd, heriau caffael a phrinder sgiliau arbenigol yn gallu arafu neu stopio cynlluniau tai da.

Yn rhy aml, mae'r arbenigedd sydd ei angen i oresgyn y rhwystrau hynny yn dameidiog, gyda gwahanol bartneriaid yn wynebu'r un problemau yn annibynnol. Unnos ydy ein cyfle ni i newid hynny. Dyma gorff datblygu cenedlaethol a galluogwr tai cymdeithasol newydd, sy'n canolbwyntio'n ddiflino ar un amcan: helpu Cymru i ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd da, ond hefyd yn gyflymach.

Bydd Unnos yn sefydliad sy'n datrys problemau ac yn datgloi safleoedd. Un sy'n dwyn ynghyd arbenigedd pan fydd safleoedd yn segur, yn cryfhau capasiti lle mae sgiliau arbenigol yn brin ac yn nodi atebion yn genedlaethol. Yn bwysicaf oll, rhaid iddo fo weithio ochr yn ochr â'n partneriaid cyflawni, nid cystadlu â nhw.

Dyna pam dŷn ni'n symud ymlaen mewn dwy ffordd. Dŷn ni eisoes yn gweithredu rhaglen waith Unnos, sy'n golygu bod yr adnoddau presennol yn cyd-fynd â'n hegwyddorion, hyd yn oed tra bo'r model gweithredu yn cael ei ddatblygu. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys nodi safleoedd presennol fel blaenoriaethau ar gyfer ymyrraeth gynnar. 

Ar yr un pryd, rydyn ni'n datblygu'r achos amlinellol strategol i bennu'r swyddogaethau, y llywodraethiant a'r ffurf sefydliadol fwyaf effeithiol ar gyfer Unnos yn y tymor hwy. Mae hyn yn golygu y gallwn ni weithredu heb oedi tra'n bod ni'n dylunio'r sefydliad. Rhaid i'w ffurf yn y dyfodol gyflawni’n swyddogaethau, y swyddogaethau y mae Cymru angen iddo eu cyflawni.

Dŷn ni wedi comisiynu partneriaethau lleol i helpu i weithredu rhaglenni, cefnogi ymyriadau posibl a datblygu'r achos amlinellol strategol a'r map trywydd. Bydd ymgysylltu efo awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a phartneriaid cyflawni eraill yn rhan ganolog o'r gwaith hwn. Bydd eu profiad yn ein helpu i nodi lle gall ymyrraeth genedlaethol wneud y gwahaniaeth rhwng cynllun yn dod i stop a chartrefi'n cael eu hadeiladu.

Mae ein rhaglen gychwynnol yn canolbwyntio ar dir a phiblinell, cynllunio a’r cyfnod cyn adeiladu, seilwaith, cyllid a buddsoddi, caffael a chapasiti adeiladu. Dŷn ni eisoes yn gwybod yr hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy gydweithredu. Mae'r llyfr patrymau Tai ar y Cyd wedi dod â 25 o landlordiaid cymdeithasol at ei gilydd o amgylch dulliau cyffredin o ddarparu cartrefi pren sy'n perfformio'n dda, tra bo'r canllaw gweithredu tai gwledig a'r llawlyfr cartrefi gwag i Gymru yn adnoddau defnyddiol i helpu i sicrhau newid.

Gallwn ni ddysgu gan dîm tir Llywodraeth Cymru ei hun, sydd wedi dangos gwerth dod ag arbenigedd at ei gilydd lle mae materion tir, cynllunio, hyfywedd neu seilwaith yn cyfyngu ar ddatblygu. Mae Unnos yn rhoi cyfle inni ddatblygu'r gwersi hynny ymhellach: gweld y biblinell dai ar raddfa genedlaethol, nodi rhwystrau yn gynharach, rhannu arbenigedd ac ymyrryd lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Dwi hefyd eisiau bod yn glir y bydd llwyddiant Unnos yn cael ei farnu ar yr hyn y mae o'n ei gyflawni. Ydy o wedi datgloi tir? Ydy o wedi helpu cynlluniau sydd ar stop i symud ymlaen i'r cam adeiladu? Ydy o wedi lleihau dyblygu a chryfhau gallu ein partneriaid i gyflawni? Ac yn y pen draw, a ydy o wedi helpu i ddarparu cartrefi mwy fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol i bobl a chymunedau ledled Cymru? Dyna'r profion sy'n bwysig.

