Y Cyfarfod Llawn
Plenary
28/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams. 1
1. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau mynediad at gefnogaeth cyflogaeth a rhaglenni ailsgilio? OQ62224

Mae ein gwasanaeth cenedlaethol, Cymru'n Gweithio, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, yn cynnig siop un stop i unigolion. Maen nhw’n rhoi cyngor ac arweiniad diduedd, am ddim, ar yrfaoedd a chyflogadwyedd personol, ac maen nhw’n cyfeirio unigolion at y cymorth cyflogaeth a sgiliau perthnasol sydd ar gael ar draws Cymru.2
Diolch. Yn ddiweddar, fe es i i academi cyflogadwyedd yn Aberafan, sy’n cael ei redeg gan Whitehead-Ross Education. Maen nhw’n darparu gwasanaethau cyflogadwyedd a hyfforddiant i bobl ledled Castell-nedd Port Talbot, ac roedd e’n wych gweld y rhaglenni oedd yno yn y gymuned, wedi’u teilwra’n enwedig ar gyfer y rhai, efallai, nad yw cyrsiau coleg mor addas iddyn nhw. Gyda chymorth cyllid fel rhaglenni Multiply a sgiliau digidol Llywodraeth San Steffan, maen nhw wedi gallu helpu 300 o bobl o ardal Port Talbot yn enwedig i ganfod gwaith. Ond mae yna gyhoeddiad wedi dod bod y cyllid wedi dod i ben a’r rhaglenni’n ansicr, ac mae hynny wedi arwain at orfod diswyddo chwe aelod o staff, pump ohonyn nhw yn y ganolfan yn Aberafan.3
Mae cefnogaeth o’r math yma'n hanfodol, wrth gwrs, gan fod Cymru yn parhau i fod â'r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o unrhyw ran o’r Deyrnas Gyfunol, yn ogystal â’r gyfradd gyflogaeth isaf. Ac, wrth gwrs, mae’n fwy hanfodol byth yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn dilyn y colledion swyddi enbyd yn Tata Steel. Brif Weindiog, ers i raglen sgiliau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ddod i ben ym mis Mawrth 2023, does dim rhaglen debyg wedi dod yn ei lle. Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i ddatblygu rhaglen gyflogadwyedd genedlaethol newydd i dargedu pobl economaidd anweithgar sydd angen cymorth i fedru dychwelyd i’r gweithle?4

Diolch yn fawr. Wel, os ydych chi’n sôn am bobl ifanc, wedyn mae gyda ni’r warant i bobl ifanc, sydd wedi cefnogi dros 45,000 o bobl ifanc. Os ydych chi’n sôn am oedolion, wrth gwrs mae rhaglenni fel Communities for Work—mae 6,000 o bobl wedi cael eu helpu. Hefyd, wrth gwrs, mae ReAct, sydd hefyd yn briodol ar gyfer yr ardal yna—4,700 o grantiau ar gyfer pobl hefyd. Ac, wrth gwrs, mae yna brentisiaethau—£144 miliwn yn cael ei wario ar brentisiaethau sydd yn cyfro pob oedran, ac rŷn ni ar darged i sicrhau bod 100,000 o bobl yn elwa o hynny.5
Ers blynyddoedd lawer, mae economi fedrus sir Benfro wedi cael ei chryfhau gan y cyfleoedd gwaith rhagorol sydd ar gael ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau, yn enwedig yn y diwydiant hydrocarbon, gyda chwmnïau fel Valero ac RWE ar flaen y gad, gyda chefnogaeth cadwyn gyflenwi ragorol, sy'n cynnwys Jenkins and Davies, a Ledwood. Bydd y diwydiannau a'r busnesau hyn yn parhau i fod yn hanfodol am flynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, gyda llwyddiant y porthladd rhydd Celtaidd a chyfleoedd newydd yn deillio o fentrau fel prosiect morol Doc Penfro, Canolfan Sero Net Penfro, a datblygiadau gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd, ceir potensial i rai swyddi drosglwyddo i'r sectorau newydd hyn drwy hyfforddiant wedi'i dargedu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, fel y rhai yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, i harneisio eu harbenigedd, i wrando ar eu lleisiau ac i sicrhau bod y rhaglenni ailsgilio ac uwchsgilio cywir yn cael eu darparu i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau a nodwyd gan ddiwydiannau a busnesau allweddol ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau?6

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chi mor arbennig o falch ag yr oeddwn i o glywed bod y rhyddhadau treth hynny yn agored bellach o ran y ddau borthladd rhydd, nid yn unig o ran Ynys Môn, y cefais y fraint o ymweld â hi yr wythnos diwethaf, ond hefyd o ran Port Talbot ac Aberdaugleddau. Ond rydych chi'n gwbl gywir—mae angen i ni gael pobl yn barod ar gyfer y trawsnewid, ac rwy'n gwybod bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud trwy a chyda Choleg Sir Benfro, er enghraifft. Un o'r prosiectau yr wyf i'n arbennig o falch amdano yw'r cyfrifon dysgu unigol. A'r hyn y mae hynny yn ei wneud yw targedu pobl sydd eisoes mewn gwaith sydd efallai ar gyflog is, ond mae'n eu helpu nhw i bontio i swyddi sgiliau uwch tra eu bod nhw yn y gweithle. Felly, mae'n gwella eu cyfleoedd yn y meysydd hynny lle'r ydym ni'n gwybod bod gennym ni brinder sgiliau. Rwy'n credu ei fod yn brosiect cyffrous iawn, ac mae hynny wedi cynyddu o ran y cyllid. Ar gyfer 2023-24, roedd y swm o arian yn agos at £21 miliwn a fuddsoddwyd gennym ni yn hynny. Felly, mae miloedd o bobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Felly, byddwn yn argymell i bobl yn eich ardal edrych ar y cyfrifon dysgu unigol hynny.7
Prif Weinidog, mae ein colegau addysg bellach yn gryfder mawr i Gymru o ran darparu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i symud ein heconomi a'n cyfleoedd ymlaen. Ymwelais â champws Casnewydd Coleg Gwent yr wythnos diwethaf, i gyfarfod â darlithwyr, a chlywais am broblemau penodol yn ymwneud â'r rhaglen brentisiaethau, lle, er enghraifft, ym maes adeiladu ac, er enghraifft, ym maes plymio, y gall dysgwyr dreulio dwy flynedd yn y coleg, ond yna, os nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i le gyda chyflogwr i fwrw ymlaen â'r brentisiaeth, nid oes digon o werthfawrogiad o'r ddwy flynedd o ddysgu y maen nhw wedi ei gyflawni. Fe wnaethon nhw briodoli hynny i'r fframwaith cymwysterau newydd. Felly, wrth adolygu'r rhaglen brentisiaethau a sgiliau gwyrdd sydd eu hangen arnom ni ar gyfer ein heconomi, Prif Weinidog, tybed a ellir edrych ar y materion ymarferol iawn hynny fel y gallwn ni wneud yn siŵr nad yw'r dysgwyr hyn yn cael eu colli i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru.8

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod plymio wedi bod yn faes lle'r ydym ni wedi bod yn awyddus iawn i gael mwy o bobl i mewn i'r maes medrus penodol hwnnw, yn enwedig os ydym ni eisiau cyrraedd ein targedau o ran adeiladu, nid yn unig o ran tai ond datblygiadau eraill hefyd. Ac mae 'prinder—rwy'n gwybod, yn sir Benfro, mae'n eithaf anodd dod o hyd i blymwr sy'n barod i ddod allan yn gyflym iawn. Felly, rhan o'r broblem, rwy'n credu, yw bod plymwyr, mewn gwirionedd, yn amharod i gyflogi prentisiaid, a dyna'r broblem. Felly, maen nhw'n gwneud eu dwy flynedd, fel rydych chi wedi ei nodi, ond wedyn allan nhw ddim cael pobl i'w cyflogi. Felly, mae'n amlwg bod problem yn hynny o beth. Rhoddwyd sylw iddo mewn ffordd wahanol drwy'r system adeiladu, lle ceir dull cyfunol o roi prentisiaethau, a tybed a allai hynny fod yn rhywbeth y gellid ei archwilio.9
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith newidiadau treth etifeddiant ar ffermydd teuluol yng Nghymru? OQ62229

Mae treth etifeddiant yn dreth sy’n cael ei rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae ffigurau Trysorlys ei Fawrhydi yn awgrymu na fydd y rhan fwyaf o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.10
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.11
Rydym ni wir eisiau gwybod yr asesiad effaith ar ffermydd teuluol yng Nghymru. Eisteddais mewn ystafell yn y Gelli gyda ffermwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed—pump ohonyn nhw—ac roedd pob un ohonyn nhw yn mynd i gael ei effeithio gan y dreth etifeddiaeth newydd hon. Roedden nhw wedi gwneud dadansoddiad manwl, gyda chefnogaeth cyfrifwyr, o 15 fferm ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Roedd y rheolau newydd yn effeithio ar bob un ond un ohonyn nhw. Mae'r polisi hwn, Prif Weinidog, yn gwahaniaethu yn erbyn gweddwon, gŵyr gweddw, pobl sy'n dioddef o afiechydon a allai arwain at eu marwolaeth gynnar, a'r rhai sy'n hen. Mae hwn yn bolisi echrydus, ac yn un yr wyf i'n ei gredu nad oes ei angen ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym ni eisiau gwybod, Prif Weinidog, beth rydych chi'n ei wneud i gynrychioli ein safbwyntiau ni yma yng Nghymru. Felly, fy nghwestiynau yw—. Ac a allwn ni gael ateb i'r rhain, nid datganiad, os gwelwch yn dda? A allwn ni gael ateb—ac mae'n fater o 'ydw' neu 'nac ydw'? A ydych chi wedi cyfarfod â Keir Starmer, i'w hysbysu am safbwyntiau ffermwyr Cymru ar y dreth etifeddiaeth ffermydd teuluol hon? 'Ydw' neu 'nac ydw'. Ac a allech chi ddweud wrthym ni, os ydych chi wedi, beth oedd ei ymateb, ac, os nad ydych chi, pam lai, a phryd? Diolch yn fawr iawn.12

Diolch yn fawr iawn. Wel, byddwch yn ymwybodol bod gen i Weinidogion sy'n gwneud rhywfaint o'r cysylltu hwnnw ar fy rhan, a gallaf eich sicrhau chi bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'i swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU, oherwydd rwy'n cydnabod bod datgysylltiad rhwng yr hyn y mae undebau ffermwyr Cymru yn ei ddweud a'r hyn y mae'r Trysorlys yn ei ddweud. Felly, yn sicr mae angen deialog. Felly, gwnaed nifer o sylwadau i Lywodraeth y DU. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, fel y dywedais i, wedi codi'r mater yn uniongyrchol, ac wedi anfon llythyr pellach at Lywodraeth y DU, yn eu hatgoffa o'u hymrwymiadau i ystyried safbwyntiau ffermwyr Cymru. Felly, gwnaed gwaith dilynol ar hynny, ac mae'n bwysig bod llais y gymuned amaethyddol yng Nghymru yn cael ei glywed, er gwaethaf y ffaith mai menter Llywodraeth y DU yw honno. Rydym ni'n hwyluso cyfarfod ac yn ceisio gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Rwyf i hefyd eisiau rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Cafwyd sicrwydd ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rydym ni wedi cael rhai gwarantau a sicrwydd ynghylch hynny.13
Prif Weinidog, rwyf i wedi siarad â llawer iawn o ffermwyr ers yr hydref ac, er gwaethaf yr holl heriau enfawr sydd wedi eu hwynebu o'r lle hwn, maen nhw'n cael eu bwrw i'r cysgod gan y mater pwysig hwn. Mae'r penderfyniad treth etifeddiaeth wedi torri i galon y diwydiant ffermio gan ei fod yn bygwth dyfodol ffermydd teuluol. Mae'n bygwth dyfodol ein ffermwyr yn y dyfodol, y bobl ifanc hynny sydd ddim hyd yn oed yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu—pobl y dylem ni eu gwerthfawrogi yn y lle hwn. Mae'n bygwth gwead sylfaenol ein cymunedau gwledig—y pethau sy'n gwneud cefn gwlad Cymru yr hyn ydyw. Yn y tymor hwy, yn eironig, mae'n bygwth ein diogelwch bwyd a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i gyflawni ei chynlluniau ei hun ar gyfer system ffermio gynaliadwy, un sy'n canolbwyntio ar y tymor hir ac ar genedlaethau'r dyfodol—rhywbeth sy'n gofyn am fuddsoddiad a sicrwydd. Prif Weinidog, gall y Trysorlys wneud i ffigurau ddweud yr hyn y maen nhw ei eisiau, ond nid yw hyn yn ymwneud ag arian yn unig; mae'n ymwneud â rhywbeth mwy gwerthfawr na hynny, rhywbeth sy'n hynod werthfawr i'n gwlad. Felly, Prif Weinidog, fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn a gododd Jane Dodds: a wnewch chi sefyll dros y diwydiant ffermio yng Nghymru a gwneud y ddadl yn erbyn hyn? Bydd 'gwnaf' neu 'na wnaf', fel y dywedodd Jane, yn ddigonol.14

Rwyf i newydd roi ateb i chi—mae'r Dirprwy Brif Weinidog, ydy, wedi gwneud sylwadau i'w swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi bod CThEf yn dweud bod 40 y cant o ryddhad eiddo amaethyddol o fudd i'r 7 y cant uchaf o ystadau. Ac os ydych chi'n poeni am bobl ifanc, rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth anadlu ychydig bach a deall bod y rhai nad ydyn nhw'n ffermwyr yn cam-fanteisio ar ryddhad eiddo amaethyddol yn cynyddu prisiau tir, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i'r ffermwyr ifanc hynny yn y dyfodol gael cam ar yr ysgol amaethyddiaeth honno.15
Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod yna disconnect rhwng ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhai o’r ffigurau eraill sydd yma. Wel, dyw e ddim yn disconnect, mae'n gagendor eithriadol o fawr. Rhyw 500 o ffermydd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn, ond mae yna waith dadansoddi annibynnol, trydydd parti wedi cael ei wneud sy’n dangos y bydd tri chwarter o’r holl ffermydd yn cael eu heffeithio gan y polisi yma, ar yr union adeg pan ydyn ni angen diogelwch a sicrwydd bwyd yn y wlad yma, ar yr union adeg pan fo eich Llywodraeth chi’n pwyso’n drymach nag erioed ar y sector i gyflawni pan fydd hi'n dod i daclo newid hinsawdd a gwyrdroi colli bioamrywiaeth, ac ar yr union adeg pan fo yna ansicrwydd yn y sector oherwydd cyflwyno y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn y blaen. Mae hwn yn creu poen meddwl a gofid i ffermwyr. Felly, nid dim ond mater economaidd yw hwn; mae hwn yn fater o iechyd meddwl pobl sydd yn deuluoedd fferm. Mae’n taflu cysgod trymach na TB hyd yn oed, os yw’r e-byst a’r negeseuon a’r sgyrsiau ffôn dwi’n eu cael yn adlewyrchiad o’r sefyllfa. Felly, a wnewch chi gydnabod, Brif Weinidog, fod hyn wedi creu gwewyr, ei fod wedi creu gofid meddwl eithriadol i deuluoedd fferm ar hyd a lled Cymru, ac ar sail hynny, nid dim ond y ddadl economaidd, mi ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gamu nôl?16

Diolch yn fawr. Fel dwi wedi dweud, mae treth etifeddiant yn dreth sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond beth dwi yn deall yw bod hwn wedi peri pryder i lot o bobl ar hyd a lled cefn gwlad Cymru. Yn sicr, dwi yn poeni am yr effaith mae hwn yn ei chael ar eu hiechyd meddwl nhw. Dwi’n falch i ddweud ein bod ni'n buddsoddi eithaf lot mewn iechyd meddwl i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad ac ar ffermydd. Un o’r pethau dwi’n meddwl sy’n bwysig yw bod pobl yn nodi bod rhaglen Farming Connect gyda ni, sydd yn rhoi cyngor i ffermwyr ynglŷn â sut y gallan nhw gael succession plan, a byddwn i’n gobeithio y byddai pobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw, jest i weld a chael gwell sicrwydd ynglŷn â ble maen nhw’n sefyll.17
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.18

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i groesawu datganiad Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost a phedwar ugain mlynedd ers rhyddhau carcharorion o Auschwitz Birkenau? Mae'n iawn bod Aelodau'r Senedd hon yn dod at ei gilydd i nodi erchyllterau'r Holocost, i gofio'r 6 miliwn o Iddewon a dioddefwyr eraill a fu farw yn nwylo'r gyfundrefn Natsïaidd wrthun ac i adnewyddu ein hymrwymiad gyda'n gilydd, yma yn y Senedd hon, i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth a chasineb yn ein cymdeithas.19
Prif Weinidog, cyhoeddwyd y trosolwg o'r farchnad lafur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf. Dangosodd y ffigurau eich bod chi'n Llywodraeth Lafur sy'n curo recordiau, ond rydych chi'n curo recordiau am yr holl resymau anghywir, oherwydd mae'r data yn dangos mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig a'r lefel uchaf o anweithgarwch economaidd a'r cyflog mynd adref cyfartalog isaf ym Mhrydain Fawr. Nawr, yn y gyllideb ddiwethaf, un o'r polisïau blaenllaw a nodwyd gan eich cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur y DU oedd cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod unrhyw sefydliad—busnes, elusen neu unrhyw un arall—sy'n meddwl am gyflogi pobl bellach yn wynebu treth ychwanegol ar y swyddi hynny, ac mae hynny ar ben y dreth ychwanegol ar swyddi presennol hefyd. Nawr, rydych chi wedi brolio am fod â pherthynas agos gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur y DU, felly a gaf i ofyn hyn i chi: a wnaeth unrhyw un yn Llywodraeth Lafur y DU drafod y syniad o gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr gyda chi cyn y cyhoeddiad hwnnw? Os felly, beth oedd eich ymateb? Ac a ydych chi'n derbyn nawr bod y polisi hwnnw yn ei gwneud hi'n ddrytach i fusnesau ac eraill gyflogi pobl ac i greu swyddi ac yn gwthio diweithdra yn uwch?20

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y bydd pobl ledled Cymru a'r DU yn gwybod mai'r effaith anoddaf sydd wedi bod ar fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf yw cynnydd enfawr i chwyddiant, ond hefyd cynnydd i gyfraddau llog, ac mae'r holl bethau hyn o ganlyniad i arweinyddiaeth drychinebus y Llywodraeth Dorïaidd yn y gorffennol. Os ydych chi'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r ffaith, er enghraifft, o ran diweithdra ieuenctid, bod ein lefelau ar 6 y cant, o'i gymharu ag 11 y cant—12 y cant bron—yn y Deyrnas Unedig. Nawr, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei gredu y dylem ni fod yn arbennig o falch ohono, oherwydd, os nad ydych chi'n lladd hynny yn yr egin, yna ceir potensial gwirioneddol na fydd y bobl hynny byth yn cael swydd, ac felly mae hynny yn rhywbeth, oherwydd ein gwarant—ein gwarant ieuenctid—sydd wedi gwneud gwahaniaeth, ac rwy'n falch iawn o hynny.21
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n falch iawn; ni fyddwn i'n falch o'r ffigurau hyn o gwbl—y diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n hanes cwbl ofnadwy, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n chwilio am waith ar hyn o bryd. Y gwir amdani, Prif Weinidog, yw eich bod chi, fel Llywodraeth Lafur, wedi rhedeg allan o syniadau ac rydych chi'n rhedeg allan o stêm hefyd. Ac er bod Llywodraeth Lafur San Steffan wedi bod yn tanseilio rhagolygon swyddi drwy osod trethi ychwanegol ar gyflogaeth, mae'r Llywodraeth Lafur yma hefyd wedi bod yn brysur, yn codi trethi ychwanegol ar gwmnïau yng Nghymru. Siopau stryd fawr, tafarndai cefn gwlad, caffis, bwytai lleol—maen nhw i gyd yn talu trethi busnes uwch na dros y ffin yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, bydd ymwelwyr yng Nghymru yn cael eu taro gan dreth newydd cyn bo hir a fydd yn difetha ein henw da am groeso'n aros yn y bryniau. Mae'r data swyddogol yn dangos bellach bod diweithdra yng Nghymru 27 y cant yn uwch nag y mae mewn mannau eraill, yn uwch na chyfartaledd y DU, ac mae hynny i fyny ym mhob un o'r saith mis diwethaf, cynnydd o bron i 50 y cant ers i Syr Keir Starmer gyrraedd Rhif 10 Downing Street, hanes hollol ofnadwy. Felly, beth yw eich neges, Prif Weinidog, i'r miloedd o bobl, y degau o filoedd o bobl, ledled Cymru, sy'n ddi-waith o ganlyniad i'r polisïau Llafur ofnadwy hyn?22

Wel, mae'n ddiddorol, onid yw, ei fod mor bryderus am ddiweithdra. Efallai y dylai roi'r gorau i un o'i swyddi ef. Ond rwy'n credu, o ran ein trywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod uwchgynhadledd fuddsoddi yr ydym ni wedi ei chyhoeddi, a fydd, gobeithio, yn helpu i gynyddu'r cyfleoedd yn ein cenedl, oherwydd yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr mai'r hyn sydd gennym ni yw swyddi medrus iawn, o ansawdd uchel ar draws ein cenedl gyfan. Dyna'r hyn y llwyddais i'w wneud. Roedd yn wych, er enghraifft, yn ystod ymweliad â Wrecsam yr wythnos diwethaf, clywed sut mae clwb pêl-droed Wrecsam yn buddsoddi yn sylweddol yn yr ardal. Maen nhw hyd yn oed wedi prynu Wrexham Lager nawr, â chyfle i allforio hwnnw yn llawer mwy gweithredol ledled y byd. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynyddu'r ffigurau cyflogaeth, ond nid yw'n ymwneud â ffigurau cyflogaeth yn unig, mae'n ymwneud â pha fath o swyddi sydd gennym ni, a dyna'r ydym ni'n canolbwyntio arno, y swyddi gwyrdd hynny ar gyfer y dyfodol a swyddi hynod fedrus. Ac rydym ni'n cyfrannu swm sylweddol o arian at wneud yn siŵr bod ein pobl yng Nghymru yn barod ar gyfer y swyddi hynny ar gyfer y dyfodol.23
Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau gwthio cyflogaeth i fyny, ond y gwir amdani yw bod eich polisïau yn gwthio diweithdra i fyny. Dyna'r gwir: cynnydd o 50 y cant ers mis Gorffennaf y llynedd. Ond, wrth gwrs, yng nghanol y data digalon hynny—ac mae nhw'n ddata digalon, mae gen i ofn dweud—ceir rhai pelydrau llachar o heulwen yn torri trwodd, oherwydd mae hi'n bum mlynedd yr wythnos hon ers ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae porthladd rhydd Ynys Môn yn weithredol bellach, ynghyd â'r porthladd rhydd Celtaidd. Bydd tua 17,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel yn cael eu creu gan y porthladdoedd rhydd hynny a biliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad. A dim ond y mis diwethaf, wrth gwrs, derbyniodd y DU y newyddion da iawn ei bod ar fin elwa o aelodaeth o'r cytundeb masnach y Môr Tawel. 24
Nawr, fel y gwyddoch, mentrau Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU oedd y ddau borthladd rhydd ac aelodaeth y DU o'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar gyfer partneriaeth y Môr Tawel. Gweinidogion Llafur Cymru, wrth gwrs, fe wnaethon nhw betruso o ran mater y porthladdoedd rhydd. Gallem ni fod wedi eu sefydlu yn gynt o lawer. Ac roedden nhw, ar y gorau, yn llugoer pan ddaeth i'r cytundeb masnach newydd arall. Felly, a ydych chi'n cydnabod—a ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog—bod porthladdoedd rhydd a'r cytundebau masnach newydd yn fuddion eglur ohonom ni'n byw mewn Teyrnas Unedig sofran, ac na fyddai'r naill na'r llall o'r cyflawniadau hyn wedi bod yn bosibl heb Brexit?25

Allaf i ddim credu—allaf i ddim credu—eich bod chi'n ceisio cyflwyno Brexit fel rhywbeth sydd wedi gweithio. Y gwir amdani yw mai rhan o'r rheswm pam rydym ni'n wynebu cynifer o heriau yw oherwydd Brexit. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, nodi bod ein cyfleoedd a'r cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru allforio wedi cael eu taro'n sylweddol o ganlyniad i'r rhwystrau uwch hynny y mae'n rhaid i ni eu hwynebu bellach. Mae'r anawsterau yn recriwtio yn rhai o'n meysydd arbenigol iawn o ganlyniad i Brexit. A'r addewidion hynny a wnaethoch chi o ran lleihau mewnfudo, wel, ni chawson nhw eu gwireddu chwaith. Addewidion, addewidion ac addewidion. Ac mae gen i ofn—. Mae'n rhaid i ni barchu'r ffaith bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros Brexit, ond dywedwyd anwireddau wrthyn nhw. Dywedwyd anwireddau wrthyn nhw, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Dywedwyd wrthyn nhw—. Gwnaed addewidion iddyn nhw nad ydyn nhw wedi cael eu gwireddu. 26
Ac o ran porthladdoedd rhydd, cawsoch chi gyfle i roi'r rheini ar waith fel Llywodraeth Geidwadol y DU; allech chi ddim gwneud iddo ddigwydd. Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwneud iddo ddigwydd, ac rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth, lle bo hynny'n briodol, gyda Llywodraeth y DU ar wneud yn siŵr y gallwn ni weld swyddi hynny'r dyfodol yn datblygu mewn lleoedd fel y porthladdoedd rhydd hynny.27
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 28

Diolch, Llywydd. Ie, dydd Gwener yma, mi fyddwn ni'n cofio pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, mi oedd Plaid Cymru o'r farn bod cymunedau a busnesau Cymru yn elwa drwy sicrhau'r berthynas fasnachu agosaf posib efo'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni'n dal o'r farn honno heddiw.29
Bum mlynedd ers cyflawni Brexit caled iawn, ni all hyd yn oed deiliad pasbort Iwerddon a oedd yn cefnogi aros yn yr UE, fel arweinydd y Ceidwadwyr, wadu bod £4 biliwn wedi cael ei dynnu allan o economi Cymru. Mae cytundebau masnach gwael a gytunwyd ar frys wedi tanseilio llawer o fusnesau a sectorau. Mae hynny'n taro swyddi, mae'n taro cyflogau, mae'n taro'r arian ym mhocedi pobl. Nawr, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur newydd sôn am ryw fath o ailosod, ond dywedodd y cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock wrth bapur newydd The i ei fod wedi cael ei yrru'n wallgof gan gyflymder araf yr ailosod gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Plaid Cymru yn dweud, 'Gadewch i ni ymuno â'r farchnad sengl o leiaf. Gadewch i ni ymuno â'r undeb tollau. Gadewch i ni ofalu am swyddi pobl yma.' A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi?30

Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw, o ganlyniad i'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, mae rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft, yn wynebu llawer mwy o heriau nag y bydden nhw fel arall. Rydych chi'n meddwl am y gwasanaeth gofal: gadawodd 2,000 o bobl ein gwasanaeth gofal o ganlyniad i Brexit. A rhan o'r rheswm pam rydym ni'n wynebu cynifer o heriau yn ein hysbytai yw oherwydd y diffyg llif hwnnw, oherwydd aeth y bobl hynny yn y cymunedau adref ac nid ydyn nhw'n cael eu disodli. Mae'r un peth yn wir am ddeintyddion. Roedd gen i ddeintydd o ddwyrain Ewrop yn flaenorol—wedi mynd adref, heb gael ei ddisodli. Plymwyr, yr un peth. Felly, mae wedi cael effaith ar bobl yn ein cymunedau.31
Rydych chi'n gofyn am rwystrau ychwanegol, ac, rydych chi'n gwbl gywir, does dim amheuaeth bod y rhwystrau ychwanegol hynny yn achosi niwed. Nawr, nid wyf i'n mynd i esgus i chi na fyddwn i'n hoffi gweld perthynas lawer agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai'r broblem i ni yw: a wnawn nhw ein derbyn ni? A ydyn nhw'n mynd i agor y cyfleoedd hynny i ni? Oherwydd, a dweud y gwir, fel cenedl, dros yr holl flynyddoedd hynny o Lywodraeth Dorïaidd, wnaethon ni ddim ymddwyn yn dda iawn. Ac felly, nid yw caniatáu i ni ddychwelyd yn mynd i fod mor syml ag yr hoffech chi a minnau ei feddwl.32
Rwy'n cytuno â'r rhestr o niweidiau a glywsom ni gan y Prif Weinidog yn y fan yna, ond, i rywun a oedd yn arfer bod yn Aelod o Senedd Ewrop, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n clywed neges eglur a diamwys iawn ar faterion fel yr undeb tollau ac aelodaeth o'r farchnad sengl, ar y berthynas honno gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac mae arolygon, dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf, wedi dangos bod pob etholaeth yng Nghymru yn cefnogi blaenoriaethu masnach gyda'r UE dros yr Unol Daleithiau—a pheidiwch â'm camddeall, mae'r Unol Daleithiau yn bartner masnachu pwysig iawn hefyd. Ond, er fy mod i eisiau iddi lobïo ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan ar y berthynas honno â'r UE, ceir pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud hefyd. Cofiwch fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyd-gynhyrchu dogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn dadlau'n bendant bod parhau i fod â mynediad dirwystr at y farchnad sengl yn hanfodol i'n dyfodol. Nawr, roedd yn bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, pan oedd gan Gymru safbwynt eglur a chlir cyn trafodaethau, gan barchu bod pobl wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd yn y refferendwm ei hun. Ond, â'r trafodaethau hynny wedi gadael Cymru yn dlotach, beth yw cynllun y Prif Weinidog nawr, gan ddefnyddio ei phwerau, i geisio diogelu buddiannau Cymru, a beth yw ei syniadau hi ar gyfer meithrin perthynas agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd?33

Wel, diolch yn fawr iawn. Fel y gwyddoch chi, mae materion tramor yn rhywbeth a gedwir yn ôl i'r Deyrnas Unedig. Nawr, a yw'n cael effaith arnom ni? Wrth gwrs ei fod yn cael effaith arnom ni. Ac fe wnaethom ni hi'n eglur iawn lle'r oeddem ni'n sefyll ac fe wnaethom ni sefyll gyda chi ar y cysylltiadau hynny, ond nid oedd yn rhywbeth a newidiodd o ran ein gallu i ddylanwadu yno. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni, rwy'n credu, yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n brwydro am fynediad llawer gwell at yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cynorthwyo ein busnesau, ac rwy'n falch iawn ein bod ni yng Nghymru, lle gallwn ni, wedi cadw perthynas ag Ewrop, drwy, er enghraifft, ein prosiect Taith, sydd wedi golygu, er bod prosiect Erasmus wedi cael ei gau, ein bod ni wedi parhau i roi'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru deithio a gweithio gyda'u cymheiriaid ar draws yr Undeb Ewropeaidd.34
Roedd materion tramor wedi'u cadw yn ôl pan gyd-gynhyrchwyd y ddogfen honno, ac rwy'n talu teyrnged i ragflaenwyr y Prif Weinidog am weld yr angen i frwydro. Ac nid yw'r heriau a wynebwyd dros y mater penodol hwnnw yn golygu ein bod ni'n rhoi'r gorau iddi nawr, onid ydyw? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru yn rhagweithiol ar y mater hwn.35
Nawr, yn union fel yr ydym ni wedi ei wneud ar y GIG yn yr wythnosau diwethaf, mae Plaid Cymru heddiw wedi cyflwyno cyfres o gynigion adeiladol, a fyddai'n helpu i ailosod perthynas Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd. Yn ganolog i'r strategaeth Ewropeaidd honno y mae deddf newydd—rydym ni'n ei galw'n Ddeddf aliniad Ewropeaidd—gan roi dulliau i ni geisio amddiffyn ein heconomi. Mewn meysydd fel diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr, rydym ni wedi dechrau ymwahanu o safonau gorau'r byd yr UE ac rydym ni mewn perygl o fynd tua'n ôl. Rydym ni'n dweud gadewch i ni wneud yr hyn a allwn i ail-alinio, i adfywio ein cysylltiadau ag Ewrop ac, i bob pwrpas, i ddechrau ar y gwaith caled o ostwng rhwystrau masnach i fusnesau, i ffermwyr ac i gynhyrchwyr eraill. Byddai hefyd yn edrych, rwy'n credu, i ymestyn a dyfnhau ein perthynas gydag Iwerddon, ein cymydog Ewropeaidd agosaf. Mae tir ffrwythlon, heb os, i'w gael ar gyfer ffyniant o'r newydd yng Nghymru a'r arc Celtaidd sy'n cysylltu nid yn unig ni ag Iwerddon, ond hefyd Gogledd Iwerddon a'r Alban. Felly, wrth i Lywodraeth y DU betruso, a wnaiff y Prif Weinidog o leiaf ystyried ein cynigion fel ffordd o sefydlu partneriaeth flaengar gyda'n ffrindiau yn yr Undeb Ewropeaidd?36

Wel, rydym ni wedi parhau'r cysylltiadau dwyochrog, lle gallwn ni, a byddaf yn falch iawn o fynd i ymweld â'n cydweithwyr cyfandirol ym mis Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ond gallaf eich sicrhau ein bod ni eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio alinio lle'n bosibl, cymaint â phosibl, ar y meysydd hynny lle mae er budd i ni wneud hynny, gan gynnwys ar bethau fel deddfwriaeth amgylcheddol. Felly, mae'n syniad hyfryd, ond prin fy mod i'n meddwl ei fod yn wreiddiol.37
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig? OQ62231

Rydym ni'n buddsoddi cyllid sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys dros £27 miliwn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru drwy ein grantiau trafnidiaeth lleol. Rydym ni'n cynllunio ar gyfer diwygio bysiau, a fydd yn dechrau yn y de-orllewin, ac yn datblygu cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru.38
Rwy'n credu ei bod hi'n wych y bydd diwygiadau bws y Llywodraeth yn cael eu profi yn y maes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a bydd y treialon a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer Powys a Cheredigion yn darparu gwasanaethau bysiau mwy dibynadwy i'n cymunedau gwledig yn fuan. Diben yr ailwampio yw sicrhau bod y rhwydwaith yn canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid, ac agor gweithredwyr anfasnachol. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, a wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu'r gwasanaeth bws galw'r gyrrwr newydd i Gastell Newydd Emlyn, yn cychwyn yn Ffostrasol, a fydd yn rhedeg bob dydd Mawrth tan ddiwedd mis Hydref?39

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn bod cyflwyno'r Bil bysiau ar fin digwydd, a fydd yn caniatáu i ni wneud llawer mwy o'r hyn y mae gennych chi ddiddordeb yn ei weld yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni reoli disgwyliadau, gwneud yn siŵr bod cydnabyddiaeth nad yw'n mynd i newid dros nos, ond mae'n mynd i fod yn gam pwysig iawn. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau gwasanaethau, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig hynny lle ystyrir eu bod yn angenrheidiol, ond rwy'n arbennig o falch o weld y bydd y rheini yn cael eu profi yn y maes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—y bont honno i fasnachfreinio—fel y gallwn ni ddysgu wrth i ni ddatblygu, am bethau yn benodol fel safonau cerbydau gofynnol, prisiau fforddiadwy, cystadleuaeth rhwng gweithredwyr, lle bo hynny'n briodol, a gwell dibynadwyedd. Felly, mae'n wych gweld bod y fenter honno yn cael ei chynnal yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.40
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, sylwais eich bod chi yn y Trallwng yn siarad am drawsnewid gwasanaethau bysiau cyhoeddus yno. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n gobeithio trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhowys, a'ch bod chi eisiau dod â mwy o ddarpariaeth bysiau i ardaloedd gwledig. Rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw yn fawr.41
Wrth gwrs, mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion a fydd yn arwain at ostyngiad i wasanaethau bysiau. Un pryder yw y byddai'n rhaid i lawer o etholwyr aros dwy awr yn y Trallwng cyn cychwyn ar gam nesaf eu taith, a cheir pryder penodol am derfynu'r gwasanaeth X75 o Lanidloes i Amwythig, sy'n mynd trwy'r Drenewydd, Aber-miwl, Aberriw a'r Trallwng. Wrth gwrs, mae llawer o'm hetholwyr yn defnyddio'r gwasanaethau bysiau hyn er mwyn cyrraedd apwyntiadau yn sir Amwythig, er enghraifft, ar gyfer apwyntiadau meddygol. Felly, a gaf i ofyn i chi sut mae eich datganiad yn cyd-fynd â chynigion Cyngor Sir Powys, a fyddai'n arwain at ostyngiad i wasanaethau bysiau yn y sir?42

Diolch. Yr hyn y byddwch chi'n ei weld pan fydd y Bil bysiau hwnnw yn cael ei gyflwyno yw y bydd gan awdurdodau lleol fwy o reolaeth dros ble mae'r llwybrau bysiau hynny yn digwydd mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r pwerau ganddyn nhw i wneud hynny, ac rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle, pan fydd hwnnw'n cael ei gyflwyno, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i anghenion lleol. Fe wnaethom ni lunio canllawiau i awdurdodau lleol a chydbwyllgorau corfforedig yn cynnwys enghreifftiau o sut y gellir gwneud pethau yn wahanol o ran trafnidiaeth wledig, ac fe wnaethon nhw sicrhau canlyniadau da, felly byddwn yn awgrymu eich bod chi'n gofyn i'r awdurdod lleol gymryd golwg ar y canllawiau a luniwyd eisoes o ran beth arall y gellir ei wneud.43
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol? OQ62226

Diolch yn fawr, Hefin. Yr hyn sy’n allweddol i sicrhau dyfodol hirdymor yw cyflawni ein cynllun 10 mlynedd tuag at sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae cam 1 ar y gweill. Rŷn ni wedi sefydlu ein swyddfa genedlaethol gofal a chymorth i arwain y datblygiadau hyn. Bydd ein cynlluniau hirdymor yn cefnogi ein gweithlu gwerthfawr i wella canlyniadau i bobl Cymru.
44
Diolch yn fawr. Rydym ni wedi nodi bod Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban wedi cefnu ar eu cynllun ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol oherwydd gan na allen nhw gael cytundeb rhwng staff ac na allen nhw gael cefnogaeth yr undebau llafur, ac mae hynny'n drasiedi yno. Mae Unsain Cymru wedi cefnogi ac eirioli dros wasanaeth gofal gwladol yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n eu cefnogi'n llwyr i gyflawni hynny. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi lansio comisiwn annibynnol i edrych ar ddyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn Lloegr, ac mae'r canfyddiadau hynny yn sicr o gael effaith ar Gymru. Byddaf yn annerch fforwm cyswllt Llafur-Unsain ddydd Sadwrn 8 Chwefror a hoffwn fynd ag ychydig o newyddion da iddyn nhw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn, a beth yw'r cynllun hirdymor ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol yng Nghymru?45

