Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/03/2026

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg 1. Questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language
2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 2. Questions to the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs
3. Cwestiynau Amserol 3. Topical Questions
4. Datganiadau 90 eiliad 4. 90-second Statements
5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Cofrestru Buddiannau’r Aelodau 5. Motion to amend Standing Orders: Registration of Members’ Interests
6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Datgan Buddiannau’r Aelodau 6. Motion to amend Standing Orders: Declarations of Members’ Interests
7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd 7. Motion to amend Standing Orders: Parliamentary Business in the Seventh Senedd
8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod 8. Motion to amend Standing Orders: Member Bills
9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cyhoeddus 9. Motion to amend Standing Orders: Public Bills
10. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Deisebau’r Cyhoedd 10. Motion to amend Standing Orders: Public Petitions
11. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru' 11. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'Bringing home the harvest: Supporting the Welsh food processing industry'
12. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cronfa Twf Lleol' 12. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'Local Growth Fund'
13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 13. Debate: Stage 4 of the British Sign Language (Wales) Bill
14. Dadl ar Adroddiad y Bwrdd Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd 14. Debate on the Family-Friendly and Inclusive Parliament Review Board Report
15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Polisi Economaidd 15. Welsh Conservatives Debate: Economic Policy
16. Cyfnod Pleidleisio 16. Voting Time
17. Dadl Fer: Darparu gofal iechyd yn deg ar draws pob rhan o Gymru 17. Short Debate: Delivering fair healthcare across every part of Wales

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
1. Questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn.

Good afternoon and welcome to today's Plenary meeting. The first item on our agenda will be questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language. The first question is from Hannah Blythyn.

'Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021–25'
'Our time to act: The position of the Welsh Language 2021–25'

1. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, 'Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021-25'? OQ63969

1. What assessment has the Cabinet Secretary made of the Welsh Language Commissioner's five-year report, 'Our time to act: The position of the Welsh language 2021–25'? OQ63969

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r comisiynydd am baratoi adroddiad annibynnol sy’n rhoi trosolwg manwl i ni o sefyllfa’r Gymraeg. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran ein targedau i gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd a wnaed o’r iaith, ac mae’r adroddiad yn gosod her adeiladol i’r Llywodraeth mewn sawl maes polisi.

I thank the Member for the question, Llywydd. I am grateful to the commissioner for preparing an independent report that gives us a detailed overview of the situation of the Welsh language. We have made progress regarding our targets to increase the number of Welsh speakers, and the use made of the language, and the report sets a constructive challenge to the Government in several policy areas.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Yn bersonol, fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg, dwi'n gwerthfawrogi'r cyfle i ymarfer sgwrsio yn ddyddiol yn y Gymraeg—er enghraifft, drwy ymweld â Siop y Siswrn, neu dros beint yn nhafarndai'r Wyddgrug. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i ehangu cyfleoedd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae defnydd yr iaith yn isel?

Thank you for your response, Cabinet Secretary. Personally, as one who is learning Welsh, I appreciate the opportunity to practise conversing in Welsh every day—for example, by visiting Siop y Siswrn or having a pint in a pub in Mold. So, how is the Government working to expand opportunities for people, particularly in areas where the use of the language is lower?

Diolch yn fawr unwaith eto i Hannah Blythyn, a llongyfarchiadau am bopeth y mae hi'n ei wneud i ddysgu a defnyddio'r iaith. Wrth gwrs, yn adroddiad y comisiynydd, defnydd yr iaith yw un o'r themâu mwyaf yn yr adroddiad. Mae hi'n tynnu sylw at ddefnydd o'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol, yn y gweithle, ac yn y cadarnleoedd, a chyfleon i bobl sy'n dysgu Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol, fel roedd Hannah Blythyn yn dweud. Rydyn ni'n ariannu prosiectau fel yna, trwy'r mentrau iaith. Rydyn ni wedi ehangu prosiect Perthyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nawr mae mwy o arian yn Perthyn, ac mae pobl yn gallu rhoi cais i mewn am arian unrhyw le yng Nghymru. Dwi'n siŵr, yn etholaeth Hannah Blythyn, y bydd y ceisiadau yna ar gael. Yn barod, rydyn ni'n cefnogi gŵyl gymunedol Gwyddgig, yn yr Wyddgrug, sy'n rhoi cyfleon, gweithgareddau, ac yn y blaen, i deuluoedd, plant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach, i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi wedi clywed, trwy'r mentrau iaith, am gynllun newydd Cymraeg yn y Coed ym mharc Loggerheads, lle mae pobl yn gallu cerdded a siarad Cymraeg ar yr un pryd.

I thank Hannah Blythyn again, and I congratulate her on everything that she's doing to learn and use the language. Of course, in the commissioner's report, the use of the language is one of the biggest themes in the report. She draws attention to the use of the language outside the classroom, in the workplace, and in the strongholds, and opportunities for people who are learning Welsh to use the Welsh language informally, as Hannah Blythyn said. We are funding those kinds of projects, through the mentrau iaith. We have expanded the Perthyn project during the current financial year. There is now more funding in that programme, and people can bid for funding in any part of Wales. I'm sure that, in Hannah Blythyn's constituency, those bids will be available. We already support the Gwyddgig community festival in Mold, which provides opportunities, activities, and so on, for families, children, young people, and the broader community, to use the Welsh language. I have heard, through the mentrau iaith, about a new scheme, Cymraeg yn y Coed, in Loggerheads park, where people can walk and speak Welsh at the same time.

Cabinet Secretary, you won't have missed, like I didn't, the Reform manifesto launch—what manifesto they had to launch—where Nigel Farage was asked specifically about the future of the Welsh Language Commissioner. He stated that he would want to scrap what he called 'quangos'. Now, we know that the importance of building and growing the language in Wales comes through evidence-based policy making, and then accountability in those targets and in those policies, to ensure that those targets then are met. But what we've seen from Reform is a scrapping of the million Welsh speakers, and now, we hear, a scrapping of the Welsh Language Commissioner itself. The likelihood is that a Reform Government would ultimately lead to a decline in the number of Welsh speakers in Wales on a consistent basis. It comes from a place where there is a lack of clarity and understanding about the position of the Welsh language in Wales from Reform themselves. Nigel Farage said in that press conference, from what I understand, that the Welsh language is thriving in Wales. He obviously is not aware that the last two censuses have shown a decline in the number of Welsh speakers in Wales. So, how important is the Welsh Language Commissioner in holding the Welsh Government, and other organisations, accountable in terms of Welsh language development and policy making, and also how important is it that, when we make policy, we're not doing it off the top of our heads?

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch wedi methu, fel na wneuthum innau, lansiad maniffesto Reform—yr hyn o faniffesto a oedd ganddynt i'w lansio—lle gofynnwyd i Nigel Farage yn benodol am ddyfodol Comisiynydd y Gymraeg. Dywedodd y byddai eisiau cael gwared ar yr hyn a alwodd yn 'cwangos'. Nawr, fe wyddom fod pwysigrwydd adeiladu a thyfu'r iaith yng Nghymru'n dod drwy lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yna atebolrwydd yn y targedau ac yn y polisïau hynny, i sicrhau bod y targedau'n cael eu cyrraedd. Ond yr hyn a welsom gan Reform yw cael gwared ar y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a nawr, clywn am gael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg ei hun. Mae'n debyg y byddai Llywodraeth Reform yn arwain yn y pen draw at ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ar sail gyson. Mae'n dod o le lle mae diffyg eglurder a dealltwriaeth ynghylch sefyllfa'r iaith Gymraeg yng Nghymru gan Reform eu hunain. Dywedodd Nigel Farage yn y gynhadledd i'r wasg honno, o'r hyn a ddeallaf, fod y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru. Yn amlwg, nid yw'n ymwybodol fod y ddau gyfrifiad diwethaf wedi dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Felly, pa mor bwysig yw Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer dwyn Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill, i gyfrif o ran datblygu'r iaith Gymraeg a llunio polisïau, a hefyd pa mor bwysig yw hi, pan fyddwn yn llunio polisi, nad ydym yn gwneud hynny'n ddifeddwl?

I thank Tom Giffard for those remarks, Llywydd. Reform is an English nationalist party, personified in its leader, Mr Farage, who never comes to Wales without putting his foot in his mouth over anything to do with the nature of Wales, and particularly the Welsh language. The commissioner is not a quango at all. The commissioner is a creation of this Senedd, a symbol of our united determination to support the Welsh language, to do more to increase the number of people who speak it, and its daily use, and the commissioner, as demonstrated in her five-yearly report, does, I think, a very skillful job in supporting the efforts that are made through this Senedd, while at the same time providing constructive challenge to the Welsh Government and providing us with new ideas as to where we can do more and do better.

A vote for Reform in Wales is a vote to take Wales backwards, and particularly to damage some of those things that matter most to people in Wales. 

Diolch i Tom Giffard am ei sylwadau, Lywydd. Mae Reform yn blaid genedlaetholgar Seisnig, ac mae hynny wedi'i ymgorffori yn ei harweinydd, Mr Farage, nad yw byth yn dod i Gymru heb roi ei droed ynddi mewn perthynas ag unrhyw beth i'w wneud â natur Cymru, ac yn enwedig y Gymraeg. Nid cwango yw'r comisiynydd. Cafodd rôl y comisiynydd ei chreu gan y Senedd hon, symbol o'n penderfyniad unedig i gefnogi'r iaith Gymraeg, i wneud mwy i gynyddu nifer y bobl sy'n ei siarad, a'i defnydd bob dydd, ac mae'r comisiynydd, fel sydd i'w weld yn ei hadroddiad pum mlynedd, yn gwneud gwaith da iawn, yn fy marn i, yn cefnogi'r ymdrechion a wneir drwy'r Senedd hon, gan ddarparu her adeiladol i Lywodraeth Cymru ar yr un pryd, a rhoi syniadau newydd i ni ynglŷn â ble y gallwn wneud mwy a gwneud yn well.

Mae pleidlais dros Reform yng Nghymru'n bleidlais i fynd â Chymru tuag at yn ôl, ac i niweidio rhai o'r pethau y mae pobl Cymru'n eu hystyried yn bwysicaf.

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Mae cwestiwn 2 [OQ63953] wedi'i dynnu yn ôl. Mi awn ni'n syth, felly, i gwestiynau y llefarwyr yr wythnos yma. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Question 2 [OQ63953] is withdrawn. So, we'll move immediately to spokespeople's questions this week. The Conservative spokesperson, Sam Rowlands. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cabinet Secretary, given that the Institute for Fiscal Studies has found that Wales receives not just the £1.20 Barnett consequential for every £1 spent in England, but, actually, that Wales receives around 25 per cent more funding per person than England for comparable services, do you accept that the issue facing Wales is not simply one of the amount of money coming from the UK Government, but about how effectively the Welsh Government is choosing to spend that money?

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi canfod nid yn unig fod Cymru'n cael cyllid canlyniadol Barnett o £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr, ond mewn gwirionedd, fod Cymru'n cael oddeutu 25 y cant yn fwy o gyllid y pen na Lloegr ar gyfer gwasanaethau cymharol, a ydych chi'n derbyn mai'r broblem sy'n wynebu Cymru yw nid yn unig â faint o arian a ddaw gan Lywodraeth y DU ond pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru'n dewis gwario'r arian hwnnw?

Of course, I agree with that proposition. I think it's a curious finding of the IFS. It's out of line with what official figures show—what Treasury figures show. And it's certainly out of line with the Gerry Holtham report on comparability in Northern Ireland, which actually found that current comparability factors don't take account of a number of expenditures at the UK level, which, if they are included—and they were in the Northern Irish context in his report—drive up the need for a more effective comparability factor to reflect the needs of that population.

Whatever the debates about whether it's 120 or 125, or should be more, the proposition the Member makes about the importance of how you spend money is, of course, something that preoccupies me in my job in all my conversations. 

Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r awgrym hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn ganfyddiad rhyfedd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae'n anghyson â'r hyn y mae ffigurau swyddogol yn ei ddangos—yr hyn y mae ffigurau'r Trysorlys yn ei ddangos. Ac mae'n sicr yn anghyson ag adroddiad Gerry Holtham ar gymharedd yng Ngogledd Iwerddon, a ganfu mewn gwirionedd nad yw ffactorau cymharedd cyfredol yn ystyried sawl math o wariant ar lefel y DU, ac sydd, os cânt eu cynnwys—ac fe gawsant eu cynnwys yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon yn ei adroddiad—yn cynyddu'r angen am ffactor cymharedd mwy effeithiol i adlewyrchu anghenion y boblogaeth honno.

Beth bynnag y bo'r dadleuon ynglŷn ag a yw'n 120 neu'n 125, neu a ddylai fod yn fwy, mae'r awgrym y mae'r Aelod yn ei wneud o ran pwysigrwydd y ffordd yr ewch chi ati i wario arian, wrth gwrs, yn rhywbeth rwy'n treulio llawer o amser arno yn fy swydd ym mhob un o fy sgyrsiau.

Thank you for your response, Cabinet Secretary. A further report from the IFS yesterday has confirmed what we've been saying on these benches for years, and that is that, despite Wales receiving higher levels of funding per person than England, health and education outcomes in Wales continue to lag behind the rest of the UK. And they cite examples such as school absence, which is still 50 per cent higher than pre COVID, whereas, in England, it's largely gone back to pre-COVID levels. And they also cited that the average hospital stays are 40 per cent higher here in Wales than over in England. So, again, the issue is not simply about funding levels, but policy decisions and the way services are delivered by this Welsh Government. And, of course, at a time when that funding growth is slowing, it becomes even more important that every £1 of taxpayers' money is spent wisely. Yet, people across Wales continue to see examples of wasteful spending and poor priorities, and our front-line services remain under real pressure.

And, of course, within this Senedd term, decisions by the Welsh Government have consistently been supported by Plaid Cymru on the benches opposite me here, and they've prioritised, along with you, non-essential initiatives, rather than focusing on improving those core public services. So, whilst the Labour Government has received criticism for some of these decisions, Plaid Cymru tries to take the credit when things go their way. Do you think Plaid Cymru has had its fair share of criticism around some of these decisions as well? [Laughter.]

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad pellach gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddoe wedi cadarnhau'r hyn y buom ni ar y meinciau hyn yn ei ddweud ers blynyddoedd, sef er bod Cymru'n derbyn lefelau uwch o gyllid y pen na Lloegr, fod canlyniadau iechyd ac addysg yng Nghymru'n parhau i fod yn is na gweddill y DU. Ac maent yn nodi enghreifftiau fel lefelau absenoldeb o'r ysgol, sy'n dal i fod 50 y cant yn uwch na'r lefelau cyn COVID, tra bo lefelau absenoldeb yn Lloegr wedi dychwelyd i'r lefelau cyn COVID i raddau helaeth. Ac fe wnaethant nodi hefyd fod hyd cyfartalog arosiadau yn yr ysbyty 40 y cant yn hirach yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Felly, unwaith eto, nid mater o lefelau ariannu'n unig mohono, ond penderfyniadau polisi a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Ac wrth gwrs, ar adeg pan fo'r twf ariannu hwnnw'n arafu, mae'n dod yn bwysicach fyth fod pob £1 o arian trethdalwyr yn cael ei gwario'n ddoeth. Ac eto, mae pobl ledled Cymru'n parhau i weld enghreifftiau o wariant gwastraffus a blaenoriaethau gwael, ac mae ein gwasanaethau rheng flaen yn dal i fod o dan bwysau gwirioneddol.

Ac wrth gwrs, yn nhymor y Senedd hon, mae penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru wedi cael eu cefnogi'n gyson gan Blaid Cymru ar y meinciau gyferbyn â mi yma, a gyda chi, maent wedi blaenoriaethu mentrau nad ydynt yn hanfodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar wella'r gwasanaethau cyhoeddus craidd. Felly, er bod y Llywodraeth Lafur wedi cael ei beirniadu am rai o'r penderfyniadau hyn, mae Plaid Cymru'n ceisio cymryd y clod pan fydd pethau'n mynd eu ffordd. A ydych chi'n credu bod Plaid Cymru wedi cael ei chyfran deg o feirniadaeth ynghylch rhai o'r penderfyniadau hyn hefyd? [Chwerthin.]

It's really not a question for me at all, Llywydd.

Let me make a more serious point to the Member that the other side of the coin from the amount of money you have to spend is the need you are trying to match. And the reason why, throughout the whole of devolution, and before it, Welsh patients spend longer recovering in hospitals than is the case in England is because we have an older, sicker and poorer population here in Wales. The conditions with which people present themselves in hospital require different sorts of treatment, and sometimes longer forms of treatment than would be the case if you had a younger, fitter and better-off population. So, it's a curious absence in the IFS report as well that, while it does provide its own account of the money that is provided and the use to which that money is put, it simply doesn't attend to the differential need that drives those sums of money and lies behind those policies.

Nid cwestiwn i mi mohono o gwbl, Lywydd.

Gadewch imi wneud pwynt mwy difrifol i'r Aelod mai ochr arall y geiniog i'r swm o arian sydd gennych i'w wario yw'r angen rydych chi'n ceisio'i ddiwallu. A'r rheswm pam, drwy gydol datganoli, a chyn hynny, fod cleifion Cymru'n treulio mwy o amser yn gwella mewn ysbytai nag yn Lloegr yw am fod gennym boblogaeth hŷn, salach a thlotach yma yng Nghymru. Mae angen gwahanol fathau a ffurfiau hirach o driniaeth weithiau ar gyfer y cyflyrau sydd gan bobl yn yr ysbyty nag a fyddai'n wir pe bai gennych boblogaeth iau, fwy heini a chyfoethocach. Felly, er ei fod yn darparu ei gyfrif ei hun o'r arian a ddarperir a'r hyn y defnyddir yr arian hwnnw ar ei gyfer, mae'n rhyfedd nad yw adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhoi sylw i'r angen gwahaniaethol sy'n sail i'r symiau hyn o arian ac sydd y tu ôl i'r polisïau hynny.

13:40

Thank you, Cabinet Secretary. Of course, I recognise that this is probably the last time I'll be asking these questions to you in this capacity, so I just want to say, whilst we've absolutely disagreed many a time in terms of philosophy, political positions, and probably policy very much so, I'll certainly acknowledge your principled position on different matters—which I may have disagreed with from time to time, of course—your commitment to this Chamber, and your part in the leadership you've shown over your time here. I wonder, as part of your outgoing few weeks here, Cabinet Secretary, whether you'd want to give any bits of advice for the person who's going to replace you in your position after the election here in May.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod mai dyma'r tro olaf y byddaf yn gofyn y cwestiynau hyn i chi yn eich rôl bresennol, felly hoffwn ddweud, er ein bod wedi anghytuno'n gryf sawl gwaith o ran athroniaeth, safbwyntiau gwleidyddol, a pholisi yn ôl pob tebyg, rwy'n sicr yn cydnabod eich safbwynt egwyddorol ar wahanol faterion—yr wyf efallai wedi anghytuno ag ef o bryd i'w gilydd, wrth gwrs—eich ymrwymiad i'r Siambr hon, a'ch rhan yn yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gennych drwy gydol eich amser yma. Yn eich ychydig wythnosau olaf yma, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a hoffech chi roi cyngor i'r unigolyn a ddaw yn eich lle ar ôl yr etholiad yma ym mis Mai.

I thank the Member for what he's said. You haven't heard from me for the last time—Llywydd, I'm with you, a slight danger of more farewells than Dame Nellie Melba. I thank the Member for what he said. Advice to a successor: be bold, use the opportunity you have, know that the time you will have in any political office will be time limited, be guided by your values, do the things you do, of course, based on evidence, but primarily becuase of the things that you believe in, the things that brought you into the job you do in the first place.

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Nid ydych wedi clywed gennyf am y tro olaf—Lywydd, rwy'n cytuno â chi, mae perygl y cawn fwy o ffarweliadau na'r Fonesig Nellie Melba. Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Cyngor i olynydd: byddwch yn feiddgar, defnyddiwch y cyfle sydd gennych, byddwch yn ymwybodol y bydd yr amser a gewch mewn unrhyw swydd wleidyddol yn gyfyngedig, gadewch i'ch gwerthoedd eich harwain, gwnewch y pethau a wnewch, wrth gwrs, yn seiliedig ar dystiolaeth, ond yn bennaf oherwydd y pethau rydych chi'n credu ynddynt, y pethau a ddaeth â chi i'r swydd rydych chi'n ei gwneud yn y lle cyntaf.

Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.

The Plaid Cymru spokesperson, Heledd Fychan.

Diolch, Llywydd. Un o'r pethau dwi'n falch, Ysgrifennydd Cabinet, yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y Senedd hon ydy adeiladu consensws o ran yr iaith Gymraeg. Fel clywsom ni yn yr ateb i gwestiwn Tom Giffard yn gynharach, mae'n glir bod yna o leiaf ddau Aelod o'r Senedd bresennol hon ac efallai mwy yn y Senedd nesaf yn mynd i fod yn erbyn y Gymraeg. Gaf i ofyn pa mor bwysig ydych chi'n credu y mae'r ffaith bod gennym ni dargedau wedi bod o ran sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa gryfach o ran yr iaith? Ydych chi'n credu y byddem ni'n gweld cam yn ôl o ran y Gymraeg pe byddai'r targedau hynny yn diflannu?

Thank you, Llywydd. One of the things that I'm pleased that we've been able to do, Cabinet Secretary, in this Senedd is to build a consensus in terms of the Welsh language. As we heard in response to Tom Giffard's question earlier, it's clear that there are at least two Members of the current Senedd and perhaps more in the next Senedd who are going to be against the Welsh language. Could I ask how important do you think the fact that we have targets has been in terms of ensuring that we are in a stronger position in terms of the Welsh language? Do you think that we would see a step backwards in terms of the Welsh language if those targets were to vanish?

Diolch i Heledd Fychan. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi creu consensws tu ôl i'r iaith Gymraeg yn adlewyrchu beth mae pobl sy'n byw yng Nghymru eisiau i ni wneud. Mae hwnna wedi newid dros yr amser dwi wedi bod yn rhan o'r ddadl. Pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, roedd ffrae bron bob dydd am yr iaith Gymraeg, a doedd hynny ddim yn helpu neb. Nawr, yn y Siambr hon, rydyn ni bron i gyd yn cefnogi'r iaith Gymraeg ac mae hwnna'n rhan o gryfder yr iaith yng Nghymru heddiw. Mae targedau'n bwysig i hynny, wrth gwrs. Maent yn ein helpu ni gyda'r uchelgais sydd gyda ni. Mae'r targedau sydd gyda ni yn rhai rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw ar draws y Siambr. Dwi eisiau gweld hwnna'n parhau at y dyfodol.

Thank you to Heledd Fychan. I think that the fact that we've created a consensus behind the Welsh language does reflect what people in Wales want us to do. That has changed over the time that I have been involved in the discussion. When I was growing up in Carmarthen, there was almost a daily argument about the Welsh language, and that didn't help anyone. Now, in this Chamber, we almost all support the Welsh language, and that is part of the strength of the language in Wales today. Targets are important to that, of course. They help us in terms of our ambition. The targets that we have were agreed across this Chamber. I want to see that continue for the future.

Diolch. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni'n gweld y Gymraeg yn cael ei thrin fel rhywbeth i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn y dyfodol. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu peidio â gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon. 

Os caf i droi at fater arall, sef yr £14 biliwn o fuddsoddiad a gyhoeddwyd ar gyfer rheilffyrdd, allwch chi amlinellu sut cyrhaeddwyd at y ffigur o £14 biliwn? A wnewch chi ymrwymo at gyhoeddi nodyn yn egluro hyn, gan fod yna amwysedd yn atebion Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â hyn wrth iddo ateb cwestiynau ddoe, wrth iddo gyfaddef y gallai'r ffigur hwn fod yn uwchac y gallai fod yn llai? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno ei bod hi’n bwysig, o ran craffu a thryloywder, fod y Senedd yn cael gwybodaeth fanwl o ran faint o arian fydd yn cael ei ryddhau a phryd.

Thank you. I do think that it's important that we don't see the Welsh language being treated as something to score political points in the future, and I'm pleased that we've managed not to do that during this Senedd term.

If I could turn to another issue, namely the £14 billion of investment announced for rail, could you outline how you arrived at the figure of £14 billion? Will you commit to publishing a note explaining this, as there was some ambiguity in the answers given by the Cabinet Secretary for transport on this during questions yesterday, as he admitted that the figure could be higher and could be less? I'm sure that you agree that it's important, in terms of scrutiny and transparency, that this Senedd does obtain detailed information in terms of how much money will be released and when.

Clywais i Ken Skates yn ymateb i'r cwestiynau ar lawr y Senedd ddoe. Clywais i ef yn esbonio'r ffigurau y tu ôl i'r £14 biliwn. Mae ef a Thrafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy'n dangos ble mae'r posibiliadau i fuddsoddi arian yn dod yn y dyfodol. Clywais i Ken Skates yn dweud ei fod e'n barod i roi fwy o wybodaeth am y ffigurau hefyd. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad â fe a threial cael mwy o fanylion i Aelodau. Beth roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ei ddweud oedd, pan fyddwch chi'n edrych ymlaen ac rŷch chi'n treial cynllunio dros ddegawd neu fwy, wrth gwrs mae ffigurau yn gallu newid. Mae'n dibynnu ar lot o bethau a, heddiw, allwn ni ddim rhagweld popeth sy'n mynd i ddigwydd.

I heard Ken Skates responding to questions on the floor of the Senedd yesterday. I heard him explain the figures underpinning that £14 billion investment. He and Transport for Wales have published a document that sets out where the possibilities for investment arise in the future. I also heard Ken Skates saying that he would be willing to provide more information on those figures too. So, of course, I'm happy to speak to him and to try and get more details for Members. What the Cabinet Secretary for transport was saying was that, when you look to the future and you're trying to plan over a decade or more, then of course figures can change. It depends on many different factors and, today, we can't anticipate everything that'll happen in the future.

13:45

Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn deall hynny, ond pan fydd rhywbeth yn cael ei gyflwyno fel, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru', dyna pam rydyn ni'n herio hynny, oherwydd os caf i eich dyfynnu chi eich hun yn 2019, wrth ymateb i gyhoeddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y pryd,

Thank you very much for that. Of course, we do understand that, but when something is presented as, 'There is £14 billion definitely coming to Wales', that's why we challenge that, because if I could quote you in 2019, in responding to announcements made by the Secretary of State for Transport at the time,

'not a single one of those business cases announced by the Secretary of State for Transport...has...seen...a single penny of funding...and there is no clarity at all on next steps and timescales to live up to that second set of commitments.'

'ni welwyd unrhyw un o'r achosion busnes hynny a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth…yr un geiniog o gyllid ac nid oes unrhyw eglurder o gwbl ynghylch y camau nesaf na'r amserlenni i wireddu'r ail gyfres honno o ymrwymiadau.'

Wel, onid ydy hynny'n wir o ran y £10 biliwn o'r £14 biliwn a gyhoeddwyd hyd yma? Dyna rydyn ni'n trio deall. Mae'ch Llywodraeth chi'n dweud, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru.' Dydy hynny ddim yn wir o'r hyn rydyn ni'n ei weld fan hyn.

Well, is that same thing not true regarding the £10 billion of the £14 billion that has been announced already? That's what we're trying to understand. Your Government says, 'There is £14 billion definitely coming to Wales', but that's not true from what we're seeing here.

Well, I don't think that is completely fair, Llywydd. The previous Government claimed, when it abandoned its plans to electrify the main line to Swansea, that it had a series of other plans ready to go that would compensate for the loss of the investment that they had promised. That turned out simply not to be true.

In the case of the £14 billion, the Welsh Government, with the UK Government, has published its prospectus. You can see the schemes, you can see the sums of money that are attributed to them, and you have a commitment from the UK Government that, over the period in which those schemes could be delivered, it will find that £14 billion that is needed for investment in Wales. I don't think it's feasible to expect—and I heard Ken Skates explaining this yesterday—to have detailed plans for each one of those schemes at this point in that cycle, but it is surely to be welcomed that we have a UK Government recognising the importance of those schemes and declaring its commitment to fund them.

Wel, ni chredaf fod hynny'n gwbl deg, Lywydd. Honnodd y Llywodraeth flaenorol, pan roddodd y gorau i'w chynlluniau i drydaneiddio'r brif linell reilffordd i Abertawe, fod ganddi gyfres o gynlluniau eraill yn barod i fynd a fyddai'n gwneud iawn am golli'r buddsoddiad yr oeddent wedi'i addo. Yn y diwedd, gwelsom nad oedd hynny'n wir.

Yn achos y £14 biliwn, mae Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU, wedi cyhoeddi ei phrosbectws. Gallwch weld y cynlluniau, gallwch weld yr arian a fyddai'n cael ei ddarparu ar eu cyfer, ac mae gennych ymrwymiad gan Lywodraeth y DU y bydd, dros y cyfnod y gellid cyflawni'r cynlluniau hynny, yn dod o hyd i'r £14 biliwn sydd ei angen ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Ni chredaf ei bod yn ymarferol disgwyl—a chlywais Ken Skates yn egluro hyn ddoe—cynlluniau manwl ar gyfer pob un o'r cynlluniau hynny ar hyn o bryd yn y cylch hwnnw, ond yn sicr, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd y cynlluniau hynny ac yn datgan ei hymrwymiad i'w hariannu.

Datganiad y Gwanwyn
Spring Statement

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganlyniadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU i bobl Islwyn? OQ63967

3. What assessment has the Welsh Government made of the consequences of the UK Government's spring statement for the people of Islwyn? OQ63967

I thank Rhianon Passmore, Llywydd. The stability provided in the spring statement will ensure that the people of Islwyn go on benefiting from direct investment in coal-tip safety, rail improvements, and town-centre regeneration, to mention just three. Now, an incoming Senedd Government will have an additional £555 million to respond to the needs of Welsh citizens in Islwyn and beyond.

Diolch i Rhianon Passmore, Lywydd. Bydd y sefydlogrwydd a ddarparwyd yn natganiad y gwanwyn yn sicrhau y bydd pobl Islwyn yn parhau i elwa o fuddsoddiad uniongyrchol mewn diogelwch tomenni glo, gwelliannau rheilffyrdd, ac adfywio canol trefi, i enwi dim ond tri pheth. Nawr, bydd gan Lywodraeth newydd y Senedd £555 miliwn ychwanegol i ymateb i anghenion dinasyddion Cymru yn Islwyn a thu hwnt.

Thank you, Cabinet Secretary, for that initial response. The people of Islwyn will welcome the restoration of stability to the economic and public finances brought about by the UK Labour Government, against the backdrop of scalic geopolitical volatility. And, as a direct result, the Welsh Government settlement, for the first time, over the next three years is nearly £6 billion higher than it would have been under the spending plans set out by the previous UK Tory Government. Cabinet Secretary, what difference, on the ground, throughout Islwyn communities, will be visible from an extra £6 billion of public spending from Labour Governments in Westminster and Cardiff Bay over the years to come?

Diolch am eich ymateb cychwynnol, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd pobl Islwyn yn croesawu adfer sefydlogrwydd i'r cyllid economaidd a chyhoeddus gan Lywodraeth Lafur y DU, yn erbyn cefndir o anwadalrwydd geowleidyddol sylweddol. Ac o ganlyniad uniongyrchol, mae setliad Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf, dros y tair blynedd nesaf bron i £6 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a nodwyd gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU. Ysgrifennydd y Cabinet, pa wahaniaeth, ar lawr gwlad, yng nghymunedau Islwyn, a fydd yn weladwy o £6 biliwn ychwanegol o wariant cyhoeddus gan Lywodraethau Llafur yn San Steffan a Bae Caerdydd dros y blynyddoedd i ddod?

Well, Llywydd, the good people of Islwyn will see that investment in many different parts of their lives, as they already have, under a Labour Government, because Islwyn has already benefited from the twenty-first century schools investment, there have been new health developments in the constituency and, looking ahead, as I said, Llywydd, the investment in coal-tip safety has a direct relevance to so many communities in the Member's constituency. That's the difference that we are now able to make with that additional £6 billion.

And the spring statement was welcomed. I understand the political knockabout that goes on, but if you look at more serious commentaries, it was welcomed for the fact that it just reaffirmed spending plans, it reaffirmed fiscal plans, it didn't introduce new instability into the system, and the Chancellor was in the happy position of being able to identify £24 billion in a reserve that she will create over the three years of the spring statement period. 

Wel, Lywydd, bydd pobl dda Islwyn yn gweld y buddsoddiad hwnnw mewn sawl rhan wahanol o'u bywydau, fel y maent eisoes wedi'i weld, o dan Lywodraeth Lafur, gan fod Islwyn eisoes wedi elwa o'r buddsoddiad yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, datblygiadau iechyd newydd yn yr etholaeth, ac wrth edrych ymlaen, fel y dywedais, Lywydd, mae'r buddsoddiad yn niogelwch tomenni glo yn uniongyrchol berthnasol i gynifer o gymunedau yn etholaeth yr Aelod. Dyna'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud nawr gyda'r £6 biliwn ychwanegol hwnnw.

A chafodd datganiad y gwanwyn ei groesawu. Rwy'n deall bod gemau gwleidyddol yn cael eu chwarae, ond os edrychwch ar sylwadau mwy difrifol, cafodd ei groesawu am y ffaith ei fod yn ailddatgan cynlluniau gwariant, yn ailddatgan cynlluniau cyllidol, ni chyflwynodd ansefydlogrwydd newydd i'r system, ac roedd y Canghellor yn y sefyllfa braf o allu nodi £24 biliwn mewn cronfa wrth gefn y bydd yn ei chreu dros gyfnod datganiad y gwanwyn o dair blynedd.

13:50

Cabinet Secretary, I quite frankly believe that the Chancellor is out of her depth. Based on her spring statement, it's clear that she is living in a parallel universe and not in touch with what's going on in reality. Unemployment is up, inflation is up, growth is down. The Chancellor has no plan to fix our economy whatsoever. Cabinet Secretary, in response to the Chancellor's spring statement, you said, and I quote:

'What we're seeing today is encouraging for Wales. The global economic picture remains difficult—nobody is pretending otherwise—but the UK government's plan is working. The economy is stabilising, it's growing, and people in Wales will feel the benefit of that.'

Cabinet Secretary, I would love to know which plan it is that you think is going to be working, because quite frankly I'm mystified. Things are getting worse, not better. And I'd really appreciate it if you could kindly explain what specific projects will benefit my constituents within Newport and Islwyn from this spring statement. Thank you.

Ysgrifennydd y Cabinet, a dweud y gwir, credaf fod y Canghellor allan o'i dyfnder. Ar sail datganiad y gwanwyn, mae'n amlwg ei bod yn byw mewn bydysawd cyfochrog ac nad yw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd mewn realiti. Mae diweithdra ar gynnydd, mae chwyddiant ar gynnydd, mae twf ar i lawr. Nid oes gan y Canghellor unrhyw gynllun o gwbl i atgyweirio ein heconomi. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i ddatganiad y gwanwyn gan y Canghellor, fe ddywedoch chi:

'Mae'r hyn rydyn ni'n ei weld heddiw yn galonogol i Gymru. Mae'r darlun economaidd byd-eang yn dal i fod yn anodd—nid oes neb yn esgus fel arall—ond mae cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio. Mae'r economi yn sefydlogi, mae hi'n tyfu, a bydd pobl yng Nghymru yn teimlo budd hynny.'

Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn wrth fy modd yn gwybod pa gynllun fydd yn gweithio yn eich barn chi, oherwydd a dweud y gwir, rwy'n ddryslyd. Mae pethau'n gwaethygu, nid yn gwella. A buaswn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech egluro'n garedig pa brosiectau penodol a fydd o fudd i fy etholwyr yng Nghasnewydd ac Islwyn yn natganiad y gwanwyn. Diolch.

Well, there are two parts to that question, Llywydd. In terms of the forecasts that the Chancellor set out in the spring statement, inflation is actually down, not up, and the Bank of England and the Office for Budget Responsibility are clear that, on the terms that they knew at the time they wrote those reports, inflation would continue to come down. Interest rates have been cut six times since the general election, and the Bank of England was expecting interest rates to be cut at least twice more over the rest of this financial year. Productivity is up in those forecasts, disposable household income is up in those forecasts. Of course there are difficulties in the economy, that's not a surprise to anybody, but just a partial reading, picking a few things out of it and saying that that's the whole story, really does no service to people in Wales. 

And in terms of where people will see the specific benefits of that £555 million over three years—that's an additional £555 million, of course—that will be for the next Senedd Government to determine, not this one. 

Wel, mae dau ran i'r cwestiwn hwnnw, Lywydd. O ran y rhagolygon a nododd y Canghellor yn natganiad y gwanwyn, mae chwyddiant ar i lawr mewn gwirionedd, nid ar gynnydd, ac mae Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi'n glir, ar y telerau yr oeddent yn ymwybodol ohonynt wrth ysgrifennu'r adroddiadau hynny, y byddai chwyddiant yn parhau i ostwng. Mae cyfraddau llog wedi'u torri chwe gwaith ers yr etholiad cyffredinol, ac roedd Banc Lloegr yn disgwyl i gyfraddau llog gael eu torri o leiaf ddwywaith yn rhagor dros weddill y flwyddyn ariannol hon. Mae cynhyrchiant ar gynnydd yn y rhagolygon hynny, mae incwm gwario aelwydydd ar gynnydd yn y rhagolygon hynny. Wrth gwrs, mae anawsterau yn yr economi, nid yw hynny'n syndod i neb, ond nid yw darlleniad rhannol, dewis ychydig o bethau allan ohono a dweud mai dyna'r stori gyfan, o unrhyw fudd o gwbl i bobl Cymru.

Ac o ran ble y bydd pobl yn gweld manteision penodol y £555 miliwn hwnnw dros dair blynedd—£555 miliwn ychwanegol, wrth gwrs—Llywodraeth y Senedd nesaf sydd i benderfynu hynny, nid hon.

Rhyddhad Ardrethi Busnes ar gyfer Tafarndai a Bwytai
Business Rate Relief for Pubs and Restaurants

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a bwytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63965

4. Will the Cabinet Secretary make a statement on business rate relief for pubs and restaurants in Mid and West Wales? OQ63965

I thank the Member for the question, Llywydd. Many pubs and restaurants in mid and west Wales benefit from the £335 million of non-domestic rates support we are providing in this financial year. This includes our permanent reliefs, worth £250 million annually, and the additional £78 million allocated to retail, leisure and hospitality. We've confirmed a further £8 million of targeted relief for next year.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Lywydd. Mae llawer o dafarndai a bwytai yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn elwa o'r £335 miliwn o gymorth ardrethi annomestig yr ydym yn ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys ein rhyddhadau parhaol, gwerth £250 miliwn y flwyddyn, a'r £78 miliwn ychwanegol a ddyrennir i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Rydym wedi cadarnhau £8 miliwn pellach o ryddhad wedi'i dargedu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Diolch, Cabinet Secretary. I very much welcome the recent Welsh Government announcement that pledges further financial support for hospitality businesses in Wales for the year 2026-27. The 15 per cent relief on rates bills for 4,400 hospitality businesses will be vital for the survival of many of these businesses in the coming year. Like many small to medium-sized businesses, pubs and restaurants, cafes and music venues face a number of financial challenges through rising costs and people not visiting these venues as much as they did pre COVID. But they are often at the heart of the community and provide crucial local employment, so our support for them is vital. 

Cabinet Secretary, do you agree with me that this additional support, along with other support such as the small business rates relief, does demonstrate the Welsh Government's commitment to supporting hospitality businesses in Wales?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n mawr groesawu'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru sy'n addo cymorth ariannol pellach i fusnesau lletygarwch yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn 2026-27. Bydd y rhyddhad o 15 y cant ar filiau ardrethi ar gyfer 4,400 o fusnesau lletygarwch yn hanfodol ar gyfer parhad llawer o'r busnesau hyn yn y flwyddyn i ddod. Fel llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint, mae tafarndai a bwytai, caffis a lleoliadau cerddoriaeth yn wynebu nifer o heriau ariannol oherwydd costau cynyddol a'r ffaith nad yw pobl yn ymweld â'r lleoliadau hyn gymaint ag y byddent yn ei wneud cyn COVID. Ond maent yn aml yn rhan ganolog o'r gymuned ac yn darparu cyflogaeth leol hanfodol, felly mae ein cymorth iddynt yn hanfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cymorth ychwanegol hwn, ynghyd â chymorth arall fel y rhyddhad ardrethi busnesau bach, yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau lletygarwch yng Nghymru?

Well, Llywydd, it is the most tangible demonstration of that commitment, and it's not the only one, as Joyce Watson has just said. I was very glad we were able to provide £8 million next year. That's £3 million more than the equivalent sum that we'll get in the consequential, and that has allowed us to extend the range of businesses that will benefit from that 15 per cent rate relief. So, it's a more generous scheme than in England, and it offers help to a wider range of businesses. And that's on top of two other new things that we're providing this year over and above the general business rate relief. The differential use of the multiplier that we've introduced for the very first time in Wales this year will benefit shops on the high street in those communities that Joyce Watson referenced, and the first year next year of a new transitional rate relief scheme worth £116 million over two years. The Welsh taxpayer makes enormous effort to support those businesses, and we do it on their behalf as a Welsh Government for exactly the reasons Joyce Watson suggested, Llywydd: the importance of these businesses to the local communities where they are rooted.

Wel, Lywydd, dyma'r enghraifft fwyaf pendant o'r ymrwymiad hwnnw, ac nid dyma'r unig un, fel y mae Joyce Watson newydd ei ddweud. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu £8 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae hynny £3 miliwn yn fwy na'r swm cyfatebol y byddwn yn ei gael mewn cyllid canlyniadol, ac mae hynny wedi ein galluogi i ymestyn yr ystod o fusnesau a fydd yn elwa o'r rhyddhad ardrethi 15 y cant hwnnw. Felly, mae'n gynllun mwy hael nag yn Lloegr, ac mae'n cynnig cymorth i ystod ehangach o fusnesau. Ac mae hynny ar ben dau beth newydd arall yr ydym yn eu darparu eleni yn ychwanegol at y rhyddhad ardrethi busnes cyffredinol. Bydd y defnydd gwahaniaethol o'r lluosydd yr ydym wedi'i gyflwyno am y tro cyntaf erioed yng Nghymru eleni o fudd i siopau ar y stryd fawr yn y cymunedau a grybwyllodd Joyce Watson, a'r flwyddyn gyntaf y flwyddyn nesaf o gynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd gwerth £116 miliwn dros ddwy flynedd. Mae trethdalwyr Cymru'n gwneud ymdrech enfawr i gefnogi'r busnesau hynny, ac rydym yn ei wneud ar eu rhan fel Llywodraeth Cymru am yr union resymau a awgrymodd Joyce Watson, Lywydd: pwysigrwydd y busnesau hyn i'r cymunedau lleol lle maent wedi'u gwreiddio.

13:55

Last week, I met hospitality businesses in Tenby, many of whom raised serious concerns about the impact recent changes to business rates are having on the viability of their businesses. Indeed, I've raised this with you on the floor of the Senedd before, Cabinet Secretary. And the mood was bleak. But one conversation in particular stood out. A local business owner who now runs three businesses in the town told me that while their turnover has increased fourfold, they were actually more profitable when they were operating just one business. That just can't be right, because entrepreneurs who take risks, invest in their communities and create jobs for local people should not feel that they are being penalised for growing their businesses and employing more people. So, what would you say to those hospitality businesses in Tenby and across Pembrokeshire who increasingly feel that, under the current business rates system, success and expansion are being punished rather than celebrated?

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â busnesau lletygarwch yn Ninbych-y-pysgod, a mynegodd llawer ohonynt bryderon difrifol ynghylch yr effaith y mae newidiadau diweddar i ardrethi busnes yn ei chael ar hyfywedd eu busnesau. Yn wir, rwyf wedi codi hyn gyda chi ar lawr y Senedd o'r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac roedd yr awyrgylch yn llwm. Ond mae un sgwrs yn benodol yn aros yn y cof. Dywedodd perchennog busnes lleol sydd bellach yn rhedeg tri busnes yn y dref wrthyf, er bod eu trosiant wedi cynyddu bedair gwaith drosodd, eu bod mewn gwirionedd yn fwy proffidiol pan oeddent yn gweithredu un busnes yn unig. Ni all hynny fod yn iawn, gan na ddylai entrepreneuriaid sy'n cymryd risgiau, yn buddsoddi yn eu cymunedau ac yn creu swyddi i bobl leol deimlo eu bod yn cael eu cosbi am dyfu eu busnesau a chyflogi mwy o bobl. Felly, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y busnesau lletygarwch hynny yn Ninbych-y-pysgod ac ar draws sir Benfro sy'n teimlo fwyfwy, o dan y system ardrethi busnes bresennol, fod llwyddiant ac ehangu yn bethau sy'n cael eu cosbi yn hytrach na'u dathlu?

Well, Llywydd, I think I would have explained to the business owner the help that the Welsh taxpayer is providing to businesses in Tenby—all the things that I have just outlined, all those things that those businesses get and would not get if it were not for the help mobilised on their behalf, and gladly mobilised, by this Welsh Government. So, I have no way of knowing the details of the case to which the Member refers, but I imagine that those businesses benefit from a whole range of support that's available to them because of the actions of this Welsh Government, with more help every year, not less.

Wel, Lywydd, rwy'n credu y buaswn wedi egluro i berchennog y busnes y cymorth y mae trethdalwyr Cymru'n ei ddarparu i fusnesau yn Ninbych-y-pysgod—yr holl bethau yr wyf newydd eu hamlinellu, yr holl bethau y mae'r busnesau hynny'n eu cael na fyddent yn eu cael oni bai am y cymorth a drefnwyd ar eu rhan, ac a drefnwyd gyda phleser, gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Felly, nid oes gennyf unrhyw ffordd o wybod manylion yr achos y cyfeiria'r Aelod ato, ond rwy'n dychmygu bod y busnesau hynny'n elwa o ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth hon yng Nghymru, gyda mwy o gymorth bob blwyddyn, nid llai.

Good afternoon, Cabinet Member. I just really wanted to come back to mid and west Wales and the issue around our business rates system and the hospitality sector. There are severe challenges, without a doubt. We're seeing, in towns across mid and west Wales, declining footfall, empty properties and struggling community businesses. So, one of the solutions surely is about rebalancing the system. One option, which I discussed with the Federation of Small Businesses, would be to introduce an increased business rates premium for large, out-of-town retail parks, these shopping centres that actually pull customers away from the very town centres that we should be supporting and protecting. So, I just really would be interested in your comments on how we can rebalance the situation with ensuring that our towns and our communities, which have these amazing resources, but are losing customers to out-of-town places, where people literally just drive to, park up, get out, shop and then walk away. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Aelod Cabinet. Roeddwn eisiau dod yn ôl i ganolbarth a gorllewin Cymru a'r mater ynglŷn â'n system ardrethi busnes a'r sector lletygarwch. Mae yna heriau difrifol, heb os. Rydym yn gweld nifer yr ymwelwyr yn gostwng mewn trefi ledled canolbarth a gorllewin Cymru, eiddo gwag, a busnesau cymunedol yn ei chael hi'n anodd. Felly, mae un o'r atebion yn ymwneud ag ailgydbwyso'r system. Un opsiwn a drafodais gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach fyddai cyflwyno premiwm ardrethi busnes uwch ar gyfer parciau manwerthu mawr y tu allan i'r dref, y canolfannau siopa hyn, sydd mewn gwirionedd yn denu cwsmeriaid o ganol y trefi y dylem fod yn eu cefnogi a'u diogelu. Felly, hoffwn glywed eich sylwadau ynglŷn â sut y gallwn ailgydbwyso'r sefyllfa o ran sicrhau bod ein trefi a'n cymunedau, sydd â'r adnoddau anhygoel hyn, ond sy'n colli cwsmeriaid i leoedd y tu allan i'r dref, lle mae pobl yn llythrennol yn gyrru iddynt, yn parcio, yn mynd allan, yn siopa ac yna'n cerdded i ffwrdd. Diolch yn fawr iawn.

Well, Llywydd, I think I agreed a month ago, in these questions with Sam Rowlands, that there is a strong case for a fundamental review of the business rates system. The balance between in-town and out-of-town shopping is often raised in that context. I would have been pleased to have welcomed the Member to come to the meeting that I held with those large businesses when I was deciding to use a lower multiplier for high-street shops and to have a slightly higher multiplier on those large retail outlets that are often in those out-of-town shopping areas, because they certainly would not have subscribed to the points that the Member just made.

But there are other ways in which I think a rebalancing of the system ought to be explored. We provide small business rate relief to businesses whether they need it or not. There is no assessment of need in this. It's simply if your retail value is below a certain figure, you get the help. And we don't differentiate between those businesses that are thriving and would be perfectly profitable without that help, and those businesses that need more help. We don't distinguish between start-up businesses, where you might think the case for public investment to help a business to get off the ground would be stronger, compared to businesses that have been getting business rate relief for years and years and years. There are many ways, I think, in which the very large sum of money that is invested in this area could be used differently. I know that my party, if we are to be in Government in the next Senedd term, will wish to take a root-and-branch look at the way the system operates.

Wel, Lywydd, rwy'n credu fy mod wedi cytuno fis yn ôl, yn y cwestiynau hyn gyda Sam Rowlands, fod achos cryf dros adolygiad sylfaenol o'r system ardrethi busnes. Mae'r cydbwysedd rhwng siopa yn y dref a siopa y tu allan i'r dref yn aml yn cael ei godi yn y cyd-destun hwnnw. Buaswn wedi bod yn falch o fod wedi croesawu'r Aelod i ddod i'r cyfarfod a gynhaliais gyda'r busnesau mawr hynny pan oeddwn yn penderfynu defnyddio lluosydd is ar gyfer siopau'r stryd fawr a chael lluosydd ychydig yn uwch ar gyfer y siopau manwerthu mawr sy'n aml yn yr ardaloedd siopa y tu allan i'r dref, oherwydd yn sicr, ni fyddent hwy wedi cytuno â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod.

Ond dylid archwilio ffyrdd eraill o ailgydbwyso'r system. Rydym yn darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau pa un a oes ei angen arnynt ai peidio. Nid oes asesiad o angen yn hyn o beth. Yn syml, os yw eich gwerth manwerthu islaw ffigur penodol, rydych chi'n cael y cymorth. Ac nid ydym yn gwahaniaethu rhwng y busnesau sy'n ffynnu ac a fyddai'n berffaith broffidiol heb y cymorth hwnnw, a'r busnesau sydd angen mwy o gymorth. Nid ydym yn gwahaniaethu rhwng busnesau newydd lle gallech feddwl y byddai'r achos dros fuddsoddiad cyhoeddus i helpu busnes i ddechrau yn gryfach, o gymharu â busnesau sydd wedi bod yn cael rhyddhad ardrethi busnes ers blynyddoedd lawer. Mae llawer o ffyrdd y gellid defnyddio'r swm mawr iawn o arian sy'n cael ei fuddsoddi yn y maes hwn yn wahanol. Os mai ni fydd yn ffurfio Llywodraeth yn nhymor nesaf y Senedd, gwn y bydd fy mhlaid eisiau edrych yn agos ar y ffordd y mae'r system yn gweithio.

14:00
Y Dreth Gyngor
Council Tax

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn Nwyrain De Cymru? OQ63961

5. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact of the proposed council tax rises in South Wales East? OQ63961

I thank the Member, Llywydd. The setting of budgets and council tax levels each year is a matter for local authorities. I ask councils to carefully consider the balance between maintaining services and the financial pressures on households, and to engage meaningfully with communities on the decisions they make.

Diolch i'r Aelod, Lywydd. Mater i awdurdodau lleol yw gosod cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor bob blwyddyn. Rwy'n gofyn i gynghorau ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd, ac i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau ar y penderfyniadau y maent yn eu gwneud.

Diolch. Year on year, residents across my region are being hammered by eye-watering council tax rises by Labour and Plaid-run councils, but getting slashed services and getting less for their money. Proposed rises in my region include almost 6 per cent in Monmouthshire and over 6 per cent in Caerphilly. Reform in Wales has committed to capping council tax rises at 4.99 per cent, with any council wanting to go above that being required to hold a local referendum. Do you agree with me, Cabinet Secretary, that local government has long been underfunded by the Welsh Government, and that that needs to be addressed? There have also been councils who have been very lackadaisical and quick to reach for the levers to increase council tax, rather than find efficiency savings. Putting in place a referendum at 4.99 per cent will encourage councils to find those savings. Diolch.

Diolch. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae trigolion ar draws fy rhanbarth yn cael eu taro gan godiadau treth gyngor gan gynghorau dan arweiniad Llafur a Phlaid Cymru, ac yn gweld gwasanaethau'n cael eu torri wrth  iddynt gael llai am eu harian. Mae'r cynnydd arfaethedig yn fy rhanbarth yn cynnwys bron i 6 y cant yn sir Fynwy a dros 6 y cant yng Nghaerffili. Mae Reform yng Nghymru wedi ymrwymo i gapio codiadau treth gyngor ar 4.99 y cant, gan ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sydd eisiau mynd yn uwch na hynny gynnal refferendwm lleol. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod llywodraeth leol wedi cael ei thanariannu ers amser maith gan Lywodraeth Cymru, a bod angen mynd i'r afael â hynny? Mae yna hefyd gynghorau sydd wedi bod yn llipa iawn ac yn gyflym i estyn am y liferi i gynyddu'r dreth gyngor yn hytrach na dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd. Bydd rhoi refferendwm ar waith ar 4.99 y cant yn annog cynghorau i ddod o hyd i'r arbedion hynny. Diolch.

I've got good news for the Member, which I'm sure will cheer her up, because council tax rises in her region are lower next year than this year, and lower than the year before. So, they will have the lowest council tax rises in the last few years. Again, some good news for her, and indeed for her residents, is that there will be no need to engage her referendum, because in her region, the average council tax rise next year is 4.96 per cent, so it would not be captured by her referendum. People will save all the money that she would spend on holding a referendum in the first place.

Here's another piece of good news for her: there's an extra £112.8 million going into local authorities next year as a result of the budget that was passed in the Senedd and that she voted against. Despite her complaints about underfunding, she voted against an extra £112.8 million for those local authorities.

This Government believes that local authorities are best placed to make decisions on the responsibilities that they exercise, and they face their electorate when they come to the end of their term. That is the way in which to exercise democratic oversight of their decisions. Local authorities should be allowed to exercise those responsibilities, and then their electors can cast a verdict on their discharge.

Mae gennyf newyddion da i'r Aelod, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei chalonogi, oherwydd mae codiadau treth gyngor yn ei rhanbarth yn is y flwyddyn nesaf nag eleni, ac yn is na'r flwyddyn flaenorol. Felly, nhw fydd â'r codiadau treth gyngor isaf yn y blynyddoedd diwethaf. Unwaith eto, rhywfaint o newyddion da iddi hi, ac yn wir i'w thrigolion, yw na fydd angen gweithredu ei refferendwm, oherwydd yn ei rhanbarth hi, y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor y flwyddyn nesaf yw 4.96 y cant, felly ni fyddai'n ddarostyngedig i'w refferendwm hi. Bydd pobl yn arbed yr holl arian y byddai hi'n ei wario ar gynnal refferendwm yn y lle cyntaf.

Newydd da arall iddi: mae £112.8 miliwn ychwanegol yn mynd i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r gyllideb a basiwyd yn y Senedd ac y pleidleisiodd hi yn ei herbyn. Er gwaethaf ei chwynion am danariannu, pleidleisiodd yn erbyn £112.8 miliwn ychwanegol i'r awdurdodau lleol hynny.

Mae'r Llywodraeth hon yn credu mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ar y cyfrifoldebau y maent yn eu cyflawni, ac maent yn wynebu eu hetholwyr pan ddônt at ddiwedd eu tymor. Dyna'r ffordd i arfer trosolwg democrataidd ar eu penderfyniadau. Dylid caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni'r cyfrifoldebau hynny, ac yna gall eu hetholwyr roi eu barn ar y modd y cânt eu cyflawni.

Cabinet Secretary, I'm sure you will agree it's somewhat ironic that Reform members are raising concerns about council tax and financial efficiency, given that their Worcestershire controlled council has just approved a 9 per cent council tax increase, and they did that by circumnavigating the referendum and asking for Government approval to do so. So much for a low-tax party.

However, Cabinet Secretary, in a similar vein, the Welsh Conservatives, as you know, as it was clearly taken from us to the Reform manifesto, have repeatedly called on you to follow the same sensible system used in England to introduce local referenda. I've heard your arguments many times, and you've rejected that at every opportunity, yet Labour colleagues across the border have kept the system in place. Two countries, two different approaches, but the same party running both—it's difficult to understand the logic. Cabinet Secretary, do you think it's right that in England people have a say in council tax levels, whereas here in Wales, the public just have to pay whatever is proposed?

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei bod braidd yn eironig bod aelodau Reform yn codi pryderon am y dreth gyngor ac effeithlonrwydd ariannol o ystyried bod y cyngor a reolir ganddynt yn swydd Gaerwrangon newydd gymeradwyo cynnydd o 9 y cant yn y dreth gyngor, ac fe wnaethant hynny drwy osgoi'r refferendwm a gofyn am gymeradwyaeth y Llywodraeth i wneud hynny. Dyna i chi blaid treth isel.

Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn modd tebyg, mae'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gwyddoch, gan iddo fynd oddi wrthym ni i faniffesto Reform, wedi galw dro ar ôl tro arnoch i ddilyn yr un system synhwyrol a ddefnyddir yn Lloegr i gyflwyno refferenda lleol. Rwyf wedi clywed eich dadleuon sawl gwaith, ac rydych chi wedi gwrthod hynny ar bob cyfle, ond mae cymheiriaid Llafur dros y ffin wedi cadw'r system yn ei lle. Dwy wlad, dau ddull gwahanol o weithredu, ond yr un blaid yn rhedeg y ddwy—mae'n anodd deall y rhesymeg. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n meddwl ei bod yn iawn fod pobl Lloegr yn cael dweud eu barn ar lefelau'r dreth gyngor, ond bod yn rhaid i'r cyhoedd dalu beth bynnag sy'n cael ei argymell yma yng Nghymru?

The logic is called 'devolution'. It's why we have different systems in England and Wales. There would be no point in having the Senedd at all if all we ever did was to copy what somebody else did in their circumstances when we are charged with the responsibility of devising a system that meets the circumstances of Welsh people.

I enjoyed the opening points the Member made. I think Worcestershire is not the only Reform-run council where lower council tax bills now turn out to be entirely mythical. I believe I'm right that the council that was led by the leader of Reform in Wales—a London council, as we'll remember—is having to be bailed out with large sums of money from the UK Government because of the way that council had been run. I'm afraid there's a lesson in all of that. As Reform councils actually have to make decisions rather than deliver leaflets, people are discovering what that actually means.

Gelwir y rhesymeg yn 'ddatganoli'. Dyna pam y mae gennym systemau gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Ni fyddai pwynt cael y Senedd o gwbl os mai'r cyfan y byddem yn ei wneud fyddai copïo'r hyn a wnâi rhywun arall yn eu hamgylchiadau nhw a ninnau'n gyfrifol am ddyfeisio system sy'n ateb amgylchiadau pobl Cymru.

Mwynheais y pwyntiau agoriadol a wnaeth yr Aelod. Nid wyf yn credu mai swydd Gaerwrangon yw'r unig gyngor sy'n cael ei redeg gan Reform lle mae biliau treth gyngor is bellach i'w gweld yn chwedloniaeth bur. Rwy'n credu fy mod i'n iawn fod y cyngor a gâi ei arwain gan arweinydd Reform yng Nghymru—cyngor yn Llundain, fel y cofiwn—yn gorfod cael ei achub gyda symiau mawr o arian gan Lywodraeth y DU oherwydd y ffordd y cafodd y cyngor ei redeg. Rwy'n ofni bod gwers yn hynny i gyd. Wrth i gynghorau Reform orfod gwneud penderfyniadau yn hytrach na dosbarthu taflenni, mae pobl yn darganfod beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd.

14:05

I just wanted to raise a point of order about the— 

Roeddwn i eisiau codi pwynt o drefn ynglŷn â'r— 

I'm happy for you to raise a supplementary question.

Rwy'n hapus i chi ofyn cwestiwn atodol.

A supplementary question. Thank you, Llywydd. It's about the council tax rise that was referred to by Laura Jones—the increases that both Plaid and Labour councils have undertaken in her region. There are, of course, no Plaid Cymru councils in her region, and there haven't been since 2016. Do you not agree that, in fact, had the deal not been reached with Plaid Cymru and the Labour Party, the situation in the councils in the south-east and across the whole of Wales would be much worse?

Cwestiwn atodol. Diolch, Lywydd. Mae'n ymwneud â'r cynnydd yn y dreth gyngor y cyfeiriodd Laura Jones ato—y cynnydd y mae cynghorau Plaid Cymru a Llafur wedi'u gweithredu yn ei rhanbarth hi. Wrth gwrs, nid oes unrhyw gynghorau Plaid Cymru yn ei rhanbarth hi, ac nid oes un wedi bod ers 2016. Onid ydych chi'n cytuno, mewn gwirionedd, pe na bai'r cytundeb wedi'i gyrraedd rhwng Phlaid Cymru a'r Blaid Lafur, y byddai sefyllfa'r cynghorau yn y de-ddwyrain ac ar draws Cymru gyfan yn llawer gwaeth?

I certainly agree with that last point, Llywydd. I was very glad to be able to reach an agreement with Plaid Cymru to provide that additional £112.8 million to support our local authorities. It means that every single local authority in Wales has a minimum uplift of 4 per cent and an average uplift of 4.6 per cent. Indeed, there are a number of councils in Laura Anne Jones's region that have particularly benefited from that additional investment.

Rwy'n sicr yn cytuno â'r pwynt olaf, Lywydd. Roeddwn yn falch iawn o allu dod i gytundeb gyda Phlaid Cymru i ddarparu'r £112.8 miliwn ychwanegol i gefnogi ein hawdurdodau lleol. Mae'n golygu bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru isafswm cynnydd o 4 y cant a chynnydd cyfartalog o 4.6 y cant. Yn wir, mae yna nifer o gynghorau yn rhanbarth Laura Anne Jones wedi elwa'n arbennig o'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw.

Cyllid Canlyniadol Barnett
Barnett Consequentials

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ba ddyraniadau cyllid canlyniadol Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cael yng ngoleuni datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU? OQ63973

6. Will the Cabinet Secretary make a statement on what Barnett consequentials the Welsh Government expects to be allocated light of the UK Government's spring statement? OQ63973

I thank the Member for the question, Llywydd. The Welsh Government's settlement over the next three years is nearly £6 billion higher than it would have been under the spending plans set out by the previous UK Government. It will be for the next Welsh Government to allocate the £555 million in additional funding contained in the spring statement, taking into account the needs and circumstances in Wales.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Lywydd. Mae setliad Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf bron i £6 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU. Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn dyrannu'r £555 miliwn mewn cyllid ychwanegol a gynhwysir yn natganiad y gwanwyn, gan ystyried yr anghenion a'r amgylchiadau yng Nghymru.

Thank you, Cabinet Secretary. I appreciate you dealt with this at the last session, last Wednesday, with the urgent question—and that's what happens with the tabling arrangements when they catch you out. But I would be grateful to try to understand how some of this money might be allocated for emergency pressures, such as increased fuel costs and energy costs. You highlighted how the NHS, for example, in the last fuel spike, had an £80 million demand placed on it. Could you give us a taste of what we might be expecting if the energy spike continues in its current form?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n deall eich bod wedi delio â hyn yn y sesiwn ddiwethaf, ddydd Mercher diwethaf, gyda'r cwestiwn brys—a dyna beth sy'n digwydd gyda'r trefniadau cyflwyno pan fyddant yn eich dal ar y droed ôl. Ond hoffwn geisio deall sut y gellid dyrannu rhywfaint o'r arian hwn ar gyfer pwysau brys, megis costau tanwydd uwch a chostau ynni. Fe wnaethoch chi nodi sut oedd y GIG, er enghraifft, yn y cynnydd sydyn diwethaf i gostau tanwydd, wedi wynebu galw o £80 miliwn. A allech chi roi blas i ni o'r hyn y gallem ei ddisgwyl os yw'r cynnydd sydyn mewn costau ynni'n parhau ar ei ffurf bresennol?

I thank the Member for that question, because I think that is a really important new context for the spring statement. As I said in an earlier answer, the forecasts provided by the Office for Budget Responsibility were created before the war in the middle east; that creates an entirely new context for the use of money from the spring statement.

We know that Wales is as exposed as anywhere else to hikes in oil prices, to the impact on liquefied natural gas supplies, to the impact on fertiliser. Anywhere between 25 per cent and 35 per cent of the world's fertiliser supplies go through the Strait of Hormuz. That ends up being additional costs borne by Welsh farmers, as it does in other parts of the globe.

It's my belief that an incoming finance Minister will be very glad to have that £555 million, which is not committed as yet because there may be some very serious calls on it as Welsh citizens, Welsh businesses and Welsh public services face the consequences of what we see happening in another part of the world.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n gyd-destun newydd pwysig iawn i ddatganiad y gwanwyn. Fel y dywedais mewn ateb cynharach, crëwyd y rhagolygon a ddarparwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol cyn y rhyfel yn y dwyrain canol; mae hynny'n creu cyd-destun hollol newydd ar gyfer y defnydd o arian o ddatganiad y gwanwyn.

Gwyddom fod Cymru mor agored ag unrhyw le arall i godiadau mewn prisiau olew, i'r effaith ar gyflenwadau nwy naturiol hylifedig, i'r effaith ar wrtaith. Mae unrhyw beth rhwng 25 y cant a 35 y cant o gyflenwadau gwrtaith y byd yn mynd drwy Gulfor Hormuz. Daw hynny'n gostau ychwanegol sy'n cael eu talu gan ffermwyr Cymru, fel y mae mewn rhannau eraill o'r byd.

Rwy'n credu y bydd Gweinidog cyllid newydd yn falch iawn o gael y £555 miliwn hwnnw, sydd heb ei ymrwymo eto oherwydd efallai y bydd galwadau pwysig arno wrth i ddinasyddion Cymru, busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru wynebu canlyniadau'r hyn a welwn yn digwydd mewn rhan arall o'r byd.

Last week, the First Minister announced a pledge for the largest NHS investment programme in Welsh history and for the replacement of the University Hospital of Wales in the Heath, in my constituency of Cardiff North, which is urgently in need of replacement. This was a very welcome pledge. How does the money that will come to Wales through the spring statement support this commitment?

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog addewid ar gyfer y rhaglen fuddsoddi GIG fwyaf yn hanes Cymru ac adeiladu ysbyty newydd yn lle Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, sydd angen ei ailadeiladu ar frys. Roedd hwn yn addewid i'w groesawu'n fawr. Sut y mae'r arian a ddaw i Gymru drwy ddatganiad y gwanwyn yn cefnogi'r ymrwymiad hwn?

I thank Julie Morgan for that. As a Cardiff Senedd Member, of course I share her welcome for the pledge to invest £4 billion in the health estate over the next Senedd term, and to attend to the needs of the University Hospital of Wales. There is help, of course, in that £555 million towards those costs. A relatively small amount of it comes directly in capital, but the capital that will be needed to meet that pledge will be a combination of conventional capital, capital borrowing—the extended capital borrowing we are now able to deploy—and the new financial instruments that we have developed here in Wales that have allowed the rebuilding of the Velindre hospital in the Member's constituency. I look forward very much to the next four years, where we will see that combination of measures being able to support really important developments in west Wales, here in Cardiff, and, of course, in the Maelor hospital in north Wales as well.

Diolch i Julie Morgan am hynny. Fel Aelod o'r Senedd yng Nghaerdydd, wrth gwrs, rwy'n rhannu ei chroeso i'r addewid i fuddsoddi £4 biliwn yn yr ystad iechyd dros dymor nesaf y Senedd, ac i ddiwallu anghenion Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae help yn y £555 miliwn hwnnw tuag at y costau hynny. Daw swm cymharol fach ohono'n uniongyrchol ar ffurf cyfalaf, ond bydd y cyfalaf y bydd ei angen i gyflawni'r addewid hwnnw'n gyfuniad o gyfalaf confensiynol, benthyca cyfalaf—y benthyca cyfalaf estynedig y gallwn ei wneud bellach—a'r offerynnau ariannol newydd yr ydym wedi'u datblygu yma yng Nghymru sydd wedi ei gwneud hi'n bosib ailadeiladu ysbyty Felindre yn etholaeth yr Aelod. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y pedair blynedd nesaf, pan fyddwn yn gweld y cyfuniad hwnnw o fesurau'n gallu cefnogi datblygiadau pwysig iawn yng ngorllewin Cymru, yma yng Nghaerdydd, ac wrth gwrs, yn ysbyty Maelor yng ngogledd Cymru hefyd.

14:10
Ardoll Ymwelwyr
Visitor Levy

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd ardoll ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn ei chael ar Ddwyrain De Cymru? OQ63962

7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the impact the Welsh Government's visitor levy will have on South Wales East? OQ63962

I thank the Member for that, Llywydd. There are currently no visitor levies in operation across Wales, and no local authority in south-east Wales has consulted on whether to introduce a levy. More general impact assessments on the levy are available as part of the documentation presented to the Senedd when the Bill was before Members.

Diolch i'r Aelod am hynny, Lywydd. Ar hyn o bryd nid oes ardollau ymwelwyr ar waith ledled Cymru, ac nid oes unrhyw awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru wedi ymgynghori ynglŷn ag a ddylid cyflwyno ardoll. Mae asesiadau effaith mwy cyffredinol ar yr ardoll ar gael yn rhan o'r ddogfennaeth a gyflwynwyd i'r Senedd pan oedd y Bil gerbron yr Aelodau.

Thank you for your response, Cabinet Secretary. We on these benches know how damaging Labour and Plaid's tourism tax would be on Wales, not just for the region of south-east Wales, but across the county. I can't believe I'm saying this, but in Newport, it appears that there is at least one Labour politician with a commonsense approach. The city council's leader has distanced himself from this policy, confirming that the local authority has no plans to bring forward such a tax, which is a welcome relief for many. Newport has a lot to offer, and I believe we should be doing all that we can to promote the city to tourists, not just slapping them with taxes. Cabinet Secretary, how are you working with your colleagues in the Welsh Government to boost tourism in places like Newport? To me, it looks as though the Labour administration is doing all it can to put people off coming to Wales. Thank you.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni ar y meinciau hyn yn gwybod pa mor niweidiol fyddai treth dwristiaeth Llafur a Phaid Cymru ar Gymru, nid yn unig i ranbarth de-ddwyrain Cymru, ond ar draws y sir. Ni allaf gredu fy mod i'n dweud hyn, ond yng Nghasnewydd, mae'n ymddangos bod o leiaf un gwleidydd Llafur yn meddu ar ymagwedd synnwyr cyffredin. Mae arweinydd cyngor y ddinas wedi ymbellhau oddi wrth y polisi hwn, gan gadarnhau nad oes gan yr awdurdod lleol unrhyw gynlluniau i gyflwyno treth o'r fath, sy'n rhyddhad i'w groesawu i lawer. Mae gan Gasnewydd lawer i'w gynnig, ac rwy'n credu y dylem wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r ddinas i dwristiaid, nid dim ond eu taro â threthi. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i hybu twristiaeth mewn llefydd fel Casnewydd? I mi, mae'n ymddangos fel pe bai'r weinyddiaeth Lafur yn gwneud popeth yn ei gallu i atal pobl rhag dod i Gymru. Diolch.

There's a great deal of nonsense talked in that question, because it denies the basic premise of the visitor levy, which is that it is a permissive tax for each local authority to decide whether or not they would find that a useful tool to deploy in their areas. If the leader of Newport council feels it's not a useful thing for him, that is every bit as good a decision as the leader of Cardiff's decision that it would be a useful tool in the Cardiff context.

What has happened to the Welsh Conservative Party, Llywydd? I remember the days when, in David Cameron's big society, the Conservative Party believed in shrinking the role of central Government and handing decisions to local authorities, local communities and local residents. That's exactly what the visitor levy Bill does. But now, we have a Conservative Party in Wales that believes that it knows better than they do.

Where local people have decided to do something, the Welsh Conservative Party will step in and tell them, in that Big Brother way, that they know better than they do. That's exactly what the Member has said. It's exactly what your manifesto says. We believe that local people should have that choice. If local authorities decide it's right for them, having gone through all the process, they should be allowed to do it. We turn out to believe in localism, and they turn out to believe in exactly the opposite.

Siaradwyd llawer o nonsens yn y cwestiwn hwnnw, oherwydd mae'n gwadu cynsail sylfaenol yr ardoll ymwelwyr, sef ei bod yn dreth sy'n caniatáu i bob awdurdod lleol benderfynu a fyddent yn ei ystyried yn offeryn defnyddiol i'w ddefnyddio yn eu hardaloedd ai peidio. Os yw arweinydd cyngor Casnewydd yn teimlo nad yw'n ddefnyddiol iddo, mae hwnnw'n benderfyniad llawn cystal â phenderfyniad arweinydd Caerdydd y byddai'n offeryn defnyddiol yng nghyd-destun Caerdydd.

Beth sydd wedi digwydd i'r Blaid Geidwadol Gymreig, Lywydd? Rwy'n cofio'r dyddiau pan oedd y Blaid Geidwadol, yng nghymdeithas fawr David Cameron, yn credu mewn crebachu rôl Llywodraeth ganolog a throsglwyddo penderfyniadau i awdurdodau lleol, cymunedau lleol a thrigolion lleol. Dyna'n union y mae Bil yr ardoll ymwelwyr yn ei wneud. Ond nawr, mae gennym Blaid Geidwadol yng Nghymru sy'n credu ei bod yn gwybod yn well na nhw.

Lle mae pobl leol wedi penderfynu gwneud rhywbeth, bydd Plaid Geidwadol Cymru yn camu i mewn ac yn dweud wrthynt, fel Brawd Mawr, eu bod yn gwybod yn well na nhw. Dyna'n union a ddywedodd yr Aelod. Dyna'n union y mae eich maniffesto'n ei ddweud. Credwn y dylai pobl leol gael y dewis hwnnw. Os yw awdurdodau lleol yn penderfynu ei fod yn iawn iddynt hwy, ar ôl mynd drwy'r holl broses, dylid caniatáu iddynt ei wneud. Mae'n ymddangos ein bod ni'n credu mewn lleoliaeth a'u bod nhw'n credu'r gwrthwyneb yn llwyr.

Datganiad y Gwanwyn
Spring Statement

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63974

8. Will the Cabinet Secretary make a statement on the implications of the UK Government's spring statement for Mid and West Wales? OQ63974

Diolch yn fawr i Cefin Campbell. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adfer sefydlogrwydd i'r economi a chyllid cyhoeddus. Cadarnhaodd rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd cynhyrchiant, enillion ac incwm gwirioneddol aelwydydd yn cynyddu, buddion a fydd yn cael eu teimlo ledled Cymru drwy wella safonau byw a sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn well eu bywyd a phlant yn cael eu codi allan o dlodi.

Thank you very much, Cefin Campbell. The UK Government are restoring stability in the economy and public finances. The Office for Budget Responsibility forecast confirmed that productivity, earnings and real household disposable income will increase, benefits that will be felt across Wales through improved living standards, ensuring working people are better off and that children are lifted out of poverty.

Diolch yn fawr iawn.

Thank you very much. 

So, my question on the implications of the UK spring statement refers to one area of particular concern, which you've referred to already in answer to Joyce Watson's question. It's around the support given to restaurants, pubs and other hospitality businesses in rural areas, which are vital employers and social hubs, yet they're facing rising costs. So, in light of the wider fiscal context, following the spring statement, pubs in England will receive 15 per cent business rates relief in 2026-27, with their bills then frozen in real terms for the following two years until 2029.

In contrast, the Welsh Government has announced the same level of relief as in England in 2026-27, but this support is currently confirmed for only a single year. Given the pressures on hospitality businesses in my region, and in light of the wider fiscal context following the spring statement, why has the Welsh Government chosen only one year of relief when England has provided multi-year certainty?

Felly, mae fy nghwestiwn ar oblygiadau datganiad y gwanwyn y DU yn cyfeirio at un maes sy'n peri pryder arbennig, ac rydych chi wedi cyfeirio ato eisoes mewn ateb i gwestiwn Joyce Watson. Mae'n ymwneud â'r gefnogaeth a roddir i fwytai, tafarndai a busnesau lletygarwch eraill mewn ardaloedd gwledig, sy'n gyflogwyr hanfodol a chanolfannau cymdeithasol, ond maent yn wynebu costau cynyddol. Felly, yng ngoleuni'r cyd-destun cyllidol ehangach, yn sgil datganiad y gwanwyn, bydd tafarndai yn Lloegr yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 15 y cant yn 2026-27, gyda'u biliau wedyn wedi'u rhewi mewn termau real am y ddwy flynedd nesaf tan 2029.

Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r un lefel o ryddhad ag yn Lloegr yn 2026-27, ond mae'r gefnogaeth hon wedi'i gadarnhau ar hyn o bryd am un flwyddyn yn unig. O ystyried y pwysau ar fusnesau lletygarwch yn fy rhanbarth i, ac yng ngoleuni'r cyd-destun cyllidol ehangach yn dilyn datganiad y gwanwyn, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis un flwyddyn yn unig o ryddhad pan fo Lloegr wedi darparu sicrwydd aml-flwyddyn?

14:15

Well, there is a very simple explanation, Llywydd, and it's this: that we did not know until the final estimates, which we don't get until February, how much money we would get in years 2 and 3 of the scheme. So, it was impossible when we announced next year's plans to anticipate what we could do in years 2 and 3, because we simply didn't have knowledge of how much money we would have. We do know that now. We know it as a result of the spring statement. There is £5 million as a consequential of the scheme in England in the next financial year. As I explained in my answer to Joyce Watson, actually, in Wales, we will spend £8 million next year, £3 million more than the consequential. In the second year of the spring statement, we will get £8 million, and in the third year, we will get £11 million.

So, it is now open to an incoming Welsh Government, knowing the facts, to make provision for years 2 and 3. We have only a one-year budget for next year, so an incoming Government would need to use the first supplementary budget of next year to extend the scheme for two more years. It simply wasn't technically possible at the time of our first announcement. It will be now we're in possession of the full facts.

Wel, mae yna esboniad syml iawn, Lywydd, a dyma fe: nid oeddem yn gwybod faint o arian y byddem yn ei gael ym mlynyddoedd 2 a 3 y cynllun tan yr amcangyfrifon terfynol nad ydym yn eu cael tan fis Chwefror. Felly, pan wnaethom gyhoeddi cynlluniau'r flwyddyn nesaf roedd yn amhosib rhagweld beth y gallem ei wneud ym mlynyddoedd 2 a 3 am nad oedd gennym wybodaeth ynglŷn â faint o arian a fyddai gennym. Rydym yn gwybod hynny nawr. Rydym yn gwybod o ganlyniad i ddatganiad y gwanwyn. Mae £5 miliwn o arian canlyniadol yn sgil y cynllun yn Lloegr yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fel yr esboniais yn fy ateb i Joyce Watson, yng Nghymru, byddwn yn gwario £8 miliwn y flwyddyn nesaf, £3 miliwn yn fwy na'r swm canlyniadol. Yn yr ail flwyddyn o ddatganiad y gwanwyn, byddwn yn cael £8 miliwn, ac yn y drydedd flwyddyn, byddwn yn cael £11 miliwn.

Felly, o wybod y ffeithiau, mae bellach yn bosib i'r Llywodraeth newydd yng Nghymru wneud darpariaeth ar gyfer blynyddoedd 2 a 3. Dim ond cyllideb blwyddyn sydd gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly byddai angen i Lywodraeth newydd ddefnyddio cyllideb atodol gyntaf y flwyddyn nesaf i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall. Nid oedd yn dechnegol bosib ar adeg ein cyhoeddiad cyntaf. Bydd yn bosib nawr gan fod gennym y ffeithiau llawn erbyn hyn.

Cwestiwn 9 gan Gareth Davies yn olaf. 

Finally, question 9 from Gareth Davies. 

Ardoll Ymwelwyr
Visitor Levy

9. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian a godir o'r ardoll ymwelwyr yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith twristiaeth? OQ63964

9. How will the Welsh Government ensure that money raised from the visitor levy will be invested in tourism infrastructure? OQ63964

I thank the Member, Llywydd. The Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Act 2025 requires levy revenues to be used for the purposes of destination management and improvement. Local authorities that introduce a levy must establish a partnership forum consisting of local tourism representatives, ensuring that spending aligns with local tourism needs.

Diolch i'r Aelod, Lywydd.  Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i refeniw ardoll gael ei ddefnyddio at ddibenion rheoli a gwella cyrchfan. Rhaid i awdurdodau lleol sy'n cyflwyno ardoll sefydlu fforwm partneriaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr twristiaeth lleol, gan sicrhau bod gwariant yn cyd-fynd ag anghenion twristiaeth lleol.

Thank you, Cabinet Secretary. The Welsh Conservatives, as you know, are pioneers of localism, but, equally, you will know this was a measure that was passed by a Labour and Plaid almost-coalition in this Senedd. The Welsh Conservatives have always been straight that we've always been opposed to this on behalf of our local tourism operators. With the levy due to be introduced from 1 April next year, at the point at which local authorities will have the option of applying the tax, tourism operators and businesses that we represent across Wales are understandably seeking clear assurances about how that money will be raised and actually used.

There is a real concern within the sector that the revenue raised could simply be absorbed into a wider local authority funding pot, and used to meet pressures on other services. In particular, those working in the sector want confidence that the revenue generated from their industry—more accurately, from customers that are attracted to Wales—will actually be reinvested in maintaining and improving tourism infrastructure that those visitors rely upon.

So, can the Cabinet Secretary outline how revenue raised from the levy will be ring-fenced and used to maintain and enhance the infrastructure that supports tourism, rather than being diverted into other areas that do not directly benefit from the sector where this tax is being raised?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gwyddoch, yn arloeswyr mewn lleoliaeth, ond yn yr un modd, fe fyddwch yn gwybod bod hwn yn fesur a basiwyd gan yr hyn a oedd bron yn glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd hon. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig bob amser wedi bod yn onest ein bod bob amser wedi gwrthwynebu hyn ar ran ein gweithredwyr twristiaeth lleol. Gyda'r ardoll i fod i gael ei chyflwyno o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, ar y pwynt y bydd gan awdurdodau lleol opsiwn i osod y dreth, mae gweithredwyr twristiaeth a busnesau yr ydym yn eu cynrychioli ledled Cymru, yn ddealladwy, yn ceisio sicrwydd clir ynglŷn â sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei godi a'i ddefnyddio.

Mae pryder gwirioneddol yn y sector y gallai'r refeniw a godir gael ei amsugno i bot cyllido ehangach awdurdod lleol, a'i ddefnyddio i leddfu pwysau ar wasanaethau eraill. Yn fwyaf arbennig, mae'r rhai sy'n gweithio yn y sector eisiau hyder y bydd y refeniw a gynhyrchir o'u diwydiant—yn fwy cywir, gan gwsmeriaid sy'n cael eu denu i Gymru—yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn cynnal a gwella seilwaith twristiaeth y mae'r ymwelwyr hynny'n dibynnu arno.

Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd refeniw a godir o'r ardoll yn cael ei neilltuo a'i ddefnyddio i gynnal a gwella'r seilwaith sy'n cefnogi twristiaeth, yn hytrach na chael ei ddargyfeirio i feysydd eraill nad ydynt yn elwa'n uniongyrchol o'r sector lle caiff y dreth hon ei chodi?

Well, Llywydd, the design of the visitor levy is exactly to give confidence to people that the money raised will be reinvested in creating the conditions of success for the industry, and for the communities in which the industry operates. No levy can be introduced until a local authority has carried out a consultation with its local population, including businesses that operate in that area. If a local authority decides to go ahead with the levy, then the legislation requires them to keep any money raised in a separate account that will be visible to anybody. They will then have to report annually on how that money has been spent. Those are safeguards to ensure that the money cannot be diverted to doing things that are not covered by the statutory obligation in the Act that money must be spent only for the purposes of destination management and improvement.

Now, Llywydd, the Member and I had, I thought, an interesting exchange in committee last week about support for the Welsh language, and he'll be pleased, I think, to know that, in the Act, it is specifically allowed for money raised to be invested in supporting the Welsh language, where the language is part of the tourism offer, part of what brings people to visit that area. One of the things that you could use the proceeds of the levy to do would be to sustain the character of that area, continuing to make it attractive to people to visit.

It's the whole purpose of the levy. It was designed from the very beginning to ensure that it gives confidence to local residents and to business owners that the money raised is being spent in a way consistent with the views of the Senedd.

Wel, Lywydd, lluniwyd yr ardoll ymwelwyr yn unswydd er mwyn rhoi hyder i bobl y bydd yr arian a godir yn cael ei ailfuddsoddi i greu amodau llwyddiant i'r diwydiant, ac i'r cymunedau y mae'r diwydiant yn gweithredu ynddynt. Ni ellir cyflwyno ardoll nes bod awdurdod lleol wedi cynnal ymgynghoriad â'i boblogaeth leol, gan gynnwys busnesau sy'n gweithredu yn yr ardal honno. Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bwrw ymlaen â'r ardoll, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw unrhyw arian a godir mewn cyfrif ar wahân a fydd yn weladwy i unrhyw un. Yna bydd yn rhaid iddynt adrodd yn flynyddol ar sut y caiff yr arian hwnnw ei wario. Mae'r rheini'n fesurau diogelu i sicrhau na ellir dargyfeirio'r arian i wneud pethau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhwymedigaeth statudol yn y Ddeddf y dylid gwario arian at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn unig.

Nawr, Lywydd, cawsom drafodaeth ddiddorol yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf ynglŷn â chefnogaeth i'r Gymraeg, ac fe fydd yn falch o wybod, rwy'n meddwl, fod y Ddeddf yn dweud yn benodol y caniateir i arian a godir gael ei fuddsoddi i gefnogi'r Gymraeg, lle mae'r iaith yn rhan o'r cynnig twristiaeth, yn rhan o'r hyn sy'n dod â phobl i ymweld â'r ardal honno. Un o'r pethau y gallech ddefnyddio elw'r ardoll i'w wneud fyddai cynnal cymeriad yr ardal honno, gan barhau i'w gwneud yn ddeniadol i bobl ymweld â hi.

