Y Cyfarfod Llawn
Plenary
12/11/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.
1. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau yn ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned ac yn adlewyrchu barn y gymuned wrth wneud penderfyniadau? OQ63365
Diolch, James. Mae dyletswyddau gan gynghorau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i annog cyfranogiad mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi strategaethau cyfranogiad, sy'n gorfod cynnwys sut y mae'r cyngor yn hyrwyddo ac yn cefnogi ffyrdd i bobl leol wneud sylwadau am benderfyniadau, er mwyn sicrhau bod barn y gymuned yn cael ei hystyried yn llawn.
Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n drueni nad oedd y Democratiaid Rhyddfrydol, sy'n rheoli Cyngor Sir Powys, yn gallu gwrando ar eich ateb, gan eu bod wedi mynd yn groes i farn y gymuned ar sawl achlysur—boed hynny mewn perthynas â chau ysgolion bach, gwerthu ffermydd sirol, neu gau canolfannau dydd a chanolfannau hamdden. Nid dyna yw gwrando ar farn y gymuned, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n dangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol unwaith eto yn addo un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi, pan fydd pobl yn gwneud addewidion ar faniffestos etholiadol, y dylent lynu wrthynt a gwrando ar farn y gymuned pan fyddant yn cynnig syniadau ar gyfer eu hardaloedd?
Diolch, James. Rwy'n clywed llawer o heclo am hynny gan bobl o'u seddi. Credaf fod cyfranogiad y cyhoedd yng ngwaith yr awdurdodau lleol yn bwysig iawn. Mae'r bobl a gynrychiolwn yn ymddiried ynom, yn union fel y maent yn ymddiried yn yr awdurdodau lleol. Mae ganddynt benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Ond wrth ddatblygu eu cynlluniau, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol ystyried y penderfyniadau a hygyrchedd i'w cymunedau yn ofalus, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y bobl maent am eu gwasanaethu.
Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn yna, dwi'n gobeithio ein bod ni i gyd yn credu mai gwir brawf democratiaeth yw bod y rhai mewn grym yn parchu ewyllys ddemocrataidd ein cymunedau ni. Yn debyg iawn i James Evans, dwi wedi gweld amryw o esiamplau ddim ond yn Rhondda Cynon Taf, o fewn fy rhanbarth i, o ymgynghoriadau cynhwysfawr, lle cafwyd lefelau uchel o ymatebion cyhoeddus, gyda negeseuon clir iawn yn cael eu hanwybyddu'n llwyr. Er enghraifft: Ysgol Gynradd Rhigos yn Hirwaun—94 y cant o bobl eisiau gweld yr ysgol yna'n parhau i fod ar agor—yn cael ei chau; 79 y cant o 2,800 o ymatebwyr ledled y sir yn gwrthwynebu lleihau gwasanaethau bysiau ysgol—eto, hynny'n mynd rhagddo; 89 y cant o 650 o ymatebwyr yn gwrthwynebu cau cartref gofal Cae Glas yn cael eu hanwybyddu. Felly, pa neges y mae'r Gweinidog yn credu y mae hyn yn ei rhoi i'n cymunedau lleol a natur ein democratiaeth os ydy eu lleisiau nhw'n cael eu hanwybyddu'n llwyr gan y rheini mewn grym, a sut ydym ni'n sicrhau bod ymgynghori yn golygu gwrando, nid dim ond gofyn cwestiynau?
Diolch, Heledd. Mae a wnelo cyfranogiad y cyhoedd â chynghorau, cymunedau a phartneriaid yn cydweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion pawb yn eu cymunedau. Felly, o dan Ddeddf 2021, disgwylir i'r prif gynghorau ymgysylltu â chymunedau ynghylch cynnwys eu strategaethau cyfranogiad y cyhoedd. Mae hyn yn wirioneddol bwysig wrth sicrhau cyfranogiad ym mhrosesau democrataidd cynghorau, cynnal y cyfranogiad hwnnw, yr ymddiriedaeth, fel y soniais, a'r diddordeb mewn democratiaeth yn y blynyddoedd rhwng etholiadau. Yn ogystal, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ymgynghori ar eu cynigion cyllidebol gyda thrigolion a busnesau. Felly, mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn ymgynghori â'r bobl y maent wedi'u hethol i'w cynrychioli, ac fel y dywedais, eu bod yn gweithio gyda'u holl gymunedau hefyd i sicrhau bod y penderfyniadau a wnânt yn adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl y mae angen tai arnynt yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63374
Diolch, Joyce. Rydym yn canolbwyntio ein darpariaeth ar dai cymdeithasol, lle mae gennym y mwyaf o reolaeth a'r ysgogiadau cyllido cryfaf, gan ddarparu'r lefelau uchaf erioed gyda dros £2 biliwn yn nhymor y Senedd hon, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Ers dechrau tymor y Senedd hon, mae rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi derbyn dros £214 miliwn o grant tai cymdeithasol yn unig, gyda dros 1,500 o unedau tai eisoes wedi'u darparu.
Rwy'n croesawu'r newyddion hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad o gyllid ychwanegol y mis diwethaf ar gyfer y rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Mae hyn yn adeiladu ar y cyllid blaenorol, a bydd yn codi cyllideb y rhaglen ar gyfer eleni'n unig i £155 miliwn, a bydd yn hanfodol ar gyfer darparu tai o ansawdd y mae eu hangen yn daer ar bobl ledled Cymru. Hefyd, hoffwn groesawu'r £68.5 miliwn a ddyrannwyd i gronfa tai â gofal Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, ac mae £600,000 o'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu'n ddiweddar i'w gwneud hi'n bosib cwblhau cynllun tai arbenigol yn Llanelli, ac mae hynny'n amlwg yn mynd i helpu oedolion ag anghenion dysgu i fyw'n annibynnol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu tai o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru?
Diolch, Joyce, a gwnaf, yn sicr. Gyda chyllid y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, rydym wedi darparu £64 miliwn i ranbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn ystod tymor y Senedd hon, i ddarparu 682 o gartrefi, gan gynnwys 178 eiddo gwag y gellir eu defnyddio unwaith eto. Felly, mae hynny'n fuddsoddiad da iawn yno, i ddarparu'r cartrefi hynny i bobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Roeddwn yn ffodus iawn o allu ymweld â’r cynllun yn Llanelli, a gwelais drosof fy hun sut y cyflawnodd Cyngor Sir Caerfyrddin ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gefnogi datblygiadau tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal. Cyn bo hir, bydd yn croesawu pump o breswylwyr newydd, a fydd yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnynt yn eu cymuned. Mae’n gyfleuster gwych, ac yn gyffrous iawn i’r rhai a fydd yn symud yno i'w cartref newydd. Felly, mae a wnelo â buddsoddi mewn pobl, a sicrhau ein bod yn cefnogi pobl yn y llety cywir, yn y lle cywir hefyd. Gwn fod y cynllun yn ymateb, yn amlwg, i'r dystiolaeth a'r angen cynyddol am gyfleusterau byw â chymorth yn sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig unigolion ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl. Felly, rwy'n gobeithio y byddant yn ymgartrefu'n dda yn y cynllun newydd hwnnw.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Joel James.
Diolch, Lywydd. Ym mis Hydref y llynedd, canfu adroddiad ar ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i danau domestig fod llawer o weithdrefnau gweithredol wedi dyddio, yn gwrth-ddweud ei gilydd ac yn wyddonol ddiffygiol, gyda rhai gweithdrefnau'n dyddio'n ôl bron 30 mlynedd, a bod hyn wedi peryglu diffoddwyr tân yn ddiangen. Cododd bryderon difrifol hefyd nad oedd digwyddiadau diogelwch yn cael eu nodi na'u hadrodd o ganlyniad. Ysgrifennydd y Cabinet, flwyddyn yn ddiweddarach, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod safonau cenedlaethol yn seiliedig ar dystiolaeth yn cymryd lle'r tactegau hyn sydd wedi dyddio ar draws holl wasanaethau tân ac achub Cymru? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn pwysig, Joel. Rwy'n disgwyl i bob Awdurdod Tân ac Achub gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod diffoddwyr tân yn ddiogel ac i sicrhau eu bod yn cyflawni eu holl rwymedigaethau fel cyflogwr yn hyn o beth. Rwyf wedi dweud yn gyson wrth bob rhanddeiliad fod diogelwch tân, a diogelwch y cyhoedd, yn hollbwysig. Yn hynny o beth, rwy'n disgwyl i holl argymhellion y prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub gael eu rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod arferion gwaith diffoddwyr tân yn ddiogel ac yn gynhyrchiol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn adolygiad Morris, cafodd Llywodraeth Cymru wared ar aelodau etholedig o Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a phenodi pedwar comisiynydd. Y comisiynwyr hyn sydd bellach â'r cyfrifoldeb llywodraethu llawn, heb unrhyw ddyddiad terfyn wedi'i gyhoeddi i'w cyfnod yn y swydd. Fel y gwyddoch, eu rôl yw hybu diwygio diwylliant ac arweinyddiaeth y gwasanaeth, ailstrwythuro'r gwasanaeth, a sicrhau bod gwasanaeth tân ac achub de Cymru’n cyflawni ei swyddogaethau statudol, ac ni ellir caniatáu amserlen benagored ar gyfer hyn. Felly, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i fesur cynnydd y comisiynwyr ar gyflawni'r amcanion hyn mewn modd amserol, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod atebolrwydd democrataidd a thryloywder yn cael eu hadfer i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru cyn gynted â phosib? Diolch.
Diolch, Joel. A hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i gomisiynwyr tân de Cymru am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Derbyniais mewn egwyddor holl argymhellion Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, ynghyd ag argymhellion Archwilio Cymru ar y mater hwnnw. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar y newidiadau i lywodraethiant y gallaf eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n nodi opsiynau ar gyfer newid aelodaeth awdurdodau tân ac achub, gosod cyllidebau a phroses arolygu well ar gyfer Cymru. Fe fyddwch yn gwybod bod yr ymgynghoriad hwnnw wedi dod i ben yn ddiweddar, ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi'n ofalus.
Bydd y gwaith o ddiwygio llywodraethiant y gwasanaeth tân ac achub yn cael ei ategu gan fframwaith cenedlaethol newydd, a fydd yn cryfhau trefniadau monitro perfformiad ac adrodd gan y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Ac mae rhaglen newydd i hyfforddi a datblygu aelodau awdurdod tân ac achub eisoes yn cael ei datblygu, a bydd yn cynnwys eglurhad o rolau a chyfrifoldebau, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â'r rôl, proses asesu perfformiad aelodau, yn ogystal â phecyn cynhwysfawr o hyfforddiant a datblygiad parhaus. Felly, mae llawer o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ac mae gennym hefyd gyfarfodydd rheolaidd ein fforwm partneriaeth gymdeithasol—cawsom un yr wythnos diwethaf—sy'n dod â phawb sydd â buddiant yn y maes hwn ynghyd, boed yn awdurdodau tân ac achub, cadeiryddion, penaethiaid neu undebau llafur. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'n gilydd ar yr holl faterion hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr adroddiad arolygu, 'Arolygiad o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: Effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a phobl', a gomisiynwyd y llynedd, canfuwyd nad oedd cyllideb y gwasanaeth o bron i £100 miliwn wedi'i halinio â'i gynlluniau strategol neu adrannol lle maent yn bodoli, megis y rheini ar gyfer gwasanaethau TG neu'r fflyd, sy'n golygu bod y gwasanaeth yn dyrannu adnoddau ar sail yr hyn sydd ganddo yn hytrach na'r hyn sydd ei angen arno. Roedd digon o adnoddau gan rai meysydd, fel staffio gweithredol amser llawn, ond nid oedd gan feysydd eraill, fel cyllid a hyfforddiant, ddigon o adnoddau o bell ffordd. Mae goblygiadau uniongyrchol i hyn nid yn unig o ran gwariant cyhoeddus effeithlon ond o ran diogelwch tân cyfartal hefyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod y comisiynwyr yn alinio dyraniadau cyllid yn y dyfodol i adlewyrchu cynlluniau strategol, a bod cyllid priodol yn cael ei ddarparu i sicrhau bod amcanion y comisiynwyr yn gyraeddadwy? Diolch.
Diolch yn fawr, Joel. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno gydag awdurdodau tân, ac mae gennym ein fforwm partneriaeth gymdeithasol ein hunain lle rydym yn gweithio drwy faterion gyda'n gilydd. Felly, rydym yn parhau â'r ddeialog honno'n gyson. A hoffwn weld y bartneriaeth gymdeithasol honno'n gweithio'n dda mewn mannau heblaw'r fforwm partneriaeth gymdeithasol yn unig; rhaid iddi weithio y tu hwnt i'r cyfarfodydd hynny, fel rwyf wedi'i ddweud yn glir iawn hefyd. Felly, rydym yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi. Yn amlwg, maent yn dadlau'r achos mewn perthynas â gosod y gyllideb, ac yn amlwg, gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet dros gyllid yn eistedd yma hefyd, mae yntau'n clywed yr hyn a ddywedwch, ond rydym yn dadlau'r achosion hynny hefyd. Felly, mewn partneriaeth â phob un o'r awdurdodau tân yng Nghymru, rydym yn trafod unrhyw faterion penodol neu faterion cyllidebol y maent eisiau eu gweld.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Yn y gwanwyn, fe ddaru i Rachel Reeves, Canghellor y Trysorlys, addo y bydd aelwydydd £500 yn well eu byd yn sgil cynlluniau'r Llywodraeth bresennol. Un ffordd glir o sichrau hynny i lawer o bobl sy'n rhentu eu cartrefi fyddai dadrewi y lwfans tai lleol yn y gyllideb nesaf. Mae rhenti wedi cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, cynnydd ar gyfartaledd o 9 y cant, efo'r rhenti wedi cynyddu bron 20 y cant yng Nghasnewydd, eich etholaeth chi, fel mae'n digwydd bod. Ac eto, arhosodd lefel yr help sydd ar gael i rentwyr sydd ar incwm isel yn ei unfan. Ydych chi'n cytuno y dylai Rachel Reeves adfer y cyfraddau lwfans tai i'r hanner canfed canradd?
Diolch, Siân. Roeddwn yn falch fod y lwfans tai lleol wedi'i godi ym mis Ebrill 2024, ar ôl iddo gael ei rewi am bedair blynedd. Rwy'n siomedig ei fod wedi'i rewi eto yn 2025. Ers 2020, mae tenantiaid incwm isel wedi bod yn ei chael hi'n anodd gyda'r bwlch cynyddol rhwng budd-daliadau a chyfraddau'r farchnad, ac rydych chi'n gwneud y pwynt ynghylch y gwahaniaeth a welaf yn fy etholaeth i. Ond mae'r bwlch rhwng budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai a chost wirioneddol rhentu wedi peri cryn bryder i ni ers nifer o flynyddoedd. Mae wedi gwthio nifer gynyddol o aelwydydd i galedi a pherygl cynyddol o ddod yn ddigartref. Ond rydym wedi dweud yn glir, os ydym am fynd i'r afael â phob ffurf ar ddigartrefedd, fod angen i fudd-daliadau lles fod yn gyfwerth â chostau gwirioneddol.
Dwi'n falch eich bod chi'n rhannu'r pryder efo fi. Mae adroddiad Shelter Cymru, er enghraifft, yn amlygu effaith niweidiol y cynnydd mewn rhenti ar yr un llaw a'r diffyg cynnydd yn y lwfans ar y llaw arall. Hyd yn oed o ystyried y tai mwyaf fforddiadwy, mae'r polisi o beidio â dadrewi yn arwain at ddiffygion ar gyfartaledd o dros £1,900 y flwyddyn i deuluoedd, gan orfodi aelwydydd i dorri nôl ar hanfodion, mynd i ddyled neu syrthio nôl ar eu rhent.
Mi oeddwn i'n falch o ddeall, drwy FOI, eich bod chi wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at aelod o Gabinet Keir Starmer, yn galw am adfer y cyfraddau lwfans tai i'r hanner canfed canradd, ond roedd yr ymateb a ddaeth ym mis Ebrill eleni gan y Gweinidog Gwladol dros y Wladwriaeth Les ac Anabledd yn hynod siomedig, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau pellach sydd wedi bod rhyngoch chi a'ch partneriaid yn San Steffan ers mis Ebrill, a pha mor galed ydych chi wedi bod yn pwyso am y newid hanfodol yma i'r lwfans.
Diolch, Siân. Wrth i renti'r farchnad barhau i gynyddu, byddwn yn parhau i alw, a byddaf i'n parhau i alw, am osod cyfraddau'r lwfans tai lleol ar yr hanner canfed canradd yn hytrach na'r degfed ganradd ar hugain, fel yr oeddent pan gawsant eu cyflwyno gyntaf. Mae'n bwysig fod y lwfans tai lleol yn cael ei addasu'n flynyddol, yn hytrach na'i fod yr un fath am gyfnodau hir.
Fe ddywedoch fy mod wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn o'r blaen, a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ynghylch y mater hwn. Credaf ei bod yn siomedig nad oedd sôn am godiadau i'r lwfans tai lleol naill ai yng nghyllideb yr hydref nac fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Fel y dywedais, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â hyn gyda'n cymheiriaid llywodraeth leol hefyd.
Efallai y byddwch chi'n hapus i roi manylion i fi, felly, o ba drafodaethau pellach, ers y llythyr yna ym mis Ebrill, yr ydych chi wedi eu cael er mwyn gwthio'r agenda yma ymlaen. Achos mae diffyg gweithredu yn gwthio'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas ni i sefyllfaoedd hyd yn oed yn fwy bregus, megis digartrefedd. Ac wrth gwrs, mae llety dros dro yn costio awdurdodau lleol Cymru £172 miliwn y flwyddyn, ac mae £1 o bob £4 o'r arian taliad disgresiwn at gostau tai—y discretionary housing payment—yn cael ei ddefnyddio i lenwi'r bylchau sy'n cael eu hachosi gan ddiffygion yn y cyfraddau lwfans tai.
Mae'n hanfodol, onid ydy, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu i ddadrewi ac uwchgyfeirio cyfraddau lwfans tai i adlewyrchu'r farchnad go iawn? Os na fydd hyn yn digwydd, pa gysur fyddwch chi, fel Llywodraeth Cymru, yn rhoi i'r bobl sy'n ennill cyflogau bychain tra'n talu rhenti sydd yn cynyddu yn ddireolaeth? A pha sicrwydd fedrwch chi roi na fydd llawer iawn mwy o bobl Cymru yn llithro hyd yn oed yn ddyfnach i dlodi ac yn wynebu digartrefedd?
Diolch, Siân. Fel y dywedais, rwy'n parhau i wthio hyn, gan y credaf, unwaith eto, gyda llywodraeth leol, mai dyma un o'r materion mwyaf a allai helpu pobl o ddifrif yn y sector rhentu preifat. Gwyddom o waith Sefydliad Bevan am yr effaith y mae rhewi cyfraddau'r lwfans tai lleol wedi'i chael ar fforddiadwyedd. Yn ôl ym mis Chwefror 2023, dim ond 32 eiddo yng Nghymru a oedd ar gael i'w rhentu am bris a fyddai'n cael ei dalu'n llawn gan gyfradd gyfatebol y lwfans tai lleol ar y pryd. Ac mae'r ymchwil hefyd wedi nodi, mewn rhai awdurdodau lleol, y gallai'r bwlch rhwng y lwfans tai lleol a'r lefel rhent isaf fod cymaint â £851 y mis. Mae'n fater difrifol iawn. Fel y dywedais, rydym wedi bod yn glir; rydym wedi dadlau'r achos yn gyson dros y cyfnod hwnnw hefyd, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Eich pwynt ynglŷn â llety dros dro, unwaith eto, yw ein bod yn gwybod bod gormod o bobl mewn llety dros dro o hyd. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n anhygoel o galed i leihau'r nifer hwnnw. Mae'n anodd iawn—nid yw bob amser yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau. Pan welwch y niferoedd mewn llety dros dro, mae pobl yn symud allan o lety dros dro bob mis i gartrefi parhaol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Rwy'n ymwybodol iawn, pan fydd Aelodau'n gweld yr ystadegau, y gallai edrych fel pe bai'r un bobl mewn llety dros dro, ond mewn gwirionedd, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i symud pobl i gartrefi parhaol. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl awdurdodau lleol a swyddogion a swyddogion tai yn eu timau sy'n gwneud hynny. Fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i ni o ran cyfraddau'r lwfans tai lleol, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn gwthio amdano'n gyson.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i gyn-garcharorion ar gyfer tai cyngor? OQ63398
Diolch, Llyr. Nid oes gofyniad deddfwriaethol i flaenoriaethu cyn-garcharorion ar gyfer tai cymdeithasol. O dan Ddeddf Tai 1996, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gael cynllun dyraniadau ar gyfer pennu blaenoriaethau wrth ddyrannu tai. Dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi ei bolisi dyraniadau ei hun, i fod ar gael i bobl leol ei weld.
Diolch am eich ateb. CEF Berwyn yn Wrecsam yn fy rhanbarth i yw'r carchar mwyaf yn y DU, ac mae'n gartref i oddeutu 1,900 o garcharorion ar hyn o bryd, gydag oddeutu traean o'r rheini o Gymru. Ar hyn o bryd, mae carcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn cael blaenoriaeth o ran tai yn ardal eu hawdurdod lleol, ond mae pryderon wedi'u codi gyda mi, o dan ddeddfwriaeth newydd arfaethedig, y bydd hynny'n newid fel bod pob carcharor o Gymru’n cael eu dynodi'n lleol i Gymru, ni waeth o ble y dônt. A allwch chi egluro a yw hynny'n wir? Os felly, a allech chi sicrhau nad yw cynghorau fel Wrecsam yn wynebu mewnlifiad o gyn-garcharorion sy'n gadael carchar Berwyn ac yn honni bod ganddynt gysylltiad lleol er mwyn cael blaenoriaeth ar gyfer tai yno?
Diolch, Llyr. I bobl sydd yn y carchar, o dan y Bil, fe fydd yn bosib i awdurdodau lleol wneud atgyfeiriadau cysylltiad lleol yn gynharach yn y broses nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Bydd atgyfeiriadau cynharach yn helpu i leihau'r straen a'r tarfu i ymgeiswyr a gwasanaethau, ac yn rhoi eglurder i bawb ynghylch cyfrifoldeb. Bydd atgyfeirio a chyfathrebu cynharach rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac awdurdodau lleol yn lleihau'r tebygolrwydd o leoli cyn-garcharorion mewn llety gwely a brecwast ar ôl eu rhyddhau. Gwyddom fod mater llety priodol i bobl risg uchel sy'n gadael y carchar yn gymhleth. Ond o ran y cysylltiad lleol, mae'n agwedd wahanol i'r hyn a drafodwyd yn y Papur Gwyn yn gynharach. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu i sicrhau bod hynny'n cael ei egluro i chi, gan y credaf fod llawer o ddryswch weithiau ynghylch termau penodol gyda chysylltiad lleol hefyd. Felly, fe wnaf sicrhau ein bod yn ysgrifennu atoch ar hynny.
Er i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 gael gwared â statws angen blaenoriaethol ar gyfer carcharorion yng Nghymru, mae carcharorion sy'n dod o'r carchar ac sy'n mynd o soffa i soffa neu heb unman i aros yn cael eu categoreiddio'n ddigartref, a dylent felly fynd at eu cyngor i gael cymorth. Mae fy nghyfarfodydd fy hun yn y carchar gyda charcharorion o Gymru wedi cadarnhau eu dibyniaeth ar wasanaethau datganoledig ac mai eu blaenoriaeth fwyaf ar ôl cael eu rhyddhau yw mynediad at dai, yn enwedig mewn lleoliadau newydd lle na fyddant yn dod i gysylltiad â chymheiriaid a throseddwyr. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, felly, i hyrwyddo'r cyngor tai sydd ar gael yn y carchar gan dîm ailsefydlu'r carchar a gwasanaethau fel Prison Link Cymru? Pa ddiweddariad y gallwch ei roi ynghylch y trefniadau cilyddol ar gyfer ailsefydlu cyn-droseddwyr rhwng awdurdodau lleol, y cyfeiriwyd atynt mewn ymholiadau gan un o bwyllgorau'r Senedd flaenorol, yr oeddwn yn rhan ohono?
Diolch, Mark. Diolch am eich diddordeb a'ch gwaith yn y maes hwn. Gall rhyddhau pobl o'r carchar arwain yn aml at gylchoedd o aildroseddu a digartrefedd mynych, a all gael effaith negyddol sylweddol ar yr unigolyn a'r gymuned ehangach. Fe wyddom hynny. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac awdurdodau lleol i wella canlyniadau tai i'r rhai sy'n gadael carchar ac yn dychwelyd i Gymru. Dangosodd y cynllun rhyddhau cynnar diweddar bwysigrwydd y gwaith gwirioneddol amlasiantaethol hwnnw, er mwyn sicrhau bod pobl sy'n gadael carchar yn cael eu cyfeirio at wasanaethau perthnasol, gan gynnwys iechyd, cyn cael eu rhyddhau. Mae Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) hefyd yn cryfhau'r dyletswyddau i ddarparu cyngor, cydgysylltu gwasanaethau ac atal digartrefedd i bobl sy'n gadael carchar. Felly, ein nod yw sicrhau nad oes unrhyw un yn gadael carchar i fod yn ddigartref, a bydd y Bil yn darparu fframwaith cyfreithiol i gefnogi'r uchelgais hwn. Byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.
Mae gennym weithgor ar hyn o bryd hefyd gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, felly rydym yn gweithio i wneud popeth yn ein gallu ar hyn o bryd i roi'r gwaith y gallwn ei wneud, a'r arferion da a ddysgwyd o'r cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar hefyd, ar waith, cyn i'r Bil ddod i rym, gobeithio. Felly, rydym yn gweithio, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ar hyn oll.
Amcangyfrifir fod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn 24 i 27 y cant o boblogaeth carchardai oedolion yn y DU, er mai llai nag 1 y cant o bobl dan 18 oed sy'n mynd i ofal awdurdod lleol bob blwyddyn. Felly, o ganlyniad, bydd llawer o'r cyn-garcharorion wedi cael profiad o fod mewn gofal, ac o ganlyniad, mae gennym gyfrifoldeb arbennig drostynt. Felly, hoffwn ofyn sut y mae'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud hyn a chefnogi pobl sydd wedi gadael gofal a fyddai'n dod allan o'r carchar.
Diolch, Julie. Diolch am eich cwestiwn. Mae gofynion cymorth pob unigolyn sy'n gadael y carchar yn cael eu cymryd o ddifrif, ac i bobl ifanc, rhaid i wasanaeth gadael gofal yr awdurdodau lleol barhau i fod yn bresenoldeb ym mywyd yr unigolyn ifanc yn y cyfnod o oruchwyliaeth gan y tîm troseddwyr ifanc a'r gwasanaeth prawf. I'r rhai a allai fod wedi bod mewn gofal yn y gorffennol, fel y gwyddoch, bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) newydd yn cael gwared ar brofion angen blaenoriaethol a phrofion bwriad, y gwyddom eu bod yn rhwystrau i rai sy'n gadael carchar. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan bob awdurdod lleol ddull amlasiantaethol o gydgysylltu achosion ar gyfer y rhai sydd angen y cymorth mwyaf, a bydd unrhyw un sy'n gadael carchar, beth bynnag y bo'u statws gofal, ac sydd ag anghenion cymorth lluosog yn elwa o'r dull hwn. Ac fel y gwyddoch, mae'r Bil yn cyflwyno pecyn o fesurau a gynlluniwyd ar y cyd i roi diwedd ar ddefnyddio'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi preswylwyr yng Nghanol De Cymru i ôl-osod eu cartrefi? OQ63399
Diolch, Heledd. Ers 2022, mae ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wedi buddsoddi £12 miliwn mewn ôl-osod cartrefi cymdeithasol yng Nghanol De Cymru. Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd yn cynnig darpariaeth ôl-osod am ddim i aelwydydd incwm isel cymwys, ac mae Cartrefi Gwyrdd Cymru’n cynnig asesiadau am ddim a benthyciadau di-log i bobl sydd eisiau uwchraddio eu cartrefi eu hunain.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, fe wyddom fod 98 y cant o bobl ar incwm isel mewn tlodi tanwydd. Mae aelwydydd yn cael eu gwthio i lefelau uwch nag erioed o ddyled, gyda dros £3.7 biliwn mewn dyledion ac ôl-ddyledion ynni. Mewn gwirionedd, mae adroddiad diweddar Cyngor ar Bopeth Cymru, 'Darparu cartrefi cynhesach i denantiaid preifat yng Nghymru', yn nodi bod bron i hanner y tenantiaid yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni, gyda bron i ddwy ran o dair o gartrefi rhent yng Nghymru wedi cael gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o D neu is, ac yn talu £317 yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd na'r rhai mewn cartrefi EPC C. Golyga hyn, am aeaf arall eto, y bydd llawer o'n trigolion a'n hetholwyr yn wynebu dewis anodd rhwng naill ai gallu fforddio gwresogi eu cartrefi neu fwyta. Felly, a gaf i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol sy'n wynebu pobl sy'n byw mewn cartrefi annigonol yn fy rhanbarth i, yn ogystal â'r cyfleoedd mwy hirdymor sy'n gysylltiedig ag ôl-osod cartrefi a fydd, wrth gwrs, o fudd i'n heconomi hefyd?
Yn sicr. Diolch, Heledd. Rwy'n sicr yn cydnabod lefel y tlodi tanwydd a grybwyllwyd gennych. Mae data a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod 25 y cant o'n cartrefi yn byw mewn tlodi tanwydd a bod 16 y cant arall mewn perygl o fynd i dlodi tanwydd. Felly, maent yn ffigurau sy'n peri cryn bryder. Rydym yn buddsoddi mwy na £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon drwy ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer a llaith. Fel y gwyddoch, mae Nyth yn defnyddio dull gweithredu carbon isel yn gyntaf i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Ac mae'r dull hwn yn ddull deublyg mewn gwirionedd, sy'n darparu cyngor annibynnol, sy'n bwysig iawn, ac i aelwydydd cymwys, ôl-osod am ddim i wella cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd.
Felly, mae ein gwasanaeth cynghori am ddim, sydd ar gael i bob aelwyd yng Nghymru—a buaswn yn annog pob Aelod i sicrhau eu bod yn ei hyrwyddo—yn chwarae rhan bwysig yn y broses o ddeall amgylchiadau unigol pob aelwyd, yn cynghori ar y camau y gall pobl eu cymryd eu hunain, ac yn eu cynorthwyo i gael mynediad at y cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae nifer o gynlluniau ar y gweill—nifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru, ond hefyd cynlluniau eraill sy'n gweithredu ledled y DU ac yn cael eu hariannu gan gyflenwyr ynni. Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn denu cymaint o gyllid â phosib i Gymru o gynlluniau ledled y DU i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd fwyaf o'i angen. Er enghraifft, mae cynllun ECO Flex ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ac yfory hefyd, byddaf yn cyfarfod â Gweinidog y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes, a byddaf yn sicrhau fy mod yn codi'r mater hwn yn uniongyrchol gydag ef bryd hynny.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng Ngorllewin De Cymru? OQ63389
Diolch, Sioned. Rydym wedi buddsoddi bron i £132 miliwn mewn canol trefi ledled Gorllewin De Cymru drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi ers mis Ionawr 2020. Mae'r buddsoddiad hwn yn adfywio strydoedd mawr, yn cefnogi busnesau lleol, yn creu swyddi ac yn cryfhau cymunedau.
Diolch. Fis diwethaf, yn ystod dadl ar ganol trefi a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, tynnodd yr Aelodau sylw at botensial heb ei wireddu canol ein trefi. Yn ystod Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn ddiweddar, ymwelais ag amgueddfa dros dro yng Nghastell-nedd, wedi'i churadu gan yr hanesydd lleol Jordan Brinkworth, a thros dridiau, ymwelodd bron i 800 o bobl. Mae gan Gastell-nedd hanes sy'n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd, ac mae yna bethau sy'n atgoffa am y gorffennol yn dal i fodoli heddiw. Er hynny, ers i Amgueddfa Glofa Cefn Coed gael ei gorfodi i gau ei drysau ar sail diogelwch sawl blwyddyn yn ôl, Castell-nedd Port Talbot yw un o'r ychydig fwrdeistrefi sirol yng Nghymru heb amgueddfa a reolir gan gyngor, er fy mod yn falch fod y weinyddiaeth bresennol wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hyn. Gan fod cysylltiad rhwng twristiaeth treftadaeth a datblygu canol trefi unigryw, bywiog a phoblogaidd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i harneisio treftadaeth fel sbardun ar gyfer adfywio canol trefi?
Diolch, Sioned. Rwy'n credu bod honno'n elfen mor bwysig, onid yw? Mae treftadaeth mor hanfodol i'n cymunedau, ac mae'n debyg y dylwn ddatgan diddordeb nawr fod fy mam wedi'i geni yng Nghastell-nedd, felly rwy'n hoff iawn o Gastell-nedd. Mae'r ŵyl a gynhaliwyd yn lleol yn swnio'n wych. Mae'n dda iawn gweld ei bod wedi denu cymaint o bobl. Rwy'n credu bod agweddau ar Trawsnewid Trefi a phwysigrwydd canol trefi'n tynnu sylw at natur drawslywodraethol hyn i gyd. Nid fy nghyfrifoldeb i yn unig mohono; rwy'n credu ei fod yn gyfrifoldeb i fy nghyd-aelod o'r Cabinet, Jack Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am dreftadaeth a diwylliant. Hefyd, gallai fod yn lleoliadau addysg—. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth, ac rwyf wedi dweud hynny wrth fy nghyd-aelodau o'r Cabinet a byddaf yn parhau i wneud hynny i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi cymaint â phosib yn y pethau y mae pobl yn malio fwyaf amdanynt yn eu cymunedau eu hunain.
Ond mae canol trefi'n wynebu bygythiadau lluosog, o'r datblygiadau ar gyrion y dref sydd â digon o barcio am ddim i'r gystadleuaeth annheg gan gadwyni rhyngwladol mawr sy'n gallu amsugno rhenti enfawr a chynnydd mewn ardrethi. Fodd bynnag, y bygythiad diweddaraf yw'r mwyaf sinistr, sef y cynnydd mewn gangiau troseddau cyfundrefnol sy'n rhedeg siopau a gwasanaethau, gan ddefnyddio mewnfudwyr anghyfreithlon yn aml. Mae ymchwiliad cudd gan y BBC a chyrchoedd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi canfod archfarchnadoedd bach sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a siopau barbwr sy'n cyflogi ceiswyr lloches aflwyddiannus sy'n ennill cyn lleied â £4 yr awr. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw'r fath fusnesau fel y'u gelwir yn cael gweithredu ar ein strydoedd mawr, a sut ydych chi'n galluogi awdurdodau lleol i roi diwedd ar werthu tybaco a fêps anghyfreithlon?
Diolch am eich cwestiwn, Altaf. Mae yna lawer o arian wedi mynd i mewn i'ch rhanbarth chi. Rydym wedi cyflawni nifer o brosiectau adfywio ac mae gennym lwybr iach iawn. Felly, rwy'n credu, ar y pethau cadarnhaol, fod yna lawer o newyddion da iawn i ganol trefi yn eich rhanbarth.
Mae'n bwysig iawn fod pobl yn teimlo'n ddiogel ar ein strydoedd mawr ac i fynd i ganol trefi. Mae'n bwysig fod pobl yn ddiogel ac mae'n bwysig eu bod yn teimlo'n ddiogel, oherwydd fel arall mae'n eu hatal rhag mynd i mewn yn gyfan gwbl. Felly, rwy'n credu bod diogelwch yn fater pwysig iawn. Mae safonau masnach yn gwneud gwaith anhygoel. Pan gânt eu hysbysu am bethau, mae swyddogion pob awdurdod lleol yn mynd ar drywydd hynny ac yn gwneud gwaith anhygoel, ac rydym yn gweld hynny yn rhai o'r erlyniadau a weithredwyd ganddynt hefyd. Felly, rydym o ddifrif ynglŷn â'r mater, ond mae safonau masnach yn gwneud y gwaith hwnnw ac fe wyddom fod plismona, y gwyddoch nad yw wedi'i ddatganoli, yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu amcangyfrif ar gyfer y costau cynyddol sy'n wynebu llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol nesaf? OQ63362
Diolch, Mike. Mae'r amcangyfrif diweddaraf gan CLlLC yn dangos bod awdurdodau lleol yn wynebu costau uwch o £560 miliwn yn 2026-27.
Diolch. Mae llywodraeth leol yn wynebu costau cynyddol, fel y dywedoch chi, ond yn fwyaf arbennig, mewn gwasanaethau cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol a digartrefedd. Yn Lloegr, mae gwariant cyngor ar ofal cymdeithasol oedolion a phlant i fod i godi 10 y cant mewn termau real eleni am yr ail flwyddyn yn olynol, yn ôl data Llywodraeth San Steffan. Mae cynnydd i gyllidebau a chostau wedi bod hyd yn oed yn fwy serth ar gyfer gofal cymdeithasol plant, gydag ail gynnydd yn olynol o 11 y cant mewn termau real. Mae costau digartrefedd yn Lloegr wedi cynyddu 29 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf a 97 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. A yw'r ffigurau Cymreig yn sylweddol wahanol, ac a ydych chi wedi codi'r pwysau ariannol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid?
Diolch, Mike. Rwy'n deall bod dros £200 miliwn o'r pwysau costau a nodwyd gan CLlLC yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, ac mae fy nghyd-Weinidogion sy'n gyfrifol am y maes yn trefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol i drafod y mater ymhellach. Ers 2022, rydym wedi darparu grantiau ychwanegol wedi'u targedu i awdurdodau lleol, gwerth cyfanswm o dros £77 miliwn, i gefnogi eu dyletswyddau statudol i ddarparu llety dros dro, cymorth atal yn ôl disgresiwn a chydlynu strategol. O 2025-26, mae'r cyllid sy'n gysylltiedig â digartrefedd wedi'i drosglwyddo i'r grant cymorth refeniw, gan roi hyblygrwydd i gynghorau ddiwallu'r anghenion hynny.
Uchelgais cadarn y Llywodraeth yw sicrhau cyllideb derfynol—a gallaf weld fy nghyd-aelod o'r Cabinet yn eistedd yma, yn nodio'i ben—ac y byddai'r gyllideb derfynol yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael ar gyfer 2026-27 i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Ac rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn manteisio ar y cyfle i gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid cyn gynted â phosib i chwarae eu rhan yn y broses o sicrhau cyllideb derfynol.
Fel y clywsom, mae awdurdodau lleol o dan bwysau enfawr—rydym i gyd yn cydnabod hynny—ond mae ein trethdalwyr a'n teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu gorlwytho â chostau cynyddol hefyd ac yn mynd yn fwy rhwystredig. Yn sir Fynwy, er enghraifft, rydym wedi gweld cynnydd yn y dreth gyngor o 21 y cant dros y tair blynedd diwethaf—mae hynny'n rhywbeth na fyddai wedi digwydd pe bawn i'n dal i fod yn arweinydd yno.
Rydym yn deall bod y pwysau demograffig a'r boblogaeth sy'n heneiddio, ac fel y nododd Mike, costau gwasanaethau plant, yn creu problemau a phwysau gwirioneddol. Ond heb derfynau cadarn, mae cynghorau mewn perygl o osod cyllidebau'n seiliedig ar beth bynnag a ddymunant yn hytrach na'r hyn sy'n deg ac yn fforddiadwy—er fy mod yn gwybod mai ychydig iawn a fyddai'n gwneud hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried cyflwyno mandad sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferendwm ar gynnydd yn y dreth gyngor o 5 y cant? Os yw'n iawn i Loegr a 57 miliwn o bobl, pam nad yw'n iawn i ni yng Nghymru hefyd?
Diolch, Peter. Rwy'n credu ei fod yn anghywir, am nad dyna'r polisi cywir i Gymru. Mae'n gostus ac rydym yn gwybod bod hynny'n rhywbeth na fyddai trigolion eisiau ei weld. Rwy'n credu bod rhaid inni gofio bod awdurdodau lleol, fel y gwyddoch, Peter, yn gweithio'n galed iawn—mae ganddynt benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud mewn cyfnod anodd. Rydym wedi bod drwy 14 mlynedd o gyni ariannol, ac mae awdurdodau lleol wedi cael amser anodd iawn. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod eu cyllidebau a'r dreth gyngor, fel y gwyddoch. Nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru osod lefel fympwyol o gynnydd i'r dreth gyngor.
Mae pob awdurdod lleol yn ei chael hi'n anodd bob tro y gwneir y penderfyniad hwnnw, ac yn gwybod bod pob pwynt canran, pwynt degol, yn real i'w trigolion. Ond mae'n rhaid iddynt gydbwyso hynny, ac mae'n rhaid iddynt ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn eu hwynebu. Rwy'n annog cynghorau i barhau i gydbwyso'n ofalus beth fydd effaith cynnydd ar gyllid cartrefi yn erbyn colli cymorth a gwasanaethau. Rwy'n gwybod, fel y dywedais, y bydd arweinwyr, aelodau etholedig a swyddogion ledled Cymru fel ei gilydd yn dod o hyd i ffyrdd o wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau i wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Ond hoffwn rhoi'r cynnig hwnnw allan eto. Mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi dweud yn glir mai ein cyfrifoldeb cyfunol yma yw pasio cyllideb Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bleidiau i wneud hynny.
Cwestiwn 7—Peter Fox. O, unwaith eto.
Ni sylwais ar hynny. Efallai na fyddwn wedi eich galw i ofyn eich cwestiwn atodol pe bawn i wedi sylwi ar hynny.
Wel, roeddwn i'n synnu. Roeddwn i'n synnu. [Chwerthin.]
