Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/12/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.

Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu argymhellion adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ym mis Tachwedd 2020? OQ63550

13:35
Oedi o ran Rhyddhau o Ysbytai

2. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag oedi o ran rhyddhau o ysbytai? OQ63539

Mae'r strategaeth yn dadflocio'r system er mwyn i bobl allu gadael yr ysbyty yn saff ac ar amser. Rydyn ni wedi gosod targedau cenedlaethol uchelgeisiol, ac rydyn ni'n eu cefnogi nhw gyda newid gwirioneddol: gwasanaeth sy'n gweithio dros saith niwrnod, a model 'rhyddhau i adfer, ac yna asesu' ar draws Cymru, fel bod pobl yn gallu mynd adref neu i ofal cymunedol yn gynt. Rydyn ni’n gweld yr effaith yn barod. Mae oedi i lawr 17 y cant, amseroedd aros am asesiad i lawr 22 y cant, a chyfanswm y dyddiau o oedi i lawr 12 y cant. 

Diolch am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth yma'n sôn drwy'r amser am ddarparu gwasanaethau'n agosach i gartref—'shift left' ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio. Tra bo y rhethreg yn dda, mae arnaf ofn dweud nad ydy o reidrwydd darparu'r gwasanaeth yna yn byw i fyny i'r ideoleg. Mae gyda ni ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn. Mi fyddwch chi, Brif Weinidog, yn ymwybodol ohoni. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i chi am eich ymweliad chi â'r ward pan oeddech chi'n Weinidog iechyd. Mae'r ward honno wedi cau ers bron i dair blynedd. Roedd fod i gau dros dro. Mae'r broblem o ran cael y niferoedd nyrsio yn dal heb ei datrys. Mae yna 16 o welyau yn yr ysbyty sydd yn eistedd yn wag ar hyn o bryd, sy'n cynnig eu hunain yn berffaith ar gyfer gwasanaeth cymunedol, er mwyn rhyddhau pobl o Fronglais i ddod yn ôl i'r gymuned. Mae'n rhaid i ni, felly, weld y ward yma yn ailagor, a hynny ar fyrder, er lles iechyd pobl Bro Dysynni. Os ydych chi, felly, yn credu yn yr hyn rydych chi wedi ei ddweud fel Llywodraeth, a ryddhawyd nôl ym mis Tachwedd, sef y syniad yma o integreiddio cymunedol, yna mi fyddwch chi wedyn yn cytuno bod angen ailagor ward Dyfi. A wnewch chi, felly, ddatgan eich cefnogaeth i ailagor y ward ac ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ddatgan hynny yn gyhoeddus, os gwelwch yn dda?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi bod y rhan fwyaf o bobl eisiau cael gofal yn eu cartrefi eu hunain, nid hyd yn oed mewn ysbyty cymunedol. Dyna yw'r lle gorau. Dyna pam dwi'n hapus iawn ein bod ni mewn sefyllfa lle rydyn ni wedi cynyddu faint o arian sy'n mynd mewn i bethau fel reablement. Rydyn ni'n gwneud lot mwy o ran gweithredu'r model yna o 'ryddhau i wella, ac wedyn asesu' drwy Gymru, achos dyna sydd yn dadflocio'r problemau yn ein hysbytai ni. Wrth gwrs, beth rydyn ni wedi ei wneud yw rhoi £30 miliwn o grant trawsnewid llwybrau gofal i awdurdodau lleol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi bod hynny wedi dod i mewn yn y gyllideb ddiwethaf yma yng Nghymru. Dyma'r cyllid roeddech chi wedi ceisio'i flocio. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn deall bod pwynt i ni wneud hyn, a bod yr arian ychwanegol yna ar gyfer reablement a helpu pobl yn eu cymunedau wedi dod o ganlyniad i'r Blaid Lafur, gyda help o'r Liberal Democrats.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

13:45
13:50
13:55
14:00
Cymwysterau mewn Ieithoedd Rhyngwladol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gostyngiad yn nifer y dysgwyr yng Nghymru sy'n ennill cymwysterau mewn ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion a cholegau? OQ63544

Er bod heriau gyda lefel A, mae nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rŷn ni wedi buddsoddi £1.6 miliwn yn ychwanegol mewn ieithoedd rhyngwladol, ac wedi ymestyn ein rhaglen Global Futures, sy'n parhau i helpu ysgolion i addysgu ieithoedd.

