Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain. 

Gwariant y GIG

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwariant y GIG wrth sicrhau canlyniadau gwell i gleifion? OQ62927

Diolch, Altaf. Mae amseroedd aros hir wedi bod yn gostwng yn ystod y misoedd diwethaf ac mae mwy o bobl yn goroesi clefyd y galon. Bydd y cynllun iechyd menywod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer newid yng Nghymru.

Mae'n rhwystredig gweld nad yw mwy o fuddsoddi yn arwain at ganlyniadau gwell. Prif Weinidog, er gwaethaf y miliynau sydd wedi'u harllwys i mewn i ymdrin â rhestrau aros y GIG, mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn parhau i gynyddu. Mae'n amlwg nad yw cyllid ychwanegol yn gweithio. Rydyn ni'n gwario llawer mwy y pen na gwledydd eraill y DU, ond mae ein canlyniadau i gleifion yn waeth, ac mae pob bwrdd iechyd yn wynebu trafferthion ariannol. Prif Weinidog, nid yw hyn yn ymwneud â faint rydyn ni'n ei roi i'r GIG, ond sut rydyn ni'n ei wario. Onid ydych chi'n cytuno ei bod hi'n bryd symud ein ffocws at wario'n effeithiol? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf. Rydych chi'n deall y pethau hyn—fe wnaethoch chi weithio'n galed iawn i'r GIG dros gyfnod hir, ac rydych chi'n gwybod yn well na neb bod gennym ni boblogaeth hŷn, sâlach a thlotach yng Nghymru, ac mae yna ganlyniadau i hynny. Ond i mae'n gamddarlun i chi awgrymu nad yw'r cyllid ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r amserau aros hiraf heddiw, er enghraifft, 86 y cant yn is nag yr oedden nhw ar eu hanterth. Rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir. Oes gennym ni fwy o waith i'w wneud? Wrth gwrs, bod gennym ni ni—wrth gwrs bod gennym ni—ond mae gennym ni sefyllfa lle mae dros 2.5 miliwn o bobl yn cael apwyntiadau gyda'r GIG yng Nghymru bob mis.

Felly, ydyn, rydyn ni'n gwneud cynnydd. Oes, mae gennym fwy i'w wneud. Os edrychwch chi ar bethau fel iechyd meddwl, a sut mae hynny wedi cael ei drawsnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd system wedi'i haddasu a'i newid, ond hefyd oherwydd yr arian ychwanegol, mae pethau'n gwella. Rydyn ni wedi rhoi llawer o arian i mewn. A allwn ni gael mwy o effeithlonrwydd o'r system? Yn bendant, ac mae angen i ni wneud hynny, a byddwn ni'n gwneud hynny gyda gweithwyr gweithgar y GIG, fel yr oeddech chi, gan wneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn dod mor effeithlon ag yr oeddech chi, gan ymgymryd â chymaint o lawdriniaethau ag y gwnaethoch chi. Ac mae angen iddyn nhw i gyd wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n effeithlon, ac rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn eu dal i gyfrif am hynny.

Isadeiledd Trafnidiaeth yng Ngwynedd

2. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella isadeiledd trafnidiaeth yng Ngwynedd? OQ62928

Mae ein Llywodraeth yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru. Yng Ngwynedd, fe wnaethon ni gyflawni bypass Bontnewydd—cynllun gwerth £199 miliwn, lle’r oedd 93 y cant o'r gweithlu yn dod o’r gogledd. Nawr, eleni, mae Gwynedd wedi cael gwerth £4.6 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth, a dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y sir yn cael £8 miliwn i drwsio tyllau, achos dwi'n gwybod bod hwnna'n bwysig i bobl yng Ngwynedd. Bydd hi hefyd yn cael cyfran o grantiau trafnidiaeth rhanbarthol gwerth £100 miliwn dros bum mlynedd.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Bythefnos yn ôl, roeddech chi’n dathlu eich bod chi wedi gofyn am ryw swm o arian penodol oddi wrth Lywodraeth San Steffan efo’r adolygiad ariannol, a’ch bod chi wedi derbyn yr arian ddaru ichi ofyn amdano. Yr wythnos diwethaf, dyma fi’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ar drafnidiaeth pam na roddwyd cais ar gyfer arian ar gyfer cynlluniau yng ngogledd-orllewin Cymru, a’r ateb ges i oedd doedd o ddim mor hawdd â hynny a bod yn rhaid cael cynlluniau a oedd yn weithredol o fewn tair blynedd, a dyna pam nad oedd ceisiadau wedi cael eu rhoi mewn.

Fe fyddwch chi’n ymwybodol o gynllun ffordd osgoi Llanbedr. Eich Llywodraeth chi wnaeth dynnu’r arian ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr yn wreiddiol, ac, felly, eich Llywodraeth chi sydd wedi atal y cynllun yna rhag mynd yn ei flaen. Mae e’n gynllun, pe buasai o’n cael ei weithredu, pe buasai’r arian yna, a fyddai’n medru bod yn weithredol erbyn 2027. Does yna ddim esgus pam nad ydy’r cynllun yna yn gallu mynd yn ei flaen, heblaw am y ffaith nad ydych chi’n ei ariannu o. Felly, a wnewch chi ymrwymiad heddiw eich bod chi’n cefnogi cynllun ffordd osgoi Llanbedr, a’ch bod chi’n fodlon darganfod yr arian er mwyn sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn medru mynd ymlaen â'r cynllun yma mor fuan â phosib?

13:35

Wel, mae'r Llywodraeth Lafur yn awyddus i sicrhau bod arweinwyr lleol yn cael mwy o ddweud ar beth yw'r ffyrdd, ac ati, ddylai fod yn cael eu datblygu. Dyna pam rŷn ni'n mynd i sicrhau bod dyraniadau cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar benderfyniad y pwyllgor cyfunol corfforaethol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi'r ffaith bod grŵp gwaith wedi ei sefydlu rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ddelio â phroblemau trafnidiaeth yn Llambed. Rŷn ni eisoes wedi rhoi dros £0.5 miliwn i Gyngor Gwynedd i barhau â'r datblygiad dylunio. Wedyn, beth fydd angen ei wneud yw y bydd yn rhaid iddyn nhw wedyn ddarbwyllo a gweithio gyda'r pwyllgor cyfunol corfforaethol i wneud yr achos dros yr arian yna yn dod i Lambed.

Diolch, Llywydd. Mae'n flynyddoedd lawer ers i'r Gweinidog trafnidiaeth ar y pryd, sydd erbyn hyn yn Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, ddefnyddio'r term 'metro gogledd Cymru' am y tro cyntaf, mewn ymateb i gwestiwn gennyf i. Roedd cynllun trafnidiaeth 'Mae'r Metro ar Ddechrau' Rhwydwaith Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd o'r diwedd gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf, yn cynnwys ymestyn gwasanaeth maes awyr Manceinion i Gaergybi yn lle Bangor—yn lle Llandudno, ddylwn i ddweud—a gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyfnewidfeydd teithio mawr ym Mangor a Chaernarfon yng Ngwynedd, ac yng Nghaergybi a Wrecsam. Fodd bynnag, er bod hyn wedi'i gyflwyno fel cynllun, fe'i disgrifiwyd hefyd gan Lywodraeth Cymru fel 'gweledigaeth', sydd ond yn obaith y bydd rhywbeth yn digwydd. Yr unig gyllid penodol y cyfeiriwyd ato oedd y £13 miliwn a ymrwymwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru, mewn cyferbyniad â'r £1 biliwn o gyllid ar gyfer metro de Cymru. Ymhellach, ni ddylid cyfuno hyn â'r grantiau trafnidiaeth ar wahân ar gyfer awdurdodau lleol yn 2025-26 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys £4.6 miliwn ar gyfer Gwynedd. Felly, pa ymrwymiad penodol, gan gynnwys cyllid, ydych chi'n gallu ei gyhoeddi nawr, neu a fyddai pobl Gwynedd a gogledd Cymru yn ehangach yn iawn i feddwl bod cynllun trafnidiaeth gogledd Cymru yn rhywbeth i iro llaw cyn yr etholiad?

Wel, fe wna' i ddweud wrthych chi pwy sy'n gwybod am y pethau hynny, chi, eich plaid chi. Fe addawodd eich plaid chi bob math o bethau a chyflawni bron dim o ran rheilffyrdd yng Nghymru. Felly, rydyn ni newydd gael cyhoeddiad o dros £450 miliwn i ddechrau gwneud yn iawn am y diffyg cyllid o ganlyniad i'ch Llywodraeth flaenorol yn San Steffan.

Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi am yr hyn sy'n digwydd yn y gogledd. Nawr, rydyn ni'n cyflwyno 50 y cant yn fwy o wasanaethau ar draws prif linell rheilffordd y gogledd rhwng 26 Rhagfyr a mis Mai nesaf. Mae hynny'n dyblu gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer o fewn y 12 mis nesaf. Ar ben hynny, rydyn ni'n mynd i gyflwyno technoleg talu wrth fynd, tapio i mewn, tapio allan. Rydyn ni hefyd yn gwella'r gorsafoedd i Wrecsam a Lerpwl, ac rydyn ni'n treialu gwasanaeth bws newydd. Felly, rydych chi eisiau enghreifftiau gwirioneddol o'r hyn sy'n digwydd—dyna enghreifftiau gwirioneddol i chi. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y gogledd, ac fe fydd, gobeithio, yn eu hannog nhw i ddefnyddio'r trenau, yr ydym wedi gwario cryn dipyn o arian arnyn nhw. Maen nhw'n rhai newydd sbon, maen nhw'n ffansi iawn, a bydden ni'n eich annog chi i gyd i'w defnyddio oherwydd fe gafodd hanner ohonyn nhw eu gwneud yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Prif Weinidog, yn ôl ym mis Ebrill 2022, fel y Gweinidog iechyd ar y pryd, fe wnaethoch chi addo dileu amseroedd aros o ddwy flynedd ar gyfer triniaeth yn y GIG erbyn mis Ebrill 2023. Fe wnaethoch chi fethu. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethoch chi addo lleihau nifer y bobl sy'n aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth i 8,000 erbyn diwedd mis Mawrth. Ond, hyd yn oed yn erbyn y targed gwael hwn, ac er i chi longyfarch eich hunain drwy guro'ch cefnau eich hunain a phopio'r cyrc siampên, fe wnaethoch chi fethu unwaith eto. Ac fel pe na bai hyn yn ddigon gwael, mae'r ffigurau mewn gwirionedd yn dangos bod yr amseroedd aros dwy flynedd wedi mynd yn hirach, o ran nifer y bobl a oedd yn aros ym mis Ebrill, gan godi 15 y cant mewn un mis. Yn hytrach na derbyn cyfrifoldeb am y methiant hwnnw, fe wnaeth eich Ysgrifennydd iechyd feio'r cynnydd ar y Pasg. Wel, mae gen i newyddion i chi: nid oes gan y ffaith bod tua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG erbyn hyn a'ch bod chi 527 gwaith yn fwy tebygol o aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth yma yng Nghymru nag os ydych chi'n byw dros y ffin yn Lloegr ddim byd o gwbl i'w wneud ag atgyfodiad Iesu Grist. Mae'n sgandal yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn gwbl gyfrifol amdani. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ar ôl 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, ydych chi'n falch o record eich plaid chi o ran y GIG?

13:40

Yr hyn rwyf i'n ei wybod yw y byddai'n llawer gwaeth pe baech chi wedi cael eich ffordd, sef ceisio rhwystro'r cyllid ychwanegol yr ydyn ni newydd ei gyhoeddi—fe wnaethoch chi bleidleisio gyda Phlaid Cymru i rwystro'r arian hwnnw—ac mae'n gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni wedi gweld gostyngiad o 86 y cant yn y bobl hynny sy'n aros yn hir, ac mae'n gwneud gwahaniaeth. Nid yw'r sefyllfa honno, o ran yr hyn sy'n digwydd ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, yn rhywbeth sy'n unigryw i Gymru; mae'n digwydd ledled y wlad. Yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny yw ein bod ni wedi cyhoeddi £120 miliwn ychwanegol i ddod â'r rhestrau aros hynny i lawr unwaith eto. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn brif flaenoriaeth. Gadewch i ni fod yn glir, dim ond Llafur Cymru sy'n mynd i amddiffyn y GIG a buddsoddi ynddo. Pleidleisiodd eich dwy blaid chi yn erbyn yr arian hwnnw'n dod i mewn. Byddai Nigel Farage yn dinistrio ac yn difetha'r GIG. Byddai'n gwneud yn siŵr bod pobl yn talu am eu gofal iechyd trwy fodel yswiriant. Ganwyd y GIG yng Nghymru, a Llafur Cymru fydd bob amser yn ei amddiffyn. Rydyn ni'n rhoi presgripsiynau am ddim. Rydyn ni'n rhoi parcio am ddim mewn ysbytai. Dydy hynny ddim yn rhywbeth rydych chi'n ei gael ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yng Nghymru yn nodi hynny, oherwydd mae'r rhain yn ddewisiadau gwleidyddol rydyn ni'n wedi'u gwneud.

Maen nhw'n ddewisiadau gwleidyddol, a dim ond y Llywodraeth Lafur yng Nghymru sydd erioed wedi torri cyllideb y GIG. Rwy'n credu bod hynny'n record ofnadwy na ddylech chi fod yn falch ohoni o gwbl.

Nawr, a gaf i godi mater o bryder mawr gyda chi? Fel y gwyddoch chi, mae crwneriaid Cymru wedi codi pryderon dro ar ôl tro am farwolaethau yn dilyn oedi gormodol o ran amseroedd ymateb ambiwlansys. Maen nhw wedi cyhoeddi 25 o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig ag iechyd ers i chi ddod yn Brif Weinidog ym mis Awst y llynedd. Fel y gwyddoch chi, nid darn arall o waith papur mo'r adroddiadau hynny; maen nhw'n ddogfennau pwysig, ffurfiol, cyfreithiol sy'n cael eu cyhoeddi, ar ôl cwest, i'r bobl hynny, fel chi, sydd mewn sefyllfa i helpu i atal rhagor o farwolaethau diangen. O'r 25 hynny a gafodd eu cyhoeddi ers mis Awst diwethaf, roedd pump yn uniongyrchol gysylltiedig ag oedi wrth ddarparu ambiwlansys. Fe ddylen nhw fod wedi ysgogi ymateb brys gan eich Llywodraeth i wella perfformiad ac atal rhagor o farwolaethau diangen. Prif Weinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth yng Nghymru wedi'u cymryd mewn ymateb i'r adroddiadau hyn, a pha gamau brys ydych chi wedi'u cymryd?

Diolch yn fawr. Yn amlwg, rydyn ni'n cymryd yr adroddiadau hyn gan grwneriaid o ddifrif. Mae dadansoddiad bob amser yn cael ei wneud gan ein hadran ni a'r adran berthnasol, sef gwasanaeth ambiwlans Cymru yn yr achos hwn. Yr hyn y byddwch chi'n ei wybod yw bod llawer iawn o waith wedi'i wneud i geisio symud ymlaen gyda rhaglen o sut y gallwn ni gyflymu'r ymateb hwnnw. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi bod yn pwyso'n galed ar wasanaeth ambiwlans Cymru, ac wedi buddsoddi mwy mewn ambiwlansys yr wythnos hon i gefnogi'r gwaith hwnnw. Rydyn ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud, ond mae yna enghreifftiau ledled y wlad lle mae pethau'n gwella. Rydyn ni'n gwybod mai rhan o'r broblem yw oedi wrth drosglwyddo gofal. Yr hyn a ddigwyddodd yn yr un achos lle y gwnaethon ni wario ychydig yn llai ar iechyd oedd ein bod ni wedi'i wario ar ofal. Dyna ddigwyddodd. Mae pawb erbyn hyn yn cytuno bod hynny'n gwneud synnwyr. Os ydych chi eisiau trwsio'r GIG, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n trwsio gofal. Felly, rhowch daw ar eich cwyno, oherwydd dyna'r ffordd rydych chi'n trwsio pethau mewn gwirionedd.

Prif Weinidog, bydd y crwner yn cymryd nodiadau o'ch ymateb ac, a bod yn onest, dydy'r datganiad parod 'rhowch daw ar eich cwyno' ddim y fath o ymateb y bydd yn ei ystyried yn dderbyniol.

Y gwir amdani yw nad yw eich cynllun, o ran lleihau oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys, yn gweithio. Mae crwner canol de Cymru yn anghytuno eich bod chi'n cymryd y camau sydd eu hangen i ddatrys yr argyfwng hwn, oherwydd, mewn cam digynsail, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd adroddiad rheoliad 28 atal marwolaeth yn y dyfodol yn uniongyrchol i chi fel Prif Weinidog, y cyntaf o'i fath yn hanes Cymru. Mae'r achos yn ymwneud â menyw oedrannus, Valerie Hill, a orweddodd ar y llawr am 14 awr yn aros am ambiwlans, ar ôl cwympo mewn cartref gofal. Fe fu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty a daeth y crwner i'r casgliad bod yr oedi hwnnw wrth aros am yr ambiwlans i ddod yn debygol o fod wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Ond fe wnaeth yn glir, Prif Weinidog, nad achos ar ei ben ei hun yw hwn. Tynnodd sylw at nifer o adroddiadau tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pob un ohonyn nhw'n paentio'r un darlun llym: cleifion sy'n sâl iawn yn aros oriau am help, gydag ambiwlansys yn methu ag ymateb oherwydd bod criwiau'n aros y tu allan i ysbytai yn methu trosglwyddo cleifion. Ac yn drasig, mae'r crwner yn dyfynnu dirprwy brif weithredwr y GIG yng Nghymru yn ei adroddiad yn cyfaddef y gallai'r hyn a ddigwyddodd i Valerie Hill ddigwydd i gleifion eraill heddiw.

Adroddodd y crwner hefyd, yn ôl ym mis Chwefror 2022, dros dair blynedd yn ôl, fod prif weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu atoch chi, pan oeddech chi'n Weinidog iechyd, ynglŷn ag oedi wrth ddarparu ambiwlansys. Fe ddywedodd ar y pryd, dair blynedd yn ôl, fod angen ymateb gan y sawl sy'n arwain y system iechyd a gofal cymdeithasol i'r pwysau gweithredol presennol ar yr un lefel â'r ymateb i COVID-19. I bob diben, Prif Weinidog, roedd hi'n gofyn i chi ddatgan argyfwng iechyd, rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano ers misoedd. Fe wnaethoch chi ddewis peidio â datgan yr argyfwng iechyd hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i chi eto heddiw: a wnewch chi wrando ar leisiau'r gweithwyr proffesiynol hynny yn y GIG a lleisiau'r rhai sydd wedi colli eu hanwyliaid yn ddiangen a datgan argyfwng iechyd yma yng Nghymru fel y gallwn ni, o'r diwedd, fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n llyncu ein GIG ac sy'n costio bywydau?

13:45

Gadewch i mi fod yn glir, dydw i ddim, o dan unrhyw amgylchiadau, wedi dweud bod y crwner yn cwyno. Rydyn ni'n cymryd cyngor y crwner o ddifrif. Rwyf wedi cwrdd â'r crwner, yn arbennig, yn y gogledd, ar sawl achlysur oherwydd mae angen i ni ddysgu'r gwersi a diogelu pobl.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi ar y mater o ambiwlansys, fel y gwyddoch yn dda, yw bod llawer ohono'n gysylltiedig ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Fe wnaethoch chi siarad yn benodol am yr achos hwn o ran methiant i fynd i gartref gofal am gyfnod. Dydw i ddim eisiau siarad am achosion unigol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod buddsoddiad enfawr wedi bod i helpu cartrefi gofal i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymateb yn dda—buddsoddiad gan gynnwys St John Ambulance fel ymatebwr cyntaf a all fynd i mewn yno. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod modd mynd i ôl pobl.

A hefyd, rydych chi'n siarad am yr hyn ddigwyddodd ychydig flynyddoedd yn ôl; roedd ymateb i hynny, a'r ymateb oedd y rhaglen chwe nod. Felly, gadewch i mi fod yn glir, doedd yna byth cais gan gyfarwyddwr cyffredinol y GIG yng Nghymru i ddatgan argyfwng. Roedd yna gais i wneud rhywbeth am y sefyllfa mewn adrannau brys, a'r ymateb oedd y rhaglen chwe nod, sydd, mewn gwirionedd, wedi cyflawni newid trawsnewidiol, gan gynnwys canolfannau gofal brys yr un diwrnod a chanolfannau gofal sylfaenol brys. Felly, mae pethau'n symud—. Dychmygwch beth fyddai wedi digwydd pe na baen ni wedi cyflwyno'r rheini. Bydden ni wedi bod mewn sefyllfa waeth.

Prif Weinidog, mae tlodi yn parhau i ddifetha bywydau llawer gormod o blant yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Policy in Practice adroddiad, a ariannwyd gan Sefydliad Bevan, TUC Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru, a oedd yn archwilio effaith ymyriadau polisi sydd wedi'u cynllunio i leihau tlodi. Ymhlith yr holl ymyriadau a fodelwyd, daeth i'r amlwg mai cyflwyno taliad plant Cymru oedd y mwyaf pwerus ac effeithiol. Rhagwelwyd y gallai leihau tlodi plant bron i chwarter.

Mae'r polisi wedi profi'n drawsnewidiol yn yr Alban, a'r disgwyl yw, yn ôl y tueddiadau presennol, mai hi fydd yr unig genedl a fydd yn llwyddo i leihau tlodi plant erbyn 2029. Mewn cyferbyniad llwyr, disgwylir i dlodi plant yng Nghymru godi o lefel sydd eisoes yn warthus o uchel. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pryd mae hi'n bwriadu cyhoeddi ei hasesiad o brofiad yr Alban o'r taliad plant, fel yr addawodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ei wneud yn 2023. Ond mae'r dystiolaeth yn ddiamwys, ac mae fy nghwestiwn yn un syml iawn, felly: a wnaiff hi gefnogi addewid Plaid Cymru i gyflwyno taliad plant uniongyrchol yng Nghymru?

Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw mai'r ffordd orau o gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi yw sicrhau bod gan eu rhieni swyddi da. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw, a dyna pam mae gennym ni system cymorth gofal plant sy'n caniatáu iddyn nhw fynd yn ôl i'r gwaith, sy'n cynnwys lwfans i bobl sy'n astudio. Dydy hynny ddim yn wir yn Lloegr. Ar ben hynny, rydyn ni wrth gwrs, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi rhoi dros £7 biliwn o gymorth i bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, gan gynnwys yn achos plant. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno prydau ysgol am ddim. Mae gennym ni frecwast ysgol am ddim. Rydyn ni'n helpu pobl gyda gwisgoedd ysgol. Ac mae gennym ni'r lwfans cynhaliaeth addysg mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae yna gyfres o bethau rydyn ni'n eu gwneud i gefnogi. Rydyn ni'n gwybod bod yna faterion lle mae yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU i gamu i mewn, ac rydyn ni wedi bod yn glir iawn, o ran y cap budd-dal dau blentyn, bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei newid.

13:50

Efallai nad oedd y Prif Weinidog wedi clywed fy nghwestiwn i yn iawn nac wedi deall fy nghyfeiriad i at yr adroddiad hwnnw a chanfyddiad yr adroddiad mai y modd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â thlodi plant ydy taliad uniongyrchol. Y gwir ydy mai dim ond Plaid Cymru sy'n barod i wneud ymrwymiad o ddifrif i daclo tlodi plant. Fel mae'r adroddiad Policy in Practice yn ei ddweud, mae'n rhaid blaenoriaethu ymyriadau mewn ffordd sy'n sicrhau budd gwirioneddol. Dydy'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan, wrth gwrs, ddim mewn brys i weithredu. Maen nhw'n dal wedi ymrwymo i'r cap dau blentyn. Ond mae yna gyfle i Lywodraeth Cymru weithredu.

Rydyn ni wedi bod yn feirniadol ar y meinciau yma o'r ffaith nad oes yna dargedau yn strategaeth tlodi plant y Llywodraeth bresennol, a dwi'n gofyn eto am gyflwyno targedau o'r fath. Ond mae yna gyfle hefyd i edrych eto ar y strategaeth yn fwy eang a chynnwys taliad plant fel rhan ohono fo. Mae Plaid Cymru wedi dangos o'r blaen ein bod ni'n barod i arwain, ac mi lwyddon ni i sicrhau bod y Llywodraeth yma yn cyflwyno cinio ysgol am ddim—y polisi y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato fo. Felly, ydy'r Prif Weinidog yn barod i ddangos arweiniad ei hun, un ai ar gyflwyno targedau neu ar y taliad uniongyrchol, neu a fydd rhaid aros am newid Llywodraeth ymhen llai na blwyddyn rŵan er mwyn gweld newid cyfeiriad?

Yn gyntaf oll, rwy'n credu ei bod yn bwysig deall nad yw'n bosibl i ni fynd i'r afael â hyn ar ein pennau ein hunain. Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU, yn enwedig pan ddaw i ddiwygio lles a'r holl faterion hynny. Dyna lle bydd y gefnogaeth yn dod. Oherwydd y cwestiwn y byddwn i'n ei ofyn i chi yw o ble mae'r arian hwnnw'n dod. Oherwydd rydyn ni'n glir nad ydyn ni eisiau torri'r hyn rydyn ni'n ei wario eisoes ar iechyd, a dydyn ni ddim eisiau torri'r hyn rydyn ni'n ei wario ar addysg. Rydyn ni eisiau sicrhau bod mwy o swyddi a chefnogaeth ar gael. Felly, mae yna gwestiwn—ac mae hyn yn rhywbeth rwyf yn credu y bydd pobl Cymru yn ei wylio'n agos iawn yn ystod y misoedd nesaf—bod y goeden arian hud hon y mae Plaid yn estyn amdani ar bob achlysur yn rhywbeth y mae angen craffu arni. Mae'r addewidion hyn yn cael eu gwneud, ond pan ddaeth hi i'r pen, wnaethoch chi ddim hyd yn oed pleidleisio dros yr arian ychwanegol a ddaeth i Gymru yn ddiweddar. Dyna'r hyn mae angen i bobl ei nodi. Mae angen iddyn nhw nodi eich bod chi'n dweud un peth ac yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.

Rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog eto, yn ôl ei rhesymeg rhyfedd, bod Aelodau Seneddol Llafur o Gymru wedi pleidleisio yn y gorffennol i beidio â rhoi un geiniog i Gymru, heb sôn am gynnydd, yn y ffordd maen nhw wedi pleidleisio ar gyllideb y DU. Mae Plaid Cymru wedi llunio llwybr y gallwn ei ddefnyddio i gyflwyno taliad plant uniongyrchol, ac rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i drafod gyda mi sut y byddai modd rhoi hynny ar waith.

Ond fe soniodd hi am ddiwygio lles. Yn olaf, mater o gyfrifoldeb uniongyrchol iddi hi yw'r pwysau ychwanegol ar gyllidebau Cymru, gan gynnwys y gallu i ymdrin â materion tlodi, oherwydd bod angen rhagor o gymorth ar bobl anabl wrth iddyn nhw golli eu taliadau budd-dal. Mae'n ymddangos bod digon o wrthryfelwyr Llafur posibl erbyn hyn i atal y diwygiadau pan fydd pleidlais ar y Bil diwygio lles yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, er bod yr effaith ar Gymru yn anghymesur o galed, mae'n ymddangos mai dim ond llond llaw o Aelodau Seneddol Llafur o Gymru sydd ar y rhestr honno o wrthryfelwyr. Fel arweinydd Llafur yng Nghymru, a wnaiff hi annog ei Haelodau yn San Steffan i wrthryfela, i amddiffyn pobl anabl yng Nghymru a gwarchod gwariant Cymru, neu a fydd hi'n eu hannog i aros yn ffyddlon i Keir Starmer?

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod o ddifrif am hyn, oherwydd mae hwn yn fater sy'n achosi pryder i lawer o bobl yng Nghymru. Fel y gwyddoch chi, dydy diwygio budd-daliadau ddim wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ond Llafur Cymru fydd y blaid sydd eisiau annog a chefnogi pobl yn ôl i waith bob amser. Ni yw'r Blaid Lafur, a dydyn ni ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny. Ond ar y llaw arall, mae'n bwysig bod gennym ni degwch yn y system a'n bod ni'n amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed ar bob achlysur. Rydyn ni wedi gwneud yr achos yn glir iawn i'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol, o ran yr effaith rydyn ni'n credu y bydd yn ei chael ar bobl yng Nghymru. Rydyn ni wedi'i hannog i ystyried yr achos rydyn ni wedi'i wneud, ac yn amlwg bydd yn fater i'r Aelodau Seneddol benderfynu sut maen nhw'n pleidleisio.