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cydnabod bod Unsain wedi hyrwyddo achos gwasanaeth gofal gwladol dros nifer o flynyddoedd, ac mewn gwirionedd wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym ni'n ymateb o ran datblygu hyn. Un o'r ffyrdd y maen nhw wedi dylanwadu arno yw gwneud yn siŵr bod gennym ni sefyllfa lle'r ydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru. Nid yw hynny yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni hefyd sefyllfa lle nad oes neb yng Nghymru yn talu mwy na £100 yr wythnos am ofal sydd ei angen arnyn nhw yn eu cartref eu hunain. Yn Lloegr, does dim cap. Yng Nghymru, fe gewch chi gadw cyfalaf o £50,000 ac ni fydd disgwyl i chi gyfrannu at gostau cartref gofal eich hun. Yn Lloegr, £23,000 yw'r cap.46
Felly, rydym ni'n gwneud cryn dipyn sy'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Fe wnaethoch chi holi am y cynigion diwygio gofal cymdeithasol yn Lloegr. Nid yw'n mynd i gael unrhyw effaith uniongyrchol ar ein cynlluniau presennol ar gyfer datblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru, ond byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau yn Lloegr gan y bydd angen i ni ystyried unrhyw effeithiau trawsffiniol i Gymru wrth i'w cynlluniau ddatblygu.47
Prif Weinidog, mae'r dyfodol hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yn gofyn am weithlu hirdymor, a chodwyd pryderon ynghylch dull cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, gan fod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y grant cynnal refeniw llywodraeth leol heb gyllid penodol wedi'i glustnodi. Mae sefydliadau wedi mynegi pryderon difrifol am y dull hwn, gan nodi diffygion ariannu sylweddol sy'n cael eu dioddef gan ddarparwyr gofal ledled Cymru wrth ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol. Maen nhw'n pwysleisio'r angen am gyllid eglur, y gellir ei nodi ac sydd wedi'i glustnodi i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn cael y cymorth angenrheidiol i ddarparu gofal cymdeithasol a thalu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff.48
Felly, o ystyried y pryderon hyn, Prif Weinidog, a allech chi roi manylion pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol yn cyrraedd darparwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn effeithiol, ac nad yw'n cael ei ailddyrannu ar draws cynghorau i ddelio â'r diffygion ariannol y maen nhw'n eu dioddef?49

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi'n cefnogi talu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal yng Nghymru. Ond rydych chi yn llygad eich lle: yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw trosglwyddo arian i lywodraeth leol trwy ddyraniad y grant cynnal refeniw, ac nid yw wedi'i neilltuo, ond rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iddyn nhw mai dyma, fwy neu lai, yw'r hyn yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei wario, felly bu neilltuad meddal i bob pwrpas, a byddem ni'n disgwyl i hwnnw gael ei wario yn y meysydd lle'r ydym ni wedi barnu y dylid ei wario. Felly, rydym ni bob amser yn cael trafodaethau adeiladol gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, ond mae honno yn egwyddor sylfaenol i ni. Os na fyddwch chi'n talu'r cyflog byw gwirioneddol, yna y cwbl y mae'r anhawster o recriwtio pobl mewn maes sydd eisoes o dan bwysau yn mynd i'w wneud yw achosi mwy o broblemau i chi yn y pen draw.50
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62192

Diolch. Rŷn ni’n darparu sawl gwahanol fath o gefnogaeth i fusnesau ym Mhreseli Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig pwynt cyswllt unigol i fusnesau ac entrepreneuriaid gael gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan drefniadau rheoli perthnasoedd penodol, arloesi a chymorth allforio.51
Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo ein busnesau, o gofio eu heffaith gadarnhaol ar ein cymunedau lleol. Nawr, yr wythnos diwethaf, ymwelais â Frenni Transport, busnes cludo nwyddau ar y ffyrdd yn fy etholaeth i, gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz. Fe wnaethom ni drafod nifer o faterion sy'n wynebu'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys cymorth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac roedden nhw'n bryderus iawn am y diffyg cyfleusterau ar ochr y ffordd sydd ar gael iddyn nhw wrth iddyn nhw wneud eu gwaith.52
Fel y byddwch chi'n ymwybodol, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad ar yrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cadwyn gyflenwi yn ôl ym mis Ionawr 2022, a gwnaeth yr adroddiad hwnnw 11 o argymhellion—argymhellion pwysig. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau fel Frenni Transport, ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa argymhellion o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wedi cael eu gweithredu yn llawn erbyn hyn?53

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n falch o gyfarfod â rhai cynrychiolwyr o faes cludo nwyddau, a oedd yn eglur iawn gyda mi eu bod hwythau hefyd yn bryderus am y sefyllfa o ran cyfleusterau. Ceir strategaeth cludo nwyddau ac, wrth gwrs, bydd cyfle o fewn honno i ymateb i'r argymhellion.54
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl ifanc yn Nelyn? OQ62216

Rydym ni'n ymgymryd ag amrywiaeth o gamau sydd â'r nod o wella bywydau pobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys yn Delyn. Er enghraifft, mae ein gwarant pobl ifanc wedi cynorthwyo dros 45,000 o bobl ifanc ledled Cymru i gael mynediad at gyfleoedd sgiliau a chyflogaeth, o led-ddargludyddion i chwarae gemau. Mae 472 o bobl ifanc wedi dechrau Twf Swyddi Cymru yn Delyn ers i'r rhaglen gychwyn yn 2022.55
Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog.56
Ac rydych chi'n iawn: dylem ni fod yn falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud, boed hynny yn cadw a chynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, i'n gwarant pobl ifanc, y gwnaethoch chi sôn amdano, a phethau fel FyNgherdynTeithio, mae'n Llywodraeth sy'n buddsoddi ac yn gwella bywydau pobl ifanc yn Delyn ac mewn etholaethau ledled y wlad. Ddydd Gwener, fe wnes i gyfarfod â'r Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Delyn sydd newydd gael ei ethol, Ben Harris. Un o faterion blaenoriaeth Ben yw trafnidiaeth a phwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus addas i etholwyr iau. Rwy'n gobeithio gweithio gyda Ben, yn enwedig wrth i ni symud tuag at ddeddfu ar gyfer gwell gwasanaethau bysiau yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn helpu i lunio gwasanaeth a system, bysiau a threnau, sy'n gweithio iddyn nhw.57
Felly, a allwch chi roi sicrwydd i'r Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Delyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y pryderon ynghylch trafnidiaeth o ddifrif, ac wedi ymrwymo i weithredu yn ymarferol i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc? Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai dim ond Llywodraeth Lafur sydd ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn Delyn?58

Diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed eich bod chi wedi cyfarfod â Ben, ac rwy'n ei longyfarch ef a gweddill y cynrychiolwyr ifanc sydd wedi cael eu hethol i'r senedd ieuenctid. Rwy'n croesawu'n arbennig ei ddiddordeb mewn trafnidiaeth, a hoffwn ei sicrhau ef a chithau ein bod ni wedi ymrwymo i weithredu i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru.59
Un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud dros y dyddiau diwethaf yw mynd i gyfarfod â myfyrwyr yn Llanelli, ond hefyd yn Ynys Môn, ac un o'r pethau yr oedden nhw'n eglur iawn amdano oedd, mewn gwirionedd, oherwydd ein bod ni'n talu'r lwfans cynhaliaeth addysg, eu bod nhw'n gallu defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw ar gyfer eu trafnidiaeth i gyrraedd y coleg. Nawr, mae hynny yn rhywbeth na ddigwyddodd yn Lloegr, ac rwy'n falch iawn o weld bod hwnnw wedi cael ei gynyddu nawr i £40 yr wythnos. Mae'n gwneud gwahaniaeth. Mae'n cadw myfyrwyr yn y coleg ac rwy'n falch iawn o weld y bydd datganiad ar hynny yn ddiweddarach yr wythnos hon.60
Felly, o ran trenau, byddwch yn gwybod y gall pobl ifanc dan 11 oed deithio am ddim ar Trafnidiaeth Cymru, a gall pobl ifanc dan 16 oed deithio am ddim ar drafnidiaeth allfrig pan fyddan nhw yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn. Felly, rydym ni'n ceisio gwneud cymaint ag y gallwn yn y maes hwn, ond mae'r hyblygrwydd hwnnw y mae'r LCA yn ei roi i bobl yn golygu eu bod nhw'n ei wario ar bethau sydd o'r pwys mwyaf hanfodol iddyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd Ben yn deall bod y bobl hynny sy'n gymwys i gael y LCA yn ei ddefnyddio i gynorthwyo eu hanghenion trafnidiaeth. 61
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol? OQ62222

Rydym ni'n gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol, heddluoedd a'r trydydd sector yng Nghymru i liniaru tensiynau a meithrin perthynas dda o fewn cymunedau. Ar nodyn cysylltiedig, roedd yn anrhydedd cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghoffâd cenedlaethol Diwrnod Cofio'r Holocost ddoe.62
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn anffodus, fe welir ymdrechion cynyddol i godi cynnen rhwng cymunedau. Wrth i ddynion cyfoethocaf y byd gymryd rheolaeth ar y cyfryngau traddodiadol ac ar-lein, fe wnaethon nhw ganiatáu i iaith casineb ehangu. Heb iddo fod yn fodlon ar roi saliwtiau Natsïaidd, mae perchennog X wedi cynnig llwyfan i gynhyrfwyr asgell dde eithafol ac estyn meicroffon ar gyfer eu celwyddau a'u propaganda nhw. Mae camwybodaeth yn helpu i danio gwrthsemitiaeth a chasineb gwrth-Fwslimaidd ac yn helpu i ysgogi rhai i ymuno ag al-Qaeda. Ategwyd tröedigaeth y llofrudd yn Stockport at derfysgaeth gan fideos y gwrthododd y llwyfan cyfryngau cymdeithasol eu tynnu nhw oddi ar-lein. Ac ar strydoedd Cymru, rydym ni wedi gweld cynnydd ymhlith grwpiau casineb fel Patriotic Alternative. Prif Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi'n ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gallwn ni eu cymryd i atal y grwpiau casineb hyn a'u celwyddau nhw rhag creu rhaniadau yn ein cymunedau ni?63

Diolch yn fawr, Altaf. Diolch yn fawr iawn am yr arweiniad yr ydych chi'n ei roi ynglŷn â'r mater hwn. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni roi sylw iddo, sef cydnabod y gall cyfryngau cymdeithasol fod ag effaith ddinistriol iawn ar y cydlyniad yn y cymunedau hyn fel gwnaethoch chi danlinellu ac mae hynny mor hanfodol i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, yn genedl ac yn gymdeithas, er mwyn ein pobl ni i gyd. Y peth olaf sydd ei angen arnom ni yn y genedl hon yw cael ein rhannu. Yn sicr, mae cael pobl o'r tu allan i Gymru yn taflu'r awgrymiadau ofnadwy am yr hyn a allai fod yn digwydd yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag ef. Ond diolch yn fawr iawn am hynna.64
Fe allaf i eich sicrhau chi, yn enwedig dan arweinyddiaeth Jane Hutt dros nifer o flynyddoedd—. Mae hi wedi gwneud gwaith anhygoel i sicrhau, yn y Llywodraeth, bod hyn yn flaenllaw ac yn ganolog i'r hyn a wnawn ni, ym mhob agwedd ar Lywodraeth. Rydych chi'n ymwybodol o 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'; mae hwn yn amlygu ein hymrwymiad i feithrin cenedl lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n gallu cyfranogi a pherthyn iddi. Rwy'n dymuno diolch i chi am hynna a rhoi sicrwydd i chi o ran bod hwn yn gyfan gwbl yn un o'r pethau sy'n ganolog i'n hegwyddorion creiddiol ni yn y Llywodraeth.65
8. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru? OQ62225

Mae ein strategaeth ni ar gyfer bwyd a diod yn cefnogi ein cynhyrchwyr yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi creu enw da am ragoriaeth yn fyd-eang, ac mae gennym ni un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd. Rŷn ni wedi rhagori ar ein mesur llwyddiant i dyfu’r sector ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl, gan gyflawni trosiant o £9.3 biliwn yn 2023.66
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.67
Yn ôl ym mis Hydref, roedd adroddiad gan y BBC yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 6 y cant o'r llysiau sy'n cael eu paratoi ar gyfer prydau bwyd yn ysgolion Cymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru ar hyn o bryd. Er bod Synnwyr Bwyd Cymru wedi datgan mai eu huchelgais nhw yw cynyddu'r ffigur hwnnw i 10 y cant erbyn 2028, roedden nhw'n rhybuddio hefyd y byddai angen llawer mwy o dyfwyr llysiau yng Nghymru ar gyfer taro'r nod hwn. Mae rhywbeth i'w ddweud, rwy'n credu, o ran y diffyg uchelgais sydd i'r bwriad hwnnw fel mae Synnwyr Bwyd yn ei nodi, ond yr hyn yr oeddwn i'n awyddus i holi yn ei gylch heddiw yw hyn: dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog yn yr haf y llynedd y byddai'r strategaeth bwyd cymunedol yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd 2024, felly naill ai ei bod hi'n anodd iawn cael gafael ar honno neu nad yw honno wedi digwydd, mewn gwirionedd. A gaf i'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl cael gweld y strategaeth honno?68

Diolch yn fawr. Yn gyntaf i gyd, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch y ffaith bod cyfanswm y gwariant ar fwyd a diod o ran llysiau a ffrwythau yn llawer llai nag yr oeddem ni wedi gobeithio. Ond mae'r ffigur hwnnw y gwnaethoch chi ei awgrymu wedi cynyddu 25 y cant eisoes, felly rydym ni'n teithio i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n falch iawn hefyd o gael dweud, er enghraifft, yng Nghastell Howell, sef un o'n prif gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd ni, y bu cynnydd o 86 y cant o ran y bwyd o Gymru sy'n cael ei brynu gan y GIG. Felly, rydym ni'n gwneud y cyfan a allwn ni yn y Llywodraeth i hybu'r ymgais honno i sicrhau bod gennym ni gynhyrchion lleol o ansawdd da yn ein bwydydd ni, ac yn amlwg fe geir cyfle mawr nawr o ran prydau ysgol am ddim. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni edrych ymlaen ato hefyd. O ran y strategaeth bwyd cymunedol, mae honno'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth y byddwn ni'n ei rhedeg i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol. Nid ydym ni'n disgwyl iddo ddigwydd. Fel gwelwch chi, mae rhywfaint o hyn yn digwydd eisoes. Ond fe gaiff hynny ei ddwyn ymlaen yn fuan iawn.69
Diolch i'r Prif Weinidog.70
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar Jane Hutt, y Trefnydd, i wneud y datganiad yna.71

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 72
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad unwaith eto gan Lywodraeth Cymru ynghylch cau'r A487 yng Nghasnewydd yn fy etholaeth i. Fel dywedais i o'r blaen, fe fydd y ffordd wedi cau am wyth wythnos, ac mae hynny'n cael effaith ddinistriol ar rai o fusnesau lleol yr ardal honno. Mae un busnes wedi dweud bod y cau a'r dargyfeiriadau yn golygu cost rhedeg o tua £900 yn ychwanegol bob wythnos, ac mae busnes arall wedi mynegi pryderon y gallai'r gwaith gymryd mwy o amser na'r disgwyl, o ystyried y ffordd y mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo. Rwy'n gwerthfawrogi bod y gwaith cynnal a chadw ffyrdd yn hanfodol, ond os gall y busnesau brofi bod cau'r ffordd hon yn costio swm sylweddol o arian iddyn nhw, rwyf i o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd ac estyn cymorth i gadw'r busnesau lleol hynny i fynd. Trefnydd, o gofio mai cefnffordd yw'r A487, ac felly o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gellid cael datganiad ynglŷn â'r mater hwn fel gall busnesau wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw tra bod y ffordd hon wedi cau.73
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, Paul Davies.74
Yn amlwg, pan fo gwaith cynnal a chadw ffyrdd yn digwydd, rydym ni'n gweld llawer iawn o hynny nid yn unig o ran yr angen am gynnal a chadw'r ffyrdd ond y gwasanaethau hanfodol eraill hefyd y mae'n rhaid eu sefydlu nhw ar ein cefnffyrdd mawr. Mae hi'n bwysig eich bod chi wedi tynnu sylw'r Senedd a'm sylw innau at hyn, a sylw cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn wir. Rwy'n siŵr y bydd busnesau yn dymuno asesu'r effaith ar eu busnesau nhw yn ogystal â sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei wneud mewn da bryd, ac yn arwain at osod arwyneb ar y ffordd a fydd yn fwy diogel rwy'n gobeithio, os hwnnw yw un o'r prif faterion a ymgymerwyd ag ef o ran uwchraddio a chynnal a chadw ffyrdd.75
Trefnydd, mi fuaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, oherwydd heddiw eto mae yna drafod yn y wasg am gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio cynlluniau pensiynau er mwyn buddsoddi yn wahanol. Yn amlwg, mae yna oblygiadau o ran y diwygiadau yma i Gymru, ac mi hoffwn ddeall pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o hynny, a hefyd pa drafodaethau mae'r Llywodraeth yn eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran hyn.76
Dwi hefyd eisiau codi'r mater efo chi o'r rhaglen a gafodd ei darlledu gan y BBC a oedd yn amlinellu o ran Patriotic Alternative. Dwi wedi cael nifer fawr o etholwyr yn cysylltu efo fi yn bryderus dros ben am y rhaglen yma a'r cynnwys, ac yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud. Oherwydd rydych chi wedi amlinellu eich cynlluniau gwrth-hiliaeth chi, ond yn amlwg dydy rhywbeth ddim yn gweithio pan ydyn ni'n gweld y math o agweddau yma'n lledaenu o fewn ein cymunedau ni. Felly, mi hoffwn wybod pa drafodaethau rydych chi yn eich rôl fel Trefnydd ond hefyd efo'r cyfrifoldebau sydd gennych chi yn eu cael gyda'r heddlu, a gofyn am gyfle i ni fel Senedd drafod hyn, a sicrhau bod y cynlluniau sydd ar waith yn rhai effeithiol. 77
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. O ran diwygiadau pensiwn Llywodraeth y DU, mae hi'n bwysig cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi cynnig sawl diwygiad sylweddol yn ddiweddar o ran pensiynau. Diwygiadau i bensiynau ydyn nhw sydd â nod o hybu twf economaidd a chynnig mwy o sicrwydd ariannol i weithwyr. Mae ymgynghoriadau wedi bod ac fe gaeodd y rhain yn ddiweddar iawn, ar 16 o fis Ionawr. Wrth gwrs, maen nhw'n rhan o'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU. Mater a gedwir yn ôl i raddau helaeth iawn yw hwn, ond wrth gwrs fe fydd yna oblygiadau yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai hi'n dda o beth pe byddai'r Aelod yn dymuno nodi'r meysydd penodol y mae ganddi hi ddiddordeb ynddyn nhw. Ond hefyd, fe fyddaf i'n siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet i nodi beth oedd ein hymateb ni i hynny.78
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn hefyd—79
—am sut y gallwn ni ymateb er mwyn gwrthsefyll ymlediad ideolegau eithafol yng Nghymru, yn arbennig o ran eich pwyslais chi ar y rhaglen a ddarlledwyd yr wythnos diwethaf, a oedd, mae'n rhaid i ni ddweud, yn arswydus i bobl. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dewis gwneud hynny. Fe gawsom ni sylwadau. Roedd hi'n galonogol iawn clywed oddi wrth Altaf Hussain yn gynharach y prynhawn yma, a oedd yn codi'r un cwestiwn hefyd i raddau helaeth iawn, a beth fydd ein rhan ni yn hyn o beth. Fe wyddom ni, ac fe allwn ni ddweud eto, ac rwy'n gobeithio y byddem ni'n cytuno i gyd ar draws y Siambr nad oes unrhyw le yng Nghymru i wahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu na chamdriniaeth, ac rydym ni'n gwrthsefyll casineb yn yr holl agweddau sydd ar hwnnw. Rwy'n credu bod cryn dipyn ohonom ni yno ddoe yn y seremoni genedlaethol ar Ddiwrnod Coffáu'r Holocost. Defnyddiwyd y geiriau hynny dro ar ôl tro drwy gydol y gwasanaeth hwnnw, gan gynnwys gan oroeswyr erchyllterau'r Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae 30 mlynedd wedi bod ers yr hil-laddiad yn Srebrenica—fe glywsom ni am hwnnw hefyd.80
Yn amlwg, mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd. Mae'n rhaid i hyn fod drwy weithio gyda Llywodraeth y DU—mater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU yw cyfiawnder troseddol. Rwy'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona, sy'n gweithio yn agos iawn gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ac rwyf i o'r farn mai'r peth pwysicaf yw ein bod ni'n gweithio gyda grwpiau sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifol ar gyfer tawelu meddyliau dinasyddion a mynd i'r afael â chamwybodaeth. Rydym ni'n annog cymunedau a sefydliadau Cymru i sefyll gyda'i gilydd yn erbyn ymdrechion i greu rhaniadau yn ein plith ni. Mae fforwm hil gennym ni i Gymru ac fe fyddwn ni'n cyfarfod yn ystod yr wythnos nesaf. Mae gen i gyfarfod o'r fforwm cymunedau ffydd hefyd. Mae'r rhain yn fforymau pwysig iawn lle gallwn ni rannu profiadau'r cynrychiolwyr hynny o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig gyda Llywodraeth Cymru, a hefyd rydym ni'n gallu annog pob dioddefwr achosion o gasineb i adrodd am ei brofiad. Maen nhw'n gallu gwneud hynny drwy gysylltu â'r heddlu neu ganolfan cymorth casineb Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru.81
Rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n partneriaid i sicrhau bod bygythiadau o derfysgaeth yn erbyn Cymru yn cael eu deall a'u cyfleu mewn modd priodol. Ac i droi yn ôl at y rhaglen cydlyniad cymunedol, mae monitro a lliniaru tensiynau cymunedol pan fyddant yn codi yn fater mor bwysig, yn ogystal â meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau a chymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwneud datganiad dros yr wythnosau nesaf ar ein hymrwymiad ni i'n cenedl noddfa ond, yn sicr, fe fyddaf i'n chwilio am bob dull posibl i fynd i'r afael â'r materion hyn yn sgil fy ngwaith yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.82
Rwy'n dymuno codi dau fater. A gaf i ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol? Fe fyddai hwnnw'n cynnwys diweddariad ar ddatblygiadau tai cydweithredol, swyddogaeth cwmnïau cydweithredol wrth ddarparu gofal i blant sy'n derbyn gofal, addysgu'r model cydfuddiannol yn rhan o entrepreneuriaeth mewn ysgolion a cholegau, a hefyd sut mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.83
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad ar gyfamod y cyn-filwyr ac iechyd. Mae hwnnw'n mynegi bod gan bob un o gyn-filwyr y lluoedd arfog hawl i gael mynediad blaenoriaethol at ofal y GIG oherwydd unrhyw gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni?84
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydych chi wedi codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut yr ydym ni am hyrwyddo cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Yn bwysicaf i gyd, yn fy marn i, rydym ni'n cefnogi Cwmpas, gyda chyllid craidd ar gyfer Cwmpas yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hwnnw'n darparu cymorth busnes arbenigol pwrpasol fel hyn i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Ac, wrth gwrs, mae Cwmpas yn gweithio bob amser i ddatblygu prosiectau a mentrau newydd er mwyn cefnogi economi gynhwysol a chymunedau cryfach yng Nghymru. Ond mae'n cyfathrebu yn agos iawn â'r sector mentrau cymdeithasol hefyd, ac mae'n ymwneud llawer iawn â mynd i'r afael ag allgáu digidol a pharatoi ar gyfer cyllid ôl-UE i'r dyfodol, trwy fuddsoddi mewn arweinyddiaeth greiddiol a swyddogaethau gweinyddol i sicrhau y bydd Cwmpas â chynaliadwyedd hirdymor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod Cwmpas wedi derbyn yr arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru. Mae'r cyllid o £1.7 miliwn i'r asiantaethau allweddol hynny ar gyfer ein helpu i hyrwyddo cwmnïau cydweithredol. Ond rwy'n credu y byddai hi'n amserol—ac efallai fod hynny'n rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ei ystyried—i gael diweddariad ar swyddogaeth a chyflwr cwmnïau cydweithredol yng Nghymru.85
Rwyf i am ymateb hefyd i'ch cwestiwn chi am gyn-filwyr a'r ffaith bwysig fod y cyfamod hwn gennym ni gyda'n cyn-filwyr ni. Mae gan y byrddau iechyd ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus i gymuned y lluoedd arfog yn eu hardaloedd nhw. Mae gennym ninnau ganllawiau oddi wrth Lywodraeth y DU ar sut y gallwn ni wneud hynny. Mae hynny'n cynnwys monitro. Nid rhywbeth sy'n rhagnodol ydyw hwn, ond mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru strwythurau ar waith i gefnogi cymdeithas eu lluoedd arfog yn lleol. Ac rwy'n gwybod bod adborth da iawn wedi dod ynghylch pa mor effeithiol yw hynny. Mae byrddau iechyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd, gan feincnodi yn erbyn Cynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod Cyn-filwyr. Ac yng Nghymru mae'r cyd-bwyllgor comisiynu, er enghraifft, ar gyfer aelodau prosthetig gwell ar gyfer cyn-filwyr mewn rhyfeloedd—cafodd hynny ei amlinellu mewn polisi comisiynu gwasanaethau arbenigol. Ac rwy'n credu bod y ffrydiau arbenigol hyn o gyllid yn bwysig i gyn-filwyr oherwydd ein bod ni'n cael atgyfeiriadau ar gyfer cyn-filwyr o bob rhan o ystod eang o asiantaethau, ac, yn wir, o ran cysylltiadau teuluol a chymunedol, yn ogystal â'r awdurdodau lleol. A gair bach i orffen sef dweud ein bod ni'n cynyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn GIG Cymru i Gyn-filwyr i £920,000 yn flynyddol. Fe wnaethom ni gynyddu hwnnw, a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw darpariaeth therapi gan Help for Heroes ledled Cymru.86
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda, y ddau gan Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros iechyd? Rwy'n credu bod llawer o bobl ledled Cymru wedi'u brawychu'n ofnadwy o weld cymaint yr oedd Llywodraeth Cymru wedi colli gafael ar bethau yr wythnos diwethaf pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddatganiad a oedd yn awgrymu bod gormod o welyau yn GIG Cymru a gormod o ysbytai. Nawr, i'r bobl hynny sydd wedi eu gadael yn dihoeni mewn poen ar restrau aros, am fod angen triniaeth mewn ysbyty arnyn nhw, roedd y datganiad hwnnw'n hollol warthus. Mae angen bod ag eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer y gwelyau sydd eu hangen yn GIG Cymru, i sicrhau na fydd cyfluniad presennol ein hysbytai ni'n lleihau, ac, yn wir, sicrhau y bydd yr ysbytai newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi addo yn cael eu darparu mewn gwirionedd, yn enwedig o gofio mai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sy'n dal llinynnau’r pwrs.87
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad penodol gan Lywodraeth Cymru o ran amseroedd aros i gleifion offthalmoleg? Cysylltodd etholwr â mi'r wythnos diwethaf a fu'n aros am apwyntiad mewn cysylltiad â glawcoma. Cafodd ei gyfeirio gan siop Specsavers lleol at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr 2023. Ni chlywodd yr un gair, dim byd o gwbl, nes iddo fynd ar drywydd y mater gyda'm swyddfa i. Fe wnaethom ni gysylltu â'r bwrdd iechyd, ac, yn anffodus, fe gawsom ni wybod er ei fod ef ar restr, ar ôl aros am 55 wythnos yn barod, y bydd yn rhaid iddo aros am 43 wythnos arall o leiaf nawr cyn y caiff ei weld. Nawr, yn amlwg, pan fo pobl mewn perygl o golli eu golwg, gyda difrod i'w golwg na ellir ei wyrdroi, mae hynny'n annerbyniol. Mae'r RNIB wedi rhybuddio bod pobl yn cael eu niweidio o ganlyniad i'r rhestrau aros hyn, yn ogystal â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, sydd wedi rhagweld cynnydd yn y galw o 30 y cant i 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn? Dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wybod, ar ran ein hetholwyr ni. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd.88
Diolch i chi, Darren Millar, am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod ni'n defnyddio ein hysbytai, a'n bod ni'n defnyddio'r gwelyau sydd gennym ni yn ein hysbytai, gyda'r effaith orau, ac yn caniatáu i'r cleifion sydd ag angen gwely gael mynd i hwnnw. Ac felly, yn amlwg, mae hynny'n golygu bod rhaid i ni weithio ar y trosglwyddiadau hynny o ofal, ymlaen i leoliad arall o ofal. Efallai fod hynny—rwy'n obeithiol, fe allai fod i lawer—yn golygu yn ôl gartref; neu leoliad gofal arall o bosibl. Ac, wrth gwrs, mae hi'n bwysig ein bod ni'n rheoli hynny'n effeithiol ar lefel ysbyty, gan y byrddau iechyd. Fe wyddom ni fod hynny'n cael ei reoli, ond ar adegau anodd o'r flwyddyn fel yr un yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, mae cyfraddau uchel o ffliw yn ei gwneud hi'n llawer anoddach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod swyddogaeth a sefyllfa ein hysbytai, ond mae hynny wedi newid yn aruthrol ers pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, lawer blwyddyn yn ôl. Oherwydd nid yw pobl yn dymuno treulio cyfnod maith yn yr ysbyty—maen nhw'n awyddus i ddod i mewn a mynd allan, a chael llawdriniaeth achos dydd hefyd, sydd wedi ehangu llawer iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod apwyntiadau achos dydd, cleifion allanol—yr hyn y gallwch chi ei wneud yn glinigol mewn clinig cleifion allanol nawr, ac o ran apwyntiadau achos dydd, yn trawsnewid ein profiad ni o driniaeth iechyd. Dyma'r ffyrdd i gyd y mae'n rhaid i ni arloesi a symud ymlaen ynddyn nhw, o ran y gwasanaethau hynny.89
Nawr, roeddech chi'n canolbwyntio ar un amser aros yn benodol, o ran offthalmoleg. Ac, wrth gwrs, ydy, mae hi'n anffodus iawn pan glywn am amseroedd aros o'r fath. Ond mae hwn yn fater hefyd lle gallwn ni fod yn falch iawn o waith ein hoptometryddion, o ran y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu, sy'n ataliol iawn. Ond rwy'n meddwl mai un o fuddugoliaethau cynnar datganoli, mewn gwirionedd—ac roedd cytundeb trawsbleidiol i raddau helaeth—oedd y gwasanaeth a gafodd ei ddatblygu, lle gellid cyfeirio pobl yn uniongyrchol—ac mae hwnnw wedi datblygu dros y blynyddoedd—gan eu hoptometrydd i ofal eilaidd, fel na fyddai'n rhaid iddyn nhw fynd drwy ein meddygon teulu. Felly, rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn i ni symud ymlaen ynddi hi. Ond, ydynt, wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion yr ydych chi wedi tynnu ein sylw ni atyn nhw heddiw, ac at sylw'r Ysgrifennydd Cabinet, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn.90
Nawr, mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gennym ni, ac mae hi'n bwysig ein bod yn gweld y buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Mae angen i'n cyllideb ddrafft fynd drwodd, i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n ymestyn hyd at y cleifion, yr etholwyr a'r bobl hynny sydd—a'r gwasanaethau, ar y rheng flaen, sydd angen y cyllid hwnnw—i'n helpu ni i fynd i'r afael â'r gwasanaethau hynny a mynd i'r afael â'r amseroedd aros hynny, sy'n annerbyniol, ac mae'n rhaid i ni—. Fe fyddwn ni'n mynd i'r afael â nhw, wrth a phan gawn ni ein cefnogi i fynd â'r gyllideb honno drwodd.91
Trefnydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Llywodraeth roi ei hymateb yn llawn yn y Senedd i adroddiadau ymchwiliol sy'n codi pryderon cenedlaethol sylweddol, fel gwelsom ni wythnos diwethaf, gyda'r Patriotic Alternative. Fe wnaethoch chi ymateb yn llawn iawn nawr i gais Heledd Fychan i'r Llywodraeth wneud hynny. Fe allasai hwnnw wedi bod yn ddatganiad llawn gan y Llywodraeth yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni ofyn cwestiwn amserol i geisio ysgogi hynny, ond wrth gwrs nid ydyn nhw'n cael eu dewis bob amser. Fe ddigwyddodd hynny yn achos Undeb Rygbi Cymru. Fe ddigwyddodd hynny yn achos y gwasanaeth tân ac achub, ac oherwydd hynny fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch chi'n dda.92
Roedd disgwyl i'r adolygiad o ddiwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ionawr. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fe ddywedodd y Llywodraeth eich bod chi'n disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ar ddechrau 2025, a mynegodd Crest Advisory, a benodwyd ar y cyd gan y ddau wasanaeth hynny i hwyluso adolygiad annibynnol, y byddai'r canlyniadau yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad ysgrifenedig i staff—yr awdurdodau tân a Llywodraeth Cymru—ym mis Ionawr 2025. Wel, wrth gwrs, rydym ni yn wythnos olaf mis Ionawr. Felly, fe hoffwn i wybod pam mae'n ymddangos bod oedi, ac a fynegwyd unrhyw bryderon i Lywodraeth Cymru, neu'r gwasanaethau tân ac achub, neu'r awdurdodau tân, ynghylch yr oedi? Oherwydd mae gwir angen i ni sicrhau nad yw hyder y staff yn y broses honno yn cael ei wanio ymhellach.93
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hi'n bwysig iawn—nid wyf i am ailadrodd y pethau a ddywedais i wrth ymateb i'r cwestiwn pwysig iawn a ddaeth gan Heledd Fychan yn gynharach, ac eithrio dweud y byddaf i'n canfod ffyrdd o ymateb i'r materion hyn a mynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y ffyrdd a ddisgrifiais i. Mae'n rhaid i hynny fod mewn ymgysylltiad â'r cymunedau a'r grwpiau lleiafrifoedd ethnig hynny ar gyfer chwilio am ffyrdd yr hoffen nhw i ni ymateb ynddyn nhw hefyd. Fe fyddaf i'n cwrdd â nhw yr wythnos nesaf i drafod y materion hyn, ac ar gyfer tawelu eu meddyliau nhw ynglŷn â'n hymrwymiad ni hefyd. Yn wir, rwyf i wedi ysgrifennu at grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i rannu'r llythyr hwnnw gyda chi i ddangos y cynnydd yr wyf i'n ei wneud.94
O ran eich ail bwynt, mater o amseriad yn unig yw hwn, sef yn yr ystyr bod y dyddiad a drefnwyd ar gyfer datganiad ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i adrodd ar waith y comisiynwyr yn cyd-daro nawr gydag adroddiad arolygu yn cael ei gyflwyno drannoeth. Wrth gwrs, nid ydym ni yn gallu rheoli'r amseru o ran yr adroddiad arolygu hwnnw, felly roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn teimlo y byddai hi'n well aros i weld yr adroddiad arolygu hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n dymuno ei weld hefyd, i sicrhau bod yr wybodaeth lawn gennym ni y mae ei hangen arnom ni o ran ymdeimlad yr arolygwyr yn ogystal â'r adroddiad gan y comisiynwyr, wrth gwrs. Felly, fe fydd datganiad yn dod, wrth gwrs, pan ddaw hynny at ei gilydd.95
Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i eisiau codi dau gwestiwn. Mae un yn ategu cwestiwn pwysig Altaf Hussain i'r Prif Weinidog a chydnabyddiaeth y Prif Weinidog o'r gwaith a wnaethoch chi i geisio ymladd yn erbyn pob agwedd ar gasineb. Roeddwn i'n dymuno gofyn rhywbeth i chi yn rhinwedd eich swydd yn Ysgrifennydd y Cabinet sy'n ymdrin ag ymyl garw cyfiawnder troseddol. Cafodd llofrudd Southport, fel mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r llys yn ei ddweud wrthym ni, ei ysbrydoli i ladd y bobl hyn, nad oedd ef wedi cwrdd â nhw erioed ac na wnaethon nhw unrhyw niwed iddo ef erioed, gan ddeunydd ar y we dywyll. Roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen bod yr heddlu yn ymgymryd â brwydr gyfreithiol faith erbyn hyn gyda chyhoeddwyr y cyfryngau cymdeithasol i geisio cael gafael ar hanes gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol llofrudd Southport a ddilëwyd, er mwyn gallu adnabod unrhyw un arall a allai fod wedi cael eu paratoi i wneud pethau mor erchyll. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n codi hyn gyda Llywodraeth y DU, oherwydd yn amlwg nid yw hwn yn fater datganoledig ar hyn o bryd, i geisio darganfod pam mae awdurdodau'r Unol Daleithiau yn gwrthod trosglwyddo gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yr unigolyn hwn, y gwnaeth ef ei hun ei ddileu, ond yn amlwg mae'n dal i fod ar gael yn rhywle yn y system, oherwydd fe allai hynny atal trosedd arall rhag digwydd.96
Yn ail, ar fater cwbl ar wahân, tybed a wnewch chi ddweud wrthym am amserlen gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, oherwydd mae dros 10 mis wedi bod ers i ni basio Cyfnod 4 y Ddeddf hon, a saith mis ers y Cydsyniad Brenhinol. Fe wn i fod llawer o bobl yn aros am gyfleusterau'r Ddeddf hon i sicrhau ein bod ni'n caffael bwyd yn gyhoeddus sy'n dod o Gymru ac sy'n gwneud lles i'n disgyblion, i'n cleifion a'n pensiynwyr sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Oherwydd ar hyn o bryd mae llawer mwy i'w wneud eto, ac ar hyn o bryd mae caffaelwyr cyhoeddus yn gorfod ymdrin â materion ar sail 'Beth yw'r opsiwn rhataf?' yn anad dim, ac nid yw hynny'n ddigon da i'r bobl hyn i gyd.97
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone. Gan i chi sôn am Southport, rwy'n credu bod rhaid i ni fynegi bod y dioddefwyr a'u teuluoedd nhw yn ein meddyliau ni. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol wrth gwrs, sy'n cynnwys dedfrydu, ac mae hi'n bwysig bod y system yn gweithredu yn gwbl unol â rheolaeth y gyfraith, yn enwedig mewn achosion fel hyn. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad i'r ymosodiad yn Southport, fel cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Llun, oherwydd bydd fe fydd hwnnw o gymorth i ddioddefwyr yr ymosodiad a'u teuluoedd a'u cymunedau nhw, ac yn wir o ran cydlyniad cymunedol, er mwyn i ni ddeall sut y gallwn ninnau helpu i sicrhau bod digwyddiadau trychinebus posibl yn cael eu hatal yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd yr ymchwiliad yn mynd i'r afael â'r mater cyfredol hwn yr ydych chi'n ei godi gyda ni heddiw. Yn sicr, fe fyddaf i'n sicr yn manteisio ar y cyfle wrth i mi ymgysylltu gyda'r Ysgrifennydd Cartref a'r Gweinidogion ar yr union bwyntiau yr ydych yn eu codi, fel rwy'n bwriadu gwneud. Yn wir, mae'n rhaid i ni edrych ar hyn o ran swyddogaeth Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 hefyd, swyddogaeth Ofcom, ac Ofcom Cymru, wrth gwrs, o ran eu swyddogaeth, a sut y gallwn ninnau ymgysylltu â hynny a dylanwadu ar hynny i ddeall y sefyllfa hon a datod y mater arswydus hwn, a'r ffaith na all yr heddlu eu hunain gael gafael ar yr wybodaeth honno.98
Nawr, roedd eich ail gwestiwn chi'n ymwneud â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac, er mwyn eich sicrhau chi, mae'r Ddeddf yn dodi dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i gynnal eu gwaith caffael mewn ffordd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac, wrth gwrs, mae hynny'n amlwg yn berthnasol i'ch pwyntiau chi ynglŷn â chaffael bwyd. Mae'r dyletswyddau o ran rheolaeth o gontractau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wedi cael eu cynllunio i sicrhau bod y gwariant caffael blynyddol o £8 biliwn yng Nghymru yn cyfrannu at gyflawni llesiant. Nawr, rwy'n deall y bydd y dyletswyddau caffael yn cael eu deddfu, pan fydd y rheoliadau a'r canllawiau wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth gymdeithasol a thrwy ymgynghoriad ehangach, i sicrhau bod partneriaid cymdeithasol a chyrff y sector cyhoeddus yn gallu cyfranogi yn y broses, ac mae'n rhaid i hynny helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn o ran llesiant ledled Cymru, i sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniadau sydd mor hanfodol o ran ein plant a'n pobl ifanc a byw a bwyta'n iach.99
Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cau Prifysgol Llanbedr Pont Steffan i fyfyrwyr, a gadarnhawyd ddydd Iau diwethaf? Cafodd yr adeilad hanesyddol a'r brifysgol—yr hynaf yng Nghymru—ei sefydlu 203 mlynedd yn ôl, gan esgob Tyddewi ar y pryd, Thomas Burgess, ac roedd yn canolbwyntio ar hyfforddi clerigwyr am ran helaeth o'i hanes disglair. Yn anffodus, mae'r cau am fynd rhagddo er gwaethaf gwrthwynebiad llawer o bobl, a thystiolaeth deiseb o 6,000 o enwau, gan gynnwys ein Llywydd ni ein hunain a'r AS lleol. Fe fydd yn arwain at derfynu dysgu yn Llanbedr Pont Steffan a bydd ag effaith ddinistriol ar economi'r dref a'r ardal leol. Gan fod penderfyniad wedi cael ei wneud ar ganol cwrs, fe fydd yn rhaid i rai myfyrwyr adleoli i Gaerfyrddin er mwyn cwblhau eu hastudiaethau. Mae yna ymdeimlad nad oedd unrhyw amheuaeth beth fyddai'r canlyniad o ran y cau hwn cyn cyfnod yr ymgynghoriad, ac fe allai fod yn rhan o gynllun rhesymoli ehangach gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi goruchwylio camreoli campws Llambed, a allai arwain at gau safle pellach yn y dyfodol o bosibl. Yn anffodus, fe fydd mis Medi 2025 yn gweld diwedd ar addysgu yn y man lle cafodd addysg uwch ei geni yma yng Nghymru. Felly, rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud datganiad ynglŷn â thryloywder y cau hwn ac ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau dyfodol cyfleusterau addysg uwch eraill yng nghefn gwlad Cymru.100
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel gwyddoch chi, mae'r sector addysg uwch ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol iawn oherwydd ystod o ffactorau. Felly, rydym ni'n monitro sefyllfa ein prifysgolion, a'r llynedd, fel gwyddoch chi, fe gynyddwyd y terfyn ar ffioedd dysgu, gan ddarparu hyd at £21.9 miliwn o incwm ychwanegol i brifysgolion, ond mae Medr yn monitro sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn fanwl trwy ei broses ar gyfer adolygu risgiau sefydliadol. Rydym ni'n ymwybodol, yn amlwg, o'r sefyllfa yn Llanbedr Pont Steffan ac ymgysylltiad y gymuned a'r rhai sy'n cynrychioli'r ardal. Mae hi'n berthnasol ac yn bwysig eich bod chi'n codi hyn yn y Siambr heddiw.101
Gweinidog, fel minnau, rwy'n siŵr eich bod chi wedi croesawu'r newyddion y bore yma na fydd eHarley Street yn weithredol ym meddygfa Brynmawr o hyn ymlaen. Mae ymddiswyddiad Dr Ahmed a Dr Allinson o'r contract hwnnw'n cael croeso mawr gan gleifion yr ardal i gyd. Serch hynny, rwy'n credu bod angen datganiad gan y Llywodraeth ar ddarparu gofal sylfaenol yn ardal Gwent, oherwydd mae'r bartneriaeth hon yn gadael llanast llwyr ar ei hôl: treth heb ei thalu, cyfraniadau pensiwn heb eu talu, cyflog heb ei dalu i staff a meddygon. Nid gwerthoedd GIG Cymru na gwerthoedd Llywodraeth Cymru mo'r rhain. Rydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae arferion eraill tebyg yn parhau yn ardal Aneurin Bevan. Yn fy etholaeth i, mae Tredegar ac Aber-bîg gennym ni, ac fe wn i fod Aelodau mewn mannau eraill yn cefnogi cleifion yn eu hetholaethau eu hunain, ond fe welwn ni fethiant systemig yn gyson, pryd nad yw cleifion yn cael y gwasanaeth y mae ganddyn nhw hawl i'w ddisgwyl a lle mae staff yn wynebu bwlio sy'n rhan o'u bywyd mewn gwaith. Mae'n rhaid i ni sicrhau nawr, Gweinidog, nad hynny yw'r achos mwyach yn GIG Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud datganiad ar hyn, gan ei gwneud hi'n eglur fod y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau yn y GIG yn cael ei wreiddio yng ngwerthoedd y GIG.102
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Alun Davies, a diolch i chi am yr holl sylwadau a wnaethoch chi, sydd wedi cyfrannu, rwy'n siŵr—gyda chyd-Aelodau eraill, hefyd, yn y Siambr hon—at y newid hwnnw, sydd i'w groesawu. Ac rwy'n deall bod partneriaid Practis Meddygol Brynmawr wedi cytuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drosglwyddo eu contract yn ôl iddyn nhw. Ac mae hi'n bwysig bod hyn ar y cofnod heddiw a'ch bod chi'n codi hyn, oherwydd yr effaith mae wedi'i chael, fel yr ydych chi wedi ei ddwyn i'n sylw ni ac i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—yr effaith ar staff a chleifion hefyd. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd yw bod y bwrdd iechyd am ymgymryd â rheoli'r feddygfa o 1 Mawrth. Yn amlwg, fe fyddan nhw'n cadw diddordeb gweithredol tan y dyddiad trosglwyddo i sicrhau y bydd anghenion cleifion yn cael eu diwallu. Bydd trefniadau pontio yn dechrau ar unwaith, a bydd y bwrdd iechyd yn sefydlogi'r feddygfa dros y misoedd nesaf cyn penderfynu a ddylid rhoi statws annibynnol i'r feddygfa unwaith eto. Yn amlwg, mae trefniadau ar gyfer ein gwasanaethau meddygon teulu yn rhai hyd braich, yn yr ystyr nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond bod y partneriaid wedi cytuno i ddarparu cynllun manwl i'r bwrdd iechyd ar gyfer pob un o'u contractau eraill o ran sut y maen nhw'n disgwyl y gellid ennill cyfran o sefydlogrwydd sy'n fwy cadarn. Ac rwy'n deall yr hysbyswyd staff am 11 o'r gloch y bore 'ma. Felly, mae hyn yn rhywbeth, yn amlwg, i'r bwrdd iechyd ond hefyd i Lywodraeth Cymru a phartneriaid fyfyrio arno o ran gofal sylfaenol, ar gyfer osgoi amgylchiadau fel hyn yn y dyfodol.103
Mae'r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn. Mae pum cais arall i ofyn cwestiwn ar y datganiad gennyf i. Rwyf i am dderbyn pob un ohonyn nhw os caf i gwestiynau cryno ac atebion cryno. Sam Rowlands.104
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynghylch swyddogaethau'r cynghorau o ran sicrhau bod cyfran ddigonol o ddarpariaeth gofal plant yn ein cymunedau ni. Mae un o'r trigolion yn fy rhanbarth i, Chelsea Robinson, wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â'r diffyg darpariaeth o ofal plant yn sir Ddinbych ar gyfer cefnogi rhieni sy'n gweithio. Yn wir, mae'r cyngor wedi cyfaddef nad oes yna ddarpariaeth ddigonol o ofal plant yn Llangollen. Fe wyddoch chi, Gweinidog, fod Deddf Gofal Plant 2006 ar waith i sicrhau bod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ein cymunedau ni'n ddigonol, ac mae hi'n ymddangos nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny o ran trigolion Llangollen. Felly, fe hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog i amlinellu'r hyn y maen nhw'n ei wneud i gefnogi cynghorau i sicrhau bod yna ddarpariaeth addas o ofal plant. Diolch yn fawr iawn.105
Diolch i chi, Sam Rowlands. Rydym ni'n buddsoddi mwy na £100 miliwn yn flynyddol mewn gofal plant i blant dwyflwydd oed a hŷn drwy ein cynllun blaenllaw Dechrau'n Deg a'r cynlluniau cynnig gofal plant, ac rydym ni wedi ymrwymo i ehangu gofal plant ymhellach drwy gyfrwng Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwyflwydd oed, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â'u cynlluniau nhw.106
Dim ond i ddilyn yr hyn a ddywedodd Sam, rwyf i am siarad yn gyflym iawn, am ddatganiad tebyg, os gwelwch chi'n dda. Pan ymwelais i â meithrinfa yn ardal Glan-rhyd yn Ystradgynlais sy'n cael ei redeg gan Little Steps Childcare, y mater mwyaf yr oedden nhw'n ei godi gyda mi oedd y cynnydd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol. Maen nhw'n teimlo y bydd hyn yn achosi cyni gwirioneddol iddyn nhw. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ymateb ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynrychioli busnesau Cymru o ran y codiad mewn yswiriant gwladol? Diolch yn fawr iawn.107
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, 2025-26, yn cynnwys dyraniad dangosol i godi cyfradd fesul awr cynnig gofal plant 20 y cant, o £5 yr awr i £6 o fis Ebrill 2025. Mae hynny'n bwysig iawn ar gyfer recriwtio a chadw staff. Mae hi'n cynnwys cynnydd hefyd i ofal plant Dechrau'n Deg ac addysg feithrin. Yn ogystal â hynny, fe fydd y gyfradd fesul awr honno yn cael ei hadolygu yn flynyddol. Roedd hynny'n rhan o'r pecyn. Ond hefyd, yn bwysig iawn i'r sector yn fy marn i, mae hyn yn cynnwys gwneud y rhyddhad ardrethi busnesau bach 100 y cant yn rhywbeth parhaol, gan roi mwy o sicrwydd i ddarparwyr gofal plant a'u galluogi nhw i fynd i'r afael â'r heriau ariannol y gwnaethoch chi eu codi.108
Trefnydd, fe ddaeth i'm sylw i fod y ffioedd trwyddedu ar gyfer masnachu ar y stryd yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y rhai drytaf yn y Deyrnas Unedig, yn sicr yn fwy nag mewn awdurdodau lleol cyfagos, ac efallai y bydd hyn yn eich synnu chi, ond mae'n fwy hyd yn oed nag yn yr awdurdodau lleol yn Llundain. Mae bod â ffioedd costus fel hyn nid yn unig yn annheg, ond nid yw'n cyfateb â'r costau sy'n gysylltiedig â darparu'r trwyddedau hyn ac mae'n annog busnesau bach i beidio â defnyddio masnachu ar y stryd ar gyfer helpu eu busnesau nhw i dyfu a rhoi cefnogaeth i'w strydoedd mawr. A gaf i, felly, ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i wella trwyddedu, a sut mae'n eu hannog nhw i wneud ffioedd trwydded yn fforddiadwy, ar gyfer helpu'r stryd fawr a helpu'r busnesau bach hyn i dyfu? Diolch i chi.109
Diolch i chi am eich cwestiwn, Joel James. Rwy'n gobeithio a byddwn yn disgwyl i chi godi hyn gyda chyngor Rhondda Cynon Taf. Mater iddyn nhw yw penderfynu ar y ffi drwyddedu, ac rwy'n siŵr fod canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn.110
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru gan yr Ysgrifennydd dros newid hinsawdd ar safle tirlenwi chwarel yr Hafod rhwng Johnstown a Rhiwabon, Wrecsam. Mae etholwyr yn Johnstown wedi ysgrifennu ataf i unwaith eto i gwyno am y drewdod parhaus sy'n dod o'r safle a'r diffyg gweithredu amlwg ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru i atal hwnnw. Ac mae cynnig gerbron cyfarfod llawn nesaf cyngor Wrecsam yn nodi bod hyn wedi codi pryderon sylweddol ynghylch iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd ymhlith y trigolion a'r rhanddeiliaid lleol, ac mae'r cynnig yn amlinellu cynllun i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoleiddio a monitro'r gweithrediadau yn briodol. Ac felly, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros newid hinsawdd yn unol â hynny.111
Ac yn fyr iawn, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol hefyd, yn dilyn llythyr a gafodd ei anfon ati hi ddydd Iau diwethaf oddi wrth arweinydd Cyngor Sir y Fflint ynghylch setliad dros dro llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2025-26, sy'n nodi, 'Pe byddem yn derbyn yr un swm y pen ag un o'n cynghorau cyfagos, fe fyddem yn derbyn swm anhygoel o £71 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bod problemau sylfaenol gyda'r fformiwla bresennol a hefyd mae ein dinasyddion wedi mynegi eu bod yn dymuno gweld cyllid tecach oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer sir y Fflint.' Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol yn unol â hynny.112
Diolch i chi am y ddau ddatganiad yna—dau gwestiwn—ac fe allen nhw arwain at atebion maith iawn, felly nid wyf i am wneud dim mwy na gwneud y pwynt eich bod chi wedi codi'r pwynt ar y cofnod, a gofnodir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â chwarel yr Hafod a'r materion a gafodd eu codi yn ardal Johnstown.113
Roedd eich ail bwynt chi'n ymwneud â'r setliad llywodraeth leol dros dro, sydd, wrth gwrs, ar gyfer y flwyddyn nesaf yn tynnu sylw at y ffaith y byddai £6.1 biliwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig sydd i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, ac mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 4.3 y cant, neu £253 miliwn, ar sail gyfatebol, o gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Wrth gwrs, mewn trafodaethau gyda llywodraeth leol, fe wnaeth partneriaid awdurdodau lleol bwyntiau grymus iawn. Ond, yn bwysig, mae'r cynnydd, yn fy marn i, o 4.3 y cant, wedi cael ei gydnabod, ac mae pennu cyllidebau a'r dreth gyngor yn ei thro, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb i bob awdurdod lleol.114
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.115
Diolch, Llywydd. Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith taliadau marwolaeth yn y swydd ar deuluoedd milwrol Cymru yn agored i dreth etifeddiant o 2027 ymlaen. Fe fydd newidiadau gan y Blaid Lafur yn gorfodi teuluoedd milwrol yn eu galar i dalu tollau marwolaeth os nad oedd eu hanwyliaid yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn amser eu marwolaeth. Pensiynwyr yn gyntaf, ffermwyr wedyn a chyn-filwyr nawr. Fe fydd y rhai sy'n marw pan nad ydynt ar ddyletswydd yn y fyddin—er enghraifft, pe byddai rhywun yn marw oherwydd salwch sydyn neu ddamwain—yn gweld eu taliadau marwolaeth yn y swydd yn agored i dreth etifeddiant nawr. Fe allai hynny leihau'r taliadau hyn i deuluoedd hyd at 40 y cant oherwydd trethiant. Mae hi'n gwbl annheg y bydd teuluoedd milwrol Cymru yn talu treth marwolaeth, tra bod aelodau o Fyddin Weriniaethol Iwerddon, fel Gerry Adams, yn paratoi i dderbyn iawndal oddi wrth eich cydweithwyr chi yn Llundain. Mae prif weithredwr Cymdeithas Pensiwn y Lluoedd wedi galw'r newid yn 'ddifaol'. Felly, fe wn i y byddai llawer o bobl yn fy rhanbarth i'n croesawu datganiad am effaith y mater hwn. Diolch i chi.116
Fe af â hwn yn ôl ac fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr Aelod.117
Diolch i'r Trefnydd.118
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar lwfans cynhaliaeth addysg. Felly, y Gweinidog i wneud y datganiad—Vikki Howells.119