Wel, diolch am hynny, Brif Weinidog. Byddwch chi'n gwybod, er gwaethaf y buddsoddiad a'r strategaeth honno, mae yna'n dal heriau sylweddol, gyda dwy ym mhob pum ysgol uwchradd yng Nghymru yn adrodd nad ydyn nhw'n cynnig unrhyw ddarpariaeth ôl-16 o gwbl. Felly, o ran y ffigurau, rydych chi'n sôn ynglŷn â'r cynnydd, ond beth am fod yn glir? Yn 2024, dim ond 224 person gymerodd lefel A mewn Ffrangeg, sef gostyngiad o dros 50 y cant o'i gymharu â 2015, ac o ran Almaeneg, dim ond 55 gymerodd lefel A yn y pwnc llynedd. Mae yna'n wirioneddol bryder bod Almaeneg yn mynd i ddiflannu'n llwyr o'n hysgolion ni. Mae'n batrwm tebyg gydag ieithoedd eraill rhyngwladol hefyd. Felly, mae'n glir bod yna broblem sylfaenol fel hyn, a bod yna ddim cyfle i bob disgybl yng Nghymru gael mynediad, ac, yn anffodus, yn nifer o'n hardaloedd difreintiedig ni mae'r diffyg darpariaeth hwn. Felly, gaf i ofyn, felly, ydych chi'n rhannu fy mhryderon o ran y gostyngiad rydyn ni'n ei weld mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i ailedrych ar y sefyllfa a'r cynlluniau er mwyn gwyrdroi'r sefyllfa a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddod yn rhugl mewn iaith ryngwladol?

Wel, mae 80 y cant o ysgolion cynradd Cymru bellach yn dysgu iaith ryngwladol. Mae hwnna ddwywaith y ffigur a oedd yn gwneud hynny yn 2022. Felly, yn sicr, yn ein hysgolion cynradd ni, mae pethau yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Os ydych chi'n edrych ar TGAU Ffrangeg, mae hwnna wedi cynyddu 6.7 y cant, a Sbaeneg wedi mynd lan 17 y cant. Felly, rŷch chi'n dweud bod yna broblem gydag Almaeneg, a dwi'n meddwl ein bod ni'n ymwybodol o hynny, ac un o'r pethau mae Llywodraeth Cymru'n ceisio gwneud yw sicrhau bod yna allu i bobl lle efallai dyw'r pwnc ddim yn cael ei gynnig i weithio gydag ysgolion eraill, drwy ariannu pethau fel e-sgol, ac mae hwnna'n golygu bod ysgolion yn gallu cydweithredu i gynnig mwy o ieithoedd.

Gracias. Es muy importante que más de los niños aprendan lenguas internacionales.

14:05
Mentrau Cymdeithasol yn Sir Ddinbych

4. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych? OQ63535

14:10
Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2025? OQ63545

14:15
Cyllideb y DU

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb hydref y DU yn ei chael ar Gymru? OQ63507

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ63537

14:20
Tlodi yn Nwyrain De Cymru

Rŷn ni wedi darparu mwy na £7 biliwn i gefnogi cartrefi ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys miloedd yn Nwyrain De Cymru, drwy gymorth ariannol uniongyrchol, helpu pobl i gael yr holl incwm mae gyda nhw hawl iddo, a chadw costau pob dydd i lawr. Mae'r cymorth hwnnw wedi bod yn bwysig: y gronfa gynghori sengl yn sicrhau miliynau o incwm ychwanegol, prydau ysgol am ddim yn lleihau’r pwysau ar gyllidebau cartrefi, a’r gronfa cymorth dewisol yn helpu pobl sydd mewn argyfwng gwirioneddol.

Deallusrwydd Artiffisial a Busnesau

9. Sut y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleoedd AI o fudd i fusnesau bach a chanolig yng ngogledd Cymru? OQ63514

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog.

I very much recognise the recent major announcements, particularly on the AI investment zone in north Wales, and the successful investment summit this week. I've talked before in this place about striking the right balance when it comes to our approach to AI—that it's ethical, but opens up opportunities as well. We often see the focus on those multimillion-dollar big players, the so-called tech bros, but I think SMEs at the heart of our economy and communities mustn't be forgotten.

