Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/06/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Prynhawn da. Rydym yn agor y prynhawn yma gyda'r cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams. Cwestiwn 1, Catherine Cullen.

Hunaniaeth Rhywedd

1. Sut y bydd y Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i sicrhau bod canllawiau ar hunaniaeth rhywedd mewn ysgolion yn blaenoriaethu safonau diogelu gwrthrychol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel yr amlinellir yn adolygiad Cass Llywodraeth y DU, er mwyn gwarantu amgylchedd diogel a thryloyw i bob disgybl a rhiant? OQ64101

Member (w)
Sioned Williams 13:30:43
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Fe fyddaf i'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei hystyried mewn unrhyw benderfyniadau polisi ar gefnogi dysgwyr trawsryweddol, anneuaidd ac sy'n cwestiynu eu rhywedd.

Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno bod angen i bawb ohonom drin plant â thrugaredd. Rydym yn eistedd yma heddiw gydag un ddyletswydd nad yw'n agored i drafodaeth: diogelwch diamod plant Cymru mewn ysgolion. Pan rybuddiodd adolygiad Cass yn benodol nad yw trawsnewid cymdeithasol—hynny yw, newid enw, rhagenwau neu wisg ysgol plentyn yn yr ysgol—yn weithred niwtral a'i fod yn peri risgiau seicolegol difrifol, pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn yr argymhellion hyn. Mae eu maniffesto yn galw am system hunanddatgan wedi'i dadfeddygoli sy'n mynd ati'n weithredol i hyrwyddo damcaniaethau hunaniaeth rhywedd drwy'r system ysgolion. Mewn rhai dosbarthiadau TGAU Saesneg yng Nghymru, mae rhai llyfrau academaidd, pynciau arholiad llafar a rhyddiaith a cherddi wedi'u tynnu'n ôl a rhai sy'n ymdrin â chysyniadau cymdeithasol modern wedi'u gosod yn eu lle, gan gynnwys rhai â themâu hunaniaeth rhywedd. Yn eich maniffesto, rydych chi'n awyddus i gyflwyno strategaeth llythrennedd a rhifedd. Gyda'n safleoedd Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn gwaethygu, a dim ond 17.8 y cant o drigolion Blaenau Gwent yn meddu ar gymhwyster lefel 4 neu uwch, fy nghwestiwn i yw: pam ein bod yn cael gwared ar lythrennedd ac yn gosod damcaniaethau rhywedd a deunydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei le?

Jest i fod yn glir, dydyn ni ddim yn mynd i gyfnewid ein cynllun ar rifedd a llythrennedd. Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni fel Llywodraeth wedi ei flaenoriaethu. Ond rydw i a'r Gweinidog dros addysg a'r Gymraeg am i bob plentyn a pherson ifanc yn ein hysgolion yng Nghymru gredu yn eu gallu i gyflawni i'r eithaf, a dwi'n cydnabod bod creu amgylchedd cefnogol yn ffordd bwysig o'u helpu i lwyddo. Mae arweinwyr polisi addysg Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau drafft anstatudol i ysgolion ar sut, er enghraifft, i gefnogi dysgwyr traws, anneuaidd a rhai sy'n cwestiynu eu rhywedd, o ganlyniad i ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid, ac mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn ymwybodol o'r angen am arweiniad a sensitifrwydd wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. O ystyried y pegynnu yn y farn gyhoeddus mewn perthynas â bywydau pobl ifanc traws, mae'n rhaid i ni fel Llywodraeth ystyried yn ofalus y camau rŷn ni'n eu cymryd. Fe dynnodd Dr Cass sylw yn ei hadroddiad at y ffaith nad yw'r pegynnu a natur docsig y drafodaeth ar y mater hwn yn hyrwyddo buddiannau plant a phobl ifanc, ac mae'n hanfodol, felly, fod lles pob dysgwr yn cael ei warchod tra'u bod nhw yn yr ysgol, a bod pob dysgwr yn teimlo croeso, a'u bod yn barod ac wedi eu cefnogi i ddysgu.

Mannau Un Rhyw

2. Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i weithredu mannau un rhyw yng Nghymru yn unol â'r gyfraith? OQ64113

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithredu'r gyfraith yng Nghymru mewn ffordd sy'n glir, yn gyson ac yn ymarferol, gan sicrhau ar yr un pryd fod pob unigolyn yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Rwyf wedi cyflwyno'r cwestiwn heddiw o ganlyniad i ymholiad uniongyrchol gan ddinasyddion pryderus a llawer o grwpiau eiriolaeth menywod ledled Cymru sydd wedi cael llond bol ar aros am yr amddiffyniadau a nodir gan ein cyfreithiau.

Rydyn ni'n symud ymlaen. Yn nesaf, cwestiynau llefarwyr—. O, na, mae'n flin gen i—Natasha Asghar.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, gwnaeth y Llywodraeth Lafur ddiwethaf gam â menywod a merched ledled Cymru drwy lusgo ei sodlau o ran gweithredu dyfarniad y Goruchaf Lys, ac yn seiliedig ar rethreg Plaid Cymru, rwy'n ofni na fydd unrhyw beth yn newid yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, cefais e-bost gan weithiwr Llywodraeth Cymru a ddywedodd wrthyf eu bod yn gweithio o dan bolisi sy'n caniatáu i ddynion sy'n uniaethu fel menywod ddefnyddio mannau un rhyw menywod o'r diwrnod cyntaf o hunanddiffinio, a bod staff yn cael gwybod yn benodol na ddylid gofyn i'r unigolion hyn ddefnyddio cyfleusterau eraill. Dywedodd yr aelod o staff wrthyf, a dyfynnaf:

'Mae'r Goruchaf Lys wedi gwneud y sefyllfa gyfreithiol yn ddiamwys at ddibenion y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae "rhyw" yn golygu rhyw biolegol. Nid yw tystysgrif cydnabod rhywedd yn newid rhyw unigolyn o dan y Ddeddf'.

Ac rwy'n dal i ddyfynnu yma:

'Ni all Llywodraeth ddewis a dethol pa gyfreithiau y mae'n eu dilyn, ond dyna'n union sy'n digwydd yn ôl pob golwg o fewn Llywodraeth Cymru ei hun'.

Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru barchu dyfarniad clir iawn y Goruchaf Lys, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn drwy gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru. Felly, Weinidog Cabinet, pryd y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i roi diogelwch menywod a merched yn gyntaf a gweithredu, ac a allwch chi egluro hefyd, er budd y sefydliad cyfan hwn, pam y pleidleisiodd eich pedwar Aelod Seneddol yn San Steffan yn erbyn cefnogi gwasanaethau i fenywod yn unig yn ddiweddar? Diolch.

13:35

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel y gwnes i osod mas yn glir iawn ddoe, rŷn ni'n parchu dyfarniad y Goruchaf Lys ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith—ac wedi bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith ers i'r dyfarniad yna gael ei draddodi—sydd angen ei wneud i sicrhau bod polisi ac arferion datganoledig yn parhau i gydymffurfio â'r gyfraith fel yr eglurwyd gan y llys. Mae'n rhaid i'r gwaith yma gael ei wneud yn ofalus ac yn gyson, ac ar draws ystod o leoliadau datganoledig. O ran y Llywodraeth ei hunan, mae hynny'n fater i'r Ysgrifennydd Parhaol, a dwi'n gwybod bod y gwaith yna wedi bod yn bwrw rhagddo ers dyfarniad y Goruchaf Lys. 

Gall rhai newidiadau gael eu gwneud yn gyflym. Mae angen ystyried, wedyn, rhai eraill ymhellach, i sicrhau eu bod nhw'n gyfreithlon, yn gymesur ac yn ymarferol. A bydd angen i unrhyw newidiadau i'r arferion presennol gydymffurfio â'r gyfraith a chael eu rhoi ar waith mewn ffordd glir, gymesur ac ymarferol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dal i warchod pobl sydd â nodwedd warchodedig o fod wedi ailbennu rhywedd rhag unrhyw wahaniaethu yn eu herbyn, ac aflonyddu. Mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof. Mae hon yn gymuned sy'n teimlo dan warchae ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i hynny ac, felly, edrych ar y camau ymarferol y gallwn ni eu gwneud wrth gydymffurfio â'r gyfraith a dyfarniad y Goruchaf Lys, ac wedyn, wrth weld y cod ymarfer a fydd yn dod i law, os bydd yn cael ei basio yn San Steffan, sut rydyn ni'n gwneud hynny. 

Ac o ran y mater ynglŷn ag Aelodau Seneddol, wrth gwrs, mae dros 100 o Aelodau Seneddol o nifer o bleidiau wedi mynegi nad ydyn nhw'n teimlo bod y cod sydd wedi'i osod, ac fel mae e wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn gwneud hynny yn ddigon gofalus—y pwyntiau dwi wedi'u hamlinellu fan hyn. Ac felly, wrth gwrs, mae ganddyn nhw'r hawl i gwestiynu hynny yn unol â'r system ddemocrataidd. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Cristiana Emsley. 

Diolch, Lywydd. Dywedodd Saunders Lewis 'Cenedl heb iaith, cenedl heb galon'. Ddoe, dyfynnodd y Dirprwy Brif Weinidog Dr Martin Luther King wrth sôn am y math o genedl rydym am ei hadeiladu gyda'n gilydd. Er efallai nad yw 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn defnyddio'r ymadroddion hyn, mae cyrff a ariennir i hyrwyddo ei amcanion wedi cefnogi prosiectau fel dad-drefedigaethu'r gacen Gymreig ac wedi comisiynu adroddiadau yn argymell newidiadau dadleuol i sut y mae pobl yn defnyddio ac yn profi cefn gwlad Cymru. Mae llawer o bobl yn teimlo bod yr agenda hon yn creu perygl o drin mynegiadau o ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig fel problemau i'w hailddehongli yn hytrach na thraddodiadau i'w dathlu. Os mai cenhadaeth y Llywodraeth yw cryfhau hunaniaeth Cymru, ar ba bwynt y mae ailystyried ein traddodiadau yn dod yn erydu hyder diwylliannol y genedl y cafodd ei hethol i'w gwasanaethu?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Llywodraeth yma'n glir bod Cymru yn genedl i bawb sy'n ymgartrefu yma. Beth bynnag eu hiaith, beth bynnag eu tras ethnig, mae e'n rhywle y mae pawb yn gallu ei alw'n gartref, ac fe fyddwn ni fel Llywodraeth wastad yn cefnogi pob un o'n dinasyddion ni. 

Wrth gwrs, mae hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn rhywbeth sydd angen ei drysori a'i warchod, ond, yn yr un modd, dyw e ddim yn rhywbeth caeedig; mae e'n rhywbeth gwbl agored. Mae unrhyw un yn gallu dysgu Cymraeg, er enghraifft, ac mae'r Llywodraeth yma eisiau gwneud yn siŵr bod gan bawb yng Nghymru y cyfle i wneud hynny. Mae edrych nôl ar ein hanes, a deall cymhlethdod ein hanes, yn rhywbeth hanfodol os ydyn ni eisiau deall pwy ydyn ni ac i ble rydyn ni'n mynd ac effaith yr hanes hynny ar bob un o'n dinasyddion. Felly, dwi ddim yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei rhoi ymlaen, o ran y ffaith ein bod ni, wrth wneud yn siŵr ein bod ni'n gwarchod pawb rhag hiliaeth, er enghraifft, drwy'r cynllun sydd gyda ni, yn peryglu hynny mewn unrhyw fodd.

13:40

Ddoe, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog a sicrhau mynediad teg at ofal iechyd, tai, cyflogaeth, addysg, sgiliau a hyfforddiant i bersonél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Felly, a all y Gweinidog nodi'r canlyniadau pendant y mae'r ymrwymiad hwn wedi'u cyflawni yng Nghymru? Yn benodol, pa welliannau mesuradwy all hi eu nodi mewn meysydd fel tai, mynediad at ofal iechyd, cyflogaeth neu ddigartrefedd sy'n dangos bod cyn-filwyr Cymru mewn gwell sefyllfa o ganlyniad uniongyrchol i gyfamod y lluoedd arfog, yn hytrach na gorfod bodloni ar ddatganiadau o egwyddorion a chanllawiau yn unig?

Diolch. Fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, ac fel rydym wedi'i nodi yn ein maniffesto, rydym wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog i sicrhau mynediad teg at ofal iechyd, tai, cyflogaeth, addysg, sgiliau a hyfforddiant i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Dangosodd y Prif Weinidog hyn yn glir yn un o'r ymweliadau cyntaf y mae wedi'u gwneud fel Prif Weinidog. Ymwelodd â sefydliad Cyn-filwyr y Cymoedd yn Nhon Pentre yr wythnos diwethaf, lle nododd yn glir ein hymrwymiad i'r cyfamod, a chlywodd gan gyn-filwyr yno.

Rwy'n credu'n gryf fod y cyfamod yn fater cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae a wnelo â lleihau'r anfantais a all godi o ganlyniad i wasanaethu a rhoi ystyriaeth arbennig i'r rhai sydd wedi rhoi fwyaf, fel y rhai sydd wedi cael eu hanafu neu sydd wedi colli rhywun yn sgil gwasanaethu. Er bod gwasanaethu'n brofiad cadarnhaol i lawer, bydd angen ein cymorth ar lawer o bobl hefyd o ganlyniad i'r gwasanaeth hwnnw, gan gynnwys, wrth gwrs, gan wasanaethau datganoledig. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto yn y maes hwn. Rwy'n disgwyl darparu memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i'r Senedd cyn bo hir mewn perthynas â Bil y Lluoedd Arfog, gan gynnwys ei gynlluniau i ehangu cyfamod y lluoedd arfog. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda Gweinidogion y DU i sicrhau bod unrhyw gynlluniau sy'n gysylltiedig â chymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru yn ystyried datganoli'n llawn.

Ar 31 Mawrth eleni, cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd daliad cymorth brys o £200 ar gyfer aelwydydd incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi a nwy petrolewm hylifedig, gan addo cymorth i bobl fel yr etholwyr sydd wedi cysylltu â mi'n ddiweddar. Ac eto, fwy na deufis yn ddiweddarach, mae fy etholwyr yn Wrecsam wedi cael gwybod gan yr awdurdod lleol ei fod yn dal i aros am ganllawiau gan y Llywodraeth cyn y gellid gwneud taliadau. Weinidog, mae Llywodraethau'n newid, ond mae'n fis Mehefin ac mae pobl agored i niwed yn dal i aros, gan ddisgwyl i addewidion a wnaed yn eu henw gael eu hanrhydeddu. Nid yw cymorth brys sy'n cyrraedd ar ôl yr argyfwng yn gymorth brys o gwbl. A all y Gweinidog ddweud wrthym faint o aelwydydd cymwys ledled Cymru sy'n dal i aros am y taliad hwn heddiw? Pryd fydd pob taliad sy'n weddill yn cael ei wneud? Pa gamau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw bensiynwr na theulu incwm isel byth eto'n aros misoedd am gymorth a addawyd mewn argyfwng, oherwydd, Weinidog, beth yw pwynt cyhoeddi cymorth brys os nad yw'n cyrraedd pobl tan ar ôl iddynt dreulio'r gaeaf yn eistedd dan flancedi mewn cartrefi 9 gradd Celsius?

Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod hwn yn gyhoeddiad a wnaed gan y Llywodraeth ddiwethaf. Yn ôl yr hyn rwy'n deall, ac rwyf wedi holi am hyn—. Un o'r pethau cyntaf y gwnes i holi amdano, a dweud y gwir, pan ddes i mewn i'r rôl yma oedd gofyn am sicrhad bod yr arian yna wedi mynd mas i'r awdurdodau lleol. Rwy'n deall mai dyna yw'r achos a'u bod nhw wedi cael y canllawiau sydd eu hangen er mwyn dosbarthu'r arian yna. Ond dwi'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod i roi sicrwydd ynglŷn â hynny a chael yr union ffigurau y mae hi wedi gofyn amdanyn nhw.

13:45

Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy longyfarch y Gweinidog Cabinet ar ei rôl? Rwy'n croesawu'r uchelgais a rannodd ddoe. Mae llawer o'r hyn rydych chi eisoes wedi'i ddweud yn y Senedd yn taro tant gyda mi'n bersonol, ond hefyd gyda ni fel grŵp Llafur. Fe wyddoch fy mod wedi rhoi tystiolaeth i amryw bwyllgorau gwahanol yn y Senedd, gan gynnwys y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roeddem yn glir iawn bryd hynny ynghylch maint yr her a'r brys y byddai ei angen yn y pen draw. Wrth gwrs, mae llawer o hyn yn adeiladu ar waith Jane Hutt, yr enwog Jane Hutt wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a fu'n arwain ar drechu tlodi plant ac ehangu amcanion cydraddoldeb ar draws y Llywodraeth. Fel y dywedaf, mae tir cyffredin yno. Ond rydym wedi cael strategaethau o'r blaen ac rydym wedi cael yr ymrwymiadau, a'r hyn y mae pobl wedi'i ddweud bob amser yw bod yna ymdeimlad o frys. Fe sonioch chi unwaith eto ddoe am dargedau, ond sut y bydd y cyhoedd yn gweld y cynnydd hwnnw'n cael ei wneud mewn gwirionedd? Pa ddata fydd yn cael ei gyhoeddi? Pa mor aml y bydd yn cael ei gyhoeddi? A sut y byddwn ni'n gwybod a yw anghydraddoldeb yn lleihau mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr, a diolch am y geiriau yna. Dwi'n gwybod ein bod ni'n rhannu nifer o'n gwerthoedd craidd ni yn y maes cyfiawnder cymdeithasol. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio, fel y gwnaethom ni gydweithio wrth graffu ar y Llywodraeth flaenorol. Diolch yn fawr iawn am y cynnig yna ac am y geiriau yna.

Dyma un o'r prif bethau y credaf fod gwir angen inni fynd i'r afael â nhw. Gwariodd y Llywodraeth flaenorol lawer iawn o arian, ac yn gwbl briodol felly, ar geisio cefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant mewn tlodi wrth gwrs, ond nid ydym wedi gweld y sefyllfa'n newid. Mae llawer o'r gwaith craffu a wnaethom yn y Senedd ddiwethaf, drwy waith pwyllgorau ac mewn ffyrdd eraill, wedi dangos hyn yn eithaf clir yn fy marn i. Dyna pam fy mod wedi'i gwneud yn flaenoriaeth imi allu edrych eto yn benodol ar y strategaeth tlodi plant, ond ar draws y mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith i leihau dioddefaint, i leihau anghydraddoldeb, ac i fod yn darparu gwahanol fathau o gymorth.

Rydym wedi nodi'n glir fel Llywodraeth y bydd gennym ddangosfwrdd digidol. Mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ganddo gryn ddiddordeb yn y targedau a'r cerrig milltir y byddaf yn eu gosod, yn benodol yn y strategaeth tlodi plant, ond ar draws popeth yr addewais ei gyflawni yn y maes hwn.

Mae'n debyg mai'r cwestiwn nawr yw nid beth y bwriadwch ei wneud, ond beth rydych chi'n ei gyflawni mewn gwirionedd. Pa newidiadau fydd pobl yn eu gweld a'u teimlo yn eu bywydau bob dydd? Dyma y mae pobl yn ei ofyn i ni drwy'r amser, boed yn y safle bws, neu ar garreg y drws. Rwy'n ei glywed mewn mannau lle nad yw pobl yn siarad am lunio polisïau na dim felly—maent yn siarad am oroesi, yn y pen draw. Maent yn dweud bod y Senedd wedi mynd yn fwy, 'Mae llu ohonoch yn eistedd o gwmpas yn gwneud yr holl benderfyniadau hyn, ond sut fydd fy mywyd i'n newid mewn gwirionedd, ac a fydd fy miliau'n lleihau, ac a fydd yn rhaid imi boeni am y beili, a allaf i fforddio prynu esgidiau ysgol i fy mhlant neu'r pâr ychwanegol o esgidiau ymarfer neu beth bynnag.' A fydd y Gweinidog Cabinet yn gallu nodi un newid pendant a gyhoeddwyd ganddi ddoe a fydd yn lleihau costau byw i deuluoedd neu'n gwella cyflogau i weithwyr yn y 12 mis nesaf?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r ffordd rydych chi wedi crynhoi'r frwydr y mae pobl yn ei hwynebu. Mae pob un ohonom wedi bod allan yn curo drysau ers misoedd a gwyddom ei bod yn anodd allan yno. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i bobl ofyn pam y mae gwleidyddiaeth wedi gwneud cam â nhw. Rwy'n credu bod llawer o hynny'n ymwneud â'r wleidyddiaeth cyni a welsom gan Lywodraeth Dorïaidd y DU dros flynyddoedd lawer, a hyd yma nid ydym wedi gweld y newid sydd ei angen arnom o dan Lywodraeth Lafur y DU. Fel y dywedaf, yng Nghymru, roeddem yn gwneud pethau'n wahanol, ac roeddem yn barod i weithio gyda Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru ar bethau fel prydau ysgol am ddim, lle roeddem yn gwybod y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—roedd pobl yn mynd i deimlo hynny'n fawr yn eu bywydau bob dydd.

O ran y pethau yr hoffwn eu gwneud, hoffwn gyflawni newid pendant ym mywydau go iawn pobl, blaenoriaethau go iawn pobl yng Nghymru. Dyna pam fy mod wedi canolbwyntio'n glir ar y pethau rwy'n gobeithio eu cyflawni ac yr wyf eisoes wedi dechrau gweithio arnynt yn yr ychydig wythnosau yr ydym wedi bod mewn grym—targedu ymdrechion ar y polisïau allweddol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru a'u bywydau bob dydd. Wrth gwrs, mae a wnelo hynny, er enghraifft, â threchu tlodi plant a helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gan ddatblygu'r taliad Cynnal o £10. Gwyddom fod taliadau arian parod uniongyrchol, fel rydym wedi'u gweld yn yr Alban, yn ffordd effeithiol iawn o wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.

Y peth arall yr hoffwn ei wneud yw symud tuag at fwy o gamau ataliol. Nid ydym am i bobl fod yn dioddef canlyniadau tlodi. Mae hynny'n cynnwys symleiddio system fudd-daliadau Cymru, y gwaith a ddechreuwyd o dan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru. Ond nawr, o dan ein Llywodraeth ni, rydym am ei gwneud hyd yn oed yn fwy effeithlon. Oherwydd yn rhy aml, nid yw pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Rwyf am roi pwyslais gwirioneddol ar hynny. Rwyf wedi dechrau gweithio ar adolygu a symleiddio'r system honno, fel y gall pobl gael y cymorth hwnnw, y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, mor gyflym ac mor hawdd ag y gallant.

13:50

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, bydd hon yn set debyg o gwestiynau mewn sawl ffordd, ond mae hynny'n anochel, gan ei fod yn fater mor bwysig i gynifer o bobl yn ein cymuned. Mae eich rôl yn dylanwadu'n uniongyrchol ar bobl yng Nghymru, ac mae'n penderfynu a fyddant yn well eu byd, nid yn unig a yw polisïau'n swnio'n dda ar bapur. Mae eich maniffesto, fel rydych chi wedi'i nodi eto, yn cynnwys ymrwymiadau fel ehangu gofal plant, y gwn y bydd yn cael ei drafod yn nes ymlaen, a thaliad plant Cymru. Ond mae llawer o'r rhain wedi'u fframio fel cynlluniau peilot, cynlluniau i'w cyflwyno'n raddol, neu ddiwygiadau strwythurol hirdymor. Fel rydym newydd glywed, i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd gyda biliau bwyd, rhent ac ynni, gall y mathau hynny o amserlenni deimlo fel oedi yn hytrach na chyflawniad. Felly, a allwch chi fod yn glir iawn? Gwn eich bod wedi nodi rhai o'ch syniadau yno, ond pa wahaniaeth ariannol penodol, uniongyrchol fydd teulu incwm isel yn ei weld o fewn eich blwyddyn gyntaf—nid mewn theori, ond yn eu cyfrif banc neu gostau wythnosol? Ac os yw hynny'n ormod i'w ofyn, beth fyddech chi'n disgwyl iddynt ei weld ar ôl dwy flynedd o'r Llywodraeth hon?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wnaf i ddim ailadrodd yr hyn a wnes i ei ddweud wrth ymateb i Shavanah Taj, ond yn amlwg mae'r pethau yna yn mynd i wneud gwahaniaeth. Rŷn ni'n gwybod bod costau gofal plant yr uchaf yn y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru, ac felly mae sicrhau eich bod chi yn gallu mynd allan i waith, yn enwedig menywod, os ŷch chi am wneud hynny, a'ch bod chi'n gallu fforddio gwneud hynny, ei fod e'n gwneud sens ichi wneud hynny, eich bod chi'n gallu cynyddu'ch incwm, eich bod chi'n gallu mynd ymlaen yn eich gyrfa, yn rhywbeth fydd pobl yn ei deimlo ar unwaith.

Mae angen iddo fod gam wrth gam—dŷn ni wedi bod yn glir ar hynny—ond fe fyddwn ni nawr yn uchafu rolio allan at bob plentyn dwy flwydd oed nawr o fewn y flwyddyn gyntaf yma y byddwn ni mewn grym. Felly, bydd hwn yn cael ei deimlo yn syth gan bobl. Yn amlwg, bydd y teuluoedd a fydd yn rhan o'r peilot yn teimlo hynny ar unwaith, gobeithio o fewn blwyddyn o fod mewn grym. Yn yr un modd, gwnaethoch chi sôn nad yw pobl ddim eisiau peilot. Byddwn i'n hoffi peidio â rhedeg peilot ar hwn. Does gyda ni ddim y grym ar hyn o bryd, achos does gyda ni ddim y pwerau wedi'u datganoli dros les. Dyna'r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod pobl yn cael eu gwarchod os dyw eu hincwm nhw ddim yn cwrdd â'u hanghenion nhw.

Dŷn ni'n mynd i fod yn gweithio, er enghraifft, hefyd, ar renti teg. Mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth anferth i bobl. Yn amlwg, fel y gwnaethoch chi sôn ar ddechrau eich cwestiwn, mae fy mhortffolio i yn rhywbeth mae pobl yn ei deimlo, achos mae pobl yn teimlo anghydraddoldeb—anghydraddoldebau o bob math, ac anghydraddoldeb economaidd yn bennaf. Mae gyda ni lefelau lot rhy uchel o dlodi yng Nghymru, felly byddaf i yn gweithio ar draws y Cabinet i sicrhau ein bod ni yn gallu gweithio tuag at leihau y lefelau hynny o anghydraddoldeb.

Diolch, Weinidog Cabinet. Mae hynny'n swnio'n galonogol. Ond mae geiriau'n un peth; gadewch inni weld beth yw'r camau gweithredu. Oherwydd problem sy'n codi dro ar ôl tro yng Nghymru—ac y mae pob un ohonom wedi'i gweld ers blynyddoedd lawer—yw nad ydym yn gweld gwelliant mewn tlodi na safonau byw. Mewn gwirionedd, mae'r sefyllfa wedi bod yr un peth ers 20 mlynedd, yn ôl yr hyn a welaf, gyda channoedd o filoedd o blant yn byw mewn tlodi.

Mae eich maniffesto'n sôn am strategaethau newydd, ffyrdd newydd o weithio, ac mae hynny'n wych iawn—rydym yn edrych ymlaen at hynny—ond a allwch chi nodi'n glir beth y gallwn ei ddisgwyl o ran targedau mesuradwy go iawn fel y gallwn fonitro cynnydd? Oherwydd yr hyn rwyf wedi'i weld yn y lle hwn ers imi fod yma yw na allwch olrhain perfformiad. Nid oes unrhyw reoli perfformiad, mewn gwirionedd, inni allu dwyn pobl i gyfrif. A fyddwn ni'n gweld y targedau hynny?

Mae angen inni sicrhau nad yw eich polisïau’n dod yn ddim byd mwy na set arall o ymrwymiadau nad ydynt yn cyflawni, gyda’r Llywodraeth ddiwethaf neu’r Llywodraeth gynt yn cael y bai. Weinidog, os yw tlodi plant yn dal i fod ar lefel annerbyniol ddwy neu dair blynedd i mewn i’ch Llywodraeth, pwy ddylai pobl eu dwyn i gyfrif mewn gwirionedd? Chi, eich Llywodraeth, neu rywun arall?

13:55

Diolch am hynny. Mae hi'n anodd, a dweud y gwir, clywed rhywun o'r Blaid Geidwadol yn sôn am dlodi plant. Mae'n rhaid i chi gydnabod ac mae'n rhaid i chi berchnogi fel plaid y niwed economaidd a'r niwed a wnaethoch chi i deuluoedd ar draws Cymru am dros ddegawd—am fwy na hynny. Dwi'n un o blant y 1980au, dwi'n un o blant y maes glo, a dwi'n cofio beth ddigwyddodd o dan Margaret Thatcher yn fy nghymuned i. Mae'n un o'r rhesymau pam ddes i mewn i wleidyddiaeth, a dweud y gwir. Ond gwnaf dderbyn y pwynt a gwnaf dderbyn yr her, achos dyma'r gwaith dwi eisiau ei wneud. Dwi eisiau gwneud yn iawn am hynny, am yr anghydraddoldebau a'r lefelau annerbyniol yna o dlodi y gwnaethoch chi gyfeirio atynt.

Fel y soniais i, dŷn ni yn y Llywodraeth yma ddim yn ofni craffu—a dweud y gwir, dŷn ni'n croesawu craffu. Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr, gyda'r cyllid sydd gyda ni, gyda'r pwerau sydd gyda ni, ein bod ni yn gwneud i bob punt gyfrif. Am rhy hir, mae yna nifer fawr o raglenni wedi bod a dŷn ni ddim wedi gweld yr effaith. Dwi'n cytuno gyda chi ar hynny. Dyna pam dwi eisiau, er enghraifft, adolygu'r strategaeth sydd gyda ni, gosod y targedau yna. Fe fydd y Lywodraeth hon yn anelu at hynny, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n trio ymgyrraedd at y targedau hynny, ac, wrth gwrs, gweithio mewn partneriaeth i wneud hynny. 

Fe fyddaf i, wythnos nesaf a dweud y gwir, yn trafod yr union beth yma gyda'r child poverty expert reference group, sydd yn barod iawn wastad i roi syniadau ac i fod yn ffrind beirniadol i Lywodraeth. Felly, trwy mecanweithiau fel hynny, trwy gael y targedau clir a mesuradwy hynny, a meincnodi a chael cerrig milltir ar hyd y ffordd, dwi'n gobeithio y bydd y Senedd hon a phobl Cymru yn medru mesur a gweld ein cynnydd. Ac fe fydd y Llywodraeth yma yn atebol am hynny.

Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

3. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn Fflint Wrecsam? OQ64085

Diolch am y cwestiwn. Yn Fflint Wrecsam, fel ar draws Cymru gyfan, rwyf wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i bawb o bob cefndir. Parch, undod a chwarae teg fydd yr egwyddorion sy'n llywio fy ngwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac adeiladu cymunedau tecach, mwy diogel ac unedig. 

Diolch am eich ymateb, Weinidog Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod am y rôl bwysig sydd gan grwpiau ffydd ym maes addysg yma yng Nghymru, yn enwedig yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru, gyda'u holl ysgolion ledled Cymru. Yn fy rhan i o’r byd yn Fflint Wrecsam, mae gan yr Eglwys Gatholig nifer o ysgolion yn rhai o’n hardaloedd tlotaf, yn rhai o’n hardaloedd mwyaf anghenus, ac maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi ein cymunedau.

Efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir y Fflint yn dilyn agenda o gau nifer o’r ysgolion Catholig hyn yn fy ardal i, yn benodol yn Saltney, lle mae Ysgol Gynradd Gatholig St Anthony dan fygythiad o gael ei chau. Mae’r awdurdod lleol yno, sir y Fflint, yn dweud wrth rieni a phlant y dylent naill ai fynd i Loegr i gael eu haddysg Gatholig, neu deithio 14 milltir i’r Fflint ar gyfer eu haddysg Gatholig.

Yn gyntaf oll, a ydych chi'n cytuno â Chyngor Sir y Fflint ei bod yn briodol dweud wrth rieni a'u plant am fynd allan o Gymru i gael eu haddysg Gatholig, neu a ydych chi'n credu y dylai fod addysg ar gael iddynt yng Nghymru? Yn ail, a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi i drafod y mater hwn ymhellach i weld pa atebion a allai fod ar gael?

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

Mae gwaith rhyng-ffydd yn bwysig iawn, ac mae cefnogi cymunedau ffydd, wrth gwrs, yn agwedd bwysig iawn ar fy ngwaith. Rwy'n sicr yn fwy na pharod i gyfarfod â chi i glywed am y mater penodol hwn. Wrth gwrs, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu polisïau eu hunain ynghylch y rhain, a buaswn yn eich annog hefyd i godi hyn gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn yr achos hwn. Ond yn sicr, o ran hawliau pobl mewn cymunedau ffydd, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi.

14:00

Ddirprwy Brif Weinidog, yn ôl llinellau cyllideb diweddaraf cyllideb Llywodraeth Cymru, mae £11.5 miliwn yn cael ei wario ar yr hyn a elwir yn gydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol. A allwch chi esbonio i bobl Cymru sut y mae'r swm sylweddol hwn o arian yn darparu gwerth i bobl Cymru?