7. Pa mor aml y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cofrestrau risg awdurdodau lleol i ganfod a lliniaru risgiau systemig ledled Cymru? OQ63372
Diolch, Peter. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a'r gymuned ehangach o ymatebwyr brys i nodi a rheoli ystod eang o risgiau a bygythiadau, ac i addasu a dysgu er mwyn gwella gwydnwch Cymru. Rydym yn gweithio ar y cyd i leihau effeithiau ac i ymateb ac i adfer yn effeithiol pan fydd heriau aflonyddgar yn codi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae awdurdodau lleol yn gwasanaethu fel y pwynt cyswllt cyntaf rhwng trigolion a'r llywodraeth, ac maent yn tueddu i feddu ar fewnwelediad da o'r hyn sy'n digwydd. Drwy gyhoeddi cofrestrau risg, mae'r cyhoedd a Llywodraeth Cymru yn gallu gweld pa faterion sy'n peri pryder ac ar y gorwel.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, er enghraifft, wedi sylwi bod risg allweddol y bydd diffyg cyllid yn atal buddsoddiad yn eu hysgolion, a allai effeithio'n ddifrifol ar seilwaith addysg. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi adrodd am risg barhaus o niwed sylweddol i blant ac oedolion oherwydd methiannau mewn trefniadau diogelu, a risgiau tebyg gyda gofal cymdeithasol i oedolion.
Mae'r rhain, yn sicr, yn dueddiadau pryderus iawn, ac mae'n debygol y bydd angen mewnbwn a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'w hosgoi. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi a'ch swyddogion yn monitro cofrestrau risg awdurdodau lleol, ac os felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru risgiau fel y rhain sy'n ymwneud â buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol ac addysg yn sir Fynwy a Thorfaen?
Diolch, Peter. Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog fframwaith gwydnwch cyntaf Cymru. Mae'r fframwaith hwnnw'n darparu gweledigaeth glir a set o flaenoriaethau sy'n sicrhau bod Cymru'n wydn yn wyneb heriau aflonyddgar, ac mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd asesiadau risg a pharodrwydd ar gyfer adeiladu gwydnwch.
Mae pedwar fforwm gwydnwch lleol Cymru yn cynhyrchu cofrestr risg gymunedol fel rhan o'u dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. Mae cofrestrau risg cymunedol yn helpu i lywio cynlluniau argyfwng drwy'r fforymau gwydnwch lleol, ac fe gânt eu hadolygu'n barhaus. Drwy'r fforymau a'r cynllun, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid y fforwm i wella'r gwaith o gynhyrchu a chynnal y cofrestrau risg. Mae hynny'n cynnwys datblygu safonau clir ar gyfer diweddariadau i gofrestrau a chylchoedd adolygu, a chryfhau gofynion i'r cofrestrau ystyried demograffeg a phobl agored i niwed.
Felly, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r fforymau gwydnwch lleol hynny i deilwra'r modd y maent yn cyfathrebu'r cofrestrau er mwyn diwallu anghenion cymunedol—felly, mae gwaith yn parhau yn y maes hwnnw ar y strwythurau, ond yn sicr gallaf adrodd yn ôl i chi yn y misoedd nesaf.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Janet Finch-Saunders.
8. Pa sylwadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gan gynghorau tref a chymuned ynglŷn â'u perthynas ag Archwilio Cymru? OQ63369
Diolch, Janet. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Un Llais Cymru fel y corff cynrychioliadol ar gyfer y sector. Rydym yn trafod ystod o faterion, gan gynnwys profiadau archwilio. Mae gan fy swyddogion berthynas adeiladol â chyrff sector ac Archwilio Cymru. Yn rhan o'r gwaith a wnânt, maent yn cwmpasu adolygiad o drefniadau archwilio cynghorau cymuned.
Diolch. Fe fyddwch chi'n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn. Mae gennyf bryderon gwirioneddol am—. Mae'n debyg fod rhaid gofyn y cwestiwn, 'Pwy sy'n gwarchod y gwarchodwyr?' Oherwydd fe wnaethoch chi gadarnhau i mi yn ysgrifenedig fis diwethaf bod—[Anghlywadwy.]—rhaid i neb llai nag Archwilio Cymru ymdrin â hynny. Felly, os oes gan unigolyn gŵyn, y cyfarwyddwr gwasanaethau corfforaethol yn Archwilio Cymru sydd i benderfynu a yw ei gŵyn yn ddilys ai peidio. Yn y bôn, gofynnir i Archwilio Cymru farcio eu gwaith cartref eu hunain, hyd yn oed pan fo cwynion difrifol yn cael eu codi am eu gwaith eu hunain sy'n ymwneud â chynghorau a gwastraffu arian cyhoeddus. Ac mae gennyf gymaint o enghreifftiau o hyn.
Nid yw'n ymddangos eu bod yn ymdrin â chwynion yn deg, ac mae cynghorau cymuned ac unigolion wedi dweud hynny wrthyf. O'r holl gwynion a wnaed i Archwilio Cymru am Archwilio Cymru, canfu'r corff o blaid 18 y cant o gwynion yn 2024-25, 0 y cant yn 2022-23 ac 11 y cant yn 2021-22. Felly, dros gyfnod o 10 mlynedd, chwe chŵyn a gadarnhawyd ganddynt mewn gwirionedd. Ni all hynny fod yn iawn. Nid yw'r ffigurau'n gwneud synnwyr. A ydych chi'n meddwl ei bod yn rhesymol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod disgwyl i Archwilio Cymru ymchwilio a dod i gasgliad, gan chwarae rôl y corff archwilio yn y bôn mewn perthynas â chwynion a wneir amdanynt eu hunain, ac os na—os ydych chi'n cytuno â mi—a wnewch chi weithio gyda mi yn y dyfodol i edrych ar sut y gellir sefydlu proses fwy annibynnol o hyn ymlaen? Oherwydd ni all fod yn iawn. Dyna frig y—
Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda chi, Janet Finch-Saunders, ond rwy'n mynd i ofyn i'r Gweinidog ateb y cwestiynau sydd wedi'u gofyn.
Iawn, os gwnewch chi ateb y cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.
Diolch, Janet, a diolch am eich gohebiaeth hefyd. Cyfrifoldeb pob cyngor yw cyflawni ei ddyletswyddau statudol a dilyn arferion priodol wrth ymdrin â'r arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt. Mae'r drefn archwilio ar gyfer cynghorau cymuned a thref yn fater i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ond rydym yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru ar ba gymorth pellach y gellid ei ddarparu i gynghorau cymuned llai i'w helpu i fodloni gofynion archwilio.
Mae mater llywodraethu yn codi i'r sector. Felly, ar gyfer archwiliadau 2023-24, cyflwynodd tua 30 y cant o gynghorau gyfrifon nad oeddent yn gywir, a chafodd tua 40 y cant o gynghorau archwiliadau amodol. Felly, o flwyddyn ariannol 2021-22, newidiodd Archwilio Cymru ei drefniadau archwilio ar gyfer cynghorau cymuned a thref i ddarparu lefel gryn dipyn yn uwch o sicrwydd yng nghyfrifon cynghorau. Mae'n debygol y byddai unrhyw newidiadau sylweddol i'r system archwilio yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol, nad yw'n ymarferol yn nhymor y Senedd hon. Mae dechrau yn y gwanwyn/haf yn rhoi amser i ni archwilio opsiynau'n briodol ar gyfer y Senedd nesaf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 2 sydd nesaf, sef y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ofyn gan Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Fe roddaf ychydig o amser i Ysgrifennydd y Cabinet gael ei ffeil yn barod. [Chwerthin.] Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ysgolion i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ddiogel a moesegol? OQ63388
Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi cyfres o ganllawiau ac adnoddau i gefnogi ysgolion gydag ystyriaethau allweddol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel, yn foesegol ac yn gyfrifol. Rydym wedi cyhoeddi cyngor pwrpasol ar y defnydd o offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol sydd ar gael drwy Hwb, gan gynnwys Microsoft 365 Copilot Chat, Google Gemini a NotebookLM.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.
Wrth ddarllen adroddiad Estyn ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn ysgolion, mae'n amlwg fod digon o botensial. Yr hyn y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal gorddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial, yn enwedig ymhlith dysgwyr. Mae yna lawer o bethau anhysbys yma a llawer o fylchau yn y dystiolaeth, ond canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, a gyhoeddwyd fis diwethaf, mai dim ond 2 y cant o fyfyrwyr rhwng 13 a 18 oed a ddywedodd nad oeddent yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer eu gwaith ysgol, tra bod 80 y cant yn dweud eu bod yn ei ddefnyddio'n rheolaidd ar gyfer eu gwaith ysgol. O'r un garfan, dywedodd 62 y cant eu bod yn credu bod deallusrwydd artiffisial yn cael effaith negyddol ar eu sgiliau a'u datblygiad, gan erydu eu gallu i bob pwrpas i ymchwilio'n annibynnol, astudio'n effeithiol a meddwl yn greadigol.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau a gweithredu polisi mewn ffordd sy'n cadw hyn mewn cof, ac yn y bôn, sut y mae'n ceisio cynnal meddwl beirniadol, creadigrwydd ac annibyniaeth ddeallusol dysgwyr. Does bosib nad dyna yw egwyddor greiddiol ein system addysg.
Diolch yn fawr, Luke, ac rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig iawn. Yn amlwg, mae yna gydbwysedd, onid oes? Mae yna fanteision ac mae yna risgiau, ac rydym yn llywio tiriogaeth newydd gyda'r holl bethau hyn. Fe wneuthum gomisiynu'r adolygiad o ddeallusrwydd artiffisial gan Estyn, ac rwy'n credu ei fod wedi rhoi darlun llawer cliriach i ni o sut y mae'r dechnoleg hon sy'n esblygu'n gyflym yn cael ei defnyddio. Rydym yn croesawu'r argymhellion gan Estyn ac rydym wedi eu derbyn i gyd, ac mae gwaith i gyflawni'r rhain ar y gweill. Rydym wedi mabwysiadu dull a arweinir gan y sector i ddatblygu ein 'Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg: Cyfleoedd ac ystyriaethau ar gyfer ysgolion a lleoliadau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol.' Byddwn yn adeiladu ar hynny drwy gyd-ddatblygu fframwaith cenedlaethol i gefnogi ysgolion â chynlluniau strategol. Gofynnodd Estyn i ni ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol hwnnw.
Canfu adroddiad Estyn fod deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn cynnig manteision gwirioneddol i ysgolion a'r gweithlu. Rhannodd enghreifftiau o ysgolion sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ennyn diddordeb disgyblion a gwella effeithlonrwydd. Rydym wedi gweld enghreifftiau o ysgolion yn defnyddio'r offer mewn ffyrdd creadigol i bersonoli dysgu a chefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth. Mae'n debyg y byddwch wedi gweld bod astudiaethau achos yn yr adroddiad, ac rwyf wedi gofyn am gael ymweld â rhai o'r ysgolion hynny i gael golwg ar yr hyn y maent yn ei wneud.
Ond yn amlwg, rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu meddwl yn feirniadol, ac nad ydynt yn orddibynnol ar y dechnoleg hon. Hefyd, rwy'n awyddus iawn i ddiogelu rôl athrawon. Mae rôl athrawon a staff cymorth sy'n cefnogi ein pobl ifanc yn hollol allweddol, a gweithgarwch sy'n seiliedig ar gydberthynas yw addysgu yn y bôn. Ni allwn fod yn orddibynnol ar ddeallusrwydd artiffisial. Hoffwn weld pethau'n datblygu drwy gefnogi athrawon gyda phethau y gwyddom eu bod yn achosi problemau enfawr ar hyn o bryd. Fe wyddom fod llwyth gwaith yn broblem fawr iawn ac yn arwain at staff yn gadael y proffesiwn. Dyna pam y credaf ei bod yn hanfodol ein bod ni'n defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd wirioneddol ddoeth.
Mae hynny'n wir am ddysgwyr hefyd. Mae yna lawer iawn o risgiau allan yno. Mae yna achosion yn ddiweddar sydd wedi cael cyhoeddusrwydd mawr o niwed difrifol i bobl ifanc drwy ddefnyddio pethau fel sgwrsfotiaid. Rydym yn annog pobl ifanc i fod yn ymwybodol o'r risgiau drwy bethau fel ein gwaith ar 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb, a'n gwaith gyda rhieni.
Mae hwn yn faes sy'n esblygu'n gyflym, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n mynd ati gyda hyder a gofal, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y cydbwysedd iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau rydych chi'n eu gwneud ynglŷn ag atal y bygythiad o orddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond un feirniadaeth o ddeallusrwydd artiffisial yw bod ieithweddau Americanaidd yn treiddio i'r iaith Saesneg, rhywbeth y mae'n amlwg fod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono—pethau sylfaenol fel defnyddio Z yn hytrach na S, a phethau felly. Enghreifftiau syml yw'r rheini. Yr hyn a welsom gyda thechnoleg deallusrwydd artiffisial, gyda phethau fel ChatGPT, yw eich bod chi'n gwneud chwiliad syml a bydd yn cynnig llawer o ieithweddau Americanaidd, a thuedd o'r fath weithiau.
Pa gyfarwyddiadau uniongyrchol y gallwch chi eu rhoi i bobl fel Estyn, awdurdodau lleol a darparwyr addysg ledled Cymru i wneud yn siŵr fod uniondeb yr iaith Saesneg, yr iaith Saesneg a ddysgir, i'w weld drwy'r system addysg, gyda'r orddibyniaeth honno, a sicrhau hefyd ein bod yn cynnal safonau uchel o ran yr iaith Saesneg hefyd?
Diolch, Gareth. Nid yw hynny'n rhywbeth sydd wedi'i godi gyda mi, ond rwy'n sicr yn gallu deall yr hyn a ddywedwch am ieithweddau Americanaidd. Byddaf yn sicr yn codi hynny gyda swyddogion ac yn fy nhrafodaethau gydag Estyn. Rwy'n credu bod Estyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y gofod hwn gyda'r adolygiad a wnaethant i ni. Fel y dywedais, rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau. Rwy'n credu bod rôl bwysig iawn hefyd i ddysgu proffesiynol a sut yr awn ati i uwchsgilio gweithlu ein hysgolion i lywio drwy rai o'r materion hyn.
Heb fynd i fychanu mater yr ieithweddau Americanaidd, rwy'n credu bod yna fygythiadau mawr iawn y cyfeiriais atynt nawr wrth ateb Luke gyda phethau fel sgwrsfotiaid a chadw plant yn ddiogel, ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd yr hyn rydych chi newydd ei godi. Yn bersonol, nid wyf yn ei ddefnyddio'n aml, felly efallai fod angen i mi ei ddefnyddio ychydig yn fwy aml er mwyn i mi gael gwell dealltwriaeth o'r manylion.
Mae yna ffordd hawdd iawn o wirio a yw rhywbeth wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial ai peidio, sef gweld sut y maent yn sillafu 'programme'—yn y ffordd Americanaidd neu'r ffordd Saesneg. Mae'n ffordd dda o'i ganfod.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r sector addysg awyr agored i hyrwyddo eu gwaith yng Nghymru? OQ63383
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector addysg awyr agored i sicrhau bod dysgwyr yn elwa o ymgysylltu ystyrlon â'r amgylchedd awyr agored. Rydym yn annog addysgwyr i ymgorffori profiadau awyr agored yn eu cwricwlwm, gan wneud defnydd llawn o amgylchedd rhyfeddol o amrywiol Cymru i gefnogi llesiant, creadigrwydd a diddordeb disgyblion.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd am eich ymwneud â mi, boed drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu drwy ohebiaeth gyda chi a'ch swyddogion yn sgil y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), y ceisiais ei ddatblygu yn y lle hwn, ond na chafodd y gefnogaeth yr oeddwn yn gobeithio amdani yn y pen draw, yn anffodus.
Yn eich ymateb cychwynnol, fe wnaethoch chi gydnabod pwysigrwydd addysg awyr agored, ac un o'r manteision o weithio drwy'r broses ddeddfwriaethol honno yr euthum drwyddi ychydig dros flwyddyn yn ôl bellach oedd ei bod yn dangos bod rhai eitemau o waith anneddfwriaethol y gellir eu gwneud i hyrwyddo ymhellach y gwaith da y mae addysg awyr agored yn ei ddarparu i bobl ifanc ledled Cymru—fel y dywedwch, i gefnogi eu llesiant, eu datblygiad personol a'u gwerthfawrogiad o'r amgylchedd naturiol.
Un o'r meysydd hynny yw'r gwaith a wneir gan y Bartneriaeth Awyr Agored, sefydliad yng ngogledd Cymru, ar eu fframwaith addysg antur, sy'n gyfrwng i ddarparu sail resymegol addysgol i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r fframwaith hwnnw'n weithredol yn Lloegr ar draws llawer iawn o ysgolion ac awdurdodau lleol yno, ond nid yw'n digwydd yma yng Nghymru i'r graddau y dylai ddigwydd yn fy marn i. Tybed a fyddech chi, unwaith eto, yn barod i ymgysylltu â'r Bartneriaeth Awyr Agored, boed yn uniongyrchol neu drwy eich swyddogion, i weld ble y gellir datblygu'r gwaith hwnnw ymhellach yma yng Nghymru.
Diolch, Sam, ac rwyf am gydnabod eich ymrwymiad i'r maes gwaith pwysig hwn. Pan wnaethom gyfarfod ym mis Ebrill, cytunais y byddai fy swyddogion yn hwyluso cyflwyniadau i'r bartneriaeth gydag Adnodd a Cymwysterau Cymru i gefnogi eu gwaith ar ddatblygu fframwaith addysg antur yng Nghymru. Mae Adnodd wedi ymrwymo i weithio gyda'r bartneriaeth i archwilio datblygiad adnoddau a deunyddiau ategol ymhellach ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Rwy'n deall y byddant yn cyfarfod cyn bo hir. Mae Cymwysterau Cymru wedi cyfarfod â'r Bartneriaeth Awyr Agored ac ers hynny wedi rhoi cyngor pellach ar y gwahanol lwybrau ar gyfer achredu, gan helpu'r bartneriaeth i egluro eu camau nesaf. Ond rwy'n hapus iawn i gael trafodaethau pellach ar hyn.
Rwy'n credu ein bod ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael amgylchedd awyr agored mor wych o ran ein tir a'n dŵr. Mae cael plant ysgol i brofi'r amgylchedd awyr agored hwnnw'n bwysig iawn. Gobeithio y bydd yn annog diddordeb gydol oes yn yr amgylchedd awyr agored a natur, ac yn cynhyrchu ffyrdd mwy egnïol o fyw. Ysgrifennydd y Cabinet, tybed faint o ymgysylltu sy'n digwydd â sefydliadau a allai ddod ag adnoddau i'n huchelgeisiau, fel Dŵr Cymru. Rwy'n gyfarwydd—rwy'n siŵr eich bod chi—â chronfa ddŵr Llandegfedd. Maent yn cael diwrnod agored yno bob blwyddyn. Am swm bach iawn, gall aelodau o'r cyhoedd roi cynnig ar geufadu, canŵio, padlfyrddio, hwylio dingi, a llu o weithgareddau eraill, gydag offer, gwybodaeth ac arbenigedd yn cael ei ddarparu. A ydym yn ymgysylltu â chyrff fel Dŵr Cymru i symud ein polisïau yn eu blaen?
Diolch, John. Nid wyf wedi ymgysylltu â Dŵr Cymru fy hun, ond gwn ein bod wedi gweithio ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Mae rhywbeth o'r enw Tirlun wedi'i ddatblygu, y porth digidol ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, sy'n anelu at ymgorffori dysgu yn yr awyr agored mewn ffordd ddilys a phwrpasol. Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio lle bynnag y mae athrawon, a gellir ei addasu'n hawdd i'w hardaloedd lleol. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda chydweithwyr ym maes newid hinsawdd a materion gwledig i sicrhau aliniad cryf â'r Cwricwlwm i Gymru. Mae hynny'n amlwg yn allweddol er mwyn sicrhau bod y porth yn cefnogi addysgwyr yn ystyrlon i ddatblygu addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
Rwy'n fwy na pharod i godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, sydd â chyfrifoldeb dros Ddŵr Cymru. Rwy'n gyfarwydd â chronfa ddŵr Llandegfedd; credaf ei bod yn adnodd gwych. Hefyd, mae gennym y gronfa ddŵr newydd yng Nghaerdydd y mae Dŵr Cymru wedi gweithio arni, sy'n gwbl syfrdanol. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno. Yn amlwg, mae Dŵr Cymru—rwy'n gwybod, oherwydd y trafodaethau a gefais gyda nhw am y gamlas yn rhinwedd fy swydd fel AS—yn wynebu'r un mathau o bwysau ariannol ag y mae pawb ohonom yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ond rwy'n sicr yn credu y byddai'n werth cael y sgwrs honno, ac fe af ar drywydd hynny gyda Huw Irranca-Davies.
Cwestiynau'r llefarwyr sydd nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n teimlo ein bod yma eto, yn siarad am fethiannau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â llythrennedd yn ein hysgolion. Mae wedi bod yn ffiasgo parhaus ers peth amser, ac nid yw'n dangos unrhyw arwyddion o wella. Yn y cyfamser, ein plant sy'n talu'r pris am hyn. Mae nifer o bobl yn derbyn mai ffoneg synthetig systematig yw un o'r ffyrdd gorau o ddysgu ein plant sut i ddarllen, ond eto gwyddom fod rhai plant yng Nghymru yn dal i gael eu dysgu i ddarllen drwy'r dull ciwiau y profwyd nad yw'n gweithio, ac sydd wedi ei wrthod yn eang gan arbenigwyr a'i osgoi'n llwyr yn Lloegr, gyda'r wlad honno'n gweld gwelliannau mawr yn eu safonau darllen.
Yn ddiweddar iawn, gwelsom Elizabeth Nonweiler yn gadael panel llythrennedd arbenigol y Llywodraeth. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Elizabeth yn arbenigwr yn ei maes, ac o'r hyn a ddeallaf, mae hi'n un o'r ddau aelod o'r panel sydd â phrofiad uniongyrchol o ddysgu plant sut i ddarllen. Mae wedi gadael am nad yw'r panel wedi cyflawni unrhyw beth mewn bron i flwyddyn, a dywed fod methiannau'r panel bellach yn cael eu hymgorffori yn rhaglen llythrennedd genedlaethol newydd y Llywodraeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n derbyn barn ddamniol Elizabeth ynghylch cyflwr presennol y panel?
Diolch, Natasha. Rwy'n credu mai'r rheswm pam ein bod yma eto yw am ei bod yn amlwg nad ydych chi'n gallu gwrando pan fyddaf yn esbonio hyn dro ar ôl tro, a hynny mewn cryn fanylder yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, mae gennym banel llythrennedd arbenigol sy'n cyflawni gwaith cymhleth ac a fydd yn darparu adroddiad i mi ym mis Rhagfyr. Mae'r panel yn cytuno â mi mai ffoneg synthetig systematig yw'r dull allweddol o addysgu darllen yn effeithiol, a dylid defnyddio hynny gydag ystod o ddulliau ychwanegol o ddatblygu sgiliau llythrennedd ehangach, gan gynnwys rhuglder, geirfa a dealltwriaeth, yn enwedig ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ers i'r cwricwlwm gael ei ddatblygu gyntaf, rydym wedi dweud bob amser fod dull systematig o ymdrin â ffoneg yn rhan hollbwysig o ddysgu darllen, ac rydym wedi sicrhau bod y canllawiau'n egluro hyn yn gliriach. Dylid dysgu'r synau y mae llythrennau'n eu cynrychioli a sut i'w cyfuno'n eiriau i bob plentyn. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, i osgoi unrhyw amheuaeth, rwy'n disgwyl i'r egwyddorion yr ydym yn eu datblygu fod yn glir ynghylch addysgu â chiwiau lluniau. Nid yw'r Cwricwlwm i Gymru’n cymeradwyo addysgu â chiwiau lluniau, ac ni ddylid annog dysgwyr i ddyfalu geiriau yn hytrach na'u dadgodio.
Rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith bod Elizabeth wedi gwneud penderfynu ymddiswyddo, ac rwy'n cyfarfod â hi yfory i drafod ein pryderon. Ond mae gennyf hyder llwyr yn ein panel llythrennedd, lle rydym yn ffodus iawn i gael amrywiaeth o arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Nid wyf yn addysgwr fy hun. Nid wyf yn arbenigwr mewn darllen, a dyna pam ein bod wedi sefydlu'r panel llythrennedd i roi'r cyngor hwnnw i ni. Fel yr addewais yr wythnos diwethaf, byddwn yn rhannu'r wybodaeth honno gyda'r pwyllgor.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd. Nid wyf innau'n addysgwr chwaith, ond gwn ein bod yn ceisio gwneud ein gorau yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt ar hyn o bryd. I'r Aelodau yn yr ystafell, yn ogystal â phobl y tu hwnt, rwyf am roi rhywfaint o gefndir, ac rwy'n derbyn eich bod yn cyfarfod ag Elizabeth yfory. Mae Elizabeth wedi hyfforddi athrawon ac wedi cynghori Llywodraethau ledled y byd ar ddulliau o ddysgu darllen sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae ganddi brofiad uniongyrchol hefyd o ddysgu plant sut i ddarllen. Felly, mae'n gymwys iawn yn y maes. Ond anwybyddwyd ei hawgrymiadau a gefnogir gan dystiolaeth yn llwyr, a honnir nad yw gweision sifil wedi bod yn gwrando ar unrhyw un ar y panel, a'u bod yn hytrach wedi bod yn ysgrifennu eu datganiadau eu hunain.
Beth yw pwynt cael panel arbenigol os nad ydych chi'n mynd i wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet? Er ichi ddweud dro ar ôl tro—ac rwy'n derbyn eich bod wedi'i ddweud yma, ac yn y pwyllgor yn flaenorol—mai ffoneg synthetig yw'r dull y disgwyliwch i ysgolion ei ddefnyddio i ddysgu plant sut i ddarllen, mae'r panel wedi methu cytuno ar egwyddorion clir, er ei fod yn bodoli ers blwyddyn. A nawr, bydd rhaglen ysgolion genedlaethol £8.2 miliwn y Llywodraeth ar gyfer llythrennedd yn ystyried gwaith y panel, a bydd yn cael ei harwain gan sawl aelod o'r panel, gan gynnwys y rheini sydd wedi bod yn feirniadol o ffoneg synthetig yn gyhoeddus. Mae Elizabeth wedi rhybuddio fel hyn:
'Mae'r gorgyffwrdd rhwng personél ac athroniaeth yn golygu bod gwendidau'r panel bellach wedi'u gwreiddio yn y prosiect newydd hwn. Nid oes unrhyw un o'r rhai sy'n ei arwain erioed wedi dysgu plant ifanc i ddarllen.'
Mae'n amlwg fod y prosiect newydd hwn yn sicr o fethu, Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid yw'n ymddangos bod y panel yn addas i’r diben os mai dyma'r safbwynt. A rhybuddiwyd nawr na fydd y prosiect llythrennedd newydd gwerth £8.2 miliwn yn gwella safonau darllen; os rhywbeth, bydd yn gwneud pethau'n waeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddiddymu'r panel a rhoi'r gorau i'r prosiect llythrennedd cyn ei bod yn rhy hwyr, neu o leiaf sicrhau bod cydbwysedd o banelwyr yno a fydd yn gwella darllen i blant yng Nghymru?
Diolch, Natasha. Diolch am dynnu sylw at gymwysterau Elizabeth. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â hi yfory. Ond mae gennym ystod o arbenigwyr llythrennedd cymwys iawn ar y panel, ac mae pob un ohonynt yn gweithio'n galed i'n cynghori ni fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai safbwyntiau amrywiol y panel yw ei gryfder. Mae'n sicrhau bod ein gwaith yn cael ei brofi'n gadarn ac yn sicrhau bod ein cymorth yn gwbl seiliedig ar dystiolaeth ymchwil glir ar sut y mae dysgwyr yn datblygu sgiliau darllen a llythrennedd ehangach.
Mae wedi bod yn broses hir, ond rwy'n credu y bydd yr amser y mae wedi'i gymryd yn adlewyrchu ein hymdrechion i sicrhau bod yr holl dystiolaeth wedi'i hystyried. Mae hyn, ar adegau, wedi arwain at ddadleuon a her, ond rwy'n hyderus y bydd y consensws y mae'r panel wedi dod iddo dros yr amser hwnnw yn ein helpu i ddarparu'r cymorth cywir i bob dysgwr. Rôl swyddogion y Llywodraeth drwy gydol y broses oedd cefnogi'r panel yn eu gwaith, gan sicrhau bod yr holl sylwadau a wnaed gan ei aelodau wedi'u hystyried yn y broses ddrafftio gydweithredol.
Ar y cyllid y cyfeirioch chi ato, rydym wedi cyhoeddi £8.2 miliwn ar gyfer prosiect CAL:ON. Ei ddiben yw gwella llythrennedd dwyieithog—a chredaf fod hynny'n bwynt pwysig iawn; mae a wnelo hyn â mwy na darllen Saesneg yn unig—i bob dysgwr drwy ddysgu proffesiynol cenedlaethol drwy'r prosiect. Mae wedi'i ategu gan dri phecyn gwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ddarparu pecyn cymorth cynhwysfawr i bob athro llythrennedd. Mae hynny'n cynnwys y blynyddoedd cynnar, dulliau asesu drwy sgrinio, a dysgu a chanllawiau proffesiynol cenedlaethol ar ddarllen ac addysgu cynnar. Ond mae hefyd yn cynnwys darparu cymorth i ddysgwyr sy'n hŷn na'r blynyddoedd cynnar. Fel y gwyddom, dyna un o'r meysydd lle mae Estyn wedi nodi gwendidau.
Yn ogystal â hyn, rydym yn darparu dros £200,000 i ddatblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol mewn ffoneg iaith Gymraeg, dros £800,000 i hyrwyddo cariad at ddarllen ac i ddarparu strategaethau a chymorth i ysgolion ddethol testunau ar gyfer plant, a £3.75 miliwn mewn cynlluniau'n ymwneud â llythrennedd a llafaredd. Gwyddom fod llafaredd yn hanfodol os yw plant yn mynd i ddysgu darllen.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch ichi sôn am Estyn, oherwydd yn fy marn i, mae ganddynt lawer o gwestiynau i'w hateb yn y sefyllfa hon. Ymddengys bod swyddogion yn yr arolygiaeth ysgolion wedi amddiffyn y technegau ciwiau a wrthbrofwyd, a hyd yn oed wedi gwahodd yr Athro Dominic Wyse, sy'n feirniadol o ffoneg, i annerch arolygwyr, gan wrthod cais gwreiddiol gan yr arbenigwr ar ffoneg, sef Elizabeth. Mewn gwirionedd, mae e-bost diystyriol a nawddoglyd wedi'i ddatgelu'n answyddogol, lle mae staff Estyn yn trafod cais Elizabeth i'w briffio ar ffoneg. Mae'r e-bost, a anfonwyd at Elizabeth ar ddamwain, rhywbeth rwy'n siŵr y gallwch ei drafod gyda hi yfory, yn ei disgrifio fel rhywun 'efengylaidd' ynglŷn ag un dull, a dywedodd, drwy gyfarfod â hi, y byddent o leiaf wedi rhoi cyfle iddi siarad. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn sôn am ddilyn dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddysgu plant sut i ddarllen, ond mae'n amlwg fod gan Estyn ymagwedd ysmala iawn, ac mae'n ymddangos i mi nad oes diddordeb gan Lywodraeth Cymru mewn codi safonau mewn gwirionedd.
Dro ar ôl tro, rydym yn clywed am yr angen i fabwysiadu model cytbwys o addysgu darllen, a fyddai'n cynnwys cymysgu ffoneg â strategaethau dadgodio eraill. Ond y consensws gwyddonol yw mai dim ond arafu cynnydd plentyn y gall hyn ei wneud mewn gwirionedd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cael digon o amser i weithredu i wneud pethau'n iawn o ran addysgu ein plant sut i ddarllen, ond mae'n edrych yn debyg fod Llywodraeth Cymru’n parhau i fethu'n llwyr yn y maes, gwaetha'r modd. A wnewch chi gyfaddef o'r diwedd fod camgymeriad wedi'i wneud, ailfeddwl pethau, a chyflwyno set o fesurau i hybu darllen sydd â ffoneg synthetig systematig yn sail iddynt? Oherwydd mae'r dystiolaeth yn glir: mae ffoneg systematig yn gweithio, ac mae'n bryd rhoi tystiolaeth o flaen ideoleg yma yng Nghymru.
Mae popeth rwy'n ei wneud yn ymwneud â chodi safonau, ac nid wyf mewn unrhyw ffordd yn ideolegol ynglŷn ag unrhyw beth rwy'n ei wneud ym maes addysg. Dim ond yr hyn a fydd o fudd i'n plant a'n pobl ifanc y mae gennyf ddiddordeb ynddo, a dyna'r lens rwy'n edrych ar bopeth drwyddi.
O ran Estyn, rwy'n deall eu bod wedi ymddiheuro am e-byst diweddar a anfonwyd mewn camgymeriad ynghylch y sgyrsiau gydag Elizabeth Nonweiler. Nid wyf yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Estyn am Elizabeth. Fel Llywodraeth, rydym yn gwerthfawrogi barn Elizabeth a'i chyfraniad i'r panel. Fel y dywedais, byddaf yn trafod hyn gyda hi yfory. Byddaf hefyd yn cyfarfod ag aelodau eraill y panel llythrennedd i glywed ganddynt hwy. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol, wrth inni geisio gwneud ein gorau glas dros blant a phobl ifanc, ein bod yn dilyn y dystiolaeth drwyddi draw.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar gyfer 2024-25, targed Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi athrawon uwchradd newydd drwy raglenni addysg gychwynnol athrawon a'u cael nhw i'r proffesiwn oedd 1,056. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint yn union gafodd eu hyfforddi llynedd?
Diolch, Cefin. Rwy'n siŵr na fyddech yn disgwyl i'r ffigur hwnnw fod wrth law gennyf heddiw. Rwyf wedi bod yn agored iawn gyda'r pwyllgor ynglŷn â'r heriau a wynebwn gyda recriwtio uwchradd. Dyna pam ein bod yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg. Dyna pam fod gennym bethau fel ein cymelliadau i sicrhau bod y proffesiwn yn ddeniadol i athrawon newydd. Ond fel y trafodwyd yn y pwyllgor, mae'n llawer mwy cymhleth na phethau'n ymwneud ag arian: mae a wnelo â llwyth gwaith, mae a wnelo â'r pwysau y mae ysgolion yn ei wynebu. Rydym yn mynd ati'n weithredol iawn i fynd i'r afael â'r materion hynny. Rydym yn trafod y cynllun ar gyfer y gweithlu ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid ac rydym yn bwriadu cyhoeddi fersiwn derfynol yn y gwanwyn.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gallaf roi'r ffigur i chi. Mae e'n 335, ac mae'r ystadegau yna ar gael gan Gyngor y Gweithlu Addysg, sydd yn 700 yn llai na'r targed roeddech chi wedi ei osod fel Llywodraeth. Mewn pynciau blaenoriaeth, fel gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft, dim ond dau athro ffiseg oedd wedi cymhwyso, un athro bioleg, a dim un yn cemeg. Mae'n amlwg nad ŷch chi fel Llywodraeth wedi llwyddo i ddatrys yr argyfwng recriwtio sy'n wynebu'r sector addysgu yng Nghymru.
Yn Lloegr, gall darpar athrawon dderbyn tua £30,000 mewn grantiau cymhelliant ar gyfer pynciau blaenoriaeth. Fe allech chi ddweud bod hyd at £25,000 ar gael ar gyfer darpar athrawon yng Nghymru, drwy'r tri chynllun cymhelliant gwahanol, sef pynciau blaenoriaeth ar y naill law, ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a'u bod nhw'n dod o gefndir BME. Ond y gwir amdani yw doedd yna ddim un myfyriwr wedi dilyn y tri chynllun yna gyda'i gilydd y llynedd. Felly, o ystyried hyn, a'n bod ni'n dal i weld niferoedd syfrdanol o isel mewn pynciau allweddol, allech chi o leiaf gyfaddef bod y cynlluniau cymhelliant presennol yn methu a bod angen eu diwygio nhw ar frys?
Diolch, Cefin. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod heriau gyda recriwtio uwchradd yn rhywbeth rydym yn ei weld ledled y DU, er bod ganddynt gymelliadau mwy hael yn Lloegr nag y gallwn eu cynnig yng Nghymru. A'r rheswm nad ydym yn gallu cynnig cymelliadau mwy yw bod hyn yn ymwneud â blaenoriaethu adnoddau, onid yw? Ac rwyf wedi siarad yn y pwyllgor am y pwysau ariannol sy'n wynebu addysg.
Fe wnaethom drafod yn y pwyllgor hefyd y dystiolaeth ynglŷn ag a yw cymelliadau'n effeithiol, ac mae'r dystiolaeth ar hynny'n gymysg ar hyn o bryd, ond mae'n dal i fod yn rhywbeth rwy'n edrych arno'n weithredol, yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor, lle clywais academyddion yn sôn am y gwahaniaeth rhyngom ni a Lloegr, ac rwyf wedi bod yn edrych ar hynny'n rhagweithiol. Ond mae wedi bod yn heriol iawn gyda'r gyllideb bresennol—gyda'r gyllideb dreigl. Mae'n rhaid imi wneud penderfyniadau anodd ac mae'n rhaid imi flaenoriaethu adnoddau. Mae'n rhywbeth yr ydym yn dal i edrych arno ond mae'n amodol ar setliadau terfynol.
Os na allwn recriwtio athrawon, fe wyddom y bydd y system addysg gyfan yn chwalu. Felly, dyna pam y mae Plaid Cymru’n cytuno ag argymhelliad Estyn fod angen inni greu cymelliadau mwy deniadol. Ac rydym hefyd yn cefnogi barn arbenigwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fod yn rhaid ystyried cymelliadau di-gost neu gost isel. A dyna pam, os mai Plaid Cymru fydd yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf, y byddem yn cau'r bwlch â Lloegr i sicrhau nad yw athrawon dan hyfforddiant dan unrhyw anfantais o ganlyniad i ddewis astudio a gweithio yma.
Felly, mae recriwtio athrawon drwy gymelliadau yn un peth, ond mae sicrhau eu bod yn aros yn y proffesiwn a bod trethdalwyr yn gweld gwerth am eu buddsoddiad yn rhywbeth arall. A dyna pam y dylai unrhyw un, yn fy marn i, sy'n derbyn bwrsari ar gyfer cwrs hyfforddiant athrawon orfod addysgu yng Nghymru am nifer penodol o flynyddoedd. Nawr, mae'n syfrdanol, a dweud y gwir, nad oes mesur mor sylfaenol eisoes ar waith. Ac mae'n peri hyd yn oed mwy o bryder nad yw Llywodraeth Cymru’n olrhain faint o dderbynwyr bwrsari sy'n parhau i addysgu yng Nghymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod yr hyn a addawyd gennych o ran y data ar nifer yr unigolion sy'n derbyn cymelliadau'r pynciau â blaenoriaeth ac sy'n addysgu yng Nghymru ar hyn o bryd, fod y data hwnnw'n cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Tachwedd, fel yr addawoch chi, neu a yw Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni ei hymrwymiadau ei hun unwaith eto?
Diolch, Cefin. Rwy'n awyddus iawn i fod mor dryloyw â phosib gyda'r data. Fel y dywedais yn gynharach, yn amlwg mae cymelliadau'n rhan allweddol o'r darlun, ond mae'r dystiolaeth ynghylch cymelliadau'n gymysg. Ond mae'n rhywbeth rwy'n edrych arno'n weithredol. Nid oes adnoddau yn fy nghyllideb, yn y prif grŵp gwariant addysg, i wneud hynny ar hyn o bryd oherwydd y gyllideb dreigl. Yn amlwg, bydd y gyllideb yn destun trafodaethau pellach nawr, ac fel Aelodau eraill o'r Cabinet, rwy'n obeithiol y gallai mwy o arian ddod ar gael.
Serch hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod hyn yn ymwneud â mwy na chymelliadau a chyflogau'n unig—mae a wnelo â delwedd y proffesiwn, ac mae a wnelo â'r pwysau a'r anawsterau y mae addysgwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn y proffesiwn. Gwyddom fod heriau gyda llwyth gwaith, maent yn delio â chymhlethdod cynyddol gyda phlant a phobl ifanc, ac maent yn delio â phryderon ynghylch cyllidebau ysgolion. Ac fel y dywedais wrth y pwyllgor pan gawsoch y sesiwn ar recriwtio a chadw staff, rydym yn gwneud yn well na Lloegr ar gadw staff mewn gwirionedd. Ond rwy'n awyddus i wneud llawer mwy drwy fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â llwyth gwaith, y pwysau eraill sy'n gysylltiedig â lles a'r hyn y maent yn delio ag ef. Mae'n ymwneud hefyd â phethau fel cymorth gyrfa gynnar i athrawon newydd—gan sicrhau nad am y flwyddyn honno'n unig y cânt gymorth, ond am gyfnod hirach, gan y gwyddom mai yn ystod y pum mlynedd gyntaf o fod yn athro y ceir y risg fwyaf y byddant yn gadael y proffesiwn. Rwy'n credu bod cymelliadau'n rhan o'r darlun, ond nid dyna'r unig ateb. Mae hyn yn ehangach ac yn fwy cymhleth na hynny.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar sgiliau bywyd? OQ63393
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi arwain y ffordd drwy sicrhau bod sgiliau bywyd hanfodol fel llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, bwyta'n iach, llythrennedd ariannol, a mwy, wedi'u hymgorffori'n gadarn drwy'r holl ddysgu. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn dysgu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen i ffynnu mewn addysg, cyflogaeth a bywyd bob dydd.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. I mi'n bersonol, mae rhoi'r sgiliau cywir i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer y dyfodol yn rhywbeth rwy'n teimlo'n wirioneddol angerddol yn ei gylch. Dyna pam fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyflwyno sgiliau bywyd hanfodol mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, rhywbeth y credaf ei fod wedi cael ei fachu gan gymheiriaid yn Llundain bellach. Byddai'r gwersi hyn yn dysgu ein plant ifanc am bethau fel cyllidebu, sut y mae morgeisi'n gweithio, sut i agor cyfrif banc, sut i wneud cais am basbort, yn ogystal â maeth, bwyta'n iach a rheolaeth ariannol. Dyma ychydig o bethau yr hoffem eu cynnwys yn ein rhai ni. Bob tro y bu i mi sôn am y cysyniad hwn wrth athrawon, rhieni neu fyfyrwyr y cyfarfûm â nhw, mae wedi'i groesawu'n fawr. Mae Llywodraeth Cymru’n honni bod sgiliau bywyd yn cael eu dysgu yn ei chwricwlwm newydd, ond o ystyried yr ymreolaeth a roddir i ysgolion, nid oes unrhyw warant fod hynny'n digwydd yn ymarferol mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y Senedd Ieuenctid, sydd wedi'i lleoli yma yng Nghymru, wedi tynnu sylw at anghysondebau, gyda rhai disgyblion yn cael sesiwn sgiliau bywyd unwaith y flwyddyn yn unig. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cynnig sgiliau bywyd presennol o fewn y cwricwlwm, a mabwysiadu ffordd o feddwl y Ceidwadwyr Cymreig, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi ein cenhedlaeth iau yn y sefyllfa orau bosib ar gyfer bywyd fel oedolion? Diolch.
