Y Cyfarfod Llawn
Plenary
24/06/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb. Croeso nôl.
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Cwestiwn 1, Cristiana Emsley.
1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ac yn hyrwyddo diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru, ac yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ymfalchïo yn hunaniaeth unigryw Cymru? OQ64215
Yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, amlinellais fy ngweledigaeth a’m huchelgais i weld Cymru'n dod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon, gyda’r Gymraeg a'n treftadaeth yn ganolog i hynny. Mae sicrhau tegwch o ran mynediad, cynrychiolaeth a chyfranogiad hefyd yn rhan allweddol o'r weledigaeth.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Dwi'n meddwl eich bod chi'n codi pwynt allweddol o bwysig o ran ein treftadaeth ni, ein hanes ni ac, efallai, y diffyg dysgu sydd wedi bod o'r hanes a'r treftadaeth hwnnw. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn meddwl bod Owain Glyndŵr yn enw anodd i'w ddweud yn y genedl roedd o mor falch o'i harwain yn dweud y cyfan. Fedraf i ddim meddwl am unrhyw wlad arall lle y byddai hynny'n digwydd. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o hanes yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion ni. Yn amlwg, mae yna ymrwymiadau ym maniffesto Plaid Cymru o ran gwarchod enwau lleoedd hefyd, sy'n eithriadol o bwysig. Dwi'n credu ein bod ni wedi gweld ers hynny nifer o sefydliadau yn arddel y Gymraeg—os ydyn ni'n meddwl am barc Bannau Brycheiniog neu Eryri, lle ceir dim ond y Gymraeg. Dwi'n meddwl bod yna angen lot mwy o gydweithio rhyngof fi a, dwi'n gwybod, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, i sicrhau bod pawb â'r hyder i ddefnyddio'r geiriau Cymraeg, ond hefyd fod ganddyn nhw'r hawl i ddysgu am hanes Cymru.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, dwi yn cytuno efo hynny. Mae hanes Cymru ac mae Cymru wedi eu cyfoethogi gan y ffaith bod gennym ni draddodiad o bobl yn ymgartrefu yma ac wedyn yn rhan annatod o'n cymdeithas ni. Mi welais i fideo yn ddiweddar yma gan y Welsh Refugee Council a oedd yn sôn am deulu ym Mhontypridd, yr Orsis. Maen nhw wedi bod yma ers cenedlaethau ac yn rhan annatod o gymeriad y dref rŵan, efo'u caffis, y Bracchis ac ati. Mae hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n cofio nad peth newydd ydy pobl yn dod i Gymru a'n bod ni'n dathlu'r cyfraniad arbennig y mae pobl wedi'i wneud.
Dwi'n eithriadol o falch o'r gwaith y mae Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ei wneud o ran sicrhau bod stori'r bobl a oedd yma yng Nghymru yn cael ei dweud ochr yn ochr â'r Rhufeiniaid rŵan. Mae yna gymaint o storïau dydyn ni'n dal ddim yn eu dweud yn dda yma yng Nghymru, ac mae yna ymrwymiad pendant gan Blaid Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddysgu, ond hefyd, drwof fi, yn cael ei ddathlu a chyfleoedd i bobl ymgysylltu â fo.
Ar y penwythnos, roedd hi'n braf cael mynychu gŵyl dreftadaeth Gymraeg y ddinas, Tafwyl, yn dathlu ei hugeinfed flynedd. Mae hi wedi mynd o nerth i nerth, a braf gweld hynny. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo nawr i barhau'r gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r ŵyl honno?
Yr wythnos ddiwethaf, fe gawsom ni'r newyddion hefyd fod yna nawr fwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Mae hynny yn dilyn degawd a mwy o bolisïau cefnogol, megis adeiladu mwy o dai, hybu twf economaidd y ddinas, hyrwyddo addysg Gymraeg, a statws Caerdydd fel prifddinas wirioneddol ddwyieithog. Gaf i holi ymhellach sut fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu'r gwersi o lwyddiant twf Cymraeg Caerdydd gyda gweddill Cymru?
Diolch. Dwi yn ymwybodol fod nifer o'r cwestiynau hynny yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ond yr hyn sydd yn wahanol o ran y Llywodraeth hon ydy ein bod ni'n cydweithio fel Gweinidogion, ac fy mod i'n bendant iawn, fel roeddwn i'n sôn yn fy natganiad o ran blaenoriaethau diwylliant yr wythnos ddiwethaf, fod y Gymraeg yn mynd i fod yn rhan ganolog o fy mhortffolio i ac o ran y strategaeth ddiwylliant newydd.
Mi wnes i fwynhau yn arw mynychu Tafwyl. Roedd nifer o Aelodau wedi mwynhau Tafwyl. Mae hi'n ŵyl bwysig dros ben. Yr hyn rydyn ni eisiau sicrhau ydy ein bod ni fel Llywodraeth yn edrych ar y digwyddiadau sy'n digwydd ledled Cymru a sicrhau ein bod ni'n gweithio efo nhw i sicrhau eu bod nhw'n gynaliadwy i'r dyfodol, oherwydd un o'r heriau glywsom ni pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg oedd mentrau iaith yn sôn am yr heriau o ran costau cynyddol, ond hefyd mynd o flwyddyn i flwyddyn o ran y cyllid hwnnw. Drwy gael strategaeth hirdymor ac edrych ar yr ystod y bethau y byddwn ni'n eu cefnogi, rwy'n gobeithio wedyn y bydd hynny'n gallu rhoi sicrwydd i wyliau bod yna ddyfodol iddyn nhw, ond hefyd ein bod ni'n gallu bod yn strategol o ran ein buddsoddiad a sicrhau'r gwaddol gorau posib, a chydgysylltu efo addysg lle bo hynny'n briodol hefyd.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog cyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith pobl anabl? OQ64207
Ein gweledigaeth fel Llywodraeth yw i bawb gael mynediad teg a chyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Drwy Chwaraeon Cymru, mi fyddwn yn parhau i ariannu Chwaraeon Anabledd Cymru i helpu i droi'r weledigaeth hon yn realiti. Mae yna ymrwymiad trawslywodraethol i gefnogi'r weledigaeth hon.
Diolch i'r Aelod am godi'r pwyntiau eithriadol o bwysig hynny. Fel roeddwn i'n sôn yn fy ymateb cychwynnol a'r wythnos diwethaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud yn gyfan gwbl gynhwysol, ac mae honna wedi bod yn neges glir yn y sgyrsiau dwi wedi bod yn eu cael efo Chwaraeon Cymru. Ac yn sicr, mi fyddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod chwaraeon ac ati yn gyfan gwbl gynhwysol. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddiweddaru'r Senedd hon wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Diolch. Mae hwn yn bwynt pwysig dros ben, a dyna'r union weledigaeth roeddwn i'n amlinellu'r wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i'r hyn rydyn ni'n ei wneud fod yn gyfan gwbl gynhwysol. Dwi wedi herio, pan oeddwn i'n lefarydd yr wrthblaid, o ran y digwyddiadau mawr yma, beth ydy'r gwaddol gwirioneddol? Beth ydy'r budd i bobl yma yng Nghymru? Weithiau, roedd y Llywodraeth flaenorol yn credu mai dim ond y niferoedd yn dod i Gymru oedd hynny, a dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Os ydy pobl yn byw yn ein cymunedau ni, yn gallu gweld digwyddiad mawr yn digwydd, yn cael eu heffeithio gan y ffaith bod digwyddiad mawr yn digwydd, ond ddim yn gallu cael mynediad, efallai fod hynny hefyd oherwydd cost mynychu. Felly, y ffordd y bydd y Llywodraeth yma yn mynd ati'n wahanol ydy drwy sicrhau bod y cwestiynau yna o'r dechrau. Mae'n amlwg bod y gwaith wedi dechrau gyda Ewros 2028, ond dwi wedi cael sicrwydd gan swyddogion fod gen i'n dal amser i roi fy stamp fy hun a stamp y Llywodraeth hon, a hefyd adlewyrchu'r sylwadau rydw i wedi'u clywed heddiw, ar y gwaith hynny. A byddwn i'n gofyn i unrhyw Aelodau sydd â syniadau o ran Ewros 2028, sy'n cynrychioli Caerdydd yn benodol, i rannu'r rheini efo fi, ond dwi hefyd eisiau sicrhau bod yna waddol Cymru gyfan o ran Ewros 2028. Dwi eisiau pobl i ddod i Gymru a mynd i rannau eraill o Gymru yn ystod y twrnament hefyd.