13:55
Symud Da Byw o Loegr i Gymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfyngiadau diweddar Llywodraeth Cymru ar symud da byw o Loegr i Gymru? OQ62925

Ar ôl trafodaethau helaeth gyda chynrychiolwyr y Cabinet, mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penderfynu y dylai Cymru barhau â'i hymdrechion llwyddiannus hyd yma i geisio atal y tafod glas rhag cydio ac achosi niwed gwirioneddol i dda byw a ffermwyr. I'r perwyl hwnnw, mae wedi cyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru. Bydd y polisi hwn, wrth gwrs, yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Diolch, Prif Weinidog. Mae hwn hefyd yn fater sy'n achosi llawer o bryder i lawer o bobl ledled Cymru. A bod yn onest gyda chi, mae llawer o ffermwyr yn ogystal ag arwerthwyr da byw a chludwyr a'r holl gadwyn gyflenwi yn crafu eu pennau ar benderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn, sy'n taro ein ffermwyr yn galed unwaith eto. Pan ymwelais i â marchnad da byw sir Fynwy gyda fy arweinydd Darren Millar a Samuel Kurtz yr wythnos diwethaf, roedd y rhwystredigaeth ynghylch gweithredu difeddwl eich Llywodraeth yn amlwg. Yn anhygoel, nid oes unrhyw asesiad o effaith economaidd wedi'i gynnal ar y penderfyniad unochrog enfawr hwn. A wnewch chi nawr ymrwymo i gynnal asesiad o'r fath, fel y gall eich Llywodraeth wneud penderfyniadau gwybodus yn y dyfodol? Gallwch chi ddeall fwy na thebyg, Prif Weinidog, pam mae rhai ffermwyr da byw yn meddwl tybed a oes gan y mesur hwn rywbeth i'w wneud â tharged y Pwyllgor Newid Hinsawdd i leihau nifer y da byw 19 y cant erbyn 2033 i gyrraedd targedau sero net. Oes e?

Rwy'n credu bod hyn yn ddifrifol iawn. Ein gwaith ni yw ceisio diogelu'r anifeiliaid hynny yng Nghymru a'r bobl sy'n gofalu am yr anifeiliaid hynny. Y ffaith yw, rydyn ni eisiau parhau i gadw'r clefyd draw. Dydyn ni ddim yn ymddiheuro am hynny. Rwy'n credu bod awgrymu na wnaethon ni ymgynghori ag arbenigwyr yn hollol anghywir. Cafodd cyfarfod bord gron ei gynnal ar 5 Mehefin, ac fe wnaethon nhw gymeradwyo hyrwyddo brechiad fel mesur i sicrhau y gallwn ni amddiffyn Cymru cyhyd â phosibl. O 20 Mehefin, mae angen trwydded a phrawf negyddol cyn symud i symud da byw o barthau dan gyfyngiadau i Gymru i fyw. Ond fel rydyn ni wedi dweud dro ar ôl tro, bydd yn cael ei adolygu'n barhaus.

Rŷn ni'n gwybod mai brechu yw'r ateb tymor hir fan hyn, wrth gwrs, a drwy gyflwyno cyfyngiadau symud, mae yna risg y bydd rhai pobl yn meddwl bod hynny ynddo'i hun yn ddigonol. Felly, gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yna ddigon o frechlynnau yn y lle cyntaf, ond eich bod chi hefyd yn hyrwyddo yr angen i frechu a’ch bod chi'n cyflawni cynllun brechu cynhwysfawr? Mae'n rhaid meddwl am ffyrdd nawr i annog y sector i frechu, felly a fyddech chi, er enghraifft, yn fodlon caniatáu i ddefaid sydd wedi’u brechu symud heb gael prawf cyn symud, fel rhyw fath o insentif i annog pobl i ddefnyddio'r brechiadau sydd ar gael?

Mae'r vaccine manufacturers wedi rhoi assurances i ni eu bod nhw yn gallu cyrraedd y demand ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau, wrth ein bod ni'n mynd ymlaen, bod hynny yn dal i fod yr achos. Ond wrth gwrs, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cadw gyda'r mesurau y gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog eu hamlinellu yr wythnos diwethaf. Mi fyddwn ni'n dechrau ar y trywydd yna, ac os bydd angen newid cyfeiriad, mi fyddwn ni'n gwneud hynny.

Roeddwn i ond eisiau dilyn ymlaen o gwestiwn Llŷr ynglŷn â brechiadau. Rwy'n ddiolchgar am y briff technegol a gawson ni'r bore yma. Roeddwn i'n deall llawer mwy yn y fan yna ynglŷn â'r pryderon a'r effaith y gallai tafod glas ei chael ar Gymru os caniateir iddo ddod i mewn. Ond dydy gwybed mân heintiedig ddim yn parchu ffiniau, ac mae'r llwybr brechu yn swnio fel yr un mwyaf effeithiol, ond fe glywais i hefyd fod angen dau frechiad, 21 diwrnod ar wahân, ac yna 21 diwrnod arall er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol. Mae hynny'n cyfateb i tua 42 diwrnod. Rydyn ni'n gwastraffu amser oni bai ein bod ni'n bwrw ymlaen â hyn yn gyflym.

Felly, a gaf i ofyn cwestiwn penodol i chi y gofynnais i eto'r wythnos diwethaf: beth sy'n ein hatal rhag cael parth Cymru a Lloegr cyfan a sicrhau mai brechu yw'r llwybr rydyn ni'n dechrau arno nawr? Oni bai ein bod ni'n ei wneud nawr, rydyn ni'n gwastraffu amser mewn gwirionedd o ran gwneud yn siŵr bod ein holl dda byw yn cael eu diogelu. Diolch yn fawr iawn.

14:00

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hyn yn eithaf diddorol, on'd yw e? Mae'n mynd â ni yn ôl i gyfnod COVID-19, a'r hyn yr oeddem ni'n ceisio ei wneud oedd cadw COVID-19 draw cyn hired â phosibl, ac fe wnaeth hynny rhoi'r cyfle i ni frechu, i wneud yn siŵr bod gennym ni gymaint o amddiffyniad â phosibl. Dyna'r dull sy'n cael ei gymryd yn y fan yma mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr.

Nawr, rydyn ni'n gwybod bod y tafod glas yn agored iawn i niwed. Rydyn ni'n gwybod, unwaith y byddan nhw'n torri hynny allan i'r ffin, y bydd yn gwneud bywyd yn anodd iawn, iawn i ni, ond yn y cyfamser, gadewch i ni achub ar y cyfle i annog ffermwyr i frechu eu hanifeiliaid i roi'r amddiffyniad, oherwydd gall y canlyniadau i'r anifeiliaid hynny fod yn eithaf difrifol. Os yw'n ddifrifol i'r anifeiliaid, rydyn ni'n gwybod y bydd yn cael effaith ar y bobl sy'n gofalu am yr anifeiliaid hynny, ac rwy'n poeni am eu hiechyd meddwl a'u lles, yn ogystal â lles yr anifeiliaid. 

Rygbi ar Lawr Gwlad

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw rygbi yng Nghymru ac mae wedi rhoi symiau sylweddol i glybiau drwy Chwaraeon Cymru, sydd wedi helpu i wella cyfleusterau clybiau, gan gynnwys y rhai yn Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt, ac mae'n annog pobl i fod yn fwy egnïol. Bydd rhywfaint o'r arian hwn yn cael ei wario drwy Undeb Rygbi Cymru i ysgogi'r model buddsoddi mewn clybiau y mae'n ei hyrwyddo.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Fel y dywedoch, datgelodd Undeb Rygbi Cymru ei fodel buddsoddi cymunedol newydd, newid diwylliannol sylweddol sydd wedi'i gynllunio nid yn unig i wobrwyo llwyddiant ar y cae, ond hefyd i hyrwyddo gwaith clybiau oddi ar y cae, gan gynnwys llywodraethu, ymgysylltu â'r gymuned, datblygu gwirfoddolwyr, gwella cyfleusterau ac arferion cynhwysol. Mae'n ddiddorol iawn, Prif Weinidog, yr arian y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i'r cynllun hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol a chwaraeon hefyd wedi rhoi arian i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn y maes hwn. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn gwybod faint mwy o arian ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Undeb Rygbi Cymru i wneud yn siŵr bod clybiau rygbi yn gallu dod yn ganolfannau cymunedol yn ein cymunedau. Maen nhw'n gwneud llawer iawn mwy na dim ond cynhyrchu chwaraewyr rygbi da y dyfodol. Maen nhw hefyd yn gwneud gwaith gwych wrth helpu ein cymunedau i fod yn fwy gwydn, gan ddod â phobl at ei gilydd a helpu pobl i ddod yn ffit ac yn fwy iach i fynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra y mae'r wlad hon yn ei wynebu.

Diolch yn fawr iawn, James. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cael £434,000—dim ond yn y de yw hynny—drwy'r model buddsoddi mewn clybiau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n newyddion da, oherwydd rydych chi'n iawn, mae'r rhain yn gyfleusterau gwych. Fe allan nhw estyn allan i gymunedau mewn ffordd na all llawer o sefydliadau eraill, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod clybiau'n gweithio'n agosach gyda'u cymunedau i ddarparu'r amgylchedd croesawgar a chynhwysol hwnnw a'u bod nhw'n barod i wasanaethu demograffeg newidiol Cymru. Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, yna dylen nhw gael eu gwobrwyo mwy.

Ychydig dros fis yn ôl, fe wnes i godi'r mater o rôl swyddogion hwb Undeb Rygbi Cymru yn cynorthwyo ein hysgolion ni yn ein cymunedau ni, a'r ffaith fod yr undeb rygbi wedi torri'r swyddi, 90 o'r swyddi creiddiol yma, ar draws Cymru. Roedd y swyddi yma, y bobl oedd yn y swyddi, yn annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan yn y gêm. Doedd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ddim yn ymwybodol o'r toriadau yma ar y pryd, na chwaith, felly, yn ymwybodol o effaith y toriadau ar ddarpariaeth addysg ymarfer corff yn yr ysgol. Ydych chi, felly, wedi gwneud asesiad o effaith y toriadau yma ar ddarpariaeth addysg ymarfer corff? Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi wedi eu cael efo'r undeb er mwyn gweld pa gamau sydd am gael eu cymryd er mwyn cryfhau rygbi cymunedol ymhlith plant ac yn ein hysgolion?

Diolch yn fawr. Mae'n bwysig ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd hyn. A hefyd, beth fyddaf i'n ei wneud yw gofyn i'r Gweinidog sydd yn gyfrifol am addysg i weld pa ganlyniadau mae hi wedi'u cael o ganlyniad i'r cwestiynau rŷch chi wedi’u gofyn. Ond dwi yn meddwl bod yna rôl bwysig i Undeb Rygbi Cymru ac i’r clybiau. Beth sy’n digwydd, dwi’n meddwl, yw sefyllfa lle, ambell waith, mae rygbi yn digwydd y tu fas i’r ysgol, nawr, yn hytrach nag yn yr ysgol. Dwi ddim yn meddwi ei fod e’n beth ddrwg, dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig bod y ddau yn digwydd, ond mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod yn union beth sy’n digwydd a phwy sy’n gwneud beth.

14:05

Rwy'n aelod o lawer o glybiau rygbi; dydw i ddim yn mynd i'w henwi nhw i gyd. [Chwerthin.] Mae gan rygbi iau lawer o gyfranogwyr, bechgyn a merched, yn y grwpiau oedran iau, ac mae llawer o'r grwpiau oedran iau, bechgyn a merched, yn chwarae gyda'i gilydd ac yn erbyn ei gilydd. Rydyn ni'n gwybod, rhwng 14 a 19 oed, fod gostyngiad enfawr mewn cyfranogiad ymhlith bechgyn a merched. Gyda'r disgwyl y bydd gordewdra yn goddiweddyd ysmygu fel prif achos canser, mae angen hyrwyddo ffordd egnïol o fyw. Rwyf am weld mwy o bobl ifanc yn bod yn egnïol ym maes chwaraeon, nid yn unig oherwydd yr ymarfer corff, ond mae'r gweithgarwch adeiladu tîm a'r ddisgyblaeth yn sgiliau bywyd sydd eu hangen ar bobl ifanc. Pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gydag Undeb Rygbi Cymru o ran sut i leihau'r gostyngiad mewn cyfranogiad er budd iechyd a rhagolygon bywyd pobl ifanc yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, rwy'n credu bod angen i ni weld llawer mwy o bobl o bob oed yn cymryd rhan ym mhob camp. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n weledigaeth yn ein datganiad cenedl egnïol, sef hyrwyddo mwynhad gydol oes o chwaraeon, ac mae hynny'n cael ei fynegi yn ein llythyr cylch gwaith at Chwaraeon Cymru, ac rydyn ni'n nodi ein disgwyliadau yn y fan yna. Rydych chi'n iawn, mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn amrywio ar draws pob camp, ac wrth i blant dyfu a datblygu yn gorfforol. Dydy Undeb Rygbi Cymru ddim yn ymwybodol o unrhyw ostyngiad sylweddol mewn rygbi rhwng 14 a 19 oed, ac roeddwn i'n synnu braidd at hynny, Mike, ac yn sicr o ran cyfranogiad menywod, ond dyna maen nhw'n ei ddweud wrthyf, serch hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu.

Mae cyfle, yn ehangach, o ran chwaraeon, i ni hyrwyddo tîm pêl-droed y merched yn benodol yn ystod yr wythnosau nesaf, pan welwn ni'r merched balch hynny o Gymru a fydd yn ein cynrychioli yn y Swistir cyn bo hir.

Polisi Creu Coetiroedd

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer creu coetiroedd? OQ62904

Diolch yn fawr. Rydym yn ysgogi gwaith uchelgeisiol i greu coetiroedd drwy ein cynigion grant gwell a fydd yn dod yn rhan allweddol o'r cynllun ffermio cynaliadwy a mentrau fel y goedwig genedlaethol. Mae ein cynlluniau creu coetir yn grymuso tirfeddianwyr i blannu mwy o goed, gan roi hwb i fioamrywiaeth, cyfrannu at gydnerthedd hinsawdd a swyddi gwyrdd. Mae yna hefyd gymunedau ledled Cymru sydd eisoes yn elwa ar ein cynlluniau coedwigoedd cenedlaethol, er enghraifft yn y goedwig fechan yn Llan-gors ac yn Ysgol Gynradd Pontnewydd. Ac ni ddylem byth anghofio'r record falch sydd gennym yn Uganda, lle rydym wedi helpu i blannu 25 miliwn o goed.

Diolch, Prif Weinidog. Mae ehangu'r goedwig genedlaethol yn hwb gwych i'n rhanbarth, yn enwedig agor mwy o ardaloedd awyr agored i fyny i bobl eu mwynhau, ac maen nhw'n cael eu rheoli mewn ffordd sy'n cefnogi bywyd gwyllt. Wrth edrych ar y map, mae'r ehangu yn esgor ar fwy o gyfleoedd i gysylltu'r dotiau. Bydd y lleoliadau newydd hyn yn creu coridorau gwyrdd, gan wella symudiadau bywyd gwyllt a chynefinoedd parhaus, ac mae hynny i gyd yn hollbwysig.

Felly, a wnaiff eich Llywodraeth barhau i flaenoriaethu cysylltu'r rhwydwaith coedwigoedd yn y modd hwn, ac allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am sut y gall cynlluniau, fel coetir cymunedol a phrynu cyhoeddus, gefnogi'r cyfleoedd hynny?

Diolch yn fawr. Mae ehangu'r goedwig genedlaethol yn bwysig iawn i'r Llywodraeth hon. Ein huchelgais, ymhen amser, yw y byddwn yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd o ansawdd uchel sy'n rhedeg ledled Cymru, a dylai hynny ddod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn elfen allweddol iawn o hyn, yn fy marn i.

Nawr, rydyn ni'n arbennig o awyddus i ddatblygu cysylltedd y goedwig genedlaethol ar raddfa tirwedd, a'r llynedd cafodd dull newydd o ymdrin â choedwig genedlaethol Cymru ar raddfa tirwedd ei brofi drwy'r gronfa her partneriaeth natur leol, a dyfarnwyd dros £0.5 miliwn i 12 o brosiectau peilot graddfa tirwedd cydweithredol, a gwnaethant gyrraedd pob un o'r chwe chanlyniad coedwig genedlaethol. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o hyn yn y dyfodol.

14:10

Yn 2023, plannwyd 640 hectar o goed yng Nghymru. Dim ond 12 y cant o darged Llywodraeth Cymru o 5,000 hectar bob blwyddyn yw hynny. Fodd bynnag, eleni yn unig, mae dros 90 o hectarau o goed ifanc wedi cael eu dinistrio oherwydd tanau gwyllt a chollwyd 1,000 o goed y llynedd i stormydd. Nawr, ddydd Gwener, roeddwn i yng Ngardd Bodnant. Mae'n ardd wych—byddwn i'n annog unrhyw un sy'n dod i Aberconwy i fynd i Ardd Bodnant—ond mae'n ofnadwy gweld eu bod nhw eu hunain wedi colli dros 1,000 o goed yn y ddwy storm ddiwethaf.

Nawr, mae'r Llywodraeth hon wedi siarad yn frwdfrydig am goed—wyddoch chi, rydych chi wedi cynhyrfu ffermwyr dros y blynyddoedd gyda'r 10 y cant hwn o orchudd coed. Ond, yn y bôn, rydych chi'n methu yn eich dyletswydd i barhau â'r cynllun plannu coed yn gyffredinol. Mae'r cynlluniau hyn o bosibl wedi cael y—[Anghlywadwy.]—i niweidio ein sector amaethyddol. A wnewch chi, Prif Weinidog, ymrwymo i amddiffyn tir amaethyddol da a sicrhau nad yw'r polisïau hyn i greu coetiroedd yn peryglu diogelwch bwyd? Ond, go iawn, gofynnwch i'ch Ysgrifennydd Cabinet fwrw ati i blannu coed mewn mannau eraill, lle mae eu hangen—y goeden iawn, y lle iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn. Yr hyn sydd gennym yw grantiau ac offer cynllunio newydd i'w gwneud hi'n haws i ffermwyr a thirfeddianwyr wneud cais. Byddwn ni'n cael y penderfyniadau terfynol mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy yn yr haf, a bydd rhywbeth yn y fan yna mewn perthynas â choed. Felly, gadewch i ni fod yn glir, bydd gennym ni ddisgwyliad mewn perthynas â choed. Lle mae'n glanio, sut y bydd yn gweithio allan—mae hynny'n cael ei drafod o hyd. Ond allwch chi ddim dweud ar un llaw, 'Dywedwch wrth y ffermwyr nad oes rhaid iddyn nhw blannu coed', ac yna ar y llaw arall, 'Plannwch fwy o goed'. Mae rôl ar gyfer amaethyddiaeth yn y fan yma, ac mae'n rôl y mae llawer ohonyn nhw'n awyddus iawn i ymgymryd â hi hefyd. Y newyddion da yw bod 1,400 o hectarau o gynlluniau coetir wedi'u gwirhau o dan ein cynllun cynllunio newydd. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni ffordd hir i fynd, ond mae yna dasglu plannu coed gweinidogol y DU hefyd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd rhan yn hwnnw, ac mae hwnnw'n mynd i gael ei gyd-gadeirio gan Gymru a Gogledd Iwerddon.

Tlodi Plant yng Ngorllewin De Cymru

6. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ostwng cyfraddau tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OQ62924

Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i gynnig brecwast a phrydau am ddim i bob plentyn ysgol gynradd—mae hynny'n werth £764 y flwyddyn, fesul plentyn. Ar ben hyn, rŷn ni’n rhoi cymorth i rieni brynu gwisgoedd ysgol ac offer. Mae ein lwfans cynhaliaeth addysg ni o £40 yr wythnos yn cynrychioli'r maint mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Rŷn ni’n gwybod mai'r ffordd orau i blant osgoi tlodi yw drwy gefnogi eu rhieni nhw i gael gwaith, ac mae hyn yn haws nawr ein bod ni wedi ehangu ein cynnig gofal plant. Rŷn ni hefyd yn eu cefnogi drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd.

Brif Weinidog, dyma eiriau Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, wrth lansio ‘Pŵer y Llais’, ymchwil newydd ar brofiadau plant o dlodi:

'Pan ymunais i ag Achub y Plant Cymru am y tro cyntaf bron i ddeunaw mlynedd yn ôl, roedden ni newydd lansio adroddiad yn seiliedig ar ymchwil gyda phlant a phobl ifanc am eu profiadau a pha fesurau y dylid eu cymryd i roi terfyn ar dlodi plant. Heddiw, mae bron fel pe bawn i wedi camu i mewn i siambr adlais, gyda lleisiau cenhedlaeth arall o bobl ifanc yn atseinio yn fy nghlustiau.'

Fel adroddiad diweddar Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi yng Nghymru, mae'n dangos nad oes dim wedi newid mewn dau ddegawd, a bod pethau'n gwaethygu. Mae hynny'n sicr yn wir yng Ngorllewin De Cymru, lle mae data gan Trussell yn dangos bod mwy o barseli bwyd argyfwng wedi eu dosbarthu nag mewn unrhyw ranbarth arall o Gymru.

Felly, sut ydych chi'n bwriadu ymateb i'r hyn sydd gan bobl ifanc Cymru i'w ddweud am effaith tlodi arnynt? Heb dargedau mesuradwy, sut allwch chi fod yn ffyddiog y bydd eich strategaeth tlodi plant yn creu'r newid sydd ei angen i'r plant mewn tlodi dwi'n eu cynrychioli ac ar draws Cymru, o gofio nad yw eu cyfleon bywyd wedi gwella ers dros 20 mlynedd?

Wel, mae 14 mlynedd o gyni fel canlyniad i'r Tories yn cael effaith. Dyna'r gwirionedd: mae'n cael effaith ar faint o arian sydd ar gael i'r Llywodraeth ei wario. O leiaf nawr rŷn ni'n gweld diwedd ar austerity, felly gobeithio bydd yna gyfle i weld gwella. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gweld rhaglenni pan fo'n dod i bethau fel tyfu'r economi, gwneud yn siŵr ein bod ni gydag industrial strategy newydd, bod gyda ni gynlluniau ar gyfer y dyfodol fydd yn creu arian, bydd yn golygu mwy o arian i helpu plant. Dwi'n gobeithio byddwn ni'n gweld hynny'n digwydd. 

Beth rŷn ni wedi'i wneud yng Nghymru yw ein bod ni wedi rhoi grant arloesi tlodi plant, ac rŷn ni'n cefnogi cymunedau—mae £1.5 miliwn wedi'i ddyfarnu eleni ar gyfer hwnna. Ac mae gyda ni gefnogaeth frys ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, ac mae hwnna wedi'i dyfarnu i dros 3,000 o geisiadau i deuluoedd yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n gallu o ganlyniad i'r pwerau a'r arian sydd gyda ni, ond mae hwnna'n enghraifft o ble bydd angen inni gydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud ein gorau, a dwi yn gobeithio y byddan nhw'n rhyddhau'r cap yna ar ddau o blant.

14:15
Cefnogi Gofalwyr

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prynhawn da, unwaith eto, Prif Weinidog. A wnewch chi ymrwymo i rymuso monitro, casglu data a gorfodi er mwyn sicrhau y bydd pob gweithiwr gofal sy'n gymwys yn cael y cyflog byw gwirioneddol, gydag adrodd cyhoeddus tryloyw o ran cynnydd?

Diolch yn fawr iawn.

Fel rhywun sy’n gofalu ar y penwythnosau fy hun, dwi’n gwybod pa mor anodd mae’n gallu bod—y straen emosiynol, y jyglo a’r diffyg amser rŷch chi'n cael i'ch hunain. Felly, dwi’n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl drwy roi cymorth gwirioneddol iddyn nhw. O 20,000 o seibiannau byr i gymorth brys i dros 11,000 o ofalwyr eleni, rŷn ni’n gwneud gwahaniaeth, ac yn gweithio gyda gofalwyr i lunio strategaeth genedlaethol sydd wir yn adlewyrchu eu hanghenion.

Fe wnaethoch chi ofyn eich cwestiwn atodol, yn hytrach na'r cwestiwn oedd ar y papur, felly fe wnaf i gymryd hwnna fel y cwestiwn atodol ac wedi cael ei ateb fel cwestiwn atodol gan y Prif Weinidog. 

Mae cwestiwn 8 [OQ62903] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 9, yn olaf, Heledd Fychan.

Amseroedd aros am Ambiwlansys yng Nghanol De Cymru

9. Wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad ynglŷn ag amseroedd aros am ambiwlansys yng Nghanol De Cymru? OQ62923

Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn gwella yng Nghanol De Cymru, ac mae hynny oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r pwysau rŷn ni wedi'i roi ar fyrddau iechyd i wneud yn well. Ond gadewch imi fod yn glir: rŷn ni'n gwybod bod llawer mwy i’w wneud. Rŷn ni’n diwygio systemau trosglwyddo, yn ariannu modelau clinigol newydd ac yn cefnogi gofal cymdeithasol i leddfu’r pwysau ar ysbytai. Y nod yw sicrhau bod pobl yn cael cymorth pan a lle maen nhw ei angen fwyaf.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod pam y cododd y cwestiwn hwn, oherwydd fe glywsom ni Darren Millar yn sôn gynnau am y sefyllfa ddifrifol iawn yr ysgrifennwyd atoch chi amdani gan Graeme Hughes, uwch grwner Canol De Cymru, yr adroddiad rheoliad 28. Fe hoffwn i glywed yr hyn na chlywais i yn yr ymateb i Darren Millar, o ran pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd nawr wedi cael yr adroddiad hwnnw yr wythnos diwethaf, oherwydd fe hoffwn i ddyfynnu o'r adroddiad. Fe ysgrifennodd ef:

'Yn ystod y tair blynedd ers marwolaeth Valerie rydych chi wedi cael sawl adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol oddi wrth grwneriaid eraill yng Nghymru a minnau sydd wedi tynnu sylw at y canlyniadau dinistriol y gellir eu priodoli i oediadau wrth gludo cleifion sy'n wael iawn i'r ysbyty/ oediadau wrth drosglwyddo o ambiwlansys. Mae'r risgiau hynny'n parhau ac yn peri pryder mawr i'm cydweithwyr sy'n grwneriaid ledled Cymru ac i minnau.'

Felly, fe hoffwn i gael clywed, nid am yr hyn sydd wedi digwydd, ond am yr hyn a fydd yn digwydd nawr, fel na fydd yn rhaid i deuluoedd eraill ddioddef fel teulu Valerie Hill.

Diolch yn fawr. Fe fyddwn ni'n gweithredu ar argymhellion tasglu a sefydlwyd ar gyfer sicrhau gwelliannau o ran trosglwyddo cleifion. Fe fyddwn ni'n sicrhau hefyd y bydd y £30 miliwn a ddyrannwyd i awdurdodau lleol ar gyfer hybu buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol cymunedol, yn helpu i leihau oediadau wrth ryddhau cleifion o ysbytai. Mae hwnnw'n swm ychwanegol o gyllid y gwnaethom ni ei roi yn y system hefyd.

Ar ben hynny, o fis Gorffennaf ymlaen, fe fydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn treialu newidiadau i'w fodel ymateb clinigol am 12 mis, ac fe fydd hynny'n cynnwys proses sgrinio clinigol cyflym newydd ar gyfer galwadau 999. Ac ar ben hynny, rydym ni'n dyrannu tua £25 miliwn mewn cyllid ychwanegol i gefnogi mynediad pobl o ran y gofal cywir yn y lle cywir. Roeddwn i'n sôn yn gynharach am y rhaglen chwe nod a'r canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod. Mae hynny wedi tynnu llawer o bwysau oddi ar yr adrannau brys hynny, felly mae 80 y cant o'r bobl hynny yn cael eu rhyddhau heb fod ag angen arhosiad yn yr ysbyty. Felly, mae hynny'n gryn dipyn o ymateb i'r mathau o faterion a gododd y crwner.

