Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd
Datganiad gan y Prif Weinidog

Nawr, rydym ni'n dechrau gyda datganiad y Prif Weinidog: rhybudd tywydd coch. 

Diolch yn fawr iawn. Lywydd, efo'ch cytundeb chi, mi hoffwn i wneud datganiad byr am y rhybudd coch prin yma am wres eithafol, sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer rhannau o Gymru yfory a dydd Iau. Mi all bob un ohonom ni yn fan hyn chwarae'n rhan i gadw ein hunain a'n hanwyliaid a'n cymdogion yn ddiogel, yn enwedig yr henoed, babanod, plant ifanc, trwy ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus yn ofalus. 

Dwi am annog pobl i osgoi nofio mewn llynnoedd neu afonydd. Mi all sioc dŵr oer fod yn angheuol, fel rydyn ni wedi'i weld mewn achosion trasig yn ystod y cyfnod diwethaf o wres uchel. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Rydym ni'n symud ymlaen nawr i eitem 1, cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf, cwestiwn 1, gan John Davies.

Cefnogaeth Economaidd

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi Gŵyr Abertawe? OQ64214

13:35
13:40
Cefnogi Busnesau Twristiaeth

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau twristiaeth ym Mangor Conwy Môn? OQ64199

Un o'r prif atynfeydd i ymwelwyr ym Mangor Conwy Môn yw’n traethau a’n moroedd godidog, ac mae nifer o gwmnïau twristiaeth yn yr etholaeth hefyd yn dibynnu arnynt er mwyn denu busnes. Mae’n bryderus, felly, derbyn gohebiaeth gan nifer o etholwyr a rhai busnesau sy'n tynnu sylw at gyflwr ein moroedd ac afonydd, ac yn benodol faint o garthion sy’n cael eu rhyddhau i’r dŵr yn rheolaidd. Dwi’n croesawu addewid y Llywodraeth hon i sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru a fydd yn goruchwylio buddsoddiad cyfalaf er mwyn lleihau gollyngiadau carthion. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd fydd yr addewid hwnnw'n cael ei roi ar waith, fel bod trigolion lleol yn gallu mwynhau’r moroedd sydd ar garreg eu drws heb bryder ac fel bod y sector dwristiaeth yn gallu parhau i chwarae ei rhan mewn economi leol gynaliadwy?

Yn syml iawn, mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen ar unwaith. Rydyn ni'n cymryd camau ar unwaith i sicrhau datganoli llawn y pwerau dros ddŵr, a hynny'n cynnwys y pwerau i sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru. Pam ydyn ni'n gwneud hyn? Er mwyn gwella perfformiad, er mwyn cefnogi gwytnwch hirdymor ac, ie, er mwyn lleihau llygredd. Rydyn ni'n gweithio'n agos efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Bil dŵr glân, sydd i'w ddisgwyl yn ddiweddarach eleni, a fydd yn datganoli pwerau i'r Senedd, neu'n hwyluso'r ffordd ar gyfer gwneud hynny, er mwyn galluogi Cymru i sefydlu y rheoleiddiwr newydd hwnnw. Mae o'n addewid pwysig iawn i'r Llywodraeth yma.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, galwaf ar Dan Thomas, arweinydd Reform UK. 

13:50
13:55
Cymdeithasau Tai a Landlordiaid Cymdeithasol

3. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella goruchwyliaeth o gymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? OQ64198

14:00
Cyllid ar gyfer Cludiant i'r Ysgol

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer cludiant i'r ysgol? OQ64228

14:05

Mae hwn yn rhywbeth sydd gyda fi yn gyffredin â Llŷr fan hyn, a dyw hwn ddim yn mynd i ddigwydd yn aml, so mae'n werth sôn amdano. Fe wnes i gerdded hefyd gyda'r plant a phobl ifanc yn ein hardal ni a chario ymlaen â'r gwaith arbennig mae Heledd Fychan wedi ei wneud yn ei rôl flaenorol i gefnogi'r grŵp yna, Save the School Transport, sydd yn weithredol iawn yn Rhondda Cynon Taf. Ro'n i jest eisiau gofyn cwestiwn. Mae angen adolygiad llawn o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, ond rwy'n gwerthfawrogi y bydd hwn yn cymryd amser. Felly a wnaiff y Llywodraeth weithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau gwelliannau uniongyrchol ac ymarferol?

Mae hwn yn un o'r materion yna, fel y dywedodd yr Aelod, lle bydd yna gydweithio yn lleol, dwi'n gobeithio, ar faterion sydd o bryder i rieni. Yr ateb byr i'r cwestiwn yna ydy y byddwn ni yn sicr yn gweithio efo awdurdodau lleol i chwilio am ffyrdd o wella. Does yna ddim atebion syml yn fan hyn, ond mi ydyn ni wedi ymrwymo i weithio efo partneriaid—ac nid yn unig llywodraeth leol, ond rhieni a dysgwyr eu hunain—er mwyn sicrhau newid yn yr hirdymor.

Heb amheuaeth, mae yna enghreifftiau o arfer da ar draws Cymru, ac mi wnes i gyfeirio at y sefyllfa yng Nghaerffili. Mi fydd yr un peth yn wir mewn awdurdodau lleol hefyd. Ond mae hi'n amlwg yn wir fod yna heriau yn wynebu pob awdurdod lleol, yn cynnwys Caerffili, fel mae'r cwestiynwr wedi ei godi heddiw. Mae hwn yn fater sydd yn effeithio ar gyfleon pobl ifanc. Mae sicrhau mynediad i gyfleon dysgu yn bwysig iawn. Mae yna adolygiad yn barod yn digwydd o gwmpas sicrhau bod mynediad i addysg Gymraeg yn rhywbeth sydd ddim yn cael ei effeithio gan broblemau mynediad. Mae'r Llywodraeth, fel dwi'n dweud, tra'n wynebu, fel llywodraeth leol, cyfyngiadau ar faint o adnoddau sydd ar gael, yn benderfynol o weithio efo partneriaid i weld lle mae modd gwneud penderfyniadau sydd yn hwyluso trafnidiaeth i'n plant a'n pobl ifanc ni.

14:10

Unwaith eto, mae'r rhain yn enghreifftiau lleol, fel y bydd gan bob Aelod. Dwi'n atgoffa eto mai penderfyniadau i awdurdodau lleol ydy'r rhain yn y pen draw. Mae yna gwestiynau yn codi o ran llwybrau teithio llesol yn y cwestiwn yna. Mae hwnnw, o bosib, yn fater gwahanol, ond sydd ag impact ar deithio i'r ysgol.

Dwi'n atgoffa'r Senedd am y trafod fu rhwng Plaid Cymru mewn gwrthblaid a'r Llywodraeth ddiwethaf er mwyn sicrhau setliad cadarn ar gyfer 2026-27, sy'n sicrhau £112 miliwn er mwyn cryfhau'r grant cymorth refeniw gymaint ag y gallwn ni, er mwyn rhoi gwaelodlin mor gadarn ag y gallwn ni i lywodraeth leol.

Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd. Ydw i'n credu bod angen i ni fod yn adolygu drwy'r amser sut mae prosesau'n gweithio? Dwi'n gobeithio fy mod i wedi gwneud yn glir heddiw fy mod i. 