Diolch. Galwaf yn awr ar y lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, James Evans.
Diolch i'r llefarydd am y cwestiwn, a hefyd diolch am y gefnogaeth i'n polisi nofio ni. Elfen bwysig ohono ydy nofio, ie, ond hefyd diogelwch yn y dŵr, oherwydd rydyn ni hefyd yn gwybod nad dim ond nofio mae pobl mewn dŵr, ond mae gweithgareddau rŵan o ran paddleboarding ac ati. Mae yna lot o gynnydd wedi bod mewn pobl yn cael eu hanafu neu'n boddi, ac ati, drwy'r math yna o weithgareddau hefyd. Felly, mae'r elfen yna'n eithriadol o bwysig, a diolch am y gefnogaeth.
O ran cyllid ychwanegol, yr hyn ddaeth yn amlwg i fi o ddod yn Weinidog ydy nad oedd yr holl gyllideb a oedd gen i wedi’i neilltuo yn barod o ran chwaraeon—nad oedd hi wedi’i gwario. Felly, beth dwi wedi bod yn ei wneud ydy ailbroffilio honno i sicrhau ein bod ni'n ceisio cael yr impact mwyaf posib, tra bod y gwaith yn mynd rhagddo o ran datblygu'r hyn sydd ei angen ar gyfer cyllidebau'r dyfodol. Felly, dyna'r ymrwymiad: i ddefnyddio beth sydd gennym ni yn fwy effeithiol o fewn y gyllideb eleni. Ond mae'r gwaith trawsbortffolio hwnnw eisoes wedi dechrau er mwyn edrych ar gyllidebau'r dyfodol.
Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yng ngogledd Cymru? OQ64196
Ledled Cymru, mae £34 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, ond, fel yr amlinellais yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, mae angen gwneud mwy o waith i ddeall lefel y buddsoddiad sydd ei hangen i fuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad ym mhob cornel o Gymru. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gomisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethu cenedlaethol, i lywio buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu dros dymor y Llywodraeth. Mae hyn oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cyfraniad hwnnw. Dwi mor falch ein bod ni'n gweld consensws ar draws y Senedd hon am bwysigrwydd hyn. Mae yna nifer o gwestiynau ynglŷn â chwaraeon llawr gwlad wedi dod drwy'r sesiwn hwn, a dwi wedi fy nghalonogi bod yna gymaint o gefnogaeth i'r weledigaeth y gwnes i ei hamlinellu wythnos diwethaf a lle dŷn ni angen cyrraedd fel Llywodraeth. Mae o yn golygu cydweithio. Mae'r ffaith fy mod i ddim angen eich perswadio chi i gyd o ran gwerth y gwaith hwn yn dweud cyfrolau. Dŷn ni'n gwybod ei fod o'n bwysig, dŷn ni'n gwybod ei fod o o fudd i bobl, ond eto, dwi ddim yn meddwl bod hynna wedi cael ei gydnabod yn ddigonol yn y gorffennol.
Mae yna brosiectau anhygoel yn digwydd ledled Cymru gan glybiau ar lawr gwlad. Maen nhw nid yn unig yn trawsnewid bywydau, yn gwneud pobl yn iachach, maen nhw'n achub bywydau. Ond eto, maen nhw'n gorfod trio flwyddyn ar ôl blwyddyn am grant ar ôl grant, ddim yn sicr os ydyn nhw'n gallu parhau. Dwi angen deall sut dŷn ni'n mynd i gyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn normal, ble bynnag ydych chi'n byw yng Nghymru, bod gennych chi fynediad, a'n bod ni yn gwerthfawrogi clybiau ar lawr gwlad. Felly, yr holl waith dwi'n trio ei wneud ar y funud ydy sicrhau bod yna ddyfodol i glybiau llawr gwlad, a'n bod ni hefyd yn sicrhau bod eu potensial nhw yn cael ei wireddu.
Dwi yn realistig fy mod i ddim yn mynd i allu datrys hyn yn syth bìn chwaith, ond mae sut dŷn ni'n amddiffyn yr hyn sydd gennym ni hefyd yn rhywbeth dwi'n angerddol amdano fo. Os oes gennych chi esiamplau o glybiau ac ati, dwi wastad yn hapus i glywed amdanyn nhw gan Aelodau a gweld beth ydy'r math o esiamplau y gallen ni fod yn eu rhoi o fewn y strategaeth hon. Diolch.
4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gefnogi elusennau a sefydliadau trydydd sector ym meysydd chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau i hyrwyddo'r agenda iechyd ataliol? OQ64225
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gwaith eisoes ar y gweill i weithio ar draws y Llywodraeth i ddatgloi potensial chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau o ran iechyd ataliol. Fel yn fy ymateb i'r Aelod diwethaf, mae'r dystiolaeth yn glir. Mae yna waith arloesol yn y meysydd hyn yn barod yn achub bywydau, ac mae angen inni sicrhau mynediad a chyfle cyfartal i bawb.
5. Sut fydd y Gweinidog Cabinet yn sicrhau mynediad cyfartal i'r celfyddydau i bobl o bob oedran, cefndir, a gallu? OQ64210
Mae sicrhau mynediad teg i bawb yn ganolog i'n gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n amlwg ar y funud fod rhai pobl yn cael eu heithrio rhag gallu cymryd rhan yn a mwynhau'r celfyddydau oherwydd pwy ydyn nhw neu ble maen nhw'n byw. Mae'n rhaid i hyn newid, ac mi fyddaf i'n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Cabinet i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd ar waith ar hyn o bryd.
Diolch am yr ymateb. Rydyn ni'n gwybod bod cymryd rhan yn y celfyddydau o fudd mawr i lesiant pobl a phlant, ac mae gwella mynediad ar draws y bwrdd yn allweddol i wneud y mwyaf o'r budd hwn. Ond mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau wedi gostwng ers y pandemig, gyda 64 y cant o bobl yn mynychu digwyddiad celfyddydol rhwng 2022 a 2023, o'i gymharu â 70 y cant cyn hynny. A gyda 15 y cant o rieni yn dweud mai tripiau ysgol yw'r elfen addysgol anoddaf i'w rheoli yn ariannol, mae llawer o blant a phobl ifanc yn colli allan ar y profiadau cyfoethog sydd gan y celfyddydau i'w cynnig.
Mae'n bwysig sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i ymwneud â'n diwylliant ni oherwydd eu hoedran, eu cefndir neu eu gallu. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall pawb fwynhau holl fanteision a phleserau y celfyddydau?
Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc eithriadol bwysig hwnnw a thynnu sylw at yr ystadegau hynny hefyd a'r gostyngiad sydd wedi bod. Mi oeddwn i'n gyfan gwbl glir yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf mai yn ganolog i hyn ydy sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad, cydraddoldeb o ran cyfranogiad.
Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ymwneud efo diwylliant a'r celfyddydau. Mae ganddyn nhw hawl i ymwneud ag ymgysylltu â chwaraeon, ond mae yna rwystrau ar y funud, a'r sialens i ni ydy sut ydyn ni'n gweithio'n draws-lywodraethol, ar draws y Cabinet i fod yn gwireddu'r weledigaeth honno a'r hawl sylfaenol sydd gan bob plentyn.
Dwi'n ymwybodol iawn o ran tripiau ysgol. Dŷn ni'n gwybod, o fy ngwaith i pan oeddwn yn yr wrthblaid yn rhan o waith y pwyllgor plant a phobl ifanc, fod yna ddisgyblion yn peidio â mynd i'r ysgol ar ddiwrnod lle mae yna drip ar adegau rŵan oherwydd y gost, a dydy hynny ddim yn dderbyniol. Mae'n rhaid inni alluogi pob plentyn i gael yr hawl hwnnw.
Mae gennym ni ymrwymiad o ran mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Mae hynny'n parhau efo'r Llywodraeth hon, ond dŷn ni eisiau mynd ymhellach. Mae yna rai cynlluniau lle mae yna gyfraniad yn gallu mynd at gost bws, er enghraifft. Dwi eisiau edrych ar yr ystod o bethau sydd gennym ni, i wirioneddol ddeall y rhwystrau hynny, ond hefyd i weithio efo'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a'r Dirprwy Brif Weinidog—y ddwy yn digwydd bod yma hefyd—sydd wrth gwrs yn edrych o ran tlodi plant, i sicrhau bod hyn yn elfen o'r gwaith hwnnw, a sut dŷn ni'n sicrhau bod yr un plentyn yng Nghymru yn cael ei gau allan o'i dreftadaeth, ei ddiwylliant, ei gelfyddydau, ei iaith, na'i chwaraeon.
6. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllido Cyngor Celfyddydau Cymru? OQ64218
Grant craidd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2026-27 yw £33.6 miliwn o refeniw a £900,000 o gyfalaf. Yn ogystal, rydym wedi darparu £7.5 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar adolygiad sy'n edrych ar gyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon i lywio cynnydd cynyddol mewn gwariant celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, sy'n gysylltiedig â newid ehangach i weithgarwch iechyd a lles ataliol ar draws y Llywodraeth.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n glir bod gan y cyngor celfyddydau ddim byd i'w wneud efo'r cwestiwn atodol fuodd wedyn. Dydyn nhw ddim yn gyfrifol am ariannu'r cyngor llyfrau, dydyn nhw ddim yn rhan o'r gwaith grant o ran Nation.Cymru nac unrhyw gorff arall. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i bobl ddeall hynny. Dwi hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig inni gydnabod y rôl hyd braich allweddol hynny a llywodraethiant. Dwi ddim yn derbyn rhai o'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod o ran y cyngor celfyddydau, oherwydd mae yna lywodraethiant yna. Os oes yna unrhyw esiamplau lle rydych chi'n credu bod y llywodraethiant wedi bod yn ddiffygiol, yna mae yna brosesau o ran edrych ar hynny.
Yn glir, o ran bod yna nifer o gwestiynau wedi eu gofyn ynglŷn â buddsoddiad y Llywodraeth hon yn y cyfryngau yng Nghymru, gaf i mi fod yn glir—yr elfen hyd braich rydym ni'n ei gefnogi, ac annibynrwydd yr holl ystod o ddarlledu, o'r cyfryngau ac ati. Mae'n allweddol bwysig. Mae nifer o adroddiadau wedi dangos bod yna ddiffyg democrataidd yng Nghymru oherwydd does gennym ni ddim cyfryngau cryf. Dydw i ddim yn Aelod etholedig sy'n mynd i drio ymyrryd yn rhyddid y wasg. Mae yna brosesau eraill lle mae yna god o ran ethics gan newyddiadurwyr ac ati i'w dilyn. Fyddaf i ddim yn dweud wrth bobl beth i'w gyhoeddi. Mae gennym ni'r hawl yma, yng Nghymru, i gael cyfryngau cryf, cyfryngau sydd yn ein dal ni i gyfrif fel Llywodraeth. Mae hwnnw'n rhan o'n ddemocratiaeth ni ac, yn sicr, mae'r Llywodraeth hon yn barod iawn i gael ei dwyn i gyfrif gan wasg gryf yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, cwestiwn 7, Carmelo Colasanto.
7. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol chwaraeon ar lawr gwlad? OQ64216
Mae buddsoddi yn, a chefnogi, chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol, a bydd yn chwarae rhan ganolog yn ffocws y Llywodraeth hon ar chwaraeon fel triniaeth feddygol a'r agenda ataliol. Fel dwi wedi amlinellu nifer o weithiau heddiw, yn fy ymateb i Tom Montgomery ac eraill, bydd yr adolygiad o gyfleusterau chwaraeon yn helpu i lywio buddsoddiad yn y dyfodol gan ein bod ni eisiau i bawb allu cymryd rhan mewn chwaraeon, beth bynnag fo'u cefndir a ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod Undeb Rygbi Cymru yn gorff annibynnol. Mae yna drafodaethau, wastad, rhwng y Llywodraeth ac Undeb Rygbi Cymru a chyrff llywodraethu eraill oherwydd pwysigrwydd y cydweithio hwnnw. Yn amlwg, mae yna deimladau cryfion iawn o ran rygbi. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n gwerthfawrogi dydw i ddim yn rhan o'r penderfyniadau hynny, ond yr hyn oedd yn glir o ran y trafodaethau ges i pan oeddwn i'n llefarydd o ran y blaid—dydw i ddim wedi cael y sgwrs yma ers dod yn Weinidog, ond pan oeddwn i'n llefarydd ar ran y blaid—ydy ein bod ni fel plaid yn disgwyl bod yr ymgysylltu yna gyda'r gymuned, gyda'r rheini sydd, fel chithau, yn angerddol o ran y clybiau yma, a bod yna werthfawrogiad hefyd o'u pwysigrwydd nhw o ran eu hardaloedd nhw, o ran ein treftadaeth ni hefyd, a'u bod nhw'n gymaint yn fwy na jest clybiau sy'n chwarae rygbi. Mae lliw y crys rydych chi'n ei wisgo yn cael effaith, onid ydy, ac mae o'n rhan o dîm a chymuned. Felly, yn sicr, fyddaf i ddim yn rhan o unrhyw benderfyniad, ond disgwyliadau'r Llywodraeth hon, wastad, ydy bod pob corff yn meddwl am oblygiadau penderfyniadau o ran dyfodol unrhyw glwb, a'n bod ni hefyd yn edrych, o ran y cydweithio hwnnw, i sicrhau ein bod ni'n gallu, fel Llywodraeth, cydweithio a sicrhau bod yna gyfleoedd ar lawr gwlad o ran datblygiad rygbi hefyd.
Byddwch chi hefyd yn ymwybodol o'r trafferthion fuodd efo Undeb Rygbi Cymru yn y gorffennol, buodd yn wybyddus iawn ar lawr y Senedd hon, o ran merched a rygbi, ac, yn sicr, rydym ni eisiau sicrhau bod pob un o'n chwaraeon ni yng Nghymru yn gyfan gwbl gynhwysol hefyd.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Rydyn ni'n dod nawr i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Ond, cyn i mi alw'r cwestiwn cyntaf, galwaf ar y Gweinidog Cabinet i wneud datganiad byr.