Dyma holl bwrpas yr ardoll. Fe'i lluniwyd o'r cychwyn cyntaf i sicrhau ei bod yn rhoi hyder i drigolion lleol ac i berchnogion busnes fod yr arian a godir yn cael ei wario mewn ffordd sy'n gyson â safbwyntiau'r Senedd.

14:20

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet. 

Thank you very much, Cabinet Secretary.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
2. Questions to the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.

The next item is questions to the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs. The first question is from Carolyn Thomas. 

Cysylltu Pobl â Byd Natur
Connecting People with Nature

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Rhwydweithiau Natur yn cysylltu pobl â byd natur? OQ63957

1. Will the Cabinet Secretary provide an update on how the Local Places for Nature and Nature Network schemes are connecting people with nature? OQ63957

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:21:48
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

I will indeed. Thank you, Carolyn. Through initiatives including the Nature Networks programme, Local Places for Nature and Natur am Byth, Welsh Government have now invested over £150 million this Senedd term alone to restore nature and create green spaces right on people’s doorsteps. These projects, as you know, connect communities with nature, they improve well-being and they strengthen Wales’s resilience to climate change.

Gwnaf yn wir. Diolch, Carolyn. Drwy fentrau gan gynnwys y rhaglen Rhwydweithiau Natur, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Natur am Byth, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi buddsoddi dros £150 miliwn yn y tymor Senedd hwn yn unig i adfer natur a chreu mannau gwyrdd ar garreg drws pobl. Mae'r prosiectau hyn, fel y gwyddoch , yn cysylltu cymunedau â natur, maent yn gwella llesiant ac yn cryfhau gwydnwch Cymru yn wyneb newid hinsawdd.

Thank you for the response. I wanted to highlight how, without the Local Places for Nature funding created by this Labour Welsh Government, local authorities would struggle to employ biodiversity officers, ecologists, and create more than 4,000 green spaces for nature and growing food, with more than 20,000 volunteers involved, transforming their lives. That's more than 2,400 pollinator sites, 700 community orchards and 86 therapeutic gardens for mental health and well-being at the last count. Environmental organisations have also used the Nature Networks fund to enhance biodiversity and access.

Deputy First Minister, I'm really proud that this Welsh Labour Government cares about our natural environment. It's one of its priorities. Would you agree that connecting people to nature is so important for our physical and mental health and well-being, but also for educating them about the importance of biodiversity and healthy ecosystems? We ignore it at our peril, and without it, there's no food, no economy. So, how are you promoting all that good work that is taking place so that it's not undervalued and can continue?

Diolch am yr ymateb. Roeddwn eisiau tynnu sylw at sut y byddai awdurdodau lleol, heb y cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a grëwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, yn cael trafferth cyflogi swyddogion bioamrywiaeth, ecolegwyr, a chreu mwy na 4,000 o fannau gwyrdd ar gyfer natur a thyfu bwyd, gyda mwy na 20,000 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn y gwaith, gan drawsnewid eu bywydau. Mae hynny'n golygu mwy na 2,400 o safleoedd pryfed peillio, 700 o berllannau cymunedol ac 86 o erddi therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl a llesiant yn y cyfrif diwethaf. Mae sefydliadau amgylcheddol hefyd wedi defnyddio'r gronfa Rhwydweithiau Natur i wella bioamrywiaeth a mynediad.

Ddirprwy Brif Weinidog, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn malio am ein hamgylchedd naturiol. Mae'n un o'i blaenoriaethau. A fyddech chi'n cytuno bod cysylltu pobl â natur mor bwysig i'n hiechyd corfforol a meddyliol a'n llesiant, ond hefyd i'w haddysgu am bwysigrwydd bioamrywiaeth ac ecosystemau iach? Gwae ni os gwnawn ei anwybyddu, a hebddo, nid oes bwyd, nid oes economi. Felly, sut ydych chi'n hyrwyddo'r holl waith da hwnnw sy'n digwydd fel nad yw'n cael ei danbrisio ac er mwyn iddo barhau?

Carolyn, thank you very much. Can I just say, as this will be my last oral questions for the moment—for the moment—I do just want to genuinely thank Carolyn for the way she has championed biodiversity and the natural environment through all the time she's been here, in every oral questions and including the work you've done yourself in organising things such as the Senedd biodiversity event? You, amongst others, have really pushed this hard.

We are pleased as Welsh Government to continue championing the importance of our natural environment and the join-up between people and their green spaces as well. We should absolutely be celebrating all the positive work that's being undertaken across Wales, including with the many volunteers that are involved. There are multiple gains here, including those well-being gains. In fact, it's been one of the delights of my tenure in this role to visit these right across Wales and see the showcase of initiatives that we have. In fact, I'm doing it tomorrow as well. I'm out visiting several of our Nature Networks projects, together, I have to say, with additional announcements planned before the end of this Senedd term as well.

So, yes, it's absolutely key that this Government, and any future Government, does not walk away from its commitments to this agenda, does not ignore the nature and the climate crises, but also goes on the optimistic note that says, we can, together, as a society in Wales, make a difference, lead the way, and that's what we need to continue to do.

Diolch yn fawr, Carolyn. A gaf i ddweud, gan mai hwn fydd fy nghwestiynau llafar olaf am nawr—am y tro—rwyf am ddiolch yn ddiffuant i Carolyn am y ffordd y mae hi wedi hyrwyddo bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol dros yr holl amser y mae hi wedi bod yma, ym mhob sesiwn gwestiynau llafar ac yn cynnwys y gwaith rydych chi wedi'i wneud eich hun yn trefnu pethau fel digwyddiad bioamrywiaeth y Senedd? Rydych chi, ymhlith eraill, wedi gwthio'n galed ar hyn mewn gwirionedd.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o barhau i hyrwyddo pwysigrwydd ein hamgylchedd naturiol a'r cydgysylltiad rhwng pobl a'u mannau gwyrdd hefyd. Dylem ddathlu'r holl waith cadarnhaol sy'n cael ei wneud ledled Cymru, gan gynnwys gyda'r nifer o wirfoddolwyr sy'n rhan ohono. Mae yna nifer o enillion yma, gan gynnwys yr enillion llesiant hynny. Un o bleserau fy nghyfnod yn y swydd oedd ymweld â'r rhain ledled Cymru a gweld y myrdd o fentrau sydd gennym. Rwy'n ei wneud yfory hefyd mewn gwirionedd. Rwyf allan yn ymweld â nifer o'n prosiectau Rhwydweithiau Natur, ac mae cyhoeddiadau ychwanegol yn yr arfaeth cyn diwedd tymor y Senedd hon hefyd.

Felly, mae'n hollol allweddol nad yw'r Llywodraeth hon, nac unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol, yn troi cefn ar ei hymrwymiadau i'r agenda hon, ac nad yw'n anwybyddu'r argyfyngau natur a hinsawdd, ond bod yna nodyn optimistaidd hefyd sy'n dweud, gyda'n gilydd, fel cymdeithas yng Nghymru, y gallwn wneud gwahaniaeth, arwain y ffordd, a dyna beth sydd angen inni barhau i'w wneud.

I'm in a losing battle here. Not only do I have Members thanking Ministers, now I have Ministers thanking Members [Laughter.] I'm a big fan of thanking you, Carolyn Thomas, so I didn't intervene on the Minister, but if we can, please, focus on the remaining scrutiny of Government that needs to happen over the next two weeks, that would be great. Altaf Hussain.

Rwy'n ymladd brwydr nad wyf yn mynd i'w hennill fan hyn. Nid yn unig y mae gennyf Aelodau'n diolch i Weinidogion, nawr mae gennyf Weinidogion yn diolch i'r Aelodau [Chwerthin.] Rwy'n gefnogol iawn i chi gael diolch, Carolyn Thomas, felly ni wneuthum ymyrryd ar y Gweinidog, ond os gallwn ganolbwyntio os gwelwch yn dda ar y craffu sy'n weddill ar y Llywodraeth gan fod angen i hynny ddigwydd dros y pythefnos nesaf, byddai hynny'n wych. Altaf Hussain.

14:25

Thank you, Presiding Officer. I am privileged and we are privileged that we are here in Wales where we are very near to nature. Cabinet Secretary, I'm sure you'll agree with me that connecting people with nature should not be at the expense of nature and habitats. I would like to draw your attention to the creation of a butterfly garden at the wilderness garden in Porthcawl. Bulldozers and crew armed with chainsaws have been chopping down trees in order to create a habitat for butterflies. Local residents were told that there would be some ivy removal to improve light, and instead a large number of trees have been killed and tonnes of gravel imported to create footpaths for future visitors. Cabinet Secretary, how will the Welsh Government prevent local councils from carrying out this type of habitat vandalism under the guise of connecting people with nature?

Diolch, Lywydd. Rwy'n freintiedig ac rydym ni'n freintiedig ein bod ni yma yng Nghymru yn agos iawn at natur. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi na ddylai cysylltu pobl â natur ddigwydd ar draul natur a chynefinoedd. Hoffwn dynnu eich sylw at greu gardd loÿnnod byw yn yr ardd wyllt ym Mhorthcawl. Mae teirw dur a chriw wedi'u harfogi â llifiau cadwyn wedi bod yn torri coed er mwyn creu cynefin ar gyfer gloÿnnod byw. Dywedwyd wrth drigolion lleol y byddai rhywfaint o dynnu eiddew er mwyn gwella'r golau, ac yn lle hynny mae nifer fawr o goed wedi cael eu lladd a thunelli o raean wedi'u cludo i mewn i greu llwybrau troed ar gyfer ymwelwyr yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn atal cynghorau lleol rhag cyflawni'r math hwn o fandaliaeth i gynefinoedd dan gochl cysylltu pobl â natur?

Thank you for raising that. I'm not aware of that particular incidence, but I'm more than happy, if you want to drop me a line—I can ask my officials and team, then, to look at it. But the way that we actually promote this is through our investment alongside communities in nature initiatives. Many of them are, indeed, focused on pollinators as well, including in your own area. If you walk across the Downs above Ogmore-by-Sea, the success we've had there in the return of the brown fritillary butterfly is through worker volunteers and also Welsh Government-supported investment there as well, and some real expertise on the ground.

So, please do drop me a line on that particular issue and I'll look into it. We're not there to micromanage every local authority. I would also suggest that you take that up directly with the local authority as well. But balancing between people and places and nature is exactly where we should be, and protecting nature.

Diolch am godi hynny. Nid wyf yn ymwybodol o'r digwyddiad penodol hwnnw, ond rwy'n fwy na hapus, os ydych chi am ysgrifennu ataf—gallaf ofyn i fy swyddogion a fy nhîm edrych ar hynny. Ond rydym yn hyrwyddo hyn drwy ein buddsoddiad ochr yn ochr â mentrau cymunedau a natur. Mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar bryfed peillio hefyd, gan gynnwys yn eich ardal chi. Os cerddwch ar draws y twyni ger Aberogwr, mae'r llwyddiant a gawsom yno gyda dychweliad y fritheg frown wedi digwydd diolch i weithwyr gwirfoddol a buddsoddiad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yno, ac arbenigedd gwirioneddol ar lawr gwlad.

Felly, ysgrifennwch ataf ar y mater penodol hwnnw ac fe edrychaf arno. Nid ydym yno i ficroreoli pob awdurdod lleol. Rwy'n awgrymu hefyd eich bod chi'n mynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol gyda'r awdurdod lleol. Ond cydbwyso rhwng pobl a lleoedd a natur yw'r hyn y dylem ei wneud, a gwarchod natur.

Minister, the Maindee area of Newport, on the edge of the city centre, was lacking in green spaces until an organisation called Greening Maindee came along with a hardy small band of volunteers, which, thankfully, has grown since. They've created several green areas by planting, areas where people can sit and rest and chat and it's been an absolutely game-changing initiative for that part of Newport, through Local Places for Nature in partnership with Welsh Government, the local authority, small businesses and others. Their latest initiative is Maindee in Bloom, which encourages the creation of pollinator-friendly gardening and colourful gardening and will be judged in accordance with those criteria. It's absolutely wonderful to meet the people involved, Minister, and to work with them and connect them to some of the support that's available. Would you join me, and I'm sure you would, in congratulating their efforts, and possibly coming to meet with them, if it's possible to squeeze in another such visit in the limited time left in this Senedd?

Weinidog, roedd ardal Maendy yng Nghasnewydd, ar gyrion canol y ddinas, yn brin o fannau gwyrdd nes i sefydliad o'r enw Greening Maindee gynnull grŵp bach gwydn o wirfoddolwyr, sydd, diolch byth, wedi tyfu ers hynny. Maent wedi creu sawl ardal werdd drwy blannu, ardaloedd lle gall pobl eistedd a gorffwys a sgwrsio ac mae wedi bod yn fenter sy'n drawsnewidiol i'r rhan honno o Gasnewydd, drwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, busnesau bach ac eraill. Eu menter ddiweddaraf yw Maindee in Bloom, sy'n annog pobl i greu gerddi a garddio lliwgar i ddenu pryfed peillio, a bydd yn cael ei farnu'n unol â'r meini prawf hynny. Mae'n hollol wych cyfarfod â'r bobl sy'n rhan o hyn, Weinidog, a gweithio gyda nhw a'u cysylltu â rhywfaint o'r cymorth sydd ar gael. A wnewch chi ymuno â mi, ac rwy'n siŵr y gwnewch, i longyfarch eu hymdrechion, a dod i gyfarfod â nhw os yw'n bosib gwasgu ymweliad arall o'r fath yn yr amser cyfyngedig sydd ar ôl yn y Senedd hon?

John, thank you very much indeed for flagging up the Greening Maindee project and Maindee in Bloom as well. This is another example of the fantastic myriad, now, of these initiatives throughout Wales that are being driven by grass-roots activists and volunteers who are really concerned about nature, but supported as well by Welsh Government funding, through things such as our Local Places for Nature, which allows people, for example, to buy specialist equipment, expertise on mowing practices et cetera, to help with pollinators, and not least, as well, our It's for Them campaign, supporting pollinators and other wildlife, encouraging organisations managing areas such as that to develop those areas.

Look, if I have time, I'd love to, but if I can't before, because it's slightly busy at the moment, I'd love to still come along and visit the work that they're doing there. Can I say as well that one thing that Members might want to look at is the connecting people with nature, the latest initiative that I was at only last week, on 4 March, where I was down at Porthkerry Country Park, a wonderful country park, and we launched the first part of what will be the national forest trail, Llwybr Coedwig Cymru, going from north to south, with branches and routes going off through different communities, where you can have a woodland-connected walk throughout the whole of Wales. Let's keep on building on this, green building on this, so that we connect people with nature.

John, diolch yn fawr iawn am roi sylw i brosiect Greening Maindee a Maindee in Bloom hefyd. Dyma enghraifft arall o'r llu o fentrau ledled Cymru sy'n cael eu gyrru gan ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad sy'n malio'n fawr am natur, ond sy'n cael eu cefnogi hefyd gan gyllid Llywodraeth Cymru, drwy bethau fel ein Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n caniatáu i bobl brynu offer arbenigol, er enghraifft, neu arbenigedd ar arferion torri gwair ac ati, i helpu gyda phryfed peillio, a heb anghofio ein hymgyrch Iddyn Nhw, sy'n cefnogi pryfed peillio a bywyd gwyllt arall, gan annog sefydliadau i reoli mannau fel hyn er mwyn datblygu'r mannau hynny.

Edrychwch, os oes gennyf amser, buaswn wrth fy modd, ond os na allaf wneud hynny'n gynt, oherwydd mae hi braidd yn brysur ar hyn o bryd, buaswn wrth fy modd yn dod draw i ymweld â'r gwaith y maent yn ei wneud yno. A gaf i ddweud hefyd mai un peth y gallai'r Aelodau fod eisiau edrych arno yw cysylltu pobl â natur, y fenter ddiweddaraf yr oeddwn ynddi yr wythnos diwethaf, ar 4 Mawrth, lle roeddwn i lawr ym Mharc Gwledig Porthceri, parc gwledig gwych, ac fe wnaethom lansio'r rhan gyntaf o'r hyn a fydd yn llwybr coedwig genedlaethol, Llwybr Coedwig Cymru, sy'n mynd o'r gogledd i'r de, gyda changhennau a llwybrau'n mynd drwy wahanol gymunedau oddi arno, lle gallwch gael taith gerdded sy'n gysylltiedig â choetir drwy Cymru gyfan. Gadewch inni barhau i adeiladu ar hyn, adeiladu'n wyrdd ar hyn, fel ein bod yn cysylltu pobl â natur.

14:30
Ansawdd Dŵr mewn Afonydd
Water Quality in Rivers

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd dŵr mewn afonydd? OQ63977

2. How is the Welsh Government improving water quality in rivers? OQ63977

Thank you, Joyce. This Welsh Labour Government has the very highest ambition for healthy rivers and water quality in Wales. It's backed by an additional £56 million of funding in this Senedd term alone, and additional ring-fenced funding for enforcement. Three times as many of our rivers in Wales now achieve 'good' ecological status as compared to England, and we have had an 8 per cent improvement since 2009, showing that we can clean up our rivers. But too many of our rivers are still failing to reach 'good' status, so our reforms, going forward, will tackle all forms of water pollution and deliver the clean rivers, lakes and our seas that Wales and the people and places of Wales deserve.

Diolch, Joyce. Mae gan y Llywodraeth Lafur hon yr uchelgais mwyaf ar gyfer afonydd iach ac ansawdd dŵr yng Nghymru. Caiff ei gefnogi gan £56 miliwn ychwanegol o gyllid yn nhymor y Senedd hon yn unig, a chyllid ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer gorfodi. Mae tair gwaith yn fwy o'n hafonydd yng Nghymru bellach yn cyflawni statws ecolegol 'da' o'i gymharu â Lloegr, ac rydym wedi cael gwelliant o 8 y cant ers 2009, sy'n dangos y gallwn lanhau ein hafonydd. Ond mae gormod o'n hafonydd yn dal i fethu cyrraedd statws 'da', felly bydd ein diwygiadau, wrth fynd ymlaen, yn mynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr ac yn darparu'r afonydd, llynnoedd a moroedd glân y mae Cymru a phobl a lleoedd Cymru yn eu haeddu.

Absolutely. Thank you for that answer, Deputy First Minister. You know that water quality has been a political passion of mine for 19 years, from proposing legislation to reduce surface water run-off in my first term to campaigning to protect beavers in this one. So, I was delighted to follow the latest water summit and to read the Green Paper on the future of water governance in Wales, which have really moved the dial, with proposals for a new regulator, to upgrade pipes and sewers, and to limit the spreading of sewage sludge on land. It's bold, it's ambitious, but it will necessarily take time to deliver. Can you assure me that, where action can be taken more quickly in tackling inappropriate spreading of sewage and septic tank sludge, as an example, that will be prioritised, because it is, quite frankly, killing our rivers?

Yn hollol. Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Brif Weinidog. Rydych yn gwybod bod ansawdd dŵr wedi bod yn destun angerdd gwleidyddol imi ers 19 mlynedd, o gynnig deddfwriaeth i leihau dŵr ffo yn fy nhymor cyntaf i ymgyrchu i ddiogelu afancod yn y tymor hwn. Felly, roeddwn yn falch iawn o ddilyn yr uwchgynhadledd ddiweddaraf ar ddŵr ac i ddarllen y Papur Gwyrdd ar ddyfodol llywodraethiant dŵr yng Nghymru, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gyda chynigion ar gyfer rheoleiddiwr newydd, i uwchraddio pibellau a charthffosydd, ac i gyfyngu ar ledaeniad slwtsh carthion ar y tir. Mae'n feiddgar, mae'n uchelgeisiol, ond bydd o reidrwydd yn cymryd amser i'w gyflawni. A allwch chi fy sicrhau, lle gellir cymryd camau'n gyflymach i fynd i'r afael â gwasgariad amhriodol carthion a slwtsh tanciau carthion, er enghraifft, y bydd yn cael ei flaenoriaethu, oherwydd mae'n lladd ein hafonydd?

Joyce, I can absolutely guarantee to you that we've put in place the measures now to take forward at speed the measures to tackle all forms of pollution, whether those are development pressures, whether that is our antiquated water infrastructure, or, indeed, whether it's agricultural pollution as well. We have said we will take forward Susannah Bolton's recommendations on the control of agricultural pollution—short term, medium term and long term—and we will take them forward at pace. Whether it is me or somebody else in this position afterwards, we will need to hold that Minister to account to take them forward at pace, because whilst we have 44 per cent—three times as many as in England—of rivers in 'good' ecological health, that is 56 per cent that are not. And, on that basis, we need to actually move forward at real pace.

Joyce, gallaf eich sicrhau'n llwyr ein bod wedi rhoi'r mesurau ar waith erbyn hyn i ddatblygu'n gyflym y mesurau i fynd i'r afael â phob math o lygredd, boed yn bwysau datblygu, yn seilwaith dŵr hynafol, neu'n wir, yn llygredd amaethyddol. Rydym wedi dweud y byddwn yn bwrw ymlaen ag argymhellion Susannah Bolton ar reoli llygredd amaethyddol—byrdymor, tymor canolig a hirdymor—a byddwn yn eu datblygu'n gyflym. Boed yn fi fy hun neu'n rhywun arall yn y swydd hon ar fy ôl, bydd angen inni ddwyn y Gweinidog hwnnw i gyfrif i'w datblygu'n gyflym, oherwydd er bod gennym 44 y cant—tair gwaith yn fwy nag yn Lloegr—o afonydd mewn iechyd ecolegol 'da', mae'n 56 y cant nad ydynt yn y cyflwr hwnnw. Ac ar y sail honno, mae angen inni symud ymlaen yn gyflym iawn.

While I welcome any steps being taken to improve water quality across Wales, many people living near the Wye and the Usk still feel progress has been far too slow. As we look ahead, past May, it will be essential that new Ministers continue to work closely with all stakeholders, including environmental groups, regulators, local communities and, crucially, the sectors whose activity interacts with these river catchments. I recently met the new chief executive of Dŵr Cymru Welsh Water, and it's clear there is a real willingness there to continue strengthening that partnership. The agricultural sector also plays a vital role in this discussion, and it is vital that they remain fully supported and engaged as part of a collaborative, long-term solution. Cabinet Secretary, can you outline how the Welsh Government is ensuring this joined-up approach will continue?

Er fy mod yn croesawu unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd dŵr ledled Cymru, mae llawer o bobl sy'n byw ger afonydd Gwy a Wysg yn dal i deimlo bod cynnydd wedi bod yn llawer rhy araf. Wrth inni edrych ymlaen, ar ôl mis Mai, fe fydd yn hanfodol fod Gweinidogion newydd yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau amgylcheddol, rheoleiddwyr, cymunedau lleol, ac yn hollbwysig, y sectorau y mae eu gweithgaredd yn rhyngweithio â'r dalgylchoedd afon hyn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrif weithredwr newydd Dŵr Cymru, ac mae'n amlwg fod parodrwydd gwirioneddol yno i barhau i gryfhau'r bartneriaeth honno. Mae'r sector amaethyddol hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y drafodaeth, ac mae'n hanfodol eu bod yn parhau i gael eu cefnogi ac yr ymgysylltir yn llawn â nhw yn rhan o ddatrysiad cydweithredol, hirdymor. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau y bydd y dull cydgysylltiedig hwn o weithredu'n parhau?

Thank you, Peter, for that question. It's been a hallmark of the way we've approached this and the progress that we have made. But you're saying—and I welcome what you're saying—that there is much more to do, and we all have to be willing to get on with this, going forward. Now, that does mean working in collaboration with all the stakeholders within water catchments, including within the Wye water catchment. It's why we put an additional £1 million, which we announced last autumn—no, last summer—into the Wye catchment initiative, alongside UK Government, to take forward initiatives there from the very top of the Wye all the way down that catchment. But it's also why we have held the water summits, the two most recent of which focused on agricultural pollution, but working with the farmers, with landowners, to come up with all the solutions—technical solutions, working-on-a-catchment-basis solutions—but not avoiding the hard truth that we need to do this as well. And they've been good, and strong and collaborative, and I would wish that, as we go into the next term, we take that forward, because we need, together, to clean up our rivers.

And just to counteract one accusation that comes forward as well, I've never solely or primarily focused on agricultural pollution. I've always made it clear that we have development pressures with pollution, we have the antiquated sewer system, we want Dŵr Cymru to do its role as well. And they have to step up and make the most of these billions of pounds of investment as well, and to get on with it now, not to wait for further down—now. That's what we need to make sure that we do now, going forward.

Diolch am y cwestiwn, Peter. Mae wedi bod yn arwydd o'r ffordd yr ydym wedi mynd i'r afael â hyn a'r cynnydd a wnaethom. Ond rydych chi'n dweud—ac rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud—fod llawer mwy i'w wneud, ac mae'n rhaid i bawb ohonom fod yn barod i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Nawr, mae hynny'n golygu gweithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid o fewn y dalgylchoedd dŵr, gan gynnwys o fewn dalgylch dŵr Gwy. Dyna pam y gwnaethom roi £1 filiwn ychwanegol, a gyhoeddwyd gennym yr hydref diwethaf—nage, yr haf diwethaf—i fenter dalgylch Gwy, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, i fwrw ymlaen â mentrau yno o ben afon Gwy yr holl ffordd i lawr y dalgylch hwnnw. Ond dyna hefyd pam ein bod wedi cynnal yr uwchgynadleddau dŵr, a'r ddwy ddiweddaraf yn canolbwyntio ar lygredd amaethyddol, ond gan weithio gyda'r ffermwyr, gyda thirfeddianwyr, i ddod o hyd i'r holl atebion—atebion technegol, atebion fesul dalgylch—ond heb osgoi'r gwirionedd caled fod angen inni wneud hyn hefyd. Ac maent wedi bod yn dda, ac yn gryf ac yn gydweithredol, ac wrth inni groesi i'r tymor nesaf, hoffwn inni ddatblygu hynny, oherwydd mae angen inni fynd ati, gyda'n gilydd, i lanhau ein hafonydd.

Ac i wrth-ddweud un cyhuddiad sy'n dod i'r amlwg hefyd, nid wyf erioed wedi canolbwyntio'n unig neu'n bennaf ar lygredd amaethyddol. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod gennym bwysau llygredd yn deillio o ddatblygiadau, mae gennym y system garthffosiaeth hynafol, rydym am i Dŵr Cymru chwarae ei rôl hefyd. Ac mae'n rhaid iddynt gamu i'r adwy a gwneud y gorau o'r biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, a bwrw iddi nawr, nid aros tan yn nes ymlaen—nawr. Dyna sydd angen inni sicrhau ein bod yn ei wneud nawr, wrth symud ymlaen.

14:35

I'm really grateful that Joyce has raised this question, because it's something of such vital importance. Pollution in our rivers is an issue that maddens people. It kills wildlife, it imperils health, and makes it dangerous for children to play near the water. Chemical waste is a growing problem with this, particularly forever chemicals—the rubbish that was dumped decades ago by companies like Monsanto that has leached into the ground and has contaminated waterways. I've raised concerns about Ty Llwyd quarry near Ynysddu countless times. I do so again. But residents across Wales need clarity about any levels of pollution or contamination in their areas. I'd ask what the Government can do to ensure transparency in investigations into suspected pollution from these chemicals. How can we ensure that local residents and councillors are kept aware as part of these processes, and how can lines of responsibility be made clear for clearing this pollution when lots of agencies are involved? And finally, do you agree that polluters need to pay for what they've done?

Rwy'n ddiolchgar iawn fod Joyce wedi codi'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'n rhywbeth mor hanfodol bwysig. Mae llygredd yn ein hafonydd yn fater sy'n gwylltio pobl. Mae'n lladd bywyd gwyllt, mae'n peryglu iechyd, ac yn ei gwneud yn beryglus i blant chwarae ger y dŵr. Mae gwastraff cemegol yn broblem gynyddol gyda hyn, yn enwedig cemegau am byth—y sbwriel a gafodd ei ollwng ddegawdau yn ôl gan gwmnïau fel Monsanto sydd wedi trwytholchi i'r ddaear ac wedi halogi dyfrffyrdd. Rwyf wedi codi pryderon am chwarel Tŷ Llwyd ger Ynys-ddu droeon. Rwy'n gwneud hynny eto. Ond mae angen eglurder ar drigolion ledled Cymru am unrhyw lefelau o lygredd neu halogiad yn eu hardaloedd. Hoffwn ofyn beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau tryloywder mewn ymchwiliadau i lygredd a amheuir o'r cemegau hyn. Sut y gallwn sicrhau bod trigolion a chynghorwyr lleol yn cael eu cadw'n ymwybodol o bethau yn rhan o'r prosesau hyn, a sut y gellir gwneud llinellau cyfrifoldeb yn glir ar gyfer clirio'r llygredd hwn pan fydd llawer o asiantaethau yn rhan o bethau? Ac yn olaf, a ydych chi'n cytuno bod angen i lygrwyr dalu am yr hyn y maent wedi'i wneud?

On that last point, entirely. We have to stick firm to the concept of 'the polluter pays'. No matter how hard that is, we need to stick firm to that. Sometimes, we have to get on with it while we chase those polluters, and we should be doing that as well. But you rightly flag up the emerging body of evidence now around what are termed 'forever chemicals' and PFAS. This is a crucial area, and, as we are more armed with the evidence of the damage that these chemicals can do, we now need to get on with taking the right action. I am very pleased—and thank you for pushing me here today, but also previously on this—that we've taken a step forward with the UK PFAS plan. It's a good first step. It's the first ever comprehensive statement of the UK Government's approach to managing PFAS, with clear benefits for Wales, and clear engagement with us on Wales, seeking to minimise the harmful effect of forever chemicals and supporting the transition to safer alternatives as well.

Now, this will look at tackling pollution at source, understanding further the evidence under PFAS, reducing ongoing exposure, and the co-ordination of action between Governments, between industry, between wider stakeholders, and also what we do at a local level as well. And you rightly flag the issue here, because this is an emerging area that is causing concern. We need also to focus, going forward, on how we engage with communities on this—not only on what is in their local area, but also how we can tackle what is in their local area. So, thank you for raising this.

Ar y pwynt olaf, yn llwyr. Rhaid inni gadw'n gadarn at y cysyniad mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Ni waeth pa mor anodd yw hynny, mae angen inni gadw'n gadarn at hynny. Weithiau, rhaid inni fwrw ymlaen wrth inni fynd ar drywydd y llygrwyr hynny, a dylem wneud hynny hefyd. Ond rydych chi'n iawn i nodi'r corff o dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg nawr ynglŷn â'r hyn a elwir yn 'gemegau am byth' a sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS). Mae hwn yn faes allweddol, ac wrth inni gael mwy o dystiolaeth o'r niwed y gall y cemegau hyn ei wneud, mae angen inni fwrw ymlaen â rhoi'r camau cywir ar waith nawr. Rwy'n falch iawn—a diolch ichi am fy ngwthio yma heddiw, ond yn flaenorol ar hyn hefyd—ein bod wedi camu ymlaen gyda chynllun PFAS y DU. Mae'n gam cyntaf da. Dyma'r datganiad cynhwysfawr cyntaf erioed am ddull Llywodraeth y DU o reoli PFAS, gyda manteision clir i Gymru, ac ymgysylltiad clir â ni o ran Cymru, gan geisio lleihau effaith niweidiol cemegau am byth a chefnogi'r trawsnewid i ddewisiadau amgen mwy diogel hefyd.

Nawr, bydd hyn yn edrych ar fynd i'r afael â llygredd yn y ffynhonnell, deall ymhellach y dystiolaeth o dan PFAS, lleihau cysylltiad parhaus, a chydlynu gweithredu rhwng Llywodraethau, rhwng diwydiannau, rhwng rhanddeiliaid ehangach, a'r hyn a wnawn ar lefel leol hefyd. Ac rydych chi'n iawn i nodi'r broblem yma, oherwydd mae hwn yn faes sy'n dod i'r amlwg sy'n achosi pryder. Mae angen inni ganolbwyntio, wrth symud ymlaen, ar sut yr awn ati i ymgysylltu â chymunedau ar hyn—nid yn unig ar yr hyn sydd yn eu hardal leol, ond hefyd sut y gallwn fynd i'r afael â'r hyn sydd yn eu hardal leol. Felly, diolch am godi hyn.

Good afternoon, Dirprwy Brif Weinidog. We've had cross-party reference in this Siambr to this particular issue, and I do thank Joyce Watson for raising this. And I do pay tribute to those environmental organisations who, for many years—decades even—have been trying to draw our attention to the concerns that they have about rivers being polluted. And we've heard you say, haven't we, that we need to see polluters paying, but, actually, Dŵr Cymru, in 2025, had over 3,000 reported pollution incidents, yet saw little enforcement action against them. So, really, there needs to be a tightening of regulations to ensure that polluters like Dŵr Cymru have to face the consequences that are necessary. 

Just going back to those environmental organisations, I've been working with them to promote their Bil dŵr glân, which is a Bill for clean water to come in the next Parliament and to work with the next Welsh Government. They want to see legally binding water quality targets and stronger discharge permits to ensure that polluters are properly held to account. I've said in this Siambr before that I think targets for everything are the way forward, so I'd like to hear your response to having legally binding targets and ensuring that polluters do pay. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Ddirprwy Brif Weinidog. Rydym wedi cael cyfeiriad trawsbleidiol yn y Siambr at y mater penodol hwn, a diolch i Joyce Watson am godi hyn. Ac rwy'n talu teyrnged i'r sefydliadau amgylcheddol hynny sydd, ers blynyddoedd lawer—degawdau hyd yn oed—wedi bod yn ceisio tynnu ein sylw at y pryderon sydd ganddynt am afonydd yn cael eu llygru. Ac rydym wedi eich clywed yn dweud, onid ydym, fod angen inni weld llygrwyr yn talu, ond roedd gan Dŵr Cymru, yn 2025, dros 3,000 o ddigwyddiadau llygredd wedi'u cofnodi, ac eto ni welwyd fawr o gamau gorfodi yn eu herbyn. Felly, mae angen tynhau rheoliadau i sicrhau bod llygrwyr fel Dŵr Cymru yn gorfod wynebu'r canlyniadau sy'n angenrheidiol. 

I fynd yn ôl at y sefydliadau amgylcheddol hynny, rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw i hyrwyddo eu Bil dŵr glân i ddod yn y Senedd nesaf ac i weithio gyda'r Llywodraeth Cymru nesaf. Maent am weld targedau ansawdd dŵr sy'n rhwymo mewn cyfraith a thrwyddedau gollwng cryfach i sicrhau bod llygrwyr yn cael eu dwyn i gyfrif yn briodol. Rwyf wedi dweud yn y Siambr o'r blaen fy mod yn credu mai targedau ar gyfer popeth yw'r ffordd ymlaen, felly hoffwn glywed eich ymateb i gael targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith a sicrhau bod llygrwyr yn talu. Diolch yn fawr iawn.

14:40

Yes, indeed. Thank you so much. I genuinely think this is one of the most exciting areas of policy at the moment, because of some of the things that are already in train. One of those is actually the Green Paper that we have now put out, which looks at a different type of regulation. Within the Green Paper—even though it's a Green Paper, it's set within what I describe as a Green Paper with white tram lines—it sets a direction of travel for a different type of regulation of the water sector in Wales, a type of regulation that is not the failed experiment of the 1980s, which we're still living with, of that form of economic regulation, but a regulation that will look at affordability for customers, that will look at doing the proper investment that we need in the Victorian infrastructure that we have, but will also address environmental issues as well, in cleaning up our rivers, and good drinking water quality and so on—a different type of regulation, fit for not only today but also fit for Wales, where we proudly have the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to guide what we should be doing.

Now, I would encourage you and others to actually input your thoughts into that Green Paper, because it does look at the right type of regulation. It does look at systems planning, so we don't look in silos at different aspects of how we deal with water governance, we look at all of the parts that can actually clean up our waterways as well. So, there are great opportunities going forward, and we need to seize them and then act on them, and the means as well—put the money in, the additional money that we've put into enforcement, the additional money we've put into investment, to build the evidence of what works in catchments as well, all of that. But, yes, the regulatory space as well—we have an opportunity to develop a leading-edge regulatory structure here in Wales that does better for the people of Wales and for nature in Wales as well.

Yn wir. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai hwn yw un o'r meysydd polisi mwyaf cyffrous ar hyn o bryd, oherwydd rhai o'r pethau sydd eisoes ar y gweill. Un o'r rheini yw'r Papur Gwyrdd yr ydym bellach wedi'i gyhoeddi, sy'n edrych ar fath gwahanol o reoliad. O fewn y Papur Gwyrdd—er ei fod yn Bapur Gwyrdd, mae wedi'i osod o fewn yr hyn rwy'n ei ddisgrifio fel Papur Gwyrdd gydag ystlyslinau gwyn—mae'n gosod cyfeiriad teithio ar gyfer math gwahanol o reoliad ar gyfer y sector dŵr yng Nghymru, math o reoliad nad yw'n arbrawf aflwyddiannus y 1980au, yr ydym yn dal i fyw gydag ef, gyda'r math hwnnw o reoliad economaidd, ond rheoliad a fydd yn edrych ar fforddiadwyedd i gwsmeriaid, a fydd yn edrych ar wneud y buddsoddiad priodol sydd ei angen arnom yn y seilwaith Fictoraidd sydd gennym, ond a fydd hefyd yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol hefyd, i lanhau ein hafonydd, ac ansawdd dŵr yfed da ac yn y blaen—math gwahanol o reoliad, sy'n addas nid yn unig ar gyfer heddiw ond hefyd ar gyfer Cymru, lle'r ydym yn falch o gael Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i lywio'r hyn y dylem ei wneud.

Nawr, rwy'n eich annog chi ac eraill i fewnbynnu eich syniadau i'r Papur Gwyrdd hwnnw, oherwydd mae'n edrych ar y math cywir o reoliad. Mae'n edrych ar gynllunio systemau, fel nad ydym yn edrych mewn seilos ar wahanol agweddau o sut rydym yn delio â llywodraethiant dŵr, a'n bod yn edrych ar yr holl rannau a all lanhau ein dyfrffyrdd hefyd. Felly, mae cyfleoedd gwych ar gyfer y dyfodol, ac mae angen inni fanteisio arnynt a gweithredu arnynt, a'r modd hefyd—rhoi'r arian i mewn, yr arian ychwanegol yr ydym wedi'i roi tuag at orfodaeth, yr arian ychwanegol yr ydym wedi'i roi tuag at fuddsoddi, i adeiladu'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio mewn dalgylchoedd hefyd, hynny i gyd. Ond y maes rheoleiddio hefyd—mae gennym gyfle i ddatblygu strwythur rheoleiddio blaengar yma yng Nghymru sy'n gwneud yn well i bobl Cymru ac i fyd natur yng Nghymru hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Questions now from party spokespeople. Conservatives spokesperson, Samuel Kurtz.

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, as a former chair of Pembrokeshire Young Farmers Club, I have seen first-hand the important role played by Wales Young Farmers Clubs as a voluntary youth service in rural communities, with almost 6,000 members, aged 10 to 28, across 12 counties and 138 clubs, and members contributing over 1.4 million hours each year through competitions, events and volunteering. YFC really does play a significant role in developing skills, leadership and community engagement across young people in rural Wales. Indeed, you saw that first-hand at the Wales YFC event that I sponsored in the Neuadd earlier this year. So, what consideration have you and your department given to providing long-term secure funding to support the work of Wales YFC, in recognition of its role as a voluntary youth service and its contribution to rural communities across Wales?

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel cyn-gadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, rwyf wedi gweld drosof fy hun y rôl bwysig a chwaraeir gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru fel gwasanaeth ieuenctid gwirfoddol mewn cymunedau gwledig, gyda bron i 6,000 o aelodau, rhwng 10 a 28 oed, ar draws 12 sir a 138 o glybiau, ac aelodau sy'n cyfrannu dros 1.4 miliwn o oriau bob blwyddyn drwy gystadlaethau, digwyddiadau a gwirfoddoli. Mae CFfI yn chwarae rhan wirioneddol bwysig yn datblygu sgiliau, arweinyddiaeth ac ymgysylltiad cymunedol ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Yn wir, fe welsoch hynny'n uniongyrchol yn nigwyddiad CFfI Cymru a noddais yn y Neuadd yn gynharach eleni. Felly, pa ystyriaeth rydych chi a'ch adran wedi'i rhoi i ddarparu cyllid diogel hirdymor i gefnogi gwaith CFfI Cymru, i gydnabod eu rôl fel gwasanaeth ieuenctid gwirfoddol a'u cyfraniad i gymunedau gwledig ledled Cymru?

Thank you, Sam, and thank you for organising that event as well. It was a delight, once again, to meet with some of the brilliant young representatives from the young farming community, who I've had the pleasure as well of meeting in so many opportunities throughout many parts of Wales. They do an incredible range of activities that grows the confidence and the skills and the experience of those people. And some of them, my goodness, end up here within the Senedd.

Diolch, Sam, a diolch am drefnu'r digwyddiad hwnnw hefyd. Roedd yn bleser, unwaith eto, cael cyfarfod â rhai o'r cynrychiolwyr ifanc gwych o'r gymuned ffermio ifanc, y cefais y pleser o'u cyfarfod mewn cymaint o gyfleoedd mewn sawl rhan o Gymru. Maent yn gwneud ystod anhygoel o weithgareddau sy'n tyfu hyder a sgiliau a phrofiad y bobl hynny. Ac mae rhai ohonynt, bobol bach, yn cyrraedd y Senedd.

They do, and it's commendable. But, look, we've been very pleased, over the tricky challenges of budgets over the last couple of years, to find funding to actually put into young farmers clubs, not only recognising the wide range of support that they do for young people, but what those young people do for their communities, including, by the way, in support of the Welsh language. Now, we've made that possible. The next Government now will need to take that forward and decide how it puts on a level footing that long-term financial stability, in line with what Welsh Government priorities are and the priorities of the people of Wales. And I think the people of Wales do want to see thriving rural economies, young people being given skills, and support to the Welsh language as well. So, I think we're on a good wicket here.

Ydy, ac mae'n ganmoladwy. Ond edrychwch, rydym wedi bod yn falch iawn, yng nghanol heriau anodd cyllidebau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, i ddod o hyd i gyllid i'w roi tuag at glybiau ffermwyr ifanc, nid yn unig i gydnabod yr amrywiaeth eang o gefnogaeth y maent yn ei rhoi i bobl ifanc, ond yr hyn y mae'r bobl ifanc hynny'n ei wneud i'w cymunedau, gan gynnwys cefnogi'r Gymraeg gyda llaw. Nawr, rydym wedi gwneud hynny'n bosib. Bydd angen i'r Llywodraeth nesaf nawr symud hynny yn ei flaen a phenderfynu sut y mae'n rhoi'r sefydlogrwydd ariannol hirdymor hwnnw ar sail gyfartal, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau pobl Cymru. Ac rwy'n credu bod pobl Cymru am weld economïau gwledig ffyniannus, pobl ifanc yn cael sgiliau, a chefnogaeth i'r Gymraeg hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa gref yma.

Thank you, Cabinet Secretary. Moving on to my second question, recent reports indicate that the conflict involving Iran and the disruption to shipping through the Strait of Hormuz, through which around one fifth of global oil supplies and roughly a third of global fertiliser trade normally pass, are already placing upward pressure on fuel and fertiliser prices and threatening wider food price inflation. So, given the potential knock-on impacts for agriculture, including higher input costs of fuel, feed and fertiliser, what work are you undertaking to assess the impact of the conflict in Iran and the disruption to the Strait of Hormuz on rising farm input costs in Wales? And, what steps are you taking to support farmers facing increases in the three Fs: fuel, feed and fertiliser?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan symud ymlaen at fy ail gwestiwn, mae adroddiadau diweddar yn dangos bod y gwrthdaro sy'n gysylltiedig ag Iran a'r tarfu ar longau drwy Gulfor Hormuz, y bydd tua un rhan o bump o'r cyflenwadau olew byd-eang a thua thraean o'r fasnach wrtaith fyd-eang fel arfer yn mynd drwyddo, eisoes yn gwthio prisiau tanwydd a gwrtaith i fyny ac yn bygwth codi prisiau bwyd yn ehangach. Felly, o ystyried y sgil-effeithiau posib ar amaethyddiaeth, gan gynnwys costau tanwydd, porthiant a gwrtaith uwch, pa waith rydych chi'n ei wneud i asesu effaith y gwrthdaro yn Iran a'r tarfu ar Gulfor Hormuz ar y costau uwch i ffermydd yng Nghymru? A pha gamau rydych chi'n eu cymryd i gefnogi ffermwyr sy'n wynebu cynnydd ym mhrisiau tanwydd, porthiant a gwrtaith?

Sam, once again, thank you for raising this. It's a critical issue. Whilst a lot of the media focus has been on the headline issues of impact on oil and gas and so on, that has an impact on farming and food production, but there is also, as you rightly say, fertiliser and other expensive inputs. And the conflict that we see in the middle east is costing lives, but it is also having an impact and, depending on how this unfolds over the days and weeks ahead, it could have severe impacts way beyond what we are currently seeing at the moment. But, yes, my officials are already working with their counterparts in the UK Government and with other devolved Governments to understand and closely monitor the input costs. We are doing that work now, not least as part of our ongoing work with the UK agriculture market monitoring group. We're very closely monitoring the effect of the Gulf shipping crisis through the Strait of Hormuz and elsewhere. We've not seen any significant negative impact on food supply or related prices so far, but that's not to say they won't. So, we are very aware of increased fertiliser costs. We'll keep a close contact now with other Governments and stakeholders as this develops, and we will engage with our Welsh stakeholders on this as well.

We are, by the way, Sam—it's helpful to point out—maintaining a web page at the moment on the Welsh Government site, which is signposting to advice for farmers on input costs. Also, the other aspect to bear in mind as well is the work that we're doing through the Agriculture and Horticulture Development Board on the nutrient management guide, helping farmers make the most of organic materials that can also help them with some of the sustainability costs of this, reducing fertiliser consumption. But, yes, what is going on in the middle east is not only dangerous in the cost to lives and the region itself, including British citizens who are currently out there, but it has much wider implications and we need to keep a close eye on it here in Wales.

Sam, unwaith eto, diolch am godi hyn. Mae'n fater allweddol. Er bod llawer o'r ffocws yn y cyfryngau wedi bod ar faterion blaenllaw fel yr effaith ar olew a nwy ac yn y blaen, sy'n effeithio ar ffermio a chynhyrchiant bwyd, ond mae yna hefyd fewnbynnau gwrtaith a mewnbynnau drud eraill, fel rydych chi'n iawn i ddweud. Ac mae'r gwrthdaro a welwn yn y dwyrain canol yn costio mewn bywydau, ond hefyd, yn dibynnu ar sut y mae hyn yn datblygu dros y dyddiau a'r wythnosau i ddod, gallai gael effeithiau difrifol ymhell y tu hwnt i'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Ond mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU a chyda Llywodraethau datganoledig eraill i ddeall a monitro costau mewnbynnau'n drylwyr. Rydym yn gwneud y gwaith hwnnw nawr, yn enwedig fel rhan o'n gwaith parhaus gyda grŵp monitro marchnad amaeth y DU. Rydym yn monitro'n agos iawn effaith argyfwng llongau'r Gwlff drwy Gulfor Hormuz ac mewn mannau eraill. Nid ydym wedi gweld unrhyw effaith negyddol sylweddol ar gyflenwad bwyd na phrisiau cysylltiedig hyd yn hyn, ond nid yw hynny'n golygu na fyddant yn digwydd. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o gostau gwrtaith cynyddol. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â Llywodraethau eraill a rhanddeiliaid nawr wrth i hyn ddatblygu, a byddwn yn ymgysylltu â'n rhanddeiliaid yng Nghymru ar hyn hefyd.

Gyda llaw, Sam, mae'n werth nodi ein bod yn cynnal tudalen we ar wefan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, sy'n cyfeirio at gyngor i ffermwyr ar gostau mewnbynnau. Hefyd, yr agwedd arall i'w chofio yw'r gwaith a wnawn drwy'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar y canllaw rheoli maetholion, gan helpu ffermwyr i wneud y gorau o ddeunyddiau organig a all eu helpu gyda rhai o gostau cynaliadwyedd hyn, gan leihau'r defnydd o wrtaith. Ond ydy, mae'r hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol nid yn unig yn beryglus o ran y gost i fywydau ac i'r rhanbarth ei hun, gan gynnwys dinasyddion Prydain sydd allan yno ar hyn o bryd, ond mae iddo oblygiadau llawer ehangach ac mae angen inni gadw llygad agos arno yma yng Nghymru.

14:45

Thank you for that comprehensive answer there, Cabinet Secretary. Now, moving on to my third and final question to you this parliamentary term, I supported the introduction of the genetic technology, also known as the Genetic Technology (Precision Breeding) Act 2023, but the Welsh Government opposed the legislation and the Senedd withheld consent at the time. Now, the Act now enables the use of regulation of precision breeding, not GM, in England, while Wales has not adopted a similar framework. However, the United Kingdom Internal Market Act 2020 means precision bred products authorised in England may still be sold in Wales, potentially creating regulatory divergence because of the Welsh Government's refusal to align and maximise the huge opportunities that exist in this field. So, what assessment has the Welsh Government made of the practical impact this divergence is having on Welsh agriculture? And does it intend to review its policy position on precision breeding to ensure Welsh agriculture can really seize the opportunity that exists, especially given our university research strength in precision breeding?

Diolch am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, gan symud ymlaen at fy nhrydydd cwestiwn a'r cwestiwn olaf i chi y tymor seneddol hwn, cefnogais gyflwyno'r dechnoleg enetig, a elwir hefyd yn Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023, ond gwrthwynebodd Llywodraeth Cymru y ddeddfwriaeth a gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad ar y pryd. Nawr, mae'r Ddeddf bellach yn galluogi'r defnydd o reoliadau bridio manwl, nid addasu genetig, yn Lloegr, ond nid yw Cymru wedi mabwysiadu fframwaith tebyg. Fodd bynnag, mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn golygu y gall cynhyrchion sydd wedi'u bridio'n fanwl a awdurdodwyd yn Lloegr gael eu gwerthu yng Nghymru o hyd, gan greu gwahaniaeth rheoleiddiol o bosib oherwydd gwrthodiad Llywodraeth Cymru i gyd-fynd a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd enfawr sy'n bodoli yn y maes hwn. Felly, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ymarferol y mae'r gwahaniaeth hwn yn ei gael ar amaethyddiaeth yng Nghymru? Ac a yw'n bwriadu adolygu ei safbwynt polisi ar fridio manwl i sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cyfle sy'n bodoli, yn enwedig o ystyried cryfder ein hymchwil brifysgol ym maes bridio manwl?

On precision breeding, we never have a completely closed mind on this, but we have to recognise that, at the moment, beyond that trialling and piloting, there is limited applicability here within Wales. There is more direct applicability across the border. However, I do take your point in terms of research and academic institutions and so on. It will be for the next Government to look at this, but what I would say to you as well is we must also jealously protect the ability of this Senedd and Welsh Government here in a devolved context to actually make decisions that occasionally will be, for the right reasons, slightly different from what is happening elsewhere. Very often, by the way, and, in fact, in many of the advice papers that pass across my desk, we actually go in concord with the UK Government, because it makes absolute sense. But, sometimes, there is a need to actually protect our ability in a devolved context to do something slightly different, but it will be for the next Government to consider that.

Ar fridio manwl, nid yw ein meddwl erioed wedi bod yn hollol gaeedig ar hyn, ond mae'n rhaid inni gydnabod mai cyfyngedig yw ei gymhwysedd yma yng Nghymru ar hyn o bryd, y tu hwnt i'r gwaith treialu a'r cynlluniau peilot hynny. Mae mwy o gymhwysedd uniongyrchol ar draws y ffin. Fodd bynnag, rwy'n derbyn eich pwynt ynghylch ymchwil a sefydliadau academaidd ac yn y blaen. Mater i'r Llywodraeth nesaf fydd edrych ar hyn, ond mae'n rhaid inni ddiogelu gallu'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru yma mewn cyd-destun datganoledig i wneud penderfyniadau a fydd weithiau, am y rhesymau cywir, ychydig yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Yn aml iawn, gyda llaw, ac mewn llawer o'r papurau cynghori sy'n cyrraedd fy nesg, rydym yn gytûn â Llywodraeth y DU, oherwydd ei fod yn gwneud synnwyr perffaith. Ond weithiau, mae angen diogelu ein gallu mewn cyd-destun datganoledig i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ond mater i'r Llywodraeth nesaf fydd ystyried hynny.

Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

The Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Cabinet Secretary, the Welsh Government highlights regularly that herd incidence with bovine TB has fallen, but farmers listening to this exchange will probably be asking a very simple question: if progress is being made, then why are more and more cattle being slaughtered every year—more, in fact, than ever before in the last year, which saw over 12,000 cattle slaughtered compared to, I think, 8,000 or so, when I first became a member of this Senedd 15 years ago? Now, I know that you've explained in a written statement today that more stringent, more sensitive testing et cetera would be part of that, but the lived reality for farmers, of course, is escalating losses and the enormous emotional impact that comes with that. Now, today we've learned from the TB programme board that the Welsh Government is clearly off track when it comes to meeting your target for Wales to be TB free by 2041. In fact, the current projection indicates that it will be well into the 2050s by the time we get to that point. So, my question is simple: do you agree with the programme board's position paper that was published today, and will you admit that the current approach and the current strategy are clearly not delivering, because you're not going to meet your target?

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn nodi'n rheolaidd fod nifer yr achosion o TB buchol wedi gostwng, ond mae'n debyg y bydd ffermwyr sy'n gwrando ar y drafodaeth hon yn gofyn cwestiwn syml iawn: os oes cynnydd yn cael ei wneud, pam y mae mwy a mwy o wartheg yn cael eu lladd bob blwyddyn—mwy, mewn gwirionedd, nag erioed o'r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a welodd dros 12,000 o wartheg yn cael eu lladd o'i gymharu ag oddeutu 8,000, rwy'n credu, pan ddeuthum yn i'r Senedd hon am y tro cyntaf 15 mlynedd yn ôl? Nawr, rwy'n gwybod eich bod wedi esbonio mewn datganiad ysgrifenedig heddiw y byddai profion mwy manwl, mwy sensitif ac ati yn rhan o hynny, ond y realiti byw i ffermwyr, wrth gwrs, yw colledion cynyddol a'r effaith emosiynol enfawr sy'n dod gyda hynny. Nawr, heddiw, rydym wedi dysgu gan fwrdd y rhaglen TB ei bod yn amlwg nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd eich targed i Gymru fod yn rhydd o TB erbyn 2041. Mewn gwirionedd, mae'r amcanestyniad presennol yn dangos y bydd ymhell i mewn i'r 2050au erbyn inni gyrraedd y pwynt hwnnw. Felly, mae fy nghwestiwn yn syml: a ydych chi'n cytuno â phapur sefyllfa bwrdd y rhaglen a gyhoeddwyd heddiw, ac a wnewch chi gyfaddef ei bod hi'n amlwg nad yw'r dull presennol a'r strategaeth bresennol yn cyflawni, gan nad ydych chi'n mynd i gyrraedd eich targed?

14:50

Well, the first thing to say is—and I've often been accused of being the eternal optimist on a range of policy areas—we can actually make a difference. You are right in saying that the number of cattle we are now slaughtering is higher than it's been—I'm more than happy for you or for any Members to arrange some discussions with the chief veterinary officer as well—evidenced by the increased and more sensitive testing that we are doing. Even though it is tragic in terms of the numbers being slaughtered, and the impact on the mental health and the well-being of not just the farmer, but the farmer's family and the community is massive, and I've spoken to so many, including, Llywydd, with you, out on farms, sitting down with farmers, hearing first-hand what the experience is like. It is not joyful at all; it is a miserable experience, particularly for those who are in perpetual cycles of testing and slaughter and so on. So, we have to go further.

But I was saying I'm often accused of being an eternal optimist. We are doing some really good stuff that is showing, actually, over the border the way of doing it. We have interest not just from England, but from Northern Ireland and elsewhere about what we are doing through working with on-farm vets in the Pembrokeshire pathways project. It's why we're rolling it out to north Wales. So, even though the incidence of slaughter is going up, we're taking cattle out earlier as we identify them. We are also having progress on managing herds themselves with farmers—not being done to them, but with farmers—and that has to be the way that we go forward. So, what we are seeing is lower levels at the moment of herd incidence, which is good, so we're managing to stop it more. We're having increasing what I've referred to as stickiness, or what the scientists refer to as prevalence within herds, deep within herds. You won't pick it up in the obvious test, but then, a year down the line, that's where it comes. That's why the approaches we're taking are showing a good way forward.

But can I just say one of the greatest achievements, I think, of the last couple of years, the greatest successes, is the establishment of the TB advisory group overseen by the programme board? Why is that so important? It's that we have a scientific, evidence-based approach now for the next stages, and if we're not on target to do it, they will be the ones who advise. So, look, I welcome, and I said in the statement today, that they brought forward a position paper on bovine TB in Wales. I genuinely want to thank both groups for their ongoing work on this. It will now be, Llyr, for the next Government, following the Senedd elections in May, to consider that position paper and then to think about how we hit that ambitious target of 2041. I still think it can be done, but we need to keep thinking what are the ways that we take forward to eradicate TB.

Wel, y peth cyntaf i'w ddweud yw—ac rwyf wedi cael fy nghyhuddo'n aml o fod yn optimist tragwyddol ynghylch amrywiaeth o feysydd polisi—fe allwn wneud gwahaniaeth. Rydych chi'n iawn i ddweud bod nifer y gwartheg yr ydym yn eu lladd nawr yn uwch nag y bu—rwy'n fwy na hapus i chi neu i unrhyw Aelodau drefnu ychydig o drafodaethau gyda'r prif swyddog milfeddygol hefyd—fel y dangosir gan y profion cynyddol a mwy sensitif yr ydym yn eu gwneud. Er ei fod yn drychinebus o ran y niferoedd sy'n cael eu lladd, ac mae'r effaith ar iechyd meddwl a llesiant nid yn unig y ffermwr, ond teulu'r ffermwr a'r gymuned yn enfawr, ac rwyf wedi siarad â chymaint o bobl, gan gynnwys, Lywydd, gyda chi, allan ar ffermydd, wrth eistedd i lawr gyda ffermwyr, a chlywed yn uniongyrchol sut beth yw'r profiad. Mae'n drist iawn; mae'n brofiad truenus, yn enwedig i'r rhai sydd mewn cylchoedd parhaol o brofi a lladd ac yn y blaen. Felly, rhaid inni fynd ymhellach.

Ond roeddwn yn dweud fy mod yn aml yn cael fy nghyhuddo o fod yn optimist tragwyddol. Rydym yn gwneud pethau da iawn sy'n dangos i'r rheini dros y ffin sut i'w wneud. Mae diddordeb nid yn unig o Loegr, ond o Ogledd Iwerddon a mannau eraill yn yr hyn a wnawn drwy weithio gyda milfeddygon ar ffermydd ym mhrosiect llwybrau sir Benfro. Dyna pam ein bod yn ei gyflwyno i ogledd Cymru. Felly, er bod nifer yr achosion o ladd yn cynyddu, rydym yn difa gwartheg yn gynharach wrth inni eu nodi. Rydym hefyd yn gwneud cynnydd ar reoli'r buchesi eu hunain gyda ffermwyr—yn ei wneud gyda ffermwyr, nid iddynt—ac mae'n rhaid i honno fod yn ffordd ymlaen. Felly, gwelwn lefelau is o achosion mewn buchesi ar hyn o bryd, sy'n dda, felly rydym yn llwyddo i'w atal yn well. Rydym yn gweld cynnydd yn yr hyn y cyfeiriais ato fel gludiogrwydd, neu'r hyn y mae'r gwyddonwyr yn cyfeirio ato fel mynychder mewn buchesi, yn ddwfn o fewn buchesi. Ni fyddwch yn ei nodi yn y prawf amlwg, ond yna, flwyddyn yn ddiweddarach, dyna lle mae'n dod. Dyna pam y mae'r dulliau yr ydym yn eu gweithredu yn dangos ffordd dda ymlaen.

Ond a gaf i ddweud mai un o'r cyflawniadau mwyaf yn y ddwy flynedd ddiwethaf, y llwyddiannau mwyaf, yw sefydlu'r grŵp cynghori TB dan oruchwyliaeth bwrdd y rhaglen? Pam y mae hynny mor bwysig? Mae gennym ddull gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth erbyn hyn ar gyfer y camau nesaf, ac os nad ydym ar y trywydd i'w gyflawni, nhw fydd y rhai sy'n cynghori. Felly, edrychwch, rwy'n croesawu, a dywedais yn y datganiad heddiw, y ffaith eu bod wedi cyflwyno papur sefyllfa ar TB buchol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch o galon i'r ddau grŵp am eu gwaith parhaus ar hyn. Mater i'r Llywodraeth nesaf, Llyr, yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, fydd ystyried y papur sefyllfa hwnnw a meddwl sut y cyrhaeddwn y targed uchelgeisiol hwnnw, sef 2041. Rwy'n dal i feddwl y gellir ei wneud, ond mae angen inni barhau i feddwl beth yw'r ffyrdd y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw i ddileu TB.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Thank you for that. We got there in the end. Lambing season is well and truly under way, of course, and the Welsh Government's joint consultation with other Governments in the UK on proposals to reform the rules for castrating and tail docking lambs, I think, closed earlier this week, didn't it? We know that farmers in Wales only undertake castration and tail docking when it's necessary for animal welfare and effective flock management, whether that's preventing unwanted breeding or, of course, protecting flocks from fly strike. For those of you who don't know, fly strike is a painful and sometimes fatal condition caused by flies laying their eggs on an animal, which hatch into maggots and then they start eating their hosts. So, the sector has been clear that any changes must be based on scientific evidence, aligned with real-world farming practices and supported by appropriate training and resourcing so that farmers can safely and practically adopt any new methods. Given that, I'd like to ask whether you agree with me that if any changes result from this consultation, they need to be practical, deliverable and workable for farmers across Wales.

Diolch am hynny. Fe gyraeddasom yno yn y diwedd. Mae'r tymor wyna'n mynd rhagddo, wrth gwrs, ac mae ymgynghoriad ar y cyd Llywodraeth Cymru gyda Llywodraethau eraill yn y DU ar gynigion i ddiwygio'r rheolau ar gyfer sbaddu a thocio cynffonnau ŵyn wedi cau yn gynharach yr wythnos hon, onid yw? Fe wyddom mai dim ond pan fo'n angenrheidiol ar gyfer lles anifeiliaid a rheoli diadelloedd yn effeithiol y mae ffermwyr yng Nghymru yn sbaddu a thocio cynffonnau, boed hynny'n atal bridio diangen neu wrth gwrs, yn diogelu diadelloedd rhag cynrhon. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, mae cynrhon yn gyflwr poenus ac angheuol weithiau a achosir gan bryfed yn dodwy eu hwyau ar anifail, sy'n deor yn gynrhon ac yna maent yn dechrau bwyta eu horganeb letyol. Felly, mae'r sector wedi bod yn glir fod yn rhaid i unrhyw newidiadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, wedi'u halinio ag arferion ffermio go iawn ac wedi'u cefnogi gan hyfforddiant ac adnoddau priodol fel y gall ffermwyr fabwysiadu unrhyw ddulliau newydd yn ddiogel ac yn ymarferol. O ystyried hynny, hoffwn ofyn a ydych chi'n cytuno â mi, os bydd unrhyw newidiadau'n deillio o'r ymgynghoriad hwn, fod angen iddynt fod yn ymarferol ac yn gyflawnadwy i ffermwyr ledled Cymru.

Yes, I've no difficulty in agreeing with that, and also that we need to do it in engagement with those stakeholders as well, and importantly, as you say, we base it on the evidence.

Nid wyf yn ei chael hi'n anodd cytuno â hynny, a hefyd fod angen inni ei wneud drwy ymgysylltu â'r rhanddeiliaid hynny hefyd, ac yn bwysig, fel y dywedwch, ein bod yn ei seilio ar y dystiolaeth.

Thank you. Good. So, the Gwaredu Scab programme—I'm in the same space here again somewhat—has clearly delivered. [Interruption.]

Well, usually you give us very long answers, Cabinet Secretary. [Laughter.] It's a bit late in your tenure to start giving us succinct answers, but there we are.

Diolch. Da iawn. Felly, mae'r rhaglen Gwaredu Scab—rwyf yn yr un lle yma eto i ryw raddau—yn amlwg wedi cyflawni. [Torri ar draws.]

Wel, fel arfer, rydych chi'n rhoi atebion hir iawn inni, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Mae ychydig yn hwyr yn eich cyfnod yn y swydd i ddechrau rhoi atebion cryno inni, ond dyna ni.

Yes, but you did catch me out there.

So, on the Gwaredu Scab programme, I just want to ask about that because it's clearly delivered positive outcomes with over 1,700 farms receiving diagnostic visits, over three quarters of them needing treatment, and over a million sheep being treated for scab since its introduction. Now, there's also been training for vets and contract dippers as well, all aimed at getting to grips with the disease that, obviously, can lead to economic losses, but particularly severe welfare issues for sheep. Now, we hear that the new tender may be published sometime in the autumn, if I've understood correctly, or possibly even in the spring next year, leaving, of course, considerable uncertainty for the sector in the meantime. Now, that's exacerbated as well by recent changes to the permitting arrangements for sheep-dip disposal as well. Now, the nature of the work means that you really need to keep up momentum and bear down on scab, otherwise you risk losing the gains that you've made in recent years. So, can you clarify whether the Government is intending to commit to continuation of the Gwaredu Scab programme, and when can farmers expect a clear and confirmed timeline for the next phase of support?

Ydych, ond fe wnaethoch fy nal ar y droed ôl yno.

Felly, ar y rhaglen Gwaredu Scab, rwyf am ofyn am honno oherwydd mae'n amlwg wedi cyflawni canlyniadau cadarnhaol gyda dros 1,700 o ffermydd yn cael ymweliadau diagnostig, dros dri chwarter ohonynt angen triniaeth, a dros filiwn o ddefaid yn cael eu trin ar gyfer y clafr ers ei chyflwyno. Nawr, cafwyd hyfforddiant hefyd ar gyfer milfeddygon a chontractwyr dipio, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r clefyd sydd, yn amlwg, yn gallu arwain at golledion economaidd, ond materion lles hynod o ddifrifol i ddefaid. Nawr, rydym yn clywed y gallai'r tendr newydd gael ei gyhoeddi rywbryd yn yr hydref, os wyf wedi deall yn iawn, neu o bosib yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf hyd yn oed, gan adael cryn ansicrwydd i'r sector yn y cyfamser. Nawr, mae hynny'n cael ei waethygu hefyd gan newidiadau diweddar i'r trefniadau trwyddedu ar gyfer gwaredu dip defaid hefyd. Nawr, mae natur y gwaith yn golygu bod gwir angen i chi gadw momentwm a mynd i'r afael â'r clafr, neu fel arall rydych chi'n wynebu'r risg o golli'r enillion a gawsoch yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, a allwch chi egluro a yw'r Llywodraeth yn bwriadu ymrwymo i barhau â'r rhaglen Gwaredu Scab, a phryd y gall ffermwyr ddisgwyl amserlen glir wedi'i chadarnhau ar gyfer y cam nesaf o gymorth?

14:55

Yes. Thank you, Llyr. So, we will commission an independent review to assess the effectiveness and the long-term benefits and the sustainability of the outcomes achieved to date, and I think this has been an excellent initiative, I have to say. So, the findings of that review will provide that essential evidence base to help inform the scope and the structure and the priorities of any successor programme, but, and I'm in danger of repeating myself now, this will fall to the next Government to do.

And in saying that, Dirprwy Lywydd, and at the risk of inciting your anger here, can I just thank all frontbench spokesmen for their engagement with me at orals over the last two years? Much appreciated, all.

Diolch, Llyr. Felly, byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol i asesu effeithiolrwydd a manteision hirdymor a chynaliadwyedd y canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma, ac rwy'n credu bod hon wedi bod yn fenter ardderchog, rhaid imi ddweud. Felly, bydd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw'n darparu'r sylfaen dystiolaeth hanfodol honno i helpu i lywio cwmpas a strwythur a blaenoriaethau unrhyw raglen olynol, ond, ac rwyf mewn perygl o ailadrodd fy hun nawr, ond y Llywodraeth nesaf fydd yn gwneud hyn.

Ac wrth ddweud hynny, Ddirprwy Lywydd, a chan fentro ennyn eich dicter yma, a gaf i ddiolch i holl lefarwyr y meinciau blaen am eu hymgysylltiad â mi mewn sesiynau llafar dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr, bawb.

You can thank Members for their engagement with you once, and that will be done and dusted. [Laughter.]

Gallwch ddiolch i'r Aelodau am eu hymgysylltiad â chi unwaith, a bydd hynny'n ddiwedd y mater. [Chwerthin.]

Proffidioldeb yn y Sector Ffermio
Profitability in the Farming Sector

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proffidioldeb yn y sector ffermio? OQ63971

3. What action is the Welsh Government taking to improve profitability in the farming sector? OQ63971

Thank you, Andrew. The sustainable farming scheme supports farm profitability by promoting sustainable and efficient food production. By investing in soil health, grassland management, animal health, habitats and woodlands, the scheme supports more productive, resilient farm businesses. This is, of course, supplemented by our rural grant schemes to help farmers invest in their businesses.

Diolch, Andrew. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy'n cefnogi proffidioldeb ffermydd drwy hyrwyddo cynhyrchiant bwyd cynaliadwy ac effeithlon. Drwy fuddsoddi mewn iechyd pridd, rheoli glaswelltir, iechyd anifeiliaid, cynefinoedd a choetiroedd, mae'r cynllun yn cefnogi busnesau fferm mwy cynhyrchiol a gwydn. Wrth gwrs, ategir hyn gan ein cynlluniau grantiau gwledig i helpu ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau.

I declare an interest, obviously, as a partner in a farming business. Cabinet Secretary, the pressures that are going to be put on farm profitability by the events in the middle east are huge. The Conservative spokesperson touched on this, but what's important is to make sure that we understand what the Welsh Government is doing to support the sector and to make its case to the UK Government, from a Competition and Markets Authority side of things, because we know that there is price gouging going on in fuel and fertilisers—I mean, the amount of times I've had the explanation that the book has been closed on fertiliser purchasing, and then reopened 24 hours later with £150, £200 put onto the price of fertiliser, and that fertiliser was made prior to the events in the middle east. It is vital that the Government here uses its best endeavours to amplify the concerns of the agricultural community about that price gouging, but also makes the case to the UK Treasury, to assist in any measures they can to secure food production here in Wales and the rest of the UK, because, with those price increases, there is inevitably a drop in production, because to start that tractor and to put that fertiliser on is going to cost considerably more than most people were anticipating at the start of the year. So, can you give us an idea of what you're doing as a Government to bring that information together and amplify it in the corridors of powers at the UK Government level, because it is with their firepower that we'll be able to address some of these pressures?

Rwy'n datgan buddiant, yn amlwg, fel partner mewn busnes ffermio. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r pwysau sy'n mynd i gael eu rhoi ar broffidioldeb ffermydd gan y digwyddiadau yn y dwyrain canol yn enfawr. Cyfeiriodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr at hyn, ond yr hyn sy'n bwysig yw sicrhau ein bod yn deall beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ac i wneud ei hachos i Lywodraeth y DU, o ochr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i bethau, oherwydd rydym yn gwybod bod codi prisiau'n digwydd o ran tanwydd a gwrtaith—faint o weithiau yr wyf wedi cael yr esboniad fod y llyfr wedi ei gau ar brynu gwrtaith, ac yna'i ailagor 24 awr yn ddiweddarach gyda £150, £200 wedi'i ychwanegu at bris y gwrtaith, a bod gwrtaith wedi'i wneud cyn y digwyddiadau yn y dwyrain canol. Mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yma'n gwneud ei gorau glas i sicrhau bod pryderon y gymuned amaethyddol ynglŷn â'r codi prisiau'n cael eu clywed, ond hefyd yn gwneud yr achos i Drysorlys y DU, i gynorthwyo gydag unrhyw fesurau sy'n bosib i sicrhau cynhyrchiant bwyd diogel yma yng Nghymru a gweddill y DU, oherwydd, gyda'r cynnydd yn y prisiau, mae yna ostyngiad anochel mewn cynhyrchiant, oherwydd mae tanio'r tractor a gwasgaru'r gwrtaith yn mynd i gostio cryn dipyn yn fwy nag y disgwyliai'r rhan fwyaf o bobl ar ddechrau'r flwyddyn. Felly, a allwch chi roi syniad inni o'r hyn a wnewch fel Llywodraeth i ddod â'r wybodaeth honno at ei gilydd a sicrhau ei bod yn cael ei chlywed yng nghoridorau grym ar lefel Llywodraeth y DU, gan mai gyda'u pwerau nhw'n unig y gallwn fynd i'r afael â pheth o'r pwysau?

Thank you, Andrew. I don't not want to repeat the points I made to Sam earlier on, which are on record about not only our engagement with the UK Government, but our involvement with the UK Agriculture Market Monitoring Group as well. That will continue, but it's worth pointing out, to supplement the answer I gave earlier and to inform you a little further, Andrew, that the AHDB are also involved on sector-specific analysis, looking at the potential impacts—and, at the moment, they are potential impacts—on, for example, cereals and oilseeds, the dairy sector, beef and lamb and pork sector. So, they're doing that sector-by-sector analysis.

It is worth pointing out that, as you rightly say, fertiliser is one of the big areas of concern. Fertiliser costs typically account for about 15 per cent to 20 per cent of the costs on any average farm. Farms vary enormously, but it's 15 per cent to 20 per cent. Oil, of course, and oil prices, could have a major impact, including on issues like red diesel, but also, by the way, on things such as on-farm plastics and wrappings and so on, as well as oil-heated homes in rural areas. Ninety-eight per cent of farms actually use red diesel in one form or other. But it's also the Strait of Hormuz as well, and the delay of supplies coming through that—machinery and equipment as well. So, Andrew, we're keeping all of this under close scrutiny, and we will engage with the sector as well as UK Government.

Diolch, Andrew. Nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wneuthum i Sam yn gynharach, sydd wedi'u cofnodi nid yn unig am ein hymgysylltiad ni â Llywodraeth y DU, ond am ein cyfranogiad yng Ngrŵp Monitro Marchnad Amaeth y DU hefyd. Bydd hynny'n parhau, ond mae'n werth nodi, i ategu'r ateb a roddais yn gynharach ac i'ch hysbysu ychydig ymhellach, Andrew, fod y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd yn gweithio ar ddadansoddiad sector-benodol, gan edrych ar yr effeithiau posib—ac ar hyn o bryd, effeithiau posib ydynt—ar rawnfwydydd a hadau olew, er enghraifft, y sector llaeth, y sector cig eidion a chig oen a phorc. Felly, maent yn gwneud y dadansoddiad sector-wrth-sector hwnnw.

Mae'n werth nodi, fel y dywedwch yn briodol, fod gwrtaith yn un o'r meysydd pryder mawr. Mae costau gwrtaith fel arfer oddeutu 15 y cant i 20 y cant o'r costau ar unrhyw fferm gyffredin. Mae ffermydd yn amrywio'n enfawr, ond mae'n 15 y cant i 20 y cant. Gallai olew, wrth gwrs, a phrisiau olew gael effaith fawr, gan gynnwys ar faterion fel diesel coch, ond hefyd, gyda llaw, ar bethau fel plastigion a deunydd lapio ar y fferm ac yn y blaen, yn ogystal â chartrefi wedi'u gwresogi ag olew mewn ardaloedd gwledig. Mae 98 y cant o ffermydd yn defnyddio diesel coch ar ryw ffurf neu'i gilydd. Ond mae hefyd yn ymwneud â Chulfor Hormuz, a'r oedi i gyflenwadau sy'n dod drwy'r fan honno—peiriannau ac offer hefyd. Felly, Andrew, rydym yn parhau i graffu'n agos ar hyn, a byddwn yn ymgysylltu â'r sector yn ogystal â Llywodraeth y DU.

15:00
Y Sector Amaethyddol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed
The Agricultural Sector in Brecon and Radnorshire

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ63947

4. How is the Welsh Government supporting the agricultural sector in Brecon and Radnorshire? OQ63947

Thank you, James. We're supporting a sustainable, productive agriculture sector in Wales and in Brecon and Radnorshire through the sustainable farming scheme. In the Powys region, farm businesses have received over £60 million in basic payment scheme payments for 2025, with further assistance available through the rural investment schemes and, of course, advice via the Welsh Government supported Farming Connect.

Diolch, James. Rydym yn cefnogi sector amaethyddol cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Yn rhanbarth Powys, mae busnesau fferm wedi derbyn dros £60 miliwn drwy gynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2025, gyda chymorth pellach ar gael drwy'r cynlluniau buddsoddi gwledig, a chyngor drwy Cyswllt Ffermio wrth gwrs a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Thank you for that, Deputy First Minister. What is becoming clear through the sustainable farming scheme now being open, and what we're seeing through the ready reckoner, is that large landowners and organisations who have large areas of habitat land are gaining massively in terms of financial benefit from the sustainable farming scheme, while farmers who are producing food, without the level of habitat land, are not receiving the same level of support.

With all the geopolitical issues going on in the world at the moment, Cabinet Secretary, do you not think it's right and timely that we reprioritise the sustainable farming scheme to prioritise food production and increase livestock production in Wales, to make sure that we can support food security in this nation and support our farmers across our country?

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Daw'n glir drwy'r ffaith bod y cynllun ffermio cynaliadwy bellach ar agor, a'r hyn a welwn drwy'r canllaw cyflym, fod tirfeddianwyr mawr a sefydliadau sydd â darnau mawr o dir cynefin yn elwa'n aruthrol o ran budd ariannol o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond nad yw ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd, heb yr un lefel o dir cynefin, yn cael yr un lefel o gymorth.

Gyda'r holl faterion geowleidyddol sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, onid ydych chi'n credu ei bod yn iawn ac yn amserol inni addasu'r cynllun ffermio cynaliadwy i flaenoriaethu cynhyrchiant bwyd a chynyddu lefelau cynhyrchiant da byw yng Nghymru, er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi diogeledd bwyd yn y wlad hon a chefnogi ein ffermwyr ledled ein gwlad?

First of all, I think you're factually a million miles away from being accurate, because, actually, the support is very much targeted at small and medium-scale farms in Wales. There will also be, by the way, of course, in things like Ffermio Bro and the integrated landscape scheme that we put forward, the opportunities for farmers on a grand scale, including common land farmers and tenant farmers in the upland, to come together on a grand scale, join together and get additional funding.

I notice, by the way—and can I just commend you—that even though Reform itself has turned its back on the nature and climate crisis, you have contributed towards recycling in your manifesto, your policies, your MPs and your MSs. So, credit to you on that.

But, actually, if you were to scrap the sustainable farming scheme, which I understand is now your manifesto priority, that would be complete uncertainty, complete instability, and it would be a travesty for those farmers who have worked so hard with us, in proper engagement, to actually put this together. So, your current proposals to actually overhaul the SFS just put complete uncertainty back into it. So, you'll have to explain that to your farmers in your constituency.

Yn gyntaf, credaf eich bod filiwn o filltiroedd o fod yn ffeithiol gywir, oherwydd mewn gwirionedd, mae'r cymorth wedi'i dargedu i raddau helaeth at ffermydd bach a chanolig yng Nghymru. Bydd cyfleoedd hefyd, gyda llaw, drwy bethau fel Ffermio Bro a'r cynllun tirwedd integredig a gyflwynwyd gennym, i ffermwyr ar raddfa fawr, gan gynnwys ffermwyr tir comin a ffermwyr tenant yr ucheldir, ddod ynghyd ar raddfa fawr, i ymuno â'i gilydd a sicrhau cyllid ychwanegol.

Sylwaf, gyda llaw—ac a gaf i eich canmol—er bod Reform eu hunain wedi troi eu cefnau ar yr argyfwng natur a hinsawdd, eich bod wedi cyfrannu at ailgylchu yn eich maniffesto, eich polisïau, eich Aelodau Seneddol a'ch Aelodau o’r Senedd. Felly, pob clod i chi am hynny.

Ond mewn gwirionedd, pe baech yn cael gwared ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n flaenoriaeth gennych bellach yn eich maniffesto yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddai hynny'n peri ansicrwydd llwyr, ansefydlogrwydd llwyr, ac yn gwbl ddinistriol i'r ffermwyr sydd wedi gweithio mor galed gyda ni, drwy ymgysylltiad priodol, i lunio'r cynllun hwn. Felly, mae eich cynigion presennol i ailwampio'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dod ag ansicrwydd llwyr yn ôl i mewn iddo. Felly, bydd yn rhaid ichi esbonio hynny i'ch ffermwyr yn eich etholaeth.

Diogeledd Bwyd
Food Security

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogeledd bwyd yng Nghymru? OQ63956

5. How is the Welsh Government improving food security in Wales? OQ63956

Thank you, Janet. Welsh Government policies work right across the supply chain to promote food security. We support sustainable farming, local food partnerships, climate adaptation programmes, processors and retailers. We share market intelligence to ensure tighter supply chain management arrangements, and we continue to support households facing cost pressures. The strategic framework for food policy across Government is brought together in 'Food Matters: Wales'.

Diolch, Janet. Mae polisïau Llywodraeth Cymru’n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi i hyrwyddo diogeledd bwyd. Rydym yn cefnogi ffermio cynaliadwy, partneriaethau bwyd lleol, rhaglenni addasu i'r hinsawdd, proseswyr a manwerthwyr. Rydym yn rhannu gwybodaeth am y farchnad i sicrhau trefniadau rheoli tynnach o ran y gadwyn gyflenwi, ac rydym yn parhau i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu pwysau ariannol. Mae 'Bwyd o Bwys: Cymru' yn dod ynghyd â'r fframwaith strategol ar gyfer polisi bwyd ar draws y Llywodraeth.

Diolch yn fawr. I'm really concerned actually because, like it or not, I do feel that the Welsh Government is putting us on course to have a food security issue. And when you look now, most of our farming land is being taken up by different projects—we've got the Alaw Môn solar farm that will affect 660 acres of grazing land; Llanwern solar farm, 0.25 million solar panels—and we've now learned that we've got 94 per cent of chicken from Thailand and Brazil being served in my constituency to our schoolchildren. Even before—[Interruption.] Sorry?

Diolch yn fawr. Rwy'n bryderus iawn mewn gwirionedd oherwydd, hoffi hynny neu beidio, rwy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru’n ein rhoi ar y trywydd iawn tuag at broblem diogeledd bwyd. A phan edrychwch nawr, mae'r rhan fwyaf o'n tir ffermio'n cael ei ddefnyddio gan wahanol brosiectau—mae gennym fferm solar Alaw Môn a fydd yn effeithio ar 660 erw o dir pori; fferm solar Llanwern, 0.25 miliwn o baneli solar—ac rydym bellach yn deall bod 94 y cant o'r cyw iâr sy'n cael ei weini i'n plant ysgol yn fy etholaeth i yn dod o Wlad Thai a Brasil. Hyd yn oed cyn—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?

Okay. Even before the middle east bombings—[Interruption.] Even before the middle east bombings, we did have—. You know, we've got food security issues already. We're seeing empty shelves in our supermarkets. You failed to support Peter Fox's Food (Wales) Bill. There is a lack of focus on food security, prioritising other measures, such as tree planting and solar farms. The food processing sector needs stronger Government. We've got falling livestock numbers and we've also got regulatory and tax burdens facing our farmers. Will you, at some stage, and your Government, realise that this is a serious threat now, certainly since the bombing? And will you ensure and guarantee to us that we're not going to see a food security issue any time soon? 

Iawn. Hyd yn oed cyn y bomio yn y dwyrain canol—[Torri ar draws.] Hyd yn oed cyn y bomio yn y dwyrain canol, roedd gennym—. Hynny yw, mae gennym broblemau diogeledd bwyd eisoes. Rydym yn gweld silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd. Ni wnaethoch gefnogi Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox. Mae diffyg ffocws ar ddiogeledd bwyd, a mesurau eraill yn cael eu blaenoriaethu, fel plannu coed a ffermydd solar. Mae angen Llywodraeth gryfach ar y sector prosesu bwyd. Mae gennym niferoedd da byw’n gostwng ac mae ein ffermwyr yn wynebu beichiau rheoleiddiol a threthi. A wnewch chi a’ch Llywodraeth sylweddoli ar ryw adeg fod hwn yn fygythiad difrifol nawr, yn sicr ers y bomio? Ac a wnewch chi sicrhau a gwarantu i ni na fyddwn yn gweld problem ddiogeledd bwyd yn fuan?

15:05

In answer to that question, Janet—thank you for that—first of all, tree planting and renewables on farms and for farms have their place. I have farmers in my constituency who power their farms through renewable energy. I have farmers who are planting trees for cover for their livestock and for their sheep in the hot weather that we now have.

But what we are doing is promoting local food networks. So, the community food strategy and the local food partnerships strengthen local supply chains and resilience throughout Wales. You will have seen—it's happening right now and has been for several years—people like Harlech Foodservice in north Wales, people like Castell Howell in west Wales, who are working with local procurers, small-scale producers, to get their food onto the tables in our public places, in our hospitals, in our schools and so on, but also onto supermarket shelves. Our current awareness campaign, called Rooted in Wales, goes out to consumers to encourage them to eat seasonal, locally produced food, to strengthen food security while protecting the environment.

And Dirprwy Lywydd, I can see you staring at me, but it's of real help to Janet, honestly of real help. In Conwy itself, the Conwy Food Partnership, funded through Welsh Government, describes its purpose as working towards a more resilient local food system, improving access to nutritious, affordable food. Good luck to them, because they've been undertaking public engagement to shape this strategy and the work plan only recently this spring. So, support them. We're doing it. With a bit of Welsh Government support and grass-roots initiatives, we're getting there.

I ateb eich cwestiwn, Janet—diolch amdano—yn gyntaf oll, mae lle i blannu coed ac ynni adnewyddadwy ar ffermydd ac ar gyfer ffermydd. Mae gennyf ffermwyr yn fy etholaeth sy'n pweru eu ffermydd drwy ynni adnewyddadwy. Mae gennyf ffermwyr sy'n plannu coed i gael lloches i'w da byw ac i'w defaid yn y tywydd poeth a gawn nawr.

