Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/09/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso nôl i chi i gyd. 

Gadewch i ni symud ymlaen at y busnes, ac eitem 1, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac yn gyntaf, cwestiwn 1, Gwyn Williams. 

Cwmni Ynni Cyhoeddus Cymunedol

1. Pa fudd ddaw i drigolion Abertawe yn sgil sefydlu cwmni ynni cyhoeddus cymunedol i Gymru? OQ64441

Wel, diolch am y cwestiwn ac, fel y Llywydd, mi wnaf innau groesawu pawb yn ôl yma ar ôl yr haf. Dwi'n sylweddoli ei bod hi wedi bod yn haf prysur iawn i bawb, ond gobeithio bod pawb wedi cael gorffwys hefyd. 

Y nod wrth sefydlu cwmni ynni cyhoeddus i Gymru ydy gwneud y defnydd gorau posib o’n hadnoddau ynni ni fel gwlad, a sicrhau bod ynni yn dod yn fwy fforddiadwy ac yn lanach, a bod mwy ohono’n eiddo i ni yma yng Nghymru. Mi fydd hyn yn helpu cymunedau, yn helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwell defnydd o’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Ar 7 Medi, mi wnaethon ni lansio ymgynghoriad ar hynny, a dwi’n edrych ymlaen at glywed barn pobl ar sut allwn ni fanteisio’n well ar ynni Cymru er budd pobl a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad.

13:35
Cefnogi Busnesau Lleol

2. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi busnesau lleol yn ardal Bangor? OQ64469

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi leol ym Mangor Conwy Môn. Enghraifft amlwg o hyn ym Mangor yw caffi Antoniazzi's, sydd wedi bod yn bresenoldeb amlwg ar y stryd fawr ers 92 o flynyddoedd bellach. Wrth siarad â nifer o fusnesau yn ddiweddar, yn aml yr un yw'r gofyn, sef cynnig teg ar gyfraddau busnes, a dwi'n edrych ymlaen at wrando ar ddatganiad y Gweinidog cyllid yn nes ymlaen y prynhawn yma yn hynny o beth. Ond ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y bydd ymrwymiad Llywodraeth Plaid Cymru i addasu cyfraddau busnes o blaid ein busnesau annibynnol bach yn rhoi’r hyder iddynt dyfu a buddsoddi, gan roi bywyd newydd i ganol ein trefi yn y broses?

13:40

Diolch am y cwestiwn. Ydy, mae Antoniazzi's yn sefydliad go iawn, onid ydy, yn bron i ganrif oed. Mae'r hyn rydyn ni'n mynd i gael wedi ei amlinellu gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid y prynhawn yma yn arwyddocaol go iawn. Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn yr economi, ac rydyn ni wedi ei gwneud hi'n glir, yn enwedig drwy'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, ein bod ni'n benderfynol o gefnogi a thyfu busnesau Cymreig cynhenid, a sicrhau bod busnesau llwyddiannus yn parhau hefyd dan berchnogaeth Gymreig a rhoi'r hyder iddyn nhw fuddsoddi yn eu dyfodol. Mi fydd y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno i dreth annomestig yn cael eu cyflwyno mor fuan â phosib o ddechrau'r flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn ariannol nesaf. Mi fyddan nhw'n barhaol, sydd eto'n gam sy'n rhoi hyder i fusnesau, a dwi'n edrych ymlaen at gael y manylion yna gan y Gweinidog yn nes ymlaen y prynhawn yma.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Brif Weinidog. Yn gyntaf, ar ran Reform UK, Helen Jenner. 

13:45
13:50
13:55
Ffioedd Dysgu

3. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fforddiadwyedd ffioedd dysgu yng Nghymru? OQ64476

14:00
Amseroedd Aros am Lawdriniaeth Cataractau

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros am lawdriniaeth cataractau yn Sir Gaerfyrddin? OQ64456

14:05
Amddiffyn Rhentwyr

5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi amserlen ar gyfer cyflwyno mesurau newydd i amddiffyn rhentwyr yn well? OQ64467

14:10
Canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y canlyniadau PISA diweddar a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru? OQ64450

14:15
Cronfa Ddur y DU

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Port Talbot yn cael cyfran deg o Gronfa Ddur y DU? OQ64443

Mae cefnogi'r diwydiant dur a chymunedau dur sy'n dibynnu arno fo ledled Cymru yn hollbwysig i'r Llywodraeth yma. Cyn ymweliad diweddar Prif Weinidog y Deyrnas Unedig â Phort Talbot, mi wnaeth ein Dirprwy Brif Weinidog ni siarad yn gyhoeddus am yr angen i Gymru gael ei chyfran deg o gronfa ddur Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi fu cyfarfod rhwng y ddau. Mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn helpu gweithwyr a chymunedau drwy'r cyfnod pontio, ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud yr achos hwnnw mor gryf â phosib yn ein trafodaethau ni efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ailgychwyn triniaeth ffrwythlondeb yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru? OQ64431

14:20
Cyllid Teg i Gymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sicrhau cyllid teg i Gymru? OQ64457

Llywodraethu Clinigol a Diogelu Cleifion

10. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd llywodraethu clinigol a diogelu cleifion o fewn GIG Cymru? OQ64435

14:25
Y Cwricwlwm i Gymru

11. Pa gymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion o ran cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym? OQ64475

14:30
Y Trydydd Sector

Llongyfarchiadau ar gyrraedd diwedd y rhestr yma. Mae'n anhygoel. Diolch yn fawr. 

12. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r trydydd sector? OQ64471

[Anghlywadwy.]—cwestiwn 12, nad yw rhywun yn paratoi.

Mae hwn yn wers. [Chwerthin.] Yn 2026-27, mi ydyn ni’n darparu £9.1 miliwn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru, gan helpu sefydliadau i gael cyngor a chymorth ar wirfoddoli, llywodraethu, cyllid cynaliadwy ac ymgysylltu.

Mi fydd y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr eu hunain yn hanfodol i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mi fydd hynny’n cynnwys gofal iechyd ataliol, mynd i’r afael â thlodi plant, darparu mynediad at ofal plant, darpariaeth chwarae, helpu pobl ifanc i gael gwaith. Mae'n rhestr hir. 

Diolch yn fawr. Pan oeddwn i'n gweithio yn y trydydd sector cyn dod fan hyn, roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn rhan o ymgynghoriadau ynglŷn â pholisi cymunedol gan y Building Communities Trust, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ymgynghori yna gyda'n cymunedau ni yn wych, ac roeddwn i'n teimlo fel fy mod i wir wedi cael cyfle i fewnbynnu i hynny. Ydych chi'n gallu jest cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y mewnbwn pwysig yma y mae'r cymunedau wedi'i roi i'r ymgynghoriad yna, plîs?

Dwi'n hapus iawn i gadarnhau hynny. Pan ydyn ni yn edrych ar draws ystod gwaith y Llywodraeth, rydyn ni'n edrych ar bartneriaeth. Dydy'r syniadau i gyd, dydy'r ddealltwriaeth i gyd, ddim yn dod o feinciau'r Llywodraeth ei hun; mae o'n dod o ymgysylltu efo eraill a gwrando ar beth sydd yn gweithio yn dda a beth sydd ddim, beth ydy'r rhwystredigaethau ac yn y blaen.