Diolch, Llywydd. Mae estyn cyfle i bob teulu yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwireddu'r flaenoriaeth honno. A minnau wedi bod yn athrawes, fe welais i'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwneud mwy na rhoi cymorth ariannol yn unig; mae'n trawsnewid bywydau ac yn datgloi potensial.120
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â llawer o ddysgwyr sy'n derbyn LCA yn ystod fy ymweliadau diweddar, i glywed ganddyn nhw pa mor bwysig yw LCA. P'un ai ar gyfer gwerslyfrau, cludiant, arian cinio neu dawelwch meddwl gan nad ydynt yn gorfod gweithio yn ogystal ag astudio, mae LCA yn ymwneud â chreu cyfle. Dywedodd un myfyriwr wrthyf sut mae LCA yn golygu y gall hi brynu gwerslyfrau heb weithio shifftiau sy'n gwrthdaro â'i hastudiaethau. Dywedodd un arall sut y byddai costau cludiant wedi ei atal rhag parhau â'i Safon Uwch heb y gefnogaeth hon. Er gwaethaf 14 mlynedd o gyni, dewisodd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru amddiffyn LCA, gyda'r Ceidwadwyr yn torri'r gronfa yn ôl yn 2011. Er bod y Ceidwadwyr wedi cefnu ar fyfyrwyr yn Lloegr, nid ydym wedi cynnal y gefnogaeth yn unig, rydym wedi ei huwchraddio. Codwyd y taliad wythnosol o £30 i £40. Mae hyn yn golygu bod Cymru'n darparu'r LCA mwyaf hael yn y DU.121
Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl y bydd ein buddsoddiad yn LCA yn rhoi dros £17 miliwn yn uniongyrchol ym mhocedi ein pobl ifanc, gan gydnabod effaith barhaus costau byw. Cadarnhaodd yr adolygiad annibynnol o LCA, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, effaith gadarnhaol LCA. Byddwn yn cyhoeddi'r ymateb llawn i'r adolygiad annibynnol yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gwmpasu ei holl argymhellion, ond heddiw rwy'n gweithredu ar argymhelliad 4. Rwy'n cynyddu trothwyon cymhwysedd incwm y cartref ar gyfer ceisiadau LCA o'r flwyddyn academaidd 2025-26, gan ddod â 3,500 o ddysgwyr ychwanegol o dan LCA. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi bron yn 20,000, wedi'u gwasgaru ar draws ysgolion a cholegau ym mhob rhan o Gymru. Bydd y trothwyon newydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau, sy'n golygu y bydd y rhai a allai fod wedi bod yn anghymwys y llynedd ac sy'n parhau â'u hastudiaethau yn y flwyddyn i ddod, nawr yn gallu gwneud cais. Yn unol ag argymhelliad yr adolygiad, byddwn yn cadw dau drothwy cymhwysedd, gan gydnabod dibynyddion ychwanegol ar aelwydydd. Mae'r trothwy LCA un dibynnydd newydd yn cyd-fynd â'r cyflog byw go iawn a argymhellir yn yr adroddiad, sy'n golygu y bydd yn cynyddu o £21,800 i £23,400, tra bydd y trothwy dau neu fwy o ddibynyddion yn cynyddu o ychydig dros £23,000 i ychydig o dan £26,000.122
Mae cynyddu'r trothwyon yn fuddsoddiad ychwanegol o £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, 2025-26, gan fynd â'n buddsoddiad LCA yn agos at £20 miliwn. Bydd y trothwyon newydd hyn, ynghyd â'r gyfradd wythnosol, yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y cynllun LCA yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ifanc o aelwydydd incwm isel. Ac nid ydym yn cynnig cefnogaeth yn unig; rydym yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad. Mae ein ffurflen gais ar-lein newydd yn trawsnewid y broses, gan alluogi cyflwyno tystiolaeth electronig a dileu costau post. Mae'n gyflymach, yn symlach ac wedi'i gynllunio i gyrraedd pob myfyriwr cymwys.123
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i wella proses ymgeisio'r LCA, lleihau'r gofynion tystiolaeth ar gyfer dysgwyr a noddwyr, a sicrhau bod LCA yn cyrraedd y rhai sydd ei angen. Rydym yn datblygu ymgyrchoedd wedi'u targedu i gyrraedd pobl ifanc ym mlwyddyn 11. Byddwn yn cryfhau'r gwaith yn ein cymunedau a'n timau trechu tlodi i ddarparu gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth am LCA i deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau eraill gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ar draws grwpiau gofal cymdeithasol a gofalwyr ifanc i ddarparu arweiniad a chefnogaeth glir i annog ceisiadau gan bobl ifanc cymwys.124
Llywodraeth Lafur Cymru yw hon sy'n cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru ac yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywydau pobl. Rydym yn falch o'n hanes o roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, ac rwy'n falch o chwarae fy rhan i barhau â'r hanes hwnnw.125
Yn ystod fy ymweliad â Choleg y Cymoedd yr wythnos diwethaf, cwrddais â grŵp o ddysgwyr uchelgeisiol sy'n derbyn LCA, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am siarad mor agored ynghylch sut mae LCA yn eu helpu yn bersonol. Fe wnaeth Roxy Cole, sy'n 16 oed ac yn astudio pedwar pwnc safon uwch, bersonoli effaith LCA ac eglurodd i mi fod LCA wedi rhoi annibyniaeth ariannol iddi i reoli ei threuliau ei hun, gan leihau ei dibyniaeth ar ei gwarcheidwaid. Fel gefeilliaid, mae Roxy a'i brawd yn defnyddio eu LCA i dalu am gostau dyddiol fel cinio a phrynu gwerslyfrau, ac, yn ogystal â lleddfu straen ariannol ar ei haelwyd, teimlai Roxy bod ei LCA wedi ei chymell i sicrhau presenoldeb da a rhoddodd ymdeimlad o gyflawniad iddi, ar ôl gweithio'n galed am ei harian.126
Dywedodd ei chyd-ddysgwr, Nia Thomas, sut mae LCA yn hanfodol iddi a bod ei £40 yr wythnos yn helpu i dalu costau ei gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu a chludiant i'r coleg. Mynegodd Nia hefyd sut mae LCA yn ei galluogi i ganolbwyntio ar ei hastudiaethau heb straen ariannol, gan roi hwb i'w hyder a'i pherfformiad.127
Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig. Mae'n ymwneud â chyfle. P'un a yw'n gyflenwadau astudio hanfodol, costau cludiant, arian cinio, neu'r tawelwch meddwl i ganolbwyntio'n llwyr ar ddysgu, mae LCA yn ymwneud â chreu llwybrau i bobl ifanc ar draws pob rhan o Gymru.128
Diolch yn fawr iawn am ddatganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac a gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn adeiladol yn y rôl newydd hon? Heb os, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn hanfodol o ran rhoi help llaw i bobl ifanc ar gyfer addysg bellach. Hebddo, ni fyddai llawer yn gallu cadw at eu hastudiaethau a rhoi eu sylw llawn iddynt, a fyddai, yn ei dro, yn amharu ar eu rhagolygon a'u cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd y newyddion am gynyddu trothwy'r myfyrwyr, wrth gwrs, yn cael ei groesawu gan fyfyrwyr a'r gymuned addysg bellach yn ehangach. Bydd llawer o grwpiau, gan gynnwys UCM Cymru, sydd wedi ymgyrchu ers tro dros godi'r trothwy, wrth eu boddau gyda'r newyddion hyn heddiw.129
Yn wir, mae wedi cymryd 15 mlynedd i'r trothwy gael ei newid. Gweinidog, dywedoch y bydd y trothwy newydd yn cael ei adolygu, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech amlinellu i mi a'r Senedd heddiw pa mor aml ydych chi'n mynd i'w adolygu, a thaflwch rywfaint o oleuni ar y mecanweithiau posibl ar gyfer gwneud hynny.130
Rhagwelir y bydd y newid hwn yn datgloi cefnogaeth ychwanegol i ryw 3,500 o fyfyrwyr ledled Cymru pan ddaw i rym ym mis Medi, felly, Gweinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y newid hwn yn cael ei gyfleu'n effeithiol i sicrhau bod y rhai sy'n gymwys yn manteisio i'r eithaf ar yr LCA? Roeddech hefyd yn sôn bod ymgyrchoedd yn mynd i gael eu datblygu, Felly, a allwch chi roi manylion mwy penodol ynglŷn â sut y byddant yn cael eu gwthio allan?131
Rydym yn gwybod bod y taliadau LCA yng Nghymru yn wir yn £40, felly, Gweinidog, a yw Llywodraeth Cymru bellach yn hyderus y bydd hyn yn ddigon i gefnogi ein myfyrwyr yn iawn? Yn ystod ymweliad diweddar â choleg, buom yn trafod LCA mewn gwirionedd, ac mae'n ddiogel dweud bod cefnogaeth unfrydol iddo. Buom yn siarad am feini prawf penodol ar waith i fyfyrwyr fod yn gymwys i gael cymorth y taliad penodol hwn, ac mae myfyrwyr, yn wir, yn wynebu'r risg o golli'r LCA os nad ydynt yn bodloni gofynion presenoldeb ac os ydynt weithiau yn absennol heb awdurdod. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd werthfawrogi y gallai rhai myfyrwyr, yn wir, orfod bod yn absennol a hynny'n annisgwyl. Gallai hyn fod oherwydd rhywbeth sy'n digwydd yn eu bywyd cartref nad ydyn nhw eisiau ei rannu, ac felly mae'n cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig. Felly, nid ydym mewn gwirionedd yn gwybod beth sy'n digwydd yn benodol ym mywyd preifat unigolyn, ond a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o fyfyrwyr yn union sydd wedi colli LCA oherwydd presenoldeb gwael? Byddai unrhyw ffigurau sydd gennych, Gweinidog, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. A yw eich Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith yn y maes hwn yn edrych ar yr effaith y mae wedi'i chael ar ddysgwyr hyd yma? Bu rhai awgrymiadau yn y gorffennol ynghylch mabwysiadu modelau talu yn seiliedig ar bresenoldeb gwahanol mewn ymgais i leihau straen a phryder ymhlith pobl ifanc. Felly, a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio iddo neu a ydych yn mynd i edrych arno yn y dyfodol? Os felly, oes gennych chi ddyddiad? Byddai unrhyw wybodaeth yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.132
Ym mis Gorffennaf 2024, fel y gwyddom, cyflwynodd adolygiad o'r LCA yng Nghymru 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu gweithredu. Un argymhelliad oedd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn y grwpiau eithrio LCA i gynnwys gofalwyr ifanc a phobl sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. O ystyried nad oedd unrhyw sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, a yw hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arno yn y dyfodol?133
Rwy'n gwybod fy mod wedi crybwyll codi ymwybyddiaeth yn gynharach yn fy sylwadau, ond amlygodd yr adolygiad hefyd y dylid hyrwyddo'r LCA ei hun yn ehangach. Felly, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gyflawni hynny? Gwn eich bod wedi dweud y bydd mwy o fanylion, yn wir, yn cael eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, ond, o gofio eich bod ar eich traed heddiw yma, Gweinidog, yn y Siambr y prynhawn yma, byddwn yn esgeulus pe na fyddwn yn ceisio atebion ar y meysydd pwysig hyn.134
Mae symleiddio'r cais i ganiatáu proses gyflwyno electronig, yn wir, yn gam i'w groesawu, ond roedd yr adolygiad y llynedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i wneud yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddir yn y cais yn symlach. A yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, wrth symud ymlaen? Mae hyn, wrth gwrs, yn gam i'w groesawu o ran cefnogi mwy o ddysgwyr ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am ddatganiad y prynhawn yma. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.135
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau yna, a hefyd, yn gyntaf, i'ch croesawu i'ch rôl fel llefarydd addysg y Ceidwadwyr. Dyma'r tro cyntaf i ni herio'n gilydd yn y Siambr, ac rwy'n falch bod fy ysgrifbin wedi gweithio er mwyn i mi allu ysgrifennu'r myrdd o gwestiynau a ofynnwyd i mi.136
Yn gyntaf, hoffwn gytuno â rhai o'ch datganiadau agoriadol am werth LCA wrth ddatgloi'r cyfleoedd addysgol hynny i'n dysgwyr yma yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth a ddaeth i'r amlwg iawn trwy'r adolygiad annibynnol yr oeddem wedi'i gomisiynu: y manteision y mae'n eu cynnig i'n dysgwyr i'w helpu i ganolbwyntio ac ymgysylltu â'u hastudiaethau mewn gwirionedd, peidio â gorfod poeni am waith rhan-amser neu elfennau eraill o gael dau ben llinyn ynghyd, a chyflawni'r canlyniadau hynny y gwyddom y bydd yn eu helpu i gyflawni'r gyrfaoedd da hynny mewn bywyd a'r sefydlogrwydd ariannol hwnnw. A sonioch chi am rôl UCM Cymru hefyd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i groesawu UCM Cymru i'r oriel heddiw; mae wedi bod yn bleser mawr cael y myfyrwyr hynny i ddod i lawr heddiw i gymeradwyo'r gwaith yr ydym yn ei wneud yma. Gwn eu bod wedi gweithio'n galed iawn, gan ymgysylltu nid yn unig â mi, ond gyda Gweinidogion blaenorol, i helpu i gyflawni'r newid hwn. Maen nhw'n rhanddeiliad gwerthfawr iawn ac felly mae'n wych eu cael nhw yma heddiw.137
Rydych chi'n iawn, Natasha; mae wedi bod yn 15 mlynedd ers i ni allu uwchraddio'r trothwy ar gyfer LCA, ac, yn syml, mae hynny oherwydd ein bod wedi cael 14 mlynedd o gyni wedi'u gorfodi o ganlyniad i'r setliadau a gawsom gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU. A hoffwn dalu teyrnged i'r Gweinidogion hynny a oedd yn y rôl hon cyn i mi ddod iddi—Kirsty Williams, Jeremy Miles a Lynne Neagle—y byddai pob un ohonynt wedi bod wrth eu bodd o gael y cyfle i gynyddu trothwyon incwm yr aelwyd ar gyfer LCA, ond yn syml, nid oedd yr arian yno. A dyma'r arian sydd wedi cael ei drosglwyddo o'r setliad cyllideb diweddaraf gan Lywodraeth Lafur y DU sydd wedi caniatáu i mi gael y cyfle i gyflwyno hyn i'n dysgwyr mewn gwirionedd.138
Gofynnoch am yr adolygiad: byddwn yn adolygu trothwy incwm yr aelwyd a'r swm wythnosol o LCA yn flynyddol. O ran cyfathrebu, rydym yn gweithio gyda'r sector colegau addysg bellach a chyda'r chweched dosbarth i wthio'r neges honno. Gwneir hynny drwy sianelau cyfathrebu yr ydym eisoes wedi'u sefydlu, megis trwy awdurdodau lleol, trwy ysgolion a thrwy ColegauCymru i'r colegau AB. Ac mae codi ymwybyddiaeth ar-lein yn rhan fawr o hynny, felly nid trwy sianeli Llywodraeth Cymru yn unig y mae hynny, ond gofyn i'r partneriaid hynny, y rhanddeiliaid hynny, wthio'r neges allan yna hefyd.139
Rwy'n credu bod presenoldeb yn rhan allweddol o'r ffordd y mae LCA yn cael ei ddyfarnu. Yn fy ngyrfa flaenorol fel athrawes, fy rôl olaf mewn ysgol oedd fel pennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth, ac mewn gwirionedd cynnal LCA a chyflwyno hynny i ddysgwyr yn wythnosol oedd un o fy swyddogaethau. Felly, mae gen i brofiad personol go iawn o weld y gwerth y mae'r rhaglen yn ei gynnig i'n dysgwyr, ac mae'n ymwneud llawer â chael yr ymgysylltiad hwnnw â phobl ifanc a welais pan es i Goleg y Cymoedd ddydd Iau hefyd, fel bod y tiwtoriaid sy'n gyfrifol am LCA yn cael y sgyrsiau tyner hynny gyda'n dysgwyr i ddarganfod pam eu bod yn colli gwersi neu ddarlithoedd. A'r adborth a gefais gan y rhai sy'n ymwneud ag addysgu o ddydd i ddydd yw bod y sgyrsiau hynny eu hunain yn fuddiol iawn wrth annog dysgwyr i wella eu presenoldeb. Rydym wedi cael tystiolaeth o'r adolygiad hefyd bod y cynnydd yn y swm a roddwyd yn 2023 o £30 i £40 yr wythnos hefyd wedi helpu i wella presenoldeb dysgwyr ac wedi gweithredu fel cymhelliant. Ac rwy'n hyderus y bydd ysgolion a cholegau yn parhau gyda'r dull tyner hwnnw, i ddefnyddio hyn fel cymhelliant i wella presenoldeb, yn hytrach nag fel ffon—ei ddefnyddio fel moronen, yn hytrach na ffon.140
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion da i fyfyrwyr sydd wedi'i gweld hi'n anodd ymdopi ag anawsterau costau byw, yn arbennig y gost o dalu am fwyd, prynu llyfrau a thrafnidiaeth, fel rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw'n barod. Mae hyn yn gallu cael effaith ar allu myfyriwr i ddilyn llwybr addysg llawn amser a fyddai'n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol iddyn nhw fydd yn cyfrannu i economi Cymru ac i'r gymdeithas yn fwy cyffredinol.141
Hoffwn roi ar record fy niolch i bawb yn y Siambr a thu hwnt sydd wedi ymgyrchu o blaid y newid hwn i'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru. Os caf i dalu teyrnged arbennig i fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ers 2021 ar y mater hwn, ac yn llwyddiannus, os cofiwch chi; fe wnaeth gyflwyno dadl Aelod ar hyn yn Chwefror 2023 a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynnydd yn y lwfans yn unol â lefelau chwyddiant ac adolygiad o’r trothwyon. Ers hynny, rŷn ni wedi gweld y lwfans yn cynyddu i £40 yr wythnos—nid efallai yn inflation linked, fel y byddai llawer o bobl wedi dymuno, ond i’w groesawu serch hynny—ac, o’r diwedd, heddiw, y cyhoeddiad ynglŷn â newid y trothwyon er mwyn cynyddu'r nifer sy'n gymwys ar gyfer y lwfans.142
Er bod Plaid Cymru yn croesawu'r newid hwn i'r trothwyon, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried o ddifrif sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu'r argymhellion eraill a ddaeth allan o'r adolygiad ehangach o'r LCA yr haf diwethaf, gan fod gormod o fyfyrwyr yn anffodus yn wynebu heriau pellach yn ymwneud â chludiant, y bwlch cyrhaeddiad a'r polisïau presenoldeb, er enghraifft, a sonioch yn eich datganiad am gael gwared ar rwystrau rhag mynediad.143
Galwodd yr adolygiad hwnnw ar y Llywodraeth i ystyried cysylltu unrhyw godiad i'r LCA â'r mynegai prisiau defnyddwyr neu fesurau chwyddiant eraill yn y dyfodol. Yn wir, yn ystod dadl 2023 ar y mater hwn, wrth siarad fel un ar y meinciau cefn bryd hynny, fe wnaethoch chi, Gweinidog, gydnabod bod y methiant i godi LCA yn unol â chwyddiant yn 'broblem', gan fynd ymlaen i ddweud:144
'Yn ôl yr hyn rwy'n ei amcangyfrif, o ran pŵer prynu, mae £30 yn 2004 yn cyfateb i ychydig o dan £59 heddiw, felly effeithiwyd yn sylweddol ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg wrth i gostau fynd yn uwch ac yn uwch.'145
Wrth gwrs, mae lefel bresennol y taliad o £40 yn dal i fod dipyn yn llai na'r hyn a fyddai pe bai'r lwfans wedi cynyddu yn unol â chwyddiant. Felly, Gweinidog, er gwaethaf pwysau cyllidebol, byddwn yn ddiolchgar i wybod a ydych yn dal i ystyried yr anghyfartalwch hwn yn broblem. A allech chi, efallai, nodi'ch uchelgeisiau ar gyfer y cyfeiriad teithio o ran cynyddu'r swm penodol y gall myfyrwyr ei dderbyn gan yr LCA yn y dyfodol?146
Gan droi nawr at fater teithio, galwodd yr adolygiad ar y Llywodraeth i archwilio sut y gallai ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr o aelwydydd incwm isel ar draws lleoliadau ysgolion a cholegau addysg bellach. Roeddwn yn gobeithio y gallai'r mater hwn fod wedi cael ei drafod yn ystod y ddadl ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, ond mae hynny, bellach, wedi cael ei dynnu'n ôl gan Lywodraeth Cymru. Beth, felly, yw bwriad y Llywodraeth yn y maes penodol hwn o gludiant i ddysgwyr? Pa ganlyniadau y gallwn eu disgwyl o'r adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr? Ac a fydd y Bil bysiau sydd ar ddod, er enghraifft, yn helpu i leddfu'r pwysau costau cludo sy'n wynebu disgyblion a rhieni?147
Yn olaf, roeddwn yn bryderus o glywed yn ddiweddar y bu rhai achosion lle, oherwydd gwallau gweinyddol neu feichiau, na chafodd rhai myfyrwyr daliadau LCA am hyd at dri mis ar ddechrau'r flwyddyn ysgol. Tra bod taliadau wedi'u hôl-ddyddio—yn amlwg, mae hynny i'w groesawu—ar y pryd roedd yn golygu nad oedd rhai myfyrwyr yn gallu mynd i'r coleg, a oedd yn effeithio ar eu gallu i hawlio LCA yn y lle cyntaf, gan greu cylch dieflig. Felly, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y system monitro presenoldeb bresennol sy'n penderfynu a yw myfyrwyr yn derbyn eu taliadau ai peidio? Diolch yn fawr.148
Diolch yn fawr, Cefin, am y cwestiynau yna. Hoffwn ddechrau drwy gytuno â'ch sylw fod hwn yn fudd gwirioneddol sy'n helpu ein dysgwyr ifanc sy'n dod o'r aelwydydd incwm is hynny i frwydro yn erbyn costau byw a chost cludiant, a dyna'n sicr yw'r dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg drwy'r adolygiad annibynnol, a hefyd trwy'r sgyrsiau niferus rwyf wedi'u cael gyda dysgwyr ar fy ymweliadau ers i mi ddechrau yn y swydd hon.149
Rwy'n cytuno â chi hefyd mai'r hyn y mae'r ymgyrch hon ynghylch LCA wedi'i ddangos yw ein Senedd yma yn gweithio ar ei gorau. Mae'n bleser cael aelodau o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn yr oriel heddiw, fel y gallant weld pa mor wahanol yw'r Senedd hon i lawer o rai eraill ar draws y byd, gyda'r gweithio trawsbleidiol hwnnw. A hoffwn i ymuno â chi'n arbennig i dalu teyrnged i Luke Fletcher AS, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog ar hyn, ac rwy'n falch iawn y bydd yn siarad ar hyn heddiw.150
Fe drof at rai o'r pethau eraill a godwyd gennych hefyd, o ran ein gallu i ariannu hyn ac a ydym mewn gwirionedd yn rhoi digon o arian bob wythnos i'n dysgwyr, ac a ydym wedi rhoi trothwy incwm yr aelwyd yn y lle iawn, wel, ar y ddau beth hynny, rydym yn gweithio ar argymhellion yr adolygiad annibynnol, Felly, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn cyd-fynd yn llwyr â hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i'r adolygiad llawn maes o law, a gwn nad UCM Cymru yn unig, ond mae Sefydliad Bevan a ColegauCymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad yr ydym wedi'i wneud yma heddiw. Mae hon wedi bod yn gyllideb ddrafft lle mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynghylch faint o arian sydd gennym i weithio gydag ef. Er enghraifft, byddai modelu cychwynnol ar gyfer codi'r trothwy incwm cartref sy'n dibynnu ar y trothwy incwm aelwyd un dibynnydd, dyweder, i £30,000, sydd wedi'i grybwyll gan rai sectorau, angen £12.4 miliwn ychwanegol. Felly, fel yr wyf wedi dweud wrth siaradwyr eraill ar y datganiad hwn heddiw, byddwn yn adolygu'r gyfradd lwfans wythnosol a'r trothwyon cymhwysedd yn flynyddol, a byddwn yn ystyried gwelliannau priodol lle y gallwn.151
Hoffwn droi nawr at y pwyntiau a wnaethoch am gludiant, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol, ac roeddwn i'n cael sgwrs gyda'r myfyrwyr o UCM Cymru am hynny amser cinio. Dyma, mewn gwirionedd, yw'r mater mawr nesaf y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef nawr ar ôl gweithredu'r newidiadau hyn i'r LCA. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan wahanol awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach ledled Cymru, sydd, yn fy marn i, yn aml yn digwydd o'r golwg. Mae llawer ohonynt yn ariannu cludiant dysgwyr ôl-16 yn llawn neu'n rhannol, ond rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn cydnabod bod hon yn system sydd o dan straen sylweddol a chynyddol, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i weld beth arall y gellir ei wneud i greu ateb cludiant mwy teg a chydnerth i'n dysgwyr. Yn y cyfamser, byddwn yn annog pob Aelod i hyrwyddo cynllun Fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru. Gall pobl ifanc wneud cais am docyn teithio am ddim; mae'n rhoi gostyngiad o draean y pris ar gyfer pob taith ar fws yng Nghymru. Mae yna hefyd ystod o wahanol gardiau rheilffordd ar gael gan Trafnidiaeth Cymru neu'n genedlaethol—y cerdyn rheilffordd cenedlaethol—ac mae pob un ohonynt yn costio llai na £30 a gallwch gael gostyngiad o hyd at 50 y cant ar gyfer teithio ar y trên.152
Dim ond i orffen, credaf mai eich pwynt olaf oedd y mater hwnnw o wallau gweinyddol a'r anhawster y mae hynny wedi'i greu. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf yn gyfarwydd ag ef, felly os hoffech ysgrifennu ataf gyda'r manylion am hynny, byddwn yn falch iawn, iawn o roi sylw i hynny, oherwydd yn sicr nid ydym eisiau creu rhwystrau o'r fath i dderbynwyr LCA. Ac o ran y mater hwnnw o bresenoldeb, rwyf wedi cael sicrwydd bod colegau ac ysgolion yn defnyddio dull tyner ynghylch hyn. Nid oes angen tynnu LCA oddi wrth ddysgwyr sydd â rhesymau dilys dros fod yn absennol, neu sydd ond wedi bod yn absennol am gyfnod byr. Ond byddaf hefyd yn ymrwymo i adolygu hynny.153
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn sydd i'w groesawu heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn cael ei ehangu i fwy o fyfyrwyr, y cynnydd yn y trothwy cymhwysedd a'r ffyrdd haws i bobl ifanc allu gwneud cais. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod da i bobl ifanc. Ac rwyf hefyd yn falch iawn o weld UCM Cymru yn yr oriel heddiw, ac roeddwn yn falch o gwrdd â nhw yn gynharach.154
Mae un o fy etholwyr, a oedd wedi derbyn LCA, wedi dweud wrthyf, 'Roedd derbyn LCA yn teimlo fel buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn fy nyfodol, fel y gallwn barhau â'm haddysg heb orfod poeni am arian. Roedd yn helpu gyda chost offer ar gyfer fy astudiaethau, yn ogystal â chludiant i'r chweched dosbarth ac oddi yno. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi gallu derbyn LCA bob mis. Gwnaeth y cam hwn o fy addysg gymaint yn haws.' A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn enghraifft berffaith o pam y cyflwynwyd LCA a pham y dylem fod yn ei ddathlu yma yn y Siambr heddiw?155
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â phob gair a ddywedoch am yr enghraifft honno, y gwnaethoch ei hamlinellu hi mor bwerus, gan eich etholwr, o sut y gall LCA helpu mewn gwirionedd yn yr amgylchiadau unigol hynny. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono, sef na wnaethom ni dim ond cadw LCA yma yng Nghymru pan gafodd Llywodraeth Dorïaidd y DU wared arno yn 2011, ond rydym wedi llwyddo, drwy gyfnodau o gyni eithriadol, i gynyddu cyfradd yr LCA i £40 yr wythnos. Mae'n £30 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly mae gennym y cynnig mwyaf hael hwnnw yn y DU i helpu ein pobl ifanc gyda chost offer a chludiant ac ati.156
Yn wir, Julie, ar draws ardal awdurdod lleol Caerdydd—rydych chi'n gwybod, rydych chi'n cynrychioli un o seddi Caerdydd—mai Caerdydd sydd â'r nifer uchaf o dderbynwyr LCA yng Nghymru. Y data diwethaf oedd ar gael oedd 1,950, felly mae llawer iawn o bobl ifanc yn eich ardal yn elwa ar LCA, a diolch i chi am dynnu sylw at yr enghraifft honno.157
Ar ôl galw am gyflwyno LCA yng Nghymru, siaradais dros fy mhlaid yn y ddadl a gwnaethom bleidleisio dros ei gyflwyno 21 mlynedd yn ôl—fe wnaethom bleidleisio drosto a'i gefnogi—ond dywedais y byddai ein cefnogaeth hirdymor yn amodol ar dystiolaeth sy'n dangos bod nifer y myfyrwyr o aelwydydd incwm is yn cynyddu o ganlyniad. Fodd bynnag, mae nifer y ceisiadau LCA cymeradwy wedi gostwng yn flynyddol o 30,180 yn 2013-14 i ddim ond 15,510 yn 2022-23, y lefel isaf ers 2005-06. Felly, pa dystiolaeth sydd gennych i ddangos bod hyn wedi, neu y bydd yn cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n mynd i addysg ôl-16 neu'n aros mewn addysg ôl-16 o ganlyniad, ac felly'n osgoi'r angen i ddefnyddio'r un arian—nid i arbed yr arian, ond i ddefnyddio'r un arian yn well—i gyflawni'r cynnydd hwnnw mae angen i ni ei weld?158
