Y Cyfarfod Llawn
Plenary
01/04/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz. 1
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol gyda cheisiadau cynllunio i storio batris? OQ62574

Rydyn ni'n cefnogi awdurdodau lleol trwy bolisi cynllunio cenedlaethol a gofynion rheoleiddio i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar geisiadau penodol. Mae ein gwaith ar gydnerthedd yn cynnwys cynigion i gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio a gwella capasiti gwasanaethau cynllunio lleol.2
Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag AMP Clean Energy, sydd eisiau buddsoddi £45 miliwn mewn 150 o brosiectau bocs batri graddfa fach ledled Cymru. Gellir defnyddio'r unedau batri 24 metr sgwâr cywasgedig hyn yn gyflym, gan nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu gan broblemau capasiti'r grid, ac maen nhw'n cynnig incwm rhent tir hirdymor i awdurdodau lleol a pherchnogion tir, heb unrhyw gost iddyn nhw. Mae gan bob uned y potensial i arbed bron i 5,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei hoes. Fodd bynnag, her allweddol yw'r anghysondeb yn y ffordd y mae 22 awdurdod lleol Cymru yn ymdrin â chytundebau les a cheisiadau cynllunio. Er bod rhai cynghorau yn rheoli'r rhain yn effeithlon, nid yw hynny'n wir am eraill, gan arwain at oedi a cholli buddsoddiad posibl. O ystyried pwysigrwydd y prosiectau hyn i gefnogi uchelgeisiau ynni Cymru, a'r manteision ariannol y maen nhw'n eu cynnig i gynghorau, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau proses gynllunio fwy cyson a symlach ar draws y 22 awdurdod lleol cyfan? Hefyd, a fyddech chi a'ch Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn fodlon cyfarfod ag AMP Clean Energy i ddeall yn well y cyfleoedd y gallai'r prosiectau hyn eu cynnig i Gymru?3

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwbl benderfynol, fel Llywodraeth Lafur, ein bod ni'n cynyddu faint o ynni yr ydym ni'n ei gynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy. Ac rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol, yn enwedig oddi ar ein harfordiroedd. Ond y gwir amdani, yn aml iawn, yw bod y gwynt yn chwythu neu fod yr haul yn tywynnu ar adeg pan nad oes ei angen arnoch chi, ac mae angen i chi, felly, ddatblygu technoleg batri, ac mae'n wych gweld bod gan AMP, a sefydliadau eraill, yr awydd i archwilio beth yn fwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn.4
O ran cynllunio, rydych chi'n gwbl gywir—mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi canolbwyntio arno ers i mi ddod yn Brif Weinidog. Rydyn ni wedi cael ymgynghoriad yn hyrwyddo gwasanaeth cynllunio cydnerth â pherfformiad uchel, a chyhoeddwyd hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio fis Tachwedd diwethaf. Felly, dyna'r cyfle i ni gael y dull mwy cyson hwnnw y mae gennych chi ddiddordeb yn ei ddatblygu.5
Mi fyddem ni’n croesawu cynlluniau bach, yn sicr, yn y maes yma. Ond, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod hefyd fod yna nifer eithriadol o gynlluniau mawr ar y bwrdd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae yna 40 o gynigion ar raddfa fawr, a’r diweddaraf, ddim ond yr wythnos hon, yn 500 MW o gynllun sy'n cael ei gynnig yn Llaneurgain yn sir y Fflint. Nawr, mi fyddai’r rheini i gyd—jest y prosiectau mawr yma gyda’i gilydd—yn cynhyrchu 27 gwaith y lefel o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.6
Nawr, mae hyn i gyd yn mynd i wthio’r gyfundrefn gynllunio i’r eithaf, onid yw e, o safbwynt capasiti ac o safbwynt arbenigedd ac yn y blaen. Ac mae’r rhain hefyd yn glanio ar gymunedau yn ddisymwth iawn yn rhy aml o lawer, ac mae hynny’n creu rhyw fath o friction sydd hefyd ddim yn mynd i helpu’r drafodaeth. Ar yr un pryd, wrth gwrs, cymharol ychydig sydd yna o safbwynt rheoleiddio o ran y sector yma yn benodol. Does dim strategaeth genedlaethol. Does dim byd o ran lle neu beth sydd angen—lle mae nhw’n mynd i fynd, pryd, faint ohonyn nhw sy’n addas, ac yn blaen. Ac yn dilyn tanau a ffrwydradau mewn rhai safleoedd, rŷn ni’n gweld ardaloedd fel talaith Califfornia yn cyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd datblygu cyfleusterau fel hyn o fewn 1 km i ble mae pobl yn byw.7
A ydych chi, felly, Brif Weinidog, yn cytuno â fi bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys yn y maes yma, i sicrhau nad yw’r free-for-all yma, fel rŷn ni’n gweld yn digwydd nawr, yn parhau, a bod llawer gwell reolaeth dros beth sy’n dechrau troi mewn i ryw fath o goldrush ynni mewn ardaloedd o Gymru?8

Diolch yn fawr. Rŷn ni yn trawsnewid ein ffordd ni o gynllunio. Mae gyda ni eisoes yr Infrastructure (Wales) Act, ac roedd hwn wedi dod â phroses newydd mewn ar gyfer cynllunio ar gyfer prosiectau mawr. Ar ben hynny, dwi wedi dod â lot fwy o arian mewn ar gyfer cynllunio—£5 miliwn yn ychwanegol i helpu NRW, a hefyd arian ar gyfer y planning directorate a Planning and Environment Decisions Wales. Felly, mae lot o arian ychwanegol, ond y cynllun yna, y consultation yna, dyna'r lle i ni sicrhau bod gyda ni gynllun a fydd yn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n cael y goldrush, fel rydych chi'n sôn amdani.9
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau i fudd-daliadau lles ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62582
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cynlluniau Llywodraeth y DG i dorri budd-daliadau ar Gymru? OQ62580

Dwi'n deall eich bod chi wedi grwpio cwestiynau 2 a 5.10
Dwi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn a oes modd rhannu unrhyw ddadansoddiad sydd wedi'i wneud gan ei hadran o’r effaith berthnasol ar Gymru yn sgil newidiadau i’r system fudd-daliadau.11
Diolch. Gaf fi gymryd munud i roi enghreifftiau i chi o bryderon llawr gwlad am y toriadau gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i'r taliadau annibyniaeth personol, neu'r PIPs? Rai wythnosau nôl, bues i mewn digwyddiad yn Llanelli—grŵp People Speak Up ar gyfer pobl 50 oed ac uwch. Bues i'n siarad â phobl yn fanna am effaith y toriadau arnyn nhw. Roedd un wraig yn dweud, pe byddai'r PIP yn cael ei dorri, y byddai hi'n colli ei chartref. Roedd un arall yn dweud y byddai hi'n gorfod torri nôl ar brynu bwyd oherwydd y taliadau yma. Dyma ddifrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau ni, a dyna pam mae asesiad mor eithriadol o bwysig. Nawr, ddoe, aeth fy swyddfa i ati i weld faint o bobl yn ein rhanbarth ni sy'n derbyn y PIPs yma: Gwynedd, dros 7,000; Powys, bron i 9,000; Ceredigion, dros 4,000; sir Benfro, bron i 10,000; sir Gaerfyrddin, bron i 18,000. Pwy a ŵyr faint o bobl debyg i'r menywod y gwnes i gwrdd â nhw yn Llanelli a fydd yn wynebu caledi oherwydd y toriadau hyn?12
Prif Weinidog, fe gawsoch chi eich ethol, fel fi, gan bobl dda Canolbarth a Gorllewin Cymru i gynrychioli ac eirioli ar eu rhan. A gaf i ofyn, felly, ai dyma'r math o bolisi yr oeddech chi'n ei ddisgwyl gan Lywodraeth dan arweiniad Llafur yn San Steffan—polisi sy'n mynd i daro'r rhai mwyaf agored i niwed—13
Rwy'n credu eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn nawr.14
—yn ein cymdeithas a gwthio miloedd yn fwy i dlodi? Ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n ei olygu gan bartneriaeth mewn grym?15

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni, cyn sôn am ddim byd arall, yn deall ein bod ni'n sôn am bobl fan hyn. Pan fyddwn ni'n sôn am newidiadau, mae'n rhaid i ni ddeall bod pobl yn dioddef fan hyn, a bod angen i ni sefyll gyda nhw a gwrando arnyn nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n siarad drostyn nhw.16
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod bod degau o filoedd o bobl ledled Cymru heddiw sy'n ofidus iawn am yr effaith y gallai diwygiadau arfaethedig ei chael, ond nad ydyn nhw'n gwybod i ba raddau y bydd yn digwydd, nid ydyn nhw'n gwybod pryd y bydd yn digwydd. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed pan ddaw i ddiwygio lles. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig ei gwneud yn eglur bod angen i ddiwygio'r system ddigwydd yn bendant; rwy'n credu bod dal pobl mewn trap tlodi lles hefyd yn greulon.17
Un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr, mewn lleoedd fel Canolbarth a Gorllewin Cymru, ein bod ni wedi cyflwyno system i bobl hawlio'r hyn sy'n perthyn iddyn nhw drwy hawl. Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi gweld 361,000 o bobl yn cael £170 miliwn ychwanegol. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae wedi helpu 50,000 o bobl i hawlio incwm ychwanegol o £31 miliwn. Nawr, rwy'n credu bod tua £2 biliwn nad yw'n cael ei hawlio yng Nghymru. Un o'r pethau a wnaed gennym ni yr wythnos diwethaf oedd cynyddu'r swm o arian yr ydym ni'n ei roi i'r ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau genedlaethol honno, 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny yn cynorthwyo rhai pobl. Ond byddaf yn gwneud y ddadl ar ran pobl yr ydym ni'n gwybod sy'n bryderus iawn oherwydd y cynigion diwygio.18
Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi, ond nid wyf i eisiau gweld pobl yn gaeth neu'n ddibynnol ar fudd-daliadau lles yn y lle cyntaf, wrth gwrs. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo pobl yn y canolbarth i elwa a bod yn llai dibynnol ar fudd-daliadau lles a dod i gyflogaeth hirdymor a da?19

Wel, edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo pobl i gael gwaith. Dydw i ddim yn credu y dylem ni ymddiheuro am hynny. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Rwy'n credu nad yw cadw pobl ar les yn sefyllfa wych chwaith. A'r gwir amdani yw ein bod ni'n gwybod o bethau fel yr adroddiad a ysgrifennwyd yn y Senedd bod llawer iawn o bobl anabl yn awyddus iawn i weithio, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu llwybr ac ysgol i waith iddyn nhw.20
Yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod sy'n gweithio'n dda yng Nghymru yw'r ffordd y gwnaethom ni'r diweithdra ieuenctid. Fe wnaethom ni fynd i'r afael â'r broblem benodol honno trwy roi gwarant, ond trwy gydnabod na allwch chi glicio eich bysedd a disgwyl iddyn nhw gerdded i mewn i swydd. Mae rhai o'r bobl hyn yn hynod agored i niwed, mae gan rai ohonyn nhw broblemau iechyd meddwl go iawn, mae gan rai ohonyn nhw broblemau corfforol difrifol, ac ni allwch chi ei gyflawni dros nos. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda nhw yw sefyll gyda nhw, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth. Dydyn ni ddim wedi ei wneud dros nos. Rydym ni wedi gweithio gyda nhw dros gyfnod o fisoedd ac rydym ni'n sicrhau canlyniadau. Dyna pam mae ein cyfraddau diweithdra ieuenctid yng Nghymru hanner yr hyn y maen nhw yn Lloegr.21
Sioned Williams. Mae'n ddrwg gen i, anghofiais i.22
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi fy syfrdanu. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n mynd i godi llais dros bobl anabl yn eich ateb i Cefin Campell, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n mynd i wrando arnyn nhw. Nid yw'n swnio fel eich bod chi'n gwrando. Fel y tynnwyd eich sylw ato eisoes, mae'r toriadau hyn wedi cael eu beirniadu'n hallt, eu condemnio hyd yn oed gan arbenigwyr polisi, gan sefydliadau cymorth, ac, yn bwysicaf oll, gan bobl anabl eu hunain.23
Er na wnewch chi ei rannu, ac nid ydym ni wedi cael unrhyw oleuni wedi'i daflu ar hynny eto heddiw, beth bynnag y dywedodd Liz Kendall yn ei hateb i chi, rydym ni'n gwybod beth fydd yr effaith ar Gymru: bydd yn gwthio miloedd o bobl anabl a miloedd o blant i mewn i dlodi. Ers i'r cynlluniau annoeth hyn gael eu datgelu gyntaf, mae Plaid Cymru wedi gofyn i chi a'ch Gweinidogion dro ar ôl tro i wrando ar y lleisiau arbenigol hynny, i godi llais dros y bobl anabl yng Nghymru, wedi eich rhybuddio am y canlyniadau enbyd, yn enwedig i Gymru. Fe wnaethoch chi ddweud dro ar ôl tro, 'O, nid fy nghyfrifoldeb i yw ef'. Mae'n wirioneddol siomedig. Ni chyhoeddwyd y Papur Gwyrdd mewn fformatau hygyrch hyd yn oed. A wnaethoch chi ofyn i Liz Kendall am hynny?24
Yn groes i ddatganiadau, ac rydych chi'n eu gwneud nhw eto, rydych chi'n dweud bod rhai o'r newidiadau hyn a gynlluniwyd, fel tynhau meini prawf cymhwysedd PIP, yn destun ymgynghori. Dydyn nhw ddim. Nid yw hynny yn yr ymgynghoriad. Dim ond y mesur lliniaru sydd ynddo. Felly, fe wnaf i ofyn eto: faint o bobl yng Nghymru fydd yn cael eu gwthio i mewn i dlodi gan doriadau lles Llafur, faint o blant, pa waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r gost ddynol ac ariannol ychwanegol hon ar draws eich Llywodraeth? A wnewch chi gondemnio'r toriadau—gwnewch neu na wnewch?25

Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ac wedi ei gwneud hi'n eglur iddi nad oes gen i unrhyw broblem gyda hi'n cyhoeddi'r llythyr. Rwy'n gobeithio ei bod hi'n mynd i wneud hynny yn ddiweddarach heddiw. Y goblygiad yn ei llythyr yw bod cydnabyddiaeth y bydd y toriadau yn disgyn yn drymach yng Nghymru, er nad oes unrhyw asesiad manwl eto. Fy nghyfrifoldeb i yw—[Torri ar draws.] Hoffech chi i mi orffen? Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll dros Gymru, ac rwyf i wedi bod yn onest gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffaith ein bod ni'n bryderus iawn am y cynigion hyn.26
Fy mhryder i yw y methiant i rannu gwybodaeth y mae Llywodraeth y DU yn eistedd arni. Mae'r concordat a ysgrifennwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru yn gwbl eglur bod llywodraeth effeithlon ac effeithiol yn gofyn am gyfathrebu da. Roedd ymrwymiad i ddarparu manylion polisi yn ogystal â gwybodaeth gan gynnwys ystadegau ac ymchwil. Mae'n rhaid bod yr wybodaeth hon gan y Trysorlys, felly pam nad yw'n bosibl iddyn nhw ei rhannu gyda ni?27

Diweddarwyd y concordat ym mis Chwefror, ac mae hwnnw'n sefydlu fframwaith y cytunwyd arno i sicrhau bod cysylltiad agos rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru. Nawr, mae gennym berthynas weddol dda ar lefel swyddogion a gweinidogion. Mae'r berthynas rhynglywodraethol yn dilyn yr adolygiad hwnnw o gysylltiadau rhynglywodraethol sy'n fwy cyffredinol. Cydnabuwyd bod dadansoddi data a rhannu data yn rhwystr i symleiddio'r broses o ddarparu budd-daliadau Cymru, a hefyd yn rhwystr a wnaeth atal pobl rhag hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n archwilio sut y gallan nhw rannu eu data er mwyn i ni sicrhau bod mwy o bobl yn gallu casglu'r £2 biliwn hwnnw y maen nhw'n gymwys i'w dderbyn.28
Prynhawn da, Prif Weinidog. Ceir ymdeimlad gwirioneddol o anobaith ac ymdeimlad ein bod ni'n disgwyl i Lafur Cymru sefyll yn gadarn, fel yr ydych chi wedi ei wneud, dros bobl dlawd, pobl agored i niwed, y rhai sy'n ddi-lais, ac eto nid ydym ni'n gweld hyn, os ydym ni'n onest. Rwy'n amau bod llawer o bobl ar y meinciau cefn, ac efallai chithau hefyd, yn teimlo mewn sefyllfa anodd yma gyda'r hyn sy'n digwydd yn Llywodraeth y DU. Chi yw ein llais ni gyda'r Llywodraeth Lafur. Rydym ni wedi gweld adroddiadau o 31 y cant o blant yma yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac roedd hynny yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n gywilyddus, ac rydym ni mor, mor drist o feddwl ein bod ni'n byw mewn gwlad â'r lefel honno o blant yn byw mewn tlodi. Rydym ni'n pledio â chi—beth arall allwn ni ei wneud—i ddweud, 'Digon yw digon'. Mae'n rhaid i ni ddileu'r budd-dal dau blentyn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod taliadau yn cael eu hadfer i bobl sydd eu hangen nhw. Ac rydym ni angen i chi sefyll yn gadarn drosom ni, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog. A wnewch chi hynny? Ac a fyddech chi'n ystyried pethau fel taliad plant yr Alban hefyd? Byddai dod â hwnnw yma i Gymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, byddwn yn gofyn i chi fynd â'r pethau hynny yn ôl a newid safbwynt Llafur y DU, fel nad oes gennym ni 31 y cant—traean—o'n plant yma yng Nghymru, yn byw mewn tlodi. Diolch yn fawr iawn.29

Rwy'n cydnabod bod gan y Canghellor ddewisiadau anodd iawn i'w gwneud, ond ei chyfrifoldeb hi a Llywodraeth y DU yw amddiffyn safbwyntiau sy'n cael eu mabwysiadu gan eu Llywodraeth. Nid wyf i'n llefarydd ar ran Llywodraeth y DU. Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll yn gadarn dros bobl Cymru—[Torri ar draws.]30
Rwyf i angen clywed y Prif Weinidog. Gadewch i'r Prif Weinidog barhau â'i hymateb.31

Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll yn gadarn dros bobl Cymru. Dyna beth rwyf i wedi ei wneud ac y byddaf i'n parhau i'w wneud. Ac os yw hynny'n ei gwneud yn ofynnol i mi gymryd gwahanol safbwynt i bobl eraill, dyna beth fyddaf i'n ei wneud. Byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru ac yn rhoi gwlad o flaen plaid. 32
Gadewch i mi ei gwneud yn fwy eglur a rhwydd i chi, Prif Weinidog. Disgwylir i gynlluniau Llywodraeth y DU i helpu pobl i mewn i waith a amlinellir yn y Papur Gwyrdd 'Pathways to Work' arbed £4.8 biliwn i Drysorlys y DU erbyn 2029-30. Bydd y rhan fwyaf o'r arbedion yn dod o'i gwneud hi'n anoddach i bobl fod yn gymwys i gael taliad annibyniaeth personol, neu PIP, budd-dal i bobl ag anableddau. Mae llawer o bobl yn credu y bydd hyn yn niweidio'r tlotaf yn ein cymdeithas. Gwnaeth y Daily Mirror yr asesiad mwyaf llym o gamreolaeth ariannol Llafur y DU gyda'r pennawd33
'Mantoli'r cyfrifon ar draul y tlawd'.34
Fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw gan fod Llywodraeth Lafur y DU—[Torri ar draws.]35
Gadewch i'r holwr barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda. Altaf Hussain, fe gewch chi barhau. 36
Y cwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw hwn: gan fod Llywodraeth Lafur y DU yn newid pwy sy'n gymwys i gael PIP, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr i sicrhau nad yw'r rhai nad ydyn nhw'n yn gymwys i gael PIP mwyach, neu'n cael llai, yn mynd yn dlotach? Rwy'n siŵr bod pawb yn cytuno y dylai'r rhai sy'n well eu byd helpu'r rhai sy'n cael yr anawsterau mwyaf. Diolch. 37

Diolch, Altaf. Bydd eich plaid chi yn deall anghydraddoldeb a thlodi, gan mai chi yw'r blaid a orfododd gynifer o bobl yn ein gwlad i'r sefyllfa honno. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennym ni gynifer o bobl mewn system les sydd wedi torri, nad yw'n gweithio'n dda i'r mwyafrif o bobl ac nad yw'n cael pobl i mewn i waith nac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. A gadewch i ni fod yn eglur, rydym ni'n blaid sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, rydym ni'n blaid sy'n sefyll gyda'r rhai mwyaf agored i niwed, a byddwn ni'n gwneud yn siŵr y bydd y bobl hynny sydd wir angen y cymorth yn cael y cymorth.38
Am warth yw'r sefyllfa hon. Y fath ddirmyg y mae San Steffan yn ei ddangos atom ni, gan ein gadael ni yng Nghymru i ragweld yr effaith y bydd y toriadau hyn i fudd-daliadau yn ei chael gan fod San Steffan yn gwrthod dweud wrthym ni. Maen nhw'n gwrthod cadarnhau yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei wybod, y bydd toriadau Llafur i les yn ein taro ni yng Nghymru galetaf. Rydyn ni wedi dod i arfer â chreulondeb San Steffan. O dan y Torïaid, roeddem ni'n disgwyl dim llai; o dan Lafur, byddai llawer wedi gobeithio am well. O mor anghywir y mae'r gobaith hwnnw yn ymddangos bellach. Mae'n rhaid cydnabod ffyrnigrwydd y toriadau hyn, ac eto hyd yma maen nhw wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau eu gweithredoedd. Prif Weinidog, a ydych chi'n fodlon â sut mae hyn yn mynd? Onid ydych chi'n meddwl ein bod ni yng Nghymru yn haeddu gwell na hyn?39

Wel, rwyf i newydd ddweud wrthych chi y byddaf i'n sefyll yn gadarn dros Gymru, ein bod ni'n bryderus am y cynigion o ran lles. Rwy'n credu bod meysydd sy'n gadarnhaol: rwy'n credu bod £1 biliwn i helpu pobl i gael troed ar ysgol yn rhywbeth cadarnhaol. Ond un o'r pethau yr wyf i'n resynu yw'r ffaith y dylai, mewn gwirionedd, yn ddelfrydol, fod wedi golygu rhoi pobl a'r system fudd-daliadau a'r angen i'w diwygio yn gyntaf ac yna poeni am sut mae hynny'n cael ei drefnu wedyn. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru. Rydyn ni wedi ei wneud drwy'r cynllun diweithdra ieuenctid, fe wnaethom ni ddod o hyd i'r arian ac mae'n talu ar ei ganfed. 40
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar. 41

Prif Weinidog, yn ôl ym mis Medi, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu:42
'Cyflawni, atebolrwydd a gwell cynhyrchiant fydd arwyddeiriau fy Llywodraeth—gwneud i bethau ddigwydd o ran blaenoriaethau'r bobl. A bydd hyn yn cynnwys mwy o dryloywder a gwelededd i'r cyhoedd'.43
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi eisiau mwy o dryloywder, ond beth yw eich record? Hyd yma, rydych chi wedi gwrthod cyhoeddi unrhyw ohebiaeth am weithrediad gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru, rydych chi wedi gwrthod caniatáu i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru y Senedd gyfweld â thystion dan lw, ac rydych chi bellach wedi gwrthod cyhoeddi llythyr yr ydych chi wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU sy'n tynnu sylw at sut y bydd y toriadau lles yng Nghymru yn effeithio ar bobl agored i niwed ar hyd a lled y wlad hon. Mae'n edrych fel bod gennych chi rywbeth i'w guddio. Beth yw ef?44

Diolch yn fawr iawn. Gwrandewch, rwyf i wedi bod yn un o'r bobl sydd wedi bod dros fy mhen a'm clustiau yn yr ymchwiliad COVID, a gallaf ddweud wrthych chi nad oes unrhyw beth mwy tryloyw na'r system yr rydym ni newydd fod drwyddi. Rydym ni wedi gwario miliynau o bunnoedd, wedi cymryd oriau o amser cyfreithwyr, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi atebion i'r bobl hynny a ddioddefodd yn ystod y pandemig. Felly, nid wyf i'n credu bod diffyg tryloywder o ran COVID. Ac fel yr wyf i newydd sôn, nid oes gen i unrhyw broblem o gwbl gyda Liz Kendall yn cyhoeddi'r llythyr hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n gwneud hynny y prynhawn yma.45
Prif Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi'n Ddydd Ffŵl Ebrill, ond dydyn ni ddim yn fodlon cael ein trin fel ffyliaid. Y gwir yw hyn: cawsoch chi y cyfle i wneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i Weinidogion ddweud y gwir o dan lw; fe wnaethoch chi ei wrthod. Cawsoch chi y cyfle i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyhoeddi ar y cofnod cyhoeddus yr ohebiaeth rhyngoch chi, awdurdodau lleol a'r heddlu am gangiau meithrin perthynas amhriodol; fe wnaethoch chi wrthod y cais hwnnw. A heddiw, rydych chi'n dal i sefyll wrth eich camfarn drwy wrthod cyhoeddi copi o lythyr y byddech chi wedi ymhyfrydu yn y cyfle i'w gyhoeddi pe bai Llywodraeth Geidwadol y DU yn y wlad hon o hyd. Nid ydym ni'n fodlon cael ein trin fel ffyliaid ac nid yw pobl Cymru chwaith. 46
Fe wnaethoch chi ddweud wrth bobl Cymru y byddai bod â dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio ar ddau ben yr M4 yn arwain at gyflawni dros bobl Cymru. Ac rydych chi wedi cadw at eich gair, rydych chi wedi bod yn cyflawni, ond yr holl bethau anghywir. Gadewch i ni gymryd golwg ar yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni: y rhestrau aros hiraf ym Mhrydain; y safonau addysgol isaf yn y Deyrnas Unedig; a'r cyfraddau diweithdra uchaf yn y DU. Ac yn y cyfamser, mae eich cydweithwyr yn San Steffan wedi cyflawni mwy o drethi, â chyfraniadau yswiriant gwladol yn codi i gyflogwyr—treth swyddi—newid i dreth etifeddiant, sy'n mynd i ddinistrio ffermydd teuluol Cymru, a diwedd creulon i daliad tanwydd y gaeaf a fydd yn gorfodi llawer o bensiynwyr i ddewis rhwng gwres a bwyta. Mewn neges cyn y Nadolig i aelodau'r Blaid Lafur, fe wnaethoch chi ddweud:47
'rydyn ni'n dangos y gwahaniaeth mai dim ond Llafur sy'n gallu ei wneud.'48
Rydych chi'n sicr yn dangos gwahaniaeth. Prif Weinidog, a ydych chi'n falch o'r record ofnadwy hon?49

Fe ddywedaf i wrthych beth rwy'n falch ohono: y £1.5 biliwn ychwanegol sydd bellach yn mynd i wasanaethau cyhoeddus, dim diolch i chi a dim diolch i Plaid. Oherwydd mae hynny yn helpu i leihau ein rhestrau aros. Mae'n braf iawn gweld ei fod yn sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, a byddwn yn dilysu'r niferoedd i wneud yn siŵr ein bod ni lle'r oeddem ni'n gobeithio y byddem ni. Ond mae'r gyllideb honno yn ateb ac yn ymateb i bryderon y bobl yn y wlad hon, a oedd yn awyddus i weld y rhestrau aros hynny yn lleihau, a oedd yn awyddus i weld cymorth iechyd meddwl, a oedd yn awyddus i weld canolfannau iechyd menywod, a oedd yn awyddus i weld trafnidiaeth a threnau newydd yng Nghymru, tyllau mewn ffyrdd yn cael eu llenwi, a oedd yn awyddus i weld sut rydym ni'n trawsnewid ein gwasanaethau addysg. Rydych chi'n holi am ba wahaniaeth mae Llywodraeth Lafur y DU yn ei wneud, ac fel y dywedais i, mater iddyn nhw yw amddiffyn hynny. Ond heddiw, bydd 150,000 o bobl yng Nghymru yn cael hwb o ganlyniad i'r isafswm cyflog, a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Oherwydd mae biliau yn cynyddu—rydym ni'n gwybod hynny—ond ceir cyfle iddyn nhw i helpu i dalu'r biliau hynny.50
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. [Torri ar draws.]51
Ymddiheuraf, Darren Millar. Eich trydydd cwestiwn.52
Fe ddywedaf i wrthych chi beth sy'n cynyddu: biliau'r dreth gyngor, biliau ynni, biliau dŵr. Dyma'r pethau sy'n cynyddu o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Y gwir yw eich bod chi'n rhoi'r un hen atebion blinedig i ni. Rydych chi'n Llywodraeth sydd wedi gweld ei dyddiau gwell, sy'n rhedeg allan o stêm, yn rhedeg allan o syniadau, a gadewch i mi ddweud wrthych chi: rydych chi'n rhedeg allan o amser hefyd. Etifeddiaeth Llywodraeth flaenorol y DU oedd eich bod chi wedi etifeddu'r economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, ac mewn misoedd yn unig, rydych chi rhoi terfyn llwyr ar y twf hwnnw. Mae twf i lawr, mae chwyddiant i fyny, mae trethi i fyny ac mae diweithdra i fyny. Dyna eich record fel Llywodraeth Lafur yma yn y DU, ac mae pobl Prydain, a phobl yma yng Nghymru, yn gweithio'n galetach, yn talu mwy ac yn cael llai. Mae'n anhrefn economaidd. Dyna pam y cawsom ni gyllideb frys dim ond yr wythnos diwethaf.53
Mae mwy na 200,000 o fusnesau wedi cau ledled y Deyrnas Unedig ers i Rachel Reeves gael ei gwneud yn gyfrifol am economi'r DU, y nifer fwyaf yn hanes Prydain—mwy na 770 o fusnesau y dydd. Mae llawer o'r busnesau hynny, wrth gwrs, yma yng Nghymru, ac mae'r bobl hynny a fyddai wedi cael eu cyflogi ganddyn nhw bellach ar y dôl. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys hyn? Rydych chi'n rhoi'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain iddyn nhw. Ac ychydig cyn gwyliau'r Pasg, pan ddylai pobl fod yn edrych ymlaen at seibiant hyfryd yma yng Nghymru, rydych chi ar fin cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer treth dwristiaeth. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, sut y bydd cynyddu trethi, bod â'r system ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, a threth dwristiaeth o fudd i'n heconomi yng Nghymru?54

Rydych chi'n iawn, rwy'n rhoi llawer o'r un atebion, gan mai dyna'r atebion cywir. Mae hynny oherwydd ein bod ni'n ymateb i flaenoriaethau pobl Cymru. A nid wyf i'n mynd i gael fy sylw wedi ei dynnu oddi wrth hynny. Gallwch fynd i ffwrdd a gofyn i mi am yr holl bethau eraill hynny nad ydyn nhw wir yn atseinio gyda phobl Cymru, a dydyn nhw ddim yn atseinio oherwydd—[Torri ar draws.] Rydych chi'n gwybod pam? Rydych chi'n gwybod pam nad ydyn nhw'n atseinio? Rydym ni'n gwybod nad ydyn nhw'n atseinio gan eich bod chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf diwethaf, ac ni aeth yn dda, naddo? Os ydym ni'n onest, ni aeth yn dda i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi gwario £5 biliwn ar gynorthwyo rhai o'r bobl dlotaf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac rydym ni'n cael pobl i mewn i swyddi. Mae pymtheg mil o bobl wedi cael eu helpu gyda'n cynllun cyflogadwyedd. Mae swyddi yn bwysig. Dyna sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, ac rydym ni'n mynd i sefyll yn gadarn â nhw i gyflawni hynny.55
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.56

Diolch, Llywydd. Llywydd, dydyn ni byth wedi cael ateb boddhaol gan y Prif Weinidog ar ei barn ar y toriadau lles a gyhoeddwyd yn ddiweddar nac ar y cwestiwn o pryd y bydd yn cyhoeddi manylion ymateb Llywodraeth y DU i'w chwestiwn am yr asesiad o effaith y toriadau lles hynny ar Gymru. Roedd hi wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am unrhyw ddadansoddiad a wnaed ar effaith newidiadau i'r system fudd-daliadau fel y byddan nhw'n berthnasol yng Nghymru. Yn ddiweddarach, byddwn yn galw am ddadl frys ar yr effaith ar Gymru. Os na wnaiff Llafur ei wneud, fe wnaiff Plaid Cymru ei wneud. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod cyhoeddi'r ymateb hwnnw yn eithaf pwysig? Ac os na wnaiff ei gyhoeddi, a wnaiff hi o leiaf gydnabod ei bod hi'n datgelu diffyg parodrwydd llwyr y Llywodraeth Lafur hon i ymladd dros bobl Cymru? Pam na wnaiff hi ei gyhoeddi?57

Wyddoch chi beth? Astudiodd fy mam o dan Saunders Lewis, a rhoddodd gyngor iddi unwaith:58
dysgwch wrando.59
Dysgwch wrando. Oni wnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedais i? Nid oes gen i broblem gyda'r llythyr hwnnw yn cael ei gyhoeddi, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gyhoeddi y prynhawn yma. Nid fy un i yw ef i'w gyhoeddi, ond rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gyhoeddi y prynhawn yma. Ond yr hyn yr wyf i'n ei wybod—[Torri ar draws.]—yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod pobl yn y wlad hon sy'n dioddef, sydd angen i ni sefyll ochr yn ochr â nhw. Byddwn yn ei gwneud hi'n eglur y byddwn ni'n mynegi pryderon ein cymunedau yng Nghymru yn eglur ac yn ddiamwys yn y dystiolaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno mewn ymateb i'r Papur Gwyrdd ar ddiwygio lles. Rwy'n mynd i fod yn gwrando ar bryderon pobl sydd ar fudd-daliadau ar hyn o bryd. Rwyf i hefyd yn mynd i fod yn gwrando ar bryderon pobl sydd wedi'u dal mewn system sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw weithio.60
Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi'n gwrando, ond nid yw'n clywed unrhyw beth o gwbl. Ar beidio â chyhoeddi'r llythyr hwnnw, dyma'r Prif Weinidog a ddarllenodd lythyr gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU yn fyw ar yr awyr ym mis Ionawr, gan ei alw'n 'newyddion diweddaraf', ac roedd hwnnw'n gwneud tro gwael â Chymru hefyd. Mae hi eisiau i hyn gael ei oedi gan ei bod hi'n gwybod y byddwn ni'n cadarnhau na fu unrhyw asesiad effaith ar Gymru.61
Ac ar y busnes hwn o ohirio cynnig barn, rwy'n credu ei bod hi'n debygol y byddai'r Prif Weinidog yn hapus gyda rhai o benawdau papurau newydd yr wythnos diwethaf: 'Y Prif Weinidog yn gwrthod cefnogi toriadau lles'. Ond fe wnaf i ddweud wrthych chi yr hyn yr wyf i'n ei gredu sy'n gwbl resynus, gallai'r pennawd hwnnw fod wedi dweud yr un mor hawdd, 'Y Prif Weinidog yn gwrthod condemnio'r toriadau lles'. Mae gennym ni Achub y Plant a Gweithredu dros Blant yn dweud bod hwn yn ddewis gwleidyddol. Y plant mwyaf agored i niwed, 50,000 yn fwy o blant, i mewn i dlodi. Y Resolution Foundation—'Aelwydydd incwm is ar fin dod £500 y flwyddyn yn dlotach'; Barnardo's, 'Sefyllfa wael yn cael ei gwneud yn waeth fyth'. A ydyn nhw i gyd yn anghywir, Prif Weinidog, neu a ydych chi'n gohirio cynnig barn ar hynny hefyd?62

Edrychwch, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi £1 biliwn ychwanegol y flwyddyn i adeiladu tuag at sicrwydd o gymorth wedi'i bersonoli o ran cyflogaeth. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol adeiladol. Mae hynny'n sefyll yn gadarn â phobl, mae hynny'n dilyn y math o ddull sydd gennym ni o ran diweithdra ieuenctid. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn mynd i fod yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth i ni arwain y gwaith o ddylunio arloeswr 'cael Prydain i weithio', ac mae hwnnw'n mynd i gael ei gefnogi gan £10 miliwn o gyllid i archwilio sut y bydd gwaith, iechyd a sgiliau—sut y bydd y cymorth sgiliau hwnnw yn cael ei ddarparu gan Lywodraethau Cymru a'r DU, sut rydym ni'n cydgysylltu hynny i helpu pobl symud tuag at ac i mewn i waith. Yn y tymor hwy, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n gymorth Canolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cynnig gweithio gyda ni ar effaith y cynigion lles ar Gymru. Ac er y byddwn ni'n gweithio gyda nhw, wrth gwrs, cynnig Llywodraeth y DU yw hwn, ac mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb amdano, ond fe wnaf i dderbyn y cynnig i gyfarfod â Liz Kendall i weithio drwy hyn.63
Dyma Brif Weinidog sy'n ymddangos yn hapus iawn i ddarllen nodiadau cyhoeddedig gan Lywodraeth y DU y mae hi'n dweud ei bod hi eisiau sefyll i fyny iddi. Gadewch i mi grynhoi safbwynt y Prif Weinidog: ni fydd hi'n cyhoeddi'r llythyr ei hun gan gydweithiwr Llafur ar effaith diwygiadau lles ar Gymru, tra bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth gwrs, yn dweud bod y Prif Weinidog yn cefnogi'r toriadau hynny. Mae'n anghytuno ag arbenigwyr sy'n gweithio ym maes tlodi plant sy'n rhybuddio am ganlyniadau trychinebus y toriad; nid yw'n gwybod â phwy y siaradodd hi yn Downing Street wrth drafod y diwygiadau; ac, ar ben hynny, ni all hyd yn oed ddod â'i hun i gefnogi cynnig Plaid Cymru yr wythnos hon ar gyflwyno taliad uniongyrchol i blant sy'n byw mewn tlodi. Mae hyn o gyd, cofiwch, o fewn dyddiau i gyfraddau tlodi plant yng Nghymru godi. Fe wnaeth y Prif Weinidog gyfleoedd i bob teulu yn un o'i phrif flaenoriaethau. Nawr, mae'r geiriau'n dda, ond o ran y gweithredoedd, mae hi'n brin iawn, iawn. A yw hynny oherwydd nad yw'n fodlon gwneud yr hyn sy'n iawn, neu nad yw'n gallu gan ei bod hi'n ofni siomi ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan?64

Mae gen i lawer o bobl yn ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg y dyddiau hyn, onid oes? Rydych chi wedi crynhoi fy safbwynt. Roedd gen i rywun arall yr wythnos diwethaf yn ceisio siarad drosof i. Rwy'n siarad drosof fy hun. Rwy'n siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Gall Llywodraeth y DU siarad drosti ei hun, a gallan nhw amddiffyn eu safbwyntiau. Fe wnaf i amddiffyn safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru.65
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithrediad y fframwaith cysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2022? OQ62545

Mae gweithio partneriaeth wedi tyfu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers yr haf diwethaf, gan gynnwys defnydd mwy effeithiol o'r fframwaith a ddarparwyd gan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd yn 2022.66
Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'r fframwaith wedi datblygu ers hynny, ac mae'n darparu ar gyfer ysgrifenyddiaeth, mae'n darparu ar gyfer proses anghydfodau, nad yw wedi cael ei defnyddio yn sicr fel yr wyf i'n ei deall hi, ac mae hefyd yn cynnwys ymrwymiadau difrifol iawn i gefnogi egwyddorion a pharch at ddatganoli. Ond ers hynny rydym ni wedi bod mewn anghydfod o ran cyllid HS2, Ystad y Goron, diwygio Barnett, diwygio lles, data, cyfiawnder ieuenctid, prawf, a gallai'r rhestr barhau. Nawr, ein dyletswydd ni yn y Senedd hon, mae'n ymddangos i mi, yw sefyll yn gadarn dros Gymru. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ar weithrediad ac effeithiolrwydd y fframwaith, a'i addasrwydd i'r diben? Ac a fyddech chi hefyd yn rhoi ystyriaeth i—? Efallai mai'r broblem fwyaf yw nad yw mewn unrhyw fath o sail statudol, a'r hyn sydd wir ei angen arnom ni yw Deddf diwygio cyfansoddiadol newydd.67

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, mae'r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol yn teimlo'n fwy sefydlog ers etholiad cyffredinol y DU, ac rydym ni'n bendant wedi gweld cynnydd i'r ymgysylltiad â Llywodraeth y DU. Rydym ni'n credu y gall yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ddarparu'r peirianwaith sydd ei angen i ddod â Llywodraethau'r DU at ei gilydd i drafod y pethau iawn ar yr adeg iawn. Rwy'n credu bod gwaith i'w wneud ar hyn o hyd. Ond rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei aeddfedu a'n bod ni'n gallu ei ddefnyddio pan fydd yr anghydfodau hynny yn digwydd. Ond ceir enghreifftiau, rwy'n credu, lle mae ymgysylltu rhynglywodraethol wedi arwain at ganlyniadau gwirioneddol gadarnhaol i Gymru. Gwelodd Tata Steel fargen well i weithwyr. Gwelsom fuddsoddiad ychwanegol o ran tomenni glo. Ac roedd swyddi a buddsoddiad ychwanegol ym Melin Shotton i fyny yn y gogledd.68
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi profiadau cadarnhaol o cysylltiadau rhynglywodraethol o ran y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar y rhaglen porthladdoedd rhydd, sydd wedi cael ei alw, yn briodol, yn feincnod ar gyfer sut y gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn partneriaeth gyfartal â Llywodraeth y DU. Nawr, rydym ni'n gwybod bod rhywfaint o gynnydd eisoes wedi cael ei wneud o ran datblygu'r rhaglen porthladdoedd rhydd, ac mae'n hanfodol nad yw'r momentwm hwnnw yn cael ei golli. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n credu bod y rhaglen porthladdoedd rhydd yn dal i fod yn feincnod ar gyfer gweithio rhynglywodraethol yn y dyfodol rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU? A allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y rhaglen porthladdoedd rhydd fel y gallwn ni glywed mwy am y gwaith cydweithredol sy'n digwydd?69

Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn ddiddorol iawn o ran y rhaglen porthladdoedd rhydd. Byddwch yn ymwybodol bod un yn ardal Aberdaugleddau ac, wrth gwrs, mae un yn Ynys Môn hefyd. Ac un o'r pethau diddorol am y model sydd gennym ni yw ei fod yn fodel sy'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pawb yn rhan o'r broses o ddatblygu sut mae hynny'n edrych, yn enwedig yr undebau, ac mae Llywodraeth y DU yn edrych ar y model hwnnw bellach i weld a allan nhw ei ailadrodd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.70
Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi brwydro yn galed dros Gymru o ran cyfleu neges Cymru am yr hyn sydd ei angen arnom ni yma i Lywodraeth y DU, ond mae angen i ni weld canlyniadau hefyd. Roedd llawer ohonom ni'n siomedig dros ben â'r newyddion am Ystad y Goron. Rydym ni'n siomedig dros ben â'r diffyg datganoli seilwaith rheilffyrdd. Rydym ni'n siomedig dros ben â'r diffyg cynnydd o ran datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona a'r gweddill ohono. Ond efallai mai'r cwestiwn pwysicaf sy'n ein hwynebu nawr yw diwygio fformiwla Barnett. Nawr, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros gryn amser. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo nawr y byddwn ni'n nodi pa ddiwygiadau sydd eu hangen a'r amserlenni yr ydym ni'n disgwyl gweld diwygiadau yn cael eu cyflawni yn unol â nhw, oherwydd y gwir gwestiwn sy'n wynebu'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon yw diogelu a buddsoddi yn nyfodol ein pobl a'n cymunedau. Allwn ni ddim gwneud hynny os mai Cymru yw'r wlad sy'n cael ei hariannu waethaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni angen tegwch ac rydym ni angen cydraddoldeb, yma ac ar draws y DU gyfan.71