Pan fo'n dod at weithredu gwirfoddol, wel mae hynny'n cynnwys ein cymunedau ni i gyd, ac mae'n bwysig ein bod ni yn dangos ein bod ni bob amser yn Llywodraeth sydd yn gwrando. Dydy hynny ddim wastad yn golygu, wrth gwrs, gallu rhoi yn union beth mae pobl yn gofyn amdano fo, ond beth mae rhywun yn chwilio amdano fo ydy dealltwriaeth gan gymunedau—a thrwy hynny, sefydliadau gwirfoddol—am pam rydyn ni'n gwneud y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud, a'u bod nhw wastad yn ceisio bod yn benderfyniadau sydd yn cefnogi gweithgarwch cymunedol ym mhob ffordd y gallwn ni ei wneud. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at eitem 2, y datganiad a chyhoeddiad busnes. A galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan. 

Diolch, Lywydd. Fe fyddwch chi'n gweld bod yna nifer o ddatganiadau wedi'u hychwanegu at agenda heddiw. Yn dilyn cais yn y Pwyllgor Busnes heddiw, mae datganiad y Prif Weinidog wedi'i ymestyn i 60 munud yn hytrach na'r 45 a nodwyd yn y lle cyntaf. Mae hefyd busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl Aelodau yn electronig.

Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn? Mi ddylwn i ddatgan fy mod i, ers blynyddoedd lawer, wedi bod yn ymwneud efo etholwyr yn fy etholaeth i ar y mater hwn, ac yn parhau i wneud hynny fel Aelod unigol. Dwi'n siŵr bod pawb ohonom ni a welodd y rhaglen ddogfen Buried, os nad oeddech chi'n ymwybodol o hyn o'r blaen, wedi cael eich syfrdanu gan effaith hwn. Ac yn sicr, fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn dweud yn gynharach, o ran Michael Sheen hefyd, mi fydd yna drafodaethau pellach yn digwydd. Ond mae hon yn broblem sydd wedi bod yn wybyddus, a nifer o bobl wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd lawer. Mae'n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth yn mynd i'r afael â hyn, a dwi'n falch o allu cadarnhau ei fod o'n flaenoriaeth i ni. Mi ydyn ni rŵan yn mynd ati i ddatblygu strategaeth ledled Cymru i adfer tir ôl-ddiwydiannol yn raddol, fel nad yw cymunedau bellach yn agored i risgiau posib. Ac mi fyddwn i'n gofyn i bob Aelod sydd efo enghreifftiau yn eu hetholaethau nhw i fod yn rhan o'r gwaith hwnnw efo ni.

14:35

Diolch i'r Aelod am godi pwnc sydd yn bwysig iawn i nifer o'n hetholwyr ni ac i nifer o Aelodau yma. Mi fyddwn i'n hoffi atgoffa'r holl Aelodau bod y Papur Gwyrdd, 'Shaping the Future of Water Governance in Wales', sy'n ymateb i argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol, bellach, a'r ymgynghoriad hwnnw, wedi dod i ben. Mi gyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 14 Medi, felly yn ddiweddar iawn. Rydyn ni'n ystyried y dystiolaeth a'r farn a dderbyniwyd yn ofalus cyn gwneud penderfyniadau ar gam nesaf y diwygio. Ein nod wrth gwrs ydy sicrhau fframwaith rheoleiddio sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru, yn cryfhau atebolrwydd ac yn cefnogi canlyniadau gwell i gwsmeriaid, cymunedau a'r amgylchedd. Mi fyddwn ni wrth gwrs yn diweddaru holl Aelodau'r Senedd hon wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, mae'r hyn y mae'r Aelod wedi ei godi yn fater sydd yn cael ei drafod yn gyson gan y Cabinet. Mae hwn yn flaenoriaeth i bawb ohonom ni fel Aelodau etholedig, gobeithio. Yn sicr, mi wnaf i wneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'ch cais chi. Mi fyddwn ni wrth gwrs yn diweddaru'r Senedd o ran y gwaith hwnnw sy'n mynd rhagddo hefyd.

14:40

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Wn i ddim a oeddech chi yn y Siambr ar gyfer clywed ymatebion y Prif Weinidog ac a ydych chi wedi cael cyfle i weld bod yna ddatganiad yn hwyrach y prynhawn yma gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg o ran cyhoeddi'r cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Dwi'n credu oedd sylwadau'r Prif Weinidog yn ddiamwys o ran sut rydyn ni'n ystyried y canlyniadau hyn, ac wrth gwrs mi fyddwn i'n annog i unrhyw Aelod, os oes yna bethau penodol o fewn eich etholaeth chi sydd yn creu pryder ichi, gysylltu efo'r Gweinidog dros addysg yn uniongyrchol. 

Wel, gaf i ddiolch ichi fel Aelod am godi'r mater pwysig hwn? Mae'n ddrwg calon gen i glywed am yr effaith hynny ar etholwyr. Rydyn ni hefyd yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu o ran apwyntiadau wedi eu methu, efo nifer o bobl yn gorfod aros amser maith am apwyntiadau o'r fath. Yn sicr mi wnaf i'r Gweinidog yn ymwybodol o'r hyn rydych chi wedi ei godi heddiw. Dwi'n gobeithio, os oes gennych chi esiamplau penodol hefyd, eich bod chi'n codi'r rheini efo'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol, ac yn sicr efo'r Gweinidog hefyd. Felly, mi fyddaf i'n bwydo hynny nôl iddo fo yn dilyn y sesiwn hon. 

Fel y cyfeiriwyd eisoes, byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, y darlledwyd y rhaglen ddogfen Buried yn ystod yr haf yn edrych i mewn i honiadau o gladdu PCBs, cemegau gwenwynig sydd ddim yn torri i lawr ond sy'n adeiladu i fyny yn yr amgylchedd, anifeiliaid, pysgod a phobl dros amser. Claddwyd y cemegau hyn mewn o leiaf 12 safle yng Nghymru, gan gynnwys ger Rhiwabon, Cefn Mawr a phwll tocsig Llwyneinion, ger Rhos, sy'n safle erchyll, a dweud y lleiaf. Honnwyd bod cwmni cemegion Monsanto, a gynhyrchodd 98 y cant o'r holl PCBs yn y Deyrnas Gyfunol, wedi dympio, gan ddyfynnu,

'llawer iawn o gemegion diwydiannol o gwmpas Cymru'.

Mae hwn yn esiampl o'r gwaethaf o gorfforaethau mawr rhyngwladol yn rheibio ein cymunedau er budd eu hunain. Yng ngwyneb hyn oll, a all y Gweinidog rhannu datganiad efo ni maes o law ynghylch y sefyllfa anfoddhaol hon?

Wel, diolch ichi am godi hyn. Mae'r ffaith mai chi yw'r ail Aelod i godi hwn yn dangos faint o bryder sydd. Mae'n ffaith bod arolwg awdurdodau lleol a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi yn 2015 fod mwy na 9,000 o safleoedd posib sydd angen eu hymchwilio ymhellach. Er na fydd pob un o'r safleoedd hyn yn peri risg i iechyd pobl neu'r amgylchedd, mae'r ffigur hwn yn dangos maint y broblem sy'n wynebu rheoleiddwyr yng Nghymru. Fel y clywsoch chi'n gynharach, mae mynd i'r afael â thir halogedig yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, ac mi fyddwn ni'n mynd ati i ddatblygu strategaeth ledled Cymru i adfer tir ôl-ddiwydiannol fel nad yw cymunedau yn agored i risgiau posibl. Mi fyddwn ni hefyd, fel y gwnes i ymestyn allan i Llŷr Powell yn gynharach, yn gofyn ichi a phob Aelod arall sydd yn pryderu am hyn i gydweithio efo ni fel Llywodraeth.