Diolch, Mark, am eich cwestiynau, ac mae'n bleser clywed bod y Ceidwadwyr hefyd wedi cefnogi hyn pan ddaeth gerbron y Senedd am y tro cyntaf, ac mae'n enghraifft arall o sut mae ein Senedd yn wahanol i Seneddau eraill yn y DU, lle ceir materion fel hyn y gallwn gytuno arnynt ar draws y Siambr.159
Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar y ffigurau hynny sy'n dangos y gostyngiad yn y nifer o dderbynwyr LCA dros y tair blynedd ariannol diwethaf y mae'r data ar gael ar eu cyfer. Rwyf wedi edrych ar hynny ynghyd â'm swyddogion a'r casgliadau sydd wedi'u tynnu o hynny yw ei fod oherwydd y ffaith, gan fod yr isafswm cyflog a'r cyflog byw go iawn wedi codi i gyfateb, i ryw raddau, â'r argyfwng costau byw, mae cadw ein trothwy incwm yn sefydlog wedi golygu bod llai a llai o deuluoedd wedi gallu bod yn gymwys ar gyfer hwnnw. Felly, nid wyf yn credu bod y data'n dangos diffyg parodrwydd ar ran pobl ifanc i aros o fewn y system addysg. Mae wedi dangos bod camgymharu wedi bod, mewn gwirionedd, gyda lle roedd ein trothwy incwm wedi'i bennu, a dyna pam rydym wedi penderfynu codi'r trothwy hwnnw nawr a dod â 3,500 o ddysgwyr ychwanegol i'r system. Rydym yn gobeithio y bydd hynny'n cynyddu o fewn y flwyddyn nesaf i dros 20,000.160
Hoffwn ddechrau drwy gytuno'n llwyr â'r Gweinidog mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd ar ddiwedd ei datganiad: nad yw hyn yn ymwneud ag arian, mae'n ymwneud â chyfle. Ac mae'r ffaith bod y cyfle hwnnw bellach wedi'i ymestyn i 3,500 o ddysgwyr ychwanegol yng Nghymru yn sylweddol, ac mae'n newyddion gwych. Gobeithio y bydd y Dirprwy Lywydd yn maddau i mi—161
Dim ond ychydig.162
Dim ond ychydig; derbyniaf hynny oherwydd i mi, mae hyn yn arwyddocaol. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, cefais y taliad pan oeddwn yn yr ysgol, rhoddodd y cyfle hwnnw i mi, a byddaf bob amser yn ddiolchgar i gyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd a gadwodd y taliad yn ei le, oherwydd rwy'n cofio nôl yn 2011, pan oeddwn yn ystyried a ddylwn aros ymlaen i fynd i'r chweched dosbarth ai peidio, y Torïaid yn ei dorri mewn gwirionedd yn ffactor o ran a oeddwn yn mynd i aros ai peidio. Ond wrth gwrs fe wnaethon ni ei gadw yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau pam yr ymgyrchais, pan ges i fy ethol gyntaf, dros y cynnydd hwnnw yn y taliad. Byddai'n esgeulus i mi beidio â sôn am gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Jeremy Miles, a gyflawnodd ar gynyddu'r taliad hwnnw a chyflawni ar gael yr adolygiad hwn. Felly, mae'n gyfnod arwyddocaol iawn i fyfyrwyr ledled Cymru. Mae'n fuddugoliaeth i fyfyrwyr, ac mae'n fuddugoliaeth i bobl fel fi oedd yn arfer derbyn y taliad hwnnw. Mae'n foment falch iawn i mi weld hwn yn cynyddu fel y gwnaeth.163
Wrth gwrs, mae nifer o argymhellion yn yr adolygiad. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu codi heddiw. Byddaf yn canolbwyntio ar ddau. Mae'r broses ymgeisio wedi bod yn gymhleth dros y blynyddoedd, ac mae oedi wedi bod wrth dderbyn y taliadau hefyd, sydd wedi arwain at nifer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y coleg neu'r ysgol. Ac yna, wrth gwrs, roedd y materion cludo ar ben hynny yn golygu eu bod ar eu colled o ran y taliadau, felly roedd yn dipyn o gylch dieflig. Byddwn yn ddiolchgar iawn o weld sut mae'r Llywodraeth yn symud ymlaen ar yr argymhelliad penodol hwnnw.164
A hefyd, wrth gwrs, rydym wedi clywed eto fod maint y taliad yn dal i fod yn is na'r hyn y dylai fod. Flwyddyn yn ôl, cyfrifodd fy swyddfa fod angen iddo fod tua £55 yr wythnos. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau ariannol, ond byddwn yn ddiolchgar iawn o weld gan y Gweinidog sut y gallai'r Llywodraeth edrych ar sut y gallwn ddod â hwnnw'n ôl i ble y dylai fod yn raddol, fel ei fod o'r un gwerth ag yr oedd yn ôl yn 2004.165
Rwy'n derbyn bod hwn yn gam cyntaf. Mae hwn yn gam arwyddocaol, ac mae'n stori newyddion wych i fyfyrwyr ledled Cymru. Ond pwynt allweddol nawr yw bod y Llywodraeth yn cyflawni hynny, a gwn fod y Gweinidog yn awyddus iawn i weld y cyflawniad hwnnw.166
A gaf i ddiolch i Luke am ei sylwadau? Y peth cyntaf a ddaeth i'r meddwl pan ddywedodd Luke ei fod yn yr ysgol yn 2011, a phenderfynu a ddylid parhau gyda'i addysg ai peidio, oedd, 'Diawch, mae'n rhaid fy mod yn hen iawn', oherwydd pe byddech wedi byw ym mwrdeistref sirol Caerffili, byddwn o bosib wedi bod yn bennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth, yn eich dysgu chi ac yn eich cynorthwyo gyda'ch cais LCA.167
Ond ar nodyn difrifol, Luke, mae eich gwaith ar hyn wedi bod yn gwbl allweddol. Wrth gael y llais dilys hwnnw yma yn Siambr, llais rhywun a dderbyniodd LCA, a sut mae wedi mynd ymlaen i'ch arwain i gyflawni eich holl ddyheadau addysgol, ac yn y pen draw, dod yma i gynrychioli'r etholwyr o'ch rhanbarth hefyd, ni allem ofyn am well llysgennad i ddangos sut y gall y cynllun hwn helpu i chwalu rhwystrau ac arwain unigolion at gyflawni eu holl uchelgeisiau.168
O ran y broses ymgeisio, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud eisoes ein bod wedi ceisio symleiddio honno, gan ddod â'r cyfan ar-lein. Byddaf yn sicrhau ein bod yn cadw golwg ar hynny fel rhan o'n proses adolygu hefyd, oherwydd yn sicr mae angen i ni wybod a yw hynny'n gweithio'n iawn. A dyna pam, hefyd, Cefin, byddwn yn ddiolchgar i chi am dynnu sylw at y materion rydych chi wedi'u codi nawr, ac unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg gan Aelodau ar draws y Siambr, os yw eich etholwyr yn ysgrifennu atoch chi ynghylch hyn.169
Y materion cludiant rwyf wedi'u crybwyll hefyd yn fy ymateb i Aelodau eraill. Rydych chi'n gwybod bod hwn yn faes lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a minnau yn unedig yn ein penderfyniad. Rydym yn gwybod y bydd y Bil bysiau yn helpu i chwalu llawer o rwystrau rhag cael mynediad at gludiant ledled Cymru, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio dod o hyd i ateb cyn hynny, oherwydd ni allwn fforddio aros. Mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni. Bydd yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr yr ydym yn ei chynnal yn ystod y misoedd nesaf yn hanfodol ar gyfer hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod yn ôl ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ôl hynny.170
A dim ond ar eich pwynt olaf am swm wythnosol LCA, rwy'n eich sicrhau y bydd hyn yn rhan o'r broses adolygu flynyddol hefyd.171
Rwy'n falch o ddweud bod Cymru'n darparu'r lwfans cynhaliaeth addysg mwyaf hael yn y DU, a'i fod wedi newid o £30 i £40 yr wythnos y llynedd. Mae'n wych y bydd nawr yn cael ei ymestyn i 3,500 o ddysgwyr. Mae hynny'n golygu eu bod yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth honno. Fel llawer o bolisïau eraill yng Nghymru, mae'n helpu i sicrhau tegwch a chyfle am fywyd gweddus—polisïau fel prydau ysgol am ddim cyffredinol, grantiau gwisg ysgol, grantiau amddifadedd disgyblion, prentisiaethau a'r rhaglen gwella gwyliau'r haf. Mae LCA wir yn helpu gyda bwyd a chludiant, a chyfleoedd, fel y crybwyllwyd.172
Gweinidog, fel y dywedwyd o'r blaen, cludiant yw un o'r materion mwyaf yr oeddwn yn mynd i'ch holi ynglŷn ag ef, sut rydych chi'n hyrwyddo Fyngherdynteithio, oherwydd gwn nad yw pob myfyriwr wedi clywed amdano. Ac wrth symud ymlaen, mewn sgwrs â'r Gweinidog trafnidiaeth, efallai y gallech edrych i weld a ellir ei ddefnyddio ar drenau hefyd. Rwy'n gwybod bod tocyn ar wahân i'r rhwydwaith rheilffyrdd, ond byddai cael un tocyn ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig yng Nghymru yn ddefnyddiol iawn. Efallai fod hynny'n rhywbeth y gallech chi ei ddatblygu. Diolch.173
Hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau. Roeddwn i'n brysur yn gwneud fy mathemateg wrth i chi siarad, ac, ar draws y rhanbarth rydych chi'n ei gynrychioli, Gogledd Cymru, mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos 2,870 o ddysgwyr yn derbyn LCA. Rwy'n credu bod eich cwestiwn yn un da iawn. Mae Fyngherdynteithio yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono yma yn Siambr y Senedd hon. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, wedi gwneud llawer o waith ar hyn o'r blaen. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau i hyrwyddo'r cynllun Fyngherdynteithio, ac rydym yn gofyn i'n colegau AB a'n hysgolion ei hyrwyddo hefyd. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae am ddim, gallwch wneud cais ar-lein. Mae'n rhywbeth sy'n werth chweil i bobl ifanc oherwydd ei fod yn rhoi gostyngiad o draean y pris ar bob taith bws yng Nghymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi hyrwyddo'r cynllun tocynnau ar gyfryngau cymdeithasol yn weithredol. Mae hynny wedi'i ategu gan arwyddion safleoedd bysiau a hysbysebion ar fysiau hefyd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn fy sicrhau eu bod nhw'n mwynhau mynd i ffeiriau'r glas—rwy'n siwr eu bod nhw—lle maen nhw'n hyrwyddo'r cynllun yn uniongyrchol i fyfyrwyr coleg hefyd.174
I droi at eich cwestiwn am y posibilrwydd o ehangu Fyngherdynteithio i gynnwys teithio ar y rheilffyrdd, nid wyf yn credu bod unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud hynny, er ein bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella a gwella'r cynnig pan fydd cyllid yn caniatáu. Ond rwy'n bendant yn credu ei fod yn rhywbeth sy'n werth i ni ei ystyried yn yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr, oherwydd, fel y dywedwch, rydym yn chwilio am y dull un tocyn integredig hwn, a byddai'n ymddangos bod hyn yn enghraifft dda o hynny. Mae yna gardiau rheilffordd gwych ar gael i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Mae yna lu ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Mae tri gan Trafnidiaeth Cymru, a thri cherdyn rheilffordd cenedlaethol. Fel y dywedais o'r blaen, mae pob un ohonynt yn costio llai na £30, a gallant gynnig gostyngiad o hyd at 50 y cant ar gyfer teithiau. Felly, mae'n werth i lawer o'n dysgwyr fuddsoddi ynddynt. Ond rwy'n cytuno â'ch teimlad y gallai unrhyw beth y gallwn ei wneud i bwyso'n galetach am system cerdyn integredig fod o fudd heb amheuaeth.175
Diolch yn fawr, Weinidog, am eich datganiad positif, ac am ymateb yn gadarnhaol i nifer o argymhellion yr adolygiad yn barod. Diolch yn fawr yn arbennig am gyfraniad Luke Fletcher, sy'n dangos yn ymarferol bwysigrwydd y taliad yma. 'Cyfle' oedd eich gair mawr chi, a gair mawr Luke. Mae Natasha Asghar wedi sôn yn barod ynglŷn â phresenoldeb. Mae'n bwysig rhoi cyfle i bawb, yn enwedig y rheini sy'n dioddef o heriau penodol. Dwi eisiau jest delio â'r rheini sy'n dioddef o afiechydon cronig, rheini sydd ag anawsterau dysgu ychwanegol, ac anableddau eraill—hynny efallai yn golygu eu bod nhw yn gorfod colli ysgol. Os nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy presenoldeb, yna maen nhw'n colli'r taliad. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau nad yw'r bobl yma'n cael eu colli, ddim yn syrthio rhwng y craciau, a bod eu hamgylchiadau nhw'n cael eu hystyried, fel eu bod nhw'n cael y cyfle yma hefyd? Diolch yn fawr.176
Diolch am y cwestiynau yna. Rwy'n credu mai'r gair allweddol yna yw 'gallent'—fe allen nhw golli'r taliad o dan yr amgylchiadau hynny. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Aelodau eraill yma heddiw, byddwn yn sicr yn gobeithio y byddai'r rhai sy'n gweinyddu LCA mewn ysgolion a cholegau yn defnyddio'r un dull ag y gwnes i yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, i ddefnyddio'r rhaglen hon fel cymhelliant ar gyfer presenoldeb da, ac i ddeall y gwahanol amgylchiadau y mae dysgwyr yn eu hwynebu. Mae fy holl ryngweithiadau yn awgrymu mai dyna'r ffordd y mae'r cynllun yn cael ei redeg, ond byddaf yn sicrhau, pan fyddwn yn cynnal ein hadolygiadau blynyddol, ein bod yn cymryd rhagor o dystiolaeth ar hyn. Ond gadewch i ni gofio bod y rhai sy'n mynd i fyd addysgu yn gwneud hynny oherwydd angerdd gwirioneddol i helpu pob person ifanc, ac yn enwedig y rhai sy'n profi'r anfanteision rydych chi'n eu hwynebu yno. Felly, nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y grwpiau hynny o ddysgwyr yn cael eu cosbi am eu presenoldeb, ond byddaf yn sicr yn cadw fy llygaid a'm clustiau ar agor.177
Gweinidog, roedd cynyddu'r LCA i £40 bob wythnos yn ôl ym mis Ebrill 2023 yn newyddion gwych ac yn rhyddhad enfawr i deuluoedd yn y Rhondda, gan dynnu rhywfaint o'r pwysau i ffwrdd a helpu dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau yn lle poeni am arian. Rwy'n gwybod bod y taliad hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth gwmpasu hanfodion fel diaroglydd, nwyddau ymolchi, bwyd a chyflenwadau ysgol fel llyfrau nodiadau ac ysgrifbinnau, hyd yn oed cotiau gaeaf ar gyfer y misoedd oerach. Ni allaf ddiolch digon i'r Gweinidog am sicrhau bod mwy o ddisgyblion a myfyrwyr ledled y Rhondda yn derbyn y gefnogaeth hon ac yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn. Roedd hefyd yn wych gweld cyfarfod gyda myfyrwyr ar gampws Coleg y Cymoedd yn Nantgarw yr wythnos diwethaf. Gweinidog, a gawn ni fwy o wybodaeth am yr adolygiad blynyddol o'r trothwyon a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer cymorth yn y dyfodol?178
Hoffwn ddiolch i Buffy am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaethoch chi yna am y rhesymau pam mae LCA yn beth mor wych. Mae wir yn tynnu'r pwysau hynny oddi ar ein dysgwyr o dan yr amgylchiadau anodd hynny. Mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi'i glywed dro ar ôl tro gan ddysgwyr rydw i wedi ymgysylltu â nhw dros yr wythnosau diwethaf, yn ogystal â gweld hynny'n uniongyrchol trwy fy ngyrfa addysgu fy hun. Mae hynny, wrth gwrs, yn helpu ein dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau, ac rwy'n credu mai dyna pam mae gennym y dystiolaeth honno o'r adolygiad annibynnol o'r LCA ei fod yn arwain at ganlyniadau addysgol gwell. Rydym yn gwybod mai addysg yw'r dull ysgogi mwyaf pwerus i helpu ein pobl ifanc allan o dlodi ac ymlaen at bethau gwell mewn bywyd. Dyna pam ei fod yn daliad yr wyf yn teimlo mor angerddol yn ei gylch.179
Mae'n rhaid i mi ddweud, Buffy, pan es i gampws Coleg y Cymoedd Nantgarw yr wythnos diwethaf a chwrdd â dysgwyr, roedd yna un myfyriwr yn sefyll allan yn llwyr ac mae'n un o'ch etholwyr. Mae'n ymddangos bod Roxy Cole bellach wedi dod yn ferch poster ar gyfer LCA, gan gyflawni cyfweliadau angerddol iawn ar y cyfryngau ac rwyf wedi cyfeirio ati yn fy natganiad ysgrifenedig hefyd. Felly, yn bendant, mae gennych chi ddysgwyr yno sy'n eiriolwyr pwerus iawn yn y Rhondda, ac rwy'n siŵr y byddant yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych, yn rhannol o ganlyniad i'r help llaw rydym ni'n ei roi iddyn nhw.180
Bydd yr adolygiad blynyddol o drothwyon yn edrych ar drothwy incwm yr aelwyd a swm wythnosol yr LCA. Felly, byddwn yn adolygu'r ddau beth bob blwyddyn. Byddwn yn edrych ar y dystiolaeth. Os yw'r dystiolaeth yn awgrymu y dylid codi'r rheini, yna dyna'n union yr wyf yn bwriadu ei wneud.181
Ac yn olaf, Sioned Williams.182
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe sonioch chi yn eich datganiad taw llwybr yw addysg, ac mae’n rhaid i fi ddweud fy mod i’n cytuno, ond mae e’n anwastad ac yn heriol i blant mewn tlodi. Dwi’n meddwl bod angen i ni weld y Llywodraeth yn cryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael i'n pobl ifanc sy'n byw mewn tlodi er mwyn iddyn nhw gyrraedd y man lle y gallan nhw fanteisio ar y lwfans cynhaliaeth addysg a’r cyfleon yna sy’n dod yn sgil hynny.183
Mewn ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae Oxfam Cymru yn dweud mai ychydig iawn o fuddsoddiad a fu i fynd i'r afael â'r ffactorau strwythurol sy'n sail i dlodi plant. A heb dargedau yn y strategaeth tlodi plant, rhaid i fi ddweud, does fawr o syndod. Ac o ran bod yn fwy hael na’r Alban, mae’n werth atgoffa pawb yn y Siambr bod trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc yn yr Alban. Mae trafnidiaeth yn bwyta lot o’r lwfans cynhaliaeth addysg.184
Oherwydd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs, mae yna brydau bwyd am ddim nawr mewn ysgolion cynradd a neb yn gorfod dysgu gyda bola gwag. Ond heb newid i’r trothwy incwm ar gyfer prydau bwyd am ddim yn ein hysgolion uwchradd, bydd plant sy'n dod o deuluoedd sy'n ddigon tlawd i fod yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol mewn perygl o fethu â chyrraedd eu llawn botensial.185
Felly, ydych chi'n credu y dylai fod yna newid i'r trothwy incwm ar gyfer cymhwysedd prydau bwyd am ddim ar gyfer plant oedran uwchradd? Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael o fewn yr adran addysg am hynny? Achos byddai hynny'n sicr yn gwneud y siwrnai, y llwybr addysgol, yn fwy cadarn a chyflawn i blant mewn tlodi.186
Diolch yn fawr, Sioned, am y cwestiynau yna. Ac rwy'n cytuno â chi bod llawer o heriau i'n dysgwyr sy'n byw mewn tlodi ac mae LCA yn un gyfres o fesurau y gallwn ei chynnig i'r dysgwyr hynny. Cronfa arall, rwy'n credu, nad yw'n cael ei thrafod ddigon, yw'r gronfa wrth gefn ariannol y mae ein colegau AB yn ei gweithredu, sy'n rhoi disgresiwn llwyr iddynt ynghylch sut maen nhw'n defnyddio honno, ac ar bob un o'm hymweliadau â cholegau AB mae honno'n rhywbeth y mae dysgwyr a staff wedi dweud sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae honno'n gronfa sy'n cael ei defnyddio'n aml i ategu costau cludiant neu i gynnig yr hyn sy'n cyfateb i brydau ysgol am ddim mewn colegau addysg bellach, gan ein bod yn gwybod bod ein dysgwyr yn y chweched dosbarth, sy'n gymwys, yn derbyn y rheini. Felly, y gronfa wrth gefn ariannol mewn gwirionedd yw'r bont honno i gael mynediad at hynny mewn AB. O ran y ffactorau strwythurol sy'n sail i dlodi plant, mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod o bwys i bob un ohonom. Nid yw'r mwyafrif helaeth o'r ysgogiadau hynny wedi'u datganoli, ond yn sicr mae'r rhain yn bethau y mae angen i ni i gyd fod yn gweithio tuag at eu goresgyn.187
Ac yn olaf, ar eich cwestiwn ar brydau ysgol am ddim, y ffocws ar gyfer y Llywodraeth Lafur hon yw cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, gan sicrhau ein bod wedi cael hynny'n iawn. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i geisio newid y cymhwysedd hwnnw mewn ysgolion uwchradd, er fy mod yn gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cadw llygad barcud arno.188
Diolch i'r Gweinidog. 189
Eitem 4 sydd nesaf: Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jeremy Miles.190
Cynnig NDM8797 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflwyno cyfundrefn newydd, sef cyfundrefn dethol darparwyr Cymru ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.191
Mae'r rheoliadau yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol yng Nghymru, pan fyddan nhw'n caffael gwasanaethau iechyd, yn gwneud hynny gyda hyblygrwydd a thryloywder. Mae'r rheoliadau yn cynnwys nifer o'r un prosesau allweddol ag sydd yn y gyfundrefn dethol darparwyr yn Lloegr, lle mae'r rheini o fantais i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mewn nifer o feysydd pwysig maen nhw'n wahanol er mwyn adlewyrchu sut mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio yng Nghymru ac er mwyn cefnogi amcanion polisi 'Cymru Iachach'. 192
Mae'r rheoliadau'n ymgorffori nifer o fesurau ychwanegol yn dilyn craffu ar Ddeddf 2024. Maent yn ymateb i adborth rhanddeiliaid ac yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o weithrediad cychwynnol y drefn dethol darparwyr yn Lloegr dros y 12 mis diwethaf. Er enghraifft, maent yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ychwanegol, megis gofynion i awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiadau ychwanegol, gwell egwyddorion caffael a newidiadau i brosesau wrth ddyfarnu contractau o dan gytundebau fframwaith. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynnwys i sicrhau bod prosesau yn nhrefn gaffael newydd GIG Cymru yn cael eu cynnal yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur. Mae nifer o ddiweddariadau hefyd i ddiffiniadau yn y rheoliadau i gyd-fynd â darpariaethau a gynhwysir yn Neddf Caffael 2023. Felly, mae'r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o newidiadau sylweddol i gaffael cyhoeddus, a fydd yn dechrau ar 24 Chwefror.193
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth ofalus y mae wedi'i rhoi i'r rheoliadau hyn. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i dîm caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sydd wedi darparu cymorth technegol a gweithredol ar gyfer datblygu'r rheoliadau, canllawiau statudol a deunyddiau hyfforddi cysylltiedig. 194
I grynhoi, Dirprwy Lywydd, bydd y rheoliadau hyn yn creu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaeth iechyd y GIG yng Nghymru, gan gynnal ein hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel a chanlyniadau iechyd gwell i bobl yng Nghymru, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.195
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges. 196
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol yn unig, sy'n nodi mater o vires. Hynny yw, rydym ni'n poeni am gyfreithlondeb y rheoliadau. Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at gyfres o faterion o dan y pwynt adrodd technegol sy'n amlinellu ein pryderon. Ymddengys nad yw'r cyfeiriad at y datganiad polisi yn rheoliad 5(c) yn gyfeiriad at ddatganiad polisi penodol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ymddengys fod y cyfeiriad yn cynnwys datganiadau yn y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 14 o Ddeddf Caffael 2023. Gallai datganiadau polisi a gyhoeddir o dan adran 14 newid effaith y rheoliadau. Rydym yn pryderu bod rheoliad 5(c) yn gyfystyr ag is-ddirprwyo anawdurdodedig oherwydd gallai ganiatáu i Weinidogion Cymru newid effaith y rheoliadau trwy ddatganiadau polisi. Y pwerau galluogi yn Neddf 2023 yw pwerau i wneud darpariaeth drwy reoliadau, nid trwy ddatganiadau polisi. Os bwriedir i unrhyw beth newid effaith y rheoliadau, rhaid ei nodi'n glir ac yn fanwl yn y rheoliadau eu hunain. Mae hyn yn sicrhau bod y weithdrefn seneddol briodol yn berthnasol i unrhyw beth sy'n newid effaith y rheoliadau.197
Gofynnom i'r Llywodraeth a yw rheoliad 5(c) yn cael unrhyw effaith ar y rheoliadau. Os nad ydyw, gwnaethom ofyn pam mae rheoliad 5(c) wedi'i gynnwys. Os 'ydy' yw'r ateb, fe ofynnon ni i'r Llywodraeth a yw'n ystyried bod rheoliad 5(c) yn gyfystyr ag is-ddirprwyo a pha bŵer y mae'r Llywodraeth yn dibynnu arno i wneud yr is-ddirprwyaeth honno. Ni chyrhaeddodd ymateb Llywodraeth Cymru mewn pryd i ni ei ystyried yn ffurfiol cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, mae ar gael o agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw i gynorthwyo'r Aelodau. Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi bod rheoliad 5(c) yn gwella'r egwyddorion caffael yn y rheoliadau, a'i fod wedi'i gynnwys yn rhannol mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Aelodau'r Senedd wrth graffu ar Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae ymateb y Llywodraeth yn ychwanegu bod datganiad polisi caffael Cymru yn nodi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod rheoliad 5(c) yn cael ei fframio ar sail awdurdod perthnasol, fel y'i diffinnir o dan Ddeddf 2024, gan ystyried datganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddir o dan adran 14 o Ddeddf 2023.198
Mae ymateb y Llywodraeth yn mynd ymlaen i ddatgan bod rheoliad 5(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi caffael Cymru gael ei ystyried wrth ymgymryd â chaffael o dan y rheoliadau, ond nad yw dyletswydd i roi sylw yn effeithio ar effaith y rheoliadau nac yn eu diystyru, ac nid yw rheoliad 5(c) yn gwneud mwy na darparu cyd-destun strategol i gaffaeliad. Felly, mae'r Llywodraeth o'r farn nad yw hwn yn is-ddirprwyaeth tu hwnt i'r pwerau.199
O ran pwynt y pwyllgor ynghylch y pwerau galluogi, mae ymateb y Llywodraeth yn datgan bod adran 10A(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn darparu'n benodol y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas â'r prosesau sydd i'w dilyn ac amcanion i'w dilyn gan awdurdodau perthnasol yn y caffaeliad. Ym marn y Llywodraeth, mae hyn yn dangos mai'r bwriad oedd y byddai'r rheoliadau'n cynnwys cyfeiriad at egwyddorion ac amcanion strategol ehangach, yn ogystal â'r prosesau manwl i'w dilyn gan awdurdodau perthnasol wrth ymgymryd â chaffael.200
I grynhoi, er fy mod yn nodi barn Llywodraeth Cymru nad yw rhoi sylw i ddatganiadau polisi yn cael unrhyw effaith ar effaith y rheoliadau ac nad yw'r ddyletswydd yn gwneud mwy na darparu cyd-destun strategol, mae adroddiad y pwyllgor yn amlinellu pryderon y gallai darparu cyd-destun strategol effeithio ar sut mae awdurdodau perthnasol yn cymhwyso'r rheoliadau. O'r herwydd, pan fo gan awdurdodau perthnasol ddisgresiwn o dan y rheoliadau, gallai datganiadau polisi lyffethair y disgresiwn hwnnw ac mewn gwirionedd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol weithredu mewn ffordd benodol. Hefyd, os nad yw rhoi sylw i'r datganiadau yn cael unrhyw effaith fel yr awgrymwyd gan y Llywodraeth, efallai y bydd cwestiwn ynghylch pam mae'r ddarpariaeth yn rheoliad 5(c) yno o gwbl, gan na ddylai deddfwriaeth gynnwys darpariaethau nad ydynt yn cael unrhyw effaith.201
Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma, ond dwi eisiau dilyn trywydd cwestiwn gan Mike Hedges. 202
Byddwn yn ddiolchgar am ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch rheoliad 5(c) o'r ddeddfwriaeth hon. Fel y nodir yn eu hadroddiad, mae'r rheoliad fel y mae'n ymddangos ar hyn o bryd yn codi'r posibilrwydd y bydd newidiadau i'r drefn caffael iechyd yng Nghymru yn cael eu deddfu drwy ddatganiadau polisi Llywodraeth Cymru yn unig, heb droi o gwbl at fecanweithiau arferol atebolrwydd democrataidd. A all yr Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau ai dyma fwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio'r rheoliadau hyn, neu a yw'n amryfusedd ar eich rhan? Ac os felly a allwch ymrwymo i gywiro'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r drefn caffael iechyd yn y dyfodol yn cael eu gweithredu drwy'r sianeli arferol, sef rheoliadau pellach a osodir gerbron y Senedd ac a bleidleisiwyd arnynt yn unol â hynny? Diolch.203
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.204

