Y Cyfarfod Llawn
Plenary
29/04/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn.
Mae rhai ohonoch chi yma am y tro cyntaf yn y Siambr yma y prynhawn yma. Mi gymeriff ychydig ddyddiau i ni ymgyfarwyddo â’r Siambr newydd, felly pawb â rhywfaint o amynedd tuag at ein gilydd wrth wneud hynny a dwi’n siŵr y down ni i gyd i ben.
Mi wnawn ni ddechrau yn yr un modd ag yr ydym yn dechrau bob prynhawn dydd Mawrth, gyda’r cwestiynau i’r Prif Weinidog. Ac mae’r Prif Weinidog yma i ateb y cwestiynau, a nawr mae’n rhaid i fi ffeindio Siân Gwenllian. Ble wyt ti? Siân Gwenllian, yn y cefn, i ofyn y cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermydd teuluol? OQ62631

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth eang o gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol—er enghraifft ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn offer, technoleg a gwelliannau ar ffermydd, y dysgu a'r datblygu sy’n cael ei gynnig gan Cyswllt Ffermio, a’r cyngor sydd ar gael gan ein gwasanaeth cyswllt fferm. Mae’r rhain i gyd yn dangos ein hymrwymiad i helpu’r byd amaeth yng Nghymru i gael dyfodol cynaliadwy.
Un ffordd ymarferol o ddangos cefnogaeth i ffermydd teuluol fyddai i chi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth Lafur yn Llundain i edrych eto ar y newidiadau i’r dreth etifeddiaeth sydd ar y gweill. Mae wedi dod i fy sylw i y bydd y newidiadau i ryddhad yn cael effaith anghymesur ar ferched—merched sydd yn weddwon ffermio—oherwydd ni fyddai ryddhad treth y gŵr sydd wedi marw yn trosglwyddo i’r weddw er mwyn darparu dwbl y rhyddhad ar farwolaeth y weddw. Rŵan, dwi’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod hynna’n sylfaenol annheg. Mae’r teuluoedd wedi colli allan ar gyfleon i gynllunio ystadau a llunio ewyllysiau a fyddai’n rhoi sicrwydd i’r plant ar gyfer y dyfodol. Felly, a wnewch chi fynd ar ôl y pwynt penodol hwn efo’r Canghellor Llafur yn San Steffan? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno bod hwn yn fater o gydraddoldeb i ferched Cymru sydd angen eich sylw chi a sylw y Llywodraeth yma.

Diolch yn fawr. Fel rŷch chi’n ymwybodol, mae treth etifeddiant yn dreth sydd yn gyfrifoldeb i'r Deyrnas Unedig. Ac, wrth gwrs, roedd rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Ond dwi ddim wedi clywed yr ongl yna o’r blaen ac, felly, byddaf yn trafod gyda’r Gweinidog yma, cyn gweld os bydd angen trafod ymhellach, jest fel eu bod nhw yn ymwybodol o’r ongl yma i fater treth etifeddiant. Diolch yn fawr. Os oes unrhyw wybodaeth ychwanegol, byddai’n help pe gallech chi ei hanfon ataf fi.

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais a materion eraill yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru? OQ62603


Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.




Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. A dwi am ddweud gair bach o deyrnged ar y dechrau i’r canwr a’r ymgyrchydd canser Mike Peters, wedi ei farwolaeth o.



3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029? OQ62627



Mae'n well i fi hefyd ategu'r llongyfarchion i grŵp pêl-droed Wrecsam. Fel dywedodd Tomi Caws ar Radio Wales yr wythnos yma, mae pethau'n mynd mor dda mae hyd yn oed yn bosib, efallai, enillon nhw'r Eurovision Song Contest y flwyddyn nesaf, ond cawn ni weld os aiff hi cystal â hynny, ontefe.
Ond yn ôl at ddinas diwylliant, gaf i ofyn pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â hyn? Oherwydd dwi wedi clywed gan nifer o gynghorwyr yn Wrecsam does yna ddim penderfyniad terfynol wedi cael ei gymryd eto y bydd yna ddinas diwylliant yn 2029. Yn wir, does yna ddim canllawiau wedi cael eu rhyddhau ar gyfer dinasoedd sydd â diddordeb i gymryd rhan, a bod hynny efallai'n llesteirio ychydig ar y gwaith paratoi yn lleol. Felly, a wnewch chi sicrhau ymrwymiad clir y bydd yna ddinas diwylliant, yn ogystal, wrth gwrs, â chefnogi cais Wrecsam?
Diolch yn fawr. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Gwnaf i fynd i weld os oes unrhyw wirionedd yn hynny. Ond, wrth gwrs, fy niddordeb i yw i gael dinas diwylliant. Mae'n hen bryd inni gael dinas diwylliant yng Nghymru.
4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 80 mlynedd ers diwrnod VE? OQ62605