Diolch, Natasha. Nid oes a wnelo hyn â chopïo'r Ceidwadwyr Cymreig; rwyf newydd nodi'n glir iawn fod y pethau hyn eisoes wedi'u hymgorffori'n llawn yn ein Cwricwlwm i Gymru. Mae'r pedwar diben yn nodi gweledigaeth glir i ddysgwyr ddatblygu fel dinasyddion uchelgeisiol a galluog, mentrus a chreadigol, moesegol a gwybodus, iach a hyderus. Mae maes dysgu gorfodol iechyd a lles yn grymuso dysgwyr â sgiliau bywyd hanfodol, o ddeall iechyd meddwl a gwydnwch emosiynol i ddatblygu arferion bwyta iach, ffyrdd egnïol o fyw a sgiliau coginio ymarferol. Mae llythrennedd ariannol yn sgìl bywyd allweddol arall sy'n orfodol yn y cwricwlwm, gyda dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o arian ac yn defnyddio cysyniadau fel gwariant a llog i ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau ariannol effeithiol. Mae ein sgiliau integrol allweddol—creadigrwydd ac arloesedd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu ac effeithiolrwydd personol, rheoli amser, gosod nodau, gwneud penderfyniadau, ac ati—yn rhedeg drwy'r cwricwlwm. Rydym hefyd yn datblygu sgiliau bywyd hanfodol drwy ein fframwaith cymhwysedd digidol, sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol deallusrwydd artiffisial, llythrennedd data a diogelwch ar-lein. Felly, rydym yn gwneud yr holl bethau hyn. Mewn gwirionedd, rwy'n croesawu tröedigaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r achos yn fawr.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion ym Mhowys i wella safonau a chyrhaeddiad disgyblion? OQ63381
Rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys i wella safonau addysgol er budd pob dysgwr ym Mhowys. Mae cyflawni gwelliant cynaliadwy mewn cyrhaeddiad addysgol mewn llythrennedd a rhifedd a gwella presenoldeb yn flaenoriaethau allweddol i mi.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad Estyn ynghylch gwasanaethau addysg Cyngor Sir Powys, a nododd fod achos pryder sylweddol. Pan edrychaf ar y data, mae disgyblion ym Mhowys yn cyflawni canlyniadau cyrhaeddiad ychydig yn uwch o ran TGAU, ond canlyniadau cyrhaeddiad is o ran Safon Uwch. Felly, ymddengys mai cyrhaeddiad Safon Uwch yw'r broblem go iawn i Bowys. Rwy'n sylweddoli mai materion i Gyngor Sir Powys yw'r rhain, ond sut y mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r gwaith o wneud y gwelliannau hynny, a sut ydych chi, fel yr Ysgrifennydd addysg, yn craffu ar Bowys ac yn monitro eu perfformiad yn y maes hwn?
Diolch yn fawr, Russell. Yn amlwg, roedd adroddiad Estyn ar Bowys yn peri cryn bryder. Mae arolygu annibynnol yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau. Yn anffodus, fe wnaethant nodi rhai pryderon am y sefyllfa ym Mhowys, ac rwy'n poeni'n fawr am hynny. Fe wnaeth Estyn argymhellion cryf a chlir i hybu safonau uwch, a hoffwn weld gwelliant cyflym a chynaliadwy ym Mhowys. Rwyf wedi cyfarfod â'r awdurdod addysg lleol, a gwn fod Jayne Bryant hefyd wedi cyfarfod â'r awdurdod addysg lleol, ac mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r AALl hefyd. Mae'r AALl wedi cyflwyno cynllun i fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae Estyn yn monitro cynnydd yr awdurdod lleol yn erbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr arolygiad gwreiddiol, ac maent yn fy hysbysu ynghylch cynnydd ar hynny.
Rydym hefyd wedi bod mewn trafodaethau gyda Phowys ynghylch cymorth ychwanegol y gallwn ei ddarparu i'w helpu i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr arolygiad. Rydym eisoes wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol yn rhan o'r arian 'ysgolion sy'n peri pryder' a ddarparwyd gennym y llynedd. Bellach, mae gan Bowys banel cymheiriaid o arbenigwyr addysg, y buom yn ei drafod ychydig yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Bydd hwnnw'n galluogi pobl o awdurdodau eraill i roi'r cymorth ychwanegol hwnnw iddynt, ac maent hefyd wedi sefydlu bwrdd gwella carlam mewnol sy'n cyfarfod yn rheolaidd i fonitro cynnydd a gwerthuso amcanion a sicrhau atebolrwydd. Ond rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn, gan ei thrafod yn rheolaidd gydag Estyn. Byddant yn ailarolygu yn yr ychydig fisoedd nesaf yn ôl pob tebyg, a byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny, a hoffwn weld Powys yn dod allan o'r categori cyn gynted â phosib.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a hyfforddi nifer ddigonol o athrawon sy'n siarad Cymraeg i gyrraedd ei tharged o ddarparu 10 y cant o'r addysgu yn Gymraeg erbyn 2030? OQ63367
Bydd ein cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol er mwyn mynd i'r afael â heriau recriwtio mewn ysgolion, gan gynnwys y sector cyfrwng Cymraeg. Yn y cyfamser, eleni, rydym yn buddsoddi dros £8 miliwn mewn amrywiaeth o raglenni i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau iaith ein holl addysgwyr.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gweld gostyngiad cymedrol yn nifer yr athrawon cofrestredig yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gostyngiad o oddeutu 1.7 y cant, rwy'n credu, gyda 33.4 y cant o'r rhieni'n gallu siarad Cymraeg, a 26.9 y cant yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Credaf fod llai na 25 o hyfforddeion wedi cofrestru i addysgu'r iaith Gymraeg yn y pedair blynedd diwethaf, sy'n llai na thraean o darged Llywodraeth Cymru ei hun. Mae yna anghydraddoldebau rhanbarthol sylweddol yng Nghymru hefyd, gyda siroedd fel Gwynedd yn ymfalchïo yn y lefel uchaf o alluedd yn y Gymraeg ymhlith athrawon, gyda 93 y cant yn meddu ar safon 'canolradd a mwy', tra bo sir Fynwy a Thorfaen yn fy ardal i yn y band isaf yn genedlaethol ar gyfer yr un safon. O ystyried yr anghydraddoldebau rhanbarthol a thueddiadau cyfredol, a yw Llywodraeth Cymru’n credu bod ei tharged ar gyfer 2030 yn dal i fod yn realistig? Os felly, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw ardaloedd sydd â'r galluedd isaf o ran addysgu'r iaith Gymraeg, fel sir Fynwy a Thorfaen, yn cael eu gadael ar ôl?
Diolch, Peter. Mae'r darlun yn heriol ac nid oes dianc rhag hynny. Dyna pam y mae mynd i'r afael â hyn yn flaenoriaeth i ni. Eleni, rydym yn buddsoddi dros £4 miliwn i fynd i'r afael â heriau recriwtio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae dros £4 miliwn wedi'i ddyrannu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi addysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith. Nid oes ateb cyflym i hyn, yn anffodus, a dyma pam ein bod yn rhoi amryw o gamau gwahanol ar waith i fynd i'r afael â hyn. Fel y sonioch chi, bydd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol inni nodi'r camau sydd eu hangen i sicrhau bod gennym weithlu digonol i gyflawni yn erbyn y targedau a osodir i awdurdodau lleol drwy'r fframwaith cenedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar adolygu cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg fel sail i'r fframwaith hwn, a byddwn yn ymgynghori ac yn cydweithio'n agos â rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf i roi cynlluniau pwrpasol ar waith.
Mae gennym hefyd raglen Cynllun Pontio, buddsoddiad pellach o £1.5 miliwn sydd wedi cyflwyno bron i 100 o athrawon cynradd i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg—ac mae hynny'n helpu rhai ysgolion mewn meysydd pwnc allweddol lle mae gennym brinder, fel gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym hefyd yn parhau i ariannu'r bwrsari cadw staff ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon pwnc Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac rydym eisoes wedi trafod hynny heddiw.
Mae gwaith â ffocws yn mynd rhagddo i ymateb i ofynion y ddeddfwriaeth newydd. Felly, ochr yn ochr â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym eisoes yn gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol sydd wedi cysylltu â ni i gefnogi dealltwriaeth o beth y mae 10 y cant o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei olygu. Fel y nodwyd gennych, mae gwahanol heriau daearyddol ynghlwm wrth hynny. Ac fel y nodir yn y ddeddfwriaeth, bydd cylch gwaith y ganolfan genedlaethol yn ehangu ac yn pontio i'r athrofa erbyn mis Awst 2027, a bydd hynny'n ein galluogi i dargedu cymorth at yr ysgolion sydd angen gwneud y cynnydd mwyaf yn y maes hwnnw.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut mae plant yng Nghymru yn cael eu haddysgu am lythrennedd ariannol? OQ63384
Mae llythrennedd ariannol yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr rhwng tair ac 16 oed, drwy'r maes dysgu mathemateg a rhifedd. Mae hyn yn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i reoli eu cyllid eu hunain, deall gwybodaeth ariannol a gwneud penderfyniadau ariannol synhwyrol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae llythrennedd ariannol yn cysylltu'n uniongyrchol â bywyd bob dydd, o siopa, cynllunio teithiau, deall trethi a hyd yn oed dechrau busnes. Mae i blant ddysgu sut i gyllidebu, cynilo a gwario'n ddoeth yn eu helpu i wneud dewisiadau cyfrifol fel oedolion, gan osgoi dyled a meithrin sicrwydd ariannol. Felly, mae dealltwriaeth gynnar o arian yn lleihau'r risgiau o arferion ariannol gwael fel gorwario, benthyciadau diwrnod cyflog a hyd yn oed dyled cerdyn credyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Dangoswyd bod addysg ariannol mewn ysgolion yn annog meddwl beirniadol, a thrwy gymharu prisiau, deall gwerth ac adnabod risgiau ariannol, gall plant ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy da a fydd yn eu helpu mewn sawl maes mewn bywyd.
Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n credu y gellir defnyddio polisi addysg ariannol i helpu i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol ac economaidd-gymdeithasol yng Nghymru? Ac os felly, a ydych chi'n meddwl y dylai llythrennedd ariannol fod yn rhan statudol o gwricwlwm cenedlaethol Cymru? Diolch.
Diolch, Joel. Rydych chi wedi esbonio'n glir iawn pam y mae hyn yn bwysig. Mae'n sgil gydol oes, onid yw, os gallwn ni arfogi plant â'r gallu i ddysgu am y pethau hyn? Mae llythrennedd ariannol eisoes yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, fel y dywedais mewn ymateb i Natasha. Mae'n sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r profiad y maent eu hangen i reoli eu cyllid eu hunain, dehongli gwybodaeth, gwneud penderfyniadau gwybodus, asesu risgiau a dod yn ddefnyddwyr beirniadol, ac rydym wedi cydweithio â'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i ddarparu adnoddau addysg ariannol i ysgolion yng Nghymru i gefnogi'r maes dysgu pwysig hwn. Ac mae'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y gofod hwn yn cynnwys cyfrifo ariannol a gwneud penderfyniadau, ac mae hynny'n dechrau gyda dysgwyr yn defnyddio arian ac iaith arian.
Tuag at ddiwedd yr ysgol gynradd, dylent ddatblygu dealltwriaeth o incwm a gwariant a chyfrifo elw a cholled. Erbyn diwedd yr ysgol uwchradd, dylent fod yn gyfarwydd â chyfraddau cyfatebol blynyddol i werthuso cynhyrchion ariannol a deall cyfraddau treth incwm. Gwelais hyn ar waith pan ymwelais ag Ysgol Gymraeg Nant Caerau yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, lle roedd yr holl blant wedi ymgolli mewn gwers lle roeddent wedi cael dyraniad o arian—nid arian go iawn, yn amlwg—i gynllunio diwrnod allan iddynt eu hunain a'u teuluoedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys archebu'r tocynnau a chynllunio i gael prydau bwyd ac ati. Roeddent i gyd wedi ymgolli yn hyn. Felly, mae'r gwaith hwn yn digwydd, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn ar gyfer uwchsgilio ein pobl ifanc.
Mae cwestiwn 7 i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Cefin Campbell.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarpariaeth hyfforddiant milfeddygol yng Nghymru? OQ63390
Mae gwasanaethau milfeddygol yn ei gwneud yn bosib cyflawni'r safonau iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd yr ydym am eu cyflawni i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y ddarpariaeth o hyfforddiant milfeddygol yn diwallu anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Wel, mae Cymru'n dal i fod heb ysgol filfeddygol achrededig sy'n gallu dyfarnu ei graddau ei hun. Er bod y bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Choleg Brenhinol y Milfeddygon, fel rŷch chi wedi nodi, yn cynnig datrysiad tymor byr ac i'w groesawu, mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw'r model yma'n ddigonol i fodloni anghenion milfeddygol ac amaethyddol hirdymor Cymru ac i sicrhau lles ac iechyd anifeiliaid.
Weinidog, mae'r galw am filfeddygon cymwys yn cynyddu ledled Cymru, ac er bod Lloegr a'r Alban yn buddsoddi mewn llwybrau hyfforddiant milfeddygol llawn, mae Cymru'n ar ei hôl hi. Nawr, heb ysgol filfeddygol lawn yng Nghymru, mae'r llif o filfeddygon wedi'u hyfforddi'n lleol yn parhau i fod yn gyfyngedig, gan adael ein sector amaethyddol heb ei wasanaethu'n llawn a'n cymunedau gwledig dan anfantais unwaith eto. Felly, o ystyried y sefyllfa, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu'r cyllid a'r gefnogaeth angenrheidiol i ganiatáu i Brifysgol Aberystwyth sefydlu ysgol filfeddygol sy'n dyfarnu graddau fel y gall Cymru hyfforddi a chadw ei milfeddygon ei hun a pheidio â llithro ymhellach ar ôl Lloegr a'r Alban?
Diolch am y cwestiwn atodol, Cefin Campbell. A gaf i ddechrau drwy gofnodi pa mor falch yw Llywodraeth Cymru o gefnogi'r radd filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth? Roedd yn un o fy ymweliadau cyntaf yn yr hydref y llynedd, a chefais fy syfrdanu'n llwyr gan y cynnig yno, y cwrs arloesol a gefnogir gan £3 miliwn o gyllid cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'n fodel arloesol sy'n caniatáu i fyfyrwyr gyflawni dwy flynedd gyntaf eu hyfforddiant yng Nghymru, gyda chyfleoedd i ddychwelyd ar gyfer lleoliadau clinigol, gan helpu i adeiladu gallu milfeddygol hirdymor yng Nghymru. Mae hynny'n hanfodol ar gyfer capasiti a gwydnwch y sector, fel y nodoch chi, ac mae hefyd yn hanfodol i economi a chymunedau gwledig Cymru. Mae'n fuddsoddiad strategol allweddol i Gymru, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi twf a llwyddiant y radd. Rydym yn gweithio i helpu i adeiladu capasiti yn y proffesiwn milfeddygol drwy gefnogi talent cartref a lleihau dibyniaeth ar recriwtio o dramor. Mae cydweithio'n allweddol, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Aberystwyth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod yr ysgol filfeddygol yn diwallu anghenion Cymru, nawr ac yn y dyfodol. Ar fy ymweliad, cefais fy nharo gan y ffaith bod hon yn ysgol sy'n cefnogi'r economi wledig drwy hyfforddi milfeddygon sydd â dealltwriaeth gref iawn o amaethyddiaeth Cymru, iechyd anifeiliaid a blaenoriaethau cyhoeddus.
Nawr, fel sefydliadau ymreolaethol, y prifysgolion sy'n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch y ddarpariaeth y maent yn ei chynnig, ond rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Phrifysgol Aberystwyth. Rydym yn deall bod y brifysgol ar hyn o bryd yn archwilio dichonoldeb cyflwyno cwrs milfeddygol wedi'i leoli'n gyfan gwbl yng Nghymru, a chyda'r opsiwn o hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Ar fy ymweliad, roedd yn amlwg iawn i mi pa mor werthfawr oedd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, nid yn unig i'r myfyrwyr eu hunain ond yn enwedig i ffermwyr yn y cymunedau allu trafod eu hanghenion lles anifeiliaid, yn aml ar adegau o straen, yn eu mamiaith. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn ymrwymedig iawn i'w gefnogi ac mae sgyrsiau'n parhau am hynny. Bydd y myfyrwyr cyntaf i gofrestru ar y rhaglen yn cwblhau eu graddau yn ystod y flwyddyn academaidd hon. A gaf i orffen drwy ddweud hefyd fod y buddsoddiad hwn wedi rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth ei hun ymestyn ei gweithgarwch ymchwil ac arloesi yn y maes, ac mae honno'n ffordd arall bwysig iawn y mae'n cefnogi'r economi ranbarthol.
Prynhawn da, Weinidog. Dylwn gofnodi fy natganiad o fuddiant: rwy'n aelod cyswllt anrhydeddus o Gymdeithas Filfeddygon Prydain, ac roedd fy nhad yn arfer bod yn llywydd y gymdeithas filfeddygol dramor. Weinidog, rwy'n falch iawn o siarad am y proffesiwn milfeddygol a'r cyfleoedd gwych sy'n bodoli yn y proffesiwn milfeddygol. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y mae'r adran yn gweithio ar hyn o bryd, gydag Aberystwyth ac yn wir gyda'r proffesiwn ei hun, i agor cyfleoedd i gael gyrfa yn y maes hwn. Mae llawer o newid wedi bod yn y maes er pan oedd fy nhad yn filfeddyg, yn enwedig nifer y menywod yn y gweithlu milfeddygol, sy'n sylweddol wahanol, ond mae'n dal i fod yn rhywbeth lle byddai mwy o fynediad hefyd yn agor gyrfa wirioneddol werth chweil ar gyfer gweithio gyda phobl ac anifeiliaid. Os nad yw'r adran yn cael y sgyrsiau hynny ar hyn o bryd, a wnaiff hi ymrwymo i berswadio'r adran i gael y sgwrs honno gydag Aberystwyth, a chyda'r proffesiwn ei hun yn wir?
Diolch i Vaughan Gething am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'n dangos pa mor drawsbynciol yw'r materion hyn ar draws adran yr economi. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, Vaughan, i dynnu sylw at y newid yn y proffesiwn dros y blynyddoedd, ac yn enwedig ers Brexit, a ninnau'n gwybod bod prinder gwirioneddol wedi bod o ran recriwtio a chadw milfeddygon, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU hefyd.
Felly, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, ac un rwy'n awyddus i'w archwilio drwy'r lens economaidd y credaf fod angen i'n sectorau addysg uwch ac addysg bellach ei weld drwyddo. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda swyddogion.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod staff ysgolion ar draws Gorllewin De Cymru yn teimlo'n ddiogel? OQ63394
Rhaid i ysgolion fod yn lleoedd diogel, lle mae pawb yn cael eu trin â pharch ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gan adeiladu ar ein huwchgynhadledd ymddygiad, rydym yn hybu dull partneriaeth gymdeithasol o weithredu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael a sicrhau diogelwch a lles pawb yn ein cymunedau ysgol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View yn Abertawe fis diwethaf yng nghanol storm yn y cyfryngau, pan ymunodd unig gynghorydd Reform UK yn Abertawe a chadeirio cyfarfod cyhoeddus, a drefnwyd yn ôl pob golwg gan grwpiau o ddamcaniaethwyr cynllwyn â chysylltiadau â'r English Defence League i ddweud wrth rieni ac eraill fod gweddïau Islamaidd yn cael eu dysgu i'w plant yn eu hysgol, y byddent yn gweddïo ar fatiau ac yn adrodd adnodau o'r Qur'an, ac y byddent i gyd yn Fwslimiaid erbyn blwyddyn 6. Y broblem yw nad oes unrhyw ran o hynny'n wir, ac rwy'n deall bod staff ac eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol wedi bod yn destun bygythiadau a cham-drin geiriol, a'u bod yn byw mewn ofn o ganlyniad i'r honiadau ffug hynny. Mae ffeithiau'n bwysig, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae cyfrifoldeb ar bobl mewn bywyd cyhoeddus i lynu at ffeithiau. Mae angen tynnu sylw at gamwybodaeth o'r fath, lle bynnag y caiff ei chyfleu, oherwydd mae'n rhoi staff ac eraill mewn perygl. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i gondemnio'r weithred honno a'r canlyniadau y mae wedi'u hachosi?
Diolch, Tom. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud. Roeddwn yn flin ac yn siomedig o glywed am yr ymatebion i weithredoedd yr ysgol, a oedd yn dysgu plant am wahanol grefyddau. Ac rwy'n gwybod bod nifer o staff yn yr ysgol yn ofidus iawn am yr ymateb a'r sylwadau a wnaed am yr ysgol. Nid oes lle i hyn yn ein system addysg. Ni ddylid gwneud i athrawon a disgyblion deimlo'n anniogel yn eu man gwaith am wneud eu gwaith.
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ac mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fod yn ffeithiol ac yn wrthrychol. Hefyd, rhaid i'r addysg ystyried y prif grefyddau gwahanol a byd-olwg anghrefyddol yng Nghymru, ac adlewyrchu hefyd fod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol yn bennaf. Gallwn ddarparu arweiniad helaeth ynglŷn â'r cwricwlwm, gan sicrhau bod ysgolion yn glir ynghylch y gofyniad i'r addysgu fod yn wrthrychol ac yn blwralaidd, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n harweinwyr ffydd a'n cynrychiolwyr cymunedol i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn fan lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i diogelu.
Felly, rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith bod Sea View yn destun ymddygiad o'r fath a ysgogwyd gan gymhellion gwleidyddol. Fel Llywodraeth, rydym yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi ysgolion sy'n cael eu targedu yn y ffordd honno—adlewyrchiad trist o'r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae ffeithiau'n bwysig, ac ni ddylai ysgolion a phlant byth gael eu targedu gan gamwybodaeth neu deimlo dan fygythiad yn y modd hwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Luke Fletcher.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y posibilrwydd o golli swyddi ar safle Aston Martin yn Sain Tathan? TQ1398
Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned leol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni, ac yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, mae'n barod i gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt drwy ein dull partneriaeth profedig a'n rhwydwaith cymorth, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru ac ReAct+.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.
Wrth gwrs, mae'r tymor Senedd hwn wedi bod yn un anodd i weithwyr ledled Cymru o ran colli swyddi. Cawsom Tata Steel, 2 Sisters yn Llangefni, Avara Foods yn y Fenni, Tillery Valley Foods yn Abertyleri, Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr, staff prifysgol mewn perygl a swyddi wedi'u colli ar y stryd fawr. Mae ffigurau mis Medi'n dangos bod 6,000 yn llai o bobl ar gyflogres cwmnïau yng Nghymru o'i gymharu â'r misoedd blaenorol. Gallwn barhau ar hyn. Ond fel y nododd Heledd Fychan yn gywir ddoe, mae'r sgiliau yn Sain Tathan a'r gweithlu yn Sain Tathan yn hynod bwysig ac yn hollol allweddol i ddyfodol economi Cymru. Felly, hoffwn ddeall gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw pa sgyrsiau y mae hi wedi'u cael gyda'r cwmni ynglŷn â diogelu'r gweithlu hwnnw, ac os bydd diswyddiadau ar raddfa fawr yn digwydd, pa gefnogaeth sydd ar gael i'r gweithlu a'r gweithwyr ar safle Sain Tathan. Gofynnodd Heledd Fychan y cwestiwn hwn ddoe ac ni chawsom ateb clir.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mae hwn yn amser pryderus iawn i'r gweithlu. Fe ymwelais â'r safle yn Sain Tathan yn ddiweddar, ac fe wnaeth y gweithlu medrus a oedd yno argraff fawr arnaf, a chefais gyfle hefyd i gyfarfod â phrentisiaid disglair iawn hefyd. Rhywbeth a wnaeth fy nharo ar yr ymweliad hwnnw oedd y balchder sydd gan bobl eu bod yn cynhyrchu cerbydau gwirioneddol eiconig yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas hirsefydlog ag Aston Martin. Mae gennym gyswllt agos â nhw ar hyn o bryd. Yn yr un modd, rydym mewn cysylltiad â'r undeb, sy'n cyflwyno sylwadau cryf ar ran y gweithlu hefyd.
Nid wyf yn siŵr ar hyn o bryd fod gennyf lawer iawn y gallaf ei ychwanegu o ran manylion, oherwydd nid yw'r cwmni wedi dweud yn gyhoeddus eto faint o weithwyr a allai gael eu heffeithio, er enghraifft. Gwn fod y Trefnydd, Jane Hutt, wedi ateb cwestiwn ar hyn ddoe. Mae hi, fel yr Aelod lleol, mewn cysylltiad agos â'r cwmni a'r undeb. Felly, nid oes llawer mwy o fanylion y gallaf eu rhannu heddiw, heblaw dweud, fel rydych chi wedi'i nodi yn y cwestiwn agoriadol, fod nifer o sefyllfaoedd lle gwelwyd diswyddiadau a swyddi'n cael eu colli yng Nghymru. Pan fydd y sefyllfaoedd hynny'n digwydd, mae gan Lywodraeth Cymru ddull profedig o fynd i'r afael â hynny, gan weithio gyda'r partneriaid y cyfeiriais atynt yn fy ateb gwreiddiol—yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru, ReAct+ ac yn y blaen. Felly, rydym yn barod i gefnogi'r gweithlu. Mae'n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd. Fel y dywedais, nid ydym wedi clywed yn gyhoeddus faint o weithwyr a allai gael eu heffeithio. Mae yna broses ymgynghori sy'n gorfod digwydd nawr. Ond rydym yn cael trafodaethau cyson gyda'r cwmni, gyda'r undeb, a thrwyddynt hwy, gyda'r gweithlu, i geisio darparu'r holl gefnogaeth y gallwn ei rhoi iddynt.
Ymunais â'r datganiad busnes ddoe i wneud y pwynt i arweinydd y tŷ ei bod yn anffodus nad oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi datganiad manwl i gyfleu'r holl bwyntiau y mae Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn ymgysylltu â'r cwmni yn eu cylch mewn perthynas â'r swyddi hyn a allai gael eu colli. Rydym yn gwybod, yn ôl yn y gwanwyn, fod 170 o swyddi wedi'u colli ar draws grŵp Aston Martin mewn rownd gynharach o ddiswyddiadau. Fel rwy'n ei ddeall, mae yna dri gwasgbwynt. Y cyntaf yw'r tariffau yn y farchnad Americanaidd a'r pryder sydd gan y cwmni y gallent gael eu heithrio rhag cael eu cyfran deg o'r 100,000 o unedau car cyntaf ar dariff 10 y cant, yn hytrach na thariff 27 y cant, oherwydd maint y gweithle. A all y Gweinidog busnes ddweud wrthym pa drafodaeth y mae hi'n ei chael gyda'i chymheiriaid yn y DU i ddangos pa mor bwysig yw hi fod Aston Martin yn cael eu cyfran deg o'r cwota o dariffau gostyngol ar 10 y cant, fel y gallant barhau i allforio eu ceir i'r farchnad Americanaidd?
A pha wybodaeth am y farchnad y mae swyddfa Llywodraeth Cymru yn y farchnad Tsieineaidd ac ar draws Asia yn ei bwydo'n ôl am bwysau o fewn y farchnad honno a dewis defnyddwyr o ran y ffordd y maent yn prynu ceir? Oherwydd, unwaith eto, mae'r graddau y mae Aston Martin yn treiddio'r farchnad Tsieineaidd ac Asiaidd yn crebachu, gwaetha'r modd, ac os yw'r galw hwnnw'n crebachu, yn amlwg mae hynny'n galw am adeiladau llai o unedau yn Sain Tathan. Felly, a allwch chi ddweud wrth y Siambr heddiw pa wybodaeth am y farchnad sydd wedi'i bwydo'n ôl i chi fel Gweinidog i roi rhywfaint o gysur mai mater tymor byr yw hwn a fydd yn cael ei gywiro yn y tymor canolig i'r tymor hir, gan warantu dyfodol y ffatri?
Ac a allwch chi gadarnhau hefyd: a yw Aston Martin wedi gofyn am unrhyw gymorth ariannol gan Weinidog yr economi a Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithgarwch hirdymor yn Sain Tathan, o ystyried y pwysau y maent yn eu hwynebu? Oherwydd, fel llawer o gwmnïau mawr, pan fydd y ddau wasgbwynt yn taro'r fantolen, maent yn llosgi drwy arian, ac yn amlwg mae cyfuno arian parod, yn anffodus, yn arwain at y perygl o golli swyddi yn y ffordd hon. Felly, a yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa, gyda Llywodraeth y DU, os daw'r cais hwnnw, i gamu i mewn a chynorthwyo gyda chynlluniau ar gyfer y farchnad i gynyddu'r gyfran a'r capasiti yn ffatri Sain Tathan?
Diolch am y cwestiynau. Rwy'n credu bod rhai ohonynt ychydig yn gynamserol, fel y mae'r cais am y datganiad manwl, oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedais, nid yw Aston Martin wedi dweud yn gyhoeddus faint o weithwyr a allai gael eu heffeithio, ac maent yn dechrau ar y cyfnod ymgynghori. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n dal i fod yn gynnar yn y sefyllfa hon.
Ond mae'r pwynt ynglŷn â chwotâu yr Unol Daleithiau yn un pwysig iawn, ac er ein bod wedi croesawu'r gostyngiad tariff a gafodd ei sicrhau ar gyfer ein masnach fodurol gyda'r Unol Daleithiau, rydym bob amser wedi dweud y gallai'r trefniadau cwota fod yn anodd i gwmnïau fel Aston Martin, o ran eu gallu i dyfu ac allforio, yn enwedig am eu bod yn geir ar ben uchaf y farchnad na chynhyrchir niferoedd mawr ohonynt i'w gwerthu, ac yn amlwg, y pryder yw y bydd y cwota o 100,000 yn cael ei lyncu, os mynnwch, gan y cynhyrchwyr sy'n cynhyrchu niferoedd mawr o geir. Felly, mae fy swyddogion a minnau'n trafod gyda Llywodraeth y DU pa fecanweithiau a allai fod ar gael i sicrhau bod y sefyllfa'n fwy cyfartal i bob cwmni modurol yn y DU, yn ogystal â cheisio eglurder i weld a all y DU drafod amodau gwell gyda'r Unol Daleithiau sy'n debyg i'r rhai y maent wedi cytuno arnynt gyda'r UE a Japan. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar hyn o bryd. Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael trafodaeth gyda Gweinidog y DU yr wythnos hon ar y mater, a bydd y trafodaethau hynny'n parhau.
Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig yn ôl ym mis Rhagfyr y llynedd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi gadarnhau fel hyn:
'Rhwng 2016 a 2021 darparodd Llywodraeth Cymru £18.8m i Aston Martin a'i safle yn Sain Tathan. Roeddent'—
yng ngeiriau'r cwestiwn ysgrifenedig—
'yn daliadau graddol yn gysylltiedig â chwblhau targedau'n ymwneud â chreu swyddi, hyfforddiant sgiliau, ac Ymchwil a Datblygu.'
Nawr, gallai'r £18.8 miliwn hwnnw gael ei wastraffu pe bai'r swyddi hyn yn cael eu colli ar y safle yn Sain Tathan. Felly, pa ddangosyddion perfformiad allweddol, pa farcwyr, sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i benderfynu a ddylid cefnogi busnesau fel Aston Martin gydag arian trethdalwyr, gan sicrhau eich bod chi, y trethdalwr, a phawb yng Nghymru yn cael gwerth am arian a bod y cwmnïau hyn yn gallu creu swyddi yno ar gyfer y tymor hir? Oherwydd, os yw'r adroddiadau'n gywir, os ydym yn gweld swyddi'n cael eu colli yn Sain Tathan, ar gyfer beth y cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Aston Martin yn ariannol i sefydlu ei hun yng Nghymru ac i gefnogi ei uchelgeisiau ar gyfer Bro Tathan. Dyfarnodd Llywodraeth Cymru grantiau o £18.8 miliwn i Aston Martin, fel y clywsom. Roeddent yn ymwneud â chreu swyddi, hyfforddiant sgiliau a thargedau ymchwil a datblygu. Ac rydym hefyd wedi darparu cyllid iddynt i'w cefnogi drwy COVID, drwy daliad o gronfa busnesau mawr COVID-19. Fel sy'n digwydd gyda holl gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ceir amodau clir yn ymwneud â'r cymorth y mae Aston Martin wedi'i dderbyn, a byddwn yn ystyried a oes unrhyw ad-daliadau'n briodol. Ond wrth gwrs, ni allwn wneud hynny hyd nes y bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn hysbys.
Bydd yr ail gwestiwn amserol gan Rhun ap Iorwerth.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar adroddiadau ynghylch dyfodol safle Wylfa ar Ynys Môn? TQ1399
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gryf dros niwclear newydd yn Wylfa ers amser maith, byddai'n amhriodol gwneud sylwadau ar ddyfaliadau.
Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, serch hynny, yn deall pam dwi'n codi'r cwestiwn yma rŵan, oherwydd mae yna ddisgwyliad go iawn, dwi'n credu, y bydd yna gyhoeddiad o bosib o fewn y 24 awr nesaf, ac yn barod mae yna gryn drafod ynglŷn â'r cyfleon a allai godi o hyn i Ynys Môn. Ers dros ddegawd, dwi i wedi bod yn ymwneud â thrafodaethau ar Wylfa i sicrhau bod modd gwneud yn fawr o gyfleon, ac, wrth gwrs, gwarchod ein buddiannau ni fel cymuned, a dwi’n meddwl ei fod destament, y ffaith ein bod ni'n agos, dwi’n credu, at ddatganiad rŵan, i'r gwaith a'r bartneriaeth effeithiol sydd wedi bodoli'n lleol, efo’r cyngor wrth wraidd hynny, ac, ers cael ei hethol y llynedd, mae Llinos Medi hefyd wedi gallu adeiladu ar y rôl allweddol y gwnaeth hi ei chwarae, wrth gwrs, fel arweinydd y cyngor. Mi ydyn ni wedi dysgu o brofiad yn y gorffennol fod angen sicrwydd rŵan y bydd y cynllun yma yn digwydd. Mae yna sawl cam yn ôl wedi bod dros y blynyddoedd ac allwn ni ddim fforddio gweld hynny eto. Ond dwi'n credu, os gwelwn ni'r datganiad yma yfory, fel rydym ni'n disgwyl, fod yna nifer o bethau rydym ni angen bod yn eu codi ar unwaith. Un ydy sicrhau bod gennym ni lais yn llunio'r datblygiad yma. Mi wnaf i egluro beth dwi'n feddwl wrth ‘ni’—dwi'n meddwl ni yn Ynys Môn. Dwi wedi cymryd y safbwynt wastad o drio gwneud yn siŵr bod y cyfleon yn cael eu manteisio arnyn nhw, a gwneud yn siŵr bod camau yn cael eu cymryd, camau lliniarol, i wynebu'r heriau sydd yn annatod yn sicr o godi mewn unrhyw ddatblygiad o'r maint a'r natur yma.
Ond mae'r ‘ni’ hefyd yn golygu ni yma yng Nghymru, a beth fyddwn i eisiau gweld ydy bod strategaethau Cymreig yn cael eu gweu i mewn i'r cynlluniau yma ar gyfer dyfodol Wylfa. Felly, a gaf i sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith o yfory ymlaen i sicrhau llais i ni fel gwlad ac fel cymunedau wrth sicrhau bod hwn yn gynllun fydd yn gweithio i ni?
Ac un apêl arall hefyd: o ran datblygu'r is-adeiledd fydd ei angen yn lleol, mi ddywedodd y Llywodraeth wrth ganslo croesiad newydd y Fenai ychydig flynyddoedd yn ôl mai'r ffaith doedd Wylfa ddim yn digwydd oedd wedi gyrru hynny. Dwi'n meddwl bod y Llywodraeth yn gwneud camgymeriad yn hynny o beth, oherwydd mi oedd yna lawer o resymau eraill pam fod angen bwrw ymlaen efo trydydd croesiad. Ond rŵan, os ydy hyn yn ôl ar y bwrdd, rydyn ni angen gweithredu ar unwaith ar gryfhau is-adeiledd ffyrdd, yn cynnwys croesiad y Fenai, a hefyd rheilffyrdd i allu cyrraedd safle'r Wylfa, a hefyd y porthladd yng Nghaergybi ac yn y blaen. Dwi'n gofyn am y sicrwydd yna hyd yn oed cyn cael y cyhoeddiad yma wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n deall pam ei fod wedi cael ei ofyn heddiw, o ystyried y dyfalu, ond wrth gwrs, nid yw'r pwerau sy'n gysylltiedig â'r gwaith a phenderfyniadau ar amseriad unrhyw dechnoleg neu dechnolegau niwclear newydd wedi'u datganoli, felly mater i Lywodraeth y DU yw hynny. Ond wrth gwrs, byddai canlyniad cadarnhaol yn newyddion enfawr i Gymru, a byddem yn gweithio i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd o ran sgiliau, a'r gadwyn gyflenwi hefyd.
Rydym wedi gweld cynnydd da iawn yn ddiweddar gyda'n cefnogaeth i Boccard yng Nglannau Dyfrdwy, a lwyddodd drwy Lywodraeth Cymru i greu un o hybiau cadwyni cyflenwi mwyaf y DU ar gyfer y diwydiant niwclear, ac mae hwnnw'n fuddsoddiad mawr i ogledd Cymru o ran datblygu sgiliau a'r gronfa dalent niwclear, gan gyfrannu at ddatgarboneiddio. Mae'n cadw mwy o'r gwaith i Hinkley Point C a Sizewell C yn y DU, ac yn sicr yn darparu llif o weithwyr medrus ar gyfer y dyfodol hefyd.
Er ei bod yn demtasiwn i ddyfalu ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiadau, ni wnaf hynny, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso'n gryf am ganlyniad cadarnhaol i Wylfa.
Byddai'n hollol wych pe bai'r newyddion sy'n dod drwodd yfory gan Lywodraeth y DU yn rhoi sêl bendith i adweithydd modiwlaidd bach yn Wylfa. Ar adeg pan fo diweithdra'n cynyddu, byddai 900 o swyddi amser llawn a sawl mil yn fwy yn ystod y gwaith adeiladu yn wych i Ynys Môn, ac i Gymru yn wir. Wrth gwrs, daw hyn yn sgil y gwaith anhygoel a wnaed gan yr AS blaenorol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, a Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU dros nifer o flynyddoedd. Yn 2022, cafodd Wylfa ei henwi yn strategaeth diogeledd ynni Prydain Llywodraeth y DU fel safle allweddol, a rhoddodd Deddf Ynni Niwclear (Ariannu) 2022 ddeddfwriaeth newydd ar waith i fynd i'r afael â chyllido niwclear newydd. Yn 2023, lansiwyd cronfa galluogi niwclear y dyfodol y DU o'r Wylfa, a sefydlwyd Great British Nuclear. Yn 2024, prynwyd safle Wylfa, gan alluogi'r cyfle anhygoel hwn yn 2025. Ysgrifennydd y Cabinet, os caiff ein holl obeithion a'n dymuniadau eu gwireddu yfory a'i fod yn gyhoeddiad cadarnhaol, a wnewch chi egluro pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod gennym y sgiliau ar waith fel bod cymaint o swyddi â phosib yn mynd yn lleol, i'n gweithlu lleol? Diolch.
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn y prynhawn yma. Rwy'n cytuno bod Wylfa mewn sefyllfa arbennig o dda i ddenu buddsoddiad mewn ynni niwclear newydd oherwydd ei hanes yn y maes niwclear a'r gweithlu lleol medrus iawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod potensial Cymru yn y sector niwclear yn cael ei wireddu'n llawn.
Rwyf wedi sôn am fy ymweliad diweddar â Boccard, a gwn fod Jack Sargeant hefyd wedi ymweld, i gyfarfod â rhai o'r prentisiaid yno sy'n elwa o'r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth newydd a gyrfaoedd newydd yn y sector hwn. Felly, rwy'n credu bod Cymru eisoes mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o unrhyw gyfleoedd a allai godi. Rydym yn parhau i weithio'n galed i sicrhau cyhoeddiad cadarnhaol ar gyfer Wylfa. Cefais gyfle i siarad yn uniongyrchol ag Ysgrifennydd Llywodraeth y DU, Ed Miliband, i ddadlau'r achos o blaid Wylfa. Fel pawb, rwy'n credu, rydym yn gobeithio am ganlyniad cadarnhaol i'r trafodaethau hynny.