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i Gadeirydd y pwyllgor a amlinellodd safbwynt Llywodraeth Cymru yn yr ohebiaeth a roddais i'r pwyllgor mewn ymateb i'w hadroddiad. O ran cyd-destun ychwanegol, gallaf gadarnhau mai camgymeriad oedd hyn; dyna oedd bwriad y Llywodraeth. Mae rheoliad 5(c) wedi'i gynnwys yn ddidwyll. Mae'n gam cadarnhaol i gefnogi nodau strategol caffael cyhoeddus yng Nghymru ac atgyfnerthu y dylai awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth, ac mae ganddo'r effaith hwnnw. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau roi sylw i ddatganiad polisi caffael Cymru wrth gynnal ymarferion caffael.205
Mae cynnwys darpariaeth o'r math hwn i bob pwrpas yn ddarpariaeth gwmpasog mewn ymateb i bwyntiau a godwyd o ran egwyddorion caffael y gyfundrefn wrth graffu ar y Ddeddf, fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad. Mae'n wir dweud bod gan sefydliadau y dewis ynghylch a ddylid cymhwyso'r egwyddorion ac i ba raddau y dylen nhw weithredu'r egwyddorion, ond, wrth gwrs, mae'n ofynnol iddyn nhw eu hystyried.206
Cadeirydd y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iddo am nodi safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â'r darpariaethau yn adran 10A(1) o Ddeddf 2006, sydd, gobeithio, yn eglurhad hefyd i Mabon ab Gwynfor yn ei gwestiwn. Rwy'n derbyn bod rheoliad 5(c) yn cyfeirio at ddatganiadau polisi caffael Cymru yn y dyfodol o dan adran 14 o Ddeddf 2023, ond mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol cyn cyhoeddi'r datganiad polisi caffael, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gwrs, ymgynghori a chyflwyno'r datganiad polisi gerbron y Senedd. Ac o'r herwydd, mae angen i'r Senedd gytuno ar unrhyw ddatganiad caffael polisi yng Nghymru, ac, yn amlwg, os nad yw'r Senedd yn fodlon, gall benderfynu, yn y ffordd arferol, y gellir dirymu unrhyw ddatganiad polisi caffael a gyflwynir, a barn y Llywodraeth sy'n amddiffyn y pryderon a godwyd yn y ddadl hon. Ar y sail honno, fe hoffwn i ddiolch eto i'r pwyllgor am graffu ar y rheoliadau ac annog yr Aelodau i'w cefnogi.207
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.208
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 5 heddiw yw dadl ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jane Hutt. 209
Cynnig NDM8798 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da i chi gyd. 210
Mae hon yn ddadl bwysig heddiw, a gyd-gyflwynwyd gan bob plaid, ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn bla parhaus ar ein cymdeithas—ac yn wir, ar y byd. Ym mis Tachwedd fe wnaeth Joyce Watson ddarllen enwau 73 o fenywod a gollodd eu bywydau i gam-drin domestig y llynedd yn y Deyrnas Unedig, tair ohonyn nhw o Gymru. Mae'r penawdau yn ddi-drugaredd. Dim ond o'r wythnos ddiwethaf yn y wasg yng Nghymru—fe ddarllennaf i rai o'r penawdau hynny: 'Llys yn clywed, dyn wedi dweud wrth gyn-gariad, "Fe wnes i ei lladd hi ond paid â dweud gair"'; 'Llys yn clywed...cyn-bêl-droediwr...wedi cicio’i wraig yn ei phen yng nghanol ffrae'; 'Dyn yn cyfaddef llofruddio tair menyw'; 'Dim ond 4% o gamdrinwyr domestig honedig yn yr heddlu a ddiswyddwyd'; 'stelciwr a geisiodd gael ei ddioddefwr wedi’i harestio'. Enghraifft ddiweddar arall, wrth gwrs, yw achos Gisèle Pelicot yn Ffrainc sydd wedi gwneud trais rhywiol yn llawer mwy amlwg. Mae ei dewrder a'i phenderfyniad i godi llais wedi dod â llais goroeswyr yn glir i sylw byd-eang, achos ysbrydoledig a all newid cymdeithas.211
Mae'n amlwg bod llawer i'w wneud o hyd. Amcangyfrifodd dadansoddiad cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig o raddfa trais yn erbyn menywod a merched, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2024 gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, fod o leiaf 2 filiwn o fenywod wedi dioddef trais yn erbyn menywod a merched. Yng Nghymru rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd wrth fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd ers cychwyn ein deddfwriaeth arloesol, sy'n gosod dyletswyddau statudol ar y sector cyhoeddus i gydweithio i sicrhau newid.212
Ac wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers sefydlu'r Ddeddf, fe hoffwn i fyfyrio ar y cynnydd rydym ni wedi'i wneud o ran cyflawni ein strategaeth statudol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru. Mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle i ni drafod yr heriau sy'n ein hwynebu i fynd i'r afael â phla trais yn erbyn ein menywod, sy'n endemig mewn cymdeithas yma ac ar draws y byd.213
Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn her enfawr i'r genhedlaeth hon. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r broblem nawr gan fynd ati hefyd i atal hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er mwyn cael syniad o faint yr her, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 2.3 miliwn o bobl dros 16 oed ledled Cymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig. Yn yr un cyfnod, roedd hyn yn cyfateb i bron i 10 y cant o fenywod a bron i 4 y cant o ddynion yng Nghymru sy'n profi cam-drin domestig. Mae hon yn her i ni i gyd, a dyna pam mai un o'r meysydd hanfodol rydym ni'n gweithio arno yw sut rydym yn cael pob sector i gydweithio i fynd i'r afael â'r her hon. I ymdrin â hyn, mae'n gofyn i ni edrych ar sut mae pob partner yn y sector statudol, llywodraeth leol, iechyd, addysg, yn mynd i'r afael â'r her hon ac yn ymateb yn uniongyrchol i brofiad dioddefwyr a goroeswyr a chyflawnwyr. Mae'n gofyn am ymdrechion o bob rhan o'r gymdeithas. Mae ein ffordd gynhwysfawr a chynaliadwy o fynd ati ar draws y sectorau cyhoeddus ac arbenigol yn ein hannog i weithio mewn partneriaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched ffynnu.214
Fe hoffwn i ailadrodd fy nisgwyliad bod yn rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill, weithredu'n llawn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i wneud cynnydd parhaus. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw nid yn unig nodi'r hyn y byddant yn ei wneud, ond hefyd i gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion y maen nhw wedi'u nodi. Ac mae angen gwneud hyn yn unol â'r dull o ymdrin ag iechyd y cyhoedd a sut maen nhw'n gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae cyfranogiad goroeswyr, y cydweithio ar draws sectorau, cyfuno gwasanaethau, atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a meddwl yn y tymor hir yn hanfodol. Rwy'n bwriadu cryfhau'r cydweithio hwn ymhellach trwy'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yr wyf yn ei gyd-gadeirio â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, sy'n enwog am ei hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'i ddirwyn i ben. Roeddwn yn falch iawn o gyd-gadeirio'r bwrdd hwn o'r blaen gyda Dafydd Llywelyn, a ddangosodd yr ymrwymiad hwnnw hefyd.215
Rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod ffyrdd y gallwn ni wneud cynnydd cyflymach o ran ein cyfrifoldebau cyffredin mewn perthynas â mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ac mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi ysgrifennu at ddarparwyr addysg drydyddol, gan gynnwys prifysgolion, i dynnu sylw at bwysigrwydd eu rôl wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod ac ymateb iddo. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg drydyddol a Medr i weithredu ynghynt ar faes polisi a darpariaeth mor bwysig.216
Byddaf hefyd yn dwyn ynghyd arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yn ddiweddarach eleni i nodi 10 mlynedd ers pasio'r ddeddfwriaeth, ac i arwain galwadau i weithredu ynghynt yn y dyfodol. Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad sy'n canolbwyntio ar ymdrin ag iechyd y cyhoedd, sydd mor bwysig i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sy'n pwysleisio bod angen gweithredu ar y cyd, trawslywodraethol i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n mynd i ddarparu diweddariad—fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn gynharach y mis hwn, ond rwy'n parhau i ddarparu diweddariadau—i'r pwyllgor ynghylch cynnydd.217
Mae cyfeiriad uniongyrchol at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng nghynllun iechyd menywod Cymru y Gwasanaeth Iechyd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, y bu croeso brwd iddo yn y Siambr hon. Rwy'n falch bod sicrhau hyfforddiant priodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, casglu data a chefnogi gweithredu'r Ddeddf a'r ddyletswydd trais difrifol wedi cael eu cydnabod fel blaenoriaeth glinigol. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i haneru trais yn erbyn menywod a merched yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ac rwy'n falch o'n hymgysylltiad cynyddol eisoes ar faterion pwysig, megis yr adolygiad diogelu unedig sengl. Mae'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, a'r Gweinidog Alex Davies-Jones yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ill dau wedi derbyn fy ngwahoddiad i ddod i'r cyfarfod bwrdd partneriaeth yn ddiweddarach eleni i gryfhau cydweithredu strategol ar draws y Llywodraeth. Yn wir, rwyf wedi cyfarfod â'r ddau Weinidog, a chyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol hefyd.218
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, gan gyfeirio'n uniongyrchol at y bartneriaeth newydd rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru, ac, yn rhan o'r gyllideb hon, mae £1.2 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi, yn ychwanegol at y llinell sylfaen gwerth £8.1 miliwn, i gefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi cymorth a chyngor arbenigol i ddioddefwyr ar draws pob rhan o Gymru drwy grant cyllid rhanbarthol. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddarparu cynnydd o 3 y cant yn ein cyllid uniongyrchol i sefydliadau arbenigol y trydydd sector i gefnogi recriwtio a chadw staff, ac mae cyllid cyfalaf ychwanegol o £3 miliwn i'r prif grŵp gwariant cyfiawnder cymdeithasol hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn cynhwysiant digidol, mynd i'r afael â thlodi bwyd, trais yn erbyn menywod, grantiau cyfalaf cam-drin domestig a cham-drin rhywiol a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol.219
Dirprwy Lywydd, mae cymaint mwy yr hoffwn i ei ddweud, ac edrychaf ymlaen yn awr at glywed yn y ddadl hon gan gyd-Aelodau, ond fe hoffwn i ddweud, eleni, fod llinell gymorth Byw Heb Ofn yn dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed. Mae hyn yn golygu, am 20 mlynedd, y bu llinell gymorth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ar gyfer pawb sydd wedi dioddef a goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atyn nhw, ar gyfer unrhyw oedran neu ryw, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Rwy'n ddiolchgar am ein partneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru ac eiriolwyr. Rhowch y gair ar led am rif ffôn llinell gymorth Byw Heb Ofn. Rydym yn gwneud hynny yma yn y Senedd ac yn adeiladau Llywodraeth Cymru.220
Felly, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad a sylwadau Aelodau ynghylch yr agenda bwysig hon, ac, i fynd yn ôl at y pwyntiau a wnes i yn y cynnig, a gyflwynwyd ar y cyd, gadewch i ni gefnogi galwad ar i bawb weithredu i fynd ati rhag blaen i ddileu trais ar sail rhywedd a'r angen am ddull cynhwysfawr o wneud hynny. Diolch.221
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.222
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dibyniaeth y cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol yn ychwanegu baich gweinyddol, yn rhwystro cynllunio tymor hir, ac yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, sy'n effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai sy'n gwasanaethu menywod ethnig, anabl, LHDTC+ a mudol lleiafrifol.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i:
a) torri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth goroeswyr rheng flaen; a
b) cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru, gan waethygu'r pwysau costau presennol ymhellach.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i eithrio’r cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn rhag y cynnydd arfaethedig i gyfraniadau yswiriant gwladol.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau.223
Er bod Plaid Cymru yn falch o gyd-gyflwyno cynnig y Llywodraeth, ac yn llwyr gefnogi'r alwad i bawb weithredu i ddileu trais ar sail rhywedd, mae ein gwelliannau'n hanfodol, rydym yn credu, i sicrhau sylfaen gadarn y mae'r alwad honno i weithredu arni. Yn syml, ni allwn ni ddisgwyl i'r gwaith hanfodol a brys a amlinellir yn strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru wneud cynnydd digonol dim ond drwy ddweud mai felly y bydd hi: rhaid i ni i gyd wneud ein rhan, ie, pob gwasanaeth, pob gweithle, pob aelod o gymdeithas, ond rhaid inni gofio bod y strategaeth honno a'i hamcanion yn dibynnu mor drwm ar arbenigedd a chefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'r gwasanaethau hyn wedi tynnu sylw sawl gwaith, mewn ymateb i ymgynghoriadau, adolygiadau, ymchwiliadau ac adroddiadau, bod yn rhaid mynd i'r afael â'r ffordd y cânt eu hariannu os ydym ni wir eisiau gweld Cymru heb y lefelau epidemig presennol o drais yn erbyn menywod, sy'n aml yn hawlio bywydau ac yn dinistrio bywydau. Dyma'r elusennau a'r cyrff trydydd sector a all ymyrryd, sy'n gallu cryfhau'r agenda ataliol holl bwysig honno, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr a'u teuluoedd yn ôl tuag at y llwybr hwnnw o obaith a hapusrwydd.224
Ydy, mae hyn yn rhannol am fuddsoddiad ychwanegol, ac nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ddigon, a hefyd oherwydd, fel y noda gwelliannau Plaid Cymru, fod penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i dorri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth rheng flaen i oroeswyr a chynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn gwaethygu'r pwysau presennol o ran costau cynyddol a adroddwyd gan y rhai sy'n gweithio yn y sector hwn. Mae ein gwelliannau'n galw ar Lywodraeth Cymru i godi llais ar y mater hwn, i ddefnyddio'r dylanwad hwnnw y dywed hi sydd ganddi dros ei chwaer Lywodraeth Lafur i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eithrio cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn o'r cynnydd arfaethedig mewn cyfraniadau yswiriant gwladol oherwydd ei bod hi'n gwbl ddi-fudd roi'r sefydliadau hynny mewn sefyllfaoedd ariannol heriol pellach, gan fygwth nid yn unig eu gwaith yn cefnogi anghenion goroeswyr, ond hefyd oherwydd bod y sector hwnnw'n colli staff medrus a phrofiadol, ac mae angen arbenigedd y staff hynny yn fwy nag erioed.225
Amlygodd adroddiad Cymorth i Ferched Cymru 'State of the Sector 2024', a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau, ac fe wyddom ni fod hyn wedi cynyddu fyth ers COVID. Roedd hefyd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny. Fel y dywedodd Sara Kirkpatrick, pennaeth Cymorth i Ferched Cymru, ac rwy'n dyfynnu:226
'Mae gwasanaethau arbenigol yn cynnig y gefnogaeth annibynnol ddibynadwy y mae goroeswyr yn ei haeddu'n fawr. Mae'r adroddiad hwn, unwaith eto, yn datgelu'r heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cymorth arbenigol... Sut mae pob problem yn cynyddu ac yn gwaethygu'r diwethaf, ac o flwyddyn i flwyddyn rydym yn cyhoeddi'r ddogfen hon sy'n disgrifio'r broblem yn ogystal â chynnig argymhellion ar gyfer newid. O flwyddyn i flwyddyn, caiff yr argymhellion hynny eu hanwybyddu.227
'Telir y pris gan oroeswyr sy'n cael eu troi i ffwrdd o gefnogaeth, gan weithwyr cymorth arbenigol sy'n ymweld â banciau bwyd i gael dau ben llinyn ynghyd, caiff pris diffyg gweithredu ei fesur nid mewn punnoedd, ond mewn bywydau cyfyngedig a cholli bywydau. Mae'n ddrwg gen i ddweud bod y rhethreg o frys yn parhau i fynd law yn llaw â gweithredoedd o hunanfodlonrwydd o ran trais yn erbyn menywod a merched.'228
Felly, sut ydych chi'n ateb y cyhuddiad hwnnw, Ysgrifennydd Cabinet? A glywir yr alwad hon am well cefnogaeth i wasanaethau arbenigol, a'r darlun byw a phryderus o effaith anwybyddu unwaith eto y galwadau hynny am weithredu, a wnaed yn glir gan Cymorth i Ferched Cymru?229
Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu hariannu i gyflawni nodau'r strategaeth, yr ydym ni i gyd yn ei chefnogi. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn tynnu sylw at ddibyniaeth yr elusennau a'r cyrff trydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol, sy'n ychwanegu baich gweinyddol ychwanegol, yn rhwystro cynllunio tymor hir, yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, ac mae hyn yn effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai, y gwasanaethau hanfodol 'gan, ac ar gyfer' sy'n gwasanaethu menywod ethnig, anabl, LHTDC+ a chymunedau ethnig lleiafrifol. Mae'r grwpiau hyn o fenywod, rydym yn gwybod, ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed, sydd â rhai o'r cyfraddau uchaf o risg croestoriadol o drais a chamdriniaeth. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, yn unol â'r alwad yn ein gwelliannau, sefydlu model cyllido cynaliadwy, hirdymor ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach?230
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau heddiw oherwydd, heb weithredu ar y materion y maen nhw'n tynnu sylw atyn nhw, ni fyddwn yn gweld y cynnydd sydd ei angen arnom ni i wneud Cymru, fel y nodir yn llinell gyntaf y strategaeth, y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.231
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gyd-gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Rydym yn cydnabod y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r rhan a fu gan strategaeth Llywodraeth Cymru wrth gyflawni'r cynnydd hwn. Ond mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud.232
Amcangyfrifodd arolwg troseddau diweddaraf Cymru a Lloegr fod 2.3 miliwn o bobl 16 oed a hŷn wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er bod dwy ran o dair o'r dioddefwyr yn fenywod, roedd 712,000 o ddynion hefyd wedi profi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn anffodus, Heddlu De Cymru oedd yr unig heddlu yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn ddechrau da, ond mae'n rhaid i ni wneud yn well os ydym ni am ddod â thrais rhywiol a cham-drin domestig i ben, er mwyn atal cam-drin a thrais yn erbyn menywod. Diolch i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gadarnhau confensiwn Istanbwl ym mis Gorffennaf 2022, sy'n golygu fod gan ein Llywodraethau—y ddwy Lywodraeth— ddyletswydd i amddiffyn menywod a merched rhag trais.233
Mae'n ddyletswydd arnom ni o dan gyfraith ryngwladol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er ein bod yn gwneud cynnydd, mae ffordd bell eto i fynd i wneud Cymru'n ddiogel i fenywod a merched, i wneud popeth posibl i atal trais rhywiol. Pan fo gennym ni enwogion o Gymru yn gwneud jôcs honedig di-chwaeth, yn llawn trais rhywiol a normaleiddio casineb at fenywod, mae'n tynnu sylw at faint mwy o waith y mae angen i ni ei wneud. Pan fo gennym ni rywun sydd wedi dioddef trais rhywiol ar raddfa ddiwydiannol yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gamfanteisio rhywiol wrth law gangiau, fe ddylem ni wrando. Ond, ar yr un pryd, ni ddylem ni ganiatáu i giwed y dde eithafol gipio'r awenau. Nid yw gangiau sy'n camfanteisio wedi'u cyfyngu i ddynion o un rhan o'r byd, neu hyd yn oed i ddynion yn unig.234
Clywch clywch. Dywedwch wrth Andrew R.T. felly.235
Ddoe, dedfrydwyd pum dyn a dwy ddynes o gang o'r Alban am gam-drin rhywiol tri o blant mewn modd cwbl erchyll. Cyflawnodd y saith, pob un yn frodorion Glasgow, eu trosedd ffiaidd dros gyfnod o saith mlynedd. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi'i gyfyngu i unrhyw hil neu gred benodol. Caiff ei gyflawni gan ddynion a menywod o bob cefndir: offeiriaid, athrawon a swyddogion heddlu—bwystfilod, i gyd. Gyda llwyfannau ar-lein yn ei gwneud hi'n haws cyrraedd cynulleidfa ehangach o ddioddefwyr a chyflawnwyr, mae'n rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â dylanwadwyr TikTok sy'n annog merched ifanc i ddod yn weithwyr rhyw trwy gofrestru i fod yn fodelau OnlyFans ac agor eu hunain i gamfanteisio rhywiol. Ar yr un pryd, mae angen i ni atal bechgyn ifanc rhag cael eu llusgo i'r manosffer a siambrau adleisio misogynistaidd ar yr un llwyfannau hynny.236
Er bod y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, mae'r bygythiad yn rhy fawr i hyn fod yn waith unigol. Mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phartneriaid rhyngwladol i ddod â normaleiddio cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. Rhaid i'n strategaethau cam-drin domestig gael adnoddau priodol os ydyn nhw am ddarparu mwy na phentwr o adroddiadau, a dyna pam rydym ni'n cefnogi gwelliannau Plaid. Ysgrifennydd Cabinet, mae gennych chi gefnogaeth fy mhlaid a byddwn yn gweithio gyda chi i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Diolch yn fawr.237
Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon yma heddiw ac rwy'n falch o weld ei bod wedi'i chyflwyno gan Aelodau ar draws y Siambr, ac mae'n dda dilyn Altaf Hussain a'r geiriau a ddywedodd.238
Mae cael y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar waith yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yma yng Nghymru. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei chyflwyniad, mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ein plagio'n barhaus yma yng Nghymru ac mae'n parhau i gynyddu. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae un o bob tair menyw wedi bod yn destun rhyw fath o drais yn eu herbyn, ac mae hyn yn cynnwys gan ddynion—fel y credaf ein bod ni wedi dweud yn barod, dynion yn bennaf sy'n cyflawni'r trais yna—y mae'r menywod yma'n eu hadnabod yn ogystal â rhai nad ydyn nhw'n eu hadnabod.239
Bob blwyddyn yng Ngogledd Caerdydd, rydym yn cynnal gwylnos ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod a merched, pan, fel y mae Joyce Watson yn ei wneud, darllenir enwau menywod sydd wedi cael eu llofruddio. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o blith y menywod hynny yn y Deyrnas Unedig, roedd tair yng Nghymru, ac yn anffodus roedd un ychydig i lawr y ffordd yng Ngogledd Caerdydd, lle cawsom ni ein gwylnos mewn gwirionedd. Y diwrnod hwnnw, is-bennawd Diwrnod y Rhuban Gwyn, fel yr ydym yn ei alw, oedd 'Mae'n dechrau gyda dynion', ac rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gydnabod, a dyna pam ei bod hi mor dda cael cynghreiriaid gwrywaidd a chael llysgenhadon gwrywaidd a fydd yn siarad am y pwnc anodd iawn hwn. Ac, fel y dywedais, fe ddes i wyneb yn wyneb â hyn pan lofruddiwyd un o fy etholwyr y llynedd.240
Er bod effaith barhaus trais yn erbyn menywod, rydym yn cydnabod, yn ddifrifol iawn, mae'n rhaid i ni gofio hefyd sut mae'r trais hwn yn effeithio ar blant yn y cartref, a tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet, pan fydd hi'n ateb, ddweud ychydig mwy am yr hyn rydym ni'n ei wneud er mwyn amddiffyn plant sy'n dyst i drais yn y cartref. Dyna pam ei bod hi mor dda bod gennym ni'r cwricwlwm newydd yn yr ysgol, a fydd yn dysgu ein plant ac sydd yn dysgu ein plant am berthnasoedd iach, oherwydd po gynharaf y bydd ein pobl ifanc yn dysgu am sut i lywio perthnasoedd, gorau oll. Rydym ni wedi siarad llawer yn y ddadl am weithio trawslywodraethol a sut mae hyn yn fater i bob un ohonom ni, pob un ohonom ni fel unigolion, ac i'r gymdeithas gyfan, ond rwy'n credu mai un o'r meysydd pwysicaf yw gyda phlant ifanc a pha fath o bethau sy'n dylanwadu arnyn nhw. Rydym yn gwybod y bydd rhai o'r bobl ifanc hyn, yn anffodus, wedi bod yn dyst i drais domestig yn y cartref, ac efallai na fyddan nhw o reidrwydd yn deall nad yr ymddygiad hwn yw'r norm. Rwy'n gwybod bod plant sy'n dyst i ryw fath o drais domestig gartref weithiau'n ailadrodd yr ymddygiad hynny yn eu perthnasoedd yn y dyfodol. Gall hefyd arwain at fecanweithiau ymdopi afiach, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ymyrryd yn gynnar. Ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, oherwydd mae'n helpu pobl ifanc i gydnabod nad yw'r trais domestig y maen nhw'n ei weld gartref yn iawn, ac nid dyna'r norm. Felly, rwy'n credu bod y ffaith bod gennym ni'r cwricwlwm newydd yn gam mawr ymlaen.241
Ond rydym ni hefyd yn gwybod bod yr allwedd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn dechrau gyda dynion a bechgyn. Fel y dywed hyn, yr is-bennawd, 'Mae'n dechrau gyda dynion'. Felly, rwy'n gefnogol iawn i ymgyrch Sain Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023, i arfogi dynion ifanc â'r wybodaeth a'r hyder i fyfyrio a deall eu hymddygiad eu hunain, gan allu cael sgyrsiau agored a gonest gyda'u ffrindiau am eu hymddygiad nhw, oherwydd credaf mai dyna beth rydym ni wir eisiau ei annog yw i ddynion siarad â dynion, i grwpiau, grwpiau cyfeillgarwch, drafod y materion hyn. Felly, tybed a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth ymateb, yn gallu dweud beth fu effaith yr ymgyrch honno, ac a allai hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymgyrch Sain. Mae hwn yn bwnc anodd, ond mae'n rhaid i ni gael pobl ifanc, yn benodol, i'w wynebu a'i drafod, ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn hollol gywir ar ddiwedd ei chyfraniad pan ddywedodd mai galwad i weithredu yw hon, ac rwy'n credu bod angen i ni i gyd ymgymryd â'r alwad i weithredu, dynion a menywod yma yn y Siambr heddiw a ledled Cymru. Diolch.242
Dim ond i ddilyn cyfraniad Julie Morgan, fe hoffwn i ddim ond canolbwyntio ar blant, unwaith eto, sy'n cael eu dal yn effaith ddinistriol cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod, ond sy'n gallu parhau i gael eu hanwybyddu. Nid yw cam-drin domestig yn niweidio oedolion yn unig; mae'n creu carchar anweledig i blant a phobl ifanc, gan eu gadael yn ynysig, yn ddi-rym ac wedi'u caethiwo mewn byd o ofn. Ystyriwch eiriau merch 14 oed a gysylltodd â Childline dros gyfnod y Nadolig hwn:243
'Mae fy rhieni wastad wedi dadlau â'i gilydd, ond dros y Nadolig mae wedi bod yn gorfforol. Gallaf glywed y cyfan yn digwydd yn yr ystafell nesaf, gweiddi, rhegi, yn dweud wrth ei gilydd am adael. Wedyn rwy'n gweld y cleisiau. Mae'n codi gymaint o ofn arna i fel na alla i gysgu.'244
Nid un stori unigol mo hon. Yn ôl SafeLives, plant a phobl ifanc yw'r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o gael rhywfaint o ymwneud â thrais domestig. Fel y dywed Cymorth i Ferched Cymru, rydym yn wynebu prinder allweddol o gefnogaeth arbenigol i'r plant agored i niwed hyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig, gadawyd 349 o blant yn aros—a dyna'r rhai rydym ni'n gwybod amdanyn nhw—am wasanaethau cymorth hanfodol. Fel y dywedodd Johanna Robinson, ein cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod:245
'mae diffyg gwasanaethau therapiwtig enfawr ar gyfer plant a phobl ifanc.'246
Nododd yr adroddiad a gynhyrchwyd gan ein pwyllgor, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar drais yn erbyn menywod, y llynedd, fod angen gwasanaethau cymorth arbenigol brys, cyflym ar gyfer plant sydd wedi profi neu sydd wedi bod yn dyst i gamdriniaeth. Felly, roeddwn yn bryderus braidd i weld yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n pwyllgor ddoe mai dim ond adolygiad o'r gwasanaethau presennol sydd gennym ni. Fe hoffwn i glywed mwy.247
Mae angen llinellau amser pendant ar blant, mae angen i blant weld ymrwymiadau penodol ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae angen gweithredu o blaid plant ar fyrder. Ni allan nhw aros; mae eu bywydau yn rhy fyr o lawer. Nid yw hyn yn ymwneud â mwy o wasanaethau yn unig; mae'n ymwneud â'r math o wasanaethau sydd eu hangen arnom ni. Ni ddylai blaenoriaethu rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc fod yn bwyslais i ni. Er bod gan CAMHS ei werth, mae ei gefnogaeth yn aml yn gweithredu ar amserlen y gwasanaeth, yn hytrach na bod yn ymatebol i anghenion y plant. Mae angen i blant a phobl ifanc fod yn barod i ymgysylltu a siarad am eu problemau poenus.248
Mae mudiadau gwirfoddol a thrydydd sector, fel y clywsom ni gan Sioned Williams, yn darparu'r gwerth mwyaf a'r hyblygrwydd mwyaf wrth sicrhau bod ganddyn nhw wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y plentyn sy'n cwrdd â'r plant lle maen nhw, pan fyddan nhw ei angen fwyaf, ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw. Gall ein system iechyd meddwl bresennol drin trawma fel salwch i'w wella, yn hytrach na'i ddeall fel ymateb naturiol i oroesi amgylchiadau creulon. Mae angen i ni gefnu ar ddull meddygol sy'n labelu gofid pobl ifanc fel rhywbeth i'w drwsio.249
Gwelais ddewis arall grymus y bore yma ym mhrosiect Hangout Platfform yma yng Nghaerdydd, canolfan galw heibio lle gall pobl ifanc ganfod cymorth ar unwaith heb restrau aros, lle gallan nhw gysylltu ag eraill, gan gynnwys gyda gweithwyr proffesiynol. Dydyn nhw ddim yn defnyddio'r geiriau 'llesiant' neu 'iechyd meddwl', maen nhw'n dweud ei fod yn lle diogel i fod, a gall hynny ganiatáu i blant a phobl ifanc wedyn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, mynegi'r boen pan fyddan nhw'n barod, a chaniatáu iddyn nhw ddewis beth sy'n gweithio iddyn nhw.250
Rydych chi wedi clywed heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, bod arnom ni eisiau gweld cyllid ar gyfer sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol. Mae arnom ni eisiau gweld cyllid sy'n gynaliadwy, sy'n eu galluogi i ddiwallu anghenion nid yn unig plant, ond y dioddefwyr, dioddefwyr uniongyrchol trais, sef menywod. Nhw sydd yn y sefyllfa orau, ac rwy'n gwybod hynny, ar ôl gweithio mewn sefydliadau statudol a sefydliadau gwirfoddol. Gallaf ddweud wrthych chi y gall plant yn amlach na pheidio deimlo'n fwy cyfforddus yn y sefydliadau gwirfoddol hynny. Felly, a allwn ni glywed am warant o gyllid tymor hir i sefydliadau'r trydydd sector sydd â rhan mor ganolog wrth gefnogi plant wrth iddyn nhw gychwyn ar y daith anodd o ailadeiladu eu bywydau? Diolch yn fawr iawn.251
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o fod yn rhan ohoni. Rwyf hefyd eisiau dweud ar goedd yn ogystal pa mor falch oeddwn i o gymryd rhan yn nigwyddiadau Diwrnod y Rhuban Gwyn yn y Pierhead nôl ym mis Tachwedd. Doedd gen i ddim siaced amdanaf, ac roedd hi'n arllwys y glaw, ond fe wnes i anwybyddu hynny a chymryd rhan hefyd yn yr wylnos golau cannwyll. Ei heffaith arna i, ac roeddwn i'n falch o gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig y noson honno a siarad â'r gynulleidfa, a rhywbeth a gyflëwyd oedd yr angerdd a'r ymrwymiad i weld gostyngiadau mewn trais a dileu trais tuag at fenywod. Roedd hi'n noson deimladwy iawn, a dysgais lawer ohoni, ac roeddwn yn falch o gymryd rhan yn honno.252
Rhywun o'm hetholaeth i a ddaeth draw oedd Mike Taggart, y cafodd ei fam ei llofruddio yn anffodus yn nwylo ei lystad treisiol yn ôl yn y 1990au yn y Rhyl, ond mae wedi troi hynny yn rhywbeth cadarnhaol, oherwydd mae wedi dod yn swyddog cam-drin domestig strategol gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac mae bellach yn llysgennad ar gyfer Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Felly, mae wedi troi hynny'n rhywbeth cadarnhaol, ac mae'n glod mawr i'w ddiweddar fam, ei deulu ac, yn wir, ei gymuned leol. Hefyd yn fy etholaeth mae gen i Ganolfan Merched Gogledd Cymru ar Stryd y Dŵr yn y Rhyl, sy'n gwneud gwaith gwych, ac fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi ymweld â hi yn y gorffennol ac mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros y pwnc hwn.253
Daw'r strategaeth ei hun i ben mewn blwyddyn, yn 2026, ac eto ni fu cynnydd mesuradwy dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe hoffwn i ddim ond rhannu rhai ystadegau gyda chi, os caf i. Amcangyfrifodd arolwg troseddau Cymru a Lloegr fod 2.3 miliwn o bobl 16 oed a hŷn wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, ac roedd 851,000 o droseddau yn ymwneud â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae bron i draean o ferched 16 i 18 oed yn dweud eu bod wedi dioddef cyffwrdd diangen yn yr ysgol, sy'n dangos yr angen i ddynion a bechgyn ddal ei gilydd yn atebol o oedran ifanc, i ddileu diwylliannau niweidiol a hyrwyddo ac atgyfnerthu arferion cadarnhaol o ran rhywedd.254
Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r trais hwn wedi'i gyfyngu i'r cartref yn unig. Os nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn yn yr ysgol, yn y gweithle, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu unrhyw le yn y gymdeithas, mae'n rhaid i ni fod yn ddigon dewr i herio ymddygiad treisgar neu o aflonyddu, ac mae gan bob un ohonom ni ddyletswydd fel Aelodau Senedd i atal hyn a gwneud popeth o fewn ein cymunedau, ein hetholaethau a'n rhanbarthau, i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein gorau yn y maes hwn i leihau a gobeithio dileu hyn yn y tymor hir. Diolch yn fawr iawn.255
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw a thrwy dalu teyrnged i waith eithriadol y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dewrder a chydnerthedd menywod a merched sydd wedi goroesi camdriniaeth a thrais erchyll yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni, ac mae ymrwymiad diwyro'r sector i'w cefnogi yn dyst i agweddau gorau ein cymdeithas.256
Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, mae'r nod o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenywod a merched yn parhau heb ei fodloni. Mewn gwirionedd, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y troseddau hyn yn anffodus ar gynnydd, a wnaed hyd yn oed yn waeth gan effaith pandemig COVID-19. Yn ôl yr arolwg trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr, yr ydym ni newydd glywed amdano gan Gareth Davies, bydd bron i un o bob tair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes a bydd bron i un o bob pump yn profi rhyw fath o drais rhywiol. Mae'r niferoedd hyn yn syfrdanol ac yn creu darlun difrifol o'r realiti y mae menywod yng Nghymru yn ei wynebu bob dydd.257
Mae'r mater hwn yn arbennig o ddifrifol yng ngogledd Cymru, lle mae cyfraddau cam-drin domestig yn uwch na'r rhai yn Llundain. Hyd yn oed yn fwy brawychus, mae 16 o blant o bob 1,000 yng ngogledd Cymru yn cael eu gweld gan ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, o'i gymharu â dim ond 2.9 fesul 1,000 yn Llundain. Mae gogledd Cymru hefyd yn wynebu'r un lefel o droseddau rhywiol â Manceinion Fwyaf, rhanbarth sydd â phoblogaeth bum gwaith yn fwy. Ac rwy'n ofni y bydd ailethol Trump, cynnydd y dde eithafol a dylanwadwyr fel Andrew Tate, hyrwyddo cynnwys ar-lein sy'n dreisgar ac yn difrïo merched, ond yn gwneud pethau'n waeth.258
Mae'r ystadegau erchyll hyn yn ei gwneud hi'n glir bod angen i ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol adlewyrchu gwir raddfa'r epidemig hwn. Ond mae'r data yn anghyson, gan ei gwneud hi'n arbennig o anodd datblygu a gweithredu polisi ar sail Cymru gyfan, o gofio bod y rhan fwyaf o'r data ar gyfer Cymru a Lloegr. Rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i bwyso ar Lywodraeth y DU ac awdurdodau i fynd i'r afael â hyn ar frys fel y gallwn ni ddod o hyd i'r ystadegau i Gymru ac y gallwn ni ddyrannu'r adnoddau yn unol â hynny.259
Er y gallwn ni siarad am uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, y gwir plaen yw nad ydym ni'n gwneud y gorau o'n galluoedd o fewn y setliad a'r fframweithiau presennol. Mae prinder enbyd o glinigau ymosodiad rhywiol. Mae'n rhaid i bobl yn fy etholaeth deithio hyd at bedair awr ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad i glinig ymosod rhywiol. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni gynyddu mynediad i ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, yn enwedig mewn ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol fel Powys, Wrecsam a Gwynedd, er mwyn lleddfu baich teithio helaeth i ddioddefwyr sy'n chwilio am archwiliad fforensig.260
Gadewch i ni fod yn glir: mae ymosod yn rhywiol a thrais domestig yn arfer y gellir ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, oni bai ein bod yn gwneud ymdrech ymwybodol i ymyrryd o oedran cynnar. Dyna pam mae angen i ni gynnal hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma i addysgwyr a sicrhau arferion cyson ar draws ysgolion, a all wella llesiant plant yr effeithir arnyn nhw yn sylweddol. Bydd mynd i'r afael ag amseroedd aros cwnsela a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc hefyd yn atal problemau mewn sectorau eraill, fel iechyd, ac yn hybu cynhyrchiant economaidd.261
Yn olaf, fe hoffwn i godi mater gweithwyr rhyw a'r bygythiad maen nhw'n ei wynebu bob dydd, gyda'r dioddefaint maen nhw'n ei wynebu yn nwylo camdrinwyr sy'n amlach na pheidio yn cael eu hanwybyddu a'u hwfftio. Mae gweithwyr rhyw yn dod i mewn i'r diwydiant am sawl rheswm, ond i lawer—y rhan fwyaf, efallai—mae wedi'i wreiddio mewn tlodi, ac maen nhw'n cael eu cosbi am gymryd yr hyn maen nhw'n ei weld fel eu hunig ddewis i ddarparu bwyd i'w plant. Felly, rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Llywodraeth i ymuno â'r galwadau i ddad-droseddu gwaith rhyw a symud i fynd i'r afael â thlodi, sy'n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac sy'n rhan o achos sylfaenol yr epidemig a welwn ni gyda thrais rhywiol a cham-drin domestig.262
Y gwir amdani yw bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ein polisïau yma yng Nghymru yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais ar sail rhywedd, hyrwyddo cydraddoldeb a gweithio tuag at atebion hirdymor i wneud Cymru'n lle mwy diogel i bawb. Mae'n rhaid i bobl broffesiynol glywed a chynnwys goroeswyr camdriniaeth, y gwir arbenigwyr ar ymdrin â thrawma, mewn sgyrsiau i sicrhau bod y diwygiadau i'r system yr ydym yn ceisio eu gweithredu yn wirioneddol empathig, yn effeithiol ac yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl. Yn y Senedd ac yn ein cymunedau, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob menyw a merch yng Nghymru yn gallu byw heb ofn a thrais.263
Mae croeso mawr i'r fframwaith polisi sydd wedi'i ddatblygu gan yr Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion. Rwy'n cydnabod ymrwymiad hirdymor yr Ysgrifennydd Cabinet i gael pob sector o'r gymdeithas, yn enwedig y sector cyhoeddus, i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol. Mae'r sector cyhoeddus yn benodol yn uniongyrchol atebol am yr adnoddau y mae pwrs y wlad yn eu hariannu, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau eu bod, yn eu tro, yn gofalu am y nifer o bobl sydd, yn drist, yn dioddef trais domestig a rhywiol, a'u bod â'r adnoddau i ymateb yn briodol.264
Rwyf i eisiau ymdrin yn benodol â'r mater sy'n weddill yn ymwneud ag argymhelliad 4 o'n hadroddiad y llynedd. Rwy'n croesawu'n fawr yr adolygiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i'r pwyllgor, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gonestrwydd—ei bod hi wedi cyfaddef bod angen rhagor o waith yn y maes hwn, yn enwedig wrth ddod ag addysg, iechyd ynghyd a'u gwneud yn gydnaws â darpariaeth arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n credu ei bod yn eithaf sobreiddiol nad ydyn ni'n gallu gwarantu cyfle awtomatig i fanteisio ar y cymorth hwn i fabanod, plant a phobl ifanc, oherwydd mae hi mor bwysig o ran eu gallu i symud ymlaen a byw bywydau iach a chyflawn.265
Mae babanod a phlant cyn oed ysgol yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ystod y dydd yn y cartref, ac er eu bod efallai'n rhy ifanc i gymryd rhan mewn therapïau siarad, mae digon y gall therapyddion plant ei wneud i ymchwilio i effaith trawma penodol trwy ddefnyddio teganau i alluogi plant ifanc iawn i fynegi eu gofid am yr hyn y gallen nhw fod wedi'i weld neu'i wynebu. Yn fy marn i, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynyddu capasiti timau ymwelwyr iechyd i nodi pryderon, er bod rôl hanfodol hefyd gan fydwragedd, cyn, ac ar ôl y geni, i ofyn a gweithredu, yn seiliedig ar y ffaith frawychus bod menywod beichiog ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef trais domestig a rhywiol nag yr oedden nhw cyn iddyn nhw feichiogi. Mae'n rhaid iddyn nhw—yn sicr mae'n rhaid iddyn nhw—ofyn a gweithredu, a helpu'r rhai hynny sydd angen lloches mewn man arall, mewn lle diogel, i allu cael hynny; fel arall, gwyddom fod y trais yn debygol o waethygu.266
Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod bod cyfyngiadau symud COVID wedi bod yn drychineb i lawer gormod o blant a phobl ifanc, gan fod disgyblion wedi eu hamddifadu o'r diogelwch a'r sicrwydd yr ydyn ni eisiau i bob plentyn allu dibynnu arno yn yr ysgol. Ysgolion yw'r porth i gefnogaeth, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod, os yw pobl ifanc yn wynebu trais yn hytrach na diogelwch yn y cartref. Pan fo angen help ar bobl ifanc, gall hyn ddigwydd flynyddoedd lawer ar ôl y cyfnod neu'r cyfnodau o gam-drin y gwnaethon nhw ei wynebu neu'i weld; rydyn ni'n gwybod hyn o lawer o ymchwil. Rwy'n ildio'n llwyr i arbenigedd proffesiynol Jane Dodds, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod Platfform yn ffynhonnell gymorth annibynnol, bwysig iawn, lle y gall pobl ddod i mewn oddi ar y stryd heb orfod datgelu unrhyw beth nes eu bod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny; gallan nhw fwynhau'r cyfleusterau, y paneidiau o de, y bwyd, y tennis bwrdd a'r holl bethau eraill y mae pobl ifanc yn mwynhau'u gwneud, ac mae gan staff Platfform yr amynedd i aros nes bod y person ifanc hwnnw'n barod i siarad.267
Yn gyffredinol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth therapiwtig sydd ei angen arnyn nhw i fod yn oroeswyr, yn hytrach na'r genhedlaeth nesaf o gamdrinwyr neu ddioddefwyr, oherwydd fel arall ni fyddwn ni byth yn gwneud cynnydd ar y mater hynod bwysig, ond yn anffodus, yn endemig, hwn.268
Rydyn ni'n cynnal y ddadl hon mewn cyd-destun sy'n brawychu llawer ohonom ni sydd yn ymgyrchu ers degawdau dros hawliau merched—dros hawl pob merch i fyw ei bywyd yn rhydd o ofn a thrais a chamdriniaeth o bob math. Er gwaethaf y strategaeth, er gwaethaf yr ymdrechion diddiwedd a diffuant dros y 10 mlynedd diwethaf, dydy Cymru ddim yn lle diogel i ferched. Dydy hynny ddim yn or-ddweud, a dwi am ei ddweud o eto: dydy Cymru ddim yn le diogel i ferched.269
Mae camdriniaeth ac aflonyddu i'w canfod ym mhob rhan o'n bywydau ni: ar y stryd, wrth gymdeithasu, yn ein cartrefi ac yn ein llefydd gwaith. Mae casineb yn erbyn merched ar gynnydd efo ailethol Trump, twf yr asgell dde eithafol, a dylanwadwyr fel Andrew Tate yn gwthio cynnwys mysoginistaidd a threisgar ar-lein. Ac mae'r ystadegau yn dangos yn glir bod trais a chamdriniaeth ar sail rhywedd ar gynnydd, efo'r ystadegau o'r gogledd yn fater o bryder anferth—yr ystadegau rydyn ni wedi'u clywed y prynhawn yma. Mae hyn oll yn arwydd clir o bŵer systemig dynion dros ferched ym mhob agwedd o fywyd. 270
Mae'r gwelliannau yr oedd Sioned Williams yn eu trafod yn hollbwysig. Mae cynaliadwyedd y gwasanaethau arbenigol dan fygythiad, ac mae'n rhaid inni weithredu er mwyn cefnogi'r rheini'n llawn a chreu model ariannol gwydn a chadarn. 271
Dwi eisiau troi at ddwy agwedd benodol. Rydyn ni'n gwybod bod yna argyfwng tai yng Nghymru, gyda digartrefedd ar ei uchaf, rhestrau aros hir am dai cymdeithasol, rhenti uchel yn y sector preifat a chyflwr tai gwael. Mae merched a phlant sy'n ffoi camdriniaeth yn y cartref yn cael eu dal yng nghanol yr argyfwng yma, yn gaeth i lety dros dro amhriodol, ac mae'r niferoedd ar gynnydd. Mae angen gweithredu cydlynus ar draws y Llywodraeth. Felly, fe wnaf i gymryd y cyfle y prynhawn yma i ofyn, Ysgrifennydd Cabinet, a fedrwch chi amlinellu sut bydd eich strategaeth bresennol, a strategaethau i'r dyfodol, yn delio yn benodol efo'r angen am gartrefi diogel ar gyfer mamau a'u plant sy'n ffoi rhag trais a chamdriniaeth. 272
Mae gan eich strategaeth chwe amcan, ond does yna ddim un yn benodol am ddysgu a gwrando ar lais y dioddefwyr. Er bod newid yn digwydd mewn rhai gweithleoedd o'r diwedd, mae angen i brosesau gydnabod hawl dioddefwyr i gofnodi camdriniaeth mewn ffordd sy'n diogelu eu hawl i breifatrwydd a chyfrinachedd. Oherwydd bod y pŵer yn aml yn gorwedd efo'r dynion yn hierarchaeth y gweithlu, dydy hi ddim bod tro yn hawdd i adrodd a chwyno am gamdriniaeth. Felly, hoffwn i glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet am unrhyw waith newydd sy'n digwydd ar hyn fel rhan o'r ffrwd gwaith newydd sydd gennych chi, sef camdriniaeth yn y gweithle. Diolch.273
Mae gennyf i'r teimlad parhaus, fel y soniodd Siân, er gwaethaf strategaethau, nad yw pethau'n gwella. Rydyn ni'n dod yma drwy'r amser yn dweud yr un hen beth, ac yn dweud y pethau cywir, ond nid yw'n ymddangos i mi fod pethau wir yn cael eu cyflawni wrth symud ymlaen. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud ynghylch yr angen hwn am ddull traws-gymdeithasol, ond roeddwn i'n falch iawn o glywed Altaf, Mabon a Siân yn sôn am ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Oherwydd rwy'n poeni, bob tro y cawn ni'r sgyrsiau hyn, bob tro yr ydyn ni'n ceisio cymryd camau gweithredu, mae hynny'n cael ei danseilio gan yr hyn sy'n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol—mae'n cael ei ddadwneud yn llwyr.274
Dyna pam mae darparwyr gwasanaethau arbenigol mor bwysig yma—y gwasanaethau rheng flaen hynny yn ein cymunedau sy'n gwrthsefyll rhai o'r pethau hynny. Gwnaf i ddefnyddio fy hun fel enghraifft. Fel dyn yn fy ugeiniau—bron iawn yn dal yn fy ugeiniau—nid yw'n cymryd yn hir i mi ddod ar draws cynnwys sy'n dangos casineb at fenywod yn cael ei awgrymu i mi ar fy mhlatfformau cyfryngau cymdeithasol. Y cyfrifon yr wyf i'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yw cyfrifon sy'n gysylltiedig â Lord of the Rings, cyfrifon sy'n gysylltiedig â Warhammer ydyn nhw, cyfrifon sy'n gysylltiedig â rygbi, a chyfrifon ffotograffwyr natur. Rwy'n credu ei bod hi'n weddol glir bod pobl o fy nemograffig i—dynion ifanc—yn cael eu targedu'n gyson gyda'r postiadau hyn a awgrymir. Mae hynny'n digwydd drwyddi draw ac mae'n radicaleiddio dynion ifanc.275
Mae angen ymateb byd-eang arnom wrth ddwyn busnesau'r cyfryngau cymdeithasol i gyfrif am hyn, oherwydd rwy'n adnabod pobl sy'n gwbl anwleidyddol, dim diddordeb o gwbl ganddyn nhw mewn gwleidyddiaeth, ond, yn gyson, mae fideos yn cael eu dangos iddyn nhw, byth a beunydd, gan y personoliaethau 'gwryw alffa', fel mae nhw'n cael eu galw, hyn, fideos sy'n ceisio normaleiddio trais a bod yn ffigwr goruchafol mewn cymdeithas. Felly, mae gwir angen i ni ymdrin â hyn, ac os na fyddwn ni'n ymdrin â hyn, os na fyddwn ni'n ei gymryd o ddifrif, yna nid oes unrhyw wahaniaeth beth yr ydyn ni'n ei ddweud yma, nid oes unrhyw wahaniaeth beth yw'r strategaeth y mae Lywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith, bydd yn cael ei thanseilio'n barhaus.276
Ar ddechrau'ch cyfraniad, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi sôn am nifer o straeon erchyll am ddigwyddiadau diweddar, ac yn bryderus, mae hynny 10 mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym. Byddwch chi'n cofio, pan oeddem yn craffu ar y ddeddfwriaeth hon, fy mod i wedi arwain ar hynny ar ran fy mhlaid i, gan weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod gyferbyn ym Mhlaid Cymru ar y pryd, Jocelyn Davies, ac yn y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter—rwyf wedi anghofio, mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Ie, Peter Black, mae'n ddrwg gen i. Bron i mi ddweud enw cyn-gydweithiwr, Peter Law, y gwnaethon ei golli, yn drist.277
Ond roedd dau o'r materion yr oedd y gwrthbleidiau yn unedig yn eu cylch o ran atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ymwneud ag addysg perthnasoedd iach a rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr, ond nid oedd yr un ohonyn nhw ar wyneb y ddeddfwriaeth. Ac fe wnaethon ni ond cytuno i gefnogi'r Bil yng Nghyfnod 4 oherwydd yr addewidion a wnaed ynglŷn â'r ddau hynny. Yn amlwg, ar ôl hynny, cafodd addysg perthnasoedd ei chynnwys ar ffurf yn y cwricwlwm. Tybed a oes unrhyw fonitro a gwerthuso y gallwch chi ei rannu â ni am yr hyn y mae hynny'n ei gyflawni, sut mae'n cael ei gyflawni, beth yw'r canlyniadau, a oes unrhyw effeithiau manteisiol yn cael eu gweld ohono. Ac o ran rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr, cawsom dystiolaeth ar y pryd yn y pwyllgor bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gyfer cyflawnwr yn ymwneud â phobl sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol, yr oedd, i bob pwrpas, yn ofynnol iddyn nhw gyflawni'r rhaglenni hyn, p'un ag oedden nhw wedi ymrwymo i ddysgu ganddyn nhw ai peidio. Mantais rhaglenni cyn carchar oedd, pan gawson nhw eu cynnig, bod nifer fawr o gyflawnwyr neu gyflawnwyr posibl—dynion yn bennaf, ond roedd rhai menywod—yn barod i ymuno â nhw, ac roedd ystadegau da i ddangos eu bod yn effeithiol wrth leihau nifer yr achosion o gam-drin wedi hynny.278
Felly, rwy'n credu, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fonitro a gwerthuso'r addysg perthnasoedd iach yn ein hysgolion, pa dystiolaeth sydd gennych chi i'w dangos i ni fod yr addewidion sy'n ymwneud â rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr wedi cynhyrchu rhaglenni ar lawr gwlad, a pha effaith y gallen nhw fod yn ei chael. Diolch.279
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dull system gyfan, oherwydd rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol dod â'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu ynghyd, ac rydyn ni wedi clywed hynny yn yr ystafell heddiw. Yn rhy aml rydyn ni wedi gweld canlyniadau trasig yr hyn sy'n digwydd pan nad yw popeth wedi'u cydgysylltu. Ac rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl ar draws y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn rhoi cymorth o ansawdd uchel o dan yr amodau mwyaf heriol, a bod y gwasanaethau hynny'n hanfodol, ac yn darparu gwasanaethau hynod bwysig, yn enwedig pan fyddwn ni'n siarad am blant.280
Rwyf i eisiau cymryd eiliad i dalu teyrnged i rai o'r rhain. Fe wnes i ymweld â gwasanaethau lloches a chyngor domestig ar draws Cymru a oedd yn gweithio'n ddiflino ar y rheng flaen ac yn ymdrin â phobl mewn argyfwng: yr NSPCC, Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a llawer o gyrff eraill yn cyfuno gwasanaethau cymorth ymarferol â mewnbwn polisi ac ymchwil. Ers blynyddoedd rwyf i wedi gweithio'n agos gyda Sefydliad y Merched yng Nghymru a White Ribbon UK i godi ymwybyddiaeth ac i recriwtio llysgenhadon gwrywaidd ynghylch addewid y Rhuban Gwyn. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ni Lysgenhadon gwrywaidd y Rhuban Gwyn yma yn y Senedd, a bod gennym ni gefnogaeth a phencampwriaeth drawsbleidiol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod.281
A wnewch chi gymryd ymyriad, Joyce? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi gwneud cymaint o waith ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, sydd wedi bod mor gadarnhaol ac effeithiol. Ac mae'n dda clywed nifer o ddynion yn y Siambr hon yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, oherwydd, fel y gwnaethon ni ei glywed y llynedd gydag ymgyrch y Rhuban Gwyn, mae'n dechrau gyda dynion. Tybed, o ystyried yr holl waith yr ydych chi wedi'i wneud, Joyce, yr hyn yr ydych chi'n ei feddwl o ran ehangu a lledaenu'r ffocws undydd hwnnw y mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn ei roi ar y diwrnod penodol hwnnw i broses gydol y flwyddyn o newid diwylliant ac ymddygiad yn y gymdeithas, oherwydd rwy'n tybio bod hynny'n rhan allweddol o'r her, mewn gwirionedd, onid yw—defnyddio'r diwrnod hwnnw i gael y newid parhaol a thrwy gydol y flwyddyn hwnnw mewn agweddau ac ymddygiad.282
Diolch i chi am hynny, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn. Yn gyntaf oll, mae'n 16 diwrnod o weithredu, felly mae yna, mewn gwirionedd, 16 diwrnod. Ond mae'r gwaith y tu ôl i'r Rhuban Gwyn, y gwaith y mae Sefydliad y Merched a'r holl bobl eraill sy'n cymryd rhan yn ei wneud, yn digwydd trwy gydol y flwyddyn. Mae'n ymwneud ag ymgysylltu a chofrestru, sydd wedi digwydd mewn gweithleoedd, chwaraeon—boed yn bêl-droed, rygbi neu unrhyw bencampwyr chwaraeon eraill. Mae hefyd yn ymwneud â'r corau hynny, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, sydd i gyd wedi cofrestru. Felly, mae'n bellgyrhaeddol ac mae'n digwydd trwy gydol y flwyddyn i amlygu'r llais.283
Ond fel y dywedodd Luke Fletcher yn gwbl briodol, mae yna amlygu arall o lais negyddol i'w glywed—ac mae wedi cael ei grybwyll yma gan eraill—ar y we, yn y ffynonellau lle mae'r bobl ifanc yn cael eu gwybodaeth. Ac nid amlygu cadarnhaol yw'r amlygu hwnnw, ond mae'n ymwneud â dylanwadwyr yn bwydo gwybodaeth negyddol i bobl i ddylanwadu arnyn nhw rywsut i feddwl bod bod yn macho yn golygu dangos casineb tuag ar fenywod—ei fod yn gweithio yn erbyn yr holl egwyddorion y gallai'r dynion ifanc hynny fod wedi meddwl eu bod wedi'u cael cyn iddyn nhw gael eu dylanwadu a'u radicaleiddio.284
Hoffwn i ddiolch o galon i staff a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, ac fe wnaethon nhw ymuno â mi tua blwyddyn a hanner yn ôl yn fy digwyddiad 'Ddim yn fy enw i' a gafodd ei drefnu yn Rhydaman, lle siaradodd prif swyddog y merched a phrif swyddog y bechgyn yn rymus am wirionedd cael eich magu nawr a'r angen am barch, a sut roedden nhw'n meddwl y gallai'r stori honno gael ei newid. Felly, dyma enghraifft arall o bumed a chweched dosbarth—mewn hen arian oherwydd dyna sut yr wyf i'n eu hadnabod nhw—yn gweithio gyda'n gilydd, yn fechgyn ac yn ferched, wrth ddylanwadu ar ei gilydd mewn ffordd gadarnhaol ynghylch yr agenda parchu honno a pherthnasoedd iach. Ond mae'n anodd gwrthsefyll y rhai sy'n ceisio dylanwadu ar y bobl ifanc tuag at agenda fwy dinistriol.285
Felly, dyna rai o'r cyrff sy'n gweithio tuag at wella'r sefyllfa, ond mae arnaf i ofn oni bai ein bod ni'n gallu newid delweddau cymdeithasol i rai cadarnhaol, gallwn ni gael yr holl bolisïau yr ydyn ni'n dymuno ei cael, gallwn ni gael yr holl fframweithiau yr ydyn ni'n dymuno eu cael, ond yn y pen draw mater i bobl yw newid y ffordd y maen nhw'n meddwl am ei gilydd.286
A galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl.287