Diolch yn fawr iawn, Alun. Ni allwn i gytuno mwy, a dyna pam rwyf i wedi ei wneud yn bwynt o godi'r materion hyn ar bob cyfle yr wyf i wedi ei gael gyda'r Prif Weinidog a hyd yn oed yr wythnos diwethaf gyda'r Canghellor. Rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio ar bethau lle ceir ymrwymiad maniffesto, maniffesto Llafur. Felly, er enghraifft, rydym ni wir yn gwthio ar hyblygrwydd pan ddaw i'r fframwaith ariannol. Nawr, mae hynny'n swnio'n sych ac yn ddiflas iawn, ond yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw ein bod ni'n gallu defnyddio ein harian mewn ffordd wahanol, sy'n golygu y byddwn ni'n gallu ei roi tuag at helpu pobl yn ein cymunedau a chanolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth hynny. Felly, mae hwnnw'n faes yr wyf i'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud arno cyn gynted â phosibl. Ystad y Goron—nid yw'n mynd cystal, ond dydyn ni ddim yn rhoi'r gorau iddi. A'r un peth o ran y tegwch pan ddaw i seilwaith rheilffyrdd. Ni wnaf i roi'r gorau i guro'r drwm hwnnw. Fe wnes i hynny eto gyda'r Canghellor pan ymwelodd â Chaerdydd yr wythnos diwethaf.72
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal tanau gwyllt yng Ngogledd Cymru? OQ62584

Y gwasanaeth tân ac achub sy'n bennaf gyfrifol am atal tanau gwyllt. Mae'n arwain partneriaethau strategol a thactegol sydd wedi'u hen sefydlu, gan gynnwys yr heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd a Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cyfathrebu'n helaeth â thirfeddianwyr ac eraill i liniaru'r risg.73
Diolch am yr ymateb yna. Cefais fy synnu a'm digalonni, mewn gwirionedd, o weld nifer y tanau gwyllt sydd wedi digwydd ac sy'n dal i barhau nawr a dweud y gwir. Mae'r dinistr i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd naturiol yn peri pryder mawr, ac mae'n peri pryder i drigolion hefyd, pan fyddan nhw'n mynd allan o reolaeth. Felly, Prif Weinidog, a yw ymatebwyr yn gwybod pam neu sut maen nhw'n cael eu cychwyn? Ac a wnewch chi ymuno â mi i godi pryderon am effaith y tanau gwyllt hyn ar natur, a'r effaith y gall esgeulustod neu hyd yn oed weithredu uniongyrchol ei achosi? Diolch.74

Wel, diolch yn fawr iawn, Carolyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu o weld y nifer fawr o danau glaswelltir—sawl un sylweddol yn y gogledd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r risg yn arbennig o uchel os yw'r tywydd yn sych, fel yr oedd yn wir yn ystod y rhan fwyaf o fis Mawrth, a'r hyn sy'n digwydd yw bod llystyfiant yr ucheldir yn hynod losgadwy ychydig cyn iddo gael ei ddisodli gan dwf tymor newydd o tua mis Mai ymlaen. Ac mae hyn hefyd yn nodi diwedd y tymor pan ganiateir i berchnogion tir ymgymryd â llosgi wedi'i reoli, i glirio'r tir at ddefnydd arall. Felly, dyna'r rhesymau pam, ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Nawr, y newyddion da yw, mewn gwirionedd, yn 2023-34, y tanau glaswellt a adroddwyd oedd yr isaf a gofnodwyd—58 y cant yn is nag yn y 10 mlynedd diwethaf. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad rhagorol o ran lleihau nifer y tanau.75
Yr wythnos ddiwethaf, bu dros 20 o ddigwyddiadau tanau gwyllt ar draws Conwy, sir Ddinbych a Gwynedd. Arweiniodd un yng Nghorwen i hofrennydd Cyfoeth Naturiol Cymru ddanfon 1,200 litr o ddŵr i wasanaethau tân ac achub, a dyna'r tro cyntaf erioed iddo gael ei ddefnyddio. Hoffwn ddiolch i'r holl ffermwyr tir comin gweithredol am y cyfraniad hynod werthfawr y maen nhw'n ei wneud i reoli ein hucheldiroedd. Mae ffermio tir comin gweithredol a phori wir yn lleihau'r risg o danau gwyllt. Fodd bynnag, mae'r traddodiad yn dirywio. Ildiwyd mwy na 56 y cant o hawliau pori cofrestredig ers 1965. Mae cymdeithas tir comin yn fy etholaeth wedi gweld gostyngiad i borwyr gweithredol o 48 aelod i 21. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy bellach ar fin golygu bod pob unigolyn sydd â hawliau tir comin yn gymwys i gael cymorth ariannol—hyd yn oed pa un a ydyn nhw'n pori, hyd yn oed pa un a ydyn nhw'n weithredol ai peidio, yn dal i allu cymryd adnoddau.76
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r ymatebwyr brys hynny, oherwydd, fel y gwnaethoch chi nodi'n briodol, Carolyn, mae'n eithaf brawychus pan welwch chi nifer yr erwau sy'n mynd ar dân ar hyn o bryd. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, y dylai ffermwyr, yn arbennig, sy'n defnyddio eu hawliau pori tir comin fod â hawl i gael cymorth drwy'r cynllun newydd, a hefyd pa adnoddau wnewch chi eu darparu i'n criwiau tân gweithgar, na allan nhw mewn gwirionedd barhau i gynnig achubiaeth drwy'r amser? Nawr, rydym ni'n mynd i fod yn gweld mwy o'r tanau gwyllt hyn, os darllenwch chi'r adroddiadau gan ein gwasanaethau tân. Felly, rwy'n credu eu bod nhw wir angen rhywfaint o adnoddau ychwanegol i helpu gyda hynny. Diolch yn fawr.77

Wel, diolch yn fawr, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn arbennig o falch o'r ffaith y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ymestyn i gynnwys y rhai hynny sydd ar dir comin, felly mae honno'n fuddugoliaeth fawr, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi hefyd fod llosgi dan reolaeth yn rhywbeth a dderbynnir sy'n gyfreithlon yn ystod tymor pan ganiateir hynny, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd a gynllunnir, ac mae'n rhaid i dirfeddianwyr roi gwybod i'r gwasanaethau tân ac achub cyn i'r llosgi ddigwydd. Nawr, mae diffoddwyr tân wedi cael hyfforddiant eang ac mae'r offer i gyd ganddyn nhw ar gyfer taclo tanau gwyllt yn effeithiol. Mae ein trefniadau ffurfiol ni ar gyfer cynllunio strategol, rwy'n credu, yn dwyn ffrwyth yn amlwg.78
Felly, unrhyw adnoddau ychwanegol: wel, efallai y byddech wedi cael rhai ohonyn nhw pe byddech chi wedi pleidleisio dros y gyllideb, ond, fel mae'n digwydd, wnaethoch chi ddim. [Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud hyn, ond mae'n wir; fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn £4 biliwn. Allwch chi ddim cadw gofyn am fwy o arian ar ôl i chi bleidleisio yn erbyn cyfle i gael £4 biliwn yn ychwanegol.79
Dwi eisiau ategu lot o beth roedd Janet Finch-Saunders yn ei ddweud yn fanna, a diolch i’r gweithlu sydd wedi bod yn gweithio. Hwyrach y dylwn i ddatgan budd, oherwydd roedd yna dân mawr y tu ôl i’m nhŷ i. Roedd yr awyr yn goch yn y nos, ac rydym ni wedi cael nifer fawr o danau yn Nwyfor a Meirionnydd—Llwyngwril, Abersoch, Trawsfynydd, Islaw'r-dref a'r Bala ac yn y blaen. Y gwir ydy bod gennym ormod o dyfiant ar lot o’n hucheldiroedd ni erbyn hyn—tyfiant sych sydd wedi cynnig ei hun yn berffaith ar gyfer yr amgylchiadau yma, efo gormod o eithin, gormod o rug a llus a gwair sych. Ac ar ben hynny, does gennym ni ddim digon o dda byw ar ein hucheldiroedd er mwyn pori’r tir yna, er mwyn medru rheoli'r tir. Mae hyn felly yn dangos y perig o adael i dyfiant fynd yn wyllt, a hynny, wrth gwrs, ydy canlyniad ailwylltio. Ydych chi, felly, yn derbyn bod yn rhaid inni gael system rheoli tir, ac nad ailwylltio ydy'r ateb i hynny?80

Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau bod y peth sy’n bwysig yw bod yna reolaeth, a dyna’r peth pwysicaf, ein bod ni'n gwybod beth sy’n digwydd ble, ac, er mwyn gwneud hynny, beth sydd gyda ni yw partneriaeth ffurfiol mewn lle rhwng yr heddlu, y FRS, NRW, y Met Office, y parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac mae'r rheini i gyd yn cydweithio i sicrhau eu bod nhw yn edrych ar sut i stopio'r pethau yma rhag digwydd.81
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yn Nwyrain De Cymru? OQ62549

Mae gwella canlyniadau iechyd, yn ogystal â byrhau amseroedd aros, yn flaenoriaethau i'r Llywodraeth hon. Fe wnaethom ni ddyrannu ychydig dros £57 miliwn o gyllid ychwanegol eleni i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n ddiogel ac amserol i'w trigolion.82
Diolch i chi, Prif Weinidog. Fe hoffwn i rannu gyda chi brofiad dychrynllyd a gafodd un o fy hetholwyr i a'r hyn y bu'n rhaid ei ddioddef wrth geisio cael sylw meddygol. Fe gafodd mam fy etholwr godwm cas yn ei chartref a chafodd rai anafiadau. Fe alwodd y teulu am ambiwlans ac fe ddywedwyd wrthyn nhw y byddai'n rhaid aros am 14 awr. Yn dilyn cyngor gan 111, fe ddywedwyd wrth y teulu am ei symud hi i'r soffa a chadw llygad ar ei chyflwr wrth iddyn nhw aros i'r meddyg gyrraedd. Drannoeth, wedi iddi dreulio noson ar y soffa, ffoniodd y meddyg i ddweud na fyddai'n ymweld, oherwydd bod ei shifft wedi dod i ben, ac yn hytrach, dywedodd wrth fy etholwr i fynd â'i fam i Ysbyty Brenhinol Gwent. Gan nad oedd hi'n bosibl i fy etholwr godi ei fam 98 oed a'i chario hi i'r car, arhosodd hi ar y soffa.83
Dau ddiwrnod wedi hynny, roedd cyflwr mam fy etholwr wedi dirywio ac fe gyrhaeddodd ambiwlans i fynd â'r claf i ysbyty'r Faenor, lle bu'n aros am naw awr a hanner mewn ambiwlans cyn cael ei derbyn. Yna fe gafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ac un prynhawn, wrth i fy etholwr barcio ei gar wrth yr ysbyty, ffoniodd y meddyg e ar ei ffôn a dweud wrtho am wneud ei ffordd i'r ysbyty cyn gynted â phosibl am fod ei fam ar fin marw. Wedi iddo fynd i mewn i'r ysbyty, fe ddywedwyd wrtho fod ei fam wedi marw ddwy awr ynghynt, mewn gwirionedd. Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o fanylion yma i'w deall ond dydy hyn ddim yn dderbyniol o gwbl, a dydw i ddim yn beirniadu ein staff gofal iechyd gwych o gwbl, ond fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal digwyddiadau gwirioneddol ofidus ac annerbyniol fel hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol. Diolch i chi.84

Wel, mae hwnnw'n swnio fel profiad cwbl frawychus, ac nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw hynny'n ddigon da, yn sicr. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw y rhoddwyd cyllid ychwanegol i'r bwrdd iechyd i geisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd yn cynnal adolygiad o'r categori ambr o ran gwasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd. Hefyd, o ran y Llywodraeth, rhoddwyd £14 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol i wella a chefnogi ehangu adran frys y Faenor, ac fe fydd hynny'n dyblu'r capasiti presennol ar gyfer aros. Ond nid yw hynny'n ddigon da o gwbl.85
Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud bod rhai pethau gwych yn digwydd, serch hynny, yn Aneurin Bevan, sef fod cannoedd o filoedd o bobl yn cael gwasanaeth o ansawdd da bob dydd, ac mae'n debyg ei bod hi'n werth pwysleisio bod y cyfnodau aros o ddwy flynedd wedi gostwng bron i 30 y cant, ac maen nhw ar y trywydd iawn i ddiddymu cyfnodau aros o 104 wythnos ym mhob un ond tri o'r arbenigeddau erbyn heddiw.86
7. Beth yw blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Delyn? OQ62583

Mae 'Llwybr Newydd', ein strategaeth trafnidiaeth, yn nodi ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, sy'n cynnwys Delyn. Fe fydd ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig, yn nodi sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.87
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Prif Weinidog. O ran y rhwydwaith ffyrdd, mae angen i fuddsoddiad mewn gwelliant ymdrin â'r ffyrdd priodol a'r mannau priodol, i edrych tuag at atebion i'r dyfodol a pheidio â syrthio yn ôl ar gynigion y gorffennol. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft ar gyfer y gogledd allan ar gyfer ymgynghoriad tan 14 o Ebrill, ac wedi ei gladdu yn y cynllun mae'r hyn sy'n ymddangos fel ymgais i atgyfodi'r llwybr coch fel y'i gelwir. Pan oedd y cynnig hwn ar y bwrdd yn flaenorol, fe godais i bryderon yn ei gylch, gan gynnwys annigonolrwydd o ran y broses ymgynghori; fe ddechreuodd fel cynigion ar gyfer coridor Glannau Dyfrdwy, pan oedd y llwybr coch ei hun yn effeithio fwyaf ar gymunedau y tu allan i ardal Glannau Dyfrdwy. Yn wir, yn ôl yn 2017, fe ddywedais i yn y Siambr hon fy mod i'n fwy na hapus i gynnig cwrs carlam i swyddogion Bae Caerdydd ar gymunedau'r gogledd-ddwyrain a sir y Fflint. Ond, i fod yn ddifrifol, er hynny, roedd yna wrthwynebiad cryf i'r cynigion gan gymunedau yn fy etholaeth i. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn cydnabod bod angen gwelliannau i'r A55 a'r A494, rwyf i wedi codi rhain ohonynt yn y fan hon o'r blaen, ond nid ailgylchu'r llwybr coch yw'r ateb; mae'n anllythrennog yn amgylcheddol, yn economaidd, ac yn wleidyddol.88
Fe fyddaf i'n annog pobl yn fy etholaeth i i ddweud eu dweud yn rhan o'r ymgynghoriad, ac yn sicr fe fyddaf i'n gwneud sylwadau ar hyn, ochr yn ochr, wrth gwrs, â buddsoddiad yn ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno y dylid ei gwneud hi mor hygyrch â phosibl i ddinasyddion ddweud eu dweud ar unrhyw gynigion ynglŷn â thrafnidiaeth, ac, yn rhan o ymrwymiad eich Llywodraeth chi i gysylltu cymunedau, a ydych chi o'r un farn â mi ynglŷn â'r angen i ni ganolbwyntio ar wella'r seilwaith ffyrdd presennol a chwilio am atebion arloesol a fydd o wasanaeth i bobl a lleoedd? Diolch.89

Diolch. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir y dylai pobl leol gael dweud eu dweud ar eu cynllun trafnidiaeth ranbarthol, a fy nealltwriaeth i yw ei fod allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n dda am hynny yw ei fod yn ceisio dod â'r holl awdurdodau lleol at ei gilydd, oherwydd y gwir amdani yw nad yw ffyrdd yn gorffen mewn un awdurdod lleol ac yn dechrau mewn un arall. Felly, mae'r dull rhanbarthol hwnnw, yn fy marn i, yn gwneud gwahaniaeth.90
Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gwneud yr holl bethau hyn yn iawn. Rydyn ni o blaid ceisio denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyna pam roeddwn i'n falch iawn o weld y Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno ddoe, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n drawsnewidiol o ran sut y byddwn ni'n trefnu bysiau yn y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch iawn ohono, yn ogystal â'r ffaith ein bod ni'n gweld 87 y cant o wasanaethau yn y gogledd yn cael eu gweithredu ar drenau newydd nawr, yn dilyn ein buddsoddiad enfawr ni mewn cerbydau rheilffyrdd.91
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron i Gymru? OQ62585

Ein safbwynt ni ers tro byd yw y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru, fel mae gwahanol gomisiynau annibynnol wedi argymell. Rŷn ni’n parhau i gael deialog agored ac adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe fyddwn ni’n dal ati i gyflwyno’r achos.92
Wel, mae yna gonsensws Gymru gyfan bron iawn erbyn hyn, onid oes, o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod 18 o'r 22 awdurdod lleol wedi cefnogi'r alwad i ddatganoli—19 os ŷch chi'n cynnwys Cyngor Caerdydd, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi egwyddor y cynnig. Mae polau piniwn yn dangos bod 75 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rŷch chi wedi cadarnhau ei fod e'n bolisi ar Lywodraeth Cymru. Mae o leiaf tair o'r pedair plaid yn y Senedd yma'n cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru. Yr unig rai sydd yn erbyn, erbyn hyn, wrth gwrs, yw'r Ceidwadwyr ac Aelodau Seneddol eich plaid chi, y Blaid Lafur, yn Llundain. Ydych chi, felly, yn cytuno â mi ei fod e'n hen bryd i'ch cyd-Aelodau Llafur chi yn San Steffan ddechrau gwrando, darllen yr ystafell a rhoi pobl Cymru yn gyntaf?93

Wel, gallan nhw siarad dros eu hunain; dwi'n mynd i siarad dros fy mhlaid i yn y Senedd yma, ac a gaf fi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru?94
Diolch i'r Prif Weinidog.95
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.96

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae dadl yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru wedi ei gohirio. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.97
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag amseroedd aros offthalmoleg ledled Cymru. Yn fy ardal bwrdd iechyd lleol i, yr amser aros cyfartalog ar gyfer yr apwyntiad cyntaf i gleifion offthalmoleg allanol yw 22 wythnos, a'r amser aros cyfartalog i rywun ddechrau triniaeth mewn gwirionedd yw 36 wythnos, yn wir. Yn fwy pryderus, mae tua 10 y cant o gleifion yn ardal y bwrdd iechyd yn aros am 85 wythnos neu ragor i ddechrau triniaeth ar ôl i'r ysbyty gael yr atgyfeiriad. Nawr, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod y cyfnod aros hwn yn annerbyniol ac mae rhai cleifion mewn perygl o golli eu golwg tra eu bod nhw'n disgwyl am driniaeth. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae'n cynorthwyo byrddau iechyd ledled Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer offthalmoleg, i ni gael dysgu mwy am y flaenoriaeth a roddir i'r mater hwn ac i'r cleifion gael deall pa bethau sy'n cael eu gwneud i fyrhau'r cyfnodau y maen nhw'n aros am driniaeth.98
Diolch yn fawr, Paul Davies. Yn amlwg, mae hwn yn faes lle mae camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros, ac mae offthalmoleg yn hanfodol bwysig. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r fenter gofal llygaid honno gennym ni, sy'n caniatáu i optometryddion fod â rhan allweddol wrth ymgysylltu a chyfeirio at ofal eilaidd wedyn. Ond mae hwn yn fater y byddaf i, wrth gwrs, yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ato o ran eich cwestiwn chi ynglŷn â'r sefyllfa yn eich rhanbarth chi, sef, wrth gwrs, Hywel Dda. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi hyn gyda nhw, gan mai eu cyfrifoldeb nhw ydyw hyn.99
Trefnydd, rydym ni newydd glywed nifer fawr o Aelodau yn codi cwestiynau ynglŷn â thannau gwyllt; mae o'n rhywbeth sydd wedi effeithio ar nifer o ardaloedd, gan gynnwys fy rhanbarth i. Dwi'n nodi atebion y Prif Weinidog, ond, mewn amryw achosion, o ran rheoli'r tannau, nid ffermwyr sydd yn gyfrifol am hyn, ac mae'r rheswm yn ansicr dros ben. Buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd, yn benodol o ran y tannau sydd yn agos at rai o'r tipiau glo i roi sicrwydd nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth sy’n bryderus dros ben i drigolion yn yr ardaloedd hyn, ac mi fyddwn i yn hoffi eglurder gan y Llywodraeth o ran sut maen nhw’n cydweithio efo’r gwasanaeth tân i sicrhau nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod.100
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn yn arbennig o ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ond ledled Cymru hefyd, o ran tanau ar bwys tomenni glo. Fe fyddaf i'n codi hyn, wrth gwrs, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.101
Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth, unwaith eto, y gwnaethom ni gydnabod gwaith a dewrder Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r holl wasanaethau brys, ond yr hyn sy'n bwysig yw'r cymunedau, a chydlyniant cymunedol, ymgysylltiad a diogelwch a sicrwydd, a gwaith yr awdurdodau lleol hefyd, wrth gwrs. Felly, mae'n bwynt pwysig sydd wedi ei godi yma'r prynhawn yma, yr wyf i'n siŵr y gallwn ni daflu goleuni arno.102
A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog priodol yn Llywodraeth Cymru o ran defnyddio dronau yng Nghymru? Mae llawer o bobl yn ystyried bod dronau yn achosi niwsans, yn enwedig pan fyddan nhw'n ymosod ar breifatrwydd pobl yn eu gerddi cefn ac yn y blaen. Ond fe gefais i adroddiad pryderus o Ruthun yr wythnos hon am dronau a oedd yn ymddangos fel pe bydden nhw'n hofran uwchben tir ac o gwmpas dwy ysgol leol yn y dref. Yn amlwg, mae hynny'n amhriodol. Nid wyf i'n gwybod pam mae hynny'n digwydd, na phwy oedd yn cyfeirio'r drôn, ond mae angen canllawiau clir arnom ni ar niwsans dronau, a'r effaith a gaiff hynny ar blant ysgol, a'u preifatrwydd a'u diogelwch nhw, ond ar berchnogion tai a thrigolion lleol ledled y wlad hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i'r Llywodraeth weithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r broblem hon fel nad yw'n dod yn fwy o niwsans yn y dyfodol.103
Diolch yn fawr, Darren Millar. Mae hwn yn fater pwysig y byddai'n rhaid i ni, o ran y cyfrifoldebau, ei ystyried yn ofalus. Fe fyddaf i'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona bore fory, ac mae hwn y math o fater yr wyf i'n siŵr a fyddai'n cael ei ddwyn i'w sylw nhw. Ond diolch i chi am godi hyn heddiw, ac yn enwedig o ran eich pryderon chi oherwydd ymddangosiad drôn gerllaw ysgol. Maen nhw'n cael eu defnyddio am resymau masnachol, fe wyddom ni. Maen nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer pob math o wyliadwriaeth, cynllunio, ac ati. Ond mae hi'n amlwg bod pryderon ynglŷn â'u defnydd nhw, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda o beth eich bod chi wedi codi hyn, yn enwedig felly gan y byddaf i'n cwrdd â'n cydweithwyr ni yn yr heddlu bore fory.104
Rwy'n galw am ddadl gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut y gallwn ni newid systemau cynllunio. Nid yw'r system gynllunio sydd gennym ni'n gweithio ar gyfer trigolion; mae hi'n gweithio ar gyfer ddatblygwyr mawr.105
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae etholwyr yng Ngelligaer, Trethomas ac Abercarn wedi bod yn cysylltu â mi, pob un ohonyn nhw'n mynegi eu rhwystredigaeth a'u digofaint am fod y system gynllunio mor ddyrys. Roedd rhai pryderon ynglŷn â phenderfyniadau bychain, lleol; ac eraill ynglŷn â datblygiadau sydd ag arwyddocâd cenedlaethol. Ond fe geir rhai pwyntiau sy'n gyffredin yn yr hyn a ddywedodd pob un ohonyn nhw am benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan bwyllgorau cynllunio pryd nad oes dim ond un preswylydd yn cael siarad, neu benderfyniadau nad ydyn nhw fyth yn dod gerbron pwyllgor, neu pa mor anodd yw deall yr iaith sy'n cael ei defnyddio yn y dogfennau cymhleth, technegol hyn a bod hynny'n allgáu pobl. Sut fyddwn ni'n cael penderfyniadau cynllunio sy'n gweithio ar gyfer ein cymunedau ni os yw trigolion yn ei chael hi'n anodd cyfranogi yn y broses? A sut y gall hyn fod yn deg, sef pan fydd penderfyniadau yn mynd yn erbyn datblygwyr, fe gaiff y datblygwr apelio, ond ni all cymunedau eu hunain wneud felly, er mai eu bywydau nhw a fydd yn cael eu hamharu arnyn nhw gan ddatblygiadau pellach?106
Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, i sefydlu sut y gall y pethau hyn newid, oherwydd mae angen i hynny ddigwydd?107
Wel, materion yw'r rhain i'n hawdurdodau lleol ni, ac, yn amlwg, i'n hawdurdodau lleol ni gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau nhw o ran cynllunio, a'u hymgysylltiad a'u tryloywder â phobl leol a'r rhai y maen nhw'n eu cynrychioli, ac yn wir, wrth gwrs, yn cael eu harwain gan ganllawiau cynllunio polisi Llywodraeth Cymru.108
Ond mae hyn yn rhywbeth, yn amlwg, y gallech chi ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—fel rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud—yn ei chwestiynau llafar hi yn y Senedd, neu yn wir fe allech chi ystyried hyn o ran eich cyfleoedd chi i godi dadleuon, hefyd, fel plaid, ac fel Aelod. Ond, eto, rydych ar y cofnod yn codi'r mater hwn sy'n bodoli yn ein cymunedau ni.109
Trefnydd, fe hoffwn i gael datganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adroddiad damniol Estyn ar y gwasanaeth addysg yng Nghyngor Sir Powys. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr hyn y mae llawer o rieni ac athrawon wedi bod yn ei ddweud wrthyf i ac wrth eraill, sef fod addysg ym Mhowys, o dan y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ddiffygiol. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth wleidyddol yn un o'r diffygion yn yr adroddiad. Yr hyn a welwn ni yw'r cyngor, dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol, yn gadael i'r gwasanaethau hynny fynd i'r gwellt.110
Felly, a gawn ni ddatganiad brys ar y mater hwn? Ac onid ydych chi'n cytuno â mi, Trefnydd, bod yr amser wedi dod i ystyried penodi comisiynwyr i Gyngor Sir Powys, oherwydd mae hi'n amlwg mai plaid brotest yw'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid plaid sy'n ceisio cyflawni er mwyn y bobl yr wyf i'n eu gwasanaethu? Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru afael ynddi hi a chamu i mewn ac ymdrin â'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhowys unwaith ac am byth.111
Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydyn ni'n ymwybodol nad oedd canlyniad arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg Powys yn gadarnhaol, a'r farn yw fod yr awdurdod lleol yn peri pryder. Mae hwn yn ganlyniad siomedig. Fel y gwyddoch chi, mae arolygiad annibynnol rheolaidd o awdurdod lleol yn rhan sylfaenol o'r gyfundrefn ar gyfer atebolrwydd, ond mae i hynny ran bwysig hefyd wrth ysgogi a chyfeirio gwelliannau. Felly, fe wnaeth Estyn nifer o argymhellion, fel y gwyddoch chi. Mae yna broses i'w dilyn nawr. Bydd yr awdurdod lleol yn cynhyrchu cynllun gweithredu wedi arolwg, ac yn nodi sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Bydd Estyn yn cynnal cyfres o ymweliadau monitro i fesur cynnydd, ac mae hon yn broses gwbl dryloyw. Ond mae uwch swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei swyddogion hi mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinyddiaeth Powys ac Estyn, i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer gwelliant hefyd.112
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru, ar ôl y newyddion fod Bauer Media, sy'n rhedeg gorsaf Hits Radio yn Abertawe, wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithredu, a chau canolfannau darlledu ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yn Abertawe, ac maen nhw wedi talfyrru eu gorsafoedd radio 'lleol' fel y'u gelwir nhw i bedair canolfan ddarlledu ledled y DU, yn Llundain, Manceinion, Glasgow a Belfast—dim un yng Nghymru? A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno mai penderfyniad hynod siomedig yw hwnnw, nid yn unig i bobl ledled Cymru, ond yn enwedig i bobl yn Abertawe, lle roedd Hits Radio wedi bod yn olynydd i orsaf radio chwedlonol The Wave a oedd yn rhoi gwasanaeth i gymunedau ledled Abertawe ers cymaint o flynyddoedd, ac fe fydd hi'n siomedig gweld y stiwdio eiconig yn Abertawe yn cael ei chau gan Bauer o ganlyniad i hyn? Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol radio masnachol lleol yng Nghymru?113
Diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn, Tom Giffard, o ran radio lleol yng Nghymru. Yn amlwg, penderfyniad gan Bauer Media yw hwnnw, a byddai'r awdurdod darlledu annibynnol wedi bod yn ymwybodol o'r mater hwnnw hefyd. Dim ond newydd ddechrau bod yn ymwybodol o'r orsaf radio leol yn fy ardal i yr wyf i, sy'n cael ei harwain gan y gymuned mewn gwirionedd fel llawer un ledled Cymru. Fe fyddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, rwy'n siŵr, yn dymuno adrodd ryw dro ar y sefyllfa o ran radio cymunedol yng Nghymru. Ond diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn, oherwydd, yn amlwg, mae radio cymunedol a mynediad at radio yn bwysig iawn o ran newyddion, gwybodaeth ac adloniant lleol.114
Fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Sir Ddinbych wythnos diwethaf i werthu ei wasanaethau hamdden sydd ar ôl i Denbighshire Leisure Ltd. Nawr, y mater cyntaf yw i'r penderfyniad gael ei wneud y tu ôl i ddrysau caeedig, ac rwy'n anghytuno â hynny—nad yw penderfyniadau mawr fel hyn yn destun craffu cyhoeddus.115
Ond un o'r sylwadau a wnaeth y rheolwr gyfarwyddwr oedd na fyddai unrhyw gyngor arall yng Nghymru mewn sefyllfa i wneud yr hyn y penderfynodd sir Ddinbych ei wneud yr wythnos diwethaf. Nawr, rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n rhywbeth y mae sir Ddinbych yn ei wneud yn llwyddiannus, neu a yw sir Ddinbych yn gwneud rhywbeth mewn ffordd wahanol i bob cyngor arall yng Nghymru. Oherwydd rwy'n ceisio cadarnhau pam na fyddai unrhyw gyngor arall yn yr un sefyllfa i wneud y pethau hyn, a pham na ellid gwerthu gwasanaethau hamdden i gwmni cysylltiedig â'r cyngor.116
Gan Lywodraeth Cymru, fe hoffwn i gael cadarnhad o fanylion y cyngor a'r canllawiau a gynigiodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Sir Ddinbych ynglŷn â sefydlu a goruchwylio'r cwmni rheoli hamdden newydd hwn, a chael sicrwydd na fydd Cyngor Sir Ddinbych yn dal i dalu am adeiladau a oedd yn eiddo i Denbighshire Leisure yn flaenorol. Mae hyn yn rhywbeth na welwyd o'r blaen, ac mae fy etholwyr i'n gofyn cwestiynau i mi i ddeall yn iawn beth sy'n digwydd. Fel y dywedais i, fe gafodd y penderfyniadau eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, sydd wedi cyfyngu ar faint rwy'n ei wybod am y mater hwn, a dyna pam rwy'n codi hynny yn y Senedd heddiw.117
Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wrth gwrs, penderfyniad yw hwn a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych, gan y cynghorwyr lleol a etholwyd yn ddemocrataidd, ac rwy'n siŵr mai yno fyddai'r gyrchfan gyntaf o ran ceisio atebolrwydd am benderfyniadau a wnaeth yr awdurdod. Wrth gwrs, mae llywodraethu'r awdurdod yn cael ei fonitro hefyd, ond penderfyniad yw hwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod lleol hwnnw.118
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar le i barcio wrth ysbytai Cymru. Rwy'n clywed yn aml gan drigolion Wrecsam am broblemau parcio wrth Ysbyty Maelor, oherwydd wrth gwrs mae pobl yn iawn i ddisgwyl y bydd lle digonol ar gael i barcio pan fyddan nhw'n ymweld â'u hanwyliaid yn yr ysbyty. Mae'r maes parcio hwnnw'n orlawn yn aml, sy'n achosi gofid, ie, i'r ymwelwyr hynny, ond i gleifion allanol hefyd pan fyddan nhw'n mynd i'w hapwyntiadau, ac i'r staff hefyd, mewn gwirionedd. Mae hynny'n achosi problemau ar strydoedd cyfagos sydd o gwmpas yr ysbyty. Mae problem amlwg yno o ran lle i ymwelwyr, cleifion allanol a staff fel ei gilydd. Fe ysgrifennais i at y bwrdd iechyd ynglŷn â hyn, ac rwy'n siŵr bod materion tebyg yn bodoli ledled Cymru, ac yn wir ar draws y gogledd. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad, Trefnydd, ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nhw i gefnogi byrddau iechyd yng Nghymru wrth sicrhau bod digon o le mewn meysydd parcio wrth ysbytai, fel na fydd yn rhaid i bobl fynd trwy'r gofid o chwilio am le i barcio pan fyddan nhw'n ymweld ag ysbyty. Diolch i chi.119
Diolch yn fawr iawn i chi, Sam Rowlands, ac fe wnaethoch chi gymryd y cam priodol wrth ysgrifennu at y bwrdd iechyd ynglŷn â'r materion a'r pryderon a godwyd gyda chi am le i barcio. Ni chafodd hyn ei ddwyn i'n sylw ni o ran trefniadau parcio wrth ysbytai eraill, er fy mod i'n ymwybodol bod ysbytai hefyd yn wir ym mhrifddinas Caerdydd â ffyrdd a dulliau eraill i alluogi pobl i ddod i ysbytai, sy'n haws trwy ddulliau eraill weithiau, fel trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio a theithio. Ac, wrth gwrs, y staff sy'n dod gyntaf o ran gallu cael mynediad i'r ysbytai. Fe wnaethoch chi gymryd y cam priodol wrth ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn y lle cyntaf.120
Trefnydd, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar gamlas sir Fynwy ac Aberhonddu yn fy rhanbarth i, os gwelwch chi'n dda? Yn ddiweddar, fe ymwelais â Glanfa'r Goetre i gwrdd â Mark Evans o Landŵr Cymru i drafod yn daer yr hyn a allwn ei wneud i rwystro cau camlas sir Fynwy ac Aberhonddu o bosibl. Mae'r gamlas wedi ennill gwobr camlas harddaf Prydain drwy bleidlais ac mae'n gartref i fywyd gwyllt amrywiol. Ond oherwydd trwyddedau newydd tynnu dŵr a gyhoeddwyd gan CNC ar gyfer tynnu dŵr o Afon Wysg, fe ellid cau'r gamlas hon. Fe allai hynny fod yn golled ddifrifol i'r gymuned leol oherwydd mae'r gamlas yn dibynnu am 81 y cant o'i dŵr o Afon Wysg ac ni fyddai cychod yn gallu llywio arni heb hwnnw.121
Mae'r gamlas yn cynhyrchu £26.5 miliwn bob blwyddyn, mae 4.6 miliwn o bobl yn ymweld â'r gamlas bob blwyddyn, ac mae yna 290 o dafarndai, bwytai a chaffis o fewn milltir i'r dŵr sy'n dibynnu ar yr ymwelwyr y mae'r gamlas yn eu denu. Mae'r cynghorydd lleol Jan Butler wedi agor deiseb i ddiogelu'r gamlas, sy'n cynnwys 10,000 o enwau erbyn hyn, sy'n dangos cryfder y teimlad lleol ynglŷn â'r mater, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod hyn yn y Siambr hon yn fuan.122
Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Dŵr Cymru, ymddiriedolaeth y gamlas a rhanddeiliaid eraill? Oherwydd mae yna ateb i hyn sef y gellir tynnu'r dŵr o gronfa ddŵr Llandegfedd sydd gerllaw, a Dŵr Cymru yw perchennog honno. Mae hwn yn ased hanesyddol ac economaidd pwysig yn fy rhanbarth i. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn i hwnnw? Diolch i chi.123
Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones, ac rwy'n ymwybodol o'r mater hwn oherwydd fe godwyd y cwestiwn hwn gyda mi o'r blaen. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cwrdd â Lynne Neagle yn ddiweddar, yn rhinwedd ei swydd yn y Senedd, a chydag arweinydd cyngor Torfaen hefyd ar gyfer trafod yr heriau. Rwy'n ymwybodol bod problem gyda thrwydded i dynnu dŵr sy'n wynebu camlas sir Fynwy ac Aberhonddu.124
Rhoddwyd y cyfyngiadau trwydded ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfarwyddeb cynefinoedd ac amddiffyn Afon Wysg fel afon ardal cadwraeth arbennig. Ac rwy'n deall i'r broses drwyddedu gael ei chynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn unol â'r rheoliadau perthnasol, ac fe wrandawyd ar y broses apelio yn annibynnol gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Felly, os oes ateb technegol ar gael, bydd angen cytundeb rhwng Glandŵr Cymru a Dŵr Cymru. Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn hyn. Ond mae CNC wedi bod yn ymgysylltu â Glandŵr a Dŵr Cymru ynglŷn â'r ateb hwn, ac maen nhw'n barod i barhau â'r ymgysylltiad hwn. Felly, rydym ni'n gobeithio y gellir gwneud popeth i wella effeithlonrwydd dŵr yn y gamlas i ganiatáu iddi weithio yn unol â'r trwyddedau cyfredol. 125
DIolch i'r Trefnydd. 126
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Ken Skates. 127