Ond yr hyn a wnawn yw hyrwyddo rhwydweithiau bwyd lleol. Felly, mae'r strategaeth bwyd cymunedol a'r partneriaethau bwyd lleol yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chydnerthedd ledled Cymru. Byddwch wedi gweld—mae'n digwydd nawr ac mae wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn—pobl fel Harlech Foodservice yn y gogledd, pobl fel Castell Howell yng ngorllewin Cymru, sy'n gweithio gyda chaffaelwyr lleol, cynhyrchwyr ar raddfa fach, i gael eu bwyd ar y byrddau yn ein mannau cyhoeddus, yn ein hysbytai, yn ein hysgolion ac yn y blaen, ond hefyd ar silffoedd archfarchnadoedd. Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth gyfredol, Gwreiddiwyd yng Nghymru, yn annog defnyddwyr i fwyta bwyd tymhorol a gynhyrchir yn lleol, i gryfhau diogeledd bwyd wrth ddiogelu'r amgylchedd.

A Ddirprwy Lywydd, gallaf eich gweld yn syllu arnaf, ond mae hyn o gymorth i Janet, o ddifrif. Yng Nghonwy ei hun, mae Partneriaeth Bwyd Conwy, a ariennir drwy Lywodraeth Cymru, yn nodi mai ei phwrpas yw gweithio tuag at system fwyd leol fwy gwydn, gan wella mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy. Pob lwc iddynt, gan eu bod wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd i lunio'r strategaeth hon a'r cynllun gwaith yn ddiweddar y gwanwyn hwn. Felly, cefnogwch nhw. Rydym ni'n eu cefnogi. Gyda rhywfaint o gymorth Llywodraeth Cymru a mentrau llawr gwlad, rydym ar y trywydd iawn.

Llifogydd Afonol yn Sir Ddinbych
Fluvial Flooding in Denbighshire

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ddarparu atebion parhaol i lifogydd afonol yn Sir Ddinbych? OQ63963

6. How is the Welsh Government supporting efforts to provide permanent solutions to fluvial flooding in Denbighshire? OQ63963

Diolch, Gareth. This year, the Welsh Government provided risk management authorities with £1.6 million to investigate, develop and construct 15 fluvial flood alleviation schemes—I just got there: 'fluvial flood alleviation schemes'—across Denbighshire. Next year, we will provide £3.1 million for 22 schemes, which we estimate, Gareth, will benefit over 1,000 properties in the local authority.

Diolch, Gareth. Eleni, darparodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn i awdurdodau rheoli risg i ymchwilio, datblygu ac adeiladu 15 o gynlluniau lliniaru llifogydd afonydd ar draws sir Ddinbych. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu £3.1 miliwn ar gyfer 22 o gynlluniau, yr amcangyfrifwn, Gareth, y byddant o fudd i dros 1,000 eiddo yn yr awdurdod lleol.

I appreciate that response, and your alliteration, Cabinet Secretary. Many communities across Denbighshire continue to experience repeated problems with fluvial flooding from local rivers and tributaries. And this is particularly felt in Dyserth, with consistent flooding issues around the Waterfall Road area. The Afon Ffyddion runs directly through the village and has a known history of flooding, with several recorded flood events affecting homes over the past two decades. Residents tell me that progress towards a permanent flood mitigation scheme has been frustratingly slow. In the meantime, the local authority has often had to rely on temporary measures, such as providing flood barriers to block entry points to homes. While regular maintenance, such as clearing culverts, is important, the community needs long-term solutions that protect homes, and residents need to know that money will be provided by the Government.

So, could the Cabinet Secretary outline what discussions the Welsh Government is having with Denbighshire County Council and Natural Resources Wales to accelerate permanent flood prevention schemes, particularly in inland areas such as Dyserth, and reassure residents that, once a design has been approved, funding will be provided simultaneously? 

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o gymunedau ledled sir Ddinbych yn parhau i wynebu problemau dro ar ôl tro gyda llifogydd afonydd ac is-afonydd lleol. Ac mae hyn yn cael ei deimlo'n arbennig yn Nyserth, gyda phroblemau llifogydd cyson o amgylch ardal Ffordd y Rhaeadr. Mae afon Ffyddion yn rhedeg drwy ganol y pentref ac mae ganddi hanes o lifogydd, gyda sawl digwyddiad llifogydd wedi effeithio ar gartrefi dros y ddau ddegawd diwethaf. Dywed trigolion wrthyf fod cynnydd tuag at gynllun lliniaru llifogydd parhaol wedi bod yn rhwystredig o araf. Yn y cyfamser, mae'r awdurdod lleol wedi gorfod dibynnu'n aml ar fesurau dros dro, fel darparu rhwystrau llifogydd i ddiogelu mynedfeydd i gartrefi. Er ei bod yn bwysig gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd, fel clirio cwlfertau, mae angen atebion hirdymor ar y gymuned i ddiogelu eu cartrefi, ac mae angen i drigolion wybod y bydd arian yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth.

Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych a Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflymu cynlluniau atal llifogydd parhaol, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol fel Dyserth, a rhoi sicrwydd i drigolion, ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo, y bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar yr un pryd?

Thank you, Gareth. I extend my sympathies to the people in Dyserth who have experienced flooding. Waiting for these investments to happen, while the business cases are brought forward and the works and the design are done, can be frustrating, but I can give you an update, recognising that. The upper section of the watercourse—. Sorry, first of all, the assessments that have been undertaken recognise that the flooding is attributed to capacity and blockage issues alongside the Afon Ffyddion watercourse flowing through the village. So, the upper section of the watercourse is designated as an ordinary watercourse, but the watercourse is reclassified as a main river as it flows through the centre of the village. So, the outline design was completed in 2019 for both the main river and the ordinary watercourse, and this builds on the 2011 PAR. Now, it is for Denbighshire County Council, who are the risk management authority in the area, to take the responsibility for progressing the flood alleviation scheme, but I can confirm for you, Gareth, that the Dyserth flood alleviation scheme has been allocated £112,301 for the financial year 2026-27, which makes now a total of £471,483 to complete the scheme.

Diolch, Gareth. Rwy'n cydymdeimlo â'r bobl yn Nyserth sydd wedi wynebu llifogydd. Gall fod yn rhwystredig aros am y buddsoddiadau hyn tra bo'r achosion busnes yn cael eu cyflwyno ac wrth i'r gwaith a'r cynllunio fynd rhagddo, ond gan gydnabod hynny, gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Rhan uchaf y cwrs dŵr—. Mae'n ddrwg gennyf, yn gyntaf, mae'r asesiadau a gynhaliwyd yn cydnabod bod y llifogydd yn cael deillio o broblemau capasiti a rhwystrau ar hyd cwrs dŵr afon Ffyddion sy'n llifo drwy'r pentref. Felly, mae rhan uchaf y cwrs dŵr wedi'i dynodi'n gwrs dŵr cyffredin, ond mae'r cwrs dŵr wedi'i ailddosbarthu fel prif afon gan ei bod yn llifo drwy ganol y pentref. Felly, cwblhawyd y cynllun amlinellol yn 2019 ar gyfer y brif afon a'r cwrs dŵr cyffredin, ac mae hyn yn adeiladu ar adroddiad asesu rhagarweiniol 2011. Nawr, Cyngor Sir Ddinbych, sef yr awdurdod rheoli perygl llifogydd yn yr ardal, sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen â'r cynllun lliniaru llifogydd, ond gallaf gadarnhau i chi, Gareth, fod cynllun lliniaru llifogydd Dyserth wedi cael £112,301 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27, a chyfanswm o £471,483 bellach i gwblhau'r cynllun.

Llygredd Aer a Dŵr yn Abertawe
Air and Water Pollution in Swansea

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lygredd aer a dŵr yn Abertawe? OQ63943

7. Will the Cabinet Secretary make a statement on air and water pollution in Swansea? OQ63943

Thank you, Mike. Protecting public health, improving air quality and safeguarding rivers and coastal waters are central to our work in this Welsh Government. We're committed to working closely with our local authorities to deliver this, for the people of Swansea and for the rest of Wales.

Diolch, Mike. Mae diogelu iechyd y cyhoedd, gwella ansawdd aer a diogelu afonydd a dyfroedd arfordirol yn ganolog i'n gwaith yn Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol i gyflawni hyn, ar gyfer pobl Abertawe ac ar gyfer gweddill Cymru.

15:10

Thank you for that answer. But starting with water pollution, I and many of my constituents are concerned about raw sewage entering the River Tawe from the Trebanos treatment works. There is also concern about nitrates and microplastics entering the River Tawe before entering the sea and polluting our coastal area.

With air pollution, we have a serious problem. With air pollution, it's what you cannot see that's most dangerous to health. Swansea Council's 2024 air quality progress report confirmed that PM2.5 levels remain a concern, particularly near busy roads and junctions. While most monitoring sites meet national standards, the report noted that 89 locations—yes, 89 locations—saw increases in pollution compared to 2022. This worsening of air quality is not acceptable. What are the Welsh Government's plans to improve water and air quality in Swansea?

Diolch am eich ateb. Ond gan ddechrau gyda llygredd dŵr, rwyf i a llawer o fy etholwyr yn pryderu am garthion amrwd yn mynd i mewn i afon Tawe o waith trin dŵr gwastraff Trebanos. Mae pryder hefyd am nitradau a microplastigion yn mynd i mewn i afon Tawe cyn mynd i mewn i'r môr a llygru ein hardal arfordirol.

Gyda llygredd aer, mae gennym broblem ddifrifol. Gyda llygredd aer, yr hyn na allwch ei weld sy'n fwyaf peryglus i iechyd. Cadarnhaodd adroddiad cynnydd Cyngor Abertawe ar ansawdd aer yn 2024 fod lefelau PM2.5 yn parhau i beri pryder, yn enwedig ger ffyrdd prysur a chyffyrdd. Er bod y rhan fwyaf o safleoedd monitro yn bodloni safonau cenedlaethol, nododd yr adroddiad y bu cynnydd mewn llygredd mewn 89 o leoliadau—ie, 89 o leoliadau—o gymharu â 2022. Nid yw'r dirywiad hwn mewn ansawdd aer yn dderbyniol. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr ac ansawdd aer yn Abertawe?

Thank you very much, Mike. Well, there is some significant work that we're doing in collaboration with Swansea, with the local authority there, both on air quality and on water quality, and this includes monitoring. So, from November, mid November 2025 until February 2026, a public consultation was run on target options for fine particulate matter, the PM2.5, and the associated monitoring requirements to underpin them. So, the responses to that consultation are being reviewed, and then the measures that will flow from that, Mike, will need to be taken forward in line with the Air Quality Standards (Wales) Regulations 2010, which we passed in this place.

One of the significant pieces of work in terms of water quality in Swansea is, of course, as you will know, the Trebanos waste water treatment works, and there's a lot of concern locally, which you've raised with me, about water quality on the Tawe, linked to this. Dŵr Cymru have confirmed they intend to submit their formal proposal for Trebanos to Natural Resources Wales. NRW can then assess compliance with the regulatory guidance, and I would expect this process, Mike, to move forward swiftly once the submission is received. Look, my priority, along with you, is to ensure the River Tawe and the local community see lasting improvement. So, I'll monitor this closely and hold both Dŵr Cymru and NRW to account to make sure that the expectations are met.

Diolch yn fawr, Mike. Wel, rydym yn gwneud gwaith sylweddol ar y cyd ag Abertawe, gyda'r awdurdod lleol yno, ar ansawdd aer ac ar ansawdd dŵr, ac mae hyn yn cynnwys monitro. Felly, o fis Tachwedd, canol mis Tachwedd 2025 tan fis Chwefror 2026, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar opsiynau targed ar gyfer deunydd gronynnol mân, y PM2.5, a'r gofynion monitro cysylltiedig i'w hategu. Felly, mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw'n cael eu hadolygu, ac yna bydd angen bwrw ymlaen â'r mesurau a fydd yn deillio o hynny, Mike, yn unol â Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010, a basiwyd gennym yn y lle hwn.

Un o'r elfennau arwyddocaol o ran ansawdd dŵr yn Abertawe yw gwaith trin dŵr gwastraff Trebanos, ac mae llawer o bryder yn lleol, ac rydych chi wedi codi hyn gyda mi, ynghylch ansawdd dŵr ar afon Tawe, yn gysylltiedig â hyn. Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cyflwyno eu cynnig ffurfiol ar gyfer Trebanos i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yna, gall Cyfoeth Naturiol Cymru asesu cydymffurfiaeth â'r canllawiau rheoleiddiol, a buaswn yn disgwyl i'r broses hon, Mike, wneud cynnydd cyflym ar ôl i'r cynnig gael ei gyflwyno. Edrychwch, fy mlaenoriaeth i, fel chithau, yw sicrhau bod afon Tawe a'r gymuned leol yn gweld gwelliant parhaol. Felly, byddaf yn monitro hyn yn agos ac yn dwyn Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif er mwyn sicrhau bod y disgwyliadau'n cael eu cyflawni.

Perfformiad Dŵr Cymru yn Islwyn
The Performance of Welsh Water in Islwyn

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn? OQ63968

8. What assessment has the Welsh Government made of the performance of Welsh Water in serving the people of Islwyn? OQ63968

Thank you, Rhianon. I expect water companies to provide high-quality, resilient and environmentally responsible services to customers and communities. Welsh Government is working with Ofwat, Natural Resources Wales and others to drive improvement, ensure significant investment is made and, crucially, deliver better outcomes for customers and the environment, now and in the future.

Diolch, Rhianon. Rwy'n disgwyl i gwmnïau dŵr ddarparu gwasanaethau gwydn, amgylcheddol gyfrifol o ansawdd uchel i gwsmeriaid a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i ysgogi gwelliant, sicrhau bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud, ac yn hollbwysig, i gyflawni canlyniadau gwell i gwsmeriaid a'r amgylchedd, nawr ac yn y dyfodol.

Thank you for those very important words. Natural Resources Wales's latest report confirms that Dŵr Cymru Welsh Water remains a two-star company that requires improvement for the third consecutive year. In 2024, Welsh Water recorded themselves 155 serious pollution incidents from water or sewerage assets. This is the highest total in a decade, and it is completely unacceptable. I believe Jane Dodds also stated the same.

Recently, I organised a productive multi-agency meeting to resolve dangerous flooding and sewage problems at Abercarn Welfare Ground, alongside sportsman Craig Roach, the rugby club, the football club, the Welsh Rugby Union, Welsh Water and Caerphilly County Borough Council. So, Deputy First Minister, rugby, football and cricket have been played for over 50 years—for decades—by Abercarn, where I grew up, on their covenanted ground, but year after year, sporting activities are cancelled due to Welsh Water's discharge of human waste from river water and sewer discharges, whilst the community of Abercarn and its amazing youth teams are desperate to play and survive as clubs. It is no exaggeration to state that their entire future, including access to the WRU programmes and the lifeblood of investment, lies in puddles of excrement on their pitch. Whilst I am pleased at the engagement of the meeting—

Diolch am y geiriau pwysig hynny. Mae adroddiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau bod Dŵr Cymru’n parhau i fod yn gwmni dwy seren sydd angen gwelliant am y drydedd flwyddyn yn olynol. Yn 2024, cofnododd Dŵr Cymru 155 o ddigwyddiadau llygredd difrifol o asedau dŵr neu garthffosiaeth. Dyma'r cyfanswm uchaf mewn degawd, ac mae'n gwbl annerbyniol. Rwy'n credu bod Jane Dodds hefyd wedi dweud yr un peth.

Yn ddiweddar, trefnais gyfarfod amlasiantaethol cynhyrchiol i ddatrys problemau llifogydd a charthion peryglus ar Dir Lles Aber-carn, gyda'r athletwr Craig Roach, y clwb rygbi, y clwb pêl-droed, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, mae rygbi, pêl-droed a chriced wedi cael eu chwarae ers dros 50 mlynedd—ers degawdau—yn Aber-carn, lle cefais fy magu, ar y maes a gyfamodwyd, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn, caiff gweithgareddau chwaraeon eu canslo yn sgil gollyngiadau o wastraff dynol Dŵr Cymru o ddŵr afonydd a gollyngiadau carthffosiaeth, tra bo cymuned Aber-carn a'i thimau ieuenctid anhygoel ar dân i chwarae ac i oroesi fel clybiau. Nid yw'n ormod dweud bod eu dyfodol cyfan, gan gynnwys mynediad at raglenni Undeb Rygbi Cymru a buddsoddiad hollbwysig, yn gorwedd mewn pyllau o garthion ar eu cae. Er fy mod yn falch o weld y cyfarfod—

You need to ask your question now, please.

Mae angen ichi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

Thank you. It is even more disturbing that Welsh Water executives are reported to be earning over £0.5 million. Can I request, then, Cabinet Secretary, that you take a personal interest in this contamination, that these matters are not isolated to Islwyn, but will you ask that your officials speak urgently with Welsh Water to expedite an immediate long-term solution and specifically meet with Abercarn Welfare Ground to support the needs of the people of Abercarn?

Diolch. Mae'n peri mwy fyth o bryder fod swyddogion gweithredol Dŵr Cymru’n ennill dros £0.5 miliwn yn ôl adroddiadau. A gaf i ofyn, felly, i chi gymryd diddordeb personol yn yr halogiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw'r materion hyn wedi'u cyfyngu i Islwyn, ond a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion siarad ar frys â Dŵr Cymru i gyflymu datrysiad hirdymor ar unwaith, ac yn benodol i gyfarfod â Thir Lles Aber-carn i gefnogi anghenion pobl Aber-carn?

Rhianon, thank you very much, and I do fully recognise the seriousness of the situation at Abercarn Welfare Ground. I've had a similar experience in my own area, where we've had sewage going onto a rugby field. Fair play to Dŵr Cymru, they worked with us and the local club to resolve it. It took a bit of time, but we did it. It's unacceptable. It's simply unacceptable. So, I will take a close personal interest in resolving this. I may not be able to come out and visit in the short time between now and dissolution, but I'll ask my officials to engage directly with Welsh Water to ensure that we do identify a long-term, sustainable solution, and that it is expedited so that we can do this as rapidly as possible.

On the issue of Dŵr Cymru's performance, it has to improve. Ofwat's latest performance assessments show that Dŵr Cymru falls short on key commitments: leakage, supply interruptions, pollution reduction. We've been consistently clear that this level of underperformance is not acceptable for communities in Islwyn, or frankly anywhere else in Wales. So, we will hold them to account, both the company and regulators, on delivering improvements for customers and the environment. We will continue to push for measurable progress on behalf of the people of Islwyn and the people of Wales. And again, I would refer you and others to our Green Paper, 'Shaping the Future of Water Governance in Wales', which we launched. It is a once-in-a-generation opportunity to shape a modern, resilient system of water governance for Wales.

Rhianon, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n llwyr gydnabod difrifoldeb y sefyllfa ar Dir Lles Aber-carn. Rwyf wedi cael profiad tebyg yn fy ardal fy hun, lle rydym wedi cael carthion ar gae rygbi. Chwarae teg i Dŵr Cymru, fe wnaethant weithio gyda ni a'r clwb lleol i'w ddatrys. Cymerodd ychydig o amser, ond fe wnaethom hynny. Mae'n annerbyniol. Mae'n gwbl annerbyniol. Felly, bydd gennyf ddiddordeb personol mewn datrys hyn. Efallai na allaf ddod i ymweld yn yr amser byr rhwng nawr a diddymu'r Senedd, ond byddaf yn gofyn i fy swyddogion ymgysylltu'n uniongyrchol â Dŵr Cymru i sicrhau ein bod yn nodi ateb hirdymor, cynaliadwy, a'i fod yn cael ei gyflymu fel y gallwn wneud hyn cyn gynted â phosib.

O ran perfformiad Dŵr Cymru, mae'n rhaid iddo wella. Mae asesiadau perfformiad diweddaraf Ofwat yn dangos nad yw Dŵr Cymru’n cyflawni ymrwymiadau allweddol: gollyngiadau, ymyriadau â'r cyflenwad, lleihau llygredd. Rydym wedi nodi'n glir yn gyson nad yw'r lefel hon o danberfformio'n dderbyniol i gymunedau yn Islwyn, nac yn unrhyw le arall yng Nghymru o ran hynny. Felly, byddwn yn eu dwyn i gyfrif, y cwmni a'r rheoleiddwyr, ar gyflawni gwelliannau i gwsmeriaid a'r amgylchedd. Byddwn yn parhau i wthio am gynnydd mesuradwy ar ran pobl Islwyn a phobl Cymru. Ac unwaith eto, rwy'n eich cyfeirio chi ac eraill at ein Papur Gwyrdd, 'Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru', a lansiwyd gennym. Mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio system lywodraethiant dŵr fodern a gwydn i Gymru.

15:15
3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Sioned Williams.

Item 3 is the topical questions. The first topical question will be from Sioned Williams.

Y Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
The Conflict in the Middle East

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y goblygiadau costau byw i Gymru yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol? TQ1452

1. Will the First Minister make a statement on the cost-of-living implications on Wales of the conflict in the Middle East? TQ1452

We are in regular contact with UK Government counterparts and relevant trade unions to monitor the emerging situation and the potential mitigation options. As you would expect, the First Minister has also written to the UK Government seeking assurance regarding energy security and the cost of energy following disruption to oil markets because of the conflict.

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ac undebau llafur perthnasol i fonitro'r sefyllfa sy'n datblygu a'r opsiynau lliniaru posib. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae'r Prif Weinidog hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am sicrwydd ynghylch diogeledd ynni a chost ynni yn dilyn y gwrthdaro sydd wedi amharu ar farchnadoedd olew.

Diolch, a diolch am ddod yma i ateb ar ran y Prif Weinidog, gan taw hi sy'n gyfrifol, wrth gwrs, am faterion rhyngwladol.

Thank you, and thank you for coming here to answer on behalf of the First Minister, because she, of course, is responsible for international issues.

As Trump and Netanyahu's illegal war continues to escalate in the middle east, which has included the slaughter of almost 300 children according to Save the Children, the inevitable economic repercussions are already reaching Wales. The disruption to the Strait of Hormuz has not only led to a spike in international oil prices, it has also stalled vital shipments of other key commodities, such as fertilisers, that will damage agricultural production.

We should not be supporting this war. This war is killing innocent civilians, endangering UK citizens in the Gulf, and is hitting the pockets of people here in Wales. Unlike Reform and the Tories, Plaid Cymru has been clear from the outset that there is no legal, moral or strategic justification for this war, and that the Labour UK Government should utilise every diplomatic lever at its disposal to bring the conflict to a speedy resolution rather than deepening our involvement. There is no contradiction between abhorring the brutality and oppression of the Iranian regime and lamenting how this war is senseless, directionless, illegal and dangerous.

Cabinet Secretary, there are many warnings, including from National Energy Action, that the conflict with Iran is having an immediate impact on households reliant on heating fuel, which is not protected by the price cap. Of course, we know that many households in some areas of Wales have no connection to mains gas and are reliant on heating fuel. We are already hearing from constituents that the price of heating their homes has skyrocketed.

Could the Cabinet Secretary explain what plans the Government is putting in place, in conjunction with the UK Government, to respond to the economic convulsions of this conflict and to insulate households, especially those already struggling with energy bills, remembering, of course, that a quarter of Welsh households live in fuel poverty? What conversations has she had with Welsh Treasury officials to understand how the inflationary pressures will affect public finances in Wales? Diolch.

Wrth i ryfel anghyfreithlon Trump a Netanyahu barhau i waethygu yn y dwyrain canol, gan ladd bron i 300 o blant yn ôl Achub y Plant, mae'r canlyniadau economaidd anochel eisoes yn cyrraedd Cymru. Nid yn unig fod yr amhariadau ar Gulfor Hormuz wedi arwain at naid yn y prisiau olew rhyngwladol, mae hefyd wedi atal llwythi hanfodol o nwyddau allweddol eraill, fel gwrteithiau, a fydd yn niweidio cynhyrchiant amaethyddol.

Ni ddylem gefnogi'r rhyfel hwn. Mae'r rhyfel hwn yn lladd sifiliaid diniwed, yn peryglu dinasyddion y DU yn y Gwlff, ac yn taro pocedi pobl yma yng Nghymru. Yn wahanol i Reform a'r Torïaid, mae Plaid Cymru wedi dweud yn glir o'r dechrau nad oes cyfiawnhad cyfreithiol, moesol na strategol dros y rhyfel hwn, ac y dylai Llywodraeth Lafur y DU ddefnyddio pob lifer diplomyddol sydd ar gael iddi i ddatrys y gwrthdaro yn gyflym yn hytrach na dyfnhau ein cyfranogiad. Nid oes anghysondeb rhwng ffieiddio at greulondeb a gormes y gyfundrefn yn Iran a gresynu at sut y mae'r rhyfel hwn yn ddisynnwyr, yn ddigyfeiriad, yn anghyfreithlon ac yn beryglus.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o rybuddion, gan gynnwys gan National Energy Action, fod y gwrthdaro ag Iran yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd sy'n ddibynnol ar danwydd gwresogi, nad yw wedi'i ddiogelu gan y cap prisiau. Wrth gwrs, fe wyddom fod llawer o aelwydydd mewn rhai ardaloedd o Gymru heb eu cysylltu â'r prif gyflenwad nwy a'u bod yn ddibynnol ar danwydd gwresogi. Rydym eisoes yn clywed gan etholwyr fod pris gwresogi eu cartrefi wedi codi'n sylweddol.

A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa gynlluniau y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith, ar y cyd â Llywodraeth y DU, i ymateb i'r anawsterau economaidd sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro hwn ac i inswleiddio aelwydydd, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu biliau ynni, gan gofio, wrth gwrs, fod chwarter aelwydydd Cymru’n byw mewn tlodi tanwydd? Pa sgyrsiau y mae hi wedi'u cael gyda swyddogion Trysorlys Cymru i ddeall sut y bydd y pwysau chwyddiant yn effeithio ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru? Diolch.

I'm grateful for the question and the range of really important points raised this afternoon. In terms of the discussions that we have had with the UK Government, yesterday morning I spoke to the Financial Secretary to the Treasury, specifically about people who are dependent on heating oil. During that meeting, we were able to talk about the work that Michael Shanks has been doing—he met with the heating oil industry. And the Secretary of State, Ed Miliband, has also written to them warning against price gouging, because we know that is a particular concern at the moment.

I know from that conversation with the Financial Secretary to the Treasury that the Chancellor has instructed the Competition and Markets Authority to monitor the suppliers very, very closely, to look at price gouging. But I know from my own casework and from letters that colleagues have been sharing with me as well about the difficulty that some people are finding in terms of getting heating oil. Actually, the issue at the moment is an issue around price volatility rather than supply. However, we do know that some suppliers are holding back supply with the aim of profiteering as a result of that.

What I would say there is that we're not that far from the pandemic. We all know and we all remember those suppliers who hiked the prices of essential goods—toilet paper, hand gel and so on—and we will make choices as a result of that. So, people will have choices as to where they're able to procure their oil from in the future, and they will remember those companies who try to take advantage of them at this particular point. The First Minister has, as I say, written to the Secretary of State for Energy Security and Net Zero. That letter, as well as outlining the issues immediately facing households in Wales—7 per cent of whom rely on heating oil—also asked for additional protections for the other customers outside of the Ofgem price cap as well, and additional support for businesses should there be sustained higher prices also.

I would say that the cross-Government working at the moment is very good with the UK Government in terms of sharing intelligence and in terms of trying to make sure that the industry itself acts responsibly. I've also got a meeting tomorrow to engage further with businesses following my meetings yesterday with the Confederation of British Industry, the Federation of Small Businesses and Make UK, with the trade advisory group. That brings together key sectors from agriculture to the automotive sector to discuss issues in relation to trade. It's very timely that we're meeting tomorrow. No doubt, I will be able to ascertain their latest views on these particular issues and the challenges ahead.

As I say, at the moment, lots of the issues are around price volatility rather than supply, but, of course, in the meetings that we're having with the UK Government, both at ministerial level and official level, we are planning for a range of outcomes depending on how wide the conflict goes and how long it lasts. But to echo the points that were made, we all absolutely hope for a speedy resolution.

Diolch am eich cwestiwn a'r amryw o bwyntiau pwysig iawn a godwyd y prynhawn yma. Ar y trafodaethau a gawsom gyda Llywodraeth y DU, siaradais fore ddoe ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, yn benodol am bobl sy'n ddibynnol ar olew gwresogi. Yn y cyfarfod hwnnw, bu modd inni siarad am y gwaith y mae Michael Shanks wedi bod yn ei wneud—cyfarfu â'r diwydiant olew gwresogi. Ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Ed Miliband, hefyd wedi ysgrifennu atynt yn rhybuddio yn erbyn codi prisiau, gan y gwyddom fod hynny'n bryder penodol ar hyn o bryd.

Gwn o'r sgwrs honno gydag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys fod y Canghellor wedi cyfarwyddo'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i fonitro'r cyflenwyr yn agos iawn, i gadw llygad ar godi prisiau. Ond gwn o fy ngwaith achos fy hun ac o lythyrau y mae cyd-Aelodau wedi bod yn eu rhannu gyda mi hefyd fod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar olew gwresogi. Mewn gwirionedd, mae'r broblem ar hyn o bryd yn ymwneud ag anwadalrwydd prisiau yn hytrach na chyflenwad. Fodd bynnag, gwyddom fod rhai cyflenwyr yn dal gafael ar gyflenwad gyda'r nod o wneud elw o ganlyniad i hynny.

Yr hyn y buaswn yn ei ddweud am hynny yw nad oes cymaint â hynny o amser wedi mynd heibio ers y pandemig. Mae pob un ohonom yn gwybod ac yn cofio'r cyflenwyr a gododd brisiau nwyddau hanfodol—papur toiled, hylif diheintio ac yn y blaen—a byddwn yn gwneud dewisiadau o ganlyniad i hynny. Felly, bydd gan bobl ddewisiadau ynglŷn â ble maent yn caffael eu holew yn y dyfodol, a byddant yn cofio'r cwmnïau sy'n ceisio cymryd mantais arnynt ar yr adeg benodol hon. Mae'r Prif Weinidog, fel y dywedaf, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net. Yn ogystal ag amlinellu'r problemau sy'n wynebu aelwydydd yng Nghymru yn uniongyrchol—y mae 7 y cant ohonynt yn dibynnu ar olew gwresogi—roedd y llythyr hwnnw hefyd yn gofyn am amddiffyniadau ychwanegol i'r cwsmeriaid eraill y tu allan i gap prisiau Ofgem, a chymorth ychwanegol i fusnesau os yw prisiau uwch yn para.

Buaswn yn dweud bod y gwaith trawslywodraethol yn dda iawn ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU o ran rhannu gwybodaeth ac o ran ceisio sicrhau bod y diwydiant ei hun yn gweithredu'n gyfrifol. Mae gennyf gyfarfod yfory hefyd i ymgysylltu ymhellach â busnesau yn dilyn fy nghyfarfodydd ddoe â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Make UK, gyda'r grŵp cynghori ar fasnach. Daw hwnnw â sectorau allweddol ynghyd o amaethyddiaeth i'r sector modurol i drafod materion mewn perthynas â masnach. Mae'n amserol iawn ein bod yn cyfarfod yfory. Heb os, fe welaf beth yw eu safbwyntiau diweddaraf ar y materion penodol hyn a'r heriau sydd o'n blaenau.

Fel y dywedaf, ar hyn o bryd, mae llawer o'r problemau'n ymwneud ag anwadalrwydd prisiau yn hytrach na chyflenwad, ond wrth gwrs, yn y cyfarfodydd a gawn gyda Llywodraeth y DU, ar lefel weinidogol a lefel swyddogol, rydym yn cynllunio ar gyfer ystod o ganlyniadau yn dibynnu ar lefel y gwrthdaro a pha mor hir y bydd yn para. Ond i adleisio'r pwyntiau a wnaed, mae pob un ohonom yn mawr obeithio am ddatrysiad cyflym.

15:20

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd yr ail gwestiwn gan Hannah Blythyn.

Thank you, Cabinet Secretary. The second question will be from Hannah Blythyn.

Ffugiadau Dwfn
Deepfakes

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith ffugiadau dwfn mewn perthynas ag etholiad y Senedd eleni, yn dilyn adroddiadau newyddion diweddar? TQ1453

2. Will the Cabinet Secretary provide an update on what action is being taken to tackle the impact of deepfakes in respect of this year's Senedd election, following recent news reports? TQ1453

Media regulation is reserved, but the Welsh Government is working closely with the UK Government, the Electoral Commission, the police and other partners to safeguard the integrity and security of the Senedd election, and with civil society and the electoral management board to improve the supply of credible information to voters.

Mae rheoleiddio'r cyfryngau yn fater a gedwir yn ôl, ond mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, y Comisiwn Etholiadol, yr heddlu a phartneriaid eraill i ddiogelu uniondeb a diogelwch etholiad y Senedd, a chyda chymdeithas sifil a'r bwrdd rheoli etholiadol i wella'r cyflenwad o wybodaeth gredadwy i bleidleiswyr.

Diolch am eich ateb, Cwnsler Cyffredinol.

Thank you for that response, Counsel General.

I've raised previously the question of the use of so-called deepfakes on well-known social media platforms, particularly in respect of the fake sexualisation of girls and women, and called it out for what it is—technology-facilitated violence against women and girls. And now a BBC article has set out the very real threat to our devolved democracy from overseas content farms using artificial intelligence to create social media posts about UK politics. The same article states it uncovered examples of AI-generated videos falsely showing Welsh politicians in compromising situations.

Dirprwy Lywydd, I'm not going to go into the details on these because I do not wish to provide any further oxygen to the perpetrators, nor cause additional unnecessary distress to those targeted. But the risk is very much, sadly, real, with the videos having the potential to have a detrimental impact on devolved politics, and, indeed, on politicians on a very personal level too. Just because whoever is sharing the image is stating that it's fake or it's clearly satirical, it doesn't make it okay. It's still equally abhorrent and absolutely unacceptable. My belief is that sharing such things should make you just as culpable as creating them in the first place.

Counsel General, I welcome what you said about working with partners such as the Electoral Commission, the UK Government and policing. Are you able to further elaborate on that in terms of what pressure is being put on Governments elsewhere? Because we know that this is not a Welsh-specific problem, it is a global problem, and there are concerns about it at the EU level. I do very much believe—although I know it's not for you now, Counsel General, but for a future Senedd—that more work needs to be done to look at what we can do within the parameters that we do have here in terms of how we can do our own processes and standards around it. Like you say, media regulation is not devolved, but could you set out further what work has been done on this with those partners? Because it's not just a dangerous and destabilising threat to our democracy, it very much risks further dividing communities and doing irreversible individual and institutional damage. Diolch.

Rwyf wedi codi'r cwestiwn o'r blaen ynghylch defnyddio'r hyn a elwir yn ffugiadau dwfn ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol cyfarwydd, yn enwedig o ran ffug-rywioli merched a menywod, ac wedi'i alw’r hyn ydyw—trais yn erbyn menywod a merched a hwylusir gan dechnoleg. A nawr, mae erthygl gan y BBC wedi disgrifio'r bygythiad gwirioneddol i'n democratiaeth ddatganoledig a achosir gan ffermydd cynnwys tramor sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol am wleidyddiaeth y DU. Mae'r un erthygl yn nodi eu bod wedi datgelu enghreifftiau o fideos ffug a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial yn dangos gwleidyddion Cymru mewn sefyllfaoedd amheus.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf am fynd i fanylion ynglŷn â'r rhain gan nad wyf am roi rhagor o ocsigen i'r troseddwyr, na pheri gofid diangen ychwanegol i'r rhai a dargedwyd. Ond mae'r risg yn real iawn, yn anffodus, gan fod potensial gan y fideos i gael effaith andwyol ar wleidyddiaeth ddatganoledig, ac yn wir, ar wleidyddion ar lefel bersonol iawn hefyd. Nid yw i bwy bynnag sy'n rhannu'r ddelwedd ddatgan ei bod yn ffug neu ei bod yn amlwg yn ddychanol yn ei wneud yn iawn. Mae'n dal i fod yr un mor ffiaidd ac yn gwbl annerbyniol. Fy nghred i yw y dylai rhannu pethau o'r fath eich gwneud yr un mor feius â'u creu yn y lle cyntaf.

Gwnsler Cyffredinol, rwy'n croesawu'r yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn a gweithio gyda phartneriaid fel y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth y DU a phlismona. A allwch chi ymhelaethu ar hynny o ran pa bwysau sy'n cael ei roi ar Lywodraethau mewn mannau eraill? Oherwydd gwyddom nad yw hon yn broblem benodol i Gymru, mae'n broblem fyd-eang, ac mae pryderon yn ei chylch ar lefel yr UE. Credaf yn gryf—er y gwn nad yw'n fater ar eich cyfer chi nawr, Gwnsler Cyffredinol, ond ar gyfer Senedd yn y dyfodol—fod angen gwneud mwy o waith i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o fewn y paramedrau sydd gennym yma o ran sut y gallwn ddefnyddio ein prosesau a'n safonau ein hunain yn y cyswllt hwn. Fel y dywedwch, nid yw rheoleiddio'r cyfryngau yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond a allech chi nodi ymhellach pa waith a wnaed ar hyn gyda'r partneriaid hynny? Oherwydd nid yn unig ei fod yn fygythiad peryglus a allai ansefydlogi ein democratiaeth, gallai rannu cymunedau ymhellach a gwneud niwed na ellir ei wrthdroi i unigolion a sefydliadau. Diolch.

15:25

I think we can all agree that the way that high-quality deepfake materials can be easily created and disseminated is a real worry for us all, especially those of us who care about democracy and truthful competition of ideas and policies. I completely agree that there is a really worrying misogynistic aspect to many of these deepfakes. We're all aware of cases here in Wales, and in Northern Ireland in particular, of female politicians having fake pornographic images created of them, which is particularly abhorrent.

We are working closely with the Electoral Commission and other partners to prepare for the elections in May. Our electoral management board is supporting returning officers and their teams, and that includes police involvement, in security planning, to make sure that it's as fair and open and honest and transparent as possible. The Electoral Commission recently briefed the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on its new deepfake monitoring technology trial, and that's providing valuable intelligence to us as well.

We also welcome the UK Government's Online Safety Act 2023, which established a new regulatory regime to address illegal and harmful content online. Ofcom is now the regulator of online safety, and the UK Government has said it's prepared to do a lot more, including response to the creation of deepfake images—we recently had the example of the Grok AI to go by. We've also shared candidate security guidance with all political parties in Wales, and further guidance is available on the gov.uk website and the National Cyber Security Centre website. The National Cyber Security Centre is also offering briefings to candidates, political parties and other local authorities.

The First Minister did mention this yesterday in FMQs, but I just want to reiterate the point, because I really would encourage all political parties and candidates in our upcoming Senedd election to take up the offer of security briefings from the police and the NCSC. I think it's a very important piece of information. Everybody should know how to make sure that their candidates are safe and that people are getting the right information.

In addition to that, we've got enhanced resilience planning structures within the Welsh Government, and that helps us ensure robust co-ordination with UK partners to support the security and integrity of the Senedd election. In fact, the Cabinet Secretary for Social Justice is today attending the defending democracy taskforce, which is part of the deep joint working between the Welsh and UK Governments, on the secure delivery of the May elections. She's actually gone up to London today, because we take it extremely seriously, and the UK Government is taking it extremely seriously.

Obviously, here in Wales, the Senedd elections are in the forefront of our mind, but there are elections right through the UK, including in the big metropolitan areas. So, this is a matter of serious concern to all of us. We're making sure that the new elections information platform, which the electoral management board has just launched—it's at vote.wales, if you're interested in looking at it—ensures access to reliable and accessible information about the elections as well.

Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod y ffordd y gellir creu a lledaenu ffugiadau dwfn o ansawdd uchel yn hawdd yn bryder gwirioneddol i bob un ohonom, yn enwedig y rhai ohonom sy'n poeni am ddemocratiaeth a chystadleuaeth eirwir rhwng syniadau a pholisïau. Cytunaf yn llwyr fod agwedd fisogynistaidd ofnadwy i lawer o'r ffugiadau dwfn hyn. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o achosion yma yng Nghymru, ac yng Ngogledd Iwerddon yn enwedig, o ddelweddau pornograffig ffug yn cael eu creu o wleidyddion benywaidd, sy'n arbennig o ffiaidd.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai. Mae ein bwrdd rheoli etholiadol yn cefnogi swyddogion canlyniadau a'u timau, ac mae hynny'n cynnwys mewnbwn yr heddlu mewn cynlluniau diogelwch i sicrhau eu bod mor deg ac agored a gonest a thryloyw â phosib. Yn ddiweddar, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ei briffio gan y Comisiwn Etholiadol ar ei dreial technoleg monitro ffugiadau dwfn newydd, ac mae honno'n darparu gwybodaeth werthfawr i ni hefyd.

Rydym hefyd yn croesawu Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 gan Lywodraeth y DU, a sefydlodd drefn reoleiddiol newydd i fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar-lein. Ofcom yw'r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein bellach, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn barod i wneud llawer mwy, gan gynnwys ymateb i greu ffugiadau dwfn—cawsom enghraifft Grok AI yn ddiweddar. Rydym hefyd wedi rhannu canllawiau diogelwch ymgeiswyr gyda phob plaid wleidyddol yng Nghymru, ac mae canllawiau pellach ar gael ar wefan gov.uk a gwefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol hefyd yn cynnig briffiau i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac awdurdodau lleol eraill.

Soniodd y Prif Weinidog am hyn ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond rwyf am ailadrodd y pwynt, gan y carwn annog pob plaid wleidyddol ac ymgeisydd yn etholiad y Senedd sydd ar y gorwel i fanteisio ar y cynnig o friffiau diogelwch gan yr heddlu a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Credaf ei bod yn wybodaeth bwysig iawn. Dylai pawb wybod sut i sicrhau bod eu hymgeiswyr yn ddiogel a bod pobl yn cael yr wybodaeth gywir.

Yn ogystal â hynny, mae gennym well strwythurau cynllunio gwydnwch o fewn Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n ein helpu i sicrhau cydgysylltiad cadarn gyda phartneriaid y DU i gefnogi diogelwch ac uniondeb etholiad y Senedd. Mewn gwirionedd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn mynychu'r tasglu diogelu democratiaeth heddiw, sy'n rhan o'r cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ar gynnal etholiadau mis Mai yn ddiogel. Mae hi wedi mynd i Lundain heddiw, gan ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, ac mae Llywodraeth y DU o ddifrif yn ei gylch.

Yn amlwg, yma yng Nghymru, mae etholiadau'r Senedd ar flaen ein meddyliau, ond mae etholiadau'n cael eu cynnal ledled y DU, gan gynnwys yn yr ardaloedd metropolitanaidd mawr. Felly, mae hwn yn destun cryn bryder i bob un ohonom. Rydym yn sicrhau bod y platfform gwybodaeth etholiadau newydd, y mae'r bwrdd rheoli etholiadol newydd ei lansio—ar bwrwpleidlais.cymru, os hoffech edrych arno—yn sicrhau mynediad at wybodaeth ddibynadwy a hygyrch am yr etholiadau hefyd.

I'm very grateful to Hannah Blythyn for bringing this matter to our attention. I have seen a number of different Facebook pages, for example, being circulated and copied and shared in Blaenau Gwent that presume to demonstrate, certainly, right-wing propaganda, with names such as 'Proud to be British', 'Life of the UK', 'British Lover', and they're all based overseas. The pages I've just quoted are based in Spain and Sri Lanka. There are other pages based in Nepal and Portugal and elsewhere. All of these pages are being used in order to undermine our democracy and to undermine our ability to hold a national debate in Wales.

It's mainly a matter for the United Kingdom Government; it has to address these issues about international and foreign intervention and interference in our elections. At the same time, we have one political party represented here, although they are rarely actually represented in the Chamber, in Reform, who are largely funded from the middle east and the far east, from billionaires who have no interest in any of the people that the rest of us represent, but great interest in their own bank balances, of course. So, we do need to ensure that we address the issues that Hannah Blythyn has raised here about foreign interference and about the manipulation of AI. But we also need to address the fundamental issue of the foreign funding and foreign purchase of our democracy.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Hannah Blythyn am ddwyn y mater hwn i'n sylw. Rwyf wedi gweld nifer o wahanol dudalennau Facebook, er enghraifft, yn cael eu cylchredeg a'u copïo a'u rhannu ym Mlaenau Gwent sy'n mentro dangos propaganda asgell dde, gydag enwau fel 'Proud to be British', 'Life of the UK', 'British Lover', ac mae pob un ohonynt wedi'u lleoli dramor. Mae'r tudalennau yr wyf newydd eu dyfynnu wedi'u lleoli yn Sbaen a Sri Lanka. Mae tudalennau eraill wedi'u lleoli yn Nepal a Phortiwgal ac mewn mannau eraill. Mae'r holl dudalennau hyn yn cael eu defnyddio i danseilio ein democratiaeth ac i danseilio ein gallu i gynnal dadl genedlaethol yng Nghymru.

Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ydyw yn bennaf; rhaid iddi fynd i'r afael â'r materion hyn ynghylch ymyrraeth ryngwladol a thramor yn ein hetholiadau. Ar yr un pryd, mae gennym un blaid wleidyddol a gynrychiolir yma, er mai pur anaml y cânt eu cynrychioli yn y Siambr mewn gwirionedd, yn Reform, sy'n cael eu hariannu'n bennaf o'r dwyrain canol a'r dwyrain pell, gan biliwnyddion nad oes ganddynt ddiddordeb yn unrhyw un o'r bobl y mae'r gweddill ohonom yn eu cynrychioli, ond diddordeb mawr yn eu balansau banc eu hunain, wrth gwrs. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion y mae Hannah Blythyn wedi'u codi yma ynglŷn ag ymyrraeth dramor ac ynglŷn â chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Ond mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â phroblem sylfaenol cyllid tramor a phrynu ein democratiaeth gan arian tramor.

Thank you, Alun. I completely agree, of course, that we need to make sure that we have the best information available. The rise in these deepfakes is really worrying. We've all seen them. Some of them are a bit more obvious; the ones that are much more worrying are the ones that are not at all obvious. But just to say that we are working very closely with the UK Government in implementing the Online Safety Act 2023 regime, which tackles some of that problem, alongside Ofcom.

But just to say very specifically, our democratic engagement grant was awarded to Shout Out UK to deliver a media literacy training programme directly to young people in Wales. We've had approximately 920 learners, from year 9 to year 13, supported through those sessions so far. We've also got a stakeholder misinformation toolkit, which aims to help community leaders support people to consider whether information is accurate or intended to cause harm, and what can be done to mitigate this. We've commissioned Cwmpas to deliver a media literacy pilot across the south Wales Valleys, to improve adults' ability to identify and deal appropriately with misinformation and online hate. And then, at the inter-ministerial level, the Interministerial Standing Committee and the Interministerial Group for Elections and Registration, held last month, had really positive discussions on preparations for the upcoming elections.

I just wanted to make sure everybody is aware that the extension of a police protection programme called operation fraud is now extended to all Senedd Members and candidates for the upcoming election. I'm really pleased to welcome that as part of the real need to combat much of the misinformation you've just highlighted.

Diolch, Alun. Rwy'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, fod angen inni sicrhau bod gennym yr wybodaeth orau sydd ar gael. Mae'r cynnydd yn y ffugiadau dwfn hyn yn peri cryn bryder. Mae pob un ohonom wedi'u gweld. Mae rhai ohonynt ychydig yn fwy amlwg; y rhai sy'n peri llawer mwy o bryder yw'r rhai nad ydynt yn amlwg o gwbl. Ond hoffwn ddweud ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i weithredu cyfundrefn Deddf Diogelwch Ar-lein 2023, sy'n mynd i'r afael â rhywfaint o'r broblem honno, ochr yn ochr ag Ofcom.

Ond hoffwn ddweud yn benodol iawn fod ein grant ymgysylltu â democratiaeth wedi ei ddyfarnu i Shout Out UK i gyflwyno rhaglen hyfforddi llythrennedd yn y cyfryngau yn uniongyrchol i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi oddeutu 920 o ddysgwyr, o flwyddyn 9 i flwyddyn 13, drwy'r sesiynau hynny hyd yma. Mae gennym becyn cymorth i randdeiliaid ar gamwybodaeth hefyd, sydd â'r nod o helpu arweinwyr cymunedol i gefnogi pobl i ystyried a yw gwybodaeth yn gywir neu a yw wedi'i bwriadu i achosi niwed, a beth y gellir ei wneud i liniaru hyn. Rydym wedi comisiynu Cwmpas i gyflwyno cynllun peilot llythrennedd yn y cyfryngau ar draws Cymoedd de Cymru, er mwyn gwella gallu oedolion i nodi a delio'n briodol â chamwybodaeth a chasineb ar-lein. Ac yna, ar y lefel ryngweinidogol, cafodd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru, a gynhaliwyd y mis diwethaf, drafodaethau cadarnhaol iawn ar baratoadau ar gyfer yr etholiadau sydd ar y gorwel.

Roeddwn eisiau sicrhau bod pawb yn ymwybodol fod rhaglen ddiogelwch gan yr heddlu o'r enw Operation Fraud bellach wedi'i hymestyn i holl Aelodau'r Senedd ac ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad sydd ar y ffordd. Rwy'n falch iawn o groesawu hynny'n rhan o'r angen gwirioneddol i frwydro yn erbyn llawer o'r gamwybodaeth rydych chi newydd dynnu sylw ati.

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. I think we can all agree here that deepfakes are becoming a real and growing threat to our democracy and also to the safety of women and girls, because if we're genuinely committed to tackling violence against women and girls, then we have to deal with deepfakes effectively. I think that threat to democracy, as we've heard this afternoon, is a real one. As you'll know, Counsel General, I tabled an amendment in Stage 2 proceedings of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Bill that would have provided, on the face of the Bill, a clarification that political material defined as deliberate deception would specifically include deepfake imagery. You didn't support that amendment, as you said the definition as to the type of statement that could count as deliberate deception wasn't needed on the face of the Bill. But given the evidence before us and the research that the journalists have uncovered, do you believe that that should remain the Government's position? I recognise, as regards the UK Government, that some action has been taken on deepfakes, and you've said today that the UK Government is taking this matter very seriously. But the UK Government has an elections Bill going through Parliament, and, unbelievably, it doesn't mention AI at all. So, Counsel General, what pressure are you putting on the UK Government to ensure the elections Bill properly deals with AI and deepfakes?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno yma fod ffugiadau dwfn yn dod yn fygythiad gwirioneddol a chynyddol i'n democratiaeth a hefyd i ddiogelwch menywod a merched, oherwydd os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, rhaid i ni ddelio â ffugiadau dwfn yn effeithiol. Rwy'n credu bod y bygythiad i ddemocratiaeth, fel y clywsom y prynhawn yma, yn un go iawn. Fel y gwyddoch, Cwnsler Cyffredinol, cyflwynais welliant yn nhrafodion Cyfnod 2 o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd ac Etholiadau Aelodau) a fyddai wedi darparu eglurhad ar wyneb y Bil y byddai deunydd gwleidyddol a ddiffinnir fel twyll bwriadol yn cynnwys delweddau ffugiad dwfn yn benodol. Nid oeddech chi'n cefnogi'r gwelliant hwnnw, gan eich bod chi'n dweud nad oedd angen y diffiniad ynghylch y math o ddatganiad a allai gyfrif fel twyll bwriadol ar wyneb y Bil. Ond o ystyried y dystiolaeth sydd o'n blaenau a'r ymchwil y mae'r newyddiadurwyr wedi'i ddatgelu, a ydych chi'n credu y dylai hynny barhau i fod yn safbwynt y Llywodraeth? Rwy'n cydnabod, o ran Llywodraeth y DU, fod peth gweithredu wedi bod ar ffugiadau dwfn, ac rydych chi wedi dweud heddiw fod Llywodraeth y DU yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch y mater hwn. Ond mae gan Lywodraeth y DU Fil etholiadau'n mynd drwy'r Senedd, ac mae'n anhygoel nad yw'n sôn am ddeallusrwydd artiffisial o gwbl. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa bwysau rydych chi'n ei roi ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil etholiadau'n delio'n briodol â deallusrwydd artiffisial a ffugiadau dwfn?

Diolch, Sioned. So, we've just had the recent publication by the UK Government of the Representation of the People Bill. That has provisions tackling foreign interference and abuse of candidates and electoral staff. We're just working closely on the application of that to Wales and the need to bring forward a legislative consent motion. So, that will be coming—I hope, very shortly; we haven't got very much time, so it has to be pretty shortly—forward. And then, in Wales, the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024 ensured third parties looking to campaign in Welsh elections had to be UK based. So, that was a fundamental tenet of that. And then, as you know, you've just referenced, we've introduced the legislation, the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Bill. Assuming that the various things go through next week—Stage 3 is next week—this would place a duty on Welsh Ministers to make provision in a future conduct Order to prohibit the making or publishing of false statements during a Senedd election, although the Bill will not be implemented in time for these elections, which is what Hannah originally asked.

The conversation we had, as you know, but I'll reiterate it because it's worth reiterating, is that our legal advice is that we should—. Although the temptation is to include a list of things, including deepfakes, in the Bill, actually, there's a danger that, by putting a list in, we actually limit it. My legal advice is very firm: that the wording 'prohibit the making or publishing of false statements'—. The statement is wide enough to cover anything you can think of. There's case law to say that the word 'statement' covers AI-generated images, social media posts and so on. We're concerned that, if we start to give examples, we might inadvertently limit the scope of that. You and I have had that conversation, but I'm just reiterating it for the record and for the Chamber. So, I think it is very important we have that in the Bill, but that we have it in the widest possible way, so that it futureproofs it, because who knows what comes next in this terrible journey of misinformation.

Diolch, Sioned. Rydym newydd gael Bil Cynrychiolaeth y Bobl Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar. Mae hwnnw'n cynnwys darpariaethau sy'n mynd i'r afael ag ymyrraeth dramor a cham-drin ymgeiswyr a staff etholiadol. Rydym yn gweithio'n agos ar gymhwyso hynny i Gymru a'r angen i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, bydd hynny'n dod—yn fuan iawn, gobeithio; nid oes gennym lawer o amser, felly mae'n rhaid iddo ddod ar fyr o dro. Ac yna, yng Nghymru, roedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn sicrhau bod yn rhaid i drydydd partïon sydd am ymgyrchu yn etholiadau Cymru fod wedi'u lleoli yn y DU. Felly, roedd hynny'n un o'r egwyddorion sylfaenol. Ac yna, fel y gwyddoch, fel rydych chi newydd nodi, rydym wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth, Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd ac Etholiadau Aelodau). Gan dybio bod y gwahanol bethau'n mynd drwodd yr wythnos nesaf—mae Cyfnod 3 yr wythnos nesaf—byddai hyn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn Gorchymyn ymddygiad yn y dyfodol i wahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau ffug yn ystod etholiad Senedd, er na fydd y Bil yn cael ei weithredu mewn pryd ar gyfer yr etholiadau hyn, sef yr hyn a ofynnodd Hannah yn wreiddiol.

Y sgwrs a gawsom, fel y gwyddoch, ond fe wnaf ei hailadrodd oherwydd mae'n werth ei hailadrodd, yw mai'r cyngor cyfreithiol a gawsom yw y dylem—. Er mai'r demtasiwn yw cynnwys rhestr o bethau yn y Bil, gan gynnwys ffugiadau dwfn, mae perygl ein bod, drwy gynnwys rhestr, yn ei chyfyngu mewn gwirionedd. Mae'r cyngor cyfreithiol a gaf yn gadarn iawn: fod y geiriad 'gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau ffug'—. Mae'r datganiad yn ddigon eang i gwmpasu unrhyw beth y gallwch feddwl amdano. Mae cyfraith achos yn dweud bod y gair 'datganiad' yn cwmpasu delweddau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, postiadau cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. Os dechreuwn roi enghreifftiau, rydym yn pryderu y gallem gyfyngu'n anfwriadol ar ei gwmpas. Rydych chi a minnau wedi cael y sgwrs honno, ond rwy'n ei hailadrodd ar gyfer y cofnod ac ar gyfer y Siambr. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym hynny yn y Bil, ond ei fod gennym yn y ffordd ehangaf sy'n bosib, fel ei fod yn ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, oherwydd pwy a ŵyr beth sy'n dod nesaf ar y daith ofnadwy hon mewn byd o gamwybodaeth.

15:35
4. Datganiadau 90 eiliad
4. 90-second Statements

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Siân Gwenllian. 

Item 4 is the 90-second statements, and the first statement is from Siân Gwenllian. 

Diolch yn fawr iawn. A ninnau newydd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi am sôn am un o ferched rhyfeddol Caernarfon.

Yn ganolog i’r stori hon, mae canolfan Noddfa, canolfan gymunedol yng nghalon Ysgubor Goch, sydd bellach yn gartref i brosiectau bwyd, ysgol feithrin, prosiect cerdd a llawer, llawer mwy.

Capel oedd Noddfa yn wreiddiol, a dyma le mae hanes Emily Roberts, neu’r Chwaer Emily, yn dod i mewn i bethau. Roedd Emily yn aelod o Forward Movement. Roedd merched y mudiad yn symud i fyw i ardaloedd difreintiedig ac yn sefydlu ysgolion Sul. A dyna sut ddaeth Emily Roberts i fyw a gweithio i stad Ysgubor Goch yn 1955. Ar y cychwyn, roedd hi'n mynd â phlant i'r capeli yn y dref, ond fe ddaeth hi i gredu yn fuan iawn y dylid cael capel ar y stad, yng nghanol Ysgubor Goch.

Yn 1956, mi wnaeth hi glywed fod yna gapel sinc, capel yn perthyn i'r Wesleaid ym Mhorthmadog, yn cau, ac mi wnaeth hi drefnu i gludo'r capel sinc i Gaernarfon a'i osod o le mae Noddfa heddiw. Agorwyd adeilad mwy parhaol yn 1966.  

Oni bai am weledigaeth Emily Roberts, fyddai Noddfa ddim yn bodoli heddiw, a byddai’r gymuned leol ar ei cholled heb yr holl waith da sydd wedi digwydd yno yn ystod y 70 mlynedd diwethaf.

Diolch i Sister Emily am ei gweledigaeth, a phen-blwydd hapus iawn i ganolfan bresennol Noddfa ar ei phen-blwydd yn hanner cant eleni.

Thank you very much. As we have just celebrated International Women's Day, I want to mention one of Caernarfon's most astonishing women.

Central to this story is canolfan Noddfa, a community centre in the heart of Ysgubor Goch, which is now the base for food projects, a nursery, a music project and much, much more.

Canolfan Noddfa was originally a chapel, and this is where the story of Emily Roberts, or Sister Emily, comes into play. Emily was a member of Forward Movement, and the women of that organisation sought to live in disadvantaged areas in order to establish Sunday schools. That's how Emily Roberts came to live and work at the Ysgubor Goch estate in 1955. At the outset, she would take the children to chapels in the town, but she soon came to believe that there should be a chapel on the estate itself.

In 1956, she heard that the Wesleyan zinc chapel in Porthmadog was closing, and she arranged to have it transported to Caernarfon and installed where Noddfa is today. A more permanent building was opened in 1966. 

If it was not for the vision of Emily Roberts, Noddfa would not exist today, and the local community would be at a loss without all of the good work that has taken place there during the last 70 years.

Let us thank Sister Emily for her vision, and let's wish a very happy birthday to the current canolfan Noddfa on its fiftieth anniversary this year.

Last week, I had the privilege of attending the unveiling of a blue plaque to actor and director Ray Milland, following a successful application by Jonathan Davies, chair of the Neath Antiquarian Society to Neath Port Talbot County Borough Council's new blue plaque scheme. 

Born Alfred Reginald Jones, he grew up on Dalton Road in Neath, before moving to Cardiff, and he initially served in the armed forces. But a chance meeting with silent movie star Estelle Brody changed that. He pursued his interest in acting, with limited success at first. When he moved to America, he slowly began to gain more and larger roles. While many of his early roles were in the romantic comedy genre, he began appearing in more action-orientated films at the onset of the second world war, giving him the opportunity to expand his range. The shift towards more serious, dramatic roles culminated in the 1945 film The Lost Weekend. His performance earned him best actor at the Cannes festival, at the Golden Globes and at the Academy Awards. He was the first Welsh actor to win an Oscar. 

Over the span of his career, he starred in nearly 200 films, alongside some of the most recognisable names of Hollywood's golden age—Grace Kelly, John Wayne, Ginger Rogers, Lana Turner and many more. For a man who has two stars on the Hollywood walk of fame, and paved the way for generations of Welsh actors in Hollywood, it's striking that, for most of his life, and for long afterwards, he remained little recognised in his own home town of Neath, a situation that is, at long last, beginning to change. 

Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o fynychu dadorchuddiad plac glas i'r actor a'r cyfarwyddwr Ray Milland, yn dilyn cais llwyddiannus gan Jonathan Davies, cadeirydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, i gynllun placiau glas newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 

Fe'i ganed yn Alfred Reginald Jones, ac fe'i magwyd ar Ffordd Dalton yng Nghastell-nedd, cyn symud i Gaerdydd, a bu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog i ddechrau. Ond cafodd hynny ei newid gan gyfarfyddiad ar hap â'r seren ffilmiau di-sain Estelle Brody. Aeth ar drywydd ei ddiddordeb mewn actio, gyda llwyddiant cyfyngedig i ddechrau. Pan symudodd i America, dechreuodd gael rhannau mwy a mwy. Er bod llawer o'i rannau cynnar yn y genre comedi rhamantus, dechreuodd ymddangos mewn ffilmiau antur ar ddechrau'r ail ryfel byd, gan roi cyfle iddo ehangu'r mathau o rannau a chwaraeai. Uchafbwynt y newid tuag at rannau mwy difrifol a dramatig oedd y ffilm The Lost Weekend ym 1945. Enillodd ei berfformiad wobr actor gorau iddo yng ngŵyl Cannes, yn y Golden Globes ac yng Ngwobrau'r Academi. Ef oedd yr actor cyntaf o Gymru i ennill Oscar. 

Dros gyfnod ei yrfa, serennodd mewn bron i 200 o ffilmiau, ochr yn ochr â rhai o enwau mwyaf adnabyddus oes aur Hollywood—Grace Kelly, John Wayne, Ginger Rogers, Lana Turner a llawer mwy. O ystyried ei fod yn ddyn sydd â dwy seren ar lwybr enwogion Hollywood, ac a arweiniodd y ffordd i genedlaethau o actorion o Gymru yn Hollywood, mae'n drawiadol nad oedd yn gyfarwydd iawn yn ei dref enedigol ei hun, Castell-nedd, am y rhan fwyaf o'i oes, ac am amser hir wedyn, ond mae hynny'n dechrau newid o'r diwedd. 

I ddilyn datganiad Siân, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi eisiau jest sôn am fenyw o Aberhonddu, os gwelwch yn dda. 

To follow on from Siân's statement, celebrating International Women's Day, I want to talk about a woman from Brecon, if I may. 

Gwenllian Morgan was Brecon's first female mayor, and the first woman in Wales to hold mayoral office in 1910. She took office at a time when most women did not even have the right to vote. She was a committed public servant, a campaigner for women's political participation and a champion of education and social reform. Through her work in the temperance movement, and her dedication to community life, she demonstrated that public service is about improving the lives of others. 

Her election more than a century ago was a milestone for Brecon and for Wales. It reminds us that progress is often driven by determined individuals willing to challenge convention. 

So, as we celebrate International Women's Day, we honour Gwenllian Morgan's legacy, and all women who continue to serve our communities, strengthen our democracy and inspire future generations. Diolch yn fawr iawn. 

Gwenllian Morgan oedd maer benywaidd cyntaf Aberhonddu, a'r fenyw gyntaf yng Nghymru i'w phenodi i swydd maer ym 1910. Daeth i'r swydd ar adeg pan nad oedd gan y rhan fwyaf o fenywod hawl i bleidleisio hyd yn oed. Roedd hi'n was cyhoeddus ymroddedig, yn ymgyrchydd dros gyfranogiad gwleidyddol menywod ac yn hyrwyddwr addysg a diwygiadau cymdeithasol. Drwy ei gwaith yn y mudiad dirwest, a'i hymroddiad i fywyd cymunedol, dangosodd fod gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â gwella bywydau eraill. 

Roedd ei hethol fwy na chanrif yn ôl yn garreg filltir i Aberhonddu ac i Gymru. Mae'n ein hatgoffa bod cynnydd yn aml yn cael ei yrru gan unigolion penderfynol sy'n barod i herio confensiwn. 

Felly, wrth inni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn anrhydeddu gwaddol Gwenllian Morgan, a'r holl fenywod sy'n parhau i wasanaethu ein cymunedau, i gryfhau ein democratiaeth ac i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn. 

15:40

I wish to share a story of exceptional Welsh achievement that spans from the classrooms of Caerphilly to the historic halls of Oxford university. I'm delighted to celebrate the news that Professor Kate Watkins has been named a recipient of the 2026 Suffrage Science Award in life sciences. This prestigious award, inspired by the suffragette movement, recognises not only scientific excellence, but also the vital work of mentoring the next generation of women in science, technology, engineering and mathematics.

Kate is a true product of our local community, a proud daughter of Caerphilly. She was educated at St Martin's and St Ilan's comprehensive schools in the 1980s. From those local roots, she went on to read natural sciences in Cambridge, and she now serves as a professor at Oxford and is the Dean of St Anne's College. It is a journey that proves talent is everywhere, even if opportunity isn't always. Behind every great scientist is a foundation of support. I know that her parents, Christine and Mike Watkins, are watching her success with immense and well-deserved pride.

The Suffrage Science Award involves the passing on of heirloom jewellery from one winner to the next—literally a passing of the torch. Today we recognise Kate for carrying that torch for Wales, for women in science and for Caerphilly. Llywydd, I'm sure the whole Senedd will join with me in congratulating Professor Watkins and her family on this magnificent honour. Diolch yn fawr. Thank you.

Hoffwn rannu stori am gyflawniad eithriadol yng Nghymru sy'n ymestyn o ystafelloedd dosbarth Caerffili i neuaddau hanesyddol prifysgol Rhydychen. Rwy'n falch iawn o ddathlu'r newyddion fod yr Athro Kate Watkins wedi cael ei henwi'n dderbynnydd Gwobr Menywod mewn Gwyddoniaeth 2026 mewn gwyddorau bywyd. Mae'r wobr fawreddog hon, a ysbrydolwyd gan fudiad y swffragetiaid, yn cydnabod rhagoriaeth wyddonol, a hefyd y gwaith hanfodol o fentora'r genhedlaeth nesaf o fenywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Mae Kate yn gynnyrch y gymuned leol go iawn, yn falch o'i gwreiddiau yng Nghaerffili. Cafodd ei haddysg yn ysgol Sant Martin ac ysgol gyfun Sant Ilan yn yr 1980au. O'r gwreiddiau lleol hynny, aeth ymlaen i astudio gwyddorau naturiol yng Nghaergrawnt, ac mae hi bellach yn athro yn Rhydychen ac yn Ddeon Coleg St Anne's. Mae'n daith sy'n profi bod talent i'w gael ym mhobman, hyd yn oed os nad yw hynny'n wir bob amser am gyfle. Y tu ôl i bob gwyddonydd mawr mae yna sylfaen o gefnogaeth. Rwy'n gwybod bod ei rhieni, Christine a Mike Watkins, yn gwylio ei llwyddiant gyda balchder aruthrol a haeddiannol.

Mae'r Wobr Menywod mewn Gwyddoniaeth yn cynnwys trosglwyddo gemwaith etifeddol o un enillydd i'r llall—trosglwyddo'r ffagl yn llythrennol. Heddiw rydym yn rhoi cydnabyddiaeth i Kate am gario'r ffagl honno dros Gymru, dros fenywod mewn gwyddoniaeth a thros Gaerffili. Lywydd, rwy'n siŵr y gwnaiff y Senedd gyfan ymuno â mi i longyfarch yr Athro Watkins a'i theulu ar yr anrhydedd wych hon. Diolch yn fawr. 

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Cofrestru Buddiannau’r Aelodau
5. Motion to amend Standing Orders: Registration of Members’ Interests

Eitem 5 ar ein hagenda ni yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: cofrestru buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Item 5 on our agenda is the motion to amend Standing Orders: registration of Members’ interests. I call on the Llywydd to formally move the motion.

Cynnig NDM9203 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 3, 4 a 5 mewn perthynas â Chofrestru Buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Motion NDM9203 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Orders 2, 3, 4 and 5 in relation to the Registration of Members’ Interest’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex B of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Datgan Buddiannau’r Aelodau
6. Motion to amend Standing Orders: Declarations of Members’ Interests

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: datgan buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

The next item is a motion to amend Standing Orders: declarations of Members’ interests. I call on the Llywydd to formally move.

Cynnig NDM9204 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13, 15 a 17 mewn perthynas â datgan buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Motion NDM9204 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Orders 2, 13, 15 and 17 in relation to the declaration of Members’ interests’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex B of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd
7. Motion to amend Standing Orders: Parliamentary Business in the Seventh Senedd

Eitem 7, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: busnes seneddol yn y seithfed Senedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Item 7, motion to amend Standing Orders: parliamentary business in the seventh Senedd. I call on the Llywydd to formally move.

Cynnig NDM9205 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11.10 a 12.6(i)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Motion NDM9205 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Orders 11.10 and 12.6(i)’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex B of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod
8. Motion to amend Standing Orders: Member Bills

Eitem 8 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Item 8, motion to amend Standing Orders: Member Bills. I call on the Llywydd to formally move the motion.

Cynnig NDM9206 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26: Biliau Aelod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf. 

Motion NDM9206 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Order 26: Member Bills’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex 2 of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cyhoeddus
9. Motion to amend Standing Orders: Public Bills

Eitem 9 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau cyhoeddus. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Item 9, a motion to amend Standing Orders: public Bills. I call on the Llywydd to formally move the motion.

Cynnig NDM9207 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 Deddfau’r Senedd, a newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 26A Deddfau Preifat y Senedd, 26B Deddfau Hybrid y Senedd a 26C Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf. 

Motion NDM9207 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Order 26 Acts of the Senedd, and consequential changes to Standing Orders 26A Private Acts of the Senedd, 26B Hybrid Acts of the Senedd and 26C Consolidation Acts of the Senedd’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex 2 of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

10. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Deisebau’r Cyhoedd
10. Motion to amend Standing Orders: Public Petitions

Eitem 10, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: deisebau’r cyhoedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Item 10, motion to amend Standing Orders: public petitions. I call on the Llywydd to formally move the motion.

Cynnig NDM9208 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau’r Cyhoedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Motion NDM9208 Elin Jones

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Order 23 – Public Petitions’, laid in the Table Office on 4 March 2026.

2. Approves the proposal to amend Standing Orders, as set out in Annex B of the Business Committee’s report.

3. Notes that these changes will come into effect at the beginning of the next Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

As Chair of the Petitions Committee, I wanted to thank the Business Committee for the changes we have suggested that will be introduced by this motion. However, one of the suggestions that was not accepted in order to preserve flexibility for the next Senedd was that a single committee should have a dedicated lead role in handling public petitions, as happens now. While nothing in the Standing Orders prevents that from happening, our concern was that it's not guaranteed either. The committee has been struck by the benefits of having a committee dedicated to dealing with petitions and petitioners. 'The people's committee', as Jack Sargeant liked to call it. The Petitions Committee is vital in giving people a voice.

During this term, there have been occasions where having a committee that doesn't have to scrutinise budgets and legislation, as the subject committees do, means we have been able to respond in a more agile manner to issues raised by petitioners. We've done some inquiries, we've had some great debates, with action and results as well. It will be up to Members of the next Senedd to decide how to allocate responsibilities to committees. We would encourage them to ensure that a committee for petitions is established at the earliest opportunity. I just wanted to put that on public record. Thank you very much.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, roeddwn eisiau diolch i'r Pwyllgor Busnes am y newidiadau a awgrymwyd gennym a fydd yn cael eu cyflwyno gan y cynnig hwn. Fodd bynnag, un o'r awgrymiadau nas derbyniwyd er mwyn cadw hyblygrwydd ar gyfer y Senedd nesaf oedd y dylai un pwyllgor gael rôl arweiniol benodol i ymdrin â deisebau cyhoeddus, fel sy'n digwydd nawr. Er nad oes unrhyw beth yn y Rheolau Sefydlog yn atal hynny rhag digwydd, ein pryder oedd nad yw wedi ei warantu chwaith. Gwnaeth y manteision o gael pwyllgor sy'n ymroddedig i ymdrin â deisebau a deisebwyr argraff ar y pwyllgor. 'Pwyllgor y bobl', fel roedd Jack Sargeant yn hoffi ei alw. Mae'r Pwyllgor Deisebau'n hanfodol ar gyfer rhoi llais i bobl.

Yn ystod y tymor hwn, cafwyd achlysuron lle mae cael pwyllgor nad oes rhaid iddo graffu ar gyllidebau a deddfwriaeth, fel y mae'r pwyllgorau pwnc yn ei wneud, yn golygu ein bod wedi gallu ymateb mewn ffordd fwy hyblyg i faterion a godwyd gan ddeisebwyr. Rydym wedi gwneud ymchwiliadau, rydym wedi cael dadleuon gwych, gyda chamau gweithredu a chanlyniadau hefyd. Aelodau'r Senedd nesaf fydd yn penderfynu sut i ddyrannu cyfrifoldebau i bwyllgorau. Hoffem eu hannog i sicrhau bod pwyllgor deisebau'n cael ei sefydlu cyn gynted â phosib. Roeddwn am i hynny gael ei gofnodi'n gyhoeddus. Diolch yn fawr.

15:45

Just to quickly respond, I was doing so well in getting these Standing Order changes through until that 'however' from the Chair of petitions. Just to agree with everything you've outlined as the Chair of petitions, the Business Committee does accept and support the fact that the Petitions Committee, since its inception here, has been an excellent contributor to the work of this Senedd. Some of the finest debates I've chaired in this Parliament have been from the Petitions Committee, and it has played a role in exercising change as well.

The point of differentiation, of course, between the Business Committee and yourselves as a Petitions Committee is on whether the next Senedd and future Senedd should be mandated to create a Petitions Committee or, as in most cases on committees, be free to establish its own pattern of committees. So, that's the point of differentiation. I think we would all be united in thinking that, hopefully, the next Senedd will develop further the practice that this Senedd has in having a Petitions Committee, but, as you said, it will be for that next Senedd to decide on that, and it is not precluded from doing that by the Standing Order changes before us today.

I ymateb yn gyflym, roeddwn i'n gwneud mor dda'n cael y newidiadau Rheol Sefydlog hyn tan y 'fodd bynnag' gan Gadeirydd y pwyllgor deisebau. I gytuno â phopeth rydych chi wedi'i amlinellu fel Cadeirydd y pwyllgor deisebau, mae'r Pwyllgor Busnes yn derbyn ac yn cefnogi'r ffaith bod y Pwyllgor Deisebau, ers ei sefydlu yma, wedi bod yn gyfrannwr ardderchog at waith y Senedd hon. Mae rhai o'r dadleuon gorau a gadeiriais yn y Senedd hon wedi bod gan y Pwyllgor Deisebau, ac mae wedi chwarae rhan yn gweithredu newid hefyd.

Lle mae yna wahaniaethu rhwng y Pwyllgor Busnes a chi fel Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, yw a ddylid mandadu'r Senedd nesaf a'r Senedd yn y dyfodol i greu Pwyllgor Deisebau neu, fel yn y rhan fwyaf o achosion gyda phwyllgorau, a ddylai fod yn rhydd i sefydlu ei batrwm pwyllgorau ei hun. Felly, dyna lle mae yna wahaniaethu. Rwy'n credu y byddem i gyd yn unedig ein barn, gobeithio, y bydd y Senedd nesaf yn datblygu ymhellach yr arfer sydd gan y Senedd hon o gael Pwyllgor Deisebau, ond fel y dywedoch chi, mater i'r Senedd nesaf fydd penderfynu ar hynny, ac ni chaiff ei rwystro rhag gwneud hynny gan y newidiadau i'r Rheol Sefydlog sydd ger ein bron heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

The proposal is to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

11. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru'
11. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'Bringing home the harvest: Supporting the Welsh food processing industry'

Eitem 11, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.  

Item 11 is next, a debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee report, 'Bringing Home the harvest: Supporting the Welsh food processing industry', and I call on the Chair of the committee to move the motion—Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM9200 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Motion NDM9200 Andrew Davies

To propose that the Senedd: 

Notes the Economy, Trade and Rural Affairs Committee report ‘Bringing home the harvest: Supporting the Welsh food processing industry’ that was laid in the Table Office on 20 January 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Thank you, Deputy Presiding Officer, and, when you wait for one bus, then two buses come along. We've got two debates from my wonderful committee today, so I'm sure everyone's going to be enthralled by them, they are. But I'd like to thank you, Deputy Llywydd, for introducing me, and I move the motion on the order paper today.

We make excellent food here in Wales. The Welsh food sector is something we can be truly proud of. It is big business too. Nearly one in five Welsh jobs are in the food and drink supply chain, and the sector generates around £7 billion of gross value added every year. It is also an ambitious sector, and there is plenty of room for growth. With the right Government support, the industry could achieve even more. Processing is often where the most economic value is added to the food and drink products we consume, so we wanted to look at ways we could improve the offer here in Wales, and to grow capabilities and to keep more of the value added here in Wales.

The report sets out a vision for a resilient, sustainable and thriving Welsh food processing industry. It makes six recommendations, which we believe will help create and secure jobs, increase the GVA for our food sector and build those strong local supply chains. The first recommendation is that the next Welsh Government must co-ordinate an approach to the food system, including creating an overarching and holistic strategy for the whole food system. I was disappointed that the Welsh Government rejected this. The recommendation builds on the committee's food Bill report. The evidence we received both during our inquiry and during the progress of the Bill very much supported the creation of an overarching and holistic strategy for the whole food system. The evidence came from people who work in the industry or are close to it, from people who know the issues and understand how that would be of benefit to fixing some of the issues. So, it is disappointing that the Welsh Government has decided not to take this recommendation forward.

We heard how the decline in Welsh livestock numbers could threaten the viability of our abattoirs. Supporting successful abattoirs in Wales is critical to maintaining high animal welfare standards and keeping value added processing here in our rural communities. We also heard concerning evidence that lower stocking rates on Welsh farms could lead to imports of higher carbon, lower welfare meat. It is important that the Welsh Government examines how we can avoid an illogical scenario of destocking Welsh farms but then importing lower quality, lower welfare meat that has a higher carbon footprint than the meat that we produce. I am pleased to say that the Deputy First Minister accepted our second recommendation on this point.

Recommendation 3 was that the Welsh Government should adopt the Food Policy Alliance Cymru's ambitious target that 75 per cent of vegetables eaten in Wales should be from Wales. The Welsh Government have rejected this, as they believe that this target is unattainable. However, I was pleased to see that the Deputy First Minister strongly agreed with the objectives of increasing sustainable production of vegetables in Wales through co-ordinated policies to improve the profitability, efficiency and environmental impact of the horticultural sector. Deputy Llywydd, as the Deputy First Minister believes 75 per cent is an unworkable figure, I would be keen to hear what he thinks is a realistic and stretching target that could be achieved.

As this is a short debate, I don't have much time left, so I will quickly say that I was pleased that the Welsh Government accepted recommendation 4, around the support for seafood, and recommendation 6, around public procurement. However, I want to concentrate on recommendation 5. This is another recommendation the Welsh Government rejected. We heard a lot of evidence about the missing middle in the Welsh food processing industry. Wales has a great selection of micro and small food businesses. They need support to grow. We heard the impressive feedback about Ireland's 'Food Harvest 2020' document and, ideally, how this should be replicated here in Wales. Whilst I accept that the Welsh Government is working in this area, I would like to thank the Deputy First Minister for his comprehensive response to this recommendation. I believe that more work to identify the gaps and support small processors to grow would really help.

One of the pieces of evidence that really sticks in my mind from this inquiry was the evidence about how relatively low property prices make it harder for Welsh businesses to get commercial loans to cover capital investment. This means that it is much easier to build a processing plant in Swindon than in Pembrokeshire. This wasn't really addressed by the Welsh Government's response, and I would be interested if the Deputy First Minister had any views on how this issue might be tackled.

Before I give way, I would like to quickly thank the Deputy First Minister for not using the dreaded 'accepted in principle' line—actually, the word that is written is 'fudge'—for any responses. I feel that is refreshing. I look forward to hearing other Members' views on this report. Thank you, Deputy Llywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a phan fyddwch chi wedi aros am fws, daw dau fws heibio. Mae gennym ddwy ddadl gan fy mhwyllgor gwych heddiw, felly rwy'n siŵr y bydd pawb yn cael eu swyno ganddynt. Ond hoffwn ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am fy nghyflwyno, ac rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn heddiw.

Rydym yn gwneud bwyd ardderchog yma yng Nghymru. Mae sector bwyd Cymru yn rhywbeth y gallwn fod yn wirioneddol falch ohono. Mae'n fusnes mawr hefyd. Mae bron i un o bob pump o swyddi yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, ac mae'r sector yn cynhyrchu tua £7 biliwn o werth ychwanegol gros bob blwyddyn. Mae hefyd yn sector uchelgeisiol, ac mae digon o le i dyfu. Gyda chefnogaeth gywir gan y Llywodraeth, gallai'r diwydiant gyflawni mwy fyth. Yn aml, yn y maes prosesu y caiff y gwerth economaidd mwyaf ei ychwanegu at y cynhyrchion bwyd a diod a ddefnyddiwn, felly roeddem am edrych ar ffyrdd o wella'r cynnig yma yng Nghymru, a thyfu medrusrwydd a chadw mwy o'r gwerth ychwanegol yma yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi gweledigaeth ar gyfer diwydiant prosesu bwyd Cymreig sy'n wydn, yn gynaliadwy ac yn ffyniannus. Mae'n gwneud chwe argymhelliad, a chredwn y byddant yn helpu i greu a diogelu swyddi, cynyddu gwerth ychwanegol gros ein sector bwyd ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol cryf. Yr argymhelliad cyntaf yw bod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gydlynu dull o weithredu ar gyfer y system fwyd, gan gynnwys creu strategaeth gyffredinol a chyfannol ar gyfer y system fwyd gyfan. Roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod hyn. Mae'r argymhelliad yn adeiladu ar adroddiad Bil bwyd y pwyllgor. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn ystod ein hymchwiliad ac yn ystod taith y Bil yn cefnogi creu strategaeth gyffredinol a chyfannol ar gyfer y system fwyd gyfan. Daeth y dystiolaeth gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant neu sy'n agos ato, gan bobl sy'n gwybod am y problemau ac sy'n deall sut y byddai o fudd i ddatrys rhai o'r problemau. Felly, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r argymhelliad hwn.

Clywsom sut y gallai'r gostyngiad yn niferoedd da byw Cymru fygwth hyfywedd ein lladd-dai. Mae cefnogi lladd-dai llwyddiannus yng Nghymru yn hanfodol i gynnal safonau uchel o les anifeiliaid a chadw prosesu gwerth ychwanegol yma yn ein cymunedau gwledig. Clywsom dystiolaeth bryderus hefyd y gallai cyfraddau stocio is ar ffermydd Cymru arwain at fewnforio cig carbon uwch a gynhyrchwyd yn ôl safonau lles is. Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru'n archwilio sut y gallwn osgoi senario afresymegol o ddadstocio ffermydd Cymru gan fewnforio cig o ansawdd is a gynhyrchwyd yn ôl safonau lles is ag iddo ôl troed carbon uwch na'r cig a gynhyrchir gennym ni. Rwy'n falch o ddweud bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hail argymhelliad ar y pwynt hwn.

Argymhelliad 3 oedd y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu targed uchelgeisiol Cynghrair Polisi Bwyd Cymru y dylai 75 y cant o'r llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru ddod o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod hyn, gan eu bod yn credu bod y targed hwn yn anghyraeddadwy. Fodd bynnag, roeddwn yn falch o weld bod y Dirprwy Brif Weinidog yn cytuno'n gryf â'r amcanion o gynyddu cynhyrchiant llysiau cynaliadwy yng Nghymru drwy bolisïau cydgysylltiedig i wella proffidioldeb, effeithlonrwydd ac effaith amgylcheddol y sector garddwriaethol. Ddirprwy Lywydd, gan fod y Dirprwy Brif Weinidog yn credu bod 75 y cant yn ffigur anymarferol, rwy'n awyddus i glywed yr hyn y mae'n ei feddwl sy'n darged realistig ac ymestynnol y gellid ei gyflawni.

Gan mai dadl fer yw hon, nid oes gennyf lawer o amser ar ôl, felly fe ddywedaf yn gyflym fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4, ynghylch y gefnogaeth i fwyd môr, ac argymhelliad 6, ynghylch caffael cyhoeddus. Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar argymhelliad 5. Dyma argymhelliad arall a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Clywsom lawer o dystiolaeth am y canol coll yn y diwydiant prosesu bwyd yng Nghymru. Mae gan Gymru ddetholiad gwych o fusnesau bwyd micro a bach. Mae angen cymorth arnynt i dyfu. Clywsom yr adborth trawiadol am ddogfen 'Food Harvest 2020' Iwerddon ac yn ddelfrydol, sut y dylid ei hefelychu yma yng Nghymru. Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y maes hwn, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymateb cynhwysfawr i'r argymhelliad hwn. Rwy'n credu y byddai mwy o waith i nodi'r bylchau a chefnogi proseswyr bach i dyfu yn helpu'n fawr.

Un o'r darnau o dystiolaeth sy'n aros yn y meddwl o'r ymchwiliad hwn oedd y dystiolaeth ynglŷn â'r ffordd y mae prisiau eiddo cymharol isel yn ei gwneud hi'n anos i fusnesau Cymru gael benthyciadau masnachol ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n llawer haws adeiladu ffatri brosesu yn Swindon nag yn sir Benfro. Ni roddodd ymateb Llywodraeth Cymru sylw iawn i hyn mewn gwirionedd, a hoffwn wybod a oes gan y Dirprwy Brif Weinidog farn ar sut y gellid mynd i'r afael â'r mater.

Cyn i mi ildio, hoffwn ddiolch yn gyflym i'r Dirprwy Brif Weinidog am beidio â defnyddio'r cymal ofnadwy 'derbyniwyd mewn egwyddor'—sy'n gyfystyr â thaflu llwch i lygaid—ar gyfer unrhyw ymatebion. Rwy'n teimlo bod hynny'n chwa o awyr iach. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau eraill ar yr adroddiad hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:50

Can I thank you, Andrew, and your committee, for your work on this fundamentally important topic, an issue that I have long campaigned for, as you know? I was very pleased to see the committee once again reflecting on the importance of the Welsh Government's food policy and, in particular, the impact of the Food (Wales) Bill on it. It is clear from the committee's work and the evidence taken that there is still a strong feeling across Wales that we must have a joined-up food policy, and I'm glad that the committee has once again called for the Welsh Government to develop that holistic food strategy.