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad hwnnw i'w wneud gan y Trefnydd. Felly, y Trefnydd i wneud y datganiad busnes—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:21:09
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw. Mae'r datganiad llafar ar y cynnydd o ran cyflwyno'r cwricwlwm wedi cael ei dynnu nôl. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru o ran cydlynu gwasanaethau brys ledled Cymru. Mae hwn yn fater a godais i yn y gorffennol, ond rwyf wedi cael sylwadau o ran diffyg defnyddio cyd-ymatebwyr yn llawn mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Fe godwyd mater amseroedd aros ambiwlansys, wrth gwrs, yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog.

Nawr, yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â diffoddwyr tân oddi ar ddyletswydd i drafod y gwaith pwysig y gall cyd-ymatebwyr ei wneud o ran cefnogaeth i'r gwasanaeth ambiwlans ledled Cymru. Rwy'n deall, mewn rhai achosion, y gall cyd-ymatebwyr ddarparu amseroedd ymateb sy'n gynt na'r cerbydau ambiwlans safonol mewn rhai sefyllfaoedd o argyfwng. Serch hynny, fe eglurwyd yn amlwg iawn i mi nad yw cyd-ymatebwyr yn cael eu defnyddio yn llawn ac mewn nifer o achosion, nad yw galwadau yn cael eu trosglwyddo iddyn nhw o gwbl. O ystyried y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans a'r ffaith bod rhai pobl yn gorfod disgwyl am oriau i ambiwlans gyrraedd, yn sicr fe ddylem ni fod yn defnyddio cyd-ymatebwyr i helpu o ran cyrraedd cleifion cyn gynted â phosibl. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am waith pwysig cyd-ymatebwyr, er mwyn i Aelodau allu gofyn cwestiynau ynghylch pam nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio yn llawn i gefnogi ein gwasanaethau ambiwlans ni ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn pwysig yna, Paul Davies, o ran cydlynu gwasanaethau brys. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yn wir wedi ymrwymo yn llawn i hynny, ac yn wir i waith pwysig ein gwasanaethau tân ac achub a'n diffoddwyr tân. Rwy'n cofio cymryd rhan, yn fy hen swydd yn weinidog iechyd, yn yr ymdrech i ddwyn pob un o'r rhain at ei gilydd, ac roedd hynny'n gofyn am lawer iawn o gyfathrebu, trafod, cefnogaeth i hyfforddiant y gweithlu cyfan ac ati. Mae hwn yn bwynt pwysig ac fe fyddaf i'n amlwg yn rhannu hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer unrhyw ddiweddariad. Ac wrth gwrs, mae hyn yn berthnasol i ymgysylltu ar draws y Cabinet, y Llywodraeth, gyda'n Hysgrifennydd Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol o ran y gwasanaethau tân ac achub. Felly, diolch i chi am roi hyn ar agenda'r datganiad busnes heddiw.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad a diweddariad gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch chi'n dda. Mae'r cyntaf yn dilyn cyhoeddiad yr achos busnes amlinellol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe ar gyfer Teras Clydach yn Ynysybwl. Fe godais i fater Teras Clydach sawl tro ar lawr y Senedd. Mae'r trigolion wedi cael gwybod y gallen nhw farw yn eu tai pe byddai storm arall fel storm Dennis; fe allwch ddychmygu'r trawma y maen nhw'n byw gydag ef. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae'r adroddiad wedi dweud na all Cyfoeth Naturiol Cymru wneud unrhyw beth. Ond, yn y datganiad, mae'n nodi y bydd Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i chwilio am ddewisiadau. A ellid rhannu'r dewisiadau hynny gyda thrigolion a phawb ohonom ni sy'n cynrychioli'r trigolion hynny? Oherwydd maen nhw'n daer am glywed unrhyw newyddion.

Yn ail, rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, i ni godi mater Ysbyty Athrofaol Cymru a chyflwr yr adeilad yn y Senedd yn flaenorol. Mae lluniau a roddwyd gan aelod o staff i'r Western Mail a'u cyhoeddi yn dangos cyflwr enbyd yr adeilad, a'r risgiau o ran iechyd cleifion wedyn. A gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran yr hyn sy'n digwydd yno? Oherwydd rwy'n credu bod y ffaith fod staff hyd yn oed yn anfon lluniau i'r wasg yn tystio i faint eu pryder nhw ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yno.

14:25

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna, Heledd Fychan. Rwy'n credu, o ran yr amddiffynfeydd llifogydd hynny ar gyfer Teras Clydach, mae yna heriau sylweddol iawn fel rydych chi wedi bod yn eu codi ac fe wnaethoch chi eu codi nhw unwaith eto heddiw. Fel roeddech chi'n dweud, mae gennym ganlyniad achos busnes amlinellol gan CNC nawr. Rwy'n deall bod yr arfarniad economaidd yn ystyried dau ddewis: adeiladu wal llifogydd neu brynu a dymchwel y tai. Ac nid oedd unrhyw un o'r ddau ddewis a gafodd eu hystyried gan achos busnes CNC yn gosteffeithiol, ac felly yn anghymwys i gael cyllid drwy'r rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ond nid dyna ddiwedd y broses, fe gefais i sicrwydd; nid oes neb yn anwybyddu Teras Clydach, ac mae angen i ni dawelu meddyliau'r trigolion ynglŷn â hynny.

Mae hyn yn ymwneud â pha mor bwysig yw hi i Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf weithio gyda'i gilydd, wrth iddyn nhw archwilio'r dewisiadau i gyd sydd ar gael iddyn nhw er mwyn diogelu'r gymuned. Yn y byrdymor, rwy'n deall y bydd y ddau sefydliad yn ystyried pa waith y gallan nhw ei wneud ar gyfer cael gwelliant i reolaeth y peryglon a achosir gan y cwrs dŵr, ac yn hollbwysig, gan weithio gyda'r trigolion yr effeithir arnynt a chynrychiolwyr etholedig ynglŷn â'r dewisiadau i gyd yn y dyfodol. Mae hi'n hanfodol fod y pryderon a'r dyheadau hyn sydd gan y gymuned yn ystyriaethau blaenllaw ym mhob penderfyniad.

Rwy'n diolch i chi am godi'r mater ynglŷn ag Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn amlwg nawr, diolch i'r cynnydd mewn cyllid a gawsom ni oddi wrth Lywodraeth y DU, a'r dyraniad o gyllid sydd wedi arwain at ddyraniad cyfalaf yn ogystal â dyraniad refeniw ar gyfer ein gwasanaeth iechyd ni, wrth gwrs fe ymdrinnir â'r materion hyn ynghylch cyflwr ein hadeiladau ysbyty.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad: yn gyntaf, am ddiweddariad ynghylch gorsafoedd rheilffordd newydd a gynlluniwyd ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae sawl gorsaf newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ardal Caerdydd/Casnewydd yn ddiweddar, ond dim byd ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe. Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ym mis Tachwedd y llynedd ei bod hi'n deall bod Trafnidiaeth Cymru yn datblygu achos busnes ar gyfer metro Bae Abertawe, a fyddai'n gweld gorsafoedd newydd ar lein Abertawe a'r cylch ym Mhontlliw, Felindre, Treforys, lle rwy'n byw, Llandarcy, Winch Wen ac ailagor gorsaf Glandŵr. Yn ogystal â hynny, mae cynnig am orsaf drenau newydd yn y Cocyd ar lein Abertawe i Ben-bre a Phorth Tywyn, sy'n rhoi gwasanaethau i Lanelli a Thre-gŵyr hefyd. A gawn ni ddiweddariad ar y cynnydd?

Yn ail, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gymunedol a sut y bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn effeithio ar hyn? Mae bron i 100 aelod gan drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth, gan gynnwys bysiau ym meddiant y gymuned. Sut bydd y Bil Bysiau yn effeithio ar y rhain?

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Cwestiynau pwysig, wrth gwrs, sy'n ymwneud ag Abertawe. Ar gyfer bod yn asgwrn cefn i fetro Bae Abertawe, rydym ni'n ariannu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwneud astudiaethau dichonoldeb ar hyd at saith gorsaf reilffordd newydd yn ardal drefol Bae Abertawe, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o'r diweddariad hwnnw. Fe wyddoch chi ein bod wedi ariannu awdurdodau lleol yn uniongyrchol gyda thros £6 miliwn dros y tair blynedd diwethaf i ddatblygu a chyflawni gwaith yn ymwneud â metro. Mae hynny'n cynnwys seilwaith blaenoriaeth i fysiau hefyd, ond rhaglen o gynlluniau yw hi. Mae metro Bae Abertawe a gorllewin Cymru, fe allaf i eich sicrhau chi, yn rhaglen o gynlluniau ar gyfer gwella trafnidiaeth y de-orllewin, a'r canolbwynt yw'r cynigion ar gyfer y gorsafoedd rheilffordd newydd hynny yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw.

Ac mae eich cwestiwn chi am drafnidiaeth gymunedol yn un pwysig iawn. Mae trafnidiaeth gymunedol yn gwneud cyfraniad mor aruthrol i'r sector trafnidiaeth yn fwy eang. Wrth gwrs, mae'r gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn bwysig, ac fe fyddan nhw'n dal i weithredu dan y drefniadaeth newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol. Fe wnaethom ni ddylunio'r Bil fel nad ydyn nhw'n ddarostyngedig i'r cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleol.

Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar faterion parhaus o ran cyllid myfyrwyr? Mae sawl rhiant pryderus wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf sydd â phlant ar fin mynd i brifysgolion yn y 12 wythnos nesaf. Er bod popeth yn ei le, gan gynnwys cyllid myfyrwyr, maen nhw wedi cael gwybod nawr nad ydyn nhw'n gymwys i gael cyllid oherwydd newidiadau gan Lywodraeth Cymru. Roedd nifer o fyfyrwyr ar fin dechrau cyrsiau gyda'r Sefydliad dBs mewn 12 wythnos, ond mae eu cynlluniau nhw yn y fantol erbyn hyn. Anfonodd dBs negeseuon e-bost at fyfyrwyr yn ddiweddar gan roi gwybod iddyn nhw fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyllid yn cael ei dynnu yn ôl oherwydd na chafodd y sefydliad ei gofrestru gyda'r Swyddfa Fyfyrwyr. Mae dBs, er mwyn i bawb wybod, yn wir yn y broses o wneud cais am gyllid dynodiad penodol, ond mae hon yn debygol o fod yn broses faith ac nid yw'n newid unrhyw beth yma nawr i'm hetholwyr i, y mae hi'n ymddangos bod eu niferoedd nhw'n cynyddu o ddydd i ddydd.

Llywydd, rwy'n ymwybodol o amser, ond fe hoffwn i rannu geiriau Ruby, un o'r myfyrwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â hyn, gan fy mod i'n teimlo eu bod yn crynhoi'r sefyllfa mewn gwirionedd. Meddai hi, ac rwy'n dyfynnu,

'Yn union pan aeth popeth i'w le, fe wnes i ddarganfod bod fy nghyllid wedi cael ei dorri. Roedd hi'n teimlo fel pe bai fy myd cyfan ar stop. Ar ôl buddsoddi cymaint o ymdrech, dweud wrth fy nheulu, gweld pa mor falch yr oedden nhw, mae hi'n teimlo fel fy mod i wedi cael fy siomi, ac yn waeth na hynny, fel fy mod i wedi eu siomi nhw hefyd. Heb y cymorth ariannol hwn, mae fy nghynlluniau wedi cael eu gohirio i bob pwrpas ac efallai y byddaf i'n cael fy ngorfodi i gerdded i ffwrdd oddi wrth y cyfle gorau a gefais i erioed. Mae hi'n ofnadwy.'

Rwyf i wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog, a oedd yn ddigon caredig i ateb rhai o'm cwestiynau i. Ond, gan y bydd y mater hwn yn sicr o fod yn effeithio ar fyfyrwyr ledled Cymru, mae angen datganiad brys arnom ni i ymdrin â'r pwnc dybryd hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn neu gyfarwyddo rhanddeiliaid, gan gynnwys Medr, i weithredu, i sicrhau bod y myfyrwyr hynny sydd i fod i ddechrau cwrs prifysgol ym mis Medi yn gallu parhau i wneud hynny'n ddirwystr, fel cynlluniwyd yn wreiddiol. Diolch i chi.

14:30

Diolch i chi, Natasha Asghar. Ac, fel rydych chi'n dweud, rydych chi wedi codi'r cwestiynau hyn, ac rwy'n siŵr fod hynny'n benodol iawn o ran astudiaethau achos hefyd, achosion yr ydych chi'n ymdrin â nhw. Oherwydd ein bod ni'n awyddus i sicrhau, trwy ein gwarant i bobl ifanc, y bydd gan bobl ifanc 18 i 25 oed lwybrau at swyddi, prentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch. Felly, rwy'n siŵr fod hyn—. Wrth gwrs, ymdrinnir ar mater hwn o ran cyllid i fyfyrwyr, Medr, a'r Gweinidog hefyd.  

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn gwisgo’r ddwy het honno, fel mae’n digwydd, sef datganiad am gynlluniau rheilffordd yn y gogledd-orllewin, ac am gynlluniau i drydaneiddio lein y gogledd? Fe gawson ni gyfle i drafod rhai materion perthnasol mewn dadl ar ddeiseb ynglŷn ag ailagor rheilffyrdd yn y gorllewin wythnos diwethaf, ond dwi yn meddwl bod angen llawer mwy o fanylion, ac ar ffurf datganiad yn benodol—byddai hynny’n weddus, dwi’n credu—yn rhoi eglurhad o bryd fydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun i drydaneiddio lein y gogledd, a pha bryd bydd astudiaethau pellach yn cael eu comisiynu, yn unol ag argymhelliad Trafnidiaeth Cymru yn ei hadroddiad ar lein Bangor i Afon-wen.

Hoffwn i holi hefyd am ddatganiad yn egluro pa bwerau, os o gwbl, y gall eich Llywodraeth chi eu defnyddio os ydych chi’n ystyried bod angen adolygu’r ffordd mae corff sy’n annibynnol o Lywodraeth yn delio efo cwynion am ymddygiad amhriodol a phryderon diogelu. Dwi’n cyfeirio at honiadau ac adroddiadau am y sefyllfa yng nghadeirlan Bangor, ac esgobaeth Bangor, a dwi yn hapus i ysgrifennu atoch chi efo’r cefndir penodol yna. Ond, yn syml, hoffwn i wybod os oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw ffordd o weithredu ar ran fy etholwyr sydd yn poeni am y sefyllfa, neu unrhyw ffordd o orfodi adolygiad annibynnol ar gorff fel yr Eglwys yng Nghymru, sydd yn endid sydd efo llywodraethiant ar wahân i Lywodraeth. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. A diolch i chi am dynnu sylw at y materion pwysig hynny o ran darpariaeth, ac yn enwedig o ran darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn eich etholaeth chi ac yn y gogledd-orllewin. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaeth aml-ddull o ansawdd uchel ledled Cymru, sy'n hanfodol ar gyfer cysylltu cymunedau, a chefnogi mewn egwyddor—ac rwy'n gwybod i hynny gael ei godi yn y ddadl yr wythnos diwethaf—astudiaethau dichonoldeb, er enghraifft, o ran ailagor rheilffyrdd a gaewyd. Roeddech chi'n sôn am Fangor ac Afon-wen, a'r posibiliadau ar gyfer y rheilffordd honno i'r dyfodol. Ond yr hyn sy'n werthfawr, yn fy marn i, yw bod llawer o gynnydd wedi bod yn niferoedd y teithwyr sy'n teithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, a mwy yn eu defnyddio nag a welsom ni cyn y pandemig hyd yn oed. Ond mae hyn yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer adferiad a mentrau newydd.

Mae eich pwynt chi am y sefyllfa a ddaeth i'r amlwg o ran cadeirlan Bangor yn bwysig—yn bwysig iawn. Nid oes gennym y pwerau i orfodi'r Eglwys yng Nghymru, nac unrhyw sefydliad ffydd arall, i gomisiynu ymchwiliad annibynnol. Rwy'n edrych ymlaen at gael gohebiaeth oddi wrthych chi ynglŷn â'r mater hwn. Ond mae disgwyliadau amlwg gennym ni o ran sefydliadau yng Nghymru y byddan nhw'n dilyn gweithdrefnau diogelu Cymru ac yn hysbysu am bob honiad o gamdriniaeth i'r awdurdodau priodol mewn da bryd. Felly, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod archwiliad annibynnol wedi cael ei gomisiynu gan yr Eglwys yng Nghymru a gwblhawyd gan Thirtyone:eight. Mae swyddogion wedi cwrdd â Thirtyone:eight i drafod eu canfyddiadau ac archwilio gwaith pellach y gellir ei wneud. Ond rwy'n edrych ymlaen at glywed oddi wrthych chi o ran fy nghyfrifoldebau gweinidogol i o ran materion ffydd yng Nghymru.

14:35

Roedd Diwrnod Aer Glân yr wythnos diwethaf ac fe gefais i ddata oddi wrth Aer Iach Cymru, sydd wedi edrych ar ansawdd aer o gwmpas ysgolion. Mae'r data hyn yn dangos bod nitrogen ocsid a mater gronynnol yn rhy uchel ar gyfer 65,000 o ddisgyblion yng Nghymru, a hefyd, mewn 20 ysgol yng Nghasnewydd, mae'r ffigurau yn uwch na chanllawiau blynyddol Sefydliad Iechyd y Byd, ac mae hyn wrth gwrs yn gwneud yr amgylcheddau hynny'n anniogel i blant anadlu ynddyn nhw. Fe all amlygiad hirdymor ar lefel isel hyd yn oed achosi llid anadlol, gwaethygu asthma ac amharu ar weithrediad yr ysgyfaint, yn enwedig ymhlith plant ac oedolion hŷn. Mae amlygiad i lygredd aer yn gysylltiedig hefyd â chynnydd yn y niferoedd sy'n mynd i mewn i ysbyty ar gyfer asthma. A gawn ni datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut maen nhw'n bwriadu mynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon, fel bydd pob ysgol, a'r ardaloedd ynddyn nhw ac o'u cwmpas nhw, yn bodloni canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd?

Yn ail, yr wythnos diwethaf, fe ddaeth—

Iawn. Mae'n ymwneud â thwrnamaint cwpan y byd ar gyfer feteraniaid yn Japan ym mis Hydref. Mae pedwar etholwr wedi gofyn i mi a fyddai hi'n bosibl iddyn nhw gael cymorth ariannol i gystadlu yn y twrnamaint clodfawr hwnnw. O ystyried menter Cymru a Japan 2025, tybed a ellid archwilio hynny o ran pa gymorth a allai fod ar gael, yn enwedig o ystyried mai'r rhai dros 70 oed yw pencampwyr y byd.

Diolch yn fawr, John Griffiths. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â mater ansawdd aer, yn arbennig felly o amgylch ein hysgolion, a chodi ymwybyddiaeth o lygredd aer. Rydym ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r effeithiau ar iechyd, yn enwedig o amgylch ysgolion. A chyn bo hir, fe fyddwn ni'n mynd i ymgynghoriad ar ddrafft i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynllun cyflawni llygredd aer, y bydd yn rhaid ei ddatblygu gyda'n rhanddeiliaid ni, ac mae hi'n amlwg mai'r rhain fydd ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion ni. Felly, strategaeth ansawdd aer genedlaethol Cymru, 'Cynllun Aer Glân i Gymru', sy'n sbarduno'r gwelliannau o ran ansawdd aer a'r dyletswyddau sydd ar Weinidogion Cymru i bennu nodau cenedlaethol newydd o ran ansawdd aer. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn o ran targedau a chyfleoedd, o ran dyletswyddau hefyd ar Weinidogion Cymru. Felly, diolch am godi hynny o ran ysgolion yn arbennig felly, nid yn unig yn eich etholaeth chi, ond ledled Cymru.

O ran cymorth ariannol, rwy'n credu ein bod ni wedi cael pobl yn cysylltu â ni'n gyson yn gofyn am gymorth ariannol i rai sy'n cystadlu ledled y byd. Rydych chi wedi canolbwyntio ar y cyswllt rhwng Cymru a Japan o ran cwpan y byd a'r cystadleuwyr llwyddiannus hynny. Fe fyddwn i'n awgrymu efallai y dylid cyfeirio hyn at y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau—chwaraeon, wrth gwrs—a Phartneriaeth Gymdeithasol. Ond mae'n wir hefyd fod hyn yn gyswllt rhwng Cymru a Japan, ac fe wn i fod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod yn ymgysylltu â'r digwyddiadau hynny ac yn cynllunio ar eu cyfer nhw hefyd.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gennych chi, os gwelwch chi'n dda, yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ar swyddogaeth y celfyddydau cynhwysol dan arweiniad pobl anabl yng Nghymru. Ddydd Iau diwethaf, fe gefais i'r fraint o fynychu Let Life Dance, y cynhyrchiad cyntaf gan Humans Move, cwmni dawns proffesiynol dan arweiniad pobl anabl a sefydlwyd gan y coreograffydd o Aberhonddu, Jessie Brett. Roedd y perfformiad a gynhaliwyd yn Theatr Brycheiniog yn deimladwy iawn. Roedd yn ddathliad grymus o greadigrwydd a chydnerthedd. Mae Let Life Dance yn dangos i ni'r hyn sy'n bosibl pan fo cynhwysiant wrth wraidd mynegiant artistig. Ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na pherfformiad, mae'n ymwneud â chyflogaeth, gwelededd a'r neges yr ydym ni'n ei chyfleu am bwy sy'n perthyn i fywyd cyhoeddus a'n diwylliant ni. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twf sefydliadau celfyddydol cynhwysol, dan arweiniad pobl anabl, a chreu cyfleoedd cyflogaeth mwy amrywiol i bobl anabl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys. Diolch yn fawr iawn.

14:40

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch i chi am rannu'r enghraifft wych honno o weithgaredd celfyddydol cynhwysol, dan arweiniad pobl anabl yng Nghymru o'ch etholaeth chi, gyda'r perfformiad a welsoch chi yn Theatr Brycheiniog. Mae'n beth rhagorol fod Let Life Dance yn gysylltiedig â'r cynllun yr ydym ni newydd ei lansio ar gyfer ymgynghoriad, sef y cynllun hawliau pobl anabl. Felly, fe fyddwn i'n falch iawn pe byddech chi'n anfon hwn i mewn fel enghraifft o sut y dylem ni fod yn cefnogi'r mentrau hyn, ar draws y Llywodraeth. Mae hyn ymwneud â'm portffolio i, ac fe fyddwn i'n croesawu hynny'n fawr iawn ac yn cynnwys hynny fel ymateb, gyda'ch cefnogaeth chi. Ond rwyf i o'r farn hefyd fod hyn yn cysylltu â buddsoddiadau Cymru Greadigol o ran cyfleoedd gwaith, dim ond i dynnu sylw at y ffaith fod Cymru Greadigol yn buddsoddi mewn cyfleoedd cyflogaeth sy'n werthfawr, ond yn enwedig wrth ystyried ffyrdd y gall gefnogi gweithgareddau creadigol amrywiol hefyd. Yn sicr, fe fyddaf i'n edrych ar hynny o ran cyfleoedd cyflogaeth, oherwydd fe fydd hwnnw'n llwybr pwysig iawn i gyflogaeth ar gyfer pobl anabl a phobl ifanc.

A gaf i ategu'r galwadau a wnaeth Heledd Fychan yn gynharach ynglŷn ag Ysbyty Athrofaol Cymru, yn arbennig o ran y cyflwr ofnadwy y mae ynddo nawr gyda'r toeau yn gollwng dŵr, a'r adroddiad diweddar ar gyflwr y theatrau yn tynnu sylw at golomennod yn y theatrau hynny a materion eraill o ran cynnal a chadw? Roedd cynlluniau yn bodoli yn ôl yn 2020 ar gyfer cyflwyno cynigion i uwchraddio'r Ysbyty Athrofaol, ac yn wir, ar gyfer adeiladu ysbyty newydd, ac roedd Llywodraeth Cymru yn rhan annatod o'r cynigion hynny. Yn ystod y misoedd diwethaf, fe aeth hi'n dawel iawn o ran y cynigion hyn. Felly, mae hi'n bwysig ceisio deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â'r bwrdd iechyd, yn ei wneud i trwsio'r ysbyty fel ei fod yn uned addas i'r diben, ond gan ddod ag adnoddau ymlaen yn yr hirdymor fel y gellir addasu a darparu ysbyty newydd a chyfleusterau ar y safle hwnnw.

Diolch yn fawr iawn i chi, Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, fe fu yna adroddiadau, fel roeddech chi'n tynnu sylw atyn nhw, o ran darpariaethau theatr a seilwaith a rheolaeth. Ond, fel dywedais i wrth ymateb i'r cwestiwn gan Heledd Fychan, mae hyn i gyd yn rhan o'r cyfle sydd gennym ni nawr gyda'n rhaglen gyfalaf ar gyfer iechyd. Mater i'r bwrdd iechyd, fel rydych chi'n dweud, sef i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw dwyn hyn yn ei flaen i raddau helaeth iawn. Ond, yn anochel, o ran y prosiect enfawr o ailosod neu ailddatblygu safle Ysbyty Athrofaol Cymru mewn gwirionedd, yna fe fydd yn rhaid cwblhau gwaith i sicrhau bod y safle a'r ysbyty yn addas i'r diben, a chydnabod bod hynny'n ymwneud â staff a chleifion.

Fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gamau i atal canser ceg y groth. Mae canser ceg y groth yn parhau i fod un o'r canserau mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc a phobl â cheg y groth dan 35 oed yng Nghymru. Ond er gwaethaf y galwadau mynych gan Blaid Cymru ac elusennau canser i gyflwyno pecynnau hunan-sgrinio Feirws Papiloma Dynol—dull profedig o sgrinio y mae dros hanner yr unigolion cymwys yn ei ffafrio o'i gymharu â'r prawf tradodiadol—ni welsom ni unrhyw gynlluniau cyhoeddedig. Fe wyddom ni mai'r Feirws Papiloma Dynol sy'n gyfrifol am dros 99 y cant o achosion o ganser ceg y groth, ac fe wyddom ni y gall canfyddiad cynnar trwy sgrinio leihau'r risg honno hyd at 70 y cant. Y llynedd, fe ddangosodd cynllun treialu llwyddiannus ym mwrdd iechyd Hywel Dda y gall hunan-samplu ar gyfer Feirws Papiloma Dynol gynyddu'r defnydd yn sylweddol. Heddiw, fe glywsom ni'r Ysgrifennydd iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr yn cyhoeddi y bydd unigolion sy'n oedi cyn cyflwyno ei hunain ar gyfer sgrinio yn cael cynnig y dewis nawr i wneud prawf gartref. Gellir atal canser ceg y groth, ac mae gan Gymru gyfle nawr i wneud yn siŵr y byddwn ni'n dal i fyny â Lloegr yn hyn o beth. Felly, a gawn ni glywed oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflwyno pecynnau hunan-samplu Feirws Papiloma Dynol?

14:45

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt mor bwysig o ran atal ac iechyd menywod. Felly, rwy'n edrych ar y cynllun iechyd menywod—y cynllun 10 mlynedd—sydd â 60 o gamau gweithredu eisoes, ond fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant ymateb, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i ni ynglŷn â sefyllfa Cymru o ran canlyniad y cynllun treialu, a gynhaliwyd yn Hywel Dda, a'r cyhoeddiadau a'r datblygiadau newydd wedyn sy'n dod drwodd, fel rydych chi'n dweud, heddiw, oddi wrth Lywodraeth y DU. Fe fyddaf i'n gofyn am rannu'r ymateb hwnnw gyda'r Senedd. 

Mae John Griffiths wedi codi'r pryderon am lygredd aer y tu allan i ysgolion eisoes. Roeddwn i'n awyddus i ddilyn oddi ar hynny a gofyn pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau ar gyfer moduron yn segura sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf aer glân a seinweddau, oherwydd, rwy'n ofni, yn fy etholaeth i, mae nifer enfawr o bobl yn anwybyddu'r rheoliadau sy'n mynegi bod segura yn weithgaredd peryglus iawn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd hawdd o ddirwyo pobl am wneud y peth anghymwys a gwireddu'r newid hwnnw o ran ymagwedd at wneud rhywbeth sy'n hollol ddibwrpas. Felly, tybed a wnewch chi roi dyddiad i ni o ran pryd y bydd y rheoliadau ar segura yn cael eu cyhoeddi, er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gallu rhoi dirwyon am hynny.

Diolch i chi, Jenny Rathbone. Wrth gwrs, fel gwnaethom ni ei drafod eisoes wrth ateb cwestiynau, llygredd aer yw'r risg amgylcheddol fwyaf o hyd i iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, trafnidiaeth ar ffyrdd yw prif ffynhonnell o lygredd aer o ran llygryddion niweidiol, fel ocsidau nitrogen a mater gronynnol. Mae hi'n drosedd—segura modur llonydd, fel rydych chi'n dweud—gadael i injan droi yn segur ar ôl parcio. Mae hi'n drosedd a all deilyngu hysbysiad cosb benodedig o £20 yn unol â Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosb Benodedig) 1997, ond nid ydym ni o'r farn fod hyn yn ddigon mawr i gynrychioli ataliad cryf. Mae adran 24 o Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn rhoi pwerau i Weinidogion ragnodi, drwy reoliadau, ystod o gosbau am y drosedd bresennol o adael i fodur llonydd segura. Felly, o ran amseroedd, y mis nesaf fe fyddwn ni'n ymgynghori ar y rheoliadau hynny i gyflwyno ystod newydd o gosbau penodedig, rhwng £40 a £80 o bosibl, a fyddai'n caniatáu i ddirwyon mwy fod yn gymwys mewn ardaloedd risg uchel, fel ysgolion—gan ymateb i'r cwestiynau cynharach am lygredd aer o amgylch ysgolion—ond hefyd o ran ysbytai a chartrefi gofal. Felly, dyna'r data, ac rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, fe fyddwn ni'n cael ymateb llawn i hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi roi'r manylion hynny heddiw, a diolch i chi am godi hyn, er mwyn i'r Aelodau fod yn barod ac yn ymwybodol o'r angen i ymateb i'r ymgynghoriadau hynny ar reoleiddio.

Trefnydd, mae llawer o drigolion yn mynd yn fwyfwy pryderus am fod mannau gwyrdd cyhoeddus er budd y gymuned wedi cael eu gorddefnyddio gan gynghorau ar gyfer gweithgareddau na chawson nhw eu cynllunio ar eu cyfer yn wreiddiol, ar gyfer gwyliau a digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn arbennig. Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig yn cyfyngu ar fynediad y cyhoedd, yn enwedig ar gyfer clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, ond yn denu torfeydd mawr hefyd sy'n gallu niweidio'r amgylchedd lleol a gadael yr ardal mewn cyflwr bregus. Un enghraifft gyfredol yw Caeau y Gored Ddu yng Nghaerdydd, man gwyrdd cyhoeddus rhestredig gradd I. Mae Cyngor Caerdydd yn eu defnyddio i gynnal cyfres o gyngherddau rhwng 27 Mehefin a 21 Gorffennaf, yn ystod cyfnod pan fo trigolion yn fwyaf tebygol o'u defnyddio. Mae wal 10 troedfedd wedi cael ei chodi o amgylch y safle hefyd, gan wneud iddo deimlo yn fwy fel carchar na pharc cyhoeddus. Yng ngoleuni hyn, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol ddarparu datganiad ar ddefnydd priodol o fannau cyhoeddus ar gyfer gwyliau a digwyddiadau? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James. Rydych chi'n tynnu sylw at ddigwyddiadau, llawer ohonyn nhw'n noddedig, neu wedi eu trefnu neu eu cynnig, neu a gynllunnir gan sefydliadau allanol o ran y diwydiant cerddoriaeth, sy'n amlwg yn denu diddordeb mawr o du'r cyhoedd ac yn tynnu ymwelwyr. Felly, mae hi'n bwysig iawn fod yr awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r effaith ac, wrth gwrs, fod y cyfrifoldebau a'r rheoliadau ganddyn nhw i roi arweiniad iddyn nhw ynglŷn â'r materion hyn.

Trefnydd, dan gynlluniau'r GIG ar gyfer y 10 mlynedd nesaf yn Lloegr, a diolch i gamau cychwynnol gan David Cameron, yn ôl pan oedd ef yn Brif Weinidog, fe fydd babanod newydd-anedig yn cael mapio eu DNA i asesu eu risg o ran cannoedd o glefydau. Fe fydd hyn yn drawsnewidiol ar gyfer rhoi diagnosis ac ymateb i glefydau, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno bod hwn yn waith cyffrous iawn. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan £650 miliwn o fuddsoddiad mewn ymchwil DNA ar gyfer pob claf erbyn 2030. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan yr Ysgrifennydd dros iechyd ar ba drafodaethau a gafodd ef gydag aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno hyn yng Nghymru hefyd. Diolch.

14:50

Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones. Mae hi'n ddiddorol bob amser i glywed am ddatblygiadau a allai fod yn dechrau mewn rhan arall o'r DU. Maen nhw'n dechrau yng Nghymru weithiau, yn Lloegr neu'r Alban weithiau. Mae ymchwil DNA yn amlwg wedi cyrraedd y penawdau a'r effaith y gallai hynny ei gael ar fabanod newydd-anedig, felly rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno diweddaru ac, wrth gwrs, nid yn unig o ran ei gyfleoedd ef gyda'i gwestiynau llafar, ond rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i roi diweddariad, yn wir, i ni am y datblygiad hwn. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn datganiad ar ddatblygiadau diweddar gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol o ran eu gwaith nhw yn rhwystro gweithgareddau anghyfreithlon, yn bennaf, o ran penawdau, o ran siopau barbwr dros dro yn ein cymunedau ni ledled Cymru. Rwy'n gofyn am ddatganiad mewn cyd-destun datganoledig gan Lywodraeth Cymru ynghylch a ydyn nhw'n cytuno â gwneud y system gynllunio yn fwy cadarn ynghylch cystadleuaeth deg ar ein strydoedd mawr er mwyn sicrhau y gall siopau barbwr gwirioneddol sy'n dymuno agor ar ein strydoedd mawr ni ffynnu os yw pobl eisiau gwneud y pethau hynny, ond heb gael eu clymu gan yr un amheuon o ran yr hyn y mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd. Felly, rwy'n ceisio datganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan fod aelodau o'ch Llywodraeth chi wedi fy nifenwi yn bersonol am godi hyn yn y Senedd y llynedd, ond fe welsom ni'r cynnydd yn hynny o beth yn ystod y misoedd diwethaf, a datganiad gan Lywodraeth Cymru hefyd ynghylch a ydyn nhw'n cytuno y dylai newidiadau yn y broses gynllunio ynghylch cystadleuaeth deg ymhlith siopau o'r fath fod yn amlwg drwy'r system gynllunio a'r canllawiau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae hwn yn cael ei drin yn ofalus iawn gan yr awdurdodau lleol o ran eu pwerau a'u cyfrifoldebau nhw o ran cynllunio, o ran tegwch a chystadleuaeth, ac adfywio'r stryd fawr hefyd. Ond, yn amlwg, maen nhw'n gweithio yn agos iawn gyda'u cydweithwyr plismona ac, yn yr achos hwn, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a fydd yn cynghori'r awdurdodau lleol ar lefel strategol hefyd yn ogystal ag ar lefel leol.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Swyddi

Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar swyddi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans. 

Mae hi'n bleser annerch yr Aelodau heddiw i fyfyrio ar y cynnydd ystyrlon a sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn dal i'w wneud wrth ysgogi economi gryfach, tecach a gwyrddach i Gymru. Ers dechrau tymor y Senedd hon, mae Busnes Cymru wedi ymdrin â 185,000 o ymholiadau, sy'n dangos pa mor fawr yw'r angen a'n hymrwymiad ni i'w ddiwallu. Mae hyn wedi trosi i gefnogaeth uniongyrchol i 28,000 o fusnesau ac entrepreneuriaid. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod gan fusnesau sy'n ymgysylltu â Busnes Cymru gyfraddau gwell o oroesiad. Yn gyfochrog â hyn, drwy gefnogaeth gydgysylltiedig drwy gyfrwng Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a chronfa dyfodol yr economi, rydym ni wedi cefnogi creu neu ddiogelu dros 40,000 o swyddi yn uniongyrchol. Cyfleoedd gwirioneddol yn ein cymunedau ni yw'r rhain ac sy'n tystiolaethu i Lywodraeth sy'n benderfynol nid yn unig i ymateb i heriau economaidd, ond i lunio'r dyfodol mewn ffordd sy'n gweithio er mwyn pobl ym mhob cwr o Gymru.

Nid yw cynnydd wedi bod heb ei anawsterau. Rydym ni'n dal i deimlo effeithiau economaidd parhaus Brexit, pandemig COVID-19 a'r pwysau rhyngwladol parhaus. Eto, er gwaethaf yr heriau hyn, mae economi Cymru yn dangos cydnerthedd rhyfeddol ac adnewyddiad hyder. Nid adferiad yn unig yw'r hyn a welwn ni, mae hwn yn drawsnewidiad i fodel economaidd mwy cynaliadwy, cynhwysol a deinamig. Mae ein cefnogaeth ni'n golygu mwy nag ymyrraeth fyrdymor. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ganolbwyntio ar ddylanwad hirdymor. Mae'n ymwneud â sefydlu'r amodau cywir drwy fuddsoddi mewn seilwaith, cynllunio rhanbarthol strategol a phartneriaeth gymdeithasol gadarn i alluogi busnesau Cymru, nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Rydym ni'n gosod sylfeini economi fodern sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n huchelgais. Ac mae ein huchelgais ni'n eglur: bod yr economi yn cyflawni er mwyn Cymru gyfan ac yn sicrhau bod cyfleoedd, ffyniant a datgarboneiddio yn mynd law yn llaw â'i gilydd.

Mae Busnes Cymru, gan weithio yn agos gyda'n timau arloesi a'r economi ranbarthol, ac mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r ecosystem ehangach, yn dal i fod mewn sefyllfa dda i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau ar bob cam o'u taith. Gyda'n gilydd rydym ni'n helpu busnesau i gynyddu eu hallforion, recriwtio talent, mabwysiadu arferion gwaith teg, datgarboneiddio gweithrediadau, a chael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer llwyddo. Enghraifft o'r bartneriaeth hon yw EvaBuild Cyfyngedig yn y Drenewydd, sef busnes peirianneg sifil a gwaith tir sy'n cefnogi prosiectau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat ledled y DU. Gyda chefnogaeth gan Busnes Cymru, mae'r cwmni wedi creu 32 o swyddi newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n arddangos effaith wirioneddol a lleol ein gwasanaethau cymorth ni.

Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i fod â rhan gynyddol bwysig yn ein strategaeth economaidd. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae wedi cefnogi mwy na 18,000 o swyddi drwy roi dros £512 miliwn o fuddsoddiad, gan alluogi busnesau ledled Cymru i dyfu, arloesi a chreu swyddi drwy ddarparu mynediad at gyllid. Mae hyn yn hanfodol o ran sicrhau bod yr offer sydd ei angen ar gael gan fusnesau i lwyddo a pharhau i fod yn wreiddiedig yn eu cymunedau lleol. Fe welsom ni hyn yn Rhondda Cynon Taf, lle mae Mallows Beverages and Bottling, sef busnes diodydd ysgafn teuluol, wedi cael cymorth drwy Busnes Cymru, buddsoddiad gan y banc datblygu, a chefnogaeth gan dîm eiddo Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf. O ganlyniad i hynny, maen nhw wedi ehangu i gyfleuster mwy, wedi cymryd contractau sylweddol yn y DU a chreu 40 o swyddi, gan roi hwb i gyflogaeth leol a'r economi ranbarthol.

Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni gefnogi modelau newydd a chynhwysol o berchnogi busnes hefyd a fydd yn cadw eu gwerth ac yn gwneud penderfyniadau a gaiff eu gwreiddio mewn cymunedau lleol. Un enghraifft ysbrydoledig yw Asiantau Tai Dafydd Hardy, a aeth i berchnogaeth ei weithwyr, gyda chefnogaeth oddi wrth Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae ganddyn nhw bum swyddfa yn y gogledd ac maen nhw'n cyflogi 65 o staff, a nhw yw'r asiantaeth tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr. Mae hyn yn golygu y bydd swyddi yn aros yn gadarn yn y gymuned leol. Mae hynny'n rhoi cyfran wirioneddol i weithwyr yn y dyfodol, ac mae'n ardddangos sut y gall busnes arloesi nid yn unig gyda'i gynhyrchion, ond o ran perchnogaeth hefyd.

Mae arloesi, ymchwil a datblygu yn ganolog i'n strategaeth ni hefyd. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Hexigone Inhibitors yn datblygu technoleg wrthgyrydu arloesol, gyda chymwysiadau mewn awyrofod, amddiffyn ac ynni adnewyddadwy. Mae cefnogaeth gan Busnes Cymru wedi eu helpu nhw i ehangu yn rhyngwladol a chreu swyddi gweithgynhyrchu ac ymchwil â sgiliau uchel mewn ardal a nodwyd ers amser fel un o ddirywiad diwydiannol. Trwy dîm rhanbarthol y gogledd a chronfa dyfodol yr economi rydym ni wedi helpu i sicrhau un o'r mewnfuddsoddiadau mwyaf trawsnewidiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, mae Eren Paper yn ailddatblygu safle melin bapur Shotton yn waith pecynnu cynaliadwy mawr. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn o £600 miliwn greu cannoedd o swyddi newydd, adfywio hen safle diwydiannol, a sefydlu Cymru yn ganolfan ar gyfer gweithgynhyrchu cynaliadwy a'r economi gylchol. Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut yr ydym ni'n cefnogi twf economaidd gwirioneddol heddiw ac yn llunio ei gyfeiriad i'r dyfodol.

Mae ein hymagwedd ni'n dal i ganolbwyntio yn bendant ar y dyfodol, wedi ymwreiddio yng nghynaliadwyedd a'i gynllunio i ddarparu manteision sylweddol i bobl a mannau ledled Cymru. Mae'r weledigaeth hon yn cael ei hatgyfnerthu eto drwy ein hymrwymiad ni i fargeinion dinesig a thwf ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, Abertawe, y gogledd a 'r canolbarth. Mae'r partneriaethau hyn sy'n cael eu harwain yn rhanbarthol yn sbarduno buddsoddiadau integredig hirdymor mewn sgiliau, seilwaith ac arloesi busnes, a'u hategu gan gydweithrediad agos rhwng Llywodraeth y DU a Chymru, yr awdurdodau lleol, busnesau a'n sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol, rydym ni wedi adeiladu dealltwriaeth gyfunol o'n cryfderau, ein heriau a'n cyfleoedd, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r blaenoriaethau yn ein cenhadaeth economaidd er mwyn ysgogi cynhyrchiant, hybu arloesedd, meithrin twf economaidd a chyfleoedd o ran swyddi. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod mentrau fel porthladdoedd rhydd a pharthau buddsoddi yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau yng Nghymru ac yn darparu manteision parhaol i'n cymunedau. Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn eisoes yn ennyn diddordeb mawr oddi wrth gwmnïau sy'n gweithio yn y sectorau morol, ynni a gweithgynhyrchu uwch, sy'n ddiwydiannau allweddol a fydd yn sail i ddyfodol economaidd Cymru a'n pontio at sero net.

Mae ein huchelgais ni'n eglur: adeiladu economi gydnerth, gynhwysol a chynaliadwy sy'n gweithio i bob cwr o Gymru ac er mwyn y cenedlaethau sydd i ddod. Fe ddylem ni fod yn falch o gefnogi 40,000 o swyddi yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i Gymru lle mae swyddi da, busnesau cryf a chymunedau ffyniannus nid yn unig yn bosibl, ond yn ddisgwyliedig.

15:00

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae diffyg brys y mae'r foment hon yn gofyn amdano yn yr hyn rydym ni wedi'i glywed heddiw. Oherwydd y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru a'r DU yn methu deall hanfodion ein heconomi, ac mae pobl Cymru yn cael eu siomi o ganlyniad. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am uchelgais, ond mae uchelgais heb gyflawni yn ddiystyr.

Mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.2 y cant—yn is na chyfartaledd y DU; mae ein cyfradd ddiweithdra yn 4.7 y cant—yn uwch na chyfartaledd y DU; ac mae ein hanweithgarwch economaidd yn 24.2 y cant—yr uchaf ym Mhrydain Fawr. Nid ffigurau haniaethol yw'r rhain. Maen nhw'n brofiad dyddiol gweithwyr a theuluoedd Cymru, pobl sy'n gwneud eu gorau ond yn syrthio ar ei hôl hi oherwydd Llafur.

Tra bod gweithwyr yn cael trafferthion, mae busnesau'n cael eu cosbi. Gan Lafur yn San Steffan, cynnydd niweidiol iawn mewn yswiriant gwladol cyflogwyr, treth ar swyddi, ar adeg pan ddylem fod yn cefnogi cyflogaeth. Gan Lafur ym Mae Caerdydd, y cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain Fawr, datgymhelliad gweithredol rhag tyfu, buddsoddi neu hyd yn oed oroesi fel busnes. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud tro pedol arall, y tro hwn ar gynnydd cyfraniadau yswiriant gwladol er mwyn cefnogi ein crewyr swyddi?

Diolch, Mike, am ateb y cwestiwn yna, oherwydd na, nid ydynt wedi gwneud hynny. Dyma beth sy'n digwydd pan fydd dwy Lywodraeth o'r un lliw yn colli golwg ar realiti economaidd: mae un yn llwytho costau ar y cyflogwyr, tra bod y llall yn eu claddu o dan reoleiddio. Mae'n ymddangos nad yw'r naill na'r llall yn deall beth sydd ei angen i adeiladu economi ffyniannus.

Mae datganiad Llywodraeth Cymru heddiw yn cyfeirio at gyfleoedd yn y dyfodol, ond ble mae'r cyflawni? Cymerwch Wylfa, prosiect sydd â'r potensial i fod yn drawsnewidiol nid yn unig i Ynys Môn, ond i economi Cymru gyfan. Ond rydym yn gweld oedi, gadael i bethau lithro a diffyg cydlynu rhwng y Llywodraethau. Felly, pa gamau pendant sy'n cael eu cymryd i gyflymu cynnydd, ac, yn hanfodol, i arfogi pobl leol â'r sgiliau sydd eu hangen i gymryd mantais? 

Wrth i ni siarad am sectorau hanfodol, gadewch i ni fynd i'r afael â'r argyfwng cynyddol ym maes ffermio yng Nghymru. Mae amaethyddiaeth yn cynnal cymunedau, economïau lleol a diogeledd bwyd ein gwlad, ond mae'r cynllun ffermio cynaliadwy, yn ôl asesiad effaith blaenorol Llywodraeth Cymru ei hun, yn debygol o arwain at golli swyddi. Mae hynny cyn i ni hyd yn oed ystyried treth ffermydd teuluol Llywodraeth y DU, cam cibddall iawn y mae perygl iddo gosbi'r union bobl sydd wedi cadw ein cymunedau gwledig yn fyw ers cenedlaethau. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi wedi gweld, neu a fyddwch yn gweld, yr asesiad effaith economaidd ar y cynllun ffermio cynaliadwy terfynol, ac os yw'n cyfrifo colli swyddi oherwydd y cynllun ffermio cynaliadwy, a fyddwch chi'n gwrthwynebu'r cynllun hwnnw? 

Mae'r un peth yn wir am dwristiaeth. Ym mhob cornel o Gymru, mae twristiaeth yn sail i filoedd o swyddi, nid yn unig mewn gwestai a lletyau gwely a brecwast, ond ym maes manwerthu, trafnidiaeth, bwyd a lletygarwch. Mae busnesau'n dweud wrthyf eu bod ar ymyl y dibyn. Mae costau uchel, prinder staff a phwysau tymhorol i gyd wedi gwneud niwed, a hynny cyn i'r dreth dwristiaeth gael ei chyflwyno. Felly, pa gymorth wedi'i dargedu y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sicrhau bod y cyflogwyr hanfodol hyn yn gallu parhau'n hyfyw a darparu gwaith diogel drwy gydol y flwyddyn?

Mae hyn i gyd yn cysylltu ag un mater canolog: sgiliau. Mae prinder llafur yn dal ein heconomi yn ôl ar draws pob sector: gweithgynhyrchu, gofal, digidol, ynni adnewyddadwy. Eto nid oes cynllun cenedlaethol clir ar gyfer sgiliau. Mae prentisiaethau yn hanfodol, ydynt, ond hefyd ailhyfforddi oedolion, uwchsgilio a chydlynu gwirioneddol rhwng addysg bellach, addysg uwch a diwydiant. Nid oes angen dogfen arall arnom sy'n llawn geiriau ffasiynol. Mae angen system sgiliau wedi'i chreu ar gyfer yr economi fodern: yn hyblyg, yn ymatebol ac wedi'i halinio â galw gwirioneddol cyflogwyr.

Dirprwy Lywydd, mae hyder yn isel, a pham na fyddai? Codiadau treth gan Lafur yn San Steffan, biwrocratiaeth gan Lafur ym Mae Caerdydd. Dwy Lywodraeth yn siarad am dwf gan ei dagu'n ymarferol. Mae angen i ni newid cwrs. Mae angen Llywodraeth o blaid twf, o blaid menter arnom. Mae angen eglurder, cysondeb, ac, yn anad dim, arweinyddiaeth sy'n rhoi economi Cymru yn gyntaf, nid fel ôl-ystyriaeth, ond fel blaenoriaeth genedlaethol go iawn. Oherwydd heb hynny, bydd ein swyddi, ein diwydiannau a'n cymunedau yn parhau i ddioddef, nid oherwydd diffyg potensial, ond oherwydd methiant ewyllys gwleidyddol. Ers 26 mlynedd, mae Llafur wedi cael eu cyfle yng Nghymru, ac wedi ein gadael yn dlotach. Felly, yn olaf, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i Lafur gamu o'r neilltu, oherwydd maen nhw'n amlwg wedi methu?

15:05

Rwyf am ddechrau trwy ateb y cwestiwn olaf yna. Yn amlwg, yr ateb yw 'na'. Mae hynny'n dod â mi yn ôl at y cyfraniadau cyntaf yr oedd yr Aelod yn eu gwneud. Roeddwn i'n siomedig iawn eto y prynhawn yma i glywed meinciau'r Ceidwadwyr yn adrodd y ffigurau ynghylch ystadegau y farchnad lafur ar anweithgarwch economaidd. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun wedi dweud y dylid trin y ffigurau hynny'n ofalus ac nad ydynt bellach yn ystadegau swyddogol—dim ond ystadegau sy'n cael eu datblygu. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus wrth ddefnyddio ystadegau, oherwydd mae pobl yn ymddiried ynom i fod yn agored gyda nhw o ran yr wybodaeth a'r ffeithiau sy'n eistedd y tu ôl i'r dadleuon rydym ni'n eu gwneud. Rwy'n credu mai'r stori go iawn a'r peth gwirioneddol bwysig i feddwl amdano pan fyddwn ni'n edrych ar anweithgarwch economaidd yw mai un o straeon mawr datganoli yw'r ffordd y mae'r bwlch hwnnw wedi'i gau ac yn cau dros amser. Dyna un o lwyddiannau'r dulliau rydym ni wedi'u mabwysiadu yma.

Gofynnodd yr Aelod lawer o gwestiynau i mi mewn cysylltiad â'r hyn rydym ni'n gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud. Roeddwn i'n ceisio bod yn glir iawn yn fy natganiad y prynhawn yma fy mod yn canolbwyntio ar y camau rydym ni'n eu cymryd yma yng Nghymru, y pwerau sydd gennym yma, yr ysgogwyr sydd gennym yma, yn benodol ynghylch cronfa dyfodol yr economi, Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, sydd i gyd, rwy'n credu, wedi perfformio'n hynod o dda o ran gwasanaethu anghenion ein cymunedau yng Nghymru.

Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â chyfraddau annomestig. Mae hynny'n faes lle mae gennym gyfrifoldeb yma yng Nghymru. Rwy'n credu, eto, ei bod yn bwysig iawn cydnabod y gefnogaeth enfawr rydym ni wedi'i rhoi i gefnogi busnesau gyda'u cyfraddau annomestig. Mae tua £0.33 biliwn o bunnau mewn cymorth yn y flwyddyn ariannol hon yn mynd i fusnesau, ac mae tua 85,000 o eiddo yng Nghymru yn cael rhyddhad llawn neu rannol. I roi hynny mewn ffordd arall, bydd llai na thraean o eiddo yn denu'r cyfraddau llawn. Mae ein rhyddhad ardrethi busnesau bach yn unig yn cefnogi talwyr ardrethi mewn tua 70,000 eiddo. Mae tua 50,000 o'r rheiny yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100 y cant. Felly, mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau rydym ni wedi'u gwneud i fuddsoddi mewn busnesau trwy roi cymorth iddynt trwy'r system ardrethi annomestig.

Mae un o'r ffyrdd rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU yw ymwneud â'r strategaeth ddiwydiannol, a bydd cyd-Aelodau wedi cael cyfle i astudio honno, ers iddi gael ei chyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon. Fe wnaethom weithio'n galed iawn i nodi'r sectorau hynny yng Nghymru lle rydym yn gweld bod cyfleoedd sylweddol i dyfu, yn enwedig ynghylch gweithgynhyrchu uwch, amddiffyn, technoleg a deallusrwydd artiffisial, a diwydiannau creadigol, er enghraifft—pob un o'r rhain yr ydym ni'n credu eu bod eisoes yn feysydd lle mae gennym gryfderau penodol yng Nghymru, ond lle gallwn dyfu. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y strategaeth ddiwydiannol hefyd yn cynnwys nifer o gamau gweithredu penodol i Gymru lle bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi yma. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r strategaeth ddiwydiannol honno, sy'n fy marn i'n nodi gweledigaeth gref iawn ar gyfer dyfodol diwydiant yn y DU gyfan, ond hefyd yn arbennig yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn falch iawn o'r gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud i gefnogi'r sector bwyd. Roedd sawl cwestiwn mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth. Yn sicr, trwy'r ysgogwyr sydd gennym yn adran yr economi, a hefyd trwy waith fy nghyd-Ysgrifennydd Huw Irranca-Davies, rydym wedi bod yn cefnogi cynlluniau buddsoddi cyfalaf yn y sector bwyd, y cynllun arloesi busnes bwyd, ac yna ei olynydd, y cynllun cyflymu busnes bwyd. Roedd hynny'n diogelu dros 3,000 o swyddi a chreu dros 1,800 o swyddi, gan ddarparu buddsoddiadau i weithgynhyrchwyr bwyd ers i'r cynlluniau hynny gael eu cyflwyno.

Ers 2023, rydym wedi cael y cynllun arloesi strategol, sy'n cefnogi rhaglen HELIX; Enterprise for Success, sef Cywain; y rhaglen glwstwr; a sgiliau a rhaglenni Scale-Up for Success. Maent wedi creu dros 225 o swyddi ac wedi diogelu dros 7,000 o swyddi, gan gefnogi datblygiad dros 550 o gynhyrchion newydd, a chynorthwyo dros 650 o fusnesau bwyd a diod. Bydd cyd-Aelodau yn gyfarwydd â'r rhaglen glwstwr, sydd â dros 100 o aelodau yn y sector bwyd. Unwaith eto, mae'r rhain i gyd yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y sector hwnnw'n ffynnu. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o gyd-Aelodau yn cytuno bod ein sector bwyd a diod yn un o'r tlysau yng nghoron ein heconomi, ac yn enwedig felly pan edrychwn ar y gwaith rydym ni'n ei wneud i gefnogi'r busnesau hynny gyda'u hallforion.

Rwyf hefyd eisiau crybwyll twristiaeth. Cafwyd cais penodol am wybodaeth am ba gymorth uniongyrchol rydym ni'n ei ddarparu i'r sector twristiaeth. Mae Croeso Cymru yn cefnogi creu swyddi drwy gronfa fuddsoddi twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn. Mae hynny'n cael ei wneud mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, ac mae hynny'n darparu pecynnau benthyciadau a grantiau i fusnesau twristiaeth. Erbyn diwedd y llynedd, roedd £27 miliwn o gyllid wedi'i ymrwymo i'r sector, felly mae cyfleoedd pellach i'r sector gael mynediad at y cyllid hwnnw.

Roedd cwestiwn am gymorth wedi'i dargedu. Fe wnaethom ni wrando'n ofalus ar y sector. Beth ddywedodd y sector twristiaeth wrthym ynghylch eu hanghenion? Soniodd atyniadau twristiaeth am effaith y tywydd ar eu busnesau, felly fe wnaethom gyflwyno cronfa gwrthsefyll tywydd benodol ar gyfer y busnesau hynny, sydd, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi cael croeso mawr.

15:10

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw, sy'n creu darlun o lwyddiant unffurf. Ond mae realiti bywyd mewn llefydd fel y Cymoedd, Cymru wledig a chymunedau ôl-ddiwydiannol yn adrodd stori wahanol iawn. Mae ein bylchau economaidd yn tyfu, nid yn culhau.

Yn ei datganiad, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y diddordeb cynyddol mewn ardaloedd porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, gofynnais gwestiynau yn benodol ynghylch pam mae'r amcanestyniadau swyddi hynny a gyhoeddwyd gyntaf o ran y cynigion porthladdoedd rhydd wedi cael eu hisraddio hyd at 30 y cant. Ni chawsom ateb yr wythnos diwethaf. Efallai y cawn ni ateb heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

Ond yr hyn yr wyf eisiau canolbwyntio arno mewn gwirionedd yw adroddiad yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch gwaith a wnaed gan Busnes Cymru a'r banc datblygu, oherwydd er y gallai'r ffigurau a gyflwynir yn y datganiad ymddangos yn drawiadol ar yr wyneb, maen nhw mewn gwirionedd yn gofyn am waith craffu pellach ac yn codi cwestiynau dyfnach am effeithiolrwydd cyffredinol y sefydliadau hyn a sut rydym yn mesur eu llwyddiant.

Er enghraifft, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn tynnu sylw at Busnes Cymru yn darparu cymorth uniongyrchol i 28,000 o fusnesau, neu'r banc datblygu yn cefnogi 18,800 o swyddi, ond yr hyn sy'n parhau i fod yn gwbl aneglur yw a yw'r ffigurau hyn yn adlewyrchu cynnydd ystyrlon. Heb dargedau clir, heb feini prawf llwyddiant clir, nid ydym yn gwybod a yw'r banc datblygu neu Busnes Cymru yn cyflawni eu potensial mewn gwirionedd, ac nid yw'r pryder hwnnw'n newydd.

Mae'r adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y banc datblygu, a gyhoeddwyd bron i flwyddyn yn ôl, wedi gwneud cyfres o argymhellion adeiladol a manwl i wella ei swyddogaethau, llywodraethu a thryloywder. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o'r argymhellion hyn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Felly, pa gynnydd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion hynny?

Tynnodd y pwyllgor sylw at yr angen i'r banc datblygu chwarae rôl fwy amlwg mewn cynllunio olyniaeth a pherchnogaeth gweithwyr, sy'n allweddol i ymgorffori cydnerthedd hirdymor a gwerth lleol yn ein heconomi. Felly, pa gamau ymarferol sydd wedi'u cymryd mewn ymateb i'r argymhelliad hwnnw?

Er fy mod hefyd yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi crybwyll bod Asiantau Tai Dafydd Hardy yn trosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr, dylai hwn fod yn fwy na dim ond anecdot wrth fynd heibio; dylai fod yn gonglfaen allweddol o'n meddylfryd economaidd. Dangoswyd dro ar ôl tro fod perchnogaeth gweithwyr a phryniant gan weithwyr yn gwella cydnerthedd busnes, rhoi hwb i gynhyrchiant ac ymgorffori cyfoeth yn ein cymunedau. Maent yn ffyrdd profedig o ddiogelu swyddi yn ystod trosglwyddo busnesau rhwng cenedlaethau a sicrhau bod cwmnïau'n parhau i fod wedi'u gwreiddio yng Nghymru, yn hytrach na chael eu gwerthu i brynwyr allanol a allai dynnu asedau neu adleoli gweithrediadau.

Yn 2023, roedd cyfanswm o 44 o bryniannau gan weithwyr wedi'u cwblhau yng Nghymru, a dim ond tri ohonynt oedd wedi eu cefnogi'n uniongyrchol gan y banc datblygu. Mae gan y rhain rôl allweddol ond sydd heb ei datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd, a byddwn yn awyddus i glywed barn yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag ymyrraeth fwy rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i'w cefnogi.

Dirprwy Lywydd, i gloi ac i fod yn glir iawn, nid oes unrhyw un o'r cwestiynau hyn yno i gwestiynu angen neu werth sefydliadau fel Busnes Cymru neu'r banc datblygu, dim ond i ddweud, os ydym am roi pwysigrwydd mor ganolog i'r ysgogwyr hyn, mae angen i ni fynnu eglurder hefyd. Mae angen i ni fynnu trylwyredd ac mae angen i ni fynnu tystiolaeth eu bod yn cyflawni'n wirioneddol i Gymru, nid yn unig mewn penawdau neu astudiaethau achos unigol, ond yn gyffredinol ac yn unol â'n huchelgeisiau economaidd strategol—yn yr achos hwn, mewn cysylltiad â diogelu a chreu swyddi ystyrlon.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, rydw i newydd ysgrifennu at bwyllgor yr economi i'w hysbysu fy mod yn ymgymryd â'r darn o waith y cyfeiriais ato yn un o'r sesiynau craffu blaenorol, a oedd yn y bôn yn adolygiad mewnol o'n cymorth busnes, felly Busnes Cymru a'r banc datblygu, dim ond i wirio, mewn gwirionedd, ein bod yn dal i fod yn addas i'r diben, ein bod yn cydnabod natur newidiol ein heconomi, a'n bod yn barod i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau, drwy'r strategaeth ddiwydiannol, ond yna hefyd trwy'r ffyrdd y mae ein cymdeithas yn newid o amgylch y defnydd o AI, er enghraifft, gan wneud yn siŵr bod busnesau'n gallu defnyddio'r holl fanteision a fydd yn dod yn ei sgil.

Felly, y darn hwnnw o waith y byddaf yn siŵr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf amdano i'm cyd-Aelodau maes o law, ond rydw i dim ond eisiau cydnabod y pwynt hwnnw mewn gwirionedd; nid ydym yn sefyll yn llonydd, nid ydym yn cymryd yn ganiataol y dylai popeth rydym ni'n ei wneud gael ei wneud yr un ffordd am byth, mewn gwirionedd. Mae angen i ni fod yn addasu, oherwydd mae'r economi'n addasu, oherwydd mae anghenion busnes yn addasu. Felly, rydw i dim ond eisiau bodloni fy hun ein bod yn y lle gorau i ddiwallu'r holl anghenion hynny, a bod yr holl wahanol fathau hynny o gefnogaeth yn gweithio mewn partneriaeth yn ogystal ag y dylent fod.

Rwyf am ddweud bod busnesau ar draws y ffin mewn gwirionedd yn eithaf cenfigennus o'r gwasanaeth y mae busnesau yma yn ei gael drwy Busnes Cymru a'r banc datblygu. Mae'r rhain yn bethau ychwanegol nad ydynt ar gael i fusnesau dros y ffin, ac rwy'n credu bod yr adborth a gawn gan fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth yn dda iawn. Felly, nid wyf yn ymgymryd â'r adolygiad hwn allan o bryder am yr hyn rwy'n ei glywed gan fusnesau. Rwy'n ymgymryd â'r adolygiad hwn i sicrhau ein bod yn y lle gorau posibl a bod y sefydliadau hynny yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion y dyfodol hefyd. Ond fel y dywedaf, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ynghylch hynny.

Ers dechrau tymor y Senedd, mae Busnes Cymru wedi creu bron i 13,000 o swyddi newydd ac wedi diogelu dros 6,500 o swyddi. Ond rwy'n credu mai un o'r ffeithiau sy'n fy nghyffroi fwyaf yw'r ffaith, o'r swyddi hynny sydd wedi cael eu creu, fod 22 y cant wedi mynd i bobl a oedd fel arall yn ddi-waith, ac rwy'n credu bod hynny'n wir yn fesur o lwyddiant yn yr ystyr ei fod yn creu swyddi i bobl a oedd y tu allan i'r gweithlu o'r blaen, ac rwy'n credu, po fwyaf y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw, gorau oll.

Rhan arall o'u cynnig hefyd yr wyf yn falch iawn ohoni yw'r rhaglen twf cyflym, felly mae hynny'n gefnogaeth wedi'i theilwra i fusnesau unigol er mwyn iddyn nhw archwilio sut y gallant dyfu ac ehangu eu gweithrediadau, ac am bob £1 rydym ni'n buddsoddi yn hwnnw, rydym yn cael £18 yn ôl. Rwy'n credu bod hynny'n enillion ar fuddsoddiad da iawn. Felly, rwy'n credu bod yna rai enghreifftiau ardderchog o bethau sy'n digwydd.

Byddaf yn parhau i ddatgloi potensial busnesau trwy'r banc datblygu. Mae hynny'n helpu'r busnesau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddechrau neu gryfhau a thyfu. Bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r portffolio o gronfeydd sy'n berthnasol i fusnesau ar wahanol gamau o'u datblygiad a'u twf. Ac rwy'n credu, fel y soniais i yn fy natganiad, ers dechrau tymor y Senedd, fod y banc datblygu wedi cefnogi dros 18,800 o swyddi, gyda buddsoddiad o dros £512 miliwn. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n arwyddocaol iawn, ac mae'r ystod helaeth o fathau o gymorth sydd ar gael gan y banc datblygu yn bwysig iawn. Ond eto, mae'r banc datblygu bob amser yn ystyried ei gynnig ac yn ystyried a oes angen iddo ddiwygio ac addasu'r hyn y mae'n gallu ei gynnig yn wyneb yr heriau o fewn yr economi. A byddaf yn sicr yn archwilio beth mwy y gallwn ei wneud i ddarparu diweddariad o ran sut mae'r banc datblygu ei hun wedi ymateb i argymhellion pwyllgorau, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o fanylion yn hynny y byddwn eisiau edrych arnyn nhw maes o law.

Rwy'n rhannu'r brwdfrydedd hwnnw am berchnogaeth gweithwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cymorth rydym ni'n ei ddarparu ar gyfer perchnogaeth gweithwyr yn mynd trwy Busnes Cymru, ond yn enwedig Busnes Cymdeithasol Cymru, ac mae'r gwasanaeth hwnnw yno i ddarparu'r cymorth arbenigol hwnnw, yn enwedig mewn cysylltiad â phryniant gweithwyr. Mae'n darparu cymorth wedi'i ariannu'n llawn a phwrpasol i berchnogion busnes i'w helpu i benderfynu a yw perchnogaeth gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yn iawn ar gyfer eu busnesau penodol.

Gwnaethom ymrwymiad yn ein rhaglen ar gyfer y llywodraeth i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru o 37 i 74 erbyn 2026. Wel, rydym ni wedi rhagori ar hynny mewn gwirionedd, ac erbyn hyn mae 94 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr wedi'u lleoli ledled Cymru. Felly, mae'n fodel yr ydym yn frwdfrydig iawn yn ei gylch. Mae'n fodel sy'n tyfu ym mhob rhan o Gymru ac ar draws pob math o fusnesau gwahanol hefyd, ond rwyf bob amser yn awyddus i archwilio beth mwy y gallwn ei wneud i dynnu sylw at fanteision perchnogaeth gweithwyr. Mae'n sicr yn rhywbeth rydym ni'n cefnogi busnesau i feddwl amdano pan fyddant yn meddwl am eu cynlluniau olyniaeth a'u cynlluniau i'r dyfodol.

15:15

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Nid ydym yn trafod cyflogaeth yn ddigon aml yn y Senedd. Cyflogaeth oedd y llwybr allan o dlodi. Yn anffodus, mae twf cyflogaeth ecsbloetiol, nifer isel o oriau ar yr isafswm cyflog wedi atal hynny rhag bod yn wir. Mae ein heconomi yn gryf mewn sectorau economaidd cyflog isel ac yn wan yn y sectorau cyflog uwch. Mae arloesi, ymchwil ac addysg o safon yn hanfodol i greu swyddi sy'n talu'n dda.

Mae economïau llwyddiannus wedi'u hadeiladu ar sectorau diwydiannol allweddol. Pan edrychwch ar lefydd fel Caergrawnt, Silicon Valley a Mannheim yn yr Almaen, mae eu heconomïau yn seiliedig ar feysydd cyflog uchel, twf uchel fel technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gwyddorau bywyd, diwydiant fferyllol. A fydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu strategaeth twf TGCh a gwyddorau bywyd, gan weithio ochr yn ochr â phrifysgolion i adeiladu economi cyflog uchel?

15:20

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna ac yn rhannu cydnabyddiaeth Mike Hedges o bwysigrwydd TGCh a gwyddorau bywyd yn nhermau'r economi. Gwyddorau bywyd yw un o'r meysydd allweddol a nodwyd yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac fe wnaethom ei nodi yma fel maes ar gyfer twf posibl. Rydym yn falch iawn o'r gwaith y mae'r ganolfan gwyddorau bywyd yn ei wneud, er enghraifft, i'n cefnogi i feddwl am sut y gallwn dargedu ein buddsoddiadau yn y dyfodol a hefyd drawsnewid y gofal y mae pobl yn ei dderbyn.

Rwy'n credu y bydd y gwaith sy'n digwydd trwy'r parthau buddsoddi hefyd yn bwysig iawn. Felly, rydym wedi defnyddio'r parthau buddsoddi hynny i dargedu a nodi sectorau economaidd â blaenoriaeth lle byddwn yn ceisio gwneud yn union yr hyn a awgrymodd Mike Hedges, mewn gwirionedd, o ran buddsoddi mewn arloesi, cynyddu cynhyrchiant a helpu, felly, i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau economaidd hynny rhwng ac o fewn rhanbarthau. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym ni'n ei gyflawni ar y cyd â Llywodraeth y DU.

Mae gennym ddau barth buddsoddi. Un yw parth buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd a'r llall yw ardaloedd teithio i'r gwaith yn sir y Fflint a Wrecsam. Rwy'n credu bod y ffaith bod yr ardaloedd hynny wedi'u hadeiladu o amgylch diwydiannau penodol yn bwysig iawn, ac rydym yn awyddus iawn i archwilio beth mwy y gallwn ei wneud i gefnogi rhai o'r diwydiannau allweddol hynny yn y dyfodol. Lled-ddargludyddion cyfansawdd, er enghraifft—mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn rhagori ynddo. Rydym ni'n gwneud enw i ni ein hunain ar lwyfan y byd yn y maes penodol hwnnw. Byddem eisiau gwneud yr un peth mewn ystod eang o feysydd eraill hefyd, yn enwedig gwynt ar y môr arnofiol, y byddwn yn cael datganiad arno yn ddiweddarach y prynhawn yma. 

Mae datgarboneiddio yn greiddiol i economi gogledd-orllewin Cymru, ac mae o'n sector ddylai fod wrth wraidd twf economaidd yn y dyfodol. Mi oeddwn i wrth fy modd yn gynharach heddiw yma yn noddi sesiwn yn sôn am Tŷ Gwyrddfai, sef canolfan datgarboneiddio arloesol ym Mhenygroes, y ganolfan gyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig. Mae angen arloesedd ar economi Cymru ac arloesedd sydd wir yn gyrru datblygiad yn Tŷ Gwyrddfai. Dyma ni gydweithrediad rhwng cymdeithas tai Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor yn dod â chyfleusterau ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf, gan brofi a threialu technoleg a defnyddiau newydd sy'n cyd-fynd â'r agenda datgarboneiddio.

Ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn cytuno efo fi mai dyma'r union fath o fenter sydd ei hangen ar economi Cymru, gan sbarduno datblygiad, sgiliau ac arloesedd a all ddarparu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru, gan gynnwys yn ein cymunedau gwledig a'n cymunedau ôl-ddiwydiannol ni? Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i bencadlys Trwsio, sy'n cyflogi dros 150 o staff, ac mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu cyflenwadau a defnyddiau—

—i Adra a'i gontractwyr. Felly, dwi jest eisiau gwybod sut fydd eich Llywodraeth chi yn annog datblygu mwy o ganolfannau fel Tŷ Gwyrddfai ar draws Cymru, gan ddefnyddio'r angen i ddatgarboneiddio i gryfhau economïau lleol?

Mae Tŷ Gwyrddfai yn swnio'n union y math o beth yr oeddem yn meddwl amdano pan wnaethom gyflwyno'r strategaeth 'Cymru'n arloesi', ac mae hynny'n ymwneud â sicrhau nad yw ymchwil, datblygu ac arloesi yn ymwneud â chreu swyddi yn unig, ond mewn gwirionedd yn ymwneud ag arwain at gynhyrchion newydd, prosesau newydd, gwasanaethau newydd, gan gynnwys ynghylch datgarboneiddio, gyda'r nod o wella cynhyrchiant, ond yna, yn y pen draw, creu a diogelu swyddi hefyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n swnio fel rhywbeth y mae angen i mi ganfod mwy amdano, ond mae'n swnio fel rhywbeth y byddem eisiau ei gefnogi trwy ein strategaeth arloesi.

Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, felly rydym yn cefnogi ceisiadau, er enghraifft, am gyllid Innovate UK. Dyfarnwyd dros £66 miliwn i fusnesau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae gennym wybodaeth amdanynt. Mae hynny'n gynnydd o dros £5 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, felly rwyf eisiau gweld y ffigurau'n gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn. Hefyd, rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau'n awyddus i sicrhau ein bod yn mabwysiadu ein dull o ran ymchwil ac arloesi yn y cyd-destun rhyngwladol, felly dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni, yng Nghymru, yn aelodau o Fenter Vanguard, lle rydym wedi datblygu rhaglen gydweithredu ryngwladol VInnovate ar y cyd, ac sy'n ein gweld yn cydweithio â phobl o bob cwr o'r byd. Ac mae datgarboneiddio a mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd yn her a rennir i bob un ohonom, a dyna pam y mae hi mor bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i Gymru a chydweithio â chydweithwyr yn y DU ond hefyd ledled y byd ar yr agenda wirioneddol hanfodol hon.

15:25

Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Kellanova, neu Kellogg's, sef yr enw mwy cyffredin, fuddsoddiad o £75 miliwn i drawsnewid ffatri Wrecsam yn ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop. Y buddsoddiad hwn oedd buddsoddiad sengl mwyaf Kellanova mewn cynhyrchu grawnfwyd ym Mhrydain mewn mwy na 30 mlynedd, a bydd yn creu tua 130 o swyddi newydd. Yn ddiweddar, cafodd Andrew Ranger, yr Aelod Seneddol dros Wrecsam a minnau y pleser o ymweld â'r safle ar ystad ddiwydiannol Wrecsam i weld sut mae'r buddsoddiad hwnnw'n arwain yn uniongyrchol at swyddi newydd, ac mae hynny'n cynnwys prentisiaethau newydd hefyd. Hyd yn hyn, maen nhw wedi derbyn dros 1,000 o geisiadau am swyddi ar gyfer rolau cymorth gweithredol, cynnal a chadw a swyddogaethol. Mae hefyd wedi cynyddu nifer y prentisiaid peirianneg o fewn y cwmni, ac mae hynny'n rhan o'u strategaeth hirdymor.

Mae Kellogg's wedi bod yn gonglfaen i'r economi leol ers degawdau ac mae'n dda gweld cyflogwr mawr yn buddsoddi yn nyfodol Wrecsam. Felly, rwy'n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn a byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Wrecsam yn parhau i fod yn lle deniadol i wneud busnes ynddo er mwyn i'm hetholaeth sicrhau hyd yn oed mwy o fuddsoddiad a gweld mwy o swyddi'n cael eu creu.

Rwy'n ddiolchgar iawn o gael clywed am y buddsoddiad gan Kellogg's. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog hefyd yn croesawu hynny ac wedi ymweld â'r safle yn fuan ar ôl y cyhoeddiad. Ac rwy'n credu bod y ffordd y mae Lesley Griffiths wedi nodi'r manteision o ran graddfa'r cyfleoedd swyddi sydd ar gael yn lleol, ond yna hefyd y buddsoddiad pwysig mewn prentisiaethau, mewn gwirionedd, yn nodi pa mor bwysig yw'r buddsoddiad penodol hwnnw y mae croeso mawr iddo.

Mae'n rhaid i ni edrych hefyd ar fargen twf y gogledd o ran y cyfle i gael bron i £1 biliwn o fuddsoddiad dros 15 mlynedd, gan gynnwys £120 miliwn yr un gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ar hyn o bryd mae'n creu swyddi, ond gwyddom ei nod yw creu dros 4,000 o swyddi dros ei oes. Felly, mae hynny'n faes rydym ni'n canolbwyntio arno. Ac yna rwyf hefyd wedi sôn am barth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint. Mae hwnnw'n ymdrech gydweithredol mewn gwirionedd, gan gynnwys y cyd-bwyllgor corfforedig, awdurdodau lleol, Llywodraethau a busnesau, felly maen nhw'n cyrraedd cam olaf yr achos busnes cyffredinol ar hyn o bryd. Unwaith eto, gallai hyn ddenu £1 biliwn o fuddsoddiad a chreu dros 6,000 o swyddi yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Felly, mae hynny'n hynod gyffrous hefyd.

Ac yna rwy'n gwybod bod llawer o waith yn digwydd hefyd drwy bartneriaeth sgiliau rhanbarthol y gogledd, gyda Phrifysgol Wrecsam, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru a Choleg Cambria, yn llunio cynigion hefyd. Felly, rwy'n meddwl bod yna lawer iawn i fod yn gyffrous amdano yn Wrecsam. Roeddwn i yno fy hun yn weddol ddiweddar, unwaith eto yn edrych ar y safleoedd hyn a'r potensial i ddarparu eiddo newydd ar gyfer busnes hefyd, oherwydd dyna un o'r pethau y mae busnesau'n siarad â mi fwyaf amdano o ran yr hyn sydd ei angen arnynt, ac mae'n ymwneud ag eiddo masnachol i'w rhentu neu gymorth i adeiladu'r rheini hefyd. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rydw i'n ymwybodol iawn ei fod yn beth arbennig yr hoffem fynd i'r afael ag ef yn ardal Wrecsam.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fel y gwyddom, mae seilwaith yn allweddol i dwf economaidd i ni yma yng Nghymru. Ond roeddwn ychydig yn bryderus o glywed, yr wythnos diwethaf, AS Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn codi pryderon pwysig yn y Senedd ynglŷn â chyllid rheilffyrdd yma yng Nghymru. Mewn ymateb, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys efallai 

'y dylem ni fod ychydig yn fwy diolchgar'

—yn ddiolchgar am y £445 miliwn a ddyrannwyd dros y 10 mlynedd nesaf. Yn amlwg, sylw gwirioneddol ofidus ac annymunol i'w wneud. Gwyddom fod Cymru wedi wynebu tanfuddsoddi cronig ers blynyddoedd. Er ein bod yn derbyn £445 miliwn, mae Manceinion, rhanbarth gyda llai o bobl, wedi derbyn £2.5 biliwn, ac, mewn mannau eraill, mae Network Rail yn gwario £2.6 biliwn yng Nghaint, a rhagwelir y bydd croesfan Tafwys Isaf yn costio £9 biliwn.

Mae'n wych eich clywed yn siarad am sut mae'r Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, ond byddwn yn croesawu, os caf, eich myfyrdodau ar yr hyn a ddywedwyd yr wythnos diwethaf yn Senedd y DU ac a ydych chi'n parhau i lobïo er mwyn i Gymru dderbyn ei chyfran deg mewn cyllid seilwaith. Diolch yn fawr iawn.

15:30

Felly, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru bob amser wedi blaenoriaethu rheilffyrdd. Bydd cyd-Aelodau'n cofio'r cyfnodau anodd hynny a gawsom ychydig flynyddoedd yn ôl bellach, pan gawsom y pwysau hwnnw o £900 miliwn ar gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i effeithiau chwyddiant, a'r effaith yr oedd hynny'n ei chael ar ein sector rheilffyrdd yma yng Nghymru. Ac roedd yn rhaid i ni edrych yn ofalus iawn ar ein cyllidebau ar draws y Llywodraeth er mwyn gallu darparu cyllid ychwanegol, ar gyfer rheilffyrdd, ac, wrth gwrs, ar gyfer y GIG, fel ein meysydd blaenoriaeth mewn cysylltiad ag effaith chwyddiant. Felly, rwy'n credu y gallwn ni yn bendant fod yn falch o'r flaenoriaeth rydym ni wedi'i rhoi i'r rheilffordd, ac rydym yn gweld, fel y nododd y Prif Weinidog yng nghwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, yr effaith go iawn a'r newid gwirioneddol y mae'r buddsoddiad hwnnw wedi'i wneud.

Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw fformiwla Barnett sy'n gweithio, fframwaith cyllidol sy'n gweithio, fel y dylai fod mor syml â hynny, pan fyddwch chi'n rhoi'r rhifau i mewn, mae'r rhif cywir yn dod allan. Ac yna does dim angen i chi fod yn ddiolchgar; dim ond cyfrifiannell sydd ei hangen arnoch chi. Felly, rwy'n credu mai dyna lle yr ydw i ar hyn o bryd.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog

Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, cymorth i gymuned y Lleoedd Arfog. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos hon mae hi'n Wythnos y Lluoedd Arfog, pan fyddwn yn dangos ein cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Mae'r gymuned hon yn cwmpasu'r rhai sy'n gwasanaethu ar draws ein gwasanaethau arfog, y lluoedd arfog rheolaidd a'r lluoedd arfog wrth gefn, yn y gorffennol a'r presennol. Ac mae teuluoedd hefyd yn bwysig yn y gymuned hon.

Mae Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru ddydd Sadwrn. Mae hwn yn ddigwyddiad yr ydym yn falch o'i gefnogi fel Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar i Gyngor Sir Fynwy, sy'n croesawu'r digwyddiad eleni, am bopeth y maent wedi'i wneud i ddod â'r hyn rwy'n siŵr a fydd yn ddiwrnod gwych at ei gilydd yng Nghastell Cil-y-coed.

Nawr, yn gynharach yn y mis gwelsom gyhoeddi'r adolygiad amddiffyn strategol. Roedd yn nodi asesiad gonest o'r bygythiadau rydym ni'n eu hwynebu, y mesurau sydd eu hangen i atal ac amddiffyn i gadw ein gwlad yn ddiogel. Mae'r lluoedd arfog yn ganolog i amddiffyn ein cenedl ac i'r adolygiad hwn.

Dyma'r adolygiad cyntaf ers dros 30 mlynedd nad yw wedi bod yn un o doriadau a gostyngiadau. Mae'n ceisio cynnal nifer y lluoedd arfog yn y tymor byr iawn, gydag argymhelliad y bydd angen mwy. Mae'n nodi'r angen am ymgysylltu â'r cyhoedd, i godi ymwybyddiaeth o'r lluoedd arfog, yn enwedig ymhlith phobl ifanc. Mae hefyd yn nodi sut mae llety, cyflog ac offer yn allweddol os yw recriwtio a chadw i fod yn llwyddiannus. Mae'n galw am hyblygrwydd wrth ganiatáu i bobl symud yn ddi-dor i mewn ac allan o'r lluoedd arfog.

Nawr, yn draddodiadol, mae Cymru wedi darparu cyfran sylweddol o niferoedd y lluoedd arfog—tua 6 i 7 y cant o 5 y cant o boblogaeth y DU—ac mae disgwyl i hyn barhau. Mae'r rhan fwyaf o'r lluoedd rheolaidd yn gwasanaethu i ffwrdd o Gymru. Mae gennym rôl wrth weithio gyda'r lluoedd arfog ar bontio i mewn ac allan o'r fyddin, yn enwedig wrth ddod â sgiliau a gwerthoedd y lluoedd arfog, yr ydym yn eu dathlu heddiw, yn ôl i Gymru, i'n cymunedau a'n rolau sifil.

I'r rhai sy'n gwasanaethu yng Nghymru, nid yw bywyd o fewn swigen, yn enwedig i deuluoedd y lluoedd arfog. Mae'r rhain yn deuluoedd lle mae aflonyddwch rheolaidd yn creu heriau unigryw. Mae addysg leol, cyflogaeth, gofal iechyd, chwaraeon, rhyngweithiadau diwylliannol a chymunedol yn feysydd yr wyf eisiau iddynt wneud ymgartrefu yng Nghymru yn ddeniadol.

Rydym wedi parhau â'n cefnogaeth i'r mudiad Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru. Gan weithio gyda'r lluoedd arfog a phartneriaid eraill, rydym yn darparu canllaw ar-lein sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Ac mae ein digwyddiadau gyrfaoedd, yr ydym yn eu cynnal gyda Chymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid a phartneriaeth pontio gyrfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn parhau. Mae gennym ddigwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer Caerdydd ym mis Tachwedd, a Wrecsam ym mis Rhagfyr, lle gall pobl sy'n gadael y gwasanaeth, cyn-filwyr ac aelodau o'r teulu ymgysylltu â chyflogwyr sy'n awyddus i ddefnyddio sgiliau a phrofiadau cymuned ein lluoedd arfog. Yn y digwyddiadau hyn, byddwn hefyd yn cynnal cynadleddau cyflogwyr, gan ymgysylltu'r sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol â chyfamod y lluoedd arfog. Trwy ein grŵp gweithredu cyflogaeth, rydym hefyd wedi hyrwyddo'r wefan Forces Families Jobs, sy'n darparu dolenni i gyflogaeth a hyfforddiant yn benodol ar gyfer aelodau teuluoedd y lluoedd arfog. Mae gennym awdurdodau lleol Cymru, byrddau iechyd lleol a chwmnïau preifat bellach yn rhestru swyddi yn uniongyrchol yno.

Rwy'n gwybod bod gan Aelodau'r Llywodraeth a'r Senedd berthynas agos â'r lluoedd arfog yng Nghymru, gyda phencadlysoedd rhanbarthol a chomanderiaid. Mae rhyngweithio gweinidogol rheolaidd, gan gynnwys trwy'r grŵp arbenigol y lluoedd arfog, yr wyf yn ei gadeirio. Mae eu heiriolaeth dros y rhai sy'n gwasanaethu yng Nghymru yn hanfodol bwysig. Gall yr eiriolaeth honno ddatblygu ymhellach yn y dyfodol, gyda bwriad Llywodraeth y DU i sefydlu rôl comisiynydd y lluoedd arfog, sy'n gweithio ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n croesawu'r penodiad hwnnw a'r potensial ar gyfer ymgysylltu pe bai materion yn ymwneud â bywyd yn y lluoedd arfog yng Nghymru.

Nawr, mae'r wythnos hon hefyd yn gyfle i ddiolch i gyn-filwyr am eu gwasanaeth. Rydym yn diolch i bob cyn-filwr, ond gan gofio o fewn hynny y rhai hynaf, wrth i ni nodi wythdeg mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ eleni. Mae'r rhain yn bobl i'w dathlu. Mae eu profiad o wasanaethu yn hynod gadarnhaol—mae'r rhan fwyaf o gyn-filwyr rwy'n cwrdd â nhw yn siarad yn annwyl am eu hamser, a byddent yn gwneud y cyfan eto pe gallent. Mae iechyd, tai a chanlyniadau eraill yn cyd-fynd â chymdeithas ehangach, a dylem gofio hynny. Wedi dweud hynny, mae angen i ni hefyd allu cefnogi'r rhai sydd ei angen. Rydym yn parhau â'n 15 mlynedd o gefnogaeth i'n gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol, GIG Cymru i Gyn-filwyr. A hoffwn ddiolch i Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru am ei eiriolaeth dros gyn-filwyr yma.

Os ydym am gyflawni ar gyfer cymuned ein lluoedd arfog, milwyr sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr, mae'r berthynas â Whitehall yn un bwysig. Rwyf wedi cwrdd â'r Gweinidog dros Gyn-filwyr a Phobl ar dri achlysur bellach. Croesawais ei gynlluniau ar gyfer VALOUR, gan ymrwymo mwy o fuddsoddiad ledled y DU i gefnogi cyn-filwyr. Dylai hyn ategu'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud yma—er enghraifft, trwy ein cefnogaeth barhaus i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, neu AFLOs—a gobeithio, atgyfnerthu trydydd sector hynod ymroddedig, gan dynnu ar eu harbenigedd a'u gwybodaeth leol. Rwyf hefyd wedi croesawu cynlluniau i ehangu cyfamod y lluoedd arfog a chyrhaeddiad y ddyletswydd gyfreithiol sylw dyladwy, ymrwymiad maniffesto gan Lywodraeth y DU. Rydym eisoes wedi ymrwymo i'r cyfamod; mae'r posibilrwydd o ddyletswydd gyfreithiol ehangach yn un yr wyf yn hyderus y byddwn yn gallu ymateb iddo'n gadarnhaol, er, wrth gwrs, bydd angen i Aelodau'r Llywodraeth a'r Senedd weld y manylion.

Yn olaf, hoffwn gyfeirio at rôl Llu Cadetiaid y Fyddin fel sefydliad ieuenctid yng Nghymru ac fel ffynhonnell cyfleoedd i bobl ifanc. Gall cyfnod fel cadet helpu i ennill mantais ym mhob sector cyflogaeth, ac edrychwn ymlaen at ddeall sut y gallai'r argymhelliad i ehangu niferoedd y cadetiaid yn yr adolygiad amddiffyn strategol gynnig cyfle yma yng Nghymru. Diolch.

15:35

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig yn anrhydeddu'r dynion a'r menywod dewr sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu ein gwlad wych gyda dewrder ac ymroddiad. Mae eich aberth yn ein cadw'n ddiogel ac mae eich ymrwymiad yn ein hysbrydoli ni i gyd. Fel Gweinidog lluoedd arfog yr wrthblaid, hoffwn ddweud 'diolch' enfawr i bob aelod o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr, a'u holl deuluoedd, yr ydych yn nodi, yn hollol gywir, yn eich datganiad fel rhai pwysig iawn hefyd.

Mae 115,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghymru. Fel y dywedoch chi, er bod ganddi 5 y cant o'r boblogaeth, mae Cymru yn darparu 7 y cant o niferoedd y lluoedd arfog. Mae ein presenoldeb yn y lluoedd arfog yn golygu bod Cymru'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl, ac rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl hefyd wrth gefnogi ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr, gan wneud Cymru yr hyn yr ydym eisiau ei weld—y genedl fwyaf cyfeillgar i gyn-filwyr yn y byd, yn enwedig o ystyried bod y byd yn dod yn lle cynyddol beryglus, gyda'r rhyfel yn Wcráin, ac, wrth gwrs, y sefyllfa ar hyn o bryd yn y Dwyrain Canol.

Rydym yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rwy'n gobeithio yn y dyfodol y byddaf yn gweld rheolwr rhaglen ar eu cyfer, i rannu'r arfer gorau hwnnw ledled Cymru. Oherwydd rwy'n gwybod yn uniongyrchol, o weithio gyda Lisa Rawlings, a oedd yn arfer bod yn swyddog cyswllt yn fy ardal i, a nawr Karin Spencer, y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ardal Gwent.

Ac wrth gwrs, mae'r gefnogaeth barhaus i Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru, SSCE, hefyd yn cael ei groesawu, ond mae'n hanfodol bod eu cyllid ar sail fwy parhaol, ac ni ddylent orfod parhau i ailymgeisio amdano. Yn ddiweddar, fe es i ddangosiad gwych o ffilm am yr heriau y mae plant y lluoedd arfog yn eu hwynebu yn Ysgol Gynradd Rhaglan, ffilm a wnaed gan blant y lluoedd arfog eu hunain. Yn bresennol yn y dangosiad cyntaf o'r ffilm a wnaed gan blant ysgol sir Fynwy oedd y rhieni hefyd sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Rwy'n dweud wrthych, doedd dim llygad sych yn y lle erbyn i'r ffilm ddod i ben, oherwydd roedd yn cyfleu eu profiadau o fod yn blant y lluoedd arfog yng Nghymru, y pethau da a'r pethau drwg: bod i ffwrdd o'u teuluoedd am gyfnodau hir; plant eraill yn eu dosbarth nad ydynt yn deall beth maen nhw'n mynd drwyddo; ac wrth gwrs yr holl bethau drwg a pheryglus sy'n dod gyda rhieni yn y lluoedd arfog.

Rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud er mwyn i bobl ddeall, a phlant eraill ddeall, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu. Felly, bydd ffilm o'r fath yn mynd yn bell tuag at wneud i blant eraill yn y dosbarth ac mewn ysgolion ledled sir Fynwy ddeall sefyllfa'r plant hynny. Rwy'n gobeithio y gellid cyflwyno rhywbeth tebyg—efallai y ffilm honno, oherwydd ei bod yn dda iawn, iawn—ledled Cymru. Fel y mae'n sefyll, rwy'n credu mai dim ond 60 y cant o ysgolion sy'n cyflwyno data i SSCE, sy'n golygu ein bod yn debygol iawn o fod yn tanamcangyfrif faint o blant y lluoedd arfog sydd yng Nghymru. Felly, mae data cywir yn hollol allweddol, Gweinidog. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried gwella'r broses o gasglu data.

Hoffem hefyd weld y diffiniad o blentyn y lluoedd arfog yn cael ei ehangu. Fel y mae'n sefyll, mae diffiniad Llywodraeth Cymru yn cyfyngu'r diffiniad i blant aelodau presennol neu blant rhywun sydd wedi gwasanaethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno y gall yr heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu ymestyn ymhell y tu hwnt i ddwy flynedd, felly dylem fod yn ystyried ehangu'r diffiniad hwnnw fel nad yw plant yn wynebu'r ymyl clogwyn hwnnw.

Un peth y byddwn i'n ei wneud fel Gweinidog y Lluoedd Arfog yw rhoi arian ychwanegol ar y bwrdd i ariannu mwy o wasanaethau mentora cymheiriaid yn GIG Cymru i gyn-filwyr, yn enwedig i fenywod, sy'n brin, oherwydd mae'n bwysig cynyddu'r capasiti hwnnw i gefnogi cyn-filwyr ag anhwylder straen ôl-drawmatig a brwydrau iechyd meddwl eraill yn sgil sefyllfaoedd y maent wedi bod drwyddynt, yn arbennig o benodol i fenywod. Mae angen i ni weld y cytundeb diriaethol hwnnw ar gyfer mentor cyfoedion cyn-filwyr benywaidd, os gwelwch yn dda.

Agwedd bwysig arall ar ein huchelgeisiau ar gyfer cyn-filwyr yw addysgu cenedlaethau newydd am yr hyn y mae ein lluoedd arfog wedi'i gyflawni dros Gymru a'r DU. Dyna pam y byddem yn sefydlu amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru, lle gellir diogelu hanes ein lluoedd arfog, edrych arno ac ymchwilio iddo. Gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru efallai yn ei gefnogi fel ffordd o addysgu ein pobl ifanc ynghylch ein hanes milwrol.

Rwy'n gwybod eich bod chi'n dweud, yn eich datganiad, yn yr adolygiad amddiffyn strategol, ei fod yn nodi yno bod angen mwy o ymgysylltu â phobl ifanc. Un o'r pethau rwy'n gwybod a oedd yn digwydd yn Lloegr, a godais yn y Siambr ychydig yn ôl, oedd y byddai pobl ifanc yn Lloegr yn cael eu dysgu am y lluoedd arfog o fewn amser ysgol ym mhob oedran. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffem ni ei fabwysiadu.

Wrth i mi orffen nawr, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud bod fy mab yn gadet, a pha mor wych yw hynny? Edrychaf ymlaen atoch yn gwthio'r mudiad gwych hwnnw ymlaen.

Hoffwn gloi trwy ddiolch i'n cymuned lluoedd arfog—ein cyn-filwyr, ein teuluoedd—am yr aberth maen nhw'n ei wneud i'n cadw'n ddiogel. Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn, a gynhelir yn sir Fynwy yng Nghastell Cil-y-coed, yn ddiwrnod gwych, a bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud.

Wrth i ni weld digwyddiadau sy'n peri pryder ar draws y byd, ni ddylem fyth anghofio bod y bobl hyn yn barod, wedi sefyll yn barod, i roi eu hunain rhyngom ni a'r rhai sy'n dymuno gwneud niwed i ni, ac rydym ni i gyd yn diolch iddynt, yn sicr. Diolch.

15:40

A gaf i ddiolch i Laura Jones am ei sylwadau sydd i'w croesawu'n fawr? Ni wnaf ailadrodd yr hyn mae Laura eisoes wedi siarad amdano, ond hoffwn groesawu ei sylwadau yn arbennig mewn cysylltiad â gwerth AFLOs. Eleni, am y tro cyntaf, mae gennym linell gyllideb bwrpasol ar gyfer materion lluoedd arfog a chyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru, ac mae'r llinell gyllideb honno wedi gweld cynnydd o 30 y cant mewn cyllid. Rwy'n gwybod nad yw'r cwantwm cyffredinol yn enfawr, ond mae'n dangos ein bod yn cymryd y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth yn wirioneddol o ddifrif. Ar draws Cymru, mae gwerth AFLOs wedi bod yn eithaf syfrdanol.

Rwy'n nodi ac yn cytuno â'r Aelod mewn cysylltiad â gwerth SSCE, ac rwy'n gwybod bod trafodaethau wedi digwydd yng ngrŵp arbenigol y lluoedd arfog ynglŷn â diffiniad, ynglŷn â'r cymorth a roddir i blant y lluoedd arfog. Bydd y pwyntiau sydd wedi'u codi gan yr Aelod yn sail i drafodaethau pellach sydd gennyf gyda'r Gweinidog Addysg. Mae mentora cyfoedion yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn rheolaidd yng ngrŵp arbenigol y lluoedd arfog. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd meddwl wedi mynychu'r grŵp arbenigol yn ddiweddar, lle trafodwyd hyn, ac rwy'n credu ei bod yn siarad ar hyn o bryd gyda byrddau iechyd lleol unigol, i sicrhau bod darpariaeth gyson ac o ansawdd uchel ledled Cymru.

Rwy'n credu bod y DU, ar hyn o bryd, yn ffodus iawn i gael Gweinidog dros gyn-filwyr sydd ei hun yn un o'r Aelodau Seneddol mwyaf arwisgedig yn y cyfnod diweddar. Yn ddiweddar, ac yn eithaf rhyfeddol, treuliodd dim ond pum niwrnod yn dringo i gopa Everest, camp ryfeddol. Nid wyf yn credu y gallai kryptonite gyffwrdd â'r Gweinidog hwnnw, ac fe wnaeth y cyfan yn enw elusen, ac rwy'n credu ei fod hefyd yn filwr wrth gefn. Ar y nifer o achlysuron yr wyf bellach wedi cwrdd ag ef, mae wedi dod yn amlwg ei fod yn rhywun sy'n angerddol iawn am faterion cyn-filwyr, am sicrhau bod yna, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn gynyddol yn ei alw'n gyfle 'igam-ogam' ar gyfer gyrfaoedd, fel nad oes angen i chi ystyried bod eich gyrfa yn y lluoedd arfog drosodd unwaith y byddwch allan o'r lluoedd arfog, bydd y man mynediad ar agor i chi eto. Mae hyn yn rhywbeth sy'n arbennig o werthfawr. Rwy'n gwybod o brofiad personol, gyda nai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a adawodd y lluoedd arfog, a allai ddychwelyd i'r lluoedd arfog un diwrnod, mae cael yr opsiwn hwnnw ar agor i'r rhai sy'n gadael gwasanaeth yn hanfodol bwysig.

Byddwn yn cytuno â'r Aelod hefyd ynglŷn â gwerth cadetiaid. Mae cadetiaid yn rhoi cyfle i gaffael sgiliau amhrisiadwy. Unwaith eto, o brofiad personol, mae'n debyg fy mod wedi codi sgiliau mwy gwerthfawr o fewn y corfflu hyfforddi swyddogion nag y gwnes tra oeddwn yn y brifysgol. Mae'n darparu sgiliau bywyd anhygoel a hefyd yn rhoi cyfle i ennill hyder hefyd. Mae llawer o bobl ifanc yn dioddef o ddiffyg hyder, a gall y gwasanaeth cadetiaid roi'r hyder angenrheidiol i fod yn llwyddiannus mewn bywyd. Rwy'n credu bod y cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle i feysydd trafod gael eu codi ynglŷn â chyfleoedd mewn lluoedd cadetiaid a'r lluoedd arfog yn gyffredinol. Un o amcanion y cwricwlwm newydd yw sicrhau bod pobl ifanc yn fydol-ddoeth, eu bod yn ddinasyddion byd-eang, eu bod yn cydnabod y cyfleoedd a'r bygythiadau. Ar hyn o bryd, gwyddom fod nifer o fygythiadau yn wynebu'r gymuned ryngwladol. Felly, mae'n rhesymol y dylai pobl ifanc wybod am y cyfleoedd i wasanaethu gyda'r cadetiaid neu i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn darparu'r cyfle hwnnw.

Wrth gwrs, gyda ni heddiw yn y Siambr mae Jack Sargeant, sydd, rwy'n gwybod, yn angerddol am yr amgueddfeydd sydd gennym yng Nghymru. Mae gennym dair amgueddfa gatrawd yng Nghymru. Mae pob un ohonynt yn hollol wych. Yn ddiweddar roeddwn yn yr amgueddfa gatrawd yng nghastell Caernarfon ar gyfer arddangosfa newydd. Roeddem ni'n croesawu cymuned ryngwladol hefyd. Mae'n atyniad mawr i dwristiaid, ond mae hefyd yn un sy'n ein hatgoffa ni o'r colledion yr ydym wedi'u dioddef yn lluoedd ein cyn-filwyr a'n lluoedd arfog yn gyffredinol.

15:45

Wrth i ni siarad i gefnogi cymuned y lluoedd arfog heddiw, rwy'n gorfod nodi bod y byd yn teimlo fel lle cynyddol ansefydlog ac yn peri ofn, a pha mor bryderus yw llawer o fy etholwyr ynghylch hynny. Mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn gwaethygu, ac mae ofnau cyfiawn fod y DU yn cael ei llusgo i mewn i ymyrraeth dramor arall. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn: rhaid i Senedd y DU gael feto cyn i'r DU gymryd rhan yn filwrol. Ni allwn fforddio rhyfel arall lle mae aelodau lluoedd arfog Cymru yn talu'r pris am benderfyniadau a wneir yn Washington a Llundain. Yn erbyn y cefndir hwnnw, rhaid i ni gofio bod gweithredu milwrol yn gadael effaith barhaol, nid yn unig ar wleidyddiaeth fyd-eang, ond ar fywydau'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu. Fel y dywedoch yn eich datganiad, yma yng Nghymru, mae dros 115,000 o bobl, bron i 5 y cant o'r boblogaeth oedolion, yn gyn-filwyr, canran uwch nag yn Lloegr. Dyma ein cymdogion, ein ffrindiau, aelodau o'n teulu, ac maen nhw'n haeddu mwy na dim ond diolch. Maen nhw'n haeddu cefnogaeth sy'n ystyrlon ac yn barhaol.

Hoffwn ddefnyddio fy amser heddiw i annog Llywodraeth Cymru ac aelodau Llafur cyfatebol yn San Steffan i fyfyrio a yw eu gweithredoedd yn cyd-fynd â'u geiriau, oherwydd y gwir amdani yw bod cyn-filwyr yn wynebu caledi yng Nghymru. Mae'n gywilydd cenedlaethol bod y rhai sy'n aberthu cymaint yn dychwelyd i gymdeithas sy'n eu siomi. Er enghraifft, yng Nghymru, rydym yn gofyn i gleifion ddadgofrestru o'u meddyg teulu presennol cyn cofrestru gydag un newydd. Mae hyn yn golygu y byddai unrhyw un sy'n cael ei anfon i ganolfan y lluoedd arfog yn Lloegr yn cael trafferth cael mynediad at ofal iechyd yn gyflym ar ôl dychwelyd adref am gyfnod estynedig neu ar ôl gadael y lluoedd arfog yn gyfan gwbl. Clywais yn uniongyrchol gan y Cyrnol Sion Walker ym mhencadlys Brigâd 160 (Cymru) yn Aberhonddu sut mae'r cyfyngiad hwn yn rhwystro pontio aelodau'r lluoedd arfog o fywyd milwrol i fywyd sifil. Mewn cyferbyniad, mae GIG Lloegr wedi cyflwyno hyblygrwydd sy'n caniatáu i aelod o'r lluoedd arfog aros wedi'i gofrestru gyda'i feddyg teulu milwrol a chael ei gofrestru hefyd fel claf dros dro neu ddeuol gyda meddyg teulu sifil pan gaiff ei anfon i rywle arall neu yn ystod ailsefydlu. Yn amlwg, mae'r system hon yn llawer gwell ar gyfer parhad gofal, yn enwedig i'r rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl neu adsefydlu parhaus.

Dywedodd rhywun sy'n ymwneud yn weithredol â hyrwyddo achos cyn-filwyr a'u llesiant wrth fy swyddfa nad oedd milwr ifanc sy'n gadael y fyddin ar ôl cael ei ryddhau am resymau meddygol wedi cofrestru gyda meddyg teulu am dros flwyddyn, gan nad oedd yn sylweddoli bod yn rhaid iddo newid ac roedd ganddo ormod o gywilydd i ofyn am gymorth. Yn sgil hyn gwaethygodd pryder yr unigolyn agored i niwed hwn a dechreuodd gamddefnyddio alcohol. Hoffwn weld y Llywodraeth hon yn ymateb i'r sefyllfa meddygon teulu a newid y rheolau cyn gynted â phosibl i atal mwy o ddioddefaint i'n haelodau gweithredol yn y lluoedd arfog ac i gyn-filwyr.

Siaradodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips yn ddiweddar am gyn-filwyr yng Nghymru sy'n byw yn eu ceir, am y rhai sy'n cael eu rhoi mewn tai argyfwng sy'n gwbl anaddas ac am y rhai sy'n teimlo bod y system wedi anghofio amdanyn nhw. Mae'n rhaid i ni wneud yn well. Mae Plaid Cymru wedi beirniadu hanes blaenorol Llafur o ran y GIG yng Nghymru ers amser maith, ac i gyn-filwyr nid argyfwng iechyd yn unig ydyw, mae'n torri cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r cyfamod yn addo gofal â blaenoriaeth ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â gwasanaethu. Ond beth mae 'blaenoriaeth' yn ei olygu pan fydd pawb yn aros am dros ddwy flynedd? Mae'r Cyrnol Phillips yn gofyn yn gywir, 'Sut ydyn ni'n dweud wrth gyn-filwr oedrannus nad oes gan yr anaf i'w ben-glin yn sgil gwasanaeth cenedlaethol gysylltiad digon cryf â gwasanaethu?' Mae'r rhain yn benderfyniadau na ddylai clinigwyr gael eu gorfodi i'w gwneud ac ni ddylid gofyn i gyn-filwyr gyfiawnhau eu poen dim ond i neidio i flaen ciw hir na ddylai fodoli yn y lle cyntaf.

Fel llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau'r lluoedd arfog, rwyf eisiau sicrhau bod gan Gymru gynnig cynhwysfawr ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru. Ni allwn siomi'r gymuned hon mwyach. Rwyf eisiau ategu ein haddewid blaenorol ar gyfer cyn-filwyr a'i hadolygu, addewid a oedd yn galw am gymorth iechyd meddwl, llysoedd arbenigol, gwasanaethau ailsefydlu a mwy o ddata ar gyn-filwyr yn y system cyfiawnder a lles. Felly, heddiw, hoffwn orffen trwy gynnig gwahoddiad agored: os ydych chi'n gweithio gyda chyn-filwyr neu'n cynrychioli cyn-filwyr, cysylltwch â mi a'm swyddfa. Gadewch i ni greu rhywbeth gyda'n gilydd sy'n cyflawni newid gwirioneddol i gyn-filwyr ac aelodau'r lluoedd arfog. Diolch yn fawr.

15:50

Wel, a gaf i ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gyfraniad hefyd? Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod lle rydym ni'n arwain o ran ein cefnogaeth i gyn-filwyr, ond hefyd lle mae angen i ni wneud mwy. Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, James Phillips, wedi bod yn bartner gwych i Lywodraeth Cymru ac yn eiriolwr anhygoel dros gyn-filwyr ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod ganddo bryderon ynglŷn â sut rydym ni'n cydweddu ar draws ffiniau o ran darpariaeth iechyd meddwl a rhestrau aros orthopedig, ac mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei ystyried fel Llywodraeth ac ystyried sut i fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n falch hefyd bod James yn tynnu sylw at ble mae Cymru yn arwain y ffordd, wrth gwrs, gyda swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a'n darpariaeth brosthetig ar gyfer cyn-filwyr a gollodd rannau o'r corff fel enghreifftiau.

Nawr, byddwn yn cytuno â Peredur bod cryn bryder am ansicrwydd geowleidyddol ar hyn o bryd, ond mae'n fy ngwahodd i ddweud a all Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau bod eu gweithredoedd yn cyd-fynd â'u geiriau. Wel, yn gyntaf oll, gyda'r gefnogaeth rydym ni'n ei chynnig trwy gynnydd o 30 y cant mewn cyllidebau eleni, rwy'n credu bod hynny'n dangos ein hymrwymiad i'r maes pwnc hwn ac i gefnogi'r lluoedd arfog a chyn-filwyr a rhai sy'n gadael y lluoedd. O ran gweithredoedd Llywodraeth y DU, rydym wedi cael, fel y dywedais yn fy natganiad, yr adolygiad amddiffyn strategol cyntaf mewn tri degawd nad yw'n seiliedig ar doriadau a thynnu gwasanaethau yn ôl, tynnu cefnogaeth yn ôl. Yn hytrach, mae'n cydnabod y bygythiadau difrifol iawn yr ydym yn eu hwynebu. Mae yna bethau sy'n hysbys ac fe wyddom eu bod yn bodoli, er enghraifft ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ar ffurf ymosodiadau seiber, er enghraifft Iran yn dymuno datblygu arf niwclear, er enghraifft y golled ofnadwy o fywydau yr ydym gwedi'i weld yn y Dwyrain Canol. Ac mae yna, wrth gwrs, bethau y gwyddom eu bod yn bodoli ond maen nhw'n anhysbys sy'n ymwneud â thechnoleg newydd ac sy'n dod i'r amlwg, technoleg sy'n tarfu, rhyfela biolegol. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hyn a pharatoi ar ei gyfer, ac mae'r adolygiad amddiffyn strategol yn nodi sut rydym ni'n mynd i wneud hynny, nid yn unig o ran camau gweithredu, ond o ran buddsoddiad, gyda chynnydd sylweddol iawn mewn buddsoddiad dros y blynyddoedd i ddod.

Ac nid yn unig o ran arfau ac o ran ymladd y byddwn yn gweld mwy o fuddsoddiad; mae hefyd, yn hanfodol, yn fy marn i, bod mwy o fuddsoddiad mewn stoc dai—stoc dai i'n lluoedd arfog; hefyd, mwy o fuddsoddiad o ran pontio i bobl sy'n gadael y lluoedd ac i gyn-filwyr, oherwydd mae hynny'n hanfodol bwysig os ydym am gael y gefnogaeth y mae'r comisiynydd cyn-filwyr yma yng Nghymru wedi'i nodi sydd ei angen arnom, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn clywed y bydd y buddsoddiad yn cynyddu i tua 5 y cant, neu fod yna uchelgais datganedig i gynyddu'r buddsoddiad i tua 5 y cant o'r cynnyrch domestig gros yn y blynyddoedd i ddod.

Felly, byddwn i'n dweud, oes, mae yna heriau y mae angen i ni eu hwynebu ar gyfer gadael y lluoedd; mae yna heriau y mae angen i ni eu hwynebu o ran cyn-filwyr, fel yr amlinellwyd gan y Comisiynydd Cyn-filwyr, ond mae yna hefyd feysydd yng Nghymru lle rydym yn arwain y ffordd. Rwy'n credu y bydd ehangu dyletswydd cyfamod y lluoedd arfog yn rhywbeth sydd o fudd i'r gymuned, nid yn unig yma yng Nghymru, ond i'r un graddau ledled y Deyrnas Unedig.

15:55

Diolch am eich datganiad. Os nad ydym yn dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol, rydym yn mynd i'w hailadrodd. Felly, 43 mlynedd yn ôl y mis hwn, arweiniodd bomio Syr Galahad at y golled fwyaf o fywydau mewn un diwrnod mewn ymgyrch filwrol ers yr ail ryfel byd. Fel rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod, roedd y rhan fwyaf o'r meirw, y clwyfedig a'r goroeswyr trawmatig yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig, ac maen nhw a'u teuluoedd yn dal i aros am esboniad pam eu bod nhw neu eu hanwyliaid yn gaeth ar long am dros bum awr yng ngolwg y gelyn, heb amddiffyniad o'r awyr a dim ond un llong lanio a oedd yn llawn ffrwydron rhyfel i'w cludo oddi ar y llong.

Roedd yr ymchwiliad gan y llynges i golli'r Syr Galahad yn ôl ym 1982 yn cuddio'r gwir. Yn ystod yr holl amser hwn, mae'r Gwarchodlu Cymreig wedi gorfod goddef cael eu beio am eu trasiedi eu hunain, yn groes i'r ffaith iddynt gael eu rhyddhau'n llwyr o fai ar y pryd. Mae'r adolygiad amddiffyn strategol yn tynnu sylw at yr angen i recriwtio a chadw mwy o bersonél milwrol, ond nid yw goroeswyr trychineb Ynysoedd Falkland, a theuluoedd y rhai a fu farw neu a gafodd eu creithio yn barhaol, wedi cael esboniad o hyd ynghylch y drasiedi hon y gellid fod wedi ei hosgoi, ac maent yn cael gwybod, yn sinigaidd, y bydd rhaid aros tan 2065 cyn y bydd dogfennau allweddol yn cael eu rhyddhau. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymuno â'r alwad am lys milwrol a rhyddhau'r dogfennau'n llawn a fydd yn datgelu beth aeth o'i le, yn enwedig i lywio beth fydd anghenion y lluoedd arfog wrth gymryd rhan mewn rhyfeloedd yn y dyfodol?

Diolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniad heddiw. Roedd Jenny ei hun, rwy'n credu, yn newyddiadurwr ar adeg y drasiedi ofnadwy hon ym 1982, ac mae'r hyn a ddigwyddodd i'r Syr Galahad yn parhau i fod yn bryder sylweddol iawn. Byddaf yn mynd i'r afael â'r mater hwn eto gyda Gweinidogion y DU—rwyf wedi gwneud yn y gorffennol, a byddaf yn gwneud hynny eto ar ran nid yn unig yr Aelod, ond ar ran y rhai sy'n dal angen cyfiawnder. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt hanfodol iawn bod yn rhaid i ni gael tryloywder, gonestrwydd a gwirionedd mewn cysylltiad â phob un o'r pethau a wnawn fel Llywodraeth, ac mae hynny'n cynnwys mewn cysylltiad â materion amddiffyn.

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiad heddiw, sy'n nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog. Rwyf eisiau ychwanegu fy llais i at lais bobl yn y Siambr hon am y gwaith anhygoel y mae ein lluoedd arfog a'n milwyr sy'n gwasanaethu, a'r rhai sydd wedi gwasanaethu, yn ei wneud i gadw ein gwlad yn ddiogel. Maen nhw'n gwneud gwaith hollol anhygoel, fel y mae'r teuluoedd sy'n eu cefnogi yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Fel y dywedais i, maen nhw'n cadw ein gwlad yn ddiogel, swyddogaeth gyntaf unrhyw Lywodraeth.

Ysgrifennydd Cabinet, rhywbeth rydw i wedi bod yn ei wthio ymlaen ers i mi gyrraedd yma oedd gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael clybiau chwaraeon sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog. Rwy'n falch iawn bod y gwaith a wnes gyda'r Gweinidog blaenorol, Lesley Griffiths, a'r Gweinidog presennol Jack Sargeant, wedi gweld Chwaraeon Cymru yn llofnodi cyfamod y lluoedd arfog. Ond mae yna lawer mwy o gyrff chwaraeon allan yna nad ydynt wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog. Os ydym yn mynd i sicrhau y gall cyn-filwyr a'n milwyr sy'n gwasanaethu adsefydlu'n haws yn ôl i'n cymunedau, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein clybiau chwaraeon yn gynhwysol ac yn deall anghenion cymuned y cyn-filwyr. Felly, mae gennyf i ddiddordeb yn y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda'r Gweinidog ar hyn o bryd i wneud yn siŵr y gallwn wthio hyn ymhellach, i gael mwy o'n cyrff llywodraethu chwaraeon i lofnodi cyfamod y lluoedd arfog i ddangos eu hymrwymiad i'n lluoedd arfog ledled Cymru.

16:00

A gaf i ddiolch i James Evans am ei gwestiwn? Rwy'n credu ei fod yn codi pwynt hanfodol—sef cynhwysiant o fewn ein cymdeithas ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog, p'un a ydyn nhw'n aelodau presennol, milwyr wrth gefn, rhai sydd wedi gadael, cyn-filwyr, cadetiaid. Rwy'n gwybod bod Jack Sargeant a Lesley Griffiths ill dau yn angerddol am y maes hwn mewn cysylltiad â chlybiau chwaraeon. Byddaf yn sicrhau bod trafodaethau yn parhau gyda Chwaraeon Cymru i gael cymaint o gyrff llywodraethu â phosibl i lofnodi'r cyfamod penodol hwn ac i sicrhau eu bod yn croesawu cymaint o aelodau'r lluoedd arfog â phosibl. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Comisiynydd gyda chyfrifoldeb dros gydraddoldeb i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith y Comisiwn i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae gan y sefydliad hwn hanes balch o ddangos ein diolchgarwch i gymuned y lluoedd arfog am eu haberth a'u gwasanaeth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Senedd wedi cynnal digwyddiadau a noddir gan Aelodau i nodi'r gwasanaeth coffa blynyddol, tanio salíwt gwn brenhinol blynyddol, gwasanaeth coffa'r llynges fasnachol frenhinol, ymhlith eraill.

Mae comisiynwyr wedi cytuno'n unfrydol y dylai'r Comisiwn ddod yn llofnodwr cyfamod y lluoedd arfog, yr addewid swyddogol sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael eu trin yn deg. Mae llofnodi'r cyfamod yn dangos ymrwymiad cryf i les aelodau'r gwasanaeth. Mae hyn yn cefnogi llesiant cyflogeion a gall gael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw, gan ei fod yn helpu i ddenu a chadw cyn-filwyr a milwyr wrth gefn.

Mae'r cyfamod hefyd yn adlewyrchu nodau strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn i fod yn sefydliad cynhwysol, lle mae ein cyfleoedd cyflogaeth yn agored i bawb, a lle mae staff yn cael cyfle i ffynnu. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn croesawu llofnodi'r cyfamod fel cam cadarnhaol ac yn cymryd diddordeb yn yr wybodaeth berthnasol a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Joyce Watson, mae'n bleser clywed hynny. Rwy'n llawn edmygedd ac yn hynod ddiolchgar. Rwy'n gwybod bod y Comisiwn wedi bod yn gynghreiriad cyson ac ymroddedig i'r gymuned lluoedd arfog. Mae clywed y bydd y Comisiwn yn llofnodwr cyfamod y lluoedd arfog yn newyddion i'w groesawu'n fawr. Yn sicr, os nad yw'r Rhingyll dan Arfau yn San Steffan eisoes wedi llofnodi'r cyfamod, rwy'n credu y bydd eich gweithredoedd fel Comisiwn yn sicrhau bod hynny'n digwydd yn y dyfodol agos. 

Hoffwn ddiolch i'r Comisiynydd Watson a thîm y Comisiynydd am weithredu ar ein cais fel grŵp i lofnodi cyfamod y lluoedd arfog. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad gwirioneddol o fwriad gan y sefydliad hwn a'n rôl yn cefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rwy'n gwbl ddiolchgar i'r Comisiwn am hynny. 

Ysgrifennydd Cabinet, byddwch yn ymwybodol, yn ystod datganiadau busnes, fy mod wedi gofyn a gofyn nawr—ddwywaith—am ddatganiad gan y Prif Weinidog ynglŷn â sicrhau sut yr ydym yng Nghymru yn cael y buddsoddiad gorau yn ein seilwaith amddiffyn sydd gennym ar hyn o bryd, boed hynny'n faes tanio Castellmartin, boed hynny'n farics Cawdor neu rywle arall, RAF Y Fali er enghraifft, o ystyried ein bod mewn byd gwahanol iawn i ble yr oeddem, dyweder, dim ond ddwy flynedd yn ôl—gan sicrhau ein bod yn dathlu ac yn nodi'r Wythnos Lluoedd Arfog hon trwy ddeall yr aberthau a aeth o'n blaenau, ond yr aberthau hynny y bydd efallai angen eu gwneud yn y dyfodol.

Nid ydym yn dymuno i'r aberthau hynny gael eu gwneud, ond rydym yn deall bod y byd hwn yn fyd gwahanol iawn i'r un yr ydym eisiau byw ynddo sy'n fyd heddychlon. Sut ydych chi'n gweithio gyda chymheiriaid yn y DU i sicrhau bod buddsoddiad mewn seilwaith amddiffyn ac aelodau'r lluoedd arfog yn deg yma yng Nghymru, o ystyried ein cyfraniad i'r lluoedd arfog? 

A gaf i ddiolch i Samuel Kurtz am ei gwestiwn? Fel y dywedais i wrth Joyce Watson, rwy'n credu ei bod yn newyddion gwych bod ein Senedd yn San Steffan wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog, yn union fel y mae ein Llywodraeth wedi llofnodi'r cyfamod. Mae i'w groesawu'n fawr iawn heddiw.

Wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, ac yn enwedig y Weinyddiaeth Amddiffyn, i chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi yn y sector amddiffyn yng Nghymru ac i sicrhau bod economi Cymru yn elwa ar y buddsoddiad yn y dyfodol a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad amddiffyn strategol. Dyma waith y mae fy ffrind a fy nghyd-Aelod yn y Cabinet Rebecca Evans, Gweinidog yr economi, yn arwain arno. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn cydnabod yr hyn a amlinellodd yr adolygiad amddiffyn strategol o ran dull cymdeithas gyfan. Mae hyn yn hanfodol bwysig wrth amddiffyn pob cartref, pob dinesydd, oherwydd gall llawer o'r bygythiadau bellach dreiddio i'n cartrefi, i'n bywydau bob dydd.

Gyda'r bygythiad o ran technoleg, mae seiberddiogelwch yn fater pwysig, ac ni ellir ei anwybyddu. Mae'r dull cymdeithas gyfan, a gadarnhawyd yn yr adolygiad amddiffyn strategol, yn cyd-fynd yn llwyr â'r dull o baratoi ar gyfer argyfwng a nodir yn fframwaith cydnerthedd Cymru. Mae'r adolygiad hefyd yn cyfeirio at yr angen i ystyried diwydiannau amddiffyn ar draws y gwledydd datganoledig, ac rwy'n sicr yn croesawu hynny. Fel y dywedais, mae hwn yn ddarn o waith yr wyf yn cynorthwyo'r Gweinidog ag ef, ond mae Rebecca Evans yn arwain ar hyn ac yn benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cael y budd mwyaf posibl o'r adolygiad.

16:05

Diolch, Llywydd. Rydyn ni'n ddyledus iawn i'n cymuned lluoedd arfog, y rhai sy'n dal i wasanaethu, eu teuluoedd, ac wrth gwrs ein cyn-filwyr. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y cyfraniad parhaus hynod werthfawr y mae aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn ei wneud ym mhob dinas, tref a phentref ledled Cymru.

Mae fy etholaeth i, Wrecsam, wrth gwrs yn ddinas filwrol falch, ac edrychaf ymlaen unwaith eto at fod yn rhan o wasanaeth coffáu ymgyrch Ynysoedd y Falkland 1982 Wrecsam ddydd Sadwrn nesaf y mae croeso i bawb ddod iddo, a fydd yn cael ei gynnal yn eglwys plwyf St Giles.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'n lluoedd, ein teuluoedd a'n cyn-filwyr, a tybed a allai amlinellu'r trafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ar ymestyn ôl troed y lluoedd arfog yng Nghymru, gan ystyried y cynnydd yng ngwariant amddiffyn sydd ar fin digwydd.

Yn hollol. Mae Lesley Griffiths, rwy'n gwybod, yn eiriolwr brwd dros y lluoedd arfog a dros gyn-filwyr, ymadawyr y gwasanaeth a chadetiaid ledled Cymru, ac yn arbennig yn ei hetholaeth ef yn Wrecsam, sydd â hanes balch yn y maes hwn.

O ran y cwestiwn a gafodd ei ofyn, ydyn, rydyn ni'n ceisio trafodaethau yn rheolaidd iawn, ac rydyn ni'n sicrhau'r trafodaethau hynny gyda Gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys, fel y soniais i eisoes, y Gweinidog dros gyn-filwyr, ond yn ehangach gyda Gweinidogion eraill yn yr adran, ac yn wir yr Ysgrifennydd Gwladol, i ganfod sut y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad sydd wedi'i amlinellu fel rhan o'r adolygiad amddiffyn strategol, ac yn arwyddocaol, o ystyried ein hymrwymiad hanesyddol ni i bersonél y lluoedd arfog yng Nghymru, sy'n cynnwys tua 6 i 7 y cant o holl deulu'r lluoedd arfog, sut y gallwn ni sicrhau bod y ffigur hwnnw nid yn unig yn cael ei gynnal, ond o bosibl sut y byddai modd ei dyfu yn y dyfodol, o ran personél uniongyrchol y lluoedd arfog a hefyd y milwyr wrth gefn. Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddeall sut y gallwn ni ddefnyddio buddsoddi ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth cadetiaid ac o bosibl hefyd ailgyflwyno rhywfaint o ddarpariaeth corfflu hyfforddi swyddogion y fyddin a gafodd ei golli yn ystod blynyddoedd cyni.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cabinet, i wneud y datganiad yma.

Yr wythnos diwethaf fe wnaethon ni groesawu'r cyhoeddiad bod gwynt ar y môr yn y môr Celtaidd yn symud o gynllunio i ddatblygu a chyflawni. Gyda dau gynigydd llwyddiannus wedi'u cyhoeddi i ddatblygu 3 GW o ynni glân, ac ymrwymiad clir gan Ystad y Goron i ddarparu'r 4.5 GW llawn, rydyn ni'n gweld dechrau biliynau o bunnoedd o fuddsoddi a miloedd o swyddi.

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad ym maes gwynt ar y môr, gan gynnal y datblygiadau prosiect gwynt ar y môr sefydlog cyntaf yn y gogledd. Mae'r Môr Celtaidd yn cadw Cymru ar flaen y gad o ran gwynt ar y môr drwy'r prosiectau FLOW cyntaf ar raddfa fasnachol. Mae gan Gymru lwybr sylweddol o fwy na 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr o amgylch ein harfordir yn nyfroedd Cymru, Lloegr ac Iwerddon. Rwyf i hefyd eisiau i Gymru chwarae ein rhan yn y cyfleoedd allforio ehangach wrth i'n cymdogion Ewropeaidd hefyd fuddsoddi mewn gwynt ar y môr.

Yr wythnos diwethaf, mynychais Global Offshore Wind 2025 yn Llundain, gan arddangos Cymru i ddatblygwyr a buddsoddwyr rhyngwladol. Yn ystod y gynhadledd honno roedd llu o gyhoeddiadau a datganiadau, pob un â'r prif uchelgais o sicrhau ein bod ni'n cynnal gwerth y buddsoddiad mewn gwynt ar y môr. Roedd hyn yn cynnwys £1 biliwn o fuddsoddiad newydd ar gyfer y gadwyn gyflenwi. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod busnesau yng Nghymru yn y sefyllfa orau i sicrhau cymaint o hynny â phosibl.

Gan gydnabod arwyddocâd y cyfleoedd hyn, ym mis Ionawr eleni, cyhoeddais fanylion y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Penodais arweinwyr sector gydag arbenigedd i helpu rhoi gwybod i mi am y camau y mae angen i ni eu cymryd i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i Gymru. Yn ystod Wythnos y Gwynt, ac yn dilyn cyhoeddiadau'r wythnos diwethaf, rwy'n lansio'r cynllun gweithredu grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Mae gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen wedi dwyn ynghyd ymdrech ar y cyd arweinwyr sector ledled Cymru, gan gynnwys datblygwyr, porthladdoedd, gweithgynhyrchu a sgiliau. Yr unig nod yw nodi'r hyn y mae ei angen arnon ni ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Ystad y Goron, Great British Energy, diwydiant a'n partneriaid cymdeithasol i sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol parhaol i Gymru.   

Mae'r holl dystiolaeth yn dangos pwysigrwydd strategol porthladdoedd lleol i ddatblygwyr prosiectau gwynt ar y môr. Yn syml, mae'n rhaid i ni gael prosiectau gwynt ar y môr newydd sy'n defnyddio porthladdoedd yn y DU. Ar gyfer datblygiadau sy'n wynebu'r gorllewin, mae hyn yn golygu porthladdoedd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd hyd at £80 miliwn ar gael i roi hwb i'r buddsoddiad yn y porthladd ym Mhort Talbot. Mae hwn wir yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'n porthladdoedd ni, a bydd yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd yn ein cymunedau arfordirol. 

Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi yn ein porthladdoedd yng Nghymru, ac wedi cytuno ar y cyd i greu dau borthladd rhydd. Mae'r porthladdoedd wedi gweithio gyda'i gilydd i ddechrau darparu strategaeth glir i ganiatáu i'r diwydiant gwynt ar y môr gael hyd yn oed mwy o sicrwydd yn ein gallu a'n capasiti. Fel rhan o'u gwaith, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn creu prosbectws porthladdoedd. Bydd hyn yn hyrwyddo ein porthladdoedd i ddatblygwyr a buddsoddwyr, ac edrychaf ymlaen at lansio'r prosbectws yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae gan Gymru sail gadwyn gyflenwi wedi'i phrofi a llwyddiannus, sy'n manteisio ar ein cryfderau diwydiannol ac yn ysgogi twf ar draws sectorau gweithgynhyrchu uwch. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi cryfderau'n sector, ac yn nodi camau y gallwn ni eu cymryd gyda'n partneriaid i sicrhau bod hyn yn tyfu.

O ran sgiliau, mae gan Gymru gynnig sy'n arwain y byd. Ledled addysg bellach ac uwch, rydyn ni'n gweithio gyda diwydiant ar becynnau pwrpasol i gefnogi'r sector gwynt ar y môr. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau arloesol gyda datblygwyr, rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus, a sefydlu seilwaith arbenigol yn ddiweddar fel y ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwynt ar y môr yn y Rhyl, a buddsoddiad ledled de Cymru yn sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae'r rhain, ynghyd â'n rhaglen sgiliau hyblyg, yn creu sylfaen sgiliau gref. Bydd y camau gweithredu ar sgiliau yn caniatáu i ni gryfhau hyn eto, i greu gweithlu hyblyg a fydd yn ystwyth ac yn gallu diwallu anghenion y diwydiant ar y môr yn ogystal ag eraill. Mae gennym ni hanes cryf yng Nghymru o ran y byd academaidd hefyd.

Mae polisïau cadarn yn cefnogi'n nodau uchelgeisiol, buddsoddiadau strategol a fframwaith cydsynio a fydd yn rhoi hyder i'r diwydiant a gweledigaeth gyffredin o ddyfodol cynaliadwy. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i ysgogi'r chwyldro adnewyddadwy, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn y sector hanfodol hwn. Rwyf i eisiau parhau i weithio gyda diwydiant i sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer gwynt ar y môr yn un sy'n cefnogi ein heconomi, cymunedau a'n cenedlaethau'r dyfodol.

Hoffwn i ddiolch i holl aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu hymrwymiad a'u gwaith caled dros y chwe mis diwethaf. Rydyn ni wedi gofyn am swm sylweddol gan ein harweinwyr sector a'r aelodau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth wrth i ni weithredu'r cynllun.

16:10

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Mae gwynt ar y môr, wrth gwrs, yn dechnoleg y mae Cymru, gyda'i harfordir cyfoethog, a, gadewch i ni fod yn onest, chyflenwad eithaf dibynadwy o wynt, mewn sefyllfa ddelfrydol i'w ddefnyddio. Mae gennym ni'r adnoddau naturiol, mae gennym ni'r lleoliadau a nawr mae gennym ni gyfle i arwain mewn sector a allai ddarparu buddion hirdymor i'n heconomi, ein cymunedau a'n diogeledd ynni.

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad diweddar bod Equinor ac EDF Gwynt Glas wedi ennill hawliau gwely'r môr i ddatblygu prosiectau gwynt ar y môr arnofiol yn y Môr Celtaidd. Mae'n gam cadarnhaol ymlaen ac yn un yr ydw i wedi'i hyrwyddo ers amser maith. Mewn gwirionedd, un o fy nghyfraniadau cyntaf yn Siambr y Senedd ar ôl cael fy ethol oedd un ar bwnc gwynt ar y môr arnofiol.

Ond mae'n rhaid i ni fod yn onest am y darlun ehangach. Mae'r cynnydd ym maes gwynt ar y môr yng Nghymru wedi bod yn araf. Rhwng 2016 a 2020, roedd capasiti gwynt gweithredol ar y môr yn wastad, ac, er gwaethaf targed Llywodraeth Cymru o 15 GW erbyn y 2030au, mae'r llwybr presennol yn dangos ein bod ni'n wynebu risg ddifrifol o'i fethu. Nid oedd unrhyw amheuaeth bod y cyhoeddiadau prydlesu diweddar yn nodi trobwynt. Gallai'r prosiectau arnofiol hyn bweru llawer iawn o gartrefi, ond maen nhw hefyd yn gyfle economaidd hanfodol i borthladdoedd Cymru, ac rwyf i eisiau pwysleisio hynny.

Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar hyn, gan gynnwys Port Talbot ac Aberdaugleddau, gan gynnwys porthladd Penfro. Mae Port Talbot, gyda'i chefndir diwydiannol trwm, yn ddelfrydol i fod yn safle ar gyfer adeiladu a chydosod tyrbinau. Mae porthladd Penfro a phorthladd Aberdaugleddau mewn sefyllfa dda ar gyfer gweithrediadau a chynnal a chadw. Dylai'r porthladdoedd hyn fod wrth wraidd diwydiant newydd, nid dim ond cam ar y ffordd. Ond i wneud i hyn ddigwydd, mae angen cadwyn gyflenwi gadarn yng Nghymru. Mae gwynt arnofiol yn gofyn am seilwaith arbenigol, sylfeini arnofiol, ceblau, llafnau tyrbinau, angorfeydd. Os yw'r rhain yn dod o dramor, byddwn ni'n colli'r manteisio yr ydyn ni'n ceisio eu hennill. Felly, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y cydrannau allweddol hyn yn cael eu cynhyrchu, eu cydosod a'u defnyddio o borthladdoedd Cymru ac nid dim ond eu mewnforio o dramor? Byddai'n eironig pe bai'r seilwaith sydd wedi'i gynllunio i gynyddu ein hallbwn ynni a'n ffyniant yn creu swyddi mewn mannau eraill.

Mewn ardaloedd fel fy un i, mae eisoes gennym ni'r sylfaen ddiwydiannol. Mae Ledwood Mechanical Engineering, Jenkins and Davies Engineering, Austwel Ltd ac eraill, gan gynnwys Simon Safety Ltd, yn gwmnïau sydd â gallu wedi'i brofi a gwreiddiau lleol dwfn. Mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r daith hon, nid yn cael eu gadael naill ochr. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n integreiddio'r rhain i ddatblygu'r dyfodol?

Y darn allweddol arall, felly, yw sgiliau. Ni fyddwn ni'n gweld llwyddiant hirdymor na'r adnewyddiad economaidd oni bai bod gennym ni'r gweithlu medrus i'w gefnogi. Mae hynny'n golygu gwireddu gwynt ar y môr arnofiol a'i wneud yn weladwy i'n pobl ifanc. Mae angen i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg weld y prosiectau hyn fel cyfle, fel dyfodol y gallan nhw weithio arno, ac yn aml dyma'r adborth sydd gennyf i o siarad â myfyrwyr yn y gorllewin. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi ymrwymo (a) i archwiliad sgiliau cenedlaethol, er mwyn deall cynnig sgiliau presennol Cymru, a (b) i gynllun sgiliau cenedlaethol cydgysylltiedig, un sy'n cynnwys anghenion diwydiannau presennol a diwydiannau'r dyfodol, yn ogystal ag anghenion y dyfodol, i sicrhau bod gan gwmnïau fel y rhai yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw'r gweithlu sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r prosiectau hyn? Hefyd, pa waith ydy Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU, Ofgem a'r Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol i ymdrin â'r rhwystrau er mwyn sicrhau nad yw prosiectau'n cael eu hatal gan fiwrocratiaeth? Rydyn ni'n gwybod pa mor hir weithiau, y mae'r prosiectau hyn yn cymryd i fynd yn fyw. Mae unrhyw ffordd o gyflymu hynny i'w groesawu.

Yn olaf, roedd yn amlwg o ymweliad diweddar y gwnes i â phurfa Valero Penfro fod y diwydiant olew a nwy yma am ddegawdau i ddod. Ac rwy'n gwybod ein bod ni'n siarad am wynt a gwynt ar y môr arnofiol yn ehangach, ond ni ddylai eu cyfraniad at bweru'n gwlad—y sector olew a nwy, hynny yw—gael eu diystyru neu'u hanghofio. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yna gyfres o ddewisiadau a chymysgedd ynni sy'n cynnwys FLOW a hydrocarbon ymhlith creu ynni arall?

Llywydd, mae'r cyfle sydd o'n blaenau ni'n enfawr. Rydw i wir yn gyffrous iawn am y cyhoeddiadau diweddar hyn, ond nid yw'n sicr. Gallai gwynt ar y môr drawsnewid tirwedd economaidd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd fel sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, ond mae angen brys a chywirdeb arnom. Felly, gadewch i ni wneud hyn yn gywir, nid yn unig ar gyfer ni ein hunain, ond ar gyfer ein porthladdoedd, ein cymunedau a chenhedlaeth nesaf o weithwyr Cymru, a all elwa ar hyn, wrth i ffyniant ddod yn ôl i rannau o Gymru. Diolch, Llywydd.

16:15

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny ac am gydnabod y manteision gwirioneddol y gellir eu sicrhau i Gymru o ganlyniad i wynt ar y môr. Ac mae'n anodd peidio â gorbwysleisio pwysigrwydd y cyhoeddiadau rydyn ni newydd eu cael yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn enwedig y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU ym Mhort Talbot, cyllid o hyd at £80 miliwn, i ddatgloi, yn y bôn, y manteision a'r cyfleoedd, ond yna hefyd y penderfyniadau y mae Ystad y Goron wedi'u gwneud o ran y cyfleoedd yn y môr Celtaidd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai un o brif amcanion rownd prydlesu 5 oedd sefydlu'r farchnad newydd honno mewn gwynt arnofiol ar y môr, a chydnabod bod gofyn i gynigwyr fanylu ar sut y bydden nhw'n sicrhau bod y buddion cymdeithasol ac economaidd newydd hyn rydyn ni mor awyddus i'w gweld yn digwydd yn cael eu gwireddu o ganlyniad i'w cynigion. Felly, bydd rhai manylion eraill i ddod nawr yn y misoedd nesaf, wrth i'r pwyntiau hynny gael eu cadarnhau a'u datblygu ymhellach. Gofynnwyd i gynigwyr hefyd nodi eu cynlluniau ar gyfer gweithio gyda'r porthladdoedd i gefnogi'r broses derfynol o gydosod y cynhyrchion, gyda'r angen am seilwaith arbenigol i osod y tyrbinau ar lwyfannau arnofiol cyn iddyn nhw gael eu halio i safleoedd terfynol y prosiect. Fel rhan o'u cyflwyniadau, mae'r cynigwyr dethol wedi nodi Port Talbot a hefyd Bryste fel lleoliadau posibl ar gyfer y gweithgaredd hwn. Felly, ein ffocws yma nawr yng Nghymru yw sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r manteision hynny. Ond mae'r cyhoeddiadau dros yr wythnosau diwethaf, rwy'n credu, yn ein rhoi ni mewn lle gwych i wireddu'r manteision hynny.