Adfywio'r Stryd Fawr

5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr a chynyddu nifer yr ymwelwyr i fusnesau lleol? OQ64232

14:15
14:20
Cysylltiadau Economaidd

6. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr? OQ64204

Gwella Mynediad at Ofal Iechyd

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal iechyd ym Mrycheiniog Tawe Nedd? OQ64233

14:25
Hyfforddiant a Chyflogaeth i Bobl Ifanc

8. Sut y bydd y Llywodraeth yn cynyddu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni? OQ64213

Mi fyddwn ni'n defnyddio dull cydweithredol, effeithiol, sy'n seiliedig ar lefydd i helpu pobl ifanc ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni i gael hyfforddiant a chyflogaeth. Gan ddefnyddio'n dulliau cymorth ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, mi wnawn ni ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i anghenion pobl ifanc. Mewn partneriaeth â Medr, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr ac eraill, mi fyddwn ni'n darparu prentisiaethau o ansawdd uchel, gan hybu twf busnesau hefyd i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd a chynaliadwy.

14:30
Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

9. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol? OQ64193

Camwybodaeth a Thwyllwybodaeth

10. Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr? OQ64226

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 nawr, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Lywydd, a diolch hefyd am eich caniatâd i wneud un datganiad byr ar ddechrau'r sesiwn hwn.

Os caf i symud at fusnes Senedd yr wythnos hon, mae datganiad llafar wedi ei ychwanegu at agenda heddiw ar gyflawni ein blaenoriaethau, lleihau amseroedd aros a chryfhau gofal sylfaenol. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hynod o bwysig yna, gan barhau i ymgyrchu ar fater sydd o bwys i nifer? Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi ein heffeithio'n arw pan welwn ni'r penawdau pan mae pethau difrifol yn mynd o'u lle a phobl yn colli eu bywydau yn ddiangen o ran hyn. Mi oedd gan Blaid Cymru ymrwymiad cryf yn ei maniffesto o ran hyrwyddo perchnogaeth a bridio anifeiliaid anwes cyfrifol, gan archwilio cosbau cryfach am berchnogaeth anghyfrifol, hysbysiadau rheoli cŵn, pwerau gorfodi sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chynllun cofrestru neu drwyddedu cŵn. Mi wnaf i ofyn i'r Gweinidog Cabinet perthnasol am ddiweddariad i'r Senedd wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

14:40

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mi ydych chi mewn cyfathrebiad efo'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, a byddwn i'n gofyn eich bod chi'n parhau efo'r ddeialog honno. Yn amlwg, mae gennych chi hawl i ymateb hefyd i gwestiwn ac ymateb ysgrifenedig. Mae'r Gweinidog hefyd yn gwneud datganiad yn hwyrach heddiw, sydd yn benodol o ran lleihau amseroedd aros, ac efallai y byddwch yn dymuno codi cwestiwn o'r fath iddo fo bryd hynny.

Drefnydd, mae'n fater sydd wedi codi eisoes heddiw, ond, os gwelwch yn dda, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adolygu'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Mae'r ymrwymiad i adolygu'r Mesur ac i weithio gydag awdurdodau lleol o ran cludiant ysgol i'w groesawu, ac mae'n dod ar ôl cyfnod hir o'r Llywodraeth Llafur flaenorol yn llusgo'u traed ar y mater. Mewn ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth flaenorol ar ganllawiau gweithredol, daeth 74 y cant o'r ymatebion o ardal Rhondda Cynon Taf, fel y gwyddoch chi, sy'n tanlinellu cryfder y teimladau ar y mater hwn mewn rhannau o'm hetholaeth. Mae hwn yn fater yr oedd Aelodau wedi'i godi ar ddechrau tymor blaenorol y Senedd yn 2021. Yn y cyfamser, mae llawer o ddysgwyr mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid iddynt gerdded am dros awr ym mhob tywydd, yn aml ar hyd llwybrau nad ydynt yn gwbl ddiogel, er mwyn cael mynediad at eu haddysg. Rwy'n gwybod bod cynnydd ar y gweill, ond byddai llawer o etholwyr, serch hynny, yn croesawu mwy o eglurder ar yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau'r adolygiad a pha mor gyflym y gellir gweithredu unrhyw newidiadau sy'n deillio o hynny. Diolch.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi fydd o'n wybyddus i nifer a oedd yma yn y chweched Senedd fod hwn yn bwnc y gwnes i ymgyrchu yn sylweddol arno fo, ond hefyd nifer o Aelodau yn drawsbleidiol, felly, oherwydd y teimlad cryf yna sydd o fewn ein cymunedau ni a'r heriau gwirioneddol, fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach, o ran yr heriau sydd gan awdurdodau lleol efo'r cyllidebau sydd ganddyn nhw a'r toriadau sydd wedi bod i ddiwallu'r anghenion hynny.

Yn sicr, mi oedd gennym ni ymrwymiad yn ein maniffesto i fod yn edrych ar y mater hwn. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth eisoes wedi bod mewn cyswllt efo nifer o'r grwpiau ymgyrchu hynny er mwyn sicrhau bod y ddeialog honno yn parhau. Yn sicr, yr hyn y mae angen ei weld ydy'r amserlen honno, a phan fydd honno ar gael mi fyddwn ni yn ei rhannu hi efo'r Senedd yn ehangach. Dwi'n gwybod, o glywed yr holl gyfraniadau yn gynharach heddiw, y teimlad cryf trawsbleidiol sydd o ran hyn, a'r angen i ni gydweithio i geisio gweld beth ydy'r datrysiadau posib.

Mi fyddaf i yn nodi bod yr Aelod a gododd y mater yn ymwybodol o'r cod gweinidogol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau, ac yn gweithredu bob amser i sicrhau, fod Aelodau'n ymwybodol o bob cyhoeddiad gan y Llywodraeth yn unol â'r cod hwnnw. Yn sicr, o ran y craffu, dwi'n meddwl bod y ffaith eich bod chi wedi gweld pob Gweinidog yn gwneud datganiadau blaenoriaethau yn rhoi'r cyfle i graffu, a bod nifer o'r cyhoeddiadau a oedd wedi eu gwneud yn bethau sydd wedi cael eu crybwyll, ac y byddai'n bosib craffu bryd hynny. Mi fyddwn ni bob amser yn sicrhau ein bod ni yn gweithredu yn unol â'r cod gweinidogol.

14:45

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater eithriadol o bwysig hwn, a hefyd am fod yn agored yn rhannu profiad personol? Mae hwn, yn amlwg, yn fater y bydd pob un ohonom ni, dwi'n siwr, wedi dod ar ei draws mewn gwaith achos, a bod yna deimladau cryf o fewn ein cymunedau ni o ran sut ydym ni'n sicrhau bod sgrinio yn digwydd, bod cymaint o bethau yn digwyddd, er mwyn dal unrhyw ganser cyn gynted ag y mae'n bosib. O ran cael diweddariad penodol, mi wnaf i godi hyn gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, a gofyn am ddiweddariad i'w roi i chi ar y materion hyn.  

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw? Dwi ddim yn gwybod os oedd yr Aelod yma yn bresennol pan wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ei datganiad ar flaenoriaethau yr wythnos diwethaf, lle roedd yna ymrwymiadau o ran y gwaith pendant y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud o ran anghenion dysgu ychwanegol. Roedd y sylwadau hynny wedi'u hategu gan y Prif Weinidog hefyd yn gynharach heddiw ac yn yr wythnosau diwethaf. Yr ymrwymiad clir ydy bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau a cheisio cael datrysiadau tymor hir i'r heriau gwirioneddol hynny y byddwn ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, un ai drwy brofiad personol neu drwy ein gwaith achos. Yn sicr, mi roedd hwn yn fater a godwyd gyda minnau fel Aelod o'r Senedd yn y tymor diwethaf, ac mae'n parhau i'w wneud. Mae'r ymrwymiad yna eisoes wedi ei wneud gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. 

