Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/03/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai fydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63909] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 2, felly, Lesley Griffiths.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio canol trefi yn Wrecsam? OQ63906
Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd, a thrwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rwy'n buddsoddi dros £22 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam. Mae'r buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gefnogi amrywiaeth o brosiectau, rhoi bywyd newydd i ganol y ddinas, creu swyddi a hybu gweithgarwch economaidd.
Diolch am eich ateb, a gwn eich bod wedi ymweld â'r rhan o'r cynllun rwy'n mynd i sôn amdano heddiw mewn perthynas â'r rhaglen Trawsnewid Trefi: adeilad rhestredig gradd 2 hyfryd hen Lyfrgell Carnegie yng nghanol Wrecsam, adeilad yr oeddwn yn hoff iawn o ymweld ag ef fel plentyn. Bu ar gau am bron i 50 mlynedd cyn iddo gael cyllid o £2.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Trawsnewid Trefi. Fel y gweloch chi drosoch eich hun, mae bellach yn ofod hyblyg, effeithlon o ran ynni ar gyfer cerddoriaeth, celfyddydau, diwydiannau creadigol, mannau ymarfer a hefyd ar gyfer stondinau manwerthu. Mae Wrecsam yn dod yn adnabyddus iawn am ei diwydiannau creadigol, ac wrth gwrs, mae'n ymgeisio i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029, a bydd yr adeilad hanesyddol hwn yn helpu i gefnogi unigolion a busnesau sydd am wneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod adfywio canol ein trefi a'n dinasoedd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod ein strydoedd mawr a'n mannau cyhoeddus yn cael eu hadfywio a'u bod yn lleoedd y mae pobl eisiau mynd iddynt i siopa, am hamdden ac i ymlacio.
Diolch, Lesley, ac yn sicr, rwy'n credu bod gweld y cynnydd yn Wrecsam yn uniongyrchol yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae ein buddsoddiad yn ei wneud i fywydau pobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Fel y sonioch chi, roeddwn yn ffodus iawn i fynd i ymweld â Wrecsam i weld cynllun adfywio canol y ddinas—sut y mae'n datblygu a sut y mae'n cyflawni. Ac euthum i'r ganolfan greadigol a'r Hen Lyfrgell ar Stryd y Frenhines, ac mae'n adeilad hardd iawn. Ac rwy'n credu bod y ffordd y mae wedi'i ailddatblygu wedi bod yn ystyriol iawn o'r dyluniad traddodiadol hefyd—mae mor ysgafn a llachar ac agored. Ac mae'r mannau creadigol hynny nawr yn rhoi bywyd yn ôl i'r adeilad hwnnw—lle gwirioneddol arbennig. Felly, rwy'n siŵr y bydd llawer iawn o bobl greadigol yn dod o Wrecsam cyn bo hir, ac roedd yn dda iawn cyfarfod â rhywun sydd wedi'u lleoli yno nawr, rhywun sy'n dod o Wrecsam, a oedd wedi gweithio mewn diwydiannau creadigol mewn rhannau eraill o'r DU, ond a oedd wedi cael eu denu'n ôl i Wrecsam oherwydd yr holl gyfleusterau newydd a'r teimlad gwirioneddol ynglŷn â'r mannau a'r hyblygrwydd a'r gallu i weithio yn rhywle fel Wrecsam nawr. Credaf ei fod yn gyffrous iawn.
Mae'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y gofod hwn hefyd, ac rydym wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol. Maent wedi datblygu eu strategaeth creu lleoedd ar gyfer Wrecsam ac mae honno wedi'i hariannu drwy gyllid refeniw Trawsnewid Trefi. Ond mae brwdfrydedd gwirioneddol yn Wrecsam nawr, onid oes, o ran y bobl greadigol a'r celfyddydau a'r chwaraeon, a chredaf fod hynny'n gyffrous iawn, ac rwy'n siŵr y bydd Wrecsam yn mynd o nerth i nerth. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n edrych ymlaen at weld yr amgueddfa bêl-droed a fydd yn agor yno cyn bo hir hefyd.
3. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael i bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ63924
Diolch, James. Rydym yn darparu'r lefel uchaf erioed o gyllid tai cymdeithasol, sef dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Yn nhymor y Llywodraeth hon, hyd at 2024-25, mae Powys wedi derbyn bron i £68 miliwn mewn grant tai cymdeithasol. Bydd y cyllid hwn yn cyfrannu at ddarparu dros 800 o gartrefi. Mae eu dyraniad ar gyfer 2025-26 yn fwy na £13.5 miliwn. Rydym hefyd yn cynyddu argaeledd cartrefi drwy gynlluniau llwyddiannus fel Cymorth i Brynu—Cymru, cynllun Prynu Cartref—Cymru, Cynllun Lesio Cymru, a'n grant cartrefi gwag.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er mai chi sydd â'r cyfrifoldeb am y portffolio tai, mae llawer o'r dulliau gweithredu ar gyfer adeiladu cartrefi y tu allan i'ch portffolio o ran prentisiaethau—sicrhau bod gennym y plastrwyr, y plymwyr, a'r holl grefftau sy'n adeiladu'r cartrefi. Hefyd, mae'r system gynllunio yn rhan o bortffolio arall hefyd, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gyfrifol am reoliadau amgylcheddol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a chithau wedi methu cyrraedd eich targed tai flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut rydych yn gweithio ar draws y Llywodraeth, i ddod â'r holl bortffolios hynny ynghyd, i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd, oherwydd, weithiau, rwy'n teimlo'n flin drosoch—chi yw'r un sy'n cael eich dwyn i gyfrif, ond mewn gwirionedd, nid chi sy'n gyfrifol am lawer o'r liferi ar gyfer darparu'r tai hyn. Felly, hoffwn wybod sut rydych chi'n mynd i ddod â'r Llywodraeth gyfan ynghyd, yn nyddiau olaf y Llywodraeth hon, i weld sut y gallwn ddarparu tai i bobl ar draws fy etholaeth.
Diolch, James. Fel y dywedwch, yn gywir ddigon, mae nifer o liferi y tu allan i'r portffolio, ac roedd hynny'n un o'r pwyntiau mewn perthynas â'r tasglu tai fforddiadwy a rhai o'r argymhellion y maent wedi'u gwneud. Mae'n gorgyffwrdd â phortffolios nifer o Weinidogion—er enghraifft, yr aelod o'r Cabinet dros yr economi, yr aelod o'r Cabinet dros sgiliau. Felly, mae nifer o rannau gwahanol. Ond rwyf hefyd yn cadeirio grŵp gweithredu'r tasglu tai fforddiadwy. Dyna rywbeth lle rydym yn dod ynghyd â'r holl argymhellion hynny, sy'n cynnwys pethau fel cynllunio, sgiliau, a phethau eraill yn gysylltiedig â phrentisiaethau hefyd, gydag arbenigwyr o bob sector—felly, llywodraeth leol, adeiladwyr tai. Rydym yn edrych gyda'n gilydd ar sut y gallwn yrru hyn yn ei flaen. Felly, rydym yn gweithio ar y cyd fel Cabinet ar ein blaenoriaeth sef y targed o adeiladu mwy o dai cymdeithasol, y byddwn yn ei gyrraedd erbyn mis Tachwedd eleni, nad yw'n gamp hawdd. Unwaith eto, mae wedi bod yn ddull tîm Cymru go iawn. Rwy'n credu—rydym yn gwybod mewn gwirionedd—mai un o'r pethau cadarnhaol eraill yw nid yn unig cyrraedd y targed hwnnw eleni, ond gwyddom hefyd fod gennym lawer iawn o brosiectau cryf yn yr arfaeth. Felly, rwy'n llawn cynnwrf ynglŷn â hynny—credaf fod hynny'n rhywbeth a fyddai'n peri mwy o bryder, pe na bai gennym gymaint o brosiectau cryf ar y ffordd. Ond rydym wedi gweithio'n galed iawn drwy hynny, yn llwyddiannus ac yn olynol, mwy o fuddsoddiad, a sicrhau ein bod i gyd ar yr un dudalen wrth hyrwyddo'r flaenoriaeth sydd ei hangen arnom i adeiladu mwy o gartrefi ledled Cymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Ddechrau'r wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau i gyflwyno cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd yn honiad hyderus, o ystyried bod dros 500 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn aros yn hirach na'r targed 28 diwrnod am asesiad, fel y nodir gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Roedd hefyd yn brin iawn o fanylion allweddol, sy'n syndod o ystyried gwrthwynebiad honedig y Prif Weinidog i sloganau gwag. Felly, tybed a allech chi lenwi'r bylchau? O ystyried bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, a allech chi gadarnhau y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol dros y flwyddyn ariannol nesaf i gyflawni'r addewid hwn neu a fydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i'r adnoddau perthnasol o'u cyllidebau presennol?
Diolch, Peredur. Rwy'n falch o weld eich bod wedi rhoi sylw i'r cyhoeddiad yn y lansiad yng Nghasnewydd yn gynharach yr wythnos hon—lansiad addewidion Llafur Cymru. Yn amlwg, fe amlinellodd y Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru rai o'r addewidion hynny. Yn amlwg, fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae llawer o hynny yn nwylo'r aelod o'r Cabinet dros iechyd meddwl, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu gwneud sylwadau pellach, yn ogystal â'r Prif Weinidog.
Felly, dim eglurder i lywodraeth leol yno. Roedd y cyhoeddiad yn dal i fod yn brin o fanylion eraill hefyd, heblaw am adnoddau. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn ei chael hi'n anodd esbonio beth fyddai hyn yn ei olygu yn ymarferol i bobl sy'n ceisio cael mynediad at y cymorth hwn, a sut y byddai'n gwella canlyniadau mewn ffordd ystyrlon. Pan honnodd fod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth yn amlinellu sut y bydd y gweithlu'n cael ei gefnogi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, ymddengys nad oedd y manylyn hanfodol hwn yno i'w weld. Felly, unwaith eto, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i ni fod rhywfaint o sylwedd i'r addewid hwn mewn gwirionedd. A allech chi gadarnhau faint o staff ychwanegol y gallai fod angen i awdurdodau lleol eu recriwtio er mwyn cyflawni'r addewid o gymorth iechyd meddwl yr un diwrnod? Ac a allech chi gadarnhau bod y cynnig o gymorth yn y cyd-destun hwn yn golygu y bydd pobl yn gallu cael asesiad o fewn cyfnod o 24 awr, neu a yw'n ddim ond haen ychwanegol at y broses atgyfeirio bresennol?
Diolch, Peredur. Rwy'n credu bod rhai o'r cwestiynau hyn yn fwy addas ar gyfer fy nghyd-Aelod yn y Cabinet. Fel y dywedais, rwy'n gwybod eich bod chi wedi rhoi sylw arbennig i'r mater, ond mae'r addewid wedi'i wneud ac mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i hynny. Ond rwy'n credu'n gryf mai mater i'm cyd-Aelod yn y Cabinet, y Gweinidog iechyd meddwl, yw hwn i fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol gyda chi, neu'r Prif Weinidog.
Rwy'n anghytuno â hynny, oherwydd yn amlwg, mae'r setliad llywodraeth leol—a bydd yn rhaid i lywodraeth leol gyflawni rhywfaint o hyn—yn eich dwylo chi. Rwy'n cymryd eich pwynt, ond nid wyf o reidrwydd yn cytuno ag ef.
Bûm mewn digwyddiad y prynhawn yma gydag Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru, sef Sustrans gynt. Mae'r rhaglen teithiau iach yn amlwg yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Y tymor diwethaf yn unig, darparodd dros 300 o weithgareddau ar draws 68 o leoliadau, gan gyrraedd oddeutu 5,700 o bobl a chefnogi 120 o ysgolion ledled Cymru. Ond ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn cael ei darparu gan chwe swyddog yn unig ar draws pum rhanbarth. Mae ysgol Ty'n y Wern yn Nhrethomas yn fy rhanbarth wedi ennill y wobr aur, sy'n ardderchog, ac roedd yn wych ymweld â nhw ychydig flynyddoedd yn ôl pan gawsant y wobr honno. Felly, gan y gallai hwn fod yn gwestiwn olaf gennyf i chi yn y Senedd hon, fel llefarydd Plaid Cymru dros lywodraeth leol, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y genhedlaeth honno i ddod. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag annog mwy o blant i gerdded, i olwyno, i feicio i'r ysgol, gan leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a chefnogi ffyrdd iachach o fyw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod graddfa bresennol y rhaglen yn ddigon, ac a fydd hi'n gweithio gyda chymheiriaid llywodraeth leol i roi ymarfer da ar waith ledled Cymru?
Diolch, Peredur. Rwyf am ddweud fy mod wedi mwynhau eich cyfraniadau a'n trafodaethau yn fawr iawn ar yr adegau hyn. Mae wedi bod yn wych bod yn ôl yn y Siambr hon—mae fel pan ddechreuon ni, a nawr, rydym wedi dychwelyd. Ond mae'n dda iawn bod wedi gallu gweithio gyda chi ar lawer o bethau, Peredur, a llongyfarch yr ysgol a grybwyllwyd gennych hefyd ar eu gwobr aur. Nid yw'n gamp fach, felly credaf eu bod wedi bod yn gwneud rhywbeth gwirioneddol dda yno, ac rwy'n gobeithio y gall ysgolion eraill ddysgu o'r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud.
Unwaith eto, mae'r Llywodraeth hon yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, ac mae'n bwysig iawn i ni yma yn Llywodraeth Cymru—Llywodraeth Lafur Cymru—ein bod yn gweithio'n agos gyda nhw. Felly, rydym bob amser yn trafod, ac rydym yn cael llawer o gyfarfodydd rheolaidd gyda llywodraeth leol, sydd bob amser yn dweud wrthym yn onest iawn beth yw eu barn nhw am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r sgyrsiau hynny'n fawr, a byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau hynny gyda llywodraeth leol ac ni fyddwn yn gwneud dim iddynt, gan y credaf fod hynny'n rhywbeth a welwn dros y ffin, lle mae penderfyniadau, efallai, yn cael eu gwneud weithiau heb drafodaethau gyda llywodraeth leol.
A chyn imi alw ar Joel James, hoffwn ddweud ei bod yn teimlo fel pe baem yn dechrau ar y cyfnod o ffarwelio hirwyntog nawr, ac ar ryw bwynt, byddaf yn diflasu ar Aelodau yma'n dweud 'Dyma'r tro olaf y byddaf yn gwneud y peth hwn', a, 'Dyma'r tro olaf y byddaf yn gwneud y peth arall'. Cawsoch wneud hynny heddiw, Peredur, ond gadewch inni gadw at y gwaith sydd gennym i'w wneud o hyd, sef craffu ar y Llywodraeth. Ac yna, hoffwn ddweud hefyd fod ymgyrchoedd a maniffestos yn cael eu lansio. Efallai nad dyma'r lle priodol i dreulio gormod o amser ar yr hyn y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ei wneud; dyma'r lle i dreulio amser ar yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, ac wedi'i wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllid awdurdodau lleol ledled Cymru mewn cyflwr gwael, a dweud y lleiaf. Mae sawl dadansoddiad yn dangos eu bod ar lwybr anghynaliadwy, gyda bylchau cyllido rhagamcanol gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y blynyddoedd nesaf. Mae cynghorau'n rhybuddio na fyddai hyd yn oed cyllid ategol sylweddol yn ddigon i ymdopi â phwysau ariannol y byd go iawn, sy'n golygu y bydd pwynt tyngedfennol lle gallai cynghorau fod yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau hanfodol. Bydd deddfwriaeth newydd yn ymwneud â digartrefedd a diogelwch adeiladau sy'n mynd drwy'r Senedd hon yn ychwanegu mwy fyth o bwysau os na chaiff cynghorau eu hariannu'n iawn i'w gweithredu. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith pe bai awdurdod lleol yn cyrraedd y pwynt lle mae pwysau ariannol yn gorfodi gostyngiadau mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau rheng flaen? Diolch.
Diolch, Joel. Ac rwy'n teimlo nawr, Lywydd, na ddywedaf unrhyw beth tebyg i ffarwél hir yma wrth Joel chwaith. Roeddwn eisiau ateb cwestiwn Joel ynglŷn â'r setliad cyllido llywodraeth leol. Fel y gwyddoch, rydym wedi'i gyhoeddi, ac o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, rydym wedi buddsoddi £112.8 miliwn ychwanegol mewn llywodraeth leol, a bydd y setliad terfynol ar gyfer 2026-27 yn darparu £6.56 biliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Dyna gynnydd o 4.5 y cant, neu £282 miliwn ar sail debyg am debyg, o gymharu â'r flwyddyn gyfredol, a bydd pob cyngor yn cael mwy na 4 y cant.
Unwaith eto, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ac yn cael trafodaethau rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill yn y sector, ac mae swyddogion yn gwneud hynny hefyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda thrysoryddion awdurdodau lleol i gadw llygad ar sut y mae pethau'n mynd ac yn cysylltu â nhw i weld pa mor anodd, efallai, yw rhai o'r penderfyniadau y maent yn dal i orfod eu gwneud. Rwy'n hyderus iawn ein bod yn gweithio'n agos gyda nhw a'n bod yn ymwybodol o'u sefyllfaoedd. Fel y dywedais yn fy ymateb i Peredur, nid ydynt yn oedi rhag dweud wrthym beth yw'r sefyllfa, sy'n wirioneddol bwysig, ond rydym yn gweithio gyda'n gilydd ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau ein bod yn ymwybodol o'u sefyllfa.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae dinasoedd a threfi ledled Cymru yn dirywio o flaen ein llygaid. Gofynnir i drigolion a busnesau gyfrannu mwy drwy'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ond mae llawer yn teimlo eu bod yn gweld llai o fuddsoddiad mewn cynnal a chadw ac adfywio yn eu hardaloedd lleol. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae nifer o ffyrdd mewn cyflwr mor wael fel eu bod prin yn addas ar gyfer cerbydau cyffredin.
Mae'r stryd fawr hefyd o dan bwysau. Mae gan Ffordd Wellfield ym Mhen-y-lan, a fu unwaith yn gyrchfan fanwerthu lewyrchus, nifer o siopau â'u ffenestri wedi'u bordio ac arwyddion 'ar osod' erbyn hyn. Mae diffyg darpariaeth lleoedd parcio addas a nifer llai o bobl yn dod i'r ardal yn cyfrannu at gau busnesau. Mae canfyddiad cynyddol o gylch cythreulig. Wrth i fusnesau gau, mae nifer y bobl sy'n dod i'r ardal yn disgyn. Wrth i nifer y bobl sy'n dod i'r ardal ddisgyn, mae'r busnesau sydd ar ôl yn ei chael hi'n anodd. Wrth i refeniw leihau, mae cynghorau'n cynyddu ffioedd ar y rhai sy'n dal i weithredu, gan leihau hyfywedd ymhellach a chyflymu'r dirywiad.
Ar yr un pryd, mae cynghorau'n dibynnu'n fawr ar godiadau mynych yn y dreth gyngor a refeniw o ffioedd parcio i bontio bylchau ariannu, mesurau nad ydynt yn gynaliadwy yn y tymor hir. O ystyried y pwysau, a ydych chi'n derbyn nad yw'r model cyllido llywodraeth leol presennol bellach yn addas i’r diben, ac a wnewch chi ymrwymo i archwilio model cyllido newydd, mwy cynaliadwy ar gyfer awdurdodau lleol Cymru? Diolch.
Diolch, Joel. Hoffwn ddweud fy mod yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd talu'r dreth gyngor i gysylltu â'u cyngor lleol neu gyda Cyngor ar Bopeth. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn gwneud hynny'n ddi-oed. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel. Mae cymorth gyda thaliadau'r dreth gyngor drwy'r cynllun yn rhan bwysig o gymorth lles i aelwydydd ar incwm isel—dull pwysig o ymladd tlodi ledled Cymru. Rydym yn darparu dros £244 miliwn i awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun, sy'n helpu i leihau'r dreth gyngor a delir gan dros 256,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel. Dyna oddeutu un o bob pum aelwyd. Mae gennym y cynllun hwnnw ar waith, ond fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae pobl yn dal i wynebu'r argyfwng costau byw. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, ac rydym yn deall y pwysau sydd ar bobl. Yn amlwg, mae llywodraeth leol yn ymwybodol iawn o hynny hefyd, ac mae pob awdurdod lleol yn siarad ag etholwyr ar hyn o bryd, neu wedi siarad ag etholwyr, ac wedi ymgysylltu â nhw ynghylch eu cyllidebau drafft, gan ei bod yn bwysig i'w lleisiau gael eu clywed o fewn hynny. Mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â thrigolion ar y materion hynny, ac oherwydd y gyllideb ddrafft a basiwyd gennym yn y lle hwn, rwy'n gwybod bod gan awdurdodau lleol fwy o arian nag a fyddai wedi bod ganddynt o'r blaen.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, bydd biliau'r dreth gyngor yn cyrraedd cyn bo hir, ac mae llawer o drigolion yn poeni, yn gwbl deg, sut y byddant yn ymdopi â chynnydd arall uwchlaw chwyddiant. Rwy'n gobeithio eich bod yn cydnabod bod pobl yn aml yn teimlo'n rhwystredig gyda chodiadau yn y dreth y cyngor am fod cynghorau fel pe baent yn gwario arian yn ddiofal neu'n blaenoriaethu prosiectau proffil uchel dros wasanaethau hanfodol. Cymerwch Gyngor Caerdydd er enghraifft, lle roedd yr adroddiad annibynnol ar gaffael contract i ddymchwel gorsaf bŵer Aberddawan yn llawn gwallau a goruchwyliaeth wan, gan arwain at heriau cyfreithiol a cholli oddeutu £6 miliwn o arian cyhoeddus yn ôl yr hyn a adroddwyd, arian y gellid bod wedi'i ddefnyddio i gynnal strydoedd, casglu sbwriel a gwasanaethau rheng flaen eraill. Ar yr un pryd, mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud cyfraniad o £27.3 miliwn tuag at arena dan do newydd ym Mae Caerdydd, gan godi cwestiynau difrifol ynglŷn ag a yw penderfyniadau ynghylch gwariant yn adlewyrchu blaenoriaethau trigolion.
Yn y cyfamser, yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion yn wynebu gostyngiadau parhaus i wasanaethau craidd, o gau cartrefi gofal i lai o gasgliadau biniau, heb sôn am ddiddymu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ac eto mae'r cyngor yn parhau i wario arian ar gaffael eiddo a phrosiectau ailddatblygu, fel yr hen siop Iceland ym Mhontypridd am £800,000 a Thŷ Rhos yn Aberpennar am £150,000. Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer mwy o enghreifftiau eraill. O ystyried y codiadau mynych yn y dreth gyngor a'r penderfyniadau gwariant hyn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod cynghorau'n atebol, yn blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, yn darparu gwerth go iawn i dalwyr y dreth gyngor ac nad ydynt yn mynd i ddyledion hirdymor anghynaliadwy? Diolch.
Diolch, Joel. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw gosod cyllidebau a'r dreth gyngor, ac mae angen i bob awdurdod lleol ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn ei wynebu wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ni chredaf ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru osod lefel fympwyol o gynnydd yn y dreth gyngor heb ystyried amgylchiadau neu ddewisiadau lleol. Mae angen i awdurdodau ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn ei wynebu, fel y dywedais. Felly, rwy'n credu'n gryf mai mater i awdurdodau lleol yw hynny, ac maent yn gwneud hynny mewn cydweithrediad ac mewn ymgynghoriad â chymunedau ledled Cymru.
4. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynglŷn â'r goblygiadau i gynllunio gweithlu llywodraeth leol yn sgil rhaniad cyfalaf-refeniw y gronfa twf lleol? OQ63938
Diolch, Luke. Mae'r gronfa twf lleol i Gymru wedi'i thrafod ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys yn y Cabinet.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.
Wrth gwrs, cwestiwn cychwynnol hir, geiriog, ond rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r pryder ar draws awdurdodau lleol oherwydd y rhaniad cyfalaf-refeniw yn y gronfa twf lleol a sut y mae'r newid i wariant cyfalaf ag iddo fwy o ffocws yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau a ariennir gan refeniw y mae'r awdurdodau lleol hynny'n eu darparu. Nawr, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf nad yw Llywodraeth y DU yn debygol o ailystyried y rhaniad hwnnw. Fodd bynnag, mae rhagolwg y gwanwyn a gyhoeddwyd ddoe gan y Canghellor yn nodi £540 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw a £15 miliwn mewn cyfalaf. Yn hollbwysig, mae datganiad i'r wasg y Trysorlys yn nodi'n glir:
'Mae hyn yn ychwanegol at y setliadau uchaf erioed yn Adolygiad o Wariant 2025, ac £1.7 biliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2025'.
Mae'r datganiad hwnnw, i mi, yn awgrymu bod cyllid refeniw ychwanegol y tu hwnt i setliadau blaenorol, felly mae'n gyfle clir i fynd i'r afael â'r diffyg sy'n wynebu awdurdodau lleol, diogelu swyddi a chynnal gwasanaethau. Felly, yng ngoleuni'r cyd-destun ariannol hwnnw, a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau nawr i ddiogelu'r swyddi a'r gwasanaethau a ariennir gan refeniw, ac achub miloedd o swyddi drwy wneud hynny?
Diolch, Luke. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac rydym wedi trafod y trefniadau ar gyfer y gronfa twf lleol, gan gynnwys goblygiadau'r rhaniad cyfalaf-refeniw a gawsom gan Lywodraeth y DU. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi cymryd camau i fynd i'r afael ag effaith diwedd y gronfa ffyniant gyffredin, gan gynnwys bodloni cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am flwyddyn bontio i'r gronfa twf lleol. Mae hyn ar ben yr hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol yr ydym wedi'i gytuno gyda llywodraeth leol.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn helpu i ddiogelu capasiti allweddol a phrosiectau allweddol lle maent yn cyd-fynd ag amcanion y gronfa twf lleol, a byddant yn helpu llywodraeth leol i gynllunio eu gweithlu'n effeithiol. Mae hyn yn gwbl groes i'r dull gweithredu yn Lloegr a'r Alban, lle mae toriad llwyr i'w weld, gyda llawer o awdurdodau'n methu cael gafael ar y cyllid twf lleol o gwbl. Mae Gweinidogion Cymru wedi pwyso'n gyson ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd refeniw, ac mae hyn wedi'i godi'n gryf gan bartneriaid Cymreig drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus y llynedd. Ond mae ein rhaniad cyfalaf-refeniw fwy neu lai yr un fath ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'r Llywodraethau datganoledig wedi mynd ati ar y cyd i ddwyn pryderon i sylw Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Nid yn unig fod hyn yn llai na'r gronfa ffyniant gyffredin, ond mae bellach yn mynd i roi pwysau ychwanegol ar awdurdodau lleol sy'n darparu gwasanaethau refeniw. A ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, wedi cynnal ymchwiliad i faint o swyddi a fydd yn cael eu colli oherwydd y rhaniad cyfalaf-refeniw 70:30, neu a ydych chi, wrth weithio gyda'r 22 awdurdod lleol, yn ymwybodol o faint o swyddi a fydd yn dod yn wag am nad yw Llywodraeth Lafur y DU yn gwrando ar Lywodraeth Lafur Cymru?
Diolch, Sam. Wel, mae gan y gronfa twf lleol amcanion cryfach o ran twf economaidd na'r gronfa ffyniant gyffredin, felly mae buddsoddiad cyfalaf yn parhau i fod yn hanfodol wrth ymdrin â heriau cynhyrchiant hirdymor Cymru ac yn unol â phrif amcan ein cronfa. Mae angen inni flaenoriaethu'r cyllid refeniw cyfyngedig sydd ar gael yn ofalus, a chydnabod ein blaenoriaeth i fuddsoddi mewn sgiliau sy'n cael eu harwain gan alw a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a fydd yn galw am gymorth refeniw. Ond i gefnogi cynghorau drwy'r newid o'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa twf lleol, rydym wedi cytuno ar y flwyddyn bontio benodol honno, gan ddefnyddio methodoleg ddyrannu a strwythurau cyflawni presennol y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r flwyddyn bontio honno wedi'i chynllunio'n benodol i ddiogelu capasiti allweddol, osgoi ymyl dibyn o ran y gweithlu a chynnal parhad prosiectau allweddol, lle maent yn alinio â'r gronfa twf lleol. Ond unwaith eto, rydym yn cadw mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol, ac yn yr un modd, â Llywodraeth y DU ar hyn.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella fforddiadwyedd tai ar draws Gogledd Cymru? OQ63928
Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu nifer o lwybrau at berchentyaeth a thai fforddiadwy eraill, gan gynnwys drwy Cymorth i Brynu—Cymru, Prynu Cartref—Cymru, Rhanberchnogaeth–Cymru a'n buddsoddiad uchaf erioed mewn tai cymdeithasol. Ers ei lansio, mae Cymorth i Brynu—Cymru yn unig wedi cefnogi bron i 3,000 o aelwydydd ar draws gogledd Cymru i brynu cartref.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau tai yng Nghymru wedi codi 5 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn fwy na dwbl cyfartaledd y DU, ac mewn mannau fel Ynys Môn a Blaenau Gwent, mae prisiau wedi neidio dros 7 y cant—sy'n sylweddol fwy na'r twf mewn cyflogau. Er bod hyn yn edrych yn dda ar yr olwg gyntaf, ac yn newyddion da i rai, mae'n rhoi pwysau gwirioneddol ar drigolion lleol, yn enwedig prynwyr tro cyntaf mewn trefi fel Wrecsam yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli.
Mae teuluoedd ifanc, pobl sydd wedi byw yma drwy gydol eu hoes, yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cael mynediad at y farchnad eiddo, ac i'r Ceidwadwyr Cymreig, mae bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn golygu llawer mwy na brics a morter yn unig. Mae'n rhoi budd i bobl yn eu cymuned, diogelwch i'w teuluoedd a theimlad o falchder mewn lle y maent yn ei alw'n gartref. Ac eto, yn y gogledd, mae'r cyfleoedd hyn yn llithro o gyrraedd wrth i brisiau tai godi'n gyflymach na chyfartaledd y DU. Felly, dyna pam fod ein plaid wedi addo torri'r dreth stamp ar brif breswylfeydd fel y gall pobl leol brynu eu cartref cyntaf neu symud o fewn eu cymuned yn haws heb gael eu cosbi gan drethi ychwanegol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi wneud yr un addewid â'r Ceidwadwyr Cymreig i gael gwared ar y dreth stamp yma yng Nghymru?
Rwy'n credu bod ymgyrchu etholiadol ar waith yma. Er i Lywodraeth flaenorol y DU—y Llywodraeth Dorïaidd—ddod â'r cynllun Cymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023, rydym wedi darparu £57 miliwn ychwanegol i ymestyn ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru, sydd wedi helpu mwy na 15,000 o bobl i brynu cartref newydd. Ac mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi helpu i gefnogi'r prynwyr tro cyntaf y sonioch chi amdanynt nawr. Felly, ers mis Ebrill 2022, mae 85 y cant o brynwyr wedi bod yn brynwyr tro cyntaf. Ac ers ei lansio, mae cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi 2,905 o aelwydydd ledled gogledd Cymru i brynu cartref.
Fel rydych chi'n ei ddweud yn gywir ddigon, mae hyn yn ymwneud â mwy na brics a morter yn unig, mae'n gartref i bobl. Rwyf wedi siarad â nifer o bobl ledled Cymru sydd wedi cael cymorth drwy'r cynllun hwn, llawer ohonynt yn brynwyr tro cyntaf, ac maent wedi dweud wrthyf yn uniongyrchol pa effaith y mae hynny wedi'i chael arnynt, a'r ffaith eu bod yn teimlo, heb y cynllun hwnnw, y byddai prynu cartref allan o'u cyrraedd ar yr adeg honno.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun Cymorth i Brynu—Cymru. Unwaith eto, mae gennym nifer o gynhyrchion eraill, fel Rhanberchnogaeth—Cymru a Prynu Cartref–Cymru. Dyna ffordd arall i mewn i berchnogaeth tai sy'n addas i amgylchiadau unigol. Ac rydym hefyd wedi gweld bron i 18,000 o gartrefi sector preifat yn cael eu cwblhau ledled Cymru yn nhymor y Senedd hon, ac mae ein cronfeydd cefnogi busnesau adeiladu tai bach a chanolig wedi arwain at godi dros 1,000 o gartrefi newydd, a dros 80 o gwmnïau adeiladu tai bach a chanolig yn cael eu cefnogi dros y degawd diwethaf. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi adeiladu tai preifat hefyd.
Rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n codi eiliau efo cwestiwn Sam Rowlands. Rydym ni mewn argyfwng tai yng Nghymru, ond mae'r Ceidwadwyr eisiau ail-gyflwyno'r polisi hawl i brynu, right to buy, yng Nghymru. Mi fyddai hynny'n golygu bod y stoc tai cymdeithasol fforddadwy mae o'n sôn amdano fo yn ei gwestiwn, tai fforddadwy, mi fyddai'r stoc yna, yn lleihau, gan danseilio'r ymdrechion i'w cynyddu yn y gogledd ac ar draws Cymru. Fe gollwyd hanner y tai cymdeithasol dan bolisi Margaret Thatcher.
Mae Llafur wedi cyhoeddi amserlen newydd ar ddiweddu digartrefedd am nad ydy'r amserlen ddaru iddyn nhw ei addo ddim wedi cael ei chyflawni. Ond, Llywydd, rydych chi eisiau i ni fod yn adeiladol heddiw, felly mi wnaf i hynny. Mae gweithredu'r Bil digartrefedd newydd ar fyrder yn gwbl allweddol i daclo'r argyfwng tai. Felly, mi hoffwn i ddeall gan y Llywodraeth bresennol pa waith sydd ar droed yn dilyn pasio Cyfnod 4 y Bil. Beth ydy'r amserlen ar gyfer creu cynllun gweithredu ar gyfer y ddeddf? Beth fydd y blaenoriaethau, pwy fydd yn creu'r cynllun hyfforddiant ar gyfer 'ask and act' yn y sector iechyd? Mi fuaswn i'n hapus iawn i gyfrannu at y gwaith yn ystod yr ychydig wythnosau sydd ar ôl o'r tymor hwn, petai'r Ysgrifennydd Cabinet yn agored i hynny. Diolch.
Diolch, Siân. Yn gyntaf, rwy'n cytuno ynghylch yr effaith a gafodd yr hawl i brynu yma yng Nghymru, a'r ffaith ein bod wedi colli cymaint o gartrefi ledled Cymru o'i herwydd. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yn un sydd wedi rhoi'r gorau i'r hawl i brynu, ac mae hynny wedi cael effaith fawr yma yng Nghymru.
Ar y Bil digartrefedd, mae'n gyffrous iawn ein bod wedi gallu ei gael trwy Gyfnod 4, ac rwy'n credu bod y ffordd yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd wedi bod yn bwysig iawn. Fe wnaethoch chi gymryd rhan yn y Papur Gwyn yn flaenorol, yn ogystal â fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Julie James, ac rydym i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol a phawb ar y panel adolygu arbenigol. Mae'r Bil digartrefedd yn rhoi fframwaith cyfreithiol newydd i ni ar gyfer gwasanaethau digartrefedd, a fydd, ochr yn ochr â'r cyflenwad tai, yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa, am y tro cyntaf, i roi dyddiad ar gyfer pryd y disgwyliwn allu dileu digartrefedd.
Rydym wedi bod yn parhau i weithredu. Bydd un o'n haddewidion yn ymwneud hefyd nid yn unig â rhoi diwedd ar ddigartrefedd erbyn 2034, ond â charreg filltir i beidio â chael plant wedi'u gosod mewn llety gwely a brecwast erbyn 2030. Mae'r niferoedd o blant mewn llety gwely a brecwast wedi lleihau, a bu'n ymrwymiad bwriadol i'w lleihau. Mae gennym ffordd i fynd o hyd ar hynny gan fod gennym 166 mewn llety o'r fath nawr, ym mis Rhagfyr 2025, ond roedd yn 915 yn 2023. Felly, rydym wedi bod yn gweithio, ac rwy'n credu bod y Bil wedi helpu i ostwng y nifer a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rwyf bob amser yn awyddus i weithio gyda chymaint o bobl â phosib. Fel y gwyddoch, dyna yw fy ymrwymiad a dyna a fu drwy gydol taith y Bil hwn. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu'r cynllun hwnnw, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n agos iawn ag awdurdodau lleol ar hynny. Ond rwy'n hapus i ysgrifennu gydag unrhyw amserlen bellach.
6. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer adfywio canol trefi ar draws Sir Ddinbych? OQ63918
Diolch, Carolyn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi buddsoddiadau allweddol yn y Rhyl, gan gynnwys ailddatblygu Marchnad y Frenhines. Mae cynlluniau creu lleoedd wedi'u datblygu, yn cynnwys trefi fel Corwen, Dinbych a Rhuthun, gan ganolbwyntio ar ysgogi niferoedd ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar ddarparu cartrefi cyngor ychwanegol yng nghanol ein trefi, a fydd nid yn unig yn darparu cartrefi fforddiadwy, ond hefyd yn cynyddu niferoedd ymwelwyr. Ym Mhrestatyn, mae'r gwaith o adeiladu bloc newydd o 14 o fflatiau rhent cymdeithasol wedi'i gwblhau ar safle'r hen adeilad llyfrgell ar Ffordd Nant Hall, ac yn y Rhyl, ychydig cyn y Nadolig dechreuodd y gwaith o drawsnewid lloriau uchaf hen adeilad swyddfa'r post yn Ffordd Wellington yn fflatiau fforddiadwy, rhywbeth sy'n cael ei groesawu'n fawr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r mentrau hyn a sut y mae'n annog awdurdodau lleol eraill i ddysgu o arfer gorau o'r fath?
Diolch, Carolyn. Mae wedi bod yn bleser ymweld â Dinbych hefyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwelais y datblygiad—datblygiad cyffrous iawn—sydd wedi bod yn digwydd. Felly, mae'r gwaith o adnewyddu hen adeilad swyddfa'r post yn y Rhyl yn cael ei gefnogi gan £650,000 o gyllid Trawsnewid Trefi. Mae'n mynd i greu gofod masnachol ar y llawr gwaelod ac addasu'r lloriau uchaf yn ddau fflat fforddiadwy un ystafell wely mawr eu hangen. Ac mae £1.42 miliwn o grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiad gwerth £3.5 miliwn yn Llys Llên ar Ffordd Nant Hall ym Mhrestatyn, ac mae hynny'n cynnwys gofod masnachol ar y llawr gwaelod a 14 o fflatiau un ystafell wely i bobl dros 55 oed ar y llawr cyntaf a'r ail lawr. Ac mae'r cartrefi'n cael eu gwresogi heb fod angen tanwydd ffosil, ac mae hynny'n eithaf cyffrous. Mae'n defnyddio pympiau gwres o'r ddaear, gan leihau defnydd ynni preswylwyr a chynorthwyo gyda phwysau costau byw, sy'n bwysig iawn.
Ac enghraifft arall yw ailfodelu'r hen dai ar Stryd Edward Henry yn y Rhyl. Mae'r datblygiad yng nghanol y dref yn mynd i ddarparu 13 o gartrefi teuluol sy'n arbed ynni, ac mae wedi'i gefnogi gan ychydig dros £1 filiwn o gyllid Trawsnewid Trefi. Ac mae'r cynllun hwnnw wedi helpu i fynd i'r afael â phwysau tai hefyd ac wedi cefnogi gwaith i leihau digartrefedd, gan hybu niferoedd ymwelwyr â chanol y dref.
Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi bod yn bwysig iawn yw'r ffordd yr awn ati i rannu arfer da. Un peth a wneuthum wrth ddechrau yn y swydd oedd gwneud yn siŵr fod gennym fordydd crwn rhanbarthol, i siarad â chabinetau llywodraeth leol, arweinwyr tai a chyfarwyddwyr tai hefyd. Maent wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac wedi gallu rhannu gwersi pwysig â'i gilydd, gyda chefnogaeth CLlLC, ac rwy'n edrych ymlaen at gael nifer o gyfarfodydd bord gron eto cyn diwedd tymor y Senedd.
