Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/03/2026

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai 1. Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 2. Questions to the Cabinet Secretary for Education
3. Cwestiynau Amserol 3. Topical Questions
4. Datganiadau 90 eiliad 4. 90-second Statements
5. Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru 5. Nomination under Standing Order 10.5 for the appointment of the Auditor General for Wales
6. Dadl Plaid Cymru: Y rhwydwaith rheilffyrdd 6. Plaid Cymru Debate: The rail network
7. Dadl Fer: Sut gall Cymru ddiogelu, gwella ac ymgorffori ein sefydliadau diwylliannol blaengar er mwyn cyfoethogi pobl Cymru a thu hwnt? 7. Short Debate: How can Wales protect, enhance, and enshrine our world-leading cultural organisations for the enrichment of the people of Wales and beyond?
8. Cyfnod Pleidleisio 8. Voting Time
9. Cyfnod 3 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 9. Stage 3 of the British Sign Language (Wales) Bill
Grŵp 1: IAP: Cynghorydd cenedlaethol, panel cynghori a chwynion (Gwelliannau 1, 14, 10, 12, 13, 15) Group 1: BSL: National adviser, advisory panel and complaints (Amendments 1, 14, 10, 12, 13, 15)
Grŵp 2: Targedau ar gyfer Athrawon ac Aseswyr IAP (Gwelliant 2) Group 2: Targets for Teachers and Assessors of BSL (Amendment 2)
Grŵp 3: Data ar y defnydd o IAP a monitro (Gwelliannau 3, 11) Group 3: Data on use of BSL and monitoring (Amendments 3, 11)
Grŵp 4: Ymgynghori a chynnwys (Gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8, 9) Group 4: Consultation and involvement (Amendments 4, 5, 6, 7, 8, 9)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
1. Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai fydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63909] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 2, felly, Lesley Griffiths.

Good afternoon and welcome to today's Plenary meeting. Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government will be first this afternoon. The first question [OQ63909] is withdrawn. Question 2, therefore, Lesley Griffiths.

Adfywio Canol Trefi yn Wrecsam
Town-centre Regeneration in Wrexham

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio canol trefi yn Wrecsam? OQ63906

2. How is the Welsh Government supporting town-centre regeneration in Wrexham? OQ63906

I am committed to supporting our town and city centres, and, through our Transforming Towns programme, I'm investing over £22 million in Wrexham city centre. This investment is making a real difference, supporting a range of projects, breathing new life into the city centre, creating jobs and boosting economic activity.

Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd, a thrwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rwy'n buddsoddi dros £22 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam. Mae'r buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gefnogi amrywiaeth o brosiectau, rhoi bywyd newydd i ganol y ddinas, creu swyddi a hybu gweithgarwch economaidd.

Thank you for that answer, and I know you have visited the part of the scheme that I'm going to mention today around the Transforming Towns programme: the beautiful grade 2 listed Old Carnegie library in the centre of Wrexham, which I very much enjoyed visiting as a child. It was closed for nearly 50 years before it received the Welsh Government funding of £2.9 million from the Transforming Towns programme. As you saw for yourself, it's now a flexible, energy-efficient space for music, arts, creative industries, rehearsal spaces, and also for pop-up retail. Wrexham is becoming very well known for its creative industries and, of course, it's bidding to be the UK City of Culture 2029, and this historic building will help support individuals and businesses who want to make progress in this area. So, Cabinet Secretary, I know you'll agree with me that regeneration of our town and city centres is vital if we are to ensure our high streets and public spaces are revitalised and places where people want to go for shopping, for leisure and for relaxation.

Diolch am eich ateb, a gwn eich bod wedi ymweld â'r rhan o'r cynllun rwy'n mynd i sôn amdano heddiw mewn perthynas â'r rhaglen Trawsnewid Trefi: adeilad rhestredig gradd 2 hyfryd hen Lyfrgell Carnegie yng nghanol Wrecsam, adeilad yr oeddwn yn hoff iawn o ymweld ag ef fel plentyn. Bu ar gau am bron i 50 mlynedd cyn iddo gael cyllid o £2.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Trawsnewid Trefi. Fel y gweloch chi drosoch eich hun, mae bellach yn ofod hyblyg, effeithlon o ran ynni ar gyfer cerddoriaeth, celfyddydau, diwydiannau creadigol, mannau ymarfer a hefyd ar gyfer stondinau manwerthu. Mae Wrecsam yn dod yn adnabyddus iawn am ei diwydiannau creadigol, ac wrth gwrs, mae'n ymgeisio i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029, a bydd yr adeilad hanesyddol hwn yn helpu i gefnogi unigolion a busnesau sydd am wneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod adfywio canol ein trefi a'n dinasoedd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod ein strydoedd mawr a'n mannau cyhoeddus yn cael eu hadfywio a'u bod yn lleoedd y mae pobl eisiau mynd iddynt i siopa, am hamdden ac i ymlacio.

Diolch, Lesley, and, absolutely, I think seeing the progress in Wrexham first-hand really demonstrates the real difference our investment is making to people's lives and the communities they live in. As you mentioned, I was really fortunate to go and visit Wrexham to see that city-centre regeneration plan—how that's developing and how it's delivering. And I was able to go to the creative hub and the Old Library on Queen Street, and it is a really, really beautiful building. And I think the way it's been redeveloped has been really sympathetic to the traditional design as well—it's so light and bright and airy. And those creative spaces now are breathing that life back into that building—a really, really, special place, actually. So, I'm sure there'll be lots of creatives coming out of Wrexham shortly, and it was really good to meet somebody who's based there now, who was somebody who was from Wrexham, who had worked in creative industries in other parts of the UK, but had been drawn back to Wrexham because of all the new facilities and just the real feeling about the spaces and the flexibility and ability to work in somewhere like Wrexham now. I think it's really exciting.

The local authority has been working really hard in this space as well, and we've worked with the local authority. They've developed their placemaking strategy for Wrexham and that's been funded through the Transforming Towns revenue funding. But I think there's a real enthusiasm now, isn't there, in Wrexham around the creatives and the arts and the sports, and I think it's really exciting, and I'm sure that Wrexham will go from strength to strength. And I'm sure that you're excited about seeing the football museum that will shortly open as well.

Diolch, Lesley, ac yn sicr, rwy'n credu bod gweld y cynnydd yn Wrecsam yn uniongyrchol yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae ein buddsoddiad yn ei wneud i fywydau pobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Fel y sonioch chi, roeddwn yn ffodus iawn i fynd i ymweld â Wrecsam i weld cynllun adfywio canol y ddinas—sut y mae'n datblygu a sut y mae'n cyflawni. Ac euthum i'r ganolfan greadigol a'r Hen Lyfrgell ar Stryd y Frenhines, ac mae'n adeilad hardd iawn. Ac rwy'n credu bod y ffordd y mae wedi'i ailddatblygu wedi bod yn ystyriol iawn o'r dyluniad traddodiadol hefyd—mae mor ysgafn a llachar ac agored. Ac mae'r mannau creadigol hynny nawr yn rhoi bywyd yn ôl i'r adeilad hwnnw—lle gwirioneddol arbennig. Felly, rwy'n siŵr y bydd llawer iawn o bobl greadigol yn dod o Wrecsam cyn bo hir, ac roedd yn dda iawn cyfarfod â rhywun sydd wedi'u lleoli yno nawr, rhywun sy'n dod o Wrecsam, a oedd wedi gweithio mewn diwydiannau creadigol mewn rhannau eraill o'r DU, ond a oedd wedi cael eu denu'n ôl i Wrecsam oherwydd yr holl gyfleusterau newydd a'r teimlad gwirioneddol ynglŷn â'r mannau a'r hyblygrwydd a'r gallu i weithio yn rhywle fel Wrecsam nawr. Credaf ei fod yn gyffrous iawn.

Mae'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y gofod hwn hefyd, ac rydym wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol. Maent wedi datblygu eu strategaeth creu lleoedd ar gyfer Wrecsam ac mae honno wedi'i hariannu drwy gyllid refeniw Trawsnewid Trefi. Ond mae brwdfrydedd gwirioneddol yn Wrecsam nawr, onid oes, o ran y bobl greadigol a'r celfyddydau a'r chwaraeon, a chredaf fod hynny'n gyffrous iawn, ac rwy'n siŵr y bydd Wrecsam yn mynd o nerth i nerth. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n edrych ymlaen at weld yr amgueddfa bêl-droed a fydd yn agor yno cyn bo hir hefyd.

Argaeledd Cartrefi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed
Availability of Homes in Brecon and Radnorshire

3. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael i bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ63924

3. How is the Cabinet Secretary increasing the availability of homes for people in Brecon and Radnorshire? OQ63924

Thank you, James. We are providing record social housing funding of over £2  billion over this Senedd term, including £466 million in 2025-26 alone. During this term of government, as at 2024-25, Powys has received almost £68 million in social housing grant. This funding will contribute to the delivery of over 800 homes. Their allocation for 2025-26 is over £13.5 million. We are also increasing the availability of homes through successful schemes such as Help to Buy—Wales, Homebuy—Wales, Leasing Scheme Wales, and our empty homes grant.

Diolch, James. Rydym yn darparu'r lefel uchaf erioed o gyllid tai cymdeithasol, sef dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Yn nhymor y Llywodraeth hon, hyd at 2024-25, mae Powys wedi derbyn bron i £68 miliwn mewn grant tai cymdeithasol. Bydd y cyllid hwn yn cyfrannu at ddarparu dros 800 o gartrefi. Mae eu dyraniad ar gyfer 2025-26 yn fwy na £13.5 miliwn. Rydym hefyd yn cynyddu argaeledd cartrefi drwy gynlluniau llwyddiannus fel Cymorth i Brynu—Cymru, cynllun Prynu Cartref—Cymru, Cynllun Lesio Cymru, a'n grant cartrefi gwag.

Thank you for your answer, Cabinet Secretary. Even though you hold the portfolio responsibility for housing, a lot of the levers for actually delivering the building of homes sits outside your portfolio, in terms of apprenticeships—making sure we've got the plasterers, the plumbers, and all the rest of the trades that build the homes. Also, the planning system sits within another portfolio as well, with the Cabinet Secretary for economy, and environmental regulation sits with the Cabinet Secretary for climate change. So, I'm interested, Cabinet Secretary, because you've missed your homes target year after year, in how you work across Government to bring all those portfolios together, to actually deliver the homes that Wales needs, because sometimes I feel sorry for you—you're the one who gets hauled over the coals, but, actually, a lot of the levers for delivering these homes don't sit with you. So, I'd like to know how you are going to bring all Government together, in the last embers of this Government, to see how we can deliver homes for people right the way across my constituency.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er mai chi sydd â'r cyfrifoldeb am y portffolio tai, mae llawer o'r dulliau gweithredu ar gyfer adeiladu cartrefi y tu allan i'ch portffolio o ran prentisiaethau—sicrhau bod gennym y plastrwyr, y plymwyr, a'r holl grefftau sy'n adeiladu'r cartrefi. Hefyd, mae'r system gynllunio yn rhan o bortffolio arall hefyd, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gyfrifol am reoliadau amgylcheddol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a chithau wedi methu cyrraedd eich targed tai flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut rydych yn gweithio ar draws y Llywodraeth, i ddod â'r holl bortffolios hynny ynghyd, i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd, oherwydd, weithiau, rwy'n teimlo'n flin drosoch—chi yw'r un sy'n cael eich dwyn i gyfrif, ond mewn gwirionedd, nid chi sy'n gyfrifol am lawer o'r liferi ar gyfer darparu'r tai hyn. Felly, hoffwn wybod sut rydych chi'n mynd i ddod â'r Llywodraeth gyfan ynghyd, yn nyddiau olaf y Llywodraeth hon, i weld sut y gallwn ddarparu tai i bobl ar draws fy etholaeth.

13:35

Diolch, James. As you rightly say, there are a number of levers that sit outside of the portfolio, and that was one of the points around the affordable homes taskforce and some of the recommendations that they've made. It touches on a number of Ministers' portfolios—for example, my Cabinet colleague for economy, my Cabinet colleague for skills. So, there are a number of these different parts. But I also chair the affordable homes taskforce implementation group. That's something where we bring all those recommendations, which includes things like planning, skills, and other things around apprenticeships as well, together, with experts from across sectors as well—so, local government, house builders. We're looking together at how we can actually drive this forward. So, we do work as a Cabinet collectively as well on the priority that is our target around building more social homes, which we will reach by November this year, which is no mean feat. Again, it's been a real team Wales approach. I think—actually, we know—that one of the other positive things is not just reaching that target in this year, but we also know we have a really strong pipeline of projects coming forward. So, I'm really excited about that—I think that is something that would be more concerning, if we didn't have such a strong pipeline. But we've worked really hard through that, successful and successive, more investment, and making sure that we're all on the same page in driving forward that priority that we need to build more homes across Wales.

Diolch, James. Fel y dywedwch, yn gywir ddigon, mae nifer o liferi y tu allan i'r portffolio, ac roedd hynny'n un o'r pwyntiau mewn perthynas â'r tasglu tai fforddiadwy a rhai o'r argymhellion y maent wedi'u gwneud. Mae'n gorgyffwrdd â phortffolios nifer o Weinidogion—er enghraifft, yr aelod o'r Cabinet dros yr economi, yr aelod o'r Cabinet dros sgiliau. Felly, mae nifer o rannau gwahanol. Ond rwyf hefyd yn cadeirio grŵp gweithredu'r tasglu tai fforddiadwy. Dyna rywbeth lle rydym yn dod ynghyd â'r holl argymhellion hynny, sy'n cynnwys pethau fel cynllunio, sgiliau, a phethau eraill yn gysylltiedig â phrentisiaethau hefyd, gydag arbenigwyr o bob sector—felly, llywodraeth leol, adeiladwyr tai. Rydym yn edrych gyda'n gilydd ar sut y gallwn yrru hyn yn ei flaen. Felly, rydym yn gweithio ar y cyd fel Cabinet ar ein blaenoriaeth sef y targed o adeiladu mwy o dai cymdeithasol, y byddwn yn ei gyrraedd erbyn mis Tachwedd eleni, nad yw'n gamp hawdd. Unwaith eto, mae wedi bod yn ddull tîm Cymru go iawn. Rwy'n credu—rydym yn gwybod mewn gwirionedd—mai un o'r pethau cadarnhaol eraill yw nid yn unig cyrraedd y targed hwnnw eleni, ond gwyddom hefyd fod gennym lawer iawn o brosiectau cryf yn yr arfaeth. Felly, rwy'n llawn cynnwrf ynglŷn â hynny—credaf fod hynny'n rhywbeth a fyddai'n peri mwy o bryder, pe na bai gennym gymaint o brosiectau cryf ar y ffordd. Ond rydym wedi gweithio'n galed iawn drwy hynny, yn llwyddiannus ac yn olynol, mwy o fuddsoddiad, a sicrhau ein bod i gyd ar yr un dudalen wrth hyrwyddo'r flaenoriaeth sydd ei hangen arnom i adeiladu mwy o gartrefi ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.

Questions now from the party spokespeople. The Plaid Cymru spokesperson, Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. At the start of this week, the First Minister announced plans to introduce same-day mental health support in Wales. It was a bold claim, considering the fact that over 500 people in Wales are currently waiting longer than the 28-day target for an assessment, as set out by the Mental Health (Wales) Measure 2010. It was also conspicuously lacking in key details, which is especially surprising given the First Minister's apparent aversion to empty sloganeering. So, I wonder if you could fill in the blanks. Given that local primary mental health support services are delivered in partnership with local authorities, could you confirm whether additional funding will be provided to local government over the next financial year to deliver on this pledge and whether they will have to find the relevant resources from their existing budgets?

Diolch, Lywydd. Ddechrau'r wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau i gyflwyno cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd yn honiad hyderus, o ystyried bod dros 500 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn aros yn hirach na'r targed 28 diwrnod am asesiad, fel y nodir gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Roedd hefyd yn brin iawn o fanylion allweddol, sy'n syndod o ystyried gwrthwynebiad honedig y Prif Weinidog i sloganau gwag. Felly, tybed a allech chi lenwi'r bylchau? O ystyried bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, a allech chi gadarnhau y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol dros y flwyddyn ariannol nesaf i gyflawni'r addewid hwn neu a fydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i'r adnoddau perthnasol o'u cyllidebau presennol?

Thank you, Peredur. I'm glad to see you paid some attention to the announcement at the launch in Newport earlier this week—the Welsh Labour pledges launch. Obviously, the First Minister and the leader of the Labour Party in Wales was able to outline some of those pledges. Obviously, as you rightly say, much of that sits with my Cabinet colleague for mental health, so I'm sure she'll be able to comment further, as well as the First Minister.

Diolch, Peredur. Rwy'n falch o weld eich bod wedi rhoi sylw i'r cyhoeddiad yn y lansiad yng Nghasnewydd yn gynharach yr wythnos hon—lansiad addewidion Llafur Cymru. Yn amlwg, fe amlinellodd y Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru rai o'r addewidion hynny. Yn amlwg, fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae llawer o hynny yn nwylo'r aelod o'r Cabinet dros iechyd meddwl, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu gwneud sylwadau pellach, yn ogystal â'r Prif Weinidog.

So, no clarity for local government there. The announcement was still a bit sparse on other details as well, other than just resourcing. The First Minister also struggled to explain what it would actually mean in practice for people seeking to access this support, and how it would meaningfully improve outcomes. When she claimed that the Government's mental health strategy outlines how the workforce will be supported to provide this service, it turns out that this crucial detail wasn't there to be seen. So, again, I wonder if the Cabinet Secretary could reassure us that this pledge actually has some substance. Could you confirm how many additional staff may need to be recruited by local authorities in order to deliver on the pledge of same-day mental health support? And could you confirm whether the offer of support in this context means that people will be able to receive an assessment within a 24-hour period, or is it simply an added layer of the existing referral process?

Felly, dim eglurder i lywodraeth leol yno. Roedd y cyhoeddiad yn dal i fod yn brin o fanylion eraill hefyd, heblaw am adnoddau. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn ei chael hi'n anodd esbonio beth fyddai hyn yn ei olygu yn ymarferol i bobl sy'n ceisio cael mynediad at y cymorth hwn, a sut y byddai'n gwella canlyniadau mewn ffordd ystyrlon. Pan honnodd fod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth yn amlinellu sut y bydd y gweithlu'n cael ei gefnogi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, ymddengys nad oedd y manylyn hanfodol hwn yno i'w weld. Felly, unwaith eto, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i ni fod rhywfaint o sylwedd i'r addewid hwn mewn gwirionedd. A allech chi gadarnhau faint o staff ychwanegol y gallai fod angen i awdurdodau lleol eu recriwtio er mwyn cyflawni'r addewid o gymorth iechyd meddwl yr un diwrnod? Ac a allech chi gadarnhau bod y cynnig o gymorth yn y cyd-destun hwn yn golygu y bydd pobl yn gallu cael asesiad o fewn cyfnod o 24 awr, neu a yw'n ddim ond haen ychwanegol at y broses atgyfeirio bresennol?

Diolch, Peredur. I think some of these questions are particularly placed for my Cabinet colleague. I know, as I say, you've paid particular attention to it, but the pledge has been made and there's a lot of work that goes on behind that. But I very much believe that that is something for my Cabinet colleague, the Minister for mental health, to address with you directly, or the First Minister.

Diolch, Peredur. Rwy'n credu bod rhai o'r cwestiynau hyn yn fwy addas ar gyfer fy nghyd-Aelod yn y Cabinet. Fel y dywedais, rwy'n gwybod eich bod chi wedi rhoi sylw arbennig i'r mater, ond mae'r addewid wedi'i wneud ac mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i hynny. Ond rwy'n credu'n gryf mai mater i'm cyd-Aelod yn y Cabinet, y Gweinidog iechyd meddwl, yw hwn i fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol gyda chi, neu'r Prif Weinidog.

13:40

I'll just beg to differ on that, because, obviously, the local government settlement—and local government will have to deliver some of this—does lie with you. I take your point, but I don't necessarily agree with it. 

I've been at an event this afternoon with the Walk Wheel Cycle Trust Cymru, formerly known as Sustrans. The active journeys programme clearly delivers positive results. Last term alone, it delivered over 300 activities across 68 venues, reaching around 5,700 people and supporting 120 schools across Wales. But the programme is currently delivered by just six officers across five regions. Ty'n y Wern school from Trethomas in my region has achieved the gold award, which is excellent, and it was great to visit them a few years ago when they had that award. So, as this might well be my last question to you in this Senedd, as the Plaid Cymru spokesperson for local government, I'm going to concentrate on that future generation. If the Welsh Government is serious about encouraging more children to walk, wheel, cycle to school, reducing congestion, improving air quality and supporting healthier lifestyles, does the Cabinet Secretary believe that the current scale of the programme is sufficient, and will she be working with local government colleagues to implement good practice across Wales?

Rwy'n anghytuno â hynny, oherwydd yn amlwg, mae'r setliad llywodraeth leol—a bydd yn rhaid i lywodraeth leol gyflawni rhywfaint o hyn—yn eich dwylo chi. Rwy'n cymryd eich pwynt, ond nid wyf o reidrwydd yn cytuno ag ef.

Bûm mewn digwyddiad y prynhawn yma gydag Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru, sef Sustrans gynt. Mae'r rhaglen teithiau iach yn amlwg yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Y tymor diwethaf yn unig, darparodd dros 300 o weithgareddau ar draws 68 o leoliadau, gan gyrraedd oddeutu 5,700 o bobl a chefnogi 120 o ysgolion ledled Cymru. Ond ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn cael ei darparu gan chwe swyddog yn unig ar draws pum rhanbarth. Mae ysgol Ty'n y Wern yn Nhrethomas yn fy rhanbarth wedi ennill y wobr aur, sy'n ardderchog, ac roedd yn wych ymweld â nhw ychydig flynyddoedd yn ôl pan gawsant y wobr honno. Felly, gan y gallai hwn fod yn gwestiwn olaf gennyf i chi yn y Senedd hon, fel llefarydd Plaid Cymru dros lywodraeth leol, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y genhedlaeth honno i ddod. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag annog mwy o blant i gerdded, i olwyno, i feicio i'r ysgol, gan leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a chefnogi ffyrdd iachach o fyw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod graddfa bresennol y rhaglen yn ddigon, ac a fydd hi'n gweithio gyda chymheiriaid llywodraeth leol i roi ymarfer da ar waith ledled Cymru?

Diolch, Peredur. Firstly, I'd just like to say that I have really enjoyed your contributions and our discussions at these times. It's been really good to be back in this Chamber—it's like when we started, and now we've come back. But it's really good to have been able to work with you on many things, Peredur, and to congratulate the school that you mentioned as well on their gold award. It's no mean feat, so I think they've been doing something really good there, and, hopefully, other schools can learn from the work that they've been doing. 

Again, this Government works very closely with local government. We work in partnership with local government, and it's something we hold very dear here within the Welsh Government—the Welsh Labour Government—that we work closely with them. So, our conversations are always ongoing, and we have many regular meetings with local government, who always tell us very frankly what they think about what's happening on the ground. So, I very much value those conversations, and we will continue to have those conversations with local government and not do anything to them, because I think that's something that we see over the border, where decisions, perhaps, sometimes are made without discussions with local government.

Diolch, Peredur. Rwyf am ddweud fy mod wedi mwynhau eich cyfraniadau a'n trafodaethau yn fawr iawn ar yr adegau hyn. Mae wedi bod yn wych bod yn ôl yn y Siambr hon—mae fel pan ddechreuon ni, a nawr, rydym wedi dychwelyd. Ond mae'n dda iawn bod wedi gallu gweithio gyda chi ar lawer o bethau, Peredur, a llongyfarch yr ysgol a grybwyllwyd gennych hefyd ar eu gwobr aur. Nid yw'n gamp fach, felly credaf eu bod wedi bod yn gwneud rhywbeth gwirioneddol dda yno, ac rwy'n gobeithio y gall ysgolion eraill ddysgu o'r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud.

Unwaith eto, mae'r Llywodraeth hon yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, ac mae'n bwysig iawn i ni yma yn Llywodraeth Cymru—Llywodraeth Lafur Cymru—ein bod yn gweithio'n agos gyda nhw. Felly, rydym bob amser yn trafod, ac rydym yn cael llawer o gyfarfodydd rheolaidd gyda llywodraeth leol, sydd bob amser yn dweud wrthym yn onest iawn beth yw eu barn nhw am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r sgyrsiau hynny'n fawr, a byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau hynny gyda llywodraeth leol ac ni fyddwn yn gwneud dim iddynt, gan y credaf fod hynny'n rhywbeth a welwn dros y ffin, lle mae penderfyniadau, efallai, yn cael eu gwneud weithiau heb drafodaethau gyda llywodraeth leol.

And before I call on Joel James, just to say, it feels as if we're entering the period of the long goodbye now, and, at some point, I'll get bored of Members here saying that, 'This is the last time I'll do this', and, 'This is the last time I'll do that'. You can have the novelty value, Peredur, for today, but let's stick to the job that we still have to do, and that's to scrutinise Government. And then, just to say as well, there are campaign launches and manifesto launches happening. This is possibly not the appropriate place to be spending too much time on what the next Welsh Government will be doing; this is the place to be spending some time on what this Welsh Government is doing, and has done. 

A chyn imi alw ar Joel James, hoffwn ddweud ei bod yn teimlo fel pe baem yn dechrau ar y cyfnod o ffarwelio hirwyntog nawr, ac ar ryw bwynt, byddaf yn diflasu ar Aelodau yma'n dweud 'Dyma'r tro olaf y byddaf yn gwneud y peth hwn', a, 'Dyma'r tro olaf y byddaf yn gwneud y peth arall'. Cawsoch wneud hynny heddiw, Peredur, ond gadewch inni gadw at y gwaith sydd gennym i'w wneud o hyd, sef craffu ar y Llywodraeth. Ac yna, hoffwn ddweud hefyd fod ymgyrchoedd a maniffestos yn cael eu lansio. Efallai nad dyma'r lle priodol i dreulio gormod o amser ar yr hyn y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ei wneud; dyma'r lle i dreulio amser ar yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, ac wedi'i wneud.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James. 

The Welsh Conservative spokesperson, Joel James. 

Thank you, Llywydd. Cabinet Secretary, local authority finances across Wales are in an unhealthy state, to say the least. Multiple analysis shows that they're on an unsustainable path, with projected funding gaps in the hundreds of millions of pounds in the next few years. Councils warn that even significant funding supplements would fall short of matching real-world financial pressures, meaning that there's going to be a critical point where councils may struggle to provide essential services. New legislation going through this Parliament concerning homelessness and building safety will add even more pressure if councils are not properly financed to implement them. With this in mind, Cabinet Secretary, what contingency planning is in place should a local authority reach the point where financial pressures force reductions in statutory and front-line services? Thank you. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllid awdurdodau lleol ledled Cymru mewn cyflwr gwael, a dweud y lleiaf. Mae sawl dadansoddiad yn dangos eu bod ar lwybr anghynaliadwy, gyda bylchau cyllido rhagamcanol gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y blynyddoedd nesaf. Mae cynghorau'n rhybuddio na fyddai hyd yn oed cyllid ategol sylweddol yn ddigon i ymdopi â phwysau ariannol y byd go iawn, sy'n golygu y bydd pwynt tyngedfennol lle gallai cynghorau fod yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau hanfodol. Bydd deddfwriaeth newydd yn ymwneud â digartrefedd a diogelwch adeiladau sy'n mynd drwy'r Senedd hon yn ychwanegu mwy fyth o bwysau os na chaiff cynghorau eu hariannu'n iawn i'w gweithredu. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith pe bai awdurdod lleol yn cyrraedd y pwynt lle mae pwysau ariannol yn gorfodi gostyngiadau mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau rheng flaen? Diolch.

Diolch, Joel. And I feel now, Llywydd, that I won't say anything like a long goodbye here to Joel either. I just wanted to answer Joel's question around the local government funding settlement. As you know, we've published that, and, as a result of the agreement between the Welsh Labour Government and Plaid Cymru, we've invested a further £112.8 million in local government, and the final settlement for 2026-27 will provide an extra £6.56 billion in core revenue funding and non-domestic rates to spend on delivering key services. That's an increase of 4.5 per cent, or £282 million on a like-for-like basis, compared to the current year, and all councils will receive above that 4 per cent.

Again, I work very closely with local government and have regular discussions with local government leaders and others within the sector, and officials do as well. Welsh Government officials work really closely with treasurers of local authorities to keep an eye on how things are going and are in touch with them to see how difficult, perhaps, some of the decisions that they're still having to make are. I'm very confident that we're working closely with them and that we're aware of their situations. As I said in my response to Peredur, they're not backward in coming forward in telling us what the situation is, which is really important, but we do work together and work with them to make sure we're aware of their situation.

Diolch, Joel. Ac rwy'n teimlo nawr, Lywydd, na ddywedaf unrhyw beth tebyg i ffarwél hir yma wrth Joel chwaith. Roeddwn eisiau ateb cwestiwn Joel ynglŷn â'r setliad cyllido llywodraeth leol. Fel y gwyddoch, rydym wedi'i gyhoeddi, ac o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, rydym wedi buddsoddi £112.8 miliwn ychwanegol mewn llywodraeth leol, a bydd y setliad terfynol ar gyfer 2026-27 yn darparu £6.56 biliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Dyna gynnydd o 4.5 y cant, neu £282 miliwn ar sail debyg am debyg, o gymharu â'r flwyddyn gyfredol, a bydd pob cyngor yn cael mwy na 4 y cant.

Unwaith eto, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ac yn cael trafodaethau rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill yn y sector, ac mae swyddogion yn gwneud hynny hefyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda thrysoryddion awdurdodau lleol i gadw llygad ar sut y mae pethau'n mynd ac yn cysylltu â nhw i weld pa mor anodd, efallai, yw rhai o'r penderfyniadau y maent yn dal i orfod eu gwneud. Rwy'n hyderus iawn ein bod yn gweithio'n agos gyda nhw a'n bod yn ymwybodol o'u sefyllfaoedd. Fel y dywedais yn fy ymateb i Peredur, nid ydynt yn oedi rhag dweud wrthym beth yw'r sefyllfa, sy'n wirioneddol bwysig, ond rydym yn gweithio gyda'n gilydd ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau ein bod yn ymwybodol o'u sefyllfa.

13:45

Thank you, Cabinet Secretary. As you know, cities and towns across Wales are visibly declining. Residents and businesses are being asked to contribute more through council tax and business rates, yet many feel that they're seeing less investment in maintenance and regeneration of their local areas. In Cardiff, for example, numerous roads are in such poor condition that they're barely fit for everyday vehicles.

High streets are also struggling. Wellfield Road in Penylan, once a thriving retail destination, now has multiple boarded-up shops and 'to let' signs. A lack of suitable parking provision and declining footfall are contributing to business closures. There's a growing perception of a downward cycle. As businesses close, footfall drops. As footfall drops, remaining businesses struggle. As revenues tighten, councils increase charges on those still operating, further reducing viability and accelerating decline.

At the same time, councils are relying heavily on repeated council tax increases and revenue from parking charges to bridge funding gaps, measures that are clearly not sustainable in the long term. Given these pressures, do you accept that the current local government finance model is no longer fit for purpose, and will you commit to exploring a new, more sustainable funding model for Welsh local authorities? Thank you.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae dinasoedd a threfi ledled Cymru yn dirywio o flaen ein llygaid. Gofynnir i drigolion a busnesau gyfrannu mwy drwy'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ond mae llawer yn teimlo eu bod yn gweld llai o fuddsoddiad mewn cynnal a chadw ac adfywio yn eu hardaloedd lleol. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae nifer o ffyrdd mewn cyflwr mor wael fel eu bod prin yn addas ar gyfer cerbydau cyffredin.

Mae'r stryd fawr hefyd o dan bwysau. Mae gan Ffordd Wellfield ym Mhen-y-lan, a fu unwaith yn gyrchfan fanwerthu lewyrchus, nifer o siopau â'u ffenestri wedi'u bordio ac arwyddion 'ar osod' erbyn hyn. Mae diffyg darpariaeth lleoedd parcio addas a nifer llai o bobl yn dod i'r ardal yn cyfrannu at gau busnesau. Mae canfyddiad cynyddol o gylch cythreulig. Wrth i fusnesau gau, mae nifer y bobl sy'n dod i'r ardal yn disgyn. Wrth i nifer y bobl sy'n dod i'r ardal ddisgyn, mae'r busnesau sydd ar ôl yn ei chael hi'n anodd. Wrth i refeniw leihau, mae cynghorau'n cynyddu ffioedd ar y rhai sy'n dal i weithredu, gan leihau hyfywedd ymhellach a chyflymu'r dirywiad.

Ar yr un pryd, mae cynghorau'n dibynnu'n fawr ar godiadau mynych yn y dreth gyngor a refeniw o ffioedd parcio i bontio bylchau ariannu, mesurau nad ydynt yn gynaliadwy yn y tymor hir. O ystyried y pwysau, a ydych chi'n derbyn nad yw'r model cyllido llywodraeth leol presennol bellach yn addas i’r diben, ac a wnewch chi ymrwymo i archwilio model cyllido newydd, mwy cynaliadwy ar gyfer awdurdodau lleol Cymru? Diolch.

Diolch, Joel. Just to say, I do urge anyone struggling with their council tax to get in contact with their local council or Citizens Advice. It's very important that people do that without delay. We are also committed to keeping the council tax reduction scheme, which supports low-income households. Support with council tax payments through the scheme is an important part of welfare support for households on low incomes—an important lever for tackling poverty across Wales. We do provide over £244 million to local authorities to administer the scheme, which helps to reduce council tax paid by over 256,000 vulnerable and low-income households. That's around one in five households. We do have that scheme in place, but, as you rightly say, there are still people facing the cost-of-living crisis. We are very aware of that, and we do understand the pressures that are on people. Obviously, local government is very aware of that as well, and all local authorities are speaking with constituents at the moment, or have spoken with constituents, and engaged with them on their draft budgets, because it's important that their voices are heard within that. Local authorities do engage with residents on those issues, and I know that, because of the draft budget that we have passed in this place, local authorities have more money than they would have had before.

Diolch, Joel. Hoffwn ddweud fy mod yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd talu'r dreth gyngor i gysylltu â'u cyngor lleol neu gyda Cyngor ar Bopeth. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn gwneud hynny'n ddi-oed. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel. Mae cymorth gyda thaliadau'r dreth gyngor drwy'r cynllun yn rhan bwysig o gymorth lles i aelwydydd ar incwm isel—dull pwysig o ymladd tlodi ledled Cymru. Rydym yn darparu dros £244 miliwn i awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun, sy'n helpu i leihau'r dreth gyngor a delir gan dros 256,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel. Dyna oddeutu un o bob pum aelwyd. Mae gennym y cynllun hwnnw ar waith, ond fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae pobl yn dal i wynebu'r argyfwng costau byw. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, ac rydym yn deall y pwysau sydd ar bobl. Yn amlwg, mae llywodraeth leol yn ymwybodol iawn o hynny hefyd, ac mae pob awdurdod lleol yn siarad ag etholwyr ar hyn o bryd, neu wedi siarad ag etholwyr, ac wedi ymgysylltu â nhw ynghylch eu cyllidebau drafft, gan ei bod yn bwysig i'w lleisiau gael eu clywed o fewn hynny. Mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â thrigolion ar y materion hynny, ac oherwydd y gyllideb ddrafft a basiwyd gennym yn y lle hwn, rwy'n gwybod bod gan awdurdodau lleol fwy o arian nag a fyddai wedi bod ganddynt o'r blaen.

Thank you, Cabinet Secretary. As you will know, council tax bills will soon hit doormats, and many residents are rightly worried about how they will manage yet another above-inflation increase. I hope you recognise that frustration of council tax rises is because councils often appear to spend money carelessly or prioritise high-profile projects over essential services. Take Cardiff Council, for example, the independent report for its procurement of the Aberthaw power station demolition contract was riddled with errors and weak oversight, leading to legal challenges and a reported loss of around £6 million-worth of public money, funds that could have been used to maintain streets, rubbish collections and other front-line services. At the same time, the council have committed to funding £27.3 million contribution towards a new indoor arena in Cardiff Bay, raising serious questions about whether spending decisions reflect residents' priorities.

Meanwhile, in Rhondda Cynon Taf, residents are experiencing sustained reductions to core services, from care home closures to wheelie bin reductions, not to mention the cancellation of home-to-school transport. Yet the council continues to spend money on property acquisitions and redevelopment projects, such as the former Iceland store in Pontypridd at £800,000 and Rhos House in Mountain Ash at £150,000. Cabinet Secretary, there are many more other examples. Given these repeated council tax increases and spending decisions, what steps will the Welsh Government take to ensure that councils are accountable, prioritise front-line services, deliver real value for council tax payers and are not accumulating unsustainable long-term debt? Thank you.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, bydd biliau'r dreth gyngor yn cyrraedd cyn bo hir, ac mae llawer o drigolion yn poeni, yn gwbl deg, sut y byddant yn ymdopi â chynnydd arall uwchlaw chwyddiant. Rwy'n gobeithio eich bod yn cydnabod bod pobl yn aml yn teimlo'n rhwystredig gyda chodiadau yn y dreth y cyngor am fod cynghorau fel pe baent yn gwario arian yn ddiofal neu'n blaenoriaethu prosiectau proffil uchel dros wasanaethau hanfodol. Cymerwch Gyngor Caerdydd er enghraifft, lle roedd yr adroddiad annibynnol ar gaffael contract i ddymchwel gorsaf bŵer Aberddawan yn llawn gwallau a goruchwyliaeth wan, gan arwain at heriau cyfreithiol a cholli oddeutu £6 miliwn o arian cyhoeddus yn ôl yr hyn a adroddwyd, arian y gellid bod wedi'i ddefnyddio i gynnal strydoedd, casglu sbwriel a gwasanaethau rheng flaen eraill. Ar yr un pryd, mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud cyfraniad o £27.3 miliwn tuag at arena dan do newydd ym Mae Caerdydd, gan godi cwestiynau difrifol ynglŷn ag a yw penderfyniadau ynghylch gwariant yn adlewyrchu blaenoriaethau trigolion.

Yn y cyfamser, yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion yn wynebu gostyngiadau parhaus i wasanaethau craidd, o gau cartrefi gofal i lai o gasgliadau biniau, heb sôn am ddiddymu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ac eto mae'r cyngor yn parhau i wario arian ar gaffael eiddo a phrosiectau ailddatblygu, fel yr hen siop Iceland ym Mhontypridd am £800,000 a Thŷ Rhos yn Aberpennar am £150,000. Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer mwy o enghreifftiau eraill. O ystyried y codiadau mynych yn y dreth gyngor a'r penderfyniadau gwariant hyn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod cynghorau'n atebol, yn blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, yn darparu gwerth go iawn i dalwyr y dreth gyngor ac nad ydynt yn mynd i ddyledion hirdymor anghynaliadwy? Diolch.

13:50

Diolch, Joel. The setting of budgets and, in turn, council taxes is the responsibility of each local authority, and each local authority needs to take account of the full range of sources of funding available to them, as well as the pressures they face in setting their budgets in the coming year. I don't think it is appropriate for the Welsh Government to set an arbitrary level of council tax increases, irrespective of local circumstances or choices. Authorities do need to take account of the full range of funding sources available to them, as well as the pressures they face, as I've said. So, I think it very much is for local authorities, and they do that in collaboration and in consultation with communities across Wales.

Diolch, Joel. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw gosod cyllidebau a'r dreth gyngor, ac mae angen i bob awdurdod lleol ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn ei wynebu wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ni chredaf ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru osod lefel fympwyol o gynnydd yn y dreth gyngor heb ystyried amgylchiadau neu ddewisiadau lleol. Mae angen i awdurdodau ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn ei wynebu, fel y dywedais. Felly, rwy'n credu'n gryf mai mater i awdurdodau lleol yw hynny, ac maent yn gwneud hynny mewn cydweithrediad ac mewn ymgynghoriad â chymunedau ledled Cymru.

Y Gronfa Twf Lleol
The Local Growth Fund

4. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynglŷn â'r goblygiadau i gynllunio gweithlu llywodraeth leol yn sgil rhaniad cyfalaf-refeniw y gronfa twf lleol? OQ63938

4. What discussions has the Cabinet Secretary had with the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning regarding the implications for local government workforce planning of the local growth fund's capital–revenue split? OQ63938

Diolch, Luke. The local growth fund for Wales has been discussed across Government, including at Cabinet.

Diolch, Luke. Mae'r gronfa twf lleol i Gymru wedi'i thrafod ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys yn y Cabinet.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you for that response, Cabinet Secretary.

Of course, a long, wordy, initial question, but I'm sure the Cabinet Secretary is well aware of that anxiety across local authorities because of this capital-revenue split in the local growth fund and how that shift towards more focused capital spending actually takes a sledgehammer to those revenue-funded services that those local authorities deliver. Now, the Cabinet Secretary for economy indicated last week that the UK Government is unlikely to revisit that split. However, the spring forecast published yesterday by the Chancellor sets out an additional £540 million in revenue funding and £15 million in capital. Crucially, the Treasury's press release makes clear, and I quote:

'This is on top of the record Spending Review 2025 settlements, and an additional £1.7 billion announced at Autumn Budget 2025'.  

That statement, to me, suggests that there is additional revenue funding beyond previous settlements, so it presents a clear opportunity to address the shortfall facing local authorities, protect those jobs and sustain services. So, in light of that financial context, will the Welsh Government now act to safeguard those revenue-funded posts and services, thereby saving thousands of jobs?

Wrth gwrs, cwestiwn cychwynnol hir, geiriog, ond rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r pryder ar draws awdurdodau lleol oherwydd y rhaniad cyfalaf-refeniw yn y gronfa twf lleol a sut y mae'r newid i wariant cyfalaf ag iddo fwy o ffocws yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau a ariennir gan refeniw y mae'r awdurdodau lleol hynny'n eu darparu. Nawr, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf nad yw Llywodraeth y DU yn debygol o ailystyried y rhaniad hwnnw. Fodd bynnag, mae rhagolwg y gwanwyn a gyhoeddwyd ddoe gan y Canghellor yn nodi £540 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw a £15 miliwn mewn cyfalaf. Yn hollbwysig, mae datganiad i'r wasg y Trysorlys yn nodi'n glir:

'Mae hyn yn ychwanegol at y setliadau uchaf erioed yn Adolygiad o Wariant 2025, ac £1.7 biliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2025'.

Mae'r datganiad hwnnw, i mi, yn awgrymu bod cyllid refeniw ychwanegol y tu hwnt i setliadau blaenorol, felly mae'n gyfle clir i fynd i'r afael â'r diffyg sy'n wynebu awdurdodau lleol, diogelu swyddi a chynnal gwasanaethau. Felly, yng ngoleuni'r cyd-destun ariannol hwnnw, a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau nawr i ddiogelu'r swyddi a'r gwasanaethau a ariennir gan refeniw, ac achub miloedd o swyddi drwy wneud hynny?

Diolch, Luke. I meet regularly with the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, and we have discussed the arrangements for the local growth fund, including the implications of that capital-revenue split that we have received from the UK Government. My colleague the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning has taken action to address the impact of the shared prosperity fund ending, including meeting the Welsh Local Government Association's request for a transition year to the local growth fund. This is on top of the additional budget flexibilities that we've agreed with local government.

Together, these actions will help safeguard key capacity and key projects where they align with the aims of the local growth fund, and will help local government plan their workforce effectively. This is in stark contrast to the approach in England and Scotland, where a clean break is taking place, with many authorities unable to access the local growth funding at all. Welsh Ministers have consistently pressed the UK Government for greater revenue flexibility, and this has been raised strongly by Welsh partners through our public consultation last year. But our capital-revenue split is broadly the same as in Scotland and Northern Ireland, and the devolved Governments have raised concerns jointly with UK Government Ministers.

Diolch, Luke. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac rydym wedi trafod y trefniadau ar gyfer y gronfa twf lleol, gan gynnwys goblygiadau'r rhaniad cyfalaf-refeniw a gawsom gan Lywodraeth y DU. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi cymryd camau i fynd i'r afael ag effaith diwedd y gronfa ffyniant gyffredin, gan gynnwys bodloni cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am flwyddyn bontio i'r gronfa twf lleol. Mae hyn ar ben yr hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol yr ydym wedi'i gytuno gyda llywodraeth leol.

Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn helpu i ddiogelu capasiti allweddol a phrosiectau allweddol lle maent yn cyd-fynd ag amcanion y gronfa twf lleol, a byddant yn helpu llywodraeth leol i gynllunio eu gweithlu'n effeithiol. Mae hyn yn gwbl groes i'r dull gweithredu yn Lloegr a'r Alban, lle mae toriad llwyr i'w weld, gyda llawer o awdurdodau'n methu cael gafael ar y cyllid twf lleol o gwbl. Mae Gweinidogion Cymru wedi pwyso'n gyson ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd refeniw, ac mae hyn wedi'i godi'n gryf gan bartneriaid Cymreig drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus y llynedd. Ond mae ein rhaniad cyfalaf-refeniw fwy neu lai yr un fath ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'r Llywodraethau datganoledig wedi mynd ati ar y cyd i ddwyn pryderon i sylw Gweinidogion Llywodraeth y DU.

13:55

Not only is this less than the shared prosperity fund, it's now going to put additional pressure on local authorities delivering revenue services. Have you, as the Cabinet Secretary for local government, undertaken an inquiry into how many jobs will be lost by the 70:30 capital-revenue split, or are you, in working with these 22 local authorities, aware of how many jobs will be vacated because the UK Labour Government isn't listening to the Welsh Labour Government?

Nid yn unig fod hyn yn llai na'r gronfa ffyniant gyffredin, ond mae bellach yn mynd i roi pwysau ychwanegol ar awdurdodau lleol sy'n darparu gwasanaethau refeniw. A ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, wedi cynnal ymchwiliad i faint o swyddi a fydd yn cael eu colli oherwydd y rhaniad cyfalaf-refeniw 70:30, neu a ydych chi, wrth weithio gyda'r 22 awdurdod lleol, yn ymwybodol o faint o swyddi a fydd yn dod yn wag am nad yw Llywodraeth Lafur y DU yn gwrando ar Lywodraeth Lafur Cymru?

Diolch, Sam. Well, the local growth fund has stronger economic growth objectives than the shared prosperity fund, so capital investment remains essential in dealing with Wales’s long‑term productivity challenges and as aligned with our fund’s main objective. We need to carefully prioritise the limited revenue funding available, and recognise our investment priority on demand‑led skills and tackling economic inactivity, which will require revenue support. But to support councils through the transition from the shared prosperity fund to the local growth fund, we’ve agreed that dedicated transition year, using existing SPF delivery structures and allocation methodology. That transition year is specifically designed to safeguard key capacity, avoid a workforce cliff edge and maintain continuity for key projects, where they align with the local growth fund. But, again, we do keep in contact with local authorities and, similarly, with the UK Government on this.

Diolch, Sam. Wel, mae gan y gronfa twf lleol amcanion cryfach o ran twf economaidd na'r gronfa ffyniant gyffredin, felly mae buddsoddiad cyfalaf yn parhau i fod yn hanfodol wrth ymdrin â heriau cynhyrchiant hirdymor Cymru ac yn unol â phrif amcan ein cronfa. Mae angen inni flaenoriaethu'r cyllid refeniw cyfyngedig sydd ar gael yn ofalus, a chydnabod ein blaenoriaeth i fuddsoddi mewn sgiliau sy'n cael eu harwain gan alw a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a fydd yn galw am gymorth refeniw. Ond i gefnogi cynghorau drwy'r newid o'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa twf lleol, rydym wedi cytuno ar y flwyddyn bontio benodol honno, gan ddefnyddio methodoleg ddyrannu a strwythurau cyflawni presennol y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r flwyddyn bontio honno wedi'i chynllunio'n benodol i ddiogelu capasiti allweddol, osgoi ymyl dibyn o ran y gweithlu a chynnal parhad prosiectau allweddol, lle maent yn alinio â'r gronfa twf lleol. Ond unwaith eto, rydym yn cadw mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol, ac yn yr un modd, â Llywodraeth y DU ar hyn.

Fforddiadwyedd Tai
Housing Affordability

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella fforddiadwyedd tai ar draws Gogledd Cymru? OQ63928

5. What is the Welsh Government doing to improve housing affordability across North Wales? OQ63928

Diolch, Sam. The Welsh Government provides a number of routes into home ownership and other affordable housing, including through Help to Buy—Wales,
Homebuy—Wales, Shared Ownership—Wales and our record investment in social housing. Since its launch, Help to Buy—Wales alone has supported almost 3,000 households across north Wales to purchase a home.

Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu nifer o lwybrau at berchentyaeth a thai fforddiadwy eraill, gan gynnwys drwy Cymorth i Brynu—Cymru, Prynu Cartref—Cymru, Rhanberchnogaeth–Cymru a'n buddsoddiad uchaf erioed mewn tai cymdeithasol. Ers ei lansio, mae Cymorth i Brynu—Cymru yn unig wedi cefnogi bron i 3,000 o aelwydydd ar draws gogledd Cymru i brynu cartref.

Thank you for your response, Cabinet Secretary. You’ll know that recent data from the Office for National Statistics shows that house prices in Wales have risen by 5 per cent over the past year. This is more than double the UK average, and in places like Ynys Môn and Blaenau Gwent, prices have jumped by over 7 per cent—significantly more than the growth in wages. While this might seem good, and is good news for some, it’s putting real pressure on local residents, particularly first‑time buyers in towns like Wrexham, where I represent.

Young families, people who’ve lived here all their lives, are finding it harder and harder to get onto the property ladder, and for Welsh Conservatives, owning your own home is about far more than just bricks and mortar. It gives people a stake in their community, security for their families and a sense of pride in a place they call home. Yet, in north Wales, these opportunities are slipping out of reach as house prices rise faster than the UK average. So, that is why our party has pledged to cut stamp duty on primary residences so that local people can more easily buy their first home or move within their community without being penalised by extra taxes. So, Cabinet Secretary, will you match the Welsh Conservatives’ pledge to scrap stamp duty here in Wales?

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau tai yng Nghymru wedi codi 5 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn fwy na dwbl cyfartaledd y DU, ac mewn mannau fel Ynys Môn a Blaenau Gwent, mae prisiau wedi neidio dros 7 y cant—sy'n sylweddol fwy na'r twf mewn cyflogau. Er bod hyn yn edrych yn dda ar yr olwg gyntaf, ac yn newyddion da i rai, mae'n rhoi pwysau gwirioneddol ar drigolion lleol, yn enwedig prynwyr tro cyntaf mewn trefi fel Wrecsam yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli.

Mae teuluoedd ifanc, pobl sydd wedi byw yma drwy gydol eu hoes, yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cael mynediad at y farchnad eiddo, ac i'r Ceidwadwyr Cymreig, mae bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn golygu llawer mwy na brics a morter yn unig. Mae'n rhoi budd i bobl yn eu cymuned, diogelwch i'w teuluoedd a theimlad o falchder mewn lle y maent yn ei alw'n gartref. Ac eto, yn y gogledd, mae'r cyfleoedd hyn yn llithro o gyrraedd wrth i brisiau tai godi'n gyflymach na chyfartaledd y DU. Felly, dyna pam fod ein plaid wedi addo torri'r dreth stamp ar brif breswylfeydd fel y gall pobl leol brynu eu cartref cyntaf neu symud o fewn eu cymuned yn haws heb gael eu cosbi gan drethi ychwanegol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi wneud yr un addewid â'r Ceidwadwyr Cymreig i gael gwared ar y dreth stamp yma yng Nghymru?

I think there is very much electioneering going on here. Despite the previous UK Government—that's a Tory Government—ending Help to Buy in England back in March 2023, we have provided an extra £57 million to extend our Help to Buy—Wales scheme, which has helped more than 15,000 people to purchase a new home. And Help to Buy—Wales has helped support first‑time buyers, which you talked about there. So, since April 2022, 85 per cent of purchasers have been first‑time buyers. And since its launch, Help to Buy—Wales has supported 2,905 households across north Wales to purchase a home.

As you rightly say, this is something that’s not just bricks and mortar, it is a home for people. I’ve spoken to a number of people across Wales who’ve been helped by this scheme, many of them first‑time buyers, and they’ve told me directly what an impact that has made on them, and the fact that, without that scheme, they felt that buying a home would actually be out of their orbit at that moment.

So, I think it’s really important that we do have Help to Buy—Wales. Again, we have a number of other products, such as Shared Ownership—Wales and Home Buy—Wales. That’s another way in for home ownership to suit individual circumstances. And also we’ve seen nearly 18,000 private sector homes completed across Wales this Senedd term, and our house builder small and medium-sized enterprise support funds have seen over 1,000 new homes built, and over 80 house-building SMEs supported over the last decade. So, this Government does support private house building as well.

Rwy'n credu bod ymgyrchu etholiadol ar waith yma. Er i Lywodraeth flaenorol y DU—y Llywodraeth Dorïaidd—ddod â'r cynllun Cymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023, rydym wedi darparu £57 miliwn ychwanegol i ymestyn ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru, sydd wedi helpu mwy na 15,000 o bobl i brynu cartref newydd. Ac mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi helpu i gefnogi'r prynwyr tro cyntaf y sonioch chi amdanynt nawr. Felly, ers mis Ebrill 2022, mae 85 y cant o brynwyr wedi bod yn brynwyr tro cyntaf. Ac ers ei lansio, mae cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi 2,905 o aelwydydd ledled gogledd Cymru i brynu cartref.

Fel rydych chi'n ei ddweud yn gywir ddigon, mae hyn yn ymwneud â mwy na brics a morter yn unig, mae'n gartref i bobl. Rwyf wedi siarad â nifer o bobl ledled Cymru sydd wedi cael cymorth drwy'r cynllun hwn, llawer ohonynt yn brynwyr tro cyntaf, ac maent wedi dweud wrthyf yn uniongyrchol pa effaith y mae hynny wedi'i chael arnynt, a'r ffaith eu bod yn teimlo, heb y cynllun hwnnw, y byddai prynu cartref allan o'u cyrraedd ar yr adeg honno.

Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun Cymorth i Brynu—Cymru. Unwaith eto, mae gennym nifer o gynhyrchion eraill, fel Rhanberchnogaeth—Cymru a Prynu Cartref–Cymru. Dyna ffordd arall i mewn i berchnogaeth tai sy'n addas i amgylchiadau unigol. Ac rydym hefyd wedi gweld bron i 18,000 o gartrefi sector preifat yn cael eu cwblhau ledled Cymru yn nhymor y Senedd hon, ac mae ein cronfeydd cefnogi busnesau adeiladu tai bach a chanolig wedi arwain at godi dros 1,000 o gartrefi newydd, a dros 80 o gwmnïau adeiladu tai bach a chanolig yn cael eu cefnogi dros y degawd diwethaf. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi adeiladu tai preifat hefyd.

14:00

Rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n codi eiliau efo cwestiwn Sam Rowlands. Rydym ni mewn argyfwng tai yng Nghymru, ond mae'r Ceidwadwyr eisiau ail-gyflwyno'r polisi hawl i brynu, right to buy, yng Nghymru. Mi fyddai hynny'n golygu bod y stoc tai cymdeithasol fforddadwy mae o'n sôn amdano fo yn ei gwestiwn, tai fforddadwy, mi fyddai'r stoc yna, yn lleihau, gan danseilio'r ymdrechion i'w cynyddu yn y gogledd ac ar draws Cymru. Fe gollwyd hanner y tai cymdeithasol dan bolisi Margaret Thatcher.

Mae Llafur wedi cyhoeddi amserlen newydd ar ddiweddu digartrefedd am nad ydy'r amserlen ddaru iddyn nhw ei addo ddim wedi cael ei chyflawni. Ond, Llywydd, rydych chi eisiau i ni fod yn adeiladol heddiw, felly mi wnaf i hynny. Mae gweithredu'r Bil digartrefedd newydd ar fyrder yn gwbl allweddol i daclo'r argyfwng tai. Felly, mi hoffwn i ddeall gan y Llywodraeth bresennol pa waith sydd ar droed yn dilyn pasio Cyfnod 4 y Bil. Beth ydy'r amserlen ar gyfer creu cynllun gweithredu ar gyfer y ddeddf? Beth fydd y blaenoriaethau, pwy fydd yn creu'r cynllun hyfforddiant ar gyfer 'ask and act' yn y sector iechyd? Mi fuaswn i'n hapus iawn i gyfrannu at y gwaith yn ystod yr ychydig wythnosau sydd ar ôl o'r tymor hwn, petai'r Ysgrifennydd Cabinet yn agored i hynny. Diolch.

I have to say that I was surprised by Sam Rowlands's question. We are in a housing crisis in Wales, but the Conservatives want to reintroduce the right to buy policy in Wales. This would mean that the social housing stock, affordable housing stock, that he mentioned in his question, that stock, would decrease, undermining efforts to increase the stock in north Wales and across Wales. Half of social housing was lost under Margaret Thatcher's policy. 

Labour has announced a new timetable for ending homelessness because the current timetable that they promised to adhere to has not been achieved. But, Llywydd, you want us to be constructive today, so I will be constructive. Implementing the new homelessness Bill as a matter of urgency is key to tackling the housing crisis. So, I would like to understand from the current Government what work is under way following the passage of the Bill at Stage 4. What's the timetable for creating an implementation plan for the legislation? What will the priorities of the plan be, and who will draw up the training plan for 'ask and act' in the health sector? I would be more than happy to contribute to this work over the few weeks that remain of this term, should the Cabinet Secretary be open to that. Thank you.

Diolch, Siân. Firstly, just to agree around the impact that the right to buy had here in Wales, and the fact that we did lose so many homes across Wales because of that. So, I'm glad that this Government was one that actually stopped the right to buy, and that's had a big impact here in Wales.

Just in terms of the homelessness Bill, it's really exciting that we've been able to get it through Stage 4, and I think that the way we've worked together has been really important. You took part before in the White Paper, as well as my Cabinet colleague Julie James, and we have all worked together, including with local authorities and everybody on the expert review panel as well. The homelessness Bill does give us a new legal framework for homelessness services, which, alongside that housing supply, will ensure we're in a position, for the first time, to put a date on when we expect to eliminate homelessness.

We have been continuing to act. One of our pledges as well will be around not just ending homelessness by 2034, but a milestone to have no children placed in bed-and-breakfast accommodation by 2030. The numbers have, in terms of the children in bed and breakfasts, reduced, and it has been a deliberate commitment to reduce that. We still have a way to go in terms of that now we have 166 in, as of December 2025, but it was 915 in 2023. So, we have been working, and I think the Bill has really helped to drive that down as well and will continue to do that.

I'm always keen to work with as many people as possible. As you know, that is my commitment and how I have been throughout the passage of this Bill. We have been working with local authorities at the moment to develop that plan, and officials are continuing to engage on that very closely with local authorities. But I’m happy to write with any further timescale.

Diolch, Siân. Yn gyntaf, rwy'n cytuno ynghylch yr effaith a gafodd yr hawl i brynu yma yng Nghymru, a'r ffaith ein bod wedi colli cymaint o gartrefi ledled Cymru o'i herwydd. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yn un sydd wedi rhoi'r gorau i'r hawl i brynu, ac mae hynny wedi cael effaith fawr yma yng Nghymru.

Ar y Bil digartrefedd, mae'n gyffrous iawn ein bod wedi gallu ei gael trwy Gyfnod 4, ac rwy'n credu bod y ffordd yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd wedi bod yn bwysig iawn. Fe wnaethoch chi gymryd rhan yn y Papur Gwyn yn flaenorol, yn ogystal â fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Julie James, ac rydym i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol a phawb ar y panel adolygu arbenigol. Mae'r Bil digartrefedd yn rhoi fframwaith cyfreithiol newydd i ni ar gyfer gwasanaethau digartrefedd, a fydd, ochr yn ochr â'r cyflenwad tai, yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa, am y tro cyntaf, i roi dyddiad ar gyfer pryd y disgwyliwn allu dileu digartrefedd.

Rydym wedi bod yn parhau i weithredu. Bydd un o'n haddewidion yn ymwneud hefyd nid yn unig â rhoi diwedd ar ddigartrefedd erbyn 2034, ond â charreg filltir i beidio â chael plant wedi'u gosod mewn llety gwely a brecwast erbyn 2030. Mae'r niferoedd o blant mewn llety gwely a brecwast wedi lleihau, a bu'n ymrwymiad bwriadol i'w lleihau. Mae gennym ffordd i fynd o hyd ar hynny gan fod gennym 166 mewn llety o'r fath nawr, ym mis Rhagfyr 2025, ond roedd yn 915 yn 2023. Felly, rydym wedi bod yn gweithio, ac rwy'n credu bod y Bil wedi helpu i ostwng y nifer a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rwyf bob amser yn awyddus i weithio gyda chymaint o bobl â phosib. Fel y gwyddoch, dyna yw fy ymrwymiad a dyna a fu drwy gydol taith y Bil hwn. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu'r cynllun hwnnw, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n agos iawn ag awdurdodau lleol ar hynny. Ond rwy'n hapus i ysgrifennu gydag unrhyw amserlen bellach.

Adfywio Canol Trefi yn Sir Ddinbych
Town-centre Regeneration in Denbighshire

6. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer adfywio canol trefi ar draws Sir Ddinbych? OQ63918

6. What support is the Welsh Government providing for town-centre regeneration across Denbighshire? OQ63918

Diolch, Carolyn. Our Transforming Towns programme is supporting key investments in Rhyl, including the landmark redevelopment of the Queen’s Market. Placemaking plans have been developed, covering towns such as Corwen, Denbigh and Ruthin, focusing on driving footfall and supporting local businesses.

Diolch, Carolyn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi buddsoddiadau allweddol yn y Rhyl, gan gynnwys ailddatblygu Marchnad y Frenhines. Mae cynlluniau creu lleoedd wedi'u datblygu, yn cynnwys trefi fel Corwen, Dinbych a Rhuthun, gan ganolbwyntio ar ysgogi niferoedd ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.

Thanks for that answer, Cabinet Secretary. I know that Denbighshire council has been making real progress in delivering additional council homes in our town centres, which will not only provide affordable homes, but will also increase footfall. In Prestatyn, construction has been completed of a new block of 14 apartments for social rent on the site of the former library building on Nant Hall Road, and, in Rhyl, work started just before Christmas on converting the upper floors of the former post office building in Wellington Road into affordable apartments, which is really welcome. How is the Welsh Government supporting these initiatives and how is it encouraging other local authorities to learn from this best practice?

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar ddarparu cartrefi cyngor ychwanegol yng nghanol ein trefi, a fydd nid yn unig yn darparu cartrefi fforddiadwy, ond hefyd yn cynyddu niferoedd ymwelwyr. Ym Mhrestatyn, mae'r gwaith o adeiladu bloc newydd o 14 o fflatiau rhent cymdeithasol wedi'i gwblhau ar safle'r hen adeilad llyfrgell ar Ffordd Nant Hall, ac yn y Rhyl, ychydig cyn y Nadolig dechreuodd y gwaith o drawsnewid lloriau uchaf hen adeilad swyddfa'r post yn Ffordd Wellington yn fflatiau fforddiadwy, rhywbeth sy'n cael ei groesawu'n fawr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r mentrau hyn a sut y mae'n annog awdurdodau lleol eraill i ddysgu o arfer gorau o'r fath?

14:05

Diolch, Carolyn. It's been a pleasure for me to visit Denbigh as well over the last year. I've seen that development—really exciting development—that's been happening. So, the renovation of the former post office building in Rhyl is being supported by £650,000 of Transforming Towns funding. That's going to create a commercial space on the ground floor and a conversion of the upper floors into two much-needed affordable one-bedroomed apartments. And £1.42 million of Welsh Government's social housing grant has supported a £3.5 million development at Llys Llên on Nant Hall Road in Prestatyn, and that's consisting of commercial space on the ground floor and 14 one-bedroomed apartments for people over 55 on the first and second floors. And the homes are being heated without the need for fossil fuels, and that's quite an exciting part. It's using ground-source heat pumps, and that reduces residents' energy consumption and assists with cost-of-living pressures, which is really important.

And a further example is the remodelling of the outdated housing on Edward Henry Street in Rhyl. That's in the town centre, and that's going to deliver 13 energy-efficient family homes, and that's supported by just over £1 million of Transforming Towns funding. And that scheme's helped to address housing pressures as well and supported work to reduce homelessness, driving also footfall into the town centre.

I think one of the things that's been really important is how we share that good practice. One thing I did when I came into post was to make sure we had regional round-tables, speaking to local government cabinets, housing leads and housing directors as well. They have been really successful, and have been able to share with each other some very important learning, with the support of the WLGA as well, and I'll look forward to having a number of those still to come just before the end of the Senedd term.