Diolch. O ran hawliau dynol, yn amlwg mae hynny wrth graidd, fel gwnes i osod mas yn fy natganiad ddoe, popeth rŷn ni’n ei wneud. Mae anghydraddoldeb yn achosi nid yn unig niwed i unigolion a grwpiau penodol o bobl, ond mae hefyd yn gallu achosi costau ychwanegol i’r pwrs cyhoeddus. Felly, rŷn ni wedi gwneud yn siŵr ein bod ni eisiau ystyried sut yn union mae hawliau dynol yn cryfhau sut mae pobl yn medru cael eu cefnogi ymhob agwedd o'u bywydau nhw. Dwi’n meddwl bod hynny'n helpu pob math o benderfyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus, o ran sut rŷn ni'n cefnogi pobl pan maen nhw'n mynd at wasanaethau. Felly, dwi yn meddwl bod hyn yn fuddsoddiad pwysig a chreiddiol, ac mae'n rhywbeth rŷn ni fel Llywodraeth Cymru yn meddwl sy'n gwbl hanfodol i'n gwaith ni o ran creu Cymru decach a Chymru sy'n gweithio i bob un o'i dinasyddion.

Tlodi Bwyd

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi bwyd a sicrhau bod bwyd iach a maethlon yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb? OQ64115

Diolch yn fawr. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi, gan gynnwys tlodi bwyd, a gwella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon i bobl yng Nghymru. Mae ein cynllun 100 diwrnod yn nodi sut y byddwn yn sbarduno newid trawsnewidiol i bobl ledled Cymru, gan weithio i ddatblygu strategaeth fwyd genedlaethol gynhwysfawr.

Diolch. I lawer o deuluoedd, mae tlodi bwyd yn ymwneud â mwy na chael digon i'w fwyta, mae'n ymwneud â mynediad at fwyd iach a maethlon. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae opsiynau rhatach yn aml yn golygu bwyd wedi'i brosesu'n helaeth, gan adael y rhan fwyaf o'n cymunedau difreintiedig wedi eu heffeithio'n anghymesur gan ordewdra, diabetes math 2 a chyflyrau eraill y gellir eu hatal. Mae hyn yn rhoi pwysau ar ein GIG, yn niweidio canlyniadau addysgol, yn lleihau cynhyrchiant, ac yn arwain at gostau economaidd ehangach. Mae mynd i'r afael â thlodi bwyd yn fuddsoddiad mewn iechyd ataliol, twf economaidd a chydraddoldeb. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu'r camau trawslywodraethol i wneud bwyd iach yn fforddiadwy, a sut y bydd llwyddiant ar leihau'r anghydraddoldebau hyn yn cael ei fesur? 

Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig iawn.

Mae mynd i'r afael â thlodi bwyd a gwella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei fod yn galw am weithredu cydgysylltiedig ar draws ystod o bortffolios, gan gynnwys iechyd, addysg, materion gwledig hefyd, a chyfiawnder cymdeithasol, wrth gwrs. Ac felly rydym am fwrw ymlaen â dull system gyfan o fynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol diffyg diogeledd bwyd a'i achosion sylfaenol. Ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys gweithredu i wneud y mwyaf o incwm aelwydydd, i leihau costau, ochr yn ochr â mesurau, felly, i wella argaeledd a fforddiadwyedd bwydydd iach. Felly, mae gwaith cynnar eisoes ar y gweill i nodi sut y bydd y strategaeth fwyd genedlaethol yn cael ei datblygu, ac mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd eisoes wedi cynnal sgyrsiau gyda sawl rhanddeiliad allweddol ar hyn, gan gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn rhaglenni sy'n gwella mynediad at fwyd iach ac yn cefnogi iechyd ataliol, gan gynnwys prydau ysgol am ddim a mentrau ehangach sy'n meithrin sgiliau a llythrennedd bwyd, gan sicrhau bod y ddarpariaeth fwyd yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer deietau iachach. Ac rwy'n credu bod gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol rôl allweddol yn hyn hefyd, felly byddaf yn gweithio'n agos gyda hi.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae tlodi bwyd yn broblem ddifrifol, ond ni all fod yn esgus i ostwng safonau bwyd neu wneud cam â ffermwyr Cymru. Yn gynharach eleni, daeth yn amlwg fod cynghorau yng Nghymru yn gweini cyw iâr a fewnforiwyd o Wlad Thai a Tsieina i blant ysgol—99 y cant naw y cant o'r cyflenwad ym Merthyr Tudful ac 87 y cant yng Nghaerffili. Mae hynny'n anodd ei gyfiawnhau pan fo ffermwyr Cymru eisoes yn bodloni rhai o'r safonau lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd uchaf yn y byd, ond bod disgwyl iddynt gystadlu mewn sefyllfa annheg. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi dangos nad oes unrhyw gyfiawnhad dros y methiant hwn, gan brynu 100 y cant o gyw iâr wedi'i gynhyrchu yn y DU ar gyfer eu hysgolion o fewn yr un amlen ariannu a fframwaith caffael. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn na ddylid defnyddio arian cyhoeddus i brynu bwyd a gynhyrchir yn ôl safonau na fyddai'n cael eu caniatáu yng Nghymru, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn diwygio rheolau caffael nawr ac yn gofyn am dryloywder llawn ar darddiad bwyd, fel bod rhieni'n gwybod yn union o ble y daw'r bwyd sy'n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru? Diolch.

14:05

Diolch. Mae fframwaith a rheoliadau eisoes ar waith wrth gwrs, ond mae gwneud yn siŵr ein bod yn gwella mynediad—pŵer caffael ein gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol iawn o hyn. Felly, fel y dywedais, rydym yn bwrw ymlaen â dull system gyfan i fynd i'r afael nid yn unig ag effeithiau diffyg diogeledd bwyd, ond ansawdd ac iachusrwydd y bwyd hwnnw. Ac felly, fel y dywedais, fe fyddwn ni, fel rhan o'r strategaeth fwyd, yn edrych ar bob agwedd ar hyn ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

Croeso i chi i'r swydd, Weinidog. Ar y thema bwyd, gaf i gymeradwyo gwaith Food Cardiff, Bwyd Caerdydd, sydd wedi ennill gwobr aur Mannau Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar—dim ond y pedwerydd awdurdod lleol ym Mhrydain i wneud hynny? Felly, byddai'n grêt cael hwb o Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith hynny ar draws Cymru. 

Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â bwyd mewn ysgolion. Wrth gwrs, yma yng Nghymru, ers 22 mlynedd bellach, rydym wedi cael brecwast am ddim yn ein hysgolion, ac fe gyflwynodd Llywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru brydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd. I ormod o'n disgyblion, dyma'r unig bryd iawn y byddant yn ei gael bob dydd—mae hynny'n hynod bwysig—ac eto fe wyddom fod costau bwyd wedi codi'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, fy nghwestiwn yw: pan fydd cynghorau'n dweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw'r gost o gyflenwi'r prydau hyn, a fyddwch chi'n derbyn ac yn parchu eu cyngor ac yn ei ariannu, neu'n hytrach yn creu risg o effeithio ar ansawdd a tharddiad y bwyd a weinir i'n pobl ifanc? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn. Dwi'n cytuno'n llwyr gyda'ch dadansoddiad chi o ran pwysigrwydd prydau ysgol am ddim. Dyma, wrth gwrs, pam wnaethon ni wthio, pan oedden ni mewn cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth ddiwethaf, fod hyn yn rhywbeth roedden ni eisiau ei weld, ac mae wedi talu ar ei ganfed, dwi'n meddwl, fel dywedais i ddoe. Yn sicr nawr, wrth inni weld costau bwyd yn cynyddu, mae e'n rhywbeth sydd wir yn helpu plant a theuluoedd, ac sy'n sicrhau bod rhai plant, fel gwnaethoch chi sôn, yn cael y pryd twym, iach yna sydd dirfawr ei angen arnyn nhw, nid yn unig er mwyn eu bod nhw'n gallu dysgu yn yr ysgol, ond hefyd, wrth gwrs, er mwyn eu hiechyd nhw. Ac o ran hynny, mae'r cyfrifoldeb am brydau bwyd am ddim yn eistedd o fewn portffolio y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ond dwi'n sicr yn hapus i sicrhau ein bod ni'n cael sgwrs am y mater rŷch chi wedi'i godi.

Prynhawn da, Weinidog. Rydym wedi clywed am y prydau ysgol am ddim a ddarperir, a oedd yn gynllun Plaid Cymru gyda'r Llywodraeth Lafur, ond rwyf am fynd at blant hyd yn oed yn iau, y blynyddoedd cynnar a rôl maeth yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Fe wyddom pa mor bwysig yw bwyd maethlon yn natblygiad yr ymennydd mewn babanod, yn ystod beichiogrwydd ac yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Mae maethynnau allweddol fel fitamin D yn gwbl hanfodol, ac os ydych chi'n dlawd ac yn methu fforddio ystod lawn o fwyd maethlon, mae hynny'n rhwystro datblygiad y plentyn o adeg gynnar iawn. Fel y gwyddom, mae hefyd yn effeithio ar iechyd meddwl a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Tybed a gawn ni glywed ychydig mwy am eich rôl, mewn perthynas â blynyddoedd cynnar, ond hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y bwyd hwnnw i'r babanod hynny yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiwn.

Cwestiwn pwysig iawn a rhywbeth rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn ei gylch, a phwysigrwydd maeth yn y blynyddoedd cynnar. Fe fyddwch chi'n gwybod wrth gwrs ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ariannu'r cynllun Cychwyn Iach, gan ddarparu cymorth maeth i fenywod beichiog incwm isel a theuluoedd â phlant ifanc o dan bedair oed, a nod craidd y cynllun hwnnw yw gwella cymeriant deietegol yn ystod beichiogrwydd. Oherwydd mae beichiogrwydd yn rhan mor hanfodol—nid yw bob amser yn cael ei gydnabod yn llawn, ond gall llawer o ganlyniadau iechyd allweddol ddechrau mewn beichiogrwydd i fabanod a phlant, felly mae'n gyfnod allweddol i iechyd gydol oes, ac wrth gwrs, drwy'r cynllun hwnnw, ceir cymorth i brynu ffrwythau a llysiau, llaeth, pylsau, fformiwla babanod a fitaminau am ddim. Hefyd, wrth gwrs, mae yna gynllun llaeth meithrin yng Nghymru, felly mae pob plentyn o dan bum mlwydd oed sydd mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy am ddwy awr neu fwy yn cael traean o beint o laeth am ddim.

Ond rwy'n cytuno'n llwyr fod hwn yn fater allweddol ac mae'n rhywbeth y byddaf yn edrych arno gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol a fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, o ran edrych ar y strategaeth tlodi plant a'r gwaith o gwmpas hynny ar ganlyniadau. Bydd hyn yn rhan hanfodol o hynny, rwy'n credu.

14:10
Tlodi Plant

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64110

Diolch am y cwestiwn. Mae ein cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf yn nodi camau i fynd i'r afael â thlodi plant ledled Cymru, gan gynnwys ym Mhontypridd Cynon Merthyr, drwy ddatblygu taliad plant Cynnal, ehangu cynnig gofal plant newydd trawsnewidiol i bob teulu a chynllun tlodi plant newydd, gan amlinellu targedau clir, mesuradwy i wella bywydau plant a theuluoedd.

Am ormod o amser, mae plant yng Nghymru wedi cael eu gorfodi i dyfu i fyny mewn tlodi, gan effeithio ar bopeth o'u haddysg a'u hiechyd i'w rhagolygon yn y dyfodol a hyd yn oed disgwyliad oes. Mae'n effeithio'n anghymesur ar blant yn fy etholaeth i, gyda dros 80 y cant o blant mewn un ardal ym Mhenrhiw-ceibr yng nghwm Cynon yn byw mewn amddifadedd incwm o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 38 y cant. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Plaid Cymru yn dilyn esiampl yr Alban—yr unig wlad yn y DU lle disgwylir i gyfraddau tlodi plant ostwng yn y blynyddoedd i ddod oni fo pethau'n newid yn fawr—drwy gynnig cyflwyno'r taliad Cynnal a fodelwyd ar daliad plant yr Alban. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y gwaith paratoi ar gyfer y cynllun hwn eisoes wedi dechrau a rhoi diweddariad ynghylch pryd y bydd y cynllun peilot yn dechrau, os gwelwch yn dda? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

Rydym am roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn ac rydym yn gwrthod derbyn y dylai un o bob tri o'n plant gael eu condemnio i fyw mewn tlodi a phopeth y mae hynny'n ei olygu iddynt drwy gydol eu bywydau. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar baratoi ar gyfer gweithredu cynllun peilot Cynnal, sef taliad plant Cymru. Rydym wedi sefydlu grŵp arbenigol i'n helpu i lunio, cyflawni a chynllunio'r gwaith o fonitro a gwerthuso'r cynllun er mwyn ei lansio ar sylfaen gadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chyn gynted ag y bydd y gwaith paratoi hwnnw wedi'i gwblhau, byddwn yn ei gyflwyno. Fel y cyhoeddais ddoe yn fy natganiad, rwyf wedi gofyn i Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan ymuno â mi i gyd-gadeirio'r grŵp hwnnw. Rwyf wedi gofyn am gael ei gyd-gadeirio am fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gwaith hwn yn gyflym ac rwyf am wneud yn siŵr y gallwn gael tystiolaeth iawn o beth fydd hyn yn ei olygu i deuluoedd Cymru. Mae'r grŵp yn dwyn ynghyd ystod eang o safbwyntiau ac arbenigedd, academyddion ac ymchwilwyr annibynnol, gweithwyr proffesiynol rheng flaen, unigolion â phrofiad bywyd, a swyddogion Llywodraeth Cymru wrth gwrs. Felly, byddwn yn sicrhau bod y cynllun peilot yn cael ei lywio gan dystiolaeth ac wedi'i seilio ar realiti bywydau pobl. Ac felly mae hynny wedi dechrau nawr, yn y 100 diwrnod cyntaf, ac fel y dywedais, byddwn yn ceisio rhoi hynny ar waith fesul cam cyn gynted ag y gallwn wedyn.

Weinidog y Cabinet, mae tua 32 y cant o blant ym Merthyr Tudful yn tyfu i fyny mewn tlodi. Dyna un o'r cyfraddau uchaf yng Nghymru, a hyn ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru. Yn y cyfamser, mae disgwyliad oes yn ein Cymoedd a'n cymunedau yn parhau i fod yn llawer is na chyfartaledd Cymru. Weinidog, mae iechyd yn sicr yn gyfoeth. Os yw rhieni'n gaeth ar restrau aros, yn byw gyda salwch cronig neu'n cael trafferth gydag iechyd meddwl gwael, mae teuluoedd yn llawer mwy tebygol o aros yn gaeth mewn tlodi. Sut ydych chi'n gweithio ar draws portffolios fel rhan o strategaeth ehangach y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant, yn enwedig mewn ardaloedd fel Pontypridd a Merthyr Tudful? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Dwi'n meddwl fy mod i wedi sôn yn barod, wrth ateb rhai o'r cwestiynau blaenorol, sut mae hynny—. Dwi wedi bod yn sôn am nifer o'r Gweinidogion yn y Llywodraeth y byddaf i'n dymuno gweithio yn drawslywodraethol gyda nhw. Rŷn ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i roi hwb i incwm aelwydydd, codi teuluoedd allan o dlodi, a dwi wedi sôn, wrth gwrs, am rai o'r mesurau pendant byddaf i'n eu cymryd er mwyn gwneud hynny. Dyna pam dŷn ni'n moyn cael cynllun newydd sydd wedi ei dargedu yn benodol i fynd i'r afael â thlodi plant, ac fe fydd iechyd plant yn rhan fawr o hynny. Dwi'n cofio, pan ddaeth y strategaeth ddrafft tlodi plant mas gyda'r Llywodraeth ddiwethaf, doedd yna ddim sôn am iechyd ynddi hi, ac i fi a'r rheini ohonom ni oedd yn craffu ar hynny ar y pryd—. Fe ddaeth wedyn yn y drafft terfynol oherwydd y craffu, ond mae e yn elfen hollbwysig, fel dwi'n sôn. Os dŷn ni ddim yn buddsoddi wrth wneud y gwaith yma—ac mae e'n waith cymhleth ac mae'n waith costus—mae'r pris y byddwn ni'n ei dalu fel cymunedau, fel y gymuned rŷch chi'n ei chynrychioli, yn ofnadwy o uchel, nid yn unig yn nhermau beth mae hynny'n ei feddwl o ran gwariant cyhoeddus, ond hefyd, wrth gwrs, i aelodau ac yn enwedig plant y cymunedau hynny.

14:15

Pedair miliwn a hanner o brydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd wedi'u gweini yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, 55,000 o leoedd ar y rhaglen gwella gwyliau'r haf, y grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau, y grant datblygu disgyblion, y gronfa cymorth dewisol a mynediad cyffredinol i Dechrau'n Deg: ers 2022, mae dros £7 biliwn wedi'i wario ar y cynlluniau hyn a chynlluniau eraill gan Lywodraeth Lafur Cymru, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella bywydau plant a theuluoedd ledled Pontypridd Cynon Merthyr. Weinidog y Cabinet, rwy'n gwybod am gymaint o deuluoedd a phlant sydd wedi elwa'n bersonol o'r rhain. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal y polisïau hyn, ac yn bwysig, eu cyllido?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Yn amlwg, fe fydd yna rai pethau y byddwn ni, yn sicr, er enghraifft, y prydau bwyd am ddim, oedd yn rhywbeth oedd yn bolisi a wnaethon ni ddod ag ef i'r bwrdd, a dŷn ni wedi sôn sawl gwaith yn ystod y prynhawn heddiw pa mor bwysig yw hynny. Dwi'n gwybod hefyd y gwahaniaeth mae hynny'n gallu ei wneud, ac mae teuluoedd wedi dweud wrthyf fi wrth i ni gnocio drysau ac wrth i ni ymwneud â'n hetholwyr pa mor bwysig yw hynny iddyn nhw.

Yr un peth byddaf i'n ei ddweud yw bod y Llywodraeth ddiwethaf wedi gwario, a dwi'n cydnabod hynny'n llwyr, lot mawr o arian, ac wedi cynnal lot mawr o raglenni er mwyn ceisio lleddfu tlodi. Beth dŷn ni ddim yn ei weld yw gostyngiad digon effeithiol yn y lefelau o dlodi oherwydd hynny, ac mae'r Llywodraeth yma wedi ymrwymo i fod yn un sy'n gweithredu ar allbynnau: os nad oes yna rywbeth yn cael yr effaith dŷn ni eisiau ei weld, bod angen i ni edrych eto ar y mathau o raglenni dŷn ni yn eu targedu, lle ŷn ni'n eu targedu nhw, sut maen nhw'n gweithio. Oes yna ddyblygu? Oes yna gronfeydd sy'n rhy fach, er enghraifft, i gael effaith? Oes angen cynyddu gwario mewn rhai llefydd? Byddwn ni, wrth gwrs, yn ehangu prydau bwyd am ddim i gyrraedd y disgyblion hynny mewn ysgol uwchradd sy'n ddigon tlawd i fod ar gredyd cynhwysol ond ddim yn gallu hawlio pryd bwyd am ddim. Dwi'n gwybod bydd hynny, er enghraifft, yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r teuluoedd hynny.

Weinidog y Cabinet, rydych chi wedi ateb yn helaeth, sy'n rhagorol mewn sawl ffordd. 

Ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen nawr yn fwy cyflym. Gadewch i ni geisio cael dau gwestiwn arall yn gyflym. Cwestiwn 6 [OQ64121]—trosglwyddwyd i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod. Felly, cwestiwn 7—Paul Davies.

Gwasanaethau Swyddfa'r Post

7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi gwasanaethau swyddfa'r post dros y deuddeg mis nesaf? OQ64083

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â swyddfeydd post. Dwi'n ystyried bod y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan ein swyddfeydd post lleol, fel mynediad at arian parod a bancio sylfaenol, yn hanfodol i les ac iechyd ein cymunedau, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod hyn yn cael ei bwysleisio mewn unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol gyda Swyddfa'r Post.

Fel y dywedoch chi, Ddirprwy Brif Weinidog, mae swyddfeydd post lleol yn fusnesau bach sy'n effeithio'n fawr ar y gymuned, ac yn ddiweddar roeddwn i'n falch o ymweld â swyddfa bost Dinbych-y-pysgod yn fy etholaeth, lle siaradodd Vince a Fiona Malone yn onest am yr heriau sy'n wynebu swyddfeydd post lleol, a manwerthwyr annibynnol yn wir. Nawr, fel y byddwch chi'n cytuno rwy'n siŵr, mae swyddfeydd post yn aml yn llawer mwy na dim ond llefydd i gael gwasanaethau post. Maent yn ganolfannau cymunedol hanfodol sy'n cefnogi preswylwyr ac yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol. O ystyried yr effaith sylweddol hon ar y gymuned, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi swyddfeydd post ledled Cymru a diogelu eu cynaliadwyedd hirdymor. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi swyddfeydd post ledled Cymru, fel y gallant barhau i gael effaith fawr yn ein cymunedau lleol?

14:20

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Dwi'n cynllunio'n llwyr gyda'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd swyddfeydd post, fel gwnes i sôn yn fy ateb cychwynnol. Wrth gwrs, fel soniais i, dyw'r materion sy'n ymwneud â nhw ddim wedi eu datganoli i Weinidogion Cymru, ac mae ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i swyddfeydd post yn cynnwys cynlluniau i gadw maint y rhwydwaith fel y mae. Mae hyn yn golygu chwilio weithiau am fusnesau newydd i gynnig y gwasanaethau pan fydd swyddfeydd post lleol yn cau. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i leoli swyddfeydd post yng nghanol trefi lle bo modd, a dwi'n meddwl bod hynny'n hollbwysig hefyd, yn enwedig wrth i ni weld nifer o'n banciau stryd fawr yn symud o'n strydoedd mawr ni.

Mae ein maniffesto ni yn cynnwys nifer o ymrwymiadau penodol sy'n gysylltiedig ag adfywio canol trefi. Efallai y bydd y mater yma'n cysylltu gyda gwaith ehangach y tasglu canol trefi a fydd yn cael ei sefydlu fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod ni. Ac fe fyddwn ni'n nodi rhagor o fanylion ynglŷn â chynigion adfywio ar gyfer y dyfodol a ddaw i'r amlwg o'r gwaith hwnnw. Felly, mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud yma o dan ein pwerau ni.

Costau Gofal Plant

8. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i fynd i'r afael â chostau uchel gofal plant? OQ64108

Diolch yn fawr. Mae costau gofal plant yn rhy uchel yng Nghymru, ac rydym eisiau rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, ac mae ein gweithredoedd yn y 100 diwrnod cyntaf hyn nawr yn canolbwyntio ar roi'r sylfeini cywir ar waith, gyda'r llywodraethiant, y seilwaith a'r gweithlu sydd eu hangen arnom i ehangu gofal plant yn y ffordd gywir a chynnal darpariaeth o ansawdd uchel.

Diolch. Mae tlodi yng Nghymru wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers degawd, gan bwysleisio'r angen i wella cyfleoedd bywyd plant drwy gymorth blynyddoedd cynnar cryfach. Gall gofal plant hygyrch o ansawdd uchel roi hwb i ddatblygiad gan alluogi rhieni ar incwm isel i weithio. Gwyddom fod tlodi ar ei uchaf ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol, pobl anabl, gofalwyr, pobl sy'n rhentu a'r rhai sy'n wynebu rhwystrau yn y farchnad lafur, yn enwedig teuluoedd mudol mewn gwaith ansicr ar gyflog isel. Felly, rwy'n croesawu Llywodraeth Plaid Cymru sy'n canolbwyntio ar gefnogi teuluoedd i weithio a helpu plant i ffynnu. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer sefydlu tasglu cam cyntaf y cynllun?

Ddoe, cyhoeddais ein bod wedi sefydlu grŵp llywio arbenigol newydd ar ofal plant, ynghyd â'i aelodaeth, sef un o'r ymrwymiadau y dywedasom y byddem yn eu cyflawni yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, ac fel y dywedais, byddaf yn cyd-gadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp llywio arbenigol hwnnw yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd y grŵp yn hollol allweddol ar gyfer cyflawni'r newid trawsnewidiol y mae'r Llywodraeth hon wedi'i addo, a chenhadaeth ganolog y grŵp fydd sefydlu'r gwaith o gyflwyno ein cynnig gofal plant fesul cam, gyda chynllunio'r gweithlu, gwella mynediad a symleiddio'r broses o wneud cais yn flaenoriaethau clir iddo. Wrth gwrs, fe fydd yn gweithredu ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru. Maent yn arwain y gwaith drwy gyfres o ffrydiau gwaith pwrpasol—er enghraifft, modelau cyflenwi'r gweithlu, camau cyflwyno a chynhwysiant, a bydd y tasglu'n canolbwyntio ar weithredu, wedi'i gefnogi gan waith y grŵp llywio allanol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Eitem 2, cwestiynau nawr i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Cwestiwn 1—Ken Skates.

Lles Anifeiliaid

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo lles anifeiliaid? OQ64109

Byddwn yn adeiladu ar y safonau uchel sydd gennym eisoes yma yng Nghymru, ac yn ein maniffesto, fe wnaethom ddweud y byddem yn datblygu cynllun iechyd a lles anifeiliaid wedi'i arwain gan wyddoniaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid, partneriaid gweithredol, diwydiant a'r trydydd sector i ddatblygu ein dull newydd o weithredu yma yng Nghymru.

Wel, fe fyddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fod hynny'n destun ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y funud. Nid yw Deddf Hela 2004 o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol. Rwy'n credu mai'r lleiaf y gallwn ei wneud yw aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, sy'n dod i ben ymhen ychydig wythnosau, cyn inni ddod i unrhyw gasgliadau.

Weinidog y Cabinet, yn ystod y Senedd flaenorol, fe wnaethom gyflwyno gwaharddiad ar rasio milgwn yma ac rwy'n gwybod, ar y pryd, fod gennych bryderon ynghylch y ddeddfwriaeth honno, a'i bod wedi'i rhuthro ac o bosibl, nad edrychwyd ar y ddeddfwriaeth yn ei chyflawnder. Rwy'n meddwl tybed: nawr, yn eich rôl newydd, a wnewch chi rywfaint o graffu ôl-ddeddfwriaethol ar y gwaith hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn y lle gorau posibl ac nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil y gwaharddiad hwn yn y dyfodol i les milgwn yng Nghymru?

14:25

Diolch am eich cwestiwn. Mae craffu ôl-ddeddfwriaethol fel arfer yn digwydd ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, ac rwyf am ei gwneud yn glir i'r Siambr heddiw, er gwaethaf y farn a oedd gennyf ynghylch y ddeddfwriaeth benodol honno, y byddaf yn parchu penderfyniad democrataidd y Senedd flaenorol ac yn gweithredu'r ddeddfwriaeth fel y bwriadwyd.

Croeso i'ch rôl a phrynhawn da, Weinidog. Unfarn pob doeth. Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Rwy'n cefnogi Achub Milgwn Cymru ac yn berchennog balch ar filgi achub, ac rwy'n gwybod bod rhai o Aelodau eraill y Senedd hefyd yn berchen ar filgwn achub.

Fe gyfeirioch chi at y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd, er bod gennych chi a nifer fach iawn o bobl eraill amheuon ar y pryd ynglŷn â chyflwyno'r gwaharddiad ar rasio milgwn. Roedd yn benllanw blynyddoedd o ymgyrchu penderfynol gan sefydliadau lles anifeiliaid, elusennau achub a miloedd o bobl ledled Cymru sydd wedi siarad yn gyson dros gŵn nad oes ganddynt lais eu hunain. Roeddwn i'n falch ein bod ni, gyda'i gilydd, fel Senedd, yn barnu nad oedd yr anafiadau, y marwolaethau a'r dioddefaint y gellid ei osgoi sy'n gysylltiedig â rasio milgwn yn bethau y gellid eu cyfiawnhau mwyach yn y Gymru fodern. Felly, os gwelwch yn dda, Weinidog y Cabinet, a gaf i ofyn i chi gofnodi heddiw eich bod chi'n cadarnhau y bydd eich Llywodraeth yn parchu llythyren ac ysbryd y ddeddf ac yn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu'n llawn, gydag adnoddau priodol a heb unrhyw oedi y gellir ei osgoi? Diolch yn fawr iawn.

Prawfesur Gwledig

2. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau prawfesur gwledig digonol wrth lunio polisïau ar gyfer y cymunedau mwy anghysbell yng Nghasnewydd Islwyn? OQ64118

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymateb i anghenion cymunedau gwledig ledled Cymru. O fewn y 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer dyletswydd prawfesur gwledig statudol i sicrhau bod rhaglenni a modelau cyllido Llywodraeth Cymru yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau, pobl a busnesau gwledig.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n newydd iawn i'r ardal fy hun, felly mae angen imi fynd i weld pob un o fy ffermwyr, a byddaf yn gwneud hynny dros yr wythnosau nesaf. A wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod yn ystod y misoedd nesaf imi allu cyflwyno eu pryderon yn uniongyrchol?

Nid wyf eisiau dweud 'na', ond rhaid imi ddweud fy mod i'n siŵr nad ydych chi wedi gweld fy nyddiadur ar gyfer y misoedd nesaf. Ond rwy'n awyddus iawn i ymgysylltu â'r sector ffermio a sectorau perthnasol eraill ar draws pob rhan o Gymru, a phan fydd amser yn caniatáu, byddaf yn sicr yn gwneud hynny hyd eithaf fy ngallu.

Ers blynyddoedd, mae ffermwyr wedi bod yn dweud wrthyf i ei bod hi'n mynd yn fwyfwy anodd i wneud bywoliaeth. Dwi'n gobeithio y bydd pethau yn newid, wrth gwrs, rŵan, efo Llywodraeth newydd Plaid Cymru. Un peth yr hoffwn i ei godi o'r pryderon hynny ddaeth i fy sylw i gan berchennog busnes yn fy etholaeth, sydd yn cael ei rhwystro yn ei hymdrechion i arallgyfeirio ar y ffarm, yw bod biwrocratiaeth, yn enwedig o ran cynllunio, wedi achosi oedi ac wedi costio miloedd o bunnoedd iddi. Hoffwn i godi pwynt cyffredinol ynglŷn â chael gwared ar y rhwystrau sy'n atal ffermydd rhag datblygu incwm amgen. Dylai ffermydd gael y cyfle i fod yn gynaliadwy. A ydy hwn yn rhywbeth sydd ar eich radar chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a fyddwch chi'n gweithio gyda rhanddeiliad i ddatrys rhai o'r problemau hynny?

Yn sicr, mi fyddwn i'n gobeithio gwneud hynny. Fel rydych chi'n gwybod, mae gennym ni fwriad i gyflwyno adolygiad o'r tâp coch sy'n wynebu'r diwydiant amaeth fel un ymrwymiad clir sydd gennym ni, a dwi'n edrych ymlaen at fedru gwneud cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn fuan, gobeithio. Ond, yn bendant, mae yna sgwrs ehangach i'w chael gyda'r Gweinidog cynllunio ynglŷn â rhai o'r rhwystrau, efallai, a rhai o'r elfennau sy'n creu rhwystredigaeth i bobl sy'n ceisio gwireddu'r potensial sydd gennym ni o safbwynt tyfu'r economi wledig a chreu, wrth gwrs, y cymunedau gwledig mwy cydnerth yna rydyn ni i gyd eisiau eu cyflawni. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Laura Anne Jones. 

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, llongyfarchiadau ar eich penodiad. Yn ystod yr etholiad, fe wnaeth eich plaid ymrwymiad clir iawn i adolygu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydych chi newydd ryddhau datganiad—yn llythrennol, nawr—sy'n cadarnhau'r hyn rydym i gyd eisoes yn ei wybod, a bod y nifer sydd wedi ymrwymo i'r cynllun ffermio cynaliadwy oddeutu 50 y cant yn unig. Er nad yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, fel y byddai Reform yn hoffi ei weld, rhaid i chi gytuno bod y cynllun yn llawer rhy gymhleth, y gofynion cydymffurfio yn llawer rhy anhyblyg, a'r gwaith papur, yn hollol onest, yn wallgof. I lawer o ffermwyr, mae'r ansicrwydd a'r agweddau anhysbys yn ormod o risg. Mae rhai ffermwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am aros gyda'r hen gynllun, pan nad yw'r un newydd yn ddigon hyblyg iddynt ymrwymo iddo.

Yr hyn y mae angen inni ei weld yw dull mwy hyblyg, yn seiliedig ar synnwyr cyffredin, gyda gofynion llai cyfyngol efallai, ystod ehangach o opsiynau i ddewis ohonynt, yn hytrach na gorfod cwblhau'r gyfres lawn o'r hyn sy'n ofynion cyfyngol, gyda gwarant fferm, efallai, yn docyn euraidd, fel y gall mwy o ffermwyr gymryd rhan yn hytrach na chael eu cau allan gan ofynion sydd, yn hollol onest, heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, yn anghyraeddadwy.