Diolch, Lywydd, am roi cyfle i fi yn syth i gywiro'r Cofnod o'r datganiad ar y gyllideb atodol ddoe. Yn ystod y drafodaeth, defnyddiais ddau ffigur gwahanol mewn camgymeriad ar gyfer lefel y cyfalaf heb ei ddyrannu—yn gyntaf, yn gywir, y ffigur o £29,000, ac, yn ail, y ffigur o £29 miliwn. Y ffigur cywir, felly, yw £29,000. Yn ogystal, yr amcangyfrif presennol ar gyfer ffigur cyfalaf sy'n weddill yng nghronfa wrth gefn Cymru ar hyn o bryd yw £50 miliwn. Rwy'n gobeithio bydd y Senedd yn derbyn fy ymddiheuriad am y camgymeriad yna, ac rwy'n ysgrifennu atoch chi hefyd ar wahân, Lywydd, i sicrhau bod y cywiriad yn cael ei osod ochr yn ochr yn y Cofnod ddoe.
Diolch, Weinidog Cabinet. Nawr, rŷn ni'n symud i cwestiwn 1—Marc Jones.
1. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cymryd tuag at sicrhau fformiwla ariannu teg i Gymru? OQ64219
Yn fy nghyfarfod cyntaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, fe wnes i bwysleisio bod diwygio cyllidol, gan gynnwys cyllid tecach, a diwygio'r fformiwla Barnett, yn flaenoriaethau allweddol. Fe gytunom y byddem yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd adeiladol i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr ar economi sir Gaerfyrddin? OQ64201
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ac asesiad effaith integredig eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf. Mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu nawr a ydyn nhw am gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd, yn seiliedig ar eu hasesiadau eu hunain o'r effeithiau ac yn dilyn ymgynghori â'u cymunedau. Hyd yma, nid yw sir Gaerfyrddin wedi cynnal ymgynghoriad ynglŷn ag a ddylid cyflwyno’r ardoll yma.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet, ac yn gyntaf llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones.
Llefarydd Llafur Cymru, Huw Thomas.
Dwi'n diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Byddwn ni yn Llafur Cymru yn sicr yn parhau i wylio pa ddatblygiadau sy'n digwydd ar y mater hwnnw.
A gaf i droi nawr at rywbeth sydd yn sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth newydd: adolygiadau, ymgynghoriadau, comisiynau, cyfarfodydd, pwyllgorau? Mae llu ohonynt wedi'u cyhoeddi fel rhan o 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru. Fe holais i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad ddoe am y costau, ond ges i ddim ateb clir. Felly, tybed a all y Gweinidog cyllid ddweud wrth y Senedd heddiw faint, mewn punnoedd a cheiniogau, fydd yr amrywiol adolygiadau, comisiynau ac ymgynghoriadau yma sydd wedi cael eu cyhoeddi yn costio i drethdalwyr. Diolch yn fawr.
Cyn lleied â phosib, byddwn i'n dweud. Dwi eisiau gwario arian y Llywodraeth yma ar ganlyniadau sy'n deillio allan o'r gwaith paratoi yma. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n rhannu gyda fi yr awydd, wrth i ni ddatblygu polisïau newydd neu weithredu polisïau presennol yn fwy effeithiol, ein bod ni'n gwneud hynny ar ôl ymgynghori a thrafod a derbyn y dystiolaeth fwyaf diweddar. I wneud hynny, mae'n rhaid i ni gymryd rhywfaint o amser a rhywfaint o waith i ddatblygu’r cynlluniau hynny. Felly, dwi ddim eisiau iddo fe gostio mwy o arian nag amser nag sydd yn rhaid iddo fe wneud, a'n bod ni yn symud yn gyflym i fedru gweithredu ar yr hyn sy'n bwysig o ran effeithiolrwydd y polisïau cyhoeddus hynny, a chyflwyno syniadau a momentwm newydd i bolisïau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
3. Sut y bydd polisïau treth Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng Ngheredigion Penfro? OQ64190
Mae trethi lleol yn helpu i dalu am wasanaethau pwysig ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngheredigion Penfro. Bydd y Llywodraeth hon hefyd yn diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn well ac archwilio ffyrdd o wneud y dreth gyngor yn decach.
Weinidog, mae pobl sy'n rhedeg busnesau twristiaeth ledled Ceredigion Penfro wedi ei gwneud hi'n glir iawn i fi eu bod nhw'n ei ffeindio hi'n anodd iawn, achos nifer o bolisïau a rheoliadau treth diweddar, sy'n arwain at rai pobl fusnes yn ystyried a yw hi'n werth rhedeg busnesau o gwbl. Dwi'n siŵr eich bod chi wedi derbyn yr un math o sylwadau â'r rheini dwi wedi eu cael. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n sicrhau bod polisïau treth a mesurau cyllidol Llywodraeth Cymru yn y Senedd hon yn deall y pryderon sy'n cael eu codi gan y diwydiant twristiaeth yng ngorllewin Cymru, a'u bod nhw ddim yn arwain at fwy a mwy o fusnesau yn ystyried cau eu drysau?
Un peth sy'n fantais o fod wedi sefyll etholiad yn yr un etholaeth â Paul Davies yw fy mod i hefyd wedi pigo lan yr un sylwadau hynny o'r sector lletygarwch a'r sector twristiaeth. Felly, mae yna nifer o agweddau ar waith y Llywodraeth yma—rhai dwi'n gyfrifol amdanynt—yn mynd i fynd ati nawr i edrych ar sut gallwn ni fod yn gwella'r amodau neu'r pwysau mae'r sectorau pwysig yma yn eu hwynebu. Byddwch chi'n gwybod bod yna ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru i, er enghraifft, edrych ar y rheol 182 o ddyddiau sydd yn wynebu'r sector hunanddarpar ar hyn o bryd. A byddwn ni'n edrych i gymryd camau i asesu hwnnw ac i asesu a ydy hi'n bosib neu yn ddymunol nawr i fod yn cyflwyno eithriadau cenedlaethol ychwanegol. Byddwn ni'n symud ymlaen gyda'r gwaith yna, ac, fel y dywedais i yn fy ateb blaenorol, yn sicrhau ein bod ni hefyd yn edrych ar sut mae ardrethi busnes yn cael eu diwygio er mwyn gwella hinsawdd economaidd y sectorau yna rydych chi wedi eu hamlinellu a'r stryd fawr yn enwedig.
Ie, diolch am y cwestiynau yna yn ychwanegol. Fel rŷch chi'n amlinellu, mae cael y balans yn iawn ar rai o'r polisïau yma yn bwysig iawn, fel nad yw'r pwysau ar y sector lletygarwch a'r sector hunanddarpar yn ormodol i ganiatáu iddyn nhw gario ymlaen yn eu busnes, fel gwnaeth Paul Davies sôn, ond hefyd fod yr angen i sicrhau bod neb yn gallu cymryd mantais o'r system dreth a'r rheolau sydd gyda ni. Felly, mae cael y balans yn iawn yn bwysig.
Rydyn ni, fel Llywodraeth, ac fe fyddaf i fel Gweinidog, yn symud ymlaen yn weddol o gyflym nawr i edrych ar sut rŷn ni'n asesu'r polisi yma. A dwi'n rhoi cynnig agored i Aelodau yn y Senedd yma, sydd wedi bod yn canfasio dros y misoedd diwethaf yma, i fod yn rhoi eu sylwadau i fi a'u syniadau i fi o ran sut mae'n bosib inni fod yn newid rhai o'r polisïau yma er lles y sector twristiaeth, ond hefyd sydd yn deall nad oes unrhyw loopholes newydd yn cael eu hagor wrth ddiwygio ymhellach y polisïau yma. Felly, dwi'n gobeithio clywed syniadau oddi wrth Aelodau—byddwn i'n gwerthfawrogi hynny.