Mae gennyn ni gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tai yng Nghymru. Mae eu cyflawni yn gofyn am uchelgais gan y Llywodraeth hefyd. Mae'n golygu bod yn barod i ymyrryd, dod â'r arbenigedd cywir at ei gilydd a dod o hyd i atebion ymarferol i rwystrau sy'n atal datblygu. Dyna'r uchelgais i Unnos. Dim cymryd lle ein partneriaid tai, ond eu grymuso. Corff cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar gyflawni, nid nodi rhwystrau, ond helpu i'w chwalu. Mae ein pwrpas yn un syml: troi mwy o gyfleoedd yn safleoedd, mwy o safleoedd yn gartrefi a mwy o gartrefi yn gymunedau cryf a chynaliadwy. Dyna beth dwi'n ei ddisgwyl i Unnos ein helpu i gyflawni. Diolch.

16:25
16:35

Diolch yn fawr iawn am eich sylwadau chi yn fanna ac, i fod yn hollol glir, rydym ni'n gweithredu Unnos rŵan. Mae rhaglen Unnos yn rhoi ffocws clir, o fewn Llywodraeth ar hyn o bryd, ar symud yn gyflym i ddatblygu cyflenwad o dai cymdeithasol. Dros y chwe mis nesaf, fe welwch chi fod y gwaith yna yn cyflymu wrth i ni symud ymlaen efo datblygiadau ym mhob rhan o Gymru. Mae gennym ni biblinell gychwynnol, gredadwy o brosiectau sydd yn mynd i weld golau dydd yn raddol rŵan dros y cyfnod nesaf yma. Felly, mae'r gwaith yn digwydd, ac mae'r gwaith sydd ei angen ei wneud i ddatgloi y potensial yna ac i gael gwared ar rai o'r rhwystrau, mae rhywfaint o hynny yn digwydd.

Ond mae angen i'r ffocws fod yn lot mwy clir ac mae angen cyflymu pace y gwaith er mwyn i ni wireddu'r targed rydym ni wedi gosod i ni ein hunain o 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd cyn diwedd y Senedd. Ac o fewn y 12 mis nesaf, ein nod ni ydy cwblhau'r achos busnes a'r argymhellion fydd eu hangen arnom ni fel Gweinidogion i wneud penderfyniadau ynglŷn ag Unnos i'r dyfodol. Felly, mae yna ddau beth yn digwydd. Mae gennym ni Unnos, mae gennym ni raglen lawn sydd yn gyrru pethau ymlaen. Mae rhaid i ni gyflymu hynny, a dyna ydy'r gwaith sydd yn digwydd ochr yn ochr ag o i weld beth yn union fyddai'r strwythur gorau ar gyfer y pwrpas sydd gennym ni yn fan hyn. Rydym ni'n rhannu'r pwrpas: rydym ni eisiau gweld mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl, oherwydd ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig ydy cartrefi saff i bobl yn eu cymunedau. Felly, mae'r uchelgais yn glir: gweithredu Unnos rŵan; dangos y cynnydd ymarferol dros y misoedd nesaf; a bod mewn sefyllfa i wneud y penderfyniadau allweddol ar fodel tymor hwy o fewn 12 mis.

Roeddech chi'n holi am ganoli a pheidio dyblygu ac yn y blaen. Wel, wrth gwrs, mi fydd y gweithredu yn dal i ddigwydd ar lefel cynghorau sir, ar lefel cymdeithasau tai, ar lefel rhanbarthol, ar lefel lleol. Fyddwn ni ddim yn ymyrryd yn y system gynllunio. Mae asesiadau tai lleol yn bwydo mewn i'r broses gynllunio sydd yn dangos, yn y cynlluniau datblygu lleol, beth ydy'r angen am dai ac ym mha leoliad, felly dydy hwnna ddim yn rhan o'r peth. Ond mi ydym ni yn mynd i fedru defnyddio Unnos i weld beth ydy'r rhwystrau cynllunio mewn rhai datblygiadau i'r dyfodol, a sut i gael pawb at ei gilydd i wneud yn siŵr bod datblygiadau yn digwydd yn amserol.

Roeddech chi'n holi hefyd am y cysylltiad efo'r asiantaeth datblygu genedlaethol. Yn amlwg, mi fydd y gwaith rŵan o ddatblygu'r achos busnes amlinellol ar gyfer Unnos yn digwydd mewn cydweithio efo'r Gweinidog economi a mentergarwch, ac mi fydd angen gweld sut bydd y berthynas rhwng y ddau gorff yn gallu datblygu ar gyfer gwneud y mwyaf o'r sefyllfa.