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Blaenoriaethau ar gyfer Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

Eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: blaenoriaethau ar gyfer effeithiolrwydd Llywodraeth a’r cyfansoddiad. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Erbyn diwedd y Senedd hon, byddwn ni i gyd yn gallu adrodd y teitl hir hwnnw. 

Dwi'n falch iawn i fod yma i osod allan fy mlaenoriaethau ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Mae ymddiriedaeth a hyder mewn Llywodraeth yn cymryd llawer o ymdrech i'w meithrin, ond mae'n hawdd iawn eu colli. Mae Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diweddar wedi colli ymddiriedaeth pobl Cymru. Mae canfyddiad wedi bod fod y Llywodraeth yn bell, yn siarad yn hytrach na gwrando, yn addo yn hytrach na chyflawni ac yn methu adlewyrchu blaenoriaethau'r genedl. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o wrthdroi'r duedd honno ac adfer ymddiriedaeth drwy gyflawni'r ymrwymiadau rŷn ni wedi'u gwneud a sicrhau newid y mae pobl ledled Cymru yn gallu ei weld a'i deimlo.

Pan safodd y Prif Weinidog yma fis Mai i nodi ein blaenoriaethau ni—yr NHS, costau byw, swyddi da, ysgolion cryf, taclo tlodi a sefyll i fyny dros Gymru—roedd hi'n glir bod rhaid i'r Llywodraeth ganolbwyntio o'r newydd ar effeithiolrwydd a chanlyniadau. Ac yn fy mhortffolio i, mae yna arfau i wireddu hynny, o oruchwylio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth a chefnogi fy nghydweithwyr yn eu portffolios i gryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau trefniadau cyfansoddiadol sy'n helpu Cymru i gyflawni ein huchelgais.

Ddirprwy Lywydd, dyw gosod y cyfeiriad ddim yn ddigon; rhaid i lywodraeth dda gyflawni newid go iawn. Mae effeithiolrwydd yn golygu troi blaenoriaethau yn ganlyniadau—amcanion clir, ymdrech ar y cyd, data tryloyw ar berfformiad, a gweithredu'n gynnar pan aiff pethau o chwith, fel maen nhw'n bownd o wneud o dro i dro. Mae e hefyd yn golygu sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau. Fe fydd y gyllideb atodol heddiw yn dangos y dull hwnnw ar waith—canolbwyntio cyllid ar y blaenoriaethau pwysicaf, gwneud i bob punt weithio'n galetach i Gymru a gosod y sylfeini ar gyfer ad-drefnu mwy cynhwysfawr yn ein cyllideb nesaf. Mae gan bob adran, pob Gweinidog a phob rhan o Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae wrth droi ein blaenoriaethau yn newid go iawn sy'n amlwg i bobl ar hyd a lled Cymru.

Er mwyn gwireddu hynny, rhaid i ni sicrhau ymdrech ar y cyd, sy'n cael ei chefnogi a'i harwain yn glir o'r canol. Dyna pam rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i gryfhau Swyddfa'r Cabinet ac i greu canol i'r Llywodraeth sy'n fwy pwrpasol ac effeithiol. Gyda'i dulliau digidol,  mae'r Swyddfa Cabinet newydd yn dwyn ynghyd arbenigedd ym meysydd strategaeth, delivery a data, a hynny wrth galon y Llywodraeth. Fel hyn rŷn ni'n mynd i allu symud pethau ymlaen yn glir, yn gyflym ac yn gadarn. Fe fydd Swyddfa'r Cabinet yn ein helpu ni i roi canlyniadau a cherrig milltir clir a mesuradwy ar waith. Yn ogystal, fe fydd dangosfwrdd cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi yn ein meysydd blaenoriaeth. Fe fydd hyn yn gwella tryloywder ac yn sicrhau bod llwyddiant yn cael ei ddiffinio gan y gwahaniaeth a wnawn i fywydau pobl.

Drwy ein cynllun 100 diwrnod, mae gwaith dwys eisoes yn digwydd ar draws y Llywodraeth, gan gefnogi cyflawni o'r diwrnod cyntaf. Mae hyn yn golygu nodi rhwystrau'n gynnar, dileu heriau'n gyflym a gwneud cynnydd yn gynt, lle bo'n bosib—bwrw i lawr waliau, chwalu seilos, neu efallai, hyd yn oed, gymryd llwybr ychydig yn wahanol er mwyn cyrraedd y nod, ac, wrth gwrs, defnyddio data yn fwy effeithiol nid dim ond i adrodd ar yr hyn sydd wedi bod, ond i ddeall beth sy'n digwydd nawr a gweithredu lle bo angen, fel ein bod ni'n gallu rhagweld ac atal problemau cyn iddyn nhw godi.

Fe fyddwn ni hefyd yn cryfhau sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol ar draws y Llywodraeth, ac, wrth gydweithio â’r comisiynydd, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni newid ystyrlon a mesuradwy. Mae hyn yn hanfodol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd all y Llywodraeth ddim cyflawni ar ei phen ei hun; mae angen dull system gyfan i ddelifro. Fy uchelgais yw i Gymru ddod yn adnabyddus ar draws y byd am ei harloesedd a'i heffeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, gan newid bywydau pobl er gwell, ac, er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid inni dynnu gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd yn llawer mwy effeithiol. Mae’n golygu cryfhau gallu a chwalu seilos ar draws adrannau, ar draws sefydliadau ac ar draws pob lefel o Lywodraeth.

Mae'r defnydd effeithiol o ddulliau digidol a deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfle sylweddol i feithrin capasiti, cynyddu cynhyrchiant, gwneud gwasanaethau'n fwy ymatebol a chryfhau ein darpariaeth ddwyieithog. A dwi am roi'r seiliau yn eu lle ar gyfer defnydd diogel, moesegol a dwyieithog o ddulliau digidol a deallusrwydd artiffisial ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae’r gwaith hefyd wedi dechrau ar ysgol lywodraethu i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan adeiladu ar waith Academi Wales er mwyn arwain gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru at ddyfodol gwell. Ac wrth wraidd hyn oll mae ethos Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un, sy'n meithrin arweinwyr y presennol a'r dyfodol ac yn rhoi’r sgiliau, yr hyder a'r nod cyffredin iddyn nhw i arwain newidiadau a gwella canlyniadau, oherwydd dyw strwythurau ar eu pennau eu hunain ddim yn sicrhau newid; pobl, sgiliau a diwylliant sy'n cyflawni hynny.

15:00
15:05

Gaf i longyfarch y Gweinidog, oherwydd yn ystod wythnos gyntaf y Llywodraeth hon, rŷn ni wedi gweld ei bod hi'n effeithiol iawn, yn effeithiol iawn, hynny yw, am gomisiynu adolygiadau, cynlluniau a chyfarfodydd? Yn wir, hynna oedd ffocws llethol eich cynllun 100 diwrnod chi. Yr hyn rydyn ni wedi gweld llai ohono fe yw penderfyniadau, gweithredu, newidiadau gwirioneddol ac ystyrlon, a dyna, yn ein barn ni, ydy'r mesur o Lywodraeth effeithiol. A all y Gweinidog ddweud wrth y Senedd beth yw cyfanswm y gost amcangyfrifedig i'r pwrs cyhoeddus o'r holl adolygiadau, yr holl gynlluniau a'r holl gomisiynau a lansiwyd gan y Llywodraeth ers iddi ddod i rym?