Diolch am y cwestiwn yna eto ar Geredigion Penfro. Wrth gwrs, wrth i ni ymrwymo i asesu nifer fawr o'r agweddau ar y polisïau sy'n effeithio ar fusnesau ac ar y sector tai—fel y dreth gyngor, fel ardrethi busnes, fel y rheol 182—fe fyddwn ni'n gwneud hynny drwy asesu'n llawn impact y newidiadau mwyaf diweddar a'r hyn y gallwn ni fod yn ei gyflawni er lles rhai o'r sectorau pwysig yma yn ein heconomi ni. Felly, bydd yr asesiad yna, fel rŷch chi'n ei amlinellu fe, yn bwysig iawn i'w gyflawni.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ynghylch sicrhau bod buddsoddiad strategol Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'u cynllun ar gyfer Cymru sero net erbyn 2040? OQ64206
Er mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yw'r cynllun ar gyfer Cymru sero net, mae'n ymrywmiad i'r Llywodraeth gyfan. Bydd penderfyniadau buddsoddi strategol yn cael eu gwneud ar y cyd, felly, wrth i ni baratoi ar gyfer cyllideb yr hydref.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid canlyniadol ar gyfer prosiectau rheilffyrdd? OQ64211
Mae sicrhau cyllid teg ar gyfer rheilffyrdd Cymru a mynd i'r afael ag anghyfiawnder HS2 yn flaenoriaeth bwysig iawn i ni. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cydnabod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi derbyn digon o gyllid yn y gorffennol, felly mae'n bryd gweithredu. Fe godais i hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf.
6. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes? OQ64222
Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu’r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu eithriadau newydd rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat. Fe fyddaf i’n amlinellu rhagor o fanylion am ein cynigion ar hyn maes o law.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'r camau a gymerwyd yn y blynyddoedd diwethaf, diolch i gyfraniad Plaid Cymru mewn gwrthblaid, i leihau nifer y lletyau gwyliau a thyfu'r stoc dai yn ein cymunedau i'w croesawu. Serch hynny, mae achosion wedi codi lle mae busnesau llety gwirioneddol, rhai sy'n chwarae rôl bwysig fel rhan o'n cynnig twristiaeth, yn cael eu cosbi. Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto sydd yn ymrwymo i greu eithriadau newydd a chlir mewn achosion lle na fyddai'r llety hwnnw'n gymwys i fod yn gartref preifat. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith fydd yn mynd rhagddo gan y Llywodraeth i ddatblygu a gweithredu'r eithriadau newydd?
Dwi eisoes, fel Gweinidog cymharol newydd o hyd, wedi cychwyn ar y gwaith o drafod sut y gallwn ni fynd ati i adolygu'r trothwy gosod 182 diwrnod ac i feddwl a oes angen eithriadau newydd cenedlaethol i'r polisi yma. Dwi'n gwybod bod y polisi heb landio yn y lle cywir ar hyn o bryd a bod angen yr adolygiad hwnnw, ac felly dwi wrthi nawr yn trafod opsiynau ynglŷn â sut y medraf ddod i gasgliad i gymryd penderfyniad ar sut mae adolygu hyn a chynnwys y Senedd yma ac, yn bwysicach, y sectorau perthnasol yn y drafodaeth ehangach am beth fyddai'r diwygiadau mwyaf effeithiol ar gyfer y polisi yma.
7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ddiwygio'r fformiwla ar gyfer ariannu llywodraeth leol? OQ64205
Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn bwrw ymlaen ag adolygiad o'r fformiwla cyllido llywodraeth leol mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynglŷn â sut mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen? OQ64191
Roedd y gyllideb atodol gyntaf, a gyhoeddwyd ddoe, yn darparu £164 miliwn o gyllid refeniw a £130 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i'n blaenoriaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys £145 miliwn i'r NHS yng Nghymru i dorri rhestrau aros ac adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Ac yn olaf, gyda thipyn bach o injury time ar ôl y datganiad byr—
Na, na. Cwestiwn 9, Zaynub Akbar.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol o'r rhaglen Cartrefi Cynnes gwerth £15 biliwn? OQ64220
Cadarnhawyd symiau canlyniadol ychwanegol cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng nghyllideb yr hydref 2025. Bydd Cymru'n derbyn £17 miliwn yn 2026-27, £26 miliwn yn 2027-28, £26 miliwn yn 2028-29 a £17 miliwn yn 2029-30.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Cwestiwn amserol nawr, o dan eitem 3. Ken Skates.
1. Pa fesurau, cynlluniau a threfniadau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y rhybudd coch yr wythnos hon am wres eithafol, ac i ddiogelu seilwaith cenedlaethol hanfodol? TQ1469
Rydym wedi gweithredu ein trefniadau cydlynu ymateb i fonitro a rheoli effeithiau gwres eithafol ar draws y meysydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt, gan weithio gyda phartneriaid, fforymau gwytnwch lleol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n annog pawb i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus, yfed digon o ddŵr a chadw mas o'r haul yn ystod y rhan boethaf o'r dydd.
Diolch. Rwy'n cytuno gyda'r sylwadau ynglŷn â difrifoldeb y tywydd eithafol yma rŷn ni'n ei weld heddiw, yfory a dros y dyddiau nesaf. Fel gwnes i sôn, rydym ni wedi cydlynu gweithgaredd yn genedlaethol er mwyn rheoli a monitro'r sefyllfa bob dydd. Mae'r adran diogelwch gwladol a gwytnwch yn cydlynu'r gwaith yna ac yn gweithio gyda swyddogion ar lawr gwlad a swyddogion iechyd cyhoeddus hefyd er mwyn inni gael yr ymateb trawslywodraeth yna, fel gwnaethoch chi sôn. Gwnaeth yr ymateb cenedlaethol gynyddu i lefel 1 ar fore 22 Mehefin, bore dydd Llun, wrth i ni fonitro'r sefyllfa. Gwnaethon ni ddod â'r gweision sifil polisi at ei gilydd mewn modd ymarferol iawn i edrych ar yr elfennau gweithredol yna er mwyn ein bod ni'n ymateb.
Rydym ni'n cydnabod y risgiau, rydym ni'n cydlynu gweithgaredd, ac fel gwnaethoch chi sôn, mae'r risg i fywyd yn un difrifol iawn mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif. Ar y meysydd iechyd, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor mas i'r sector iechyd. Roedd y prif gynghorydd meddygol wedi cysylltu gyda phartneriaid nôl ym mis Mai i wneud yn siŵr bod y cynlluniau mewn lle ar gyfer fel achosion fel hyn, sy'n debygol o ddod yn fwy aml nawr oherwydd newid hinsawdd. Yn sicr mae hwnna'n flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth: gwneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod y ffaith bod newid hinsawdd yn bodoli, gan gydnabod bod angen i ni weithio ar draws y Llywodraeth er mwyn paratoi am achosion fel hyn yn fwyfwy aml, yn anffodus.
Diolch. Rwy'n rhannu'r pryderon yna ac yn rhannu'r sylwadau ynglŷn â'r effaith ar deuluoedd wrth i ysgolion a llefydd gwarchod plant gau. Ond nid ar chwarae bach ŷn ni'n gwneud hyn, wrth gwrs, o ran y rhybudd coch. Dydyn ni erioed wedi cael rhybudd coch fel hyn yng Nghymru o'r blaen oherwydd tywydd. Mae cau ysgolion a chau llefydd gwarchod plant yn rhywbeth i'r penaethiaid lleol neu'r awdurdodau lleol.
Yn amlwg, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae pob un adeilad yn wahanol o ran maint a'r gallu i ymgymryd â thymheredd fel yma, felly mae'n iawn ac yn briodol bod y penderfyniadau yna yn cael eu gwneud ar sail risg leol, ar sail yr amodau penodol, er mwyn ein bod ni'n cadw pobl ifanc a'n plant yn ddiogel.