Diolch, Carolyn. Mae wedi bod yn bleser ymweld â Dinbych hefyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwelais y datblygiad—datblygiad cyffrous iawn—sydd wedi bod yn digwydd. Felly, mae'r gwaith o adnewyddu hen adeilad swyddfa'r post yn y Rhyl yn cael ei gefnogi gan £650,000 o gyllid Trawsnewid Trefi. Mae'n mynd i greu gofod masnachol ar y llawr gwaelod ac addasu'r lloriau uchaf yn ddau fflat fforddiadwy un ystafell wely mawr eu hangen. Ac mae £1.42 miliwn o grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiad gwerth £3.5 miliwn yn Llys Llên ar Ffordd Nant Hall ym Mhrestatyn, ac mae hynny'n cynnwys gofod masnachol ar y llawr gwaelod a 14 o fflatiau un ystafell wely i bobl dros 55 oed ar y llawr cyntaf a'r ail lawr. Ac mae'r cartrefi'n cael eu gwresogi heb fod angen tanwydd ffosil, ac mae hynny'n eithaf cyffrous. Mae'n defnyddio pympiau gwres o'r ddaear, gan leihau defnydd ynni preswylwyr a chynorthwyo gyda phwysau costau byw, sy'n bwysig iawn.

Ac enghraifft arall yw ailfodelu'r hen dai ar Stryd Edward Henry yn y Rhyl. Mae'r datblygiad yng nghanol y dref yn mynd i ddarparu 13 o gartrefi teuluol sy'n arbed ynni, ac mae wedi'i gefnogi gan ychydig dros £1 filiwn o gyllid Trawsnewid Trefi. Ac mae'r cynllun hwnnw wedi helpu i fynd i'r afael â phwysau tai hefyd ac wedi cefnogi gwaith i leihau digartrefedd, gan hybu niferoedd ymwelwyr â chanol y dref.

Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi bod yn bwysig iawn yw'r ffordd yr awn ati i rannu arfer da. Un peth a wneuthum wrth ddechrau yn y swydd oedd gwneud yn siŵr fod gennym fordydd crwn rhanbarthol, i siarad â chabinetau llywodraeth leol, arweinwyr tai a chyfarwyddwyr tai hefyd. Maent wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac wedi gallu rhannu gwersi pwysig â'i gilydd, gyda chefnogaeth CLlLC, ac rwy'n edrych ymlaen at gael nifer o gyfarfodydd bord gron eto cyn diwedd tymor y Senedd.

I very much welcome the £20 million regeneration funding for Rhyl, and this follows £20 million given to Rhyl by the previous Conservative UK Government and the third round of levelling-up funding, which followed £26 million through the UK shared prosperity fund.

Rhyl is one of the most deprived areas of Wales, and this is evident looking at Rhyl's High Street, with almost a sixth of its commercial properties vacant. So, it must be prioritised for regeneration funding, and I'm pleased that it is. However, Government is an enabler, not a doer. Providing money alone isn't going to regenerate the high streets. They have to enable the community to do that themselves by setting the right conditions. And currently, the conditions aren't there, with high business rates and over-regulation.

The money also is not an investment if we don't see a return. So, how is the Welsh Government advising Denbighshire County Council on measures that can be taken to make town-centre high streets more affordable and attractive to small businesses, and how will the Welsh Government track the funding to ensure that we are seeing a return on that investment?

And if you'd like any more information or knowledge about Edward Henry Street in Rhyl, then I would advise you to look at the L.S. Lowry painting, the famous artist; Edward Henry Street is the subject of that painting.

Rwy'n croesawu'r £20 miliwn o gyllid adfywio ar gyfer y Rhyl, ac mae'n dilyn £20 miliwn a roddwyd i'r Rhyl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a'r drydedd rownd o gyllid ffyniant bro, a ddilynodd £26 miliwn drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU.

Y Rhyl yw un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac mae hyn yn amlwg wrth edrych ar Stryd Fawr y Rhyl, gyda bron i un ran o chwech o'i eiddo masnachol yn wag. Felly, rhaid ei flaenoriaethu ar gyfer cyllid adfywio, ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, hwylusydd yw Llywodraeth, nid gweithredwr. Nid yw darparu arian yn unig yn mynd i adfywio'r strydoedd mawr. Rhaid iddynt alluogi'r gymuned i wneud hynny eu hunain drwy osod yr amodau cywir. Ac ar hyn o bryd, nid yw'r amodau yno, gydag ardrethi busnes uchel a gor-reoleiddio.

Nid yw'r arian yn fuddsoddiad os na welwn enillion. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynghori Cyngor Sir Ddinbych ar fesurau y gellir eu rhoi ar waith i wneud strydoedd mawr canol y dref yn fwy fforddiadwy a deniadol i fusnesau bach, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn olrhain y cyllid i sicrhau ein bod yn gweld enillion ar y buddsoddiad hwnnw?

Ac os hoffech ragor o wybodaeth am Stryd Edward Henry yn y Rhyl, rwy'n eich cynghori i edrych ar baentiad L.S. Lowry, yr artist enwog; Stryd Edward Henry yw testun y paentiad hwnnw.

Oh, fabulous. I will certainly look that one up. That's great to know that. Thank you for sharing that, Gareth.

Absolutely, Transforming Towns has funded more than £14 million in Rhyl town centre, so that's really exciting. We do work closely with Denbighshire County Council and other key partners just to tackle some of the long-standing issues around poverty and a poorly performing town centre, as has previously been in Rhyl. I've visited the Queen's Market, and I look forward to popping back there sometime as well, because it was really good to see some of that transformation as well that's happened.

But, in addition to some of the projects that I mentioned in response to Carolyn, we've also seen the contemporary living scheme in Rhyl, and also the Rhyl gateway scheme, which is going to enable the demolition of a derelict property on the high street, and that next phase is going to introduce a new public space and enhance the arrival experience at a key gateway. We've also provided funding for the former post office building in Rhyl, to renovate that derelict space and provide retail and residential units, and we've also recently enabled the reopening of the town's Strand Cinema, located on the seafront, with £128,000 in support from our placemaking grant towards the total project cost of £183,000, following the departure of a former operator. So, we are investing in Rhyl, and we work closely with the local authority, and we'll continue to do so.

O, ardderchog. Byddaf yn sicr o fynd ar drywydd hynny. Mae'n wych gwybod hynny. Diolch am rannu hynny, Gareth.

Yn bendant, mae Trawsnewid Trefi wedi ariannu mwy na £14 miliwn o waith yng nghanol tref y Rhyl, felly mae hynny'n gyffrous iawn. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hirsefydlog yn ymwneud â thlodi a pherfformiad gwael canol y dref, fel yr hyn a welwyd yn y Rhyl yn flaenorol. Rwyf wedi ymweld â Marchnad y Frenhines, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl yno rywbryd hefyd, oherwydd roedd yn dda gweld y newid sydd wedi digwydd.

Ond yn ogystal â rhai o'r prosiectau y soniais amdanynt mewn ymateb i Carolyn, rydym hefyd wedi gweld y cynllun byw cyfoes yn y Rhyl, a hefyd cynllun porth y Rhyl, sy'n mynd i'w gwneud hi'n bosib dymchwel eiddo adfeiliedig ar y stryd fawr, a bydd y cam nesaf yn darparu gofod cyhoeddus newydd ac yn gwella'r profiad o gyrraedd porth allweddol. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer hen adeilad swyddfa'r post yn y Rhyl, i adnewyddu'r gofod adfeiliedig hwnnw a darparu unedau manwerthu a phreswyl, ac yn ddiweddar hefyd, rydym wedi galluogi Sinema'r Strand yn y dref, sydd wedi'i lleoli ar lan y môr, i ailagor, gyda £128,000 o gymorth ein grant creu lleoedd tuag at gyfanswm cost y prosiect o £183,000, yn dilyn ymadawiad gweithredwr blaenorol. Felly, rydym yn buddsoddi yn y Rhyl, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

14:10

It's a very fine painting. I have it on my phone; I've just looked it up.

Mae'n baentiad cain iawn. Mae gennyf ar fy ffôn; rwyf newydd ddod o hyd iddo.

It's £350,000, apparently. I'm not bidding for it.

Mae'n £350,000, mae'n debyg. Nid wyf am gynnig amdano.

I was going to say, Llywydd, this isn't a bid for Transforming Towns money, is it? I hope. [Laughter.]

Roeddwn i'n mynd i ddweud, Lywydd, gobeithio nad yw'n gais am arian Trawsnewid Trefi. [Chwerthin.]

Return the painting to Edward Henry Street, Rhyl, yes.

Question 7, Mark Isherwood.

Dychwelwch y paentiad i Stryd Edward Henry, y Rhyl, ie.

Cwestiwn 7, Mark Isherwood.

Darparu Tai
Delivery of Housing

7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai? OQ63900

7. What are the Welsh Government's priorities for the delivery of housing? OQ63900

Diolch, Mark. The Welsh Government is delivering on housing for all tenures. We're providing record social housing funding of over £2 billion over this Senedd term, including £466 million in 2025-26 alone. We're projected to deliver our target of 20,000 additional homes for rent in the social sector by November. And nearly 18,000 private sector homes have been completed across Wales since April 2021 so far this Senedd term.

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu tai ar gyfer pob math o ddeiliadaeth. Rydym yn darparu mwy nag erioed o gyllid tai cymdeithasol, dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hwn, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Rhagwelir y byddwn yn cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Ac mae bron i 18,000 o gartrefi sector preifat wedi'u cwblhau ledled Cymru hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon ers mis Ebrill 2021.

Well, following years of ignored warnings by the housing sector from 2003, and a cut of over 70 per cent in new social housing, so that, by 2010, Wales had the lowest proportional housing spend of any UK nation under what was then a coalition Labour/Plaid Cymru Government, the housing crisis continues to deepen today, with one in 14 households on a waiting list, and thousands living in temporary accommodation.

How do you, therefore, respond to the Audit Wales update on its 2024 'Affordable housing' report, published last month, which found that, on recent projections, the Welsh Government will fall short of its target to deliver 20,000 low-carbon social homes for rent during this Senedd term, and that the true number of homes delivered that meet the full target definition is still not completely clear from the published data, and to the latest official statistics showing that unmet housing need in Wales has increased by 64 per cent since 2019, with an article in Welsh Housing Quarterly suggesting that the true level of unmet need may be significantly more than previously estimated?

Wel, ar ôl blynyddoedd o anwybyddu rhybuddion gan y sector tai o 2003 ymlaen, a thoriad o dros 70 y cant yn nifer y tai cymdeithasol newydd, fel mai Cymru oedd yn gwario leiaf yn gyfrannol ar dai yn y DU erbyn 2010 o dan yr hyn a oedd ar y pryd hynny yn Llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, mae'r argyfwng tai'n parhau i ddyfnhau heddiw, gydag un o bob 14 aelwyd ar restr aros, a miloedd yn byw mewn llety dros dro.

Sut ydych chi'n ymateb felly i'r wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad 'Tai fforddiadwy' 2024, a gyhoeddwyd fis diwethaf, a ganfu, ar amcanestyniadau diweddar, y bydd Llywodraeth Cymru, yn methu cyflawni ei tharged i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon, ac nad yw gwir nifer y cartrefi a ddarperir sy'n ateb diffiniad llawn y targed yn gwbl glir o'r data a gyhoeddwyd o hyd, ac i'r ystadegau swyddogol diweddaraf sy'n dangos bod yr angen heb ei ddiwallu am dai yng Nghymru wedi cynyddu 64 y cant ers 2019, gydag erthygl yn Welsh Housing Quarterly yn awgrymu y gallai gwir lefel yr angen heb ei ddiwallu fod yn sylweddol uwch na'r hyn a amcangyfrifwyd yn flaenorol?

Diolch, Mark. We are on schedule to deliver 93 per cent of the target by the end of this Senedd term, with hundreds more homes under way. So, the target for this term of Government has a narrower definition than the target for the previous term of Government, which included all affordable homes and those supported through our successful Help to Buy—Wales scheme.

As you'll know, since 2021, we've faced a global pandemic, a cost-of-living crisis, the impact of Brexit, supply chain issues, high inflation, a disastrous mini Tory budget at Westminster—all significantly impacting the house building sector. Those things we couldn't have predicted. But, despite this—despite this—we are going to hit our 20,000 homes by the end of 2026, and I do think that is pretty remarkable.

The programme is made up of high-quality, brand-new homes, alongside acquisitions and refurbishments of long-term empty properties, which also have a really important role to play in providing a safe, secure roof over the heads of individuals and families most in need.

And, I think, in terms of statistics, to make sure and improve the transparency and timelines of data, we've also published management information to complement existing official statistics. In addition, the chief statistician published a blog that provides additional information on the strengths and limitations of both the official statistics and the management information, and the Office for Statistics Regulation has also supported our approach to publishing more timely management information alongside the accredited official statistics. So, I think this Government has shown that we are leading when it comes to making sure there's transparency in our data.

Diolch, Mark. Rydym ar y trywydd i gyflawni 93 y cant o'r targed erbyn diwedd tymor y Senedd, gyda channoedd yn rhagor o gartrefi ar y gweill. Felly, mae gan y targed ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn ddiffiniad culach na'r targed ar gyfer tymor blaenorol y Llywodraeth, a oedd yn cynnwys pob cartref fforddiadwy a'r rhai a gefnogir drwy ein cynllun llwyddiannus Cymorth i Brynu—Cymru.

Fel y gwyddoch, ers 2021, rydym wedi wynebu pandemig byd-eang, argyfwng costau byw, effaith Brexit, problemau gyda'r gadwyn gyflenwi, chwyddiant uchel, mini-gyllideb Dorïaidd drychinebus yn San Steffan—a'r cyfan yn effeithio'n sylweddol ar y sector adeiladu tai. Y pethau hynny na allem fod wedi'u rhagweld. Ond er gwaethaf hyn—er gwaethaf hyn—rydym yn mynd i gyrraedd ein 20,000 o gartrefi erbyn diwedd 2026, ac rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chaffaeliadau ac adnewyddu eiddo gwag hirdymor, sydd hefyd â rôl bwysig iawn i'w chwarae'n darparu to diogel dros bennau'r unigolion a'r teuluoedd sydd fwyaf o'i angen.

Ac o ran ystadegau, er mwyn sicrhau a gwella tryloywder ac amserlenni data, rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth reoli i ategu ystadegau swyddogol presennol. Yn ogystal, cyhoeddodd y prif ystadegydd flog sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol am gryfderau a chyfyngiadau'r ystadegau swyddogol a'r wybodaeth reoli, ac mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd wedi cefnogi ein dull o gyhoeddi gwybodaeth reoli'n fwy amserol ochr yn ochr â'r ystadegau swyddogol achrededig. Felly, rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi dangos ein bod yn arwain ar sicrhau bod tryloywder yn ein data.

Ymlyniad Plaid Ymgeiswyr mewn Etholiadau
Candidates' Party Affiliation in Elections

8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu'r ffordd orau o roi gwybod i breswylwyr am ymlyniad plaid ymgeiswyr mewn etholiadau lleol? OQ63898

8. How is the Cabinet Secretary working with local authorities to review how residents can best be informed of candidates' party affiliation in local elections? OQ63898

Diolch, Rhys. Voters deserve clear, honest information to vote confidently. Beyond the ballot paper, our rules require any other previous affiliations to be published ahead of the election. The new voter information platform, launched Monday, will give voters clear, impartial information on the election and their options.

Diolch, Rhys. Mae pleidleiswyr yn haeddu gwybodaeth glir a gonest i bleidleisio'n hyderus. Y tu hwnt i'r papur pleidleisio, mae ein rheolau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gysylltiadau blaenorol eraill gael eu cyhoeddi cyn yr etholiad. Bydd y platfform newydd i roi gwybodaeth i bleidleiswyr newydd, a lansiwyd ddydd Llun, yn rhoi gwybodaeth glir, ddiduedd i bleidleiswyr am yr etholiad a'u hopsiynau.

14:15

Diolch yn fawr, Cabinet Secretary, but that didn't happen last month, when the residents of the Plymouth ward in Penarth voted in a by-election in which the victorious candidate had the wrong party description on the ballot paper. I'm not going to pass comment on the timing of the defection, on the eve of the Conservative Party conference—people are allowed to change parties, I suppose—and the real criticism is not directed at any individual or any party; the real criticism is directed at a system that allows this to happen. It would be fair to assume that most of the electorate who voted for the Conservative Party by post or in the ballot box did not know that the candidate had already switched allegiance to another party. By doing so, the electorate of the Plymouth ward were voting for the Reform Party without the Reform Party being on the ballot paper. That cannot be right. Even the Reform Party, I'm sure, will agree with me on that.

There must be a way to avoid this happening again, for example, through digital voting, producing new last-minute ballot papers with a new affiliation, or disqualifying the votes to that candidate. What is needed is real thought and real work to avoid this happening in future. Cabinet Secretary, do you agree with me that the vote in the Plymouth ward turned out to be a farce last month? And will you work with the Electoral Commission and local authorities to ensure that this situation does not occur again? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni ddigwyddodd hynny fis diwethaf, pan bleidleisiodd trigolion ward Plymouth ym Mhenarth mewn isetholiad lle roedd disgrifiad plaid yr ymgeisydd buddugol yn anghywir ar y papur pleidleisio. Nid wyf yn mynd i wneud sylwadau ar amseru'r newid plaid, ar drothwy cynhadledd y Blaid Geidwadol—mae hawl gan bobl i newid plaid—ac nid yw'r feirniadaeth go iawn wedi'i chyfeirio at unrhyw unigolyn nac unrhyw blaid unigol; mae'r feirniadaeth go iawn wedi'i chyfeirio at system sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. Byddai'n deg tybio nad oedd y rhan fwyaf o'r etholwyr a bleidleisiodd dros y Blaid Geidwadol drwy'r post neu yn y blwch pleidleisio yn gwybod bod yr ymgeisydd eisoes wedi newid eu teyrngarwch i blaid arall. Drwy wneud hynny, roedd etholwyr ward Plymouth yn pleidleisio dros Blaid Reform heb fod Plaid Reform ar y papur pleidleisio. Ni all hynny fod yn iawn. Rwy'n siŵr y byddai Plaid Reform hyd yn oed yn cytuno â mi ar hynny.

Rhaid bod ffordd o atal hyn rhag digwydd eto, er enghraifft drwy bleidleisio digidol, cynhyrchu papurau pleidleisio newydd munud olaf yn dangos y cysylltiad newydd, neu anghymhwyso pleidleisiau i'r ymgeisydd hwnnw. Yr hyn sydd ei angen yw meddwl go iawn a gwaith go iawn i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod y bleidlais yn ward Plymouth yn ffars fis diwethaf? Ac a fyddwch chi'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r sefyllfa hon yn digwydd eto? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys. Thank you for raising that. So, rules for local government and Senedd elections, they mean the statement of persons nominated include whether the candidate has been a member of any registered political party or parties other than the one that they were standing for in the 12 months before the date that notice of the election is published. Requiring candidates to provide details of party membership will improve confidence in the electoral process and provide that transparency regarding political affiliation. I think this is really important, that information for voters when making their decisions at elections. In including these amended provisions, we've listened to consultation responses and drawn from the learning from the 2022 elections where a similar provision was introduced. The recently remade Senedd election rules, the conduct Order, reflect the comparable rules for local government.

Diolch, Rhys. Diolch am godi hynny. Mae rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a'r Senedd yn golygu bod y datganiad am y sawl a enwebwyd yn cynnwys a yw'r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid neu bleidiau gwleidyddol cofrestredig heblaw'r un y byddent yn sefyll drosti yn y 12 mis cyn y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad. Bydd ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu manylion ynghylch aelodaeth o blaid yn gwella hyder yn y broses etholiadol ac yn darparu tryloywder ynghylch cysylltiadau gwleidyddol. Rwy'n credu bod yr wybodaeth honno'n bwysig iawn i bleidleiswyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau mewn etholiadau. Wrth gynnwys y darpariaethau diwygiedig hyn, rydym wedi gwrando ar ymatebion i'r ymgynghoriad ac wedi dysgu o etholiadau 2022 lle cyflwynwyd darpariaeth debyg. Mae rheolau etholiadau'r Senedd a gafodd eu hail-wneud yn ddiweddar, y Gorchymyn cynnal etholiadau, yn adlewyrchu'r rheolau tebyg ar gyfer llywodraeth leol.

Canol Trefi yn Islwyn
Town Centres in Islwyn

9. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i drawsnewid canol trefi yn Islwyn? OQ63930

9. What support is the Welsh Government providing to local authorities to transform town centres in Islwyn? OQ63930

Diolch, Rhianon. Our Transforming Towns programme is helping revitalise town and city centres across Wales, including those in Islwyn. We have supported Caerphilly County Borough Council to develop a placemaking plan for Blackwood town centre to shape future interventions, and we have provided funding to start delivering on that vision for the town.

Diolch, Rhianon. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn Islwyn. Rydym wedi cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu cynllun creu lleoedd ar gyfer canol tref y Coed Duon i lunio ymyriadau yn y dyfodol, ac rydym wedi darparu cyllid i ddechrau cyflawni'r weledigaeth honno ar gyfer y dref.

Diolch. Thank you for that response, Cabinet Secretary. Last week, it was announced that Welsh Government is providing an additional £30.9 million to local authorities to deliver regeneration projects that will transform town centres across Wales. This is in addition to the already awarded £484 million in grant and loan funding to support regeneration across Wales since the launch, in 2020, of the Welsh Government's Transforming Towns programme. And in practical terms for Islwyn, that means collaborative working with Caerphilly County Borough Council to shape the strategy for towns like Blackwood and backed by access to Transforming Towns funding and expertise, with the aim of attracting investment, repurposing underutilised space, and improving the overall look, feel and functionality of the high street and surrounding areas.

So, Cabinet Secretary, how much of the allocated £484 million has been allocated for the constituency of Islwyn specifically within the Caerphilly County Borough Council region, and how will the Welsh Government ensure that communities like Islwyn are fast-tracked to see the benefits of that investment on the ground?

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn darparu £30.9 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y £484 miliwn sydd eisoes wedi'i ddyfarnu mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi adfywio ledled Cymru ers lansio rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn 2020. Ac yn ymarferol i Islwyn, mae hynny'n golygu cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i lunio'r strategaeth ar gyfer trefi fel y Coed Duon a chefnogaeth cyllid ac arbenigedd Trawsnewid Trefi, gyda'r nod o ddenu buddsoddiad, addasu gofod heb ei ddefnyddio'n ddigonol at ddibenion gwahanol, a gwella edrychiad, teimlad a defnydd cyffredinol y stryd fawr a'r ardaloedd cyfagos.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o'r £484 miliwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer etholaeth Islwyn yn benodol yn rhanbarth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymunedau fel Islwyn yn cael eu gosod ar lwybr carlam i weld manteision y buddsoddiad hwnnw ar lawr gwlad?

Diolch, Rhianon. To date, Caerphilly has received £4.53 million for Islwyn, including £35,000 for the Blackwood placemaking plan, and £4.5 million in loan funding for a strategic acquisition fund for Blackwood and Bargoed. This fund will enable the authority to identify key vacant buildings in the town for acquisition, using public sector intervention to bring forward projects that deliver on the aspirations of our placemaking plans. These are the first steps in delivering the vision for the town, securing much-needed investment and working with communities, which is really important, to bring forward that lasting change. So, now that the Blackwood placemaking plan has been formally adopted, my officials are working closely with Caerphilly County Borough Council, looking to replicate the successful community-focused placemaking approach that was undertaken in Caerphilly.

Diolch, Rhianon. Hyd yn hyn, mae Caerffili wedi derbyn £4.53 miliwn ar gyfer Islwyn, gan gynnwys £35,000 ar gyfer cynllun creu lleoedd y Coed Duon, a £4.5 miliwn mewn cyllid benthyciad ar gyfer cronfa gaffael strategol i'r Coed Duon a Bargoed. Bydd y gronfa hon yn galluogi'r awdurdod i nodi adeiladau gwag allweddol yn y dref i'w caffael, gan ddefnyddio ymyrraeth y sector cyhoeddus i gyflwyno prosiectau sy'n cyflawni dyheadau ein cynlluniau creu lleoedd. Dyma'r camau cyntaf i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer y dref, gan sicrhau buddsoddiad mawr ei angen a gweithio gyda chymunedau, sy'n wirioneddol bwysig, i gyflwyno'r newid parhaol hwnnw. Felly, gan fod cynllun creu lleoedd y Coed Duon wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol erbyn hyn, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i geisio ailadrodd y dull llwyddiannus o greu lleoedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned a gyflawnwyd yng Nghaerffili.

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
2. Questions to the Cabinet Secretary for Education

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cyntaf heddiw i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w holi gan Mike Hedges. 

The next item will be questions to the Cabinet Secretary for Education. The first question is to be answered by the Minister for Further and Higher Education, and is to be asked by Mike Hedges. 

Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn Abertawe
Higher and Further Education in Swansea

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach yn Abertawe? OQ63899

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the provision of higher and further education in Swansea? OQ63899

Llywydd, I wish to declare a personal interest. I have a close family member who is currently a student at Swansea University.

Provision in the Swansea area is extensive and caters to a wide variety of aspirations, learning styles, and support needs. Swansea University is the primary HE provider, providing both undergraduate and postgraduate courses. Gower College Swansea is the primary FE provider, delivering a comprehensive selection of A-levels and vocational qualifications.

Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant personol. Mae gennyf aelod agos o'r teulu sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r ddarpariaeth yn ardal Abertawe yn helaeth ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddyheadau, arddulliau dysgu ac anghenion cymorth. Prifysgol Abertawe yw'r prif ddarparwr addysg uwch, sy'n darparu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig. Coleg Gŵyr Abertawe yw'r prif ddarparwr addysg bellach, sy'n darparu detholiad cynhwysfawr o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.

Thank you for that answer. As someone who has benefited from higher education and taught in further education, I am supportive of the two sectors. For those of us from council estates, education was the route to gaining higher paid employment. We can either have an economy based on tourism and inward investment or one based on highly skilled and highly educated people, especially in computing and life sciences. And if you look at successful economies, education is at the heart of their success. Gower College Swansea, which I visited recently for their apprenticeship awards, showed what further education is achieving in Swansea for individuals and our economy. I have concerns regarding the restructuring of Swansea University and the proposed loss of skills due to proposed redundancies.

Has the Minister discussed with Swansea college what further support is available for their very successful apprenticeship programme? And, with Swansea University, what can be done to avoid compulsory redundancies and the skills loss that entails?

Diolch am yr ateb hwnnw. Fel rhywun sydd wedi elwa o addysg uwch ac wedi addysgu mewn addysg bellach, rwy'n gefnogol i'r ddau sector. I'r rhai ohonom o ystadau tai cyngor, addysg oedd y llwybr i gael cyflogaeth ar gyflog uwch. Gallwn naill ai gael economi sy'n seiliedig ar dwristiaeth a mewnfuddsoddiad neu un sy'n seiliedig ar bobl fedrus ac addysgedig iawn, yn enwedig mewn cyfrifiadura a gwyddorau bywyd. Ac os edrychwch ar economïau llwyddiannus, mae addysg yn ganolog i'w llwyddiant. Dangosodd Coleg Gŵyr Abertawe, yr ymwelais ag ef yn ddiweddar ar gyfer eu gwobrau prentisiaethau, beth y mae addysg bellach yn ei gyflawni yn Abertawe i unigolion a'n heconomi. Mae gennyf bryderon ynglŷn ag ailstrwythuro Prifysgol Abertawe a'r colli sgiliau yn sgil diswyddiadau arfaethedig.

A yw'r Gweinidog wedi trafod gyda choleg Abertawe pa gymorth pellach sydd ar gael ar gyfer eu rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn? A chyda Phrifysgol Abertawe ynglŷn â beth y gellir ei wneud i osgoi diswyddiadau gorfodol a'r colli sgiliau a ddaw yn sgil hynny?

Thank you, Mike, for that supplementary question. I was pleased to be able to announce additional capital funding of £25 million to be split equally between FE and HE, to support all our FE and HE institutions. And that, of course, will include Gower college and Swansea University.

Turning to Gower college, it is, of course, Colleges Week this week. I've just returned from a lovely visit to the College Merthyr Tydfil, where I met a selection of their learners, including apprentices. I know that Gower college provides a broad range of apprenticeship training opportunities and it's continuing to grow its work-based learning contract. They worked with over 1,200 employers and 2,233 apprentices in 2024-25, delivering 96 different apprenticeship programmes. So, you're absolutely right in identifying how successful that scheme is. In terms of enhancing that offer further, we will shortly be publishing the strategic direction for vocational education and training. And also, my call for submissions on the future of the tertiary system in Wales is open. Both of those will provide vehicles for us to look further at our successful apprenticeship programme.

Turning to your points on Swansea University, I understand, of course, that Swansea University are looking for reductions of 55 roles and that they hope to reduce the total numbers in scope through voluntary means. They have informed me that they will be providing a further voluntary exit scheme and that compulsory redundancies are a matter of last resort. The university continues to engage with the three campus trade unions and the students' union. I recognise, of course, that the ongoing uncertainty will cause anxiety for those affected, and I expect Swansea University to work closely with the trade unions and the students' union in the spirit of social partnership to ensure the right support and help is in place for those affected. And to that end, I met, on 11 February, with the Swansea University and College Union branch and then the vice-chancellor of Swansea University also.

Diolch am y cwestiwn atodol, Mike. Roeddwn yn falch o allu cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol o £25 miliwn i'w rannu'n gyfartal rhwng addysg bellach ac addysg uwch, i gefnogi ein holl sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. A bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys coleg Gŵyr a Phrifysgol Abertawe.

Gan droi at goleg Gŵyr, mae'n Wythnos y Colegau yr wythnos hon, wrth gwrs. Rwyf newydd ddychwelyd o ymweliad hyfryd â Choleg Merthyr Tudful, lle cyfarfûm â rhai o'u dysgwyr, gan gynnwys prentisiaid. Rwy'n gwybod bod coleg Gŵyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi prentisiaid ac mae'n parhau i dyfu ei gontract dysgu seiliedig ar waith. Fe wnaethant weithio gyda dros 1,200 o gyflogwyr a 2,233 o brentisiaid yn 2024-25, gan gyflwyno 96 o wahanol raglenni prentisiaeth. Felly, rydych chi'n hollol iawn i nodi pa mor llwyddiannus yw'r cynllun hwnnw. O ran gwella'r cynnig ymhellach, byddwn yn cyhoeddi'r cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol cyn bo hir. A hefyd, mae fy ngalwad am gyflwyniadau ar ddyfodol y system drydyddol yng Nghymru wedi agor. Bydd y ddau beth yn darparu cyfrwng inni edrych ymhellach ar ein rhaglen brentisiaethau lwyddiannus.

Gan droi at eich pwyntiau ar Brifysgol Abertawe, rwy'n deall eu bod yn edrych ar gael gwared ar 55 o rolau a'u bod yn gobeithio lleihau cyfanswm y niferoedd o ran cwmpas drwy ddulliau gwirfoddol. Maent wedi rhoi gwybod i mi y byddant yn darparu cynllun ymadael gwirfoddol pellach a bod diswyddiadau gorfodol yn ddewis olaf. Mae'r brifysgol yn parhau i ymgysylltu â'r tri undeb llafur ar y campws ac undeb y myfyrwyr. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y bydd yr ansicrwydd parhaus yn achosi pryder i'r rhai yr effeithir arnynt, ac rwy'n disgwyl i Brifysgol Abertawe weithio'n agos gyda'r undebau llafur ac undeb y myfyrwyr mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod y gefnogaeth a'r cymorth cywir ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt. Ac i'r perwyl hwnnw, ar 11 Chwefror cyfarfûm â changen Abertawe o Undeb y Prifysgolion a Cholegau ac is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedyn hefyd.

I would like to declare an interest in this question, Llywydd, as my husband is a professor at Swansea University.

Ensuring not just recognition of what's happening in the university, but also Welsh Government support for the university is vital, of course, to my region and to Wales nationally, to the workforce, but also to the opportunities it provides for our young people especially. We know how transformative the additional skills and qualifications gained from higher education can be for young people, and also it's a factor in their employability. In Wales, the youth unemployment rate for 16 to 24-year-olds reached 16.3 per cent in the year ending September 2025, a sharp increase of 9.5 per cent compared to the previous year.

So, what measures is the Minister taking to equalise participation in higher education with those of the other UK nations, because we're behind, as you know, at the moment? What assessment have you made of the impact of further restrictions of international student visas, announced today by the UK Labour Government, on the financial health of Welsh universities such as Swansea? It could threaten the HE workforce and provision here in Wales even further.

Hoffwn ddatgan diddordeb yn y cwestiwn hwn, Lywydd, gan fod fy ngŵr yn athro ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae sicrhau nid yn unig cydnabyddiaeth i'r hyn sy'n digwydd yn y brifysgol, ond cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r brifysgol hefyd yn hollbwysig yn fy rhanbarth i a Chymru'n genedlaethol, i'r gweithlu, ond hefyd i'r cyfleoedd y mae'n eu darparu i'n pobl ifanc yn enwedig. Rydym yn gwybod pa mor drawsnewidiol y gall y sgiliau a'r cymwysterau ychwanegol a gafwyd o addysg uwch fod i bobl ifanc, ac mae'n ffactor yn eu cyflogadwyedd hefyd. Yng Nghymru, cyrhaeddodd y gyfradd ddiweithdra ieuenctid ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed 16.3 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, cynnydd serth o 9.5 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Felly, pa fesurau y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith i gydraddoli cyfranogiad mewn addysg uwch â gwledydd eraill y DU, oherwydd rydym ar ei hôl hi ar hyn o bryd, fel y gwyddoch? Pa asesiad a wnaethoch o effaith cyfyngiadau pellach i fisâu myfyrwyr rhyngwladol a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Lafur y DU ar iechyd ariannol prifysgolion Cymru fel Abertawe? Gallai fygwth gweithlu a darpariaeth addysg uwch yma yng Nghymru hyd yn oed ymhellach.

14:25

Thank you, Sioned, for that question, and I echo your sentiments about the importance of Swansea University to the regional economy, both in terms of the workforce there and the opportunities that it provides. I agree with you completely about the widening participation agenda as well. In fact, I'll be visiting Swansea University before the end of this month to see, in action, one of Medr's Reaching Wider programmes, which seeks to do exactly that, to engage with young people in the surrounding area of Swansea University who might not have thought that university was for them, to see what opportunities are on offer, to ignite that fire within them and hopefully, then, for them to apply. That is an agenda that is absolutely crucially important for the future and forms one of the five key pillars of my call for evidence on the future of the tertiary system, which is open until the end of March.

You ask as well about that issue with the suspension of study visas. Here, in Welsh Government, we recognise that international students are vitally important to the financial and intellectual health of our universities, and are a huge net contributor to the UK and Welsh economy. It's imperative that international students continue to feel welcome for the positive social, cultural and economic contributions that they make here in Wales. They enrich our campuses, they're part of our communities, and they form lifelong friendships with our home students, creating diverse culture and inclusive environments. Universities are responsible for managing their own international student policies and recruitment, and ensuring that they have sustainable business models in place. That is supplemented by work that we do within Welsh Government as well, and through the Global Wales programme.

Diolch am y cwestiwn, Sioned, ac rwy'n adleisio eich teimladau am bwysigrwydd Prifysgol Abertawe i'r economi ranbarthol, o ran y gweithlu yno a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r agenda ehangu cyfranogiad hefyd. Yn wir, byddaf yn ymweld â Phrifysgol Abertawe cyn diwedd y mis i weld un o raglenni Ymestyn yn Ehangach Medr, sy'n ceisio gwneud yn union hynny i ymgysylltu â phobl ifanc yn ardal Prifysgol Abertawe nad oeddent wedi meddwl efallai fod y brifysgol ar eu cyfer nhw, i weld pa gyfleoedd sydd ar gael, i danio'r tân hwnnw ynddynt a gobeithio, wedyn, y byddant yn gwneud cais. Mae honno'n agenda hollbwysig ar gyfer y dyfodol ac mae'n ffurfio un o bum piler allweddol fy ngalwad am dystiolaeth ar ddyfodol y system drydyddol, sydd ar agor tan ddiwedd mis Mawrth.

Rydych chi'n gofyn hefyd ynghylch atal fisâu astudio. Yma, yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod bod myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol bwysig i iechyd ariannol a deallusol ein prifysgolion, ac yn gyfrannwr net enfawr i economi'r DU a Chymru. Mae'n hanfodol fod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i deimlo bod croeso i'r cyfraniadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cadarnhaol a wnânt yma yng Nghymru. Maent yn cyfoethogi ein campysau, maent yn rhan o'n cymunedau, ac maent yn ffurfio cyfeillgarwch gydol oes â'n myfyrwyr ein hunain, gan greu diwylliant amrywiol ac amgylcheddau cynhwysol. Prifysgolion sy'n gyfrifol am reoli eu polisïau eu hunain a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a sicrhau bod ganddynt fodelau busnes cynaliadwy ar waith. Caiff hynny ei ategu gan waith a wnawn yn Llywodraeth Cymru hefyd, a thrwy raglen Cymru Fyd-eang.

Addysg Bellach yn Sir Benfro
Further Education in Pembrokeshire

2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach yn Sir Benfro? OQ63905

2. What are the Welsh Government’s priorities for further education in Pembrokeshire? OQ63905

Improving participation across all pathways of tertiary education is my top priority. Expanding access to a full range of vocational, technical and academic pathways raises overall qualification levels across the population, improving skills and life outcomes, and I have seen excellent work under way in Pembrokeshire to deliver these aspirations.

Gwella cyfranogiad ar draws pob llwybr addysg drydyddol yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae ehangu mynediad at ystod lawn o lwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd yn codi lefelau cymwysterau cyffredinol ar draws y boblogaeth, gan wella sgiliau a chanlyniadau bywyd, ac rwyf wedi gweld gwaith rhagorol ar y gweill yn sir Benfro ar wireddu'r dyheadau hyn.

Llywydd, can I also declare an interest, as my wife works for a local further education institution in Ceredigion?

Minister, as you said, this week marks Colleges Week, which is a fantastic opportunity to highlight the vital role colleges play in supporting learners, communities and employers across Wales. I'm particularly proud of Pembrokeshire College in my constituency, which is equipping learners with the skills and knowledge they need to progress into so many local sectors and, indeed, local industries. At the start of this year, I visited the college's land-based learning centre in Haverfordwest with my colleague Samuel Kurtz, and we learnt about the agriculture and animal care courses now on offer.

Minister, these opportunities are so valuable to learners and, in turn, the local economy, so can you tell us how the Welsh Government is supporting providers like Pembrokeshire College, so that they can continue to provide opportunities and, indeed, vocational courses like this in our local communities?

Lywydd, a gaf innau hefyd ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig yn gweithio i sefydliad addysg bellach lleol yng Ngheredigion?

Weinidog, fel y dywedoch chi, mae'n Wythnos y Colegau yr wythnos hon, cyfle gwych i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae colegau yn ei chwarae yn cefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr ledled Cymru. Rwy'n arbennig o falch o Goleg Sir Benfro yn fy etholaeth, sy'n arfogi dysgwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen i gymaint o sectorau lleol, ac yn wir, i ddiwydiannau lleol. Ddechrau'r flwyddyn hon, ymwelais â chanolfan ddysgu seiliedig ar y tir y coleg yn Hwlffordd gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz, ac fe glywsom am y cyrsiau amaethyddiaeth a gofal anifeiliaid sydd ar gael erbyn hyn.

Weinidog, mae'r cyfleoedd hyn mor werthfawr i ddysgwyr, ac i'r economi leol yn ei thro, felly a allwch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparwyr fel Coleg Sir Benfro, fel y gallant barhau i ddarparu cyfleoedd, a chyrsiau galwedigaethol o'r fath yn ein cymunedau lleol?

Thank you, Paul, for that supplementary question. I meet regularly with FE principals, including Dr Barry Walters of Pembrokeshire College. I was really pleased to hear that the college topped the UK medals table at the recent WorldSkills UK national finals, hosted in Wales, of course, for the very first time, and I'm sure you'd like to join me in extending our congratulations to all involved.

I've seen first-hand the innovative work taking place at Pembrokeshire, visiting the college's energy transition skills hub and the welding and fabrication centre of excellence. They are both central, of course, to developing the skills necessary to support floating offshore wind technology and capitalise on the opportunities in the Celtic sea region.

Of course, the college plays a key role in supporting local skills needs, including the ones that you identified there with the centre for land-based learning, which I understand is located at the Withybush showground, along with their animal care unit. What we're seeing there is an example of what we're seeing across the sector, which is a huge increase in participation in FE. I know that they've seen a 74 per cent increase in learner numbers on that course since 2022-23.

It is so important that we support our colleges to deliver on those areas where they're seeing that increase in participation, which is so key to the local and regional economy. That's why I was so pleased to be able to allocate a further £12.75 million in capital funding to FE, which will help to alleviate those participation pressures.

Diolch am y cwestiwn atodol, Paul. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phenaethiaid addysg bellach, gan gynnwys Dr Barry Walters o Goleg Sir Benfro. Roeddwn yn falch iawn o glywed bod y coleg ar frig tabl medalau'r DU yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn ddiweddar, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf wrth gwrs, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i longyfarch pawb a gymerodd ran.

Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith arloesol sy'n digwydd yn sir Benfro, ac wedi ymweld â hyb sgiliau trawsnewid i ynni adnewyddadwy y coleg a'r ganolfan ragoriaeth weldio a saernïo. Mae'r ddau'n ganolog i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi technoleg gwynt arnofiol ar y môr a manteisio ar y cyfleoedd yn rhanbarth y môr Celtaidd.

Wrth gwrs, mae'r coleg yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi anghenion sgiliau lleol, gan gynnwys y rhai yr oeddech chi'n eu nodi yno gyda'r ganolfan dysgu seiliedig ar y tir, y deallaf ei bod wedi'i lleoli ar faes sioe Llwynhelyg, ynghyd â'u huned gofal anifeiliaid. Mae'r hyn a welwn yno yn enghraifft o'r hyn a welwn ar draws y sector, sef cynnydd enfawr yn y nifer sy'n cyfranogi mewn addysg bellach. Rwy'n gwybod eu bod wedi gweld cynnydd o 74 y cant yn nifer y dysgwyr ar y cwrs hwnnw ers 2022-23.

Mae mor bwysig ein bod yn cefnogi ein colegau i gyflawni yn y meysydd lle gwelant gynnydd yn y nifer sy'n cyfranogi, sydd mor allweddol i'r economi leol a rhanbarthol. Dyna pam fy mod mor falch o allu dyrannu £12.75 miliwn arall o gyllid cyfalaf i addysg bellach, a fydd yn helpu i liniaru pwysau'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cyfranogi.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru yn gyntaf. Cefin Campbell.

Questions now from the party spokespeople. Plaid Cymru's spokesperson first of all. Cefin Campbell.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cabinet Secretary, since 1999, Welsh Labour have presided over a decline in education standards. The most recent PISA results place Wales, as you well know, at the bottom of the UK rankings and represent the lowest performance since Wales began participating in PISA in 2006. Nonetheless, on Monday, the First Minister said that if Welsh Labour are re-elected this May, you are committed to raising school standards. Given your track record over 27 years, why should the people of Wales believe anything Welsh Labour say now, if you can't even get the basics right?

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ers 1999, mae Llafur Cymru wedi llywyddu dros ddirywiad mewn safonau addysg. Mae canlyniadau diweddaraf PISA yn rhoi Cymru, fel y gwyddoch yn iawn, ar waelod safleoedd y DU a dyma'r perfformiad gwaethaf ers i Gymru ddechrau cymryd rhan yn PISA yn 2006. Serch hynny, ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, os caiff Llafur Cymru eu hailethol ym mis Mai, eich bod wedi ymrwymo i godi safonau ysgolion. O ystyried eich hanes dros 27 mlynedd, pam y dylai pobl Cymru gredu unrhyw beth y mae Llafur Cymru’n ei ddweud nawr, os na allwch hyd yn oed wneud y pethau sylfaenol yn iawn?

Thank you very much, Cefin, for that question. Obviously, I would want to remind you that the PISA results, which were disappointing, were in 2022. Young people have just sat a new round of PISA in the autumn very recently, and we will see the results of those later on this year. We've had really good engagement from schools on the PISA round this year. We've had a higher number of schools than we've ever had before, and much more proactive engagement with schools around PISA. If I could also remind the Member that PISA is about much more than just straight academic attainment. It's also about a whole range of factors that impact on young people and their lives. So, I'm very supportive of our continued participation in PISA.

I was clear when I came into post that raising attainment was a top priority for me, along with improving attendance, implementing the curriculum, and ALN reform. We have made progress on all of those. I was also clear that well-being would be the foundation on which all this work was built. We saw improvements in our A-level results, in our GCSE results, and we've also seen improvements in our personalised assessments. I would be the first one to say that there is more work to do. I do not shirk from the additional work that we have to do, but I think things are going in the right direction.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Cefin. Yn amlwg, hoffwn eich atgoffa bod y canlyniadau PISA, a oedd yn siomedig, yn rhai ar gyfer 2022. Mae pobl ifanc newydd sefyll rownd newydd o brofion PISA yn ddiweddar iawn yn yr hydref, ac fe welwn ganlyniadau'r rheini yn nes ymlaen eleni. Rydym wedi cael ymgysylltiad da iawn ag ysgolion ar rownd PISA y flwyddyn hon. Rydym wedi cael nifer uwch o ysgolion nag erioed o'r blaen, ac ymgysylltiad llawer mwy rhagweithiol ag ysgolion ynghylch PISA. Hoffwn atgoffa'r Aelod hefyd fod PISA yn ymwneud â llawer mwy na chyrhaeddiad academaidd uniongyrchol yn unig. Mae a wnelo hefyd ag ystod eang o ffactorau sy'n effeithio ar bobl ifanc a'u bywydau. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'n cyfranogiad parhaus yn PISA.

Dywedais yn glir wrth ddechrau yn y swydd fod codi cyrhaeddiad yn flaenoriaeth bwysig i mi, ynghyd â gwella presenoldeb, gweithredu'r cwricwlwm, a diwygio ADY. Rydym wedi gwneud cynnydd ar bob un o'r rheini. Nodais yn glir hefyd y byddai lles yn sylfaen i'r holl waith hwn. Gwelsom welliannau yn ein canlyniadau Safon Uwch, yn ein canlyniadau TGAU, ac rydym hefyd wedi gweld gwelliannau yn ein hasesiadau personol. Fi fyddai'r cyntaf i ddweud bod mwy o waith i'w wneud. Nid wyf yn gwadu'r gwaith ychwanegol y mae'n rhaid inni ei wneud, ond rwy'n credu bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir.

Diolch yn fawr iawn; amser a ddengys. Ysgrifennydd Cabinet, yn ein cynhadledd wanwyn ni dros y penwythnos, amlinellodd Plaid Cymru ein cynllun i wella addysg yng Nghymru, gan gynnwys ein hymrwymiad ni i gynyddu'r cymhellion i ddenu myfyrwyr i gyrsiau addysg gychwynnol, ar gyfer athrawon mewn pynciau lle mae yna brinder, a chodi'r incentives yna gan ryw £5,000 yn ystod 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Plaid Cymru. Mae angen i ni weithredu ar frys, oherwydd o dan Lafur Cymru, mae targedau recriwtio athrawon ysgol uwchradd wedi eu methu am y rhan fwyaf o ddegawd.

Ym mis Ionawr y llynedd, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau eich bod wedi dechrau trafodaethau gyda'r sector i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Eto i gyd, gyda dim ond tair wythnos ar ôl o dymor y Senedd hwn, does dim unrhyw arwydd yn y datganiad busnes y bydd y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi nac yn destun craffu manwl. Mae hyn er gwaetha'r ffaith i Lywodraeth Cymru hysbysu pwyllgor y Senedd dros bum wythnos yn ôl y byddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Mae 415 diwrnod—

Thank you very much; time will tell. Cabinet Secretary, at our conference over the weekend, Plaid Cymru outlined our plan to improve education in Wales, including our commitment to increase incentives for initial teacher training courses in subjects where there are shortages, and to increase those incentives by around £5,000 in the first 100 days of a Plaid Cymru Government. We need to take urgent action, because under Welsh Labour, recruitment targets for secondary school teachers have been missed for the best part of a decade.

In January of last year, you issued a written statement confirming that you had begun discussions with the sector to develop a strategic education workforce plan for schools. However, with just three weeks remaining of this Senedd term, there seems to be no indication in the business statement that this plan will be published or subject to detailed scrutiny. This is despite the fact that the Welsh Government told a Senedd committee over five weeks ago that the plan would be published shortly. Some 415 days—

14:35

Mae eisiau i chi ddod at eich cwestiwn, Cefin.

You do need to come to your question, Cefin.

Dwi'n dod at y cwestiwn. Mae 415 diwrnod wedi mynd bellach. Felly, a yw'r Llywodraeth yn agosach at ddarparu ateb credadwy i'r argyfwng recriwtio athrawon?

I'm coming to the question. Some 415 days have since passed. So, is the Government any nearer to delivering a credible solution to the teacher recruitment crisis?

Thank you very much, Cefin. Just to confirm that the strategic education workforce plan for schools will be published on 18 March. This is to coincide with our teaching awards, but was also timed to coincide with the Children, Young People and Education Committee's debate on recruitment and retention. I understand that that debate has now been moved to a later slot, but it is still our intention to publish the plan on 18 March. We have worked very hard with the sector, with our trade union colleagues, because that's the way that we do things—we co-produce things. So, you won't have long to wait before you see the plan.

You referred in your opening of that question to ITE incentives. You'll be well aware that we already offer priority subject incentives in shortage subjects: biology, chemistry, design and technology, information technology, maths, modern foreign languages, physics and Welsh. We offer an additional £5,000 incentive for students who train through the medium of Welsh, and an additional £5,000 incentive for students from a recognised ethnic minority who train to teach. I am of course aware of the difference between the amount that we pay in Wales and England, and I've been questioned on that in committee.

The evidence on the effectiveness of incentives is actually mixed, as I told the committee, but, nevertheless, this is something that we want to explore through the work on the workforce plan. We're also undertaking an evaluation of our ITE policy, which needs to feed into the work. As I told the committee previously, there wasn't sufficient funding in the education main expenditure group to go any further on the incentives this year, but that is something that we are keeping under review. There is no silver bullet in recruitment and retention; the issues are really complex. There's considerable amount of evidence that what impacts most on things like recruitment and retention are things like well-being and workload, and, obviously, that will be covered in the workforce plan.

Diolch yn fawr, Cefin. Hoffwn gadarnhau y bydd y cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg ar gyfer ysgolion yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth. Mae'n cyd-fynd â'n gwobrau addysgu, ond roedd hefyd wedi'i amseru i gyd-fynd â dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar recriwtio a chadw staff. Rwy'n deall bod y ddadl honno bellach wedi'i symud i slot diweddarach, ond ein bwriad o hyd yw cyhoeddi'r cynllun ar 18 Mawrth. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector, gyda'n cyfeillion yn yr undebau llafur, gan mai dyna'r ffordd y gwnawn bethau—rydym yn cydgynhyrchu pethau. Felly, ni fydd yn rhaid ichi aros yn hir cyn gweld y cynllun.

Fe gyfeirioch chi wrth ofyn eich cwestiwn at gymelliadau addysg gychwynnol i athrawon. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod eisoes yn cynnig cymelliadau pynciau â blaenoriaeth mewn pynciau sy'n brin o athrawon: bioleg, cemeg, dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, mathemateg, ieithoedd tramor modern, ffiseg a Chymraeg. Rydym yn cynnig cymhelliad ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, a chymhelliad ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr o leiafrif ethnig cydnabyddedig sy'n hyfforddi i addysgu. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng y swm a dalwn yng Nghymru a Lloegr, a chefais fy holi ynglŷn â hynny yn y pwyllgor.

Mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd cymelliadau yn gymysg mewn gwirionedd, fel y dywedais wrth y pwyllgor, ond serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w archwilio drwy'r gwaith ar gynllun y gweithlu. Rydym hefyd yn cynnal gwerthusiad o'n polisi addysg gychwynnol i athrawon y mae angen iddo lywio'r gwaith. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, nid oedd digon o gyllid yn y prif grŵp gwariant addysg i fynd ymhellach gyda'r cymelliadau eleni, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei adolygu'n gyson. Nid oes ateb syml o ran recriwtio a chadw staff; mae'r materion yn gymhleth iawn. Mae cryn dipyn o dystiolaeth mai'r hyn sy'n effeithio fwyaf ar bethau fel recriwtio a chadw staff yw pethau fel lles a llwyth gwaith, ac yn amlwg, bydd hynny'n cael ei gynnwys yng nghynllun y gweithlu.

Diolch yn fawr iawn. As this is my last question to you in the current Senedd, I genuinely would like to thank you for the co-operation that we've had since you've been in post. Now—

Diolch yn fawr. Gan mai dyma fy nghwestiwn olaf i chi yn nhymor y Senedd hon, hoffwn ddiolch o galon i chi am y cydweithrediad rhyngom ers ichi ddechrau yn y swydd. Nawr—

Some Members maybe have just joined us in the Chamber. I am trying to avoid long goodbyes in this Chamber. I will get bored of people thanking themselves and wishing themselves well as the next few weeks go on. So, I'll just say it again: if we can wish us all the very best and thank us all for everything we've done, once and for all—I'll do it on all your behalf. Carry on. I know it was meant with the best intent. 

Efallai fod rhai Aelodau newydd ymuno â ni yn y Siambr. Rwy'n ceisio osgoi ffarwelio hirwyntog yn y Siambr. Byddaf yn diflasu ar bobl yn diolch i'w gilydd ac yn dymuno'n dda i'w gilydd wrth i'r wythnosau nesaf fynd heibio. Felly, rwy'n dweud eto: os gallwn ddymuno'r gorau i bob un ohonom a diolch i bob un ohonom am bopeth a wnaethom, unwaith ac am byth—fe wnaf hynny ar eich rhan chi i gyd. Parhewch. Rwy'n gwybod ei fod wedi'i ddweud gyda phob bwriad da.

You can carry on with your question, Cefin. I did interrupt others before you.

Gallwch barhau â'ch cwestiwn, Cefin. Fe dorrais ar draws eraill cyn i mi wneud hynny i chi.

Sori, wnes i ddim clywed hwnna. Diolch yn fawr iawn.

Sorry, I didn't hear that. Thank you very much.

Whether it be on recruitment or raising standards, if Estyn were to inspect the Welsh Government's performance on education over the past 27 years, I don't think anyone would be surprised if it were put in special measures. The latest annual report from Estyn highlighted, and I quote,

'a system that has been held back by inconsistency, mixed priorities'.

It said that the ongoing

'systemic weaknesses in literacy...must be addressed with urgency'.

Contrastingly, Plaid Cymru will deliver a bold, practical plan, boosting literacy and numeracy, improving teaching quality, strengthening the Curriculum for Wales, and giving every primary school a dedicated library. So, is it not the truth, Cabinet Secretary, that, after all this time, the bell is finally ringing on Welsh Labour's time in Government, and pupils and parents can't wait a second longer for a positive change to happen?

Boed ar recriwtio neu godi safonau, pe bai Estyn yn archwilio perfformiad Llywodraeth Cymru ar addysg dros y 27 mlynedd diwethaf, ni chredaf y byddai unrhyw un yn synnu pe bai'n cael ei gwneud yn destun mesurau arbennig. Tynnodd adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn sylw at

'system sydd wedi’i dal yn ôl gan anghysondeb, blaenoriaethau cymysg'.  

Dywedodd fod

'rhaid mynd i’r afael ar frys â gwendidau systemig mewn llythrennedd'.

Mewn cyferbyniad llwyr, bydd Plaid Cymru yn cyflwyno cynllun beiddgar ac ymarferol, gan hybu llythrennedd a rhifedd, gwella ansawdd addysgu, cryfhau Cwricwlwm Cymru, a rhoi llyfrgell bwrpasol i bob ysgol gynradd. Felly, onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl yr holl amser hwn, fod y gloch o’r diwedd yn canu ar gyfnod Llafur Cymru mewn Llywodraeth, ac na all disgyblion a rhieni aros eiliad yn hirach am newid cadarnhaol?

14:40

Thank you, Cefin. You started so nicely there—[Laughter.] I hope that the Llywydd will forgive me for saying 'thank you' to Cefin for his kind words. [Interruption.] I know, but we were all raised that way, to be polite, weren't we? [Interruption.] I'm not suggesting that. [Laughter.] I also thank you for your constructive engagement as well. 

You were there at the Estyn report launch and you heard me speak. I take what Estyn say to us very, very seriously. They highlighted strengths around things like well-being, our additional learning needs system, so strengths around inclusion, progress on curriculum implementation. I did obviously see what they said about inconsistencies and mixed priorities. That's why, as Minister, I have tried to be really clear with the sector about what the priorities are, because schools say to me, 'Tell us what you want to be the priorities, we can't do everything'. So, we've been clear—it's literacy, numeracy, inclusion and well-being, and I've fed that through to the sector very clearly. It's also in our guidance. I think they are very clear on that. 

I won't rehearse all the work that we're doing on literacy and numeracy, because I know that you are familiar with that, but you'll have seen in the written statement that was issued this week that one of the things we were conscious of is that there is a phenomenal amount of work going on, but it's not all set out in one place. So, I have announced, as well, that the Government is establishing an attainment board, which will focus on all that work, and make sure that all that work is aligned and joined up. 

Diolch, Cefin. Fe ddechreuoch chi mor garedig—[Chwerthin.] Rwy'n gobeithio y bydd y Llywydd yn maddau i mi am ddweud 'diolch' wrth Cefin am ei eiriau caredig. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, ond cawsom oll ein magu felly, i fod yn gwrtais, oni chawsom? [Torri ar draws.] Nid wyf yn awgrymu hynny. [Chwerthin.] Diolch i chi am eich ymgysylltiad adeiladol hefyd.

Roeddech yno yn lansiad adroddiad Estyn, ac fe wnaethoch fy nghlywed yn siarad. Rwy'n gyfan gwbl o ddifrif ynghylch yr hyn y mae Estyn yn ei ddweud wrthym. Fe wnaethant dynnu sylw at gryfderau mewn pethau fel lles, ein system anghenion dysgu ychwanegol, felly cryfderau o ran cynhwysiant, cynnydd ar weithredu'r cwricwlwm. Yn amlwg, gwelais yr hyn a ddywedasant ynglŷn ag anghysondebau a blaenoriaethau cymysg. Dyna pam fy mod, fel Gweinidog, wedi ceisio dweud yn glir iawn wrth y sector beth yw'r blaenoriaethau, gan fod ysgolion yn dweud wrthyf, 'Dywedwch wrthym beth hoffech chi eu gweld yn flaenoriaethau, ni allwn wneud popeth'. Felly, rydym wedi dweud yn glir—llythrennedd, rhifedd, cynhwysiant a llesiant, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn wrth y sector. Mae yn ein canllawiau hefyd. Rwy'n credu eu bod yn glir iawn ar hynny.

Nid wyf am ailadrodd yr holl waith a wnawn ar lythrennedd a rhifedd, gan y gwn eich bod yn gyfarwydd â hynny, ond byddwch wedi gweld yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yr wythnos hon mai un o'r pethau yr oeddem yn ymwybodol ohonynt yw bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, ond nid yw'r cyfan wedi'i nodi mewn un lle. Felly, rwyf wedi cyhoeddi hefyd fod y Llywodraeth yn sefydlu bwrdd cyrhaeddiad, a fydd yn canolbwyntio ar yr holl waith hwnnw, ac yn sicrhau bod yr holl waith yn gydnaws ac yn gydgysylltiedig.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Welsh Conservative spokesperson, Natasha Asghar. 

Thank you so much, Presiding Officer. Cabinet Secretary, we talk a lot about the ever-increasing workloads facing teachers and school staff, and how a lot of their time is being diverted away from their duties. This was really hammered home in a shocking recent survey carried out by NAHT Cymru looking at medical interventions in schools. Support staff and teachers are deeply concerned about the amount of medical interventions that are being required, inappropriately, to be carried out in the classroom.

Of the 339 people who took part in the survey, a staggering 92 per cent of them confirmed that they had to provide medical interventions on pupils. The most common interventions relate to mobility and personal care, such as toilet support at 83 per cent, followed by routine medical administrations, including insulin, at 80 per cent. More than half of the respondents said that staff do not receive sufficient training to deal with this sort of stuff, with 12 per cent saying they received no training whatsoever. 

This situation is leading to high levels of stress, anxiety and exhaustion. Morale is low. Sickness absence is rising, and burnout is a growing concern. One of the most startling comments submitted in this survey was that, some days, staff are changing 25 nappies per day, leaving them feeling worthless and not enjoying their job at all. Cabinet Secretary, this situation, I'm sure you'll agree, is untenable. Whilst I appreciate time is running out for this Government to act, and this will be a serious issue for the next Government to tackle, how has this been allowed to happen in this education system?

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn aml yn sôn am y llwyth gwaith cynyddol sy'n wynebu athrawon a staff ysgolion, a sut y mae llawer o'u hamser yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth eu dyletswyddau. Pwysleisiwyd hyn mewn arolwg diweddar brawychus a gynhaliwyd gan NAHT Cymru a edrychai ar ymyriadau meddygol mewn ysgolion. Mae staff cymorth ac athrawon yn bryderus iawn ynghylch faint o ymyriadau meddygol y mae angen eu cynnal, yn amhriodol, yn yr ystafell ddosbarth.

O'r 339 o bobl a gymerodd ran yn yr arolwg, cadarnhaodd nifer aruthrol ohonynt, 92 y cant, fod yn rhaid iddynt ddarparu ymyriadau meddygol i ddisgyblion. Mae'r ymyriadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â symudedd a gofal personol, fel cymorth i fynd i'r toiled ar 83 y cant, a darparu meddyginiaeth gyffredin, gan gynnwys inswlin, ar 80 y cant. Dywedodd mwy na hanner yr ymatebwyr nad yw staff yn cael digon o hyfforddiant i wneud pethau o'r fath, gyda 12 y cant yn dweud nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant o gwbl.

Mae'r sefyllfa hon yn arwain at lefelau uchel o straen, gorbryder a blinder. Mae morâl yn isel. Mae absenoldeb oherwydd salwch ar gynnydd, ac mae diffygiad yn bryder cynyddol. Un o'r sylwadau mwyaf syfrdanol a gyflwynwyd yn yr arolwg oedd bod staff, ar rai dyddiau, yn newid 25 o gewynnau bob dydd, gan eu gadael yn teimlo'n ddiwerth a heb fod yn mwynhau eu swyddi o gwbl. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y sefyllfa hon yn anghynaliadwy. Er fy mod yn sylweddoli bod amser yn brin i'r Llywodraeth hon weithredu, ac y bydd hwn yn fater o bwys i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag ef, sut y caniatawyd i hyn ddigwydd yn y system addysg hon?

Thank you very much, Natasha. You'll have heard me talk many times, not just in this Chamber, but in committee, about societal issues that are landing in schools. Schools are carrying the baby on lots and lots of issues that they didn't have to deal with before. That is a really serious issue. It's one I've taken recently to Cabinet. It's not just about medical interventions. It's about the fact that children are starting school with no language. We need to tackle things like that as well, otherwise they will not be able to learn to read. 

In terms of the medical interventions, that has been something that I have been deeply concerned about, because I've spoken to teaching assistants who've told me the work that they are doing. Actually, changing nappies is the least of it. Some of them are doing tube feeding, changing catheters, and things like that. That is a very serious issue that we've been working on with our trade union colleagues. I do want to take this opportunity to pay tribute to all our support staff in schools who do this work day in, day out, but we need to do more to support them.

We do recognise as a Government that this is a serious issue. That's why we have been working across education and health to address this issue. We have requested—and a letter has gone out from the chief nursing officer to all health boards—further information and clarity on this issue. A similar letter has gone to all local authorities in Wales, and we expect to issue a statement of policy in April. That will be ahead of developing fuller, integrated guidance on the interaction between health and education, which, because of the nature of it, will have to be subject to a consultation and therefore will have to come after the election. But I do recognise the seriousness of these issues and we are acting to tackle them.

Diolch yn fawr, Natasha. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn sôn sawl gwaith, nid yn unig yn y Siambr hon, ond yn y pwyllgor, am faterion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg mewn ysgolion. Mae ysgolion yn gorfod delio â llawer iawn o faterion nad oeddent yn arfer gorfod delio â nhw. Mae hynny'n fater difrifol iawn. Mae'n un a godais yn y Cabinet yn ddiweddar. Mae'n ymwneud â mwy nag ymyriadau meddygol yn unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod plant yn dechrau yn yr ysgol heb iaith. Mae angen inni fynd i'r afael â phethau felly hefyd, neu fel arall, ni fyddant yn gallu dysgu darllen.