Rwy'n croesawu'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth ar y mater yn fawr iawn, ac yn croesawu'r ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mae pob un ohonom yn cydnabod mai San Steffan sydd â'r pwerau dros y mater hwn, ond ni chaiff ei gyflawni fel prosiect heb gymorth rhagweithiol a gweithredol y Llywodraeth hon yma, wrth gwrs. Golyga hynny fod angen i'r Llywodraeth hon fod yn barod ar gyfer cyhoeddiad o Lundain, ac mae angen iddi allu symud yn ystwyth ac yn gyflym i sicrhau ei bod yn gallu dod â phartneriaid ynghyd, o fewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill o gwmpas sir Fôn, ond hefyd i sicrhau bod ganddi'r adnoddau ar waith i wneud y mwyaf o fudd y buddsoddiad hwn i Wylfa, i sir Fôn, i ogledd Cymru, i ogledd-orllewin Cymru, ond hefyd i sicrhau bod y cadwyni cyflenwi ar waith er budd y wlad gyfan. Rwy'n cofio ymweld â Hinkley Point beth amser yn ôl, ac roedd nifer y gweithwyr o Gymru yno a oedd yn ysu am ddod adref i Gymru i weithio yng Nghymru eto, yn y diwydiant, yn syfrdanol. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym y sianeli ar waith i'w galluogi i weithio yng Nghymru eto ac i gyflawni'r prosiect hwn yn Wylfa.
Diolch am eich sylwadau. Mae'n ein hatgoffa pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni prosiectau ynni mawr. Buom yn siarad yn y Siambr yn ddiweddar am ffermydd gwynt arnofiol ar y môr a pha mor bwysig yw hi, pan fo buddsoddiad yn y sector hwnnw, ein bod yn sicrhau ein bod yn cadw cymaint o'r gwerth ag y gallwn yma yng Nghymru, o ran gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, ond hefyd o ran yr agenda sgiliau. Os oes cyhoeddiad cadarnhaol i'w wneud mewn perthynas â Wylfa, mae'n hollol wir mai dim ond mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru y caiff ei gyflawni'n llwyddiannus oherwydd ein cyfrifoldebau mewn perthynas â sgiliau, tai, seilwaith, trafnidiaeth ac yn y blaen. Ond mae hefyd yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw partneriaeth â llywodraeth leol hefyd. Felly, unwaith eto, credaf fod pob un ohonom yn gobeithio am ganlyniad cadarnhaol ar gyfer Wylfa; gwn fod llawer ohonom wedi bod yn pwyso'n galed iawn am y canlyniad cadarnhaol hwnnw. Os cawn y canlyniad cadarnhaol hwnnw, rwy'n gwybod y bydd angen gweithio mewn partneriaeth ar bob ochr i wneud y gorau ohono a sicrhau ein bod yn cadw cymaint o werth ag y gallwn yng Nghymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Arloeswr addysg Gymraeg, addysgwr yr iaith i lu o blant ac oedolion, ac un o achubwyr yr iaith ym Mhatagonia—disgrifiadau o Gwilym Roberts, a fu farw yr wythnos diwethaf. Brodor o Riwbeina yma yng Nghaerdydd oedd Gwilym, ond cadwodd acen ogleddol ei rieni yn ystod y naw degawd y bu'n byw yn y brifddinas.
Fe sefydlodd gylch meithrin Rhiwbeina nôl yn 1959, ac mae llu o blant wedi cael eu haddysgu yno, gan gynnwys pobl sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r iaith Gymraeg ac i Gymru. Fe ddysgodd Gwilym y Gymraeg i filoedd o blant mewn ysgolion Saesneg mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Yna, yn y nos, roedd e'n rhan o’r tîm a sefydlodd y cwrs Wlpan, ac fe ddysgodd, yn hollol wirfoddol, yr iaith Gymraeg i gannoedd o oedolion.
Yna, yn 1991, wedi ymddeol yn gynnar, fe oedd yr athro Cymraeg cyntaf o Gymru i fynd i Batagonia, a dwi wedi cael y fraint o gyfarfod nifer o hoelion wyth Y Wladfa, a nifer ohonynt yn dweud eu bod yn rhugl eu Cymraeg oherwydd Gwilym Roberts.
Roedd wrth ei fodd pan ailddechreuwyd oedfaon Cymraeg yn ei annwyl Riwbeina, a bydd hi’n chwith mynd i Fethel heb weld Gwilym wrth yr organ.
'Ar Daf yr iaith a dyfodd' oedd hen arwyddair Ysgol Bryntaf yma yng Nghaerdydd. Gellir dweud yr un peth am yr afon Chubut hefyd: 'Ar lannau Chubut yr iaith a dyfodd'. Mae’r Gymraeg i’w chlywed ar lannau'r Taf, ac ar lannau’r Chubut, a mawr yw ein diolch i Gwilym Roberts am hynny. Diolch yn fawr.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Ddydd Sadwrn, dathlodd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) Ddiwrnod Rhyngwladol Cynllunio Trefol. Eleni, mae 76 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y digwyddiad cyntaf yn Buenos Aires ym 1949, ddwy flynedd ar ôl i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 gael ei chyflwyno yn San Steffan gan Lywodraeth Lafur 1945 i 1951. Eleni hefyd mae'n 25 mlynedd ers sefydlu'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru. Roedd thema eleni, 'With Planning We Can', yn dathlu cynllunwyr ac yn eu dwyn ynghyd i ddangos sut y mae cynllunio yn ysgogiad allweddol i newid cadarnhaol i bobl a chymunedau.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Cynllunio Trefol yn ddiwrnod i uno a chydnabod pa mor hanfodol yw cynllunio i ddarparu'r cartrefi a'r seilwaith sydd eu hangen arnom er mwyn i leoedd fod yn iach, wedi'u cysylltu'n dda, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Mae a wnelo â chydnabod y rôl hanfodol y mae cynllunwyr yn ei chwarae, wrth i drefi, dinasoedd a chymunedau barhau i esblygu, yn enwedig wrth i newidiadau ddigwydd gyda gwaith Bil Cynllunio (Cymru).
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Cynllunio Trefol, cynhaliodd RTPI nifer o ddigwyddiadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio a'u haelodau, yn amrywio o seminarau ar-lein i ddarlith a gynhaliwyd gan ysgol ddaearyddiaeth a chynllunio Prifysgol Caerdydd. Yn yr un modd, bydd RTPI yn cyhoeddi adroddiad cyn bo hir ar gyflwr y proffesiwn yng Nghymru, sy'n manylu ar y tueddiadau yn y proffesiwn cynllunio eleni. Yn ogystal â hyn, cyhoeddodd RTPI ymchwil yn ddiweddar ar gynllunio digidol yng Nghymru, a sut y gall nid yn unig wella enw da cynllunio yng Nghymru, ond gweithio hefyd i leddfu pwysau ar adnoddau a gwella canlyniadau cynllunio. Mae RTPI Cymru o'r farn fod sicrhau bod system gynllunio Cymru yn cael ei hariannu'n llawn, ei bod yn cael ei harwain gan gynlluniau, a'i bod yn ymatebol, yn effeithiol ac yn hygyrch, yn allweddol i sicrhau effaith gadarnhaol ar leoedd Cymru.
Hoffwn roi eiliad heddiw i dalu teyrnged i grŵp gwirioneddol nodedig o ddynion ifanc o fy rhanbarth yn y gogledd, sy'n adnabyddus yn lleol fel y Westheads. Maent wedi ymgymryd â her eithriadol, sef beicio'r holl ffordd o Langollen i Wlad Thai. Ie, fe wnaethoch fy nghlywed yn iawn: o lannau afon Dyfrdwy i dde-ddwyrain Asia ar ddwy olwyn. Nid ydynt yn gwneud hynny er enwogrwydd, nid er clod, ond dros achos sy'n agos at eu calonnau, sef codi arian i'r British Heart Foundation, er cof am dad cyfaill iddynt. Hyd yn hyn, maent wedi llwyddo i godi dros £5,000, hanner ffordd tuag at eu targed o £10,000. Mae ganddynt dudalen JustGiving gyda llaw, ac rwy'n siŵr y byddai pob rhodd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.
Fe wnaethant gychwyn 100 diwrnod yn ôl, ac maent eisoes wedi beicio miloedd o filltiroedd, drwy Ewrop, ar draws y Balcanau, ac i mewn i Dwrci erbyn hyn, a byddant yn mynd yn eu blaenau i Georgia a Kazakhstan, wrth iddynt barhau â'u taith tua'r dwyrain. Maent yn gobeithio cyrraedd eu cyrchfan ym mis Hydref y flwyddyn nesaf; taith anhygoel o ddwy flynedd, wedi'i phweru gan benderfynoldeb, cyfeillgarwch a synnwyr o bwrpas. Ar hyd y ffordd, maent wedi dangos beth y gall y gorau o'n cymunedau ei gynhyrchu: gwydnwch, hiwmor da ac ysbryd anturus sy'n ysbrydoli pob un ohonom.
Gwn y bydd pawb yma'n ymuno â mi i ddymuno taith ddiogel, tywydd teg a choesau cryf i'r Westheads ar gyfer y daith o'u blaenau, ac yn wir, i'w llongyfarch ar chwifio'r faner dros Langollen, dros Gymru, a thros y gorau o ysbryd dynol.
Ddydd Llun, dathlodd Cymru ganmlwyddiant genedigaeth dyn a arweiniodd y ffordd i actorion addawol; rhywun a fu'n ysbrydoliaeth i lawer o bobl ledled Cymru, gan ddangos iddynt nad oedd bod yn Gymro yn rhwystr i'w huchelgeisiau, ac a ddaeth yn eicon byd-eang.
Ar 10 Tachwedd 1925, ganwyd Richard Walter Jenkins Jr yng nghartref y teulu ym Mhontrhydyfen. Roedd ei dad yn löwr. Roedd ei fam yn gweithio yn y dafarn leol, y Miners Arms. Yn ddeuddegfed o 13 o frodyr a chwiorydd, fe'i magwyd mewn cartref Cymraeg ei iaith hyd nes i'w fam, Edith, farw'n drasig pan oedd ond yn ddwy oed. Magwyd Richard wedyn gan ei chwaer hŷn, Cis, neu Cecilia, sef ei henw iawn, a'i gŵr yn eu cartref yn Nhai-bach. Roedd yn deulu clos, wedi'i siapio gan lo, dur a'r capel.
Pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Port Talbot, fe wnaeth yr athro Philip Burton sylwi ar dalentau Richard, ac agorodd ddrysau i'w cyfoethogi. Yn ddiweddarach, mabwysiadodd Richard gyfenw ei fentor a daeth y byd i'w adnabod fel Richard Burton. Dau hoff beth Richard oedd actio a rygbi, a'r cyntaf o'r rhain oedd yr un yr oedd yn rhagori ynddo. Gan berfformio mewn dramâu ac eisteddfodau lleol, datblygodd ei sgiliau actio, wedi'u meithrin ar enw da. Ac yn dilyn ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, dechreuodd yrfa broffesiynol, ar lwyfannau ledled y DU i ddechrau, ond hefyd gydag ambell rôl mewn ffilmiau. Camodd ymlaen i fwy o waith ffilm, pan ddaeth y byd yn ymwybodol o'i dalent a phan ddaeth yn seren ryngwladol, a chafodd ei enwebu am Oscar saith gwaith.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod Richard wedi cael gyrfa liwgar, ond cadwodd gysylltiadau cryf â Phort Talbot, gan hyrwyddo ei hunaniaeth Gymreig yn falch ledled y byd a dychwelyd yn rheolaidd i Bontrhydyfen—yr un man lle teimlai ei fod yn perthyn go iawn. Felly, mae'n briodol, yma yn y Senedd, ein bod yn coffáu Richard, actor o statws ac enwogrwydd rhyngwladol, dyn a ddangosodd i eraill a'i dilynodd nad oedd bod yn Gymro yn rhwystr i'w huchelgeisiau, a dyn a oedd yn falch o'i gefndir Cymreig. Byddai Richard wedi bod yn 100 oed yr wythnos hon, ond yn anffodus, bu farw ymhell cyn ei amser, yn ddim ond 58 oed. Bywyd byr, ond gwaddol gwych. Nid anghofiwn y dalent honno na'r llais hwnnw, ac am lais cofiadwy.
Diolch am bopeth, Richard.
Fe symudwn ni nawr ymlaen at eitem 5 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 'Ymateb i stormydd diweddar'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM9044 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, 'Ymateb i stormydd diweddar', a osodwyd ar 9 Medi 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n falch o agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar yr ymateb i'r stormydd diweddar. Diolch hefyd i bawb a wnaeth gyfrannu at ein hymchwiliad, yn enwedig, os caf i ddweud, yr aelodau rheini o’r cyhoedd y cafodd eu bywydau eu heffeithio mor ddifrifol gan stormydd Bert a Darragh dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2024.
Fe gafodd Cymru ei tharo'n galed, onid do fe, gan y ddwy storm yma? O Bontypridd i Gaergybi, roedd y difrod yn ddifrifol. Roedd llifogydd mewn cartrefi, roedd y seilwaith wedi’i orlethu, ac fe gafodd degau o filoedd o bobl eu gadael heb drydan. Pwrpas ein hymchwiliad ni oedd gweld pa wersi oedd i’w dysgu o hynny, wrth inni wynebu dyfodol ble byddwn ni'n gweld stormydd mwy difrifol a stormydd yn digwydd yn amlach.
Mae ein hadroddiad ni'n gwneud 25 o argymhellion i gryfhau gallu Cymru i wrthsefyll stormydd fel hyn, a dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor.
Dwi'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonon ni wedi edrych ar ragolygon y tywydd y bore yma. I lawer ohonon ni, mae wedi dod yn rhan o'n trefn bob dydd—efallai i'n helpu ni i benderfynu beth i'w wisgo, neu beth i'w wneud dros y penwythnos, neu a ddylen ni efallai fentro cerdded neu yrru i'r gwaith. Ond, wrth gwrs, mae pwrpas lot mwy pwysig i ragolygon y tywydd: rhagweld tywydd eithafol a'n rhybuddio ni am darfu posibl.
Fodd bynnag, roedd llawer o'r ymatebwyr i'n hymchwiliad ni yn teimlo bod y rhagolygon a'r rhybuddion cyn storm Bert wedi bod yn annigonol. Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd glaw melyn, sef y lefel isaf o rybudd, cyn storm Bert, ond fe gafodd Pontypridd ddim unrhyw rybudd llifogydd nes bod dros droedfedd o ddŵr llifogydd yn y strydoedd yn barod. Felly, does dim syndod bod rhai trigolion yn teimlo wedi’u siomi gan y systemau rhybudd llifogydd, ar ôl cael addewid bod pethau wedi gwella ers storm Dennis yn 2020, ar ôl cael gwybod bod 'pethau gwych wedi cael eu rhoi ar waith'—dyna a ddywedwyd wrthyn nhw adeg hynny.
Mi wnaethon ni glywed y gallai cyfyngiadau technegol effeithio ar gywirdeb y rhagolygon llifogydd yng Nghymru, sy’n destun pryder mawr i ni fel pwyllgor. Mae’n wahanol i Loegr, lle mae mwy o ffocws a buddsoddiad ar fodelu cyfrifiadurol mewn rhagolygon ac amseroedd arweiniol hirach, a threialu rhagolygon ar gyfer llifogydd dŵr wyneb. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru fynediad at y dechnoleg rhagolygon diweddaraf, a hefyd, wrth gwrs, digon o gyllid fel ei fod yn gallu dylanwadu ar flaenoriaethau ymchwil a datblygu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Cymru ddim yn syrthio ar ei hôl hi yn hyn o beth.
Mae lefel ymgysylltiad y cyhoedd gyda rhybuddion tywydd a llifogydd yn dal i fod yn bryderus o isel yng Nghymru. Rŷn ni’n arbennig o bryderus am anghydraddoldebau o ran ymgysylltiad mewn aelwydydd incwm is a’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol—cymunedau sydd yn aml yn fwy tebygol hefyd, os caf i ddweud, o ddioddef llifogydd. Yn 2024, mi wnaeth y Groes Goch Brydeinig ganfod mai dim ond 9 y cant o'r aelwydydd incwm isaf ar draws y Deyrnas Unedig oedd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion, a hynny o'i gymharu â 31 y cant yn yr ardaloedd incwm uchaf. Mi wnaethom ni ofyn am ddiweddariad ar beth y mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o systemau rhybuddio mewn grwpiau sy’n fwy agored i niwed yn ein hadroddiad.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Rydyn ni hefyd yn pryderu nad yw'r data sy’n cael eu cadw ar bobl sy’n agored i niwed ddim yn ddigonol. Mae cwmnïau cyfleustodau yn cadw cofrestrau gwasanaethau blaenoriaeth, sydd i fod i’w helpu nhw i ddod o hyd i breswylwyr sy’n agored i niwed ac anfon adnoddau atynt ar ôl toriadau gwasanaeth. Fodd bynnag, mi wnaethom ni glywed fod y rhain yn aml yn anghywir ac eu bod nhw'n aml yn hen. Mae angen system unedig ac integredig sy’n cael ei rhannu rhwng ymatebwyr allweddol, ac mae angen hynny ar frys.
Mi wnaethom ni glywed fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r prosiect JIGSO, sy’n gallu darparu’r wybodaeth fwyaf diweddar i ymatebwyr mewn sefyllfaoedd brys am aelwydydd sydd mewn perygl. Fodd bynnag, ni wnaeth unrhyw gyfrannwr arall wnaeth gyfrannu i'n hymchwiliad sôn am y prosiect hwn. Gallai hynny fod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth. Mi wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder am y ffordd o ddefnyddio JIGSO a pha mor effeithiol yw JIGSO, ac a fyddai’n gallu disodli'r cofrestrau gwasanaethau blaenoriaeth.
Fe ddaeth gwytnwch cymunedau i’r amlwg fel un o’r elfennau mwyaf cadarnhaol wnaeth ddeillio o’r ymateb i stormydd diweddar. Mi wnaethom ni glywed fod cymdogion a grwpiau a busnesau lleol wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu ei gilydd, o ddefnyddio tractorau i gael pobl allan o'u cartrefi, i glirio llanast a darparu lampau a thortshys. Fodd bynnag, roedd yr ymgysylltiad ffurfiol rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol neu wirfoddol yn amrywio’n sylweddol. Rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru helpu i gynllunio cydnerthedd cymunedol drwy sefydlu cynlluniau llifogydd lleol wedi’u cynllunio gyda’i gilydd, a grwpiau cydnerthedd cymunedol.
Mi glywsom ni dystiolaeth gref o’r effeithiau eang y mae tywydd garw wedi’u cael ar drigolion, busnesau a chymunedau. Er bod cymorth ariannol wedi bod ar gael ar ôl y stormydd diweddar, yn aml nid yw taliadau brys i aelwydydd sydd wedi cael eu heffeithio yn adlewyrchu gwir gost difrod llifogydd a'r aflonyddwch hirdymor y mae'n ei achosi. Mae hyn yn arbennig o wir am aelwydydd heb yswiriant, a'r rhai hefyd sy'n cael eu heffeithio dro ar ôl tro ar ôl tro. Mi wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a yw’r cyllid brys presennol yn ddigon. Rydym ni’n siomedig iawn fod yr argymhelliad hwnnw wedi’i wrthod, yn ogystal, gyda llaw, â'n hargymhelliad ni y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyllid grant i alluogi cartrefi a busnesau unigol i roi mesurau cydnerthedd ataliol ar waith—pethau fel llifddorau.
Mae hyn yn destun pryder yn arbennig o ystyried y dystiolaeth rydym ni wedi’i chlywed am effaith llifogydd ar iechyd meddwl. Mi wnaeth pobl a gyfrannodd at ein hymchwiliad ni ddisgrifio baich emosiynol ymdopi ag effeithiau’r difrod, a’r ansicrwydd parhaus am dywydd eithafol, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu’r aflonyddwch hwn dro ar ôl tro. Rydym ni’n pryderu nad yw cymorth iechyd meddwl ddim yn cael ei integreiddio i’r ymateb i lifogydd ac adferiad. Rhaid rhoi’r un flaenoriaeth i lesiant trigolion â thrwsio seilwaith ffisegol. Felly, mi wnaethom ni argymell yn ein hadroddiad y dylai cymorth iechyd meddwl gael ei ymgorffori mewn strategaethau ymateb i lifogydd lleol a’i wneud yn hygyrch drwy wasanaethau a phartneriaethau cymunedol. Mae'n siomedig mai dim ond mewn egwyddor y cafodd hyn ei dderbyn gan y Llywodraeth.
Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mi gafodd ystod eang o seilwaith ei ddifrodi ar draws Cymru yn ystod stormydd Bert a Darragh. Dyw llawer o’n seilwaith ddim wedi’i gynllunio ar gyfer hinsawdd yr oes sydd ohoni, ac mewn rhai achosion mae wedi cyrraedd diwedd ei oes, neu wedi mynd y tu hwnt i hynny. Dywedodd un cyfranogwr wrthym ni fod ei stryd wedi dioddef llifogydd o fewn y rhwystr llifogydd oherwydd system ddraenio aneffeithiol, sydd yn destun pryder mawr. Rhaid i uwchraddio systemau draenio, cwlfertau ac amddiffynfeydd rhag llifogydd fod yn flaenoriaeth i’r ardaloedd hynny sydd mewn perygl.
Fe siaradodd awdurdodau lleol am gyfyngiadau cynllun cymorth ariannol brys Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yma’n ad-dalu awdurdodau lleol yn rhannol am drwsio, uwchlaw trothwy penodol. Roedd rhywfaint o ddifrod o’r storm y tu allan i ffiniau’r cynllun, ac roedd rhai awdurdodau lleol yn teimlo bod y trothwyon yn rhy uchel. Mi wnaethom ni argymell adolygu'r trothwyon yma i sicrhau eu bod nhw’n adlewyrchu gallu ariannol awdurdodau lleol i ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw dro ar ôl tro.
Yn draddodiadol, mae amddiffyniad rhag llifogydd wedi canolbwyntio ar seilwaith cadarn, seilwaith llwyd, fel draeniau, ceuffosydd ac argaeau. Roedd y tystion yn cefnogi symud at ddulliau ymdopi â llifogydd tymor hirach, ond bod y rheini'n seiliedig ar yr ardal leol ac yn seiliedig, yn arbennig, ar natur. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth 10 mlynedd ar gyfer llifogydd ac erydiad arfordirol. Dydyn ni ddim yn sicr bod strategaeth 10 mlynedd yn rhoi’r lefel briodol o gynllunio hirdymor sydd ei angen arnom ni erbyn hyn. Mae angen cynllunio a buddsoddiad hirdymor nawr yn fwy nag erioed, ond a yw 10 mlynedd yn ddigon o gyfnod i edrych ymlaen arno fe?
Mae’n amlwg bod newid hinsawdd yn effeithio ar ba mor ddifrifol yw digwyddiadau tywydd eithafol yng Nghymru, a pha mor aml maen nhw’n digwydd. Mae dwyster stormydd Bert a Darragh, a’r effaith a gafodd y ddwy storm ar gymunedau ledled Cymru, yn atgyfnerthu’r angen am ddull strategol hirdymor o gynllunio a buddsoddi mewn gwydnwch. Dyna neges greiddiol y pwyllgor yn ein hadroddiad ni. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau gan Aelodau, ac yn arbennig ymateb y Llywodraeth.
Diolch i Llyr, ein Cadeirydd, am roi amlinelliad da iawn o'r gwaith y buom yn ei wneud yn y pwyllgor newid hinsawdd. Mae'n dra hysbys bellach fod angen inni gynyddu ein parodrwydd ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol. Roedd hyn yn dilyn llawer o stormydd eraill yn flaenorol, ond cafodd stormydd Bert a Darragh effaith fawr ar lawer o bobl yng Nghymru. Fe wnaethant effeithio ar ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ein seilwaith, ein hetholwyr a'n perchnogion busnesau. Yn ystod storm Bert yn unig, cafodd mwy na 700 eiddo eu difrodi gan lifogydd ac roedd 95,000 o gartrefi heb drydan ar 7 Rhagfyr. Mae oddeutu un o bob wyth eiddo yng Nghymru bellach wedi'i gategoreiddio'n eiddo sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Gyda'r digwyddiadau hyn yn codi'n fwy a mwy aml, mae angen gweithredu ar frys ac mae angen dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith 25 o argymhellion yn ein hadroddiad. O'r rhain, derbyniodd Llywodraeth Cymru 21 yn llawn, derbyniodd ddau mewn egwyddor, a gwrthododd ddau, sy'n dal i beri penbleth i mi. Yr argymhelliad cyntaf a wrthodwyd oedd argymhelliad 14, sy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu digonolrwydd y cyllid brys presennol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer aelwydydd yr effeithir arnynt gan lifogydd. Yn rhy aml, mae'r eiddo wedi dioddef llifogydd ac nid yw cwmnïau yswiriant eisiau gwybod. Felly, rhaid inni gael rhyw fath o gronfa wrth gefn ar waith. Gwrthodwyd hyn ar y sail fod y cynllun cymorth ariannol brys wedi'i gynllunio i ymateb i'r digwyddiadau penodol hyn. Bwriedir iddo dalu costau uniongyrchol, ac er na fwriedir iddo gael ei ddefnyddio yn lle yswiriant, mae'n helpu'r deiliaid tai hyn sy'n wynebu anhrefn llwyr ac sy'n ddigartref i bob pwrpas.
Fodd bynnag, canfu'r ymchwiliad fod trigolion a busnesau wedi nodi nad oedd y cymorth a'r cyllid brys yn agos at fod yn ddigonol i dalu am y difrod. Mae hon yn broblem ledled y DU. Canfu arolwg gan y Groes Goch Brydeinig mai dim ond 5 y cant o'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ledled y DU a gafodd ddigon o gymorth ariannol gan eu cyngor lleol, a dim ond 24 y cant a deimlai fod y cymorth a ddarparwyd yn ddigonol. Rwy'n derbyn bod y cynllun cymorth ariannol brys yn darparu peth cymorth, ond yng ngoleuni difrifoldeb ac amlder cynyddol stormydd diweddar, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried yr argymhelliad hwn ac i gynnal adolygiad o ddigonolrwydd y cyllid presennol. Byddai hyn yn sicr yn helpu i sicrhau bod cymorth yn ddigonol i'r rhai sydd ei angen.
Yr ail argymhelliad a wrthododd Llywodraeth Cymru oedd cyflwyno cyllid grant i alluogi cartrefi a busnesau unigol i roi mesurau gwydnwch ataliol ar waith, fel llifddorau, a mesurau atal llifogydd eraill. Gwrthodwyd hyn ar y sail fod cyllid eisoes yn bodoli, a bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau rheoli risg yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi'r cyfuniad gorau o fesurau i fynd i'r afael â bygythiadau penodol. Rwy'n hoffi'r pwynt a wnaeth Llyr Gruffydd yn gynharach, y ffaith ein bod yn tueddu i feddwl am waith amddiffyn rhag llifogydd fel rhywbeth llwyd a choncrit, a chwlfertau a draeniau ac ati, ond mae'r dull ar sail natur yn sicr yn gwneud gwahaniaeth yn fy etholaeth i, lle mae gennym waith yn mynd rhagddo rhwng sefydliadau partner ar y Migneint, yn gysylltiedig â'r mawn. Mae'n deg dweud ein bod yn gweld canlyniadau'r math hwnnw o fesur atal llifogydd ar sail natur. Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo'r mathau hynny o gynlluniau, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, gan mai atal yw'r ffordd orau bob amser o leihau effaith digwyddiadau tywydd eithafol.
Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol a ffisegol y mae digwyddiadau tywydd eithafol yn ei roi ar gymunedau. Maes sy'n aml yn cael ei anwybyddu, fodd bynnag, yw'r effaith ar y trigolion a'r perchnogion busnesau hynny o ran eu hiechyd meddwl eu hunain. Mae pobl yn dioddef difrod i'w cartrefi a'u busnesau, yn colli eitemau gwerthfawr—mewn llawer o achosion, pethau o werth personol: ffotograffau, pethau nad ydynt yn golygu llawer i bobl eraill efallai. Nid oes gan bawb ffotograffau ar-lein. Bocsys o ffotograffau fydd gan rai pobl o hyd, ac yn yr achosion hynny, dyna fywydau pobl wedi diflannu mewn amrantiad.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, nododd y Groes Goch Brydeinig fod 40 y cant o'r rhai a oedd wedi dioddef llifogydd wedi nodi anghenion iechyd meddwl, ond dywedodd 26 y cant nad oedd y cymorth a ddarparwyd yn agos at fod yn ddigonol. Felly, mae angen inni ystyried hyn yn ein cynlluniau parodrwydd a'n cyllid ar gyfer tywydd eithafol.
Hefyd, nododd yr ymchwiliad i'r stormydd diweddar broblemau gyda'r system rybuddio, gyda rhai trigolion wedi eu siomi gan rybuddion llifogydd. Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn ein bod wedi cael dau achos o law trwm a llifogydd yn ddiweddar iawn—
Janet, bydd yn rhaid ichi ddirwyn i ben ar ôl hyn, iawn?
Iawn. Mae'r rhybuddion newydd sy'n dod nawr wedi bod yn anhygoel. Gadewch i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, fel y gallwn ddarparu digon o gyllid a chymorth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ormod o weithiau. Diolch.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor ac i dîm y pwyllgor am ein cynorthwyo ni gyda'r gwaith pwysig hwn. Buaswn i'n hoffi ategu’r diolch arbennig, Gadeirydd, i’r trigolion sydd wedi rhoi tystiolaeth inni, sydd wedi ymwneud â’r ymgynghoriad hwn, ac sydd wedi cael eu heffeithio eu hunain gan lifogydd. Fel rydyn ni wedi clywed, mae hwn yn rhywbeth sy’n effeithio cymaint ar ansawdd bywyd pobl.
Mae stormydd, neu dywydd garw, yn digwydd yn fwyfwy aml. Mae’r math o stormydd a oedd yn arfer cael eu hystyried yn rhai unwaith mewn canrif nawr bron yn flynyddol. Fel rydyn ni’n dweud yn y Saesneg, mae’r mesuryddion gôl wedi symud cymaint. Bu’r llifogydd yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf yn ofnadwy, ac mae trefi a strydoedd yn fy rhanbarth i yn gweld problemau dro ar ôl tro.
Mae hynny’n cael effaith gynyddol, achos mae hwn yn bwnc y mae nifer ohonom ni yn ei godi yn aml. Nid creithiau corfforol yn unig sy’n cael eu gadael gan lifogydd. Nid dinistr tirweddol yn unig sy’n cael ei greu. Mae sgileffeithiau stormydd ar iechyd meddwl yn ddwys—y creithiau cuddiedig, cyndyn.
Rydw i’n nabod teuluoedd lle mae’r plant yn ofni mynd i’r gwely pan mae hi’n glawio’n drwm, achos eu bod nhw’n poeni efallai y byddant yn colli beth bynnag sydd i lawr y grisiau. Maen nhw’n poeni a fydd eu hanifeiliaid anwes yn saff dros nos o achos eu bod nhw wedi dioddef yn y gorffennol gyda llifogydd.
Mae'n hadroddiad ni yn ei gwneud yn glir pa mor angenrheidiol yw rhoi ein cymunedau wrth galon ein hymateb ni i stormydd. Mae’r comisiwn seilwaith wedi edrych ar hyn hefyd—yr angen i gydlynu ac ymwneud â chymunedau. Mae nhw, fel y pwyllgor, wedi dod o hyn i haen o degwch cymdeithasol yma. Mae angen sicrhau ein bod yn ymbweru pob cymuned.
Enghraifft: clywsom am yr anghydraddoldeb o ran pa gymunedau a oedd wedi cofrestru ar gyfer systemau rhybuddio am lifogydd. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi dyfynnu'r ystadegyn lle mae'r Groes Goch Brydeinig wedi canfod mai dim ond 9 y cant o'r aelwydydd incwm isaf ledled y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer y rhybuddion hyn, o gymharu â 31 y cant mewn ardaloedd incwm uwch.
Yn rhy aml, disgrifir aelwydydd incwm is fel rhai sy'n anos eu cyrraedd. Ni chredaf y dylid eu disgrifio felly, gan ei fod yn awgrymu bod bai arnynt hwy, yn hytrach na methiant o'r canol. Rhaid i'r Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn yr achos hwn, wneud mwy i ddarparu'r systemau hyn ac i hyrwyddo'r systemau hyn i grwpiau a fyddai'n cael eu hystyried yn fwy agored i niwed. Oes, mae problemau hefyd gyda chofrestrau'r gwasanaethau blaenoriaethol. Nid ydynt yn gyson. Nid yw pobl yn cael eu cofrestru'n awtomatig. Nid yw'r wybodaeth yn cael ei rhannu, ac mae'n rhaid gweld gwelliannau yno.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi codi pryderon ynghylch ein seilwaith sy'n heneiddio. Nawr, achoswyd y llyncdwll 14m o ddyfnder a agorodd ar ddreif rhywun ym Merthyr Tudful am fod cwlfert oddi tani wedi methu, ac roedd yn gwlfert o oes Fictoria. Dywedodd cyngor Blaenau Gwent wrthym fod llawer o'i seilwaith wedi cyrraedd diwedd yr oes y'i cynlluniwyd ar ei chyfer, sy'n ymadrodd amwys iawn. Mae elfennau hynod yn nhopograffi rhai ardaloedd hefyd, fel cymunedau'r Cymoedd, gyda'u tir bryniog, tai wedi'u hadeiladu ar ben cwlfertau sy'n heneiddio, glawiadau cynyddol, heb sôn am y tomenni glo uwch eu pennau—wel, mae'r rhain yn dechrau gadael rhai cymunedau mewn mwy o berygl nag eraill, hyd yn oed yn fwy agored. Storm berffaith yn wir. Trychinebau tawel yn aros i ddigwydd.
Nawr, cafodd cynifer o drefi a strydoedd teras y Cymoedd eu hadeiladu'n gyflym gan gwmnïau mwyngloddio a oedd yn ceisio cynyddu nifer y cartrefi y gellid eu hadeiladu i'r eithaf. Nid oeddent yn meddwl am yfory, nac am wydnwch y trefi sy'n simsanu ar ben y bryniau. Rhaid inni ddod o hyd i atebion i'w methiannau. Rhaid inni sicrhau bod y cymunedau hynny'n teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, a bydd angen cenedl gyfan i gyflawni hynny.
Fel arfer ar ddiwedd ymchwiliad pwyllgor, ac fel arfer ar ddiwedd un o'r dadleuon yma, buaswn i'n dweud, 'Dwi'n gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu.' Yn yr achos hwn, Dirprwy Lywydd, dyw gobaith ddim yn ddigon. Dyletswydd sydd ar y Llywodraeth a'r lle hwn i sicrhau bod hyn yn digwydd, a diolch i bobl Cymru am eu gwytnwch.
A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r pwyllgor am yr adroddiad, sy'n adeiladu ar gyfres gyfan o adroddiadau sy'n cyfrannu at ein dysgu a'n dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd gyda newid hinsawdd a llifogydd? Mewn gwirionedd, mae'n adeiladu ar beth o'r gwaith a rhai o'r casgliadau a gawsom yn sgil storm Dennis a'r argymhellion a wnaethom yn yr adroddiad hwn yn etholaeth leol Pontypridd ar yr adeg honno. A gaf i ddweud hefyd, ar hyn o bryd, gyda'r rhybuddion tywydd sydd gennym, fod ein meddyliau gyda'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd lle cafwyd llifogydd? Oherwydd yr effaith, y pryderon sydd gan bobl, y straen a'r pwysau y mae'n ei greu ar deuluoedd cyfan sy'n poeni a fyddant yn cael eu heffeithio eto, a'r pwyntiau a wnaed am iechyd meddwl—rwy'n credu ein bod wedi cydnabod y rheini ar adeg storm Dennis, ond yn amlwg maent yn rhai sy'n parhau.
Mae gennyf etholaeth sy'n gweld llifogydd mewn sawl ardal. Pan gefais fy newis gyntaf i sefyll dros etholaeth Pontypridd, Ilan oedd yr ardal a oedd yn cael llifogydd yn rheolaidd. Ac rwy'n cofio bryd hynny y cynghorydd lleol, sydd bellach yn ddirprwy arweinydd Rhondda Cynon Taf, Maureen Webber, i fyny at ei chanol mewn dŵr gyda phlentyn yn ei llaw. A gallodd fy rhagflaenydd, Jane Davidson, ddatblygu'r ardal gyda chymorth arian Ewropeaidd, a bellach mae'r rhan fwyaf o'r problemau llifogydd yn ardal Ilan uwchben Rhydfelen wedi'u datrys. Nid y broblem mwyach yw bod yna bryderon bob blwyddyn nawr pryd bynnag y bydd hi'n bwrw glaw. Wrth gwrs, mae yna bethau y mae'n rhaid eu gwneud i wneud yn siŵr fod cwlfertau'n glir ac yn y blaen.
Ym mis Chwefror 2020 cawsom storm Dennis, ac effeithiwyd ar 1,800 o gartrefi yn fy etholaeth. Cafodd 321 ohonynt lifogydd mewn gwahanol rannau o'r etholaeth, ym Mhontypridd, Trehafod, Nantgarw, Trefforest a Thrallwn. Fe wnaethom ddysgu llawer o'r profiad hwnnw am yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, methiant rhybuddion, diffyg llifddorau a'r problemau'n gysylltiedig â draenio. Ac mae'n rhaid dweud, wrth gwrs, fod llawer o arian wedi'i fuddsoddi ers hynny—tua £100 miliwn yn Rhondda Cynon Taf.
Gwers a ddysgwyd gennym o'r cyfnod hwnnw hefyd yw dealltwriaeth o'r ffordd yr oedd y llifogydd yn digwydd, oherwydd y glawiadau trwm mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn ein hardaloedd lle mae gennym y Cymoedd. Ond fe wnaeth hefyd ein helpu i ddeall rhywfaint o'r fytholeg a oedd yn dod i'r amlwg—y gallai fod yn digwydd oherwydd bod Aberhonddu yn rhyddhau dŵr a oedd yn creu llifogydd yn nes i lawr, neu fod morglawdd Bae Caerdydd yn dal dŵr yn ôl, ac mae pob un ohonynt, rwy'n credu, wedi'u gwrthbrofi bellach, ac mae gennym ddealltwriaeth nawr o'r effaith. Oherwydd gyda newid hinsawdd, rydym yn mynd i gael mwy a mwy o'r digwyddiadau niweidiol iawn hyn, a oedd i fod i fod yn ddigwyddiadau unwaith mewn 100 mlynedd, ond yn amlwg, maent yn digwydd bob ychydig flynyddoedd bellach.
Dangosodd stormydd Bert a Darragh i ni ym mis Tachwedd 2024 fod llawer o'r gwaith a wnaed yn llwyddiannus—clirio'r cwlfertau, rhai o'r amddiffynfeydd newydd, peth o'r ailadeiladu—a rhywfaint o'r gwaith sy'n dal i fynd rhagddo, ond wrth gwrs, roedd ardaloedd fel Stryd Siôn, Stryd yr Aifft, canol Pontypridd yn dal i gael eu heffeithio, ac nid yw'n gysur i ardal sydd wedi cael llifogydd glywed, 'Wel, roedd llawer o ardaloedd eraill yn llwyddiannus iawn', ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rheini, yn enwedig strydoedd fel Stryd Siôn.
Stryd yr Aifft—Gallaf ddweud fy mod mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r trigolion yno gyda CNC a Rhondda Cynon Taf. Rwy'n falch iawn o rai o'r gwersi a ddysgwyd yno. Rydym yn deall nawr pam fod y fan honno wedi dioddef llifogydd yn gyson, ac mae'n rhannol oherwydd bod dŵr o'r priffyrdd yn mynd i mewn i'r system ddraenio ac nad yw'n gallu llifo allan i'r afon am fod yr afon yn codi a byddai'r pwysau'n gwrthdaro. Rwy'n falch iawn fod Rhondda Cynon Taf bellach yn awdurdodi ariannu gorsaf bwmpio fach yno, a gobeithio y bydd yn datrys hynny.
A gaf i ddweud, o'r problemau sy'n dal i fodoli a gododd o'r adroddiad ac y mae angen inni ganolbwyntio arnynt, fod yna ddau beth penodol? Yn amlwg, mae yna broblem gyda darogan, ond mae yna broblemau mawr o hyd o ran yswiriant, yr yswiriant mewn perthynas â busnesau a'r yswiriant mewn perthynas â chartrefi, a chydnabod mater landlordiaid hefyd, oherwydd mae gan lawer o gartrefi boblogaeth eithaf byrarhosol, ac mae rhwymedigaeth y landlordiaid a'r tenantiaid sy'n dod i mewn nad ydynt yn gwybod hanes ardaloedd yn rhywbeth y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, ac yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni barhau i roi cryn dipyn o sylw iddo yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Diolch am ateb mor gadarnhaol i gais gan Aelodau i chi gynnal yr ymchwiliad, a diolch am y cyfle i fod yn rhan o'r ymchwiliad ac i gyflwyno tystiolaeth.
Mae fy meddyliau, fel pawb, gyda'r trigolion a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac na chysgodd neithiwr am eu bod yn poeni y byddent yn cael llifogydd eto. Gwelais eu negeseuon, derbyniais e-byst, ac roedd yr un peth yn digwydd eto: draeniau heb gael eu clirio, a neb yn gwybod pryd y byddent yn cael eu clirio, pryder beth fyddai hynny'n ei olygu i'w cartrefi; ffonio, gofyn am fagiau tywod a chael gwybod nad oedd rhai ar gael, neu, 'Peidiwch â phoeni, ni fyddwch chi'n cael llifogydd' neu, 'Ffoniwch yn ôl os yw'n edrych yn fwy tebygol y byddwch chi'n cael llifogydd.' Nid yw hynny'n gysur os ydych chi'n edrych ar yr afon yn codi'n uwch a'ch bod yn cael rhybudd ar eich ffôn.