Mae'r ffigurau a ryddhawyd gennych heddiw yn profi bod gwahaniaeth enfawr yn y nifer o wahanol fathau o ffermydd sy'n ymrwymo: 65 y cant, rwy'n credu, wedi ymrwymo yng Ngwynedd, ac rydym yn gweld 35 y cant, er enghraifft, yn sir Fynwy, sy'n dweud llawer, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n deall pam. Mae angen sicrwydd ar ffermwyr, mae angen diogelwch arnynt ar gyfer y dyfodol. Rydych chi wedi gwneud addewid i etholwyr Cymru i gael yr adolygiad hwn. Mae angen inni wybod, Weinidog, pryd y bydd yr adolygiad hwn yn dechrau, fel y gallwn weld y dadansoddiad o'r rhesymau pam y mae'r nifer sydd wedi ymrwymo mor wael. Ac a fydd y newidiadau hyn ar waith erbyn 2027, oherwydd mae gwir angen iddynt fod? Diolch.

14:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Fe ddywedoch chi mai dim ond newydd gyhoeddi'r ffigurau hynny rydym ni. Mae hynny'n wir, oherwydd, wrth gwrs, dim ond newydd gau y mae'r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau, ac roeddem yn dal i gael ceisiadau tan hanner nos neithiwr. Felly, rwy'n credu ei bod yn eithaf cadarnhaol fy mod yn awyddus i ni eu cyhoeddi cyn i'r Aelodau gael cyfle i fy holi heddiw.

Ar y gwaith papur, rwyf eisoes wedi sôn am y gwaith ehangach y gobeithiwn ei gyhoeddi cyn bo hir o ran lleihau biwrocratiaeth. Rwyf am i ffermwyr allu parhau i wneud yr hyn a wnânt orau, sef rhoi bwyd ar ein platiau, yn hytrach nag eistedd lle nad oes raid iddynt fod, o flaen cyfrifiadur, neu'n llenwi ffurflenni ac ati. Ond rwyf am i hynny ddod o safbwynt profiad bywyd hefyd—rwy'n credu ei fod yn bwysig. Nid fy lle i fel gwleidydd yw dweud beth y credaf i sydd orau, er efallai fod pob un ohonom yn gwneud hynny weithiau. Mae angen inni gael clywed gan y rhai ar y rheng flaen sy'n delio â'r materion hyn o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos.

Wedi dweud hynny, rwyf wedi ymrwymo i esblygu'r cynllun hwn, y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n cytuno ag undebau'r ffermwyr yma. Mae angen esblygiad, nid chwyldro. Rwy'n credu ei bod yn eithaf cadarnhaol fod hanner yr ymgeiswyr wedi dewis ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy, cynllun lle nad oes hanes blaenorol, lle nad oes unrhyw ragolygon hirdymor o gyllid diogel chwaith a bod yn onest, sy'n rhywbeth arall y gobeithiaf y bydd ein Llywodraeth yn gallu mynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n fwy o unigolyn gwydr hanner llawn nag o unigolyn gwydr hanner gwag, ond byddaf yn gwrando ar safbwyntiau o bob rhan o'r Siambr ar yr hyn y credwch chi sydd angen ei ddiwygio a'i newid. Rwyf eisoes wedi cyfarfod ag undebau'r ffermwyr. Mae llawer o'u swyddogion sirol, wrth gwrs, wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda'u haelodau, gan eu helpu i lenwi eu ffurflenni cais. Byddant wedi sylwi ar rai o'r rhwystrau a rhai o'r pryderon sydd gan y sector, ac rwyf wedi gofyn iddynt roi gwybod i ni fel Llywodraeth am y rheini, fel y gallwn edrych ar y sefyllfa yn ei chyfanrwydd, ac yn y pen draw, gobeithio, cyrraedd sefyllfa lle mae'r cynllun yn gweithio i bawb.

Diolch. Rwy'n credu bod eich sylwadau i'w croesawu. Ymddengys eich bod chi wedi ymrwymo'n llwyr i wrando ar ffermwyr, yn wahanol i'r Llywodraeth ddiwethaf, mae arnaf ofn. Roedd yno lawer mwy o amgylcheddwyr, yn hytrach na ffermwyr sy'n mynd drwy'r cynllun hwn go iawn ac yn delio â'r cynllun o ddydd i ddydd. Mae'r undebau wedi bod yn dda iawn am helpu gyda llenwi ffurflenni, ond nid yw'n waith y dylent orfod ei gwneud mewn gwirionedd, felly mae angen i'r fiwrocratiaeth honno ddod i ben. Unwaith eto, mae angen inni bwysleisio'r brys i chi ddysgu'r gwersi hynny fel y gallant sicrhau newid cyn 2027.

Yn yr etholiad hefyd, addawodd eich plaid ddull gwyddonol wedi'i dargedu o fynd i'r afael â thwbercwlosis buchol. Mae hyn yn rhywbeth y mae ein plaid ni'n ei gefnogi'n llwyr. Fodd bynnag, mae yna ffermwyr â phroblemau iechyd meddwl difrifol sy'n byw o dan gyfyngiadau TB ar hyn o bryd, ac sydd angen gwybod pryd fyddwch chi'n cyflawni hyn. Fe wnaeth yr etholwyr ymddiried ynoch i gyflawni hyn, a gwn eich bod yn deall bod angen mynd i'r afael o'r diwedd â TB buchol ar frys. Mae angen atebion ar ffermwyr heddiw, Weinidog. A wnewch chi amlinellu sut y bydd eich dull chi o fynd i'r afael â TB yn wahanol i strategaethau blaenorol, a phryd y gall ffermwyr weld camau gweithredu ystyrlon, gyda'r pwyslais ar weithredu, i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru o'r diwedd? Diolch.

Wel, nid oes angen ichi ddweud wrthyf fod y mater hwn yn fater brys. Mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi bod drwy uffern oherwydd TB. Ac ni fyddaf yn gorffwys hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle rydym ar lwybr llawer mwy cadarnhaol o ran cyflawni ein holl uchelgeisiau, rwy'n siŵr, mewn perthynas â dileu TB.

Fe fydd yn seiliedig ar wyddoniaeth ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â bwrdd y rhaglen TB. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r grŵp cynghori technegol hefyd a sefydlwyd o dan y Llywodraeth flaenorol i gynghori ar rai o'r materion hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod papur sefyllfa wedi'i gyhoeddi gan fwrdd y rhaglen yn ôl ym mis Mawrth, yn nodi'n glir fod angen inni fynd i'r afael â TB mewn tair ffordd: ymhlith y boblogaeth ddynol wrth gwrs, ymhlith da byw, ond hefyd ymhlith bywyd gwyllt. Rwy'n cefnogi'r safbwynt hwnnw. Mae bellach yn fater o weld sut olwg sydd ar hynny ar lawr gwlad, ac yn amlwg mae'r gwaith hwnnw'n waith y byddaf yn cael fy arwain arno, unwaith eto gan y wyddoniaeth a'r dystiolaeth, ond yn waith y gallwn ddechrau bwrw ymlaen ag ef yn gyflym, gobeithio.

14:35

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o glywed eich safbwynt ar hynny ac yn cytuno â'r hyn a ddywedoch chi. Mae TB wedi bod yn gwmwl tywyll dros ein cymunedau ffermio ers gormod o amser, ac mae angen inni weld rhywbeth yn digwydd o'r diwedd. Mae pob un ohonom yn gwybod beth sydd angen ei wneud, felly edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â rhywbeth y credaf ein bod ein dau'n cytuno yn ei gylch. A phob clod i chi, yn yr wrthblaid ac yn eich maniffesto, roeddech chi'n gefnogol iawn i gael gwared ar y rheolau ffermio yn ôl y calendr hurt ar gyfer parthau perygl nitradau. Ac yn briodol felly, gan na all ffermwyr reoli'r tywydd; mae'n synnwyr cyffredin. Ac mae unrhyw un sydd wedi siarad â ffermwr mewn gwirionedd—eto, rhywbeth yr oedd y Llywodraeth ddiwethaf i'w gweld yn sâl iawn am ei wneud—yn deall pa mor amhosibl yw hynny.

Mae'r manylion yn bwysig iawn yma, felly hoffwn glywed heddiw beth yn union y credwch chi ddylai ddigwydd i'r parthau perygl nitradau, gan amlinellu amserlen glir ar gyfer pryd y byddwn yn newid i'r dull gwahanol hwnnw, gan gymryd ei fod yn debyg i'r un a amlinellwyd yn adolygiad Bolton ar ansawdd dŵr. Felly, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn heddiw i ddweud wrthym pryd yn union y bydd ffermio yn ôl calendr yn dod i ben a'r drefn newydd yn dechrau? Diolch.

Rydych chi'n gywir, roeddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau fel y'u hamlinellwyd yn flaenorol o'r diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd. Roeddwn yn arbennig o awyddus i newid i ddull cymesur wedi'i dargedu, fel y dywedwch, nid newid i'r dull ffermio yn ôl y calendr. Fel gwrthblaid, helpodd Plaid Cymru i sicrhau bod yr adolygiad cynnar hwnnw gan Dr Susannah Bolton yn digwydd. Ac nid oedd yn syndod fod yr adolygiad hwnnw wedi argymell y dylem newid i ddull cymesur wedi'i dargedu, ac ymbellhau oddi wrth ffermio yn ôl calendr, sy'n llwyr gyfiawnhau'r farn a fynegais o'r cychwyn cyntaf.

Ond fe fyddwch chi hefyd yn gwybod bod y Llywodraeth felly wedi sefydlu grŵp i edrych ar droi'r argymhellion hynny'n gamau gweithredu ar lawr gwlad. Byddaf yn cyfarfod â'r grŵp hwnnw cyn bo hir, a byddaf yn sicrhau, yn amlwg, eu bod yn deall bod angen inni symud cyn gyflymed ag y gallwn. Ond nid yw hynny'n golygu esgeuluso ein cyfrifoldebau ansawdd dŵr, a lleihau llygredd amaethyddol, a'i ddileu os gallwn. Mae llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwnnw, ond y gwir amdani yw nad yw ffermio yn ôl calendr yn gweithio, oherwydd yn y pen draw, nid yw'r tywydd yn dilyn y calendr. Rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, 'Os ydych chi eisiau gwybod a yw'r tywydd yn addas ar gyfer gwasgaru slyri, peidiwch ag edrych ar y calendr, edrychwch allan drwy'r ffenestr.' Ac rwy'n credu bod cyfleoedd technolegol inni fanteisio arnynt yn y cyswllt hwnnw, ac mae hynny'n sicr yn un llwybr rwy'n awyddus i fynd ar ei drywydd.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae etifeddiaeth ddiwydiannol ein gwlad yn golygu bod dros 2,500 o domenni glo yng Nghymru, ac mae oddeutu 14 y cant ohonynt yn y categori risg uchaf sydd angen eu monitro amlaf. Mae llawer o'r rhain yn agos at gartrefi, ac un o flaenoriaethau Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru oedd eu gwneud yn ddiogel drwy fuddsoddi £220 miliwn a datblygu'r ddeddfwriaeth gyntaf yn y DU i amddiffyn cymunedau.

Mae gwaith wedi dechrau ar droi safleoedd etifeddiaeth mwyngloddio megis safleoedd mwyngloddio brig yn asedau cymunedol, a gwn y byddwch yn gyfarwydd â hyn o'ch rôl flaenorol fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau â'r gwaith hwn o droi safleoedd etifeddiaeth mwyngloddio yn asedau cymunedol? A'r un mor bwysig, os byddwch yn bwrw ymlaen â hynny, a wnewch chi sicrhau y bydd lleisiau pobl sy'n byw yng nghysgod y safleoedd hyn, a'r rhanddeiliaid sy'n eirioli ar eu rhan, yn cael eu clywed fel rhan ganolog o'r broses hon?

Diolch, Weinidog. Ac rwy'n gobeithio am ateb yr un mor sydyn i fy ail gwestiwn. Ac ar gyfer y cwestiwn hwnnw, dylwn ddatgan buddiant fel aelod o Ymddiriedolaeth y Moch Daear. Felly, rwy'n troi at y newyddion pryderus y gallai Llywodraeth Cymru, yn rhan o'u hymateb i TB buchol, fod yn barod i fynd ati i ddifa'r rhywogaeth a warchodir hon. Mae arolygon barn yn dangos bod dros 60 y cant o bobl yng Nghymru yn gwrthwynebu difa moch daear, felly, yn wahanol i'r Prif Weinidog ddoe, rwy'n ystyried hwn yn gwestiwn difrifol y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe y byddai'r Llywodraeth yn dilyn y wyddoniaeth. Mae llawer o'r wyddoniaeth honno'n dangos nad difa moch daear yw'r ateb. Cymerwch, er enghraifft, yr astudiaeth a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Royal Society Open Science y llynedd a ddywedodd fod yr adolygiad o'r hap-dreial difa moch daear yn 2006, sy'n cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad dros ddifa fel polisi, yn seiliedig ar gamgymeriadau mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi ymrwymo, Weinidog, i ystyried yr holl wyddoniaeth yn llawn, gan gynnwys y data helaeth sy'n dweud nad difa moch daear yw'r ateb?

14:40

Wel, mae'r farn honno, wrth gwrs, yn cyferbynnu'n llwyr â barn yr arbenigwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth hon—yr arbenigwyr a gafodd eu dwyn ynghyd gan y Llywodraeth flaenorol. Felly, efallai fod angen i bob un ohonom fyfyrio rywfaint ar hynny. Buaswn yn dweud, mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod dros Fflint Wrecsam i'r Prif Weinidog ddoe, nad wyf yn siŵr fod y math hwnnw o ddefnydd emosiynol, melodramatig o'r gair 'llofruddio' ac ati yn helpu'r ddadl mewn gwirionedd. Mae hwn yn fater anodd ac mae angen inni ymdrin ag ef mewn modd gwrthrychol a phwyllog, o'r gorau? Felly, os mai felly rydych chi am fynd o'i chwmpas hi, mae hynny'n iawn, eich penderfyniad chi yw hynny; nid wyf i am chwarae'r gêm honno. Byddaf yn seilio unrhyw benderfyniadau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud ar y wyddoniaeth a'r sylfaen dystiolaeth a'r arbenigedd a'r cyngor a ddarperir gan y grŵp cynghori technegol a sefydlwyd gan eich Llywodraeth flaenorol, sy'n edrych ar hyn o bryd ar ddarparu cyngor yng nghyd-destun delio â TB a bywyd gwyllt. Gadewch inni aros i weld beth a ddywedant, a gadewch inni fynd o'r fan honno.

Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n datgan buddiant fel un o gyfarwyddwyr busnes ffermio. Weinidog, y pwynt a wnaed gan lefarydd y Blaid Lafur ar ddifa bywyd gwyllt, nid oes unrhyw un eisiau gweld bywyd gwyllt yn cael ei ddifa. Mae'n rhyfedd i mi, yn yr amser y bûm yn y Senedd hon, fod Gweinidogion Llafur wedi eistedd yn ôl a gadael i hyn lusgo yn ei flaen ac achosi cymaint o drallod yn y diwydiant ffermio, gyda phobl yn y diwydiant yn lladd eu hunain am eu bod yn teimlo'n anobeithiol o ddigalon ynglŷn â'r mater, a lledaeniad y clefyd ar draws y poblogaethau fferm a bywyd gwyllt. Yr hyn na allaf ei ddeall yw pam nad oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn barod i ddifa bywyd gwyllt a heintiwyd, ond eu bod yn barod i ddifa stoc fferm a heintiwyd, sy'n gwbl briodol er mwyn cael gwared ar y clefyd ofnadwy hwn yn ein cefn gwlad. Felly, a allwch chi nodi pa wyddoniaeth a welsoch a fydd yn sicrhau bod hwn yn ddull ar raddfa lawn o ddileu TB buchol yma yng Nghymru? Mae'n rhywbeth yr oeddem yn agos iawn at ei wneud yn y 1980au, a rhywbeth y mae angen inni gytuno yn ei gylch y tro hwn.

Edrychwch, mae'r Aelod yn llygad ei le: nid ydym ar y trywydd iawn. Yn ôl cyngor bwrdd y rhaglen TB, er bod gennym darged o ddileu TB erbyn 2041, ar y trywydd presennol, fe fydd ymhell i mewn i'r 2050au arnom yn dod yn agos at ble mae angen inni fod mewn perthynas â hyn. Ac rydych chi'n llygad eich lle, bydd mochyn daear sy'n marw o TB yn cael marwolaeth ofnadwy, boenus, hir ac arteithiol. Felly, os ydym o ddifrif ynglŷn â lles anifeiliaid, rwy'n credu bod angen inni ystyried hynny. Yn yr un modd, rydym yn llofruddio neu'n difa, neu beth bynnag y mynnwch ei alw, 12,000 o wartheg bob blwyddyn. Beth am les yr anifeiliaid hynny hefyd? Rwy'n credu bod angen ystyriaeth lawer mwy cytbwys arnom. Nid oes a wnelo hyn â naill ai/neu, ac ni fyddwn yn 'Lladd pob mochyn daear' o dan fy ngwyliadwriaeth i. Ddim o gwbl. Mae'n sicr yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddo gael ei arwain gan y wyddoniaeth, a byddaf yn aros i weld tystiolaeth a chyngor gan arbenigwyr yn y maes cyn ffurfio barn—arbenigwyr gorau'r byd, gyda llaw, o ran aelodaeth y grŵp hwn. Pan fyddant yn cyflwyno eu hadroddiad, byddaf yn ei ystyried, ac yna gallwn gael sgwrs ynglŷn â'r manylion.

Diolch, Weinidog. Mae tair plaid yn y Siambr hon eisiau gweld poblogaeth fywyd gwyllt iach a phoblogaeth fferm iach. Mae'n hanfodol eich bod yn crynhoi'r gefnogaeth honno nawr ac yn defnyddio'r gefnogaeth honno i gyflwyno'r strategaeth newydd hon. Mae 27 mlynedd o wneud dim gan y Blaid Lafur wedi dinistrio cefn gwlad. Peidiwch â bod yn Weinidog sydd, ymhen tair blynedd a hanner, pedair blynedd, yn edrych yn ôl heb fod wedi manteisio ar y gefnogaeth hon yn y Siambr. Cyflwynwch y strategaeth honno, ac a allech chi roi syniad inni heddiw pryd y bydd yn cyrraedd—cyn Sioe Frenhinol Cymru, neu yn yr hydref?

14:45

Nid wyf yn credu y byddwn yn gweld strategaeth o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Rwy'n credu bod llawer o waith angen ei wneud ar hynny, ac yn amlwg, llawer o waith i helpu pobl i ddeall natur y broblem y ceisiwn fynd i'r afael â hi yma. Ond mae'n uchel iawn ar fy rhestr, a gallaf roi fy ngair i chi y byddwn yn gweld symud ar hyn cyn gynted ag y gallwn. Ond fel y dywedais, hyd nes y caf y cyngor hwnnw gan fwrdd y rhaglen, a'r grŵp cynghori technegol yn enwedig, rwy'n credu y byddai ychydig yn rhy gynnar imi wneud unrhyw gyhoeddiadau mawr ar hyn o bryd.

Gollwng Carthion

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gollwng carthion yn Afon Cynffig? OQ64105

Rŷn ni'n ymwybodol o'r digwyddiad llygredd sydd wedi effeithio ar Afon Cynffig ac rŷn ni'n rhannu pryder yr Aelod a'r cyhoedd ynglŷn â'r sefyllfa yn fanna. Dwi wedi  gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, i Ofwat a Dŵr Cymru i fy niweddaru i ynglŷn â'r sefyllfa am atal y gollyngiad, a hefyd atgyweirio'r difrod amgylcheddol a sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd i wella'r afon ac i rwystro, wrth gwrs, unrhyw ddigwyddiadau pellach.

Diolch am eich ateb. Bydd y Gweinidog a thrigolion lleol yn falch o glywed, ar ôl wythnosau o garthion yn cael pwmpio i Afon Cynffig o safle Marlas, fod pibell dros dro uwchben wedi'i gosod yn llwyddiannus ddydd Llun ac, yn ffodus, fod y gollyngiad bellach wedi dod i ben. Fodd bynnag, ni chaiff y difrod a achoswyd ei wrthdroi am fod y llif wedi'i atal. Mae pryderon difrifol ynghylch yr effaith ar ansawdd dŵr yr afon, poblogaethau pysgod, infertebrata, bywyd planhigion a bioamrywiaeth ehangach, yn ogystal â'r effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gwarchodedig yng nghorsydd Margam. Bydd trigolion am gael hyder bod y niwed ecolegol yn cael ei asesu'n briodol ac nad yw'n cael ei dybio y bydd yn gwella ar ei ben ei hun. Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru'n gweithredu'n amserol i adfer yr afon ac i sicrhau na fydd trychineb amgylcheddol o'r fath byth yn digwydd eto? 

Dwi'n rhannu, fel roeddwn i'n dweud, ac yn cydnabod y consỳrn gan bobl leol ynglŷn â hyn. Dyw sefyllfaoedd o'r fath ddim yn dderbyniol. Yn anffodus, mae pethau fel hyn yn digwydd oherwydd, wrth gwrs, natur yr isadeiledd, oed yr isadeiledd, a'r ffaith bod yr isadeiledd sydd gennym ni yn perthyn i oes arall a ddim i'r oes fodern. Ond dwi wedi gofyn am gyfarfod gyda phrif weithredwr Dŵr Cymru, ac mi fyddaf i'n tanlinellu'r angen i gymryd camau cadarn i ddelio nid yn unig â'r achos yma, wrth gwrs, ond â pherfformiad ehangach y cwmni.

Weinidog Cabinet, mae lleihau gollyngiadau carthion i afon Cynffig yn dibynnu ar reoleiddio cadarn. Dri diwrnod yn ôl yn unig, cadarnhaodd Ofwat becyn gorfodi yn erbyn Dŵr Cymru am y methiannau dŵr eang—dros £40 miliwn ohono wedi'i dargedu at leihau gollyngiadau mewn gorlifoedd storm. Er fy mod yn sylweddoli mai mater i Ofwat yw dyrannu'r pecyn hwnnw, Llywodraeth Cymru sy'n gosod y blaenoriaethau strategol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio'n effeithiol gydag Ofwat i bwyso am gyfran o'r arian hwn i fynd i'r afael â'r seilwaith diffygiol sy'n effeithio ar ddalgylch afon Cynffig ac i fodloni ei hun fod nifer y gollyngiadau hynny'n lleihau?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n credu mai un o'r tasgau mwyaf y bydd y Llywodraeth hon yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf yw ail-lunio'r dirwedd reoleiddio gyfan yma yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod bod newidiadau ar y gweill, oherwydd newidiadau yn Lloegr, ac wrth gwrs, byddant yn arwain at ganlyniadau i ni yma yng Nghymru, ond mae'n rhoi cyfle inni ddatblygu system reoleiddio dŵr benodol i Gymru, ac un sydd â dylanwad a dannedd, gobeithio. Ac rwyf wedi ymrwymo i dargedau clir, gorfodadwy i leihau llygredd ac i ddatblygu neu ddibynnu mwy ar yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, gyda llaw. Mae angen camau gweithredu cryf arnom pan fydd y troseddau hyn yn digwydd, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i weithio arno gyda chyd-Aelodau eraill ar draws y Siambr i'w gyflawni dros y blynyddoedd nesaf.

Natur a Mannau Gwyrdd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau mesurau i warchod ac adfer natur a mannau gwyrdd? OQ64093

Mae Llywodraeth Cymru’n cryfhau mesurau gwarchod natur drwy gynllun gweithredu hinsawdd a natur, sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol hefyd, ac, wrth gwrs, gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer adfer natur. Rydym yn adfer ecosystemau, yn cefnogi ffermio cynaliadwy, yn ehangu seilwaith gwyrdd, gan gynnwys plannu coed, ac yn gwella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd o ansawdd uchel ledled Cymru.

14:50

Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ymateb. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gennym 12 o enillwyr gwobr y Faner Werdd yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, gan gynnwys fy ffefryn personol i, parc y Rhath, i'r rhai ohonoch sydd heb fod yno. Treuliais lawer o fy mhlentyndod yno, yn tyfu i fyny, ac wrth gwrs, cronfa ddŵr Llanisien hefyd, sydd bellach ar agor i bawb ei mwynhau ar ôl ymgyrch galed iawn gan drigolion lleol a chynrychiolwyr Llafur.

Nawr, hoffwn dalu teyrnged hefyd, wrth gwrs, i'r gwirfoddolwyr a'r trigolion sy'n cynnal y gerddi cymunedol—lleoedd fel gardd gymunedol yr Eglwys Newydd, yr ymwelais â hi gyda'r cyn-Aelod dros Ogledd Caerdydd, un o fy ffrindiau a fy mentoriaid, Julie Morgan, sydd bob amser wedi hyrwyddo mannau gwyrdd yn ein dinas wych. Mae'r lleoedd hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i foment o heddwch yng nghanol holl fwrlwm a phrysurdeb bywyd bob dydd, ac mae mwynhau gofod amgylcheddol ar garreg eich drws yn wirioneddol bwysig. Ond yn fwy na hynny, mae gerddi cymunedol hefyd yn helpu i roi cyfle i bobl gymryd rhan, cyfarfod â'u cymdogion a'u ffrindiau, ac i ddysgu sgiliau newydd. A all y Gweinidog Cabinet roi sicrwydd i mi y bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi a chryfhau rhaglenni fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd wedi helpu i greu neu wella mwy na 200 o brosiectau natur cymunedol yng Nghaerdydd, gyda llawer ohonynt mewn ysgolion?

Wel, rwy'n benderfynol o adeiladu ar rai o'r rhaglenni hynny, yn sicr, gan fod mynediad at natur a chreu a gwarchod ein mannau gwyrdd yn flaenoriaeth hollbwysig i'r Llywodraeth hon. Roedd ein maniffesto, er enghraifft, yn hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ac ymyriadau sy'n seiliedig ar natur i wella iechyd a llesiant pobl. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar wella mynediad mewn cymunedau difreintiedig hefyd. Felly, mae yna fanteision iechyd. Yn amlwg, mae manteision o ran natur a bioamrywiaeth. Gallwn gael pobl i dyfu eu bwyd eu hunain. Amser maith yn ôl, dywedwyd wrthyf mai'r ffordd orau o gael fy mhlant i fwyta eu llysiau oedd gwneud iddynt eu tyfu, ac yna byddent yn cael eu cyfareddu pan fyddent yn eu bwyta. Felly, mae llawer y gallwn ei wneud, ac wrth gwrs, mae hynny'n enghraifft o fuddsoddiadau bach efallai i ddatgloi rhai o'r mannau gwyrdd hyn, gan ddod â manteision enfawr, llu o fanteision, gan wneud i'r bunt Gymreig weithio'n galetach, ond gan gyflawni cymaint o flaenoriaethau trawslywodraethol ar yr un pryd.

Weinidog, yn fy etholaeth i yn sir Gaerfyrddin, fferm Brynteg yw'r unig ddarparwr therapi â chymorth anifeiliaid, therapi anghenion dysgu ychwanegol a therapi addysgol pwrpasol yn sir Gaerfyrddin, gan wasanaethu plant ac oedolion yn sir Gaerfyrddin yn ogystal ag ardal Abertawe yn ehangach. Nid yw'r gwaith a'r amgylchedd unigryw eithriadol y maent yn eu darparu yn weithgarwch amaethyddol confensiynol, nac yn wir, yn weithgarwch hamdden. Mae'n ddarpariaeth gymdeithasol, addysgol a therapiwtig arbenigol ar gyfer rhai o'r plant ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Y fferm hon yw eu lloches, eu man diogel a rhan allweddol o'u lles a'u datblygiad yn y dyfodol. Er hyn, gwnaed penderfyniad beth amser yn ôl i ganiatáu i ddatblygiad fferm solar 28 erw gael ei leoli drws nesaf i'r fferm. Yn y pen draw, bydd hyn yn golygu y bydd y sŵn a'r aflonyddwch o'r gwaith adeiladu a'r sŵn gweithredol dilynol a gynhyrchir gan y gwrthdroyddion hynny'n golygu y bydd fferm Brynteg yn cael ei gorfodi i gau yn y pen draw, gan arwain at golli unig ddarparwr y gwasanaeth rhagorol hwn yn sir Gaerfyrddin. Clywais nifer o ddatganiadau gan y Llywodraeth ddoe ynglŷn ag ymgysylltu â chymunedau a gwrando, wrth symud ymlaen, felly yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i ni, wrth symud ymlaen, na fydd cymunedau'n cael eu hanwybyddu, a phan fyddant yn dweud wrthym dro ar ôl tro nad ydynt eisiau'r datblygiadau hyn, ein bod yn dechrau gwrando. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw achosion unigol wrth gwrs, gan fod y rheoliadau cynllunio yn golygu efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn rhan o rai o'r ystyriaethau hynny. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr wella bioamrywiaeth, diogelu seilwaith gwyrdd a chryfhau rhwydweithiau ecolegol. Felly, dylai'r system gynllunio chwarae rhan bwysig yn sicrhau seilwaith gwyrdd. Nawr, fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau ar yr amgylchiadau penodol yno. Rwyf eisoes wedi amlinellu manteision mynediad at natur i bobl, a beth bynnag a ddigwyddo, buaswn yn gobeithio y bydd y ffactor hwnnw o leiaf yn cael ei ystyried yn rhan o unrhyw benderfyniadau cynllunio a wneir.

Tipio Anghyfreithlon

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon? OQ64119

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau ledled Cymru i newid agweddau ac ymddygiad o ran y ffordd y gwaredwn ein gwastraff. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ariannu Taclo Tipio Cymru, sy'n codi ymwybyddiaeth, yn cydlynu gweithredu gan bartneriaid a chymunedau, ac yn gweithio ar y cyd â thimau gorfodi awdurdodau lleol, ac mae'r gwaith hwn, wrth gwrs, yn arwain at fwy o erlyniadau, ymgysylltiad cymunedol a mesurau ataliol ledled Cymru.

14:55

Diolch. O daflu sbwriel o ffenestr car i ddympio gwastraff anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol, mae tipio anghyfreithlon yn difetha ein cymunedau a'n hamgylchedd. Mae glanhau'r llanast yn gost sylweddol i'n hawdurdodau lleol. Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i lanhau ein strydoedd a'n cymdogaethau drwy gynyddu dirwyon a chreu troseddau newydd. Nid yw'n ymddangos bod tipio anghyfreithlon yn flaenoriaeth yn nogfen 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru. A wnewch chi ymrwymo i wneud yr un peth?

Wel, edrychwch, mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac mae angen ei thrin felly, ac mae hynny'n golygu camau gorfodi cryf a chosbau cryf. Cyfeiriais mewn ateb cynharach at yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu. Mae hynny'n berthnasol i dipio anghyfreithlon hefyd, a rhoddaf fy ngair i chi y byddwn ni fel Llywodraeth yn mynd i'r afael â hynny hyd eithaf ein gallu, ac rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda'r Aelod ynghylch beth yn ei barn hi yw'r ffordd orau o wneud neu gyflawni hynny.

Weinidog, mae tipio anghyfreithlon yn fy etholaeth i, Ceredigion Penfro, yn parhau i gynyddu'n frawychus o gyflym. Nid mater amgylcheddol yn unig yw hwn, mae'n un economaidd. Mae'r ardal rwy'n ei chynrychioli yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth, gydag ymwelwyr yn cael eu denu'n benodol at harddwch naturiol ein harfordiroedd a'n cefn gwlad. O ystyried bod gweithgarwch gorfodi ac amseroedd ymateb yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i gyflwyno safonau cenedlaethol clir ar gyfer monitro, camau gorfodi a chlirio tipio anghyfreithlon? A sut y bydd yn sicrhau bod arweinyddiaeth y cyngor yn cael ei dwyn i gyfrif yn uniongyrchol lle na chyflawnir y safonau hyn?