16:40

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cytuno efo chi ar y pwynt yna. Nid cwango arall, nid cwango o gwbl—nid dyna ydy'r pwrpas efo edrych ar achos amlinellol strategol ar gyfer Unnos. Yr holl bwrpas ydy creu mwy o gartrefi clyd, fforddiadwy, diogel ar gyfer ein pobl ni. Dyna—dwi'n cytuno efo chi—fydd yn mesur llwyddiant Unnos. Ar hyn o bryd, mae gennym ni biblinell o gartrefi yn y system—piblinell gadarn—ond dydyn ni ddim yn mynd i fod yn cyflawni'r hyn rydym ni eisiau ei wneud fel Llywodraeth. Rydym ni eisiau gweld diwedd ar ddigartrefedd, rydym ni eisiau gweld diwedd ar bobl yn byw mewn llety dros dro, a dod â'r rhestrau aros am gartref cymdeithasol reit i lawr. Felly, dyna fydd y meini prawf a fyddwn ni wedi llwyddo yn y dyfodol.

Mae'n rhaid cael y momentwm o fewn corff hyd braich o Lywodraeth. Mae yna gymaint o fanteision a ddaw allan, gobeithio, wrth i'r achos amlinellol strategol gael ei roi at ei gilydd. Mae yna swyddogaethau posib ar gyfer Unnos: adnabod tir, cydosod, broceriaeth, caffael a di-risgio safleoedd, cynllunio, rheolau prosiectau, a chymorth cyn adeiladu. O ran cynllunio, wrth gwrs, bydd y penderfyniadau cynllunio'n cael eu gwneud yn ôl y drefn arferol, ond, o adnabod safle, o ddod â phawb o gwmpas y bwrdd yn gynt yn y broses cynllunio, does bosib y byddwn ni'n gallu cyrraedd at benderfyniad cynllunio cymaint â hynny yn gynt, ac felly, yn gallu symud y prosiect yn ei flaen a chreu cartrefi ar gyfer ein pobl ni.

Swyddogaethau posib eraill: cyd-gysylltu seilwaith a gwaith galluogi o ran y seilwaith. Mae'r seilwaith yn aml, onid ydy—. Mae problemau hefo seilwaith o ran dŵr, o ran gwaith carthffosiaeth, ac yn y blaen—mae pethau fel yna'n gallu dal prosiectau'n ôl. Rhoi ffocws clir ar y safle a'r gwaith datgloi sydd angen digwydd cyn bod y datblygiad yn gallu mynd yn ei flaen.

Cyllid a buddsoddiad: rŵan, dwi'n gweld hwn fel rôl bwysig iawn i Unnos—hwyluso mynediad at gyllid a buddsoddiad. Ni fydd y grantiau'n ddigon i gyflawni'r hyn rydyn ni eisiau; mae'n rhaid inni ffeindio ffyrdd arloesol o ddod â chyllid a buddsoddiad newydd i mewn i'r sector. Cymorth caffael a chysylltiadau rhwng prosiectau, contractwyr, cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau: edrych yn genedlaethol i weld sut mae cyd-weithio'n gallu digwydd yn well rhwng contractwyr a chyflenwyr a chreu'r cadwyni cyflenwi yma, ac yn y blaen. Mae yna nifer o swyddogaethau eraill posib y gellid fod yn eu harchwilio ar gyfer eu cynnwys.

Fel rydych chi'n ei ddweud, os ydy Unnos yn ein galluogi ni i fod yn hwyluso darparu mwy o gartrefi a gwneud hynny'n gyflymach, wel, mae hynna'n beth da, onid ydy? Ac rydych chi wedi croesawu hynny. Felly, dwi'n gobeithio y byddwch chi'n gweld mai dyna ydy bwriad y Llywodraeth yma—gyrru hynny ymlaen. A dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o drafodaethau adeiladol efo chi ynglŷn â'r holl raglen yma. Diolch.

16:45

Fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, mae'n amlwg bod yna heriau mawr yn wynebu'r sector tai ledled Cymru, felly, mae defnyddio Unnos fel galluogwr tai cymdeithasol yn rhywbeth i'w groesawu. Yn ystod ein hymchwiliad diweddar i gartrefi gwag, roedd e'n amlwg bod prosesau yn y sector yn parhau i fod yn gymhleth ac yn ddryslyd, felly, rwy'n obeithiol y bydd Unnos yn gallu helpu gyda'r ffactorau hynny.

Her yn fy etholaeth i—ac mae e'n siomedig iawn nad yw Aelodau Reform sy'n cynrychioli Brycheiniog Tawe Nedd yn y Siambr heddiw—her yn fy etholaeth, ac rwy'n siŵr ar draws Cymru, yw denu contractwyr i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig—eto'n enghraifft o'r anghydraddoldebau rhwng ardaloedd trefol a gwledig. A allai'r Gweinidog Cabinet amlinellu sut gellid defnyddio Unnos i sicrhau bod cwmnïau yn cynnig am waith adeiladu mewn ardaloedd gwledig a threfol, gan sicrhau nad yw ardaloedd gwledig yn cael eu gadael y tu ôl unwaith yn rhagor? Diolch.