O ran yr ymyriadau meddygol, mae hynny wedi bod yn rhywbeth y bûm yn bryderus iawn yn ei gylch, gan fy mod wedi siarad â chynorthwywyr addysgu sydd wedi sôn wrthyf am y gwaith a wnânt. Mewn gwirionedd, crib y rhewfryn yw newid clytiau. Mae rhai ohonynt yn bwydo pobl drwy diwbiau, yn newid cathetrau a phethau felly. Mae hwnnw'n fater difrifol iawn y buom yn gweithio arno gyda'n cymheiriaid yn yr undebau llafur. Hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'n holl staff cymorth mewn ysgolion sy'n gwneud y gwaith hwn byth a beunydd, ond mae angen inni wneud mwy i'w cefnogi.

Rydym ni fel Llywodraeth yn cydnabod bod hwn yn fater difrifol. Dyna pam ein bod wedi bod yn gweithio ar draws addysg ac iechyd i fynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi gofyn—ac mae llythyr wedi'i anfon gan y prif swyddog nyrsio at bob bwrdd iechyd—am ragor o wybodaeth ac eglurder ar y mater hwn. Mae llythyr tebyg wedi'i anfon at bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi datganiad polisi ym mis Ebrill. Bydd hynny cyn datblygu canllawiau mwy cyflawn, integredig ar y rhyngweithio rhwng iechyd ac addysg, a fydd, oherwydd ei natur, yn destun ymgynghoriad, ac felly bydd yn rhaid iddo ddod ar ôl yr etholiad. Ond rwy'n cydnabod difrifoldeb y materion hyn ac rydym yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â nhw.

14:45

Thanks for your response, Cabinet Secretary. What I just mentioned is one of the ever-growing list of problems plaguing our education system. And, to be clear, this is by no means a reflection of those, as you said, who are working tirelessly within our schools to give our children the best possible start in life. At the heart of the problem when it comes to education is the Labour Government, and all Labour Governments that have indeed resided over Wales over the past 27 years. Behind all of the failed policies, flawed decisions or inaction over the years when it comes to education, you will find either a Labour politician or, indeed, if you look at the past Senedd term, a Lib Dem politician. Cabinet Secretary, this is the last time you and I are going to be going head to head before dissolution, so I think it's a perfect opportunity to look back at the Government's record when it comes to education. Consider this your final exam: Cabinet Secretary, how would you rate your Government's performance when it comes to education over this Senedd term?

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf newydd grybwyll un o'r rhestr gynyddol o broblemau sy'n bla ar ein system addysg. Ac i fod yn glir, fel y dywedoch chi, nid yw'n adlewyrchiad o bell ffordd o'r rheini sy'n gweithio'n ddiflino yn ein hysgolion i roi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'n plant. Wrth wraidd y broblem o ran addysg mae'r Llywodraeth Lafur, a phob Llywodraeth Lafur sydd wedi llywyddu dros Gymru dros y 27 mlynedd diwethaf. Y tu ôl i'r holl bolisïau aflwyddiannus, penderfyniadau diffygiol neu ddiffyg gweithredu dros y blynyddoedd o ran addysg, fe welwch naill ai wleidydd Llafur, neu'n wir, os edrychwch ar dymor y Senedd ddiwethaf, gwleidydd o blith y Democratiaid Rhyddfrydol. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma'r tro olaf i chi a mi fynd benben â'n gilydd cyn diddymu'r Llywodraeth, felly credaf ei fod yn gyfle perffaith i edrych yn ôl ar hanes y Llywodraeth o ran addysg. Meddyliwch amdano fel arholiad terfynol: Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddech chi'n graddio perfformiad eich Llywodraeth ar addysg dros dymor y Senedd hon?

Well, I'm not going to agree to be put in an exam by you, Natasha. [Laughter.] I just want to be clear about that. I have set out in my answer to Cefin that there is more work that we need to do, but there are really strong signs of progress in terms of attainment. In areas like well-being, we have a really good story to tell. We are head and shoulders ahead of other UK nations on our approach to supporting the mental health and well-being of children in schools, and actually we're ahead of the game on things like inclusion as well. I'm not the kind of person who blows my own trumpet, so, if I was going to give you that assessment, I would say that there has been good progress, but there is more work to do.

Wel, nid wyf am gytuno i gael fy rhoi mewn arholiad gennych chi, Natasha. [Chwerthin.] Hoffwn nodi hynny'n glir. Rwyf wedi nodi yn fy ateb i Cefin fod mwy o waith y mae angen i ni ei wneud, ond mae arwyddion cryf iawn o gynnydd o ran cyrhaeddiad. Mewn meysydd fel lles, mae gennym hanes da iawn. Rydym ben ac ysgwyddau ar y blaen i wledydd eraill y DU gyda'n dull o gefnogi iechyd meddwl a lles plant mewn ysgolion, ac mewn gwirionedd, rydym ar y blaen ar bethau fel cynhwysiant hefyd. Nid wyf yn unigolyn sy'n canu fy nghlodydd fy hun, felly pe bawn yn rhoi'r asesiad hwnnw i chi, buaswn yn dweud bod cynnydd da wedi bod, ond fod mwy o waith i'w wneud.

Thank you very much, Cabinet Secretary, for your response. I'll give you full marks for creativity in your response. In stark contrast to the nice, fluffy fairytale you just gave me, let's take a look at what's really going on here in Wales across schools and colleges. We have: Wales at rock bottom in international education rankings; a teacher recruitment and retention crisis that shows no sign of letting up; a failure to close the attainment gap between children from poorer households than their peers; violence in classrooms continuing to rise; 20 per cent of children leaving primary school functionally illiterate; a discredited method of teaching children to read being pushed into our schools—and I am thrilled to see, with the Welsh Conservatives pushing on that, there is indeed now more of an opportunity for the system of phonics to be coming into the education system; we have worryingly low maths standards; we have inconsistent teaching quality, particularly in secondary schools; an incredibly flawed curriculum being forced onto our children in schools; attendance levels still convincingly below pre-pandemic levels; and money being wasted on pointless projects such as an anti-racism virtual world for use in colleges—whatever that is. Put simply, Labour has left Wales with the worst educational outcomes in the UK. There is no iffing and butting about it. So, Cabinet Secretary, in light of what I've just outlined, are you proud of what you and your predecessors have done to our education system over the past 27 years?

Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n rhoi marciau llawn i chi am greadigrwydd eich ymateb. Mewn cyferbyniad llwyr â'r stori dylwyth teg benchwiban rydych chi newydd ei rhoi i mi, gadewch inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru ar draws ysgolion a cholegau. Dyma'r sefyllfa: mae Cymru ar waelod y tablau addysg rhyngwladol; mae gennym argyfwng recriwtio a chadw athrawon nad yw'n dangos unrhyw arwydd o wella; methiant i gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gartrefi tlotach a'u cyfoedion; trais mewn ystafelloedd dosbarth yn parhau i gynyddu; mae 20 y cant o blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn ymarferol anllythrennog; dull o ddysgu plant i ddarllen sydd wedi'i danseilio'n cael ei hybu yn ein hysgolion—ac rwy'n falch iawn o weld, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwthio ar hynny, fod mwy o gyfle bellach i'r system ffoneg ddod i mewn i'r system addysg; safonau mathemateg sy'n warthus o isel; ansawdd addysgu anghyson, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd; cwricwlwm anhygoel o ddiffygiol yn cael ei orfodi ar ein plant mewn ysgolion; lefelau presenoldeb sy'n dal i fod yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig; ac arian yn cael ei wastraffu ar brosiectau dibwynt fel byd rhithiol gwrth-hiliol i'w ddefnyddio mewn colegau—beth bynnag yw hwnnw. Yn syml, mae Llafur wedi gadael Cymru gyda'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn y DU. Nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei amlinellu, a ydych chi'n falch o'r hyn rydych chi a'ch rhagflaenwyr wedi'i wneud i'n system addysg dros y 27 mlynedd diwethaf?

You mentioned a range of issues there, Natasha. If I can just pick up on a few of those, recruitment and retention is not a problem that is unique to Wales. It is a worldwide challenge in terms of recruiting and retaining teachers. We are taking a myriad actions to tackle these challenges, particularly in the areas where we've got the most acute shortages, including in Welsh medium, where we have got a whole plethora of issues that we are taking forward.

We have made progress on attendance, and that is due as well to our very significant investment in things like family engagement officers, who are doing the hard yards, working with families in a really granular way to tackle the barriers to coming to school.

You've referred to the work on literacy. I'm hoping that you were in the committee this morning when you had the presentation on CAL:ON. I wanted to take this opportunity to thank the literacy expert panel for their work. It was very important for me, as someone who's not an educator herself, to listen to the evidence of experts on this. On early reading, we cannot be clearer—systematic synthetic phonics is an important aspect of reading instruction, alongside other skills to make sure that children can understand what they're reading and can read fluently. We've been clear as well that learners should not be encouraged to guess how to read words by using cues or pictures. And I'm surprised that you are claiming credit for that, because you went on the Sunday Politics Wales show on 6 November and said, 'In some respects, some children, they do need cueing, and I'm not going to completely negate cueing at all for some children who need it'. So, maybe the lesson here for you from this particular class is that you need to pay more attention as well. [Laughter.]

Fe sonioch chi am amryw o bethau, Natasha. Os caf sôn am ychydig ohonynt, nid yw recriwtio a chadw athrawon yn broblem sy'n unigryw i Gymru. Mae recriwtio a chadw athrawon yn her fyd-eang. Rydym wedi rhoi llu o gamau ar waith i fynd i'r afael â'r heriau hyn, yn enwedig yn y meysydd lle mae gennym y prinder mwyaf difrifol, gan gynnwys ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae gennym lu o faterion yr awn i'r afael â hwy.

Rydym wedi gwneud cynnydd ar lefelau presenoldeb, ac mae hynny hefyd oherwydd ein buddsoddiad sylweddol iawn mewn pethau fel swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, sy'n gwneud y gwaith caled, gan weithio gyda theuluoedd mewn ffordd fanwl iawn i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant rhag mynychu'r ysgol.

Fe gyfeirioch chi at y gwaith ar lythrennedd. Rwy'n gobeithio eich bod yn y pwyllgor y bore yma pan gawsoch y cyflwyniad ar CAL:ON. Roeddwn am achub ar y cyfle i ddiolch i'r panel arbenigol ar lythrennedd am eu gwaith. Fel rhywun nad yw'n addysgwr ei hun, roedd yn bwysig iawn i mi wrando ar dystiolaeth arbenigwyr ar hyn. Ar ddarllen cynnar, ni allwn fod yn gliriach—mae ffoneg synthetig systematig yn agwedd bwysig ar addysgu darllen, ochr yn ochr â sgiliau eraill i sicrhau y gall plant ddeall yr hyn y maent yn ei ddarllen a'u bod yn gallu darllen yn rhugl. Rydym wedi dweud yn glir hefyd na ddylid annog dysgwyr i ddyfalu sut i ddarllen geiriau drwy ddefnyddio ciwiau neu luniau. Ac rwy'n synnu eich bod yn hawlio'r clod am hynny, gan i chi ddweud ar raglen Sunday Politics Wales ar 6 Tachwedd, 'I ryw raddau, mae angen ciwio ar rai plant, ac nid wyf am warafun ciwio'n gyfan gwbl i'r plant sydd ei angen'. Felly, efallai mai'r wers yma i chi o'r dosbarth penodol hwn yw bod angen i chithau dalu mwy o sylw hefyd. [Chwerthin.]

14:50
Deilliannau Addysgol yn Nwyrain De Cymru
Educational Outcomes in South Wales East

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol yn Nwyrain De Cymru? OQ63920

3. What action is the Welsh Government taking to improve educational outcomes in South Wales East? OQ63920

Across South Wales East, we are working with local authorities to improve outcomes through sustained capital investment, the Curriculum for Wales, additional learning needs reform and high-quality teaching. We are directing funding to strengthen literacy and numeracy, tackle the poverty attainment gap, and improve attendance.

Ar draws Dwyrain De Cymru, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella canlyniadau drwy fuddsoddiad cyfalaf cynaliadwy, y Cwricwlwm i Gymru, diwygio anghenion dysgu ychwanegol ac addysgu o ansawdd uchel. Rydym yn cyfeirio cyllid i gryfhau llythrennedd a rhifedd, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad tlodi, a gwella presenoldeb.

Cabinet Secretary, the Welsh Government should be ashamed of itself that Wales lies at the bottom of nearly every education league table out there. It is an appalling state of affairs, including PISA, as has already been said. There can be many things responsible for this—poor leadership, moving away from knowledge-based learning, bad attendance, not addressing ALN head on. But also, one of the other factors that we know about, of course, is violence and behaviour in our classrooms. It's been three years since I put forward a five-point plan in this Chamber to the Welsh Government, addressing behavioural issues and violence in schools. In fact, I was the first to highlight it.

I'm very grateful that you listened to me on the need for a summit—although it's a shame not to have been invited to it at the time—and that the guidance, of course, for schools was updated. It's disappointing that the Welsh Government did not heed the rest of my advice, though, because you have not got to grips with this. It's resulted in a violence and behaviour crisis in schools across Wales, with another incident only happening a few days ago. Forty per cent of young people have witnessed violence or disruptive or abusive behaviour in our classrooms. It is not good enough. You have not tackled this head on, and you're not doing what's necessary. It is adversely affecting educational outcomes in south-east Wales and across Wales. When is this Government going to roll up its sleeves and take the hard, necessary action that is needed to stop violence and behavioural issues in our classrooms? Diolch.

Ysgrifennydd y Cabinet, dylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd fod Cymru ar waelod bron i bob tabl addysg. Mae'n sefyllfa enbyd, gan gynnwys PISA, fel y dywedwyd eisoes. Gall llawer o bethau fod yn gyfrifol am hyn—arweinyddiaeth wael, ymbellhau oddi wrth ddysgu sy'n seiliedig ar wybodaeth, presenoldeb gwael, methiant i fynd i'r afael ag ADY yn uniongyrchol. Ond hefyd, un o'r ffactorau eraill y gwyddom amdanynt, wrth gwrs, yw trais ac ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae tair blynedd wedi bod ers imi gyflwyno cynllun pum pwynt yn y Siambr hon i Lywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad a thrais mewn ysgolion. Mewn gwirionedd, fi oedd y cyntaf i dynnu sylw at hyn.

Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gwrando arnaf o ran yr angen am uwchgynhadledd—er ei bod yn drueni na chefais fy ngwahodd iddi ar y pryd—a bod y canllawiau ar gyfer ysgolion, wrth gwrs, wedi'u diweddaru. Mae'n siomedig na wrandawodd Llywodraeth Cymru ar weddill fy nghyngor, serch hynny, gan nad ydych wedi llwyddo i fynd i'r afael â hyn. Mae wedi arwain at argyfwng trais ac ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru, gyda digwyddiad arall ychydig ddyddiau yn ôl yn unig. Mae 40 y cant o bobl ifanc wedi gweld trais neu ymddygiad aflonyddol neu gamdriniol yn ein hystafelloedd dosbarth. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid ydych wedi mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, ac nid ydych yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol. Mae'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau addysgol yn ne-ddwyrain Cymru a ledled Cymru. Pryd fydd y Llywodraeth yn torchi ei llewys ac yn cymryd y camau caled, angenrheidiol sydd eu hangen i atal trais a phroblemau ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth? Diolch.

Thank you, Laura. I suppose I shouldn't be surprised that you are not up to date with our work in this space, given that, when you were the sole Reform Member, you declined the opportunity to serve on the Children, Young People and Education Committee, so concerned were you about these issues. And if I can say, about our behaviour summit, I'm afraid to say that was absolutely nothing to do with you. That was something that was discussed with our trade union partners, and we organised it on the back of that. I set out five actions from that behaviour summit, and we are taking action on every one of them. There is so much action I could take up the next hour talking about what we are doing on behaviour.

Diolch, Laura. Mae'n debyg na ddylwn synnu nad ydych chi'n ymwybodol o'n gwaith diweddaraf yn y maes hwn, o ystyried, pan oeddech chi'n unig Aelod Reform, eich bod wedi gwrthod y cyfle i wasanaethu ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chithau mor bryderus ynglŷn â’r materion hyn. Ac os caf ddweud, o ran ein huwchgynhadledd ymddygiad, mae arnaf ofn nad oedd hynny'n ddim o gwbl i'w wneud â chi. Roedd hynny'n rhywbeth a drafodwyd gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, ac fe'i trefnwyd gennym ar sail hynny. Nodais bum cam gweithredu o'r uwchgynhadledd ymddygiad honno, ac rydym yn gweithredu ar bob un ohonynt. Mae cymaint o weithredu'n digwydd, gallwn dreulio'r awr nesaf yn siarad ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud ar ymddygiad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

But if I can just say to you on the issue of violence in schools, I want all our schools to be safe places for our learners—[Interruption.] Are you going to listen, because maybe if you listened, you would actually learn—[Interruption.] If you listened, you might actually learn something. If I can finish, and you can listen to what I am saying, we are taking a wide range of actions to tackle challenges with behaviour. The really important thing with behaviour is early intervention and that we don't let problems escalate. But on the issue of violence in schools, obviously, it was devastating to hear about the most recent incident in Milford Haven. My heart goes out to the teacher and the staff in the school who were affected, and we have offered our support to the school, and we stand ready with any additional support that they need, just as we provided in the situation with Ysgol Dyffryn Aman.

We have recently announced that Cardiff Council have created a guidance document on tackling weapons in schools. We have recently announced funding for Cardiff to lead on similar guidance for the rest of the schools in Wales. Now, when I read the guidance, I was very reassured by it, because I think information is power, and what we don't want is for school staff to suddenly be confronted with a situation without having any idea how to handle it. So, I think that guidance rolled out across the rest of Wales, taking account of individual circumstances, will help staff in schools, and learners, to feel more safe. And we are funding that guidance, that work for Cardiff to do.

But I've also recently announced £500,000 this year and a further £1 million next year to develop a new schools programme, working with the police. That won’t be like the old police schools programme, which was focused on substance misuse. This will be built around our community-focused schools approach. Headteachers have said to me they really valued that contact with the police. So, we are taking a wide range of actions. There is no silver bullet in behaviour. You have to do all of those things. We have been doing the hard yards for a long time, and I'm sorry to tell you it has been nothing to do with you.

Ond os caf ddweud wrthych, ar fater trais mewn ysgolion, rwyf am i'n holl ysgolion fod yn lleoedd diogel i'n dysgwyr—[Torri ar draws.] A ydych chi'n mynd i wrando, oherwydd efallai, pe baech chi'n gwrando, y byddech chi'n dysgu, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Pe baech chi'n gwrando, efallai y byddech chi'n dysgu rhywbeth. Os caf orffen, a gallwch wrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud, rydym yn rhoi ystod eang o gamau ar waith i fynd i'r afael â heriau ymddygiad. Y peth pwysig iawn gydag ymddygiad yw ymyrraeth gynnar a pheidio â gadael i broblemau waethygu. Ond ar fater trais mewn ysgolion, yn amlwg, roedd yn ofnadwy clywed am y digwyddiad diweddaraf yn Aberdaugleddau. Rwy'n cydymdeimlo â'r athro a'r staff yn yr ysgol a gafodd eu heffeithio, ac rydym wedi cynnig ein cymorth i'r ysgol, ac rydym yn barod gydag unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt, yn union fel y gwnaethom ei ddarparu yn y sefyllfa yn Ysgol Dyffryn Aman.

Rydym wedi cyhoeddi'n ddiweddar fod Cyngor Caerdydd wedi creu dogfen arweiniad ar fynd i'r afael ag arfau mewn ysgolion. Rydym wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i Gaerdydd arwain ar ganllawiau tebyg ar gyfer gweddill ysgolion Cymru. Nawr, pan ddarllenais y canllawiau, cefais lawer o sicrwydd ganddynt, gan mai gorau arf, dysg, yn fy marn i, a'r hyn nad ydym ei eisiau yw i staff ysgolion orfod wynebu sefyllfa'n fwyaf sydyn heb unrhyw syniad sut i ddelio â hi. Felly, rwy'n credu y bydd cyflwyno'r canllawiau hynny ledled gweddill Cymru, gan ystyried amgylchiadau unigol, yn helpu staff a dysgwyr mewn ysgolion i deimlo'n fwy diogel. Ac rydym yn ariannu'r canllawiau hynny, y gwaith hwnnw i Gaerdydd ei wneud.

Ond yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cyhoeddi £500,000 eleni a £1 filiwn arall y flwyddyn nesaf i ddatblygu rhaglen ysgolion newydd, gan weithio gyda'r heddlu. Ni fydd fel hen raglen ysgolion yr heddlu, a oedd yn canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd hon wedi'i hadeiladu o amgylch ein dull ysgolion bro. Mae penaethiaid wedi dweud wrthyf eu bod yn gwerthfawrogi'r cyswllt hwnnw gyda'r heddlu'n fawr. Felly, rydym yn gwneud ystod eang o bethau. Nid oes ateb syml o ran ymddygiad. Rhaid ichi wneud yr holl bethau hynny. Rydym wedi bod yn gwneud y gwaith caled ers amser maith, ac mae’n ddrwg gennyf ddweud wrthych nad oedd ganddo ddim i'w wneud â chi.

14:55

Cabinet Secretary, earlier today I attended a Senedd event organised by Walk Wheel Cycle Trust Cymru, where we heard from teachers and pupils of the benefits in the classroom where children walk, cycle or scoot to school. They explained it has led to better concentration levels, and having a period of movement before lessons meant children were able to start their school day better able to learn, more ready to learn. Given lots of families, especially those with primary-aged children, live in walking distance of their local schools, such as Undy primary in Newport East, where the vast majority of children start their day by walking to school, will you work with charities such as Walk Wheel Cycle Trust Cymru to spread these benefits across south-east Wales?

Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach heddiw, bûm mewn digwyddiad yn y Senedd a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru, lle clywsom gan athrawon a disgyblion am y manteision yn yr ystafell ddosbarth lle mae plant yn cerdded, yn beicio neu'n sgwtio i'r ysgol. Fe wnaethant egluro bod hynny wedi arwain at lefelau canolbwyntio gwell, a bod cael cyfnod o symud cyn gwersi'n golygu bod plant yn gallu dechrau eu diwrnod ysgol gyda gwell gallu i ddysgu, yn fwy parod i ddysgu. O ystyried bod llawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai â phlant oedran cynradd, yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgolion lleol, fel ysgol gynradd Gwndy yn Nwyrain Casnewydd, lle mae'r mwyafrif helaeth o blant yn dechrau eu diwrnod drwy gerdded i'r ysgol, a wnewch chi weithio gydag elusennau fel Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio Cymru i ledaenu'r manteision hyn ledled de-ddwyrain Cymru?

Thank you very much, John. I know that you're very enthusiastic about physical activity, and I think the points you make about active travel are really important. We know that, in lots of cases, people do live very close to the school but don't choose sometimes to walk or to cycle. So, I will look at the organisation you’ve referred to, and, if I can say as well, you make a very important point about the impact of physical activity on children's ability to be able to self-regulate in school. I see that in our new school buildings as well, which are more spacious, and teachers tell me, you know, as they've got breakout areas so that people have got the space to move around, that that helps with self-regulation and it helps with behaviour.

Diolch yn fawr, John. Gwn eich bod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â gweithgarwch corfforol, a chredaf fod y pwyntiau a wnewch ynglŷn â theithio llesol yn bwysig iawn. Mewn llawer o achosion, gwyddom fod pobl yn byw'n agos iawn at yr ysgol ond nad ydynt yn dewis cerdded neu feicio weithiau. Felly, byddaf yn edrych ar y sefydliad y cyfeirioch chi ato, ac os caf ddweud hefyd, rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn ag effaith gweithgarwch corfforol ar allu plant i allu hunanreoleiddio yn yr ysgol. Rwy'n gweld hynny yn ein hadeiladau ysgol newydd hefyd, sy'n fwy o faint, ac mae athrawon yn dweud wrthyf, gan fod ganddynt ardaloedd ymneilltuo fel bod gan bobl le i symud o gwmpas, fod hynny'n helpu gyda hunanreoleiddio ac yn helpu gydag ymddygiad.

Ysgolion Bach
Small Schools

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru parthed ysgolion bach? OQ63936

4. Will the Cabinet Secretary make a statement on the Welsh Government's policy regarding small schools? OQ63936

I know how important schools are to small and rural communities. The school organisation code sets out the processes local authorities must follow when making proposals to alter, close or open a school. This includes small and rural schools.

Gwn pa mor bwysig yw ysgolion i gymunedau bach a gwledig. Mae'r cod trefniadaeth ysgolion yn nodi'r prosesau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth wneud cynigion i newid, cau neu agor ysgol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion bach a gwledig.

Mae fy etholaeth i yn cynnwys nifer o ysgolion bach, rhai ohonyn nhw mewn ardaloedd hynod o wledig, ond mae rhai ohonyn nhw mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, ac ar hyn o bryd does dim ystyriaeth yn y cod trefniadaeth ysgolion i ysgolion bychain sydd ddim yn cwympo o dan warchodaeth y rhestr wledig—er enghraifft, ysgol Pontiets. Mae hynny'n golygu wedyn nad ydyn nhw'n gallu dibynnu ar y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol sydd wedi'i gosod yn y cod, er bod y traweffaith ar y gymuned yn un debyg iawn i'r sefyllfa mewn cymunedau gwledig. Mae yn esiampl hefyd yn ddiweddar lle mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu ymchwilio i effaith cau ysgol fach, sy'n awgrymu bod yna ddiffyg yn y broses o ran hynny. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ystyried addasu'r cod trefniadaeth i adlewyrchu'r sefyllfa ar lawr gwlad—y ffaith bod rhai disgyblion mewn ysgolion sydd ddim yn wledig ond sydd yn fach—a chryfhau, ar yr un pryd, y prosesau, cyn belled ag y mae'r cod yn y cwestiwn, ynghylch y traweffaith o ran yr iaith Gymraeg?

My constituency includes a number of small schools, some of them in deeply rural areas, but some of them are in post-industrial communities, and, at present, no consideration is given in the school organisation code to small schools that don't come under the safeguards of the rural list—for example, Pontiets school—which means that they can't depend on the presumption against closure of a school as set out in the code, even though the impact on the community is very similar to the situation in rural areas. There was an example recently where the Welsh Language Commissioner decided to investigate the impact of the closure of a small school, which suggests that there was a lack or deficiency in that process. So, will the Government consider adapting the code to reflect the situation on the ground—the fact that some pupils are in schools that aren't rural but are small schools—and to strengthen, at the same time, the processes, as far as the code is in question, with regard to the impact on the Welsh language?

15:00

Thank you very much, Adam, for that question. I'm aware that Carmarthenshire County Council have taken the decision on Ysgol Llansteffan today. It is quite a complex situation, because the legislation governing small schools is in primary legislation. So, if there were to be any change to that, that would have to be undertaken in primary legislation. However, if the school is a small school and a rural school, the proposer should still comply with all aspects of the legislation and code that relate to closing a rural school, e.g. in maintaining the presumption against closure, identifying reasonable alternatives, taking into account the factors set out in the code et cetera. And you'll be aware that I'm unable to comment on the merits or otherwise of any local authority proposals that may later be referred to Ministers for determination.

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Adam. Rwy'n ymwybodol fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad ynghylch Ysgol Llansteffan heddiw. Mae'n sefyllfa eithaf cymhleth, oherwydd mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu ysgolion bach yn ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, pe bai unrhyw newid i hynny, byddai'n rhaid gwneud hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, os yw'r ysgol yn ysgol fach ac yn ysgol wledig, dylai'r cynigydd barhau i gydymffurfio â phob agwedd ar y ddeddfwriaeth a'r cod sy'n ymwneud â chau ysgol wledig, er enghraifft drwy gynnal y rhagdybiaeth yn erbyn cau, nodi dewisiadau amgen rhesymol, gan ystyried y ffactorau a nodir yn y cod ac ati. Ac fe fyddwch chi'n gwybod na allaf wneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynigion awdurdod lleol a allai gael eu cyfeirio at Weinidogion i'w penderfynu yn nes ymlaen.

Can I put on record my sadness at the closure announced today of Ysgol Llansteffan in my constituency? However, I want to focus on two schools in my constituency. Firstly, Stepaside, which is being earmarked for closure, even though it's a very modern site in Kilgetty. I wonder if the Cabinet Secretary is aware of that, and if there's any future use being determined for that site in Kilgetty. And, secondly, Manorbier school, a school I've raised a number of times on the floor of this Senedd, which suffered a fire in late 2024. Promises of rebuilding that school by two council leaders in Pembrokeshire have fallen flat and now it's being earmarked for closure. This poor school is being earmarked for closure off the back of a fire that was not its fault, putting staff, pupils and the wider family of that school in a really difficult position. I'm just wondering if, Cabinet Secretary, the local authority have spoken with you or your team around Manorbier school, because there are still so many questions unanswered with regard to the insurance money for that school, which should have been available to them following the fire. They're in a really difficult circumstance. Has the local authority discussed Manorbier school with you at all?

A gaf i gofnodi fy nhristwch ynglŷn â'r cyhoeddiad heddiw ynghylch cau Ysgol Llansteffan yn fy etholaeth i? Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar ddwy ysgol yn fy etholaeth. Yn gyntaf, Stepaside, a glustnodwyd ar gyfer ei chau, er ei fod yn safle modern iawn yng Nghilgeti. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o hynny, ac a oes unrhyw ddefnydd wedi'i benderfynu ar gyfer y safle hwnnw yng Nghilgeti yn y dyfodol. Ac yn ail, ysgol Maenorbŷr, ysgol y soniais amdani sawl gwaith ar lawr y Senedd hon, a ddioddefodd dân ar ddiwedd 2024. Ni chafodd addewidion ynghylch ailadeiladu'r ysgol honno gan ddau arweinydd cyngor yn sir Benfro mo'u gwireddu a bellach mae wedi'i chlustnodi i'w chau. Mae'r ysgol hon wedi'i chlustnodi i'w chau oherwydd tân nad oedd yn fai arni hi, gan roi staff, disgyblion a theulu ehangach yr ysgol honno mewn sefyllfa anodd iawn. Rwy'n meddwl tybed a yw'r awdurdod lleol wedi siarad â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, neu eich tîm ynghylch ysgol Maenorbŷr, oherwydd mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb o hyd ynglŷn â'r arian yswiriant ar gyfer yr ysgol honno, a ddylai fod ar gael iddynt yn dilyn y tân. Maent mewn sefyllfa anodd iawn. A yw'r awdurdod lleol wedi trafod ysgol Maenorbŷr gyda chi o gwbl?

Thank you, Samuel, for that question. I have not personally had any discussions with the local authority about the school. My officials may have, but I haven't. School closure proposals are a matter for local authorities, and you'll be aware that, in certain circumstances, those decisions can come in to Welsh Ministers for determination, which is why it's not appropriate for me to comment on the particular issues. If you'd like to write to me about things like the insurance matters, I'd be very happy to follow that up with my officials.

Diolch am y cwestiwn, Samuel. Nid wyf i'n bersonol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r awdurdod lleol am yr ysgol. Efallai fod fy swyddogion wedi cael trafodaethau o'r fath, ond ni chefais i. Mater i awdurdodau lleol yw cynigion ynghylch cau ysgolion, ac fe fyddwch chi'n gwybod y gall y penderfyniadau hynny ddod i Weinidogion Cymru i'w penderfynu mewn rhai amgylchiadau, a dyna pam nad yw'n briodol imi wneud sylwadau ar y materion penodol hyn. Os hoffech ysgrifennu ataf am bethau fel y materion yswiriant, rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd hynny gyda fy swyddogion.

Over the term of this Senedd, what we have seen in Powys is the Liberal Democrats closing a number of small primary schools across my constituency. It's quite ironic considering the previous Liberal Democrat Member for that constituency, who was based here, brought in the small schools code. What I'm concerned about is that that code doesn't actually provide protection for those small schools. So, will you, Cabinet Secretary, commit to reviewing that small schools code to make sure it does actually protect our small schools, because, as it currently stands, it doesn't protect anybody? It actually seems as an enabler to closing a lot of small schools across places in my constituency and across other parts of Powys.

Dros dymor y Senedd hon, ym Mhowys gwelsom y Democratiaid Rhyddfrydol yn cau nifer o ysgolion cynradd bach ar draws fy etholaeth. Mae'n eithaf eironig o ystyried mai Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr etholaeth honno yma a gyflwynodd y cod ysgolion bach. Rwy'n pryderu nad yw'r cod hwnnw'n darparu amddiffyniad i'r ysgolion bach hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cod ysgolion bach i wneud yn siŵr ei fod yn diogelu ein hysgolion bach mewn gwirionedd, oherwydd fel y mae ar hyn o bryd, nid yw'n diogelu neb? Mewn gwirionedd, mae i'w weld yn hwyluso'r broses o gau llawer o ysgolion bach ar draws fy etholaeth i, ac ar draws rhannau eraill o Bowys.

Thank you, James. Well, the protections that Kirsty Williams brought in when she was Minister were around rural schools rather than small schools, and as I just said in response to Adam Price, the provision for small schools is set out in primary legislation, and any changes to that would involve new primary legislation. But I think everybody's heard what you've said. Obviously, any review on this would be a matter for any incoming Government.

Diolch, James. Wel, roedd yr amddiffyniadau a gyflwynodd Kirsty Williams pan oedd hi'n Weinidog yn ymwneud ag ysgolion gwledig yn hytrach nag ysgolion bach, ac fel y dywedais mewn ymateb i Adam Price, mae'r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion bach wedi'i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, a byddai unrhyw newidiadau i hynny'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd. Ond rwy'n credu bod pawb wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud. Yn amlwg, byddai unrhyw adolygiad ar hyn yn fater i Lywodraeth newydd.

Mynediad at Golegau
Access to Colleges

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob dysgwr ledled Cymru yn gallu mynychu y coleg o'u dewis? OQ63925

5. What steps is the Welsh Government taking to ensure that all learners across Wales can attend the college of their choice? OQ63925

15:05

I want to ensure that every learner, wherever they live and whatever their background, has the opportunity to gain the knowledge and skills to contribute to a strong, sustainable economy.

Rwyf am sicrhau bod pob dysgwr, ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag yw eu cefndir, yn cael cyfle i gaffael gwybodaeth a sgiliau i gyfrannu at economi gref, gynaliadwy.

Diolch am yr ateb hwnnw.

Thank you for that response.

Of course, it's Colleges Week and it's an opportunity for us to celebrate the work that our colleges do and think about what more we can do to support our learners in that setting. There's a specific issue affecting equity across Wales in terms of access to further education. Currently, apprentices receive no dedicated travel support because they're classified as employed, rather than as learners. So, as a result, they're limited to standard young persons' discounts on public transport, but, by contrast, sixth form pupils may qualify for free transport. Now, there's no equivalent guaranteed provision for college learners and this creates a clear inconsistency in how we support young people in education and training, particularly impacting apprentices, who are often also earning comparatively low wages, while often having to then spend that money on expensive equipment or clothing for their apprenticeship. This was one of the single biggest issues facing learners I spoke to when campaigning to get an increase in the educational maintenance allowance, and nothing has changed.

I understand that the Welsh Government hosted a learner travel workshop on post-16 education yesterday, so the issue, clearly, is on your radar. So, could you outline the key outcomes from that workshop and what specific actionable steps will now be taken to address these disparities in travel support for post-16 learners, including apprentices?

Wrth gwrs, mae'n Wythnos y Colegau ac mae'n gyfle inni ddathlu'r gwaith y mae ein colegau'n ei wneud a meddwl beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi ein dysgwyr yn rhan o hynny. Mae yna fater penodol yn codi sy'n effeithio ar degwch mynediad at addysg bellach ledled Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw prentisiaid yn cael cymorth teithio penodol am eu bod yn cael eu dosbarthu fel rhai cyflogedig yn hytrach na dysgwyr. Felly, o ganlyniad, maent wedi'u cyfyngu i ostyngiadau arferol i bobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mewn cyferbyniad, gall disgyblion chweched dosbarth fod yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim. Nawr, nid oes darpariaeth gyfatebol wedi'i gwarantu ar gyfer dysgwyr coleg ac mae hyn yn creu anghysondeb amlwg yn y ffordd y cefnogwn bobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant, gan effeithio ar brentisiaid yn enwedig, sy'n aml yn ennill cyflogau cymharol isel hefyd, ac yn fynych yn gorfod gwario'r arian hwnnw ar offer neu ddillad drud ar gyfer eu prentisiaeth. Dyma un o'r problemau mwyaf a oedd yn wynebu dysgwyr y siaradais â nhw wrth ymgyrchu dros godi'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac nid oes unrhyw beth wedi newid.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal gweithdy teithio gan ddysgwyr mewn addysg ôl-16 ddoe, felly mae'n amlwg fod y broblem ar eich radar. Felly, a wnewch chi amlinellu canlyniadau allweddol y gweithdy hwnnw a pha gamau gweithredu penodol a roddir ar waith nawr i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn cymorth teithio gan ddysgwyr ôl-16, gan gynnwys prentisiaid?

Thank you, Luke, for that question, and you shine a spotlight on an important issue there. We're continuing to take a cross-Government approach to reduce transport barriers for young people accessing education. This Senedd term, we have implemented an increase in the household income threshold for the educational maintenance allowance—and I really should put on record our thanks for your collaboration and your support for that work—providing financial support to an anticipated additional 3,500 students, which can assist eligible students with transport costs, and, of course, that's £40 a week, which is the highest in the UK. So, EMA can definitely help there. We've invested £22 million over the course of 2025-26 and 2026-27 to support the £1 bus fare pilot scheme for young people under 21 years old. So, again, for apprentices who fall into that age group, they will be able to take advantage of that, and so far, over 38,000 young people have signed up to MyTravelPass—including my daughter, she's one of those—making education, training and employment more accessible and affordable.

You asked about the learner travel workshops that have come out of the learner travel summit and that does provide opportunities for key stakeholders to further explore the opportunities to improve learner travel arrangements. I believe that that workshop is being held today, so if you write to the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, he can certainly give you feedback. But I can report that ColegauCymru, individual colleges and the National Union of Students Cymru will be amongst the stakeholders joining that particular post-16 learner travel workshop. And the outcomes of those workshops will be for consideration by the next Government, to ensure that the voices and expertise of all partners inform the next steps in our learner travel strategy and are central to our approach.

I should say as well that my call for evidence on the future sustainability of the tertiary sector looks in particular at issues that would affect learners. It is something that I have talked to learners about whenever I am visiting FE colleges, and I did that in Merthyr today. Transport is invariably a thread of that, so we expect to have strong evidence coming out of that that can help to inform the next Government also.

Diolch am y cwestiwn, Luke, ac rydych chi'n taflu goleuni ar fater pwysig yno. Rydym yn parhau i fabwysiadu dull trawslywodraethol o leihau rhwystrau trafnidiaeth i bobl ifanc mewn addysg. Y tymor Senedd hwn, rydym wedi gweithredu cynnydd yn y trothwy incwm aelwydydd ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg—a dylwn gofnodi ein diolch am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth i'r gwaith hwnnw—gan ddarparu cymorth ariannol i 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol a ragwelir, a all gynorthwyo myfyrwyr cymwys gyda chostau trafnidiaeth, ac wrth gwrs, mae'n £40 yr wythnos, sef y swm uchaf yn y DU. Felly, yn sicr, fe all y lwfans cynhaliaeth addysg helpu. Rydym wedi buddsoddi £22 miliwn yn ystod 2025-26 a 2026-27 i gefnogi'r cynllun peilot tocynnau bws £1 ar gyfer pobl ifanc o dan 21 oed. Felly, unwaith eto, i brentisiaid yn y grŵp oedran hwnnw, byddant yn gallu manteisio ar hynny, a hyd yma, mae dros 38,000 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer Fy Ngherdyn Teithio—gan gynnwys fy merch, mae hi'n un o'r rheini—gan wneud addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy.

Fe ofynnoch chi am y gweithdai teithio gan ddysgwyr a ddeilliodd o'r uwchgynhadledd teithio gan dysgwyr ac mae'n darparu cyfleoedd i randdeiliaid allweddol archwilio cyfleoedd pellach i wella trefniadau teithio gan ddysgwyr. Rwy'n credu bod y gweithdy hwnnw'n cael ei gynnal heddiw, felly os ysgrifennwch at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, gall roi adborth i chi, yn sicr. Ond gallaf adrodd y bydd ColegauCymru, colegau unigol ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ymhlith y rhanddeiliaid sy'n ymuno â'r gweithdy teithio gan ddysgwyr ôl-16 hwnnw. A bydd canlyniadau'r gweithdai hynny yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth nesaf, er mwyn sicrhau bod lleisiau ac arbenigedd yr holl bartneriaid yn llywio'r camau nesaf yn ein strategaeth teithio gan ddysgwyr ac yn ganolog i'n dull gweithredu.

Dylwn ddweud hefyd fod fy ngalwad am dystiolaeth ar gynaliadwyedd y sector trydyddol yn edrych yn benodol ar faterion a fyddai'n effeithio ar ddysgwyr. Mae'n rhywbeth y byddaf yn siarad â dysgwyr yn ei gylch pryd bynnag y byddaf yn ymweld â cholegau addysg bellach, ac fe wneuthum hynny ym Merthyr Tudful heddiw. Mae trafnidiaeth bob amser yn rhan o hynny, felly rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth gref yn deillio o hynny a all helpu i lywio gwaith y Llywodraeth nesaf hefyd.

Recriwtio a Chadw Athrawon
Teacher Recruitment and Retention

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar safonau addysg yn sgil data diweddar gan Estyn am recriwtio a chadw athrawon mewn ysgolion yng Nghymru? OQ63937

6. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on education standards of recent data from Estyn about teacher recruitment and retention in schools in Wales? OQ63937

I’m grateful to Estyn for highlighting this issue. We are already working on this as part of developing our strategic education workforce plan for schools. The plan will set out the actions we will be taking to address recruitment and retention challenges and to support a high-quality workforce.

Rwy'n ddiolchgar i Estyn am dynnu sylw at y mater hwn. Rydym eisoes yn gweithio ar hyn fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ein cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Bydd y cynllun yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio a chadw staff ac i gefnogi gweithlu o ansawdd uchel.

Thank you for the response. I take it, therefore, that you accept that the current approach is not delivering in a way that maybe was promised and people would expect. I heard your previous answer about the workforce plan being launched on 18 March. Some people might ask, this Government has been trying for three decades, what's going to be different this time? But you did explain that you've been working with many in the sector, so we'll wait to see that. But my question basically is: are we going to be able to question and quiz you as the Minister responsible on that after it's published, because this is your final question session? So, will you please bring an oral statement to this Chamber to allow us to scrutinise yourself and that workforce plan in a way that I think is our responsibility and that should happen?

Diolch am yr ymateb. Rwy'n cymryd felly eich bod yn derbyn nad yw'r dull presennol o weithredu'n cyflawni yn y ffordd a addawyd o bosib, ac y byddai pobl yn ei disgwyl. Clywais eich ateb blaenorol am y cynllun gweithlu sy'n cael ei lansio ar 18 Mawrth. Gyda'r Llywodraeth hon wedi bod yn ymdrechu ers tri degawd, efallai y bydd rhai pobl yn gofyn beth sy'n mynd i fod yn wahanol y tro hwn? Ond fe wnaethoch chi esbonio eich bod wedi gweithio gyda llawer yn y sector, felly fe arhoswn i weld hynny. Ond fy nghwestiwn i yn y bôn yw: a fyddwn ni'n gallu eich holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, oherwydd dyma eich sesiwn gwestiynau olaf? Felly, a wnewch chi ddod â datganiad llafar i'r Siambr hon i ganiatáu inni graffu arnoch a'r cynllun gweithlu hwnnw yn y ffordd y credaf ei bod yn gyfrifoldeb arnom i'w wneud ac y dylai hynny ddigwydd?

15:10

Thank you very much, Llyr, for that supplementary. As I said in previous answers, challenges with recruitment and retention are worldwide. They're not just in Wales. Actually, the recent data does show a slight improvement. Unofficial data shows that overall recruitment to secondary programmes rose from 36.5 per cent in 2023-24 to 45 per cent in 2024-25. The number of Welsh-medium entrants has also increased and is 22 per cent higher in 2023-24 than in 2019-20.

Obviously, the organisation of Plenary business isn't a matter for me, but the Trefnydd has heard what you've said. We had scheduled the publication of the plan to coincide with the committee debate on recruitment and retention, which has now been—. Well, there would have been scrutiny in the Chamber, obviously, in that debate, but I'm very happy to participate in any scrutiny opportunities that are made available on this. 

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol, Llyr. Fel y dywedais mewn atebion blaenorol, mae heriau gyda recriwtio a chadw staff ym mhob rhan o'r byd, nid yng Nghymru'n unig. Mewn gwirionedd, mae'r data diweddar yn dangos gwelliant bach. Mae data answyddogol yn dangos bod recriwtio cyffredinol i raglenni uwchradd wedi codi o 36.5 y cant yn 2023-24 i 45 y cant yn 2024-25. Mae niferoedd cyfrwng Cymraeg hefyd wedi cynyddu ac maent 22 y cant yn uwch yn 2023-24 nag yn 2019-20.

Yn amlwg, nid mater i mi yw trefnu busnes y Cyfarfod Llawn, ond mae'r Trefnydd wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi. Roedd cyhoeddi'r cynllun wedi'i drefnu i gyd-fynd â dadl y pwyllgor ar recriwtio a chadw staff, sydd bellach wedi'i—. Wel, byddem wedi cael craffu yn y Siambr yn y ddadl honno wrth gwrs, ond rwy'n hapus iawn i gymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd craffu a gaiff eu cynnal ar hyn. 

Hyfforddiant Anghenion Dysgu Ychwanegol a Niwroamrywiaeth
Additional Learning Needs and Neurodiversity Training

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth mewn ysgolion? OQ63935

7. Will the Cabinet Secretary make a statement regarding additional learning needs and neurodiversity training in schools? OQ63935

I have strengthened ALN, neurodiversity and inclusive education training across education in Wales. Dysgu are already developing a national professional learning ALN programme for local authority staff, leaders, ALN co-ordinators, specialist staff and all teaching staff. This is as well as the ‘Calm Classrooms, Thriving Minds’ training programme on well-being and child development.

Rwyf wedi cryfhau hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol, niwroamrywiaeth ac addysg gynhwysol ar draws addysg yng Nghymru. Mae Dysgu eisoes yn datblygu rhaglen ADY dysgu proffesiynol genedlaethol ar gyfer staff awdurdodau lleol, arweinwyr, cydlynwyr ADY, staff arbenigol a'r holl staff addysgu. Mae hyn yn ogystal â'r rhaglen hyfforddi 'Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog' ar les a datblygiad plant.

Diolch am yr ateb. Dŷn ni eisoes wedi gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi biliynau o bunnoedd ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn Lloegr. Fedrwch chi gadarnhau heddiw fod arian canlyniadol sydd wedi cael ei gyhoeddi ddoe yn mynd i ddod i Gymru, ac a fedrwch chi roi gwybod i ni faint o arian ychwanegol sydd i ddod yn y flwyddyn ariannol bresennol a hefyd y blynyddoedd i ddod? Mater i'r Llywodraeth ydy sut i ddefnyddio'r arian yma, wrth gwrs, ond yn enw tryloywder, byddai cyhoeddi'r ffigurau yn ddefnyddiol.

Wrth gyfarfod efo rhieni plant sydd efo anghenion dysgu ychwanegol yn Arfon ac ar draws Cymru, dwi'n clywed dro ar ôl tro fod diffyg hyfforddiant ar niwroamrywiaeth ymhlith staff ysgol yn arwain at oedi, camddealltwriaeth a phlant yn cyrraedd pwynt argyfwng. Fel y dywedodd un rhiant wrthyf fi yn ddiweddar, ni ddylai deimlo fel brwydr i gael cefnogaeth. Felly, faint o flaenoriaeth ydych chi yn ei rhoi i'r angen i greu cysondeb cenedlaethol yn y ddarpariaeth, yn enwedig wrth ddatblygu hyfforddiant ar niwroamrywiaeth ar gyfer ysgolion?

Thank you for that response. We've already seen the UK Government announcing billions of pounds of extra funding for special educational needs in England. Can you confirm today that consequential funding, which was announced yesterday, will come to Wales, and will you let us know how much additional funding will come in the current financial year and the coming financial years? It's a matter for the Government to decide how to use this funding, of course, but for the sake of transparency, publishing the figures would be useful.

In meeting the parents of children with additional learning needs in Arfon and across Wales, I hear time and time again that a lack of training on neurodiversity among school staff is leading to delays, misunderstanding and children reaching crisis point. As one parent told me recently, it should not feel like a battle to access support. So, how much of a priority is it for you to ensure national consistency in the provision, particularly in developing training on neurodiversity for schools?

Diolch, Siân, for that question. Just to say that, obviously, I welcome the UK Government's focus on inclusion. We are already some considerable way down the road on our inclusion journey. It's my understanding that Welsh Government will receive an additional £555 million in resource and capital funding over the next three years as a result of the announcements yesterday. That is mainly in respect of additional funding for special educational needs and disabilities in England and non-domestic rates for hospitality and pubs.

You raise very important points about training. I've always been really clear that inclusion and ALN are not something that sit over there. If we're going to have genuinely inclusive schools, then everyone in our schools needs to be upskilled in issues around ALN, neurodiversity et cetera. So, we've asked Dysgu to develop—they're developing and delivering and quality assuring—a national professional learning ALN programme, as I said, for all staff in our schools and for local authority staff, and they've already recruited an ALN lead to take this forward. We're also piloting Calm Classrooms, Thriving Minds, which is a whole workforce professional learning programme co-developed with practitioners to increase understanding of child development and mental health.

In initial teacher education, we've strengthened the accreditation criteria in relation to ALN, and Bangor University are currently piloting a primary post-graduate certificate in education with neurodiversity specialism. But, as part of the work that we're doing to prepare for the new accreditation of ITE, we are going to be looking to strengthen the commitment to upskilling our staff in ALN, neurodiversity, mental health, because everybody in our schools needs to be able to support young people so that they can be truly inclusive. So, training is an absolutely fundamental priority, not just for ALN, but for all the areas that we're taking forward in terms of literacy, numeracy et cetera.

Diolch am y cwestiwn, Siân. Yn amlwg, rwy'n croesawu ffocws Llywodraeth y DU ar gynhwysiant. Rydym eisoes wedi mynd gryn dipyn o ffordd ar ein taith gynhwysiant. Rwy'n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £555 miliwn ychwanegol o gyllid adnoddau a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i'r cyhoeddiadau ddoe. Daw hwnnw'n bennaf mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr ac ardrethi annomestig ar gyfer lletygarwch a thafarndai.

Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig iawn am hyfforddiant. Rwyf bob amser wedi bod yn glir iawn nad yw cynhwysiant ac ADY yn rhywbeth sy'n perthyn draw acw. Os ydym yn mynd i gael ysgolion gwirioneddol gynhwysol, mae angen i bawb yn ein hysgolion gael eu huwchsgilio mewn materion sy'n ymwneud ag ADY, niwroamrywiaeth ac ati. Felly, rydym wedi gofyn i Dysgu ddatblygu—maent yn datblygu ac yn cyflawni ac yn sicrhau ansawdd—rhaglen ADY dysgu proffesiynol genedlaethol, fel y dywedais, ar gyfer yr holl staff yn ein hysgolion ac ar gyfer staff awdurdodau lleol, ac maent eisoes wedi recriwtio arweinydd ADY i ddatblygu hyn. Rydym hefyd yn treialu Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog, rhaglen ddysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu cyfan a ddatblygwyd ar y cyd ag addysgwyr i gynyddu dealltwriaeth o ddatblygiad plant ac iechyd meddwl.

Mewn addysg gychwynnol i athrawon, rydym wedi cryfhau'r meini prawf achredu mewn perthynas ag ADY, ac ar hyn o bryd mae Prifysgol Bangor yn treialu tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gynradd gydag arbenigedd niwroamrywiaeth. Ond fel rhan o'r gwaith a wnawn ar baratoi ar gyfer achrediad newydd mewn addysg gychwynnol i athrawon, byddwn yn ceisio cryfhau'r ymrwymiad i uwchsgilio ein staff mewn ADY, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, oherwydd mae angen i bawb yn ein hysgolion allu cefnogi pobl ifanc fel y gallant fod yn wirioneddol gynhwysol. Felly, mae hyfforddiant yn flaenoriaeth hollol sylfaenol, nid yn unig ar gyfer ADY, ond ar gyfer yr holl feysydd yr ydym yn bwrw ymlaen â nhw o ran llythrennedd, rhifedd ac ati.

15:15
Arweinyddiaeth mewn Ysgolion
Leadership in Schools

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i gryfhau a chynnal arweinyddiaeth mewn ysgolion yn unol â disgwyliadau Estyn? OQ63908

8. How is the Welsh Government supporting local authorities to strengthen and sustain leadership in schools in line with Estyn’s expectations? OQ63908

I’m grateful to Estyn for highlighting that effective leadership is the most significant factor in improving quality of teaching. We will support local authorities through our new school improvement arrangements, and tackle headteacher recruitment challenges through the strategic education workforce plan for schools. Dysgu will develop and deliver leadership support.

Rwy'n ddiolchgar i Estyn am nodi mai arweinyddiaeth effeithiol yw'r ffactor mwyaf arwyddocaol wrth wella ansawdd addysgu. Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol drwy ein trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion, ac yn mynd i'r afael â heriau recriwtio penaethiaid drwy'r cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion. Bydd Dysgu yn datblygu ac yn darparu cymorth arweinyddiaeth.

Thank you, Cabinet Secretary. As you recognise, strong leadership at every level of our education system is essential, from headteachers providing clear direction in their schools to local authorities offering effective support, and, of course, Welsh Government creating the conditions for that leadership to thrive. Yet Estyn has been clear that local government support on attendance has had limited impact, and, in Monmouthshire, we've seen absenteeism worsening in recent years, not improving. At the same time, schools across Wales are struggling to maintain even basic leadership capacity because of the lack of staff and an over-dependence on agency workers, weakening the ability headteachers need to lead effectively. As we all know, good leadership is fundamental to continuous school improvement.

Given these combined pressures, weak attendance, an inconsistent and overstretched workforce, and the mounting strain on school leaders, how is the Welsh Government working to strengthen leadership at every level so that our schools can genuinely meet Estyn's expectations?

And on a broader point, Cabinet Secretary, what concrete steps should your Government have put in place to ensure that we weren't in this position?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae arweinyddiaeth gref ar bob lefel o'n system addysg yn hanfodol, o benaethiaid sy'n darparu cyfeiriad clir yn eu hysgolion i awdurdodau lleol sy'n cynnig cefnogaeth effeithiol, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n creu'r amodau i'r arweinyddiaeth honno ffynnu. Ond mae Estyn wedi bod yn glir mai cyfyngedig yw effaith cefnogaeth llywodraeth leol mewn perthynas â phresenoldeb, ac yn sir Fynwy, rydym wedi gweld lefelau absenoldeb yn gwaethygu, nid gwella, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae ysgolion ledled Cymru'n cael trafferth cynnal capasiti arweinyddiaeth sylfaenol hyd yn oed oherwydd prinder staff a gorddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth, gan wanhau'r gallu sydd ei angen ar benaethiaid i arwain yn effeithiol. Fel y gwyddom i gyd, mae arweinyddiaeth dda'n ffactor sylfaenol ar gyfer gwella ysgolion yn barhaus.

O ystyried y pwysau cyfunol, lefelau presenoldeb gwan, gweithlu anghyson a than bwysau, a'r straen gynyddol ar arweinwyr ysgolion, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel fel y gall ein hysgolion fodloni disgwyliadau Estyn yn llawn?

Ac ar bwynt ehangach, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pendant y dylai eich Llywodraeth fod wedi'u rhoi ar waith i sicrhau na fyddem yn y sefyllfa hon?

Thank you, Peter. I know you've got an interest in school leadership, as you've raised it before. I have a ministerial headteacher advisory group, and I've heard directly from them how effective leadership can make a difference to teaching and learning, and I would like to just take this opportunity to thank my headteacher advisory group for their time, for their commitment and for their willingness to be system leaders for the whole of Wales.

We have got challenges in recruiting and retaining senior leaders, and the plan that I'll be publishing will help tackle that. We're also going to be working more closely with local authorities to make sure they use workforce data to succession plan, and so that we've got a more granular understanding of the challenges. Through our new school improvement guidance, schools are expected to work together in partnership with local authorities to secure improvement. Our professional standards emphasise the importance of a culture of learner improvement through collaborative working, and Dysgu is leading on professional learning and support for school leaders, including delivering our new national professional qualification for headship, but also developing support for aspiring new and existing middle and senior leaders, with coaching and mentoring support.

You mentioned attendance, which has obviously been a concern for Estyn. Estyn was quite keen that local authorities are given targets on attendance. Targets can have unintended consequences when you're dealing with complex issues around children attending school, but we are working with local authorities to develop some smart targets so that we can see that the trajectory is improving all the time.

Diolch, Peter. Rwy'n gwybod bod gennych ddiddordeb yn arweinyddiaeth ysgolion, gan eich bod wedi'i godi o'r blaen. Mae gennyf grŵp cynghori'r Gweinidog ar benaethiaid a chlywais yn uniongyrchol ganddynt hwy sut y gall arweinyddiaeth effeithiol wneud gwahaniaeth i addysgu a dysgu, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r grŵp cynghori ar benaethiaid am eu hamser, am eu hymrwymiad ac am eu parodrwydd i fod yn arweinwyr system i Gymru gyfan.

Mae gennym heriau wrth recriwtio a chadw uwch arweinwyr, a bydd y cynllun y byddaf yn ei gyhoeddi yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Rydym hefyd yn mynd i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio data'r gweithlu i gynllunio olyniaeth, ac fel bod gennym ddealltwriaeth fwy manwl o'r heriau. Drwy ein canllawiau newydd ar wella ysgolion, disgwylir i ysgolion weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwelliant. Mae ein safonau proffesiynol yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant o wella dysgu trwy weithio ar y cyd, ac mae Dysgu yn arwain ar ddysgu proffesiynol a chefnogaeth i arweinwyr ysgolion, gan gynnwys cyflwyno ein cymhwyster proffesiynol cenedlaethol newydd ar gyfer prifathrawiaeth, a datblygu cefnogaeth i arweinwyr canol ac uwch newydd a rhai presennol, gyda chefnogaeth hyfforddiant a mentora.

Fe wnaethoch chi sôn am bresenoldeb, sy'n amlwg wedi bod yn bryder i Estyn. Roedd Estyn yn eithaf awyddus i awdurdodau lleol gael targedau ar bresenoldeb. Gall targedau arwain at ganlyniadau anfwriadol pan fyddwch chi'n delio â materion cymhleth yn ymwneud â phlant yn mynychu'r ysgol, ond rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu targedau doeth fel y gallwn weld bod y duedd yn gwella drwy'r amser.

15:20
3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn amserol sydd heddiw, a bydd hwnna gan Heledd Fychan.

Item 3 is the topical questions. There is only one topical question today, and that will be asked by Heledd Fychan. 

Datganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU
The UK Government's Spring Statement

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil datganiad y gwanwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig? TQ1448

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the implications for Wales of the UK Government's spring statement? TQ1448

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae datganiad y gwanwyn yn darparu £555 miliwn yn ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Mae setliad Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf bron i £6 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a nodwyd gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.

Thank you very much. The spring statement provides an additional £555 million to Wales over the next three years. The Welsh Government's settlement over the next three years is almost £6 billion higher than it would have been under the spending plans set out by the previous UK Government. 

Diolch am yr ymateb hwnnw, a diolch hefyd am y datganiad ysgrifenedig ddoe. Wrth gwrs, dwi'n gobeithio bod pawb ohonom ni yma'n croesawu unrhyw arian ychwanegol i Gymru, yn enwedig o ystyried y sefyllfa hynod o heriol sy'n wynebu cyllidebau'r Senedd hon o ganlyniad i'r adolygiad gwariant diweddaraf, fydd yn arwain at y tyfiant isaf real mewn gwariant dydd i ddydd tu hwnt i'r blynyddoedd llymder cychwynnol, ynghyd, wrth gwrs, â chyllideb cyfalaf sydd am grebachu mewn termau real. Rydych chi eisoes wedi amlinellu yn natganiad ddoe sut mae'r arian yn mynd i gael ei ddosbarthu o flwyddyn i flwyddyn ac o ble mae'r arian wedi dod yn bennaf. Allwch chi gadarnhau pa ganran o'r arian ychwanegol sydd wedi deillio o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr ar anghenion dysgu ychwanegol, a pha ganran sydd wedi deillio o ganlyniad i'r penderfyniad i estyn cymorth treth busnes i'r sector lletygarwch a thafarndai? Hefyd, allwch chi amlinellu unrhyw feysydd eraill mae'n deillio ohono?

Mi fyddwn i hefyd yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut mae datganiad y gwanwyn yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad a glywson ni yn ddiweddar am fuddsoddiad yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, gan fod datganiad ddoe yn cyfeirio at hynny hefyd. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur i ni, yn ogystal ag arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes, sut yn union ddaeth Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i'r ffigur o £14 biliwn, a beth y tu hwnt i'r £445 miliwn a gafodd ei gyhoeddi eisoes yn ystod yr adolygiad gwariant sy'n cynrychioli arian pendant mae San Steffan wedi ymrwymo i'w ddarparu i Gymru yn ystod y cyfnod seneddol presennol. Felly, allwch chi gadarnhau a yw peth o'r arian canlyniadol yma yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad ynglŷn â'r buddsoddiad rheilffyrdd, ac, os nad yw, pryd yn union ydych chi'n disgwyl derbyn yr arian ychwanegol sy'n mynd tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn ystod yr adolygiad gwariant? Diolch i chi.

Thank you for that response, and thank you also for the written statement yesterday. Of course, I hope that all of us here would welcome any additional funding for Wales, particularly considering the hugely challenging situation facing the Senedd's budgets as a result of the most recent spending review, which will lead to the lowest growth in day-to-day expenditure in real terms beyond the initial austerity years, as well, of course, as capital funding that will shrink in real terms. You have already outlined in yesterday's statement how the funds are going to be allocated from one year to another and where the money has primarily come from. Can you confirm what percentage of the additional funding has come as a result of additional spending in England on additional learning needs, and what percentage has come as a result of extending business rates relief to the hospitality and pubs sector? Also, will you outline any other areas the funding has emanated from?

I would also be grateful if you could outline how the spring statement relates to the announcement we heard recently on investment in Wales's rail network, as your statement yesterday referred to that too. At present, it is unclear to us, as well as to experts working in the field, how exactly the Welsh Government and Transport for Wales arrived at that figure of £14 billion, and what beyond the £445 million already announced in the spending review represents a firm funding commitment to Wales from Westminster during the current parliamentary period. So, can you confirm whether some of this consequential funding is linked to the announcement on railway funding, and, if not, when exactly do you expect to receive the additional funding that goes beyond what was announced in the spending review? Thank you.

Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd.

Thank you very much to Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd. 

So, over the three years of the spring statement changes, there's £4 million in each year of general capital uplift. In the first year, there is £5 million, in the second year, £8 million, and, in the third year, £11 million in revenue that flows from decisions of the UK Government in relation to non-domestic rates support. In the first year, 2026-27, there is an additional £327 million in revenue. That is one-off money. It is a consequence of the UK Government's decision to fund the debts that had built up in English local government because of the statutory override put in place by the previous Conservative Government in relation to ALN spending. There is no money in the second year as a consequence of changes in England on additional learning needs expenditure, but, in the third year, there is an additional £208 million, which is a consequence of the new programmes of expenditure in England in relation to children with additional learning needs. The spring statement is not relevant to the announcement of £14 billion of additional investment in rail in Wales. 

Felly, dros dair blynedd o newidiadau datganiad y gwanwyn, mae £4 miliwn ym mhob blwyddyn o gynnydd cyfalaf cyffredinol. Yn y flwyddyn gyntaf, mae £5 miliwn, yn yr ail flwyddyn, £8 miliwn, ac yn y drydedd flwyddyn, £11 miliwn mewn refeniw sy'n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU mewn perthynas â chymorth ardrethi annomestig. Yn y flwyddyn gyntaf, 2026-27, ceir £327 miliwn ychwanegol mewn refeniw. Mae hwnnw'n arian untro. Mae'n ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ariannu'r dyledion a oedd wedi cronni mewn llywodraeth leol yn Lloegr oherwydd y mesur lliniaru statudol a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol mewn perthynas â gwariant ADY. Nid oes arian yn yr ail flwyddyn o ganlyniad i newidiadau yn Lloegr ar wariant anghenion dysgu ychwanegol, ond yn y drydedd flwyddyn, fe geir £208 miliwn ychwanegol, sy'n ganlyniad i'r rhaglenni gwariant newydd yn Lloegr mewn perthynas â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Nid yw datganiad y gwanwyn yn berthnasol i'r cyhoeddiad o £14 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd yng Nghymru. 