Yn yr un modd, mae'r pwyllgor yn cyfeirio at bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau. Pan ffoniais y llynedd i roi gwybod i'r cyngor am breswylydd nad oedd yn gallu symud o gwbl—roedd hi ar y llawr gwaelod, yn methu symud, yn dibynnu ar ofalwyr—dywedwyd wrthyf am ffonio'n ôl i gael cymorth iddi os oedd y dŵr yn dechrau dod i mewn. Dyma'r realiti sy'n dal i ddigwydd yn ein cymunedau. Bum mlynedd ar ôl storm Dennis mae rhai gwersi wedi'u dysgu, a nifer heb gael eu dysgu, a dyna pam rwy'n falch fod y pwyllgor wedi edrych ar y mater hwn. Ond roedd clywed neithiwr am drigolion yn cael eu cynghori unwaith eto i ffonio'n ôl os oedd y dŵr yn dechrau dod—nid yw'n ddigon da. Mae pob cymuned—a hyn ym Mhontypridd, rhywle y cyfeiriwyd ato yr wythnos hon, neu'r wythnos diwethaf, yn COP30. Os na allwn ei wneud yn iawn mewn cymuned y gwyddom y bydd yn cael llifogydd, sydd wedi dioddef llifogydd, yna pa obaith sydd?
Felly, hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw yn benodol ar argymhellion 12 a 13, sydd wedi'u derbyn gan y Llywodraeth. Ond rwyf am gwestiynu ai'r hyn sydd wedi'i dderbyn a'r hyn sydd wedi'i weithredu yw'r camau cywir, ac yn benodol mewn perthynas â pheidio â bwrw ymlaen â'r syniad o fforwm llifogydd Cymru, ac ariannu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn lle hynny.
Yn yr Alban, mae yna Fforwm Llifogydd yr Alban, a sefydlwyd ers 2009. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau dros y blynyddoedd gyda'r fforwm yn yr Alban a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, sydd, er gwaethaf ei enw, yn gweithredu yn Lloegr yn unig, ond weithiau'n cael ei ariannu i weithio yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i ni weld ateb Cymreig, oherwydd y ffordd y mae Fforwm Llifogydd yr Alban yn gweithio gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn Lloegr yw bod ganddynt aelodau ar fyrddau ei gilydd, maent yn cydlynu. Mae rhywbeth ar goll yma yng Nghymru, a hoffwn ddeall pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weld a oes angen fforwm llifogydd yma yng Nghymru. A ydych chi'n gweld cyllido'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol o Loegr i weithio yma yng Nghymru fel ateb dros dro tra byddwch chi'n dal i archwilio'r opsiynau? Felly, a yw sefydlu fforwm llifogydd Cymreig yn dal i fod ar y bwrdd? Os felly, pryd y gallwn ni weld cynnydd ar hyn? Pryd y gellir symud y gwaith yn ei flaen? Bum mlynedd ar ôl storm Dennis, mae ein cymunedau angen atebion mwy cadarn.
Os caf ganolbwyntio hefyd ar argymhelliad 15 sy'n ymwneud â gwydnwch llifogydd eiddo, rhywbeth sy'n cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. A yw hyn yn cael ei ailystyried, ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi trafod hyn gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain, yn fwyaf arbennig? Efallai eich bod yn ymwybodol eu bod wedi edrych ar waith gan JBA, a gomisiynwyd gan Flood Re, sy'n defnyddio Pontypridd fel astudiaeth achos, ac sy'n dangos enillion ar fuddsoddiad mewn gwydnwch llifogydd eiddo. Rydych chi'n gwario cymaint o arian fel Llywodraeth ar gefnogi cymunedau pan fyddant yn dioddef llifogydd. Mae nifer o'r mesurau gwydnwch llifogydd eiddo—maent yn dal i fod yn ansicr ai dyna'r mesurau cywir i'w hargymell i bobl. Mae'n ddiwydiant cymharol newydd, a theimlad sy'n dod drwodd mewn nifer o adroddiadau nawr yw bod angen i'r Llywodraeth fod yn rhan o hynny—y gall pobl sydd eisiau diogelu eu cartrefi fod yn hyderus mai'r datrysiadau y maent yn eu gosod yw'r rhai cywir. Felly, a wnewch chi ailystyried argymhelliad 15, yn enwedig, a chael y trafodaethau pellach hynny.
Oes, mae buddsoddiad wedi'i wneud, ond mae'n amlwg fod cymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli—nid am eiddo'n unig yn cael eu dinistrio y siaradwn, ond y perygl o bobl yn marw yn eu cartrefi, neu bobl yn marw yn ceisio helpu pobl yn eu cartrefi. Felly, mae angen i ni ddod o hyd i atebion. Mae mwy o argymhellion yma y gellid bwrw ymlaen â nhw. Mae angen gweithredu ar frys, oherwydd rwy'n pryderu am y cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Ni allwn ddiogelu pob un ohonynt, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud ac y dylem ei wneud.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar y mater hwn, a'r ffordd y mae'r adroddiad wedi dadansoddi a thaflu goleuni ar lawer o'r gwahanol faterion hyn, oherwydd bydd llawer ohonom wedi profi'r trawma a'r trallod a achosir gan lifogydd yn y cymunedau a gynrychiolwn. Ym Mlaenau Gwent, rydym wedi profi digwyddiadau llifogydd sylweddol yn Cwm ac yn Llanhiledd, ac mae'r un cartrefi wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog hefyd yn ymwybodol iawn o'r domen lo yng Nghwmtyleri y bu'n ei gweld ac mae wedi sbarduno ymateb cryf ar y mater hwn. Ac wrth inni agosáu at flwyddyn wedi i hynny ddigwydd, dylwn ddweud pa mor ddiolchgar wyf i i'r Dirprwy Brif Weinidog am yr arweinyddiaeth y mae wedi'i dangos wrth ymateb i'r materion hynny.
Ond mae'r her sy'n ein hwynebu heddiw yn fwy na'r hyn a'n hwynebodd yn y gorffennol. Mae'r pwyllgor yn hollol gywir wrth wneud y pwynt fod y problemau a wynebir gennym yn y dyfodol yn mynd i fod yn fwy. Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar ein cymunedau, ac mae angen inni gynllunio ar gyfer dyfodol pan fydd digwyddiadau tywydd sylweddol ac aflonyddgar yn fwy mynych. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bopeth yr ydym wedi'i dybio am y gorffennol newid wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol.
I lawer o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y stormydd hyn, mae angen inni gael y rhagolygon a ddisgrifir yn yr adroddiad, ac rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru a CNC yn ceisio sicrhau bod rhagolygon nid yn unig yn gywir, ond bod gweithredu'n digwydd yn eu sgil a'r rhybuddion yn cael eu cyfathrebu'n effeithiol. Ond rwy'n gobeithio hefyd fod Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i rannu arferion gorau, ond hefyd i sicrhau bod gan bob cyngor fynediad at adnoddau digonol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw broblem sy'n gwaethygu.
Rwy'n dweud hyn yn uniongyrchol wrth y Dirprwy Brif Weinidog: cefais fy synnu o ddarganfod nad yw CNC yn ystyried tynnu coed sy'n tyfu i mewn i gwrs afon fel blaenoriaeth yn fy etholaeth. Gadewch imi ddweud wrthych, Ddirprwy Brif Weinidog, fod pobl y gymuned honno ym Mlaenau Gwent yn ystyried hyn yn flaenoriaeth, fel y byddai unrhyw un arall y mae eu cartrefi'n wynebu perygl llifogydd eto y gaeaf hwn. Dyma'r union fath o waith paratoi a chynllunio y mae gan bob cymuned sydd mewn perygl hawl lwyr i'w ddisgwyl, a phob awdurdod cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r math o baratoi sydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd ym Mlaenau Gwent, mae'n ymddangos yn amlwg i mi nad yw CNC yn blaenoriaethu'r gwaith hwn yn ddigonol, ac rwy'n gobeithio y byddai CNC yn myfyrio ar hyn ac y byddai'r Dirprwy Brif Weinidog, os oes angen, yn ymyrryd ar CNC i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gwblhau.
Lle rydym wedi profi llifogydd yn y gorffennol, mae Blaenau Gwent wedi ymateb yn gyflym, ond mae angen iddynt gael yr adnoddau y gallant eu defnyddio pan fo angen. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bob awdurdod lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb ar frys pan fo angen. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl weithredol fel catalydd ac fel cynullydd, gan ddod â'r asiantaethau a'r awdurdodau perthnasol at ei gilydd, dysgu'r gwersi a sicrhau bod adnoddau bob amser ar gael pan fydd eu hangen. Y pwynt a wnaed yn gynharach yn y ddadl am yswiriant cartrefi, rwy'n credu, yw un o'r pethau gwirioneddol hanfodol yr ydym yn eu dysgu ar hyn o bryd. Rwy'n cofio Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r cynllun Flood Re, ac ar y pryd, roeddwn i'n meddwl ei fod yn gynllun da a oedd yn cyflawni i bobl. Ond y dystiolaeth y credaf ein bod yn ei gweld yn tyfu nawr, a'r hyn a glywais ac a welais gan bobl ym mwrdeistref Blaenau Gwent, yw nad oes digon o gapasiti o fewn Flood Re i ddarparu'r math o gynlluniau yswiriant sydd eu hangen arnom.
Ond mae angen i ni ddeall hefyd fod cartrefi pobl bellach yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau tywydd ar wahân i lifogydd yn unig, ac rwy'n meddwl eto, Ddirprwy Brif Weinidog, am Gwmtyleri. Ac mae maint a natur digwyddiadau llifogydd wedi cynyddu i'r fath raddau fel fy mod yn credu bod angen cynllun newydd arnom nawr sy'n gallu darparu'r diogelwch a'r sicrwydd y mae gan bawb hawl i'w ddisgwyl.
Mae angen i ni hefyd edrych ar adnewyddu'r seilwaith sydd gennym ar gael i ni. Unwaith eto, yng Nghwmtyleri a Llanhiledd a Cwm, mae angen i ni adnewyddu'r seilwaith rheoli dŵr sylfaenol. Nid yw cwlfertau a roddwyd ar waith dros ganrif yn ôl yn addas i'r diben mwyach. Mae angen i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth symud ymlaen. Rwy'n cydnabod maint y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r hyn a glywn a'r hyn a welwn yn dweud wrthym fod angen i ni gynyddu'r graddau eto, ac yna mae angen inni sicrhau bod gennym y drefn gynnal a chadw ar waith hefyd.
Felly, mae neges bwerus iawn yn dod gan y pwyllgor. Rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i'r mwyafrif, os nad pob un, o argymhellion y pwyllgor. Yr hyn rwy'n gobeithio y byddwn yn ei weld o ymateb y Dirprwy Brif Weinidog yw nid yn unig yr ymateb hwnnw, ond ymdeimlad o frys y bobl a gynrychiolwn, a'r bobl a oedd, neithiwr yn Cwm, yn gwylio'r glaw yn disgyn a'r dŵr yn codi ac yn gobeithio ac yn gweddïo na fyddai eu cartrefi'n cael llifogydd eto. Credaf fod cyfrifoldeb yma gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y bobl hynny, ble bynnag y bônt, naill ai ym Mlaenau Gwent neu rywle arall—
Ac mae hwnnw'n bwynt da i orffen arno, Alun.
—yn gallu cysgu mewn heddwch yn y nos.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a'r holl grwpiau ac unigolion a roddodd dystiolaeth, am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf i asesu a chryfhau effeithiolrwydd ein hymateb i stormydd yma yng Nghymru. Mae cael hyn yn iawn yn wyneb hinsawdd gynyddol gyfnewidiol yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Fe wnes i groesawu adroddiad y pwyllgor a'r anghymhellion. Dwi wedi derbyn llawer o'r argymhellion, a dwi eisoes wedi dechrau archwilio llwybrau i'w cyflawni.
Nawr, mae'r stormydd diweddar wedi dangos pwysigrwydd ymateb brys cadarn a gwydnwch ac mae'n rhaid i mi ddweud, pwysigrwydd dysgu a gwella ein paratoadau a'n hymateb a'n hadferiad yn gyson. Yn ein hymateb, fel y nododd y Cadeirydd, fe wnaethom dderbyn y mwyafrif o'r argymhellion. Nid oes gennyf amser i ailadrodd yr ymateb manwl i bob un nawr, ond fe geisiaf roi sylw i rai o'r pethau pwysig sydd wedi'u codi.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud, i gydnabod bygythiad cynyddol stormydd o'r fath, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £77 miliwn mewn gweithgareddau gwydnwch llifogydd ledled Cymru eleni. Mae'n ddyraniad mwy nag erioed ar gyfer un flwyddyn, ac mae'n adeiladu ar flynyddoedd blaenorol pan roddwyd lefelau uchel o gyllid. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad di-ildio i ddiogelu pobl Cymru. Mae'n cyd-fynd â'r agwedd gwersi a ddysgwyd y cyfeiriais ati. Nid ydym wedi sefyll yn llonydd ers inni weld y stormydd difrifol a darodd Gymoedd de Cymru yn 2021. Ers 2021, er enghraifft, fe wnaethom ariannu Rhondda Cynon Taf i gwblhau saith cynllun yn yr awdurdod lleol sy'n werth tua £3.9 miliwn, ac o fudd i dros 1,000 eiddo, ac nid yw hyn yn cynnwys y £2.7 miliwn yr ydym eisoes wedi'i fuddsoddi mewn cynlluniau bach yn RhCT ers 2021—y math o gynlluniau nad ydynt byth yn hawdd eu gweld, ond maent yn rhai pwysig iawn. Nawr, mae'r gwaith hwn wedi bod o fudd i dros 2,300 eiddo. Ond fel y dywedodd yr Aelodau, mae ei angen mewn mannau heblaw RhCT a Chanol De Cymru; mae angen inni wneud mwy, ac mewn partneriaeth—y pwynt a wnaeth Alun Davies—gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n hawdurdodau rheoli risg hefyd. Mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae.
Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Darogan Llifogydd i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i lywio ein hymateb i lifogydd a stormydd. Felly, mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn gweithredu system wybodaeth rhybuddion llifogydd 24/7 wedi'i theilwra i anghenion cymunedau yng Nghymru. Mae'r system newydd hon, gyda chyllid sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu rhybuddion cliriach a mwy amserol—a nododd Janet Finch-Saunders sut y mae hi wedi gweld gwelliant, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, oherwydd mae'n cael ei fireinio'n gyson yng ngoleuni'r gwersi a ddysgwyd gyda phob digwyddiad storm mewn gwahanol ardaloedd a'r ffordd y maent yn ymddwyn mewn gwahanol ardaloedd. Ond mae'r system newydd hon yn darparu rhybuddion cliriach, mwy amserol ac yn caniatáu i swyddogion ar ddyletswydd ganolbwyntio ar y risgiau mwyaf.
Rydym hefyd wedi ymrwymo'n fawr i wella ymgysylltiad y cyhoedd â rhybuddion llifogydd, pwynt a wnaed gan sawl Aelod a siaradodd heddiw, gan gynnwys drwy ymgyrch flynyddol #ByddwchYnBarodAmLifogydd CNC. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gofrestru i gael gwasanaethau rhybuddio, yn enwedig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Ond fel y mae llawer o Aelodau wedi dweud, Ddirprwy Lywydd, y broblem yw bod y digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn cryfhau ac yn digwydd yn amlach. A gallwn gysuro ein hunain i raddau, o leiaf, fod ein gwydnwch yn cynyddu wrth inni ddysgu'r gwersi ac ymgorffori'r gwydnwch hwnnw. Mae ymateb effeithiol yn galw am gydweithredu di-dor rhwng y Llywodraeth, awdurdodau rheoli risg, ein gwasanaethau brys diflino, sydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn ymlaen, a hyd yn oed drwy'r haf, yn barod bob amser i weithredu, a'n cymunedau, i ddod at ei gilydd, yn unedig. A Heledd, rydych chi'n gywir i ddweud bod angen i bob un o'r rheini weithio gyda'i gilydd ac ymateb yn y ffordd iawn ar yr adeg iawn.
Mae ein fforymau gwydnwch lleol wedi cryfhau parodrwydd ar gyfer y gaeaf ac maent wedi cael eu cefnogi gan fwy o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant amlasiantaethol a chynlluniau tywydd garw. Rhan ohono yw'r hyn a roddwn ar waith cyn iddo ddigwydd, ac rydym yn gwneud llawer iawn o gynllunio. Mae'r cynlluniau hyn yn sicrhau bod yr holl bartneriaid yn barod i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i lifogydd ac i argyfyngau eraill. Y platfform JIGSO—ac rydym yn gwneud llawer o waith; rwy'n cyfeirio pobl at adroddiad y pwyllgor, ond hefyd at ein hymateb ni, oherwydd mae'n manylu cryn dipyn ar nifer o'r materion hyn—mae'r platfform JIGSO a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn darparu dull o fapio unigolion bregus mewn amser real i'r ymatebwyr brys, gan helpu i dargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Ond rydym yn gwneud llawer mwy yn y gofod hwnnw hefyd, yn seiliedig ar y pwyllgor ac yn seiliedig ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu, oherwydd byddwch wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf ein bod yn tueddu i dyrchu'n ddwfn i'r hyn a ddysgwyd gennym o bob achos a dweud, 'Iawn, ble gallwn ni ddelio â materion diogelu data unigolion ac yn y blaen, ond gan yrru'r gwaith casglu data yn ei flaen ar gyfer yr unigolion bregus hynny?'
Rydym hefyd yn annog aelwydydd i roi camau ar waith i gefnogi gwydnwch personol cyn stormydd. Felly, rwy'n annog pawb i drefnu yswiriant llifogydd. Mae'r pwynt wedi'i wneud am Flood Re hefyd, ac roeddwn i yno, Alun, pan oedd John Prescott yn rhoi hynny at ei gilydd, ac roedd yn arloesedd i'w groesawu. Ond mae cafeatau'n gysylltiedig â Flood Re wrth gwrs, heb amheuaeth. Ond mae'n ddarpariaeth gan y diwydiant yswiriant i geisio darparu ar gyfer y rhai na fyddent fel arall yn gallu dod o hyd i yswiriant. Ond rydym yn cydnabod nad yw'n berffaith. Ond mae CNC yn darparu asesiad o berygl llifogydd drwy god post i unrhyw un nad yw'n siŵr beth yw eu perygl llifogydd. Ac i unrhyw un sy'n poeni am gost, edrychwch ar y cynllun Flood Re yn gyntaf, oherwydd fe'i lluniwyd i gynyddu mynediad at yswiriant llifogydd fforddiadwy, beth bynnag yw eich lefelau risg. Sicrhewch fod gennych yswiriant, os gwelwch yn dda, cyn inni gamu i mewn i fisoedd y gaeaf.
Fel y dywedodd yr Aelodau, rhaid i gymunedau fod yn ganolog ym mhopeth a wnawn. Rwyf wedi gweld pŵer dinistriol llifogydd yn uniongyrchol ar sawl achlysur nawr, a'r dinistr y mae'n ei achosi i gartrefi a busnesau, a'r effeithiau ar iechyd meddwl hefyd. Felly, rydym yn credu mewn gweithio mewn partneriaeth agos iawn â'n cymunedau a chyda sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u hanghenion yn cael eu diwallu. Gadewch imi droi at rai o'r ffyrdd yr ydym yn gwneud hyn. Un o'r rhain yw cynlluniau llifogydd cymunedol. Mae cynlluniau llifogydd cymunedol wedi'u llunio a'u perchnogi gan aelodau'r gymuned i'w cyflwyno ganddynt ledled Cymru. Ac mae'n eu grymuso i ddeall, i baratoi ar gyfer, ac i gymryd camau yn erbyn risgiau llifogydd posib—oherwydd fe welwn fwy o hyn wrth i'r blynyddoedd fynd heibio—yn eu hardaloedd eu hunain.
A byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau fel y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, oherwydd maent yn allweddol i gefnogi cymunedau ar ôl iddynt gael eu heffeithio gan ddigwyddiadau llifogydd dinistriol. A Heledd, fe'ch cyfeiriaf at fy ymateb manwl yn argymhellion 12 a 13—ni allaf roi sylw manwl iddynt nawr—ond hefyd yr holl Aelodau at y rhesymau pam ein bod wedi gwrthod 14 a 15 a'r esboniad i fynd gyda hynny. Ond a gaf i ddweud ein bod ni, Heledd, wedi comisiynu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i weithio gyda ni ar ddatblygu cynigion ar gyfer fforwm llifogydd i Gymru. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.
Mae rheoli llifogydd naturiol, fel y soniwyd, yn elfen hanfodol arall wrth adeiladu gwydnwch rhag llifogydd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r awdurdodau rheoli risg a chyda thirfeddianwyr a ffermwyr i ddarparu atebion ar sail natur—ac rwyf wedi gweld rhai o'r rhain yn uniongyrchol—sydd nid yn unig yn lleihau perygl llifogydd, ond hefyd yn gwella ein hamgylchedd naturiol. Felly, mae hyn yn golygu cefnogi prosiectau sy'n adfer gwlyptiroedd, plannu coed, ailgysylltu afonydd â'u gorlifdiroedd, igam-ogamu afonydd—ail-igam-ogamu afonydd hefyd—gweithredoedd sy'n arafu llif dŵr ac yn darparu manteision ehangach i fioamrywiaeth a chymunedau.
Ac rydym wedi sicrhau bod £2 filiwn ar gael ar gyfer prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol yn 2025-26, ac rwy'n falch o rannu gyda'r Senedd fod y cyfnod ar gyfer mynegi diddordeb ar gyfer cronfa rheoli llifogydd yn naturiol 2026-27 ar agor ar hyn o bryd. Rwy'n dod i ben yn gyflym. Mae ein strategaeth genedlaethol, Ddirprwy Lywydd—
Yn gyflym iawn.
—yn gyflym iawn—ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yn gosod cyfeiriad clir. Rhaid inni symud o amddiffyn rhag llifogydd yn adweithiol i gynllunio gwydnwch rhagweithiol, hirdymor fel ein bod yn ymgorffori dulliau ar sail dalgylch o fewn y fframweithiau defnydd tir ehangach, gan sicrhau bod ein penderfyniadau yn cyfrannu'n gadarnhaol at wydnwch llifogydd, ansawdd dŵr a lles cymunedol. Mae gan y cynllun ffermio cynaliadwy ran i'w chwarae yn hyn hefyd.
I gloi, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymateb ar y cyd i'r stormydd diweddar: ein hawdurdodau rheoli risg, ymatebwyr brys, grwpiau cymunedol a'r gwirfoddolwyr hefyd. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu Cymru fwy gwydn sydd wedi'i pharatoi'n well ar gyfer heriau hinsawdd sy'n newid. Byddwn yn parhau i wrando, dysgu a buddsoddi yn yr atebion sy'n diogelu ein cymunedau a'n hamgylchedd naturiol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Fe gyfeiriaf at rai o'r cyfraniadau. Soniodd Janet am y cyllid brys, wyddoch chi, y digonolrwydd. Wel, nid yw'n ddigonol. Ac wrth gwrs, mae'n anochel, onid yw, fod tywydd mwy eithafol sy'n digwydd yn amlach yn golygu bod mwy o ddifrod yn digwydd yn amlach, sy'n golygu bod angen mwy o gymorth, ond mae hefyd yn golygu bod angen y gwyro pendant y cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weinidog ato yno, tuag at atebion ar sail natur. Rwy'n credu mai dyna'r unig ateb cynaliadwy, hirdymor a'r buddsoddiad gwerth am arian gorau y gallwn ei gael. A'r cyfeiriad at y Migneint; mae'n un yr ymwelais i ag ef hefyd ac mae'n enghraifft wych, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am ychydig o rai eraill sydd wedi cael cefnogaeth hefyd, ac rydym eisiau mwy o'r math hwnnw o beth.
Tegwch cymdeithasol yn bwynt oedd Delyth wedi'i godi, ac mae angen ymbweru pob cymuned i fanteisio ar y gefnogaeth sydd allan yna—rhai incwm isel yn ogystal â rhai incwm uwch. Ac nid dim ond llifogydd, wrth gwrs, ŷn ni'n sôn amdano fe; roedd hi'n ein hatgoffa ni am y sinkholes a'r tipiau glo ac yn y blaen. Mae'n ddarlun llawer mwy dyrys na dim ond lle mae yna lifogydd.
Mick, rwy'n cydnabod, ac mae'r pwyllgor wedi cydnabod, lefel y buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn, yn enwedig i RhCT, ond wrth gwrs, rydym yn dal i weld problemau, ac mae hynny'n tanlinellu sut y gallai hyn fod yn bwll diwaelod. Ond mae'n galw am gymysgedd o fynd i'r afael â newid hinsawdd a chael gwared ar broblemau cyn iddynt waethygu—wyddoch chi, atal y tywydd rhag gwaethygu, a thrwy wneud hynny, atal y mathau hyn o ddigwyddiadau rhag gwaethygu, gobeithio—a delio â'r canlyniadau drwy seilwaith caled, seilwaith meddal, atebion cymuned gyfan, atebion ar sail stryd, ond hefyd ymyriadau ar lefel eiddo unigol hefyd.
Mae Heledd, a bod yn deg, wedi dadlau'n gryf dros fforwm llifogydd i Gymru. Rydych chi wedi hyrwyddo hyn ers blynyddoedd lawer ac mae'n dda clywed nawr fod gwaith yn mynd rhagddo i ymchwilio i'r posibilrwydd hwnnw. Ac rydym i gyd, fel pwyllgor, ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn edrych ymlaen at weld canlyniad hynny pan ddaw y flwyddyn nesaf.
Alun, mae'r her yn fwy nag erioed. Mae'n gwaethygu. Mae popeth a ragdybiwyd gennym yn y gorffennol yn gorfod newid, ac rwy'n credu bod hynny'n disgrifio llawer o'r teimlad sydd wedi'i fynegi yma. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, cyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad ar hyn y llynedd, ym mis Hydref, yn dweud llawer o'r hyn y buom yn ei ailadrodd yma heddiw. Maent wedi gofyn am weledigaeth 30 mlynedd ar gyfer gwydnwch llifogydd, maent wedi gofyn am natur fel rhanddeiliad, am gynllunio defnydd tir yn well, am rôl gymunedol gryfach, am ariannu a materion capasiti.
Felly, mae llawer o'r atebion eisoes wedi'u hamlygu, ac fe gyfeiriaf yn ôl at adroddiad blaenorol y pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: mae'n bryd i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar beth yw eu pwrpas. Os ydynt yn cynhyrchu'r adroddiadau hyn, dylent fod yn gyrru gweithredu gan y Llywodraeth. Ond fel y dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, mae llawer yn digwydd. Mae gwydnwch yn cynyddu, ond y cwestiwn yw: a yw'r gwydnwch hwnnw'n cynyddu ar gyflymder sy'n cyfateb i'r bygythiad cynyddol a wynebwn yn sgil newid hinsawdd? Mae angen mwy, ac nid beirniadaeth yw hynny, ond ffaith. Dyna realiti newid hinsawdd yma.
Ac i gloi, a gaf i ddiolch hefyd i'r holl bobl sy'n ymateb pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd—staff y cyngor, staff Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaethau brys, pawb sy'n bwrw ati i weithredu pan fo'r rhan fwyaf ohonom, yn aml iawn, yn anymwybodol fod y pethau hyn wedi digwydd tan i ni ddeffro y bore wedyn? Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
Cynnig NDM9041 John Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar rôl awdurdodau lleol yn cefnogi'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan oedi.
Adeiladodd ein hymchwiliad ar y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty a'r effaith ar lif cleifion drwy'r ysbyty. Fe wnaethom ni ganolbwyntio ar rôl awdurdodau lleol wrth gwrs. Fodd bynnag, rydym yn derbyn yn llwyr fod oedi cyn rhyddhau cleifion yn broblem gymhleth a bod partneriaid eraill, gan gynnwys ym maes tai, y trydydd sector, gofalwyr di-dâl a darparwyr gofal annibynnol hefyd yn chwarae rôl allweddol. Mewn gwirionedd, mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty.
Fodd bynnag, gwelsom fod dulliau gwahanol iawn o weithio mewn partneriaeth ar draws rhanbarthau a hyd yn oed awdurdodau lleol cyfagos. Er bod pocedi o arfer da, ceir anhawster i symleiddio a chyflwyno'r arferion da hynny yn ehangach. Rydym am weld newid yn y dull o ryddhau cleifion o'r ysbyty, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi arferion gorau ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd eu mabwysiadu, yn hytrach na disgwyl iddynt optio i mewn.
Mae angen symud tuag at atal ac ymyrraeth gynnar hefyd, gyda mwy o ffocws ar atal derbyniadau y gellir eu hosgoi i'r ysbyty. Clywsom fod awdurdodau lleol wedi teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i leihau gwariant ar ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol oherwydd pwysau cyllidebol. Mae'n amlwg fod diffyg cyllid ar gyfer atal, er gwaethaf galwadau mynych ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno categori gwariant ataliol ar draws ei holl adrannau. Ni chaiff mesurau ataliol eu mesur ar hyn o bryd, ac nid yw hynny yn ei dro yn creu ysgogiad i newid. Gallai olrhain a mesur allbynnau awdurdodau lleol mewn perthynas ag atal annog mwy o gynllunio a buddsoddi yn y maes. Rydym yn falch felly fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddatblygu metrigau perfformiad pellach, ac i nodi a rhannu arferion gorau a fydd yn cefnogi arferion ataliol.
Ddirprwy Lywydd, mae'r diffyg rhannu gwybodaeth ddigidol rhwng partneriaid hefyd yn rhwystr sylweddol i ryddhau cleifion o'r ysbyty. Mae'n anodd credu bod peiriannau ffacs a systemau papur yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai mannau yn 2025. Fel arfer, cedwir gwybodaeth am gleifion ar systemau TG gwahanol nad ydynt wedi'u cysylltu neu'n weladwy i'r holl staff sy'n ymwneud â chynlluniau gofal a rhyddhau. Clywsom am system atgyfeirio electronig effeithiol yn cael ei defnyddio mewn un ardal, ond nad yw awdurdodau lleol cyfagos yn derbyn yr atgyfeiriadau hynny.
Mae diffyg safoni a chynnydd yn y maes hwn yn hynod rhwystredig. Mae angen ymgorffori technoleg ddigidol fel ffordd sylfaenol o wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty. Mae angen arweinyddiaeth gryfach arnom wrth inni fwrw ymlaen â'r materion hyn. Ac unwaith eto, mae'r pwyllgor yn nodi rhai o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r cynnydd angenrheidiol hwnnw. Mae angen mwy o atebolrwydd arnom i yrru hyn yn ei flaen fel mater o frys.
Mae gwella gofal canolraddol neu ofal cam-i-lawr yn faes arall sy'n galw am sylw brys. Clywsom fod yr ymdrech i ryddhau gwelyau ysbyty yn aml yn gyrru pobl hŷn i mewn i ofal preswyl yn gynamserol, heb unrhyw ffocws ar adsefydlu a mynediad at therapi. Rydym i gyd yn gwybod nad yw ysbyty yn amgylchedd priodol i bobl wella, ond nid yw cartref preswyl heb ffocws ar adferiad yn amgylchedd priodol i wella chwaith. Felly, rydym yn bryderus iawn am yr arfer o ryddhau pobl hŷn i gartrefi gofal. Mae'r hyn y gellir ei weld i ddechrau fel mesur dros dro yn aml yn dod yn barhaol wrth iddynt golli annibyniaeth. Ni ddylid symud pobl o ysbytai acíwt i mewn i gartrefi gofal heb unrhyw reswm heblaw rhyddhau gwelyau ysbyty, er mor bwysig yw hynny. Mae angen gofal canolraddol priodol arnynt gyda mewnbwn therapiwtig a nyrsio. Mae angen inni ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion, nid llif cleifion yn unig.
Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion sy'n ymwneud â lleoliadau gofal canolraddol. Fodd bynnag, nid yw ei hymateb yn awgrymu y bydd unrhyw gamau newydd yn cael eu cymryd o ganlyniad, neu adolygiad cyflym o arferion gofal canolraddol cyfredol, fel yr awgrymwyd gennym. Hoffwn felly pe bai'r Gweinidog yn gallu egluro pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gofal canolraddol sy'n canolbwyntio mwy ar adferiad gyda mewnbwn therapiwtig a nyrsio.
Roedd y dystiolaeth a glywsom am ryddhau pobl yn gynamserol drwy eu rhoi mewn cartrefi gofal yn amhriodol yn frawychus, ac mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys. Dylid canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cleifion o'r cychwyn cyntaf. Mae angen inni gynnwys gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â swyddogion tai a'r trydydd sector, yn gynnar yn y broses ryddhau, nid yn unig ar y pwynt pan fydd claf yn barod i adael yr ysbyty. Ceir rhai enghreifftiau cadarnhaol o dimau rhyddhau amlddisgyblaethol, ond yn anffodus, nid yw'r rhain yn digwydd ledled Cymru.
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol, yn cynnwys lefelau uchel o swyddi gwag, sy'n ei gwneud hi'n anodd ateb y galw, gan arwain at restrau aros ac oedi. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae bwlch mewn tryloywder o ran yr heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol, oherwydd nid yw data ar oedi, amseroedd aros a swyddi gwag yn cael ei gyhoeddi. Roeddem yn falch felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at gyhoeddi'r data hwn yn y gwanwyn. Rydym yn gobeithio y bydd cyhoeddi data o'r fath yn annog atebolrwydd a gobeithio, yn ei dro, yn gwella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty.
Mae gofalwyr, teuluoedd a gofalwyr di-dâl, yn allweddol yn yr holl welliant yr ydym am ei weld. Ar hyn o bryd, rhaid i deuluoedd a gofalwyr di-dâl lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth ofal oherwydd diffyg capasiti gofal cymdeithasol, ond nid oes digon o gymorth ar gael iddynt. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol i sicrhau bod gofalwyr yn fodlon ac yn gallu darparu gofal ac i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion cymwys, ond clywsom fod bwlch gweithredu sylweddol gyda'r ddeddfwriaeth. Heb ofalwyr di-dâl, byddai'r gost i'r pwrs cyhoeddus yn enfawr. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni, fel cenedl, yn cydnabod eu rôl a'u hanghenion. Yn rhan o hyn, mae angen inni wella'r ddarpariaeth o ofal seibiant ledled Cymru.
Rwy'n falch y bydd yna amcan strategol yn strategaeth genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn y gwanwyn. Mae ein systemau iechyd a gofal mewn perygl o chwalu heb ofalwyr di-dâl. Felly, rhaid inni sicrhau eu bod yn cael yr holl gydnabyddiaeth a chefnogaeth angenrheidiol.
Er mwyn gweld unrhyw newid gwirioneddol yn y broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, mae angen gwella gweithio mewn partneriaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a hynny ar frys, a mwy o gydraddoldeb rhwng y sectorau pwysig hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Felly, rwy'n gobeithio'n ddiffuant y gwelwn gynnydd, oherwydd mae cael y broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty yn iawn yn bwysig. Diolch yn fawr.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am agor y ddadl, a'r pwyllgor am yr adroddiad trylwyr, a chydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi mynd i mewn iddo?
Ddirprwy Lywydd, gallwn i gyd gytuno bod cael y broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty yn iawn yn gam hanfodol i wella ein system gofal iechyd. Mae gormod o gleifion yn aros yn yr ysbyty ymhell ar ôl yr adeg y dônt yn barod i adael, ac mae blocio gwelyau yn y ffordd hon yn anochel yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans. Ac a dweud y gwir, mae hefyd yn rhwystredig iawn ac yn peri straen i gleifion sy'n gwybod eu bod yn ddigon da i fynd adref, ond sy'n cael eu cadw i aros am nad yw'r fiwrocratiaeth yn gallu ymdopi â'r galw.
Er bod y polisïau cywir yn bodoli i reoli'r broses o ryddhau cleifion o ysbytai, mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir nad ydynt yn cael eu cymhwyso'n gyson, ac rwy'n credu mai methiant Llywodraeth Cymru i gyfathrebu ei pholisïau a'i hamcanion yn syml, yn glir ac yn ddiamwys sydd wrth wraidd y broblem. Mae diffyg gweithredu polisi effeithiol wedi dod yn broblem endemig yng Nghymru, ac rwyf wedi tynnu sylw at hyn mewn sawl maes o'r blaen. Credaf yn bersonol fod hwn yn faes y mae'n rhaid ei flaenoriaethu.
Yn y sesiynau tystiolaeth, mae'n bwysig nodi bod gwahanol ddehongliadau o'r un canllawiau wedi arwain at amrywiadau ar draws awdurdodau lleol o fewn un ardal bwrdd iechyd, a bod hyn yn creu heriau gwirioneddol ar gyfer cydlynu a chyflawni. Felly, mae tystiolaeth gref fod yn rhaid i ddehongli polisi'n gyson fod ar y blaen yn y gwaith o wella gwasanaethau. Er fy mod yn cydnabod yr angen am hyblygrwydd lleol, rwy'n argyhoeddedig fod angen rheolaeth dynnach a mwy o safoni i sicrhau cysondeb cenedlaethol o ran ansawdd gofal a chydraddoldeb ar draws y rhanbarthau. Nid yw'n dderbyniol fod pobl yng Nghymru yn wynebu loteri cod post yn y gofal y maent yn ei gael. Rhaid inni allu monitro perfformiad a sicrhau atebolrwydd, a'r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy safonau cenedlaethol clir y mae'n ofynnol i bob rhanbarth eu cyrraedd. Buaswn hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried a yw cymhellion ariannol wedi'u targedu yn ffordd hyfyw o gefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i leihau oedi wrth ryddhau cleifion.
I droi at ofalwyr di-dâl, mater sy'n agos at fy nghalon, mae gennyf lawer o etholwyr yn cysylltu â mi am y diffyg cymorth y maent yn ei gael, a heb ofalwyr di-dâl i gamu i mewn i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth, byddai ein system gyfan yn cael trafferth ymdopi. Mae'r adroddiad yn nodi pryderon fod gofalwyr di-dâl yn cario'r baich hwn fwyfwy oherwydd diffyg capasiti o fewn y system gofal cymdeithasol. Nid yw'n iawn fod cymaint ohonynt nad ydynt yn cael asesiadau priodol na'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.
Gyda'r ddau fater fel ei gilydd, Ddirprwy Lywydd, gwelwn batrwm cyfarwydd: mae'r polisi'n bodoli, ond mae'r gweithredu'n ddiffygiol. Câi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ei hystyried gan lawer yn uchelgeisiol a llawn bwriad da, a nodai fframwaith clir i gefnogi gofalwyr di-dâl, ond heb eu cyflawni'n gyson, mae'r uchelgeisiau hynny wedi'u colli. Fel gyda rhyddhau cleifion o'r ysbyty, mae ymarfer yn amrywio'n fawr ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae'r anghysondeb hwn yn broblem ynddo'i hun. Unwaith eto, yr hyn sydd ei angen yw mwy o safoni i sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yng Nghymru yn cael yr un lefel o gydnabyddiaeth a chefnogaeth. Dylem ystyried hefyd a ddylid rhoi hawliau statudol cryfach a chymorth ariannol i ofalwyr di-dâl o dan fframwaith gofalwyr Cymru.
Y tu hwnt i'r anghysondeb hwn, mae yna her sydd hyd yn oed yn fwy: y diffyg data dibynadwy sydd ei angen i sbarduno gwelliant go iawn. Heb wybodaeth gywir, ni all Llywodraeth Cymru na byrddau iechyd nac awdurdodau lleol nodi lle mae problemau'n bodoli, ble maent yn dechrau dod i'r amlwg neu ble mae gwelliannau wedi'u gwneud. Yn hytrach, dim ond ar ôl iddynt ddwysáu'n argyfwng llawn y daw materion i'r amlwg. A dweud y gwir, o ystyried y diffyg data mewn cymaint o feysydd ar draws pob agwedd ar y Llywodraeth, mae'n aml yn teimlo fel pe bai Llywodraeth Cymru yn fwriadol yn osgoi casglu gwybodaeth fanwl er mwyn osgoi craffu. Fodd bynnag, y gwir amdani yw na allwch drwsio'r hyn na allwch ei fesur.
Hyd nes y byddwn yn cofnodi oedi, amseroedd aros a swyddi gwag yn briodol, ni chawn byth ddealltwriaeth lawn o'r system, ac ni fyddwn byth yn gwneud y cynnydd y mae cleifion, gofalwyr a staff yn ei haeddu. Felly, rwy'n cefnogi'n llwyr argymhelliad 15 y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi data ar amseroedd aros am asesiadau a gwasanaethau gofal, yn ogystal â data ar lefelau swyddi gwag presennol. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, mae'n siomedig mai dim ond nawr y mae mesur mor sylfaenol yn cael ei weithredu. Dylai fod wedi bod ar waith flynyddoedd yn ôl, nid wedi'i gyflwyno ar ddiwedd tymor seneddol.
Yn olaf, rwyf am fynd i'r afael â chyflog ac amodau cyfatal i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol. Rwyf wedi cyfarfod ag asiantaethau sy'n darparu gweithwyr gofal sy'n cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, ac mae cyflog yn parhau i fod yn brif bryder. Y gwir yw y gall llawer o weithwyr gofal ennill mwy mewn archfarchnad leol nag mewn rôl ofalu allweddol ar y rheng flaen. O ganlyniad, ychydig iawn sy'n gweld gofal cymdeithasol fel gyrfa hirdymor. Mae hyn yn creu problem ddifrifol. Caiff staff eu hyfforddi, yn aml ar gost sylweddol, ddim ond i adael am waith ar gyflog gwell yn rhywle arall.
Mae'n siomedig iawn darllen yn yr adroddiad, yn ôl Fforwm Gofal Cymru, fod y cyflog byw gwirioneddol i staff gofal bellach yn ddim mwy nag uchelgais gan nad oes gan gomisiynwyr arian i'w gynnal. Mae hyn yn arbennig o ddigalon o ystyried addewid Llywodraeth Cymru i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill 2022 ymlaen. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad yr adroddiad ar y mater, ond mae'n destun pryder nad oes disgwyl i gytundebau cyflog teg gael eu gweithredu tan o leiaf 2028.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda, Joel.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hynny dair blynedd i ffwrdd, yn llawer rhy hir i aros pan fo'r sector eisoes mewn argyfwng. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â gweithredu polisi, gan ei bod yn ymddangos mai dyna sydd wrth wraidd llawer o'r problemau hyn. Diolch.