Diolch yn fawr. Yn sicr, rydych chi wedi defnyddio'r term 'galluogwr', a dyna ydy sylfaen Unnos—galluogi datblygiadau; bod y galluogwr yna i droi eiddo gwag i mewn i dai cymdeithasol i gefnogi ardaloedd gwledig sydd angen modelau gwahanol i'r ardaloedd mwy trefol. Ac, yn sicr, mi all Unnos helpu sicrhau nad ydy ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl drwy fabwysiadu dull mwy strategol o ymdrin â phib linell dai ar draws Cymru. Trwy ddod â chymdeithasau tai, awdurdodau lleol a'r sector adeiladu ynghyd, mi fydd contractwyr yn gallu gweld ble mae'r gwaith a beth sydd ar y gweill, ac mi fydd Unnos yn gallu helpu cydlynu rhaglenni fel bod cynlluniau gwledig llai yn cael eu cyflwyno fel pib linell hyfyw a deniadol i fuddsoddi ynddyn nhw ochr yn ochr â datblygiadau trefol. Felly, fe fedrwch chi feddwl am becyn yn digwydd—rhywbeth mwy mewn tref, ond rhywbeth llai, efallai, yn digwydd yn yr ardaloedd gwledig, ond bod yna gydgysylltiad a bod y contractwyr yn gweithio hefo'i gilydd a'r gadwyn cyflenwi, ac yn y blaen, yn gweithredu er budd y ddau le. Felly, diolch i chi am y cwestiwn. Dwi yn wirioneddol meddwl bod gan Unnos rôl benodol i'w chwarae o ran yr ardaloedd gwledig, ond law yn llaw efo ymdrechion y cymunedau gwledig, a lle mae'r iaith Gymraeg yn fyw iawn, cymunedau yn arwain ar y datblygiadau tai. Mae yna enghreifftiau gwych o gymunedau sydd yn arloesi yn hynny o beth, ac mae hynny angen digwydd law yn llaw ag Unnos, ond yn sicr, mae'r ardaloedd gwledig angen pwyslais arbennig. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Mae sgiliau yn hanfodol, ac mae yna gyfle gwirioneddol, onid oes, yng Nghymru, i ni fod yn sgilio ein pobl ifanc ni, yn uwch-sgilio ein crefftwyr presennol ni mewn dulliau modern o adeiladu tai sydd yn ynni effeithlon, ond hefyd i retroffitio yr eiddo sydd gennym ni. Yn sicr, mae hwn yn un o'r ffrydiau gwaith y bydd Unnos yn canolbwyntio arno fo, oherwydd mae o'n gallu bod yn rhwystr ar hyn o bryd rhag datblygu'r ystadau newydd neu retroffitio eiddo gwag, er enghraifft. Mae prinder sgiliau yn broblem. Felly, dwi wedi bod yn cael trafodaethau efo'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, yn pwysleisio'r cyfle gwirioneddol sydd yna yn y maes penodol yma.

Mi rydym ni mewn peryg o fod yn colli pobl sydd wedi cael eu hyfforddi i wneud y gwaith retroffit. Mi wnaeth cynllun ECO4 Llywodraeth y Deyrnas Unedig orffen yn sydyn iawn, onid do, a dwi yn poeni ein bod ni'n mynd i golli gweithwyr sgiliedig iawn. Ond rwy'n benderfynol, drwy Unnos, ond hefyd drwy raglen retroffitio'r Llywodraeth yma—sydd, gobeithio eich bod chi wedi'i weld yn y gyllideb, yn cael hwb sylweddol, nid yn unig y tai cymdeithasol newydd, ond retroffit hefyd—bod yna gyfle. Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi, ac mae'n rhaid i ni roi'r pwyslais yna a chymryd y cyfle. Diolch.

16:55

Diolch yn fawr. Mae'n rhaid i Unnos ganolbwyntio ar le mae'r angen am dai a'r math cywir o dai, ac nid jest lle mae hi'n hawdd i adeiladu a lle mae hi'n gwneud synnwyr ariannol, efallai, ond ddim, o angenrheidrwydd, yn ateb yr union angen dŷch chi'n sôn amdano fo. Felly, dwi'n meddwl y gallai Unnos roi'r ffocws clir ar ddatblygu tai lle mae'r angen ar ei fwyaf, yn gweithio efo awdurdodau lleol, efo'r cymdeithasau tai, ac yn defnyddio'r dystiolaeth sydd allan yna'n barod drwy'r gwaith mae'r asesiadau tai, ac yn y blaen, yn dangos yn glir. Felly, ymateb i'r angen yna.