Ar rai polisïau allweddol y Llywodraeth hon, mae cwestiynau heb eu hateb ynghylch hanfodion y ddarpariaeth, cwestiynau am sut a phryd y gall pobl Cymru ddisgwyl newid yn eu bywydau beunyddiol. Roeddwn i eisiau rhoi cyfle i'r Gweinidog egluro rhai o'r rhain heddiw. Erbyn pryd fydd y Llywodraeth hon yn dileu arosiadau dwy flynedd yn y gwasanaeth iechyd? Erbyn pryd fydd y cynnig gofal plant ar gael i blant o naw mis oed? Faint o weithwyr gofal plant a lleoliadau gofal plant newydd fydd eu hangen i wneud i hynny ddigwydd? A ble fydd y 10 canolfan lawfeddygol newydd a addawyd ledled Cymru? Erbyn pryd fyddan nhw wedi eu hadeiladu, Weinidog?

15:10

Diolch yn fawr i'r llefarydd. Tra bod y cyfraniad blaenorol, dwi ddim yn siŵr, wedi holi unrhyw gwestiynau, dwi'n credu bod y llefarydd wedi llwyddo i ofyn dwsinau o gwestiynau yn fanna, ac felly mi wnaf i fy ngorau i wneud cyfiawnder â'r rheini.

Cychwyn gydag a oes angen adolygiadau neu gomisiynau neu gynlluniau, fe fydd y llefarydd yn gyfarwydd gyda'r adnodd sy'n sôn am adeiladu tŷ ar y graig, nid ar y tywod, ac mae yna wirionedd yn hynny, onid oes? Mae angen seiliau cadarn; er mwyn symud gyda phwrpas, mae angen sicrhau ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae angen adeiladu tŷ ar y graig, nid ar y tywod. Felly, dwi ddim yn ymddiheuro mai dyna ran o dasg gyntaf Llywodraeth Plaid Cymru, ond dwi yn gobeithio eich bod chi'n glir, trwy gydol y datganiad yma, ein bod ni'n sôn am gyflawni ac am ddelifro, ac ymhen rhai misoedd, dwi'n siŵr y byddwn ni'n cael ein holi am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr ymrwymiadau maniffesto dros y pedair blynedd nesaf.

Mi fuoch chi'n holi am y cyfansoddiad a'r berthynas adeiladol gyda Llywodraeth San Steffan. Mi fues i yn y bwrdd gwrthderfysgaeth gweinidogol yn y Swyddfa Gartref yr wythnos diwethaf, a chael croeso cynnes, a chael trafodaethau adeiladol iawn gyda chyd-Weinidogion o Lywodraeth Prydain yn fanna. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, ges i lythyr hyfryd iawn o gyfarch gan y Prif Ysgrifennydd i'r Prif Weinidog, Darren Jones, oedd yn dweud bod e'n edrych ymlaen at fy nghwrdd yn Belfast. Dwi ddim yn siŵr a fydd e yn Belfast yfory, ond mae'r ymroddiad yna at fod yn adeiladol ac yn gydweithredol yn sicr yno gan Lywodraeth Cymru, a dwi'n gobeithio y bydd e yna gan Lywodraeth Prydain hefyd.

Mi fuoch chi'n sôn am y dashfyrddau. Dwi'n awyddus bod y dashfyrddau yma yn rhai cenedlaethol sydd o ddefnydd i'r Llywodraeth ac i'r Senedd ac i bobl Cymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu wedyn bod y data mor fyw â phosib a'i fod e'n cael ei ddiweddaru yn rheolaidd. Dwi'n hapus iawn i wneud yr ymrwymiadau yna. Dwi'n hapus hefyd i ymrwymo i gydweithio a chyd-drafod gydag unigolion, yn y Senedd hon a thu hwnt, er mwyn sicrhau bod y dashfyrddau yna yn ffit i bwrpas ac yn addas. Dwi'n credu bod hynny'n addas iawn.

Aethoch chi ymlaen wedyn i drafod y gwasanaeth sifil. Dwi o'r farn bod angen carfan o weision sifil er mwyn delifro blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae'r newidiadau sydd wedi'u gwneud wedi'u gwneud o fewn ffrâm gyllideb y gwasanaeth sifil yng Nghymru. Dwi hefyd o'r farn, fel sosialydd datganoledig, bod datganoli i lefelau is yn rhywbeth yr ydym ni, fel plaid ac fel Llywodraeth, yn cytuno ag ef. Ond mae'n rhaid i mi ddadlau gyda'r syniad nad yw creu asiantaeth hyd braich—sydd wedi'i arwain gan bobl ddynamig, arloesol, sydd wedi llwyddo ym myd busnes—i ddatblygu economi Cymru yn ateb gwell i broblem economaidd Cymru na'r hyn sydd gyda ni ar hyn o bryd. Dwi'n gefnogol iawn i gynllun y Llywodraeth hon i greu asiantaeth ddatblygu newydd. Mae dirfawr angen datblygu ein heconomi ni. Dyw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd heb weithio, ac mae angen datblygiadau felly i symud pethau yn eu blaenau. Diolch.

15:15
15:20
15:25
15:30

Diolch i'r Aelod. Fel mae'r Aelod wedi nodi, fe fydd y Gweinidog sydd yn gyfrifol am newid hinsawdd yn y Llywodraeth yn gwneud datganiad toc i'r Senedd hon. Mae e'n bwysig. Mae e'n allweddol. Fel rŷn ni'n profi ar hyn o bryd, mae newid hinsawdd yn bodoli. Mae e'n effeithio ar gymunedau ar draws ein gwlad, ac ar draws y byd, ac mae e'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. 

Fe fyddaf i, fel dywedais i, Ddirprwy Lywydd, yn diweddaru'r Senedd maes o law am drefniadau'r comisiwn. A gobeithio, wrth amlinellu'r gwahanol elfennau o'r gwaith hwnnw—. Achos bydd yr Aelod hefyd yn gwybod bod y grŵp cynghori ar arloesi democratiaeth wedi gwneud gwaith pwysig iawn yn edrych ar ddemocratiaeth gyfranogol yng Nghymru. Gan adeiladu ar y gwaith hwnnw, mae yna gyfle yn fanna inni adeiladu ymhellach ar y gwaith hwnnw. Diolch. 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae yna her, wrth gwrs, gyda'r ansefydlogrwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, ac rŷn ni'n gobeithio na fydd hynny yn amharu gormod ar ein cyfeillion ni yn San Steffan. Mae'r Llywodraeth hon yn focused ac yn symud ymlaen â'i hagenda o ran datganoli Ystad y Goron. Mi gafwyd cyfarfod adeiladol iawn gydag Ystad y Goron yn y dyddiau diwethaf, gyda'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn chwarae rôl greiddiol yn hynny. 

Fel mae'r Aelod wedi nodi, fe godwyd £700 miliwn o'r rownd ddiweddaraf o wynt ar y môr, ac felly mae yna gyfle sylweddol i Gymru wrth ddatganoli Ystad y Goron. 

Ond dwi'n credu hefyd—. Felly, mae yna drafodaethau i'w cael gyda Llywodraeth Prydain ar y materion yma, ond mae yna hefyd gyfle inni weithio'n adeiladol ac yn rhagweithiol gydag Ystad y Goron nawr i sicrhau bod buddsoddiad sylweddol yn yr economi Gymreig, yn y gadwyn gyflenwi Gymreig, a thrwy hynny sicrhau gwelliannau i'r seilwaith economaidd yma yng Nghymru. A dwi'n awyddus i wneud y ddau: datblygu'r drafodaeth am ddatganoli Ystad y Goron, ond hefyd i gymryd pob mantais ar fuddsoddiad Ystad y Goron nawr. 