14:45

Mi fydd yr Aelod wedi clywed datganiadau blaenorol gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, wrth gwrs, mi fydd yna ddiweddariadau i'r Senedd a chyfle i Aelodau graffu a rhoi mewnbwn pellach.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mae'n bwysig nodi nad ydy'r bwrdd iechyd wedi gwneud unrhyw benderfyniad ar ei gynllun gwasanaethau clinigol. Maen nhw'n dal i ddatblygu'r cynllun hwn ac opsiynau posib, cyn ymgynghoriad arfaethedig yn ddiweddarach eleni. Felly, fe fyddwn i'n gobeithio bod y pwyntiau hynny wedi cael eu codi gyda'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol hefyd. Fel gydag unrhyw newid gwasanaeth neu ddatblygu strategaeth, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu â phobl yn agored ac yn dryloyw ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i ategu gan arfarniad opsiynau cadarn ac asesiadau effaith i sicrhau bod dyfodol y gwasanaethau hyn yn gynaliadwy, yn addas i ddiben, sef y pwynt roeddech chi'n ei wneud, ac yn ddiogel i'r boblogaeth leol. O ystyried bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo ar y funud, mi fyddai'n amhriodol i mi wneud sylw pellach.

Diolch am godi'r mater. Yn amlwg, rydych chi'n sôn am bethau sy'n digwydd rŵan, ac mi fyddaf i'n gwneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'r sylwadau. Fe fyddwn i hefyd yn gofyn i chi ei wneud o'n ymwybodol o'r safleoedd hyn fel ein bod ni'n gallu ymchwilio ymhellach. Rydyn ni wedi bod yn pwyso am gyfiawnder amgylcheddol trwy godi'n uniongyrchol gyda'r Trysorlys ba mor bwysig ydy ceisio cyllid y Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau â'n hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael ag etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Cymru, gan gynnwys adfer tomenni glo ac adfer tir halogedig. Mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd ati efo'r rôl rheoleiddio hwnnw. Felly, mi fyddaf i'n mynd â hwn ymhellach efo'r Gweinidog. Diolch.

14:50

Wel, diolch i chi am godi'r mater yna. Wn i ddim a ydych chi wedi codi hynny'n uniongyrchol efo'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal fel llefarydd, o ran y pwnc. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn awyddus i gwrdd gyda rhai o bob plaid, a byddwn i yn eich annog chi i gael y trafodaethau uniongyrchol hynny. O ran yr hyn sy'n digwydd rŵan ym Mhowys, mi fyddwch chi wedi nodi fy ymateb i i Jane Dodds yn flaenorol. Ond o ran yr hyn sy'n gallu digwydd i'r dyfodol, dwi'n credu bod honna'n drafodaeth bellach i Aelodau ei chael, ac my fyddaf i hefyd yn gwneud y Gweindog Cabinet yn ymwybodol eich bod chi wedi codi hyn brynhawn yma.

Wel, mi fyddwn i yn tynnu sylw'r Aelod at y datganiad sydd yn dod yn hwyrach heddiw o ran y gefnogaeth sydd yna o ran business rates efo nifer o'r busnesau, ac ati, rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Hefyd, wn i ddim a ydy'r Aelod ei hun yn gwybod beth ydy canlyniad adolygiad y WRU. Yn sicr, dwi ddim yn gwybod. O ran gwneud astudiaeth achos o'r fath, yn amlwg mae'r ddau gyngor sir wedi gwneud astudiaethau achos. Dwi wedi codi'r pryderon hynny'n uniongyrchol hynny efo'r WRU, sydd wedi mynegi i ni—. Mae gen i nifer o gwestiynau yfory ynglŷn â rygbi a dyfodol rygbi yng Nghymru, pan fyddaf yn cymryd cwestiynau fel Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Yn sicr, dwi'n credu bod unrhyw gyfarfod dwi wedi'i gael efo Undeb Rygbi Cymru wedi'i gadael nhw yn gyfan gwbl ddiamwys o gryfder y teimlad gan Aelodau yn y Senedd hon sy'n cynrychioli'r rhanbarthau hynny, o gryfder teimladau yn ein cymunedau ni, y pryderon gwirioneddol sydd yna o ran effaith economaidd, effaith o ran cydlyniad cymdeithasol—effaith o bob math. Felly, mae hynny wedi bod yn gyfan gwbl ddiamwys o ran yr hyn dwi wedi'i fynegi ac mae'r Llywodraeth hon wedi'i fynegi ar bob cyfle rydym ni wedi ei gael. Mi fyddaf i'n edrych ymlaen at ragor o gwestiynau yfory.

14:55

Wel, dwi'n mawr obeithio bod yr Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet—

Ie, ac mae gennym ni ddwy iaith fan hyn, felly mi ydw i'n mynd i ddefnyddio y Gymraeg i ymateb. Diolch. Ydy'r Aelod â'r cyfieithu yn gweithio rŵan?

Grêt. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gobeithio bod yr Aelod wedi cymryd y cyfle i ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, gan ddarparu'r dystiolaeth yr ydych chi wedi ei nodi fan hyn, a hefyd ddarparu'r dystiolaeth honno i'r bwrdd iechyd. Mae'n allweddol bwysig bod y wybodaeth yna gennym ni i ni fedru gweithredu, felly byddwn i yn gofyn eich bod chi yn gwneud hynny.

Iawn, mi wnaf i. Yr hyn yr oeddwn i yn ei ofyn i'r Aelod, oherwydd natur yr hyn rydych chi wedi ei godi, a'r difrifoldeb, a'r ffaith eich bod chi yn dweud bod gennych chi dystiolaeth o hyn, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, a hefyd at y bwrdd iechyd, gan ddarparu'r dystiolaeth hon, oherwydd, yn sicr, mae angen gweld gweithredu os oes gennych chi'r dystiolaeth hon.

15:00
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Tywydd, tanau gwyllt, sychder a chadernid

Symudwn yn awr at eitem 3, datganiad gan y Prif Weinidog: tywydd, tanau gwyllt, sychder a chadernid. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Dros yr wythnosau diwethaf, mi rydyn ni wedi gweld drosom ni ein hunain beth ydy effaith y newid yn ein hinsawdd. Yr haf yma fu'r poethaf ar gofnod. Mae tanau gwyllt a sychder wedi gadael eu marc ar gymunedau ledled Cymru. Maen nhw wedi effeithio ar deuluoedd, ffermwyr a thirfeddianwyr. Maen nhw wedi difrodi bywyd gwyllt a chynefinoedd gwerthfawr. Maen nhw wedi arwain at ofynion eithriadol ar ein diffoddwyr tân a'n gwasanaethau brys. Rydyn ni'n meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn.