A dwi'n gorffen, jest i ddweud, mae'n rhaid i ni feddwl beth ydy'r deilliannau dŷn ni'n chwilio amdanyn nhw, nid pa fath o fudiad, pa fath o lywodraethiant, na faint o brosiectau mae o'n ymwneud â nhw, ond a fydd gennym ni lai o bobl, fel y rhai dŷch chi wedi sôn amdanyn nhw, llai o deuluoedd mewn llety dros dro, llai o amser i bobl orfod disgwyl am dai addas, llai o deuluoedd mewn gofod sydd yn rhy fach iddyn nhw, a llai o ddigartrefedd. Os ydyn ni'n gallu dweud 'Ia, dŷn ni wedi gwneud hynny', wel, dyna fydd yn profi gwerth Unnos.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru

Symudwn nawr at yr eitem nesaf, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet—Mabon ap Gwynfor. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, dwi'n lansio Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru, sef ein fframwaith polisi cenedlaethol ni ar gyfer pobl sy'n cael salwch neu anaf difrifol, y mae eu cyflwr yn gwaethygu, neu sydd angen gofal arbenigol yn yr ysbyty. Mae'r fframwaith hwn yn gam cynnar pwysig wrth gyflawni ein rhaglen lywodraethu. Mae'n nodi cyfeiriad clir ar gyfer gwell gofal argyfwng ac acíwt  ledled Cymru. Mae uchelgais y fframwaith polisi hwn yn syml: gweithredu egwyddorion Cymunedol o'r Cychwyn, symud o'r adran argyfwng i adferiad pan fo angen, a threulio amser mewn ysbyty dim ond os oes angen clinigol.

Mae ein gwasanaethau ni'n wynebu pwysau sylweddol. Y tu ôl i adroddiadau am oedi ambiwlansys, cyfnodau aros hir mewn adrannau achosion brys a chleifion yn cael gofal mewn coridor, mae pobl, teuluoedd a gofalwyr sy'n profi trallod a niwed y gellir eu hosgoi. Mae pobl sy'n byw ag eiddilwch neu ddementia, y rhai sy'n agosáu at ddiwedd oes ac eraill sy’n fregus mewn ffyrdd eraill yn gallu cael eu heffeithio'n arbennig.

I berson hŷn neu fregus, mae amser diangen yn yr ysbyty yn gallu golygu colli symudedd, annibyniaeth a hyder. Nod y fframwaith ydy atal y niwed hwnnw, diogelu urddas a chefnogi adferiad, yn hytrach na symud pobl drwy'r ysbyty yn gyflymach. I bobl yng Nghymru, mae'r ymrwymiad yn glir, sef ymateb yn gyflym pan fydd eich cyflwr yn ddifrifol; cael y gofal arbenigol cywir heb drosglwyddiadau diangen neu asesiadau dro ar ôl tro; a dychwelyd adref yn ddiogel, saith diwrnod yr wythnos, efo'r meddyginiaethau, y cymorth i adsefydlu a'r gefnogaeth rydych chi eu hangen.

Felly, beth fydd yn wahanol? Mae'r gwahaniaeth yn y ffordd y mae'n cael ei gyflawni: un llwybr gofal cysylltiedig, wedi'i drefnu o amgylch y person, efo cerrig milltir blynyddol, cyfrifoldebau sefydliadol clir, ac adroddiadau cyhoeddus am gynnydd. Mae'n rhaid gwella'r problemau sy'n gydgsylltiedig ag ymateb ambiwlansys, adrannau argyfwng, llif ysbyty a phrosesau rhyddhau cleifion o'r ysbyty efo'i gilydd, nid fel problemau ar wahân.

Dyw hyn ddim yn ymwneud â diffinio lefel dderbyniol o ofal mewn coridor. Mae'n rhaid i'r gwaith o fesur perfformiad gryfhau atebolrwydd ochr yn ochr â chyflawni egwyddorion Cymunedol o'r Cychwyn, a'r fframwaith hwn, mewn modd dibynadwy. Mae gwell gwybodaeth yn hanfodol i'r atebolrwydd hwnnw. Rydyn ni wedi cryfhau'r trefniadau adrodd am amseroedd aros mewn adrannau achosion brys drwy ddileu eithriadau clinigol. Mae hyn yn gwneud arosiadau gwirioneddol pobl yn fwy tryloyw.

Mi fyddwn ni'n barnu llwyddiant nid yn ôl gweithgarwch neu amseroedd aros yn unig, ond hefyd drwy ofyn a ydy pobl yn goroesi, yn gwella, yn cadw eu hannibyniaeth, yn cael gofal teg ac yn treulio amser yn yr ysbyty dim ond os oes angen clinigol. Mi fyddwn ni'n cyflwyno set data gofal argyfwng Cymru, a fydd yn rhoi gwell gwybodaeth i ni am y galw, pa mor ddifrifol wael ydy pobl, eu triniaeth, eu taith drwy ofal a'u canlyniadau. Mi fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn arwain y gwaith cynnar o roi hyn ar waith gan brofi rhagor o ddulliau mesur, cyn rhoi'r set data ar waith yn genedlaethol.