I raise this today because I was contacted by Black Mountain Honey, a fast-growing small business in my constituency that produces queen bees and nucleus colonies. It's supported by a YouTube channel and an active online presence. They told me that they leant on AI to automate their processes and to scale output. It's enabled them to build the business. They were keen to point out that it hadn't meant that they'd replaced anything, but it had given them opportunities they wouldn't have had otherwise. It's enabled them to put back more into the economy in the tax they've paid as a consequence as well.

First Minister, can you expand more on the advice and support that is there for small and medium-sized enterprises to help smaller businesses embrace these opportunities, but in a way that is responsible and meaningful, to ensure that when it comes to AI, our people and places will be brought with us and not left behind?

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Y datganiad busnes gan Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:26:59
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ganslo'r ddadl fer yfory. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, unwaith eto. Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, Paul Davies.

14:30

Trefnydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi yn y Pwyllgor Busnes yr wythnos yma a'r wythnos diwethaf y ffaith fod y datganiad a wnaed ynglŷn â'r ffaith ei bod hi'n ddeng mlynedd ers newid y gyfraith rhoi organau wedi bod yn ddatganiad ysgrifenedig yn hytrach nag yn un llafar, fel yr oedd o i fod. Fel dŷn ni wedi ei weld, mae'r lefelau wedi bod yn gostwng, a dŷn ni'n gweld bod rhestrau aros yn parhau i dyfu, sy'n mynd i'r gwrthwyneb i beth oedd bwriad hyn, wrth gwrs. Byddwch chi'n ymwybodol bod Dr Dai Lloyd a ninnau ym Mhlaid Cymru'n gefnogol iawn o hyn. Mae o'n dangos, onid ydy, hefyd, mae'r diffyg cynnydd dŷn ni wedi gobeithio ei weld oherwydd diffyg hyrwyddo ac ati—bod yna bethau y gallem ni fod yn eu gwneud. Felly, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod y Senedd yn cael cyfle i graffu a holi'r Ysgrifennydd Cabinet am y pwnc pwysig hwn. Felly, fe fyddwn i yn gofyn a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried rhoi'r cyfle i ni gael craffu yn y modd hwnnw, ar bwnc sydd mor, mor bwysig, ac sy'n effeithio ar bobl ledled Cymru.

14:35
14:40
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. 

Member (w)
Jane Hutt 14:43:58
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
14:50
14:55
15:05
15:10
15:15
15:20
15:25
15:30

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 4, 5 a 6, y rheoliadau cymorth amaethyddiaeth 2025, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed unrhyw wrthwynebiad.

15:35
4. 5. & 6. Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025, Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025, a Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9065 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.

Cynnig NDM9063 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.

Cynnig NDM9064 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.

Cynigiwyd y cynigion.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:35:22
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno i chi heddiw gamau nesaf uchelgais y Llywodraeth hon i gefnogi ein sector amaethyddol ffyniannus a gwydn.

15:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sydd nesaf. Mike Hedges.

15:45
15:50
15:55
Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:55:52
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dwi yn bersonol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb—y ffermwyr, undebau ffermwyr a chyrff amgylcheddol—sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau ac am eu hadborth. Bydd y trafod hwn yn parhau ar draws y gweithgorau a bord gron y Gweinidogion. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn ni'r bleidlais ar eitem 4.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Fe ohiriwn hynna hefyd o dan eitem 5 tan y cyfnod pleidleisio.

16:05

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn olaf, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni adael y cwbl lot tan y cyfnod pleidleisio i bleidleisio arnyn nhw. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Mae'r cynigion nesaf o dan eitemau 7, 8 a 9. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan 7, 8 a 9 yn cael eu trafod ar y cyd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. 

7. 8. & 9. Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025, a Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025

Os nad oes neb yn gwrthwynebu hynny, fe alwaf eto ar Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd i gyflwyno'r cynigion yma—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9060 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2025.

Cynnig NDM9061 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2025.

Cynnig NDM9062 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynigion.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:05:52
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i siarad heddiw am y rheoliadau pwysig hyn. Mae dyfodol tecach a ffyniannus i Gymru yn dibynnu ar y camau yr ydym yn eu cymryd heddiw.