Wel, edrychwch, rwyf am i'r rhai sy'n gyfrifol am niweidio ein cymunedau dalu'r gost, nid awdurdodau lleol a'n cymunedau, oherwydd, yn y pen draw, y trethdalwr sy'n talu'r bil. Nawr, mae Taclo Tipio Cymru’n rhaglen a gyflwynir drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda llaw, sydd â swyddogion gorfodi ymroddedig sy'n arwain ymchwiliadau tipio anghyfreithlon, ac maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar y cyd i fynd i'r afael â'r troseddau gwastraff hyn. Rwyf am weld y gwaith hwnnw'n cael ei gryfhau. Rwyf am ein gweld yn cyflawni'n fwy effeithiol ar fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, ac rwy'n clywed yr enghreifftiau a nodwyd. A heb os, bydd cwestiynau atodol eraill, rwy'n dychmygu, neu ohebiaeth nawr yn sicr—rwy'n eu gwahodd, onid wyf; efallai na ddylwn wneud hynny—gan Aelodau i dynnu sylw at faterion lleol ar eu rhan. Ond mae'r Llywodraeth eisoes yn gwneud llawer yn y maes hwn mewn partneriaeth ag eraill, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar farn yr Aelodau, a byddaf yn sicr yn trafod gyda'r bobl berthnasol yn y Llywodraeth i weld beth arall y gallwn ei wneud.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelod am godi'r mater pwysig o dipio anghyfreithlon gan ei fod yn rhywbeth rwy'n ei glywed gan etholwyr ledled Blaenau Gwent Caerffili Rhymni. Rydym mor ffodus yn y Cymoedd i fod wedi ein hamgylchynu gan fannau naturiol hardd, o ddyffryn Sirhywi i ddyffryn Distaw. Mae'r ardaloedd hyn mor bwysig i bobl leol, bywyd gwyllt a thwristiaeth fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith gynyddol ar y mannau hyn. Yng Nghaerffili, rydym wedi gweld cynnydd blynyddol o 63 y cant yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon a adroddir, sef un o'r enghreifftiau o gynnydd mwyaf sydyn yn unrhyw le yng Nghymru. Ac er bod grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith mor aruthrol i gadw ein cymunedau'n lân, ni ellir disgwyl iddynt fynd i'r afael â'r her hon ar eu pen eu hunain, yn enwedig wrth i rwydweithiau troseddau cyfundrefnol ddod yn fwyfwy cysylltiedig â throseddau gwastraff. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau gwastraff cyfundrefnol a thipio anghyfreithlon? A sut y mae'n cefnogi awdurdodau lleol a chymunedau i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol? Diolch.

Diolch yn fawr. Yn sicr, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid—a soniais am Taclo Tipio Cymru—i gyfyngu ar y broblem. Gwn, er enghraifft, yng Nghaerffili, fod swyddog gorfodi de-ddwyrain Cymru Taclo Tipio Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i ddarparu cymorth gorfodi i gynorthwyo gyda chwilio am domenni gwastraff anghyfreithlon a chynnal archwiliadau ar gludwyr gwastraff hefyd. Felly, mae llawer yn digwydd. Ond unwaith eto, mewn ysbryd o wrando ar Aelodau'n codi hyn yn rheolaidd, rydym yn edrych yn fwy cyffredinol hefyd ar y ffordd orau o gryfhau'r gyfres o ddulliau gorfodi sydd ar gael i helpu awdurdodau lleol i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell oherwydd, fel y dywedaf, yn y pen draw, os mai'r awdurdodau lleol sy'n talu'r bil, mae pob un ohonom ni'n talu'r bil.

Weinidog, fe sonioch chi am faterion lleol. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r digwyddiad tipio anghyfreithlon sylweddol ar fynydd y Bwlch yn ddiweddar, lle cafodd yr hyn a ddisgrifiwyd fel afon o sbwriel ei ddympio'n anghyfreithlon ar ochr y mynydd. Roedd y gwaith clirio, a ddigwyddodd yn ddiweddar, yn galw am ymateb arbenigol drwy ddefnyddio rhaffau dros 12 awr gan gyngor Rhondda Cynon Taf a Thîm Achub Mynydd Canol y Bannau. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r gwirfoddolwyr a swyddogion y cyngor am eu gwaith ardderchog. Mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y pwysau gweithredol ac ariannol sylweddol a roddir ar awdurdodau lleol wrth ymateb i droseddau amgylcheddol ar raddfa fawr ar dirweddau heriol, ochr yn ochr â phwysau systemig ehangach ar gapasiti gorfodi. Mae data Llywodraeth Cymru’n dangos bod digwyddiadau tipio anghyfreithlon wedi cynyddu, sy'n awgrymu nad yw mesurau atal yn gwrthdroi'r duedd gyffredinol eto. Rwy'n ymwybodol ei bod yn ddyddiau cynnar iawn ar y Llywodraeth newydd hon yng Nghymru, ond hoffwn glywed barn y Gweinidog Cabinet ar y cydbwysedd rhwng gwariant adweithiol ar ymgyrchoedd glanhau a gweithgarwch gorfodi ataliol, ac a yw Llywodraeth Cymru’n ystyried mesurau pellach i gryfhau'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu, fel bod gorfodi'n arwain at gyfran fwy o erlyniadau o gymharu â nifer y digwyddiadau, a bod hyn yn dod yn fwy niwtral o ran cost i gyrff cyhoeddus. Diolch.

15:00

Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn am y gost i gyrff cyhoeddus. Gwelais adroddiadau yn y cyfryngau ar yr hyn y credaf y gallech ei ddisgrifio fel casgliad sbwriel eithafol. Roedd yn gryn ymdrech gan y tîm achub mynydd, yr awdurdod lleol, fel y dywedwch, tirfeddianwyr a'r gymuned ehangach hefyd, gan gasglu ymhell dros dunnell o wastraff tipio anghyfreithlon. Byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i ddwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif am eu gweithredoedd, a byddwn yn cryfhau egwyddor y llygrydd sy'n talu, fel y gallwn ddwyn troseddwyr i gyfrif yn briodol.

Mwynglawdd Glo Brig Ffos-y-frân

6. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar y datblygiadau diweddaraf ynghylch mwynglawdd glo brig Ffos-y-frân? OQ64122

Diolch yn fawr. Mae'r cais cynllunio ar gyfer y cynllun adfer diwygiedig yn Ffos-y-frân a'r ceisiadau cysylltiedig am ddefnydd parhaus o bwynt gwaredu Cwmbargoed wedi eu galw i mewn ym mis Ebrill. Mi fydd arolygydd cynllunio annibynnol yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar y ceisiadau hyn maes o law.

Diolch. Fel ŷch chi'n gwybod, dwi'n falch iawn o fod yn fenyw o Ferthyr ac o gael y cyfle i gynrychioli fy nghymuned yma yn y Senedd. Mae llawer wedi cael ei ddweud am bobl Merthyr o fewn y welydd yma dros y blynyddoedd, ond nawr, gyda Llywodraeth newydd a ffyrdd newydd o weithio, mae'n gyfle i ni wrando'n well ar ein cymunedau yn hytrach na siarad amdanynt. Mae'n rhaid i'n cymunedau fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd a'u dyfodol.

Mae diffyg gweithredu gan y Llywodraeth flaenorol wedi achosi teimlad o rwystredigaeth am ddyfodol Ffos-y-frân. Nid yw llais ein cymuned wedi cael ei glywed dros y blynyddoedd, er mai nhw sydd yn byw gyda chanlyniadau'r penderfyniadau am y safle. Mae mining legacy working group wedi'i sefydlu i edrych ar ddyfodol y safle, a dwi ar ddeall bod aelodaeth y grŵp yn dal yn cael ei thrafod. Ar hyn o bryd, does dim sicrwydd y bydd llais ein cymuned yn cael ei gynrychioli. Os yw'r gwaith adfer am fod yn ystyrlon, mae'n rhaid i gymuned Merthyr fod yn rhan ohono. Felly, a wnaiff Gweinidog y Cabinet sicrhau bod y grŵp gwaith etifeddiaeth mwyngloddio yn cynnwys lleisiau'r cymunedau lleol sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan adfer safleoedd glofaol?

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Dwi yn teimlo bod lleisiau lleol yn bwysig mewn trafodaethau fel hyn. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaf i fynd bant gyda fi a thrafod ymhellach gyda swyddogion. Diolch am godi'r pwynt.

Twbercwlosis Buchol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â TB buchol yng Ngheredigion Penfro? OQ64117 [R]

Rŷn ni wedi ymrwymo i ddatblygu approach holistaidd i gael gwared ar TB yng Nghymru, un sy'n seiliedig ar y wyddoniaeth ac ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau ni, yn tynnu ar arbenigrwydd a chyngor gan y grŵp cynghori technegol a'r bwrdd rhaglen TB yma yng Nghymru.

15:05

Diolch. Cyn cychwyn, fe hoffwn i ddatgan diddordeb. Rydw i'n cydberchen ar dir amaethyddol sy'n cael ei lesio ar hyn o bryd i fferm laeth yng Ngheredigion Penfro. 

Yng Ngheredigion Penfro, lle mae ffermio yn asgwrn cefn ein cymuned, ein diwylliant a'n heconomi wledig, mae TB mewn gwartheg wedi achosi niwed dwfn a hirdymor. Yr wythnos diwethaf, esboniodd etholwr i mi sut mae wedi cael ei ddinistrio gan achosion diweddar ar ei fferm eidion yn sir Benfro. Mae project sir Benfro yn cynnig model a all helpu ymhellach i lywio ymatebion cenedlaethol cryfach. Mae'n tynnu ar ddealltwriaeth ddofn o'r clefyd ar lefel leol a fferm, ac yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau milfeddygon a ffermwyr lleol. Rwy'n croesawu Llywodraeth Plaid Cymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr. Felly, a fydd y Gweinidog Cabinet yn ehangu dulliau arloesol sy'n cael eu harwain gan wyddoniaeth, sy'n cynnwys ffermwyr a milfeddygon lleol, i ddarparu hyder a diogelwch hirdymor?

Mi wnes i ymweld, gyda'r Gweinidog cyllid, digwydd bod, rai misoedd yn ôl, â phroject sir Benfro, ac mi ges i fy ysbrydoli, a dweud y gwir, gan y gwaith sydd yn digwydd yn fanna. Fel rŷch chi'n dweud, mae'n cael ei arwain gan y diwydiant. Mae'r ffermwyr a'r sector milfeddygol yn gweithio gyda'i gilydd. Maen nhw'n datblygu dulliau sydd yn berthnasol i'r ardal benodol maen nhw'n gweithredu oddi fewn iddi. Mae yna ddarn o waith, dwi'n meddwl, o ran cymryd y dysgu o fanna a gweld i ba raddau y gallwn ni ehangu ar y dysgu yna.

Mae cynllun tebyg nawr yn cael ei ddatblygu yng ngogledd Cymru, sydd ychydig yn wahanol oherwydd mae'n cymryd yr amgylchiadau penodol yn fanna i ystyriaeth, ond yn cael ei ddatblygu ar yr un sail. Mi fydd yr ystyriaethau a'r hyn sy'n cael ei amlygu yn y gwaith yna yn sicr yn rhan o fy meddwl i wrth i ni edrych ar ddiwygio'r ffordd rŷn ni'n mynd i'r afael â'r clefyd yma.

Yr un peth arall roeddwn i'n teimlo oedd yn hynod o bositif ynglŷn â'r cynllun yn sir Benfro oedd y modd roedd y ffermwyr oedd yn rhan o'r cynllun yn teimlo, o'r diwedd, bod gyda nhw ryw fath o reolaeth a rhyw fath o afael ar yr amgylchiadau a'r sefyllfa oedd o'u cwmpas nhw. Does dim byd gwaeth nag aros am brawf TB a jest aros i glywed eich tynged, heb wybod, 'Ydy e'n rhywbeth dwi wedi ei wneud sydd wedi achosi hyn, neu rywbeth dwi ddim wedi ei wneud?' O leiaf drwy ddatblygu system lle mae yna risk rating ar anifeiliaid ac yn y blaen, lle rŷch chi'n gallu rheoli rhai anifeiliaid allan o'r fuches, rŷch chi'n rhoi rhyw fath o gyfle i'r ffermwr ar y fferm i fod â rhyw fath o ddylanwad ar eu sefyllfa nhw.

Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn o safbwynt iechyd meddwl a thaclo'r teimlad yna o anobaith, o ddiymadferthedd, lle dŷch chi jest ddim yn gallu rhoi eich bys ar pam bod pethau fel hyn yn digwydd. Felly, mae e'n waith pwysig, nid yn unig o safbwynt yr elfen ymarferol o daclo lledaeniad TB, ond hefyd ar lefelau eraill, er enghraifft iechyd meddwl.

Fel chi, Weinidog, mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi mynd drwy uffern oherwydd y clefyd ofnadwy hwn. Dylwn ddatgan buddiant hefyd gan fod fferm fy rhieni-yng-nghyfraith wedi gorfod ymdopi â TB ers dros 25 mlynedd. Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach ac rwy'n croesawu'n fawr yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw. A allwch chi roi sicrwydd i ffermwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau newydd i fynd i'r afael â'r clefyd cyn diwedd y flwyddyn? O ystyried y straen a'r gofid y mae hyn wedi'i achosi i ffermwyr, pa gymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i sefydliadau fel Sefydliad DPJ sy'n chwarae rhan allweddol yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol ffermwyr yn ein cymunedau gwledig? 

Fel rhywun sydd wedi siarad yn agored am fy mhrofiad personol o heriau iechyd meddwl, rwy'n angerddol am y gwaith y mae'r Sefydliad DPJ, y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, Tir Dewi a'r lleill i gyd yn ei wneud yn y maes. Mae'n wasanaeth amhrisiadwy, ond mae mor drist ein bod ni'n pwyso mor drwm arnynt. Rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth flaenorol yn arfer cyhoeddi cymorth ariannol penodol i'r elusennau hynny, ac yng nghyd-destun TB yn benodol weithiau, ond roedd hynny'n fy nghythruddo hefyd oherwydd ei fod yn debyg braidd i daflu'r baich—'Nid awn i'r afael â'r broblem sylfaenol yma ond gall y sefydliadau hyn ymdopi â'r canlyniadau'. Rwyf eisiau symud oddi wrth hynny. Byddaf yn cefnogi'r elusennau a'r sefydliadau hynny hyd eithaf fy ngallu, ond yn y bôn mae fy ffocws ar fynd i'r afael â'r achos sylfaenol yma, a dyna beth fyddaf yn bwrw ymlaen ag ef.

15:10
Mannau Gwyrdd Trefol a Maestrefol

8. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn bwriadu mynd i'r afael â cholli mannau gwyrdd trefol a maestrefol, hygyrch i'r cyhoedd sy'n hanfodol i les cymunedau a bywyd gwyllt? OQ64120

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd diogelu a gwella mynediad at fannau gwyrdd ar gyfer llesiant cymunedol, iechyd a gwydnwch ein hamgylcheddau trefol. Rydym yn adolygu'r gefnogaeth bresennol ar gyfer seilwaith gwyrdd trefol a chyflawniad cymunedol, gan weithio gyda phartneriaid lleol ac yn y maes cynllunio i ddiogelu mannau presennol ac i ehangu mynediad ledled Cymru.

Diolch. Mae mannau gwyrdd naturiol trefol a maestrefol hygyrch i'r cyhoedd yn hollol hanfodol ar gyfer llesiant a lles ein cymunedau. Maent yn darparu coridorau a lloches hanfodol ar gyfer natur a bioamrywiaeth. Yn ystod y pandemig, gwelsom pa mor ddibynnol oedd pobl ar y mannau gwyrdd hyn a chymaint y gwelir eu colli pan fyddant yn diflannu, fel sydd bellach wedi digwydd yn fy etholaeth i yn Nolau'r Gogledd yn yr Eglwys Newydd, ac sydd mewn perygl o ddigwydd yn Neuadd Llanrhymni. Rydym yn cerdded i mewn i sefyllfa lle bydd y mannau gwyrdd hyn yn cael eu colli i'r cyhoedd ac i fywyd gwyllt am byth. Bydd llesiant cymunedau ledled Cymru yn dioddef o ganlyniad. Sut y mae'r Gweinidog am weithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn diogelu mannau gwyrdd naturiol sy'n hygyrch i'r cyhoedd?

Fel y soniais yn gynharach rwy'n credu, dylai'r system gynllunio ystyried y materion hyn. Yn amlwg bydd yna enghreifftiau lle nad yw hynny'n digwydd, a gallai fod rhesymau dilys dros hynny neu beidio. Barn oddrychol yw hynny o bosibl. Ond rwy'n ymrwymedig i weithio gyda'r Gweinidog cynllunio i weld sut y gallwn wella a chryfhau'r maes hwnnw. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â pharciau bach a'r mathau hynny o fannau gwyrdd a gwireddu mannau gwyrdd a photensial gwyrdd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd trefol. Rwy'n gwybod bod gwaith cadarnhaol wedi digwydd ar hynny yng Nghaerdydd hefyd yn ddiweddar, a dyna'r math o beth yr ydym eisiau ei annog. Byddaf yn hapus i ymgysylltu â'r Aelod hefyd os oes ganddo unrhyw syniadau neu awgrymiadau penodol y gallem fod eisiau mynd ar eu trywydd.

3. Cwestiynau Amserol
Gwaith Dur Port Talbot

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad am waith dur Port Talbot yn dilyn y tân ar y safle yr wythnos diwethaf? TQ1463

Cefais adroddiad ar effaith y tân pan siaradais â phrif swyddog gweithredol y cwmni yr wythnos hon. Rhoddwyd cyfrif am yr holl bersonél a chawsant eu symud o'r ardal yn ddiogel. Mae'r cwmni'n arolygu'r difrod ac yn ystyried y camau nesaf mewn partneriaeth â'r undebau llafur. Byddaf yn cael diweddariad pellach pan fyddaf yn ymweld â'r safle yfory.

Diolch, Weinidog. Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys lleol am eu hymateb cyflym a'u cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad ar safle Tata yr wythnos diwethaf. Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar na chafodd neb eu niweidio. Roedd y golygfeydd yn peri gofid mawr i'r rhai sy'n gweithio ar y safle ac i'r trigolion sy'n byw yng ngolwg y gwaith dur. Rwy'n deall bod Tata yn dal i asesu maint y difrod, gyda hyd at 200 o weithwyr wedi'u heffeithio'n uniongyrchol. O ganlyniad i'r difrod, mae rhywfaint o waith yn cael ei drosglwyddo i'w brosesu yn y felin oer a'r llinell biclo yn Llan-wern.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o bryderon gweithwyr Tata, eu teuluoedd a'r trigolion lleol, ac yn cydnabod bod y digwyddiad ofnadwy hwn wedi ychwanegu ansicrwydd pellach at yr hyn sydd eisoes yn gyfnod anodd iawn i'r gweithlu ym Mhort Talbot. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i helpu i leddfu'r pryderon hynny a sicrhau bod Tata Steel yn cefnogi ei weithwyr yn llawn yn ystod y cyfnod heriol hwn?

Hoffwn innau hefyd gofnodi ein diolch i'r gwasanaethau brys—gwasanaeth tân canolbarth a gorllewin Cymru—a fynychodd y tân tua 8 p.m. ar 3 Mehefin. Gadawodd y criwiau tân y safle ddydd Gwener 5 Mehefin. Mae'n sicr yn rhywbeth y mae Tata yn amlwg eisiau ei bwysleisio: mai eu blaenoriaeth bob amser yw diogelwch eu gweithwyr a'r gymuned ehangach, yn ogystal â gweithrediad diogel a sefydlog y safle, sydd, fel y byddai'r Aelod yn cytuno, yn ased economaidd mor bwysig, nid yn unig o ran ei bwysigrwydd yn lleol a rhanbarthol, ond i Gymru gyfan.

Yn y trafodaethau a gefais eisoes, mae'r cwmni wedi dweud eu bod yn amlwg yn arolygu'r difrod ac wedi dechrau'r gwaith o wneud y safleoedd yn ddiogel. Maent wedi mynd ati i ddechrau gweithredu cynlluniau lliniaru, gan gynnwys darparu gwaith prosesu amgen ar gyfer y felin oer a'r llinell biclo, sy'n cael ei throsglwyddo i Lan-wern, er mwyn cynnal cyflenwad i gwsmeriaid, ac maent wedi bod yn gweithio gyda'r gweithlu i alluogi i hynny ddigwydd. Bydd y felin boeth, wrth gwrs, yn aros ym Mhort Talbot.

Fel y dywedais, byddaf yn cyfarfod â'r prif swyddog gweithredol a'r uwch dîm prosiect ehangach sy'n arwain rhaglen y ffwrnais arc drydan yfory, a bydd yn gyfle i drafod unrhyw un o'r materion byw sy'n gysylltiedig â difrod y tân a'r mesurau lliniaru, ond hefyd i drafod y prosiect ehangach. Ac ailadroddodd Tata yn glir iawn i mi pa mor ymrwymedig ydynt i sicrhau bod y prosiect hwnnw'n cael ei gyflawni er budd ehangach y gymuned, a Chymru gyfan yn wir.

15:15

Hoffwn adleisio teimladau'r Gweinidog a fy nghyd-gynrychiolydd dros Afan Ogwr Rhondda a diolch i'r gwasanaethau brys a ddeliodd â'r tân. Mae'r tân yn y gwaith dur ym Mhort Talbot yn ddigwyddiad sydd wedi achosi pryder mawr i lawer o fy etholwyr, nid yn unig o ran diogelwch y gweithlu dan sylw, ond hefyd o ran yr effaith y gallai hyn ei chael ar y gwaith parhaus ar osod y ffwrnais arc drydan. Rydym eisoes wedi gweld pryderon pellach yr wythnos hon ynghylch oedi posibl i'r ffwrnais arc. Mae miloedd o bobl ym Mhort Talbot eisoes wedi colli eu bywoliaeth oherwydd cau'r ffwrneisi chwyth, ac erbyn hyn mae llawer mwy o bobl yn wynebu pryder am eu dyfodol gyda'r posibilrwydd o oedi. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith dur ym Mhort Talbot a diogelu'r swyddi gwerthfawr y mae llawer o fy etholwyr yn dibynnu arnynt?

Yn amlwg, fe fyddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r prosiect, sydd mor bwysig yn strategol i Gymru, fel y dywedais. Rwyf eisoes wedi cael trafodaeth gychwynnol gyda'r prif swyddog gweithredol ddydd Llun, nid yn unig i drafod y tân, ond hefyd yr adroddiadau mewn perthynas â'r oedi. Byddaf yn cael cyfle pellach yfory, pan fyddaf yn ymweld â Tata, i drafod y materion hyn yn fanylach.

Er mwyn darparu'r cysylltiad, mae Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol yn ehangu safle presennol Margam gydag is-orsaf 275 kV newydd, ac yn darparu ail is-orsaf 275 kV ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot, ac mae angen caffael a gosod trawsnewidyddion uwchgrid newydd yn y ddau le, yn ogystal â chebl tanddaearol 2 km i gysylltu'r ddwy is-orsaf. Nawr, rydym wedi ymgysylltu nid yn unig â Tata, ond yn amlwg, â Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol. Maent wedi nodi bod yr oedi'n deillio o sawl problem, ac nad yw'n fai un parti neu fater yn unig. Mae yna amrywiaeth o ffactorau. Rydym yn ceisio deall hynny'n fwy manwl. Yn amlwg, mae llawer o'r liferi a'r pwerau yn faterion a gedwir yn ôl, ond i'r graddau y gallwn wneud hynny, naill ai drwy gyflwyno sylwadau er mwyn dylanwadu ar bolisi neu gyflawniad, rydym yn barod i wneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i sicrhau bod y prosiect hanfodol bwysig hwn yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl i sicrhau budd economaidd i'r gymuned ac i Gymru.

Yn gyntaf, hoffwn adleisio'r pryderon mewn perthynas â'r tân yr wythnos diwethaf ac wrth gwrs, diolch i'r diffoddwyr tân, a wnaeth yn siŵr, er gwaethaf y difrod, na chafodd neb eu hanafu'n gorfforol, a'r gefnogaeth ehangach a oedd yno. Yr wythnos hon, rwy'n credu mai'r hyn rydym i gyd yn bryderus yn ei gylch yw y gallai problemau cysylltedd trydan achosi oedi o hyd at wyth mis i'r ffwrnais arc drydan newydd. Lywydd, rwy'n gwybod eich bod chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad ag undebau Tata a Llywodraeth Cymru yn eich rôl fel AS Afan Ogwr y Rhondda, yn annog cynnydd cyflym gan yr holl bartneriaid, gan gynnwys y Grid Cenedlaethol. Nawr, yn ôl yr adroddiadau, mae angen grid trydan wedi'i uwchraddio ar Tata i weithredu wrth gwrs, ac mae llawer o swyddi'n mynd i fod yn gwbl ddibynnol ar hyn, ac eto mae'n edrych yn debyg y gallai llawer o'r buddsoddiad angenrheidiol i uwchraddio ein grid trydan wynebu oedi yn sgil chwarae gemau gwleidyddol dros beilonau. Nawr, rydym i gyd yn gwybod y gall gosod ceblau tanddaearol fod yn ddrud—ac mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fod hyd at 10 gwaith yn ddrytach—ac yn amlwg felly, gallai hyn arwain at lawer o oedi hir. Felly, y ffordd rwy'n ei weld yw y bydd teuluoedd a gweithwyr Cymru yn talu'r pris yn y pen draw, gyda biliau uwch yn y cartref, a risgiau i brosiectau hanfodol fel y ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot. Felly, a wnaiff Gweinidog y Cabinet roi diwedd ar yr ansicrwydd hwnnw nawr a dweud yn glir fod y Llywodraeth hon yn ffafrio ceblau tanddaearol dros dymor y Senedd hon?

15:20

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi sicrwydd ac nad ydym yn ychwanegu at unrhyw ansicrwydd yn hyn o beth. Nid yw'r hyn y mae'n cyfeirio ato yno yn berthnasol yn yr achos hwn, oherwydd mae'r foltedd dan sylw ar y foltedd uchel iawn o 275 kV neu uwch—mae'r rhain yn faterion a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl i San Steffan. Y rhwydwaith trawsyrru yw hwnnw, nid y rhwydwaith dosbarthu. Felly, nid yw'n berthnasol i'r achos hwn mewn unrhyw ffordd, ac mae'n bwysig ein bod yn darparu'r sicrwydd clir hwnnw. Ac fel y nodais yn gynharach, mae'r 2 km o gebl wedi'i osod yn danddaearol yn yr achos hwn mewn gwirionedd, ond roedd hwnnw'n benderfyniad a wnaed fel mater a gedwir yn ôl, nid mater i ni.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Adroddodd y BBC ychydig ddyddiau'n ôl—. Ac os caf innau hefyd ychwanegu fy niolch i'r diffoddwyr tân dewr iawn, ac yn wir, mae ein meddyliau gyda gweithwyr dur Tata. Nawr, adroddodd y BBC ychydig ddyddiau'n ôl y gallai'r oedi i ffwrnais arc drydan newydd Tata ddeillio o broblemau cysylltedd y Grid Cenedlaethol. Adroddir ymhellach fod y pryderon hyn wedi'u trafod gyda buddsoddwyr yn ystod galwad gynhadledd fis diwethaf. Wrth gwrs, un o'r buddsoddwyr mwyaf yn y prosiect hwn oedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ac roedd honno'n cyfrannu £500 miliwn tuag at y cynllun £1.25 biliwn. Ysgrifennydd y Cabinet, a drafodwyd y mater hwn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU fis diwethaf, ac os felly, a wnaeth y Gweinidogion hynny hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â mater y grid? Pan ddaethoch chi i'r swydd eich hun, a gawsoch chi eich briffio fod problem bosibl gyda'r cysylltiad a allai beri oedi i'r prosiect hynod bwysig?

Lywydd, mae'n ymddangos bod pawb yn cymryd yn ganiataol fod yr oedi, nawr, yn gysylltiedig â'r tân ofnadwy yn ddiweddar, ond mae manylion yr adroddiad yn awgrymu bod hwn yn fater hollol ar wahân ac yn un a allai fod wedi bod yn hysbys ers sawl wythnos. Felly, a allwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ddweud wrthyf pryd y daethoch chi'n ymwybodol o'r oedi posibl yn deillio o broblemau cysylltedd y Grid Cenedlaethol? A allwch chi gadarnhau bod y gronfa bontio gwerth £80 miliwn a sefydlwyd i gefnogi gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan gau'r ffwrneisi chwyth yn dal i fod ar waith, ac a yw'r oedi hwn yn arwain at golli swyddi neu aflonyddwch economaidd pellach? Ac os felly, faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu mewn cymorth ychwanegol pellach i weithwyr yr effeithir arnynt a'u teuluoedd? Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod. Fe gododd nifer o faterion, ac er mwyn ymateb yn llawn ac yn gywir iddynt, rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu ati, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y bydd hi'n deall yn iawn, o ran y sicrwydd yr ydym am ei roi i'r gweithlu bob amser, ein bod am wneud yn siŵr ei bod yn cael gwybodaeth gywir a bod hynny hefyd yn cael ei ddarparu i'r gweithlu ac i'r cyhoedd yn ehangach.

O ran pryd y cefais wybod felly, fe gefais wybod ddydd Llun, a gallasom siarad fore Llun gyda'r prif swyddog gweithredol a chael sgwrs fanwl gydag ef ar y cam hwnnw mewn perthynas â'r hyn oedd wedi digwydd o ran y tân, ond hefyd yr adroddiadau mewn perthynas â'r oedi. Mae peth o'r wybodaeth hon yn fasnachol sensitif, felly—. Wel, mae yna wybodaeth sy'n sensitif i'r farchnad am gwmni sy'n cael ei reoleiddio fel hyn na allant ond ei darparu drwy sianeli priodol yn unig, o dan y gyfraith. Yn y pen draw, mewn prosiect masnachol o'r fath, mater i'r partïon masnachol hynny yw penderfynu pryd y caiff yr wybodaeth honno ei rhyddhau a ble, ond fe gefais i wybod ddydd Llun. Fe wnaethom weithredu'n gyflym iawn i sicrhau ein bod yn cael cymaint o wybodaeth ag y gallem gan Tata. Fel y dywedais, fe geisiwn weld beth y gallwn ei wneud fel Llywodraeth yn uniongyrchol, ond hefyd sut y gallwn ddylanwadu ar yr holl randdeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod yr oedi hwn mor fyr â phosibl, a'n bod yn sicrhau cynnydd yn gyflymach, oherwydd dyna sut y gallwn wneud y mwyaf o fudd i'r gweithlu, i'r gymuned ac i Gymru. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

15:25
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. A yw hwn yn dod ymlaen? Mae wedi nawr. Diolch, Lywydd. Rwyf am dalu teyrnged i Val Lloyd, a fu farw ym mis Mai. Val Lloyd oedd fy rhagflaenydd fel Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe. Cafodd ei hethol gyntaf mewn isetholiad yn dilyn marwolaeth gynamserol Val Feld.

Roedd ei hiechyd wedi bod yn wael ers sawl blwyddyn a bu'n rhaid iddi symud i Lundain i fod yn agosach at ei dwy ferch. Cafodd ei geni a'i magu yn Townhill yn Abertawe, mynychodd yr ysgol gynradd leol a'r ysgol ramadeg i ferched yn Llwyn y Bryn. Cymhwysodd yn gyntaf fel athrawes ysgol gynradd, yna fel nyrs, cyn dod yn diwtor nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe lle bu'n dysgu ac yn dylanwadu ar lawer o'r uwch nyrsys presennol sy'n gweithio ym mwrdd iechyd Bae Abertawe.

Roedd hi wedi bod yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur ers yn 16 oed, lle cyfarfu â'i gŵr Bob. Cawsant ddwy ferch, Rebecca a Samantha, a oedd yn gannwyll ei llygaid.

Gwasanaethodd ochr yn ochr â mi fel cynghorydd dros ward Treforys lle roedd ei hymrwymiad i'w chymuned yn amlwg iawn, ynghyd â'i pharodrwydd i helpu eraill ac i ysgwyddo awdurdod er budd pobl Treforys. Cafodd ei hethol i'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn 2001 a gwasanaethodd am 10 mlynedd tan 2011. Tra bu yn y Cynulliad, gwasanaethodd fel cadeirydd y grŵp Llafur ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Yn y ddau achos, cadeiriodd gyda thegwch a thrylwyredd. Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ardoll ar fagiau plastig a'r gwaharddiad ar ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus, ac roedd hi'n falch iawn o'r ddau gyflawniad.

Ar lefel bersonol, diolch iddi am ei chefnogaeth i mi fel ymgeisydd ac Aelod o'r Senedd. Yn olaf, diolch, Val, mae eich teulu, eich ffrindiau a'r rhai y gwnaethoch chi eu cyfarfod a'u helpu yn yr etholaeth yn gweld eich colli.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod a'r thema eleni yw ymgyfarwyddo, sef gallu rhieni a gofalwyr i nodi, deall ac ymateb yn sensitif i anghenion emosiynol babi. I fabi, mae'r perthnasoedd cynnar hynny'n siapio popeth sy'n dilyn. Pan fydd rhiant neu ofalwr yn gallu ymateb gyda chynhesrwydd a chysondeb, mae plentyn yn dysgu diogelwch, ymddiriedaeth a sicrwydd. Maent yn dechrau deall y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu ac nad ydynt ar eu pen eu hunain mewn trallod.

Ond i ormod o deuluoedd yng Nghymru, maent o dan bwysau gwirioneddol. Gall tlodi, iechyd meddwl gwael rhieni, cam-drin domestig a thrawma wneud y misoedd cynnar yn anhygoel o anodd. Mae rhieni sy'n cael trafferth eu hunain yn aml angen cefnogaeth, nid beirniadaeth, os ydynt yn mynd i roi'r gofal y maent eisiau ei ddarparu i'w babi. Dyna pam y mae ymyrraeth gynnar mor bwysig. Mae angen gwasanaethau cyffredinol cryf arnom i bob teulu, ochr yn ochr â chefnogaeth arbenigol rhieni-babanod i'r rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Mae angen i help fod ar gael yn gynnar, nid mewn argyfwng yn unig. Oherwydd pan fuddsoddwn yn iechyd meddwl babanod, rydym yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.

Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod yr wythnos hon, ac rwy'n annog pob cyd-Aelod ar draws y Senedd i hyrwyddo hawliau babanod ac i helpu i sicrhau bod pob babi a phob teulu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Diolch yn fawr iawn.

5. Dadl Reform UK: Cynnig gofal plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lynne Neagle.

Ac yn awr, dadl Reform UK: cynnig gofal plant. Galwaf ar Dan Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9240 Dan Thomas

Cefnogwyd gan Benjamin Hodge Mckenna, Andrew Griffin, Sarah Cooper-Lesadd, Art Wright

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r costau a'r amserlen lawn ar gyfer cyflwyno ei chynnig gofal plant o fewn ei 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n agor y ddadl heddiw yn fy enw i. Pwrpas y ddadl hon heddiw a'r cynnig y gofynnaf i bob Aelod ei gefnogi yw gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r costau a'r amserlen lawn ar gyfer cyflwyno eu cynnig gofal plant o fewn y 100 diwrnod cyntaf fel Llywodraeth. Mae hyn yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd, ac mae gan bob Aelod, hyd yn oed yr Aelodau anweithredol sy'n perthyn i'r blaid mewn grym, ddyletswydd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rwy'n derbyn y bydd y ddadl hon yn cyffwrdd â materion a manteision ehangach gofal plant. Rwy'n gwybod bod pob plaid eisiau'r gorau i blant a theuluoedd, ac efallai fod gennym syniadau gwahanol ynglŷn â sut i gyflawni hynny, ond y cynnig o sylwedd y byddwn yn pleidleisio arno yw costau ac amserlen lawn y Llywodraeth hon.

Hoffwn ailadrodd bod Reform yn cefnogi gofal plant a'n bod yn cefnogi'r cynnig gofal plant presennol, sydd eisoes wedi'i gynnwys yng nghyllideb y Llywodraeth, fel y'i cyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd. Ar hyn o bryd, nid yw'n glir a yw addewid gofal plant blaenllaw Plaid Cymru yn fforddiadwy neu'n realistig. Mae Plaid Cymru wedi cael digon o amser i baratoi ar gyfer bod yn Llywodraeth. Dywedasant fod eu maniffesto wedi'i gostio'n llawn. Felly, fis ar ôl yr etholiad, mae'n deg gofyn: ble mae'r costau llawn? Mae gwelliant Plaid Cymru i fy nghynnig yn cyfeirio at gostau cychwynnol, ond nid yw hynny'n ddigon. Dywedodd Plaid Cymru fod eu maniffesto wedi'i gostio'n llawn, nid wedi'i gostio'n rhannol nac wedi'i gostio gyda rhagdybiaethau cychwynnol—wedi'i gostio'n llawn. Felly, os na allant gynhyrchu costau llawn, nid oedd eu honiadau yn yr etholiad yn wir.

Nawr, yn ystod yr etholiad, heriais bob plaid i gyhoeddi costau eu maniffesto. Os yw pleidiau eisiau gwneud addewidion drud, mae'r cyhoedd yn haeddu gwybod sut y byddant yn cael eu hariannu a dylent allu cymharu costau'r holl bleidiau ochr yn ochr. Serch hynny, nid oedd Plaid Cymru’n agored. Roeddent yn fwy na pharod i gyhoeddi'r gwariant, ond yn llai brwdfrydig ynglŷn ag egluro'r costau. Esboniais sut y byddai Reform yn ariannu ein prif addewidion ni. Nawr, efallai eich bod yn anghytuno â'n blaenoriaethau a sut y byddem yn eu hariannu, efallai y byddwch yn eu herio—mae hynny'n normal mewn democratiaeth. Ond o leiaf fe gynigiodd Reform esboniad i'r cyhoedd ynglŷn â sut y byddem yn talu am ein polisïau drytaf. Yn y pen draw, fe wnaeth Llafur yr un peth â ni, ac egluro eu costau nhw hefyd.

Ar helpu teuluoedd gyda chostau byw, mae Reform yn credu ei bod yn llawer gwell i bobl gyffredin benderfynu sut i wario eu harian eu hunain na gwleidyddion ym Mae Caerdydd. Dyna pam ein bod yn cefnogi codi safonau byw drwy drethi is. Yn wir, ein polisi economaidd blaenllaw yw tynnu 1 geiniog oddi ar dreth incwm Cymru a rhoi cap ar godiadau treth gyngor. Byddai'r addewidion hynny wedi golygu y gallai llawer o deuluoedd sy'n gweithio gael mwy o arian yn eu pocedi, ac rydym yn ymddiried mewn teuluoedd i wneud penderfyniadau ariannol drostynt eu hunain. Y ffordd orau y gall Plaid Cymru helpu gyda chostau byw a chodi plant allan o dlodi yw drwy gael ffocws di-baid ar dyfu'r economi. Rwy'n annog Plaid Cymru i edrych eto ar faniffesto Reform, gan fod yr atebion i gyd yno: dylent adeiladu ffordd liniaru'r M4, dylent ddileu'r dreth dwristiaeth, lleihau ardrethi busnes ar gyfer y sector lletygarwch, adfywio ein strydoedd mawr sydd ar eu gliniau, adeiladu mwy o gartrefi, a chreu'r sylfeini i fusnesau fuddsoddi, ehangu a chreu swyddi da ar gyflogau da. Oherwydd dyna sut y daw teuluoedd yn fwy llewyrchus, a dyna sut y daw teuluoedd yn llai dibynnol ar gymorth Llywodraeth.

A gadewch inni beidio ag anghofio mai'r bygythiad mwyaf i safonau byw a ffyniant teuluoedd yng Nghymru yw'r union reswm pam y mae Plaid Cymru'n bodoli: annibyniaeth i Gymru, nod Plaid Cymru i rwygo Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, prosiect dinistriol a rhaniadol, a fyddai'n costio hyd at £12,000 i bob aelwyd yng Nghymru. Nawr, £400 miliwn yw pris y polisi hwn, yn ôl Plaid Cymru, er y byddai'n costio llawer mwy yn y pen draw. A hyd yn oed os ydym yn eu cymryd ar eu gair, yn absenoldeb costau priodol neu barodrwydd i leihau gwariant yn y meysydd a awgrymwyd gennym, ni allem ni yn Reform weld dewis arall i'r Llywodraeth heblaw codi treth incwm. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog ddiystyru codi treth incwm pan fyddant yn ceisio ariannu'r polisi hwn. Byddai cynnydd cosbol yn y dreth i bob trethdalwr yn gamgymeriad enfawr, ac felly rwy'n gofyn i'r Gweinidog ddiystyru hyn yn llwyr yn ei hymateb.

Mae bod o blaid teuluoedd yn golygu bod yn onest gyda theuluoedd, mae'n golygu dweud wrthynt sut y bydd polisïau'n cael eu hariannu, ac mae'n golygu byw o fewn ein modd. Mae Plaid Cymru’n gofyn i bobl Cymru ymddiried mewn addewid drud arall nad yw wedi'i gostio. Ond rydym ni'n gofyn am atebion syml i gwestiynau syml. Beth yw'r costau llawn? Sut y byddwch chi'n talu amdano? O ba linellau gwariant yn y gyllideb y bydd hyn yn cael ei ariannu? Beth yw'r cynllun a'r amserlen ar gyfer ei gyflawni?

Nawr, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid y cynnig hwn, cynnig o blaid tryloywder ac atebolrwydd. Diolch yn fawr.

15:35

Diolch yn fawr. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Cefnogwyd gan Gwyn Williams

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad oedd gan Reform UK unrhyw ymrwymiadau o ran gofal plant yn ei faniffesto ar gyfer Cymru.

2. Yn nodi ymhellach y dystiolaeth glir y byddai gwella mynediad at ofal plant yn lleihau tlodi plant yng Nghymru, ac y byddai mynediad at ofal plant a ariennir i bawb yn cefnogi rhieni i ddychwelyd i’r gwaith neu gynyddu eu horiau gwaith. 

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y costau a’r gwaith cyflwyno cychwynnol ar gyfer ehangu gofal plant i bawb cyn toriad yr haf, yn unol â’r ymrwymiadau a amlinellir yng nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Sioned Williams 15:35:44
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Yn ffurfiol. 

Diolch yn fawr iawn. Nawr, galwaf ar Lynne Neagle i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun. 

Gwelliant 2—Lynne Neagle

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel i wella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn fy enw i. Wrth inni agosáu at fis ers i Blaid Cymru ffurfio eu Llywodraeth, rydym yn dal i fod yn brin o wybodaeth ynghylch eu prif bolisi. Mae gwneud addewidion cyn yr etholiad a sicrhau penawdau yn un peth, ond nid creu penawdau yw diben Llywodraeth; diben Llywodraeth yw gweithredu. Gofynnwyd i'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog ar sawl achlysur sut y bydd y polisi hwn yn cael ei ariannu a phryd y caiff ei gyflwyno, ond rydym yn dal i aros am fanylion.

Ddoe, clywsom eiriau cynnes ac amserlenni amwys, ond nid yw hynny'n ddigon. Mae Plaid Cymru’n honni bod y polisi hwn wedi'i gostio'n llawn, felly pam yr oedi? Fel y dywedais dro ar ôl tro o'r blaen, mae pob un ohonom eisiau gweld mwy o arian ym mhocedi rhieni, rydym yn awyddus iawn i weld hynny, ond nid yw'n iawn cyhoeddi ymrwymiadau gwariant mawr a gofyn i rieni ledled Cymru dderbyn eu gair yn unig fod y cyllid hwnnw'n dod.

Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y byddem yn edrych ar gostau o oddeutu £400 miliwn y flwyddyn erbyn diwedd y tymor hwn. Rhaid i Blaid Cymru ddangos o ble y daw'r cyllid hwnnw. A yw hynny'n golygu y bydd cynlluniau eraill yn cael eu torri? Pwy yw'r bobl fydd ar eu colled? A phryd y cânt wybod hynny?

Nawr, nid wyf yn bwriadu rhoi'r gorau i sôn am y £555 miliwn a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU oherwydd gwariant ychwanegol ar blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau—£300 miliwn eleni'n unig. Nawr, efallai na wnaethom ni fel Llywodraeth ddefnyddio mesur lliniaru statudol i reoli pwysau anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, ond mae'r Prif Weinidog yn anghywir i geisio bychanu pwysau ariannol enfawr ADY mewn awdurdodau lleol ac ysgolion. Buaswn yn synnu pe gallai ddod o hyd i un awdurdod lleol sy'n cytuno ag ef, neu un ysgol, yn enwedig y rhai sydd â diffygion cyllidebol oherwydd pwysau ADY.

Nawr, rydym ni yn Llafur Cymru yn bwriadu craffu ar ddefnydd y Llywodraeth newydd o bob ceiniog o'r cyllid canlyniadol hwnnw. Ac ni fydd yn syndod i unrhyw un mai'r plant yw fy mhrif bryder. Mae gofal plant yn allweddol, ond mae'n rhaid iddo fod o ansawdd uchel. Mae'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn yn gyfnod cwbl dyngedfennol. Gall bennu llwybrau gydol oes i blant. Ni all yr un ohonom fforddio ei gael yn anghywir.

Ni chefais ateb ddoe i fy nghwestiynau ar Dechrau'n Deg, ac mae Dechrau'n Deg yn gymaint mwy na gofal plant. Mae'n cynnwys ymweliadau iechyd estynedig, therapi lleferydd ac iaith, ac yn hollbwysig, cymorth rhianta i ategu'r perthnasoedd rhiant-baban hynny ac ymlyniadau diogel sy'n hanfodol i iechyd meddwl pob un ohonom. Pa effaith y bydd cynnig gofal plant Plaid Cymru yn ei chael ar y cynnig Dechrau'n Deg yng Nghymru?

Nawr, nid oes amheuaeth fod angen capasiti ychwanegol o fewn y sector gofal plant er mwyn i'r polisi hwn lwyddo. Ni all ymwneud â mynediad yn unig. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflwyno'r polisi hwn, rhaid iddo ymwneud ag ansawdd gofal plant. Mae gennym eisoes gynllun gofal plentyndod cynnar yng Nghymru sy'n nodi y gall gofal plant hygyrch o ansawdd uchel fod yn drawsnewidiol i blant. Ond nid yw'n glir pa rôl y bwriedir i gynnig gofal plant Plaid Cymru ei chwarae yn cefnogi datblygiad pob plentyn, o ystyried bod nifer nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant.

Beth am blant ag anableddau—

Rwy'n gobeithio nad yw'r llefarwr yn awgrymu y bydd grŵp Llafur yn ochri â Reform ar y mater hwn yn hytrach na chefnogi cynllun credadwy. [Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir. Mae gemau gwleidyddol o'r fath yn bygwth tanseilio proses a chyflawniad ar fater lle gallai fod gennym nodau cyffredin. Ar ôl i Lafur gael eu maeddu'n llwyr, rwy'n deall y byddwch chi fel grŵp yn chwilio i weld beth yw eich rôl yma yn y Siambr hon. Nid wyf yn siŵr y bydd hyn yn eich helpu i ailfeithrin ymddiriedaeth mewn cymunedau fel fy un i yn Afan Ogwr Rhondda.

15:40

Diolch am hynny. Os caf ddweud, nid llefarwr wyf i, ond llefarydd. Rwy'n fwy na pharod i egluro mai ein nod yn y Siambr hon yw gwneud ein gorau glas dros bobl Cymru, gan gynnwys ein plant, a dyna nod ein gwelliant heddiw.

Felly, fel roeddwn i'n ei ddweud, beth am blant ag anableddau? Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwybod yn rhy dda fod heriau mawr i deuluoedd â phlant anabl gael mynediad at ofal plant, gyda thystiolaeth yn awgrymu mai dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol Cymru sydd â digon o ofal plant ar gyfer plant anabl. Lywydd, mae pob un ohonom eisiau i fwy o ofal plant am ddim fod ar gael, ond wrth wneud hynny, mae’n rhaid inni ymrwymo i wneud pethau'n iawn. Fel rwyf wedi'i ddweud, rhaid i blant fod yn y canol wrth gyflwyno'r ddarpariaeth hon, ac rydym yn galw heddiw ar y Senedd i gydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel ar gyfer gwella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Rwy'n cefnogi'r cynnig yn enw arweinydd Reform, Dan Thomas. Wrth wneud hynny, hoffwn fynd i'r afael â gwelliant 1. Mae'r gwelliant hwn yn nodi nad oes gennym unrhyw ymrwymiadau gofal plant yn ein maniffesto, ond gadewch inni fod yn onest, nid golwg ôl-weithredol ar lenyddiaeth yr ymgyrchoedd etholiadol yw'r ddadl hon; mae'n her fyw a gweithredol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, hoffwn ddadlau achos penodol, synhwyrol ac ymarferol, nid am fwriadau, ond ynglŷn ag a yw'r sylfeini yn eu lle fel y gellir cyflawni'r cynllun yn dda. Soniodd fy nghyd-Aelod yma am gyflawni, a dyna rwyf eisiau siarad amdano heddiw.

Gadewch imi ddechrau gyda'r data. Dyma'r gwir anghyfforddus: ni all Cymru weld yn glir eto sut y mae ei phlant ieuengaf yn gwneud. Ni all fframweithiau lefel uchel guddio pa mor dameidiog yw'r data hwn ar draws 22 awdurdod lleol. Gadewch imi fod yn glir: cadarnhaodd Ymchwil y Senedd yn benodol, er bod y cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg wedi bod ar waith ers blynyddoedd, nid oes gennym unrhyw fecanwaith i gymharu canlyniadau datblygiad rhwng plant sy'n derbyn gofal plant am ddim a'r rhai nad ydynt. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn addo canlyniadau mesuradwy, targedau clir a cherrig milltir, ond ni allwch fesur canlyniadau pan nad oes gennych unrhyw fecanwaith i'w casglu. Heb y data sylfaenol hwnnw, nid yw'r Llywodraeth yn gwneud dim ond ehangu yn y tywyllwch.

Dyma'n union lle mae gofal plant yn cyfarfod ag effeithiolrwydd Llywodraeth. Cadarnhaodd y Gweinidog Cabinet ei hun mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig WQ98571 mai ei rôl yw monitro cynnydd ac olrhain cynnydd yn erbyn canlyniadau, a dyna oedd y cynllun 100 diwrnod. Nid wyf yn eiddigeddus o'r dasg y mae'n ei hwynebu. Mae wedi etifeddu system lle mae dod o hyd i fframwaith unedig i fesur cynlluniau cenedlaethol yn parhau i fod yn frwydr anodd. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth fod yn y sefyllfa honno. Ond ar ôl 27 mlynedd o ddatganoli, pam y mae'n rhaid i'r Gweinidog effeithiolrwydd barhau i ymladd yn erbyn sylfaen ddata dameidiog i brofi bod y polisi hwn yn gweithio? Nid wyf yn deall pam. Ni allwn ddarparu cynnig gofal plant effeithiol ar fecanweithiau toredig. Mae hyn yn mynd at wraidd y dewis y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud: niferoedd neu ansawdd.

Soniodd y Dirprwy Brif Weinidog yn angerddol am gost ddynol ddinistriol tlodi plant. Rwy'n cytuno'n llwyr â difrifoldeb yr argyfwng hwnnw. Ond mae ehangu rhaglen fawr gwerth miliynau o bunnoedd cyn bod y sylfeini'n sefydlog yn beryglus. Ni allwch hawlio dull strategol o leihau tlodi pan fydd eich data'n rhy dameidiog i fesur a yw eich polisi blaenllaw yn codi unrhyw deulu allan o galedi.

Tynnodd y Dirprwy Brif Weinidog sylw at y ffaith y bydd Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn cyd-gadeirio ei grŵp arbenigol newydd ar drechu tlodi plant. Wrth gwrs, mae pob un ohonom yn croesawu'r arbenigedd hwnnw, sy'n hynod bwysig, ond mae'r Llywodraeth hon ei hun yn fframio'r ehangu hwn fel arf allweddol i drechu tlodi. Felly, dylai roi sylw i rybudd Sefydliad Bevan ynghylch darnio. Mae un cynnig cyffredinol yn rhywbeth i'w groesawu, a dylai safoni'r hyn y mae gan deuluoedd hawl iddo, ond nid yw'n darparu unrhyw ffordd gyson ar ei phen ei hun o fesur a yw'n gweithio, a yw'n gwella canlyniadau i blant mewn gwirionedd ar draws 22 awdurdod lleol.

Yna mae gennym y gweithlu. Rhaid imi atgoffa'r fainc flaen o rybudd doeth a wnaed sawl blwyddyn yn ôl gan rywun a oedd yn deall y sector hwn yn dda ac sydd bellach yn gwasanaethu yn y Llywodraeth hon. Fe wnaethant rybuddio y gallem gael cynnig gofal plant tybiannol yn y pen draw heb fod cyllid digonol i ddarparu, hyfforddi a chadw staff, fel bod cael mynediad ato yn eich cymuned yn anodd iawn os nad yn amhosibl. A gadewch imi ddweud hyn: roedd y rhybudd hwn yn gwbl gywir, ac mae'n parhau i fod yn gwbl gywir nawr.

Rydym bellach yn wynebu argyfwng staffio cronig yn y sector blynyddoedd cynnar. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi comisiynu grŵp llywio newydd i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y system. Nid ydych yn adeiladu'r waliau tra bo'r sylfeini'n dal i ddadfeilio. Os yw'r Llywodraeth hon yn ehangu'r rhaglen hon cyn atgyweirio'r hyn sydd wedi torri oddi tani, yr hyn a wnânt yn syml iawn yw ehangu system sy'n sicr o fethu i'r teuluoedd sydd ei hangen fwyaf. Rhaid inni ddiogelu'r sylfeini nawr fel y gall y polisi hwn lwyddo. Oherwydd mae patrwm ehangach yma. Yn rhy aml, nid penderfyniad a gynigir i ni, ond addewid o un: grŵp llywio, cynllun peilot, strategaeth i ddod. Mae newid Llywodraeth wedi datgelu system sy'n ofalus, sy'n rhy ddibynnol ar brosesau, ac sy'n araf i weithredu. Gadewch inni fod yn onest, ni fydd gan Weinidogion lefel uwch o gyfalaf byth na'r hyn sydd ganddynt heddiw. Os na fyddant yn ei ddefnyddio nawr i lywio penderfyniadau, bydd y broblem yn gwaethygu a bydd plant yn aros.

Felly, gadewch imi grynhoi: rhaid sicrhau mai plant sydd yn y canol yn hyn, nid yr amserlen, nid y pennawd, nid y wleidyddiaeth—y plant. Os cewch y data, yr ansawdd a'r gweithlu'n iawn, gall hyn weithio. Os cewch hynny'n anghywir, byddwn wedi gwario llawer iawn o arian cyhoeddus ar gyflawni rhywbeth nad yw'n gweithio.

15:45

Gadewch inni beidio ag anghofio nad oedd maniffesto Reform UK yn etholiad y Senedd yn cynnwys unrhyw beth o gwbl am ofal plant—dim un cynnig. Ar adeg pan fo teuluoedd ledled Cymru’n ei chael hi'n anodd, mae'r hepgoriad hwn yn adrodd cyfrolau am eu blaenoriaethau. Wrth gwrs, menywod yn bennaf sy'n talu'r pris am ddarpariaeth gofal plant annigonol, gyda mamau'n cael eu gorfodi i leihau eu horiau gwaith neu adael eu gwaith yn gyfan gwbl er mwyn gofalu am eu plant. O ganlyniad, mae menywod yn cael eu gwthio i gylch dieflig o dlodi, gyda blynyddoedd yn cael eu treulio heb fod mewn cyflogaeth, ac yna oes o ennill llai mewn rolau is na dynion, ac yn y pen draw, wynebu twll du o ran eu pensiwn oherwydd cyfnodau hir heb enillion. Dyma gost gymdeithasol peidio â chymryd gofal plant o ddifrif.

Ni fyddai gostyngiadau treth arfaethedig Reform UK yn gwneud unrhyw beth i gefnogi rhieni sydd eisoes wedi cael eu gorfodi allan o'r gweithlu gan fod eu biliau gofal plant yn fwy na'u henillion. Drwy fy ngwaith gwirfoddol, wrth arwain ymgyrchoedd gyda Pregnant then Screwed, rwyf wedi siarad â channoedd o deuluoedd ledled Cymru—teuluoedd sy'n dibynnu ar gardiau credyd i dalu eu biliau gofal plant. Dyna'r realiti y mae Reform yn dewis ei hanwybyddu.

Rydym hefyd wedi clywed cynrychiolwyr Reform, gan gynnwys Dan Thomas, yn siarad gyda'r BBC am wella hawliau mamolaeth a thadolaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl groes i bolisi Reform UK ei hun o gael gwared ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddai cael gwared ar y Ddeddf Cydraddoldeb yn dileu degawdau o gynnydd ar hawliau yn y gweithle ac yn gadael miloedd o fenywod heb amddiffyniad cyfreithiol, pe baent yn cael eu gwthio allan o'u swyddi am feichiogi neu am gymryd absenoldeb mamolaeth fel y gwneuthum innau.

Mae ymgeiswyr Reform hefyd wedi dewis lledaenu ofn a chamwybodaeth am y sector gofal plant, gan honni y byddai lefelau cam-drin mewn meithrinfeydd yn codi i'r entrychion pe bai rhieni'n cael cynnig mwy o oriau gofal plant wedi'u hariannu, gan ychwanegu y bydd mamau'n difaru peidio â gofalu am eu babanod eu hunain. Y gwir amdani yw bod hyn yn fisogynistaidd ac yn codi bwganod. Mae'n sarhad ar weithwyr gofal plant proffesiynol a rhieni. Mae honiadau fod plant mewn meithrinfeydd mewn perygl o gael eu cam-drin nid yn unig yn ddi-sail, ond yn niweidiol tu hwnt. Maent yn tanseilio proffesiynoldeb ac ymroddiad staff gofal plant arbenigol. Mae gweithwyr meithrin a gwarchodwyr plant yn rhan hanfodol o'n heconomi gofal, ac maent yn sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac mae'r sylwadau hyn yn gwneud cam enfawr â sector sydd eisoes o dan bwysau aruthrol.

Yn 2024, sefydlais a chadeiriais y grŵp arbenigwyr gofal plant. Gydag Oxfam Cymru, comisiynais ymchwil fanwl i gost wirioneddol darparu gofal plant o ansawdd uchel yma yng Nghymru. Ac mae'r gwaith hwnnw wedi rhoi hyder llwyr i mi y gall Cymru ddarparu'r cynnig gofal plant trawsnewidiol y mae teuluoedd wedi bod ei angen ers llawer gormod o amser. Mae Plaid Cymru’n credu yn y dull uchelgeisiol hwn, un sydd wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth, tegwch a llesiant teuluoedd. Mae ehangu mynediad at ofal plant o ansawdd uchel yn ymwneud â mwy na chefnogi rhieni'n unig; mae a wnelo â threchu tlodi, cefnogi ein heconomi, cyflawni cydraddoldeb a sicrhau'r dyfodol gorau i'n plant. Diolch.

15:50

Pedwar can miliwn o bunnoedd. Mae hwnnw'n swm eithaf mawr i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo ar gyfer eu cynnig gofal plant, a bydd yn arbennig o anodd yn ystod y Senedd hon. Er enghraifft, rhagwelwyd gan lawer y bydd anghenion ychwanegol y GIG yng Nghymru, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, yn cynyddu'n gyflymach na'r cyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddarparu i gyllideb Cymru. Ond rwy'n optimydd. Os yw'r Llywodraeth yn fodlon gwneud penderfyniadau anodd, fel y mae Reform, yn ogystal â dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd clyfar o fewn y Llywodraeth a'u gweithredu, efallai y gallant gyrraedd yno. Fodd bynnag, nid dyma'r unig eitem ar restr siopa Plaid Cymru.

Yr wythnos diwethaf, addawodd y Prif Weinidog ateb yn seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4. Gŵyr pob un ohonom y gall ateb o'r fath gostio hyd at £1 biliwn. Mewn gwirionedd, roedd ateb arfaethedig Llafur yn mynd i gostio hyd yn oed mwy na £1 biliwn. Ac ar ben hynny, ddoe, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth fod y Llywodraeth yn edrych ar drydedd bont yn y gogledd. Mae hynny'n mynd i gostio cannoedd o filiynau o bunnoedd. Ac wrth gwrs, mae'r rhestr yn parhau. Mae Plaid Cymru'n addo creu 10 hyb llawfeddygol, sefydlu cwango economi newydd sbon, adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, sicrhau bod gan bob ysgol gynradd lyfrgell, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.

Wrth gwrs, nid o ble y daw'r arian yw'r unig broblem gyda chostau, ond faint o arian sydd ei angen arnoch. Mae'r ffigur £400 miliwn wedi dod gan Blaid Cymru, heb unrhyw fanylion pellach na dadansoddiad o'r gost. Felly, a ddylem gymryd Plaid Cymru ar eu gair? Dyna pam y mae Reform wedi bod yn gweithio'n galed yn y cefndir, yn modelu ein hamcangyfrifon ein hunain ar gyfer cost y polisi blaenllaw hwn. Ac ar ôl ystyried manylion fel cynnydd mewn costau gofal plant oherwydd galw uwch, yn ogystal ag atyniad y polisi hwn i deuluoedd ifanc ledled y DU, rydym yn rhagweld y bydd yn costio ymhell dros £400 miliwn. Mae ein hamcangyfrif canolog yn £587 miliwn, bron i 50 y cant yn fwy na ffigur Plaid Cymru, ac mae posibilrwydd difrifol, os yw'r nifer sy'n manteisio arno'n uchel iawn, y gallai costau'r polisi hwn chwyddo i fwy na £710 miliwn.

Rwy'n credu y buaswn yn rhagrithiwr pe bawn yn dweud wrthych yn syml iawn am gymryd fy ngair ar hyn. Yn y ddadl hon, mae Reform wedi rhyddhau manylion ein hamcangyfrifon, gan gynnwys prif dybiaethau ein model. Ac rwy'n croesawu—mewn gwirionedd, rwy'n annog—y Llywodraeth, y Siambr gyfan, i graffu ar y costau hyn. Oherwydd mae Reform yn credu yn y pen draw fod tryloywder, boed yn y Senedd, yn y Llywodraeth, neu yn y sector cyhoeddus ehangach, yn beth da. Lywydd, y cyfan y gofynnwn i'r Llywodraeth ei wneud yw dilyn esiampl Reform.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Rwyf am geisio ateb cwestiwn ynghylch pam y mae'r cynnig hwn heddiw mor bwysig. Oherwydd, i mi, nid ymwneud â phunnoedd a cheiniogau'n unig y mae'r ddadl hon, ond yn hytrach â neges i rieni a theuluoedd ynglŷn â hyder wrth ddechrau neu dyfu teulu. Ac mae cymdeithasau gorllewinol, fel ein cymdeithas ni yma yng Nghymru, yn wynebu argyfwng, sef cyfraddau geni sy'n gostwng. Er efallai nad yw'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn aml yn y Siambr hon, bydd yn dod yn un o faterion diffiniol ein hoes a fydd yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas. Ar hyn o bryd, mae gennym gyfradd geni sy'n gostwng ar lefel o 1.44 o blant yn cael eu geni fesul cwpl, ymhell islaw'r 2.1 sydd ei angen i gynnal lefelau'r boblogaeth fel y maent. Bydd y trywydd parhaus hwn yn creu heriau difrifol i wasanaethau cyhoeddus, y gweithlu a thwf economaidd, a dangosir dro ar ôl tro fod costau gofal plant a phwysau cysylltiedig yn ffactor mawr yn y duedd hon.

Wrth gwrs, mae gofal plant yn un o feysydd pwysicaf polisi cyhoeddus, gan ei fod yn faes sydd ar y groesffordd rhwng bywyd teuluol a chyfle economaidd. Mae'n effeithio ar sut y mae teuluoedd yn trefnu eu bywydau, a all rhieni weithio, a sut y mae plant yn cael eu cefnogi yn eu blynyddoedd cynharaf a mwyaf ffurfiannol. Pan fydd gofal plant yn fforddiadwy ac yn hyblyg, gall rhieni chwarae rhan lawn yn y gweithlu, mae busnesau'n elwa o gyflenwad llafur mwy sefydlog, ac mae'r economi ehangach yn dod yn fwy cynhyrchiol. Pan fydd yn ddrud neu'n anhyblyg, gall ddod yn rhwystr i weithio a rhoi pwysau ychwanegol ar gyllid teuluoedd. Ond mae gofal plant yn llawer mwy nag economeg yn unig; mae a wnelo â chefnogi teuluoedd i wneud y dewisiadau iawn sy'n iawn iddynt hwy a'u plant. Rhaid i unrhyw system ofal plant lwyddiannus gydnabod realiti bywyd teuluol a rhoi hyblygrwydd gwirioneddol i rieni. Dyna pam fod angen mwy nag uchelgais yn unig i gael polisi gofal plant yn iawn: mae angen eglurder ynghylch yr hyn sy'n cael ei gynnig, sut y caiff ei gyflwyno a sut y telir amdano, fel y gall teuluoedd gael sicrwydd a hyder i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Os yw polisi'n wirioneddol fforddiadwy, dylai cyhoeddi'r costau llawn hynny gryfhau hyder ynddo, nid ei wanhau. Os nad yw, mae'r cyhoedd yn haeddu deall pa ddewisiadau sy'n cael eu gwneud mewn mannau eraill yn y gyllideb i dalu amdano. Mae'r ddadl yn ymwneud â mwy na chost yn unig, mae a wnelo â'r polisi ehangach—y math o system gofal plant yr ydym am ei gweld yma yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylid llunio polisi gofal plant o amgylch teuluoedd, nid o amgylch y Llywodraeth. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth rôl bwysig yn galluogi rhieni i gydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu, ond dylai wneud hynny mewn ffordd sy'n cydnabod gwahanol amgylchiadau a dewisiadau teuluoedd ledled Cymru, oherwydd er y gall y wladwriaeth greu'r amgylcheddau cywir i blant gael eu magu, ni ddylai byth ddisodli rôl y teulu. Mae rhieni'n parhau i fod yn ganolog i fywyd plentyn, gyda chefnogaeth neiniau a theidiau, perthnasau a rhwydweithiau teuluol ehangach, y mae eu cyfraniadau'n parhau i fod yn amhrisiadwy i deuluoedd sy'n gweithio a chymunedau fel ei gilydd.