15:35
4. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: blaenoriaethau ar gyfer gwydnwch gwledig a chynaliadwyedd. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i wneud y datganiad yma heddiw i esbonio fy mlaenoriaethau i ar gyfer fy mhortffolio. Mewn wythnos, wrth gwrs, lle'r ydym yn gweld rhybudd tywydd coch am wres am y tro cyntaf yma yng Nghymru, fe hoffwn i ddechrau gyda'n hymrwymiad ni i weithredu ar yr hinsawdd a natur, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd amgylcheddol, sy'n amlwg i bawb, ond hefyd oherwydd ei bwysigrwydd canolog i ffyniant, iechyd a gwydnwch Cymru yn y dyfodol. Nid pethau ychwanegol, dewisol yw aer glân, dŵr glân, priddoedd iach ac ecosystemau ffyniannus. Maen nhw'n cynnal iechyd y cyhoedd, maen nhw'n diogelu cymunedau ac yn creu'r amodau i Gymru ddatblygu'n gynaliadwy.

Mae'r agenda hon yn ymwneud â sicrhau'r cyfleoedd economaidd cadarnhaol a gynigir gan adnoddau naturiol Cymru a'n statws byd-eang fel cenedl ailgylchu. Mae'n ymwneud ag achub ar gyfleoedd economi di-garbon i gefnogi swyddi diogel, ynni cymunedol, cartrefi cynhesach, trafnidiaeth lanach, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a seilwaith gwydn. Dyna pam, yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, rŷn ni eisoes wedi dechrau gweithio ar gynllun gweithredu hinsawdd a natur uchelgeisiol, sy'n canolbwyntio ar lwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050, wedi'i siapio gan y realiti y mae pobl a chymunedau yn eu hwynebu ledled Cymru.

Mae'r realiti hwnnw'n amlwg. Mae ffermwyr, er enghraifft, angen tir sy'n gynhyrchiol ac yn wydn, nid tir sydd o dan ddŵr llifogydd o hyd neu o dan bwysau oherwydd sychder dro ar ôl tro. Dylai plant a theuluoedd hefyd allu mwynhau traethau a moroedd glân. Mae angen mynediad at gadwyni cyflenwi gwydn ar fusnesau. Dylai cenedlaethau'r dyfodol etifeddu Cymru lle mae natur yn ymadfer, nid Cymru lle mae rhywogaethau'n diflannu yn ystod ein hoes ni. Mi fydd y cynllun yn gosod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb ar holl Aelodau'r Cabinet ac ar draws pob portffolio, fel ei fod yn cael ei ymgorffori yn ein penderfyniadau ni ar dai, ar drafnidiaeth, ar ynni, ar iechyd, yr economi, a gwasanaethau cyhoeddus.

Dwi hefyd, Ddirprwy Lywydd, eisiau lleihau'r baich biwrocrataidd sydd ar ffermydd teuluol, gan wneud gwahaniaeth go iawn i'r amser sy'n cael ei dreulio ar brosesau cymhleth a dyblyg—amser y gellid, wrth gwrs, ei dreulio, fel arall, yn rheoli stoc, yn gwella cynhyrchiant neu, wrth gwrs, yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dwi wedi gofyn i John Davies arwain adolygiad annibynnol i nodi meysydd o gymhlethdod diangen a chamau gweithredu i'w leihau.

Dyw cefnogi ffermwyr yn unig, wrth gwrs, ddim yn ddigon. Mi fyddwn ni hefyd yn hyrwyddo pysgodfeydd Cymru, gan gefnogi'r diwydiant fel rhan hanfodol o system fwyd ac economi arfordirol Cymru. Rhaid i ni hefyd gryfhau'r system sy'n darparu bwyd i bobl ledled Cymru. Mi fyddwn ni'n gwneud hyn drwy strategaeth fwyd genedlaethol newydd i Gymru, gan ddiogelu cyflenwadau bwyd, gwella llythrennedd bwyd, cryfhau cadwyni cyflenwi a chefnogi ein diwydiant bwyd a diod i dyfu, gan adeiladu ar ein henw da am fwyd o ansawdd uchel sy'n cael ei gynhyrchu yn gynaliadwy.

Mae gennym ni weledigaeth glir: Cymru lle mae gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cryfhau ein heconomi ni, yn gwella iechyd ein pobl ni ac yn diogelu ein cymunedau ni, lle mae gwneud ardaloedd gwledig ac arfordirol yn fwy gwydn yn greiddiol i bopeth y mae'r Llywodraeth yma yn ei wneud, lle mae ein ffermwyr a'n pysgotwyr ni yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith caled y maen nhw'n ei wneud i roi bwyd ar ein byrddau ni, lle mae ein system fwyd yn gweithio er lles pobl Cymru. Mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd er mwyn gweithredu a gwireddu'r weledigaeth hon. Mi fyddaf i, wrth gwrs, yn agored am yr heriau y byddwn ni'n siŵr o'u hwynebu ar y ffordd, ond mi fyddaf i hefyd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i ddatblygu Cymru fwy gwydn, mwy iach a mwy llewyrchus, gan weithio gyda chymunedau, gyda ffermwyr, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni newid ymarferol sydd wedi'i siapio, wrth gwrs, gan bobl sy'n adnabod eu cymunedau orau. Dyma'r daith sydd o'n blaenau ni: gwrando, cyfrifoldeb ar y cyd, cyflawni ymarferol a gwydnwch hirdymor i Gymru. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau yn y Siambr yma yn ymuno â ni ar y daith honno. Diolch.

15:50
15:55

Diolch yn fawr iawn am y rhestr hirfaith yna o bynciau imi ymateb iddyn nhw.

16:00
16:05
16:10

Diolch, Weinidog, am ddatganiad cadarnhaol heddiw. Yn 2024, daeth 57 y cant o fwyd a fwytawyd yma o gynnyrch y Deyrnas Gyfunol. Mae ffactorau rhyngwladol yn gallu dylanwadu'n helaeth ar gadwyni cyflenwi, gan beryglu cyflenwadau. Mae hunan-ddibyniaeth ar fwyd cynhenid yn rhan allweddol o ddiogelwch cenedlaethol. Mae'r sector fwyd ac amaeth hefyd yn allweddol yn economaidd i ni yng Nghymru, yn gymdeithasol, ac yn un efo cryn botensial o ran ychwanegu gwerth. A all y Gweinidog Cabinet rhoi diweddariad, neu efallai mwy o gig ar yr asgwrn, ar y strategaeth fwyd cenedlaethol newydd fydd yn gwneud y mwyaf o'n cynnyrch ac yn creu hyder newydd yn y sector fwyd? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Mae pwysigrwydd y sector fwyd a diod i Gymru yn ddiamheuol. Hynny yw, pan ŷch chi'n edrych ar rai o'r ffigurau, mae'n anhygoel a dweud y gwir. Mae'n cynrychioli gwerth o tua £27 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru, ac mae'n gyfrifol am gyflogi dros 220,000 o bobl yn y gweithlu Cymreig. Felly, mae sicrhau bod gennym ni sector fwyd ffyniannus, gynaliadwy, sy'n ffit ar gyfer y dyfodol, yn flaenoriaeth bwysig i bob un ohonom ni, dwi'n siŵr, ac mae'r gwaith wedi cychwyn. Mi fyddwn ni cyn bo hir, gobeithio, mewn sefyllfa i gyhoeddi pwy fydd yn arwain y gwaith ar y strategaeth fwyd genedlaethol. Mi fydd honno, wrth gwrs, yn rhoi ffocws ar, efallai, rhai o'r materion rŷn ni eisoes wedi'u crybwyll fan hyn y prynhawn yma. Ond, yn sicr, mae diogelwch bwyd yn bwysig.  