5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r effaith bosibl ar ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot o ganlyniad i ymyrraeth Llywodraeth y DU yng ngwaith dur Scunthorpe? OQ62611

Fel dwi'n dweud, byddaf i'n gwneud datganiad llafar ar Fil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) yn nes ymlaen heddiw.


6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twf busnesau bach? OQ62630

Rŷn ni'n darparu sawl gwahanol fath o gefnogaeth i fusnesau bach. Mae hyn yn cynnwys Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes. Mae gyda ni hefyd wasanaeth cefnogi pwrpasol ar gyfer rheoli perthynas, arloesi ac allforio.


7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU o'r diffiniad o fenyw? OQ62609



8. A wnaiff y Prif Weinidog rhoi diweddariad ar y cyllid o £1 miliwn ar gyfer lido Brynaman a ddynodwyd yng nghyllieb y Llywodraeth ar gyfer 2025-26? OQ62628

Roedden ni’n hapus i weithio ar y cyd gyda Jane Dodds i sicrhau bod y gyllideb derfynol yn cael ei phasio. Roedd hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi'r cam nesaf o ddatblygu lido Brynaman, ac mae swyddogion wrthi’n trefnu cyfarfod gyda'r sefydliad sy'n arwain y gwaith adnewyddu i drafod y camau nesaf.
Diolch, Brif Weinidog. Fe adeiladwyd y lido yn wreiddiol, fel cymaint o bethau yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan gyfraniadau ariannol glowyr lleol ac wedyn gan waith gwirfoddol gan bobl di-waith yn y gymuned. Fe safodd e am bron canrif nes bod gaeaf caled yn dod, ac wedyn fe'i caewyd am y 15 mlynedd diwethaf. Ond nawr mae'r un ysbryd cymunedol gwaelod i fyny gyda chwmni cymunedol lleol eisiau ailadeiladu'r lido, neu'r baths fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Rwy'n croesawu'r newyddion yma, ond ydy'r Prif Weinidog jest yn gallu rhoi ychydig bach o fanylion inni? Ydych chi wedi cael cyfle i gael gair gyda'r cwmni cymunedol lleol eto? Pryd mae disgwyl i hynny ddigwydd? Oes yna hyblygrwydd hefyd o ran y dosraniad rhwng cyllid refeniw a chyllid cyfalaf, a hefyd o ran yr amlen amser? Hynny yw, os bydd e'n mynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, oes yna hyblygrwydd hefyd ar gael o ran hynny?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i adfer a dod â defnydd i'r lleoliad hanesyddol yma o 1932—cyn yr ail ryfel byd. Dwi'n gwybod roedd e'n lleoliad oedd yn cael ei garu, ei ddefnyddio a'i edmygu, ac mae e'n grêt bod hwn yn dod nôl ar gyfer Brynaman. Fel dwi'n dweud, bydd swyddogion yn cwrdd gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn hapus i roi update i chi ar ôl i hynny ddigwydd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma bydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad hwnnw i'w wneud gan y Trefnydd. Y Trefnydd, felly, i wneud y datganiad busnes. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon, fel y nodir ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig). Y Prif Weinidog, felly, i wneud y datganiad yma—Eluned Morgan.