It is disappointing that there still isn't truly that joined-up food system strategy, especially as stakeholders from every corner of Wales in the food sector are still calling for one. We know the Food (Wales) Bill was voted down by Labour Members and the Liberal colleague. However, we were promised action and, to be honest, we have seen far too little of that. The community food strategy is welcome, but it is a mile away from what needs to be in place to scale up local food production to the levels really needed for the future.

Sadly, the Welsh Government has failed to develop a holistic approach to the food system, but I would hope that lessons have been learned and that the next Welsh Government, whatever that looks like, puts forward meaningful action. I will be willing to work with any Welsh Government, no matter who runs it, to bring about this much-needed change. I'm very happy to take the food Bill off the shelf and work with the next Government to shape legislation that embraces the whole food system, while also addressing the societal issues we see due to poor diets on health, especially in our children. Thank you.

A gaf i ddiolch i chi, Andrew, a'ch pwyllgor, am eich gwaith ar y pwnc hanfodol bwysig hwn, mater yr wyf wedi ymgyrchu drosto ers amser maith, fel y gwyddoch? Roeddwn yn falch iawn o weld y pwyllgor unwaith eto yn myfyrio ar bwysigrwydd polisi bwyd Llywodraeth Cymru ac yn benodol, effaith Bil Bwyd (Cymru) arno. Mae'n amlwg o waith y pwyllgor a'r dystiolaeth a gafwyd bod teimlad cryf o hyd ledled Cymru fod yn rhaid inni gael polisi bwyd cydgysylltiedig, ac rwy'n falch fod y pwyllgor unwaith eto wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r strategaeth fwyd gyfannol honno.

Mae'n siomedig nad yw'r strategaeth system fwyd gydgysylltiedig honno gennym o hyd, yn enwedig gan fod rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru yn y sector bwyd yn dal i alw am un. Gwyddom fod Bil Bwyd (Cymru) wedi'i wrthod gan Aelodau Llafur a'r cyfaill Rhyddfrydol. Fodd bynnag, addawyd i ni y byddai gweithredu'n digwydd ac i fod yn onest, ni chafwyd agos digon o hynny. Mae croeso i'r strategaeth bwyd cymunedol, ond mae ymhell o'r hyn sydd ei angen i godi cynhyrchiant bwyd lleol i'r lefelau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi methu datblygu ymagwedd gyfannol at y system fwyd, ond rwy'n gobeithio bod gwersi wedi'u dysgu a bod Llywodraeth nesaf Cymru, beth bynnag ei lliw, yn cynnig camau ystyrlon. Byddaf yn barod i weithio gydag unrhyw Lywodraeth Cymru, ni waeth pwy sy'n ei rhedeg, i gyflawni'r newid mawr ei angen hwn. Rwy'n hapus iawn i dynnu'r Bil bwyd oddi ar y silff a gweithio gyda'r Llywodraeth nesaf ar lunio deddfwriaeth sy'n cynnwys y system fwyd gyfan, gan fynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol a welwn yn deillio o effaith deietau gwael ar iechyd, yn enwedig iechyd ein plant. Diolch.

Mae'r gallu i gynhyrchu a phrosesu bwyd, wrth gwrs, yn asedau cenedlaethol strategol pwysig, ac rŷm ni'n gwybod am gyfraniad y sector bwyd a diod yng Nghymru, yn cynnal bron i 0.25 miliwn o swyddi, yn gyfrifol am tua 17 y cant o holl gyflogaeth Cymru. Wrth wraidd y cyfan, wrth gwrs, mae'r cynhyrchwyr cynradd craidd yna, yn bennaf amaethyddiaeth, ond dyframaeth a garddwriaeth hefyd. Ond eto i gyd, mae 95 y cant o ddosbarthiad bwyd y Deyrnas Unedig yn cael ei ddominyddu gan dim ond llond llaw fach o archfarchnadoedd mawr. Mae’r crynodiad pŵer yna yn gallu gwasgu cynhyrchwyr, yn aml iawn, ac wrth gwrs yn allforio gormod o elw mas o’n cymunedau ni. Un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym ni yng Nghymru i ail-gydbwyso hynny yw caffael cyhoeddus, wrth gwrs, ac, ar hyn o bryd, beth yw e, dim ond rhyw 50 y cant, 55 y cant o wariant caffael y sector gyhoeddus sy’n aros yng Nghymru. Wel, wrth gwrs, mae angen cynyddu hynny yn sylweddol, i fod yn agosach at 75 y cant a thu hwnt. Mae hynny’n bwysig, wrth gwrs, oherwydd am bob 1 y cant yn ychwanegol rŷn ni’n cadw o’r gwariant yna yng Nghymru, yna mae’n cynhyrchu miloedd o swyddi. Felly, os gallwch chi gadw 10 y cant yn fwy, mae un ffigur dwi wedi'i weld yn awgrymu y byddai cymaint â 20,000 yn ychwanegol o swyddi o fewn economi Cymreig. Beth sy’n wych am hynny, wrth gwrs, yw eich bod chi'n cynhyrchu'r gwerth ychwanegol yna gyda'r un gwariant. Dŷch chi ddim o reidrwydd yn gwario'ch arian mewn ffordd wahanol, dim ond yn gwario'n ddoethach ac yn dewis cynhyrchwyr Cymreig.

Pan fydd ysgolion yn gweini cyw iâr wedi’i fewnforio o bellafion y byd, fel rŷn ni wedi cael ein hatgoffa ohono fe yn ddiweddar, wrth gwrs, tra, ar yr un pryd, bod cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru weithiau'n cael hi’n anodd goroesi, wel, dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn anochel. Mae hynny'n ddewis, onid yw e? Mae'n ddewis sy'n cael ei yrru gan arferion caffel yma yng Nghymru, ac mae angen i hynny newid.

Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ddiwygio caffel fynd law yn llaw gyda chryfhau capasiti prosesu, ac mae hynny'n cynnwys amddiffyn lladd-dai lleol a chyfleusterau prosesu rhanbarthol fel bod y gwerth yna yn aros yng Nghymru, a bod ein cadwyni cyflenwi ni yn fyrrach, ac felly yn fwy gwydn a hefyd yn fwy sofren.

The ability to produce and process food, of course, are important national assets, and we know the contribution of the food and drink sector in Wales, maintaining 0.25 million jobs, responsible for around 17 per cent of all employment in Wales. At the heart of all of this are the primary producers, mainly agriculture, but also aquaculture and horticulture as well. But 95 per cent of food distribution in the UK is dominated by just a small handful of major supermarkets. That concentration of power can squeeze producers very often, and actually exports too much of the profits from our communities. One of the most powerful tools we have in Wales to rebalance that is public procurement, of course, and, at the moment, what is it, just around 50 or 55 per cent of public procurement spend remains in Wales. Well, of course, we need to increase that substantially, to be closer to 75 per cent or even more. And that's important, of course, because for every 1 per cent more that we retain of that spend here in Wales, then it produces thousands of jobs. So if you can keep 10 per cent more, one figure I've seen suggests that you would have an additional 20,000 jobs within the Welsh economy. What's great about that, of course, is that you have that added value with the same spend. You're not necessarily spending in a different way, just spending more wisely and choosing Welsh producers.

When schools serve chicken that's been imported from the far ends of the world, as we've been reminded of recently, whilst we have food producers in Wales who struggle to survive, well, that isn't something that is inevitable. That is a choice, isn't it? It is a choice driven by procurement practices here in Wales, and that needs to change.

But, of course, procurement reform must go hand in hand with strengthening production capacity, and that includes safeguarding local slaughterhouses and regional processing facilities so that that value stays in Wales, and that our supply chains are shorter and therefore more resilient and more sovereign.

Now, a resilient red meat sector needs a network of local and regional facilities that can keep animals moving through the system efficiently, and if investing in processing helps retain more value in Wales, it supports shorter supply chains, it reduces, as the Chair mentioned, the amount of food that we need to import from the other side of the world, so it brings with it then an economic benefit, an environmental benefit and certainly a benefit in terms of animal welfare and production standards as well. So, we should be grasping those opportunities with both hands.

Now, the report references concerns about the pressure that falling livestock numbers places on slaughterhouses and meat processors, particularly those maybe who are already, some of them, operating on tight margins. We need to work with the industry and processors to develop strategies in response to those challenges. I was at the launch recently of a report by NFU Cymru on how suckler beef production delivers multiple economic, environmental, social and cultural benefits for Wales, and the report examines the reasons behind the decline of suckler cows in Wales and sets out recommendations to safeguard their future.

The Government needs to consider options on that front, certainly, and similarly we need greater ambition when it comes to growing the horticulture sector in Wales. Now, we've already heard reference to the Food Policy Alliance Cymru's target that 75 per cent of vegetables consumed in Wales should be produced here sustainably. Now, that is a target we can aim for, albeit it won't be achieved overnight. But, certainly, I've always said there are too many people in this world trying to get halfway up a mountain and making it. If you aim for the peak you might not get there, but you'll get further than halfway. So, there's a lot of good work already happening in that space, and we need to build on it—successful projects such as the Welsh Veg in Schools initiative, which brings with it again the economic, environmental and health benefits we all want to see. But, similarly, a modern, sustainable and resilient seafood supply chain as well for Wales, from catch to plate, with career paths and skills opportunities for new entrants as well. Now, all of this is even more important, of course, given a global food system that's becoming increasingly turbulent, as we've heard with the previous topical question, and as well, of course, in a post-Brexit era where many of our biggest international markets are more difficult to access.

Now, as the report says, Wales needs a more coherent approach to food policy and that's why Plaid Cymru is committed to producing a new national food strategy for Wales, one that aligns farming, processing, procurement and public health, built around Welsh production for Welsh plates to help us bring home the harvest. Diolch.

Nawr, mae angen rhwydwaith o gyfleusterau lleol a rhanbarthol ar sector cig coch gwydn a all gadw anifeiliaid i symud drwy'r system yn effeithlon, ac os yw buddsoddi mewn prosesu yn helpu i gadw mwy o werth yng Nghymru, mae'n cefnogi cadwyni cyflenwi byrrach, mae'n lleihau, fel y soniodd y Cadeirydd, faint o fwyd sydd angen inni ei fewnforio o ben draw'r byd, felly mae'n dod â budd economaidd, budd amgylcheddol ac yn sicr budd o ran lles anifeiliaid a safonau cynhyrchu yn ei sgil. Felly, dylem fachu ar y cyfleoedd hynny gyda'r ddwy law.

Nawr, mae'r adroddiad yn cyfeirio at bryderon am y pwysau y mae'r gostyngiad yn niferoedd da byw'n ei roi ar ladd-dai a phroseswyr cig, yn enwedig y rhai sydd efallai, rai ohonynt, yn gweithredu ar elw bach iawn. Mae angen inni weithio gyda'r diwydiant a phroseswyr i ddatblygu strategaethau mewn ymateb i'r heriau hynny. Yn ddiweddar, roeddwn yn lansiad adroddiad gan NFU Cymru ar sut y mae cynhyrchiant eidion sugno yn darparu manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol lluosog i Gymru, ac mae'r adroddiad yn archwilio'r rhesymau y tu ôl i'r gostyngiad yn niferoedd gwartheg sugno yng Nghymru ac yn nodi argymhellion i ddiogelu eu dyfodol.

Mae angen i'r Llywodraeth ystyried opsiynau yn hynny o beth, yn sicr, ac yn yr un modd mae angen mwy o uchelgais arnom i dyfu'r sector garddwriaeth yng Nghymru. Nawr, rydym eisoes wedi clywed cyfeiriad at darged Cynghrair Polisi Bwyd Cymru y dylai 75 y cant o'r llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru gael eu cynhyrchu yma'n gynaliadwy. Nawr, dyna darged y gallwn anelu ato, er na chaiff ei gyflawni dros nos. Ond yn sicr, rwyf bob amser wedi dweud bod gormod o bobl yn y byd hwn yn ceisio mynd hanner ffordd i fyny mynydd a chyrraedd y fan honno. Os anelwch am y copa efallai na chyrhaeddwch chi yno, ond fe ewch chi ymhellach na hanner ffordd. Felly, mae llawer o waith da eisoes yn digwydd yn hynny o beth, ac mae angen inni adeiladu arno—prosiectau llwyddiannus fel menter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, sy'n dod â'r manteision economaidd, amgylcheddol ac iechyd yr ydym i gyd eisiau eu gweld. Ond yn yr un modd hefyd, cadwyn gyflenwi bwyd môr fodern, gynaliadwy a gwydn i Gymru, o'r ddalfa i'r plât, gyda llwybrau gyrfa a chyfleoedd sgiliau i newydd-ddyfodiaid hefyd. Nawr, mae hyn i gyd yn bwysicach fyth, wrth gwrs, wrth ystyried system fwyd fyd-eang sy'n fwyfwy cythryblus, fel y clywsom gyda'r cwestiwn amserol blaenorol, a hefyd mewn cyfnod ôl-Brexit lle mae llawer o'n marchnadoedd rhyngwladol mwyaf yn anos eu cyrchu.

Nawr, fel y dywed yr adroddiad, mae angen dull mwy cydlynol o weithredu polisi bwyd ar Gymru a dyna pam y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu strategaeth fwyd genedlaethol newydd i Gymru, un sy'n alinio ffermio, prosesu, caffael ac iechyd y cyhoedd, wedi'i hadeiladu o amgylch cynhyrchiant o Gymru ar gyfer platiau Cymru i'n helpu i gywain y cynhaeaf. Diolch.

15:55

The UK produces just over half of the food it needs. France, Australia and the United States all produce enough for everyone who is living there. Food sufficiency in Spain is 75 per cent; in the Netherlands, 80 per cent. In Britain we import nearly all our fruit and half of our vegetables. I think it's important to see Britain as all one in the event of a catastrophe such as is developing in the middle east, because obviously there's plenty of trading that goes on across our island. But we have to point out that our domestic production of fruit and veg is concentrated in the east of England, which is also particularly vulnerable to both flooding and drought.

Our rural areas are mainly growing food for supermarkets instead of, and necessarily, our nearby cities. So, we know that, for example, eggs laid in north Wales are transported to supermarket depots in England, to be put in egg boxes marked 'Made in Wales' and then brought back to Wales. If petrol and diesel prices are going to rise, as most people are predicting, this will, no doubt, considerably increase the cost to the consumer. Shorter food miles would reduce the cost of the item from farm to fork, so I am concerned that all three of the strategic recommendations that we put in our report, i.e. numbers 1, 3 and 5, have been rejected. Although I fully acknowledge that the Cabinet Secretary has done a lot of work in this space, I think we are now moving into a new environment where we may have a potential problem. As has already been raised by Janet Finch-Saunders, chicken served in our schools comes from Thailand. In a crisis, I doubt whether that's going to happen, and in any case, under what conditions is it being produced and would our children really approve of it if they knew about it?

Now, in a national emergency, we ought to be able to divert food to feed the most vulnerable people in our population. That happened in the second world war, when we had rationing. But really, are we fit for it at the moment? I was very interested to read about a mapping exercise commissioned by the Welsh Government by Miller Research. It talks about the intense focus on economics, i.e. profitability, and agriculture, which actually have a minimal role in the current community food system, aside from contributing to surplus food. And the stakeholders perceived a substantial structural divide between the community on one side of the map and the influence of the big retailers on the other side. And Tim Lang has already pointed out, both a few years ago and, most recently, last weekend, that the concentration of the distribution centres for supermarkets makes us extremely vulnerable to terrorist attacks or other disruptions, and I think that we really do need to think a lot more about it.

Now, I want to say that I am pleasantly surprised at the amount of work that has been generated by the community food partnerships and the publication of the community food strategy. Because this is something that the Equality and Social Justice Committee had an inquiry on and we're not going to be able to publish this in time for it to be debated here in the sixth Senedd. But I have to say that there is a great deal going on. It's very heart-warming. There are over 100 schools that are properly educating children on where food comes from, as well as endeavouring to educate parents on how to cook, in the context of six out of 10 households never cooking from scratch. They are eating the junk meals that the supermarkets want to sell us.

So, I want to reiterate the concerns I have. I asked Jane Hutt and I also asked you in the economy committee last week what mapping has been done by the Welsh Government on those communities that are least resilient because they have fewer volunteers and fewer on-the-ball schools. What are we going to do if we really do start seeing supermarket shelves being made empty and food simply not arriving into Wales? So, I look forward to hearing the remarks from the Cabinet Secretary.

Mae'r DU yn cynhyrchu ychydig dros hanner y bwyd sydd ei angen arni. Mae Ffrainc, Awstralia a'r Unol Daleithiau oll yn cynhyrchu digon i bawb sy'n byw yno. Mae lefel digonolrwydd bwyd yn Sbaen yn 75 y cant; yn yr Iseldiroedd, mae'n 80 y cant. Ym Mhrydain rydym yn mewnforio bron yr holl ffrwythau a hanner ein llysiau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld Prydain fel un uned pe bai trychineb fel sy'n datblygu yn y dwyrain canol yn digwydd, oherwydd yn amlwg mae digon o fasnachu'n digwydd ar draws ein hynys. Ond rhaid inni nodi bod ein cynhyrchiant domestig o ffrwythau a llysiau'n deillio'n bennaf o ddwyrain Lloegr, sydd hefyd yn arbennig o agored i lifogydd a sychder.

Mae ein hardaloedd gwledig o anghenraid yn tyfu bwyd ar gyfer archfarchnadoedd yn bennaf yn hytrach na'n dinasoedd cyfagos. Felly, gwyddom, er enghraifft, fod wyau a'r wyau a ddodwir yng ngogledd Cymru yn cael eu cludo i depos archfarchnadoedd yn Lloegr, i'w rhoi mewn blychau wyau wedi'u marcio 'Made in Wales' ac yna'u cludo yn ôl i Gymru. Os yw prisiau petrol a diesel yn mynd i godi, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ragweld, bydd hyn, heb amheuaeth, yn cynyddu'r gost i'r defnyddiwr yn sylweddol. Byddai milltiroedd bwyd byrrach yn lleihau cost yr eitem o'r fferm i'r fforc, felly rwy'n pryderu bod pob un o'r tri argymhelliad strategol a roesom yn ein hadroddiad, h.y. rhifau 1, 3 a 5, wedi'u gwrthod. Er fy mod yn cydnabod yn llwyr fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud llawer o waith ar hyn, rwy'n credu ein bod bellach yn symud i amgylchedd newydd lle gallem gael problem bosib. Fel sydd eisoes wedi'i godi gan Janet Finch-Saunders, mae cyw iâr sy'n cael ei weini yn ein hysgolion yn dod o Wlad Thai. Mewn argyfwng, rwy'n amau a fydd hynny'n digwydd, a beth bynnag, dan ba amodau y caiff ei gynhyrchu ac a fyddai ein plant yn cymeradwyo pe baent yn gwybod hynny?

Nawr, mewn argyfwng cenedlaethol, dylem allu dargyfeirio bwyd i fwydo'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein poblogaeth. Digwyddodd hynny yn yr ail ryfel byd, pan oedd gennym ddogni. Ond a ydym yn barod ar gyfer hynny ar hyn o bryd? Roedd yn ddiddorol darllen am ymarfer mapio a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Miller Research. Mae'n sôn am y ffocws dwys ar economeg, h.y. proffidioldeb, ac amaethyddiaeth, sydd â rôl fach iawn yn y system bwyd cymunedol ar hyn o bryd, ar wahân i gyfrannu at fwyd dros ben. Ac roedd y rhanddeiliaid yn gweld rhaniad strwythurol sylweddol rhwng y gymuned ar un ochr i'r map a dylanwad y manwerthwyr mawr ar yr ochr arall. Ac mae Tim Lang eisoes wedi nodi rai blynyddoedd yn ôl, ac yn fwyaf diweddar, y penwythnos diwethaf, fod crynodiad canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd yn ein gwneud ni'n hynod agored i ymosodiadau terfysgol neu aflonyddwch arall, ac rwy'n credu bod angen inni feddwl llawer mwy am hynny.

Nawr, rwy'n falch o weld cymaint o waith sydd wedi'i gynhyrchu gan y partneriaethau bwyd cymunedol a chyhoeddi'r strategaeth bwyd gymunedol. Oherwydd mae hyn yn rhywbeth y cafodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad iddo ac ni fyddwn yn gallu cyhoeddi hwn mewn pryd i'w drafod yma yn y chweched Senedd. Ond rhaid imi ddweud bod llawer yn digwydd. Mae'n galonogol iawn. Mae dros 100 o ysgolion yn dysgu plant yn iawn o ble y daw bwyd, yn ogystal ag ymdrechu i addysgu rhieni ar sut i goginio, o gofio nad yw chwech o bob 10 aelwyd byth yn coginio o'r dechrau. Maent yn bwyta'r prydau sothach y mae'r archfarchnadoedd am eu gwerthu i ni.

Felly, rwyf am ailadrodd y pryderon sydd gennyf. Gofynnais i Jane Hutt a gofynnais i chi hefyd ym mhwyllgor yr economi yr wythnos diwethaf pa waith mapio a wnaeth Lywodraeth Cymru ar y cymunedau lleiaf gwydn am fod ganddynt lai o wirfoddolwyr a llai o ysgolion sydd â'u llygaid ar y bêl gyda hyn. Beth a wnawn os dechreuwn weld silffoedd archfarchnadoedd yn gwagio a bwyd heb fod yn cyrraedd Cymru? Felly, edrychaf ymlaen at glywed y sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet.

16:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

Gwnaf i ddechrau gan ddweud gair o ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor.

I will start by thanking the Chair of the committee.

Can I start by giving a word of thanks to the Chair of this committee? I think I speak on behalf of all members of the committee, where the Chair's expertise in this field really came to the fore in this inquiry and made our job, as committee members, far easier, and I think the clerking and research team were grateful for that expertise as well.

This report has come off the back of a lot of good work already done by Peter Fox and his Bill, the food Bill. That ground work—. And I come back to this, Cabinet Secretary, how you, in this old Chamber, before this extension, stood there as a backbencher and said, 'This is a Government Bill', in response to Peter Fox's food Bill. You are now a Government Minister, a Deputy First Minister no less, and I was so hoping that you would have brought forward some of the good work that had been done by Peter in that inquiry, and through the work that he'd done on his food Bill. It's interesting to hear Llyr's commitment from Plaid Cymru to bring forward Peter Fox's food Bill, should they be successful. We would do exactly the same, because this is fundamental to how we feed our nation going forward.

I've been involved with the community food partnerships in Pembrokeshire, led by PLANED, cutting the ribbon on a number of vending machines with them, which has been great to shorten the miles between food and the consumer. But I think there's an opportunity missed there about how we anchor those food producers and those food growers and manufacturers in those areas, so that that supply chain is far more resilient.

I think we do have to look at the Irish model. The Irish have done incredibly well out of this. What they've done is hitched their wagon on some very good, successful processors, and that's where the success has come from, by having fewer who are more nimble and able to maximise the opportunity. That's where the Irish have been successful.

We know that food, raw produce leaving Wales to be processed across the border, the value added is being done elsewhere, and we're not seeing the return on it. So, I will commend the Welsh Government for their investment in Pembrokeshire Creamery and bringing something that we do incredibly well, which is growing grass and producing dairy product, bringing that processing nearer to where that product is made. That has helped reduce the number of wheels under the tanks taking that dairy product up the M4 and out of Wales to be produced, to then be brought back for Welsh consumers. So, I think that's something that really needs to be commended. And more examples like that, that's where there's a successful business in Blas Y Tir, in their brassicas that they grow alongside the dairy now in Pembrokeshire Creamery, where we need to maximise those opportunities. Let's find what we do well, and maximise those opportunities off the back of that as well.

I have to raise concern about the decreasing livestock numbers, especially for the red meat sector, that critical mass that's required to continue to feed the supply chain through our abattoirs and processors. That evidence session was quite stark as to the reality that those companies are fearing might happen should this continual decline—. It's happened over a number of years, Cabinet Secretary, I will admit that; it hasn't been a new phenomenon. But this reduction in livestock numbers and the pressure that puts on the supply chain and the processors needs to be addressed, and we should look at increasing that. Again, coming back to the point, what do we do well, and maximising those opportunities. The beef sector has done incredibly well in the last 12 months. Let's continue to go where we're doing very, very well.

I think something that isn't fully touched on in this report, but something that is around this more broadly and has been touched upon, is the flag loopholes that exist—[Interruption.] Sorry. Yes, Carolyn, go ahead.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor? Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran holl aelodau'r pwyllgor, lle daeth arbenigedd y Cadeirydd yn y maes i'r amlwg yn yr ymchwiliad hwn, a gwnaeth ein gwaith ni, fel aelodau'r pwyllgor, yn llawer haws, ac rwy'n credu bod y tîm clercio ac ymchwil yn ddiolchgar am yr arbenigedd hwnnw hefyd.

Mae'r adroddiad hwn wedi deillio o lawer o waith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Peter Fox a'i Fil, y Bil bwyd. Mae'r seiliau hynny—. Ac rwy'n dod yn ôl at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gwnaethoch chi, yn yr hen Siambr, cyn yr estyniad hwn, sefyll yno ar y meinciau cefn a dweud, 'Mae hwn yn Fil Llywodraeth', mewn ymateb i Fil bwyd Peter Fox. Rydych chi bellach yn Weinidog y Llywodraeth, yn Ddirprwy Brif Weinidog, ac roeddwn yn gobeithio'n fawr y byddech chi wedi cyflwyno peth o'r gwaith da a wnaed gan Peter yn yr ymchwiliad hwnnw, a thrwy'r gwaith a wnaeth ar ei Fil bwyd. Mae'n ddiddorol clywed ymrwymiad Llyr gan Blaid Cymru i gyflwyno Bil bwyd Peter Fox, pe baent yn llwyddiannus. Byddem ninnau'n gwneud yr un peth yn union, gan fod hyn yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn bwydo ein cenedl yn y dyfodol.

Rwyf wedi gweithio gyda'r partneriaethau bwyd cymunedol yn sir Benfro, a arweinir gan PLANED, gan dorri'r rhuban ar nifer o beiriannau gwerthu gyda nhw, sydd wedi bod yn wych i leihau'r milltiroedd rhwng bwyd a'r defnyddiwr. Ond credaf fod cyfle wedi'i golli yno o ran y ffordd yr ydym yn angori'r cynhyrchwyr bwyd hynny a'r tyfwyr a'r gweithgynhyrchwyr bwyd yn yr ardaloedd hynny, fel bod y gadwyn gyflenwi honno'n llawer mwy gwydn.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar y model Gwyddelig. Mae'r Gwyddelod wedi gwneud yn anhygoel o dda. Maent wedi gweithio gyda phroseswyr gwych a llwyddiannus, ac o hynny y daeth y llwyddiant, drwy gael llai o gwmnïau sy'n fwy ystwyth ac sy'n gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfle. Dyna ble mae'r Gwyddelod wedi bod yn llwyddiannus.

Gwyddom fod bwyd, cynnyrch crai yn gadael Cymru i gael ei brosesu dros y ffin, ac mae'r gwerth ychwanegol yn cael ei ychwanegu mewn mannau eraill, ac nid ydym yn gweld yr enillion. Felly, rwyf am ganmol Llywodraeth Cymru am eu buddsoddiad yn Hufenfa Sir Benfro a dod â rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn anhygoel o dda, sef tyfu glaswellt a chynhyrchu cynnyrch llaeth, dod â'r gwaith prosesu hwnnw'n nes at y man lle mae'r cynnyrch hwnnw'n cael ei greu. Mae hynny wedi helpu i leihau nifer yr olwynion o dan y tanciau sy'n cludo'r cynnyrch llaeth ar hyd yr M4 ac allan o Gymru i'w gynhyrchu, a'i gludo'n ôl i ddefnyddwyr Cymru wedyn. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ganmol mewn gwirionedd. A mwy o enghreifftiau o'r fath, dyna ble mae busnes llwyddiannus yn Blas y Tir, yn y cnydau bresych y maent yn eu tyfu ger y llaethdy nawr yn Hufenfa Sir Benfro, dyna ble mae angen inni wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Gadewch inni nodi'r hyn a wnawn yn dda, a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny ar sail hynny hefyd.

Rhaid imi fynegi pryder ynghylch y gostyngiad yn niferoedd da byw, yn enwedig ar gyfer y sector cig coch, y màs critigol hwnnw sydd ei angen i barhau i fwydo'r gadwyn gyflenwi drwy ein lladd-dai a'n proseswyr. Roedd y sesiwn dystiolaeth honno'n eithaf llwm o ran y realiti y mae'r cwmnïau hynny'n ofni y gallai gael ei wireddu pe bai'r dirywiad parhaus hwn—. Mae wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cyfaddef hynny; nid yw'n ffenomen newydd. Ond mae angen mynd i'r afael â'r gostyngiad yn niferoedd da byw a'r pwysau y mae'n ei roi ar y gadwyn gyflenwi a'r proseswyr, a dylem edrych ar gynyddu hynny. Unwaith eto, gan ddod yn ôl at y pwynt, yr hyn rydym yn ei wneud yn dda, a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Mae'r sector cig eidion wedi gwneud yn anhygoel o dda yn y 12 mis diwethaf. Gadewch inni barhau i fynd ble rydym yn gwneud yn dda iawn.

Rwy'n credu mai rhywbeth nad yw'n cael ei drafod yn llawn yn yr adroddiad hwn, ond rhywbeth sy'n ymwneud â hyn yn fwy cyffredinol ac sydd wedi cael ei grybwyll, yw'r bylchau sy'n bodoli gyda defnyddio'r faner—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. Iawn, Carolyn, ewch amdani.

16:05

Thank you. Just to understand, if you keep increasing livestock numbers, doesn't that mean an increase in slurry, an increase in needing more food and more fertiliser as well, or having to contain them, because I hear about large farms in Pembrokeshire, where they've got 2,000 cattle inside a shed? Just my concerns regarding that.

Diolch. Er mwyn deall, os ydych chi'n parhau i gynyddu niferoedd da byw, onid yw hynny'n golygu cynnydd mewn slyri, cynnydd yn yr angen am fwyd a mwy o wrtaith hefyd, neu le i'w cadw, gan fy mod yn clywed am ffermydd mawr yn sir Benfro lle mae ganddynt 2,000 o wartheg mewn sied? Dyna fy mhryderon ynglŷn â hynny.

Look, I understand the concern, but there's a lack of understanding of how the food system works and how agriculture works. So, those dairy farms are few and far between, but you can increase livestock numbers in suckler herds for beef, which is the point I made, because we grow grass very well. That's one raw product that we in Wales do. We're warm and we're wet, therefore, our pasture land is incredibly good. How we do the stock grazing and the block grazing of that can increase our livestock numbers in a regenerative way, because what you're actually doing is putting more of the organic matter back in the soils, as we've previously inquired in our soil report, and I'm looking at Jenny here, because she pushed for that. You can add organic matter back into the soils in a regenerative fashion, which is far better for the environment.

Edrychwch, rwy'n deall y pryder, ond mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae'r system fwyd yn gweithio a sut y mae amaethyddiaeth yn gweithio. Felly, ychydig iawn o'r ffermydd llaeth hynny sydd i'w cael, ond gallwch gynyddu niferoedd da byw mewn buchesi sugno ar gyfer cig eidion, a dyna'r pwynt a wneuthum, gan ein bod yn dda iawn yn tyfu glaswellt. Dyna un cynnyrch crai yr ydym yn ei wneud yng Nghymru. Rydym yn gynnes ac rydym yn wlyb, felly mae ein tir pori yn anhygoel o dda. Gall ein dull o weithredu pori stoc a phori bloc ar y tir hwnnw gynyddu niferoedd ein da byw mewn ffordd adfywiol, gan mai'r hyn rydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yw rhoi mwy o'r deunydd organig yn ôl yn y pridd, fel rydym wedi edrych arno o'r blaen yn ein hadroddiad ar bridd, ac rwy'n edrych ar Jenny yma, gan iddi wthio am hynny. Gallwch roi deunydd organig yn ôl yn y pridd mewn ffordd adfywiol, sy'n llawer gwell i'r amgylchedd.

Would you just take another intervention on that, because I'm really interested? Okay. Over the years, silage production keeps increasing, so farmers might grow, I don't know, lots of crops for silage now a year, instead of, like, before it was hay production, wasn't it? And that's had an impact on wildflower meadows and biodiversity, in a way, so that's a concern. I'm just coming from that side of things, if that's useful.

A wnewch chi dderbyn ymyriad arall ar hynny, gan fod gennyf gryn ddiddordeb yn hyn? Iawn. Dros y blynyddoedd, mae lefelau cynhyrchu silwair yn parhau i gynyddu, felly gall ffermwyr dyfu, wn i ddim, llawer o gnydau ar gyfer silwair mewn blwyddyn bellach, yn hytrach na chynhyrchu gwair fel yr arferent ei wneud, onid e? Ac mae hynny wedi cael effaith ar ddolydd blodeuog a bioamrywiaeth, mewn ffordd, felly mae hynny'n bryder. Rwy'n dod o'r ochr honno i bethau, os yw hynny'n ddefnyddiol.

And I understand that as well, and there's far more scope in the new sustainable farming scheme—and I look to the Cabinet Secretary for this—where those can be managed. But you're seeing farms now doing five, six cuts of silage, but what is that silage? It's carbon capture. It's taken carbon out of the atmosphere and it's turned it into a feedstock, which is then going into an animal, that animal, and then it's feeding us. It's a closed cycle. It's not creating new carbon. It's actually a closed carbon system, drawing out carbon from the atmosphere. And if you've got proper deep-rooting things like red clover and other grasses, you can store that carbon in the soils by closing that carbon loop. That's what grass is really good at. That's why grass is at the forefront of the carbon sequestration panel that the Cabinet Secretary set up, looking at this for the sustainable farming scheme. That's a really good option.

I'm going to continue, with the blessing of the Llywydd, just to close my remarks, because I've gone over time with the interventions, and I'm grateful for it. But I just want to say that we are so good in Wales at food production, we're just not very good at adding the value to food. That's where the opportunity exists in growing the economy, as Llyr rightly pointed out, in turning that raw product into a sellable commodity, which has the value added, retained in Wales; we have an opportunity to do something really amazing there.

The final point was closing that flag loophole, where food can be packaged and assembled in the UK and therefore have a union jack put on it, even if it's product from outside the UK. That needs to be shut. There's a campaign led by Victoria Atkins and Robbie Moore in Westminster at the moment on closing this loophole. Cabinet Secretary, I'd really appreciate your views on whether you are supportive of that. Diolch yn fawr, Llywydd.

Ac rwy'n deall hynny hefyd, ac mae llawer mwy o gwmpas yn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd—ac rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn—lle gellir rheoli'r rheini. Ond rydych chi'n gweld ffermydd nawr yn torri silwair bum, chwe gwaith, ond beth yw'r silwair hwnnw? Mae'n dal carbon. Mae wedi tynnu carbon o'r atmosffer ac wedi'i droi'n borthiant, sydd wedyn yn mynd i mewn i anifail, yr anifail hwnnw, ac yna mae'n ein bwydo ni. Mae'n gylchred gaeedig. Nid yw'n creu carbon newydd. Mae'n system garbon gaeedig, sy'n tynnu carbon allan o'r atmosffer. Ac os oes gennych bethau sy'n gwreiddio'n ddwfn fel meillion coch a glaswelltau eraill, gallwch storio'r carbon hwnnw yn y pridd drwy gau'r ddolen garbon honno. Dyna mae glaswellt yn dda iawn am ei wneud. Dyna pam fod glaswellt yn hollbwysig i'r panel atafaelu carbon a sefydlwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar hyn ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae hwnnw'n opsiwn da iawn.

Rwy’n mynd i barhau, gyda chaniatâd y Llywydd, i gloi fy sylwadau, gan fy fod fy amser ar ben gyda'r ymyriadau, ac rwy’n ddiolchgar amdano. Ond hoffwn ddweud ein bod mor dda am gynhyrchu bwyd yng Nghymru, ond heb fod cystal am ychwanegu gwerth at fwyd. Dyna ble mae'r cyfle i dyfu'r economi, fel y nododd Llyr yn gwbl gywir, a throi'r cynnyrch crai hwnnw'n nwydd gwerthadwy, ag iddo werth ychwanegol, wedi'i gadw yng Nghymru; mae gennym gyfle i wneud rhywbeth gwirioneddol anhygoel yn hynny o beth.

Y pwynt olaf oedd cau'r bwlch yn y rheolau o ran defnyddio'r faner, lle gellir rhoi jac yr undeb ar fwyd sy'n cael ei becynnu a'i roi at ei gilydd yn y DU, hyd yn oed os yw'n gynnyrch o'r tu allan i'r DU. Mae angen cau'r bwlch hwnnw. Mae ymgyrch ar gau'r bwlch ar y gweill yn San Steffan o dan arweiniad Victoria Atkins a Robbie Moore. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau ar hynny. Diolch yn fawr, Lywydd.

16:10

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.

The Cabinet Secretary to contribute. Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:11:35
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn hefyd i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am wneud y gwaith pwysig ar yr ymchwiliad i brosesu bwyd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb.

Thank you very much, Llywydd, and thank you very much to the committee and the committee Chair for doing this important work on their inquiry into food processing, and thank you for the opportunity to respond.

There is much that we agree with the committee on, as we put in our response as well. First of all, food processing is critical to the Welsh economy. It's one of Wales's most important foundational sectors. It supports businesses across the supply chain, contributes towards local prosperity and food security. I'm deeply proud of the sector's achievements. In 2023, as we've heard, the supply chain employed nearly 0.25 million individuals in Wales—in every single constituency, quite frankly. It accounts for 17 per cent of Wales's total workforce, and behind every headline figure like that are people and businesses who continue to deliver for Wales. So, I just want to recognise that contribution today.

So, our Welsh Government approach remains clear. That joined-up and whole system focused on delivery to support a sustainable, a competitive and resilient food sector. So, let me now respond to each of the committee's recommendations and some of the points that have been raised. And can I say, and acknowledging the kind remarks of the Chair there, where we disagree with the committee, we make it clear, but we disagree respectfully, and we've tried to be clear also where we support as well.

So, the committee proposes an overarching food strategy. Now, look, that decision can lie with the next Welsh Government. Yet, what we already have is a co-ordinated approach for the whole food system, and much of it, by the way, is reflective of the themes that were picked up in Peter Fox's Bill originally. We've moved on, and we've done things since then.

So, the vision for the food and drink industry provides a strategic vision on sustainability, productivity, skills, innovation, market development, and that's complemented by the sustainable farming scheme and the community food strategy. These pieces come together. The food forum provides the co-ordination and the oversight right across Government departments, and 'Food Matters: Wales' shows our food-related policies all mapped against, including the well-being of future generations Act.

Taken together, this provides not a static document of a strategy, but a live cross-Government framework for food policy in Wales. It brings together partners across the whole of the supply chain, and it's been tested, by the way, through the EU exit, through the pandemic, tested through the cost-of-living crisis, and it continues to evolve, including on food system resilience, which I'll come to in a moment, and emergency food security. There will be, by the way, Members, an updated 'Food Matters: Wales' document that will be published later this month, as we've previously agreed within the Senedd.

I just want to refer to the Tim Lang piece that has been mentioned, and it's particularly pertinent in terms of the conflict we currently see occurring. Tim argues for turning on its head the just-in-time management that we've developed since I was studying for a higher national diploma back in the 1980s, into a 'Just in case, what if we have these shocks?' And I think that is something that we and the future Government will need to actually turn our attention to, going forward. How prepared are we? What actions do we need to be prepared for that? Tim leads the way in the thinking on this.

We absolutely recognise, by the way, the importance of a stable livestock supply for red meat and dairy processing. Cattle and sheep numbers have indeed declined over two decades, but production, interestingly, has remained broadly stable. So, Wales is well placed, as you say, Sam, to produce low-carbon, high-quality meat. That's our defining characteristic.

The sustainable farming scheme encourages efficiency and emissions reduction, including actions on age at slaughter and sire registration, supporting productivity and competitiveness. We don't support reverting to an old-style headage scheme, but we do agree it's essential that sustainable Welsh meat underpins our domestic processing capacity and continues to access strong markets, both within Wales and far beyond. Increasing the visibility in domestic supply chains will complement the sector's long-standing success as a major exporter. We should be proud of that.

We do, by the way, share the ambition to expand horticulture, but what we cannot do, as we've said in our response, is commit to a target to produce 75 per cent of the vegetables consumed in Wales, given our seasonal and climatic realities. Progress, however, is being made. The latest planning guidance supports business growth, and Welsh Government capital schemes for horticulture start-ups and agricultural diversification deliver investment in infrastructure and equipment for horticulture. Farming Connect is now providing training, advice and peer learning, with rising engagement every week from horticultural enterprises. And public procurement, as we've said so often, also plays a key role. Initiatives such as Welsh Veg in Schools show how co-ordinated demand can stimulate local supply chains. But we do need to do more as well. [Interruption.] Yes, I will give way.

Mae llawer yr ydym yn cytuno â'r pwyllgor yn ei gylch, fel y gwnaethom ei nodi yn ein hymateb hefyd. Yn gyntaf oll, mae prosesu bwyd yn hanfodol i economi Cymru. Mae'n un o sectorau sylfaen pwysicaf Cymru. Mae'n cefnogi busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi, yn cyfrannu at ffyniant lleol a diogeledd bwyd. Rwy'n falch iawn o gyflawniadau'r sector. Yn 2023, fel y clywsom, roedd y gadwyn gyflenwi'n cyflogi bron i 0.25 miliwn o unigolion yng Nghymru—ym mhob un etholaeth, a dweud y gwir. Mae'n cyfrif am 17 y cant o gyfanswm gweithlu Cymru, a'r tu ôl i bob prif ffigur o'r fath, mae pobl a busnesau sy'n parhau i gyflawni dros Gymru. Felly, hoffwn gydnabod y cyfraniad hwnnw heddiw.

Felly, mae ein dull gweithredu fel Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn glir. Mae'r system gydgysylltiedig a chyfan honno'n canolbwyntio ar gyflawni i gefnogi sector bwyd cynaliadwy, cystadleuol a gwydn. Felly, gadewch imi ymateb nawr i bob un o argymhellion y pwyllgor a rhai o'r pwyntiau a godwyd. Ac a gaf i ddweud, a chydnabod sylwadau caredig y Cadeirydd yno, lle rydym yn anghytuno â'r pwyllgor, rydym yn nodi hynny'n glir, ond rydym yn anghytuno gyda pharch, ac rydym wedi ceisio nodi'n glir hefyd lle rydym yn cefnogi hefyd.

Felly, mae'r pwyllgor yn cynnig strategaeth fwyd drosfwaol. Nawr, edrychwch, gall hwnnw fod yn benderfyniad i Lywodraeth nesaf Cymru. Fodd bynnag, yr hyn sydd gennym yn barod yw dull cydgysylltiedig ar gyfer y system fwyd gyfan, ac mae llawer ohono, gyda llaw, yn adlewyrchu'r themâu a godwyd ym Mil gwreiddiol Peter Fox. Rydym wedi symud ymlaen, ac rydym wedi gwneud pethau ers hynny.

Felly, mae'r weledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn darparu gweledigaeth strategol ar gynaliadwyedd, cynhyrchiant, sgiliau, arloesedd, datblygu'r farchnad, a chaiff hyn oll ei ategu gan y cynllun ffermio cynaliadwy a'r strategaeth bwyd cymunedol. Mae'r darnau hyn yn dod at ei gilydd. Mae'r fforwm bwyd yn darparu'r cydgysylltiad a'r trosolwg ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac mae 'Bwyd o Bwys: Cymru' yn dangos ein holl bolisïau sy'n gysylltiedig â bwyd wedi'u mapio yn eu herbyn, gan gynnwys Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

O'i chymryd gyda'i gilydd, nid dogfen strategol statig mo hon, ond fframwaith trawslywodraethol byw ar gyfer polisi bwyd yng Nghymru. Mae'n dwyn partneriaid o'r gadwyn gyflenwi gyfan ynghyd, ac mae wedi'i phrofi, gyda llaw, drwy ymadael â'r UE, drwy'r pandemig, drwy'r argyfwng costau byw, ac mae'n parhau i esblygu, gan gynnwys mewn perthynas â gwydnwch y system fwyd, a byddaf yn dod at hynny mewn eiliad, a diogeledd bwyd mewn argyfwng. Gyda llaw, Aelodau, bydd dogfen 'Bwyd o Bwys: Cymru' wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen y mis hwn, fel rydym wedi'i gytuno o'r blaen yn y Senedd.

Hoffwn gyfeirio at yr adroddiad gan Tim Lang sydd wedi'i grybwyll, ac mae'n arbennig o berthnasol o ran y gwrthdaro a welwn ar hyn o bryd. Mae Tim yn dadlau dros droi'r rheolaeth 'mewn union bryd' a ddatblygwyd gennym er pan oeddwn yn astudio am ddiploma cenedlaethol uwch yn ôl yn y 1980au yn 'Rhag ofn, beth os cawn y siociau hyn?' A chredaf fod hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni a'r Llywodraeth nesaf droi ein sylw ato, wrth symud ymlaen. Pa mor barod ydym ni? Pa gamau sydd eu hangen arnom i fod yn barod am hynny? Mae Tim yn arwain y ffordd gyda'r syniadau hyn.

Gyda llaw, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cyflenwad sefydlog o dda byw ar gyfer prosesu cig coch a llaeth. Mae'n wir fod niferoedd gwartheg a defaid wedi gostwng dros ddau ddegawd, ond mae lefelau cynhyrchiant, yn ddiddorol, wedi aros yn gymharol sefydlog. Felly, mae Cymru mewn sefyllfa dda, fel y dywedwch, Sam, i gynhyrchu cig carbon isel o ansawdd uchel. Dyna ein nodwedd ddiffiniol.

Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn annog effeithlonrwydd a lleihau allyriadau, gan gynnwys camau gweithredu ar oedran anifeiliaid adeg eu lladd a chofrestru teirw eidion, gan gefnogi cynhyrchiant a chystadleurwydd. Nid ydym yn cefnogi dychwelyd i'r hen gynllun 'y pen', ond rydym yn cytuno ei bod yn hanfodol fod cig cynaliadwy o Gymru’n sail i'n capasiti prosesu domestig ac yn parhau i gael mynediad at farchnadoedd cryf, yng Nghymru a thu hwnt. Bydd cynyddu'r gwelededd mewn cadwyni cyflenwi domestig yn ategu llwyddiant y sector ers amser maith fel allforiwr pwysig. Dylem fod yn falch o hynny.

Gyda llaw, rydym yn rhannu'r uchelgais i ehangu garddwriaeth, ond yr hyn na allwn ei wneud, fel rydym wedi'i ddweud yn ein hymateb, yw ymrwymo i darged i gynhyrchu 75 y cant o'r llysiau a fwyteir yng Nghymru, o ystyried ein realiti tymhorol a hinsoddol. Fodd bynnag, mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae'r canllawiau cynllunio diweddaraf yn cefnogi twf busnes, ac mae cynlluniau cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau garddwriaeth newydd ac arallgyfeirio amaethyddol yn darparu buddsoddiad mewn seilwaith ac offer ar gyfer garddwriaeth. Mae Cyswllt Ffermio bellach yn darparu hyfforddiant, cyngor a dysgu gan gymheiriaid, gyda mwy o ymgysylltiad bob wythnos gan fentrau garddwriaethol. Ac mae caffael cyhoeddus, fel rydym wedi'i ddweud mor aml, hefyd yn chwarae rhan allweddol. Mae mentrau fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn dangos sut y gall galw cydgysylltiedig ysgogi cadwyni cyflenwi lleol. Ond mae angen inni wneud mwy hefyd. [Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.

16:15

You talked about seasonal and climatic reality. With polytunnels, you can produce vegetables 11 or 12 months of the year.

Fe sonioch chi am realiti tymhorol a hinsoddol. Gyda thwnelau polythen, gallwch gynhyrchu llysiau 11 neu 12 mis y flwyddyn.

Indeed, and we need to build the investment in the infrastructure and the confidence and the knowledge and the understanding to do that, because you're right, we can do this. The question is getting everybody lined up to say, 'Let's do this', and increase the resilience and food security aspect of producing more here on these shores.

We accept the recommendation to set out our work to support the Welsh seafood processing industry. This is very important. Through the Welsh marine and fisheries scheme, we fund investment across the seafood supply chain, including upgrading of processing facilities. The fisheries management plans, which are working really well, under the Fisheries Act 2020, help manage the stock sustainably—we're doing really well in Wales—and to secure long-term resilience for our processors and for coastal communities. We have commissioned an analysis of Welsh fisheries and processors to inform where future support should go.

We're also promoting sustainably sourced Welsh seafood in schools and wider public services, though I know we've got more to do—that's why we're commissioning this. It's supported by the updated healthy eating in schools regulations and guidance, which also tries to direct seafood onto our plates. The Welsh Government provides comprehensive business support under the Food and Drink Wales brand—very important. The Welsh brand is selling our food, both domestically and internationally. I've gone over time, but this is focused on sustainable growth, innovation, skills, market development, and resilience.

On the challenge on how we provide the support, our national food centres, our cluster programmes, deliver the technical expertise on reformulation of products, accreditation, process improvements, capital grants, including the food business accelerator scheme, help to upgrade facilities, and increase capacity. Food and Drink Skills Wales supports the workforce developments through diagnostics and training. I have to say we are the envy of other countries in what we're doing in this, with the right investment really cleverly targeted.

Collectively, these measures are strengthening our domestic capability, and support the missing middle identified within the report. Since the vision for the food and drink industry was published in 2021, the sector has faced unprecedented shocks, and the Food and Drink Wales offer has supported resilience across the supply chain. Some barriers to growth, including infrastructure capacity and planning, can't be addressed by capital funding alone.

Llywydd, you're asking me to wind up. I'm happy to do that. I was going to touch on things such as the offer that we're making through the free school meals and how that supports local supply chains. I was going to touch on the community food strategy and the carbon reduction pilot working with suppliers, but I can't go into detail on that.

Wrth gwrs, ac mae angen inni adeiladu'r buddsoddiad yn y seilwaith a'r hyder a'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud hynny, oherwydd rydych chi'n llygad eich lle, gallwn wneud hyn. Y cwestiwn yw annog pawb i ddweud, 'Gadewch inni wneud hyn', a chynyddu'r agwedd gwydnwch a diogeledd bwyd o gynhyrchu mwy yma.

Rydym yn derbyn yr argymhelliad i nodi ein gwaith i gefnogi diwydiant prosesu bwyd môr Cymru. Mae hyn yn bwysig iawn. Drwy gynllun môr a physgodfeydd Cymru, rydym yn ariannu buddsoddiad ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd môr, gan gynnwys uwchraddio cyfleusterau prosesu. Mae'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd, sy'n gweithio'n dda iawn, o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020, yn helpu i reoli'r stoc yn gynaliadwy—rydym yn gwneud yn dda iawn yng Nghymru—ac i sicrhau gwydnwch hirdymor i'n proseswyr ac i gymunedau arfordirol. Rydym wedi comisiynu dadansoddiad o bysgodfeydd a phroseswyr Cymru i lywio ble dylai'r cymorth fynd yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn hyrwyddo bwyd môr Cymru o ffynonellau cynaliadwy mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ehangach, er y gwn fod mwy gennym i'w wneud—dyna pam ein bod yn comisiynu hyn. Caiff ei gefnogi gan y rheoliadau a'r canllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion sydd wedi'u diweddaru, ac sydd hefyd yn ceisio cael mwy o fwyd môr ar ein platiau. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cymorth busnes cynhwysfawr o dan frand Bwyd a Diod Cymru—pwysig iawn. Mae brand Cymru yn gwerthu ein bwyd, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Mae fy amser ar ben, ond mae hyn yn canolbwyntio ar dwf cynaliadwy, arloesedd, sgiliau, datblygu'r farchnad, a gwydnwch.

O ran yr her ynghylch y ffordd y darparwn y cymorth, mae ein canolfannau bwyd cenedlaethol, ein rhaglenni clwstwr, yn darparu'r arbenigedd technegol ar ailfformiwleiddio cynhyrchion, achredu, gwella prosesau, grantiau cyfalaf, gan gynnwys y cynllun sbarduno busnesau bwyd, cymorth i uwchraddio cyfleusterau, a chynyddu capasiti. Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cefnogi datblygiadau'r gweithlu drwy ddiagnosteg a hyfforddiant. Rhaid imi ddweud bod gwledydd eraill yn genfigennus o'r hyn a wnawn gyda hyn, gan dargedu'r buddsoddiad cywir yn glyfar iawn.

Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn cryfhau ein gallu domestig, ac yn cefnogi'r canol coll a nodwyd yn yr adroddiad. Ers cyhoeddi'r weledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn 2021, mae'r sector wedi wynebu siociau digynsail, ac mae cynnig Bwyd a Diod Cymru wedi cefnogi gwydnwch ar draws y gadwyn gyflenwi. Ni ellir mynd i'r afael â rhai rhwystrau i dwf, gan gynnwys capasiti seilwaith a chynllunio, drwy gyllid cyfalaf yn unig.

Lywydd, rydych chi'n gofyn imi ddirwyn i ben. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Roeddwn yn mynd i sôn am bethau fel y cynnig yr ydym yn ei wneud drwy'r prydau ysgol am ddim a sut y mae hynny'n cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Roeddwn yn mynd i sôn am y strategaeth bwyd cymunedol a'r cynllun peilot lleihau carbon sy'n gweithio gyda chyflenwyr, ond ni allaf fanylu ar hynny.

Felly, gaf i ddweud bod adroddiad y pwyllgor yn dangos cyfleoedd a heriau hefyd? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddiwydiant prosesu bwyd sy'n ffynnu, yn gynaliadwy, ac yn wydn, gan gefnogi busnesau, cynorthwyo cymunedau, a darparu ar gyfer Cymru, heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn. 

Therefore, may I say that the committee's report identifies challenges and opportunities? The Welsh Government continues to be committed to a food processing industry that prospers and is sustainable and resilient, supporting businesses, assisting communities and providing for Wales, today and for future generations. Thank you very much.

16:20

Cadeirydd y pwyllgor nawr i ymateb. Andrew R.T. Davies. 

The Chair of the committee to reply. Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. Can I thank everyone who took part in the debate this afternoon and, in particular, the Cabinet Secretary? I don't think that anyone is not enthused by what we're doing here in Wales with adding value to the food, it's just that there's so much more we could be doing and capturing that value here in Wales. The Cabinet Secretary, in fairness to him, and I in my opening remarks, highlighted the scale of the operation we're talking about. We're not talking about some cottage industry, we're talking about over 200,000 jobs involved in the food processing sector and £7.2 billion-worth of value at the moment. This is a huge opportunity for Wales. Whoever sits at that bench after May I hope will embrace this report and embrace these recommendations.

It was so good to hear Peter, who was a new Member here in 2021 and got pulled out of the ballot for the backbench Bill, and he chose the food sector to be the theme of that Bill. It is such a shame that that Bill never got taken up by the Government and brought forward as a substantial package to enhance the offer that we could do to build more in public procurement, in safeguarding the authenticity of Welsh produce, and giving that drive to public procurement in particular to make sure that we do get that healthy food through the food chain that has the health benefits that Peter touched on.

Llyr touched on public procurement as well and the importance of public procurement, but the one thing we did get back was a bit of pushback from processors, who highlighted how they weren't really that interested in public procurement because it was quite difficult to access and navigate the rounds, and ultimately, very often, it was the lower value product that was going into that public procurement sector. The British meat federation, I think it was, were highlighting how they tend to look more at the—. I was going to say the dearer end, but the added-value end that actually gets the premium cuts, if you like. So, there is a bit of a disconnect between what we would like to see as greater driven public procurement, but ultimately there's maybe a lack of processors who want to take up that mantle.

It was good to hear from Jenny, who is always a strong advocate for the vegetable sector here in Wales, and there is a great opportunity to produce more veg in Wales. I can remember the days when you would go down to St Mellons, for example, and huge amounts of grade A land was turned over to vegetable production. But from the 1980s to the 1990s, there was a huge transit of that production out to Holland because they could do it so much cheaper under glass because of various subsidies and support that was given to the sector at that time. And so there is an opportunity there. The one thing I would be critical of in the Cabinet Secretary's response was that I did offer him the challenge—. He knocked our 75 per cent target, but he never came back. I did notice he had copious amounts, reams, of written notes there. He didn't come back and say what he thought was a manageable and achievable target that a Government might be able to adopt.

I'd like to thank Sam Kurtz for his kind words, in particular about bringing this report to the committee and hopefully developing some strategies that we can take on board. Of course, Sam highlighted the importance of the investment that the Welsh Government have made to date, and in particular when it comes to, obviously, the Pembrokeshire dairy, for example, but yet you still travel the M4 and you see huge amounts of milk travelling up the M4. If you look at any of the tankers that are travelling up there, it is for 'food product only' use, and those tankers are all going to processors in England to be processed, and very often coming back in carton form to Wales. So, there is a huge opportunity and I hope the next Government will take this report on board and ultimately develop a strategy accordingly.

From my point of view, I would just really like to emphasise the importance, as I see it, of the 'Food Harvest 2020' document that the Irish Government brought forward, which really did capture the primary produce from the farmers, the processors and the retailers in one document, because it is that joined-up approach that we need to make to make sure that the whole sector provides to the consumer, who will buy the product, ultimately. If there's one missing link in that chain, then the international market takes its place, and that is something we do not want to happen. We want to see more home-grown food produced here in Wales, processed here in Wales and added value.

I commend this report to the Senedd, and I hope that people will look at it as a blueprint for taking forward greater processing here in Wales.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma ac yn benodol i Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n credu bod pawb yn frwdfrydig ynglŷn â’r hyn a wnawn yma yng Nghymru o ran ychwanegu gwerth at y bwyd, ond mae cymaint yn fwy y gallem ei wneud a sicrhau'r gwerth hwnnw yma yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, er tegwch iddo, a minnau yn fy sylwadau agoriadol, wedi tynnu sylw at faint y gwaith yr ydym yn sôn amdano. Nid ydym yn sôn am ddiwydiant bach, rydym yn sôn am dros 200,000 o swyddi yn y sector prosesu bwyd ac oddeutu £7.2 biliwn o werth ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle enfawr i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n eistedd ar y fainc honno ar ôl mis Mai yn croesawu'r adroddiad hwn ac yn croesawu'r argymhellion hyn.

Roedd mor dda clywed Peter, a oedd yn Aelod newydd yma yn 2021, a thynnwyd ei enw o'r balot ar gyfer y Bil meinciau cefn, a dewisodd y sector bwyd fel thema ar gyfer y Bil hwnnw. Mae'n drueni mawr nad aeth y Llywodraeth i'r afael â'r Bil a'i gyflwyno fel pecyn sylweddol i wella'r cynnig y gallem ei wneud i adeiladu mwy mewn caffael cyhoeddus, i ddiogelu dilysrwydd cynnyrch Cymru, ac i annog caffael cyhoeddus yn arbennig i sicrhau ein bod yn cael y bwyd iach hwnnw drwy'r gadwyn fwyd sydd â'r manteision iechyd y soniodd Peter amdanynt.

Cyfeiriodd Llyr at gaffael cyhoeddus hefyd, a phwysigrwydd caffael cyhoeddus, ond yr un peth a gawsom yn ôl oedd rhywfaint o wrthwynebiad gan broseswyr, a ddywedodd nad oedd diddordeb mawr ganddynt mewn gwirionedd mewn caffael cyhoeddus gan ei bod yn eithaf anodd cael mynediad a llywio'u ffordd drwy'r rowndiau, ac yn y pen draw, yn aml iawn, y cynnyrch gwerth is a oedd yn mynd i mewn i'r sector caffael cyhoeddus hwnnw. Roedd ffederasiwn cig Prydain, rwy'n credu, yn tynnu sylw at sut y maent yn tueddu i edrych mwy ar y—. Roeddwn yn mynd i ddweud y pen drytach, ond y pen gwerth ychwanegol sy'n cael y toriadau gorau, os mynnwch. Felly, mae datgysylltiad rhwng yr hyn yr hoffem ei weld o ran mwy o hybu caffael cyhoeddus, ond yn y pen draw, efallai fod prinder o broseswyr sydd eisiau gwneud hynny.

Roedd yn dda clywed gan Jenny, sydd bob amser yn eiriolwr cryf dros y sector llysiau yma yng Nghymru, ac mae cyfle gwych i gynhyrchu mwy o lysiau yng Nghymru. Gallaf gofio'r dyddiau pan fyddech yn mynd i lawr i Laneirwg, er enghraifft, ac roedd llawer iawn o dir gradd A yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu llysiau. Ond o'r 1980au i'r 1990au, symudodd llawer iawn o'r gwaith cynhyrchu hwnnw i'r Iseldiroedd gan y gallent ei wneud gymaint yn rhatach o dan wydr oherwydd yr amrywiol gymorthdaliadau a chefnogaeth a gâi ei roi i'r sector ar y pryd. Ac felly, mae cyfle yno. Yr un peth y buaswn yn feirniadol ohono yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet oedd fy mod wedi cynnig her iddo—. Beirniadodd ein targed o 75 y cant, ond ni roddodd ateb. Sylwais fod ganddo lawer iawn, llwythi, o nodiadau ysgrifenedig. Ni nododd beth, yn ei farn ef, fyddai'n darged y gellid ei reoli a'i gyflawni ac y gallai Llywodraeth ei fabwysiadu.

Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am ei eiriau caredig, yn enwedig ynglŷn â dod â'r adroddiad hwn i'r pwyllgor a datblygu strategaethau y gallwn eu hystyried, gobeithio. Wrth gwrs, tynnodd Sam sylw at bwysigrwydd y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn enwedig yr hufenfa yn sir Benfro, er enghraifft, ond eto, rydych chi'n dal i deithio ar yr M4 ac rydych chi'n gweld llawer iawn o laeth yn teithio ar hyd yr M4. Os edrychwch ar unrhyw un o'r tanceri sy'n teithio i fyny yno, mae at ddefnydd 'cynnyrch bwyd yn unig', ac mae pob un o'r tanceri hynny'n mynd i broseswyr yn Lloegr i gael eu prosesu, ac yn aml iawn yn dod yn ôl i Gymru ar ffurf carton. Felly, mae cyfle enfawr yma, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn ystyried yr adroddiad hwn ac yn datblygu strategaeth yn unol â hynny yn y pen draw.

O'm safbwynt i, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd dogfen 'Food Harvest 2020' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Iwerddon, a oedd yn rhoi sylw i'r cynnyrch cynradd gan y ffermwyr, y proseswyr a'r manwerthwyr mewn un ddogfen, gan mai'r dull cydgysylltiedig hwnnw sydd ei angen arnom i sicrhau bod y sector cyfan yn darparu ar gyfer y defnyddiwr, a fydd yn prynu'r cynnyrch yn y pen draw. Os oes un ddolen ar goll yn y gadwyn honno, mae'r farchnad ryngwladol yn cymryd ei lle, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am ei weld yn digwydd. Rydym am weld mwy o fwyd yn cael ei dyfu a'i gynhyrchu yma yng Nghymru, ei brosesu yma yng Nghymru, a gwerth yn cael ei ychwanegu.

Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd, ac yn gobeithio y bydd pobl yn ei ystyried yn lasbrint ar gyfer bwrw ymlaen â mwy o brosesu yma yng Nghymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad wedi cael ei nodi. 

The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. Therefore, the committee's report has been noted. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

12. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cronfa Twf Lleol'
12. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'Local Growth Fund'

It's time now for the second bus to come along.

Mae'n bryd i'r ail fws ddod heibio nawr.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig eto, 'Cronfa Twf Lleol'. Y Cadeirydd fydd yn cyflwyno. Andrew R.T. Davies. 

We'll move to the Economy, Trade and Rural Affairs Committee report, 'Local Growth Fund'. I invite the Chair to present the report. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM9201 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Gronfa Twf Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2026.

Motion NDM9201 Andrew Davies

To propose that the Senedd:

Notes the report of the Economy, Trade and Rural Affairs Committee on the Local Growth Fund, which was laid in the Table Office on 23 February 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Hopefully it's not a bendy bus, it's a straight bus. Thank you, Presiding Officer. It's a great pleasure to move this report in my name on the order paper today. This is an unusual committee debate. Normally, we would have looked to hold the debate on the report after the Welsh Government had responded. However, with dissolution fast approaching and given the relatively tight timelines in which the fund has been developed, there was no time to hold this debate following the Welsh Government's response. So, I'm really looking forward to hearing the Cabinet Secretary's response to our report.

When we were gathering evidence for this inquiry, Professor Kevin Morgan told us that Wales was about to celebrate an unwelcome milestone: 100 years of relative economic decline. The professor referred to this as the 'anniversary from hell'. This is a jarring thought. This economic decline is the root of so many of the challenges we face. Presiding Officer, I know the Cabinet Secretary agrees with me that good-quality jobs are the best way to alleviate poverty. As we know, poverty leads to poor health and lower life expectancy, and many other ills in our society. 'Anniversary from hell' really underlines the Welsh Government's underperformance in this sector of the economy, and the negative impact not just on our pockets but also other aspects of people's lives across Wales.

Of course, the local growth fund is not going to turn our economy around on its own, especially as it's so much smaller than the funds that it has replaced, but it's what we need as the key tools to increase economic growth and productivity and tackle economic inequalities, particularly in our most deprived communities. However, we have some serious concerns about the fund structures and the plan for the delivery. This report makes seven recommendations, which, if acted upon, will help correct those problems and support the fund in playing its vital role in supporting the economy and social development in some of our most vulnerable communities.

It is important that we get the best value out of any public investment. However, this approach often leads to economic investment being focused on areas where the economy is already doing well. Deputy Llywydd, the committee believes that the local growth fund must be targeted to those areas where it is most needed to develop those economies and communities. I was pleased to see and hear that the Cabinet Secretary intends for the Welsh index of multiple deprivation and rurality to be considerations in the formula to allocate this to the regions. I look forward to hearing how she will ensure that the four regions spend their allocations where it is most needed.

Moving on to delivery of the fund, we are deeply concerned about the ability of the corporate joint committees to deliver the regional element of the fund. Last year, we undertook a health check on the four city and regional growth deals, another economic development project jointly managed by Welsh and UK Governments. There are four of these deals covering the corporate joint committees. We found woeful inequalities and inadequacies in delivery of these deals. While we found that the Swansea bay deal was ticking over, there were some serious questions to be asked about the delivery of the Cardiff deal, and particularly the north Wales deal. While I do not want to tar all the CJCs with the same brush, it is vital that the local growth fund does not meet the same fate and the worse performance of the growth deals.

Presiding Officer, there are also some areas we anticipate the Welsh Government has less control over, but we are also worried about. We are concerned about the UK Government's role in the fund's economic development part, which is devolved to the Welsh Government. I would like to see both Governments working together for Wales and the relationship bearing fruit. However, the committee believes that the Welsh Government should be primarily accountable to this Chamber, not the UK Government. We expect the memorandum of understanding that is currently being developed by the two Governments to reflect this. We are also very concerned about the capital-revenue split. We heard that it was hard to deliver good-quality capital projects within a three-year timeline. We also heard that the shift to the mainly capital fund will put many skilled jobs currently funded via the shared prosperity fund at risk, and we are concerned about the loss of expertise that would result from these job losses.

Last week, the spring forecast included increased revenue funding for the next Welsh Government to spend. The Industrial Communities Alliance has suggested it should be used to top up the revenue side of the local growth fund. Whilst naturally there will be a variety of calls for this funding, I would be interested to know if there has been any discussion with the Cabinet around using some of this money to this effect. Whilst we understand that the UK Government's role and the capital-revenue split are issues where the Welsh Government isn't the final decision maker, Welsh Ministers must push the UK Government harder on both these issues.

Thank you, Presiding Officer. I look forward to hearing Members' contributions this afternoon, and I particularly look forward to hearing the Cabinet Secretary's response to this report.

Gobeithio nad bws plygu mohono, ond bws syth. Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr cael cynnig yr adroddiad hwn yn fy enw i ar y papur trefn heddiw. Mae hon yn ddadl bwyllgor anarferol. Fel arfer, byddem wedi ceisio cynnal y ddadl ar yr adroddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru ymateb. Fodd bynnag, gyda diddymu'r Senedd yn prysur agosáu ac o ystyried yr amserlenni cymharol dynn y mae'r gronfa wedi'i datblygu ynddynt, nid oedd amser i gynnal y ddadl hon yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad.

Pan oeddem yn casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, dywedodd yr Athro Kevin Morgan wrthym fod Cymru ar fin dathlu carreg filltir annymunol: 100 mlynedd o ddirywiad economaidd cymharol. Cyfeiriodd yr athro at hyn fel pen-blwydd uffernol. Mae'n syniad annifyr. Y dirywiad economaidd hwn sydd wrth wraidd cynifer o'r heriau a wynebwn. Lywydd, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai swyddi o ansawdd da yw'r ffordd orau o leddfu tlodi. Fel y gwyddom, mae tlodi'n arwain at iechyd gwael a disgwyliad oes is, a llawer o broblemau eraill yn ein cymdeithas. Mae pen-blwydd uffernol yn tanlinellu tanberfformiad Llywodraeth Cymru yn y sector hwn o'r economi, a'r effaith negyddol nid yn unig ar ein pocedi ond hefyd ar agweddau eraill ar fywydau pobl ledled Cymru.

Wrth gwrs, nid yw'r gronfa twf lleol yn mynd i achub ein heconomi ar ei phen ei hun, yn enwedig gan ei bod gymaint yn llai na'r cronfeydd y mae wedi cymryd eu lle, ond dyma'r hyn sydd ei angen arnom fel y dulliau gweithredu allweddol i gynyddu twf economaidd a chynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae gennym bryderon difrifol ynghylch strwythurau'r gronfa a'r cynllun ar gyfer cyflawni. Mae'r adroddiad hwn yn gwneud saith argymhelliad, a fydd, os cânt eu gweithredu, yn helpu i unioni'r problemau hynny ac yn cefnogi'r gronfa i chwarae ei rôl allweddol yn cefnogi'r economi a datblygiad cymdeithasol yn rhai o'n cymunedau mwyaf agored i niwed.

Mae'n bwysig ein bod yn cael y gwerth gorau o unrhyw fuddsoddiad cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'r dull hwn o weithredu'n aml yn arwain at ganolbwyntio buddsoddiad economaidd ar ardaloedd lle mae'r economi eisoes yn gwneud yn dda. Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn credu bod yn rhaid targedu'r gronfa twf lleol at yr ardaloedd sydd ei hangen fwyaf i ddatblygu'r economïau a'r cymunedau hynny. Roeddwn yn falch o weld a chlywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu i fynegai amddifadedd lluosog Cymru a natur wledig ardaloedd fod yn ystyriaethau yn y fformiwla ar gyfer dyrannu'r arian hwn i'r rhanbarthau. Edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd hi'n sicrhau bod y pedwar rhanbarth yn gwario eu dyraniadau lle mae angen yr arian fwyaf.

Gan symud ymlaen at ddarpariaeth y gronfa, rydym yn bryderus iawn ynghylch gallu'r cydbwyllgorau corfforedig i gyflawni elfen ranbarthol y gronfa. Y llynedd, fe wnaethom brawf iechyd ar y pedair bargen ddinesig a thwf ranbarthol, prosiect datblygu economaidd arall a reolir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ceir pedair o'r bargeinion hyn i gyd-fynd â'r cydbwyllgorau corfforedig. Gwelsom anghydraddoldebau ac annigonolrwydd difrifol o ran y modd y câi'r bargeinion hyn eu cyflawni. Er inni ganfod bod bargen bae Abertawe yn gweithio, roedd cwestiynau difrifol i'w gofyn ynghylch cyflawniad bargen Caerdydd, a bargen gogledd Cymru yn enwedig. Er nad wyf am baentio'r holl gydbwyllgorau corfforedig gyda'r un brwsh, mae'n hanfodol nad yw'r gronfa twf lleol yn wynebu'r un dynged a pherfformiad gwaeth y bargeinion twf.

Lywydd, mae yna rai meysydd yr ydym yn rhagweld bod gan Lywodraeth Cymru lai o reolaeth drostynt ond yr ydym yn poeni amdanynt. Rydym yn pryderu am rôl Llywodraeth y DU yn y rhan o'r gronfa sy'n ymwneud â datblygu economaidd, mater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Hoffwn weld y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd dros Gymru a'r berthynas yn dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol yn bennaf i'r Siambr hon, nid i Lywodraeth y DU. Rydym yn disgwyl i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan y ddwy Lywodraeth adlewyrchu hyn. Rydym hefyd yn bryderus iawn am y rhaniad cyfalaf-refeniw. Clywsom ei bod yn anodd cyflawni prosiectau cyfalaf o ansawdd da o fewn amserlen o dair blynedd. Clywsom hefyd y bydd y newid i gronfa gyfalaf yn bennaf yn peryglu llawer o swyddi crefftus a ariennir ar hyn o bryd drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac rydym yn pryderu am golli arbenigedd yn sgil colli'r swyddi hyn.

Yr wythnos diwethaf, roedd rhagolwg y gwanwyn yn cynnwys mwy o gyllid refeniw i Lywodraeth nesaf Cymru ei wario. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi awgrymu y dylid ei ddefnyddio i ychwanegu at ochr refeniw'r gronfa twf lleol. Er y bydd amrywiaeth o alwadau am y cyllid hwn, yn naturiol, hoffwn wybod a gafwyd unrhyw drafodaeth gyda'r Cabinet ynghylch defnyddio peth o'r arian i'r perwyl hwn. Er ein bod yn deall nad Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch rôl Llywodraeth y DU a'r rhaniad cyfalaf-refeniw, rhaid i Weinidogion Cymru wthio Llywodraeth y DU yn galetach ar y ddau fater.

Diolch, Lywydd. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen yn arbennig at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r adroddiad hwn.

16:25

Of course, as we always do, I'd like to thank the Chair for his work in chairing those meetings, fellow committee members and those who gave evidence, and of course the clerks for bringing this all together.

I think the first thing to say is that the evidence the committee received during this inquiry was highly critical of the local growth fund itself and the parameters for its delivery, and those criticisms were entirely fair. Many contributors told us that the programme we now see bears little resemblance to the ambitions that were originally discussed, and that this programme has been set up to fail. I think it's hard to disagree with that conclusion when you take into account the time frame for delivery, which is frankly laughable given the objectives of this fund. Now, it goes without saying—and the Chair referred to it in his contribution—that the issue that dominated the committee's discussions was the proposed capital-revenue split. The committee heard strong warnings that reversing that balance risks undermining the delivery capacity that has slowly been rebuilt over recent years. After more than a decade of austerity, many local authorities and partner organisations had already seen their economic development capacity significantly reduced. The shared prosperity fund allowed some of that capacity to return, because revenue funding enabled organisations, then, to recruit people with the skills needed to design and deliver those programmes.

The concern now is that that sharp shift toward capital is already triggering redundancies, and along with the jobs themselves, that experience, networks and institutional memory will also then disappear. That loss of capacity is particularly troubling because all economic development programmes, regardless of how they are designed nationally, are ultimately delivered locally. The people who understand their communities, their local economies and the barriers faced by businesses and workers are the people responsible for making these programmes function in practice. Without that local expertise, even well-funded programmes will struggle to deliver meaningful results. The committee therefore emphasised that retaining those skills and that knowledge must be a central priority as a new programme is implemented. Recommendation 3 is particularly important here, and must be carried out by Government. Funding programmes do not deliver outcomes on their own—people do. The bottom line is that we cannot afford to lose the knowledge, skills and institutional capacity needed to deliver gains on the ground.

There was also significant scepticism about whether you could actually get transformative capital projects and whether they could actually be delivered within that three-year time frame currently proposed within the programme, and, of course, again, the Chair referred to that in his opening. Major capital schemes—and I don't think I need to tell people in this Chamber—require time for planning, they require time for design, consultation, procurement and construction. There's a clear debate, by the way, to have on that process itself, but attempting to compress those processes into such a short period of time creates a significant risk that the programme, then, will either under-deliver or default to smaller projects that are easier to complete quickly but are less transformative in the long term.

That concern is then compounded by the fact that equivalent funding arrangements elsewhere in the UK operate over longer capital horizons. In England, combined authorities are working with a four-year time frame. By the way, there was no explanation as to why that had been offered to England and why there was a discrepancy between Wales and England. I think we need to get that clarity as soon as possible.

I will finish by saying that, ultimately, the central question being raised here is whether the local growth fund as currently designed is capable of delivering the kind of economic change that communities across Wales need. Now, I don't think anyone is expecting one fund to do anything in isolation, but what we see here is symptomatic of the kind of short-termism that has come to characterise regional economic development in Wales. Frankly, that style of thinking has been a blight on us and doesn't come anywhere near to meeting the scale of the challenges in front of us.

I think the challenge for this Welsh Government and the next Welsh Government is to demonstrate how the big concerns will be addressed, how the fund will be integrated with wider economic development efforts and how the capacity needed to deliver it will be protected. So, some clarity from the Cabinet Secretary on some of these points in her response would be very welcome.

Wrth gwrs, fel rydym yn ei wneud bob amser, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei waith yn cadeirio'r cyfarfodydd hynny, i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth, ac wrth gwrs, i'r clercod am ddod â hyn oll ynghyd.

Credaf mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw bod y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn yr ymchwiliad yn feirniadol iawn o'r gronfa twf lleol ei hun a'r paramedrau ar gyfer ei chyflwyno, ac roedd y feirniadaeth honno'n gwbl deg. Dywedodd llawer o gyfranwyr wrthym nad oes llawer o debygrwydd rhwng y rhaglen a welwn nawr a'r uchelgeisiau a drafodwyd yn wreiddiol, a bod y rhaglen hon wedi'i sefydlu i fethu. Credaf ei bod yn anodd anghytuno â'r casgliad hwnnw pan ystyriwch yr amserlen ar gyfer cyflwyno, sy'n chwerthinllyd a dweud y gwir, o ystyried amcanion y gronfa hon. Nawr, afraid dweud—a chyfeiriodd y Cadeirydd at hyn yn ei gyfraniad—mai'r mater a ddominyddodd drafodaethau'r pwyllgor oedd y rhaniad cyfalaf-refeniw arfaethedig. Clywodd y pwyllgor rybuddion cryf fod gwrthdroi'r cydbwysedd hwnnw'n creu perygl o danseilio'r capasiti cyflawni sydd wedi'i ailadeiladu'n araf dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl mwy na degawd o gyni, roedd capasiti datblygu economaidd llawer o awdurdodau lleol a sefydliadau partner eisoes wedi lleihau'n sylweddol. Caniataodd y gronfa ffyniant gyffredin i rywfaint o'r capasiti hwnnw ddychwelyd, gan fod cyllid refeniw wedi galluogi sefydliadau, wedyn, i recriwtio pobl â'r sgiliau sydd eu hangen i lunio a chyflwyno'r rhaglenni hynny.

Y pryder nawr yw bod y symudiad sydyn tuag at gyfalaf eisoes yn achosi diswyddiadau, ac ynghyd â'r swyddi eu hunain, y bydd y profiad, rhwydweithiau a chof sefydliadol hefyd yn diflannu. Mae colli'r capasiti hwnnw'n peri pryder arbennig gan fod pob rhaglen ddatblygu economaidd, ni waeth sut y cânt eu cynllunio'n genedlaethol, yn cael eu cyflwyno'n lleol yn y pen draw. Y bobl sy'n deall eu cymunedau, eu heconomïau lleol a'r rhwystrau y mae busnesau a gweithwyr yn eu hwynebu yw'r bobl sy'n gyfrifol am wneud i'r rhaglenni hyn weithredu'n ymarferol. Heb yr arbenigedd lleol hwnnw, bydd hyd yn oed rhaglenni sydd wedi'u hariannu'n dda yn ei chael hi'n anodd cyflawni canlyniadau ystyrlon. Felly, pwysleisiodd y pwyllgor fod yn rhaid i gadw'r sgiliau hynny a'r wybodaeth honno fod yn flaenoriaeth ganolog wrth i raglen newydd gael ei gweithredu. Mae argymhelliad 3 yn arbennig o bwysig yma, ac mae’n rhaid i'r Llywodraeth ei gyflawni. Nid yw rhaglenni ariannu'n cyflawni canlyniadau ar eu pen eu hunain—pobl sy'n eu cyflawni. Y gwir amdani yw na allwn fforddio colli'r wybodaeth, y sgiliau a'r capasiti sefydliadol sydd eu hangen i gyflawni enillion ar lawr gwlad.

Roedd amheuaeth sylweddol hefyd a allech chi gael prosiectau cyfalaf gwirioneddol drawsnewidiol ac a ellid eu cyflawni o fewn yr amserlen o dair blynedd a gynigir ar hyn o bryd yn y rhaglen, ac wrth gwrs, unwaith eto, cyfeiriodd y Cadeirydd at hynny yn ei sylwadau agoriadol. Mae cynlluniau cyfalaf mawr—ac nid wyf yn credu bod angen imi ddweud wrth bobl yn y Siambr hon—angen amser ar gyfer cynllunio, maent angen amser ar gyfer llunio, ymgynghori, caffael ac adeiladu. Mae dadl glir i'w chael, gyda llaw, ynghylch y broses honno ei hun, ond mae ceisio cywasgu'r prosesau hynny i gyfnod mor fyr yn creu risg sylweddol y bydd y rhaglen, wedyn, naill ai'n tangyflawni neu'n mynd yn brosiectau llai sy'n haws eu cwblhau'n gyflym ond sy'n llai trawsnewidiol yn y tymor hir.

Mae'r pryder hwnnw wedyn yn cael ei waethygu gan y ffaith bod trefniadau ariannu cyfatebol mewn mannau eraill yn y DU yn gweithredu dros orwelion cyfalaf hwy. Yn Lloegr, mae awdurdodau cyfun yn gweithio gydag amserlen o bedair blynedd. Gyda llaw, ni chafwyd unrhyw esboniad pam y cynigiwyd hynny i Loegr a pham fod anghysondeb rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n credu bod angen inni gael yr eglurder hwnnw cyn gynted â phosib.

Rwyf am gloi drwy ddweud, yn y pen draw, mai'r cwestiwn canolog sy'n cael ei godi yma yw a yw'r gronfa twf lleol fel y'i cynlluniwyd ar hyn o bryd yn gallu cyflawni'r math o newid economaidd sydd ei angen ar gymunedau ledled Cymru. Nawr, ni chredaf fod unrhyw un yn disgwyl i un gronfa wneud unrhyw beth ar ei phen ei hun, ond mae'r hyn a welwn yma yn symptomatig o'r math o feddwl tymor byr sydd wedi nodweddu datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru. A dweud y gwir, mae meddwl o'r fath wedi bod yn bla arnom, ac nid yw'n dod yn agos at fynd i'r afael â maint yr heriau sy'n ein hwynebu.

Rwy'n credu mai'r her i'r Llywodraeth hon yng Nghymru a'r Llywodraeth nesaf yng Nghymru yw dangos sut y caiff y pryderon mawr eu datrys, sut y caiff y gronfa ei hintegreiddio ag ymdrechion datblygu economaidd ehangach a sut y bydd y capasiti sydd ei angen i'w chyflwyno'n cael ei ddiogelu. Felly, byddai rhywfaint o eglurder gan Ysgrifennydd y Cabinet ar rai o'r pwyntiau hyn yn ei hymateb i'w croesawu'n fawr.

16:30

I think one of the biggest concerns I have on this is the lack of any policy by the UK Government to target money on the areas with the least opportunity to attract capital money from the private sector without that incentive. We were very grateful to the Industrial Communities Alliance for pointing this out, and I think that that is something that is seriously lacking. It's easy enough to deliver growth in areas that are already thriving, such as Cardiff or Newport, because success builds success, but one of the things that we were looking at when we were discussing the growth programmes in the Cardiff capital fund and the other growth funds was the lack of attention to bringing up those communities that are the poorest in Wales, and there doesn't seem to be any strategy on that. For example, the Pride in Place funding, which was top-sliced from the money that was left from the local growth fund, is only going to be awarded to one area in a local authority, and it means all the other areas get stuffed. They get nothing out of this. And it feels like a very, very brutal way of doing things and not at all the collaborative approach that I think we've always taken in Wales.

I think that because it's so capital heavy, one of the things we might be able to do is improve our energy resilience with things like heat networks, because so much of the money's got to be spent on capital. We clearly still have a lot of work to do. We have a lot of renewable energy that we have produced, but we're sending it all back to the grid and then we have to pay for it at a cost of what the wholesale price of gas is. And that doesn't seem to me to be a resilient, sustainable way of doing things. We have to capture the heat that we're already generating, as with the steel reprocessing plant down the road, and put it back into the community for use by the community. That means we're going to need a lot more community-owned facilities that will obviously be targeted on those communities. But we're allowed to do that under the current regulations, and that might be one way of making those communities more resilient. Because at the moment, we know that far too many people are suffering to try and keep themselves warm during the winter months, and who knows what's going to happen next winter. I'm sure we're all concerned about that.

So, I think that there are always going to be opportunities here and we need to seize them, but at the end of the day, we have to bear in mind that this is half of what we used to get from the shared prosperity fund, and therefore we need to be very mindful that we spend it wisely.

I have to say—I will once again say—that you can spend very small sums of money very cost-effectively. So, a mere £70,000 from the shared prosperity fund was dedicated in Blaenau Gwent to a breastfeeding programme, and it got two thirds of all mothers breastfeeding within a very short amount of time. Seventy thousand pounds is nothing in terms of public spending; it's a huge amount in terms of individual households. But that's the sort of strategic thinking that we're going to need, now that we have less money, in order to try and target our most deprived communities to ensure that they're not just having to come into Cardiff and Newport to get work if they're in south-east Wales, but that we are spreading the wealth across all our communities.