Diolch, Llywydd. Ddoe, fe gyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r memorandwm esboniadol gerbron y Senedd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn nodi newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r rhwydwaith bysiau yn cael ei ddylunio, ei gaffael a'i redeg. Mae'n golygu newid arwyddocaol, angenrheidiol a chyffrous. Mae'r Bil yn cyflawni ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i greu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n nodi newid sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau bysiau Cymru yn cael eu darparu, gan ein symud i ffwrdd o fodel dadreoledig a welodd wasanaethau a nifer y teithwyr yn crebachu yn raddol ers 1985.128
Pan gyhoeddwyd ein Papur Gwyn yn 2022, fe wnaethom nodi ein gweledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Bil hwn yn cefnogi'r gwaith o wireddu'r weledigaeth hon. Yn unol â'r model newydd, bydd Gweinidogion Cymru, drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru, ac mewn cydweithrediad agos a'r awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforaethol, yn sefydlu rhwydwaith bysiau cenedlaethol a fydd yn rhoi teithwyr yn flaenaf ac yn ein cefnogi ni wrth leihau allyriadau oherwydd trafnidiaeth ar ffyrdd. Bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a'u cydlynu ar lefel genedlaethol ac yn cael eu darparu yn bennaf trwy gyfrwng cytundebau masnachfraint â gweithredwyr y sectorau preifat a chyhoeddus, a'r trydydd sector. 129
Mae'r Bil yn cynnwys rhoi dyletswydd ar y Llywodraeth i ddatblygu a chyhoeddi cynllun rhwydwaith bysiau Cymru, a phenderfynu ar y gwasanaethau bysiau lleol sydd eu hangen i sicrhau trafnidiaeth sy'n ddiogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru. Fe fydd hyn yn sicrhau bod datblygiad gwasanaethau bysiau yn dryloyw ac yn cael ei arwain gan egwyddorion hanfodol. Fe fydd cydlyniant canolog y rhwydwaith hefyd yn ein cefnogi ni wrth ddatblygu gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu yn well â chyfleusterau rheilffyrdd, a fydd yn ehangu'r cyfleoedd ar gyfer tocynnau integredig.130
Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth hefyd o ran casglu a rhannu data. Fe fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol rannu gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rheoli'r gwaith o ddarparu'r rhwydwaith yn effeithiol. Bydd gwybodaeth am faterion fel poblogrwydd, amlder a llwybrau yn ein helpu ni i greu rhwydwaith bysiau modern, integredig. Bydd y Bil yn sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael i'r cyhoedd i gynorthwyo hyder ac annog defnydd hefyd. Rydym ni'n dymuno defnyddio technoleg i ganiatáu i deithwyr dderbyn gwybodaeth gyfredol am wasanaethau eu bysiau.131
Bydd y Bil yn cyflawni ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i godi'r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau newydd sy'n eiddo i'r cyhoedd hefyd. Felly, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig a welodd wasanaeth truenus yn hanesyddol oherwydd model o ddadreoleiddio ac efallai nad oes ond diddordeb cyfyngedig gan y farchnad mewn contract masnachfraint yn ôl y system newydd, fe fydd awdurdodau lleol yn cael eu galluogi i gynnig am gytundebau neu geisio trwyddedau i redeg y gwasanaethau bws angenrheidiol yn eu cymunedau nhw. I gynnal uniondeb y fframwaith newydd, mae'r Bil yn rhoi cyfyngiad ar weithredwyr bysiau rhag rhedeg gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ac eithrio pan ddarperir y gwasanaethau hynny o dan gontract, trwydded, yn uniongyrchol drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru neu eithriadau eraill sy'n cael eu nodi yn y Bil. Nodir pwerau i gymryd camau gorfodi yn erbyn gweithredwyr bysiau sy'n torri'r darpariaethau hyn a nodir yn y Bil hefyd.132
Ystyriaeth allweddol wrth ddwyn y model newydd hwn yn ei flaen ar gyfer ei gyflwyno yw'r gweithlu. Heb yrwyr a staff allweddol eraill i gadw ein gwasanaethau bws ar y ffyrdd, ni fyddai gennym ni unrhyw rwydwaith i'w redeg. Fe wnaethom ni ddarpariaeth yn y Bil ar gyfer pŵer i lunio rheoliadau i gymhwyso'r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) i amgylchiadau penodol sy'n deillio o'r Bil. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r undebau, y diwydiant ac eraill i sicrhau ein bod ni'n cynnig sicrwydd i staff ac yn hwyluso trosglwyddo gweithrediadau yn llyfn yn ystod y cyfnod pontio i fasnachfreinio ac i'r dyfodol. Rydym ni'n ymwybodol bod rhai gweithredwyr BBaCh yn pryderu am gystadlu am gytundebau gyda gweithredwyr mwy. Rwyf i wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull a fydd yn annog ystod o weithredwyr, ac a fydd yn cynnig gwahanol fathau o becynnau masnachfreinio a fydd yn ddeniadol i weithredwyr llai ac eraill a allai fod yn fwy deniadol i'r rai mwy o faint. Fe fyddwn ni'n ystyried pa gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i gynorthwyo'r broses hon hefyd.133
Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd creu rhwydwaith newydd a ddarperir yn bennaf trwy gyfrwng cytundebau gwasanaeth bws yn her gymhleth, ac felly ni ddylid cyflwyno hyn ledled Cymru ar unwaith. Felly, fel y nodais i o'r blaen, bydd hyn yn cael ei weithredu bob yn dipyn, gyda'n partneriaid cyflenwi sector cyhoeddus yn defnyddio dull rhanbarthol a gaiff ei fodelu ar ranbarthau'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae mewnbwn rhanbarthol a lleol yn gwbl hanfodol i gyflawni diwygio bysiau. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio yn agos â'r cyd-bwyllgorau corfforedig a'r awdurdodau lleol i sefydlu ffyrdd effeithiol o weithio i sicrhau bod gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn cael eu hymgorffori yn natblygiad cynllun y rhwydwaith ac ym mhob agwedd ar weithredu diwygio bysiau. Mae'r cynnydd ar ei fwyaf aeddfed yn y de-orllewin, sef y rhanbarth cyntaf a gyflwynir yn 2027.134
Wrth wraidd ein cynlluniau ni y mae'r awydd i wella'r gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr bysiau a defnyddwyr posibl y rhwydwaith. Fel y dywedais i yn y Siambr cyn y Nadolig, mae bysiau yn rhoi gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy'n cynnig rhaff achub i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn y gymdeithas. Bydd y Bil hwn yn helpu i osod sylfeini rhwydwaith sy'n blaenoriaethu pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, ac a fydd yn gwneud gwell defnydd o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwistrellu i'r rhwydwaith bysiau eisoes.135
Nid yw'r system ddadreoledig gyfredol yn gweithio ar gyfer pobl Cymru. Fe wn i am y rhwystredigaeth a fu am fod y Bil hwn wedi cymryd llawer o amser i'w ddatblygu a'i gyflwyno. Mae hynny'n adlewyrchu cymhlethdod deddfu a roi terfyn ar ddadreoleiddio'r diwydiant bysiau ar sail Cymru gyfan. Mae hwn yn newid sylweddol ac rydym ni'n awyddus i wneud hyn yn iawn. Rwyf i o'r farn y bydd y Bil hwn yn hwyluso'r newidiadau sydd eu hangen arnom ni i fynd i'r afael â'r dirywiad a fu yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau, yn ogystal â'n helpu ni i gyflawni ein hymrwymiadau i leihau allyriadau a chyflawni ar ein hagenda cyfiawnder cymdeithasol. Byddaf yn sicrhau y bydd yr ymgyrch am ymgysylltiad a chydweithrediad cadarnhaol â rhanddeiliaid a fu wrth hanfod y ddeddfwriaeth hon yn parhau, wrth fwrw ymlaen. Rwy'n edrych ymlaen at graffu gan Aelodau ar y Bil a chlywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr iawn.136
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac, yn wir, am y datganiad ddoe hefyd? Mae hi'n amlwg, yma yng Nghymru, ei bod hi'n rhaid i bethau newid o ran rheoli ein gwasanaethau bysiau, fel rydych chi'n cydnabod. Fe welsom ni niferoedd teithiau gan deithwyr ar fysiau yn lleihau dros nifer o flynyddoedd, ac yn sicr yn cwympo'n sylweddol ers COVID, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig ni. Dros y degawd diwethaf neu fwy, fe welsom ni gannoedd o wasanaethau bysiau naill ai'n cael eu newid, eu cwtogi neu'n cael eu diddymu, ac mae'n amlwg bod y Llywodraeth wedi llusgo ei thraed am ormod o amser cyn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud rhai pethau yn iawn nawr.137
Mae gwasanaethau bysiau annigonol ac annibynadwy wedi cyfyngu ar allu llawer i deithio yng Nghymru, yn enwedig yr henoed a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac fe wyddom ni fod hyn wedi effeithio ar ein cenedlaethau iau hefyd, gan ei gwneud hi'n fwy trafferthus i lawer fynychu'r ysgol neu sefydliadau addysg bellach. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac o ganlyniad i hynny fe welsom ni anghysondebau ym mholisi'r Llywodraeth, lle mae un dyhead yn cael ei wadu gan ddiffyg uchelgais mewn maes arall. Ac nid yw hynny'n beth anghyffredin, rwyf i wedi sylwi, yn y lle hwn. Roedd disgwyl y byddai Bil bysiau yn 2020. Fe wyddom ni fod COVID wedi rhwystro hynny, ond pam mae hi wedi cymryd dros bum mlynedd i gyflwyno syniadau pellach ac atebion posibl? Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn y Llywodraeth yn y fan hon ers dros 25 mlynedd ond, fel hyn, fe allai'r cynigion hyn gymryd pum mlynedd arall.138
Trwy'r Bil hwn, mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi anghenion pobl yn flaenaf, yn ardaloedd cefn gwlad yn enwedig, lle mae'r unigolyn yn ail i broffidioldeb y llwybrau. Fe wyddom ni fod y Llywodraeth yn ffafrio masnachfreinio bysiau fel y model dewisol ar gyfer diwygio, ond nid yw llawer wedi rhoi eu dyfarniad ar hyn eto. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, yw bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod y diwydiant yn gallu gweithredu mewn ffordd gynaliadwy ac nad yw cwmnïau bysiau llai dan anfantais nac yn cael eu gwthio allan. Yr hyn sy'n amlwg yw y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru lunio system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gynaliadwy ac yn gydgysylltiedig, ond yn un fforddiadwy ac y gellir ei chyflawni. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymwrthod â chreu rhywbeth a fyddai'n mynd â ni yn ein holau neu a fyddai'n rhoi pwysau ychwanegol aruthrol ar yr awdurdodau lleol, a fyddai'n gorfod dod i'r adwy pe na fyddai'r targedau o ran defnyddwyr yn cael eu cyflawni a phe byddai refeniw tocynnau yn gostwng yn groes i'r rhagdybiaethau. Byddai hyn yn cyflwyno risgiau sylweddol i'r awdurdodau lleol.139
Mae adroddiad gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru wedi pwysleisio'r ffaith na fydd cyflwyno masnachfreinio yn mynd i'r afael â'r ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ein gwasanaethau bysiau ni yng Nghymru, sy'n cynnwys y symudiad oddi wrth weithio mewn swyddfeydd yn ogystal â mwy o ddibyniaeth ar siopa ar-lein. Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn tynnu sylw hefyd at y ffaith na fydd newid y model trafnidiaeth yn effeithio ar y materion sy'n ymwneud â dibynadwyedd, prydlondeb, cyflymder teithiau bysiau a thagfeydd—y pethau hynny sy'n rhwystro materion.140
Fe wyddom ni hefyd y gall masnachfreinio fod yn gostus. Edrychwch chi ar Fanceinion fwyaf, lle, dros bum mlynedd, y bydd y gost yn debygol o fod tua £700 miliwn, ond mae Cymru yn lle llawer llai gyda mwy—. Mae'n ddrwg gen i, mae eu rhanbarth nhw'n llai na Chymru, ond mae mwy o seilwaith yno. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £140 miliwn y flwyddyn mewn cymhorthdal, ac fe wyddom ni y bydd £8 miliwn o hwnnw'n mynd tuag at ariannu'r prisiau i rai dan 21 oed. Wel, mae hynny'n brin iawn o'r hyn y byddwn ni'n debygol o fod ei angen. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi amlinellu faint o arian y bydd eich cynigion chi'n ei gostio, gan gynnwys trwy bontio i'r cyfnod cyflawni ac wedyn, efallai, ar weinyddiaeth barhaus? Nid yw Cymru yn lle tebyg i Lundain, Manceinion Fwyaf na Lerpwl—mae'n llawer mwy amrywiol yma, ac mae'r teithwyr yn wasgaredig iawn. Fe fydd y costau pontio yn enfawr, yn siŵr i chi.141
O ble y caiff Cymru'r arbenigedd proffesiynol i redeg y model masnachfraint ledled y wlad? A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, ystyried modelau amgen, ac rwy'n credu i chi ddweud y byddech chi, fel masnachfreinio gros, fel masnachfreintiau net neu drefniadau partneriaeth uwch? Rydych chi'n gwybod bod Jersey, er enghraifft, wedi sefydlu model masnachfraint yn 2002 ac wedi newid i fodel arall yn 2013 am nad oedd yn gweithio; fe ddaethon nhw o hyd i ddatrysiad gwell. Mae'r rhain yn gwestiynau sylfaenol a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael eu hateb trwy gyfrwng y broses graffu. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau y bydd y craffu ar Bil hwn yn deilwng ohono. 142
A gaf i ddiolch i Peter Fox am ei gwestiynau a'i sylwadau? Roeddwn i'n falch o glywed bod yr Aelod yn cefnogi'r newid sydd ei angen, yn fras. Mae newid yn angenrheidiol am nad yw'r system, fel y bu hi'n gweithio ers llawer gormod o amser, yn diwallu anghenion teithwyr ledled Cymru. Wrth gymryd rheolaeth o'r rhwydwaith, a chymryd rheolaeth ar amserlenni a phrisiau tocynnau, fe fyddwn ni'n gallu darparu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n integredig.143
Nawr, roedd Peter Fox yn gywir i nodi bod gwasanaethau bysiau yn arbennig o bwysig i'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, yn enwedig yr henoed, pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau yn eu bywydau bob dydd, a phobl ifanc. Yn wir, nid yw 20 y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar preifat ac maen nhw'n dibynnu ar wasanaethau bysiau i raddau helaeth iawn. Mae hynny'n arbennig o wir mewn cymunedau gwledig, ac rwy'n credu y bydd y ddeddfwriaeth hon o werth aruthrol mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Ond, mae Peter Fox yn gywir i ddweud nad yw hyn yn datrys popeth—mae hwn yn gam enfawr ymlaen, ond mae'n rhaid ei gyflawni gyda gwaith cyflenwol i wella dibynadwyedd a phrydlondeb. Felly, er enghraifft, fe fydd angen buddsoddi mewn lonydd blaenoriaeth bysiau i ddenu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau.144
O ran arbenigedd proffesiynol a modelau amgen, rydyn ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr o fannau eraill, gan gynnwys Jersey—fe wnaethom ni, yn wir, edrych yn fanwl iawn ar Jersey—ac, wrth gwrs, lleoedd fel Manceinion a Llundain. Rydyn ni o'r farn mai'r model y gwnaethom ni ei gyflwyno yn y Bil yw'r model sy'n gweddu orau i Gymru. Mater i lywodraethau'r dyfodol fydd buddsoddi, wrth gwrs, ond fe allwn ni gael cysur mawr yn yr hyn sydd wedi digwydd lle mae rheolaeth dros rwydwaith bysiau gennym ni ar hyn o bryd, sef ar rwydwaith TrawsCymru. Roeddwn i yng Nghorwen ddoe, ac fe ddysgais i fod y safle bws leol sydd yno wedi gweld cynnydd o 22 y cant yn ei defnydd mewn blwyddyn yn unig oherwydd cyflwyno a gwella gwasanaethau TrawsCymru. Maen nhw'n ddibynadwy, maen nhw'n brydlon ac fe all pobl ddibynnu arnyn nhw yn yr hirdymor. Dyna yw holl ddiben masnachfreinio—i roi sicrwydd i deithwyr. Mae rhai o'r gwasanaethau bysiau ar rwydwaith TrawsCymru wedi gweld cynnydd o dros 40 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf o ran eu defnydd. Felly, rwy'n credu y gallwn ni ddangos beth sy'n digwydd pan ydych chi'n cymryd rheolaeth o rwydwaith ac amserlenni, a phan ydych chi'n sefydlu gwasanaethau sy'n ateb anghenion pobl, rydych chi'n denu mwy o bobl i ddefnyddio'r rhwydwaith. Nawr, mae hynny'n golygu, yn y dyfodol, o ran y buddsoddiad a fydd yn cael ei roi mewn bysiau, fe fyddwn i'n gobeithio y byddai gan Weinidogion y dyfodol ddewis i allu trafod hynny. Yn un peth, fe allen nhw leihau'r cymhorthdal mewn gwasanaethau bysiau. Ni fyddwn i'n gwneud y dewis hwnnw'n bersonol; fe fyddai'n well gen i weld unrhyw gynnydd yn yr enillion drwy werthu tocynnau yn cael eu hailfuddsoddi yn ehangiad pellach y rhwydwaith eto.145
O ran contractau, rwy'n credu bod Peter Fox yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chynaliadwyedd. Bydd y contractau yn cael eu dyfarnu ar sail cost gros, ac mae hynny'n golygu y gallwn ni ail-fuddsoddi refeniw o docynnau wedyn yn narpariaeth rhagor o wasanaethau—dyna y byddwn i'n ei obeithio y byddai unrhyw Weinidog yn ei wneud yn y dyfodol—a chynnig tocynnau syml aml-wasanaeth. Fe ellir ailddosbarthu refeniw o wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru hefyd—nid yn unig gan ganolbwyntio ar lwybrau sy'n canolbwyntio ar elw masnachol, ond gan sicrhau, rwy'n credu, darpariaeth fwy cyfartal o wasanaethau bws ledled y wlad. Mae hyn yn arbennig o bwysig, unwaith eto, i ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd lle na all gwasanaethau weithredu â hyfywedd masnachol.146
Llywydd, wrth gloi, fe fyddwn i'n dweud hefyd, wrth ymateb i Peter Fox, ein bod ni'n gweithio yn agos iawn gyda'r diwydiant i sicrhau y gellir cynnal a gwella'r arloesedd a'r arfer gorau gan fusnesau bach a chanolig a gweithredwyr mwy i'r dyfodol. Rwyf i wedi amlinellu rhai o'r dulliau y byddwn ni'n eu defnyddio i sicrhau marchnad gymysg gyda phob math o weithredwyr, rhai bach a mawr. Rydyn ni'n dymuno sicrhau y gallwn ni feithrin y sector trwy fasnachfreinio, y gallwn ni feithrin yr economi trwy fasnachfreinio, ac y gallwn ni gysylltu cymunedau yn well.147
Mae ychydig fel aros am fws yng Nghymru, ar ôl aros yn hir ac, ar adegau, yn meddwl tybed a fyddai byth yn cyrraedd, rwy'n falch iawn o weld o'r diwedd y datganiad heddiw ar y Bil gwasanaethau bysiau. Mae hon yn foment hanesyddol.148
Os cymerwn eiliad i edrych ar Fanceinion, gallwn weld sut mae masnachfreinio wedi trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, gwella cysylltedd a dibynadwyedd gwasanaethau, cyflwyno fflyd fwy ecogyfeillgar, gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi. Dyma'r mathau o fuddion y dylem fod yn ymdrechu amdanynt yng Nghymru. Fodd bynnag, mae fy mhryder yn ymwneud â chyflawniad y Llywodraeth. Rwy'n clywed yr holl eiriau cywir gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn y Siambr hon yn rheolaidd yn ystod cwestiynau a dadleuon, ond yna rwy'n siomedig pan nad yw'r cyflawniad bob amser yn cyd-fynd â nhw mewn gwirionedd. Os ydych chi'n siarad â phobl ledled Cymru, byddant yn dweud wrthych dro ar ôl tro pa mor wael yw ein system drafnidiaeth.149
Mae pryder hefyd am gyllid. Mae Bus Users UK ac eraill wedi codi pryderon, yn enwedig ynghylch faint o gyllid fydd ar gael i wneud i'r masnachfreinio weithio. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario dim ond £2 ar fysiau am bob £5 ar drenau. Mae'n rhaid i hyn newid er mwyn i'r Bil hwn fod yn llwyddiannus. Bysiau yw'r dull trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru ac maen nhw'n achubiaeth i'n cymunedau mwyaf agored i niwed. Heb fuddsoddiad digonol, ni fydd masnachfreinio bysiau yn llwyddo.150
Gyda masnachfreinio, rydym eisiau gweld mwy o lwybrau yn cael eu hadfer a'r difrod o flynyddoedd o doriadau i wasanaethau yn cael ei wrthdroi. Yn bendant nid yw dadreoleiddio wedi gweithio. Mae angen eglurder arnom ar sut y bydd cynllunio llwybrau yn cael ei gynnal, sut y bydd lleisiau, busnesau a chymunedau lleol yn cymryd rhan yn y broses, a sut y bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a ffyniant. Efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol yn ein cymunedau lleol yn ei ymateb. Dylai mapio patrymau cymudwyr, yn ogystal â dwysedd tai o amgylch safleoedd bws, chwarae rhan allweddol yn y strategaeth hon, ac rwy'n croesawu'r newyddion am gasglu data. Dylai'r data ysgogi rhai o'r penderfyniadau hynny.151
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod wedi bod yn arbennig o bryderus ynghylch cludiant dysgwyr, fel y gwnaethom amlygu yn y ddadl yr wythnos diwethaf. Rwy'n disgwyl y bydd yn tynnu sylw at y cynllun prisiau gostyngol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ond mae hwn yn fesur tymor byr ac yn gynllun treialu ac ni all ddisodli dull mwy cyson a dibynadwy o deithio gan ddysgwyr. Mae perygl gwirioneddol o bylu'r llinellau rhwng darpariaeth statudol a chynlluniau mwy anffurfiol. Mae'r Llywodraeth ei hun wedi cydnabod y cysylltiad rhwng diwygio bysiau a theithio gan ddysgwyr, felly rwyf eisiau gwybod sut y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn gwella trafnidiaeth i blant a theuluoedd. Rhaid i'r ddeddfwriaeth hon alinio ag ymrwymiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud, megis ei strategaeth tlodi plant.152
Yn olaf, rwyf eisiau gweld nifer o gontractau wedi'u cadw ar gyfer y busnesau bach a chanolig a darparwyr bysiau lleol. Clywais yr hyn a ddywedoch am y cyfarwyddyd i Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull sy'n denu amrywiaeth o weithredwyr. Mae hwn yn faes lle nad yw Manceinion wedi gwneud cystal ag y gallai, ac rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi polisïau caffael sy'n defnyddio masnachfreinio fel offeryn ar gyfer datblygu lleol a thwf busnes yng Nghymru. Allwch chi ddweud ychydig mwy am hyn yn eich ymateb?153
I grynhoi, mae fy nghyd-Aelodau a minnau ym Mhlaid Cymru yn gefnogol iawn o'r Bil. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r fersiwn orau bosibl ohono drwy'r Senedd hon, ond yn y pen draw gall problemau godi yn y manylion ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol, parhaol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.154
A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau a'r arwydd y bydd Plaid Cymru, yn fras o leiaf, yn cefnogi'r Bil? Rwy'n edmygu datblygiad Bee Network Manceinion. Mae wedi bod yn llwyddiant eithaf sylweddol o ran darparu gwasanaethau masnachfraint rheolaidd, dibynadwy i bobl Manceinion fwyaf, ond rydym hefyd wedi dysgu o rai o'r heriau y maen nhw wedi'u hwynebu yn y rhan honno o'r DU, yn bennaf gyda dyfarnu contractau nid o reidrwydd i fusnesau bach a chanolig. Rwy'n credu bod ymgysylltu â'r farchnad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn hynod bwysig yn hyn o beth.155
Gwyddom fod dros 100 o gwmnïau bysiau yng Nghymru, llawer ohonyn nhw'n fach iawn mewn gwirionedd, ond maen nhw'n darparu budd sylweddol iawn i'r cymunedau y maen nhw wedi'u gwreiddio ynddynt. Maen nhw'n rhan o'r economi sylfaenol ac maen nhw'n adnabod eu cymunedau cystal ag y gall unrhyw un eu hadnabod, o ran ble mae pobl yn symud o gwmpas a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly mae ymgysylltu â'r diwydiant ar bob lefel yn mynd i fod yn hanfodol bwysig. Amlinellais sut rydym ni'n ystyried pecynnu contractau i sicrhau bod busnesau bach a chanolig, yn ogystal â'r cwmnïau bysiau mwy, yn cael cyfle i lwyddo mewn byd o fasnachfreinio.156
Mae cyflawni'n hanfodol bwysig, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut mae TrawsCymru yn cyflawni mwy o wasanaethau i deithwyr ac yn denu mwy o deithwyr oherwydd maen nhw wedi gallu diwallu'n well anghenion pobl o ran llwybrau. Mae'n ffaith syfrdanol fod yna 190,000 o deithiau bws bob dydd. Rydw i eisiau gweld y ffigur hwnnw yn codi eto. Wrth gwrs, bydd i fyny i lywodraethau'r dyfodol i benderfynu faint o arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fy marn i yw mai trafnidiaeth gyhoeddus yw'r trydydd gwasanaeth cyhoeddus, a gwasanaethau bysiau yn arbennig yw'r rhai sy'n ymwneud fwyaf â chyfiawnder cymdeithasol, am y rhesymau a roddais yn fy ymateb i Peter Fox.157
Gallaf ddweud, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, y byddwn wedi buddsoddi £600 miliwn mewn cymorth i wasanaethau bysiau. Mae hynny ar wahân i'r arian rydym ni'n ei fuddsoddi trwy deithio gan ddysgwyr, sydd eleni rwy'n credu oddeutu £204 miliwn. Felly mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau bysiau yn enfawr, ond nid ydym yn cael yr effaith mwyaf posibl yn ei sgil, a thrwy gymryd rheolaeth o'r llwybrau a'r amserlenni a'r drefn pris siwrnai, rwy'n credu y byddwn yn gallu cael yr effaith a'r budd mwyaf posibl i gymunedau.158
Rwy'n credu bod rhannu data yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, felly hefyd technoleg newydd a datblygol sy'n mapio symudiadau pobl. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn pan ddaw yn amser i ni ddyfeisio atebion ar gyfer heriau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr. Hefyd bydd awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig yn hanfodol bwysig wrth lunio llwybrau gyda ni a'r amserlenni a'r drefn pris siwrnai. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cydweithio'n effeithiol iawn wrth greu'r rhwydwaith ledled Cymru.159
Mae'r Aelod yn iawn: mae'r cap o £1 ar brisiau bysiau i bobl ifanc yn gynllun treialu, ond mae'n mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol iawn i nifer sylweddol o bobl. Unwaith eto, llywodraethau'r dyfodol fydd yn penderfynu a ddylid cynnal hynny, ond rwy'n credu ei bod yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n dysgu o'r cynllun treialu hwnnw. Rwy'n hyderus y bydd yn fuddiol dros ben. Rwy'n hyderus y bydd yn helpu i annog mwy o bobl ifanc i ddewis gwasanaethau bysiau yn hytrach na defnyddio cerbyd preifat. Bydd yn sicr yn rhoi opsiynau gwell i bobl ifanc ac opsiynau mwy fforddiadwy ar gyfer cael mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant. Felly rwy'n falch iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'r fenter benodol hon, ac rwy'n gobeithio y gellir ei chadw ar gyfer y dyfodol, ond wrth gwrs byddwn yn dysgu ohoni cyn gwneud penderfyniadau i'r perwyl hwnnw.160
O ran diwygio bysiau a sut mae'n rhyngwynebu â theithio gan ddysgwyr, rwyf eisoes wedi sôn am rai o'r manteision, ond rwy'n credu mai un o'r prif fanteision yw y bydd yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar wasanaethau a gynlluniwyd yn rheolaidd sydd hefyd yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, fel nad yw'r ddau yn gwrthdaro, felly gellir defnyddio'r bysiau, y cerbydau eu hunain, yn well, fel bod gyrwyr bysiau yn cael eu cyflogi trwy gydol y dydd i sicrhau y gallwn symud pobl i ble bynnag maen nhw eisiau mynd. Ond yn sicr mae teithio gan ddysgwyr â gwasanaethau bysiau rheolaidd yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei wneud unwaith y byddwn wedi cael y ddeddfwriaeth drwodd ac unwaith y bydd masnachfreintiau wedi'u cytuno.161
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil bysiau hwn yn cael ei gyflwyno nawr. Fe wnes i gyflwyno deiseb bron i chwe blynedd yn ôl yn galw am fysiau i bobl, nid er elw, oherwydd ar y pryd roedd gennym weithredwyr yn cystadlu am yr un teithwyr proffidiol yn yr ardaloedd trefol gan dorri'r rhai llai proffidiol ond yr un mor bwysig yn yr ardaloedd gwledig. Roedd pobl wedi'u siomi'n fawr mewn cymunedau. Roeddwn i'n mynd i gyfarfodydd mewn neuaddau pentref ac roedd yn ofnadwy eu clywed yn pryderu eu bod nhw'n mynd i gael eu gadael gartref ac yn methu mynd allan. 162
Rwy'n gwybod nawr bod llawer o weithredwyr yn cael trafferthion ac maen nhw'n croesawu hwn, ond rwy'n gwybod y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r rhwydwaith a'r cyllid, fel y digwyddodd gyda Trafnidiaeth Cymru, cyflwyno'r gwasanaethau newydd, buddsoddi £800 miliwn mewn trenau a cherbydau newydd, ac mae wedi bod yn drawsnewidiol. Rydym wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu tua 25 y cant. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y rhwydwaith hwnnw'n iawn.163
A fydd cymorth ac adnoddau ychwanegol i lywodraeth leol, sy'n adnabod y rhwydwaith a'r trigolion mor dda? Rwy'n gwybod yn sir y Fflint bod 450 o gontractau gwahanol, felly mae'n gymhleth iawn wrth symud ymlaen. Pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gael Llywodraethau sy'n buddsoddi mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol fel y gallwn ei adeiladu a gwneud yn siŵr eu bod yno ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed? Diolch.164
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y ffordd y mae hi wedi croesawu'r darn hwn o ddeddfwriaeth? Rydych wedi ymladd drosto ers amser maith ac rwy'n credu bod gennych fwy o arbenigedd yn y maes hwn nag unrhyw un arall yn y Siambr hon, o ystyried eich rôl flaenorol fel aelod arweiniol yn sir y Fflint. Mae hyn yn rhan o'n dyhead i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at werth £800 miliwn o drenau newydd, y cynnydd mewn defnydd o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, sy'n sylweddol mewn gwirionedd, ac rydym yn gobeithio ailadrodd hyn drwy fasnachfreinio. 165
Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd gan lywodraeth leol rôl ganolog wrth ddylunio a ffurfio'r rhwydwaith a'r amserlenni, a bydd llywodraeth leol yn cael ei chefnogi yn yr ymdrech honno gan Trafnidiaeth Cymru. Bydd gan gyd-bwyllgorau corfforedig rôl hanfodol bwysig i'w chwarae hefyd. Rydym yn edrych i weld sut efallai y bydd memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn rhoi mwy o gryfder i rôl cyd-bwyllgorau corfforedig, ond bydd yr wybodaeth leol a gawn oddi wrth awdurdodau lleol ac oddi wrth weithredwyr bysiau eu hunain yn amhrisiadwy pan fyddwn yn llunio'r rhwydwaith. 166
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oes amheuaeth bod angen gwelliannau i wasanaethau bysiau a safleoedd bws yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol i'r economi, er mwyn i bobl fyw eu bywydau ac ar gyfer cludiant ysgol. Fodd bynnag, mae gennyf i rai pryderon difrifol am y model masnachfreinio hwn.167
Mae'n amlwg bod angen gwneud gwelliannau mewn gwasanaethau a buddsoddi mewn safleoedd bws cyhoeddus. Fodd bynnag, bydd gwario swm enfawr o arian ar ad-drefnu enfawr mewn gwirionedd yn arwain at ychydig iawn o wahaniaeth mewn allbwn oni bai bod gennych swm diddiwedd o arian ar gael i chi. Ai dyma'n wir yw'r defnydd cywir o'r swm enfawr hwn o arian, sef ei roi yn yr hoff brosiect hwn? Rwy'n deall y nodau ac yn croesawu rhai ohonynt, ond yn sicr gellid gwario rhywfaint ohono'n well ar welliannau i'r system bresennol ac i lwybrau. 168
Ar ôl ymweld â gweithredwyr bysiau lleol yn ddiweddar, mae'n amlwg i mi fod gan y newid mawr i'r ffordd y mae bysiau'n gweithredu yng Nghymru risg enfawr ynghlwm wrtho, a phris hyd yn oed yn fwy, ac mae'n gyfystyr â dim mwy na Gweinidogion Cymru yn cipio pŵer, cael gwared—169
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda. 170
—ar wneud penderfyniadau'n lleol a'r rhwyddineb o addasu i anghenion lleol.171
Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n sôn am stoc newydd yn eich datganiad. Beth sy'n digwydd i'r hen stoc? Ydych chi'n cynnig bod ffin galed ar gyfer unrhyw gynllun tocynnau newydd i bobl ifanc rhwng Cymru a Lloegr? Ac yn bwysig, a allwch chi warantu y bydd yr holl newidiadau hyn yn arwain at gostau is i ddefnyddwyr, ac y bydd mwy yn hytrach na llai o wasanaethau? Diolch. 172
Dirprwy Lywydd, nid cipio pŵer yw hyn; cymryd rheolaeth yn ôl yw hyn. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd yn profi i fod—[Torri ar draws.]173
Ysgrifennydd Cabinet, dwy eiliad. Os bydd y meinciau cefn yn cadw'n dawel, gallaf wrando ar yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i'r cwestiwn. 174
Dirprwy Lywydd, rwy'n hyderus y bydd pobl Cymru yn croesawu masnachfreinio, yn croesawu mynd i'r afael â methiannau dadreoleiddio yng nghanol y 1980au, sydd, mae gennyf ofn, wedi arwain at fanteision mawr i rai o ran gweithredu gwasanaethau proffidiol iawn, ond lle na ellir cyflawni elw mae'r trethdalwr yn gorfod talu am wasanaethau bysiau na fyddant fel arall yn gweithredu. Ac mewn llawer o amgylchiadau, mae gweithrediadau bysiau wedi dod i ben oherwydd nad ydynt yn fasnachol hyfyw ac oherwydd cyni hefyd. Mae awdurdodau lleol wedi cael eu gwasgu'n dynn oherwydd cyni, ac eto mewn rhai achosion, maen nhw wedi parhau i gyfrannu er nad yw'n statudol. Rwy'n credu bod angen eu llongyfarch. Maen nhw wedi cefnogi rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru drwy sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n cael cymhorthdal. Ond nid yw'r system fel y mae ar hyn o bryd yn gynaliadwy, nid yw'n darparu gwerth am arian o gwbl, ac mae gwahaniaeth mawr rhwng cost a gwerth. Ydy, mae'r swm o arian rydym ni'n ei roi i mewn i wasanaethau cyhoeddus ac yn benodol, yn hyn o beth, i wasanaethau bysiau, yn sylweddol. Mae'n dod â chost fawr yn ei sgil—rwy'n cyfaddef hynny—mae £600 miliwn yn mynd i wasanaethau bysiau yn nhymor y Senedd hon. Ond mae'r gwerth—y gwerth—i bobl Cymru hyd yn oed yn fwy. A gallwn weld o'r asesiadau effaith a'r gymhareb cost a budd sy'n cyd-fynd â'r darn hwn o ddeddfwriaeth bod y gwerth yn cael ei ystyried yn uchel iawn. Mae hynny oherwydd y bydd hyn yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Bydd hyn yn cysylltu cymunedau'n well. Bydd hyn yn sicrhau mwy o hygyrchedd hefyd, oherwydd byddwn yn gallu creu safonau hyfforddi sy'n sicrhau bod gyrwyr yn gallu croesawu a derbyn a helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau anabledd yn eu bywyd bob dydd.175
Bydd y ddeddfwriaeth hon hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, oherwydd byddwn yn gallu defnyddio Trafnidiaeth Cymru fel prynwr cerbydau trydan, a fyddai wedyn yn gallu eu rhoi ar les i fentrau bach a chanolig. Felly, wrth wneud hynny, bydd mewn gwirionedd hefyd yn helpu busnesau bach a chanolig na fyddai fel arall yn gallu fforddio bysiau trydan drud, newydd. Rwy'n credu bod bron pawb yn ennill yn y senario hwn. Efallai—efallai—bydd y rhai sy'n ceisio'r elw mwyaf ar eu colled, ond bydd pobl Cymru, ac rwy'n credu, y mwyafrif helaeth o'r gweithredwyr yng Nghymru, yn elwa ar y ddeddfwriaeth hon.176
Yn 2022-23, roedd dros 61 miliwn o deithiau bws yng Nghymru. Cyn y pandemig, roedd y ffigur dros 91 miliwn. Ar hyn o bryd, pan fydd nifer y teithwyr bysiau yn isel, mae'n rhaid torri gwasanaethau neu gael mwy o fuddsoddiad i gynnal gwasanaethau, a phan wnes i holi llawer o Weinidogion y Llywodraeth ar y cynlluniau i gynyddu nifer y teithwyr, dywedwyd wrthyf bob tro i aros am y Bil Bysiau. Wel, dyma fe, mae wedi cyrraedd o'r diwedd. Ond o ystyried pryderon sydd wedi'u codi ynglŷn â lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau'r Bil—uchelgeisiau yr wyf yn eu croesawu'n llwyr—a'r amser y bydd yn ei gymryd i'w weithredu'n llawn, a gaf i ofyn eto pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i gynyddu nifer y teithwyr ar draws y rhwydwaith bysiau?177
Rwyf wedi siarad â llawer o etholwyr ar draws fy rhanbarth nad oes ganddynt unrhyw ddulliau trafnidiaeth eraill. Maen nhw'n dibynnu ar fysiau bob dydd, mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac, yn amlach na pheidio, nhw yw'r rhai mwyaf awyddus i helpu i greu gwasanaeth gwell. Felly, dywedoch chi y bydd y Bil hwn yn sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u cydlynu, mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, llywodraeth leol a diwydiant, ond a gaf i ofyn yn union sut mae defnyddwyr bysiau, y rhai nad oes ganddyn nhw geir, nid y cyd-bwyllgorau corfforedig yn unig, nid yr awdurdodau lleol yn unig, yn cymryd rhan ystyrlon yn y gwaith o ddylunio a chyflwyno'r Bil hwn?178
Wel, bydd llais y dinesydd, rydych chi'n hollol iawn, wrth wraidd hyn. Dyna pam rydym ni'n sicrhau bod awdurdodau lleol wrth wraidd cynllunio'r rhwydweithiau a'r amserlenni. Rydym yn cynyddu cyllid bysiau eleni i gefnogi'r rhwydwaith cyn masnachfreinio: rhwng cyfalaf a refeniw, rydym wedi ei gynyddu yn y flwyddyn sydd i ddod i £170 miliwn, ac fel y dywedais i o'r blaen, yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y swm yn fwy na £600 miliwn. Felly, mae'n swm enfawr o arian sydd wedi'i gynllunio i sefydlogi'r rhwydwaith ar ôl COVID a pharatoi gwasanaethau bysiau ar gyfer byd lle rydym ni'n masnachfreinio.179
Mae cysylltiad cryf iawn rhwng derbyniadau bysiau a'r ddarpariaeth o wasanaethau. Pan fydd y derbyniadau'n lleihau, fel y dywedoch chi yn gywir, y risg yw, heb gymorthdal, y bydd gwasanaethau yn cael eu tynnu'n ôl, a dyna beth rydym ni wedi'i weld mewn gormod o amgylchiadau. Ond lle mae gennym reolaeth—rheolaeth lawn—rydym wedi gweld y gwrthwyneb yn digwydd yn ddiweddar. Fel y soniais i, mae gwasanaethau TrawsCymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn defnydd ar y rhan fwyaf o'r hyn y maen nhw'n ei weithredu, ac mae hynny oherwydd, gyda TrawsCymru, rydyn ni'n gallu trefnu bod y rhwydwaith ei hun yn diwallu anghenion pobl, anghenion teithwyr, gyda'r amserlenni a'r llwybrau. Felly, rwy'n hyderus iawn, gyda'r wybodaeth leol honno, gyda system sy'n gwbl ymatebol i deithwyr, y byddwn yn gallu cynyddu'r defnydd, a thrwy wneud hynny, cynyddu derbyniadau, gan hefyd sicrhau bod gennym drefn pris siwrnai deg. Ac wrth wneud hynny, byddwn yn gobeithio y bydd Gweinidogion y dyfodol wedyn yn dewis defnyddio'r refeniw derbyniadau ychwanegol hwnnw i gynyddu'r rhwydwaith.180
Dwi'n croesawu'r datganiad heddiw. 181
Mae gennyf ychydig o bwyntiau i'w codi. Rydych chi'n sôn, yn gywir, am y dull rhanbarthol a rôl y cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n hynod o bwysig. Gwyddom nad yw bysiau yn stopio ar ffiniau sir; ni fyddai hynny'n sicrhau gwasanaeth effeithiol sy'n cysylltu ein cymunedau. Ond a gaf i ofyn sut y bydd hynny'n gweithio ar sail drawsffiniol? Mae pobl yn fy rhan i o'r byd, yr ydych chi'n ei adnabod yn dda, eisiau stopio yn Saltney neu Frychdyn, ond maen nhw mewn gwirionedd eisiau cyrraedd Caer a thu hwnt hefyd. Felly, sut gellir gwneud hynny weithio yn ymarferol? Ac ar y pwynt ymarferol hwnnw, a gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r gweithlu drwy undebau llafur hyd yma wrth ddatblygu'r Bil bysiau, a pha fecanwaith sydd ar waith i sicrhau bod gwaith partneriaeth ystyrlon, nid yn unig wrth i'r ddeddfwriaeth fynd rhagddi, ond, yn bwysig, wrth weithredu hefyd, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud â dweud yn unig, mae'n ymwneud â gwneud mewn gwirionedd.182
Byddwn, byddwn i'n cytuno'n llwyr. Mae ymgysylltu sylweddol wedi ei wneud ag undebau llafur yn ystod y gwaith hwn o ddeddfwriaeth ac yn y blynyddoedd cyn y gwaith penodol hwn hefyd, o ganlyniad i'r hyn yr oedd undebau llafur yn ei ddweud wrthym wrth i ni gychwyn ar y llwybr penodol hwn. Felly, rwy'n hyderus bod y ddeddfwriaeth yn cydnabod dymuniadau ac anghenion aelodau undebau llafur, ond byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur a gyda gweithredwyr bysiau. Trwy'r contractau, byddwn yn gallu sicrhau'r berthynas orau bosibl rhwng gweithredwyr ac undebau llafur, a fy marn i yw y byddwn yn gallu annog arfer gorau yn y broses yr ydym yn ei dilyn—arfer gorau o ran darpariaeth i gwsmeriaid a hefyd sut mae'r gweithwyr yn cael eu trin.183
Nawr, rwy'n parchu'n llawn bwysigrwydd gwasanaethau trawsffiniol i'n cymunedau ar y ffin—gwasanaethau trawsffiniol ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ond hefyd gwasanaethau trawsffiniol ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Rydym wedi gweithio'n eithaf helaeth gyda dinas-ranbarth Lerpwl, gyda dinas-ranbarth Manceinion a chyda chynghorau ardal Dyfrdwy i sicrhau ein bod yn gallu rhannu arfer gorau, arloesedd a chynllunio llwybrau. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth ar y mater hwn, ac rydym yn ystyried defnyddio trwyddedau a fydd yn galluogi ac yn sicrhau y gellir cynnal gwasanaethau trawsffiniol nid yn unig yn y dyfodol, ond y gellir eu gwella ac y gallant integreiddio'n llawn â'r rhwydwaith masnachfraint yma yng Nghymru, ac yn wir â'n gwasanaethau rheilffyrdd hefyd.184
Mae'r Bil hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir; does dim ffordd arall i fynegi hyn. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y pwynt dilys iawn a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet oedd ynghylch gwerth am arian, oherwydd ar hyn o bryd mae'r system yn ein hannog i ddefnyddio arian cyhoeddus i roi cymhorthdal ar gyfer elw cyfranddalwyr. Nawr, nid yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, nid yw hynny'n darparu gwerth am arian. Felly, mae'n beth da ein bod ni'n mynd i'r afael â'r mater hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'n caniatáu i ni wedyn osgoi'r sefyllfa lle mae'n amhosibl ennill, lle mae'r gwasanaethau hynny nad ydynt yn broffidiol yn cael eu torri, gan wneud i bobl ystyried nad yw bysiau yn opsiwn hyfyw oherwydd nad ydyn nhw'n ddibynadwy—nid ydynt hyd yn oed yn bresennol yn y cymunedau hynny. Felly, mae hyn wir yn rhoi'r sylfaen i ni greu system sy'n ddibynadwy, â bysiau rheolaidd ac sy'n dod yn opsiwn go iawn i bobl.185
Rwy'n credu bod cwestiwn dilys, fodd bynnag, i'w ofyn ynglŷn â'r agwedd ar gyflawni hyn. Nawr, wrth gwrs, mae wedi cymryd chwe blynedd i'r Bil hwn gyrraedd y Siambr yn ei ffurf bresennol. Mae adroddiadau yn dangos, neu'n awgrymu, y gallai gymryd pum mlynedd ychwanegol i'w gyflawni. Nawr, does dim syndod bod cymunedau'n siomedig gyda'r Senedd a gwleidyddion pan welir mai dyna'r amserlen ar gyfer cyflawni rhywbeth mor bwysig. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu beth yw'r rhwystrau penodol yma? Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd ynglŷn â'r dull cam wrth gam a'r darlun cymhleth, ond a oes problem o ran capasiti o fewn Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect hwn? Y peth pwysig nawr yw ein bod ni'n cyflawni hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae anghenion mewn cymunedau ar hyn o bryd nad ydynt yn cael eu diwallu.186
A gaf i ddiolch i Luke am ei gwestiynau ac am groesawu'r ddeddfwriaeth? Byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef bod hyn yn cynnig y posibilrwydd i ni ennill mwy o werth am arian am y gwasanaethau rydym ni'n buddsoddi ynddynt. Yn benodol, mae'n ein galluogi i gymryd refeniw o'r llwybrau mwyaf proffidiol yng Nghymru ac yna ei ddosbarthu'n fwy teg ar draws Cymru, yn enwedig yr ardaloedd hynny sy'n dibynnu cymaint ar lwybrau sy'n cael cymhorthdal.187
O ran yr amserlen gyflawni, rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd yn y canolbarth, oherwydd mae'r holl lwybrau yn cael cymhorthdal, felly rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn weithredu system fasnachfraint yn y canolbarth y gall rhanbarthau eraill wedyn ddysgu ohoni. Rydw i eisiau cael hyn yn iawn. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro methiannau dadreoleiddio mewn maes gwasanaeth cyhoeddus sydd mor bwysig—mor bwysig—i'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu. Felly, rwy'n derbyn y gallai ymddangos yn broses hir, pedair blynedd, rhwng nawr a 2029, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y gwaith yn iawn, a'i gyflwyno'n raddol ar draws y rhanbarthau, yn ein barn ni, yw'r ffordd orau i wneud hyn a'r ffordd fwyaf diogel. Rydym ni'n mynd i allu dysgu wrth i ni fynd ymlaen, ond mae rhai o'r rhanbarthau yn fwy datblygedig nag eraill, felly mae angen peth amser arnom i'w gyflwyno i'r rhanbarthau hynny sydd ag ecosystem fwy cymhleth o ddarparu gwasanaethau bysiau a gweithredwyr bysiau. Ond nid ydym eisiau dal y rhanbarthau hynny sy'n fwy datblygedig yn ôl yn y cyfamser, felly rydym ni'n mynd i droi at y de-orllewin yn gyntaf—er ein bod ni'n defnyddio'r canolbarth ar hyn o bryd fel arloeswr os hoffech chi—yna'r gogledd, yna'r de-ddwyrain. A bydd y canolbarth yn cael ei ffurfioli gyda gwasanaethau masnachfraint hefyd erbyn diwedd y degawd hwn.188
Rwy'n croesawu'n gynnes cyflwyno'r Bil hwn ac yn llongyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet am lwyddo i'w gael dros y llinell. Bydd rhai yn beirniadu hwn, fel yr ydym wedi clywed, ond ni all neb gyhuddo Llywodraeth Cymru o fod wedi rhuthro hwn. Ac mae'n iawn ei fod yn cymryd amser, oherwydd mae'n debyg mai dyma'r newid mwyaf cymhleth i'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn mwy na chenhedlaeth. Mae hwn yn ddiwygiad mwy pellgyrhaeddol nag mewn unrhyw ran o'r DU—yn fwy radical na ddigwyddodd ym Manceinion ac yn fwy radical na'r cynlluniau blaenorol. Ac mae'n mynd i fod yn anodd ei wneud yn iawn. Felly, rwy'n cefnogi'r Ysgrifennydd Cabinet yn llwyr o ran yr hyn a ddywedodd am gymryd yr amser i weithredu hwn yn iawn.189
Dim ond ychydig o bwyntiau ar fanylion. Dywedodd, yn gywir, y bydd y risg refeniw nawr yn disgyn ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru, ac mae yna feirniaid, rydym ni wedi clywed, yn bennaf yn y sector corfforaethol, sy'n ceisio defnyddio hyn i achosi rhywfaint o bryder. Ond a wnaiff gadarnhau mai'r ochr arall y geiniog yw y bydd nawr ddiddordeb uniongyrchol absoliwt yn Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r defnydd o fysiau? Bydd ganddi gysylltiad ariannol uniongyrchol a menter mewn gwneud hynny, a fydd yn ein gweld i ni yn gwella gwasanaethau bysiau. Er mwyn gwneud hynny, mae'n amlwg bod angen y sgiliau a'r modd o fewn Trafnidiaeth Cymru i fod yn feddwl arweiniol i gysylltu cynllunio trenau a bysiau fel bod gennych system integredig un tocyn, un rhwydwaith, ac mae hynny'n newid mawr i Trafnidiaeth Cymru. Felly, a wnaiff ddarparu diweddariad i ni ar sut maen nhw'n mynd ymlaen â hynny? Oherwydd er bod y ddeddfwriaeth wedi bod yn araf yn dod, mae'r gwaith wedi bod yn mynd ymlaen o ddifrif o fewn Trafnidiaeth Cymru.190
Ac yna yn olaf—191
Mae angen i chi fod yn gyflym, Lee.192
—y pwynt hanfodol arall ynghylch hyn yw gwaith awdurdodau lleol wrth weithio mewn perthynas y gellid ymddiried ynddi â TrC a Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, dim ond rhywfaint o sicrwydd bod cefnogaeth lawn i hynny. Ond edrychaf ymlaen at gefnogi'r ddeddfwriaeth hon wrth iddi fynd trwy'r Siambr hon.193
Wel, a gaf i ddiolch i Lee Waters am ei gyfraniad ac am y gwaith a wnaeth dros flynyddoedd lawer mewn perthynas â'r darn hwn o ddeddfwriaeth? Rwy'n cofio ni'n siarad am—. Rwy'n credu ein bod ni'n cyfeirio ato, ar un adeg, fel 'dull Martini'—unrhyw bryd, unrhyw le, unrhyw le gyda'r un tocyn. Yna esblygodd hynny i 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'. Ac oni bai am COVID, rwy'n credu, mae'n debyg, y byddem wedi gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio beth amser yn ôl. Ond gyda COVID, ein nod oedd achub y rhwydwaith bysiau. Roedd ar ei liniau oherwydd nad oedd yna deithwyr, ac mewn amgylchedd wedi ei ddadreoleiddio, rwy'n ofni, os nad yw arian yn cael ei wneud, mae'n cael ei golli. Felly, ein nod yn ystod COVID oedd achub y rhwydwaith bysiau. Fe wnaethom ni hynny, a nawr rydym ni yn y sefyllfa lle gallwn ddeddfu. Ac am y rhesymau y mae Lee Waters wedi'u hamlinellu, mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser priodol i gyflawni'r masnachfreintiau ledled Cymru.194
Ac rydych chi'n hollol iawn, mae'r risg refeniw ynghylch y darn penodol hwn o waith hefyd yn rhoi cyfle i ni. Dydw i ddim yn ei ystyried yn gymaint o risg, oherwydd lle rydym ni wedi cael rheolaeth, yn y ffordd y byddwn ni'n cael rheolaeth pe bai'r Bil hwn yn cael ei basio, rydym wedi gweld llwyddiant mewn gwirionedd. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol o ran y defnydd o wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, a amlinellodd Carolyn Thomas—25 y cant. Ac rydym wedi gweld y cynnydd rhyfeddol hwnnw mewn defnydd ar wasanaethau TrawsCymru, oherwydd bod gennym fuddsoddiad er mwyn cyrraedd y nod, oherwydd ein bod eisiau sicrhau'r gwerth am arian a'r budd mwyaf—gwerth i bobl—y gwasanaethau hyn. Felly, rwy'n hyderus iawn yn wir, wrth symud ymlaen, y bydd Gweinidogion y dyfodol yn cael cyfle trwy'r ddeddfwriaeth hon i ehangu'r rhwydwaith bysiau, yn hytrach na llywyddu dros ei gontractio.195
Mae TrC wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, gan dyfu o rywbeth a grëwyd gennym i reoli'r broses gaffael ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau i fod bellach yn gynllunydd, gweithredwr a rheolwr darpariaeth trafnidiaeth aml-ddull yng Nghymru. Ac mae wedi tyfu o ran arbenigedd yn eithaf sylweddol. Rydym hefyd wedi dysgu oddi wrth awdurdodau trafnidiaeth eraill, fel y rhai ym Manceinion a Llundain, ac, o ganlyniad i hynny, rydym wedi gallu ystyried cymaint o wahanol fodelau ar gyfer cefnogi rhwydwaith bysiau yn y dyfodol.196
Rydym yn credu bod gennym y model cywir o'n blaenau yn y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n edrych ymlaen at weld Aelodau'n ei chefnogi, ac rwy'n edrych ymlaen hefyd at Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddarparu arbenigedd a chefnogaeth amhrisiadwy i awdurdodau lleol, nid yn unig ar wasanaethau bysiau, ond ar draws pob dull.197
Mae'r de-ddwyrain ar waelod y rhestr, yn anffodus, ar gyfer y gweithredu fesul cam hwn. Rwy'n deall bod rhesymau dros wneud hynny yn y ffordd hon, ond rwy'n gobeithio y gallwn gyflwyno hyn gyda'r oedi lleiaf sydd ei angen, yn enwedig i'r rhai sy'n dioddef mewn ardaloedd lle mae prinder gwasanaethau yn cyfyngu ar eu gallu i fynd i'r gwaith neu ar gyfleoedd cymdeithasol, neu hyd yn oed i siopa, a hefyd pobl sy'n byw mewn tlodi trafnidiaeth yn cael eu gorfodi i fod â char, er nad ydynt yn gallu fforddio ei redeg, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall i deithio i'r gwaith neu i gyflawni cyfrifoldebau gofalu.198
Felly, rwyf eisiau deall sut rydym yn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen o ran y trafodaethau y mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n cwmpasu Caerdydd yn eu cael wrth baratoi ar gyfer cynllun y rhwydwaith bysiau, a sut maen nhw'n defnyddio data, er enghraifft, o ffonau symudol, i olrhain ble mae teithiau i'r gwaith a'r ysgol yn digwydd, fel y gallwn, cyn gynted â phosibl, cael y newid dulliau teithio hwnnw o gar i fws neu i drafnidiaeth gyhoeddus arall neu i deithio llesol, oherwydd fel arall rydym ni i gyd yn mynd i foddi yng nghanol y problemau ansawdd aer sydd gennym.199
Wel, a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau ac am groesawu'r ddeddfwriaeth hon? Bydd, fe fydd ardal y de-ddwyrain yn gweld ei rhwydwaith masnachfraint yn dod i'r amlwg yn 2028-29, ond, yn y cyfamser, rydym yn cyflwyno rhaglen fetro uchelgeisiol enfawr yn y de-ddwyrain, hefyd deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd â thag buddsoddi enfawr hefyd, ac felly rydym yn gwneud llawer iawn i'r rhanbarth penodol hwn. Ond, fel y dywedais i, mae rhai o'r rhanbarthau eraill yn fwy datblygedig ac yn llai cymhleth o ran cyflwyno masnachfreinio iddynt. Ni fyddem eisiau cynnal hyn yn gyfochrog, oherwydd mae'n broses mor gymhleth i'w dilyn, ond, o ran trafodaethau gyda'r cyd-bwyllgor corfforedig, mae'r Cynghorydd Andrew Morgan, wrth gwrs, yn sylwedydd ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru, ac mae wedi cyfrannu at ddiwygio bysiau yn sylweddol. Felly, mae'r trafodaethau yn ddatblygedig iawn ac yn parhau.200
Cododd Jenny Rathbone, yn gywir, fanteision posibl technoleg newydd sy'n datblygu. Yn ddiweddar, fe wnaethom drafod yn y Siambr hon y systemau tracio symudol y gall TrC eu defnyddio a'r arloesedd a welsom gan rai o'n sefydliadau addysg uwch, y byddwn yn manteisio'n llawn arnyn nhw wrth i ni roi mapiau rhwydwaith ac amserlenni at ei gilydd yn y dyfodol.201
Cododd Jenny Rathbone hefyd y pwynt pwysig iawn o dlodi trafnidiaeth sy'n dal i fod yn gyffredin yng Nghymru. Mae'n debyg bod hwn yn ymwneud, yn fwy priodol, â'm datganiad llafar nesaf ar deithio i bawb, ond rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud yn siŵr bod gennym drefn pris siwrnai decach ar gyfer y rhwydwaith bysiau, a'n bod yn cynnal consesiynau os yw'r pwrs cyhoeddus yn caniatáu hynny.202
Ac yn olaf, Alun Davies. 203
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r datganiad yn gynnes y prynhawn yma, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn clirio'r olion olaf o Thatcheriaeth o'r wlad hon. Mae preifateiddio gwasanaethau bysiau wedi bod yn drychineb llwyr i'r bobl rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, bydd pobl ledled y fwrdeistref, ac ar draws y wlad, yn croesawu'r datganiad hwn gan y Llywodraeth heddiw. Oherwydd pan fyddaf yn siarad ag etholwyr—. Siaradais â menyw yn Nhredegar ddydd Gwener, a oedd yn siarad â mi am yr anawsterau sydd ganddi wrth gael mynediad at wasanaethau trên, boed yn Rhymni neu Lynebwy, er mwyn cyrraedd y dref o ran arall o'r dref—gwasanaethau bach, lleol iawn ac yna'r gwasanaethau ar raddfa ehangach sy'n mynd i'r Fenni a Chaerdydd ac ati. Er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu teithio'n hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, dyma'r mathau o welliannau y mae pobl eisiau eu gweld. Ond hefyd cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus: rydym wedi gweld adeiladu ysbyty'r Faenor, agor y Faenor yng Nghwmbrân, ond hefyd gwasanaethau yn cael eu darparu o Nevill Hall ac Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglynebwy, ond hefyd—204
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Alun.205
—ysbytai a chlinigau mewn mannau eraill. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn rhwydd ac i sicrhau eu bod nhw eu hunain yn gallu byw'r bywyd y maen nhw eisiau ei fyw.206
A gaf ddiolch i Alun Davies am y pwyntiau a gododd? Gwelais Joel James yn nodio ar yr union bwyntiau hynny—neu efallai mai rhywbeth arall oedd ar ei sgrin. Ond, ydych, rydych chi'n hollol gywir: bydd hyn yn cael gwared ar un o'r darnau mwyaf dadleuol o ddiwygio a gyflwynodd Margaret Thatcher yn y 1980au, ac, yn ei le, bydd yn creu cynllun llawer mwy buddiol, gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth ei galon, ar gyfer pobl Cymru. Nawr, nid wyf yn credu o gwbl bod dadreoleiddio wedi methu oherwydd y gyrwyr neu'r gweithredwyr neu gyfarwyddwyr y cwmnïau hynny. Methodd dadreoleiddio oherwydd ei fod yn aneffeithlon, mae'n arwain at farchnad wedi'i thorri, mae'n atal croes-gymhorthdal, ac mae hefyd yn creu'r risg fwyaf i'r rhai mwyaf agored i niwed o ran colli eu gwasanaethau. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â'r holl fethiannau hynny.207
Mewn perthynas yn benodol â chysylltu gwasanaethau â phobl yn well, gwn fod Aelodau wedi codi yn y Siambr esiampl ysbyty'r Faenor. Dim ond yn ddiweddar, codwyd enghraifft o'r ysbyty yn Gobowen gyda mi, sydd, wrth gwrs, ar draws y ffin. Mae'r prif swyddog ar gyfer y darn penodol hwn o waith yn Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud yn siŵr bod y rhwydweithiau a'r amserlenni yn diwallu anghenion pobl, nid yn unig o ran cael mynediad at ganolfannau cyflogaeth ac addysg a'r strydoedd mawr, ond hefyd, yn hollbwysig, gwasanaethau ysbyty a chanolfannau meddygol.208
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.209
Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, teithio i bawb. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.210

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn defnyddio ein system drafnidiaeth bob dydd—i weld ffrindiau a theulu, i fynd i'r gwaith, i gael mynediad at ofal iechyd, addysg a gweithgareddau hamdden. Mae'r gallu i deithio yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol: gyrru car, dal trên neu fws, galw tacsi, neu fynd am dro neu feicio—ar y cyfan, rhan eithaf digynnwrf o'r dydd. Yn anffodus, mae teithio yn unrhyw beth ond digynnwrf i rai. Ers fy mhenodiad i'r portffolio hwn, rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl o wahanol rannau o Gymru sydd wedi rhannu eu profiadau gwael wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Roeddwn i'n teimlo'n drist ac yn siomedig. Cefais fy nharo gan sut roedd hyn yn effeithio ar eu bywydau—colli hyder, eu hannibyniaeth a'u gallu i gael mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.211
Nawr, mae rhwystrau rhag teithio yn eang, o ddiffyg mynediad gwastad i drenau i brinder mannau parcio bathodyn glas, prisiau siwrneiau y mae pobl yn cael trafferth eu fforddio, neu rywbeth mor sylfaenol â bod heb fynediad i doiled. Roedd adroddiad 'Access denied' Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Drafnidiaeth, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn adleisio hyn. Canfu, o'r bobl anabl a ymatebodd i'w arolwg, bod ychydig o dan 90 y cant wedi profi heriau mynediad neu rwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd teithio naill ai'n aml, y rhan fwyaf o'r amser, neu bob amser. Dyna pam rwyf wedi ymrwymo i newid y ffordd rydym ni'n gwneud polisi trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod mynediad a chynhwysiant yn wirioneddol wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud.212
Nawr, rydym eisoes yn cymryd ystod o fesurau i chwalu'r rhwystrau hynny. Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd, ynghyd â dros £1 biliwn i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, yn darparu mynediad gwastad i gwsmeriaid o blatfform i drên i deithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau ar ran y rhwydwaith yr ydym yn berchen arni ac yn ei rheoli'n llawn. Am y tro cyntaf, bydd llawer o gwsmeriaid yn gallu mynd ar drenau yn annibynnol, heb orfod trefnu cymorth ymlaen llaw. Byddant hefyd yn gallu troi i fyny a mynd, gan symud yn rhydd ar draws ein gwlad a thu hwnt.213
Byddwn yn cynnal archwiliad hygyrchedd cyflym o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r rhwystrau ffisegol sy'n wynebu pobl, gan sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn chwarae rhan wrth i ni ddylunio atebion i'r problemau hynny. Byddwn yn ceisio defnyddio syniadau a thechnoleg arloesol i rymuso mwy o bobl i deithio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cychwyn ar raglen ddigidol gynhwysfawr i ddarparu offer cynllunio teithiau hygyrch i unrhyw un sy'n teithio yng Nghymru. Ac, wrth i ddiwygio bysiau gael ei weithredu, bydd teithwyr yn elwa ar docynnau integredig pellach a gwasanaethau cydgysylltiedig ar draws trafnidiaeth gyhoeddus. Ni fydd hyn yn gweld diwedd ar opsiynau nad ydynt yn ddigidol, a byddant yn parhau i fod ar gael i gefnogi pawb i deithio.214
Fel yr ydym newydd glywed, mae bysiau yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol ac yn achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas. Bydd y Bil bysiau yn helpu i osod sylfeini rhwydwaith sy'n blaenoriaethu'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn. Bydd yn caniatáu i ni flaenoriaethu gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch, gan helpu pobl i deimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt o ganlyniad.215
Mae ein cerbydau newydd TrawsCymru yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a'r rheoliadau gwybodaeth hygyrch diweddaraf. Mae teithwyr yn elwa ar arddangosfeydd arhosiad nesaf dwyieithog a chyhoeddiadau sain, yn ogystal â gwasanaeth dolenni sain. Rydym hefyd yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd ar gyfer cadeiriau olwyn sydd ar gael. Byddwn yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn ac yn adnewyddu'r fflyd bysiau yng Nghymru i lefel y rheoliadau hygyrchedd diweddaraf wrth i ni weithredu diwygio bysiau yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â chyfnewidfa fysiau Caerdydd yn y flwyddyn newydd a gweld yr ystod o nodweddion hygyrchedd, gan gynnwys palmant botymog, arwyddion gwell, seddi hygyrch a thoiledau cynhwysol. Mae adeiladu hygyrchedd i'n seilwaith o'r cam dylunio nid yn unig yn arbed amser ac arian trwy osgoi ôl-osod, mae hefyd yn golygu bod hygyrchedd bob amser ar flaen meddyliau pawb. Diolch i banel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru am eu cyfranogiad a'u harbenigedd parhaus mewn prosiectau o'r fath.216
Er mwyn ategu'r dull hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu tîm teithio i bawb pwrpasol i weithio ar draws pob dull trafnidiaeth i ymgorffori hygyrchedd a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein gwaith. Bydd yn dod yn ganolfan ragoriaeth i weithwyr proffesiynol ym maes trafnidiaeth ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig, i gael cyngor a chefnogaeth broffesiynol wrth ddylunio a chyflawni cynlluniau hygyrch, gan chwilio am arfer gorau o bob cwr o'r byd. Bydd hyn yn cynnwys sut i gynnwys pobl ag ystod eang o brofiadau bywyd yn ein gwaith. Heb ddealltwriaeth lawn o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd, ni fyddwn byth yn gallu eu dileu. Bydd y tîm yn cefnogi llywodraeth leol i sicrhau bod ganddynt gyfranogiad gwirioneddol fel eu bod, wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau trafnidiaeth ranbarthol, yn asesu effeithiau eu cynlluniau ar bobl a chymunedau'n drylwyr, a'u cynnwys wrth ddylunio a chyflawni eu cynlluniau trafnidiaeth.217
Rwy'n awyddus ein bod yn ymgysylltu ac yn cynnwys pob llais ar bob lefel i sicrhau ein bod yn casglu profiadau byw ac yn annog ystod amrywiol o safbwyntiau wrth ddylunio ein polisïau a'n strategaethau trafnidiaeth. Byddwn yn sefydlu bwrdd teithio cynhwysol, a fydd yn gweithio ar draws dulliau trafnidiaeth ac yn cynnwys cynrychiolaeth o'r holl nodweddion gwarchodedig. Bydd yn gweithio gyda'n byrddau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd presennol i gefnogi swyddogion a Trafnidiaeth Cymru i wneud i'n rhwydweithiau trafnidiaeth deimlo'n ddiogel ac yn groesawgar, ac, yn bwysig, i wella hygyrchedd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ein panel teithio cynhwysol pwrpasol cyntaf i bobl anabl yn ystod 2025-26. Bydd hwn yn helpu i sicrhau bod hawliau a lleisiau pobl anabl yn ganolog i lunio polisïau trafnidiaeth. Trwy integreiddio eu safbwyntiau a'u harbenigedd, rydym yn bwriadu creu seilwaith trafnidiaeth gynhwysol sy'n parchu ac yn cynnal hawliau pob person anabl.218
Nawr, mae ein cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad y gwanwyn hwn, yn ceisio cael gwared ar rwystrau a chreu newid cadarnhaol hirdymor i bobl anabl, gan roi'r model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru. Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori allanol i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar weithredu, cyflawni ac effaith y cynllun hawliau pobl anabl, a fydd yn gweithio'n agos gyda'n panel teithio cynhwysol i bobl anabl a grŵp mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru.219
Wrth gwrs, gall hygyrchedd olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae ein dull gweithredu o ran bathodynnau glas yng Nghymru wedi bod yn un sy'n cael ei arwain gan gamau gorfodi a lleihau twyll, ond mae hyn wedi gorfodi llawer o bobl i rannu'r un wybodaeth dro ar ôl tro er mwyn cael un, dim ond i ddechrau'r broses eto o fewn tair blynedd pan fydd angen iddynt ail-ymgeisio. Byddaf yn cynnull grŵp arbenigol sy'n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a CLlLC i archwilio'r holl opsiynau i rannu data yn well a lleihau'r baich sy'n wynebu pobl sydd ag angen gwirioneddol am barcio hygyrch a bathodyn glas.220
Mae gwrando ar farn plant a phobl ifanc a gweithredu ar y farn honno yn rhywbeth rydw i'n angerddol amdano. Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl ifanc yn arbennig sydd wedi gweld y gost o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr iddyn nhw wrth iddyn nhw chwilio am waith neu fynd allan, gweld ffrindiau a theulu. Mae'r gyllideb y cytunwyd arni yn ddiweddar gan y Senedd hon yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cyflwyno cap o £1 ar deithiau bysiau sengl a chap o £3 ar deithiau lluosog ar gyfer pob person ifanc 16 i 21 oed, gan fuddsoddi £15 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Mae pobl ifanc wedi bod yn galw am help, fel y gallant gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau, a bydd y cynllun hwn yn eu helpu i wneud hynny yn syml ac yn fforddiadwy.221
Mae ein dull teithio i bawb yn ymestyn y tu hwnt i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein strydoedd, palmentydd a chroesfannau yn rhan bwysig o rwydweithiau trafnidiaeth ac weithiau wedi'u hanwybyddu. Gall rhwystrau, fel dodrefn stryd anniben, diffyg croesfannau i gerddwyr a goleuo gwael atal pobl rhag eu defnyddio. Gall mannau lle mae cerddwyr a dulliau trafnidiaeth eraill fel ceir, faniau, beicwyr a bysiau yn cymysgu hefyd wneud i bobl deimlo'n bryderus, yn anniogel ac nad oes croeso iddynt os nad ydynt wedi'u cynllunio'n dda. Mae gennym gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel wrth ddefnyddio ein strydoedd, ac ni allwn wneud hynny os yw pobl yn fyrbwyll wrth ddefnyddio e-feiciau neu e-sgwteri wedi'u haddasu ochr yn ochr â cherddwyr, gan deithio ar gyflymder y byddech chi'n ei ddisgwyl gan gar.222
Mae'r £45 miliwn rydw i wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol eleni ar gyfer cerdded, olwyno a beicio yn cynnwys £15 miliwn o gyllid craidd—yr un lefel â'r llynedd. Rwyf wedi gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio o leiaf 60 y cant o'u cyllid teithio llesol craidd i wneud gwelliannau diriaethol ar lawr gwlad yn gyflym, fel trwsio neu ehangu troedffyrdd, cyflwyno cyrbau isel, gosod seddi, er mwyn creu strydoedd mwy diogel a gwell i bawb. Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio eu harbenigedd dylunio i gryfhau egwyddorion dylunio hygyrch ymhellach wrth adnewyddu canllawiau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Bydd hyn yn seiliedig ar gyfranogiad helaeth pobl sydd â phrofiad bywyd wrth ddatrys y problemau y maen nhw'n eu hwynebu.223
Mae gennyf i uchelgeisiau clir ar gyfer rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Mae'r mesurau hyn yn ceisio sicrhau bodi pobl yn ganolog i'n polisïau, cynllunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith. Rydym yn cydnabod bod hygyrchedd yn fater o hawliau dynol a gwahaniaethu nad yw'n agored i drafodaeth, ac yn fater iechyd a diogelwch. Nid yw'n fater gwasanaeth cwsmeriaid dewisol. Fy uchelgais yw gweld y Senedd nesaf yn gwneud teithio i bawb yn flaenoriaeth a rennir. Gyda'n gilydd, byddwn yn chwalu rhwystrau systemig ac yn gwneud i bawb deimlo'n ddiogel a bod croeso iddyn nhw wrth deithio yng Nghymru.224
A gaf i ddiolch i chi eto, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad hwn? Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Mae'n gynhwysfawr; mae yna lawer iawn ynddo, ac mae'n anodd myfyrio ar y cyfan mewn cyfnod mor fyr.225
Mae trafnidiaeth gynhwysol yn allweddol, os ydym am sicrhau bod Cymru yn lle teg a hygyrch i bawb sy'n dymuno teithio am unrhyw reswm. Yn yr oes hon, dylai fod yn ffaith ddiamheuol y gall pob rhan o gymdeithas gael mynediad at bob dull teithio. Mae'n ffaith drist ein bod ni lle rydym ni ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu llawer o'r datganiad, ac rwy'n falch ein bod wedi gweld y buddsoddiad hwnnw yn ein system reilffyrdd, yn enwedig y cerbydau, a oedd yn llawer rhy hen.226
Ac rydych chi'n iawn, bod rhwystrau rhag teithio yn anffodus yn eang. Un o'r rhwystrau, fel yr ydym wedi siarad amdano hyd yma, yw'r rhwystr rhag addysg a chyflogaeth, a rhan o hynny yw'r ffaith nad yw trafnidiaeth ar gael i bawb. Rwy'n cydnabod eich bod yn cymryd camau i sicrhau bod seilwaith newydd yn cael ei roi ar waith ac sy'n fwy addas, ond, fel yr ydych yn cydnabod, mae'n rhaid iddo fod yn addas i bawb. Ar bwynt ehangach, Ysgrifennydd Cabinet, er fy mod yn falch eich bod yn cymryd camau i wella hygyrchedd, y gwir yw bod llawer gormod o'n seilwaith trafnidiaeth yn gwegian, ac mae'n drueni ei bod wedi cymryd tan nawr i weithredu mwy o gyfleoedd ar gyfer mynediad i bawb.227
Mae rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei feirniadu ers amser maith am ei oedi a'i wasanaeth cwsmeriaid gwael, sy'n gwella nawr, ond sy'n dal i greu rhwystredigaeth i deithwyr. Yn wir, mae cwynion am hygyrchedd a TrC wedi mwy na dyblu ers 2021. Rydych chi'n sôn am gynnal archwiliad o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Pryd allwn ni ddisgwyl gweld hynny'n dwyn ffrwyth? A pha mor hir ydych chi'n rhagweld y bydd yn ei gymryd i gywiro'r diffygion sy'n cael eu canfod mewn perthynas â mynediad i bawb? 228
Ar ben hynny, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r gwasanaethau bysiau yn parhau i leihau, fel yr ydym wedi ei drafod gynnau, yn enwedig ar draws ein cymunedau gwledig, gan gyfyngu ar symud i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Ac er fy mod yn gwybod bod y Bil bysiau, fel yr ydym wedi'i drafod, wedi ei gyflwyno, ac rwy'n edrych ymlaen at graffu arno, y gwir yw efallai nad y Bil bysiau yw'r un ateb syml ac ni fydd y materion craidd y mae llawer o weithredwyr a theithwyr yn eu hwynebu yn newid. Ond gadewch i ni obeithio y byddant.229
Fodd bynnag, mae gennych gyfle trwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon i wella hygyrchedd i bobl anabl. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon i ysgogi gwelliant? Ac fel y gwyddom, nid dim ond yr anabl mewn cymdeithas sy'n wynebu rhwystrau; mae llawer o bobl oedrannus ac agored i niwed hefyd yn eu hwynebu. Tybed pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r grŵp demograffig pwysig hwn. Mae llawer o safleoedd bws, er enghraifft, heb gyfleusterau hanfodol, fel meinciau i bobl eistedd arnynt wrth iddynt aros am fws. Rwy'n croesawu sefydlu'r bwrdd teithio cynhwysol i weithio ar draws pob maes trafnidiaeth a dulliau teithio. Rwy'n credu bod hwnnw'n beth da. Rwy'n credu y bydd yn beth da.230
Tynnodd y datganiad sylw at bwysigrwydd teithio fforddiadwy, ond y ffaith syml yw bod adroddiad yn 2022 wedi canfod bod prisiau tanwydd wedi codi llai na 10 y cant ers 2012 tra bod prisiau tocynnau rheilffyrdd, coetsys a bysiau wedi cynyddu rhwng 33 y cant a 56 y cant. Cynyddodd prisiau bysiau 3.5 y cant rhwng 2019 a 2020 yn unig, a chyhoeddwyd cynnydd o 3.8 y cant mewn prisiau tocynnau trên yn 2022. Mae prisiau uwch yn cael mwy o effaith ar bobl sy'n dibynnu'n helaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â phobl ar incwm is. Ar gyfer y 23 y cant o bobl yng Nghymru nad oes ganddynt gar, mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—fel y gwn y dywedoch yn gynharach—yn hanfodol ar gyfer cael mynediad at y gwasanaethau sylfaenol a hanfodol. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn cadw costau yn isel yn ogystal â chael dibynadwyedd yn iawn. Rwy'n gobeithio, yn y Bil bysiau sydd ar ddod, ein bod nid yn unig yn edrych ar docynnau integredig, ond pris y tocynnau hynny, oherwydd mae'n eithaf sylfaenol i bob grŵp demograffig yn ein gwlad i wneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus nid yn unig yn hygyrch, ond ei bod yn fforddiadwy. 231
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am ymateb Peter Fox i'r datganiad llafar hwn. Yn ddiweddar, gofynnais hefyd i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod y panel mynediad a chynhwysiant, sydd wedi profi mor werthfawr wrth gynghori ar yr ystod gyfan o ddulliau y mae gan Trafnidiaeth Cymru ddiddordeb ynddynt—i sicrhau bod ganddynt eu cefnogaeth lawn i gyflawni eu cyngor a'u cefnogaeth amhrisiadwy.232
Bydd yr archwiliad a grybwyllais ynglŷn â gorsafoedd trên yn cael ei gwblhau, gobeithio, dros yr haf. Ac ar ddyfodol buddsoddiad rheilffyrdd, rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol, yn benodol y rhaglen mynediad i bawb. Ond rwy'n credu ei bod yn cael ei gydnabod yn eang nawr bod gan Gymru nifer anghymesur o fawr o orsafoedd sydd eto, yn anffodus, heb fynediad di-risiau. Ac mewn llawer o amgylchiadau, fel gyda fy ngorsaf leol yn Rhiwabon, os ydych yn anabl, mae'n anhygoel o anodd cael mynediad i'r platfform tua'r gogledd. Felly, byddwn yn ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n gyflym rhwng nawr a'r haf. Byddaf yn amlwg yn adrodd yn ôl i'r Aelodau gyda chanlyniadau'r archwiliad penodol hwnnw. 233
Byddwn yn cytuno'n llwyr â Peter Fox nad yw'r Bil bysiau ynddo'i hun yn ateb i bob problem y mae'r rhwydwaith bysiau yn ei hwynebu, ond bydd yn rhoi cymorth sylweddol i ysgogi buddion i bobl sy'n olwyno, pobl fyddar, pobl sy'n gweld yn rhannol, pobl sy'n ddall, pobl sydd â chadair wthio, oherwydd yr hyn rydym ni'n mynd i allu ei wneud gyda chontractau yw sicrhau bod hyfforddiant gyrwyr o'r safon uchaf. Pan fyddwn yn caffael bysiau newydd, fel y gwnaethom gyda rhwydwaith TrawsCymru, gallwn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch. A gall hynny fod yn berthnasol oherwydd efallai y bydd Trafnidiaeth Cymru mewn sefyllfa i allu prynu ac yna rhoi'r bysiau ar les. Byddai hynny'n berthnasol i fusnesau bach a chanolig, nid dim ond y gweithredwyr mwy sydd, efallai, â phocedi dyfnach i brynu'r cerbydau hynod ddatblygedig hynny. Felly, bydd y Bil Bysiau yn cyflawni llawer, ond nid dyma'r unig ateb y mae angen ei ddilyn yn hyn o beth.234
Byddwn yn cytuno'n llwyr fod rhai o'r pethau syml yn bwysig iawn. Safleoedd bws sy'n gollwng dŵr, gwybodaeth nad yw'n gyfredol, goleuadau nad ydynt yn gweithio, mae'r rhain i gyd yn ffactorau cyfunol sy'n atal pobl, yn rhwystro pobl rhag cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu rhag bod yn egnïol yn eu bywydau bob dydd. Ac, fel yr amlinellais yn y datganiad, rydym ni'n mynd i'r afael â nhw. 235
Bydd tocynnau integredig hefyd yn hynod bwysig—tocynnau integredig ar draws y rhwydwaith a hefyd wedi'u hintegreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd. Ond mae trefn pris siwrnai deg yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth ysgogi cyfiawnder cymdeithasol a galluogi'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio unrhyw ffordd arall o drafnidiaeth i fynd o A i B beth bynnag yw'r diben.236
Diolch yn fawr am y datganiad yma y prynhawn yma.237
Nid oes llawer iawn i anghytuno ag ef yn eich datganiad, ac rwyf hefyd wedi cael y sgyrsiau hynny gyda phobl ar hyd a lled Cymru, ac mae'n drist i mi hefyd nad yw ein systemau yn barod. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi'n llwyr yr egwyddor bod yn rhaid i drafnidiaeth fod yn gynhwysol. Dylai pawb gael mynediad at opsiynau trafnidiaeth diogel, hygyrch a fforddiadwy. Yn anffodus, nid yw'n wir i bawb ledled Cymru, a chodais y mater hwn gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, felly ni fyddaf yn mynd i mewn i'r manylion hynny eto, ond rwyf eisiau pwysleisio pwynt pwysig, na ddylid ystyried teithio llesol a theithio cynhwysol fel blaenoriaethau cystadleuol. Maen nhw'n mynd law yn llaw.238
Mae buddsoddi mewn palmentydd gwell, trwsio cyrbau isel a thyllau yn y ffordd, mynd i'r afael â chamddefnyddio e-feiciau a gwneud ffyrdd yn fwy diogel i gyd yn gamau hanfodol i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch. Roedd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, pan oedd hi'n llefarydd trafnidiaeth, yn canolbwyntio'n arbennig ar wella diogelwch a seilwaith mewn mannau cyhoeddus, gan sicrhau bod menywod a phobl agored i niwed yn teimlo'n fwy diogel wrth deithio. O ystyried y ffocws newydd ar drafnidiaeth i bawb, byddwn yn croesawu cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet, fi a Delyth i archwilio sut y gellir parhau â'r gwaith hwnnw.239
Fe wnaethoch chi sôn ar y rhaglen Politics Wales ar y BBC ddydd Sul yma bod arian yn cael ei ddarparu i drwsio tyllau yn y ffordd. Mae addewid i atgyweirio 100,000 o dyllau yn cael ei groesawu'n fawr, ond nid yw trwsio ffyrdd ar ei ben ei hun yn cyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru o ran trafnidiaeth. A'r hyn sy'n dipyn o bryder i mi yw'r tryloywder. O ble mae'r arian yn dod i gefnogi'r datganiad hwn heddiw? Ac efallai y gallech roi dadansoddiad i ni o'r hyn sydd wedi'i ddadariannu er mwyn gallu fforddio rhai o'r taliadau hyn. Byddai hynny o ddiddordeb mawr.240
Rydym yn gwybod na fydd cyllid teithio llesol yn cael ei neilltuo mwyach, ond rwy'n nodi eich bod wedi gofyn i lywodraeth leol wario 60 y cant o'u cyllid teithio llesol craidd ar gerdded, olwyno a beicio. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag awdurdodau lleol ar ymarferoldeb gwneud hynny? A ydyn nhw mewn sefyllfa i allu cyflawni hynny, ac a ydych chi'n hyderus y bydd y cyllid yn diwallu'r angen a sut mae hynny wedi'i rannu ar draws awdurdodau lleol? Ond a yw'n golygu bod y Llywodraeth yn symud cyllid i ffwrdd o deithio llesol tuag at gynnal a chadw ffyrdd, sy'n bryder i rai beicwyr a cherddwyr ac olwynwyr? Felly, allwch chi fod yn glir ynghylch y blaenoriaethau hynny a mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hynny sydd efallai gan feicwyr ac olwynwyr a cherddwyr yn rhan o'r datganiad hwn?241
Bydd Plaid Cymru bob amser yn parhau i ymdrechu am strategaeth drafnidiaeth sy'n gynhwysol ac yn uchelgeisiol, ac sy'n wirioneddol yn cyflawni ar gyfer ein cymunedau, felly rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Diolch yn fawr.242
A gaf i ddiolch i Peredur am ei ddatganiad ac am y cwestiynau a gododd? Rwy'n credu, o'r hyn rwy'n ei ddeall, fod yr Aelod wedi clywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd, ac o'r hyn rydw i wedi'i glywed mae'n eithaf amlwg bod angen gwneud mwy i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb, yn enwedig o ran trafnidiaeth hygyrch. Efallai fod yr Aelodau wedi darllen yn ddiweddar am y profiad a gafodd y Fonesig Tanni Grey-Thompson ar y rheilffyrdd—diolch byth, nid gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, ond roedd yn enghraifft eithaf ffiaidd o sut mae gwasanaeth rheilffyrdd modern yn siomi pobl, yn siomi pobl sydd fwyaf agored i niwed. A dyna pam y mae'n hollol hanfodol ein bod yn mynd ar drywydd agenda teithio i bawb. Ac nid yw'n berthnasol i deithio llesol yn unig.243
Fy mhwynt am deithio i bawb yw ei fod yn berthnasol i bob dull. Rhaid i ni fynd i'r afael â phob dull unigol a gwneud pob un ohonynt yn fwy hygyrch. Ac mae dulliau trafnidiaeth wedi'u rhyngwynebu a'u hintegreiddio i raddau helaeth hefyd. Eto, yr enghraifft fwyaf poblogaidd o deithio llesol yw'r daith gerdded i'r bws. Ac felly, bydd cyflwr y stryd, cyflwr y palmentydd, cyflwr y goleuadau stryd a'r safle bws yn penderfynu a yw rhywun yn cyflawni teithio llesol wrth gyrraedd y safle bws ai peidio. Os nad ydyn nhw'n cyflawni teithio llesol wrth gyrraedd y safle bws, mewn llawer o achosion, fel y mae Peter Fox eisoes wedi'i amlinellu, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw ddulliau teithio eraill, maen nhw'n aros yn ynysig. Dydyn nhw ddim yn mynd ar y bws.244
Mae'n eithaf syml, ond mae dod â phopeth at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â'r pethau sylfaenol yn hanfodol bwysig. Yr adborth rydw i wedi'i gael gan awdurdodau lleol yw y bydd defnyddio 60 y cant o'r gronfa teithio llesol craidd eleni yn arwain at atebion ar lawr gwlad, eithaf syml, hawdd, cyflym i rai o'r problemau rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u codi. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn dod ar draul datblygu llif prosiect hirdymor, oherwydd mae'r dyraniad cyllid yn sicrhau bod hynny'n digwydd hefyd.245
Mae yna feysydd eraill lle rwy'n credu bod angen camau gweithredu—fel y soniais i, defnydd anghyfreithlon o e-feiciau, e-sgwteri. Mae rhai ohonynt mewn gwirionedd yn edrych yn debycach i feiciau modur y dyddiau hyn. Ni fyddwn yn gwybod ar olwg sydyn beth yw beic cyfreithlon a beth yw beic anghyfreithlon. O ran gorfodi, mae'n rhaid i ni dalu clod i'r heddlu. Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel gydag adnoddau tynn, ond mae ceisio gorfodi'r diwylliant newydd hwn o ddefnyddio dyfeisiau e-symudedd pan fydd rhai yn anghyfreithlon ac eraill yn gyfreithlon yn anodd iawn. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod sut y gallwn ymdrin gyda'n gilydd â'r her eithaf diweddar hon. Mae'n her sy'n effeithio nid yn unig ar bobl ddall a rhai sy'n gweld yn rhannol, pobl fyddar, rhieni sy'n gwthio pram, cerddwyr cŵn, ond mae hefyd yn effeithio ar feicwyr eraill, mae'n effeithio ar fodurwyr hefyd, ac mae'n sicr yn effeithio ar bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Rydw i wedi clywed hynny'n bersonol o'r panel mynediad a chynhwysiant. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â hynny hefyd.246
Yn yr un modd, parcio ar y palmant, am wahanol resymau mae hwnnw wedi'u amlinellu dros fisoedd a blynyddoedd. Mae hwn yn fater hynod heriol, cymhleth i fynd i'r afael ag ef. Cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ddiweddar ynglŷn â pharcio ar y palmant, ac mae cydnabyddiaeth bod yn rhaid mynd i'r afael ag ef. Mae wedi bod yn y newyddion, rwy'n credu, yn genedlaethol, fod Gweinidogion eisiau ymdrin â'r broblem benodol hon. Fy nealltwriaeth yw bod yr Adran Drafnidiaeth yn ystyried diwygio rheoliad 103 o'r rheoliadau cerbydau ffyrdd i greu trosedd benodol o rwystro diangen ar y palmant. Gall cynlluniau tymor hwy hefyd gynnwys ystyried gwaharddiad ehangach ar barcio ar y palmant, sy'n fygythiad mewn llawer o gymunedau.247
Byddaf hefyd yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r panel mynediad a chynhwysiant wrth i ni ddatblygu gwahanol syniadau ac arloesedd a cheisio nodi pob perygl a rhwystr rhag symud yn ddiogel yn ein cymunedau ac ar draws ein cymunedau. Ond byddwn yn croesawu trafodaeth gyda chi a gyda Delyth, yr wyf yn gwybod ei bod yn awyddus i fynd ar drywydd darn o ddeddfwriaeth meinciau cefn gyda'r nod o wneud symud a theithio yn fwy diogel. Roedd yn canolbwyntio i raddau helaeth, rwy'n credu, ar fenywod, sy'n teimlo'n anhygoel o agored i niwed ar adegau am rai o'r rhesymau rydw i wedi'u hamlinellu, ond rwy'n credu bod yr un materion yn berthnasol i lawer o unigolion rydym ni'n eu cynrychioli.248
O ran trwsio ffyrdd, y tyllau y byddwn ni'n eu llenwi, y ffyrdd rydym ni'n mynd i roi wyneb newydd arnynt, byddant o fudd, yn amlwg, i fodurwyr, ond hefyd i feicwyr; rwy'n credu bod tua 15 y cant o ddamweiniau beicio yn digwydd oherwydd tyllau. Ac wrth gwrs, ni fydd yr arian hwn ar gyfer awdurdodau lleol, y fenter fenthyca leol, yn berthnasol i ffyrdd yn unig; bydd yn berthnasol i balmentydd hefyd. Oherwydd—rwy'n ofni dweud hyn—mae seilwaith a phalmentydd sy'n gwegian yn rhwystr enfawr i'r henoed a'r rhai agored i niwed o ran mynd allan o'u cartrefi. Felly, bydd yr arian hwnnw'n cefnogi gwelliannau o ran seilwaith cerddwyr hefyd.249
Mae saith siaradwr sy'n dal yn dymuno cyfrannu, ac mae'r amser yn gyfyngedig, felly rwy'n disgwyl i bob siaradwr gadw at ei amser, os gwelwch yn dda. 250
O ystyried ffocws y datganiad y prynhawn yma, byddai'n ddiofal ar fy rhan i mi beidio â chydnabod y buddsoddiad yng ngorsaf y Fflint ar y dechrau a'r gwahaniaeth y mae'n mynd i wneud i sicrhau bod gorsaf y Fflint yn gwbl hygyrch o'r diwedd. Rwy'n gwybod y bydd llawer ohonom a oedd yn ymgyrchu dros hynny ers blynyddoedd lawer yn falch o'i weld wedi'i gwblhau.251
Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen am fy fforwm trafnidiaeth a gynhaliais y llynedd yn y Fflint, ac roedd nifer o bryderon wedi'u codi yno am broblemau y gallai teithwyr anabl eu hwynebu. Roedd hynny'n ymwneud â seilwaith o ran gorsafoedd nad ydynt wedi'u staffio neu fod dim toiledau ar gael, ac effaith hynny, ond hefyd yn ehangach ynghylch y seilwaith o ran cerbydau. Os nad oes unrhyw doiled sy'n addas ar gyfer teithwyr anabl ar y trên, mae llawer yn aml yn cael trafferth defnyddio toiledau oherwydd nad ydyn nhw'n gallu dod oddi ar y trên mewn arosfannau, oherwydd nad yw'r cymorth hwnnw yno.252
Y pwynt olaf ynghylch seilwaith yr wyf am ei godi yw'r hyn y gallwn ei alw'n seilwaith digidol ac eithrio posibl o hynny. Yn y fforwm, codwyd pryderon am systemau ar gyfer cael mynediad at gymorth ar drenau ar-lein a thrwy ap, nad oes gan bob person fynediad atynt. Roedden nhw'n teimlo y dylai fod gorsafoedd galw mwy hygyrch i bobl anabl hefyd. Felly, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi ynghylch hyn a sut gellir mynd i'r afael â hynny wrth symud ymlaen? Diolch.253
A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yng ngorsaf y Fflint i'w groesawu'n fawr iawn, mae'n fuddsoddiad eithaf sylweddol yr ydym wedi'i weld yn yr orsaf benodol honno, ond mae'n un o'r gorsafoedd a ddefnyddir fwyaf rheolaidd ar hyd prif linell y gogledd, yn hanfodol bwysig, nid yn unig i'r Fflint ei hun, ond i'r cymunedau cyfagos. Byddai wedi bod yn y gorffennol, pan oeddwn i'n byw ychydig y tu allan i'r Wyddgrug, yr orsaf o ddewis i mi, felly mae'n denu teithwyr o'r gymuned ehangach yn sylweddol. Pan ymwelais â gorsaf y Fflint i weld y gwaith, nid oedd wedi'i gwblhau ar yr adeg honno, ond fe wnaeth fy nharo ei bod wedi'i dylunio a'i bod yn cael ei chyflawni gan ystyried anghenion, gobeithion a dymuniadau, a syniadau pobl sy'n wynebu rhwystrau anabledd.254
Mae'r trenau newydd yr ydym wedi'u harchebu ac sy'n cael eu dosbarthu yn hollol wahanol i'r rhai a etifeddwyd gennym yn 2018. O fod yn un o'r hynaf yn Ewrop mae ein fflyd yn awr yn un o'r rhai mwyaf modern, o 270 o drenau i 484, ac maen nhw'n cynnwys, wrth gwrs, darpariaeth sy'n cydymffurfio â rheoliadau modern.255
Rwy'n cydnabod bod mater arian parod mewn amgylchedd sy'n gynyddol heb arian parod yn heriol iawn i rai, ond mae'n dal yn bosibl ar drenau TrC i brynu tocyn ar y trên gydag arian parod. Mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu bod pob gweithredwr trafnidiaeth yn ei gynnig ar hyn o bryd. Yn sicr, mae llawer o gwmnïau hedfan wedi mabwysiadu system di-arian-parod, rwy'n gweld, y dyddiau hyn, ond mae TrC yn benderfynol o wneud yn siŵr bod cynhwysiant a hygyrchedd wrth wraidd y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.256
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae i'w groesawu'n fawr, gan fod cymaint i'w wneud, onid oes, o ran gwneud teithio yn wirioneddol hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae'n gwbl iawn i roi'r pwyslais hwnnw ar hygyrchedd pan ddaw i drafnidiaeth gyhoeddus, a hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r hyn a ddywedoch am wneud gwelliannau i'r cynllun bathodyn glas hefyd. Mae hynny'n ardderchog i'w glywed.257
Pan ymwelais â Bws Casnewydd yn ddiweddar, roedd yn wych gweld y newidiadau y maent eisoes wedi'u gwneud i'w fflyd i gyd-fynd â deddfwriaeth newydd y DU i wneud bysiau'n addas i'r diben ar gyfer pobl drwm eu clyw, gyda'r sgriniau safle nesaf dwyieithog hynny y soniwyd amdanynt yn eich datganiad. Ond clywais hefyd gan Fws Casnewydd ac etholwyr pa mor anaddas yw rhai safleoedd bws yn fy rhanbarth ac ar draws Cymru i bobl ag anableddau. Treuliodd fy mab a minnau'r diwrnod ar y bws ddydd Sul, fel mae rhywun yn ei wneud, a chael amser hyfryd ar ein hantur bws, ond cefais fy nychryn gan gyflwr rhai o'r safleoedd bws, heb amserlenni, dim seddi, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod. Hefyd, roedd un safle bws lle roedd teithwyr yn cael eu gollwng i wrych i bob pwrpas, ym Mhenallt yn sir Fynwy, ac nid oeddwn yn meddwl fod hwnnw'n beth da iawn—258
Mae angen i chi ofyn nawr, os gwelwch yn dda.259
Iawn, fe wnaf. Fy nghwestiwn i chi yw hyn: yn amlwg, mae hyn yn bennaf ynghylch awdurdodau lleol, felly a fydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o arian i gynghorau lleol i sicrhau bod gwaith hanfodol yn cael ei wneud, neu pa sgyrsiau y mae'n ei chael gyda chynghorau i wthio newidiadau ar gyfer y nodau y mae'n eu hamlinellu yn y datganiad? Oherwydd heb y safleoedd bws diogel, wedi'u haddasu, byddant yn parhau i fod yn rhwystr i bobl sydd angen gwelliannau hygyrchedd ledled Cymru. Diolch.260
A gaf i ddiolch i Laura Jones am ei chwestiynau? Mae'r cynllun bathodyn glas yn rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Pwyllgor Deisebau Carolyn Thomas wedi'i ystyried yn eithaf helaeth, ac rwyf wedi derbyn llawer o ohebiaeth, fel y gallwch ddychmygu, dros y blynyddoedd, ynglŷn â'r cynllun. Nid wyf yn gyfforddus o ran lle rydym ni arni ar hyn o bryd, oherwydd mae'n cael ei gynllunio yn y bôn gyda thwyll mewn golwg, a lefelau twyll nad wyf yn credu eu bod yn cyfiawnhau gorfod gwneud i bob person ailymgeisio a mynd trwy'r broses hynod fiwrocrataidd honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gynnull awdurdodau lleol, CLlLC a sefydliadau eraill i drafod sut y gallwn rannu gwybodaeth a data.261
O ran gwella safleoedd bws, mae cyflwr ein safleoedd bws yn enghraifft o effeithiau cyni dros y blynyddoedd. Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn edrych i weld sut y gall Trafnidiaeth Cymru weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol, nid yn unig o ran gwella safleoedd bws, ond wrth sicrhau eu bod o safon uchel yn gyson o ran y math o safle bws sy'n cael ei osod. Nid yw rhai safleoedd bws yn amddiffyn pobl rhag yr elfennau, mae gen i ofn. Mae'n rhaid bod dull cyson sy'n amddiffyn pobl ac sy'n darparu gwybodaeth gyfredol, ac o ran goleuadau, sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel. Felly, rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn gefnogi awdurdodau lleol yn hynny o beth.262
Fel y dywedais i, bydd y cyllid craidd ar gyfer teithio llesol yn cael effaith ar unwaith yn y flwyddyn ariannol nesaf o ran gwella mynediad i safleoedd bws ac oddi yno. Rwy'n credu bod tua 20,000 o safleoedd bws ledled Cymru, felly mae eu moderneiddio a'u gwella yn mynd i fod yn ddarn sylweddol o waith. Ond maen nhw'n rhan annatod o'n strydlun, felly gwneud y gwaith hwn ar safleoedd bws ar hyn o bryd, edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf modern ar gyfer gwybodaeth—ac efallai nad sgriniau yw hynny, efallai mai codau QR ydyn nhw ac ati, neu gyfuniad o'r ddau—rydym ni'n mynd i wneud hynny trwy lygaid a phrofiad bywyd y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas fel ein bod ni'n darparu safleoedd bws a gorsafoedd eraill sy'n gallu diwallu anghenion pob dinesydd unigol.263
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet, unwaith eto, am ei ddatganiad. Ni fydd yn syndod iddo fy mod i'n mynd i godi llinell Glynebwy gydag ef a'i wahodd i Abertyleri i weld ble mae'r potensial i gwblhau llinell gangen Abertyleri ac i gysylltu'r dref â'r rhwydwaith rheilffyrdd cyffredinol. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n ymwybodol o'r broblem gyda'r defnydd o basiau bysiau ar linell Glynebwy, gyda'r gwasanaeth newydd i Gasnewydd ddim yn rhan o'r cynllun consesiwn cyffredinol. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai—rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol ohono—barhau i edrych i mewn i hynny. Ond mae yna fater sylfaenol—fe grybwyllodd Laura Anne Jones hwn, mewn gwirionedd—o ran ansawdd y gwasanaeth a gynigir i bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwy'n ymwybodol iawn, wrth i chi fynd ymhellach i'r gogledd neu efallai i mewn i Flaenau'r Cymoedd, eich bod chi'n gweld cerbydau o ansawdd is a seilwaith o ansawdd is. A'r hyn rwy'n credu sydd angen i ni ei wneud os ydym am gyflawni'r newid dulliau teithio yr wyf yn credu ein bod ni i gyd eisiau ei weld, yw sicrhau bod yna fynediad cyfartal a seilwaith cyfartal i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad gyfan. Gobeithio, hefyd—264
Diolch, Alun.265
—y gall edrych ar fathodynnau glas i sicrhau bod mynediad cyfartal yno. Roeddwn i'n siarad â phobl yn fy etholaeth ddydd Gwener a oedd yn nodi, lle mae teulu wedi gwahanu a bathodyn glas ar gyfer y plentyn, yn eithaf aml gall hynny arwain at rai problemau sylweddol. Fe ysgrifennaf at yr Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwnnw, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ni adolygu'r pethau hynny.266
A gaf ddiolch i Alun Davies? Edrychaf ymlaen at dderbyn ei lythyr ar y pwynt pwysig iawn yna. Rwy'n credu bod yr hyn yr oedd yr Aelod yn ei ddweud am wahanol safonau seilwaith a gwasanaethau yn mynd yn ôl i raddau helaeth i'r ffordd yr ydym wedi bod yn ymdrin â phenderfyniadau buddsoddi dros ddegawdau lawer, lawer, lle rydym yn defnyddio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a fydd bob amser yn gweld mwy o fuddsoddiad yn cael ei roi yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog, oherwydd dyna sut rydych chi'n cael y gymhareb cost a budd fwyaf.267
Fy nealltwriaeth i yw bod y Canghellor, Rachel Reeves, eisiau symud i ffwrdd o hynny, eisiau diwygio'r dull hwnnw fel y gallwn weld ffyniant bro go iawn. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i ac eraill yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol iawn ohono dros nifer o flynyddoedd, a dyna pam rydym ni wedi mynd ar drywydd—. Bobl bach, rydym wedi wynebu rhai heriau gyda deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd o ran cost y cynllun penodol hwnnw, ond fe wnaethom ei ddilyn oherwydd ein bod yn gwybod y byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn y cymunedau hynny y mae'n eu gwasanaethu. Ac rydym yn ymwybodol iawn, hefyd, o'r rôl y bydd y metro yn ei chwarae wrth ysgogi cyfiawnder cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth.268
Etifeddwyd y cynllun consesiwn y mae Alun Davies yn cyfeirio ato. Yn sicr mae bob amser yn cael ei adolygu. Mae'r dyfodol yn seiliedig i raddau helaeth ar y gost a fforddiadwyedd, ond fel y dywedodd yr Aelod, rydym yn edrych ar hynny yn rheolaidd. A byddwn i'n mwynhau ymweliad ag Abertyleri gyda'r Aelod i weld ble y gallai'r llinell gangen fynd.269
Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol teithio llesol, rwy'n ymwybodol o rai cynlluniau gwych ledled Cymru i gael mwy o rannau o'r gymdeithas i gymryd rhan mewn beicio, gan gynnwys Pedal Power yng Nghaerdydd a Cycling 4 All yn Wrecsam—cynlluniau a sefydliadau sy'n galluogi pobl ag ystod eang o anableddau i fwynhau reidio beic neu dreic.270
Mae fy etholwr o Ddwyrain Casnewydd, Rhys Holmes, yn ymwneud llawer â Pedal Power ac mae'n eistedd ar fwrdd yr ymddiriedolwyr. Pan oedd yn blentyn cafodd diwmor ar yr ymennydd ac mae wedi gorfod byw gyda'r effeithiau byth ers hynny. Nawr yn ei 30au, mae ganddo gyflwr niwrolegol cronig prin o'r enw siderosis arwynebol. Trwy Pedal Power, mae Rhys wedi bod yn eiriolwr mawr dros bwysigrwydd bod yn egnïol, yn enwedig trwy feicio, ac mae eisiau helpu eraill sydd â chyflyrau niwrolegol. Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n llongyfarch Rhys am ei eiriolaeth a hefyd gwaith Pedal Power a sefydliadau eraill o'r fath ledled Cymru sy'n ceisio cael mwy o bobl i fod yn egnïol, yn enwedig y rhai ag anableddau, a'u galluogi i gymryd rhan mewn beicio?271
A gaf i ddiolch i John Griffiths am yr hyn a rannodd â ni heddiw am Rhys. Mae'n swnio fel person ysbrydoledig iawn. Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy'n credu fy mod wedi ymweld â Pedal Power yn y gorffennol, er ei fod mewn perthynas â chynllun cyflogaeth ieuenctid ar y pryd. Rwy'n eithaf siŵr fy mod wedi ymweld â nhw, ac roeddwn i'n ei weld yn lle croesawgar iawn—lle gwirioneddol groesawgar. Ond mae'r hyn y mae John Griffiths yn ei godi am allu corfforol mewn perthynas â beicio yn hollol hanfodol, ond hefyd gallu pobl yn ariannol i allu cael beiciau. Dyna pam, pan edrychwn ar y gost, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod gwaith gwahanol sefydliadau, ac mae gen i un yn fy etholaeth yn Llangollen, sydd, yn effeithiol, yn ailgylchu offer beicio, gan gynnwys beiciau, am gost isel iawn neu ddim cost, ac mae hynny'n ei wneud yn hygyrch i bawb.272
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fawr. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod wedi ymateb yn ddiweddar ynghylch gorsaf reilffordd Eastbrook, lle mae ymgyrch ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod y byddent yn eich croesawu'n gynnes ac yn croesawu'r datganiad heddiw. Roeddwn i eisiau gofyn: sut ydym ni'n sicrhau bod rhai o'r buddsoddiadau sy'n digwydd yn hygyrch mewn gwirionedd? Rydych chi wedi sôn am y bwrdd teithio cynhwysol, ond yn ddiweddar rydym wedi gweld canolfan drafnidiaeth Porth yn agor—yn amlwg, yn cael ei groesawu'n fawr—ond mae hygyrchedd yn broblem ac adolygiadau yn gorfod digwydd. Yn sicr, ni ddylai hynny byth ddigwydd—dylai pethau sy'n newydd sbon fod yn hygyrch. Hefyd, palmentydd—eto, pan fu gwaith uwchraddiadau palmentydd, ni chafwyd y rhai cywir, gan arwain at bobl yn baglu ac yn anafu eu hunain. Nid ydym eisiau gwario'r arian hwn ddwywaith, a ydym ni? Unwaith i gael y gwelliant ac yna i gywiro pethau? Felly, sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod gwariant yn y dyfodol yn un cywir a phryd ydych chi'n rhagweld bydd y weledigaeth hon o gael pob trafnidiaeth yn gynhwysol i bawb yn cael ei gwireddu? A oes unrhyw dargedau ar gyfer hyn?273
Wel, mae'r rhain yn gamau cynnar iawn o agenda yr wyf yn gobeithio, ar ôl etholiadau'r Senedd, y bydd gennym gonsensws arni a byddwn yn gallu symud ymlaen gyda'n gilydd. Ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt hanfodol iawn ynglŷn â monitro ac, yn wir, penderfynu sut mae buddsoddiad yn mynd i gyfrannu at yr agenda hon. Nawr, mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol o sut mae cyflwyniadau yn dod i Weinidogion. Maent yn hir iawn ac yna, yn agos at y diwedd, bydd gennych asesiadau effaith wedi'u hamlinellu, gan gynnwys asesiad effaith cydraddoldeb. Rwyf wedi clywed gan y panel mynediad a chynhwysiant eu pryderon ei fod yn ymarfer ticio blychau a bod, fel y dywedwch chi, y methiant wrth ystyried materion cydraddoldeb a materion mynediad ar y dechrau mewn gwirionedd yn arwain at atebion ôl-osod yn nes ymlaen, a gall hynny fod yn gostus.274
Yr hyn rydw i wedi gofyn i swyddogion ei wneud, ac rwy'n dyfalu y gallai hyn fod yn berthnasol ar draws portffolios, yw cynnal yr asesiad effaith cydraddoldebau—mae hynny'n hollol iawn, rwy'n hapus â hynny—ond ar ddechrau proses, ac ar frig cyflwyniad gweinidogol—rydym ni'n eu galw'n MAs—cael asesiad optimeiddio cydraddoldebau, fel y bydd y Gweinidog yn gallu penderfynu a geisiwyd yr holl ystyriaethau a'r holl gyfleoedd pan fo polisi penodol neu brosiect buddsoddi gwleidyddol yn cael ei ddyfeisio. Yn y modd hwnnw, ar y dechrau, mae gennych y weledigaeth honno o sut i gyflwyno rhywbeth a fydd yn addas i anghenion pawb, yn hytrach na gorfod ôl-osod datrysiadau ar ôl i chi gyflawni mewn gwirionedd.275
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud â bathodynnau glas. Rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd yn ddiweddar i ddatrys problemau ar gyfer pobl â chyflyrau gydol oes fel nad oes rhaid iddynt ailgeisio bob tair blynedd—ailgyflwyno'r ffurflen, yr holl fanylion meddygol a thystiolaeth, yna wynebu gwrthodiad ar gam, a chael gwybod na allant apelio pan nad ydyn nhw'n mynd i wella. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, ar draws yr holl awdurdodau lleol sy'n ei gyflwyno, bod angen i'r opsiwn o beidio gorfod cael ailasesiad fod ar gael ar gronfa ddata awdurdod lleol a rennir a'i ddefnyddio fel bod dim ond angen cyflwyno llun wedi'i ddiweddaru a phrawf preswylio? Mae angen dull cyson, gyda mwy o gydymdeimlad, gyda hyfforddiant gorfodol. Ac a fyddech chi'n cytuno, pan fyddwch chi'n sefydlu'r panel arbenigol hwn, nad swyddogion Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unig fydd arno? A allech hefyd gael arbenigwyr o grwpiau anabledd a chwmni buddiannau cymunedol rhagorol Stand Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn arwain ar hyn ac wedi anfon deiseb i'r Senedd arno—fel y gallant fod yn rhan o'r panel arbenigol hwn? Diolch.276
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau heddiw ac am ei diddordeb parhaus yn y maes pwnc hwn? Mae'n un rwyf yn gwybod ei bod hi'n angerddol amdano. O ystyried y sylw rwyf wedi'i wneud nad wyf yn gyfforddus gyda ble rydym arni o ran bathodynnau glas a'm penderfyniad i ddwyn awdurdodau lleol, CLlLC a sefydliadau eraill ynghyd i edrych ar sut allwn ni rannu data a gwybodaeth yn well, byddwn i'n croesawu trafodaeth bellach gyda'r Aelod ynglŷn â sut allwn ni symud ymlaen gyda chynllun sy'n galluogi pobl i beidio â gorfod mynd trwy broses weinyddol drom iawn, iawn, gan lenwi 15 o dudalennau o wybodaeth yn aml dim ond i ddarganfod bod eu cais wedi'i wrthod am nad yw un rhan ohono wedi'i llenwi'n gywir.277
Mae dros 280,000 o fathodynnau glas yng Nghymru. Yn amlwg, ni ddylai nifer sylweddol iawn o bobl sydd â bathodynnau glas fod yn cael eu hailasesu, ond yr hyn sy'n digwydd yw bod ofn twyll a diffyg rhannu data yn gyrru system sy'n rhoi'r bobl hynny rydych chi newydd sôn amdanyn nhw, y bobl rydych chi wedi galw am weithredu mewn perthynas â nhw, o dan anfantais, ac rydym am roi terfyn arno.278
Ac yn olaf, Joyce Watson.279
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'teithio i bawb' yn ddatganiad gwych ac mae llawer iawn o welliannau wedi'u gwneud dros flynyddoedd lawer i sicrhau bod gorsafoedd rheilffordd yn hygyrch yn ffisegol. Un o'r rhai diweddaraf yw gosod lifftiau yng ngorsaf y Drenewydd, gan wneud yr orsaf honno'n orsaf heb risiau ac, felly, caniatáu'r hygyrchedd hwnnw i bawb, ac roedd Network Rail, wrth gwrs, yn bartneriaid allweddol yn hynny. Wrth gwrs, bydd angen gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'ch cynigion, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut rydych chi'n mynd i ymgysylltu â'r partneriaid sy'n mynd i gyflawni'r newid, a diddordeb hefyd mewn gwybod a ydych chi'n mynd i groesawu'r orsaf reilffordd heb risiau yn y Drenewydd.280
Wel, rwy'n croesawu'r orsaf heb risiau yng Nghasnewydd y bu Joyce Watson yn ymgyrchu cymaint drosti. Rwy'n credu y gallai fod wedi'i chymeradwyo—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, y Drenewydd. Beth ddywedais i? Casnewydd. Ymddiheuriadau. Rwy'n falch eich bod chi wedi fy nghywiro; diolch. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymgyrchu'n ddiflino dros gael mynediad heb risiau i orsaf drenau'r Drenewydd, ac rwy'n credu ei bod wedi'i chymeradwyo gan Peter Hendy yn Network Rail sydd, wrth gwrs, yn Weinidog rheilffyrdd nawr. Rwy'n gwybod bod Peter Hendy yn benderfynol o sicrhau bod elfennau mwy cynhwysol o seilwaith yn cael eu cynnwys yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, yn bennaf ar ein gorsafoedd, ond hefyd ar ein trenau. Bydd hynny'n cael ei lywio gan Great British Railways, ac mae Peter Hendy yn mynd ar drywydd diwygiadau i'r rheilffyrdd ar hyn o bryd. Rwy'n gweithio'n agos iawn ar y maes gwaith penodol hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, rydym yn mynd i gynnal yr archwiliad cyflym hwnnw o'r holl orsafoedd rheilffordd i edrych ar ba orsafoedd sydd angen cymorth ac angen buddsoddiad cyn gynted â phosibl.281
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.282
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.283