Rwy'n croesawu'r £20 miliwn o gyllid adfywio ar gyfer y Rhyl, ac mae'n dilyn £20 miliwn a roddwyd i'r Rhyl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a'r drydedd rownd o gyllid ffyniant bro, a ddilynodd £26 miliwn drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU.
Y Rhyl yw un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac mae hyn yn amlwg wrth edrych ar Stryd Fawr y Rhyl, gyda bron i un ran o chwech o'i eiddo masnachol yn wag. Felly, rhaid ei flaenoriaethu ar gyfer cyllid adfywio, ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, hwylusydd yw Llywodraeth, nid gweithredwr. Nid yw darparu arian yn unig yn mynd i adfywio'r strydoedd mawr. Rhaid iddynt alluogi'r gymuned i wneud hynny eu hunain drwy osod yr amodau cywir. Ac ar hyn o bryd, nid yw'r amodau yno, gydag ardrethi busnes uchel a gor-reoleiddio.
Nid yw'r arian yn fuddsoddiad os na welwn enillion. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynghori Cyngor Sir Ddinbych ar fesurau y gellir eu rhoi ar waith i wneud strydoedd mawr canol y dref yn fwy fforddiadwy a deniadol i fusnesau bach, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn olrhain y cyllid i sicrhau ein bod yn gweld enillion ar y buddsoddiad hwnnw?
Ac os hoffech ragor o wybodaeth am Stryd Edward Henry yn y Rhyl, rwy'n eich cynghori i edrych ar baentiad L.S. Lowry, yr artist enwog; Stryd Edward Henry yw testun y paentiad hwnnw.
O, ardderchog. Byddaf yn sicr o fynd ar drywydd hynny. Mae'n wych gwybod hynny. Diolch am rannu hynny, Gareth.
Yn bendant, mae Trawsnewid Trefi wedi ariannu mwy na £14 miliwn o waith yng nghanol tref y Rhyl, felly mae hynny'n gyffrous iawn. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hirsefydlog yn ymwneud â thlodi a pherfformiad gwael canol y dref, fel yr hyn a welwyd yn y Rhyl yn flaenorol. Rwyf wedi ymweld â Marchnad y Frenhines, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl yno rywbryd hefyd, oherwydd roedd yn dda gweld y newid sydd wedi digwydd.
Ond yn ogystal â rhai o'r prosiectau y soniais amdanynt mewn ymateb i Carolyn, rydym hefyd wedi gweld y cynllun byw cyfoes yn y Rhyl, a hefyd cynllun porth y Rhyl, sy'n mynd i'w gwneud hi'n bosib dymchwel eiddo adfeiliedig ar y stryd fawr, a bydd y cam nesaf yn darparu gofod cyhoeddus newydd ac yn gwella'r profiad o gyrraedd porth allweddol. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer hen adeilad swyddfa'r post yn y Rhyl, i adnewyddu'r gofod adfeiliedig hwnnw a darparu unedau manwerthu a phreswyl, ac yn ddiweddar hefyd, rydym wedi galluogi Sinema'r Strand yn y dref, sydd wedi'i lleoli ar lan y môr, i ailagor, gyda £128,000 o gymorth ein grant creu lleoedd tuag at gyfanswm cost y prosiect o £183,000, yn dilyn ymadawiad gweithredwr blaenorol. Felly, rydym yn buddsoddi yn y Rhyl, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae'n baentiad cain iawn. Mae gennyf ar fy ffôn; rwyf newydd ddod o hyd iddo.
Awn i gyd i edrych, Lywydd.
Mae'n £350,000, mae'n debyg. Nid wyf am gynnig amdano.
Roeddwn i'n mynd i ddweud, Lywydd, gobeithio nad yw'n gais am arian Trawsnewid Trefi. [Chwerthin.]
Dychwelwch y paentiad i Stryd Edward Henry, y Rhyl, ie.
Cwestiwn 7, Mark Isherwood.
7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai? OQ63900
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu tai ar gyfer pob math o ddeiliadaeth. Rydym yn darparu mwy nag erioed o gyllid tai cymdeithasol, dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hwn, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Rhagwelir y byddwn yn cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Ac mae bron i 18,000 o gartrefi sector preifat wedi'u cwblhau ledled Cymru hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon ers mis Ebrill 2021.
Wel, ar ôl blynyddoedd o anwybyddu rhybuddion gan y sector tai o 2003 ymlaen, a thoriad o dros 70 y cant yn nifer y tai cymdeithasol newydd, fel mai Cymru oedd yn gwario leiaf yn gyfrannol ar dai yn y DU erbyn 2010 o dan yr hyn a oedd ar y pryd hynny yn Llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, mae'r argyfwng tai'n parhau i ddyfnhau heddiw, gydag un o bob 14 aelwyd ar restr aros, a miloedd yn byw mewn llety dros dro.
Sut ydych chi'n ymateb felly i'r wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad 'Tai fforddiadwy' 2024, a gyhoeddwyd fis diwethaf, a ganfu, ar amcanestyniadau diweddar, y bydd Llywodraeth Cymru, yn methu cyflawni ei tharged i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon, ac nad yw gwir nifer y cartrefi a ddarperir sy'n ateb diffiniad llawn y targed yn gwbl glir o'r data a gyhoeddwyd o hyd, ac i'r ystadegau swyddogol diweddaraf sy'n dangos bod yr angen heb ei ddiwallu am dai yng Nghymru wedi cynyddu 64 y cant ers 2019, gydag erthygl yn Welsh Housing Quarterly yn awgrymu y gallai gwir lefel yr angen heb ei ddiwallu fod yn sylweddol uwch na'r hyn a amcangyfrifwyd yn flaenorol?
Diolch, Mark. Rydym ar y trywydd i gyflawni 93 y cant o'r targed erbyn diwedd tymor y Senedd, gyda channoedd yn rhagor o gartrefi ar y gweill. Felly, mae gan y targed ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn ddiffiniad culach na'r targed ar gyfer tymor blaenorol y Llywodraeth, a oedd yn cynnwys pob cartref fforddiadwy a'r rhai a gefnogir drwy ein cynllun llwyddiannus Cymorth i Brynu—Cymru.
Fel y gwyddoch, ers 2021, rydym wedi wynebu pandemig byd-eang, argyfwng costau byw, effaith Brexit, problemau gyda'r gadwyn gyflenwi, chwyddiant uchel, mini-gyllideb Dorïaidd drychinebus yn San Steffan—a'r cyfan yn effeithio'n sylweddol ar y sector adeiladu tai. Y pethau hynny na allem fod wedi'u rhagweld. Ond er gwaethaf hyn—er gwaethaf hyn—rydym yn mynd i gyrraedd ein 20,000 o gartrefi erbyn diwedd 2026, ac rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chaffaeliadau ac adnewyddu eiddo gwag hirdymor, sydd hefyd â rôl bwysig iawn i'w chwarae'n darparu to diogel dros bennau'r unigolion a'r teuluoedd sydd fwyaf o'i angen.
Ac o ran ystadegau, er mwyn sicrhau a gwella tryloywder ac amserlenni data, rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth reoli i ategu ystadegau swyddogol presennol. Yn ogystal, cyhoeddodd y prif ystadegydd flog sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol am gryfderau a chyfyngiadau'r ystadegau swyddogol a'r wybodaeth reoli, ac mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd wedi cefnogi ein dull o gyhoeddi gwybodaeth reoli'n fwy amserol ochr yn ochr â'r ystadegau swyddogol achrededig. Felly, rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi dangos ein bod yn arwain ar sicrhau bod tryloywder yn ein data.
8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu'r ffordd orau o roi gwybod i breswylwyr am ymlyniad plaid ymgeiswyr mewn etholiadau lleol? OQ63898
Diolch, Rhys. Mae pleidleiswyr yn haeddu gwybodaeth glir a gonest i bleidleisio'n hyderus. Y tu hwnt i'r papur pleidleisio, mae ein rheolau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gysylltiadau blaenorol eraill gael eu cyhoeddi cyn yr etholiad. Bydd y platfform newydd i roi gwybodaeth i bleidleiswyr newydd, a lansiwyd ddydd Llun, yn rhoi gwybodaeth glir, ddiduedd i bleidleiswyr am yr etholiad a'u hopsiynau.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni ddigwyddodd hynny fis diwethaf, pan bleidleisiodd trigolion ward Plymouth ym Mhenarth mewn isetholiad lle roedd disgrifiad plaid yr ymgeisydd buddugol yn anghywir ar y papur pleidleisio. Nid wyf yn mynd i wneud sylwadau ar amseru'r newid plaid, ar drothwy cynhadledd y Blaid Geidwadol—mae hawl gan bobl i newid plaid—ac nid yw'r feirniadaeth go iawn wedi'i chyfeirio at unrhyw unigolyn nac unrhyw blaid unigol; mae'r feirniadaeth go iawn wedi'i chyfeirio at system sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. Byddai'n deg tybio nad oedd y rhan fwyaf o'r etholwyr a bleidleisiodd dros y Blaid Geidwadol drwy'r post neu yn y blwch pleidleisio yn gwybod bod yr ymgeisydd eisoes wedi newid eu teyrngarwch i blaid arall. Drwy wneud hynny, roedd etholwyr ward Plymouth yn pleidleisio dros Blaid Reform heb fod Plaid Reform ar y papur pleidleisio. Ni all hynny fod yn iawn. Rwy'n siŵr y byddai Plaid Reform hyd yn oed yn cytuno â mi ar hynny.
Rhaid bod ffordd o atal hyn rhag digwydd eto, er enghraifft drwy bleidleisio digidol, cynhyrchu papurau pleidleisio newydd munud olaf yn dangos y cysylltiad newydd, neu anghymhwyso pleidleisiau i'r ymgeisydd hwnnw. Yr hyn sydd ei angen yw meddwl go iawn a gwaith go iawn i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod y bleidlais yn ward Plymouth yn ffars fis diwethaf? Ac a fyddwch chi'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r sefyllfa hon yn digwydd eto? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Diolch am godi hynny. Mae rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a'r Senedd yn golygu bod y datganiad am y sawl a enwebwyd yn cynnwys a yw'r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid neu bleidiau gwleidyddol cofrestredig heblaw'r un y byddent yn sefyll drosti yn y 12 mis cyn y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad. Bydd ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu manylion ynghylch aelodaeth o blaid yn gwella hyder yn y broses etholiadol ac yn darparu tryloywder ynghylch cysylltiadau gwleidyddol. Rwy'n credu bod yr wybodaeth honno'n bwysig iawn i bleidleiswyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau mewn etholiadau. Wrth gynnwys y darpariaethau diwygiedig hyn, rydym wedi gwrando ar ymatebion i'r ymgynghoriad ac wedi dysgu o etholiadau 2022 lle cyflwynwyd darpariaeth debyg. Mae rheolau etholiadau'r Senedd a gafodd eu hail-wneud yn ddiweddar, y Gorchymyn cynnal etholiadau, yn adlewyrchu'r rheolau tebyg ar gyfer llywodraeth leol.
9. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i drawsnewid canol trefi yn Islwyn? OQ63930
Diolch, Rhianon. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn Islwyn. Rydym wedi cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu cynllun creu lleoedd ar gyfer canol tref y Coed Duon i lunio ymyriadau yn y dyfodol, ac rydym wedi darparu cyllid i ddechrau cyflawni'r weledigaeth honno ar gyfer y dref.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn darparu £30.9 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y £484 miliwn sydd eisoes wedi'i ddyfarnu mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi adfywio ledled Cymru ers lansio rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn 2020. Ac yn ymarferol i Islwyn, mae hynny'n golygu cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i lunio'r strategaeth ar gyfer trefi fel y Coed Duon a chefnogaeth cyllid ac arbenigedd Trawsnewid Trefi, gyda'r nod o ddenu buddsoddiad, addasu gofod heb ei ddefnyddio'n ddigonol at ddibenion gwahanol, a gwella edrychiad, teimlad a defnydd cyffredinol y stryd fawr a'r ardaloedd cyfagos.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o'r £484 miliwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer etholaeth Islwyn yn benodol yn rhanbarth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymunedau fel Islwyn yn cael eu gosod ar lwybr carlam i weld manteision y buddsoddiad hwnnw ar lawr gwlad?
Diolch, Rhianon. Hyd yn hyn, mae Caerffili wedi derbyn £4.53 miliwn ar gyfer Islwyn, gan gynnwys £35,000 ar gyfer cynllun creu lleoedd y Coed Duon, a £4.5 miliwn mewn cyllid benthyciad ar gyfer cronfa gaffael strategol i'r Coed Duon a Bargoed. Bydd y gronfa hon yn galluogi'r awdurdod i nodi adeiladau gwag allweddol yn y dref i'w caffael, gan ddefnyddio ymyrraeth y sector cyhoeddus i gyflwyno prosiectau sy'n cyflawni dyheadau ein cynlluniau creu lleoedd. Dyma'r camau cyntaf i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer y dref, gan sicrhau buddsoddiad mawr ei angen a gweithio gyda chymunedau, sy'n wirioneddol bwysig, i gyflwyno'r newid parhaol hwnnw. Felly, gan fod cynllun creu lleoedd y Coed Duon wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol erbyn hyn, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i geisio ailadrodd y dull llwyddiannus o greu lleoedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned a gyflawnwyd yng Nghaerffili.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cyntaf heddiw i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w holi gan Mike Hedges.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach yn Abertawe? OQ63899
Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant personol. Mae gennyf aelod agos o'r teulu sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r ddarpariaeth yn ardal Abertawe yn helaeth ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddyheadau, arddulliau dysgu ac anghenion cymorth. Prifysgol Abertawe yw'r prif ddarparwr addysg uwch, sy'n darparu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig. Coleg Gŵyr Abertawe yw'r prif ddarparwr addysg bellach, sy'n darparu detholiad cynhwysfawr o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Diolch am yr ateb hwnnw. Fel rhywun sydd wedi elwa o addysg uwch ac wedi addysgu mewn addysg bellach, rwy'n gefnogol i'r ddau sector. I'r rhai ohonom o ystadau tai cyngor, addysg oedd y llwybr i gael cyflogaeth ar gyflog uwch. Gallwn naill ai gael economi sy'n seiliedig ar dwristiaeth a mewnfuddsoddiad neu un sy'n seiliedig ar bobl fedrus ac addysgedig iawn, yn enwedig mewn cyfrifiadura a gwyddorau bywyd. Ac os edrychwch ar economïau llwyddiannus, mae addysg yn ganolog i'w llwyddiant. Dangosodd Coleg Gŵyr Abertawe, yr ymwelais ag ef yn ddiweddar ar gyfer eu gwobrau prentisiaethau, beth y mae addysg bellach yn ei gyflawni yn Abertawe i unigolion a'n heconomi. Mae gennyf bryderon ynglŷn ag ailstrwythuro Prifysgol Abertawe a'r colli sgiliau yn sgil diswyddiadau arfaethedig.
A yw'r Gweinidog wedi trafod gyda choleg Abertawe pa gymorth pellach sydd ar gael ar gyfer eu rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn? A chyda Phrifysgol Abertawe ynglŷn â beth y gellir ei wneud i osgoi diswyddiadau gorfodol a'r colli sgiliau a ddaw yn sgil hynny?
Diolch am y cwestiwn atodol, Mike. Roeddwn yn falch o allu cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol o £25 miliwn i'w rannu'n gyfartal rhwng addysg bellach ac addysg uwch, i gefnogi ein holl sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. A bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys coleg Gŵyr a Phrifysgol Abertawe.
Gan droi at goleg Gŵyr, mae'n Wythnos y Colegau yr wythnos hon, wrth gwrs. Rwyf newydd ddychwelyd o ymweliad hyfryd â Choleg Merthyr Tudful, lle cyfarfûm â rhai o'u dysgwyr, gan gynnwys prentisiaid. Rwy'n gwybod bod coleg Gŵyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi prentisiaid ac mae'n parhau i dyfu ei gontract dysgu seiliedig ar waith. Fe wnaethant weithio gyda dros 1,200 o gyflogwyr a 2,233 o brentisiaid yn 2024-25, gan gyflwyno 96 o wahanol raglenni prentisiaeth. Felly, rydych chi'n hollol iawn i nodi pa mor llwyddiannus yw'r cynllun hwnnw. O ran gwella'r cynnig ymhellach, byddwn yn cyhoeddi'r cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol cyn bo hir. A hefyd, mae fy ngalwad am gyflwyniadau ar ddyfodol y system drydyddol yng Nghymru wedi agor. Bydd y ddau beth yn darparu cyfrwng inni edrych ymhellach ar ein rhaglen brentisiaethau lwyddiannus.
Gan droi at eich pwyntiau ar Brifysgol Abertawe, rwy'n deall eu bod yn edrych ar gael gwared ar 55 o rolau a'u bod yn gobeithio lleihau cyfanswm y niferoedd o ran cwmpas drwy ddulliau gwirfoddol. Maent wedi rhoi gwybod i mi y byddant yn darparu cynllun ymadael gwirfoddol pellach a bod diswyddiadau gorfodol yn ddewis olaf. Mae'r brifysgol yn parhau i ymgysylltu â'r tri undeb llafur ar y campws ac undeb y myfyrwyr. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y bydd yr ansicrwydd parhaus yn achosi pryder i'r rhai yr effeithir arnynt, ac rwy'n disgwyl i Brifysgol Abertawe weithio'n agos gyda'r undebau llafur ac undeb y myfyrwyr mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod y gefnogaeth a'r cymorth cywir ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt. Ac i'r perwyl hwnnw, ar 11 Chwefror cyfarfûm â changen Abertawe o Undeb y Prifysgolion a Cholegau ac is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedyn hefyd.
Diolch.
Hoffwn ddatgan diddordeb yn y cwestiwn hwn, Lywydd, gan fod fy ngŵr yn athro ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae sicrhau nid yn unig cydnabyddiaeth i'r hyn sy'n digwydd yn y brifysgol, ond cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r brifysgol hefyd yn hollbwysig yn fy rhanbarth i a Chymru'n genedlaethol, i'r gweithlu, ond hefyd i'r cyfleoedd y mae'n eu darparu i'n pobl ifanc yn enwedig. Rydym yn gwybod pa mor drawsnewidiol y gall y sgiliau a'r cymwysterau ychwanegol a gafwyd o addysg uwch fod i bobl ifanc, ac mae'n ffactor yn eu cyflogadwyedd hefyd. Yng Nghymru, cyrhaeddodd y gyfradd ddiweithdra ieuenctid ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed 16.3 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, cynnydd serth o 9.5 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Felly, pa fesurau y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith i gydraddoli cyfranogiad mewn addysg uwch â gwledydd eraill y DU, oherwydd rydym ar ei hôl hi ar hyn o bryd, fel y gwyddoch? Pa asesiad a wnaethoch o effaith cyfyngiadau pellach i fisâu myfyrwyr rhyngwladol a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Lafur y DU ar iechyd ariannol prifysgolion Cymru fel Abertawe? Gallai fygwth gweithlu a darpariaeth addysg uwch yma yng Nghymru hyd yn oed ymhellach.
Diolch am y cwestiwn, Sioned, ac rwy'n adleisio eich teimladau am bwysigrwydd Prifysgol Abertawe i'r economi ranbarthol, o ran y gweithlu yno a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r agenda ehangu cyfranogiad hefyd. Yn wir, byddaf yn ymweld â Phrifysgol Abertawe cyn diwedd y mis i weld un o raglenni Ymestyn yn Ehangach Medr, sy'n ceisio gwneud yn union hynny i ymgysylltu â phobl ifanc yn ardal Prifysgol Abertawe nad oeddent wedi meddwl efallai fod y brifysgol ar eu cyfer nhw, i weld pa gyfleoedd sydd ar gael, i danio'r tân hwnnw ynddynt a gobeithio, wedyn, y byddant yn gwneud cais. Mae honno'n agenda hollbwysig ar gyfer y dyfodol ac mae'n ffurfio un o bum piler allweddol fy ngalwad am dystiolaeth ar ddyfodol y system drydyddol, sydd ar agor tan ddiwedd mis Mawrth.
Rydych chi'n gofyn hefyd ynghylch atal fisâu astudio. Yma, yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod bod myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol bwysig i iechyd ariannol a deallusol ein prifysgolion, ac yn gyfrannwr net enfawr i economi'r DU a Chymru. Mae'n hanfodol fod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i deimlo bod croeso i'r cyfraniadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cadarnhaol a wnânt yma yng Nghymru. Maent yn cyfoethogi ein campysau, maent yn rhan o'n cymunedau, ac maent yn ffurfio cyfeillgarwch gydol oes â'n myfyrwyr ein hunain, gan greu diwylliant amrywiol ac amgylcheddau cynhwysol. Prifysgolion sy'n gyfrifol am reoli eu polisïau eu hunain a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a sicrhau bod ganddynt fodelau busnes cynaliadwy ar waith. Caiff hynny ei ategu gan waith a wnawn yn Llywodraeth Cymru hefyd, a thrwy raglen Cymru Fyd-eang.
2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach yn Sir Benfro? OQ63905
Gwella cyfranogiad ar draws pob llwybr addysg drydyddol yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae ehangu mynediad at ystod lawn o lwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd yn codi lefelau cymwysterau cyffredinol ar draws y boblogaeth, gan wella sgiliau a chanlyniadau bywyd, ac rwyf wedi gweld gwaith rhagorol ar y gweill yn sir Benfro ar wireddu'r dyheadau hyn.
Lywydd, a gaf innau hefyd ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig yn gweithio i sefydliad addysg bellach lleol yng Ngheredigion?
Weinidog, fel y dywedoch chi, mae'n Wythnos y Colegau yr wythnos hon, cyfle gwych i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae colegau yn ei chwarae yn cefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr ledled Cymru. Rwy'n arbennig o falch o Goleg Sir Benfro yn fy etholaeth, sy'n arfogi dysgwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen i gymaint o sectorau lleol, ac yn wir, i ddiwydiannau lleol. Ddechrau'r flwyddyn hon, ymwelais â chanolfan ddysgu seiliedig ar y tir y coleg yn Hwlffordd gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz, ac fe glywsom am y cyrsiau amaethyddiaeth a gofal anifeiliaid sydd ar gael erbyn hyn.
Weinidog, mae'r cyfleoedd hyn mor werthfawr i ddysgwyr, ac i'r economi leol yn ei thro, felly a allwch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparwyr fel Coleg Sir Benfro, fel y gallant barhau i ddarparu cyfleoedd, a chyrsiau galwedigaethol o'r fath yn ein cymunedau lleol?
Diolch am y cwestiwn atodol, Paul. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phenaethiaid addysg bellach, gan gynnwys Dr Barry Walters o Goleg Sir Benfro. Roeddwn yn falch iawn o glywed bod y coleg ar frig tabl medalau'r DU yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn ddiweddar, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf wrth gwrs, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i longyfarch pawb a gymerodd ran.
Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith arloesol sy'n digwydd yn sir Benfro, ac wedi ymweld â hyb sgiliau trawsnewid i ynni adnewyddadwy y coleg a'r ganolfan ragoriaeth weldio a saernïo. Mae'r ddau'n ganolog i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi technoleg gwynt arnofiol ar y môr a manteisio ar y cyfleoedd yn rhanbarth y môr Celtaidd.
Wrth gwrs, mae'r coleg yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi anghenion sgiliau lleol, gan gynnwys y rhai yr oeddech chi'n eu nodi yno gyda'r ganolfan dysgu seiliedig ar y tir, y deallaf ei bod wedi'i lleoli ar faes sioe Llwynhelyg, ynghyd â'u huned gofal anifeiliaid. Mae'r hyn a welwn yno yn enghraifft o'r hyn a welwn ar draws y sector, sef cynnydd enfawr yn y nifer sy'n cyfranogi mewn addysg bellach. Rwy'n gwybod eu bod wedi gweld cynnydd o 74 y cant yn nifer y dysgwyr ar y cwrs hwnnw ers 2022-23.
Mae mor bwysig ein bod yn cefnogi ein colegau i gyflawni yn y meysydd lle gwelant gynnydd yn y nifer sy'n cyfranogi, sydd mor allweddol i'r economi leol a rhanbarthol. Dyna pam fy mod mor falch o allu dyrannu £12.75 miliwn arall o gyllid cyfalaf i addysg bellach, a fydd yn helpu i liniaru pwysau'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cyfranogi.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru yn gyntaf. Cefin Campbell.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ers 1999, mae Llafur Cymru wedi llywyddu dros ddirywiad mewn safonau addysg. Mae canlyniadau diweddaraf PISA yn rhoi Cymru, fel y gwyddoch yn iawn, ar waelod safleoedd y DU a dyma'r perfformiad gwaethaf ers i Gymru ddechrau cymryd rhan yn PISA yn 2006. Serch hynny, ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, os caiff Llafur Cymru eu hailethol ym mis Mai, eich bod wedi ymrwymo i godi safonau ysgolion. O ystyried eich hanes dros 27 mlynedd, pam y dylai pobl Cymru gredu unrhyw beth y mae Llafur Cymru’n ei ddweud nawr, os na allwch hyd yn oed wneud y pethau sylfaenol yn iawn?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Cefin. Yn amlwg, hoffwn eich atgoffa bod y canlyniadau PISA, a oedd yn siomedig, yn rhai ar gyfer 2022. Mae pobl ifanc newydd sefyll rownd newydd o brofion PISA yn ddiweddar iawn yn yr hydref, ac fe welwn ganlyniadau'r rheini yn nes ymlaen eleni. Rydym wedi cael ymgysylltiad da iawn ag ysgolion ar rownd PISA y flwyddyn hon. Rydym wedi cael nifer uwch o ysgolion nag erioed o'r blaen, ac ymgysylltiad llawer mwy rhagweithiol ag ysgolion ynghylch PISA. Hoffwn atgoffa'r Aelod hefyd fod PISA yn ymwneud â llawer mwy na chyrhaeddiad academaidd uniongyrchol yn unig. Mae a wnelo hefyd ag ystod eang o ffactorau sy'n effeithio ar bobl ifanc a'u bywydau. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'n cyfranogiad parhaus yn PISA.
Dywedais yn glir wrth ddechrau yn y swydd fod codi cyrhaeddiad yn flaenoriaeth bwysig i mi, ynghyd â gwella presenoldeb, gweithredu'r cwricwlwm, a diwygio ADY. Rydym wedi gwneud cynnydd ar bob un o'r rheini. Nodais yn glir hefyd y byddai lles yn sylfaen i'r holl waith hwn. Gwelsom welliannau yn ein canlyniadau Safon Uwch, yn ein canlyniadau TGAU, ac rydym hefyd wedi gweld gwelliannau yn ein hasesiadau personol. Fi fyddai'r cyntaf i ddweud bod mwy o waith i'w wneud. Nid wyf yn gwadu'r gwaith ychwanegol y mae'n rhaid inni ei wneud, ond rwy'n credu bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir.
Diolch yn fawr iawn; amser a ddengys. Ysgrifennydd Cabinet, yn ein cynhadledd wanwyn ni dros y penwythnos, amlinellodd Plaid Cymru ein cynllun i wella addysg yng Nghymru, gan gynnwys ein hymrwymiad ni i gynyddu'r cymhellion i ddenu myfyrwyr i gyrsiau addysg gychwynnol, ar gyfer athrawon mewn pynciau lle mae yna brinder, a chodi'r incentives yna gan ryw £5,000 yn ystod 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Plaid Cymru. Mae angen i ni weithredu ar frys, oherwydd o dan Lafur Cymru, mae targedau recriwtio athrawon ysgol uwchradd wedi eu methu am y rhan fwyaf o ddegawd.
Ym mis Ionawr y llynedd, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau eich bod wedi dechrau trafodaethau gyda'r sector i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Eto i gyd, gyda dim ond tair wythnos ar ôl o dymor y Senedd hwn, does dim unrhyw arwydd yn y datganiad busnes y bydd y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi nac yn destun craffu manwl. Mae hyn er gwaetha'r ffaith i Lywodraeth Cymru hysbysu pwyllgor y Senedd dros bum wythnos yn ôl y byddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Mae 415 diwrnod—
Mae eisiau i chi ddod at eich cwestiwn, Cefin.
Dwi'n dod at y cwestiwn. Mae 415 diwrnod wedi mynd bellach. Felly, a yw'r Llywodraeth yn agosach at ddarparu ateb credadwy i'r argyfwng recriwtio athrawon?
Diolch yn fawr, Cefin. Hoffwn gadarnhau y bydd y cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg ar gyfer ysgolion yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth. Mae'n cyd-fynd â'n gwobrau addysgu, ond roedd hefyd wedi'i amseru i gyd-fynd â dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar recriwtio a chadw staff. Rwy'n deall bod y ddadl honno bellach wedi'i symud i slot diweddarach, ond ein bwriad o hyd yw cyhoeddi'r cynllun ar 18 Mawrth. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector, gyda'n cyfeillion yn yr undebau llafur, gan mai dyna'r ffordd y gwnawn bethau—rydym yn cydgynhyrchu pethau. Felly, ni fydd yn rhaid ichi aros yn hir cyn gweld y cynllun.
Fe gyfeirioch chi wrth ofyn eich cwestiwn at gymelliadau addysg gychwynnol i athrawon. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod eisoes yn cynnig cymelliadau pynciau â blaenoriaeth mewn pynciau sy'n brin o athrawon: bioleg, cemeg, dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, mathemateg, ieithoedd tramor modern, ffiseg a Chymraeg. Rydym yn cynnig cymhelliad ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, a chymhelliad ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr o leiafrif ethnig cydnabyddedig sy'n hyfforddi i addysgu. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng y swm a dalwn yng Nghymru a Lloegr, a chefais fy holi ynglŷn â hynny yn y pwyllgor.
Mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd cymelliadau yn gymysg mewn gwirionedd, fel y dywedais wrth y pwyllgor, ond serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w archwilio drwy'r gwaith ar gynllun y gweithlu. Rydym hefyd yn cynnal gwerthusiad o'n polisi addysg gychwynnol i athrawon y mae angen iddo lywio'r gwaith. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, nid oedd digon o gyllid yn y prif grŵp gwariant addysg i fynd ymhellach gyda'r cymelliadau eleni, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei adolygu'n gyson. Nid oes ateb syml o ran recriwtio a chadw staff; mae'r materion yn gymhleth iawn. Mae cryn dipyn o dystiolaeth mai'r hyn sy'n effeithio fwyaf ar bethau fel recriwtio a chadw staff yw pethau fel lles a llwyth gwaith, ac yn amlwg, bydd hynny'n cael ei gynnwys yng nghynllun y gweithlu.
Diolch yn fawr. Gan mai dyma fy nghwestiwn olaf i chi yn nhymor y Senedd hon, hoffwn ddiolch o galon i chi am y cydweithrediad rhyngom ers ichi ddechrau yn y swydd. Nawr—
Efallai fod rhai Aelodau newydd ymuno â ni yn y Siambr. Rwy'n ceisio osgoi ffarwelio hirwyntog yn y Siambr. Byddaf yn diflasu ar bobl yn diolch i'w gilydd ac yn dymuno'n dda i'w gilydd wrth i'r wythnosau nesaf fynd heibio. Felly, rwy'n dweud eto: os gallwn ddymuno'r gorau i bob un ohonom a diolch i bob un ohonom am bopeth a wnaethom, unwaith ac am byth—fe wnaf hynny ar eich rhan chi i gyd. Parhewch. Rwy'n gwybod ei fod wedi'i ddweud gyda phob bwriad da.
Yn wir.
Gallwch barhau â'ch cwestiwn, Cefin. Fe dorrais ar draws eraill cyn i mi wneud hynny i chi.
Sori, wnes i ddim clywed hwnna. Diolch yn fawr iawn.
Na, yn union. Parhewch.
Boed ar recriwtio neu godi safonau, pe bai Estyn yn archwilio perfformiad Llywodraeth Cymru ar addysg dros y 27 mlynedd diwethaf, ni chredaf y byddai unrhyw un yn synnu pe bai'n cael ei gwneud yn destun mesurau arbennig. Tynnodd adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn sylw at
'system sydd wedi’i dal yn ôl gan anghysondeb, blaenoriaethau cymysg'.
Dywedodd fod
'rhaid mynd i’r afael ar frys â gwendidau systemig mewn llythrennedd'.
Mewn cyferbyniad llwyr, bydd Plaid Cymru yn cyflwyno cynllun beiddgar ac ymarferol, gan hybu llythrennedd a rhifedd, gwella ansawdd addysgu, cryfhau Cwricwlwm Cymru, a rhoi llyfrgell bwrpasol i bob ysgol gynradd. Felly, onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl yr holl amser hwn, fod y gloch o’r diwedd yn canu ar gyfnod Llafur Cymru mewn Llywodraeth, ac na all disgyblion a rhieni aros eiliad yn hirach am newid cadarnhaol?
Diolch, Cefin. Fe ddechreuoch chi mor garedig—[Chwerthin.] Rwy'n gobeithio y bydd y Llywydd yn maddau i mi am ddweud 'diolch' wrth Cefin am ei eiriau caredig. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, ond cawsom oll ein magu felly, i fod yn gwrtais, oni chawsom? [Torri ar draws.] Nid wyf yn awgrymu hynny. [Chwerthin.] Diolch i chi am eich ymgysylltiad adeiladol hefyd.
Roeddech yno yn lansiad adroddiad Estyn, ac fe wnaethoch fy nghlywed yn siarad. Rwy'n gyfan gwbl o ddifrif ynghylch yr hyn y mae Estyn yn ei ddweud wrthym. Fe wnaethant dynnu sylw at gryfderau mewn pethau fel lles, ein system anghenion dysgu ychwanegol, felly cryfderau o ran cynhwysiant, cynnydd ar weithredu'r cwricwlwm. Yn amlwg, gwelais yr hyn a ddywedasant ynglŷn ag anghysondebau a blaenoriaethau cymysg. Dyna pam fy mod, fel Gweinidog, wedi ceisio dweud yn glir iawn wrth y sector beth yw'r blaenoriaethau, gan fod ysgolion yn dweud wrthyf, 'Dywedwch wrthym beth hoffech chi eu gweld yn flaenoriaethau, ni allwn wneud popeth'. Felly, rydym wedi dweud yn glir—llythrennedd, rhifedd, cynhwysiant a llesiant, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn wrth y sector. Mae yn ein canllawiau hefyd. Rwy'n credu eu bod yn glir iawn ar hynny.
Nid wyf am ailadrodd yr holl waith a wnawn ar lythrennedd a rhifedd, gan y gwn eich bod yn gyfarwydd â hynny, ond byddwch wedi gweld yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yr wythnos hon mai un o'r pethau yr oeddem yn ymwybodol ohonynt yw bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, ond nid yw'r cyfan wedi'i nodi mewn un lle. Felly, rwyf wedi cyhoeddi hefyd fod y Llywodraeth yn sefydlu bwrdd cyrhaeddiad, a fydd yn canolbwyntio ar yr holl waith hwnnw, ac yn sicrhau bod yr holl waith yn gydnaws ac yn gydgysylltiedig.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn aml yn sôn am y llwyth gwaith cynyddol sy'n wynebu athrawon a staff ysgolion, a sut y mae llawer o'u hamser yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth eu dyletswyddau. Pwysleisiwyd hyn mewn arolwg diweddar brawychus a gynhaliwyd gan NAHT Cymru a edrychai ar ymyriadau meddygol mewn ysgolion. Mae staff cymorth ac athrawon yn bryderus iawn ynghylch faint o ymyriadau meddygol y mae angen eu cynnal, yn amhriodol, yn yr ystafell ddosbarth.
O'r 339 o bobl a gymerodd ran yn yr arolwg, cadarnhaodd nifer aruthrol ohonynt, 92 y cant, fod yn rhaid iddynt ddarparu ymyriadau meddygol i ddisgyblion. Mae'r ymyriadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â symudedd a gofal personol, fel cymorth i fynd i'r toiled ar 83 y cant, a darparu meddyginiaeth gyffredin, gan gynnwys inswlin, ar 80 y cant. Dywedodd mwy na hanner yr ymatebwyr nad yw staff yn cael digon o hyfforddiant i wneud pethau o'r fath, gyda 12 y cant yn dweud nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant o gwbl.
Mae'r sefyllfa hon yn arwain at lefelau uchel o straen, gorbryder a blinder. Mae morâl yn isel. Mae absenoldeb oherwydd salwch ar gynnydd, ac mae diffygiad yn bryder cynyddol. Un o'r sylwadau mwyaf syfrdanol a gyflwynwyd yn yr arolwg oedd bod staff, ar rai dyddiau, yn newid 25 o gewynnau bob dydd, gan eu gadael yn teimlo'n ddiwerth a heb fod yn mwynhau eu swyddi o gwbl. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y sefyllfa hon yn anghynaliadwy. Er fy mod yn sylweddoli bod amser yn brin i'r Llywodraeth hon weithredu, ac y bydd hwn yn fater o bwys i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag ef, sut y caniatawyd i hyn ddigwydd yn y system addysg hon?
Diolch yn fawr, Natasha. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn sôn sawl gwaith, nid yn unig yn y Siambr hon, ond yn y pwyllgor, am faterion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg mewn ysgolion. Mae ysgolion yn gorfod delio â llawer iawn o faterion nad oeddent yn arfer gorfod delio â nhw. Mae hynny'n fater difrifol iawn. Mae'n un a godais yn y Cabinet yn ddiweddar. Mae'n ymwneud â mwy nag ymyriadau meddygol yn unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod plant yn dechrau yn yr ysgol heb iaith. Mae angen inni fynd i'r afael â phethau felly hefyd, neu fel arall, ni fyddant yn gallu dysgu darllen.
O ran yr ymyriadau meddygol, mae hynny wedi bod yn rhywbeth y bûm yn bryderus iawn yn ei gylch, gan fy mod wedi siarad â chynorthwywyr addysgu sydd wedi sôn wrthyf am y gwaith a wnânt. Mewn gwirionedd, crib y rhewfryn yw newid clytiau. Mae rhai ohonynt yn bwydo pobl drwy diwbiau, yn newid cathetrau a phethau felly. Mae hwnnw'n fater difrifol iawn y buom yn gweithio arno gyda'n cymheiriaid yn yr undebau llafur. Hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'n holl staff cymorth mewn ysgolion sy'n gwneud y gwaith hwn byth a beunydd, ond mae angen inni wneud mwy i'w cefnogi.
Rydym ni fel Llywodraeth yn cydnabod bod hwn yn fater difrifol. Dyna pam ein bod wedi bod yn gweithio ar draws addysg ac iechyd i fynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi gofyn—ac mae llythyr wedi'i anfon gan y prif swyddog nyrsio at bob bwrdd iechyd—am ragor o wybodaeth ac eglurder ar y mater hwn. Mae llythyr tebyg wedi'i anfon at bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi datganiad polisi ym mis Ebrill. Bydd hynny cyn datblygu canllawiau mwy cyflawn, integredig ar y rhyngweithio rhwng iechyd ac addysg, a fydd, oherwydd ei natur, yn destun ymgynghoriad, ac felly bydd yn rhaid iddo ddod ar ôl yr etholiad. Ond rwy'n cydnabod difrifoldeb y materion hyn ac rydym yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â nhw.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf newydd grybwyll un o'r rhestr gynyddol o broblemau sy'n bla ar ein system addysg. Ac i fod yn glir, fel y dywedoch chi, nid yw'n adlewyrchiad o bell ffordd o'r rheini sy'n gweithio'n ddiflino yn ein hysgolion i roi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'n plant. Wrth wraidd y broblem o ran addysg mae'r Llywodraeth Lafur, a phob Llywodraeth Lafur sydd wedi llywyddu dros Gymru dros y 27 mlynedd diwethaf. Y tu ôl i'r holl bolisïau aflwyddiannus, penderfyniadau diffygiol neu ddiffyg gweithredu dros y blynyddoedd o ran addysg, fe welwch naill ai wleidydd Llafur, neu'n wir, os edrychwch ar dymor y Senedd ddiwethaf, gwleidydd o blith y Democratiaid Rhyddfrydol. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma'r tro olaf i chi a mi fynd benben â'n gilydd cyn diddymu'r Llywodraeth, felly credaf ei fod yn gyfle perffaith i edrych yn ôl ar hanes y Llywodraeth o ran addysg. Meddyliwch amdano fel arholiad terfynol: Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddech chi'n graddio perfformiad eich Llywodraeth ar addysg dros dymor y Senedd hon?