Rŷn ni'n gwybod bod plant a phobl ifanc, yn enwedig, yn fwy bregus, yn methu controlio tymheredd y corff, felly mae'n ddyletswydd arnon ni i gyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gofalu am blant a phobl ifanc, a phobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd penodol yn ystod y cyfnod yma. Felly, dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam mae angen i ysgolion ystyried cau yn y meysydd yma. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol ac yn gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth yna mewn lle.
Wel, dwi'n falch iawn i glywed y sylwadau yna, a'r ddealltwriaeth bod hyn yn rhywbeth mae angen inni ei daclo, a bod newid hinsawdd yn flaenoriaeth. Wrth gwrs, mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth newydd yma, a byddwn ni'n falch iawn i weld y gefnogaeth i'r ffaith ein bod ni yn blaenoriaethu mesurau i ddelio ag effaith newid hinsawdd, ac, fel y gwnaethoch chi sôn, yr effaith real sy'n digwydd ar hyn o bryd i'r system trafnidiaeth, yn ogystal ag ysgolion ac yn y blaen.
Felly, mae hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n rhywbeth rŷn ni'n mynd i'w wreiddio drwy bob un portffolio—yr angen inni ddim jest edrych ar y mesurau newid hinsawdd, ond hefyd fel rŷn ni'n paratoi fel gwasanaethau, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, a gwneud yn siŵr bod cynlluniau mewn lle, fel rŷn ni wedi dros y misoedd diwethaf. A rhaid gwneud yn siŵr bod y cynlluniau mewn lle pan mae yna issues fel y rhybudd coch yma yn codi, a bod yna gefnogaeth a dealltwriaeth bod angen gweithredu ar y cynlluniau yna ar fyrder, a'n bod ni'n monitro ac yn rhoi'r gefnogaeth yna yn ôl yr angen.
Diolch, Ddirprwy Weinidog.
Felly, nawr mae eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Gareth Thomas.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch.
Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): marw-enedigaeth a marwolaethau newydd-anedig. Galwaf ar Sara Crowley i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9245 Sara Crowley, Vikki Howells, Elyn Stephens
Cefnogwyd gan Anna Nicholl, Anthony Slaughter, Art Wright, Beca Brown, Becca Martin, Catherine Cullen, Elfed Williams, Gwyn Williams, Jason O'Connell, Joshua Kim, Leticia Gonzalez, Lis McLean, Lynne Neagle, Mair Rowlands, Matthew Jones, Natasha Asghar, Niamh Salkeld, Nick Carter, Rebeca Phillips, Safa Elhassan, Sarah Rees, Shav Taj, Zaynub Akbar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod y gyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na'r gyfradd ar gyfer gweddill y DU;
b) na fu gostyngiad parhaus yng nghyfradd y babanod sy'n farw-anedig yng Nghymru ers 2018;
c) y bu diffyg cynnydd parhaus hefyd o ran lleihau cyfradd y babanod sy'n marw yn fuan ar ôl eu geni yng Nghymru; a
d) y gallai mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru fod wedi goroesi rhwng 2019 a 2023 pe bai canlyniadau wedi cyfateb i ganlyniadau'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop.
2. Yn croesawu:
a) cyhoeddi Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026;
b) ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd ataliol a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd; ac
c) gwaith parhaus i wella diogelwch mamolaeth, cynllunio'r gweithlu, a thegwch o fewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) nad yw teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru bob amser yn cael cymorth cyson, o ansawdd uchel, gan gynnwys mynediad at staff hyfforddedig, cyfleusterau profedigaeth priodol, a gofal seicolegol arbenigol;
b) bod gormod o farwolaethau babanod yng Nghymru yn rhai y gellir eu hatal, a bod angen gweithredu brys, cydgysylltiedig i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol; ac
c) bod rhaid i’r gwaith o leihau marwolaethau babanod, a sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn cael gofal tosturiol, o ansawdd uchel fod yn un o nodau canolog system iechyd ataliol a theg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr argymhellion a nodir yn Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026 yn cael eu gweithredu’n amserol ac yn effeithiol;
b) gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd ledled Cymru i:
i) sicrhau bod pob teulu mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd uchel fel rhan o Lwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol, gan gynnwys staff hyfforddedig, cyfleusterau priodol, cyfleoedd i greu atgofion, ac atgyfeirio at gymorth seicolegol arbenigol lle bo angen;
ii) cyflwyno cymorth seicolegol arbenigol i bobl ar ôl colli yn ystod beichiogrwydd a cholli babi, gan sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at gymorth waeth ble maent yn byw, y math o golled a brofwyd yn ystod beichiogrwydd neu o golli babi, neu pa mor hir yn ôl yr oedd; ac
c) ystyried mabwysiadu targedau clir, mesuradwy i leihau cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru yn unol â'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop, gan gynnwys targedau i ddileu anghydraddoldebau o ran colli babanod yn ôl ethnigrwydd ac amddifadedd, a sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bob Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl bwysig hon. Mae'n arwyddocaol taw dyma ddadl Aelodau cyntaf y Senedd yma, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb.
Mae hefyd yn golygu adnabod anghydraddoldebau. Rŷn ni’n gwybod bod canlyniadau'n gallu amrywio'n sylweddol fel canlyniad i amddifadiad ac ethnigrwydd. Dyna pham mae'n rhaid i ni unioni'r gwelliannau angenrheidiol yng ngwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gyda'n hymrwymiadau i leihau anghydraddoldebau iechyd a chyflawni'r cynllun Cymru wrth-hiliol. Rwyf hefyd yn ymrwymo i gryfhau ein dull o weithredu'r cynllun iechyd menywod i wella iechyd yn y blynyddoedd cynnar, i sicrhau canlyniadau iechyd gwell ar draws y cwrs bywyd, ac, yn bwysicach fyth, bod anghenion menywod yn cael eu clywed a'u gweithredu arnynt.
Mae'r adroddiad 'Y llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru' yn ganolog i’n dull gweithredu. Cafodd yr asesiad hwn ei lywio gan ddata, gan ymweliadau safle, trafodaethau gyda staff, lleisiau a phrofiadau menywod, teuluoedd a chymunedau. Mae argymhellion y panel yn nodi bod angen rhoi cynnig o ofal safonol i bawb i fynd i'r afael â blaenoriaethau diogelwch clinigol brys, i sicrhau lefelau staffio diogel a deall yr angen, profiadau a chanlyniadau yn well.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Galwaf ar Sara Crowley i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Weinidog, am eich ymateb, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Mae'n amlwg, dwi'n credu, fod cefnogaeth drawsbleidiol gref ar y mater o'r cynnig o'n blaenau heddiw. Er lles yr holl deuluoedd a rhieni—ac rwy'n ymwybodol bod rhai ohonynt yn yr oriel yn gwylio ein trafodaethau heddiw—ac er lles pawb sydd wedi dioddef colled babi—a bydd ystadegau'n dweud bod mwy o fenywod o fewn yr ystafell yma hefyd wedi, a dwi'n rhoi fy nghariad tuag atoch chi i gyd—rwyf wir yn gobeithio y bydd datganiad cryf o blaid y cynnig hwn heddiw yn arwain at weithredu gan y Llywodraeth, ac y bydd y gweithredu hwnnw'n arwain at welliannau i brofiadau teuluoedd ac i'r canlyniadau rydym yn eu gweld wrth edrych ar yr ystadegau brawychus o ran nifer y babanod sy'n marw'n ddiangen ar draws Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae e'n teimlo braidd yn annifyr i ruthro ymlaen i'r eitem nesaf, felly maddeuwch imi am y defnydd o'r Gadair i ni jest gael munud i feddwl am y bobl sydd wedi colli babanod—marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol.