Gyda'n gilydd, Llywydd, gallwn adeiladu Cymru decach, gryfach a gwyrddach. Diolch am wrando, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth heddiw.

16:10

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sydd nawr—Mike Hedges.

16:15
Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:18:13
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gen i.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Ar eitem 8, a oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriwn ni eitem 8 tan y cyfnod pleidleisio. Ac eto, o dan eitem 9, a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohirio popeth tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

A chredwch neu beidio, rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r pleidleisiau cyntaf heddiw—. Y bleidlais gyntaf ar eitem 4, y Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r rheoliadau o dan eitem 4 wedi eu cymeradwyo. 

Eitem 4. Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 5 fydd y bleidlais nesaf, ar Reoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 5 wedi eu cymeradwyo.

Eitem 5. Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Rheoliadau eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw'r rhain. Pleidlais felly ar y cynnig o dan eitem 6 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12. Na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 22, yn ymatal 12, yn erbyn 12. Ac felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 6 wedi eu cytuno hefyd. 

Eitem 6. Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 7 fydd nesaf, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, 1 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 7 wedi'u cytuno.

16:25

Eitem 7. Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025.: O blaid: 33, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Y rheoliadau o dan eitem 8 yw'r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna dan eitem 8 wedi'i gymeradwyo.

Eitem 8. Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025.: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 yw'r bleidlais olaf ar y Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 9 wedi cael ei dderbyn.

Eitem 9. Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025.: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Byddwn ni'n cymryd toriad byr o ddim mwy na 10 munud, ac fe ganwn ni'r gloch funud cyn inni ailgychwyn ar gyfer y drafodaeth ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:26.

16:35

Ailymgynullodd y Senedd am 16:38, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

11. Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
Grŵp 1: Amcanion (Gwelliannau 18, 7, 19, 28, 8, 9)

Fe wnawn ni gychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Grŵp 1 o welliannau fydd gyda ni gyntaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud ag amcanion y Mesur. Gwelliant 18 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i gynnig y prif welliant. 

Cynigiwyd gwelliant 18 (Sam Rowlands).

16:40
16:45
16:50
16:55
17:00
17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 10 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.

Gwelliant 18: O blaid: 13, Yn erbyn: 23, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Ken Skates).

Ydy, wedi cael ei symud. Os gwrthodir gwelliant 7, bydd gwelliannau 8 a 9 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na. Gwelliant 7, felly, wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Sam Rowlands).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 19 wedi'i wrthod.

Gwelliant 19: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Lee Waters).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? Unrhyw wrthwynebiad? Na. Mae gwelliant 28 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Ken Skates).

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 8? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Dyletswyddau craidd Gweinidogion Cymru (Gwelliannau 20, 23, 25, 26, 27)

Grŵp 2. Y grŵp yma yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â dyletswyddau craidd Gweinidogion Cymru. Gwelliant 20 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a Sam Rowlands sy'n cynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Sam Rowlands).

17:10
17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 20 wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (Gwelliannau 29, 30, 10)

Grŵp 3 o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â chynllun rhwydwaith bysiau Cymru. Gwelliant 29 yw'r prif welliant y tro yma, a Peredur Owen Griffiths sy'n cynnig y prif welliant.  

Cynigiwyd gwelliant 29 (Peredur Owen Griffiths).

17:20
17:25

Ocê. Gwelliant 29, felly, yn cael ei dynnu'n ôl, os nad oes gwrthwynebiad i hynny gan unrhyw Aelod. Wedi'i dynnu'n ôl, felly.

Tynnwyd gwelliant 29 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Ni chynigiwyd gwelliant 30 (Peredur Owen Griffiths). 

Cynigiwyd gwelliant 10 (Ken Skates).

Ydy, gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 10 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Contractau a thrwyddedau gwasanaeth bysiau lleol (Gwelliannau 21, 31, 32, 1, 2, 3, 33, 22, 34, 4, 5, 6, 35)

Grŵp 4 yw'r grŵp gwelliannau nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â chontractau a thrwyddedau gwasanaethau bysiau lleol. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp. Sam Rowlands sy'n cynnig gwelliant 21.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Sam Rowlands).

17:30
17:35
17:40
17:50
17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 21—[Torri ar draws.] 

