Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/01/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Blwyddyn newydd dda i chi i gyd fel Aelodau, pa un ai ydych chi'n dathlu'r calan newydd neu'r hen galan, neu'r ddau, o ran hynny. Blwyddyn newydd dda i bawb yma.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma—blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog—gan Sioned Williams.
Diolch, a blwyddyn newydd dda i chi, Lywydd, ac i chi, Brif Weinidog. Ac fe fydd e'n flwyddyn newydd dda iawn i bobl Cymru os byddan nhw'n cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiadau. [Chwerthin.] Ond, at fy nghwestiwn—[Torri ar draws.]
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod oedolion ag anableddau dysgu a phobl awtistig yn cael eu cefnogi? OQ63659
Dwi eisiau dymuno blwyddyn newydd dda i bob un, a dwi'n gwybod ein bod ni i gyd yn barod i wneud beth rŷn ni'n gallu dros bobl Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn ystod y misoedd nesaf. A dwi'n siŵr y bydd lot o hwyl ac egni i'w cael yn y Siambr yma.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwybod bod bywyd yn anodd iawn i bobl gydag anableddau dysgu, pobl awtistig, a'u teuluoedd nhw. A dyna pam rŷn ni fel Llywodraeth wedi gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i roi cymorth, i wthio pethau ymlaen i wella'u bywydau trwy ddatblygu cynllun cyflenwi a gweithredu ar gyfer anabledd dysgu, a'r rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth. Drwy hyn, rŷn ni'n helpu pobl i deimlo'n hyderus ac i gael cyfle i lwyddo ym mhob rhan o'u bywydau nhw.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra, ar ôl i'r cais caniatâd cynllunio gael ei gymeradwyo? OQ63638
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch. Blwyddyn newydd dda, Llywydd, Brif Weinidog a Senedd. Mewn blwyddyn dyngedfennol i Gymru, dwi’n edrych ymlaen at fynd â chynnig Plaid Cymru at y bobl—cynnig sy'n cynnig atebion go iawn i heriau ein cymunedau ni ac sy'n mynd i ddangos i San Steffan go iawn beth ydy Llywodraeth sydd yn sefyll dros Gymru.
3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer symud mwy o wasanaethau ysbyty yn agosach at ble mae pobl yn byw? OQ63668
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarganfod cemegion 'am byth' carsinogenaidd yn yr hen ffatri 3M yng Ngorseinon? OQ63671
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo safonau diogelwch tân? OQ63666
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau a wnaed i linell Treherbert fel rhan o fuddsoddiad Metro De Cymru? OQ63669
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i radio cymunedol? OQ63633
Yn olaf, cwestiwn 8, Russell George.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OQ63644
Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn gan Carolyn Thomas.
Y datganiad a'r cyhoeddiad busnes nawr gan y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agendâu'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 sydd nesaf, y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu eitemau 4 a 5 i gael eu trafod. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM9099 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9097 a NNDM9098 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r Rheolau Sefydlog wedi eu hatal dros dro, sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i eitemau 4 a 5.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, y cynnig yw bod y ddau eitem yma yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl ond gyda'r pleidleisiau ar wahân.
Y cynnig o dan y Rheol Sefydlog yw fod Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth. Mae yna gynnig hefyd i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Gyda hynny i gyd, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni nawr sy'n cyflwyno'r cynigion. Julie James.
Cynnig NNDM9097 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:
Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.
Cynnig NNDM9098 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii):
Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer y Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel ag y mae yn 'Amserlen ar gyfer ystyried Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)' a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynigion.
Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda hyn, a byddaf i'n pleidleisio o blaid. Ond, Cwnsler Cyffredinol, dwi yn cwestiynu sut rŷn ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma heddiw, ble'r oedd rhaid i staff y Comisiwn gwneud gwaith dros gyfnod y Nadolig. Dyw e ddim yn deg, oherwydd yn 2008, cyflwynwyd y Qualifications for Appointment of Members to the First-tier Tribunal and Upper Tribunal Order 2008. Roedd hwn yn delio gyda'r broblem yn Lloegr nôl yn 2008. Sut ŷn ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma yng Nghymru yn Ionawr 2026? Sut mae Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, 18 mlynedd ar ei hôl hi o gymharu â'r Llywodraeth Brydeinig ar y mater yma? Dwi siŵr o fod yn dilyn ymlaen o gwestiwn Adam: sut ddaeth y mater yma i sylw'r Llywodraeth? Ai apwyntiad y llywydd newydd i'r tribiwnal yma, a'r llywydd newydd wedi gweld hynny? Wel, mae'n dod i rywbeth pan mai jest un unigolyn sy'n gweld rhywbeth fel hyn. Ble mae'r gefnogaeth ehangach wedi bod er mwyn sicrhau bod hwn ddim wedi bod yn broblem am gymaint o amser?
Mae'r sefyllfa bresennol yn cael effaith andwyol iawn ar fynediad i gyfiawnder. Ydych chi'n gallu dweud wrthym ni a oes achosion wedi cael eu 'adjourn-io', wedi cael eu rhoi i ffwrdd i ddyddiad arall, oherwydd y penderfyniad yma gyda'r llywydd? A pham wnaeth hi'r penderfyniad i wneud hyn nawr, cyn i ni basio'r Ddeddf frys, i feddwl ei fod wedi bod yn mynd ymlaen am gymaint o amser? Liciwn i wybod beth yw'r brys mawr nawr i wneud hyn.
Rŷch chi wedi clywed fi'n dweud droeon mai'r ddadl gref dros ddatganoli cyfiawnder i'r lle hwn yw ein bod ni'n delio'n dda, yn barod, gyda'r hyn sy'n ddatganoledig. Rŷch chi wedi clywed fi'n dweud droeon yn y lle hwn nad ydw i'n credu bod hyn yn wir am y tribiwnlysoedd, a bod y tribiwnlysoedd yn aml yn cael eu hanghofio yn y lle yma. Dwi'n credu bod hwn yn enghraifft arall o hyn yn digwydd. Y gwir yw, am ddegawdau, mae'n ymddangos bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud gan y tribiwnlys yma, y tribiwnlys mwyaf prysur o bell ffordd pan mae'n dod i dribiwnlysoedd Cymru, lle nad oedd, weithiau, yr aelod meddygol yn gymwys i fod yn eistedd ar y panel, am benderfyniadau mor bwysig i wneud ag unigolion a'u teuluoedd a liberty yr unigolion yma.
Tra fy mod ar ddeall bod Rhan 1(3)(3) yn diogelu penderfyniadau blaenorol gan y tribiwnlys—mae’r rhan yma'n cyfeirio'n benodol at 'appointment' a 'membership'—a ydych chi’n gallu amlinellu unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i derbyn sydd yn gallu eich sicrhau chi bod yr eirfa yma'n ddigon cryf i osgoi achosion yn cael eu herio oherwydd bod aelod nad oedd yn gymwys yn eistedd ar y panel yna, a'r penderfyniadau'n cael eu gweld fel rhai anghyfreithlon?
Wrth gwrs, bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol fy mod i'n siomedig iawn nad ydyn ni'n ystyried Deddf fwy eang ar gyfer y tribiwnlysoedd ar hyn o bryd. Rŷch chi'n gwybod bod hwn yn un o lu o broblemau y mae tribiwnlysoedd Cymru yn eu hwynebu. Cawsom ni adroddiad arbennig gan Gomisiwn y Gyfraith, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn Rhagfyr 2021 ac a oedd yn gwneud argymhellion clir o'r hyn y dylid ei wneud. Ond mae amser wedi bod yn drech na'r ddeddfwriaeth yma yn y lle hwn ar gyfer tymor yma'r Senedd.