Rwy'n credu mai un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf ar hyn yw diffyg unrhyw bolisi gan Lywodraeth y DU i dargedu arian at yr ardaloedd sydd â'r cyfle lleiaf i ddenu arian cyfalaf o'r sector preifat heb y cymhelliant hwnnw. Roeddem yn ddiolchgar iawn i Gynghrair y Cymunedau Diwydiannol am dynnu sylw at hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n ddiffygiol iawn. Mae'n ddigon hawdd cyflawni twf mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu, fel Caerdydd neu Gasnewydd, oherwydd mae llwyddiant yn adeiladu llwyddiant, ond un o'r pethau yr edrychem arnynt pan oeddem yn trafod y rhaglenni twf yng nghronfa gyfalaf Caerdydd a'r cronfeydd twf eraill oedd y diffyg sylw i godi'r cymunedau tlotaf yng Nghymru, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw strategaeth ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae'r cyllid Balchder Bro, a gafodd ei dorri o'r arian a oedd ar ôl o'r gronfa twf lleol, yn mynd i gael ei ddyfarnu i un ardal mewn awdurdod lleol yn unig, ac mae'n golygu bod yr holl ardaloedd eraill yn mynd hebddo. Ni chânt unrhyw beth o ganlyniad i hyn. Ac mae'n teimlo fel ffordd greulon iawn o wneud pethau ac nid y dull cydweithredol y credaf ein bod bob amser wedi'i fabwysiadu yng Nghymru.

Oherwydd ei fod mor drwm ar gyfalaf, rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwn ei wneud yw gwella ein gwydnwch ynni gyda phethau fel rhwydweithiau gwres, am fod yn rhaid gwario cymaint o'r arian ar gyfalaf. Mae'n amlwg fod gennym lawer o waith i'w wneud o hyd. Mae gennym lawer o ynni adnewyddadwy wedi'i gynhyrchu, ond rydym yn anfon y cyfan yn ôl i'r grid ac yna mae'n rhaid inni dalu amdano yn ôl pris cyfanwerthol nwy. Ac nid yw hynny'n ymddangos i mi'n ffordd wydn, gynaliadwy o wneud pethau. Rhaid inni ddal y gwres yr ydym eisoes yn ei gynhyrchu, fel gyda'r gwaith ailbrosesu dur i lawr y ffordd, a'i roi'n ôl i'r gymuned i'w ddefnyddio gan y gymuned. Mae hynny'n golygu y bydd angen llawer mwy o gyfleusterau sy'n eiddo i'r gymuned a fydd yn amlwg yn cael eu targedu at y cymunedau hynny. Ond cawn ganiatâd i wneud hynny o dan y rheoliadau presennol, a gallai hynny fod yn un ffordd o wneud y cymunedau hynny'n fwy gwydn. Oherwydd ar hyn o bryd, fe wyddom fod llawer gormod o bobl yn dioddef i geisio cadw eu hunain yn gynnes yn ystod misoedd y gaeaf, a phwy a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd y gaeaf nesaf. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn poeni am hynny.

Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd yma bob amser ac mae angen inni fanteisio arnynt, ond yn y pen draw, rhaid inni gofio mai hanner yr hyn yr arferem ei gael o'r gronfa ffyniant gyffredin yw hyn, ac felly mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ein bod yn ei wario'n ddoeth.

Rhaid i mi ddweud—rwy'n mynd i ddweud unwaith eto—y gallwch wario symiau bach iawn o arian yn gosteffeithiol iawn. Felly, dim ond £70,000 o'r gronfa ffyniant gyffredin a neilltuwyd ym Mlaenau Gwent i raglen bwydo ar y fron, a sicrhaodd fod dwy ran o dair o'r holl famau'n bwydo ar y fron o fewn cyfnod byr iawn. Nid yw £70,000 yn ddim byd o ran gwariant cyhoeddus; mae'n swm enfawr o ran aelwydydd unigol. Ond dyna'r math o feddwl strategol y bydd ei angen arnom, gan fod gennym lai o arian bellach, i geisio targedu ein cymunedau mwyaf difreintiedig i sicrhau eu bod nid yn unig yn gorfod dod i mewn i Gaerdydd a Chasnewydd i gael gwaith os ydynt yn ne-ddwyrain Cymru, ond ein bod ni'n lledaenu'r cyfoeth ar draws ein holl gymunedau.

16:35

Do you agree that we used to have that sort of funding under the European—

A ydych chi'n cytuno bod gennym y math hwnnw o gyllid yn arfer bod o dan y cronfeydd Ewropeaidd—

Yes, we did. And we also had the assisted areas funding. And I think the UK Government—and possibly the Welsh Government if it has the capacity—needs to start rethinking how we're going to spread the prosperity of our country across all our communities.

Oedd. Ac roedd gennym y cyllid ardaloedd a gynorthwyir. Ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU—ac o bosib Llywodraeth Cymru os oes ganddi'r capasiti—ddechrau ailfeddwl sut y gwnawn ledaenu ffyniant ein gwlad ar draws ein holl gymunedau.

I would like to put on record my thanks—as Luke Fletcher has done, as another member of the committee—to the Chair, the clerking team and all those who gave evidence. And I think, in conclusion, and I'll quote from the report here, Llywydd:

'We are disappointed with the large reduction in funding received by Wales though the LGF compared to the previous economic development schemes as this means there will be less money to invest in, and support, our most vulnerable communities.'

And I think that says it all, really, as to the situation that we find ourselves in with the local growth fund. And I think Luke is absolutely right, the evidence that we had as a committee was hugely critical of this scheme. It's as if nothing has been learned through the SPF funding, which was a quantum more of funding than the LGF is. No lessons have been learned at all. That split between capital and revenue is already putting pressure on local authorities, losing that expertise. And that expertise is leaving Wales. It's not just moving around within Wales and going into the private sector, away from the public sector or wherever it might be, it's actually leaving Wales, and we are losing that expertise in delivering some of these legitimate and needed projects to transform areas that require real transformation, because of long-term levels of poverty and inequality. I think that's something that really is—. And I'd welcome the Cabinet Secretary's view on this, as to how, under this scheme, under the way that it's played out, she envisages those challenges being approached and those hurdles being overcome, given the evidence and the strength of the evidence that was received in this committee, which thinks that it can't be done. So, I'd welcome the Cabinet Secretary's view on that.

And to come to a point as well that's mentioned in the Chair's foreword in the report, and we discussed in committee in the private sessions—this idea of Treasury orthodoxy when it comes to spending a pound of the taxpayers' money. We see this in England, with the UK, with His Majesty's Treasury, and we see this in Wales as well. There's this anticipation and want and desire to spend a pound in an area where you're always going to get a quicker and a greater return on that investment, rather than what offers a greater socioeconomic impact, and I think that orthodoxy needs to be challenged. We see a whole host of investments always going into the south-east of England. We see a host of investments here in Wales always going into the Cardiff area. That's great for those areas, but for the constituents that I represent in those communities that come up in the Welsh poverty index, that really says nothing to them that they're feeling seen and needed, and their needs are being addressed under the current system. So, I think that's something that we all can do—push forward on that challenge to the Treasury orthodoxy as to how the value of that pound is spent and that return on it.

I think this committee has done a lot of good work over the five years. This is a really good piece, considering that we looked at the SPF funding model, when that came forward, and now we're looking at this. But it's as if it just sat on a shelf and collected dust, and that's something that I found really frustrating in my time here, this good work that is done by a committee, the time taken to collect evidence, to come forward with recommendations on a cross-party basis. And I know that this design has come from a UK Government, so they may not be reading what we come up with in our ETRA committee, but still, that good knowledge that was collected under the SPF inquiry that we did should've fed into what the future local growth fund looked like. But sadly, it hasn't, and that's why that conclusion that I opened with is so damning. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Hoffwn gofnodi fy niolch—fel y gwnaeth Luke Fletcher, fel aelod arall o'r pwyllgor—i'r Cadeirydd, y tîm clercio a phawb a roddodd dystiolaeth. Ac rwy'n meddwl, i gloi, a dyfynnaf o'r adroddiad yma, Lywydd:

'Rydym yn siomedig gyda’r gostyngiad mawr yn y cyllid y bydd Cymru yn ei gael drwy’r Gronfa Twf Lleol o’i gymharu â’r cynlluniau datblygu economaidd blaenorol gan fod hyn yn golygu y bydd llai o arian i gefnogi a buddsoddi yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.'

Ac rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan mewn gwirionedd ynglŷn â'r sefyllfa rydym ynddi gyda'r gronfa twf lleol. Ac rwy'n credu bod Luke yn hollol gywir, roedd y dystiolaeth a gawsom fel pwyllgor yn hynod feirniadol o'r cynllun hwn. Mae fel pe na bai unrhyw beth wedi'i ddysgu drwy gyllid y gronfa ffyniant gyffredin, a oedd yn swm mwy o gyllid na'r gronfa twf lleol. Nid oes unrhyw wersi wedi'u dysgu o gwbl. Mae'r rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw eisoes yn rhoi pwysau ar awdurdodau lleol, gan golli'r arbenigedd hwnnw. Ac mae'r arbenigedd yn gadael Cymru. Nid symud o gwmpas yng Nghymru yn unig a mynd i'r sector preifat, i ffwrdd o'r sector cyhoeddus neu ble bynnag, mae'n gadael Cymru, ac rydym yn colli'r arbenigedd hwnnw ar gyfer cyflawni rhai o'r prosiectau dilys ac angenrheidiol hyn i drawsnewid ardaloedd sydd angen gweld newid go iawn yn sgil lefelau hirdymor o dlodi ac anghydraddoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n wirioneddol—. A hoffwn glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, a sut y mae hi'n rhagweld, o dan y cynllun hwn, yr eir i'r afael â'r heriau a sut y caiff y rhwystrau eu goresgyn, o ystyried y dystiolaeth a chryfder y dystiolaeth a gafwyd yn y pwyllgor hwn, sy'n credu na ellir ei wneud. Felly, hoffwn glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny.

Ac i ddod at bwynt hefyd sy'n cael ei grybwyll yn rhagair y Cadeirydd yn yr adroddiad, ac fe wnaethom drafod yn y pwyllgor yn y sesiynau preifat—y syniad o uniongrededd y Trysorlys pan ddaw i wario punt o arian y trethdalwyr. Gwelwn hyn yn Lloegr, gyda'r DU, gyda Thrysorlys Ei Fawrhydi, ac rydym yn ei weld yng Nghymru hefyd. Mae yna ddisgwyliad ac awydd i wario punt mewn maes lle rydych chi bob amser yn mynd i gael enillion cyflymach a mwy ar y buddsoddiad hwnnw, yn hytrach na'r hyn sy'n cynnig mwy o effaith economaidd-gymdeithasol, ac rwy'n credu bod angen herio uniongrededd o'r fath. Rydym yn gweld llu o fuddsoddiadau bob amser yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr. Rydym yn gweld llu o fuddsoddiadau yma yng Nghymru bob amser yn mynd i ardal Caerdydd. Mae hynny'n wych i'r ardaloedd hynny, ond i'r etholwyr a gynrychiolir gennyf i yn y cymunedau sy'n ymddangos ym mynegai tlodi Cymru, nid yw hynny'n dweud dim wrthynt hwy eu bod yn teimlo'u bod yn cael eu gweld a bod eu hangen, ac yr eir i'r afael â'u hanghenion yn y system bresennol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud—gwthio ymlaen ar yr her i uniongrededd y Trysorlys ynghylch gwerth y ffordd y caiff y bunt honno ei gwario a'r enillion arni.

Rwy'n credu bod y pwyllgor hwn wedi gwneud llawer o waith da dros y pum mlynedd. Mae hwn yn waith da iawn, o ystyried ein bod wedi edrych ar fodel cyllido'r gronfa ffyniant gyffredin, pan gafodd honno ei chyflwyno, a nawr rydym yn edrych ar hyn. Ond mae fel pe bai wedi gorwedd ar silff yn hel llwch, ac mae hynny'n rhywbeth yr oeddwn i'n ei ystyried yn rhwystredig iawn yn fy amser yma, y gwaith da sy'n cael ei wneud gan bwyllgor, yr amser a gymerir i gasglu tystiolaeth, i gyflwyno argymhellion ar sail drawsbleidiol. Ac rwy'n gwybod bod y cynllun hwn wedi dod gan Lywodraeth y DU, felly efallai nad ydynt yn darllen yr hyn a gesglir gennym yn ein Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, ond er hynny, dylai'r wybodaeth dda a gasglwyd yn sgil yr ymchwiliad a wnaethom i'r gronfa ffyniant gyffredin fod wedi bwydo i mewn i sut olwg a fyddai ar y gronfa twf lleol yn y dyfodol. Ond yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, a dyna pam y mae'r casgliad yr agorais gydag ef mor ddamniol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer took the Chair.

16:40

I'd like to reiterate what Samuel Kurtz has just said, and to thank the committee for this very important report. It'd be a real shame if it does just gather dust. Because it's incredible how you've delivered this in such a short time frame—and I congratulate the clerks of the committee for that too, to be able to turn this around—with very clear recommendations and concerns, which need to be more widely understood, in my view. Because, Dirprwy Lywydd, last month, YouGov ran a poll, which they say showed widespread public confusion when it came to the responsibilities of this place and of the Welsh Government. One question found that less than half of the public correctly identified the Welsh Government as being responsible for economic development. However, in this case, I don't think the 30 per cent who incorrectly answered 'Westminster' to this question were just simply misinformed, because it is complicated.

As this report, and many other issues, have shown, Westminster retains huge power over economic development, and we saw that alluded to in First Minister's questions yesterday. The committee report describes an unacceptable level of control that Westminster retains over the local growth fund. As a result of Westminster's control over the capital and revenue spending of the local growth fund, we are already seeing people being served with redundancy notices, the beginning of what has been warned will be hundreds of job losses. This is so that more money can be put into capital investment, even though multiple stakeholders warn that there simply isn't the time frame to plan and deliver capital investment projects. This is impacting ordinary people. This cannot be called 'economic development' when people are losing their jobs because of it, nor is it a result of decisions and responsibilities of this place and of the Welsh Government. It is economic chaos delivered by Westminster. No wonder many people living here don't think economic development is the Senedd's responsibility. It is clear that Westminster doesn't think it's the Senedd's responsibility either. If we are to see change, this is a story that needs to be communicated beyond this Siambr.

I thank the committee for the recommendations to the Welsh Government, and I agree with their bleak assessment that UK Government does not intend to change any of their decisions, regardless of what this place might tell them. This is a story that should therefore be conveyed as much as possible to the people of Wales, so that they understand more of what stands between them and prosperity.

Dirprwy Lywydd, the European structural investment funds that all of these Westminster projects are meant to replace identified two areas of the UK that they considered least developed, where the gross domestic product per head was less than 75 per cent of the EU average. One was Cornwall and the rest was the majority of Wales. As a result, their average funding per person per year in the UK was £31, but in Wales it was £123. For comparison with countries we believe we are equal to in the European Union, not one country, such as France, Germany, Belgium, Denmark and the Netherlands, had that level of deprivation. The majority of Wales was considered to be on this low level of development, not seen anywhere else across north-west Europe.

This is the level we are seeing here in Wales. The EU is still investing in the most underdeveloped areas still within the EU. Having left the EU, Wales is left with far, far less development funding overall, and that is a fact. That funding now has multiple purposes and limits, as defined by Westminster. Functionally, that means that our most deprived areas will be getting relatively more deprived and face more inequality year on year, compared to the most deprived areas of the European Union, which are still being funded by European structural funds. This is also an issue on which, if Westminster will not listen to Welsh Government's problems, we need to ensure that the people of Wales fully understand the position they have been put in, and who has put them in that position.

Dirprwy Lywydd, I'll finish with this. I thank the committee for their report, and I hope that everyone who has read the report and everyone who has contributed to the report are also committed to sharing that insight, the insight it offers, as far as possible beyond this place, to best decide where Wales goes from now on. Diolch yn fawr.

Hoffwn ailadrodd yr hyn y mae Samuel Kurtz newydd ei ddweud, a diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig hwn. Byddai'n drueni mawr pe bai'n gwneud dim mwy na hel llwch. Oherwydd mae'n anhygoel sut rydych chi wedi cyflawni hyn mewn cyfnod mor fyr—ac rwy'n llongyfarch clercod y pwyllgor am hynny hefyd, am allu cyflawni hyn—gydag argymhellion a phryderon clir iawn y mae angen eu deall yn ehangach yn fy marn i. Oherwydd, Ddirprwy Lywydd, fis diwethaf, cynhaliodd YouGov arolwg a ddangosodd y dryswch eang ymhlith y cyhoedd ynghylch cyfrifoldebau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru. Canfu un cwestiwn fod llai na hanner y cyhoedd wedi nodi'n gywir mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd. Ond yn yr achos hwn, nid wyf yn credu mai camwybodaeth syml oedd yn gyfrifol am y ffaith bod 30 y cant wedi ateb 'San Steffan' i'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'n gymhleth.

Fel y dangosodd yr adroddiad hwn, a llawer o bethau eraill, mae San Steffan yn cadw grym enfawr dros ddatblygu economaidd, a gwelsom gyfeirio at hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn disgrifio lefel annerbyniol o reolaeth y mae San Steffan yn ei gadw dros y gronfa twf lleol. O ganlyniad i reolaeth San Steffan dros wariant cyfalaf a refeniw'r gronfa twf leol, rydym eisoes yn gweld pobl yn cael hysbysiadau diswyddo, dechrau'r hyn y rhybuddiwyd y bydd yn arwain at golli cannoedd o swyddi. Gwneir hyn er mwyn rhoi mwy o arian i mewn i fuddsoddiad cyfalaf, er bod rhanddeiliaid lluosog yn rhybuddio nad oes amser i gynllunio a chyflawni prosiectau buddsoddiad cyfalaf. Mae hyn yn effeithio ar bobl gyffredin. Ni ellir galw hyn yn 'ddatblygiad economaidd' pan fo pobl yn colli eu swyddi o'i herwydd, ac nid yw'n ganlyniad i benderfyniadau a chyfrifoldebau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru. Mae'n anhrefn economaidd dan law San Steffan. Nid yw'n syndod fod llawer o'r bobl sy'n byw yma'n meddwl nad cyfrifoldeb y Senedd yw datblygu economaidd. Mae'n amlwg nad yw San Steffan yn credu mai cyfrifoldeb y Senedd ydyw chwaith. Os ydym am weld newid, mae hon yn stori sydd angen ei chyfathrebu y tu hwnt i'r Siambr.

Diolch i'r pwyllgor am yr argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n cytuno â'u hasesiad llwm nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid unrhyw un o'u penderfyniadau, beth bynnag y gallai'r lle hwn ei ddweud wrthynt. Mae hon yn stori y dylid ei chyfleu cymaint â phosib i bobl Cymru felly, fel eu bod yn deall mwy o'r hyn sy'n sefyll rhyngddynt a ffyniant.

Ddirprwy Lywydd, nododd y cronfeydd buddsoddi strwythurol Ewropeaidd, y bwriedir i bob un o'r prosiectau San Steffan hyn gymryd eu lle, ddwy ardal o'r DU yr oeddent yn eu hystyried yn lleiaf datblygedig, lle roedd cynnyrch domestig gros y pen yn llai na 75 y cant o gyfartaledd yr UE. Un oedd Cernyw a'r gweddill oedd y rhan fwyaf o Gymru. O ganlyniad, eu cyllid cyfartalog y pen y flwyddyn yn y DU oedd £31, ond yng Nghymru roedd yn £123. O gymharu â gwledydd y credwn ein bod yn gyfartal â nhw yn yr Undeb Ewropeaidd, nid oedd gan un wlad, fel Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg, Denmarc a'r Iseldiroedd, y lefel honno o amddifadedd. Ystyrid bod y rhan fwyaf o Gymru ar y lefel isel hon o ddatblygiad, nad oedd i'w gweld yn unman arall ar draws gogledd-orllewin Ewrop.

Dyma'r lefel a welwn yma yng Nghymru. Mae'r UE yn dal i fuddsoddi yn yr ardaloedd mwyaf tanddatblygedig yn yr UE. Ar ôl gadael yr UE, mae Cymru'n cael lawer llai o gyllid datblygu yn gyffredinol, ac mae hynny'n ffaith. Mae sawl diben a chyfyngiad ynghlwm wrth y cyllid hwnnw bellach, fel y'u diffinnir gan San Steffan. Yn weithredol, mae hynny'n golygu y bydd ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn mynd yn gymharol fwy difreintiedig ac yn wynebu mwy o anghydraddoldeb flwyddyn ar ôl blwyddyn, o'i gymharu ag ardaloedd mwyaf difreintiedig yr Undeb Ewropeaidd, sy'n dal i gael eu hariannu gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae'n fater lle mae angen inni sicrhau bod pobl Cymru yn deall yn llawn y sefyllfa y maent wedi cael eu rhoi ynddi, a phwy sydd wedi eu rhoi yn y sefyllfa honno.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn. Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad, ac rwy'n gobeithio bod pawb sydd wedi darllen yr adroddiad a phawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hefyd wedi ymrwymo i rannu'r mewnwelediad y mae'n ei gynnig cyn belled â phosib y tu hwnt i'r lle hwn, i benderfynu yn y ffordd orau i ble mae Cymru'n mynd o hyn ymlaen. Diolch yn fawr.

16:45

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans. 

And I call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans. 

Diolch. I welcome this opportunity to respond to the committee's report on the local growth fund, and I really want to thank the committee for its work and Members for their contributions on this today. I will, of course, be issuing a formal response to the committee's recommendations very shortly.

What I've heard today during the debate and also during the statement that I provided to the Senedd here two weeks ago wasn't actually a criticism of the Welsh Government's choices that we've made in this space. So, what I haven't heard is a criticism of the priority that we've put on addressing productivity and increasing productivity and also trying to address economic inequality. I think, actually, there's broad consensus that that is the right thing to do.

I also haven't seen criticism of the fact that we've looked at the funding formula, and we're putting the majority of that towards the Welsh index of multiple deprivation, whilst also recognising productivity issues and disparities across Wales and also rurality. Similarly, I haven't heard any complaints about the flexibilities that we've put in place to try and help local government manage the transition between the two funding schemes, or the fact that we've consulted widely. Actually, we were the only part of the UK that undertook a public consultation in the way that we did to understand the views of partners and of communities.

Whilst I absolutely share the concerns that colleagues have raised very powerfully this afternoon, through the report and also in my statement a couple of weeks ago, those decisions around the capital-revenue split, the lack of that longer-term vision and outlook for the funding, actually, those are concerns that, as a Welsh Government, we absolutely recognise and that we continue to press the UK Government on.

What I will say is that it's really welcome that the UK Government has honoured its commitment to restore the decision making over the EU successor funding to the Welsh Government, and with the oversight of this Senedd. That's really important and that will allow us to invest in those Welsh priorities and also, of course, to add value to other Welsh investment programmes, such as our free ports and our city and growth deals and so on, so that we can ensure that there is cohesion and that we can have greater impact from the spend as well. What we really want to do is avoid the fragmentation that was evident with the levelling-up funds, and the duplication and so on, including in that the shared prosperity fund.

So, turning to some of the specific issues in the report, I really recognise those concerns, as I say, about the change from a revenue-focused fund to a more capital-focused one. We are doing everything we can within our power to help local government and organisations affected. I've previously informed colleagues that I agreed to the WLGA's request for a transition year during 2026-27. That means the use of the existing shared prosperity fund structures and the allocation approach, so funding is available to every part of Wales. It also means that local government will design regional plans. They'll be making decisions on projects and they'll be able to retain key capacity and jobs that are aligned with the new fund. That, again, contrasts with the situation in England and Scotland, where there is an absolutely clean break from the shared prosperity fund, there's no transition arrangement in place, and many regions and local authorities actually will have no access to any funding through the local growth fund at all.

So, it's really important that we don't lose sight of the opportunities that the new fund will create for our economy, increasing productivity in areas that are falling behind. That’s an absolute golden thread of our investment plan. The fund's key investment objectives will enable support for capital investments, including in areas such as research, in innovation, in strategic business premises and sites, and also the enabling infrastructure for energy and transport. All of that will work alongside the revenue support available to increase demand-led skills and support for people who are currently economically inactive to help them into work.

So, from lessons learned and international best practice, a regional approach is really key to delivering the outcomes that we want to see through this fund. Corporate joint committees have been established to do exactly this, to underpin and strengthen regional collaboration. CJCs do strike the balance between the risk of over-centralisation by the Welsh Government and then also not learning the lessons of the fragmentation and duplication of what went before. Of course, CJCs are currently making really good progress against their economic development, their transport and their land-use planning functions, and we are going to continue to support them in developing their capability and their capacity there.

I'll conclude. I know I only have five minutes to respond to this debate, so I want to thank the Economy, Trade and Rural Affairs Committee for their local growth fund inquiry, and all partners who gave evidence to that. We are currently finalising the memorandum of understanding with the UK Government, and, as I promised to do, we will publish that once it's agreed. We look forward to continuing to work with partners across Wales to deliver a stronger, greener and fairer Wales with what is £0.5 billion of investment.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ymateb i adroddiad y pwyllgor ar y gronfa twf lleol, ac rwyf eisiau diolch yn fawr i'r pwyllgor am ei waith a'r Aelodau am eu cyfraniadau ar hyn heddiw. Byddaf yn cyhoeddi ymateb ffurfiol i argymhellion y pwyllgor yn fuan iawn.

Nid oedd yr hyn a glywais heddiw yn ystod y ddadl a hefyd yn ystod y datganiad a roddais i'r Senedd yma bythefnos yn ôl yn feirniadaeth o ddewisiadau Llywodraeth Cymru a wnaethom yn y gofod hwn. Felly, yr hyn nad wyf wedi'i glywed yw beirniadaeth o'r flaenoriaeth a roesom i fynd i'r afael â chynhyrchiant a chynyddu cynhyrchiant a cheisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Rwy'n credu bod consensws eang mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

Nid wyf wedi gweld beirniadaeth chwaith o'r ffaith ein bod wedi edrych ar y fformiwla ariannu, a'n bod yn rhoi'r rhan fwyaf o hynny tuag at fynegai amddifadedd lluosog Cymru, gan gydnabod materion cynhyrchiant a gwahaniaethau ledled Cymru a natur wledig ardaloedd. Yn yr un modd, nid wyf wedi clywed unrhyw gwynion am yr hyblygrwydd a roddwyd ar waith gennym i geisio helpu llywodraeth leol i reoli'r pontio rhwng y ddau gynllun ariannu, na'r ffaith ein bod wedi ymgynghori'n eang. Mewn gwirionedd, ni oedd yr unig ran o'r DU a gyflawnodd ymgynghoriad cyhoeddus yn y ffordd a wnaethom i ddeall barn partneriaid a chymunedau.

Er fy mod yn rhannu'n llwyr y pryderon y mae cyd-Aelodau wedi'u codi'n bwerus iawn y prynhawn yma, drwy'r adroddiad a hefyd yn fy natganiad ychydig wythnosau yn ôl, mae'r penderfyniadau ynghylch y rhaniad cyfalaf-refeniw, diffyg gweledigaeth a rhagolygon mwy hirdymor ar gyfer y cyllid, mewn gwirionedd, mae'r rhain yn bryderon yr ydym yn eu cydnabod yn llwyr fel Llywodraeth Cymru ac rydym yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU yn eu cylch.

Yr hyn a ddywedaf yw ei bod yn galonogol iawn fod Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i adfer y broses o wneud penderfyniadau dros gyllid yn lle cyllid yr UE i Lywodraeth Cymru, a chyda throsolwg y Senedd hon. Mae hynny'n bwysig iawn a bydd hynny'n ein galluogi i fuddsoddi yn y blaenoriaethau Cymreig hynny ac i ychwanegu gwerth at raglenni buddsoddi eraill yng Nghymru, fel ein porthladdoedd rhydd a'n bargeinion dinesig a thwf ac yn y blaen, fel y gallwn sicrhau bod cydlyniant ac y gallwn gael mwy o effaith o'r gwariant hefyd. Rydym yn hynod o awyddus i osgoi'r darnio a oedd yn amlwg gyda'r cronfeydd ffyniant bro, a'r dyblygu ac yn y blaen, gan gynnwys y gronfa ffyniant gyffredin.

Felly, i droi at rai o'r materion penodol yn yr adroddiad, rwy'n cydnabod y pryderon hynny, fel y dywedaf, ynghylch y newid o gronfa sy'n canolbwyntio ar refeniw i gronfa sy'n canolbwyntio mwy ar gyfalaf. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu llywodraeth leol a sefydliadau yr effeithir arnynt. Rwyf wedi hysbysu cyd-Aelodau o'r blaen fy mod wedi cytuno i gais CLlLC am flwyddyn bontio yn ystod 2026-27. Mae hynny'n golygu defnyddio'r strwythurau cronfa ffyniant gyffredin presennol a'r dull o ddyrannu, felly mae cyllid ar gael i bob rhan o Gymru. Mae hefyd yn golygu y bydd llywodraeth leol yn llunio cynlluniau rhanbarthol. Byddant yn gwneud penderfyniadau ar brosiectau a byddant yn gallu cadw capasiti a swyddi allweddol sy'n alinio â'r gronfa newydd. Mae hynny, unwaith eto, yn cyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban, lle mae toriad hollol lân oddi wrth y gronfa ffyniant gyffredin, nid oes unrhyw drefniant pontio ar waith, a bydd llawer o ranbarthau ac awdurdodau lleol heb fynediad at unrhyw gyllid drwy'r gronfa twf lleol o gwbl.

Felly, mae'n bwysig iawn nad ydym yn colli golwg ar y cyfleoedd y bydd y gronfa newydd yn eu creu i'n heconomi, gan gynyddu cynhyrchiant mewn meysydd sy'n syrthio ar ei hôl hi. Dyna'r edefyn aur sy'n rhedeg drwy ein cynllun buddsoddi. Bydd amcanion buddsoddi allweddol y gronfa yn hwyluso cefnogaeth i fuddsoddiadau cyfalaf, gan gynnwys mewn meysydd fel ymchwil, arloesi, adeiladau a safleoedd busnes strategol, a hefyd y seilwaith galluogi ar gyfer ynni a thrafnidiaeth. Bydd hyn i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'r cymorth refeniw sydd ar gael i gynyddu sgiliau a arweinir gan y galw a chefnogaeth i bobl sydd ar hyn o bryd yn economaidd anweithgar i'w helpu i gael gwaith.

Felly, o'r gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau rhyngwladol, mae dull rhanbarthol yn hynod allweddol i gyflawni'r canlyniadau yr ydym am eu gweld drwy'r gronfa hon. Mae cydbwyllgorau corfforedig wedi'u sefydlu i wneud yn union hynny, i ategu a chryfhau cydweithrediad rhanbarthol. Mae cydbwyllgorau corfforedig yn taro'r cydbwysedd rhwng y risg o organoli gan Lywodraeth Cymru a pheidio â dysgu gwersi'r darnio a'r dyblygu a ddigwyddai'n flaenorol. Wrth gwrs, mae cydbwyllgorau corfforedig ar hyn o bryd yn gwneud cynnydd da iawn ar eu swyddogaethau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir, ac rydym yn mynd i barhau i'w cefnogi i ddatblygu eu galluogrwydd a'u capasiti yn y pethau hynny.

Fe ddof i ben. Rwy'n gwybod mai dim ond pum munud sydd gennyf i ymateb i'r ddadl hon, felly rwyf am ddiolch i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig am eu hymchwiliad i'r gronfa twf lleol, a'r holl bartneriaid a roddodd dystiolaeth iddo. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU, ac fel yr addewais, byddwn yn ei gyhoeddi pan fydd wedi'i gytuno. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach gyda'r £0.5 biliwn o fuddsoddiad.

16:50

Thank you, Deputy Presiding Officer, and could I thank everyone who took part in the debate this afternoon? If I could just raise with the Cabinet Secretary that I think there is agreement on the goals that you've highlighted that this fund will deal with. No-one could dispute the fact that productivity needs to increase, and the benefits that that will bring to communities and the overall economy of Wales. But I think what the committee was aghast at was (a) the reduction in funding, which Sam Kurtz and other Members highlighted, but, secondly, this complete about-face on the split between capital and revenue. As someone who once chaired a small development group in the Vale of Glamorgan called Creative Rural Communities, as the Member for the Vale of Glamorgan will most probably be familiar with, back in the early 2000s, the importance of having staff to develop these projects from small beginnings into the finished goal—. It's really, really important for organisations to be able to draw on that expertise. Otherwise what will happen is, with the greatest respect to local authorities and other maybe larger organisations, they'll have their oven-ready projects and they will just grab all this funding, which does not necessarily have the local buy-in that we want to see with some of these projects. So, that is a real concern, and I think it has been shared across the Chamber today by everyone who has contributed to this.

Jenny touched on that it doesn't necessarily have to be many millions of pounds that you spend on projects. She highlighted the project in Blaenau Gwent, for example, which encouraged new mothers to breastfeed: £70,000 spent on that project, two thirds uptake. That is a result, that is, because we all know from breastfeeding the benefits that that brings to young children right the way through their adult life as well, with healthy outcomes, and that is something that really is a tangible benefit of a public pound spent in a community that has struggled for many years.

I’d like to thank Rhys ab Owen for contributing as well. It’s always good to see a committee report getting interest from someone who hasn't sat on the committee but, obviously, has an insight into these projects, and the importance that you highlighted about the deprivation that exists in Wales after the many tranches of money that have been spent and how the original concept of these funds, back in the day, identified, obviously, Wales and Cornwall, and the lamentable figures after a series of funding.

We can argue about Brexit, we can argue about pots of money, but I think one thing that is unarguable is that this huge amount of money over successive years has been spent and big numbers haven't been moved, and, sadly, Wales is still very much struggling with that deprivation and those real, chronic problems. And the point that Jenny made that Cardiff is, very often, able to look after itself—it's really important that we direct this money into areas that really do struggle to attract those development opportunities. And it's good to hear the Cabinet Secretary talking about the multiple deprivation index and rurality as key drivers of discerning where this money will go. Because you get one chance at this, very often, and, if you miss that, the generational change that we want to see here in Wales will not be achieved.

As a committee, we will look forward to hearing what the Cabinet Secretary says in her official response to us, but, as I said in my opening remarks, given the timeline and the implementation of this, we, obviously, wanted to bring this debate to the floor of the Chamber as a committee so that it could get a public hearing, and we hope very much that the recommendations that we have put forward will be taken on board by this Government and the next Government to make sure that this fund, whatever we might think of it, does achieve what the Cabinet Secretary has highlighted she hopes it will achieve over the lifetime, the three years, of its existence.

I'd also like to put on record my sincere thanks to the witnesses who came and provided the evidence. I can see the Deputy Presiding Officer looking at the red clock there, and I don’t want to keep people here beyond their tea. I thank the witnesses, the committee clerking team and everyone who contributed to this report, and I commend it to the Senedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma? Os caf godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn credu bod cytundeb ar yr amcanion y nodoch chi y bydd y gronfa hon yn delio â nhw. Ni allai neb amau bod angen cynyddu cynhyrchiant, a'r manteision y bydd hynny'n eu cynnig i gymunedau ac economi gyffredinol Cymru. Ond rwy'n credu mai'r hyn yr oedd y pwyllgor yn arswydo yn ei gylch oedd (a) y gostyngiad mewn cyllid, a nodwyd gan Sam Kurtz ac Aelodau eraill, ond yn ail, y newid cyfeiriad llwyr ar y rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw. Fel rhywun a oedd unwaith yn cadeirio grŵp datblygu bach ym Mro Morgannwg o'r enw Creative Rural Communities, ar ddechrau'r 2000au, mae'n debyg y bydd yr Aelod dros Fro Morgannwg yn gyfarwydd â phwysigrwydd cael staff i ddatblygu'r prosiectau hyn o ddechreuadau bach i'r nod gorffenedig—. Mae'n wirioneddol bwysig i sefydliadau allu manteisio ar yr arbenigedd hwnnw. Fel arall, yr hyn a fydd yn digwydd, gyda'r parch mwyaf i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill mwy o faint o bosib, yw y bydd ganddynt eu prosiectau parod a byddant yn bachu'r holl arian, heb o reidrwydd ennyn y gefnogaeth leol y mae pawb ohonom am ei gweld i rai o'r prosiectau hyn. Felly, mae hynny'n bryder gwirioneddol, ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei rannu ar draws y Siambr heddiw gan bawb sydd wedi cyfrannu at hyn.

Crybwyllodd Jenny nad oes raid iddo olygu gwario miliynau lawer o bunnoedd. Tynnodd sylw at y prosiect ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, a oedd yn annog mamau newydd i fwydo ar y fron: £70,000 wedi'i wario ar y prosiect hwnnw, dwy ran o dair yn gwneud defnydd ohono. Mae hynny'n ganlyniad, oherwydd rydym i gyd yn gwybod am y manteision y mae bwydo ar y fron yn eu cynnig i blant ifanc yr holl ffordd drwodd i'w bywydau fel oedolion hefyd, gyda chanlyniadau iach, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n fudd diriaethol go iawn o bunt gyhoeddus yn cael ei gwario mewn cymuned sydd wedi'i chael hi'n anodd ers blynyddoedd lawer.

Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gyfrannu hefyd. Mae bob amser yn dda gweld adroddiad pwyllgor yn ennyn diddordeb rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor ond sydd â mewnwelediad i'r prosiectau hyn, yn amlwg, a pha mor bwysig yw tynnu sylw at yr amddifadedd sy'n bodoli yng Nghymru ar ôl gwario rowndiau niferus o arian a sut y nododd cysyniad gwreiddiol y cronfeydd hyn ar y pryd Gymru a Chernyw, wrth gwrs, a'r ffigurau truenus ar ôl cyfres o rowndiau cyllid.

Gallwn ddadlau am Brexit, gallwn ddadlau am botiau o arian, ond rwy'n credu mai un peth sy'n ddi-ddadl yw bod y swm enfawr o arian dros flynyddoedd olynol wedi cael ei wario ac nad yw'r niferoedd mawr wedi newid, ac yn anffodus, mae Cymru'n dal i'w chael hi'n anodd gyda'r amddifadedd a'r problemau cronig hynny. A'r pwynt a wnaeth Jenny fod Caerdydd, yn aml iawn, yn gallu gofalu amdani'i hun—mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cyfeirio'r arian hwn i ardaloedd sy'n cael trafferth denu'r cyfleoedd datblygu hynny. Ac mae'n dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am y mynegai amddifadedd lluosog a natur wledig ardaloedd fel prif ysgogwyr i benderfynu ble fydd yr arian hwn yn mynd. Oherwydd un cyfle sydd gennym ar hyn yn aml iawn, ac os collwch chi'r cyfle hwnnw, ni fydd y newid unwaith mewn cenhedlaeth yr ydym am ei weld yma yng Nghymru yn cael ei gyflawni.

Fel pwyllgor, byddwn yn edrych ymlaen at glywed yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud yn ei hymateb swyddogol i ni, ond fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, o ystyried yr amserlen a gweithrediad hyn, yn amlwg, fel pwyllgor roeddem eisiau dod â'r ddadl hon i lawr y Siambr er mwyn iddi gael gwrandawiad cyhoeddus, ac rydym yn gobeithio'n fawr y bydd yr argymhellion a gyflwynwyd gennym yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth hon a'r Llywodraeth nesaf i wneud yn siŵr fod y gronfa, beth bynnag y bo ein barn amdani, yn cyflawni'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei bod yn gobeithio y bydd yn ei gyflawni dros dair blynedd ei bodolaeth.

Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant hefyd i'r tystion a ddaeth i ddarparu'r dystiolaeth. Gallaf weld y Dirprwy Lywydd yn edrych ar y cloc coch, ac nid wyf am gadw pobl yma y tu hwnt i'w hamser te. Diolch i'r tystion, tîm clercio'r pwyllgor a phawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Senedd.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)
13. Debate: Stage 4 of the British Sign Language (Wales) Bill

Yr eitem nesaf yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

The next item is Stage 4 of the British Sign Language (Wales) Bill. I call on Mark Isherwood to move the motion.

Cynnig NDM9210 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

Motion NDM9210 Mark Isherwood

To propose that Senedd Cymru, in accordance with Standing Order 26.47:

Approves the British Sign Language (Wales) Bill.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. It's an absolute privilege for me to stand before the Senedd today to move the Stage 4 motion for the British Sign Language (Wales) Bill. This really is a momentous occasion and one that I'm very proud to be part of.

This British Sign Language (Wales) Bill has been a long time in the making, shaped by persistence and steady progress over several years. The journey for me, as I mentioned last week, began in October 2018, when delegates and deaf community members at the north Wales Lend Me Your Ears conference came together to call for dedicated British Sign Language legislation in Wales. That momentum continued in February 2021, when the Senedd voted to note my proposal for a Bill aimed at promoting the use of BSL and strengthening access to education and public services through the language. That vote sent a clear message: there was strong cross-party support for this ambition.

During this Senedd term, in late 2022, Members once again endorsed the principle of a proposed BSL (Wales) Bill, reaffirming the earlier commitment. Then, after my being successful in the Member's Bill ballot, the Senedd voted in June 2024 to allow me to bring this legislation forward. I'm delighted, therefore, to now stand here today at the Bill's final stage and thank everyone who has contributed to this: to all the individuals and organisations who took part in the campaign and the consultation and the focus groups who helped shape the legislation; to the Equality and Social Justice Committee, the Finance Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee, together with their committee teams, for their valued approach to Stage 1 scrutiny; to the Equality and Social Justice Committee for their consideration of amendments at Stage 2; to both the Bill's clerking team and my own staff, who have worked tirelessly; to the Cabinet Secretary and Welsh Government officials for their support and work on the Bill; and to all other Members across the Chamber who have shown support for the Bill. This really has been cross-party working of the highest order.

British Sign Language is fundamental to communication and inclusion in everyday life. For many deaf people, it is not simply a means of communication, but their first language, the primary way they express themselves, connect with others and access the services they rely upon. BSL also plays a vital role in bringing deaf and hearing communities together, helping to remove barriers and foster greater understanding. And yet, too often, deaf people are still prevented from accessing essential public services because those services are not available in the language they use every day. This Bill, therefore, will put in place a framework to help ensure that this position changes. This is, without doubt, the most progressive BSL legislation in the UK, and, once implemented, will firmly place Wales as a leading nation in how BSL policy is designed and delivered for the benefit of the deaf community.

I'm sure that Members will be aware of these by now, but I will reiterate some of the key things this Bill does. In order to fulfil their duty to promote and facilitate BSL, Welsh Ministers must prepare and publish a BSL strategy. This will provide the national vision badly needed. Specified listed public bodies, including all local health boards and local authorities, must prepare and publish BSL plans, describing how they intend to promote and facilitate the use of BSL. This builds upon the national strategy and ensures that those local plans are delivered by the people who understand their local needs.

Most importantly, alongside these duties, the Bill makes it a requirement that the deaf community is involved in developing the national strategy and the BSL plans from the start, and throughout the process, not just consulted on them. This is a huge step forward, and one that is vital for the successful delivery of the Bill's aims. For the first time, Wales will have a statutory BSL adviser, a role now set out in law, supported by an assisting BSL panel. Another essential part of the Bill that will help ensure that the voices of the deaf community are heard and continue to be heard. 

Deputy Presiding Officer, Dirprwy Lywydd, as you've heard me say many times, this legislation is vital. The importance of the legislation is highlighted by the overwhelming support I've received from Members across the Chamber, from Government and from the wider community. It has been my honour to bring forward this Bill, and I ask Members to continue their support and vote for the Bill to be passed by this Senedd today.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint cael sefyll gerbron y Senedd heddiw i gyflwyno cynnig Cyfnod 4 ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Mae hwn yn achlysur arwyddocaol ac yn un yr wyf yn falch iawn o fod yn rhan ohono.

Mae'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) hwn wedi bod yn yr arfaeth ers amser hir, ac wedi'i siapio gan ddyfalbarhad a chynnydd cyson dros sawl blwyddyn. Dechreuodd y daith i mi, fel y soniais yr wythnos diwethaf, ym mis Hydref 2018, pan ddaeth cynrychiolwyr ac aelodau o'r gymuned fyddar yng nghynhadledd Clust i Wrando yng ngogledd Cymru at ei gilydd i alw am ddeddfwriaeth bwrpasol ar Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Parhaodd y momentwm hwnnw ym mis Chwefror 2021, pan bleidleisiodd y Senedd i nodi fy nghynnig ar gyfer Bil gyda'r nod o hyrwyddo'r defnydd o IAP a chryfhau mynediad at addysg a gwasanaethau cyhoeddus drwy'r iaith. Anfonodd y bleidlais honno neges glir: roedd cefnogaeth drawsbleidiol gref i'r uchelgais.

Yn ystod y tymor seneddol hwn, ar ddiwedd 2022, cymeradwyodd yr Aelodau unwaith eto yr egwyddor o Fil IAP (Cymru) arfaethedig, gan ailddatgan yr ymrwymiad cynharach. Yna, ar ôl i mi fod yn llwyddiannus ym mhleidlais Bil yr Aelod, pleidleisiodd y Senedd ym mis Mehefin 2024 i ganiatáu imi gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n falch iawn o sefyll yma heddiw yng nghyfnod olaf y Bil a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn: i'r holl unigolion a sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgyrch a'r ymgynghoriad a'r grwpiau ffocws a helpodd i lunio'r ddeddfwriaeth; i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ynghyd â'u timau pwyllgorau, am eu craffu gwerthfawr Cyfnod 1; i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hystyriaeth o welliannau yng Nghyfnod 2; i dîm clercio'r Bil a fy staff fy hun, sydd wedi gweithio'n ddiflino; i Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'u gwaith ar y Bil; ac i'r holl Aelodau eraill ar draws y Siambr sydd wedi dangos cefnogaeth i'r Bil. Mae hwn wedi bod yn waith trawsbleidiol o'r radd flaenaf.

Mae Iaith Arwyddion Prydain yn hanfodol i gyfathrebu a chynhwysiant mewn bywyd bob dydd. I lawer o bobl fyddar, nid cyfrwng cyfathrebu yn unig mohono, ond eu hiaith gyntaf, y brif ffordd o fynegi eu hunain, o gysylltu ag eraill ac o gael mynediad at y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Mae IAP hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn dod â chymunedau byddar a phobl sy'n clywed at ei gilydd, gan helpu i gael gwared ar rwystrau a meithrin mwy o ddealltwriaeth. Ac eto, yn rhy aml, mae pobl fyddar yn dal i gael eu rhwystro rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol am nad yw'r gwasanaethau hynny ar gael yn yr iaith y maent yn ei defnyddio bob dydd. Bydd y Bil hwn, felly, yn rhoi fframwaith yn ei le i helpu i sicrhau bod y sefyllfa hon yn newid. Heb os, dyma'r ddeddfwriaeth IAP fwyaf blaengar yn y DU, a phan ddaw'n weithredol, bydd yn gosod Cymru'n gadarn ar y blaen o ran sut y caiff polisi IAP ei gynllunio a'i gyflawni er budd y gymuned fyddar.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r rhain erbyn hyn, ond fe wnaf ailadrodd rhai o'r pethau allweddol y mae'r Bil hwn yn ei wneud. Er mwyn cyflawni eu dyletswydd i hyrwyddo a hwyluso IAP, rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth IAP. Bydd hon yn darparu'r weledigaeth genedlaethol sydd ei hangen yn fawr. Rhaid i gyrff cyhoeddus rhestredig penodedig, gan gynnwys pob bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol, baratoi a chyhoeddi cynlluniau IAP, gan ddisgrifio sut y maent yn bwriadu hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o IAP. Mae hyn yn adeiladu ar y strategaeth genedlaethol ac yn sicrhau bod y cynlluniau lleol hynny'n cael eu cyflawni gan y bobl sy'n deall eu hanghenion lleol.

Yn bwysicaf oll, ochr yn ochr â'r dyletswyddau hyn, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofyniad i'r gymuned fyddar fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth genedlaethol a'r cynlluniau IAP o'r cychwyn cyntaf, a thrwy gydol y broses, ac nid cael eu gwahodd i ymateb i ymgynghoriad yn unig. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen, ac yn un sy'n hanfodol ar gyfer cyflawni nodau'r Bil yn llwyddiannus. Am y tro cyntaf, bydd gan Gymru gynghorydd IAP statudol, rôl sydd bellach wedi'i nodi yn y gyfraith, gyda chefnogaeth panel IAP cynorthwyol, rhan hanfodol arall o'r Bil a fydd yn helpu i sicrhau bod lleisiau'r gymuned fyddar yn cael eu clywed ac yn parhau i gael eu clywed. 

Ddirprwy Lywydd, fel y gwnaethoch fy nghlywed yn dweud sawl gwaith, mae'r ddeddfwriaeth hon yn hanfodol. Mae pwysigrwydd y ddeddfwriaeth yn cael ei amlygu gan y gefnogaeth aruthrol a gefais gan Aelodau ar draws y Siambr, gan y Llywodraeth a'r gymuned ehangach. Mae wedi bod yn anrhydedd i mi gyflwyno'r Bil hwn, a gofynnaf i'r Aelodau barhau â'u cefnogaeth a phleidleisio dros basio'r Bil gan y Senedd heddiw.

Diolch yn fawr i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

Thank you all very much. [Applause.]

17:00

Roedd aelodau o'r gymuned fyddar a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli nhw yn gwylio o'r galeri ac ar-lein yn ystod ein trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf. Fe hwyluswyd hyn, wrth gwrs, drwy ddarpariaeth dehonglwyr BSL. Fe ddywedodd rhai ohonyn nhw wrthyf i wedyn pa mor rymus oedd hi i weld y fath ymrwymiad ar draws y pleidiau i'r gymuned BSL fyddar, ac i weld sut mae dealltwriaeth a chydnabyddiaeth Aelodau o BSL wedi datblygu a dyfnhau yn ystod y broses graffu, a'r anghydraddoldebau a'r anfantais mae'r gymuned yn eu hwynebu. 

Felly, mae pasio'r Bil hwn yn gam cyntaf yn y broses o sicrhau bod hynny yn parhau, a bod y gwaith mawr sydd angen ei wneud nawr yn dechrau. Maen nhw'n gwylio nawr, mae rhai ohonyn nhw yn y galeri, a dwi'n gwybod eu bod nhw hefyd yn gwylio drwy lif byw yng Nghanolfan yr Urdd ar draws y ffordd. Roedd hi'n fraint i ddathlu gyda nhw heddiw ac i'w llongyfarch ar y gwaith caled a'r dyfalbarhad, a'u hamynedd nhw hefyd wrth ymgyrchu'n ddiflino dros eu hawliau ieithyddol.

Wrth gwrs, byddwn ni hefyd eisiau rhoi teyrnged i Mark Isherwood am gael y maen i'r wal. Mae hi wedi bod yn brofiad fyddaf i fyth yn ei anghofio, gweithio ar y Bil hwn, ac mae wedi bod yn wers bwysig. Mae'r cydweithio gyda'r gymuned fyddar yn drawsbleidiol gyda Mark a'r Ysgrifennydd Cabinet wir wedi dangos, dwi'n meddwl, sut mae modd inni, drwy ein Senedd, fod yn flaengar ac yn uchelgeisiol, drwy ddod ynghyd er budd y bobl rŷn ni'n eu cynrychioli, yn enwedig y rhai sydd heb gael y sylw y dylen nhw fod wedi ei gael am yn rhy hir.

Mae Plaid Cymru felly yn falch o gefnogi'r Bil hwn, ac mi fyddwn ni hefyd yn falch o barhau i gefnogi'r gwaith fydd yn dilyn ohono dros y blynyddoedd nesaf, achos mae disgwyliadau wedi cael eu codi gan y Bil ac mae'r Bil hwn yn addewid y mae'n rhaid ei gadw.

Members of the deaf community and the groups that represent them were watching from the gallery and online during our Stage 3 proceedings last week. This was facilitated, of course, by the provision of BSL interpreters. Some of them told me afterwards how powerful it was to see such commitment across the parties to the deaf BSL community, and to see how Members' understanding and recognition of BSL has developed and deepened during the scrutiny process, and the inequalities and the disadvantage that the community faces.

So, passing this Bill is the first step in the process of ensuring that that continues, and that the huge amount of work that needs to be done now starts. They're watching now, some of them are in the gallery, and I know that they're also watching the livestream in the Urdd Centre across the way. It was a privilege to celebrate with them today and to congratulate them on their hard work and perseverance, and their patience as well in campaigning tirelessly for their linguistic rights. 

Of course, we also want to pay tribute to Mark Isherwood for getting the job done. It has been an experience that I will never forget, working on this Bill, and it has been an important lesson. Collaborating with the deaf community on a cross-party basis with Mark and the Cabinet Secretary has really shown, I think, how we, through our Senedd, can be progressive and ambitious, by coming together for the benefit of the people whom we represent, particularly those who haven't had the attention that they should have had for far too long.

Plaid Cymru is therefore proud to support this Bill, and we will also be proud to continue to support the work that will follow on from it over the coming years, because expectations have been raised by this Bill and this Bill is a promise that must be kept.

17:05

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

I call on the Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 17:06:08
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Dirprwy Lywydd. As Cabinet Secretary for Social Justice, I'm very proud to have collaborated with Mark Isherwood to develop this Bill, helping shape proposals for a national BSL strategy and the appointment of a BSL adviser and assisting panel, measures that are intended to genuinely improve the lives of BSL signers in Wales. The Bill places clear responsibilities on listed public bodies to review, adapt and improve their services, so they actively contribute to achieving the Bill's aims to promote and facilitate the use of BSL.

In the later stages, I supported amendments to ensure we plan for the workforce needed to deliver the Bill's objectives, capture the data needed to monitor the use of BSL, and strengthen the involvement of BSL signers at every stage of implementation, and together, I am confident that these provisions lay strong foundations for more consistent recognition and meaningful use of BSL across Wales.

The Bill we have before us today reflects the constructive and collaborative approach that has been taken and expressed today and in all proceedings. Working together has strengthened the Bill and ensured it is both ambitious and workable, and in that respect, this Bill demonstrates the Senedd at its best, engaging constructively to improve legislation in the interests of people across Wales.

I'd like to end by expressing my sincere thanks to all those who have brought us to this important point in the Bill's passage. And Mark, we wouldn't be here today without your efforts and hard work over many years. I'd also like to thank both Mark's Senedd officials and my officials for your sustained commitment in supporting the development of this Bill throughout its passage. I'd also like to thank the Equality and Social Justice Committee for your detailed and constructive scrutiny, and also thank the Legislation, Justice and Constitution Committee and the Finance Committee for their scrutiny as well, but most importantly, the BSL signing community, representative organisations, public bodies, academics and other stakeholders who have engaged so openly and thoughtfully throughout this process. Your lived experience, expertise and challenge have been central to shaping the Bill before us today.

So, this is an exciting moment, one that allows us to turn ambition into action, commitment into change and legislation into lasting improvements for BSL signers across Wales. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch iawn o fod wedi cydweithio â Mark Isherwood ar ddatblygu'r Bil hwn, gan helpu i lunio cynigion ar gyfer strategaeth IAP genedlaethol a phenodi cynghorydd IAP a phanel cynorthwyol, mesurau sydd â'r bwriad o wella bywydau arwyddwyr IAP yng Nghymru yn fawr. Mae'r Bil yn gosod cyfrifoldebau clir ar gyrff cyhoeddus rhestredig i adolygu, addasu a gwella eu gwasanaethau, fel eu bod yn cyfrannu'n weithredol at gyflawni nodau'r Bil i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o IAP.

Yn y camau diweddarach, cefnogais welliannau i sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer y gweithlu sydd ei angen i gyflawni amcanion y Bil, casglu'r data sydd ei angen i fonitro'r defnydd o IAP, a chryfhau cyfranogiad arwyddwyr IAP ar bob cam o'i weithredu, a chyda'i gilydd, rwy'n hyderus bod y darpariaethau hyn yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer cydnabyddiaeth fwy cyson i IAP a defnydd ystyrlon ohoni ledled Cymru.

Mae'r Bil sydd gennym o'n blaen heddiw'n adlewyrchu'r dull adeiladol a chydweithredol a fabwysiadwyd ac a fynegwyd heddiw ac yn yr holl drafodion. Mae gweithio gyda'n gilydd wedi cryfhau'r Bil ac wedi sicrhau ei fod yn uchelgeisiol ac yn ymarferol, ac yn hynny o beth, mae'r Bil hwn yn dangos y Senedd ar ei gorau, yn ymgysylltu'n adeiladol i wella deddfwriaeth er budd pobl ledled Cymru.

Hoffwn orffen drwy fynegi fy niolch diffuant i bawb sydd wedi dod â ni i'r pwynt pwysig hwn ar daith y Bil. A Mark, ni fyddem yma heddiw heb eich ymdrechion a'ch gwaith caled chi dros flynyddoedd lawer. Hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion Mark yn y Senedd a fy swyddogion i am eich ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad y Bil hwn drwy gydol ei daith. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith craffu manwl ac adeiladol, ac i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu hwythau hefyd, ond yn bwysicaf oll, i'r gymuned o arwyddwyr IAP, sefydliadau cynrychioladol, cyrff cyhoeddus, academyddion a rhanddeiliaid eraill sydd wedi ymgysylltu mor agored a meddylgar drwy gydol y broses hon. Mae eich profiad bywyd, eich arbenigedd a'ch her chi wedi bod yn ganolog i lunio'r Bil sydd ger ein bron heddiw.

Felly, mae hon yn foment gyffrous, un sy'n ein galluogi i droi uchelgais yn weithredu, ymrwymiad yn newid a deddfwriaeth yn welliannau parhaol i arwyddwyr IAP ledled Cymru. Diolch yn fawr.

A galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark.

And I call on Mark Isherwood to reply to the debate. Mark.

Well, again, thank you to everyone who's contributed. I've already addressed the positive, consensual, collaborative way we took this forward. After some initial hiccups that some of you may remember, I remember raising this in the Chamber repeatedly and not initially getting necessarily all the support that we ultimately achieved, and I'm very grateful that we were able to adopt that common position and move forward on that basis.

You referred to the Senedd team; I have to say there are some of their representatives upstairs, so, again, thank you to you in person. And there are many representatives, I believe, of the deaf community, both here and across the way, as we heard, in the Urdd. I and possibly others will be joining them shortly to celebrate, including, I understand, a coachload from north Wales brought down by COS, the Centre of Sign Sight Sound, for which I'm patron. And it was many of their members at that conference I referred to in 2018, alongside deaf academics, who set the ball rolling. So, it's very appropriate that they should be here as well. But I'm conscious also that some of them have to travel back to various parts of Wales tonight, having travelled here, I believe, from every corner of the nation. So, it's great that they're here to celebrate, subject to your passing this, and it'll be wonderful to meet them shortly. [Laughter.] So, I won't go on. Again, diolch yn fawr and I hope you will all see fit to support this when it comes to the vote. [Applause.]

Wel, unwaith eto, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffordd gadarnhaol, gydsyniol, gydweithredol y gwnaethom symud hyn yn ei flaen. Ar ôl rhai anawsterau cychwynnol y bydd rhai ohonoch yn eu cofio efallai, rwy'n cofio codi hyn yn y Siambr dro ar ôl tro heb o reidrwydd gael yr holl gefnogaeth ar y cychwyn ag a gawsom yn y pen draw, ac rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu mabwysiadu'r safbwynt cyffredin hwnnw a symud ymlaen ar y sail honno.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at dîm y Senedd; rhaid i mi ddweud bod rhai o'u cynrychiolwyr i fyny'r grisiau, felly, unwaith eto, diolch i chi yn bersonol. Ac rwy'n credu bod yna lawer o gynrychiolwyr o'r gymuned fyddar, yma ac ar draws y ffordd, fel y clywsom, yn yr Urdd. Fe fyddaf i, ac eraill o bosib yn ymuno â nhw cyn bo hir i ddathlu, gan gynnwys llond bws, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o ogledd Cymru a ddaeth i lawr gyda'r Ganolfan Arwyddo Golwg Sain yr wyf yn noddwr iddynt. Ac roedd llawer o'u haelodau yn y gynhadledd y cyfeiriais ati yn 2018, ochr yn ochr ag academyddion byddar, a roddodd ddechrau i bethau. Felly, mae'n briodol iawn eu bod nhw yma hefyd. Ond rwy'n ymwybodol hefyd fod rhai ohonynt yn gorfod teithio'n ôl i wahanol rannau o Gymru heno, ar ôl teithio yma o bob cwr o'r wlad. Felly, mae'n wych eu bod yma i ddathlu, yn amodol ar basio hyn, ac fe fydd yn wych cyfarfod â nhw cyn bo hir. [Chwerthin.] Felly, nid wyf am fwrw ymlaen. Unwaith eto, diolch yn fawr ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi i gyd gefnogi hyn pan ddaw'n bryd i ni bleidleisio. [Cymeradwyaeth.]

17:10

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohirir y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

In accordance with Standing Order 26.50C, a recorded vote must be taken on Stage 4 motions. So, I defer voting on this item until voting time. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

14. Dadl ar Adroddiad y Bwrdd Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd
14. Debate on the Family-Friendly and Inclusive Parliament Review Board Report

Eitem 14, dadl ar adroddiad y bwrdd adolygiad o Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd, a galwaf ar Joyce Watson i wneud y cynnig.

Item 14 is a debate on the family-friendly and inclusive Parliament review board report, and I call on Joyce Watson to move the motion.

Cynnig NDM9199 Joyce Watson

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd, 'Senedd i bawb', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.

Motion NDM9199 Joyce Watson

To propose that the Senedd:

Notes the report of the Family-Friendly and Inclusive Parliament Review, 'A Senedd for all', which was laid in the Table Office on 3 March 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'm pleased to open this debate and move the motion to note 'A Senedd for all: Report of the Family-Friendly and Inclusive Parliament Review'. The Senedd is recognised internationally for women's representation, and we want to continue to lead the way in inclusivity and family-friendly working. The expansion of Members and the changes to our working practices create both opportunities and risks, making this a timely review.

My thanks go to my fellow board members, Jane Dodds, Peter Fox, Siân Gwenllian and Mike Hedges, for their experience, insight and cross-party collaboration that has served to strengthen this report. I also extend my gratitude to Dr Alison Parken, Dr Rachel Minto and Dr Leah Hibbs of Cardiff University, and Hannah Johnson, our expert advisor. Their analysis has been instrumental in producing what's already been described as a game-changer and an example of best practice.

The Senedd has strong foundations, a progressive ethos, and proven international credibility. We were the first legislature to achieve gender parity in 2003, and family-friendly working was embedded in our structures from the outset. However, the implementation of equalities relies too heavily on individual champions and informal norms. This review aims to embed equality into our institutional framework, mainstreaming it within scrutiny and policy making. Our vision is for a Senedd for all, recognising diversity as a democratic strength. I thank the many Members who contributed via interviews and survey responses. The response rate was significantly higher than any comparable exercise elsewhere in the UK, giving us robust evidence for our findings. The review focused on four key areas, beginning with the most urgent.

Personal safety. Personal safety is now the overriding concern for anyone seeking political office. Members experience relentless online abuse, even before standing for election, and this continues throughout their time in office. Every Member who participated in the review reported experiencing abuse directly, or knowing someone who had. The level of hostility is rising, particularly for women, whose abuse is often gendered. Some Members said it influenced their decision not to re-stand. This abuse affects not only Members, but their staff and also their families. Staff are often on the front line, dealing with hostile e-mails and social media activity. That's not what they signed up for, and it's affecting staff well-being, recruitment and retention.

Abuse also limits how and where Members work. Members know they face more hostility when speaking on equalities issues, and some are now restricting what they say. Others are reducing or ceasing in-person constituency surgeries due to security concerns. These pressures risk deterring future candidates and narrowing the diversity of people willing to stand. I'm proud to have pushed for the establishment of the Senedd's social media monitoring unit, supported 100 per cent by the women's caucus. That unit allows lower-level abusive behaviour short of criminal thresholds to be identified, flagged and addressed before it becomes corrosive. The board recommends the continuation of this monitoring beyond the pilot phase, especially in the run-up to this election.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon a chyflwyno'r cynnig i nodi 'Senedd i bawb: Adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd'. Mae'r Senedd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am gynrychiolaeth menywod, ac rydym am barhau i arwain y ffordd o ran cynhwysiant a gweithio sy'n gyfeillgar i deuluoedd. Mae ehangu nifer yr Aelodau a'r newidiadau i'n harferion gwaith yn creu cyfleoedd a risgiau, gan wneud hwn yn adolygiad amserol.

Diolch i fy nghyd-aelodau o'r bwrdd, Jane Dodds, Peter Fox, Siân Gwenllian a Mike Hedges, am eu profiad, eu mewnwelediad a'u cydweithrediad trawsbleidiol sydd wedi helpu i gryfhau'r adroddiad hwn. Diolch hefyd i Dr Alison Parken, Dr Rachel Minto a Dr Leah Hibbs o Brifysgol Caerdydd, a Hannah Johnson, ein cynghorydd arbenigol. Mae eu dadansoddiad wedi bod yn allweddol wrth gynhyrchu'r hyn sydd eisoes wedi'i ddisgrifio fel rhywbeth a all greu newid sylfaenol ac enghraifft o arfer gorau.

Mae gan y Senedd sylfeini cryf, ethos blaengar, a hygrededd rhyngwladol profedig. Ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, ac roedd gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd wedi'i ymgorffori yn ein strwythurau o'r cychwyn cyntaf. Fodd bynnag, mae gweithredu cydraddoldeb yn dibynnu'n rhy drwm ar hyrwyddwyr unigol a normau anffurfiol. Nod yr adolygiad hwn yw ymgorffori cydraddoldeb yn ein fframwaith sefydliadol, gan ei brif ffrydio o fewn y gwaith o graffu a llunio polisïau. Ein gweledigaeth yw Senedd i bawb, gan gydnabod amrywiaeth fel cryfder democrataidd. Diolch i'r Aelodau niferus a gyfrannodd drwy gyfweliadau ac ymatebion arolwg. Roedd y gyfradd ymateb yn sylweddol uwch nag unrhyw ymarfer tebyg mewn mannau eraill yn y DU, gan roi tystiolaeth gadarn i ni ar gyfer ein canfyddiadau. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar bedwar maes allweddol, gan ddechrau gyda'r mwyaf taer.

Diogelwch personol. Diogelwch personol bellach yw'r prif bryder i unrhyw un sy'n ceisio am swydd mewn gwleidyddiaeth. Mae Aelodau'n profi cam-drin di-baid ar-lein, hyd yn oed cyn sefyll etholiad, ac mae hynny'n parhau drwy gydol eu hamser yn y swydd. Adroddodd pob Aelod a gymerodd ran yn yr adolygiad eu bod wedi profi camdriniaeth eu hunain, neu'n adnabod rhywun sydd wedi profi camdriniaeth. Mae lefel yr elyniaeth yn cynyddu, yn enwedig i fenywod, y mae eu camdriniaeth yn aml yn rhywiol. Dywedodd rhai Aelodau ei fod wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i beidio ag ailsefyll. Mae'r cam-drin hwn yn effeithio nid yn unig ar Aelodau, ond ar eu staff a hefyd ar eu teuluoedd. Mae staff yn aml ar y rheng flaen, yn delio ag e-byst gelyniaethus a gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol. Nid i wneud hynny y daethant i wneud y gwaith, ac mae'n effeithio ar les staff, recriwtio a chadw staff.

Mae camdriniaeth hefyd yn cyfyngu ar sut a ble mae Aelodau'n gweithio. Mae Aelodau'n gwybod eu bod yn wynebu mwy o elyniaeth wrth siarad ar faterion cydraddoldeb, ac mae rhai bellach yn cyfyngu ar yr hyn y maent yn ei ddweud. Mae eraill yn lleihau neu'n rhoi'r gorau i gymorthfeydd etholaethol wyneb yn wyneb oherwydd pryderon diogelwch. Mae'r pwysau hwn yn creu risg o atal pobl rhag ymgeisio yn y dyfodol a lleihau amrywiaeth y bobl sy'n barod i sefyll. Rwy'n falch o fod wedi gwthio dros sefydlu uned monitro cyfryngau cymdeithasol y Senedd, gyda chefnogaeth 100 y cant gan y cawcws menywod. Mae'r uned honno'n caniatáu i ymddygiad camdriniol lefel is sy'n fyr o drothwyon troseddol gael ei nodi, ei fflagio a'i ddatrys cyn iddo droi'n ddifäol. Mae'r bwrdd yn argymell parhau â'r monitro y tu hwnt i'r cyfnod peilot, yn enwedig yn y cyfnod cyn yr etholiad hwn.

We also want the Senedd Commission to report regularly on how abuse is being handled, providing Members with clarity on the support available to them. We recommend establishing a safe participation in politics taskforce to conduct an independent review of abuse and harassment of Members and their staff. This includes exploring an unacceptable behaviour of citizens policy to ensure consequences for those who harass or intimidate elected representatives and their staff. We recommend gathering feedback from Members standing down in 2026, this year, on whether abuse influenced their decision. Ensuring people feel safe and supported to stand for election directly strengthens democracy. A diverse membership leads to more inclusive decision making, and this is the second focus of the review.

The Senedd has a strong record in women's leadership. Since the third Assembly, we have consistently had a female Presiding Officer or Deputy Presiding Officer. However, gendered patterns persist, particularly in committee membership and chairing roles. There is no current mechanism to ensure diversity within committees, and without intervention there is a risk of slipping backwards. We recommend collecting data on Members' protected characteristics to measure progress and inform future actions. We also propose ensuring there are no single-sex committees and, as far as reasonably practicable, that committee membership reflects the overall gender balance of the Senedd. The next Senedd should consider how to address gender imbalance among committee Chairs. Following the election, we propose an equality impact assessment of the new electoral system and revised ways of working. We'll also begin collecting data on participation in Plenary debates to ensure equitable opportunity to speak. Training will be provided on the code of conduct and the dignity and respect policy, emphasising that robust debate can and must remain civil.

Family-friendly principles have long been embedded in our Standing Orders, but unpredictable Plenary end times and long hours continue to challenge Members with caring responsibilities. We recommend more predictable end times for debates, building on the successful introduction of proxy voting. We also propose developing a procedure for Members to leave Plenary in emergencies without their absence affecting legislative outcomes due to pairing difficulties. Hybrid participation has been particularly valued by Members balancing professional and personal commitments. We recommend safeguarding the ability to participate online and ensuring it has parity with in-person participation.

We welcome the Senedd Commission's introduction of a Members' hwb, a one-stop advice and support service, and recommend evaluating its impact, along with the revised determination on pay and allowances, to ensure they adequately support family-friendly working. The review identified inconsistent advice on maternity and paternity leave. We recommend developing an agreed policy on leave length, procedural arrangements and cover, involving close discussions between political groups, the Senedd Commission, Business Committee and remuneration board. There is a recommendation for provision of a locum cover for Members who are temporarily unavailable to be explored. We also believe that on-site childcare crèche provision is essential and overdue. We are the only UK Parliament without one. Childcare provision provides a clear signal of the type of institution that we want to be: accessible, inclusive and family-friendly. Options must be explored in the first year of the next term.

A more diverse Senedd leads to more equitable outcomes for the people of Wales. Since devolution, we've committed to promoting equality of opportunity, and we want to strengthen those founding principles. We recommend embedding equality considerations into Standing Orders and standing practice. At present, there is no requirement for an equalities committee. We propose establishing both a dedicated equality committee and a formal women's caucus in Standing Orders. Committees should scrutinise equality evidence systematically, supported by training, data and specialist expertise. When scrutinising Bills, committees should give equal weight to equality impacts as they currently do to financial implications. The Welsh Government should inform committees when legislative equality impact assessments are published. I have long advocated for the use of gender budgeting tools, such as gender beneficiary assessments. Regular training will help ensure those approaches are used consistently, including through mainstream reviews of the programme for government.

I look forward to hearing Members' remarks and the Llywydd's response to the four areas: equality mainstreaming, representation and participation, abuse towards Members, and working practices. Llywydd, this is the Senedd's first report of this kind, a gender-sensitive audit. It draws directly on Members' experience and the expert work of Cardiff University. The solutions we propose are cross-cutting and practical, spanning Standing Orders, committees' work, standards of conduct, electoral procedures and the support structures provided by the Senedd Commission. Effective implementation will depend heavily on the Commission's ongoing leadership. We therefore recommend retaining a Commissioner with responsibility for equality of opportunity, supported by a senior official dedicated to delivery. Above all, we recommend establishing an implementation board to oversee and drive progress. We must not allow this report to gather dust. If we want a truly inclusive Senedd for all, we must secure the institutional changes needed to carry on the work.

Hefyd, rydym eisiau i Gomisiwn y Senedd adrodd yn rheolaidd ar sut yr eir i'r afael â chamdriniaeth, gan roi eglurder i'r Aelodau am y cymorth sydd ar gael iddynt. Rydym yn argymell sefydlu tasglu cyfranogiad diogel mewn gwleidyddiaeth i gynnal adolygiad annibynnol o gam-drin ac aflonyddu ar Aelodau a'u staff. Mae hyn yn cynnwys archwilio polisi ymddygiad annerbyniol gan ddinasyddion i sicrhau canlyniadau i'r rhai sy'n aflonyddu ar neu'n bygwth cynrychiolwyr etholedig a'u staff. Rydym yn argymell casglu adborth gan Aelodau sy'n rhoi'r gorau iddi yn 2026, eleni, i weld a yw camdriniaeth wedi dylanwadu ar eu penderfyniad. Mae sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi i sefyll etholiad yn cryfhau democratiaeth yn uniongyrchol. Mae aelodaeth amrywiol yn arwain at wneud penderfyniadau mwy cynhwysol, a dyma ail ffocws yr adolygiad.

Mae gan y Senedd hanes cryf o arweinyddiaeth menywod. Ers y trydydd Cynulliad, mae Llywydd neu Ddirprwy Lywydd benywaidd wedi bod gennym. Fodd bynnag, mae patrymau ar sail rhywedd yn parhau, yn enwedig o ran aelodaeth pwyllgorau a rolau cadeirio. Nid oes mecanwaith cyfredol i sicrhau amrywiaeth o fewn pwyllgorau, a heb ymyrraeth mae risg o lithro'n ôl. Rydym yn argymell casglu data ar nodweddion gwarchodedig Aelodau i fesur cynnydd a llywio camau gweithredu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn argymell sicrhau nad oes pwyllgorau un rhyw a chyn belled ag y bo'n rhesymol yn ymarferol, fod aelodaeth pwyllgorau yn adlewyrchu cydbwysedd rhwng y rhywiau y Senedd yn gyffredinol. Dylai'r Senedd nesaf ystyried sut i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith Cadeiryddion pwyllgorau. Yn dilyn yr etholiad, rydym yn argymell asesiad o effaith y system etholiadol newydd ar gydraddoldeb a ffyrdd diwygiedig o weithio. Byddwn hefyd yn dechrau casglu data ar gyfranogiad mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn i sicrhau cyfle cyfartal i siarad. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar y cod ymddygiad a'r polisi urddas a pharch, gan bwysleisio y gall dadl gadarn fod yn foesgar a bod yn rhaid iddi fod yn foesgar.

Mae egwyddorion sy'n ystyriol o deuluoedd wedi eu hymgorffori yn ein Rheolau Sefydlog ers amser maith, ond mae amseroedd gorffen anrhagweladwy y Cyfarfod Llawn ac oriau hir yn parhau i fod yn her i Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu. Rydym yn argymell amseroedd gorffen mwy rhagweladwy ar gyfer dadleuon, gan adeiladu ar lwyddiant cyflwyno pleidleisio drwy ddirprwy. Rydym hefyd yn argymell datblygu gweithdrefn i Aelodau adael y Cyfarfod Llawn mewn argyfyngau heb i'w habsenoldeb effeithio ar ganlyniadau deddfwriaethol oherwydd anawsterau paru. Mae cyfranogiad hybrid wedi cael ei werthfawrogi'n arbennig gan yr Aelodau sy'n cydbwyso ymrwymiadau proffesiynol a phersonol. Rydym yn argymell diogelu'r gallu i gymryd rhan ar-lein a sicrhau bod cyfraniad o'r fath yn gydradd â chyfranogiad yn y cnawd.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod Comisiwn y Senedd wedi cyflwyno hwb, gwasanaeth cyngor a chymorth un stop, ac yn argymell gwerthuso ei effaith, ynghyd â'r dyfarniad diwygiedig ar dâl a lwfansau, er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cefnogol i weithio sy'n ystyriol o deuluoedd. Nododd yr adolygiad gyngor anghyson ar absenoldeb mamolaeth a thadolaeth. Rydym yn argymell datblygu polisi i'w gytuno ar hyd absenoldeb, trefniadau gweithdrefnol a  darpariaethau cyflenwi, yn cynnwys trafodaethau agos rhwng grwpiau gwleidyddol, Comisiwn y Senedd, y Pwyllgor Busnes a'r bwrdd taliadau. Mae argymhelliad ar gyfer darpariaethau locwm ar gyfer Aelodau nad ydynt ar gael dros dro i'w harchwilio. Rydym hefyd yn credu ei bod yn hanfodol, ac yn hen bryd cael darpariaeth crèche gofal plant ar y safle. Ni yw'r unig Senedd yn y DU heb un. Mae darpariaeth gofal plant yn rhoi arwydd clir o'r math o sefydliad yr ydym am fod: hygyrch, cynhwysol ac ystyriol o deuluoedd. Rhaid archwilio opsiynau ym mlwyddyn gyntaf y tymor nesaf.

Mae Senedd fwy amrywiol yn arwain at ganlyniadau mwy teg i bobl Cymru. Ers datganoli, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal, ac rydym am gryfhau'r egwyddorion sylfaenol hynny. Rydym yn argymell ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb mewn Rheolau Sefydlog ac ymarfer sefydlog. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad am bwyllgor cydraddoldeb. Rydym yn cynnig sefydlu pwyllgor cydraddoldeb pwrpasol a chawcws ffurfiol i fenywod yn y Rheolau Sefydlog. Dylai pwyllgorau graffu ar dystiolaeth cydraddoldeb yn systematig, gyda chymorth hyfforddiant, data ac arbenigedd arbenigol. Wrth graffu ar Filiau, dylai pwyllgorau roi'r un pwyslais i effeithiau cydraddoldeb ag y maent yn ei roi ar hyn o bryd i oblygiadau ariannol. Dylai Llywodraeth Cymru hysbysu pwyllgorau pan fydd asesiadau deddfwriaethol o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi. Rwyf wedi eirioli ers amser maith dros ddefnyddio offer cyllidebu ar sail rhywedd, megis asesiadau ar sail rhywedd. Bydd hyfforddiant rheolaidd yn helpu i sicrhau bod y dulliau hynny'n cael eu defnyddio'n gyson, gan gynnwys drwy adolygiadau prif ffrwd o'r rhaglen lywodraethu.

Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau ac ymateb y Llywydd i'r pedwar maes: prif ffrydio cydraddoldeb, cynrychiolaeth a chyfranogiad, camdriniaeth tuag at Aelodau, ac arferion gwaith. Lywydd, dyma adroddiad cyntaf y Senedd o'r math hwn, archwiliad sy'n sensitif i rywedd. Mae'n pwyso'n uniongyrchol ar brofiad Aelodau a gwaith arbenigol Prifysgol Caerdydd. Mae'r atebion yr ydym yn eu cynnig yn drawsbynciol ac yn ymarferol, gan gynnwys Rheolau Sefydlog, gwaith pwyllgorau, safonau ymddygiad, gweithdrefnau etholiadol a'r strwythurau cymorth a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd. Bydd gweithredu effeithiol yn dibynnu'n fawr ar arweinyddiaeth barhaus y Comisiwn. Felly, rydym yn argymell cadw Comisiynydd sy'n gyfrifol am gyfle cyfartal, gyda chefnogaeth uwch swyddog penodedig ar gyfer cyflawni. Yn anad dim, rydym yn argymell sefydlu bwrdd gweithredu i oruchwylio ac ysgogi cynnydd. Rhaid inni beidio â chaniatáu i'r adroddiad hwn hel llwch. Os ydym eisiau Senedd wirioneddol gynhwysol i bawb, rhaid inni sicrhau'r newidiadau sefydliadol sydd eu hangen i barhau â'r gwaith.

17:20

I was pleased to be able to serve on this cross-party board that oversaw this family-friendly and inclusive Parliament review. I'd just like to begin by thanking Joyce Watson for the constructive way in which she led this work, and also fellow Members for the collegiate way we approached the various areas.

Since the early days of devolution, the then Welsh Assembly and now Senedd Cymru has taken pride in being a Parliament that seeks to be accessible, representative and family-friendly. Over time, the Senedd has introduced a number of practices, whether that is proxy voting for parental leave, hybrid participation in proceedings, or practical support for Members with caring responsibilities. These achievements should be recognised.

But the purpose of this review was not simply to reflect on past progress. It was to ask how we make sure those principles are properly embedded in the way the institution works in the future. Institutions evolve. Membership changes. Expectations from the public change as well. And if good practice relies only on informal arrangements or individual champions, there is always a risk that progress can be lost over time. Many of the recommendations in this report are therefore about strengthening the structures and systems that support an inclusive Parliament, whether that's how we organise our business, how committees consider equality in their scrutiny work, or how the Senedd continues to support Members with caring responsibilities. 

The report also addresses that important issue we've already heard about that unfortunately affects politicians across all parties and all levels of government, and that is the increasing level of abuse and intimidation faced by many in public life. If we want people from a wide range of backgrounds to consider standing for election, they must feel that public service is something they can undertake safely and with dignity. The recommendations aimed at improving monitoring, support and protection for Members are therefore an important part of this work.

Dirprwy Lywydd, this is a substantial report, with many recommendations, following much debate. I was pleased to contribute to the work, and I support the overall aim of ensuring that the Senedd remains an accessible and welcoming place for people from all walks of life. However, there were a small number of recommendations that I expressed reservations about during the review. For example, the review recommends, as we've just heard, the creation of a new implementation board to oversee the delivery of these proposals. My own view was that the work we undertook was very much intended to be a task-and-finish review, and as such, the responsibility for taking forward the recommendations could naturally sit within the existing structures of the Senedd. That said, I understand the intention behind the proposal, which is to ensure the work continues to receive attention.

There are also recommendations that move into broader constitutional questions, for example the suggestion that the Welsh Government should seek additional legislative competence under the Government of Wales Act 2006. Members will understand that I approach questions about further constitutional powers with some caution, and that reflects the position of my group also.

And finally, on the question of hybrid participation in Senedd business, the report itself, in a footnote, reflects the view I expressed during the review: I support retaining the option of virtual participation when it is generally necessary, for example because of illness or caring responsibilities, but my view remains that the default position should be that Senedd business is conducted in person, which I believe reflects public expectations and recognises the value of personal interaction in parliamentary debate and scrutiny. That said, where virtual participation is necessary, it should absolutely be treated equally. None of those things detract from the overall value of the work that is being undertaken.

The Senedd is approaching a period of significant change, particularly as we move forward to the new expanded seventh Senedd, so it is appropriate at moments like this to step back and consider whether our structures and ways of working are fit for the future. This review provides a thoughtful evidence base to help inform that discussion. Ultimately, a strong democracy depends not only on the laws we pass, but on the culture of the institutions that represent the public. If people from across Welsh society can see that this Parliament is accessible, respectful and supportive of those who serve in it, then that strengthens our democracy as a whole. I thank everyone who contributed to the review, and I look forward to the debate on how we continue to develop a Senedd that works for Members, staff and, most importantly, the people of Wales. Diolch.

Roeddwn yn falch o allu gwasanaethu ar y bwrdd trawsbleidiol a oruchwyliai'r adolygiad hwn o Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Joyce Watson am y ffordd adeiladol y bu'n arwain y gwaith hwn, a hefyd i gyd-Aelodau am y ffordd golegol yr aethom i'r afael â'r gwahanol feysydd.

Ers dyddiau cynnar datganoli, mae Cynulliad Cymru ar y pryd a Senedd Cymru bellach wedi ymfalchïo mewn bod yn Senedd sy'n ceisio bod yn hygyrch, yn gynrychioliadol ac yn ystyriol o deuluoedd. Dros amser, mae'r Senedd wedi cyflwyno nifer o arferion, boed yn bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant, cyfranogiad hybrid mewn trafodion, neu gymorth ymarferol i Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu. Dylid cydnabod y cyflawniadau hyn.

Ond nid pwrpas yr adolygiad hwn oedd myfyrio ar gynnydd yn y gorffennol yn unig. Roedd yn gofyn sut i sicrhau bod yr egwyddorion hynny'n cael eu hymgorffori'n briodol yn y ffordd y mae'r sefydliad yn gweithio yn y dyfodol. Mae sefydliadau'n esblygu. Mae'r aelodaeth yn newid. Mae disgwyliadau'r cyhoedd yn newid hefyd. Ac os yw arferion da'n dibynnu ar drefniadau anffurfiol neu hyrwyddwyr unigol yn unig, mae risg bob amser y caiff cynnydd ei golli dros amser. Mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn felly yn ymwneud â chryfhau'r strwythurau a'r systemau sy'n cefnogi Senedd gynhwysol, boed yn y ffordd y trefnwn ein busnes, y ffordd y mae pwyllgorau'n ystyried cydraddoldeb yn eu gwaith craffu, neu'r ffordd y mae'r Senedd yn parhau i gefnogi Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu. 

Mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â'r mater pwysig y clywsom amdano eisoes sydd, yn anffodus, yn effeithio ar wleidyddion ar draws pob plaid a phob lefel o lywodraeth, sef y lefel gynyddol o gamdriniaeth a bygythiad sy'n wynebu nifer o bobl mewn bywyd cyhoeddus. Os ydym am i bobl o ystod eang o gefndiroedd ystyried sefyll etholiad, rhaid iddynt deimlo bod gwasanaeth cyhoeddus yn rhywbeth y gallant ymgymryd ag ef yn ddiogel a chydag urddas. Felly, mae'r argymhellion sy'n anelu at wella monitro, cefnogaeth a diogelwch i Aelodau'n rhan bwysig o'r gwaith hwn.

Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn adroddiad sylweddol, gyda llawer o argymhellion, yn dilyn llawer o drafodaeth. Roeddwn yn falch o gyfrannu at y gwaith, ac rwy'n cefnogi'r nod cyffredinol o sicrhau bod y Senedd yn parhau i fod yn lle hygyrch a chroesawgar i bobl o bob cefndir. Fodd bynnag, roedd nifer fach o argymhellion y mynegais amheuon yn eu cylch yn ystod yr adolygiad. Er enghraifft, fel rydym newydd glywed, mae'r adolygiad yn argymell y dylid creu bwrdd gweithredu newydd i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r cynigion hyn. Fy marn i oedd bod y gwaith a wnaethom wedi'i fwriadu'n gryf i fod yn adolygiad gorchwyl a gorffen, ac felly, gallai'r cyfrifoldeb am fwrw ymlaen â'r argymhellion fodoli'n naturiol o fewn strwythurau presennol y Senedd. Wedi dweud hynny, rwy'n deall y bwriad y tu ôl i'r cynnig, sef sicrhau bod y gwaith yn parhau i gael sylw.