Mae gwella llythrennedd bwyd hefyd yn bwysig, dwi'n meddwl. Mae gormod o'r cyswllt yna wedi mynd ar goll rhwng pobl sy'n bwyta eu bwyd ac sy'n gwerthfawrogi o ble mae'r bwyd yna wedi dod a beth mae e wedi ei gymryd i'r bwyd yna gyrraedd eu platiau nhw. Mae hynny yn golygu cryfhau cadwyni cyflenwi, ac fel roeddwn i'n sôn yn gynharach, mae caffael cyhoeddus yn mynd i fod yn ganolog i hyn. Os ydym ni eisiau tyfu sector fwy gwydn ar gyfer y dyfodol, yna mae'n rhaid i ni gychwyn wrth ein traed. Yr arf cryfaf sydd gennym ni fel Llywodraeth ac fel sector gyhoeddus yw caffael cyhoeddus. Mae yna lawer i'w wneud, ond bydd gen i dipyn yn ychwanegol i'w ddweud, efallai, a rhagor o fanylder, o fewn yr wythnosau nesaf.

16:15
16:20
16:25
5. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Cyllideb Atodol Gyntaf 2026-27

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: cyllideb atodol gyntaf 2026-27. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno cyllideb gyntaf tymor y Senedd newydd yma, a’r un gyntaf erioed gan Lywodraeth Plaid Cymru. Fe ddywedon ni cyn yr etholiad y byddem ni’n cyhoeddi cyllideb o fewn ein 100 diwrnod cyntaf, a dyma ni’n cadw at yr addewid hynny. Rŷn ni’n Llywodraeth newydd, ac mae gennym ni flaenoriaethau ac uchelgeisiau newydd. Fe gawson ni ein hethol gyda mandad clir ar gyfer newid. Y gyllideb atodol hon yw’r cam cyntaf i sicrhau ein bod ni’n gallu gwireddu ein prif flaenoriaethau fel Llywodraeth.

Rŷn ni wedi etifeddu sefyllfa ariannol heriol, ac rŷn ni’n wynebu pwysau sylweddol ar draws y sector cyhoeddus. Cyllideb atodol yw hon—cyllideb o fewn blwyddyn ariannol. Fe rydym felly wedi dewis anrhydeddu y gyllideb bleidleisiwyd drosti ym mis Ionawr, cyllideb sydd eisoes ar waith gan ein byrddau iechyd, ein cynghorau sir, ein cyrff cenedlaethol a’r sector wirfoddol a busnes. Nid dadsefydlogi yw pwrpas y gyllideb yma, ond cychwyn ar osod cyfeiriad newydd ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, i gyd-fynd â’r blaenoriaethau bleidleisiodd pobol Cymru drostynt ym mis Mai.

Fel y soniais, mae’r sefyllfa ariannol yn heriol ac mae’r pwysau ariannol o fewn y cyllidebau yn sylweddol, yn enwedig y gwasanaeth iechyd. Dyna pam fod y gyllideb yma yn cadw arian heb ei neilltuo i’n caniatáu i reoli’r pwysau ariannol o fewn y flwyddyn. Mae’r arian canlyniadol i’r gyllideb o waredu dyledion addysg arbennig llywodraeth leol yn Lloegr, ynghyd â’r arian wrth gefn ar ddechrau blwyddyn ariannol, yn caniatáu i’r Llywodraeth yma glustnodi arian ychwanegol heddiw tra’n cadw golwg ar y pwysau ariannol sy’n parhau o fewn ein sector gyhoeddus.

Siaradais ag arweinydd llywodraeth leol yng Nghymru wythnos diwethaf i esbonio na fydd cynghorau yn derbyn yr arian un-tro i waredu dyledion addysg arbennig a gronnwyd gan lywodraeth leol yn Lloegr, gan nad yw’r dyledion hynny yn bodoli yn yr un modd yng Nghymru. Rŷn ni’n derbyn, wrth gwrs, y pwysau ariannol ar lywodraeth leol ac yr ydym yn arbennig o awyddus i weithio gyda chynghorau ac eraill i gynllunio gwasanaethau pwrpasol addysg arbennig sy’n cwrdd yn well ag anghenion y plant a’r teuluoedd, tra hefyd yn gynaliadwy yn ariannol i’r hirdymor. Bydd arian canlyniadol ar addysg arbennig yn dod i’r gyllideb o bosib yn 2028-29, ac yn wahanol i’r arian un-tro eleni, bydd hwnnw yn arian cylchol. Drwy weithio’n ofalus o fewn proses y gyllideb flynyddol y mae cynllunio addysg arbennig ar sylfaen fforddiadwy, gynaliadwy i’r dyfodol.

Dyw’r gyllideb atodol hon ddim wedi ei chynllunio i gyflawni popeth, ond fel cam cyntaf tuag at sicrhau bod ein cynlluniau gwario yn cyd-fynd â’n maniffesto. Rwyf heddiw yn cadarnhau £294 miliwn o arian ychwanegol: £164 miliwn o gyllid adnoddau a £130 miliwn o gyllid cyfalaf.

Rŷn ni’n blaenoriaethu arian ychwanegol i leihau amseroedd aros y gwasanaeth iechyd. Mae hyn yn cynnwys £100 miliwn o gyllid adnoddau, £25 miliwn o gyllid cyfalaf i ddatblygu hybiau llawfeddygol a diagnostig newydd ledled Cymru, ac £20 miliwn ychwanegol o gyfalaf i wneud gwaith cynnal a chadw yn y gwasanaeth iechyd. Mae hwn yn fuddsoddiad o £145 miliwn yn ein system iechyd i gyflymu triniaethau a gwella canlyniadau i bobl Cymru. Does dim amheuaeth bod angen mynd ati ar unwaith i leihau’r rhestrau aros sydd wedi cronni, ond rhaid inni hefyd sicrhau ein bod ni’n cadw'r rhestrau aros i lawr yn barhaol. Dyna pam rŷn ni hefyd am ddiwygio’r system yn strwythurol, i adeiladu capasiti hirdymor.

Rŷn ni wedi bod yn gwbl glir mai un o’n prif flaenoriaethau yw mynd i’r afael â thlodi plant a chefnogi pobl yng Nghymru gyda chostau byw cynyddol. Bydd £55 miliwn ychwanegol yn golygu y gallwn ni wneud cynnydd buan ar ein hymrwymiad i drawsnewid gofal plant. Bydd y gyllideb ychwanegol yma yn cefnogi ein hamcan i gyflwyno 12 awr a hanner o ofal plant yr wythnos i bob plentyn dwy oed eleni.

Rŷn ni’n cyflwyno £2 filiwn er mwyn cychwyn ar weithredu peilot Cynnal, ein taliad plant o £10 yr wythnos ar gyfer aelwydydd sy’n hawlio credyd cynhwysol. Hwn fydd y cam cyntaf pwysig yn ein cenhadaeth ehangach i fynd ati o ddifrif i drechu tlodi sydd mor ddinistriol i blant.  

Mae £15 miliwn o gyllid ychwanegol yn mynd tuag at brydau ysgol am ddim, wrth inni ddechrau cynnig prydau i ddisgyblion ysgol uwchradd o deuluoedd sy’n hawlio credyd cynhwysol o fis Medi ymlaen. Byddwn ni’n gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gyflawni hyn. Yn y gyllideb yma rydym hefyd yn clustnodi £40 miliwn o gyfalaf ychwanegol i wella ansawdd adeiladau ysgol. Hefyd, bydd £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol i'r rhaglen cyfleusterau cymunedol—cynnydd o 50 y cant yn y gyllideb eleni.