Mae rhai wedi dadlau y gallai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig fod wedi cadw un ffwrnais i fynd yn hirach drwy berswadio Tata i ailagor y cytundeb yr oedd wedi’i wneud â’r Llywodraeth Geidwadol, ond fyddai hynny byth wedi bod yn bosibl gan fod Tata, o'r cychwyn cyntaf, wedi ei gwneud hi'n glir mai'r unig ddewis ymarferol oedd eu cynllun nhw a dim ond eu cynllun nhw. Mae eraill wedi dweud pe na bai Tata yn barod i aildrafod y cytundeb, yna dylai'r Llywodraeth Lafur newydd fod wedi deddfu a chymryd rheolaeth o weithfeydd Port Talbot, fel y mae wedi gwneud yn Scunthorpe. Ond byddai hynny wedi bod yn afrealistig ac yn anymarferol gan fod Tata mor wrthwynebus. Byddai wedi golygu achos cyfreithiol hir yn erbyn y cwmni a byddai'r ffwrnais oedd yn dal i weithio o bosibl wedi cael ei chau yn gynt, a byddai Tata wedi tynnu eu cyfraniad o £700 miliwn i adeiladu’r ffwrnais arc drydan yn ôl.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos â'r undebau, a bydd yn dal i weithio gyda nhw i ddod o hyd i'r ateb gorau posibl i'r gweithwyr, busnesau lleol a chymunedau lleol. Mae rheolwyr Tata wedi sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu'r ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot yn dechrau yr haf hwn, ac mae’n dda gweld bod contractau eisoes wedi cael eu llofnodi gyda thri chwmni o dde Cymru, a fydd yn diogelu 300 o swyddi crefftus i helpu’r newid yn Tata. Pan fydd y gwaith adeiladu hwnnw'n dechrau, bydd y broses o gyflawni dur gwyrdd ym Mhort Talbot yn dechrau troi’n realiti, a bydd yn gam adeiladol tuag at ddyfodol cynaliadwy a mwy disglair i Tata a safleoedd sy’n dibynnu arno ledled Cymru.
Dur yw’r sbardun i newid llawer mwy yng Nghymru. Mae gyda ni weledigaeth holistig ar gyfer trawsnewid rhanbarth de Cymru trwy seilwaith a buddsoddiad newydd. Mae hon yn weledigaeth sydd â chefnogaeth eang ein rhanddeiliaid ar gyfer trawsnewid y rhanbarth. Ond mae angen gweithio ar y cyd, gyda chefnogaeth Llywodraeth San Steffan. Y gobaith yw gweld hynny’n digwydd trwy waith parhaus ar strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig.
Rŷn ni’n cydnabod bod y trawsnewid hwn yn cael effaith enfawr, bod y gweithwyr dur a’u teuluoedd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, a bod yr effaith ar gontractwyr hefyd wedi bod yn fawr. Rŷn ni’n deall hefyd fod yna rai sy’n teimlo y dylai’r un mesurau fod wedi cael eu rhoi ar waith ym Mhort Talbot ag y cafodd eu rhoi ar waith yn Scunthorpe, ond, am y rhesymau dwi eisoes wedi esbonio, mae sefyllfa’r ddau le yn wahanol.


Unwaith eto, mae safonau dwbl a diffyg gweithredu Llafur wedi gadael Cymru ar ei cholled, ac mae'r ffeithiau'n profi hynny. Fel y mae ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru yn dangos, does yna ddim gwybodaeth am faint o gyn-weithwyr Port Talbot sy'n ailsgilio; dim data ar gael mynediad at gefnogaeth; dim cofnod o i ble mae'r cyllid yn mynd. Does yna ddim syndod, felly, fod lleisiau'r trigolion lleol dwi wedi siarad â nhw ar strydoedd Port Talbot a'r cyffiniau dros yr wythnosau diwethaf yn llawn dicter a siom dwys yn y Llywodraethau Llafur yn fan hyn ac yn San Steffan. Does yna ddim syndod eu bod nhw'n gofyn rŵan: beth ydy pwrpas Llafur bellach? Pam mae gwerth gweithiwr ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn llai na gwerth gweithiwr yn Scunthorpe? Fel y dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan:










Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y datganiad yma—Julie James.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad heddiw. Dwi'n gwerthfawrogi'r ffordd adeiladol dŷch chi wedi bod yn trafod efo ni fel trefnwyr busnes hefyd, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gallu mynd rhagddi, a hefyd y ffaith fod hwn yn dod yn ei flaen yn gynt na'r arfer fel bod pwyllgorau hefyd—. Oherwydd, yn amlwg, mae yna rôl bwysig o ran y Siambr hon, yr holl bwyllgorau craffu, ac mae gallu paratoi, ynghyd â'r rhanddeiliaid hefyd i wybod, oherwydd mae yna lot fawr o waith o'n blaenau ni am y flwyddyn olaf hon—.
Yn amlwg, wrth gwrs, mae o'n anffodus dros ben ein bod ni wedi cael cyfnod o ansefydlogrwydd gan y Llywodraeth, sydd yn golygu bod yna nifer o'r pethau ddylai fod wedi bod yn digwydd wedi cael eu gwasgu i mewn i’r flwyddyn ddiwethaf yma, ac mae’n rhaid inni gydnabod hynny a’r straen mae hynny’n mynd i fod yn ei roi, rŵan, ar gynifer o’n pwyllgorau ni. Ond hefyd, mae yna bethau i’w croesawu yma, wrth gwrs. Mae gwaddol y cytundeb cydweithio yn amlwg o’r hyn dŷch chi wedi’i gyhoeddi heddiw, ac yn amlwg, dŷn ni’n mynd i fod yn falch iawn o fedru helpu i lywio a siapio’r Biliau hyn wrth iddyn nhw fynd drwy’r camau olaf.
Mae yna rai pethau, wrth gwrs, sydd yn ein tristáu ni ar feinciau Plaid Cymru, yn sicr y gohirio a fu o ran y diwygiadau hollbwysig i’r system treth cyngor. Mae hi’n system annheg, anghymesur, ac mae hi’n drueni mawr ein bod ni wedi peidio â gallu mynd â hwnnw rhagddo. Hefyd, wrth gwrs, creu Senedd fwy cyfartal o ran cynrychiolaeth rhywedd—bod hwnna wedi cael ei ollwng yn gyfan gwbl. Mae hwnna’n rhywbeth dŷn ni’n tristáu'n fawr ohono ac yn pryderu’n fawr beth fydd oblygiadau hynny o ran y seithfed Senedd. Felly, mae yna rai pethau y gellid fod yna.
Dwi yn falch o glywed yn eich datganiad heddiw y byddwch chi’n mynd ati o ran sicrhau bod y bylchau deddfwriaethol sydd yna o ran llywodraethiant amgylcheddol, sydd wedi ein gadael ni, wrth gwrs, fel yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb drefniadau o’r fath ers Brexit—bod hynny’n symud rhagddo. Hefyd, mi wnaethoch chi sôn ynglŷn â diwygio system Tribiwnlysoedd Cymru, a bod yna waith yn mynd i fod yn cael ei wneud. Dwi’n cymryd ein bod ni ddim yn mynd i weld y ddeddfwriaeth honno; byddwn i’n gwerthfawrogi cael y cadarnhad. Yn amlwg, mi oedd Adam Price yn glir iawn y mis diwethaf o ran yr angen ein bod ni’n moderneiddio ac uno hynny. Ydych chi’n gweld bod hynny’n mynd i fod yn bosib, neu ydy hynna’n rhywbeth dŷch chi’n rhagweld sydd ddim yn mynd i fod yn bosib oherwydd cyfyngiadau amser?
Mae yna bethau, wrth gwrs, y byddwn ni'n trafod yn hwyrach heddiw, o ran y Bil ar ddiogelwch tomenni glo. Mae hwn yn rhywbeth mae nifer o'n cymunedau ni wedi bod yn ysu a deisyfu i weld. Ond fel mae amryw o randdeiliaid wedi pwysleisio, mae sgôp y Bil yn ymddangos yn llawer mwy cul i gymharu â beth gafodd ei awgrymu'n wreiddiol yn y Papur Gwyn. Felly, mi fydd y broses graffu yn eithriadol o bwysig.
Felly, wrth roesawu rhai o'r pethau, ac yn amlwg, y rhai dŷn ni wedi bod yn cydweithio arnyn nhw, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni i gyd gydnabod faint o waith sydd o'n blaenau ni a'r pwyllgorau craffu er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth o fewn y Senedd hon yn mynd i fod y ddeddfwriaeth gorau posib, a'n bod ni'n dysgu gwersi hefyd pam fod sefydlogrwydd gwleidyddol yn eithriadol o bwysig, oherwydd ei fod o'n gallu amharu ar allu Senedd i allu ddeddfwriaethu.
Ac yn olaf, Mick Antoniw.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar strategaeth bwyd cymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae'r hyn rydym ni'n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd, ein diwylliant, a chryfder ein cymunedau.
