Y Cyfarfod Llawn
Plenary
12/05/2026Cynnwys
Contents
| 1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6 |
| 2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6 |
| 3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 |
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 14:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Hwn yw'r cyfarfod cyntaf o seithfed Senedd Cymru. Gaf i gychwyn drwy ddweud pa mor hyfryd yw hi i weld y Siambr yma yn llawn? Gaf i estyn llongyfarchiadau i'r 95 ohonoch ar gael eich ethol i wasanaethu pobl Cymru yn ein Senedd genedlaethol? Bydd disgwyliadau'r etholwyr yn uchel o bob un ohonom, a'r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau i wireddu'r disgwyliadau hynny, a gwneud hynny gydag urddas, parch a twtsh bach o hwyl hefyd.
Wrth i fi baratoi i adael y swydd yma, gaf i ddymuno pob llwyddiant i chi i gyd yn eich gwaith pwysig dros y pedair blynedd nesaf? Felly, fel Llywydd, fy nyletswydd i o dan Reol Sefydlog 6.4 yw cadeirio'r trafodion ar gyfer ethol Llywydd newydd. Rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes yna Aelod yn cael ei enwebu?
Diolch. Mae Huw Irranca-Davies wedi'i enwebu. A oes gennym ni Aelod nad yw o'r un grŵp gwleidyddol i eilio'r enwebiad?
Diolch. Mae'r enwebiad, felly, wedi'i eilio yn ffurfiol. A oes yna unrhyw enwebiadau eraill?
Diolch. Mae Paul Davies wedi cael ei enwebu. A oes yna eilydd o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad hynny?
Na. Gan nad oes yna eilydd i'r enwebiad hynny, dim ond un enwebiad, felly, sydd wedi'i gynnig yn ffurfiol ac yn llawn, a chynigiaf felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, fod Huw Irranca-Davies yn cael ei ethol yn Llywydd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, gan fod yna wrthwynebiad, dwi nawr yn gofyn i'r ymgeisydd wneud cyfraniad byr i'r Siambr—Huw Irranca Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch holl Aelodau'r Senedd, newydd a hen, ar eu hetholiad? Ymhellach, rwy'n ymestyn fy niolch i'r ymgeiswyr hynny a fu'n aflwyddiannus. Mae'n gofyn am wydnwch, dewrder a dyfalbarhad i roi eich enw ymlaen ar gyfer unrhyw etholiad, a heb y bobl hynny sy'n barod i wneud hynny, ni allai ein democratiaeth weithio.
Os caiff y cyfrifoldeb o fod yn Llywydd ei roi i mi gan Aelodau'r Senedd, rwy'n addo gweithio gyda'r holl Aelodau i sicrhau bod ein Senedd yn cwrdd â disgwyliadau uchel y sefydliad hwn ac, wrth inni fynd i seithfed tymor y Senedd, fod y Senedd yn berthnasol i bob rhan o Gymru ac yn ymgysylltu â nhw, a bod ein democratiaeth yn cael ei chryfhau trwy ein hymdrech gyffredin fel seneddwyr.
Felly, diolch.
Diolch i chi i gyd.
Byddwn ni nawr yn symud at y bleidlais gyfrinachol, a byddaf i'n atal y cyfarfod, er mwyn hwyluso hynny, dros dro. Bydd y pleidleisio yn digwydd yn ystafell friffio 13, sydd jest y tu allan i'r Siambr yma. Ni fydd y balot yn cau tan fod pob Aelod sy'n bwriadu pleidleisio wedi gwneud hynny.
Rwyf i wedi cytuno y caiff Sarah Murphy bleidleisio drwy ddirprwy am ei bod hi ar absenoldeb rhiant, a bydd Vikki Howells yn bwrw'r bleidlais honno ar ei rhan hi fel dirprwy.
Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a'r cyfrif, ac ar ôl cyfri'r pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y bleidlais gyfrinachol, bydd y gloch yn cael ei chanu fel y gallwn ailymgynnull ar gyfer cyhoeddi'r canlyniad. Felly, dwi'n atal y cyfarfod dros dro am nawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:07.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:44, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Rydyn ni'n ailgydio yn y cyfarfod. Mae gyda fi ganlyniad ichi yn dilyn y bleidlais gyfrinachol. Mae 95 o bleidleisiau wedi eu bwrw ar gyfer Huw Irranca-Davies. O blaid Huw Irranca-Davies 85 o bleidleisiau, yn erbyn naw, yn ymatal un. Difethwyd ddim un pleidlais. Felly, dwi'n gallu datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Huw Irranca-Davies wedi cael ei ethol yn Llywydd y Senedd. Llongyfarchiadau mawr. [Cymeradwyaeth.] Fe fyddwn ni nawr yn atal y cyfarfod dros dro am eiliad neu ddwy, tra bod y Llywydd newydd yn dod i'r Gadair.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:45.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:46, gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Hefyd, diolch yn fawr iawn, Elin. [Cymeradwyaeth.] Diolch i chi am eich stiwardiaeth ofalus ac arbenigol o'r Senedd hon. Mae'n lle sydd wedi newid yn fawr, ac mae'n well fyth o'ch cyfnod chi fel Llywydd. Diolch yn fawr iawn.