Bydd £2 filiwn o gyllid adnoddau yn cefnogi cyflwyno rhaglen newydd, nofio ac addysg diogelwch dŵr i ysgolion. Bydd hyn yn cefnogi ein hamcan i sicrhau 20 o wersi nofio i blant ym mlynyddoedd 4 a 5 ymhob ysgol gynradd yng Nghymru.

Mae £8 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb hon i ddiogelu tocynnau bws am £1 i blant a phobl ifanc. Mae’n gynllun llwyddiannus, yn annog ein pobl ifanc i ddefnyddio bysus ac yn lleihau eu costau byw nhw. Ers degawdau, mae trafnidiaeth gyhoeddus Cymru wedi bod yn annigonol. Byddwn yn buddsoddi £2 filiwn mewn gwasanaeth bws o'r gogledd i’r de—neu o'r de i'r gogledd—rhwng Bangor a Chaerfyrddin, a fydd ar waith o’r hydref ymlaen. Cynllun yw hwn i gysylltu cymunedau gafodd eu hamddifadu o’u cysylltiad rheilffordd nôl ym 1960au y ganrif ddiwethaf.

Dim ond rhan o’r stori yw’r arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Dyw darparu arian ychwanegol ynddo’i hun ddim yn arwydd o lwyddiant. Mae’r ffordd rŷn ni’n defnyddio’r arian hwnnw yr un mor bwysig. Dyna pam mae'r gwaith amlinellodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad yn gynharach y prynhawn yma am bwysigrwydd troi blaenoriaethau yn ganlyniadau yn mynd law yn llaw â’r gyllideb atodol hon, ac yn enwedig cyllideb yr hydref, fel bod pob punt yn gweithio’n galetach i bobl Cymru. 

Mae'r rhagolygon ariannol dros y blynyddoedd nesaf yn heriol. Mae’n amlwg bod angen model ariannu tecach arnon ni i Gymru. Ein bwriad fel Llywodraeth yw meithrin perthynas adeiladol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig—pwy bynnag fydd yn arwain y Llywodraeth honno—i ddadlau’n hachos a mynd i’r afael â’r diffyg buddsoddiad hanesyddol yng Nghymru.

Yn fy nghyfarfod i â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, fe wnes i godi’r angen am ddiwygio cyllidol, cyllid rheilffyrdd hanesyddol ac i’r dyfodol a delio ag etifeddiaeth ddiwydiannol y tomenni glo. Byddwn ni’n parhau i bwyso am degwch drwy ein perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, a fydd yn cael ei gynnal yma yng Nghaerdydd cyn bo hir, gobeithio.

Heddiw, felly, dwi’n gosod cyllideb atodol i ddechrau gwireddu ein blaenoriaethau a sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir, nid jest atebion tymor byr. Mae’r gyllideb yn gosod y sylfaen ar gyfer ariannu ymrwymiadau’r Llywodraeth hon, a dwi’n falch o’i chyflwyno i’r Senedd.

16:35

Diolch, Weinidog. Mae gen i restr weddol hir o bobl sydd eisiau dod i mewn—sori i roi gwybod i chi. Os gall pawb gadw i amser ac, o bosib, i fod yn weddol gryno er mwyn tegwch i bawb ar y rhestr. Cai Parry-Jones yn gyntaf. Diolch.

16:40
16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Gweinidog i'w swydd a'i llongyfarch, a dweud pa mor dda ydy cael cardi yng ngofal yr arian y dyddiau hyn?

Ond, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n teimlo'n fwy parod ar gyfer y datganiad hwn nag oeddwn i wedi rhagweld, yn bennaf oherwydd bod cymaint o'r cynnwys wedi cael ei friffio ymlaen llaw i'r cyfryngau dros yr ychydig ddyddiau ac wythnosau diwethaf, ac, mae'n siomedig, heb unrhyw hysbysiad dyledus i'r Senedd hon.

Rŷn ni'n nodi ac yn croesawu nad oedd unrhyw doriadau arfaethedig i raglen gyllideb sylfaenol Llafur Cymru. Mae cyllid pellach ar gyfer lleihau amserodd aros y gwasanaeth iechyd yn parhau â'r buddsoddiad a ddechreuodd Llafur Cymru. Ers y buddsoddiad hwnnw o £120 miliwn gan Lafur ym mis Mehefin y flwyddyn ddiwethaf, a diolch wrth gwrs i waith caled staff y gwasanaeth iechyd, mae amserodd aros yn y gwasanaeth iechyd wedi gostwng. Rhaid i'r gwaith hwnnw barhau, ac mae hynny'n golygu bod yn glir ynghylch beth fydd yn cael ei gyflawni ac erbyn pryd. Nawr bod gennym ffigurau buddsoddi arfaethedig o'n blaenau, a all y Llywodraeth ddweud wrthym, o'r diwedd, erbyn pa ddyddiad y bydd y Llywodraeth hon yn dileu arosiadau o ddwy flynedd?

Rwyf hefyd yn nodi y cyllid ar gyfer rhai o addewidion maniffesto Llafur Cymru, fel parhau â'r prisiau bws £1 i bobl ifanc, er dwi'n gweld bod Plaid Cymru wedi methu â chyflawni'n huchelgais ni i gynyddu'r oedran cymhwysedd o 21 i 25. Mae'n werth hefyd sôn bod y bws newydd o ogledd Cymru i'r de ond yn bosibl oherwydd y gwaith adeiladol a wnaed gan y cyn-Weinidog, Ken Skates.

Ond yr hyn sy'n fwy nodedig yw beth sydd ar goll.

16:50

Diolch am y cyfraniad, a chroeso i'r portffolio—cardi yn sgrwtineiddio cardi yn fan hyn, neu gardi o fagwraeth beth bynnag. Ie, mae'r Gweinidogion wedi clywed, a dwi wedi clywed, y feirniadaeth, a dwi wedi'i chlywed hi cyn y prynhawn yma hefyd, ynglŷn â chyhoeddi ar gyllidebau ac ar y gwaith y mae'r Gweinidogion yn mynd i neilltuo y cyllidebau ychwanegol yma ar eu cyfer nhw. Mae rhywfaint o'r gwaith yna wedi cael ei gyflwyno i'w drafod yr wythnos diwethaf. Mae'r Gweinidogion yn rhy awyddus i gychwyn ar y gwaith, mae'n amlwg, ond dwi'n ymddiheuro bod hynny wedi digwydd o flaen llaw a chyn bod y drafodaeth yma yn digwydd yn y Senedd ei hunan.

17:00
17:05
17:10

Diolch, Weinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi’n gwybod bod cyllidebau atodol yn aml yn cael eu camddeall neu eu camddehongli gan rai. Nid ydy cyllideb atodol fel arfer yn ailysgrifennu’r setliad cyllidol cyfan, ond yn hytrach yn ail-alinio gwariant wrth i amgylchiadau newid. Mae hynny’n wir heddiw. Yn dilyn yr etholiad, mae’r gyllideb atodol hon yn dechrau symud o gyllideb olaf y Llywodraeth Lafur tuag at flaenoriaethau Llywodraeth newydd Plaid Cymru, a dwi’n croesawu’r cynnydd sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud mewn prin chwe wythnos gyda’r Cabinet newydd yn dechrau ar y gwaith o drawsnewid Cymru gydag egni a phenderfyniad.