Nawr, rwy'n gwybod bod gwytnwch bwyd cymunedol yn fater o ddiddordeb personol i nifer o Aelodau ar draws y Siambr hon, ac rwyf am ddiolch i'r rhai ohonoch sydd wedi dangos diddordeb gweithredol yn y pwnc hwn ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n eich annog i gefnogi'r strategaeth bwyd cymunedol a'r manteision y bydd ein gweithredoedd ar y cyd yn cyflwyno i bobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dwi eisiau dechrau drwy groesawu'r ffaith bod y strategaeth yma wedi cael ei chyhoeddi. Mae hi, wrth gwrs, yn deillio o'r cytundeb cydweithio roedd gennym ni gyda'r Llywodraeth. Tra ein bod ni yn ei chroesawu hi, dwi'n siwr byddai'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun yn cyfaddef efallai ei bod hi wedi cymryd yn hirach na byddwn ni wedi dymuno inni gyrraedd y pwynt yma.
Diolch am y cyhoeddiad yma. Un peth roeddwn i wedi sylwi oedd ddim yn y cyhoeddiad oedd sôn am gig gêm. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n ystyried hwnna ychydig yn wahanol, ond mae cig gêm yn cael ei gynhyrchu ar raddfa eithaf eang yma yng Nghymru. Mae e'n gig sydd yn gig iach, yn llawn protin, bron dim braster arno ac mewn niferoedd yma yng Nghymru. Mae e'n gig a fuasai'n medru cyfrannu at ddeiet plant yn ein hysgolion ni ac yn y sector cyhoeddus, trwy'r ysbytai ac yn y blaen. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gig gêm, cig fel ffesant, neu gwningen hyd yn oed, sydd, fel dwi'n dweud, yn y niferoedd yma, a sut gallai hwnna gyfrannu at eich cynllun chi?
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog.
Eitem 6 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adroddiad y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant NHS Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Hydref diwethaf, fe wnes i apwyntio grŵp cynghori gweinidogol allanol i roi arolygiad annibynnol ar berfformiad a chynhyrchiant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Fe wnes i apwyntio aelodau gydag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol yn eu meysydd a gofyn iddyn nhw roi sicrwydd i mi ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau cyfredol a chyngor ar sut y gellid eu cryfhau nhw. Cadeiriwyd y grŵp gan gyn-brif swyddog gweithredol NHS England, Syr David Sloman, a gofynnais iddyn nhw ffocysu ar ofal wedi'i gynllunio, diagnostics, perfformiad canser a gofal brys.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r grŵp ymgynghorol am yr adroddiad yma, sydd yn ddarllen defnyddiol. Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cael digon o amser i brosesu'r adroddiad trylwyr yma'n llawn eto, ac, er mwyn cael trafodaeth fwy ystyrlon, efallai y byddai'n well rhoi mwy o amser rhwng cyhoeddi adroddiad a chael datganiad ar ei gynnwys. Ond rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu'r darn yma o waith, sydd yn dangos parodrwydd i gynnal asesiad beirniadol o'r gwasanaeth iechyd er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i wella pethau.
Does dim cuddio o'r ffaith bod yr adroddiad yn peintio darlun pryderus, ond gadewch inni beidio ag esgus bod yr adroddiad yn dweud unrhyw beth newydd. Mae cleifion yn profi'r gwendidau yma yn ddyddiol, ac fe ddangosodd arolwg barn diweddar y Nuffield Trust a'r King's Fund fod bron i dri chwarter o'r cyhoedd yng Nghymru yn anfodlon gyda chyflwr y gwasanaeth iechyd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae'r datganiad o dan eitem 7 wedi cael ei ohirio tan 3 Mehefin.
Eitem 8 sydd nesaf, y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg yw hyn, a'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau cyflwyno'r eitem.
Cynnig NDM8880 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-5;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 6-38;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 39-57;
f) Teitl Hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel fydd Aelodau yn gwybod, mae'n arferol gwaredu gwelliannau i Filiau yn y drefn y mae'r adrannau a'r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Yn ystod Cyfnod 2 ar gyfer y Bil hwn, gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y penderfyniad i amrywio’r drefn ystyried, a gweithiodd y dull hwn yn dda o ran grwpiau a thrafod gwelliannau, ac mae’r drefn a gynigir gan y cynnig hwn yn dilyn y dull a ddefnyddiwyd yn ystod Cyfnod 2 a gofynnaf i’r Aelodau i gefnogi’r cynnig.