Of course, the headline from the spring statement yesterday was the halving of the economic growth forecast for 2026. It was originally planned to be 1.9 per cent for the UK; it's now been forecast to be at 1.1 per cent. We also heard that unemployment is rising to 5.3 per cent, the highest since the pandemic, and even more damning on unemployment is the fact that 16 to 24-year-olds are experiencing 16 per cent unemployment in the UK, much of which is as a direct result of UK Government policy. We're also aware from the spring statement that taxes are climbing towards 38.5 per cent of GDP, an historic high, and, of course, when you tax jobs and make it more expensive to hire, you don't get the prosperity that we need; it leads to stagnation. And of course, here in Wales, when UK growth slows, Wales feels it directly. Slower UK growth means lower tax receipts. Lower tax receipts mean tighter spending plans from the Treasury. And because Wales's budget is largely determined by UK spending through the Barnett formula, weaker growth in Britain means, in the long run, less money available for Welsh public services in the years ahead.

We believe, of course, that, if the UK economy grows strongly, Wales benefits through higher funding, more jobs, more investment and stronger wages. And if growth stalls, Wales is hit twice, with weaker private sector opportunity and tighter public finances. So, Cabinet Secretary, I wonder what analysis you've been able to make as a result of that weaker economic growth forecast to understand what impact that will have on investment here in Wales from the private sector and any knock-on effect to public services in Wales as well.

Wrth gwrs, y pennawd o ddatganiad y gwanwyn ddoe oedd haneru'r rhagolwg o dwf economaidd ar gyfer 2026. Cynlluniwyd yn wreiddiol y byddai'n 1.9 y cant ar gyfer y DU; bellach rhagwelir y bydd yn 1.1 y cant. Clywsom hefyd fod diweithdra'n codi i 5.3 y cant, y lefel uchaf ers y pandemig, a hyd yn oed yn fwy damniol ar ddiweithdra y mae'r ffaith bod pobl ifanc 16 i 24 oed yn profi diweithdra o 16 y cant yn y DU, gyda llawer ohono'n ganlyniad uniongyrchol i bolisïau Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn ymwybodol o ddatganiad y gwanwyn fod trethi'n dringo tuag at 38.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros, uchafbwynt hanesyddol, ac wrth gwrs, pan fyddwch chi'n trethu swyddi ac yn ei gwneud hi'n ddrytach i gyflogi, nid ydych chi'n cael y ffyniant sydd ei angen arnom; mae'n arwain at farweiddio. Ac wrth gwrs, yma yng Nghymru, pan fydd twf y DU yn arafu, mae Cymru'n ei deimlo'n uniongyrchol. Mae twf arafach yn y DU yn golygu llai o dderbyniadau treth. Mae derbyniadau treth is yn golygu cynlluniau gwariant tynnach gan y Trysorlys. Ac oherwydd bod cyllideb Cymru'n cael ei phennu i raddau helaeth gan wariant y DU drwy fformiwla Barnett, mae twf gwannach ym Mhrydain yn golygu bod llai o arian ar gael yn y tymor hir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

Yr hyn rydym ni'n ei gredu, wrth gwrs, yw bod Cymru'n elwa os yw economi'r DU yn tyfu'n gryf, drwy fwy o gyllid, mwy o swyddi, mwy o fuddsoddiad a chyflogau cryfach. Ac os yw twf yn arafu, caiff Cymru ei tharo ddwywaith, gan gyfleoedd gwannach yn y sector preifat a llai o gyllid cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa ddadansoddiad a wnaethoch chi o ganlyniad y rhagolwg o dwf economaidd gwannach i ddeall pa effaith y bydd hynny'n ei chael ar fuddsoddiad yma yng Nghymru o'r sector preifat ac unrhyw effaith ganlyniadol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal.

15:25

Well, Dirprwy Lywydd, over the full five-year forecast period to 2030, real GDP is forecast to increase on average each year by 1.5 per cent, and that is unchanged compared with forecasts last November. There is downward revision in the early period. It's compensated for by upward revision later in the period. And over the period as a whole, there is no reduction in growth forecasts. In relation to unemployment, while the Member is right that the forecast sees an increase from the current 5.2 per cent to 5.3 per cent in forecasts, this then gradually decreases to 4.1 per cent at the end of the forecast period.

The spring statement also confirmed that inflation is falling, that interest rates are down six times since the general election, and includes growth in productivity, earnings and disposable household income over the forecast period. By the end of the forecast period, the Chancellor expects a current budget surplus of £24 billion, reached a year earlier than she was expecting earlier last year.

Wel, Ddirprwy Lywydd, dros y cyfnod llawn o bum mlynedd hyd at 2030, rhagwelir y bydd cynnyrch domestig gros real yn cynyddu 1.5 y cant bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac nid yw hynny wedi newid o'i gymharu â'r rhagolygon fis Tachwedd diwethaf. Mae adolygiad ar i lawr yn y cyfnod cynnar. Gwneir iawn am hynny gan adolygiad ar i fyny yn ddiweddarach yn y cyfnod. A dros y cyfnod cyfan, nid oes gostyngiad yn y rhagolygon twf. Mewn perthynas â diweithdra, er bod yr Aelod yn gywir fod y rhagolwg yn gweld cynnydd o'r 5.2 y cant presennol i 5.3 y cant mewn rhagolygon, mae hyn wedyn yn gostwng yn raddol i 4.1 y cant ar ddiwedd cyfnod y rhagolwg.

Cadarnhaodd datganiad y gwanwyn hefyd fod chwyddiant yn gostwng, fod cyfraddau llog i lawr chwe gwaith ers yr etholiad cyffredinol, ac mae'n cynnwys twf mewn cynhyrchiant, enillion ac incwm gwario aelwydydd dros gyfnod y rhagolwg. Erbyn diwedd cyfnod y rhagolwg, mae'r Canghellor yn disgwyl gwarged cyllidebol cyfredol o £24 biliwn, a gyrhaeddwyd flwyddyn yn gynharach nag y disgwyliai yn gynharach y llynedd.

I'm not competing on the figures, Cabinet Secretary, and I'm sure it's really difficult to understand exactly what's going on, but I just wanted to raise the difficult cliff edge that exists as a result of the shared prosperity fund, which is 30 per cent capital and 70 per cent revenue, being tapered and coming to an end, to be succeeded by the local growth fund, which is 70 per cent capital and 30 per cent revenue. We know that there are many projects, currently very successful projects, that have been funded by the shared prosperity fund, like the breastfeeding project by Blaenau Gwent council, which has had an absolute transformational impact on mothers breastfeeding—over two thirds of mothers breastfeeding substantively, not just for 10 days—and others; other local authorities have invested in speech and language services, boosting them to make them more available to those who are involved in the youth offending teams, so that those people don't go to prison simply because they haven't understood what the magistrate has said to them. So, I just wondered if there's any possibility of making that taper less brutal as a result of this extra money.

Nid wyf am gwestiynu'r ffigurau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr ei bod yn anodd iawn deall yn union beth sy'n digwydd, ond roeddwn eisiau codi'r ymyl dibyn anodd sy'n bodoli o ganlyniad i'r ffaith bod y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n 30 y cant cyfalaf a 70 y cant refeniw, yn tapro ac yn dod i ben, i'w olynu gan y gronfa twf lleol, sef 70 y cant cyfalaf a 30 y cant refeniw. Gwyddom fod yna lawer o brosiectau, prosiectau llwyddiannus iawn, wedi'u hariannu gan y gronfa ffyniant gyffredin, fel y prosiect bwydo ar y fron gan gyngor Blaenau Gwent, sydd wedi cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar nifer y mamau sy'n bwydo ar y fron—dros ddwy ran o dair o famau'n bwydo ar y fron am gyfnod sylweddol, nid am 10 diwrnod yn unig—a phethau eraill; mae awdurdodau lleol eraill wedi buddsoddi mewn gwasanaethau lleferydd ac iaith, gan roi hwb iddynt i sicrhau eu bod ar gael yn haws i'r rhai sy'n gysylltiedig â thimau troseddau ieuenctid, fel nad yw'r bobl hynny'n mynd i'r carchar am nad ydynt wedi deall beth y mae'r ynad wedi'i ddweud wrthynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw bosibilrwydd o wneud y tapr yn llai llym o ganlyniad i'r arian ychwanegol hwn.

Dirprwy Lywydd, I share the Member's concern about the transition from the shared prosperity fund to the local growth fund and the capital and revenue proportions as set by the Treasury for Wales in the growth fund. There was nothing in the spring statement that was relevant to those calculations.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n rhannu pryder yr Aelod am y newid o'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa twf lleol a'r cyfrannau cyfalaf a refeniw fel y'u pennir gan Drysorlys Cymru yn y gronfa twf. Nid oedd unrhyw beth yn natganiad y gwanwyn a oedd yn berthnasol i'r cyfrifiadau hynny.

Just to pick up on that point by Jenny Rathbone, there may not have been anything relevant to the calculations within the spring statement on the local growth fund, but now we do know that there is an additional £540 million in revenue coming to the Welsh Government, £15 million additional in capital. The Industrial Communities Alliance has discussed the potential of using some of that funding that's come from the spring statement to soften that blow to local authorities, perhaps even to save some of those jobs and services that are being lost as a result of that revenue and capital split.

Here's an opportunity now for Welsh Government to rectify the situation. Thousands of jobs are on the line in our local authorities. The anxiety within our local authorities is palpable. Neath Port Talbot, for example, is looking at losing potentially five jobs in relation to the welfare programmes that they have in place, which are offering millions of pounds to our constituents on a daily basis. So, I would impress on the Cabinet Secretary to use some of this funding now, if not to save those services and save those jobs within the local authority, at the very least fund an actual transition. There is no cash for the transition right now for local authorities. So, I would impress on the Cabinet Secretary to use that funding to save those jobs, to save those services, because right now those local authorities are really struggling and the anxiety amongst our workforce is incredibly, incredibly palpable.

I fynd ar ôl y pwynt hwnnw gan Jenny Rathbone, efallai nad oedd unrhyw beth yn berthnasol i'r cyfrifiadau yn natganiad y gwanwyn ar y gronfa twf lleol, ond nawr fe wyddom fod £540 miliwn ychwanegol mewn refeniw yn dod i Lywodraeth Cymru, £15 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi trafod potensial defnyddio rhywfaint o'r cyllid hwnnw a ddaeth o ddatganiad y gwanwyn i leddfu'r ergyd i awdurdodau lleol, efallai hyd yn oed i achub rhai o'r swyddi a'r gwasanaethau sy'n cael eu colli o ganlyniad i'r rhaniad refeniw a chyfalaf hwnnw.

Dyma gyfle nawr i Lywodraeth Cymru unioni'r sefyllfa. Mae miloedd o swyddi yn y fantol yn ein hawdurdodau lleol. Mae'r pryder i'w deimlo yn ein hawdurdodau lleol. Mae Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, yn edrych ar golli pum swydd o bosib mewn perthynas â'r rhaglenni lles sydd ganddynt ar waith, sy'n cynnig miliynau o bunnoedd i'n hetholwyr bob dydd. Felly, rwyf am annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid hwn nawr, os nad i achub y gwasanaethau hynny ac achub y swyddi hynny yn yr awdurdod lleol, o leiaf i ariannu'r broses bontio. Nid oes arian ar gyfer pontio ar hyn o bryd i awdurdodau lleol. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r cyllid i achub y swyddi hynny, i achub y gwasanaethau hynny, oherwydd mae'r awdurdodau lleol hyn yn ei chael hi'n anodd iawn ac mae'r pryder ymhlith ein gweithlu i'w deimlo'n amlwg iawn.

15:30

Llywydd, well, the Member makes powerful points, but they are really not for me, they are for my successor, because none of the money announced in the spring statement falls into the current financial year. The final budget for next year was passed by this Senedd some weeks ago. An incoming Government will have £327 million more in revenue to spend than we knew about before yesterday, but those decisions will have to be made by a Government that has responsibility for managing the budget in the next financial year.

Lywydd, wel, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwerus, ond nid ydynt ar fy nghyfer i, mewn gwirionedd, maent ar gyfer fy olynydd, gan nad oes dim o'r arian a gyhoeddwyd yn natganiad y gwanwyn yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol gyfredol. Pasiwyd y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf gan y Senedd hon rai wythnosau yn ôl. Bydd gan y Llywodraeth newydd £327 miliwn yn fwy mewn refeniw i'w wario nag y gwyddem amdano cyn ddoe, ond bydd yn rhaid i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan y Llywodraeth sy'n gyfrifol am reoli'r gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Finance Secretary, I don't make this as a political point, but the numbers that were in the spring statement yesterday, with the events that are going on in the middle east, could dramatically change in a relatively short period of time. I heard what you said to Luke Fletcher about the fact that the incoming Government will pick up this money, and it most probably will be very welcome indeed. But I would urge—and I hope you, from your position as finance Secretary, would urge—that a close eye is kept on the economy and the support that businesses might need with energy costs, and making sure that they maintain their business operations, because the pressure on those businesses could be as severe as the Ukrainian invasion, which pushed energy costs up only recently.

Could you confirm whether there are any plans from the Treasury to reach out to finance Ministers in the devolved administrations to discuss potential sources of help that might be required in the coming weeks and months, if the worst case scenarios prevail with the events in the middle east?

Ysgrifennydd cyllid, nid wyf yn gwneud hwn yn bwynt gwleidyddol, ond gallai'r ffigurau yn natganiad y gwanwyn ddoe, gyda'r digwyddiadau yn y dwyrain canol, newid yn sylweddol mewn cyfnod cymharol fyr. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth Luke Fletcher ynglŷn â'r ffaith mai'r Llywodraeth newydd fydd yn cael yr arian hwn, ac mae'n debyg y caiff ei groesawu'n fawr iawn. Ond rwy'n annog—ac yn gobeithio y byddech chithau, fel Ysgrifennydd cyllid, yn annog—cadw llygad barcud ar yr economi a'r cymorth a allai fod ei angen ar fusnesau gyda chostau ynni, a sicrhau eu bod yn cynnal eu gweithrediadau busnes, gan y gallai'r pwysau ar y busnesau hynny fod mor ddifrifol â'r ymosodiad ar Wcráin, a wthiodd gostau ynni i fyny yn ddiweddar.

A allech chi gadarnhau a oes unrhyw gynlluniau gan y Trysorlys i gysylltu â Gweinidogion cyllid y gweinyddiaethau datganoledig i drafod ffynonellau cymorth posib a allai fod yn ofynnol yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, os bydd y senarios gwaethaf posib yn digwydd yn y dwyrain canol?

Well, I thank the Member for those questions, which, in a way, I think, raise the most profound issues we've heard this afternoon, because the Chancellor's spring statement was created, and the forecasts made, prior to the US and Israeli invasion or attacks on Iran.

I think any incoming finance Minister would be very wise not to start spending that £327 million at this point, because there may well be some very urgent calls on revenue when the next Senedd assembles, in businesses, in the lives of Welsh citizens, in our public services. When energy prices rose immediately after the invasion of Ukraine, there was an £80 million bill for the national health service alone in increased revenue costs for energy. So, I agree very much with the points that the Member has made about the need for prudent management of the additional opportunities that came with the spring statement, because that money may well be needed.

As to opportunities to discuss matters with the Treasury, I did have a discussion with the Chief Secretary to the Treasury yesterday morning, prior to the spring statement, and I will be meeting him again with the finance Ministers of Scotland and Northern Ireland at the Finance: Interministerial Standing Committee meeting later this month.

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiynau, sydd, mewn ffordd, yn codi'r materion mwyaf dwys rydym wedi'u clywed y prynhawn yma, rwy'n credu, gan y lluniwyd datganiad y gwanwyn y Canghellor, a gwnaed y rhagolygon, cyn goresgyniad neu ymosodiadau'r Unol Daleithiau ac Israel ar Iran.

Credaf y byddai unrhyw Weinidog cyllid newydd yn ddoeth iawn i beidio â dechrau gwario'r £327 miliwn hwnnw eto, gan ei bod yn bosib y bydd rhai galwadau brys am refeniw pan fydd y Senedd nesaf yn ymgynnull, mewn busnesau, ym mywydau dinasyddion Cymru, yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Pan gododd prisiau ynni yn syth wedi'r ymosodiad ar Wcráin, cafwyd bil o £80 miliwn i'r gwasanaeth iechyd gwladol yn unig mewn costau refeniw uwch am ynni. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud ynglŷn â'r angen i reoli'r cyfleoedd ychwanegol a ddaeth gyda datganiad y gwanwyn yn ddoeth, gan ei bod yn bur debyg y bydd angen yr arian hwnnw.

O ran cyfleoedd i drafod materion gyda'r Trysorlys, cefais drafodaeth gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fore ddoe, cyn datganiad y gwanwyn, a byddaf yn cyfarfod ag ef eto gyda Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn nes ymlaen y mis hwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y breakdown a'r dadansoddiad a roddoch chi o faint o arian a oedd yn dod yn sgil pa ddyraniadau ddaeth yn natganiad y gwanwyn ddoe. Mae'n bwysig, o ran tryloywder, ein bod ni'n cael y wybodaeth yna, ond oni ddylai hwnna fod wedi bod yn eich datganiad ysgrifenedig chi ddoe, yn hytrach na'n bod ni'n gorfod cael cwestiwn amserol i gael y wybodaeth yna? 

Thank you, Cabinet Secretary, for the breakdown and the analysis that you gave of how much money would come as a result of which allocations were made in the spring statement yesterday. It is important, in terms of transparency, that we get that information, but shouldn't that have been in your written statement yesterday, rather than us having to have a topical question to get that information? 

No. The Member must allow us a small amount of time to make sure that we understand the exact translation of decisions made behind the spring statement and where the money that flows to Wales comes from. I'm very pleased to have been able to set it all out for you this afternoon, but it does take a short period in order to be able to get behind the headlines in the spring statement and to understand exactly what the £555 million, which was announced in the spring statement, is made up of and how the various years work out, and how the split between capital and revenue works out, and so on. I'm glad to have been able to make it available to Members as soon as I was able.

Na. Rhaid i'r Aelod roi rhywfaint bach o amser inni sicrhau ein bod yn deall y penderfyniadau y tu ôl i ddatganiad y gwanwyn ac o ble y daw'r arian sy'n dod i Gymru. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu nodi'r cyfan i chi y prynhawn yma, ond mae'n cymryd rhywfaint bach o amser i allu archwilio'r penawdau yn natganiad y gwanwyn ac i ddeall beth yn union y mae'r £555 miliwn, a gyhoeddwyd yn natganiad y gwanwyn, yn ei gynnwys a sut olwg sydd ar y gwahanol flynyddoedd, a'r rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw ac yn y blaen. Rwy'n falch o fod wedi gallu ei ddarparu i'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn.

15:35
4. Datganiadau 90 eiliad
4. 90-second Statements

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Joel James.

Item 4 is the 90-second statements. The first statement will be from Joel James.

Thank you, Dirprwy Lywydd. On Sunday, many of us celebrated St David's Day, a proud commemoration of our shared national heritage and identity. But 1 March was also World Seagrass Day, a reminder that some of the most powerful forces shaping our environment lie quietly beneath the waves. As the Welsh Parliament's seagrass champion, I'm proud to be working alongside fantastic organisations such as Project Seagrass, the Marine Conservation Society, Seagrass Network Cymru, Wales Environment Link, and WWF Cymru to advocate for its protection and restoration.

Though modest in appearance, seagrass is one of our oceans' greatest allies. It can sequester carbon up to 35 times faster than tropical rainforests. It filters pollutants, improves water quality, provides vital nursery habitats for marine life, and protects our coastlines by reducing wave energy and flood risk. It is rightly described as one of our most important natural solutions. It is therefore essential that we do everything possible to protect and restore our seagrass meadows and confront the challenges that threaten them. As we mark St David's Day, let us also remember that protecting our natural environment goes hand in hand with protecting our communities and investing in Wales's future. Thank you.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sul, dathlodd llawer ohonom Ddydd Gŵyl Dewi, achlysur balch i goffáu ein treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol gyffredin. Ond roedd 1 Mawrth hefyd yn Ddiwrnod Morwellt y Byd, achlysur i'n hatgoffa fod rhai o'r grymoedd mwyaf pwerus sy'n ffurfio ein hamgylchedd yn gorwedd yn dawel o dan y don. Fel hyrwyddwr morwellt Senedd Cymru, rwy'n falch o weithio ochr yn ochr â sefydliadau gwych fel Prosiect Morwellt, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Rhwydwaith Morwellt Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, a WWF Cymru i eirioli dros ei ddiogelu a'i adfer.

Er ei fod yn edrych yn ddigon di-nod, mae morwellt yn un o gyfeillion pwysicaf ein cefnforoedd. Gall amsugno carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Mae'n hidlo llygryddion, yn gwella ansawdd dŵr, yn darparu cynefinoedd magu hanfodol ar gyfer bywyd morol, ac yn diogelu ein harfordiroedd drwy leihau ynni tonnau a risg llifogydd. Fe'i disgrifir, yn gywir ddigon, fel un o'n hatebion naturiol pwysicaf. Felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ac adfer ein dolydd morwellt ac yn gwrthsefyll yr heriau sy'n eu bygwth. Wrth inni nodi Dydd Gŵyl Dewi, gadewch inni gofio hefyd fod diogelu ein hamgylchedd naturiol yn mynd law yn llaw â diogelu ein cymunedau a buddsoddi yn nyfodol Cymru. Diolch.

Roedd hi'n Ddydd Gŵyl Dewi y penwythnos diwethaf, ac roedd yna ddathliad o'r radd flaenaf yng nghwm Tawe eleni, gyda chynnal eisteddfod leol newydd. Cynhaliwyd Eisteddfod Cwm Tawe yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ddydd Sadwrn, yn ffrwyth gwaith misoedd lawer gan wirfoddolwyr a oedd yn awyddus i weld parhau ar y bwrlwm ac i adeiladu ar y gefnogaeth ar gyfer y Gymraeg yn lleol yn sgil cynnal prifwyl yr Urdd yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef Eisteddfod Dur a Môr y llynedd.

Bu 88 o gystadlaethau canu, dawnsio, llefaru, offerynnol a gwaith cartref, gyda dros 500 o gystadleuwyr. Roedd hi'n benderfyniad bwriadol gan y pwyllgor i geisio annog dysgwyr i gymryd rhan, ac fe wnaethant â chryn frwdfrydedd. Daeth dros 1,000 o bobl drwy'r drysau. Felly, mae angen llongyfarch pawb a fu'n rhan o wneud Eisteddfod Cwm Tawe yn gymaint o lwyddiant.

Mae Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr hefyd wedi ysbrydoli sefydlu eisteddfod Nedd, a fydd yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin Castell-nedd ar 25 Ebrill. Mae dewis ysgol cyfrwng Saesneg fel y lleoliad yn benderfyniad bwriadol eto gan y trefnwyr, er mwyn adeiladu ar y ffigurau gwych o gystadlu a gafwyd gan ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal ym mharc Margam y llynedd.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi yr wythnos hon bwysigrwydd sicrhau mwy o gyfleodd cymunedol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg. Felly, hoffwn ddiolch o galon i drefnwyr y ddwy eisteddfod leol newydd yma yng Nghastell-nedd Port Talbot, a, thrwy hynny, sicrhau parhad ein hiaith a'n diwylliant ym mro Gwenallt a Dafydd Rowlands.

It was St David's Day last weekend, and there was a first-rate celebration in the Swansea valley this year, with a new local eisteddfod being held. Eisteddfod Cwm Tawe was held at Pontardawe Arts Centre on Saturday. It was the fruit of many months' work by volunteers who were eager to continue the activity and to build on the support for the Welsh language locally after the Urdd Eisteddfod was held in Neath Port Talbot, the Dur a Môr Eisteddfod of last year.

There were 88 competitions for singing, recitation, instrumental performances and homework, with over 500 participants. It was a deliberate decision by the organising committee to try to encourage Welsh learners to take part, and they did so with gusto. Over 1,000 people came through the doors. So, we must congratulate everyone who played a part in making Eisteddfod Cwm Tawe such a success.

The Dur a Môr Urdd Eisteddfod has also inspired the establishment of the Neath eisteddfod, which will be held at Dŵr-y-Felin Comprehensive School in Neath on 25 April this year. Choosing an English-medium school as the location is a deliberate decision again by the organisers, in order to build on the excellent number of local English-medium schools that competed in Margam park last year.

The Welsh Language Commissioner has noted this week the importance of ensuring that there are more opportunities in the community for using the Welsh language. So, I would like to extend my heartfelt thanks to the organisers of both of these new local eisteddfods in Neath Port Talbot, and, in doing so, ensuring the continuation of our language and culture in the home of Gwenallt and Dafydd Rowlands.

Last week was Eating Disorders Awareness Week. This year, it focuses on the theme of community, a theme that could not be more important here in Wales. At least 62,500 people in Wales are living with an eating disorder, with hundreds of thousands more affected as family members, friends or colleagues. Yet, despite these numbers, many people experience eating disorders in profound isolation. Eating disorders can change how people relate to others, often leading to withdrawal from social life and deep reluctance to speak about what they're going through. Those who support someone with an eating disorder can also become isolated, facing stigma, misunderstanding, and, in some cases, being forced to step away from work or education.

We know that early intervention offers the best chance of recovery, but isolation can delay help-seeking, when people do not recognise the problem, don't know support exists, or feel they are not ill enough to ask for help. And that is why community matters. Compassionate, informed communities, whether found in families, workplaces, peer support groups or online spaces, can be a lifeline. As one participant in the Beat online support group said, 'I feel a bit better just having a place where I can talk about these things comfortably.'

This Eating Disorders Awareness Week, I urge us all to support Beat's work, raise awareness, and help build communities where no-one faces an eating disorder alone. Diolch. 

Roedd hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yr wythnos diwethaf. Eleni, mae'n canolbwyntio ar thema cymuned, thema na allai fod yn bwysicach yma yng Nghymru. Mae o leiaf 62,500 o bobl yng Nghymru yn byw gydag anhwylder bwyta, gyda channoedd o filoedd yn rhagor yn cael eu heffeithio fel aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Ac eto, er y niferoedd hyn, mae llawer o bobl yn wynebu anhwylderau bwyta ar eu pen eu hunain. Gall anhwylderau bwyta newid y ffordd y mae pobl yn cysylltu ag eraill, gan arwain yn aml at dynnu'n ôl o fywyd cymdeithasol ac amharodrwydd dwfn i siarad ynglŷn â’r hyn y maent yn ei wynebu. Gall y rhai sy'n cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta hefyd deimlo'n ynysig, gan wynebu stigma, camddealltwriaeth, a chael eu gorfodi mewn rhai achosion i gamu'n ôl o waith neu addysg.

Gwyddom mai ymyrraeth gynnar sy'n cynnig y cyfle gorau i wella, ond gall ynysigrwydd atal pobl rhag ceisio cymorth, pan nad yw pobl yn cydnabod y broblem, heb wybod bod cymorth yn bodoli, neu'n teimlo nad ydynt yn ddigon sâl i ofyn am gymorth. A dyna pam fod cymuned yn bwysig. Gall cymunedau tosturiol, gwybodus, boed mewn teuluoedd, gweithleoedd, grwpiau cymorth gan gyfoedion neu fannau ar-lein, fod yn rhaff achub. Fel y dywedodd un cyfranogwr yn y grŵp cymorth ar-lein Beat, 'Rwy'n teimlo ychydig yn well yn cael lle i siarad am y pethau hyn yn gyfforddus.'

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni, rwy'n ein hannog ni oll i gefnogi gwaith Beat, codi ymwybyddiaeth, a helpu i adeiladu cymunedau lle nad oes unrhyw un yn wynebu anhwylder bwyta ar eu pen eu hunain. Diolch.

15:40
5. Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
5. Nomination under Standing Order 10.5 for the appointment of the Auditor General for Wales

Eitem 5 yw'r enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths. 

Item 5 is the nomination under Standing Order 10.5 for the appointment of the Auditor General for Wales, and I call on the Chair of the Finance Committee to move the motion. Peredur Owen Griffiths. 

Cynnig NDM9174 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5:

1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Adrian Crompton yn ystod ei dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Catherine Mealing-Jones i’w phenodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Fawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau yn syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.

Motion NDM9174 Peredur Owen Griffiths

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 10.5:

1. Expresses its gratitude for the contribution of Adrian Crompton during his term of office as Auditor General for Wales.

2. Acting under section 2(2) of the Public Audit (Wales) Act 2013, and having consulted representatives of local government bodies in Wales in accordance with section 2(3), nominates Catherine Mealing-Jones for appointment by His Majesty as Auditor General for Wales for a term of eight years to commence immediately after the current Auditor General for Wales ceases to hold office.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr. Penodiad y Goron yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dilyn enwebiad gan y Senedd o dan adran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Fel y pwyllgor â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi chwarae rôl drwy gydol y broses recriwtio hon, ac mae’r manylion llawn wedi’u cynnwys yn ein hadroddiad.

Thank you very much. The Auditor General for Wales is a Crown appointment, made on the nomination of the Senedd under section 2 of the Public Audit (Wales) Act 2013.

As the committee with delegated responsibility for overseeing arrangements relating to the Wales Audit Office, and the Auditor General for Wales, the Finance Committee has been involved throughout this recruitment process, and full details are outlined in the committee’s report.

As Members are aware, the auditor general is an essential role in Welsh public life. They ensure that our public bodies manage finances with efficiency and transparency, to the highest standards of governance. Their independence is fundamental to the integrity of the audit function, and it is this independence that underpins public trust in the way that Wales is governed.

Dirprwy Lywydd, I am pleased to move this motion today, on behalf of the committee, to nominate Catherine Mealing-Jones to His Majesty for appointment as the new auditor general.

I would like to begin by thanking the current auditor general, Adrian Crompton, for his dedication and significant contribution during his last eight years in post. Adrian has been an outstanding public servant and has served the post with distinction. I have had the pleasure of working with Adrian during my time as Chair of the Finance Committee, and I want to thank him for his positive and constructive engagement with us, as well as the insights and authority he has provided to the Senedd as a whole, which has informed our scrutiny work.

As outlined in our report, it is vital that the process of recruiting the auditor general is conducted in a way that removes it from any suggestion of political interference. As such, we ensured that two parties were represented on the appointment panel. Mark Isherwood and I represented the committees we chair, and we were joined by two other esteemed individuals, the chair of the Wales Audit Office board, Ian Rees, and the Comptroller and Auditor General for Jersey, Lynn Pamment.

Following the interviews, the preferred candidate attended a public pre-nomination hearing of the cross-party Finance Committee on 29 January, where members of the Public Accounts and Public Administration Committee were also invited to participate.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r archwilydd cyffredinol yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Maent yn sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn rheoli cyllid yn effeithlon ac yn dryloyw, i'r safonau llywodraethu uchaf. Mae eu hannibyniaeth yn hanfodol i uniondeb y swyddogaeth archwilio, a'r annibyniaeth hon sy'n sail i ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y pwyllgor, i enwebu Catherine Mealing-Jones i'w phenodi'n archwilydd cyffredinol newydd gan Ei Fawrhydi.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r archwilydd cyffredinol presennol, Adrian Crompton, am ei ymroddiad a'i gyfraniad sylweddol yn ei wyth mlynedd yn y swydd. Mae Adrian wedi bod yn was sifil rhagorol ac wedi gwasanaethu gyda rhagoriaeth. Cefais y pleser o weithio gydag Adrian yn fy nghyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ddiolch iddo am ei ymgysylltiad cadarnhaol ac adeiladol â ni, yn ogystal â'r mewnwelediadau a'r awdurdod y mae wedi'u darparu i'r Senedd gyfan i lywio ein gwaith craffu.

Fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad, mae'n hanfodol fod y broses o recriwtio'r archwilydd cyffredinol yn cael ei chynnal mewn ffordd sy'n ei rhyddhau oddi wrth unrhyw awgrym o ymyrraeth wleidyddol. O'r herwydd, fe wnaethom sicrhau bod dwy blaid wedi'u cynrychioli ar y panel penodi. Roedd Mark Isherwood a minnau'n cynrychioli'r pwyllgorau rydym yn eu cadeirio, ac ymunodd dau unigolyn uchel eu parch arall â ni, cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Ian Rees, a Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Jersey, Lynn Pamment.

Yn dilyn y cyfweliadau, mynychodd yr ymgeisydd a ffefrir wrandawiad cyn enwebu cyhoeddus y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol ar 29 Ionawr, lle gwahoddwyd aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gymryd rhan hefyd.

Mae'r pwyllgor yn credu’n gryf fod cynnal gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau bod yr ymgeisydd a nodwyd fel yr unigolyn mwyaf addas ar gyfer y rôl yn destun gwaith craffu agored a thryloyw. Yn ystod y gwrandawiad gyda Catherine, gwnaethom archwilio ei chymhwysedd proffesiynol, sut y mae'n bwriadu ymgymryd â rôl yr archwilydd cyffredinol, a'r profiad a'r arbenigedd sydd ganddi a fyddai’n berthnasol i'r swydd.

Mae Catherine wedi dangos ymrwymiad cadarn i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei gyrfa nodedig hyd yn hyn, ac mae hefyd yn dangos tystiolaeth o’r prif rinweddau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Felly, dyma ofyn i'r Senedd dderbyn y cynnig hwn i enwebu Catherine Mealing-Jones er mwyn i Ei Fawrhydi ei phenodi'n Archwilydd Cyffredinol Cymru. Diolch yn fawr.

The committee firmly believes that a pre-nomination hearing ensures open and transparent scrutiny of the candidate identified as the most suitable. During the hearing with Catherine, we explored her professional competence, how she is planning to undertake the role of auditor general, and the experience and expertise she would bring to the position.

Catherine has shown a deep commitment to public service throughout her distinguished career to date, and has also demonstrated the key attributes required of this position. I therefore ask the Senedd to agree the motion to nominate Catherine Mealing-Jones to His Majesty for appointment as Auditor General for Wales. Thank you very much.

Does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

There are no other speakers. Therefore, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? There is no objection. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Y rhwydwaith rheilffyrdd
6. Plaid Cymru Debate: The rail network

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, and amendment 2 in the name of Paul Davies. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected.

Eitem 6 ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Cymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig. 

Item 6 on our agenda is the Plaid Cymru debate on the rail network, and I call on Peredur Owen Griffiths to move the motion. 

Cynnig NDM9189 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at dan-ariannu hanesyddol a systematig rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraethau olynol y DU.

2. Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwario mewn meysydd heb eu datganoli i wneud iawn am y diffyg hwn, ar linellau craidd y cymoedd er enghraifft.

3. Yn nodi:

a) nad yw cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gostio i raddau helaeth ar gyfer tymor seneddol presennol y DU; a

b) absenoldeb addewidion pendant a chynllun i ariannu'r prosiectau seilwaith rheilffyrdd sydd ar y gweill drwy adolygiadau gwariant Llywodraeth y DU sydd i ddod.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwneud yr achos i Lywodraeth y DU i egluro pryd y bydd Cymru yn cael y buddsoddiad arfaethedig ac i ba raddau y mae'n ddibynnol ar benderfyniadau cyllideb Llywodraeth y DU yn y dyfodol; a

b) gwneud yr achos i Lywodraeth y DU i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru, yn unol â phwerau sydd eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Motion NDM9189 Heledd Fychan

To propose that the Senedd:

1. Regrets the historic and systematic underfunding of the Welsh rail network by successive UK Governments.

2. Further regrets that the Welsh Government has had to spend in non-devolved areas to make up the shortfall, such as on the core valley lines.

3. Notes that:

a) the UK Government's recent announcement on rail investment in Wales is largely uncosted during the current UK parliamentary term; and

b) the absence of concrete promises and a plan to fund the pipeline of rail infrastructure projects through upcoming UK Government spending reviews.

4. Calls on the Welsh Government to:

a) make representations to the UK Government to clarify when Wales will be in receipt of the proposed investment and the extent to which it is dependent on the budget decisions of a future UK Government; and

b) make representations to the UK Government to devolve rail infrastructure in full to Wales, in line with powers already exercised by Scotland and Northern Ireland.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Unwaith eto. Diolch, Dirprwy Lywydd. Am ddegawdau, mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef tanfuddsoddiad cronig. Tra bod prosiectau enfawr wedi eu hariannu yn Llundain a thu hwnt, mae Cymru wedi gorfod aros: aros am drydaneiddio, aros am welliannau, aros am degwch. Nid mater o ddamcaniaeth wleidyddol ydy hyn; mae'n batrwm clir o flaenoriaethu buddsoddiadau yn un rhan o'r Deyrnas Unedig dros rannau eraill.

A phan ddaw cyhoeddiad mawr, mae Cymru’n cael y pennawd, ond nid y sicrwydd. Rydym wedi gweld hyn o’r blaen. Addawyd trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Addawyd trawsnewid. Ond pan ddaeth hi’n amser talu, diflannodd yr ymrwymiad yn dilyn canlyniad yr etholiad. Rŵan, rydyn ni'n clywed sôn am £14 biliwn. Ond beth yn union ydy’r £14 biliwn hwnnw? Ydy o'n arian wedi’i addo? Ydy o'n ymrwymiad gyda phroffil gwariant clir? Neu a ydy o yn amcangyfrif hirdymor aneglur, yn dibynnu ar ewyllys gwleidyddol yn San Steffan? Oherwydd os mai’r olaf ydi o, fel dwi’n tybio, yna nid yw'n setliad ariannol pendant a dibynadwy. Mae'n obeithion ar bapur neu'n daflen etholiad cyfleus. Mae Cymru wedi byw ar obeithion fel hyn yn rhy hir.

Once again. Thank you, Dirprwy Lywydd. For decades, Wales's railway network has suffered chronic underfunding. While major projects have been funded in London and beyond, Wales has had to wait: wait for electrification, wait for improvements, and wait for fairness. This is not a matter of political theory; it's a clear pattern of prioritising investments in one part of the United Kingdom over other parts.

And when major announcements are made, Wales gets the headline, but not the certainty. We've seen this before. We were promised electrification of the north Wales main line. We were promised transformation. But when it came time to pay, the commitments disappeared following the election result. Now, we hear mention made of £14 billion. But what exactly does that £14 billion mean? Is it a funding promise? Is it a commitment with a clear spending profile? Or is it a nebulous and long-term estimate, depending on political goodwill at Westminster? Because if it is the latter, as I suspect, then there is no definite and dependable funding settlement. It's a hope written on paper or a convenient election pamphlet. Wales has lived on hopes like these for too long.

Last year, Professor Mark Barry made the point that if there is no political will on either side of the M4 to hand Wales full responsibility for its rail network, then Wales should be entitled to a ring-fenced fund of £2 billion to £3 billion over the next 15 years. In the most recent UK Government announcement, there is no confirmed additional funding within the current spending review period to March 2030. In practical terms, this is an uncosted announcement. At the current rate, it would take decades—dozens of spending reviews—to deliver what has been trailed. What we have been presented with is not a fully funded rail settlement, it is a long-term pipeline presented as a guarantee.

The £14 billion headline is not a cheque written to Wales, it’s an estimate of what projects might cost if future Governments decide to fund them. Within this spending review period, only a fraction is confirmed. The rest depends on political will, the very political will that Wales has too often found lacking. If this was genuinely locked in, Ministers could publish the year-by-year funding profile. They could confirm that the capital allocations are guaranteed, irrespective of who forms the next UK Government. They could show the Treasury line. But they cannot, because this is not certainty, it’s aspiration.

When a round-numbered, eye-catching £14 billion transformation appears on the eve of an election, without binding allocations or delivery schedules, people are entitled to ask whether this is infrastructure planning or electioneering. Where have we heard this type of thing before? We heard it on electrification of the north Wales main line—a promise delivered on the eve of another election that even the current Secretary of State said she was very, very suspicious of. When community groups across Wales that have worked tirelessly on making the case for new railway stations are encouraged by visits from the Prime Minister promising goodies, I fear they might be disappointed. I hope, for their sake, that the UK Government will follow through, regardless of election results.

Coming to the fundamental issue, as long as rail infrastructure remains reserved, Wales does not control its own destiny. We wait. We lobby. We negotiate. And, too often, we lose out. When rail powers were devolved to Scotland and Northern Ireland, they received funding adjustments. Wales did not. Regrettably, the Welsh Government has had to spend in non-devolved areas to plug the gap. Historically, the Welsh Government has funded most south Wales projects from the block grant, and has even offered to increase its contribution so that further schemes could get off the ground.

We saw this again recently, when the Welsh Government had to commit £21 million towards improvements at Cardiff Central station, stepping in where Westminster has fallen short. In 2020, we got operational control of the core Valleys lines when they were transferred to the Welsh Government. But without a fair corresponding uplift to the block grant, can we honestly describe that as full devolution?

Indeed, the Cabinet Secretary himself, in his first stint with the transport brief, made precisely this point in 2020—when the core Valleys lines were transferred to the Welsh Government—that unless the block grant was adjusted accordingly, then it is not in the spirit of devolution. We are now six years later, and it’s still the case.

We have been required to top up the funding from within our existing settlement, placing pressure on health, education and local government to cover projects that should have come with resource attached. Full devolution of rail infrastructure, accompanied by a fair and permanent adjustment to the block grant, would end this uncertainty. It would lock in a change to the funding formula, it would remove reliance on goodwill, and it would allow long-term planning instead of short-term patchwork. Certainty instead of press releases, delivery instead of headlines. Wales deserves a rail network that is properly funded, properly planned, and properly accountable to the people it serves. Only a Plaid Cymru Government will stand up for Wales and deliver the new leadership that it so desperately needs.

Y llynedd, gwnaeth yr Athro Mark Barry y pwynt, os nad oes ewyllys wleidyddol ar y naill ben i'r M4 i roi cyfrifoldeb llawn i Gymru am ei rhwydwaith rheilffyrdd, dylai Cymru fod â hawl i gronfa wedi'i chlustnodi o £2 biliwn i £3 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf. Yn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi'i gadarnhau o fewn cyfnod yr adolygiad o wariant presennol hyd at fis Mawrth 2030. Yn ymarferol, mae hwn yn gyhoeddiad heb ei gostio. Ar y cyflymdra presennol, byddai'n cymryd degawdau—dwsinau o adolygiadau o wariant—i gyflawni'r gwaith a nodwyd. Nid setliad rheilffyrdd wedi'i ariannu'n llawn yw'r hyn sydd wedi'i gyflwyno i ni, ond cynllun hirdymor wedi'i gyflwyno fel gwarant.

Nid siec wedi'i hysgrifennu i Gymru yw'r £14 biliwn, ond amcangyfrif o faint y gallai prosiectau gostio pe bai Llywodraethau'r dyfodol yn penderfynu eu hariannu. O fewn cyfnod yr adolygiad o wariant hwn, dim ond ffracsiwn sydd wedi'i gadarnhau. Mae'r gweddill yn dibynnu ar ewyllys wleidyddol, yr union ewyllys wleidyddol y mae Cymru wedi bod yn brin ohoni yn rhy aml. Pe bai hyn wedi'i gadarnhau go iawn, gallai Gweinidogion gyhoeddi'r proffil ariannu blynyddol. Gallent gadarnhau bod y dyraniadau cyfalaf wedi'u gwarantu, pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf y DU. Gallent ddangos llinell wariant y Trysorlys. Ond ni allant, oherwydd nid sicrwydd yw hwn, ond dyhead.

Pan fydd trawsnewidiad trawiadol gwerth £14 biliwn yn ymddangos ar drothwy etholiad, heb ddyraniadau rhwymol nac amserlenni cyflawni, mae gan bobl hawl i ofyn ai cynllunio seilwaith neu ymgyrchu etholiadol yw hyn mewn gwirionedd. Ble y clywsom y math hwn o beth o'r blaen? Fe'i clywsom mewn perthynas â thrydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru—addewid a wnaed ar drothwy etholiad arall y dywedodd hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwladol presennol ei bod yn amheus tu hwnt ohono. Pan fydd grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ar ddadlau'r achos dros orsafoedd rheilffordd newydd yn cael eu calonogi gan ymweliadau gan y Prif Weinidog sy'n addo'r byd, rwy'n ofni y gallent gael eu siomi. Er eu mwyn nhw, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair, beth bynnag y bo canlyniadau'r etholiad.

Gan ddod at y mater sylfaenol, cyhyd â bod seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, nid yw Cymru'n rheoli ei thynged ei hun. Rydym yn aros. Rydym yn lobïo. Rydym yn negodi. Ac yn rhy aml, rydym ar ein colled. Pan ddatganolwyd pwerau rheilffyrdd i'r Alban a Gogledd Iwerddon, cawsant addasiadau cyllid. Ni chafodd Cymru mohonynt. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwario mewn meysydd heb eu datganoli i lenwi'r bwlch. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r rhan fwyaf o brosiectau de Cymru o'r grant bloc, ac mae hyd yn oed wedi cynnig cynyddu ei chyfraniad fel y gall cynlluniau pellach ddechrau.

Gwelsom hyn eto yn ddiweddar, pan fu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo £21 miliwn tuag at welliannau yng ngorsaf Caerdydd Canolog, gan ddarparu cymorth lle mae San Steffan wedi methu. Yn 2020, cawsom reolaeth weithredol dros linellau craidd y Cymoedd pan gawsant eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Ond heb gynnydd teg a chyfatebol yn y grant bloc, a allwn alw hynny'n onest yn ddatganoli llawn?

Yn wir, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, yn ei gyfnod cyntaf gyda'r briff trafnidiaeth, yr union bwynt hwn yn 2020—pan drosglwyddwyd llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru—sef oni bai fod y grant bloc yn cael ei addasu yn unol â hynny, nid yw yn ysbryd datganoli. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod yn wir.

Rydym wedi gorfod ychwanegu at y cyllid gydag arian o'n setliad presennol, gan roi pwysau ar iechyd, addysg a llywodraeth leol i dalu am brosiectau a ddylai fod wedi dod gydag adnoddau. Byddai datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn, ynghyd ag addasiad teg a pharhaol i'r grant bloc, yn dod â'r ansicrwydd hwn i ben. Byddai'n newid y fformiwla gyllido'n barhaol, byddai'n cael gwared ar ddibyniaeth ar ewyllys da, a byddai'n caniatáu cynllunio hirdymor yn hytrach na chlytwaith o fesurau tymor byr. Sicrwydd yn hytrach na datganiadau i'r wasg, cyflawniad yn hytrach na phenawdau. Mae Cymru'n haeddu rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i ariannu'n iawn, wedi'i gynllunio'n iawn, ac yn briodol atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Dim ond Llywodraeth Plaid Cymru sy'n mynd i sefyll dros Gymru a sicrhau'r arweinyddiaeth newydd y mae ei hangen mor daer.

15:50

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Jane Hutt.

I have selected the amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. I call on the Cabinet Secretary for Transport and North Wales to formally move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at dybiaeth anghywir Plaid Cymru nad yw llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli.

2. Yn nodi bod llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli yn 2020.

3. Yn credu bod y sylwadau a fynegwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau gan arsylwyr yn dangos bod y ddadl dros gyllid i’r rheilffyrdd bellach wedi’i hennill, a gall y drafodaeth bellach symud ymlaen i gyflawni manteision mesuradwy i Gymru a’r Gororau.

4. Yn cefnogi’r canlynol: 

a) y trawsnewidiad datganoledig gwerth £1 biliwn o linellau craidd y cymoedd a arweinir gan Lywodraeth Cymru ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r fargen ddinesig ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd;

b) cynllun Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd, ‘Ymlaen, Gyda’n Gilydd’; a

c) bod y buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yn digwydd cyn gynted â phosibl.

Amendment 1—Jane Hutt

Delete all and replace with:

To propose that the Senedd:

1. Regrets Plaid Cymru’s mistaken belief that the core valley lines are not devolved.

2. Notes devolution of the core valley lines took place in 2020

3. Believes that views recently expressed in the media by observers demonstrate that the argument over rail funding has now been won, and the debate can now move on to delivering tangible benefits for Wales and the Borders.

4. Supports:

a) the devolved £1 billion transformation of the core valley lines led by the Welsh Government and funded by the Welsh Government, the UK Government and the city deal for the Cardiff Capital Region;

b) the Transport for Wales plan for rail, ‘Today, Tomorrow, Together’; and

c) delivery on rail infrastructure investment now happening as fast as possible.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Amendment 1 moved.

Moved.

Rwy'n cynnig y gwelliant.

Galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

I call on Sam Rowlands to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru.

2. Yn nodi bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd trawsffiniol yn hanfodol i sicrhau bod Cymru'n cael ei chysylltu'n llawn o fewn y Deyrnas Unedig.

3. Yn nodi nad oedd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar orsafoedd rheilffordd newydd yn ymrwymiadau newydd gan eu bod wedi'u cyhoeddi mewn adolygiadau gwariant blaenorol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch:

a) adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru

b) darparu cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd Rhydychen a Chaergrawnt

Amendment 2—Paul Davies

Delete all and replace with:

To propose that the Senedd:

1. Recognises the importance of good transport connectivity to the economic prosperity of Wales.

2. Notes that investment in cross-border rail infrastructure is fundamental to ensuring Wales is fully connected within the United Kingdom.

3. Notes that the UK Government's recent announcement on new rail stations were not new commitments as they were announced in previous spending reviews

4. Calls on the Welsh Government to make representations to the UK Government to:

a) reinstate funding for electrification of the North Wales Mainline

b) provide consequential funding for Wales as a result of spending on HS2 and the Oxford and Cambridge rail investments

Cynigiwyd gwelliant 2.

Amendment 2 moved.

Diolch, Deputy Presiding Officer. I move the amendment in my colleague's name, Paul Davies, as laid out on the order paper. As Welsh Conservatives, we believe that good transport is not just a luxury, it's the backbone of a modern, growing economy. Today we are debating not just railways, but whether Wales chooses connectivity and co-operation within the United Kingdom, or whether we allow Plaid Cymru to drag us further down the well-worn path towards separation from the United Kingdom.

The Welsh Conservatives' amendment is clear. We recognise the importance of good transport connectivity to the economic prosperity of Wales. We know that investment in rail infrastructure that criss-crosses our nation is fundamental to ensuring Wales is fully connected within the United Kingdom.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies, fel y'i nodir ar y papur trefn. Fel Ceidwadwyr Cymreig, credwn nad moethusrwydd yn unig yw trafnidiaeth dda, ond asgwrn cefn economi fodern sy'n tyfu. Heddiw, rydym yn trafod nid yn unig rheilffyrdd, ond a yw Cymru'n dewis cysylltedd a chydweithrediad o fewn y Deyrnas Unedig, neu a ydym yn caniatáu i Blaid Cymru ein llusgo ymhellach i lawr y llwybr hir tuag at wahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig.

Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn glir. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru. Gwyddom fod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd sy'n croesi ein cenedl yn hanfodol i sicrhau bod Cymru wedi'i chysylltu'n llawn o fewn y Deyrnas Unedig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

Do you, therefore, regret that the previous UK Conservative Government didn't deliver on this for Wales either?

Felly, a ydych chi'n gresynu na lwyddodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU i gyflawni hyn i Gymru chwaith?

What I do acknowledge, absolutely, is that the previous UK Conservative Government, in control periods five and six, invested £750 million and £350 million respectively, far surpassing what UK Labour are investing, £445 million. We think that it's absolutely essential that we're part of the United Kingdom, unlike the separatists in Plaid Cymru, who want to pull us away from the United Kingdom. We call for fairness—fairness in funding, fairness in classification, and fairness for the people of Wales.

Let me start with Plaid Cymru's central demand within this motion here today. They, obviously, seek full devolution of rail infrastructure. But let's be honest about this. It's not about creating better efficiency. It's not about creating better service delivery. It's all part of Plaid's strategy—incremental powers, one by one, designed to edge Wales further toward their ultimate objective, which is independence. Of course, we know, according to the UK Government, the cost of that independence is around £20 billion to taxpayers here in Wales. That's £11,000 per taxpayer here in Wales.

Yr hyn rwy'n ei gydnabod yn llwyr yw bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yng nghyfnodau rheoli pump a chwech, wedi buddsoddi £750 miliwn a £350 miliwn, yn y drefn honno, sy'n llawer mwy na'r hyn y mae Llafur y DU yn ei fuddsoddi, sef £445 miliwn. Rydym yn credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn wahanol i'r ymwahanwyr ym Mhlaid Cymru, sydd am ein datgysylltu o'r Deyrnas Unedig. Rydym yn galw am degwch—tegwch mewn cyllid, tegwch mewn dosbarthiad, a thegwch i bobl Cymru.

Gadewch imi ddechrau gyda galwad sylfaenol Plaid Cymru yn y cynnig hwn yma heddiw. Yn amlwg, maent eisiau datganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Ond gadewch inni fod yn onest ynglŷn â hyn. Nid yw'n ymwneud â chreu gwell effeithlonrwydd. Nid yw'n ymwneud â darparu gwasanaethau'n well. Mae'r cyfan yn rhan o strategaeth Plaid Cymru—pwerau cynyddrannol, un ar ôl y llall, wedi'u llunio i wthio Cymru ymhellach tuag at eu hamcan terfynol, sef annibyniaeth. Wrth gwrs, fe wyddom, yn ôl Llywodraeth y DU, fod cost yr annibyniaeth honno oddeutu £20 biliwn i drethdalwyr yma yng Nghymru. Dyna £11,000 gan bob trethdalwr yma yng Nghymru.

Will you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

I'm not as ideologically driven as the Conservative Member is. Can he confirm that he is happy for Wales to be underfunded for rail, as long as rail stays centralised at Westminster?

Nid wyf mor ideolegol â'r Aelod Ceidwadol. A all gadarnhau ei fod yn fwy na pharod i reilffyrdd Cymru gael eu tanariannu, cyhyd â bod y pŵer dros reilffyrdd yn parhau i fod wedi'i ganoli yn San Steffan?

We're absolutely calling for investment into Wales, and that's why we joined colleagues across this Chamber to ensure that HS2 funding comes through to Wales, not seen as an England and Wales project. Plaid Cymru is involved in every debate. Every debate they're involved in becomes the same debate. Every issue becomes a constitutional grievance, and rail infrastructure is simply the latest vehicle for that agenda. The Welsh Conservatives firmly oppose—

Yn sicr, rydym yn galw am fuddsoddiad yng Nghymru, a dyna pam y gwnaethom ymuno â chyd-Aelodau ar draws y Siambr hon i sicrhau bod cyllid HS2 yn dod i Gymru, yn hytrach na'i fod yn cael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr. Mae Plaid Cymru yn rhan o bob dadl. Mae pob dadl y maent yn rhan ohoni yn troi o gwmpas yr un ddadl. Mae pob mater yn dod yn gŵyn gyfansoddiadol, a seilwaith rheilffyrdd yw’r cyfrwng diweddaraf ar gyfer yr agenda honno. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’n gryf—

Can I make an intervention, please?

A gaf i wneud ymyriad, os gwelwch yn dda?

Thank you so much. I'm not Plaid Cymru. I'm the Welsh Liberal Democrats. We don't believe in independence, and yet we want the devolution—full devolution—of rail funding to Wales. So, could you just amend your position, please, to say that it's not pro-independence? Because it's not. Diolch.

Diolch yn fawr. Nid wyf yn aelod o Blaid Cymru. Rwy'n aelod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Nid ydym yn credu mewn annibyniaeth, ac eto rydym am i gyllid rheilffyrdd gael ei ddatganoli—ei ddatganoli'n llawn—i Gymru. Felly, a allech chi ddiwygio'ch safbwynt, os gwelwch yn dda, i ddweud nad yw o blaid annibyniaeth? Oherwydd nid yw hynny'n wir. Diolch.

It sounds like quite a confused message from the Liberal Democrats there, which is nothing new for them either.

We firmly oppose any further devolution of rail infrastructure. Wales's economy depends on that cross-border connectivity. Businesses in Wrexham trade with Chester, of course, and firms in Cardiff trade with Bristol and London. Our rail network does not stop at our borders, and nor should our strategic planning.

To be fair to Plaid Cymru, they do seem a little confused, as we've seen from the Government's amendments that they've laid today. Let me read out the Government's amendments. Their first point in the amendment says:

'Regrets Plaid Cymru's mistaken belief that the core valley lines are not devolved.'

There's certainly some confusion there. The second amendment from the Government says:

'Notes devolution of the core valley lines took place in 2020'.

[Interruption.] A fourth intervention, Llywydd, just for the record.

Mae'n swnio fel neges eithaf dryslyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yno, nad yw'n ddim byd newydd iddynt hwythau chwaith.

Rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw ddatganoli pellach i'r seilwaith rheilffyrdd. Mae economi Cymru’n dibynnu ar gysylltedd trawsffiniol. Mae busnesau yn Wrecsam yn masnachu â Chaer, wrth gwrs, ac mae cwmnïau yng Nghaerdydd yn masnachu â Bryste a Llundain. Nid yw ein rhwydwaith rheilffyrdd yn dod i ben ar ein ffiniau, ac ni ddylai ein cynlluniau strategol wneud hynny chwaith.

A bod yn deg â Phlaid Cymru, maent i'w gweld braidd yn ddryslyd, fel y gwelsom o welliannau'r Llywodraeth a gyflwynwyd heddiw. Gadewch imi ddarllen gwelliannau'r Llywodraeth. Mae eu pwynt cyntaf yn y gwelliant yn cynnig ein bod:

'Yn gresynu at dybiaeth anghywir Plaid Cymru nad yw llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli.'

Yn sicr, mae rhywfaint o ddryswch yno. Mae’r ail welliant gan y Llywodraeth yn dweud:

'Yn nodi bod llinellau craidd y cymoedd wedi’u datganoli yn 2020'.

[Torri ar draws.] Pedwerydd ymyriad, Lywydd, er gwybodaeth.

15:55

Were you not listening when I said in my contribution earlier that it can't be full devolution if you don't get the funding and the block grant adjustment?

Onid oeddech chi'n gwrando pan ddywedais yn fy nghyfraniad yn gynharach na all fod yn ddatganoli llawn os na chewch y cyllid a'r addasiad i'r grant bloc?

I clearly wasn't listening closely enough, but there's clearly some confusion amongst Plaid Cymru ranks as to how the devolution of rail currently works.

The second part of the confusion, I think, from Plaid Cymru ranks, is in their amendment on 4(b), where they are calling for this rail infrastructure devolution in line with powers already exercised by Scotland. Of course, rail infrastructure in Scotland is run by Network Rail. So, by rolling back the already devolved powers on the core Valleys lines, Plaid Cymru are actually looking to move further away from the devolution of rail if they want what Scotland has, as I say, because that is fully managed by Network Rail.

On the funding, HS2 is where we may be able to agree. HS2 has been classified as an England and Wales project, and yet not a single mile of track will be laid in Wales. That's simply not good enough. The Welsh Conservatives consistently said that Wales should receive that consequential funding from HS2, and we said that when we were in power as well as Welsh Conservatives. A matter of—[Interruption.] A fifth intervention, Llywydd.

Yn amlwg, nid oeddwn yn gwrando'n ddigon astud, ond mae'n amlwg fod rhywfaint o ddryswch yn rhengoedd Plaid Cymru ynghylch sut y mae datganoli rheilffyrdd yn gweithio ar hyn o bryd.

Mae'r ail ran o'r dryswch yn rhengoedd Plaid Cymru yn eu gwelliant 4(b), lle maent yn galw am ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn unol â phwerau sydd eisoes gan yr Alban. Wrth gwrs, Network Rail sy'n rhedeg y seilwaith rheilffyrdd yn yr Alban. Felly, drwy ddileu'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli ar linellau craidd y Cymoedd, mae Plaid Cymru mewn gwirionedd eisiau ymbellhau oddi wrth ddatganoli rheilffyrdd os ydynt eisiau'r hyn sydd gan yr Alban, fel y dywedaf, gan fod eu seilwaith nhw o dan reolaeth lawn Network Rail.

Ar y cyllid, HS2 yw lle y gallem gytuno o bosib. Mae HS2 wedi'i ddosbarthu yn brosiect Cymru a Lloegr, ac eto ni fydd milltir o drac yn cael ei osod yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn gyson y dylai Cymru gael y cyllid canlyniadol hwnnw yn sgil HS2, ac fe wnaethom ddweud hynny pan oeddem mewn grym hefyd fel Ceidwadwyr Cymreig. Mater o—[Torri ar draws.] Pumed ymyriad, Lywydd.

Just for accuracy, Sam, that was not the Conservative position until the election when you joined the Senedd, and the position of the Tory group changed. Initially, the Tory group resisted the calls of many in this Chamber who wanted HS2 consequentials devolved. And also you are forgetting the broken promise by the Conservative transport Secretary to electrify the railway line to Swansea, which was then cancelled on the grounds that the Department for Transport didn't think it was good value for money. That is why we need to devolve rail funding, because it allows us to make those judgments ourselves based on the consequential share of the England railway fund, rather than be judged according to schemes in other parts of England.

Er cywirdeb, Sam, nid dyna oedd safbwynt y Ceidwadwyr tan yr etholiad pan ymunoch chi â'r Senedd, ac fe newidiodd safbwynt y grŵp Torïaidd. I ddechrau, gwrthododd y grŵp Torïaidd alwadau llawer yn y Siambr hon a oedd eisiau i gyllid canlyniadol HS2 gael ei ddatganoli. Ac rydych chi hefyd yn anghofio'r addewid a dorrwyd gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, cynllun a gafodd ei ganslo wedyn ar y sail nad oedd yr Adran Drafnidiaeth yn credu ei fod yn darparu gwerth da am arian. Dyna pam y mae angen inni ddatganoli cyllid rheilffyrdd, am ei fod yn caniatáu inni wneud y penderfyniadau hynny ein hunain ar sail cyfran ganlyniadol o gronfa rheilffyrdd Lloegr, yn hytrach na chael ein barnu yn ôl cynlluniau mewn rhannau eraill o Loegr.

I think what the Member isn't acknowledging is the strategic importance of that cross-border planning, and why actually we need to work across the United Kingdom. On HS2 funding, though, Welsh Conservatives—certainly during this term that I have been a Member here—have consistently called for that funding to come through to Wales.

When we talk about honesty in this debate, let us look at the recent £445 million UK Labour Government announcement for those new stations, which, of course, is an investment that we welcome here in Wales, but these are stations that have already been announced previously. It is not new money; they are repackaged commitments. The £14 billion support package being trailed remains speculative and without firm delivery timelines, to say the best of that.

As I said earlier to the Member who intervened, let us not forget that during control periods 5 and 6, the previous UK Conservative Government invested £750 million and £350 million respectively into Welsh rail infrastructure, far surpassing the commitments by the current UK Labour Government.

Llywydd, I believe my time is probably getting to an end, so I will draw my comments to a close. I want to be clear on what it is that we stand for. We stand for strong transport links across Wales and across the United Kingdom as an enabler for economic growth. We stand for fairness in funding. What we do not stand for is constitutional grandstanding disguised as infrastructure policy. Plaid Cymru see rail as another stepping stone to independence. We see rail as a means to create jobs, grow businesses, connect communities, and strengthen Wales within a successful United Kingdom. I urge all Members to support the Welsh Conservative amendments. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu mai'r hyn nad yw'r Aelod yn ei gydnabod yw pwysigrwydd strategol y cynllunio trawsffiniol hwnnw, a pham fod angen inni weithio ledled y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Ar gyllid HS2, fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig—yn sicr yn y tymor hwn ers imi fod yn Aelod yma—wedi galw'n gyson am i'r cyllid hwnnw ddod i Gymru.

Pan fyddwn yn sôn am onestrwydd yn y ddadl hon, gadewch inni edrych ar y cyhoeddiad diweddar o £445 miliwn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer y gorsafoedd newydd hynny, sydd, wrth gwrs, yn fuddsoddiad yr ydym yn ei groesawu yma yng Nghymru, ond mae'r rhain yn orsafoedd sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Nid yw'n arian newydd; maent yn ymrwymiadau wedi'u hailbecynnu. Mae'r pecyn cymorth o £14 biliwn y sonnir amdano'n parhau i fod yn ddamcaniaethol a heb amserlenni cyflawni cadarn, a dweud y lleiaf.

Fel y dywedais yn gynharach wrth yr Aelod a ymyrrodd, gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yng nghyfnodau rheoli 5 a 6, wedi buddsoddi £750 miliwn a £350 miliwn yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, sydd ymhell uwchlaw'r ymrwymiadau gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU.

Lywydd, rwy'n credu bod fy amser yn dod i ben, felly rwyf am orffen fy sylwadau. Rwyf am fod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym yn sefyll o'i blaid. Rydym yn sefyll o blaid cysylltiadau trafnidiaeth cryf ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig fel galluogwr twf economaidd. Rydym yn sefyll o blaid cyllid teg. Yr hyn nad ydym yn sefyll o'i blaid yw siarad mawr cyfansoddiadol dan gochl polisi seilwaith. Mae Plaid Cymru yn edrych ar reilffyrdd fel carreg sarn arall tuag at annibyniaeth. Rydym ni'n edrych ar reilffyrdd fel modd o greu swyddi, tyfu busnesau, cysylltu cymunedau, a chryfhau Cymru mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.