Fel yr amlinellwyd gennych chi yn gynharach, mae’n cynnwys buddsoddiad o £55 miliwn mewn gofal plant, £145 miliwn yn ychwanegol i’r NHS yn y flwyddyn ariannol nesaf, a £15 miliwn pellach i ddechrau galluogi mwy o ddisgyblion uwchradd i gael prydau ysgol am ddim, ac mae lot o’r rhain ym maniffestos lot o’r pleidiau, os nad pawb, yn y Senedd yma. Mae’n dda gweld cymaint o gyflymder o ran newid, a dwi’n edrych ymlaen i weld faint mwy bydd y Llywodraeth yma yn ei gyflawni. Felly, Weinidog, allwch chi amlinellu sut mae’r gyllideb atodol hon yn rhan o broses o symud y cynlluniau gwariant rydych chi wedi’u hetifeddu tuag at flaenoriaethau Llywodraeth newydd Plaid Cymru? Diolch.

Diolch, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Mi oedd e’n benderfyniad bwriadol gan y Llywodraeth yma i anrhydeddu’r gyllideb a basiwyd gan y Senedd ddiwethaf, ac i wneud hynny oherwydd bod y gyllideb yna eisoes yn weithredol gan ein byrddau iechyd, ein cynghorau sir a'n grwpiau gwirfoddol sydd yn dibynnu ar gyllid oddi wrth y Llywodraeth yma. Mae cymaint o wahanol agweddau o fywyd cyhoeddus Cymru wedi cynllunio ar gyfer gwariant ar sail y gyllideb a basiwyd ym mis Ionawr eleni, ac felly mae’r sicrwydd yna’n cael ei roi o’r gyllideb atodol yna fod y gyllideb yna’n parhau am y flwyddyn ariannol yma.

Oes, mae yna gyflymder wedi bod gan y Llywodraeth yma i symud i gyflwyno’r gyllideb atodol hon er mwyn caniatáu i’r Gweinidogion yma i fod yn medru cychwyn ar y gwaith o wireddu rhai o’r blaenoriaethau a bleidleisiodd pobl Cymru amdanyn nhw. Wrth i fi wrando ar gwestiynau a chyfraniadau yn y Senedd yma dros y pythefnos diwethaf yma, dwi wedi clywed lot fawr o feirniadaeth fod y Llywodraeth ddim yn symud yn ddigon cyflym, bod gormod o gynlluniau a gormod o feddwl amboutu beth i’w wneud. Mae’r gyllideb yma’n caniatáu i Weinidogion Cymru symud yn gyflym ac i’r cyrff cyhoeddus fedru cyllido a gwireddu’r cynlluniau sydd yn derbyn cyllid o’r setliad yma heddiw. Felly, mae symud yn gyflym yn bwysig, ond mae’r pwynt olaf rydych chi’n ei wneud, Peredur, yn bwysig hefyd, sef bod yna 27 mlynedd o lywodraethu wedi digwydd cyn i Blaid Cymru ddod mewn yn llawn i lywodraethu yng Nghymru, ac felly mae eisiau i ni fel Plaid Cymru edrych ar yr haenau yna sydd wedi datblygu o fewn cyllido cyhoeddus yng Nghymru ac i ail-lunio hwnnw fel ei fod e’n adlewyrchu’n well beth rŷn ni’n meddwl sy’n flaenoriaethau erbyn hyn i Lywodraeth Cymru—y rhai wnaeth pobl Cymru bleidleisio drostynt yn yr etholiad sydd newydd fod, a’r rhai, dwi’n credu, sydd hefyd yn cael eu gofyn amdanynt ar draws nifer o’r pleidiau sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd yma. Felly, job o waith yw hynny ar gyfer y broses o ddatblygu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol y flwyddyn nesaf.

18:15
7. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Cynnig NNDM9262 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Beca Brown (Plaid Cymru), Lis McLean (Plaid Cymru), Mair Rowlands (Plaid Cymru), Claire Johnson-Wood (Reform UK), Catherine Cullen (Reform UK), Art Wright (Reform UK), Lynne Neagle (Llafur Cymru) a Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o Bwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NNDM9263 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sara Crowley (Plaid Cymru), Matthew Jones (Plaid Cymru), Safa Elhassan (Plaid Cymru), Becca Martin (Plaid Cymru), Claire Archibald (Reform UK), Gareth Thomas (Reform UK), Nigel Williams (Reform UK) a Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynnig NNDM9264 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Anna Nicholl (Plaid Cymru), John Davies (Plaid Cymru), Niamh Salkeld (Plaid Cymru), Gareth Beer (Reform UK), David Mills (Reform UK), Vikki Howells (Llafur Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Paul Rock (Plaid Werdd Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig.

Cynnig NNDM9265 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Elfed Williams (Plaid Cymru), Sarah Rees (Plaid Cymru), Joseph Martin (Reform UK), Laura Anne Jones (Reform UK), Steve Bayliss (Reform UK), Jayne Bryant (Llafur Cymru), Anthony Slaughter (Plaid Werdd Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Cynnig NNDM9266 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Leticia Gonzalez (Plaid Cymru), Alun Cox (Plaid Cymru), Kiera Marshall (Plaid Cymru), Tom Montgomery (Reform UK), John Clark (Reform UK), Sarah Edwards (Reform UK), Shav Taj (Llafur Cymru) a Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd.

Cynnig NNDM9267 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rebeca Phillips (Plaid Cymru), Nick Carter (Plaid Cymru), Niamh Salkeld (Plaid Cymru), Helen Jenner (Reform UK), Steven Rodaway (Reform UK), Louise Emery (Reform UK), Mike Hedges (Llafur Cymru) a Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon.

Cynnig NNDM9268 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Elyn Stephens (Plaid Cymru), Rebeca Phillips (Plaid Cymru), Marc Jones (Plaid Cymru), Francesca O’Brien (Reform UK), David Hughes (Reform UK), Mike Hedges (Llafur Cymru), Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) ac Anthony Slaughter (Plaid Werdd Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Cynnig NNDM9269 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru), Gwyn Williams (Plaid Cymru), Sarah Rees (Plaid Cymru), Paul Marr (Reform UK), Joshua Kim (Reform UK), Cristiana Emsley (Reform UK), Lynne Neagle (Llafur Cymru) a Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.

Cynnig NNDM9270 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Elfed Williams (Plaid Cymru), Lyn Ackerman (Plaid Cymru), Sera Evans (Plaid Cymru), Iain McIntosh (Reform UK), Benjamin Hodge Mckenna (Reform UK), a Huw Thomas (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid.

Cynnig NNDM9271 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Alun Cox (Plaid Cymru), Anna Nicholl (Plaid Cymru), Carrie Harper (Plaid Cymru), Cai Parry-Jones (Reform UK), Shav Taj (Llafur Cymru) ac Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Cynnig NNDM9272 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru), Kiera Marshall (Plaid Cymru), Beca Brown (Plaid Cymru), Adrian Mason (Reform UK), Huw Thomas (Llafur Cymru) a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Deddfwriaeth.

Cynnig NNDM9273 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Elyn Stephens (Plaid Cymru), Stephen Senior (Reform UK), Ken Skates (Llafur Cymru) a Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

2. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) ar ran Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Sera Evans (Plaid Cymru) ar ran Elyn Stephens (Plaid Cymru) Llŷr Powell (Reform UK) ar ran Stephen Senior (Reform UK), Lynne Neagle (Llafur Cymru) ar ran Ken Skates (Llafur Cymru) a Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelodau amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynnig NNDM9274 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Elwyn Vaughan (Plaid Cymru), Sara Crowley (Plaid Cymru), Donna Cushing (Plaid Cymru), Joseph Martin (Reform UK), Vikki Howells (Llafur Cymru) a Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynigiwyd y cynigion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.