Mae'r risgiau hyn yn gysylltiedig. All gwydnwch hinsawdd ddim bod yn bryder i un gwasanaeth, neu un rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, un sefydliad neu un rhan o'r Llywodraeth yn unig. Mae'n flaenoriaeth gyffredin yn genedlaethol. Dyna pam rydyn ni wedi dechrau gweithio ar gynllun gweithredu hinsawdd a natur cyntaf Cymru, sy'n adlewyrchu'r angen am ymateb trawslywodraethol i set gymhleth o heriau. Rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

O ddechrau'r tân gwyllt cyntaf ym mis Gorffennaf, mi wnaethom ni roi ein cefnogaeth lawn i'r gwasanaethau tân ac achub ac i'r partneriaid ehangach a oedd yn ymateb i'r digwyddiadau. Mi wnaethom ni roi trefniadau rheoli argyfwng Llywodraeth Cymru ar waith i sicrhau cymorth strategol. Mi wnaethom alw ar bwyllgor argyfyngau sifil Cymru i gefnogi'r gwaith cydlynu, a gweithio ochr yn ochr â'r grwpiau cydlynu amlasiantaeth o dan arweiniad y gwasanaethau tân ac achub.

Mae'n ddealladwy bod cryn ddiddordeb wedi bod mewn defnyddio hofrenyddion a chefnogaeth ehangach o'r awyr, ac mi all cefnogaeth o'r awyr fod yn werthfawr mewn amgylchiadau penodol. Ond dim ond un rhan o ymateb ehangach ydy hon. Dydy o ddim yn ateb i bob sefyllfa. Mae ei defnyddio yn dibynnu ar leoliad y tan, yr amodau tywydd, argaeledd ac asesiad rheolwyr gweithredol. Mae tactegau ar y ddaear yn parhau i fod yn ganolog i fynd i'r afael â thanau gwyllt yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mi ddefnyddiwyd cymorth o’r awyr pan oedd o ar gael ac yn briodol yn weithredol. Fodd bynnag, mi oedd y cerbydau awyr addas a oedd ar gael yn y Deyrnas Unedig yn gyfyngedig ar y pwynt yma, yn enwedig am fod tanau'n effeithio ar sawl rhan o'r Deyrnas Unedig ar unwaith. Does gan y lluoedd arfog ddim capasiti diffodd tân o'r awyr yn y Deyrnas Unedig, ac mi oedd y capasiti masnachol yn gwbl annigonol i gwrdd â lefel y galw yn y Deyrnas Unedig.

Nid mater i Gymru'n unig ydy hyn. Mae angen ei ystyried o ddifri a chymryd camau gweithredu cydgysylltiedig ar draws y Deyrnas Unedig, ac mi wnes i godi’r mater yma pan es i i gyfarfod COBRA ar 12 Awst.

Dim ond rhan o'r ateb ydy cyfrifoldeb unigol, ac mae’n rhaid inni ystyried rheoli tir, gwydnwch seilwaith, parodrwydd gwasanaethau cyhoeddus a'r cymorth sydd ar gael i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau tywydd eithafol. Dyna pam mae gweithredu ar yr hinsawdd yn gyfrifoldeb ar lefel y Cabinet sy'n berthnasol i bob portffolio Llywodraeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiad o risgiau'r hinsawdd sy'n cael ei ddiweddaru yn rheolaidd. Bydd hyn yn rhoi mwy o dryloywder ynglŷn â’r risgiau mae Cymru'n eu hwynebu, y camau sy'n cael eu cymryd, a’r meysydd lle mae angen gwneud cynnydd pellach. Bydd hyn yn cefnogi datblygu ein cynllun gweithredu ar hinsawdd a natur, gan ddod â chamau gweithredu ynghyd ar draws y Llywodraeth ar atal, parodrwydd a gwydnwch hirdymor.

15:10
15:15
15:20
15:25
15:30
15:40
15:45

Gaf i ddweud diolch yn fawr iawn am y datganiad sydd yn dod oddi wrthoch chi, Brif Weinidog? Mae'n dangos, onid ydy, pa mor bwysig yw hyn a'r digwyddiadau sydd wedi bod dros yr haf. Felly, diolch yn fawr iawn am wneud y datganiad ac am wrando arnom ni hefyd. 

Diolch yn fawr iawn am y datganiad y prynhawn yma. Diolch yn fawr hefyd i bawb fu'n taclo'r tanau dros yr haf.

15:50
15:55
16:00
16:05

Diolch, Brif Weinidog. Cyn symud ymlaen, hoffwn atgoffa'r Siambr fod gan Aelodau yr hawl i siarad yn Saesneg neu yn Gymraeg ar unrhyw adeg yn ystod ein trafodion. 

Os bydd problem dechnegol gyda'r offer cyfieithu, byddwn wrth gwrs yn oedi'r trafodion tan fod y broblem yn cael ei datrys.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig

Rydym ni'n symud ymlaen at eitem 4. Eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig. 

Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n falch i gyhoeddi newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i adlewyrchu'r ymrwymiadau yn ein maniffesto i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig, a sicrhau tegwch i fusnesau'r stryd fawr. Rŷm ni'n cydnabod pwysigrwydd sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden llewyrchus, ac mae'r rhain yn ganolog i’n huchelgais i adfywio canol trefi a rhoi bywyd newydd i'n stryd fawr.

Bydd ein gwaith o ailgydbwyso’r system ardrethi yn cael ei gyflawni drwy newidiadau i’r lluosyddion gwahaniaethol presennol, gan wella’r cymorth i fusnesau lletygarwch a hamdden penodol. Bydd cwmpas ehangach ar gyfer y lluosydd is yn cael ei ariannu gan gynnydd bach i’r lluosydd uwch sy’n gymwys i’r eiddo â'r gwerth uchaf yn y sylfaen drethu ar draws pob sector.

O 2027-28 ymlaen felly, bydd y lluosydd is sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer siopau manwerthu yn berthnasol hefyd i rai mathau o eiddo lletygarwch a hamdden bach a chanolig eu maint. Bydd hyn yn dod â busnesau lletygarwch a hamdden cymwys yn unol â'r cymorth parhaol a gyflwynwyd i fanwerthwyr eleni. Bydd eiddo cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000 yn cael gostyngiad o 30 y cant yn eu biliau ardrethi annomestig.

Bydd y cymorth parhaol hwn yn disodli ac yn rhagori ar y rhyddhad dewisol dros dro o 15 y cant ar gyfer eiddo lletygarwch bwyd a diod sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Bydd yn golygu bod ystod ehangach o fusnesau lletygarwch a hamdden yn cael y sicrwydd hirdymor sydd ei angen arnyn nhw i fuddsoddi a thyfu.

Y mannau lletygarwch bwyd a diod sy'n gymwys felly yw tafarndai, bwytai, caffis, bariau, cyrtiau bwyd, clybiau trwyddedig a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Y mathau o lety ymwelwyr a fydd yn gymwys yw gwestai, tai llety a hosteli. Ac o ran hamdden, y mannau cymwys yw sinemâu, theatrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a champfeydd.