Wel, nid wyf am gytuno i gael fy rhoi mewn arholiad gennych chi, Natasha. [Chwerthin.] Hoffwn nodi hynny'n glir. Rwyf wedi nodi yn fy ateb i Cefin fod mwy o waith y mae angen i ni ei wneud, ond mae arwyddion cryf iawn o gynnydd o ran cyrhaeddiad. Mewn meysydd fel lles, mae gennym hanes da iawn. Rydym ben ac ysgwyddau ar y blaen i wledydd eraill y DU gyda'n dull o gefnogi iechyd meddwl a lles plant mewn ysgolion, ac mewn gwirionedd, rydym ar y blaen ar bethau fel cynhwysiant hefyd. Nid wyf yn unigolyn sy'n canu fy nghlodydd fy hun, felly pe bawn yn rhoi'r asesiad hwnnw i chi, buaswn yn dweud bod cynnydd da wedi bod, ond fod mwy o waith i'w wneud.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n rhoi marciau llawn i chi am greadigrwydd eich ymateb. Mewn cyferbyniad llwyr â'r stori dylwyth teg benchwiban rydych chi newydd ei rhoi i mi, gadewch inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru ar draws ysgolion a cholegau. Dyma'r sefyllfa: mae Cymru ar waelod y tablau addysg rhyngwladol; mae gennym argyfwng recriwtio a chadw athrawon nad yw'n dangos unrhyw arwydd o wella; methiant i gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gartrefi tlotach a'u cyfoedion; trais mewn ystafelloedd dosbarth yn parhau i gynyddu; mae 20 y cant o blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn ymarferol anllythrennog; dull o ddysgu plant i ddarllen sydd wedi'i danseilio'n cael ei hybu yn ein hysgolion—ac rwy'n falch iawn o weld, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwthio ar hynny, fod mwy o gyfle bellach i'r system ffoneg ddod i mewn i'r system addysg; safonau mathemateg sy'n warthus o isel; ansawdd addysgu anghyson, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd; cwricwlwm anhygoel o ddiffygiol yn cael ei orfodi ar ein plant mewn ysgolion; lefelau presenoldeb sy'n dal i fod yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig; ac arian yn cael ei wastraffu ar brosiectau dibwynt fel byd rhithiol gwrth-hiliol i'w ddefnyddio mewn colegau—beth bynnag yw hwnnw. Yn syml, mae Llafur wedi gadael Cymru gyda'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn y DU. Nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei amlinellu, a ydych chi'n falch o'r hyn rydych chi a'ch rhagflaenwyr wedi'i wneud i'n system addysg dros y 27 mlynedd diwethaf?
Fe sonioch chi am amryw o bethau, Natasha. Os caf sôn am ychydig ohonynt, nid yw recriwtio a chadw athrawon yn broblem sy'n unigryw i Gymru. Mae recriwtio a chadw athrawon yn her fyd-eang. Rydym wedi rhoi llu o gamau ar waith i fynd i'r afael â'r heriau hyn, yn enwedig yn y meysydd lle mae gennym y prinder mwyaf difrifol, gan gynnwys ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae gennym lu o faterion yr awn i'r afael â hwy.
Rydym wedi gwneud cynnydd ar lefelau presenoldeb, ac mae hynny hefyd oherwydd ein buddsoddiad sylweddol iawn mewn pethau fel swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, sy'n gwneud y gwaith caled, gan weithio gyda theuluoedd mewn ffordd fanwl iawn i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant rhag mynychu'r ysgol.
Fe gyfeirioch chi at y gwaith ar lythrennedd. Rwy'n gobeithio eich bod yn y pwyllgor y bore yma pan gawsoch y cyflwyniad ar CAL:ON. Roeddwn am achub ar y cyfle i ddiolch i'r panel arbenigol ar lythrennedd am eu gwaith. Fel rhywun nad yw'n addysgwr ei hun, roedd yn bwysig iawn i mi wrando ar dystiolaeth arbenigwyr ar hyn. Ar ddarllen cynnar, ni allwn fod yn gliriach—mae ffoneg synthetig systematig yn agwedd bwysig ar addysgu darllen, ochr yn ochr â sgiliau eraill i sicrhau y gall plant ddeall yr hyn y maent yn ei ddarllen a'u bod yn gallu darllen yn rhugl. Rydym wedi dweud yn glir hefyd na ddylid annog dysgwyr i ddyfalu sut i ddarllen geiriau drwy ddefnyddio ciwiau neu luniau. Ac rwy'n synnu eich bod yn hawlio'r clod am hynny, gan i chi ddweud ar raglen Sunday Politics Wales ar 6 Tachwedd, 'I ryw raddau, mae angen ciwio ar rai plant, ac nid wyf am warafun ciwio'n gyfan gwbl i'r plant sydd ei angen'. Felly, efallai mai'r wers yma i chi o'r dosbarth penodol hwn yw bod angen i chithau dalu mwy o sylw hefyd. [Chwerthin.]
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol yn Nwyrain De Cymru? OQ63920
Ar draws Dwyrain De Cymru, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella canlyniadau drwy fuddsoddiad cyfalaf cynaliadwy, y Cwricwlwm i Gymru, diwygio anghenion dysgu ychwanegol ac addysgu o ansawdd uchel. Rydym yn cyfeirio cyllid i gryfhau llythrennedd a rhifedd, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad tlodi, a gwella presenoldeb.
Ysgrifennydd y Cabinet, dylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd fod Cymru ar waelod bron i bob tabl addysg. Mae'n sefyllfa enbyd, gan gynnwys PISA, fel y dywedwyd eisoes. Gall llawer o bethau fod yn gyfrifol am hyn—arweinyddiaeth wael, ymbellhau oddi wrth ddysgu sy'n seiliedig ar wybodaeth, presenoldeb gwael, methiant i fynd i'r afael ag ADY yn uniongyrchol. Ond hefyd, un o'r ffactorau eraill y gwyddom amdanynt, wrth gwrs, yw trais ac ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae tair blynedd wedi bod ers imi gyflwyno cynllun pum pwynt yn y Siambr hon i Lywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad a thrais mewn ysgolion. Mewn gwirionedd, fi oedd y cyntaf i dynnu sylw at hyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gwrando arnaf o ran yr angen am uwchgynhadledd—er ei bod yn drueni na chefais fy ngwahodd iddi ar y pryd—a bod y canllawiau ar gyfer ysgolion, wrth gwrs, wedi'u diweddaru. Mae'n siomedig na wrandawodd Llywodraeth Cymru ar weddill fy nghyngor, serch hynny, gan nad ydych wedi llwyddo i fynd i'r afael â hyn. Mae wedi arwain at argyfwng trais ac ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru, gyda digwyddiad arall ychydig ddyddiau yn ôl yn unig. Mae 40 y cant o bobl ifanc wedi gweld trais neu ymddygiad aflonyddol neu gamdriniol yn ein hystafelloedd dosbarth. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid ydych wedi mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, ac nid ydych yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol. Mae'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau addysgol yn ne-ddwyrain Cymru a ledled Cymru. Pryd fydd y Llywodraeth yn torchi ei llewys ac yn cymryd y camau caled, angenrheidiol sydd eu hangen i atal trais a phroblemau ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth? Diolch.
Diolch, Laura. Mae'n debyg na ddylwn synnu nad ydych chi'n ymwybodol o'n gwaith diweddaraf yn y maes hwn, o ystyried, pan oeddech chi'n unig Aelod Reform, eich bod wedi gwrthod y cyfle i wasanaethu ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chithau mor bryderus ynglŷn â’r materion hyn. Ac os caf ddweud, o ran ein huwchgynhadledd ymddygiad, mae arnaf ofn nad oedd hynny'n ddim o gwbl i'w wneud â chi. Roedd hynny'n rhywbeth a drafodwyd gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, ac fe'i trefnwyd gennym ar sail hynny. Nodais bum cam gweithredu o'r uwchgynhadledd ymddygiad honno, ac rydym yn gweithredu ar bob un ohonynt. Mae cymaint o weithredu'n digwydd, gallwn dreulio'r awr nesaf yn siarad ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud ar ymddygiad.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ond os caf ddweud wrthych, ar fater trais mewn ysgolion, rwyf am i'n holl ysgolion fod yn lleoedd diogel i'n dysgwyr—[Torri ar draws.] A ydych chi'n mynd i wrando, oherwydd efallai, pe baech chi'n gwrando, y byddech chi'n dysgu, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Pe baech chi'n gwrando, efallai y byddech chi'n dysgu rhywbeth. Os caf orffen, a gallwch wrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud, rydym yn rhoi ystod eang o gamau ar waith i fynd i'r afael â heriau ymddygiad. Y peth pwysig iawn gydag ymddygiad yw ymyrraeth gynnar a pheidio â gadael i broblemau waethygu. Ond ar fater trais mewn ysgolion, yn amlwg, roedd yn ofnadwy clywed am y digwyddiad diweddaraf yn Aberdaugleddau. Rwy'n cydymdeimlo â'r athro a'r staff yn yr ysgol a gafodd eu heffeithio, ac rydym wedi cynnig ein cymorth i'r ysgol, ac rydym yn barod gydag unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt, yn union fel y gwnaethom ei ddarparu yn y sefyllfa yn Ysgol Dyffryn Aman.
Rydym wedi cyhoeddi'n ddiweddar fod Cyngor Caerdydd wedi creu dogfen arweiniad ar fynd i'r afael ag arfau mewn ysgolion. Rydym wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i Gaerdydd arwain ar ganllawiau tebyg ar gyfer gweddill ysgolion Cymru. Nawr, pan ddarllenais y canllawiau, cefais lawer o sicrwydd ganddynt, gan mai gorau arf, dysg, yn fy marn i, a'r hyn nad ydym ei eisiau yw i staff ysgolion orfod wynebu sefyllfa'n fwyaf sydyn heb unrhyw syniad sut i ddelio â hi. Felly, rwy'n credu y bydd cyflwyno'r canllawiau hynny ledled gweddill Cymru, gan ystyried amgylchiadau unigol, yn helpu staff a dysgwyr mewn ysgolion i deimlo'n fwy diogel. Ac rydym yn ariannu'r canllawiau hynny, y gwaith hwnnw i Gaerdydd ei wneud.
Ond yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cyhoeddi £500,000 eleni a £1 filiwn arall y flwyddyn nesaf i ddatblygu rhaglen ysgolion newydd, gan weithio gyda'r heddlu. Ni fydd fel hen raglen ysgolion yr heddlu, a oedd yn canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd hon wedi'i hadeiladu o amgylch ein dull ysgolion bro. Mae penaethiaid wedi dweud wrthyf eu bod yn gwerthfawrogi'r cyswllt hwnnw gyda'r heddlu'n fawr. Felly, rydym yn gwneud ystod eang o bethau. Nid oes ateb syml o ran ymddygiad. Rhaid ichi wneud yr holl bethau hynny. Rydym wedi bod yn gwneud y gwaith caled ers amser maith, ac mae’n ddrwg gennyf ddweud wrthych nad oedd ganddo ddim i'w wneud â chi.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach heddiw, bûm mewn digwyddiad yn y Senedd a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru, lle clywsom gan athrawon a disgyblion am y manteision yn yr ystafell ddosbarth lle mae plant yn cerdded, yn beicio neu'n sgwtio i'r ysgol. Fe wnaethant egluro bod hynny wedi arwain at lefelau canolbwyntio gwell, a bod cael cyfnod o symud cyn gwersi'n golygu bod plant yn gallu dechrau eu diwrnod ysgol gyda gwell gallu i ddysgu, yn fwy parod i ddysgu. O ystyried bod llawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai â phlant oedran cynradd, yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgolion lleol, fel ysgol gynradd Gwndy yn Nwyrain Casnewydd, lle mae'r mwyafrif helaeth o blant yn dechrau eu diwrnod drwy gerdded i'r ysgol, a wnewch chi weithio gydag elusennau fel Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru i ledaenu'r manteision hyn ledled de-ddwyrain Cymru?
Diolch yn fawr, John. Gwn eich bod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â gweithgarwch corfforol, a chredaf fod y pwyntiau a wnewch ynglŷn â theithio llesol yn bwysig iawn. Mewn llawer o achosion, gwyddom fod pobl yn byw'n agos iawn at yr ysgol ond nad ydynt yn dewis cerdded neu feicio weithiau. Felly, byddaf yn edrych ar y sefydliad y cyfeirioch chi ato, ac os caf ddweud hefyd, rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn ag effaith gweithgarwch corfforol ar allu plant i allu hunanreoleiddio yn yr ysgol. Rwy'n gweld hynny yn ein hadeiladau ysgol newydd hefyd, sy'n fwy o faint, ac mae athrawon yn dweud wrthyf, gan fod ganddynt ardaloedd ymneilltuo fel bod gan bobl le i symud o gwmpas, fod hynny'n helpu gyda hunanreoleiddio ac yn helpu gydag ymddygiad.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru parthed ysgolion bach? OQ63936
Gwn pa mor bwysig yw ysgolion i gymunedau bach a gwledig. Mae'r cod trefniadaeth ysgolion yn nodi'r prosesau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth wneud cynigion i newid, cau neu agor ysgol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion bach a gwledig.
Mae fy etholaeth i yn cynnwys nifer o ysgolion bach, rhai ohonyn nhw mewn ardaloedd hynod o wledig, ond mae rhai ohonyn nhw mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, ac ar hyn o bryd does dim ystyriaeth yn y cod trefniadaeth ysgolion i ysgolion bychain sydd ddim yn cwympo o dan warchodaeth y rhestr wledig—er enghraifft, ysgol Pontiets. Mae hynny'n golygu wedyn nad ydyn nhw'n gallu dibynnu ar y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol sydd wedi'i gosod yn y cod, er bod y traweffaith ar y gymuned yn un debyg iawn i'r sefyllfa mewn cymunedau gwledig. Mae yn esiampl hefyd yn ddiweddar lle mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu ymchwilio i effaith cau ysgol fach, sy'n awgrymu bod yna ddiffyg yn y broses o ran hynny. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ystyried addasu'r cod trefniadaeth i adlewyrchu'r sefyllfa ar lawr gwlad—y ffaith bod rhai disgyblion mewn ysgolion sydd ddim yn wledig ond sydd yn fach—a chryfhau, ar yr un pryd, y prosesau, cyn belled ag y mae'r cod yn y cwestiwn, ynghylch y traweffaith o ran yr iaith Gymraeg?
Diolch yn fawr am y cwestiwn, Adam. Rwy'n ymwybodol fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad ynghylch Ysgol Llansteffan heddiw. Mae'n sefyllfa eithaf cymhleth, oherwydd mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu ysgolion bach yn ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, pe bai unrhyw newid i hynny, byddai'n rhaid gwneud hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, os yw'r ysgol yn ysgol fach ac yn ysgol wledig, dylai'r cynigydd barhau i gydymffurfio â phob agwedd ar y ddeddfwriaeth a'r cod sy'n ymwneud â chau ysgol wledig, er enghraifft drwy gynnal y rhagdybiaeth yn erbyn cau, nodi dewisiadau amgen rhesymol, gan ystyried y ffactorau a nodir yn y cod ac ati. Ac fe fyddwch chi'n gwybod na allaf wneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynigion awdurdod lleol a allai gael eu cyfeirio at Weinidogion i'w penderfynu yn nes ymlaen.
A gaf i gofnodi fy nhristwch ynglŷn â'r cyhoeddiad heddiw ynghylch cau Ysgol Llansteffan yn fy etholaeth i? Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar ddwy ysgol yn fy etholaeth. Yn gyntaf, Stepaside, a glustnodwyd ar gyfer ei chau, er ei fod yn safle modern iawn yng Nghilgeti. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o hynny, ac a oes unrhyw ddefnydd wedi'i benderfynu ar gyfer y safle hwnnw yng Nghilgeti yn y dyfodol. Ac yn ail, ysgol Maenorbŷr, ysgol y soniais amdani sawl gwaith ar lawr y Senedd hon, a ddioddefodd dân ar ddiwedd 2024. Ni chafodd addewidion ynghylch ailadeiladu'r ysgol honno gan ddau arweinydd cyngor yn sir Benfro mo'u gwireddu a bellach mae wedi'i chlustnodi i'w chau. Mae'r ysgol hon wedi'i chlustnodi i'w chau oherwydd tân nad oedd yn fai arni hi, gan roi staff, disgyblion a theulu ehangach yr ysgol honno mewn sefyllfa anodd iawn. Rwy'n meddwl tybed a yw'r awdurdod lleol wedi siarad â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, neu eich tîm ynghylch ysgol Maenorbŷr, oherwydd mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb o hyd ynglŷn â'r arian yswiriant ar gyfer yr ysgol honno, a ddylai fod ar gael iddynt yn dilyn y tân. Maent mewn sefyllfa anodd iawn. A yw'r awdurdod lleol wedi trafod ysgol Maenorbŷr gyda chi o gwbl?
Diolch am y cwestiwn, Samuel. Nid wyf i'n bersonol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r awdurdod lleol am yr ysgol. Efallai fod fy swyddogion wedi cael trafodaethau o'r fath, ond ni chefais i. Mater i awdurdodau lleol yw cynigion ynghylch cau ysgolion, ac fe fyddwch chi'n gwybod y gall y penderfyniadau hynny ddod i Weinidogion Cymru i'w penderfynu mewn rhai amgylchiadau, a dyna pam nad yw'n briodol imi wneud sylwadau ar y materion penodol hyn. Os hoffech ysgrifennu ataf am bethau fel y materion yswiriant, rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd hynny gyda fy swyddogion.
Dros dymor y Senedd hon, ym Mhowys gwelsom y Democratiaid Rhyddfrydol yn cau nifer o ysgolion cynradd bach ar draws fy etholaeth. Mae'n eithaf eironig o ystyried mai Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr etholaeth honno yma a gyflwynodd y cod ysgolion bach. Rwy'n pryderu nad yw'r cod hwnnw'n darparu amddiffyniad i'r ysgolion bach hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cod ysgolion bach i wneud yn siŵr ei fod yn diogelu ein hysgolion bach mewn gwirionedd, oherwydd fel y mae ar hyn o bryd, nid yw'n diogelu neb? Mewn gwirionedd, mae i'w weld yn hwyluso'r broses o gau llawer o ysgolion bach ar draws fy etholaeth i, ac ar draws rhannau eraill o Bowys.
Diolch, James. Wel, roedd yr amddiffyniadau a gyflwynodd Kirsty Williams pan oedd hi'n Weinidog yn ymwneud ag ysgolion gwledig yn hytrach nag ysgolion bach, ac fel y dywedais mewn ymateb i Adam Price, mae'r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion bach wedi'i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, a byddai unrhyw newidiadau i hynny'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd. Ond rwy'n credu bod pawb wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud. Yn amlwg, byddai unrhyw adolygiad ar hyn yn fater i Lywodraeth newydd.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob dysgwr ledled Cymru yn gallu mynychu y coleg o'u dewis? OQ63925
Rwyf am sicrhau bod pob dysgwr, ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag yw eu cefndir, yn cael cyfle i gaffael gwybodaeth a sgiliau i gyfrannu at economi gref, gynaliadwy.
Diolch am yr ateb hwnnw.
Wrth gwrs, mae'n Wythnos y Colegau ac mae'n gyfle inni ddathlu'r gwaith y mae ein colegau'n ei wneud a meddwl beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi ein dysgwyr yn rhan o hynny. Mae yna fater penodol yn codi sy'n effeithio ar degwch mynediad at addysg bellach ledled Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw prentisiaid yn cael cymorth teithio penodol am eu bod yn cael eu dosbarthu fel rhai cyflogedig yn hytrach na dysgwyr. Felly, o ganlyniad, maent wedi'u cyfyngu i ostyngiadau arferol i bobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mewn cyferbyniad, gall disgyblion chweched dosbarth fod yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim. Nawr, nid oes darpariaeth gyfatebol wedi'i gwarantu ar gyfer dysgwyr coleg ac mae hyn yn creu anghysondeb amlwg yn y ffordd y cefnogwn bobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant, gan effeithio ar brentisiaid yn enwedig, sy'n aml yn ennill cyflogau cymharol isel hefyd, ac yn fynych yn gorfod gwario'r arian hwnnw ar offer neu ddillad drud ar gyfer eu prentisiaeth. Dyma un o'r problemau mwyaf a oedd yn wynebu dysgwyr y siaradais â nhw wrth ymgyrchu dros godi'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac nid oes unrhyw beth wedi newid.
Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal gweithdy teithio gan ddysgwyr mewn addysg ôl-16 ddoe, felly mae'n amlwg fod y broblem ar eich radar. Felly, a wnewch chi amlinellu canlyniadau allweddol y gweithdy hwnnw a pha gamau gweithredu penodol a roddir ar waith nawr i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn cymorth teithio gan ddysgwyr ôl-16, gan gynnwys prentisiaid?
Diolch am y cwestiwn, Luke, ac rydych chi'n taflu goleuni ar fater pwysig yno. Rydym yn parhau i fabwysiadu dull trawslywodraethol o leihau rhwystrau trafnidiaeth i bobl ifanc mewn addysg. Y tymor Senedd hwn, rydym wedi gweithredu cynnydd yn y trothwy incwm aelwydydd ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg—a dylwn gofnodi ein diolch am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth i'r gwaith hwnnw—gan ddarparu cymorth ariannol i 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol a ragwelir, a all gynorthwyo myfyrwyr cymwys gyda chostau trafnidiaeth, ac wrth gwrs, mae'n £40 yr wythnos, sef y swm uchaf yn y DU. Felly, yn sicr, fe all y lwfans cynhaliaeth addysg helpu. Rydym wedi buddsoddi £22 miliwn yn ystod 2025-26 a 2026-27 i gefnogi'r cynllun peilot tocynnau bws £1 ar gyfer pobl ifanc o dan 21 oed. Felly, unwaith eto, i brentisiaid yn y grŵp oedran hwnnw, byddant yn gallu manteisio ar hynny, a hyd yma, mae dros 38,000 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer Fy Ngherdyn Teithio—gan gynnwys fy merch, mae hi'n un o'r rheini—gan wneud addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy.
Fe ofynnoch chi am y gweithdai teithio gan ddysgwyr a ddeilliodd o'r uwchgynhadledd teithio gan dysgwyr ac mae'n darparu cyfleoedd i randdeiliaid allweddol archwilio cyfleoedd pellach i wella trefniadau teithio gan ddysgwyr. Rwy'n credu bod y gweithdy hwnnw'n cael ei gynnal heddiw, felly os ysgrifennwch at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, gall roi adborth i chi, yn sicr. Ond gallaf adrodd y bydd ColegauCymru, colegau unigol ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ymhlith y rhanddeiliaid sy'n ymuno â'r gweithdy teithio gan ddysgwyr ôl-16 hwnnw. A bydd canlyniadau'r gweithdai hynny yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth nesaf, er mwyn sicrhau bod lleisiau ac arbenigedd yr holl bartneriaid yn llywio'r camau nesaf yn ein strategaeth teithio gan ddysgwyr ac yn ganolog i'n dull gweithredu.
Dylwn ddweud hefyd fod fy ngalwad am dystiolaeth ar gynaliadwyedd y sector trydyddol yn edrych yn benodol ar faterion a fyddai'n effeithio ar ddysgwyr. Mae'n rhywbeth y byddaf yn siarad â dysgwyr yn ei gylch pryd bynnag y byddaf yn ymweld â cholegau addysg bellach, ac fe wneuthum hynny ym Merthyr Tudful heddiw. Mae trafnidiaeth bob amser yn rhan o hynny, felly rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth gref yn deillio o hynny a all helpu i lywio gwaith y Llywodraeth nesaf hefyd.
6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar safonau addysg yn sgil data diweddar gan Estyn am recriwtio a chadw athrawon mewn ysgolion yng Nghymru? OQ63937
Rwy'n ddiolchgar i Estyn am dynnu sylw at y mater hwn. Rydym eisoes yn gweithio ar hyn fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ein cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Bydd y cynllun yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio a chadw staff ac i gefnogi gweithlu o ansawdd uchel.
Diolch am yr ymateb. Rwy'n cymryd felly eich bod yn derbyn nad yw'r dull presennol o weithredu'n cyflawni yn y ffordd a addawyd o bosib, ac y byddai pobl yn ei disgwyl. Clywais eich ateb blaenorol am y cynllun gweithlu sy'n cael ei lansio ar 18 Mawrth. Gyda'r Llywodraeth hon wedi bod yn ymdrechu ers tri degawd, efallai y bydd rhai pobl yn gofyn beth sy'n mynd i fod yn wahanol y tro hwn? Ond fe wnaethoch chi esbonio eich bod wedi gweithio gyda llawer yn y sector, felly fe arhoswn i weld hynny. Ond fy nghwestiwn i yn y bôn yw: a fyddwn ni'n gallu eich holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, oherwydd dyma eich sesiwn gwestiynau olaf? Felly, a wnewch chi ddod â datganiad llafar i'r Siambr hon i ganiatáu inni graffu arnoch a'r cynllun gweithlu hwnnw yn y ffordd y credaf ei bod yn gyfrifoldeb arnom i'w wneud ac y dylai hynny ddigwydd?
Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol, Llyr. Fel y dywedais mewn atebion blaenorol, mae heriau gyda recriwtio a chadw staff ym mhob rhan o'r byd, nid yng Nghymru'n unig. Mewn gwirionedd, mae'r data diweddar yn dangos gwelliant bach. Mae data answyddogol yn dangos bod recriwtio cyffredinol i raglenni uwchradd wedi codi o 36.5 y cant yn 2023-24 i 45 y cant yn 2024-25. Mae niferoedd cyfrwng Cymraeg hefyd wedi cynyddu ac maent 22 y cant yn uwch yn 2023-24 nag yn 2019-20.
Yn amlwg, nid mater i mi yw trefnu busnes y Cyfarfod Llawn, ond mae'r Trefnydd wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi. Roedd cyhoeddi'r cynllun wedi'i drefnu i gyd-fynd â dadl y pwyllgor ar recriwtio a chadw staff, sydd bellach wedi'i—. Wel, byddem wedi cael craffu yn y Siambr yn y ddadl honno wrth gwrs, ond rwy'n hapus iawn i gymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd craffu a gaiff eu cynnal ar hyn.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth mewn ysgolion? OQ63935
Rwyf wedi cryfhau hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol, niwroamrywiaeth ac addysg gynhwysol ar draws addysg yng Nghymru. Mae Dysgu eisoes yn datblygu rhaglen ADY dysgu proffesiynol genedlaethol ar gyfer staff awdurdodau lleol, arweinwyr, cydlynwyr ADY, staff arbenigol a'r holl staff addysgu. Mae hyn yn ogystal â'r rhaglen hyfforddi 'Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog' ar les a datblygiad plant.
Diolch am yr ateb. Dŷn ni eisoes wedi gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi biliynau o bunnoedd ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn Lloegr. Fedrwch chi gadarnhau heddiw fod arian canlyniadol sydd wedi cael ei gyhoeddi ddoe yn mynd i ddod i Gymru, ac a fedrwch chi roi gwybod i ni faint o arian ychwanegol sydd i ddod yn y flwyddyn ariannol bresennol a hefyd y blynyddoedd i ddod? Mater i'r Llywodraeth ydy sut i ddefnyddio'r arian yma, wrth gwrs, ond yn enw tryloywder, byddai cyhoeddi'r ffigurau yn ddefnyddiol.
Wrth gyfarfod efo rhieni plant sydd efo anghenion dysgu ychwanegol yn Arfon ac ar draws Cymru, dwi'n clywed dro ar ôl tro fod diffyg hyfforddiant ar niwroamrywiaeth ymhlith staff ysgol yn arwain at oedi, camddealltwriaeth a phlant yn cyrraedd pwynt argyfwng. Fel y dywedodd un rhiant wrthyf fi yn ddiweddar, ni ddylai deimlo fel brwydr i gael cefnogaeth. Felly, faint o flaenoriaeth ydych chi yn ei rhoi i'r angen i greu cysondeb cenedlaethol yn y ddarpariaeth, yn enwedig wrth ddatblygu hyfforddiant ar niwroamrywiaeth ar gyfer ysgolion?
Diolch am y cwestiwn, Siân. Yn amlwg, rwy'n croesawu ffocws Llywodraeth y DU ar gynhwysiant. Rydym eisoes wedi mynd gryn dipyn o ffordd ar ein taith gynhwysiant. Rwy'n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £555 miliwn ychwanegol o gyllid adnoddau a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i'r cyhoeddiadau ddoe. Daw hwnnw'n bennaf mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr ac ardrethi annomestig ar gyfer lletygarwch a thafarndai.
Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig iawn am hyfforddiant. Rwyf bob amser wedi bod yn glir iawn nad yw cynhwysiant ac ADY yn rhywbeth sy'n perthyn draw acw. Os ydym yn mynd i gael ysgolion gwirioneddol gynhwysol, mae angen i bawb yn ein hysgolion gael eu huwchsgilio mewn materion sy'n ymwneud ag ADY, niwroamrywiaeth ac ati. Felly, rydym wedi gofyn i Dysgu ddatblygu—maent yn datblygu ac yn cyflawni ac yn sicrhau ansawdd—rhaglen ADY dysgu proffesiynol genedlaethol, fel y dywedais, ar gyfer yr holl staff yn ein hysgolion ac ar gyfer staff awdurdodau lleol, ac maent eisoes wedi recriwtio arweinydd ADY i ddatblygu hyn. Rydym hefyd yn treialu Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog, rhaglen ddysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu cyfan a ddatblygwyd ar y cyd ag addysgwyr i gynyddu dealltwriaeth o ddatblygiad plant ac iechyd meddwl.
Mewn addysg gychwynnol i athrawon, rydym wedi cryfhau'r meini prawf achredu mewn perthynas ag ADY, ac ar hyn o bryd mae Prifysgol Bangor yn treialu tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gynradd gydag arbenigedd niwroamrywiaeth. Ond fel rhan o'r gwaith a wnawn ar baratoi ar gyfer achrediad newydd mewn addysg gychwynnol i athrawon, byddwn yn ceisio cryfhau'r ymrwymiad i uwchsgilio ein staff mewn ADY, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, oherwydd mae angen i bawb yn ein hysgolion allu cefnogi pobl ifanc fel y gallant fod yn wirioneddol gynhwysol. Felly, mae hyfforddiant yn flaenoriaeth hollol sylfaenol, nid yn unig ar gyfer ADY, ond ar gyfer yr holl feysydd yr ydym yn bwrw ymlaen â nhw o ran llythrennedd, rhifedd ac ati.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Peter Fox.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i gryfhau a chynnal arweinyddiaeth mewn ysgolion yn unol â disgwyliadau Estyn? OQ63908
Rwy'n ddiolchgar i Estyn am nodi mai arweinyddiaeth effeithiol yw'r ffactor mwyaf arwyddocaol wrth wella ansawdd addysgu. Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol drwy ein trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion, ac yn mynd i'r afael â heriau recriwtio penaethiaid drwy'r cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Bydd Dysgu yn datblygu ac yn darparu cymorth arweinyddiaeth.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae arweinyddiaeth gref ar bob lefel o'n system addysg yn hanfodol, o benaethiaid sy'n darparu cyfeiriad clir yn eu hysgolion i awdurdodau lleol sy'n cynnig cefnogaeth effeithiol, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n creu'r amodau i'r arweinyddiaeth honno ffynnu. Ond mae Estyn wedi bod yn glir mai cyfyngedig yw effaith cefnogaeth llywodraeth leol mewn perthynas â phresenoldeb, ac yn sir Fynwy, rydym wedi gweld lefelau absenoldeb yn gwaethygu, nid gwella, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae ysgolion ledled Cymru'n cael trafferth cynnal capasiti arweinyddiaeth sylfaenol hyd yn oed oherwydd prinder staff a gorddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth, gan wanhau'r gallu sydd ei angen ar benaethiaid i arwain yn effeithiol. Fel y gwyddom i gyd, mae arweinyddiaeth dda'n ffactor sylfaenol ar gyfer gwella ysgolion yn barhaus.
O ystyried y pwysau cyfunol, lefelau presenoldeb gwan, gweithlu anghyson a than bwysau, a'r straen gynyddol ar arweinwyr ysgolion, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel fel y gall ein hysgolion fodloni disgwyliadau Estyn yn llawn?
Ac ar bwynt ehangach, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pendant y dylai eich Llywodraeth fod wedi'u rhoi ar waith i sicrhau na fyddem yn y sefyllfa hon?
Diolch, Peter. Rwy'n gwybod bod gennych ddiddordeb yn arweinyddiaeth ysgolion, gan eich bod wedi'i godi o'r blaen. Mae gennyf grŵp cynghori'r Gweinidog ar benaethiaid a chlywais yn uniongyrchol ganddynt hwy sut y gall arweinyddiaeth effeithiol wneud gwahaniaeth i addysgu a dysgu, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r grŵp cynghori ar benaethiaid am eu hamser, am eu hymrwymiad ac am eu parodrwydd i fod yn arweinwyr system i Gymru gyfan.
Mae gennym heriau wrth recriwtio a chadw uwch arweinwyr, a bydd y cynllun y byddaf yn ei gyhoeddi yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Rydym hefyd yn mynd i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio data'r gweithlu i gynllunio olyniaeth, ac fel bod gennym ddealltwriaeth fwy manwl o'r heriau. Drwy ein canllawiau newydd ar wella ysgolion, disgwylir i ysgolion weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwelliant. Mae ein safonau proffesiynol yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant o wella dysgu trwy weithio ar y cyd, ac mae Dysgu yn arwain ar ddysgu proffesiynol a chefnogaeth i arweinwyr ysgolion, gan gynnwys cyflwyno ein cymhwyster proffesiynol cenedlaethol newydd ar gyfer prifathrawiaeth, a datblygu cefnogaeth i arweinwyr canol ac uwch newydd a rhai presennol, gyda chefnogaeth hyfforddiant a mentora.
Fe wnaethoch chi sôn am bresenoldeb, sy'n amlwg wedi bod yn bryder i Estyn. Roedd Estyn yn eithaf awyddus i awdurdodau lleol gael targedau ar bresenoldeb. Gall targedau arwain at ganlyniadau anfwriadol pan fyddwch chi'n delio â materion cymhleth yn ymwneud â phlant yn mynychu'r ysgol, ond rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu targedau doeth fel y gallwn weld bod y duedd yn gwella drwy'r amser.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn amserol sydd heddiw, a bydd hwnna gan Heledd Fychan.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil datganiad y gwanwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig? TQ1448
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae datganiad y gwanwyn yn darparu £555 miliwn yn ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Mae setliad Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf bron i £6 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a nodwyd gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.
Diolch am yr ymateb hwnnw, a diolch hefyd am y datganiad ysgrifenedig ddoe. Wrth gwrs, dwi'n gobeithio bod pawb ohonom ni yma'n croesawu unrhyw arian ychwanegol i Gymru, yn enwedig o ystyried y sefyllfa hynod o heriol sy'n wynebu cyllidebau'r Senedd hon o ganlyniad i'r adolygiad gwariant diweddaraf, fydd yn arwain at y tyfiant isaf real mewn gwariant dydd i ddydd tu hwnt i'r blynyddoedd llymder cychwynnol, ynghyd, wrth gwrs, â chyllideb cyfalaf sydd am grebachu mewn termau real. Rydych chi eisoes wedi amlinellu yn natganiad ddoe sut mae'r arian yn mynd i gael ei ddosbarthu o flwyddyn i flwyddyn ac o ble mae'r arian wedi dod yn bennaf. Allwch chi gadarnhau pa ganran o'r arian ychwanegol sydd wedi deillio o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr ar anghenion dysgu ychwanegol, a pha ganran sydd wedi deillio o ganlyniad i'r penderfyniad i estyn cymorth treth busnes i'r sector lletygarwch a thafarndai? Hefyd, allwch chi amlinellu unrhyw feysydd eraill mae'n deillio ohono?
Mi fyddwn i hefyd yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut mae datganiad y gwanwyn yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad a glywson ni yn ddiweddar am fuddsoddiad yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, gan fod datganiad ddoe yn cyfeirio at hynny hefyd. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur i ni, yn ogystal ag arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes, sut yn union ddaeth Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i'r ffigur o £14 biliwn, a beth y tu hwnt i'r £445 miliwn a gafodd ei gyhoeddi eisoes yn ystod yr adolygiad gwariant sy'n cynrychioli arian pendant mae San Steffan wedi ymrwymo i'w ddarparu i Gymru yn ystod y cyfnod seneddol presennol. Felly, allwch chi gadarnhau a yw peth o'r arian canlyniadol yma yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad ynglŷn â'r buddsoddiad rheilffyrdd, ac, os nad yw, pryd yn union ydych chi'n disgwyl derbyn yr arian ychwanegol sy'n mynd tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn ystod yr adolygiad gwariant? Diolch i chi.
Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd.
Felly, dros dair blynedd o newidiadau datganiad y gwanwyn, mae £4 miliwn ym mhob blwyddyn o gynnydd cyfalaf cyffredinol. Yn y flwyddyn gyntaf, mae £5 miliwn, yn yr ail flwyddyn, £8 miliwn, ac yn y drydedd flwyddyn, £11 miliwn mewn refeniw sy'n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU mewn perthynas â chymorth ardrethi annomestig. Yn y flwyddyn gyntaf, 2026-27, ceir £327 miliwn ychwanegol mewn refeniw. Mae hwnnw'n arian untro. Mae'n ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ariannu'r dyledion a oedd wedi cronni mewn llywodraeth leol yn Lloegr oherwydd y mesur lliniaru statudol a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol mewn perthynas â gwariant ADY. Nid oes arian yn yr ail flwyddyn o ganlyniad i newidiadau yn Lloegr ar wariant anghenion dysgu ychwanegol, ond yn y drydedd flwyddyn, fe geir £208 miliwn ychwanegol, sy'n ganlyniad i'r rhaglenni gwariant newydd yn Lloegr mewn perthynas â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Nid yw datganiad y gwanwyn yn berthnasol i'r cyhoeddiad o £14 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd yng Nghymru.
