Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/10/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lesley Griffiths.

Prosiect Piblinell Hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y prosiect piblinell hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy? OQ63158

13:35

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Cwestiwn 2, Peredur Owen Griffiths.

Y Sector Cydweithredol

2. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dyfu'r sector cydweithredol yng Nghymru? OQ63175

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.

13:45

Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan, i'w hateb gan y Gweinidog diwylliant. Heledd Fychan.

13:50
Mewnfuddsoddiad

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fewnfuddsoddiad i Gymru? OQ63155

13:55
Sectorau Twf

4. Pa rannau o'r economi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel sectorau twf? OQ63143

14:00
14:05
Y Sector Ynni

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ynni yng Ngogledd Cymru? OQ63149

Rheoliadau Nitrad a Ffosffad

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rheoliadau nitrad a ffosffad ar y broses gynllunio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63154

14:10
Estyniad Arfaethedig Chwarel Dinbych

7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol a chymunedol estyniad arfaethedig chwarel Dinbych a sut y bydd pryderon lleol yn cael eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau? OQ63157

14:15

Yn bersonol, dwi'n teimlo bod yr achos penodol yma'n litmus test o faint o bwys sy'n cael ei roi ar y llais lleol o fewn y system gynllunio. Dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi ddim yn gallu cyfeirio at yr achos penodol oedd yn y cwestiwn gwreiddiol, ond dywedwch fod yna gais yn dod lle mae'r gymuned leol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae'r cyngor lleol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae Aelodau o'r Senedd yma ar draws pob plaid yn gwrthwynebu'r cais, petai cais o'r fath yn cael ei gymeradwyo, beth fyddech chi'n meddwl byddai hynny'n ei ddweud wrthym ni ynglŷn â buddiannau pwy sy'n cael eu gwarchod a'u hyrwyddo o fewn y gyfundrefn gynllunio Gymreig?

Chwaraeon Llawr Gwlad

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twf chwaraeon ar lawr gwlad? OQ63168

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63165] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 2 fydd gyntaf heddiw, felly. Mike Hedges.

Deallusrwydd artiffisial yn y GIG

2. Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deallusrwydd artiffisial wrth wella cynhyrchiant yn y GIG? OQ63144

14:20
14:25
Rhyddhau Gohiriedig o'r Ysbyty

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau rhyddhau gohiriedig o'r ysbyty? OQ63156

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans.

14:35

Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yn ein hadrannau brys yn un argyfyngus. Nid fy ngeiriau i, ond geiriau cadeirydd Betsi Cadwaladr, sydd hefyd wedi cael eu hategu gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd wedi galw'r sefyllfa yn un enbyd.

Un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y broblem hon ydy'r methiant i ryddhau cleifion—y delayed discharge, fel y clywsom ni mewn cwestiwn blaenorol. Fis Tachwedd diwethaf, fe lansiodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr her 50 niwrnod, wedi cael ei ategu gan y gronfa integreiddio rhanbarthol, gwerth £146 miliwn, yn ogystal â £19 miliwn mewn cyllid pwrpasol ychwanegol, ac mi rydyn ni wedi clywed am £30 miliwn ychwanegol eto eleni. Ond bron i flwyddyn ers i'r her yna gael ei lansio, ydy pobl gogledd Cymru mewn lle gwell?

Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd y niferoedd a oedd yn aros am drosglwyddo gofal, delayed discharge, yn Betsi Cadwaladr yn 286. Erbyn heddiw, mae'r ffigwr yna yn 318. Felly, yn seiliedig ar y ffigurau yma, gallwn ni ddod i'r casgliad fod camau gweithredu'r Llywodraeth i fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau wedi methu pobl gogledd Cymru. Pam bod gogledd Cymru felly yn unigryw yn y methiant o'i gymharu â gweddill Cymru?

Dwi ddim yn credu bod hynny'n esboniad cyflawn o'r sefyllfa. Fel y gwnes i ei ddweud, ar draws y system yng Nghymru, mae gennym ni lawer llai o bobl yn aros i fynd adref, os hoffwch chi, a llawer llai o amser yn cael ei dreulio yn y broses honno. Rŷn ni wedi gweld cydweithio ar draws rhanbarth y gogledd. Mae gyda ni sefyllfa sydd yn unigryw, os hoffwch chi, o ran Betsi Cadwaladr o ran y ffaith fod chwe chyngor lleol yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd. Mae hynny'n anarferol o ran rhanbarthau yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu yw bod mwy o amrywiaeth yn digwydd rhwng prosesau cynghorau unigol na fyddai'n debygol o ddigwydd mewn rhannau eraill o Gymru, am resymau sydd yn rhannol yn ddaearyddol.

Mae'n gwbl glir i fi nad yw'r sefyllfa o ran adrannau brys yn y gogledd ddim yn dderbyniol. Fe wnes i hefyd weld sylwadau cadeirydd y bwrdd. Mae angen gwella ar hynny'n sylweddol. Rŷn ni wedi gweld, er gwaethaf hynny, bod llai o oriau yn cael eu colli o ran trosglwyddo mewn ambiwlans. Felly, mae angen gwella yn sicr. Beth sy'n wir wrth wraidd hyn yw bod pob rhan o Gymru, yn cynnwys y gogledd, yn gwella yn gyson ar ddod o hyd i ble mae'r arfer da yn y system a lledaenu hynny mewn ffordd fwy pwrpasol ac yn gyflymach. Wrth wneud hynny'n unig, rwy'n credu, rŷn ni'n mynd i weld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld ym mhob rhan o Gymru.

14:40

Diolch am yr ateb yna. Yn olaf, felly, er mwyn parhau â’r thema yma o brofiad a sefydlogrwydd, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod swydd prif gynghorydd y proffesiynau perthynol iechyd—y chief allied health professions adviser—wedi bod yn wag am bron i bedwar mis. Hyd y gwelaf i, does yna ddim golwg o apwyntio rhywun newydd er mwyn cymryd y rôl hollbwysig yma ymlaen eto.

Yn absenoldeb y prif gynghorydd yma, mae yna ddiffyg arweiniad yn y maes. Er enghraifft, yn ddiweddar, fe benodwyd panel goruchwylio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ond does yna neb ag arbenigedd o’r proffesiynau perthynol ar y panel hwnnw. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hyn yn wall eithaf difrifol wrth ystyried pwysigrwydd y proffesiynau yma i’r maes. Mae’n anodd credu y byddai’r gwall yma wedi digwydd pe byddai yna brif gynghorydd mewn lle. Pryd, felly, y gallwn ni ddisgwyl gweld y rôl yma yn cael ei llenwi?

Mae’r pethau yma yn digwydd o bryd i’w gilydd, wrth gwrs. Nid yw'r cylchoedd recriwtio yn rhywbeth sydd yn nwylo’r Gweinidogion; mae hynny’n fater i’r gwasanaeth sifil, fel bydd yr Aelod yn ymwybodol. Mi wnaf sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu o ran y gobeithion i lenwi’r swydd honno cyn gynted â phosib.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63150

14:45
Ysbyty Athrofaol y Faenor

5. Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod ysbyty'r Faenor yn darparu safon dderbyniol o ofal i gleifion yn Nwyrain De Cymru? OQ63174

14:50
14:55
Gwasanaethau Strôc

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau strôc yng nghanolbarth Cymru? OQ63163

eHarley Street

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ddiogelwch cleifion ac amodau gwaith mewn meddygfeydd a reolir gan eHarley Street? OQ63161

15:00
Asesiadau Niwroddatblygiadol

8. Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth i leihau rhestrau aros am asesiadau niwroddatblygiadol? OQ63164

Mae Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i leihau oedi mewn asesiadau niwroamrywiaeth, gan gael gwared ar yr holl arosiadau tair blynedd i blant ar draws Cymru. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr wedi cael £2.7 miliwn o arian ychwanegol yn 2025/26 ac mae gyda nhw gynllun cyflawni clir i gael gwared ar arosiadau tair blynedd erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae yna 7,273 o blant a phobl ifanc yn aros am asesiadau yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Gadewch inni oedi efo'r ffigwr yna—dros 7,000 ar restr aros. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i deuluoedd ar draws y gogledd, heb sôn am yr effaith negyddol ar blant.

Fel dŷch chi'n ei ddweud, mae'r bwrdd wedi derbyn £2.7 miliwn gan y Llywodraeth i helpu efo'r broblem yma ac mae yna fwy o arian ar ei ffordd, dwi'n credu, i greu cyfanswm o £5.6 miliwn. Ac eto, does yna ddim arwydd hyd yma, beth bynnag, fod y sefyllfa yn gwella yn y gogledd. A wnewch chi felly fynnu bod bwrdd iechyd Betsi yn blaenoriaethu cyhoeddi'r cynllun gweithredu yma—yr un dŷch chi'n ei alw yn 'gynllun clir'? Wel, gadewch inni weld y cynllun gweithredu yma a fydd yn amlinellu sut fydd yr arian ychwanegol yma, sydd yn arian sylweddol, yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i roi chwarae teg i blant yn y gogledd.

Wel, rwy'n hapus i roi peth o'r manylion hynny i'r Aelod nawr. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae rhyw £2.7 miliwn, fel gwnes i ei ddweud, wedi cael ei ddyrannu i'r bwrdd iechyd, a bydd rhyw 107,000 o asesiadau pellach yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb honno rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae rhyw 904 o blant yn y gogledd yn aros dros dair blynedd ar hyn o bryd. Rŷn ni'n gweld bod cynlluniau'r bwrdd iechyd yn mynd i alluogi'r rhain i gael eu gweld, felly mae'r forecast hynny'n rhywbeth rŷn ni'n gyfarwydd â fe. Rŷn ni'n gweld bod yr arian yn gallu cael ei wario mewn ffordd sy'n cael gwared ar y rheini erbyn y flwyddyn nesaf, ac mae'r trajectory presennol o ran yr asesiadau sy'n mynd drwy'r system ar darged i gyrraedd hynny.

15:05
Adrannau Brys

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng Ngogledd Cymru? OQ63160

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dim ond un heddiw. Mae'r cwestiwn yna i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac i'w ofyn gan Samuel Kurtz.

Y Tafod Glas

1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefyd y tafod glas, ac i gefnogi ffermwyr a marchnadoedd da byw, yng ngoleuni'r ddau achos a gadarnhawyd yng Nghymru? TQ1374

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:09:38
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
15:10
15:15

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r prif swyddog milfeddygol am y briffiad y cawson ni ddoe, a oedd yn hynod o fuddiol? Ond, wrth gwrs, hwn yw'r newyddion roedden ni i gyd yn ei ofni, a thra bod y ffocws o gadw'r clwyf allan o Gymru yn parhau, wrth gwrs, rŷn ni hefyd nawr, wrth gwrs, yn gorfod ffocysu ar gyfyngu a rheoli'r clwyf o fewn i ffiniau Cymru. Dwi jest eisiau gwybod os bydd hynny nawr yn newid approach neu ffocws Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn y frwydr yn erbyn y tafod glas. Er enghraifft, ydych chi yn ystyried parhau i gadw'r un trefniant cenedlaethol, neu oes yna feddwl ynglŷn â datblygu, efallai, trefniadau lleol mewn ardaloedd lle mae achosion wedi codi? Byddwn i jest yn hoffi i chi ein goleuo ni ychydig ynglŷn â lle rŷn ni'n mynd o fan hyn, gyda, efallai, mwy a mwy o achosion yn dod ymlaen.

15:20
15:25
15:30
4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Jenny Rathbone.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf mae'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jane Hutt.

Cynnig NNDM8994 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 15:34:43
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd

Yn awr mae'r cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NNDM8993 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

15:35
Member (w)
Jane Hutt 15:35:03
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar dipio anghyfreithlon

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar dipio anghyfreithlon. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8981 Mick Antoniw, Janet Finch-Saunders, Jane Dodds, Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran:

a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unigolion preifat;

b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig;

c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd; a

d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon.

Cynigiwyd y cynnig.

15:40
15:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mick am y gwaith eithriadol o bwysig y mae wedi ei wneud gyda hyn, gyda'r grŵp trawsbleidiol hefyd. Mae'n bwnc sydd mor eithriadol o bwysig. Rwy'n sylweddoli nawr nad wyf wedi dod â'r peth cywir i mewn gyda fi, felly fe wnaf ei ffeindio ar fy sgrin.

Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, i Mick am bopeth mae e wedi bod yn ei wneud ar hyn.  

15:50

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:53:44
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau gwerthfawr.

15:55
16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1489, 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1489, 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8987 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1489 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru’ a gasglodd 10,934 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

16:05

Yn anffodus, ni fydd pob Aelod sy'n dymuno siarad yn cael ei alw. Fe welwn ni sut mae'r amser yn mynd. Joel James.

Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith ar y mater hwn ac i'r rhai wnaeth arwyddo'r ddeiseb. Mae eu hymroddiad i'r angen i ddiogelu'r wennol i'w glodfori, oherwydd nid aderyn yn unig ydy'r wennol, mae hi'n symbol o'n hafau. Pan rŷn ni'n clywed cân y wennol, rŷn ni'n gwybod bod yr haf wedi'n cyrraedd. Maent yn rhan o'n treftadaeth, a dylem ni fod yn falch ohonynt. Ond maen nhw yn diflannu. Ers 1995, mae'n debyg, mae'r wennol yng Nghymru wedi gostwng bron 76 y cant. Mae'n rhaid gweithredu, felly, ac mae'n rhaid inni greu gofod iddyn nhw allu ffynnu unwaith eto. Dylai'r gostyngiad yma rŷn ni wedi'i weld beri gofyn i ni oll. 

Nawr, pan rwyf i'n sôn am greu gofod, wel, mae yna ffordd eithaf literal o allu gwneud hwnna. Gall friciau gwennol fod o fudd mawr. Maen nhw'n cynnig cartref clyd, saff i'r wennol. Hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn fodlon ystyried beth allai gael ei wneud. Rwyf i'n deall na fydd yna amser, efallai, am ddeddfwriaeth newydd yn y Senedd yma, ond beth allai gael ei wneud er mwyn annog hyn yn y diwydiant? Dylem ni ddim gweld bod hyn yn faich, os oeddem yn edrych ar reoliadau adeiladu, ond yn hytrach fel rhywbeth ymarferol ein bod ni'n gallu ei wneud er mwyn helpu un o'n rhywogaethau eiconig ni. Mae'n gwenoliaid ni wedi bod yn rhan o'n hafau ers cenedlaethau ac mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod.

16:10

Gwnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa ni heddiw am gân y wennol. Roedd pobl arfer holi, 'Ydych chi wedi clywed y wennol eto?', fel arwydd bod yr haf wedi cyrraedd. Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn cael ei glywed mor aml bellach.

Dwi hefyd yn diolch i'r deisebydd a'r cefnogwyr. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae hwn yn un ffordd hawdd, ymarferol a rhad i helpu byd natur yng Nghymru, ac mae'n gweithio.

Byddwn ni'n gallu, unwaith eto yng Nghymru, glywed yn aml gân y wennol yn dweud bod yr haf yn cyrraedd. Diolch yn fawr. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:15

Diolch i gefnogwyr y ddeiseb yma am dynnu sylw at ddull syml ond effeithiol a allai gael ei ddefnyddio mewn adeiladau newydd er mwyn gwarchod gwenoliaid du. Mae hyn yn sicr yn werth ei archwilio ymhellach. Mae yna nifer yn etholaeth Arfon wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r mater, a dyma oedd gan un etholwr o Fangor i'w ddweud, a dwi'n ei ddyfynnu fo yn yr iaith wreiddiol:

Diolch yn fawr.

16:20

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio nawr sydd yn cyfrannu—Rebecca Evans.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr economi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 yw ddadl y Ceidwadwyr, ar yr economi. Mae'r cynnig heddiw i'w gyflwyno gan Samuel Kurtz.

Cynnig NDM8988 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 16 Medi 2025.

2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:

a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu;

b) bod cyfradd cyflogaeth Cymru wedi gostwng a dyma'r isaf yn y Deyrnas Unedig;

c) bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi cynyddu a dyma'r uchaf ym Mhrydain Fawr; a

d) mai pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu rhagor o swyddi yng Nghymru a rhoi hwb i dwf drwy:

a) torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1 geiniog;

b) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;

c) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym;

d) sicrhau chwarae teg i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad ar gyfer pob rhan o'r wlad;

e) galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant sy'n effeithio'n andwyol ar gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol Cymru; ac

f) dileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya i gael Cymru i symud.

Cynigiwyd y cynnig.

16:35

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le:

Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sef Trosolwg o’r farchnad lafur: Medi 2025.

Yn croesawu’r canlynol o dan Lywodraeth Cymru:

a) mae cyfradd ddiweithdra Cymru yn is na chyfradd y DU;

b) mae’r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd gyflogaeth y DU wedi lleihau yn ystod y cyfnod ers datganoli;

c) mae pecynnau cymorth amrywiol wedi’u cyflwyno er mwyn helpu pobl economaidd anweithgar i ddychwelyd i’r gwaith – ac yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth fel bod yn anabl, cyflyrau iechyd hirdymor neu gyfrifoldebau gofalu; a

d) yn 2024, roedd yr enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn uwch na’r enillion yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon a Swydd Efrog a Humber.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 2(d) a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at effaith niweidiol penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau olynol San Steffan ar economi Cymru, gan gynnwys:

a) effaith barhaus Brexit, sydd wedi achosi ergyd £4 biliwn ar economi Cymru ac sy'n rhwystr mawr i dwf busnesau;

b) effaith barhaus mesurau cyni ar gyllid cyhoeddus;

c) y methiant i ddarparu fformiwla gyllido deg i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn y Senedd;

d) y methiant i gyflawni addewidion i ddarparu mwy o hyblygrwydd i'r Senedd reoli ei chyllideb;

e) y methiant i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa ar ei hadnoddau naturiol ei hun;

f) y methiant i ddarparu ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2 i Gymru;

g) y methiant i ailddosbarthu cyfoeth yn gyfartal ar draws y DU; a

h) goruchwylio polisïau cyllidol di-hid, megis mini-gyllideb Liz Truss, sydd wedi achosi caledi sylweddol i aelwydydd Cymru.

Yn credu bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi dangos dro ar ôl tro ac yn bendant eu diffyg ymrwymiad i hyrwyddo buddiannau ariannol ac economaidd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb i swyddi a thwf drwy:

a) dangos bod ganddi ddylanwad yn y 'bartneriaeth mewn pŵer' drwy orfodi Llywodraeth Lafur y DU i ymgysylltu o ddifrif â diwygio trefniadau cyllido Cymru;

b) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr;

c) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau yr UE i hyrwyddo twf economaidd;

d) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi newidiadau treth etifeddiant sy'n effeithio ar ffermydd teuluol Cymru;

e) mynnu iawndal llawn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer costau a ysgwyddwyd o ddylunio ac adeiladu seilwaith ffiniau diangen ym mhorthladdoedd Cymru, a buddsoddi'r elw i gefnogi masnach Cymru; ac

f) defnyddio pwerau newydd a ddarperir drwy'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol i greu lluosyddion ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

16:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10
17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8990 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn condemnio lefelau ystyfnig tlodi plant yng Nghymru sydd yn 32 y cant ar hyn o bryd.

2. Yn gresynu fod y rhagolygon yn dangos mai gan Gymru fydd y lefelau uchaf o dlodi plant drwy’r DU erbyn 2029.

3. Yn cymeradwyo Llywodraeth yr Alban am gyflwyno Taliad Plant yr Alban, polisi y mae disgwyl iddo godi 60,000 o blant allan o dlodi yn 2025-26 ac i leoli’r Alban fel yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i gyfraddau tlodi plant ostwng ar y cyfan erbyn 2029.

4. Yn nodi:

a) ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno Cynnal, sef taliad plant i Gymru fel blaenoriaeth llywodraethol; a

b) bod Policy in Practice wedi adnabod mai’r ymyriad mwyaf pwerus ac effeithiol wedi’i ddylunio i leihau tlodi yw taliad plant uniongyrchol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno taliad plant; a

b) ail-ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr gyda thargedau statudol mesuradwy.

Cynigiwyd y cynnig.

17:20

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn ei henw ei hun.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod yn rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr ar bob lefel o’r llywodraeth.

Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i'w graddau llawn ac arwain wrth gydlynu camau gweithredu ehangach i roi terfyn ar dlodi plant, fel y nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi galw dro ar ôl tro i’r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau lles ddod i ben;

b) heb bwerau ar hyn o bryd i ddeddfu ar gyfer taliad plant;

c) yn cefnogi Siarter Budd-daliadau Cymru, a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth wirioneddol i bobl wneud y mwyaf o incwm eu teulu; a

d) yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yn ddiweddarach eleni.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Jane Hutt 17:23:16
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu ymhellach mai teuluoedd Cymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf ym Mhrydain Fawr, sy'n cyfrannu at dlodi plant.

Yn credu ei bod yn well gwario arian trethdalwyr ar wella gofal plant yng Nghymru ac ar wella economi Cymru er mwyn codi mwy o deuluoedd allan o dlodi.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddefnyddio cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod teuluoedd Cymru yn cael yr un swm o gymorth gofal plant ag y mae teuluoedd yn Lloegr yn ei gael; a

b) i ailymrwymo i ddileu tlodi plant gyda thargedau statudol mesuradwy.

Cynigiwyd gwelliant 2.

17:25
17:30
17:35

Fel rydym ni wedi clywed yn barod, mae angen brys am ddull newydd a datrysiadau newydd i'r broblem o dlodi plant ar hyd a lled Cymru, gan fod, yn syfrdanol, 25 y cant neu fwy o blant yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni. Mae hwnna'n gwbl syfrdanol: bron ym mhob etholaeth yng Nghymru mae rhyw chwarter y plant yn byw mewn tlodi, felly mae'n broblem ar draws Cymru gyfan.

Fodd bynnag, dyw'r atebion ddim yr un fath ym mhob rhan o'r wlad. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod y ffactorau sy'n achosi tlodi yn ogystal â chanlyniadau tlodi mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i’r rhai mewn ardaloedd trefol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae tlodi gwledig yn parhau i fod yn anodd i'w adnabod ac yn aml yn cael ei anwybyddu neu ei ddiystyru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi.

Rydym ni'n gwybod hefyd, o sawl astudiaeth, fod tlodi gwledig yn ffenomenon aml-ddimensiwn a chymhleth. Yn ôl Sefydliad Bevan, mae teuluoedd gwledig yn wynebu gwasgfa driphlyg, neu triple squeeze: costau byw sy'n cynyddu’n gyflym, cyflogau isel, a chefnogaeth annigonol gan y wladwriaeth, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus annibynadwy. Ac o ganlyniad, mae llawer o rieni yn cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad creulon, eithriadol o anodd, rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu plant.

Rydym ni'n gwybod bod methiannau meysydd polisi gwahanol yn pwyso'n drymach ar deuluoedd mewn cymunedau gwledig ac yn cyfrannu at lefelau tlodi gwaeth na'r cyfartaledd. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, diffyg tai fforddiadwy, costau ynni uwch, darpariaeth gofal plant tameidiog, mynediad digidol anghyson, mynediad cyfyngedig at hyfforddiant a rhwystrau i addysg bellach, ac wrth gwrs llai o gyfleoedd o ran swyddi sydd â chyflogau da.

Yn ogystal â hyn, mae'r ansicrwydd sy'n wynebu'r sector ffermio yng ngoleuni’r newidiadau cyfredol i daliadau amaethyddol yn dyfnhau'r broblem, ac fel rydym ni'n gwybod, mae'r fferm deuluol yn asgwrn cefn i economi cefn gwlad Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar ar dlodi gwledig gan y Sefydliad Bevan fod cyfraddau cyflog gweithwyr mewn cymunedau gwledig yn gymharol isel. Er enghraifft, mae gweithiwr yn Arfon tua £1,000 y flwyddyn yn dlotach na gweithiwr tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, a £3,000 yn dlotach na gweithiwr cyffelyb yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.

17:40

Dwi'n sefyll yma y prynhawn yma wedi bod yn gwrando ar drafodaeth a gawson ni am yr economi, ac mae’n anodd datgysylltu yr hyn oedden ni’n ei glywed yn gynharach o’r ddadl hon, oherwydd mae’r cysylltiad yna mor amlwg. Beth sy’n fy ngwylltio i ydy diffyg ymwybyddiaeth y Torïaid o’r tlodi sydd wedi cael ei greu yma yng Nghymru ac mai gwaethygu wnaeth pethau, oherwydd mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, onid oes? Pam mae unrhyw un ohonom ni yma? Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn Aelod o’r Senedd? Wel, buaswn i’n gobeithio, pan dwi’n cael y cwestiwn yna mewn ysgolion, fel rydych chithau, ei fod o oherwydd ein bod ni eisiau gwneud gwahaniaeth, oherwydd ein bod ni eisiau gwella pethau yn ein cymunedau ni. Dwi’n mawr obeithio nad yw'r un ohonoch chi, pan rydych chi’n cael y cwestiwn yna fel dwi’n ei gael, yn ateb eich bod chi eisiau gwneud pethau’n waeth i bobl, oherwydd nid dyna pam ein bod ni yma. Mae yna gyfrifoldeb arnom ni.

Os nad ydyn ni’n gallu datrys hyn—tlodi—a rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru, yna pam ydyn ni yma? Ydyn, medrwn ni feio’r pethau sy’n digwydd, ond mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb hefyd am y ffaith mai penderfyniadau gwleidyddol sy’n creu tlodi, sy’n golygu bod penderfyniadau gwleidyddol yn gallu datrys tlodi. Felly, medrwn ni feio ein gilydd, ond mae yna gyfrifoldeb hefyd i edrych ar syniadau amgen, edrych yn rhyngwladol ar bethau sydd yn gweithio a lle mae’r dystiolaeth yna, i fod â’r hyder i fod yn eu cyflwyno nhw.

A dyna sydd gennym ni yma heddiw: cynnig difrifol ar gyfer sefyllfa argyfyngus o ran tlodi yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yma yng Nghymru, rhywbeth dwi’n falch iawn ohono fo, ond i blentyn yng Nghymru sydd yn mynd i’r gwely yn llwglyd, sydd efo iwnifform sydd ddim yn eu ffitio nhw’n iawn, sydd ddim yn gallu mynd ar y trip ysgol yna, ac weithiau yn methu mynd i’r ysgol gan fod eu rhieni nhw’n methu â fforddio’r bws—ac mae hwnna’n digwydd yma yng Nghymru rŵan, yn y cymunedau dwi’n eu cynrychioli—ydyn ni wir, wir yn gallu dweud wrthyn nhw ein bod ni yna iddyn nhw, i genedlaethau'r dyfodol, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? Na allwn. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnom ni, nid i jest siarad am y pethau rydyn ni'n eu gwneud, ond i drawsnewid bywydau pobl.

17:45
17:50
Member (w)
Jane Hutt 17:51:47
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon.

17:55
18:00

Diolch yn fawr, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Roedd e'n siomedig i glywed ymateb y Ceidwadwyr, lle dwi ddim yn meddwl, fel gwnaeth Delyth sôn, bod unrhyw syniad sy'n effeithiol yn werth edrych arno o ran Cymru. Dwi’n jest siomedig iawn gyda chyfraniad Altaf Hussain, mae'n rhaid i mi ddweud. Doedd e ddim yn cynnig unrhyw syniadau eu hunain, jest yn difrïo syniadau rydyn ni’n gwybod sy'n gweithio, ond doedd e jest ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, a dweud y gwir.

Delyth, y pwyslais yna ar gymunedau'r Cymoedd, yn hollol iawn, a thynnu ein sylwn ni at y rhybydd clir yna o ran 2029, y risg yna y bydd Cymru â'r cyfradd tlodi plant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, os nad ŷn ni'n gwneud rhywbeth yn wahanol.

Roedd Cefin yn sôn wedyn am ardaloedd gwledig. Mae e mor bwysig i ni wybod bod angen i ni beidio cael one size fits all, onid oes? Mae cymunedau â natur gwahanol, heriau gwahanol, dimensiwn penodol i dlodi yng nghefn gwlad, a'r ystadegau hynod brawychus yna, a sobreiddiol—chwarter o blant, 25 y cant o blant, yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni. Yr etholaethau, fel roedd Heledd yn dweud, rŷn ni i gyd yn eu cynrychioli, ac mae gyda ni ddyletswydd i wasanaethu plant y cymunedau hynny.

Wedyn, roedd Heledd yn sôn hefyd ynglŷn â chymryd y cyfrifoldeb, a bod penderfyniadau gwleidyddol yn creu tlodi, a bydd penderfyniadau gwleidyddol yn datrys tlodi. Dwi’n rhannu'r gofid o ran tlodi, a banciau bwyd ac yn y blaen yn cael eu normaleiddio.

Mabon, wedyn—

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 

O blaid 34, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:10

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.

O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

Bydd y bleidlais derfynol heno ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar dlodi plant. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.

Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

18:15

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 1 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n orfodol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies.  Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 12 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod. A gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

10. Dadl Fer: Cefnogi afancod: Symud gyda'r afon i reoli'r gwaith o ailgyflwyno afancod yng Nghymru

Symudwn ymlaen nawr at y ddadl fer, a galwaf ar Joyce Watson i siarad.

18:25

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.