Mae e bach yn siomedig, a dwi'n deall yn iawn pam rŷch chi wedi'i wneud e, ond pan welais i'r Ddeddf frys yma, es i'n syth i mewn i wneud gwelliannau fy hunan, gwelliannau ynglŷn ag annibyniaeth aelodau'r panel, gwelliannau fyddai'n sicrhau bod aelodau'r panel â gwybodaeth o gyfraith iechyd meddwl ac â phrofiad o fewn maes iechyd meddwl. Ond, wrth gwrs, does dim modd gwneud y gwelliannau oherwydd bod sgôp y Ddeddf mor gyfyng. A dwi'n deall pam ei fod e mor gyfyng, ond gan ei fod e mor gyfyng, rŷn ni'n methu â delio â phroblemau eraill y mae'r tribiwnlys yma yn eu hwynebu. Mae'n rhaid sortio'r broblem benodol yma mas, ond mae'n drueni nad ydyn ni fel Senedd yn delio gyda phroblemau eraill sy'n wynebu'r tribiwnlys yma a thribiwnlysoedd eraill, problemau sydd wedi bod yn amlwg iawn i ni ers nifer o flynyddoedd. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl yma.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn cyntaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4, i ganiatáu cyflwyno Bil brys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 4 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig o dan eitem 5 ar amserlen y Bil brys. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r eitem yna hefyd wedi ei gadarnhau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Fe fydd Cyfnod 1 y Bil brys yna yn cael ei glywed yn nes ymlaen y prynhawn yma.
Felly, rŷn ni'n gallu symud ymlaen i eitem 7. Eitem 7 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar bwysau’r gaeaf yn y gwasanaeth iechyd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu rhoi diweddariad i'r Senedd yn y sesiwn gyntaf ar ôl gwyliau'r Nadolig ynglŷn â sut mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol wedi perfformio yn ystod cyfnod sydd wastad wedi bod yn un o adegau mwyaf heriol y flwyddyn.
Yr hyn sy'n digwydd yn gyson yr adeg hon o'r flwyddyn yw bod cyfuniad o bwysau oherwydd y tywydd, a chynnydd yn firysau cyffredin y gaeaf, sy'n gallu gwneud cyflyrau iechyd sy'n bodoli'n barod yn waeth.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mi ydym ni i gyd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r heriau penodol a sylweddol sy'n wynebu'r NHS yn ystod misoedd y gaeaf. Rwyf innau, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, am ddechrau gan dalu teyrnged i'r llengoedd yna, y lluoedd o staff ymroddedig sydd gennym ni yn yr NHS ar draws y wlad, sydd wedi bod yn gweithio mor galed yn ystod y cyfnod yma.
Ar lefel bersonol, roeddwn i yn adran frys ysbyty athrofaol Caerdydd ac yna ysbyty'r Maelor yr wythnos diwethaf wedi i fy ngwraig dorri ei garddwrn. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r staff yna am y gwaith caled ddaru iddyn nhw ei wneud i'w helpu hi yn ystod y cyfnod yna.
Mae naw Aelod arall yn dymuno siarad, felly cadwch at eich munud, os gwelwch yn dda. John Griffiths.
Ac yn olaf, Rhys ab Owen.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 8 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: cynnydd a chyflawniad economi Cymru yn y dyfodol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet—Rebecca Evans.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r penderfyniad ariannol sydd yn ymwneud â'r Bil yma yw'r eitemau o dan 9 a 10, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod yna Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, yr egwyddorion a'r penderfyniad ariannol, yn cael eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Os nag oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol nawr i wneud y cynigion. Julie James.
Cynnig NDM9094 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Cynigiwyd y cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf—Mike Hedges.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr. Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i gael cyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Dwi'n nodi bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau bod adolygiad o'r costau yn mynd i ddigwydd cyn y financial resolution ac, fel pwyllgor, byddem ni'n disgwyl clywed goblygiadau hynny cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu ystyried hynny a'r implications o hynny ac o'r costau hynny.
Ond fe wnaethon ni archwilio goblygiadau ariannol y Bil gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar 20 Tachwedd ac mae ein hadroddiad yn cynnwys pum argymhelliad. O'r pedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru, rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn tri argymhelliad yn llawn ac un mewn egwyddor.