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Os gallaf ddechrau, cyn i mi ddarllen fy natganiad heddiw, trwy ddweud y byddaf yn trafod pynciau fel hunan-niweidio, syniadau hunanladdol a hunanladdiad heddiw. Felly, rwy'n rhoi rhybudd am hynny, a byddaf hefyd yn cadw at ganllawiau adrodd sensitif y Samariaid yn fy ymatebion. 284
Rwy'n falch iawn heddiw o lansio strategaeth newydd 10 mlynedd Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, 'Dealltwriaeth'. Mae'r strategaeth uchelgeisiol hon yn ceisio creu Cymru fwy tosturiol lle rydym yn ceisio deall yr achosion a'r rhesymau niferus pam mae pobl yn profi meddyliau hunanladdol a hunan-niweidio, fel y gallwn ni, yn y pen draw, eu cefnogi nhw'n well. Ein nod yw lleihau'r cyfraddau parhaol o hunanladdiad rydym wedi'u gweld yng Nghymru ac ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac achub bywydau.285
Wrth ddatblygu'r dull newydd hwn, rwy'n ddyledus i'r nifer fawr o deuluoedd a phobl ledled Cymru sydd wedi bod mor ddewr wrth rannu eu profiad fel y gall eraill elwa ar wasanaethau a chymorth gwell. Ac rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Lynne Neagle, a baratôdd sylfeini'r strategaeth hon a'i chwaer strategaeth, y strategaeth iechyd meddwl a lles newydd, a fydd yn cael ei lansio ar ôl toriad y Pasg. Rwy'n gwybod y bydd hi hefyd yn croesawu fy mod i'n diolch i'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn.286
Dirprwy Lywydd, mae'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio newydd yn adeiladu ar ei rhagflaenydd, 'Siarad â fi 2', a'r datblygiadau mewn cymorth a gwasanaethau rydym wedi'u rhoi ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys penodi arweinydd rhaglen hunanladdiad a hunan-niweidio genedlaethol ar gyfer Cymru, ac arweinwyr rhanbarthol i lywio gweithredu drwy bartneriaeth yn genedlaethol ac yn lleol; lansio'r gwyliadwriaeth amser real hunanladdiad tybiedig yn 2022, sy'n casglu data yn uniongyrchol gan heddluoedd sy'n gysylltiedig â marwolaethau sydyn neu anesboniadwy y tybir eu bod yn hunanladdiadau—cafodd honno ei lansio hefyd, ac mae'n ein galluogi i ymateb yn gyflymach i hunanladdiadau tybiedig; a Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru, sy'n un pwynt cyswllt a chymorth i bawb y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt.287
Ond gyda'r cyfraddau parhaus o hunan-niweidio a hunanladdiad yng Nghymru, rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy. Fel y dywedais i yn fy nghyflwyniad, rydym am greu dealltwriaeth fwy tosturiol o hunanladdiad a hunan-niweidio, a bydd y strategaeth yn sicrhau bod pobl sy'n hunan-niweidio yn cael cymorth holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod yr holl wasanaethau perthnasol ar gyfer pobl a all fod yn hunan-niweidio neu'n cael syniadau hunanladdol yn darparu cymorth ac ymyriadau amserol, tosturiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Os ydym am ddeall hunanladdiad a hunan-niwed yn well, mae angen yr wybodaeth arnom am bwy sy'n cael ei effeithio, pam, a pha gymorth sydd ei angen.288
Ochr yn ochr â'r strategaeth, rydym hefyd yn cyhoeddi lansiad y ganolfan genedlaethol ar gyfer ymchwil atal hunanladdiad a hunan-niwed ar gyfer Cymru, a fydd yn darparu'r seilwaith i helpu i wella ein dealltwriaeth. Roedd un o'r camau gweithredu yn y cynllun cyflawni yn sôn am sefydlu'r ganolfan genedlaethol fel corff cynghori Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y trefniadau hynny bellach wedi'u ffurfioli. Bydd cynnwys pobl â phrofiad bywyd yn ganolog i hyn, ac mae hyn yn cael ei wneud gan y Samariaid, gan adeiladu ar ei brofiad presennol a'i rwydweithiau sefydledig ledled Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi sefydlu cyswllt uniongyrchol rhwng profiad bywyd, data ac ymchwil, gyda pholisi a darpariaeth genedlaethol. Bydd popeth a wnawn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddiweddaraf o'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas, a phrofiadau pobl, a fydd yn ein helpu i ddatblygu ymatebion mwy amserol ac effeithiol.289
Fodd bynnag, mae dealltwriaeth hefyd yn ymwneud â newid canfyddiadau pobl, a chynyddu dealltwriaeth yn y boblogaeth gyffredinol bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn aml yn ymatebion i sefyllfaoedd emosiynol anodd fel galar a thrawma. Trwy gynyddu dealltwriaeth ehangach, gallwn ni newid agweddau, lleihau stigma a chaniatáu i bobl agor i fyny yn gynt heb ofni cael eu barnu a'u labelu. Bydd hyn yn helpu i ganiatáu i bobl gael mynediad at gymorth mwy amserol ac atal cynnydd i'r pwynt o argyfwng.290
Dirprwy Lywydd, mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu yn dilyn ymgysylltiad helaeth â phobl a rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae gwrando ar bobl y mae hunanladdiad a hunan-niweidio wedi effeithio arnynt wedi bod yn sylfaenol. Rydym hefyd wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod y strategaeth newydd yn cryfhau ac yn adeiladu ar waith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae hyn yn cynnwys gwaith cydgysylltiedig penodol mewn meysydd allweddol fel addysg, cyflogadwyedd, defnyddio sylweddau a thai. Mae'r strategaeth hon wedi'i hysgrifennu ochr yn ochr â'r strategaeth iechyd meddwl a lles newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.291
Nid yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl, ond maen nhw'n rhannu ystod o ffactorau risg sylfaenol, fel diweithdra, statws economaidd-gymdeithasol isel, erledigaeth cyfoedion, defnyddio sylweddau, hanes o drawma neu gamdriniaeth, tor-perthynas a chyflyrau iechyd corfforol cronig. Mae'r ddwy strategaeth, felly, yn canolbwyntio ar atal a gweithio cydweithredol, traws-lywodraethol i fynd i'r afael â'r ffactorau risg hyn.292
Hefyd, mae pobl sy'n hunan-niweidio neu'n cael meddyliau hunanladdol, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, yn aml yn dibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl, ymhlith gwasanaethau eraill, am gyngor a chymorth. Mae yna gyd-ddibyniaeth â'r strategaeth iechyd meddwl a lles i wella gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn sicrhau bod pobl sy'n hunan-niweidio neu sy'n profi syniadau hunanladdol yn cael mynediad amserol at gymorth pan a lle mae ei angen.293
Fodd bynnag, wrth wraidd y strategaeth hon mae cydnabyddiaeth nad oes angen i bobl gael mynediad at wasanaethau arbenigol bob amser. Yn aml, mae angen i bobl gael rhywun i siarad â nhw heb ofni cael eu barnu neu eu labelu. Rydym yn mabwysiadu dull cymdeithas gyfan a system gyfan i chwalu'r stigma hwnnw, a fydd yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt.294
Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y strategaeth hon a'r cynllun cyflawni cysylltiedig yn hygyrch i bawb. Maen nhw ar gael ar ein gwefan ochr yn ochr â fersiynau hawdd eu darllen, ac rydym wedi datblygu fersiwn i blant a phobl ifanc, sydd ar gael ar gais. Bydd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain hefyd yn cael ei chyhoeddi'n fuan.295
Mae hon yn strategaeth 10 mlynedd. Mae'n parhau â'r gwaith rydym wedi'i wneud i wella gwasanaethau a mynediad at gymorth i bobl ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at y daith sydd o'n blaenau i greu Cymru fwy tosturiol, lle gallwn ni wynebu hunan-niweidio a syniadau hunanladdol gyda mwy o ddealltwriaeth a chymorth wedi'i deilwra i bawb sydd ei angen, yn ogystal â'u hanwyliaid. Diolch. 296
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Un o'r materion mwyaf cyson sy'n cael ei ailadrodd i mi fel Aelod o'r Senedd yw nad yw ymyrraeth iechyd meddwl yn digwydd yn ddigon cyflym. Pan fydd y rhai sy'n dioddef yn estyn allan, mae apwyntiadau yn cymryd rhy hir ac wedyn mae hyn yn amlygu ei hun mewn hunan-niweidio ataliol a hunanladdiad. Gweinidog, rydym yn gwybod nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ceisio help nes eu bod nhw'n cyrraedd pwynt argyfwng, y foment pan na allan nhw ymdopi mwyach, felly mae cyflymder mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol i'r canlyniad cyffredinol. Ac eto, yn ôl StatsCymru, ym mis Tachwedd 2024, dim ond pedwar mis yn ôl, roedd dros 1,400 o bobl yng Nghymru yn aros dros 56 diwrnod rhwng cael asesiad gan eu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a dechrau ymyrraeth therapiwtig. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran pawb yma wrth ddweud bod hyn yn ffactor pwysig sy'n cyfrannu at ganlyniadau gwael o ran triniaeth ac at ymestyn problemau iechyd meddwl unigolion, ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at nifer yr hunanladdiadau a digwyddiadau hunan-niweidio. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, sut mae'r cynllun hwn yn helpu i wella amseroedd aros ar gyfer triniaeth therapiwtig yn sylweddol? 297
Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon am restrau aros, ond, i'r rhai sy'n aros am driniaeth iechyd meddwl, mae amser yn ffactor hanfodol. Fe ddywedoch chi yn eich cynllun cyflawni eich bod chi am wella mynediad at wasanaethau a'r ffordd y cânt eu darparu, a gwella ymatebion cyflym aml-asiantaeth, ond dydych chi ddim yn sôn am sut rydych chi'n mynd i wneud hyn. Ydych chi'n credu y bydd byrddau iechyd yn recriwtio mwy o staff hyfforddedig i gyflawni hyn? Dydy'r cynllun cyflawni ddim yn sôn yn benodol am unrhyw ymagwedd wedi'i dargedu tuag at ddynion, heblaw am y Samariaid yn rhedeg ymgyrch atal hunanladdiadau ymhlith dynion. Ond, fel y gwyddoch chi, dynion sy'n cyfrif am 77 y cant o hunanladdiadau yng Nghymru, ac maen nhw'n bennaf yn y sectorau adeiladu ac amaethyddol. Gweinidog, rydych chi wedi ceisio gwella hygyrchedd ymwybyddiaeth gyffredinol o hunanladdiad a hunan-niweidio, yn ogystal â chefnogi gwybodaeth ac adnoddau fel y bydd pawb yn cael eu grymuso â'r wybodaeth a'r ymwybyddiaeth i adnabod y rhai mewn angen. Fodd bynnag, dydy hyn o reidrwydd ddim yn helpu'r grwpiau penodol hynny rydym yn gwybod bod ganddyn nhw'r cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio uchaf. Mae'n ymddangos eich bod chi'n bwriadu lledaenu'r adnoddau. Gweinidog, pam nad ydych chi wedi gwneud unrhyw ddull wedi'i dargedu i wella grymuso a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn y diwydiannau penodol rwyf wedi sôn amdanyn nhw?298
Yn anffodus, mae'r diffyg camau gweithredu diffiniedig yn y cynllun hwn yn rhwystredig. Mae'n sôn gormod am fyrddau adolygu a sut i fod yn gliriach o ran terminoleg. Fel llawer o rai eraill, byddwn i'n dadlau bod angen i'r cynllun hwn gynnwys camau gweithredu clir a diffiniedig ynghylch pryd, ble, pwy a sut y bydd yn ymgysylltu â'r rhai sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'n dra hysbys bod dylanwad grwpiau penodol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r ffaith bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel offeryn ar gyfer bwlio yn ffactorau pwysig sy'n achosi hunan-niwed a hunanladdiad, ond does dim sôn bron am hyn heblaw am y gwasanaeth Smoothwall, sy'n caniatáu i ysgolion blocio gwefannau sy'n cael eu hystyried yn amhriodol. Gweinidog, pam nad oes sôn am hyn? Pam nad oes nod penodol i wella dealltwriaeth plant a phobl ifanc o'r peryglon a natur ysglyfaethus pobl ar y cyfryngau cymdeithasol? Pam nad oes sôn am dueddiadau feirol i hunan-niweidio a sut maen nhw'n targedu pobl penodol sy'n agored i niwed?299
Ble mae'r strategaeth ar gyfer helpu i atal hunan-niweidio a hunanladdiad? Dydw i ddim yn credu y bydd eich cynigion i sicrhau bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn fwy gweladwy, gyda'r Llywodraeth yn sefydlu ac yn cynnal trefniadau llywodraethu sy'n hwyluso cyfathrebu effeithiol neu'n adolygu prosesau ar gyfer ystyried hunanladdiad a hunan-niweidio wrth ddatblygu polisïau, yn golygu rhyw llawer i'r bobl hynny yn ein cymunedau sy'n agored ac sydd angen help. 300
Gweinidog, ymddengys fod y cynllun hwn wedi'i bwysoli'n gyfan gwbl tuag at adolygu a gwella methodolegau a strategaethau cyfredol, a hyfforddi a sicrhau dulliau cyson o gyd-gynhyrchu o ran eglurder rolau a chyfrifoldebau, ond nid yw'n sôn o gwbl am estyn allan i gymunedau i nodi anghenion penodol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod astudiaethau wedi dangos, yn y gymdeithas yn gyffredinol, fod 15 y cant o bobl ifanc yn eu harddegau yn hunan-niweidio. Mae'r risg hon o hunan-niweidio chwe gwaith yn uwch i ddioddefwyr bwlio, bum gwaith yn uwch i'r rhai sy'n cael eu bwlio a thair gwaith yn uwch i'r rhai sy'n gwneud y bwlio. Mae'r risg hon o hunan-niweidio o ganlyniad i gael eu bwlio yn uwch o lawer i ferched na bechgyn. Mae iselder, gorbryder a gwrthdaro rhieni wedi cyfrif am rywfaint o'r cysylltiad rhwng y rhai sy'n cael eu bwlio a hunan-niwed, a rhwng dioddefwyr bwlio a hunan-niwed. Ar ben hynny, Gweinidog, canfyddir bod y berthynas rhwng y rhai sy'n cael eu bwlio ac yna'n hunan-niweidio yn lleihau'n sylweddol pan fyddan nhw'n cael gwell cymorth gan eu rhieni a phan fydd gwelliant o ran lles yn yr ysgol.301
Yn anffodus, rwy'n credu bod eich gweledigaeth yn anuchelgeisiol. Rydych chi'n anelu at leihau hunanladdiad yn barhaus trwy wneud i'r rhai sy'n hunan-anafu, sy'n hunan-wenwyno, sy'n cael meddyliau hunanladdol, neu sydd wedi ceisio lladd eu hunain, deimlo'n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu deall gan gymunedau gwybodus a thosturiol. Ond byddwn i'n dadlau y dylai eich gweledigaeth hefyd gynnwys helpu i estyn allan i gymunedau, gwella cymorth ar bob cam o fywyd, gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth rhieni, a helpu ysgolion i ddarparu cymorth gwell a mwy priodol.302
Felly, yn olaf, Gweinidog, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i wella ymyrraeth cyfnod cynnar mewn ysgolion a diwydiannau yr ydym yn gwybod bod ganddyn nhw achosion uwch o hunan-niweidio a hunanladdiad, fel bod pob cam posibl yn cael ei gymryd i helpu pobl cyn i'w hiechyd meddwl ddirywio i gyflwr lle maen nhw'n ystyried hunan-niweidio a hunanladdiad? Diolch.303
Dydw i wir ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda'r datganiad hwnnw, Joel James, oherwydd dydw i ddim yn teimlo eich bod chi wedi darllen y strategaeth gyfan a'r cynllun cyflawni cysylltiedig. Rwyf wir wedi drysu gan y ffaith eich bod chi'n dweud nad oes unrhyw gamau gweithredu. Mae yna gynllun cyflawni sy'n mynd trwy'r gwrando a'r dysgu, atal, grymuso, cefnogi, arfogi ac ymateb. Ac yna'r hyn sydd ganddo yw pwyntiau gweithredu clir iawn oddi tano, ac yna mae hefyd yn dweud sut mae'n mynd i groesi drosodd i bob un o'r meysydd hynny. Felly, rwyf mewn dryswch llwyr. Dydw i wir ddim yn gwybod beth i'w wneud heblaw sefyll yma a darllen y cynllun cyflawni i chi, sy'n tanseilio popeth rydych chi newydd ofyn i mi.304
Felly, yn lle hynny, rwyf am wthio'n ôl ar rai o'r camsyniadau a'r cyffredinoliaethau rydych chi wedi'u gwneud am hunan-niweidio a hunanladdiad yn y datganiad hwnnw, a allai fod yn niweidiol. Felly, dim ond i ddweud mai'r ffeithiau am hunan-niweidio yw ei fod yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd y person yn marw trwy hunanladdiad rhwng 50 a 100 gwaith, ac mae gan dros hanner y bobl ifanc sy'n marw trwy hunanladdiad hanes o hyn. Rydym yn gwybod hyn. Nododd tri chwarter y bobl sydd wedi hunan-niweidio eu bod yn gwneud hynny er mwyn lleddfu teimladau annymunol o ddicter, tensiwn, gorbryder neu iselder, a dywedodd traean eu bod yn hunan-niweidio er mwyn newid eu sefyllfa neu dynnu sylw ati. Rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall, trwy'r ymchwil hollol anhygoel sydd gennym ni, nad ydym ond yn dweud, 'O, wel mae'n fwlio.' Rydym yn mynd at galon yr hyn sy'n gwneud i'r person hwnnw deimlo, a pham y gall wedyn fynd ati i hunan-niweidio.305
Rydym hefyd wedi llunio rhestr gynhwysfawr—wel, rhestr anghynhwysfawr, mae'n ddrwg gen i—o'r ffactorau risg hefyd ac, yn wir, mae'r rhain yn cynnwys menywod a phobl o statws economaidd-gymdeithasol isel, camddefnyddio alcohol a sylweddau, ond gall sefyllfa fod yn ffactor hefyd. Gall fod oherwydd colli swydd a cholledion ariannol. Gall fod yna glystyrau o hunan-niweidio sydd ag elfen heintus. Rydym hefyd yn gwybod bod yna faterion cymdeithasol-ddiwylliannol hefyd, y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd gwael, ac ymddygiad ceisio help.306
Roeddwn i hefyd eisiau dweud, wrth siarad am ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a delweddau, nad yw mor syml â dweud bod popeth ar-lein yn beryglus neu'n gallu bod yn niweidiol. Yr hyn rydym wedi'i ddarganfod yw bod yna niwed a manteision; nid yw'n ddeuoliaeth. Yn wir, rhywfaint o'r da yw bod pobl yn ei chael yn ffynhonnell empathi a chefnogaeth. Maen nhw'n canfod ymdeimlad o gymuned; mae'n fecanwaith ymdopi. Ond, ie, mae'r drwg: normaleiddio ymddygiad hunan-niweidio, bwlio ar-lein, dibyniaeth ar y rhyngrwyd. Mae gen i gyfoeth o ymchwil yma sydd hefyd yn edrych ar hunan-niweidio ymhlith pobl hŷn, nad oes llawer o sôn amdano.307
Ond fe ddof yn ôl at y ffaith bod hon yn strategaeth gyda chynllun cyflawni clir a chynhwysfawr iawn, iawn y gwnaf eich atgoffa sydd wedi'i gyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n arbenigwyr yn eu maes—ymchwilwyr arbenigol, pobl ar lawr gwlad. Rydych chi'n ei ddiystyru fel pe na bai ymgyrch y Samariaid a'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn ddigon; mae'n enfawr, yr hyn maen nhw'n ei wneud, yn ceisio cael dynion i estyn allan a siarad mwy. Maen nhw hefyd yn gwneud llawer iawn mewn cymunedau gwledig hefyd. Felly, byddwn i'n gofyn i chi ei ddarllen a cheisio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hynny y gwnaethoch chi ofyn i mi eich hun. Diolch.308
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad, a dwi am ddechrau drwy ei chymeradwyo am y cyhoeddiad yma. Dwi’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran pob Aelod yma pan fyddaf yn dweud ein bod ni i gyd yn dymuno gweld y cynllun yma yn dwyn ffrwyth, er, hwyrach, fod yna amheuaeth am hynny ar ôl y cyfraniad ynghynt.309
Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar gyfnod o ddegawd. Dyma’r union fath o weledigaeth hirdymor sydd ei hangen, a beth bynnag ydy canlyniad yr etholiad flwyddyn nesaf, dwi’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth newydd o ba bynnag liw yn parhau gyda’r trywydd sydd wedi cael ei osod allan yma.310
Y realiti trist ydy bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn llawer rhy gyffredin yn ein cymdeithas. Fe gollais i fy nghefnder, a oedd yn union yr un oedran a fi, i hunanladdiad dros 20 mlynedd yn ôl, ond mae'r boen yn dal i frifo heddiw. Os medrwn ni gymryd y camau i atal teuluoedd eraill rhag dioddef y boen yma, yna mae am fod yn beth da.311
Yn ôl ystadegau diweddaraf yr ONS, mae graddfeydd hunanladdiad ar eu huchaf am chwarter canrif, ac yn uwch yng Nghymru ar gyfartaledd o'i chymharu â Lloegr. Hunanladdiad ydy'r achos pennaf o farwolaeth ymysg dynion o dan 50 oed hefyd. Mae'n amlwg taw ehangu a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl ddylai fod y brif flaenoriaeth yn hyn o beth, yn enwedig wrth i ni ystyried bod capasiti gwelyau ar gyfer afiechydon iechyd meddwl difrifol wedi gostwng 37 y cant ers 2010. Tra dwi'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi cynnal y llinell gyllidol neilltuedig ar gyfer iechyd meddwl unwaith eto, ydych chi, Weinidog, yn hyderus bod hyn yn ddigon yng nghyd-destun y patrymau yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ac oes yna dargedau penodol yn y cynllun er mwyn adfer y dirywiad capasiti penodol yma?312
Fel dwi wedi sôn yn gyson, mae casglu data o ansawdd da yn effeithiol ac yn amserol yn allweddol hefyd o ran cynllunio'r gwasanaethau a'r gweithlu priodol. Ond mae oedi wrth gofrestru adroddiadau crwner ar hunanladdiadau yn uwch yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr, sydd, wrth gwrs, yn tanseilio gwerth a dibynadwyedd ystadegau cyhoeddedig. Felly, gaf i ofyn sut mae'r cynllun yma'n bwriadu mynd i'r afael a'r mater hwn ac a all y Gweinidog roi unrhyw gerrig milltir penodol ar leihau'r bwlch gyda Lloegr?313
Mae ffocws ataliadol y cynllun i'w groesawu, ac un o'r mannau sydd angen sylw penodol ydy'r agweddau diwylliannol niweidiol sy'n rwystr i gymaint o bobl rhag estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mi fyddwch yn ymwybodol o sylwadau Mind Cymru dros y penwythnos, a oedd yn sôn am yr agweddau tuag at iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn dangos bod lefelau o stigma tuag at iechyd meddwl ar eu huchaf erioed, gyda'r nifer o bobl sy'n credu bod y rhai sy'n byw gydag afiechyd meddwl yn faich ar gymdeithas wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Mae'n amlwg, felly, er gwaethaf y cynnydd rydym wedi ei weld o ran codi ymwybyddiaeth ar faterion iechyd meddwl, fod yna angen clir am waith parhaol o addysgu cyhoeddus. A fydd y cynllun yma yn cydweithio, felly, gyda rhaglenni eraill y Llywodraeth—yn y maes addysg, er enghraifft—er mwyn mynd i'r afael â hyn?314
Ar yr un thema, mae adnabod afiechydon iechyd meddwl yn gynnar mewn bywyd yn allweddol ar gyfer agenda ataliadol effeithiol, ond y gwir ydy bod plant a phobl ifanc yn dioddef rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau sy'n gymharol uwch na'r rhai sy'n wynebu oedolion. Un o'r prif rwystrau mae rhanddeiliaid wedi bod yn uwcholeuo ydy'r ffaith nad oes darpariaeth ddigonol ar gyfer y cyfnod trosiannol yna rhwng llencyndod hwyr a bod yn oedolyn, gyda sawl un yn syrthio rhwng y craciau o ganlyniad. Felly, pa ystyriaeth ydych chi, Weinidog, wedi'i roi ynglŷn â sefydlu haen o wasanaethau penodol ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed er mwyn galluogi system sydd yn ymateb yn fwy esmwyth i'r trosiant rhwng plentyndod a bod yn oedolyn? 315
Ac i gloi, fel gyda chynifer o gyflyrau iechyd eraill, allwn ni ddim dianc rhag y ffaith bod cyflyrau iechyd meddwl yn perthyn i dlodi hefyd. Heb fynd i'r afael â thlodi, yna allwn ni ddim mynd i'r afael ag afiechydon meddwl. Yn anffodus, mae bwriadau Llywodraeth San Steffan i dorri a chwtogi ar daliadau credyd cynhwysol a PIP am wthio mwy o bobl i dlodi, ac am roi poen meddwl acíwt i nifer o'n pobl fwyaf bregus. Felly, ydych chi'n cydnabod y bydd cyflawni'r cynllun yma, er mor deilwng eu hamcanion, am fod gymaint yn anoddach o ganlyniad i'r toriadau diweddaraf i'r system lles, a beth ydych chi am ei wneud i ynysu gweledigaeth y cynllun rhag penderfyniadau San Steffan cyn belled â phosib? Diolch. 316
Diolch yn fawr iawn am yr holl gwestiynau yna, Mabon. Hoffwn ddechrau trwy ailadrodd mai ein gweledigaeth yw y bydd cyfraddau hunanladdiad blynyddol yng Nghymru yn gostwng yn barhaus. Bydd pobl sy'n hunan-anafu, sy'n hunan-wenwyno, sy'n cael syniadau hunanladdol neu sydd wedi ceisio lladd eu hunain yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo bod pobl yn eu deall. Byddan nhw'n perthyn i gymunedau gwybodus a thosturiol a byddan nhw'n gallu cael mynediad at gymorth a gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion pan fo'u hangen arnynt a lle mae eu hangen arnynt. Dyna'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni ac yn ymrwymo iddo yma.317
Diolch yn fawr i chi am ei groesawu. Rwy'n cytuno â chi; mae angen i ni weld y strategaeth 10 mlynedd hon yn cael ei chyflawni, ni waeth pwy sydd wrth y llyw. A hefyd diolch am rannu eich profiad eich hun hefyd. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn estyn allan ataf heddiw. Mae'n rhywbeth y mae pobl eisiau siarad amdano pan ydyn nhw eisiau siarad amdano, ac rwy'n teimlo hynny, hyd yn oed fy hun.318
Felly, ydyn, mae ein cyfraddau hunanladdiad yn uwch nag yn Lloegr, tua'r un peth â'r Alban—mae'r ddwy wlad yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd. Ac roeddwn i hefyd eisiau dweud bod llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ofyn amdano, o ran atal a phobl yn gweld rhywun yn y gwasanaethau iechyd meddwl, mae gen i'r strategaeth iechyd meddwl a lles sy'n cael ei chyflwyno ddiwedd y mis, a dyna'r chwaer strategaeth i hyn. Yr hyn rwy'n angerddol iawn amdano a'r hyn hoffwn ei weld yw mwy o gydraddoldeb, yr ydym yn siarad amdano, gydag iechyd corfforol. Pan fyddwch chi'n mynd i weld rhywun ac rydych chi'n estyn allan i ddechrau, sydd mor anodd i'w wneud, yn arbennig o anodd i ddynion—rwy'n gwybod hyn o ddynion yn fy mywyd fy hun—i'w cael nhw i fynd i ofyn am yr help hwnnw a cheisio esbonio sut maen nhw'n teimlo, mae'n hollol hanfodol eu bod nhw'n gweld rhywun yn gyflym iawn, os nad ar unwaith. Rydym yn gweld llawer iawn o ymchwil sy'n awgrymu bod yr un sesiwn honno, cael sgwrs gyda rhywun ar unwaith, yn gwneud byd o wahaniaeth, a dyna lle hoffwn i ni gyrraedd, ac fe fyddaf yn siarad am hynny yn fwy yn y strategaeth iechyd meddwl. Ond rwy'n credu mai dyna yw cydraddoldeb go iawn, atal go iawn. Rwy'n credu y gall wneud llawer iawn i atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng. Felly, mae hynny'n rhan fawr o hyn.319
Do, fe wnaethoch chi graffu arnaf yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cyllid. Rwy'n falch iawn bod y ddau berson sy'n eistedd ar y fainc flaen yma—Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet, a Lynne Neagle—o'r farn bod sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw yn bwysig a bod gennym yr arian hwnnw sy'n cael ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, yr ydym, fel Llywodraeth Cymru, yn gwbl ymrwymedig iddo: pryd bynnag y bydd y gyllideb iechyd yn codi, bydd y gyllideb iechyd meddwl yn codi gyda hi. Mae'n £820 miliwn ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r hyn y byddwn i'n ei awgrymu yw, byddwn i ddim yn awgrymu nad yw'n ddigon o arian, byddwn i bob amser yn croesawu mwy o arian, ond nid yw'n ymwneud â'r ffaith nad yw'n ddigon o arian, yr hyn mae angen i ni ei wneud nawr yw ei symud i'r gofod atal. Ac nid yw hynny'n hawdd gwneud hynny. Hoffwn pe gallen ni wneud hynny dros nos, ond gallwn ni ddim. Er enghraifft, ceisio symud £100,000 o wasanaeth haen 4 mewn iechyd meddwl i haen 3, hyd yn oed gyda'r modelu i ddweud wrthym y gwahaniaeth y byddai hynny'n ei wneud, rydych chi'n dal i orfod gwneud hynny mewn dull pontio, cam wrth gam, ond dyna lle mae angen i ni fod, a dyna'r hyn rwy'n ceisio ei wneud ar hyn o bryd. Felly, byddwn, byddwn i'n dweud bod angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal.320
Fe sonioch chi am yr ystadegau hefyd. Felly, diolch am godi hyn. Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, pan fyddwn ni'n siarad am ddata ac ystadegau, ein bod ni'n siarad am bobl. Fel rwyf bob amser yn dweud, y tu ôl i bob rhif mae person. Ond, ie, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fis Awst diwethaf, fod 386 o hunanladdiadau wedi'u cofrestru yng Nghymru. Mae hyn 14 y cant yn fwy nag yn 2022. Mae'r adroddiad gwyliadwriaeth amser real hunanladdiad tybiedig, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, yn ategu ffigurau SYG, ac mae'n caniatáu ar gyfer monitro tueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru yn fwy amserol, ond dim ond hunanladdiadau tybiedig y mae hwn yn eu cwmpasu, nid y rhai a gadarnhawyd gan gwest crwner, fel yr adroddwyd gan SYG. Felly, byddwn i'n dweud bod gennym y gallu yn y fan yna. Rwy'n credu bod angen i ni ddod â hynny at ei gilydd ychydig yn fwy, ond rwy'n falch iawn bod gennym ni'r wyliadwriaeth honno yng Nghymru, ac mae'n caniatáu i ni wneud penderfyniadau cyflymach a gweld beth sy'n digwydd. Mae llawer o bobl wedi sôn heddiw am y ffaith bod y cyfraddau uchaf ymhlith dynion; trigolion o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig; y rhai sy'n ddi-waith, sydd dros 12 gwaith yn uwch nag unrhyw grŵp cyflogaeth arall; y rhai sy'n hysbys i'r heddlu; a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny yr un peth ar draws y ddwy set ddata. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai'r rhan bwysicaf yma yw ein bod ni'n nodi'r ddemograffeg honno y mae angen i ni wedyn eu targedu â chymorth. 321
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Mind Cymru. Gyda'r cyllid maen nhw wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i wneud Amser i Newid a chodi ymwybyddiaeth am stigma iechyd meddwl, maen nhw wedi gwneud gwaith hollol aruthrol, ac maen nhw wir wedi ei ymgorffori mewn cymunedau, ac rwy'n ddiolchgar iawn, iawn am hynny, ac mae llawer o'r hyn maen nhw wedi'i wneud wedi cyfrannu at y ddwy strategaeth hyn.322
Mae'r stigma yn dal i fod yn real iawn. Byddwn i'n dweud bod pobl wedi dod yn fwy cyfforddus gyda siarad am iselder a gorbryder, ond pan fyddwch chi'n mynd i siarad am seicosis a siarad am yr episodau mwy difrifol y gall pobl eu cael, mae hynny'n dal i fod yn anodd iawn, iawn, ac mae yna lawer iawn o stigma o hyd. Oherwydd mae'n rhaid i ni gofio, gall pobl wella a, gyda'r cymorth cywir, gall pobl wella go iawn. Gall fod yn debyg iawn i iechyd corfforol, ac maen nhw'n cydblethu i raddau helaeth, a dyna lle mae angen i ni wella. Rwy'n credu bod mwy o bobl yn siarad am eu gwellhad yn un o'r pethau mwyaf grymusol y gallwn ni ei wneud, mewn gwirionedd.323
Rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn gwneud gwaith nawr o amgylch ysgolion, wrth gwrs, yr ydym yn gwybod ei fod mor bwysig, ac mae rhaglen fewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn mynd i fod yn cael ei darparu o dan weithrediaeth y GIG. Felly, rydym yn gwneud cymaint o waith yn y maes hwn, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Dim ond i ddweud, mae'r ddwy strategaeth hyn wedi cael eu gwneud yn draws-lywodraethol. Rwy'n credu bod pawb wedi blino ar ei gweld yn dod drwodd drwy'r amser, ond mae wedi cael ei diweddaru ac mae pethau wedi cael eu hychwanegu ati'n gyson, hyd yn oed tan yr wythnos diwethaf, ac mae wir wedi cael y cydweithrediad hwnnw. Mae pawb wedi cymryd cyfrifoldeb am hyn, am ei bod yn draws-lywodraethol. Ydy wir.324
Ac yna o ran y cyfnod pontio hwnnw, rwy'n cofio pan oeddwn i ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe wnaethon ni'r craffu 'Sortiwch y Switsh', ac fe glywais i gan y bobl ifanc yn hynny, yn gwneud y newid hwnnw o CAMHS i oedolion, a wyddoch chi, mae'n anodd iawn, iawn. Rydym yn dal i wneud llawer o waith ar hynny, ond byddwn i'n dweud ei fod yn un o'r rhesymau pam rydym wedi gwneud strategaethau pob oed. Dydy e ddim wedi bod yn boblogaidd gyda phawb, ond rydym wedi gwneud strategaethau pob oed ar gyfer y ddwy ohonynt, oherwydd ar ddiwedd y dydd, mae'n ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael y gofal amserol hwnnw, sy'n canolbwyntio ar y person. Ond fe fyddaf yn ystyried y gwaith y mae angen i ni ei wneud o amgylch y garfan honno a'r grŵp oedran hwnnw. Mae yna lawer iawn o bethau da yma, sy'n targedu'r grŵp hwnnw yn benodol. Un o'r pethau allweddol oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i oedd bod cymaint, unwaith eto, yn ymwneud ag addysg a chyrhaeddiad. Mae'r cyfraddau'n uwch ymhlith pobl nad ydyn nhw'n mynd ymlaen i'r brifysgol, er enghraifft. Felly, mae yna rywbeth mae angen i ni edrych arno go iawn yn y fan yna, a dyna lle mae'r gwaith traws-lywodraethol yn dod i mewn hefyd. Felly, diolch.325
Gweinidog, mae'n dda eich clywed chi'n sôn am eich gwaith gyda Samariaid Cymru, ac roedd e'n dda iawn eich cael chi yn lansiad eu hadroddiad effaith yn yr eglwys Norwyaidd yr wythnos diwethaf. Clywsom yno am y 386 o fywydau a gollwyd yng Nghymru i hunanladdiad yn 2023, a'r ffaith bod hynny'n gynnydd, fel y disgrifioch chi, a'r effaith ganlyniadol, sy'n gwneud hunanladdiad mor niweidiol, nid yn unig i deulu a ffrindiau—er bod hynny'n bwysig—ond i gymunedau, cydweithwyr. Ac wrth gwrs, fel y soniais i yn y digwyddiad, yma yn y Senedd fe gawson ni brofiad Carl Sargeant, tad ein Haelod presennol, Jack, sawl blwyddyn yn ôl. Rwy'n credu bod y rhai ohonom yma ar y pryd yn gyfarwydd â'r effaith ganlyniadol honno, wyddoch chi, o ba mor bell mae'r crychdonnau hynny'n ymestyn, a thros gyfnod estynedig o amser. Rhywfaint o ddealltwriaeth, dim byd tebyg i deulu a ffrindiau Carl, yn amlwg.326
Ond roedd e'n dda clywed am waith Samariaid Cymru a pha mor bwysig ydyw: y llinell gymorth, yr allgymorth, y gwaith gydag ysgolion, y gwaith gyda charchardai, y gwaith gyda'r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae mor helaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r gwasanaethau, y gwasanaethau hanfodol, sy'n cael eu darparu gan Samariaid Cymru. Ac rwy'n gwybod yn iawn eich bod chi mor ymrwymedig i weithio gyda'r sefydliad yn y dyfodol, er budd cynifer o bobl yng Nghymru, o ran y polisi atal hanfodol hwnnw a gwrando gweithredol, a esboniwyd ganddyn nhw yn y digwyddiad.327
Diolch yn fawr iawn, John Griffiths, ac am noddi'r digwyddiad hwnnw ac am eich ymrwymiad hefyd, a thynnu sylw at waith y Samariaid. Fe glywson ni am yr effaith ganlyniadol honno ar ôl i chi golli rhywun, a'r galar hwnnw, a sut mae hynny'n cario ymlaen dros y blynyddoedd. Ydy wir. Ac yna i'r gwrthwyneb, fe glywson ni am y math o effaith ganlyniadol gadarnhaol hefyd, gan bobl sydd wedi dod yn wirfoddolwyr gyda'r Samariaid. Fe glywson ni gan rywun a safodd i fyny a dweud ei fod wedi dod yn Samariad pan aeth i'r carchar. Roedd yng ngharchar Y Parc, ac fe gafodd ei hyfforddi yno, ac yna ef oedd y person roedd yr holl garcharorion eraill yn mynd i siarad ag ef. Hyd yn oed nawr, wedyn, ar ôl iddo gael ei ryddhau, mae'n parhau i wneud y gwaith hwnnw. Fe wnaethon nhw bwysleisio, on'd do fe, pa mor bwysig yw gwrando a deall mewn go iawn, ac yn aml dyna sydd ei angen ar bobl. Felly, rwy'n talu teyrnged i bopeth maen nhw wedi'i wneud. Mae eu llinell gymorth yn hollol anhygoel, ond hefyd y gwaith maen nhw'n ei wneud mewn cymunedau gwledig.328
Hoffwn ddweud hefyd, pan aethom lawr i lansio hyn ym Mhrifysgol Abertawe, oherwydd dyna lle mae'r Athro Ann John, a llawer o'i chydweithwyr sy'n gwneud ymchwil yn y gofod hwn, fe ges i gyfle i siarad â Neil Ingham o Samariaid Cymru, ac, 'Y peth yw', meddai, 'rydym bob amser yn siarad am y profiad bywyd a'r cyd-gynhyrchu, ond yr hyn y mae'n rhaid i chi ei gofio pan fyddwch chi'n gwneud rhywbeth o gwmpas hunanladdiad fel hyn yw bod yna brofiad bywyd na fyddwn byth yn ei glywed.' Ac fe ddywedodd, ym mhopeth mae'n ei wneud, ei fod bob amser yn cofio mai'r bobl sydd wedi ceisio ac sy'n dal gyda ni, y bobl sydd wedi cael profedigaeth ydyn nhw'n aml, a dywedodd ei bod bob amser yn bwysig i adael y gadair wag yno, yn feddyliol, neu hyd yn oed yn ffisegol, a chofio bod yna brofiad bywyd na fyddwn ni byth yn ei glywed, hefyd, ac i adael lle i hynny hefyd. A dyna lle rwy'n credu y gallwn ni ddysgu i beidio â bod yn feirniadol ac i fod mor gydymdeimladol ag y gallwn ni ynghylch rhywbeth sy'n anodd iawn i'w ddeall weithiau. Felly, rwy'n talu teyrnged i'r Samariaid am hynny. Diolch.329
Ac yn olaf, James Evans.330
Diolch, Dirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y strategaeth sydd wedi'i chyflwyno heddiw. Rwy'n credu ei bod yn strategaeth gadarnhaol iawn, ac mae un bywyd a gollwyd i hunanladdiad yng Nghymru yn un yn ormod, a dylid annog a chroesawu unrhyw beth allwn ni ei wneud i fynd i'r afael â hynny.331
Dirprwy Weinidog, o ystyried bod hunanladdiad yn fwy cyffredin ymhlith dynion rhwng 30 a 55 oed, a bod hunan-niweidio yn llawer mwy cyffredin ymhlith merched ifanc, rwyf wedi bod yn darllen drwy'r cynllun cyflawni yn gyflym nawr, tra fy mod i wedi bod yn eistedd yma ac yn gynharach i fyny'r grisiau, a galla i ddim gweld unrhyw fecanweithiau neu raglenni penodol o amgylch y grŵp penodol hwnnw, felly byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yn union mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ar dargedu'r maes hwnnw er mwyn ceisio gostwng cyfraddau hunanladdiad yn y grwpiau hynny.332
Yn ail, allwch chi hefyd esbonio sut mae'r Llywodraeth yn chwalu seilos hefyd? Oherwydd, fel yr oedd y Gweinidog blaenorol yn y maes hwn yn arfer ei ddweud bob amser, mae iechyd meddwl yn fusnes i bawb. Mae'n fater cwbl draws-lywodraethol, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n dod â phawb at ei gilydd, oherwydd rwyf wedi gweld yn y cynllun cyflawni bod llawer o wahanol grwpiau ar draws y Llywodraeth yn arwain ar feysydd penodol, o weithrediaeth y GIG i eraill, felly mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n mynd i dynnu hynny i gyd at ei gilydd ac ysgogi'r hyn rydym am ei weld yn cael ei gyflawni. Oherwydd mae'r cynlluniau hyn yn hyfryd wedi'u hysgrifennu i lawr, ond yr hyn sy'n cael ei gyflawni ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n gwneud hynny ac yn gweithio ar draws y Llywodraeth yn y meysydd hynny.333
Wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr am groesawu hyn hefyd. Rydych chi bob amser wedi bod mor angerddol am iechyd meddwl ac am ddynion ac iechyd meddwl dynion hefyd. Ac rwyf wastad yn cofio, unwaith eto, mae pobl wedi dweud wrtha i—mae dynion yn arbennig wedi dweud wrtha i—'Fe wnaethoch chi gymaint i'n hannog ni i godi llais a gofyn am help, ac yna pan ydym wedi gwneud hynny, dydy e ddim wedi bod yno bob amser.' Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wir yn aros gyda mi. Felly, rydych chi'n iawn; mae'n ymwneud â chael y cymorth hwnnw sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n union beth sydd ei angen arnyn nhw ar y foment honno. Rydw i wir yn credu bod llawer o hyn yn dod drwodd o'r trydydd sector. Rwy'n credu bod gennym ni grwpiau o fewn ein cymunedau sydd wedi'u trwytho'n llawn, ac rwy'n meddwl am Men's Sheds, fel y dywedais i, fel Lads and Dads, rwy'n meddwl am Sefydliad Jac Lewis nawr, a ddechreuodd yn y modd hwnnw ac sydd, erbyn hyn, yn cynnig cymorth profedigaeth i bobl ledled Cymru.334
Rwy'n credu bod y pethau hynny'n bwysig iawn ac rydym yn gweld gwelliant mawr, ond y peth allweddol am hyn a'r camau nesaf rydym yn mynd i fod yn eu cymryd yw, yn gyntaf, mae angen iddyn nhw gael eu clywed o ran yr hyn maen nhw'n ei weld ar lawr gwlad, ond hefyd mae angen i ni fod yn sicrhau—a dyma beth rwy'n ei glywed hefyd—bod yr holl wasanaethau hyn yn gydgysylltiedig, oherwydd maen nhw'n gweld pobl pan fyddan nhw mewn argyfwng, ac erbyn hynny, mae'n wirioneddol anodd wedyn i gael pobl yn ôl i lle mae angen iddyn nhw fod, lle maen nhw'n cael sgwrs ac yn siarad am eu problemau. Felly, rwy'n credu bod y rhan arfogi o amcan 5 yn bwysig iawn. Rydym nawr yn mynd i fod yn mapio gwasanaethau sy'n dod ar draws pobl sy'n wynebu risg uchel o hunanladdiad a hunan-niwed, ac mae hynny'n mynd i fod yn gwneud ymarfer mapio gwasanaethau ac mae hynny hefyd yn mynd i ystyried gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eraill, y canolfannau gwaith a'r gwasanaethau cam-drin domestig. Rydym yn adolygu'r ddarpariaeth a'r angen presennol yn y lleoliadau ehangach, ac yn nodi'r cyfleoedd hynny. Rydym hefyd yn mynd i wella'r cynnig sydd ar gael, felly cyfeirio gwasanaethau at yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer dealltwriaeth a sgiliau, ac rydym hefyd yn mynd i wella'r cynnig o gymorth mewn gwasanaethau plant ac, yn y pen draw, creu'r mecanweithiau amlasiantaeth hynny ar gyfer cydweithio.335
Felly, rwy'n gwybod bod hynny'n swnio fel llawer o eiriau ac nid yn union beth sy'n mynd i fod yn digwydd, ond mae gen i fy myrddau lles ac iechyd meddwl hefyd. Rydyn ni nawr yn mynd i gael grŵp cynghori newydd i'r Llywodraeth, fel y dywedais i, lle mae'r holl ymchwil yma yn mynd i fod yn dod trwodd ac mae'n mynd i fod yn cymryd y gwaith amlasiantaeth hwnnw.336
Felly, dyna pam rwy'n credu bod hyn mor bwysig, ond rwy'n credu mai'r peth allweddol mae'n dod yn ôl ato yw ein bod ni wedi galw'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn 'Dealltwriaeth', ond dydyn ni ddim yn deall digon ac mae'n rhaid i ni wneud cymaint mwy yn y maes hwn a gyda'r ddemograffeg honno. Ac rwy'n cadw gofyn i bobl yn fy mywyd, 'Pam mae hyn yn digwydd? Pam nad yw pobl yn gofyn am help?' Dydy pobl sy'n hunan-niweidio ddim, mewn gwirionedd, yn estyn allan am help. Mae'r stigma yn rhy uchel. Mae'r data yn dangos hyn. Dydyn nhw ddim yn gadael i unrhyw un wybod bod hyn yn digwydd, ac felly, fel y dywedais i, pan ydym yn dweud ei fod yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd person yn marw trwy hunanladdiad rhwng 50 a 100, ac nid yw'n rhywbeth mae unrhyw un yn gwybod lle i ofyn am yr help hwnnw, dyna un o'r pethau allweddol, a dyna pam mae'n strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae cysylltiad agos rhwng y ddau.337
Byddwn i hefyd yn dweud, fodd bynnag, bod hyn yn draws-lywodraethol iawn, iawn, oherwydd mae'n rhaid iddo fod. Rydym ni i gyd yn gwybod, os ydych chi o dan straen, os ydych chi'n unig, os ydych chi'n drist, os ydych chi'n galaru, mae'n mynd i effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch lles. Rydym yn gwybod am y dull cwrs bywyd hwnnw a fydd yn dod allan yn fwy yn fy strategaeth iechyd meddwl a lles. Rydym yn gwybod lle y bydd y pwyntiau pwysau hyn.338
Rhai o'r pethau sydd wedi'u canfod yn yr ymchwil yw'r hyn y gallwn ni ei wneud fel cymdeithas gyfan. Rydym yn gwybod bod rhaglenni marchnad lafur weithgar yn gwneud gwahaniaeth mawr, rydym yn gwybod bod rhyddhad dyled yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gwybod bod darparu budd-daliadau lles digonol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gwybod bod staff yn y GIG a gwasanaethau cymdeithasol a'r sector cyngor sy'n gallu cael mynediad at wybodaeth reolaidd wedi'i ddiweddaru am asiantaethau cynghori allweddol i gyfeirio pobl yn gwneud gwahaniaeth. Staff rheng flaen sy'n fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â phobl agored i niwed, ac fe ddylen nhw gael hyfforddiant i gydnabod hynny.339
Mae monitro cyfraddau hunanladdiad sy'n newid mewn amser real bron yn hanfodol, ac mae angen i ni fonitro effaith newidiadau polisi a mesurau atal a sicrhau bod modd cyfeirio'n amserol at gymorth profedigaeth. Dyna'r holl bethau rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni eu gwneud. Nhw fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid oes gennyf lawer o'r rheini yn fy mhortffolio, a dyna pam rwy'n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yma i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny.340
Rwy'n wirioneddol obeithiol, a dweud y gwir, fod hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth nawr a'n bod ni'n mynd i gyflawni'r weledigaeth honno o weld y gyfradd hunanladdiad honno yng Nghymru yn gostwng ar draws pob demograffeg, ac yn enwedig dynion, y mae'n ymddangos eu bod, yn arbennig, mewn gwewyr ar hyn o bryd.341
Diolch i'r Gweinidog.342
Eitem 6 yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025. Galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i wneud y cynnig—Vikki Howells.343
Cynnig NDM8868 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Ar ôl i Medr ddod yn weithredol yr haf diwethaf, rwy'n ceisio gwneud y darpariaethau angenrheidiol nawr er mwyn cyflawni'r cam nesaf o swyddogaethau Medr, fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae Deddf 2022 yn darparu ar gyfer diwygiadau i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 o ran ad-drefnu chweched dosbarth ysgolion. Mae'r diwygiadau hyn yn dileu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, gan eu disodli â phwerau tebyg ar gyfer Medr.344
Trwy'r darpariaethau, rydym yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi Medr i gymryd dull strategol, gan gynnig persbectif ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth ysgolion a sicrhau ei fod yn gallu darparu cymorth, dewis a dilyniant ac osgoi dyblygu diangen. Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 2013 yn dileu amddiffyniadau na mesurau diogelwch, er enghraifft mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg. Mae'r rhain yn parhau i fod yn ofynion o fewn y Ddeddf honno, a hefyd o fewn y cod trefniadaeth ysgol statudol. Bydd y rheoliadau canlyniadol sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol a achoswyd gan y diwygiadau i Ddeddf 2013. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu craffu ar y rheoliadau hyn, a gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.345
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.346
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Lynne Neagle.347
Cynnig NDM8869 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 heddiw. Fel y gwyddoch, rwy'n angerddol ac rwyf wastad wedi bod yn angerddol ynghylch sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu ffynnu ac yn cael ei gefnogi i wneud ei orau mewn system addysg sy'n rhoi ei les yn gyntaf. Yn anad dim, mae'n hanfodol bod pob plentyn yn derbyn eu hawl i addysg, ni waeth ble neu sut y caiff hyn ei ddarparu.348
Ym mis Medi, fe gytunais i dreialu trefniadau cronfa ddata plant sy'n colli addysg gyda saith awdurdod lleol. Bydd y peilot yn dechrau ar 8 Ebrill, a bydd yn rhedeg am flwyddyn. Pan fydd awdurdodau lleol yn derbyn yr wybodaeth gan eu bwrdd iechyd lleol, byddan nhw'n adolygu ac yn cymharu'r set ddata untro â'r data sydd ganddynt eisoes i nodi plant nad oeddent yn hysbys iddyn nhw o'r blaen a'r plant hynny lle nad yw addasrwydd addysg yn hysbys. Yna, bydd awdurdodau lleol yn mynd ar drywydd hyn gyda'r teuluoedd hynny i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn derbyn addysg addas. Bydd gwerthusiad annibynnol yn profi effeithiolrwydd y gronfa ddata ac yn llywio ein camau nesaf.349
Rwyf am fod yn glir nad yw'r trefniadau hyn yn ymwneud ag addysg gartref ac maen nhw'n gwbl ar wahân i'r darpariaethau ym Mil Lles Plant ac Ysgolion Llywodraeth y DU—ni ddylid cyfuno'r ddau. Yn syml, mae'r gronfa ddata plant sy'n colli addysg yn fecanwaith i helpu awdurdodau lleol i ymgymryd â'u dyletswyddau presennol. Mae gennym ganllawiau statudol ar blant sy'n colli addysg eisoes; mae'r rhain yn nodi'r hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud i nodi plant a sicrhau bod darpariaeth addysg briodol ar waith ar gyfer pob plentyn. Er fy mod i'n gwybod bod awdurdodau lleol yn dilyn y canllawiau cyn belled ag y gallan nhw, does dim system sy'n sicrhau eu bod nhw'n gwybod am yr holl blant y maen nhw'n gyfrifol amdanynt.350
Nid mater newydd yw hwn, ond mae'r angen i fynd i'r afael ag ef yn hanfodol nawr. Mae nifer y plant sydd wedi cael eu dadgofrestru o'r ysgol yn dilyn y pandemig wedi cynyddu ac, yn anffodus, nid yw'r rhesymau y tu ôl i hyn bob amser yn gadarnhaol. Gyda'r cynnydd mewn plant nad ydynt yn yr ysgol daw'r risg gynhenid y bydd rhai o'r plant hyn yn syrthio trwy'r craciau ac na fyddant yn derbyn addysg addas. Hyd yn oed os yw plentyn yn derbyn addysg addas gartref, mae angen i awdurdodau lleol wybod bod hyn yn wir. Yn y pen draw, mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â hyrwyddo lles plant ac rwy'n ddiolchgar i awdurdodau lleol a'n partneriaid bwrdd iechyd lleol am y ffordd adeiladol maen nhw wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r peilot hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei graffu gofalus ar y rheoliadau ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.351
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.352
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf, a phrynhawn ddoe gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor.353
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys tri phwynt adrodd technegol, y mae pob un ohonyn nhw'n tynnu sylw at faterion y mae angen eu hesbonio ymhellach, yn ein barn ni. Fe wnaf i sylwadau ar y pwynt cyntaf a'r trydydd pwynt y prynhawn yma. Yn y pwynt technegol cyntaf, mae'r pwyllgor yn nodi, yn y rhaglith, nad yw'n glir a ddylai'r pwerau galluogi sôn hefyd am adran 66(1) o Ddeddf Plant 2004 gan mai dim ond rhai o'r awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr o awdurdodau lleol peilot yn Atodlen 1 i'r rheoliadau hyn. Mae adran 66(1)(b) o Ddeddf 2004 yn darparu'r pŵer sy'n galluogi rheoliadau i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol achosion neu feysydd. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn bod angen cyfeirio at adran 66(1)(b) o Ddeddf 2004. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo'r darllenydd ac yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoliadau y prynhawn yma, bydd yn diwygio'r rhaglith i gynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth honno cyn eu gwneud.354
Yn y trydydd pwynt technegol, mae'r pwyllgor wedi ceisio eglurder ynglŷn â'r defnydd o'r un term yn y testun Cymraeg i olygu 'usually resident' ac 'ordinarily resident', sydd ag ystyron gwahanol yn y testun Saesneg. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi y gallai'r dull hwn fod yn broblematig mewn deddfwriaeth yn y dyfodol pe bai'r ddau derm yn cael eu defnyddio o fewn yr un ddarpariaeth mewn offeryn gan na fyddai unrhyw ffordd o wahaniaethu rhyngddyn nhw, ac unrhyw wahaniaeth ynghylch eu hystyr, yn y testun Cymraeg. Mae'r Llywodraeth yn fodlon â'r drafftio ond mae wedi cadarnhau y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r defnydd o'r termau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.355
Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn cynnwys tri phwynt adrodd teilyngdod, ac fe dynnaf sylw at yr olaf o'r rhain, a hwnnw'n unig. Nododd y pwyllgor y bydd y rheoliadau'n cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a gynhwysir yn adran 29 o Ddeddf 2004. Roedd y memorandwm esboniadol a osodwyd ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft ar 11 Mawrth yn nodi yn adran 2 bod angen gorchymyn cychwyn i ddod ag adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym. Fodd bynnag, daethpwyd ag adran 29 o Ddeddf 2004 i rym ar 10 Mawrth gan Orchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 10) (Cymru) 2025. Ers hynny, mae'r Llywodraeth wedi tynnu'r memorandwm esboniadol a osodwyd yn wreiddiol ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft yn ôl ac mae fersiwn newydd wedi'i gosod sy'n cywiro'r gwall.356
Mae diogelu ein plant yn hollbwysig. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni gyda'n gilydd i osgoi achosion gwirioneddol drasig fel llofruddiaeth Sara Sharif rhag digwydd eto. Ond mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn. Mae'n rhaid i ni fynd â phobl ar y daith honno, sicrhau bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn ymgysylltu â nhw.357
Ysgrifennydd Cabinet, mae'r cynigion hyn, yn gymysg â'r Bil Lles Plant ac Ysgolion, yr wyf yn siŵr y byddwn ni'n siarad amdano yn nes ymlaen, wedi ennyn llawer o bryder ymhlith addysgwyr cartref, gyda llawer ohonyn nhw'n cysylltu â'm swyddfa dros yr wythnosau diwethaf. Mae pryderon yn amrywio o'r rhannu data arfaethedig yn mynd yn groes i breifatrwydd i'r cynlluniau yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sy'n addysgu eu plant gartref. Mae'n rhaid cymryd pob cam i wneud yn siŵr nad ydym yn stigmateiddio rhieni sydd wedi gwneud dewis cadarnhaol a chyfreithlon i addysgu eu plant gartref, nac yn rhoi gormod o faich arnyn nhw.358
Yng ngoleuni hynny, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wybod a allech chi amlinellu'n garedig sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â rhai addysgwyr cartref ledled Cymru ynghylch y gronfa ddata CME. A allech chi hefyd egluro pam mae Llywodraeth Cymru yn gwthio tuag at y rheoliadau hyn i ddechrau treial cronfa ddata blwyddyn o hyd pan yw eisoes wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu yn y maes hwn drwy ei Bil Lles Plant ac Ysgolion, sydd hefyd yn cynnwys yr angen am gronfa ddata? Fe ddywedoch chi yn y cyflwyniad nad oeddech chi eisiau i'r ddau gael eu cyfuno, ond a allech chi roi eglurhad heddiw, er budd y Senedd hon?359
Mae'r rheoliadau'n dweud na fydd plant a addysgir gartref sy'n derbyn addysg addas yn cael eu cynnwys ar y gronfa ddata, felly allech chi egluro beth yw addysg addas? A fydd y meini prawf i wirio ei haddasrwydd yn gyffredinol ar draws y saith awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y treial neu a fyddant yn wahanol o gyngor i gyngor? Pa ymrwymiadau allwch chi eu gwneud bod y cynllun peilot hwn yn gynllun peilot go iawn, Ysgrifennydd Cabinet, ac nid dim ond sgrin fwg ar gyfer proses gyflwyno Cymru gyfan, sef yn union beth a welsom gyda pholisi terfyn cyflymder 20 mya di-drefn y Llywodraeth hon?360
Ysgrifennydd Cabinet, fel Ceidwadwyr Cymreig rydym o blaid rhoi dewis i rieni, ac rwy'n sicr yn cytuno y dylai plant gael eu diogelu ar bob cyfle. Ond rwy'n credu'n gryf bod angen i chi daro cydbwysedd a sicrhau nad yw addysgwyr cartref a'r rhai yr effeithir arnynt gan y rheoliadau hyn yn cael eu dieithrio. Dyna pam, Ysgrifennydd Cabinet, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y rheoliadau hyn y prynhawn yma. Diolch.361
Fel mae fy nghyd-Aelod Natasha Asghar newydd amlinellu, mae diogelu plant yn bwysig iawn i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, chi eich hunain fel Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac, yn wir, hefyd, i rieni—diogelu eu plant yw'r brif flaenoriaeth y byddai gan unrhyw riant. Rwy'n siarad o le lle roeddwn i'n blentyn a addysgwyd gartref am nifer o flynyddoedd fy hun.362
Rwy'n gwerthfawrogi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi'n ceisio gwahaniaethu rhwng, fel y gwnaethoch chi ei ddisgrifio, plant sy'n colli addysg a'r rhai sy'n cael addysg gartref. Rwy'n tybio mai'r gwahaniaeth y byddech chi'n ei amlinellu yw mai'r rhai a fyddai'n dewis hysbysu awdurdod lleol yw'r rhai sy'n cael eu haddysg gartref a'r rhai nad ydynt yn dewis hysbysu awdurdod lleol, o bosibl, yw'r plant hynny sy'n colli addysg. Ond, wrth gwrs, byddwch chi'n cydnabod y bydd llawer o'r plant hynny yr ystyrir eu bod yn colli addysg yn cael eu haddysg gartref mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, rhieni sy'n dewis a ydyn nhw'n rhoi'r wybodaeth honno i'r awdurdod lleol ai peidio.363
Rydym i gyd yn gwerthfawrogi bod plant yn cael eu haddysg gartref am nifer o resymau, y caiff un ohonyn nhw ei amlinellu yn eich asesiad effaith, sef y plant hynny sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol, a all fod yn brofiad trawmatig iddyn nhw a'u teuluoedd. O ganlyniad, gall fod amheuaeth tuag at awdurdodau y mae'r teuluoedd hynny'n teimlo eu bod wedi'u methu trwy gydol eu haddysg. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod rhieni sy'n teimlo bod ganddyn nhw'r amheuaeth honno tuag at awdurdodau lleol yn arbennig ar hyn o bryd, ac, efallai, lle mae perthnasoedd wedi chwalu dros nifer o flynyddoedd—sut y bydd gwaith partneriaeth yn y fan yna, yn hytrach na photensial am berthynas elyniaethus rhwng yr awdurdodau lleol hynny a rhieni sy'n dewis addysgu eu plant gartref.364
Roeddwn i'n siomedig mai dim ond dau opsiwn sydd wedi'u cyflwyno yn y memorandwm esboniadol ar gyfer y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae'n teimlo fel cynnig popeth neu ddim. Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet p'un a ystyriwyd opsiynau eraill, oherwydd mae'n ymddangos bod yr opsiwn a ffefrir, sy'n cael ei gynnig yma heddiw, yn cyfuno nifer o bethau a allai fod wedi cael eu rhannu'n wahanol, rwy'n amau. Yn benodol, gallai'r dewis i'w gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth a chynnwys meddygon teulu i rannu gwybodaeth hefyd—gallai hynny fod wedi bod yn opsiwn ar wahân yn y cynigion yma heddiw. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn deall pam mai dim ond dau opsiwn sydd wedi'u cyflwyno, fel y maen nhw wedi'u hamlinellu heddiw.365
Ar y pwynt ynglŷn â byrddau iechyd ac ymarferwyr meddygol yn gorfod rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol, mae cydnabyddiaeth y gallai hyn atal plant agored i niwed neu eu teuluoedd rhag mynychu practisau meddygol—y rheini, efallai, sy'n osgoi'r rhyngweithiadau hynny â'u hawdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae risg y gallan nhw fynd ymlaen i osgoi mynychu'r apwyntiadau meddygol hollbwysig hynny os ydyn nhw'n teimlo y bydd elfen o amheuaeth tuag atyn nhw. Felly, tybed pa asesiadau rydych chi wedi'u gwneud o unrhyw risgiau posibl yn y maes hwnnw, ac unrhyw lwyth gwaith ychwanegol i feddygon teulu yn benodol, a'u hyfforddiant i nodi, efallai, y plant hynny y byddai'n ofynnol iddyn nhw hysbysu'r awdurdod lleol amdanyn nhw yn hyn o beth.366
Ac yn ogystal, Llywydd, mae mesurau rhannu data wedi'u cynnwys yn y rheoliadau hyn yma heddiw, felly tybed pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth plant yn cael eu diogelu yn unol â chyfreithiau diogelu data, yn enwedig yn ystod y broses honno o drosglwyddo gwybodaeth rhwng y gweithwyr meddygol neu iechyd proffesiynol hynny a'r awdurdodau lleol eu hunain. Rydym yn gwybod am yr heriau sy'n ymwneud â rhannu data ar draws cyrff cyhoeddus yma yng Nghymru, felly byddaf yn falch o glywed sicrwydd bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol ac yn cael ei drin yn briodol.367
Fy mhrif apêl, fodd bynnag, Ysgrifennydd Cabinet, yw eich bod chi'n cerdded yn sensitif iawn trwy hyn—rwy'n siŵr eich bod chi—gan gydnabod bod rhesymau difrifol iawn yn aml pam mae rhieni'n dewis addysgu eu plant gartref neu mewn gwahanol amgylchiadau, ac rwy'n credu bod yn rhaid delio ag ef yn sensitif iawn. Diolch yn fawr iawn.368
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb. Lynne Neagle.369

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf fi ddiolch i Natasha a Sam am eu cyfraniadau? Natasha, rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad datganedig bod diogelu ein plant yn hollbwysig. Roeddwn i eisiau ailadrodd eto nad yw hyn yr un peth â'r mesurau rydym yn eu cymryd gyda'r Bil Lles Plant ac Ysgolion. Mae hwn yn offeryn i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol presennol mewn perthynas â phlant sy'n colli addysg, ac rydym wedi dewis gwneud y cynllun peilot hwnnw fel y gallwn ni archwilio rhai o'r union faterion y mae eich cyd-Aelod Sam Rowlands wedi'u codi yn ei gyfraniad. Bu ymgynghoriad helaeth ar hyn, ac roedd rhieni sy'n addysgu gartref a phlant yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Cefnogwyd yr ymgynghoriad, a dyna pam rydym wedi cyflwyno'r rheoliadau a pham rydym yn cael y ddadl hon heddiw, a dyna pam eu bod nhw wedi cael eu dwyn ymlaen yn eu cyflwr gwreiddiol.370
Cododd Sam Rowlands rai materion ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd. A gaf i ei sicrhau mai'r swm lleiaf posibl o wybodaeth fydd yn cael ei chasglu gan y gwasanaeth iechyd, dim ond enw'r plentyn, fel bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol? Rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r risg y bydd rhieni'n dewis peidio â chofrestru gyda meddyg teulu. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i godi fy hun gyda swyddogion, ond yr asesiad rydym wedi'i wneud yw bod y risg o hyn yn isel, oherwydd bydd rhieni nad ydyn nhw am i awdurdodau, fel gwasanaethau cymdeithasol, wybod am blentyn yn debygol o fod wedi cymryd camau perthnasol ar wahân eisoes i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu canfod. Ni ellir mesur y risg bosibl yn llawn ar hyn o bryd, ond fe ellir ei hasesu'n fwy cywir yn dilyn y peilot trwy gymharu data'r cyfrifiad â'r setiau addysg wedi'u cwblhau ar gyfer y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, addysg heblaw yn yr ysgol, ysgolion annibynnol, plant sy'n colli addysg a rhestrau addysg gartref dewisol, felly bydd yn rhoi cyfle i ni driongli'r wybodaeth honno fel nad oes gennym blant sy'n mynd heb eu nodi. Felly, diolch, Llywydd, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn.371
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.372
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitemau nesaf yw eitemau 8 a 9, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.373
Ac felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i wneud y cynigion yma—Mark Drakeford.374
Cynnig NDM8866 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).
Cynnig NDM8867 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynigion o flaen y Senedd. Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu gofalus ar y Bil, ac wrth gwrs dwi'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Cyllid fod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dwi eisiau diolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn trafod gyda ni a chyfrannu at ein syniadau wrth inni ddatblygu'r ddeddfwriaeth.375
Yn amlwg, mae rhai manylion yn adroddiadau'r pwyllgorau sydd angen eu hystyried yn ofalus. Dwi wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn barod, a byddaf i'n ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl y ddadl heddiw.376
Mae dadl heddiw yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil. Byddaf yn canolbwyntio ar hynny i ddechrau. Fy mwriad wedyn yw ymateb i'r prif faterion polisi a gafodd eu codi yn ystod craffu Cyfnod 1.377
Felly, Llywydd, wrth ymdrin ag egwyddorion y Bil, yr egwyddor gyntaf yw bod hwn wedi'i fwriadu i fod yn Fil galluogi. Mae'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd ai peidio, yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau lleol. Mae'n cyflawni ymrwymiad a wnaed ym maniffesto Llafur Cymru, a gadarnhawyd yn ein rhaglen ar gyfer llywodraethu. Bydd gan gynghorau sy'n cymryd rhan y dewis, ond wrth gwrs nid rhwymedigaeth, i godi ardoll ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety.378
A'r ail egwyddor, mae'r yr ardoll ymwelwyr o'ch blaen wedi'i seilio ar degwch, gan sicrhau bod costau cynnal a chadw'r seilwaith a'r gwasanaethau sy'n helpu i wneud Cymru yn gyrchfan mor atyniadol yn cael eu rhannu gan y rhai sy'n cael budd ohonyn nhw. Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, gyda llawer o gyrchfannau yn elwa ar godi tâl bach ond teg, ac mae'r Bil hwn yn caniatáu i Gymru ymuno â'r gymuned fyd-eang honno.379
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd Cabinet? Rwy'n sylweddoli eich bod yn gwneud cynnydd gyda'ch araith. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y norm, gydag ardollau ymwelwyr yn gyffredin mewn rhai rhannau o'r byd. Dydw i ddim yn dadlau hynny. Ond a ydych chi hefyd yn derbyn ei bod yn norm bod lefelau treth ar werth yn tueddu i gael eu gostwng yn sylweddol ar gyfer llety i ymwelwyr, ac felly mae hynny'n gwrthbwyso'n sylweddol iawn yr ardollau ymwelwyr sydd ar waith?380
Llywydd, Cymru fydd yr hanner canfed wlad yn y byd i gyflwyno ardoll ymwelwyr, pe bai'r Bil hwn yn mynd rhagddo. Mae gan rai o'r gwledydd hynny dreth ar werth, ond nid oes gan lawer ohonyn nhw dreth ar werth. Mae'n un o'r nifer o newidynnau, ac nid yw'n ddadl. Nid yw'n ddadl gymhellol yn erbyn y mesurau sydd ger bron y Senedd.381
Nawr, yng Nghymru bydd gan ein hawdurdodau lleol y gallu i sicrhau y bydd ymwelwyr yn cyfrannu tuag at gynnal yr union rinweddau a'u denodd i ardal yn y lle cyntaf. Pe bai pob un o'r 22 awdurdod lleol yn gweithredu ardoll ymwelwyr, rydym yn amcangyfrif y gallai gynhyrchu hyd at £33 miliwn mewn blwyddyn lawn, buddsoddiad sylweddol yn llwyddiant y diwydiant yn y dyfodol.382
Yn drydydd, Llywydd, mae'r Bil wedi'i gynllunio i fodloni egwyddorion treth craidd Llywodraeth Cymru. Mae'n syml, yn ddiamwys ac yn deg. Mae ardoll gyfradd unffurf, fel yr ydym ni'n ei gynnig, yn syml i'w ddeall, mae'n glir i ymwelwyr a darparwyr fel ei gilydd. Ar ben hynny, mae'n syml i'w weinyddu. Dim ond un ffurflen flynyddol y bydd yn ofynnol i'r rhan fwyaf o fusnesau bach ei chyflwyno, a bydd gan bob busnes y dewis o gyflwyno'r ffurflen honno drwy asiant.383
Ac yn olaf, mae'n deg. Mae'n deg oherwydd mae'r ardoll yn seiliedig ar faint o ymwelwyr sy'n aros dros nos a faint o nosweithiau maen nhw'n aros, gan sicrhau cyfraniad cymesur. Ac mewn ymdrech bellach i sicrhau tegwch yr ardoll, rydym ni hefyd wedi darparu ar gyfer cyfradd is—cyfradd is sy'n berthnasol i aros mewn llety a rennir ar gaeau gwersylla, gan gydnabod bod y rhain yn aml yn cael eu darparu ar sail fwy fforddiadwy. A, Llywydd, mewn unrhyw achos, mae sylfaen eang yr ardoll yn golygu bod y cyfraddau arfaethedig yn is na'r ardollau cymharol a godir mewn cyrchfannau eraill ac yn cynrychioli canran fach, ac yn y rhan fwyaf o achosion canran fach iawn, o gost gyffredinol ymweliad.384
Mewn pedwaredd egwyddor allweddol, mae'r Bil yn taro cydbwysedd rhwng trefniadau cenedlaethol a disgresiwn lleol. Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol bod yr ardoll yn cael ei chymhwyso i reoli a gwella cyrchfannau lle bynnag y codir ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Tryloywder yw'r offeryn a fydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd. Rhaid i unrhyw brif gyngor sy'n dymuno cyflwyno ardoll ymwelwyr ymgynghori ar y cynnig hwnnw, rhaid iddo gadw'r refeniw mewn cyfrif ar wahân a rhaid iddo gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn, sy'n dangos sut mae'r refeniw hwnnw wedi'i wario yn unol â gofynion y Bil.385
Nawr, Llywydd, cyn troi at adroddiadau pwyllgorau, fe ddylwn i ddweud rhywbeth am y gofrestr genedlaethol newydd y mae'r Bil hefyd yn darparu ar ei chyfer. Bydd y gofrestr yn cofnodi darparwyr llety ymwelwyr a'r llety ei hun. Bydd y gofrestr yn garreg sylfaen bwysig ar gyfer sawl maes polisi. Bydd yn cefnogi casglu a gweinyddu'r ardoll yn effeithlon, yn darparu data gwerthfawr i lywio datblygiad twristiaeth ac yn galluogi awdurdodau lleol i ddeall yn well sut mae llety yn eu hardal yn cael ei ddefnyddio. Bydd y gofrestr yn cael ei sefydlu a'i chynnal gan Awdurdod Refeniw Cymru, gan ddod â'i arbenigedd sefydledig i'r maes polisi newydd hwn. Bydd hefyd yn dod â'i ddull cydweithredol o weithio gyda'r sector, gan helpu darparwyr i wybod ble a sut i gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer cofrestru a'r ardoll ei hun.386
Llywydd, trof yn awr at faterion a godwyd wrth graffu yn ystod Cyfnod 1. Cynigiodd nifer o dystion y dylai'r Bil ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan sefydlu fforwm ardoll ymwelwyr i alluogi cymunedau, busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu yn y sector twristiaeth i ddylanwadu ar sut y byddai refeniw o'r ardoll yn cael ei ddyrannu. Yn eu hadroddiad, cymeradwyodd y Pwyllgor Cyllid y cynnig hwnnw. Rwy'n gobeithio gweithio gyda'r pwyllgor fel y gellir cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod trefniadau partneriaeth effeithiol rhwng prif gynghorau, busnesau a chymunedau lleol wrth benderfynu sut orau i ddyrannu refeniw ardoll ymwelwyr.387
Yn ail, gallaf gadarnhau y prynhawn yma y bydd y pwerau gwneud rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil mewn perthynas â'r darpariaethau cofrestru yn ddarostyngedig i welliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, fel y nodir yn fy nhystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid. Roedd y Bil, fel y'i cyflwynwyd ym mis Tachwedd 2024, yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cofrestru ond roedd ganddo hefyd bwerau gwneud rheoliadau sylweddol yn Rhan 2, lle roedd angen datblygu polisi pellach. Cafwyd y datblygiad hwnnw bellach a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i ddisodli neu ddiwygio'r pwerau gwneud rheoliadau o dan Ran 2(7) o'r Bil. Mae disgwyl i fy swyddogion gwrdd â'r Pwyllgor Cyllid ddydd Iau yr wythnos hon ynghylch sut yr aethpwyd ati gyda'r gwelliannau arfaethedig, ac mae'r gwelliannau hynny wedi'u rhannu gyda'r pwyllgor y prynhawn yma. 388
Rwy'n troi yn awr at y mater o ddisgresiwn y prif gyngor mewn perthynas â'r ardoll. Clywodd y Pwyllgor Cyllid farn gyferbyniol am y pŵer yn y Bil i brif gynghorau godi swm ychwanegol yn ôl eu hamgylchiadau lleol. Yn sesiwn olaf y Pwyllgor Cyllid ym mis Chwefror, ymrwymais i adolygu faint o hyblygrwydd sydd gan y prif gynghorau i godi swm ychwanegol o'r fath. Fy nghasgliad yw y dylai'r Bil wneud darpariaeth o'r fath, ond y dylid gohirio'r defnydd o'r pwerau hyn nes bod yr ardoll ei hun wedi'i gyflwyno ac wedi cael cyfle i ymwreiddio. Felly, byddaf yn cyflwyno pŵer rheoleiddio ychwanegol yng Nghyfnod 2 a fydd yn caniatáu i brif gynghorau godi swm ychwanegol, ond ar ôl cyflwyno'r ardoll ei hun, ac nid ar yr un pryd.389
Llywydd, mae'n debyg mai'r thema fwyaf cyffredin a drafodwyd gan y pwyllgor wrth graffu yn ystod Cyfnod 1 oedd a yw'n deg cymhwyso'r ardoll i blant a phobl ifanc. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl hollol briodol ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hystyriaeth ofalus o'r mater hwn. Rwy'n falch fy mod wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor i ddarparu data i'r Senedd ar y mater hwn. Fodd bynnag, gallaf roi gwybod i'r Aelodau y prynhawn yma, ar ôl darllen adroddiad y pwyllgor ac ar ôl ystyried eto y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, fy mod wedi penderfynu mynd ymhellach na'r argymhelliad ei hun. Yng Nghyfnod 2, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i eithrio pobl dan 18 oed sy'n aros mewn llety â sgôr is o'r ardoll yn gyfan gwbl. Bydd hyn yn ychwanegu at natur flaengar y Bil a bydd, rwy'n credu, yn ymateb i'r farn a gyflwynwyd gan sefydliadau ieuenctid ac eraill i ddiwygio'r Bil yn y modd hwn. Ond, Llywydd, rhaid i mi bwysleisio bod yn rhaid gwneud iawn am unrhyw ostyngiad yn sylfaen eang yr ardoll gan ffioedd uwch ar yr ymweliadau hynny sy'n parhau i fod o fewn cwmpas. Felly, bydd gwelliant Cyfnod 2 hefyd yn cynyddu'r ardoll ar y rhai y caiff ei chodi arnyn nhw o'r 75c a gynigiwyd yn wreiddiol i 80c, ac o £1.25 i £1.30 y noson ar gyfer y gyfradd uwch.390
Llywydd, yn ystod Cyfnod 1, mae llawer o awgrymiadau wedi'u gwneud ar gyfer eithriadau o'r ardoll. Y newidiadau i driniaeth plant yw'r unig rai rwy'n bwriadu eu cyflwyno. Mae eithriadau yn anochel yn achosi cymhlethdod. Maen nhw'n erydu'r egwyddor o symlrwydd, maen nhw'n ychwanegu costau gweinyddol i'r rhai sy'n darparu llety, maen nhw'n lleihau'r refeniw a godir gan awdurdodau lleol, neu, fel yr wyf wedi dangos y prynhawn yma, yn achosi i'r ardoll gael ei chynyddu ar gyfer y talwyr sy'n weddill. Am yr holl resymau hynny, nid yw'r Llywodraeth yn bwriadu mynd y tu hwnt i'r newidiadau yr wyf newydd eu nodi, ac rwy'n nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud unrhyw argymhelliad y dylwn wneud hynny.391
Llywydd, mae’r Bil sydd o flaen y Senedd heddiw wedi elwa o gyngor a chefnogaeth llawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a’r diwydiant twristiaeth. Dwi’n ddiolchgar am eu cymorth, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y blynyddoedd i ddod. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i gydweithwyr yma yn y Senedd sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu. Dwi wedi dweud sawl gwaith dros y blynyddoedd nad ydw i erioed wedi gweld Bil sydd heb gael ei wella gan y craffu sy’n digwydd yma, ac mae hynny’n wir am y Bil ardoll ymwelwyr, a dwi’n ei argymell i’r Senedd.392
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.393
Diolch, Llywydd. Dwi'n falch o allu siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil yma. Hoffwn i hefyd ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd i’n hymchwiliad, gan gynnwys pawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a phawb a ddaeth i’r sesiynau tystiolaeth lafar. Clywsom ni amrywiaeth eang o safbwyntiau, ac roedd y rheini’n allweddol o ran llunio ein hargymhellion a’n casgliadau. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad ac am ei ymateb i’n hadroddiad yn dilyn hynny, ac rwy’n falch o weld ei fod wedi derbyn ein hargymhellion i gyd, un ai yn llawn neu mewn egwyddor.394
Rwyf am ddechrau gyda'n barn ar yr egwyddorion cyffredinol. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym ni fod y syniad o ardoll dwristiaeth wedi bod ar y gweill ers peth amser, dywedodd tystion wrthym ni am effaith gronnol polisïau'r Llywodraeth ar y sector twristiaeth, yn ogystal â'r heriau a wynebir yn dilyn y pandemig, a chwestiynwyd a allai'r ardoll arfaethedig atal ymwelwyr ac arwain at effaith niweidiol ar y diwydiant twristiaeth. Er mwyn sicrhau llwyddiant yr ardoll, bydd yn hanfodol ennill ymddiriedaeth y rhanddeiliaid hyn, ac mae ein hadroddiad yn ceisio ystyried hyn trwy gydol ei argymhellion.395
Ni fu i ni ddod i benderfyniad unfrydol ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gyda thri o bedwar Aelod yn eu cefnogi. Cytunodd mwyafrif y pwyllgor fod modd i'r ardoll wella seilwaith a gwasanaethau mewn ardaloedd lleol, er budd twristiaid a'r economi leol. Nid oedd Sam Rowlands yn cefnogi'r Bil i fynd rhagddo y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd yn amlinellu'r rhesymau dros hyn yn ei gyfraniad. Serch hynny, fe wnaethom ni gytuno ar nifer o feysydd lle dylid gwneud gwelliannau i'r Bil, y byddaf yn eu hamlinellu heddiw.396
Elfen allweddol ar gyfer llwyddiant hirdymor y polisi hwn fydd deall effaith cofrestru gorfodol ar ddarparwyr llety ymwelwyr ac effeithiolrwydd unrhyw gynlluniau ardoll ymwelwyr cychwynnol. Am y rheswm hwn, galwn ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil i ymrwymo i gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf gyfan, ac i'r adolygiad hwn ddigwydd heb fod yn hwyrach na phedair blynedd ar ôl i Ran 2 o'r Ddeddf ddod i rym. Croesawaf y sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, mewn ymateb i'n hargymhellion, bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y dylid cynnal adolygiad o'r fath.397
Rydym yn cydnabod y gallai'r Bil gyflwyno heriau i sefydliadau sy'n ceisio sefydlu a fyddai ei ddarpariaethau yn berthnasol i'w trefniadau penodol. Dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Refeniw Cymru sicrhau bod canllawiau ar gyfer darparwyr llety yn cael eu targedu'n briodol, ac rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut i gymhwyso'r gofynion cofrestru.398
Rydym yn cytuno bod gan sefydlu cofrestr, fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 2 o'r Bil, y potensial i wella'r data sydd ar gael a bod yn sail i asesiadau o'i effaith yn y dyfodol yn well. Fodd bynnag, credwn y gellid cryfhau hyn ymhellach, ac rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil i ymrwymo i gyhoeddi adroddiadau cyfnodol, gan gynnwys data fel nifer a mathau o ddarparwyr a llety ar draws awdurdodau lleol, er mwyn llunio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Rwy'n nodi ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i gyhoeddi adroddiadau ar ddata ac yn croesawu hyn fel cam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n siomedig nad yw hyn yn mynd i gael ei ymgorffori yn y ddeddfwriaeth. Rydym ni hefyd yn nodi bod gwaith i'w wneud o hyd ar ddull Awdurdod Refeniw Cymru o ran gorfodi a chydymffurfio, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru am sut mae hyn yn mynd rhagddo.399
Pryder a godwyd dro ar ôl tro yn ystod ein gwaith craffu oedd y byddai'r Bil yn creu baich gweinyddol ychwanegol i fusnesau Cymru, yn enwedig gan fod nifer o ddarparwyr llety yn aml yn ficrofusnesau, sy'n aml yn llwyddo heb gymorth gweinyddol ychwanegol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni fod y Bil yn creu system ar gyfer gweithredu'r ardoll sy'n gymesur. Serch hynny, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod darparwyr yn ymwybodol o'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael iddyn nhw.400
Gan droi nawr at adran 14, sy'n galluogi prif gyngor i ychwanegu premiwm at gyfradd is a/neu uwch yr ardoll, awgrymodd rhai tystion y gallai'r premiwm ychwanegu cymhlethdod, a bod angen rhagor o wybodaeth. Rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried fframwaith cryfach ar gyfer yr elfen hon o'r Bil, ac yn gofyn iddo ddarparu rhagor o fanylion am ei fwriadau. Rwy'n croesawu eglurhad pellach yr Ysgrifennydd Cabinet ar yr adran hon a'i ymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau a wneir yng Nghyfnod 2 yn seiliedig ar dystiolaeth.401
Fe glywsom ni gefnogaeth trwy gydol y dystiolaeth ar gyfer eithriadau amrywiol i'r ardoll, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc, teithiau addysg a sefydliadau elusennol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni y byddai'r penderfyniad ar unrhyw eithriad posibl yn gyfaddawd, ac os yw'r sylfaen yn cael ei chulhau, fel yr eglurodd yn gynharach, byddai angen codi'r ardoll. Er ein bod yn derbyn y ddadl hon, roedd yn amlwg bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud rhywfaint o fodelu, yn enwedig yn achos eithriadau posibl i blant. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru rannu'r dadansoddiad hwn gyda'r Senedd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gytuno i hyn, ac am ei sylwadau yn gynharach. Edrychaf ymlaen at weithio ar hynny, neu edrych ar y gwelliant hwnnw, yng Nghyfnod 2.402
Symudaf ymlaen nawr, gyda'r ardoll i'w defnyddio gan brif gynghorau. Fe glywsom ni ystod o safbwyntiau ar y rhestr o feysydd yn y Bil lle gellir gwario elw yr ardoll, ac fe ddaethom ni i'r casgliad bod y dull yn caniatáu'r hyblygrwydd angenrheidiol i gyflawni bwriad y polisi. Fodd bynnag, fe glywsom ni bryderon dro ar ôl tro y gellid defnyddio'r ardoll i ddisodli'r cyllid presennol gan awdurdodau lleol. Er ein bod yn nodi'r sicrwydd a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd elw yr ardoll yn darparu cyllid ychwanegol, rydym yn cytuno â'r farn y byddai dod â chynrychiolwyr diwydiant lleol ynghyd ar y mater hwn yn ffordd effeithiol a chadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth.403
Mae Deddf Ardoll Ymwelwyr (Yr Alban) 2024 yn darparu ar gyfer sefydlu fforymau ardoll ymwelwyr gorfodol lle mae prif gynghorau yn penderfynu cyflwyno'r ardoll, ac, ar ôl gwrando ar rai o'r safbwyntiau cryf a fynegwyd wrth graffu, credwn y gallai dull o'r fath fod yn fuddiol yng Nghymru. Byddai hyn yn caniatáu dull cydweithredol ac adeiladol o gytuno ar flaenoriaethau o ran gwario'r ardoll, a fyddai, yn ei dro, yn cryfhau'r berthynas rhwng prif gynghorau a'u rhanddeiliaid ac yn taflu goleuni ar y penderfyniadau a wneir. Rwy'n falch y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno gwelliannau i ddarparu ar gyfer creu fforymau ymwelwyr, ac edrychaf ymlaen at weithio ar fanylion y gwelliannau hyn maes o law.404
Yn unol â'r dull arferol o graffu ar Filiau, gwnaethon ni ystyried y goblygiadau ariannol. Er ein bod ni ar y cyfan yn fodlon ag effaith ariannol y Bil fel y'i nodir yn y RIA, roedden ni'n cytuno bod y diffyg data uniongyrchol ar gyfer llywio amcangyfrifon costau yn siomedig. Gwnaethon ni nodi, yn benodol, yr effaith ariannol ar awdurdodau lleol, ac roedden ni’n argymell y dylai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ag awdurdodau lleol ynglŷn â chostau parhaus ychwanegol, gan ddiwygio'r RIA ar ôl hynny.405
Yn olaf, gwnaethon ni ystyried y costau a fyddai'n disgyn ar Awdurdod Cyllid Cymru o'r Bil, yn enwedig gan fod yr effaith ar ei wasanaethau yn parhau i fod yn aneglur, ac rydym yn galw am ragor o fanylion ynghylch a oes ganddo gapasiti digonol i ddelio â'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, gyda diwygiadau i'r costau a nodwyd mewn ymateb i'n hargymhellion, a gofynnaf iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd yn y maes hwn.406
Rwy'n edrych ymlaen rŵan i glywed barn Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.407
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.408
Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i bedwar casgliad a gwnaeth 16 o argymhellion. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno'r Bil i'r Senedd pan wnaeth hynny. Mae'r pwyllgor wedi cydnabod ysbryd y ffordd y rhannwyd y darpariaethau drafft ar gyfer gwelliannau Cyfnod 2 gyda phwyllgorau, ac wedi croesawu bwriadau da yr Ysgrifennydd Cabinet.409
Mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod y pwerau gwneud rheoliadau yn adrannau 2(5) a 9(5) yn bwerau sylweddol, gan newid ystyr 'llety ymwelwyr', a newid yr amgylchiadau lle mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd ac a yw'r ardoll yn berthnasol. Mae gan y ddau y potensial i ymestyn atebolrwydd trethdalwr o dan y Bil. Felly, gofynnodd argymhellion 5 a 9 i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oedd y Llywodraeth yn ystyried llunio'r pwerau gwneud rheoliadau yn rhai darostyngedig i weithdrefn uwch-gadarnhaol.410
Mae'r pwyllgor yn credu bod adran 7 yn enghraifft glir o'r anawsterau i'r Senedd wrth ystyried deddfwriaeth sy'n dal i gael ei datblygu gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 1. Mae bwriad y Llywodraeth ynglŷn â system gofrestru wedi cael ei ddrysu trwy'r drafftio dangosol ar gyfer darpariaethau newydd yn fuan ar ôl dechrau craffu yng Nghyfnod 1. Felly, yn argymhelliad 6, mae'r pwyllgor wedi dweud y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio unrhyw bwerau ychwanegol arfaethedig y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 ynglŷn â chofrestru darparwyr llety ymwelwyr a data cysylltiedig.411
O ran gweithredu Rhan 2 o'r Bil, mae'r pwyllgor wedi nodi mai bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet yw dechrau Rhan 2 fesul prif ardaloedd cyngor fesul cam. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai fod sicrwydd yn y gyfraith ynghylch pryd y bydd y gofrestr yn weithredol. Mae Argymhelliad 8 yn nodi y dylid diwygio adran 44 o'r Bil fel bod Rhan 2 o'r Bil yn dod i rym heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2029, a dylai Gweinidogion Cymru fod â'r gallu i ddod â Rhan 2 i rym ar ddyddiad cynharach drwy Orchymyn.412
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi disgrifio'r pŵer yn adran 37 i osod gofynion hysbysebu a bilio ar ddarparwyr llety ymwelwyr fel pŵer bwriadol eang. Mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad ei bod yn amhriodol ceisio pŵer mor fwriadol eang heb unrhyw fwriad i'w ddefnyddio.413
Mae gan y pwyllgor bryderon hefyd gyda'r cyfiawnhad a roddwyd bod angen adran 40 am resymau sy'n diogelu i'r dyfodol. Mae diogelu at y dyfodol yn y modd hwn, a fyddai'n galluogi unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol i weithredu mewn modd nad yw'n cael unrhyw ystyriaeth gan y Senedd hon, yn disgyn yn is na safon yr hyn y byddai llawer yn ei ystyried yn gyfansoddiadol. Pe bai adran 40 yn aros yn y Bil, mae argymhelliad 15 yn nodi y dylid ei diwygio fel bod y pŵer gwneud rheoliadau yn ddarostyngedig, unwaith eto, i weithdrefn graffu uwch-gadarnhaol.414
A gaf i symud ymlaen at fy marn ar y Bil nawr, yn hytrach na barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad? Rwy'n cefnogi'r ardoll ymwelwyr yn fawr. Mae trethi twristiaeth yn cael eu cyflwyno gan Lywodraethau i frwydro yn erbyn y problemau sy'n dod gyda gor-dwristiaeth a sicrhau bod pobl sy'n ymweld â'r wlad yn cadw ei heconomi yn ffynnu ac yn talu'r costau ychwanegol y maen nhw'n eu creu. Y cwestiwn yw: pam ydym ni wedi aros mor hir? Yn y DU, mae Caeredin ar fin cyflwyno ei threth dwristiaeth gyntaf ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Caiff y tâl hwn ei ychwanegu at unrhyw lety sydd wedi'i archebu yn y ddinas ar gyfer teithiau a archebir ar ôl 1 Hydref 2025 ac sy'n digwydd o 24 Gorffennaf 2026. Bydd yn berthnasol i bob ymwelydd, gan gynnwys dinasyddion yr Alban a'r DU. Mae gan Fanceinion un, mae'r Peak District yn cynnig un. Rwy'n disgwyl i fwy ym Mhrydain ddilyn. Cyflwynodd llawer o wledydd a dinasoedd dreth dwristiaeth yn 2023, ac mae disgwyl i lawer mwy gyflwyno eu treth yn 2024. Nid yw treth twristiaeth yn beth newydd. Mae'n debyg ein bod ni wedi talu un o'r blaen, yn rhan o gost tocyn awyren neu'r dreth a dalwyd yn eich gwesty. Gwyddom y bu gan Ffrainc un ers dros 100 mlynedd.415
Rydym ni hefyd yn gwybod beth sy'n digwydd pan fydd gennym ni ddigwyddiadau mawr. Mae gwestai yn codi tâl dros ddwbl y gyfradd arferol ar gyfer nosweithiau cyngerdd Oasis. Mae gwestai Caerdydd o leiaf dair gwaith yn ddrytach ar gyfer y gig aduniad cyntaf—416
A wnewch chi dderbyn ymyriad?417
A gaf i orffen y frawddeg hon? O'r 25 gwesty a ddadansoddwyd, Gwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd arweiniodd y cynnydd prisiau, gan gynyddu cyfraddau 319 y cant ar gyfer cymal agoriadol y daith ar 4 Gorffennaf. Wrth gwrs.418
Diolch. Roeddwn yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ddydd Iau, ac roedd athro yno a oedd wedi siarad ar y llwyfan yn ystod yr uwchgynhadledd honno, gan sôn am yr union beth rydych chi wedi'i grybwyll, Ysgrifennydd Cabinet, bod 50 o wledydd wedi gorfodi hyn. Gofynnais iddo, 'Pa un o'r 50 gwlad hynny sydd â'r un gyfradd TAW ag sydd gennym ni yma yn y wlad hon?' Dim un. Oni fyddech chi'n dweud nad yw hyn yn ddim mwy na Llywodraeth Cymru yn rhoi baich pellach o gasglu trethi ar y busnesau hyn, ac nad yw'n mynd i helpu ein diwydiant twristiaeth yr un iot?419
Ond mae gan bob un ohonyn nhw dreth incwm sylweddol is—mae'n ddrwg gen i, treth incwm sylweddol uwch. Rydym ni'n sylweddol is o ran treth incwm; maen nhw'n sylweddol uwch. [Torri ar draws.] Allwch chi ddim edrych ar un dreth neu ddwy dreth yn unig. Maen nhw'n amrywio. Maen nhw'n amrywio o wlad i wlad.420
Roedd cefnogwyr wedi'u syfrdanu gan faint roedd y prisiau wedi cynyddu. Ysgrifennodd un person ar y safle blogio cyfryngau cymdeithasol X:421
'Mae gwallgofrwydd y daith @oasis wedi dechrau eisoes, un noson mewn gwesty yng Nghaerdydd ar gyfer y gig cyntaf £424 !!'422
Dywedodd rhywun arall, os ydych chi'n edrych ar y gwestai, lleoliad a dyddiadau taith Oasis, maen nhw i gyd naill ai wedi gwerthu allan drwy ryw ddirgelwch, neu mae'r prisiau wedi treblu. O fewn pum munud i Oasis gyhoeddi eu gigs, mewn gwesty cyffredin iawn yn Abertawe, cynyddodd prisiau'n chwerthinllyd. Nid gwestai yn unig yw hyn; cynyddodd Airbnbs a thai gwestai eu prisiau. Er nad oedd y cynnydd o'r un maint, cynyddodd llawer o westai rhwng Casnewydd ac Abertawe eu prisiau hefyd.423
Roedd yna effaith Taylor Swift hefyd. Cynyddodd y gwesty moethus, y Parkgate, sy'n agos iawn at Stadiwm Principality, eu prisiau yn sylweddol ar gyfer Mehefin 2024 pan oedd Taylor Swift yno. Wrth gymharu'r pris, roedd un ystafell i un oedolyn yn £115 ar y dyddiad rhataf y gallwn i ddod o hyd iddo; i Taylor Swift, roedd yn £588. Costiodd y digwyddiadau mawr hyn arian i'r cyngor lleol—swm sylweddol o arian. Mae angen gosod a thynnu toiledau cludadwy ychwanegol. Mae angen ymgyrch fawr i lanhau strydoedd i glirio ar ôl cyngerdd mawr. Mae'r rhain yn ddrud.424
Ac yn olaf, nid wyf yn mynd i'w crybwyll i gyd, oherwydd ni fyddwch yn gadael i mi, Llywydd, ond mae rhestr hir o wledydd ledled Ewrop sydd â'r dreth hon. Mae'n normal. Pam ydym ni eisiau bod yn wahanol?425
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r cynnig yma i ni heddiw, ac am ei hysbysiad o welliannau arfaethedig i'w cyflwyno hefyd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am amlinellu barn y pwyllgor a fy marn bersonol yn y pwyllgor hwnnw hefyd. Rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgor o ran nifer y tystion a gawsom ni yn ystod y sesiynau hynny dros y misoedd diwethaf.426
Mae cyd-destun y cynnig hwn yma heddiw, fodd bynnag, yn bwysig iawn i'w ddeall. Mae'r rhain yn amseroedd anodd i'n heconomi yn y DU, ac yn sicr yma yng Nghymru. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur Cymru, mae gweithwyr Cymru yn mynd adref â'r pecynnau cyflog ysgafnaf yn y Deyrnas Unedig. Cymru hefyd sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf o unrhyw ran o'r DU, a'r lefelau isaf o incwm gwario gros y pen. A beth yw'r ateb i'r problemau hyn? Wel, i Lafur Cymru, fel erioed, awydd i gyflwyno treth newydd, ac mae hon wedi'i hanelu at bobl sy'n rhoi arian i mewn i economi Cymru.427
Nawr, mae yna egwyddor sylfaenol ynghylch gwirionedd trethiant, sef beth bynnag rydych chi'n trethu, fe gewch chi lai ohono, a dyna pam rydym ni'n trethu pethau fel smygu, oherwydd mae arnom ni eisiau llai ohono. Beth bynnag rydych chi'n trethu, fe gewch chi lai ohono. Bydd y dreth hon yn achosi i lefelau twristiaeth ostwng. Y cynnig hwn heddiw yw'r union ddiffiniad o frathu'r llaw sy'n eich bwydo. [Torri ar draws.] Yn sicr.428
Rydych chi newydd nodi bod llawer o bobl ar gyflogau isel yng Nghymru. Ydych chi'n meddwl felly ei bod hi'n dderbyniol eu bod yn talu'r dreth gyngor i ddarparu ar gyfer ymwelwyr, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb?429
Dydw i ddim yn hollol siŵr beth oedd eich pwynt. 430
Mae yna bwynt.431
Mae'r dreth gyngor ar gyfer ardrethi domestig i bobl sy'n byw mewn cartref. Rydym ni'n siarad am dreth ar ymwelwyr sy'n dod i'n hardal.432
Mae darparwyr twristiaeth ar hyd a lled Cymru yn bryderus iawn am y dreth dwristiaeth hon. Mae'n amlwg bod twristiaeth yn rhan greiddiol o'n heconomi yng Nghymru ac yn cefnogi nifer fawr o swyddi, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin. Mae data o 2022 yn dangos bod y sector twristiaeth yn cyfrif am tua un o bob wyth swydd a chyfran sylweddol o werth ychwanegol gros. Mae'n cyflogi pobl ledled Cymru gyfan, gan ddarparu swyddi ar adeg pan fo llawer gormod o bobl yng Nghymru heb waith. Roedd hyd yn oed ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at y risg o filiynau o bunnau i'r economi o ganlyniad i'r dreth dwristiaeth, ac mae'r ffigurau'n dangos y potensial o golli swyddi'n sylweddol hefyd. Nid yw ergyd economaidd flynyddol o tua £47.5 miliwn yn rhywbeth y gall economi Cymru ei fforddio, yn enwedig pan fo twristiaeth yn un o'r meysydd sydd wedi bod yn llwyddiant go iawn i Gymru. Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod bobl eisiau dod i ymweld â Chymru a mwynhau ein golygfeydd syfrdanol neu safleoedd hanesyddol a diwylliannol epig. Fe hoffwn i i fwy o bobl fwynhau Cymru yn hytrach na cheisio eu gwthio i ffwrdd gyda threth dwristiaeth.433
Rydym ni eisoes wedi clywed gan y pleidiau yma gyferbyn bod y math yma o dreth yn cael ei defnyddio mewn gwledydd eraill ledled y byd, ac mae cyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru eisoes ymhlith y gwledydd sy'n cael eu trethu fwyaf yn y byd o ran y sector hwn. Yn wir, o'r 115 o wledydd cyrchfan uchaf yn y byd, mae'r DU yn rhif 113 o ran lefel y dreth a delir gan y sector twristiaeth a lletygarwch. Rydym ni wedi clywed sylwadau eisoes sy'n swnio fel pe na bai'r sector hwn yn talu i'r system. Mae'n talu'n sylweddol i'r system, trwy dreth ar werth, trwy yswiriant gwladol, trwy dreth gorfforaeth, trwy ardrethi annomestig—pob treth bosib. Mae'r sector hwn yn talu ei ffordd a dylai ddisgwyl i'r gwasanaethau yn eu hardaloedd adlewyrchu'r cyfraniad hwn.434
Rydym ni hefyd wedi clywed gan y pleidiau gyferbyn heddiw mai dim ond ychydig bunnau, cyfran fach neu ganran fach o wyliau teulu neu unigolyn yw hyn. Mae hwn yn safbwynt wedi ei gamddeall yn llwyr. Y gwir yw y bydd hyn yn taro pobl o bob math o gefndiroedd sy'n mynd ar wyliau. Rwy'n ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yr effaith ar blant dan 18 yn arbennig. Mae'n wyliau teuluol ar y meysydd gwersylla hynny. Mae'r Caravan and Motorhome Club, yr wyf yn aelod ohono, wedi rhannu, i deulu o bedwar, o dan y cynigion cychwynnol, ar gae o £30, y byddai'r dreth yn golygu cynnydd o 12 y cant i gost eu gwyliau. Ac mae'r Professional Association of Self Caterers yn amcangyfrif y byddai, yn ystod hanner tymor mis Hydref, yn cyfateb i 17 y cant o gost ymweliad teuluol. Felly, rwy'n ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar yr effaith ar deuluoedd, a bydd gen i ddiddordeb gweld y cynigion ar gyfer y gwelliannau wrth eu cyflwyno, oherwydd mae hyn yn gyfran sylweddol o gostau rhai teuluoedd ar gyfer eu gwyliau.435
Mae llu o bryderon penodol yn y Bil y byddaf yn eu crybwyll wrth i ni fynd trwy'r broses hon: mae'r diffyg hyblygrwydd yn un; mae tâl yn cael ei godi ar blant o hyd, er bod elfen o hynny wedi'i haddasu, fel yr ydym ni wedi clywed yma heddiw; rwy'n pryderu bod y dreth hon yn effeithio ar sefydliadau addysgol a gwirfoddol; y problemau posibl ynghylch y premiwm, y mae'r Ysgrifennydd Cabinet eto wedi cydnabod yma heddiw, nad oedd yn rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon; a'r baich ychwanegol ar ddarparwyr llety bach, sydd eisoes wedi'u llethu o ran y weinyddiaeth ychwanegol y bydd hon yn ei chyflwyno.436
Felly, i gloi, Llywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir ein bod yn gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon, oherwydd credwn fod angen anogaeth a chefnogaeth ar sector twristiaeth Cymru. Mae angen Llywodraeth Cymru sy'n croesawu ymwelwyr i Gymru a'r arian y maen nhw'n ei wario yn ein gwestai, ein bwytai, ein caffis a'n hatyniadau, cefnogi swyddi, cefnogi ein cymunedau, gwneud Cymru yn lle hyd yn oed yn fwy bywiog. Felly, byddwn yn galw ar Lafur a Phlaid Cymru yma heddiw i wrando ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch mewn gwirionedd. Sefwch gyda ni fel Ceidwadwyr Cymreig, gan fod arnom ni eisiau rhoi terfyn ar y dreth a gwrthwynebu egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw. Nid ydym ni'n ymddiheuro wrth wrthwynebu ymosodiad Llywodraeth Cymru ar ein sector twristiaeth. Diolch yn fawr iawn. 437
Rydym ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Bu i lefarydd y Ceidwadwyr—[Torri ar draws.]438
Gaf i glywed beth mae Luke Fletcher newydd ddechrau ei ddweud? Gawn ni rywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda, ar gyfer hynny? Diolch, Luke.439
Diolch, Llywydd. Roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn hollol gywir, mae angen i ni wrando ar leisiau'r bobl yn y diwydiant. Mae yna, wrth gwrs, ddau lais y mae angen gwrando arnyn nhw, fodd bynnag: y rhai yn y diwydiant a rhai ein cymunedau lleol. A'r gwir amdani yw nad yw'r ffordd bresennol rydym ni'n ymdrin â thwristiaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae angen cydbwysedd rhwng profiad ymwelwyr ac yna profiad pobl leol, oherwydd ers rhy hir, rydym ni wedi gweld model echdynnol sy'n rhoi pwysau anghynaladwy ar ein cymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny, wrth gwrs, lle mae twristiaeth ar ei fwyaf dwys. Yn y bôn, yr hyn mae arnom ni eisiau ei weld yw economi lle mae twristiaeth yn nodwedd gynaliadwy sy'n rhoi gwerth ychwanegol, a gall hynny ddigwydd dim ond os ydym yn ceisio cael y cydbwysedd y soniais amdano yn gynharach, ac y llwyddir i gael y cydbwysedd hwnnw.440
Does dim dianc rhag hyn, ac rwy'n gwybod ei fod yn anodd ei dderbyn, ond mae'r math hwn o fesur yn arfer safonol ar draws llawer o'r byd. Mae dinasoedd mewn gwledydd ledled Ewrop a thu hwnt wedi gweithredu ardollau ymwelwyr ers amser maith heb unrhyw effaith niweidiol ar eu sectorau twristiaeth, felly gellir dadlau bod hon yn duedd sy'n tynnu sylw at gydnabyddiaeth gynyddol o ardollau ymwelwyr fel ffordd gynaliadwy o gefnogi economïau lleol a seilwaith twristiaeth. A wyddoch chi beth? Yn yr Alban, mae gan bob awdurdod lleol bellach y pŵer i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Bydd rhai yn symud ymlaen gyda hynny, bydd rhai yn dewis peidio â gwneud hynny. Yr un fydd y sefyllfa yma yng Nghymru. Mae Manceinion wedi dechrau codi tâl ar ymwelwyr i'r ddinas ac mae Llundain yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg. Felly, nid yw Cymru yn dilyn ei llwybr ei hun yma, ond mae'n gweithredu yn unol â llawer o lefydd yn y DU a'r tu hwnt.441
Ond mae gweithredu yn bwysig. Rhaid cyflwyno ardoll deg, effeithiol mewn cydweithrediad â'r diwydiant, fel y dywedais, a chydag ystyriaeth briodol i unrhyw ganlyniadau anfwriadol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet wrth i ni weithio trwy rai o'r gwelliannau hynny y soniodd amdanyn nhw'n gynharach. Byddwn yn croesawu'r eithriad yn arbennig i'r rhai dan 18 oed. Byddai gen i ddiddordeb dim ond deall sut y byddai hynny'n gweithio gyda theithiau addysgol yn y tymor hir, ac a yw hynny hefyd yn golygu bod teithiau addysgol eu hunain wedi'u heithrio. Os na, byddai hynny'n rhywbeth y byddai gen i ddiddordeb mawr ei archwilio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet.442
Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn trafodaethau ynghylch gwelliant posibl ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod pobl sy'n defnyddio llety brys a dros dro yn cael eu heithrio wrth gyrraedd y llety hwnnw, yn hytrach na'i bod yn ofynnol iddyn nhw wneud cais am ad-daliad. Mae yna lawer o bryderon yno o ran, o bosibl, y bobl hynny nad ydyn nhw'n gwneud cais am yr ad-daliad hwnnw ac felly yn gwario arian pan na ddylen nhw orfod gwneud hynny.443
A byddai gen i ddiddordeb hefyd, mewn gwirionedd, cael y drafodaeth honno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â sut y gallwn ni ystyried dull haenog i'r ardoll, felly gan ystyried gwahaniaethu rhwng darparwyr llety annibynnol bach a chadwyni llety mwy, yr wyf yn derbyn y byddai'n gymhleth. Fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ffordd y byddai'r ardoll bresennol yn gweithredu, fel y cynigir, yn ffordd symlach o wneud pethau, ond byddai ardoll is i fusnesau lleol yn cymell twristiaid i gefnogi sefydliadau annibynnol, ac yna'n helpu i gadw cyfoeth yn ein cymunedau, gan sicrhau bod manteision economaidd twristiaeth yn parhau yng Nghymru yn hytrach na chael eu hechdynnu gan rai o'r darparwyr trawsffiniol mwy.444
Yn y pen draw, llwyddiant y Bil hwn fydd y ffordd y mae'n cefnogi twristiaeth gynaliadwy wrth fod o fudd i bobl leol. Felly, rhaid defnyddio'r arian a godir mewn ffordd dryloyw, fel y dadleua'r Ysgrifennydd Cabinet yn gywir, ac yn effeithiol i fuddsoddi mewn rheoli cyrchfannau, gwella'r seilwaith hwnnw a gwella profiad ymwelwyr mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau. Mae'n rhaid mai dyna'r llinell waelod.445
Fe hoffwn i ddim ond dychwelyd at yr anhawster yr oedd Sam Rowlands yn ei gael ynglŷn â deall y cysylltiad rhwng preswylwyr sy'n talu ardrethi domestig a'r gost o glirio ar ôl ymwelwyr. Yng Nghaerdydd, mae'n rhaid i ni dalu am y gost ychwanegol o blismona'r digwyddiadau mawr iawn hyn sy'n digwydd naill ai yn stadiwm y Mileniwm neu yn arena Motorpoint, lle mae cyngherddau mawr, neu yn wir yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Nid oes unrhyw arian ychwanegol yn dod i'r gwasanaeth heddlu yn ne Cymru oherwydd bod Caerdydd yn brifddinas lle mae gennym ni ddigwyddiadau mawr rheolaidd yn ogystal â nifer fawr o brotestiadau; mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn Llundain ac ym Manceinion ac yng Nghaeredin.446
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf yn cael anhawster deall beth ydych chi'n ceisio ei esbonio; yr hyn rydw i'n amlinellu yw bod y busnesau hyn eisoes yn talu'n sylweddol i'r gronfa dreth, ac felly, mae'n fater o'r fformiwla ariannu bryd hynny, nid ohonyn nhw'n talu treth. Maen nhw'n talu sawl swm o drethiant, yr wyf eisoes wedi'i amlinellu, sydd angen dod yn ôl i'r ardaloedd i'w hailddosbarthu'n briodol i ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu.447
Wel, pob lwc wrth siarad â Thrysorlys y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, mae pawb yn talu treth ar werth wrth brynu prydau bwyd neu unrhyw beth, yn union fel y gweddill ohonom ni, ond nid yw'r arian hwnnw o reidrwydd yn dod yn ôl i Gymru. Ond mae hyn yn ein galluogi i dalu am y clirio y mae'n rhaid ei wneud, oherwydd does arnom ni ddim eisiau i'n dinas fod yn hyllbeth.448
Yn ogystal â hynny, gadewch i ni edrych ar ardaloedd gwledig lle nad oes gennym y nifer fawr o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd sydd o bosibl yn gallu amsugno'r gost o gael ymwelwyr yn haws. Gadewch i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Eryri. Mae ganddyn nhw 5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, ac mae'n werth cryn dipyn o arian, y diwydiant twristiaeth, i'r ardal, ond yr arian ar gyfer glanhau'r mynyddoedd lle mae pobl yn taflu eu sbwriel, nid yw'n cael ei dalu gan y bobl sy'n darparu'r llety a'r bwytai. Mae'n cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyn o bryd, oherwydd mae'n dasg anodd iawn a—449
A wnewch chi dderbyn ymyriad, dim ond ar y materion hyn?450
Gwnaf.451
Edrychwch, rwy'n derbyn bod yna heriau gyda rhai pobl anghyfrifol sy'n taflu sbwriel. Mae llawer o'r rheiny yn drigolion anghyfrifol Cymru sy'n gollwng sbwriel ac yn mynd i'n parc cenedlaethol, nid pobl sydd o reidrwydd bob amser yn dod ac yn aros dros nos ac yn gwario llawer o arian yn yr economi leol. Yr hyn rydych chi wedi'i ddisgrifio yn nhermau parciau cenedlaethol yw—. Bydd llawer o'r unigolion hynny yn deithwyr dydd nad ydyn nhw'n mynd i wneud unrhyw gyfraniad o gwbl ar gyfer costau glanhau eu brechdanau, pecynnau bwyd neu beth bynnag maen nhw'n ei gario. Fe wyddom ni mai'r rhan fwyaf proffidiol o'r diwydiant twristiaeth yw'r bobl hynny sy'n aros dros nos yng Nghymru. Dyna sy'n rhoi arian i'n heconomi yn fwy nag unrhyw beth arall, yn enwedig yn fwy na theithwyr dydd. Felly, pam ydych chi'n meddwl ei bod hi'n syniad da cosbi pobl sy'n aros dros nos, yn hytrach na'r bobl hynny sy'n gollwng y sbwriel, a allai fod yn deithwyr dydd, neu yn bennaf yn deithwyr dydd?452
Fyddwn i ddim yn anghytuno â chi. Mae angen i ni gosbi unrhyw un sy'n gollwng sbwriel, oherwydd, yn amlwg, mae'n hyllbeth enfawr yn ogystal â'r niwed amgylcheddol sy'n cael ei greu gan y plastigau sy'n mynd i mewn i'r afonydd, ac ati. Ond nid yw'n gosb mewn gwirionedd i wneud cyfraniad tuag at yr ôl troed y mae ymwelwyr yn ei greu, a, byddai, byddai'n braf gallu codi tâl ar deithwyr dydd, ond, fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi nodi yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw hynny'n bosibl. Ydy, mae Trash Free Trails yn sôn am gynllun dychwelyd ernes, ac rwy'n cytuno, ond nid oes gennym ni gynllun dychwelyd ernes ar hyn o bryd i alluogi'r llygrwyr hynny, h.y. y cwmnïau hynny sy'n cynhyrchu'r diodydd hyn, i dalu iddyn nhw gael eu clirio.453
Fy mhwynt yw bod yn rhaid i ni mewn difrif calon weld busnesau yn gwneud cyfraniad bach. Rydym ni'n siarad am 80c y dydd. Am 10 noson, dyna £8, neu 14 noson, £11.32, rwy'n credu, yw'r ffigur cywir. Ac felly nid yw hyn yn swm sylweddol o arian yng nghost gyffredinol y llety. Does dim ffordd y gallaf i weld y gallem ni godi tâl ar deithwyr dydd, oni bai ein bod ni'n rhoi rhywfaint o arian ar y petrol sy'n cael ei werthu yng Nghymru neu rywbeth tebyg. Ond mae hon yn ffordd syml o gael swm bach iawn o arian a gyfrennir gan ymwelwyr at gostau'r agwedd amgylcheddol. Felly, rwy'n cefnogi'r egwyddor.454
A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod i a ni fel grŵp yn llwyr, yn gwbl gefnogol i'n busnesau lletygarwch, ein manwerthwyr, a'n bod yn llwyr yn erbyn hyn? Wel, i fod yn onest, mae'n eithaf ffiaidd. Nid ydym ni wedi dod allan o COVID eto, ac mae busnesau mewn gwirionedd—. Ac rwy'n dweud, 'Cywilydd arnoch chi, Aelodau eraill.' Rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd â thwristiaeth wych. Dyma'r unig ddiwydiant sydd gennym ni i bob pwrpas, ac mae yna lawer o Aelodau rwy'n eu gweld o gwmpas yma sydd hefyd â sawl busnes twristiaeth yn eich etholaethau, ac rydych chi'n eu siomi.455
Gwyddom fod y Bil arfaethedig hwn ar gyfer ardoll llety ymwelwyr—456
A wnaiff yr Aelod ildio?457
Gwnaf yn sicr i chi. [Chwerthin.]458
Weithiau rwy'n teimlo fel fy mod i ar Candid Camera. Rydych chi'n aml yn dweud wrthym am leoliaeth a phwysigrwydd democratiaeth leol. Mae hwn yn ddewis i awdurdodau lleol optio i mewn iddo os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny, y byddan nhw'n atebol i'w pleidleiswyr lleol amdano. Nid yw hyn yn orfodaeth ar unrhyw un; mae i fyny i bobl leol ei ddewis neu beidio.459
Yn union fel eich premiwm treth gyngor ar ail gartrefi y mae, mewn gwirionedd, y rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol wedi'i weithredu, ac mae bellach yn gweld pobl sy'n dod â chryfder i'n heconomi leol yn dweud bod Cymru yn ardal i dwristiaid ei hosgoi. A dydy hynny'n ddim byd i fod yn falch ohono.460
Felly, mae hyn yn mynd i fod yn niweidiol i fusnesau twristiaeth Cymru, fel busnesau hunanarlwyo. Rydyn ni eisoes wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer y diwrnodau y mae pobl yn aros. Bydd hefyd yn effeithio ar ein manwerthwyr a fydd, o ganlyniad i lai o bobl yn aros dros nos, yn gweld llai o bobl yn mynd dros stepen eu drws. Ac mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, rydych chi'n eithaf dewr yn sefyll i fyny ac yn fy herio i. Chi oedd y dyn a gyflwynodd 20 mya. Mae'n ffaith, pan ofynnir i bobl, ymwelwyr, pam y bydden nhw'n dod i Gymru neu pam na fydden nhw, bod eich polisi 20 mya mewn gwirionedd yn amharu—[Torri ar draws.] Ydy, wrth gwrs ei fod e. Allech chi ddim bod yn fwy gwrth-fusnes a gwrth-dwristiaeth pe baech chi'n ceisio gwneud hynny. Felly, fel y dywedwch chi, Jenny, am y bwriad i ychwanegu 75c neu 80c i £1.25 y noson—gyda'r TAW ychwanegol, cofiwch—'O, dydy hynny ddim yn llawer o arian', wel, mae'n ddrwg gen i, ond dydy pawb ddim ar yr un cyflog â chi neu fi, fel Aelod o'r Senedd hon.461
Gyda ScoutsCymru mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Cyllid yn nodi'r diffyg esemptiadau ac ystyriaethau ar gyfer darparwyr llety dielw, dan arweiniad gwirfoddolwyr, lle nad aros dros nos yw eu prif bwrpas, hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ar ben hyn, fel y dywedais i, mae twristiaeth yng Nghymru yn dal i fod mewn trafferthion. Fe wnes i gyfweld â rhai pobl—fe gawson ni fforwm polisi gwych ddydd Sadwrn yn Llandudno ac, ynghyd â fy nghyd-Aelod, arweinydd ein plaid yng Nghymru, Darren Millar, fe wnaethon ni gyfweld â phobl a'r gwir amdani yw y gwnaethon nhw ddweud, 'Dyma'r hoelen olaf a allai fod yn ein harch nawr, o aros mewn busnes'. Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau gofyn i mi am ymyriad?462
Dim ond i ddweud nad Darren yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.463
Wel, yn fy llygaid i mae e. [Chwerthin.]464
Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid fod darpariaeth twristiaeth Cymru yn fwy bregus nag y mae wedi bod ers blynyddoedd lawer, ac mae amseriad y cynnig hwn—yr ardoll ymwelwyr—yn ychwanegu at y pwysau yn hytrach na bod yn rhan fach o'i leddfu. Mae'n cael ei bwysleisio ymhellach gan Ffederasiwn y Busnesau Bach. Maen nhw wedi dweud mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i beidio ag adfer lefelau gwariant ymwelwyr o 2019, yn ôl y baromedr twristiaeth. Mae'n gwbl annerbyniol, yr hyn rydych chi'n ei wneud. Yn hytrach na chyflwyno Bil a allai gefnogi diwydiant twristiaeth Cymru, rydych chi nawr yn gwneud popeth o fewn eich gallu i'w ddifetha. Trwy wneud hyn, bydd yn naturiol yn atal unrhyw fudd economaidd sylweddol i'n heconomi yng Nghymru. Os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, yn ystod 10 mlynedd cyntaf ei weithredu, rhagwelir y bydd yr ardoll a'r cynllun cofrestru yn costio rhwng £313 miliwn a £576 miliwn. Ac mae'n ddiddorol, Prif Weinidog, sydd newydd eistedd i lawr, fe ddywedoch chi wrth fy nghyd-Aelod yn y fan yna, Rhun, y bore 'ma, 'Dydych chi ddim yn gwrando'. Wel, dydych chi ddim yn gwrando, Prif Weinidog. Ar yr arolygon gwirioneddol sydd wedi'u gwneud ar hyn, rydych chi wedi cael canlyniadau llethol sy'n dweud, 'Dydyn ni ddim eisiau ardoll twristiaeth yng Nghymru', ond rydych chi wedi eu hanwybyddu'n llwyr a'u diystyru mewn gwirionedd. Felly, chi yw'r un sydd ddim yn gwrando.465
Mae yna golled bosibl o £250 biliwn yn y senario gwaethaf. Nid y Bil yw'r ffordd orau o gefnogi ein busnesau twristiaeth, fel y gwyddom ni i gyd. Ac unrhyw un sy'n gwylio hyn, dywedwch wrth eich ffrindiau, dywedwch wrth eich teulu y byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi busnesau ledled Cymru ym mha beth bynnag maen nhw'n ei wneud. Rydym wedi ei weld o'r cychwyn cyntaf yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael, a'r potensial sydd ganddo i weithredu fel ffactor i deuluoedd, cyplau a hyd yn oed teithwyr unigol wrth benderfynu dod i Gymru am ymweliad ac, am y rhesymau hyn, ni fyddwn yn cefnogi hyn. Ar ba gam, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch chi'n sylweddoli, os ydych chi'n gwneud eich busnesau sector preifat yn gryfach, maen nhw'n cyflogi mwy o staff, maen nhw'n talu mwy o dreth ac rydym yn cael gwasanaethau gwell? Ar ba bwynt y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yma ac yn y DU, yn deall y broses eithaf syml a sylfaenol honno?466
Fel yr Aelod dros Arfon, dwi’n gwbl ymwybodol o’r budd economaidd sydd yn dod yn sgil twristiaeth, ond dwi hefyd yn gwybod am yr heriau a’r pwysau sy’n cael eu creu. Castell Caernarfon ydy un o brif atyniadau twristaidd Cymru, efo dros 200,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae’r Wyddfa yn fy etholaeth i hefyd, ac mae’n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Rydyn ni, fel pobl leol, yn falch iawn o’r atyniadau yma ac rydym yn barod i’w rhannu nhw efo pobl o bob cwr o’r byd, ond maen nhw yn creu problemau mawr, yn enwedig yn ystod cyfnod yr haf. Mi fyddai rhoi’r pŵer i’r cyngor godi ardoll fechan yn arwain at wella profiadau'r ymwelwyr a phrofiadau'r bobl sydd yn byw yma drwy’r flwyddyn—arian a allai gael ei wario ar wella gwasanaethau sydd dan bwysau mawr ar adegau, o wagio biniau cyhoeddus i wella parcio a’r isadeiledd yn gyffredinol.467
Dwi yn dymuno talu teyrnged i arweiniad Mark Drakeford. Diolch yn fawr i chi am fwrw ymlaen efo’r Bil yma ac am ddeall pwysigrwydd yr egwyddor o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy. Wrth i ni drafod y camau nesaf, mae’n bwysig ein bod ni’n cadw golwg ar y nod a ddim yn rhoi ystyriaethau proses uwchlaw pwysigrwydd egwyddor yr hyn y mae’r Bil yma yn trio ei wneud—dwi'n meddwl mai neges i Mike Hedges a'r pwyllgor deddfwriaeth ydy honno yn bennaf.468
Mae’n bwysig hefyd ein bod ni'n sicrhau y bydd y Bil yn rhoi sicrwydd bod y darpariaethau yma yn cael eu gweithredu. Felly, mi fuaswn yn licio holi pa ystyriaeth sy’n cael ei roi i ryw fath o backstop ar wyneb y Bil—er enghraifft, bod yn rhaid i’r gwaith o gofrestru bob llety gwyliau fod wedi’i orffen erbyn dyddiad penodol.469
O ran yr argymhellion penodol gan y pwyllgorau, dwi hefyd yn pryderu am rai o’r materion sydd wedi cael eu codi. Er enghraifft, dwi yn credu bod angen eglurder am y pwerau cyfreithiol fydd gan Awdurdod Cyllid Cymru i ddelio efo honiadau nad ydy darparwr llety wedi cofrestru. Felly, efallai y bydd modd unioni hynny yn ystod Cyfnod 2.470
Rydyn ni wedi bod yn trafod yr ardoll yn fan hyn y prynhawn yma, ond mae’r gofrestr yn hollbwysig. Mae gan y gofrestr swyddogaeth i sicrhau gwybodaeth ddefnyddiol iawn am natur llety gwyliau a’i effaith ar y stoc tai lleol. Dwi’n hynod o falch o weld ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyflwyno Bil i roi trwyddedu llety ymwelwyr ar waith yng Nghymru, yn unol â’r cytundeb cydweithio efo fy mhlaid i. Mewn ymateb i argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Cyllid, rydych chi'n cadarnhau y bydd angen i ddarparwyr llety gwyliau gael eu trwyddedu i’w galluogi i weithredu. Dwi'n gweld eich bod am ganolbwyntio ar ddarparwyr llety hunanddarpar—hynny yw, llety gosod tymor byr—yn y lle cyntaf. Mae hynny'n synhwyrol, ac yn sicr mi fyddai'n arwain at wella profiadau ymwelwyr a sicrhau eu bod nhw yn ddiogel. Dwi'n edrych ymlaen at weld y manylion a’r cynlluniau gweithredu pan fydd yr ail Fil yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Dwi'n derbyn bod hynny at eto, ond yn y cyfamser mae'n bleser gen i gefnogi egwyddorion y Bil llety ymwelwyr y prynhawn yma. Diolch.471
Fy swydd i, wrth gwrs, yw cynrychioli buddiannau gorau trigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, felly mae hwn yn un syml i mi. Bydd y Bil yn gwneud hynny ac yn cefnogi datblygiad un o'n sectorau allweddol.472
Rydym yn gwybod bod ardollau ymwelwyr—ac rydym wedi ei glywed yma sawl gwaith heddiw—yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus iawn mewn dros 40 o wledydd ledled y byd a rhannau eraill o'r DU. Ni fyddai'r pumed gwlad ar hugain yn Ewrop i weithredu cynllun o'r fath. Rydym yn gwybod mai dewis awdurdodau lleol fydd ei weithredu, a hefyd i benderfynu ar y gwariant hwnnw, oherwydd bydd yr arian a godir yn cael ei neilltuo. Bydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned leol i ddarparu gwell gwasanaethau i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.473
Does dim syndod fy mod i'n clywed, gan yr wrthblaid, adleisiau dadl yr isafswm cyflog degawdau yn ôl. Mae'n ymddangos bod y Torïaid wedi'u cloi mewn agwedd codi bwganod at bopeth. Maen nhw'n sicr yn gwneud yr hyn y mae'r enw yr wrthblaid yn ei awgrymu. Maen nhw'n gwrthwynebu bron popeth, gan gynnwys y gyllideb, a fyddai wedi rhoi llawer iawn o arian i bob un o'u cymunedau. Tybed sut rydych chi'n gwerthu hynny yn ôl i'r cymunedau hynny.474
Rwy'n cefnogi hyn yn llwyr. Mae'n dreth fach eang. Mae'n swm nominal i unigolion, ond mae ganddo'r potensial i godi miliynau o bunnoedd. Ni fydd yn effeithio ar y busnesau, oherwydd nid yw'r busnesau'n ei dalu, fel y byddech wedi credu o gyfraniad Janet Finch-Saunders. [Torri ar draws.] Mewn munud. Os caiff hwn ei weithredu'n briodol mewn cydweithrediad â busnesau a rhanddeiliaid lleol, bydd yn gwella apêl y cyrchfannau trwy fynd i'r afael â heriau twristiaeth. Pwy oedd eisiau ymyriad? 475
Joyce, siaradais â llawer o fusnesau yn fy etholaeth i fydd yn cael eu heffeithio gan y dreth hon, ac maen nhw'n dweud wrthyf yn eithaf clir y bydd y dreth hon yn cael effaith niweidiol ar eu busnesau, a dydyn nhw ddim yn hollol siŵr a fydd unrhyw gyfran o'r arian hwn a godir yn gwella profiad ymwelwyr chwaith. Gallai gael ei lyncu i wasanaethau eraill y cyngor a pheidio â chael ei ailfuddsoddi yn y cymunedau. Felly, beth ydych chi'n ei ddweud wrth y busnesau hynny yn Aberhonddu a Sir Faesyfed, yr ydych chi hefyd yn eu cynrychioli? Ydych chi'n dweud eu bod nhw'n dweud celwydd a bod y Llywodraeth yn iawn?476
Rwy'n credu bod hwnnw'n air chwerthinllyd i'w ddefnyddio. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrthych chi yw eich bod chi'n eu camgynrychioli nhw os nad ydych chi wedi dweud wrthyn nhw bod yr arian hwn wedi'i neilltuo i'w ddefnyddio ar gyfer twristiaeth. Gallech chi fod wedi dweud hynny wrthyn nhw a gallech chi fod wedi gofyn iddyn nhw, oherwydd bydd unrhyw awdurdod sy'n penderfynu ei fod yn mynd i weithredu hyn yn gofyn iddyn nhw. Bydd yn rhaid iddo ofyn i'r busnesau hynny a'r bobl leol sut maen nhw eisiau i'r arian hwnnw gael ei wario. Ond bydd yn cael ei neilltuo, felly dim ond i wella'r diwydiant twristiaeth y gall ei wario. Byddwch chi'n dod yn ôl yma gyda rhestr siopa yn gofyn am bethau, ac, ar yr un pryd, nid yn unig yr oeddech chi'n gwrthwynebu'r gyllideb, ond rydych chi eisiau gwrthwynebu hyn, gan gyflawni'r hyn y mae'r enw yr wrthblaid yn ei awgrymu: 'Fe wnawn ni wrthwynebu unrhyw beth.'477
Rwyf ychydig yn siomedig, ar ran y bobl rydych chi'n eu cynrychioli, nad ydych chi eisiau rhoi hwb i'r busnesau, nad ydych chi eisiau gwella'r profiad twristiaeth i ymwelwyr a'r cymunedau sy'n eu lletya. Mae'n rhaid gweithio allan y manylion, ac os caiff ei weithredu'n iawn, bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Rwy'n credu bod yn rhaid i graffu priodol—ac rydym wedi clywed llawer am hynny, wrth i ni fynd trwy'r gwahanol gamau—monitro a gwerthuso priodol fod yn flaenllaw yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod yr ardoll yn effeithiol ond hefyd yn deg.478
Mae'r gofrestr arfaethedig ar gyfer llety, rwy'n cytuno â Siân Gwenllian, yn hollbwysig yn hyn i gyd, oherwydd os byddwch chi'n casglu'r data hwnnw, gall lywio polisi, gall nodi cyfleoedd ar gyfer twf hefyd. Mae gan Gymru arlwy twristiaeth rhagorol, ond mae lle i wella o ran twf economaidd, cyflogaeth a chymunedau cynaliadwy. Mae'r Bil hwn yn gyfle i gyflawni pob un o'r tri hynny.479
Rwyf eisiau rhoi ar y cofnod i ddechrau nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu popeth. Rydyn ni'n blaid treth isel sy'n gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon. Rydyn ni'n credu mewn trethi is. Rydyn ni bob amser wedi gwneud. Mae'r Blaid Geidwadol yn blaid treth isel. Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth yn gwybod bod y Blaid Geidwadol yn blaid treth isel ac rydym yn cefnogi mwy o arian ym mhocedi pobl. Nid yw'n ddirgelwch mawr. Mae'n ymddangos bod pawb yn troi rownd gyda rhyw elfen o gyffro pan fo'r Ceidwadwyr yn dweud pethau sy'n geidwadol. Rydyn ni'n cefnogi busnesau a dydyn ni ddim yn ymddiheuro am wneud hynny. 480
Mae'r dreth dwristiaeth wenwynig hon yn symbol o Lywodraeth sydd wedi tyfu'n hunanfodlon ac yn fwy radical yn ei pholisïau dinistriol. Mae'n deg dweud bod hwn yn bolisi ideolegol arall sydd wedi ei greu gyda'r cenedlaetholwyr Cymreig sydd â gwrthwynebiad llethol ymhlith y sector. Ar ben hynny, mae'n codi cywilydd gweld gweddill y Deyrnas Unedig yn edrych arnom gyda syndod wrth i ni baratoi i achosi'r weithred ryfedd hon o hunan-niwed. Y sector twristiaeth—481
Wnewch chi dderbyn ymyriad?482
Gwnaf siŵr.483
Mae yna rannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n gweithredu ardoll ar dwristiaeth.484
Mae yna rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond maen nhw hefyd yn ddarostyngedig i'r un blaid, o dan feiri dinesig Llafur, sydd wedi gwneud yr un peth. Felly rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt gwreiddiol bod y Ceidwadwyr, fel y gwnawn, yn gwrthwynebu trethi uwch yn nhermau'r hyn rydyn ni'n ei drafod yma heddiw.485
Mae un deg naw y cant o fusnesau twristiaeth—[Torri ar draws.] Rydw i eisiau bwrw ymlaen, Mike. Fe ddof yn ôl atoch chi.486
Roeddwn i'n mynd i ddweud fy mod i'n falch bod Llafur bellach wedi cael rheolaeth o'r Peak District. Mae'n debyg mai dyna'r tro cyntaf erioed. 487
Dydw i ddim yn gwybod beth yw tirwedd wleidyddol pob ardal o'r DU, ond rwy'n siŵr bod hwnnw'n sylw cywir rydych chi'n ei wneud yn y fan yna o ran ei liw.488
Ond roedd gan 19 y cant o fusnesau twristiaeth fwy o gwsmeriaid yn 2024 nag yn 2023, ond roedd gan 39 y cant lai. Ar gyfer darparwyr llety hunanarlwyo mae'r ffigurau hyn yn waeth, gyda 16 y cant o fusnesau yn gweld mwy o gwsmeriaid ond 45 y cant yn gweld llai. Mewn arolwg gan PASC UK, gwnaeth busnesau nodi mai polisïau Llywodraeth Cymru oedd y pedwerydd rheswm mwyaf dros y dirywiad mewn masnach. Rwy'n amau y bydd yn uwch pan fydd y dreth wenwynig hon yn cael ei chyflwyno.489
Un o ganlyniadau mwyaf niweidiol y dreth hon yw'r neges y mae'n ei hanfon i'r rhai sy'n meddwl am drefnu gwyliau yng Nghymru. Mae'n anfon y neges bod Cymru ar gau ar gyfer busnes ac nad oes croeso i dwristiaid, gan greu stereoteipiau niweidiol y mae'r sector wedi gweithio'n galed i'w diosg ers blynyddoedd. Mae'n arwydd bod gan Lywodraeth Lafur Cymru fwy o ddiddordeb mewn bodloni lleiafrif gwrth-dwristiaeth radical yn hytrach na chefnogi'r sector twristiaeth, sy'n cyflogi dros 11 y cant o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu mwy na £3.8 biliwn i economi Cymru.490
Mae'n drist i mi fod yr Aelod dros Ynys Môn yn parablu yn y fan yna yn erbyn twristiaeth—[Torri ar draws.]—pan fo'n cynrychioli etholaeth sy'n byrlymu â thwristiaeth, a masnach dwristiaeth iach iawn. Mae'r hyn rydych chi'n ei gynnig a'r hyn y byddwch chi'n pleidleisio drosto heno yn union yn erbyn eich etholwyr. Gobeithio eich bod chi'n falch o hynny, gyda llaw.491
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi—492
A wnewch chi gymryd ymyriad arall?493
Iawn, gwnaf.494
Mae gen i lawer iawn o optimistiaeth a ffydd yn y dwristiaeth rydym yn ei chynnig yn Ynys Môn a gweddill Cymru. Mae gen i hyder y bydd pobl yn dal i fod eisiau dod i fwynhau'r hyn sy'n allforyn hynod bwysig i ni yng Nghymru. Ble mae eich cefnogaeth i fusnesau ar allforio yng Nghymru? 495
Bydd yn rhaid i ni weld. Amser a ddengys. Ond mae gennych chi lawer o weithredwyr busnes ar Ynys Môn sy'n debygol o fod i'r gwrthwyneb llwyr o groesawu'r cynigion hyn. Pe bawn i'n fusnes a oedd newydd straffaglu drwy drafferthion COVID-19, yr argyfwng costau byw a beth bynnag arall, rwy'n credu y byddwn i'n bryderus iawn am gynnig y Bil hwn. Pan fydd perchnogion busnes yn eich etholaeth chi yn myfyrio ar hynny, rwy'n siŵr y byddan nhw'n edrych ar eich cofnod pleidleisio.496
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod eisiau trethu pan fo hyder ymhlith y sector ar ei isaf. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Seren, sy'n gweithredu sawl gwesty a bwyty ledled y wlad, y gallai cyflwyno'r ardoll, ac rwy'n dyfynnu,497
'waethygu yn ddiangen y pwysau presennol ar y sector lletygarwch, sydd eisoes yn ymdopi â heriau economaidd sylweddol.'498
Codwyd pryderon hefyd gan amrywiaeth o sefydliadau eraill yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, megis ScoutsCymru, Cynghrair Twristiaeth Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach. Mae amseriad y Bil hwn yn syfrdanol o ystyried cyflwr economi'r DU yn ehangach, ac, yn wir, y polisïau sy'n dod o San Steffan gyda datganiad gwanwyn diweddaraf Rachel Reeves, ond yn enwedig economi Cymru, sydd mewn cyflwr gwaeth.499
Mae'r swm o arian y bydd y dreth hon yn ei godi hefyd yn fach iawn. Pe bai pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dewis gorfodi'r ardoll, dim ond £35 miliwn y byddai'n ei godi. I roi hynny mewn persbectif, gwariodd Cyngor Bro Morgannwg, a nododd na fydd yn gorfodi'r ardoll, £25 miliwn ar gynllun cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, prosiect gwagedd gwastraffus arall. Os yw Llywodraeth Cymru yn ceisio dod o hyd i arian, mae miliynau yn fwy y gallai ei godi trwy dorri'r llwyth o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu a'i golli.500
Amcangyfrifir hefyd y bydd y Bil yn costio rhwng £313 miliwn a £576 miliwn. Rwy'n gwybod mai ychydig iawn o brofiad busnes sydd ar y meinciau eraill, ond mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon yn cydnabod bod treth sy'n costio dros £300 miliwn ac y bydd, ar y gorau, yn codi £35 miliwn yn fargen wael iawn. Rwy'n falch, fodd bynnag, bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r rheol 182 diwrnod, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n mynd ymhellach a mabwysiadu polisi Ceidwadwyr Cymru o ran lleihau 182 diwrnod i 105 diwrnod.501
I gloi, Llywydd—ni fyddaf yn trethu eich amynedd llawer yn fwy—mae'r aflonyddwch a achosir gan berchnogaeth ail gartref yn bryder dilys a gellid ei liniaru trwy ddulliau eraill. Byddwn yn cosbi ein hunain gyda'r ardoll hon. Mae'n rhoi'r argraff o Gymru sy'n edrych i mewn ac sydd ddim angen nac eisiau twristiaeth, sydd y gwrthwyneb i'r gwir. Mae hefyd yn rhoi'r argraff o Lywodraeth sy'n brin o syniadau ac sy'n cosbi sector sydd eisoes yn dioddef. Bydd y dreth hon yn achosi gwerth miliynau o bunnoedd o ddifrod i economi Cymru am enillion prin. Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio yn erbyn y Bil hwn heno. 502
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i ymateb i'r ddadl. 503

Llywydd, diolch yn fawr. Gadewch i mi ddechrau trwy ddiolch i Gadeiryddion y ddau bwyllgor sydd wedi astudio'r Bil. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid. Roeddem yn gallu derbyn yr holl argymhellion ac, fel y dywedais i, mae yna ffyrdd y bydd y Bil yn cael ei wella o ganlyniad. Diolch i Mike Hedges am ei gymeradwyaeth bwerus o'r Bil. Rwy'n credu ei fod wedi gofyn y cwestiwn mwyaf synhwyrol o'r noson gyfan: pam mae wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y cam cymedrol iawn hwn? 504
Llywydd, rwyf am ateb nifer fach iawn o gwestiynau penodol a ofynnwyd i mi. Gofynnodd Luke Fletcher a allwn ni newid y trefniant lle mae pobl yn cyrraedd llety brys. Rwy'n credu ei bod yn ddadl gymhleth. Ar y cyfan, rwy'n argyhoeddedig nad wyf am i fenyw sy'n ffoi rhag trais domestig orfod datgan hynny wrth iddi gyrraedd llety brys. Efallai y bydd llawer iawn o resymau pam na fyddai hynny y peth iawn i'r person hwnnw ei wneud, ac os mai dyna sut y bydd y mater hwn yn cael ei lywio, rwy'n credu ein bod yn rhoi'r pwysau ar ysgwyddau'r person sydd wedi dioddef amgylchiadau anodd, yn hytrach na chaniatáu iddynt hawlio'n ôl y swm cymedrol iawn o arian y gallai fod yn rhaid iddynt ei roi ymlaen llaw. Ond rwy'n deall y ddadl ac nid yw'n un hawdd i'w datrys. 505
Diolch i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi. Y bwriad yw i gael pob un ar y gofrestr erbyn 2028. So, mae dyddiad gyda ni. Wrth gwrs, dwi'n edrych ymlaen at yr ail Fil sy'n mynd i ddod o flaen y Senedd a dwi'n edrych ymlaen at Gyfnod 2, ble gallwn ni drafod un neu ddau o bethau mae Siân wedi eu codi'n barod. 506
Dwi'n deall eich bwriad chi i gael pawb wedi eu cofrestru erbyn 2028, ond dydy hynna ddim ar wyneb y Bil. 507
Dydy hi ddim ar wyneb y Bil, ond dwi'n barod i roi'r amserlen lan i'r Aelodau. Rŷm ni wedi trafod pethau gyda'r WRA. Maen nhw'n hyderus y gallan nhw wneud hynny o fewn y cyfnod dwi wedi esbonio y prynhawn yma. 508
A gaf i hefyd egluro wrth Janet Finch-Saunders fod yr ymadrodd a ddarllenodd allan—? Efallai y dylwn i aros iddi allu gwrando. Diolch. Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhan o'r Bil a gofyn i mi ei hegluro ymhellach. Rwy'n hapus i ddweud bod hwnnw yno'n uniongyrchol mewn ymateb i rywbeth a gododd Darren Millar ar ddechrau taith y Bil pan ofynnodd i mi am neuaddau eglwysi a thwristiaeth ffydd. Rwy'n falch bod yr ymadrodd y gwnaethoch chi ei ddarllen yn rhoi gwarant nad yw'r rheiny'n cael eu cynnwys gan y Bil. 509
Llywydd, dim ond lleisiau Ceidwadol sydd wedi eu codi yn erbyn y Bil. Ceisiais, yn y peth hwn, fel ym mhob peth arall, ddilyn cyngor fy arweinydd pan ddyfynnodd Saunders Lewis i ni yn gynharach y prynhawn yma. Roeddwn i'n ceisio gwrando'n ofalus. Dechreuais wrando'n ofalus ar Gareth Davies, ond pan ddywedodd yn ei frawddeg gyntaf fod y Blaid Geidwadol yn blaid treth isel, cymerodd sawl munud o'i gyfraniad i mi adfer o hynny a gwrando ar weddill yr hyn a ddywedodd, o gofio bod ei blaid wedi codi trethi i'r lefel uchaf mewn 70 mlynedd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Am record treth isel yr oedd honno.510
Gwrandawais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, ac, wrth gwrs, sylwais na wnaeth hi, yn ei chyfraniad cyfan, ddweud unwaith y gair 'trigolion'. Dyma'r gair cyntaf a ddywedodd Joyce Watson. Daeth yma i siarad dros ei thrigolion; daeth Janet Finch-Saunders yma i siarad dros ei busnesau. Nid unwaith y soniodd hi am y bobl hynny yn ei hetholaeth sydd, ar hyn o bryd, yn gorfod talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant hwnnw yn ei hardal.511
Wnewch chi gymryd ymyriad?512
Gwnaf, wrth gwrs.513
A gaf i ddweud wrthych chi, yn ystod y 14 mlynedd yr wyf wedi cael fy ethol, nad wyf erioed wedi cael yr un o fy nhrigolion erioed yn cwyno wrthyf am unrhyw or-dwristiaeth nac unrhyw effeithiau twristiaeth? Mae llawer o'n trigolion yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth hwnnw, a'r trigolion hynny y byddwch chi nawr, mae'n debyg, yn eu gwneud yn ddi-waith.514
Wel, dydw i ddim yn derbyn hynny, wrth gwrs. Yr hyn sy'n hollol glir, fel y dywedodd eraill yn y ddadl, yw bod yn rhaid i fy etholwyr i yng Ngorllewin Caerdydd dalu am yr holl gostau y mae'r twristiaid niferus hynny, sy'n cael eu croesawu yn sicr i Gaerdydd, sy'n dod ar gyfer y digwyddiadau arbennig hynny y cyfeiriodd Mike Hedges atynt—. Yr holl gostau hynny—. Rwy'n gweld Cyngor Caerdydd yn gwneud gwaith ardderchog y bore ar ôl digwyddiad mawr—yr holl bobl hynny allan yn clirio'r sbwriel, gan wneud yn siŵr bod modd defnyddio'r strydoedd eto. Mae'r holl bobl sydd wedi ymweld â Chaerdydd—dydyn nhw ddim yn cyfrannu'r un geiniog at hynny, ond mae'n rhaid i fy nhrigolion i dalu'r cyfan. A'r hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw rhoi chwarae teg mewn ffordd gymedrol iawn.515
Nawr, Sam Rowlands oedd prif lefarydd yr wrthblaid, ac fe gynigiodd gyfres o gamddealltwriaethau o'r Bil i ni, rwy'n credu. Dywedodd na ddylem fod yn cyflwyno treth. Wrth gwrs, nid yw'r Bil yn cyflwyno treth, mae'r Bil yn cyflwyno pŵer i awdurdodau lleol sy'n dewis ei wneud. Nid oes neb yng Nghymru yn cael ei drethu o ganlyniad i'r Bil hwn, dim ond lle bydd awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniad hwnnw. Ac rwy'n credu mai Lee Waters a ddywedodd bod y Blaid Geidwadol yn honni ei bod yn blaid lleoliaeth ar un adeg—roedden nhw'n credu na ddylai'r Llywodraeth wneud penderfyniadau ar ran pobl leol. Dyna'n union beth mae'r Bil hwn yn ei wneud—mae'n rhoi penderfyniad i bobl leol. Ac efallai na fydd Bro Morgannwg a reolir gan Lafur yn cyflwyno'r dreth, ac mae hynny'n iawn, on'd yw e? Oherwydd maen nhw wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran eu trigolion.516
Mae gen i ddiddordeb mewn clywed gennych, Ysgrifennydd Cabinet—. Yn ystod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, soniwyd am Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac mewn gwirionedd, mae'r Swyddfa ar gyfer y Farchnad Fewnol yn edrych ar ardollau fel maes a allai fod yn niweidiol i'r DU o ran Deddf y farchnad fewnol. Pa fath o asesiad ydych chi wedi'i wneud o Ddeddf y farchnad fewnol a'i heffaith ar yr ardoll hon, a phe byddai yna her, ydych chi'n disgwyl y bydd un?517
Am bedair blynedd o Lywodraeth Geidwadol, Llywydd, roedd y Llywodraeth honno'n gwybod bod y Bil hwn yn dod gerbron y Senedd; nid oes yr un Gweinidog Llywodraeth o liw Ceidwadol erioed wedi codi Deddf y farchnad fewnol mewn perthynas â'r Bil hwn, ac nid yw'r Llywodraeth a etholwyd ym mis Gorffennaf y llynedd wedi gwneud hynny ychwaith.518
Aeth Sam Rowlands ymlaen i ddweud bod y sector yn cael ei drethu'n drwm, ond, wrth gwrs, nid yw'r Bil hwn yn trethu'r sector o gwbl. Ni fydd unrhyw fusnes yn talu mwy o arian o ganlyniad i awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno'r dreth; mae'r dreth yn cael ei thalu gan yr ymwelydd, nid gan y busnes.519
Mae'n ddrwg gen i, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n aneglur gyda hynny, oherwydd y busnes sy'n atebol i dalu'r dreth i Awdurdod Cyllid Cymru; nid yr ymwelydd sy'n gwneud y taliad hwnnw. Gall y busnes ddewis a ddylid codi tâl ar yr ymwelydd am hynny ai peidio, fel y gwyddoch chi'n iawn, a'r busnes sy'n atebol am wneud yn siŵr bod y taliad yn mynd drwodd i ACC. Onid yw hynny'n gywir?520
Mae'r cliw yn yr enw, onid yw e? Mae'n ardoll 'ymwelwyr'. Bydd yr ymwelydd yn talu'r busnes a bydd y busnes yn talu ACC. Dyna fydd yn digwydd yn ymarferol ac mae hynny'n glir i unrhyw un.521
Ac yna cynigiodd Sam y darlun teimladwy hwn i ni o ymwelwyr â Chymru yn rhuthro allan i fwyta mewn bwytai, yn mwynhau atyniadau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, ac yna'n dweud wrth eu hunain, 'Dydw i ddim yn mynd i wneud hynny, oherwydd mae yna ardoll ymwelwyr a fydd yn costio llai na rholyn selsig i mi. Ac oherwydd yr 80c hwnnw, dydw i ddim yn mynd i wneud yr holl bethau y dywedodd Sam Rowlands yr oeddwn i'n bwriadu eu gwneud. Mae'n rhaid i mi dalu rhywbeth sy'n llai na hanner paned o goffi, llai na photel o ddŵr, ac mae hynny'n mynd i—'. [Torri ar draws.] Na, rydw i wedi cymryd digon o ymyriadau gan Aelodau Ceidwadol, a dydw i ddim yn credu y bydd un arall yn fy helpu i ryw lawer.522
Edrychwch, siawns ei bod yn wir mai dyma'r cyfraniad mwyaf cymedrol y bydd pobl yn ei dalu i wneud yn siŵr bod y diwydiant twristiaeth yn y lle maen nhw wedi dewis ymweld ag ef, am yr holl resymau rydyn ni'n gwybod pam mae Cymru'n lle mor wych i ymweld ag ef—bod y lle hwnnw'n parhau i fod yn ddeniadol iddyn nhw. Rwy'n rhannu optimistiaeth Rhun ap Iorwerth am Gymru ac am y diwydiant twristiaeth. Dydw i ddim yn credu am un eiliad y bydd talu'r ardoll gymedrol hon yn atal pobl rhag ymgymryd â phopeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Dyna'r farn llwm o Gymru sydd gan y Blaid Geidwadol yn ei chraidd, ac rydych chi wedi ei glywed dro ar ôl tro y prynhawn yma. Bydd y Bil cymedrol hwn yn gwneud daioni, bydd yn cynnig dewis i bobl leol, mae'n iawn ei fod yn mynd ymlaen i'r llyfr statud, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.523
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly byddaf i'n gohirio hynny tan y cyfnod pleidleisio.524
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gan fod y bleidlais yna ar egwyddorion cyffredinol y Bil wedi cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf i hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol sydd yn gysylltiedig.525
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, dwi wedi derbyn cais gan Sioned Williams i wneud cynnig am ddadl frys. Sioned Williams.526
Cynnig
Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried effaith diwyigadau lles diweddar y Canghellor fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Gallai'r diwygiadau lles a gyhoeddwyd gan y Canghellor fel rhan o gyllideb wanwyn Llywodraeth y DU wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi, yn ôl asesiad y Llywodraeth ei hun. Dywedodd dadansoddiad cychwynnol gan y Resolution Foundation fod y cyfuniad o ragolygon economaidd gwan a thoriadau i fudd-daliadau sy'n disgyn yn anghymesur ar deuluoedd incwm is yn golygu bod yr incwm cyfartalog ar gyfer hanner tlotaf yr aelwydydd ar y trywydd iawn i ostwng £500 ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf. Mae elusennau ac ymgyrchwyr anabledd wedi adnewyddu eu beirniadaeth o'r taliad annibynnol personol a chyfyngu ar gymhwysedd PIP a rhewi elfennau iechyd credyd cynhwysol, ac yn dweud na fydd hyn yn gwneud dim i helpu i gael pobl i mewn i waith.527
Beth bynnag yw eich barn chi am ddiwygiadau'r Canghellor, y ffaith ddiamheuol yw nad oes gennym unrhyw asesiad swyddogol o effaith y diwygiadau hyn a'r effaith y byddan nhw'n ei chael ar bobl Cymru nac ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Ceir tystiolaeth o hyn mewn llythyr gan y Prif Weinidog at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, lle gofynnodd i Lywodraeth y DU ddarparu asesiad penodol i Gymru, a hefyd mewn cyfweliad teledu, lle amddiffynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru statws 'Cymru a Lloegr' yr asesiad. Rydyn ni'n haeddu gwell na hyn ar ôl chwarter canrif o ddatganoli.528
Mae'r Prif Weinidog wedi derbyn ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ers wythnos diwethaf, ond mae wedi cymryd y meinciau hyn i'w gynnwys gael ei gyhoeddi erbyn y prynhawn yma. A dyna syndod, does dim asesiad o effaith y diwygiadau lles ar Gymru, dim data wedi'i wahanu, dim mesurau lliniaru penodol wedi'u cynnig, o ystyried y bydd Cymru'n cael ei tharo'n anghymesur gan y diwygiadau hyn. Mae llythyr Liz Kendall hefyd yn cyfeirio at ddarn sylweddol o ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Er mwyn cael tryloywder llawn, dylai'r Senedd hon weld y llythyr hwnnw hefyd.529
Gyda'i gilydd, Llywydd, mae'r bartneriaeth mewn grym, fel y'i gelwir hi, wedi methu ei phrawf: mae un pen o'r bartneriaeth yn methu yn ei dyletswydd i ddarparu asesiad, a'r llall â dim grym i'w pherswadio i wneud hynny. Mae Aelodau o bob ochr i'r Siambr wedi mynegi eu pryderon am gynlluniau'r Canghellor, ac mae'r Aelodau'n haeddu cyfle amserol a digonol i graffu ar eu heffaith ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt. Rwyf wedi gweld llawer o Aelodau'n sôn am y ffaith mai'r Papur Gwyrdd yw dechrau'r sgwrs ac, yn wir, mae Eluned Morgan, y Prif Weinidog, yn dweud hynny yn ei llythyr at Liz Kendall. Yr hyn y mae angen i ni ei ddeall, er enghraifft, yw nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymgynghori ar 12 penderfyniad polisi drwy'r Papur Gwyrdd, gan gynnwys ond yn dyfarnu'r rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych chi'n sgorio o leiaf bedwar pwynt mewn un gweithgaredd bywyd bob dydd. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau wedi cael negeseuon e-bost gan bobl sy'n poeni'n fawr am y newid hwnnw. Nid oes ymgynghori arno.530
Rydych chi wedi cael eich tair munud nawr, felly os gallwch chi ddod i ben.531
Iawn, rwy'n gorffen. Felly, mae un datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn annigonol. Mae cyfnewid llythyrau gan ddau gydweithiwr Llafur, heb fawr o dryloywder, yn annerbyniol. Felly, rwy'n annog Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig, a fydd yn rhoi llais i'r Senedd ar y mater pwysicaf hwn, a fydd yn effeithio ar gynifer o'n hetholwyr.532
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt. 533