Mae'r realiti honno eisoes i'w gweld ledled Cymru. Mae llawer o deuluoedd yn dibynnu, nid ar un model gofal plant, ond ar gyfuniad o ddarpariaeth ffurfiol a chymorth teuluol anffurfiol. Dylai system ofal plant lwyddiannus gydnabod yr amrywiaeth honno, ei chryfhau a rhoi hyblygrwydd i rieni ddewis y trefniadau sy'n gweithio orau iddynt hwy a'u plant. Oherwydd, yn y pen draw, mae a wnelo system ofal plant gref ag ymddiriedaeth: ymddiriedaeth mewn teuluoedd i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain, ac ymddiriedaeth yn y Llywodraeth i fod yn onest ynghylch pa gyllid y bydd ei angen er mwyn cyflawni ei pholisïau. Dyna pam y dylai polisi fel hwn gael ei gostio'n iawn, ei gynllunio'n iawn a bod yn dryloyw iawn o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn rhoi hyder i deuluoedd wrth ddechrau—

15:55

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi newydd sôn am deuluoedd a'r pwysau sydd arnynt, ac rydym yn sôn am dlodi plant a theuluoedd tlotach a pha mor bwysig yw gofal plant, ond a fyddech chi hefyd yn derbyn mai Llywodraeth Geidwadol y DU a gyflwynodd y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, sydd wedi gwneud cymaint o rieni mor dlawd ac wedi rhoi pobl mewn sefyllfa anodd iawn? Diolch yn fawr iawn.

Ac roeddem ni'n ddiolchgar i'r Democratiaid Rhyddfrydol am gefnogi’r polisi hwnnw pan oeddech chi mewn Llywodraeth gyda ni hefyd. [Chwerthin.]

Dylai polisïau gael eu costio a'u cynllunio'n iawn a dylent fod yn dryloyw o'r cychwyn cyntaf. Dyma sy'n rhoi hyder i deuluoedd wrth ddechrau teulu neu dyfu eu teulu, a bydd yn gwneud cryn dipyn i ddatrys yr hyn a fydd yn parhau i fod yn broblem ein hoes ni, sef y gyfradd geni sy'n gostwng. Dyna mae'r cynnig hwn yn gofyn amdano, a dyna pam y dylem ei gefnogi yma heddiw. Diolch, Lywydd.

Diolch, Dan Thomas, am gyflwyno'r ddadl, ac i'r holl gyfranwyr blaenorol. Fel yr wrthblaid, ein gwaith ni yw craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, ond mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ddichellgar iawn. Maent wedi bod yn gyfrwysach na ni mewn gwirionedd, gan nad ydynt wedi gwneud unrhyw gynlluniau. Efallai eich bod yn credu fy mod yn gor-ddweud, felly gadewch imi eich sicrhau fod dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Sioned Williams, wedi dweud ar 19 Mai, ar ITV, ar deledu cenedlaethol, nad oedd Plaid Cymru hyd yn oed wedi dechrau cynllunio eu cynnig gofal plant. Maent yn gwybod y bydd yn gynllun a gaiff ei gyflwyno fesul cam, sy'n galonogol, ac maent yn gwybod y bydd yn costio £400 miliwn, sy'n swnio'n rhif hynod o daclus ar gyfer cynllun mor fanwl, ond y tu hwnt i hynny, roedd y manylion yn brin am ryw reswm.

Fe geisiodd y sawl a oedd yn cyfweld ei helpu, gan ddweud efallai mai'r hyn sydd ei angen ar y sector yw mwy o recriwtio, mwy o hyfforddiant a mwy o bobl, ond cafodd ei sicrhau gan y dirprwy arweinydd mai'r hyn sydd ei angen ar y diwydiant mewn gwirionedd yw mwy o ffocws, ac nad oedd ganddo ddigon o ffocws. A phe bai ganddo ddigon o ffocws, byddai'n gallu diwallu'r cynnydd enfawr yn y galw am ei wasanaethau y byddai eu cynllun gofal plant nhw—wel, rwy'n dweud 'cynllun', mae'n fwy o syniad haniaethol ar hyn o bryd, rhyw fath o gysyniad gofal plant, os mynnwch—yn ei gynhyrchu. Ar ôl gweld y cyfweliad hwnnw, rhaid cyfaddef ei bod yn drueni nad ITV sy'n gyfrifol am ofal plant yng Nghymru yn hytrach na Llywodraeth Cymru. [Chwerthin.]

Iawn, felly rydym wedi clywed o lygad y ffynnon nad yw wedi'i gynllunio, ond a yw wedi'i gostio? Wel, wrth gwrs ei fod wedi'i gostio. Ni fyddai unrhyw un yn breuddwydio cynnal ymgyrch etholiadol ar sail addewid heb ei gostio o £400 miliwn, yn enwedig pe bai'r blaid honno yn y broses o geisio gwneud dweud celwydd yn drosedd. Felly, a gawn ni weld o ble y daw'r arian? Na. A gawn ni ryw fath o syniad? Na. Rhowch y gorau i geisio creu rhwyg.

Yr hyn a welsom fel yr wrthblaid dros yr wythnosau diwethaf yw dosbarth meistr mewn dargyfeirio gwleidyddol gan ein Prif Weinidog newydd uchel ei barch, sydd rywsut yn llwyddo i osgoi rhoi ateb cadarn i bron unrhyw gwestiwn a ofynnir iddo. Clywais, yr wythnos diwethaf, fod rhywun wedi gofyn iddo, 'A ydych chi wedi cael diwrnod da, Brif Weinidog?' ac atebodd fod nifer o ffactorau i'w hystyried wrth bwyso a mesur a gafodd ddiwrnod da ai peidio, ac y byddai'n cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol i ffurfio ateb rhesymegol i gwestiwn mor bwysig, ac y gallem ddisgwyl ateb rywbryd yn yr hydref. Felly, nid yw wedi'i gynllunio, nid yw wedi'i gostio, ond a fydd yn gweithio? Wel, mae hynny'n dibynnu ar ba ffurf fydd i gysyniad gofal plant Plaid Cymru yn y pen draw, gan gynyddu'r cyflenwad o ofal plant yn erbyn sybsideiddio'r galw. Mae gennyf deimlad ofnadwy na fydd cysyniad gofal plant Plaid Cymru'n golygu dim mwy nag argraffu £400 miliwn o dalebau gofal plant a'i alw'n waith da.

Nid oedd unrhyw un yn disgwyl y byddech yn gallu darparu gofal plant am ddim ar unwaith. Roeddent yn gwybod y byddai'n cymryd amser. Ond rwy'n credu bod yna obaith eich bod yn cynnig mwy nag amlinelliad o bolisi'n unig fel ffordd o ennill pleidleisiau. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ofyn ichi gael trefn ar bethau. Mae ffydd mewn gwleidyddiaeth ac mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed, ac nid yw hynny'n dda i'r un ohonom. Ac nid yw'n ddigon da osgoi'r cwestiwn pan fyddwn yn eich holi ynglŷn â manylion y polisi hwn. Nid ydym yn gofyn amdanynt er mwyn eich digio na'ch gwneud i edrych yn wael. Rydym yn gofyn i chi ar ran ein hetholwyr sy'n bobl gyffredin ac sy'n haeddu gwybod sut y caiff eu harian ei wario.

16:00

Mae'r ddadl hon yn bwysig iawn, onid yw? Dyma'r foment lle rydym yn symud y tu hwnt i'r cwestiwn a ddylid ehangu gofal plant i'r cwestiwn anos, pwysicach ynglŷn â sut i gael hyn yn iawn. Ond mae'n ddryslyd iawn nad oedd gan Reform UK, sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, unrhyw ymrwymiad ar ofal plant yn eu maniffesto Cymreig. Mewn cenedl gyda'r cynnig gofal plant lleiaf hael yn y DU a rhieni'n gwario bron i 60 y cant o'u cyflogau ar ofal plant, nid oedd gan Reform unrhyw beth i'w ddweud. Ac mewn cenedl sydd â 30 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi, nid oedd gan Reform unrhyw beth i'w ddweud. Mae teuluoedd yn haeddu tryloywder llawn, costau llawn ac amserlen gynhwysfawr, ond maent hefyd yn haeddu gwybod pwy mewn gwirionedd sydd wedi hyrwyddo'r mater hwn a phwy sydd ond yn ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch am dderbyn yr ymyriad.

'Nodwch fy ngeiriau. Dylai plant gael eu magu gan y rhieni nes eu bod yn ddigon hen i fynd i feithrinfa gyn-ysgol.'

'Nid wyf wedi dweud y dylai menywod aros gartref, dim ond dweud mai dyna sy'n wir fel arfer. Mae menywod yn magu, a dynion yn mynd allan i ennill cyflog.'

Lywydd, nid fy ngeiriau i yw'r rhain. Dyma eiriau gan ymgeiswyr y blaid sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid yw Reform UK o ddifrif ynglŷn â gofal plant. Gemau gwleidyddol yw hyn ar y gorau. Mae gennyf hyder yng nghynlluniau Plaid Cymru i ddarparu'r cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU, ac mae pleidleiswyr yn yr etholiad diwethaf yn amlwg yn cytuno.

Elyn, mae'n ddrwg gennyf, os caf egluro, diben ymyriad yw i Aelod ofyn cwestiwn i'r Aelod. Ond rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn dysgu wrth inni fynd i'r afael â hyn. 

Diolch, ond mae'n rhaid i mi ddiolch i'r Aelod, oherwydd mae'n atgyfnerthu'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud.

Rhaid imi fod yr un mor onest hefyd ynglŷn â gwelliant 'dileu popeth' y Llywodraeth, rhywbeth nad oeddent yn araf i'w feirniadu, fel finnau, pan fyddent yn eu cael fel gwrthblaid. Nid dileu cynnig sy'n galw am atebolrwydd ac adrodd ymrwymiadau'r Llywodraeth ei hun yn ei le yw'r ateb i'r cwestiwn y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei ofyn nawr. Fodd bynnag, roeddwn yn falch o glywed, ddoe a bore heddiw, ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog i ddod â chostau cychwynnol ac amserlen gyflwyno i'r Senedd cyn toriad yr haf. Byddaf yma, fel y bydd llawer, pan fydd toriad yr haf yn agosáu, i ofyn a ydynt wedi cadw at hynny—nid i sgorio pwyntiau, ond oherwydd bod cannoedd a miloedd o blant yng Nghymru yn dibynnu ar hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud yn glir mai 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yw'r cyfnod mwyaf allweddol ar gyfer ymyrraeth. Mae pob mis heb system gofal plant glir, hygyrch a fforddiadwy yn fis na ellir ei adfer. Gall fod canlyniadau nas gellir eu hunioni i hynny. Dyna pam rwy'n parhau i annog Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn iawn. Dyma fydd prawf diffiniol Plaid Cymru. Mae angen dyddiad ar deuluoedd Cymru, mae angen cyhoeddi costau, mae angen iddynt wybod mewn termau plaen a fydd y polisi hwn yn eu cyrraedd.

Rwyf am orffen drwy nodi tair ffordd y byddaf yn pwyso arnoch i wneud hyn. Yn gyntaf, cyrhaeddiad—cynnig cyffredinol sy'n gweithio i bob teulu ledled Cymru. Yn ail, ansawdd. Mae Dechrau'n Deg yn gweithio oherwydd, fel y clywsom, mae'n fwy na dim ond oriau gofal plant. Mae'n gefnogaeth lleferydd ac iaith, er enghraifft. Ac yn drydydd, gonestrwydd. Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i Dechrau'n Deg ar gyfer pob plentyn dwy oed drwy gytundeb cyllideb gyda mi. Erbyn mis Ebrill eleni, dim ond 66 y cant o'r holl blant cymwys oedd yn ei gael. Mae gan fwriadau da hanes gwael o fod yn ddigon ar eu pen eu hunain. Ddirprwy Brif Weinidog, hoffwn i chi roi sicrwydd i ni ar y pwyntiau hynny. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Nid craffu go iawn ar bolisi yw'r hyn a welwn yma heddiw, ond dargyfeirio wedi'i wneud i swnio fel mater difrifol. Mae Reform yn dweud eu bod am weld y costau. Maent yn dweud eu bod eisiau dadl briodol am ofal plant. Ond os gwrandewch chi'n ofalus ar yr hyn sydd wedi'i ddweud yn eu rhengoedd eu hunain, gan eu hymgeiswyr eu hunain, daw darlun gwahanol iawn yn amlwg. Oherwydd nid sgwrs yw hon ynglŷn â sut yr adeiladwn system gofal plant weithredol. Mae'r wrthblaid yn ceisio cwestiynu a ddylem gael system gofal plant hygyrch o gwbl.

Clywsom ymgeiswyr Reform yn awgrymu nad buddsoddiad yw'r ateb i ofal plant ond ei dynnu'n ôl yn llwyr, y dylai menywod aros gartref. Rwyf newydd gael babi. Nid ydynt yn credu bod lle i bobl fel fi yn y gweithle, na lle i bobl fel fi yn y Senedd hon. Maent yn dweud bod meithrinfeydd yn anniogel, y bydd lefelau cam-drin yn codi i'r entrychion. Yn hytrach nag ateb hyn drwy gryfhau'r ddarpariaeth, maent yn cwestiynu—[Torri ar draws.] Ie, ewch amdani.

A gaf i ofyn i chi ddarllen y datganiad gwreiddiol yr ydych chi'n ymateb iddo, os gwelwch yn dda? Y cynnig. Diolch.

Rwyf wedi gwneud hynny. Maent yn dweud bod meithrinfeydd yn anniogel, y bydd lefelau cam-drin yn codi i'r entrychion, ac nad cryfhau'r ddarpariaeth yw'r ateb, ond cwestiynu a ddylai mamau sy'n gweithio fod yn dibynnu arno yn y lle cyntaf. Heddiw, pan fydd costau wedi dod yn bryder mawr yn sydyn, rhaid inni ofyn beth sy'n digwydd yma mewn gwirionedd. Oherwydd rydym i gyd yn gwybod nad dyma eu ffordd o fynnu atebolrwydd. Dyma ffordd Reform o ail-fframio'r ddadl i symud y sgwrs oddi wrth yr hyn sy'n cael ei ddweud yn uchel gan eu pobl eu hunain mewn iaith blaen. Mae'r realiti'n syml. Fe wyddom beth yw eu safbwynt ar ofal plant. Fel y dywedais, rwyf newydd gael babi. Rwy'n perthyn i leiafrif yn y Siambr hon sy'n gwybod sut beth yw hyn mewn bywyd go iawn yng nghanol argyfwng costau byw. Dyma'n union pam y mae cynnig gofal plant Plaid Cymru mor bwysig.

Fe wyddom mai mamau i raddau helaeth sy'n ysgwyddo gofal plant, a heb ofal plant hygyrch, nid yw lleisiau mamau yn yr ystafell ac nid ydynt yn y gweithle. Ac mae difrifoldeb y realiti hon ar ei fwyaf amlwg yma heddiw, oherwydd—[Torri ar draws.] Na, dim un arall, mae'n ddrwg gennyf. Dylai lleisiau fel fy un i, lleisiau mamau newydd, fod ar y blaen yn y ddadl hon, ar fater sy'n effeithio'n anghymesur arnynt. Ond oherwydd materion fel gofal plant afresymol o ddrud, nid oes cynrychiolaeth ddigonol i famau newydd yn y Senedd hon, yn ein gwleidyddiaeth ac yn ein gweithleoedd.

Yng Nghaerdydd, gall gofal plant gostio tua £85 y dydd. Dyna a glywais. Gallai hynny olygu oddeutu £1,700 mewn rhai misoedd. Ni fydd unrhyw doriad treth yn datrys hynny. Ar y pris hwnnw, byddai'n gwneud mwy o synnwyr i fy mhartner roi'r gorau i weithio. Ac yn anffodus i'r wrthblaid, mae hynny'n uniongyrchol groes i'r rhethreg a glywsom gan eu hymgeiswyr eu hunain am fenywod yn magu a dynion yn ennill cyflog. Nid dadl am fforddiadwyedd yw'r hyn a glywsom heddiw mewn gwirionedd. Dadl yw hi ynglŷn ag a yw Reform yn credu y dylai gofal plant fodoli mewn ffordd sy'n caniatáu i'r ddau riant weithio. Ac ar y cwestiwn hwnnw, mae'r cyhoedd eisoes yn clywed eu hateb yn glir iawn.

Galwaf nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member (w)
Sioned Williams 16:09:41
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae gofal plant yn hollbwysig—i blant, i deuluoedd ac i Gymru. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r drafodaeth hon heddiw, achos bod teuluoedd yng Nghymru yn talu'r costau gofal plant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol. Maen nhw wedi cael eu gadael i lawr gan y Llywodraeth Lafur flaenorol, a oedd yn fodlon i'r sefyllfa honno barhau. Yn hanesyddol, dyw gofal plant ddim wedi cael y sylw na’r adnoddau sydd eu hangen, ac mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o newid hynny.

Mae'n werth nodi, o'r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma heddiw, mai dim ond Reform a ddewisodd beidio â gwneud unrhyw ymrwymiadau o gwbl ar ofal plant yn eu maniffesto, er gwaethaf y dystiolaeth glir ynglŷn â'i bwysigrwydd i blant a theuluoedd. Mae arnaf ofn ein bod wedi cael ymateb braidd yn ddryslyd oddi wrthynt heddiw i'r cwestiwn hwn. Mae'n amlwg nad ydynt wedi meddwl llawer amdano, gan nad oedd yn eu maniffesto.

Clywsom Dan Thomas yn siarad am bwysigrwydd tyfu'r economi. Bydd y mesur hwn yn helpu i dyfu'r economi. Mae astudiaethau wedi dangos y bydd yn mwy na thalu amdano'i hun pan fydd pobl yn cael ennill mwy, yn cael cynyddu eu horiau. Yn amlwg, ceir cyrhaeddiad addysgol plant hefyd, sy'n mynd i gael eu paratoi'n well i fynd i'r ysgol—sicrhau tegwch i blant mewn tlodi, drwy addysg a chymorth blynyddoedd cynnar. Byddant yn gallu ennill mwy yn y tymor hir. Rydym yn gwybod ei fod yn cyfrif o ran bylchau addysgol.

Ac yna cawsom lawer o bethau ynghylch—. Nid wyf yn gwybod a ydych chi eisiau inni gael cynllun neu ddim eisiau inni gael cynllun. Nid oedd yn ymddangos eich bod yn gallu penderfynu. Ond roeddech chi'n cadw dweud bod rhaid inni gael data, rhaid inni gael cynllun cadarn, a bod angen mecanweithiau arnom. Dyna'n union yw'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Nid ydym yn neidio oddi ar glogwyn fel y gwnaeth eich plaid chi yn ystod Brexit a dweud, 'Bydd popeth yn iawn.' Yr hyn rydym ni'n ei ddweud yw bod angen cynllun arnom. Mae gennym arbenigwyr i'n helpu i'w gyflwyno fesul cam. Ond rydym yn gwybod sut olwg sydd ar y cam cychwynnol.

Rwyf eisiau annerch yr Aelodau ar y meinciau Llafur, a ddylai feddwl yn ofalus, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Cox, a ydynt am alinio â phlaid nad oes ganddi unrhyw fwriad o gefnogi teuluoedd, ac sydd yn lle hynny'n chwarae gemau gwleidyddol. Neu a ydynt eisiau bwrw iddi'n adeiladol? Gweithiais gyda llawer ohonoch yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch yn deall gwerth cymdeithasol gofal plant. A wnewch chi weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod gofal plant yn cael ei ehangu'n gynaliadwy yn y ffordd hon? Mae ein dull o weithredu'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan arbenigwyr. Caiff ei lywio gan ein grŵp llywio arbenigol newydd, yn union fel y nodwyd gennym yn ein cynllun 100 diwrnod cyntaf.

16:10

A gaf i ofyn pam na wnewch chi gyhoeddi'r costau manwl yn y 100 diwrnod cyntaf?

Wel, am y rhesymau rwyf wedi'u nodi, yn y bôn. Beth sydd angen inni ei wneud—. Cyn hir, fe gawn—. Rwy'n cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog cyllid am ailalinio'r gyllideb yn y flwyddyn ariannol hon, i alinio â'r blaenoriaethau sydd gan bob Gweinidog, yr holl bethau y cawsom ein hethol i'w gwneud. Fel y nodir yn ein gwelliant, bydd gwybodaeth yn cael ei dwyn gerbron y Senedd ynglŷn â hynny, ynghylch yr amserlen gyflwyno a chostau cychwynnol y cam cyntaf o ehangu. Felly fe gewch chi'r wybodaeth honno.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y costau cychwynnol a chamau cyflwyno gofal plant cyffredinol, yn unol â'r ymrwymiad y byddwn yn ei wneud yn y cynllun hwnnw. Rydym yn unioni methiannau'r Llywodraeth flaenorol. Rwy'n cytuno â Jane Dodds yma. Roeddem yn siomedig iawn, onid oeddem? Roedd yn rhywbeth yr oedd gennych chi gytundeb gyda'r Blaid Lafur yn e gylch, roedd yn rhywbeth yr oedd gennym ni gytundeb gyda'r Llywodraeth Lafur flaenorol yn ei gylch drwy'r cytundeb cydweithio. Ni welsom ffocws, ni welsom gyllid, ni welsom ddigon o gynnydd, ond rydym yn mynd i unioni hynny. Oherwydd bod teuluoedd yn gorfod ymrafael â chostau cynyddol, maent yn newid patrymau gwaith, gan gynyddu'r pwysau ar eu hamser. I lawer, nid mater o gyfleustra'n unig yw mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel, ond y gwahaniaeth rhwng gallu gweithio, hyfforddi neu ddarparu sefydlogrwydd a chyfle i'w plant.

Gwella mynediad at ofal plant yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi plant yng Nghymru. Mae'n helpu rhieni i ddychwelyd i'w gwaith, mae'n rhoi'r incwm yna i deuluoedd. Mae'r dystiolaeth yn glir, gan gyrff fel Sefydliad Bevan, Quorum a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, bod buddsoddi mewn gofal plant yn cefnogi cael rhieni i waith, yn codi incwm, ac yn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.

Mae Sefydliad Bevan yn nodi bod system gofal plant sydd wedi'i chynllunio'n dda ac hefyd yn gweithio'n dda yn adnodd allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Buddsoddi mewn gofal plant a darpariaeth y blynyddoedd cynnar yw un o'r buddsoddiadau economaidd mwyaf cadarn y gall Llywodraeth ei wneud. Mae'r gwaith ymchwil yna, gan gynnwys ymchwil gan y New Economics Foundation, yn dangos bod y buddsoddi yma yn y blynyddoedd cynnar yn arwain at enillion hirdymor sylweddol—canran o 13 y cant yw'r amcangyfrif—drwy gefnogi rhieni, yn enwedig mamau, fel y clywon ni mor bwerus gan Kiera Marshall, i fynd yn ôl i'r gwaith, cynyddu gweithgarwch economaidd a chynhyrchiant.

Rŷn ni wedi clywed yn uniongyrchol gan rieni sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith ond sydd methu â dod o hyd i ddarpariaeth fforddiadwy. Rŷn ni wedi clywed gan ddarparwyr sydd ag ymrwymiad dwfn i'w cymunedau, sy'n parhau i gynnig darpariaeth o ansawdd ledled Cymru. Mae gwella mynediad, felly, yn hanfodol o safbwynt hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae tystiolaeth gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn dangos mai menywod sy'n ysgwyddo rhan fwyaf o ofal plant di-dâl—tua 45 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Felly, rydym yn glir ynglŷn â'n huchelgais, ond nid addasiad bach mohono. Mae'n cyflawni newid sylfaenol yn y ffordd y mae gofal plant yn cael ei gyrchu a'i ddarparu. Ac felly mae ein ffocws yn gadarn ar roi'r cynlluniau sydd gennym ar waith cyn gynted â phosibl. Dyna pam y sefydlais y grŵp llywio arbenigol newydd, y byddaf yn ei gadeirio'n bersonol, gan ddod â phartneriaid cyflawni allweddol ynghyd o bob rhan o'r sector gofal plant, awdurdodau lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru, cyrff cynrychioliadol fel Cwlwm, consortiwm o bum darparwr gofal plant a chwarae, ochr yn ochr ag arbenigedd academaidd gan London Economics. Bydd y grŵp yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynnig hwn felly, gan dynnu ar fewnwelediad ymarferol gan y rhai sy'n gweithio ar draws y sector. Felly, rydym yn mynd i yrru'r cynnydd hwn tuag at ehangu gofal plant. Rwy'n glir hefyd, wrth gwrs, fod yn rhaid i ofal plant cyfrwng Cymraeg ffurfio rhan o'r uchelgais hwnnw ym mhob rhan o Gymru.

Sylfaen yr ehangu yw'r gweithlu, y gweithwyr proffesiynol ymroddedig y mae eu sgiliau, eu gofal a'u hymrwymiad yn cefnogi datblygiad plant. Ac rydym yn rhoi camau ar waith i ddeall y gweithlu sydd ei angen i gyflawni'r ehangu fesul cam ac i gefnogi'r twf mewn capasiti a sgiliau ar draws y sector. Ac mae fy swyddogion yn gweithio gydag economegwyr a phartneriaid i sicrhau bod gennym y ddealltwriaeth glir yn seiliedig ar dystiolaeth o angen yn y dyfodol, a'r opsiynau i'w ddiwallu.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod y sector yn lle deniadol a chynaliadwy i weithio, gyda'r sgiliau, y gefnogaeth a'r cynnydd cywir ar waith i dyfu'r gweithlu. Dyma pam ein bod ni'n cyfuno uchelgais gyda ffocws clir ar gyflawniad. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn rheolaidd wrth inni gyflawni'r ymrwymiad hwn. Wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, dyma ddull cyfrifol a chyflawnadwy o newid system yn drawsnewidiol ar y raddfa hon. Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn uchelgeisiol, ac rydym yn cymryd y camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu ein cynnig gofal plant. Byddwn yn gweithio'n agored, yn gydweithredol, wrth i'r rhaglen hon ddatblygu, gan gadw anghenion plant a theuluoedd yn ganolog iddi.

16:15

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn nadl gyntaf y seithfed Senedd heddiw? Mae llawer ohonom yn cymryd rhan am y tro cyntaf mewn dadl, gan fy nghynnwys i.

Pan wnaethom godi'r mater hwn, y cwestiwn oedd: pam oeddem ni'n ei wneud? Mae'r cwestiwn hwnnw'n mynd yn ôl i wefan y Senedd ei hun, oherwydd, Lywydd, os gwnewch chi chwiliad Google a mynd i wefan y Senedd, fe welwch dudalen sy'n dweud amdanom ni:

'Mae craffu’n effeithiol ar waith llywodraeth wrth wraidd unrhyw broses ddemocrataidd. Ein rôl ni yw goruchwylio gwaith a gwariant Llywodraeth Cymru.'

Dyna'n syml yw'r cynnig heddiw, arsylwi a chwestiynu gwariant y Llywodraeth. Nawr, fel chi yn y Llywodraeth, fe wneuthum gymryd rhan yn yr etholiad. Cymerais ran yn y dadleuon, gwelais eich llenyddiaeth yn dod drwy fy mlwch post, ac roedd ymrwymiad clir fod gennych gynllun wedi'i gostio. Edrychodd y Prif Weinidog ei hun i mewn i'r camera teledu a dweud wrth bobl Cymru fod ganddo faniffesto wedi'i gostio. A dweud y gwir, Lywydd, fe aeth ymhellach. Dywedodd ei fod wedi'i gostio'n annibynnol. Nawr, rwyf am wybod pam y mae'r Llywodraeth yn teimlo y gall un person weld costau'r Llywodraeth, ond nad yw'r Senedd hon, Aelodau o'r Senedd hon, yn cael gweld y costau hynny. Pam nad yw pobl Cymru yn cael gweld y costau hynny? Felly, byddwch yn agored—dewch â nhw yma. Dyna'r cyfan a ofynnwn heddiw. Ac rwy'n ddryslyd braidd pam y mae'r Llywodraeth eisiau ceisio creu rhyw elyniaeth yma ynglŷn â hyn pan fo'r cais yn syml. [Torri ar draws.] Byddai eich cynnig i newid ac i ddod â pholisi Reform i mewn yn awgrymu'n wahanol, Ddirprwy Weinidog.

Ond ar y ddadl heddiw, hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am ei gyfraniad, i Lynne Neagle am ddod â'i harbenigedd fel cyn-Weinidog a Chadeirydd y pwyllgor, gan dynnu sylw at gwestiynau gwirioneddol yn ymwneud â hyn. Nawr, fe gawn ddadl am bolisi gofal plant o fewn y Senedd hon, ond i ddod ag ef yn ôl at gostau a pham ei fod mor bwysig, fel y mae rhai aelodau eraill o fy mhlaid wedi nodi heddiw, mae angen inni wneud yn siŵr nad siec wag yw'r hyn a roddwn i'r Llywodraeth. Gallai peryglu £400 miliwn o'r gyllideb beryglu'r gyllideb iechyd, addysg, seilwaith. Y cyfan a glywsom gan y Llywodraeth hyd yma yw datganiadau, dim costau o gwbl.

Nawr, rwy'n teimlo dros y Dirprwy Brif Weinidog. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi gwneud gwaith caled dros y ddau ddiwrnod diwethaf yma. Mae'n ymddangos ei fod wedi syrthio ar ei hysgwyddau hi gryn dipyn. Ond pan fyddwn yn gofyn am y ffigurau hyn, rydych chi'n dweud y byddwch chi'n dod â math penodol o gostau yma. A wnewch chi ddarparu'r hyn y dywedoch chi wrth bobl Cymru eu bod gennych, eich costau llawn y dywedodd eich maniffesto eu bod wedi'u gwneud? A yw hynny'n rhywbeth y byddwch chi'n ei ddarparu i'r Senedd hon? Neu a ydych chi'n credu nad ydym ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn deilwng i weld y costau hynny yr honnwch eu bod gennych? Mae'n gwestiwn syml.

Ac rwyf am roi chwarae teg i'r Llywodraeth. Rwy'n cydnabod rhai o'r cyfraniadau sydd wedi'u rhoi yma. Ydy, mae gofal plant yn faich gwirioneddol ar deuluoedd ledled Cymru. Mae fy mewnflwch yr un fath â'ch un chi, ac un fy nghyd-Aelodau. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd well. Nid yw hynny'n golygu bod y Llywodraeth yn cael siec wag. Nid dyna yw rôl y sefydliad hwn. Ein gwaith ni yw craffu. Pan safodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon a rhoi ei anerchiad cyntaf, dywedodd ei fod yn croesawu craffu. Roedd eisiau bod yn dryloyw—dyna oedd ei eiriau. Felly, nawr mae'n bryd i'r Llywodraeth fod yn dryloyw a darparu'r ffigurau i'r Senedd fel y gallwn wneud ein gwaith craffu. Rhaid bod hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei groesawu.

Mae rhai o'r cyfraniadau a roddwyd gan Blaid Cymru'n peri dryswch i mi, a'r syniad na ddylai aelodau eraill o'r wrthblaid bleidleisio dros y cynnig hwn. Fe wnaethoch chi orffen eich cyfraniad drwy ddweud bod angen inni weithio'n gydweithredol. Rydym ni'n gwneud hynny. Dyna rydym ni yma i'w wneud. Mae'n ymddangos eich bod chi'n dweud y gallwch chi weithio gyda'r gwrthbleidiau, ond na chânt hwy weithio gyda Reform i graffu ar y Llywodraeth hon, sy'n eithaf rhyfedd oherwydd roeddwn i'n meddwl ein bod ni'n ceisio gweithio ar y cyd mewn nifer o feysydd. Felly, mae yna newid cywair gan y Dirprwy Brif Weinidog. Felly, os ydych chi eisiau gweithio gyda ni, rydym ni'n hapus i wneud hynny wrth ddarparu—. [Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf, a oeddech chi eisiau dweud rhywbeth? Os ydych chi am roi'r ffigurau i ni, Ddirprwy Brif Weinidog, byddwn yn hapus i wrando ar y rheini. Rydym yn hapus i wrando.

Ond y broblem yw, fel y dywedodd y Gweinidog amaeth wrth y ffermwyr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud wrth rieni yng Nghymru i fod yn amyneddgar. Y broblem yw na allant fod yn amyneddgar. Mae eu biliau'n codi nawr. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw atebion go iawn a phryd y bydd hyn yn cael ei gyflwyno. Felly, yn y cynnig hwn, gofynnaf i aelodau'r meinciau cefn hefyd: cyflawnwch eich rôl fel deddfwyr. Daliwch y Llywodraeth i gyfrif. Nid ni a addawodd wariant o £400 miliwn. [Torri ar draws.] Ni wnaethom ni addo unrhyw beth. Rwy'n credu y gwelwch ein bod ni'n addo pethau, ond nid ydym yn addo pethau na ellir eu cyflawni.

Mae'r cynnig yma'n ymwneud yn syml â rhoi cyfle i'r Llywodraeth roi eu ffigurau i'r Senedd. Nid yw yma i drafod y polisi gofal plant heddiw. Rwy'n siŵr y cawn amser ar gyfer hynny. Felly, hoffwn i bob Aelod ymuno â ni i bleidleisio dros y cynnig hwn, a gofyn yn syml i chi ddarparu'r ffigurau, fel rydych chi'n dweud eich bod am ei wneud, a gallwn gael y berthynas waith honno, a gobeithio y gallwn roi sicrwydd i rieni yng Nghymru ynglŷn â sut y bydd y polisi gofal plant hwn yn cael ei gyflawni. Oherwydd nawr, mae arnaf ofn—. Fel y mae'r wasg wedi ceisio darganfod, dim ateb. Fel y mae rhieni wedi gofyn i chi o ble y daw'r arian, ni chafwyd unrhyw ateb. Fy unig ofn yw bod y Senedd hon nawr yn mynd i ofyn i chi ac na chawn ni unrhyw ateb. Diolch, Lywydd.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16:25

Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn am fy mod yn credu, yn ystod y ddadl, fod Kiera Marshall wedi disgrifio'r cynnig a gyflwynwyd mewn ffordd nad yw'n adlewyrchu'r hyn y mae'n ei ddweud mewn gwirionedd, a'i bod wedi camarwain y Senedd yn fwriadol ar yr hyn sydd wedi'i gyflwyno ger ein bron. Wrth gwrs, mae gan yr Aelodau hawl i anghytuno a gwneud pwyntiau gwleidyddol, ond a wnewch chi ddweud sut y gall Aelodau wneud yn siŵr fod y cofnod yn glir pan fo geiriad y cynnig wedi'i gamgynrychioli yn y Siambr hon?