Rwy'n credu bod y pwyntiau am y porthladdoedd yn wirioneddol bwysig. Rydyn ni'n gwybod, er mwyn datgloi'r cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel ychwanegol, bod yn rhaid i ni sicrhau bod seilwaith porthladdoedd yn addas i'r diben ac yn gallu cynnig yr ateb o un pen i'r llall hwnnw i ddatblygwyr. Felly, rydyn ni wedi trafod yn benodol y mathau o wasanaethau technegol a gweithgareddau gweithredu a chynnal a chadw gweithgynhyrchu gwerth uchel y byddai modd eu cynnal ar draws yr holl borthladdoedd a'r ardaloedd cyfagos trwy'r grŵp gorchwyl a gorffen. 

Rwy'n credu ei bod hefyd yn cael ei gydnabod y bydd angen strategaeth aml-borthladd ar gyfer darparu gwynt ar y môr o amgylch arfordir Cymru. Mae gennym ni ein rhaglen ynni morol. Mae honno'n fenter drawslywodraethol, sy'n gweithio'n agos gyda'n prif weithredwyr porthladdoedd a datblygwyr prosiectau i ddeall yn llawn yr hyn sydd ei angen, ac yn bwysig, lle gallwn ni wneud gwahaniaeth fel Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n cael y trafodaethau cywir, ac mae'r porthladdoedd yn rhan fawr o hynny, ac fe wnaethon nhw chwarae rhan hollol hanfodol wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw. 

Unwaith eto, mae'r pwyntiau hynny am y gadwyn gyflenwi yn hollol hanfodol o ran sicrhau ein bod ni'n cynnal cymaint o'r gwerth â phosibl yma yng Nghymru. Felly, fel rhan o'n cynllun gweithredu gweithgynhyrchu, rydyn ni wrthi'n ymgymryd â'r ymarfer hwnnw i fapio cadwyni cyflenwi'r sector pwysig hwn, gan edrych yn benodol ar gapasiti, gallu a chydnerthedd ein cadwyni cyflenwi presennol a nodi lle gallwn ni fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chlwstwr y môr Celtaidd i baratoi cadwyni cyflenwi lleol ledled Cymru a de-orllewin Lloegr i sicrhau eu bod mewn sefyllfa i gynnig am gontractau'n llwyddiannus. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr clwstwr y môr Celtaidd, ochr yn ochr ag Ynni Morol Cymru,  Offshore Renewable Energy Catapult, Celtic Sea Power a Chyngor Cernyw. Felly, rydyn ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cadwyni cyflenwi ac yn canolbwyntio arnyn nhw.

Ond, wrth gwrs, y peth pwysicaf yn y fan yma, mewn gwirionedd, yw gwneud yn siŵr bod ein pobl yn elwa ar y cyfleoedd hynny ar gyfer cyflogaeth fedrus sy'n talu'n dda. Ac, eto, mae hyn yn rhywbeth y mae'r cynllun gweithredu yn ein helpu gydag ef o ran gosod llwybr gweithredu.

Felly, rydyn ni'n bwrw ymlaen gyda chyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol yn ein cynllun gweithredu sgiliau sero net ar gyfer 2030, ac fe wnaethon nhw gynnwys yn union yr ymgynghoriad ar sgiliau sector sero net, y gwnaethon ni gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion iddo yr haf diwethaf, ochr yn ochr â chrynodeb o sgiliau sectorau allyriadau a map ffordd drafft o sgiliau sectorau allyriadau. Felly, rwy'n credu bod yr holl bethau hynny wedi bod yn ein helpu ni i ddeall sut olwg sydd ar y sector ar hyn o bryd, ond yn hollbwysig, beth yw'r anghenion ar gyfer y dyfodol.

Felly, fe wna i achub ar y cyfle hwn i ddweud, eto, diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein helpu ni gyda'r cynllun gweithredu hwn. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i elwa ar arbenigedd a phrofiad gwirioneddol, ac rwy'n credu bod yr argymhellion ynghylch porthladdoedd, cadwyni cyflenwi, sgiliau, ac mewn mannau eraill yn yr adroddiad, wedi elwa ar hynny.

16:20

Rwy'n credu ein bod ni'n gweld rhywfaint o gynnydd, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn iawn i dynnu sylw at hynny, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, yn yr achos hwn, bod y gwrthbleidiau'n cytuno: mae'r cynnydd yn eithaf araf. Mae'r sector yn rhannu'r farn honno hefyd. Nid yw gweithredu ymarferol a buddsoddi mewn seilwaith yn cadw'n wastad â'r uchelgais a nodwyd.

Nawr, o ran parodrwydd porthladdoedd, fe godais i hyn sawl gwaith gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, gan gynnwys yn gynharach y mis hwn. Yna fe wnaethon ni glywed am gronfa gyfoeth wladol Llywodraeth y DU, bodolaeth partneriaethau a'r syniad bod pethau'n dechrau symud ymlaen nawr. Ond y realiti ar lawr gwlad yw, heb gamau gweithredu clir, brys, mae yna berygl y byddwn ni'n colli manteision economaidd llawn gwynt ar y môr. Rydyn ni'n gwybod bod y porthladdoedd ar y cyfandir yn buddsoddi; rydyn ni wedi gwybod hyn ers misoedd nawr. Ac yn agosach at adref, mae rhannau eraill o'r DU eisoes yn buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd i baratoi ar gyfer cydosod a defnyddio tyrbinau.

Felly, fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd Cymru'n cael ei hanwybyddu wrth i dyrbinau gael eu cynhyrchu a'u halio o lefydd fel Bryste yn hytrach na Phort Talbot. Nawr, pe bai hynny'n digwydd, mae hynny'n ergyd arall i Bort Talbot a'i phobl. Mae Tom Sawyer, prif swyddog gweithredol Porthladd Aberdaugleddau, a Ben Cottam, pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, ill dau wedi galw am amserlen gliriach i fusnesau a darparwyr addysg, fel y gallan nhw fod yn barod i fanteisio ar gyfleoedd sydd wedi cael eu creu gan gynlluniau ynni adnewyddadwy. Felly, pryd y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu amserlenni buddsoddi cadarn a cherrig milltir cyflawni? Mae'r ffaith bod y grŵp gorchwyl a gorffen yn weithredol yn rhywbeth i'w groesawu, ond rydyn ni eisoes yn dechrau o safle eilaidd. Rydyn ni eisoes ymhell y tu ôl i rai o'r porthladdoedd eraill, sydd eisoes yn bwrw ymlaen â'r buddsoddiad hwnnw. Ar hyn o bryd, mae'r ofn yn ddeublyg—yr hyn y soniais amdano yn gynharach, am Gymru yn colli cyfle, ond hefyd na fydd y dyfodol sy'n cael ei werthu i'n pobl ifanc byth yn cael ei wireddu.

O ran Ystad y Goron, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn hyn yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud bod y grŵp gorchwyl a gorffen hwn yn ymwneud â chreu gwerth economaidd parhaol i Gymru. Fy nghwestiwn i fyddai: wel, sut allwn ni wneud hynny os yw perchnogaeth cymaint o'n gwely'r môr yn nwylo Llywodraeth arall? Yn yr Alban nid yw datganoli Ystad y Goron wedi rhwystro datblygu gwynt ar y môr. Yn wir, maen nhw'n symud ymlaen â 19 o brosiectau o dan strwythur datganoledig. Mae Cymru yn haeddu'r un cyfle.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dweud y gallai 5,300 o swyddi gael eu creu yn sgil datblygiad newydd Ystad y Goron oddi ar arfordir Cymru. Wel, faint o'r swyddi hynny fydd wedi'u lleoli yng Nghymru mewn gwirionedd? Sut y bydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn sicrhau ein bod ni, o leiaf, yn llwyddo i gadw manteision gwaith medrus yma yng Nghymru? Nid oes dim o hyn yn glir o gwbl.

Nawr, os yw hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth, yna mae angen i ni wneud yn siŵr bod y genhedlaeth sy'n ein dilyn ni'n gweld y manteision llawn, nid yn unig o ynni glân, ond o enillion economaidd teg, swyddi o safon a'r pontio teg sy'n rhoi cymunedau Cymru yn gyntaf. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gweld hynny'n digwydd; dydyn ni ddim callach o ran beth yw'r trywydd.

16:25

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau hynny. Un o'r pethau y gwnaethon ni ofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen ei wneud oedd nid yn unig darparu cynllun camau gweithredu i ni, ond rhoi camau gweithredu i ni sy'n gysylltiedig ag amserlenni hefyd. Felly, fe welwch chi rai pwyntiau pwysig iawn yn y cynllun ynghylch pryd mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn credu y dylen ni gyrraedd cerrig milltir hanfodol penodol.

Byddwn i wedi hoffi cael y sicrwydd hwnnw ynglŷn â chyllid FLOWMIS yn gynharach. Mae'n rhywbeth rydw i wedi bod yn ei godi gyda Llywodraeth y DU, yn sicr ers i Lywodraeth newydd y DU ddod i rym, ac mae'n rhywbeth y gwnaethon ni ei godi gyda'r Llywodraeth cyn hynny hefyd. Ond nawr mae gennym ni'r sicrwydd hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n dda iawn. Mae hynny'n wirioneddol gadarnhaol ac mae'n rhoi hyder i symud ymlaen.

Pan edrychwch chi ar y cynllun gweithredu, mae yna ddwy weithred a dibyniaeth hanfodol sy'n bwysig iawn yn fy marn i—mae'r gyntaf yn ymwneud â sicrwydd y farchnad. Felly, mae hyn yn ymwneud â llwybr hirdymor o brosiectau a dulliau cymorth refeniw digonol parhaus i sicrhau bod y prosiectau hynny yn ddibynadwy ac yn fuddsoddadwy. Ac yna mae'r ail yn ymwneud â sefydlogrwydd, a dyna'r gefnogaeth wleidyddol barhaus a galluogi amgylchedd polisi sy'n caniatáu i brosiectau gael eu datblygu trwy brosesau rheoleiddio symlach â digon o adnoddau. Rwy'n credu y bydd y ddau beth hynny yn hollol hanfodol. Ac mae rôl bwysig iawn, rwy'n credu, yn Ystad y Goron yma, ac mae honno'n ymwneud â nodi, yn fwy manwl nawr, sut olwg fydd ar gylchoedd prydlesu yn y dyfodol. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth allweddol rydw i'n gofyn amdano gan Ystad y Goron ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi cael y dadleuon, droeon yn y Siambr, ynghylch datganoli Ystad y Goron. Dydy safbwynt Llywodraeth Cymru ddim wedi newid o gwbl ar hynny, ond dydw i ddim eisiau i'r ddadl honno, er mor bwysig ydyw, olygu ein bod ni'n colli golwg ar y pethau ymarferol pwysig sydd eu hangen arnon ni gan Ystad y Goron.

Roeddwn i yn Global Offshore Wind yr wythnos diwethaf, a chefais gyfle i gyfarfod ag Ystad y Goron, ac fe nodais i'r blaenoriaethau hynny, o ran y camau gweithredu ymarferol sydd eu hangen arnon ni. Ac mae'n ymwneud â nodi ble bydd y cylchoedd prydlesu yn y dyfodol, ble bydd y cyfleoedd yn y dyfodol, fel bod busnesau a datblygwyr yn gallu dechrau datblygu eu cynigion.

Mae'r pwyntiau am borthladdoedd, fel y dywedais i, wedi'u gwneud yn dda iawn. Mae gennym ni'r sicrwydd hwnnw ynghylch cyllid nawr, ond o fewn y cynllun gweithredu ei hun, yr argymhelliad yw ein bod ni'n datblygu ac yn cwblhau prosbectws porthladdoedd Cymru, y cyfeiriais ato, erbyn yr haf. Mae hwnnw'n ystyried anghenion y farchnad sefydlog ac arnofiol, ac fe fyddai'n cael ei gyhoeddi a'i lansio gan Lywodraeth Cymru. Ac yna rhwng hydref 2025 a haf 2026—byddai'n ymwneud â chefnogi prosiectau profi ac arddangos, a dylai porthladdoedd lleol fod yn cael trafodaethau i alluogi datblygwyr i ymgymryd ag integreiddio mewn porthladd yng Nghymru. Felly, mae'r cynllun gweithredu ei hun, rwy'n credu, yn ddefnyddiol iawn, o ran nodi'r amserlenni.

Yna roedd pwynt pwysig ynglŷn â chydsynio a'r rôl bwysig yn hynny o beth. Ac eto, rwy'n credu bod hynny'n un o'r gweithredoedd a'r dibyniaethau hanfodol hynny y cyfeiriais atyn nhw. Ac, yn sicr, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi sicrwydd yn y system yn y fan yna. Felly, mae hyn, unwaith eto, yn wirioneddol ffodus—llawer o bethau pwysig yn dod at ei gilydd ar yr un pryd, ac un ohonyn nhw yw gweithredu Deddf Seilwaith (Cymru) 2024. Wrth wraidd honno mae symleiddio'r broses gydsynio a gwneud pethau'n symlach a rhoi mwy o eglurder i ddatblygwyr, a chyflymu'r broses hefyd. Felly, rwy'n credu bod hyn, cyllid FLOWMIS, y penderfyniadau ynghylch Ystad y Goron yn ei chylch prydlesu ddiweddaraf, i gyd yn argoeli'n dda iawn, a'r ffaith nawr bod gennym ni gynllun gweithredu, gyda cherrig milltir ac amseroedd ynghlwm wrth hynny, rwy'n credu y bydd yn mynd â ni ar y daith honno i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd.

16:30

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad y prynhawn yma yn fawr iawn, ac yn dilyn cyhoeddiadau'r wythnos diwethaf am yr £80 miliwn ar gyfer seilwaith Port Talbot, am Ystad y Goron yn cyhoeddi'r ddau gynigydd a ffefrir ar gyfer y safleoedd hynny, gyda thrydydd safle i'w ystyried eto, a'r dyfodol eto i ddod i ni, rwy'n fwy ar agenda Sam Kurtz yma o fod ar yr ochr positifrwydd nag ar agenda Luke—mae'n ddrwg gen i Luke—o ran y pryderon mwy negyddol, oherwydd mae hon yn neges gadarnhaol. Roeddwn i yno yr wythnos diwethaf gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Gweinidog y DU, gyda Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, i edrych ar yr hyn oedd yno a beth allai fod yno ar gyfer y dyfodol. Dyma'r dyfodol. Dyma'r dyfodol rydyn ni'n edrych ato. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n cyrraedd yno.

Nawr a allaf ofyn y cwestiynau—? Rwy'n credu bod angen i ni ofyn y cwestiynau. Mae'r agenda sgiliau yn hanfodol. Felly, ydych chi'n siarad â'r colegau, ond hefyd ydych chi'n siarad â'r meysydd eraill ynghylch pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw? Ydych chi'n siarad â'r datblygwyr ynghylch pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw? Pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda nhw? Ond hefyd pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gydag Ystad y Goron i sicrhau y bydd y gadwyn gyflenwi yn lleol, ac felly eu bod yn rhoi yn eu ceisiadau bod angen cadwyni cyflenwi lleol, a'n bod ni'n cael y busnesau yma yng Nghymru? Oherwydd rwy'n credu mai Port Talbot yw'r harbwr gorau: dyma'r un dyfnaf sydd ar gael, a dyma'r un agosaf at y môr Celtaidd hefyd, felly dyma'r un go iawn i fod ynddo, ond mae angen yr holl bethau hynny arnom. Mae hyn yn y dyfodol, oherwydd nid yw'r dechnoleg ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yno'n llawn eto—roedden nhw'n dweud hynny yr wythnos diwethaf—ond mae angen i ni ei pharatoi. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael i'w pharatoi?

Unwaith eto, rwy'n falch iawn o glywed y croeso, fel y byddwn i'n ei ddisgwyl gan David Rees. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn rhan o drafodaethau ac wedi bod yn gwneud yr achos dros fwrw ymlaen â hyn ers amser maith. Rwy'n falch iawn hefyd o weld bod David Rees yn cydnabod bod Ystad y Goron wedi ymrwymo i'r trydydd safle hwnnw hefyd, felly rhyddhau'r 4.5 GW llawn hwnnw, ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n bwriadu dweud mwy am hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn, felly byddwn ni'n gwylio hynny'n agos iawn.

Rwy'n credu bod y pwyntiau ynghylch sgiliau yn hollol hanfodol, ac mae pennod ar sgiliau yn adroddiad ein grŵp gorchwyl a gorffen. Mae'r gwaith y cyfeiriais ato mewn ymateb i Samuel Kurtz yn gynharach, ynghylch y gwaith sgiliau sector a'r mapiau ffordd rydyn ni wedi'u gwneud, wedi cryfhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa sgiliau bresennol a hefyd yr heriau o ran sgiliau i bob un o'r sectorau o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y môr. Felly, mae hynny'n darparu rhywfaint o dystiolaeth newydd nawr i Medr, gan ei fod yn ystyried ei rôl o ran sicrhau bod y system addysg yn diwallu anghenion cyflogwyr, gan gynnig darpariaeth sy'n mynd i'r afael â'r bylchau penodol a'r prinder sgiliau llafur, sydd hefyd wedi'u nodi. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Mae gennym hefyd fapiau ffordd drafft ar gyfer sgiliau'r sector ynni glân, sy'n cynnwys prosiectau allweddol, gofynion o ran sgiliau a rhagolygon o ran maint y gweithlu ar gyfer sectorau sy'n gysylltiedig ag ynni glân. Maen nhw wedi cael eu datblygu. Maen nhw'n destun rhywfaint o waith dilysu data ar hyn o bryd, ond byddwn ni'n darparu dyddiad i'w cyhoeddi cyn bo hir. Ac wrth gwrs, ym mlwyddyn academaidd 2024-25, gwnaethom ddyrannu dros £70 miliwn i golegau addysg bellach ar gyfer darparu cyrsiau rhan-amser, a fydd yn chwarae rhan allweddol iawn wrth uwchsgilio unigolion i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y gorau o'r holl gyfleoedd hyn hefyd.

Ac o ran cadwyni cyflenwi, rydyn ni hefyd wedi rhoi £150,000 i Ynni Morol Cymru —roedd hynny yn 2023-24—a £150,000 ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgysylltu â'r sector, cyfeirio busnesau a rhoi cyngor iddynt a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ar draws technolegau tonnau, llanw a ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Mae hynny'n rhan bwysig o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gefnogi a datblygu'r sector ynni'r môr yng Nghymru, unwaith eto i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn barod i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hynny. Ac wrth gwrs, mae Ystad y Goron wedi cyhoeddi bod cyllid ar gael ar gyfer cadwyni cyflenwi, yn benodol er mwyn caniatáu iddyn nhw baratoi i wneud y gorau o'r cyfleoedd hynny. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu y dylen ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlith cadwyni cyflenwi yng Nghymru, fel y gallan nhw gael gafael ar y cyllid hwnnw i ffocysu eu gwaith o bosibl ar wasanaethu'r diwydiant ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, neu ddarparu rhannau hanfodol i'r diwydiant hwnnw.

16:35

Am wahaniaeth: er bod rhai pleidiau eisiau i ni fynd am yn ôl a mynd i lawr y pyllau glo, mae gennym ni Blaid Lafur sydd eisiau i ni fynd ymlaen, gan ymrwymo i sicrhau dyfodol i gymunedau. Mae gennym ni hanes yn sir Benfro o gyflenwi a buddsoddi mewn ynni, ac mae hynny'n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda iawn i gymryd y cyfleoedd hyn, manteisio arnyn nhw a rhedeg gyda nhw. Ac rydyn ni wedi gweld y cyfleuster newydd yng Ngholeg Sir Benfro sy'n cael ei gefnogi gan Shell, ac mae'n mynd i hyfforddi neu uwchsgilio 600 o unigolion erbyn mis Gorffennaf 2026. Mae hynny'n manteisio ar gronfa o wybodaeth a thalent sydd yno eisoes, ond mae hefyd yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf fel eu bod nhw'n gallu manteisio ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig a'u trafod yma heddiw, ochr yn ochr â busnesau lleol sydd â sicrwydd nawr ac sy'n gallu dechrau buddsoddi yn y cynigion diogel hynny. Ac wrth gwrs, bydd y Bil cynllunio sy'n mynd drwodd yn hanfodol i hynny. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, fy nghwestiwn i chi yw ein bod ni'n gweld pontio teg yn sir Benfro, gan fod hynny'n hanfodol i'r bobl hynny sy'n ymwneud â'r cyflogaeth ar hyn o bryd, ac y gallwn ni sicrhau dyfodol i'r bobl hynny sydd wrthi'n gweithio yn y diwydiant olew i bontio mewn ffordd ddymunol, ddidrafferth i'r technolegau newydd sy'n dod i'r amlwg.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac mae'r pwynt cychwynnol a wnaed gan Joyce Watson yn hollbwysig oherwydd rydyn ni wedi clywed Reform, er enghraifft, yn awgrymu bod angen i ni fod yn ailagor y pyllau glo ac mai dyma ddyhead ein pobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl, ond, mewn gwirionedd, mae hyd yn oed yn fwy peryglus na hynny, oherwydd un o'r pethau allweddol a archwiliodd ein grŵp gorchwyl a gorffen oedd yr angen am sicrwydd yn y sector ynni adnewyddadwy a sefydlogrwydd, ac, fel y dywedais i ar y dechrau, yr angen, mewn gwirionedd, am gefnogaeth wleidyddol barhaus ac amgylchedd polisi sy'n galluogi.

Nawr, byddwn ni'n darparu hynny yma yng Nghymru, ond pe bai Reform yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n arwain, ni fyddai unrhyw hyder o gwbl yn y sector, ac fe allech chi fod mewn sefyllfa lle mae'r holl enillion posibl hyn— biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, miloedd o swyddi—yn cael eu rhoi yn y fantol oherwydd nad oes hyder mewn plaid fel honno i gyflawni.

Felly, rwy'n credu bod y pwynt a wnaed yn y fan yna yn hollbwysig, a'r bobl y gwnaeth Joyce Watson a minnau gyfarfod â nhw pan wnaethon ni ymweld â chyfleuster Shell yn sir Benfro, nhw fydd yr union bobl ifanc hynny a fydd yn elwa ar yrfaoedd hir, gwerth chweil ym maes ynni adnewyddadwy, yn enwedig ac o bosibl o amgylch ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ond ffurfiau eraill hefyd, ac roedd gweld a chwrdd â'r bobl ifanc hynny yn fraint lwyr. Roedden nhw mor frwdfrydig ac yn edrych ymlaen cymaint at yr hyn sydd o'u blaenau. Alla i ddim dychmygu beth fydden nhw'n ei wneud o'r awgrym y dylen nhw fod yn gweithio mewn pwll glo yn lle hynny.

Prynhawn da, unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r datganiad hwn i'w groesawu am nifer o resymau, ond yn enwedig os ydym yn meddwl am y ffaith bod y byd ar dân. Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd wrth gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r angen a'r uchelgais i sicrhau twf economaidd yma yng Nghymru, ac rydyn ni wedi clywed ar draws y Siambr pa mor bwysig yw sgiliau, pa mor bwysig yw'r angen i ni fod yn edrych tuag at genedlaethau'r dyfodol, a sut allwn ni ddod â'r ddau beth hynny at ei gilydd i sicrhau ein bod ni'n gweld y pontio teg hwn, i sicrhau bod y bobl hynny sy'n gweithio yn ein diwydiannau sy'n drwm ar garbon yn cael y cyfle i symud nawr i'r diwydiannau gwyrdd.

Dydw i ddim eisiau bod yn gwbl negyddol yn y fan yma, ond rwyf am ddweud bod yna bryder ynglŷn â'r amserlen; wyddoch chi, mae hwn yn fater brys, ar gyfer yr hinsawdd ac ar gyfer twf economaidd a swyddi yma yng Nghymru. Ac mae'r cwestiwn yna sydd wedi'i godi, ac rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys, ynglŷn â datganoli Ystad y Goron, a ble bydd yr arian yn mynd o'r prydlesi ar y môr. Rydyn ni'n gwybod bod gan yr Alban reolaeth dros Ystad y Goron yn y fan honno—mae hynny wedi bod yn wir ers 2017—gan gynhyrchu dros £100 miliwn ar gyfer cyllid cyhoeddus, felly dydy hyn ddim yn ymwneud â ni'n gwneud pwynt gwleidyddol yn unig, mae'n ymwneud â dweud, 'A dweud y gwir, mae angen y pwerau hynny arnon ni er mwyn dod â'r arian yma i Gymru.' Felly, a gaf i ofyn yn benodol i chi pa gamau rydych chi'n eu cymryd—fe wnaethoch chi sôn am drafodaethau—er mwyn sicrhau bod eich cydweithwyr yn San Steffan yn clywed yn glir ein bod ni am i Ystad y Goron yma yng Nghymru gael ei datganoli? Diolch yn fawr iawn.

16:40

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac mae'r pwynt am bontio teg yn hollbwysig. Rydyn ni wedi gweld yng Nghymru, efallai yn fwy nag mewn llawer o rannau eraill o'r byd, sut mae pontio annheg yn edrych, felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n pontio yn y ffordd deg honno tuag at ynni gwyrdd. Rwy'n hyderus y gallwn ni wneud hynny gyda'n ffocws ar sgiliau a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ym mhob rhan o Gymru o ran ynni adnewyddadwy.

O ran datganoli Ystad y Goron, rydyn ni wedi bod yn glir iawn nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw amwysedd ynglŷn â'r neges honno yn San Steffan. Yr hyn y byddaf i'n ei ddweud yw, un o'r pethau sy'n bwysig i ni yw mai pwrpas datganedig Ystad y Goron, yn y bôn, yw codi arian ar gyfer Trysorlys EF, sy'n weithred fonheddig, ond rydyn ni'n credu bod rôl bwysig hefyd o ran sicrhau bod cyfleoedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, bod yna gyfleoedd i gyfrannu at uchelgeisiau cymdeithasol a diwylliannol hefyd. Felly, dylen ni fod yn edrych ar Ystad y Goron yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, nid dim ond o ran codi arian ar gyfer y Trysorlys yn unig. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar ein meddyliau pan fyddwn ni'n meddwl am yr hyn y bydden ni'n ei wneud pe bai Ystad y Goron yn cael ei datganoli. Felly, nid yw ein sefyllfa wedi newid o gwbl, ond, yn yr un modd, dydw i ddim eisiau i ni golli'r cyfleoedd hynny i ddarparu'r hyn y mae ein grŵp gorchwyl a gorffen yn ei ddweud wrthym sydd ei angen ar y sector a datblygwyr, ac mae hynny cynnwys sicrwydd ar beth yw'r cyfleoedd yn y dyfodol hefyd.

Ysgrifennydd Cabinet, mae aber afon Hafren yn cynnig potensial mawr ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys llwyfannau gwynt arnofiol ar y môr. Felly, allech chi gadarnhau bod yr ardal honno o arfordir Cymru yn eich meddyliau a'ch gwaith fel Ysgrifennydd Cabinet wrth ymgysylltu â phartneriaid allweddol i fwrw ymlaen â llwyfannau gwynt arnofiol ar y môr oddi ar arfordir Cymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ac, mewn gwirionedd, mae yna bennod benodol eto yn ein hadroddiad sy'n ymwneud â'r sylfeini a'r is-strwythurau y bydd eu hangen. Mae rhai camau gweithredu a dibyniaethau pwysig iawn yn y rhan honno o'r adroddiad hefyd. Mae'n cyfeirio at bwysigrwydd strategaeth ddur Llywodraeth y DU. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth a fydd yn bwysig iawn o ran sicrhau ein bod ni'n gallu gweithgynhyrchu'r strwythurau hynny, oherwydd mae cyfleoedd nid yn unig o fewn y porthladd ei hun, ond yn llawer ehangach ledled Cymru i fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi hanfodol honno.

7. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

Eitem 7 sydd nesaf, y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n gwneud y cynnig yma. Mark Drakeford.

Cynnig NDM8933 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-4;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 5-40;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 41-65; ac

f) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn nhrafodion Cyfnod 2 y Bil hwn, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid y penderfyniad i amrywio'r drefn ar gyfer ystyried gwelliannau. Gweithiodd y dull yn dda o ran grwpio a thrafod y gwelliannau gerbron y pwyllgor. Byddai'r gorchymyn a gynigir gan y cynnig hwn yn golygu y byddem yn mabwysiadu'r un dull yng Nghyfnod 3 ag a weithredwyd yn llwyddiannus yng Nghyfnod 2, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Does gyda fi ddim siaradwyr ar gyfer y cynnig, felly dwi'n cymryd bod dim byd mwy i'w ddweud gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:44.