Nawr te, i'r busnes nesaf. Rydyn ni'n symud ymlaen nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, mai dim ond os yw'r enwebiadau o grŵp gwleidyddol gwahanol i mi y bydd enwebiadau yn ddilys ar gyfer Dirprwy Lywydd. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6.
Hoffwn gynnig enw Kerry Ferguson.
Diolch yn fawr iawn. A oes gennym Aelod nad yw o'r un grŵp gwleidyddol i eilio'r enwebiad?
Diolch. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Na—
Gwelaf nad oes enwebiadau eraill. Cynigiaf, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, bod—. Mae'n ddrwg gen i. Gan nad oes gwrthwynebiad—[Torri ar draws.] Na. Mae'n ddrwg gen i. Gan nad oes enwebiadau eraill, cynigiaf, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, fod Kerry Ferguson wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan nad oes gwrthwynebiad, rwyf yn datgan felly bod Kerry Ferguson wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd Senedd Cymru. [Cymeradwyaeth.]
Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y cynnig yw gwahodd enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes gwrthwynebiad, byddwn yn bwrw ymlaen â'r enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Felly, a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog?
A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Gan fod tri enwebiad, byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r gofrestr ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy'n bresennol yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd rydych yn ei gefnogi yn glir pan gewch eich galw, neu ddywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio. Byddwn wedyn yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais. Yn gyntaf, Lyn Ackerman.
Rhun ap Iorwerth.
Zaynub Akbar.
Rhun ap Iorwerth.
Mabon ap Gwynfor.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Claire Archibald.
Dan Thomas.
Natasha Asghar.
Darren Millar.
Steve Bayliss.
Dan Thomas.
Gareth Beer.
Dan Thomas.
Beca Brown.
Rhun ap Iorwerth.
Jayne Bryant.
Anna Brychan.
Rhun ap Iorwerth.
Cefin Campbell.
Rhun ap Iorwerth.
Nick Carter.
Rhun ap Iorwerth.
John Clark.
Dan Thomas.
Carmelo Colasanto.
Dan Thomas.
Sarah Cooper-Lesadd.
Dan Thomas.
Alun Cox.
Rhun ap Iorwerth.
Sara Crowley.
Rhun ap Iorwerth.
Catherine Cullen.
Dan Thomas.
Donna Cushing.
Rhun ap Iorwerth.
Andrew R.T. Davies.
Darren Millar.
John Davies.
Rhun ap Iorwerth.
Paul Davies.
Darren Millar.
Jane Dodds.
Ymatal.
Sarah Edwards.
Dan Thomas.
Safa Elhassan.
Rhun ap Iorwerth.
Louise Emery.
Dan Thomas.
Cristiana Emsley.
Dan Thomas.
James Evans.
Dan Thomas.
Nerys Evans.
Rhun ap Iorwerth.
Sera Evans.
Rhun ap Iorwerth.
Janet Finch-Saunders.
Darren Millar.
Peter Fox.
Darren Millar.
Heledd Fychan.
Rhun ap Iorwerth.
Leticia Gonzalez.
Rhun ap Iorwerth.
Andrew Griffin.
Dan Thomas.
Llyr Gruffydd.
Rhun ap Iorwerth.
Siân Gwenllian.
Rhun ap Iorwerth.
Carrie Harper.
Rhun ap Iorwerth.
Mike Hedges.
Mark Hooper.
Rhun ap Iorwerth.
Vikki Howells.
David Hughes.
Dan Thomas.
Helen Jenner.
Dan Thomas.
Delyth Jewell.
Rhun ap Iorwerth.
Claire Johnson-Wood.
Dan Thomas.
Elin Jones.
Rhun ap Iorwerth.
Laura Anne Jones.
Dan Thomas.
Marc Jones.
Rhun ap Iorwerth.
Matthew Jones.
Rhun ap Iorwerth.
Joshua Kim.
Dan Thomas.
Paul Marr.
Dan Thomas.
Kiera Marshall.
Rhun ap Iorwerth.
Becca Martin.
Rhun ap Iorwerth.
Joseph Martin.
Dan Thomas.
Adrian Mason.
Dan Thomas.
Iain McIntosh.
Dan Thomas.
Benjamin McKenna.
Dan Thomas.
Lis McLean.
Rhun ap Iorwerth.
Darren Millar.
Darren Millar.
David Mills.
Dan Thomas.
Tom Montgomery.
Dan Thomas.
Sarah Murphy, pleidlais drwy ddirprwy—Vikki Howells.
Ymatal.
Lynne Neagle.
Ymatal.
Anna Nicholl.
Rhun ap Iorwerth.
Francesca O'Brien.
Dan Thomas.
Jason O'Connell.
Dan Thomas.
Peredur Owen Griffiths.