I think the Member that has just gone before me perhaps refused to acknowledge the historic underfunding by his own party and tried to justify that historic underinvestment.

I will start with a positive in my contribution. I do welcome the publication of Transport for Wales's plans. I think there is a lot to be positive about there. I regret that it has taken 27 years to get a plan in place. And also, I think we do have to reflect on the fact that the Secretary of State for Wales, the current one, Jo Stevens, did defend the historic underfunding continuation that we saw in the spending review by saying that the Welsh Government got everything it asked for. Everything it asked for. So, it is about time that we had this plan.

Over the past week, the Welsh Government has spoken with great enthusiasm about the UK Government's latest rail investment announcement. And if these commitments were firm, funded and guaranteed, they would indeed be welcome. I would think that every Member of Welsh Labour would want to be here and contributing to this debate. But they're not, are they? Because Wales has faced decades of chronic underinvestment by successive UK Governments and there's no sign that that's going to change. The damage is real. That underinvestment, those false promises, are real.

But we in Wales have learned time and again to treat such promises from Westminster with caution. We have earned the right to be sceptical because we've been let down too many times. We remember the commitment to electrify the Cardiff to Swansea main line—dropped overnight. We remember the pledge to upgrade the north Wales main line—allowed to fade away without explanation. We remember Labour's promise to reverse the injustice of the high speed 2 line, only for it to evaporate as quickly as Labour got the keys to Downing Street. I don't know how the Secretary of State for Wales can justify that u-turn.

Peredur, too, outlined—and I hope Sam will be listening now, because I will repeat it for his benefit—the transferring of the core Valleys line to the Welsh Government in 2020, but without the corresponding adjustments to the block grant. Hence why respected experts such as Professor Mark Barry referred to the devolution of the core Valleys line in inverted commas. Why are we treated differently to both Scotland and Northern Ireland?

And when it comes to this latest announcement, when we scrutinise the detail, the numbers simply do not add up. And I'd be grateful if the Cabinet Secretary would outline in his response how the figure was calculated. And of the headline £14 billion being touted, only £445 million relates to the current spending review period, and even that is spread thinly over a decade. For context, Wales needs around £250 million every year simply to keep pace with England's rail investment. There has been no clear explanation of when any additional money will be released, what it will fund or how these projects will move beyond the page into delivery stages and, more importantly, delivered.

Most of the so-called investment is hypothetical, resting on decisions a future UK Government has yet to make. Hope is not a funding strategy. What is particularly concerning is the sudden willingness of Welsh Ministers to accept these announcements at face value and present them jointly to the people of Wales. In the past, the Welsh Government was vocal about the systematic underfunding of Wales's rail network. Their own 2020 analysis exposed that Wales had been short-changed by billions since devolution. Yet when calls were made last year for an updated assessment, reflecting continued inaction, those calls were ignored. Instead, scepticism has been replaced by political cheerleading.

If we want to understand the UK Government's real attitude towards rail investment in Wales, we need only to look at the facts. Wales's transport comparability factor has fallen further under Labour, reducing the share of transport spending recognised as applicable to Wales. The injustice of HS2 has been repeated with the reclassification of the Oxford to Cambridge east-west line, and our already limited capital budget is projected to shrink throughout this spending period, making large-scale infrastructure delivery even harder. The Welsh Government cannot credibly claim a victory when the fundamentals remain unchanged. Warm words will not rebuild lines, modernise stations or deliver the rail network Wales deserves. The people of Wales will not be fooled.

Until firm, funded commitments are in place, commitments that address historic underinvestment rather than rebranding old money, the UK Government announcement will join a long list of broken promises. Wales needs more than slogans. We need honesty, clarity and a genuine strategy for rail investment. IOUs are meaningless. And if it were a Conservative Government doing this, I know the Government's response would be very different. We deserve honesty from our own Government. The people of Wales deserve honesty. Can we have some from the Cabinet Secretary?

Rwy'n credu efallai fod yr Aelod sydd newydd fod yn siarad wedi gwrthod cydnabod y tanariannu hanesyddol gan ei blaid ei hun ac wedi ceisio cyfiawnhau'r tanfuddsoddiad hanesyddol hwnnw.

Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth cadarnhaol yn fy nghyfraniad. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n credu bod llawer i fod yn gadarnhaol amdano yno. Mae'n anffodus ei bod wedi cymryd 27 mlynedd i gael cynllun ar waith. A hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid inni fyfyrio ar y ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr un presennol, Jo Stevens, wedi amddiffyn y tanariannu hanesyddol parhaol a welsom yn yr adolygiad o wariant drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael popeth y gofynnodd amdano. Popeth y gofynnodd amdano. Felly, mae'n hen bryd inni gael y cynllun hwn.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi siarad yn frwdfrydig iawn am gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad rheilffyrdd. A phe bai'r ymrwymiadau hyn yn gadarn, wedi'u hariannu a'u gwarantu, byddent i'w croesawu yn wir. Buaswn yn credu y byddai pob Aelod Llafur Cymru eisiau bod yma i gyfrannu at y ddadl hon. Ond nid ydynt yma. Oherwydd mae Cymru wedi wynebu degawdau o danfuddsoddi cronig gan Lywodraethau olynol y DU, ac nid oes unrhyw arwydd fod hynny'n mynd i newid. Mae'r niwed yn real. Mae'r tanfuddsoddi hwnnw, yr addewidion ffug, yn real.

Ond rydym ni yng Nghymru wedi dysgu dro ar ôl tro i fod yn wyliadwrus o addewidion o'r fath gan San Steffan. Rydym wedi ennill yr hawl i fod yn amheus am ein bod wedi cael ein siomi ormod o weithiau. Rydym yn cofio'r ymrwymiad i drydaneiddio prif linell reilffordd Caerdydd i Abertawe—ymrwymiad a anghofiwyd dros nos. Rydym yn cofio'r addewid i uwchraddio prif linell reilffordd gogledd Cymru—addewid y caniatawyd iddo ddiflannu heb esboniad. Rydym yn cofio addewid Llafur i wrthdroi anghyfiawnder HS2, dim ond i'r addewid anweddu cyn gynted ag y cafodd Llafur allweddi Stryd Downing. Nid wyf yn gwybod sut y gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfiawnhau'r tro pedol hwnnw.

Amlinellodd Peredur hefyd—a gobeithio y bydd Sam yn gwrando nawr, gan fy mod am ailadrodd hyn er ei fwyn ef—y ffaith i linell graidd y Cymoedd gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn 2020, ond heb yr addasiadau cyfatebol i'r grant bloc. Dyna pam y cyfeiriodd arbenigwyr uchel eu parch fel yr Athro Mark Barry at ddatganoli llinell graidd y Cymoedd mewn dyfynodau. Pam ein bod yn cael ein trin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon?

Ac o ran y cyhoeddiad diweddaraf hwn, pan fyddwn yn craffu ar y manylion, nid yw'r ffigurau'n gwneud synnwyr. A buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu yn ei ymateb sut y cyfrifwyd y ffigur. Ac o'r £14 biliwn sy'n cael ei grybwyll, dim ond £445 miliwn sy'n ymwneud â'r cyfnod adolygiad o wariant presennol, ac mae hyd yn oed hynny wedi'i ledaenu'n denau dros ddegawd. I roi rhywfaint o gyd-destun, mae angen oddeutu £250 miliwn ar Gymru bob blwyddyn i gael dim mwy na'r un faint yn ganrannol â'r buddsoddiad yn rheilffyrdd Lloegr. Ni chafwyd esboniad clir o ba bryd y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ryddhau, beth y bydd yn ei ariannu na sut y bydd y prosiectau hyn yn symud y tu hwnt i'r dudalen i'r camau cyflawni, ac yn bwysicach fyth, yn cael eu cwblhau.

Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a elwir yn fuddsoddiad yn ddamcaniaethol, yn seiliedig ar benderfyniadau nad yw Llywodraeth y DU yn y dyfodol wedi'u gwneud eto. Nid yw gobaith yn strategaeth ariannu. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw parodrwydd sydyn Gweinidogion Cymru i dderbyn y cyhoeddiadau hyn ar eu golwg a'u cyflwyno ar y cyd i bobl Cymru. Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru'n uchel eu cloch am danariannu systematig rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Datgelodd eu dadansoddiad eu hunain yn 2020 fod Cymru biliynau ar eu colled ers datganoli. Fodd bynnag, pan wnaed galwadau y llynedd am asesiad newydd, i adlewyrchu'r diffyg gweithredu parhaus, anwybyddwyd y galwadau hynny. Yn hytrach, cafwyd gwenieithio gwleidyddol yn lle'r sgeptigaeth.

Os ydym am ddeall agwedd go iawn Llywodraeth y DU tuag at fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, nid oes ond angen inni edrych ar y ffeithiau. Mae ffactor cymharedd trafnidiaeth Cymru wedi gostwng ymhellach o dan Lafur, gan leihau cyfran y gwariant trafnidiaeth y cydnabyddir ei fod yn berthnasol i Gymru. Mae anghyfiawnder HS2 wedi'i ailadrodd gydag ailddosbarthu'r llinell reilffordd dwyrain-gorllewin o Rydychen i Gaergrawnt, a rhagwelir y bydd ein cyllideb gyfalaf, sydd eisoes yn gyfyngedig, yn crebachu drwy gydol y cyfnod o wariant hwn, gan wneud darparu seilwaith ar raddfa fawr yn anos byth. Ni all Llywodraeth Cymru hawlio buddugoliaeth mewn difrif pan fo'r elfennau sylfaenol yn dal i fod heb newid. Ni fydd geiriau cynnes yn ailadeiladu llinellau rheilffordd, yn moderneiddio gorsafoedd nac yn darparu'r rhwydwaith rheilffyrdd y mae Cymru'n ei haeddu. Ni chaiff pobl Cymru mo'u twyllo.

Hyd nes y ceir ymrwymiadau cadarn wedi'u hariannu, ymrwymiadau sy'n mynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol yn hytrach nag ailfrandio hen arian, bydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn eitem arall ar restr hir o addewidion toredig. Mae angen mwy na sloganau ar Gymru. Mae arnom angen gonestrwydd, eglurder a strategaeth ddilys ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd. Mae dylednodau'n ddiystyr. A phe bai Llywodraeth Geidwadol yn gwneud hyn, gwn y byddai ymateb y Llywodraeth yn wahanol iawn. Rydym yn haeddu gonestrwydd gan ein Llywodraeth ein hunain. Mae pobl Cymru'n haeddu gonestrwydd. A gawn ni onestrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet?

16:00

Thank you to Plaid for bringing this debate, because we definitely need to understand a bit better exactly what money is on the table and what isn't. So, I do congratulate Eluned Morgan and the Cabinet Secretary for transport on putting together a package that appears to be going in the right direction. You know, £14 billion has been promised for Wales, but we now need to unravel exactly—[Interruption.] Yes.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, oherwydd mae'n bendant fod angen inni ddeall ychydig yn well pa arian yn union sydd ar y bwrdd a beth nad yw ar gael. Felly, rwy'n llongyfarch Eluned Morgan ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar lunio pecyn sydd i'w weld yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Wyddoch chi, mae £14 biliwn wedi'i addo i Gymru, ond mae angen i ni ddatrys yn union—[Torri ar draws.] Iawn.

16:05

Fourteen billion pounds has not been promised to Wales. This is a list of projects that need to be done in Wales. I agree, you could add to it, but there is no promise of money to Wales.

Nid oes £14 biliwn wedi'i addo i Gymru. Rhestr o brosiectau sydd angen eu gwneud yng Nghymru yw hon. Rwy'n cytuno, gallech ychwanegu ati, ond ni chafwyd unrhyw addewid o arian i Gymru.

Thank you. Thank you for that clarification. But in the short term, what we have is a commitment to push ahead with the south Wales metro lines that are incomplete at the moment. For my constituents, that is incredibly important, because at the moment there are just far too many people commuting into Cardiff by car because the opportunities to go by train simply don't exist at the moment. So, I'd like to think that the argument over funding has been resolved, but, clearly, we have to be looking at the detail, because my constituents have long-standing memories about past promises that have never been delivered. The electrification of the line to Swansea is one of them, which has impact on my constituents, because it means that the trains that arrive from London to Cardiff, in order to go on to Swansea and beyond, have to then move on to diesel, which means a massive injection of pollution into the air, which is particularly damaging for the people who live around Cardiff Central station. 

So, what exactly does it mean for my constituents? My top priority has always been the upgrade of the south Wales line running east of Cardiff to the English border, because that is what enables us to ensure that we can get people out of their cars and onto the trains. Lots of other people like to talk about stations, but, frankly, the bit that will only ever be done by the public sector is the upgrading of the lines, because that is not the sexy bit. The stations are important too, because people have got to get on and off them safely, but I wasn't particularly happy about the creaming off of £155 million for the facelift on Cardiff Central station, and I represent Cardiff Central. So, we had this conversation with the Cardiff capital region, because it doesn't appear to be any benefit to the actual running of the transport system. It just appears to be an additional retail opportunity, which didn't make sense to me.

So, the top priority is definitely, for me, the south Wales relief lines, and I have asked for some detail on exactly what work is beginning and why hasn't it happened already yesterday. So, I'm told that the development work will start in April, with demand forecast, design timelines, materials they'll need to use, how they're going to build it, how they're going to manage the demand for the lines while they're being worked on, and, obviously, how they'll procure the project for the work to be done. However, I don't understand why that work can't be going on now, because that is a core job of Network Rail. They've done it before, it's tried and tested, they know what needs doing, and they know the companies out there who are capable of doing it. So, I'm frustrated, as it's going to take several months, at least, to get to the point where they even commence procurement and, for me, it's get-on-with-it time.

So, I'm told that that work is relatively straightforward and can be completed fairly quickly. However, there is a shortfall. Given that we've lost £145 million of the original £445 million, we only have £300 million from the comprehensive spending review to play with. According to Mark Barry, it will cost £600 million to £700 million to actually complete this work. So, we know what's happened in the past, because the Welsh Government funded most of the south Wales Valleys lines from its block grant, which means money that could otherwise have been spent on other things, and has indeed offered to contribute more so that we could start further projects now. So, that becomes, for me, a really serious issue. We say we're going to make progress and there's an awful lot of other things to make the south Wales metro function correctly, which isn't even mentioned in this. Crwys Road station would be an additional thing I would like to see, and the Coryton line running from Cardiff Bay up to Coryton would obviously make it a lot easier for people to come into the bay to work, or for other people to go up to Coryton to relocate their businesses. So, there's a lot that we don't know and we really do need to ensure that there's some clarity over the funding, so that we're not leading people up the garden path. 

Diolch am yr eglurhad. Ond yn y tymor byr, yr hyn sydd gennym yw ymrwymiad i fwrw ymlaen â llinellau metro de Cymru sy'n anghyflawn ar hyn o bryd. I fy etholwyr, mae hynny'n hynod o bwysig, oherwydd ar hyn o bryd mae llawer gormod o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car am nad yw'r cyfleoedd i fynd ar y trên yn bodoli. Felly, hoffwn feddwl bod y ddadl dros gyllid wedi'i datrys, ond yn amlwg, rhaid inni edrych ar y manylion, oherwydd mae gan fy etholwyr atgofion hir am addewidion yn y gorffennol na chawsant eu cyflawni. Mae trydaneiddio'r llinell i Abertawe yn un ohonynt, sy'n cael effaith ar fy etholwyr, oherwydd mae'n golygu bod yn rhaid i'r trenau sy'n cyrraedd o Lundain i Gaerdydd, er mwyn mynd ymlaen i Abertawe a thu hwnt, newid i ddiesel, sy'n golygu chwistrelliad enfawr o lygredd i'r aer, sy'n arbennig o niweidiol i'r bobl sy'n byw o amgylch gorsaf Caerdydd Canolog. 

Felly, beth yn union y mae'n ei olygu i fy etholwyr? Fy mhrif flaenoriaeth bob amser oedd uwchraddio llinell de Cymru sy'n rhedeg i'r dwyrain o Gaerdydd i'r ffin â Lloegr, am mai dyna sy'n ein galluogi i sicrhau y gallwn gael pobl allan o'u ceir ac ar y trenau. Mae llawer o bobl eraill yn hoffi siarad am orsafoedd, ond yn onest, yr unig ran a gaiff ei wneud gan y sector cyhoeddus yw uwchraddio'r llinellau, gan nad dyna'r rhan ddiddorol. Mae'r gorsafoedd yn bwysig hefyd, oherwydd rhaid i bobl fynd ar y trenau ac oddi arnynt yn ddiogel, ond nid oeddwn yn arbennig o hapus fod cymaint â £155 miliwn wedi mynd ar waith adnewyddu gorsaf Caerdydd Canolog, ac rwy'n cynrychioli Canol Caerdydd. Felly, cawsom sgwrs gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, am nad yw'n ymddangos ei fod o unrhyw fudd go iawn i weithrediad y system drafnidiaeth. Mae'n ymddangos mai cyfle manwerthu ychwanegol ydoedd, nad oedd yn gwneud synnwyr i mi.

Felly, y brif flaenoriaeth i mi yn bendant yw llinellau lliniaru de Cymru, ac rwyf wedi gofyn am rywfaint o fanylion ynglŷn â pha waith yn union sy'n dechrau a pham nad yw wedi digwydd eisoes. Felly, dywedwyd wrthyf y bydd y gwaith datblygu'n dechrau ym mis Ebrill, gyda rhagolwg o alw, amserlenni cynllunio, deunyddiau y bydd angen iddynt eu defnyddio, sut y maent yn mynd i'w hadeiladu, sut y maent yn mynd i reoli'r galw am y llinellau tra bydd gwaith yn digwydd arnynt, ac yn amlwg, sut y byddant yn caffael y prosiect ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud. Fodd bynnag, nid wyf yn deall pam na all y gwaith hwnnw ddigwydd nawr, oherwydd mae'n swyddogaeth graidd i Network Rail. Maent wedi ei wneud o'r blaen, mae'n waith sydd wedi'i brofi, maent yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac maent yn gwybod am y cwmnïau allan yno a all ei wneud. Felly, rwy'n teimlo'n rhwystredig, gan ei fod yn mynd i gymryd sawl mis, o leiaf, i gyrraedd y pwynt lle maent yn dechrau caffael ac i mi, mae'n bryd bwrw iddi.

Felly, dywedwyd wrthyf fod y gwaith yn gymharol syml ac y gellir ei gwblhau'n weddol gyflym. Fodd bynnag, mae yna ddiffyg. O ystyried ein bod wedi colli £145 miliwn o'r £445 miliwn gwreiddiol, dim ond £300 miliwn sydd gennym i chwarae ag ef o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Yn ôl Mark Barry, fe fydd yn costio £600 miliwn i £700 miliwn i gwblhau'r gwaith mewn gwirionedd. Felly, fe wyddom beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, oherwydd Llywodraeth Cymru a ariannodd y rhan fwyaf o linellau Cymoedd de Cymru o'i grant bloc, sy'n golygu arian y gellid bod wedi ei wario fel arall ar bethau eraill, ac yn wir mae wedi cynnig cyfrannu mwy er mwyn inni allu dechrau prosiectau pellach nawr. Felly, i mi mae hwnnw'n fater difrifol iawn. Rydym yn dweud ein bod ni'n mynd i wneud cynnydd ac mae yna lawer iawn o bethau eraill i wneud i fetro de Cymru weithredu'n gywir, na chânt eu crybwyll yn hyn. Byddai gorsaf Heol y Crwys yn rhywbeth ychwanegol yr hoffwn ei weld, ac mae'n amlwg y byddai llinell Coryton sy'n rhedeg o Fae Caerdydd i fyny i Coryton yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ddod i'r bae i weithio, neu i bobl eraill fynd i fyny i Coryton i adleoli eu busnesau. Felly, mae yna lawer nad ydym yn ei wybod ac mae angen inni sicrhau eglurder ynghylch y cyllid, fel nad ydym yn camarwain pobl. 

16:10

I wholeheartedly agree with the points that have been made by my colleagues in this debate. Quite simply, this is a headline figure that has no funding commitment behind it at all. But I want to focus on one issue in particular, and that is connectivity within Wales and within my region. We are once again seeing rural Wales and my region being left on the margins, because when we examine UK Government's funding announcements, one thing becomes immediately clear: west Wales is once again largely excluded. The UK Government spending review announced no rail funding for Wales further west than Cardiff or Deeside—not Swansea, not Carmarthen, not Aberystwyth, not Bangor, not Holyhead.

There are a number of examples in my region where investment is needed, such as a west Wales metro and direct railway links from Ammanford to Swansea. Instead, we are left disconnected. And these initiatives and the need for improvements on the Cambrian line and the development of a new St Clears station are identified in Transport for Wales's plan. However, with no clear funding to support these infrastructure projects, this will raise false hopes, create uncertainty for the local economy and ultimately result in broken promises.

And even when we look at the broader set of unfunded projects from the 'Today, Tomorrow, Together' plan, the emphasis too often appears to be on cross-border connectivity, strengthening links to English cities rather than improving connectivity within Wales. Let me put this into perspective. In the 'Today, Tomorrow, Together' plan, Aberystwyth is mentioned twice, Bangor four times, Carmarthen four times, London is mentioned four times, Bristol four times, Manchester four times, and Liverpool 26 times. The reality is that we don't control the levers that matter most, and we can't guarantee that investment decisions reflect Wales's national interests rather than Westminster's political priorities.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan fy nghyd-Aelodau yn y ddadl hon. Yn syml, mae hwn yn brif ffigur heb unrhyw ymrwymiad i ariannu y tu ôl iddo o gwbl. Ond rwyf am ganolbwyntio ar un mater yn benodol, sef cysylltedd yng Nghymru ac yn fy rhanbarth i. Rydym unwaith eto'n gweld y Gymru wledig a fy rhanbarth yn cael eu gadael ar y cyrion, oherwydd pan edrychwn ar gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, daw un peth yn amlwg ar unwaith: mae gorllewin Cymru unwaith eto wedi'i eithrio i raddau helaeth. Ni chyhoeddodd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU unrhyw gyllid rheilffyrdd ar gyfer Cymru ymhellach i'r gorllewin na Chaerdydd neu Llannau Dyfrdwy—nid i Abertawe, na Chaerfyrddin, nac Aberystwyth, na Bangor, na Chaergybi.

Ceir nifer o enghreifftiau yn fy rhanbarth i lle mae angen buddsoddiad, megis metro gorllewin Cymru a chysylltiadau rheilffordd uniongyrchol o Rydaman i Abertawe. Yn hytrach, cawn ein gadael yn ddatgysylltiedig. Ac mae'r mentrau hyn a'r angen am welliannau ar linell y Cambrian a datblygu gorsaf newydd yn Sanclêr wedi'u nodi yng nghynllun Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, heb unrhyw gyllid clir i gefnogi'r prosiectau seilwaith hyn, bydd yn codi gobeithion ffug, yn creu ansicrwydd i'r economi leol ac yn y pen draw yn arwain at dorri addewidion.

A hyd yn oed pan edrychwn ar y set ehangach o brosiectau heb eu hariannu o'r cynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', ymddengys bod y pwyslais yn rhy aml ar gysylltedd trawsffiniol, cryfhau cysylltiadau â dinasoedd Lloegr yn hytrach na gwella cysylltedd yng Nghymru. Gadewch imi roi hyn mewn persbectif. Yn y cynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', sonnir am Aberystwyth ddwywaith, Bangor bedair gwaith, Caerfyrddin bedair gwaith, Llundain bedair gwaith, Bryste bedair gwaith, Manceinion bedair gwaith, a Lerpwl 26 gwaith. Y gwir amdani yw nad ni sy'n rheoli'r liferi pwysicaf ac ni allwn warantu bod penderfyniadau buddsoddi'n adlewyrchu buddiannau cenedlaethol Cymru yn hytrach na blaenoriaethau gwleidyddol San Steffan.

Mae'n iawn, felly, Llywydd, ein bod ni'n cwestiynu strategaeth sy'n blaenoriaethu cysylltiadau gyda dinasoedd yn Lloegr, tra bod cymunedau yng Nghymru yn dioddef gwasanaethau gwael, araf, anaml ac annibynadwy. Tybed, hyd yn oed os byddai'r rhaglen yn cael ei delifro, y byddai'r Llywodraeth yn gallu dweud y byddai gwelliannau i amseroedd teithio rhwng, er enghraifft, Abertawe, Caerfyrddin ac Aberystwyth yn gallu gwella. Pa leihad yn yr amser teithio a fyddai i bobl yn mynd o Gaerdydd i Gaergybi, er enghraifft? Faint yn gynt fyddai'r gwasanaethau rhwng Bangor a Phorthmadog?

Achos i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig ac yng ngorllewin Cymru, dyna yw'r prawf—dim pa mor gyflym rŷn ni'n gallu mynd i Fanceinion, ond pa mor hwylus rŷn ni'n gallu teithio o'r de i'r gogledd, o'r dwyrain i'r gorllewin yn ein gwlad ein hunain. Ac am amser rhy hir, mae'r isadeiledd wedi adlewyrchu model sy'n sugno gweithgaredd economaidd dros y ffin, yn hytrach na bod y buddsoddiad yn cryfhau'r economi o fewn Cymru ei hunan. Os ydym o ddifrif am weld datblygiad economaidd yn digwydd, adfywiad gwledig hefyd a datgarboneiddio, yna mae'n rhaid buddsoddi i wella cysylltedd yng Nghymru. 

Ac i orffen, mae angen, felly, mwy na geiriau teg. Mae angen Llywodraeth sy'n fodlon sefyll i fyny dros Gymru a mynnu'r hyn sydd yn ddyledus i ni.

It's right, therefore, Llywydd, that we question a strategy that prioritises links with major English cities, while communities in Wales face poor, slow, infrequent and unreliable services. I wonder, even if this programme is ever delivered in full, whether the Government could tell us that there would be improvements made to journey times between, for example, Swansea, Carmarthen and Aberystwyth? What reduction would there be in travel time for passengers travelling between Cardiff and Holyhead, for example? How much quicker would services become between Bangor and Porthmadog?

Because for people living in rural areas and into west Wales, that is the test—not how quickly you can get to Manchester, but how easily one can travel from north to south and from east to west in our own country. And for too long, the rail infrastructure has reflected an economic model that draws economic activity over the border, rather than that investment strengthening the economy within Wales itself. If we are serious about seeing economic development taking place, rural regeneration and decarbonisation, then we must invest in improving connectivity within Wales.

And to conclude, Wales therefore needs more than warm words. We need a Government that is willing to stand up for Wales and demand what we are owed.

16:15

My contribution today focuses on the rail network in north Wales, mainly. It was extremely welcome to hear the announcement of the £14 billion generational investment in Welsh rail, a commitment to development—

Mae fy nghyfraniad heddiw yn canolbwyntio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, yn bennaf. Roedd croeso mawr i'r cyhoeddiad am fuddsoddiad ar gyfer y cenedlaethau i ddod o £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru, ymrwymiad i ddatblygu—

Does the Member accept that there is no announcement of a £14 billion investment in rail in Wales?

A yw'r Aelod yn derbyn na wnaed cyhoeddiad am fuddsoddiad o £14 biliwn yn y rheilffyrdd yng Nghymru?

There was an announcement of a £14 billion generational investment in Welsh rail. It was a commitment developed over the past two years by the Cabinet Secretary, Ken Skates, and significant enough to be required to be signed off by the Prime Minister, as it was. The First Minister rightly demanded fair funding for Wales, and that determination was delivered, and has been delivered by the Prime Minister. [Interruption.] I took one before. Let me make—[Interruption.] This announcement sits—. Let me make progress. This announcement sits alongside the publication of Transport for Wales's rail plan, ‘Today, Tomorrow, Together’, which clearly sets out where investment will take place and provides indicative costs, including for the electrification of the north Wales main line, which was mentioned earlier. The network north Wales programme also outlines delivery timelines and, in short, we now have a pipeline of projects, timetables, secured funding and work already under way.

Cross-border connectivity must always be central to our planning. Much of our transport network runs west to east, connecting communities with Chester, Liverpool and Manchester. Whether road, bus or rail, we must continue working closely with neighbouring authorities and Governments. Where initiatives such as care caps or concessionary passes are introduced, they must operate seamlessly across the border.

Unlocking capacity at Chester is crucial to improving services right across north Wales. It is also an important training hub for Transport for Wales drivers, and I'm pleased that improvements there are included in this programme. In Holyhead, a new £10.5 million automatic train wheel lathe facility opened last October. This allows on-site reprofiling of worn wheels, significantly reducing the need to send trains to Cardiff, improving fleet reliability and lowering maintenance costs. Safety improvements are also progressing as services become more frequent and faster, dangerous level crossings are being closed and replaced with safer alternatives, including bridges. At Shotton, a long-awaited bridge connecting the two lines will be delivered over the next few years, a major priority for the area, joining up those two lines. At Padeswood, work is already beginning to remove freight bottlenecks by enabling trains to shunt clear of the main line more efficiently, and effectively freeing up capacity for additional passenger services. Improvements at Buckley station, including enhanced safety measures, will support increased service capacity and will be delivered soon.

Tap on, tap off ticketing will be introduced across north Wales this year, making rail travel simpler and more accessible by allowing passengers to just turn up and pay as they go. I've long campaigned, alongside Ken Skates, for a station at Deeside industrial park. Thanks to this new funding, that ambition is becoming a reality, with a trial modular station set to be delivered rapidly.

It’s important to remember that many of these improvements were twice denied under previous UK Conservative Governments through the levelling-up funding. While electrification of the north Wales line was announced, no funding was ever allocated, and no mention of the priority schemes that had to be done first. Those are happening, in the pipeline. 

Cafwyd cyhoeddiad am fuddsoddiad ar gyfer y cenedlaethau i ddod o £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru. Roedd yn ymrwymiad a ddatblygwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, ac roedd yn ddigon arwyddocaol fel ei bod yn ofynnol iddo gael ei gymeradwyo gan Brif Weinidog y DU, ac fe ddigwyddodd hynny. Roedd Prif Weinidog Cymru, yn briodol ddigon, wedi galw am gyllid teg i Gymru, ac fe wnaeth Prif Weinidog y DU y penderfyniad hwnnw. [Torri ar draws.] Fe dderbyniais un cynt. Gadewch i mi wneud—[Torri ar draws.] Daw'r cyhoeddiad hwn—. Gadewch i mi wneud cynnydd. Daw'r cyhoeddiad hwn ochr yn ochr â chyhoeddi cynllun rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', sy'n nodi'n glir ble fydd buddsoddiad yn digwydd ac mae'n darparu costau dangosol, gan gynnwys ar gyfer trydaneiddio prif linell gogledd Cymru, a grybwyllwyd yn gynharach. Mae rhaglen rhwydwaith gogledd Cymru hefyd yn amlinellu amserlenni cyflawni ac yn fyr, mae gennym bellach lif o brosiectau, amserlenni, cyllid wedi'i sicrhau a gwaith eisoes ar y gweill.

Rhaid i gysylltedd trawsffiniol fod yn ganolog i'n cynlluniau bob amser. Mae llawer o'n rhwydwaith trafnidiaeth yn rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain, gan gysylltu cymunedau â Chaer, Lerpwl a Manceinion. Boed ar y ffordd, ar y bws neu ar drenau, rhaid inni barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau a Llywodraethau cyfagos. Pan fydd mentrau fel capiau ar ofal neu docynnau consesiynol yn cael eu cyflwyno, rhaid iddynt weithredu'n ddi-dor ar draws y ffin.

Mae datgloi capasiti yng Nghaer yn hanfodol i wella gwasanaethau ledled gogledd Cymru. Mae hefyd yn hyb hyfforddi bwysig i yrwyr Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n falch fod gwelliannau yno wedi'u cynnwys yn y rhaglen hon. Yng Nghaergybi, agorodd cyfleuster turn olwynion trên awtomatig newydd gwerth £10.5 miliwn fis Hydref diwethaf. Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosib ailbroffilio olwynion wedi treulio ar y safle, gan leihau'n sylweddol yr angen i anfon trenau i Gaerdydd, gan wella dibynadwyedd y fflyd a lleihau costau cynnal a chadw. Mae gwelliannau diogelwch hefyd yn mynd rhagddynt wrth i wasanaethau ddod yn amlach ac yn gyflymach, ac  chroesfannau peryglus yn cael eu cau a dewisiadau amgen mwy diogel yn cael eu gosod yn eu lle, gan gynnwys pontydd. Yn Shotton, bydd pont hirddisgwyliedig i gysylltu'r ddwy linell yn cael ei darparu dros y blynyddoedd nesaf, blaenoriaeth fawr i'r ardal, gan uno'r ddwy linell. Yn Padeswood, mae gwaith eisoes yn dechrau ar gael gwared ar dagfeydd trenau cludo nwyddau drwy alluogi trenau i symud o'r brif linell yn fwy effeithlon, a rhyddhau capasiti'n effeithiol ar gyfer gwasanaethau teithwyr ychwanegol. Bydd gwelliannau yng ngorsaf Bwcle, gan gynnwys mesurau diogelwch estynedig, yn cefnogi mwy o gapasiti gwasanaeth ac fe gânt eu cyflawni'n fuan.

Bydd tocynnau tapio i mewn ac allan yn cael eu cyflwyno ledled gogledd Cymru eleni, gan wneud teithio ar y trên yn symlach ac yn fwy hygyrch drwy ganiatáu i deithwyr gyrraedd a thalu wrth fynd. Bûm yn ymgyrchu ers amser maith, ochr yn ochr â Ken Skates, dros gael gorsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Diolch i'r cyllid newydd hwn, mae'r uchelgais hwnnw'n cael ei wireddu, gyda threialu gorsaf fodiwlaidd ar fin digwydd.

Mae'n bwysig cofio bod llawer o'r gwelliannau hyn wedi'u gwrthod ddwywaith o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU drwy'r cyllid ffyniant bro. Er i gyhoeddiad gael ei wneud ynghylch trydaneiddio llinell gogledd Cymru, ni ddyrannwyd unrhyw gyllid erioed, ac ni chafwyd unrhyw sôn am y cynlluniau blaenoriaeth yr oedd yn rhaid eu gwneud yn gyntaf. Mae'r rheini'n digwydd, ac ar y gweill. 

Yes, you quite rightly criticise that no funding was allocated for the north Wales electrification, but no funding has either been allocated for this, for the Transport for Wales plan. It is not in any Treasury budget line. We didn’t hear anything about it in the spring statement. Do you accept that it is the same kind of promise? 

Rydych chi'n beirniadu'n gwbl briodol y ffaith na ddyrannwyd unrhyw gyllid ar gyfer trydaneiddio gogledd Cymru, ond nid oes unrhyw gyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer hyn, ar gyfer cynllun Trafnidiaeth Cymru. Nid yw wedi'i gynnwys yn unrhyw un o linellau cyllideb y Trysorlys. Ni chlywsom unrhyw beth amdano yn natganiad y gwanwyn. A ydych chi'n derbyn mai'r un math o addewid ydyw? 

I do not. I do not. There's a pipeline of schemes that they are working through. They've started on them already—[Interruption.] They have started on the schemes already. Sorry, I shouldn’t respond in a conversation. I must remember that. But there are—

Nac ydw. Nac ydw. Mae yna lif o gynlluniau y maent yn gweithio drwyddynt. Maent wedi dechrau arnynt eisoes—[Torri ar draws.] Maent wedi dechrau ar y cynlluniau eisoes. Mae'n ddrwg gennyf, ni ddylwn ymateb mewn sgwrs. Rhaid i mi gofio hynny. Ond mae yna—

I would ignore them if I were you, and carry on with your contribution. 

Buaswn yn eu hanwybyddu pe bawn i'n eich lle chi, ac yn parhau â'r cyfraniad. 

I was really keen—[Interruption.] I was really keen in my contribution to outline the schemes that are already being done now and the pipeline before electrification can take place. It is a generational amount of funding that needs to be there, worked through one at a time. Over the past decade, Wales has built this home-grown capacity. I was pleased to see presentations from Flintshire County Council and Transport for Wales, both of which have dedicated officers now focused on delivering network north Wales. As well as having the UK spending review funding, they're also using the investment zone funding and also the local growth deal, which is really important as well. Wales has built home-grown capacity, capability and expertise to deliver these transformational transport projects, and I'm so pleased that there's now a dedicated officer from Transport for Wales to deliver in north Wales.

The Welsh Government has made transport a priority, and now, with a UK Labour Government in place, we have the opportunity to move forward at pace and turn these plans into lasting delivery for the people of Wales. In Wales, we have protected and made sure that we keep guards in place, that we have passenger companions and that we haven't closed any stations. Transport is always a priority. Thank you, Llywydd.

Roeddwn i'n awyddus iawn—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n awyddus iawn yn fy nghyfraniad i amlinellu'r cynlluniau sydd eisoes yn cael eu gwneud nawr a'r cynlluniau arfaethedig cyn y gall trydaneiddio ddigwydd. Mae'n galw am swm o gyllid ar gyfer y cenedlaethau i ddod, a gweithio drwyddo un cynllun ar y tro. Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi adeiladu capasiti drosti ei hun. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau gan Gyngor Sir y Fflint a Trafnidiaeth Cymru, ac mae gan y ddau gorff swyddogion ymroddedig sydd bellach yn canolbwyntio ar ddarparu rhwydwaith gogledd Cymru. Yn ogystal â chael cyllid adolygiad o wariant y DU, maent hefyd yn defnyddio'r cyllid parth buddsoddi a'r fargen twf lleol, sy'n bwysig iawn hefyd. Mae Cymru wedi meithrin capasiti, galluogrwydd ac arbenigedd drosti ei hun i gyflawni'r prosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol hyn, ac rwy'n falch iawn fod gan Trafnidiaeth Cymru swyddog penodedig erbyn hyn ar gyfer cyflawni yng ngogledd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud trafnidiaeth yn flaenoriaeth, a nawr, gyda Llywodraeth Lafur yn y DU, mae gennym gyfle i symud ymlaen yn gyflym i droi'r cynlluniau hyn yn gyflawniad parhaol i bobl Cymru. Yng Nghymru, rydym wedi diogelu a gwneud yn siŵr ein bod yn cadw gardiaid, fod gennym gymdeithion teithio ac nad ydym wedi cau unrhyw orsafoedd. Mae trafnidiaeth bob amser yn flaenoriaeth. Diolch, Lywydd.

16:20

There is befuddlement and confusion at large. We've heard talk of the £14 billion for rail in Wales. It does sound impressive, but beyond the £400 million already announced in last summer's spending review, funding meant to last until 2030, much of that figure is actually not in place. We deserve clarity about when the funding will arrive and what it will actually deliver, and I feel that that is what the focus of this debate is about today.

For Wales, we have been systematically short-changed on rail funding. We know that major projects based entirely in England have been labelled 'England and Wales', and we've lost out as a result. It feels like we should accept that and be absolutely clear with our communities that that is not acceptable.

The Welsh Liberal Democrats in Parliament have tabled an amendment to the UK Government's Railways Bill to fully devolve rail powers to Wales, putting us on the same footing as Scotland. The amendment would remove rail infrastructure from the list of powers reserved to Westminster and require the transfer of responsibility for rail infrastructure, services and funding to Welsh Ministers within two years. It would mean Wales could plan, fund and deliver its own rail network properly and stop relying on warm words from Whitehall. So, I would like to hear from the Cabinet Secretary: will he publicly place on record his request that Welsh Labour MPs at Westminster back that amendment to fully devolve rail powers to Wales, so that we have the same control over our railways as does Scotland? 

Like Cefin, I represent a very rural area and we are incredibly short-changed, but we have one good example in the Heart of Wales line, which most certainly needs more funding. I was pleased when I got an extra—just one extra—a fifth service. That's all—five services a day coming through. And I want to be more ambitious and to go for eight trains a day, because five trains is simply not enough for our young people to go to college, for people to go to work, for our tourists to come in and out. It is simply unacceptable for a rural area such as ours. So, I'm asking the Cabinet Secretary: would he work with Transport for Wales to secure those eight services a day?

Just to finish, apart from my opening phrase about the befuddlement and confusion, I think we deserve in this Siambr to be absolutely clear what the funding situation is. Our understanding is that there is, and has been, underfunding of the Welsh rail network. We are the poor cousins left behind, picking up the crumbs from underneath the table, and that is not acceptable. Diolch yn fawr iawn.

Mae yna ddryswch. Clywsom sôn am y £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'n swnio'n drawiadol, ond y tu hwnt i'r £400 miliwn a gyhoeddwyd eisoes yn yr adolygiad o wariant yr haf diwethaf, cyllid sydd i fod i bara tan 2030, nid yw llawer o'r ffigur hwnnw yn ei le mewn gwirionedd. Rydym yn haeddu eglurder ynglŷn â pha bryd y bydd y cyllid yn cyrraedd a beth y bydd yn ei gyflawni mewn gwirionedd, ac rwy'n teimlo mai dyna yw ffocws y ddadl hon heddiw.

Yng Nghymru, cawsom gam systematig mewn perthynas â chyllid rheilffyrdd. Fe wyddom fod prosiectau mawr sydd wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yn Lloegr wedi cael eu labelu fel rhai ar gyfer 'Cymru a Lloegr', ac rydym ar ein colled o ganlyniad. Mae'n teimlo fel pe dylem dderbyn hynny a bod yn hollol glir gyda'n cymunedau nad yw hynny'n dderbyniol.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Senedd y DU wedi cyflwyno gwelliant i Fil Rheilffyrdd Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau rheilffyrdd llawn i Gymru, gan ein rhoi yn yr un sefyllfa â'r Alban. Byddai'r gwelliant yn tynnu seilwaith rheilffyrdd oddi ar y rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl i San Steffan ac yn ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo cyfrifoldeb am seilwaith, gwasanaethau a chyllid rheilffyrdd i Weinidogion Cymru o fewn dwy flynedd. Byddai'n golygu y gallai Cymru gynllunio, ariannu a darparu ei rhwydwaith rheilffyrdd ei hun yn briodol a rhoi'r gorau i ddibynnu ar eiriau cynnes o Whitehall. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet: a fydd yn cyhoeddi ei gais i ASau Llafur Cymru yn San Steffan gefnogi'r gwelliant i ddatganoli pwerau rheilffyrdd llawn i Gymru, fel bod gennym yr un rheolaeth dros ein rheilffyrdd ag sydd gan yr Alban? 

Fel Cefin, rwy'n cynrychioli ardal wledig iawn ac rydym yn cael cam enfawr, ond mae gennym un enghraifft dda yn rheilffordd Calon Cymru, sydd yn sicr angen mwy o gyllid. Roeddwn yn falch pan gefais wasanaeth ychwanegol—dim ond un ychwanegol—pumed gwasanaeth. Dyna'r cyfan—pum gwasanaeth y dydd yn dod drwodd. Ac rwyf eisiau bod yn fwy uchelgeisiol a mynd am wyth trên y dydd, oherwydd nid yw pum trên yn ddigon i'n pobl ifanc fynd i'r coleg, i bobl fynd i'r gwaith, i'n twristiaid ddod i mewn ac allan. Mae'n annerbyniol i ardal wledig fel ein hun ni. Felly, rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a wnaiff weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau wyth gwasanaeth y dydd?

I orffen, ar wahân i'r dryswch y soniais amdano wrth agor, rwy'n credu ein bod yn haeddu bod yn hollol glir yn y Siambr hon ynglŷn â'r sefyllfa ariannu. Ein dealltwriaeth ni yw bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn cael ei danariannu, ac wedi'i danariannu yn y gorffennol. Ni yw'r cefndryd tlawd a adawyd ar ôl, yn codi'r briwsion o dan y bwrdd, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Diolch yn fawr iawn.

In 1968, I was 15. I sat in a room of over 800 people and I listened to Gwynfor Evans, the grandfather of our very own Mabon ap Gwynfor, demanding the electrification of railways in Wales. That same 15-year-old in two weeks turns 73, so you may understand why I have little confidence in successive Westminster Governments delivering for my country. When we talk about devolution, in particular the core Valleys lines in 2020, we have to ask ourselves a very simple, honest question: can we truly call it devolution if the cheque book didn't follow down the tracks? In Scotland and Northern Ireland, when rail infrastructure was devolved, the funding arrangements were modified to match; they got the powers and the pounds. But, here in Wales, we were handed the responsibility, told to get on with it and then forced to cannibalise our existing budget to pay for it. You've heard this three times in this debate. Professor Mark Barry rightly puts 'devolution' in inverted commas when talking about the core Valleys lines. It deserves repeating three times, because it hammers the message home: it's a devolution in name, but a drain in practice. Every penny we have to divert to prop up underfunded rail infrastructure is a penny taken away from schools in my constituency in Caerphilly or a hospital wing in any hospital across the whole of Wales.

I am certain that the Cabinet Secretary will stand up today and boast about the £48 million announced in the spending review. Look, we never turn our noses up at extra funding in Wales—of course we don't—but let's look at the fine print, the part, of course, that the Labour Government seems to have conveniently forgotten how to read since the general election. That investment is spread over 10 years. It's worth repeating: 10 years. It's a fact that Wales needs £250 million extra every single year just to reach parity with England. It's a fact that this top-up is a drop in the ocean. It's a fact that it's a sticking plaster on a gaping wound caused by Westminster's systematic underfunding. The reality is this: we wouldn't need these one-off gifts if the UK Government had adjusted the block grant fairly in the first place.

What I find most telling, Llywydd, is the sudden outbreak of silence from the front bench. When the Cabinet Secretary held this brief previously, chwarae teg, he was vocal about the unfairness of this transfer. He knew then, as we know now, that Wales was being short changed. Yet, today, the Welsh Government seems to have developed a case of political amnesia now that their own party holds the keys to No. 10. If the Conservatives were still in power—

Yn 1968, roeddwn i'n 15 oed. Fe eisteddais mewn ystafell o dros 800 o bobl a gwrando ar Gwynfor Evans, taid ein Mabon ap Gwynfor ni, yn galw am drydaneiddio rheilffyrdd Cymru. Mae'r bachgen 15 oed hwnnw'n troi'n 73 oed mewn pythefnos, felly efallai y byddwch chi'n deall pam nad oes gennyf fawr o hyder y bydd Llywodraethau olynol yn San Steffan yn cyflawni dros fy ngwlad. Pan siaradwn am ddatganoli, yn enwedig llinellau craidd y Cymoedd yn 2020, rhaid inni ofyn cwestiwn syml a gonest iawn i ni'n hunain: a allwn ni o ddifrif ei alw'n ddatganoli os nad yw'r llyfr sieciau yn dilyn? Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, pan ddatganolwyd seilwaith rheilffyrdd, addaswyd y trefniadau cyllido i gyd-fynd â hynny; cawsant y pwerau a'r punnoedd. Ond yma yng Nghymru, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb i ni, dywedwyd wrthym am fwrw ymlaen ag ef ac yna fe'n gorfodwyd i ganibaleiddio'r gyllideb a oedd gennym i dalu amdano. Rydych chi wedi clywed hyn dair gwaith yn y ddadl hon. Mae'r Athro Mark Barry yn iawn i roi 'datganoli' mewn dyfynodau wrth sôn am linellau craidd y Cymoedd. Mae'n haeddu ei ailadrodd dair gwaith, oherwydd mae'n bwrw'r neges adref: mae'n ddatganoli mewn enw, ond yn ddraen yn ymarferol. Mae pob ceiniog sy'n rhaid inni ei dargyfeirio i gefnogi seilwaith rheilffyrdd a danariannwyd yn geiniog yn llai i ysgolion yn fy etholaeth i yng Nghaerffili neu ward ysbyty mewn unrhyw ysbyty ar draws Cymru gyfan.

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn codi heddiw ac yn ymffrostio am y £48 miliwn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant. Edrychwch, nid ydym byth yn gwrthod cyllid ychwanegol yng Nghymru—wrth gwrs nad ydym—ond gadewch inni edrych ar y print mân, y rhan y mae'n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur wedi anghofio sut i'w darllen ers yr etholiad cyffredinol, yn gyfleus iawn. Mae'r buddsoddiad hwnnw wedi'i wasgaru dros 10 mlynedd. Mae'n werth ei ailadrodd: 10 mlynedd. Mae'n ffaith bod angen £250 miliwn ychwanegol ar Gymru bob blwyddyn ddim ond i fod yn gydradd â Lloegr. Mae'n ffaith mai diferyn yn y môr yw'r arian ychwanegol hwn. Mae'n ffaith mai plastr ydyw ar glwyf agored a achoswyd gan danariannu systematig San Steffan. Y gwir amdani yw hyn: ni fyddai angen y rhoddion untro hyn pe bai Llywodraeth y DU wedi addasu'r grant bloc yn deg yn y lle cyntaf.

Yr hyn a welaf yn fwyaf amlwg, Lywydd, yw'r tawelwch sydyn oddi ar y fainc flaen. Pan oedd y briff hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet yn flaenorol, roedd yn uchel ei gloch am annhegwch y trosglwyddiad. Fe wyddai bryd hynny, fel y gwyddom ni nawr, fod Cymru'n cael cam. Eto i gyd, mae'n ymddangos heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu amnesia gwleidyddol gyda'u plaid eu hunain yn Rhif 10 erbyn hyn. Pe bai'r Ceidwadwyr yn dal i fod mewn grym—

16:25

Sorry. I didn't hear. Sorry, Carolyn, I didn't see you.

Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn clywed. Mae'n ddrwg gennyf, Carolyn, nid oeddwn yn eich gweld.

That's okay. I know that, long term, we'd like to see devolution of the network in Wales. I know that a lot of work needs to take place to bring it up to standard as well, a lot of investment. But the amount of money that we in Wales can hold in the Welsh reserves is really limited, so for us to have funding come across, do you not agree that that also has to be increased as well?

Mae'n iawn. Rwy'n gwybod, yn y tymor hir, yr hoffem weld datganoli'r rhwydwaith yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod angen llawer o waith ar godi ei safon hefyd, llawer o fuddsoddiad. Ond mae'r swm o arian y gallwn ni yng Nghymru ei ddal yng nghronfeydd wrth gefn Cymru'n gyfyngedig iawn, felly er mwyn i ni gael cyllid, onid ydych chi'n cytuno bod yn rhaid cynyddu hynny hefyd?

I'm delighted that you welcome the devolution of more funding to Wales, but I don't believe in holding too much money in reserves, because it's devaluing; I want to spend the money immediately, and that's the most important thing. Certain amounts must be kept in reserves, of course, but that's for emergencies.

Look, as I've said, if the Conservatives were still in power, I suspect that the Government's amendment to our motion today would look very different. That is the fundamental difference between Plaid Cymru and the Labour Party: when we call for fairness, it isn't conditional on who's sitting in Downing Street. Our demand for justice isn't a tap you turn on, it isn't a tap you turn off, depending on which party is in power. We deserve the assets, we deserve the powers and we deserve the funding. It is time that the Government found its voice again and demanded the full, uncompromised investment that the people of Wales and the Valleys were promised. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu datganoli mwy o gyllid i Gymru, ond nid wyf yn credu mewn cadw gormod o arian mewn cronfeydd wrth gefn, oherwydd mae'n dibrisio; rwyf am wario'r arian ar unwaith, a dyna'r peth pwysicaf. Rhaid cadw rhai symiau mewn cronfeydd wrth gefn wrth gwrs, ond mae hwnnw ar gyfer argyfyngau.

Edrychwch, fel y dywedais, pe bai'r Ceidwadwyr yn dal mewn grym, rwy'n tybio y byddai gwelliant y Llywodraeth i'n cynnig heddiw yn edrych yn wahanol iawn. Dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur: pan fyddwn ni'n galw am degwch, nid yw'n amodol ar bwy sydd yn Stryd Downing. Nid tap rydych chi'n ei agor a'i gau, yn dibynnu ar ba blaid sydd mewn grym, yw ein galwad am gyfiawnder. Rydym yn haeddu'r asedau, rydym yn haeddu'r pwerau ac rydym yn haeddu'r cyllid. Mae'n bryd i'r Llywodraeth ddod o hyd i'w llais eto a mynnu'r buddsoddiad llawn, digyfaddawd a addawyd i bobl Cymru a'r Cymoedd. Diolch yn fawr.

Can I just take a step back here to reflect on what's been achieved in the last 10 years, since I've been in the Senedd Chamber? A decade ago, Transport for Wales didn't exist. It was simply a collection of consultants who'd been asked to come up with a plan. And here we are, 10 years on, with a £1 billion metro delivered, with brand-new trains right across Wales, and investment of some £2 billion. We have the Burns report now finally being committed to be implemented. It was announced, you may remember, in November 2020, with a set of recommendations for new stations and the upgrading of the south Wales main line to create a public transport alternative to the M4. We now finally have a UK Government commitment, which was not offered during the time of the last Conservative Government. It's taken over five years to get those pieces into place, but we are now going to have five new stations and the main line upgraded, and the Government has committed to that. That is a significant commitment and a significant step forward. We also now have a pipeline of schemes identified and jointly agreed with the Department for Transport and the Wales rail board to create that stream of investment over the next decade and a half. That is also a very significant achievement.

There's a big debate this afternoon about whether numbers have been committed in advance, and you'll notice that the schemes that the UK Government have committed to in England, which are seen as England and Wales schemes, but we know they're England schemes, there's no funding in the budget line for those either. Those are commitments made. The way rail funding works is that at each stage you have to make the case for funding, you have to create a business case, you have to get Network Rail approval. It is painfully slow, and the money is released by the Treasury at those gateway points, and that's what we're going to have to do here. We're going to have to continue to make the case and to fight for the investment step by step.

But what we have, crucially, as a result of this announcement, which has been worked on for years by Transport for Wales, is an agreed pipeline of schemes that are developed, and that's the difference. I think that Sioned Williams made an intervention earlier about, 'Isn't this the same as the north Wales main line electrification scheme?' It's not, because that was not a developed scheme. That was a press release. What we have here are fully worked-up proposals for rail schemes. We have, I think, £4.5 billion-worth of schemes now ready to deliver, and that's a stark contrast to what happened under the last Government.

A gaf i gymryd cam yn ôl yma i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn y 10 mlynedd diwethaf, ers i mi fod yn Siambr y Senedd? Ddegawd yn ôl, nid oedd Trafnidiaeth Cymru'n bodoli, dim ond casgliad o ymgynghorwyr y gofynnwyd iddynt lunio cynllun. A dyma ni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, a metro gwerth £1 biliwn wedi'i ddarparu, gyda threnau newydd sbon ledled Cymru, a buddsoddiad o oddeutu £2 biliwn. Mae gennym ymrwymiad i weithredu adroddiad Burns o'r diwedd. Fe'i cyhoeddwyd, efallai y cofiwch, ym mis Tachwedd 2020, gyda set o argymhellion ar gyfer gorsafoedd newydd ac uwchraddio prif reilffordd de Cymru i greu dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'r M4. O'r diwedd mae gennym ymrwymiad Llywodraeth y DU, na chafodd ei gynnig yn ystod cyfnod y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Mae wedi cymryd dros bum mlynedd i gael y darnau hynny yn eu lle, ond rydym yn mynd i gael pum gorsaf newydd nawr a'r brif linell wedi'i huwchraddio, ac mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i hynny. Mae hwnnw'n ymrwymiad sylweddol ac yn gam sylweddol ymlaen. Mae gennym hefyd lif o gynlluniau wedi'u nodi a'u cytuno ar y cyd â'r Adran Drafnidiaeth a bwrdd rheilffyrdd Cymru i greu ffrwd o fuddsoddiad dros y degawd a hanner nesaf. Mae hynny hefyd yn gyflawniad arwyddocaol iawn.

Mae yna ddadl fawr y prynhawn yma ynglŷn ag a yw'r symiau wedi'u hymrwymo ymlaen llaw, ac fe sylwch nad oes llinellau yn y gyllideb chwaith ar gyfer y cynlluniau y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddynt yn Lloegr, sy'n cael eu hystyried yn gynlluniau Cymru a Lloegr, ond y gwyddom eu bod yn gynlluniau ar gyfer Lloegr. Mae'r rheini'n ymrwymiadau a wnaed. Y ffordd y mae cyllid rheilffyrdd yn gweithio yw bod yn rhaid ichi wneud yr achos dros gyllid, rhaid i chi greu achos busnes, rhaid i chi gael cymeradwyaeth Network Rail. Mae'n boenus o araf, ac mae'r arian yn cael ei ryddhau gan y Trysorlys ar y pwyntiau hynny, a dyna beth fydd yn rhaid inni ei wneud yma. Bydd yn rhaid inni barhau i wneud yr achos ac i ymladd dros y buddsoddiad gam wrth gam.

Ond yr hyn sydd gennym, yn hollbwysig, o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, y mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio arno ers blynyddoedd, yw llif o gynlluniau y cytunwyd arnynt yn cael eu datblygu, a dyna'r gwahaniaeth. Rwy'n credu bod Sioned Williams wedi gwneud ymyriad yn gynharach yn dweud, 'Onid yw hyn yr un fath â chynllun trydaneiddio prif linell gogledd Cymru?' Nac ydy, nid cynllun datblygedig oedd hwnnw, dim ond datganiad i'r wasg. Yr hyn sydd gennym yma yw cynigion wedi'u gweithio'n llawn ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd. Rwy'n credu bod gennym werth £4.5 biliwn o gynlluniau'n barod i'w cyflawni bellach, sy'n cyferbynnu'n llwyr â'r hyn a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth ddiwethaf.

16:30

I completely accept that, but I wasn't actually talking about the proposals, I was talking about the nature of the financial commitment, rather than the proposals themselves.

Rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond nid oeddwn yn siarad am y cynigion mewn gwirionedd, roeddwn i'n siarad am natur yr ymrwymiad ariannol, yn hytrach na'r cynigion eu hunain.

Well, this is a different thing. This is a commitment to work jointly with Transport for Wales through the Wales board to deliver a whole series of schemes that have been worked up jointly between the Welsh and the UK Governments. That's significant.

Wel, mae hyn yn wahanol. Dyma ymrwymiad i weithio ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru drwy fwrdd Cymru i gyflawni cyfres gyfan o gynlluniau sydd wedi'u gweithio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU. Mae hynny'n arwyddocaol.

I was talking to Lord Wigley in the past few days about exactly the same exercise having been done for the north Wales main line by UK Governments in 1975-76. The promise was made, the plan was drawn up; we're still waiting 50 years on. That's why people have no faith.

Roeddwn i'n siarad â'r Arglwydd Wigley yn y dyddiau diwethaf am yr un ymarfer yn union a wnaed ar gyfer prif linell gogledd Cymru gan Lywodraethau'r DU yn 1975-76. Gwnaed yr addewid, lluniwyd y cynllun; rydym yn dal i aros 50 mlynedd yn ddiweddarach. Dyna pam nad oes gan bobl ffydd.

Well, look, I completely agree. It would be better if we had rail fully devolved to Wales, and we could make the decisions on priorities ourselves, and that is the policy of Welsh Labour and of this Government. Unfortunately, it's not the policy of the UK Government, and I deeply regret that. I think that is a major mistake they are making. That's why we've created devolution, so we in Wales can make our policy and agree our priorities, and we all agree what the priorities are to fully devolve that funding to Wales, so we can make those judgments. So, this doesn't go as far as you want it to go. I understand that, and I understand the whole—

Wel, edrychwch, rwy'n cytuno'n llwyr. Byddai'n well pe baem wedi datganoli'r rheilffyrdd yn llawn i Gymru, a gallem wneud y penderfyniadau ar flaenoriaethau ein hunain, a dyna bolisi Llafur Cymru a'r Llywodraeth hon. Yn anffodus, nid dyna bolisi Llywodraeth y DU, ac rwy'n gresynu’n fawr at hynny. Rwy'n credu eu bod yn gwneud camgymeriad mawr. Dyna pam ein bod wedi creu datganoli, fel y gallwn ni yng Nghymru wneud ein polisïau a chytuno ar ein blaenoriaethau, ac rydym i gyd yn cytuno beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer datganoli'r cyllid yn llawn i Gymru, fel y gallwn wneud y penderfyniadau hynny. Felly, nid yw hyn yn mynd mor bell ag y dymunwch iddo fynd. Rwy'n deall hynny, ac rwy'n deall yr holl—

In a second. I understand the pre-election rhetoric, but I do think it's a mistake, in criticising that, not to recognise what has been achieved and what is being delivered here, which is significant. I'm happy to give way to Jane Dodds.

Mewn eiliad. Rwy'n deall y rhethreg cyn etholiad, ond rwy'n credu ei fod yn gamgymeriad beirniadu hynny, peidio â chydnabod yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r hyn sy'n cael ei gyflawni yma, sy'n arwyddocaol. Rwy'n hapus i ildio i Jane Dodds.

Thank you so much, and I'm grateful to you for referring to the position that Welsh Labour find themselves in in terms of the devolution of rail as opposed to UK Labour. I'm just really interested: what do you feel needs to happen in order to ensure that your colleagues, and your Welsh colleagues in particular, in London actually vote for the amendment that devolves rail funding and the whole system to Wales? Diolch.

Diolch yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyfeirio at y sefyllfa y mae Llafur Cymru ynddi o ran datganoli rheilffyrdd yn hytrach na Llafur y DU. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod beth y teimlwch chi fod angen iddo ddigwydd er mwyn sicrhau bod eich cyd-bleidwyr yn Llundain, a'ch cyd-bleidwyr Cymreig yn enwedig, yn pleidleisio dros y gwelliant sy'n datganoli cyllid rheilffyrdd a'r system gyfan i Gymru? Diolch.

Well, look, there is some nervousness about devolving rail fully to Wales, which I understand. When you look at the projections of climate change adaptation costs over the next 10 to 30 years, they are enormous. The amount of railway line we have in Wales that hugs the coast, that threatens to be washed away, and when you look at the cost of the Conwy valley line alone having been washed away twice in fairly recent years, which is currently picked up by the UK Government because railway infrastructure is not devolved, were that within the block grant, that would be a very significant burden, and that's a burden that's going to keep increasing. So, there's, I think, sensible caution about signing up to a headline of, 'Let's devolve', without getting all those details agreed. It's not beyond the wit of man to agree those details, and to create a pot of funding to cover the liabilities, but let's not be flippant about it. It's a big deal, and it's complex.

If I may, Llywydd, briefly, the bit I am cautious about with the announcement is the jagged-edge way of the way the current settlement works. As we say, it is not devolved. Therefore, the UK Government should be paying its full share of railway infrastructure investment in Wales. And yet, within the announcement, we see that the Padeswood cement line in Flintshire, which is a critical piece of infrastructure, needs to be part funded by the north Wales growth deal, and the Cardiff Central train station upgrade is part funded by the Welsh Government and part funded by the south Wales growth deal, which in itself is part funded by the Welsh Government. So, that is not right. These are UK Government responsibilities. They should be fully funded by the holder of powers, namely the UK Government. [Interruption.] If I have time, Llywydd, I’m—

Wel, edrychwch, mae peth nerfusrwydd ynglŷn â datganoli rheilffyrdd yn llawn i Gymru, ac rwy'n deall hynny. Pan edrychwch ar yr amcanestyniadau o gostau addasu i newid hinsawdd dros y 10 i 30 mlynedd nesaf, maent yn enfawr. Mae cymaint o'n rheilffyrdd yng Nghymru yn rhedeg ar hyd yr arfordir, sydd dan fygythiad o gael ei olchi ymaith, a phan edrychwch ar gost rheilffordd dyffryn Conwy yn unig a olchwyd ymaith ddwywaith yn y blynyddoedd eithaf diweddar, cost a delir ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU am nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, pe bai hynny o fewn y grant bloc, byddai'n faich sylweddol iawn, ac mae hwnnw'n faich sy'n mynd i barhau i gynyddu. Felly, rwy'n credu bod angen gofal synhwyrol ynglŷn ag ymrwymo i ddatganoli heb gytundeb ar yr holl fanylion hynny. Nid yw cytuno ar y manylion hynny'n amhosib, a chreu pot o gyllid i dalu am y rhwymedigaethau, ond gadewch inni beidio â bod yn wamal am y peth. Mae'n anodd, ac mae'n gymhleth.

Os caf fod yn fyr, Lywydd, y peth rwy'n ofalus yn ei gylch gyda'r cyhoeddiad yw'r ffordd ymyl garw y mae'r setliad presennol yn gweithio. Fel y dywedwn, nid yw wedi'i ddatganoli. Felly, dylai Llywodraeth y DU dalu ei chyfran lawn o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ac eto, o fewn y cyhoeddiad, gwelwn fod angen i linell gwaith sment Padeswood yn sir y Fflint, sy'n ddarn allweddol o seilwaith, gael ei hariannu'n rhannol gan fargen twf gogledd Cymru, ac mae uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol gan fargen twf de Cymru, sydd ynddi'i hun yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid yw hynny'n iawn. Cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yw'r rhain. Dylent gael eu hariannu'n llawn gan ddeiliaid y pwerau, sef Llywodraeth y DU. [Torri ar draws.] Os oes gennyf amser, Lywydd—

16:35

Thank you for taking the intervention, and I welcome that comment. It is a very important comment to make. And does the Member agree with me that there is an opportunity lost to invest in other parts of the economy when, for example, the growth deal in north Wales has to contribute where the UK Government should be paying?