Dwi am ddechrau trwy ddiolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad yma. Mae'n dangos bod y Senedd yma, os nad y Llywodraeth, yn cymryd ei dyletswydd i ystyried gofal a lles y boblogaeth fel mater trawsadrannol, ac nad cyfrifoldeb un Gweinidog neu adran ydy hyn. Mae'n adroddiad trylwyr gyda nifer o argymhellion cryf, felly diolch am y gwaith.
Mae yna resymau cryf pam y penderfynodd y pwyllgor gynnal yr ymchwiliad, oherwydd rydyn ni oll, dwi'n siŵr, yn delio gyda gwaith achos ble mae cleifion yn methu â dod adre, yn methu â chael pecyn gofal, neu gyda'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol yn dadlau ynghylch pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am y claf, tra bod y person hwnnw'n dirywio ac yn dioddef. Dyna pam fod Plaid Cymru wedi bod yn dadlau mor daer am wasanaeth gofal cenedlaethol, un fyddai'n cael gwared ar y bwlch hwnnw rhwng y gwahanol awdurdodau hyn, ac yn sicrhau mai y claf sydd yn flaenaf bob amser.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at un elfen greiddiol, sef yr angen am bartneriaethau cryfach. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn edrych yn wahanol o un rhan o Gymru i'r llall, ac yn gweithredu'n anghyson ar draws y genedl, rhywbeth sy'n mynd yn groes i'r rhethreg o degwch ac urddas mewn gofal y mae'r Llywodraeth yma mor awyddus i'w hamlygu. Mae pobl yn cwestiynu effeithlonrwydd y byrddau yma, ac, i ddweud y gwir, mae ganddyn nhw reswm da i wneud hynny. Mae'r diffyg ewyllys wleidyddol y tu ôl i hyn wedi arwain at genedl rhanedig sydd gyda loteri cod post.
Mae arnom angen fforwm ar gyfer adborth a mesur atebolrwydd ar gyfer y byrddau partneriaethau rhanbarthol, ynghyd â thryloywder cliriach i ddangos yn union ble mae'r system yn methu. A dydy hyn ddim yn newydd, wrth gwrs. Fe alwodd adroddiad yn 2020 am dryloywder yng ngweithgaredd gwariant y byrddau, bum mlynedd yn ôl, a dyma ni, bum mlynedd yn ddiweddarach, yn darllen yr un argymhellion. Mae'n codi cwestiwn mawr ynghylch parodrwydd y Llywodraeth yma i wrando ar gyngor neu feirniadaeth adeiladol.
Mae integreiddio wedi bod yn addewid gan y Llywodraeth ers degawdau, ond pan glywn am brosiectau peilot ac enghreifftiau o arfer da mewn rhai meysydd o bartneriaeth effeithiol, nid oes dim arwydd o rannu na chynyddu’r arferion hynny ar draws y wlad. Mae gennym ni fwlch gweithredu sylweddol yma. Yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y dylai RPBs fod yn rhannu arfer da o un ardal i'r llall. 'Dylai fod' oedd y geiriad. Nid yw arweinyddiaeth yn ymwneud ag ewyllys da yn unig gan obeithio bod eraill yn cytuno gyda chi. Mae'n ymwneud a gwneud penderfyniadau i yrru'r newid hwnnw, yn ymwneud ag ewyllys wleidyddol. Dyna pam y bydd Plaid Cymru'n ymrwymo i wneud yn union hynny, gan ymgorffori'r ymdrechion yma mewn deddfwriaeth a chanllawiau.
Yn olaf, hoffwn i dynnu sylw at argymhellion 6 a 7, sydd yn trafod integreiddio digidol. Mae'n rhaid rhoi'r person yn gyntaf a'r gwir ydy bod pobl Cymru yn disgwyl i'r systemau yma fod wedi'u hintegreiddio. Mi ddylai llywodraeth leol a byrddau iechyd fedru gweld yr angen yma a mynd ati'n rhagweithiol i ganfod datrysiad, yn lle disgwyl am arweiniad. Ond, yn absenoldeb hynny, mae'n rhaid cael yr arweiniad gwleidyddol hynny er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Oherwydd, a ninnau yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n anfaddeuol nad ydyw'n digwydd yn barod ac mae'n effeithio'n uniongyrchol ar gyflwr a gwellhad ein hanwyliaid.
Nid meddyginiaeth neu offeryn clinigol mo cyswllt digidol, teclyn ydy o er mwyn gwella effeithlonrwydd, ond mi fyddai'r arweiniad yna yn sicrhau gwell canlyniad, o gael gweithio'n iawn. Dwi'n falch, felly, fod y Llywodraeth yma wedi derbyn yr argymhellion ac yn diolch unwaith eto i'r pwyllgor am ei waith trylwyr.
Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn wedi'i ffurfio o waith casglu tystiolaeth defnyddiol, ac rwyf am ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y syniad o sut rydym yn lledaenu arfer da, oherwydd mae hon yn system hynod gymhleth ac rydym wedi gweld bod rhai enghreifftiau ar draws y system lle mae pethau da yn digwydd ac yn cael effaith, ond fel erioed, mae'r dull o ledaenu'r arloesedd yn wael.
Un o'r pethau y daethom ar eu traws yn yr adroddiad hwn, fel y gwnaethom yn yr adroddiad diweddar ar ddigartrefedd, na chafodd yr un ymateb gan y Llywodraeth â'r adroddiad hwn mae arnaf ofn, yw'r syniad, ble y ceir arfer da, nad yw'n ddigon da ei nodi neu ei hyrwyddo, dweud wrth awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd, 'Onid yw hyn yn wych? Pam na wnewch chi hyn?' Nid yw hynny'n gweithio. Yr hyn sydd ei angen arnom yn hytrach yw disgwyliad, lle mae arfer da yn gweithio, y dylid ei ymgorffori, y dylai fod disgwyliad y bydd yn cael ei weithredu, oni bai bod rheswm da pam na fyddai'n gweithio'n lleol.
Dyma'r hyn a elwir yn ddull 'mabwysiadu neu gyfiawnhau'. Mae tri argymhelliad yn yr adroddiad hwn sy'n crybwyll hynny, a thri ymateb calonogol gan y Llywodraeth. Fel y dywedaf, mewn llywodraeth leol, y cyfarwyddyd gweinidogol yw, 'Nid ydym yn mynd i'w ymgorffori; nid ydym yn mynd i ddweud mabwysiadwch neu gyfiawnhewch; fe wnawn adael i awdurdodau lleol ddod i'w casgliad eu hunain'. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd gywir o fynd ati, rwy'n credu bod hon yn ffordd lawer gwell, ond mae'n cyffwrdd â'r diffyg cysylltiad rhwng iechyd ar y naill law a llywodraeth leol ar y llaw arall.
Fe wnaf gyffwrdd yn fyr â'r tri argymhelliad sy'n berthnasol. Mae argymhelliad 2 yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau ar gyfer gwella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, a dylai ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd fabwysiadu'r arferion hyn neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Yr ymateb gan y Llywodraeth yw derbyn, ac mae'n nodi'n fanwl sut y mae hyn bellach yn dechrau digwydd ar fater rhyddhau cleifion o'r ysbyty, sut y mae disgwyl bod arfer da yn cael ei nodi, ei gyflwyno ar raddfa fawr a'i fabwysiadu, a bydd hyn yn cael ei nodi mewn cynlluniau gweithredu a'i adolygu mewn cyfarfodydd misol a'i hybu. Mae'n dweud, lle nad yw'n bosib ei fabwysiadu, y bydd disgwyl i ranbarthau ddarparu sail resymegol glir. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod arferion gorau nid yn unig yn cael eu nodi a'u rhannu, ond yn cael eu hymgorffori'n weithredol ledled Cymru gyda hyblygrwydd priodol i adlewyrchu'r cyd-destun lleol. Da iawn. Dylem weld mwy o hynny. Wrth gwrs, nid yw ond cystal â'r ffordd y caiff ei weithredu, ond dyna yw'r ffordd gywir o fynd ati.
Yn yr un modd, argymhelliad 4 yw y dylai Llywodraeth Cymru adolygu unrhyw bolisïau cyfredol a rennir ar gyfer rhyddhau cleifion a nodi ei model dewisol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, a dylai ei gwneud yn ofynnol wedyn i awdurdodau a byrddau iechyd fabwysiadu'r dull hwn, neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Gobeithio eich bod chi'n sylwi ar y thema. Mae'r Llywodraeth unwaith eto yn derbyn yr argymhelliad, yn esbonio sut y mae ei chanllawiau a'i mentrau polisi, fel her 50 diwrnod y gaeaf, yn gwneud hynny, ac yn dweud ei bod bellach yn adolygu polisïau i sicrhau cydymffurfiaeth a mabwysiadu cyson, a bod disgwyl i ranbarthau weithredu ar y canfyddiadau a dangos cynnydd o fewn chwe mis neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Unwaith eto, dyna'n union y dylem fod yn ei wneud. Mater o weithredu ydyw nawr.
Mae argymhelliad 7 yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau mewn defnydd digidol, megis atgyfeiriadau electronig, a'i gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ac ysbytai ac awdurdodau lleol fabwysiadu'r model a ddewiswyd neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Ac eto, yr ymateb gan y Llywodraeth yw derbyn. Da iawn cyn belled. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n darllen manylion yr ymateb, nid dyna'n hollol y maent yn ei ddweud yn yr ymateb hwn.
Fel y nododd John Griffiths yn gywir yn ei araith yn cyflwyno'r ddadl hon, mae'r perfformiad digidol yn druenus. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ei hôl hi o ran cynnydd ei holl brif raglenni, ac mae mewn mesurau arbennig, ac yn gwadu'r sefyllfa'n llwyr. Mae arnaf ofn nad yw'r ymateb hwn yn rhoi llawer o obaith i mi fod y cywair cadarnhaol yn yr ymatebion blaenorol i'r argymhellion a nodais nawr yn cael ei ailadrodd yma, er bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion.
Mae'n dweud, er bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo mabwysiadu safonau digidol cenedlaethol, mae gwneud offer penodol yn orfodol yn parhau i fod yn gymhleth. Nid yw'n gwneud mwy na nodi rhannu arferion gorau. Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i annog mabwysiadu'r offer lle bo hynny'n briodol—geiriau slec—tra bo'n cydnabod pwysigrwydd hyblygrwydd lleol a'r angen i osgoi gosod beichiau heb eu hariannu ar bartneriaid.
Mae'r Kremlinolegydd ynof yn dehongli hynny fel, 'Nid ydym yn mynd i wneud unrhyw beth yn wahanol i'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn mynd i fabwysiadu na chyfiawnhau'. Felly, nid wyf yn gwybod pam y mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Mae yna broblem yn amlwg, unwaith eto, yn y ffordd y mae'r system gyflawni ddigidol yn cael ei hehangu a'i phrif ffrydio. Mae yna broblem fawr yma. Rydym wedi ei weld dro ar ôl tro, ac fe wyddom fod y botwm coch ar y dangosfwrdd yn fflachio, yn y prosiect Cysylltu Gofal yn enwedig.
Hoffwn ganmol y Llywodraeth am y dull 'mabwysiadu neu gyfiawnhau' y mae wedi'i fabwysiadu ar ddau o'n hargymhellion. Byddai'n dda pe bai maes polisi llywodraeth leol yn arddel barn debyg. Mae'r datgysylltiad rhyngddynt yn fy mrawychu. Ond rwyf am dynnu sylw at y pryder parhaus am y methiant i wneud hyn ym maes technoleg ddigidol. Diolch.
Diolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad hwn a'r gwaith a aeth i mewn iddo. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r argyfwng sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'r rôl allweddol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yn cefnogi'r sector. Mae'n amlwg fod angen gwneud gwaith ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd i sicrhau bod arfer gorau'n cael ei fabwysiadu i wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty er mwyn lleddfu'r pwysau ar ein hysbytai, fel yr argymhellir yn adroddiad y pwyllgor. Fel y clywsom gan Lee Waters, mae 'mabwysiadu a chyfiawnhau' yn ffordd o sicrhau bod arferion gorau'n cael eu mabwysiadu, a hoffwn glywed gan y Llywodraeth beth yw eu hymateb i hynny a sut y maent am fwrw ymlaen â hynny ym mhob ffordd.
O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, clywsom gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf fod y Llywodraeth wedi ymgynghori ar ymestyn cyfrifoldebau cyfreithiol corfforaethol y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ond bod partneriaid mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd wedi gwrthod y cynigion hynny. Mae gwell cydweithredu rhwng yr awdurdodau hyn yn allweddol, o ryddhau i ofal canolraddol. Fel y mae'r Athro Bolton yn dweud yn glir yn yr adroddiad, drwy gael gofal cartref—sy'n cael ei redeg gan awdurdodau lleol yn bennaf—yn iawn, gyda gwasanaeth dan arweiniad therapi, gall canlyniadau wella'n eithriadol. Mae'n mynd rhagddo i nodi bod gofal canolraddol ar ei orau pan fydd pobl yn cydweithio, a bod angen i fyrddau iechyd weithio gyda'r awdurdodau lleol.
Bydd gwneud hyn yn iawn yn helpu i wella'r cylch o bobl sy'n mynd yn syth yn ôl i'r ysbyty ar ôl cael eu rhyddhau, gan sicrhau bod pobl iach yn parhau i fod yn iach. Mae'n amlwg fod cydweithio'n allweddol. Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i rannu a mabwysiadu arferion gorau, gan gefnogi gweithgarwch y ddau faes, lleddfu'r pwysau ac arwain at well canlyniadau iechyd. Y cwestiwn i'r Llywodraeth yw pa waith a wnânt i sicrhau bod y cydweithrediad hwn yn digwydd a bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio i'w potensial llawn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol—Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod yn croesawu'n fawr adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac yn gwerthfawrogi ei ganfyddiadau? Nid wyf yn credu mai her system yn unig yw diogelu a llif cleifion a chefnogi adferiad; mae'n ymwneud â chefnogi canlyniadau gwell i bobl, teuluoedd a chymunedau. Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, ein bod wedi cael cyfle i archwilio hyn mewn nifer o ddadleuon a datganiadau dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r adroddiad hwn yn taflu goleuni pellach ar yr hyn sy'n bwysicaf: sicrhau, pan fo rhywun yn gadael yr ysbyty, eu bod yn gwneud hynny gydag urddas, yn ddiogel a chyda'r gefnogaeth gywir. Felly, rydym yn croesawu'r adroddiad a'i ganfyddiadau, a diolch yn fawr i'r pwyllgor am ei waith trylwyr.
Mae awdurdodau lleol yn ganolog yn ein cymunedau. Maent yn darparu cefnogaeth hanfodol, nid yn unig i'r rhai mwyaf agored i niwed, ond hefyd i bobl sydd angen help i adfer annibyniaeth. Boed yn alluogi rhywun i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl bod yn yr ysbyty, neu'n gynnig cymorth ymarferol yn y gymuned i helpu i hyrwyddo annibyniaeth, mae eu rôl yn allweddol i gadw pobl yn iach ac mewn cysylltiad.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn nodi 18 o argymhellion, ac rydym wedi derbyn pob un ohonynt. Byddwn yn ymgymryd â'r camau angenrheidiol i ymateb i'r rhain a'u cyflawni. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi ein bod eisoes wedi symud ymlaen â gweithgarwch ar draws sawl un o'r argymhellion hynny.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at themâu pwysig gweithio mewn partneriaeth ac arferion rhyddhau a'r angen i fynd i'r afael ag amrywio, a safoni ac integreiddio dulliau o weithredu. Drwy'r gwaith pwysig a arweinir gan y pwyllgor gweithredu gofal, a'r arweinyddiaeth ranbarthol a ddarperir gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a gryfhawyd gennym drwy newidiadau deddfwriaethol diweddar i Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rydym wedi gweld cydweithio pwerus yn tyfu rhwng partneriaid cyflawni iechyd a gofal cymdeithasol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid, gan hyrwyddo a galluogi diwylliant o weithio a chydweithredu mewn partneriaeth.
Rwyf wedi rhoi ymateb manwl i'r pwyllgor ar yr holl argymhellion, ond rwy'n falch ein bod eisoes wedi bwrw ymlaen â chamau gweithredu sy'n cyd-fynd yn agos â themâu ac argymhellion yr adroddiad hwn, ac rwy'n mynd i nodi rhai o'r meysydd hynny y prynhawn yma: cydgynhyrchu ein gweledigaeth ar gyfer system gofal cymunedol integredig i Gymru ac ymgorffori trefniadau llywodraethu cenedlaethol a rhanbarthol newydd i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad traws-sector i gefnogi cyflawniad ac integreiddio; rhaglen i ymgorffori arferion gorau ar gyfer rhyddhau, adfer ac yna asesu cleifion, a'r model aseswr dibynadwy; ymgysylltu parhaus â'n byrddau partneriaeth rhanbarthol i gryfhau cydweithio a dulliau integredig sy'n helpu i adeiladu capasiti cymunedol. Mae hyn yn cynnwys £87 miliwn o gyllid i gefnogi'r gwaith hwn yn ystod 2024-25, ac rydym yn ymgorffori arferion da a dysgu o her 50 diwrnod y gaeaf diwethaf, gan ddarparu mentrau wedi'u targedu i wella llif cleifion a chynlluniau rhyddhau cleifion ar draws gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Fe gyflwynodd Lee Waters her deg. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid i'r meysydd arfer gorau hyn ddigwydd, ac rydym yn dwyn rhanbarthau i gyfrif am gyflawni hyn. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyfarfod â'n holl bartneriaid yn y rhanbarthau hynny i ymgorffori hynny ymhellach yn y trafodaethau y byddwn yn eu cael gyda nhw wrth ddatblygu'r gwaith hwn.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod rhannu gwybodaeth yn well yn hanfodol i wella'r system. Mae'n gonglfaen i ddarpariaeth effeithlon ac effeithiol, ac er ein bod wedi bod yn casglu data ers cryn dipyn o amser, rwy'n falch o gadarnhau, ers mis Awst, fod data ar oedi mewn llwybrau gofal wedi'i gyhoeddi ar wefan StatsCymru ochr yn ochr â'r data misol. Rydym yn cydnabod y bydd trin a rhannu data'n well yn allweddol i yrru gwelliannau, ac rydym yn edrych ar gamau gweithredu i ddatblygu'r rhaglen Cysylltu Gofal a'r fframwaith gofal cymdeithasol digidol, a fydd yn cefnogi integreiddio, argaeledd a rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid i ganiatáu trafodaethau mwy agored a thryloyw er mwyn mynd i'r afael â'r heriau yn ein system a nododd Lee Waters yn hollol gywir.
Gall helpu pobl i wella'n ddiogel gartref a diogelu unigolion agored i niwed leihau derbyniadau i'r ysbyty, gwella llif cleifion a lleihau'r galw am becynnau gofal mwy hirdymor. I gefnogi hyn, rydym wedi buddsoddi £5 miliwn bob blwyddyn mewn byrddau iechyd i ehangu capasiti gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwella gwasanaethau ataliol. Eleni, rydym hefyd wedi cyflwyno buddsoddiad pellach o £30 miliwn i awdurdodau lleol i roi hwb i'r gwasanaethau sy'n cefnogi rhyddhau o'r ysbyty, yn ogystal â'r gwasanaethau cymunedol hynny sy'n cefnogi unigolion i gadw'n iach gartref. Bydd y cyllid hwn yn helpu i ategu cyflawniad yn erbyn yr argymhellion pwyllgor sy'n ceisio ehangu ein gallu proffesiynol ymhellach a gwella llif cleifion.
Mae gennym hefyd ein fframwaith 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd', sy'n nodi'r camau gweithredu sydd eu hangen arnom i wireddu gwerth llawn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ein cymunedau, yn ogystal â'u heffeithiau cadarnhaol ar lif cleifion. Byddwn yn cynnal adolygiad cyflym o arferion gofal canolraddol i ddeall a datblygu fframweithiau arfer gorau. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gyrru gwelliannau, drwy raglenni gofal cymunedol uwch a defnydd o becynnau cymorth datgyflyru, a fydd yn cryfhau ein hymdrechion ailalluogi ac atal.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau yn ymwneud â gweithlu a chapasiti gofal cymdeithasol, sydd wedi bod yn feysydd o bwys mawr i ni. Mae'r canfyddiadau a'r argymhellion a adlewyrchir yn ôl i ni drwy'r adroddiad yn pwysleisio ymhellach yr angen i sicrhau ein bod yn gweithio i ddatblygu a thyfu ein gweithlu i ddiwallu'r anghenion cynyddol. Mae ein hymrwymiad i'r cyflog byw gwirioneddol a'n cefnogaeth i'r cytundeb cyflog teg yn helpu i fynd i'r afael â chyflog cyfartal ac yn gwella recriwtio a chadw staff. Ac yn groes i'r sylwadau a wnaed y prynhawn yma gan Joel James, mae 84 y cant o'n gweithlu gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n meddwl bod hynny ychydig yn fwy na dim ond 'uchelgais'.
Drwy gryfhau prosesau gwneud penderfyniadau, rydym yn bwriadu ehangu gweithgarwch cyhoeddi data ar asesiadau, amseroedd aros a swyddi gwag er mwyn sicrhau gwell goruchwyliaeth ar y sector. Mae'r adroddiad yn gywir yn tynnu sylw at swyddogaethau ehangach llywodraeth leol, yn cynnwys tai. Mae gwasanaethau tai yn allweddol i sicrhau y gallwn gefnogi pobl i fyw'n dda gartref, gan gynnwys adferiad ar ôl amser yn yr ysbyty. Ac rydym am gryfhau'r rôl y mae tai yn ei chwarae yng ngwaith ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, a gwneud y mwyaf o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud drwy fentrau fel y gronfa tai â gofal gwerth £60.5 miliwn i gefnogi byw'n annibynnol ac i helpu pobl i adael yr ysbyty a symud i amgylcheddau diogel sy'n helpu adferiad. Byddwn yn adolygu ac yn cryfhau cysylltiadau cynlluniau rhyddhau rhwng timau ysbytai a phartneriaid tai, gan wella cysylltiadau â gwasanaethau strategol adre o'r ysbyty, a fydd yn weithred allweddol arall yr ydym wedi'i chymryd o'r adroddiad hwn.
Mae cwmpas argymhellion yr ymchwiliad hwn yn cyffwrdd ag ystod eang o feysydd, a byddwn yn adolygu ac yn gweithredu ar y rhain yn unol â hynny. Fel yr amlinellwyd, mae'n galonogol ein bod eisoes wedi dechrau gwaith mewn sawl maes sy'n cyd-fynd â chanfyddiadau'r pwyllgor, ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Felly, diolch i'r pwyllgor eto am ei waith a'i argymhellion adeiladol. Gyda'n gilydd gallwn wneud yn siŵr nad diwedd gofal yw gadael yr ysbyty, ond dechrau adferiad, annibyniaeth a Chymru iachach. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae hwn yn faes sy'n destun llawer o bryder, onid yw—oedi wrth ryddhau o'r ysbyty—a hynny am reswm da iawn, oherwydd mae mor bwysig ar gyfer y llif drwy ysbytai sy'n caniatáu i bobl gael gofal amserol pan fyddant yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys, ac sy'n caniatáu i amseroedd ymateb ambiwlans fod yn fyrrach, am nad yw ambiwlansys wedi'u dal mewn ysbytai'n aros i ryddhau cleifion os yw'r llif hwnnw drwy ysbytai'n cael ei wella. Felly, mae llawer o ganolbwyntio wedi bod ar hyn dros nifer o flynyddoedd, ac mae amryw o'r Aelodau wedi cyfeirio at hynny, gan gynnwys y Gweinidog. Ond rwy'n credu ei bod yn hollol gywir ein bod ni yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar yr hyn y gallwn ei gynnig i'r gwelliant pellach sydd ei angen a'r ffocws pellach sydd ei angen.
Roedd yn dda iawn gweld llawer o gytundeb yn y ddadl heddiw ac yn adroddiad ein pwyllgor, ac argymhellion ar ffyrdd ymlaen. Rwy'n credu bod Joel James yn hollol gywir i bwysleisio pwysigrwydd cyflog ac amodau, a gwerth rôl y gweithlu gofal cymdeithasol, a phwysigrwydd sicrhau bod cymaint â phosib yn cael y cyflog byw gwirioneddol. Wedyn, roedd yn dda iawn clywed ymateb y Gweinidog fod 84 y cant o'r gweithlu gofal cymdeithasol yn cael hynny, ac yn amlwg mae angen inni wneud yn siŵr fod hyd yn oed mwy o bobl yn ei gael wrth inni symud ymlaen.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn am gyfraniad Mabon, a siaradodd am yr angenrheidiau trawsadrannol wrth fynd i'r afael â'r agenda hon a sut y mae'r pwyllgor wedi bod yn rhan o'r broses o sicrhau ein bod yn mabwysiadu'r ymagwedd drawsadrannol honno yn y gwaith craffu y mae'r Senedd yn ei wneud. Mae'n sicr yn bwysig ein bod yn gwneud y cysylltiadau hyn wrth graffu ac mewn gweithredoedd gweinidogol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mabon am gyflwyno hynny yma yn ein dadl heddiw, a hefyd am siarad am bwysigrwydd data a chysylltedd digidol. Ac yn deg iawn, rwy'n credu, fe gydnabu Lee werth ymatebion Llywodraeth Cymru i'n ceisiadau am y dull mabwysiadu neu gyfiawnhau o weithredu ar arferion da a nodwyd—Lee yn cydnabod gwerth yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru, ond yna'n nodi fod angen i ni hefyd gyflawni'r dull hwnnw mewn perthynas â'r agenda ddigidol, am fod honno hefyd yn rhan hanfodol o'r gwelliant angenrheidiol y mae angen i ni ei weld.
Rwy'n ddiolchgar iawn am ymateb y Gweinidog ac am dderbyn y 18 argymhelliad—mae'n dda iawn gweld hynny—a'r croeso i'n hadroddiad, gan gydnabod eto ei fod yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi'i wneud, ond gyda'r ffocws angenrheidiol ar yr elfen lywodraeth leol. A chan nodi'r cyllid sy'n cael ei ddarparu i geisio sicrhau y bydd y mater gofal canolraddol a nodwyd gennym—fod yr angen am fewnbwn therapiwtig a nyrsio priodol sydd i'w gynnwys yn ffactor yn cael ei ddatblygu drwy'r cyllid cynyddol hwnnw, a hefyd yr offeryn i gydnabod pwysigrwydd datgyflyru ac i warchod yn ei erbyn. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny i gyd.
I gloi, fel rydym yn ei ddweud mor aml, mae'n dda iawn gweld yr ymagwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i mabwysiadu, y mae'r Gweinidog wedi'i mabwysiadu, wrth ymateb i'r adroddiad, ond nawr, fel erioed, y prawf allweddol fydd gweld gweithredu'n digwydd a'r cynnydd sydd ei angen i ddilyn hynny. Felly, fel erioed, bydd gan y pwyllgor ddiddordeb parhaus er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn gweld y gwelliant, y cynnydd, yr ansawdd ledled Cymru, a'r cysondeb ledled Cymru, y mae'r adroddiad hwn yn nodi eu bod yn hanfodol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 heddiw, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cofio a chymuned y lluoedd arfog. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9040 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaol y cyfnod cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethu ein gwlad.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned lluoedd arfog a chyn-filwyr Cymru.
4. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru drwy:
a) rhoi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr drwy ei gwneud yn ofynnol i holl awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol Cymru roi prif flaenoriaeth i gyn-filwyr digartref wrth ddyrannu tai;
b) hyrwyddo ymgysylltu â'r rhaglen Ysgolion Cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog i gefnogi plant y lluoedd arfog;
c) cynyddu cyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn galluogi penodi mentoriaid parhaol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru;
d) ymestyn teithio bws am ddim i bob cyn-filwr; ac
e) sefydlu amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Mae'r cynnig hwn heddiw yn nodi cynllun clir, credadwy a thosturiol i anrhydeddu ein hymrwymiad i'r lluoedd arfog yma yng Nghymru. Dros y dyddiau diwethaf, fel Aelodau eraill o'r Senedd, mynychais wasanaethau coffa emosiynol ar draws fy etholaeth, ac fel cymaint o rai eraill, cefais fy nghyffwrdd yn fawr wrth weld yr holl rannau o'n cymunedau yn dod at ei gilydd i dalu eu teyrnged.
Mae cyfnod y cofio bob amser yn adeg ddifrifddwys a phwerus, ac mae'n ein hatgoffa o ddewrder, aberth ac anhunanoldeb aruthrol y rhai a wasanaethodd, nid yn unig o'r fan hon yn y Deyrnas Unedig, ond o bob cwr o'r ymerodraeth ar y pryd, i ddiogelu ein rhyddid a'r gwerthoedd y mae pob un ohonom yn eu rhannu heddiw. Ond dylai cofio bob amser ymwneud â mwy nag edrych yn ôl yn unig. Rhaid iddo ymwneud ag edrych ar ôl y rhai sydd wedi gwasanaethu, a'r rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw. Rhaid iddo ymwneud ag adnewyddu ein haddewid i ddarparu gofal a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, nid ym mis Tachwedd yn unig, ac yn rhy aml nid yw'r addewid hwnnw'n cael ei gyflawni.
Mae ein cynnig yn dechrau, fel y dylai, gyda chydnabyddiaeth—cydnabyddiaeth o bwysigrwydd parhaol cofio i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Rydym yn cofio ac yn anrhydeddu pawb a gollodd eu bywydau, a'r rhai sy'n parhau i ddwyn creithiau, gweladwy ac anweledig, eu gwasanaeth i'n gwlad. Rydym hefyd yn talu teyrnged i'r nifer o sefydliadau, gwirfoddolwyr ac unigolion sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae eu tosturi a'u hymroddiad yn llenwi'r bylchau y mae gwasanaethau statudol yn aml yn eu gadael ar ôl neu na allant eu llenwi, ac maent yn haeddu ein diolch.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y cyfraniad sylweddol a pharhaus y mae'r lluoedd arfog yn ei wneud i Gymru, nid yn unig drwy eu gwasanaeth byd-eang, ond drwy werth economaidd a chymdeithasol ein canolfannau milwrol a rôl hanfodol milwyr wrth gefn a chyn-filwyr yn ein cymunedau ledled y wlad.
Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, mae angen i ddiolchgarwch fod yn fwy na geiriau ar dudalen neu weithredoedd ar un diwrnod. Hanfod y cynnig hwn, a ffocws ein hymdrechion ar y meinciau hyn i drwsio Cymru, yw gweithredu. Mae'n annerbyniol fod cyn-filwyr sydd wedi rhoi cymaint yn dal i gael trafferth cael mynediad at wasanaethau tai, gofal iechyd a chymorth iechyd meddwl. Ni ddylai unrhyw un sydd wedi gwisgo lifrai ein gwlad gael ei adael ar ôl, heb sôn am gael ei adael i gysgu ar y strydoedd.
Dyna pam y mae ein cynnig yn galw am bum cam clir, ymarferol, camau gweithredu y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd nawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn gyntaf, galwn am roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith cyn-filwyr. Mae'n gywilydd cenedlaethol fod dynion a menywod sy'n gwisgo lifrai'r wlad, a oedd yn barod i beryglu popeth dros ein rhyddid a'n diogelwch, yn cysgu ar y stryd neu mewn llety ansicr. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach, i fynnu bod pob awdurdod lleol a landlord cymdeithasol yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i gyn-filwyr digartref ar gyfer tai. Nid yw'n alwad radical; mae'n fater o barch. Os gallwn ddod o hyd i lety brys a chymorth i eraill yng Nghymru, yn sicr gallwn sicrhau to uwchben i rywun sydd wedi gwasanaethu o dan ein baner. Dylai darparu cartref i gyn-filwr fod yn fater o egwyddor, nid gwaith papur, a dylem roi'r egwyddor honno ar waith nawr.
Yn ail, galwn am fwy o gefnogaeth i blant y lluoedd arfog. Mae'r bobl ifanc hyn yn wynebu heriau unigryw: symud ysgol dro ar ôl tro wrth i rieni gael eu symud i leoliadau amrywiol, ymdopi ag absenoldebau hir pan fo rhieni i ffwrdd, a dioddef pryderon na fydd y rhan fwyaf o blant byth yn gorfod eu dioddef yng Nghymru. Mae rhaglen y Llywodraeth ei hun yn adrodd bod dros 2,000 o blant y lluoedd arfog yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth £270,000 o gyllid. Rydym yn gwybod bod teuluoedd y lluoedd arfog yn byw ym mhob un o'n 22 awdurdod lleol, gyda data cyfrifiad yn nodi bod o leiaf 2,486 o blant yn byw yng nghartrefi aelodau o'r lluoedd arfog. Mae hynny'n dweud wrthym fod yr angen yn real, yn eang ac yn fesuradwy. Felly, dylem gryfhau'r ymgysylltiad â'r fframwaith ysgolion sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog, Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg, fel bod pob ysgol ledled Cymru yn gwybod pwy sy'n blant y lluoedd arfog a'r ffordd orau i'w cefnogi drwy eu heriau.
Yn drydydd, rhaid inni fuddsoddi'n iawn yn GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ers 2010, wedi'i ehangu o raglen lwyddiannus yn ne Cymru, gyda chyllid rheolaidd ychwanegol ers 2018 i gynyddu capasiti. Mae'n gwneud gwaith hanfodol yn darparu asesiadau a therapi wedi'i gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond ar draws Cymru mae dan bwysau, ac nid oes gan rai byrddau iechyd lleol swyddogion yn eu lle. Dylem fod yn sicrhau bod mentor cymheiriaid parhaol ym mhob bwrdd iechyd, oherwydd mae cymorth gan gymheiriaid yn gweithio, am fod cyn-filwyr yn ymddiried mewn cyn-filwyr.
Ac yn bedwerydd, dylem ymestyn teithio bws am ddim i gynnwys pob cyn-filwr drwy gydol y flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae teithio am ddim yn cael ei gynnig gan Trafnidiaeth Cymru a TrawsCymru ar ddyddiadau'r cofio—cam i'w groesawu, ond ar ychydig ddyddiau bob blwyddyn yn unig. Byddai ei wneud yn barhaol yn gam rhag ynysu, yn gwella mynediad at waith, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymunedol, ac mae'n dangos parch ymarferol bob dydd, nid ym mis Tachwedd yn unig. Mae Cymru eisoes wedi ymgynghori ar sicrhau teithio rhatach ar fysiau i gyn-filwyr y lluoedd arfog a anafwyd. Y cam nesaf fyddai cynllun cenedlaethol ar gyfer ein holl gyn-filwyr.
Ac yn olaf, dylem greu amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru, ac fe hoffwn i ei gweld ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wrth gwrs. Mae hanes milwrol ein cenedl yn gyfoethog, mae'n nodedig, ond nid oes un amgueddfa genedlaethol ar gyfer adrodd yr hanes hwnnw. Mae tystiolaeth a glywyd ym mhob un o bwyllgorau'r Senedd wedi nodi bod llawer o eitemau pwysig nad ydynt yn cael eu harddangos yn gyhoeddus, am nad oes lle i'w harddangos. Byddai amgueddfa genedlaethol yn anrhydeddu gwasanaeth, yn gwarchod treftadaeth ac yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol—lle parhaol i deuluoedd ac ysgolion, a'n hymwelwyr â Chymru, ddysgu, myfyrio a chofio gyda'n gilydd.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn enwedig gwelliant Plaid Cymru, sy'n ceisio dileu ein cynnig cyfan a gosod ystrydebau amwys yn ei le neu sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Gadewch imi ddechrau gyda'r gwelliant gan Blaid Cymru. Yn onest, rwy'n ei ystyried yn sarhaus i'n personél lluoedd arfog ledled Cymru. Mae'r gwelliant yn dechrau nid gyda gweithredu, nid gyda diolchgarwch, ond gydag ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol drwy gyfeirio at waith ASau Plaid Cymru yn cefnogi cyfamod y lluoedd arfog, gan anghofio'r holl ASau eraill, Aelodau'r Senedd a chynghorwyr o bob cwr o Gymru, o bob plaid wleidyddol, sydd wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod cynghorau, y Senedd a Llywodraeth Cymru oll wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog. Rwy'n credu ei fod yn gywilyddus.
A gadewch imi fod yn glir wrth Blaid Cymru, sy'n amlwg heb drafferthu dod—rwy'n gwybod bod Lindsay yma, ond ni allai'r gweddill ddod—pwy sydd wedi sefyll dros ein lluoedd arfog. Nid Plaid Cymru yn unig sydd wedi gwneud hynny. Cafodd cyfamod y lluoedd arfog ei hun ei ymgorffori yn y gyfraith gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Cafodd ei gyflwyno o dan David Cameron, ac fe wnaeth yn siŵr ein bod yn ymgorffori dyletswydd i drin cyn-filwyr a'u teuluoedd yn deg, gyda pharch, mewn cymdeithas. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylai pob Aelod yn y Siambr hon ei gydnabod a bod yn falch iawn o'i wneud.
Ond i mi, y rhan fwyaf annerbyniol o welliant Plaid Cymru yw ei fod yn ceisio dileu rhan o'n cynnig sy'n cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r lluoedd arfog yn ei wneud i Gymru. Am amharchus yw hynny. Mae dileu cydnabyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae ein personél lluoedd arfog yn ei chwarae yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac ym mywyd ein gwlad yn hynod o sarhaus. I bawb sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, rydym ni'n dweud wrthych—ac rwy'n siŵr y bydd pleidiau eraill hefyd—ein bod yn sefyll gyda chi ac rydym yn cydnabod eich cyfraniad parhaus i Gymru, hyd yn oed os nad yw ymwahanwyr Plaid Cymru yn gallu gwneud hynny.
Ac rwy'n dweud bod ein cynnig yn sefyll yn falch gyda'n cyn-filwyr a'n personél lluoedd arfog, ac yn enwedig gyda'u teuluoedd. Mae'n nodi camau clir, pendant, cyraeddadwy y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i gyflawni newid go iawn. [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf eich ymyriad, iawn.
Diolch i'r Aelod am—. Ni allaf eich gweld heibio'r piler, ond diolch yn fawr.
Mae'n siŵr fod hynny'n beth da.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Roeddwn eisiau dweud fy mod yn cytuno â phopeth rydych chi wedi'i ddweud hyd yma ac rwyf am ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw.
Rwy'n gwybod ein bod wedi cael dadl ddoe, ac yn yr araith a wneuthum, soniais am bwysigrwydd—a chytunais ag Aelodau eraill a siaradodd am yr un peth—gofalu am iechyd meddwl ein cyn-filwyr. Felly, ar y pwynt penodol hwnnw, a ydych chi'n cytuno â mi, fel y dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet ddoe, fod angen help penodol yn GIG Cymru i gyn-filwyr benywaidd, sydd ag anghenion penodol sy'n wahanol i'r rhai sydd gan ddynion? Roedd rhywfaint o sôn gan y Llywodraeth y byddent yn gefnogol i hynny, ond yn anffodus, maent wedi dweud nad oes arian i fwrw ymlaen â hynny nawr. Ond gan fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei godi ddoe, onid ydych chi'n cytuno â mi y bydd hynny, gobeithio, yn cael ei gytuno?
Wel, fy egwyddor fawr i yw y dylid darparu cymorth iechyd meddwl i bawb, boed hynny'n ddynion neu'n fenywod. Ni ddylid gwrthod cefnogaeth i neb. A gallaf ailddatgan ymrwymiad fy mhlaid y bydd y GIG bob amser am ddim ac y gall pobl gael mynediad at gymorth iechyd meddwl am ddim, ac rwy'n gobeithio y gallech chi wneud yr un peth os ydych chi'n gwneud cyfraniad yn nes ymlaen.
Ond rwyf am ddweud, Ddirprwy Lywydd—rwy'n gwybod fy mod i'n mynd â llawer o amser oddi wrth y sawl sy'n cau'r ddadl hon—gadewch inni gofio na ellir cyfyngu cofio i un penwythnos. Mae'n rhaid iddo fyw yn ein polisïau, yn ein cyllidebau ac yn ein blaenoriaethau bob diwrnod o'r flwyddyn. Mae arnom ddyled i'n cyn-filwyr a'u teuluoedd na ellir byth ei had-dalu'n llawn, ond dylem wneud cymaint ag y gallwn i anrhydeddu'r hyn y maent wedi'i wneud dros ein gwlad.
Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ger ein bron yn troi cofio o fod yn foment i fod yn ymrwymiad drwy gydol y flwyddyn i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu dros bob un ohonom. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod pob gwelliant arall heddiw a chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i wneud yn siŵr y gallwn ddechrau cefnogi ein personél lluoedd arfog a'u teuluoedd ar draws Cymru nawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1, yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at effaith niweidiol polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar wasanaethau cymorth i gyn-filwyr.
Yn cydnabod:
a) anghenion penodol cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog yng Nghymru; a
b) gwaith Aelodau Seneddol Plaid Cymru wrth gefnogi'r gwaith o gymhwyso Cyfamod y Lluoedd Arfog i drin cyn-filwyr a'u teuluoedd yn deg a gyda pharch mewn cymdeithas.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi sylw dyledus i anghenion cyn-filwyr wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a chefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel a gwrthdaro;
b) cyfarwyddo pob bwrdd iechyd yng Nghymru i ymgorffori mentora gan gymheiriaid ar gyfer cyn-filwyr yn eu llwybrau iechyd meddwl a sicrhau bod arfer gorau ar gymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr yn cael ei gymhwyso'n gyson ar raddfa Cymru gyfan;
c) cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd diweddaraf Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog a rhoi diweddariad i'r Senedd ar gynnydd o ran y mentrau megis astudiaeth gwmpasu Cymru gyfan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog ar ddigartrefedd cyn-filwyr yng Nghymru;
d) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r mater o bensiynau heb eu hawlio ymhlith cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru;
e) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i eithrio cyn-filwyr rhag ailasesiadau anabledd; ac
f) cefnogi ymdrechion byd-eang i ddatrys gwrthdaro ac adeiladu heddwch.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Dwi'n symud y gwelliant. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon yn ystod y cyfnod cofio hwn. Mae'n iawn ein bod yn anrhydeddu'r dynion a'r menywod o Gymru sydd wedi gwasanaethu ein cenedl gydag ymroddiad a dewrder.