Mae'r busnesau hyn yn cyflawni rolau pwysig sy'n ategu ei gilydd ar y stryd fawr a chanol trefi ffyniannus. Yn ogystal â manwerthwyr, bydd talwyr ardrethi ar gyfer tua 20,000 o safleoedd yn elwa ar y lluosydd is estynedig. Mae dros 12,500 yn fwy o'r mathau perthnasol o eiddo eisoes yn gymwys i gael rhyddhad llawn, sy'n golygu nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi annomestig. Bydd talwyr ardrethi ar gyfer y mwyafrif o eiddo ledled Cymru, yn arbennig busnesau bach, hefyd yn parhau i elwa ar sawl rhyddhad parhaol sy’n werth mwy na £200 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd.

Rhaid taro cydbwysedd rhwng y cymorth ehangach sy'n cael ei ddarparu drwy’r lluosydd is ac effaith hynny ar werth y lluosydd uwch. Bydd y lluosydd uwch yn cael ei osod ar ychydig dros 4 y cant yn uwch na'r lluosydd safonol o 2027-28 ymlaen. Mae hyn yn gynnydd bach i'r gwahaniaeth presennol, ac mae hi'n ffordd deg o ailddosbarthu atebolrwydd er mwyn inni allu rhoi gwell cefnogaeth i'r busnesau sy'n galon i'r stryd fawr a chanol trefi.

Mae’r newidiadau hyn i’r lluosyddion gwahaniaethol yn gysylltiedig â gwaith ehangach y tasglu canol trefi. Bydd y tasglu yma yn ystyried fframweithiau polisi cenedlaethol, yn ogystal â’r cymorth wedi’i deilwra a allai fod ei angen yng nghanol trefi unigol. Mae ein dull gweithredu yn cydnabod y bydd anghenion yn amrywio rhwng llefydd sy’n wynebu gwahanol heriau, tu hwnt i’r system ardrethi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

16:10

Ie, wel, mae'n siŵr y gallwn i fod wedi gwneud y datganiad yma unrhyw bryd yn ystod tymor yr haf. Roedd y datganiad yn barod i'w wneud. Dewisais i yn benodol i aros tan ddiwrnod cyntaf y Senedd i fod nôl yn ymgynnull i wneud y datganiad, a dwi'n ei wneud e ar lawr y Senedd yma er mwyn cael cwestiynau gan bleidiau a gan Aelodau fan hyn i weld sut maen nhw'n ymateb i'r datganiad, a beth mwy maen nhw'n ei feddwl y dylai'r system yma ei gyflawni. Ar ôl y pum munud yna gan gynrychiolydd Reform, dwi ddim yn gwybod a ydy Reform yn mynd i gefnogi'r gostyngiad yma o 30 y cant mewn ardrethi busnes ar gyfer y sector yma, sy'n rili bwysig i'n canol trefi ni, neu beidio. Doedd hi ddim yn glir i mi, o'r hyn a ddywedoch chi, a fyddech chi'n ei gefnogi fe neu beidio. Fe fydd yn rhaid i chi benderfynu, wrth gwrs, cyn bod yna bleidleisio ar lawr y Senedd yma un ffordd neu'r llall ar newid o'r math yma.

Ond a gaf i ddweud pam fod Plaid Cymru wedi penderfynu cymryd y cam cychwynnol yma? Mae Aelodau ar draws y Senedd yma yn sôn yn barhaus am yr angen i gryfhau ein canol trefi ni. Mae ein canol trefi ni yn bwysig i'r cymunedau rŷn ni'n eu cynrychioli, p'un ai ydy hynny yn ein hardaloedd diwydiannol, yn ein Cymoedd, ni neu yng nghefn gwlad. Mae rhoi cymorth i'r busnesau yna sydd, yn eu hystod ehangach, yn bodoli'n benodol yng nghanol trefi wedi bod yn gomitment maniffesto gan Blaid Cymru, a heddiw yn gomitment inni ei ddelifro o fewn y Llywodraeth. Dwi'n gobeithio bod hwnna'n taro nodyn a fydd yn cael ei gefnogi gan bobl ar draws y Senedd yma, gan gynrychiolwyr o gymunedau o bob cwr o Gymru ac o bob cefndir gwleidyddol hefyd.

Rydych chi wedi bod bach yn rhy fisi yn darllen y press release yn hytrach na beth ddywedais i yn y datganiad, 5 tr oddi wrthych chi fan hyn y prynhawn yma. Roeddech chi'n gofyn y cwestiwn, 'Is this it?', ac fe atebais i hwnna yn y fan hyn o'ch blaen chi. Fe atebais i fe pan ddywedais i mai'r cam cyntaf yw hwn, a dwi'n awyddus i glywed beth yw barn Aelodau eraill ar beth yn fwy y gallai'r Llywodraeth yma ei gyflawni ar gyfer cefnogi busnesau. Felly, halwch bach llai o amser yn darllen press releases, yn beirniadu'r press releases, a defnyddio bach mwy o'ch amser ar eich traed yn y Senedd yma yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud.

16:15

Dwi ddim yn siŵr a oes angen dweud hyn, ond fe wnaeth Cai gyfeirio at Airbus, ac mae gen i aelod o'r teulu sy'n gweithio i'r cwmni hwnnw. 

Mae Llafur Cymru wedi bod yn glir ein bod ni o leiaf yn bwriadu bod yn wrthblaid adeiladol. Dyna pam ein bod ni yn croesawu egwyddorion y cyhoeddiad heddiw, gan gydnabod y bydd gostyngiad parhaol o 30 y cant yn rhoi cymorth gwerthfawr a mwy o sicrwydd i fusnesau lletygarwch, llety a hamdden sy'n gymwys. Mae'r cyhoeddiad hwn, wrth gwrs, yn adeiladu ar bolisïau'r Llywodraeth Lafur Cymru flaenorol a ddarparodd dros £1 biliwn o gymorth ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020-21.

Ond mae'n rhaid talu am y gostyngiad hwn, onid oes? Mae'r Gweinidog yn dweud bod y cynigion yn niwtral o ran cost ac y bydd y bwrdwn yna yn disgyn ar y busnesau mwyaf. Ond mae angen cydnabod hefyd fod ardrethi annomestig yn seiliedig ar werth eiddo, nid ar drosiant cwmni, ei elw nac ar ei allu i dalu. Nid yw busnes sy'n meddiannu safle â gwerth ardrethol uchel o reidrwydd yn fusnes mawr nac yn fusnes hynod broffidiol, o bosib.

Roeddwn i'n siarad yn gynharach gyda Gwyn, yn gresynu ar golled Marks and Spencer yn Abertawe. Oes yna fwy o fanwerthwyr o'r math hynny mewn perygl o wneud penderfyniadau i gau eu siopau yng nghanol ein dinasoedd ni?

16:20

Diolch am y sylwadau a'r croeso a'r heriau yn eich cyfraniad. Wrth gwrs, un o'r manteision, gobeithio, bydd y busnesau sydd yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth yma'n ei weld yw y bydd e'n 30 y cant o ostyngiad parhaol iddyn nhw. Mae'r gostyngiad sydd mewn lle ar gyfer tafarnau ar hyn o bryd yn discretionary ac ond yn 15 y cant, ac felly fe fydd hwn yn rhagori ar hynny ac fe fydd e'n awtomatig ar gyfer y busnesau hynny. Bydd e'n caniatáu i'r busnesau sy'n gymwys i allu cynllunio ar sail y gwarant fydd yna, os bydd y rheoliadau a'r mesur yma'n pasio, fod hyn yn rhywbeth maen nhw'n gallu cynllunio ar ei gyfer o flaen llaw. Wrth gwrs, ychwanegu at y system sydd eisoes mewn lle ar gyfer siopau rŷn ni'n ei wneud, y system wnaeth gael ei gyflwyno gan y Gweinidog cyllid o fy mlaen i o dan Lywodraeth Lafur, ac felly mae'r defnydd o'r multipliers a'r gwahanol multiplier wedi cael ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd i yn y cyd-destun yna. Felly ymestyn y nifer o fusnesau sy'n gymwys am y cwtogiad yma yn y trethi busnes ydw i.