Diolch am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n croesawu'r sylw hwnnw. Mae'n sylw pwysig iawn i'w wneud. Ac a yw'r Aelod yn cytuno â mi fod cyfle wedi'i golli i fuddsoddi mewn rhannau eraill o'r economi pan fo'n rhaid i fargen twf gogledd Cymru, er enghraifft, gyfrannu lle dylai Llywodraeth y DU fod yn talu?

Well, all of the rail investment we’ve seen—the near £2 billion investment in the Welsh lines—are an opportunity cost. They’ve had to come out of other budgets. And I think there’s a broader reflection for this Senedd and the next Senedd. We get very excited about rail schemes and we talk about their economic impact. They are very expensive. They carry comparatively few passengers. It’s buses that carry the most passengers. And the key opportunity for us now, with this new pipeline that’s been agreed, and with the bus Bill passed, and with the creation of expert capacity at TfW, is to look at an integrated transport system, at rail and bus side by side.

And let’s not all fetishise and get excited by rail because it’s sexy and we all like train sets. We need to think about the needs of passengers and how buses and trains work together. And that may well be we’re far better off spending more money on buses and less on rail schemes. But let us not also fail to acknowledge the huge progress we’ve made in 10 years, and the much better inheritance the next Government, the next Senedd, is going to be getting than we had when I started here 10 years ago.

Wel, mae'r holl fuddsoddiad rheilffyrdd a welsom—y buddsoddiad o bron i £2 biliwn yn rheilffyrdd Cymru—yn gost cyfle. Mae wedi gorfod dod o gyllidebau eraill. Ac rwy'n credu bod angen i'r Senedd hon a'r Senedd nesaf edrych yn ehangach ar hyn. Rydym yn gyffrous iawn am gynlluniau rheilffyrdd ac rydym yn siarad am eu heffaith economaidd. Maent yn ddrud iawn. Cymharol ychydig o deithwyr a gariant. Bysiau sy'n cludo'r rhan fwyaf o deithwyr. A'r cyfle allweddol i ni nawr, gyda'r llif newydd o gynlluniau sydd wedi'u cytuno, a chyda phasio'r Bil bysiau, a chreu capasiti arbenigol yn Trafnidiaeth Cymru, yw edrych ar system drafnidiaeth integredig, ar reilffyrdd a bysiau ochr yn ochr.

A gadewch i bawb ohonom gael ein cyffroi gan y rheilffyrdd oherwydd mae'n ddeniadol ac mae pawb yn hoffi setiau trenau. Mae angen inni feddwl am anghenion teithwyr a sut y mae bysiau a threnau'n gweithio gyda'i gilydd. Ac efallai y byddwn yn llawer gwell ein byd o wario mwy o arian ar fysiau a llai ar gynlluniau rheilffyrdd. Ond gadewch inni gydnabod y cynnydd enfawr a wnaethom mewn 10 mlynedd, a'r gwaddol llawer gwell i Lywodraeth nesaf y Senedd nag a gawsom ni pan ddechreuais yma 10 mlynedd yn ôl.

Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth nawr i gyfrannu. Ken Skates. 

The Cabinet Secretary for transport now to contribute. Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Firstly, I’d like to thank Heledd Fychan for tabling this motion. It is vitally important, I believe, that we secure cross-party support for long-term investment decisions, regardless of whether they’re rail or in other areas. And 'Today, Tomorrow, Together' sets out a clear vision for rail in Wales over the next 15 years. Cross-party support for it will, I believe, help ensure that, in spite of electoral cycles and possible changes in Governments, the full £14 billion of rail upgrades will be completed. This is an approach that ensured HS1, the Elizabeth line and the south Wales metro were all completed regardless of political change.

None of these projects had funding provided, nor did the 2012 Olympic Games when they were awarded to London in 2005, nor was Theatr Clwyd when we agreed to modernise it, nor were the hospitals and the schools that we’ve built and rebuilt. Confirmation and approval of a plan comes first; funding follows in stages. 'Today, Tomorrow, Together' is fully supported by the UK Government, who have committed to deliver the many schemes as soon as possible, and, of course, have agreed to fund them. We now need that same commitment of support from opposition parties to fix the course of public transport improvements for the next decade and a half. And to quote the former Plaid Cymru Member of Parliament, Jonathan Edwards,

'It is highly unlikely that a Welsh government of another political colour would have'—

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n hanfodol bwysig, rwy'n credu, ein bod yn sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i benderfyniadau buddsoddi hirdymor, pa un a ydynt yn rheilffyrdd neu mewn meysydd eraill. Ac mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru dros y 15 mlynedd nesaf. Bydd cefnogaeth drawsbleidiol iddo'n helpu i sicrhau y bydd y £14 biliwn llawn o waith uwchraddio ar y rheilffyrdd yn cael ei gwblhau, er gwaethaf cylchoedd etholiadol a newidiadau posib i Lywodraethau. Dyma ddull o weithredu a sicrhaodd fod HS1, llinell Elizabeth a metro de Cymru i gyd wedi'u cwblhau beth bynnag am newidiadau gwleidyddol.

Nid oedd gan yr un o'r prosiectau hyn gyllid wedi'i ddarparu ar eu cyfer, na Gemau Olympaidd 2012 pan gawsant eu dyfarnu i Lundain yn 2005, na Theatr Clwyd pan wnaethom gytuno i'w moderneiddio, na'r ysbytai a'r ysgolion yr ydym wedi'u hadeiladu a'u hailadeiladu. Cadarnhau a chymeradwyo cynllun sy'n dod yn gyntaf; mae cyllid yn dilyn mewn camau. Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' wedi ei gefnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i gyflawni'r cynlluniau niferus cyn gynted â phosib, ac wrth gwrs, mae wedi cytuno i'w hariannu. Mae angen yr un ymrwymiad i gefnogi gan y gwrthbleidiau nawr i sefydlu llwybr o welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y degawd a hanner nesaf. Ac i ddyfynnu cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards,

'Mae'n annhebygol iawn y byddai llywodraeth yng Nghymru o liw gwleidyddol arall wedi'—

Okay, the Minister has frozen in his remote connection. I’ll give you one more attempt to connect properly. Ken, you did freeze for the last few seconds, so if you continue, we’ll see if we can continue with this line. If not, I’ll move to the next speaker.

Iawn, mae cysylltiad y Gweinidog wedi rhewi. Fe roddaf un ymgais arall i chi gysylltu'n iawn. Ken, fe wnaethoch chi rewi am yr eiliadau olaf, felly os ydych chi'n parhau, cawn weld a allwn ni barhau gyda'r llinell hon. Os na, fe symudaf ymlaen at y siaradwr nesaf.

Apologies, Llywydd. 'Today, Tomorrow, Together', for the first time in a long, long time, has resulted in rail investment taps being turned on.

Now, I’m going to address the motion as tabled first. I’m not going to be critical about any mistakes that have been made in the motion, because rail is complicated, but responsibility for the core Valleys lines has been devolved since 2020, with a corresponding block grant transfer. Transformation funding from the UK Government has been secured, along with investment in the baseline for CVL operations and also investment for maintenance and operations.

Cardiff Central station was mentioned. The reason that Welsh Government has contributed investment is because of the nationalisation that took place back in 2021, when we inherited investment decisions from Keolis. Had we not nationalised rail services, then the private sector would have made the contribution, but I make no apology for honouring Keolis's promise when we nationalised services that they had been responsible for. Our investment will vastly increase capacity at Cardiff Central. It will meet increasing demand and improve passenger safety.

Point 2 claims that the announcement on rail is largely uncosted during the current UK parliamentary term. In actual fact, the entire programme of work, not just the immediate and short-term projects, has been costed at approximately £14 billion, and funding of almost £0.5 billion has been allocated in this spending period. Now, when support is committed for long-term rail announcements of this nature, we require support from across parties—

Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', am y tro cyntaf ers amser hir, wedi arwain at agor y tapiau buddsoddi yn y rheilffyrdd.

Nawr, rwy'n mynd i siarad am y cynnig fel y'i cyflwynwyd gyntaf. Nid wyf yn mynd i fod yn feirniadol am unrhyw gamgymeriadau a wnaed yn y cynnig, oherwydd mae'r rheilffyrdd yn gymhleth, ond mae'r cyfrifoldeb am linellau craidd y Cymoedd wedi'i ddatganoli ers 2020, gyda throsglwyddiad grant bloc cyfatebol. Mae cyllid trawsnewid gan Lywodraeth y DU wedi'i sicrhau, ynghyd â buddsoddiad yn y llinell sylfaen ar gyfer gweithrediadau llinellau craidd y Cymoedd a buddsoddiad ar gyfer cynnal a chadw a gweithrediadau.

Soniwyd am orsaf Caerdydd Canolog. Y rheswm pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu buddsoddiad yw oherwydd y gwladoli a ddigwyddodd yn ôl yn 2021, pan wnaethom etifeddu penderfyniadau buddsoddi gan Keolis. Pe na baem wedi gwladoli gwasanaethau rheilffyrdd, byddai'r sector preifat wedi gwneud y cyfraniad, ond nid wyf yn ymddiheuro am anrhydeddu addewid Keolis pan wnaethom wladoli gwasanaethau yr oeddent wedi bod yn gyfrifol amdanynt. Bydd ein buddsoddiad yn cynyddu capasiti'n sylweddol yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd yn ateb y galw cynyddol ac yn gwella diogelwch teithwyr.

Mae pwynt 2 yn honni nad yw'r cyhoeddiad ar reilffyrdd wedi ei gostio i raddau helaeth yn ystod tymor seneddol presennol y DU. Mewn gwirionedd, mae'r rhaglen waith gyfan, nid y prosiectau uniongyrchol a thymor byr yn unig, wedi'i chostio ar oddeutu £14 biliwn, ac mae cyllid o bron i £0.5 biliwn wedi'i ddyrannu yn y cyfnod o wariant hwn. Nawr, pan gaiff cymorth ei ymrwymo i gyhoeddiadau rheilffyrdd hirdymor o'r natur hon, rydym angen cefnogaeth ar draws y pleidiau—

16:40

Are you taking an intervention? I have an intervention from Heledd Fychan, Ken Skates.

A ydych chi'n derbyn ymyriad? Mae gennyf ymyriad gan Heledd Fychan, Ken Skates.

Sorry, I have two requests for an intervention. Jenny Rathbone first. Are you taking that intervention?

Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf ddau gais am ymyriad. Jenny Rathbone yn gyntaf. A ydych chi'n derbyn yr ymyriad?

No, I need confirmation that Ken Skates is taking the intervention. Yes, he is. Jenny Rathbone. 

Na, rwyf angen cadarnhad fod Ken Skates yn derbyn yr ymyriad. Ydy. Jenny Rathbone. 

Okay. Thank you very much. At this stage, Ken Skates, I wondered if you could tell us whether Mark Barry's assessment that the projects that are outlined as being the most immediate ones will cost more than the £300 million that remains from what was promised in last year's spring statement, and where is that money, then, going to come from?

O'r gorau. Diolch yn fawr. Ar y cam hwn, Ken Skates, tybed a allech chi ddweud wrthym a fydd asesiad Mark Barry y bydd y prosiectau sydd wedi'u hamlinellu fel y rhai sydd eu hangen yn gyntaf yn costio mwy na'r £300 miliwn sy'n weddill o'r hyn a addawyd yn natganiad y gwanwyn y llynedd, ac o ble y daw'r arian hwnnw, felly?

Well, Jenny, as I've tried to explain on a number of occasions, the programme of work on the five stations is going to take longer than three years, so it will obviously require additional funding in the next spending period. The next spending period's allocations are due to be announced next year, but the UK Government has committed to funding the five stations in full, regardless of whether they take three, four or five years to complete.

Point 3(a) of the motion calls for the devolution of rail in line with powers exercised by Scotland and Northern Ireland. Now, it is curious, as Sam Rowlands has touched on. I'm going to leave Northern Ireland aside because of time, but the Scottish settlement does not include ownership of rail lines. Therefore, to have the Scottish model, Welsh Government would effectively have to surrender ownership of the core Valleys lines, in which we have invested £1.1 billion. Moreover, the Scottish Government holds competence over the promotion and construction of railways that start, end and remain in Scotland. So, again, having the Scottish model would mean that the north Wales main line, the Wrexham-Liverpool line, the Marches line, the Heart of Wales line, the Cambrian line, and the south Wales main line would fall out of scope. We would, however, have the joy of competence over the Conwy valley line, which currently costs Wales nothing to maintain, but would, as Lee Waters has outlined, cost Welsh taxpayers millions upon millions to sustain because of climate change. It's also a fact that Scotland are not happy with their devolution settlement.

I'm afraid that the Plaid motion demonstrates a lack of understanding and indicates a lack of competence over rail. Turning to the Conservative amendment, first of all, I agree entirely with points 1 and 2. However, point 3 doesn't reflect the details of the announcement, specifically the new stations that were announced and can be found in the document on pages 18, 19, 31, 33 and 35. New stations across Wales will be built, including, but obviously not limited to, Caerleon, St Athan, Wrexham north, Wrexham south, all of the Swansea bay metro stations and additional south-east Wales metro stations, just to identify a small number.

Wel, Jenny, fel y ceisiais esbonio ar sawl achlysur, mae'r rhaglen waith ar y pum gorsaf yn mynd i gymryd mwy na thair blynedd, felly mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol yn y cyfnod o wariant nesaf. Mae dyraniadau'r cyfnod o wariant nesaf i fod i gael eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu'r pum gorsaf yn llawn, pa un a fyddant yn cymryd tair, pedair neu bum mlynedd i'w cwblhau.

Mae pwynt 3(a) o'r cynnig yn galw am ddatganoli rheilffyrdd yn unol â phwerau a arferir gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nawr, mae'n rhyfedd, fel y mae Sam Rowlands wedi crybwyll. Nid wyf am drafod Gogledd Iwerddon am nad oes gennyf amser, ond nid yw'r setliad yn yr Alban yn cynnwys perchnogaeth ar linellau rheilffordd. Felly, er mwyn cael model yr Alban, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ildio perchnogaeth ar linellau craidd y Cymoedd y gwnaethom fuddsoddi £1.1 biliwn ynddynt. Ar ben hynny, mae gan Lywodraeth yr Alban gymhwysedd dros hyrwyddo ac adeiladu rheilffyrdd sy'n dechrau, yn gorffen ac yn aros yn yr Alban. Felly, unwaith eto, byddai cael model yr Alban yn golygu y byddai prif linell gogledd Cymru, llinell Wrecsam-Lerpwl, rheilffordd y Gororau, rheilffordd Calon Cymru, rheilffordd y Cambrian, a phrif linell de Cymru y tu allan i'r cwmpas. Fodd bynnag, fe gaem y pleser o fod â chymhwysedd dros linell dyffryn Conwy, sydd ar hyn o bryd yn costio dim i Gymru i'w chynnal, ond a fyddai, fel y mae Lee Waters wedi nodi, yn costio miliynau ar filiynau i drethdalwyr Cymru i'w chynnal oherwydd newid hinsawdd. Mae hefyd yn ffaith nad yw'r Alban yn hapus â'u setliad datganoli nhw.

Rwy'n ofni bod cynnig Plaid Cymru'n dangos diffyg dealltwriaeth ac yn dynodi diffyg cymhwysedd dros reilffyrdd. Gan droi at welliant y Ceidwadwyr, yn gyntaf oll, rwy'n cytuno'n llwyr â phwyntiau 1 a 2. Fodd bynnag, nid yw pwynt 3 yn adlewyrchu manylion y cyhoeddiad, yn benodol y gorsafoedd newydd a gyhoeddwyd ac sydd i'w gweld yn y ddogfen ar dudalennau 18, 19, 31, 33 a 35. Bydd gorsafoedd newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu wrth gwrs i Gaerllion, Sain Tathan, gogledd Wrecsam, de Wrecsam, holl orsafoedd metro bae Abertawe a gorsafoedd metro ychwanegol de-ddwyrain Cymru, i nodi nifer fach yn unig.

I'm sorry. Would you take an intervention?

Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Thank you. I just wanted to point out that you mentioned page 34, but when you look at that, it mentions £10 billion. I would be grateful if you could provide clarity on the £14 billion figure. I think everyone here would appreciate that clarity, even in writing would be helpful. But also, can you also confirm—? You've just said that these are basically done deals, but actually when you read the text, it says that further work is required  

'to explore how they can best be delivered and whether they would provide good value for money.'

So, surely these aren't definite. Further work is required to even know if they're viable. Do you accept that?

Diolch. Roeddwn i eisiau nodi eich bod wedi sôn am dudalen 34, ond pan edrychwch arni, mae'n sôn am £10 biliwn. Hoffwn i chi egluro'r ffigur o £14 biliwn. Rwy'n credu y byddai pawb yma'n gwerthfawrogi eglurder, hyd yn oed yn ysgrifenedig. Ond a allwch chi gadarnhau hefyd—? Rydych chi newydd ddweud bod y rhain yn bethau sydd eisoes wedi'u cytuno yn y bôn, ond pan ddarllenwch y testun, mae'n dweud bod angen rhagor o waith  

'i archwilio sut y gellir eu cyflawni orau ac a fyddent yn darparu gwerth da am arian.'

Felly, yn sicr nid yw'r rhain yn bendant. Mae angen rhagor o waith i wybod a ydynt yn ddichonadwy hyd yn oed. A ydych chi'n derbyn hynny?

16:45

No, I don't accept that. When it comes to value for money, it's all about how you design, build and deliver schemes. As we've seen with the south Wales metro, discontinuous electrification has guaranteed value for money, and so you have to go through a process of design and assessment before you actually sign off a project.

I'm just going to go back to the Conservatives' amendment. Point 4 calls for the reinstatement of funding for electrification of the north Wales main line. It is clearly central to network north Wales, and it is part of 'Today, Tomorrow, Together'. As I've just mentioned, funding for development work for electrification is crucially important. It is part of the network north Wales budget allocation. Work to assess the best form of electrification is taking place right now, and it is being informed by the extensive experience of the core Valleys lines transformation.

Cefin Campbell, I think, gave a very clear indication that Plaid Cymru would pull the plug on cross-border connectivity, and sadly draw a slate curtain across the border. Incidentally, when it comes to mentions of places, that prospectus for Northern Powerhouse Rail referred to the benefits for north Wales dozens of times, and yet Plaid Cymru continually criticise it. 

My thanks to Carolyn Thomas and Lee Waters for outlining comprehensively why the plan is transformational and follows the success of TfW in delivering £800 million of new trains and completing the south Wales metro. I'd ask Members this very simple question: do you support Transport for Wales's plans or not? If you back it, back our amendment. If you don't, then your opposition to this historic and huge investment will be noted. 

Na, nid wyf yn derbyn hynny. O ran gwerth am arian, mae'n ymwneud â sut rydych chi'n llunio, adeiladu a chyflawni cynlluniau. Fel y gwelsom gyda metro de Cymru, mae trydaneiddio di-dor wedi gwarantu gwerth am arian, ac felly rhaid i chi fynd drwy broses o gynllunio ac asesu cyn i chi ymrwymo i brosiect mewn gwirionedd.

Rwy'n mynd yn ôl at welliant y Ceidwadwyr. Mae pwynt 4 yn galw am adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell gogledd Cymru. Mae'n amlwg ei fod yn ganolog i rwydweithio gogledd Cymru, ac mae'n rhan o 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'. Fel rwyf newydd sôn, mae cyllid ar gyfer gwaith datblygu ar gyfer trydaneiddio yn hanfodol bwysig. Mae'n rhan o ddyraniad y gyllideb ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru. Mae gwaith i asesu'r math gorau o drydaneiddio'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n cael ei lywio gan y profiad helaeth yn sgil trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd.

Rhoddodd Cefin Campbell, rwy'n credu, arwydd clir iawn y byddai Plaid Cymru yn tynnu'r plwg ar gysylltedd trawsffiniol, ac yn anffodus yn gosod llen lechi ar draws y ffin. Gyda llaw, ar y cyfeiriadau at leoedd, cyfeiriai'r prosbectws ar gyfer Northern Powerhouse Rail at y manteision i ogledd Cymru ddwsinau o weithiau, ac eto mae Plaid Cymru yn ei feirniadu'n barhaus. 

Diolch i Carolyn Thomas a Lee Waters am amlinellu'n gynhwysfawr pam y mae'r cynllun yn drawsnewidiol ac yn dilyn llwyddiant Trafnidiaeth Cymru yn darparu £800 miliwn o drenau newydd a chwblhau metro de Cymru. Hoffwn ofyn y cwestiwn syml hwn i'r Aelodau: a ydych chi'n cefnogi cynlluniau Trafnidiaeth Cymru ai peidio? Os ydych chi'n eu cefnogi, cefnogwch ein gwelliant. Os nad ydych, fe nodir eich gwrthwynebiad i'r buddsoddiad hanesyddol ac enfawr hwn. 

Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.

Rhun ap Iorwerth now to reply to the debate.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'n ddadl ar fater mae pobl Cymru, dwi'n meddwl, wedi hen ddod i gasgliad sy'n llawer mwy na sut rydyn ni'n teithio o A i B ond sy'n fater o anghyfiawnder gwirioneddol, sef cyllido ein rheilffyrdd ni. A beth sy'n syfrdanol i fi ydy bod Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn parhad yr anghyfiawnder yna, ac yn hytrach na gwneud beth mae pawb arall yn ei wneud a mynnu bod yr anhegwch hanesyddol hwnnw yn dod i ben efo cynllun go iawn ar gyfer dod â fo i ben, maen nhw'n dweud, 'Gadewch inni anghofio a symud ymlaen.'

Thank you very much, Llywydd. I'm grateful to everyone who's participated in this afternoon's debate. It's a debate on an issue the people of Wales have long since come to a conclusion is about far more than how we travel from A to B, but a matter of real injustice, and that's the funding of our railways. And what's shocking to me is the Welsh Government is willing to accept that injustice, and rather than doing what everyone else is doing and insisting that that historic injustice should come to an end, with a real plan in order to deliver that, they are saying 'Let us forget and move on.'

I can't quite believe that the Welsh Government, facing the continued injustice of a lack of firm commitment on spending for rail in Wales that's been going on for decades—an injustice that's been going on at the hands of successive UK Governments, both Labour and Conservatives—think what's needed is to tell this Senedd today that it's time to move on. That's what the Labour amendment says: 'move on'. Well, Llywydd, Plaid Cymru won't move on until we actually see that injustice being put right.

We've heard, I tell you, some nonsense from Labour on rail over the years, but this last couple of weeks has been something else. There was that that sheer embarrassment, wasn't there, of the Welsh Secretary saying that HS2 no longer exists. She'd made the case for Wales to get over £4 billion of consequentials at one time, but then she got the wrong end of the stick somewhere and said it had been cancelled, and so Wales wasn't owed anything. You couldn't make it up. Well, it does exist, of course, and the injustice exists. And where Scotland and Northern Ireland get consequentials for that and for other multibillion-pound rail projects, Wales gets nothing. People are fuming about this, and rightly so.

But after Labour, in opposition of course, told the Tories to pay up, they get into Government and there's no money. What they do is make an announcement in the comprehensive spending review of £445 million for Wales—a tenth of what was owed because of HS2, of course. But anyway, it should be on top of HS2, not instead of it. And that's over the best part of a decade, as we've heard. The Welsh Government hailed this as a great success, but to put it in perspective, that £445 million is for all rail enhancements in Wales over the best part of a decade.

The city of Leeds got £240 million for a station upgrade. Reading station—it's lovely—cost double what Wales as a whole is set to receive. And the £445 million is only 6 per cent of the money owed to Wales from historic underfunding from other projects, based on the Welsh Government's own analysis in 2020. I congratulate the current transport Minister for his work in highlighting, in the past, what the underinvestment has been. What's changed?

So, yes, Wales short-changed again, £445 million. What did the Labour Welsh Secretary say when that sum was announced? Jo Stevens said:

'People were right to worry that Wales’s rail network was being left behind after years of Tory empty promises. No longer'.

What did Cardiff University's Wales Fiscal Analysis centre say?

'Any suggestion that this funding in any way compensates Wales for the loss incurred from HS2 is obviously unsustainable. It does not substantially change the overall picture of underfunding of Welsh rail infrastructure.'

I know who I believe. Fast forward to February 2026, Keir Starmer visits Wales. And as well as reannouncing the £445 million, as if it was new, we're given a new announcement of £14 billion in rail enhancements. But you don't even have to scratch the surface to see what nonsense that is. In the real world, sneezing over it should be just about enough.

I'm going to refer you at this point to a podcast that I enjoyed listening to last night, a new one to me. It's called Green Signals. You can find it on YouTube. Edition 125 was put up last Thursday. And it's scathing. It praises Transport for Wales, by the way, for identifying things that need to be done. And to answer the Cabinet Secretary's last question, yes, of course, I welcome this report by Transport for Wales. There has to be a vision. And I'm glad we have this vision. And remember, the finance Secretary told the Senedd last summer the reason there wasn't more money forthcoming for Wales then was that there was no project ready to go, or not enough projects ready to go—(a) not true, say all the foremost rail experts, and (b) funny how they've managed to get lots of things ready to go just before the election in May this year. The irony was not lost on me in Lee Waters calling our comments today 'pre-election rhetoric'.

The Green Signals podcast firstly highlights the shambles of how the £14 billion figure has been reached. It's worth listening to. Their conclusion is that you ask different people, ask UK Government, ask Welsh Government, you get different answers. All over the place. But the key thing is they read Government statements about this being real investment for the long term, and point out, of course, that no money has been identified at all. There is no timescale. I invite the Government to give us timescales. There is no source of funding, no promise of funding. It's clear they didn't even bother consulting Transport for Wales on what the correct or even closest approximate funding would be.

We've had the HS2 great train robbery, and now we have Labour's pre-election great rail con. It's no better than the Tories' pre-election, back-of-a-fag-packet pledge to electrify the north Wales line, as has been referred to many times. I mentioned the fact that the north Wales line has been politicised many times in the past, going back half a century or more. But Labour is a party that has gone from threatening legal action over the HS2 injustice, to a party that denied that project's existence, to now giving up the fight for a pipeline for the money that could come to Wales, for the money that is owed. Wales cannot afford to have a Government that's given up the fight for real assurances on rail in Wales. That, I'm afraid, is Labour's legacy. And the people of Wales have had enough.

Plaid Cymru is ready to get Wales back on track and to genuinely push, without pulling punches that we see so often from this Labour Government, for the investment we need, and a timescale, and a real plan. I urge you to support our motion this afternoon.

Ni allaf gredu bod Llywodraeth Cymru, gan wynebu'r anghyfiawnder parhaus o ddiffyg ymrwymiad cadarn ar wariant ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru sydd wedi bod yn digwydd ers degawdau—anghyfiawnder sydd wedi bod yn digwydd yn nwylo Llywodraethau olynol y DU, Llafur a Cheidwadol—yn meddwl mai'r hyn sydd ei angen yw dweud wrth y Senedd hon heddiw ei bod hi'n bryd symud ymlaen. Dyna beth y mae'r gwelliant Llafur yn ei ddweud: 'symudwch ymlaen'. Wel, Lywydd, ni fydd Plaid Cymru'n symud ymlaen nes i ni weld yr anghyfiawnder hwn yn cael ei unioni.

Rwy'n dweud wrthych, rydym wedi clywed nonsens gan Lafur ar y rheilffyrdd dros y blynyddoedd, ond mae'r wythnosau diwethaf wedi bod y tu hwnt. Gwelsom yr embaras llwyr pan honnodd Ysgrifennydd Cymru nad yw HS2 yn bodoli mwyach. Ar un adeg, roedd hi wedi dadlau y dylai Cymru gael dros £4 biliwn o arian canlyniadol, ond wedyn fe gamddeallodd a dweud ei fod wedi cael ei ganslo, ac felly nad oedd unrhyw beth yn ddyledus i Gymru. Mae'n anhygoel. Wel, mae'n bodoli, wrth gwrs, ac mae'r anghyfiawnder yn bodoli. A lle mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael arian canlyniadol yn ei sgil ac yn sgil prosiectau rheilffordd eraill gwerth biliynau lawer o bunnoedd, nid yw Cymru'n cael dim. Mae pobl yn gandryll ynglŷn â hyn, a hynny'n briodol.

Ond ar ôl i Lafur, pan oeddent yn wrthblaid wrth gwrs, ddweud wrth y Torïaid am dalu, fe ddaethant yn Llywodraeth ac nid oes unrhyw arian i'w gael. Yr hyn a wnânt yw gwneud cyhoeddiad yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant o £445 miliwn i Gymru—un rhan o ddeg o'r hyn a oedd yn ddyledus oherwydd HS2. Ond beth bynnag, dylai fod ar ben HS2, nid yn ei le. Ac mae hwnnw dros y rhan orau o ddegawd, fel y clywsom. Canodd Llywodraeth Cymru glodydd y penderfyniad fel llwyddiant mawr, ond i'w roi mewn persbectif, mae'r £445 miliwn ar gyfer yr holl welliannau i reilffyrdd yng Nghymru dros y rhan orau o ddegawd.

Cafodd dinas Leeds £240 miliwn ar gyfer uwchraddio gorsaf. Mae gorsaf Reading—mae'n hyfryd—yn costio dwbl yr hyn y mae Cymru gyfan yn mynd i'w gael. Ac nid yw'r £445 miliwn ond yn 6 y cant o'r arian sy'n ddyledus i Gymru o danariannu hanesyddol yn sgil prosiectau eraill, yn seiliedig ar ddadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn 2020. Rwy'n llongyfarch y Gweinidog trafnidiaeth presennol am ei waith yn tynnu sylw at y tanfuddsoddiad yn y gorffennol. Beth sydd wedi newid?

Felly, ie, Cymru'n cael cam eto, £445 miliwn. Beth a ddywedodd Ysgrifennydd Cymru pan gyhoeddwyd y swm hwnnw? Dywedodd Jo Stevens:

'Roedd pobl yn iawn i boeni bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn cael ei adael ar ôl wedi blynyddoedd o addewidion gwag y Torïaid. Dim mwyach'.

Beth a ddywedodd canolfan Dadansoddi Cyllidol Cymru Prifysgol Caerdydd?

'Mae unrhyw awgrym fod y cyllid hwn mewn unrhyw ffordd yn digolledu Cymru am y golled a gafwyd yn sgil HS2 yn amlwg yn anghynaliadwy. Nid yw'n newid yn sylweddol y darlun cyffredinol o danariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru.'

Rwy'n gwybod pwy rwy'n ei gredu. Symudwch ymlaen i fis Chwefror 2026, mae Keir Starmer yn ymweld â Chymru. Ac yn ogystal ag ailgyhoeddi'r £445 miliwn, fel pe bai'n newydd, rhoddir cyhoeddiad newydd i ni ynghylch £14 biliwn mewn gwelliannau rheilffyrdd. Ond nid oes rhaid i chi grafu'r wyneb hyd yn oed i weld cymaint o nonsens yw hynny. Yn y byd go iawn, nid oes unrhyw sylwedd yn agos iddo.

Rwy'n mynd i'ch cyfeirio chi ar y pwynt hwn at bodlediad y mwynheais wrando arno neithiwr, un newydd i mi. Ei enw yw Green Signals. Gallwch ddod o hyd iddo ar YouTube. Cafodd rhifyn 125 ei roi yno ddydd Iau diwethaf. Ac mae'n feirniadol iawn. Mae'n canmol Trafnidiaeth Cymru, gyda llaw, am nodi pethau sydd angen eu gwneud. Ac i ateb cwestiwn olaf Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn gan Trafnidiaeth Cymru. Rhaid cael gweledigaeth. Ac rwy'n falch fod gennym y weledigaeth hon. A chofiwch, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid wrth y Senedd yr haf diwethaf mai'r rheswm nad oedd mwy o arian yn dod i Gymru ar y pryd oedd nad oedd unrhyw brosiect yn barod i fynd, neu nad oedd digon o brosiectau'n barod i fynd—(a) nid yw hynny'n wir, meddai'r holl arbenigwyr rheilffyrdd mwyaf blaenllaw, a (b) mae'n ddoniol sut y maent wedi llwyddo i gael llawer o bethau'n barod i fynd ychydig cyn yr etholiad ym mis Mai eleni. Roedd y ffordd y galwodd Lee Waters ein sylwadau ni heddiw'n 'rhethreg cyn etholiad' yn hynod eironig.

Mae'r podlediad Green Signals yn tynnu sylw'n gyntaf at y ffordd ddi-drefn y cyrhaeddwyd y ffigur o £14 biliwn. Mae'n werth gwrando arno. Eu casgliad yw eich bod chi'n gofyn i wahanol bobl, gofyn i Lywodraeth y DU, gofyn i Lywodraeth Cymru, ac yn cael atebion gwahanol. Dros y lle ym mhobman. Ond y peth allweddol yw eu bod yn darllen datganiadau'r Llywodraeth sy'n dweud bod hwn yn fuddsoddiad go iawn ar gyfer y tymor hir, ac yn nodi, wrth gwrs, nad oes arian wedi'i nodi o gwbl. Nid oes amserlen. Rwy'n gwahodd y Llywodraeth i roi amserlenni i ni. Nid oes unrhyw ffynhonnell ariannu nac unrhyw addewid o gyllid. Mae'n amlwg na wnaethant drafferthu ymgynghori â Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â beth fyddai'r cyllid cywir neu'n agos at hynny.

Cawsom ladrad trên mawr HS2, a nawr cawn dwyll mawr cyn etholiad gan Lafur. Nid yw'n damaid gwell nag addewid cyn etholiad y Torïaid, addewid ar gefn pecyn sigaréts fel y cyfeiriwyd ato sawl gwaith, i drydaneiddio llinell gogledd Cymru. Soniais am y gwleidyddoli a wnaed o linell gogledd Cymru sawl gwaith yn y gorffennol, gan fynd yn ôl hanner canrif neu fwy. Ond mae Llafur yn blaid sydd wedi mynd o fygwth camau cyfreithiol dros anghyfiawnder HS2, i blaid sy'n gwadu bodolaeth y prosiect hwnnw, i roi'r gorau i'r frwydr nawr am biblinell i'r arian a allai ddod i Gymru, i'r arian sy'n ddyledus. Ni all Cymru fforddio cael Llywodraeth sydd wedi rhoi'r gorau i'r frwydr am sicrwydd go iawn ar reilffyrdd yng Nghymru. Mae arnaf ofn mai dyna'r gwaddol y mae Llafur yn ei adael ar eu holau. Ac mae pobl Cymru wedi cael digon.

Mae Plaid Cymru'n barod i gael Cymru'n ôl ar y cledrau ac i wthio o ddifrif, heb gilio o'r frwydr fel y gwelwn y Llywodraeth Lafur hon yn ei wneud mor aml, am y buddsoddiad sydd ei angen arnom, ac am amserlen a chynllun go iawn. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni ohirio'r bleidlais.   

The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There is objection. Therefore, I defer voting until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

7. Dadl Fer: Sut gall Cymru ddiogelu, gwella ac ymgorffori ein sefydliadau diwylliannol blaengar er mwyn cyfoethogi pobl Cymru a thu hwnt?
7. Short Debate: How can Wales protect, enhance, and enshrine our world-leading cultural organisations for the enrichment of the people of Wales and beyond?

Byddwn ni'n cymryd y ddadl fer nesaf. Mae'r ddadl fer heddiw gan Rhianon Passmore.

We'll take the short debate next. Today's short debate is from Rhianon Passmore.

Diolch, Llywydd. Thank you very much. I'm honoured to table this short debate today and wish, once again, to underscore the critical importance of safeguarding and protecting our unique artistic legacy and heritage, the importance to Wales of our international and local talent production, and the importance of music and the arts to our everyday well-being. I wish to offer some time in this debate to Julie Morgan, Jane Dodds, Heledd Fychan, John Griffiths and Peter Fox.

Many in this Chamber will know that Creative Wales is going from strength to strength, supporting new music and local community music making, that we are seeing a renaissance in popular music and composition, including gaming, and that today we actually see brass bands and choirs turning the trajectory post COVID. But it is the role of key culturally significant national organisations of Wales that is also critical to our creative infrastructure and critical to the well-being, health, talent and economic productivity of Wales, as has been recently outlined in Scotland by UK Music.

Indeed, it was the highly musical Julie Andrews who sang, pianissimo dolce, 'Let's start at the very beginning'. I'm not going to speak to my commissioned report, 'Land of Song', and I definitely won't sing, but I will touch upon the critical importance—

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ac rwyf am bwysleisio, unwaith eto, pa mor hollbwysig yw diogelu ein gwaddol artistig unigryw, pwysigrwydd cynhyrchu talent rhyngwladol a lleol i Gymru, a phwysigrwydd cerddoriaeth a'r celfyddydau i'n lles bob dydd. Hoffwn roi peth amser yn y ddadl hon i Julie Morgan, Jane Dodds, Heledd Fychan, John Griffiths a Peter Fox.

Bydd nifer yn y Siambr hon yn gwybod bod Cymru Greadigol yn mynd o nerth i nerth, gan gefnogi cerddoriaeth newydd a chreu cerddoriaeth gymunedol leol, ein bod yn gweld adfywiad mewn cerddoriaeth boblogaidd a chyfansoddi, gan gynnwys gemau cyfrifiadurol, a'n bod heddiw'n gweld bandiau pres a chorau'n newid trywydd ar ôl COVID. Ond mae rôl sefydliadau cenedlaethol diwylliannol allweddol arwyddocaol Cymru hefyd yn hanfodol i'n seilwaith creadigol ac yn hanfodol i les, iechyd, talent a chynhyrchiant economaidd Cymru, fel yr amlinellwyd yn ddiweddar yn yr Alban gan UK Music.

Yn wir, Julie Andrews y wraig hynod gerddorol honno a ganodd, pianissimo dolce, 'Let's start at the very beginning'. Nid wyf yn mynd i siarad am yr adroddiad a gomisiynais, 'Gwlad y Gân', ac yn bendant ni fyddaf yn canu, ond rwyf am gyffwrdd â phwysigrwydd allweddol—

16:55

I could have done. The critical importance of the safeguarding of the Wales national music plan. The basic elements of these are critical.

Because, Members, we have so much to be proud of, which includes the huge passion of our growing army of artists and teachers. We have so much to celebrate as we look into the future and face those considerable challenges ahead. Not only did Wales create the national health service and the people's opera—and many know that the Welsh National Opera was devised by doctors, amateurs and miners—but we were also the very first nation in the world to create a national youth orchestra. This year, the Welsh youth orchestra is 80 years old, and I'm sure the Senedd will join with me in celebrating that epic longevity and innovation.

It is right and proper that we don't just note, but that we recognise the lives that the National Youth Orchestra of Wales has transformed and the careers it has launched, and that we celebrate and nurture such national treasures and its creative home with National Youth Arts Wales's innovative leadership.

It is about time that we celebrate our dedicated and hard-working national cultural organisations. I myself wish to pay homage today to the plethora of hard-working staff, musicians, teachers and tutors. I know how hard they have worked in order to achieve considerable outcomes for students, communities and for Wales. That is acknowledged globally in 'Land of Song'.

Gallwn fod wedi gwneud. Pwysigrwydd hanfodol diogelu cynllun cerddoriaeth cenedlaethol Cymru. Mae elfennau sylfaenol y rhain yn allweddol.

Oherwydd, Aelodau, mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, sy'n cynnwys angerdd enfawr ein byddin gynyddol o artistiaid ac athrawon. Mae gennym gymaint i'w ddathlu wrth inni edrych tua'r dyfodol ac wynebu'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau. Nid yn unig fod Cymru wedi creu'r gwasanaeth iechyd gwladol ac opera'r bobl—ac mae llawer yn gwybod bod Opera Cenedlaethol Cymru wedi'i greu gan feddygon, amaturiaid a glowyr—ond ni hefyd oedd y genedl gyntaf yn y byd i greu cerddorfa ieuenctid genedlaethol. Eleni, mae cerddorfa ieuenctid Cymru yn 80 mlwydd oed, ac rwy'n siŵr y bydd y Senedd am ymuno â mi i ddathlu'r hirhoedledd a'r arloesedd epig hwnnw.

Mae'n iawn ac yn briodol ein bod ni nid yn unig yn nodi, ond yn cydnabod y bywydau y mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi'u trawsnewid a'r gyrfaoedd y mae wedi'u lansio, a'n bod yn dathlu ac yn meithrin trysorau cenedlaethol o'r fath a'i chartref creadigol gydag arweinyddiaeth arloesol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae'n bryd inni ddathlu ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol ymroddedig a gweithgar. Hoffwn dalu teyrnged heddiw i'r llu o staff, cerddorion, athrawon a thiwtoriaid gweithgar. Rwy'n gwybod pa mor galed y maent wedi gweithio er mwyn cyflawni canlyniadau sylweddol i fyfyrwyr, cymunedau ac i Gymru. Mae hynny'n cael ei gydnabod yn 'Gwlad y Gân' drwyddo draw.

Diolch yn fawr i chi i gyd, bawb.

Thank you all very much.

For the musicians and teachers of Wales, and across the arts and music services, today we now see music GCSE's take-up improve, and it is right that our teachers are recognised and that their passion and commitment are recognised fully. Thank you for that work.

As we approach a new Senedd, it is critical that the Wales national music plan is recognised for what it is: a strategic master plan, a living document. I want to give thanks to Emma Coulthard, its author. This document, its principles and themes, alongside a clear pyramid structure that its scopes, are both valuable and valued. It has led today to an internationally renowned music educational infrastructure. The national music plan has driven a built-in-Wales and operated-in-Wales policy agenda. It was a midwife that directly bore the national music service, and developed and mainstreamed those possibilities and probabilities. A strong National Youth Arts Wales, which provides Wales's innovative national orchestral, band and choral opportunities, is also now delivering on so much more.

Nonetheless, the need for longer term planning funding cycles for many is now of critical importance if we are to truly transform the numerous innovative projects such as, for example, the National Youth Arts young person's passport. Did the Chamber know, for instance, that today, our Wales music educational infrastructure is regarded as innovative best practice, or that Wales has been asked to showcase our offer internationally, that the national music service's innovative leadership and collaborative approach with National Youth Arts Wales, and alongside providers like Welsh National Opera, has marched through the schools of Wales, establishing first-experience programmes, whole-class initiatives, the roll-out of tiered orchestral and band opportunities and experiences once more? These are real opportunities, and they are needed for skills building and the delivery of an equitable playing field for those who cannot afford private tuition or private courses. That principle of equity is fundamental and underpins that national plan.

These organisations—National Youth Arts Wales and National Music Service Wales—are of cultural significance to Wales. Such innovation deserves due respect. And with increased funding, their outputs would be transformative, I have absolutely no doubt. And this would be financial peanuts compared to other Welsh Government budget lines. Today, despite commitment and support from this Government, they float, with single teams and flatlined budgets, when they are delivering so very much for Wales—truly over and above what should be possible. Despite massive outputs, these organisations cannot be hand-to-mouth, because they are able to truly transform the musical and creative landscapes of Wales and our economy.

And then the jewel in the performance crown, the Welsh National Opera, has also welcomed hugely a massive Welsh Government injection of funding, and this was a direct result of an important, though ad hoc, investment. It has hung on to a world-class musician and chorus base, and world-class performances and production work continued again this year. And I am very proud to announce that they have won two national awards, including one for the UK's best opera production of Peter Grimes. Wales must continue to spread the excellence of our only professional singing company. But, once again, it's in the box. Despite clear management, come summer end, it must now look once more to potentially end careers and vocations, with our talent most likely being redeployed to England. The Welsh National Opera needs sustainable recognition—again, as a culturally significant organisation of Wales, because that is what it is.

And lastly, the Royal Welsh College of Music and Drama has, again, similarly, also hugely welcomed large Government investment and intervention. But the loss of its junior department was huge for them and for Wales. Today, it's working on an embryonic national talent pipeline with the National Music Service Wales and National Youth Arts Wales. But a pipeline of funding for that does not exist. A Royal Welsh College of Music and Drama youth talent pathway is an important cog in that pyramid from the national music plan—across acting, across theatre and vocal training. And a recognition of this as a culturally significant organisation of Wales would be a way forward for a new Royal Welsh College of Music and Drama youth arts programme for the most talented across Wales, and not just those who can access Cardiff.

So, to conclude, Llywydd, I'm welcoming the opportunity hugely to hear the contributions of my esteemed cross-party colleagues speaking today. And I welcome you all also to a unique musical event that I'm sponsoring on Wednesday at the Pierhead. We're going to hear wonderful music, discuss proposals for live music, sustainability, education, the role of tax and credits and the touring concerns, and the hosts will speak to us too. So, thank you very much. Diolch yn fawr.

I gerddorion ac athrawon Cymru, ac ar draws y celfyddydau a gwasanaethau cerddoriaeth, heddiw rydym bellach yn gweld y nifer sy'n astudio TGAU cerddoriaeth yn gwella, ac mae'n iawn fod ein hathrawon yn cael eu cydnabod a bod eu hangerdd a'u hymrwymiad yn cael eu cydnabod yn llawn. Diolch am y gwaith hwnnw.

Wrth inni ddod at Senedd newydd, mae'n hanfodol fod cynllun cerddoriaeth cenedlaethol Cymru yn cael ei gydnabod am yr hyn ydyw: uwchgynllun strategol, dogfen fyw. Rwyf am ddiolch i Emma Coulthard, awdur y gwaith. Mae'r ddogfen hon, ei hegwyddorion a'i themâu, ochr yn ochr â strwythur pyramid clir y mae'n ei gwmpasu, yn werthfawr ac yn cael ei gwerthfawrogi. Mae wedi arwain heddiw at seilwaith addysg cerddoriaeth o fri rhyngwladol. Mae'r cynllun cerddoriaeth cenedlaethol wedi sbarduno agenda bolisi a wnaed yng Nghymru ac a weithredir yng Nghymru. Roedd yn fydwraig a fu'n uniongyrchol gyfrifol am roi genedigaeth i'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac a ddatblygodd a phrif ffrydio'r posibiliadau hynny. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru cryf, sy'n darparu cyfleoedd cerddorfaol, band a chorawl cenedlaethol arloesol Cymru, yn cyflawni cymaint mwy erbyn hyn.

Serch hynny, i lawer mae'r angen am gylchoedd cyllido ar gyfer cynlluniau mwy hirdymor bellach yn hanfodol bwysig os ydym am drawsnewid y prosiectau arloesol niferus fel pasbort y Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid i bobl ifanc er enghraifft. A oedd y Siambr yn gwybod, er enghraifft, fod ein seilwaith addysg cerddoriaeth yng Nghymru heddiw yn cael ei ystyried yn arfer gorau arloesol, neu fod gofyn i Gymru arddangos ein cynnig yn rhyngwladol, fod arweinyddiaeth arloesol a dull cydweithredol y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol o weithredu gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac ochr yn ochr â darparwyr fel Opera Cenedlaethol Cymru, wedi gorymdeithio drwy ysgolion Cymru, gan sefydlu rhaglenni profiad cyntaf, mentrau dosbarth cyfan, cyflwyno cyfleoedd a phrofiadau cerddorfaol a band haenog a phrofiadau unwaith unwaith eto? Mae'r rhain yn gyfleoedd go iawn, ac mae eu hangen ar gyfer meithrin sgiliau a darparu tegwch i'r rhai na allant fforddio hyfforddiant preifat neu gyrsiau preifat. Mae'r egwyddor o degwch yn sylfaenol ac yn sail i'r cynllun cenedlaethol.

Mae'r sefydliadau hyn—Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru—yn arwyddocaol yn ddiwylliannol i Gymru. Mae arloesedd o'r fath yn haeddu parch. A chyda mwy o gyllid, byddai eu hallbynnau'n drawsnewidiol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ac ni fyddai'n dreth ariannol o'i gymharu â llinellau cyllideb eraill Llywodraeth Cymru. Heddiw, er gwaethaf ymrwymiad a chefnogaeth gan y Llywodraeth hon, maent yn arnofio, gyda thimau sengl a chyllidebau gwastad, a hwythau'n cyflawni cymaint i Gymru—y tu hwnt i'r hyn a ddylai fod yn bosib. Er gwaethaf allbynnau enfawr, ni ddylid gadael i'r sefydliadau hyn fodoli o'r llaw i'r genau, oherwydd gallant drawsnewid tirweddau cerddorol a chreadigol Cymru a'n heconomi.

Ac mae'r trysor perfformiadol, Opera Cenedlaethol Cymru, hefyd wedi croesawu chwistrelliad enfawr o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a daeth hwnnw o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad pwysig, er ei fod ar sail ad hoc. Mae wedi dal ei afael ar sylfaen o gerddorion a chorws o'r radd flaenaf, ac mae perfformiadau a gwaith cynhyrchu o'r radd flaenaf wedi parhau eto eleni. Ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi ennill dwy wobr genedlaethol, yn cynnwys un am gynhyrchiad opera gorau'r DU o Peter Grimes. Rhaid i Gymru barhau i ledaenu rhagoriaeth ein hunig gwmni canu proffesiynol. Ond unwaith eto, mae yn y bocs. Er gwaethaf rheolaeth glir, ar ddiwedd yr haf, rhaid iddo edrych unwaith eto ar ddod â gyrfaoedd a galwedigaethau i ben, gyda'n talent yn debygol o gael ei adleoli i Loegr. Mae angen cydnabyddiaeth gynaliadwy i Opera Cenedlaethol Cymru—unwaith eto, fel sefydliad diwylliannol arwyddocaol yng Nghymru, oherwydd dyna beth ydyw.

Ac yn olaf, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, unwaith eto yn yr un modd, hefyd wedi croesawu buddsoddiad ac ymyrraeth fawr gan y Llywodraeth. Ond roedd colli eu hadran iau yn ergyd enfawr iddynt ac i Gymru. Heddiw, mae'n gweithio ar lif o dalent genedlaethol embryonig gyda Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ond nid oes llif o gyllid ar gyfer hynny. Mae llwybr talent ieuenctid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan bwysig yn y pyramid o'r cynllun cerddoriaeth cenedlaethol—ar draws actio, ar draws theatr a hyfforddiant lleisiol. A byddai cydnabyddiaeth iddo fel sefydliad diwylliannol arwyddocaol yng Nghymru'n ffordd ymlaen i raglen celfyddydau ieuenctid newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer y rhai mwyaf talentog ledled Cymru, ac nid y rhai a all gyrraedd Caerdydd yn unig.

Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i glywed cyfraniadau fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol parchus heddiw. Ac rwy'n eich croesawu chi i gyd hefyd i ddigwyddiad cerddorol unigryw a noddir gennyf ddydd Mercher yn y Pierhead. Cawn glywed cerddoriaeth wych, trafod cynigion ar gerddoriaeth fyw, cynaliadwyedd, addysg, rôl treth a chredydau a phryderon ynghylch teithio, a bydd y gwesteion yn siarad â ni hefyd. Felly, diolch yn fawr.

17:00

Mae'r Aelod wedi caniatáu cyfraniadau gan bum unigolyn.

The Member has allowed time for five individuals.

Do you have five names that have requested time to speak?

A oes gennych chi bum enw sydd wedi gofyn am amser i siarad?

Yes, certainly. I think we've got Julie Morgan first, followed by Peter Fox, followed by John Griffiths, and then Jane Dodds and Heledd Fychan.

Oes, yn sicr. Rwy'n meddwl mai Julie Morgan sydd yn gyntaf, yna Peter Fox, yna John Griffiths, ac yna Jane Dodds a Heledd Fychan.

Excellent. The same five as I've got. So, if we take them in that order. Who was first in that order? Julie Morgan? We'll take you first.

Gwych. Yr un pump sydd gennyf i. Felly, os cawn eu cymryd yn y drefn honno. Pwy oedd yn gyntaf yn y drefn honno? Julie Morgan? Fe wnawn eich cymryd chi yn gyntaf.

Diolch. I'm very grateful for the opportunity to speak in this very important debate today about how to protect our fantastic cultural organisations here in Wales. And I'd like to thank Rhianon for her enthusiasm and her leadership in this very important field. So, diolch, Rhianon.

Wales's cultural organisations are not luxuries, they are essential national assets that shape our identity, nurture young talent and project Wales's voice onto the world stage. If we want a confident, creative, forward-looking nation, then cultural investment must be protected, not eroded. And as Rhianon has said, we do see great potential, but also great fragility, such as the emerging junior department at the Royal Welsh College of Music and Drama. Now, I fought to keep the junior conservatoire open, along with Rhianon and many in this organisation, and it was an absolute tragedy that it closed. But now is the opportunity to do something there, and I urge the Welsh Government to do all it can to support that development. And, again, Rhianon mentioned the Welsh National Opera. It is an absolute tragedy that that has been under threat. So, I think we have to make certain that the Welsh National Opera survives and flourishes. Because if we value these institutions, we must give them the stability they need. Diolch.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw ynglŷn â sut i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol gwych yma yng Nghymru. A hoffwn ddiolch i Rhianon am ei brwdfrydedd a'i harweinyddiaeth yn y maes pwysig hwn. Felly, diolch, Rhianon.

Nid moethusrwydd yw sefydliadau diwylliannol Cymru, maent yn asedau cenedlaethol hanfodol sy'n ffurfio ein hunaniaeth, yn meithrin talent ifanc ac yn rhoi llais Cymru ar lwyfan y byd. Os ydym eisiau cenedl hyderus, greadigol, flaengar, rhaid diogelu buddsoddiad diwylliannol, nid ei erydu. Ac fel y mae Rhianon wedi dweud, rydym yn gweld potensial mawr, ond breuder mawr hefyd, fel yn yr adran iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Nawr, brwydrais i gadw'r conservatoire iau ar agor, gyda Rhianon a nifer yn y sefydliad hwn, ac roedd yn drasiedi lwyr ei fod wedi cau. Ond nawr yw'r cyfle i wneud rhywbeth yno, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r datblygiad hwnnw. Ac unwaith eto, soniodd Rhianon am Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n drasiedi fawr fod y sefydliad hwnnw wedi bod dan fygythiad. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr fod Opera Cenedlaethol Cymru yn goroesi ac yn ffynnu. Oherwydd os ydym yn gweld gwerth y sefydliadau hyn, rhaid inni roi'r sefydlogrwydd y maent ei angen iddynt. Diolch.

I'm grateful to Rhianon Passmore for bringing forward this important and timely debate. Wales is a home to world-leading cultural organisations that don't just preserve our heritage, but protect and celebrate our Welsh identity, something I hope all parties here support. At a time when budgets are tightened across the public sector, it's never been more important to secure and safeguard cultural spend so that this richness is not lost.

In my own constituency of Monmouthshire, from county events like our agricultural shows to community traditions at Tintern abbey, culture brings people together, supports small businesses and showcases Wales to visitors. If we want Wales to continue leading globally in the arts, heritage and culture, we must protect funding and give organisations like the National Youth Orchestra of Wales, the Royal Welsh College of Music and Drama and others that stable recognition and long-term planning cycles that they need. Investing in culture shows a commitment to the people of Wales today and to the future generations. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon. Mae Cymru'n gartref i sefydliadau diwylliannol sy'n arwain y byd ac sydd nid yn unig yn cynnal ein treftadaeth, ond hefyd yn gwarchod ac yn dathlu ein hunaniaeth Gymreig, rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd pawb yma'n ei gefnogi. Ar adeg pan fo cyllidebau'n cael eu tynhau ar draws y sector cyhoeddus, ni fu erioed yn bwysicach sicrhau a diogelu gwariant diwylliannol fel nad yw'r cyfoeth hwn yn cael ei golli.

Yn fy etholaeth fy hun yn sir Fynwy, o ddigwyddiadau sirol fel ein sioeau amaethyddol i draddodiadau cymunedol yn abaty Tyndyrn, daw diwylliant â phobl at ei gilydd, gan gefnogi busnesau bach ac arddangos Cymru i ymwelwyr. Os ydym am i Gymru barhau i arwain yn fyd-eang yn y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant, rhaid inni ddiogelu cyllid a rhoi'r gydnabyddiaeth sefydlog a'r cylchoedd cynllunio hirdymor sydd eu hangen arnynt i sefydliadau fel Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac eraill. Mae buddsoddi mewn diwylliant yn dangos ymrwymiad i bobl Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.

17:05

I too congratulate Rhianon Passmore on bringing this important short debate to the Senedd today and very much agree that we do need to protect and enhance our leading cultural organisations. I would also say that we need to ensure that those leading cultural organisations work with our grass-roots art and cultural scene across Wales.

In Newport, we have a local authority cultural strategy now that I think has been very important and successful in providing a new focus, a new prioritisation, for culture and the arts in Newport. We've had new venues as a result, new activities, and a new sense of momentum and promotion through the local authority, with a host of grass-roots cultural organisations and communities working with that strategy, which was very much developed with that grass-roots scene in the first instance. So, I hope very much that our leading cultural organisations in Wales, as we do, I hope, protect and enhance them, take the time to understand those local strategies for culture that have been developed by local authorities and others, and understand how they, as those leading organisations, can help and support those vital local strategies. Diolch yn fawr.

Rwyf innau hefyd yn llongyfarch Rhianon Passmore am ddod â'r ddadl fer bwysig hon i'r Senedd heddiw ac yn cytuno'n fawr fod angen inni ddiogelu a gwella ein sefydliadau diwylliannol blaenllaw. Carwn ddweud hefyd fod angen inni sicrhau bod y sefydliadau diwylliannol blaenllaw hynny'n gweithio gyda'n sîn gelf a diwylliant llawr gwlad ledled Cymru.

Yng Nghasnewydd nawr, mae gennym strategaeth ddiwylliannol yr awdurdod lleol y credaf ei bod wedi bod yn bwysig iawn ac wedi llwyddo i ddarparu ffocws newydd, blaenoriaeth newydd, i ddiwylliant a'r celfyddydau yng Nghasnewydd. O ganlyniad, mae gennym leoliadau newydd, gweithgareddau newydd, ac ymdeimlad newydd o fomentwm a hyrwyddiad drwy'r awdurdod lleol, gyda llu o sefydliadau diwylliannol a chymunedol ar lawr gwlad yn gweithio gyda'r strategaeth, a ddatblygwyd i raddau helaeth gyda'r sîn lawr gwlad honno yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ein sefydliadau diwylliannol blaenllaw yng Nghymru yn eu diogelu a'u gwella, fel rydym ni'n ei wneud, yn rhoi amser i ddeall y strategaethau lleol ar gyfer diwylliant sydd wedi'u datblygu gan awdurdodau lleol ac eraill, a deall sut y gallant, fel y sefydliadau blaenllaw hynny, helpu a chefnogi strategaethau lleol allweddol. Diolch yn fawr.

I pay tribute too to Rhianon for her absolutely sterling work in this area. You have been the absolute leader in terms of bringing us along as a Senedd in this area, and I do pay tribute to you and thank you.

Culture and arts and sports as well are actually health-preventative measures. They help us all as humanity in terms of our own emotional and mental health. I'm just going to talk for less than a minute on museums, because they are absolutely invaluable to our arts and culture experience. They are learning hubs, community anchors and gateways to opportunity. I know, having visited Amgueddfa Cymru, that they have Flying Start sessions, workshops for hard-to-reach communities and outreach programmes to bring culture directly to young people and adults who might otherwise never engage and never step foot in a museum. Again, I pay tribute to Welsh Liberal Democrat Jenny Randerson, who has sadly passed, for the work that she did to ensure that our museums are free entry to all and that that was enshrined in law. If we are serious about safeguarding culture in Wales, we must ensure that our museums can not only exist, but thrive as spaces that educate, inspire and connect communities. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i Rhianon am ei gwaith hollol wych yn y maes hwn. Rydych chi wedi bod yn arweinydd o ran dod â ni gyda chi fel Senedd yn y maes hwn, ac rwy'n talu teyrnged i chi ac yn diolch i chi.

Mae diwylliant a'r celfyddydau a chwaraeon hefyd yn fesurau ataliol o ran iechyd. Maent yn ein helpu ni i gyd fel dynoliaeth gyda'n hiechyd emosiynol a meddyliol ein hunain. Rwy'n mynd i siarad am lai na munud am amgueddfeydd, oherwydd maent yn gwbl amhrisiadwy i'n profiad celfyddydol a diwylliannol. Maent yn hybiau dysgu, yn angorau cymunedol ac yn byrth i gyfleoedd. Ar ôl ymweld ag Amgueddfa Cymru, rwy'n gwybod bod ganddynt sesiynau Dechrau'n Deg, gweithdai ar gyfer cymunedau anodd eu cyrraedd a rhaglenni allgymorth i ddod â diwylliant yn uniongyrchol i bobl ifanc ac oedolion na fyddai byth yn ymgysylltu fel arall a byth yn rhoi troed dros riniog amgueddfa. Unwaith eto, rwy'n talu teyrnged i'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig, y ddiweddar Jenny Randerson, am y gwaith a wnaeth i sicrhau bod ein hamgueddfeydd yn cynnig mynediad am ddim i bawb a bod hynny wedi ei ymgorffori yn y gyfraith. Os ydym o ddifrif ynglŷn â diogelu diwylliant yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod ein hamgueddfeydd nid yn unig yn gallu bodoli, ond eu bod yn ffynnu fel mannau sy'n addysgu, yn ysbrydoli ac yn cysylltu cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

Thank you, Rhianon, for bringing forward this really important short debate. We don't talk about culture enough here. We should do, and I hope we can send a message to the next Senedd that it has to be a central pillar. Because if we look at the facts, we are at the bottom of European league tables. That's not good enough. I've had previous Ministers with responsibility for culture, when I've made the case for culture, shout at me back in this Chamber, 'What about the NHS?' It is interlinked, and I hope to see the next Government seriously consider how culture can be in every portfolio.

Let's look at some facts: WNO turnover today is £12 million. It was the same in 2000. The funding for the Arts Council of Wales was, in 2011, £33 million to £34 million pounds. It's the same now. So, no wonder we're at the bottom of those European league tables. It's not just about providing that funding, it's providing opportunities for everyone, wherever they are in Wales. Currently, culture is not accessible to everyone. It is a human right and we need to make sure that the next Senedd takes culture seriously.

Diolch, Rhianon, am gyflwyno'r ddadl fer wirioneddol bwysig hon. Nid ydym yn siarad digon am ddiwylliant yma. Dylem wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn anfon neges at y Senedd nesaf fod yn rhaid i ddiwylliant fod yn golofn ganolog. Oherwydd os edrychwn ar y ffeithiau, rydym ar waelod y tablau yn Ewrop. Nid yw hynny'n ddigon da. Wrth ddadlau dros ddiwylliant, cefais Weinidogion blaenorol a oedd yn gyfrifol am ddiwylliant yn gweiddi'n ôl arnaf yn y Siambr hon, 'Beth am y GIG?' Mae'n rhyng-gysylltiedig, ac rwy'n gobeithio gweld y Llywodraeth nesaf yn ystyried o ddifrif sut y gall diwylliant fod yn rhan o bob portffolio.

Gadewch inni edrych ar rai ffeithiau: mae trosiant Opera Cenedlaethol Cymru heddiw yn £12 miliwn. Roedd yr un peth yn 2000. Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru, yn 2011, oedd £33 miliwn i £34 miliwn o bunnoedd. Mae'r un peth nawr. Felly, nid yw'n syndod ein bod ar waelod y tablau Ewropeaidd. Mae'n ymwneud â mwy na darparu'r cyllid hwnnw yn unig, mae'n fater o ddarparu cyfleoedd i bawb, ble bynnag y maent yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw diwylliant yn hygyrch i bawb. Mae'n hawl ddynol ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y Senedd nesaf o ddifrif ynglŷn â diwylliant.

17:10

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol nawr sy'n ymateb i'r ddadl—Jack Sargeant. 

The Minister for Culture, Skills and Social Partnership now to respond to the debate—Jack Sargeant. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Can I join colleagues from across the Chamber in recognising Rhianon Passmore as a real champion for Welsh culture? She has been over a sustained period of time now, and will no doubt continue to be in the future. And I thank Rhianon for tabling this debate today. It's a debate that is very timely, coming just a few days after St David's Day. And I was delighted, Llywydd, to see St David's Day and the events that happened across Wales made possible because of the Welsh Government's commitment, through a £1 million St David's Day fund, championed by the First Minister Eluned Morgan. Successful projects covered a wide range of activities that promote traditional and contemporary Welsh culture, such as music, art, literature, sport, food and the Welsh language.

Llywydd, a key part of our 'Priorities for Culture' is that culture should be resilient and sustainable. So, again, I think this is a timely debate, given the recent calls to pause on delivery and consult on a further strategy. Our priorities for culture are just that, Llywydd—they are a road map that was designed with and for the sector. As a direct result of the priorities for culture, we've seen significant capital investment—over £10 million for arts infrastructure in 2025-26, and in the next financial year another £3.3 million through the priorities for culture capital funding grant scheme for local museums, libraries and archives. We're also providing over £2.5 million in revenue grants to local authorities and trusts across the next two years, money that is supporting a range of projects at locations across the country to support the delivery of the 'Priorities for Culture' and its ambitions.