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl bwerus iawn hon y prynhawn yma ar y pwnc hanfodol bwysig hwn. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Roedd yr ymrwymiad mor glir ar draws y Siambr hon, ymrwymiad sy'n dod drwodd o'n cynghreiriaid gwrywaidd—ymrwymiadau gan bob un ohonyn nhw—a'r menywod yr wyf i'n gwybod eu bod wedi bod yn gweithio'n galed ers blynyddoedd i ymgyrchu i Gymru fod y lle diogel yr ydyn ni eisiau iddi fod. Ond rwy'n cydnabod bod cymaint mwy i'w wneud wrth i ni agosáu at ddeng mlynedd ers ein Deddf arloesol. Dyna pam yr oeddwn i eisiau i'r ddadl hon ddigwydd, fel y gallwn ni, unwaith eto, ddysgu mwy o'n dadl ni heddiw, a diolch am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol hefyd, oherwydd mae hynny hefyd wedi codi proffil ymwybyddiaeth o'n strategaeth a'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni.288
Felly, a gaf i ddechrau drwy ddweud diolch—diolch yn fawr—Sioned Williams? Diolch am gyd-gyflwyno'r ddadl hon. Roedd yn bwysig ein bod ni wedi cael y cyd-gyflwyno hwnnw ar draws y Siambr. Mewn gwirionedd, Mark, fe wnaethoch chi ein hatgoffa ni o'r holl waith trawsbleidiol hwnnw y gwnaethon ni yn y cyfnod yn arwain at gyflwyno'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond mae'n ymwneud â gweithio gyda'n gilydd. Ydy, mae craffu ar bethau a'u herio'n hanfodol. Y materion am y cyllido yn y gwelliannau gan Plaid Cymru—rwyf i eisoes wedi gwneud sylwadau, yn fy sylwadau agoriadol, am y cynnydd i'r gyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: £250,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac yna cynnydd o dros £2 filiwn i'n cyllid cyffredinol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2025-26. Ni wnaf ailadrodd hynny eto, ond rwy'n cydnabod bod angen i ni roi hyn ar sail gynaliadwy hirdymor. Dyna pam rwy'n derbyn gwelliant 3, ac rwy'n credu bod eich gwelliant, mewn gwirionedd, yn crynhoi'r hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud o ran y model cyllido cynaliadwy hirdymor hwnnw.289
Gwnaeth Jane Dodds sylw ar hyn hefyd o ran cefnogaeth i'r sefydliadau hynny sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn benodol. Ond mae cynaliadwyedd y cyllid yn bwysig iawn o ran y cod ymarfer ar gyfer cyllid y trydydd sector yr ydyn ni'n ei ystyried, er mwyn sicrhau bod cyllid mwy tymor hir yn bosibl, er mwyn sicrhau y gallwn ni gael model ariannu mwy tymor hir ar gyfer sector arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cefnogi darpariaeth gwasanaethau cynaliadwy. Felly, ie, i gefnogi gwelliant 3; rwy'n credu bod hynny hefyd yn dangos y gydnabyddiaeth ein bod ni'n symud ac yn gwrando ac yn dysgu. A gaf i—[Torri ar draws.]290
O ran gwelliant 2, a gaf i ofyn, felly, lle'r ydyn ni'n gofyn i chi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar eithrio gwasanaethau arbenigol o gyfraniadau yswiriant gwladol: a wnewch chi gyflwyno'r sylwadau hynny?291
Rwy'n gwneud y sylwadau hynny drwy'r amser, ac, fel y dywedais i yn fy araith agoriadol, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, yn agos gyda Jess Phillips, yn agos gydag Alex Davies-Jones, ond hefyd yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio'n agos arno gyda phlismona yng Nghymru yn ein dull glasbrint a'n bwrdd gweithredu strategaeth. Felly, mae gennych y sicrwydd hwnnw.292
Nawr, a gaf i ddiolch i Altaf Hussain eto? A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am gyd-gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Rwy'n credu bod hynny'n arwydd cryf iawn o'ch ymrwymiad chi, ac yn enwedig y geiriau pwerus, nid yn unig gennych chi, Altaf, ond gan Gareth Davies hefyd—llysgennad Rhuban Gwyn gwych, allan ar risiau'r Senedd pan gawson ni'r wylnos honno—fel y mae eraill o'ch plaid chi wedi'i wneud hefyd yn y gorffennol; a Mark Isherwood hefyd ar gyfer eich geiriau. Ond dim ond i ddweud wrth Altaf Hussain—[Torri ar draws.] Lee.293
Diolch. Yn amlwg, mae llawer o sylw wedi bod yn ddiweddar ar y trais ofnadwy tuag at ferched gan gangiau, ac roedd yn bwysig iawn clywed Altaf Hussain yn gwneud y pwynt ei bod yn anghywir i neilltuo grwpiau ethnig penodol yn hyn; mae hyn yn broblem ar draws cymdeithas. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda grwpiau sy'n cynrychioli dioddefwyr o ran yr angen i sicrhau ein bod yn deall natur y broblem hon, a'n bod yn deall nodweddion yr ysglyfaethwyr, fel nad yw hyn yn cael ei dynnu i mewn i ryfeloedd diwylliannol ehangach nac agendâu gwleidyddol?294
Diolch yn fawr iawn, Lee Waters. A dweud y gwir, wrth ymateb i'r pwyntiau pwysig hyn y gwnaeth Altaf heddiw, ac i gydnabod hefyd bod—. Roedd y geiriau pwerus hynny y gwnaethoch chi eu defnyddio mor gryf o ran eich ymrwymiad i'r strategaeth, a'ch cydnabyddiaeth bod angen gwneud cymaint mwy. Ac erbyn hyn mae risg gwirioneddol o gam-drin yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud. Mae hyn wedi'i adlewyrchu ar draws y Siambr heddiw, oherwydd y ffaith eich bod chi'n sôn am y ffordd ofnadwy y mae trais yn erbyn menywod—. Mae cysylltiad, wrth gwrs, rhwng cam-fanteisio'n rhywiol ar blant a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac nid yw camfanteisio ar blentyn yn dod i ben, wrth gwrs, ar ôl iddo ddod yn oedolyn; gall yr oedolyn hwnnw sy'n agored i niwed fod yn agored i gamfanteisio rhywiol fel oedolyn. Ond rydyn ni'n cydnabod nawr—ac rwy'n credu bod hwn yn fater difrifol—ei bod yn debygol y bydd gorgyffwrdd, ac rydyn ni'n dechrau gweld hynny, rhwng casineb eithafol tuag at fenywod ac ideoleg asgell dde eithafol, a all ymgorffori naratifau hiliol hefyd, ac rwy'n credu bod eich cyfeiriad at y ffaith bod pob dyn sy'n gyflawnwr yn anghenfil ni waeth beth, o bob cefndir—. Rwy'n credu, Lee, bod eich pwynt chi wedi'i wneud yn dda iawn, oherwydd rwy'n siarad â'r sefydliadau hynny ac rwy'n cyfarfod â nhw drwyddi draw. Rwy'n sylweddoli, Dirprwy Lywydd ein bod ni—. Rwyf i eisiau bwrw 'mlaen at ychydig o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud, ond mae gennym ni amser byr—295
[Anghlywadwy.]296
—o ran y gyllideb. Ond a gaf i ddweud yn gyflym iawn fy mod i'n credu bod ein cwricwlwm ni'n gwneud gwahaniaeth enfawr? Gwnaeth Julie gyfeirio at Iawn; mae hynny'n cael effaith wirioneddol, newid diwylliant gwirioneddol, cyfradd llwyddiant enfawr, gyda 97 y cant o ddynion a bechgyn o fewn ystod yr oedran targed ledled Cymru wedi gweld ymgyrch Iawn. Mae pob un o bedair ardal yr heddlu nawr eisiau defnyddio'r ymgyrch yn eu gwaith lleihau trais. Fel mae Joyce ac eraill wedi'i ddweud, mae'n dechrau gyda dynion, a dyma lle mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar yr ymgyrch effeithiol honno, oherwydd ei bod hi—. Nid oeddem ni'n ymwybodol y byddai angen ymgyrch Iawn arnom.297
Mae'n bwysig, Mark, bod gennym ni ffrwd waith ar gyflawnwyr, a bod gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol iawn o ran y grŵp sy'n gysylltiedig â hynny. Ond hefyd, dim ond i ymateb i'r pwynt mae Jane Dodds wedi'i wneud—a Julie—am blant a phobl ifanc, mae gennym ni ffrwd waith ar blant a phobl ifanc. Rydw i wir yn parchu'r ffaith bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn am gamau brys i sicrhau ein bod ni'n cyflymu gwasanaethau therapiwtig penodol ac arbenigol, ac rydyn ni'n ymdrin â hynny hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â chanolfan galw i mewn Platfform yng Nghaerdydd.298
Rwy'n credu, Mabon, eich bod chi'n gwneud pwyntiau pwysig hefyd o ran y ffyrdd y mae angen i ni edrych ar yr holl ystadegau, ein canolfannau atgyfeirio ar gyfer ymosodiadau rhywiol, mynediad atyn nhw. Fe wnaethoch chi roi adroddiad pwerus iawn—dadl—yma yn y Siambr yn fwyaf diweddar, lle gwnaethon ni ystyried rhai o'r materion hynny.299
Yr wythnos diwethaf, Siân Gwenllian, cawson ni gynhadledd bwerus iawn yn y gogledd wedi'i noddi gan Unsain a Phrifysgol Wrecsam ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac mae'r materion ynglŷn â thai, wrth gwrs, yn hanfodol. Byddaf bob amser yn cofio ymgyrchu dros Ddeddf Tai (Pobl Digartref) 1977 yn ôl yn y dyddiau cynnar hynny o fynd i'r afael â thrais domestig yma yng Nghymru, gan gydnabod gymaint y mae yn agored i niwed o ran eu hanghenion tai. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant,yn amlwg iawn, yn gefnogol o hynny. 300
Felly, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, fe wnaf i orffen ar y pwyntiau pwysig hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwynt emosiynol iawn i mi ymateb i'r ddadl hon, oherwydd, yn ôl yn 1975, adroddodd y pwyllgor dethol yn San Steffan ar eu hymchwiliad i drais yn erbyn menywod priod, ac fe wnaethon nhw argymell un lle teuluol i bob 10,000 o'r boblogaeth i ddiwallu anghenion y rhai a gafodd eu ddisgrifio fel 'gwragedd wedi’u curo'—ydych chi'n cofio—yn y dyddiau hynny. Ac, yn 1975, fe wnaethon ni agor y lloches gyntaf i fenywod yng Nghaerdydd, gan grŵp o wirfoddolwyr. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni'r ddeddfwriaeth, mae gennym ni'r strategaeth, mae gennym ni ymrwymiad pob partner yn y sector cyhoeddus. Ond, yn amlwg, mae gennym ni gymaint mwy i'w wneud i uno yn y Siambr hon i wir gyflawni fy nghynnig i gefnogi galwad ar bawb i gyflymu gweithredu i ddileu trais ar sail rhywedd a'r angen am ddull system gyfan.301
Peidiwch â gadael i ni gael y penawdau hynny: 'Llys yn clywed, dyn wedi dweud wrth gyn-gariad, "Fe wnes i ei lladd hi ond paid â dweud gair"'; 'Llys yn clywed...cyn-bêl-droediwr...wedi cicio’i wraig yn ei phen yng nghanol ffrae'; 'Dyn yn cyfaddef llofruddio tair menyw'; 'Dim ond 4% o gamdrinwyr domestig honedig yn yr heddlu a ddiswyddwyd'; 'stelciwr a geisiodd gael ei ddioddefwr wedi’i harestio'. Mae'r rhain yn ddyfyniadau o'r wythnos diwethaf yma yng Nghymru. Gadewch i ni symud y cynnig hwn ymlaen.302
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.303
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Bydd y bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 4, rheoliadau gwasanaethau iechyd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, naw yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.304
Eitem 4. Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025: O blaid: 37, Yn erbyn: 2, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Pleidleisiwn nesaf ar eitem 5, dadl ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.305
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.306
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Nesaf, galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.307
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.308
Cynnig NDM8798 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.309
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cynnig (wedi'i ddiwygio): O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Ac mae hynny'n cloi'r rownd hon o bleidleisio. Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn inni ailymgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.310
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:08.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Rydym ni'n barod i ddechrau ar Gyfnod 3 o Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). 311
Grŵp 1 fydd y grŵp cyntaf o welliannau sy'n ymwneud ag ystyr y term 'gwasanaeth cartref plant' a'r defnydd ohono. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant. Dawn Bowden.312
Cynigiwyd gwelliant 2 (Dawn Bowden).