Ar 23 Tachwedd 1918, ychydig ddyddiau ar ôl diwedd y rhyfel mawr, addawodd David Lloyd George adeiladu gwlad addas i arwyr. Mwy na chanrif yn ddiweddarach, mae'r addewid hwnnw'n parhau heb ei gyflawni. Mae gormod o gyn-filwyr yn dal i wynebu tlodi, digartrefedd ac iechyd meddwl a chorfforol gwael—sy'n feirniadaeth ddamniol o Lywodraethau olynol yn y DU.
Ni allai'r adolygiad annibynnol o wasanaethau lles Llywodraeth y DU ar gyfer cyn-filwyr fod wedi bod yn gliriach: mae toriadau cyllid wedi diberfeddu cymorth. Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn adrodd bod dros chwarter y cyn-filwyr bellach yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd. Mae hawl i bensiwn yn fethiant arall. Mae Age Cymru yn amcangyfrif y gallai un o bob pump o gyn-filwyr Cymru fod yn gymwys i gael pensiwn y lluoedd arfog ond nad ydynt yn ei hawlio, yn aml oherwydd dryswch neu gymhlethdod. Dylai cyn-filwyr gael yr hyn sy'n ddyledus iddynt yn awtomatig a pheidio â chael eu gadael i lywio drwy ddrysfa fiwrocrataidd.
Gallwn wneud y system yn fwy caredig ac yn symlach hefyd. Mae fy nghyd-bleidiwr yn San Steffan, Ben Lake, wedi dadlau ers tro y dylai cyn-filwyr gael eu heithrio rhag asesiadau anabledd dro ar ôl tro, profiad sy'n gwaethygu pryder ac yn gorfodi pobl drwy system fudd-daliadau sydd eisoes yn gweithio yn eu herbyn. Dyna lle dylai diwygio lles ddechrau, nid drwy dorri rhaffau achub, fel y ceisiodd Llywodraeth y DU ei wneud y llynedd.
Gall Llywodraeth Cymru hefyd wneud mwy. Mewn gwrandawiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig, tynnodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips, sylw at y ffordd y mae mentora cymheiriaid yn trawsnewid iechyd meddwl cyn-filwyr, ond mae'r ddarpariaeth o gymorth o'r fath yn parhau i fod yn dameidiog. Mae angen dull cyson, 'unwaith i Gymru', nid yn unig mewn egwyddor, ond yn ymarferol. Mewn ysbryd o'r fath, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith grŵp arbenigol y lluoedd arfog, y mae'n ymddangos nad yw eu cofnodion wedi'u cyhoeddi ers mis Medi 2023. Rwyf hefyd yn awyddus i glywed sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyfamod y lluoedd arfog, mesur y gwnaeth fy mhlaid helpu i'w sefydlu.
Ond mae'r caledi sy'n wynebu cymaint yn ein cymunedau lluoedd arfog yn dangos gwirionedd dyfnach: yr angen i roi diwedd ar ryfel ac adeiladu heddwch parhaol. Er gwaethaf gwersi hanes, mae awydd dynoliaeth am wrthdaro yn parhau i fod heb leihau. Dilynwyd ymosodiadau ofnadwy Hamas ar 7 Hydref gan ymgyrch ddinistriol Israel o fomio a newyn yn Gaza, sydd bellach yn cael ei gydnabod gan y Cenhedloedd Unedig fel hil-laddiad. Nid yw'r cadoediad fel y'i gelwir wedi dod â llawer o ryddhad, gyda sifiliaid yn dal i gael eu lladd bob dydd. Yn Sudan, mae hunanfodlonrwydd y Gorllewin wedi galluogi milisia a gefnogir gan y Gwlff i gyflawni erchyllterau newydd yn Darfur—hil-laddiad arall i'w ychwanegu at restr enbyd y ganrif hon. Ac yn Wcráin, mae rhyfel di-baid Putin yn rhygnu tuag at ei bedwaredd flwyddyn, wedi'i rymuso gan ddiffyniad cywilyddus poblyddwyr asgell dde ledled Ewrop. Yn bryderus, mae'r un rethreg wedi sleifio i mewn i Gymru, gan daflu baw at y rhaglen cenedl noddfa, cynllun ag iddo'r diben o helpu dioddefwyr rhyfel Putin.
Er y gall oportiwnwyr gwleidyddol droi eu cefnau ar Wcráin, ni fydd Plaid Cymru'n gwneud hynny, na phobl Cymru, fel y gwelsom yng Nghaerffili. Byddwn yn sefyll gydag Wcráin cyhyd ag y mae'n ei gymryd. Wrth inni nodi blwyddyn arall o gofio, rhaid inni anrhydeddu nid yn unig y rhai a wasanaethodd, ond traddodiad balch Cymru o sefyll gyda'r gorthrymedig a dioddefwyr rhyfel hefyd. Ein dyletswydd yw sicrhau bod yr addewid o wlad sy'n addas i arwyr yn cael ei wireddu o'r diwedd, ac i gofio mai'r unig wir iachâd i wenwyn rhyfel yw heddwch. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel, gan nodi'r ansicrwydd yn y byd sydd ohoni.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys sifiliaid a gafodd eu hanafau a'u lladd.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Mewn cyfweliad yr wythnos diwethaf, siaradodd y Parchedig Clive Foster, comisiynydd Windrush, am oroeswyr sgandal Windrush, y mae wedi cyfarfod â nhw ers iddo ddechrau yn y swydd 100 diwrnod yn ôl. Dywedodd fod y bobl y cyfarfu â nhw yn falch o fod yn Brydeinwyr, a'i fod yn teimlo'n ostyngedig wrth weld cyn-filwyr du yn dod allan yn gwisgo eu medalau yng Nghymru. Meddai:
'Nid ydym eisiau cael ein diffinio gan sgandal. Dyna pam y mae'r gŵr bonheddig yn dod allan yn ei fedalau, yn falch ac yn dweud, "edrychwch, dyma'r cyfraniad yr wyf i wedi'i wneud."'
Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chomisiynydd Windrush pan ddaeth i Gymru, ac fe wneuthum innau ei gyfarfod hefyd. Rydym wedi bod yn siarad yn y ddadl hon ynglŷn â sut y byddwn yn edrych ar ôl ac yn cefnogi ein cyn-filwyr, a'r neges, mewn gwirionedd, yw bod dyletswydd arnom i edrych ar ôl pobl sydd wedi gwneud cymaint ar ein rhan drwy beidio â gwneud iddynt deimlo'n ansicr am eu sefyllfa yn y wlad hon. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod cenhedlaeth Windrush wedi dod i'r wlad hon yn gyfreithlon, gofynnwyd iddynt ddod, ac maent wedi gwasanaethu'r wlad hon. Felly, mae creu awyrgylch fel bygwth dod â'r caniatâd amhenodol i aros i ben, dweud y dylai mewnfudwyr fynd yn ôl, bygwth y genedl noddfa, yn achosi ansicrwydd ac anobaith enfawr ymhlith cenhedlaeth Windrush. Rwy'n credu bod y rheini yr un mor bwysig â'r holl bethau eraill yr ydym wedi'u dweud heddiw am y ffordd y dylem gefnogi cyn-filwyr, fod yn rhaid inni wneud i bobl deimlo'n ddiogel yn y wlad hon. Mae dod at ein gilydd i gofio yn gyfle i gymunedau uno ac i gofio'r gwahanol gymunedau sydd wedi cyfrannu dros lawer iawn o flynyddoedd. Nid gogoneddu rhyfel ydyw, ond cydnabod y cyfraniadau a gweithio dros heddwch. Ac rwy'n ystyried y cyfnod hwn o gofio fel rhywbeth y dylem ei wneud.
Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio canlyniadau ehangach rhyfel a dadleoliad cymaint o bobl. Mae Peredur wedi cyfeirio at Gaza, sy'n dod i'r meddwl ar unwaith, a meddwl am y rhesi hir o bobl yn cael eu dadleoli, ac yna'n dychwelyd at rwbel, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio bod canlyniadau rhyfel mor eang.
Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad yr arddangosfa yn y Senedd ddoe a noddwyd gan y Llywydd, sef arddangosfa gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth. Clywsom dystiolaeth bwerus iawn, yn cynnwys gan ddwy fenyw o Wcráin. Ac fel rhan o'r arddangosfa, ceir ffotograffau yn ymwneud â Chorfflu Gwasanaeth Byddin Frenhinol India yng Nghymru. Ac mae hwn yn brosiect ymchwil treftadaeth a ddarperir gan KIRAN Cymru, gyda chefnogaeth y fyddin Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg, ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. A darparodd byddin India dros 2.5 miliwn o filwyr i ymladd ochr yn ochr â'r Cynghreiriaid yn ystod yr ail ryfel byd. Ac mae'r arddangosfa'n dangos lluniau o gwmni cludo anifeiliaid Corfflu Gwasanaeth Byddin Frenhinol India, a gludodd 2,700 o fulod o Mumbai i Marseille.
Golygodd cwymp Ffrainc ym mis Mai 1940 fod yn rhaid i'r cwmni gael ei symud i Brydain a chafodd ei leoli yng Nghymru, a symudwyd eraill i ymladd dros Brydain mewn mannau ledled y byd. Mae yna alwadau am gofeb i'r Indiaid a wasanaethodd yn y wlad hon, ac mae galwad gan y gymuned Indiaidd, yn lleol, y dylai fod rhywbeth i'w cydnabod. Wrth gwrs, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet ddoe, mae yna blac wrth y gofeb ryfel genedlaethol yng Nghaerdydd, sy'n anrhydeddu'r cyfraniadau a wnaed gan y menywod a dynion ethnig a Chymanwlad amrywiol sydd wedi gwasanaethu ein gwlad ers 1914 hyd nawr, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn allweddol yn helpu i sefydlu hynny.
Felly, rwyf eisiau gorffen drwy ddweud bod y geiriau a ddefnyddiwn fel gwleidyddion, yr awyrgylch yr ydym yn ei greu, mor hanfodol bwysig. Ac rwy'n credu mai dyna'r pethau y dylem feddwl amdanynt pan fyddwn yn parchu'r holl bobl a wnaeth gymaint i'n cadw'n ddiogel mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Diolch.
Mae'n anrhydedd cael cyfrannu at y ddadl heddiw, yn enwedig yn y flwyddyn pan ydym yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Mae mor bwysig ein bod yn parhau i gofio ac anrhydeddu'r aberth a wnaeth ein cyndeidiau dros ryddid ein gwlad, yn ogystal â'r rhyddid y mae gwasanaethau lluoedd arfog Ei Fawrhydi yn parhau i'w ddiogelu ledled y byd.
Rwy'n hynod falch mai Llywodraeth Geidwadol y DU a gyflwynodd gyfamod y lluoedd arfog, ac mae’n rhaid inni barhau i barchu'r ymrwymiadau a wnaed yn y cyfamod hwnnw yma yng Nghymru. Yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, mae gennym bron i 23,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog a chyn-filwyr wrth gefn, ac rwy'n falch o'r gwasanaeth y mae pob un ohonynt wedi'i roi i'n gwlad. A hoffwn pe bai Plaid Cymru, yn y ddadl heddiw, wedi cydnabod hynny hefyd.
Fodd bynnag, rydym yn dal i weld llawer o heriau o'u blaenau oherwydd diffyg cysondeb o ran cyflawni polisi, gan gynnwys anawsterau, fel y soniodd fy nghyd-Aelod James Evans, gyda gwasanaethau tai, cymorth gyda'u hiechyd, yn ogystal â llawer o feysydd eraill. Ddirprwy Lywydd, yn ôl y Lleng Brydeinig Frenhinol, nid yw aelodau sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn daer gan wasanaethau cyhoeddus Cymru, yn cynnwys deintyddiaeth a mynediad at addysg. Mae hefyd yn siomedig iawn ein bod yn dal i weld cyn-filwyr Cymru yn mynd heb y cymorth sydd ei angen arnynt i addasu i fywyd sifil, ac nid ydym yn manteisio ar y sgiliau niferus y gallant eu cynnig i ni mewn gwirionedd.
Yn agos at fy nghalon mae'r angen inni ganolbwyntio ar ddysgu gydol oes i gyn-filwyr, a fydd yn helpu i newid eu gyrfaoedd a hefyd yn ein galluogi i harneisio eu sgiliau. Maent yn aelodau hynod werthfawr o gymdeithas, ac ni ddylem anghofio hynny byth. Fodd bynnag, yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweld ymagwedd ddi-fflach tuag at ddysgu gydol oes gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n cefnogi llawer o gyn-filwyr sydd wedi bod yn gwasanaethu ein gwlad. Ddirprwy Lywydd, yn ôl ColegauCymru, rydym yn gweld gostyngiad yn y nifer sy'n cyfranogi mewn dysgu gydol oes yng Nghymru, yn bennaf oherwydd toriad mawr i'r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Mae'r toriad o 37.5 y cant yn 2013, ynghyd â thoriad o 33 y cant mewn addysg ran-amser, yn golygu bod y sector dysgu oedolion yn y gymuned yn dal i ddal i fyny o ran dod â phobl yn ôl i addysg.
Ddirprwy Lywydd, nid yw'r pwysau hwn yn gyfyngedig i ddysgu gydol oes. Yn ein sector addysg bellach, lle mae llawer o'r cyrsiau hanfodol hyn yn cael eu darparu, maent yn teimlo'r pwysau oherwydd cynnydd digynsail yn nifer y dysgwyr a chostau chwyddiant o ran darparu cyrsiau, fel y nodwyd gan ColegauCymru. Yn ogystal, mae gennym gynnydd disynnwyr Llywodraeth Lafur y DU yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd wedi taro ein sectorau addysg yn galed. Mae cyn-filwyr hefyd yn colli cyfle i wneud ystod eang o radd-brentisiaethau, sydd ar gael dros y ffin, a fyddai'n eu galluogi i ennill arian wrth ddysgu. Set gyfyngedig iawn o opsiynau sydd gennym ar gyfer gradd-brentisiaethau yma yng Nghymru. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf ein bod yn colli cyfle gyda sgiliau allweddol y gall cyn-filwyr eu cynnig. Nid ydym yn sicrhau y gallant fod yn rhan o swyddi allweddol fel addysgu. Nid yw'r sgiliau hyn yn cael eu defnyddio, ac yn anffodus, maent yn cael eu hanghofio. Mae cynllun gwych Troops to Teachers yn Lloegr, er na wneir defnydd digonol ohono, yn enghraifft o lle gall Cymru hefyd ddiolch i gyn-filwyr am eu gwasanaeth drwy sicrhau bod ganddynt gyflogaeth ystyrlon wedi iddynt adael y lluoedd arfog. Rydym yn aml yn dweud wrth gofio, 'Yn angof ni chânt fod.' Ond Ddirprwy Lywydd, dyna'n union a wnawn gyda'n cyn-aelodau o'r lluoedd arfog.
Cefais fy nigalonni'n fawr yr wythnos diwethaf pan glywais gyn-filwr a ymladdodd yn yr ail ryfel byd, Alec Penstone, yn dweud ar Good Morning Britain ei fod yn teimlo nad oedd ennill rhyfel yn werth y cyflwr y mae'r wlad ynddo heddiw. A Ddirprwy Lywydd, pan welaf Reform yn sefyll ac yn canmol y lluoedd arfog, pan fydd cyngor swydd Gaerhirfryn dan arweiniad Reform yn ymgynghori ar gau cartrefi gofal, mae'n gadael blas chwerw iawn yn fy ngheg. I blaid sy'n gweiddi 'gwladgarwch' nerth esgyrn eu pennau, mae'n warthus gweld nad yw eu gwladgarwch yn cynnwys gofalu am yr henoed. Mae ein cyn-filwyr ledled y DU yn haeddu gwell na hyn.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ar ran fy ngrŵp cyfan, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog ledled y wlad a thramor sydd wedi aberthu cymaint dros ein rhyddid. Yn angof ni chânt fod. Diolch.
Fi yw'r unig wleidydd o Gymru sydd wedi ymweld â'n milwyr yn Affganistan, ac ymosodwyd arnom mewn un confoi—roedd yn eithaf dychrynllyd—ac yn dilyn y daith pum niwrnod, cyn hedfan adref, bu'n rhaid i'r milwyr wylio fideo am straen a realiti'r caledi yr oeddent yn debygol o'i wynebu ar ôl dychwelyd. Roedd oddeutu 15 munud o hyd—500 o ddynion a menywod mewn awyrendy gorlawn. Os yw fideo 15 munud i fod i olygu adsefydlu, nid yw'n ddigon da. Hyd yn oed cyn iddynt fynd ar yr awyren, dywedwyd wrthynt am ddisgwyl y gwaethaf. Mae'n nodweddiadol, fel y mae Peredur eisoes wedi dweud, o fethiant cymdeithas i ddarparu sicrwydd a chymorth angenrheidiol i'r rhai sydd wedi gwasanaethu'n ddewr dros ein gwlad.
Y penwythnos hwn, mae pob un ohonom wedi crymu ein pennau mewn parch at y rhai a gwympodd, ond dylem hefyd grymu ein pennau mewn cywilydd ynglŷn â'r miloedd lawer—neu, wel, cannoedd, yn sicr—o ddynion a menywod sy'n cwympo drwy'r rhwyd ar ôl cwblhau eu gwasanaeth. Ac mae arnom fwy na hyn iddynt. Rhaid inni wneud yn llawer gwell nag a wnaethom hyd yma. Y Weinyddiaeth Amddiffyn yw'r bobl yr wyf am eu beirniadu, nid unrhyw blaid wleidyddol. Mae angen iddynt gynyddu eu cyfran o'u cyllideb i sicrhau nad oes unrhyw bersonél y lluoedd arfog yn cysgu ar ein strydoedd. Mae'n warth ar bawb yn y wlad hon ein bod yn dal i weld hynny. Nid oes raid i hyn olygu llawer iawn o ymdrech. Mae yna gamau ymarferol cymharol syml a allai wneud gwahaniaeth enfawr i wneud ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy parod i dderbyn amgylchiadau arbennig personél y lluoedd arfog. Rwy'n clywed pobl yn dweud, 'O, maent yn cael nofio am ddim.' Wel, mae hynny'n iawn, ond os nad oes gennych unman i fyw, mae nofio am ddim a thrafnidiaeth am ddim ar fysiau a threnau yn gwbl ddiwerth. Gwyddom y gall bywydau aelwydydd y lluoedd arfog fod yn nomadaidd, gyda'r holl darfu sydd ynghlwm wrth hynny, felly y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw lleihau'r tarfu drwy warantu cysondeb o ran y ddarpariaeth o wasanaethau, ble bynnag y maent wedi'u lleoli.
Fe fu un o fy etholwyr—rwyf wedi cael caniatâd i ddweud ei enw—Geraint Evans o Gaerffili, yn gwasanaethu am saith mlynedd yn y lluoedd arfog, ac mae wedi tynnu sylw at broblem benodol gyda deintyddiaeth. Drwy gyd-ddigwyddiad, mae unigolyn arall, gŵr o Fargoed, wedi cysylltu â mi heddiw gyda'r un broblem. Nid wyf wedi cael caniatâd i'w enwi ef, am mai y bore yma'n unig y cysylltodd â mi ac nid yw wedi ateb fy e-bost eto. Ond mae cael mynediad at wasanaethau deintyddol, peth mor syml â hynny drwy'r GIG, yn dod yn foethusrwydd prin yng Nghymru yn gyffredinol. Ond mae cymhlethdodau ychwanegol i bersonél y lluoedd arfog, gan eu bod yn cael eu hadleoli o bryd i'w gilydd. Mae Geraint wedi sôn wrthyf, er ei fod wedi cofrestru fel claf deintyddol gyda'r GIG cyn ymuno â'r gwasanaeth, mae wedi colli ei allu i gael mynediad bellach wrth gael ei ryddhau o wasanaeth, a dywedwyd wrtho am ddisgwyl rhestr aros o sawl blwyddyn i ailymuno â'r system. Yn anffodus, mae ymhell o fod yn unigryw yn hyn o beth. Mae'r unigolyn o Fargoed wedi talu i gael triniaeth ddeintyddol i'w hun a'i ferch.
Nawr, mae hynny'n gwbl groes i ysbryd egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog y gweithiodd pob un ohonom mor galed—pob plaid yma yng Nghymru—i'w gyflwyno. Felly, hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi yn ei ymateb a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyflwyno polisi o oedi dros gyfnodau gwasanaeth ar gyfer cofrestru deintyddol y GIG, fel nad yw cyn-filwyr a'u teuluoedd yn colli eu gallu i gael mynediad oherwydd newid cyfeiriad yn unig.
Dywedodd y sawl a wnaeth y cynnig—rwy'n deall mai dyma yw arwyddair milwyr America hefyd—'ni ddylai unrhyw un gael ei adael ar ôl'. Wel, maent yn eiriau y dylai pob Llywodraeth, ac yn sicr San Steffan, Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, eu cofio wrth ddelio ag anghenion cymuned ein cyn-filwyr. Hoffwn feddwl ein bod i gyd yn unedig; er gwaethaf yr ymosodiadau yn gynharach, credaf ein bod oll yn unedig yn ein cefnogaeth i gyn-filwyr y wlad hon. Rwy'n credu hynny o ddifrif. Diolch am wrando, diolch.
Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl heddiw ar gofio a chefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae fy etholaeth yn gartref i farics Cawdor—neu farics Breudeth, fel y'u gelwir hefyd—cartref y 14eg Gatrawd Signalau yn sir Benfro. Mae'r milwyr a'u teuluoedd yn y barics hynny'n rhan werthfawr o'r gymuned leol, ac rydym ni yn sir Benfro yn falch iawn o'u presenoldeb.
Mae ein cynnig yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr Cymru. Nid yw sir Benfro yn eithriad; mae yna sefydliadau rhagorol yn gweithio gyda chyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog ledled y sir. Efallai fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o elusen ragorol Oriel VC yn Hwlffordd, sy'n cael ei rhedeg gan Barry John, a oedd yn aelod a wasanaethai yng Nghatrawd y Cymry Brenhinol am 24 mlynedd. Mae Oriel VC—gyda'r 'VC' yn dynodi cyn-filwyr a chymuned ('veterans' a 'community')—yn enghraifft wych o elusen fach annibynnol sy'n dod â chyn-filwyr a'r gymuned ynghyd drwy gelf, yn ogystal â chynorthwyo cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd addasu i fywyd sifil.
Rwyf wedi bod yn Oriel VC sawl gwaith ac rwyf bob amser yn cael fy syfrdanu gan yr ysbryd cymunedol a'r ymrwymiad anhygoel gan y gwirfoddolwyr yno. Maent yn cynnal cyfres o brosiectau anhygoel, gan gynnwys mentora cymheiriaid, sy'n cynnig arweiniad a chymorth ymroddedig i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Yn fy marn i, mae darparu cymorth dan arweiniad cymheiriaid yn ffordd wych o ddatblygu ymddiriedaeth a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar i gyn-filwyr ailgysylltu â'u cymuned ac ailddarganfod ymdeimlad o berthyn. Mae Oriel VC hefyd yn cynnal prosiect 'o'r ardd i'r plât', sy'n cysylltu pobl â'r awyr agored ac yn dysgu sgiliau garddio a choginio gwerthfawr iddynt. Mae hwn yn brosiect arall sy'n meithrin dinasyddiaeth weithredol ac yn hyrwyddo byw'n iach, a chredaf mai dyma'r math o weithgarwch sydd angen i Lywodraeth Cymru ei nodi, ei gefnogi a'i gyflwyno ledled Cymru. Lle caiff gwaith da ei wneud yn ein cymunedau, rhaid i ni ei hyrwyddo a rhannu arferion gorau ledled y wlad.
Mae ein cynnig yn galw’n briodol ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yn well mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys hyrwyddo ymgysylltiad yn y rhaglen ysgolion sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog i gefnogi plant y lluoedd arfog, a chredaf fod mwy y gellir ei wneud i gefnogi plant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru. Yma yng Nghymru, fel y dywedwyd yn gynharach, mae cyllid ar gyfer disgyblion y lluoedd arfog yn cael ei weinyddu drwy Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru), ac mae ysgolion yn gwneud cais am gyllid yn hytrach na'u bod yn derbyn cymorth ariannol uniongyrchol fesul disgybl. Mae gan ddisgyblion sy'n blant y lluoedd arfog hawl i gymorth drwy’r grant datblygu disgyblion wrth gwrs, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ond nid yw hyn yn gwneud iawn am yr anghydraddoldeb mewn cyllid uniongyrchol, oherwydd yn sgil sefyllfa ariannol personél y lluoedd arfog, mae’n annhebygol y bydd plant y lluoedd arfog yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim na chymorth drwy'r grant datblygu disgyblion. Felly, oherwydd y gwahanol ffyrdd o weinyddu cymorth, gwn fod yna bryder fod ysgolion yn derbyn llai o gyllid y pen i blant y lluoedd arfog nag ysgolion yn Lloegr, ac mae hynny wrth gwrs yn cyfyngu ar yr ymyriadau a’r cymorth sydd ar gael i’r plant hyn. Felly, credaf y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r cyllid ar gyfer SSCE Cymru i'r un lefel â'r gyfradd y pen a ddarperir yn Lloegr, ac ymrwymo i edrych ar y mater hwn ymhellach gyda'r bwriad o adolygu'r drefn ariannu bresennol.
Nawr, byddai'n esgeulus imi siarad yn y ddadl hon heb sôn am yr ymgyrch i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Rydym yn dod ynghyd o flaen cofebion rhyfel yn ein cymunedau bob blwyddyn i dalu teyrnged i'n lluoedd arfog dewr, a chredaf y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i'r ffordd y mae cofebion rhyfel yn cael eu diogelu yma yng Nghymru. Rwyf wedi dadlau dros benodi ceidwaid cadwraeth neu swyddogion cofebion rhyfel, y gellid eu hymgorffori yng nghyfrifoldebau swyddogion awdurdodau lleol presennol, a byddai eu rôl yn gwasanaethu fel pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd ar unrhyw faterion yn ymwneud â chofebion rhyfel. Gallent hefyd ddatblygu partneriaethau â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol sydd eisoes wedi sefydlu cyfrifoldeb am rai cofebion yn yr ardal. A gallent hefyd greu cysylltiadau ag ysgolion lleol i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i ddweud wrthynt am yr aberth fawr a wnaed drosom. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo o ddifrif i edrych ar y cynnig hwn ymhellach ac i ystyried a oes lle i greu rôl o'r fath.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae ein lluoedd arfog yn gwneud gwaith anhygoel yn ein hamddiffyn, ac mae'n deg ein bod yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethu ein gwlad. Mae angen i ni hefyd hyrwyddo gweithgareddau cymunedol lleol a phartneriaethau ac mae angen inni sicrhau bod plant y lluoedd arfog yng Nghymru yn cael eu hariannu ar yr un lefel â mannau eraill ledled y DU. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Eleni, gyda choffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ, mae wedi bod yn wirioneddol gyffrous gweld pobl o bob cenhedlaeth yn ymuno â'i gilydd i fyfyrio ar aberthau'r gorffennol a'r presennol. Fel merch i gyn-filwr a ymladdodd yn yr ail ryfel byd, mae'n ein hatgoffa'n ingol fod y diwrnod hwn yn parhau i fod yn bersonol ac yn hynod bwysig i lawer ohonom.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru. Ddoe, tynnodd y Prif Weinidog sylw at rai o’r ffyrdd y mae ein Llywodraethau Llafur yn cyflawni dros gyn-filwyr yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, gyda chyllid yn mynd i leoedd fel Woody’s Lodge yng Ngheredigion, Oriel VC y soniodd Paul Davies amdani yn Hwlffordd, ac Adferiad yn Llandrindod.
A gaf i sôn hefyd am glwb brecwast Clwb Cyn-filwyr Cymru? Wedi'i leoli yn nyffryn Aman gydag aelodau ledled Cymru, mae'n cael ei gynnal bob dydd Llun, ac yn cynnig gweithgareddau fel bowlio a saethu. Mae wedi dod yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus a phoblogaidd, gyda channoedd o fynychwyr. Y mis diwethaf, cefais yr anrhydedd o fynychu sesiwn. Roedd yn hyfryd gweld y gwaith y mae'r clwb yn ei wneud i hyrwyddo iechyd a lles, i leihau unigrwydd ac i hybu ymdeimlad o gyfeillgarwch i gyn-filwyr a'u teuluoedd, a hefyd y parch rhwng y cenedlaethau a welwyd gan gôr ysgol gwych Ysgol y Bedol. Roedd yn ddiddorol eistedd gyda chyn-filwr a ddywedodd wrthyf fod eu hŵyr yn un o'r rhai a oedd yn canu ar y llwyfan, felly mae'n meithrin parch rhwng y cenedlaethau, ac yn bwysicach fyth, dealltwriaeth ac addysg am heddwch a'r parch a roddir i bobl hŷn gan bobl iau, ac fel arall.
Roeddwn wrth stondin pabïau yn Hwlffordd—rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom wedi bod wrth stondinau pabïau yr wythnos diwethaf—a bûm yn sgwrsio â chyn-filwr, ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn y clwb brecwast, ac efallai y gallem gyflwyno hynny ychydig yn fwy eang. Gwn fod un yn Llanelli, ac mae rhai mewn mannau eraill. Mae'n gyfle gwych i ddiolch i bawb sy'n rhan o'r holl gynlluniau trefnu a chefnogi hynny ledled y wlad. Y cyfan y maent yn gofyn amdano yw i bobl fwynhau eu hunain, gweld bod pobl yn cymryd rhan, nad yw pobl gartref yn teimlo'n unig. Rwyf wedi cyfarfod â chryn dipyn o bobl sydd wedi dweud wrthyf mai dyna fyddai wedi digwydd iddynt hwy oni bai am y sefydliadau hyn. Mae'r sefydliadau hynny'n ymgorfforiad gwirioneddol o gyfamod y lluoedd arfog—y rhwymedigaethau moesol rhwng y genedl ac aelodau o wasanaethau'r llynges, y fyddin, y Llu Awyr Brenhinol a'u teuluoedd.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud hyn drwy raglenni fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, y mae cyllid ar ei gyfer wedi codi fwy na 35 y cant. Mae pob awdurdod lleol bellach yn cyflogi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, gan sicrhau y gall cyn-filwyr gael mynediad at dai, addysg a gofal iechyd heb rwystrau, ac wedi penodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog i gynrychioli eu buddiannau'n lleol. Mae cyn-filwyr sydd â chyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth yn cael mynediad blaenoriaethol at ofal GIG Cymru, tra bo'r llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog i ddod o hyd i gartrefi sicr, gan gynnwys cyngor wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd. Mae heddiw wedi dangos bod angen meithrin a gwella rhai o'r pethau hynny ymhellach.
Mae gennym gynlluniau sy'n bwysig i bobl: nofio am ddim a'r cerdyn braint amddiffyn, sy'n hyrwyddo llesiant ac yn cydnabod eu gwasanaeth, eu haberth a'u cyfraniadau i'n ffordd o fyw. Ni ddylem byth danbrisio pwysigrwydd y llesiant hwnnw. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'n anrhydedd siarad yn y ddadl hon heno, yn yr wythnos goffa hon, wrth inni fyfyrio ar y ddyled aruthrol sydd arnom i'r rhai sydd wedi gwasanaethu, a'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf dros y rhyddid sydd gennym heddiw.
Ddydd Sul, cefais y fraint o fynychu'r gwasanaeth coffa yn Eglwys Sant Tomos yn y Rhyl, a'r orymdaith wedyn i'r gerddi coffa ar y promenâd, lle cafwyd dwy funud o ddistawrwydd a gosod torchau. Roedd yn wasanaeth gwirioneddol arbennig a theimladwy, fel y mae bob amser—un a ddaeth â phobl o bob oed a chefndir ynghyd, yn unedig mewn myfyrdod tawel a choffadwriaeth.
Mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, gwelwn yr un diolchgarwch tawel, diffuant a'r un ymdeimlad o falchder a rennir. Mae Cymru wedi rhoi cymaint i amddiffyn ein cenedl, o feysydd brwydr y Somme a Passchendaele, i'r gwrthdaro mwy diweddar yn Irac ac Affganistan, fel y mae Lindsay Whittle eisoes wedi'i nodi.
Mae dynion a menywod dirifedi o drefi a phentrefi Cymru wedi gwasanaethu gyda dewrder, anrhydedd ac anhunanoldeb, gan ymladd gyda'u cymunedau yn eu calonnau, a chyda chariad at eu cenedl—pob cae a gwrych a'i phobl. Mae eu henwau wedi'u hysgythru ar ein cofebion rhyfel—gan gynnwys y rheini yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych, yn fy etholaeth i, i enwi rhai—ond mae eu gwaddol yn parhau yn ein rhyddid ac yn ein gwerthoedd Prydeinig a rennir.
Fel y soniwyd eisoes, prin fod unrhyw un yng Nghymru nad oes ganddynt gysylltiad teuluol â rhywun a wasanaethodd yn y rhyfel byd cyntaf neu'r ail ryfel byd. Nid edrych yn ôl yn unig yw cofio. Mae a wnelo â chydnabod ein dyletswydd barhaus i'r rhai a roddodd eu bywydau, y rhai sy'n gwasanaethu heddiw, ac i'r cyn-filwyr a'u teuluoedd. Dyna pam y mae ein cynnig mor bwysig. Mae'n galw am roi camau ymarferol ar waith i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog.
Rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw gyn-filwr byth yn wynebu digartrefedd. Rhoi blaenoriaeth i gyn-filwyr wrth ddyrannu tai yw'r peth iawn i'w wneud. Ni ddylai unrhyw un byth wynebu digartrefedd. Mae'n bwysig cydnabod ei fod yn fater cymhleth, gyda'r rhai sy'n wynebu digartrefedd bron bob amser yn ymgyflwyno â phroblemau cymhleth iawn, o broblemau iechyd i gamddefnyddio sylweddau, ac mae angen llawer o gymorth arnynt sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu llety. Felly, o ystyried eu gwasanaeth i'r wlad hon, rhoi blaenoriaeth o ran tai i gyn-filwyr digartref yw'r lleiaf y gallwn ei wneud.
Dylem hefyd helpu plant ein milwyr drwy annog pob ysgol yng Nghymru i ddod yn rhan o'r rhaglen ysgolion sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog, fel bod plant sy'n symud yn aml oherwydd gwasanaeth eu rhieni yn cael rhywfaint o sefydlogrwydd a chymorth. Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n helusennau cyn-filwyr, fel Change Step Cymru, yn gwneud gwaith rhagorol, ond fe allwn ac fe ddylem fynd ymhellach.
Mae cyfran uwch o lawer o gyn-filwyr yn nodi cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgarwch o ddydd i ddydd, gyda 32 y cant o gyn-filwyr wedi'u categoreiddio'n anabl, o gymharu â 19 y cant o bobl nad ydynt yn gyn-filwyr. Canfu astudiaeth gan Goleg y Brenin Llundain fod gan ychydig o dan 28 y cant o bersonél a chyn-bersonél y lluoedd arfog anhwylder iechyd meddwl cyffredin. Byddai ymestyn darpariaeth teithio am ddim ar fysiau i bob cyn-filwr yn gam ymarferol arall i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a chynnal y cysylltiad hanfodol â'u cymunedau.
Ac yn olaf, creu amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru, fel y mae James Evans eisoes wedi sôn. Buaswn wrth fy modd pe bai yn etholaeth Dyffryn Clwyd, ond efallai fod hwnnw'n benderfyniad sydd allan o fy nwylo i, gwaetha'r modd. Ond serch hynny, byddai amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru i'w chroesawu'n fawr a byddai'n rhoi lle parhaol i gofio ac addysgu ein gwlad, fel bod maint eu haberth yn cael ei gydnabod a'i goffáu gan y genhedlaeth nesaf a'r rhai i ddod.
Mae'n bwysig ein bod yn sefyll mewn distawrwydd bob blwyddyn i gofio eu haberth. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gofio, ac mae'n bwysig ein bod yn ategu ein geiriau a'n teimladau â gweithredoedd. Felly, gadewch inni sefyll gyda'n gilydd yn y Senedd hon heddiw i anrhydeddu eu cof ac i ailddatgan ein dyletswydd i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu ein gwlad gyda balchder, a ddylai bob amser fynd y tu hwnt i linellau gwleidyddol. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heno. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gyfrannu—Ken Stakes.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Roeddwn i, fel llawer yma, yn falch o ymuno â digwyddiadau coffa lleol y penwythnos diwethaf. Wrth gwrs, cynhaliwyd dadl y Llywodraeth ynghylch cofio ddoe, a ganolbwyntiai, yn gywir ddigon, ar gofio. Roedd yn achlysur prin ond calonogol iawn pan adawodd pob un ohonom wleidyddiaeth plaid y tu allan i'r Siambr.
Trafodais bwyntiau 1 i 3 y cynnig ddoe, mewn cynnig a gytunwyd gan bawb, wedi'r cyfan. Mae pwynt 4 yn tynnu sylw, yn briodol, at gyfraniad y lluoedd arfog ac amddiffyn ledled Cymru. Rydym wedi bod yn ariannu ffeiriau swyddi'r lluoedd arfog ers 2021, a buaswn yn annog yr Aelodau i ymweld ag un a gweld faint sy'n eu mynychu, ynghyd â'r cyfleoedd anhygoel sydd ar gael. Roeddwn yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi mynychu ffair swyddi a chynhadledd cyflogwyr y lluoedd arfog yr wythnos diwethaf yng Nghaerdydd. Mae'r digwyddiad hwnnw, a ffair swyddi'r lluoedd arfog sydd i ddod yn Wrecsam y mis nesaf, yn dangos ein hymrwymiad i'n lluoedd arfog, ynghyd â'n cefnogaeth i ddiwrnod lluoedd arfog Cymru.
Wrth gwrs, rydym hefyd yn galluogi ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog i ddarparu cymorth yn y gymuned. Rydym yn darparu nofio am ddim i'r lluoedd arfog, rydym yn darparu cyllid i helpu plant y lluoedd arfog yn ein hysgolion ac rydym yn cefnogi cyn-filwyr sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl drwy GIG Cymru i Gyn-filwyr.
Roedd ffair swyddi a chynhadledd ddiweddar y lluoedd arfog yng Nghaerdydd, a gefnogwyd gan y Llywodraeth hon, ar yr un diwrnod ag yr oedd Gweinidogion gyda Gweinidog y DU dros amddiffyn a pharodrwydd diwydiannol yng Nghae Coffa Cymru, ac yna yn General Dynamics ym Merthyr Tudful, yn archwilio cyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn amddiffyn yng Nghymru. Yn ddiweddar, treuliodd ein Prif Weinidog amser gyda'r fyddin a chynrychiolwyr y diwydiant amddiffyn yn Cambrian Patrol, y gemau Olympaidd o ran sgiliau patrolio, sy'n rhoi Cymru ar fap y byd. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd y lluoedd arfog ac amddiffyn a'u cyfraniad i Gymru, i'r economi, ond hefyd yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Mae pwynt 5 yn codi nifer o geisiadau llawn bwriadau da, sydd yn eu cyfanrwydd yn cyflwyno heriau yn ein gallu i'w cefnogi. Cyflwynwyd ein Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) ym mis Mai ac mae'n mynd drwy broses graffu'r Senedd ar hyn o bryd. Mae'n nodi sut y byddwn yn trawsnewid yn systematig ein dull o ymdrin â digartrefedd i'n helpu i gyflawni ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Nod y Bil yw creu system ddigartrefedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ymateb i anghenion cymorth pob ymgeisydd sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, gan gynnwys, yn hollbwysig, aelodau o gymuned y lluoedd arfog. Ochr yn ochr â'r Bil, rydym yn bwriadu adolygu'r llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog, proses sydd eisoes wedi'i chychwyn gyda phartneriaid ac sy'n ceisio sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith yn gyson ar draws ein holl awdurdodau lleol.
Mae'r cynllun Ysgolion sy’n Ystyriol o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn fenter wych, ac SSCE Cymru, prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n ei hyrwyddo ledled Cymru. Mae 60 o ysgolion eisoes wedi cyflawni statws ysgol sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog. Dywedodd Gareth Davies fod hyn yn rhywbeth y dylem ei annog, ac fel Llywodraeth, rydym yn sicr yn ei annog, ond nid yw'n rhywbeth y credaf y gellid ei orfodi.
Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr parhau i ddarparu cymorth iechyd meddwl o safon i gyn-filwyr mewn angen. O ran mentoriaid cymheiriaid, gwn fod hwn yn bwnc y mae'r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn awyddus i weld cefnogaeth iddo, gan gynnwys, yn hollbwysig, fel y nodwyd, cyn-filwyr benywaidd. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi darpariaeth mentora cymheiriaid ac yn cydnabod rôl bwysig profiad bywyd fel rhan o gynnig cymorth cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn rhan o'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a gyflawnir gan y rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl. Bydd yn ceisio ymgorffori ac adeiladu ar waith ar brofiad bywyd a mentora cymheiriaid sydd eisoes wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn parhau i ddarparu cymorth iechyd meddwl o safon i gyn-filwyr mewn angen.