Diolch, James, a diolch ichi am ofyn i'r cadeirydd yma i esbonio eich pwynt o drefn. Gallaf roi fy nyfarniad i chi ar yr achlysur hwn. Mae'r sylwadau a wneir gan yr Aelodau am natur y cynnig yn bwyntiau dadl yn hytrach na phwyntiau o drefn, felly mae anghytundebau o'r fath yn ystod dadleuon yn rhan arferol o drafodion seneddol. Felly, diolch i chi am godi hyn, ac mae'n enghraifft dda o sut y gellir codi pwyntiau o drefn yma yn y Senedd, a sut y mae dyfarniadau'r Llywydd yn derfynol. Diolch yn fawr iawn.

6. Dadl Llafur Cymru: Corff negodi staff cymorth ysgolion

Rydyn ni'n symud ymlaen nawr at ddadl Llafur Cymru: corff negodi staff cymorth ysgolion.

Cynnig NDM9243 Lynne Neagle

Cefnogwyd gan Paul Rock

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion deddfwriaethol o fewn blwyddyn gyntaf y Senedd hon i sefydlu corff negodi statudol ar gyfer staff cymorth ysgolion, gan roi blaenoriaeth gyntaf i sicrhau tâl drwy gydol y flwyddyn i staff cymorth ysgolion.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Lywydd, mae gan Gymru oddeutu 27,000 o staff cymorth ysgolion. Rwyf am ddechrau heddiw drwy ddiolch i bob un ohonynt. Maent yn helpu plant i ddysgu, yn eu cadw'n ddiogel, yn cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn caniatáu i athrawon addysgu. Maent yn adeiladu perthnasoedd cryf gyda phlant a phobl ifanc, sy'n hanfodol i'w llesiant, fel y gallant ddysgu a chyrraedd eu potensial. Staff cymorth ysgolion bellach yw'r mwyafrif o'r gweithlu ysgolion yng Nghymru. Ni allai ein hysgolion weithredu hebddynt. Yn syml, nhw yw'r glud sy'n dal ein hysgolion gyda'i gilydd.

Ond mae tlodi mewn gwaith bellach yn realiti i lawer o staff cymorth. Nid yw'r rhan fwyaf o staff cymorth ysgolion ond yn cael eu talu am waith yn ystod y tymor yn unig, sef naw mis o'r flwyddyn, er mai'r un patrwm gweithio tymhorol sydd gan athrawon, ond maent hwy'n cael cyflog blwyddyn lawn. Canfu arolwg Unsain o fwy na 1,400 o staff cymorth ysgolion fod cyflog isel yn endemig, gydag 8 y cant yn cael llai na £1,000 y mis o gyflog clir, 18 y cant yn cael rhwng £1,000 a £1,199 o gyflog clir, a 38 y cant yn cael rhwng £1,200 a £1,399 o gyflog clir.

Canfu'r arolwg hefyd fod mwy na'u hanner yn byw ar aelwydydd un incwm. Mae mwy na 90 y cant o staff cymorth yn fenywod, felly mae'n fater cydraddoldeb hefyd. Dyna pam, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yr ymrwymais i ddeddfu ar gyfer corff negodi staff cymorth ysgolion i Gymru i ddarparu fforwm pwrpasol i drafod tâl, amodau, cynnydd gyrfa, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu yn benodol ar gyfer staff cymorth sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru. Dyna pam ei fod yn ymrwymiad allweddol yng nghynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu addysg a gyhoeddais ym mis Mawrth eleni, a dyna pam yr ymrwymodd maniffesto Llafur Cymru i roi diwedd ar dâl tymor yn unig fel blaenoriaeth gyntaf y corff.

Rwy'n falch o'n hanes o bartneriaeth gymdeithasol fel Llywodraeth. Drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer ysgolion a gadeiriwyd gennyf i, gweithiais gyda phartneriaid yn yr undebau llafur ac awdurdodau lleol i ddod i gytundeb y byddai pob cynorthwyydd addysgu lefel 1 sydd eisiau gwneud hynny yn symud i lefel 2 o fis Medi eleni, a dyrannais £4 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol i dalu amdano. Bydd y newid hwnnw o fudd i hyd at 3,350 o gynorthwywyr addysgu lefel 1 cyfredol a fydd yn cael codiad cyflog o hyd at £1,350—cam cyntaf hanfodol tuag at y nod o amodau cyflog tecach i bob cynorthwyydd addysgu, a buddsoddiad yn ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond mae angen inni fynd ymhellach os nad ydym am weld penaethiaid fel un yn fy etholaeth i sydd wedi dechrau banc bwyd yn yr ysgol er mwyn i'w chynorthwywyr addysgu gwerthfawr allu ymdopi ar yr hyn y maent yn ei ennill, os nad ydym am weld staff cymorth yn cael eu gorfodi i dderbyn swyddi ar gyflogau gwell a llai o straen ynghlwm wrthynt mewn llefydd fel Aldi neu Lidl, ac os nad ydym am i ysgolion ac awdurdodau lleol wario miliynau o bunnoedd ar staff cyflenwi yn lle'r staff cymorth y maent wedi'u colli.

Nawr, hoffwn yn fawr iawn pe bawn i wedi gallu tywys deddfwriaeth sylfaenol drwy'r Senedd i wneud corff negodi staff cymorth ysgolion yn realiti yng Nghymru. Roeddwn yn falch o siarad yn lansiad adroddiad Unsain Cymru 'Amser i werthfawrogi Staff Cymorth Ysgolion' ym mis Rhagfyr y llynedd, i gefnogi eu galwadau am gorff negodi staff cymorth ysgolion ac i ddweud wrthynt, a rhanddeiliaid eraill, ein bod wedi rhoi rheolwr Bil ar waith i weithio ar y ddeddfwriaeth. O'r hyn a gofiaf, roedd Gweinidog newydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw. Roedd y paratoi wedi dechrau. Nawr rydym am i Lywodraeth newydd Plaid Cymru ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i greu corff negodi staff cymorth ysgolion ac i ymrwymo, fel y gwnaethom ni yn ein maniffesto, i roi diwedd ar dâl tymor yn unig ar gyfer staff cymorth ysgolion. Mae ein galwadau'n cael eu cefnogi gan fudiad undebau llafur Cymru, gan gynnwys Unsain Cymru a GMB. Ond mae dangos gwerthfawrogiad o staff cymorth ysgolion yn fwy na'r peth iawn i'w wneud i staff yn unig; dyna'r peth iawn i'w wneud i'n hysgolion, i'n cymunedau ac i bob dysgwr yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

16:30

Bydd angen imi ddatgan diddordeb yn y ddadl hon, gan fod fy mab wedi cael ei dderbyn ar gwrs hyfforddi fel cynorthwyydd addysgu o fis Medi ymlaen. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad am y pwnc hynod bwysig hwn heddiw. Mae staff cymorth ysgolion yn allweddol i'r ffordd y mae ein hysgolion yn gweithredu ac fe gânt eu hanghofio'n rhy aml, yn enwedig staff cymorth ADY, fel y soniodd yr Aelod. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwaith amhrisiadwy y mae staff cymorth ADY yn ei wneud bob dydd i helpu plant fel fy un i, ac mae'n hanfodol eu bod nhw, yn eu tro, yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Mae Plaid Cymru wedi bod ar ochr y rhai yn y sector addysg ers amser maith, gyda'r codiad cyflog diweddar ar gyfer y cynorthwywyr addysgu ar y cyflogau isaf ond yn bosibl o ganlyniad i'n cytundeb gyda Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru ar gyllideb 2026-27.

Mae cyflogau'n bwysig i gefnogi staff ac mae angen mynd i'r afael â nhw, ond mae angen inni eu gosod o fewn cyfyngiadau presennol y gyllideb. Er mwyn cyflawni ein nodau, mae'n hanfodol fod gennym Lywodraeth a fydd yn sefyll dros Gymru ac yn brwydro dros fformiwla ariannu tecach. Gydag awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu cyflogau ar gyfer staff cymorth, mae sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyllid y maent yn ei haeddu i staff cymorth. 

Fodd bynnag, nid dim ond mater o godi cyflogau yw hyn. Mae staff cymorth addysgu'n wynebu llwyth gwaith cynyddol ac yn delio ag ystod o faterion cymhleth yn ddyddiol, yn cynnwys materion diogelu, a mwy o straen o'r herwydd. Rwy'n croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i gefnogi a gweithio mewn partneriaeth â'n gweithlu addysg, gan sicrhau bod addysgu yn ei gyfanrwydd yn yrfa barchus, ddeniadol a gwerth chweil. Mae angen i'r pwnc hwn gael y sylw a'r ystyriaeth y mae'n ei haeddu, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried ystod o ffyrdd o gefnogi'r gweithlu allweddol hwn. Diolch.

Hoffwn ddatgan buddiant fel cyn-ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru. Treuliais flynyddoedd lawer gyda'r gweithwyr yr ydym yn siarad amdanynt, yn rhoi'r ymgyrch honno at ei gilydd mewn gwirionedd, a bob amser, y cwestiwn yn y pen draw oedd: a oes gennym yr arian? Fe wnaethom gyrraedd sefyllfa lle roedd yr arian yno ac roedd yna lawer o bethau y gallem fod wedi'u gwneud. Rydym mewn sefyllfa nawr lle mae gennym un corff negodi ar lefel y DU wrth gwrs. Yma yng Nghymru, mae'n amlwg ein bod ni'n mynd i gael ein gadael ar ôl os nad ydym yn ofalus. Dyna fy mhryder go iawn.

Mae popeth sydd newydd gael ei ddweud, a chyfraniadau eraill hefyd, yn gywir. Mae hyn yn ymwneud â llwythi gwaith, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud ag anghydraddoldeb cyflog, oherwydd mae naw o bob 10 o'r unigolion hyn yn fenywod. Yn union fel y gwelwn yn yr anghydfod gyda bydwragedd, ac ymwelwyr iechyd, unwaith eto menywod ydynt. Felly, pryd y gallwn gyrraedd pwynt lle rydym yn dweud ein bod ni'n mynd i ddelio â'r sefyllfa sydd o'n blaenau? Oherwydd os gallwn ddod o hyd i arian ar gyfer gofal plant, dylem allu dod o hyd i arian i'r unigolion hyn, ac ni ddylem orfod aros am y fformiwla berffaith yma, oherwydd mae'r gwaith eisoes wedi'i wneud. Bydd un corff negodi i staff nid yn unig yn mynd i'r afael â mater anghydraddoldeb cyflog, bydd ganddo'r strwythur swyddogol, lle gall pobl ddod i mewn, dod â'u gwahanol ddarnau o ymchwil ac ati.

Ond yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â bargeinio ar y cyd ar ran y gweithwyr hynny. Rydym yn siarad am gogyddion, rydym yn siarad am lanhawyr, rydym yn siarad am staff gweinyddol, rydym yn siarad am y cynorthwywyr addysgu—llawer o wahanol unigolion, sydd, fel y dywedwn, yn gofalu am ein plant, yr arwyr di-glod, yr unigolion niferus y buom yn curo dwylo iddynt yn ystod COVID ac y dywedasom y byddem yn rhoi rhywbeth gwahanol iddynt ar ôl hynny.

Felly, yn onest, fy apêl i'r Llywodraeth yr adeg hon yw: gadewch inni symud ymlaen a gadewch inni wneud hyn. Gadewch inni beidio â llusgo traed a cheisio darganfod sut beth fydd y strwythur perffaith. Mae'r undebau'n glir iawn, mae'r gwaith wedi'i wneud, fel y dywedodd Lynne, y Llywodraeth flaenorol—. Yn onest, dyma'r mater oedd yn boblogaidd ar garreg y drws. Fel roedd gofal plant yn boblogaidd ar garreg y drws, roedd y mater hwn yn boblogaidd iawn ar garreg y drws. Bydd mwy o enillwyr na chollwyr os ydym yn bwrw ymlaen i wneud i hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl.

16:35

Mae Reform yn cydnabod pwysigrwydd staff cymorth ysgolion wrth ddarparu addysg a meithrin dyfodol gwell i'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid creu cwango arall yw'r ateb. Rydym ni yn Reform eisiau gweld cwangos yn cael eu dwyn i mewn yn fewnol i arbed arian trethdalwyr a lleihau'r baich treth ar bobl Cymru. Nid ydym eisiau gweld rhai newydd yn cael eu creu. Er ein bod yn cydymdeimlo â'r cynigion ar gyfer cyflogau drwy gydol y flwyddyn i staff cymorth ysgolion, bydd goblygiadau ariannol i weithredu'r polisi hwnnw ac ni fyddem yn hoffi gweld mwy o arian yn cael ei ddargyfeirio o'n hysgolion. Diolch.

Dwi'n codi i gefnogi'r cynnig ac, wrth wneud hynny, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod o Unison Cymru a GMB, y ddau undeb llafur sy'n cynrychioli ac wedi ymgyrchu dros staff cefnogol mewn ysgolion.

Wnaf i ddim ailadrodd y dadleuon pwerus sydd wedi cael eu gwneud gan fy nghyd-Aelodau o blaid y cynnig yma, ond, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, fel llywodraethwr ysgol o hyd, ac fel rhiant, hoffwn i gydnabod a diolch i'r holl staff cefnogol o fewn ein hysgolion ni yn gweithio ledled Cymru am y gwaith hollbwysig maen nhw'n ei wneud. Dwi hefyd eisiau pwysleisio sut mae'r swyddi rŷn ni'n diffinio fel swyddi cefnogi ysgolion wedi esblygu yn y blynyddoedd diweddar.

Cadarnhaodd adroddiad diweddar gan Unsain sut y mae rôl cynorthwywyr addysgu yn arbennig wedi newid yn fawr ers COVID, gyda'r rôl yn dod yn fwy cymhleth ac yn galw am ystod newydd o sgiliau. Mae cynnydd mewn gorbryder ymhlith disgyblion wedi arwain at gynorthwywyr cymorth dysgu yn ymgymryd â gwaith pwrpasol gyda disgyblion unigol. Gyda'r galw'n cynyddu am wasanaethau ADY, mae ymchwil academaidd wedi canfod bod cynorthwywyr addysgu wedi helpu disgyblion ag anawsterau dysgu i wneud cynnydd sylweddol mewn llythrennedd. Ac mae astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod staff cymorth yn aml yn chwarae rhan ganolog ond un sy'n cael ei hanghofio yn y system ysgolion, yn ymestyn capasiti athrawon a chynnal ansawdd yr ystafell ddosbarth.

Nododd y Sefydliad Gwaddol Addysgol yr achos dros newid yn dda pan ddaethant i'r casgliad hwn:

'Gyda buddsoddiad mewn cynllunio a datblygiad proffesiynol, nododd cynorthwywyr addysgu forâl gwell, gwerthfawrogai athrawon y capasiti ychwanegol ac elwodd disgyblion o ddysgu mwy annibynnol.'

Un elfen o'r gweithlu cymorth ysgolion yw cynorthwywyr addysgu wrth gwrs. Mae gofalwyr yn elfen arall. Ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn, mae gennym adeiladau ysgol newydd sbon, a adeiladwyd yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, i ddarparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf. Ac rwy'n gwybod bod ysgolion a chynghorau eisiau i'r cyfleusterau hyn fod ar gael ac yn hygyrch i'r gymuned ehangach y tu hwnt i oriau ysgol. Ond yn rhy aml, mae cyflawni hyn yn dibynnu ar ewyllys da gofalwyr ysgolion sy'n mynd y tu hwnt i ofynion eu rolau. A gadewch inni beidio ag anghofio ein glanhawyr ysgolion, ar y rheng flaen yn cadw ein hysgolion yn hylan ac yn ddiogel yn ystod y pandemig, ond weithiau—ac yn gynyddol felly yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i gyllidebau ysgolion ddod o dan bwysau—mae ysgolion yn aml yn dewis allanoli i gwmnïau glanhau heb yr amddiffyniadau a'r diogelwch y mae contractau awdurdodau lleol yn eu cynnig.

Fel y clywsom, mae llawer o'n staff cymorth ysgolion yn profi tlodi mewn gwaith ac maent yn wynebu'r gwaethaf o'r ddau fyd, gan orfod cymryd eu gwyliau yn ystod tymhorau brig drud, ond ni chânt eu talu yn ystod yr amser y byddant ar eu gwyliau. Ac yn olaf, fel y dywedodd Shav, mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod 90.8 y cant o'r gweithlu hwn yn fenywod. Mae amodau gwaith ein staff cymorth ysgolion felly yn fater cydraddoldeb rhywiol.

Hoffwn ddweud yn glir nad sôn am sefydlu cwango rydym ni, ond corff negodi ar gyfer negodi ar y cyd. Mae'n beth hollol wahanol. Rwyf eisiau i hynny gael ei gofnodi'n glir.

Ond Ddirprwy Lywydd, mae'r cynnig hwn, sy'n adeiladu ar ymrwymiad ym maniffesto diweddar Llafur Cymru, ac ar y traddodiad o bartneriaeth gymdeithasol sydd wedi'i sefydlu gan fy mhlaid o dan ddatganoli yma yng Nghymru, yn ceisio mynd i'r afael ag annhegwch hirsefydlog. Mae'n cefnogi'r staff sydd ar y cyflogau isaf yn ein hysgolion ac mae'n ceisio sicrhau bod y rhai rydym yn ymddiried ynddynt gyda lles ein plant, i gefnogi eu dysgu yn yr ysgol, yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yn cael eu talu'n briodol am eu gwaith. Rwy'n annog y Senedd i bleidleisio drosto heddiw. Diolch yn fawr.

16:40

Rhaid i minnau hefyd ddatgan buddiant fel llywodraethwr awdurdod addysg lleol mewn ysgol yng ngogledd Cymru. Mae staff ysgolion mor bwysig i'n system addysg yma yng Nghymru. Cynorthwywyr addysgu, staff arlwyo, glanhawyr, gofalwyr a gweithwyr gweinyddol sy'n cynnal ein hysgolion bob dydd. Maent yn hanfodol i'r amgylchedd dysgu, hyd yn oed os nad yw eu cyfraniad bob amser yn weladwy yn yr un modd ag y mae addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Eto, am ormod o amser, nid yw eu cyflogau, eu hamodau a'r gydnabyddiaeth iddynt wedi adlewyrchu eu pwysigrwydd. Rydym eisoes wedi clywed, onid ydym, faint sy'n cael eu cyflogi ar gontractau tymor yn unig, sy'n golygu eu bod yn cael eu talu am tua naw mis o'r flwyddyn i bob pwrpas yn hytrach na 12, sy'n creu ansicrwydd ariannol mewn gwaith. Mae'r rhain ar y lefelau cyflog isaf bron yn y sector cyhoeddus eisoes, ac mae'n cael ei deimlo fwyaf gan y rhai sydd â'r lleiaf o hyblygrwydd i'w amsugno.

Hefyd, mae yna anghysondeb wedi'i adeiladu i mewn i'r system bresennol. Gall cyflogau ac amodau amrywio'n sylweddol o un awdurdod lleol i'r llall, hyd yn oed yn achos staff sy'n cyflawni rolau tebyg iawn. Mae hynny'n golygu bod cydnabyddiaeth a gwobr am eu gwaith yn dibynnu gormod ar ble maent yn digwydd cael eu cyflogi yn hytrach na gwerth yr hyn a wnânt.

Ond Ddirprwy Lywydd, rhaid inni fod yn onest ynglŷn â sut y gwnaethom ni gyrraedd y fan hon. Nid yw'n broblem newydd. Mae wedi datblygu dros 27 mlynedd o Lafur mewn grym yma yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan Blaid Cymru, pan ganiatawyd i'r problemau strwythurol hyn yn ein gweithlu addysg barhau. Mae staff wedi cael eu gadael mewn system sy'n dameidiog, dan bwysau ac yn fwyfwy dibynnol ar ewyllys da yn hytrach na strwythur priodol. Felly, nid yw'n gredadwy fod yr un pleidiau'n cyflwyno eu hunain fel rhai sy'n darganfod y problemau hyn am y tro cyntaf neu'n hawlio perchnogaeth ar ateb pan nad ydynt yn gyfrifol eu hunain am eu hunioni mwyach.

Rydym hefyd yn gwybod bod y system dan bwysau. Mae data'r gweithlu yn dangos bod nifer y gweithwyr cymorth dysgu wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ysgolion yn nodi straen cynyddol ar staffio a dibyniaeth gynyddol ar staff cymorth i lenwi bylchau lle mae athrawon yn absennol. Nid yw honno'n sefyllfa gynaliadwy i unrhyw system addysg. Yn y cyd-destun hwn, mae'r cynnig ar gyfer corff negodi statudol ar gyfer staff cymorth ysgolion yn dod yn bwysig. Yr egwyddor yw dod â strwythur lle bu darnio a chysondeb lle bu amrywio. Lle ceir gweithlu mor fawr a hanfodol â'r un hwn, dylai fod mecanwaith priodol ar gyfer trafod cyflogau ac amodau, yn hytrach na'i adael i drefniadau lleol anwastad.

Mae a wnelo hyn â thegwch, ond mae hefyd yn ymwneud â sefydlogrwydd. Mae ysgolion yn gweithredu orau pan fydd staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi'n briodol. Pan fydd staff cymorth yn wynebu ansicrwydd cyflog a fawr o gynnydd yn eu gyrfa, mae'n effeithio ar lefelau cadw staff, morâl ac yn y pen draw, ar ansawdd y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn cytuno y byddai corff negodi statudol yn rhoi llais ffurfiol i staff cymorth ysgolion, yn sicrhau bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn helpu i greu system fwy cydlynol ledled Cymru. Byddai hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag anghysondebau hirsefydlog sydd wedi cronni dros amser yn lle cael eu datrys yn briodol.

Felly, er bod y cynnig hwn yn cael ei gyflwyno nawr, mae'n sôn am broblemau sydd wedi bod yn bresennol ers blynyddoedd lawer. Y cwestiwn yw, a ydym yn barod i ddatrys y materion strwythurol hynny mewn ffordd ystyrlon, neu a ydym yn parhau gyda system sy'n amlwg wedi cael trafferth i sicrhau tegwch a chysondeb i'r gweithlu y mae ein hysgolion, a'n plant yn y pen draw, yn dibynnu arno. Am y rhesymau hynny, mae'r cynnig hwn yn haeddu ystyriaeth a chefnogaeth ddifrifol. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig hwn. Fe ddechreuaf drwy ddatgan buddiant. Rwy'n llywodraethwr ysgol gynradd leol yn fy etholaeth, ac mae fy ngwraig yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu. Bydd y rhan fwyaf o bobl yma naill ai'n adnabod rhywun sy'n gweithio ym maes addysg neu mae eu teulu'n elwa'n uniongyrchol o'r ymroddiad diflino y mae staff cymorth fel cynorthwywyr addysgu yn ei ddarparu. Nid oes angen imi atgoffa'r Aelodau ynghylch y gwaith pwysig y mae staff cymorth ysgolion yn ei wneud: ymyriadau un i un i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu blant sy'n syrthio ar ei hôl hi. Maent yn gweithio gyda grwpiau bach, yn cyflenwi yn lle athrawon ac yn gofalu am ddosbarthiadau cyfan ar y tro, yn rhedeg clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol, yn goruchwylio plant yn ystod amser cinio ac amser chwarae, yn gweithio goramser di-dâl yn ddyddiol, ac mae pwysau'r swydd yn golygu na allant bob amser fanteisio ar y seibiant y mae ganddynt hawl iddo.

Rhaid iddynt roi gofal personol i blant nad ydynt yn gallu mynd i'r toiled ar eu pen eu hunain. Yn aml, cânt eu cicio neu eu brathu, bydd plant yn poeri atynt ac yn ymosod arnynt yn eiriol. Ceir nifer cynyddol o blant nad ydynt yn ymdopi'n dda yn yr ysgol, gan effeithio ar eu hymddygiad ac amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Staff cymorth ysgolion sy'n ymyrryd i atal y cynnydd mewn trais neu i ddatrys sefyllfaoedd anniogel. Maent yn sicrhau diogelwch a lles pawb yn yr ystafell. Mae'r pwysau parhaus y maent yn ei ysgwyddo yn eu gwaith yn enfawr, ac maent yn cario'r straen barhaus gyda nhw adref a thrwy gydol y flwyddyn.

Mae'n fater o degwch, diogelwch a lles, ac mae'n fater cydraddoldeb. Fel y dywedodd Shav wrthym, menywod yw staff cymorth gan mwyaf—mwy na 90 y cant. Gyda chyfrifoldebau gofal a chymunedol eu hunain, maent yn unigolion sydd wedi'u gwreiddio yn y cymunedau sy'n dibynnu arnynt am y gwaith a wnânt.

Yn wahanol i staff cymorth yn yr Alban, ni chânt eu talu am wyliau'r haf—nac unrhyw wyliau ysgol mewn gwirionedd—ac wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, cânt eu gorfodi i ddod i gyfaddawd anodd ynghylch gofal plant a chyllid eu cartref, fel y clywsom. Mae diffyg cyflog drwy gydol y flwyddyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ac yn rhoi baich annheg ar y rhai y dibynnwn arnynt i sicrhau bod ein plant yn gallu dysgu'n ddiogel.

Fel y gallwch ddeall o fy nisgrifiad yn gynharach, mae'r gwaith y mae staff cymorth yn ei wneud yn wahanol i unrhyw rôl arall a wneir gan staff awdurdodau lleol. Rhaid iddynt gael eu corff negodi cyflogau eu hunain. Mae Plaid Werdd Cymru yn credu bod staff cymorth yn haeddu cael eu cynrychioli'n llawn mewn trafodaethau am eu cyflog a'u telerau cyflogaeth er mwyn iddynt gael eu trin yn deg yn y gwaith allweddol a wnânt. Nid dyma'r enghraifft gyntaf y clywsom amdani yr wythnos hon o ble mae Cymru'n syrthio ar ôl rhan arall o'r DU, ond yn ffodus, mae'n fater penodol y gall Llywodraeth newydd Cymru roi camau ar waith ar unwaith i'w ddatrys. Dyma'r peth iawn i'w wneud.

16:45

Bydd yn rhaid i fi ddatgan diddordeb fel cadeirydd llywodraethwyr a hefyd gan fod aelod agos o'r teulu yn gweithio fel staff cymorth ysgol.

Mae adroddiad Unison Cymru, 'Time to value School Support Staff', yn taflu golau ar y sefyllfa y mae staff cymorth ysgolion yn ei hwynebu ledled Cymru. O gael eu gorymestyn a’u tandalu gyda thâl tymor yn unig, i gyfleoedd hyfforddi cyfyngedig a diffyg lle i dyfu yn y rôl, mae'n amlwg bod staff cymorth yn wynebu ystod o broblemau. Gwyddom am gyflwr heriol y sector addysg yn ehangach yng Nghymru, o sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr isel i broblemau absenoldebau.

Rwy'n hyderus y gall Plaid Cymru fynd i'r afael â’r heriau hyn. Fodd bynnag, mae angen dull holistig. Ni allwn helpu staff cefnogi wrth fynd i'r afael â materion cyflog yn unig, er mor hanfodol y maen nhw. Rhaid i ni hefyd gynyddu recriwtio a chadw athrawon, ehangu prydiau ysgol am ddim i gefnogi disgyblion trwy gydol eu bywyd ysgol, a lleihau llwyth gwaith i'r holl staff addysgu. Mae'r rhain yn faterion mawr, ac mae materion mawr yn cymryd amser i'w datrys. Rhaid i'r Llywodraeth wneud yn siŵr ei bod yn cymryd y camau cywir i fynd i'r afael â’r materion sy'n wynebu ein staff cymorth. Ni fydd rhuthro i benderfyniad yn arwain at gefnogaeth ystyrlon hir dymor a fydd yn helpu gyda phroblemau bywyd go iawn staff y sector. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr hefyd i'r cyn Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg am godi'r mater yma y prynhawn yma. Fel y Gweinidog presennol dros addysg a'r Gymraeg, dwi yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r alwad hon, er yn awgrymu'n garedig y gallasai cyfleoedd blaenorol yn y 27 mlynedd cyn yr etholiad hwn wedi cael eu defnyddio at y pwrpas.

Ond byddwn i yn hoffi cychwyn gan gydnabod y cyfraniadau mae pawb wedi eu gwneud i gydnabod gwerth a chyfraniad y staff cymorth yn ein hysgolion ni. Mae cynorthwywyr addysgu, swyddogion gweinyddol, technegwyr, goruchwylwyr amser cinio, gofalwyr—rolau sydd wedi cael eu cyfeirio atyn nhw gan nifer o'r siaradwyr y prynhawn yma—yn asgwrn cefn i'n hysgolion ni trwy Gymru, a dwi'n cydnabod rôl hanfodol staff cymorth ysgolion Cymru ac yn gwerthfawrogi yn fawr eu cyfraniad at ein system addysg yn ei chyfanrwydd. Maen nhw'n gwbl allweddol a'u cyfraniad nhw yn amhrisiadwy.

Mae'r adroddiad—ac mae sawl person wedi cyfeirio at hwn hefyd—gan Unsain, 'Amser i werthfawrogi Staff Cymorth Ysgolion: Yr achos dros Gorff Negodi ar gyfer Cymru', a gyhoeddwyd llynedd—ac mae'r cyn-Weinidog yn hollol iawn, roeddwn i yn yr ystafell yn trafod ar y diwrnod hwnnw—yn gosod achos clir dros newid. Mae dwy ran o dair o'r staff cymorth yn ein hysgolion ni, bron 20,000 o'r cyfanswm o bron 30,000, yn gynorthwywyr addysgu, ac maen nhw'n darparu cymorth hanfodol i rai o'n dysgwyr mwyaf bregus ni. Ac yn aml, hefyd, nhw yw'r pwynt cyswllt cyntaf i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae tystiolaeth gan Unsain yn dangos bod gormod o'n cynorthwywyr addysgu yn cael eu talu'n annigonol ac yn gweithio'n rheolaidd uwchlaw eu graddfa cyflog nhw. Eto i gyd, maen nhw'n parhau ar gyflogau isel, yn aml ar gontractau tymor byr, tymor ysgol yn unig, fel mae sawl un wedi cyfeirio ato fe, ac maen nhw'n wynebu ansicrwydd ariannol trwy gydol y flwyddyn yn sgil hyn, ac ansicrwydd ariannol o un flwyddyn i'r llall hefyd. Ond un darn yn unig, fel mae rhai pobl wedi cyfeirio ato fe y prynhawn yma, yw cyflog yn unig.

Mae cynorthwywyr addysgu, fel y clywais yn cael ei adleisio o amgylch y Siambr y prynhawn yma, yn hanfodol i ddysgu ac felly maent yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer addysg. Mae eu rolau'n hyblyg ac yn amrywiol a gallant amrywio o redeg rhaglenni ymyrraeth, grwpiau dal i fyny, cefnogi ein strategaethau llythrennedd a rhifedd allweddol, dyletswydd seibiant, sefydlu ystafelloedd dosbarth, asesiadau disgyblion, cysylltu â rhieni, mynychu a chymryd rhan mewn hyfforddiant, i arwain ar glybiau ac ystod eang o weithgareddau allgyrsiol. Rwy'n credu y gall pawb gytuno bod honno'n rhestr go helaeth a thrawiadol.

Cynorthwywyr addysgu, hefyd, yw'r rhai y mae ysgolion yn dibynnu fwyfwy arnynt i ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion gofal iechyd sy'n aml yn gymhleth, fel y nododd Paul, rwy'n credu, yn gynharach. Ond rwy'n ymwybodol hefyd fod llawer o gynorthwywyr addysgu, ac rwyf wedi clywed hyn yn uniongyrchol hefyd, yn dweud nad ydynt yn cael fawr o gyfle os o gwbl i gamu ymlaen yn eu gyrfa er gwaethaf y disgwyliadau cynyddol a roddir arnynt a'u dyheadau gyrfaol eu hunain, ac am ormod o amser mae'r llwybrau dysgu proffesiynol a gyrfa ar gyfer cynorthwywyr addysgu wedi bod yn dameidiog ac yn anghyson. Felly, fe allaf ac fe wnaf ddweud y bydd y Llywodraeth hon yn sefyll dros gynorthwywyr addysgu. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n briodol ac yn cael eu talu'n deg am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Ac mae hynny'n golygu llwybr gyrfa teg a chlir wedi'i deilwra, ag iddo ffocws, gyda chefnogaeth arweinwyr ysgolion a chymunedau, a chyfleoedd dysgu proffesiynol ystyrlon wedi'u hategu gan safonau proffesiynol.