Diolch, Llywydd. Wrth agor y ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid am eu cyfraniad wrth graffu ar y Bil. Yn amlwg, fel gydag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, mae'n bwysig ein bod ni'n ei gael yn iawn gan fod y Bil yn cael ei lunio yn ystod y broses graffu a hefyd yn ystod y cyfnod gweithredu hanfodol. Yn yr ysbryd hwn rwyf am gydnabod, yn benodol, y gwelliannau a osodwyd i ni eu hystyried heddiw, a'r rhai yn y cyfnod blaenorol.313
Rwy'n gwerthfawrogi eu bod nhw i gyd wedi cael eu gosod mewn ysbryd adeiladol, ac rwyf wedi ymgysylltu â nhw yn yr un ysbryd hwnnw. Er enghraifft, fe es ati i gyflwyno gwelliant yn y cyfnod hwn i gyflawni bwriad gwelliannau a osodwyd gan Altaf Hussain a Mabon ap Gwynfor yng Nghyfnod 2 ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddarpar dderbynwyr taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei gefnogi'n ddiweddarach heddiw.314
Cyflwynwyd nifer o welliannau eraill yng Nghyfnod 2 hefyd, y mae llawer ohonyn nhw wedi'u cyflwyno eto i ni eu hystyried heddiw, nad oeddwn i'n gallu eu cefnogi fel y'u drafftiwyd am amryw resymau. Yn hytrach, fe ymrwymais i sicrhau, drwy weithredu'r Bil, y byddai camau yn cael eu cymryd i adlewyrchu'r pwyntiau allweddol y tu ôl i'r gwelliannau hynny, gan fy mod yn cydnabod bod eu bwriad yn dda. Rwy'n ailddatgan yr ymrwymiadau hynny rwyf wedi'u gwneud yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a heddiw rwy'n gofyn i'r Aelodau beidio â phleidleisio dros y gwelliannau hynny, ond yn hytrach caniatáu iddynt gael eu trin trwy'r broses weithredu, sef y ffordd fwy priodol ac effeithiol yn fy marn i.315
Cyn i ni droi at fanylion y gwelliannau, hoffwn gydnabod y lefel uchel o gefnogaeth i egwyddorion y Bil yn y Siambr hon. Rydym am i'r Bil weithio'n llwyddiannus, a byddwn i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hynny a fydd yn gwneud i'r Bil weithredu'n effeithiol ac yn llawn.316
Os trof, felly, Llywydd, at grŵp 1, mae'r grŵp cyntaf hwn o welliannau yn ceisio sicrhau bod Rhan 1, Pennod 1 y Bil yn nodi mor glir â phosibl sut y bydd y gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle mae darparwr yn darparu gwasanaethau cartref gofal mewn mwy nag un lle, ac nid yw'r gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn un neu fwy o'r lleoedd hyn yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant. Mae'r diwygiadau hyn hefyd yn sicrhau bod y trefniadau trosiannol ond yn berthnasol i fannau lle mae gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant ar ddechrau'r cyfnod trosiannol.317
Mae'r darpariaethau ym Mhennod 1 y Bil yn gymwys i 'wasanaethau plant o dan gyfyngiad', sy'n cynnwys gwasanaethau maethu, gwasanaethau cartref plant, a gwasanaethau llety diogel. O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, rhaid i ddarparwyr gofrestru i ddarparu unrhyw wasanaeth rheoleiddiedig, a bydd y cofrestriad hwn yn manylu ar yr holl leoliadau lle darperir y gwasanaeth.318
Mae'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn cynnwys cartrefi plant a chartrefi i oedolion. Efallai y bydd darparwr gwasanaeth wedi'i gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, sef y gwasanaeth rheoleiddiedig, ond gallai'r gwasanaeth gynnwys cartrefi gofal i blant a chartrefi gofal i oedolion. Fodd bynnag, dim ond y rhan o'r gwasanaeth mewn man lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant sy'n cael ei ystyried yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad. I'r gwrthwyneb, nid yw'r rhan o'r gwasanaeth a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion yn dod o fewn cwmpas gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.319
Mae gwelliant 3 yn cyflwyno'r term newydd 'gwasanaeth cartref plant' i ddynodi'r is-gategori o wasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n cynnwys gwasanaethau cartref gofal mewn un neu fwy o leoedd lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant. Pwrpas y gwelliant hwn yw egluro pa rannau o wasanaeth cartref gofal fydd yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, mewn amgylchiadau lle mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu mewn mwy nag un lle ac yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant mewn un neu fwy o'r lleoedd, ac yn gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion mewn man arall neu fannau eraill. Mae gwelliant 3 yn darparu, i'r graddau y mae gwasanaeth cartref gofal yn bodloni'r diffiniad o wasanaeth cartref plant, ei fod yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad.320
Mae gwelliant 4 wedyn yn darparu'r diffiniad hwnnw, sef bod321
'“gwasanaeth cartref plant” yn wasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt.’322
Mae gwelliannau 1, 2 a 6 yn ganlyniad i welliant 3, ac yn ychwanegu cyfeiriadau at 'wasanaethau cartref plant'. Mae gwelliant 37 yn cymhwyso'r diffiniad o 'wasanaethau cartref plant' yn adran 2A o Ddeddf 2016 i'r cyfan o Ran 1 o Ddeddf 2016.323
Mae gwelliant 38 yn diwygio'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016. Nid yw hyn yn cael unrhyw effaith sylweddol ar gwmpas y diffiniad, ond mae'n sicrhau bod cymhwyso'r diffiniad o 'wasanaeth cartref plant' fel is-set o'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' yn gliriach.324
Mae gwelliant 8 yn sicrhau bod modd nodi'r lleoedd a'r gwasanaethau y bydd paragraff 2(3) yn gymwys iddynt yn fwy manwl. Mae'n gwneud hyn drwy sicrhau, pan fo darparwr yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy'n cynnwys lleoedd lle mae'r gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, a lleoedd lle mae'r gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion, ei bod yn amlwg mai dim ond i'r lleoedd lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, ar yr adeg y bydd y cyfnod trosiannol yn dechrau, y bydd y trefniadau trosiannol yn berthnasol.325
Yn olaf yn y grŵp hwn, mae gwelliant 25 yn diwygio adran 10(6) o'r Bil, sy'n diwygio adran 75(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r gwelliant yn cael yr effaith y bydd y term 'cartref plant' yn adrannau 75 a 75A yn golygu 'gwasanaeth cartref plant' fel y'i diffinnir yn adran 2A(2) o Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan welliant 4. Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.326
Does gen i ddim siaradwyr eraill ar y grŵp yma. Dydw i ddim yn siŵr a yw'r Gweinidog am wneud unrhyw sylwadau ar y grŵp hwn i orffen.327
Dim byd arall i'w ddweud, na.328
Na. Felly, y cwestiwn yw—.329
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.330
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, gwelliant 3.331
A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol, Gweinidog?332
Cynigiwyd gwelliant 3 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol.333
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad i welliant 3, felly mae gwelliant 3 yn cael ei dderbyn.334
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol.337
Ydw, rwy'n gwneud gwaith gwych o fy nwyieithrwydd yma. [Chwerthin.]338
Felly, gwelliant 4. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 4 hefyd wedi'i dderbyn.339
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae'r ail grŵp o welliannau nawr. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Y Gweinidog, eto, sy'n cynnig y prif welliant ac yn siarad i'r grŵp. Dawn Bowden.340
Cynigiwyd gwelliant 5 (Dawn Bowden).
Diolch, Llywydd. Mân welliannau yw'r gwelliannau yn y grŵp hwn, gwelliannau drafftio a chanlyniadol, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.341
Mae gwelliant 5 i adran 2(c) o'r Bil yn sicrhau bod y testun y mae'r Bil yn ei fewnosod ar y pwynt hwn yn Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn cyfeirio'n gywir at 'is-baragraff (3)' o Atodlen 1, yn hytrach na 'pharagraff (3)'. Mae gwelliant 7 yn gwneud newid bach i'r Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2016 a fewnosodir gan adran 4 o'r Bil, yr ydym wedi'i drafod eisoes. Mae'r gwelliant hwn yn newid y cyfeiriad ar ddechrau'r Atodlen i'w gwneud yn glir bod y cyfnod trosiannol yn canolbwyntio ar 'wasanaethau planto dan gyfyngiad', er mwyn osgoi unrhyw ddehongliad bod y cyfnod trosiannol neu effeithiau trosiannol eraill yn cael eu cymhwyso'n ehangach. 342
Mae gwelliant 12 yn newid cyfeiriad yn yr Atodlen 1A newydd o 'whom' i 'which'. Pwrpas y gwelliant hwn yw gwneud mân newid gramadegol i adlewyrchu'r ffaith bod yr endidau a ganiateir i gyd yn wahanol fathau o sefydliadau ac nid unigolion. Gwneir yr un newid i adran 10 o Ddeddf 2016 drwy welliant 23, sy'n diwygio adran 7 o'r Bil, a hefyd drwy welliannau 10 a 17, ochr yn ochr â newidiadau mwy nodedig, y byddwn yn eu trafod yn nes ymlaen.343
Mae gwelliant 28 yn sicrhau bod y trosolwg yn adran 16(1) o'r Bil yn adlewyrchu'n gywir bod is-adrannau 2 a 3 ill dwy yn diwygio Deddf 2016, yn dilyn gwelliant yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant 29 yn welliant testunol i fewnosod gair coll yn y testun Saesneg yn adran 32 o Ddeddf 2016.344
Mae gwelliant 35 yn darparu bod paragraffau 2(1) a 4(1) o Atodlen 1 i'r Bil, sy'n cyflwyno rhestrau o ddiwygiadau i Ddeddf 2016 a Deddf 2014 yn y drefn honno, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn sicrhau bod y newidiadau i'r deddfiadau hyn, a wneir ym mharagraffau 2(6) a 4(4) o Atodlen 1 i'r Bil yn y drefn honno, yn dod i rym fel y bwriadwyd.345
Pwrpas gwelliant 36 yw egluro drafftio'r Bil. Mae'r gwelliant yn mewnosod diffiniadau o'r termau 'darparwr er elw' a 'darparwr preifat' yn adran ddehongli gyffredinol Deddf 2014. Gwneir y gwelliant hwn mewn ymateb i sylw gan Sam Rowlands yn ystod Cyfnod 2 bod cyfle i wneud y ddeddfwriaeth yn gliriach o ran y termau hyn, ac yn enwedig eu defnydd yn adran 81B newydd o Ddeddf 2014, fel y'i mewnosodwyd gan adran 13 o'r Bil. Hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant hwn yn rhoi cymorth ymarferol i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy'n ceisio deall y termau hyn.346
Mae gwelliant 39 yn welliant o ganlyniad i ailddatgan y darpariaethau yn Rhan 4 o Atodlen 1A i Ddeddf 2014, sy'n galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu neu drefnu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth. Mae'r gwelliant yn ychwanegu paragraff newydd at Atodlen 1 i'r Bil. Mae'n mewnosod eithriadau newydd i adran 6 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, sy'n cynnwys y diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir at ddibenion y Ddeddf honno.347
Mae'r gwelliant yn eithrio awdurdodau lleol, wrth arfer y swyddogaeth o wneud taliadau uniongyrchol, o'r diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir a'r dyletswyddau a osodir mewn perthynas â'r statws hwnnw o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf. Mae'r gwelliant hefyd yn eithrio o'r diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir weithgaredd person sydd wedi'i awdurdodi i wneud penderfyniadau ynghylch a yw person arall yn berson addas i dderbyn a gweinyddu taliad uniongyrchol ar ran unigolyn nad oes ganddo alluedd meddyliol.348
Gwelliant cydbwyso yw hwn. Mae Atodlen 2 i'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, eisoes yn diwygio adran 6 o'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf, sy'n ymwneud â'r darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil ar daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Bydd y gwelliannau hynny yn eithrio cyrff iechyd—Gweinidogion Cymru a byrddau iechyd lleol—wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol. Bydd y gwelliant newydd hwn yn rhoi'r un statws i awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf â chyrff iechyd pan fyddan nhw'n gwneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau.349
Fel y nodais yn y memorandwm esboniadol pan gyflwynais y Bil, roedd y diwygiad i'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf mewn perthynas â chyrff iechyd, sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 2, yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron. Derbyniwyd y cydsyniad hwnnw ar 11 Hydref y llynedd, a rhoddais wybod i'r Aelodau am hynny yn ystod y ddadl egwyddorion cyffredinol ar y Bil. Mae'r diwygiad pellach i'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol awdurdodau lleol yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron hefyd, a gallaf gadarnhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi cydsyniad ar 17 Ionawr. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth y DU am ystyried y ddau gais am gydsyniad.350
Mae gwelliant 39 hefyd yn gwneud diwygiad pellach i adran 30(8) o'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf, ac mae hyn o ganlyniad i'r newidiadau wrth rifo'r darpariaethau taliadau uniongyrchol yn Rhan 4 o Ddeddf 2014, fel y'i diwygiwyd gan adran 20 o'r Bil. Nid oes angen cydsyniad Gweinidog y Goron mewn perthynas â'r gwelliant hwn.351
Yn olaf yn y grŵp hwn, mae gwelliant 41 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 1 i'r Bil. Mae'r rhain yn diwygio Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 i ddileu darpariaeth a oedd yn honni ei bod yn gwneud darpariaeth gyfatebol yn adran 6 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 i'r un yng ngwelliant 39. Nid yw'r diwygiadau cyfatebol hynny wedi dod i rym oherwydd nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dechrau deddfwriaeth y mae'r diwygiadau hyn yn dibynnu arni. Diolch.352
Does gen i ddim siaradwyr eto ar y grŵp hwn o welliannau. Dydw i ddim yn credu y bydd yn parhau fel hyn, felly peidiwch â mynd yn rhy gyffrous. [Chwerthin.]353
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes; felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.354
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Dawn Bowden).
Wedi'i gynnig. 357
Mae gwelliant 6 wedi'i symud. Felly, a oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 6? Nac oes; felly, mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn hefyd.358
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 3 fydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp ar eiriolaeth a chymorth, a gwelliant 77 yw'r prif welliant yn y grŵp. Rwy'n galw ar Mabon ap Gwynfor i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp.359
Cynigiwyd gwelliant 77 (Mabon ap Gwynfor).
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol. Dwi am ddechrau drwy nodi pa mor falch ydym ni fel plaid o weld y Bil yma yn cyrraedd y pwynt hwn. Mae’n cyflawni un o ymrwymiadau allweddol ein cytundeb cydweithio â'r Llywodraeth, sef dileu'r elw a wneir yn y sector gofal plant a symud tuag at model dielw ar draws Cymru. 360
Mae'r angen am ddiwygio yn y maes hwn wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd, ac fe’i hamlygwyd yn glir yn adroddiad y CMA yn ôl yn 2022. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi pwysleisio'n gyson oblygiadau niweidiol y ffaith bod cymaint o ddarpariaeth ac ansawdd y gwasanaethau hanfodol hyn mor ddibynnol ar rymoedd y farchnad.361
Mae’n rhaid bod pob Aelod yma yn derbyn mai profiad y plant ddylai fod flaenaf yn ein hystyriaethau drwy gydol y broses ddeddfwriaethol gymhleth a phellgyrhaeddol hon. Dyma oedd pam y gwnaethom ni wthio am Fil o’r fath—oherwydd y dystiolaeth glir a fynegwyd gan blant oedd â phrofiad byw am yr angen am newid.362
Pwrpas ein gwelliannau yn y grŵp yma felly ydy mynd i’r afael â’r ffaith bod rhy ychydig o blant sy’n byw mewn gofal preswyl yng Nghymru yn parhau i fod yn ymwybodol o’u hawliau i wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae plant sydd yn y sefyllfa yma yn aml yn fregus a gydag anghenion dyrys, sydd yn arbennig o amlwg os ydyn nhw wedi’u lleoli bellteroedd o'u hawdurdod cartref. Mae eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol yn allweddol i fynd i’r afael â hyn. Un o brif fanteision eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol ydy bod gan eiriolwyr ddealltwriaeth gyffredinol o'r cartref cyfan a'r gofal y mae plant yn ei dderbyn. Gall hyn helpu i nodi sefyllfaoedd lle gallai fod yna gam-drin neu niwed systematig.363
Fel y saif pethau, nid yw mynediad at eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol yn gyfartal ledled Cymru, yn enwedig ymysg y darparwyr annibynnol presennol. Yn ôl adroddiad 2019, ‘O’r Golwg—Allan o Hawliau? Darparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol mewn Cartrefi Plant yng Nghymru’, dim ond rhwng 5 a 10 y cant o gartrefi annibynnol oedd gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau eiriolaeth preswyl, gyda diffyg crebwyll amlwg yn y sector o ran hawliau statudol plant i gael eiriolwr.364
Yn dilyn yr adroddiad hwn, yn 2023, fe argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lywodraeth Cymru y dylid diwygio’r rheoliadau ac arolygu Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i sicrhau bod darpariaeth eiriolaeth ymwelwyr preswyl yn ofyniad penodol er mwyn cofrestru fel darparwr cartref gofal plant yng Nghymru. Yn anffodus, fe wrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yma, er gwaethaf y pwyllgor yn ailadrodd yr achos yma mewn llythyr i gadeirydd dros dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngorffennaf 2024.365
Mae sicrhau bod gan blant mewn gofal ffordd i rannu eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'r Bil yn effeithio arnynt yn negyddol, ac os y bydd o, yna bydd eiriolaeth ymweliadau preswyl yn creu llwybr er mwyn i’w pryderon gael gwrandawiad ar bob cam o’r cyfnod pontio. Bydd eiriolaeth ymweliadau preswyl yn arbennig o fanteisiol yn hyn o beth oherwydd dealltwriaeth eiriolwyr o ddeinameg y cartref cyfan, y staff a’r plant sy’n byw yno. Rydym ni felly wedi cyflwyno’r gwelliannau yma er mwyn cydnabod y pwysigrwydd o barchu llais y plant trwy gydol y broses o drawsnewid darpariaeth gofal yn y sector.366
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog a’r Llywodraeth wrthod ein gwelliannau ar y sail bod gan lywodraeth leol gyfrifoldeb statudol eisoes i ddarparu gwasanaethau o’r fath. Tra fy mod i'n cydnabod yr angen i beidio â dyblygu cyfrifoldebau statudol yn ddiangen, y gwirionedd yw nad yw’r gyfraith fel y mae’n ymddangos ar hyn o bryd yn sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau eirioli yn ymarferol, fel mae’r ystadegau soniais amdanynt ynghynt yn tystio.367
Dwi’n poeni hefyd na wnaeth ymateb y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2 adlewyrchu ar y pwynt penodol a godwyd gan y pwyllgor plant o’r angen am newidiadau i’r Ddeddf gofal cymdeithasol 2016, sydd â chefnogaeth eang gan fudiadau ac elusennau perthnasol yn y sector. Rydyn ni wedi penderfynu felly ailgyflwyno’r gwelliant yma ar gyfer Cyfnod 3, gyda’r gobaith y bydd y Llywodraeth yn barod i ymgysylltu yn fwy adeiladol ar y mater yma. Rydyn ni hefyd wedi ceisio adlewyrchu pryderon y Gweinidog ynglŷn â dyblygu cyfrifoldebau statudol, gan ychwanegu cymal i greu’r eglurder bod y gwelliant yn ymwneud ag eiriolaeth ymweliadau preswyl ar gyfer y cartref cyfan, ac na ddylai hyn gael ei drysu â’r cynnig cyfreithiol sydd eisoes ar y llyfr statud. Diolch.368
Wrth wneud fy nghyfraniad cyntaf i'r Bil hwn ers cymryd yr awenau o ran y ddeddfwriaeth hon gan fy nghyd-Aelod, Altaf Hussain, hoffwn gofnodi fy niolch iddo ef ac i'r pwyllgor iechyd a chymdeithasol am yr holl help maen nhw wedi'i roi i fi, fy staff a chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr wrth i ni baratoi i graffu ar y Bil hwn.369
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ailadrodd safbwynt fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau ar y ddeddfwriaeth hon, sef ein bod ni'n credu'n sylfaenol ei bod yn mynd yn rhy bell. Yn y cyfnod cyn y Bil hwn, cawsom ein harwain i gredu gan y Gweinidog mai ei bwriad polisi oedd mynd i'r afael ag elw gormodol, ac nad yr elw ei hun oedd y gelyn yma. Fodd bynnag, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael ein camarwain gan y Gweinidog, gan ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog yn benderfynol o fwrw ymlaen â Bil sy'n atal endidau sy'n gwneud elw rhag gweithredu yn y sector hwn yn gyfan gwbl, hyd yn oed os nad ydynt, yn y bôn, yn cael eu ysgogi gan elw.370
Yn hytrach na thargedu'r cwmnïau mawr sy'n gwneud hyn er mwyn cynyddu gwerth cyfranddalwyr, heb roi ystyriaeth go iawn i'r plant yn eu gofal, mae'r Gweinidog yn targedu llawer iawn o fusnesau bach sy'n gweithredu yn y sector, y mae llawer ohonynt yn cael eu rhedeg gan gyn-weithwyr cymdeithasol, sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy mewn sector sydd eisoes yn wynebu heriau o ran capasiti.371
Nid yw'r Gweinidog hyd yn oed wedi bod yn barod i fynd i'r afael â'r mater o gwmnïau cydweithredol ac endidau sy'n eiddo i weithwyr yn cael eu rhwystro rhag darparu gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn ymddangos yn ymagwedd rhyfedd iawn gan Weinidog sy'n aelod o'r Blaid Gydweithredol. Mae hon yn ymagwedd a fydd ond yn gwaethygu'r heriau a wynebir eisoes gan y sector hanfodol hwn, gan ei gwneud yn glir i bawb ei bod yn ymddangos bod Cymru yn y sector hwn ar gau ar gyfer busnes, hyd yn oed os yw'ch busnes yn helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.372
Prif ddiben fy ngwelliannau a gyflwynwyd heddiw yw codi'r mater i'w drafod unwaith eto. I'r perwyl hwnnw, fe ddechreuaf drwy siarad am fy ngwelliant yn y grŵp hwn, gwelliant 58, sy'n ceisio gweithredu argymhelliad y pwyllgor i gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnig gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc y gallai'r Bil hwn effeithio ar eu trefniadau gofal. Yng Nghyfnod 2, mae'r gwelliant hwn wedi'i ddrafftio fel darpariaeth annibynnol gyda manylion manylach y cynnig eiriolaeth i'w nodi mewn rheoliadau, gan adlewyrchu'r dull a ddefnyddiwyd yn adran 178 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.373
Yn flaenorol, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn ar y sail ei fod yn dyblygu darpariaethau sy'n bodoli eisoes ac y gallai achosi dryswch, sydd, yn fy marn i, yn ddadleuon eithaf gwan. Efallai nad fy ngwelliannau i yw'r rhai mwyaf cain i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond mae'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, ac mae ymrwymiad y Gweinidog i hyn wedi bod yn eisiau.374
Rwyf hefyd yn hapus i gadarnhau i Mabon ap Gwynfor y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob gwelliant arall yn y grŵp hwn. Diolch, Llywydd.375
Y Gweinidog, Dawn Bowden.376
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei gefnogaeth, ac am gefnogaeth Plaid Cymru i ddatblygu'r Bil hwn fel yr ydym wedi mynd drwyddo? Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. James Evans, roeddwn i'n rhagweld na fyddech chi'n sefyll i fyny ac yn gwneud sylwadau mor gefnogol ag y gwnaeth Mabon ap Gwynfor ar y dechrau, ond dyna'r hyn rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl.377
Byddaf yn ymdrin yn benodol â'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Yn anffodus, er gwaethaf y ffaith bod Mabon wedi bod yn hynod gefnogol yma, ac rwy'n deall yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni gyda'i welliant 78, ni allaf gefnogi gwelliant 78, a fyddai'n golygu bod gallu'r darparwr gwasanaeth i gael ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth o dan gyfyngiad mewn cartref gofal yn amodol ar y darparwr yn gwneud trefniadau ar gyfer cysyniad newydd o'r enw 'gwasanaeth eiriolaeth ymwelwyr annibynnol cofrestredig' i fod ar gael ar gyfer pob cartref lle mae'n darparu gwasanaethau cartref gofal. Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yng Nghyfnod 2, fwy neu lai, ond gyda rhywfaint o wybodaeth ychwanegol gobeithio.378
Fel yr eglurwyd yng Nghyfnod 2, ac yn fy llythyr dyddiedig 17 Rhagfyr, mae'r plant sy'n byw mewn gwasanaethau cartref gofal cofrestredig yn blant sy'n derbyn gofal, ac mae ganddynt gynnig sefydlog a osodir fel dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol o eiriolaeth broffesiynol annibynnol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd ar gael iddynt unrhyw bryd. Mae'r gwelliant arfaethedig yn gorgyffwrdd yn sylweddol â'r ddarpariaeth bresennol yn adran 178 o Ddeddf 2014. Byddai creu set newydd o ddyletswyddau sy'n gorgyffwrdd yn ddryslyd i'r rhai sy'n ceisio deall y gyfraith, yn anad dim oherwydd ei fod yn codi amheuaeth ynghylch bwriad, effeithiolrwydd a chymhwyso'r darpariaethau presennol. Am yr un rhesymau, ni allaf gefnogi'r gwelliannau cysylltiedig 77, 83, 87 ac 88.379
Yn yr un modd, ni allaf gefnogi gwelliant 58 James Evans ynghylch gofynion newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu a rhoi cyhoeddusrwydd i gyngor, cymorth a chynrychiolaeth i blant a phobl ifanc. Mae hyn oherwydd y byddai'n dyblygu gofynion presennol ar awdurdodau lleol yn Neddf 2014 sy'n ymwneud â darparu cymorth i wneud sylwadau a'r angen i roi cyhoeddusrwydd i hyn.380
Fel rhan o'n gweithgarwch cyfathrebu arfaethedig, rydym wedi llunio dogfen ddrafft ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n esbonio elfennau allweddol y Bil a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw. Rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sefydliadau hynny sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau yn gallu cael eu clywed a bod eu hanghenion cyfathrebu parhaus yn cael eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £550,000 bob blwyddyn i awdurdodau lleol i gomisiynu'r cynnig statudol a gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.381
Mae effeithiolrwydd eiriolaeth a'r nifer sy'n manteisio arni yn cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru drwy'r grŵp dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, sy'n cynnwys awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth. Mae safonau ymarfer a chanllawiau arfer da ar gyfer yr ymwelwyr annibynnol hyn eisoes ar waith hefyd, ac fe'u cynhyrchwyd gan Wasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, NYAS Cymru, mewn partneriaeth â grŵp gweithredol o gynrychiolwyr rhanddeiliaid.[1]382
O fewn y fframwaith statudol presennol, mae'r cod ymarfer—rhan 10, eiriolaeth—yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth yn gyffredinol. I gyd-fynd â hyn, mae rhan 6 y cod ymarfer—plant sy'n derbyn gofal—yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran eiriolaeth i blant sy'n derbyn gofal.383
Mabon ap Gwynfor i ymateb. 384
Dim byd pellach i'w ddweud. 385
Dim byd i'w ddweud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 77? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gymrwn ni bleidlais ar welliant 77. Felly, agor y bleidlais ar welliant 77. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 77 wedi ei wrthod.386
Gwelliant 77: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4 sy'n ymwneud ag 'endid er elw rhesymol'. Gwelliant 42 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar James Evans i gynnig y prif welliant. James Evans. 387
Cynigiwyd gwelliant 42 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o siarad am welliannau 42 i 45 a gyflwynwyd yn fy enw i, sy'n ceisio herio'r prif fater gyda'r Bil hwn. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn wirioneddol siomedig gyda'r cyfeiriad y mae'r Bil hwn wedi'i gymryd, ac mae'n drueni bod y Gweinidog wedi dweud mai dyna maen nhw wedi dod i'w ddisgwyl gan y Ceidwadwyr Cymreig. Yr hyn rydym yn ei wneud yw chwistrellu ychydig o synnwyr cyffredin i'r ddeddfwriaeth yma yn y Siambr hon. Roeddem yn fwy na pharod i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhai y gellir ystyried yn rhesymol eu bod yn camfanteisio ar y sector er elw yn unig. Ond ni allwn â chydwybod dda gefnogi mesurau o'r fath pan yw'r Bil wedi'i ddrafftio mewn ffordd a fyddai'n paentio cynifer o fusnesau bach yma yng Nghymru â'r un brwsh. 388
Gadewch inni fod yn glir: ni fydd y Bil hwn yn cynyddu capasiti yn y sector. Mewn gwirionedd, bydd bron yn sicr yn ysgogi rhywfaint o'r capasiti presennol i adael yn ogystal â mygu ehangu yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru ei wisgo i fyny sut bynnag y dymuna, ond dyna'r hanfodion, a phan fo yna gymaint o bwysau, fel sydd ar hyn o bryd, mae'r fath beth yn annerbyniol. Ac fe glywais i'r dystiolaeth honno'n uniongyrchol fy hun pan oeddwn i ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar blant sy'n derbyn gofal ledled Cymru. 389
Felly, mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ychwanegu diffiniad o 'elw rhesymol', a fyddai'n cyd-fynd yn well â'r bwriad polisi gwreiddiol a nodwyd o fynd i'r afael â gorelwa ar ofal plant a phobl ifanc yng Nghymru. Barn fy rhagflaenydd, Altaf, a arweiniodd ar y Bil hwn i ddechrau, a fy marn i hefyd, yw bod caniatáu ar gyfer elw rhesymol, i'r graddau nad yw'n cael ei ddefnyddio i dalu cyfranddalwyr y tu hwnt i gyflogau, yn gyfaddawd teg. Honnodd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 y byddai dull gweithredu o'r fath yn achosi ansicrwydd wrth symud ymlaen heb ddiffiniadau pendant. Fodd bynnag, nid wyf yn gweld sut mae'r dull absoliwt hwn yn well. Mae'n well cael rhywfaint o'r hyblygrwydd, gan adael y drws ar agor ar gyfer fersiwn fwy derbyniol o Fil, na mynd am bob math o elw, er hwylustod yn unig. 390
Rwy'n annog yr holl Aelodau i ystyried y goblygiadau niweidiol y gallai'r Bil hwn, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, eu cael, a dull y Gweinidog, a gofynnaf i'r holl Aelodau gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch, Llywydd.391
Dwi'n llawn cydnabod bwriad da y gwelliannau yma i sicrhau nad yw capasiti'r sector yn cael ei gyfyngu'n ormodol gan delerau'r Bil. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni yn parhau i bwysleisio na ddylai pasio deddfwriaeth o'r fath gael ei ddehongli fel beirniadaeth gyffredinol o ddarparwyr annibynnol presennol, gan fod llawer ohonynt ar draws Cymru yn gweithredu i safonau uchel eisoes. Ac felly, fe ddylai pob ymdrech gael ei wneud i'w hannog a'u cefnogi i newid i'r model gweithredu newydd dros y cyfnod pontio sydd i ddod. 392
Fodd bynnag, yn ein barn ni, mi fyddai'r gwelliannau yma yn tanseilio bwriad sylfaenol y ddeddfwriaeth i ddileu elw o'r sector, sef un o'r blaenoriaethau pennaf yn ystod ein cytundeb cydweithio gyda'r Llywodraeth. Mae o hefyd yn werth pwysleisio nad oes diffiniad clir o beth a olygir gan 'endid elwa rhesymol', a bydd y diffyg eglurder yma yn debygol iawn o greu cymhlethdodau ymhellach ymlaen, gan lyncu adnoddau cyhoeddus yn ddiangen. 393
Yn ein barn ni, felly, mae'r mesurau sydd eisoes yn y Bil i symud tuag at fodel di-elw heb eithriadau yn eglur ac yn gyson, gan gynnig datrysiad blaengar i’r achos a amlygir gan adroddiad y CMA dros ddiwygio yn y sector. Am y rhesymau yma, felly, dwi’n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn.394
Yn fy nghyfraniad cyntaf i'r Bil hwn, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei hymrwymiad i'r mater penodol hwn.395
Mae'r achos dros ddileu elw mewn cartrefi gofal yn glir, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud mai'r llais sydd ar goll yma o'r Siambr hon heno yw llais plant a phobl ifanc. A thro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw eisiau rhoi elw i gwmnïau na busnesau na phobl, p'un a yw'n swm bach neu'n swm mawr. Rydym wedi clywed hynny ac rydym wedi clywed hynny yn y pwyllgorau hefyd sydd wedi clywed tystiolaeth ar hyn. Mae plant sydd â phrofiad o ofal a phlant eraill wedi dweud eu bod nhw am gael eu trin fel pobl, nid elw, ac eto dyma welliant sy'n ceisio cyflwyno drwy'r drws cefn. Felly, rwy'n synnu, er gwaethaf lleisiau clir iawn plant a phobl ifanc, a'r trydydd sector a mudiadau gwirfoddol, ac, fel y dywedais i, yn bwysicaf oll, lleisiau'r plant hynny, y dylai hyn ddigwydd.396
Rhaid i ni sefyll yn gadarn yn erbyn y syniad bod endid elw rhesymol o ran bywydau babanod, plant a phobl ifanc. Maen nhw'n fodau dynol â gwerth ac urddas cynhenid. Nid ydym byth eto am weld pobl yma yng Nghymru yn gwneud elwa ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Nid wyf am i ni fod yn naïf am yr anawsterau y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu peri, a'r heriau amlwg i awdurdodau lleol hefyd. Ond yr egwyddor a'r gwerth sydd bwysicaf i ni yw nad yw ein plant a'n pobl ifanc yma i wneud elwa i unrhyw un, yn unrhyw le. Felly, rwy'n eich annog i bleidleisio yn erbyn hyn yn bendant. Diolch yn fawr iawn.397
I fod yn onest, mae gen i gydymdeimlad â'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno, ond rwy'n credu bod fy safbwynt i yn debyg i un Mabon ap Gwynfor o ran y diffyg eglurder am hyn. Rwy'n cyfeirio'n benodol yma at rôl cwmnïau cydweithredol o fewn y system iechyd a gofal. Roedd hi'n siomedig gweld mewn datganiad ysgrifenedig nôl ym mis Tachwedd bod cwmnïau cydweithredol fel model ar gyfer darparu gwasanaethau yma wedi'u diystyru, bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â hyn. Nawr, ie, iawn, gall cwmnïau cydweithredol fod yn fentrau gwneud elw, ond rwy'n credu y gall fod yn fwy cynnil na hynny hefyd. Felly, rydym yn gwybod, yn ôl eu natur, bod cwmnïau cydweithredol yn ddemocrataidd, mae hawliau pleidleisio i'r gweithwyr yn y cwmnïau cydweithredol hynny, ond mae yna hawliau pleidleisio hefyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, ac enghraifft dda o hynny, mewn gwirionedd, yw Cartrefi Cymru yn fy rhanbarth i, ond sy'n gweithredu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Felly, rwy'n credu bod rôl glir yma i gwmnïau cydweithredol ei chwarae wrth rymuso ein cymunedau, wrth rymuso ein defnyddwyr gwasanaethau. Felly, hoffwn gael ychydig o eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn â beth allai eu bwriadau fod yn y dyfodol o ran cwmnïau cydweithredol, ac a yw hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn barod i'w ddatblygu a'i ystyried.398
Y Gweinidog, Dawn Bowden.399
Diolch, Llywydd. Wel, fyddwch chi ddim yn synnu clywed na allaf gefnogi gwelliant 42 James Evans, sy'n agor yr amod 'mathau' i ddiffiniad ehangach i ddarparu ar gyfer modelau sy'n 'unrhyw endid er elw rhesymol', fel y nodir yng ngwelliant 43.400
Rwyf wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn mai'r bwriad polisi y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon yw cael gwared ar yr holl elw. Nid yw'n ymwneud â mynd i'r afael ag elw gormodol na gorelwa yn unig. Felly, mae'r cysyniad o 'elw rhesymol' yn gwrthdaro ag amcan sylfaenol y cynigion sy'n ceisio dileu'r gallu i dynnu unrhyw lefel o elw o ofal plant yn y pen draw, am yr union resymau a nodwyd gan Jane Dodds. Felly, ni allaf nodi sut y gallai 'unrhyw endid er elw rhesymol' fod yn gydnaws ag amcanion y ddeddfwriaeth hon. Byddai hefyd yn wyriad o'r cysyniad o gael modelau wedi'u diffinio'n glir iawn ar wyneb y Bil i roi'r eglurder llwyr y mae darparwyr wedi gofyn amdano o ran pa fath o ymgymeriad sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon.401
Gweinidog, a wnewch chi gymryd ymyriad?402
Wrth gwrs.403
Diolch. Rwy'n synnu braidd o glywed nad prif amcan y ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd yw gweld canlyniadau gwell i'n plant, p'un a yw hynny'n endid er elw neu'n endid nid-er-elw. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod yr amcan yn bell i ffwrdd, mewn gwirionedd, o ganlyniadau i'n plant, yn sicr o'r hyn sydd orau. Ond tybed, gyda hynny mewn golwg, pam rydych chi'n hapus i gyfiawnhau gwarged i sefydliadau ei wneud, ac nid elw, a sut rydych chi'n gweld y gwahaniaeth rhwng gwarged ac elw.404
Wel, rwy'n credu bod hynny braidd yn annidwyll, Sam, oherwydd mae'n amlwg iawn o'r—[Torri ar draws.] Roedd amcan y ddeddfwriaeth pan wnes i ei chyflwyno yng Nghyfnod 1 a thrwy Gyfnod 2 yn glir iawn, iawn, yn fy marn i. Felly, mae'n ymwneud â chael gwared ar elw, ond mae'n ymwneud â chael gwared ar elw er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyflawni canlyniadau llawer gwell i blant wrth ddarparu math gwahanol o fodel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.405
O ran yr ail bwynt roeddech chi'n ei wneud am elw yn hytrach na gwarged, yr hyn rydym yn ei wybod yw bod yn rhaid i bob sefydliad nid-er-elw weithio i warged oherwydd bod ganddo gostau rhedeg ac mae'n rhaid iddo dalu ei weithwyr. Dydy hynny ddim yr un peth â gwneud elw er budd personol cyfranddalwyr, a dyna yw pwrpas hyn.406
Os caf droi, felly, at welliannau 44 a 45, mae'r rhain yn ceisio diffinio'r 'endid er elw rhesymol' fel y nodir yng ngwelliant 42, gyda gwelliant 44 yn diffinio 'endid er elw rhesymol', a gwelliant 45 yn diffinio 'elw rhesymol'. Ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd o ystyried eu bod yn ymwneud â'r diffiniad o fodel 'elw rhesymol', fel yr amlinellais yn gynharach, mae hyn yn gwrthdaro ag amcan sylfaenol y cynigion, sy'n ceisio cael gwared ar unrhyw lefel o elw.407
Yn olaf, mae'r gwelliant yn diffinio 'endid er elw rhesymol' ymhellach trwy gymhwyso elw at ddibenion ailfuddsoddi a thalu cyflogau'n unig. Nawr, nid yw ailfuddsoddi wedi'i ddiffinio yn hwn nac yn unrhyw welliannau cysylltiedig eraill, gan adael y cwmpas yn aneglur. Yn ogystal, byddai talu cyflogau fel arfer yn cael ei ystyried yn gostau gweithredu—y pwynt roeddwn i'n ei wneud—a dydyn nhw ddim yn cael eu dosbarthu fel elw, ac eithrio, er enghraifft, mewn cynlluniau tâl sy'n gysylltiedig ag elw neu ddifidendau. Unwaith eto, mae hyn yn aneglur, a, sut bynnag, ni allaf gefnogi'r gwelliant cyffredinol, sy'n rhoi'r gwrthdaro sylfaenol rhwng yr endid arfaethedig a bwriad y Bil.408
Os gallaf droi, felly, at bwynt Luke Fletcher am gwmnïau cydweithredol, rwy'n credu ei fod yn bwynt dilys iawn i'w godi. Doedd hi ddim yn hawdd i mi wneud penderfyniad ar hyn. Rwy'n aelod o'r Blaid Gydweithredol fy hun, fel y mae llawer o'm cyd-Aelodau, felly rwy'n ymwybodol o bryderon y Blaid Gydweithredol a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Felly, os caf ofyn am eich amynedd, rwy'n credu y gwna i dreulio ychydig o amser yn esbonio pam, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig. Er bod cwmnïau cydweithredol yn cael eu hannog yn gryf gan Lywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i gwmnïau cydweithredol fel y'u diffinnir o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 gael eu sefydlu er budd aelodau'r cwmni cydweithredol, ac nid yw hynny'n cyd-fynd â'n polisi, sy'n nodi mai lles plant yw'r prif bwrpas.409
Nawr, er bod gan gymdeithas gydweithredol elfen nid-er-elw, mae'n ofynnol iddi osod yn ei rheolau ei hun o ran y ffordd y bydd elw'r gymdeithas yn cael ei ddefnyddio. Mae gofyniad nid-er-elw cymdeithas gydweithredol yn destun cyfyngiad, sef na ddylai talu elw i'r rhai sydd wedi buddsoddi yn y fenter fod yn brif bwrpas. Ond nid oes cyfyngiad ar ddefnyddio elw at ddibenion eraill, er enghraifft i wobrwyo'r rhai sy'n gweithio iddi neu ddarparu gwasanaethau iddi, a disgwylir mai'r prif ffocws fydd budd aelodau'r gymdeithas gydweithredol, ac unwaith eto, nid yw hynny'n cyd-fynd â'n polisi. Felly, er na all cymdeithas gydweithredol weithredu gyda'r nod o wneud elw yn bennaf ar gyfer talu llog, difidendau neu fonysau ar arian a fuddsoddwyd neu a adneuwyd neu a fenthyciwyd i'r gymdeithas i unrhyw berson arall, mae'r defnydd o'r gair 'yn bennaf' yn ei adael yn agored i amcanion a rheolau cymdeithas gydweithredol gynnwys talu elw i'w haelodau. Yn yr un modd, gydag ymddiriedolaethau perchnogaeth gweithwyr, mae gennym ystyriaeth debyg.410
Mae'r materion uchod yn dangos y cymhlethdodau, rwy'n credu, sy'n gysylltiedig â rhai modelau, y gall ymddangos i ddechrau eu bod yn cydymffurfio â bwriad y polisi ond, ar ôl ymchwilio ymhellach, y mae materion sylfaenol sy'n golygu nad ydynt yn gydnaws. Dyna pam, yn rhannol, rydym wedi mabwysiadu'r dull o restru mathau penodol o ymgymeriad yn adran 6A(4) i roi eglurder i'r sector ar y modelau gweithredu derbyniol. Ond rwy'n gwybod, mewn llawer o achosion, bod gofal rhagorol yn cael ei ddarparu gan aelodau'r sefydliadau hyn sy'n gweithredu yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r darparwyr hyn yn gallu parhau i weithredu drwy ailgyflunio ag un o'r modelau nid-er-elw a nodir ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, rwy'n gwerthfawrogi y bydd hynny'n benderfyniad y bydd angen i ddarparwyr unigol ei ystyried yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol. Ond, fel Llywodraeth, rydym am gefnogi darparwyr yn hyn drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus.411
James Evans i ymateb.412
Diolch, Llywydd. Mae'n ymddangos i mi, unwaith eto, bod hyn yn cael ei ysgogi'n fwy ideolegol ynghylch cael gwared ar elw, ac nid am y plant a'r ansawdd gofal gorau a'r canlyniadau gorau i'r plant hynny. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn y Senedd hon ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chlywais gan y plant hynny'n uniongyrchol, ac ni throdd yr un ohonynt a dweud, 'Mae angen i ni ddileu elw o ofal.' Yr hyn a wnaethon nhw ddweud wrthyf oedd, 'Mae angen gwell canlyniadau a gwell gofal arnom' i'r bobl a oedd wedi dod i'n gweld ar y pwyllgor hwnnw. Nid unwaith y clywais am ddileu elw o ofal. Roedd yn bolisi yn cael ei wthio gan—[Torri ar draws.] Iawn, mi dderbyniaf ymyriad, Sioned.413
Eisteddais ar y pwyllgor hwnnw ochr yn ochr â chi, ac fe glywsom ni'n bendant y bobl ifanc hynny'n dweud wrthym sut roedden nhw'n teimlo eu bod yn lluniau mewn catalog ac yn cael eu gweld fel cynnyrch. Mae'n anonest i chi ddweud na chlywsoch chi hynny, oherwydd fe glywsom ni hynny, ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi clywed hynny.414
Mae'n ymwneud â chanlyniadau i blant, Sioned, ac nid wyf yn credu, mewn system sydd o dan bwysau enfawr, enfawr ar hyn o bryd, pan nad oes gennym y capasiti yn y system, mai cael gwared ar ddarparwyr da, cadarn sy'n gyn-weithwyr cymdeithasol o'r system yw'r ffordd fwyaf priodol o reoli'r system ofal ledled Cymru. Mae gen i gydymdeimlad dwfn iawn â'r holl blant hynny mewn gofal ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'r plant hynny'n aros gyda mi bob dydd yn gwneud y gwaith yma. Mae'n ymwneud â chanlyniadau i'r plant hynny, a dydw i ddim—[Torri ar draws.] Na, rwyf i i'n mynd i orffen nawr, Lee. Nid wyf yn credu bod peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn yn mynd i sicrhau gwell canlyniadau—bydd yn eu gwneud yn waeth. Felly, rwy'n dweud wrth bawb ar draws y Siambr hon i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i heddiw.415
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 42. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi'i wrthod.416
Gwelliant 42: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 43 (James Evans).
Wedi ei gynnig.419
Ydi, mae'n cael ei gynnig. 420
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 43 wedi'i wrthod.421
Gwelliant 43: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 44 (James Evans).
Wedi ei gynnig.424
Mae'n cael ei symud. Os na fydd gwelliant 44 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 45 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 44. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi ei wrthod. Mae gwelliant 45 yn methu.425
Gwelliant 44: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 45.
Felly, gwelliant 78 sydd nesaf. Mabon ap Gwynfor, ydy e'n cael ei symud?426
Cynigiwyd gwelliant 78 (Mabon ap Gwynfor).
Symud.427
Os gwrthodir gwelliant 78, bydd gwelliant 88 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 78? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 78, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 78 wedi ei wrthod.428
Gwelliant 78: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 88.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol.431
Ydy, mae gwelliant 7 wedi ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei gymeradwyo.432
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol.435
Yn ffurfiol.436
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei dderbyn.437
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 5. Mae'r pumed grŵp yn ymwneud â'r gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau presennol. Gwelliant 9 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad i'r grŵp—Dawn Bowden.438
Cynigiwyd gwelliant 9 (Dawn Bowden).
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud â'r wybodaeth a ddangosir yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau a gedwir gan Weinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn benodol, mae'n ymwneud â'r wybodaeth yn y gofrestr am ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol y mae'r Atodlen 1A newydd i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu ar ei gyfer.439
Mae'r gwelliannau a wnaed gan y Bil i Ddeddf 2016 yn ymdrin â'r angen i'r gofrestr adlewyrchu'r categori newydd o wasanaethau plant o dan gyfyngiad, a hefyd y gwahaniaeth newydd rhwng darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n ddarparwyr nid-er-elw a'r rhai nad ydynt felly. Bydd darparwyr er elw yn parhau i gael eu cofrestru a byddant yn parhau i allu gweithredu ar ôl dechrau'r cyfnod trosiannol, er y byddant yn destun cyfyngiadau.440