I gloi, dwi'n diolch i'n gwasanaeth iechyd ac i'n staff gofal am eu sgiliau, eu caredigrwydd a'u hymrwymiad o dan bwysau. Rydyn ni wedi gwrando arnyn nhw ac mae'n rhaid i ni roi'r amodau iddyn nhw gyflawni drwy wneud penderfyniadau amserol, cydweithio'n effeithiol a sicrhau ffocws clir ar gleifion.

Lywydd, mae ein huchelgais ni'n glir: gweithredu egwyddorion Cymunedol o'r Cychwyn, symud o'r adran argyfwng i adferiad pan fo angen, a threulio amser mewn ysbyty dim ond os oes angen clinigol. Y meini prawf llwyddiant ydy bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw yn gynt, yn cadw eu hannibyniaeth ac yn gwella'n ddiogel gartref. Dyna'r gwahaniaeth y mae'n rhaid i'r fframwaith yma ei wneud.

17:05
17:10

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny a thrwy ategu'r geiriau ddaru o eu dweud ar y cychwyn ynghylch gwaith caled y gweithlu yn ein hadrannau brys ac acíwt mewn amgylchiadau anodd iawn? Rydw i hefyd yn cydnabod ac yn diolch iddyn nhw am y gwaith hwnnw. 

17:15

Gaf i ddiolch hefyd i'r Aelod am y sylwadau hynny? Mae'n mynegi ei bod hi'n siomedig ei bod hi wedi clywed am rai o'r sylwadau neu'r bwriadau o flaen llaw. Byddwn i yn gobeithio ei bod hi'n croesawu'r ffaith fy mod i'n barod i fynd yn gyhoeddus, i gael fy nghraffu'n gyhoeddus er mwyn bod pobl yn deall yr hyn dŷn ni'n ei wneud, bod yn dryloyw yn ein cynlluniau ni. Dyna ydy'r bwriad a dyma'r cyfle i'r Aelod ofyn y cwestiynau yma hefyd er mwyn medru craffu a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein dal i gyfrif.

17:20
17:25
17:30
6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Adolygu'r fformiwla ariannu Llywodraeth Leol

Symudwn ymlaen i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, adolygu'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am roi'r wybodaeth diweddara i'r Aelodau am yr adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Bob blwyddyn, mae'r setliad llywodraeth leol yn dosbarthu biliynau o bunnoedd o gyllid craidd rhwng y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r awdurdodau hynny'n gwasanaethu cymunedau sydd â phoblogaethau, nodweddion ac anghenion gwahanol, ac maen nhw'n wynebu heriau gwahanol wrth ddarparu gwasanaethau lleol. Mae cyllid drwy'r setliad yn rhoi'r hyblygrwydd i'n hawdurdodau lleol i ymateb i'r anghenion a'r dyheadau lleol hynny. Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau bod y dystiolaeth sy'n sail i'r dosbarthiad hwnnw yn gadarn, yn gyfredol, ac yn adlewyrchu'r gwahaniaethau hynny yn deg.

Mi fydd poblogaeth yn ffactor sylfaenol bob amser wrth ddosbarthu cyllid. Ond all poblogaeth ar ei phen ei hun ddim adlewyrchu'n llawn y galw ar wasanaethau lleol na'r gost o'u darparu. Rhaid i'r fformiwla hefyd ystyried amddifadedd a newidiadau demograffig, yn ogystal â natur wledig a theneurwydd poblogaeth ardaloedd, ynghyd â phwysau ehangach ar wasanaethau. Mae peth o'r dystiolaeth sy'n cael ei defnyddio i adlewyrchu'r ffactorau hyn wedi dyddio'n sylweddol erbyn hyn.

Mae gan y gwaith o adolygu a diweddaru'r fformiwla ddwy ffrwd sy'n ategu ei gilydd. Y ffrwd gyntaf ydy ymchwil annibynnol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy'n ystyried yr egwyddorion a'r methodolegau ehangach sy'n sail i ddosbarthu cyllid. Mae'n archwilio dulliau sy'n cael eu defnyddio mewn llefydd eraill, y ffactorau o ran angen a chostau sy'n cael eu hadlewyrchu yn y dulliau hynny, a sut maen nhw'n cymryd materion fel natur wledig a phoblogaeth denau mewn i ystyriaeth. Mae disgwyl i'r adroddiad fydd yn deillio o'r ymchwil gael ei gyflwyno yn ystod haf 2027.