Ac i droi nawr at ymarferoldeb y cynnig a roddwyd gerbron, mae'n bwysig nodi er eglurder nad oes gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd y pwerau i bennu cyflog, telerau ac amodau ar gyfer staff cymorth. Mae hwn yn fater i awdurdodau lleol neu ysgolion fel y cyflogwyr yn y maes hwn. Ac yn wahanol, felly, i'n hathrawon ac arweinwyr ysgolion, mae cyflogau ac amodau cynorthwywyr addysgu a staff cymorth ehangach yn cael eu trafod ochr yn ochr â gweithlu ehangach staff awdurdodau lleol, sydd â rolau a chyfrifoldebau amrywiol hefyd. Felly, er mwyn gwneud newidiadau i'r trefniadau presennol, byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai gyflwyno cynigion deddfwriaethol yn unol â'r cynnig sydd wedi'i drafod heddiw, neu weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a'r undebau llafur addysg i gytuno ar newidiadau ar sail anstatudol. Ac rwy'n agored i ystyried pob opsiwn fel rhan o'r cam nesaf o'r gwaith pwysig yma, a byddaf i yn gwylio'r datblygiadau yn Lloegr yn y maes hwn gyda diddordeb mawr.

Gallaf weld manteision corff statudol a fyddai'n rhoi trefniadau tebyg i'r hyn sydd yn cael ei sefydlu yn Lloegr i'n staff cymorth ni, ac yn rhoi statws tebyg iddyn nhw fel athrawon, sydd eisoes yn rhan o gorff adolygu tâl annibynnol. Ond byddai hyn yn cymryd amser i'w sefydlu, ac rwy'n awyddus i archwilio beth y gallwn ni ei wneud heb ddeddfwriaeth, i wneud gwahaniaeth yn gyflymach yn y tymor byr.

Ac rwy hefyd yn ymwybodol—ac mae'n debyg bod heddiw yn enghraifft berffaith o'r trafodaethau rŷn ni wedi eu cael ynglŷn â phwysigrwydd edrych yn ofalus ar y gyllideb sydd gyda ni—ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus, mae'n rhaid inni ystyried y goblygiadau cyllidebol yn llawn. Ac felly byddai'n rhy gynnar, yn fy marn i, ar hyn o bryd, i gytuno i gyflwyno cynigion deddfwriaethol o fewn y flwyddyn nesaf, cyn i ni fel Llywodraeth gyhoeddi ein rhaglen ddeddfwriaethol a chyn inni fynd i'r afael yn llawn â'r sefyllfa gyllidebol heriol rŷn ni wedi ei hetifeddu. Felly, byddwn ni heddiw yn ymatal ar y cynnig hwn. Rŷn ni'n cefnogi'r bwriad tu ôl iddo fe, ond mae angen i ni wneud gwaith cwmpasu pellach gyda'n partneriaid cymdeithasol—ac rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed yn gynt amboutu pwysigrwydd parhau i drafod yn y modd hwnnw—i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen, yn hytrach nag ymrwymo'n rhy fuan i lwybr penodol o weithredu heb wneud y gwaith hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y Siambr hon i gefnogi a gwerthfawrogi ein staff cymorth. Mae'n amlwg bod yna gefnogaeth a dealltwriaeth o'u gwaith nhw ar draws y Siambr, ac mae hwnna'n rhywbeth gwerthfawr i adeiladu arno fe, a'u helpu nhw i roi'r profiad gorau posibl i'n dysgwyr ni, fel maen nhw eisoes yn gwneud, ond hefyd i ddarparu gyrfa atyniadol iddyn nhw fel unigolion ac fel proffesiwn hefyd. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch. Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl, os gwelwch yn dda.

Diolch. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Yn yr amser sydd gennyf ar gael, fe geisiaf ymateb i gymaint o bwyntiau ag y gallaf.

Sera, diolch am eich cyfraniad, ac rwy'n dymuno'n dda i'ch mab gyda'i rôl newydd. Rhaid imi ddweud eich bod chi'n anghywir yn y datganiad a wnaethoch am y cytundeb cyllideb. Nid aeth arian o'r cytundeb cyllideb i mewn i'r cyllid hwn ar gyfer codiad cyflog i staff cymorth. Roedd y cytundeb cyllideb yn £112 miliwn ar gyfer llywodraeth leol ac mae hwn yn arian ar wahân. Mae hwn yn arian ar wahân. [Torri ar draws.] Na, mae'n arian ar wahân. Ewch i edrych. Mae'n arian ar wahân. Aeth y £112 miliwn i'r grant cynnal ardrethi. Gweddill yr arian oedd £180 miliwn ar gyfer iechyd y cytunwyd arno'n rhan o gytundeb cyllideb Plaid Cymru. Roedd y £4 miliwn a ddarperais i awdurdodau lleol yn arian ar wahân ac mae i'w ddiogelu at y diben hwnnw.

Mae sawl Aelod, gan gynnwys y Gweinidog, wedi cyfeirio at y ffaith ei fod yn ymwneud â mwy na thâl i staff cymorth wrth gwrs, ac ni wneuthum awgrymu ei fod yn ymwneud â thâl yn unig. Mae'n ymwneud â chymhlethdod yr hyn y maent yn delio ag ef, y materion y cyfeiriodd Paul Rock atynt, ac mae mwy o waith i'w wneud i sicrhau eu bod yn gallu camu ymlaen yn briodol yn eu gyrfa. Dyna pam y gwnaethom gynnwys hynny yng nghynllun strategol y gweithlu addysg ar gyfer ysgolion: yr ymrwymiad i'r farn gyfannol ynghylch yr hyn y mae staff cymorth yn ei wneud. Ond rwy'n synhwyro awgrym, yn rhai o'r cyfraniadau—eich un chi, Weinidog, a chlywais y Prif Weinidog yn ei ddweud yn y gorffennol, a Rebeca hefyd—nad yw cyflog, rywsut, yn fater gwirioneddol bwysig. Wel, rwy'n dweud wrth bob un ohonoch, 'Ewch i ofyn i'r staff cymorth beth maent ei eisiau.' Mae staff cymorth eisiau cael eu talu'n deg am y swydd a wnânt, a dyna pam ein bod ni wedi gwneud yr alwad hon heddiw.

Diolch, Shav a Huw, am eich cefnogaeth. Shav, fe wyddoch fy mod i'n gwybod pa mor angerddol rydych chi am hawliau undebau llafur, ac rwy'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Diolch, Paul, hefyd. Fe wnaethoch chi siarad mor huawdl am yr ystod o bethau y mae staff cymorth yn eu gwneud, ac mae'n fwy pwerus yn seiliedig ar eich profiad fel llywodraethwr ysgol.

Sam, diolch am gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i gorff negodi staff cymorth ysgolion. Ni fyddwch yn disgwyl i mi gytuno â'r pwyntiau gwleidyddol a wnaethoch am 27 mlynedd. Cawsom bwniad bach gan y Gweinidog hefyd am 27 mlynedd. Gadewch i mi ddweud wrth bob un ohonoch imi gael dwy flynedd yn y swydd hon, a bydd y Gweinidog ei hun yn darganfod ei bod yn cymryd amser i newid pethau mewn addysg. Nodais yn glir iawn yn fy araith y camau a gymerais gyda'r cynllun gweithlu, gyda'r codiad cyflog ar unwaith i staff cymorth ysgolion, a'r ymrwymiad i gorff negodi staff cymorth ysgolion.

Rwy'n nodi, Weinidog, eich bod yn awyddus i edrych ar opsiynau eraill i gefnogi staff cymorth. Unwaith eto, rwy'n dweud wrthych eu bod eisiau'r holl bethau hynny, ond maent hefyd eisiau mwy o gyflog. Ac oni bai eich bod chi'n dweud wrthyf yma heddiw nad ydych chi'n mynd i fod yn cadw cynllun strategol y gweithlu addysg ar gyfer ysgolion, mae'r ymrwymiad hwnnw yno, mewn du a gwyn, i gael corff negodi staff cymorth ysgolion. Rwy'n credu bod angen i chi fod yn glir os nad ydych chi'n mynd i wneud hynny, fel ein bod ni i gyd yn gwybod hynny. Mae'r tâl tymor yn fater gwahanol, oherwydd roedd hwnnw'n rhan o'n maniffesto.

Rwyf am orffen drwy fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bob aelod o'n staff cymorth ysgolion yng Nghymru. Maent yn cyflawni ystod enfawr o dasgau. Nhw yw'r glud sy'n dal ein hysgolion gyda'i gilydd, eu perthynas â phlant, yn enwedig plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno bod angen i bawb ohonom wneud mwy i gydnabod rôl y staff cymorth hynny. Ond mae hefyd yn golygu cydnabod eu gwaith caled drwy gyflogau tecach.

Rwy'n dweud wrth Helen Jenner hefyd nad yw'n gwango arall—mae'n gorff statudol sy'n gyfrifol am negodi cyflogau. Mae angen inni gael yr amddiffyniadau hynny ar waith am y rhesymau a nodwyd gan Sam Rowlands. Mae yna amrywio ac nid yw bob amser yn hawdd cael awdurdodau lleol i gytuno ar sail gyson. Dyna pam y cymerodd gymaint o amser i gael y cytundeb ar gynorthwywyr addysgu lefel 1.

Y ffordd fwyaf diogel o ddiogelu staff cymorth ysgolion yw cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n croesawu'r ffaith nad ydych chi'n pleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n arwydd o'ch parodrwydd i weithio gyda mi ac eraill yn y Siambr hon sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwella bywydau ein staff cymorth ac felly, bywydau ein plant a'n pobl ifanc.

17:00

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Byddwn ni'n symud ymlaen nawr. Byddwn nawr yn cymryd egwyl byr cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:04.

17:10

Ailymgynullodd y Senedd am 17:13, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dan Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

O blaid 39, neb yn ymatal, yn erbyn 52. Gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 5. Dadl Reform UK - cynnig gofal plant. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 39, Yn erbyn: 52, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rydym ni'n symud nawr i'r bleidlais nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

O blaid 50, neb yn ymatal, ac yn erbyn 41. Derbyniwyd gwelliant 1.

17:15

Eitem 5. Dadl Reform UK - cynnig gofal plant. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 50, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Symudwn yn awr at welliant 2.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. 

Pleidleisiau o blaid 88, tri yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl Reform UK - cynnig gofal plant. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.: O blaid: 88, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

NDM9240 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad oedd gan Reform UK unrhyw ymrwymiadau o ran gofal plant yn ei faniffesto ar gyfer Cymru. 

2. Yn nodi ymhellach y dystiolaeth glir y byddai gwella mynediad at ofal plant yn lleihau tlodi plant yng Nghymru, ac y byddai mynediad at ofal plant a ariennir i bawb yn cefnogi rhieni i ddychwelyd i’r gwaith neu gynyddu eu horiau gwaith.  

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y costau a’r gwaith cyflwyno cychwynnol ar gyfer ehangu gofal plant i bawb cyn toriad yr haf, yn unol â’r ymrwymiadau a amlinellir yng nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf. 

4. Yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel i wella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru. 

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. 

O blaid 61, un yn ymatal, yn erbyn 29.

Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 5. Dadl Reform UK - cynnig gofal plant. Cynnig wedi’i ddiwygio. : O blaid: 61, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Nesaf, rydyn ni'n symud i bleidleisio ar y ddadl nesaf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. 

O blaid 17, 74 yn ymatal, a neb yn erbyn.

Mae'r cynnig wedi'i wrthod. Sori, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. Mae'n ddrwg gen i.

Eitem 6. Dadl Llafur Cymru - Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 17, Yn erbyn: 0, Ymatal: 74

Derbyniwyd y cynnig

17:20
8. Dadl Fer: O eglurder cyfreithiol i realiti ymarferol: Gweithredu hawliau ar sail rhyw i fenywod yng Nghymru

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Cristiana Emsley i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Os yw Aelodau'n gadael y Siambr, ewch yn dawel, os gwelwch yn dda. Cristiana Emsley.

Lywydd, diolch yn fawr am y cyfle i drafod pwnc mor hanfodol. Mi fuaswn i'n hoffi neilltuo un munud o fy amser i Natasha Asghar, Laura Anne Jones a Nigel Williams.

Mae rhai adegau mewn bywyd cyhoeddus pan fo amwysedd gwleidyddol yn dod yn anghynaliadwy. Dyma un o'r adegau hynny. Oherwydd nid ymwneud â sloganau y mae'r ddadl hon yn ei hanfod. Nid yw'n ymwneud â dicter, nid yw'n ymwneud â rhyfel diwylliant ac nid yw'n ymwneud â lleihau urddas unrhyw unigolyn. Mae a wnelo â chyfraith, mae a wnelo â llywodraethiant ac mae a wnelo â gallu menywod yng Nghymru i fod yn hyderus y bydd hawliau a ddeddfwyd gan Senedd y DU, ac a eglurwyd yn unfrydol gan y Goruchaf Lys, yn cael eu cynnal yn ffyddlon, yn deg ac yn ymarferol.

Y mis diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru o'r diwedd i helpu sefydliadau i weithredu'r gofynion cyfreithiol yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys. Mae hynny'n bwysig. Mae eglurder yn bwysig. Mae angen sicrwydd ar gyrff cyhoeddus. Mae menywod yn haeddu hyder. Ac mae darparwyr gwasanaethau'n haeddu canllawiau ymarferol ynghylch sut i weithredu'n gyfreithlon ac yn deg. Ond gadewch inni fod yr un mor glir: nid gweithredu yw canllawiau, nid cydymffurfio yw cyhoeddi ac nid yw sicrwydd ar bapur yn sicrwydd ymarferol. Oherwydd nid 'Beth y mae'r gyfraith yn ei olygu?' yw'r cwestiwn go iawn sydd ger ein bron heddiw mwyach. Atebodd y Goruchaf Lys y cwestiwn hwnnw'n unfrydol. Y cwestiwn go iawn nawr yw, 'Beth fydd Cymru'n ei wneud â'r eglurder hwnnw?' A fydd y gweithredu'n amserol? A fydd yn gyfreithlon? A fydd yn deg? Ac yn hollbwysig, a fydd yn ffyddlon i'r amddiffyniadau a ddeddfwyd gan Senedd y DU? Oherwydd gadewch inni fod yn onest, mae menywod ledled Cymru’n gofyn cwestiynau dilys—cwestiynau am wardiau ysbytai, am ystafelloedd newid, am ysgolion. Cwestiynau am lochesi. Cwestiynau am garchardai. Cwestiynau am chwaraeon, am ddiogelu, preifatrwydd ac urddas. Cwestiynau nad ydynt yn deillio o elyniaeth, ond o realiti ymarferol. Cwestiynau nad ydynt yn deillio o ragfarn, ond o ansicrwydd. Ac mae menywod yn haeddu atebion, nid mwytheiriau, nid amwysedd, nid haniaeth. Atebion.

Nawr, gadewch imi ddweud rhywbeth yn blwmp ac yn blaen, oherwydd yn rhy aml, mae dadleuon fel hyn yn cael eu dychanu cyn iddynt hyd yn oed ddechrau: nid oes a wnelo'r ddadl hon â gelyniaeth tuag at bobl draws. Mae pob unigolyn yng Nghymru yn haeddu urddas, diogelwch a thriniaeth gyfartal o dan y gyfraith—pob unigolyn. Nid oes unrhyw gymdeithas wâr yn goddef aflonyddu, gwaradwydd nac allgáu. A gadewch inni gofio rhywbeth pwysig: ni wnaeth dyfarniad y Goruchaf Lys ddileu amddiffyniadau cyfreithiol i bobl draws. Mae amddiffyniadau yn erbyn gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail ailbennu rhywedd yn dal i fod wedi'u hymgorffori yn y gyfraith.

Ond mae angen eglurder er mwyn llywodraethu'n gyfreithlon, mae hawliau'n bodoli yn y gyfraith, ac mae gan Lywodraethau rwymedigaethau i weithredu'r gyfraith yn gyson, yn deg ac yn rhagweladwy. Nid gelyniaeth yw hynny. Llywodraeth yw hynny. Ydy, mae dyfarniadau anodd yn creu emosiynau anodd. Achosodd dyfarniad y Goruchaf Lys ofid i rai pobl. Mae hynny'n bwysig. Mae tosturi'n bwysig. Mae empathi'n bwysig. Mae sicrwydd i'r cyhoedd yn bwysig. Ond mae angen cydbwysedd wrth arwain, gan fod llawer o fenywod yng Nghymru wedi sylwi ar rywbeth yn syth ar ôl y dyfarniad hefyd. Cynigiwyd sicrwydd gwleidyddol, yn ddealladwy, i'r rhai yr oedd y dyfarniad wedi peri trallod iddynt. Rwy'n deall y reddf honno. Ond gadawyd llawer o fenywod yn gofyn, 'Ble oedd y sicrwydd cyfartal i ni? Ble oedd yr eglurder ar unwaith y byddai amddiffyniadau cyfreithlon i fenywod yn seiliedig ar ryw yn parhau i fod yn ystyrlon yn ymarferol? Ble oedd y datganiad clir na fyddai diogelu, preifatrwydd ac urddas mewn mannau un rhyw yn ymddatod yn dawel mewn dryswch neu ansicrwydd?' Mae'r cwestiwn hwnnw'n haeddu ateb, nid am fod menywod yn bwysicach nag unrhyw un arall, ond am fod menywod yn bwysig hefyd ac oherwydd nad yw hawliau sy'n bodoli mewn theori'n unig yn hawliau o gwbl. Nid yw amddiffyniad sy'n diflannu pan gaiff ei herio yn amddiffyniad. Nid yw hawl nad yw dinasyddion bellach yn teimlo'n hyderus yn ei harfer yn hawl ystyrlon. A buan y bydd cyfraith y mae Llywodraethau'n ei thrin fel un ddewisol yn colli ymddiriedaeth y cyhoedd.

Nawr, bydd rhai'n dweud bod hyn yn gymhleth. Ac wrth gwrs, mae gweithredu'n gymhleth. Mae cydbwyso hawliau'n gymhleth. Mae gweinyddiaeth yn gymhleth. Ond ni all cymhlethdod ddod yn esgus dros barlys, ac ni all tosturi gymryd lle eglurder cyfreithiol. Mae'r gyfraith yn bodoli oherwydd bod yn rhaid cydbwyso hawliau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd, nid eu dileu, nid eu hanwybyddu—eu cydbwyso. Ac nid yw Llywodraethau mewn gwledydd democrataidd yn cael dewis pa ddyfarniadau llys y maent yn eu gweithredu yn ôl hwylustod gwleidyddol. Siaradodd y Goruchaf Lys yn unfrydol. Ni ddechreuodd y rhwymedigaeth gyfreithiol fis diwethaf gyda'r canllawiau, dechreuodd 14 mis yn ôl gyda dyfarniad y llys. Mae canllawiau'n helpu, ond nid yw canllawiau'n cymryd lle cyfrifoldeb cyfreithiol. Nid yw dyfarniad y Goruchaf Lys yn ddewisol, ac nid yw hawliau menywod yn agored i drafodaeth.

Felly, rwy'n gofyn rhai cwestiynau syml a rhesymol i Lywodraeth Cymru heddiw: beth yw'r amserlen weithredu ar gyfer Cymru? Sut y disgwylir i ysgolion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, carchardai, cyrff chwaraeon a gwasanaethau diogelu gydymffurfio'n gyson? Pa ganllawiau, trefniadau caffael, fframweithiau comisiynu a dogfennau polisi sy'n bodoli'n barod fydd yn cael eu hadolygu nawr? Sut y bydd cyrff cyhoeddus yn cael eu cefnogi i weithredu'r gyfraith yn gyfreithlon ac yn deg? Pa fecanweithiau goruchwylio fydd yn bodoli i sicrhau cysondeb ledled Cymru? Ac a all y Llywodraeth roi sicrwydd clir na fydd, drwy bolisi, caffael, canllawiau, arferion gweinyddol neu ailddehongli deddfwriaethol, yn ceisio gwanhau, glastwreiddio nac ailddiffinio'r amddiffyniadau sy'n seiliedig ar ryw a roddir i fenywod a merched yn y gyfraith? Oherwydd mae llawer o fenywod yn parhau i bryderu ei bod yn anodd cysoni ymrwymiadau maniffesto a safbwyntiau gwleidyddol blaenorol â goblygiadau ymarferol dyfarniad y llys.

Nid gelyniaeth yw craffu. Nid rhagfarn yw cwestiynau. Ac nid anoddefgarwch yw atebolrwydd democrataidd. Yn wir, craffu yw ein gwaith ni. Pan fydd y gyfraith yn newid, neu pan fo'r gyfraith yn cael ei hegluro, mae hyder y cyhoedd yn dibynnu ar i ba raddau y mae sefydliadau'n cydymffurfio. A dylai'r Siambr hon wrthod dewis ffug—dewis ffug rhwng hawliau menywod ac urddas ddynol, dewis ffug rhwng tosturi ac eglurder. Gall Cymru fod yn deg, gall Cymru fod yn dosturiol, ond mae tosturi heb eglurder yn creu dryswch, ac nid yw dryswch o ran diogelu, preifatrwydd a hawliau yn gwasanaethu unrhyw un, yn enwedig y rheini sy’n dibynnu ar sefydliadau i ymddwyn yn gyson, yn rhagweladwy ac yn gyfreithlon.

Felly heddiw, nid gofyn am sloganau, am sicrwydd ideolegol, am safbwyntiau rhethregol wyf i, ond am weithredu—amserlen, ymrwymiad, sicrwydd i fenywod yng Nghymru y bydd yr amddiffyniadau a roddir iddynt yn y gyfraith yn parhau i fod yn amddiffyniadau yn ymarferol, am fod llywodraethu cyfreithlon yn bwysig, am fod hyder y cyhoedd yn bwysig, am fod menywod yn bwysig, ac am fod rheolaeth y gyfraith yn bwysig. Diolch yn fawr.

17:30

A gaf i gymryd eiliad i ddiolch i Cristiana Emsley am ddefnyddio ei dadl fer i godi'r mater pwysig hwn ac am ganiatáu imi gyfrannu? Rwyf wedi gweld adroddiad sydd ar y ffordd gan Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru, sydd wedi cynnal ymarfer rhyddid gwybodaeth ar draws ysgolion uwchradd yng Nghymru. Yn syfrdanol, mae'n dangos bod tua 8 y cant o'r 185 o ysgolion a ymatebodd yn darparu—a gadewch imi bwysleisio'r gair hwn—cyfleusterau toiled rhyw cymysg yn unig. Nid yn unig hynny, mae mwy na hanner yr holl ymatebion yn cadarnhau nad oedd gan yr ysgol unrhyw bolisi ar waith sy'n llywodraethu'r defnydd o gyfleusterau toiled. Cadarnhaodd rhai o'r ysgolion hynny hefyd eu bod yn gweithredu system sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio blociau toiledau'r rhyw arall.

Nawr, rydym i gyd yn gwybod bod yr arfer cynyddol o ddarparu toiledau rhyw cymysg mewn ysgolion yn achosi i rai merched hepgor eu defnyddio'n llwyr oherwydd ofn cywilydd ar y gorau ac ofn ymosodiad ar y gwaethaf. Mae rhai merched yn osgoi yfed diod yn ystod y dydd ac yn datblygu heintiau'r llwybr wrinol o ganlyniad, ac rwyf wedi cyfarfod â llawer o ferched sy'n mynd drwy hyn.

Felly, hoffwn wybod heddiw, Weinidog y Cabinet: a wnewch chi roi syniad pryd y gall merched yn ysgolion uwchradd Cymru ddisgwyl cael eu hawl gyfreithiol i breifatrwydd, urddas a diogelwch sylfaenol mewn toiledau ysgolion un rhyw? Diolch.

A gaf i ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-Aelod Cristiana Emsley am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Roedd yn feddylgar iawn, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi a'r hyn a ddywedodd Natasha Asghar. Dadl fer gyntaf y seithfed Senedd, ac am un bwysig a pherthnasol yw hi. Mae'n syml. Yn Reform, rydym yn cefnogi'r hyn sy'n hawliau sylfaenol i fenywod a merched yng Nghymru. Rydym yn cefnogi dyfarniad y Goruchaf Lys fod rhyw'n golygu rhyw biolegol mewn cyfraith gydraddoldeb, oherwydd mae'n bwysig ar gyfer diogelwch, urddas ac a thegwch. Dyma'r gyfraith, fel y dywed Cristiana yn iawn. Mae'n gwbl glir. Pam y dylai menywod a merched orfod parhau i ymladd dros hawliau sydd eisoes wedi'u hymgorffori yn y gyfraith?

Fel cyn-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn y Senedd ddiwethaf, rwyf am wybod gan y Gweinidog pryd fyddwch chi'n ei gwneud hi'n glir i gyrff chwaraeon yng Nghymru fod tegwch a diogelwch mewn chwaraeon yn bwysig. Mae'r gyfraith yn mynnu cydymffurfiaeth, a dylai menywod a merched yng Nghymru gael yr hawl i chwaraeon un rhyw, diogel a theg. Nid yw menywod a merched yn haeddu rhagor o oedi.

Ac rwyf am ddiolch, unwaith eto, i Cristiana, am gyflwyno'r ddadl heddiw. Do, rydym wedi gofyn llawer o gwestiynau i chi ar hyn dros yr wythnos ddiwethaf, Weinidog, ond Lywydd, y rheswm am hynny yw bod Reform o'r farn ei fod yn bwysig, ac rydym yn credu bod menywod a merched yng Nghymru yn bwysig. Diolch.

Diolch i ti, Cristiana, am nodi'r achos mor glir. Ond wrth wrando ar y ddadl hon, caf fy nharo gan ba mor anodd y mae rhai yn y Siambr hon yn dal i ystyried cwestiwn syml iawn i'w ateb: beth yw menyw? Ac mae'n eithaf trist gweld, mewn gwirionedd, fod llawer wedi mynd o'r ochr hon hefyd. Nid cwestiwn i'ch rhwydo mohono. Nid oes angen tasglu. Nid oes angen ymgynghoriad na datganiad i'r wasg wedi'i eirio'n ofalus. Ac eto dyma ni heddiw.

Mae hyn yn bwysig am fod hawliau ac amddiffyniadau menywod wedi'u seilio ar ryw biolegol. Nid haniaeth yw hynny; mae'n ymwneud â diogelwch, preifatrwydd a thegwch yn y byd go iawn. Menywod yw hanner poblogaeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys fy merched i. Maent yn haeddu eglurder, gonestrwydd a gwleidyddion sy'n barod i siarad yn blaen. Gallwn drin pawb gydag urddas a pharch gan gydnabod realiti biolegol a diogelu mannau un rhyw. Ni ddylai hynny fod yn ddadleuol, ond mae'n ddadleuol i rai. Mae'r cyhoedd yn disgwyl atebion ar eu pen, nid osgoi gofalus, ac mae menywod yng Nghymru yn haeddu gwell. Diolch.

17:35

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i ymateb i'r ddadl. Weinidog.

Member (w)
Sioned Williams 17:35:45
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r cynnig hwn, i'r ddadl fer hon. Mae hwn yn fater pwysig a sensitif. Mae'n ymwneud â hawliau menywod, ac mae hefyd yn ymwneud â hawliau pobl draws, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i gymhwyso'r gyfraith yn deg, yn ofalus ac mewn ffordd garedig.

Gadewch i mi fod yn glir o'r dechrau: mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl gadarn yn ein hymrwymiad i fod yn gynhwysol. Dydy geiriad a dehongliad Deddf Cydraddoldeb 2010 ddim yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond bydd canlyniadau'r dyfarniad hwn yn effeithio ar wasanaethau datganoledig yma yng Nghymru. Er mwyn gweithredu'r dyfarniad a'r cod ymarfer yn ymarferol, bydd angen arweinyddiaeth gan wasanaethau cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gyfraith yn cael ei chymhwyso'n gyson ac mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein dyletswyddau cyfreithiol a'n gwerthoedd ni yma yng Nghymru. Rydyn ni'n parchu dyfarniad y Goruchaf Lys, ond dyw eglurder cyfreithiol ar bapur ddim yn ddigon ar ei ben ei hunan i roi eglurder yn ymarferol. Mae angen crebwyll, mae angen tystiolaeth ac mae angen gofal. Mae angen i bob corff a darparwr gwasanaeth ledled Cymru sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith, ac rŷn ni wrthi yn adolygu'r polisïau, y canllawiau a'r trefniadau gweithredu a allai gael eu heffeithio ac yn ceisio sicrhau bod penderfyniadau'n gyfreithlon.

Rwyf hefyd eisiau bod yn hollol glir am yr hyn nad yw dyfarniad y Goruchaf Lys fis Ebrill diwethaf yn ei wneud. Dyw e ddim yn lleihau'r amddiffyniad presennol i bobl draws sydd â nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae pobl draws yn rhan werthfawr o'n cymunedau ni yng Nghymru ac yn parhau, felly, i gael eu hamddiffyn yn y gyfraith rhag dioddef gwahaniaethu ac aflonyddu. Mae hynny'n golygu bod gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth oherwydd bod gan berson y nodwedd warchodedig honno yn anghyfreithlon oni bai fod eithriad penodol yn berthnasol, ac mae'r cod drafft yn dweud y dylid dehongli'r eithriadau mewn ffordd gyfyngedig.

Dyna pam mae'r ffordd y caiff hyn ei weithredu mor bwysig. Mae gan fenywod hawl i ddisgwyl y bydd eu hawliau ar sail rhyw yn cael eu cynnal lle mae'r gyfraith yn darparu ar eu cyfer, gan gynnwys mewn perthynas ag urddas, preifatrwydd a diogelwch. Mae gan bobl draws hawl i ddisgwyl eu bod nhw'n parhau i gael eu hamddiffyn rhag dioddef gwahaniaethu ac aflonyddu, ac i wybod na fydd gweithredu'r dyfarniad yn dod yn esgus ar gyfer gwahardd, diffyg parch neu driniaeth annheg.

Fel y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, rwyf felly am roi neges glir ein bod ni fel Llywodraeth yn rhannu pryderon y ddau grŵp yma ac eisiau gweithio gyda'r ddau er mwyn ffeindio'n ffordd ni drwy oblygiadau ymarferol dyfarniad y Goruchaf Lys. Mae'r cydbwysedd hwnnw yn bwysig, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i ymdrin â hyn o ddifri, yn gyfreithlon ac yn ofalus.

Bydd cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i sefydlu, dehongli a chymhwyso'r gyfraith. Mae angen eglurder ar gyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau ac maen nhw angen sylfaen gadarn i wneud penderfyniadau a fydd yn gallu cael eu gweithredu yn ymarferol. Mae asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dangos yn glir bod y dyfarniad o bosib yn mynd i gael effaith negyddol ar bobl sy'n cael eu diogelu ar sail ailbennu rhywedd. Mae hefyd yn rhybuddio y gallai newidiadau i'r cod yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys gael effeithiau ehangach, gan gynnwys effeithio ar bobl anabl ac ar fenywod, ac mae asesiad effaith cam terfynol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud pwynt pwysig arall: bydd cost ariannol i'r gweithredu. Mae'n nodi costau sylweddol ledled y Deyrnas Gyfunol a Gogledd Iwerddon, wedi eu gyrru'n bennaf gan newidiadau i gyfleusterau. Ac o ran Cymru, does dim amcangyfrif ariannol o'r goblygiadau i wasanaethau cyhoeddus Cymru nac i Lywodraeth Cymru ei hun, ac nid peth bach yw hynny. Rhaid i Gymru gydymffurfio â'r dyfarniad, sydd â goblygiadau gweithredol ac ariannol sylweddol i wasanaethau ac i fusnesau yng Nghymru, heb ddarlun clir o'r costau o wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i ni symud ymlaen yn ofalus, mae'n rhaid i ni symud ymlaen mewn ffordd gyfreithlon, ac mae'n rhaid i ni symud ymlaen mewn ffordd sy'n ymarferol i'r gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. 

Er bod cydymffurfiaeth gyfreithiol yn hanfodol, rhaid i'n hymateb hefyd ystyried ein dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, ein hymrwymiad i urddas, a'n cyfrifoldeb i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei benderfynu mewn egwyddor yn gallu gweithio yn ymarferol mewn ysgolion, mewn ysbytai, mewn cyfleusterau hamdden, ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Felly, ydy, mae'r Goruchaf Lys wedi egluro'r sefyllfa gyfreithiol, ond dwi'n meddwl bod y prawf go iawn i ddod nawr. Y prawf go iawn bydd gweithredu'r gyfraith gyda sensitifrwydd, urddas a pharch i bawb, gan adlewyrchu ein gwerthoedd. A dyna'r safon y mae'n rhaid i ni ei chyrraedd, dyna'r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar draws y Siambr hon mai dyma'r ffordd i droi dyfarniad cyfreithiol yn realiti ymarferol i bawb.

17:40

Diolch i'r Gweinidog Cabinet. Diolch, Aelodau, hefyd. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.