Mae yna argymhellion hefyd sy'n mynd yn rhan o gwestiynau cyfansoddiadol ehangach, er enghraifft yr awgrym y dylai Llywodraeth Cymru geisio cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd yr Aelodau'n deall fy mod yn ystyried cwestiynau am bwerau cyfansoddiadol pellach gyda pheth gofal, ac mae hynny'n adlewyrchu safbwynt fy ngrŵp hefyd.

Ac yn olaf, ar fater cyfranogiad hybrid ym musnes y Senedd, mae'r adroddiad ei hun, mewn troednodyn, yn adlewyrchu'r farn a fynegais yn ystod yr adolygiad: rwy'n cefnogi cadw'r opsiwn o gyfranogiad rhithwir pan fo'n angenrheidiol yn gyffredinol, oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu er enghraifft, ond fy marn i'n dal i fod yw y dylai'r sefyllfa ddiofyn olygu bod busnes y Senedd yn cael ei gynnal yn y cnawd, ac rwy'n credu mai dyna sy'n adlewyrchu disgwyliadau'r cyhoedd gan gydnabod gwerth rhyngweithio personol mewn dadleuon a chraffu seneddol. Wedi dweud hynny, lle mae cyfranogiad rhithwir yn angenrheidiol, dylid ei drin yn gyfartal. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny'n tynnu oddi wrth werth cyffredinol y gwaith sy'n cael ei wneud.

Mae'r Senedd yn dod at gyfnod o newid sylweddol, yn enwedig wrth inni symud ymlaen i'r seithfed Senedd estynedig newydd, felly mae'n briodol ar adegau fel hyn inni gamu'n ôl ac ystyried a yw ein strwythurau a'n ffyrdd o weithio yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r adolygiad hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth feddylgar i helpu i lywio'r drafodaeth honno. Yn y pen draw, mae democratiaeth gref yn dibynnu nid yn unig ar y deddfau yr ydym yn eu pasio, ond ar ddiwylliant y sefydliadau sy'n cynrychioli'r cyhoedd. Os gall pobl o bob rhan o gymdeithas Cymru weld bod y Senedd hon yn hygyrch, yn barchus ac yn gefnogol i'r rhai sy'n gwasanaethu ynddi, mae hynny'n cryfhau ein democratiaeth yn ei chyfanrwydd. Diolch i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad, ac edrychaf ymlaen at y ddadl ar sut y gwnawn barhau i ddatblygu Senedd sy'n gweithio i Aelodau, staff, ac yn bwysicaf oll, i bobl Cymru. Diolch.

17:25

Dwi am wneud tri phwynt yn y ddadl heddiw. Mae'r cyntaf o gwmpas yr angen am fecanweithiau statudol i sicrhau balans rhywedd yn Seneddau'r dyfodol. Yn ail, dwi am sôn am y cynnydd hynod bryderus mewn sylwadau sarhaus a chamdriniaeth o ferched ar-lein. Ac yn drydydd, dwi am ddadlau bod angen i'r gwaith o greu Senedd sy'n arddel cydraddoldeb mewn cynrychiolaeth a chyfranogiad ar draws y nodweddion sy'n cael eu gwarchod fod yn fater ar gyfer y sefydliad yn ei gyfanrwydd, nid yn waith sy'n cael ei yrru gan rai merched a grwpiau lleiafrifol ymroddedig yn unig.

Mae tystiolaeth yn dangos bod seneddau sydd yn gydradd o ran rhywedd yn sefydliadau mwy effeithiol o ran democratiaeth, gan fod lleisiau yn gydradd o gwmpas y bwrdd. Mae hynny, yn ei dro, yn arwain at sylw priodol i faterion sy'n effeithio ar ferched ymhob man, yn ogystal â'r materion sy'n effeithio ar ddynion neu'r boblogaeth gyfan, o faterion yn ymwneud â'r misglwyf a'r menopos i ofalwyr di-dâl—lle mae'r mwyafrif helaeth yn ferched—i ddiogelwch merched a thrais yn erbyn menywod.

Fy mhryder mawr i ydy na fydd Seneddau'r dyfodol yn agos at fod yn gydradd o ran rhywedd. Dŷn ni wedi disgyn yn ôl yn y Senedd yma. Felly, dydy dulliau gwirfoddol ddim yn gweithio. Mi oedd o'n siom mawr i mi na wireddwyd yr ymrwymiad i greu cwotâu rhywedd statudol, sef yr unig ffordd i sicrhau cynrychiolaeth gydradd ar draws y pleidiau yn y Senedd.

Dwi'n falch bod argymhelliad 4 yr adroddiad sydd gerbron heddiw ynglŷn â datganoli'r cynhwysedd i alluogi deddfu i gefnogi amrywiaeth ymgeiswyr etholiadol—fod hwn wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae hwn yn argymhelliad hollbwysig ar gyfer y Llywodraeth nesaf. Mae hyn yn greiddiol i wireddu'r nod o Senedd gyfartal.

Dwi'n falch bod fy mhlaid i wedi sicrhau bod hanner ein hymgeiswyr yn ferched, gyda merched ar frig y rhestrau mewn hanner neu fwy o etholaethau ar gyfer etholiad mis Mai. Y siom ydy nad ydy hynny'n debygol o fod yn wir ar gyfer rhai pleidiau eraill, ac y byddwn ni, fel Senedd gyfan, wedi disgyn yn ôl ymhellach o ran cydraddoldeb rhywedd ar ôl yr etholiad.

Trof at fy ail bwynt, sef y cynnydd hollol annerbyniol mewn camdriniaeth a sylwadau sarhaus yn erbyn menywod ar-lein. Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd yn tynnu sylw at hyn—at y lefel hunllefus o gamdriniaeth ar-lein yn erbyn menywod. Mae'n hollbwysig bod y peilot sydd ar waith ar hyn o bryd sy'n monitro cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nifer ohonon ni—bod y peilot yna'n parhau ac yn dod yn un sefydlog yn y Senedd nesaf. Dwi'n meddwl, a dwi'n cyd-fynd efo beth mae Joyce Watson newydd ei ddweud, fod angen hefyd fod y system fonitro yma yn digwydd yn ystod y cyfnod nesaf sydd o'n blaenau, y cyfnod etholiadol. Ac mae'n bwysig bod yr argymhellion yn yr adroddiad o gwmpas y maes yma yn cael eu gweithredu.

Mae'r hinsawdd bresennol o ymosodiadau personol diddiwedd ar Aelodau Seneddol benywaidd ar-lein yn rhwystro merched rhag rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr. Dwi wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers deng mlynedd erbyn hyn, a dwi wedi gweld cynnydd syfrdanol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mewn ymosodiadau—ymosodiadau arnaf fi, fel menyw mewn gwleidyddiaeth, fel menyw hŷn mewn gwleidyddiaeth ac fel menyw sydd yn siarad Cymraeg yn fy mywyd cyhoeddus. Mae'r ymddygiad yn gywilyddus o wael. Weithiau, mae'r sylwadau yn croesi'r trothwy troseddol, a dyna le mae'r peilot mor werthfawr, a'r gweithredu sy'n gallu digwydd wedyn er mwyn dal y troseddwyr i gyfrif a drwy hynny ddiogelu merched ymhobman.

Dwi'n troi at fy mhwynt olaf, sef yr angen i'r Senedd fel sefydliad arwain y newid sydd ei angen. Dŷn ni wedi bod yn flaengar yng Nghymru, do, ac mae angen dathlu hynny. Mae llawer o hynny wedi digwydd oherwydd ymdrechion unigol nifer o ferched dros gyfnod hir, ac yn cael eu cefnogi gan gynghreiriaid o blith y dynion, ie. Mae nifer o'r merched sydd wedi gyrru'r newid efo ni heddiw yn y Siambr. Mae nifer yn ymddeol eleni—

I wish to make three points in today's debate. The first is around the need for statutory mechanisms to ensure gender balance in future Senedds. Secondly, I want to talk about the extremely worrying increase in offensive comments and abuse of women online. And thirdly, I want to argue that the work of creating a Senedd that promotes equality in representation and participation across the protected characteristics needs to be a matter for the institution as a whole, not work that is driven only by some dedicated women and representative groups.

Evidence shows that parliaments that are gender balanced are more effective institutions in terms of democracy, as voices are equal around the table. That, in turn, leads to appropriate attention to issues that affect women everywhere, as well as the issues that affect men or the population as a whole, from issues related to menstruation and menopause to unpaid carers—the vast majority of whom are women—to women's safety and violence against women.

My great concern is that the Seneddau of the future will not be close to being gender balanced. We have taken a backward step in this Senedd. So, voluntary methods don't work. It was a great disappointment to me that the commitment to create statutory quotas was not realised, as this is the only way to ensure equal representation across the parties in the Senedd.

I am pleased that recommendation 4 of the report before us today regarding the devolution of competence to enable legislation to support the diversity of electoral candidates—that that has been included in the report. This is a vital recommendation for the next Government. This is a core part of achieving the goal of an equal Senedd.

I am very proud that my party has ensured that half of our candidates are women, with women at the top of the lists in at least half of the constituencies in the May election. It is disappointing that this is not likely to be the case for some other parties, and that we, as the Senedd, will have fallen back even further in terms of gender balance after the election.

I turn now to my second point, which is the entirely unacceptable increase in abuse and offensive comments made against women online. The Cardiff University report draws attention to this and the nightmarish level of online abuse levelled against women. It is vital that the pilot scheme currently in place that monitors the social media accounts of many of us continues and becomes a permanent part of the next Senedd. I do believe, and I agree with what Joyce Watson has just said, that this monitoring system should be in place in the next period that we have, namely the electoral period. And it's important that the recommendations in the report around this area are implemented.

The current climate of endless personal attacks on female Members online is preventing women from putting their names forward as candidates. I've been a member of the Senedd for 10 years by now, and I have seen a shocking increase just over the past year in attacks—attacks on me, as a woman in politics, as an older woman in politics and as a woman who speaks Welsh in my public life. The behaviour is shamefully bad. Sometimes, the comments do cross the criminal threshold, and that is where the pilot is so valuable, and the action that can take place afterwards in order to hold the criminals to account and thereby protect women everywhere.

I turn now to my last point, which is the need for the Senedd as an institution to lead the change that is required. We have been progressive in Wales, yes, and that does need to be celebrated. Much of that has happened because of the individual efforts of many women over a long period, and being supported by some male allies, yes. A number of the women who have driven the change are with us today in the Chamber. Many are retiring this year—

17:30

—ac mae ein diolch yn fawr iawn iddyn nhw ac i'r merched fu yma o'u blaenau nhw.

Mi fues i mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn trafod yr hyn sydd gerbron heddiw yma, a'r neges glir gan yr Athro Sarah Childs a'r Athro Rosie Campbell oedd hyn: mae'n rhaid i'r newid ddigwydd ar lefel y sefydliad cyfan. Mae llawer o ferched wedi gorfod defnyddio eu cyfalaf gwleidyddol er mwyn symud yr agenda ymlaen yn y gorffennol. Mae’n bryd i’r gwaith godi i lefel sefydliad cyfan, a dyna ydy fy anogaeth i’r Comisiwn heddiw.

—and we are very grateful to them and to the women who have been here before them.

I was at an event organised by Cardiff University recently discussing the report before us today, and the very clear message from Professor Sarah Childs and Professor Rosie Campbell was this: the change must take place at a whole institutional level. Many women have had to use their political capital in order to move the agenda forward in the past. It's time for the work to rise to the whole institution level, and that is my message of encouragement to the Commission today.

17:35

It has been a genuine privilege to serve on this board that produced the report. I want to begin by thanking colleagues from across the Siambr who gave their time, and the clerking team, particularly Martha Da Gama Howells, who really worked her socks off in order to get this to where it is in such a short period of time. But particular thanks must go to Joyce, who drove this, who absolutely persisted to make sure that this happened, and we are very grateful to you, Joyce, for bringing it to us today.

Across the Siambr, we know that this is what we do best. We work across boundaries to ask the questions that matter, and the question at the heart of this report is simple and profound. It is: what kind of Parliament do we want Wales to have? We've heard that we have much to be proud of in the past, but pride cannot become complacency. Too much of what we have built rests on the shoulders of champions, which Siân has just referred to. Wales has both the opportunity and the responsibility to lead the world again, but to do that, equality must not be left to chance, not be dependent on goodwill, but be hard-wired and permanent. I want to speak about a few things that came through. Firstly, sadly, the experience of abuse in politics. Members that we heard from experienced online abuse, in-person abuse, threats, harassment and intimidation. But what I found most shocking was not the scale of it, but it was how many colleagues have simply come to accept it. To describe it in their own words, 'It is just a cost of doing politics.' We must not accept that. Abuse should never be the price someone pays for choosing to serve their community.

For women, we know this abuse is more frequent, more sustained and more vicious, including threats of rape and attacks on our appearance. I have spoken publicly about the misogynistic abuse and threats I have personally received. This abuse is designed not just to harm, but to silence, to wear us down, to push us out of public life altogether. We know that women, young women and people from ethnic minority backgrounds have looked at what elected representatives face and say, 'No, not for me.'

I also wanted to raise the issue of parental leave. At present, Members of the Senedd do not have a formal parental leave policy. That means Members who become parents or whose partners give birth often have to rely on informal arrangements and goodwill to navigate what should be a clear and supportive process. In particular, I wish to speak about miscarriage leave, which, for many women, is a profound and deeply personal loss. To go through such a loss without any formal entitlement, no clear policy, no institutional support—that says something about us as a Senedd, and I find that deeply uncomfortable. I find that deeply uncomfortable because I myself have experienced four miscarriages, and I know the effect it can have. So, we must move forward on this.

Finally, I want to talk about how we get to free childcare. Myself and Plaid Cymru and our political parties want free childcare, but, actually, we have to be the people we want to see. If we want people with young families to participate fully in our democracy, we must make it practically possible for them to do so. I welcome the work that the Senedd Commission has already begun in exploring options, but, ultimately, what matters is delivery. Families need practical support, not just discussions about support.

Finally, on equality mainstreaming, too much relies on structures that are not formally guaranteed. Groups such as the women's caucus, cross-party groups supporting women and committees have played an incredibly important role. But, again, their existence should not depend solely on informal arrangements. We need a dedicated equality committee to be mandated in Standing Orders. We need the women's caucus to be mandated in Standing Orders. Equality scrutiny must never again be at risk of being absorbed into a broader portfolio and squeezed out. This is the second committee I have sat on looking at how we can create gender equality. The first one was the gender quota committee, and sadly we saw Welsh Labour not willing to go ahead with that. But this is something we absolutely have to see being being taken forward. Reports can receive warm words and then gather dust. The seventh Senedd gives us a genuine opportunity to make permanent what has, for too long, been precarious. Wales has shown the world how it can lead. The challenge now is to continue that work carefully, thoughtfully and together. Diolch yn fawr iawn.

Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gwasanaethu ar y bwrdd a gynhyrchodd yr adroddiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr a roddodd eu hamser, a'r tîm clercio, yn enwedig Martha Da Gama Howells, a weithiodd yn eithriadol o galed i sicrhau bod yr adroddiad yn barod mewn cyfnod mor fyr. Ond rhaid diolch yn arbennig i Joyce, a ysgogodd hyn, ac a ddyfalbarhaodd i sicrhau ei fod yn digwydd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi, Joyce, am ei gyflwyno i ni heddiw.

Ar draws y Siambr, gwyddom mai dyma rydym yn ei wneud orau. Rydym yn gweithio ar draws ffiniau i ofyn y cwestiynau sy'n bwysig, ac mae'r cwestiwn sydd wrth wraidd yr adroddiad hwn yn syml ac yn ddwfn. Y cwestiwn yw: pa fath o Senedd rydym am i Gymru ei chael? Rydym wedi clywed bod gennym lawer i fod yn falch ohono yn y gorffennol, ond ni ddylai balchder droi'n hunanfodlonrwydd. Mae gormod o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yn seiliedig ar waith rhagorol ein rhagflaenwyr, rhywbeth y mae Siân newydd gyfeirio ato. Mae gan Gymru gyfle a chyfrifoldeb i arwain y byd eto, ond i wneud hynny, ni ddylid gadael i gydraddoldeb fod yn rhywbeth sy'n digwydd ar hap, ni ddylid bod yn ddibynnol ar ewyllys da, rhaid iddo fod yn annatod ac yn barhaol. Rwyf am siarad am rai o'r pethau a ddaeth i'r amlwg. Yn gyntaf, yn anffodus, y profiad o gamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae'r Aelodau y clywsom ganddynt wedi profi camdriniaeth ar-lein, camdriniaeth wyneb yn wyneb, bygythiadau, aflonyddu a chodi ofn. Ond nid maint y broblem oedd yn fwyaf syfrdanol, ond faint o gyd-Aelodau sydd wedi dod i dderbyn y sefyllfa. I'w disgrifio yn eu geiriau eu hunain, 'Dyma gost gwneud gwleidyddiaeth.' Rhaid inni beidio â derbyn hynny. Ni ddylai camdriniaeth byth fod yn bris y mae rhywun yn ei dalu am ddewis gwasanaethu eu cymuned.

Gwyddom fod camdriniaeth yn digwydd yn amlach i fenywod, a'i bod yn fwy parhaus ac yn fwy creulon, gan gynnwys bygythiadau o dreisio ac ymosodiadau ar ein hymddangosiad. Rwyf wedi siarad yn gyhoeddus am y gamdriniaeth a'r bygythiadau misogynistaidd a gefais i'n bersonol. Mae'r gamdriniaeth hon wedi'i chynllunio nid yn unig i'n niweidio, ond i'n tawelu, i'n blino, i'n gwthio allan o fywyd cyhoeddus yn gyfan gwbl. Gwyddom fod menywod, menywod ifanc a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi edrych ar yr hyn y mae cynrychiolwyr etholedig yn ei wynebu a dweud, 'Na, nid i mi.'

Roeddwn eisiau codi mater absenoldeb rhiant hefyd. Ar hyn o bryd, nid oes gan Aelodau'r Senedd bolisi absenoldeb rhiant ffurfiol. Golyga hynny fod yn rhaid i Aelodau sy'n dod yn rhieni neu y mae eu partneriaid yn rhoi genedigaeth yn aml ddibynnu ar drefniadau anffurfiol ac ewyllys da i ymdopi â'r hyn a ddylai fod yn broses glir a chefnogol. Yn fwyaf arbennig, hoffwn sôn am absenoldeb camesgoriad, sydd i lawer o fenywod yn golled ddofn a phersonol iawn. Mae mynd drwy golled o'r fath heb unrhyw hawl ffurfiol, polisi clir, na chymorth sefydliadol—mae hynny'n dweud rhywbeth amdanom fel Senedd, ac mae hynny'n fy ngwneud yn anghyfforddus iawn. Mae hynny'n fy ngwneud yn anghyfforddus iawn am fy mod wedi cael pedwar camesgoriad fy hun, ac rwy'n ymwybodol o'r effaith y gall ei chael. Felly, rhaid inni wneud cynnydd ar hyn.

Yn olaf, hoffwn sôn ynglŷn â'r ffordd y gallwn gyrraedd gofal plant am ddim. Rwyf i a Phlaid Cymru a'n pleidiau gwleidyddol eisiau gofal plant am ddim, ond mewn gwirionedd, rhaid inni fod y bobl rydym am eu gweld. Os ydym am i bobl â theuluoedd ifanc gymryd rhan lawn yn ein democratiaeth, rhaid inni ei gwneud yn ymarferol bosib iddynt wneud hynny. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Comisiwn y Senedd eisoes wedi'i ddechrau ar archwilio opsiynau, ond yn y pen draw, yr hyn sy'n bwysig yw cyflawni. Mae angen cymorth ymarferol ar deuluoedd, nid trafodaethau am gymorth yn unig.

Yn olaf, ar brif ffrydio cydraddoldeb, mae gormod yn dibynnu ar strwythurau nad ydynt wedi'u sicrhau'n ffurfiol. Mae grwpiau fel cawcws y menywod, grwpiau trawsbleidiol sy'n cefnogi menywod a phwyllgorau wedi chwarae rhan hynod bwysig. Ond unwaith eto, ni ddylai eu bodolaeth ddibynnu'n llwyr ar drefniadau anffurfiol. Rydym angen gweld mandad yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer pwyllgor cydraddoldeb pwrpasol. Rydym angen gweld mandad yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer cawcws y menywod. Ni ddylai craffu ar gydraddoldeb byth eto fod mewn perygl o gael ei amsugno i bortffolio ehangach a'i wasgu allan. Dyma'r ail bwyllgor yr wyf wedi bod yn aelod ohono sy'n edrych ar sut y gallwn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Y cyntaf oedd y pwyllgor cwota rhywedd, ac yn anffodus, nid oedd Llafur Cymru yn barod i fwrw ymlaen â hynny. Ond mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei weld yn cael ei ddatblygu. Gall adroddiadau gael eu croesawu ac yna hel llwch. Mae'r seithfed Senedd yn rhoi cyfle gwirioneddol inni wneud yn barhaol yr hyn sydd wedi bod yn ansicr ers gormod o amser. Mae Cymru wedi dangos i'r byd sut y gall arwain. Yr her nawr yw parhau â'r gwaith hwnnw'n ofalus, yn feddylgar a chyda'n gilydd. Diolch yn fawr iawn.

17:40

I just wanted to ask a question, really, around the issue of breastfeeding, because I'm surprised that in this report we're merely asking for a breastfeeding room to be provided—no dates applied. I suspect there will be one very powerful promoter of breastfeeding in the next Senedd, but we can't be certain of that. I just wondered, as we are so keen to involve the whole of our Welsh community in the Senedd, why we haven't got a breastfeeding-friendly sign here prominently displayed at the entrance to the Senedd, because it isn't just about staff, it's also about people who visit the Senedd with their children and without their children. So, I suppose I'm lacking in understanding as to why we haven't managed to do this either in the sixth Senedd or, indeed, any of the other Senedds.

Roeddwn eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â mater bwydo ar y fron, gan fy mod yn synnu ein bod yn gofyn yn yr adroddiad hwn am ddarparu ystafell fwydo ar y fron yn unig—heb unrhyw ddyddiadau penodol. Rwy'n tybio y bydd un hyrwyddwr pwerus iawn i fwydo ar y fron yn y Senedd nesaf, ond ni allwn fod yn sicr o hynny. Gan ein bod mor awyddus i gynnwys cymuned gyfan Cymru yn y Senedd, pam nad oes gennym arwydd i groesawu bwydo ar y fron yma wedi'i arddangos yn amlwg wrth fynedfa'r Senedd, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na'r staff yn unig, mae'n ymwneud hefyd â phobl sy'n ymweld â'r Senedd gyda'u plant a heb eu plant. Felly, nid wyf yn deall yn iawn pam nad ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn y chweched Senedd, nac yn unrhyw un o'r Seneddau eraill yn wir.

Of course, I welcome the report that's been put together and appreciate the work that's gone into it. I appreciate, actually, the level of candidness that a number of us were able to have when contributing to this report. I'll start with the social media element of this, because I think this is incredibly important. I've spoken a number of times around the types of things that people see on social media, which then leads and influences people to say what they say to politicians—whether that's female politicians, or, in some cases, male politicians as well. They often come from anonymous accounts—more often than not, actually; probably the majority of the time.

Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r adroddiad a luniwyd ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed arno. Rwy'n gwerthfawrogi'r lefel o onestrwydd a ddangoswyd gan nifer ohonom wrth gyfrannu at yr adroddiad hwn. Fe ddechreuaf gydag elfen cyfryngau cymdeithasol hyn, gan y credaf fod hyn yn hynod o bwysig. Rwyf wedi sôn nifer o weithiau am y mathau o bethau y mae pobl yn eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedyn yn arwain ac yn dylanwadu ar bobl i ddweud yr hyn y maent yn ei ddweud wrth wleidyddion—boed yn wleidyddion benywaidd, neu wleidyddion gwrywaidd hefyd mewn rhai achosion. Yn aml, maent yn dod o gyfrifon dienw—yn amlach na pheidio, mewn gwirionedd; y rhan fwyaf o'r amser, mae'n debyg.

Always, actually—yes, I think you're right, Sioned—come from anonymous accounts. I've got a particular couple of words that I would use for those types of people who don't put their name to the sorts of stuff they say, but I'll keep this as diplomatic as possible. I experienced my first pile-on really early into my time here in the Senedd back in 2021. Having worked in hospitality before, you take things as they come, but it does have a profound effect on you.

I remember talking to somebody who was in politics at the time and what I was told by that person—I won't name them—was, 'Oh, well, that's the way it is—grow a thicker skin.' That's a completely unbelievable stance to take when we want to talk about bringing vulnerable people into politics, when we want to talk about bringing women into politics. To turn around and say, 'I'll just grow a thicker skin—this is the way it's going to be'—we're never going to reach our objectives of getting a Senedd that represents the type of society that we want to see with that sort of attitude.

So, I particularly welcome the recommendation around the monitoring of social media, and this is not trying to shut down scrutiny of politicians at all, because I think, actually, challenge on policy is really welcome. The real shame is—and I think I speak for a number of Members here—we have found ourselves in a position, because of that level of personal abuse that we have on social media, that we then don't engage in the policy discussions on social media. That's a negative impact on democracy. So, again, the recommendation on monitoring social media is really important. And, I think, trying to, in a wider sense, push social media companies to end anonymous accounts on their platforms is really important as well, because a lot of these people wouldn't say the types of things that they're saying to your face, let alone if they actually had to put their names to these things as well. So, just on social media, I think that's really important.

On the family life aspect, I take the point Peter said around public expectation around what this job means. That doesn't mean to say, though, that we should then be restricted to what we do within this place to make it more friendly and more welcoming to people with families getting involved. I also think the public expect this place to reflect the society that it seeks to represent.

The paternity issue—Jane, I think you were completely right about this—I recently went through that. I think the system was very informal and did rely on the ability to get a proxy. Heledd was my proxy and I will say—I'll put it on the record—she was a good proxy. I'd highly recommend her for anyone who comes later on. [Laughter.] But the difficulty I found, actually, in dealing with the sort of paternity policy that we have in the Senedd is there was no clear guidance. It was talking to Members' business support and being told, 'Oh, well, really it's up to you how long you take off.' Now, there are implications to that, and on one level, yes, flexibility is great, but on another level then there's pressure on some Members potentially not to take, actually, what they would be entitled to in another job because of the nature of this role. So, one thing I would really want to see when we discuss paternity and parental leave is actually having that clear guidance available to Members around what the length of time would be, our rights within that role as well, because we can't be in a situation where people feel pressured into not taking the full amount of time they would be entitled to if they were in another role.

On family life, and this place being family friendly, I was really lucky to be able to welcome my son Gruff into the Senedd last week. He had a lot of attention. A number of Members were more interested in talking to him and spending time with him than they were with me—which is completely fine, by the way; I don't blame you. He knows he's cute as well—that's also the problem. But I was glad he was able to come in and actually have food with me and my wife and her parents, because I wouldn't have seen him at all that week had that not happened. We start this job really early in the morning; we finish really, really late. If you've just had a child, you're missing out on those precious moments, whether that's from a mother's perspective or even a father's perspective. We talk a lot about the need for male role models within young children's lives. Well, I want to be that male role model, but I have to be present, and I have to have that ability to be able to see my son on a regular basis.

Breastfeeding, which Jenny raised—I was literally just talking to both Siân and Sioned about what the breastfeeding policy would be in this place. I would really welcome some clarity on that.

Then finally, very briefly, Dirprwy Lywydd, on business, the committee quota that was set out in the report is something I think we should explore more. I'm thinking that from the perspective of somebody who was on the Petitions Committee some time ago, where Carolyn was the Chair and the rest of us on the committee were all men. Now, again, the Petitions Committee in particular is there to listen to our constituents, is there to take up issues within the community. So, I think, actually, of all committees, the Petitions Committee should at the very least reflect the society that it seeks to engage with. On that note, Dirprwy Lywydd, I will end.

Bob amser, mewn gwirionedd—ie, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, Sioned—yn dod o gyfrifon dienw. Mae gennyf un neu ddau o eiriau penodol y buaswn yn eu defnyddio ar gyfer y mathau o bobl nad ydynt yn rhoi eu henwau i'r mathau o bethau y maent yn eu dweud, ond rwyf am gadw hyn mor ddiplomatig â phosib. Profais fy ymosodiad torfol cyntaf yn gynnar iawn yn fy nghyfnod yma yn y Senedd yn ôl yn 2021. Ar ôl gweithio ym maes lletygarwch, rydych chi'n dysgu sut i ddelio â phethau fel hyn, ond mae'n cael effaith ddofn arnoch.

Rwy'n cofio siarad â rhywun a oedd yn y byd gwleidyddol ar y pryd a'r hyn a ddywedodd yr unigolyn hwnnw wrthyf—nid wyf am eu henwi—oedd, 'O, wel, fel yna mae hi—tyfwch groen mwy trwchus.' Mae'n safbwynt cwbl anghredadwy a ninnau eisiau sôn am ddod â phobl agored i niwed i mewn i wleidyddiaeth, a ninnau eisiau sôn am ddod â menywod i mewn i wleidyddiaeth. Mae dweud, 'Rhaid imi dyfu croen mwy trwchus—dyma sut y bydd hi'—nid ydym byth yn mynd i gyrraedd ein hamcanion o gael Senedd sy'n cynrychioli'r math o gymdeithas yr ydym am ei gweld gydag agwedd o'r fath.

Felly, rwy'n croesawu'n arbennig yr argymhelliad ynghylch monitro'r cyfryngau cymdeithasol, ac nid ceisio gwahardd craffu ar wleidyddion yw hyn o gwbl, gan fy mod yn credu bod herio polisi yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr. Yr hyn sy'n wirioneddol warthus—ac rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran nifer o Aelodau yma—yw ein bod mewn sefyllfa, oherwydd y lefel honno o gamdriniaeth bersonol sydd gennym ar y cyfryngau cymdeithasol, lle nad ydym yn cymryd rhan wedyn yn y trafodaethau polisi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae honno'n effaith negyddol ar ddemocratiaeth. Felly, unwaith eto, mae'r argymhelliad ar fonitro'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn. Ac mewn ystyr ehangach, rwy'n credu bod pwyso ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wahardd cyfrifon dienw ar eu platfformau yn bwysig iawn hefyd, gan na fyddai llawer o'r bobl hyn yn dweud y mathau o bethau y maent yn eu dweud wrthych yn eich wyneb, heb sôn am orfod rhoi eu henwau i'r pethau hyn hefyd. Felly, ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Ar yr elfen bywyd teuluol, rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Peter ynglŷn â disgwyliadau'r cyhoedd ynghylch beth y mae'r swydd hon yn ei olygu. Nid yw hynny'n golygu, serch hynny, y dylem gael ein cyfyngu wedyn i'r hyn a wnawn yn y lle hwn i'w wneud yn fwy cyfeillgar a chroesawgar i bobl sydd â theuluoedd. Credaf hefyd fod y cyhoedd yn disgwyl i'r lle hwn adlewyrchu'r gymdeithas y mae'n ceisio ei chynrychioli.

Y mater tadolaeth—Jane, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle am hyn—bûm drwy hynny'n ddiweddar. Rwy'n credu bod y system yn anffurfiol iawn ac yn dibynnu ar y gallu i gael dirprwy. Heledd oedd fy nirprwy i, ac rwyf am ddweud—fe'i dywedaf ar goedd—roedd yn ddirprwy da. Buaswn yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un a ddaw maes o law. [Chwerthin.] Ond y drafferth a gefais, mewn gwirionedd, wrth ddelio â'r math o bolisi tadolaeth sydd gennym yn y Senedd oedd nad oedd unrhyw ganllawiau clir. Roeddwn yn siarad â chymorth busnes yr Aelodau a byddent yn dweud, 'O, wel, penderfynwch chi faint o amser rydych chi'n ei gymryd o'r gwaith.' Nawr, mae goblygiadau i hynny, ac ar un lefel, ydy, mae hyblygrwydd yn wych, ond ar lefel arall, mae pwysau ar rai Aelodau o bosib i beidio â chymryd yr hyn y byddai ganddynt hawl iddo mewn swydd arall oherwydd natur y rôl hon. Felly, un peth yr hoffwn ei weld pan fyddwn yn trafod absenoldeb tadolaeth ac absenoldeb rhiant yw canllawiau clir i'r Aelodau ynghylch beth fyddai hyd yr absenoldeb, ein hawliau o fewn y rôl honno hefyd, gan na allwn fod mewn sefyllfa lle mae pobl yn teimlo dan bwysau i beidio â chymryd yr holl amser y byddai ganddynt hawl iddo pe baent mewn swydd arall.

Ar fywyd teuluol, a gwneud y lle hwn yn ystyriol o deuluoedd, roeddwn yn ffodus iawn i allu croesawu fy mab Gruff i'r Senedd yr wythnos diwethaf. Cafodd lawer o sylw. Roedd gan nifer o Aelodau fwy o ddiddordeb mewn siarad gydag ef a threulio amser gydag ef na gyda mi—sy'n hollol iawn, gyda llaw; nid wyf yn eich beio chi. Mae yntau hefyd yn gwybod ei fod yn fabi pert—dyna'r broblem. Ond roeddwn yn falch ei fod wedi gallu dod yma a chael bwyd gyda mi a fy ngwraig a'i rhieni, gan na fuaswn wedi'i weld yr wythnos honno o gwbl oni bai am hynny. Rydym yn dechrau'r gwaith yn gynnar iawn yn y bore; rydym yn gorffen yn hwyr iawn. Os ydych chi newydd gael plentyn, rydych chi'n colli'r eiliadau gwerthfawr hynny, boed o safbwynt mam neu hyd yn oed o safbwynt tad. Rydym yn sôn yn aml am yr angen am fodelau rôl gwrywaidd ym mywydau plant ifanc. Wel, rwyf am fod yn un o'r modelau rôl gwrywaidd hynny, ond rhaid imi fod yn bresennol, a rhaid imi allu gweld fy mab yn rheolaidd.

Bwydo ar y fron, mater a gododd Jenny—rwyf newydd fod yn siarad â Siân a Sioned ynglŷn â beth fyddai'r polisi bwydo ar y fron yn y lle hwn. Buaswn yn croesawu eglurder ar hynny'n fawr.

Yna yn olaf, yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, ar fusnes, mae'r cwota pwyllgorau a nodwyd yn yr adroddiad yn rhywbeth y credaf y dylem ei archwilio ymhellach. Dywedaf hynny o safbwynt rhywun a oedd ar y Pwyllgor Deisebau beth amser yn ôl, pan oedd Carolyn yn Gadeirydd a'r gweddill ohonom ar y pwyllgor yn ddynion. Nawr, unwaith eto, mae'r Pwyllgor Deisebau yn enwedig yno i wrando ar ein hetholwyr, i fynd i'r afael â materion yn y gymuned. Felly, o bob pwyllgor, rwy'n credu y dylai'r Pwyllgor Deisebau o leiaf adlewyrchu'r gymdeithas y mae'n ceisio ymgysylltu â hi. Dof i ben ar y nodyn hwnnw, Ddirprwy Lywydd.

17:45

I'm very grateful to be able to speak in this debate. I want to also thank Joyce for her leadership in this, and the other members of the committee for all the work that they've done. I agree with all the recommendations, but I'll just pick out a few to talk about.

I think it's absolutely key that we do have on-site childcare provision, that we should have a crèche in the Senedd. I'd like to think we could go into the next Senedd with that commitment. I've been involved in lobbying for childcare provision on many occasions. In fact, the Cabinet Secretary and I, in an earlier stage of our political careers, lobbied very hard to have a crèche at the new headquarters of South Glamorgan council, as it was at the time. We did have quite a bit of opposition at that time, and we had to keep on, but we got it, so that was successful.

Then I had an unsuccessful campaign to have a crèche in Westminster, where there was unbelievable opposition. In all the debates, they were talking about the shooting ranges that were there, and we never got anywhere. But then John Bercow came in as the Speaker, and then there is a crèche at Westminster now, in the Foreign Office, and that is progress. So, I think Joyce made the point that, here, in Wales, is the only Parliament now that does not have a childcare facility.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Hoffwn ddiolch hefyd i Joyce am ei harweinyddiaeth ar hyn, ac i aelodau eraill y pwyllgor am yr holl waith y maent wedi'i wneud. Rwy'n cytuno â'r holl argymhellion, ond rwyf am ddewis ambell un i siarad amdanynt.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl allweddol fod gennym ddarpariaeth gofal plant ar y safle, fod gennym crèche yn y Senedd. Hoffwn feddwl y gallem fynd i mewn i'r Senedd nesaf gyda'r ymrwymiad hwnnw. Rwyf wedi lobïo dros ddarpariaeth gofal plant ar sawl achlysur. Mewn gwirionedd, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, yn gynharach yn ein gyrfaoedd gwleidyddol, lobïo'n galed iawn dros gael crèche ym mhencadlys newydd cyngor De Morgannwg, fel yr oedd ar y pryd. Cawsom gryn dipyn o wrthwynebiad bryd hynny, a bu'n rhaid inni ddyfalbarhau, ond fe'i cawsom yn y pen draw, felly roedd hynny'n llwyddiannus.

Yna, cefais ymgyrch aflwyddiannus i gael crèche yn San Steffan, lle roedd gwrthwynebiad anhygoel. Yn yr holl ddadleuon, roeddent yn siarad am y meysydd saethu a oedd yno, ac ni wnaethom gyrraedd unman. Ond yna, daeth John Bercow i mewn fel y Llefarydd, ac mae crèche yn San Steffan bellach, yn y Swyddfa Dramor, ac mae hynny'n gynnydd. Felly, rwy'n credu bod Joyce wedi gwneud y pwynt mai yma yng Nghymru y mae'r unig Senedd bellach nad oes ganddi gyfleuster gofal plant.

Julie, do you agree with me that there is a sense of frustration here? Because I was part of the Future Senedd Committee, and, on 6 March 2025, we wrote to the Senedd Commission saying that this had to be a priority and in place for 2026 onwards. Is it not a regret that we are not anywhere further on? Can we try and seek some, well, agreement here today that this has to be the next step? It’s not optional, it has to happen, and it is about time it happened.

Julie, a ydych chi'n cytuno â mi fod yna ymdeimlad o rwystredigaeth yma? Oherwydd roeddwn yn rhan o Bwyllgor Senedd y Dyfodol, ac ar 6 Mawrth 2025, fe wnaethom ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd yn dweud bod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ac ar waith ar gyfer 2026 ymlaen. Onid yw'n destun gofid nad ydym wedi gwneud mwy o gynnydd? A allwn ni geisio cael cytundeb yma heddiw fod yn rhaid i hyn fod yn gam nesaf? Nid yw'n ddewisol, mae'n rhaid iddo ddigwydd, ac mae'n hen bryd iddo ddigwydd.

Yes, I agree it has to happen. I think it’s absolutely crucial that it happens, and I’d like to think that we could move forward with that commitment. Because it is remarkable, really, that we've had 26 years of devolution, 26 years of working here from this building, we've had a new building built here, and we've never had a crèche. So, it is remarkable, I think. So, I share your frustration and commitment.

But I also think a crèche should be for Members, for staff, for people who visit, so that witnesses—. So, we can get a wide range of witnesses, people who would find it difficult to come unless they had somebody to care for their children. So, I think that's important to take into consideration. Also, I think it's important to take into consideration that a crèche would not always be suitable for everybody, because many Members have to, for example, leave their children at home, quite a long way from the facilities here. So, I think we have to consider that as well, and see how we can help those families with childcare. So, I think a crèche is a must and I think it'll be a huge disappointment if we don't get that, with all this work that's been done. And as somebody said, it is a visible sign of the sort of Senedd we want to have. I'm always thrilled when I see that play area up by the cafe. I think that's been fantastic progress, having that, and when you see the children playing there, well, you know what the Senedd is about—it's about those children and the future for them. So, I think that is great progress there.

The other quick point I want to make is that I think it's absolutely crucial that we continue hybrid working. I think that that is so important and that it should have equal status to being here in person. We all have experienced the difficulties of coping with childcare, but also care for elderly parents, and that, probably, has affected more of us, maybe, than childcare. But it's so important, the bonuses of being able to work hybridly to help with those sorts of situations. I just think that that has got to be taken into consideration as well. So, equality for hybrid working. Don't let's take a step back. What we are as a Senedd is how we operate as a whole, and as things operate now, and for certain bits of legislation, we do require people to be here unless there are really special circumstances, and I think that's fine, that's understandable, but I do not think we should take any steps backwards in terms of the hybrid working.

And then, finally—

Rwy'n cytuno bod yn rhaid iddo ddigwydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ei fod yn digwydd, a hoffwn feddwl y gallem symud ymlaen â'r ymrwymiad hwnnw. Oherwydd mae'n rhyfeddol, mewn gwirionedd, ein bod wedi cael 26 mlynedd o ddatganoli, 26 mlynedd o weithio yma yn yr adeilad hwn, mae adeilad newydd wedi'i adeiladu yma, ac nid ydym erioed wedi cael crèche. Felly, rwy'n credu bod hynny'n anhygoel. Felly, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth a'ch ymrwymiad.

Ond rwy'n credu hefyd y dylai crèche fod ar gael i'r Aelodau, i staff, i bobl sy'n ymweld, fel bod tystion—. Felly, gallwn gael ystod eang o dystion, pobl a fyddai'n ei chael hi'n anodd dod oni bai bod ganddynt rywun i ofalu am eu plant. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ystyried hynny. Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig ystyried na fyddai crèche bob amser yn addas i bawb, gan fod yn rhaid i lawer o'r Aelodau, er enghraifft, adael eu plant gartref, yn bell iawn o'r cyfleusterau yma. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ystyried hynny hefyd, a gweld sut y gallwn gynorthwyo'r teuluoedd hynny gyda gofal plant. Felly, rwy'n credu bod crèche yn hanfodol, a bydd yn siom enfawr os na chawn hynny, gyda'r holl waith a wnaed. Ac fel y dywedodd rhywun, mae'n arwydd gweladwy o'r math o Senedd rydym am ei chael. Rwyf bob amser wrth fy modd pan welaf yr ardal chwarae i fyny wrth y caffi. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn gynnydd gwych, cael yr ardal honno, a phan welwch y plant yn chwarae yno, wel, rydych chi'n gwybod beth yw pwrpas y Senedd—mae'n ymwneud â'r plant hynny a'u dyfodol nhw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gynnydd gwych.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yn gyflym yw fy mod o'r farn ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parhau i weithio'n hybrid. Rwy'n credu bod hynny mor bwysig, a dylai gael statws cyfartal â bod yma yn y cnawd. Mae pob un ohonom wedi profi'r anawsterau o ymdopi â gofal plant, ond hefyd gofalu am rieni oedrannus, ac mae hynny, mae'n debyg, wedi effeithio ar fwy ohonom, efallai, na gofal plant. Ond mae mor bwysig, y budd o allu gweithio'n hybrid i helpu gyda'r mathau hynny o sefyllfaoedd. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried hynny hefyd. Felly, cydraddoldeb i weithio hybrid. Peidiwch â gadael inni gymryd cam yn ôl. Y ffordd y gweithredwn gyda'n gilydd yw beth ydym ni fel Senedd, ac fel y mae pethau'n gweithredu nawr, ac ar gyfer rhai darnau o ddeddfwriaeth, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod yma oni bai bod amgylchiadau arbennig iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n iawn, mae hynny'n ddealladwy, ond ni chredaf y dylem gymryd unrhyw gamau yn ôl o ran gweithio hybrid.

Ac yna, i gloi—

17:50

Yes, finally, please, because your time is up.

Ie, i gloi, os gwelwch yn dda, gan fod eich amser ar ben.

Finally, I just think that, in terms of actual timing, we can look, as the report says, at the timings of sessions. We've been working until 8 o'clock several evenings recently, and I just think we've got to take all that into consideration. Diolch.

Yn olaf, o ran amseru, rwy'n credu y gallwn edrych, fel y mae'r adroddiad yn ei ddweud, ar amseriad y sesiynau. Rydym wedi bod yn gweithio tan 8 o'r gloch ar sawl noson yn ddiweddar, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ystyried hynny. Diolch.

Mae hwn yn adroddiad pwysig, a dwi'n meddwl ei fod e'n gofyn cwestiwn sylfaenol i ni fel Senedd, yn enwedig wrth i ni edrych ymlaen tua'r dyfodol wedi'r broses yna dŷn ni wedi mynd drwyddi o ran diwygio seneddol: pa fath o sefydliad democrataidd ŷn ni eisiau bod? Ac i ateb y cwestiwn yna, mae'n rhaid inni ofyn cyfres arall o gwestiynau: pwy sy’n gallu gweld eu hunain yma? Pwy sy’n teimlo bod lle iddyn nhw yma? A pha rwystrau sydd yn eu ffordd? Felly, mae’r adolygiad yma, dwi'n meddwl, yr adroddiad, yn ystyried y cwestiynau yma, yn edrych ar sut y dylem ni weithio fel sefydliad o ran ein diwylliant, o ran ein ffyrdd o weithio, ac ar y cyfleusterau sydd ar gael i Aelodau a staff. A dwi'n meddwl bod y neges yn glir o'r adroddiad: os ŷn ni'n moyn bod yn Senedd sy'n wirioneddol cynrychioli Cymru, yna mae’n rhaid inni wneud newidiadau. A dwi'n croesawu llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad. Mae fe'n nodi, fel rŷn ni wedi clywed, fod gan y Senedd hanes cryf o ran cynrychiolaeth a chynhwysiant, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod. Ond mae hefyd yn rhybuddio, fel y clywsom ni gan Siân Gwenllian, allwn ni ddim cymryd hynny’n ganiataol. Felly, mae’n rhaid i ni wreiddio'r arferion cynhwysol yma i strwythur y sefydliad ac nid dibynnu, fel y dywedodd Jane Dodds, ar arferion anffurfiol yn unig.

Dwi eisiau rhoi ffocws i ddau o’r argymhellion—maen nhw'n sefyll mas i fi—sef y ddarpariaeth gofal plant a’r egwyddor o rannu swyddi. Mae'n rhaid i'r Senedd ymrwymo i’r egwyddor o ddarparu gofal plant ar y safle, dwi'n meddwl, ar gyfer Aelodau, staff ac aelodau o'r cyhoedd. Fe ddechreuais i fy ngyrfa broffesiynol i yn 1994 yn BBC Cymru yma yng Nghaerdydd, ac, fel sefydliad cenedlaethol o bwys a chyflogwr da, roedd crèche yno ym 1994, pum mlynedd cyn i ni gael datganoli. Roedd yn syfrdanol deall, pan ddes i yma yn 2021 i sefydliad cenedlaethol, os nad ein prif sefydliad cenedlaethol, nad oedd crèche yma. 

Rŷn ni'n sefydliad sy’n gwneud deddfau ar gyfer Cymru gyfan. Rŷn ni'n trafod polisïau cydraddoldeb ac effaith hynny ar deuluoedd, cyfrifoldebau gofalu, bron yn wythnosol yn y Senedd. Ond mae diffyg crèche yn rhoi neges glir nad ŷn ni am gefnogi teuluoedd yma yn y modd mwyaf sylfaenol. 

Yr ail fater wedyn sydd angen gweithredu brys arno, dwi'n meddwl, yw rhannu swyddi. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywydd gynnig sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid llenwi rhai swyddi yn y Senedd drwy rannu swyddi. Felly, hoffwn i ofyn pa waith sydd wedi digwydd o ran paratoi at hyn.

Wedyn dwi eisiau sôn eto am fy mhrofiad personol: rhannu swydd ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth ganiatáu i fi ddychwelyd i'r byd gwaith fel mam i ddau o blant bach. Dwi'n gwybod, fe glywais i gan fy rheolwr—roedd y ddwy ohonom ni yn famau oedd yn rhannu swydd—fod y brifysgol wedi elwa o hynny, o gryfderau, personoliaethau a phrofiad gwahanol mewn un tîm, wrth inni ymgymryd â thasgau y rôl yna. Felly, pam na ddylai ein democratiaeth hefyd elwa ar y math yna o hyblygrwydd cadarnhaol fyddai'n cymell pobl, a menywod yn benodol, i fedru rhannu o'u doniau? Dyw'r syniad yma ddim yn ymwneud â lleihau’r gwaith. Mae’n ymwneud ag ehangu pwy all wneud y gwaith hwnnw. 

Y pwynt olaf hoffwn i ei wneud, sy'n gysylltiedig â hynny, yw ar hyn o bryd mae gormod o bobl anabl yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth sy’n amhosib iddyn nhw, nid oherwydd diffyg gallu, ond oherwydd bod yna strwythurau sydd heb eu cynllunio gyda phawb mewn golwg. Felly, un peth hoffwn i grybwyll wrth orffen yw sôn am sicrhau gwell fynediad i bobl anabl i'r Senedd.

Mae'r adroddiad yn nodi i'r pwyllgor drafod y posibilrwydd o alw am seibiannau rheolaidd mewn trafodion. Daethon nhw i'r casgliad mwyafrifol mai’r Llywydd a Chadeiryddion pwyllgorau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pryd mae angen seibiannau mewn trafodion. Dwi'n credu bod y casgliad yma yn arddangos yn gwbl eglur pam mae angen ymgorffori mesurau yn strwythurol yn hytrach na'u gadael nhw i hap, achos a fydd gan Lywydd neu Gadeiryddion y dyfodol brofiad a dealltwriaeth o anabledd neu gyflwr iechyd sy'n gwneud seibiau rheolaidd yn hanfodol? Fydd gyda nhw y ddealltwriaeth o hynny? Fel rhywun sydd â phrofiad o gadeirio a mynychu cyfarfodydd sy'n cynnwys pobl anabl, gallaf i ddweud wrthych chi byddai barn y rhelyw yn wahanol iawn i un y pwyllgor sydd, hyd y gwn i, yn bobl heb anabledd. Felly, hoffwn glywed ymateb penodol i'r pwynt yna. Diolch yn fawr.

This is an important report, and I think it does ask a fundamental question of us as a Senedd, particularly as we look towards the future after the process that we've gone through in terms of Senedd reform: what kind of democratic institution do we want to be? And to answer that question, we must ask another series of questions: who can see themselves being here? Who feels that there is a place for them here? And what barriers are in their way? So, this report does consider these questions, I think, looking at how we should work as an institution in terms of our culture and our ways of working and at the facilities available to Members and staff. And I think that the message that comes through the report is clear: if we want the Senedd to be truly representative of Wales, we must make changes. And I welcome many of the recommendations in this report. It does note, as we've heard, that the Senedd has a strong record in terms of inclusion and representation, particularly in terms of women's representation. But it also warns, as we heard from Siân Gwenllian, that we can't take that for granted. So, we need to embed these inclusive practices in the structure of the institution itself, instead of relying, as Jane Dodds says, on informal practices alone.

I want to focus on two recommendations that stand out to me, namely the childcare provision and job sharing. The Senedd has to commit to the principle of providing childcare on site for Members, staff and members of the public. I started my professional career in 1994 at BBC Wales here in Cardiff, and, as an important national institution and a good employer, there was a crèche there in 1994, five years before we had devolution. It was incredible to realise, when I came here in 2021 to a national institution, if not our principal national institution, that we didn't have a crèche here. 

We're an institution that makes laws for the whole of Wales. We discuss equality policies and their impact on families, caring responsibilities, on a weekly basis in the Senedd. But the lack of a crèche sends a clear message that we do not want to support families here in the most basic way.

The second issue that requires urgent action is job sharing. The report does refer to the Senedd Cymru (Members and Elections) Act 2024, which requires the Llywydd to propose the establishment of a committee to consider whether certain positions in the Senedd could be filled through job sharing. So, I'd like to ask what work has taken place in terms of preparing for this.

And then I want to talk again about my personal experience: job sharing at Swansea University allowed me to return to work as the mother of two small children. I know, I heard from my manager—both of us sharing the role were mothers—that the university benefited from that, from the different strengths, personalities and experiences within one team, as we undertook the tasks for that role. So, why shouldn't our democracy also benefit from this kind of positive flexibility, which would encourage people, and women in particular, to be able to share their talents? The idea is not about reducing the work. It's about expanding who can do that work. 

The final point that I'd like to make, which is associated with that, is that currently too many people who are disabled see politics as something impossible for them, not because of a lack of ability, but because there are structures here that are not planned with everyone in mind. So, one thing I'd like to mention in finishing is about ensuring better access for disabled people to the Senedd.

The report notes that the committee discussed the possibility of calling for regular breaks in proceedings. They came to the majority view that the Llywydd and committee Chairs are in the best position to understand when those breaks in proceedings are needed. I think that that finding shows clearly why measures need to be embedded in a structural way rather than leaving them to chance, because would a Llywydd or committee Chairs in the future have an experience and understanding of a disability or of a health condition that make regular breaks essential? Would they have an understanding of that? As someone who has experience of chairing and attending meetings that include disabled people, I can tell you that the opinion of the majority would be very different from that of the committee, which, as far as I know, comprised people with no disabilities. So, I'd like to hear a specific response on that point. Thank you.

17:55

Somewhere in Wales today there is a woman thinking about standing for the Senedd after next. She has the ability, she has the ideas, and she's doing the maths on school drop-offs, on sitting times, on who will look after her children on a Tuesday night when the vote runs late, and she's deciding not to stand, not because she lacks ambition, not because she lacks talent—because the institution she would serve in was not designed with her life in mind. That's what this report is about.

In 1998, the advisory group that shaped this place imagined a legislature that would be democratic, effective and inclusive, and, for a time, as we heard, we delivered on that promise—the first Parliament in the world to achieve gender parity. We built hybrid working practices that other legislatures now study. We proved that a different, more collaborative kind of politics was possible. But this report also tells us something uncomfortable—that the progress we are proud of is not secured, that what was won by intention can be lost by drift. The evidence is clear. Members who were primary carers for children reported delaying their candidacies, sometimes by years, because they could not see how this role could fit alongside family life. 

The barriers they described were not in legislation, they were in the working week, in the unpredictability of parliamentary hours, in the absence of childcare, in accommodation allowances not covering stable family accommodation, in the quiet assumption that a Member of this Senedd has no life beyond it. Those are not complaints about convenience; those are fundamental failures of design, and they determine, before a single ballot is cast, who is able to serve here and who is not, and this matters beyond the individuals affected. A Parliament whose working conditions narrow the pool of people who can serve is a Parliament that narrows the range of experience it can draw on. The quality of our scrutiny, our legislation, our democratic conversation, all of it depends on who is in this room. 

Now, we're about to expand this Senedd, new Members, new committees, new ways of working. The decisions we make in this period will set the pattern for decades. What we build now is what future Seneddau will inherit, not as a choice but as a fact of institutional life. This is either a risk or an opportunity, and the difference depends entirely on what we do now. If we treat inclusion as an aspiration, something we mention in reports and celebrate in speeches, it will erode gradually until one day we look around this Siambr and wonder why it doesn't look like the country it serves. And it seems to me there is a consensus here. There is a consensus on childcare. I speak as one Commissioner to another, there's a consensus, I think, on the Commission. Let's make it happen. I'm in Brussels representing the Senedd on Monday, but maybe I can join remotely. If you move, Joyce, a formal decision that we will have a crèche here at the Senedd then I will support it, because we have to do this. We have to make it possible for that woman that I talked about, or men that have caring responsibilities as well, the ones doing the maths tonight, to see a path into this Parliament and for us to make it possible for Wales to hear their voices. Representation doesn't end at the ballot box; it continues in whether this institution allows people to serve once they arrive. We do not often get a chance to shape a Parliament at a formative moment. Let us not waste it.

Rywle yng Nghymru heddiw, mae menyw'n meddwl am sefyll ar gyfer y Senedd ar ôl y nesaf. Mae ganddi'r gallu, mae ganddi'r syniadau, ac mae'n ceisio datrys y pos o ran mynd â'r plant i'r ysgol, o ran yr amseroedd pan fyddwn yn eistedd, o ran pwy fydd yn gofalu am ei phlant ar nos Fawrth pan fydd y bleidlais yn rhedeg yn hwyr, ac mae'n penderfynu peidio â sefyll, nid am ei bod hi'n brin o uchelgais, nid am ei bod hi'n brin o ddawn—ond am nad yw'r sefydliad y byddai'n gwasanaethu ynddo wedi'i gynllunio gyda'i bywyd hi mewn golwg. Dyna bwrpas yr adroddiad hwn.

Ym 1998, roedd y grŵp cynghori a siapiodd y lle hwn yn dychmygu deddfwrfa a fyddai'n ddemocrataidd, yn effeithiol ac yn gynhwysol, ac am gyfnod, fel y clywsom, fe wnaethom gyflawni'r addewid hwnnw—y Senedd gyntaf yn y byd i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Fe wnaethom adeiladu arferion gwaith hybrid y mae deddfwrfeydd eraill bellach yn eu hastudio. Fe wnaethom brofi bod math gwahanol, mwy cydweithredol o wleidyddiaeth yn bosib. Ond mae'r adroddiad hwn hefyd yn dweud rhywbeth anghyfforddus wrthym—nad yw'r cynnydd yr ydym yn falch ohono wedi'i sicrhau, y gellir colli drwy lithriad yr hyn a enillwyd drwy fwriad. Mae'r dystiolaeth yn glir. Adroddodd Aelodau a oedd yn brif ofalwyr i blant eu bod wedi gohirio eu hymgeisyddiaeth, weithiau am flynyddoedd, am na allent weld sut y gallai'r rôl hon gyd-fynd â bywyd teuluol.

Nid mewn deddfwriaeth yr oedd y rhwystrau a ddisgrifiwyd ganddynt, ond yn yr wythnos waith, yn natur anrhagweladwy oriau seneddol, yn absenoldeb gofal plant, mewn lwfansau llety nad oeddent yn ddigon i dalu am lety teuluol sefydlog, yn y dybiaeth dawel nad oes gan Aelod o'r Senedd hon fywyd y tu hwnt iddi. Nid cwynion am gyfleustra yw'r rhain; maent yn fethiannau cynllunio sylfaenol, ac maent yn pennu, cyn i'r un bleidlais gael ei bwrw, pwy sy'n gallu gwasanaethu yma ai peidio, ac mae hyn yn bwysig y tu hwnt i'r unigolion yr effeithir arnynt. Mae Senedd y mae ei hamodau gwaith yn culhau'r gronfa o bobl a all wasanaethu yn Senedd sy'n culhau'r ystod o brofiad y gall ddysgu ohono. Ansawdd ein craffu, ein deddfwriaeth, ein trafodaeth ddemocrataidd, mae'r cyfan yn dibynnu ar bwy sydd yn yr ystafell hon.

Nawr, rydym ar fin ehangu'r Senedd hon, Aelodau newydd, pwyllgorau newydd, ffyrdd newydd o weithio. Bydd y penderfyniadau a wnawn yn y cyfnod hwn yn gosod y patrwm am ddegawdau. Yr hyn a adeiladwn nawr yw'r hyn y bydd Seneddau'r dyfodol yn ei etifeddu, nid fel dewis, ond fel ffaith bywyd sefydliadol. Mae hyn naill ai'n risg neu'n gyfle, ac mae'r gwahaniaeth yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn a wnawn nawr. Os ydym yn trin cynhwysiant fel dyhead, rhywbeth yr ydym yn ei grybwyll mewn adroddiadau ac yn ei ddathlu mewn areithiau, bydd yn erydu'n raddol, tan y byddwn yn edrych o gwmpas y Siambr hon un diwrnod ac yn meddwl pam nad yw'n edrych yn debyg i'r wlad y mae'n ei gwasanaethu. Ac ymddengys i mi fod consensws yma. Mae consensws ar ofal plant. Rwy'n siarad fel un Comisiynydd i'r llall, rwy'n credu fod consensws ar y Comisiwn. Gadewch inni wneud iddo ddigwydd. Byddaf ym Mrwsel yn cynrychioli'r Senedd ddydd Llun, ond efallai y caf ymuno o bell. Joyce, os gwnewch chi gynnig penderfyniad ffurfiol y bydd crèche gennym yma yn y Senedd, fe'i cefnogaf, gan fod yn rhaid inni wneud hyn. Rhaid i ni ei gwneud yn bosib i'r fenyw y soniais amdani, neu ddynion sydd â chyfrifoldebau gofalu hefyd, y rhai sy'n ceisio datrys y pos heno, weld llwybr i mewn i'r Senedd hon, a'i gwneud yn bosib i Gymru glywed eu lleisiau. Nid yw cynrychiolaeth yn dod i ben wrth y blwch pleidleisio; mae'n parhau gyda gallu'r sefydliad hwn i ganiatáu i bobl wasanaethu ar ôl iddynt gyrraedd yma. Nid yn aml y cawn gyfle i siapio Senedd ar adeg ffurfiannol. Gadewch inni beidio â'i wastraffu.

18:00

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. 

The Cabinet Secretary for Social Justice.

Member (w)
Jane Hutt 18:02:59
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr. I just welcome the opportunity to briefly contribute to today's debate and I'd like to thank Joyce Watson, the cross-party board and the expert team who have worked at pace to produce the report. It sets out a clear pathway towards achieving our shared objective of a Senedd for all, and, as this report underscores, devolution in Wales has from its inception been grounded in an unwavering commitment to equality and recognition that inclusion is fundamental to the strength and health of our democracy, and, in recent years, reports on electoral reform have called for greater diversity and inclusion in our politics. 

This report identifies tangible actions that, if we implement them, will foster working practices and a culture designed to facilitate and enable participation rather than hinder and impede it, and I do think this report presents a compelling vision and it has been expressed today across those four broad areas. We work together towards the goal of realising that truly inclusive Senedd, and it does remind us of the most pressing challenges facing our democracy and provides important recommendations to combat them.

Like many who have spoken today, I support the recommendation of the board to bring forward a requirement in Standing Orders for online abuse to be monitored. The Commission's current pilot programme to monitor online abuse is a welcome foundation. We've heard today, and we've heard in our women's caucus, haven't we, particularly how women as candidates and elected representatives, and indeed their families, have been put in fear of their safety, and we cannot have true equality of opportunity to public life without emboldening our institutions to stand up to intimidation.

I do say that, as a Government, we benefit from the work of key stakeholders in lighting the path to a politics freed from fear. The Jo Cox Civility Commission's recent report, 'A Renewed Call to Action: Addressing abuse and intimidation in politics in Scotland, Wales and Northern Ireland', highlights how actions to improve safety must complement efforts to make our democratic institutions more inclusive. And I'm pleased that the commission has recognised the steps that the Welsh Government has taken to promote respect and safety in politics in the shape of the diversity and inclusion guidance for political parties.

There are many recommendations in the report that will help us to dismantle the barriers we know exist within the Senedd, and it's been expressed today in the debate—proposals such as clearer parental leave policies, job sharing options, the continued provision of hybrid working arrangements. Important points have been made today again about miscarriage, about breastfeeding. And I do look forward to seeing the diversity and inclusion strategies from political parties, along with diversity information beyond May's elections. I also note the recommendations for Government in the report, which of course will be for the next administration to consider in detail, but, as a Government, we have remained committed to mainstreaming equality across all our work, and I value the fact that this has been promoted as a recommendation in this report.

I want to finish, Dirprwy Lywydd, by also referring to the recommendation that focuses on the feasibility assessment of crèche facilities in the Senedd. We can't call ourselves a modern and inclusive Senedd unless we progress the many calls for a crèche to be provided in Senedd Cymru. Elected Members, staff, visitors and witnesses to committees should have access to childcare services that enable everyone to participate on an equal basis. So, I think it's good that we have got a strong call today, a strong message from this debate in support of a Senedd Cymru crèche. A Senedd Cymru crèche is what we seek.

So, this report, finally, offers a vision for a Senedd that promotes equality of opportunity, a Senedd that shows the people of Wales that no matter your background or the circumstances of your birth, people can aspire to come here without fear to speak up for the communities they seek to serve, and this debate has given strong support to the family-friendly and inclusive Parliament review board report.

Diolch yn fawr. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu'n fyr at y ddadl heddiw a hoffwn ddiolch i Joyce Watson, y bwrdd trawsbleidiol a'r tîm arbenigol sydd wedi gweithio'n gyflym i lunio'r adroddiad. Mae'n nodi llwybr clir tuag at gyflawni ein hamcan cyffredin o Senedd i bawb, ac fel y mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu, mae datganoli yng Nghymru ers ei sefydlu wedi bod yn seiliedig ar ymrwymiad diwyro i gydraddoldeb a chydnabyddiaeth fod cynhwysiant yn hanfodol i gryfder ac iechyd ein democratiaeth, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae adroddiadau ar ddiwygio etholiadol wedi galw am fwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwleidyddiaeth. 

Mae'r adroddiad hwn yn nodi camau diriaethol a fydd, os ydym yn eu gweithredu, yn meithrin arferion gwaith a diwylliant sydd wedi'i gynllunio i hwyluso a galluogi cyfranogiad yn hytrach na'i rwystro a'i lesteirio, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn cyflwyno gweledigaeth gymhellol ac mae wedi'i fynegi heddiw ar draws y pedwar maes eang hynny. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd tuag at wireddu'r nod o Senedd wirioneddol gynhwysol, ac mae'n ein hatgoffa o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein democratiaeth ac yn darparu argymhellion pwysig ar gyfer eu goresgyn.

Fel llawer sydd wedi siarad heddiw, rwy'n cefnogi argymhelliad y bwrdd i gyflwyno gofyniad yn y Rheolau Sefydlog i gamdriniaeth ar-lein gael ei monitro. Mae rhaglen beilot bresennol y Comisiwn i fonitro camdriniaeth ar-lein yn sylfaen i'w chroesawu. Fe glywsom heddiw, ac fe glywsom yn ein cawcws menywod, oni wnaethom, yn enwedig ynghylch y ffordd y mae menywod fel ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig, a'u teuluoedd yn wir, yn ofni am eu diogelwch, ac ni allwn gael cyfle cyfartal go iawn mewn bywyd cyhoeddus heb annog ein sefydliadau i wrthsefyll bygythiadau.

Fel Llywodraeth, rydym yn elwa o waith rhanddeiliaid allweddol i oleuo llwybr i wleidyddiaeth sy'n rhydd o ofn. Mae adroddiad diweddar Comisiwn Moesgarwch Jo Cox, 'A Renewed Call to Action: Addressing abuse and intimidation in politics in Scotland, Wales and Northern Ireland', yn tynnu sylw at y modd y mae'n rhaid i gamau gweithredu i wella diogelwch ategu ymdrechion i wneud ein sefydliadau democrataidd yn fwy cynhwysol. Ac rwy'n falch fod y comisiwn wedi cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i hyrwyddo parch a diogelwch mewn gwleidyddiaeth ar ffurf y canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

Mae yna lawer o argymhellion yn yr adroddiad a fydd yn ein helpu i ddileu'r rhwystrau y gwyddom eu bod yn bodoli o fewn y Senedd, ac a fynegwyd heddiw yn y ddadl—cynigion fel polisïau absenoldeb rhiant cliriach, opsiynau rhannu swyddi, parhau i ddarparu trefniadau gweithio hybrid. Gwnaed pwyntiau pwysig heddiw am gamesgoriad, am fwydo ar y fron. Ac edrychaf ymlaen at weld y strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant gan y pleidiau gwleidyddol, ynghyd â gwybodaeth am amrywiaeth y tu hwnt i etholiadau mis Mai. Rwyf hefyd yn nodi'r argymhellion ar gyfer y Llywodraeth yn yr adroddiad, a fydd i'w hystyried yn fanwl gan y weinyddiaeth nesaf wrth gwrs, ond fel Llywodraeth, rydym wedi parhau'n ymrwymedig i brif ffrydio cydraddoldeb ar draws ein holl waith, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod hyn wedi'i hyrwyddo fel argymhelliad yn yr adroddiad hwn.

Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio hefyd at yr argymhelliad sy'n canolbwyntio ar yr asesiad o ddichonoldeb cyfleusterau crèche yn y Senedd. Ni allwn alw ein hunain yn Senedd fodern a chynhwysol oni bai ein bod yn bwrw ymlaen â'r galwadau niferus arnom i ddarparu crèche yn Senedd Cymru. Dylai Aelodau etholedig, staff, ymwelwyr a thystion i bwyllgorau gael mynediad at wasanaethau gofal plant sy'n galluogi pawb i gymryd rhan yn gyfartal. Felly, rwy'n credu ei bod yn dda ein bod wedi cael galwad gref heddiw, neges gref o'r ddadl hon i gefnogi crèche yn Senedd Cymru. Crèche Senedd Cymru yw'r hyn a geisiwn.

Felly, yn olaf, mae'r adroddiad hwn yn cynnig gweledigaeth o Senedd sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal, Senedd sy'n dangos i bobl Cymru y gall pobl gael uchelgais i ddod yma heb ofni siarad dros y cymunedau y maent yn ceisio eu gwasanaethu, ac mae'r ddadl hon wedi rhoi cefnogaeth gref i adroddiad y bwrdd adolygu ar Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch i gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Dwi'n gwneud hynny fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes a chadeirydd y Comisiwn. Mae'r ddau gorff heb gwrdd yn ffurfiol i edrych ar yr argymhellion sy'n berthnasol i'r ddau gorff yna ers cyhoeddi'r adroddiad yr wythnos diwethaf, felly ymateb ydw i drwy roi rhywfaint o ddiweddariadau i'r Senedd ar nifer o'r materion sydd wedi cael eu hargymell yn yr adroddiad ac sydd wedi codi yn y ddadl heddiw. Ond, gaf i gychwyn drwy fod yn ddiolchgar iawn i'r bwrdd o Aelodau a'r academyddion sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at y gwaith swmpus yma o'n blaenau ni heddiw?

Gaf i gyfeirio, felly, at rai o'r argymhellion? Ar argymhelliad 14 yn gyntaf, hwn yw'r argymhelliad sy'n diogelu cyfranogiad rhithwir. Does neb ar-lein, yn digwydd bod, ar y foment dwi'n trafod hyn, ond mae'r argymhelliad hynny yn gofyn i ni gadarnhau ei fod yn gyfystyr â phresenoldeb personol—ein bod ni'n trin pawb sy'n cyfrannu o bell yn gyfartal gyda'r rhai sydd yma yn y Siambr. Wrth gwrs, mae canllawiau'r Llywydd, sydd wedi cael eu cyhoeddi o dan Reol Sefydlog 6.17, yn nodi bod gan bob Aelod hawl i gymryd rhan mewn trafodion y Cyfarfod Llawn a byddant yn cael eu trin yn deg ym mhob agwedd. Ac mae'r canllawiau ar gyfer pwyllgorau hefyd yn nodi'r disgwyliad mai hybrid yw'r ffurf arferol ar gyfer cyfarfodydd. Rydyn ni wedi arloesi fel Senedd yn ein hymrwymiad ni i weithio'n hybrid, i ganiatáu i bobl deimlo'n gyfartal yn eu cyfraniad nhw, pa un a ydyn nhw yma yn y Senedd neu'n cyfrannu o bell, a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yr hyn rydyn ni wedi ei osod ar waith yn para ac yn gwneud hynny yng nghyd-destun canllawiau'r Llywydd, a hynny o dan Reolau Sefydlog. 

Mae argymhelliad 25 yn gwneud argymhelliad ynghylch y posibilrwydd y bydd pwyllgor yn y dyfodol yn edrych ar rannu swyddi. Mae’r Pwyllgor Busnes, wrth gwrs, wedi cychwyn ar y gwaith yma wrth edrych ar rannu swyddi ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau, ac yn ddiweddar, wrth gwrs, bythefnos yn ôl, fe gafodd y gwaith hwn ei ymgorffori yn ein Rheolau Sefydlog ni drwy bleidlais yn y Siambr yma. Ac os bydd hyn yn cael ei ddefnyddio yn y Senedd—Cadeiryddion y pwyllgorau yn rhannu swyddi—yna bydd hyn yn darparu tystiolaeth bwysig, heb amheuaeth, ar gyfer unrhyw waith pellach a wneir o rannu swyddi i’r dyfodol.

Thank you, Dirprwy Lywydd, and I'm pleased to have the opportunity to contribute to this debate this afternoon. I do that as Chair of the Business Committee and chair of the Commission. Neither body has met formally to consider the recommendations that apply to those two bodies since the publication of the report last week, so I will be responding by providing some updates to the Senedd on a number of the issues that have been recommended in the report and that have been raised during today's debate. But could I start by expressing my gratitude to the board of Members and academics who have contributed to this work and to everyone who has been involved in this substantial piece of work before us today?

Could I refer, therefore, to some of the recommendations? As to recommendation 14, first of all, this is the recommendation that safeguards virtual participation. There is no-one online as I discuss this, as it happens, but that recommendation has asked us to confirm that virtual participation equates to in-person attendance, in that we treat everyone who contributes virtually equally with those who are here in the Chamber. Of course, the guidance issued by the Llywydd, under Standing Order 6.17, states that all Members have the right to participate in Plenary proceedings and that they will be treated fairly in all aspects. The guidance for committees states the expectation that the hybrid format is the usual format for meetings. We have innovated as a Senedd in our commitment to hybrid working and to allow people to feel equal in their contributions, whether they are here in the Senedd or contributing virtually, and I very much hope that what we have put in place does continue and that that happens in the context of the Llywydd's guidance and of Standing Orders.

Recommendation 25 makes a recommendation on the possibility of a future committee looking at job sharing. The Business Committee, of course, has begun this work by looking at job sharing for committee Chairs, and recently, of course— a fortnight ago, in fact—that work was incorporated into our Standing Orders through a vote in this Chamber. And if this is adopted in the next Senedd— the job sharing of committee Chairs—then that will undoubtedly provide important evidence for further work that may be done in terms of job sharing for the future.

Mae rhai o’r argymhellion yn ymwneud â’r Comisiwn, neu wasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn. Mae argymhelliad 11 yn cyfeirio at raglen o hyfforddiant y dylai’r Comisiwn barhau i’w darparu ynghlwm â chod ymddygiad, busnes y Senedd a gwytnwch. Mae argymhelliad 37 yn ymwneud â hyfforddiant rheolaidd ar gydraddoldeb. Rwy’n falch bod nifer o’r sesiynau hyfforddi wedi eu datblygu a’u cynnig i Aelodau, ac i aelodau staff, yn y meysydd uchod yn ystod y Senedd hon. Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar fframwaith ar gyfer darparu hyfforddiant i gefnogi Aelodau yn eu gwaith yn y seithfed Senedd. Serch hyn, nid oes gan y Comisiwn y grym i wneud hyfforddiant yn orfodol, ac felly mae’n hanfodol bod Aelodau yn addysgu eu hunain yn y meysydd hyn ac yn cydnabod yr angen iddyn nhw a’u staff gael eu hyfforddi'n briodol. Mae rôl bwysig, byddwn i'n dweud, gan bleidiau gwleidyddol yn y cyd-destun yma hefyd, yn gosod disgwyliadau uchel ar eu haelodau.

Rwy’n gobeithio y bydd darpariaeth newydd yr hwb yn cefnogi Aelodau’r dyfodol drwy gynnig man cychwyn ar gyfer derbyn gwybodaeth a chefnogaeth, nid yn unig yn y meysydd penodol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yma, ond ar agweddau eraill o wasanaethau’r Comisiwn hefyd.

Mewn perthynas â'r ddarpariaeth gofal plant—argymhelliad 22, ac mae nifer wedi cyfrannu at y pwnc yma y prynhawn yma—mae'r Comisiwn wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ddiweddar i ddarparu cyfleusterau crèche. Amcan y Comisiwn oedd sefydlu y sylfaen dystiolaeth gychwynnol i ddeall anghenion gofal plant Aelodau, darpar Aelodau ac aelodau staff, ac archwilio opsiynau ymarferol a chymesur ar gyfer diwallu'r anghenion yma. Fe ganfyddodd yr astudiaeth fod gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn bywyd seneddol, ond hefyd roedd yr adroddiad yn dweud yn ddigon clir nad crèche ar y safle yma oedd y modd mwyaf ymarferol o ddarparu gofal plant i Aelodau ac i aelodau staff.  Nawr, mae hwnna'n wahanol iawn i'r hyn rŷn ni wedi'i glywed fel dymuniad nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr yma y prynhawn yma. 

Fodd bynnag, wrth i'r Comisiwn ystyried yr adroddiad yma yn ein cyfarfod ni ar 3 Tachwedd, fe benderfynodd y Comisiwn beidio â chymryd gair yr adroddiad yna fel y gair terfynol ac i fwrw ymlaen â'r camau nesaf arfaethedig ar gyfer y gwaith i archwilio opsiynau ar gyfer darparu crèche ar y safle. Bydd e'n fater i'r Senedd nesaf nawr i edrych ar hyn, a dwi'n deall y rhwystredigaeth sydd gan nifer ohonoch chi ynglŷn â'r ffaith nad yw hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Ond, i fod yn gwbl onest, yr adborth roeddem ni'n ei gael, o drafod gydag Aelodau ac aelodau staff, oedd taw nid cymorth ar y safle oedd y ffordd fwyaf ymarferol i'w helpu nhw gyda'u gofal plant ac anghenion gofal plant. Ond, o ran y neges sydd yn y Siambr yma y prynhawn yma ynglŷn â'r neges y mae crèche yn gallu'i roi, a'r cyfle hefyd i sichrau bod ymwelwyr â'r safle yma yn cael cynnig gofal crèche, dwi'n gobeithio bod hwnna'n mynd i adlewyrchu fel pwynt pwysig i'w ystyried gan y Comisiwn nesaf. 

Yn olaf, pwynt pwysig y mae nifer o bobl wedi'i gyfrannu y prynhawn yma—ac fe roedd cwestiwn amserol wedi cael ei dderbyn ynghynt y prynhawn yma—yw'r camdrin, ac ar-lein yn enwedig, y mae nifer o Aelodau o'r Senedd yma yn ei wynebu yn eu byd gwleidyddol nhw. Mae'r gwaith y mae'r cawcws menywod wedi'i wneud i annog y Comisiwn i sefydlu'r prosiect peilot ar fonitro'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn ac yn gam cychwynnol yn ein gwaith rhagweithiol ni i edrych ar y risg sydd yna ar gyfer Aelodau o'r Senedd yma nawr ac i'r dyfodol. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd nesaf yn parhau â'r gwaith yna ac yn ei ymgorffori e fel rhan bob dydd o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud i warchod y gwleidyddion sy'n cael eu hethol i'r lle yma.

Gaf i ddiolch yn olaf nawr i Joyce Watson am yr arweiniad mae hi wedi'i rhoi i'r gwaith penodol yma? Mae hi hefyd yn arwain fel Comisiynydd ar gydraddoldeb yn y Comisiwn ac yn y Senedd yma. Mae'r adroddiad ei hun hefyd yn gwneud yr argymhelliad bod angen i Gomisiynydd gario'r cyfrifoldeb yna yn Seneddau'r dyfodol, yng Nghomisiynau'r dyfodol. Allai neb fod wedi gwneud y gwaith yn well na Joyce Watson dros y blynyddoedd diwethaf yma, a dwi'n diolch iddi am yr arweiniad a'r dygnwch mae hi wedi'i ddangos yn cario'r cyfrifoldeb yna ac yn gwneud y gwaith ar gyfer yr adroddiad yma hefyd.

Rwyf i bellach nawr, fel cadeirydd y Comisiwn, Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am ymateb i'r argymhellion perthnasol yma i'r Pwyllgor Busnes nesaf ac i'r Comisiwn nesaf, ond gyda'r disgwyliad wrthyf i ac wrthych chi, gyda'ch cyfraniadau grymus chi fan hyn heddiw—

Some of the recommendations relate to the Commission or the services provided by the Commission. Recommendation 11 refers to a training programme that the Commission should continue to provide in relation to the code of conduct, Senedd business and resilience. Recommendation 37 relates to regular training on equality. Now, I am pleased that a number of training sessions have been developed and offered to Members and Members' staff in the above areas during this Senedd. The Commission has agreed a framework for providing training to support Members in their work in the seventh Senedd. However, the Commission does not have the power to make training compulsory and, therefore, it's essential that Members educate themselves in these areas and recognise the need for them and their staff to be trained appropriately. I would say that political parties have an important role to play in this context too, in placing high expectations on their Members.

I do hope that the new provision of the hwb will support future Members by offering a starting point for receiving information and support not only on the specific areas referenced in this report, but on other aspects of the Commission's services as well.

In relation to childcare provision—and that's recommendation 22, and many have referred to that issue this afternoon—the Commission recently carried out a feasibility study to provide crèche facilities. The Commission's objective was to establish an initial evidence base to better understand the childcare needs of Members, prospective Members and members of staff, and to explore practical and proportionate options for meeting those needs. The study found that childcare remains a barrier to participation in parliamentary life, but the report also said, quite clearly, that an onsite crèche wasn't the most practical way of providing childcare to Members and staff members. Now, that's very different to what we've heard as an aspiration from many Members around this Chamber this afternoon.  

However, as the Commission considered its report in its meeting on 3 November, the Commission decided that we shouldn't take the word of that report as the final word and that we should proceed with the next steps for the work of exploring options in relation to providing an onsite crèche. It will be a matter for the next Senedd now to look at this, and I understand the frustration that many of you feel in that this isn't something that's currently available, but, to be entirely honest, the feedback that we received, having had discussions with Members and staff members, was that onsite provision wasn't the most practical way forward in supporting them with their particular childcare needs. But, as to the message that's emerged in the Chamber this afternoon and the message that a crèche can convey, and also the opportunity to ensure that visitors to this site can also have a crèche provision, I do hope that that will be reflected as an important point for consideration by the next Commission. 

Finally, an important point that many people have made this afternoon—and there was a topical question taken earlier this afternoon—is about the abuse, and online abuse in particular, that many Members of this Senedd experience in their political work. The work that the women's caucus has done to encourage the Commission to establish the social media monitoring pilot is very important and is an initial step in our proactive work and is an initial step in our proactive work to be looking at the risks faced by Members of this Senedd now and for the future. I very much hope that the next Senedd will continue with that work and will incorporate it as a core part of the work that we do to safeguard the politicians elected to this place.

May I finally thank Joyce Watson for the leadership that she has shown in relation to this particular work? She also leads as a Commissioner on equality issues within the Commission and within this Senedd. The report itself makes a recommendation that a Commissioner should take forward that responsibility in future Senedds and in future Commissions. Nobody could have done that work better than Joyce Watson over recent years, and I give sincere thanks to her for her leadership and determination in carrying that responsibility forward and in doing this work, and also the work for this report.

I now, as chair of the Commission and Chair of the Business Committee, will transfer this responsibility for responding to the relevant recommendations to the next Business Committee and to the next Commission, but with the expectation from me and from you, given your powerful contributions here today—

18:15

—y bydd y ddau gorff yna yn darparu ac yn cyhoeddi ymateb ffurfiol i argymhellion yr adroddiad yma, fel nad yw'r gwaith yn cael ei adael ar silff ac yn casglu llwch. Diolch.

—that both of those bodies will provide and publish a formal response to the recommendations in this report, so that the work is not left on a shelf gathering dust. Thank you.

Thank you. It's been a great debate, and with huge commitment from all sides, and that is a great way to end this piece of work. But we have got to move from aspiration now to institutional good practice, and there is a clear difference between those two things.

We also have to shift from the reliance on working practices that are ongoing, dependent on a few key individuals eternally pushing that, so we have to have working practices that are shaped by the culture of this place. We are the culture of this place, and it is up to us, so we've got to have a formal structure. We have got four weeks left here, and people have worked really hard in this space to keep these things alive, if you like, but we are losing a lot of experience. We are losing people with determination. I know, and I hope that I'm right in what I think, that the seventh Senedd will see experienced Members coming back, will see determined people with that vision coming back, and will understand the importance of this work going forward. We will be relying on those people, actually, to make sure that there is an implementation board going forward, but we have to, without a doubt, address some of the key issues.

I thank those people who took part in this debate today—Peter Fox, Siân Gwenllian, Jane Dodds, Jenny Rathbone, Luke Fletcher, Julie Morgan, Sioned and Adam Price—for all their contributions today. What is notable and thankful is that it wasn't all women, because this was never about that. This is about families and how it affects families.

One of the key things is those working hours. We will have a chance next time to make them more predictable, and we have to make them more predictable, because we have parental remorse when you cannot see your children. That cannot be good enough, and it's not going to encourage people here.

I can see the clock—it's gone red. So, I'm not going to push my luck any further, but I am going to thank you all. It is key, and yes, Adam, we will be meeting on Monday, and yes, we can see if we can put something in place—and I'm sure we're both pretty determined to do that—to reflect the views here today. They're not our views, and it isn't then for an institution to the block the will of the people sitting here. So, we will do a bit of unblocking on Monday, I think, regarding the crèche. But thank you, everybody, and thank you for your patience.

Diolch. Mae wedi bod yn ddadl wych, a chydag ymrwymiad enfawr o bob ochr, ac mae honno'n ffordd wych o ddod â'r gwaith hwn i ben. Ond mae'n rhaid inni symud o uchelgais nawr i arfer da sefydliadol, ac mae gwahaniaeth clir rhwng y ddau beth hynny.

Rhaid inni symud hefyd o'r ddibyniaeth ar arferion gwaith sy'n barhaus, yn ddibynnol ar ychydig o unigolion allweddol sy'n gwthio hynny'n dragwyddol, felly mae'n rhaid inni gael arferion gwaith sy'n cael eu siapio gan ddiwylliant y lle hwn. Ni yw diwylliant y lle hwn, a mater i ni yw hyn, felly rhaid inni gael strwythur ffurfiol. Mae gennym bedair wythnos ar ôl yma, ac mae pobl wedi gweithio'n galed iawn ar gadw'r pethau hyn yn fyw, os hoffech, ond rydym yn colli llawer o brofiad. Rydym yn colli pobl gyda phenderfyniad. Rwy'n gwybod, ac rwy'n gobeithio fy mod yn iawn yn yr hyn rwy'n ei feddwl, y bydd y seithfed Senedd yn gweld Aelodau profiadol yn dod yn ôl, y bydd yn gweld pobl benderfynol gyda'r weledigaeth honno'n dod yn ôl, a byddant yn deall pwysigrwydd y gwaith hwn yn y dyfodol. Byddwn yn dibynnu ar y bobl hynny i wneud yn siŵr fod bwrdd gweithredu'n bodoli yn y dyfodol, ond heb os, rhaid inni fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol.