Gan droi at deithio am ddim i gyn-filwyr, dylem gofio wrth gwrs fod y cyfamod yn ymwneud â mynd i'r afael ag anfantais ac ystyriaeth arbennig i'r rhai sydd wedi rhoi fwyaf. Mae hwn yn gynnig rwy'n falch o weld llawer o weithredwyr trafnidiaeth, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn ei wneud bob blwyddyn adeg y cofio. Bydd llawer o gyn-filwyr, wrth gwrs, eisoes yn elwa o'r buddion cyffredinol sydd ar gael yma i bobl dros 60 oed, ac mae gan eraill fynediad at brisiau gostyngedig drwy'r cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr. I'r rhai sydd wedi rhoi fwyaf, unwaith eto, mae prisiau consesiynol ar gael i'r rhai sydd wedi'u hanafu ac sy'n cael iawndal. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r syniad, ond byddai trafnidiaeth am ddim i bob cyn-filwr yn her sylweddol, a byddai'n debygol o arwain at alwadau tebyg i weithwyr brys, sydd hefyd yn wynebu senarios lle mae bywyd yn y fantol, allu cael yr un hawl.
Nawr, gwn fod amgueddfa filwrol genedlaethol yn ddyhead gan y Ceidwadwyr Cymreig ers amser maith, a chefais y pleser o fynychu RWF Fest ym marics Hightown yn ddiweddar, lle cynhaliodd amgueddfa catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ddigwyddiad dros dro gwych yn Wrecsam. Mae gennym amgueddfeydd anhygoel ledled Cymru yn dathlu hanes ac yn addysgu pobl yn y broses, gan gynnwys y Firing Line yng Nghastell Caerdydd, ynghyd ag Amgueddfa Frenhinol Cymru yn Aberhonddu ac Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaernarfon. Rwy'n tybio mai'r lle gorau ar gyfer amgueddfa genedlaethol ar hyn o bryd yw yn ein gwahanol faniffestos.
Nawr, gan droi at alwad Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru, mae rhoi sylw dyledus yn rhywbeth yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud mewn sawl maes. Mae mentrau fel GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r llwybr tai yn dangos hynny. Ond wrth symud ymlaen, rydym yn edrych yn gadarnhaol tuag at yr egwyddor y dylid ymestyn y ddyletswydd gyfreithiol drwy gyfamod y lluoedd arfog i Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig. Rwyf wedi trafod ein hymagwedd at fentora cymheiriaid mewn ymateb i welliant y Ceidwadwyr. Credaf mai byrddau iechyd lleol sydd yn y sefyllfa orau i ystyried anghenion iechyd lleol.
Edrychwn ymlaen at weld Alabaré yn cynhyrchu eu hastudiaeth gwmpasu ar ddigartrefedd ymhlith cyn-filwyr. Nid ni yw'r cleient ar gyfer y gwaith hwn, ond byddwn yn awyddus iawn i weld beth y mae'n ei ddweud ac edrychwn ymlaen at yr astudiaeth fel ysgogiad ar gyfer ystyried polisi posib yma yng Nghymru. Byddwn yn diweddaru'r wefan gyda chofnodion ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, sy'n hynod werthfawr ac rwyf fi a Sarah Murphy wedi bod yn ei fynychu. A gwn fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod wrthi'n gyson yn ceisio sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt.
I gloi, fel yr amlinellwyd ddoe, rydym yn dod ynghyd yn y cyfnod hwn ac yn myfyrio ar gyfraniad cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Fel Llywodraeth, rydym o ddifrif ynghylch ein hymrwymiadau ac yn dangos hynny yn y cymorth a ddarparwn i'n lluoedd arfog.
Yn olaf, soniodd Lindsay Whittle ei fod wedi ymweld â'n lluoedd arfog yn Affganistan. Gwasanaethodd y Gweinidog dros Gyn-filwyr a Phobl yn Affganistan. Ei chyd-aelod, Gweinidog y Lluoedd Arfog, yw'r Aelod Seneddol sydd wedi ennill y nifer fwyaf o anrhydeddau gwasanaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Maent yn gwybod yn well nag unrhyw un ohonom beth y mae gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ei olygu, a beth sydd ei angen ar ein personél sy'n gwasanaethu, ein cyn-filwyr, ein milwyr wrth gefn a'n cadetiaid. A dyna pam y byddwn yn gweld y cyfamod yn ehangu, cynnydd digynsail yn y gwariant ar amddiffyn a buddsoddiad digynsail mewn llety i'r lluoedd arfog. Mae gennym Lywodraeth y DU nawr sy'n siarad yn uwch gyda gweithredu cadarnhaol dros ein lluoedd arfog yn hytrach na gyda geiriau'n unig. Diolch.
Sam Rowlands nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, am y ddadl feddylgar a theimladwy y prynhawn yma. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Aelodau hynny, fel Gareth Davies, a rannodd enghreifftiau lleol o sut y mae cymunedau ledled Cymru yn parhau i anrhydeddu, yn gywir ddigon, ein lluoedd arfog nid yn unig yn ystod y cyfnod cofio ond drwy gydol y flwyddyn. Ac roeddwn i'n meddwl bod Paul Davies, yn arbennig, wedi amlygu natur y gefnogaeth honno drwy gydol y flwyddyn drwy sefydliadau fel Oriel VC yn sir Benfro.
Fel y clywsom, mae cofio nid yn unig yn ymwneud â myfyrio, ond hefyd â pharch a chyfrifoldeb. Yng Nghymru, bob blwyddyn, gwelwn gyn-filwyr, cadetiaid a theuluoedd yn dod at ei gilydd, yn sefyll ochr yn ochr mewn teyrnged dawel. Mae'n rhywbeth sy'n clymu ein cymuned, ac rwy'n credu bod Julie Morgan yn hollol iawn i dynnu sylw at gyfraniad y rhai sydd wedi ymladd dros ein heddwch o bob cwr o'r byd dros y blynyddoedd. Tynnodd Joyce Watson sylw at y nifer o grwpiau gwirfoddol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau, gan ddod â nhw at ei gilydd ar adegau fel hyn. Ond fel y clywsom, rhaid i gofio olygu gweithredu hefyd a dyna yw diben ein cynnig heddiw, oherwydd er ei bod yn iawn ein bod yn gwisgo'r pabi gyda balchder, mae'r un mor iawn ein bod yn sicrhau bod y rhai a wasanaethodd yn cael cartref, yn cael cefnogaeth ac yn cael cyfleoedd pan fyddant yn dychwelyd i fywyd sifil. Ac rwy'n credu bod yr Aelod dros Gaerffili wedi rhannu'r pwynt hwn yn bwerus o'i brofiad yn Affganistan. Mae'n boenus i bawb ohonom pan welwn gyn-filwyr nad ydynt yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Fel y mae llawer wedi sôn, ni ddylai unrhyw gyn-filwr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad byth fod yn ddigartref yma yng Nghymru. Byddai rhoi blaenoriaeth uchaf i gyn-filwyr mewn dyraniadau tai yn gam syml ond pwerus i gydnabod hyn.
A pham y mae cefnogaeth i'n cyn-filwyr mor bwysig? Oherwydd ein bod yn cydnabod y wobr y mae eu gwasanaeth wedi ei rhoi, y nwydd mwyaf gwerthfawr y gŵyr y ddynoliaeth amdano: rhyddid. Mae cofio yn ein gorfodi i oedi a gwerthfawrogi'r rhyddid yr ydym yn aml yn ei gymryd yn ganiataol—y rhyddid i siarad, i bleidleisio, i ymgynnull, i fyw ein bywydau heb ofni gormes, a thalwyd am bob hawl sydd gennym heddiw gan aberth y rhai a gofiwn. Fe wnaeth eu dewrder warchod ein democratiaeth a'n ffordd o fyw rhag y rhai a geisiodd eu dileu. Pan fyddwn yn sefyll yn dawel, rydym yn galaru colled, ond rydym hefyd yn dathlu'r modd y llwyddwyd i warchod rhyddid, gan ddeall bod yna gost i ryddid bob amser.
Yn yr un modd, rhaid inni gofio nad yw'r heddwch yr ydym yn ei fwynhau, a roddwyd gan gyn-filwyr y gorffennol, yn hunangynhaliol. Mae'n cael ei gynnal yn weithredol gan bersonél sy'n gwasanaethu heddiw, personél sy'n barod i wneud yr aberth eithaf a hynny ar amrantiad. A dyna pam yr oedd James Evans yn gywir i deimlo'n siomedig wrth weld Plaid Cymru yn dileu ein cynnig i gydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r lluoedd arfog yn ei wneud i Gymru heddiw. Mae'r heddwch a'r ffyniant a fwynheir ar yr ynysoedd hyn yn seiliedig ar ein hymrwymiad i ddiogelwch ac i'n lluoedd arfog heddiw. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydnabod cyfraniad parhaus ein lluoedd arfog i'n cenedl, i ymrwymo i gefnogi a buddsoddi mewn amddiffyn, oherwydd pan fyddwn yn esgeuluso'r gefnogaeth sydd ei hangen i gynnal parodrwydd, mae'r heddwch diogel a garwn yn dechrau diraddio. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwynt y cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn yn ei ymateb yma heddiw.
Nid wyf yn mynd i allu mynd i'r afael â phob pwynt a wnaeth yr Aelodau y prynhawn yma, ond rwyf am ddweud hyn wrth gloi, Lywydd: nid ymwneud ag un penwythnos ym mis Tachwedd yn unig y mae cofio. Mae'n ymwneud â'r dewisiadau a wnawn bob dydd i gefnogi'r rhai sydd wedi rhoi ac sy'n parhau i roi cymaint dros ein rhyddid. Fel Ceidwadwyr Cymreig, mae gennym gynllun clir i sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael eu cefnogi mewn gwlad y gwnaethant ymladd mor ddewr i'w hamddiffyn. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau unwaith eto am gyfrannu at y ddadl bwysig hon. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando, yn gweithredu ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod nid yn unig yn genedl sy'n cofio, ond yn un sydd o ddifrif yn cefnogi ei lluoedd arfog yn weithredol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n digwydd nawr.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais. Dyma ni, felly, y pleidleisiau ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gofio a chymuned y lluoedd arfog. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cofio a chymuned y lluoedd arfog. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cofio a chymuned y lluoedd arfog. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 35, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 fydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y Bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cofio a chymuned y lluoedd arfog. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 36, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Y cynnig wedi ei ddiwygio fydd y bleidlais olaf.
Cynnig NDM9040 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaol y cyfnod cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethu ein gwlad.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned lluoedd arfog a chyn-filwyr Cymru.
4. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.
5. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel, gan nodi'r ansicrwydd yn y byd sydd ohoni.
6. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys sifiliaid a gafodd eu hanafau a'u lladd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cofio a chymuned y lluoedd arfog. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am heno, ond nid dyna ddiwedd ar ein gwaith ni. Mae yna ddadl fer i'w chynnal.
Mae'r ddadl fer heno yn enw Sioned Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i Adam Price.
Rwyf am dynnu sylw yn y ddadl hon at bwysigrwydd cryfhau amddiffyniadau hawliau dynol i bobl Cymru. Mae'n fater sy'n greiddiol i'n dyfodol ni i gyd. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yr wyf yn ei gadeirio wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn dilyn ein hymchwiliad byr ond pwerus i gyflwr hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau'n sobreiddiol a hefyd yn ysgogol. Maent yn darlunio Cymru lle mae hawliau dynol yn rhy aml yn addewidion yn hytrach nag amddiffyniadau, dyheadau yn hytrach na gwarantau. Nid yw hawliau na ellir eu hawlio yn hawliau o gwbl. Gobeithion ydynt. Maent yn dibynnu ar ewyllys da gwleidyddol, ar ddewisiadau polisi, ac ar flaenoriaethau'r dydd. Rwyf am nodi pam nad yw hyn yn dderbyniol.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i ysgrifennydd y grŵp trawsbleidiol, yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, a Glenn Page o Amnest Cymru, am eu gwaith ar lunio'r adroddiad hwn a'u hymroddiad hirsefydlog i'r gwaith o gryfhau hawliau dynol yng Nghymru. Rydym yn ffodus i gael arbenigwyr ac eiriolwyr fel y rhain, a chefais y fraint o weithio gyda nifer ohonynt yn y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol sy'n hysbysu ac yn herio llunwyr polisi drwy eu hymchwil a'u hymgyrchu.
Diolch i chi i gyd.
Mae ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol yn gofyn cwestiwn syml: a yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i gryfhau hawliau dynol? Yr ateb a gawsom gan bobl ledled Cymru, yn academyddion, ymgyrchwyr, sefydliadau ac unigolion, oedd 'na' clir a chyson. Mae pobl ledled Cymru yn parhau i wynebu tlodi, cefnogaeth annigonol a rhwystrau i fynediad at ofal iechyd, tai, addysg a chyfiawnder. Mae gwahaniaethu, uniongyrchol a systemig, yn parhau i amddifadu pobl anabl, menywod, pobl ddu a lleiafrifol ethnig, a phlant o'u hawliau. Fodd bynnag, er gwaethaf degawd o argymhellion gan y Cenhedloedd Unedig, pwyllgorau'r Senedd, ymchwil annibynnol a chymdeithas sifil, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ymrwymiadau ei rhaglen lywodraethu i ymgorffori cytuniadau allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Nid methiant uchelgais yw hyn; mae wedi bod yn destun balchder fod Cymru wedi arwain y ffordd wrth gydnabod pwysigrwydd hawliau dynol. Mae hawliau dynol yn ganolog i Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy'n anghydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol neu rwymedigaethau rhyngwladol y DU, sy'n cynnwys rhwymedigaethau hawliau dynol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori rhannau o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn.
Archwiliai'r ymchwil 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru', a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn 2021, pa mor effeithiol y mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hamddiffyn a'u hyrwyddo yng Nghymru ar hyn o bryd a pha gamau pellach sydd eu hangen i gryfhau cyflawniad. Canfu'r ymchwil fod Cymru wedi datblygu sylfaen bolisi a deddfwriaeth gref, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, dyletswyddau sylw dyledus i hawliau plant a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Ond er gwaethaf yr uchelgais hwn, nododd yr astudiaeth fwlch parhaus rhwng ymrwymiadau a chyflawniad. Un casgliad allweddol oedd bod y dirwedd bresennol yn dameidiog ac yn gymhleth, gyda dyletswyddau sy'n gorgyffwrdd nad ydynt bob amser wedi eu deall yn dda nac yn cael eu cymhwyso'n gyson gan gyrff cyhoeddus. Ac yn hollbwysig, canfu'r ymchwil fod mecanweithiau gorfodi yn wan a llwybrau unioni'n gyfyngedig, sy'n golygu bod hawliau'n aml yn dibynnu ar bolisi yn hytrach na sicrwydd cyfreithiol. Mae ymwybyddiaeth o hawliau dynol ymhlith y cyhoedd a staff rheng flaen yn isel ac adroddodd cyfranwyr profiad bywyd mai cyfyngedig yw effaith amddiffyniadau presennol ar eu bywydau bob dydd.
Roedd yr adroddiad yn argymell dull mwy cydlynol a gorfodadwy, gan gynnwys cyflwyno Deddf hawliau dynol (Cymru) i ymgorffori cytuniadau rhyngwladol allweddol yng nghyfraith Cymru. Er mwyn gwireddu uchelgeisiau datganedig Cymru, pwysleisiai'r ymchwil fod yn rhaid i hawliau gael eu hymgorffori yn y gyfraith er mwyn sicrhau bod yr hawliau'n real ym mywydau bob dydd pobl.
Yn dilyn y gwaith ymchwil, ymrwymodd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod a chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Fodd bynnag, ychydig o gynnydd a wnaed tuag at y nod hwn, ac chydag ond ychydig fisoedd ar ôl cyn yr etholiad, mae'n siomedig ei bod hi bellach yn amlwg na chyflawnir yr ymrwymiadau hyn yn ystod tymor y Senedd hon.
Lansiodd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol ei ymchwiliad yn ystod yr haf eleni yn dilyn pryder cynyddol ar draws cymdeithas sifil, y byd academaidd a grwpiau ar lawr gwlad, fod yna lawer o bobl yng Nghymru, er gwaetha'r rhethreg a bwriad polisi, na allant ddibynnu ar gael eu hawliau dynol wedi eu cydnabod. Ceisiodd ddeall profiadau bywyd o hawliau dynol yng Nghymru. Cyflwynodd dros 20 o sefydliadau ac unigolion dystiolaeth, gan gynnwys elusennau cenedlaethol, cyrff arbenigol, academyddion a grwpiau ymgyrchu. Clywodd y grŵp trawsbleidiol yn gyson fod hawliau yng Nghymru yn aml yn parhau i fod yn uchelgeisiol yn hytrach na gorfodadwy. Heb orfodaeth gyfreithiol a systemau atebolrwydd cryf, dywedodd nifer nad yw ymrwymiadau polisi'n unig wedi bod yn ddigon i atal gwahaniaethu, tlodi, allgáu a niwed.
Roedd yr ymchwiliad yn adleisio themâu a nodwyd yn adroddiadau blaenorol pwyllgorau'r Senedd ac ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan atgyfnerthu'r farn fod yn rhaid i Gymru symud o uchelgais a dyletswyddau 'sylw dyledus' nawr tuag at hawliau gorfodadwy wedi'u cefnogi gan ddeddfwriaeth, goruchwyliaeth a rhwymedïau clir. Mae'r adroddiad yn dangos y niwed a achosir pan na chaiff hawliau eu diogelu ac mae'n tanlinellu'r brys, felly, i gyflawni addewidion i gryfhau hawliau dynol. Clywodd yr ymchwiliad, er enghraifft, fod pobl anabl yng Nghymru yn parhau i brofi rhwystrau sylweddol a systemig i'w hawliau o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Dangosodd tystiolaeth fod lleoliadau addysgol yn aml yn eithrio plant anabl, yn ffurfiol ac mewn ffyrdd mwy cynnil sy'n eu hatal rhag gallu cymryd rhan yn gyfartal.
Disgrifiodd Anabledd Dysgu Cymru y defnydd parhaus o ataliaeth ac arferion ataliol fel pryder mawr. Pwysleisiodd Anabledd Cymru, heb ymgorffori hawliau'n uniongyrchol yn y gyfraith, fod pobl anabl yn cael eu gadael yn ddibynnol ar ymrwymiadau polisi y gellir eu cymhwyso'n anghyson a'u hanwybyddu'n hawdd. Rhybuddiodd Anabledd Dysgu Cymru yn gryf, er gwaethaf ymrwymiadau i iechyd a gofal cymdeithasol teg yng Nghymru, fod pobl ag anabledd dysgu yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol, gan arwain at gyfraddau marwolaeth cynharach, iechyd meddyliol a chorfforol gwael a salwch y gellir ei atal yn gwaethygu'n ddifrifol. Derbyniodd yr ymchwiliad dystiolaeth bwerus gan y grŵp Stolen Lives i deuluoedd ag anwyliaid sydd ag anabledd dysgu neu sy'n awtistig ac sy'n cael eu cadw mewn sefydliadau arhosiad hir ac ysbytai, gan eu hamddifadu o'u hawliau mewn cymaint o ffyrdd.
Felly, pa wahaniaeth y byddai ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru yn ei wneud? Wel, mae'r cytuniad yn sefydlu fframwaith hawliau dynol sy'n cydnabod bod gan bobl anabl yr un hawliau dynol â phawb arall, ond eu bod yn aml yn wynebu rhwystrau cymdeithasol. Mae'r cytuniad yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i Lywodraethau a chymdeithasau ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau hyn, ac mae'n cwmpasu hawliau fel addysg gynhwysol, byw'n annibynnol a dim gwahaniaethu. Byddai ei ymgorffori yn golygu y byddai'r hawliau hyn yn orfodadwy yn ein llysoedd ac yn galluogi pobl i ddwyn Llywodraethau a chyrff cyhoeddus i gyfrif.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod menywod yng Nghymru yn parhau i wynebu canlyniadau anghyfartal o ran diogelwch, iechyd a chyfranogiad economaidd. Mae anghydraddoldeb economaidd yn gwaethygu'r darlun hwn. Mae mamau sengl a menywod sy'n gweithio ar gyflogau isel yn parhau i wynebu risg uchel o dlodi. Mae tlodi a thai annigonol yn tanseilio hawliau sylfaenol pobl ledled Cymru. Nododd tystiolaeth gan Tai Pawb a Shelter Cymru yr angen brys i amddiffyn hawliau pobl i dai digonol. Clywsom dystiolaeth fod pobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig yn aml yn cael eu gadael mewn sefyllfaoedd ansicr a thrawmatig, gydag un goroeswr yn esbonio y byddai hawl glir i dai wedi trawsnewid ei phrofiad o ddigartrefedd. Clywsom am unigolion â chyflyrau iechyd difrifol yn byw mewn llety gwely a brecwast heb gyfleusterau coginio, yn dibynnu ar berthnasau am brydau bwyd a sefydlogrwydd. Mae'r adroddiadau hyn yn ein hatgoffa nad cyflwr economaidd haniaethol yw tlodi, ond ymyriad cyson ar urddas, diogelwch ac iechyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud yn glir fod hiliaeth strwythurol yn parhau i fod wedi'i ymgorffori ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae pobl ddu a lleiafrifol ethnig yn wynebu canlyniadau gwaeth ym maes tai, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mynegodd Race Equality First bryderon nad yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol wedi cael blaenoriaeth gyfartal, gan nodi bod hynny
'yn bryderus iawn, yn enwedig o ystyried Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a'r adborth cyson gan ymatebwyr i'r cynllun drafft sy'n tynnu sylw at yr angen i integreiddio ac ymgorffori strategaethau, polisïau a deddfwriaeth bresennol yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, yn cynnwys confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddiddymu gwahaniaethu ar sail hil.'
Fe wnaethant fynegi pryder hefyd nad yw rhoi diwedd ar wahaniaethu ar sail hil wedi cael yr un flaenoriaeth, gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgorffori'r confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod a'r confensiwn ar hawliau pobl anabl, ond nid y confensiwn ar ddiddymu gwahaniaethau ar sail hil. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r pwynt hwnnw yn benodol?
Esboniodd y comisiynydd plant fod bylchau yn y model presennol yn golygu nad oes amddiffyniadau digonol i hawliau plant. Datgelwyd hyn yn ystod adolygiad barnwrol i herio penderfyniad Llywodraeth Cymru ar brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol. Er bod y Llywodraeth yn cydnabod ei bod wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy fethu cynnal asesiad o'r effaith ar hawliau plant, nid arweiniodd hyn at ganlyniad gwahanol i blant a theuluoedd oherwydd cyfyngiadau'r model 'sylw dyledus' sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd o dan Fesur 2011.
Disgrifiodd tystiolaeth gan bobl ifanc sy'n symud o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc i wasanaethau iechyd meddwl oedolion y profiad fel 'cwympo oddi ar glogwyn', gan adlewyrchu bylchau systemig mewn gofal parhaus. Mae'r dystiolaeth a glywsom am un teulu o 13 sy'n byw gyda llwydni, difrod strwythurol a lleithder mynych, yn dangos canlyniadau bob dydd system sy'n rhy aml yn methu sicrhau amodau byw diogel a digonol i blant.
Cafwyd tystiolaeth gref hefyd am ddiffyg cymorth cyfreithiol i fewnfudwyr a cheiswyr lloches yng Nghymru, sydd wedi golygu nad oes cyngor sy'n effeithio ar hawliau ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar gael yng nghymunedau Cymru. Er nad Llywodraeth Cymru sy'n uniongyrchol gyfrifol am yr ysgogiadau polisi hyn, gallant effeithio ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn cynnwys tai. Felly, pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'u partneriaid yn San Steffan ar y mater hwn yn benodol?
Gydag etholiad y Senedd yn agosáu, mae cyfrifoldeb bellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod hawliau'n cael eu gwireddu i bobl Cymru, oherwydd nid cofnod o bryderon yn unig yw'r adroddiad hwn, mae'n fandad i weithredu. Mae adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn ailadrodd yr angen brys am Ddeddf hawliau dynol i Gymru, y dylid ei chyflwyno cyn gynted â phosib, ochr yn ochr â chynllun ac amserlen glir i fwrw ymlaen â'r argymhellion ehangach ar gyfer cryfhau a hyrwyddo ymchwil ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Ac mae'r amseru'n hollbwysig, Lywydd. Mae mudiad gwrth-hawliau dynol pwerus, cydgysylltiedig yn tyfu ledled y byd ac yma yng Nghymru, gan fygwth dileu hawliau a enillwyd drwy ymdrech ac ailysgrifennu'r rheolau sydd angen eu hamddiffyn i fywydau pobl. Nid yw'n ddigon dweud ein bod yn cefnogi hawliau dynol mwyach, rhaid i ni eu hamddiffyn yn y gyfraith i sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru wedi ei rhwymo gan y Senedd hon i gynnal hawliau dynol.
Mae cyfle gan Gymru i arwain y ffordd ar hawliau dynol yn y DU. Gallwn sicrhau bod pob unigolyn yng Nghymru, beth bynnag y bo'u cefndir, gallu, rhyw, hil neu amgylchiadau, yn gallu byw gydag urddas, rhyddid a chydraddoldeb. Pan fyddwn yn amddiffyn hawliau dynol un grŵp, rydym yn amddiffyn hawliau dynol pawb. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Llywodraeth ar y mater hollbwysig hwn. Diolch yn fawr.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Sioned Williams am y cyfle i gadarnhau bod Plaid Cymru yn cefnogi Deddf hawliau dynol i Gymru. Byddwn yn ymgorffori pum cytundeb craidd y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, mewn Llywodraeth, os cawn ni'r cyfle i ffurfio Llywodraeth. Dylai'r broses fod yn gynhwysol ac yn arloesol, a dylai ein bod ni'n agored i ystyried hawliau newydd, hyd yn oed, at y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu hymgorffori’n rhyngwladol, o'r hawl i'r gwirionedd, er enghraifft, i hawliau i natur, gan roi dannedd, efallai, i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol.
Rhaid sicrhau mynediad at gyfiawnder drwy greu'r hawl i unrhyw ddinesydd neu grŵp herio torri hawliau, nid dim ond y rhai yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol, yn debyg iawn i'r hawliau sydd yn bodoli o dan gyfansoddiad India, er enghraifft. A dylem ni sefydlu comisiwn hawliau annibynnol i Gymru—mae yna un wedi bod yn yr Alban ers bron i 20 mlynedd—gyda phwerau ymchwilio annibynnol, gan osod dyletswydd, drwy'r Ddeddf, ar gyrff cyhoeddus i gydymffurfio. Fel roedd Sioned yn dweud, gadewch inni wneud Cymru'n genedl hawliau dynol mewn gweithred, nid mewn geiriau yn unig.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch yn fawr, Sioned. Diolch am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwysigrwydd cryfhau hawliau dynol i bobl Cymru.
Diolch am eich adroddiad hefyd, 'Cynnydd ar Hawliau Dynol yng Nghymru'.
Mae hawliau dynol yn eiddo i bawb, ac mae'r prawf go iawn i unrhyw Lywodraeth yn syml: a yw pobl yn teimlo'r hawliau hynny yn y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio bob dydd, yn yr ysgol, yn y ganolfan iechyd, gyda'u meddyg teulu, mewn cartrefi a chymunedau diogel, ac mewn gweithleoedd sy'n eu trin ag urddas? Ac mae hawliau dynol, wrth gwrs, fel y nodwyd gennych yn glir iawn, wedi'u hymgorffori yn y ddeddfwriaeth a sefydlodd ddatganoli yng Nghymru. Maent yn rhan o'n gwerthoedd craidd, sy'n adlewyrchu sut rydym eisiau bod fel cenedl. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod asgwrn cefn cyfansoddiadol ar gyfer sut y mae'n rhaid i Weinidogion a chyrff cyhoeddus weithredu, gan alinio Cymru â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Ac rwy'n falch ein bod yn gallu cynnal y ddadl hon heddiw, ac rwy'n ei chroesawu, a'r craffu, a'ch adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw.
Ond o edrych ar yr offerynnau deddfwriaethol hyn gyda'i gilydd, maent yn galw am wneud penderfyniadau cyfreithlon, tryloyw ac ymwybodol o hawliau, ac yn creu dyletswyddau sy'n gymwys ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ond er bod y ddeddfwriaeth hon yn bwysig, nid fel rhywbeth y mae'n ofynnol inni ei wneud yn unig y mae'r Llywodraeth hon yn gweld hawliau dynol. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i adeiladu Cymru decach lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi a'i pharchu, lle nad oes unrhyw un yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn, a lle gall pawb gymryd rhan, ffynnu a chyflawni eu potensial. Ac mae iaith hawliau'n perthyn i fywyd bob dydd. Dyna pam y mae ein ffocws ar gyflawniad yn y gwasanaethau datganoledig ac ar y penderfyniadau sy'n siapio bywydau beunyddiol pobl.
Ac rydym am amddiffyn urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru, ac fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wrth gwrs, mae hawliau dynol yn rhan allweddol o fy mhortffolio. Caf ysgogiad cryf i hyrwyddo ein hymrwymiad i hawliau dynol drwy ymgorffori'r hawliau hynny yn ein polisïau a'n hegwyddorion. Ac rwy'n falch o wasanaethu mewn Llywodraeth y mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn garreg sylfaen iddi. Rwy'n falch ein bod wedi trosi iaith parchu, diogelu, hyrwyddo a chryfhau yn weithredu ymarferol ar draws y portffolios, ac mae ein hymrwymiad i gynnal, cryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru yn un sy'n rhedeg ar draws y Llywodraeth hon. Mae'n ddyletswydd a rennir sy'n llywio'r ffordd yr ydym yn gosod blaenoriaethau, yn defnyddio tystiolaeth, yn gwario arian cyhoeddus ac yn adrodd ar ganlyniadau. Ac mae hefyd yn rhwymedigaeth a rannwn gyda'r cyrff cyhoeddus, y comisiynwyr, y rheoleiddwyr a'r arolygiaethau.
Nid o fewn ffiniau fy mhortffolio i'n unig y mae hawliau dynol yn bodoli, ond fe ganolbwyntiaf ar y portffolio hwnnw'n benodol heddiw; maent yn orfodaeth foesol sy'n diffinio ac yn gyrru'r Llywodraeth hon. Rwyf am fyfyrio am eiliad ar ein hymrwymiad i hawliau dynol yn ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol, a adnewyddwyd y llynedd. Maent wedi'u nodi hefyd yn ein 'Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029'. Yn 2020, i gydnabod yr anghydraddoldeb clir a amlygwyd gan y pandemig, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Simon Hoffman, sydd eisoes wedi'i grybwyll fel rhywun sy'n cefnogi'r grŵp trawsbleidiol mor fedrus ac effeithiol—Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe—fe wnaethom ei gomisiynu ef a'i gydweithwyr i archwilio'r ffordd orau o symud ymlaen yng Nghymru gyda hawliau dynol—nid yn unig sut y gallai Llywodraeth Cymru symud ymlaen, ond awdurdodau cyhoeddus, comisiynwyr Cymru a rheoleiddwyr ac arolygiaethau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ogystal. Arweiniodd y gwaith at yr adroddiad ymchwil 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru'. Er mwyn bwrw ymlaen â'r argymhellion a ddeilliodd o'r adroddiad hwnnw, fe wnaethom sefydlu'r grŵp cynghori ar hawliau dynol, yr wyf i'n ei gadeirio. Mae llawer o'r rhanddeiliaid y sonioch chi heddiw eu bod wedi rhoi tystiolaeth, ac i'r grŵp trawsbleidiol, rhanddeiliaid yr ydym yn ymgysylltu â nhw drwy ein fforymau, yn aelodau o'r grŵp cynghori hwnnw.
Fe wnaethom lansio 'Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029' Llywodraeth Cymru drwy gyfuno'r addewid i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb cenedlaethol â'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru, lle mae tegwch, gwrthwahaniaethu a chynhwysiant yn ganolog ym mhopeth a wnawn. Yn ei hanfod, mae'r cynllun yn ymwneud â gwneud cydraddoldeb a hawliau dynol yn gryfach ac yn fwy amlwg. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn deall beth yw eu hawliau ac yn teimlo'n hyderus i'w harfer. Yr hyn y mae'r cynllun hwn yn ei wneud mewn gwirionedd yw dod â'n holl ymrwymiadau presennol at ei gilydd mewn un fframwaith syml, cydgysylltiedig, a lawn mor bwysig, rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom, gyda chynlluniau gweithredu wedi'u targedu i ganolbwyntio ar anghenion grwpiau penodol â nodweddion gwarchodedig. Rydym wedi rhoi'r ymrwymiad hwn wrth wraidd y cynllun ar gyfer 2025 i 2029, a thrwy ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch weld yn glir sut rydym yn cadw'r ymrwymiad hwnnw ac yn gwneud cynnydd.
Fe ddechreuaf drwy ganolbwyntio ar y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n enghraifft feiddgar. Ein gweledigaeth yw Cymru wirioneddol wrth-hiliol erbyn 2030, a'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yw'r sbardun ar gyfer hynny. Cafodd y cynllun ei gydgynhyrchu gyda phobl a sefydliadau du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Roeddent yn glir eu bod am i ni weithio tuag at y nod uchelgeisiol o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo i'w wireddu drwy gamau mesuradwy wedi'u targedu. Roedd y ffordd yr oeddent eisiau i hwn fod yn bwysig iawn yn ôl pan oeddem yn ei gyd-greu, ac fe wnaethant ein harwain i symud o gynllun cydraddoldeb hiliol i gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol. Mae hynny wedi bod mor bwysig i yrru ein huchelgeisiau yn eu blaen.
Mae 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn ddogfen ddeinamig. Mae'n cael ei diweddaru i sicrhau ein bod yn dysgu'n gyson, yn addasu ein dull o weithredu, ac yn ymateb i gyfleoedd newydd ac i fygythiadau newydd. Mae gennym ffocws di-ildio ar hynny. Er mwyn cyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, wrth gwrs, mae angen ymdrech ar y cyd rhwng y Llywodraeth, cymunedau, sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector a'r sector preifat. Rydym yn adeiladu model ar gyfer newid drwy ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau, gan eu grymuso i helpu i siapio polisïau drwy ymgysylltu â fforymau rhanbarthol a fforymau eraill.
Rhaid i ni weld wedyn fod fframweithiau monitro ac effaith yn allweddol i'r cynllun. Mae ein grŵp cynghori allanol, ein grŵp atebolrwydd allanol, yn unigryw yn y ffordd y mae'n dod at ei gilydd, gyda'r Ysgrifennydd Parhaol yn cyd-gadeirio gyda'r Athro Ogbonna, a'r aelodau a recriwtiwyd o Gymru a thu hwnt. Maent wedi pwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth wrth-hiliol weladwy gan Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet. Mae'r grŵp hwnnw wedi bod yn allweddol i yrru newid diwylliannol o fewn y gwasanaeth sifil, o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ran gwneud cynnydd, ein bod yn ymwybodol fod newid cymdeithasol dwfn yn cymryd amser, ac mae ein polisïau a'n hymyriadau wedi'u cynllunio i greu effaith dros genedlaethau, gan adeiladu ar ddiweddariad y cynllun a sefydlu sylfaen ar gyfer Cymru decach a mwy cynhwysol yn 2030 a thu hwnt. Mae'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn cynnwys pennod lawn ar ein gweledigaeth o genedl noddfa, ac mae'n cymryd lle cynllun cenedl noddfa 2019. Mae'r camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y bennod newydd yn nodi sut rydym ni, ynghyd â'n partneriaid, yn anelu at ddarparu cymorth mewn nifer o feysydd sy'n cefnogi integreiddio ymfudwyr a chydlyniant cymunedol. Roeddwn yn falch o ymuno, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonoch chi hefyd, yn nigwyddiad Sanctuary Coalition Cymru heddiw, 'Amddiffyn ein cenedl noddfa', lansiad eu maniffesto yn y Senedd. Wrth gwrs, rwy'n falch o wisgo'u bathodyn, 'Stability for people, strength for Wales' (Sefydlogrwydd i bobl, cryfder i Gymru). Mae hynny mor bwysig. Rwy'n falch fod ein gwaith ar y genedl noddfa'n parhau a'n bod yn parhau i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr noddfa sy'n dod i Gymru. Ond rydym hefyd yn falch o'n cymunedau, trefi, ysgolion a phrifysgolion niferus sy'n dymuno dod yn fannau noddfa. Fe wnaethom gyfarfod â rhai ohonynt heddiw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr ar hynny? Un o'r pethau a amlygwyd yn yr adroddiad, ac fe wneuthum ei grybwyll yn fy nghyfraniad, oedd nad yw pobl yn gallu cynnal nac arfer eu hawliau cyfreithiol, y rhai sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, oherwydd, fel y dywed Sefydliad Bevan, nid oes y nesaf peth i ddim cynrychiolaeth ar gyfer apeliadau mewnfudo yng Nghymru. Mewn astudiaeth ddiweddar, ni all 40 y cant o bobl sydd ag achos cyfreithiol cyfredol ddod o hyd i gynrychiolwyr. A wnewch chi ymateb i hynny, oherwydd fe wyddom fod honno wedi bod yn broblem hirsefydlog sy'n cael ei dwyn i'n sylw, onid yw?
Yn sicr. Fe gyfarfûm â Sefydliad Bevan yn gynharach yr wythnos hon. Fe gyfarfûm â nhw i drafod yr adroddiad. Fe wnaethant adroddiad ardderchog. Mae yna brinder mawr o gyngor mewnfudo. Mae hyn yn rhywbeth a godais gyda Llywodraeth y DU, ond hefyd gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Wrth gwrs, mae yna brinder o gymorth cyfreithiol a chyngor cyfreithiol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn ariannu Asylum Justice. Rydym yn ariannu rhywfaint o gyngor cyfreithiol. Fe fanteisiaf ar y cyfle i ddweud fy mod wedi cyfarfod â 30 o fyfyrwyr y gyfraith ddydd Iau o Brifysgol Caerdydd sy'n dilyn opsiwn ar gyngor cyfreithiol mewnfudo, gan ddysgu sut y gallent ei ddatblygu yn eu gyrfa broffesiynol. Ond yn amlwg mae angen i ni wedyn sicrhau bod ganddynt swyddi a all eu galluogi i'w ddarparu, oherwydd roeddent yn angerddol. Rydym yn ariannu'r cwrs hwnnw. Rydym hefyd yn ariannu Asylum Justice. Maent yn ymgymryd ag achosion a hefyd yn llwyddo i'w datrys. Roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud hynny, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb, ac rwy'n gweithio gyda nhw. Felly, diolch am godi'r pwynt hwnnw hefyd.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, ond hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod â There and Back Again heddiw hefyd, Sipsiwn yng Nghymru a oedd eisiau dweud wrthym am eu profiadau bywyd. Mae hynny'n bwysig iawn o ran hawliau dynol a'n hymrwymiad yng 'Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Fe ddywedaf yn gyflym ein bod yn mynd i gyhoeddi ein cynllun hawliau pobl anabl cyn bo hir. Mae'n gynllun hawliau, unwaith eto, a gydgynhyrchwyd gyda phobl anabl, wedi'i arwain gan ein hegwyddorion a'n rhwymedigaethau dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Bydd hwnnw'n cael ei adlewyrchu'n gryf yn y cynllun, ac edrychaf ymlaen at ei rannu gyda chi.
Unwaith eto, Lywydd, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gydlyniant cymdeithasol, sydd hefyd yn ymwneud â gwella a chryfhau hawliau dynol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi sefydlu grŵp arbenigol ar gydlyniant, i'w gadeirio gan Gaynor Legall CBE. Hefyd, rwy'n cofio rhoi darlith ym Mhrifysgol Abertawe yn cyfeirio at y ffaith mai'r tramgwydd mwyaf yn erbyn hawliau dynol, gallech ddadlau, yw trais yn erbyn menywod, a byddaf yn gwneud datganiad. Rwy'n gwybod y byddwn i gyd yn cymryd rhan yn y Diwrnod Rhuban Gwyn a'r wylnos cyn bo hir.
I orffen, Lywydd, ar y gweithgor ymgorffori ac opsiynau deddfwriaethol, mae'n bwysig dweud ein bod yn gweithredu nawr i gryfhau hawliau yng Nghymru. Rwy'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw i weithredu'r egwyddorion a nodir yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, a'r confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod o fewn y cymhwysedd datganoledig, a hynny drwy lwybrau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a allai weithio'n gyfreithiol yn ymarferol. Ar y confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod, edrychaf ymlaen at weld y Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yn dod i Gaerdydd ym mis Mawrth 2026. Fe'i cynhelir gan Gyngor Caerdydd a'i gefnogi gan Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Cyngor Caerdydd yw'r ddinas gyntaf i arddel y confensiwn yn Ewrop, ac rwy'n credu y dylem fod yn falch o hynny. Rwy'n gwybod y bydd pawb ohonoch yn cael eich gwahodd i'r digwyddiad hwnnw.
Ond rydym wedi comisiynu dadansoddiadau arbenigol annibynnol. Mae ein gweithgor opsiynau deddfwriaethol, is-grŵp arbennig o'r grŵp cynghori ar hawliau dynol, yn gwneud asesiad i nodi opsiynau ymarferol i Gymru. Rydym yn ymwybodol iawn o'r gwaith sy'n digwydd yn yr Alban hefyd wrth gwrs. Rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae'n waith gofalus, trylwyr, pwrpasol ar gyfer Cymru. Yn wir, fe gewch chi ddiweddariad yn fuan iawn, gan ein bod wedi trefnu hynny gyda'r ymchwilydd arweiniol yn y gwaith.
Felly, a gaf i ddweud, yn olaf, mai'r unig fodd o fesur pwysigrwydd cryfhau hawliau dynol yw drwy'r gwahaniaeth y mae pobl yn ei deimlo yn eu bywydau bob dydd? Gadewch inni orffen lle gwnaethom ddechrau, gyda phobl. Rhaid i hawliau fod yn sefydlog yn y gyfraith, rhaid iddynt gael eu teimlo yn y lleoedd y mae pobl yn byw eu bywydau, a rhaid iddynt fod yn wydn y tu hwnt i unrhyw un Gweinidog. Diolch yn fawr.
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.