Y Cyfarfod Llawn
Plenary
24/03/2026Cynnwys
Contents
| 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog |
| 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
| 3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Bellach ac Uwch |
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vaughan Gething.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y bydd argymhellion adolygiad Fingleton o reoleiddio datblygu niwclear yn cael eu hystyried a'u bwrw ymlaen yng Nghymru? OQ64036
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl addysg uwch wrth dyfu economi Cymru? OQ64025
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno bod y clip gan Nigel Farage yr wythnos diwethaf a ddisgrifiodd yr iaith Gymraeg fel 'iaith dramor' yn sarhad ar bobl Cymru—ac mae'n glir dydy Nigel Farage ddim yn poeni am Gymru o gwbl—a bod y clip hwn yn dangos bod Nigel Farage yn barod i ddweud unrhyw beth am arian?
Jiw, jiw, Darren, rwyt ti wedi bod yn cuddio dy Gymraeg di yma ers pum mlynedd. [Chwerthin.] Mae'n hen bryd i ti ei defnyddio hi, a chwarae teg i ti am wneud hynny. Ond bydd yna bwysau arnat ti i wneud mwy o hynny yn y dyfodol, nawr ein bod ni i gyd yn gwybod dy fod ti'n medru'r Gymraeg. Ond dwi yn cytuno gyda ti. Dwi'n meddwl ei bod hi wedi bod yn sarhad ar yr iaith a hefyd ar ein gwlad o ran y ffordd roedd Nigel Farage yn siarad am ein hiaith ni. Y ffaith yw gwnaiff e unrhyw beth am arian—unrhyw beth am arian—ac mae hwn yn rhywbeth sydd gyda fe yn gyffredin â'i ffrind annwyl Trump.
Mae'n rhaid inni hefyd gofio does ganddo ddim dealltwriaeth o gwbl o'r byd a sut rydym ni'n byw yma yng Nghymru. Mae e eisiau ailagor y pits. Dyna beth mae e'n sôn amdano. Mae e eisiau ailagor dur a'r forge o ran beth sy'n digwydd yn Mhort Talbot. Mae hwnna'n dangos y ffaith does dim dealltwriaeth gyda fe o gwbl o ran sut rydyn ni'n byw ein bywydau ni yma yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, ar ddiwedd tymor seneddol arall, ac efo chithau'n eistedd yn y Gadair am un o'r troeon olaf, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am lywyddu mor gadarn ac am eich ymroddiad i'r Senedd a'i gwaith dros Gymru?
Yn ogystal â diolch i'r Llywydd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd hefyd am ddiolch i'n staff cymorth ni i gyd ac i staff y Comisiwn am fod mor barod i fynd y filltir ychwanegol bob amser i'n cefnogi ni yn ein gwaith bob dydd. Ac wrth i eraill eistedd yn y Siambr yma ar eu diwrnod olaf ond un, a gaf i ddymuno'n dda yn ddiffuant i bob un ohonyn nhw sydd wedi dweud na fyddan nhw'n sefyll yn yr etholiad fis Mai?
Does yna yr un ateb y gall y Prif Weinidog ei roi heddiw yn gallu cuddio gymaint mae pobl Cymru wedi'u dadrithio gan ddiffyg uchelgais y Blaid Lafur. Does yna ddim ateb y gall y Prif Weinidog ei roi sydd yn cuddio'r ffaith bod pobl Cymru yn barod am arweinyddiaeth newydd. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig: syniadau ac egni newydd, uchelgais newydd ar ôl 27 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba mor dda mae'r setliad datganoli presennol yn gweithio i Gymru? OQ64064
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd rhaglen cerbydau arfog Ajax i sicrhau dyfodol swyddi hyfedr yn Islwyn? OQ64065
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael gwared ar wasanaethau o ysbytai yng ngorllewin Cymru? OQ64038
O, dyw e ddim wedi ateb.
Diolch, Llywydd. Wel, mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon sylweddol ynghylch yr argymhellion gwreiddiol i israddio gofal strôc yn Ysbyty Bronglais a chyflwyno model trin a throsglwyddo, gan drosglwyddo cleifion strôc i Lanelli. Mae'n dda bod y bwrdd iechyd wedi derbyn bod angen edrych eto ar leoliad uned strôc ac ôl-ofal, yn enwedig i fy etholwyr i sydd yn byw dros dair awr i ffwrdd o Lanelli. Ydych chi'n cytuno y bydd angen
Ydych chi'n cytuno y bydd angen proses ymgynghorol arall pan ddaw'r argymhellion newydd ger ein bron? Ac yn hytrach na chael sefyllfa ble mae Bronglais o dan fygythiad o gael ei israddio bob 10 mlynedd, y dylid, yn lle, datblygu'r ysbyty fel canolfan rhagoriaeth iechyd gwledig?
6. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud gyda Llywodraeth y DU o ran sicrhau cyfiawnder i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire sydd dal i wynebu anghyfiawnder pensiwn? OQ64028
Rŷn ni’n gwybod bod cyn-weithwyr ASW wedi wynebu anghyfiawnder enfawr. Rŷn ni’n sylweddoli’r caledi mae hyn wedi ei achosi i weithwyr a'u teuluoedd. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn galw'n gyson am benderfyniad cyfiawn sy'n adlewyrchu'r pensiynau y talwyd amdanyn nhw, ac a gafodd eu haddo.
7. Sut mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru? OQ64041
Wales is a country built on immigration. Hundreds of thousands of people moved here to help us build through the industrial revolution. Today, we rely on people from other countries and cultures to support our NHS and care services and to support our night-time economy. Community cohesion is central to our values in the Labour Government, and we do a huge amount to promote it.
And I'd like to thank
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ64034
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ofyn y cwestiwn olaf i chi, Brif Weinidog.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y pwysau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol? OQ64063
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. A'r Trefnydd, Jane Hutt, sy'n gwneud y datganiad yma.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newid i'r drefn i fusnes yr wythnos hon.
Ac yn olaf, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Llywydd Dros Dro. Fel rŷch chi'n gwybod, Trefnydd, mae teuluoedd dwyrain Bro Morgannwg yn ffodus iawn i gael ysgol arbennig, Ysgol Gymraeg Pen y Garth, sydd yn adeilad gweddol newydd. Yno, mae 320 o blant yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae'r ysgol bron â bod hanner awr i ffwrdd o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, a hyd yn oed mwy os yw'r traffig yn wael yn Ninas Powys; dwi'n siŵr eich bod chi wedi bod yn styc ar brydiau yn y traffig trwy Dinas Powys.
Nawr, dwi'n credu bod yna ddatrysiad amlwg sydd hefyd yn gallu ein helpu ni gyda'r ymgyrch am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd, sef bod cynghorau Bro Morgannwg a Chaerdydd yn cydweithio gyda'u gilydd, oherwydd mae ysgol Pen y Garth o fewn llai na dwy filltir o Butetown a Grangetown. A allwch chi, Drefnydd, drefnu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cyflwyno datganiad ar y posibilrwydd o awdurdodau addysg yn cydweithio gyda'u gilydd, ac yn arbennig fan hyn, Caerdydd a Bro Morgannwg? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Trefnydd.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i'r eitem nesaf, sef, eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: cymorth i fyrfyrwyr addysg bellach ac uwch. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells.