Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/10/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf, [OQ63217], gan Laura Anne Jones, wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 2, felly, Delyth Jewell.

Diogelwch Etholiadau'r Senedd

2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a'r heddlu ynglŷn â diogelwch etholiadau'r Senedd yn y dyfodol? OQ63200

13:35
Cymryd Rhan mewn Etholiadau

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau? OQ63219

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
13:45
13:50
13:55
Rhaglen Pride in Place

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag effaith ei rhaglen Pride in Place ar awdurdodau lleol yng Nghymru wledig? OQ63207

14:00
Tai Arbenigol

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sut y bydd y menter gydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Lovell Partnerships yn helpu i gyflymu'r gwaith o ddarparu tai arbenigol a chynlluniau newydd? OQ63218

Cwmnïau Rheoli Ystadau

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod amserlen i fynd i'r afael â'r materion ariannol sy'n wynebu perchnogion tai oherwydd diffyg rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau? OQ63195

14:05
Rhaglen Diogelwch Adeiladu

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru? OQ63223

14:10
Cyfraddau Adeiladu Tai

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau adeiladu tai yng Nghymru? OQ63188

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Y Dreth Gyngor

9. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi cynghorau i gadw'r dreth gyngor yn isel? OQ63203

14:15
2. Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. Cwestiwn 1 gan Julie Morgan.

Oedolion sy'n Ddysgwyr

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr? OQ63221

14:20
Addysg Yrfaol

2. Sut mae'r cwricwlwm i Gymru yn ymgorffori dysgu cysylltiedig â gwaith ac addysg yrfaol yn ei fframwaith? OQ63206

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Tom Giffard.

14:30
14:35

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan dro ar ôl tro eu hymrwymiad nhw i sicrhau y gall pawb, beth bynnag fo eu cefndir, gael mynediad at addysg uwch. Eto i gyd, mae'r data diweddaraf yn rhoi darlun hollol wahanol i hyn. Yn ôl UCAS, dim ond 32.5 y cant o bobl 18 oed Cymru a wnaeth gais i brifysgol yn 2024, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol o 41.2 y cant. Ond mae'r ffigur cenedlaethol hwn yn cuddio lefelau o anghydraddoldeb sydd hyd yn oed yn ddyfnach na hyn. Yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, roedd y gyfradd mynediad i brifysgol yn 47.9 y cant. Yn y cyfamser, yn Nhorfaen—eich etholaeth chi, Ysgrifennydd Cabinet—dim ond 16.9 y cant oedd wedi gwneud cais i brifysgol, yr isaf yng Nghymru.

Felly, yn fy meddwl i, mae'r ffigurau hyn yn codi nifer o gwestiynau anghyfforddus i chi fel Llywodraeth. Hynny yw, beth yw'r rhesymau am y gwahaniaethau hyn? Ac a yw'n dderbyniol, mewn gwlad sydd wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i wella cyfleoedd a lefelau dyhead, fod hyn yn digwydd?

14:40

Diolch. Mae annog myfyrwyr i fynd i'r brifysgol yn un peth, ond mae eu hannog nhw i aros ac astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn fater hollol wahanol. Nawr, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn blaenoriaethu eu cyllid i annog myfyrwyr i astudio adref. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rŷch chi fel Llywodraeth yn defnyddio arian trethdalwyr i ariannu myfyrwyr i astudio y tu fas i Gymru, yn hytrach na chryfhau ein sefydliadau addysg uwch ein hunain.

Dros gyfnod o bum mlynedd, mae Academi Seren wedi costio dros £11 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Ac eto mae 70 y cant o'r holl ddisgyblion ysgol sydd wedi eu cofrestru gyda Seren yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion y tu fas i Gymru, yn bennaf yn Lloegr. Os yw pob cenedl arall yn y Deyrnas Gyfunol yn amddiffyn eu buddiannau eu hunain ac yn cefnogi sefydliadau addysg uwch eu hunain, pam mae Llywodraeth Lafur Cymru mor benderfynol o saethu ei hunan yn ei throed dro ar ôl tro gyda'r cynllun hwn?

14:45
Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a chanlyniadau uwchgynhadledd genedlaethol Llywodraeth Cymru ar ymddygiad? OQ63224

Staff Prifysgol Bangor

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â lles staff a diogelwch swyddi ym Mhrifysgol Bangor? OQ63212

Diolch am yr ateb yna. Fedrwch chi gadarnhau bod Prifysgol Bangor wedi derbyn £1.4 miliwn o arian ar gyfer lliniaru gostyngiad yn y gweithlu? Ydych chi'n hyderus bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lliniaru toriadu staffio? Mae pryder mawr y bydd rhai staff yn cael eu diswyddo'n orfodol a bod eraill wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol am nad oedden nhw'n meddwl bod ganddyn nhw unrhyw ddewis. Fel rydych chi'n gwybod, fel dwi wedi sôn droeon, mae Prifysgol Bangor yn rhan allweddol o economi yr ardal dwi'n yn ei chynrychioli, ac mae'r toriadau presennol am gael effaith nid yn unig ar y staff a'u teuluoedd, ond ar yr economi drwyddi draw.

14:50
Diffiniad o Ryw

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw yn ysgolion? OQ63198

14:55
Cau Adeiladau Ysgolion

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu yn achos y rhai sydd wedi'u dadleoli o ganlyniad i adeiladau ysgol yn cael eu cau oherwydd pryderon diogelwch? OQ63222

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

15:00
Presenoldeb mewn Ysgolion

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb mewn ysgolion? OQ63204

15:05
Addysg Bellach

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl i mewn i addysg bellach? OQ63189

3. Cwestiynau Amserol

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 3 ar ein hagenda, sef y cwestiynau amserol. Ni fydd cwestiwn amserol Siân Gwenllian [TQ1378] i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cael ei ofyn, felly mae'r Llywydd wedi dethol un cwestiwn heddiw, sydd yn mynd i gael ei ofyn gan Luke Fletcher, ac i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Luke Fletcher.

Y Diwydiant Dur

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith tariffau cynyddol yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant dur Cymru? TQ1383

15:10
15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

4. Datganiadau 90 eiliad
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Symudwn ymlaen i'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.

Cynnig NNDM9007 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Russell George (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynnig.

Yy cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Eitem 5 yw'r cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.

Cynnig NDM8997 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023.

2. Yn nodi y gosodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 25 Mawrth 2025.

3. Yn nodi y trafodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 16 Gorffennaf 2025.

4. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben.

Cynigiwyd y cynnig.

15:20
15:25

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 15:26:04
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnig y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8996 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25' a osodwyd ar 21 Mai 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i fod yma yn cyfrannu i'r ddadl yma heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru. 

15:35
15:40
15:45

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor a’r tîm pwyllgor am eu gwaith. Wel, fel nifer o'r Aelodau eraill, hoffwn i hefyd ddechrau drwy gydnabod y gwaith pwysig mae staff NRW yn ei gyflawni. Bob dydd, maen nhw’n helpu i ddiogelu ein hafonydd, ein tirluniau a'n coedwigoedd. Mae’n waith pwysig, ac mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn dan bwysau aruthrol. Dim ond pan fydd pethau’n mynd yn wael mae’r wasg yn siarad am eu gwaith, wrth gwrs. Dydy’r boblogaeth, ar y cyfan, ddim yn clywed cymaint am eu llwyddiannau, ac mae ein hadroddiad yn eu clodfori nhw am eu hymroddiad nhw i'n hamgylchedd. Mae diolch mawr iddynt.

Nawr, mae ein hadroddiad yn gwneud yn glir pa mor sylweddol ydy’r sialensau sy’n eu hwynebu, wrth gwrs. Mae cyfrifoldebau’r corff wedi cynyddu, fel rydyn ni wedi clywed, ond mae ei gyllid heb wneud yr un peth. Ac felly, gyda cholledion staff, mae arbenigedd wedi’i golli, ac mae ansicrwydd yn gwneud cynllunio a chyllido yn anodd. Mae gofyn i gorff wneud mwy gyda llai yn troi'n fwy a mwy o broblem, ac, wrth gwrs, mae'n amhosibl i'w wneud, fel rydyn ni wedi clywed gan Clare Pillman. Ac mae ein hadroddiad hefyd yn sôn am yr angen am eglurder ac am sefydlogrwydd yn y berthynas sydd yn digwydd wastad—y perthnasau—rhwng y Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd gosod cyfeiriad ac atebolrwydd yn hollbwysig wrth inni fynd ymlaen i sicrhau bod y corff yn gallu gwneud ei waith.

Nawr, mae'r Bil sydd gerbron y pwyllgor ar hyn o bryd, sy’n ymwneud ag egwyddorion amgylcheddol, mae hwnnw, wrth gwrs, yn gam sylweddol i Gymru. Efallai bydd e’n brawf hefyd. Mae'r Bil yn ffocysu ar yr angen i gryfhau llywodraethiant amgylcheddol a chau'r gap sy’n parhau i fod o ran atebolrwydd. Rydyn ni yng Nghymru, wrth gwrs, ar ei hôl hi o ganlyniad i Brexit. Nawr, gall y Bil hwn fod yn gyfle i sicrhau bod llywodraethiant amgylcheddol yn gyson, yn dryloyw, ac yn effeithlon. Ond rhaid i ni ofyn sut y bydd y trefniadau hyn yn ffitio mewn gyda rôl Cyfoeth Naturiol Cymru. Sut y bydd gwersi o’r adroddiad rydyn ni nawr yn sôn amdano fe yn cael eu dysgu, o ran capasiti, o ran arbenigrwydd, o ran atebolrwydd, er mwyn fframio fel y bydd y trefniadau newydd yn gweithio? Ac a fydd y Bil yn cynnig y sicrwydd mae cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru ei angen? Achos mae llywodraethiant clir a chadarn yn angenrheidiol os ydy Cymru am ateb y sialensau amgylcheddol a hinsawdd sydd o’n blaenau. Felly, buaswn i'n ategu'r hyn mae'r Cadeirydd wedi ei ddweud. Buaswn i'n ddiolch eto i'r Cadeirydd am ein llywio ni trwy hyn i gyd.

A buaswn i'n gorffen fel roeddwn i wedi dechrau, gyda diolch unwaith eto i'r staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru sydd, rwy'n meddwl, wastad yn clywed neu'n gweld y penawdau am y sialensau sydd yn eu hwynebu nhw. Ond rydyn ni'n gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud, rydyn ni'n ddiolchgar am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac mae hynna yn rhywbeth rydyn ni yn ei nodi ac yn clodfori. Diolch.

15:50
15:55

A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:57:59
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. 

Prynhawn da, bawb, a diolch am roi cyfle i mi ymateb a thynnu sylw at y gwaith pwysig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gyflawni.

Felly, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor am eu gwaith craffu gwerthfawr ac am lunio'r adroddiad dilynol. Diolch hefyd i Gyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith parhaus wrth ddiogelu'r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru. Diolch.

16:05

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet a phawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma.

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed'

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths. 