Llywydd, I want to try and structure my remarks around the three themes that were titled in the Member's motion today: protecting, enhancing and enshrining our cultural organisations. Firstly, to protection: protecting our cultural organisations begins with stability, begins with independence and begins with trust. Cymru has a strong tradition of arm's-length governance that safeguards artistic freedom, whilst ensuring accountability for public investment. Organisations must be able to take creative risk, challenge perspectives and innovate, and they can only do that if their independence is respected and protected.

Protected also means supporting resilience. Where possible, we are committed to providing greater funding certainty, recognising that short termism undermines long-term planning and creative ambition. Our role as a Government is not to micromanage but to work in partnership, supporting good governance, strong leadership and diversified income. As an example of our investment, at Amgueddfa Cymru we are providing over £11.8 million of additional capital funding this financial year, on top of the £5 million capital we provide as part of its grant in aid. This will support decarbonisation, priority works at National Museum Cardiff, the redevelopment of the National Slate Museum, the restoration and reopening of St Fagans castle and glass houses, as well as further visitor improvements.

The Welsh Government has also provided significant capital support for the arts, as I mentioned previously. In 2025-26, through our priorities for culture funding, a total of £10.2 million has been made available for the arts sector strategic capital investment programme administered by the Arts Council of Wales. Forty-six organisations received support this financial year, including the Wales Millennium Centre, Oriel Myrddin in Carmarthenshire, the Grand Pavilion in Porthcawl, Aberystwyth Arts Centre and Tŷ Pawb in Wrexham. These projects will improve access to the arts, whether it's with better accessibility, enhancing environmental sustainability or embracing new technologies.

Llywydd, in 2024-25 the Government invested £3.6 million in a resilience fund for the arts sector. Sixty organisations received support, including an award of £210,000 for Blackwood Miners' Institute in the Member's constituency. This is a venue that faced significant uncertainty in the last financial year, and I'm incredibly pleased, following the receipt of our resilience funding, that it was confirmed that that venue will continue and hopefully thrive in the future.

And in the historic environment Cadw is delivering a significant programme of improvements across Wales. Peter Fox has seen it in his own constituency in Tintern abbey. More than £30 million has been invested in Cadw sites in the past three years—major works and upgrades continuing during my tenure to safeguard monuments, enhance visitor experiences and support local economies, including the multimillion-pound transformation at Caerphilly castle, one of Europe's greatest medieval fortresses.

Crucially, Llywydd, protection must also extend to the people who make culture happen. Artists, technicians, freelancers and cultural workers are the lifeblood of the sector. Supporting fair work, skills development and career sustainability is crucial to cultural policy.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ymuno â chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gydnabod bod Rhianon Passmore yn hyrwyddwr gwirioneddol dros ddiwylliant Cymru? Mae hi wedi bod dros gyfnod hir nawr, a bydd yn sicr o barhau i fod yn y dyfodol. A diolch i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ddadl amserol iawn, ychydig ddyddiau ar ôl Dydd Gŵyl Dewi. Ac roeddwn wrth fy modd yn gweld Dydd Gŵyl Dewi a'r digwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru a wnaed yn bosib oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru drwy gronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 filiwn a hyrwyddwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan. Roedd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys ystod eang o weithgareddau sy'n hyrwyddo diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru, megis cerddoriaeth, celf, llenyddiaeth, chwaraeon, bwyd a'r iaith Gymraeg.

Lywydd, rhan allweddol o'n 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yw y dylai diwylliant fod yn wydn ac yn gynaliadwy. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hon yn ddadl amserol, o ystyried y galwadau diweddar i oedi'r gwaith o gyflawni ac ymgynghori ar strategaeth bellach. Ein blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yw yn union hynny, Lywydd—map llwybr a gynlluniwyd gyda'r sector ar gyfer y sector. O ganlyniad uniongyrchol i'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, rydym wedi gweld buddsoddiad cyfalaf sylweddol—dros £10 miliwn ar gyfer seilwaith celfyddydau yn 2025-26, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, £3.3 miliwn arall drwy'r cynllun grant cyllid cyfalaf blaenoriaethau ar gyfer diwylliant i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Rydym hefyd yn darparu dros £2.5 miliwn mewn grantiau refeniw i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau dros y ddwy flynedd nesaf, arian sy'n cefnogi amrywiaeth o brosiectau mewn lleoliadau ledled y wlad i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' a'i uchelgeisiau.

Lywydd, rwyf am geisio strwythuro fy sylwadau o amgylch y tair thema yn nheitl cynnig yr Aelod heddiw: diogelu, gwella ac ymgorffori ein sefydliadau diwylliannol. Yn gyntaf, diogelu: mae diogelu ein sefydliadau diwylliannol yn dechrau gyda sefydlogrwydd, yn dechrau gydag annibyniaeth ac yn dechrau gydag ymddiriedaeth. Mae gan Gymru draddodiad cryf o lywodraethu hyd braich sy'n diogelu rhyddid artistig, gan sicrhau atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus ar yr un pryd. Rhaid i sefydliadau allu cymryd risg greadigol, herio safbwyntiau ac arloesi, ac ni allant wneud hynny os na chaiff eu hannibyniaeth ei pharchu a'i diogelu.

Mae diogelu hefyd yn golygu cefnogi gwydnwch. Lle bo hynny'n bosib, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o sicrwydd cyllidol, gan gydnabod bod trefniadau tymor byr yn tanseilio cynlluniau hirdymor ac uchelgais greadigol. Nid meicroreoli yw ein rôl ni fel Llywodraeth ond gweithio mewn partneriaeth, gan gefnogi llywodraethu da, arweinyddiaeth gref ac incwm amrywiaethol. Fel enghraifft o'n buddsoddiad, yn Amgueddfa Cymru rydym yn darparu dros £11.8 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, yn ogystal â'r £5 miliwn o gyfalaf a ddarparwn yn rhan o'i chymorth grant. Bydd hyn yn cefnogi datgarboneiddio, gwaith blaenoriaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, adfer ac ailagor castell a thai gwydr Sain Ffagan, yn ogystal â gwelliannau pellach i ymwelwyr.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cymorth cyfalaf sylweddol i'r celfyddydau, fel y soniais yn gynt. Yn 2025-26, drwy ein cyllid blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, mae cyfanswm o £10.2 miliwn ar gael ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd 46 o sefydliadau gymorth yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Myrddin yn sir Gaerfyrddin, Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Tŷ Pawb yn Wrecsam. Bydd y prosiectau hyn yn gwella mynediad at y celfyddydau, boed hynny drwy wella hygyrchedd, gwella cynaliadwyedd amgylcheddol neu elwa ar dechnolegau newydd.

Lywydd, yn 2024-25 buddsoddodd y Llywodraeth £3.6 miliwn mewn cronfa wydnwch ar gyfer sector y celfyddydau. Derbyniodd 60 o sefydliadau gymorth, gan gynnwys dyfarniad o £210,000 i Sefydliad Glowyr y Coed Duon yn etholaeth yr Aelod. Mae hwn yn lleoliad a wynebodd ansicrwydd sylweddol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac rwy'n hynod falch, ar ôl derbyn ein cyllid gwydnwch, eu bod wedi cadarnhau y bydd y lleoliad hwnnw'n parhau, ac yn ffynnu yn y dyfodol.

Ac yn yr amgylchedd hanesyddol mae Cadw yn cyflwyno rhaglen sylweddol o welliannau ledled Cymru. Mae Peter Fox wedi'i gweld yn ei etholaeth ei hun yn abaty Tyndyrn. Mae mwy na £30 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn safleoedd Cadw yn ystod y tair blynedd ddiwethaf—gwaith ac uwchraddio mawr yn parhau yn ystod fy nghyfnod yn y swydd ar ddiogelu henebion, gwella profiadau ymwelwyr a chefnogi economïau lleol, gan gynnwys y trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd yng nghastell Caerffili, un o gaerau canoloesol mwyaf Ewrop.

Yn hollbwysig, Lywydd, rhaid i ddiogelu ymestyn hefyd i gynnwys y bobl sy'n gwneud i ddiwylliant ddigwydd. Artistiaid, technegwyr, gweithwyr llawrydd a gweithwyr diwylliannol yw anadl einioes y sector. Mae cefnogi gwaith teg, datblygu sgiliau a chynaliadwyedd gyrfaol yn hanfodol i bolisi diwylliannol.

17:15

Thank you very much. I acknowledge the emphasis you've put there. Certainly, I would echo those. But, unfortunately, over the course of this Senedd term, we've seen hundreds of job losses in these sectors, just looking at National Museum Wales and the national library. So, do you concede that we've actually gone back over the past five years? And through austerity, I understand that—but do you think now we need to see that rebuilding and a recommitment to ensuring that we get back those numbers, but also provide those further employment opportunities?

Diolch yn fawr. Rwy'n cydnabod y pwyslais rydych chi wedi'i roi yno. Yn sicr, buaswn yn adleisio hynny. Ond yn anffodus, yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi gweld colli cannoedd o swyddi yn y sectorau hyn, a hynny ddim ond o edrych ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r llyfrgell genedlaethol. Felly, a ydych chi'n cyfaddef ein bod ni wedi llithro ar ôl dros y pum mlynedd diwethaf? A thrwy gyfnod cyni, rwy'n deall hynny—ond a ydych chi'n meddwl nawr fod angen inni weld ailadeiladu ac ailymrwymiad i sicrhau ein bod yn adfer y niferoedd, ond hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth pellach?

Thanks, Heledd, for that. You will have seen the significant investment that I've outlined already in protecting the sector. I’ll come on to enhancement and enshrinement in my rest of my contribution, Llywydd. But what I am keen to do is work directly with the sector and the workforce of the sector to grow the sector in that way in the future. And that's why I'm very pleased and proud to have established an arts, creative and media sector social partnership forum. It met for the second time just yesterday, and that, no doubt, will strengthen the sector by collaborating with trade unions and employers.

Llywydd, if protection is about stability, enhancement is about reach, relevance and impact. World-leading cultural organisations are not defined only by excellence on the stage or in the galleries. They're defined by who they reach, who feels welcome and whose stories are told. We have invested just over £5.5 million over the past four years to support organisations in providing more equitable access to our national culture. This funding has enabled museums, archives, theatres, libraries and other cultural institutions to deepen and diversify the stories they tell, enrich the understanding of their collections, and ensure that the experiences they offer reflect the full breadth of Welsh communities.

We want cultural organisations that are rooted in their communities and that are open to all, regardless of background, geography or income. This means strengthening access for children and young people, as Jane Dodds referred to, supporting work in rural and post-industrial areas, and removing barriers that prevent people from participating in cultural life. And for me, Llywydd, this means that it is imperative that every working-class child in Wales is able to access culture in all its forms. It should not be the preserve of the middle and upper classes. And that's why we are focused on removing barriers to access for children and young people, spending around £0.5 million to support schemes through the Group for Education in Museums, Cadw, Amgueddfa Cymru, the Books Council of Wales and the Arts Council of Wales. We’ve provided funding for transport, tickets and even for backfilling teacher roles where necessary. If we take the Arts Council of Wales scheme, we focused specifically on reaching schools in poorer communities and learners who faced additional barriers to access. There have been over 25,000 visits as a direct result of this funding.

Llywydd, through our successful culture grants scheme for grass-roots organisations, the ones that John Griffiths pointed to in his remarks, we've supported more than 100 organisations across the country to access funding that strengthens their community-led cultural activity, builds local capacity and broadens opportunities for people to engage with culture in ways that resonate with their locality. That is the same ethos as Cadw’s work to widen access.

Llywydd, since I became Minister, we have been focused on opening doors. Cadw’s £1 admission scheme is already making a real difference, with more than 4,500 people benefiting. And since its launch in February 2025, nearly 12,000 £1 tickets have been purchased online, enabling thousands more to experience our heritage who otherwise may not have been able to.

Enhancement also means investing in talent and innovation. Wales has extraordinary creative potential, particularly through the Welsh language and our bilingual cultural landscape. Supporting new voices, nurturing emerging talent and enabling digital and touring models are essential if our organisations are to remain vibrant and relevant in a changing world. And, of course, we must continue to strengthen connections between culture and other policy areas, as Members have said. Culture contributes to education, it contributes to health and well-being, it contributes to regeneration and it contributes to tourism. Our cultural organisations are often anchor institutions. They shape places, support local economies and they help communities thrive. And we've seen major local investment, including over £26 million in Theatr Clwyd in Mold since 2022.

Diolch am hynny, Heledd. Fe fyddwch wedi gweld y buddsoddiad sylweddol a amlinellais eisoes ar gyfer diogelu'r sector. Fe ddof at wella ac ymgorffori yng ngweddill fy nghyfraniad, Lywydd. Ond yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw gweithio'n uniongyrchol gyda'r sector a gweithlu'r sector i dyfu'r sector yn y modd hwnnw yn y dyfodol. A dyna pam rwy'n falch iawn o fod wedi sefydlu fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y sector celfyddydau, diwydiannau creadigol a'r cyfryngau. Cyfarfu am yr eildro ddoe, a bydd yn sicr o gryfhau'r sector drwy gydweithio ag undebau llafur a chyflogwyr.

Lywydd, os yw diogelwch yn ymwneud â sefydlogrwydd, mae gwella'n ymwneud â chyrhaeddiad, perthnasedd ac effaith. Nid yn ôl rhagoriaeth ar lwyfan ac mewn orielau'n unig y diffinnir sefydliadau diwylliannol sy'n arwain y byd. Cânt eu diffinio gan bwy y maent yn eu cyrraedd, pwy sy'n teimlo eu bod yn cael croeso a straeon pwy sy'n cael eu hadrodd. Rydym wedi buddsoddi ychydig dros £5.5 miliwn dros y pedair blynedd ddiwethaf i gefnogi sefydliadau i ddarparu mynediad tecach at ein diwylliant cenedlaethol. Mae'r cyllid hwn wedi galluogi amgueddfeydd, archifdai, theatrau, llyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol eraill i ddyfnhau ac arallgyfeirio'r straeon y maent yn eu hadrodd, i gyfoethogi dealltwriaeth o'u casgliadau, ac i sicrhau bod y profiadau y maent yn eu cynnig yn adlewyrchu ehangder llawn cymunedau Cymru.

Rydym eisiau sefydliadau diwylliannol sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ac sy'n agored i bawb, beth bynnag y bo'u cefndir, eu daearyddiaeth neu eu hincwm. Mae hyn yn golygu cryfhau mynediad i blant a phobl ifanc, fel y nododd Jane Dodds, cefnogi gwaith mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol, a chael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol. Ac i mi, Lywydd, golyga hyn ei bod yn hanfodol fod pob plentyn dosbarth gweithiol yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ddiwylliant yn ei holl ffurfiau. Ni ddylai fod yn rhywbeth i'r dosbarthiadau canol ac uwch yn unig. A dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i fynediad i blant a phobl ifanc, gan wario tua £0.5 miliwn i gefnogi cynlluniau drwy'r Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd, Cadw, Amgueddfa Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer trafnidiaeth, tocynnau a hyd yn oed ar gyfer ôl-lenwi rolau athrawon lle bo angen. Os cymerwn gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, fe wnaethom ganolbwyntio'n benodol ar gyrraedd ysgolion mewn cymunedau tlotach a dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i fynediad. Cafwyd dros 25,000 o ymweliadau o ganlyniad uniongyrchol i'r cyllid hwn.

Lywydd, drwy ein cynllun grantiau diwylliant llwyddiannus ar gyfer sefydliadau llawr gwlad, y rhai y tynnodd John Griffiths sylw atynt yn ei sylwadau, rydym wedi cynorthwyo mwy na 100 o sefydliadau ledled y wlad i gael cyllid sy'n cryfhau eu gweithgarwch diwylliannol a arweinir gan y gymuned, yn meithrin capasiti lleol ac yn ehangu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â diwylliant mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu eu lleoliad. Dyna'r un ethos â gwaith Cadw ar ehangu mynediad.

Lywydd, ers i mi ddod yn Weinidog, rydym wedi canolbwyntio ar agor drysau. Mae cynllun mynediad £1 Cadw eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gyda mwy na 4,500 o bobl yn elwa. Ac ers ei lansio ym mis Chwefror 2025, mae bron i 12,000 o docynnau £1 wedi'u prynu ar-lein, gan alluogi miloedd yn rhagor o bobl i gael profiad o'n treftadaeth na fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall.

Mae gwella hefyd yn golygu buddsoddi mewn talent ac arloesedd. Mae gan Gymru botensial creadigol eithriadol, yn enwedig drwy'r iaith Gymraeg a'n tirwedd ddiwylliannol ddwyieithog. Mae cefnogi lleisiau newydd, meithrin talent sy'n dod i'r amlwg a galluogi modelau digidol a theithiol yn hanfodol os yw ein sefydliadau am barhau i fod yn fywiog ac yn berthnasol mewn byd sy'n newid. Ac wrth gwrs, rhaid inni barhau i gryfhau cysylltiadau rhwng diwylliant a meysydd polisi eraill, fel y dywedodd yr Aelodau. Mae diwylliant yn cyfrannu at addysg, mae'n cyfrannu at iechyd a lles, mae'n cyfrannu at adfywio ac mae'n cyfrannu at dwristiaeth. Mae ein sefydliadau diwylliannol yn aml yn sefydliadau angori. Maent yn rhoi siâp i leoedd, yn cefnogi economïau lleol ac maent yn helpu cymunedau i ffynnu. Ac rydym wedi gweld buddsoddiad lleol sylweddol, gan gynnwys dros £26 miliwn yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug ers 2022.

17:20

You've given a very detailed response to the argument. What I'd like to know is what is your analysis about why do you think we're at the bottom of the European league tables? 

Rydych chi wedi rhoi ymateb manwl iawn i'r ddadl. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw beth yw eich dadansoddiad chi o'r rheswm pam ein bod ar waelod y tablau Ewropeaidd? 

Well, I think, if you read the committee's report, that also doesn't quite give the clear picture, as you want to point out in this pre-election period. But, Llywydd, major—

Wel, os darllenwch adroddiad y pwyllgor, nid yw hwnnw'n rhoi'r darlun cliriaf un chwaith, fel rydych chi am ei nodi yn y cyfnod hwn cyn yr etholiad. Ond Lywydd—

I'm happy to take a further intervention. I know they don't like listening to great investment in Mold, but—

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad pellach. Rwy'n gwybod nad ydynt yn hoffi clywed am fuddsoddiad mawr yn yr Wyddgrug, ond—

—I'll take it again. I've said 'yes'.

—fe wnaf ei dderbyn. Rwyf wedi dweud y gwnaf.

Minister, thank you so much. I'm intervening, as Chair of the committee, just to say that those figures do very much add up, but I as an individual welcome what you are saying. These are all good-news stories. The argument, I suppose, we would be making is: think of all the extra investment that could be done with us being on parity with the European average, even. But I assure you that we do welcome what you are setting out; it's just how much more ambitious we could be.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n ymyrryd, fel Cadeirydd y pwyllgor, i ddweud bod y ffigurau hynny'n gywir, ond yn bersonol rwy'n croesawu'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Mae'r rhain i gyd yn newyddion da. Y ddadl y byddem yn ei gwneud, mae'n debyg, yw hon: meddyliwch am yr holl fuddsoddiad ychwanegol y gellid ei wneud hyd yn oed pe baem ond yn cael yr un faint â'r cyfartaledd Ewropeaidd. Ond rwy'n eich sicrhau ein bod yn croesawu'r hyn rydych chi'n ei nodi; gallem fod gymaint yn fwy uchelgeisiol, dyna i gyd.

Well, I'm grateful for that, and we always support ambition. I note the table the previous Member referred to doesn't include all of the investment the Government has made—over £200 million in investment in programmes through the Welsh language scheme, through the education scheme, through lots of different schemes. [Interruption.] I'll take one more intervention, Llywydd. I really have to get on.

Wel, rwy'n ddiolchgar am hynny, ac rydym bob amser yn cefnogi uchelgais. Nodaf nad yw'r tabl y cyfeiriodd yr Aelod blaenorol ato'n cynnwys yr holl fuddsoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud—dros £200 miliwn o fuddsoddiad mewn rhaglenni drwy'r cynllun iaith Gymraeg, drwy'r cynllun addysg, drwy lawer o gynlluniau gwahanol. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn un ymyriad arall, Lywydd. Rhaid i mi fwrw ymlaen.

I really appreciate your generosity with your interventions, Minister. But will you accept or acknowledge that part of the funding, like Theatr Clwyd, which you've mentioned, has actually received significant investment from the previous UK Conservative Government through levelling-up funding as well?

Rwy'n gwerthfawrogi eich haelioni gyda'ch ymyriadau, Weinidog. Ond a wnewch chi dderbyn neu gydnabod bod rhan o'r cyllid, fel Theatr Clwyd, y sonioch chi amdano, wedi cael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU drwy arian ffyniant bro hefyd?

I will acknowledge from the Member the investment from the UK Government. I think it was £1 million, Llywydd, if I remember correctly. I thank Gareth Davies for bringing me back to Theatr Clwyd in Mold, because that brings me to the over £26 million that this Government committed to. It was a commitment we made in the manifesto in the 2021 Senedd elections, and I'm proud that we've delivered it in this Government. That's what you get when you vote Welsh Labour. Llywydd, we've seen investment in the football museum of Wales in Wrexham as well, with £9 million of Welsh Government investment since June 2023, £7.8 million in CELF, the dispersed contemporary art gallery.

Llywydd, I know time is pressing, but there was a third point of the Member's debate, and I've taken many interventions, so I hope to try and get through some of this. In Wales, we have a solid foundation to enshrinement, and that's the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. It also means enshrining culture, making sure we align with our cultural policy and wider national priorities, including the Welsh language, including economic development, including international engagement. Our organisations are not simply delivery bodies, they are partners in shaping Wales's future. It's their expertise and the connection to communities that are invaluable, and we must continue to involve them meaningfully in policy design, not just implementation.

And if I can, Llywydd, just reflect briefly on Wales's place in the world, our cultural organisations, as we all know in this place, are amongst our strongest ambassadors. They tell Wales's story internationally through touring, through collaboration and through co-production. Our investment of £767,000 in the Welsh National Opera demonstrates our commitment to protecting our nationally significant and internationally recognised organisations. And our cultural organisations also contribute to our soft power and our global reputation and economic resilience. We've seen this demonstrated all the way through the UEFA Euro 2025 women's football tournament in Switzerland, where sport and culture joined forces to showcase the talents of our people and the pride we have in our country, in our language and its values. Supporting that international dimension is not a luxury; it's an investment in Cymru's confidence and presence on the world stage.

So, in closing, Llywydd, in not bad timing, this Government remains committed to working with our organisations, with local government, with communities and with artists themselves to ensure that Wales's cultural life continues to flourish, not only for today's audiences but for generations yet to come. Diolch yn fawr.

Fe wnaf gydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ei fod yn £1 filiwn os cofiaf yn iawn, Lywydd. Diolch i Gareth Davies am ddod â mi'n ôl at Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, oherwydd daw hynny â mi at y dros £26 miliwn y gwnaeth y Llywodraeth hon ymrwymo iddo. Roedd yn ymrwymiad a wnaethom yn y maniffesto yn etholiadau'r Senedd 2021, ac rwy'n falch ein bod wedi ei gyflawni yn y Llywodraeth hon. Dyna beth a gewch pan fyddwch chi'n pleidleisio dros Lafur Cymru. Lywydd, rydym wedi gweld buddsoddiad yn amgueddfa bêl-droed Cymru yn Wrecsam hefyd, gyda £9 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ers mis Mehefin 2023, £7.8 miliwn i CELF, yr oriel gelf gyfoes wasgaredig.

Lywydd, rwy'n gwybod bod amser yn brin, ond roedd trydydd pwynt yn nadl yr Aelod, ac rwyf wedi derbyn llawer o ymyriadau, felly rwy'n gobeithio ceisio mynd drwy rywfaint o hyn. Yng Nghymru, mae gennym sylfaen gadarn i ymgorffori, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn golygu ymgorffori diwylliant, gwneud yn siŵr ein bod yn alinio â'n polisi diwylliannol a'n blaenoriaethau cenedlaethol ehangach, gan gynnwys y Gymraeg, datblygu economaidd, a chysylltiadau rhyngwladol. Nid cyrff cyflenwi syml yw ein sefydliadau, maent yn bartneriaid yn y broses o lunio dyfodol Cymru. Mae eu harbenigedd a'r cysylltiad â chymunedau yn amhrisiadwy, a rhaid inni barhau i'w cynnwys yn ystyrlon wrth lunio polisi, nid ar gyfer gweithredu'n unig.

Ac os caf fyfyrio'n fyr ar le Cymru yn y byd, Lywydd, mae ein sefydliadau diwylliannol ymhlith ein llysgenhadon cryfaf, fel y gwyddom yn y lle hwn. Maent yn adrodd stori Cymru'n rhyngwladol drwy deithio, drwy gydweithio a thrwy gydgynhyrchu. Mae ein buddsoddiad o £767,000 yn Opera Cenedlaethol Cymru yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu ein sefydliadau sy'n arwyddocaol yn genedlaethol ac a gydnabyddir yn rhyngwladol. Ac mae ein sefydliadau diwylliannol hefyd yn cyfrannu at gymell tawel a'n henw da byd-eang a chadernid economaidd. Gwelsom hyn yn cael ei ddangos drwy gydol pencampwriaeth pêl-droed menywod UEFA Euro 2025 yn y Swistir, lle daeth chwaraeon a diwylliant at ei gilydd i arddangos talentau ein pobl a'r balchder sydd gennym yn ein gwlad, yn ein hiaith ac yn ein gwerthoedd. Nid moethusrwydd yw cefnogi'r dimensiwn rhyngwladol hwnnw; mae'n fuddsoddiad yn hyder a phresenoldeb Cymru ar lwyfan y byd.

Felly, i gloi, Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n sefydliadau, gyda llywodraeth leol, gyda chymunedau a chydag artistiaid eu hunain i sicrhau bod bywyd diwylliannol Cymru yn parhau i ffynnu, nid yn unig ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw ond ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Diolch yn fawr.

17:25

Y cwestiwn—. Na, does yna ddim cwestiwn ar ddiwedd yr eitem yna. 

The question—. No, there is no question at the end of that item. 

8. Cyfnod Pleidleisio
8. Voting Time

Fe fyddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Pleidleisiwn nawr ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Yn gyntaf, felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

We will now move to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, we will move directly to our first vote. The votes this evening are on item 6, the Plaid Cymru debate on the rail network. I first call for a vote on the motion, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 12, no abstentions and 34 against. Therefore, the motion is not agreed.

Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Item 6. Plaid Cymru Debate - The rail network. Motion without amendment: For: 12, Against: 34, Abstain: 0

Motion has been rejected

Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 1, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

The next vote will be on amendment 1, and, if amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. Amendment 1, in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 22, no abstentions and 24 against. Therefore, the amendment is not agreed.

Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Item 6. Plaid Cymru Debate - The rail network. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 22, Against: 24, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

The next vote is on amendment 2, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 10, two abstentions and 34 against. Therefore, the amendment is not agreed.

Etem 6. Dadl Plaid Cymru - Y rhwydwaith rheilffyrdd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Item 6. Plaid Cymru Debate - The rail network. Amendment 2, tabled in the name of Paul Davies: For: 10, Against: 34, Abstain: 2

Amendment has been rejected

Felly, mae'r ddau welliant a'r cynnig wedi'u gwrthod. Dim byd wedi'i dderbyn o dan yr eitem yna.

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni, ac fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr cyn i ni gychwyn ar Gyfnod 3. Fydd y gloch yn cael ei chanu pum munud cyn i ni ailgychwyn.

Therefore, both amendments and the motion have been rejected, so nothing is agreed under that item.

That concludes voting for this evening. We will now take a short break before we move to our Stage 3 proceedings. The bell will be rung five minutes before we reconvene.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:28.

Plenary was suspended at 17:28.

17:40

Ailymgynullodd y Senedd am 17:41, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

The Senedd reconvened at 17:41, with the Deputy Presiding Officer in the Chair.

9. Cyfnod 3 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)
9. Stage 3 of the British Sign Language (Wales) Bill

Mae gwelliannau a nodir ag [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu 17 wrth gyflwyno’r gwelliant.

Amendments marked [R] mean that the Member has declared either a registrable interest under Standing Order 2 or relevant interest under Standing Orders 13 or 17 when tabling the amendment.

Rydym yn barod i ddechrau ar Gyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). 

We are now ready to begin our Stage 3 proceedings on the British Sign Language (Wales) Bill.

Grŵp 1: IAP: Cynghorydd cenedlaethol, panel cynghori a chwynion (Gwelliannau 1, 14, 10, 12, 13, 15)
Group 1: BSL: National adviser, advisory panel and complaints (Amendments 1, 14, 10, 12, 13, 15)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â BSL: cynghorydd cenedlaethol, panel cynghori a chwynion. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant a siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.

The first group of amendments relates to BSL: national adviser, advisory panel and complaints. Amendment 1 is the lead amendment in this group, and I call on Mark Isherwood to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 1 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Before speaking to the amendments, I declare that I'm a patron of COS, the Centre of Sign Sight Sound, the former North Wales Deaf Association, and also the chair of the cross-party group on deaf issues. I must also take this opportunity to thank the Cabinet Secretary for Social Justice and Sioned Williams for the collaborative way they've approached this Stage 3 of the British Sign Language (Wales) Bill. This really has been cross-party working of the highest order, and I'm extremely grateful to both of you for that.

During the passage of the Bill, there's been detailed consideration of whether there should be a requirement on the face of the Bill that the BSL adviser should be deaf. While I fully appreciate the benefits this could have, I've been clear throughout, based on the legal advice I've received and despite my desire to the contrary, that placing such a duty on the face of the Bill would potentially take the Bill outside the Senedd's legislative competence, which would risk losing this vital Bill completely. That is a risk I'm not prepared to take.

Amendment 12 instead therefore seeks to add two specific requirements onto the face of the Bill. Firstly, it will require Welsh Ministers to be satisfied, before appointing the BSL adviser, that the adviser 

'has appropriate personal understanding of the experiences of BSL signers.'

The requirement for them to have lived experience or this lived experience, whilst stopping short of requiring the adviser to be required to be deaf on the face of the Bill, will add further assurance that the person understands on a personal level the experiences that BSL signers face on a daily basis. Ideally, they'll still be deaf.

Secondly, amendment 12 will also require Welsh Ministers to seek the advice of a BSL signer in the appointment process. This is set out in the amendment in its singular form only because this follows usual legal drafting style. However, the effect of this amendment will enable wider advice to be sought from BSL signers more generally. So, in reaching a view on whether the BSL adviser is able to communicate effectively in BSL and has the required personal experience, the views of the deaf community will be included.

Amendment 10 is linked to amendment 12. The purpose of amendment 10 is simply to leave out text from section 6 of the Bill, and amendment 12, which I've already covered, reinserts that text in an amended form within the Schedule to the Bill. The Bill already contains the Schedule, which makes further provision about the BSL adviser and advisory panel. The purpose of moving the text from section 6 into the Schedule is so that all of that further provision is contained in one place in the Bill, which I believe both strengthens and clarifies the drafting of the Bill. Members will also be aware that this makes no difference at all to the legal effect of the provision. Similarly, amendment 13 does not make any substantive change to the content of the Bill. This amendment, again, simply reinserts text into the appropriate place in the Schedule in line with the earlier amendments considered. 

Finally, amendment 1 is a consequential amendment to take account of the fact that the provisions relating to the appointment of the BSL adviser have moved to the Bill’s Schedule. The inclusion of the requirement for the BSL adviser to have lived experience is a very important addition to the appointments process. I would therefore urge the Senedd to agree amendments 1, 10, 12 and 13, tabled in my name.

Turning now to amendments 14 and 15 in the name of Sioned Williams, these amendments are unrelated to the other amendments in this group. Amendments 14 and 15, as you will hear, seek to place a requirement on the face of the Bill for the Welsh Ministers to publish guidance on how BSL signers may complain about access to services provided by the Welsh Ministers or listed public bodies.

This is fundamentally the same as the amendment Sioned tabled at Stage 2, which I rejected. Although I support the intent of the amendment, my position on this has not changed. The Bill does not include a specific complaints procedure, and as such it would not be appropriate for the Bill to place a duty on Welsh Ministers to prepare and publish guidance on the appropriate route for BSL signers to make complaints.

The appropriate routes that should be taken are already set out in the specific complaints procedures of the Welsh Government and the listed public bodies. As I set out in the response to the Equality and Social Justice Committee’s Stage 1 report on this matter, my intention was to update the explanatory memorandum that accompanies the Bill to clarify the options available to complainants requiring recourse in instances where public services are failing to meet their duties under the Bill. I reiterated that intention when the committee debated Sioned’s amendments at Stage 2. The revised explanatory memorandum was published ahead of Stage 3 and now includes a stand‑alone section on the complaints processes.

For these reasons, I call on the Senedd to reject amendments 14 and 15 whilst respecting and supporting their intent. And again, I urge the Senedd to agree amendments 1, 10, 12 and 13 tabled in my name. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn siarad am y gwelliannau, rwy'n datgan fy mod yn un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, sef Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru yn flaenorol, a hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar. Rhaid imi achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac i Sioned Williams am y ffordd gydweithredol y maent wedi gweithio ar Gyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Mae hwn wedi bod yn waith trawsbleidiol o'r radd flaenaf, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r ddwy ohonoch am hynny.

Yn ystod taith y Bil, rhoddwyd ystyriaeth fanwl i'r cwestiwn a ddylai fod gofyniad ar wyneb y Bil i'r cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain fod yn fyddar. Er fy mod yn llawn werthfawrogi'r manteision posib yn hyn o beth, rwyf wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf, yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a gefais ac er gwaethaf fy awydd i'r gwrthwyneb, y gallai gosod dyletswydd o'r fath ar wyneb y Bil fynd â'r Bil y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a fyddai'n creu perygl o golli'r Bil hanfodol hwn yn llwyr. Mae honno'n risg nad wyf yn barod i'w chymryd.

Mae gwelliant 12, felly, yn ceisio ychwanegu dau ofyniad penodol at wyneb y Bil. Yn gyntaf, fe fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fod yn fodlon, cyn penodi'r cynghorydd IAP, fod gan y cynghorydd

'dealltwriaeth bersonol briodol o brofiadau arwyddwyr IAP.'

Bydd y gofyniad iddynt fod â phrofiad bywyd neu'r profiad bywyd hwn, er nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn fyddar ar wyneb y Bil, yn ychwanegu sicrwydd pellach fod yr unigolyn yn deall ar lefel bersonol y profiadau y mae arwyddwyr IAP yn eu hwynebu bob dydd. Yn ddelfrydol, byddant yn dal i fod yn fyddar.

Yn ail, bydd gwelliant 12 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio cyngor arwyddwr IAP yn y broses benodi. Mae hyn wedi'i nodi yn y gwelliant ar ei ffurf unigol gan fod hyn yn dilyn yr arddull arferol o ran drafftio cyfreithiol. Fodd bynnag, bydd effaith y gwelliant hwn yn galluogi ceisio cyngor ehangach gan arwyddwyr IAP yn fwy cyffredinol. Felly, wrth lunio barn ynglŷn ag a yw'r cynghorydd IAP yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn IAP ac a oes ganddynt y profiad personol gofynnol, bydd barn y gymuned fyddar yn cael ei chynnwys.

Mae gwelliant 10 wedi'i gysylltu â gwelliant 12. Diben gwelliant 10 yw hepgor testun o adran 6 y Bil, ac mae gwelliant 12, yr wyf eisoes wedi'i drafod, yn ailfewnosod y testun hwnnw ar ffurf ddiwygiedig o fewn yr Atodlen i'r Bil. Mae'r Bil eisoes yn cynnwys yr Atodlen, sy'n gwneud darpariaeth bellach ynghylch y cynghorydd IAP a'r panel cynghori. Diben symud y testun o adran 6 i'r Atodlen yw sicrhau bod yr holl ddarpariaeth bellach honno wedi'i chynnwys mewn un lle yn y Bil, a chredaf fod hynny'n cryfhau ac yn gwneud y Bil yn gliriach. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol nad yw hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i effaith gyfreithiol y ddarpariaeth. Yn yr un modd, nid yw gwelliant 13 yn gwneud unrhyw newid sylweddol i gynnwys y Bil. Unig ddiben y gwelliant hwn, unwaith eto, yw ailfewnosod testun yn y lle priodol yn yr Atodlen yn unol â'r gwelliannau cynharach a ystyriwyd.

Yn olaf, mae gwelliant 1 yn welliant canlyniadol i ystyried y ffaith bod y darpariaethau sy'n ymwneud â phenodi'r cynghorydd IAP wedi symud i Atodlen y Bil. Mae cynnwys y gofyniad i'r cynghorydd IAP fod â phrofiad bywyd yn ychwanegiad pwysig iawn at y broses benodi. Felly, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13, a gyflwynwyd yn fy enw i.

Gan droi nawr at welliannau 14 a 15 yn enw Sioned Williams, nid oes cysylltiad rhwng y gwelliannau hyn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Mae gwelliannau 14 a 15, fel y byddwch yn clywed, yn ceisio rhoi gofyniad ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y gall arwyddwyr IAP gwyno am fynediad at wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu gyrff cyhoeddus rhestredig.

Yn ei hanfod, mae hyn yr un fath â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Sioned yng Nghyfnod 2, a wrthodwyd gennyf. Er fy mod yn cefnogi bwriad y gwelliant, nid yw fy safbwynt ar hyn wedi newid. Nid yw'r Bil yn cynnwys gweithdrefn gwyno benodol, ac felly ni fyddai'n briodol i'r Bil osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi canllawiau ar y llwybr priodol i arwyddwyr IAP wneud cwynion.

Mae'r llwybrau priodol y dylid eu cymryd eisoes wedi'u nodi yng ngweithdrefnau cwyno penodol Llywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus rhestredig. Fel y nodais yn yr ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn, fy mwriad oedd diweddaru'r memorandwm esboniadol sy'n mynd gyda'r Bil i egluro'r opsiynau sydd ar gael i achwynwyr sy'n ceisio atebolrwydd mewn achosion lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn methu cyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil. Ailadroddais y bwriad hwnnw pan drafodwyd gwelliannau Sioned gan y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cyhoeddwyd y memorandwm esboniadol diwygiedig cyn Cyfnod 3, ac mae bellach yn cynnwys adran annibynnol ar y prosesau cwyno.

Am y rhesymau hyn, galwaf ar y Senedd i wrthod gwelliannau 14 a 15, er fy mod yn parchu ac yn cefnogi eu bwriad. Ac unwaith eto, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13 a gyflwynwyd yn fy enw i.

17:45

Plaid Cymru is pleased to contribute to Stage 3 of this Bill. I want to begin by thanking Mark Isherwood, of course, who's worked tirelessly over many years to develop this Bill. I'm really pleased, and we on these benches are really pleased, to see this Bill come forward before the Senedd, and also because we’ve been able to work so collaboratively on it with both you and the Welsh Government. It has felt quite a strange kind of Bill, because there hasn’t been much opposition between us at all on any of the provisions of the Bill. It has been a really great way to be able to co‑operate and work together on such an important and progressive Bill that the Senedd I’m sure will be proud to put into statute.

Plaid Cymru obviously continues to support the core aims of the Bill. I would also like to thank, in preparation for the debate today, obviously the legal advisers and researchers and clerks of the Equality and Social Justice Committee, of which I’m a member, but also Niamh Salkeld in the Plaid Cymru group staff team.

I really think this is a historic moment for Wales, and, of course, for deaf BSL signers specifically across our nation. It's a real opportunity to pass the most progressive piece of BSL legislation anywhere in the UK. I think although this Bill will help ensure that deaf BSL signers can access public services, its core aim really is about them having their language, BSL, which is an integral part of their identity and culture, both respected and recognised, and that decisions that affect them are shaped by the people who know best—the deaf BSL community themselves.

As well as improving the lives of deaf BSL signers, the Bill offers wider benefits, raising awareness amongst the whole population and promoting a greater understanding of the cultural and linguistic importance of BSL. This feels especially timely and relevant in a nation where we understand, value and recognise our multilingualism.

Mae Plaid Cymru'n falch o gyfrannu at Gyfnod 3 y Bil hwn. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood, wrth gwrs, sydd wedi gweithio'n ddiflino dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu'r Bil hwn. Rwy'n falch iawn, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn falch iawn, o weld y Bil hwn gerbron y Senedd, a hefyd gan ein bod wedi gallu gweithio mor gydweithredol arno gyda chi a Llywodraeth Cymru. Mae wedi teimlo'n Fil ychydig yn rhyfedd, gan nad oes llawer o wrthwynebiad rhyngom o gwbl ar unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil. Mae wedi bod yn ffordd wych iawn o allu cydweithredu a gweithio gyda'n gilydd ar Fil mor bwysig a blaengar y bydd y Senedd, rwy'n siŵr, yn falch o'i roi mewn statud.

Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi amcanion craidd y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw, i gynghorwyr cyfreithiol ac ymchwilwyr a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, ond hefyd i Niamh Salkeld o dîm staff grŵp Plaid Cymru.

Rwy'n credu'n gryf fod hon yn foment hanesyddol i Gymru, ac wrth gwrs, i arwyddwyr IAP byddar yn benodol ledled ein gwlad. Mae'n gyfle gwirioneddol i basio'r ddeddfwriaeth IAP fwyaf blaengar yn unrhyw le yn y DU. Er y bydd y Bil hwn yn helpu i sicrhau y gall arwyddwyr IAP byddar gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu mai ei brif nod mewn gwirionedd yw sicrhau bod eu hiaith, IAP, sy'n rhan annatod o'u hunaniaeth a'u diwylliant, yn cael ei pharchu a'i chydnabod, a bod penderfyniadau sy'n effeithio arnynt yn cael eu llunio gan y bobl sy'n gwybod orau—y gymuned IAP fyddar eu hunain.

Yn ogystal â gwella bywydau arwyddwyr IAP byddar, mae'r Bil yn cynnig manteision ehangach, gan godi ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth gyfan a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd diwylliannol ac ieithyddol IAP. Mae hyn yn teimlo'n arbennig o amserol a pherthnasol mewn cenedl lle rydym yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod ein hamlieithrwydd.

Turning to the amendments, as I said, we are pleased to have worked collaboratively with both Mark Isherwood and the Welsh Government on many of them. I think collectively, since Stage 2, we've managed to really strengthen the Bill by embedding genuine involvement, ensuring that key appointments reflect lived experience and giving the community real influence over strategy and decision making. I really feel strongly that central to this Bill must be the leadership, the promotion of the leadership and lived experience of deaf BSL signers themselves. Their expertise needs to guide every stage of its implementation: shaping the BSL guidance that public bodies will rely on, informing the Welsh Government's strategy and influencing how individual public bodies develop and deliver the BSL Bill. The passage of this Bill will mark the beginning of a long and important journey. 

Moving to the amendments tabled in my name, amendment 14 is a consequential amendment to amendment 15, which, as Mark Isherwood said, is about complaints guidance and making sure that BSL users can access services and raise concerns when things go wrong. I appreciate that this has now been clarified in the explanatory memorandum, and I'm grateful for that, but I think that this came through so strongly in the evidence that we heard as a committee that I would feel better if this was placed on, and they would feel that its rightful place is on, the face of the Bill, because it would require Welsh Ministers to publish guidance on how BSL signers can make complaints about services provided by Welsh Ministers or listed public bodies, and, importantly, make sure that that guidance is available in BSL. It also ensures that Welsh Ministers must consult the Public Services Ombudsman for Wales before publishing the guidance or any revised version. 

Turning to the amendments tabled in Mark Isherwood's name, on amendment 12, we're happy to support this amendment, which we've worked on collaboratively with both the Member and the Welsh Government, because it makes sure that the BSL adviser can communicate effectively in BSL and have a real understanding of the experience of deaf BSL signers. It makes sure that Ministers get advice from a BSL signer when deciding if somebody meets those criteria. It's really important, because the adviser will play such a central role in shaping the national BSL strategy. The person appointed needs the knowledge, the experience—the lived experience—and, crucially, the credibility to earn the trust of the community to make sure that their voices are heard. At the moment, as we heard, the Bill can't require that the adviser is deaf because of the constraints of the Equality Act 2010. Plaid Cymru believes strongly that Wales should have the power to make these kinds of decisions, for all the reasons that we've heard.

With devolved equality powers, the Welsh Government could require that the adviser is a deaf BSL signer, ensuring the role is held by someone from the community it serves. It would have been possible for the Welsh Government to seek an Order in Council under section 109 of the Government of Wales Act 2006 to modify the Senedd's competence in this subject area, so I'd appreciate hearing from the Cabinet Secretary in her contribution—who also incidentally told the committee initially that this would be within competence; she wasn't present at Stage 2, unfortunately, so I couldn't ask her there about that—if any conversations were had with the UK Government on that option to ensure competence. I appreciate the Member's point around not wanting to derail the Bill because of that, but I do believe that that would have been the best way to ensure that the adviser had the full trust of the community they were serving. But I do think that this amendment as it stands overall strengthens the Bill and makes the appointment process more robust, ensuring that the community's voice, therefore, is central.

We will also be supporting amendment 13. This is also an important safeguard, because it ensures that appointments to the panel are informed by the lived experience of deaf BSL signers. Those who are going to be appointed will have real influence over the national strategy, so it's vital that the process reflects the perspectives, needs and expectations of the community the panel is meant to serve.

Our committee report highlighted that this legislation should be led by deaf signers themselves, not imposed from outside, because without this step, there is that risk that appointments could fail to reflect the community's priorities, or that that panel might lack the confidence of those it represents. I do think that this amendment now helps prevent that and ensures that the community has a voice at the very start of the decision-making process.

Gan droi at y gwelliannau, fel y dywedais, rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Mark Isherwood a Llywodraeth Cymru ar lawer ohonynt. Gyda'n gilydd, ers Cyfnod 2, rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gryfhau'r Bil yn sylweddol drwy ymgorffori cyfranogiad gwirioneddol, sicrhau bod penodiadau allweddol yn adlewyrchu profiad bywyd, a rhoi dylanwad gwirioneddol i'r gymuned dros strategaeth a phenderfyniadau. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid i arweinyddiaeth, hyrwyddo arweinyddiaeth a phrofiad bywyd arwyddwyr IAP byddar eu hunain fod yn rhan ganolog o'r Bil hwn. Mae angen i'w harbenigedd arwain pob cam o'i weithrediad: llunio'r canllawiau IAP y bydd cyrff cyhoeddus yn dibynnu arnynt, llywio strategaeth Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus unigol yn datblygu ac yn cyflawni'r Bil IAP. Bydd pasio'r Bil hwn yn nodi dechrau taith hir a phwysig.

Gan symud ymlaen at y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, mae gwelliant 14 yn welliant canlyniadol i welliant 15, sydd, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn ymwneud â chanllawiau cwynion a sicrhau y gall defnyddwyr IAP gael mynediad at wasanaethau a chodi pryderon pan fydd pethau'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn bod hyn bellach wedi'i egluro yn y memorandwm esboniadol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond credaf fod hyn wedi'i nodi mor gryf yn y dystiolaeth a glywsom fel pwyllgor fel y buaswn yn teimlo'n well pe bai'n cael ei roi ar wyneb y Bil, a byddent hwythau'n teimlo mai dyna ei le cywir, gan y byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y gall arwyddwyr IAP wneud cwynion am wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu gyrff cyhoeddus rhestredig, ac yn bwysig, sicrhau bod y canllawiau hynny ar gael yn IAP. Mae hefyd yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn cyhoeddi'r canllawiau neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig.

Gan droi at y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, ar welliant 12, rydym yn falch o gefnogi'r gwelliant hwn, y buom yn gweithio arno ar y cyd â'r Aelod a Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn sicrhau y gall y cynghorydd IAP gyfathrebu'n effeithiol yn IAP a chael dealltwriaeth wirioneddol o brofiad arwyddwyr IAP byddar. Mae'n sicrhau bod Gweinidogion yn cael cyngor gan arwyddwr IAP wrth benderfynu a yw rhywun yn bodloni'r meini prawf hynny. Mae'n wirioneddol bwysig, gan y bydd y cynghorydd yn chwarae rhan mor ganolog wrth lunio'r strategaeth IAP genedlaethol. Mae angen yr wybodaeth, y profiad—y profiad bywyd—ac yn hollbwysig, yr hygrededd ar yr unigolyn a benodir i ennyn ymddiriedaeth y gymuned y byddant yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Ar hyn o bryd, fel y clywsom, ni all y Bil ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn fyddar oherwydd cyfyngiadau Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf y dylai Cymru gael y pŵer i wneud y mathau hyn o benderfyniadau, am yr holl resymau a glywsom.

Gyda phwerau datganoledig dros gydraddoldeb, gallai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn arwyddwr IAP byddar, gan sicrhau bod y rôl yn mynd i rywun o'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Byddai wedi bod yn bosib i Lywodraeth Cymru geisio Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i addasu cymhwysedd y Senedd yn y maes hwn, felly buaswn yn gwerthfawrogi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei chyfraniad—ac a ddywedodd wrth y pwyllgor yn wreiddiol hefyd, gyda llaw, y byddai hyn o fewn ein cymhwysedd; nid oedd yn bresennol yng Nghyfnod 2, yn anffodus, felly ni allwn ofyn iddi yno ynglŷn â hynny—a gafwyd unrhyw sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r opsiwn i sicrhau cymhwysedd. Rwy'n derbyn pwynt yr Aelod ynghylch peidio â bod eisiau bwrw'r Bil oddi ar y cledrau oherwydd hynny, ond credaf mai dyna fuasai'r ffordd orau o fod wedi sicrhau bod gan y cynghorydd ymddiriedaeth lawn y gymuned y byddent yn ei gwasanaethu. Ond credaf fod y gwelliant hwn fel y mae yn cryfhau'r Bil yn gyffredinol ac yn gwneud y broses benodi'n fwy cadarn, gan sicrhau bod llais y gymuned, felly, yn ganolog.

Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant 13. Mae hwn hefyd yn fesur diogelu pwysig, gan ei fod yn sicrhau bod penodiadau i'r panel yn cael eu llywio gan brofiadau bywyd arwyddwyr IAP byddar. Bydd gan y rhai a fydd yn cael eu penodi ddylanwad go iawn dros y strategaeth genedlaethol, felly mae'n hanfodol fod y broses yn adlewyrchu safbwyntiau, anghenion a disgwyliadau'r gymuned y bwriedir i'r panel ei gwasanaethu.

Tynnodd adroddiad ein pwyllgor sylw at y ffaith y dylai'r ddeddfwriaeth hon gael ei harwain gan arwyddwyr byddar eu hunain, nid ei gorfodi o'r tu allan, oherwydd heb y cam hwn, mae risg na fyddai penodiadau'n adlewyrchu blaenoriaethau'r gymuned, neu na fyddai gan y panel hwnnw hyder y rhai y mae'n eu cynrychioli. Credaf fod y gwelliant hwn nawr yn helpu i atal hynny, ac yn sicrhau bod gan y gymuned lais ar ddechrau'r broses o wneud penderfyniadau.

17:55

The children's commissioner, when she gave evidence, was very clear, both in what she said and in body language, that it was not about creating a parallel system, that children who use BSL have to be treated no differently to any other child whose rights need to be asserted and may involve the involvement of the children's commissioner. I am not interested, and never have been interested, in creating a parallel system for the handling of complaints. They need to be dealt with by all public bodies in the same way, regardless of which language is spoken.

However, it is disingenuous for any of us to think that the procedures for complaining by public bodies are accessible to BSL signers. Some, if not most of them, will not be fluent in reading either Welsh or English. Some BSL signers cannot even decipher a bus timetable. So, only visual communication guides to the different pathways for complaints by different public bodies will do it. I won't be supporting amendment 15. I hope that the explanatory memorandum is clear enough, and if it isn't, amendment 12 strengthens the role of the BSL adviser and the group of people who will support that person, in the advisory panel, as to exactly how you make complaints processes, which are difficult to understand regardless of which language you speak, clear through a visual mechanism. I will be supporting the other amendments tabled by Mark Isherwood.

Roedd y comisiynydd plant, pan roddodd dystiolaeth, yn glir iawn, o ran yr hyn a ddywedodd ac yn iaith y corff, nad mater o greu system gyfochrog oedd hyn, nad oes yn rhaid trin plant sy'n defnyddio IAP yn wahanol i unrhyw blentyn arall y mae angen cydnabod eu hawliau ac a allai gynnwys ymwneud y comisiynydd plant. Nid oes gennyf ddiddordeb, ac nid wyf erioed wedi bod â diddordeb, mewn creu system gyfochrog ar gyfer trin cwynion. Mae angen i bob corff cyhoeddus ymdrin â nhw yn yr un ffordd, pa bynnag iaith a siaredir.

Fodd bynnag, mae'n annidwyll i unrhyw un ohonom feddwl bod y gweithdrefnau ar gyfer cwyno gan gyrff cyhoeddus yn hygyrch i arwyddwyr IAP. Ni fydd rhai ohonynt, os nad y rhan fwyaf ohonynt, yn rhugl mewn darllen naill ai Cymraeg na Saesneg. Ni all rhai arwyddwyr IAP ddarllen amserlen bws hyd yn oed. Felly, dim ond canllawiau cyfathrebu gweledol i'r gwahanol lwybrau ar gyfer cwynion gan wahanol gyrff cyhoeddus a fydd yn gweithio. Ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 15. Rwy'n gobeithio bod y memorandwm esboniadol yn ddigon clir, ac os nad ydyw, mae gwelliant 12 yn cryfhau rôl y cynghorydd IAP a'r grŵp o bobl a fydd yn cefnogi'r unigolyn hwnnw, ar y panel cynghori, ynghylch sut yn union rydych chi'n gwneud prosesau cwyno, sy'n anodd eu deall pa bynnag iaith y siaradwch, yn glir drwy fecanwaith gweledol. Byddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill a gyflwynwyd gan Mark Isherwood.

Member (w)
Jane Hutt 17:57:49
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Can I start by thanking Mark, and all colleagues? But Mark Isherwood, I really want to thank you and praise you for your integrity, your commitment and your passion, which has come through so strongly. It has been a real pleasure to work with you through this, because I think, as we've said and Sioned has said, we've worked together so well on this because we have worked with the deaf BSL signing community. We want to thank the deaf BSL signing community and stakeholders for their engagement.

This is really good, because you need scrutiny, you need challenge, and if we've got any power or influence, we have to respond. I think that we are looking to show that we can respond positively together in this Senedd, and with Welsh Government support. So, thank you to all of you who've been engaged in bringing this Bill to this stage. I've been very pleased to continue through the process to support the Bill, to continue to work collaboratively with Mark, and with Sioned Williams, to bring forward these Stage 3 amendments. I also would like to thank the committees for their role and their reports. This has all been important in terms of taking forward this important legislation. This is the British Sign Language (Wales) Bill. Won't we be proud of that when it's in legislation?

I'll turn now to the amendments in this group and set out the Welsh Government's position. When I do that, I will say that it has been remarkable and great, and it will happen again, I know, where our teams have all worked together—Mark's team, the team in the Commission, our team in the Welsh Government. Thanks to the Counsel General and the Cabinet Secretary for finance. Everyone has played a role in this.

I'm grateful to you, Mark, for outlining your amendments in this group. Amendment 12 strengthens the appointment provisions for the BSL adviser by ensuring relevant linguistic competence and lived experience are properly considered, which is in line with the aims of the Bill. Amendment 13 also ensures that the BSL adviser is consulted ahead of appointments to the assisting panel, supporting a more coherent governance approach. So, I support these amendments, along with amendment 1, which is consequential on amendment 12, and amendment 10, which improves clarity by moving provision on the BSL adviser into the Schedule. There's a lot in those amendments that really strengthens this Bill.

Thank you also, Sioned, for outlining your amendment 15 on publishing guidance on complaints, along with amendment 14, which is consequential. I recognise the importance of ensuring that BSL signers are able to raise complaints and access redress where services fall short. However, mechanisms for complaints already exist, including established routes through the Public Services Ombudsman for Wales. And following the Equality and Social Justice Committee report, and as has been stated already, Mark Isherwood agreed that the BSL Bill explanatory memorandum would be updated to include guidance relating to public complaints processes for BSL signers. That was an important response from Mark, and I committed to providing any information needed to support that update. So, I do believe that this already addresses the issue that this amendment sets out to achieve.

To clarify further as well, these amendments don't relate to the specific duties placed on Welsh Ministers and listed public bodies in this Bill to promote and facilitate BSL. So, for those reasons, whilst understanding the motivation behind the amendments, I hope our explanations of what we've done in response will explain why I will not be supporting amendments 14 and 15. But I'm very glad to support all the other amendments in this group. Diolch.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark, a'r holl gyd-Aelodau? Ond Mark Isherwood, rwyf eisiau diolch yn fawr i chi a'ch canmol am eich uniondeb, eich ymrwymiad a'ch angerdd, sydd wedi bod mor amlwg. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol gweithio gyda chi drwy hyn, gan y credaf, fel rydym wedi'i ddweud ac fel y mae Sioned wedi'i ddweud, ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd mor dda ar hyn oherwydd ein bod wedi gweithio gyda'r gymuned arwyddo IAP fyddar. Rydym am ddiolch i'r gymuned arwyddo IAP fyddar a rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad.

Mae hyn yn dda iawn, gan fod angen craffu arnoch, mae angen her arnoch, ac os oes gennym unrhyw bŵer neu ddylanwad, rhaid inni ymateb. Rwy'n credu ein bod yn awyddus i ddangos y gallwn ymateb yn gadarnhaol gyda'n gilydd yn y Senedd hon, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i bob un ohonoch sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddod â'r Bil i'r cam hwn. Rwyf wedi bod yn falch iawn o barhau i gefnogi'r Bil drwy gydol y broses, i barhau i weithio ar y cyd â Mark, a chyda Sioned Williams, i gyflwyno'r gwelliannau Cyfnod 3 hyn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r pwyllgorau am eu rôl a'u hadroddiadau. Mae hyn oll wedi bod yn bwysig o ran bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Dyma Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Oni fyddwn yn falch o hynny pan fydd yn ddeddf?

Trof yn awr at y gwelliannau yn y grŵp hwn a nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. Pan wnaf hynny, rwyf am ddweud ei bod wedi bod yn nodedig ac yn wych, a gwn y bydd yn digwydd eto, lle mae ein holl dimau wedi gweithio gyda'i gilydd—tîm Mark, y tîm yn y Comisiwn, ein tîm ni yn Llywodraeth Cymru. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Mae pawb wedi chwarae rhan yn hyn.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Mark, am amlinellu eich gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 12 yn cryfhau'r darpariaethau penodi ar gyfer y cynghorydd IAP drwy sicrhau bod cymhwysedd ieithyddol perthnasol a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn briodol, sy'n unol ag amcanion y Bil. Mae gwelliant 13 hefyd yn sicrhau yr ymgynghorir â'r cynghorydd IAP cyn gwneud penodiadau i'r panel cynorthwyol, gan gefnogi dull llywodraethu mwy cydlynol. Felly, rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn, ynghyd â gwelliant 1, sy'n welliant canlyniadol i welliant 12, a gwelliant 10, sy'n gwella eglurder drwy symud darpariaeth ar y cynghorydd IAP i'r Atodlen. Mae llawer yn y gwelliannau hynny sy'n cryfhau'r Bil hwn yn fawr.

Diolch hefyd, Sioned, am amlinellu eich gwelliant 15 ar gyhoeddi canllawiau ar gwynion, ynghyd â gwelliant 14, sy'n welliant canlyniadol. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod arwyddwyr IAP yn gallu gwneud cwynion a mynnu iawn pan fo gwasanaethau'n methu. Fodd bynnag, mae mecanweithiau ar gyfer cwynion eisoes yn bodoli, gan gynnwys llwybrau sefydledig drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ac yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac fel y nodwyd eisoes, cytunodd Mark Isherwood y byddai memorandwm esboniadol y Bil IAP yn cael ei ddiweddaru i gynnwys canllawiau'n ymwneud â phrosesau cwynion cyhoeddus ar gyfer arwyddwyr IAP. Roedd hwnnw'n ymateb pwysig gan Mark, ac ymrwymais i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'r diweddariad hwnnw. Felly, rwy'n credu bod hyn eisoes yn mynd i'r afael â'r mater y mae'r gwelliant hwn yn ceisio'i gyflawni.

I egluro ymhellach hefyd, nid yw'r gwelliannau hyn yn ymwneud â'r dyletswyddau penodol a roddir ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus rhestredig yn y Bil hwn i hyrwyddo a hwyluso IAP. Felly, am y rhesymau hynny, er ein bod yn deall y cymhelliant y tu ôl i'r gwelliannau, rwy'n gobeithio y bydd ein hesboniadau o'r hyn a wnaethom mewn ymateb yn egluro pam na fyddaf yn cefnogi gwelliannau 14 a 15. Ond rwy'n falch iawn o gefnogi'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch.

18:00

Thank you very much. Thanks for all the contributions. I think Sioned Williams raised the issue around competence in the Equality Act, and you asked, I think, the Cabinet Secretary if she would wish to comment. I shall let the Cabinet Secretary off the hook on this one. The lead advice we got on this was from Senedd lawyers. They showed me the detailed elements of the law, and I can see why they’ve urged caution in this matter. Obviously, it's unlikely we'd be challenged, but if we did, given the timescales involved, the Bill would fall. So, again, it's a gamble I'm not prepared to wager on for that purpose.

The chair of the Equality and Social Justice Committee referred to evidence from the children's commissioner. Obviously, children should not be treated differently. All children and everyone else should have the right to access the complaints processes, for example. The problem that exists is the barriers that exist for people wishing to access the systems that are meant to be available to all. I think the purpose of the initial recommendation from the Equality and Social Justice Committee, which then Sioned rightly persisted with, was to help reduce or remove those barriers. Not only is this in the explanatory memorandum, but now we will need—[Interruption.] Sorry, Jane, yes.

Diolch yn fawr. Diolch am yr holl gyfraniadau. Rwy'n credu bod Sioned Williams wedi codi'r mater ynghylch cymhwysedd yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ac fe ofynnodd, rwy'n credu, i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai'n dymuno gwneud sylw. Fe adawaf Ysgrifennydd y Cabinet oddi ar y bachyn ar hyn. Daeth y cyngor arweiniol a gawsom ar hyn gan gyfreithwyr y Senedd. Fe wnaethant ddangos elfennau manwl y gyfraith i mi, a gallaf weld pam eu bod wedi argymell gofal yn y mater hwn. Yn amlwg, mae'n annhebygol y byddem yn cael ein herio, ond pe byddem, o ystyried yr amserlenni dan sylw, byddai'r Bil yn methu. Felly, unwaith eto, mae'n gambl nad wyf yn barod i fetio arni yn hynny o beth.

Cyfeiriodd cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at dystiolaeth gan y comisiynydd plant. Yn amlwg, ni ddylid trin plant yn wahanol. Dylai pob plentyn a phawb arall gael hawl i fynediad at y prosesau cwyno, er enghraifft. Y broblem yw'r rhwystrau i bobl sy'n dymuno cael mynediad at y systemau sydd i fod ar gael i bawb. Rwy'n credu mai pwrpas yr argymhelliad cychwynnol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr oedd Sioned yn iawn i ddyfalbarhau ag ef, oedd helpu i leihau neu gael gwared ar y rhwystrau hynny. Nid yn unig y mae hyn yn y memorandwm esboniadol, ond nawr bydd angen—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Jane, ie.

Thank you so much for taking the intervention. As you know, I sit on the Equality and Social Justice Committee and supported Sioned in terms of this particular area—that is, about the system of complaints. You touched on it slightly there, which is that we have a huge community here who find it so difficult to access services. And, really, we should be doing everything in our power to protect them and enable them to access the services and complain through a system that's specific to them, that allows them and recognises their particular communication issues. So, would you not agree that this aspect, around a specific complaints procedure, does actually give them a specific, clear avenue and access? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac yn cefnogi Sioned gyda'r maes penodol hwn—hynny yw, y system gwynion. Fe wnaethoch chi gyffwrdd ag ef yno, sef bod gennym gymuned enfawr yma sy'n ei chael hi mor anodd cael mynediad at wasanaethau. A dylem wneud popeth yn ein gallu i'w diogelu a'u galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau a chwyno drwy system sydd ar eu cyfer nhw'n benodol, sy'n caniatáu iddynt ac yn cydnabod eu materion cyfathrebu penodol. Felly, oni fyddech chi'n cytuno bod yr agwedd hon, sef gweithdrefn gwyno benodol, yn rhoi ffordd a mynediad penodol a chlir iddynt? Diolch yn fawr iawn.