Yr ail ffrwd ydy'r adolygiad technegol manwl sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys diweddaru'r dystiolaeth, y dangosyddion, a'r pwysoliadau sy'n sail i'r fformiwla, gyda'r bwriad o gadw'r fethodoleg sy'n seiliedig ar anghenion sydd wedi'u hen sefydlu. Rydym ni wedi cyflawni ymrwymiad ein 100 diwrnod cyntaf drwy gomisiynu'r gwaith annibynnol, ac mae'r ddwy ffrwd, gyda'i gilydd, yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad ehangach yn y rhaglen lywodraethu i sicrhau bod y fformiwla yn adlewyrchu'n fwy cywir y gost wirioneddol o ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae'r adolygiad technegol yn golygu mwy na rhoi data newydd yn lle'r hen ddata. Mae proses addas briodol yn golygu adolygu'r dystiolaeth, y dangosyddion, a'r rhagdybiaethau sylfaenol, ac asesu i ba raddau maen nhw'n adlewyrchu patrymau cyfredol o ran anghenion a gwariant. Hefyd, mae'n rhaid ailwampio dangosyddion sy'n seiliedig ar y cyfrifiad, gan ddefnyddio data mwy newydd sydd ar gael, ac mae hynny'n gofyn am fapio cymhleth rhwng gwahanol ardaloedd daearyddol.

Er gwaetha’r cymhlethdod, mae'r gwaith yma'n mynd yn ei flaen yn dda mewn sawl maes. O ran addysg, rydym ni wedi defnyddio 

rydym ni wedi defnyddio gwybodaeth fanwl ar lefel ysgolion i ddadansoddi'r prif feysydd gwariant, ac mae'r gwaith o ddiweddaru'r fformiwla wedi camu yn ei flaen.

O ran gofal cymdeithasol, mae trafod diweddar efo ymarferwyr wedi cadarnhau y bydd angen rhagor o amser i ddatblygu'r data cyson a chadarn sydd eu hangen ar gyfer modelu manwl. Mae gwaith dadansoddi rhagarweiniol hefyd ar y gweill ar draws meysydd eraill o'r fformiwla.

Mae prosesau sicrhau ansawdd, heriau dadansoddol ac adolygiad gan gymheiriaid hefyd yn cael eu cynnwys yn y gwaith. Mae'n rhaid i newidiadau i fformiwla sy'n dosbarthu lefelau mor sylweddol o gyllid cyhoeddus fod wedi'u seilio ar dystiolaeth gref ac ar hyder gan bawb.

Dwi wedi bod yn glir drwy gydol y broses y dylai'r adolygiad yma gael ei gynnal mewn partneriaeth â llywodraeth leol, sy'n helpu i siapio'r rhaglen drwy drefniadau'r is-grŵp dosbarthu a'r is-grŵp cyllid. Mae ymarferwyr hefyd yn cyfrannu gwybodaeth fanwl am wasanaethau, data, a phwysau darparu.

Rhaid i'r adolygiad hefyd daro cydbwysedd priodol rhwng y ffactorau sy'n effeithio ar anghenion cymharol. Nid mater o ddewis rhwng Cymru drefol a Chymru wledig ydy hyn, na chanolbwyntio ar unrhyw un ffactor ar draul ffactorau eraill. Ein gorchwyl, yn hytrach, ydy deall sut mae poblogaeth, amddifadedd, natur wledig ardaloedd, a ffactorau eraill yn effeithio ar anghenion cymharol a chostau darparu gwasanaethau.

Mae amddifadedd yn bodoli mewn cymunedau gwledig a threfol fel ei gilydd. Mae natur wledig ardal a theneurwydd ei phoblogaeth yn gallu creu costau ychwanegol, ac mae newidiadau demograffig yn gallu effeithio ar natur a maint y galw. Mae arwyddocâd y ffactorau hyn yn gallu amrywio hefyd rhwng gwasanaethau.

Adolygiad ydy hwn o sut mae'r cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu rhwng awdurdodau. Dydy o ddim yn pennu cyfanswm cyffredinol y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol. Mae hi'n bwysig cofio hefyd bod y cyllid sy'n cael ei ddosbarthu drwy'r setliad yn gyllid sydd heb ei neilltuo ar gyfer dibenion penodol. Mae cyfrifiadau o fewn elfennau unigol o'r fformiwla yn helpu i asesu anghenion cymharol ac i ddosbarthu'r cyllid sydd ar gael. Nid targedau ydyn nhw ar gyfer yr hyn y dylai awdurdod ei wario ar wasanaethau penodol. Mater i'r awdurdodau lleol eu hunain ydy'r penderfyniadau hynny, gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol, pwysau, a chyfrifoldebau statudol.