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddweud, ar y dechrau, y byddwn ni'n cefnogi'r cynnig? A hoffwn ddweud ychydig eiriau mewn ymateb i'r cynnig hwn. Felly, rwyf eisiau dechrau trwy gydnabod bod polisi lles, wrth gwrs, yn fater i Lywodraeth y DU. Ond gwyddom fod y pwyslais ar fudd-daliadau anabledd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn achosi pryder difrifol ymhlith llawer o bobl yng Nghymru sy'n derbyn taliadau annibyniaeth personol ar hyn o bryd. Mae'n bwysig bod y wybodaeth a rennir yn gywir, ac nad oes unrhyw gamwybodaeth yn cael ei rhoi. Mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl. Ac rwyf eisiau rhoi sicrwydd i bobl, yn ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, y byddwn yn parhau i bwysleisio'r angen i'r rhai y bydd y diwygiadau lles hyn yn effeithio arnyn nhw gael eu cefnogi'n briodol. Ac rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn rhannu pryderon, fel y mae hi'n ei wneud, ac mae hi wedi ei wneud, gyda Llywodraeth y DU, a bydd bob amser yn sefyll dros Gymru. Ac, wrth gwrs, byddaf i'n rhannu fy llythyr i hefyd—y llythyr a ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.534
Ond rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU fel bod pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu gan system les sy'n darparu cymorth ystyrlon i helpu'r rhai sy'n gallu gweithio i gael cyflogaeth gynaliadwy, ac sy'n cynnig rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol i bobl nad ydynt yn gallu gweithio.535
Felly, pan fyddwn ni'n trafod diwygiadau budd-daliadau, yn olaf, Llywydd, fy mlaenoriaeth gyntaf yw cofio bod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â phobl—pobl sy'n pryderu am y dyfodol. Ac mae'n bwysig nodi, fel y dywedom ni heddiw, bod amcangyfrif o £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob £1 y mae ganddyn nhw hawl iddi. Trwy wasanaethau ein cronfa gynghori sengl, gall pobl gael mynediad at y cyngor hwnnw ar eu hawliau, eu hawlogaethau, nid yn unig i daliadau annibyniaeth personol, ond i'r cymorth ariannol arall y mae ganddyn nhw hawl iddo, a byddwn ni, wrth gwrs, yn ymhelaethu ar hyn yfory. Diolch yn fawr.536
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.537
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A chan fod y cynnig wedi ei dderbyn, mi fydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory o dan eitem 5.538
Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf. Ac oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu’r gloch, mi fyddaf yn symud at y pleidleisiau. Mae’r bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma ar eitem 7—Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae’r rheoliadau wedi eu derbyn.539
Eitem 7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 8 sydd nesaf—egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw hwn. A dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn.540
Eitem 8. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 9 yw’r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Felly, pleidlais ar eitem 9 ar y cynnig yma yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r penderfyniad ariannol yna wedi ei dderbyn hefyd.541
Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisio a diwedd y gwaith am heddiw.542
Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.