Cynnig NDM8995 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

16:15
16:20

Diolch yn fawr. Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl randdeiliaid a chyfranwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu i'r ymchwiliad yma, ac yn benodol diolch i'r bobl sydd ar y rheng flaen yn darparu cymorth i bobl agored i niwed ledled Cymru. Mae’r gweithlu yma yn wynebu pwysau eithriadol, ac maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol sydd yn aml yn achub bywydau.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor llawer o argymhellion y pwyllgor, mae'n bryderus eu bod yn trosglwyddo cyfrifoldeb am nifer o'r argymhellion i’r awdurdodau lleol yn ystod argyfwng sy’n ddibynnol ar gydweithio ar draws pob lefel o lywodraeth. Ac wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau positif tuag at newid ystyrlon, megis y cynnydd i’r grant cymorth tai a’r ymrwymiad i’r dull tai yn gyntaf. Mae’r cymorth hwn yn hanfodol, ac wedi bod yn alwad gyson gan Blaid Cymru ers blynyddoedd. Fodd bynnag, er gwaetha'r camau yma, mae bylchau sylweddol yn parhau yn y system. Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn dangos yn glir bod strategaeth dai y Llywodraeth wedi methu’n llwyr â deall maint yr argyfwng yn y sector, ac mae diffyg y Llywodraeth i gasglu data digonol ar lefel genedlaethol yn ychwanegu at hynny.

Hoffwn i dynnu sylw at ddwy agwedd allweddol yn yr adroddiad yma. Yn gyntaf, y prinder difrifol o dai cymdeithasol. Hynny sydd wrth wraidd yr argyfwng tai presennol. Mae’r diffyg yma yn gorfodi gormod o aelwydydd bregus i droi at y sector rhentu preifat, lle maen nhw'n wynebu costau rhentu uwch ac yn byw dan fygythiad cyson o gael eu troi allan ar fyr rybudd. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o’r llety dros dro presennol yn addas i bobl efo heriau cymhleth. Sut mae'r Llywodraeth yn gallu cyfiawnhau rhoi rhywun sy'n agored i niwed mewn sefyllfa heb gyfleusterau coginio sylfaenol? Dyna chi ddiffyg parch dybryd at urddas dynol a bywyd annibynnol. Mae'n drueni felly nad yw'r Llywodraeth yn fodlon comisiynu gwerthusiad o effeithlonrwydd llety a chymorth ar raddfa fawr.

Mae hyn yn gwbl groes i egwyddor tai yn gyntaf ac yn creu cylch o ansicrwydd, sy’n tanseilio pob ymdrech i sicrhau sefydlogrwydd i unigolion sydd eisoes dan straen. Dyna pam rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol ac i sicrhau yr hawl i bawb gael mynediad at dai digonol. Ond does dim modd datrys hyn heb ddeall yn union beth ydy'r galw gwirioneddol am yr anghenion, a dwi yn pryderu bod y cynigion presennol sydd yn Rhan 2 o’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn debygol o wanhau’r sail dystiolaeth yn hytrach na’i chryfhau.

Yn ail, gwnaf droi at y dystiolaeth sy’n dangos methiant y Llywodraeth i ymdrin â'r agwedd ataliol yn effeithiol. Er bod ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad yn honni y gall y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) gynnig atebion, mae’r fersiwn drafft yn codi pryderon sylweddol ynghylch ei effeithlonrwydd ymarferol. Er enghraifft, dydy'r cyrff allweddol, megis ysgolion a meddygon teulu, ddim wedi cael eu cynnwys o dan y ddyletswydd i ofyn ac i weithredu. Mae’r adroddiad, dwi'n teimlo, yn dangos yn glir nad ydy cydweithio rhwng asiantaethau yn digwydd yn ddigon aml, ac mewn achosion lle mae cyfle i'r Llywodraeth ysgogi newid, fel yn y Bil digartrefedd sydd yn mynd ar ei daith ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn methu â chynnwys y cyrff hanfodol hynny sy'n gallu diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed.

Dwi'n gweld bod fy amser yn prysur ddod i ben. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gwaith o lunio'r adroddiad pwysig yma. Dwi'n gobeithio y bydd y gwaith yn ffeindio'i ffordd i mewn i'r ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy'r Senedd. Diolch yn fawr. 

16:25
16:35

Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

16:40
16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8999 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at:

a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli;

b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a

c) £76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:48:55
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
16:55

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid.

2. Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol.

3. Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.

5. Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:55:36
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Symud.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu pwynt 2 a'i roi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bord Gron Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i barhau i esblygu a diwygio'r cynllun er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw i'r sector amaethyddol yng Nghymru.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithio gyda'i gilydd i ddarparu setliad ariannol aml-flwyddyn i'r sector amaethyddol, ac i symud i ffwrdd o Farnetteiddio'r gyllideb ffermio er mwyn darparu sefydlogrwydd economaidd i'r sector.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Dwi eisiau dweud fy mod i gyda’r undebau amaeth ar y mater yma. Dwi ddim yn meddwl mai rhwygo’r cyfan i fyny a chychwyn eto yw'r ffordd orau ymlaen ar hyn. Mae'r sector wedi dioddef blynyddoedd o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn barod yn dilyn Brexit.

Nawr, mae'r holl waith sydd wedi digwydd yn y cyfnod diwethaf, byddwn i’n dweud, wedi cyrraedd man syndod o dda o dan yr amgylchiadau. Yn sicr, mae'r undebau wedi chwarae rhan yn hynny o beth, ac mae yna gonsensws tu ôl i'r fframwaith sydd wrth galon y rhaglen, os nad oes yna gonsensws o gwmpas rhai o'r manylion, a byddai taflu hynny i'r naill ochr, dwi'n meddwl, yn gamgymeriad.

Na, dyw e ddim—dyw e ddim—yn berffaith. Rŷn ni i gyd—neu lawer iawn ohonom ni beth bynnag—yn derbyn hynny. Dwi wedi clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud dyw'r asesiad impact ddim efallai yn gwbl ddibynadwy, a gallwch chi gwestiynu rhai o'r ystadegau a'r baselines sy’n flynyddoedd oed, ac efallai mai ond yn ystyried yr haen unifersal yma mae e’n ei wneud, ac yn y blaen. Ac ie, efallai mai’r worst-case scenario yw e, ond mae e'n peri gofid i fi ac i nifer o bobl mas fanna sydd â'u bywoliaethau yn dibynnu ar y cynllun.

Pan ŷch chi'n edrych ar gwymp yn niferoedd y da byw, eto, dwi’n gwybod bod nifer yn dweud bod angen ffocysu ar effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yntefe—efficiency and productivity—yn hytrach na niferoedd. Wel, mae yna realiti tu ôl i hynny hefyd, cofiwch, wrth gwrs, achos rŷn ni’n gwybod bod nifer o ladd-dai a phroseswyr cig yn stryglo yn barod. Felly, dŷn ni angen clywed gan y Llywodraeth beth felly yw’r cynllun i sicrhau bod y lladd-dai hynny, er enghraifft, yn aros yn hyfyw os oes yna lai o anifeiliaid yn dod trwy’r system.

Mae’r asesiad hefyd, wrth gwrs, yn sôn am golli swyddi. Wel, rŷn ni eisiau clywed, felly, beth yw’r cyfleoedd fydd yn dod yn sgil y rhaglen newydd. Rŷn ni’n gwybod bydd yna gyfleoedd mewn cyd-destun agri-amgylcheddol, creu seilwaith newydd ar ffermydd ac yn y blaen—wel, beth yw’r rheini? Ond y gofid mwyaf i fi, fel nifer, dwi’n siŵr, yw bod yr asesiad yn dweud efallai bydd lefelau incwm ffermydd yn disgyn. Eto, dwi’n gwybod mai worst-case scenario yw hyn, a dyw e ddim felly o reidrwydd yn siarad i amgylchiadau pob fferm unigol, ac mae i fyny i’r ffermwyr unigol hynny wneud yn siŵr neu ffeindio beth fydd yr effaith arnyn nhw, ond mae yn dangos yn glir i fi fod angen i’r Llywodraeth droi pob carreg nawr i gau’r bwlch incwm yna.