That is absolutely the intent of the explanatory memorandum, not only to clarify the options available to complainants. It's complicated. As we know, each local authority, each health board and otherwise have their own complaints processes, and if you are not used to navigating them, they're complicated, quite intimidating, especially if you get pushback from important people in charge. So, the intention of this—and, I'm sure, the intention of the committee recommendation and Sioned's amendment—is to ensure not only that people know how to access complaints processes, but that that's done in their first language, so that they can access that in a way that's understandable to them in the way that anybody else could access it through the medium of Welsh or English if they had complaints to make.

But, again, I thank Sioned and the committee. Had they not picked up on this, we may not have had the necessary amendment in the explanatory memorandum, which now addresses that gap that previously existed. So, on that basis, I again urge Members to agree amendments 1, 10, 12 and 13, but to reject 14 and 15 on the basis that the need that we've all identified is now addressed in that revised explanatory memorandum. Diolch yn fawr.

Dyna'n sicr yw bwriad y memorandwm esboniadol, nid dim ond egluro'r opsiynau sydd ar gael i achwynwyr. Mae'n gymhleth. Fel y gwyddom, mae gan bob awdurdod lleol, pob bwrdd iechyd ac fel arall eu prosesau cwyno eu hunain, ac os nad ydych chi'n arfer llywio'ch ffordd drwyddynt, maent yn gymhleth, yn eithaf brawychus, yn enwedig os yw'r bobl bwysig sy'n rheoli'n gwthio'n ôl. Felly, bwriad hyn—a bwriad argymhelliad y pwyllgor a gwelliant Sioned, rwy'n siŵr—yw sicrhau nid yn unig fod pobl yn gwybod sut i gael mynediad at brosesau cwyno, ond bod hynny'n cael ei wneud yn eu hiaith gyntaf, fel y gallant gael mynediad at hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy iddynt hwy yn y ffordd y gallai unrhyw un arall gael mynediad atynt drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg pe bai ganddynt gwynion i'w gwneud.

Ond unwaith eto, diolch i Sioned a'r pwyllgor. Pe na byddent wedi codi hyn, efallai na fyddem wedi cael y gwelliant angenrheidiol yn y memorandwm esboniadol, sydd bellach yn mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw a oedd yn bodoli'n flaenorol. Felly, ar y sail honno, rwy'n annog yr Aelodau unwaith eto i dderbyn gwelliannau 1, 10, 12 a 13, ond i wrthod 14 a 15 ar y sail fod yr angen yr ydym i gyd wedi'i nodi yn cael sylw yn y memorandwm esboniadol diwygiedig bellach. Diolch yn fawr.

18:05

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 14 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. 

If amendment 1 is agreed to, amendment 14 falls. The question is that amendment 1 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will proceed to a vote. I call for a vote on amendment 1. Open the vote. In favour 35, no abstentions, and 11 against. Therefore, amendment 1 is agreed.

Gwelliant 1: O blaid: 35, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Amendment 1: For: 35, Against: 11, Abstain: 0

Amendment has been agreed

Methodd gwelliant 14.

Amendment 14 fell.

Grŵp 2: Targedau ar gyfer Athrawon ac Aseswyr IAP (Gwelliant 2)
Group 2: Targets for Teachers and Assessors of BSL (Amendment 2)

Grŵp 2 sydd nesaf o welliannau. Mae'r ail grŵp o welliannau'n ymwneud â thargedau ar gyfer athrawon ac aseswyr Iaith Arwyddion Prydain. Gwelliant 2 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad.

Group 2 of amendments is next. This second group of amendments relates to targets for teachers and assessors of BSL. Amendment 2 is the lead and only amendment in this group, and I call on Mark Isherwood to move and speak to the lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 2 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. At Stage 2, the Bill was amended to add a specific requirement for the BSL strategy to include targets to increase or maintain the number of BSL translators and interpreters available for the purpose of exercising the functions flowing from this Bill. Amendment 2 builds on that and seeks to extend that requirement to include an additional target for the number of persons available for the purpose of teaching and assessing those BSL translators and interpreters.

As I set out at Stage 2, BSL translators and interpreters provide an absolutely essential service, and act as a vital link for deaf BSL signers to those providing key services. The expansion of the BSL interpreter and translator workforce would be necessary even without the additional duties that will be put in place should this Bill become law. However, for the expansion of that workforce to be successful, we also need people to be available to teach and assess those translators and interpreters. That is why I believe that this amendment is vital and goes hand in hand with provisions agreed at Stage 2. I believe that this represents another positive step forward and therefore call on the Senedd to agree amendment 2, noting again that this results from positive intervention by the relevant professional bodies to help us fill a gap that had been missed at first drafting. So, thank you to the Association of British Sign Language Teachers and Assessors for their intervention. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng Nghyfnod 2, diwygiwyd y Bil i ychwanegu gofyniad penodol i'r strategaeth IAP gynnwys targedau i gynyddu neu gynnal nifer y cyfieithwyr a dehonglwyr IAP sydd ar gael at ddibenion arfer y swyddogaethau sy'n deillio o'r Bil hwn. Mae gwelliant 2 yn adeiladu ar hynny ac yn ceisio ymestyn y gofyniad hwnnw i gynnwys targed ychwanegol ar gyfer nifer y personau sydd ar gael at ddibenion addysgu ac asesu'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr IAP hynny.

Fel y nodais yng Nghyfnod 2, mae cyfieithwyr a dehonglwyr IAP yn darparu gwasanaeth hollol hanfodol, ac yn gweithredu fel cyswllt hanfodol i arwyddwyr IAP byddar i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol. Byddai ehangu gweithlu cyfieithwyr a dehonglwyr IAP yn angenrheidiol hyd yn oed heb y dyletswyddau ychwanegol a fydd yn cael eu rhoi ar waith os daw'r Bil yn ddeddf. Fodd bynnag, er mwyn i ehangu'r gweithlu hwnnw fod yn llwyddiannus, mae angen i bobl fod ar gael hefyd i addysgu ac asesu'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr hynny. Dyna pam y credaf fod y gwelliant hwn yn hanfodol ac yn mynd law yn llaw â darpariaethau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2. Credaf fod hwn yn gam cadarnhaol arall ymlaen ac felly rwy'n galw ar y Senedd i dderbyn gwelliant 2, gan nodi eto fod hyn yn deillio o ymyrraeth gadarnhaol gan y cyrff proffesiynol perthnasol i'n helpu i lenwi bwlch na sylwyd arno yn y drafft cyntaf. Felly, diolch i Gymdeithas Athrawon ac Aseswyr Iaith Arwyddion Prydain am eu hymyrraeth. Diolch yn fawr.

Plaid Cymru will be supporting this amendment tabled by Mark Isherwood. Improving BSL provision is not only about recognising the workforce we have today, but it's also about ensuring that this workforce can grow sustainably in the years ahead, because if we're serious about expanding access to British Sign Language across Wales, we need full understanding of the entire training pipeline. And that means not just knowing how many interpreters we currently have, but also whether we have the teaching, tutoring and assessment capacity required to train the next generation and the generation after that. At present, Wales has around 55 registered sign language interpreters, with only three able to interpret across BSL, Welsh and English. So, we must strengthen this provision, drawing on examples such as the 2006 BSL Futures scheme, funded by the Welsh Government, which aimed to increase the number of BSL interpreters and teachers in Wales, because without sufficient tutors and assessors, those workforce shortages will continue, regardless of our ambitions and the ambitions of this Bill. So, this amendment helps to futureproof the legislation by ensuring we have the data needed to identify our needs in training and accreditation. I think it's a really sensible and proportionate addition, and it reflects, again, the collaborative spirit in which this Bill has progressed. For these reasons, Plaid Cymru will be supporting the amendment.

Bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliant hwn a gyflwynwyd gan Mark Isherwood. Mae gwella darpariaeth IAP nid yn unig yn golygu cydnabod y gweithlu sydd gennym heddiw, ond sicrhau hefyd fod y gweithlu hwn yn gallu tyfu'n gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd os ydym o ddifrif am ehangu mynediad at Iaith Arwyddion Prydain ledled Cymru, mae angen dealltwriaeth lawn o'r ddarpariaeth hyfforddiant gyfan. Ac mae hynny'n golygu nid yn unig gwybod faint o ddehonglwyr sydd gennym ar hyn o bryd, ond a oes gennym y capasiti addysgu, tiwtora ac asesu sydd ei angen i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf a'r genhedlaeth ar ôl honno. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru oddeutu 55 o ddehonglwyr iaith arwyddion cofrestredig, a dim ond tri sy'n gallu dehongli ar draws IAP, Cymraeg a Saesneg. Felly, rhaid inni gryfhau'r ddarpariaeth, gan bwyso ar enghreifftiau fel cynllun BSL Futures 2006, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a anelai at gynyddu nifer y dehonglwyr ac athrawon IAP yng Nghymru, oherwydd heb ddigon o diwtoriaid ac aseswyr, bydd prinder gweithlu'n parhau, beth bynnag am ein huchelgeisiau ac uchelgeisiau'r Bil hwn. Felly, mae'r gwelliant hwn yn helpu i ddiogelu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau bod gennym y data sydd ei angen i nodi ein hanghenion o ran hyfforddi ac achredu. Rwy'n credu ei fod yn ychwanegiad synhwyrol a chymesur iawn, ac unwaith eto mae'n adlewyrchu ysbryd cydweithredol y Bil wrth iddo symud yn ei flaen. Am y rhesymau hyn, bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliant.

18:10

I welcome this amendment, which does strengthen the importance of making sure that there are enough interpreters in the pipeline. To move from level 1, which is a complete beginner, to become a registered BSL interpreter at level 6, is obviously quite a long journey and could take several years, which is one of the reasons why the committee was urging Mark Isherwood and the Welsh Government to kick-start the process, because it is such a lengthy process. Anyway, we are where we are. It's going to take at least £9,000, according to the explanatory memorandum, and it's vital that we are not stalling the expectations that have been raised by this Bill for the absence of qualified interpreters. So, I hope that this amendment will ensure that this is constantly on the agenda, as well as seeking out where we are going to train these people, because my understanding is that, at the moment, there is nowhere in Wales that actually is qualified to train them and they have to go to England.

Rwy'n croesawu'r gwelliant hwn, sy'n cryfhau pwysigrwydd sicrhau bod digon o ddehonglwyr yn dod ar gael. Mae symud o lefel 1, sef dechreuwr llwyr, i ddod yn ddehonglydd IAP cofrestredig ar lefel 6, yn amlwg yn daith eithaf hir a gallai gymryd sawl blwyddyn, a dyna un o'r rhesymau pam yr anogodd y pwyllgor Mark Isherwood a Llywodraeth Cymru i gicdanio'r broses, oherwydd mae'n broses mor hir. Beth bynnag, rydym lle rydym. Mae'n mynd i gymryd o leiaf £9,000, yn ôl y memorandwm esboniadol, ac mae'n hanfodol nad ydym yn llesteirio'r disgwyliadau sydd wedi'u codi gan y Bil hwn oherwydd prinder dehonglwyr cymwys. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant hwn yn sicrhau bod hyn ar yr agenda'n gyson, yn ogystal â chwilio am ffyrdd o hyfforddi'r bobl hyn, oherwydd fy nealltwriaeth i yw nad oes unrhyw le yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n gymwys i'w hyfforddi ac mae'n rhaid iddynt fynd i Loegr.

I will just be making one contribution to this Stage 3. I would like to place on record my thanks to Mark Isherwood for his perseverance and tenacity in bringing this Bill here today. And I would like to say how much of a privilege it was to sit on the Equality and Social Justice Committee, where we were joined by many users of BSL, through the stages of Stage 2. I certainly learned an incredible amount from that process, and it's something I will value and not forget in terms of my experiences here in the Senedd. This is a landmark piece of legislation, offering BSL signers across Wales the recognition, respect and visibility they deserve. And I'm glad that, as a Senedd, we have come together to strengthen and support this Bill.

This Bill is only as strong as its implementation, and frameworks need those foundations. One of the most important foundations this Bill still lacks is a sustainable, growing workforce of BSL interpreters and translators. So, I'm pleased to be able to support this amendment to ensure that we are futureproofing our BSL interpreter workforce, because without sufficient interpreters, the duties placed on public bodies risk becoming, as the National Deaf Children's Society warned, performative in nature—words on paper rather than real support for real people.

Many of those trained, as you've heard from Sioned, through the BSL Futures programme, did so nearly 20 years ago, and, respectfully, if I may say, may now be approaching the end of their translating and working lives. So, we are not just failing to grow the workforce, but we see it shrinking further at the very moment that we need it the most. I remember, in fact, our own committee clerk struggling to book interpreters for our scrutiny sessions. If a Senedd committee found that difficult, what does that say about the experience of a deaf person trying to attend a medical appointment or to engage with a public body? That is why I am pleased to support this amendment. By requiring the BSL strategy to set out not only the number of BSL translators and interpreters, but also the number of people available to teach, support and assess them, we begin to address the pipeline problem at its root. It is not enough to count the interpreters we have today; we must plan for the interpreters that we will need tomorrow.

So, I welcomed, in December, the Welsh Government's acceptance of the committee's recommendation to expand the interpreter workforce and the publication of the BSL route-map. It shows that the Welsh Government understands, at least in principle, that workforce planning must start with understanding what we actually have. Mapping is only the first step; identifying what we have is not the same as building what we need. The British Deaf Association has been clear that there are no shortcuts and has warned that fast-track approaches do not deliver quality. What works is structured long-term investment in training.

Amendment 2 ensures that understanding and expanding training capacity is embedded within the strategy itself. I would therefore be grateful, in the response from the Cabinet Secretary, if she could confirm that this mapping work will directly inform the national BSL strategy, and that the strategy will include clear, measurable targets. I love targets; I think they're absolutely essential to all that we do. Because without them, we've no idea we're going and we've no idea if we've got there. So, it's absolutely essential we have those targets not only for interpreters and translators, but also for those who train and assess them.

To finish, amendment 2 lays important groundwork. It is a modest but meaningful step in the right direction. But the deaf BSL signing community in Wales deserves far more than modest steps. We owe them lasting change. So, I do urge Members to support this amendment. Diolch yn fawr iawn.

Un cyfraniad y byddaf yn ei wneud i Gyfnod 3. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am ei ddyfalbarhad a'i ddycnwch yn dod â'r Bil hwn yma heddiw. A hoffwn ddweud faint o fraint oedd bod yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, lle ymunodd llawer o ddefnyddwyr IAP â ni, drwy gamau Cyfnod 2. Yn sicr, dysgais lawer iawn o'r broses honno, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei werthfawrogi ac na fyddaf yn ei anghofio o ran fy mhrofiadau yma yn y Senedd. Mae hwn yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth, sy'n cynnig y gydnabyddiaeth, y parch a'r gwelededd y maent yn eu haeddu i arwyddwyr IAP ledled Cymru. Ac rwy'n falch ein bod ni, fel Senedd, wedi dod at ein gilydd i gryfhau a chefnogi'r Bil hwn.

Nid yw'r Bil ond mor gryf â'r modd y caiff ei weithredu, ac mae fframweithiau angen sylfeini. Un o'r sylfeini pwysicaf sy'n brin o'r Bil hwn o hyd yw gweithlu cynaliadwy, cynyddol o ddehonglwyr a chyfieithwyr IAP. Felly, rwy'n falch o allu cefnogi'r gwelliant hwn i sicrhau ein bod yn diogelu ein gweithlu o ddehonglwyr IAP ar gyfer y dyfodol, oherwydd heb ddigon o ddehonglwyr, mae'r dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus mewn perygl o ddod yn berfformiadol eu natur fel y rhybuddiodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar—geiriau ar bapur yn hytrach na chefnogaeth go iawn i bobl go iawn.

Fel y clywsoch gan Sioned, roedd llawer o'r rhai a hyfforddwyd drwy'r rhaglen BSL Futures, yn gwneud hynny bron i 20 mlynedd yn ôl, a chyda phob parch, os caf ddweud, efallai eu bod bellach yn agosáu at ddiwedd eu bywydau gwaith a chyfieithu. Felly, nid yn unig ein bod yn methu tyfu'r gweithlu, rydym yn ei weld yn crebachu ymhellach ar yr union foment y mae fwyaf o'i angen arnom. Rwy'n cofio ein clerc pwyllgor ein hunain yn cael trafferth trefnu dehonglwyr ar gyfer ein sesiynau craffu. Os yw pwyllgor Senedd yn gweld hynny'n anodd, beth y mae hynny'n ei ddweud am brofiad unigolyn byddar sy'n ceisio mynychu apwyntiad meddygol neu gysylltu â chorff cyhoeddus? Dyna pam rwy'n falch o gefnogi'r gwelliant. Drwy ei gwneud yn ofynnol i'r strategaeth IAP nodi nid yn unig nifer y cyfieithwyr a dehonglwyr IAP, ond hefyd nifer y bobl sydd ar gael i'w haddysgu, eu cefnogi a'u hasesu, rydym yn dechrau mynd i'r afael â phroblem y cyflenwad wrth ei gwraidd. Nid yw'n ddigon cyfrif y dehonglwyr sydd gennym heddiw; rhaid inni gynllunio ar gyfer y dehonglwyr y bydd eu hangen arnom yfory.

Felly, ym mis Rhagfyr, roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i ehangu'r gweithlu dehonglwyr a chyhoeddi map llwybrau ar gyfer IAP. Mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn deall, mewn egwyddor o leiaf, fod yn rhaid i gynlluniau'r gweithlu ddechrau gyda deall yr hyn sydd gennym mewn gwirionedd. Cam cyntaf yn unig yw mapio; nid yw nodi'r hyn sydd gennym yr un peth ag adeiladu'r hyn sydd ei angen arnom. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn glir nad oes unrhyw lwybrau byr ac wedi rhybuddio nad yw dulliau llwybr carlam yn darparu ansawdd. Yr hyn sy'n gweithio yw buddsoddiad hirdymor strwythuredig mewn hyfforddiant.

Mae gwelliant 2 yn sicrhau bod deall ac ehangu capasiti hyfforddi wedi'i ymgorffori o fewn y strategaeth ei hun. Buaswn yn ddiolchgar felly, yn yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, os gall gadarnhau y bydd y gwaith mapio hwn yn llywio'r strategaeth IAP genedlaethol yn uniongyrchol, ac y bydd y strategaeth yn cynnwys targedau clir, mesuradwy. Rwyf wrth fy modd gyda thargedau; rwy'n credu eu bod yn hollol hanfodol i bopeth a wnawn. Oherwydd hebddynt, nid oes gennym unrhyw syniad i ble rydym yn mynd a dim syniad a ydym wedi cyrraedd yno. Felly, mae'n hollol hanfodol fod gennym dargedau nid yn unig ar gyfer cyfieithwyr a dehonglwyr, ond hefyd ar gyfer y rhai sy'n eu hyfforddi a'u hasesu.

I orffen, mae gwelliant 2 yn gosod sylfaen bwysig. Mae'n gam cymedrol ond ystyrlon i'r cyfeiriad cywir. Ond mae'r gymuned arwyddo IAP byddar yng Nghymru yn haeddu llawer mwy na chamau cymedrol. Mae'n ddyletswydd arnom i ddarparu newid parhaol iddynt. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I'm grateful to Mark for explaining the purpose of this amendment and the contributions from the Equality and Social Justice Committee members, just showing how important your evidence was that was gained and how it's actually helped lead to this important amendment to strengthen the Bill. I can assure Jane Dodds that mapping is already under way.

The amendment sets out that the BSL strategy will not only include targets to increase or maintain the number of translators and interpreters available for the purposes of exercising the Welsh Ministers' and listed public bodies' functions, but also the number of teachers and assessors available to support those translators and interpreters. I agree that including this information will strengthen the evidence base for the strategy and support effective planning and mapping work to ensure it is possible to achieve future targets set for BSL translators and interpreters. So, this amendment supports practical delivery of the Bill's aims, and I support the amendment. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Mark am esbonio pwrpas y gwelliant hwn a'r cyfraniadau gan aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sy'n dangos pa mor bwysig oedd y dystiolaeth a gafwyd a sut y mae wedi helpu i arwain at y gwelliant pwysig hwn i gryfhau'r Bil. Gallaf sicrhau Jane Dodds fod y gwaith mapio eisoes ar y gweill.

Mae'r gwelliant yn nodi y bydd strategaeth IAP nid yn unig yn cynnwys targedau i gynyddu neu gynnal nifer y cyfieithwyr a'r dehonglwyr sydd ar gael at ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus rhestredig, ond hefyd nifer yr athrawon ac aseswyr sydd ar gael i gefnogi'r cyfieithwyr a'r dehonglwyr hynny. Rwy'n cytuno y bydd cynnwys yr wybodaeth hon yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y strategaeth ac yn cefnogi gwaith cynllunio a mapio effeithiol i sicrhau ei bod yn bosib cyflawni targedau a osodir yn y dyfodol ar gyfer cyfieithwyr a dehonglwyr IAP. Felly, mae'r gwelliant hwn yn cefnogi cyflawniad nodau'r Bil yn ymarferol, ac rwy'n cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.

Thank you very much indeed. Well, it seems there's unanimity of support for the purpose and intent of this and related matters in the Bill. As with all frameworks, they won't stand without foundations, and this is about putting those foundations in place for the future. I haven't, actually, unlike others, given credit and praise to BSL signers themselves, the deaf communities across Wales. Of course, it's thanks to them that we're here where we are now.

This journey for me began eight years ago—some of you have heard me say this before—at the Lend Me Your Ears annual conference at Bangor University, held up until the pandemic annually for deaf people in north Wales and families with deaf members in north Wales. I attended that. In 2018, the focus was on the Scottish legislation and the call from virtually every speaker, most of whom were deaf academics, for equivalent legislation here. So, it's thanks to them—I have to give the credit to the north Wales conference—that this, then, was brought down here and we started developing the all-Wales support that has led us to where we are today, and hopefully Stage 4 on the eleventh of next week. So, I'd be grateful if we could go to the vote, or, if there's unanimity, have confirmation of that.

Diolch yn fawr. Wel, mae'n ymddangos bod cefnogaeth unfrydol i bwrpas a bwriad hyn a materion cysylltiedig yn y Bil. Fel gyda phob fframwaith, ni fydd yn sefyll heb sylfeini, ac mae hyn yn ymwneud â rhoi'r sylfeini hynny ar waith ar gyfer y dyfodol. Yn wahanol i eraill, nid wyf wedi rhoi clod a chanmoliaeth i arwyddwyr IAP eu hunain, y cymunedau byddar ledled Cymru. Iddynt hwy y mae'r diolch, wrth gwrs, ein bod ni yma lle rydym ni nawr.

Dechreuodd y daith hon i mi wyth mlynedd yn ôl—mae rhai ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen—yng nghynhadledd flynyddol Clust i Wrando ym Mhrifysgol Bangor, a gynhaliwyd yn flynyddol tan y pandemig ar gyfer pobl fyddar gogledd Cymru a theuluoedd ag aelodau byddar yng ngogledd Cymru. Fe fynychais y gynhadledd honno. Yn 2018, roedd y ffocws ar ddeddfwriaeth yr Alban a'r alwad gan bron bob siaradwr, y rhan fwyaf ohonynt yn academyddion byddar, am ddeddfwriaeth gyfatebol yma. Felly, iddynt hwy y mae'r diolch—rhaid imi roi clod i gynhadledd gogledd Cymru—fod hyn, felly, wedi cael ei ddwyn i lawr yma a'n bod wedi dechrau datblygu'r gefnogaeth Cymru gyfan sydd wedi ein harwain at ble rydym ni heddiw, a Chyfnod 4 gobeithio ar yr unfed ar ddeg, wythnos nesaf. Felly, hoffwn fynd i bleidlais, neu, os yw pawb yn unfrydol, hoffwn gael cadarnhad o hynny.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

The question is that amendment 2 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 2 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 3: Data ar y defnydd o IAP a monitro (Gwelliannau 3, 11)
Group 3: Data on use of BSL and monitoring (Amendments 3, 11)

Byddwn yn awr yn symud ymlaen at grŵp 3. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud â data ar y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain a monitro. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliant arall yn y grŵp.  

We will now move on to group 3. The third group of amendments relates to data on the use of BSL and monitoring. Amendment 3 is the lead amendment in this group, and I call on Mark Isherwood to move and speak to the lead amendment and the other amendment in the group.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 3 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Diolch. Amendments 3 and 11 place requirements on Welsh Ministers to obtain information about the use of British Sign Language. Amendment 3 will require Ministers to set out what information about the use of BSL in Wales was obtained and considered for the purpose of preparing the strategy. The inclusion of this information will be important at that early stage, and will help in the understanding of how the strategy has been prepared.

Amendment 11 then requires Welsh Ministers, for the purpose of preparing their progress reports, to obtain appropriate information about the use of BSL in Wales on a sufficiently regular basis to enable them to assess progress. As the purpose of the reports under section 8 of the Bill is to assess the progress made in promoting and facilitating the use of BSL, it is vital that information on the use of BSL is obtained on a sufficiently regular basis. Otherwise, how can progress be meaningfully measured?

These amendments build on the amendment tabled at Stage 2 by Sioned Williams, an amendment that I thought had great merit. And, again, I thank Sioned for tabling those amendments and highlighting this issue. These amendments will now ensure, if passed, that information on the use of BSL is obtained both at the start of the process and on an ongoing basis. I therefore call on the Senedd to support amendments 3 and 11.

Diolch. Mae gwelliannau 3 ac 11 yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth am y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain. Bydd gwelliant 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion nodi pa wybodaeth am y defnydd o IAP yng Nghymru a gafwyd ac a ystyriwyd at ddibenion paratoi'r strategaeth. Bydd cynnwys yr wybodaeth hon yn bwysig yn y cam cynnar hwnnw, a bydd yn helpu i ddeall sut y mae'r strategaeth wedi'i pharatoi.

Yna mae gwelliant 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gael gwybodaeth briodol at ddibenion paratoi eu hadroddiadau cynnydd am y defnydd o IAP yng Nghymru yn ddigon rheolaidd i'w galluogi i asesu cynnydd. Gan mai pwrpas yr adroddiadau o dan adran 8 o'r Bil yw asesu'r cynnydd a wnaed ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o IAP, mae'n hanfodol fod gwybodaeth am y defnydd o IAP yn dod i law'n ddigon rheolaidd. Fel arall, sut y gellir mesur cynnydd yn ystyrlon?

Mae'r gwelliannau hyn yn adeiladu ar y gwelliant a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 gan Sioned Williams, gwelliant y credwn fod iddo deilyngdod mawr. Ac unwaith eto, diolch i Sioned am gyflwyno'r gwelliannau hynny ac amlygu'r mater hwn. Bydd y gwelliannau hyn nawr yn sicrhau, os cânt eu pasio, fod gwybodaeth am y defnydd o IAP yn dod i law ar ddechrau'r broses ac ar sail barhaus. Felly, galwaf ar y Senedd i gefnogi gwelliannau 3 ac 11.

Plaid Cymru is pleased to support amendments 3 and 11, tabled by Mark Isherwood, on which, again, as you mentioned, we have worked constructively alongside him and Welsh Government. If this Bill is to deliver meaningful change, it must be underpinned by robust and policy-relevant data. As we've heard, understanding how many people use BSL and how they use it is fundamental to developing an effective and credible national BSL strategy and plans.

At present, the way BSL use is measured across England and Wales is limited. Around 22,000 people reported BSL as their 'main language' in the census, representing approximately 0.04 per cent of the population aged three and over. But that figure arises from a write-in response to a general language question. It doesn't capture those who use BSL regularly in everyday life, but identify English or Welsh as their main language. In other words, it risks significantly undercounting the community.

We can see this clearly when we look at Scotland, which introduced a dedicated census question in 2022, asking, 'Can you use British Sign Language?' That approach produced a dramatically different picture, with over 117,000 people reporting that they could use BSL. Only a small proportion of those individuals described it as their main language, highlighting how restrictive the main language framework can be, particularly for sign languages and multilingual communities.

Academic analysis has consistently shown that how census questions are framed shapes who gets counted. We've seen this, of course, haven't we, in regard to the Welsh language. A monolingual main language model doesn't reflect the linguistic reality of many deaf BSL signers. These amendments, therefore, I think open the door to improving how we gather data in Wales, as well as making sure that we do gather that data.

One obvious step would be to explore how the 2031 census could better measure BSL use, learning from approaches elsewhere and ensuring that data collected genuinely reflects lived experience. I think this also aligns with commitments already made in the Welsh Government's BSL route-map, which recognises the need to explore barriers to collecting and collating BSL data, and to assess models used across the UK and internationally.

So, it's important to say that, while these amendments are a very strong and welcome step, data on BSL use alone will not be sufficient. Developing a powerful and transformative BSL strategy will require a wider evidence base about the lives, experience and barriers faced by deaf BSL signers across Wales. For Plaid Cymru, this is about ensuring that the strategy is built on reality and not assumption, and these amendments, we believe, strengthen vastly the foundations of the Bill, and we're pleased to have worked collaboratively to support them. 

Mae Plaid Cymru'n falch o gefnogi gwelliannau 3 ac 11, a gyflwynwyd gan Mark Isherwood, ac fel y sonioch chi, rydym wedi gweithio'n adeiladol arnynt ochr yn ochr ag ef a Llywodraeth Cymru. Os yw'r Bil hwn i gyflawni newid ystyrlon, rhaid iddo gael ei ategu gan ddata cadarn a pherthnasol i bolisi. Fel y clywsom, mae deall faint o bobl sy'n defnyddio IAP a sut y maent yn ei ddefnyddio'n hanfodol i ddatblygu strategaeth a chynlluniau IAP cenedlaethol effeithiol a chredadwy.

Ar hyn o bryd, mae'r ffordd y caiff y defnydd o IAP ei fesur ledled Cymru a Lloegr yn gyfyngedig. Nododd tua 22,000 o bobl mai IAP oedd eu 'prif iaith' yn y cyfrifiad, sef oddeutu 0.04 y cant o'r boblogaeth tair oed a hŷn. Ond mae'r ffigur hwnnw'n deillio o ymateb ysgrifenedig i gwestiwn cyffredinol am iaith. Nid yw'n cynnwys y rhai sy'n defnyddio IAP yn rheolaidd mewn bywyd bob dydd ond yn nodi'r Saesneg neu'r Gymraeg fel eu prif iaith. Mewn geiriau eraill, mae'n creu perygl o dangyfrif y gymuned yn sylweddol.

Gallwn weld hyn yn glir pan edrychwn ar yr Alban, a gyflwynodd gwestiwn cyfrifiad pwrpasol yn 2022, a ofynnai, 'A allwch chi ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain?' Cynhyrchodd y dull hwnnw ddarlun dramatig o wahanol, gyda dros 117,000 o bobl yn adrodd y gallent ddefnyddio IAP. Dim ond cyfran fach o'r unigolion hynny a'i disgrifiodd fel eu prif iaith, gan dynnu sylw at ba mor gyfyngol y gall y fframwaith prif iaith fod, yn enwedig ar gyfer ieithoedd arwyddion a chymunedau amlieithog.

Mae dadansoddiadau academaidd wedi dangos yn gyson fod y modd y caiff cwestiynau cyfrifiad eu fframio yn siapio pwy sy'n cael eu cyfrif. Fe welsom hyn yn digwydd gyda'r iaith Gymraeg, oni wnaethom. Nid yw model prif iaith uniaith yn adlewyrchu realiti ieithyddol llawer o arwyddwyr IAP byddar. Rwy'n credu bod y gwelliannau hyn, felly, yn agor y drws i wella'r ffordd yr awn ati i gasglu data yng Nghymru, yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn casglu'r data hwnnw.

Un cam amlwg fyddai archwilio sut y gallai cyfrifiad 2031 fesur y defnydd o IAP yn well, gan ddysgu o ddulliau mewn mannau eraill a sicrhau bod data a gesglir yn adlewyrchu profiad bywyd mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hyn hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau a wnaed eisoes ym map llwybrau IAP Llywodraeth Cymru, sy'n cydnabod yr angen i archwilio rhwystrau i gasglu a choladu data IAP, ac i asesu modelau a ddefnyddir ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Felly, mae'n bwysig dweud, er bod y gwelliannau hyn yn gam cryf sydd i'w groesawu'n fawr, ni fydd data ar ddefnydd IAP yn unig yn ddigon. Bydd datblygu strategaeth IAP bwerus a thrawsnewidiol yn galw am sylfaen dystiolaeth ehangach am fywydau, profiad a rhwystrau sy'n wynebu arwyddwyr IAP byddar ledled Cymru. I Blaid Cymru, mae hyn yn golygu sicrhau bod y strategaeth wedi'i hadeiladu ar realiti ac nid rhagdybiaeth, ac yn ein barn ni mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau sylfeini'r Bil yn fawr, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio ar y cyd i'w cefnogi. 

18:25

This is the last time I'll be speaking, so I too would like to pay tribute to Mark Isherwood for his commitment and persistence in making sure that this Bill gets over the line. 

I too have learned an enormous amount about BSL children and BSL adults, and I particularly want to thank Julie Doyle, who's on your screen, for explaining to me that the deaf children of deaf parents have exactly the same outcomes in terms of education as hearing children, because they are learning BSL when they are first born, whereas other children are learning some other language. Given that babies, hearing or not, have minimal oral language, it's also interesting to note that those who learn BSL because their parents are competent are also much calmer than those babies that have to shout or scream to get their views heard. So, there's going to be a steep learning curve for public services, particularly health and education, to ensure that we improve the outcomes for deaf children of hearing parents, both in enabling those parents to be given access to BSL as soon as the child is identified as being deaf—. And I was shocked to read in the explanatory memorandum that such parents have to pay—that means finding £9,000 on top of all the other complications of having a new baby and a new baby who is deaf. I feel that it'll be up to the next Senedd to address that particular problem. But the point is that we have to ensure that services are instantly available to the less than 2,000 children who are deaf with hearing parents, and that they are getting rapid support to ensure that they are speaking to their baby in sign language as soon as they realise they're not hearing the spoken word. So, I hope that that is absolutely clear. I just wanted to put that on record because it is for the future Senedd to sort that out.

Dyma'r tro olaf y byddaf yn siarad, felly hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i Mark Isherwood am ei ymrwymiad a'i ddyfalbarhad wrth wneud yn siŵr fod y Bil hwn yn mynd rhagddo. 

Rwyf innau hefyd wedi dysgu llawer iawn am blant IAP ac oedolion IAP, ac rwyf am ddiolch yn arbennig i Julie Doyle, sydd ar eich sgrin, am esbonio i mi fod plant byddar i rieni byddar yn cael yn union yr un canlyniadau addysg â phlant sy'n clywed, am eu bod yn dysgu IAP pan fyddant yn cael eu geni, tra bod plant eraill yn dysgu rhyw iaith arall. O ystyried mai ychydig iawn o iaith lafar sydd gan fabanod, sy'n clywed neu beidio, mae'n ddiddorol nodi hefyd fod y rhai sy'n dysgu IAP oherwydd bod eu rhieni'n gymwys yn llawer mwy digynnwrf na babanod sy'n gorfod gweiddi neu sgrechian i gael eu safbwynt wedi'i glywed. Felly, bydd cromlin ddysgu serth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd ac addysg, i sicrhau ein bod yn gwella'r canlyniadau i blant byddar rhieni sy'n clywed, gan alluogi'r rhieni hynny i gael mynediad at IAP cyn gynted ag y nodir bod y plentyn yn fyddar—. Ac roedd yn sioc darllen yn y memorandwm esboniadol fod yn rhaid i'r cyfryw rieni dalu—mae hynny'n golygu dod o hyd i £9,000 ar ben yr holl gymhlethdodau eraill o gael babi newydd a babi newydd sy'n fyddar. Rwy'n teimlo mai mater i'r Senedd nesaf fydd mynd i'r afael â'r broblem benodol honno. Ond y pwynt yw bod yn rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau ar gael ar unwaith i'r llai na 2,000 o blant sy'n fyddar gyda rhieni sy'n clywed, a'u bod yn cael cymorth cyflym i sicrhau eu bod yn siarad â'u babi yn iaith arwyddion cyn gynted ag y byddant yn sylweddoli nad ydynt yn clywed iaith lafar. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n hollol glir. Roeddwn eisiau cofnodi hynny am mai mater i'r Senedd newydd fydd datrys hynny.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Again, I'd like to thank Mark for bringing forward these amendments 3 and 11, and Sioned Williams for bringing forward a similar amendment at Stage 2. As has been said, these amendments would strengthen the reporting framework by ensuring Ministers have sufficiently regular information to assess progress and add transparency about the information gathered and considered when preparing the strategy. I agree this will strengthen confidence in the strategy and demonstrate that it is evidence led, and I support these amendments.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Mark am gyflwyno gwelliannau 3 ac 11, a Sioned Williams am gyflwyno gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Fel y dywedwyd, byddai'r gwelliannau hyn yn cryfhau'r fframwaith adrodd drwy sicrhau bod Gweinidogion yn cael gwybodaeth yn ddigon rheolaidd i asesu cynnydd ac ychwanegu tryloywder ynghylch yr wybodaeth a gasglwyd ac a ystyriwyd wrth baratoi'r strategaeth. Rwy'n cytuno y bydd hyn yn cryfhau hyder yn y strategaeth ac yn dangos ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn.

Thank you, and thank you again for the unanimity. I think you all make very pertinent points and justify again further the reasons why we need these amendments. I think, as both of you intimate, in the context of deaf children of hearing parents and vice versa, but also in the context of others, clearly most BSL signers are deaf BSL signers or their families, but there are many others too. There are deafblind tactile BSL users. There are people who are non-verbal, perhaps stroke survivors, and many others who will use BSL in full or in part to assist their language of communication, which may be missing from those statistics. People may not just identify with the question as it's put. Nonetheless, I'll be quiet. Let's go to the vote and hope we don't have to press buttons on this one either.

Diolch, a diolch eto am y farn unfrydol. Rwy'n credu eich bod i gyd yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ac yn cyfiawnhau ymhellach y rhesymau pam y mae angen y gwelliannau hyn arnom. Fel yr awgrymoch chi, yng nghyd-destun plant byddar rhieni sy'n clywed ac i'r gwrthwyneb, ond hefyd yng nghyd-destun eraill, mae'n amlwg fod y rhan fwyaf o arwyddwyr IAP yn arwyddwyr IAP byddar neu eu teuluoedd, ond mae yna lawer o rai eraill hefyd. Mae yna ddefnyddwyr IAP cyffyrddol dall fyddar. Mae yna bobl sy'n ddieiriau, goroeswyr strôc efallai, a llawer o rai eraill a fydd yn defnyddio IAP yn llawn neu'n rhannol i gynorthwyo eu hiaith gyfathrebu, a allai fod ar goll o'r ystadegau hynny. Efallai na fydd pobl yn uniaethu â'r cwestiwn fel y caiff ei ofyn. Serch hynny, rwyf am orffen. Gadewch inni fynd i bleidlais a gobeithio nad oes rhaid inni wasgu botymau ar hyn chwaith.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 3 be agreed. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 3 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 4: Ymgynghori a chynnwys (Gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8, 9)
Group 4: Consultation and involvement (Amendments 4, 5, 6, 7, 8, 9)

Y grŵp olaf yw grŵp 4. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag ymgynghori a chynnwys. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.

The final group is 4. This fourth group relates to consultation and involvement. Amendment 4 is the lead amendment in this group, and I call on Mark Isherwood to move and speak to the lead amendment and the other amendments in this group. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 4 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Diolch. Amendments 4, 5, 6, 7, 8 and 9 are all tabled with the purpose of ensuring that representatives of BSL signers are involved in the process of preparing the BSL strategy and the BSL plans from the outset and are kept involved throughout that process. The term 'co-production' has not been used in the amendments because of advice I have received regarding the difficulty of legally defining that term. Clearly, that was disappointing for me, but I had to accept that advice. However, ensuring the co-production of the strategy and BSL plans is very much the intention of these amendments, and what is set out in the amendments is very much in line with the principles of co-production, which I have long championed. Co-production is underpinned by principles such as equality, diversity, mutual respect and, above all, shared power. In Wales, these principles are already embedded in frameworks like the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and its code of practice, which promote voice and control for individuals in shaping services that affect them. As we all know, however, we have to periodically remind certain local authorities of that, but that is what the existing 2014 legislation states.

Active listening is a key enabler of these principles. It helps shift the dynamic from 'We ask, you answer', to, 'We listen, we learn and we act together'. Co-production can play a valuable or even essential role in the development and delivery of public services. It goes further than consultation alone and would ensure that the deaf community was involved in the development of the key outputs from the Bill. That is why these amendments, with the emphasis on involving the deaf community from the start, are vital in ensuring the successful delivery of the BSL strategy and BSL plans.

At Stage 2, Sioned Williams tabled two amendments that related to the principles of co-production. So, I again thank Sioned for tabling those amendments and opening the debate about how co-production could be embedded within the implementation of the Bill. While I very much supported the principle of Sioned's amendments at Stage 2, I recognised that embedding co-production into the BSL Bill would need further consideration to ensure that it worked in the best way possible for the deaf community, was compliant with legal terminology and did not have any unintended consequences for the overall delivery of the Bill. I'm therefore extremely grateful again to the Cabinet Secretary and to Sioned Williams for engaging with me during Stage 3 to explore options for appropriate amendments and for working with me in preparing the amendments we see before us now. If these amendments are agreed today, it will ensure that the deaf community is involved in the development of the Bill's key provisions, not just consulted on them after those provisions have been drafted by others. I therefore urge the Senedd to agree amendments 4, 5, 6, 7, 8 and 9. Diolch yn fawr.

Diolch. Mae gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8 a 9 i gyd wedi'u cyflwyno gyda'r bwriad o sicrhau bod cynrychiolwyr arwyddwyr IAP yn rhan o'r broses o baratoi'r strategaeth IAP a chynlluniau IAP o'r cychwyn cyntaf ac yn cael eu cadw'n rhan o'r broses gyfan honno. Nid yw'r term 'cydgynhyrchu' wedi cael ei ddefnyddio yn y gwelliannau oherwydd cyngor a gefais ynglŷn ag anhawster diffinio'r term hwnnw'n gyfreithiol. Yn amlwg, roedd hynny'n siomedig i mi, ond roedd yn rhaid imi dderbyn y cyngor hwnnw. Fodd bynnag, sicrhau bod y strategaeth a'r cynlluniau IAP yn cael eu cydgynhyrchu yw bwriad y gwelliannau hyn, ac mae'r hyn a nodir yn y gwelliannau yn cyd-fynd yn agos ag egwyddorion cydgynhyrchu, y bûm yn eu hyrwyddo ers amser maith. Mae cydgynhyrchu wedi'i ategu gan egwyddorion fel cydraddoldeb, amrywiaeth, cyd-barch ac yn anad dim, rhannu pŵer. Yng Nghymru, mae'r egwyddorion hyn eisoes wedi'u hymgorffori mewn fframweithiau fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i chod ymarfer, sy'n hyrwyddo llais a rheolaeth i unigolion wrth lunio gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. Fel y gwyddom i gyd, fodd bynnag, rhaid inni atgoffa rhai awdurdodau lleol o hynny o bryd i'w gilydd, ond dyna beth y mae deddfwriaeth bresennol 2014 yn ei ddatgan.

Mae gwrando gweithredol yn alluogwr allweddol i'r egwyddorion hyn. Mae'n helpu i newid y ddeinameg o 'Rydym ni'n gofyn, rydych chi'n ateb', i, 'Rydym ni'n gwrando, rydym ni'n dysgu ac rydym yn gweithredu gyda'n gilydd'. Gall cydgynhyrchu chwarae rhan werthfawr neu hanfodol hyd yn oed yn natblygiad gwasanaethau cyhoeddus a'r modd y'u darperir. Mae'n mynd ymhellach nag ymgynghori'n unig a byddai'n sicrhau bod y gymuned fyddar yn rhan o'r broses o ddatblygu allbynnau allweddol y Bil. Dyna pam y mae'r gwelliannau hyn, gyda'r pwyslais ar gynnwys y gymuned fyddar o'r cychwyn cyntaf, yn hanfodol i sicrhau bod y strategaeth IAP a chynlluniau IAP yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.

Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd Sioned Williams ddau welliant a oedd yn ymwneud ag egwyddorion cydgynhyrchu. Felly, diolch eto i Sioned am gyflwyno'r gwelliannau hynny ac am agor y ddadl ynghylch sut y gellid ymgorffori cydgynhyrchu o fewn gweithrediad y Bil. Er fy mod yn cefnogi egwyddor gwelliannau Sioned yng Nghyfnod 2, roeddwn yn cydnabod y byddai angen ystyriaeth bellach i ymgorffori cydgynhyrchu yn y Bil IAP i sicrhau ei fod yn gweithio yn y ffordd orau bosib i'r gymuned fyddar, yn cydymffurfio â therminoleg gyfreithiol ac nad oedd iddo unrhyw ganlyniadau anfwriadol i gyflawniad y Bil yn gyffredinol. Felly, rwy'n hynod ddiolchgar eto i Ysgrifennydd y Cabinet ac i Sioned Williams am ymgysylltu â mi yn ystod Cyfnod 3 i archwilio opsiynau ar gyfer gwelliannau priodol ac am weithio gyda mi ar baratoi'r gwelliannau a welwn o'n blaenau nawr. Os derbynnir y gwelliannau hyn heddiw, bydd yn sicrhau bod y gymuned fyddar yn rhan o'r broses o ddatblygu darpariaethau allweddol y Bil, ac nid ymgynghori arnynt yn unig ar ôl i'r darpariaethau hynny gael eu drafftio gan eraill. Felly, rwy'n annog y Senedd i dderbyn gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8 a 9. Diolch yn fawr.

Plaid Cymru is pleased to support all the amendments tabled by Mark Isherwood in this group, which, as he said, address the importance and nature of co-production. Again, we've worked so constructively on this, haven't we, together with him and, of course, the Welsh Government. Replacing the duty to consult with a duty to involve may look like a small change on paper, but, in practice, I think it's a really significant one, because consultation can sometimes be a one-off exercise. Involvement suggests something deeper and ongoing—a genuine partnership with the deaf BSL community in shaping decisions that affect them. And I think that shift really matters.

We should be honest as well about that meaningful involvement of deaf BSL signers. This will be something that should be new for many public bodies. That's why clear, practical guidance from the Government will be so important to make sure this duty is delivered well and not treated as a tick-box exercise. And if we are serious about respect and inclusion, that needs to happen in the language of the community concerned. Deaf BSL signers bring lived experience, expertise and commitment, and, when they are genuinely involved, policies and services will be stronger as a result.

Turning to amendment 6, as well as amendment 9, again, we've worked constructively on these with both the Member and Welsh Government, and it builds on earlier amendments, as we heard, around involvement and gives real substance to what that involvement should look like in practice. It's about making sure that deaf BSL signers themselves are directly involved in shaping the national BSL strategy, not as an afterthought, but from the very beginning and throughout the process. It sets out clearly what that meaningful involvement should include, giving people the opportunity to make representations at the start of the process, seeking their views at a formative stage before positions are fixed, and ensuring that they are properly informed and given enough time to respond. That, I think, moves us beyond vague language and commitments into something far more concrete. Because, if this strategy is going to be effective and credible, it has to reflect the lived experience of the people it is meant to support. Deaf BSL signers bring that insight and bring that expertise and a deep understanding of the barriers they face, and so their voices must be central and not peripheral. I think this amendment strengthens the Bill by making that expectation explicit, while also giving clarity to Ministers and reassurance to the deaf BSL community that their involvement will be structured and meaningful and ongoing.

As this is my final contribution to the debate today, I also want to end by saying it's been a really important exercise for me as an elected representative and as a legislator to be involved in the passage of this forward-looking and important Bill, because it has brought home to me, as you've heard, and my fellow committee members, in the most literal way possible, as we sat and discussed for many hours with deaf BSL signers, the barriers and opportunities that this Bill can address. The whole process of scrutiny, from beginning to end, helped us understand what it means when people who are hearing and who cannot sign are the ones who are in the roles that can effect change for those whose language and lived experience they do not share, and why that needs to change.

That awareness that's been fostered in us as a result of working on this Bill is growing generally, I believe, but awareness alone can't be the ultimate aim. Good intentions, however sincere, don't guarantee rights. This Bill is about placing those rights on a secure footing, recognising that BSL is not an optional add-on but is a language deserving of status, protection and proactive promotion. So, I think we all, as a Senedd, carry a responsibility not only to pass this Bill but also to ensure the delivery of the change it promises. Plaid Cymru is very glad to support this Bill, and, in doing so, to send a clear message that, in Wales, linguistic rights are human rights and they belong to everyone, and are rights in Wales that we value and support. Diolch.

Mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi'r holl welliannau a gyflwynwyd gan Mark Isherwood yn y grŵp hwn, sydd, fel y dywedodd, yn mynd i'r afael â phwysigrwydd a natur cydgynhyrchu. Unwaith eto, rydym wedi gweithio mor adeiladol ar hyn gydag ef, a Llywodraeth Cymru wrth gwrs. Gall rhoi dyletswydd i gynnwys yn hytrach na dyletswydd i ymgynghori edrych fel newid bach ar bapur, ond yn ymarferol, rwy'n credu ei fod yn un arwyddocaol iawn, oherwydd gall ymgynghori fod yn ymarfer untro weithiau. Mae cyfranogiad yn awgrymu rhywbeth dyfnach a pharhaus—partneriaeth wirioneddol gyda'r gymuned IAP byddar wrth lunio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Ac rwy'n credu bod y newid hwnnw'n wirioneddol bwysig.

Dylem fod yn onest hefyd am gyfranogiad ystyrlon arwyddwyr IAP byddar. Bydd hyn yn rhywbeth a ddylai fod yn newydd i lawer o gyrff cyhoeddus. Dyna pam y bydd canllawiau clir, ymarferol gan y Llywodraeth mor bwysig i sicrhau bod y ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni'n dda ac nad yw'n cael ei thrin fel ymarfer blwch ticio. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â pharch a chynhwysiant, mae angen i hynny ddigwydd yn iaith y gymuned dan sylw. Mae arwyddwyr IAP byddar yn cynnig profiad bywyd, arbenigedd ac ymrwymiad, a phan fyddant yn cymryd rhan go iawn, bydd polisïau a gwasanaethau'n gryfach o ganlyniad.

Gan droi at welliant 6, yn ogystal â gwelliant 9, unwaith eto, rydym wedi gweithio'n adeiladol ar y rhain gyda'r Aelod a Llywodraeth Cymru, ac mae'n adeiladu ar welliannau cynharach ynghylch cyfranogiad, fel y clywsom, ac yn rhoi sylwedd gwirioneddol i beth y mae'r cyfranogiad hwnnw'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod arwyddwyr IAP byddar eu hunain yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o lunio'r strategaeth IAP genedlaethol, nid fel ôl-ystyriaeth, ond o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses. Mae'n nodi'n glir beth y dylai'r cyfranogiad ystyrlon hwnnw ei gynnwys, gan roi cyfle i bobl wneud sylwadau ar ddechrau'r broses, ceisio eu barn ar gam ffurfiannol cyn i safbwyntiau gael eu sefydlu, a sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu'n briodol ac yn cael digon o amser i ymateb. Rwy'n credu bod hynny yn ein symud y tu hwnt i iaith ac ymrwymiadau amwys tuag at rywbeth llawer mwy pendant. Oherwydd, os yw'r strategaeth hon yn mynd i fod yn effeithiol ac yn gredadwy, rhaid iddi adlewyrchu profiad bywyd y bobl y mae i fod i'w cefnogi. Mae arwyddwyr IAP byddar yn cynnig y mewnwelediad a'r arbenigedd hwnnw a dealltwriaeth ddofn o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, ac felly rhaid i'w lleisiau fod yn ganolog ac nid yn ymylol. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn cryfhau'r Bil drwy wneud y disgwyliad hwnnw'n glir, gan roi eglurder i Weinidogion a sicrwydd i'r gymuned IAP fyddar y bydd eu cyfranogiad yn strwythuredig, yn ystyrlon ac yn barhaus.

Gan mai hwn yw fy nghyfraniad olaf i'r ddadl heddiw, rwyf innau hefyd am orffen drwy ddweud fod bod yn rhan o'r broses o basio'r Bil blaengar a phwysig hwn wedi bod yn ymarfer pwysig iawn i mi fel cynrychiolydd etholedig ac fel deddfwr, oherwydd mae wedi cadarnhau i mi, fel y clywsoch, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, yn y ffordd fwyaf llythrennol bosib, wrth inni eistedd a thrafod am oriau lawer gydag arwyddwyr IAP byddar, cymaint o rwystrau a chyfleoedd y gall y Bil hwn fynd i'r afael â nhw. Mae'r holl broses o graffu, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ein helpu i ddeall beth y mae'n ei olygu pan fydd pobl sy'n clywed ac nad ydynt yn gallu arwyddo mewn rolau sy'n gallu creu newid i'r rhai nad ydynt yn rhannu eu hiaith a'u profiad bywyd, a pham y mae angen i hynny newid.

Rwy'n credu bod yr  ymwybyddiaeth sydd wedi'i meithrin ynom o ganlyniad i weithio ar y Bil hwn yn tyfu at ei gilydd, ond ni all ymwybyddiaeth yn unig fod yn nod terfynol. Nid yw bwriadau da, er mor ddiffuant, yn gwarantu hawliau. Diben y Bil hwn yw rhoi'r hawliau hynny ar sylfaen sicr, gan gydnabod nad ychwanegiad dewisol yw IAP ond iaith sy'n haeddu statws, amddiffyniad a hyrwyddo rhagweithiol. Felly, rwy'n credu bod gennym i gyd, fel Senedd, gyfrifoldeb nid yn unig i basio'r Bil hwn ond hefyd i sicrhau ein bod yn cyflawni'r newid y mae'n ei addo. Mae Plaid Cymru'n falch iawn o gefnogi'r Bil hwn, ac wrth wneud hynny, yn anfon neges glir fod hawliau ieithyddol yng Nghymru yn hawliau dynol a'u bod yn perthyn i bawb, ac yn hawliau yng Nghymru yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac yn eu cefnogi. Diolch.

18:35

I would also like to begin by thanking all those who've worked tirelessly campaigning for the recognition of British Sign Language. As Sioned Williams has just said, I've also learned so much by talking to the members of the deaf community with regard to this Bill. Felly, diolch yn fawr to all of you. It's right also that we pay specific tribute to Mark Isherwood today. Not only is passing a Member's Bill a feat in itself—you will know, Mark, because you've sat through all of them, that this is only the fifth Member's Bill in the history of Welsh devolution. Not only is that such a feat, but it's a piece of legislation that will make a huge difference to the deaf community in Wales. I know that, because I've spoken to members of the deaf community in Cardiff, and they're so grateful for your work picking this up.

These amendments in this group are much needed to ensure that the lived experience of the BSL community is placed at the heart of all future decisions relating to their language. We must not fall into the trap of telling signers what's best for them. These amendments help strengthen their position in Wales through co-operation and communication on any future BSL policy decisions. BSL, as others have said, much like Welsh, comes with its own culture, community and a sense of pride. This Bill is our opportunity to give BSL the space it needs to stand alongside our other national languages with equal status, equal respect and equal opportunity. This is our chance to choose communication over confusion, because that is what BSL is all about. Diolch yn fawr.

Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ymgyrchu dros gydnabyddiaeth i Iaith Arwyddion Prydain. Fel y mae Sioned Williams newydd ei ddweud, rwyf innau hefyd wedi dysgu cymaint drwy siarad ag aelodau'r gymuned fyddar mewn perthynas â'r Bil hwn. Felly, diolch yn fawr i bob un ohonoch. Mae'n iawn hefyd ein bod yn talu teyrnged benodol i Mark Isherwood heddiw. Nid yn unig y mae pasio Bil Aelodau yn gamp ynddi'i hun—fe fyddwch chi'n gwybod, Mark, oherwydd rydych chi wedi eistedd drwy bob un ohonynt, mai dim ond y pumed Bil Aelodau yn hanes datganoli Cymru yw hwn. Nid yn unig fod honno'n gamp, mae'n ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd rwyf wedi siarad ag aelodau o'r gymuned fyddar yng Nghaerdydd, ac maent mor ddiolchgar am eich gwaith yn codi hyn.

Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod profiad bywyd y gymuned IAP yn cael ei roi wrth wraidd pob penderfyniad yn y dyfodol sy'n ymwneud â'u hiaith. Rhaid inni beidio â syrthio i'r fagl o ddweud wrth arwyddwyr beth sydd orau iddynt. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i gryfhau eu sefyllfa yng Nghymru drwy gydweithredu a chyfathrebu ar unrhyw benderfyniadau polisi IAP yn y dyfodol. Fel y mae eraill wedi dweud, mae IAP yn debyg iawn i'r Gymraeg, mae'n dod â'i ddiwylliant, ei gymuned a'i ymdeimlad o falchder ei hun. Mae'r Bil hwn yn gyfle i roi i IAP y lle sydd ei angen arni i sefyll ochr yn ochr â'n hieithoedd cenedlaethol eraill gyda statws cyfartal, parch cyfartal a chyfle cyfartal. Dyma ein cyfle i ddewis cyfathrebu yn hytrach na dryswch, gan mai ymwneud â hynny y mae IAP. Diolch yn fawr.

18:40

Diolch yn fawr. Thank you, again, to Mark for bringing forward this and explaining, also, the rationale for these amendments on the involvement of BSL signers. It's interesting. We've learnt a lot—the Welsh Government's learnt a lot—over the years in terms of our commitment to co-production, and co-production in action. I believe we learnt a lot in how we developed our BSL route-map. We engaged with the deaf BSL signing community in the development of that route-map, which was published on the Welsh Government website on 12 February—co-production in action.

Moving from using the word 'consult' to 'involve' is a real step, a really important step, forward. It's set out in amendments 5 and 8. It's consistent with the intention that there should be engagement on the relevant issues. And amendments 6 and 9 make it clear how BSL signers will be involved from the beginning of the process of preparing the BSL strategy by Welsh Ministers and BSL plans by listed public bodies. And that word is important at the beginning of the strategy, and then throughout the process, which I support in relation to this Bill.

So, in my final words in supporting this group of amendments, can I once more thank all those who have engaged in every step of the way with the development of this BSL Bill in a very co-productive way, led by Mark Isherwood? I am so glad that we've been able to back this as a Welsh Government and that we've got this collaboration across the Chamber to back Mark's Bill. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Diolch eto i Mark am gyflwyno hyn ac am esbonio hefyd y rhesymeg dros y gwelliannau hyn ar gyfranogiad arwyddwyr IAP. Mae'n ddiddorol. Rydym wedi dysgu llawer—mae Llywodraeth Cymru wedi dysgu llawer—dros y blynyddoedd o ran ein hymrwymiad i gydgynhyrchu, a chydgynhyrchu ar waith. Rwy'n credu ein bod wedi dysgu llawer yn y ffordd y gwnaethom ddatblygu ein map llwybrau IAP. Fe wnaethom ymgysylltu â'r gymuned arwyddo IAP byddar i ddatblygu'r map llwybrau hwnnw, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 12 Chwefror—cydgynhyrchu ar waith.

Mae symud o ddefnyddio'r gair 'ymgynghori' i 'gynnwys' yn gam real a phwysig iawn ymlaen. Mae wedi'i nodi yng ngwelliannau 5 ac 8. Mae'n gyson â'r bwriad y dylid ymgysylltu ar y materion perthnasol. Ac mae gwelliannau 6 a 9 yn ei gwneud yn glir sut y bydd arwyddwyr IAP yn cael eu cynnwys o ddechrau'r broses o baratoi'r strategaeth IAP gan Weinidogion Cymru a chynlluniau IAP gan gyrff cyhoeddus rhestredig. Ac mae'r gair hwnnw'n bwysig ar ddechrau'r strategaeth, ac yna drwy gydol y broses, ac rwy'n cefnogi hynny mewn perthynas â'r Bil hwn.

Felly, yn fy ngeiriau olaf i gefnogi'r grŵp hwn o welliannau, a gaf i ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan ar bob cam o'r ffordd i ddatblygu'r Bil IAP hwn mewn ffordd gydgynhyrchiol iawn, dan arweiniad Mark Isherwood? Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi hyn fel Llywodraeth Cymru a'n bod yn cydweithredu ar draws y Siambr i gefnogi Bil Mark. Diolch yn fawr.

Thank you, I'll be as succinct as I can. I know that there are other events running alongside. Thank you for all those kind comments. For what appear to be quite simple amendments, it involved a lot of to-ing and fro-ing and discussion over what words we could and could not use. So, thanks to everyone involved in that. And, particularly, may I just give credit—I think they're sitting in the gallery—to the Senedd Bill team, without whom all of this would have been impossible? They've been phenomenal. And, of course, although I don't know if they're in the gallery, but, obviously, they work closely with the Welsh Government lawyers as well, so thanks to them also. I'm not sure if they're with us, but no doubt they'll get the message.

To me, this is perhaps one of the most important sets of amendments relating to this Bill, because, if we don't involve people, if we don't co-produce with people, if we don't, to use a metaphor, see the world through their eyes or live the lives they live, we will build in, unintentionally, the barriers that disable them, which will also end up costing a lot more for public bodies and Governments in getting it wrong and having to put it right, or then having to service the crises that people could have avoided but end up living in because of the failure to design out the barriers that they encounter from the outset. So, that's the purpose and intention of these amendments. So far, there appears to be full support for them, and therefore I'd be grateful if we could go to the vote, or, hopefully, again, confirmation that we don't actually need a vote on this.

Diolch, fe fyddaf mor gryno ag y gallaf. Rwy'n gwybod bod yna ddigwyddiadau eraill yn cydredeg. Diolch am yr holl sylwadau caredig. Ar gyfer yr hyn sy'n ymddangos yn welliannau eithaf syml, roedd yn cynnwys llawer o drafodaeth ynglŷn â pha eiriau y gallem eu defnyddio ac na allem eu defnyddio. Felly, diolch i bawb a fu'n rhan o hynny. Ac yn arbennig, a gaf i roi clod—rwy'n credu eu bod yn eistedd yn yr oriel—i dîm Bil y Senedd, gan na fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosib hebddynt? Maent wedi bod yn anhygoel. Ac wrth gwrs, er nad wyf yn gwybod a yw'r rheini yn yr oriel, ond yn amlwg, maent yn gweithio'n agos gyda chyfreithwyr Llywodraeth Cymru hefyd, felly diolch iddynt hwy hefyd. Nid wyf yn siŵr os ydynt gyda ni, ond maent yn siŵr o gael y neges.

I mi, efallai mai dyma un o'r setiau pwysicaf o welliannau'n ymwneud â'r Bil hwn, oherwydd, os nad ydym yn cynnwys pobl, os nad ydym yn cydgynhyrchu gyda phobl, os nad ydym yn gweld y byd drwy eu llygaid hwy neu'n byw'r bywydau y maent hwy yn eu byw, byddwn yn ymgorffori, yn anfwriadol, y rhwystrau sy'n eu hanalluogi, a fydd hefyd yn costio llawer mwy i gyrff cyhoeddus a Llywodraethau yn y pen draw wrth ei gael yn anghywir a gorfod ei gywiro, neu orfod ymdrin â'r argyfyngau y gallai pobl fod wedi eu hosgoi ond y maent yn gorfod byw gyda nhw oherwydd methiant ar y cychwyn i gael gwared ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Felly, dyna bwrpas a bwriad y gwelliannau hyn. Hyd yma, mae'n ymddangos bod cefnogaeth lawn iddynt, ac felly hoffwn gael y bleidlais, neu gadarnhad, gobeithio, nad oes angen pleidlais ar hyn mewn gwirionedd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 4 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 4 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Mark, gwelliant 5.

Mark, amendment 5.

Do you move amendment 5?

A ydych chi'n cynnig gwelliant 5?

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 5 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i dderbyn.

The question is that amendment 5 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 5 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 6 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 6 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 6 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

18:45

Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 7 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 7 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 7 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 8 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 8 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 8 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 9 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 9 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 9 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 10 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 10 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 10 is agreed in accordance with Standing Order 12.36. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 12 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 12 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 12 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 13 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 13 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 13 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Isherwood [R], gyda chefnogaeth Jane Hutt).

Amendment 11 (Mark Isherwood [R], supported by Jane Hutt) moved.

Thank you.

Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The question is that amendment 11 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 11 is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Sioned Williams).

Amendment 15 (Sioned Williams) moved.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Galwaf am bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.

The question is that amendment 15 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote. I call for a vote on amendment 15. Open the vote. Close the vote. In favour 14, no abstentions, and 32 against. Therefore, amendment 15 is not agreed.

Gwelliant 15: O blaid: 14, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 15: For: 14, Against: 32, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Yr ydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran i'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. A daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

We have reached the end of our Stage 3 consideration of the British Sign Language (Wales) Bill. I declare that all sections and Schedules to the Bill are deemed agreed. And that concludes Stage 3 proceedings.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

All sections of and Schedules to the Bill deemed agreed.

A dyna ni ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. 

And it brings our proceedings to a close for today. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:49.

The meeting ended at 18:49.