Rhun ap Iorwerth.
Cai Parry-Jones.
Dan Thomas.
Rebeca Phillips.
Rhun ap Iorwerth.
Llŷr Powell.
Dan Thomas.
Adam Price.
Rhun ap Iorwerth.
Sarah Rees.
Rhun ap Iorwerth.
Paul Rock.
Rhun ap Iorwerth.
Steven Rodaway.
Dan Thomas.
Mair Rowlands.
Rhun ap Iorwerth.
Sam Rowlands.
Darren Millar.
Niamh Salkeld.
Rhun ap Iorwerth.
Stephen Senior.
Dan Thomas.
Ken Skates.
Ymatal.
Anthony Slaughter.
Rhun ap Iorwerth.
Elyn Stephens.
Rhun ap Iorwerth.
Shavanah Taj.
Ymatal.
Dan Thomas.
Dan Thomas.
Gareth Thomas.
Dan Thomas.
Huw Thomas.
Ymatal.
Dafydd Trystan Davies.
Rhun ap Iorwerth.
Elwyn Vaughan.
Rhun ap Iorwerth.
Lindsay Whittle.
Rhun ap Iorwerth.
Elfed Williams.
Rhun ap Iorwerth.
Gwyn Williams.
Rhun ap Iorwerth.
Nigel Williams.
Dan Thomas.
Sioned Williams.
Rhun ap Iorwerth.
Art Wright.
Dan Thomas.
Byddwn nawr yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:02.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:09, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd drwy alw'r gofrestr: Rhun ap Iorwerth, 44; Dan Thomas, 34; Darren Millar, saith; yn ymatal, naw, Y cyfanswm yw 94. Rwyf felly yn datgan bod Rhun ap Iorwerth wedi cael ei enwebu i'w benodi yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Fawrhydi y dylid penodi Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Rhun ap Iorwerth i annerch y Senedd. [Cymeradwyaeth.]
Diolch i chi i gyd. Diolch yn fawr, Lywydd, yn gyntaf, a llongyfarchiadau gwresog i chi ar gael eich ethol i'r rôl, ac i'r Dirprwy Lywydd hefyd. Dwi'n gwybod bod lles ac enw da ein Senedd ni yn bethau sydd yn agos iawn at eich calon chi ac y byddwch chi yn geidwad a chennad teilwng i gartref ein democratiaeth. Diolch i chi.
Braint fy mywyd i ydy cael fy ethol yn Brif Weinidog ar y genedl sy'n golygu cymaint i mi. Dwi'n dechrau ar y daith yn wylaidd, yn ddyledus i gefnogaeth a chariad fy nheulu, sydd yma heddiw, i fy mam, sydd a'i dylanwad arnaf i gymaint ag erioed, ac i ffrindiau a chydweithwyr. Dwi yn ysu i ad-dalu yr ymddiriedaeth mae pobl Cymru wedi'i rhoi ynddon ni, ac i wireddu y newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld.
Ond yn gyntaf, dwi am dalu teyrnged i fy rhagflaenydd yn y rôl hon. Efo gwytnwch a phenderfynoldeb, mi lywiodd Eluned ei Llywodraeth a'i chenedl yn frwdfrydig ac yn falch bob amser. Fel tad i ddwy ferch, dwi'n diolch iddi hi am chwalu y nenfwd gwydr, a thrwy hynny ysbrydoli merched ifainc yng Nghymru a thu hwnt. Diolch i ti, Eluned. [Cymeradwyaeth.]
Mi fydd Llywodraeth Plaid Cymru yma i wasanaethu pawb ym mhob cymuned, yn drefol a gwledig, yn hen ac ifanc, pa un ai'n siarad Cymraeg ai peidio, yma erioed neu'n newydd i'n plith, de, dwyrain, gorllewin, gogledd. Lle mae yna dir cyffredin, mi wnawn ni bob ymdrech i'w ganfod o. A lle mae annhegwch ac anghyfiawnder yn bygwth gwead ein gwlad, mi drown ni'r genhadaeth o garedigrwydd a goddefgarwch yn gynhaliaeth i'r rhai sydd fwyaf ei angen o. Gwinllan a roddwyd i'n gofal, ac mi ofalwn amdani yn enw pawb sydd wedi mynd o'n blaenau ac er mwyn pawb ddaw ar ein hôl.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr iawn, Rhun. Mae cyfle nawr i alw ar yr arweinwyr eraill i ddweud rhywbeth. Felly, yn gyntaf, Dan Thomas.
Diolch. Ac yn nesaf, rydyn ni'n galw ar Ken Skates.
Diolch, Ken. Ac yn olaf, rydyn ni'n galw ar Darren Millar.
Wel, diolch yn fawr i chi i gyd. Yn wir, Dafydd.
A gaf i ddweud diolch unwaith eto i'r Prif Weinidog, Rhun? Mae llawer o waith i bawb ohonom ni ei wneud. Ond nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael gwybod am ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Daeth y cyfarfod i ben am 15:33.