Wrth gwrs, y pennawd o ddatganiad y gwanwyn ddoe oedd haneru'r rhagolwg o dwf economaidd ar gyfer 2026. Cynlluniwyd yn wreiddiol y byddai'n 1.9 y cant ar gyfer y DU; bellach rhagwelir y bydd yn 1.1 y cant. Clywsom hefyd fod diweithdra'n codi i 5.3 y cant, y lefel uchaf ers y pandemig, a hyd yn oed yn fwy damniol ar ddiweithdra y mae'r ffaith bod pobl ifanc 16 i 24 oed yn profi diweithdra o 16 y cant yn y DU, gyda llawer ohono'n ganlyniad uniongyrchol i bolisïau Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn ymwybodol o ddatganiad y gwanwyn fod trethi'n dringo tuag at 38.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros, uchafbwynt hanesyddol, ac wrth gwrs, pan fyddwch chi'n trethu swyddi ac yn ei gwneud hi'n ddrytach i gyflogi, nid ydych chi'n cael y ffyniant sydd ei angen arnom; mae'n arwain at farweiddio. Ac wrth gwrs, yma yng Nghymru, pan fydd twf y DU yn arafu, mae Cymru'n ei deimlo'n uniongyrchol. Mae twf arafach yn y DU yn golygu llai o dderbyniadau treth. Mae derbyniadau treth is yn golygu cynlluniau gwariant tynnach gan y Trysorlys. Ac oherwydd bod cyllideb Cymru'n cael ei phennu i raddau helaeth gan wariant y DU drwy fformiwla Barnett, mae twf gwannach ym Mhrydain yn golygu bod llai o arian ar gael yn y tymor hir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Yr hyn rydym ni'n ei gredu, wrth gwrs, yw bod Cymru'n elwa os yw economi'r DU yn tyfu'n gryf, drwy fwy o gyllid, mwy o swyddi, mwy o fuddsoddiad a chyflogau cryfach. Ac os yw twf yn arafu, caiff Cymru ei tharo ddwywaith, gan gyfleoedd gwannach yn y sector preifat a llai o gyllid cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa ddadansoddiad a wnaethoch chi o ganlyniad y rhagolwg o dwf economaidd gwannach i ddeall pa effaith y bydd hynny'n ei chael ar fuddsoddiad yma yng Nghymru o'r sector preifat ac unrhyw effaith ganlyniadol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal.
Wel, Ddirprwy Lywydd, dros y cyfnod llawn o bum mlynedd hyd at 2030, rhagwelir y bydd cynnyrch domestig gros real yn cynyddu 1.5 y cant bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac nid yw hynny wedi newid o'i gymharu â'r rhagolygon fis Tachwedd diwethaf. Mae adolygiad ar i lawr yn y cyfnod cynnar. Gwneir iawn am hynny gan adolygiad ar i fyny yn ddiweddarach yn y cyfnod. A dros y cyfnod cyfan, nid oes gostyngiad yn y rhagolygon twf. Mewn perthynas â diweithdra, er bod yr Aelod yn gywir fod y rhagolwg yn gweld cynnydd o'r 5.2 y cant presennol i 5.3 y cant mewn rhagolygon, mae hyn wedyn yn gostwng yn raddol i 4.1 y cant ar ddiwedd cyfnod y rhagolwg.
Cadarnhaodd datganiad y gwanwyn hefyd fod chwyddiant yn gostwng, fod cyfraddau llog i lawr chwe gwaith ers yr etholiad cyffredinol, ac mae'n cynnwys twf mewn cynhyrchiant, enillion ac incwm gwario aelwydydd dros gyfnod y rhagolwg. Erbyn diwedd cyfnod y rhagolwg, mae'r Canghellor yn disgwyl gwarged cyllidebol cyfredol o £24 biliwn, a gyrhaeddwyd flwyddyn yn gynharach nag y disgwyliai yn gynharach y llynedd.
Nid wyf am gwestiynu'r ffigurau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr ei bod yn anodd iawn deall yn union beth sy'n digwydd, ond roeddwn eisiau codi'r ymyl dibyn anodd sy'n bodoli o ganlyniad i'r ffaith bod y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n 30 y cant cyfalaf a 70 y cant refeniw, yn tapro ac yn dod i ben, i'w olynu gan y gronfa twf lleol, sef 70 y cant cyfalaf a 30 y cant refeniw. Gwyddom fod yna lawer o brosiectau, prosiectau llwyddiannus iawn, wedi'u hariannu gan y gronfa ffyniant gyffredin, fel y prosiect bwydo ar y fron gan gyngor Blaenau Gwent, sydd wedi cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar nifer y mamau sy'n bwydo ar y fron—dros ddwy ran o dair o famau'n bwydo ar y fron am gyfnod sylweddol, nid am 10 diwrnod yn unig—a phethau eraill; mae awdurdodau lleol eraill wedi buddsoddi mewn gwasanaethau lleferydd ac iaith, gan roi hwb iddynt i sicrhau eu bod ar gael yn haws i'r rhai sy'n gysylltiedig â thimau troseddau ieuenctid, fel nad yw'r bobl hynny'n mynd i'r carchar am nad ydynt wedi deall beth y mae'r ynad wedi'i ddweud wrthynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw bosibilrwydd o wneud y tapr yn llai llym o ganlyniad i'r arian ychwanegol hwn.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n rhannu pryder yr Aelod am y newid o'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa twf lleol a'r cyfrannau cyfalaf a refeniw fel y'u pennir gan Drysorlys Cymru yn y gronfa twf. Nid oedd unrhyw beth yn natganiad y gwanwyn a oedd yn berthnasol i'r cyfrifiadau hynny.
I fynd ar ôl y pwynt hwnnw gan Jenny Rathbone, efallai nad oedd unrhyw beth yn berthnasol i'r cyfrifiadau yn natganiad y gwanwyn ar y gronfa twf lleol, ond nawr fe wyddom fod £540 miliwn ychwanegol mewn refeniw yn dod i Lywodraeth Cymru, £15 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi trafod potensial defnyddio rhywfaint o'r cyllid hwnnw a ddaeth o ddatganiad y gwanwyn i leddfu'r ergyd i awdurdodau lleol, efallai hyd yn oed i achub rhai o'r swyddi a'r gwasanaethau sy'n cael eu colli o ganlyniad i'r rhaniad refeniw a chyfalaf hwnnw.
Dyma gyfle nawr i Lywodraeth Cymru unioni'r sefyllfa. Mae miloedd o swyddi yn y fantol yn ein hawdurdodau lleol. Mae'r pryder i'w deimlo yn ein hawdurdodau lleol. Mae Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, yn edrych ar golli pum swydd o bosib mewn perthynas â'r rhaglenni lles sydd ganddynt ar waith, sy'n cynnig miliynau o bunnoedd i'n hetholwyr bob dydd. Felly, rwyf am annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid hwn nawr, os nad i achub y gwasanaethau hynny ac achub y swyddi hynny yn yr awdurdod lleol, o leiaf i ariannu'r broses bontio. Nid oes arian ar gyfer pontio ar hyn o bryd i awdurdodau lleol. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r cyllid i achub y swyddi hynny, i achub y gwasanaethau hynny, oherwydd mae'r awdurdodau lleol hyn yn ei chael hi'n anodd iawn ac mae'r pryder ymhlith ein gweithlu i'w deimlo'n amlwg iawn.
Lywydd, wel, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwerus, ond nid ydynt ar fy nghyfer i, mewn gwirionedd, maent ar gyfer fy olynydd, gan nad oes dim o'r arian a gyhoeddwyd yn natganiad y gwanwyn yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol gyfredol. Pasiwyd y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf gan y Senedd hon rai wythnosau yn ôl. Bydd gan y Llywodraeth newydd £327 miliwn yn fwy mewn refeniw i'w wario nag y gwyddem amdano cyn ddoe, ond bydd yn rhaid i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan y Llywodraeth sy'n gyfrifol am reoli'r gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ysgrifennydd cyllid, nid wyf yn gwneud hwn yn bwynt gwleidyddol, ond gallai'r ffigurau yn natganiad y gwanwyn ddoe, gyda'r digwyddiadau yn y dwyrain canol, newid yn sylweddol mewn cyfnod cymharol fyr. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth Luke Fletcher ynglŷn â'r ffaith mai'r Llywodraeth newydd fydd yn cael yr arian hwn, ac mae'n debyg y caiff ei groesawu'n fawr iawn. Ond rwy'n annog—ac yn gobeithio y byddech chithau, fel Ysgrifennydd cyllid, yn annog—cadw llygad barcud ar yr economi a'r cymorth a allai fod ei angen ar fusnesau gyda chostau ynni, a sicrhau eu bod yn cynnal eu gweithrediadau busnes, gan y gallai'r pwysau ar y busnesau hynny fod mor ddifrifol â'r ymosodiad ar Wcráin, a wthiodd gostau ynni i fyny yn ddiweddar.
A allech chi gadarnhau a oes unrhyw gynlluniau gan y Trysorlys i gysylltu â Gweinidogion cyllid y gweinyddiaethau datganoledig i drafod ffynonellau cymorth posib a allai fod yn ofynnol yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, os bydd y senarios gwaethaf posib yn digwydd yn y dwyrain canol?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiynau, sydd, mewn ffordd, yn codi'r materion mwyaf dwys rydym wedi'u clywed y prynhawn yma, rwy'n credu, gan y lluniwyd datganiad y gwanwyn y Canghellor, a gwnaed y rhagolygon, cyn goresgyniad neu ymosodiadau'r Unol Daleithiau ac Israel ar Iran.
Credaf y byddai unrhyw Weinidog cyllid newydd yn ddoeth iawn i beidio â dechrau gwario'r £327 miliwn hwnnw eto, gan ei bod yn bosib y bydd rhai galwadau brys am refeniw pan fydd y Senedd nesaf yn ymgynnull, mewn busnesau, ym mywydau dinasyddion Cymru, yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Pan gododd prisiau ynni yn syth wedi'r ymosodiad ar Wcráin, cafwyd bil o £80 miliwn i'r gwasanaeth iechyd gwladol yn unig mewn costau refeniw uwch am ynni. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud ynglŷn â'r angen i reoli'r cyfleoedd ychwanegol a ddaeth gyda datganiad y gwanwyn yn ddoeth, gan ei bod yn bur debyg y bydd angen yr arian hwnnw.
O ran cyfleoedd i drafod materion gyda'r Trysorlys, cefais drafodaeth gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fore ddoe, cyn datganiad y gwanwyn, a byddaf yn cyfarfod ag ef eto gyda Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn nes ymlaen y mis hwn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y breakdown a'r dadansoddiad a roddoch chi o faint o arian a oedd yn dod yn sgil pa ddyraniadau ddaeth yn natganiad y gwanwyn ddoe. Mae'n bwysig, o ran tryloywder, ein bod ni'n cael y wybodaeth yna, ond oni ddylai hwnna fod wedi bod yn eich datganiad ysgrifenedig chi ddoe, yn hytrach na'n bod ni'n gorfod cael cwestiwn amserol i gael y wybodaeth yna?
Na. Rhaid i'r Aelod roi rhywfaint bach o amser inni sicrhau ein bod yn deall y penderfyniadau y tu ôl i ddatganiad y gwanwyn ac o ble y daw'r arian sy'n dod i Gymru. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu nodi'r cyfan i chi y prynhawn yma, ond mae'n cymryd rhywfaint bach o amser i allu archwilio'r penawdau yn natganiad y gwanwyn ac i ddeall beth yn union y mae'r £555 miliwn, a gyhoeddwyd yn natganiad y gwanwyn, yn ei gynnwys a sut olwg sydd ar y gwahanol flynyddoedd, a'r rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw ac yn y blaen. Rwy'n falch o fod wedi gallu ei ddarparu i'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Joel James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sul, dathlodd llawer ohonom Ddydd Gŵyl Dewi, achlysur balch i goffáu ein treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol gyffredin. Ond roedd 1 Mawrth hefyd yn Ddiwrnod Morwellt y Byd, achlysur i'n hatgoffa fod rhai o'r grymoedd mwyaf pwerus sy'n ffurfio ein hamgylchedd yn gorwedd yn dawel o dan y don. Fel hyrwyddwr morwellt Senedd Cymru, rwy'n falch o weithio ochr yn ochr â sefydliadau gwych fel Prosiect Morwellt, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Rhwydwaith Morwellt Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, a WWF Cymru i eirioli dros ei ddiogelu a'i adfer.
Er ei fod yn edrych yn ddigon di-nod, mae morwellt yn un o gyfeillion pwysicaf ein cefnforoedd. Gall amsugno carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Mae'n hidlo llygryddion, yn gwella ansawdd dŵr, yn darparu cynefinoedd magu hanfodol ar gyfer bywyd morol, ac yn diogelu ein harfordiroedd drwy leihau ynni tonnau a risg llifogydd. Fe'i disgrifir, yn gywir ddigon, fel un o'n hatebion naturiol pwysicaf. Felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ac adfer ein dolydd morwellt ac yn gwrthsefyll yr heriau sy'n eu bygwth. Wrth inni nodi Dydd Gŵyl Dewi, gadewch inni gofio hefyd fod diogelu ein hamgylchedd naturiol yn mynd law yn llaw â diogelu ein cymunedau a buddsoddi yn nyfodol Cymru. Diolch.
Roedd hi'n Ddydd Gŵyl Dewi y penwythnos diwethaf, ac roedd yna ddathliad o'r radd flaenaf yng nghwm Tawe eleni, gyda chynnal eisteddfod leol newydd. Cynhaliwyd Eisteddfod Cwm Tawe yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ddydd Sadwrn, yn ffrwyth gwaith misoedd lawer gan wirfoddolwyr a oedd yn awyddus i weld parhau ar y bwrlwm ac i adeiladu ar y gefnogaeth ar gyfer y Gymraeg yn lleol yn sgil cynnal prifwyl yr Urdd yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef Eisteddfod Dur a Môr y llynedd.
Bu 88 o gystadlaethau canu, dawnsio, llefaru, offerynnol a gwaith cartref, gyda dros 500 o gystadleuwyr. Roedd hi'n benderfyniad bwriadol gan y pwyllgor i geisio annog dysgwyr i gymryd rhan, ac fe wnaethant â chryn frwdfrydedd. Daeth dros 1,000 o bobl drwy'r drysau. Felly, mae angen llongyfarch pawb a fu'n rhan o wneud Eisteddfod Cwm Tawe yn gymaint o lwyddiant.
Mae Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr hefyd wedi ysbrydoli sefydlu eisteddfod Nedd, a fydd yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin Castell-nedd ar 25 Ebrill. Mae dewis ysgol cyfrwng Saesneg fel y lleoliad yn benderfyniad bwriadol eto gan y trefnwyr, er mwyn adeiladu ar y ffigurau gwych o gystadlu a gafwyd gan ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal ym mharc Margam y llynedd.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi yr wythnos hon bwysigrwydd sicrhau mwy o gyfleodd cymunedol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg. Felly, hoffwn ddiolch o galon i drefnwyr y ddwy eisteddfod leol newydd yma yng Nghastell-nedd Port Talbot, a, thrwy hynny, sicrhau parhad ein hiaith a'n diwylliant ym mro Gwenallt a Dafydd Rowlands.
Roedd hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yr wythnos diwethaf. Eleni, mae'n canolbwyntio ar thema cymuned, thema na allai fod yn bwysicach yma yng Nghymru. Mae o leiaf 62,500 o bobl yng Nghymru yn byw gydag anhwylder bwyta, gyda channoedd o filoedd yn rhagor yn cael eu heffeithio fel aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Ac eto, er y niferoedd hyn, mae llawer o bobl yn wynebu anhwylderau bwyta ar eu pen eu hunain. Gall anhwylderau bwyta newid y ffordd y mae pobl yn cysylltu ag eraill, gan arwain yn aml at dynnu'n ôl o fywyd cymdeithasol ac amharodrwydd dwfn i siarad ynglŷn â’r hyn y maent yn ei wynebu. Gall y rhai sy'n cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta hefyd deimlo'n ynysig, gan wynebu stigma, camddealltwriaeth, a chael eu gorfodi mewn rhai achosion i gamu'n ôl o waith neu addysg.
Gwyddom mai ymyrraeth gynnar sy'n cynnig y cyfle gorau i wella, ond gall ynysigrwydd atal pobl rhag ceisio cymorth, pan nad yw pobl yn cydnabod y broblem, heb wybod bod cymorth yn bodoli, neu'n teimlo nad ydynt yn ddigon sâl i ofyn am gymorth. A dyna pam fod cymuned yn bwysig. Gall cymunedau tosturiol, gwybodus, boed mewn teuluoedd, gweithleoedd, grwpiau cymorth gan gyfoedion neu fannau ar-lein, fod yn rhaff achub. Fel y dywedodd un cyfranogwr yn y grŵp cymorth ar-lein Beat, 'Rwy'n teimlo ychydig yn well yn cael lle i siarad am y pethau hyn yn gyfforddus.'
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni, rwy'n ein hannog ni oll i gefnogi gwaith Beat, codi ymwybyddiaeth, a helpu i adeiladu cymunedau lle nad oes unrhyw un yn wynebu anhwylder bwyta ar eu pen eu hunain. Diolch.
Diolch i Joel, Sioned a Julie.
Eitem 5 yw'r enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM9174 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5:
1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Adrian Crompton yn ystod ei dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Catherine Mealing-Jones i’w phenodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Fawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau yn syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Penodiad y Goron yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dilyn enwebiad gan y Senedd o dan adran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Fel y pwyllgor â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi chwarae rôl drwy gydol y broses recriwtio hon, ac mae’r manylion llawn wedi’u cynnwys yn ein hadroddiad.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r archwilydd cyffredinol yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Maent yn sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn rheoli cyllid yn effeithlon ac yn dryloyw, i'r safonau llywodraethu uchaf. Mae eu hannibyniaeth yn hanfodol i uniondeb y swyddogaeth archwilio, a'r annibyniaeth hon sy'n sail i ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y pwyllgor, i enwebu Catherine Mealing-Jones i'w phenodi'n archwilydd cyffredinol newydd gan Ei Fawrhydi.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r archwilydd cyffredinol presennol, Adrian Crompton, am ei ymroddiad a'i gyfraniad sylweddol yn ei wyth mlynedd yn y swydd. Mae Adrian wedi bod yn was sifil rhagorol ac wedi gwasanaethu gyda rhagoriaeth. Cefais y pleser o weithio gydag Adrian yn fy nghyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ddiolch iddo am ei ymgysylltiad cadarnhaol ac adeiladol â ni, yn ogystal â'r mewnwelediadau a'r awdurdod y mae wedi'u darparu i'r Senedd gyfan i lywio ein gwaith craffu.
Fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad, mae'n hanfodol fod y broses o recriwtio'r archwilydd cyffredinol yn cael ei chynnal mewn ffordd sy'n ei rhyddhau oddi wrth unrhyw awgrym o ymyrraeth wleidyddol. O'r herwydd, fe wnaethom sicrhau bod dwy blaid wedi'u cynrychioli ar y panel penodi. Roedd Mark Isherwood a minnau'n cynrychioli'r pwyllgorau rydym yn eu cadeirio, ac ymunodd dau unigolyn uchel eu parch arall â ni, cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Ian Rees, a Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Jersey, Lynn Pamment.
Yn dilyn y cyfweliadau, mynychodd yr ymgeisydd a ffefrir wrandawiad cyn enwebu cyhoeddus y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol ar 29 Ionawr, lle gwahoddwyd aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gymryd rhan hefyd.
Mae'r pwyllgor yn credu’n gryf fod cynnal gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau bod yr ymgeisydd a nodwyd fel yr unigolyn mwyaf addas ar gyfer y rôl yn destun gwaith craffu agored a thryloyw. Yn ystod y gwrandawiad gyda Catherine, gwnaethom archwilio ei chymhwysedd proffesiynol, sut y mae'n bwriadu ymgymryd â rôl yr archwilydd cyffredinol, a'r profiad a'r arbenigedd sydd ganddi a fyddai’n berthnasol i'r swydd.
Mae Catherine wedi dangos ymrwymiad cadarn i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei gyrfa nodedig hyd yn hyn, ac mae hefyd yn dangos tystiolaeth o’r prif rinweddau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Felly, dyma ofyn i'r Senedd dderbyn y cynnig hwn i enwebu Catherine Mealing-Jones er mwyn i Ei Fawrhydi ei phenodi'n Archwilydd Cyffredinol Cymru. Diolch yn fawr.
Does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 6 ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Cymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9189 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at dan-ariannu hanesyddol a systematig rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwario mewn meysydd heb eu datganoli i wneud iawn am y diffyg hwn, ar linellau craidd y cymoedd er enghraifft.
3. Yn nodi:
a) nad yw cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gostio i raddau helaeth ar gyfer tymor seneddol presennol y DU; a
b) absenoldeb addewidion pendant a chynllun i ariannu'r prosiectau seilwaith rheilffyrdd sydd ar y gweill drwy adolygiadau gwariant Llywodraeth y DU sydd i ddod.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud yr achos i Lywodraeth y DU i egluro pryd y bydd Cymru yn cael y buddsoddiad arfaethedig ac i ba raddau y mae'n ddibynnol ar benderfyniadau cyllideb Llywodraeth y DU yn y dyfodol; a
b) gwneud yr achos i Lywodraeth y DU i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru, yn unol â phwerau sydd eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynigiwyd y cynnig.
Unwaith eto. Diolch, Dirprwy Lywydd. Am ddegawdau, mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef tanfuddsoddiad cronig. Tra bod prosiectau enfawr wedi eu hariannu yn Llundain a thu hwnt, mae Cymru wedi gorfod aros: aros am drydaneiddio, aros am welliannau, aros am degwch. Nid mater o ddamcaniaeth wleidyddol ydy hyn; mae'n batrwm clir o flaenoriaethu buddsoddiadau yn un rhan o'r Deyrnas Unedig dros rannau eraill.
A phan ddaw cyhoeddiad mawr, mae Cymru’n cael y pennawd, ond nid y sicrwydd. Rydym wedi gweld hyn o’r blaen. Addawyd trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Addawyd trawsnewid. Ond pan ddaeth hi’n amser talu, diflannodd yr ymrwymiad yn dilyn canlyniad yr etholiad. Rŵan, rydyn ni'n clywed sôn am £14 biliwn. Ond beth yn union ydy’r £14 biliwn hwnnw? Ydy o'n arian wedi’i addo? Ydy o'n ymrwymiad gyda phroffil gwariant clir? Neu a ydy o yn amcangyfrif hirdymor aneglur, yn dibynnu ar ewyllys gwleidyddol yn San Steffan? Oherwydd os mai’r olaf ydi o, fel dwi’n tybio, yna nid yw'n setliad ariannol pendant a dibynadwy. Mae'n obeithion ar bapur neu'n daflen etholiad cyfleus. Mae Cymru wedi byw ar obeithion fel hyn yn rhy hir.
Y llynedd, gwnaeth yr Athro Mark Barry y pwynt, os nad oes ewyllys wleidyddol ar y naill ben i'r M4 i roi cyfrifoldeb llawn i Gymru am ei rhwydwaith rheilffyrdd, dylai Cymru fod â hawl i gronfa wedi'i chlustnodi o £2 biliwn i £3 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf. Yn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi'i gadarnhau o fewn cyfnod yr adolygiad o wariant presennol hyd at fis Mawrth 2030. Yn ymarferol, mae hwn yn gyhoeddiad heb ei gostio. Ar y cyflymdra presennol, byddai'n cymryd degawdau—dwsinau o adolygiadau o wariant—i gyflawni'r gwaith a nodwyd. Nid setliad rheilffyrdd wedi'i ariannu'n llawn yw'r hyn sydd wedi'i gyflwyno i ni, ond cynllun hirdymor wedi'i gyflwyno fel gwarant.
Nid siec wedi'i hysgrifennu i Gymru yw'r £14 biliwn, ond amcangyfrif o faint y gallai prosiectau gostio pe bai Llywodraethau'r dyfodol yn penderfynu eu hariannu. O fewn cyfnod yr adolygiad o wariant hwn, dim ond ffracsiwn sydd wedi'i gadarnhau. Mae'r gweddill yn dibynnu ar ewyllys wleidyddol, yr union ewyllys wleidyddol y mae Cymru wedi bod yn brin ohoni yn rhy aml. Pe bai hyn wedi'i gadarnhau go iawn, gallai Gweinidogion gyhoeddi'r proffil ariannu blynyddol. Gallent gadarnhau bod y dyraniadau cyfalaf wedi'u gwarantu, pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf y DU. Gallent ddangos llinell wariant y Trysorlys. Ond ni allant, oherwydd nid sicrwydd yw hwn, ond dyhead.
Pan fydd trawsnewidiad trawiadol gwerth £14 biliwn yn ymddangos ar drothwy etholiad, heb ddyraniadau rhwymol nac amserlenni cyflawni, mae gan bobl hawl i ofyn ai cynllunio seilwaith neu ymgyrchu etholiadol yw hyn mewn gwirionedd. Ble y clywsom y math hwn o beth o'r blaen? Fe'i clywsom mewn perthynas â thrydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru—addewid a wnaed ar drothwy etholiad arall y dywedodd hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwladol presennol ei bod yn amheus tu hwnt ohono. Pan fydd grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ar ddadlau'r achos dros orsafoedd rheilffordd newydd yn cael eu calonogi gan ymweliadau gan y Prif Weinidog sy'n addo'r byd, rwy'n ofni y gallent gael eu siomi. Er eu mwyn nhw, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair, beth bynnag y bo canlyniadau'r etholiad.
Gan ddod at y mater sylfaenol, cyhyd â bod seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, nid yw Cymru'n rheoli ei thynged ei hun. Rydym yn aros. Rydym yn lobïo. Rydym yn negodi. Ac yn rhy aml, rydym ar ein colled. Pan ddatganolwyd pwerau rheilffyrdd i'r Alban a Gogledd Iwerddon, cawsant addasiadau cyllid. Ni chafodd Cymru mohonynt. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwario mewn meysydd heb eu datganoli i lenwi'r bwlch. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r rhan fwyaf o brosiectau de Cymru o'r grant bloc, ac mae hyd yn oed wedi cynnig cynyddu ei chyfraniad fel y gall cynlluniau pellach ddechrau.
Gwelsom hyn eto yn ddiweddar, pan fu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo £21 miliwn tuag at welliannau yng ngorsaf Caerdydd Canolog, gan ddarparu cymorth lle mae San Steffan wedi methu. Yn 2020, cawsom reolaeth weithredol dros linellau craidd y Cymoedd pan gawsant eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Ond heb gynnydd teg a chyfatebol yn y grant bloc, a allwn alw hynny'n onest yn ddatganoli llawn?
Yn wir, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, yn ei gyfnod cyntaf gyda'r briff trafnidiaeth, yr union bwynt hwn yn 2020—pan drosglwyddwyd llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru—sef oni bai fod y grant bloc yn cael ei addasu yn unol â hynny, nid yw yn ysbryd datganoli. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod yn wir.
Rydym wedi gorfod ychwanegu at y cyllid gydag arian o'n setliad presennol, gan roi pwysau ar iechyd, addysg a llywodraeth leol i dalu am brosiectau a ddylai fod wedi dod gydag adnoddau. Byddai datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn, ynghyd ag addasiad teg a pharhaol i'r grant bloc, yn dod â'r ansicrwydd hwn i ben. Byddai'n newid y fformiwla gyllido'n barhaol, byddai'n cael gwared ar ddibyniaeth ar ewyllys da, a byddai'n caniatáu cynllunio hirdymor yn hytrach na chlytwaith o fesurau tymor byr. Sicrwydd yn hytrach na datganiadau i'r wasg, cyflawniad yn hytrach na phenawdau. Mae Cymru'n haeddu rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i ariannu'n iawn, wedi'i gynllunio'n iawn, ac yn briodol atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Dim ond Llywodraeth Plaid Cymru sy'n mynd i sefyll dros Gymru a sicrhau'r arweinyddiaeth newydd y mae ei hangen mor daer.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at dybiaeth anghywir Plaid Cymru nad yw llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli.
2. Yn nodi bod llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli yn 2020.
3. Yn credu bod y sylwadau a fynegwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau gan arsylwyr yn dangos bod y ddadl dros gyllid i’r rheilffyrdd bellach wedi’i hennill, a gall y drafodaeth bellach symud ymlaen i gyflawni manteision mesuradwy i Gymru a’r Gororau.
4. Yn cefnogi’r canlynol:
a) y trawsnewidiad datganoledig gwerth £1 biliwn o linellau craidd y cymoedd a arweinir gan Lywodraeth Cymru ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r fargen ddinesig ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd;
b) cynllun Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd, ‘Ymlaen, Gyda’n Gilydd’; a
c) bod y buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yn digwydd cyn gynted â phosibl.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy'n cynnig y gwelliant.
Galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru.
2. Yn nodi bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd trawsffiniol yn hanfodol i sicrhau bod Cymru'n cael ei chysylltu'n llawn o fewn y Deyrnas Unedig.
3. Yn nodi nad oedd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar orsafoedd rheilffordd newydd yn ymrwymiadau newydd gan eu bod wedi'u cyhoeddi mewn adolygiadau gwariant blaenorol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch:
a) adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru
b) darparu cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd Rhydychen a Chaergrawnt
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies, fel y'i nodir ar y papur trefn. Fel Ceidwadwyr Cymreig, credwn nad moethusrwydd yn unig yw trafnidiaeth dda, ond asgwrn cefn economi fodern sy'n tyfu. Heddiw, rydym yn trafod nid yn unig rheilffyrdd, ond a yw Cymru'n dewis cysylltedd a chydweithrediad o fewn y Deyrnas Unedig, neu a ydym yn caniatáu i Blaid Cymru ein llusgo ymhellach i lawr y llwybr hir tuag at wahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn glir. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru. Gwyddom fod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd sy'n croesi ein cenedl yn hanfodol i sicrhau bod Cymru wedi'i chysylltu'n llawn o fewn y Deyrnas Unedig.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Felly, a ydych chi'n gresynu na lwyddodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU i gyflawni hyn i Gymru chwaith?
Yr hyn rwy'n ei gydnabod yn llwyr yw bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yng nghyfnodau rheoli pump a chwech, wedi buddsoddi £750 miliwn a £350 miliwn, yn y drefn honno, sy'n llawer mwy na'r hyn y mae Llafur y DU yn ei fuddsoddi, sef £445 miliwn. Rydym yn credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn wahanol i'r ymwahanwyr ym Mhlaid Cymru, sydd am ein datgysylltu o'r Deyrnas Unedig. Rydym yn galw am degwch—tegwch mewn cyllid, tegwch mewn dosbarthiad, a thegwch i bobl Cymru.
Gadewch imi ddechrau gyda galwad sylfaenol Plaid Cymru yn y cynnig hwn yma heddiw. Yn amlwg, maent eisiau datganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Ond gadewch inni fod yn onest ynglŷn â hyn. Nid yw'n ymwneud â chreu gwell effeithlonrwydd. Nid yw'n ymwneud â darparu gwasanaethau'n well. Mae'r cyfan yn rhan o strategaeth Plaid Cymru—pwerau cynyddrannol, un ar ôl y llall, wedi'u llunio i wthio Cymru ymhellach tuag at eu hamcan terfynol, sef annibyniaeth. Wrth gwrs, fe wyddom, yn ôl Llywodraeth y DU, fod cost yr annibyniaeth honno oddeutu £20 biliwn i drethdalwyr yma yng Nghymru. Dyna £11,000 gan bob trethdalwr yma yng Nghymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Nid wyf mor ideolegol â'r Aelod Ceidwadol. A all gadarnhau ei fod yn fwy na pharod i reilffyrdd Cymru gael eu tanariannu, cyhyd â bod y pŵer dros reilffyrdd yn parhau i fod wedi'i ganoli yn San Steffan?
Yn sicr, rydym yn galw am fuddsoddiad yng Nghymru, a dyna pam y gwnaethom ymuno â chyd-Aelodau ar draws y Siambr hon i sicrhau bod cyllid HS2 yn dod i Gymru, yn hytrach na'i fod yn cael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr. Mae Plaid Cymru yn rhan o bob dadl. Mae pob dadl y maent yn rhan ohoni yn troi o gwmpas yr un ddadl. Mae pob mater yn dod yn gŵyn gyfansoddiadol, a seilwaith rheilffyrdd yw’r cyfrwng diweddaraf ar gyfer yr agenda honno. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’n gryf—
A gaf i wneud ymyriad, os gwelwch yn dda?
Fe dderbyniaf ymyriad, gwnaf.
Diolch yn fawr. Nid wyf yn aelod o Blaid Cymru. Rwy'n aelod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Nid ydym yn credu mewn annibyniaeth, ac eto rydym am i gyllid rheilffyrdd gael ei ddatganoli—ei ddatganoli'n llawn—i Gymru. Felly, a allech chi ddiwygio'ch safbwynt, os gwelwch yn dda, i ddweud nad yw o blaid annibyniaeth? Oherwydd nid yw hynny'n wir. Diolch.
Mae'n swnio fel neges eithaf dryslyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yno, nad yw'n ddim byd newydd iddynt hwythau chwaith.
Rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw ddatganoli pellach i'r seilwaith rheilffyrdd. Mae economi Cymru’n dibynnu ar gysylltedd trawsffiniol. Mae busnesau yn Wrecsam yn masnachu â Chaer, wrth gwrs, ac mae cwmnïau yng Nghaerdydd yn masnachu â Bryste a Llundain. Nid yw ein rhwydwaith rheilffyrdd yn dod i ben ar ein ffiniau, ac ni ddylai ein cynlluniau strategol wneud hynny chwaith.
A bod yn deg â Phlaid Cymru, maent i'w gweld braidd yn ddryslyd, fel y gwelsom o welliannau'r Llywodraeth a gyflwynwyd heddiw. Gadewch imi ddarllen gwelliannau'r Llywodraeth. Mae eu pwynt cyntaf yn y gwelliant yn cynnig ein bod:
'Yn gresynu at dybiaeth anghywir Plaid Cymru nad yw llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli.'
Yn sicr, mae rhywfaint o ddryswch yno. Mae’r ail welliant gan y Llywodraeth yn dweud:
'Yn nodi bod llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli yn 2020'.
[Torri ar draws.] Pedwerydd ymyriad, Lywydd, er gwybodaeth.
Onid oeddech chi'n gwrando pan ddywedais yn fy nghyfraniad yn gynharach na all fod yn ddatganoli llawn os na chewch y cyllid a'r addasiad i'r grant bloc?
Yn amlwg, nid oeddwn yn gwrando'n ddigon astud, ond mae'n amlwg fod rhywfaint o ddryswch yn rhengoedd Plaid Cymru ynghylch sut y mae datganoli rheilffyrdd yn gweithio ar hyn o bryd.
Mae'r ail ran o'r dryswch yn rhengoedd Plaid Cymru yn eu gwelliant 4(b), lle maent yn galw am ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn unol â phwerau sydd eisoes gan yr Alban. Wrth gwrs, Network Rail sy'n rhedeg y seilwaith rheilffyrdd yn yr Alban. Felly, drwy ddileu'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli ar linellau craidd y Cymoedd, mae Plaid Cymru mewn gwirionedd eisiau ymbellhau oddi wrth ddatganoli rheilffyrdd os ydynt eisiau'r hyn sydd gan yr Alban, fel y dywedaf, gan fod eu seilwaith nhw o dan reolaeth lawn Network Rail.
Ar y cyllid, HS2 yw lle y gallem gytuno o bosib. Mae HS2 wedi'i ddosbarthu yn brosiect Cymru a Lloegr, ac eto ni fydd milltir o drac yn cael ei osod yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn gyson y dylai Cymru gael y cyllid canlyniadol hwnnw yn sgil HS2, ac fe wnaethom ddweud hynny pan oeddem mewn grym hefyd fel Ceidwadwyr Cymreig. Mater o—[Torri ar draws.] Pumed ymyriad, Lywydd.
Er cywirdeb, Sam, nid dyna oedd safbwynt y Ceidwadwyr tan yr etholiad pan ymunoch chi â'r Senedd, ac fe newidiodd safbwynt y grŵp Torïaidd. I ddechrau, gwrthododd y grŵp Torïaidd alwadau llawer yn y Siambr hon a oedd eisiau i gyllid canlyniadol HS2 gael ei ddatganoli. Ac rydych chi hefyd yn anghofio'r addewid a dorrwyd gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, cynllun a gafodd ei ganslo wedyn ar y sail nad oedd yr Adran Drafnidiaeth yn credu ei fod yn darparu gwerth da am arian. Dyna pam y mae angen inni ddatganoli cyllid rheilffyrdd, am ei fod yn caniatáu inni wneud y penderfyniadau hynny ein hunain ar sail cyfran ganlyniadol o gronfa rheilffyrdd Lloegr, yn hytrach na chael ein barnu yn ôl cynlluniau mewn rhannau eraill o Loegr.
Rwy'n credu mai'r hyn nad yw'r Aelod yn ei gydnabod yw pwysigrwydd strategol y cynllunio trawsffiniol hwnnw, a pham fod angen inni weithio ledled y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Ar gyllid HS2, fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig—yn sicr yn y tymor hwn ers imi fod yn Aelod yma—wedi galw'n gyson am i'r cyllid hwnnw ddod i Gymru.
Pan fyddwn yn sôn am onestrwydd yn y ddadl hon, gadewch inni edrych ar y cyhoeddiad diweddar o £445 miliwn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer y gorsafoedd newydd hynny, sydd, wrth gwrs, yn fuddsoddiad yr ydym yn ei groesawu yma yng Nghymru, ond mae'r rhain yn orsafoedd sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Nid yw'n arian newydd; maent yn ymrwymiadau wedi'u hailbecynnu. Mae'r pecyn cymorth o £14 biliwn y sonnir amdano'n parhau i fod yn ddamcaniaethol a heb amserlenni cyflawni cadarn, a dweud y lleiaf.
Fel y dywedais yn gynharach wrth yr Aelod a ymyrrodd, gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yng nghyfnodau rheoli 5 a 6, wedi buddsoddi £750 miliwn a £350 miliwn yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, sydd ymhell uwchlaw'r ymrwymiadau gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU.
Lywydd, rwy'n credu bod fy amser yn dod i ben, felly rwyf am orffen fy sylwadau. Rwyf am fod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym yn sefyll o'i blaid. Rydym yn sefyll o blaid cysylltiadau trafnidiaeth cryf ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig fel galluogwr twf economaidd. Rydym yn sefyll o blaid cyllid teg. Yr hyn nad ydym yn sefyll o'i blaid yw siarad mawr cyfansoddiadol dan gochl polisi seilwaith. Mae Plaid Cymru yn edrych ar reilffyrdd fel carreg sarn arall tuag at annibyniaeth. Rydym ni'n edrych ar reilffyrdd fel modd o greu swyddi, tyfu busnesau, cysylltu cymunedau, a chryfhau Cymru mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu efallai fod yr Aelod sydd newydd fod yn siarad wedi gwrthod cydnabod y tanariannu hanesyddol gan ei blaid ei hun ac wedi ceisio cyfiawnhau'r tanfuddsoddiad hanesyddol hwnnw.
Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth cadarnhaol yn fy nghyfraniad. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n credu bod llawer i fod yn gadarnhaol amdano yno. Mae'n anffodus ei bod wedi cymryd 27 mlynedd i gael cynllun ar waith. A hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid inni fyfyrio ar y ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr un presennol, Jo Stevens, wedi amddiffyn y tanariannu hanesyddol parhaol a welsom yn yr adolygiad o wariant drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael popeth y gofynnodd amdano. Popeth y gofynnodd amdano. Felly, mae'n hen bryd inni gael y cynllun hwn.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi siarad yn frwdfrydig iawn am gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad rheilffyrdd. A phe bai'r ymrwymiadau hyn yn gadarn, wedi'u hariannu a'u gwarantu, byddent i'w croesawu yn wir. Buaswn yn credu y byddai pob Aelod Llafur Cymru eisiau bod yma i gyfrannu at y ddadl hon. Ond nid ydynt yma. Oherwydd mae Cymru wedi wynebu degawdau o danfuddsoddi cronig gan Lywodraethau olynol y DU, ac nid oes unrhyw arwydd fod hynny'n mynd i newid. Mae'r niwed yn real. Mae'r tanfuddsoddi hwnnw, yr addewidion ffug, yn real.
Ond rydym ni yng Nghymru wedi dysgu dro ar ôl tro i fod yn wyliadwrus o addewidion o'r fath gan San Steffan. Rydym wedi ennill yr hawl i fod yn amheus am ein bod wedi cael ein siomi ormod o weithiau. Rydym yn cofio'r ymrwymiad i drydaneiddio prif linell reilffordd Caerdydd i Abertawe—ymrwymiad a anghofiwyd dros nos. Rydym yn cofio'r addewid i uwchraddio prif linell reilffordd gogledd Cymru—addewid y caniatawyd iddo ddiflannu heb esboniad. Rydym yn cofio addewid Llafur i wrthdroi anghyfiawnder HS2, dim ond i'r addewid anweddu cyn gynted ag y cafodd Llafur allweddi Stryd Downing. Nid wyf yn gwybod sut y gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfiawnhau'r tro pedol hwnnw.