Ac mae'n gam cyntaf, fel y gwnes i sôn, wrth inni feddwl ynglŷn â sut gallwn ni fynd ymhellach gyda'r tasglu ar ganol trefi sydd wedi'i sefydlu o ran datblygu'r stryd fawr a chefnogi'r stryd fawr fel calon i nifer o gymunedau. Ond hefyd, mae'r her rŷch chi'n ei rhoi yn her sydd yn sôn am y system yn ei chyfanrwydd, wrth gwrs. Rŷch chi'n sôn yn benodol, onid ydych, am ganol dinasoedd, sydd â siopau mawr ac sydd ag anchor stores pwysig yng nghanol y dinasoedd hynny. Mae'n bwysig, wrth ein bod ni'n meddwl ynglŷn â chael y balans yma'n iawn o ran cefnogi busnesau llai, sydd yn alwad sydd yn dod yn barhaus gan Aelodau yn y Siambr yma, ein bod ni'n gwneud hynny gyda golwg ar beidio ag anfanteisio mewn ffordd rhy ddifrifol y busnesau hynny sydd yn fwy. Felly, mae taro'r balans yna'n bwysig. O ran cyhoeddi'r union multipliers fydd yn weithredol ar gyfer 2027, fe fydd hwnna'n gorfod aros tan fydd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei chyflwyno. Dyna pryd fydd hwnna'n dod yn weithredol, yn wybodus.

Wedyn, ar y pwynt ynglŷn â'r diwygiad llawn o'r gyfundrefn yma sydd ei angen, dwi'n credu, fel Senedd—. Dwi'n ei glywed e o wahanol bleidiau ac o wahanol Aelodau: yn hytrach na gwneud mân newidiadau fan hyn a fan draw ac ambell waith eu gwneud nhw'n adweithiol i ba bynnag fater sy'n bwrw'r economi, fod angen edrych ar y maes yma yn ei gyfanrwydd. Byddwn i'n gobeithio, wrth inni drafod a testio fwy o'r syniadau ynglŷn â threthi busnes, ein bod ni'n dod i ryw gonsensws ar draws y Siambr yma ynglŷn â'r appetite gwleidyddol sydd yna i fynd i'r afael â'r gwaith yma. Fe fyddwn i'n hapus i fod yn rhan o'r drafodaeth ynglŷn â hynny.

O ran y cliff edges yma rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw—os ŷch chi un ochr neu'r llall o £51,000, mae e'n gwneud 30 y cant o wahaniaeth i chi o ran faint o dreth rŷch chi'n ei dalu—mae hwnna'n un o'r ystyriaethau yn sicr sydd angen edrych arnyn nhw yn y dyfodol. Felly, mae yna newidiadau pellach, dwi'n credu, y gall y Llywodraeth edrych i'w gwneud, gyda chefnogaeth yn y Siambr yma, ac wedyn mae yna gwestiwn mwy ynglŷn â mynd i'r afael â diwygio'r gyfundrefn yn ei chyfanrwydd. Mae'n siŵr y bydd y drafodaeth ar hynny yn parhau.

16:25
16:30
16:35
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: Adolygiad o Addysg Uwch

Symudwn ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: adolygiad o addysg uwch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gadarnhau ein bod ni wedi lansio adolygiad annibynnol o addysg uwch yng Nghymru, ar ôl cyhoeddi'r cylch gorchwyl ar 4 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, yn unol â'n hymrwymiad ni i wneud hynny o fewn 100 diwrnod i sefydlu'r Llywodraeth hon. Mae'r adolygiad hwn yn rhan o'n cenhadaeth ehangach i adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy ffyniannus drwy addysg, sgiliau, ymchwil a chyfleoedd.

Mae addysg uwch yn un o asedau cenedlaethol pwysicaf Cymru. Mae ein prifysgolion yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol, yn llywio gwaith ymchwil ac arloesi, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, yn cryfhau cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n diwylliant a'n hiaith. Maent yn helpu i greu'r sgiliau, y syniadau a'r cyfleoedd sy'n sail i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, fe welais i'r potensial hwn fy hun yng nghynhadledd Cymdeithas Addysg Ryngwladol Ewrop yng Nglasgow wythnos diwethaf. Yno bues i'n cyfarfod â chynrychiolwyr ein holl brifysgolion, a chael trafodaethau cadarnhaol gyda nhw a chyda phartneriaid rhyngwladol sy'n awyddus i weithio gyda nhw. Fe glywais i hefyd sut y byddai ailymuno gydag Erasmus+ yn creu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr, staff a sefydliadau ar gyfer astudio, hyfforddi, gweithio ac ymchwilio mewn gwledydd eraill.

Yn y bôn, nod yr adolygiad hwn yw sicrhau bod gennym system addysg uwch sy’n gadarn yn ariannol, sydd ag enw da yn rhyngwladol, sydd â gwreiddiau dwfn mewn cymunedau, sy’n cefnogi’r Gymraeg, ac sy’n medru helpu i adeiladu Cymru fwy ffyniannus. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddilyn cynnydd y panel a gweithio gyda’r sector ac ar draws y Senedd hon i lunio dyfodol cynaliadwy ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.

16:50
16:55
17:00
17:05
17:10
17:15

Weinidog, daw’r adolygiad hwn ar adeg hollbwysig i addysg uwch yng Nghymru. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i ni feddwl yn feiddgar ac yn greadigol am sut rydyn ni am i addysg uwch weithredu ac, yn y pen draw, gyflawni ar gyfer Cymru.

Un o'r materion rydyn ni wedi'u hwynebu ers peth amser bellach yw cyflogadwyedd graddedigion ac, yn benodol, sut rydym yn sicrhau bod y sgiliau a'r cyfleoedd sydd yn cael eu datblygu drwy ein system addysg uwch yn arwain at yrfaoedd llwyddiannus yng Nghymru. Rwy'n credu bydd yr adolygiad hwn yn dwyn yr agweddau hynny ynghyd.