Does gyda fi ddim siaradwyr, ac felly, dwi'n cymryd bod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau ateb ei hunan, ac felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 a 10 fydd nesaf, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, ac oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 2 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Does yna ddim gwrthwynebiad i wneud hynny, felly, dyma'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir, a'r Ysgrifennydd Cabinet Dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig yma, Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8878 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Cynnig NDM8879 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Llywydd, mae’n bleser gen i agor y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni, Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru), a chyflwyno’r cynnig a’r penderfyniad ariannol. Hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau manwl ar y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall am eu help wrth inni ddatblygu’r Bil, ac am eu syniadau defnyddiol wrth i’r pwyllgorau graffu arno. Byddwn yn gofyn eto am eu harbenigedd wrth inni lunio is-ddeddfwriaeth a chanllawiau ac wrth baratoi ar gyfer eu rhoi ar waith. Rwy’n croesawu argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd y dylai’r Senedd gefnogi egwyddorion y Bil.
Gadewch i mi eistedd i lawr a—
Mae'n iawn i chi eistedd i lawr, ydy, ac fe wnaf i alw chi nôl i siarad ar ddiwedd y ddadl.
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith nawr, Llyr Grufffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn troi at adroddiad y pwyllgor, hoffwn i gychwyn drwy ddiolch i bawb, wrth gwrs, a roddodd dystiolaeth i ni fel pwyllgor er mwyn llywio'n trafodaethau ni ar y Bil. Hoffwn i ddiolch yn arbennig hefyd i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei barodrwydd i fod â meddwl agored yn ystod broses graffu Cyfnod 1. Fel rŷm ni wedi clywed, dwi'n meddwl, mae ei ymateb cadarnhaol yn sicr yn brawf o hynny, ac mi fyddai'n tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o hyn, gobeithio, yn yng nghyfraniad.
Mae'r tirlithriad yn Tylerstown yn 2020, a'r tirlithriad mwy diweddar, wrth gwrs, yng Nghwmtyleri, yn ein hatgoffa ni'n glir, onid ŷn nhw, o'r risgiau sy'n gysylltiedig â threftadaeth mwyngloddio Cymru, a'r angen brys i amddiffyn cymunedau yn well rhagddyn nhw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r gyfraith bresennol sy'n llywodraethu diogelwch tomenni glo yn nodi achos cymhellol—achos compelling iawn—dros newid, ac mi gafodd canfyddiadau'r adolygiad eu dyfynnu gan gyfranwyr wrth iddyn nhw roi cefnogaeth i'r Bil. Fe ddywedon nhw wrthym ni fod y gyfraith bresennol, sy'n dyddio nôl i'r 1960au, fel y clywon ni gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y cychwyn, yn henffasiwn ac yn annigonol i reoli'r risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried effaith gynyddol newid hinsawdd.
Fel yr amlinellwyd eisoes gan y Dirprwy Brif Weinidog, mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu awdurdod newydd, pwrpasol i asesu, cofrestru, monitro a goruchwylio tomenni nas defnyddir. Yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw y gall yr awdurdod ymyrryd yn llawer cynharach na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran mynd i'r afael ag ansefydlogrwydd tomenni, a does dim amheuaeth ym marn y pwyllgor y bydd y gyfundrefn newydd hon yn welliant amlwg ar yr un bresennol. O ystyried hynny, felly, a'r angen hanfodol i sicrhau diogelwch cymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Wedi dweud hynny—ac mae'n rhaid imi ddweud hynny, onid oes e—mae rhai darpariaethau penodol rŷn ni'n credu y gellid eu gwella, ac mae rhai pethau penodol hefyd ar goll, ym