Amlinellodd Peredur hefyd—a gobeithio y bydd Sam yn gwrando nawr, gan fy mod am ailadrodd hyn er ei fwyn ef—y ffaith i linell graidd y Cymoedd gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn 2020, ond heb yr addasiadau cyfatebol i'r grant bloc. Dyna pam y cyfeiriodd arbenigwyr uchel eu parch fel yr Athro Mark Barry at ddatganoli llinell graidd y Cymoedd mewn dyfynodau. Pam ein bod yn cael ein trin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon?
Ac o ran y cyhoeddiad diweddaraf hwn, pan fyddwn yn craffu ar y manylion, nid yw'r ffigurau'n gwneud synnwyr. A buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu yn ei ymateb sut y cyfrifwyd y ffigur. Ac o'r £14 biliwn sy'n cael ei grybwyll, dim ond £445 miliwn sy'n ymwneud â'r cyfnod adolygiad o wariant presennol, ac mae hyd yn oed hynny wedi'i ledaenu'n denau dros ddegawd. I roi rhywfaint o gyd-destun, mae angen oddeutu £250 miliwn ar Gymru bob blwyddyn i gael dim mwy na'r un faint yn ganrannol â'r buddsoddiad yn rheilffyrdd Lloegr. Ni chafwyd esboniad clir o ba bryd y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ryddhau, beth y bydd yn ei ariannu na sut y bydd y prosiectau hyn yn symud y tu hwnt i'r dudalen i'r camau cyflawni, ac yn bwysicach fyth, yn cael eu cwblhau.
Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a elwir yn fuddsoddiad yn ddamcaniaethol, yn seiliedig ar benderfyniadau nad yw Llywodraeth y DU yn y dyfodol wedi'u gwneud eto. Nid yw gobaith yn strategaeth ariannu. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw parodrwydd sydyn Gweinidogion Cymru i dderbyn y cyhoeddiadau hyn ar eu golwg a'u cyflwyno ar y cyd i bobl Cymru. Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru'n uchel eu cloch am danariannu systematig rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Datgelodd eu dadansoddiad eu hunain yn 2020 fod Cymru biliynau ar eu colled ers datganoli. Fodd bynnag, pan wnaed galwadau y llynedd am asesiad newydd, i adlewyrchu'r diffyg gweithredu parhaus, anwybyddwyd y galwadau hynny. Yn hytrach, cafwyd gwenieithio gwleidyddol yn lle'r sgeptigaeth.
Os ydym am ddeall agwedd go iawn Llywodraeth y DU tuag at fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, nid oes ond angen inni edrych ar y ffeithiau. Mae ffactor cymharedd trafnidiaeth Cymru wedi gostwng ymhellach o dan Lafur, gan leihau cyfran y gwariant trafnidiaeth y cydnabyddir ei fod yn berthnasol i Gymru. Mae anghyfiawnder HS2 wedi'i ailadrodd gydag ailddosbarthu'r llinell reilffordd dwyrain-gorllewin o Rydychen i Gaergrawnt, a rhagwelir y bydd ein cyllideb gyfalaf, sydd eisoes yn gyfyngedig, yn crebachu drwy gydol y cyfnod o wariant hwn, gan wneud darparu seilwaith ar raddfa fawr yn anos byth. Ni all Llywodraeth Cymru hawlio buddugoliaeth mewn difrif pan fo'r elfennau sylfaenol yn dal i fod heb newid. Ni fydd geiriau cynnes yn ailadeiladu llinellau rheilffordd, yn moderneiddio gorsafoedd nac yn darparu'r rhwydwaith rheilffyrdd y mae Cymru'n ei haeddu. Ni chaiff pobl Cymru mo'u twyllo.
Hyd nes y ceir ymrwymiadau cadarn wedi'u hariannu, ymrwymiadau sy'n mynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol yn hytrach nag ailfrandio hen arian, bydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn eitem arall ar restr hir o addewidion toredig. Mae angen mwy na sloganau ar Gymru. Mae arnom angen gonestrwydd, eglurder a strategaeth ddilys ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd. Mae dylednodau'n ddiystyr. A phe bai Llywodraeth Geidwadol yn gwneud hyn, gwn y byddai ymateb y Llywodraeth yn wahanol iawn. Rydym yn haeddu gonestrwydd gan ein Llywodraeth ein hunain. Mae pobl Cymru'n haeddu gonestrwydd. A gawn ni onestrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet?
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, oherwydd mae'n bendant fod angen inni ddeall ychydig yn well pa arian yn union sydd ar y bwrdd a beth nad yw ar gael. Felly, rwy'n llongyfarch Eluned Morgan ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar lunio pecyn sydd i'w weld yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Wyddoch chi, mae £14 biliwn wedi'i addo i Gymru, ond mae angen i ni ddatrys yn union—[Torri ar draws.] Iawn.
Nid oes £14 biliwn wedi'i addo i Gymru. Rhestr o brosiectau sydd angen eu gwneud yng Nghymru yw hon. Rwy'n cytuno, gallech ychwanegu ati, ond ni chafwyd unrhyw addewid o arian i Gymru.
Diolch am yr eglurhad. Ond yn y tymor byr, yr hyn sydd gennym yw ymrwymiad i fwrw ymlaen â llinellau metro de Cymru sy'n anghyflawn ar hyn o bryd. I fy etholwyr, mae hynny'n hynod o bwysig, oherwydd ar hyn o bryd mae llawer gormod o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car am nad yw'r cyfleoedd i fynd ar y trên yn bodoli. Felly, hoffwn feddwl bod y ddadl dros gyllid wedi'i datrys, ond yn amlwg, rhaid inni edrych ar y manylion, oherwydd mae gan fy etholwyr atgofion hir am addewidion yn y gorffennol na chawsant eu cyflawni. Mae trydaneiddio'r llinell i Abertawe yn un ohonynt, sy'n cael effaith ar fy etholwyr, oherwydd mae'n golygu bod yn rhaid i'r trenau sy'n cyrraedd o Lundain i Gaerdydd, er mwyn mynd ymlaen i Abertawe a thu hwnt, newid i ddiesel, sy'n golygu chwistrelliad enfawr o lygredd i'r aer, sy'n arbennig o niweidiol i'r bobl sy'n byw o amgylch gorsaf Caerdydd Canolog.
Felly, beth yn union y mae'n ei olygu i fy etholwyr? Fy mhrif flaenoriaeth bob amser oedd uwchraddio llinell de Cymru sy'n rhedeg i'r dwyrain o Gaerdydd i'r ffin â Lloegr, am mai dyna sy'n ein galluogi i sicrhau y gallwn gael pobl allan o'u ceir ac ar y trenau. Mae llawer o bobl eraill yn hoffi siarad am orsafoedd, ond yn onest, yr unig ran a gaiff ei wneud gan y sector cyhoeddus yw uwchraddio'r llinellau, gan nad dyna'r rhan ddiddorol. Mae'r gorsafoedd yn bwysig hefyd, oherwydd rhaid i bobl fynd ar y trenau ac oddi arnynt yn ddiogel, ond nid oeddwn yn arbennig o hapus fod cymaint â £155 miliwn wedi mynd ar waith adnewyddu gorsaf Caerdydd Canolog, ac rwy'n cynrychioli Canol Caerdydd. Felly, cawsom sgwrs gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, am nad yw'n ymddangos ei fod o unrhyw fudd go iawn i weithrediad y system drafnidiaeth. Mae'n ymddangos mai cyfle manwerthu ychwanegol ydoedd, nad oedd yn gwneud synnwyr i mi.
Felly, y brif flaenoriaeth i mi yn bendant yw llinellau lliniaru de Cymru, ac rwyf wedi gofyn am rywfaint o fanylion ynglŷn â pha waith yn union sy'n dechrau a pham nad yw wedi digwydd eisoes. Felly, dywedwyd wrthyf y bydd y gwaith datblygu'n dechrau ym mis Ebrill, gyda rhagolwg o alw, amserlenni cynllunio, deunyddiau y bydd angen iddynt eu defnyddio, sut y maent yn mynd i'w hadeiladu, sut y maent yn mynd i reoli'r galw am y llinellau tra bydd gwaith yn digwydd arnynt, ac yn amlwg, sut y byddant yn caffael y prosiect ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud. Fodd bynnag, nid wyf yn deall pam na all y gwaith hwnnw ddigwydd nawr, oherwydd mae'n swyddogaeth graidd i Network Rail. Maent wedi ei wneud o'r blaen, mae'n waith sydd wedi'i brofi, maent yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac maent yn gwybod am y cwmnïau allan yno a all ei wneud. Felly, rwy'n teimlo'n rhwystredig, gan ei fod yn mynd i gymryd sawl mis, o leiaf, i gyrraedd y pwynt lle maent yn dechrau caffael ac i mi, mae'n bryd bwrw iddi.
Felly, dywedwyd wrthyf fod y gwaith yn gymharol syml ac y gellir ei gwblhau'n weddol gyflym. Fodd bynnag, mae yna ddiffyg. O ystyried ein bod wedi colli £145 miliwn o'r £445 miliwn gwreiddiol, dim ond £300 miliwn sydd gennym i chwarae ag ef o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Yn ôl Mark Barry, fe fydd yn costio £600 miliwn i £700 miliwn i gwblhau'r gwaith mewn gwirionedd. Felly, fe wyddom beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, oherwydd Llywodraeth Cymru a ariannodd y rhan fwyaf o linellau Cymoedd de Cymru o'i grant bloc, sy'n golygu arian y gellid bod wedi ei wario fel arall ar bethau eraill, ac yn wir mae wedi cynnig cyfrannu mwy er mwyn inni allu dechrau prosiectau pellach nawr. Felly, i mi mae hwnnw'n fater difrifol iawn. Rydym yn dweud ein bod ni'n mynd i wneud cynnydd ac mae yna lawer iawn o bethau eraill i wneud i fetro de Cymru weithredu'n gywir, na chânt eu crybwyll yn hyn. Byddai gorsaf Heol y Crwys yn rhywbeth ychwanegol yr hoffwn ei weld, ac mae'n amlwg y byddai llinell Coryton sy'n rhedeg o Fae Caerdydd i fyny i Coryton yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ddod i'r bae i weithio, neu i bobl eraill fynd i fyny i Coryton i adleoli eu busnesau. Felly, mae yna lawer nad ydym yn ei wybod ac mae angen inni sicrhau eglurder ynghylch y cyllid, fel nad ydym yn camarwain pobl.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan fy nghyd-Aelodau yn y ddadl hon. Yn syml, mae hwn yn brif ffigur heb unrhyw ymrwymiad i ariannu y tu ôl iddo o gwbl. Ond rwyf am ganolbwyntio ar un mater yn benodol, sef cysylltedd yng Nghymru ac yn fy rhanbarth i. Rydym unwaith eto'n gweld y Gymru wledig a fy rhanbarth yn cael eu gadael ar y cyrion, oherwydd pan edrychwn ar gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, daw un peth yn amlwg ar unwaith: mae gorllewin Cymru unwaith eto wedi'i eithrio i raddau helaeth. Ni chyhoeddodd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU unrhyw gyllid rheilffyrdd ar gyfer Cymru ymhellach i'r gorllewin na Chaerdydd neu Llannau Dyfrdwy—nid i Abertawe, na Chaerfyrddin, nac Aberystwyth, na Bangor, na Chaergybi.
Ceir nifer o enghreifftiau yn fy rhanbarth i lle mae angen buddsoddiad, megis metro gorllewin Cymru a chysylltiadau rheilffordd uniongyrchol o Rydaman i Abertawe. Yn hytrach, cawn ein gadael yn ddatgysylltiedig. Ac mae'r mentrau hyn a'r angen am welliannau ar linell y Cambrian a datblygu gorsaf newydd yn Sanclêr wedi'u nodi yng nghynllun Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, heb unrhyw gyllid clir i gefnogi'r prosiectau seilwaith hyn, bydd yn codi gobeithion ffug, yn creu ansicrwydd i'r economi leol ac yn y pen draw yn arwain at dorri addewidion.
A hyd yn oed pan edrychwn ar y set ehangach o brosiectau heb eu hariannu o'r cynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', ymddengys bod y pwyslais yn rhy aml ar gysylltedd trawsffiniol, cryfhau cysylltiadau â dinasoedd Lloegr yn hytrach na gwella cysylltedd yng Nghymru. Gadewch imi roi hyn mewn persbectif. Yn y cynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', sonnir am Aberystwyth ddwywaith, Bangor bedair gwaith, Caerfyrddin bedair gwaith, Llundain bedair gwaith, Bryste bedair gwaith, Manceinion bedair gwaith, a Lerpwl 26 gwaith. Y gwir amdani yw nad ni sy'n rheoli'r liferi pwysicaf ac ni allwn warantu bod penderfyniadau buddsoddi'n adlewyrchu buddiannau cenedlaethol Cymru yn hytrach na blaenoriaethau gwleidyddol San Steffan.
Mae'n iawn, felly, Llywydd, ein bod ni'n cwestiynu strategaeth sy'n blaenoriaethu cysylltiadau gyda dinasoedd yn Lloegr, tra bod cymunedau yng Nghymru yn dioddef gwasanaethau gwael, araf, anaml ac annibynadwy. Tybed, hyd yn oed os byddai'r rhaglen yn cael ei delifro, y byddai'r Llywodraeth yn gallu dweud y byddai gwelliannau i amseroedd teithio rhwng, er enghraifft, Abertawe, Caerfyrddin ac Aberystwyth yn gallu gwella. Pa leihad yn yr amser teithio a fyddai i bobl yn mynd o Gaerdydd i Gaergybi, er enghraifft? Faint yn gynt fyddai'r gwasanaethau rhwng Bangor a Phorthmadog?
Achos i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig ac yng ngorllewin Cymru, dyna yw'r prawf—dim pa mor gyflym rŷn ni'n gallu mynd i Fanceinion, ond pa mor hwylus rŷn ni'n gallu teithio o'r de i'r gogledd, o'r dwyrain i'r gorllewin yn ein gwlad ein hunain. Ac am amser rhy hir, mae'r isadeiledd wedi adlewyrchu model sy'n sugno gweithgaredd economaidd dros y ffin, yn hytrach na bod y buddsoddiad yn cryfhau'r economi o fewn Cymru ei hunan. Os ydym o ddifrif am weld datblygiad economaidd yn digwydd, adfywiad gwledig hefyd a datgarboneiddio, yna mae'n rhaid buddsoddi i wella cysylltedd yng Nghymru.
Ac i orffen, mae angen, felly, mwy na geiriau teg. Mae angen Llywodraeth sy'n fodlon sefyll i fyny dros Gymru a mynnu'r hyn sydd yn ddyledus i ni.
Mae fy nghyfraniad heddiw yn canolbwyntio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, yn bennaf. Roedd croeso mawr i'r cyhoeddiad am fuddsoddiad ar gyfer y cenedlaethau i ddod o £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru, ymrwymiad i ddatblygu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A yw'r Aelod yn derbyn na wnaed cyhoeddiad am fuddsoddiad o £14 biliwn yn y rheilffyrdd yng Nghymru?
Cafwyd cyhoeddiad am fuddsoddiad ar gyfer y cenedlaethau i ddod o £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru. Roedd yn ymrwymiad a ddatblygwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, ac roedd yn ddigon arwyddocaol fel ei bod yn ofynnol iddo gael ei gymeradwyo gan Brif Weinidog y DU, ac fe ddigwyddodd hynny. Roedd Prif Weinidog Cymru, yn briodol ddigon, wedi galw am gyllid teg i Gymru, ac fe wnaeth Prif Weinidog y DU y penderfyniad hwnnw. [Torri ar draws.] Fe dderbyniais un cynt. Gadewch i mi wneud—[Torri ar draws.] Daw'r cyhoeddiad hwn—. Gadewch i mi wneud cynnydd. Daw'r cyhoeddiad hwn ochr yn ochr â chyhoeddi cynllun rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', sy'n nodi'n glir ble fydd buddsoddiad yn digwydd ac mae'n darparu costau dangosol, gan gynnwys ar gyfer trydaneiddio prif linell gogledd Cymru, a grybwyllwyd yn gynharach. Mae rhaglen rhwydwaith gogledd Cymru hefyd yn amlinellu amserlenni cyflawni ac yn fyr, mae gennym bellach lif o brosiectau, amserlenni, cyllid wedi'i sicrhau a gwaith eisoes ar y gweill.
Rhaid i gysylltedd trawsffiniol fod yn ganolog i'n cynlluniau bob amser. Mae llawer o'n rhwydwaith trafnidiaeth yn rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain, gan gysylltu cymunedau â Chaer, Lerpwl a Manceinion. Boed ar y ffordd, ar y bws neu ar drenau, rhaid inni barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau a Llywodraethau cyfagos. Pan fydd mentrau fel capiau ar ofal neu docynnau consesiynol yn cael eu cyflwyno, rhaid iddynt weithredu'n ddi-dor ar draws y ffin.
Mae datgloi capasiti yng Nghaer yn hanfodol i wella gwasanaethau ledled gogledd Cymru. Mae hefyd yn hyb hyfforddi bwysig i yrwyr Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n falch fod gwelliannau yno wedi'u cynnwys yn y rhaglen hon. Yng Nghaergybi, agorodd cyfleuster turn olwynion trên awtomatig newydd gwerth £10.5 miliwn fis Hydref diwethaf. Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosib ailbroffilio olwynion wedi treulio ar y safle, gan leihau'n sylweddol yr angen i anfon trenau i Gaerdydd, gan wella dibynadwyedd y fflyd a lleihau costau cynnal a chadw. Mae gwelliannau diogelwch hefyd yn mynd rhagddynt wrth i wasanaethau ddod yn amlach ac yn gyflymach, ac chroesfannau peryglus yn cael eu cau a dewisiadau amgen mwy diogel yn cael eu gosod yn eu lle, gan gynnwys pontydd. Yn Shotton, bydd pont hirddisgwyliedig i gysylltu'r ddwy linell yn cael ei darparu dros y blynyddoedd nesaf, blaenoriaeth fawr i'r ardal, gan uno'r ddwy linell. Yn Padeswood, mae gwaith eisoes yn dechrau ar gael gwared ar dagfeydd trenau cludo nwyddau drwy alluogi trenau i symud o'r brif linell yn fwy effeithlon, a rhyddhau capasiti'n effeithiol ar gyfer gwasanaethau teithwyr ychwanegol. Bydd gwelliannau yng ngorsaf Bwcle, gan gynnwys mesurau diogelwch estynedig, yn cefnogi mwy o gapasiti gwasanaeth ac fe gânt eu cyflawni'n fuan.
Bydd tocynnau tapio i mewn ac allan yn cael eu cyflwyno ledled gogledd Cymru eleni, gan wneud teithio ar y trên yn symlach ac yn fwy hygyrch drwy ganiatáu i deithwyr gyrraedd a thalu wrth fynd. Bûm yn ymgyrchu ers amser maith, ochr yn ochr â Ken Skates, dros gael gorsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Diolch i'r cyllid newydd hwn, mae'r uchelgais hwnnw'n cael ei wireddu, gyda threialu gorsaf fodiwlaidd ar fin digwydd.
Mae'n bwysig cofio bod llawer o'r gwelliannau hyn wedi'u gwrthod ddwywaith o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU drwy'r cyllid ffyniant bro. Er i gyhoeddiad gael ei wneud ynghylch trydaneiddio llinell gogledd Cymru, ni ddyrannwyd unrhyw gyllid erioed, ac ni chafwyd unrhyw sôn am y cynlluniau blaenoriaeth yr oedd yn rhaid eu gwneud yn gyntaf. Mae'r rheini'n digwydd, ac ar y gweill.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Roeddwn—. Iawn.
Rydych chi'n beirniadu'n gwbl briodol y ffaith na ddyrannwyd unrhyw gyllid ar gyfer trydaneiddio gogledd Cymru, ond nid oes unrhyw gyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer hyn, ar gyfer cynllun Trafnidiaeth Cymru. Nid yw wedi'i gynnwys yn unrhyw un o linellau cyllideb y Trysorlys. Ni chlywsom unrhyw beth amdano yn natganiad y gwanwyn. A ydych chi'n derbyn mai'r un math o addewid ydyw?
Nac ydw. Nac ydw. Mae yna lif o gynlluniau y maent yn gweithio drwyddynt. Maent wedi dechrau arnynt eisoes—[Torri ar draws.] Maent wedi dechrau ar y cynlluniau eisoes. Mae'n ddrwg gennyf, ni ddylwn ymateb mewn sgwrs. Rhaid i mi gofio hynny. Ond mae yna—
Buaswn yn eu hanwybyddu pe bawn i'n eich lle chi, ac yn parhau â'r cyfraniad.
Roeddwn i'n awyddus iawn—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n awyddus iawn yn fy nghyfraniad i amlinellu'r cynlluniau sydd eisoes yn cael eu gwneud nawr a'r cynlluniau arfaethedig cyn y gall trydaneiddio ddigwydd. Mae'n galw am swm o gyllid ar gyfer y cenedlaethau i ddod, a gweithio drwyddo un cynllun ar y tro. Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi adeiladu capasiti drosti ei hun. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau gan Gyngor Sir y Fflint a Trafnidiaeth Cymru, ac mae gan y ddau gorff swyddogion ymroddedig sydd bellach yn canolbwyntio ar ddarparu rhwydwaith gogledd Cymru. Yn ogystal â chael cyllid adolygiad o wariant y DU, maent hefyd yn defnyddio'r cyllid parth buddsoddi a'r fargen twf lleol, sy'n bwysig iawn hefyd. Mae Cymru wedi meithrin capasiti, galluogrwydd ac arbenigedd drosti ei hun i gyflawni'r prosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol hyn, ac rwy'n falch iawn fod gan Trafnidiaeth Cymru swyddog penodedig erbyn hyn ar gyfer cyflawni yng ngogledd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud trafnidiaeth yn flaenoriaeth, a nawr, gyda Llywodraeth Lafur yn y DU, mae gennym gyfle i symud ymlaen yn gyflym i droi'r cynlluniau hyn yn gyflawniad parhaol i bobl Cymru. Yng Nghymru, rydym wedi diogelu a gwneud yn siŵr ein bod yn cadw gardiaid, fod gennym gymdeithion teithio ac nad ydym wedi cau unrhyw orsafoedd. Mae trafnidiaeth bob amser yn flaenoriaeth. Diolch, Lywydd.
Mae yna ddryswch. Clywsom sôn am y £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'n swnio'n drawiadol, ond y tu hwnt i'r £400 miliwn a gyhoeddwyd eisoes yn yr adolygiad o wariant yr haf diwethaf, cyllid sydd i fod i bara tan 2030, nid yw llawer o'r ffigur hwnnw yn ei le mewn gwirionedd. Rydym yn haeddu eglurder ynglŷn â pha bryd y bydd y cyllid yn cyrraedd a beth y bydd yn ei gyflawni mewn gwirionedd, ac rwy'n teimlo mai dyna yw ffocws y ddadl hon heddiw.
Yng Nghymru, cawsom gam systematig mewn perthynas â chyllid rheilffyrdd. Fe wyddom fod prosiectau mawr sydd wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yn Lloegr wedi cael eu labelu fel rhai ar gyfer 'Cymru a Lloegr', ac rydym ar ein colled o ganlyniad. Mae'n teimlo fel pe dylem dderbyn hynny a bod yn hollol glir gyda'n cymunedau nad yw hynny'n dderbyniol.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Senedd y DU wedi cyflwyno gwelliant i Fil Rheilffyrdd Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau rheilffyrdd llawn i Gymru, gan ein rhoi yn yr un sefyllfa â'r Alban. Byddai'r gwelliant yn tynnu seilwaith rheilffyrdd oddi ar y rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl i San Steffan ac yn ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo cyfrifoldeb am seilwaith, gwasanaethau a chyllid rheilffyrdd i Weinidogion Cymru o fewn dwy flynedd. Byddai'n golygu y gallai Cymru gynllunio, ariannu a darparu ei rhwydwaith rheilffyrdd ei hun yn briodol a rhoi'r gorau i ddibynnu ar eiriau cynnes o Whitehall. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet: a fydd yn cyhoeddi ei gais i ASau Llafur Cymru yn San Steffan gefnogi'r gwelliant i ddatganoli pwerau rheilffyrdd llawn i Gymru, fel bod gennym yr un rheolaeth dros ein rheilffyrdd ag sydd gan yr Alban?
Fel Cefin, rwy'n cynrychioli ardal wledig iawn ac rydym yn cael cam enfawr, ond mae gennym un enghraifft dda yn rheilffordd Calon Cymru, sydd yn sicr angen mwy o gyllid. Roeddwn yn falch pan gefais wasanaeth ychwanegol—dim ond un ychwanegol—pumed gwasanaeth. Dyna'r cyfan—pum gwasanaeth y dydd yn dod drwodd. Ac rwyf eisiau bod yn fwy uchelgeisiol a mynd am wyth trên y dydd, oherwydd nid yw pum trên yn ddigon i'n pobl ifanc fynd i'r coleg, i bobl fynd i'r gwaith, i'n twristiaid ddod i mewn ac allan. Mae'n annerbyniol i ardal wledig fel ein hun ni. Felly, rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a wnaiff weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau wyth gwasanaeth y dydd?
I orffen, ar wahân i'r dryswch y soniais amdano wrth agor, rwy'n credu ein bod yn haeddu bod yn hollol glir yn y Siambr hon ynglŷn â'r sefyllfa ariannu. Ein dealltwriaeth ni yw bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn cael ei danariannu, ac wedi'i danariannu yn y gorffennol. Ni yw'r cefndryd tlawd a adawyd ar ôl, yn codi'r briwsion o dan y bwrdd, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Diolch yn fawr iawn.
Yn 1968, roeddwn i'n 15 oed. Fe eisteddais mewn ystafell o dros 800 o bobl a gwrando ar Gwynfor Evans, taid ein Mabon ap Gwynfor ni, yn galw am drydaneiddio rheilffyrdd Cymru. Mae'r bachgen 15 oed hwnnw'n troi'n 73 oed mewn pythefnos, felly efallai y byddwch chi'n deall pam nad oes gennyf fawr o hyder y bydd Llywodraethau olynol yn San Steffan yn cyflawni dros fy ngwlad. Pan siaradwn am ddatganoli, yn enwedig llinellau craidd y Cymoedd yn 2020, rhaid inni ofyn cwestiwn syml a gonest iawn i ni'n hunain: a allwn ni o ddifrif ei alw'n ddatganoli os nad yw'r llyfr sieciau yn dilyn? Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, pan ddatganolwyd seilwaith rheilffyrdd, addaswyd y trefniadau cyllido i gyd-fynd â hynny; cawsant y pwerau a'r punnoedd. Ond yma yng Nghymru, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb i ni, dywedwyd wrthym am fwrw ymlaen ag ef ac yna fe'n gorfodwyd i ganibaleiddio'r gyllideb a oedd gennym i dalu amdano. Rydych chi wedi clywed hyn dair gwaith yn y ddadl hon. Mae'r Athro Mark Barry yn iawn i roi 'datganoli' mewn dyfynodau wrth sôn am linellau craidd y Cymoedd. Mae'n haeddu ei ailadrodd dair gwaith, oherwydd mae'n bwrw'r neges adref: mae'n ddatganoli mewn enw, ond yn ddraen yn ymarferol. Mae pob ceiniog sy'n rhaid inni ei dargyfeirio i gefnogi seilwaith rheilffyrdd a danariannwyd yn geiniog yn llai i ysgolion yn fy etholaeth i yng Nghaerffili neu ward ysbyty mewn unrhyw ysbyty ar draws Cymru gyfan.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn codi heddiw ac yn ymffrostio am y £48 miliwn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant. Edrychwch, nid ydym byth yn gwrthod cyllid ychwanegol yng Nghymru—wrth gwrs nad ydym—ond gadewch inni edrych ar y print mân, y rhan y mae'n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur wedi anghofio sut i'w darllen ers yr etholiad cyffredinol, yn gyfleus iawn. Mae'r buddsoddiad hwnnw wedi'i wasgaru dros 10 mlynedd. Mae'n werth ei ailadrodd: 10 mlynedd. Mae'n ffaith bod angen £250 miliwn ychwanegol ar Gymru bob blwyddyn ddim ond i fod yn gydradd â Lloegr. Mae'n ffaith mai diferyn yn y môr yw'r arian ychwanegol hwn. Mae'n ffaith mai plastr ydyw ar glwyf agored a achoswyd gan danariannu systematig San Steffan. Y gwir amdani yw hyn: ni fyddai angen y rhoddion untro hyn pe bai Llywodraeth y DU wedi addasu'r grant bloc yn deg yn y lle cyntaf.
Yr hyn a welaf yn fwyaf amlwg, Lywydd, yw'r tawelwch sydyn oddi ar y fainc flaen. Pan oedd y briff hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet yn flaenorol, roedd yn uchel ei gloch am annhegwch y trosglwyddiad. Fe wyddai bryd hynny, fel y gwyddom ni nawr, fod Cymru'n cael cam. Eto i gyd, mae'n ymddangos heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu amnesia gwleidyddol gyda'u plaid eu hunain yn Rhif 10 erbyn hyn. Pe bai'r Ceidwadwyr yn dal i fod mewn grym—
A ydych chi'n ildio, Lindsay?
Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn clywed. Mae'n ddrwg gennyf, Carolyn, nid oeddwn yn eich gweld.
Mae'n iawn. Rwy'n gwybod, yn y tymor hir, yr hoffem weld datganoli'r rhwydwaith yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod angen llawer o waith ar godi ei safon hefyd, llawer o fuddsoddiad. Ond mae'r swm o arian y gallwn ni yng Nghymru ei ddal yng nghronfeydd wrth gefn Cymru'n gyfyngedig iawn, felly er mwyn i ni gael cyllid, onid ydych chi'n cytuno bod yn rhaid cynyddu hynny hefyd?
Rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu datganoli mwy o gyllid i Gymru, ond nid wyf yn credu mewn cadw gormod o arian mewn cronfeydd wrth gefn, oherwydd mae'n dibrisio; rwyf am wario'r arian ar unwaith, a dyna'r peth pwysicaf. Rhaid cadw rhai symiau mewn cronfeydd wrth gefn wrth gwrs, ond mae hwnnw ar gyfer argyfyngau.
Edrychwch, fel y dywedais, pe bai'r Ceidwadwyr yn dal mewn grym, rwy'n tybio y byddai gwelliant y Llywodraeth i'n cynnig heddiw yn edrych yn wahanol iawn. Dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur: pan fyddwn ni'n galw am degwch, nid yw'n amodol ar bwy sydd yn Stryd Downing. Nid tap rydych chi'n ei agor a'i gau, yn dibynnu ar ba blaid sydd mewn grym, yw ein galwad am gyfiawnder. Rydym yn haeddu'r asedau, rydym yn haeddu'r pwerau ac rydym yn haeddu'r cyllid. Mae'n bryd i'r Llywodraeth ddod o hyd i'w llais eto a mynnu'r buddsoddiad llawn, digyfaddawd a addawyd i bobl Cymru a'r Cymoedd. Diolch yn fawr.
A gaf i gymryd cam yn ôl yma i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn y 10 mlynedd diwethaf, ers i mi fod yn Siambr y Senedd? Ddegawd yn ôl, nid oedd Trafnidiaeth Cymru'n bodoli, dim ond casgliad o ymgynghorwyr y gofynnwyd iddynt lunio cynllun. A dyma ni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, a metro gwerth £1 biliwn wedi'i ddarparu, gyda threnau newydd sbon ledled Cymru, a buddsoddiad o oddeutu £2 biliwn. Mae gennym ymrwymiad i weithredu adroddiad Burns o'r diwedd. Fe'i cyhoeddwyd, efallai y cofiwch, ym mis Tachwedd 2020, gyda set o argymhellion ar gyfer gorsafoedd newydd ac uwchraddio prif reilffordd de Cymru i greu dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'r M4. O'r diwedd mae gennym ymrwymiad Llywodraeth y DU, na chafodd ei gynnig yn ystod cyfnod y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Mae wedi cymryd dros bum mlynedd i gael y darnau hynny yn eu lle, ond rydym yn mynd i gael pum gorsaf newydd nawr a'r brif linell wedi'i huwchraddio, ac mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i hynny. Mae hwnnw'n ymrwymiad sylweddol ac yn gam sylweddol ymlaen. Mae gennym hefyd lif o gynlluniau wedi'u nodi a'u cytuno ar y cyd â'r Adran Drafnidiaeth a bwrdd rheilffyrdd Cymru i greu ffrwd o fuddsoddiad dros y degawd a hanner nesaf. Mae hynny hefyd yn gyflawniad arwyddocaol iawn.
Mae yna ddadl fawr y prynhawn yma ynglŷn ag a yw'r symiau wedi'u hymrwymo ymlaen llaw, ac fe sylwch nad oes llinellau yn y gyllideb chwaith ar gyfer y cynlluniau y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddynt yn Lloegr, sy'n cael eu hystyried yn gynlluniau Cymru a Lloegr, ond y gwyddom eu bod yn gynlluniau ar gyfer Lloegr. Mae'r rheini'n ymrwymiadau a wnaed. Y ffordd y mae cyllid rheilffyrdd yn gweithio yw bod yn rhaid ichi wneud yr achos dros gyllid, rhaid i chi greu achos busnes, rhaid i chi gael cymeradwyaeth Network Rail. Mae'n boenus o araf, ac mae'r arian yn cael ei ryddhau gan y Trysorlys ar y pwyntiau hynny, a dyna beth fydd yn rhaid inni ei wneud yma. Bydd yn rhaid inni barhau i wneud yr achos ac i ymladd dros y buddsoddiad gam wrth gam.
Ond yr hyn sydd gennym, yn hollbwysig, o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, y mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio arno ers blynyddoedd, yw llif o gynlluniau y cytunwyd arnynt yn cael eu datblygu, a dyna'r gwahaniaeth. Rwy'n credu bod Sioned Williams wedi gwneud ymyriad yn gynharach yn dweud, 'Onid yw hyn yr un fath â chynllun trydaneiddio prif linell gogledd Cymru?' Nac ydy, nid cynllun datblygedig oedd hwnnw, dim ond datganiad i'r wasg. Yr hyn sydd gennym yma yw cynigion wedi'u gweithio'n llawn ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd. Rwy'n credu bod gennym werth £4.5 biliwn o gynlluniau'n barod i'w cyflawni bellach, sy'n cyferbynnu'n llwyr â'r hyn a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth ddiwethaf.
Rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond nid oeddwn yn siarad am y cynigion mewn gwirionedd, roeddwn i'n siarad am natur yr ymrwymiad ariannol, yn hytrach na'r cynigion eu hunain.
Wel, mae hyn yn wahanol. Dyma ymrwymiad i weithio ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru drwy fwrdd Cymru i gyflawni cyfres gyfan o gynlluniau sydd wedi'u gweithio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU. Mae hynny'n arwyddocaol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A phleser.
Roeddwn i'n siarad â'r Arglwydd Wigley yn y dyddiau diwethaf am yr un ymarfer yn union a wnaed ar gyfer prif linell gogledd Cymru gan Lywodraethau'r DU yn 1975-76. Gwnaed yr addewid, lluniwyd y cynllun; rydym yn dal i aros 50 mlynedd yn ddiweddarach. Dyna pam nad oes gan bobl ffydd.
Wel, edrychwch, rwy'n cytuno'n llwyr. Byddai'n well pe baem wedi datganoli'r rheilffyrdd yn llawn i Gymru, a gallem wneud y penderfyniadau ar flaenoriaethau ein hunain, a dyna bolisi Llafur Cymru a'r Llywodraeth hon. Yn anffodus, nid dyna bolisi Llywodraeth y DU, ac rwy'n gresynu’n fawr at hynny. Rwy'n credu eu bod yn gwneud camgymeriad mawr. Dyna pam ein bod wedi creu datganoli, fel y gallwn ni yng Nghymru wneud ein polisïau a chytuno ar ein blaenoriaethau, ac rydym i gyd yn cytuno beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer datganoli'r cyllid yn llawn i Gymru, fel y gallwn wneud y penderfyniadau hynny. Felly, nid yw hyn yn mynd mor bell ag y dymunwch iddo fynd. Rwy'n deall hynny, ac rwy'n deall yr holl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mewn eiliad. Rwy'n deall y rhethreg cyn etholiad, ond rwy'n credu ei fod yn gamgymeriad beirniadu hynny, peidio â chydnabod yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r hyn sy'n cael ei gyflawni yma, sy'n arwyddocaol. Rwy'n hapus i ildio i Jane Dodds.
Diolch yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyfeirio at y sefyllfa y mae Llafur Cymru ynddi o ran datganoli rheilffyrdd yn hytrach na Llafur y DU. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod beth y teimlwch chi fod angen iddo ddigwydd er mwyn sicrhau bod eich cyd-bleidwyr yn Llundain, a'ch cyd-bleidwyr Cymreig yn enwedig, yn pleidleisio dros y gwelliant sy'n datganoli cyllid rheilffyrdd a'r system gyfan i Gymru? Diolch.
Wel, edrychwch, mae peth nerfusrwydd ynglŷn â datganoli rheilffyrdd yn llawn i Gymru, ac rwy'n deall hynny. Pan edrychwch ar yr amcanestyniadau o gostau addasu i newid hinsawdd dros y 10 i 30 mlynedd nesaf, maent yn enfawr. Mae cymaint o'n rheilffyrdd yng Nghymru yn rhedeg ar hyd yr arfordir, sydd dan fygythiad o gael ei olchi ymaith, a phan edrychwch ar gost rheilffordd dyffryn Conwy yn unig a olchwyd ymaith ddwywaith yn y blynyddoedd eithaf diweddar, cost a delir ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU am nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, pe bai hynny o fewn y grant bloc, byddai'n faich sylweddol iawn, ac mae hwnnw'n faich sy'n mynd i barhau i gynyddu. Felly, rwy'n credu bod angen gofal synhwyrol ynglŷn ag ymrwymo i ddatganoli heb gytundeb ar yr holl fanylion hynny. Nid yw cytuno ar y manylion hynny'n amhosib, a chreu pot o gyllid i dalu am y rhwymedigaethau, ond gadewch inni beidio â bod yn wamal am y peth. Mae'n anodd, ac mae'n gymhleth.
Os caf fod yn fyr, Lywydd, y peth rwy'n ofalus yn ei gylch gyda'r cyhoeddiad yw'r ffordd ymyl garw y mae'r setliad presennol yn gweithio. Fel y dywedwn, nid yw wedi'i ddatganoli. Felly, dylai Llywodraeth y DU dalu ei chyfran lawn o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ac eto, o fewn y cyhoeddiad, gwelwn fod angen i linell gwaith sment Padeswood yn sir y Fflint, sy'n ddarn allweddol o seilwaith, gael ei hariannu'n rhannol gan fargen twf gogledd Cymru, ac mae uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol gan fargen twf de Cymru, sydd ynddi'i hun yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid yw hynny'n iawn. Cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yw'r rhain. Dylent gael eu hariannu'n llawn gan ddeiliaid y pwerau, sef Llywodraeth y DU. [Torri ar draws.] Os oes gennyf amser, Lywydd—
Diolch am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n croesawu'r sylw hwnnw. Mae'n sylw pwysig iawn i'w wneud. Ac a yw'r Aelod yn cytuno â mi fod cyfle wedi'i golli i fuddsoddi mewn rhannau eraill o'r economi pan fo'n rhaid i fargen twf gogledd Cymru, er enghraifft, gyfrannu lle dylai Llywodraeth y DU fod yn talu?