Yn aml, mae busnesau bach a chanolig yn wynebu mwy o heriau o ran denu a recriwtio talent graddedig. Sut mae'r Gweinidog yn gweld yr adolygiad yn ein helpu ni i gysylltu ein graddedigion yn well ag anghenion a chyfleoedd busnesau Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig, fel y gallwn gadw mwy o dalent graddedig yma yng Nghymru, tra hefyd yn cefnogi twf ein heconomi? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Sera. Mae rôl busnesau bach yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu bod rhyw 95 y cant o holl fusnesau Cymru yn fusnesau bach a chanolig. A digwydd bod, yn y cyfarfod ges i gyda chynrychiolwyr o gyflogwyr mwyaf Cymru yn gynharach y prynhawn yma, roedd hwn yn fater oedd wedi codi: sut y gall yr arolwg yma a'n prifysgolion a cholegau gefnogi SMEs drwy gynnig gwaith i raddedigion a phobl sydd wedi cymhwyso mewn ffordd wahanol i raddau. Yn glir i fi, mae, er enghraifft, y syniad o sefydlu corff datblygu fel y WDA newydd—y corff datblygu economaidd newydd yma—yn mynd i roi cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig i dyfu, a phan maen nhw'n cael y cyfle i dyfu, maen nhw'n edrych i gyflogi mwy o bobl. Dyna lle mae'r cyfle wedyn i raddedigion i gael cyfle am waith. Ond y peth pwysig, dwi'n meddwl, yw gwneud y cysylltiad rhwng cyflogwyr a phrifysgolion yn arbennig, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall beth yw'r angen o ran pa sgiliau sydd eisiau ar gyfer y dyfodol, a'u bod nhw'n deall wedyn ar lefel ranbarthol pa gyfleoedd sydd gan bobl i fynd i swyddi yn yr ardal arbennig yna.

17:20
17:25
6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: Y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol

Symudwn ymlaen, felly, i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Anna Brychan.

Mae ein cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ymwneud â gosod disgwyliadau clir ar gyfer gweithredu. Mae'n amlinellu'n fanwl beth y byddwn i'n ei wneud, a phryd, ac yn dod â'r holl randdeiliaid allweddol ynghyd o dan yr un weledigaeth ar gyfer newid. Mae'r cynllun yn cydnabod yr amrywiaeth o bartneriaid sydd â rôl yn ein hymdrech ar y cyd i godi safonau. Mae rhieni a gofalwyr, ymarferwyr y blynyddoedd cynnar, athrawon ac ymarferwyr addysg, arweinyddion ysgolion a lleoliadau, a phartneriaid cymorth oll yn chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad llythrennedd a rhifedd ar draws yr ystod oedran.

Rŷn ni wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr yn ogystal ag awdurdodau lleol, Estyn a'n cyrff cefnogi, Dysgu ac Adnodd, i ddatblygu ffordd glir a chydlynol ymlaen. Mae gan Dysgu rôl hanfodol, fel ein corff dysgu proffesiynol cenedlaethol, wrth ddarparu cymorth darllen a mathemateg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i athrawon ledled Cymru. Mae hwn yn gymorth arbenigol sy'n seiliedig ar wybodaeth am ein cwricwlwm a'n cyd-destun ni. Disgwyliwn i bob ysgol ac awdurdod lleol ymgysylltu â Dysgu wrth i'w gynnig i athrawon ac arweinwyr ddatblygu. Mae e'n bwysig bod addysgwyr, ble bynnag yng Nghymru y maen nhw, yn gallu cael mynediad at yr un lefel o gymorth ac elwa o hwnnw.

Yn gyntaf, mae’n sefydlu disgwyliadau o flwyddyn i flwyddyn sy’n rhoi eglurder llwyr ynghylch yr hyn y dylai plant ei ddysgu a phryd, gan sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru. Byddwn ni'n cyhoeddi’r manylion hyn ar gyfer ymgynghori yn fuan, fel eu bod nhw'n gallu dod yn ganllawiau statudol cyn gynted â phosibl.

Byddwn ni hefyd yn gwbl glir yn ein canllawiau ynghylch ffoneg synthetig systematig, sy’n arf hanfodol i athrawon wrth helpu plant i ddarllen, ochr yn ochr â datblygu sgiliau darllen eraill. Byddwn ni'n gweithio gydag Estyn, awdurdodau lleol a Dysgu i sicrhau eu bod nhw'n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn gyson. Ac yn wir, rwy’n croesawu ymrwymiad Estyn i ganolbwyntio’n gryfach ar ddarllen a gwaith partneriaid cymorth, megis y bartneriaeth strategol gyda llywodraeth leol.

Yn ail, bydd y cynllun yn cryfhau asesu a’r defnydd o wybodaeth. Byddwn yn cyflwyno asesiad llinell sylfaen—gwaelodlin, i bob pwrpas—pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, a dangosydd newydd ym mlwyddyn 6, fel bod gan ysgolion ddealltwriaeth glir o ble mae plant a pha gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ar lefel Llywodraeth, byddwn ni'n sefydlu dangosyddion cenedlaethol i asesu ein cynnydd cyffredinol, wedi’u llywio gan dargedau clir. Bydd hyn yn ein galluogi ni i fonitro cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, heb orfod aros i PISA ddweud wrthym ni sut rŷn ni'n perfformio.

Mae’r cynllun hefyd yn tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion i osod targedau clir iddyn nhw eu hunain ac i’w dysgwyr. Byddwn ni'n gweithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i wireddu hyn. Yn ogystal, disgwyliwn i fwy o ysgolion elwa ar CAL:ON Cymru, ein canolfan ragoriaeth genedlaethol newydd ar gyfer llythrennedd, sydd wedi cael croeso cadarnhaol gan athrawon ac sydd wrth wraidd y cynllun hwn.

Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi llythrennedd a rhifedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Byddwn ni'n cryfhau ymgysylltiad gyda rhieni, yn hyrwyddo darllen a datblygiad iaith yn y cartref, yn ehangu mynediad at lyfrau drwy lyfrgelloedd ysgolion, ac yn mynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu sy’n gysylltiedig â thlodi.

Mae arnom ni ddyletswydd i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn er lles cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn golygu galluogi athrawon, arweinwyr a staff cymorth i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: addysgu, dysgu a chefnogi dysgwyr i lwyddo. Ond bydd cyrraedd y fan lle rŷn ni eisiau bod yn gofyn am ymdrech ar y cyd, ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda rhieni, gofalwyr, addysgwyr, ysgolion a phartneriaid cymorth i godi safonau ac, yn sgil hynny, wella cyfleoedd bywyd pob plentyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch yn fawr iawn am y datganiad yna, ac a gaf i ddechrau drwy groesawu'r ffocws newydd yma ar lythrennedd a rhifedd sylfaenol? Er y gwahaniaethau gwleidyddol rhyngoch chi a fi, rydyn ni'n dwy yn cytuno y dylai pob plentyn yng Nghymru adael yr ysgol yn gallu darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau yn hyderus. Mae'n rhaid i'r pethau sylfaenol yma ddod yn gyntaf. Ond, Weinidog, mae ambell gyfaddefiad eithaf arwyddocaol yn eich datganiad heddiw.

17:40
17:50
17:55
18:00
18:05
18:10

Weinidog, rwy'n croesawu'n frwd y rôl ganolog a chlir y mae'r Llywodraeth yn ei nodi ar gyfer ffoneg synthetig systematig, a bydd hynny ddim o syndod i chi, dwi'n siwr. Credaf fod uchelgais gyffredin ar draws y Senedd i weld y dull hwn yn sicrhau'r canlyniadau gorau posib i'n dysgwyr. Os ydym am wreiddio ffoneg synthetig systematig yn effeithiol ledled Cymru, fel rŷch chi wedi dweud, mae angen i ni hefyd sicrhau bod yr amodau'n iawn iddo fe lwyddo. Ac eto, fel rŷch chi wedi sôn, mae hynny'n golygu sicrhau bod gan yr athrawon yr hyder, yr hyfforddiant a'r datblygiad proffesiynol sydd eu hangen arnynt, fod gan ysgolion fynediad at adnoddau o ansawdd uchel, a bod digon o gysondeb yn y ffordd y gweithredir y dull ar draws y system.