Diolch i'r bobl a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw—Peter Fox, Siân Gwenllian, Jane Dodds, Jenny Rathbone, Luke Fletcher, Julie Morgan, Sioned ac Adam Price—am eu holl gyfraniadau heddiw. Yr hyn sy'n nodedig ac yn galonogol yw nad menywod oedd pawb, oherwydd nid ymwneud â hynny y mae hyn. Mae'n ymwneud â theuluoedd a sut y mae'n effeithio ar deuluoedd.

Un o'r pethau allweddol yw'r oriau gwaith. Cawn gyfle y tro nesaf i'w gwneud yn fwy rhagweladwy, ac mae'n rhaid inni eu gwneud yn fwy rhagweladwy, oherwydd mae rhieni'n difaru pan na allant weld eu plant. Ni all hynny fod yn ddigon da, ac nid yw'n mynd i annog pobl i ddod yma.

Gallaf weld y cloc—mae wedi troi'n goch. Felly, nid wyf yn mynd i wthio fy lwc ymhellach, ond rwy'n diolch i chi i gyd. Mae'n allweddol, a byddwn, Adam, byddwn yn cyfarfod ddydd Llun, a gallwn weld a allwn roi rhywbeth yn ei le—ac rwy'n siŵr fod y ddau ohonom yn eithaf penderfynol o wneud hynny—i adlewyrchu'r safbwyntiau yma heddiw. Nid ein safbwyntiau ni ydynt, ac nid lle sefydliad yw rhwystro ewyllys y bobl sy'n eistedd yma. Felly, fe wnawn ychydig o ddadflocio ddydd Llun, rwy'n credu, mewn perthynas â'r crèche. Ond diolch, bawb, a diolch i chi am eich amynedd.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r adroddiad? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to note the report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Polisi Economaidd
15. Welsh Conservatives Debate: Economic Policy

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 3 yn enwau Laura Anne Jones a James Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, amendment 2 in the name of Heledd Fychan, and amendment 3 in the names of Laura Anne Jones and James Evans. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be deselected.

Eitem 15 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bolisi economaidd. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Item 15 today is the Welsh Conservatives' debate on economic policy, and I call on Samuel Kurtz to move the motion.

Cynnig NDM9202 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2026 a'r rhagolygon economaidd diweddaraf.

2. Yn gresynu, o dan lywodraethau Llafur yn San Steffan a Chaerdydd:

a) bod rhagolygon twf economaidd wedi'u hisraddio;

b) bod disgwyl i ddiweithdra godi a bod Cymru'n parhau i fod â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU;

c) bod nifer y bobl yng Nghymru ar gredyd cynhwysol ar ei lefel uchaf erioed;

d) mai'r lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru yw'r uchaf ym Mhrydain Fawr; ac

e) mai pecynnau cyflog yng Nghymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn credu, ar ôl bron i dri degawd o lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru, bod economi Cymru yn tanberfformio a bod angen dull cryf sy'n ffafrio twf ar bobl sy'n gweithio a busnesau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael Cymru i weithio drwy wneud y canlynol:

a) gwneud toriad o 1 geiniog yn y bunt i gyfradd sylfaenol treth incwm Cymru;

b) diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post;

c) dileu'r dreth dwristiaeth arfaethedig;

d) diddymu treth trafodiadau tir wrth brynu prif breswylfa; ac

e) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferendwm cyn cyflwyno cynnydd o fwy na 5 y cant i'r dreth gyngor.

Motion NDM9202 Paul Davies

To propose that the Senedd:

1. Notes the UK Government’s Spring Statement of 3 March 2026 and the latest economic forecasts.

2. Regrets that under Labour governments in both Westminster and Cardiff:

a) economic growth forecasts have been downgraded;

b) unemployment is expected to rise and Wales continues to have the lowest employment in the UK;

c) the number of people in Wales on universal credit is the highest ever;

d) economic inactivity in Wales is the highest in Great Britain; and

e) pay packets in Wales are the lowest in the United Kingdom.

3. Believes that after almost three decades of Labour-led government in Wales, the Welsh economy is underperforming and working people and businesses need a strong pro-growth approach.

4. Calls on the Welsh Government to get Wales working by:

a) cutting the basic rate of Welsh income tax by 1 pence in the pound;

b) scrapping business rates for small firms, pubs and post offices;

c) scrapping the proposed tourism tax;

d) abolishing land transaction tax for the purchase of a primary residence; and

e) requiring local authorities to hold a referendum before increasing council tax by more than 5 per cent.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I am pleased to have the opportunity to open this Welsh Conservatives' debate on the Welsh economy. But we meet today at a moment of considerable global uncertainty. Military action in Iran, the closure of the Strait of Hormuz, and the resulting surge in global oil prices are sending shockwaves through international markets. Energy costs are rising, supply chains are tightening, and families and businesses across the world are once again facing economic pressure. Events like these underline a simple but crucial point: nations and regions need resilient economies, economies capable of weathering global shocks.

Unfortunately, resilience is precisely what the Welsh economy sadly lacks. And the uncomfortable truth for the Labour Government here in the Senedd, propped up time and time again by their enablers, Plaid Cymru, and now supported by a failing Labour Government in Westminster, is that this weakness did not begin with events in the middle east; the problems were already there. After 27 years of Labour Government in Wales, the fundamentals of our economy remain deeply troubling.

We make no apology as Conservatives for the wide-ranging motion before us today, because it simply sets out the reality of the Welsh economy. Let us look at the record of this so-called partnership in power. Economic growth forecasts downgraded. Unemployment rising. In Wales, the lowest employment rate anywhere in the United Kingdom, and the highest level of economic inactivity in Great Britain, with nearly one in four adults outside the workforce. A record number of people claiming universal credit, and still, here in Wales, pay packets remain the lowest anywhere in the UK. Youth unemployment well above the European average, so much so that even today, the Chancellor admitted that there is a valid argument that she should not have hiked national insurance contributions in her first budget. Yet time and time again we are confronted with this record, the instincts of this Labour Government is to not accept responsibility, but to look elsewhere and for someone else to blame.

They blame Westminster. They blame global events. They point their socialist finger of blame at anyone and everyone except themselves—the Government that has actually been running Wales for the past 27 years. Because every Government Member knows that their record is indefensible. Their amendment to today's debate does not challenge the facts that we have set out; it simply deletes them and replaces them with praise for the most unpopular Prime Minister in history. A Prime Minister, we should remember, who reportedly told his Cabinet, in December, that engaging with devolved Governments, quote,

'almost inevitably creates political challenges or missed...opportunities'.

With friends like these, who really needs enemies?

Had that been said by a Conservative Prime Minister, there'd have been emergency statements on the floor of the Senedd. There'd have been a press conference at Cathays Park. 'An affront to devolution', Labour Members would have cried. Yet when it's a Labour Prime Minister, we hear nothing but silence. Hypocrisy from a Government out of ideas, out of energy, and soon enough out of power. The people of Wales deserve better. They deserve a pro-growth Government, one that understands business and is prepared to create the conditions for investment, job creation and, yes, economic success. Instead, what businesses in Wales too often see is a Government that is more comfortable in regulating enterprise rather than supporting it.

That's why our manifesto for the upcoming election sets out a clear pro-growth plan for Wales. We will cut the basic rate of income tax by a penny. We will scrap business rates for small businesses, pubs and post offices. We will overturn the damaging tourism tax. Those measures will put money back into the pockets of people and allow businesses to reinvest, expand and create jobs. We will abolish stamp duty on primary residences, so that people in Wales are not penalised simply for buying a home. And we will introduce referendums on council tax rises above 5 per cent, ensuring that local authorities are properly accountable to the people who elect them and who pay the bills.

For my constituents in west Wales, after the health service, the economy is the No. 1 issue that people raise with me most often. Recent engagement with businesses across Pembrokeshire and west Wales has made one thing abundantly clear: many firms are struggling under the combined weight of rising taxes and rising operating costs. I've spoken to entrepreneurs who feel squeezed rather than supported. Businesses are scaling back plans to hire, invest and expand. Some are even questioning whether they can keep the doors open and the lights on. A tourism operator told me bookings are being cancelled as household budgets tighten. A cafe owner is considering reducing opening hours because energy and staffing costs have surged. A manufacturing firm told me its competitiveness is being undermined by high rates and growing regulatory burdens. These are not abstract. They are real businesses, employing real people, paying real taxes, and they are saying clearly and loudly, 'Enough is enough.'

I've also raised in this Chamber the growing concern about changes to business rate valuations. The recent round-table that Paul Davies and I hosted attracted more than 150 participants, all eager to share their concerns and ask for support. In my time as a Senedd Member, I've never seen such widespread anxiety about the economic future because businesses in Wales are already being squeezed to breaking point. That is before we fully understand the economic consequences of the events unfolding in the middle east.

The Welsh economy cannot afford more of the same. Today, we have put forward practical proposals to support businesses, encourage investment and drive economic growth. Let me say this clearly: we're not precious about the ideas. If, in the dying embers of this Welsh Government, they wish to adopt them, we would welcome it. Because what matters is not who gets the credit; what matters is finally delivering the economic growth that Wales so badly needs. So, I urge Members across the Chamber to support our motion today and to send a clear message: it's time to get Wales working again.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. Ond rydym yn cyfarfod heddiw ar adeg o ansicrwydd byd-eang sylweddol. Mae gweithredu milwrol yn Iran, cau Culfor Hormuz, a'r cynnydd sydyn o ganlyniad i brisiau olew byd-eang yn creu tonnau o sioc drwy farchnadoedd rhyngwladol. Mae costau ynni'n codi, cadwyni cyflenwi'n tynhau, ac mae teuluoedd a busnesau ledled y byd unwaith eto'n wynebu pwysau economaidd. Mae digwyddiadau fel hyn yn tanlinellu pwynt syml ond hanfodol: mae angen economïau gwydn ar genhedloedd a rhanbarthau, economïau sy'n gallu gwrthsefyll siociau byd-eang.

Yn anffodus, gwydnwch yw'r hyn sydd ar goll o economi Cymru. A'r gwir anghyfforddus i'r Llywodraeth Lafur yma yn y Senedd, wedi'i chynnal dro ar ôl tro gan eu galluogwyr, Plaid Cymru, ac sydd bellach yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Lafur aflwyddiannus yn San Steffan, yw na ddechreuodd y gwendid gyda digwyddiadau yn y dwyrain canol; roedd y problemau yno eisoes. Ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae hanfodion ein heconomi yn parhau i beri pryder mawr.

Nid ydym yn ymddiheuro fel Ceidwadwyr am y cynnig eang sydd o'n blaenau heddiw, oherwydd mae'n nodi realiti economi Cymru. Gadewch inni edrych ar hanes yr hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym. Rhagolygon twf economaidd wedi'u hisraddio. Diweithdra ar gynnydd. Yng Nghymru, y gyfradd gyflogaeth isaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a'r lefel uchaf o anweithgarwch economaidd ym Mhrydain, gyda bron un o bob pedwar oedolyn heb fod yn rhan o'r gweithlu. Y nifer uchaf erioed o bobl yn hawlio credyd cynhwysol, ac eto, yma yng Nghymru, mae pecynnau cyflog yn parhau i fod yr isaf yn unrhyw le yn y DU. Mae diweithdra ymhlith ieuenctid ymhell uwchlaw'r cyfartaledd Ewropeaidd, cymaint felly fel bod y Canghellor wedi cyfaddef hyd yn oed heddiw fod yna ddadl ddilys na ddylai fod wedi codi cyfraniadau yswiriant gwladol yn ei chyllideb gyntaf. Ond dro ar ôl tro, yn wyneb yr hanes hwn, greddf y Llywodraeth Lafur hon yw peidio â derbyn cyfrifoldeb, ac edrych yn rhywle arall am rywun arall i'w feio.

Maent yn beio San Steffan. Maent yn beio digwyddiadau byd-eang. Maent yn pwyntio'u bys sosialaidd i feio unrhyw un a phawb heblaw nhw eu hunain—y Llywodraeth a fu'n rhedeg Cymru dros y 27 mlynedd diwethaf. Oherwydd mae pob Aelod o'r Llywodraeth yn gwybod nad oes modd amddiffyn eu hanes o gyflawniad. Nid yw eu gwelliant i'r ddadl heddiw yn herio'r ffeithiau a nodwyd gennym; mae'n eu dileu ac yn gosod eu canmoliaeth i'r Prif Weinidog mwyaf amhoblogaidd mewn hanes yn eu lle. Prif Weinidog, dylem gofio, a ddywedodd wrth ei Gabinet, ym mis Rhagfyr, fod ymgysylltu â Llywodraethau datganoledig,

'bron yn anochel yn creu heriau gwleidyddol neu golli cyfleoedd'.

Gyda ffrindiau fel hyn, pwy sydd angen gelynion?

Pe bai hynny wedi'i ddweud gan Brif Weinidog Ceidwadol, byddai datganiadau brys wedi'u gwneud ar lawr y Senedd. Byddai cynhadledd i'r wasg wedi'i chynnal ym Mharc Cathays. Byddai Aelodau Llafur wedi cwyno ei fod yn sarhad ar ddatganoli. Ond pan fo Prif Weinidog Llafur yn ei ddweud, ni chlywn ddim byd ond tawelwch. Rhagrith gan Lywodraeth heb syniadau, heb egni, a chyn bo hir, heb bŵer. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell. Maent yn haeddu Llywodraeth sydd o blaid twf, un sy'n deall busnes ac sy'n barod i greu'r amodau ar gyfer buddsoddiad, creu swyddi, a llwyddiant economaidd. Yn hytrach, yr hyn y mae busnesau yng Nghymru yn ei weld yn rhy aml yw Llywodraeth sy'n fwy cyfforddus yn rheoleiddio menter yn hytrach na'i chefnogi.

Dyna pam y mae ein maniffesto ar gyfer yr etholiad sydd i ddod yn nodi cynllun clir o blaid twf i Gymru. Byddwn yn torri ceiniog oddi ar gyfradd sylfaenol y dreth incwm. Byddwn yn dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, tafarndai a swyddfeydd post. Byddwn yn gwrthdroi'r dreth dwristiaeth niweidiol. Bydd y mesurau hynny'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac yn caniatáu i fusnesau ailfuddsoddi, ehangu a chreu swyddi. Byddwn yn diddymu'r dreth stamp ar brif breswylfeydd, fel nad yw pobl yng Nghymru'n cael eu cosbi am brynu cartref. A byddwn yn cyflwyno refferenda ar godiadau treth gyngor dros 5 y cant, gan sicrhau bod awdurdodau lleol yn briodol atebol i'r bobl sy'n eu hethol ac sy'n talu'r biliau.

I fy etholwyr yng ngorllewin Cymru, ar ôl y gwasanaeth iechyd, yr economi yw'r prif fater y mae pobl yn ei godi gyda mi amlaf. Mae ymgysylltiad diweddar â busnesau ar draws sir Benfro a gorllewin Cymru wedi gwneud un peth yn hollol glir: mae llawer o gwmnïau'n cael trafferth o dan bwysau cyfunol codiadau treth a chostau gweithredu cynyddol. Rwyf wedi siarad ag entrepreneuriaid sy'n teimlo eu bod wedi'u gwasgu yn hytrach na'u cefnogi. Mae busnesau'n lleihau cynlluniau i gyflogi, buddsoddi ac ehangu. Mae rhai hyd yn oed yn cwestiynu a allant gadw'r drysau ar agor a'r goleuadau ynghyn. Dywedodd gweithredwr twristiaeth wrthyf fod archebion yn cael eu canslo wrth i gyllidebau cartref dynhau. Mae perchennog caffi'n ystyried lleihau eu horiau agor am fod costau ynni a staffio wedi cynyddu. Dywedodd cwmni gweithgynhyrchu wrthyf fod ei gystadleurwydd yn cael ei danseilio gan ardrethi uchel a beichiau rheoleiddio cynyddol. Nid pethau haniaethol yw'r rhain. Maent yn fusnesau go iawn, yn cyflogi pobl go iawn, yn talu trethi go iawn, ac maent yn dweud yn glir ac yn uchel, 'Digon yw digon.'

Rwyf wedi codi yn y Siambr hefyd y pryder cynyddol am newidiadau i brisiadau ardrethi busnes. Denodd y cyfarfod bord gron diweddar a gynhaliwyd gan Paul Davies a minnau fwy na 150 o gyfranogwyr, pob un yn awyddus i rannu eu pryderon a gofyn am gefnogaeth. Yn fy nghyfnod fel Aelod o'r Senedd, nid wyf erioed wedi gweld pryder mor eang am y dyfodol economaidd am fod busnesau yng Nghymru eisoes yn cael eu gwasgu gwthio at ymyl y dibyn. Mae hynny cyn inni ddeall canlyniadau economaidd y digwyddiadau yn y dwyrain canol.

Ni all economi Cymru fforddio mwy o'r un peth. Heddiw, rydym wedi cyflwyno cynigion ymarferol i gefnogi busnesau, annog buddsoddiad ac ysgogi twf economaidd. Gadewch imi ddweud hyn yn glir: nid ydym yn malio pwy sy'n mabwysiadu'r syniadau yn nyddiau olaf y Llywodraeth hon. Os ydynt yn dymuno eu mabwysiadu, byddem yn croesawu hynny. Oherwydd nid pwy sy'n cael y clod sy'n bwysig; yr hyn sy'n bwysig yw bod y twf economaidd y mae cymaint o'i angen ar Gymru yn cael ei gyflawni. Felly, rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw ac i anfon neges glir: mae'n bryd cael Cymru i weithio eto.

18:25

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, yn enw Jane Hutt.

I have selected the amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be deselected. I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move formally amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r £555 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf ac adnoddau ar gyfer Cymru dros y tair blynedd nesaf yn natganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU.

Amendment 1—Jane Hutt

Delete all after point 1 and replace with:

Welcomes the additional £555 million in resource and capital funding for Wales over the next three years in the UK Government's spring statement.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Amendment 1 moved.

Symud, Llywydd.

Moved, Llywydd.

Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 2, yn enw Heledd Fychan.

I call on Luke Fletcher to move amendment 2, in the name of Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU:

a) bod treth fel cyfran o CMC wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers yr Ail Ryfel Byd;

b) bod safonau byw wedi gostwng yn ystod Senedd 2019-2024, y dirywiad cyntaf o'r fath ar gofnod;

c) bod cyllideb fach Liz Truss, gyda chefnogaeth y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, wedi chwalu economi'r DU ac anfon taliadau morgais i berchnogion tai drwy'r to;

d) bod Brexit wedi achosi ergyd economaidd i Gymru sydd hyd yma yn fwy na £4 biliwn, ac mae'n parhau i osod biwrocratiaeth beichus ar fusnesau Cymru; ac

e) na wnaeth addewidion i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac ailwampio rheilffordd Gogledd Cymru erioed gael eu gwireddu.

Yn gresynu at y canlynol o dan y llywodraethau Llafur presennol yn San Steffan a Chymru:

a) bydd cyllideb Cymru yn profi ei thwf isaf mewn gwariant o ddydd i ddydd y tu allan i'r blynyddoedd llymder presennol, a chyllideb gyfalaf sy'n crebachu;

b) bod fformiwla Barnett wedi cael ei llywio ar draul Cymru wrth gyfrifo ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd, gan greu twll du yng nghyllid cyhoeddus Cymru y bu'n rhaid ei ysgwyddo gan awdurdodau lleol; ac

c) bod Cymru ymhlith yr isaf o'r 12 cenedl a rhanbarth y DU ar ystod o fetrigau perfformiad economaidd, gan gynnwys cynhyrchiant, cyflogaeth ac incwm sylfaenol y pen.

Yn credu:

a) bod pobl Cymru wedi cael eu gadael mewn gwaeth sefyllfa yn sgil agendâu polisi llywodraethau olynol yn San Steffan;

b) bod Reform yn bygwth gwaethygu'r niwed hwn drwy gynlluniau gwariant sydd heb eu costio a thoriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus; ac

c) mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd i ryddhau potensial economaidd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer yr 21ain ganrif i ryddhau potensial economi Cymru;

b) gweithredu rhaglen gofal plant Plaid Cymru i arbed mwy na £30,000 i deuluoedd mewn costau fesul plentyn;

c) diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau bach a chanolig domestig yn well; a

d) gweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i sicrhau bod cyfran uwch o gyfoeth asedau pensiwn Cymru yn cael ei chadw a'i hail-fuddsoddi yn ein cymunedau.

Amendment 2—Heledd Fychan

Delete all after point 1 and replace with:

Regrets that under the previous UK Conservative Government:

a) tax as a proportion of GDP reached its highest level since the Second World War;

b) living standards declined during the 2019-2024 Parliament, the first such decline on record;

c) the Liz Truss mini budget, supported by the Conservative group in the Senedd, crashed the UK economy and sent mortgage payments soaring for homeowners; 

d) Brexit inflicted an economic hit on Wales that to date stands at over £4 billion, and continues to impose burdensome red tape on Welsh businesses; and

e) made promises to electrify the Cardiff to Swansea line and to revamp the North Wales line never materialised.

Regrets that under the current Labour governments in Westminster and Wales:

a) the Welsh budget is set to experience its lowest growth in day-to-day spending outside of the immediate austerity years, and a shrinking capital budget;

b) the Barnett formula was manipulated at Wales’s expense in calculating Treasury reimbursements for employer national insurance contributions in the core public sector, creating a black hole in Welsh public finances that has had to be shouldered by local authorities; and

c) Wales ranks amongst the lowest of the 12 UK nations and regions on a range of economic performance metrics, including productivity employment and primary income per capita.

Believes that:

a) the people of Wales have been left worse off from the policy agendas of successive Westminster governments;

b) Reform threaten to exacerbate this harm through reckless uncosted spending plans and deep cuts to public services; and

c) only Plaid Cymru offers new leadership to unleash Wales's economic potential.

Calls on the Welsh Government to:

a) establish a national development agency for the 21st century to unleash the potential of the Welsh economy:

b) implement Plaid Cymru’s childcare programme to save families more than £30,000 in costs per child;

c) reform business rates to better support domestic SMEs; and

d) work with the Wales Pension Partnership to ensure that a higher proportion of Wales’s pension asset wealth is retained and reinvested in our communities.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Amendment 2 moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I, of course, move the amendment in the name of Heledd Fychan.

I welcome the debate on economic priorities, going into the next Senedd. Sam Kurtz opened with the need for a resilient economy; I couldn't agree more. He also mentioned the pressures faced by businesses due to rising costs; again, I couldn't agree more. I think where we're going to have some tension, though, is, simply looking at the Conservative motion, it's all about cutting taxes. Now, that in itself isn't going to be enough to deal with the economic stagnation that we see within Wales. For starters, if high tax was the problem, then explain Japan, explain Germany. Germany has similar levels of taxation to the UK, Japan has higher levels of taxation than the UK, but then you're talking about the third and fourth largest economies in the world.

The real issues that we need to get down to, when it comes to economic policies, are those structural issues that we find within our economy. I'll pick up on business rates. A number of businesses that are paying business rates, especially those smaller businesses, already receive a large amount of relief. Now, as in conversations I've had with Sam Kurtz previously, and others, if you have a system where you have to provide relief for that system, then there's something fundamentally wrong with that system. So, simply scrapping it entirely isn't going to cut it, quite frankly. What we need to have is that long-term view about how we reform the business rates system and have a system, actually, that works for us, in terms of bringing in the income that we need to pay for public services, but also isn't a hindrance to those businesses. That's a conversation that needs to go into the next Senedd, and I think it needs that collaborative piece, not just with the sector and those businesses ultimately that will be paying those business rates, but also across parties in this place. Because we can't be in a situation, especially now that we're going down to four-year terms, where we turn around every four years and another party comes forward and says, 'We're going to change the system entirely again.' What businesses actually need is the structural stability of a business rate system that works, which means all of us here need to have those serious conversations and come to a consensus on what that system will be for the long term, not simply for a Senedd term. A serious conversation on business rates, I think, really does need to happen.

Focusing in on the structural issues, we've talked within Plaid Cymru about—you'll see it in our motion—the need for a development agency: that idea of bringing in the business support landscape, rationalising it, and having that strategic overview that has been missing from business support and economic development policy within Wales ever since the dissolution of the previous WDA. There are a number of different models that we could look at to deliver that, but I think the primary thing here is making sure that we have that direction around where we want to take the economy, how we want to grow those businesses within Wales from small businesses to medium-sized businesses—we know that there's a ‘missing middle’ problem here in Wales—and progress them into larger businesses.

What are the metrics we use to measure the success of that WDA? That is open for conversation. Is it a productivity measure? Is it a measure on the number of profitable businesses operating within Wales or headquartered in Wales? On that, again, a conversation needs to happen, but we do need something in place that isn't in place right now. Again, it's a structural issue, but it will allow us to have that strategic vision about how we support our businesses and grow those businesses. Talking about the WDA as a potential concierge for business in the short term, the ability then to have something that can walk businesses through the system as is, whether that's for business support, whether that's for getting through the planning system as well, will be a huge shot in the arm for the business community here in Wales, and thereby the Welsh economy. 

And finally, within our motion you'll also see a reference to the need to utilise Welsh pension partnerships more effectively. We aren't doing that to the degree that we should be right now, especially when you compare with other countries of a similar size to Wales. There's billions of pounds’ worth of investment that simply isn't happening, again because there's no structural thing in place for us to have those conversations and proactively get that investment into Wales.

As I said, I welcome the opportunity to discuss economic policy in the Senedd tonight. Cutting taxes isn't simply going to be the solution or the answer to getting the Welsh economy on its feet. There are structural issues that need to be addressed. I was hoping that we would see something on that from the Conservatives, but we haven't seen that. All we have seen is tax cuts and reheating of former policies. But I would welcome further contributions from the Conservative benches, the Labour benches, Reform benches as well, around the structural issues that we need to address here, because again, the future of the Welsh economy will be of importance in the next Senedd. We need to take it seriously. We need to have that conversation seriously, rather than trying to score cheap political points.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Heledd Fychan.

Rwy'n croesawu'r ddadl ar flaenoriaethau economaidd, wrth edrych tuag at y Senedd nesaf. Agorodd Sam Kurtz gyda'r angen am economi wydn; rwy'n cytuno'n llwyr. Soniodd hefyd am y pwysau sy'n wynebu busnesau oherwydd costau cynyddol; unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n credu mai lle cawn rywfaint o densiwn, fodd bynnag, yw wrth edrych ar y cynnig Ceidwadol, mae'n ymwneud yn llwyr â thorri trethi. Nawr, nid yw hynny ynddo'i hun yn mynd i fod yn ddigon i ddelio â'r diffyg twf economaidd a welwn yng Nghymru. I ddechrau, os mai treth uchel yw'r broblem, esboniwch Japan, esboniwch yr Almaen. Mae gan yr Almaen lefelau tebyg o drethi i'r hyn a geir yn y DU, mae gan Japan lefelau uwch o drethi na'r hyn a geir yn y DU, ond rydych chi'n siarad am y drydedd a'r bedwaredd economi fwyaf yn y byd.

Y materion go iawn y mae angen inni roi sylw iddynt, o ran polisïau economaidd, yw'r materion strwythurol hynny a welwn yn ein heconomi. Fe soniaf am ardrethi busnes. Mae nifer o fusnesau sy'n talu ardrethi busnes, yn enwedig busnesau llai, eisoes yn cael llawer iawn o ryddhad. Nawr, fel mewn sgyrsiau a gefais gyda Sam Kurtz o'r blaen, ac eraill, os oes gennych system lle mae'n rhaid ichi ddarparu rhyddhad ar gyfer y system honno, mae rhywbeth sylfaenol o'i le ar y system honno. Felly, nid yw cael gwared arni'n gyfan gwbl yn mynd i weithio a bod yn hollol onest. Yr hyn y mae angen inni ei gael yw golwg hirdymor ar sut yr awn ati i ddiwygio'r system ardrethi busnes a chael system sy'n gweithio i ni, o ran dod â'r incwm sydd ei angen arnom i dalu am wasanaethau cyhoeddus, ond nad yw'n rhwystr i'r busnesau hynny. Mae honno'n sgwrs y bydd angen iddi gael ei chael yn y Senedd nesaf, ac rwy'n credu bod angen gweithio'n gydweithredol, nid yn unig gyda'r sector a'r busnesau a fydd yn talu'r ardrethi busnes hynny yn y pen draw, ond hefyd ar draws y pleidiau yn y lle hwn. Oherwydd ni allwn fod mewn sefyllfa, yn enwedig gan ein bod ni'n newid i dymhorau pedair blynedd, lle rydym yn newid bob pedair blynedd a lle daw plaid arall a dweud, 'Rydym yn mynd i newid y system yn gyfan gwbl eto.' Yr hyn sydd ei angen ar fusnesau mewn gwirionedd yw sefydlogrwydd strwythurol system ardrethi busnes sy'n gweithio, sy'n golygu bod angen i bob un ohonom yma gael y sgyrsiau difrifol hynny a dod i gonsensws ynghylch beth fydd y system honno ar gyfer y tymor hir, nid dim ond ar gyfer un tymor Senedd. Rwy'n credu bod angen sgwrs ddifrifol am ardrethi busnes.

Gan ganolbwyntio ar y materion strwythurol, rydym wedi siarad o fewn Plaid Cymru—fe welwch hynny yn ein cynnig—am yr angen am asiantaeth ddatblygu: y syniad o ddod â'r dirwedd cymorth busnes i mewn, ei rhesymoli, a chael y trosolwg strategol sydd wedi bod ar goll o gymorth busnes a pholisi datblygu economaidd yng Nghymru byth ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru. Mae yna nifer o wahanol fodelau y gallem edrych arnynt i gyflawni hynny, ond rwy'n credu mai'r prif beth yma yw sicrhau bod gennym gyfeiriad i fynd iddo gyda'r economi, sut rydym am dyfu busnesau yng Nghymru o fod yn fusnesau bach i fod yn fusnesau canolig—fe wyddom fod problem 'canol coll' yma yng Nghymru—a'u datblygu'n fusnesau mwy.

Beth yw'r metrigau a ddefnyddiwn i fesur llwyddiant Awdurdod Datblygu Cymru o'r fath? Mae hynny'n agored i sgwrs. A yw'n fesur cynhyrchiant? A yw'n fesur o nifer y busnesau proffidiol sy'n gweithredu yng Nghymru neu sydd â'u pencadlys yng Nghymru? Ar hynny, unwaith eto, mae angen cynnal sgwrs, ond mae angen rhywbeth ar waith nad yw ar waith ar hyn o bryd. Unwaith eto, mae'n fater strwythurol, ond bydd yn caniatáu inni gael gweledigaeth strategol ynglŷn â sut y cefnogwn ein busnesau a thyfu'r busnesau hynny. Wrth siarad am Awdurdod Datblygu Cymru fel concierge posib ar gyfer busnes yn y tymor byr, bydd gallu wedyn i gael rhywbeth sy'n gallu cerdded busnesau drwy'r system fel y mae, boed hynny ar gyfer cymorth busnes, neu ar gyfer mynd drwy'r system gynllunio, yn hwb enfawr i'r gymuned fusnes yma yng Nghymru, a thrwy hynny i economi Cymru. 

Ac yn olaf, yn ein cynnig fe welwch gyfeiriad hefyd at yr angen i ddefnyddio partneriaethau pensiwn Cymreig yn fwy effeithiol. Nid ydym yn gwneud hynny i'r graddau y dylem ar hyn o bryd, yn enwedig pan fyddwch chi'n cymharu â gwledydd eraill o faint tebyg i Gymru. Mae gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad nad yw'n digwydd, unwaith eto am nad oes unrhyw beth strwythurol yn ei le inni gael y sgyrsiau hynny ac inni fynd ati'n rhagweithiol i ddenu'r buddsoddiad hwnnw i mewn i Gymru.

Fel y dywedais, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod polisi economaidd yn y Senedd heno. Nid torri trethi fydd yr ateb i gael economi Cymru ar ei thraed. Mae angen mynd i'r afael â materion strwythurol. Roeddwn i'n gobeithio y byddem yn gweld rhywbeth ar hynny gan y Ceidwadwyr, ond ni wnaethom. Y cyfan a welsom yw toriadau treth ac ailbobi hen bolisïau. Ond buaswn yn croesawu cyfraniadau pellach oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, y meinciau Llafur, meinciau Reform hefyd, ynghylch y materion strwythurol y mae angen inni fynd i'r afael â nhw yma, oherwydd unwaith eto, bydd dyfodol economi Cymru yn bwysig yn y Senedd nesaf. Mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Mae angen inni gael y sgwrs ddifrifol honno, yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad.

18:30

Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones.

I call on James Evans to move amendment 3, tabled in the name of Laura Anne Jones. 

Gwelliant 3—Laura Anne Jones, James Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu, bod economi Cymru, ar ôl bron i dri degawd o Lywodraethau Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn tanberfformio a bod angen dull cryf o gefnogi twf ar fusnesau a phobl sy'n gweithio.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau byw, rhoi hwb i economi Cymru, a rhoi pobl Cymru yn gyntaf trwy:

a) cyflwyno cynllun credadwy i leihau treth incwm un geiniog ar draws pob band;

b) dileu'r dreth dwristiaeth;

c) cyflwyno clo ar drethi er mwyn atal trethi neu ardollau newydd rhag cael eu creu gan Lywodraeth Cymru;

d) dileu sero net i roi terfyn ar gymorthdaliadau gwastraffus, a'i gwneud yn haws adeiladu seilwaith;

e) ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnal refferenda ar gyfer codiadau'r dreth gyngor uwchlaw 4.99 y cant;

f) adfer y terfyn cyflymder diofyn o 30mya;

g) cyflawni ffordd liniaru'r M4;

h) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl reoliadau i asesu a ydynt yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn addas i'r diben;

i) gweithredu lluosydd cyfraddau busnes is yn barhaol ar gyfer tafarndai, gwestai a lleoliadau lletygarwch; a

j) blaenoriaethu caffael gyda chwmnïau lleol.

Amendment 3—Laura Anne Jones, James Evans

Delete all after point 2 and replace with:

Believes that after almost three decades of Plaid Cymru-backed Welsh Labour Governments, the Welsh economy is underperforming and working people and businesses need a strong pro-growth approach.

Calls on the Welsh Government to tackle the cost of living, kickstart the Welsh economy, and put the people of Wales first by:

a) bringing forward a credible plan to cut income tax across all bands by one pence;

b) scrapping the tourism tax;

c) introducing a tax lock to prevent the creation of new taxes or levies by the Welsh Government;

d) scrapping net zero to end wasteful subsidies, and make it easier to build infrastructure;

e) requiring councils to hold referendums for council tax rises above 4.99 per cent;

f) restoring the 30mph default speed limit;

g) delivering an M4 relief road;

h) undertaking a thorough review of all regulations to assess whether they are necessary, proportionate, and fit for purpose;

i) implementing a permanent lower business rates multiplier for pubs, hotels and hospitality venues; and

j) prioritising procurement with local firms.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Amendment 3 moved.

Diolch, Deputy Presiding Officer. I move the amendment tabled in the name of Laura Anne Jones and co-submitted by myself. 

After almost three decades of Welsh Labour Governments propped up by Plaid Cymru, the Welsh economy is on its knees, and working people who set their alarm clocks across our country are paying the price. Wales has the lowest wages in Great Britain, economic inactivity remains the highest in Great Britain, and too many talented people are leaving Wales at a rate of knots.

For too long, the Welsh economy has been held back by a culture of bureaucracy, high taxes, and anti-business regulation that punishes the very people who create jobs and growth across our country. This includes policies like Labour and Plaid Cymru's disastrous default 20 mph speed limit, which, by the Welsh Government's own calculations, will cost the Welsh economy up to £9 billion—£9 billion that you can't reinvest back into our health service and our public services across Wales. I'm glad to say that when Reform is in Government this May, we will revoke this ill-thought-out policy so that money that goes into our economy can go back into our public services.

Reform will also prioritise skills and training. We will favour vocational learning and apprenticeships so young people can build their future here in Wales, also providing good futureproofed jobs across our community—our plumbers, our carpenters, and our bricklayers, who we need to build homes and build our economy.

Reform is the only party that will build the M4 relief road, as Labour and Plaid Cymru continue to push their anti-motorist agenda on the people of Wales. And while the Conservatives have tabled this debate, their credibility is being undermined by the fact that they have just released a completely uncosted manifesto. Plaid Cymru's amendment today—

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones ac a gyd-gyflwynwyd gennyf i. 

Ar ôl bron i dri degawd o Lywodraethau Llafur Cymru wedi'u cynnal gan Blaid Cymru, mae economi Cymru ar ei gliniau, ac mae pobl sy'n gweithio sy'n gosod eu clociau larwm ledled ein gwlad yn talu'r pris. Cymru sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain, mae anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uwch nag unman arall ym Mhrydain, ac mae gormod o bobl dalentog yn gadael Cymru ar ras.

Am ormod o amser, mae economi Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan ddiwylliant o fiwrocratiaeth, trethi uchel, a rheoleiddio gwrth-fusnes sy'n cosbi'r union bobl sy'n creu swyddi a thwf ledled ein gwlad. Mae hyn yn cynnwys polisïau fel terfyn cyflymder 20 mya diofyn trychinebus Llafur a Phlaid Cymru, a fydd, yn ôl cyfrifiadau Llywodraeth Cymru ei hun, yn costio hyd at £9 biliwn i economi Cymru—£9 biliwn na allwch ei ailfuddsoddi yn ôl yn ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Pan fydd Reform mewn grym ym mis Mai, rwy'n falch o ddweud y byddwn yn diddymu'r polisi difeddwl hwn fel y gall arian sy'n mynd i mewn i'n heconomi fynd yn ôl i mewn i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd Reform hefyd yn blaenoriaethu sgiliau a hyfforddiant. Byddwn yn ffafrio dysgu galwedigaethol a phrentisiaethau fel y gall pobl ifanc adeiladu eu dyfodol yma yng Nghymru, gan ddarparu swyddi da sy'n ddiogel ar gyfer y dyfodol ar draws ein cymuned—ein plymwyr, ein seiri coed, a'n bricwyr, y bobl sydd eu hangen arnom i adeiladu cartrefi ac adeiladu ein heconomi.

Reform yw'r unig blaid a fydd yn adeiladu ffordd liniaru'r M4, wrth i Lafur a Phlaid Cymru barhau i wthio eu hagenda wrth-fodurwyr ar bobl Cymru. Ac er mai'r Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon, mae eu hygrededd nhw'n cael ei danseilio gan y ffaith eu bod newydd ryddhau maniffesto heb ei gostio o gwbl. Mae gwelliant Plaid Cymru heddiw—

18:35

Honestly, I've known you a long time, and that astounds me. You know it, I know it, we know it—that you actually copied and pasted that manifesto. So, don't knock a manifesto that you contributed to in the first place.

Mewn difrif, rwy'n eich adnabod chi ers amser hir, ac mae hynny'n fy syfrdanu. Rydych chi'n ei wybod, rwy'n ei wybod, rydym ni'n ei wybod—eich bod chi mewn gwirionedd wedi copïo a gludo'r maniffesto hwnnw. Felly, peidiwch â lladd ar faniffesto y gwnaethoch chi gyfrannu ato yn y lle cyntaf.

I don't think it could be copied and pasted, because it was kept on Darren Millar's own hard drive until the moment it was released. I don't think any of you had actually seen it.

Plaid Cymru's amendment today even tries to blame Reform for the economic challenges that Wales faces. That really is quite something, considering we're not even in Government yet. It's remarkable to hear Plaid Cymru attacking Reform's economic policies when they have spent years propping up the very Welsh Labour Government responsible for the complete economic failure that we now all have to pay the price for.

What Plaid Cymru will not admit to people is that independence—something that they don't like to talk about currently, but it is their sole aim—will make our economic situation far worse. Welsh independence will cost hard-working Welsh families thousands of pounds every year.

Plaid's leader couldn't even get the costings for his flagship childcare policy, because we all know how that policy will be funded: it will be funded by increases in the taxes on hard-working people across the country—robbing Peter to pay Paul. What Wales needs is a serious economic plan, and that's why Reform is now the party of economic credibility across the country.

Nid wyf yn credu y gellid bod wedi ei gopïo a'i ludo, oherwydd cafodd ei gadw ar yriant caled Darren Millar ei hun tan yr eiliad y cafodd ei ryddhau. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonoch chi wedi'i weld mewn gwirionedd.

Mae gwelliant Plaid Cymru heddiw hyd yn oed yn ceisio beio Reform am yr heriau economaidd sy'n wynebu Cymru. Mae hynny'n dipyn o beth, o ystyried nad ydym yn Llywodraeth eto hyd yn oed. Mae'n rhyfeddol clywed Plaid Cymru'n ymosod ar bolisïau economaidd Reform a hwythau wedi treulio blynyddoedd yn cynnal yr union Lywodraeth Lafur sy'n gyfrifol am y methiant economaidd llwyr y mae'n rhaid i bawb ohonom dalu'r pris amdano.

Yr hyn na fydd Plaid Cymru yn ei gyfaddef i bobl yw y bydd annibyniaeth—rhywbeth nad ydynt yn hoff o siarad amdano ar hyn o bryd, ond dyna'u hunig nod—yn gwneud ein sefyllfa economaidd yn llawer gwaeth. Bydd annibyniaeth Cymru yn costio miloedd o bunnoedd i deuluoedd gweithgar Cymru bob blwyddyn.

Ni allai arweinydd Plaid Cymru gael y costau ar gyfer ei bolisi gofal plant blaenllaw hyd yn oed, oherwydd rydym i gyd yn gwybod sut y bydd y polisi hwnnw'n cael ei ariannu: bydd yn cael ei ariannu gan godiadau treth ar bobl weithgar ledled y wlad—dwyn oddi wrth un i dalu'r llall. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw cynllun economaidd difrifol, a dyna pam mai Reform bellach yw'r blaid y gellir credu ynddi ar yr economi ledled y wlad.

We need a Government that believes in enterprise, that rewards hard work, and provides the right economic environment to grow our economy, rather than regulating them into the ground. Yes, Heledd.

Mae angen Llywodraeth sy'n credu mewn menter, sy'n gwobrwyo gwaith caled, ac sy'n darparu'r amgylchedd economaidd cywir i dyfu ein heconomi, yn hytrach na'u rheoleiddio hyd at syrffed. Ie, Heledd.

You talked about how much independence would cost families, but actually Brexit has cost Welsh families circa £3,000. Also, weren't you part of the problem? Don't you agree that a lot of the problems that Wales's economy faces were actually created by your former Conservative colleagues? Who broke Britain?

Fe sonioch chi faint y byddai annibyniaeth yn ei gostio i deuluoedd, ond mewn gwirionedd mae Brexit wedi costio tua £3,000 i deuluoedd Cymru. Hefyd, onid oeddech chi'n rhan o'r broblem? Onid ydych chi'n cytuno bod llawer o'r problemau sy'n wynebu economi Cymru wedi'u creu gan eich cyn-gydbleidwyr Ceidwadol? Pwy wnaeth dorri Prydain?

I'm afraid to say, Heledd, that the majority of the Welsh public voted for Brexit, and every single poll has shown that the public do not want independence. It would cost our economy billions of pounds, and you would see Welsh working families poorer just to push an ideological agenda.

What will Reform do? We'll cut taxes, we'll require councils to hold referenda before raising council tax, and we'll finally tackle the bloated quangos right the way across our country that the state has allowed to flourish under this Government. Reform will review our public bodies, remove duplication, ensure that Government is accountable and focused on delivering the results that the people of Wales want. We will ease the pressure on business rates, we'll make sure that Welsh taxpayer money is back in Welsh workers' and Welsh businesses' pockets.

The truth is that Wales has enormous economic potential, but that potential will never be unlocked with Labour and their friends in Plaid Cymru. You've had your chance. The people of Wales are tired of excuses. They want real change across Wales, and the only way they're going to do that is by voting for Reform. Diolch, Deputy Presiding Officer.

Mae ddrwg gennyf ddweud, Heledd, fod mwyafrif y cyhoedd yng Nghymru wedi pleidleisio dros Brexit, ac mae pob arolwg barn wedi dangos nad yw'r cyhoedd eisiau annibyniaeth. Byddai'n costio biliynau o bunnoedd i'n heconomi, a byddech chi'n gadael i deuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru fod yn dlotach er mwyn gwthio agenda ideolegol.

Beth fydd Reform yn ei wneud? Byddwn yn torri trethi, byddwn yn gofyn i gynghorau gynnal refferenda cyn codi treth gyngor, a byddwn yn mynd i'r afael o'r diwedd â'r cwangos chwyddedig ar draws ein gwlad y mae'r wladwriaeth wedi caniatáu iddynt ffynnu o dan y Llywodraeth hon. Bydd Reform yn adolygu ein cyrff cyhoeddus, yn dileu dyblygu, yn sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol ac yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau y mae pobl Cymru eu heisiau. Byddwn yn llacio'r pwysau ar ardrethi busnes, byddwn yn gwneud yn siŵr fod arian trethdalwyr Cymru yn ôl ym mhocedi gweithwyr Cymru a busnesau Cymru.

Y gwir amdani yw bod gan Gymru botensial economaidd enfawr, ond ni fydd y potensial hwnnw byth yn cael ei ddatgloi gan Lafur a'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru. Rydych chi wedi cael eich cyfle. Mae pobl Cymru wedi blino ar esgusodion. Maent eisiau newid go iawn ledled Cymru, a'r unig ffordd y cânt hynny yw drwy bleidleisio dros Reform. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

I'm really pleased to be able to contribute to our debate today, particularly in light of recent events, really sad events, in the middle east, which have brought into focus the economy and the impact of the war already being felt at the fuel pumps, and I believe already on our shelves in stores. People are looking for reassurance that the already dire cost of living won't worsen. After the Chancellor gave her depressing spring statement last week, they're not actually finding it at either end of the M4.

I'm talking now to the Welsh Government, Cabinet Secretary, but there are not too many Members of your Cabinet here. Your damaging long-standing policy on no new road building has robbed Wales of its economic potential, with businesses actually turning away from Wales. Combined with the damage your 20 mph policy has caused to the likes of taxi drivers, care workers, bus companies, driving instructors and, in the main, our general commuters, you've created the perfect storm to deter any fresh business investing in Wales.

We know that the vulnerable always disproportionately suffer when our economy isn't performing, and the knock-on of an underfunded education system negatively impacts on our children. We know that children are leaving school, primary school in particular, with no numeracy or literacy skills. That's not going to lead to people getting well-paid jobs, is it? I know of one school in south Wales that is closed today and tomorrow because of industrial action over compulsory redundancies. With another three days of strikes planned next week, pupils in Abergele have also been affected by these teacher strikes. Our children, whose education has already been badly disrupted by COVID, are now paying the price for economic mismanagement under this Labour Government.

I have no doubt you'll parrot the same tired old arguments about 14 years of Tory austerity, but when Labour came into power last year, we were one of the fastest-growing countries in the G7 in terms of our economy. This constant shifting of blame has now become so predictable it's boring. The people of Wales have had enough of you not taking accountability. They see through Welsh Labour and the fact that you have been propped up for the past 27 years by Plaid Cymru. Welsh Labour are now pointing the finger at everyone, even Plaid Cymru, who you've been in partnership with every single term that we've had. You've had 27 years to deliver on promises.

Even I have never known, on the doorsteps, Labour to be as unpopular as they are today. You have nothing to show that's good about your decades in office—no imagination, no innovation, and certainly not the courage to take the bold steps necessary to help Wales flourish. You've damaged our tourism industry. You've damaged business, full stop. The transport system is a disgrace. We now have the highest economic inactivity in the UK. You have failed—. I was going to say single-handedly, but you haven't, because you've actually held the hands of Plaid Cymru while you've been doing it. You've failed to create conditions for a stable Welsh economy, and we're tired of economic anxiety.

It is time to stand aside the socialist ideology, for you to become a thing of the past, and for us, the Welsh Conservatives—. I'm proud of every single member of our Welsh Conservative group. We will cut the basic rate of Welsh income tax by a penny in the pound, and that's worth £450 to every person. We will scrap business tax for small firms, pubs, and post offices—in fact, for all small enterprises that just want to get on. They want to grow, they want to employ staff, those staff pay tax, we have more money in the public services. It's simple. It's as simple as that. We will scrap the horrendous proposed tourism tax and will abolish land transaction tax on primary residences. 

We want people to buy homes. We want people to grow in those homes, and they may want to move. Why should we stop that ambition and aspiration? We will cut millions of pounds of waste in this place by reducing the size of the Welsh civil service and reversing Senedd expansion. Money does make the world go round, but sadly, your mismanagement of the economy has brought Wales to a complete stop. Only the Welsh Conservatives will get Wales working. Only the Welsh Conservatives will fix Wales and all the problems that have grown under 27 years of a Welsh Labour Government and Plaid Cymru. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at ein dadl heddiw, yn enwedig yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, digwyddiadau trist iawn, yn y dwyrain canol, sydd wedi rhoi ffocws i'r economi ac effaith y rhyfel sydd eisoes i'w theimlo wrth y pympiau tanwydd, ac ar silffoedd ein siopau eisoes rwy'n credu. Mae pobl yn chwilio am sicrwydd na fydd y costau byw sydd eisoes yn enbyd yn gwaethygu. Ar ôl i'r Canghellor roi datganiad y gwanwyn a oedd mor ddigalon yr wythnos diwethaf, nid yw'r sicrwydd hwnnw i'w gael ar y naill ben na'r llall i'r M4.

Rwy'n siarad nawr â Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid oes gormod o Aelodau eich Cabinet yma. Mae eich polisi hirsefydlog niweidiol ar beidio ag adeiladu ffyrdd newydd wedi amddifadu Cymru o'i photensial economaidd, gyda busnesau'n troi cefn ar Gymru. Ynghyd â'r niwed y mae eich polisi 20 mya wedi'i achosi i bobl fel gyrwyr tacsi, gweithwyr gofal, cwmnïau bysiau, hyfforddwyr gyrru ac yn bennaf, i'n cymudwyr yn gyffredinol, rydych chi wedi creu'r storm berffaith i atal unrhyw fusnes newydd rhag buddsoddi yng Nghymru.

Rydym yn gwybod bod pobl agored i niwed bob amser yn dioddef yn anghymesur pan nad yw ein heconomi'n perfformio, ac mae system addysg wedi'i thanariannu'n effeithio'n negyddol ar ein plant. Gwyddom fod plant yn gadael yr ysgol, ysgolion cynradd yn enwedig, heb sgiliau rhifedd na llythrennedd. Nid yw hynny'n mynd i arwain at swyddi a chyflogau da i bobl. Rwy'n gwybod am un ysgol yn ne Cymru sydd ar gau heddiw ac yfory oherwydd gweithredu diwydiannol dros ddiswyddiadau gorfodol. Gyda thri diwrnod arall o streiciau wedi'u cynllunio yr wythnos nesaf, mae disgyblion yn Abergele hefyd wedi'u heffeithio gan y streiciau athrawon hyn. Mae ein plant, y mae COVID eisoes wedi tarfu'n ddrwg ar eu haddysg, bellach yn talu'r pris am gamreoli economaidd o dan y Llywodraeth Lafur hon.

Mae'n siŵr y byddwch chi'n ailadrodd yr un hen ddadleuon treuliedig am 14 mlynedd o gyni Torïaidd, ond pan ddaeth Llafur i rym y llynedd, roeddem yn un o'r gwledydd sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 o ran ein heconomi. Mae'r arfer o feio eraill yn gyson wedi dod mor rhagweladwy nes ei fod yn ddiflas. Mae pobl Cymru wedi cael digon ar eich methiant i ddangos atebolrwydd. Maent yn gweld drwy Lafur Cymru a'r ffaith eich bod wedi cael eich cynnal dros y 27 mlynedd diwethaf gan Blaid Cymru. Mae Llafur Cymru bellach yn pwyntio'r bys at bawb, hyd yn oed at Blaid Cymru, y buoch chi mewn partneriaeth â nhw ym mhob tymor a gawsom. Rydych chi wedi cael 27 mlynedd i gyflawni addewidion.

Nid wyf i hyd yn oed erioed wedi gweld Llafur mor amhoblogaidd ag y maent heddiw ar garreg y drws. Nid oes gennych unrhyw beth i'w ddangos sy'n dda am eich degawdau mewn grym—dim dychymyg, dim arloesedd, ac yn sicr dim dewrder i weithredu'r camau beiddgar sydd eu hangen i helpu Cymru i ffynnu. Rydych chi wedi niweidio ein diwydiant twristiaeth. Rydych chi wedi niweidio busnes. Mae'r system drafnidiaeth yn gywilyddus. Bellach, gennym ni y mae'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU. Rydych chi wedi methu—. Roeddwn i'n mynd i ddweud ar eich pen eich hun, ond nid ydych wedi gwneud hynny, oherwydd rydych chi wedi dal dwylo Plaid Cymru wrth ichi fethu. Rydych chi wedi methu creu amodau ar gyfer economi sefydlog yng Nghymru, ac rydym wedi blino ar bryder economaidd.

Mae'n bryd i'r ideoleg sosialaidd gael ei rhoi o'r neilltu, i chi ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, ac i ni, y Ceidwadwyr Cymreig—. Rwy'n falch o bob aelod o'n grŵp Ceidwadol Cymreig. Byddwn yn torri ceiniog yn y bunt oddi ar gyfradd sylfaenol y dreth incwm yng Nghymru, ac mae hynny'n werth £450 i bob unigolyn. Byddwn yn dileu ardrethi busnes i gwmnïau bach, tafarndai, a swyddfeydd post—i bob menter fach sydd eisiau goroesi mewn gwirionedd. Maent eisiau tyfu, maent eisiau cyflogi staff, mae'r staff hynny'n talu treth, ac fe gawn fwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n syml. Mae mor syml â hynny. Byddwn yn dileu'r dreth dwristiaeth erchyll arfaethedig a byddwn yn diddymu'r dreth trafodiadau tir ar brif breswylfeydd. 

Rydym eisiau i bobl brynu cartrefi. Rydym eisiau i bobl dyfu yn y cartrefi hynny, ac efallai y byddant eisiau symud. Pam y dylem atal yr uchelgais a'r dyhead hwnnw? Byddwn yn torri miliynau o bunnoedd o wastraff yn y lle hwn drwy leihau maint gwasanaeth sifil Cymru a gwrthdroi ehangu'r Senedd. Arian sy'n gwneud i'r byd droi, ond yn anffodus, mae eich camreolaeth chi ar yr economi wedi dod â Chymru i stop. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn cael Cymru i weithio. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn trwsio Cymru a'r holl broblemau sydd wedi tyfu o dan 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

18:40

The Conservatives talk about fixing Wales, and Reform talk about fixing Britain. Why don't you take responsibility for the role that you've played in breaking both? Because there was a time when the Conservative Party prided itself on fiscal prudence. Those days, however, are long gone. Where once stood a party obsessed with balancing the books, restraining public spending, and upholding the Burkean principles of free trade and responsible governance, we now face a party that gambles recklessly with the finances of the nations of the United Kingdom, a party that prioritises ideological vanity projects above the needs of our economy, and that appears to revel in its newfound inclination for economic self-harm. 

Their recent record speaks entirely for itself. Over recent years, we have witnessed the single greatest act of self-inflicted economic damage by a developed nation, Brexit, a policy that has cost the average Welsh household almost £3,000 to date, and continues to impose burdensome red tape on businesses across Wales. We need to be honest about the damage that Brexit has caused to our economy and continues to damage. [Interruption.] We have lived through—

Mae'r Ceidwadwyr yn sôn am drwsio Cymru, ac mae Reform yn sôn am drwsio Prydain. Pam na wnewch chi gymryd cyfrifoldeb am y rôl rydych chi wedi'i chwarae yn torri'r ddwy? Oherwydd roedd yna adeg pan oedd y Blaid Geidwadol yn ymfalchïo mewn darbodusrwydd cyllidol. Ond mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd. Lle roedd gan eich plaid obsesiwn ar un adeg â chydbwyso'r llyfrau, cyfyngu ar wariant cyhoeddus, a chynnal egwyddorion Burkeaidd masnach rydd a llywodraethu cyfrifol, rydym bellach yn wynebu plaid sy'n gamblo'n ddifrifol gyda chyllid gwledydd y Deyrnas Unedig, plaid sy'n blaenoriaethu prosiectau porthi balchder ideolegol uwchlaw anghenion ein heconomi, ac sy'n ymddangos fel pe bai'n ymfalchïo yn ei thueddiad newydd i gyflawni hunan-niwed economaidd. 

Mae eu hanes diweddar yn siarad drosto'i hun. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y weithred fwyaf erioed o hunan-niwed economaidd gan genedl ddatblygedig, Brexit, polisi sydd wedi costio bron i £3,000 i bob aelwyd yng Nghymru ar gyfartaledd hyd yma, ac sy'n parhau i orfodi biwrocratiaeth feichus ar fusnesau ledled Cymru. Mae angen inni fod yn onest am y niwed y mae Brexit wedi'i achosi i'n heconomi a'r niwed y mae'n parhau i'w achosi. [Torri ar draws.] Rydym wedi byw trwy—

18:45

Thanks for taking the intervention. You talk about fiscal responsibility. Could you explain what's fiscally responsible about Plaid Cymru's main objective, which is an independent Wales from the United Kingdom, and has been assessed at a cost £20 billion to our economy in Wales? What's fiscally responsible about that?

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n siarad am gyfrifoldeb cyllidol. A allech chi esbonio beth sy'n gyfrifol yn ariannol am brif amcan Plaid Cymru, sef Cymru annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig, yr aseswyd y byddai'n costio £20 biliwn i'n heconomi yng Nghymru? Beth sy'n gyfrifol yn ariannol am hynny?

You quote different figures in every single interview or intervention, so if someone's going to be fiscally responsible—. Also, there have been independent commissions that have shown that continuing as we are is not viable. We have to do something, but you're unwilling to do anything. I note that you didn't address the point in terms of the cost of Brexit. So, I appreciate that you do acknowledge that Brexit has cost Welsh households. Thank you.

We have lived through the Truss-Kwarteng mini-budget, enthusiastically supported by Conservative Members here, which crashed the UK economy and sent mortgage repayments soaring for thousands of families. That's a truth. Their fingerprints are everywhere across the financial turmoil, the stagnant growth and the most prolonged fall in living standards since the Napoleonic era.

Your legacy has been foodbanks. Are you proud of it?

Rydych chi'n dyfynnu gwahanol ffigurau ym mhob cyfweliad neu ymyriad, felly os yw rhywun yn mynd i fod yn gyfrifol yn ariannol—. Hefyd, bu comisiynau annibynnol sydd wedi dangos nad yw parhau fel rydym ni'n hyfyw. Rhaid inni wneud rhywbeth, ond nid ydych chi'n fodlon gwneud unrhyw beth. Rwy'n nodi nad aethoch chi i'r afael â'r pwynt ynglŷn â chost Brexit. Felly, rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cydnabod bod Brexit wedi costio i aelwydydd Cymru. Diolch.

Rydym wedi byw drwy gyllideb fach Truss-Kwarteng, a gefnogwyd yn frwdfrydig gan Aelodau Ceidwadol yma, ac a chwalodd economi'r DU a chodi ad-daliadau morgais i'r entrychion i filoedd o deuluoedd. Mae hynny'n wir. Mae olion eu bysedd ym mhobman ar draws yr aflonyddwch ariannol, y diffyg twf a'r cwymp mwyaf estynedig mewn safonau byw ers oes Napoleon.

Eich gwaddol yw banciau bwyd. A ydych chi'n falch ohono?

They're running very well, the foodbanks in—

Maent yn rhedeg yn dda iawn, y banciau bwyd yn—

Oh, my goodness. Janet Finch-Saunders has said they're running very well. You're proud that foodbanks have had to exist because of how you handled the economy.

Mawredd. Mae Janet Finch-Saunders wedi dweud eu bod yn rhedeg yn dda iawn. Rydych chi'n falch fod banciau bwyd wedi gorfod bodoli oherwydd y ffordd y gwnaethoch chi drin yr economi.

They were brought in by a Labour Government.

Cawsant eu cyflwyno gan Lywodraeth Lafur.

I don't know why your microphone is on, Janet Finch-Saunders. [Interruption.] You didn't put it on, no. Your microphone shouldn't be on unless you're intervening, and I don't think you're intervening.

Nid wyf yn gwybod pam y mae eich meicroffon ar agor, Janet Finch-Saunders. [Torri ar draws.] Ni wnaethoch chi ei agor, na. Ni ddylai eich meicroffon fod ar agor oni bai eich bod chi'n gwneud ymyriad, ac nid wyf yn credu eich bod chi'n gwneud ymyriad.

I'm saddened that instead of humility, reflection or even remorse, even when it comes to foodbanks, the Conservatives have chosen instead to double down. [Interruption.] No, I won't take another intervention, thank you, I'd like to make some progress.

The motion before us today reads like an ode to the very worst excesses of Trussonomics. We see a pledge to cut the basic rate of income tax at a cost of £311 million, a pledge to abolish land transaction tax for primary residential properties at a cost of £204 million, a pledge to cut business rates at a cost of £309 million. Added to this are further commitments, such as the revival of the M4 relief road. I'd welcome clarity on how much they believe that would cost, because it would be significantly higher now than the estimated £1.9 billion cited in 2019. There are also substantial other commitments there.

Taken together, these are uncosted tax cuts and spending promises that reach into the billions. Aside from betraying the people of Ukraine and playing directly into Putin's hands by scrapping the nation of sanctuary programme, which represents just 0.01 per cent of the Welsh budget, and by reversing Senedd reform and weakening our democracy, they've offered no explanation as to how any of this would be funded in any credible way.

Make no mistake, it is our public services and, ultimately, Welsh taxpayers that sit directly in the firing line of this fiscal irresponsibility. Now, in one sense, what the Conservatives say scarcely matters. They know the game is up. Their manifesto, launched last week, was delivered to an atmosphere of almost embarrassed silence. [Interruption.] No, I'd like to make some progress. I've got very little time remaining, and I'm sure you have a speech ready to go.

But the collapse of the Conservative Party does not mean the threat has vanished. It's simply moved into a new host in Reform. For all their pretence of being an insurgent force, Reform is little more than a rebadged vehicle for the same failed Tory figures who've already inflicted immense harm on this country and who are desperate to repeat the experience. The similarities between the Conservative and Reform manifestos, published within days of one another, are striking, at times almost word for word. So, Tory and Reform, Reform and Tory—indistinguishable. It's no coincidence that the only Reform representatives here in this Chamber were elected as Tories.

Thankfully, the people of Wales do have a credible, responsible alternative—an alternative that does not seek to undermine our public services and that focuses on reinvesting wealth in our communities rather than appeasing billionaire donors, and that is committed to unlocking the full economic potential of our nation. While the Tory/Reform double act indulges in unfunded fantasies, we have spent years developing a credible, expert, informed plan for the Welsh economy, and unlike them, we take the stewardship of the public purse with utmost seriousness. This is what seriousness looks like. This is what responsibility looks like. For that reason, I urge Members to support our amendment.

Rwy'n drist fod y Ceidwadwyr wedi dewis ategu yn hytrach na dangos gostyngeiddrwydd, myfyrdod neu hyd yn oed edifeirwch ar fater banciau bwyd. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad arall, diolch, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd.

Mae'r cynnig o'n blaenau heddiw yn darllen fel awdl foliant i ormodedd gwaethaf Trussonomeg. Gwelwn addewid i dorri cyfradd sylfaenol y dreth incwm ar gost o £311 miliwn, addewid i ddiddymu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd ar gost o £204 miliwn, addewid i dorri ardrethi busnes ar gost o £309 miliwn. Yn ychwanegol at hyn fe geir ymrwymiadau pellach, megis adfywio ffordd liniaru'r M4. Hoffwn gael eglurder ar faint y credant y byddai hynny'n ei gostio, oherwydd byddai'n sylweddol uwch nawr na'r amcangyfrif o £1.9 biliwn a roddwyd yn 2019. Mae yna ymrwymiadau eraill sylweddol yno hefyd.

Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn doriadau treth heb eu costio ac addewidion gwariant sy'n cyrraedd y biliynau. Ar wahân i fradychu pobl Wcráin a chwarae'n uniongyrchol i ddwylo Putin drwy gael gwared ar y rhaglen cenedl noddfa, sydd ond yn 0.01 y cant o gyllideb Cymru, a thrwy wrthdroi diwygio'r Senedd a gwanhau ein democratiaeth, nid ydynt wedi cynnig unrhyw esboniad sut y byddid yn ariannu dim o hyn mewn unrhyw ffordd gredadwy.

Peidiwch â chamgymryd, ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y pen draw, trethdalwyr Cymru sy'n sefyll yn llinell danio uniongyrchol yr anghyfrifoldeb cyllidol hwn. Nawr, mewn un ystyr, nid yw'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud yn bwysig. Maent yn gwybod bod y gêm ar ben. Cafodd eu maniffesto, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, ei gyflwyno mewn awyrgylch o dawelwch a oedd bron yn embaras. [Torri ar draws.] Na, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd. Ychydig iawn o amser sydd gennyf ar ôl, ac rwy'n siŵr fod gennych araith yn barod i fynd.

Ond nid yw chwalfa'r Blaid Geidwadol yn golygu bod y bygythiad wedi diflannu. Mae wedi symud i lety newydd yn Reform. Er gwaethaf eu hesgus eu bod yn rym gwrthryfelgar, nid yw Reform yn ddim mwy na chyfrwng dan enw arall i'r un ffigyrau Torïaidd aflwyddiannus sydd eisoes wedi achosi niwed enfawr i'r wlad hon ac sy'n torri eu boliau i ailadrodd y profiad. Mae'r tebygrwydd rhwng maniffesto'r Ceidwadwyr a Reform, a gyhoeddwyd o fewn dyddiau i'w gilydd, yn drawiadol, a bron air am air ar adegau. Felly, Torïaid a Reform, Reform a'r Torïaid—ni allwch ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod yr unig gynrychiolwyr Reform yma yn y Siambr wedi'u hethol fel Torïaid.

Diolch byth, mae gan bobl Cymru ddewis arall credadwy, cyfrifol—dewis arall nad yw'n ceisio tanseilio ein gwasanaethau cyhoeddus ac sy'n canolbwyntio ar ailfuddsoddi cyfoeth yn ein cymunedau yn hytrach na thawelu biliwnyddion sy'n eu hariannu, dewis arall sy'n ymrwymedig i ddatgloi potensial economaidd llawn ein gwlad. Tra bo'r ddeuawd Dorïaidd/Reform yn ymroi i ffantasïau heb eu hariannu, rydym ni wedi treulio blynyddoedd yn datblygu cynllun credadwy, arbenigol, gwybodus ar gyfer economi Cymru, ac yn wahanol iddynt hwy, rydym ni'n gyfan gwbl o ddifrif ynghylch ein stiwardiaeth ar y pwrs cyhoeddus. Dyma beth yw bod o ddifrif. Dyma beth yw bod yn gyfrifol. Am y rheswm hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

18:50

One thing that Welsh Labour and the UK Government have in common is that neither of them have a strategy for growth, with the British Chambers of Commerce revising its growth forecast this year, down to 1 per cent from the previous prediction of 1.2 per cent. And in Wales, after 27 years in office, after nearly three decades in which every major economic lever available to this Parliament has been in Labour's hands, the amendment from the Welsh Government asks us not to examine the record, but simply to celebrate a funding settlement from Westminster. So, in other words: 'Don't look at the results, just applaud the cheque that's been given to us.' 

But I am concerned with the results, and many people are, not just good intentions. But the results are not good. The Welsh economy is lagging behind the rest of the United Kingdom and doing worse on almost every metric. Employment in Wales is the lowest anywhere in the UK, at just over 71 per cent. Economic inactivity is the highest in Great Britain. Pay packets are the lowest in the United Kingdom, and the UK as a whole is struggling under a Labour UK Government, with higher taxes going to pay for increases to benefits, and the number of people on universal credit has now reached a record high of more than 431,000 people.

We have the highest energy bills in the world, purely down to deliberate policy choices, and the repeated assertion by Ed Miliband and the Welsh Government that green energy is cheaper has no basis in reality whatsoever. It's pure net-zero zealotry, led by a man in Whitehall who's obsessed with being the Nye Bevan of green energy, and working people are having to pay the price for it.

One of Britain's most respected economists, Dieter Helm, called the claim that renewables are nine times cheaper 'baloney'—in his words—and pointed to countries like the UK and Germany, which have aggressively pursued renewables, now having some of the most expensive industrial and domestic energy prices in the developed world, contradicting promises of cheap, clean power. These high prices, he argues, are damaging UK industry, leading to closures and offshoring in energy-intensive sectors, such as steel production in Port Talbot, which, for all the Welsh Government's denial of responsibility, collapsed on their watch due to environmental policy. 

And after 27 years, if the current approach were going to work, it would have worked by now. Instead, we are seeing the philosophy of government that assumes prosperity comes from redistribution rather than creation, and from regulation rather than enterprise. If we want Wales to flourish, we must, once again, make this country the easiest place for Britain to do business, to invest and to create jobs. It shows the unseriousness of Labour and Plaid Cymru that they blame our economic woes on Liz Truss and Brexit.

The temporary spike in Government borrowing costs and mortgage rates back in 2022 is not responsible for 27 years of economic failure in Wales. Instead, the Welsh Conservatives have a clear idea about what we will do. We will cut the basic rate of Welsh income tax by one penny in the pound, letting working people keep more of what they earn. We'd scrap business rates for small businesses, the very institutions that hold our high streets together. We'd abolish land transaction tax for first homes so that young families can finally step onto the housing ladder, and we would scrap Labour and Plaid's toxic tourism tax, which sends exactly the wrong signal to visitors and businesses alike. When you trust people with their own money, they tend to spend it, invest it and grow it far more productively than Governments ever could, and for 27 years, the Welsh Government thought it knew how to spend people's money better than they do themselves.

Wales also once had a world-class institution dedicated to attracting investment and championing enterprise, the Welsh Development Agency. We'd re-establish a modern version of it to bring jobs—[Interruption.] It's not a Plaid Cymru policy, it's been the Welsh Conservatives' policy for many years, and was in our 2021 manifesto as well. So, that's another one that another party have copied and pasted recently, and tried to rehash that as their own product. [Interruption.] I will give way.

Un peth sydd gan Lafur Cymru a Llywodraeth y DU yn gyffredin yw nad oes gan yr un ohonynt strategaeth ar gyfer twf, gyda Siambrau Masnach Prydain yn adolygu eu rhagolwg twf eleni i lawr i 1 y cant o'r rhagolwg blaenorol o 1.2 y cant. Ac yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd mewn grym, ar ôl bron i dri degawd lle mae pob lifer economaidd mawr sydd ar gael i'r Senedd hon wedi bod yn nwylo Llafur, mae'r gwelliant gan Lywodraeth Cymru yn gofyn inni beidio ag archwilio'u cyflawniad, dim ond dathlu setliad cyllido gan San Steffan. Felly, mewn geiriau eraill: 'Peidiwch ag edrych ar y canlyniadau, rhowch gymeradwyaeth i'r siec a roddwyd i ni.'  

Ond fel llawer o bobl, y canlyniadau sy'n bwysig i mi, nid bwriadau da'n unig. Ond nid yw'r canlyniadau'n dda. Mae economi Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig ac yn gwneud yn waeth ar bron bob metrig. Mae cyflogaeth yng Nghymru yn is nag yn unman arall yn y DU, ar ychydig dros 71 y cant. Mae ein hanweithgarwch economaidd yn uwch nag unman arall ym Mhrydain. Mae ein cyflogau'n is nag unman arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r DU gyfan yn ei chael hi'n anodd o dan Lywodraeth Lafur y DU, gyda threthi uwch yn mynd i dalu am gynnydd i fudd-daliadau, ac mae nifer y bobl ar gredyd cynhwysol bellach wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, ar dros 431,000 o bobl.

Gennym ni y mae'r biliau ynni uchaf yn y byd, yn deillio'n llwyr o ddewisiadau polisi bwriadol, ac nid oes sail i'r honiad mynych gan Ed Miliband a Llywodraeth Cymru fod ynni gwyrdd yn rhatach mewn gwirionedd. Penboethni sero net pur yw hynny, dan arweiniad dyn yn Whitehall sydd ag obsesiwn â bod yn Nye Bevan i ynni gwyrdd, ac mae pobl sy'n gweithio yn gorfod talu'r pris am hynny.

Galwodd un o'r economegwyr uchaf eu parch ym Mhrydain, Dieter Helm, yr honiad fod ynni adnewyddadwy naw gwaith yn rhatach yn nonsens—'baloney' yn ei eiriau ef—a nododd fod gwledydd fel y DU a'r Almaen, sydd wedi mynd ar drywydd ynni adnewyddadwy yn ymosodol, bellach â rhai o'r prisiau ynni diwydiannol a domestig drutaf yn y byd datblygedig, sy'n gwrth-ddweud addewidion ynghylch ynni rhad a glân. Mae'r prisiau uchel hyn, dadleua, yn niweidio diwydiant y DU, gan arwain at gau a thramori mewn sectorau ynni-ddwys, fel cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, a chwalodd dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o ganlyniad i bolisi amgylcheddol, er iddynt wadu cyfrifoldeb. 

Ac ar ôl 27 mlynedd, os oedd y dull presennol yn mynd i weithio, byddai wedi gweithio erbyn hyn. Yn hytrach, rydym yn gweld athroniaeth llywodraeth sy'n tybio bod ffyniant yn deillio o ailddosbarthu yn hytrach na chreu, ac o reoleiddio yn hytrach na menter. Os ydym am i Gymru ffynnu, rhaid i ni, unwaith eto, wneud y wlad hon y lle hawsaf i Brydain wneud busnes, i fuddsoddi a chreu swyddi. Mae'n dangos diffyg difrifoldeb ar ran Llafur a Phlaid Cymru eu bod yn beio ein trafferthion economaidd ar Liz Truss a Brexit.

Nid y cynnydd dros dro yng nghostau benthyca'r Llywodraeth a chyfraddau morgais yn ôl yn 2022 sy'n gyfrifol am 27 mlynedd o fethiant economaidd yng Nghymru. Yn hytrach, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig syniad clir am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud. Byddwn yn torri ceiniog yn y bunt oddi ar gyfradd sylfaenol y dreth incwm Gymreig, gan adael i bobl sy'n gweithio gadw mwy o'r hyn y maent yn ei ennill. Byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach, yr union sefydliadau sy'n cynnal ein stryd fawr. Byddem yn diddymu'r dreth trafodiadau tir ar gartrefi cyntaf fel y gall teuluoedd ifanc gamu ar yr ysgol dai o'r diwedd, a byddem yn dileu treth dwristiaeth wenwynig Llafur a Phlaid Cymru, sy'n anfon negeseuon cwbl anghywir i ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd. Pan fyddwch chi'n ymddiried mewn pobl gyda'u harian eu hunain, maent yn tueddu i'w wario, ei fuddsoddi a'i dyfu yn llawer mwy cynhyrchiol nag y gallai Llywodraethau ei wneud, ac am 27 mlynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn meddwl ei bod yn gwybod sut i wario arian pobl yn well na nhw eu hunain.

Ar un adeg roedd gan Gymru sefydliad o'r radd flaenaf yn ymroddedig i ddenu buddsoddiad a hyrwyddo menter, sef Awdurdod Datblygu Cymru. Byddem yn ailsefydlu fersiwn fodern ohono i ddod â swyddi—[Torri ar draws.] Nid polisi Plaid Cymru mohono, mae wedi bod yn bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer, ac roedd yn ein maniffesto yn 2021 hefyd. Felly, dyna un arall y mae plaid arall wedi'i gopïo a'i ludo'n ddiweddar, ac wedi ceisio'i ail-greu fel eu cynnyrch eu hunain. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

18:55

Thank you for that. I'm just interested in some of your costings, because your savings in your manifesto come to £37 million. Your total spending commitments come to £27 billion a year. So, that means that for every £1 you've saved, you're investing £73. So, I'd just like to know how you're going to make up the shortfall.

Diolch am hynny. Mae gennyf ddiddordeb yn rhai o'ch costau, oherwydd mae eich cynilion yn eich maniffesto yn £37 miliwn. Mae cyfanswm eich ymrwymiadau gwariant yn £27 biliwn y flwyddyn. Felly, mae hynny'n golygu eich bod chi'n buddsoddi £73 am bob £1 a gynilwyd gennych. Felly, hoffwn wybod sut y bwriadwch wneud iawn am y diffyg.

I applaud you for that quick arithmetic, James, but as Janet Finch-Saunders has already mentioned, you've copied and pasted most of the Welsh Conservative manifesto. So, if that's truly your belief, James, then you must have your own doubts about Reform's manifesto in that sense, so it doesn't get Reform UK off the hook.

We'd re-establish a modern version of it to bring jobs, innovation and opportunity back to every part of Wales. The First Minister has quite proudly said that the finance Minister has never cared about the economy, but we can say quite proudly that we do, and that we cannot have thriving public services without a thriving economy.

We'd support nuclear opportunities at Wylfa and Trawsfynydd, rather than put all our eggs in the expensive and unreliable renewables basket. And crucially, we'd invest in people, delivering 125,000 apprenticeships, expanding degree apprenticeships, and ensuring that technical education finally enjoys parity with academic pathways.

Plaid Cymru offer more constitutional navel-gazing and meaningless plans and strategies, all resting on the central idea that Wales should be separate itself economically from its largest market. Independence would blow a hole of more than £21 billion in Welsh public finances. That is not an economic strategy, it's an economic act of self-sabotage. And Reform, meanwhile, have just copied and pasted our policies, as mentioned, but do not have the experienced team to deliver them.

What Wales needs is a Government that backs workers, instead of trapping them in dependency, a Government that trusts businesses, instead of burdening them with taxes and regulation. [Interruption.] That's the vision that the Welsh Conservatives offer, not managed decline, not endless reviews, strategies and action plans with no results—

Rwy'n eich cymeradwyo ar y rhifyddeg gyflym honno, James, ond fel y soniodd Janet Finch-Saunders eisoes, rydych chi wedi copïo a gludo'r rhan fwyaf o faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, os mai dyna yw eich cred chi mewn gwirionedd, James, rhaid bod gennych eich amheuon eich hun am faniffesto Reform yn hynny o beth, felly nid yw'n esgusodi Reform UK.

Byddem yn ailsefydlu fersiwn fodern ohono i ddod â swyddi, arloesedd a chyfleoedd yn ôl i bob rhan o Gymru. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn falch nad yw'r Gweinidog cyllid erioed wedi malio am yr economi, ond gallwn ddweud yn falch ein bod ni'n malio, ac na allwn gael gwasanaethau cyhoeddus ffyniannus heb economi ffyniannus.

Byddem yn cefnogi cyfleoedd niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd, yn hytrach na rhoi ein holl wyau yn y fasged ynni adnewyddadwy ddrud ac annibynadwy. Ac yn hollbwysig, byddem yn buddsoddi mewn pobl, gan ddarparu 125,000 o brentisiaethau, yn ehangu gradd-brentisiaethau, ac yn sicrhau bod addysg dechnegol o'r diwedd yn cael yr un parch â llwybrau academaidd.

Mae Plaid Cymru yn cynnig mwy o fogailsyllu cyfansoddiadol a strategaethau a chynlluniau diystyr, oll yn seiliedig ar y syniad canolog y dylai Cymru ymwahanu'n economaidd oddi wrth ei marchnad fwyaf. Byddai annibyniaeth yn chwythu twll o fwy na £21 biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru. Nid strategaeth economaidd yw honno ond gweithred o hunan-ddifrod economaidd. Ac nid yw Reform ond wedi copïo a gludo ein polisïau, fel y nodwyd, ond nid oes ganddynt dîm profiadol i'w cyflawni.

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Llywodraeth sy'n cefnogi gweithwyr, yn hytrach na'u caethiwo mewn dibyniaeth, Llywodraeth sy'n ymddiried mewn busnesau, yn hytrach na'u llesteirio â threthi a rheoliadau. [Torri ar draws.] Dyna'r weledigaeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei chynnig, nid dirywiad wedi'i reoli, nid adolygiadau, strategaethau a chynlluniau gweithredu diddiwedd heb unrhyw ganlyniadau—

I have been very generous, and I will allow you to carry on, but you will need to bring this to a close.

Rwyf wedi bod yn hael iawn, ac fe wnaf ganiatáu i chi barhau, ond bydd angen i chi ddod â hyn i ben.

I am just concluding. We offer a confident, outward-looking, pro-enterprise Wales, ready to compete, grow and succeed.

Rwy'n dod i ben. Rydym yn cynnig Cymru hyderus, sy'n edrych tuag allan, sydd o blaid menter, ac sy'n barod i gystadlu, tyfu a llwyddo.

As others have, I welcome this debate today, because of the importance of the economy. We all know that the economy is absolutely crucial to so many aspects of life: the opportunities that our people have, their standards of living, the effect on public services of a strong economy—just every aspect of life. So, it's a very important debate that we're having today, and I'm sure we'll have many more important debates into the next Senedd on our economy.

We know, Llywydd, don't we, that we're not where we would want to be in terms of the economy in Wales, and as with other parts of the UK and other parts of the world, we haven't yet reinvented the economy in the way that we need to, following the decline of our traditional heavy industries. It's very much work in progress. I would say, Llywydd, that if we are to make the progress that we need to make, it will require, amongst other things, a strong partnership at all levels of government in the UK. Welsh Government obviously has to do what it can, the UK Government obviously has a big role right across the UK, and local government too is a key partner.

As far as Welsh Government is concerned, I do think we've done some very important and beneficial things in fulfilling our own responsibilities. We've done a lot, I think, on skills through Jobs Growth Wales, through our apprenticeships programme, encouraging our young people to stay in education and training through our commitment to the education maintenance allowance, for example; supporting important clusters around Wales, including ones in Newport, around the semiconductor industry, cyber security and supporting green steel, for example; and on connectivity, connecting our communities through the work on the south Wales metro, for example, which I think is really important, because it allows everybody living in that area to travel much more easily to any part of that area to take up job opportunities as well as education and training. And it allows employers to base themselves in any part of that area, knowing that they have a workforce to draw on from across that wider region. Just some examples, I think, of important things that Welsh Government has done in fulfilling its own responsibilities.

But as far as the UK Government is concerned, it has to be a strong partnership with UK Government, Llywydd, and that's why I'm very keen on the implementation of the Gordon Brown report, which I think offers a blueprint in terms of UK Government's responsibility to address the regional economic inequalities that we have in the UK, which are very damaging to the economy right across the UK, but particularly damaging to places like Wales, the north of England and Scotland. Gordon Brown and others set out a blueprint for important progress that could be made and should be made in addressing those regional inequalities: redistributing public sector jobs, building on the progress already made. And in Newport, we've been major beneficiaries of progress already made, but there is much more that could be done. And that's an important part and a very practical thing that could be done to relieve the pressures on London and the south-east of England and redistribute those jobs across the UK.

Supporting our infrastructure: we need much, much more investment in rail, which would enable us to make much greater progress to build on what we've already done, some of which I've already described, and supporting our renewable energy plans here in Wales so that we could make progress more quickly and more effectively, and also, Llywydd, as we look at the entirety of that Gordon Brown report, supporting the strengths that we have in Wales and elsewhere, in the north of England and Scotland, for example, around the clusters that we've been quite effective in building. I mentioned them earlier for Newport: the semiconductor industry, cyber security, green steel and, also emerging in Newport, artificial intelligence and data centres.

There's so much more we could do, Llywydd, if we had that strength that the UK Government can bring to the table in terms of the resource and capacity that it has. So, I would say, Llywydd, that if we are to make the progress that we undoubtedly need to make, and understanding everything that the economy affects right across our ambitions and responsibilities in the Senedd, we really need to see that partnership delivering for us, Welsh Government, UK Government and local government joining up, and I think that Gordon Brown blueprint offers us important ways forward that we could and should make a reality.

Fel eraill, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw, oherwydd pwysigrwydd yr economi. Rydym i gyd yn gwybod bod yr economi'n hollol hanfodol i gymaint o agweddau ar fywyd: y cyfleoedd y mae ein pobl yn eu cael, eu safonau byw, effaith economi gref ar wasanaethau cyhoeddus—ar bob agwedd ar fywyd. Felly, mae'r ddadl hon heddiw'n bwysig iawn, ac rwy'n siŵr y cawn lawer mwy o ddadleuon pwysig yn y Senedd nesaf ar ein heconomi.

Lywydd, fe wyddom oni wyddom nad ydym lle byddem yn dymuno bod o ran yr economi yng Nghymru, ac fel gyda rhannau eraill o'r DU a rhannau eraill o'r byd, nid ydym wedi ailddyfeisio'r economi eto yn y ffordd sydd angen inni ei wneud, yn dilyn dirywiad ein diwydiannau trwm traddodiadol. Mae'n waith ar y gweill i raddau helaeth. Lywydd, os ydym am wneud y cynnydd sydd angen inni ei wneud, buaswn yn dweud y bydd angen partneriaeth gref ar bob lefel o lywodraeth yn y DU, ymhlith pethau eraill. Yn amlwg, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn a all, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth y DU rôl fawr ar draws y DU, ac mae llywodraeth leol yn bartner allweddol hefyd.

O ran Llywodraeth Cymru, rwy'n credu ein bod wedi gwneud pethau pwysig a buddiol iawn yn cyflawni ein cyfrifoldebau ein hunain. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud llawer ar sgiliau drwy Twf Swyddi Cymru, drwy ein rhaglen brentisiaethau, gan annog ein pobl ifanc i aros mewn addysg a hyfforddiant drwy ein hymrwymiad i'r lwfans cynhaliaeth addysg, er enghraifft; cefnogi clystyrau pwysig ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghasnewydd, o amgylch y diwydiant lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch a chefnogi dur gwyrdd, er enghraifft; ac ar gysylltedd, cysylltu ein cymunedau drwy'r gwaith ar fetro de Cymru, er enghraifft, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, oherwydd mae'n caniatáu i bawb sy'n byw yn yr ardal honno deithio'n llawer haws i unrhyw ran o'r ardal a manteisio ar gyfleoedd gwaith yn ogystal ag addysg a hyfforddiant. Ac mae'n caniatáu i gyflogwyr leoli eu hunain mewn unrhyw ran o'r ardal honno, gan wybod bod ganddynt weithlu at eu defnydd o bob rhan o'r rhanbarth ehangach. Dim ond rhai enghreifftiau o bethau pwysig y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud wrth gyflawni ei chyfrifoldebau.