Wel, mae'r holl fuddsoddiad rheilffyrdd a welsom—y buddsoddiad o bron i £2 biliwn yn rheilffyrdd Cymru—yn gost cyfle. Mae wedi gorfod dod o gyllidebau eraill. Ac rwy'n credu bod angen i'r Senedd hon a'r Senedd nesaf edrych yn ehangach ar hyn. Rydym yn gyffrous iawn am gynlluniau rheilffyrdd ac rydym yn siarad am eu heffaith economaidd. Maent yn ddrud iawn. Cymharol ychydig o deithwyr a gariant. Bysiau sy'n cludo'r rhan fwyaf o deithwyr. A'r cyfle allweddol i ni nawr, gyda'r llif newydd o gynlluniau sydd wedi'u cytuno, a chyda phasio'r Bil bysiau, a chreu capasiti arbenigol yn Trafnidiaeth Cymru, yw edrych ar system drafnidiaeth integredig, ar reilffyrdd a bysiau ochr yn ochr.
A gadewch i bawb ohonom gael ein cyffroi gan y rheilffyrdd oherwydd mae'n ddeniadol ac mae pawb yn hoffi setiau trenau. Mae angen inni feddwl am anghenion teithwyr a sut y mae bysiau a threnau'n gweithio gyda'i gilydd. Ac efallai y byddwn yn llawer gwell ein byd o wario mwy o arian ar fysiau a llai ar gynlluniau rheilffyrdd. Ond gadewch inni gydnabod y cynnydd enfawr a wnaethom mewn 10 mlynedd, a'r gwaddol llawer gwell i Lywodraeth nesaf y Senedd nag a gawsom ni pan ddechreuais yma 10 mlynedd yn ôl.
Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth nawr i gyfrannu. Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n hanfodol bwysig, rwy'n credu, ein bod yn sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i benderfyniadau buddsoddi hirdymor, pa un a ydynt yn rheilffyrdd neu mewn meysydd eraill. Ac mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru dros y 15 mlynedd nesaf. Bydd cefnogaeth drawsbleidiol iddo'n helpu i sicrhau y bydd y £14 biliwn llawn o waith uwchraddio ar y rheilffyrdd yn cael ei gwblhau, er gwaethaf cylchoedd etholiadol a newidiadau posib i Lywodraethau. Dyma ddull o weithredu a sicrhaodd fod HS1, llinell Elizabeth a metro de Cymru i gyd wedi'u cwblhau beth bynnag am newidiadau gwleidyddol.
Nid oedd gan yr un o'r prosiectau hyn gyllid wedi'i ddarparu ar eu cyfer, na Gemau Olympaidd 2012 pan gawsant eu dyfarnu i Lundain yn 2005, na Theatr Clwyd pan wnaethom gytuno i'w moderneiddio, na'r ysbytai a'r ysgolion yr ydym wedi'u hadeiladu a'u hailadeiladu. Cadarnhau a chymeradwyo cynllun sy'n dod yn gyntaf; mae cyllid yn dilyn mewn camau. Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' wedi ei gefnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i gyflawni'r cynlluniau niferus cyn gynted â phosib, ac wrth gwrs, mae wedi cytuno i'w hariannu. Mae angen yr un ymrwymiad i gefnogi gan y gwrthbleidiau nawr i sefydlu llwybr o welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y degawd a hanner nesaf. Ac i ddyfynnu cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards,
'Mae'n annhebygol iawn y byddai llywodraeth yng Nghymru o liw gwleidyddol arall wedi'—
Iawn, mae cysylltiad y Gweinidog wedi rhewi. Fe roddaf un ymgais arall i chi gysylltu'n iawn. Ken, fe wnaethoch chi rewi am yr eiliadau olaf, felly os ydych chi'n parhau, cawn weld a allwn ni barhau gyda'r llinell hon. Os na, fe symudaf ymlaen at y siaradwr nesaf.
Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', am y tro cyntaf ers amser hir, wedi arwain at agor y tapiau buddsoddi yn y rheilffyrdd.
Nawr, rwy'n mynd i siarad am y cynnig fel y'i cyflwynwyd gyntaf. Nid wyf yn mynd i fod yn feirniadol am unrhyw gamgymeriadau a wnaed yn y cynnig, oherwydd mae'r rheilffyrdd yn gymhleth, ond mae'r cyfrifoldeb am linellau craidd y Cymoedd wedi'i ddatganoli ers 2020, gyda throsglwyddiad grant bloc cyfatebol. Mae cyllid trawsnewid gan Lywodraeth y DU wedi'i sicrhau, ynghyd â buddsoddiad yn y llinell sylfaen ar gyfer gweithrediadau llinellau craidd y Cymoedd a buddsoddiad ar gyfer cynnal a chadw a gweithrediadau.
Soniwyd am orsaf Caerdydd Canolog. Y rheswm pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu buddsoddiad yw oherwydd y gwladoli a ddigwyddodd yn ôl yn 2021, pan wnaethom etifeddu penderfyniadau buddsoddi gan Keolis. Pe na baem wedi gwladoli gwasanaethau rheilffyrdd, byddai'r sector preifat wedi gwneud y cyfraniad, ond nid wyf yn ymddiheuro am anrhydeddu addewid Keolis pan wnaethom wladoli gwasanaethau yr oeddent wedi bod yn gyfrifol amdanynt. Bydd ein buddsoddiad yn cynyddu capasiti'n sylweddol yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd yn ateb y galw cynyddol ac yn gwella diogelwch teithwyr.
Mae pwynt 2 yn honni nad yw'r cyhoeddiad ar reilffyrdd wedi ei gostio i raddau helaeth yn ystod tymor seneddol presennol y DU. Mewn gwirionedd, mae'r rhaglen waith gyfan, nid y prosiectau uniongyrchol a thymor byr yn unig, wedi'i chostio ar oddeutu £14 biliwn, ac mae cyllid o bron i £0.5 biliwn wedi'i ddyrannu yn y cyfnod o wariant hwn. Nawr, pan gaiff cymorth ei ymrwymo i gyhoeddiadau rheilffyrdd hirdymor o'r natur hon, rydym angen cefnogaeth ar draws y pleidiau—
A ydych chi'n derbyn ymyriad? Mae gennyf ymyriad gan Heledd Fychan, Ken Skates.
Wrth gwrs.
A Jenny Rathbone.
Mae'n ddrwg gennyf.
Jenny oedd yn gyntaf, mae'n ddrwg gennyf.
Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf ddau gais am ymyriad. Jenny Rathbone yn gyntaf. A ydych chi'n derbyn yr ymyriad?
Ken, roeddwn i'n meddwl—
Na, rwyf angen cadarnhad fod Ken Skates yn derbyn yr ymyriad. Ydy. Jenny Rathbone.
O'r gorau. Diolch yn fawr. Ar y cam hwn, Ken Skates, tybed a allech chi ddweud wrthym a fydd asesiad Mark Barry y bydd y prosiectau sydd wedi'u hamlinellu fel y rhai sydd eu hangen yn gyntaf yn costio mwy na'r £300 miliwn sy'n weddill o'r hyn a addawyd yn natganiad y gwanwyn y llynedd, ac o ble y daw'r arian hwnnw, felly?
Wel, Jenny, fel y ceisiais esbonio ar sawl achlysur, mae'r rhaglen waith ar y pum gorsaf yn mynd i gymryd mwy na thair blynedd, felly mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol yn y cyfnod o wariant nesaf. Mae dyraniadau'r cyfnod o wariant nesaf i fod i gael eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu'r pum gorsaf yn llawn, pa un a fyddant yn cymryd tair, pedair neu bum mlynedd i'w cwblhau.
Mae pwynt 3(a) o'r cynnig yn galw am ddatganoli rheilffyrdd yn unol â phwerau a arferir gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nawr, mae'n rhyfedd, fel y mae Sam Rowlands wedi crybwyll. Nid wyf am drafod Gogledd Iwerddon am nad oes gennyf amser, ond nid yw'r setliad yn yr Alban yn cynnwys perchnogaeth ar linellau rheilffordd. Felly, er mwyn cael model yr Alban, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ildio perchnogaeth ar linellau craidd y Cymoedd y gwnaethom fuddsoddi £1.1 biliwn ynddynt. Ar ben hynny, mae gan Lywodraeth yr Alban gymhwysedd dros hyrwyddo ac adeiladu rheilffyrdd sy'n dechrau, yn gorffen ac yn aros yn yr Alban. Felly, unwaith eto, byddai cael model yr Alban yn golygu y byddai prif linell gogledd Cymru, llinell Wrecsam-Lerpwl, rheilffordd y Gororau, rheilffordd Calon Cymru, rheilffordd y Cambrian, a phrif linell de Cymru y tu allan i'r cwmpas. Fodd bynnag, fe gaem y pleser o fod â chymhwysedd dros linell dyffryn Conwy, sydd ar hyn o bryd yn costio dim i Gymru i'w chynnal, ond a fyddai, fel y mae Lee Waters wedi nodi, yn costio miliynau ar filiynau i drethdalwyr Cymru i'w chynnal oherwydd newid hinsawdd. Mae hefyd yn ffaith nad yw'r Alban yn hapus â'u setliad datganoli nhw.
Rwy'n ofni bod cynnig Plaid Cymru'n dangos diffyg dealltwriaeth ac yn dynodi diffyg cymhwysedd dros reilffyrdd. Gan droi at welliant y Ceidwadwyr, yn gyntaf oll, rwy'n cytuno'n llwyr â phwyntiau 1 a 2. Fodd bynnag, nid yw pwynt 3 yn adlewyrchu manylion y cyhoeddiad, yn benodol y gorsafoedd newydd a gyhoeddwyd ac sydd i'w gweld yn y ddogfen ar dudalennau 18, 19, 31, 33 a 35. Bydd gorsafoedd newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu wrth gwrs i Gaerllion, Sain Tathan, gogledd Wrecsam, de Wrecsam, holl orsafoedd metro bae Abertawe a gorsafoedd metro ychwanegol de-ddwyrain Cymru, i nodi nifer fach yn unig.
Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch. Roeddwn i eisiau nodi eich bod wedi sôn am dudalen 34, ond pan edrychwch arni, mae'n sôn am £10 biliwn. Hoffwn i chi egluro'r ffigur o £14 biliwn. Rwy'n credu y byddai pawb yma'n gwerthfawrogi eglurder, hyd yn oed yn ysgrifenedig. Ond a allwch chi gadarnhau hefyd—? Rydych chi newydd ddweud bod y rhain yn bethau sydd eisoes wedi'u cytuno yn y bôn, ond pan ddarllenwch y testun, mae'n dweud bod angen rhagor o waith
'i archwilio sut y gellir eu cyflawni orau ac a fyddent yn darparu gwerth da am arian.'
Felly, yn sicr nid yw'r rhain yn bendant. Mae angen rhagor o waith i wybod a ydynt yn ddichonadwy hyd yn oed. A ydych chi'n derbyn hynny?
Na, nid wyf yn derbyn hynny. O ran gwerth am arian, mae'n ymwneud â sut rydych chi'n llunio, adeiladu a chyflawni cynlluniau. Fel y gwelsom gyda metro de Cymru, mae trydaneiddio di-dor wedi gwarantu gwerth am arian, ac felly rhaid i chi fynd drwy broses o gynllunio ac asesu cyn i chi ymrwymo i brosiect mewn gwirionedd.
Rwy'n mynd yn ôl at welliant y Ceidwadwyr. Mae pwynt 4 yn galw am adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell gogledd Cymru. Mae'n amlwg ei fod yn ganolog i rwydweithio gogledd Cymru, ac mae'n rhan o 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'. Fel rwyf newydd sôn, mae cyllid ar gyfer gwaith datblygu ar gyfer trydaneiddio yn hanfodol bwysig. Mae'n rhan o ddyraniad y gyllideb ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru. Mae gwaith i asesu'r math gorau o drydaneiddio'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n cael ei lywio gan y profiad helaeth yn sgil trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd.
Rhoddodd Cefin Campbell, rwy'n credu, arwydd clir iawn y byddai Plaid Cymru yn tynnu'r plwg ar gysylltedd trawsffiniol, ac yn anffodus yn gosod llen lechi ar draws y ffin. Gyda llaw, ar y cyfeiriadau at leoedd, cyfeiriai'r prosbectws ar gyfer Northern Powerhouse Rail at y manteision i ogledd Cymru ddwsinau o weithiau, ac eto mae Plaid Cymru yn ei feirniadu'n barhaus.
Diolch i Carolyn Thomas a Lee Waters am amlinellu'n gynhwysfawr pam y mae'r cynllun yn drawsnewidiol ac yn dilyn llwyddiant Trafnidiaeth Cymru yn darparu £800 miliwn o drenau newydd a chwblhau metro de Cymru. Hoffwn ofyn y cwestiwn syml hwn i'r Aelodau: a ydych chi'n cefnogi cynlluniau Trafnidiaeth Cymru ai peidio? Os ydych chi'n eu cefnogi, cefnogwch ein gwelliant. Os nad ydych, fe nodir eich gwrthwynebiad i'r buddsoddiad hanesyddol ac enfawr hwn.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'n ddadl ar fater mae pobl Cymru, dwi'n meddwl, wedi hen ddod i gasgliad sy'n llawer mwy na sut rydyn ni'n teithio o A i B ond sy'n fater o anghyfiawnder gwirioneddol, sef cyllido ein rheilffyrdd ni. A beth sy'n syfrdanol i fi ydy bod Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn parhad yr anghyfiawnder yna, ac yn hytrach na gwneud beth mae pawb arall yn ei wneud a mynnu bod yr anhegwch hanesyddol hwnnw yn dod i ben efo cynllun go iawn ar gyfer dod â fo i ben, maen nhw'n dweud, 'Gadewch inni anghofio a symud ymlaen.'
Ni allaf gredu bod Llywodraeth Cymru, gan wynebu'r anghyfiawnder parhaus o ddiffyg ymrwymiad cadarn ar wariant ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru sydd wedi bod yn digwydd ers degawdau—anghyfiawnder sydd wedi bod yn digwydd yn nwylo Llywodraethau olynol y DU, Llafur a Cheidwadol—yn meddwl mai'r hyn sydd ei angen yw dweud wrth y Senedd hon heddiw ei bod hi'n bryd symud ymlaen. Dyna beth y mae'r gwelliant Llafur yn ei ddweud: 'symudwch ymlaen'. Wel, Lywydd, ni fydd Plaid Cymru'n symud ymlaen nes i ni weld yr anghyfiawnder hwn yn cael ei unioni.
Rwy'n dweud wrthych, rydym wedi clywed nonsens gan Lafur ar y rheilffyrdd dros y blynyddoedd, ond mae'r wythnosau diwethaf wedi bod y tu hwnt. Gwelsom yr embaras llwyr pan honnodd Ysgrifennydd Cymru nad yw HS2 yn bodoli mwyach. Ar un adeg, roedd hi wedi dadlau y dylai Cymru gael dros £4 biliwn o arian canlyniadol, ond wedyn fe gamddeallodd a dweud ei fod wedi cael ei ganslo, ac felly nad oedd unrhyw beth yn ddyledus i Gymru. Mae'n anhygoel. Wel, mae'n bodoli, wrth gwrs, ac mae'r anghyfiawnder yn bodoli. A lle mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael arian canlyniadol yn ei sgil ac yn sgil prosiectau rheilffordd eraill gwerth biliynau lawer o bunnoedd, nid yw Cymru'n cael dim. Mae pobl yn gandryll ynglŷn â hyn, a hynny'n briodol.
Ond ar ôl i Lafur, pan oeddent yn wrthblaid wrth gwrs, ddweud wrth y Torïaid am dalu, fe ddaethant yn Llywodraeth ac nid oes unrhyw arian i'w gael. Yr hyn a wnânt yw gwneud cyhoeddiad yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant o £445 miliwn i Gymru—un rhan o ddeg o'r hyn a oedd yn ddyledus oherwydd HS2. Ond beth bynnag, dylai fod ar ben HS2, nid yn ei le. Ac mae hwnnw dros y rhan orau o ddegawd, fel y clywsom. Canodd Llywodraeth Cymru glodydd y penderfyniad fel llwyddiant mawr, ond i'w roi mewn persbectif, mae'r £445 miliwn ar gyfer yr holl welliannau i reilffyrdd yng Nghymru dros y rhan orau o ddegawd.
Cafodd dinas Leeds £240 miliwn ar gyfer uwchraddio gorsaf. Mae gorsaf Reading—mae'n hyfryd—yn costio dwbl yr hyn y mae Cymru gyfan yn mynd i'w gael. Ac nid yw'r £445 miliwn ond yn 6 y cant o'r arian sy'n ddyledus i Gymru o danariannu hanesyddol yn sgil prosiectau eraill, yn seiliedig ar ddadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn 2020. Rwy'n llongyfarch y Gweinidog trafnidiaeth presennol am ei waith yn tynnu sylw at y tanfuddsoddiad yn y gorffennol. Beth sydd wedi newid?
Felly, ie, Cymru'n cael cam eto, £445 miliwn. Beth a ddywedodd Ysgrifennydd Cymru pan gyhoeddwyd y swm hwnnw? Dywedodd Jo Stevens:
'Roedd pobl yn iawn i boeni bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn cael ei adael ar ôl wedi blynyddoedd o addewidion gwag y Torïaid. Dim mwyach'.
Beth a ddywedodd canolfan Dadansoddi Cyllidol Cymru Prifysgol Caerdydd?
'Mae unrhyw awgrym fod y cyllid hwn mewn unrhyw ffordd yn digolledu Cymru am y golled a gafwyd yn sgil HS2 yn amlwg yn anghynaliadwy. Nid yw'n newid yn sylweddol y darlun cyffredinol o danariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru.'
Rwy'n gwybod pwy rwy'n ei gredu. Symudwch ymlaen i fis Chwefror 2026, mae Keir Starmer yn ymweld â Chymru. Ac yn ogystal ag ailgyhoeddi'r £445 miliwn, fel pe bai'n newydd, rhoddir cyhoeddiad newydd i ni ynghylch £14 biliwn mewn gwelliannau rheilffyrdd. Ond nid oes rhaid i chi grafu'r wyneb hyd yn oed i weld cymaint o nonsens yw hynny. Yn y byd go iawn, nid oes unrhyw sylwedd yn agos iddo.
Rwy'n mynd i'ch cyfeirio chi ar y pwynt hwn at bodlediad y mwynheais wrando arno neithiwr, un newydd i mi. Ei enw yw Green Signals. Gallwch ddod o hyd iddo ar YouTube. Cafodd rhifyn 125 ei roi yno ddydd Iau diwethaf. Ac mae'n feirniadol iawn. Mae'n canmol Trafnidiaeth Cymru, gyda llaw, am nodi pethau sydd angen eu gwneud. Ac i ateb cwestiwn olaf Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn gan Trafnidiaeth Cymru. Rhaid cael gweledigaeth. Ac rwy'n falch fod gennym y weledigaeth hon. A chofiwch, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid wrth y Senedd yr haf diwethaf mai'r rheswm nad oedd mwy o arian yn dod i Gymru ar y pryd oedd nad oedd unrhyw brosiect yn barod i fynd, neu nad oedd digon o brosiectau'n barod i fynd—(a) nid yw hynny'n wir, meddai'r holl arbenigwyr rheilffyrdd mwyaf blaenllaw, a (b) mae'n ddoniol sut y maent wedi llwyddo i gael llawer o bethau'n barod i fynd ychydig cyn yr etholiad ym mis Mai eleni. Roedd y ffordd y galwodd Lee Waters ein sylwadau ni heddiw'n 'rhethreg cyn etholiad' yn hynod eironig.
Mae'r podlediad Green Signals yn tynnu sylw'n gyntaf at y ffordd ddi-drefn y cyrhaeddwyd y ffigur o £14 biliwn. Mae'n werth gwrando arno. Eu casgliad yw eich bod chi'n gofyn i wahanol bobl, gofyn i Lywodraeth y DU, gofyn i Lywodraeth Cymru, ac yn cael atebion gwahanol. Dros y lle ym mhobman. Ond y peth allweddol yw eu bod yn darllen datganiadau'r Llywodraeth sy'n dweud bod hwn yn fuddsoddiad go iawn ar gyfer y tymor hir, ac yn nodi, wrth gwrs, nad oes arian wedi'i nodi o gwbl. Nid oes amserlen. Rwy'n gwahodd y Llywodraeth i roi amserlenni i ni. Nid oes unrhyw ffynhonnell ariannu nac unrhyw addewid o gyllid. Mae'n amlwg na wnaethant drafferthu ymgynghori â Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â beth fyddai'r cyllid cywir neu'n agos at hynny.
Cawsom ladrad trên mawr HS2, a nawr cawn dwyll mawr cyn etholiad gan Lafur. Nid yw'n damaid gwell nag addewid cyn etholiad y Torïaid, addewid ar gefn pecyn sigaréts fel y cyfeiriwyd ato sawl gwaith, i drydaneiddio llinell gogledd Cymru. Soniais am y gwleidyddoli a wnaed o linell gogledd Cymru sawl gwaith yn y gorffennol, gan fynd yn ôl hanner canrif neu fwy. Ond mae Llafur yn blaid sydd wedi mynd o fygwth camau cyfreithiol dros anghyfiawnder HS2, i blaid sy'n gwadu bodolaeth y prosiect hwnnw, i roi'r gorau i'r frwydr nawr am biblinell i'r arian a allai ddod i Gymru, i'r arian sy'n ddyledus. Ni all Cymru fforddio cael Llywodraeth sydd wedi rhoi'r gorau i'r frwydr am sicrwydd go iawn ar reilffyrdd yng Nghymru. Mae arnaf ofn mai dyna'r gwaddol y mae Llafur yn ei adael ar eu holau. Ac mae pobl Cymru wedi cael digon.
Mae Plaid Cymru'n barod i gael Cymru'n ôl ar y cledrau ac i wthio o ddifrif, heb gilio o'r frwydr fel y gwelwn y Llywodraeth Lafur hon yn ei wneud mor aml, am y buddsoddiad sydd ei angen arnom, ac am amserlen a chynllun go iawn. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni ohirio'r bleidlais.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn ni'n cymryd y ddadl fer nesaf. Mae'r ddadl fer heddiw gan Rhianon Passmore.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ac rwyf am bwysleisio, unwaith eto, pa mor hollbwysig yw diogelu ein gwaddol artistig unigryw, pwysigrwydd cynhyrchu talent rhyngwladol a lleol i Gymru, a phwysigrwydd cerddoriaeth a'r celfyddydau i'n lles bob dydd. Hoffwn roi peth amser yn y ddadl hon i Julie Morgan, Jane Dodds, Heledd Fychan, John Griffiths a Peter Fox.
Bydd nifer yn y Siambr hon yn gwybod bod Cymru Greadigol yn mynd o nerth i nerth, gan gefnogi cerddoriaeth newydd a chreu cerddoriaeth gymunedol leol, ein bod yn gweld adfywiad mewn cerddoriaeth boblogaidd a chyfansoddi, gan gynnwys gemau cyfrifiadurol, a'n bod heddiw'n gweld bandiau pres a chorau'n newid trywydd ar ôl COVID. Ond mae rôl sefydliadau cenedlaethol diwylliannol allweddol arwyddocaol Cymru hefyd yn hanfodol i'n seilwaith creadigol ac yn hanfodol i les, iechyd, talent a chynhyrchiant economaidd Cymru, fel yr amlinellwyd yn ddiweddar yn yr Alban gan UK Music.
Yn wir, Julie Andrews y wraig hynod gerddorol honno a ganodd, pianissimo dolce, 'Let's start at the very beginning'. Nid wyf yn mynd i siarad am yr adroddiad a gomisiynais, 'Gwlad y Gân', ac yn bendant ni fyddaf yn canu, ond rwyf am gyffwrdd â phwysigrwydd allweddol—
Rwy'n credu y dylech chi ganu.
Gallwn fod wedi gwneud. Pwysigrwydd hanfodol diogelu cynllun cerddoriaeth cenedlaethol Cymru. Mae elfennau sylfaenol y rhain yn allweddol.
Oherwydd, Aelodau, mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, sy'n cynnwys angerdd enfawr ein byddin gynyddol o artistiaid ac athrawon. Mae gennym gymaint i'w ddathlu wrth inni edrych tua'r dyfodol ac wynebu'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau. Nid yn unig fod Cymru wedi creu'r gwasanaeth iechyd gwladol ac opera'r bobl—ac mae llawer yn gwybod bod Opera Cenedlaethol Cymru wedi'i greu gan feddygon, amaturiaid a glowyr—ond ni hefyd oedd y genedl gyntaf yn y byd i greu cerddorfa ieuenctid genedlaethol. Eleni, mae cerddorfa ieuenctid Cymru yn 80 mlwydd oed, ac rwy'n siŵr y bydd y Senedd am ymuno â mi i ddathlu'r hirhoedledd a'r arloesedd epig hwnnw.
Mae'n iawn ac yn briodol ein bod ni nid yn unig yn nodi, ond yn cydnabod y bywydau y mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi'u trawsnewid a'r gyrfaoedd y mae wedi'u lansio, a'n bod yn dathlu ac yn meithrin trysorau cenedlaethol o'r fath a'i chartref creadigol gydag arweinyddiaeth arloesol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Mae'n bryd inni ddathlu ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol ymroddedig a gweithgar. Hoffwn dalu teyrnged heddiw i'r llu o staff, cerddorion, athrawon a thiwtoriaid gweithgar. Rwy'n gwybod pa mor galed y maent wedi gweithio er mwyn cyflawni canlyniadau sylweddol i fyfyrwyr, cymunedau ac i Gymru. Mae hynny'n cael ei gydnabod yn 'Gwlad y Gân' drwyddo draw.
Diolch yn fawr i chi i gyd, bawb.
I gerddorion ac athrawon Cymru, ac ar draws y celfyddydau a gwasanaethau cerddoriaeth, heddiw rydym bellach yn gweld y nifer sy'n astudio TGAU cerddoriaeth yn gwella, ac mae'n iawn fod ein hathrawon yn cael eu cydnabod a bod eu hangerdd a'u hymrwymiad yn cael eu cydnabod yn llawn. Diolch am y gwaith hwnnw.
Wrth inni ddod at Senedd newydd, mae'n hanfodol fod cynllun cerddoriaeth cenedlaethol Cymru yn cael ei gydnabod am yr hyn ydyw: uwchgynllun strategol, dogfen fyw. Rwyf am ddiolch i Emma Coulthard, awdur y gwaith. Mae'r ddogfen hon, ei hegwyddorion a'i themâu, ochr yn ochr â strwythur pyramid clir y mae'n ei gwmpasu, yn werthfawr ac yn cael ei gwerthfawrogi. Mae wedi arwain heddiw at seilwaith addysg cerddoriaeth o fri rhyngwladol. Mae'r cynllun cerddoriaeth cenedlaethol wedi sbarduno agenda bolisi a wnaed yng Nghymru ac a weithredir yng Nghymru. Roedd yn fydwraig a fu'n uniongyrchol gyfrifol am roi genedigaeth i'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac a ddatblygodd a phrif ffrydio'r posibiliadau hynny. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru cryf, sy'n darparu cyfleoedd cerddorfaol, band a chorawl cenedlaethol arloesol Cymru, yn cyflawni cymaint mwy erbyn hyn.
Serch hynny, i lawer mae'r angen am gylchoedd cyllido ar gyfer cynlluniau mwy hirdymor bellach yn hanfodol bwysig os ydym am drawsnewid y prosiectau arloesol niferus fel pasbort y Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid i bobl ifanc er enghraifft. A oedd y Siambr yn gwybod, er enghraifft, fod ein seilwaith addysg cerddoriaeth yng Nghymru heddiw yn cael ei ystyried yn arfer gorau arloesol, neu fod gofyn i Gymru arddangos ein cynnig yn rhyngwladol, fod arweinyddiaeth arloesol a dull cydweithredol y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol o weithredu gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac ochr yn ochr â darparwyr fel Opera Cenedlaethol Cymru, wedi gorymdeithio drwy ysgolion Cymru, gan sefydlu rhaglenni profiad cyntaf, mentrau dosbarth cyfan, cyflwyno cyfleoedd a phrofiadau cerddorfaol a band haenog a phrofiadau unwaith unwaith eto? Mae'r rhain yn gyfleoedd go iawn, ac mae eu hangen ar gyfer meithrin sgiliau a darparu tegwch i'r rhai na allant fforddio hyfforddiant preifat neu gyrsiau preifat. Mae'r egwyddor o degwch yn sylfaenol ac yn sail i'r cynllun cenedlaethol.
Mae'r sefydliadau hyn—Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru—yn arwyddocaol yn ddiwylliannol i Gymru. Mae arloesedd o'r fath yn haeddu parch. A chyda mwy o gyllid, byddai eu hallbynnau'n drawsnewidiol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ac ni fyddai'n dreth ariannol o'i gymharu â llinellau cyllideb eraill Llywodraeth Cymru. Heddiw, er gwaethaf ymrwymiad a chefnogaeth gan y Llywodraeth hon, maent yn arnofio, gyda thimau sengl a chyllidebau gwastad, a hwythau'n cyflawni cymaint i Gymru—y tu hwnt i'r hyn a ddylai fod yn bosib. Er gwaethaf allbynnau enfawr, ni ddylid gadael i'r sefydliadau hyn fodoli o'r llaw i'r genau, oherwydd gallant drawsnewid tirweddau cerddorol a chreadigol Cymru a'n heconomi.
Ac mae'r trysor perfformiadol, Opera Cenedlaethol Cymru, hefyd wedi croesawu chwistrelliad enfawr o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a daeth hwnnw o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad pwysig, er ei fod ar sail ad hoc. Mae wedi dal ei afael ar sylfaen o gerddorion a chorws o'r radd flaenaf, ac mae perfformiadau a gwaith cynhyrchu o'r radd flaenaf wedi parhau eto eleni. Ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi ennill dwy wobr genedlaethol, yn cynnwys un am gynhyrchiad opera gorau'r DU o Peter Grimes. Rhaid i Gymru barhau i ledaenu rhagoriaeth ein hunig gwmni canu proffesiynol. Ond unwaith eto, mae yn y bocs. Er gwaethaf rheolaeth glir, ar ddiwedd yr haf, rhaid iddo edrych unwaith eto ar ddod â gyrfaoedd a galwedigaethau i ben, gyda'n talent yn debygol o gael ei adleoli i Loegr. Mae angen cydnabyddiaeth gynaliadwy i Opera Cenedlaethol Cymru—unwaith eto, fel sefydliad diwylliannol arwyddocaol yng Nghymru, oherwydd dyna beth ydyw.
Ac yn olaf, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, unwaith eto yn yr un modd, hefyd wedi croesawu buddsoddiad ac ymyrraeth fawr gan y Llywodraeth. Ond roedd colli eu hadran iau yn ergyd enfawr iddynt ac i Gymru. Heddiw, mae'n gweithio ar lif o dalent genedlaethol embryonig gyda Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ond nid oes llif o gyllid ar gyfer hynny. Mae llwybr talent ieuenctid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan bwysig yn y pyramid o'r cynllun cerddoriaeth cenedlaethol—ar draws actio, ar draws theatr a hyfforddiant lleisiol. A byddai cydnabyddiaeth iddo fel sefydliad diwylliannol arwyddocaol yng Nghymru'n ffordd ymlaen i raglen celfyddydau ieuenctid newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer y rhai mwyaf talentog ledled Cymru, ac nid y rhai a all gyrraedd Caerdydd yn unig.
Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i glywed cyfraniadau fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol parchus heddiw. Ac rwy'n eich croesawu chi i gyd hefyd i ddigwyddiad cerddorol unigryw a noddir gennyf ddydd Mercher yn y Pierhead. Cawn glywed cerddoriaeth wych, trafod cynigion ar gerddoriaeth fyw, cynaliadwyedd, addysg, rôl treth a chredydau a phryderon ynghylch teithio, a bydd y gwesteion yn siarad â ni hefyd. Felly, diolch yn fawr.
Mae'r Aelod wedi caniatáu cyfraniadau gan bum unigolyn.
A oes gennych chi bum enw sydd wedi gofyn am amser i siarad?
Oes, yn sicr. Rwy'n meddwl mai Julie Morgan sydd yn gyntaf, yna Peter Fox, yna John Griffiths, ac yna Jane Dodds a Heledd Fychan.
Gwych. Yr un pump sydd gennyf i. Felly, os cawn eu cymryd yn y drefn honno. Pwy oedd yn gyntaf yn y drefn honno? Julie Morgan? Fe wnawn eich cymryd chi yn gyntaf.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw ynglŷn â sut i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol gwych yma yng Nghymru. A hoffwn ddiolch i Rhianon am ei brwdfrydedd a'i harweinyddiaeth yn y maes pwysig hwn. Felly, diolch, Rhianon.
Nid moethusrwydd yw sefydliadau diwylliannol Cymru, maent yn asedau cenedlaethol hanfodol sy'n ffurfio ein hunaniaeth, yn meithrin talent ifanc ac yn rhoi llais Cymru ar lwyfan y byd. Os ydym eisiau cenedl hyderus, greadigol, flaengar, rhaid diogelu buddsoddiad diwylliannol, nid ei erydu. Ac fel y mae Rhianon wedi dweud, rydym yn gweld potensial mawr, ond breuder mawr hefyd, fel yn yr adran iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Nawr, brwydrais i gadw'r conservatoire iau ar agor, gyda Rhianon a nifer yn y sefydliad hwn, ac roedd yn drasiedi lwyr ei fod wedi cau. Ond nawr yw'r cyfle i wneud rhywbeth yno, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r datblygiad hwnnw. Ac unwaith eto, soniodd Rhianon am Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n drasiedi fawr fod y sefydliad hwnnw wedi bod dan fygythiad. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr fod Opera Cenedlaethol Cymru yn goroesi ac yn ffynnu. Oherwydd os ydym yn gweld gwerth y sefydliadau hyn, rhaid inni roi'r sefydlogrwydd y maent ei angen iddynt. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon. Mae Cymru'n gartref i sefydliadau diwylliannol sy'n arwain y byd ac sydd nid yn unig yn cynnal ein treftadaeth, ond hefyd yn gwarchod ac yn dathlu ein hunaniaeth Gymreig, rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd pawb yma'n ei gefnogi. Ar adeg pan fo cyllidebau'n cael eu tynhau ar draws y sector cyhoeddus, ni fu erioed yn bwysicach sicrhau a diogelu gwariant diwylliannol fel nad yw'r cyfoeth hwn yn cael ei golli.
Yn fy etholaeth fy hun yn sir Fynwy, o ddigwyddiadau sirol fel ein sioeau amaethyddol i draddodiadau cymunedol yn abaty Tyndyrn, daw diwylliant â phobl at ei gilydd, gan gefnogi busnesau bach ac arddangos Cymru i ymwelwyr. Os ydym am i Gymru barhau i arwain yn fyd-eang yn y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant, rhaid inni ddiogelu cyllid a rhoi'r gydnabyddiaeth sefydlog a'r cylchoedd cynllunio hirdymor sydd eu hangen arnynt i sefydliadau fel Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac eraill. Mae buddsoddi mewn diwylliant yn dangos ymrwymiad i bobl Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Rwyf innau hefyd yn llongyfarch Rhianon Passmore am ddod â'r ddadl fer bwysig hon i'r Senedd heddiw ac yn cytuno'n fawr fod angen inni ddiogelu a gwella ein sefydliadau diwylliannol blaenllaw. Carwn ddweud hefyd fod angen inni sicrhau bod y sefydliadau diwylliannol blaenllaw hynny'n gweithio gyda'n sîn gelf a diwylliant llawr gwlad ledled Cymru.
Yng Nghasnewydd nawr, mae gennym strategaeth ddiwylliannol yr awdurdod lleol y credaf ei bod wedi bod yn bwysig iawn ac wedi llwyddo i ddarparu ffocws newydd, blaenoriaeth newydd, i ddiwylliant a'r celfyddydau yng Nghasnewydd. O ganlyniad, mae gennym leoliadau newydd, gweithgareddau newydd, ac ymdeimlad newydd o fomentwm a hyrwyddiad drwy'r awdurdod lleol, gyda llu o sefydliadau diwylliannol a chymunedol ar lawr gwlad yn gweithio gyda'r strategaeth, a ddatblygwyd i raddau helaeth gyda'r sîn lawr gwlad honno yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ein sefydliadau diwylliannol blaenllaw yng Nghymru yn eu diogelu a'u gwella, fel rydym ni'n ei wneud, yn rhoi amser i ddeall y strategaethau lleol ar gyfer diwylliant sydd wedi'u datblygu gan awdurdodau lleol ac eraill, a deall sut y gallant, fel y sefydliadau blaenllaw hynny, helpu a chefnogi strategaethau lleol allweddol. Diolch yn fawr.
Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i Rhianon am ei gwaith hollol wych yn y maes hwn. Rydych chi wedi bod yn arweinydd o ran dod â ni gyda chi fel Senedd yn y maes hwn, ac rwy'n talu teyrnged i chi ac yn diolch i chi.
Mae diwylliant a'r celfyddydau a chwaraeon hefyd yn fesurau ataliol o ran iechyd. Maent yn ein helpu ni i gyd fel dynoliaeth gyda'n hiechyd emosiynol a meddyliol ein hunain. Rwy'n mynd i siarad am lai na munud am amgueddfeydd, oherwydd maent yn gwbl amhrisiadwy i'n profiad celfyddydol a diwylliannol. Maent yn hybiau dysgu, yn angorau cymunedol ac yn byrth i gyfleoedd. Ar ôl ymweld ag Amgueddfa Cymru, rwy'n gwybod bod ganddynt sesiynau Dechrau'n Deg, gweithdai ar gyfer cymunedau anodd eu cyrraedd a rhaglenni allgymorth i ddod â diwylliant yn uniongyrchol i bobl ifanc ac oedolion na fyddai byth yn ymgysylltu fel arall a byth yn rhoi troed dros riniog amgueddfa. Unwaith eto, rwy'n talu teyrnged i'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig, y ddiweddar Jenny Randerson, am y gwaith a wnaeth i sicrhau bod ein hamgueddfeydd yn cynnig mynediad am ddim i bawb a bod hynny wedi ei ymgorffori yn y gyfraith. Os ydym o ddifrif ynglŷn â diogelu diwylliant yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod ein hamgueddfeydd nid yn unig yn gallu bodoli, ond eu bod yn ffynnu fel mannau sy'n addysgu, yn ysbrydoli ac yn cysylltu cymunedau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Rhianon, am gyflwyno'r ddadl fer wirioneddol bwysig hon. Nid ydym yn siarad digon am ddiwylliant yma. Dylem wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn anfon neges at y Senedd nesaf fod yn rhaid i ddiwylliant fod yn golofn ganolog. Oherwydd os edrychwn ar y ffeithiau, rydym ar waelod y tablau yn Ewrop. Nid yw hynny'n ddigon da. Wrth ddadlau dros ddiwylliant, cefais Weinidogion blaenorol a oedd yn gyfrifol am ddiwylliant yn gweiddi'n ôl arnaf yn y Siambr hon, 'Beth am y GIG?' Mae'n rhyng-gysylltiedig, ac rwy'n gobeithio gweld y Llywodraeth nesaf yn ystyried o ddifrif sut y gall diwylliant fod yn rhan o bob portffolio.
Gadewch inni edrych ar rai ffeithiau: mae trosiant Opera Cenedlaethol Cymru heddiw yn £12 miliwn. Roedd yr un peth yn 2000. Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru, yn 2011, oedd £33 miliwn i £34 miliwn o bunnoedd. Mae'r un peth nawr. Felly, nid yw'n syndod ein bod ar waelod y tablau Ewropeaidd. Mae'n ymwneud â mwy na darparu'r cyllid hwnnw yn unig, mae'n fater o ddarparu cyfleoedd i bawb, ble bynnag y maent yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw diwylliant yn hygyrch i bawb. Mae'n hawl ddynol ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y Senedd nesaf o ddifrif ynglŷn â diwylliant.