Rŷn ni wedi clywed yn eich ateb i Sam gynnau, ond dwi eisiau clywed mwy os gallaf, plîs, Weinidog, am sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi ysgolion a'r gweithlu addysgu wrth weithredu'r cynllun, yn enwedig o ran y disgwyliadau y bydd y Llywodraeth yn eu nodi yn y canllawiau a'r gefnogaeth fydd yn cyd-fynd â'r canllawiau newydd hynny, yn ogystal â'r asesiad o'r effaith ar y gweithlu a nodwyd yn y ddogfennaeth a dderbyniwyd heddiw. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi sylw i'r system ffoneg synthetig, oherwydd mae e'n gyfle i bwysleisio eto ein bod ni'n disgwyl y bydd hwn yn fodd a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion ni. Dwi wedi trafod hyn hefyd gyda Estyn, sydd yn cydnabod bod y modd hwn yn rhan bwysig o'r modd y mae dysgwyr yn dysgu darllen, ac mae eu ffocws penodol nhw ar ddarllen hefyd yn digwydd nawr. Rŷn ni'n edrych hefyd ar ganllawiau'r cwricwlwm i wneud yn siŵr bod yna eglurder, achos mae diffyg eglurder weithiau wedi bod ynglŷn â defnyddio hwn, a byddwn ni wedyn yn rhoi canllawiau cenedlaethol i egluro hynny.

O ran y gefnogaeth, mae hynny hefyd yn hanfodol bwysig, a dyna pam mae un o'r pum elfen sy'n dod at ei gilydd yn hwn yn ffocysu yn benodol ar gefnogaeth i athrawon ac i'r system yn ehangach. Felly, mi fydd yna adnoddau gyda CAL:ON, sydd yn arbenigwyr yn y maes hwn. Byddwn yn parhau hefyd i dynnu ar arbenigedd y panel llythrennedd arbenigol sydd gyda ni. Mae Adnodd yn ei le yn gweithio'n agos gyda Dysgu er mwyn creu'r adnoddau a fydd eu hangen i gefnogi'r cynllun hwn. Mae e, dwi'n credu, wedi bod yn galonogol bod y sefydliadau yma hefyd wedi gwneud datganiadau er cefnogi'r modd hwn o weithio. Felly, mae e'n mynd i fod yn bwysig bod y gefnogaeth yno. Mae gyda ni'r sefydliadau yn eu lle yn un o'r pum elfen sydd wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod y gefnogaeth honno yno. Ond hefyd, fel Llywodraeth, rŷn ni'n frwd i gael eglurder ynglŷn â'r disgwyliadau yna yn y system fel bod rhai o'r dadleuon parhaus rydyn ni wedi eu cael, efallai, yn y cyfnod diweddar yn llai llafar.

18:15

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Sicrhau bod Menywod, Babanod a Theuluoedd yn Ganolog i Ddiogelwch: Gweithredu Call 4 Concern mewn Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol

Eitem 7 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod ar sicrhau bod menywod, babanod a theuluoedd yn ganolog i ddiogelwch: gweithredu Call 4 Concern mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell. 

Dwi eisiau dechrau drwy nodi’n glir beth yw uchelgais Llywodraeth Cymru, a fy uchelgais i fel Gweinidog. Rŷn ni am i bob menyw, babi a theulu yng Nghymru gael gofal diogel, amserol a thosturiol, sy’n ymateb i'w hanghenion. Rŷn ni eisiau gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol sy'n gweithredu'n gynnar pan fydd pryderon yn cael eu codi. Yn fwy na dim, rŷn ni am i fenywod a theuluoedd wybod bod eu lleisiau nhw’n bwysig. Yr uchelgais honno sy’n sail i’r gwaith o weithredu Galwad am Bryder ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Fe wnaf i esbonio'n gryno beth mae hyn yn ei olygu i fenywod, rhieni a theuluoedd.

Mae Galwad am Bryder yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n cefnogi ein rhaglen ehangach o wella diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ac yn cadarnhau'r egwyddor y dylai menywod a'u teuluoedd fod yn bartneriaid gweithredol mewn gofal.

Nid dim ond mater o gyflwyno rhif ffôn neu newid dogfennau yw hyn. Mae'n ymwneud â diwylliant. Mae'n golygu creu gwasanaeth iechyd lle mae menywod yn teimlo eu bod wedi cael eu grymuso i godi pryderon am eu hiechyd eu hunain, lle mae rhieni'n teimlo'n hyderus i siarad os ydyn nhw’n poeni am iechyd eu babi, a lle mae staff yn gweld y pryderon hynny fel gwybodaeth hanfodol ar gyfer gofal mwy diogel.

Mae cynnydd wedi cael ei wneud yn barod. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn sefydlu llwybrau lleol, yn hyfforddi staff ac yn codi ymwybyddiaeth, gyda chymorth y rhwydwaith gweithredu dirywiad corfforol acíwt sydd dan ofal Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Mae nifer o sefydliadau eisoes wedi cyflwyno elfennau allweddol o'r rhaglen. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cynnwys cwestiynau am les cleifion yn eu systemau rhybuddio cynnar. Yn ystod y mis yma, byddan nhw’n gweithredu Galwad am Bryder ar ôl gwaith pellach i ddatblygu deunydd cyfathrebu lleol a deunydd ymwybyddiaeth staff, ac fe fyddan nhw’n cynnal archwiliad i fesur i ba raddau mae’n cael ei weithredu’n gyson.

Ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflwyno system weithredu safonol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol, ac wedi diweddaru eu dogfennau yn y maes, fel bod modd cofnodi pryderon rhieni am iechyd eu babi. Mae addysg i staff hefyd yn cael ei darparu ar draws gwasanaethau amenedigol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud gwaith paratoi helaeth cyn cyflwyno’r system, gan gynnwys datblygu llwybrau uwchgyfeirio, gweithdrefnau a gweithgareddau ymwybyddiaeth staff. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio Galwad am Bryder mewn gwasanaethau mamolaeth ac wedi bwrw ymlaen â gwaith datblygu mewn gwasanaethau newyddenedigol.

Lywydd, ar draws Cymru, mae timau amlddisgyblaethol yn cydweithio i sicrhau bod y gwaith gweithredu yn adlewyrchu trefniadau gwasanaeth lleol, ac mae hyn yn cael ei ategu gan ddisgwyliadau cenedlaethol clir a chysylltu parhaus drwy rwydweithiau gwella cenedlaethol. Erbyn mis Gorffennaf eleni, roedd disgwyl i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth weithredu eu trefniadau i gofnodi sut mae cleifion yn asesu eu llesiant eu hunain, ac i sefydlu systemau uwchgyfeirio ar gyfer cleifion a theuluoedd yn eu lleoliadau cleifion mewnol acíwt. Bydd cerrig milltir pellach yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ddangos dull dibynadwy o ddogfennu pryderon cleifion am eu hiechyd, a dangos sut maen nhw’n ymgorffori’r trefniadau hyn yn gyson ar draws gwasanaethau yn ystod gweddill y flwyddyn hon.

18:25
18:30
18:35
18:40
18:45
18:50
18:55
19:00

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:04.