Ond o ran Llywodraeth y DU, rhaid iddi fod yn bartneriaeth gref gyda Llywodraeth y DU, Lywydd, a dyna pam rwy'n awyddus iawn i weld adroddiad Gordon Brown yn cael ei weithredu, adroddiad y credaf ei fod yn cynnig glasbrint ar gyfer cyfrifoldeb Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol sydd gennym yn y DU, sy'n niweidiol iawn i'r economi ledled y DU, ond yn arbennig o niweidiol i lefydd fel Cymru, gogledd Lloegr a'r Alban. Mae Gordon Brown ac eraill wedi gosod glasbrint ar gyfer y cynnydd pwysig y gellid ei wneud ac y dylid ei wneud i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau rhanbarthol hynny: ailddosbarthu swyddi sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud. Ac yng Nghasnewydd, rydym wedi bod yn elwa'n fawr o'r cynnydd a wnaed eisoes, ond mae llawer mwy y gellid ei wneud. Ac mae hynny'n rhan bwysig ac yn rhywbeth ymarferol iawn y gellid ei wneud i leddfu'r pwysau ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr ac ailddosbarthu'r swyddi hynny ar draws y DU.

Cefnogi ein seilwaith: mae angen llawer iawn mwy o fuddsoddiad arnom mewn rheilffyrdd, a fyddai'n ein galluogi i wneud llawer mwy o gynnydd i adeiladu ar yr hyn a wnaethom eisoes, ac rwyf wedi disgrifio peth o hynny'n barod, a chefnogi ein cynlluniau ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru fel y gallwn wneud cynnydd yn gyflymach ac yn fwy effeithiol, a hefyd, Lywydd, wrth inni edrych ar adroddiad Gordon Brown, sy'n cefnogi'r cryfderau sydd gennym yng Nghymru ac mewn mannau eraill, yng ngogledd Lloegr a'r Alban, er enghraifft gyda'r clystyrau y buom yn eithaf effeithiol yn eu hadeiladu. Soniais amdanynt yn gynharach ar gyfer Casnewydd: y diwydiant lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, dur gwyrdd, ac yn dod i'r amlwg hefyd yng Nghasnewydd, deallusrwydd artiffisial a chanolfannau data.

Mae cymaint mwy y gallem ei wneud, Lywydd, pe bai gennym y cryfder y gall Llywodraeth y DU ei gynnig o ran yr adnoddau a'r capasiti sydd ganddi. Felly, Lywydd, os ydym am wneud y cynnydd sydd angen inni ei wneud, a deall popeth y mae'r economi'n effeithio arno ar draws ein huchelgeisiau a'n cyfrifoldebau yn y Senedd, mae gwir angen inni weld y bartneriaeth honno'n cyflawni i ni, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llywodraeth leol yn uno, ac rwy'n credu bod glasbrint Gordon Brown yn cynnig ffyrdd pwysig ymlaen i ni y gallem ac y dylem eu gwireddu.

19:00

Well, this debate forces us to confront an uncomfortable but unavoidable truth: economic credibility matters. It matters to Welsh families facing rising costs, to Welsh businesses struggling to survive and to communities across Wales waiting for real regeneration. Let us begin with austerity, a word often weaponised by the benches opposite but rarely understood. During the Blair-Brown years, Labour governed through a period of sustained global growth, years when a responsible Government would have strengthened public finances. Sadly, this opportunity was wasted. Labour spent as though growth was permanent, embedding borrowing into the system long before the recession began, thereby restricting borrowing capacity when it was needed. Despite the IMF warning Gordon Brown that he should stop increasing spending as a proportion of GDP faster than the growth rate of the economy in 2004, when the first foodbanks were opened, Government spending almost doubled. The UK was therefore particularly exposed when the global financial crisis struck in 2008. By 2010, the UK had the highest deficit as a proportion of GDP in the G20, and one of the largest peacetime deficits in modern history, borrowing £1 for every £4 the UK Government spent—fiscal squandering masked as prudent spending.

That was the reality inherited by the Conservative-led UK Government. Austerity was not ideological; it was arithmetic. If we had listened to those who claimed otherwise, there would not have been a restoration of confidence in public finances, borrowing costs would have spiralled and essential public services would have faced far harsher cuts—incidentally, consequences imposed not by the UK Parliament, but those funding the bailout. It was this fiscal discipline that rebuilt our credibility, reduced inflationary pressures, supported steady employment growth, and ultimately steadied the ship.

And that credibility proved vital. When the pandemic struck, the UK Conservative Government acted decisively, protecting millions of jobs through furlough, supporting businesses through emergency loans—and funding the Welsh Government to do that on a devolved basis—and preventing economic scarring on a scale not seen for generations. Those interventions were only possible because markets trusted our ability to be fiscally responsible. Contrast that with where we stand today under Labour Governments in Westminster and Cardiff Bay.

They seek to deflect blame onto Liz Truss and her temporary tenure, dodging the reality of the pound, the cost of borrowing. And markets rebounded as soon as Rishi Sunak and Jeremy Hunt restored stability. Check the economic statistics: you'll find I'm right. Under this UK Labour Government, borrowing costs have soared, with the UK's 10-year gilt yield consistently exceeding levels seen during the Liz Truss mini-budget. Nowhere are the consequences of concern about current fiscal direction and long-term growth prospects more clear than in Wales. As we've heard, after nearly three decades of a Labour-led, Plaid-propped Welsh Government, Wales has the highest poverty and lowest employment rates in the UK, with the lowest wages and the highest levels of economic inactivity in Britain. Too many working-age adults remain outside of employment and seeking state benefits, and too many of our young people see little or no way into stable employment. So much for social justice. These are not abstract figures. They represent lost opportunities, mounting pressure on public services, struggling communities and desperate small businesses.

Rising national insurance contributions, higher wages and crippling business rates are forcing local businesses to halt recruitment, delay investment and cancel growth plans. Last week, I hosted a launch of the Horticultural Trades Association's Welsh environmental horticulture manifesto in the Senedd, a sector largely made up of family-run businesses. Although they contribute £38 billion to UK gross domestic product, and support nearly three quarters of a million jobs, many in rural and semi-rural Wales, they now face a perfect storm of rising employment costs, energy prices and regulatory burdens that are holding back investment and recruitment. Rather than delivering efficiencies, this is generating higher costs, weakening services and deepening social inequality.

But let me clear: Wales does not lack potential. It lacks a pro-growth strategy. The horticulture sector shows what our economic future could look like with fairer business rates, simpler regulation, better investment access and stronger skills pathways. With nearly 70 per cent of people in Wales visiting garden centres, green spaces and landscaping, these are not niche industries, but engines of well-being, resilience and economic productivity. Backing horticulture means supporting small businesses, revitalising rural communities and creating real opportunities for those seeking work.

That is the choice before us: an economy weighed down by high taxes, rising inactivity and declining confidence, or one built on fiscal responsibility, a balanced budget, opportunity and growth. This is our Welsh Conservative case—economic credibility, sustainable growth, regenerated communities and a fixed Welsh economy.

Wel, mae'r ddadl hon yn ein gorfodi i wynebu gwirionedd anghyfforddus ond anochel: mae hygrededd economaidd yn bwysig. Mae'n bwysig i deuluoedd Cymru sy'n wynebu costau cynyddol, i fusnesau Cymreig sy'n cael trafferth goroesi ac i gymunedau ledled Cymru sy'n aros am adfywio go iawn. Gadewch inni ddechrau gyda chyni, gair sy'n aml yn cael ei droi'n arf gan y meinciau gyferbyn ond anaml y caiff ei ddeall. Yn ystod blynyddoedd Blair-Brown, llywodraethodd Llafur drwy gyfnod o dwf byd-eang parhaus, blynyddoedd pan fyddai Llywodraeth gyfrifol wedi cryfhau cyllid cyhoeddus. Yn anffodus, gwastraffwyd y cyfle. Roedd Llafur yn gwario fel pe bai twf yn barhaol, gan ymgorffori benthyca yn y system ymhell cyn i'r dirwasgiad ddechrau, gan gyfyngu ar gapasiti benthyca pan oedd ei angen. Er bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio Gordon Brown y dylai roi'r gorau i gynyddu gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros yn gyflymach na chyfradd dwf yr economi yn 2004, pan agorwyd y banciau bwyd cyntaf, roedd gwariant y Llywodraeth bron â dyblu. Felly, roedd y DU yn arbennig o agored pan darodd yr argyfwng ariannol byd-eang yn 2008. Erbyn 2010, y DU oedd â'r diffyg mwyaf fel cyfran o gynnyrch domestig gros yn y G20, ac un o'r lefelau uchaf o ddiffyg mewn cyfnod o heddwch mewn hanes modern, gan fenthyca £1 am bob £4 a wariai Llywodraeth y DU—gwastraff cyllidol dan gochl gwariant darbodus.

Dyna oedd y realiti a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr. Nid ideoleg oedd cyni, ond rhifyddeg. Pe baem wedi gwrando ar y rhai a honnai fel arall, ni fyddai hyder mewn cyllid cyhoeddus wedi'i adfer, byddai costau benthyca wedi cynyddu a byddai gwasanaethau cyhoeddus hanfodol wedi wynebu toriadau llawer llymach—canlyniadau a orfodwyd nid gan Senedd y DU, gyda llaw, ond gan y rhai a ariannodd y rhaff achub ariannol. Y ddisgyblaeth ariannol hon a ailadeiladodd ein hygrededd, lleihau pwysau chwyddiant, cefnogi twf cyflogaeth sefydlog, a sefydlogi'r llong yn y pen draw.

Ac roedd yr hygrededd hwnnw'n hanfodol. Pan darodd y pandemig, gweithredodd Llywodraeth Geidwadol y DU gyda phenderfyniad, gan ddiogelu miliynau o swyddi drwy ffyrlo, cefnogi busnesau drwy fenthyciadau brys—a chyllido Llywodraeth Cymru i wneud hynny ar sail ddatganoledig—ac atal creithiau economaidd ar raddfa nas gwelwyd ers cenedlaethau. Nid oedd yr ymyriadau hynny ond yn bosib oherwydd bod marchnadoedd wedi ymddiried yn ein gallu i fod yn gyfrifol yn ariannol. Cyferbynnwch hynny â lle rydym arni heddiw o dan Lywodraethau Llafur yn San Steffan a Bae Caerdydd.

Maent yn ceisio dargyfeirio'r bai ar Liz Truss a'i chyfnod dros dro yn y swydd, gan osgoi realiti'r bunt, cost benthyca. Ac adlamodd marchnadoedd yn eu holau cyn gynted ag y gwnaeth Rishi Sunak a Jeremy Hunt adfer sefydlogrwydd. Edrychwch ar yr ystadegau economaidd: fe welwch fy mod i'n iawn. O dan y Llywodraeth Lafur hon yn y DU, mae costau benthyca wedi codi i'r entrychion, gyda chynnyrch gilt 10 mlynedd y DU yn gyson uwch na'r lefelau a welwyd yn ystod mini-gyllideb Liz Truss. Ni cheir unman lle mae canlyniadau pryder am gyfeiriad cyllidol presennol a rhagolygon twf hirdymor yn fwy amlwg nag yng Nghymru. Fel y clywsom, ar ôl bron i dri degawd o Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi'i chynnal gan Blaid Cymru, gan Gymru y mae'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y DU, gyda'r cyflogau isaf a'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd ym Mhrydain. Mae gormod o oedolion oedran gweithio yn dal i fod heb gyflogaeth ac yn hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth, a gormod o'n pobl ifanc nad ydynt yn gweld fawr o ffordd os o gwbl i mewn i gyflogaeth sefydlog. Dyna i chi gyfiawnder cymdeithasol. Nid ffigurau haniaethol yw'r rhain. Maent yn cynrychioli cyfleoedd a gollwyd, pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd a busnesau bach heb obaith.

Mae cyfraniadau yswiriant gwladol cynyddol, cyflogau uwch ac ardrethi busnes llesteiriol yn gorfodi busnesau lleol i roi'r gorau i recriwtio, i oedi buddsoddiad a chanslo cynlluniau twf. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais lansiad maniffesto garddwriaeth amgylcheddol Cymru Cymdeithas y Fasnach Arddwriaethol yn y Senedd, sector sy'n cynnwys busnesau teuluol i raddau helaeth. Er eu bod yn cyfrannu £38 biliwn at gynnyrch domestig gros y DU, ac yn cefnogi bron i dri chwarter miliwn o swyddi, gyda llawer ohonynt yng nghefn gwlad ac ardaloedd lled-wledig Cymru, maent bellach yn wynebu storm berffaith o gostau cyflogaeth, prisiau ynni a beichiau rheoleiddio cynyddol sy'n atal buddsoddiad a recriwtio. Yn hytrach na darparu arbedion effeithlonrwydd, mae hyn yn cynhyrchu costau uwch, gwasanaethau sy'n gwanhau ac anghydraddoldeb cymdeithasol sy'n dyfnhau.

Ond gadewch imi fod yn glir: nid prinder potensial sydd gan Gymru. Mae'n brin o strategaeth o blaid twf. Mae'r sector garddwriaeth yn dangos sut y gallai ein dyfodol economaidd edrych gydag ardrethi busnes tecach, rheoleiddio symlach, gwell mynediad at fuddsoddiad a llwybrau sgiliau cryfach. Gyda bron i 70 y cant o bobl yng Nghymru yn ymweld â chanolfannau garddio, mannau gwyrdd a thirweddau, nid diwydiannau ymylol yw'r rhain, ond peiriannau llesiant, gwydnwch a chynhyrchiant economaidd. Mae cefnogi garddwriaeth yn golygu cefnogi busnesau bach, adfywio cymunedau gwledig a chreu cyfleoedd gwirioneddol i'r rhai sy'n chwilio am waith.

Dyna'r dewis sy'n ein hwynebu: economi dan bwysau trethi uchel, anweithgarwch cynyddol a llai o hyder, neu un wedi'i hadeiladu ar gyfrifoldeb cyllidol, cyllideb gytbwys, cyfle a thwf. Dyma ein hachos fel Ceidwadwyr Cymreig—hygrededd economaidd, twf cynaliadwy, cymunedau wedi'u hadfywio ac economi sefydlog i Gymru.

19:05

Yr Ysgrifennydd Cabinet, nawr, dros gyllid, sy'n cyfrannu. Mark Drakeford. 

The Cabinet Secretary for finance to contribute. Mark Drakeford. 

Well, diolch yn fawr, Llywydd. I've listened carefully, of course, to the contributions on the motion before us today. An innocent reader might have believed that the debate was about the spring statement, because that's what it says at the start of it. Of course, it turned out to be not about that at all. Instead, we had yet another rehearsal of a doom and gloom, partial and pessimistic picture of Wales, in which complaints about a lack of money on the Conservative benches were matched only by their enthusiasm for spending it: £175 million spent on land transaction tax, £300 million spent on business rates, £311 million spent on cutting income tax—£800 million gone in a fraction of a second—and yet a long rehearsal of all those things where more money was needed.

Well, diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus, wrth gwrs, ar y cyfraniadau ar y cynnig sydd o'n blaenau heddiw. Efallai y byddai darllenydd diniwed wedi credu bod y ddadl yn ymwneud â datganiad y gwanwyn, oherwydd dyna beth y mae'n ei ddweud ar y dechrau. Wrth gwrs, nid oedd yn ymwneud â hynny o gwbl. Yn hytrach, cawsom ddarlun arall o och a gwae, darlun unochrog a phesimistaidd o Gymru, lle roedd cwynion am ddiffyg arian ar feinciau'r Ceidwadwyr yr un mor groch â'u brwdfrydedd dros ei wario: £175 miliwn wedi'i wario ar dreth trafodiadau tir, £300 miliwn wedi'i wario ar ardrethi busnes, £311 miliwn wedi'i wario ar dorri treth incwm—£800 miliwn wedi mynd mewn ffracsiwn o eiliad—ac eto rhestr hir o'r holl bethau lle roedd angen mwy o arian.

I wanted to thank John Griffiths for his contribution. The sober tone of it I think matched the tone of the spring statement itself. While it provides £555 million in additional funding for Wales over the next three years, the Chancellor did what she said she would do: she delivered a spring statement with no new spending commitments or new fiscal measures; she updated forecasts beyond the autumn budget, itself delivered fewer than 100 days earlier. Those forecasts too showed only modest changes: unemployment rising temporarily, but then falling back to below 5 per cent, growth still below the trend that the UK economy enjoyed from 1945 to 2008, but stable over the cycle, inflation falling, productivity rising, and, as we know, growing faster in Wales than elsewhere. The spring statement showed, as many commentators agreed, public finances under control, interest rates falling and trade recovering from the tariff shocks of an unpredictable United States President.

But now all that has changed. I thought Sam Kurtz's contribution was going to be a serious one, when he started by talking about the international situation, but that turned out simply to be a small throwaway introduction to the normal rehearsal of far-too-often-repeated Tory woes. Indeed, it seems to me that what surely would strike anyone listening to this debate from outside the Senedd would be its disconnection from the new realities being so carelessly and so cruelly created around the globe.

The events in the middle east are first and foremost a humanitarian catastrophe—a catastrophe for those countries involved and that have been drawn into it. But it is also an economic catastrophe for the whole of the globe, and any serious debate about the prospects for the Welsh economy would have focused instead on the headwinds that we now know will be there for any incoming Senedd Government. The price of oil, whatever its day-to-day fluctuations, will be permanently higher than when the spring statement was prepared. And that matters to us here in Wales; it matters to people in Wales. Seven per cent of all Welsh homes, as the First Minister was saying only yesterday, are heated directly by oil. Every one of us—every Welsh citizen and every Welsh business—will feel the impact as rising oil prices feed through into general inflation.

And then liquefied natural gas: Wales is highly exposed to LNG and the impacts of it created by the war in the middle east because of Wales's structural role at the centre of the UK's LNG import system. Two of the UK's three LNG import terminals are here in Wales, and the global liquefied natural gas shock will be manifested here first in Wales. The UK relies on spot and short-term LNG cargoes rather than long-term fixed contracts. Qatar Energy has already stopped production of LNG because the storage tanks have filled up and because LNG, unlike oil, can only be transported around the globe by shipping. You can't bring LNG over land. We're especially exposed to that here in the United Kingdom and here in Wales.

And then fertiliser prices: 25 per cent to 35 per cent of global fertilisers flow through the straits of Hormuz. Farmers here in Wales rely on those fertilisers to grow the food we eat. And yet, in July of 2023, the last UK Government allowed the closure of the UK's last ammonia plant, at Billingham on Teesside. It means that we are entirely exposed to global markets, and that fertiliser production, which is structurally dependent on imported ammonia, will see the effect of events in the middle east directly here, in farms and in households in Wales.

Now, Llywydd, layer on top of that the risks in financial markets—not trading of commodities and goods, but financial markets. Prior to the war in the middle east, the system was already under strain. Prolonged inflationary pressures, liquidity buffers thin, the much-anticipated correction in the AI bubble, less shock-absorption capacity than in the aftermath of the 2008 crash. Now suddenly, the choices facing central banks are far more difficult. One of the interesting things I get to do, Llywydd, as finance Minister, is to meet monthly with the agents of the Bank of England here in Wales. When I met them in February, the discussion was about how soon and how many interest cuts there would be in the UK economy this year. Now what do central banks do? Faced with a contracting economy, the normal thing would be to cut interest rates in order to stimulate economic activity. But faced with global rising inflation, they would be less inclined to do that because of the stagflation experience of the 1970s. The war won't cause a financial crash, Llywydd, but, as I heard someone say earlier this week, it's like dropping a match into a financial fireplace where the fireplace is already full of dry tinder.

Those are the things that will face an incoming Government here in Wales. Those will be the things that this Senedd and its successor will have to grapple with. Far from a treasure chest for pet projects, an incoming finance Minister will be very grateful for that £555 million to protect the interests of Welsh citizens, Welsh businesses and Welsh public services in the face of that coming storm. And far from the scorn that opposition parties pour on the Chancellor, we may all be very grateful for the doubling of the headroom available to her—as she set out in the spring statement forecasts, £24 billion that the United Kingdom may be very grateful indeed that she has managed to set aside by 2028-29.

Llywydd, yesterday I met with officials from the Welsh Treasury to begin to plan for how the Welsh Government can respond to the impacts of those global events in the lives of citizens here in Wales. And I end with just two messages, which I think should be drawn by anyone from the events in the middle east for the Welsh economy. First of all, surely we have learnt—we should have learnt it in COVID, but it's a lesson that's escaped many other policy makers—that reliance on a global supply chain will always leave you vulnerable at times of crisis, and that indigenous supplies of essential commodities has to be part of the resilience of any modern economy. And secondly, on the efforts that this Government has made, and make now with the UK Labour Government as well, to secure energy security for our people, I heard with utter disbelief some of the things I heard from benches opposite about turning our backs on renewable energy as a way of shaping our future here in Wales. It is absolutely the lesson of what we see, that we have to be serious about creating that renewable energy, that energy security future. That's where a serious debate about the future of the economy in Wales should lie; it's a shame we haven't managed more of it here this afternoon.

Roeddwn eisiau diolch i John Griffiths am ei gyfraniad. Mae'r cywair sobr yn cyd-fynd â chywair datganiad y gwanwyn ei hun. Er ei fod yn darparu £555 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf, gwnaeth y Canghellor yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud: cyflwynodd ddatganiad y gwanwyn heb unrhyw ymrwymiadau gwariant newydd na mesurau cyllidol newydd; diweddarodd ragolygon y tu hwnt i gyllideb yr hydref, a gyflwynwyd lai na 100 diwrnod ynghynt. Dangosodd y rhagolygon hynny hefyd newidiadau cymedrol yn unig: diweithdra'n codi dros dro, ond yna'n disgyn yn ôl dan 5 y cant, twf yn dal i fod yn is na'r duedd a welodd economi'r DU rhwng 1945 a 2008, ond yn sefydlog dros y cylch, chwyddiant yn gostwng, cynhyrchiant yn codi, ac fel y gwyddom, yn tyfu'n gyflymach yng Nghymru nag mewn mannau eraill. Dangosodd datganiad y gwanwyn, fel y cytunodd llawer o sylwebwyr, fod cyllid cyhoeddus dan reolaeth, cyfraddau llog yn gostwng a masnach yn adfer o siociau tariff Arlywydd mympwyol yr Unol Daleithiau.

Ond nawr mae hynny i gyd wedi newid. Roeddwn i'n meddwl y byddai cyfraniad Sam Kurtz yn un difrifol pan ddechreuodd drwy siarad am y sefyllfa ryngwladol, ond cyflwyniad bach wrth fynd heibio i arfer llawer rhy aml y Torïaid o ailadrodd eu cwynion oedd hynny. Yn wir, mae'n ymddangos i mi mai'r hyn a fyddai'n sicr o daro unrhyw un a fyddai'n gwrando ar y ddadl hon y tu allan i'r Senedd fyddai ei datgysylltiad oddi wrth y realiti newydd sy'n cael ei greu mor ddiofal ac mor greulon ledled y byd.

Mae'r digwyddiadau yn y dwyrain canol yn drychineb dyngarol yn gyntaf oll—trychineb i'r gwledydd sy'n gysylltiedig ac sydd wedi cael eu tynnu i mewn iddo. Ond mae hefyd yn drychineb economaidd i'r byd i gyd, a byddai unrhyw ddadl ddifrifol am y rhagolygon i economi Cymru wedi canolbwyntio yn hytrach ar yr heriau y gwyddom y byddant yno i unrhyw Lywodraeth newydd yn y Senedd. Bydd pris olew, beth bynnag am amrywiadau o ddydd i ddydd, yn barhaol uwch na phan baratowyd datganiad y gwanwyn. Ac mae hynny'n bwysig i ni yma yng Nghymru; mae'n bwysig i bobl Cymru. Mae 7 y cant o'r holl gartrefi yng Nghymru, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, yn cael eu gwresogi'n uniongyrchol gan olew. Bydd pob un ohonom—pob dinesydd Cymreig a phob busnes yng Nghymru—yn teimlo'r effaith wrth i brisiau olew cynyddol fwydo drwodd i chwyddiant cyffredinol.

A nwy naturiol hylifedig wedyn: mae Cymru'n agored iawn i LNG a'r effeithiau arno a grëwyd gan y rhyfel yn y dwyrain canol oherwydd rôl strwythurol Cymru yng nghanol system fewnforio LNG y DU. Mae dwy o dair terfynell fewnforio LNG y DU yma yng Nghymru, a bydd y sioc nwy naturiol hylifedig fyd-eang yn cael ei hamlygu yma yn gyntaf yng Nghymru. Mae'r DU yn dibynnu ar gargos LNG uniongyrchol a byrdymor yn hytrach na chontractau sefydlog hirdymor. Mae Qatar Energy eisoes wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu LNG am fod y tanciau storio'n llawn ac am mai ar longau'n unig, yn wahanol i olew, y gellir cludo LNG. Ni allwch gludo LNG dros y tir. Rydym yn arbennig o agored i hynny yma yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.

A phrisiau gwrtaith wedyn: mae 25 y cant i 35 y cant o wrtaith y byd yn llifo drwy Gulfor Hormuz. Mae ffermwyr yma yng Nghymru yn dibynnu ar y gwrtaith i dyfu'r bwyd yr ydym yn ei fwyta. Ac eto, ym mis Gorffennaf 2023, caniataodd Llywodraeth ddiwethaf y DU i ffatri amonia olaf y DU gau, yn Billingham, Teesside. Mae'n golygu ein bod yn gwbl agored i farchnadoedd byd-eang, ac y bydd cynhyrchiant gwrtaith, sy'n ddibynnol ar amonia wedi'i fewnforio, yn gweld effaith digwyddiadau yn y dwyrain canol yn uniongyrchol yma, ar ffermydd ac mewn cartrefi yng Nghymru.

Nawr, Lywydd, mae'r risgiau mewn marchnadoedd ariannol yn haen ar ben hynny—nid masnachu nwyddau, ond marchnadoedd ariannol. Cyn y rhyfel yn y dwyrain canol, roedd y system eisoes dan straen. Pwysau chwyddiant dros gyfnod hir, byfferau hylifedd yn denau, y cywiriad hirddisgwyliedig yn y swigen deallusrwydd artiffisial, llai o gapasiti amsugno sioc nag ar ôl cwymp ariannol 2008. Nawr yn sydyn, mae'r dewisiadau sy'n wynebu banciau canolog yn llawer anos. Un o'r pethau diddorol rwy'n cael eu gwneud fel Gweinidog cyllid, Lywydd, yw cyfarfod yn fisol ag asiantau Banc Lloegr yma yng Nghymru. Pan wneuthum eu cyfarfod ym mis Chwefror, roedd y drafodaeth yn ymwneud â faint o doriadau llog a fyddai yn economi'r DU eleni a pha mor fuan. Nawr beth y mae banciau canolog yn ei wneud? Yn wyneb economi sy'n crebachu, y peth arferol fyddai torri cyfraddau llog er mwyn ysgogi gweithgarwch economaidd. Ond yn wyneb chwyddiant byd-eang cynyddol, byddent yn llai tueddol o wneud hynny oherwydd profiad chwyddwasgiad y 1970au. Ni fydd y rhyfel yn achosi cwymp ariannol, Lywydd, ond fel y clywais rywun yn dweud yn gynharach yr wythnos hon, mae fel gollwng matsien i le tân ariannol a'r lle tân eisoes yn llawn o frigau sych.

Dyna'r pethau a fydd yn wynebu Llywodraeth newydd yma yng Nghymru. Dyna'r pethau y bydd yn rhaid i'r Senedd hon a'i holynydd ymdopi â nhw. Ymhell o fod yn gist o drysorau ar gyfer hoff brosiectau, bydd Gweinidog cyllid newydd yn ddiolchgar iawn am y £555 miliwn hwnnw i ddiogelu buddiannau dinasyddion Cymru, busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wyneb y storm sydd ar y ffordd. Ac ymhell o'r dirmyg y mae'r gwrthbleidiau yn ei arllwys ar y Canghellor, efallai y byddwn i gyd yn ddiolchgar iawn yn sgil dyblu'r hyblygrwydd sydd ar gael iddi—fel y nododd yn rhagolygon datganiad y gwanwyn, £24 biliwn y gallai'r Deyrnas Unedig fod yn ddiolchgar iawn ei bod wedi llwyddo i'w neilltuo erbyn 2028-29.

Lywydd, ddoe cyfarfûm â swyddogion o Drysorlys Cymru i ddechrau cynllunio ar gyfer sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i effeithiau'r digwyddiadau byd-eang hynny ym mywydau dinasyddion yma yng Nghymru. Ac rwy'n gorffen gyda dwy neges, y credaf y dylai unrhyw un eu casglu o'r digwyddiadau yn y dwyrain canol ar gyfer economi Cymru. Yn gyntaf oll, rydym wedi dysgu—dylem fod wedi ei ddysgu gyda COVID, ond mae'n wers y mae llawer o wneuthurwyr polisi eraill wedi ei methu—y bydd dibyniaeth ar gadwyn gyflenwi fyd-eang bob amser yn eich gadael yn agored i niwed ar adegau o argyfwng, a bod yn rhaid i gyflenwadau o fewn y wlad o nwyddau hanfodol fod yn rhan o wydnwch unrhyw economi fodern. Ac yn ail, ar yr ymdrechion y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwneud, ac a wneir nawr gyda Llywodraeth Lafur y DU hefyd, i sicrhau diogeledd ynni i'n pobl, clywais gydag anghrediniaeth lwyr rai o'r pethau oddi ar y meinciau gyferbyn ynglŷn â throi ein cefnau ar ynni adnewyddadwy fel ffordd o siapio ein dyfodol yma yng Nghymru. Dyna yw'r wers yn yr hyn a welwn, fod yn rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â chreu'r ynni adnewyddadwy hwnnw, y diogeledd ynni ar gyfer y dyfodol. Ar hynny y dylai dadl ddifrifol am ddyfodol yr economi yng Nghymru ganolbwyntio; mae'n drueni na chawsom fwy o hynny yma y prynhawn yma.

19:15

Thank you, Llywydd. I'm grateful to all Members who have taken part in this debate here this evening, and I'm also grateful to the Cabinet Secretary in particular for his response to the debate that he heard. He's absolutely right to point to the global pressures that are facing us here and the impact that the war in Iran will have.

I guess a big part of this debate we've had this evening is what is in our control as a Welsh Senedd, what the Welsh Government have levers to control as well, and what is the context within which we currently sit and that the future of our economy is going to be impacted by. As I close this debate, I suppose there's a simple question that matters most to the people of Wales now, which is: nearly after three decades of the same political direction, are people feeling better off? I believe we heard the answer in many of the statistics shared by Members throughout the debate, and some of those statistics shared by Members were these: the lowest employment rate in the United Kingdom at 71.8 per cent; the highest economic inactivity in Great Britain; more than 431,000 people relying on universal credit to get by—the highest figure ever recorded in Wales; pay packets remain the lowest in the UK; and the number of workforce jobs have fallen by over 40,000 in just the last year. So, that's the context within which the Cabinet Secretary has just explained the possible economic shocks we're going to have to deal with. They're not just abstract statistics, as Sam Kurtz and Mark Isherwood said. They represent families under pressure. They represent businesses struggling to grow and young people questioning whether their future lies here in Wales or elsewhere, and that is why this debate matters in this place here this evening.

I thought it was intriguing, when we saw the amendments laid by the parties and spoken to by their spokespersons this evening, as they really do shine a light on their economic philosophy. The Welsh Labour amendment simply deletes the substance of the motion and replaces it with praise for the UK Labour Government's spring statement and its additional funding settlement. And I guess that kind of sums up Labour's approach to the economy: nothing about businesses, nothing about jobs, nothing about entrepreneurs, nothing about enterprise, but all about how more money is coming down the track— taxpayers' money coming down the track—and how that will be spent. More money from taxpayers does not equal economic growth. After 27 years of Welsh Labour Governments, Wales still lags behind the rest of the UK economically simply because of that philosophical thinking. The amendment offered by Labour today does not acknowledge their failures, does not offer a credible strategy for growth, and does not answer the fundamental question: why has the Welsh economy been left behind for so long? And the answer, of course, in their own words, is, they don't know what they're doing on the economy.

Then we turn to Plaid Cymru's amendments. I thought Luke Fletcher's contribution was very pragmatic. But their amendment seems to be just paragraph after paragraph of blaming everybody else: the previous Conservative Government, Brexit, the current Labour Government, the Treasury they blamed in their amendment as well. Almost anybody they can think of is up for being blamed for the way things are. After decades of propping up Welsh Labour through co-operation agreements and political deals, Plaid Cymru cannot simply wash their hands of responsibility. They've been a critical part of the system that they now criticise. And while Plaid Cymru talk about new leadership, the reality is that their very reason for existence is to see an independent Wales. And let's not forget—raised in this place this evening—independence would leave Wales facing a £20 billion fiscal gap, more than £11,000 of extra tax per person working here in Wales. That's not a plan for economic growth, it's a plan for economic self-sabotage.

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heno, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet yn arbennig am ei ymateb i'r ddadl a glywodd. Mae'n hollol gywir i dynnu sylw at y pwysau byd-eang sy'n ein hwynebu yma a'r effaith y bydd y rhyfel yn Iran yn ei chael.

Rwy'n tybio mai rhan fawr o'r ddadl a gawsom heno yw'r hyn sydd o fewn ein rheolaeth ni fel Senedd Cymru, yr hyn y mae gan Lywodraeth Cymru liferi i'w reoli hefyd, a beth yw'r cyd-destun yr ydym ynddo ar hyn o bryd ac a fydd yn effeithio ar ddyfodol ein heconomi. Wrth imi gloi'r ddadl hon, mae'n debyg fod yna gwestiwn syml sy'n bwysicach na'r un i bobl Cymru nawr, sef: ar ôl bron i dri degawd o'r un cyfeiriad gwleidyddol, a yw pobl yn teimlo'n well eu byd? Credaf ein bod wedi clywed yr ateb mewn llawer o'r ystadegau a rannwyd gan yr Aelodau drwy gydol y ddadl, a dyma rai o'r ystadegau a rannodd yr Aelodau: y gyfradd gyflogaeth isaf yn y Deyrnas Unedig ar 71.8 y cant; y lefelau anweithgarwch economaidd uchaf ym Mhrydain; mwy na 431,000 o bobl yn dibynnu ar gredyd cynhwysol i fyw—y ffigur uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru; mae cyflogau'n parhau i fod yn is nag yn unman arall yn y DU; ac mae nifer swyddi'r gweithlu wedi gostwng dros 40,000 yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Felly, dyna'r cyd-destun lle mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd esbonio'r siociau economaidd posib y bydd yn rhaid i ni ymdopi â nhw. Fel y dywedodd Sam Kurtz a Mark Isherwood, nid ystadegau haniaethol yn unig yw'r rhain, ond teuluoedd dan bwysau, busnesau sy'n ei chael hi'n anodd tyfu a phobl ifanc sy'n cwestiynu ai yma yng Nghymru neu yn rhywle arall y mae eu dyfodol, a dyna pam y mae'r ddadl hon yn bwysig yma heno.

Pan welsom y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau ac y siaradodd eu llefarwyr amdanynt heno, roedd yn ddiddorol sut y taflent oleuni ar eu hathroniaeth economaidd. Mae gwelliant Llafur Cymru yn dileu sylwedd y cynnig ac yn rhoi canmoliaeth i ddatganiad y gwanwyn Llywodraeth Lafur y DU a'i setliad cyllid ychwanegol. Ac rwy'n tybio bod hynny'n crynhoi ymagwedd Llafur tuag at yr economi: dim byd am fusnesau, dim byd am swyddi, dim byd am entrepreneuriaid, dim byd am fenter, ond y cyfan am sut y mae mwy o arian ar y ffordd—arian trethdalwyr—a sut y bydd hwnnw'n cael ei wario. Nid yw mwy o arian gan drethdalwyr yn cyfateb i dwf economaidd. Ar ôl 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru, mae Cymru'n dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU yn economaidd oherwydd yr athroniaeth honno. Nid yw'r gwelliant a gynigir gan Lafur heddiw yn cydnabod eu methiannau, nid yw'n cynnig strategaeth gredadwy ar gyfer twf, ac nid yw'n ateb y cwestiwn sylfaenol: pam y mae economi Cymru wedi cael ei gadael ar ôl am gymaint o amser? A'r ateb, wrth gwrs, yn eu geiriau eu hunain, yw nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud ar yr economi.

Yna trown at welliannau Plaid Cymru. Roeddwn i'n meddwl bod cyfraniad Luke Fletcher yn bragmataidd iawn. Ond mae'n ymddangos bod eu gwelliant yn baragraff ar ôl paragraff o feio pawb arall: y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, Brexit, y Llywodraeth Lafur bresennol, a'r Trysorlys hefyd. Mae bron bawb y gallant feddwl amdanynt yn cael eu beio am y ffordd y mae pethau. Ar ôl degawdau o gefnogi Llafur Cymru drwy gytundebau cydweithio a bargeinion gwleidyddol, ni all Plaid Cymru ymwrthod â'u cyfrifoldeb. Maent wedi bod yn rhan hanfodol o'r system y maent bellach yn ei beirniadu. Ac er bod Plaid Cymru'n sôn am arweinyddiaeth newydd, y gwir amdani yw mai eu rheswm dros fodoli yw i weld Cymru annibynnol. A gadewch inni beidio ag anghofio—a chodwyd hyn yma heno—byddai annibyniaeth yn golygu bod Cymru'n wynebu bwlch cyllidol o £20 biliwn, mwy na £11,000 o dreth ychwanegol i bob person sy'n gweithio yma yng Nghymru. Nid cynllun ar gyfer twf economaidd yw hynny, ond cynllun ar gyfer hunan-ddifrod economaidd.

19:20

Thank you very much. Do you think it would be a bit of a double whammy for people in Wales as well, because Plaid ultimately want independence from the UK, but they'd drag us back into the European Union? So, you'd remove £21 billion out of the economy, plus the EU membership fee. So, it would be a double whammy in that sense. 

Diolch yn fawr. A ydych chi'n meddwl y byddai'n ergyd ddwbl i bobl yng Nghymru hefyd, oherwydd yr hyn y mae Plaid Cymru ei eisiau yn y pen draw yw annibyniaeth oddi ar y DU, ond byddent yn ein llusgo'n ôl i'r Undeb Ewropeaidd? Felly, byddech chi'n colli £21 biliwn o'r economi, ynghyd â ffi aelodaeth yr UE. Felly, byddai'n ergyd ddwbl yn yr ystyr hwnnw. 

Yes, absolutely. And they have to remember that, desperate for this independent Wales, there'd be a fiscal drag on our economy here in Wales.

And we heard Reform's amendment—many proposals, as we heard, they now present as their own are, in fact, long-standing Welsh Conservative policies, from cuts in income tax to scrapping tourism tax and reforming business rates. Clearly, they don't have any ideas of their own.

What Wales needs is action, and that's what we heard from the Welsh Conservatives in this place this evening. The Welsh Conservatives set out a clear plan to tackle the cost of living and get Wales working again: cutting that basic rate of income tax, helping working people keep more of what they own; scrapping those business rates for those smaller businesses; and abolishing land transaction tax for those primary residences. And we're going to back our high streets with those business rates-free periods for new stores, and improved access to procurement contracts for Welsh firms as well.

The Welsh Conservatives shared that they'll re-establish the Welsh Development Agency, attracting investment, supporting jobs across sectors like energy, aerospace, manufacturing, agriculture, and the creative industries. We'll of course invest in the most important asset Wales has, and that is our people. It's not just a list of ideas we heard from the Welsh Conservatives, it's a serious programme for economic renewal.

So, Llywydd, as Members prepare to vote this evening, the choice before them is clear: more of the same from a Labour Government that believes its record requires no reflection, while on the flip side is a Plaid Cymru amendment that only looks backwards while pushing a separatist future that would weaken Wales economically, or there's a Reform amendment, which has run out of ideas before they've even started. Only the Welsh Conservatives are offering a credible, responsible plan to grow the Welsh economy, support businesses and raise living standards. It's time to move beyond the excuses, beyond the blame game, and beyond the endless reviews. It's time to get Wales working again and support the Welsh Conservative motion.

Yn hollol. Ac mae'n rhaid iddynt gofio, a hwythau'n ysu am Gymru annibynnol, y byddai llusgiad cyllidol ar ein heconomi yma yng Nghymru.

Ac fe glywsom welliant Reform—fel y clywsom, polisïau hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd yw llawer o'r cynigion y maent bellach yn eu cyflwyno fel eu cynigion eu hunain, o doriadau treth incwm i ddileu'r dreth dwristiaeth a diwygio ardrethi busnes. Yn amlwg, nid oes ganddynt unrhyw syniadau eu hunain.

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw gweithredu, a dyna a glywsom gan y Ceidwadwyr Cymreig yma heno. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gosod cynllun clir i fynd i'r afael â chostau byw a chael Cymru i weithio eto: torri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, gan helpu pobl sy'n gweithio i gadw mwy o'r hyn sy'n eiddo iddynt; cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau llai; a diddymu treth trafodiadau tir ar brif breswylfeydd. Ac rydym yn mynd i gefnogi ein stryd fawr gyda'r cyfnodau di-ardrethi busnes hynny ar gyfer siopau newydd, a gwell mynediad at gontractau caffael i gwmnïau o Gymru hefyd.

Rhannodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddant yn ailsefydlu Awdurdod Datblygu Cymru, gan ddenu buddsoddiad, a chefnogi swyddi ar draws sectorau fel ynni, awyrofod, gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth, a'r diwydiannau creadigol. Byddwn yn buddsoddi yn yr ased pwysicaf sydd gan Gymru wrth gwrs, sef ein pobl. Clywsom fwy na rhestr o syniadau gan y Ceidwadwyr Cymreig, clywsom am raglen ddifrifol ar gyfer adnewyddiad economaidd.

Felly, Lywydd, wrth i'r Aelodau baratoi i bleidleisio heno, mae'r dewis o'u blaenau'n glir: mwy o'r un peth gan Lywodraeth Lafur sy'n credu nad oes angen iddi fyfyrio ar ei chyflawniad, ac ar yr ochr arall, gwelliant Plaid Cymru sydd ond yn edrych yn ôl gan wthio dyfodol ymwahanol a fyddai'n gwanhau Cymru'n economaidd, neu welliant Reform, sydd wedi rhedeg allan o syniadau cyn iddynt ddechrau hyd yn oed. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnig cynllun credadwy, cyfrifol i dyfu economi Cymru, cefnogi busnesau a chodi safonau byw. Mae'n bryd symud y tu hwnt i'r esgusodion, y tu hwnt i daflu bai, a thu hwnt i'r adolygiadau diddiwedd. Mae'n bryd cael Cymru i weithio eto a chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig.

19:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is objection, so I will defer voting under this item until voting time. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio.

Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.

16. Cyfnod Pleidleisio
16. Voting Time

Felly, mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 13, ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae Cyfnod 4 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) wedi ei gymeradwyo. [Cymeradwyo.] Llongyfarchiadau i Mark Isherwood am ei arweiniad arbennig ar y ddeddfwriaeth yma. [Cymeradwyo.]

So, the first vote this evening is on item 13, the Stage 4 debate on the British Sign Language (Wales) Bill. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Mark Isherwood. Open the vote. Close the vote. In favour 52, no abstentions, no-one against. Therefore, Stage 4 of the British Sign Language (Wales) Bill has been agreed. [Applause.] Congratulations to Mark Isherwood for his very special leadership on this legislation. [Applause.]

Eitem 13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) : O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Item 13. Debate: Stage 4 of the British Sign Language (Wales) Bill: For: 52, Against: 0, Abstain: 0

Motion has been agreed

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 15, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bolisi economaidd. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

The next vote is on item 15, the Welsh Conservatives debate on economic policy,. I call for a vote first on the motion, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 11, no abstentions, 41 against. Therefore, the motion is not agreed.

Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Item 15. Welsh Conservatives' Debate - Economic Policy. Motion without amendment: For: 11, Against: 41, Abstain: 0

Motion has been rejected

Gwelliant 1 fydd nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei gymeradwyo, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Amendment 1 will be next. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. Amendment 1, therefore, in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 25, no abstentions, 27 against. Therefore, amendment 1 is not agreed.

Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Item 15. Welsh Conservatives' Debate - Economic Policy. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 25, Against: 27, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 2, felly, sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 2 yn cael ei wrthod.

Amendment 2 is next, therefore, in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 39 against. Amendment 2 is not agreed.

Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Item 15. Welsh Conservatives' Debate - Economic Policy. Amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 13, Against: 39, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Laura Anne Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 50 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

Amendment 3 is next, tabled in the name of Laura Anne Jones. Open the vote. Close the vote. In favour two, no abstentions, 50 against. Therefore, amendment 3 is not agreed. 

19:30

Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Item 15. Welsh Conservatives' Debate - Economic Policy. Amendment 3, tabled in the name of Laura Anne Jones: For: 2, Against: 50, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Mae pob gwelliant wedi'i wrthod, a'r cynnig wedi'i wrthod; does dim byd wedi'i dderbyn.

All amendments have not been agreed, and the motion has not been agreed. Nothing has been agreed. 

17. Dadl Fer: Darparu gofal iechyd yn deg ar draws pob rhan o Gymru
17. Short Debate: Delivering fair healthcare across every part of Wales

Dyna ni, rŷn ni'n symud ymlaen. Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Russell George. 

Therefore we move on. The next item will be the short debate. The short debate this afternoon will be delivered by Russell George. 

You can start. 

Gallwch ddechrau.

I am proud to represent a beautiful part of Wales. There's much to celebrate about life in Powys. Yet alongside the positives, we face considerable challenges, and among them is access to healthcare. This is why I've chosen the debate on the pressing issues of delivering fair healthcare across every part of Wales.

And the principle of fairness must underpin every Government decision. But it is especially important when it comes to healthcare provision in Wales. Everyone, regardless of where they live, deserves fair access when it comes to health services. And my contribution today will focus, as you may expect, on Powys, but I've agreed to give a minute of my time today to Peter Fox and to James Evans.

And it's important to clarify that I am not suggesting in any way that these challenges within our NHS are just there in rural parts of Wales. They are there for every part of Wales. In fact, I think we have a health emergency in Wales. It's also important to say that Powys County Council just last week declared a Powys health emergency, expressing deep concern at the unacceptable state of healthcare provision in the county. And my inbox is flooded on a weekly basis with constituents recounting their struggles with access to medical and often urgent support. Only on Friday, an elderly resident required urgent care. Despite 999 being called, they were in the end taken to hospital in a police car, because it would have taken over an hour for the ambulance to arrive. And of course, the nearest accident and emergency, as perhaps many would realise, is actually over the border in England. And these are not isolated incidents.

I don't believe that the Welsh Government fully appreciates the unique circumstances facing Powys health board, which operates predominantly on a commissioning health board basis. The funding formula currently in use fails to take into account this position, and to illustrate this, I wish to expand on some of the concerns I raised with the First Minister last week, hoping that the health Secretary can provide a response.

Last year, the Welsh Government allocated an additional £120 million of funding to the seven health boards across Wales specifically to tackle the waiting time backlog. Cardiff and Vale health board received £20 million; Aneurin Bevan, £15 million; Cwm Taf, £11 million; Hywel Dda, £9 million; Swansea bay, £40 million; Powys health board, £115,000. That is less than 0.1 per cent of the total allocation. The health Secretary justifies this by noting that Powys health board does not provide the same breadth of services as other health boards. And whilst this is true, it overlooks the fact that most Powys patients receive their treatment in other counties, for which Powys health board must still pay. And had the £120 million been allocated on a population basis, Powys would have received £5 million, reflecting its population being 40 times greater than 0.1 per cent.

The health Secretary has previously argued that funding given to other health boards benefits Powys patients, which might make sense financially if Powys health board did not have to pay for those services. But they do have to pay for those services delivered in other health board areas, and no part of the £120 million was allocated on a commissioner basis. It was provided on a provider basis. And nearly half of Powys patients receive their planned care in England, meaning Powys has been deliberately excluded by current policies. I raise these points in the hope that the next Welsh Government will consider how funding is distributed across the seven health boards in Wales.

Rwy'n falch o gynrychioli rhan hardd o Gymru. Mae llawer i'w ddathlu am fywyd ym Mhowys. Ond ochr yn ochr â'r pethau cadarnhaol, rydym yn wynebu heriau sylweddol, ac yn eu plith mae mynediad at ofal iechyd. Dyna pam y dewisais y ddadl ar faterion pwysig darparu gofal iechyd teg ym mhob rhan o Gymru.

Ac mae'n rhaid i'r egwyddor o degwch fod yn sail i bob penderfyniad gan y Llywodraeth. Ond mae'n arbennig o bwysig mewn perthynas â'r ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru. Mae pawb, ble bynnag y bônt yn byw, yn haeddu mynediad teg at wasanaethau iechyd. A bydd fy nghyfraniad heddiw yn canolbwyntio ar Bowys, fel y byddwch yn disgwyl, ond rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser heddiw i Peter Fox ac i James Evans.

Ac mae'n bwysig egluro nad wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd fod yr heriau hyn yn ein GIG ond yn bodoli yn y rhannau gwledig o Gymru'n unig. Maent yno ym mhob rhan o Gymru. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod gennym argyfwng iechyd yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig dweud bod Cyngor Sir Powys wedi datgan argyfwng iechyd ym Mhowys yr wythnos diwethaf, gan fynegi pryder mawr ynglŷn â chyflwr annerbyniol y ddarpariaeth gofal iechyd yn y sir. Ac mae fy mewnflwch yn gorlifo'n wythnosol ag etholwyr yn adrodd am eu trafferthion gyda mynediad at gymorth meddygol, cymorth brys yn aml. Ddydd Gwener, roedd angen gofal brys ar breswylydd oedrannus. Er i alwad 999 gael ei gwneud, cawsant eu cludo i'r ysbyty mewn car heddlu yn y diwedd, gan y byddai wedi cymryd dros awr i'r ambiwlans gyrraedd. Ac wrth gwrs, fel y byddai nifer yn sylweddoli, mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd. Ac nid digwyddiadau ynysig yw'r rhain.

Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn llwyr ddeall yr amgylchiadau unigryw sy'n wynebu bwrdd iechyd Powys, sy'n gweithredu'n bennaf ar sail bwrdd iechyd comisiynu. Nid yw'r fformiwla ariannu a ddefnyddir ar hyn o bryd yn ystyried y sefyllfa hon, ac i ddangos hyn, hoffwn ymhelaethu ar rai o'r pryderon a godais gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, gan obeithio y gall yr Ysgrifennydd iechyd ddarparu ymateb.

Y llynedd, dyrannodd Llywodraeth Cymru £120 miliwn ychwanegol o gyllid i'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru i fynd i'r afael yn benodol â'r ôl-groniad amseroedd aros. Derbyniodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro £20 miliwn; Aneurin Bevan, £15 miliwn; Cwm Taf, £11 miliwn; Hywel Dda, £9 miliwn; Bae Abertawe, £40 miliwn; Bwrdd iechyd Powys, £115,000. Mae hynny'n llai na 0.1 y cant o gyfanswm y dyraniad. Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn cyfiawnhau hyn drwy nodi nad yw bwrdd iechyd Powys yn darparu'r un amrywiaeth o wasanaethau â byrddau iechyd eraill. Ac er bod hyn yn wir, mae'n anwybyddu'r ffaith bod y rhan fwyaf o gleifion Powys yn cael eu triniaeth mewn siroedd eraill, ac mae'n rhaid i fwrdd iechyd Powys ddal i dalu amdano. A phe bai'r £120 miliwn wedi'i ddyrannu ar sail poblogaeth, byddai Powys wedi cael £5 miliwn, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod ei phoblogaeth 40 gwaith yn fwy na 0.1 y cant.

Mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi dadlau'n flaenorol fod cyllid a roddir i fyrddau iechyd eraill o fudd i gleifion Powys, a allai wneud synnwyr ariannol pe na bai bwrdd iechyd Powys yn gorfod talu am y gwasanaethau hynny. Ond mae'n rhaid iddynt dalu am y gwasanaethau a ddarperir gan fyrddau iechyd mewn ardaloedd eraill, ac ni ddyrannwyd unrhyw ran o'r £120 miliwn ar sail comisiynu. Fe'i darparwyd ar sail darparu. Ac mae bron i hanner cleifion Powys yn cael eu gofal a gynlluniwyd yn Lloegr, sy'n golygu bod Powys wedi'i heithrio'n fwriadol gan y polisïau presennol. Rwy'n codi'r pwyntiau hyn yn y gobaith y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ystyried sut y caiff cyllid ei ddosbarthu ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

And the next issue to consider is whether Powys faces a waiting time crisis. The Welsh Government says that there are no waiting time issues in Powys. The Welsh Government claims that, in Powys, nobody is waiting more than 12 months for their first out-patient appointment and no-one at all is waiting more than two years for treatment. Well, treatments are, of course, rarely provided within Powys itself, given the absence of a district general hospital. So, I think the Welsh Government's position is, if I'm right, that Powys hasn't got a waiting time issue and they also don't require any additional funding to tackle waiting time backlogs. But that's at odds with what the health board says. Powys health board has told providers over its border to deliberately slow down treatment for Powys patients because it can't afford to pay for that treatment. The health board has publicly said that they took the decision as they have to live within the financial expectations set by the Welsh Government. So, both can't be true. Does Powys have a waiting time issue or not? It does. Is Powys adequately funded? No, it's not.

I'd like the next Welsh Government and health Minister to accept a greater responsibility for healthcare decisions taken in Wales. As many of my colleagues will know across the Chamber, too often, when health boards seek to reorganise services, the Government's response is that these are matters for the health board not Ministers. Well, Wales is a small enough nation, and I think that the Welsh health Minister can take an overarching view, considering the impact across the whole of Wales. Current rules mean that health boards are too focused on their local interests rather than the broader needs of Wales. Even the Cabinet Secretary's much touted regional committees risk sidelining Powys, which is not given voting membership.

Let me expand on this to make the point. Services are continually moving further away from Powys patients as a result of changes made by neighbouring health boards. So, you've got PET-CT services due to relocate from Wrexham to Glan Clwyd. You've got the Welshpool air ambulance base moving to Denbigh, with no plans yet for the promised additional rapid-response vehicles. Stroke services moving from Bronglais, after they were downgraded, forcing families to have five-hour round trips to south Wales to visit loved ones. The downgrading of Nevill Hall in 2020 has meant longer journeys to emergency care. And the closure of the stroke service at Prince Charles Hospital affects south Powys patients. Changes happening outside of Powys affect Powys patients, and it's for this reason I would urge the next Welsh Government to take responsibility for decisions with pan-Wales consequences. Otherwise, what's the point of having a Welsh health Minister?

With services outside of Powys moving further away from them, it's even more essential to strengthen health provision within the county itself. There's a proposed new hospital and health hub in Newtown, which I fully supported, although I would have liked those plans to be more ambitious. It's important, considering the existing community hospital in Newtown was built before the creation even of the NHS, and that new facility will be intended to serve all of north Powys. What I'm disappointed about is the slow progress, with that development now planned in several phases rather than a single stage, and the building taking much, much longer than originally promised. That's as a result of Welsh Government reducing the capital allocation. It is disheartening to see other capital funding promised in other parts of Wales, while Powys projects have to be scaled back. As Powys lacks a district general hospital, we need our community hospitals to be strengthened, not downgraded, as has happened in Llanidloes.

And, of course, I remain deeply concerned about the difficulties facing NHS dentistry in the area. Last month, the last dental practice in Welshpool announced they would cease offering NHS appointments from April. It's also impossible to secure an NHS dental appointment in Newtown. The situation is forcing residents to travel for up to three-hour round trips for basic dental care, unacceptable in the twenty-first century. The Welshpool announcement, of course, coincides with the introduction of a new Welsh Government dental contract, which will take effect in April. This new contract is not working if dentists are not taking on or are abandoning their NHS contracts. And it's not because there's a shortage of NHS dentists—far from it—the Government must introduce policies to attract them to work in rural Wales, policies that bring forward practical steps such as deploying mobile dental clinics, providing targeted incentives for dentists serving in rural areas, and subsidies to offset the additional costs of rural practices—all things that are urgently needed.

And the future of Llanrhaeadr-ym-Mochnant GP medical centre is also under pressure as well, under pressure of closure, which would have severe impacts for large parts of north Powys and people living in those areas. I've raised concerns about this and the support for rural GP surgeries in the Senedd. Without extra support, more rural practices will be forced to close, leaving residents in rural Wales without a viable GP within a reasonable distance. Assessing pharmacy services, again in rural areas, is also equally important. And there are concerns raised around Llanfyllin, which I've raised previously with the health Secretary as well.

So, my plea to the next Welsh Government is that policies must reflect the realities of delivering health services in rural Wales. We need urgent investment in recruiting and retaining doctors, dentists and nurses locally; targeted investment in health facilities, mobile clinics, and digital health services—all essential to attract and retain the dedicated staff serving our communities. Powys residents and all those living in rural Wales must not be treated as second-class citizens when it comes to healthcare access. It is time for fairness to be at the heart of every Government decision, ensuring that every area of Wales has equal access to healthcare services.

A'r mater nesaf i'w ystyried yw a yw Powys yn wynebu argyfwng o ran amseroedd aros. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes unrhyw broblemau o ran amseroedd aros ym Mhowys. Mae Llywodraeth Cymru'n honni nad oes neb yn aros mwy na 12 mis am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf ym Mhowys, ac nad oes neb o gwbl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Wel, anaml y darperir triniaethau ym Mhowys ei hun wrth gwrs, o ystyried nad oes ganddi ysbyty cyffredinol dosbarth. Felly, rwy'n credu mai safbwynt Llywodraeth Cymru, os wyf i'n iawn, yw nad oes gan Bowys broblem amseroedd aros ac nad oes angen unrhyw gyllid ychwanegol arnynt i fynd i'r afael ag ôl-groniadau amseroedd aros. Ond mae hynny'n groes i'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei ddweud. Mae bwrdd iechyd Powys wedi dweud wrth ddarparwyr dros y ffin i arafu'r driniaeth i gleifion Powys yn fwriadol am nad yw'n gallu fforddio talu am y driniaeth honno. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud yn gyhoeddus eu bod wedi gwneud y penderfyniad am fod yn rhaid iddynt fyw o fewn y disgwyliadau ariannol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, ni all y ddau beth fod yn wir. A oes gan Bowys broblem amseroedd aros ai peidio? Oes. A yw Powys yn cael ei hariannu'n ddigonol? Nac ydy.

Hoffwn i Lywodraeth nesaf Cymru a'r Gweinidog iechyd nesaf dderbyn mwy o gyfrifoldeb am benderfyniadau gofal iechyd a wneir yng Nghymru. Fel y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, yn rhy aml pan fydd byrddau iechyd yn ceisio ad-drefnu gwasanaethau, ymateb y Llywodraeth yw mai materion i'r bwrdd iechyd yw'r rhain, nid i Weinidogion. Wel, mae Cymru'n genedl ddigon bach, ac rwy'n credu y gall Gweinidog iechyd Cymru arddel safbwynt cyffredinol, o ystyried yr effaith ar draws Cymru gyfan. Mae'r rheolau presennol yn golygu bod byrddau iechyd yn canolbwyntio'n ormodol ar eu buddiannau lleol yn hytrach nag anghenion ehangach Cymru. Mae pwyllgorau rhanbarthol Ysgrifennydd y Cabinet hyd yn oed, y canwyd eu clodydd yn helaeth, mewn perygl o anwybyddu Powys, gan nad oes ganddi aelodaeth bleidleisio.

Gadewch imi ehangu ar hyn i wneud y pwynt. Mae gwasanaethau'n symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth gleifion Powys yn barhaol o ganlyniad i newidiadau a wneir gan fyrddau iechyd cyfagos. Felly, mae gennych wasanaethau PET-CT yn mynd i symud o Wrecsam i Lan Clwyd. Mae canolfan ambiwlans awyr y Trallwng yn symud i Ddinbych, heb unrhyw gynlluniau eto ar gyfer y cerbydau ymateb cyflym ychwanegol a addawyd. Mae gwasanaethau strôc yn symud o Fronglais, ar ôl iddynt gael eu hisraddio, gan orfodi teuluoedd i wneud teithiau yn ôl a blaen o bum awr i dde Cymru i ymweld ag anwyliaid. Mae israddio Nevill Hall yn 2020 wedi golygu teithiau hirach i gael gofal brys. Ac mae cau'r gwasanaeth strôc yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn effeithio ar gleifion de Powys. Mae newidiadau sy'n digwydd y tu allan i Bowys yn effeithio ar gleifion Powys, ac am y rheswm hwn carwn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau sydd â chanlyniadau ar lefel Cymru. Fel arall, beth yw'r pwynt cael Gweinidog iechyd i Gymru?

Gyda gwasanaethau y tu allan i Bowys yn symud ymhellach oddi wrthynt, mae cryfhau'r ddarpariaeth iechyd yn y sir ei hun yn fwy hanfodol byth. Mae yna gynlluniau ar gyfer ysbyty a chanolfan iechyd newydd yn y Drenewydd, ac rwy'n llwyr gefnogol i hynny, er y buaswn wedi hoffi i'r cynlluniau hynny fod yn fwy uchelgeisiol. Mae'n bwysig, o ystyried bod yr ysbyty cymunedol presennol yn y Drenewydd wedi'i adeiladu cyn creu'r GIG hyd yn oed, ac y bwriedir i'r cyfleuster newydd wasanaethu gogledd Powys i gyd. Yr hyn rwy'n siomedig yn ei gylch yw'r cynnydd araf, gyda'r datblygiad hwnnw bellach wedi'i gynllunio mewn sawl cam yn hytrach nag un cam, a bod y gwaith adeiladu'n cymryd llawer iawn mwy o amser nag a addawyd yn wreiddiol. Deillia hynny o leihau'r dyraniad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ddigalon gweld cyllid cyfalaf arall yn cael ei addo mewn rhannau eraill o Gymru, tra bo rhaid lleihau prosiectau Powys. Gan nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, mae angen inni gryfhau ein hysbytai cymunedol nid eu hisraddio, fel sydd wedi digwydd yn Llanidloes.

Ac wrth gwrs, rwy'n parhau i bryderu'n fawr am yr anawsterau sy'n wynebu deintyddiaeth y GIG yn yr ardal. Fis diwethaf, cyhoeddodd y practis deintyddol olaf yn y Trallwng y byddent yn rhoi'r gorau i gynnig apwyntiadau GIG o fis Ebrill ymlaen. Mae hefyd yn amhosib sicrhau apwyntiad deintyddol GIG yn y Drenewydd. Mae'r sefyllfa'n gorfodi trigolion i deithio am hyd at dair awr i gael gofal deintyddol sylfaenol, sy'n annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae cyhoeddiad y Trallwng, wrth gwrs, yn cyd-daro â chyflwyno contract deintyddol newydd Llywodraeth Cymru, a ddaw i rym ym mis Ebrill. Nid yw'r contract newydd yn gweithio os nad yw deintyddion yn ymgymryd â'u contractau GIG neu'n rhoi'r gorau iddynt. Ac nid oherwydd prinder deintyddion GIG—ymhell o fod. Rhaid i'r Llywodraeth gyflwyno polisïau i'w denu i weithio yng nghefn gwlad Cymru, polisïau sy'n cyflwyno camau ymarferol fel defnyddio clinigau deintyddol symudol, darparu cymhellion wedi'u targedu i ddeintyddion sy'n gwasanaethu mewn ardaloedd gwledig, a chymorthdaliadau i wrthbwyso costau ychwanegol practisau gwledig—mae'r rhain i gyd yn bethau sydd eu hangen ar frys.

Ac mae dyfodol canolfan feddygol Llanrhaeadr-ym-Mochnant hefyd dan bwysau, dan fygythiad o gau, a fyddai'n effeithio'n ddifrifol ar rannau helaeth o ogledd Powys a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Rwyf wedi codi pryderon ynglŷn â hyn a'r gefnogaeth i feddygfeydd gwledig yn y Senedd. Heb gymorth ychwanegol, bydd mwy o bractisau gwledig yn cael eu gorfodi i gau, gan adael trigolion yng nghefn gwlad Cymru heb feddyg teulu o fewn pellter rhesymol. Mae asesu gwasanaethau fferylliaeth, eto mewn ardaloedd gwledig, yr un mor bwysig. Ac mae pryderon wedi'u codi ynglŷn â Llanfyllin yr wyf wedi eu dwyn i sylw'r Ysgrifennydd iechyd yn flaenorol.

Felly, fy mhle i Lywodraeth nesaf Cymru yw bod yn rhaid i bolisïau adlewyrchu realiti darparu gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Rydym angen buddsoddiad ar frys mewn recriwtio a chadw meddygon, deintyddion a nyrsys yn lleol; buddsoddiad wedi'i dargedu mewn cyfleusterau iechyd, clinigau symudol, a gwasanaethau iechyd digidol—mae'r rhain oll yn hanfodol i ddenu a chadw'r staff ymroddedig sy'n gwasanaethu ein cymunedau. Ni ddylid trin trigolion Powys a phawb sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru fel dinasyddion eilradd mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd. Mae'n bryd rhoi tegwch wrth wraidd pob penderfyniad gan y Llywodraeth, gan sicrhau bod gan bob ardal yng Nghymru fynediad cyfartal at wasanaethau gofal iechyd.

19:40

I'm grateful to Russell George for bringing this debate forward—it's a very important one—and for giving me a minute of his time. I'll focus on a workforce issue that is having a huge impact across Wales.

Despite Wales facing a severe shortage of GPs overall, there is clear evidence that newly qualified GPs struggle to secure posts, not because they are not needed, but because the system cannot absorb them. Funding constraints mean that practices simply cannot afford to hire new GPs, even where the need is obvious. In other cases, practices lack the physical space to accommodate an additional doctor. And increasingly, surgeries are pushed towards expanding other staff groups instead, not because it best serves patients, but because it is financially easier to do so.

This leaves us with a paradox. We have patients who cannot get appointments, and GPs who cannot get jobs. Wales is stuck in the middle of that contradiction. Fair healthcare across every part of Wales is impossible while newly qualified GPs remain underemployed, and patients continue to face barriers to access. Funding and workforce policy must finally be aligned so that every community, rural or urban, gets the primary care it deserves.

Rwy'n ddiolchgar i Russell George am gyflwyno'r ddadl hon—mae'n un bwysig iawn—ac am roi munud o'i amser i mi. Fe ganolbwyntiaf ar fater yn ymwneud â'r gweithlu sy'n cael effaith enfawr ledled Cymru.

Er bod Cymru'n wynebu prinder difrifol o feddygon teulu yn gyffredinol, ceir tystiolaeth glir fod meddygon teulu sydd newydd gymhwyso yn cael trafferth sicrhau swyddi, nid oherwydd nad oes eu hangen, ond am nad yw'r system yn gallu eu hamsugno. Mae cyfyngiadau cyllido'n golygu nad yw practisau'n gallu fforddio cyflogi meddygon teulu newydd, hyd yn oed lle mae'r angen yn amlwg. Mewn achosion eraill, nid oes gan bractisau ofod ffisegol i ddarparu ar gyfer meddyg ychwanegol. Ac yn gynyddol, caiff meddygfeydd eu gwthio tuag at ehangu grwpiau eraill o staff yn lle hynny, nid am mai dyna sy'n gwasanaethu cleifion orau, ond am fod gwneud hynny'n haws yn ariannol.

Mae hyn yn creu paradocs. Mae gennym gleifion nad ydynt yn gallu cael apwyntiadau, a meddygon teulu nad ydynt yn gallu cael swyddi. Mae Cymru'n sownd yn y canol rhwng y ddwy sefyllfa groes i'w gilydd. Mae gofal iechyd teg ym mhob rhan o Gymru yn amhosib tra bo meddygon teulu sydd newydd gymhwyso yn parhau i fod wedi'u tangyflogi, a bod cleifion yn parhau i wynebu rhwystrau i fynediad. Mae'n hen bryd alinio cyllid a pholisi gweithlu fel bod pob cymuned, gwledig neu drefol, yn cael y gofal sylfaenol y mae'n ei haeddu.

I'd like to thank Russell George for bringing this very important debate to the Senedd Chamber today, and almost near the end of the Senedd term. Because one of the biggest things that I hear from my constituents, very much like you do, Russ, is about health concerns.

My constituents have faced an awful lot of health problems this term of service: minor injury units downgraded; the ambulance station, our air ambulance station in Welshpool being taken further away; hospitals being downgraded and services being moved further away; ambulance delays massively affecting constituents, not just in my constituency, but across Powys; and community hospitals closing across Powys. And this is all on top of Powys Teaching Health Board's decision to delay elective care treatment for people accessing treatment in England. 

I'd like to know from the Cabinet Secretary how he can justify this, given that his party in England is actually lowering the 52-week target in England down to 18 weeks by the end of the Parliament, considering that we're still stuck at that 104-week wait here. And I've been told by the health board over in England that, actually, this operational disparity is going to cost a huge amount of money for them to administer, and they might end up sending patients back to Wales to wait because they just simply cannot afford to keep them on their books, having a different process to administer them, and actually delaying treatment for people, which would damage their quality of care. So, I'd like to know from the Cabinet Secretary, since this could be one of the last times he comes to the Chamber before his oral questions, how he'd respond to the people of Powys who think they've been neglected for many years by this Welsh Government in terms of healthcare in rural Wales.

Hoffwn ddiolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i Siambr y Senedd heddiw, a bron ar ddiwedd tymor y Senedd. Oherwydd mae'r pethau a glywaf amlaf gan fy etholwyr, fel chithau, Russ, yn ymwneud â phryderon iechyd.

Mae fy etholwyr wedi wynebu llawer iawn o broblemau iechyd y tymor hwn: unedau mân anafiadau wedi'u hisraddio; yr orsaf ambiwlans, ein gorsaf ambiwlans awyr yn y Trallwng yn cael ei symud ymhellach i ffwrdd; ysbytai'n cael eu hisraddio a gwasanaethau'n cael eu symud ymhellach i ffwrdd; oedi yn y gwasanaeth ambiwlans sy'n effeithio'n enfawr ar etholwyr, nid yn fy etholaeth i'n unig, ond ar draws Powys; ac ysbytai cymunedol yn cau ar draws Powys. A hyn i gyd yn ychwanegol at benderfyniad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ohirio triniaeth gofal a gynlluniwyd i bobl sy'n cael triniaeth yn Lloegr. 

Hoffwn wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y gall gyfiawnhau hyn, o ystyried bod ei blaid yn Lloegr yn gostwng y targed 52 wythnos yn Lloegr i 18 wythnos erbyn diwedd tymor Senedd y DU, a ninnau'n dal i fod yn gaeth i amseroedd aros o 104 wythnos yma. Ac mae'r bwrdd iechyd yn Lloegr wedi dweud wrthyf fod y gwahaniaeth gweithredol hwn yn mynd i gostio swm enfawr o arian iddynt ei weinyddu, ac efallai y byddant yn anfon cleifion yn ôl i Gymru i aros yn y pen draw am na allant fforddio eu cadw ar eu llyfrau, a chael proses wahanol ar gyfer eu gweinyddu a gohirio triniaeth i bobl, a fyddai'n niweidio ansawdd eu gofal. Felly, gan mai dyma un o'r troeon olaf y daw i'r Siambr cyn ei gwestiynau llafar o bosib, hoffwn wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y byddai'n ymateb i bobl Powys sy'n credu eu bod wedi cael eu hesgeuluso ers blynyddoedd lawer gan y Llywodraeth hon yng Nghymru mewn perthynas â gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru.

19:45

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gyfrannu. Jeremy Miles.

The Cabinet Secretary for Health and Social Care to reply to the debate. Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. This Government is absolutely committed to fair healthcare for everybody in Wales. We work hard to ensure that the NHS provides every person, wherever they live, with timely, high-quality treatment. Health boards are expected to plan and deliver services in line with our performance expectations within the resources available to them, based on the unique needs of their local population.

The Government's and my role as health Secretary is to set national policy, provide strategic direction and support improvement to achieve and sustain high standards. If mistakes are made, it is our job to ensure that the NHS learns from them, to improve the safety and quality of care. We do that through targeted investment, direct intervention and the work of NHS Wales Performance and Improvement.

Last June, I announced £120 million to cut the longest waits and the waiting list. More appointments, more clinics, more tests, more treatments, more operations have all been provided, reducing waiting times and improving access to planned hospital care across Wales, including, I'm happy to say, for people living in Powys.

It is important that Powys residents have a clear understanding of the facts, and they will not have received that from the contributions to date. The Welsh Government has provided substantial additional investment to reduce waiting times across Wales, and Powys residents have directly benefited from this funding through activity delivered by other health boards and NHS providers in England. [Interruption.] I will not. I will answer the question that the Member put to me in his earlier contribution.

The decisions on the allocation of £120 million this year were focused on the areas of greatest backlog, challenge and priorities of the planned care plan, and therefore allocated to providers on that basis. Powys residents benefited from those additional allocations to providers through their residents being treated at those provider organisations.

The level of allocation reflects Powys's unique role. Powys is not a district general hospital provider, and therefore does not undertake the specialist high-volume activity for which the national funding was set aside. Funding is therefore directed to the health boards actually delivering that activity specifically on behalf of Powys residents, and it is self-evident that the funding is coming from the Welsh Government so that it does not have to come from Powys.

In primary and community care too, our reforms are ensuring that more health services are available locally, closer to people's homes. Since April 2023, we've invested an extra £5 million to create more than 100 new allied health professional posts across Wales. In Powys, allied health professionals are supporting services for people with neurological conditions, frailty, long-term conditions, and those who need diabetic eye and foot screening.

Our new dental contract will start on 1 April. Designed with the NHS and with the dental profession, it puts people's health needs and prevention first and will improve access to NHS dentistry. It will build on the work that we've been doing since 2022 to improve access to dental care, which includes the introduction of the dental access portal, which I'm pleased to say was successfully tested in Powys, and the variation to the current contract, which has delivered a full course of NHS treatment for almost 588,000 patients.

Wales is leading the way in hearing care and in eye care. Our future approach for audiology was launched in December and builds on successful early intervention and diagnosis models. It will see more people treated in their local communities rather than having to go to hospital. In eye care, long waits for operations have fallen significantly due to national action and the establishment of high-volume cataract hubs. Wales continues to lead the UK in integrating community optometry services, safely shifting care from hospital to community settings.

The enhanced common ailments service, delivered through pharmacies, which includes treatment for urinary tract infections and sore throats, shows how care can be delivered safely and conveniently on high streets in all parts of Wales.

Our national community by design programme will redouble these efforts to develop community-based care by strengthening services, prioritising prevention, early intervention, and fully integrated primary and community care. The shift is essential, and Powys, as we have heard, with a rural community, strong communities, and no district general hospital, is very well placed to show us the way.

With an ageing population and rising demand across Wales, we need a system designed around people's needs, not organisational structures. Community by design strengthens governance, streamlines programmes and invests in digital capability so that our NHS can deliver care sustainably for the future. [Interruption.]

Diolch, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i ofal iechyd teg i bawb yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y GIG yn darparu triniaeth amserol o ansawdd uchel i bob unigolyn, ble bynnag y bônt yn byw. Disgwylir i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol â'n disgwyliadau perfformiad o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt, yn seiliedig ar anghenion unigryw eu poblogaeth leol.

Rôl y Llywodraeth a fy rôl i fel Ysgrifennydd iechyd yw gosod polisi cenedlaethol, darparu cyfeiriad strategol a chefnogi gwelliant i gyflawni a chynnal safonau uchel. Os gwneir camgymeriadau, ein gwaith ni yw sicrhau bod y GIG yn dysgu ohonynt, er mwyn gwella diogelwch ac ansawdd gofal. Rydym yn gwneud hynny drwy fuddsoddiad wedi'i dargedu, ymyrraeth uniongyrchol a gwaith Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Fis Mehefin diwethaf, cyhoeddais £120 miliwn i dorri'r amseroedd aros hiraf a'r rhestr aros. Mae mwy o apwyntiadau, mwy o glinigau, mwy o brofion, mwy o driniaethau, mwy o lawdriniaethau wedi'u darparu, gan leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal a gynlluniwyd ledled Cymru, yn cynnwys i bobl sy'n byw ym Mhowys, rwy'n falch o ddweud.

Mae'n bwysig fod gan drigolion Powys ddealltwriaeth glir o'r ffeithiau, ac ni fyddant wedi cael hynny o'r cyfraniadau hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol i leihau amseroedd aros ledled Cymru, ac mae trigolion Powys wedi elwa'n uniongyrchol o'r cyllid hwn drwy weithgaredd a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill a darparwyr GIG yn Lloegr. [Torri ar draws.] Ni wnaf. Fe atebaf y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod i mi yn ei gyfraniad yn gynharach.

Roedd y penderfyniadau ar y dyraniad o £120 miliwn eleni yn canolbwyntio ar y meysydd lle ceid yr ôl-groniad mwyaf, a her a blaenoriaethau'r cynllun gofal a gynlluniwyd, ac felly fe'i dyrannwyd i ddarparwyr ar y sail honno. Fe wnaeth trigolion Powys elwa o'r dyraniadau ychwanegol hynny i ddarparwyr drwy fod eu preswylwyr yn cael eu trin yn y sefydliadau darparu hynny.

Mae lefel y dyraniad yn adlewyrchu rôl unigryw Powys. Nid yw Powys yn ddarparwr ysbyty cyffredinol dosbarth, ac felly nid yw'n cyflawni'r gweithgaredd arbenigol i niferoedd mawr o bobl y neilltuwyd y cyllid cenedlaethol ar ei gyfer. Felly, mae'r cyllid wedi'i gyfeirio at y byrddau iechyd sy'n darparu'r gweithgaredd hwnnw yn benodol ar ran trigolion Powys, ac mae'n amlwg fod y cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru fel nad oes rhaid iddo ddod o Bowys.

Mewn gofal sylfaenol a chymunedol hefyd, mae ein diwygiadau'n sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd ar gael yn lleol, yn agosach at gartrefi pobl. Ers mis Ebrill 2023, rydym wedi buddsoddi £5 miliwn ychwanegol i greu mwy na 100 o swyddi proffesiynol perthynol i iechyd newydd ledled Cymru. Ym Mhowys, mae gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd yn cefnogi gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwrolegol, eiddilwch, cyflyrau hirdymor, a'r rhai sydd angen sgrinio diabetig ar gyfer y llygaid a'r traed.

Bydd ein contract deintyddol newydd yn dechrau ar 1 Ebrill. Wedi'i lunio gyda'r GIG a'r proffesiwn deintyddol, mae'n rhoi anghenion iechyd pobl ac atal yn gyntaf a bydd yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Bydd yn adeiladu ar y gwaith y buom yn ei wneud ers 2022 ar wella mynediad at ofal deintyddol, sy'n cynnwys cyflwyno'r porth mynediad deintyddol yr wyf yn falch o ddweud ei fod wedi'i brofi'n llwyddiannus ym Mhowys, a'r amrywiad i'r contract presennol, sydd wedi darparu cwrs llawn o driniaeth GIG i bron i 588,000 o gleifion.

Mae Cymru ar y blaen ym maes gofal clyw ac mewn gofal llygaid. Lansiwyd ein dull o weithredu awdioleg ar gyfer y dyfodol ym mis Rhagfyr ac mae'n adeiladu ar fodelau ymyrraeth gynnar a diagnosis llwyddiannus. Bydd yn arwain at drin mwy o bobl yn eu cymunedau lleol yn hytrach na gorfod mynd i'r ysbyty. Ym maes gofal llygaid, mae amseroedd aros hir am lawdriniaethau wedi gostwng yn sylweddol oherwydd gweithredu cenedlaethol a sefydlu hybiau cataract i drin niferoedd mawr o bobl. Mae Cymru'n parhau i arwain y DU gydag integreiddio gwasanaethau optometreg gymunedol, gan symud gofal yn ddiogel o'r ysbyty i leoliadau cymunedol.

Mae'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin estynedig, a ddarperir drwy fferyllfeydd, sy'n cynnwys triniaeth ar gyfer heintiau y llwybr wrinol a dolur gwddf, yn dangos sut y gellir darparu gofal yn ddiogel ac yn gyfleus ar y stryd fawr ym mhob rhan o Gymru.

Bydd ein rhaglen genedlaethol ar y dull gweithredu cymunedol o'r cychwyn yn dyblu'r ymdrechion hyn i ddatblygu gofal yn y gymuned drwy gryfhau gwasanaethau, blaenoriaethu atal, ymyrraeth gynnar, a gofal sylfaenol a chymunedol cwbl integredig. Mae'r newid yn hanfodol, ac mae Powys, fel y clywsom, sydd â chymuned wledig, cymunedau cryf, a heb ysbyty cyffredinol dosbarth, mewn sefyllfa dda iawn i ddangos y ffordd i ni.

Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a galw cynyddol ledled Cymru, mae angen system sydd wedi'i chynllunio o amgylch anghenion pobl, nid strwythurau sefydliadol. Mae'r dull gweithredu cymunedol o'r cychwyn yn cryfhau llywodraethiant, yn symleiddio rhaglenni ac yn buddsoddi mewn galluogrwydd digidol fel y gall ein GIG ddarparu gofal yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. [Torri ar draws.]

19:50

No. Llywydd, I turn now to capital investment and how this is helping to turn this vision into reality—a question that was put to me in the earlier part of the debate. Through the integration and rebalancing capital fund, we are delivering modern, integrated community hubs across Wales.

One of the most significant examples, to answer the Member's questions, is in the north Powys integrated healthcare and well-being hub in Newtown, and I'm pleased to hear the welcome that was given in the debate. Last week, I agreed funding of just over £2.8 million to develop the full business case for the hub. This follows the £970,000 previously awarded to develop the outline business case. We can expect a full submission for the construction early next year.

The hub will bring health, care and third sector services together, offering prevention, early help and well-being support all under one roof. It is not an isolated example of how we are investing in healthcare facilities in Powys to ensure people have access to timely care. The £15 million redevelopment of Dyfi Valley Health practice has transformed it into an integrated health and well-being hub, bringing GP services, community dentistry, podiatry, adult mental health, women's and children's clinics, shared spaces, and a therapy garden, together.

Last week, Llywydd, I had the opportunity of visiting Brecon War Memorial Hospital to see the impact there of Welsh Government investments in new diagnostic equipment. A new dedicated pre-op assessment room has also been opened to support day surgery. We've invested £1.7 million to provide new digital x-ray equipment across the Powys Teaching Health Board area, improving the speed and accuracy of x-rays, meaning people require lower radiation doses. The first cone-beam CT scanner has been installed in Newtown, which enables faster, more precise 3D maxillofacial imaging to be carried out. The digital radiology information system programme is in use across Powys and an electronic test requesting service is being rolled out to GPs to improve referrals. Better the patient experience, better for staff, better for recruitment, better for service efficiency, better outcomes—all happening in Powys.

Llywydd, improving fairness and access is at the heart of our approach to health in Wales. Taken together, these actions demonstrate a clear and ambitious programme of reform. Community by design is not just a response to today's pressures, it is a long-term commitment to a fair, sustainable, community-rooted NHS for the people of Wales.

Nac ydw. Lywydd, rwy'n troi nawr at fuddsoddiad cyfalaf a sut y mae hyn yn helpu i wireddu'r weledigaeth hon—cwestiwn a ofynnwyd i mi yn rhan gynharach y ddadl. Drwy gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso, rydym yn darparu canolfannau cymunedol modern, integredig ledled Cymru.

Un o'r enghreifftiau mwyaf arwyddocaol, i ateb cwestiynau'r Aelod, yw canolfan gofal iechyd a llesiant integredig gogledd Powys yn y Drenewydd, ac rwy'n falch o glywed y croeso a roddwyd iddi yn y ddadl. Yr wythnos diwethaf, cytunais ar gyllid o ychydig dros £2.8 miliwn i ddatblygu'r achos busnes llawn ar gyfer y ganolfan. Mae'n dilyn y £970,000 a ddyfarnwyd yn flaenorol i ddatblygu'r achos busnes amlinellol. Gallwn ddisgwyl cyflwyniad llawn ar gyfer y gwaith adeiladu yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd y ganolfan yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal a thrydydd sector at ei gilydd, gan gynnig cymorth atal, help cynnar a llesiant i gyd o dan yr un to. Nid dyma'r unig enghraifft o'r ffordd yr ydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau gofal iechyd ym Mhowys i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ofal amserol. Mae ailddatblygu practis Iechyd Dyffryn Dyfi gwerth £15 miliwn wedi ei drawsnewid yn ganolfan iechyd a lles integredig, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu, deintyddiaeth gymunedol, podiatreg, iechyd meddwl oedolion, clinigau menywod a phlant, mannau a rennir, a gardd therapi at ei gilydd.

Yr wythnos diwethaf, Lywydd, cefais gyfle i ymweld ag Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu i weld effaith buddsoddiadau Llywodraeth Cymru mewn offer diagnostig newydd yno. Mae ystafell asesu cyn llawdriniaeth bwrpasol newydd wedi'i hagor hefyd i gefnogi llawdriniaeth ddydd. Rydym wedi buddsoddi £1.7 miliwn i ddarparu offer pelydr-x digidol newydd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan wella cyflymder a chywirdeb pelydr-x, sy'n golygu bod angen dosau is o ymbelydredd ar bobl. Mae'r sganiwr CT pelydr côn cyntaf wedi'i osod yn y Drenewydd, sy'n ei gwneud yn bosib creu delweddau 3D cyflymach a mwy manwl gywir o'r ên a'r wyneb. Mae'r rhaglen system wybodaeth radioleg ddigidol yn cael ei defnyddio ledled Powys ac mae gwasanaeth electronig i wneud cais am brawf yn cael ei gyflwyno i feddygon teulu i wella'r broses atgyfeirio. Po orau yw'r profiad i'r claf, y gorau yw hi o ran y staff, o ran recriwtio, o ran effeithlonrwydd gwasanaeth, o ran gwell canlyniadau—mae hyn oll yn digwydd ym Mhowys.

Lywydd, mae gwella tegwch a mynediad yn ganolog i'n dull o weithredu iechyd yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r camau hyn yn dangos rhaglen ddiwygio glir ac uchelgeisiol. Nid ymateb i bwysau heddiw yn unig yw'r dull cymunedol o'r cychwyn, ond ymrwymiad hirdymor i GIG teg, cynaliadwy wedi'i wreiddio yn y gymuned i bobl Cymru.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.

Thank you, Cabinet Secretary. That brings today's proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:54.

The meeting ended at 19:54.