marn y pwyllgor. O'n 30 argymhelliad ni, mae dros eu hanner nhw ar gyfer gwelliannau sydd â'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn glir, yn gadarn, yn effeithiol ac yn ennyn hyder y cyhoedd. Nawr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi nodi hyd yn hyn ei fod e'n fodlon derbyn o leiaf wyth o'n hargymhellion ni ar gyfer gwelliannau, ac rŷn ni'n croesawu hynny'n fawr iawn, wrth gwrs, ac rŷn ni'n gobeithio y bydd hi'n parhau i fod yn bosib inni ei ddarbwyllo fe ynghylch gwelliannau eraill wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy gyfnodau eraill y broses graffu.
Thema sy’n ailgodi’n aml yn ein hadroddiad ni yw'r diffyg manylion yn y Bil o ran elfennau allweddol y gyfundrefn newydd. Rŷn ni wedi clywed gan y Dirprwy Brif Weinidog y bydd y manylion hyn yn cael eu nodi mewn canllawiau yn y dyfodol. Mae'r dull hwnnw yn anfoddhaol, yn ein barn ni, am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae'n golygu nad yw bwriadau polisi Llywodraeth Cymru yn glir. Er bod canllawiau cryno drafft wedi'u rhannu gyda'r pwyllgor, ac roeddem ni'n ddiolchgar am hynny, yn ymarferol, wrth gwrs, mi oedd hynny'n rhy hwyr inni ofyn am farn rhanddeiliaid arnyn nhw, a hefyd, wrth gwrs, yn rhy hwyr inni eu hystyried nhw mor llawn ag y byddem ni'n dymuno. Yn ail, fydd y gyfundrefn newydd ddim yn cael ei rhoi ar waith tan 1 Ebrill 2027, sydd bron i ddwy flynedd i ffwrdd. Felly, mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd hi i benderfynu ar rai o'r manylion polisi yma. Yn olaf, ac yn hollbwysig, mae gadael y manylion polisi i ganllawiau yn golygu y gellir gwneud newidiadau sylweddol gan Lywodraeth yn y dyfodol heb waith craffu priodol gan y Senedd yma. Wrth gwrs, mae gan ganllawiau rôl i'w chwarae wrth sicrhau y caiff y Bil ei weithredu’n effeithiol, ond dylai e ddim cael ei ddefnyddio i lenwi manylion polisi pwysig y byddem ni yn disgwyl eu gweld wedi'u nodi fel arfer mewn deddfwriaeth, er mwyn, wrth gwrs, darparu goruchwyliaeth ddemocrataidd briodol.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rŷn ni wedi argymell cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i osod isafswm y gofynion ar gyfer asesiadau tomenni nas defnyddir, monitro ac archwiliadau. Fyddai hyn ddim yn gwneud y Bil yn llai diogel ar gyfer y dyfodol, ond mi fyddai'n diogelu rhag posibilrwydd gwanhau’r gyfundrefn, yn ein barn ni. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi gwrthod ein hargymhellion ni, ond fel cyfaddawd, mae e wedi cytuno i ddiwygio’r Bil i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ac i ymgynghori arnyn nhw. Mae yna ddadl i’w chael, efallai, ynglŷn ag a yw hynny'n gyfaddawd derbyniol, ond yn sicr mi fyddwn ni'n siŵr o ddychwelyd at y mater yma yn ystod Cyfnod 2.
Gan symud ymlaen at Ran 1 y Bil, sy'n darparu ar gyfer sefydlu'r awdurdod newydd, ar y cyfan, rŷn ni’n fodlon â'r darpariaethau yn y rhan hon, er y byddem ni wedi hoffi gweld yr awdurdod newydd yn cael ei sefydlu yn gynt o lawer. Rŷn ni'n disgwyl i'r awdurdod fod yn gwbl weithredol, felly, o'r diwrnod cyntaf, sy'n golygu y dylai'r holl ganllawiau fod ar waith ac y dylai'r holl reoliadau perthnasol fod mewn grym erbyn y dyddiad hwnnw. Mae argymhelliad 5 yn adlewyrchu hyn, a dwi'n falch o ddweud ei fod e wedi cael ei dderbyn.
Roedd llawer o'r dystiolaeth a gawson ni yn canolbwyntio ar Ran 2 y Bil, sy'n cwmpasu asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir. Yn seiliedig ar y dystiolaeth gan arbenigwyr, gan gynnwys yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, rŷn ni wedi galw am gofrestr gynhwysfawr o’r holl domenni nas defnyddir, nid dim ond y tomenni hynny sydd wedi'u categoreiddio. Byddai hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i gymunedau, ac yn ennyn hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn newydd. Unwaith eto, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gyflwyno gwelliant sy’n dal hanfod ein hargymhelliad ni, ac felly rŷn ni yn croesawu hynny.