A dyna, wrth gwrs, le mae’r toriadau i’r siâr o ariannu amaethyddol sy’n dod i Gymru o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein brifo ni nawr yn fwy nag erioed. ‘Not a penny less’ oedd yr addewid, wrth gwrs, gan y Ceidwadwyr, ond, wrth gwrs, roedd Llafur yn ceryddu hynny ar y pryd, a nawr mae Llywodraeth Llafur y Deyrnas Unedig wedi Barnetteiddio cyllideb amaethyddol Cymru, sy’n golygu, yn hytrach na’r 9.4 y cant o’r cyllid sy’n adlewyrchu maint a phwysigrwydd relative y sector i ni yng Nghymru, rŷn ni’n nawr yn derbyn 5 y cant, sy’n adlewyrchu maint y boblogaeth. Os yw’r bartneriaeth mewn pŵer yma yn golygu unrhyw beth i unrhyw un, mi ddylai fe olygu o leiaf fod yr arian yna a oedd yn arfer dod i Gymru, dylai ddod i Gymru, yn dod i Gymru. Mi fyddai hynny yn helpu cau’r bwlch incwm, oni byddai fe? Felly, mi fyddwn i yn eich annog chi i gefnogi ein gwelliant ni i’r cynnig yma ynglŷn â hynny.

Ac, wrth gwrs, dwi’n dod nôl at y cyfnod trosiannol. Rŷn ni eisiau gweld mwy o amser i’r sector addasu ac i sicrhau bod y cynllun yn gweithio i bawb. Nawr, mae’r undebau amaeth yn iawn yn fy marn i: peidiwch â mynd am y nuclear option a thaflu’r cyfan i ffwrdd. Oes, mae yna waith i'w wneud. Oes, mae yna le i wella, ac, oes, mae yna angen i’r Llywodraeth barhau i newid ac esblygu’r cynllun yma wrth fynd yn ei blaen. Ond, yn ei hanfod, mae’n gynllun sy'n rhoi strwythur i ni fedru gweithio gydag e. Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i bob fferm unigol edrych ar yr impact sydd ar eu busnes nhw—dyw un headline figure ddim wastad yn dweud y stori gyfan. 

Dwi'n cytuno gydag un elfen o'r cynnig. Er gwaethaf beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud, dwi hefyd yn gresynu at yr hyn mae'r asesiad yn ei awgrymu. Dwi'n cefnogi'r rhan honno o'r cynnig. Ond, fel mae'r undebau amaeth yn ei ddweud, peidiwch â thaflu'r cyfan allan. Parhewch i weithio i wella ac i esblygu'r cynllun er mwyn cyrraedd lle lle mae e yn gweithio i bawb. Felly, fyddaf i ddim yn cefnogi ail ran y cynnig ac mi fyddwn i yn gofyn i'r Senedd gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, sy'n fwy cyson, fel dwi'n dweud, â'r hyn mae'r undebau amaeth yn ei ddweud. Diolch.

17:00
17:05
17:10
17:15

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:16:32
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
17:20
17:25
17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:35

Reit, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

9. Cyfnod Pleidleisio

Byddwn yn pleidleisio ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cynllun ffermio cynaliadwy. Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig heb ei ddiwygio : O blaid: 11, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan : O blaid: 9, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8999 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid. 

2. Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol. 

3. Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw. 

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.   

5. Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Rhwystro mynediad at addysg: Y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a pham bod rhaid ei ddiwygio

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

17:40

Mae’r newid hefyd yn cael effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg, gyda rhai sy'n byw yn agos at ysgol cyfrwng Saesneg yn colli mynediad at gludiant ysgol i'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, sydd, mewn nifer o esiamplau, jest o dan y trothwy o dair milltir. Mae rhieni wedi dweud wrthyf i y byddan nhw naill ai'n tynnu eu plant allan o addysg cyfrwng Cymraeg, neu ddim yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn y lle cyntaf os ydy hyn yn parhau i fod yn bolisi. Ydy’r Llywodraeth, felly, yn fodlon bod pellter ysgol, ac argaeledd trafnidiaeth, yn rhwystr i blant fynychu addysg cyfrwng Cymraeg? A sut mae hyn yn cyd-fynd â thargedau 'Cymraeg 2050'?