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol nawr sy'n ymateb i'r ddadl—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ymuno â chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gydnabod bod Rhianon Passmore yn hyrwyddwr gwirioneddol dros ddiwylliant Cymru? Mae hi wedi bod dros gyfnod hir nawr, a bydd yn sicr o barhau i fod yn y dyfodol. A diolch i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ddadl amserol iawn, ychydig ddyddiau ar ôl Dydd Gŵyl Dewi. Ac roeddwn wrth fy modd yn gweld Dydd Gŵyl Dewi a'r digwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru a wnaed yn bosib oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru drwy gronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 filiwn a hyrwyddwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan. Roedd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys ystod eang o weithgareddau sy'n hyrwyddo diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru, megis cerddoriaeth, celf, llenyddiaeth, chwaraeon, bwyd a'r iaith Gymraeg.
Lywydd, rhan allweddol o'n 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yw y dylai diwylliant fod yn wydn ac yn gynaliadwy. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hon yn ddadl amserol, o ystyried y galwadau diweddar i oedi'r gwaith o gyflawni ac ymgynghori ar strategaeth bellach. Ein blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yw yn union hynny, Lywydd—map llwybr a gynlluniwyd gyda'r sector ar gyfer y sector. O ganlyniad uniongyrchol i'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, rydym wedi gweld buddsoddiad cyfalaf sylweddol—dros £10 miliwn ar gyfer seilwaith celfyddydau yn 2025-26, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, £3.3 miliwn arall drwy'r cynllun grant cyllid cyfalaf blaenoriaethau ar gyfer diwylliant i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Rydym hefyd yn darparu dros £2.5 miliwn mewn grantiau refeniw i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau dros y ddwy flynedd nesaf, arian sy'n cefnogi amrywiaeth o brosiectau mewn lleoliadau ledled y wlad i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' a'i uchelgeisiau.
Lywydd, rwyf am geisio strwythuro fy sylwadau o amgylch y tair thema yn nheitl cynnig yr Aelod heddiw: diogelu, gwella ac ymgorffori ein sefydliadau diwylliannol. Yn gyntaf, diogelu: mae diogelu ein sefydliadau diwylliannol yn dechrau gyda sefydlogrwydd, yn dechrau gydag annibyniaeth ac yn dechrau gydag ymddiriedaeth. Mae gan Gymru draddodiad cryf o lywodraethu hyd braich sy'n diogelu rhyddid artistig, gan sicrhau atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus ar yr un pryd. Rhaid i sefydliadau allu cymryd risg greadigol, herio safbwyntiau ac arloesi, ac ni allant wneud hynny os na chaiff eu hannibyniaeth ei pharchu a'i diogelu.
Mae diogelu hefyd yn golygu cefnogi gwydnwch. Lle bo hynny'n bosib, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o sicrwydd cyllidol, gan gydnabod bod trefniadau tymor byr yn tanseilio cynlluniau hirdymor ac uchelgais greadigol. Nid meicroreoli yw ein rôl ni fel Llywodraeth ond gweithio mewn partneriaeth, gan gefnogi llywodraethu da, arweinyddiaeth gref ac incwm amrywiaethol. Fel enghraifft o'n buddsoddiad, yn Amgueddfa Cymru rydym yn darparu dros £11.8 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, yn ogystal â'r £5 miliwn o gyfalaf a ddarparwn yn rhan o'i chymorth grant. Bydd hyn yn cefnogi datgarboneiddio, gwaith blaenoriaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, adfer ac ailagor castell a thai gwydr Sain Ffagan, yn ogystal â gwelliannau pellach i ymwelwyr.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cymorth cyfalaf sylweddol i'r celfyddydau, fel y soniais yn gynt. Yn 2025-26, drwy ein cyllid blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, mae cyfanswm o £10.2 miliwn ar gael ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd 46 o sefydliadau gymorth yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Myrddin yn sir Gaerfyrddin, Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Tŷ Pawb yn Wrecsam. Bydd y prosiectau hyn yn gwella mynediad at y celfyddydau, boed hynny drwy wella hygyrchedd, gwella cynaliadwyedd amgylcheddol neu elwa ar dechnolegau newydd.
Lywydd, yn 2024-25 buddsoddodd y Llywodraeth £3.6 miliwn mewn cronfa wydnwch ar gyfer sector y celfyddydau. Derbyniodd 60 o sefydliadau gymorth, gan gynnwys dyfarniad o £210,000 i Sefydliad Glowyr y Coed Duon yn etholaeth yr Aelod. Mae hwn yn lleoliad a wynebodd ansicrwydd sylweddol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac rwy'n hynod falch, ar ôl derbyn ein cyllid gwydnwch, eu bod wedi cadarnhau y bydd y lleoliad hwnnw'n parhau, ac yn ffynnu yn y dyfodol.
Ac yn yr amgylchedd hanesyddol mae Cadw yn cyflwyno rhaglen sylweddol o welliannau ledled Cymru. Mae Peter Fox wedi'i gweld yn ei etholaeth ei hun yn abaty Tyndyrn. Mae mwy na £30 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn safleoedd Cadw yn ystod y tair blynedd ddiwethaf—gwaith ac uwchraddio mawr yn parhau yn ystod fy nghyfnod yn y swydd ar ddiogelu henebion, gwella profiadau ymwelwyr a chefnogi economïau lleol, gan gynnwys y trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd yng nghastell Caerffili, un o gaerau canoloesol mwyaf Ewrop.
Yn hollbwysig, Lywydd, rhaid i ddiogelu ymestyn hefyd i gynnwys y bobl sy'n gwneud i ddiwylliant ddigwydd. Artistiaid, technegwyr, gweithwyr llawrydd a gweithwyr diwylliannol yw anadl einioes y sector. Mae cefnogi gwaith teg, datblygu sgiliau a chynaliadwyedd gyrfaol yn hanfodol i bolisi diwylliannol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch yn fawr. Rwy'n cydnabod y pwyslais rydych chi wedi'i roi yno. Yn sicr, buaswn yn adleisio hynny. Ond yn anffodus, yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi gweld colli cannoedd o swyddi yn y sectorau hyn, a hynny ddim ond o edrych ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r llyfrgell genedlaethol. Felly, a ydych chi'n cyfaddef ein bod ni wedi llithro ar ôl dros y pum mlynedd diwethaf? A thrwy gyfnod cyni, rwy'n deall hynny—ond a ydych chi'n meddwl nawr fod angen inni weld ailadeiladu ac ailymrwymiad i sicrhau ein bod yn adfer y niferoedd, ond hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth pellach?
Diolch am hynny, Heledd. Fe fyddwch wedi gweld y buddsoddiad sylweddol a amlinellais eisoes ar gyfer diogelu'r sector. Fe ddof at wella ac ymgorffori yng ngweddill fy nghyfraniad, Lywydd. Ond yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw gweithio'n uniongyrchol gyda'r sector a gweithlu'r sector i dyfu'r sector yn y modd hwnnw yn y dyfodol. A dyna pam rwy'n falch iawn o fod wedi sefydlu fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y sector celfyddydau, diwydiannau creadigol a'r cyfryngau. Cyfarfu am yr eildro ddoe, a bydd yn sicr o gryfhau'r sector drwy gydweithio ag undebau llafur a chyflogwyr.
Lywydd, os yw diogelwch yn ymwneud â sefydlogrwydd, mae gwella'n ymwneud â chyrhaeddiad, perthnasedd ac effaith. Nid yn ôl rhagoriaeth ar lwyfan ac mewn orielau'n unig y diffinnir sefydliadau diwylliannol sy'n arwain y byd. Cânt eu diffinio gan bwy y maent yn eu cyrraedd, pwy sy'n teimlo eu bod yn cael croeso a straeon pwy sy'n cael eu hadrodd. Rydym wedi buddsoddi ychydig dros £5.5 miliwn dros y pedair blynedd ddiwethaf i gefnogi sefydliadau i ddarparu mynediad tecach at ein diwylliant cenedlaethol. Mae'r cyllid hwn wedi galluogi amgueddfeydd, archifdai, theatrau, llyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol eraill i ddyfnhau ac arallgyfeirio'r straeon y maent yn eu hadrodd, i gyfoethogi dealltwriaeth o'u casgliadau, ac i sicrhau bod y profiadau y maent yn eu cynnig yn adlewyrchu ehangder llawn cymunedau Cymru.
Rydym eisiau sefydliadau diwylliannol sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ac sy'n agored i bawb, beth bynnag y bo'u cefndir, eu daearyddiaeth neu eu hincwm. Mae hyn yn golygu cryfhau mynediad i blant a phobl ifanc, fel y nododd Jane Dodds, cefnogi gwaith mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol, a chael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol. Ac i mi, Lywydd, golyga hyn ei bod yn hanfodol fod pob plentyn dosbarth gweithiol yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ddiwylliant yn ei holl ffurfiau. Ni ddylai fod yn rhywbeth i'r dosbarthiadau canol ac uwch yn unig. A dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i fynediad i blant a phobl ifanc, gan wario tua £0.5 miliwn i gefnogi cynlluniau drwy'r Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd, Cadw, Amgueddfa Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer trafnidiaeth, tocynnau a hyd yn oed ar gyfer ôl-lenwi rolau athrawon lle bo angen. Os cymerwn gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, fe wnaethom ganolbwyntio'n benodol ar gyrraedd ysgolion mewn cymunedau tlotach a dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i fynediad. Cafwyd dros 25,000 o ymweliadau o ganlyniad uniongyrchol i'r cyllid hwn.
Lywydd, drwy ein cynllun grantiau diwylliant llwyddiannus ar gyfer sefydliadau llawr gwlad, y rhai y tynnodd John Griffiths sylw atynt yn ei sylwadau, rydym wedi cynorthwyo mwy na 100 o sefydliadau ledled y wlad i gael cyllid sy'n cryfhau eu gweithgarwch diwylliannol a arweinir gan y gymuned, yn meithrin capasiti lleol ac yn ehangu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â diwylliant mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu eu lleoliad. Dyna'r un ethos â gwaith Cadw ar ehangu mynediad.
Lywydd, ers i mi ddod yn Weinidog, rydym wedi canolbwyntio ar agor drysau. Mae cynllun mynediad £1 Cadw eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gyda mwy na 4,500 o bobl yn elwa. Ac ers ei lansio ym mis Chwefror 2025, mae bron i 12,000 o docynnau £1 wedi'u prynu ar-lein, gan alluogi miloedd yn rhagor o bobl i gael profiad o'n treftadaeth na fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall.
Mae gwella hefyd yn golygu buddsoddi mewn talent ac arloesedd. Mae gan Gymru botensial creadigol eithriadol, yn enwedig drwy'r iaith Gymraeg a'n tirwedd ddiwylliannol ddwyieithog. Mae cefnogi lleisiau newydd, meithrin talent sy'n dod i'r amlwg a galluogi modelau digidol a theithiol yn hanfodol os yw ein sefydliadau am barhau i fod yn fywiog ac yn berthnasol mewn byd sy'n newid. Ac wrth gwrs, rhaid inni barhau i gryfhau cysylltiadau rhwng diwylliant a meysydd polisi eraill, fel y dywedodd yr Aelodau. Mae diwylliant yn cyfrannu at addysg, mae'n cyfrannu at iechyd a lles, mae'n cyfrannu at adfywio ac mae'n cyfrannu at dwristiaeth. Mae ein sefydliadau diwylliannol yn aml yn sefydliadau angori. Maent yn rhoi siâp i leoedd, yn cefnogi economïau lleol ac maent yn helpu cymunedau i ffynnu. Ac rydym wedi gweld buddsoddiad lleol sylweddol, gan gynnwys dros £26 miliwn yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug ers 2022.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rydych chi wedi rhoi ymateb manwl iawn i'r ddadl. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw beth yw eich dadansoddiad chi o'r rheswm pam ein bod ar waelod y tablau Ewropeaidd?
Wel, os darllenwch adroddiad y pwyllgor, nid yw hwnnw'n rhoi'r darlun cliriaf un chwaith, fel rydych chi am ei nodi yn y cyfnod hwn cyn yr etholiad. Ond Lywydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gan Gadeirydd y pwyllgor.
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad pellach. Rwy'n gwybod nad ydynt yn hoffi clywed am fuddsoddiad mawr yn yr Wyddgrug, ond—
Cadeirydd y pwyllgor yw hi.
—fe wnaf ei dderbyn. Rwyf wedi dweud y gwnaf.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n ymyrryd, fel Cadeirydd y pwyllgor, i ddweud bod y ffigurau hynny'n gywir, ond yn bersonol rwy'n croesawu'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Mae'r rhain i gyd yn newyddion da. Y ddadl y byddem yn ei gwneud, mae'n debyg, yw hon: meddyliwch am yr holl fuddsoddiad ychwanegol y gellid ei wneud hyd yn oed pe baem ond yn cael yr un faint â'r cyfartaledd Ewropeaidd. Ond rwy'n eich sicrhau ein bod yn croesawu'r hyn rydych chi'n ei nodi; gallem fod gymaint yn fwy uchelgeisiol, dyna i gyd.
Wel, rwy'n ddiolchgar am hynny, ac rydym bob amser yn cefnogi uchelgais. Nodaf nad yw'r tabl y cyfeiriodd yr Aelod blaenorol ato'n cynnwys yr holl fuddsoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud—dros £200 miliwn o fuddsoddiad mewn rhaglenni drwy'r cynllun iaith Gymraeg, drwy'r cynllun addysg, drwy lawer o gynlluniau gwahanol. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn un ymyriad arall, Lywydd. Rhaid i mi fwrw ymlaen.
Rwy'n gwerthfawrogi eich haelioni gyda'ch ymyriadau, Weinidog. Ond a wnewch chi dderbyn neu gydnabod bod rhan o'r cyllid, fel Theatr Clwyd, y sonioch chi amdano, wedi cael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU drwy arian ffyniant bro hefyd?
Fe wnaf gydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ei fod yn £1 filiwn os cofiaf yn iawn, Lywydd. Diolch i Gareth Davies am ddod â mi'n ôl at Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, oherwydd daw hynny â mi at y dros £26 miliwn y gwnaeth y Llywodraeth hon ymrwymo iddo. Roedd yn ymrwymiad a wnaethom yn y maniffesto yn etholiadau'r Senedd 2021, ac rwy'n falch ein bod wedi ei gyflawni yn y Llywodraeth hon. Dyna beth a gewch pan fyddwch chi'n pleidleisio dros Lafur Cymru. Lywydd, rydym wedi gweld buddsoddiad yn amgueddfa bêl-droed Cymru yn Wrecsam hefyd, gyda £9 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ers mis Mehefin 2023, £7.8 miliwn i CELF, yr oriel gelf gyfoes wasgaredig.
Lywydd, rwy'n gwybod bod amser yn brin, ond roedd trydydd pwynt yn nadl yr Aelod, ac rwyf wedi derbyn llawer o ymyriadau, felly rwy'n gobeithio ceisio mynd drwy rywfaint o hyn. Yng Nghymru, mae gennym sylfaen gadarn i ymgorffori, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn golygu ymgorffori diwylliant, gwneud yn siŵr ein bod yn alinio â'n polisi diwylliannol a'n blaenoriaethau cenedlaethol ehangach, gan gynnwys y Gymraeg, datblygu economaidd, a chysylltiadau rhyngwladol. Nid cyrff cyflenwi syml yw ein sefydliadau, maent yn bartneriaid yn y broses o lunio dyfodol Cymru. Mae eu harbenigedd a'r cysylltiad â chymunedau yn amhrisiadwy, a rhaid inni barhau i'w cynnwys yn ystyrlon wrth lunio polisi, nid ar gyfer gweithredu'n unig.
Ac os caf fyfyrio'n fyr ar le Cymru yn y byd, Lywydd, mae ein sefydliadau diwylliannol ymhlith ein llysgenhadon cryfaf, fel y gwyddom yn y lle hwn. Maent yn adrodd stori Cymru'n rhyngwladol drwy deithio, drwy gydweithio a thrwy gydgynhyrchu. Mae ein buddsoddiad o £767,000 yn Opera Cenedlaethol Cymru yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu ein sefydliadau sy'n arwyddocaol yn genedlaethol ac a gydnabyddir yn rhyngwladol. Ac mae ein sefydliadau diwylliannol hefyd yn cyfrannu at gymell tawel a'n henw da byd-eang a chadernid economaidd. Gwelsom hyn yn cael ei ddangos drwy gydol pencampwriaeth pêl-droed menywod UEFA Euro 2025 yn y Swistir, lle daeth chwaraeon a diwylliant at ei gilydd i arddangos talentau ein pobl a'r balchder sydd gennym yn ein gwlad, yn ein hiaith ac yn ein gwerthoedd. Nid moethusrwydd yw cefnogi'r dimensiwn rhyngwladol hwnnw; mae'n fuddsoddiad yn hyder a phresenoldeb Cymru ar lwyfan y byd.
Felly, i gloi, Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n sefydliadau, gyda llywodraeth leol, gyda chymunedau a chydag artistiaid eu hunain i sicrhau bod bywyd diwylliannol Cymru yn parhau i ffynnu, nid yn unig ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw ond ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn—. Na, does yna ddim cwestiwn ar ddiwedd yr eitem yna.
Fe fyddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Pleidleisiwn nawr ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Yn gyntaf, felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 1, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, mae'r ddau welliant a'r cynnig wedi'u gwrthod. Dim byd wedi'i dderbyn o dan yr eitem yna.
Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni, ac fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr cyn i ni gychwyn ar Gyfnod 3. Fydd y gloch yn cael ei chanu pum munud cyn i ni ailgychwyn.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:28.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:41, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Mae gwelliannau a nodir ag [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu 17 wrth gyflwyno’r gwelliant.
Rydym yn barod i ddechrau ar Gyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â BSL: cynghorydd cenedlaethol, panel cynghori a chwynion. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant a siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn siarad am y gwelliannau, rwy'n datgan fy mod yn un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, sef Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru yn flaenorol, a hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar. Rhaid imi achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac i Sioned Williams am y ffordd gydweithredol y maent wedi gweithio ar Gyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Mae hwn wedi bod yn waith trawsbleidiol o'r radd flaenaf, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r ddwy ohonoch am hynny.
Yn ystod taith y Bil, rhoddwyd ystyriaeth fanwl i'r cwestiwn a ddylai fod gofyniad ar wyneb y Bil i'r cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain fod yn fyddar. Er fy mod yn llawn werthfawrogi'r manteision posib yn hyn o beth, rwyf wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf, yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a gefais ac er gwaethaf fy awydd i'r gwrthwyneb, y gallai gosod dyletswydd o'r fath ar wyneb y Bil fynd â'r Bil y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a fyddai'n creu perygl o golli'r Bil hanfodol hwn yn llwyr. Mae honno'n risg nad wyf yn barod i'w chymryd.
Mae gwelliant 12, felly, yn ceisio ychwanegu dau ofyniad penodol at wyneb y Bil. Yn gyntaf, fe fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fod yn fodlon, cyn penodi'r cynghorydd IAP, fod gan y cynghorydd
'dealltwriaeth bersonol briodol o brofiadau arwyddwyr IAP.'
Bydd y gofyniad iddynt fod â phrofiad bywyd neu'r profiad bywyd hwn, er nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn fyddar ar wyneb y Bil, yn ychwanegu sicrwydd pellach fod yr unigolyn yn deall ar lefel bersonol y profiadau y mae arwyddwyr IAP yn eu hwynebu bob dydd. Yn ddelfrydol, byddant yn dal i fod yn fyddar.
Yn ail, bydd gwelliant 12 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio cyngor arwyddwr IAP yn y broses benodi. Mae hyn wedi'i nodi yn y gwelliant ar ei ffurf unigol gan fod hyn yn dilyn yr arddull arferol o ran drafftio cyfreithiol. Fodd bynnag, bydd effaith y gwelliant hwn yn galluogi ceisio cyngor ehangach gan arwyddwyr IAP yn fwy cyffredinol. Felly, wrth lunio barn ynglŷn ag a yw'r cynghorydd IAP yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn IAP ac a oes ganddynt y profiad personol gofynnol, bydd barn y gymuned fyddar yn cael ei chynnwys.
Mae gwelliant 10 wedi'i gysylltu â gwelliant 12. Diben gwelliant 10 yw hepgor testun o adran 6 y Bil, ac mae gwelliant 12, yr wyf eisoes wedi'i drafod, yn ailfewnosod y testun hwnnw ar ffurf ddiwygiedig o fewn yr Atodlen i'r Bil. Mae'r Bil eisoes yn cynnwys yr Atodlen, sy'n gwneud darpariaeth bellach ynghylch y cynghorydd IAP a'r panel cynghori. Diben symud y testun o adran 6 i'r Atodlen yw sicrhau bod yr holl ddarpariaeth bellach honno wedi'i chynnwys mewn un lle yn y Bil, a chredaf fod hynny'n cryfhau ac yn gwneud y Bil yn gliriach. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol nad yw hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i effaith gyfreithiol y ddarpariaeth. Yn yr un modd, nid yw gwelliant 13 yn gwneud unrhyw newid sylweddol i gynnwys y Bil. Unig ddiben y gwelliant hwn, unwaith eto, yw ailfewnosod testun yn y lle priodol yn yr Atodlen yn unol â'r gwelliannau cynharach a ystyriwyd.
Yn olaf, mae gwelliant 1 yn welliant canlyniadol i ystyried y ffaith bod y darpariaethau sy'n ymwneud â phenodi'r cynghorydd IAP wedi symud i Atodlen y Bil. Mae cynnwys y gofyniad i'r cynghorydd IAP fod â phrofiad bywyd yn ychwanegiad pwysig iawn at y broses benodi. Felly, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13, a gyflwynwyd yn fy enw i.
Gan droi nawr at welliannau 14 a 15 yn enw Sioned Williams, nid oes cysylltiad rhwng y gwelliannau hyn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Mae gwelliannau 14 a 15, fel y byddwch yn clywed, yn ceisio rhoi gofyniad ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y gall arwyddwyr IAP gwyno am fynediad at wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu gyrff cyhoeddus rhestredig.
Yn ei hanfod, mae hyn yr un fath â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Sioned yng Nghyfnod 2, a wrthodwyd gennyf. Er fy mod yn cefnogi bwriad y gwelliant, nid yw fy safbwynt ar hyn wedi newid. Nid yw'r Bil yn cynnwys gweithdrefn gwyno benodol, ac felly ni fyddai'n briodol i'r Bil osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi canllawiau ar y llwybr priodol i arwyddwyr IAP wneud cwynion.
Mae'r llwybrau priodol y dylid eu cymryd eisoes wedi'u nodi yng ngweithdrefnau cwyno penodol Llywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus rhestredig. Fel y nodais yn yr ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn, fy mwriad oedd diweddaru'r memorandwm esboniadol sy'n mynd gyda'r Bil i egluro'r opsiynau sydd ar gael i achwynwyr sy'n ceisio atebolrwydd mewn achosion lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn methu cyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil. Ailadroddais y bwriad hwnnw pan drafodwyd gwelliannau Sioned gan y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cyhoeddwyd y memorandwm esboniadol diwygiedig cyn Cyfnod 3, ac mae bellach yn cynnwys adran annibynnol ar y prosesau cwyno.
Am y rhesymau hyn, galwaf ar y Senedd i wrthod gwelliannau 14 a 15, er fy mod yn parchu ac yn cefnogi eu bwriad. Ac unwaith eto, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13 a gyflwynwyd yn fy enw i.
Mae Plaid Cymru'n falch o gyfrannu at Gyfnod 3 y Bil hwn. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood, wrth gwrs, sydd wedi gweithio'n ddiflino dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu'r Bil hwn. Rwy'n falch iawn, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn falch iawn, o weld y Bil hwn gerbron y Senedd, a hefyd gan ein bod wedi gallu gweithio mor gydweithredol arno gyda chi a Llywodraeth Cymru. Mae wedi teimlo'n Fil ychydig yn rhyfedd, gan nad oes llawer o wrthwynebiad rhyngom o gwbl ar unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil. Mae wedi bod yn ffordd wych iawn o allu cydweithredu a gweithio gyda'n gilydd ar Fil mor bwysig a blaengar y bydd y Senedd, rwy'n siŵr, yn falch o'i roi mewn statud.
Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi amcanion craidd y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw, i gynghorwyr cyfreithiol ac ymchwilwyr a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, ond hefyd i Niamh Salkeld o dîm staff grŵp Plaid Cymru.
Rwy'n credu'n gryf fod hon yn foment hanesyddol i Gymru, ac wrth gwrs, i arwyddwyr IAP byddar yn benodol ledled ein gwlad. Mae'n gyfle gwirioneddol i basio'r ddeddfwriaeth IAP fwyaf blaengar yn unrhyw le yn y DU. Er y bydd y Bil hwn yn helpu i sicrhau y gall arwyddwyr IAP byddar gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu mai ei brif nod mewn gwirionedd yw sicrhau bod eu hiaith, IAP, sy'n rhan annatod o'u hunaniaeth a'u diwylliant, yn cael ei pharchu a'i chydnabod, a bod penderfyniadau sy'n effeithio arnynt yn cael eu llunio gan y bobl sy'n gwybod orau—y gymuned IAP fyddar eu hunain.
Yn ogystal â gwella bywydau arwyddwyr IAP byddar, mae'r Bil yn cynnig manteision ehangach, gan godi ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth gyfan a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd diwylliannol ac ieithyddol IAP. Mae hyn yn teimlo'n arbennig o amserol a pherthnasol mewn cenedl lle rydym yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod ein hamlieithrwydd.
Gan droi at y gwelliannau, fel y dywedais, rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Mark Isherwood a Llywodraeth Cymru ar lawer ohonynt. Gyda'n gilydd, ers Cyfnod 2, rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gryfhau'r Bil yn sylweddol drwy ymgorffori cyfranogiad gwirioneddol, sicrhau bod penodiadau allweddol yn adlewyrchu profiad bywyd, a rhoi dylanwad gwirioneddol i'r gymuned dros strategaeth a phenderfyniadau. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid i arweinyddiaeth, hyrwyddo arweinyddiaeth a phrofiad bywyd arwyddwyr IAP byddar eu hunain fod yn rhan ganolog o'r Bil hwn. Mae angen i'w harbenigedd arwain pob cam o'i weithrediad: llunio'r canllawiau IAP y bydd cyrff cyhoeddus yn dibynnu arnynt, llywio strategaeth Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus unigol yn datblygu ac yn cyflawni'r Bil IAP. Bydd pasio'r Bil hwn yn nodi dechrau taith hir a phwysig.
Gan symud ymlaen at y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, mae gwelliant 14 yn welliant canlyniadol i welliant 15, sydd, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn ymwneud â chanllawiau cwynion a sicrhau y gall defnyddwyr IAP gael mynediad at wasanaethau a chodi pryderon pan fydd pethau'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn bod hyn bellach wedi'i egluro yn y memorandwm esboniadol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond credaf fod hyn wedi'i nodi mor gryf yn y dystiolaeth a glywsom fel pwyllgor fel y buaswn yn teimlo'n well pe bai'n cael ei roi ar wyneb y Bil, a byddent hwythau'n teimlo mai dyna ei le cywir, gan y byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y gall arwyddwyr IAP wneud cwynion am wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu gyrff cyhoeddus rhestredig, ac yn bwysig, sicrhau bod y canllawiau hynny ar gael yn IAP. Mae hefyd yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn cyhoeddi'r canllawiau neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig.
Gan droi at y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, ar welliant 12, rydym yn falch o gefnogi'r gwelliant hwn, y buom yn gweithio arno ar y cyd â'r Aelod a Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn sicrhau y gall y cynghorydd IAP gyfathrebu'n effeithiol yn IAP a chael dealltwriaeth wirioneddol o brofiad arwyddwyr IAP byddar. Mae'n sicrhau bod Gweinidogion yn cael cyngor gan arwyddwr IAP wrth benderfynu a yw rhywun yn bodloni'r meini prawf hynny. Mae'n wirioneddol bwysig, gan y bydd y cynghorydd yn chwarae rhan mor ganolog wrth lunio'r strategaeth IAP genedlaethol. Mae angen yr wybodaeth, y profiad—y profiad bywyd—ac yn hollbwysig, yr hygrededd ar yr unigolyn a benodir i ennyn ymddiriedaeth y gymuned y byddant yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Ar hyn o bryd, fel y clywsom, ni all y Bil ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn fyddar oherwydd cyfyngiadau Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf y dylai Cymru gael y pŵer i wneud y mathau hyn o benderfyniadau, am yr holl resymau a glywsom.
Gyda phwerau datganoledig dros gydraddoldeb, gallai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn arwyddwr IAP byddar, gan sicrhau bod y rôl yn mynd i rywun o'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Byddai wedi bod yn bosib i Lywodraeth Cymru geisio Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i addasu cymhwysedd y Senedd yn y maes hwn, felly buaswn yn gwerthfawrogi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei chyfraniad—ac a ddywedodd wrth y pwyllgor yn wreiddiol hefyd, gyda llaw, y byddai hyn o fewn ein cymhwysedd; nid oedd yn bresennol yng Nghyfnod 2, yn anffodus, felly ni allwn ofyn iddi yno ynglŷn â hynny—a gafwyd unrhyw sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r opsiwn i sicrhau cymhwysedd. Rwy'n derbyn pwynt yr Aelod ynghylch peidio â bod eisiau bwrw'r Bil oddi ar y cledrau oherwydd hynny, ond credaf mai dyna fuasai'r ffordd orau o fod wedi sicrhau bod gan y cynghorydd ymddiriedaeth lawn y gymuned y byddent yn ei gwasanaethu. Ond credaf fod y gwelliant hwn fel y mae yn cryfhau'r Bil yn gyffredinol ac yn gwneud y broses benodi'n fwy cadarn, gan sicrhau bod llais y gymuned, felly, yn ganolog.
Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant 13. Mae hwn hefyd yn fesur diogelu pwysig, gan ei fod yn sicrhau bod penodiadau i'r panel yn cael eu llywio gan brofiadau bywyd arwyddwyr IAP byddar. Bydd gan y rhai a fydd yn cael eu penodi ddylanwad go iawn dros y strategaeth genedlaethol, felly mae'n hanfodol fod y broses yn adlewyrchu safbwyntiau, anghenion a disgwyliadau'r gymuned y bwriedir i'r panel ei gwasanaethu.
Tynnodd adroddiad ein pwyllgor sylw at y ffaith y dylai'r ddeddfwriaeth hon gael ei harwain gan arwyddwyr byddar eu hunain, nid ei gorfodi o'r tu allan, oherwydd heb y cam hwn, mae risg na fyddai penodiadau'n adlewyrchu blaenoriaethau'r gymuned, neu na fyddai gan y panel hwnnw hyder y rhai y mae'n eu cynrychioli. Credaf fod y gwelliant hwn nawr yn helpu i atal hynny, ac yn sicrhau bod gan y gymuned lais ar ddechrau'r broses o wneud penderfyniadau.
Roedd y comisiynydd plant, pan roddodd dystiolaeth, yn glir iawn, o ran yr hyn a ddywedodd ac yn iaith y corff, nad mater o greu system gyfochrog oedd hyn, nad oes yn rhaid trin plant sy'n defnyddio IAP yn wahanol i unrhyw blentyn arall y mae angen cydnabod eu hawliau ac a allai gynnwys ymwneud y comisiynydd plant. Nid oes gennyf ddiddordeb, ac nid wyf erioed wedi bod â diddordeb, mewn creu system gyfochrog ar gyfer trin cwynion. Mae angen i bob corff cyhoeddus ymdrin â nhw yn yr un ffordd, pa bynnag iaith a siaredir.
Fodd bynnag, mae'n annidwyll i unrhyw un ohonom feddwl bod y gweithdrefnau ar gyfer cwyno gan gyrff cyhoeddus yn hygyrch i arwyddwyr IAP. Ni fydd rhai ohonynt, os nad y rhan fwyaf ohonynt, yn rhugl mewn darllen naill ai Cymraeg na Saesneg. Ni all rhai arwyddwyr IAP ddarllen amserlen bws hyd yn oed. Felly, dim ond canllawiau cyfathrebu gweledol i'r gwahanol lwybrau ar gyfer cwynion gan wahanol gyrff cyhoeddus a fydd yn gweithio. Ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 15. Rwy'n gobeithio bod y memorandwm esboniadol yn ddigon clir, ac os nad ydyw, mae gwelliant 12 yn cryfhau rôl y cynghorydd IAP a'r grŵp o bobl a fydd yn cefnogi'r unigolyn hwnnw, ar y panel cynghori, ynghylch sut yn union rydych chi'n gwneud prosesau cwyno, sy'n anodd eu deall pa bynnag iaith y siaradwch, yn glir drwy fecanwaith gweledol. Byddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill a gyflwynwyd gan Mark Isherwood.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark, a'r holl gyd-Aelodau? Ond Mark Isherwood, rwyf eisiau diolch yn fawr i chi a'ch canmol am eich uniondeb, eich ymrwymiad a'ch angerdd, sydd wedi bod mor amlwg. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol gweithio gyda chi drwy hyn, gan y credaf, fel rydym wedi'i ddweud ac fel y mae Sioned wedi'i ddweud, ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd mor dda ar hyn oherwydd ein bod wedi gweithio gyda'r gymuned arwyddo IAP fyddar. Rydym am ddiolch i'r gymuned arwyddo IAP fyddar a rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad.
Mae hyn yn dda iawn, gan fod angen craffu arnoch, mae angen her arnoch, ac os oes gennym unrhyw bŵer neu ddylanwad, rhaid inni ymateb. Rwy'n credu ein bod yn awyddus i ddangos y gallwn ymateb yn gadarnhaol gyda'n gilydd yn y Senedd hon, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i bob un ohonoch sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddod â'r Bil i'r cam hwn. Rwyf wedi bod yn falch iawn o barhau i gefnogi'r Bil drwy gydol y broses, i barhau i weithio ar y cyd â Mark, a chyda Sioned Williams, i gyflwyno'r gwelliannau Cyfnod 3 hyn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r pwyllgorau am eu rôl a'u hadroddiadau. Mae hyn oll wedi bod yn bwysig o ran bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Dyma Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Oni fyddwn yn falch o hynny pan fydd yn ddeddf?
Trof yn awr at y gwelliannau yn y grŵp hwn a nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. Pan wnaf hynny, rwyf am ddweud ei bod wedi bod yn nodedig ac yn wych, a gwn y bydd yn digwydd eto, lle mae ein holl dimau wedi gweithio gyda'i gilydd—tîm Mark, y tîm yn y Comisiwn, ein tîm ni yn Llywodraeth Cymru. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Mae pawb wedi chwarae rhan yn hyn.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Mark, am amlinellu eich gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 12 yn cryfhau'r darpariaethau penodi ar gyfer y cynghorydd IAP drwy sicrhau bod cymhwysedd ieithyddol perthnasol a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn briodol, sy'n unol ag amcanion y Bil. Mae gwelliant 13 hefyd yn sicrhau yr ymgynghorir â'r cynghorydd IAP cyn gwneud penodiadau i'r panel cynorthwyol, gan gefnogi dull llywodraethu mwy cydlynol. Felly, rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn, ynghyd â gwelliant 1, sy'n welliant canlyniadol i welliant 12, a gwelliant 10, sy'n gwella eglurder drwy symud darpariaeth ar y cynghorydd IAP i'r Atodlen. Mae llawer yn y gwelliannau hynny sy'n cryfhau'r Bil hwn yn fawr.
Diolch hefyd, Sioned, am amlinellu eich gwelliant 15 ar gyhoeddi canllawiau ar gwynion, ynghyd â gwelliant 14, sy'n welliant canlyniadol. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod arwyddwyr IAP yn gallu gwneud cwynion a mynnu iawn pan fo gwasanaethau'n methu. Fodd bynnag, mae mecanweithiau ar gyfer cwynion eisoes yn bodoli, gan gynnwys llwybrau sefydledig drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ac yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac fel y nodwyd eisoes, cytunodd Mark Isherwood y byddai memorandwm esboniadol y Bil IAP yn cael ei ddiweddaru i gynnwys canllawiau'n ymwneud â phrosesau cwynion cyhoeddus ar gyfer arwyddwyr IAP. Roedd hwnnw'n ymateb pwysig gan Mark, ac ymrwymais i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'r diweddariad hwnnw. Felly, rwy'n credu bod hyn eisoes yn mynd i'r afael â'r mater y mae'r gwelliant hwn yn ceisio'i gyflawni.
I egluro ymhellach hefyd, nid yw'r gwelliannau hyn yn ymwneud â'r dyletswyddau penodol a roddir ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus rhestredig yn y Bil hwn i hyrwyddo a hwyluso IAP. Felly, am y rhesymau hynny, er ein bod yn deall y cymhelliant y tu ôl i'r gwelliannau, rwy'n gobeithio y bydd ein hesboniadau o'r hyn a wnaethom mewn ymateb yn egluro pam na fyddaf yn cefnogi gwelliannau 14 a 15. Ond rwy'n falch iawn o gefnogi'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Diolch am yr holl gyfraniadau. Rwy'n credu bod Sioned Williams wedi codi'r mater ynghylch cymhwysedd yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ac fe ofynnodd, rwy'n credu, i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai'n dymuno gwneud sylw. Fe adawaf Ysgrifennydd y Cabinet oddi ar y bachyn ar hyn. Daeth y cyngor arweiniol a gawsom ar hyn gan gyfreithwyr y Senedd. Fe wnaethant ddangos elfennau manwl y gyfraith i mi, a gallaf weld pam eu bod wedi argymell gofal yn y mater hwn. Yn amlwg, mae'n annhebygol y byddem yn cael ein herio, ond pe byddem, o ystyried yr amserlenni dan sylw, byddai'r Bil yn methu. Felly, unwaith eto, mae'n gambl nad wyf yn barod i fetio arni yn hynny o beth.
Cyfeiriodd cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at dystiolaeth gan y comisiynydd plant. Yn amlwg, ni ddylid trin plant yn wahanol. Dylai pob plentyn a phawb arall gael hawl i fynediad at y prosesau cwyno, er enghraifft. Y broblem yw'r rhwystrau i bobl sy'n dymuno cael mynediad at y systemau sydd i fod ar gael i bawb. Rwy'n credu mai pwrpas yr argymhelliad cychwynnol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr oedd Sioned yn iawn i ddyfalbarhau ag ef, oedd helpu i leihau neu gael gwared ar y rhwystrau hynny. Nid yn unig y mae hyn yn y memorandwm esboniadol, ond nawr bydd angen—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Jane, ie.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac yn cefnogi Sioned gyda'r maes penodol hwn—hynny yw, y system gwynion. Fe wnaethoch chi gyffwrdd ag ef yno, sef bod gennym gymuned enfawr yma sy'n ei chael hi mor anodd cael mynediad at wasanaethau. A dylem wneud popeth yn ein gallu i'w diogelu a'u galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau a chwyno drwy system sydd ar eu cyfer nhw'n benodol, sy'n caniatáu iddynt ac yn cydnabod eu materion cyfathrebu penodol. Felly, oni fyddech chi'n cytuno bod yr agwedd hon, sef gweithdrefn gwyno benodol, yn rhoi ffordd a mynediad penodol a chlir iddynt? Diolch yn fawr iawn.
Dyna'n sicr yw bwriad y memorandwm esboniadol, nid dim ond egluro'r opsiynau sydd ar gael i achwynwyr. Mae'n gymhleth. Fel y gwyddom, mae gan bob awdurdod lleol, pob bwrdd iechyd ac fel arall eu prosesau cwyno eu hunain, ac os nad ydych chi'n arfer llywio'ch ffordd drwyddynt, maent yn gymhleth, yn eithaf brawychus, yn enwedig os yw'r bobl bwysig sy'n rheoli'n gwthio'n ôl. Felly, bwriad hyn—a bwriad argymhelliad y pwyllgor a gwelliant Sioned, rwy'n siŵr—yw sicrhau nid yn unig fod pobl yn gwybod sut i gael mynediad at brosesau cwyno, ond bod hynny'n cael ei wneud yn eu hiaith gyntaf, fel y gallant gael mynediad at hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy iddynt hwy yn y ffordd y gallai unrhyw un arall gael mynediad atynt drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg pe bai ganddynt gwynion i'w gwneud.