Dwi eisoes wedi tynnu sylw at ein hargymhellion allweddol ar gyfer pwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas ag asesiadau, monitro ac archwiliadau, felly byddaf i ddim yn eu hailadrodd nhw. Rŷn ni hefyd wedi argymell i bob asesiad rhagarweiniol gynnwys archwiliad ffisegol, ac i adroddiadau o asesiadau rhagarweiniol a llawn fod ar gael i'r cyhoedd. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion ar gyhoeddi adroddiadau, gan ganiatáu, felly, ar gyfer rhagor o dryloywder.
I droi at gynlluniau rheoli, yng ngeiriau'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, yn ystod y dystiolaeth y derbynion ni, mae'r cynlluniau hyn yn 'hollol hanfodol' i'r gyfundrefn newydd. Ond, wrth gwrs, dyw’r Bil ddim yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer nhw. Gwnaethom ni dynnu sylw at hyn fel gwendid allweddol yn y Bil a’r gyfundrefn reoli gyffredinol. Felly, eto, rŷn ni'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad i osod y cynlluniau hyn ar sail statudol.
Mae Rhan 3 y Bil yn ymdrin ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Ymhlith pethau eraill, mae'n galluogi'r awdurdod newydd i ymyrryd os oes perygl bod methiant tomen ar fin digwydd. Fodd bynnag, fe glywon ni y gall rhwymedigaethau o dan gyfraith amgylcheddol a chynllunio atal yr awdurdod rhag gweithredu'n gyflym i osgoi argyfwng pe bai angen.
Fel pwyllgor, rŷn ni’n cefnogi dulliau cryf iawn, wrth gwrs, i ddiogelu'r amgylchedd, ond o ran osgoi llithriad arall yn debyg i un Tylorstown, mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar sicrhau diogelwch cymunedol. Er bod y mater hwn wedi'i amlygu nôl yn 2022 gan Gomisiwn y Gyfraith, dyw Llywodraeth Cymru yn dal heb ganfod ateb cyfreithiol priodol i fynd i'r afael â hyn. Mae argymhelliad 26 yn ei hannog i wneud yn union hynny, felly. Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith cynllunio at argyfwng yn elfen orfodol o gynllunio rheoli statudol, sydd yn sicr yn galonogol.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni yn awyddus i weld y Bil yn symud ymlaen drwy'r Senedd yma. Mae gennym ni gyfle i sicrhau bod y drefn ddeddfwriaethol newydd ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir yn glir, yn gadarn ac yn effeithiol—cyfundrefn sy'n rhoi tawelwch meddwl i gymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni eu bod nhw yn cael eu diogelu a'u bod nhw yn saff.
Unwaith eto, felly, hoffwn ddiolch i’r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymateb cadarnhaol i’n hadroddiad ni ac am ei barodrwydd i ystyried ein pryderon ni. Rŷn ni yn edrych ymlaen, wrth gwrs, at ddychwelyd at lawer o’r materion a godwyd gen i heddiw a, dwi'n siŵr, gan eraill yn ystod y ddadl yma yn ystod cyfnodau diwygio’r Bil. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, daethom ni i un casgliad a gwneud naw argymhelliad. Rwy’n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn pob un o’r argymhellion, gydag un wedi’i dderbyn mewn egwyddor. Rydym ni’n croesawu ac yn cefnogi pwrpas cyffredinol y Bil ac yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil. Fodd bynnag, rydym ni wedi codi materion penodol gyda’r nod o wella’r wybodaeth ariannol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Bil hwn.
Dirprwy Lywydd, mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu, sy’n thema gyffredin i'n pwyllgor ni. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd adolygiad o’r fath i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau, a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau.
Rydyn ni felly’n croesawu cynnwys yr adolygiad ôl-weithredu yn y Bil ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i asesu cost cyffredinol y Bil yn ystod y cyfnod adolygu, yn enwedig o ran tomenni nad ydyn nhw’n domenni glo, lle mae angen rhagor o wybodaeth i ddarparu amcangyfrifon cost llawn. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i wneud hyn ac yn edrych ymlaen at weld canlyniad yr adolygiad ar ôl i’r Bil gael ei roi ar waith. Diolch yn fawr.