Llywydd, rydym yn pryderu am amseriad eithriadol y Bil hwn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi egluro y gallai unrhyw oedi beryglu ei daith drwy'r Senedd. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd bodloni'r amserlen ddeddfwriaethol, gallai cyfnod craffu cywasgedig beryglu cadernid y Bil, gan gynnwys yr amcangyfrifon ariannol sy'n ei ategu, a gallai hyn arwain at heriau yn ystod y broses o'i weithredu. Credwn fod cynnal adolygiad ôl-weithredol strwythuredig yn hanfodol o ran sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu yn unol â'r bwriad ac yn darparu gwerth am arian.
Dyna pam dŷn ni yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys gofyniad statudol ar gyfer cynnal adolygiad o'r fath, a gaiff ei sbarduno gan y defnydd cyntaf o'r bleidlais adalw. Dylai'r adolygiad hwn gynnwys asesiad o'r costau a'r buddion gwirioneddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r egwyddorion o ran adolygu'r system, mae'n destun siom nad yw hi'n ystyried bod yr adolygiad statudol yn angenrheidiol. Diolch yn fawr iawn.
Rŷn ni'n prysur nesáu at foment drawsnewidiol yn hanes datganoli, a fydd yn gweld sylfeini ein democratiaeth yn dod i’w llawn oed o’r diwedd. Mae’n hollbwysig nad yw’r broses hon o ddiwygio cyfansoddiadol yn ymwneud yn unig â diweddaru strwythurau a systemau etholiadol, ond ei bod hefyd yn cael ei defnyddio i atgyfnerthu ymddiriedaeth pobl Cymru yn ein Senedd. Mae Plaid Cymru felly’n croesawu’n frwd fwriad cyffredinol y Bil hwn i gryfhau atebolrwydd gwleidyddion Cymru, rhywbeth sy’n bwysicach nag erioed ar adeg pan fo ffydd yn ein sefydliadau democrataidd yn dirywio ac ymdrechion ar droed gan rai ar y dde i danseilio eu dilysrwydd a’u gwerth.
Fodd bynnag, er bod y Bil hwn yn sicr yn gam cadarnhaol ymlaen o ran egwyddor, mae yna hefyd ymdeimlad o gyfle a gollwyd fan hyn, gan na welwn ei effeithiau tan ar ôl yr etholiad nesaf, gyda lefel sylweddol o fanylion o ran ei weithrediad eto i’w gweithio mas. Mae’n destun gofid gwirioneddol a siom, felly, fod oedi sylweddol wedi bod cyn cyflwyno’r Bil hwn, sydd yn ei dro wedi arwain at ddiffyg amser ar gyfer ymgynghori. Dyna pam rŷn ni yn annog y Llywodraeth i gyflwyno gwelliannau cadarn i adran 22 o Ran 3 o'r Bil, fel bod eu haddewid i greu trosedd o ddichell fwriadol yn cael ei anrhydeddu’n llawn ac mewn modd boddhaol. Dylai hyn gynnwys darpariaethau i fynd i’r afael â’r defnydd o dechnolegau megis deepfakes, sydd, fel y gwyddom, yn cael dylanwad cynyddol faleisus a pheryglus ar wleidyddiaeth ac ar ddisgwrs cyhoeddus.
Ac er ein bod yn gwerthfawrogi’n llawn gymhlethdod deddfu yn y maes hwn, fel rŷn ni wedi’i nodi sawl gwaith, ni allwn fforddio peidio â gweithredu o ran diogelu dyfodol ein Senedd, achos mae’r bygythiad a achosir gan ddemagogiaid y dde galed, a’r biliwnyddion sy'n eu cefnogi o'r cysgodion heb unrhyw atebolrwydd, sydd yn camarwain ac yn defnyddio camwybodaeth fel arf—i raddau brawychus yn y blynyddoedd diwethaf—bellach yn fygythiad sylweddol i'n Senedd. Ni fyddant yn petruso am eiliad cyn gwenwyno ein disgwrs gwleidyddol yn eu hymdrechion i danseilio ein democratiaeth. Felly, ni ddylem ninnau betruso wrth wrthsefyll eu celwyddau a’u dichell gyda mesurau cadarn, gan roi sicrwydd i bobl Cymru ein bod yn trin egwyddorion gwirionedd, gonestrwydd a thryloywder gyda’r difrifoldeb mwyaf yn y lle hwn.