Cynhaliwyd munud o dawelwch.
Diolch.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, gwelliannau 2 a 4 yn enw Lynne Neagle, a gwelliant 3 yn enw Llŷr Powell. Os derbynnir gwelliant 1, caiff welliant 2 ei ddad-dethol.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9257 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiystyru unhryw gynlluniau i gau ysbytai ac israddio gwasanaethau ysbytai drwy gydol y Seithfed Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr angen i fyrddau iechyd GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau o dan arweiniad clinigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, lle bo’u hangen, er mwyn sicrhau gofal diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
2. Yn cydnabod ymhellach yr angen am ymgysylltu parhaus ac ystyrlon â chymunedau ar unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau.
3. Yn pwysleisio pwysigrwydd mynediad cyfartal i gleifion ledled Cymru.
4. Yn cefnogi datblygu gwasanaethau cymunedol ymhellach, i leihau'r pwysau ar ysbytai acíwt ac i sicrhau bod mwy o gleifion yn gallu cael eu gofal yn agosach at eu cartrefi.
5. Yn nodi'r ôl-groniad gwerth £1.4 biliwn o waith cynnal a chadw yn ystad y GIG a etifeddwyd oddi wrth y llywodraeth flaenorol a'r effaith y mae'n ei chael ar gynnal gwasanaethau.
6. Yn nodi'r £20 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth newydd Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol i ddechrau mynd i'r afael â'r mater hwn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ken Skates i gynnig gwelliannau 2 a 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.
Gwelliant 2—Lynne Neagle
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
gyda'r holl benderfyniadau yn blaenoriaethu diogelwch cleifion.
Gwelliant 4—Lynne Neagle
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ysbytai newydd o'r radd flaenaf i gymryd lle Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Maelor Wrecsam, a chyflawni datblygiad ysbyty mawr yng ngorllewin Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 4.
Galwaf yn awr ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell.
Gwelliant 3—Llŷr Powell
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi faint y mae'n bwriadu ei wario ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw ar draws ystad GIG Cymru er mwyn atal gostyngiadau o ran darparu gwasanaethau.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Pan fyddwn ni'n siarad am newid yn y gwasanaeth iechyd, mi ydyn ni'n sôn am rywbeth sydd yn hynod bersonol i bob unigolyn yng Nghymru. Rŷn ni'n sôn am y gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw pan fyddan nhw ar eu mwyaf bregus a phryderus ac angen cymorth. Ar yr adegau hynny, mae pobl eisiau'r union beth y byddem ni i gyd am i'n teuluoedd ein hunain ei gael: diogelwch, gofal o ansawdd uchel a'r siawns orau i wella. Dyna pam mae'r ddadl yma yn un bwysig.
Dwi eisiau dechrau trwy gydnabod y pryderon gwirioneddol sydd y tu ôl i'r cynnig. Bydd unrhyw gynnig i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty, waeth pa mor gryf mae'r achos clinigol yn ymddangos ar bapur, yn ennyn teimladau dwfn yn y cymunedau sy'n cael eu heffeithio, ac mae hynny'n ddealladwy. Dwi'n gwybod bod yr Aelod a gyflwynodd y cynnig yma wedi bod yn eirioli'n daer ar ran ei etholwyr dros ddyfodol Llwynhelyg a Bronglais. Dwi'n annog trigolion i barhau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sydd ar y gweill. Mae eich lleisiau chi'n bwysig ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu clywed.
Ond, fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn gwbl onest am yr heriau sydd o'n blaenau. Yn aml iawn, dyw'r dewisiadau rydym ni'n eu hwynebu ddim yn rhai syml, a dydyn nhw byth bron yn ddu a gwyn. Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd iechyd ers blynyddoedd, ac mi oedd un gwirionedd sylfaenol yn gyffredin i bob ymgyrch: nid y brics a'r mortar ydy'r peth pwysig, ond y gwasanaethau a'r canlyniadau. Mae hon yn ddadl am y ffordd yr ydym ni'n trefnu gofal iechyd er mwyn iddo fod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn wydn ac o'r safon uchaf posib, oherwydd nid dadl am adeiladau ydy hon yn y pen draw, ond dadl am ein hanwyliaid.
Rhan o'r her honno ydy cyflwr diymwad ystâd yr NHS yr ydyn ni wedi ei hetifeddu. Cafodd sawl rhan o'r isadeiledd ei greu ar gyfer oes hollol wahanol o ofal iechyd. Roedd 10 y cant o'n hystâd wedi'i hadeiladu cyn bodolaeth yr NHS hyd yn oed. Chafodd yr adeiladau hyn ddim o'u cynllunio ar gyfer technolegau modern, safonau rheoli heintiau modern nac anghenion cymhleth iawn ein cleifion heddiw. Mewn rhai mannau, mae oedran yr adeiladau yn llesteirio ein gallu i redeg gwasanaethau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae hynny'n bwysig, oherwydd ei fod yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, amodau gwaith staff a gwytnwch gwasanaethau. Mae'r her yn un sylweddol, a fedrwn ni mo'i hanwybyddu.
Onid dyma beth rydyn ni i gyd eisiau i'n teuluoedd ein hunain ac onid yw hi'n ddyletswydd wirioneddol arnon ni fel arweinwyr gwleidyddol i ymladd dros yr atebion sydd wir yn gwella cyfraddau goroesi a chanlyniadau iechyd cleifion, yn hytrach na dim ond amddiffyn y status quo oherwydd bod hynny'n gyfforddus yn wleidyddol? Mae'n golygu herio rheolwyr iechyd i fod yn arloesol, ond mae e hefyd yn golygu herio ein rhagfarnau ein hunain a dangos arweinyddiaeth go iawn. Pan fydd newid yn cael ei gynnig, rhaid i'r broses fod yn hollol gywir. Rhaid cynnal trafodaeth gynnar, agored ac ystyrlon efo'r gymuned, ac mae'n rhaid i bawb allu gweld y dystiolaeth a deall y rhesymau dros y newid a phwyso a mesur yr opsiynau yn onest.
Yng Nghymru, mae daearyddiaeth, natur wledig rhannau o'r wlad, ein cysylltiadau trafnidiaeth a'r pwysau o ran y gweithlu yn dylanwadu ar y realiti dyddiol o gael mynediad at ofal. Does dim modd anwybyddu'r ffactorau hynny. Mae'n rhaid eu cloriannu'n briodol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Dyna pam mae'n rhaid i unrhyw newid sy'n cael ei gynnig i wasanaeth gael ei brofi'n drylwyr i fesur ei effaith ar degwch, a gall tegwch ddim bod yn ôl-nodyn, mae'n rhaid iddo fod yn brawf craidd o lwyddiant.
Lywydd, mi wnaf i ddweud hyn i gloi: dyw'r ddadl yma ddim yn un du a gwyn, rhwng cadw'r gorffennol neu ei adael ar ôl. Yn y bôn, dadl am bobl ydy hon. Yr hyn sy'n bwysig ydy'r cyhoedd, y claf, yr unigolyn, yr aelod o'r teulu. Y cwestiwn ydy: a fydd y penderfyniadau a wnawn ni yn y Siambr yma yn rhoi gwell gofal, gwell mynediad a gwell siawns o fyw i'n hanwyliaid? Mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ystad pan fo modd ei moderneiddio, mae'n golygu cryfhau gwasanaethau yn y gymuned, mae'n golygu cael dewrder gwleidyddol i gefnogi newid sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Diolch.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Nawr rydyn ni'n symud i eitem 7, dadl Reform UK: Deddf afonydd i Gymru. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9259 Llŷr Powell
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddf afonydd Cymru i fynd i'r afael ag atebolrwydd o ran gollyngiadau carthion, i gefnogi mesurau rheoli maetholion ar draws dalgylchoedd, a gwobrwyo gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd dŵr.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wdnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gwarchod ein hafonydd drwy ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddŵr yng Nghymru, gan ddiwygio’r trosolwg rheoliadol, atgyfnerthu atebolrwydd cwmnïau dŵr ac ysgogi gwelliannau o ran perfformiad amgylcheddol ein hafonydd, ein llynnoedd a’n moroedd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cynnig.