Rydyn ni'n parhau i weithio tuag at weithredu newidiadau technegol drwy setliad llywodraeth leol 2028-29 pan fydd y dystiolaeth a'r dadansoddiad wedi'u datblygu'n ddigonol. Mi fydd angen amserlen hirach ar gyfer yr elfennau gwasanaethau cymdeithasol personol oherwydd cymhlethdod y gwaith o ddatblygu a chasglu'r data manwl a chyson sydd eu hangen ar draws Cymru.

Mae'r gwaith gweithredu hefyd yn golygu bod angen caniatáu digon o amser i brofi a dilysu'r dystiolaeth, asesu'r effeithiau cyffredinol, a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau i fwrw ymlaen â chynllunio ariannol.

Rhaid i degwch gael ei ystyried nid yn unig yn nyluniad y fformiwla, ond hefyd yn y ffordd y bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno. Felly, mae ystyriaethau o ran trefniadau trosiannol, cyflwyno fesul cam a mecanweithiau lliniaru yn rhan annatod o'r adolygiad, ochr yn ochr â'r gwaith dadansoddol.

Nid bwriad yr adolygiad yma ydy creu fformiwla sy'n ffafrio un math o awdurdod neu un rhan o Gymru dros un arall. Y bwriad ydy sicrhau bod gwahaniaethau gwirioneddol mewn anghenion cymharol a chostau darparu gwasanaethau yn cael eu hadlewyrchu'n briodol, a bod y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu mor deg â phosibl.

Mi fyddwn ni'n bwrw ymlaen efo'r gwaith yma, a hynny'n ofalus, yn dryloyw, ac mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Ein nod ydy sicrhau fformiwla gadarn, seiliedig ar dystiolaeth, y gallwn ni i gyd ymddiried ynddi.

17:35

Diolch. Yn absenoldeb Reform UK, byddaf i'n mynd syth i Lafur—Vikki Howells. 

17:40

Diolch yn fawr iawn. Ac wrth gwrs, mi ydyn ni'n cydnabod bod awdurdodau lleol yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol; dydy'r gacen ddim yn ddigon mawr. Ond er gwaetha'r cyd-destun ariannol heriol, mae'r gyllideb rydyn ni newydd ei glywed y prynhawn yma'n rhoi cynnydd mewn termau real i'r setliad llywodraeth leol o fewn cyllideb adnoddau sydd yn gostwng, wrth gwrs. Dechrau'r broses ydy hyn, wrth gwrs, ac mi fyddwn ni'n gwrando ar y craffu yn y Senedd ac yn parhau efo'r trafodaethau efo'r partïon dros yr ychydig wythnosau nesaf ynglŷn â'r setliad a materion eraill o fewn y gyllideb sydd wedi cael ei chyhoeddi prynhawn yma.

cael ei chyhoeddi prynhawn yma. Dwi yn ymwrthod yn llwyr efo'r honiad cyfeiliornus, a dweud y gwir, fod yna ryw fwriad yn fan hyn i symud arian i'r ardaloedd gwledig ac i gynghorau sydd dan reolaeth Plaid Cymru. Dwi'n cymryd hwnna fel sen bersonol, achos tegwch sydd wrth wraidd popeth dwi'n ceisio'i wneud. Yn sicr, mae yna ganfyddiad ar hyn o bryd fod yna awdurdodau lleol yn teimlo nad ydy'r fformiwla yn cydnabod yn llawn y pwysau penodol maen nhw'n eu hwynebu na'r costau sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau yn eu cymunedau nhw. Mae'n briodol, felly, ein bod ni yn edrych o ddifrif ar y fformiwla sydd wedi hen ddyddio erbyn hyn, y gwahanol ddangosyddion. Mae'n 20 mlynedd ers i hynny ddigwydd, a tybed pam dydy o ddim wedi digwydd tan inni gael Llywodraeth Plaid Cymru, sydd eisiau gweld tegwch i bob rhan o Gymru yn cael ei hadlewyrchu yn y fformiwla ariannu.

Ac, wrth gwrs, mi fydd yna ddigon o amser i bawb gael craffu yn fanwl unrhyw newidiadau sydd yn gallu dod i rym. Efallai y byddwn ni'n ffeindio bod y fformiwla yn deg. Pwy a ŵyr? Megis dechrau ar y gwaith ydym ni. Ond petai yna newidiadau yn cael eu cyflwyno, mi fydd yna ymgysylltu llwyr efo llywodraeth leol. Mae llywodraeth leol yn rhan greiddiol o'r gwaith sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Mae yna ddau grŵp—mae'r distribution sub-group ac mae'r finance sub-group—sy'n cynrychioli gwahanol agweddau o lywodraeth leol yn rhan ganolog o'r gwaith sydd yn digwydd. Mi ydw i'n edrych ymlaen rŵan i weld hwn yn digwydd er mwyn inni fedru edrych o ddifrif a ydy'r sefyllfa'n gynaliadwy fel y mae hi ar hyn o bryd.

17:45