Tynnwyd gwelliant 21 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Ydy gwelliant 31 yn cael ei symud? Nac ydy, dyw gwelliant 31 ddim yn cael ei symud.

Ni chynigiwyd gwelliant 31 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).

Cynigiwyd gwelliant 32 (Peredur Owen Griffiths).

Ydy, gwelliant 32. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 11 wedi cael ei wrthod—[Torri ar draws.] Beth ddywedais i? 'Concentrate-wch', Elin. Mae gwelliant 32 wedi cael ei wrthod.

Gwelliant 32: O blaid: 11, Yn erbyn: 23, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 1? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Mae 23 o blaid a 23 yn erbyn. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant yn cwympo, a'r canlyniad yw bod 23 o blaid, neb yn ymatal, 24 yn erbyn.

Gwelliant 1: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Mae 23 o blaid a 23 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2. Felly, mae gwelliant 2 yn cwympo, a'r canlyniad yw 23 o blaid a 24 yn erbyn.

Gwelliant 2: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal unwaith eto—23 o blaid a 23 yn erbyn. Rydw i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw. Felly, canlyniad y bleidlais ar welliant 3 yw bod 23 o blaid a 24 yn erbyn. Mae'r gwelliant, felly, yn cwympo.

18:00

Gwelliant 3: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).

Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 31. Pleidlais, felly, ar welliant 31. [Torri ar draws.] Gwelliant 3. [Torri ar draws.] Na, gwelliant 33. Gwelliant 33—rydym ni'n mynd i gymryd pleidlais ar welliant 33. 

Gwelliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi'i wrthod.

Gwelliant 33: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Sam Rowlands).

A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 22. Cawn bleidlais, felly. Agor y bleidlais ar welliant 22. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 22 wedi'i wrthod.  

Gwelliant 22: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 34 (Peredur Owen Griffiths).

Ydy. A ydy e'n cael ei wrthod? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad ar y gwelliant yma. Felly, cawn bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.  

Gwelliant 34: O blaid: 11, Yn erbyn: 23, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 yw bod 23 o blaid, neb yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 4: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 5, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw. Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 yw bod 23 o blaid a 24 yn erbyn. Mae'r gwelliant yn cwympo, felly. 

Gwelliant 5: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 6. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae gwelliant 6 yn cwympo—23 o blaid a 24 yn erbyn.

Gwelliant 6: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywyddd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 35 (Peredur Owen Griffiths).

Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthod? [Gwrthwynebiad.] Ydy. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 35 wedi'i wrthod.

Gwelliant 35: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 23 (Sam Rowlands). 

Grŵp 5: Siarter a fforwm teithwyr (Gwelliannau 24, 39)

Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â siarter a fforwm teithwyr. Gwelliant 24 yw'r prif welliant. Sam Rowlands sy'n cynnig y gwelliant hwnnw.

18:05

Cynigiwyd gwelliant 24 (Sam Rowlands).

18:10
18:15

Tynnwyd gwelliant 24 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Sam Rowlands).

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais felly ar welliant 25. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 25 wedi ei wrthod.

Gwelliant 25: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Gwybodaeth a data (Gwelliannau 36, 37, 38)

Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â gwybodaeth a data. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Peredur Owen Griffiths sy'n cynnig y prif welliant. 

Cynigiwyd gwelliant 36 (Peredur Owen Griffiths).

18:20

Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 36 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Peredur Owen Griffiths).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Peredur Owen Griffiths).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Sam Rowlands).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 26 wedi ei wrthod.

Gwelliant 26: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 39. Yn cael ei symud gan Peredur Owen Griffiths? Na, dyw e ddim yn cael ei symud.

Ni chynigiwyd gwelliant 39 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).

Grŵp 7: Amrywiol a chyffredinol (Gwelliannau 11, 12, 13, 14, 16, 17, 15)

—grŵp 7. Mae'r grŵp yma o welliannau, yr un olaf, yn ymwneud â gwelliannau amrywiol a chyffredinol. Gwelliant 11 yw'r prif welliant. Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu. Ken Skates.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Ken Skates).

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na. Felly, gwelliant 11 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:30

Cynigiwyd gwelliant 14 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Sam Rowlands).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad.

Felly mae e'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Ken Skates).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Felly fe wnaf i ddweud bod yr ystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi cael ei chwblhau, a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.