Galwaf ar Vikki Howells i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.
Gwelliant 2—Lynne Neagle
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno bil dŵr glân i Gymru i fynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr;
b) annog Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i flaenoriaethu buddsoddiad i fynd i'r afael â helbulon llygredd carthffosiaeth;
c) cadw at holl argymhellion Adolygiad Annibynnol Dr Susannah Bolton o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a chynyddu gorfodi; a
d) ariannu gwyddonwyr-ddinasyddion o'r flwyddyn ariannol hon ymlaen a gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewn dull sy'n seiliedig ar systemau i adfer ein hafonydd.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 3—. O, sori.
Diolch. A sori am ruthro cynt. Andrew R.T. Davies, galwaf arnoch chi i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i reoleiddio llygredd gan y diwydiant dŵr yng Nghymru yn ddigonol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu Cyfoeth Naturiol Cymru a rhoi rheoleiddiwr yn ei le sy'n addas i'r diben.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Ac yn olaf, James Evans.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn siarad o'r galon pan rydyn ni'n trafod y mater yma. Er efallai bod y geiriau yn gwahaniaethu'r pwyslais, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd eisiau gweld yr un canlyniad ar ddiwedd y dydd.
Diolch. Galwaf ar Benjamin Hodge Mckenna i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod pum Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Fy nhro cyntaf, felly wish me luck. [Chwerthin.] Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Felly, o blaid saith, yn ymatal dim ac yn erbyn 79. Cyfanswm: 86. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 79, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais: o blaid 41, yn ymatal sero ac yn erbyn 45. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 41, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal sero, yn erbyn 39. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle: O blaid: 47, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, yn ymatal sero, yn erbyn 42. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. O blaid: 44, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, ymatal saith ac yn erbyn 70. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod—ydy, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. O blaid: 9, Yn erbyn: 70, Ymatal: 7
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM9257 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiystyru unrhyw gynlluniau i gau ysbytai ac israddio gwasanaethau ysbytai drwy gydol y Seithfed Senedd, gyda'r holl benderfyniadau yn blaenoriaethu diogelwch cleifion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi faint y mae'n bwriadu ei wario ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw ar draws ystâd GIG Cymru er mwyn atal gostyngiadau o ran darparu gwasanaethau.
Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, yn ymatal sero, yn erbyn 38. Cyfanswm: 86. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Cynnig wedi’i ddiwygio. O blaid: 48, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dadl Reform UK: Deddf afonydd i Gymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, yn ymatal sero, yn erbyn 49. Cyfanswm: 86. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru Cynnig heb ei ddiwygio. O blaid: 37, Yn erbyn: 49, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, yn ymatal un, yn erbyn 45. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. O blaid: 40, Yn erbyn: 45, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, yn ymatal sero ac yn erbyn 75. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. O blaid: 11, Yn erbyn: 75, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, yn ymatal sero ac yn erbyn 50. Cyfanswm: 86. Mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. O blaid: 36, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i—. Ymddiheuriadau, dyma fi'n rhuthro drwodd llinell fesul llinell. Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. Diolch am fod yn amyneddgar.
Rydym yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Os oes nifer yn mynd allan o'r Siambr, a fyddech chi'n gallu ei wneud yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?
Symudaf yn nawr i ddadl fer heddiw. A galwaf ar Zaynub Akbar, sy'n dathlu ei phen-blwydd, i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol i ymateb i'r ddadl—Nerys Evans.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl mor bwysig hon heddiw ar ei phen-blwydd, a phen-blwydd hapus. Tu ôl pob ystadegyn rŷn ni wedi clywed amdano yn ystod y trafodaethau heddiw, mae yna berson, mae yna deulu a chymuned, pobl yn byw gyda phoen neu salwch y gellir eu hatal. Mae plant ledled Caerdydd a Chymru yn tyfu i fyny gyda rhagolygon iechyd gwahanol iawn, nid oherwydd eu dewisiadau eu hunain, ond oherwydd amgylchiadau eu bywyd. Dyna pam mae'r ddadl yma mor bwysig.
Mae nifer y blynyddoedd iach y gallwn ni ddisgwyl eu byw yng Nghymru yn is na mewn gwledydd eraill ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu. Gall babi a anwyd rhwng 2022 a 2024 ddisgwyl byw dim ond 59 mlynedd mewn iechyd da. Mae hynny'n is na Lloegr ar gyfer dynion a menywod, ac yn waeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ar gyfer menywod. Mae Caerdydd, wrth gwrs, yn ficrocosm o beth ydyn ni'n ei weld dros Gymru gyfan.
Ond nid y ffigurau eu hunain sy'n peri'r pryder mwyaf. Yr hyn maent yn ei olygu yw bod mwy o bobl yn treulio mwy o'u bywydau yn byw gyda salwch, cyfyngiadau a heriau iechyd, mwy o amser yn dibynnu ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith, oddi wrth deuluoedd ac oddi wrth y pethau sy'n rhoi ansawdd a phwrpas i fywyd. Ac mae'r duedd yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.
Ers 2017-19, mae disgwyliad oes iach wedi gostwng dros ddwy flynedd ar gyfer dynion a bron i dair blynedd a hanner ar gyfer menywod yng Nghymru. Nid newid graddol mo hwn; mae'n rhybudd clir fod iechyd y genedl yn dirywio. Ac mae'r dirywiad hwnnw'n taro rhai cymunedau yn llawer caletach nag eraill, fel ŷn ni wedi clywed. Mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, mae dynion yn byw 18 mlynedd yn llai mewn iechyd da na rhai o'n cymunedau mwyaf cefnog. Ar gyfer menywod, mae'r bwlch yn 19 mlynedd. Dylai hynna beri pryder i bob un ohonom ni, oherwydd nid jest anghydraddoldeb iechyd yw hwn, ond anghydraddoldeb mewn cyfleoedd ac mewn ansawdd bywyd.
Am rhy hir, rŷn ni wedi adeiladu system sy'n ymateb pan fydd pobl yn mynd yn sâl, yn hytrach na gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i aros yn iach, ac mae'n rhaid i hynny newid. Ni allwn dderbyn Cymru lle mae dau blentyn yn cael eu geni ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd yng Nghaerdydd, ac mewn mannau eraill o Gymru, ac yn wynebu dyfodol hollol wahanol o ran iechyd, hapusrwydd a chyfle.
Ni ddylai iechyd da fod yn fraint. A'r gwir syml yw hwn: ni fyddwn yn cau'r bwlch mewn disgwyliad oes oni bai ein bod hefyd yn cau'r bylchau mewn tlodi, mewn tai, addysg a chyfle. Dyna pam mae atal salwch yn fwy na pholisi iechyd; mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae'r her yn fawr, ond mae'r achosion yn hysbys, ac os ydym yn ddigon dewr i fynd i'r afael â'r achosion hynny, yn hytrach na dim ond trin y canlyniadau, gallwn adeiladu Cymru lle mae pawb ym mhob cymuned yn cael y cyfle i fyw bywyd hirach, iachach a gwell, a dyna fwriad y Llywodraeth newydd yma. Diolch yn fawr.
Diolch. A diolch i chi am y cyfraniadau heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.