Gan droi at agweddau eraill ar y Bil, rwy’n croesawu’r ffaith bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i ddiwygio’r trothwy ar gyfer cyhoeddi canllawiau adalw o fwyafrif o ddwy ran o dair i fwyafrif syml. O ystyried y posibilrwydd real iawn y gallai plaid y dde galed sydd â hanes o anwybyddu safonau mewn bywyd cyhoeddus fod â phresenoldeb sylweddol yn y Senedd hon ar ôl yr etholiad nesaf, mae’n hanfodol nad ydynt yn cael unrhyw gyfle i rwystro mecanwaith effeithiol y trefniadau atebolrwydd newydd.
Ond gallai’r Bil fynd ymhellach yn hynny o beth. Er enghraifft, dylid tynhau’r rheolau ar gymhwystra person sydd wedi colli ei sedd o ganlyniad i bleidlais adalw i ddod yn Aelod o’r Senedd eto drwy gynnwys cyfnod anghymhwyso rhesymol. Byddai hyn yn sicrhau bod canlyniadau colli pleidlais adalw o’r fath yn cario pwysau gwirioneddol ac yn atal y revolving door yna yn ein system wleidyddol ar gyfer unigolion sydd wedi methu â chyrraedd y safonau y dylid eu disgwyl gan Aelod etholedig.
Rydym hefyd yn credu, os caiff canllawiau adalw eu cyhoeddi, y dylent gynnwys enghreifftiau penodol o ymddygiad a fyddai’n arwain at argymell y fath bleidlais, er enghraifft aflonyddu a thrais ar sail rhywedd, gan gydnabod yr heriau penodol y mae rhai grwpiau penodol o bobl, fel menywod, er enghraifft, yn eu hwynebu mewn gwleidyddiaeth.
Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith fod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn yn amodol argymhelliad y pwyllgor y dylai’r comisiynydd safonau fod yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg, a byddwn yn croesawu diweddariad ynghylch y trafodaethau hynny rŷch chi wedi'u crybwyll sy'n cael eu cynnal gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar y cyfle cyntaf.
Atebolrwydd a gwirionedd yw conglfeini unrhyw ddemocratiaeth iach, ac, fel rŷm ni wedi gweld ar draws rhai o ddemocratiaethau'r byd yn ddiweddar, ni allwn gymryd yn ganiataol y byddant yn para heb wyliadwriaeth a chefnogaeth barhaus. Mae’r Bil hwn felly’n rhoi cyfle hollbwysig inni ddiogelu, atgyfnerthu a chryfhau ein pensaernïaeth ddemocrataidd am flynyddoedd i ddod—cyfle y mae’n rhaid inni ei afael ynddo'n llawn, achos mae'r unfed awr ar ddeg eisoes yn taro. Diolch.
Hannah Blythyn, Cadeirydd y pwyllgor safonau.
Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor arbennig am ei waith.
Y Cwnsler Cyffredinol nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac fel rŷm ni'n gwybod, cafodd y cynnig o dan eitem 10 ar y cynnig ariannol ddim ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol, felly fydd yna ddim pleidlais, yn amlwg, ar hynny. Felly, gwnawn ni symud nawr at eitem 11.
Eitem 11 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11 a 12 gyda'i gilydd. Felly, os nad oes yna Aelod sydd yn gwrthwynebu hynny, bydd y ddau gynnig yn cael eu trafod gyda'u gilydd ond yn cael eu pleidleisio arnynt ar wahân. Does neb yn gwrthwynebu hynny.
Felly, egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a'r penderfyniad ariannol sydd yn mynd gyda'r Bil hynny yw'r ddwy eitem yma, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sy'n cyflwyno'r cynigion yma.
Cynnig NDM9092 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru).
Cynnig NDM9093 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.