Ond unwaith eto, diolch i Sioned a'r pwyllgor. Pe na byddent wedi codi hyn, efallai na fyddem wedi cael y gwelliant angenrheidiol yn y memorandwm esboniadol, sydd bellach yn mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw a oedd yn bodoli'n flaenorol. Felly, ar y sail honno, rwy'n annog yr Aelodau unwaith eto i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13, ond i wrthod 14 a 15 ar y sail fod yr angen yr ydym i gyd wedi'i nodi yn cael sylw yn y memorandwm esboniadol diwygiedig bellach. Diolch yn fawr.
Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 14 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 1: O blaid: 35, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ac, felly, mae gwelliant 14 yn methu.
Methodd gwelliant 14.
Grŵp 2 sydd nesaf o welliannau. Mae'r ail grŵp o welliannau'n ymwneud â thargedau ar gyfer athrawon ac aseswyr Iaith Arwyddion Prydain. Gwelliant 2 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng Nghyfnod 2, diwygiwyd y Bil i ychwanegu gofyniad penodol i'r strategaeth IAP gynnwys targedau i gynyddu neu gynnal nifer y cyfieithwyr a dehonglwyr IAP sydd ar gael at ddibenion arfer y swyddogaethau sy'n deillio o'r Bil hwn. Mae gwelliant 2 yn adeiladu ar hynny ac yn ceisio ymestyn y gofyniad hwnnw i gynnwys targed ychwanegol ar gyfer nifer y personau sydd ar gael at ddibenion addysgu ac asesu'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr IAP hynny.
Fel y nodais yng Nghyfnod 2, mae cyfieithwyr a dehonglwyr IAP yn darparu gwasanaeth hollol hanfodol, ac yn gweithredu fel cyswllt hanfodol i arwyddwyr IAP byddar i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol. Byddai ehangu gweithlu cyfieithwyr a dehonglwyr IAP yn angenrheidiol hyd yn oed heb y dyletswyddau ychwanegol a fydd yn cael eu rhoi ar waith os daw'r Bil yn ddeddf. Fodd bynnag, er mwyn i ehangu'r gweithlu hwnnw fod yn llwyddiannus, mae angen i bobl fod ar gael hefyd i addysgu ac asesu'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr hynny. Dyna pam y credaf fod y gwelliant hwn yn hanfodol ac yn mynd law yn llaw â darpariaethau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2. Credaf fod hwn yn gam cadarnhaol arall ymlaen ac felly rwy'n galw ar y Senedd i dderbyn gwelliant 2, gan nodi eto fod hyn yn deillio o ymyrraeth gadarnhaol gan y cyrff proffesiynol perthnasol i'n helpu i lenwi bwlch na sylwyd arno yn y drafft cyntaf. Felly, diolch i Gymdeithas Athrawon ac Aseswyr Iaith Arwyddion Prydain am eu hymyrraeth. Diolch yn fawr.
Bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliant hwn a gyflwynwyd gan Mark Isherwood. Mae gwella darpariaeth IAP nid yn unig yn golygu cydnabod y gweithlu sydd gennym heddiw, ond sicrhau hefyd fod y gweithlu hwn yn gallu tyfu'n gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd os ydym o ddifrif am ehangu mynediad at Iaith Arwyddion Prydain ledled Cymru, mae angen dealltwriaeth lawn o'r ddarpariaeth hyfforddiant gyfan. Ac mae hynny'n golygu nid yn unig gwybod faint o ddehonglwyr sydd gennym ar hyn o bryd, ond a oes gennym y capasiti addysgu, tiwtora ac asesu sydd ei angen i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf a'r genhedlaeth ar ôl honno. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru oddeutu 55 o ddehonglwyr iaith arwyddion cofrestredig, a dim ond tri sy'n gallu dehongli ar draws IAP, Cymraeg a Saesneg. Felly, rhaid inni gryfhau'r ddarpariaeth, gan bwyso ar enghreifftiau fel cynllun BSL Futures 2006, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a anelai at gynyddu nifer y dehonglwyr ac athrawon IAP yng Nghymru, oherwydd heb ddigon o diwtoriaid ac aseswyr, bydd prinder gweithlu'n parhau, beth bynnag am ein huchelgeisiau ac uchelgeisiau'r Bil hwn. Felly, mae'r gwelliant hwn yn helpu i ddiogelu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau bod gennym y data sydd ei angen i nodi ein hanghenion o ran hyfforddi ac achredu. Rwy'n credu ei fod yn ychwanegiad synhwyrol a chymesur iawn, ac unwaith eto mae'n adlewyrchu ysbryd cydweithredol y Bil wrth iddo symud yn ei flaen. Am y rhesymau hyn, bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliant.
Rwy'n croesawu'r gwelliant hwn, sy'n cryfhau pwysigrwydd sicrhau bod digon o ddehonglwyr yn dod ar gael. Mae symud o lefel 1, sef dechreuwr llwyr, i ddod yn ddehonglydd IAP cofrestredig ar lefel 6, yn amlwg yn daith eithaf hir a gallai gymryd sawl blwyddyn, a dyna un o'r rhesymau pam yr anogodd y pwyllgor Mark Isherwood a Llywodraeth Cymru i gicdanio'r broses, oherwydd mae'n broses mor hir. Beth bynnag, rydym lle rydym. Mae'n mynd i gymryd o leiaf £9,000, yn ôl y memorandwm esboniadol, ac mae'n hanfodol nad ydym yn llesteirio'r disgwyliadau sydd wedi'u codi gan y Bil hwn oherwydd prinder dehonglwyr cymwys. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant hwn yn sicrhau bod hyn ar yr agenda'n gyson, yn ogystal â chwilio am ffyrdd o hyfforddi'r bobl hyn, oherwydd fy nealltwriaeth i yw nad oes unrhyw le yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n gymwys i'w hyfforddi ac mae'n rhaid iddynt fynd i Loegr.
Un cyfraniad y byddaf yn ei wneud i Gyfnod 3. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am ei ddyfalbarhad a'i ddycnwch yn dod â'r Bil hwn yma heddiw. A hoffwn ddweud faint o fraint oedd bod yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, lle ymunodd llawer o ddefnyddwyr IAP â ni, drwy gamau Cyfnod 2. Yn sicr, dysgais lawer iawn o'r broses honno, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei werthfawrogi ac na fyddaf yn ei anghofio o ran fy mhrofiadau yma yn y Senedd. Mae hwn yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth, sy'n cynnig y gydnabyddiaeth, y parch a'r gwelededd y maent yn eu haeddu i arwyddwyr IAP ledled Cymru. Ac rwy'n falch ein bod ni, fel Senedd, wedi dod at ein gilydd i gryfhau a chefnogi'r Bil hwn.
Nid yw'r Bil ond mor gryf â'r modd y caiff ei weithredu, ac mae fframweithiau angen sylfeini. Un o'r sylfeini pwysicaf sy'n brin o'r Bil hwn o hyd yw gweithlu cynaliadwy, cynyddol o ddehonglwyr a chyfieithwyr IAP. Felly, rwy'n falch o allu cefnogi'r gwelliant hwn i sicrhau ein bod yn diogelu ein gweithlu o ddehonglwyr IAP ar gyfer y dyfodol, oherwydd heb ddigon o ddehonglwyr, mae'r dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus mewn perygl o ddod yn berfformiadol eu natur fel y rhybuddiodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar—geiriau ar bapur yn hytrach na chefnogaeth go iawn i bobl go iawn.
Fel y clywsoch gan Sioned, roedd llawer o'r rhai a hyfforddwyd drwy'r rhaglen BSL Futures, yn gwneud hynny bron i 20 mlynedd yn ôl, a chyda phob parch, os caf ddweud, efallai eu bod bellach yn agosáu at ddiwedd eu bywydau gwaith a chyfieithu. Felly, nid yn unig ein bod yn methu tyfu'r gweithlu, rydym yn ei weld yn crebachu ymhellach ar yr union foment y mae fwyaf o'i angen arnom. Rwy'n cofio ein clerc pwyllgor ein hunain yn cael trafferth trefnu dehonglwyr ar gyfer ein sesiynau craffu. Os yw pwyllgor Senedd yn gweld hynny'n anodd, beth y mae hynny'n ei ddweud am brofiad unigolyn byddar sy'n ceisio mynychu apwyntiad meddygol neu gysylltu â chorff cyhoeddus? Dyna pam rwy'n falch o gefnogi'r gwelliant. Drwy ei gwneud yn ofynnol i'r strategaeth IAP nodi nid yn unig nifer y cyfieithwyr a dehonglwyr IAP, ond hefyd nifer y bobl sydd ar gael i'w haddysgu, eu cefnogi a'u hasesu, rydym yn dechrau mynd i'r afael â phroblem y cyflenwad wrth ei gwraidd. Nid yw'n ddigon cyfrif y dehonglwyr sydd gennym heddiw; rhaid inni gynllunio ar gyfer y dehonglwyr y bydd eu hangen arnom yfory.
Felly, ym mis Rhagfyr, roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i ehangu'r gweithlu dehonglwyr a chyhoeddi map llwybrau ar gyfer IAP. Mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn deall, mewn egwyddor o leiaf, fod yn rhaid i gynlluniau'r gweithlu ddechrau gyda deall yr hyn sydd gennym mewn gwirionedd. Cam cyntaf yn unig yw mapio; nid yw nodi'r hyn sydd gennym yr un peth ag adeiladu'r hyn sydd ei angen arnom. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn glir nad oes unrhyw lwybrau byr ac wedi rhybuddio nad yw dulliau llwybr carlam yn darparu ansawdd. Yr hyn sy'n gweithio yw buddsoddiad hirdymor strwythuredig mewn hyfforddiant.
Mae gwelliant 2 yn sicrhau bod deall ac ehangu capasiti hyfforddi wedi'i ymgorffori o fewn y strategaeth ei hun. Buaswn yn ddiolchgar felly, yn yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, os gall gadarnhau y bydd y gwaith mapio hwn yn llywio'r strategaeth IAP genedlaethol yn uniongyrchol, ac y bydd y strategaeth yn cynnwys targedau clir, mesuradwy. Rwyf wrth fy modd gyda thargedau; rwy'n credu eu bod yn hollol hanfodol i bopeth a wnawn. Oherwydd hebddynt, nid oes gennym unrhyw syniad i ble rydym yn mynd a dim syniad a ydym wedi cyrraedd yno. Felly, mae'n hollol hanfodol fod gennym dargedau nid yn unig ar gyfer cyfieithwyr a dehonglwyr, ond hefyd ar gyfer y rhai sy'n eu hyfforddi a'u hasesu.
I orffen, mae gwelliant 2 yn gosod sylfaen bwysig. Mae'n gam cymedrol ond ystyrlon i'r cyfeiriad cywir. Ond mae'r gymuned arwyddo IAP byddar yng Nghymru yn haeddu llawer mwy na chamau cymedrol. Mae'n ddyletswydd arnom i ddarparu newid parhaol iddynt. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Mark am esbonio pwrpas y gwelliant hwn a'r cyfraniadau gan aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sy'n dangos pa mor bwysig oedd y dystiolaeth a gafwyd a sut y mae wedi helpu i arwain at y gwelliant pwysig hwn i gryfhau'r Bil. Gallaf sicrhau Jane Dodds fod y gwaith mapio eisoes ar y gweill.
Mae'r gwelliant yn nodi y bydd strategaeth IAP nid yn unig yn cynnwys targedau i gynyddu neu gynnal nifer y cyfieithwyr a'r dehonglwyr sydd ar gael at ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus rhestredig, ond hefyd nifer yr athrawon ac aseswyr sydd ar gael i gefnogi'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr hynny. Rwy'n cytuno y bydd cynnwys yr wybodaeth hon yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y strategaeth ac yn cefnogi gwaith cynllunio a mapio effeithiol i sicrhau ei bod yn bosib cyflawni targedau a osodir yn y dyfodol ar gyfer cyfieithwyr a dehonglwyr IAP. Felly, mae'r gwelliant hwn yn cefnogi cyflawniad nodau'r Bil yn ymarferol, ac rwy'n cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb.
Diolch yn fawr. Wel, mae'n ymddangos bod cefnogaeth unfrydol i bwrpas a bwriad hyn a materion cysylltiedig yn y Bil. Fel gyda phob fframwaith, ni fydd yn sefyll heb sylfeini, ac mae hyn yn ymwneud â rhoi'r sylfeini hynny ar waith ar gyfer y dyfodol. Yn wahanol i eraill, nid wyf wedi rhoi clod a chanmoliaeth i arwyddwyr IAP eu hunain, y cymunedau byddar ledled Cymru. Iddynt hwy y mae'r diolch, wrth gwrs, ein bod ni yma lle rydym ni nawr.
Dechreuodd y daith hon i mi wyth mlynedd yn ôl—mae rhai ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen—yng nghynhadledd flynyddol Clust i Wrando ym Mhrifysgol Bangor, a gynhaliwyd yn flynyddol tan y pandemig ar gyfer pobl fyddar gogledd Cymru a theuluoedd ag aelodau byddar yng ngogledd Cymru. Fe fynychais y gynhadledd honno. Yn 2018, roedd y ffocws ar ddeddfwriaeth yr Alban a'r alwad gan bron bob siaradwr, y rhan fwyaf ohonynt yn academyddion byddar, am ddeddfwriaeth gyfatebol yma. Felly, iddynt hwy y mae'r diolch—rhaid imi roi clod i gynhadledd gogledd Cymru—fod hyn, felly, wedi cael ei ddwyn i lawr yma a'n bod wedi dechrau datblygu'r gefnogaeth Cymru gyfan sydd wedi ein harwain at ble rydym ni heddiw, a Chyfnod 4 gobeithio ar yr unfed ar ddeg, wythnos nesaf. Felly, hoffwn fynd i bleidlais, neu, os yw pawb yn unfrydol, hoffwn gael cadarnhad o hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn yn awr yn symud ymlaen at grŵp 3. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud â data ar y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain a monitro. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliant arall yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Diolch. Mae gwelliannau 3 ac 11 yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth am y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain. Bydd gwelliant 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion nodi pa wybodaeth am y defnydd o IAP yng Nghymru a gafwyd ac a ystyriwyd at ddibenion paratoi'r strategaeth. Bydd cynnwys yr wybodaeth hon yn bwysig yn y cam cynnar hwnnw, a bydd yn helpu i ddeall sut y mae'r strategaeth wedi'i pharatoi.
Yna mae gwelliant 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gael gwybodaeth briodol at ddibenion paratoi eu hadroddiadau cynnydd am y defnydd o IAP yng Nghymru yn ddigon rheolaidd i'w galluogi i asesu cynnydd. Gan mai pwrpas yr adroddiadau o dan adran 8 o'r Bil yw asesu'r cynnydd a wnaed ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o IAP, mae'n hanfodol fod gwybodaeth am y defnydd o IAP yn dod i law'n ddigon rheolaidd. Fel arall, sut y gellir mesur cynnydd yn ystyrlon?
Mae'r gwelliannau hyn yn adeiladu ar y gwelliant a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 gan Sioned Williams, gwelliant y credwn fod iddo deilyngdod mawr. Ac unwaith eto, diolch i Sioned am gyflwyno'r gwelliannau hynny ac amlygu'r mater hwn. Bydd y gwelliannau hyn nawr yn sicrhau, os cânt eu pasio, fod gwybodaeth am y defnydd o IAP yn dod i law ar ddechrau'r broses ac ar sail barhaus. Felly, galwaf ar y Senedd i gefnogi gwelliannau 3 ac 11.
Mae Plaid Cymru'n falch o gefnogi gwelliannau 3 ac 11, a gyflwynwyd gan Mark Isherwood, ac fel y sonioch chi, rydym wedi gweithio'n adeiladol arnynt ochr yn ochr ag ef a Llywodraeth Cymru. Os yw'r Bil hwn i gyflawni newid ystyrlon, rhaid iddo gael ei ategu gan ddata cadarn a pherthnasol i bolisi. Fel y clywsom, mae deall faint o bobl sy'n defnyddio IAP a sut y maent yn ei ddefnyddio'n hanfodol i ddatblygu strategaeth a chynlluniau IAP cenedlaethol effeithiol a chredadwy.
Ar hyn o bryd, mae'r ffordd y caiff y defnydd o IAP ei fesur ledled Cymru a Lloegr yn gyfyngedig. Nododd tua 22,000 o bobl mai IAP oedd eu 'prif iaith' yn y cyfrifiad, sef oddeutu 0.04 y cant o'r boblogaeth tair oed a hŷn. Ond mae'r ffigur hwnnw'n deillio o ymateb ysgrifenedig i gwestiwn cyffredinol am iaith. Nid yw'n cynnwys y rhai sy'n defnyddio IAP yn rheolaidd mewn bywyd bob dydd ond yn nodi'r Saesneg neu'r Gymraeg fel eu prif iaith. Mewn geiriau eraill, mae'n creu perygl o dangyfrif y gymuned yn sylweddol.
Gallwn weld hyn yn glir pan edrychwn ar yr Alban, a gyflwynodd gwestiwn cyfrifiad pwrpasol yn 2022, a ofynnai, 'A allwch chi ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain?' Cynhyrchodd y dull hwnnw ddarlun dramatig o wahanol, gyda dros 117,000 o bobl yn adrodd y gallent ddefnyddio IAP. Dim ond cyfran fach o'r unigolion hynny a'i disgrifiodd fel eu prif iaith, gan dynnu sylw at ba mor gyfyngol y gall y fframwaith prif iaith fod, yn enwedig ar gyfer ieithoedd arwyddion a chymunedau amlieithog.
Mae dadansoddiadau academaidd wedi dangos yn gyson fod y modd y caiff cwestiynau cyfrifiad eu fframio yn siapio pwy sy'n cael eu cyfrif. Fe welsom hyn yn digwydd gyda'r iaith Gymraeg, oni wnaethom. Nid yw model prif iaith uniaith yn adlewyrchu realiti ieithyddol llawer o arwyddwyr IAP byddar. Rwy'n credu bod y gwelliannau hyn, felly, yn agor y drws i wella'r ffordd yr awn ati i gasglu data yng Nghymru, yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn casglu'r data hwnnw.
Un cam amlwg fyddai archwilio sut y gallai cyfrifiad 2031 fesur y defnydd o IAP yn well, gan ddysgu o ddulliau mewn mannau eraill a sicrhau bod data a gesglir yn adlewyrchu profiad bywyd mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hyn hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau a wnaed eisoes ym map llwybrau IAP Llywodraeth Cymru, sy'n cydnabod yr angen i archwilio rhwystrau i gasglu a choladu data IAP, ac i asesu modelau a ddefnyddir ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Felly, mae'n bwysig dweud, er bod y gwelliannau hyn yn gam cryf sydd i'w groesawu'n fawr, ni fydd data ar ddefnydd IAP yn unig yn ddigon. Bydd datblygu strategaeth IAP bwerus a thrawsnewidiol yn galw am sylfaen dystiolaeth ehangach am fywydau, profiad a rhwystrau sy'n wynebu arwyddwyr IAP byddar ledled Cymru. I Blaid Cymru, mae hyn yn golygu sicrhau bod y strategaeth wedi'i hadeiladu ar realiti ac nid rhagdybiaeth, ac yn ein barn ni mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau sylfeini'r Bil yn fawr, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio ar y cyd i'w cefnogi.
Dyma'r tro olaf y byddaf yn siarad, felly hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i Mark Isherwood am ei ymrwymiad a'i ddyfalbarhad wrth wneud yn siŵr fod y Bil hwn yn mynd rhagddo.
Rwyf innau hefyd wedi dysgu llawer iawn am blant IAP ac oedolion IAP, ac rwyf am ddiolch yn arbennig i Julie Doyle, sydd ar eich sgrin, am esbonio i mi fod plant byddar i rieni byddar yn cael yn union yr un canlyniadau addysg â phlant sy'n clywed, am eu bod yn dysgu IAP pan fyddant yn cael eu geni, tra bod plant eraill yn dysgu rhyw iaith arall. O ystyried mai ychydig iawn o iaith lafar sydd gan fabanod, sy'n clywed neu beidio, mae'n ddiddorol nodi hefyd fod y rhai sy'n dysgu IAP oherwydd bod eu rhieni'n gymwys yn llawer mwy digynnwrf na babanod sy'n gorfod gweiddi neu sgrechian i gael eu safbwynt wedi'i glywed. Felly, bydd cromlin ddysgu serth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd ac addysg, i sicrhau ein bod yn gwella'r canlyniadau i blant byddar rhieni sy'n clywed, gan alluogi'r rhieni hynny i gael mynediad at IAP cyn gynted ag y nodir bod y plentyn yn fyddar—. Ac roedd yn sioc darllen yn y memorandwm esboniadol fod yn rhaid i'r cyfryw rieni dalu—mae hynny'n golygu dod o hyd i £9,000 ar ben yr holl gymhlethdodau eraill o gael babi newydd a babi newydd sy'n fyddar. Rwy'n teimlo mai mater i'r Senedd nesaf fydd mynd i'r afael â'r broblem benodol honno. Ond y pwynt yw bod yn rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau ar gael ar unwaith i'r llai na 2,000 o blant sy'n fyddar gyda rhieni sy'n clywed, a'u bod yn cael cymorth cyflym i sicrhau eu bod yn siarad â'u babi yn iaith arwyddion cyn gynted ag y byddant yn sylweddoli nad ydynt yn clywed iaith lafar. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n hollol glir. Roeddwn eisiau cofnodi hynny am mai mater i'r Senedd newydd fydd datrys hynny.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Mark am gyflwyno gwelliannau 3 ac 11, a Sioned Williams am gyflwyno gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Fel y dywedwyd, byddai'r gwelliannau hyn yn cryfhau'r fframwaith adrodd drwy sicrhau bod Gweinidogion yn cael gwybodaeth yn ddigon rheolaidd i asesu cynnydd ac ychwanegu tryloywder ynghylch yr wybodaeth a gasglwyd ac a ystyriwyd wrth baratoi'r strategaeth. Rwy'n cytuno y bydd hyn yn cryfhau hyder yn y strategaeth ac yn dangos ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, a diolch eto am y farn unfrydol. Rwy'n credu eich bod i gyd yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ac yn cyfiawnhau ymhellach y rhesymau pam y mae angen y gwelliannau hyn arnom. Fel yr awgrymoch chi, yng nghyd-destun plant byddar rhieni sy'n clywed ac i'r gwrthwyneb, ond hefyd yng nghyd-destun eraill, mae'n amlwg fod y rhan fwyaf o arwyddwyr IAP yn arwyddwyr IAP byddar neu eu teuluoedd, ond mae yna lawer o rai eraill hefyd. Mae yna ddefnyddwyr IAP cyffyrddol dall fyddar. Mae yna bobl sy'n ddieiriau, goroeswyr strôc efallai, a llawer o rai eraill a fydd yn defnyddio IAP yn llawn neu'n rhannol i gynorthwyo eu hiaith gyfathrebu, a allai fod ar goll o'r ystadegau hynny. Efallai na fydd pobl yn uniaethu â'r cwestiwn fel y caiff ei ofyn. Serch hynny, rwyf am orffen. Gadewch inni fynd i bleidlais a gobeithio nad oes rhaid inni wasgu botymau ar hyn chwaith.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp olaf yw grŵp 4. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag ymgynghori a chynnwys. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Diolch. Mae gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8 a 9 i gyd wedi'u cyflwyno gyda'r bwriad o sicrhau bod cynrychiolwyr arwyddwyr IAP yn rhan o'r broses o baratoi'r strategaeth IAP a chynlluniau IAP o'r cychwyn cyntaf ac yn cael eu cadw'n rhan o'r broses gyfan honno. Nid yw'r term 'cydgynhyrchu' wedi cael ei ddefnyddio yn y gwelliannau oherwydd cyngor a gefais ynglŷn ag anhawster diffinio'r term hwnnw'n gyfreithiol. Yn amlwg, roedd hynny'n siomedig i mi, ond roedd yn rhaid imi dderbyn y cyngor hwnnw. Fodd bynnag, sicrhau bod y strategaeth a'r cynlluniau IAP yn cael eu cydgynhyrchu yw bwriad y gwelliannau hyn, ac mae'r hyn a nodir yn y gwelliannau yn cyd-fynd yn agos ag egwyddorion cydgynhyrchu, y bûm yn eu hyrwyddo ers amser maith. Mae cydgynhyrchu wedi'i ategu gan egwyddorion fel cydraddoldeb, amrywiaeth, cyd-barch ac yn anad dim, rhannu pŵer. Yng Nghymru, mae'r egwyddorion hyn eisoes wedi'u hymgorffori mewn fframweithiau fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i chod ymarfer, sy'n hyrwyddo llais a rheolaeth i unigolion wrth lunio gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. Fel y gwyddom i gyd, fodd bynnag, rhaid inni atgoffa rhai awdurdodau lleol o hynny o bryd i'w gilydd, ond dyna beth y mae deddfwriaeth bresennol 2014 yn ei ddatgan.
Mae gwrando gweithredol yn alluogwr allweddol i'r egwyddorion hyn. Mae'n helpu i newid y ddeinameg o 'Rydym ni'n gofyn, rydych chi'n ateb', i, 'Rydym ni'n gwrando, rydym ni'n dysgu ac rydym yn gweithredu gyda'n gilydd'. Gall cydgynhyrchu chwarae rhan werthfawr neu hanfodol hyd yn oed yn natblygiad gwasanaethau cyhoeddus a'r modd y'u darperir. Mae'n mynd ymhellach nag ymgynghori'n unig a byddai'n sicrhau bod y gymuned fyddar yn rhan o'r broses o ddatblygu allbynnau allweddol y Bil. Dyna pam y mae'r gwelliannau hyn, gyda'r pwyslais ar gynnwys y gymuned fyddar o'r cychwyn cyntaf, yn hanfodol i sicrhau bod y strategaeth IAP a chynlluniau IAP yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd Sioned Williams ddau welliant a oedd yn ymwneud ag egwyddorion cydgynhyrchu. Felly, diolch eto i Sioned am gyflwyno'r gwelliannau hynny ac am agor y ddadl ynghylch sut y gellid ymgorffori cydgynhyrchu o fewn gweithrediad y Bil. Er fy mod yn cefnogi egwyddor gwelliannau Sioned yng Nghyfnod 2, roeddwn yn cydnabod y byddai angen ystyriaeth bellach i ymgorffori cydgynhyrchu yn y Bil IAP i sicrhau ei fod yn gweithio yn y ffordd orau bosib i'r gymuned fyddar, yn cydymffurfio â therminoleg gyfreithiol ac nad oedd iddo unrhyw ganlyniadau anfwriadol i gyflawniad y Bil yn gyffredinol. Felly, rwy'n hynod ddiolchgar eto i Ysgrifennydd y Cabinet ac i Sioned Williams am ymgysylltu â mi yn ystod Cyfnod 3 i archwilio opsiynau ar gyfer gwelliannau priodol ac am weithio gyda mi ar baratoi'r gwelliannau a welwn o'n blaenau nawr. Os derbynnir y gwelliannau hyn heddiw, bydd yn sicrhau bod y gymuned fyddar yn rhan o'r broses o ddatblygu darpariaethau allweddol y Bil, ac nid ymgynghori arnynt yn unig ar ôl i'r darpariaethau hynny gael eu drafftio gan eraill. Felly, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8 a 9. Diolch yn fawr.
Mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi'r holl welliannau a gyflwynwyd gan Mark Isherwood yn y grŵp hwn, sydd, fel y dywedodd, yn mynd i'r afael â phwysigrwydd a natur cydgynhyrchu. Unwaith eto, rydym wedi gweithio mor adeiladol ar hyn gydag ef, a Llywodraeth Cymru wrth gwrs. Gall rhoi dyletswydd i gynnwys yn hytrach na dyletswydd i ymgynghori edrych fel newid bach ar bapur, ond yn ymarferol, rwy'n credu ei fod yn un arwyddocaol iawn, oherwydd gall ymgynghori fod yn ymarfer untro weithiau. Mae cyfranogiad yn awgrymu rhywbeth dyfnach a pharhaus—partneriaeth wirioneddol gyda'r gymuned IAP byddar wrth lunio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Ac rwy'n credu bod y newid hwnnw'n wirioneddol bwysig.
Dylem fod yn onest hefyd am gyfranogiad ystyrlon arwyddwyr IAP byddar. Bydd hyn yn rhywbeth a ddylai fod yn newydd i lawer o gyrff cyhoeddus. Dyna pam y bydd canllawiau clir, ymarferol gan y Llywodraeth mor bwysig i sicrhau bod y ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni'n dda ac nad yw'n cael ei thrin fel ymarfer blwch ticio. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â pharch a chynhwysiant, mae angen i hynny ddigwydd yn iaith y gymuned dan sylw. Mae arwyddwyr IAP byddar yn cynnig profiad bywyd, arbenigedd ac ymrwymiad, a phan fyddant yn cymryd rhan go iawn, bydd polisïau a gwasanaethau'n gryfach o ganlyniad.
Gan droi at welliant 6, yn ogystal â gwelliant 9, unwaith eto, rydym wedi gweithio'n adeiladol ar y rhain gyda'r Aelod a Llywodraeth Cymru, ac mae'n adeiladu ar welliannau cynharach ynghylch cyfranogiad, fel y clywsom, ac yn rhoi sylwedd gwirioneddol i beth y mae'r cyfranogiad hwnnw'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod arwyddwyr IAP byddar eu hunain yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o lunio'r strategaeth IAP genedlaethol, nid fel ôl-ystyriaeth, ond o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses. Mae'n nodi'n glir beth y dylai'r cyfranogiad ystyrlon hwnnw ei gynnwys, gan roi cyfle i bobl wneud sylwadau ar ddechrau'r broses, ceisio eu barn ar gam ffurfiannol cyn i safbwyntiau gael eu sefydlu, a sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu'n briodol ac yn cael digon o amser i ymateb. Rwy'n credu bod hynny yn ein symud y tu hwnt i iaith ac ymrwymiadau amwys tuag at rywbeth llawer mwy pendant. Oherwydd, os yw'r strategaeth hon yn mynd i fod yn effeithiol ac yn gredadwy, rhaid iddi adlewyrchu profiad bywyd y bobl y mae i fod i'w cefnogi. Mae arwyddwyr IAP byddar yn cynnig y mewnwelediad a'r arbenigedd hwnnw a dealltwriaeth ddofn o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, ac felly rhaid i'w lleisiau fod yn ganolog ac nid yn ymylol. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn cryfhau'r Bil drwy wneud y disgwyliad hwnnw'n glir, gan roi eglurder i Weinidogion a sicrwydd i'r gymuned IAP fyddar y bydd eu cyfranogiad yn strwythuredig, yn ystyrlon ac yn barhaus.
Gan mai hwn yw fy nghyfraniad olaf i'r ddadl heddiw, rwyf innau hefyd am orffen drwy ddweud fod bod yn rhan o'r broses o basio'r Bil blaengar a phwysig hwn wedi bod yn ymarfer pwysig iawn i mi fel cynrychiolydd etholedig ac fel deddfwr, oherwydd mae wedi cadarnhau i mi, fel y clywsoch, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, yn y ffordd fwyaf llythrennol bosib, wrth inni eistedd a thrafod am oriau lawer gydag arwyddwyr IAP byddar, cymaint o rwystrau a chyfleoedd y gall y Bil hwn fynd i'r afael â nhw. Mae'r holl broses o graffu, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ein helpu i ddeall beth y mae'n ei olygu pan fydd pobl sy'n clywed ac nad ydynt yn gallu arwyddo mewn rolau sy'n gallu creu newid i'r rhai nad ydynt yn rhannu eu hiaith a'u profiad bywyd, a pham y mae angen i hynny newid.
Rwy'n credu bod yr ymwybyddiaeth sydd wedi'i meithrin ynom o ganlyniad i weithio ar y Bil hwn yn tyfu at ei gilydd, ond ni all ymwybyddiaeth yn unig fod yn nod terfynol. Nid yw bwriadau da, er mor ddiffuant, yn gwarantu hawliau. Diben y Bil hwn yw rhoi'r hawliau hynny ar sylfaen sicr, gan gydnabod nad ychwanegiad dewisol yw IAP ond iaith sy'n haeddu statws, amddiffyniad a hyrwyddo rhagweithiol. Felly, rwy'n credu bod gennym i gyd, fel Senedd, gyfrifoldeb nid yn unig i basio'r Bil hwn ond hefyd i sicrhau ein bod yn cyflawni'r newid y mae'n ei addo. Mae Plaid Cymru'n falch iawn o gefnogi'r Bil hwn, ac wrth wneud hynny, yn anfon neges glir fod hawliau ieithyddol yng Nghymru yn hawliau dynol a'u bod yn perthyn i bawb, ac yn hawliau yng Nghymru yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac yn eu cefnogi. Diolch.
Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ymgyrchu dros gydnabyddiaeth i Iaith Arwyddion Prydain. Fel y mae Sioned Williams newydd ei ddweud, rwyf innau hefyd wedi dysgu cymaint drwy siarad ag aelodau'r gymuned fyddar mewn perthynas â'r Bil hwn. Felly, diolch yn fawr i bob un ohonoch. Mae'n iawn hefyd ein bod yn talu teyrnged benodol i Mark Isherwood heddiw. Nid yn unig y mae pasio Bil Aelodau yn gamp ynddi'i hun—fe fyddwch chi'n gwybod, Mark, oherwydd rydych chi wedi eistedd drwy bob un ohonynt, mai dim ond y pumed Bil Aelodau yn hanes datganoli Cymru yw hwn. Nid yn unig fod honno'n gamp, mae'n ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd rwyf wedi siarad ag aelodau o'r gymuned fyddar yng Nghaerdydd, ac maent mor ddiolchgar am eich gwaith yn codi hyn.
Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod profiad bywyd y gymuned IAP yn cael ei roi wrth wraidd pob penderfyniad yn y dyfodol sy'n ymwneud â'u hiaith. Rhaid inni beidio â syrthio i'r fagl o ddweud wrth arwyddwyr beth sydd orau iddynt. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i gryfhau eu sefyllfa yng Nghymru drwy gydweithredu a chyfathrebu ar unrhyw benderfyniadau polisi IAP yn y dyfodol. Fel y mae eraill wedi dweud, mae IAP yn debyg iawn i'r Gymraeg, mae'n dod â'i ddiwylliant, ei gymuned a'i ymdeimlad o falchder ei hun. Mae'r Bil hwn yn gyfle i roi i IAP y lle sydd ei angen arni i sefyll ochr yn ochr â'n hieithoedd cenedlaethol eraill gyda statws cyfartal, parch cyfartal a chyfle cyfartal. Dyma ein cyfle i ddewis cyfathrebu yn hytrach na dryswch, gan mai ymwneud â hynny y mae IAP. Diolch yn fawr.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch yn fawr. Diolch eto i Mark am gyflwyno hyn ac am esbonio hefyd y rhesymeg dros y gwelliannau hyn ar gyfranogiad arwyddwyr IAP. Mae'n ddiddorol. Rydym wedi dysgu llawer—mae Llywodraeth Cymru wedi dysgu llawer—dros y blynyddoedd o ran ein hymrwymiad i gydgynhyrchu, a chydgynhyrchu ar waith. Rwy'n credu ein bod wedi dysgu llawer yn y ffordd y gwnaethom ddatblygu ein map llwybrau IAP. Fe wnaethom ymgysylltu â'r gymuned arwyddo IAP byddar i ddatblygu'r map llwybrau hwnnw, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 12 Chwefror—cydgynhyrchu ar waith.
Mae symud o ddefnyddio'r gair 'ymgynghori' i 'gynnwys' yn gam real a phwysig iawn ymlaen. Mae wedi'i nodi yng ngwelliannau 5 ac 8. Mae'n gyson â'r bwriad y dylid ymgysylltu ar y materion perthnasol. Ac mae gwelliannau 6 a 9 yn ei gwneud yn glir sut y bydd arwyddwyr IAP yn cael eu cynnwys o ddechrau'r broses o baratoi'r strategaeth IAP gan Weinidogion Cymru a chynlluniau IAP gan gyrff cyhoeddus rhestredig. Ac mae'r gair hwnnw'n bwysig ar ddechrau'r strategaeth, ac yna drwy gydol y broses, ac rwy'n cefnogi hynny mewn perthynas â'r Bil hwn.
Felly, yn fy ngeiriau olaf i gefnogi'r grŵp hwn o welliannau, a gaf i ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan ar bob cam o'r ffordd i ddatblygu'r Bil IAP hwn mewn ffordd gydgynhyrchiol iawn, dan arweiniad Mark Isherwood? Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi hyn fel Llywodraeth Cymru a'n bod yn cydweithredu ar draws y Siambr i gefnogi Bil Mark. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, fe fyddaf mor gryno ag y gallaf. Rwy'n gwybod bod yna ddigwyddiadau eraill yn cydredeg. Diolch am yr holl sylwadau caredig. Ar gyfer yr hyn sy'n ymddangos yn welliannau eithaf syml, roedd yn cynnwys llawer o drafodaeth ynglŷn â pha eiriau y gallem eu defnyddio ac na allem eu defnyddio. Felly, diolch i bawb a fu'n rhan o hynny. Ac yn arbennig, a gaf i roi clod—rwy'n credu eu bod yn eistedd yn yr oriel—i dîm Bil y Senedd, gan na fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosib hebddynt? Maent wedi bod yn anhygoel. Ac wrth gwrs, er nad wyf yn gwybod a yw'r rheini yn yr oriel, ond yn amlwg, maent yn gweithio'n agos gyda chyfreithwyr Llywodraeth Cymru hefyd, felly diolch iddynt hwy hefyd. Nid wyf yn siŵr os ydynt gyda ni, ond maent yn siŵr o gael y neges.
I mi, efallai mai dyma un o'r setiau pwysicaf o welliannau'n ymwneud â'r Bil hwn, oherwydd, os nad ydym yn cynnwys pobl, os nad ydym yn cydgynhyrchu gyda phobl, os nad ydym yn gweld y byd drwy eu llygaid hwy neu'n byw'r bywydau y maent hwy yn eu byw, byddwn yn ymgorffori, yn anfwriadol, y rhwystrau sy'n eu hanalluogi, a fydd hefyd yn costio llawer mwy i gyrff cyhoeddus a Llywodraethau yn y pen draw wrth ei gael yn anghywir a gorfod ei gywiro, neu orfod ymdrin â'r argyfyngau y gallai pobl fod wedi eu hosgoi ond y maent yn gorfod byw gyda nhw oherwydd methiant ar y cychwyn i gael gwared ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Felly, dyna bwrpas a bwriad y gwelliannau hyn. Hyd yma, mae'n ymddangos bod cefnogaeth lawn iddynt, ac felly hoffwn gael y bleidlais, neu gadarnhad, gobeithio, nad oes angen pleidlais ar hyn mewn gwirionedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 5.
A ydych chi'n cynnig gwelliant 5?
Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Mae wedi'i gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 7—gwelliant 6, mae'n ddrwg gennyf.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 7 nawr.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 8.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 9.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant, 10, Mark.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 12, Mark.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13, Mark.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mark, gwelliant 11. Gwelliant 11.
Ni allaf glywed.
Unarddeg.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).
Rwy'n cynnig.
Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sioned, gwelliant 15.
Cynigiwyd gwelliant 15 (Sioned Williams).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Galwaf am bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.
Gwelliant 15: O blaid: 14, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Yr ydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran i'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. A daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
A dyna ni ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:49.