Dywed y canllaw presennol hefyd fod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau cludiant addas i sicrhau na fyddant yn achosi lefelau afresymol o straen i ddysgwyr. Ond, gan nad yw’r Mesur yn diffinio 'straen', na'n cynnwys rhestr ddiffiniol o’r meini prawf, sut mae disgwyl i awdurdodau fesur effaith hyn ar y funud? A beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud os oes tystiolaeth gref o ran diffyg gweithredu o ran hyn?

Rŵan, dwi’n siŵr y clywn ni yn yr ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at ddiweddariad ddoe ar brisiau bws £1, ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn cyfuno'r ddau fater yma heddiw. Bydd, mi fydd pris £1 yn helpu mewn rhai achosion, ond nid ydy hyn yn ddatrysiad i bawb, fel sy'n cael ei ddangos o'r sylwadau dwi eisoes wedi'u darllen. Dydy argaeledd a llwybrau bysys cyhoeddus ddim cystal ym mhobman ag y maen nhw yng Nghaerdydd, er enghraifft. A dŷn ni'n gwybod hyd yn oed yng Nghaerdydd mae yna broblemau, oherwydd y diffyg trafnidiaeth i ysgolion ar amseroedd sydd yn gyfleus.

Felly, beth nesaf? Sut ydyn ni am ddatrys hyn? Wel, mae’n amlwg dydy'r pellter statudol ddim yn diwallu anghenion dysgwyr na chwaith eu rhieni. Dydy o ddim yn cymryd i ystyriaeth daearyddiaeth, na lles plant. Dydy’r polisi ddim chwaith yn ystyried diogelwch plant yn ddigonol ac maen nhw'n disgwyl i ddisgyblion gerdded llwybrau unig heb eu goleuo'n ddigonol.

17:45

Clywch, clywch, Heledd Fychan, dywedaf i, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd. Mae yna ormod o bobl ifanc ledled Cymru yn cael eu gadael lawr ar hyn o bryd. Rŷn ni yn gyson yn codi enghreifftiau yn y Siambr fan hyn, ac mae gen i enghraifft benodol dwi eisiau cyfeirio ati, sef un disgybl sydd yn awr, hanner ffordd drwy yrfa ysgol, yn gorfod newid ysgol oherwydd y rheolau trafnidiaeth ysgol—wedi bod yn yr ysgol am bum mlynedd, a'r cyngor nawr yn dweud ei bod hi'n amhosib parhau i fynychu’r un ysgol er mwyn cael addysg chweched dosbarth, er bod yr ysgol mae’r cyngor yn mynd i anfon yr unigolyn yma iddi ymhellach i ffwrdd, er nad yw'r ysgol newydd yna yn mynd i fod yn medru darparu’r pynciau lefel A mae’r unigolyn yn awyddus i’w hastudio. Ble mae'r synnwyr cyffredin yn hynny? Ble mae’r ystyriaeth o lesiant yr unigolyn dan sylw? Bywydau pobl rŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn—myfyrwyr, eu teuluoedd, a'r hawl i barhau â'u haddysg yn yr ysgol y maen nhw’n ei galw’n gartref mewn rhyw ffordd, yntefe, lle mae eu ffrindiau nhw i gyd hefyd. Ond na, mae'r system yn dweud yn wahanol. Mae'n amser i degwch a synnwyr cyffredin ddod yn gyntaf, ac mae'n amser i'r sefyllfa fel y mae hi i newid.

17:50

Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dos Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl—Jayne Bryant.

17:55

Daeth y cyfarfod i ben am 17:58.