Unwaith y bydd y gofyniad i awdurdodau lleol leoli gyda darparwyr nid-er-elw yn dechrau, ar yr amod bod hyn yn gyson â buddiannau'r plentyn, bydd gan yr agweddau hyn ar statws cofrestru darparwr swyddogaeth bwysig wrth alluogi awdurdodau lleol i wahaniaethu rhwng y ddau fath o ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.441
Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn newid y ffordd y bydd y gwahaniaeth mewn statws yn cael ei fynegi ar y gofrestr, o gyfeirio at ddarparwyr sy'n bodloni'r gofyniad nid-er-elw i gyfeirio at ddarparwyr sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad. Bydd darparwyr nid-er-elw gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n cofrestru felly gyda'r rheoleiddiwr yn profi eu statws nid-er-elw ar adeg cofrestru, ond bydd eu cydymffurfiaeth barhaus â'r gofyniad yn cael ei adolygu gan y gall y darparwr gael newidiadau cyfansoddiadol neu sefydliadol sy'n cwestiynnu eu statws nid-er-elw, gan arwain at gamau craffu neu orfodi ar ran y rheoleiddiwr. Diben y gwelliannau, felly, yw sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir ar y gofrestr yn mynegi'n fwy cywir yr agwedd newydd bwysig hon ar statws cofrestru darparwr.442
Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, rwyf wedi cyflwyno cyfres o welliannau i'r Bil, oherwydd, yn anffodus, dyma achlysur lle mae newid eithaf technegol yn gofyn am nifer sylweddol o welliannau. I ddechrau, mae gwelliant 24 yn diwygio adran 9 o'r Bil. Mae'r gwelliant hwn yn dileu'r gofyniad, mewn perthynas â darparwr sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran newydd 6A(1), am gofnod yn y gofrestr i ddangos bod y darparwr yn bodloni'r gofyniad. Yn hytrach, effaith y gwelliant yw ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn dangos bod y darparwr yn ddarostyngedig i'r gofyniad.443
Mae gwelliant 24 hefyd yn ychwanegu gofyniad bod rhaid i gofnod o'r fath yn y gofrestr ddangos bod yr amod yn adran 7(3)(aa) yn cael ei osod ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw. Mae'r amod hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gwasanaeth hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw amgylchiadau pan nad ydynt bellach yn bodloni'r gofyniad yn adran 6A(1). Dylai hyn fod yn gwneud safle'r darparwr yn gliriach yng nghofnod y gofrestr.444
Adlewyrchir y newid a wnaed drwy welliant 24 yn Atodlen 1A i Ddeddf 2016 drwy welliant 10, sy'n diwygio paragraff 2(3) o'r Atodlen i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo ddangos nad yw'r darparwr yn ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016 i fod yn nid-er-elw. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn dileu'r gofyniad bod yn rhaid i'r cofnod yn y gofrestr ddangos nad yw'r darparwr yn bodloni'r gofyniad adran 6A(1).445
Mae gwelliant 10 yn cyflwyno'r gofyniad hwn ochr yn ochr â gofyniad ychwanegol bod y gofrestr yn dangos nad yw'r amod yn adran 7(3)(aa) o Ddeddf 2016 yn cael ei orfodi ar gofrestriad y darparwr mewn perthynas â'r gwasanaeth presennol.446
Mae gwelliant 11 yn dileu'r cyfeiriad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff 2(3) o Atodlen 1A ar hyn o bryd at geisiadau a wneir gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 6. Y rheswm am hyn yw nad yw darparwyr gwasanaethau presennol yn gallu gwneud ceisiadau i gofrestru ar sail hollol newydd, o ystyried eu bod eisoes wedi'u cofrestru i ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig.447
Mae gwelliant 9 yn darparu is-baragraff newydd o fewn paragraff 2 o Atodlen 1A, sy'n diffinio'r term 'gwasanaeth presennol' at ddibenion yr Atodlen. Mae gwelliannau 13, 14 ac 16 yn welliannau eglur sy'n adeiladu ar y gwelliant hwn.448
Mae sawl gwelliant yn y grŵp hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 1A ymhellach. Mae gwelliant 17 yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu o dan y trefniadau trosiannol yn Atodlen 1A wneud cais am eu cofrestriad mewn perthynas â'r gwasanaeth presennol i fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran 6A(1), y gofyniad i fod yn endid nid-er-elw. Mae gwelliant 18 yn rhagnodi amgylchiadau pellach lle mae'n rhaid i ddarparwr gwasanaeth presennol wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer cofrestru'r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i adran 6A(1) o Ddeddf 2016. Ac mae gwelliant 21, sy'n ganlyniadol ar welliant 24, yn ei gwneud yn ofynnol i'r gofrestr gael ei diweddaru yn dilyn cais llwyddiannus o dan Atodlen 1A, is-baragraff 4(2).449
Gan droi at welliant 22, mae hwn yn ychwanegu paragraff newydd i Atodlen 1A i ddarparu diffiniadau o 'blant sy'n derbyn gofal' a'r 'cofrestr' ar gyfer dehongli'r Atodlen. Mae gwelliant 15 yn ganlyniadol ar welliant 22, gan ei fod yn dileu'r diffiniad o 'blant sy'n derbyn gofal' a geir yn gynharach yn yr Atodlen, sydd wedi'i symud i'r paragraff dehongli hwn trwy welliant 22.450
Yn olaf, yn y grŵp hwn, mae dau welliant i adran 81A newydd o Ddeddf 2014, a fewnosodir gan adran 13 o'r Bil. Mae gwelliannau 26 a 27 yn ganlyniadol ar welliant 24 ac yn diwygio'r cyfeiriadau yn yr adran honno at ddarparwr gwasanaeth y cofrestrwyd ei fod yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016. O dan y gwelliant, daw'r rhain yn gyfeiriadau at ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1). Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau hyn. Diolch yn fawr.451
Does gen i ddim siaradwyr ar y grŵp yma. Felly, wrth gymryd nad yw'r Gweinidog eisiau dweud mwy, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 9 wedi ei dderbyn.452
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 10 yn cael ei symud, Gweinidog?453
A yw'n cael ei gynnig?454
Cynigiwyd gwelliant 10 (Dawn Bowden).
Rwy'n ei gynnig.455
Ydy, mae gwelliant 10 wedi ei symud. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn. 456
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 11, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud? 457
Cynigiwyd gwelliant 11 (Dawn Bowden).
Rwy'n ei gynnig.458
A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 11? Nac oes.459
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 12. Ydy e'n cael ei symud, Gweinidog? 460
Cynigiwyd gwelliant 12 (Dawn Bowden).
Rwy'n ei gynnig.461
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 12? Nac oes. Felly, mae gwelliant 12 yn cael ei dderbyn. 462
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r trefniadau trosiannol ar gyfer darparwyr gwasanaethau presennol. Gwelliant 79 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac mae Mabon ap Gwynfor yn cynnig y gwelliant yma. Mabon. 463
Cynigiwyd gwelliant 79 (Mabon ap Gwynfor).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol. Ar y dechrau, dwi am ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn gweithio i elusen yn y sector, er nad ydy hi'n uniongyrchol yn gweithio yn y maes yma. 464
Pwrpas ein gwelliannau ni yn y grŵp yma ydy sicrhau na all yr amodau y caiff Gweinidogion Cymru eu gosod ar ddarparwyr gwasanaethau effeithio ar allu’r darparwyr gwasanaethau hynny i gynnig gwasanaethau cartref gofal neu wasanaethau maethu i blant sydd yn eu gofal pan fydd y cyfnod trosiannol yn dechrau. Yn syml, bydd hyn yn creu mwy o sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddarpariaeth ac ansawdd gwasanaethau o ganlyniad i’r newid yma. 465
Mae adran 4 o’r Bil yn esbonio’r amgylchiadau a fydd yn berthnasol i ddarparwyr sydd yn newid i statws dielw yn ystod y cyfnod pontio, sy’n cynnwys y cymal canlynol:466
'cyfyngiadau ar y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad y caiff y darparwr gwasanaeth ei ddarparu',467
a468
'cyfyngiadau ar y disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y caiff y darparwr ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn cysylltiad â hwy, er enghraifft drwy gyfeirio at eu hanghenion gofal a chymorth.'469
Mae’r memorandwm esboniadol hefyd yn dweud:470
'Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau i gyfyngu darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol i ddarparu lleoedd ar gyfer plant y mae eu lleoliad wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 81B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu i gyfyngu ar yr amgylchiadau pan gaiff darparwyr o’r fath dderbyn lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr. Gellid defnyddio’r pŵer hefyd i atal darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol rhag darparu lle ar gyfer unrhyw blentyn newydd ar ôl dyddiad penodol.'471
Fel y mae’r ddeddfwriaeth wedi’i drafftio, nid yw'n hollol glir beth a olygir gan472
'y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad'473
neu474
'y disgrifiad o blant sy'n derbyn gofal'.475
Mae hyn yn golygu os yw darparwr yn y sector breifat sy’n newid i fod yn ddarparwr dielw yn ddarostyngedig i amodau adran 4, mae risg y bydd yr amodau yma yn atal y darparwr rhag parhau i ddarparu ei wasanaethau i blant yn ei ofal yn ystod y cyfnod pontio.476
Gall hyn fod oherwydd bod y darparwr yn darparu'r math o wasanaeth plant cyfyngedig a gaiff ei gyfyngu gan amodau adran 4, neu oherwydd y bydd y darparwr yn cael ei gyfyngu rhag gofalu am y plant yn ei ofal, gan eu bod yn cyd-fynd â’r disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal a fydd yn cael ei gyfyngu gan amodau adran 4.477
Yn ystod Cyfnod 2, fe gadarnhaodd y Gweinidog nad bwriad adran 4 yw effeithio ar leoliadau a wnaed cyn dechrau’r cyfnod, a byddai’r rhain yn parhau heb eu hamharu. Mae hyn i’w groesawu, ond rhaid gwneud mwy i wneud hynny mor glir â phosibl ar wyneb y Bil, a dyna pam rydym ni wedi ail-gyflwyno’r gwelliant hwn.478
Fe ddywedodd y Gweinidog hefyd yn ei hymateb mai479
‘bwriad y rheoliadau o dan adran 3(1) yw cyfyngu lleoliadau gan awdurdod lleol yn Lloegr i wasanaeth er elw i amgylchiadau penodol.’480
Fodd bynnag, yn ôl y Bil yn ei eiriad presennol, byddai’r amodau yma yn effeithio ar ddarparwyr yng Nghymru. Mae adran 3(1) adran 4 o’r Bil yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru osod amodau481
‘ar ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff 2 yn gymwys iddo’,482
sef darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, y darparwyr gwasanaethau sy’n trosglwyddo i fod yn ddarparwr gwasanaeth dielw a’r sawl sy’n gwneud hynny yn ystod y cyfnod trosiannol. Mae hyn yn golygu ei bod yn enwedig o bwysig fod eglurder yn cael ei ddarparu ar wyneb y Bil na fydd darpariaethau adran 3(1), sef adran 4 o’r Bil, yn amharu ar y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwyr sydd â phlant yn eu gofal yn ystod y cyfnod pontio.483
Yn olaf, dyma’r drafodaeth sylweddol olaf sydd am fod ar y Bil yma, Bil, o’i basio i ddeddfwriaeth, fydd yn drawsnewidiol i lawer iawn, ac, fel y gallwch chi werthfawrogi, mae nifer yn ddiamynedd i’w weld yn cael ei basio ac yn gweithredu. Felly dwi am wahodd y Gweinidog i osod ar record nad bwriad y gwelliannau yma am y cyfnod trosiannol ydy i gicio’r newidiadau i’r gwellt hir, nad gwanhau'r cynnig ydy’r bwriad, ond yn hytrach i sicrhau bod gennym ni system sydd yn rhoi anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc yn flaenaf, a bod yr egwyddor greiddiol yn parhau, sef na fydd cwmnïau yn elwa ar draul plant yng Nghymru. Diolch.484
Y Gweinidog, Dawn Bowden.485
Diolch, Llywydd. Wel, mae'r grŵp hwn yn cynnwys dau welliant a gyflwynwyd gan Mabon ap Gwynfor sy'n ymwneud â'r cyfnod trosiannol. Mae gwelliant 79 yn mewnosod is-baragraff newydd rhwng paragraff 3(2) a pharagraff 3(3) o ran rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gan ddarparwyr gwasanaethau presennol. Mae'r is-baragraff newydd hwn yn cynnig na ddylai'r rheoliadau hyn effeithio ar allu'r darparwr i ddarparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad i unrhyw blentyn sydd dan ei ofal pan fydd y cyfnod trosiannol yn dechrau.486
Nawr, fel y nododd Mabon ap Gwynfor yn gwbl briodol yn ystod trafodaethau am y gwelliant hwn yn ystod Cyfnod 2, roedd pryderon y byddai'r ddeddfwriaeth fel y'i drafftiwyd yn golygu pe bai darparwr presennol yn y sector preifat yn newid i fod yn ddarparwr nid-er-elw yn ystod y cyfnod trosiannol, y byddent yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn adran 4 o'r Bil, ac o ganlyniad yn ddarostyngedig i'r amodau a osodir ar ddarparwyr drwy reoliadau a wneir o dan baragraff 3(1). Y farn oedd bod hyn yn peri risg y byddai'r amodau hyn yn atal y darparwr hwnnw rhag parhau i ddarparu gwasanaethau i blant yn ei ofal yn ystod y cyfnod trosiannol. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau nad yw hyn yn wir; pe bai darparwr presennol yn y sector preifat yn dewis mabwysiadu un o'r pedwar model nid-er-elw fel y nodir yn adran 3 y Bil, byddent yn gallu gwneud cais i amrywio eu cofrestriad fel na fyddent bellach yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 4 a'r cyfyngiadau a osodir ganddo. Fel yr eglurais yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae yna hefyd ganlyniad anfwriadol i'r gwelliant hwn sy'n achosi problem. Byddai'n galluogi darparwr er elw i leoli plentyn o fewn un arall o'i eiddo pe bai lleoliad parhaus ar waith ar ddechrau'r cyfnod trosiannol yn cael ei chwalu. Nid yw hyn yn gyson â'n bwriad polisi.487
Er na allaf gefnogi'r gwelliant hwn fel y'i drafftiwyd, mae'n cyd-fynd â'n bwriad polisi, ac, yn ystod trafodion Cyfnod 2, felly rhoddais ymrwymiad i roi ystyriaeth bellach i'r mater a'r ymatebion posibl iddo cyn Cyfnod 3. Rwyf wedi gwneud hyn, a hoffwn ailadrodd fy sicrwydd nad yw'r Llywodraeth yn dymuno tarfu ar leoliadau presennol a wnaed cyn dechrau'r cyfnod trosiannol. Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth bellach, rydym wedi dod i'r casgliad bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer pŵer deddfu ym mharagraff 3 o Atodlen 1A yn briodol ac yn gymesur, ac y byddai ymgais i gyfyngu ymhellach ar y pŵer yn debygol iawn o atal y pŵer rhag cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd, sef sicrhau nad yw darparwyr er elw yn gallu ehangu eu darpariaeth yn ystod y cyfnod trosiannol ac eithrio mewn achosion lle gwnaed lleoliadau atodol neu pan oedd amgylchiadau eithriadol eraill.488
Mae gwelliant 80 yn mewnosod is-baragraff newydd rhwng paragraff 3(2) a pharagraff 3(3) yn Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2016, a'i effaith fyddai ei gwneud yn ofynnol i reoliadau a wneir o dan baragraff 3(1) beidio ag effeithio ar allu awdurdod lleol i leoli plentyn mewn lleoliad sy'n diwallu anghenion y plentyn, gan gynnwys pan fo'r lleoliad yn lleoliad atodol. Er fy mod yn deall bwriad y gwelliant, ni allaf ei gefnogi gan na fyddai'n cyd-fynd â'n bwriad polisi i ddileu elw.489
Byddai'r gwelliant arfaethedig yn cyfyngu ar gwmpas y rheoliadau, ond trwy gyfeirio at allu awdurdod lleol i leoli plentyn mewn lleoliad sy'n diwallu anghenion y plentyn. Bydd y rheoliadau'n ymwneud â chyfyngu cwmpas y gwasanaethau y gall darparwyr eu darparu a disgrifiadau o blant sy'n derbyn gofal y gall y darparwyr eu derbyn. Bydd y cyfyngiadau hyn o reidrwydd yn lleihau, dros amser, nifer y lleoliadau sydd ar gael i awdurdod lleol gan ddarparwyr er elw. Gallai'r gwelliant hwn leihau cwmpas y pŵer galluogi i'r fath raddau â'i wneud yn amhosibl ei ddefnyddio a byddai'n rhedeg yn erbyn y ffordd y mae'r darpariaethau wedi'u cynllunio i gyfyngu ar argaeledd lleoliadau atodol a'r angen amdanynt yn raddol dros amser.490
Mae adran 81A(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol leoli'r plentyn yn y lleoliad sydd, yn ei farn ef, y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael. Mae'r gofyniad yn adran 81A(4) i roi blaenoriaeth i leoliadau sydd gyda darparwyr sy'n bodloni'r gofyniad nid-er-elw eisoes yn ddarostyngedig i'r amod na ddylai'r awdurdod lleol wneud hynny os na fyddai'n gyson â'i ddyletswyddau o dan adran 78 i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn. Felly, rwy'n teimlo bod y gwelliant hwn hefyd yn ddiangen.491
A gaf i ymdrin â'ch pwynt olaf, Mabon, a'ch sicrhau chi a gweddill Siambr y Senedd bod dileu elw yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i'r Llywodraeth hon a'n bod am gyflawni ein nod i wneud hynny cyn gynted â phosibl?492
Mabon ap Gwynfor i ymateb.493
Diolch yn fawr iawn. Diolch i’r Gweinidog am y cydweithio sydd wedi bod ar y gwelliannau yma; rwyf yn ddiolchgar iawn am y gwaith sydd wedi bod. Dim ond i ddweud ein bod ni yn gresynu nad ydy’n gwelliannau ni wedi cael eu derbyn. Dŷn ni’n meddwl bod y geiriad rydym ni wedi ei roi i mewn yn llenwi’r gwagle yna ac yn cywiro ychydig o ofidiau’r Llywodraeth, ond yn amlwg nid ydyn ni wedi llwyddo i argyhoeddi hyd yma. Felly, dwi wedi dweud digon o eiriau ac mi awn ni ymlaen i’r bleidlais.494
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 79? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 79. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatab, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi ei wrthod.495
Gwelliant 79: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 80. Yn cael ei symud, Mabon ap Gwynfor?496
Cynigiwyd gwelliant 80 (Mabon ap Gwynfor).
Symud.497
Ydy. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwelliant 80 wedi ei wrthod.498
Gwelliant 80: O blaid: 23, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 13. Ydy e'n cael ei symud, Gweinidog?499
Cynigiwyd gwelliant 13 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.500
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes; does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Gwelliant 13 yn cael ei basio.501
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 14. Yn cael ei symud?502
Cynigiwyd gwelliant 14 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.503
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 14? Nac oes. Felly, y gwelliant yna'n cael ei gymeradwyo.504
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 15. Yn cael ei symud?505
Cynigiwyd gwelliant 15 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.506
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Felly, mae'n cael ei gymeradwyo.507
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 16. Yn cael ei symud, Gweinidog?508
Cynigiwyd gwelliant 16 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.509
Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant yma? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Y gwelliant wedi ei dderbyn.510
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 17. Yn cael ei symud?511
Cynigiwyd gwelliant 17 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.512
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 17? Nac oes. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn. 513
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 18. Yn cael ei symud, Gweinidog?514
Cynigiwyd gwelliant 18 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.515
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 18 wedi ei dderbyn.516
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 19, Gweinidog. Yn cael ei symud?517
Cynigiwyd gwelliant 19 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.518
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 19 wedi'i basio. 519
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 20, Gweinidog.520
Cynigiwyd gwelliant 20 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.521
Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad fan hyn? Nac oes; does yna ddim gwrthwynebiad. Gwelliant 20 yn cael ei dderbyn.522
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 21, Gweinidog. Yn cael ei symud?523
Cynigiwyd gwelliant 21 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.524
Ydy, mae. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae wedi ei dderbyn.525
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 22, Gweinidog. Yn cael ei symud?526
Cynigiwyd gwelliant 22 (Dawn Bowden).
Wedi ei gynnig.527
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbyn gwelliant 22 hefyd.528
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 7 fydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp sy'n ymwneud â goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer y cyfnod trosiannol. Gwelliant 46 yw'r prif welliant. James Evans sy'n cynnig gwelliant 46 ac yn siarad i'r grŵp.529
Cynigiwyd gwelliant 46 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwyf am sôn am welliannau 46 i 48, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio mynd i'r afael ag argymhellion y pwyllgor ynghylch goruchwylio yn y cyfnod trosiannol. Mae gwelliant 46, fel yng Nghyfnod 2, yn welliant procio. Nawr, er bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad adroddiad Cyfnod 1, nid wyf yn teimlo'n gysurus iawn ynghylch y ffaith nad oes ymrwymiad di-ildio ar wyneb y Bil. Rwy'n credu bod gan y Gweinidog bob bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd tuag at fodel nid-er-elw, ond, yn bwysig, nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny ar hyn o bryd. Felly, er tawelwch meddwl, rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn unwaith eto i geisio'r sicrwydd hwnnw a'r ymrwymiad gennych chi yma yn y Siambr y byddwn yn cael yr adroddiad cynnydd chwe mis hwnnw ar 22 Ebrill 2025, fel y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ac y gallwn edrych ymlaen at ymgysylltu parhaus â'r mater hwn yn y dyfodol.530
Gan droi at welliant 47, rwy'n gofyn unwaith eto am ymrwymiadau gan y Gweinidog yma yn y Siambr y bydd ymrwymiadau cyllid yn cael eu gwarantu, fel y ceisiom ei gwneud yn glir yng Nghyfnod 2. Nid oes gwarant y bydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â meddylfryd yr un presennol. Nid wyf eisiau i rywbeth mor bwysig â hyn fod yn ddarostyngedig i fympwy deiliad swydd yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddai sicrwydd o'r fath yn cael ei werthfawrogi ymhell y tu hwnt i furiau'r Senedd hon.531
Yn olaf, mae gwelliant 48 yn welliant procio eto, a gynlluniwyd i wthio'r pwynt sef bod darparwyr etifeddol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a fydd ar gael. O ystyried bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor hwn yn rhannol yn unig, ac o gofio na fu unrhyw beth yn cael ei nodi a dim consesiynau ar y sail hon y tu hwnt i ymrwymiadau annelwig i barhau i weithio gyda'r sector, teimlaf ei bod yn bwysig codi'r mater hwn eto yma i sicrhau ymrwymiad ar y cofnod y bydd darparwyr yn cael gwybod yn iawn am y cymorth sydd ar gael iddynt wrth symud ymlaen. Diolch, Llywydd.532
Hoffwn gefnogi'r gwelliannau gan James Evans. Gwelliant 46. Ni ddylem anelu at roi terfyn ar elw yn ein cartrefi yn unig, rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau cywir yn cael eu gweithredu. Mae'n hanfodol nad yw cartrefi gofal yn cael eu disodli gan ddewisiadau amgen gwael heb eu hariannu'n ddigonol. Mae'r gwelliant hwn, fel yr wyf yn ei ddeall, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau cynnydd, sy'n bwysig iawn—yn benodol, manylion am faint o leoliadau ychwanegol sydd wedi'u creu. Os oes un mater a godwyd dro ar ôl tro gyda mi, mae'n ymwneud â'r trefniadau trosiannol hyn, a phryder gwirioneddol y byddwn yn y pen draw mewn man pan fo plant a phobl ifanc yn cael eu symud, a bod gennym ddiffyg lleoliadau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny. Felly, mae angen yr adroddiadau diweddaraf hyn arnom ar y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn enwedig drwy'r cyfnod trosiannol, gan fod darparwyr gwasanaethau yn gwneud y newid hwnnw i ddod yn ddarparwyr nid-er-elw. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes gostyngiad mewn lleoedd i blant. Y tu hwnt i olrhain y cynnydd yn unig, mae arnom angen gwarantau gwirioneddol i'n pobl ifanc am eich ymrwymiadau.533
O ran y cyfnod gweithredu hwnnw, byddwch yn ymwybodol bod rhanddeiliaid yn ysgafnach eu calonnau oherwydd yr ydych yn ystyried ymestyn y cyfnod gweithredu hwnnw ar gyfer agweddau ar y ddeddfwriaeth hon sy'n ymwneud â dileu elw o'r sector gofal. Felly, efallai bydd y pryder hwnnw, os caiff ei gymryd i ffwrdd, y bydd yr estyniad hwn yn caniatáu i elw barhau, yn ddiangen. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ymateb y Gweinidog i hynny. Felly, allwch chi sicrhau'r Senedd nad dyna'r sefyllfa, a chadarnhau hefyd bod cyflawni'r agenda dileu elw yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth—rwy'n credu eich bod chi eisoes wedi dweud hyn—ac y byddwch chi'n parhau i flaenoriaethu gweithio gydag eraill, yn enwedig y trydydd sector a'n hawdurdodau lleol, sicrhau bod y nod o ddileu elw yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl, gyda'r adnoddau angenrheidiol?534
Llywydd, dyma fy nghyfraniad olaf—yr ail a'r olaf—a rhaid i mi ddweud, fel cyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, fy mod yn falch o sefyll yma, ar ymyl, rwy'n gobeithio, yr agenda arloesol hon, nid i mi, nid i'r gweithwyr cymdeithasol, ond i'r plant a'r bobl ifanc y mae llawer ohonynt yn gweithio gyda nhw, Ac yr wyf innau wedi gweithio gyda nhw. Doedd dim byd mwy emosiynol i mi na symud plentyn i leoliad lle roeddwn i'n gwybod bod y lle hwnnw, yr adnodd hwnnw, yn mynd i wneud arian allan ohonyn nhw, felly rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.535
Y Gweinidog, Dawn Bowden.536
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ymateb i'r pwyntiau olaf yna gan Jane Dodds a chroesawu ei sylwadau, ac ailadrodd y sicrwydd a roddais i Mabon ap Gwynfor? Mae dileu elw yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i'r Llywodraeth hon, ac rydym eisiau cyflawni'r nod hwnnw cyn gynted ag y gallwn. Ni fyddem yma heddiw, yn trafod y gwelliannau hyn, pe na baem wedi blaenoriaethu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos yn glir ein hymrwymiad i ddileu elw o ofal plant a phobl ifanc. A gaf i eich sicrhau y byddwn yn parhau i wrando ar yr holl randdeiliaid hynny sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â'r agenda hon, ac wrth wraidd hynny fydd llais plant a phobl ifanc, sydd wedi bod yn sbardun i'r ddeddfwriaeth hon o'r diwrnod cyntaf? Byddwn yn hapus i gynnal y sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy gydol y broses hon, fel y gwnes i, a hoffwn barhau â'r trafodaethau hynny gyda rhanddeiliaid eraill, wrth gwrs, yn y trydydd sector, awdurdodau lleol a thu hwnt, ac, wrth gwrs, gydag Aelodau yn y Siambr hon. Diolch yn fawr iawn, Jane, am eich cefnogaeth.537
Gan fynd yn ôl at y gwelliannau. O ran gwelliant 46, rwy'n cydnabod bod yr Aelodau a'r sector eisiau cael gwybod am y cynnydd drwy'r cyfnod trosiannol o ran symud tuag at ddarpariaeth nid-er-elw, a dyna pam y gwnes i dderbyn argymhelliad 9 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chytunais i drefnu cyhoeddi'r adroddiad cynnydd chwe misol, gyda'r bwriad o gyhoeddi'r adroddiad cyntaf hwnnw erbyn 22 Ebrill 2025. O ystyried yr ymrwymiad cyhoeddedig hwn, nid wyf wir yn gweld yr angen i ddyblygu ymrwymiad tebyg o fewn deddfwriaeth, fel y mae'r gwelliant yn ei gynnig.538
Gan symud i welliant 47, rwy'n cydnabod y dymuniad i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol i gyflawni eu dyletswyddau hanfodol sy'n gysylltiedig â llety plant sy'n derbyn gofal yn dilyn deddfu darpariaethau'r Bil, ond ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn oherwydd ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu anghenion cyllido awdurdodau lleol sy'n codi ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol cyn dechrau'r cyfnod trosiannol hyd yn oed. Nawr, gallai diwedd y cyfnod trosiannol fod rhai blynyddoedd i ffwrdd, fel y penderfynir gan ddyfarniadau ynghylch digonolrwydd darpariaeth o fewn awdurdodau lleol, felly, nid yw'n realistig amcangyfrif union lefel y cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol gymaint o flaen llaw cyn i'r cyfnod trosiannol ddod i ben.539
Yn olaf, wrth symud i welliant 48, rwy'n cydnabod y dymuniad i sicrhau bod darparwyr etifeddol yn glir ynghylch y cymorth y byddant yn ei dderbyn cyn i'r cyfnod trosiannol ddechrau, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â nhw drwy'r cyfnod hwnnw. Yn debyg i welliant 46, roedd hwn yn faes a gydnabyddir yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, argymhelliad 4 yn benodol. Derbyniais yr argymhelliad hwnnw'n rhannol, gan ymrwymo i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried pa ganllawiau a chymorth y gellid eu darparu i ddarparwyr preifat ac annibynnol sy'n dymuno ailsefydlu eu busnes o dan fodel nid-er-elw, a datblygu gohebiaeth wedi'i thargedu i gefnogi gwahanol rannau o'r sector. O ystyried yr ymrwymiadau hyn, rwy'n ystyried bod dyblygu gofyniad tebyg o fewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddiangen, ac felly nid wyf yn cefnogi'r gwelliant.540
James Evans i ymateb. Dim ymateb.541
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 46—sori, gwelliant 46—yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 46 wedi'i wrthod.542
Gwelliant 46: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 47 (James Evans).
Mae'n cael ei symud, ydy. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 47 yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.545
Gwelliant 47: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 48 yn cael ei symud?546
Cynigiwyd gwelliant 48 (James Evans).
Symud.547
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 48. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, mae gwelliant 48 wedi'i wrthod.548
Gwelliant 48: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 23, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?549
Cynigiwyd gwelliant 23 (Dawn Bowden).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 23? Nac oes, felly mae gwelliant 23 wedi'i dderbyn.550
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 24 yn cael ei symud? 551
Cynigiwyd gwelliant 24 (Dawn Bowden).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 24? Nac oes, felly mae e wedi'i basio.552
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 8, felly, yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r wythfed grŵp yma yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i’r ardal. Gwelliant 49 yw'r prif welliant yn y grŵp. James Evans sy'n cynnig gwelliant 49.553
Cynigiwyd gwelliant 49 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o sôn am y gwelliannau yn y grŵp hwn, a gyflwynwyd yn fy enw i. Byddaf hefyd yn siarad am rai Mabon ap Gwynfor.554
O ystyried bod y Gweinidog wedi datgan yng Nghyfnod 2 awydd am sicrwydd yn y Bil hwn, byddwn yn gobeithio y byddent yn agored i gefnogi ymdrechion y gwelliannau hyn i egluro'r maes pwysig hwn. Mae fy ngwelliannau 49, 51, 50 a 52 yn ceisio gwthio hyn, fel y gwnaed yn y cyfnod blaenorol. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog ar yr un dudalen â ni, a'n bod ni i gyd eisiau i blant gael eu rhoi yn y lle gorau iddyn nhw. Ac rwy'n cydnabod ei phryderon ynghylch dehongliadau penodol o ddull gweithredu'r gwelliannau hyn, fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hyn yn cael ei roi ar wyneb y Bil.555
Rwy'n hapus hefyd i gefnogi gwelliannau Mabon ap Gwynfor yn y grŵp hwn, 81 ac 82, sy'n ceisio nodi'r amgylchiadau lle gallai plentyn gael ei leoli y tu allan i ardal ei awdurdod lleol ei hun a sicrhau bod lleoliadau mor agos â phosibl i'r awdurdod perthnasol, gyda barn y plentyn yn cael ei hystyried a'i ystyried hefyd. Diolch yn fawr, Llywydd.556
Mabon ap Gwynfor.557
Diolch, Llywydd. Dwi'n hapus i gyflwyno gwelliannau 81 ac 82, yn ogystal â 49, 50, 51 a 52 ar y cyd â'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, er mwyn cyflawni'r nod o atal plant rhag cael eu lleoli yn bell o'u hawdurdod lleol yn ddiangen.558
Un o'r elfennau mwyaf niweidiol o'r system bresennol ydy bod bron i draean o'r holl blant sy'n byw mewn gofal yng Nghymru yn cael eu lleoli y tu allan i'w hawdurdod lleol, tra bod 7 y cant yn ychwanegol yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl. Mae’r dystiolaeth yn glir: gall lleoli plant mewn cartrefi y tu allan i’w hawdurdod lleol, ymhell o’u cymunedau a'u rhwydweithiau cymorth, gynyddu eu risg o niwed a chamfanteisio. Dim ond mewn amgylchiadau lle mae yna dystiolaeth glir o les i’r plentyn y dylai lleoliadau o’r fath gael eu hystyried felly.559
Mae angen i’r Bil yma ddarparu eglurder clir ar y mater hwn, ond ar hyn o bryd nid yw hyn yn amlwg o’r iaith arfaethedig yn adran 10 sy’n diwygio adran 75 o Ddeddf 2014. Mae yna risg, felly, o awdurdodau lleol yn dehongli’r adran yma yn wahanol, gan arwain at blant yn cael eu lleoli y tu allan i’w hardaloedd lleol yn ddiangen, ac anghysondeb o ran gweithredu ar draws Cymru. Drwy gyfeirio yn benodol yn y Bil at 'awdurdodau lleol cyfagos', bydd mwy o eglurder ynghylch ble mae'n briodol symud plentyn iddo.560
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog sôn am y canlyniadau anfwriadol a fyddai’n deillio o welliant o’r fath, gan ddefnyddio’r enghraifft o blentyn yn cael ei symud o Ferthyr i ogledd Powys o dan y diffiniad 'awdurdod lleol cyfagos', yn hytrach nag i Flaenau Gwent, sydd ddim, yn dechnegol, yn syrthio o dan y categori yma. Mae cyfreithwyr y Senedd hefyd wedi nodi’r risg posibl fod rheoliadau gor-gyfyng ar y mater yn medru tanseilio’r bwriad o sicrhau bod dymuniadau'r plant yn cael eu hystyried yn llawn yng nghyd-destun penderfyniadau ar leoliadau.561
Rydym ni'n cydnabod yn llwyr y pryderon yma ac, wedi adlewyrchu ar hyn ymhellach, rydym ni wedi sicrhau bod y gwelliannau yn galluogi amgylchiadau arbennig er mwyn caniatáu sefyllfaoedd lle mae cartref llawer mwy addas ar gyfer anghenion plentyn neu berson ifanc, ond nad yw’n eistedd o fewn awdurdod lleol cyfagos. Mae’r angen i farn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu berson ifanc priodol gael eu hystyried yn ystod penderfyniadau o’r fath hefyd wedi ei gyfeirio ato yn fwy eglur yn y gwelliannau yma.562
Felly, dwi'n eich annog chi i gefnogi'r gwelliannau.563
Y Gweinidog, Dawn Bowden.564
Diolch, Llywydd. Ydw, wrth gwrs, rwy'n deall yn llwyr y bwriad y tu ôl i'r grŵp hwn o welliannau ac, yn anffodus, ni allaf eu cefnogi gan fy mod yn dal i gredu bod ganddynt ganlyniadau anfwriadol, ac rwy'n falch eich bod wedi cofio'r enghreifftiau a roddais yng Nghyfnod 2, felly ni fyddaf yn eu hailadrodd; rydych chi eisoes wedi gwneud hyn ar fy rhan.565
Yn yr un modd, gallai gwelliant 51 olygu na fyddai lleoliadau addas sy'n agos i'r plentyn, ond nad ydynt yn bodloni'r prawf amgylchiadau eithriadol, ar gael. I'r gwrthwyneb, byddai lleoliad llai addas arall a allai fod ymhellach i ffwrdd ar gael. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno mai'r hyn rydym ni am ei wneud yw sicrhau bod plant yn cael eu lleoli o fewn ardal eu hawdurdod lleol cyn belled ag y bo modd, ond nid ar draul cael mynediad at leoliadau sy'n diwallu eu hanghenion orau. Fodd bynnag, rwy'n hapus i ailadrodd fy ymrwymiad, a roddir yn gynharach adeg craffu, i ystyried defnyddio'r cod ymarfer, sydd i'w gyhoeddi o dan adran 145, i roi arweiniad i awdurdodau lleol ar y ffordd o ymdrin â'r mater hwn yn briodol.566
Gan droi at welliant 50, mae hwn yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried dymuniadau, barn a theimladau plentyn os yw'r awdurdod wedi penderfynu mai'r lleoliad mwyaf priodol yw lleoliad sy'n agos at ardal yr awdurdod lleol, yn hytrach nag ynddo. Yn gysylltiedig â hyn mae gwelliant 81 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sicrhau, pan fo lleoliad plentyn mewn ardal awdurdod lleol arall, fod hyn mor agos at ei gartref â phosibl, oni bai bod hyn yn mynd yn groes i farn neu anghenion y plentyn. Unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Fodd bynnag, o ran gwelliant 50, nid wyf yn credu ei fod yn angenrheidiol, ac nid yw'n cyd-fynd â strwythur yr adrannau y mae'n cael eu mewnosod ynddynt. Mae awdurdodau lleol eisoes o dan ddyletswyddau statudol a fynegir yn ofalus sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried barn, dymuniadau a theimladau plentyn y maent yn gofalu amdanynt. Byddai dyblygu'r dyletswyddau hyn mewn amgylchiadau penodol yn ddryslyd a byddai'n taflu amheuaeth ar eu pwrpas, eu defnydd a'u heffeithiolrwydd. Yn yr un modd, mae'r materion y mae gwelliant 81 eisoes yn eu trafod yn adran 81A, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried ffactorau gan gynnwys agosrwydd at adref.567
Fel yr wyf wedi cadarnhau o'r blaen, rwy'n hapus i atgyfnerthu pwysigrwydd awdurdodau lleol i gydymffurfio â'u dyletswyddau statudol presennol ynghylch y pwynt hwn mewn gohebiaeth bellach gydag awdurdodau lleol, ac mewn cod ymarfer i'w gyhoeddi o dan adran 145 yn y dyfodol.568
James Evans i ymateb.569
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog a Mabon ap Gwynfor am gymryd rhan yn y ddadl hon. Er bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gryfhau'r cod ymarfer, rwy'n dal i gredu'n gryf bod angen i ni sicrhau bod angen cadw pob plentyn mor agos â phosibl at eu hawdurdod lleol cartref. Nid ydym eisiau gweld plant yn mynd allan o Gymru, neu, dyweder, rhywun yn ne Cymru yn mynd i ogledd Cymru—nid yw'n briodol o gwbl. Rwy'n credu bod angen y darpariaethau hyn arnom yn y Bil, a dyna pam rwy'n gofyn i bob Aelod ar draws y Siambr heddiw gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, a'r rhai yn enw Mabon ap Gwynfor hefyd.570
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 49. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 49 wedi ei wrthod.571
Gwelliant 49: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 25. Ydy e'n cael ei symud, Weinidog?572
Cynigiwyd gwelliant 25 (Dawn Bowden).
Ydy, mae e. Felly, oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 25? Nac oes. Mae gwelliant 25 yn cael ei gymeradwyo.573
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 26. Ydy e'n cael ei symud?574
Cynigiwyd gwelliant 26 (Dawn Bowden).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 26 yn cael ei dderbyn.575
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 27. Weinidog, ydy e'n cael ei symud?576
Cynigiwyd gwelliant 27 (Dawn Bowden).
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 27 yn cael ei dderbyn.577
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 51. Ydy e'n cael ei symud, James Evans?578
Cynigiwyd gwelliant 51 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Symud.579
Os gwrthodir gwelliannau 51 a 50, bydd gwelliant 52 yn methu hefyd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 51, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 51 wedi ei wrthod.580
Gwelliant 51: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 50. James Evans, ydy e'n cael ei symud?581
Cynigiwyd gwelliant 50 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Ydy, mae e'n cael ei symud. Os bydd gwelliant 50 yn cael ei wrthod, bydd gwelliant 52 yn methu hefyd. A oes gwrthwynebiad i welliant 50? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebaid. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 50, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 50 wedi ei wrthod.582
Gwelliant 50: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 52.
Gwelliant 81 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud, Mabon ap Gwynfor?583
Cynigiwyd gwelliant 81 (Mabon ap Gwynfor).
Ydy, mae e. Os gwrthodir gwelliant 81, bydd gwelliant 82 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 81? [Gwrthwynebiad.] Mae e'n cael ei wrthwynebu, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 81, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 81 wedi methu, ac mae gwelliant 82 hefyd yn methu.584
Gwelliant 81: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 82.
Grŵp 9 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â lleoliadau atodol. Gwelliant 53 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar James Evans i gyflwyno'r gwelliant yma.585
Cynigiwyd gwelliant 53 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwyf am siarad am y gwelliannau a gynhwysir yn y grŵp hwn. Fel y gwyddom, mae lleoliadau anghofrestredig, yn amlwg, eisoes yn anghyfreithlon, ac eto, rydym yn gwybod yn sicr eu bod yn digwydd, ac mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi cymryd tystiolaeth am y defnydd o leoliadau anghyfreithlon, fel y codwyd yng Nghyfnod 2. Mae pryder y gallai'r pwysau ychwanegol ar y sector y byddai'r Bil hwn yn sicr yn ei achosi, sbarduno cynnydd yn y defnydd o leoliadau o'r fath. Rhaid i ni fel Senedd beidio â sefyll yn ddidaro tra bod y lleoliadau hyn yn parhau, ac yn sicr ni ddylem fod yn caniatáu i'r sefyllfa waethygu o ganlyniad uniongyrchol i ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn. Mae gwelliannau 53 a 56 yn ceisio mynd i'r afael â hyn, fel y gwnaed yng Nghyfnod 2. Yn ogystal â hyn, mae gwelliant 57 yn gwthio'r Gweinidog i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar leoliadau atodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan y Bil hwn. Er fy mod yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd o bryd i'w gilydd, nid wyf yn rhannu'r farn na ddylai'r gofyniad fod ar wyneb y Bil. Yn fy marn i, nid oes unrhyw beth yn cael ei golli wrth ei gynnwys, ond yr hyn yr ydym yn ei ennill yw dibynadwyedd. Ac, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn, nid yw'n gofyn gormod i Weinidogion Cymru ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o bryd i'w gilydd, unwaith y flwyddyn, ynghylch y pwnc pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.586
Y Gweinidog i gyfrannu—Dawn Bowden.587
Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn ymwneud ag adran 13 o'r Bil, sy'n mewnosod adrannau newydd 81A i 81D yn Neddf 2016. Mae adran 81 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i drefnu i blentyn sy'n derbyn gofal fyw gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu berson y mae gorchymyn trefniadau plant wedi'i wneud o'i blaid.588
Fodd bynnag, pan nad yw hyn yn gyson â llesiant y plentyn sy'n derbyn gofal, neu os nad yw'n rhesymol ymarferol, o dan adran 81A, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y plentyn yn y 'lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael'. Mae'r adran yn darparu ymhellach y dylai'r lleoliad mwyaf priodol fod mewn gofal preswyl neu faeth nid-er-elw yn y lle cyntaf. Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r hyn y cyfeirir ato fel 'lleoliad atodol' o dan adran 81B.589
Er fy mod yn cydymdeimlo â'r bwriad y tu ôl i welliannau 53, 54 a 55, nid wyf yn credu eu bod yn angenrheidiol a gallent achosi dryswch ynghylch y sefyllfa gyfreithiol. Y rheswm am hyn yw nad yw lleoliadau nad ydynt wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn dod o fewn cwmpas 'lleoliadau atodol' ac, felly, ni allent fod yn destun cais gan awdurdod lleol i'w cymeradwyo o dan adran 81B.590
Fel y dywedais i yn glir drwy gydol y broses graffu, bydd darpariaethau'r Bil dim ond yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo lleoliadau atodol gyda darparwr cofrestredig gofal preswyl neu faeth plant. Bydd y darparwyr hyn yn ddarparwyr cofrestredig er elw yng Nghymru a fydd yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol o dan y Bil, neu ddarparwyr cofrestredig sy'n gweithredu yn Lloegr. Ni fydd y Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi lleoliad anghofrestredig.591
Yng nghyfnod 2, rhoddais ymrwymiad y bydd fy swyddogion yn sicrhau bod y sefyllfa hon wedi'i nodi'n glir yn y canllawiau statudol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithrediad y broses gymeradwyo atodol. Pan ysgrifennais at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 17 Rhagfyr yn dilyn trafodion Cyfnod 2, cadarnheais yr ymgymeriad hwn yn ysgrifenedig.592
Gan droi at welliant 56, byddai hwn yn ei gwneud yn ofynnol i god ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2014 ddatgan bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy wrth ystyried cais i gymeradwyo lleoliad atodol a rhestru'r wybodaeth y bydd ei hangen fel rhan o'r gwiriadau hyn, gan gynnwys gwirio bod darparwr y lleoliad dan sylw wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw.593
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod ddarparu eglurder ynghylch a ellir lleoli plentyn mewn lleoliad atodol cyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ddirprwyo eu pŵer i gymeradwyo lleoliadau atodol, ac i gynnwys enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol lle gellir defnyddio lleoliadau atodol.594
Yn ystod Cyfnod 2, rhoddais addewid y bydd y gwiriadau diwydrwydd dyladwy y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cynnal wrth ystyried cais i gymeradwyo lleoliad atodol yn cynnwys gwirio bod darparwr y lleoliad dan sylw wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw. Mae rhan gyntaf y gwelliant hwn yn ceisio ymgorffori'r ymgymeriad hwnnw o fewn cod ymarfer. Fodd bynnag, mae'r pŵer yn adran 145 o Ddeddf 2014 i gyhoeddi cod ymarfer yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Ni fyddai'n bosibl gorfodi Gweinidogion Cymru i gyflawni rhai swyddogaethau mewn cod o'r fath.595
Yn fy ymateb i argymhelliad 10 o adroddiad y pwyllgor, ymrwymais i sicrhau bod unrhyw ganllawiau neu god ymarfer a gyhoeddir mewn perthynas ag adran 13 yn cadarnhau nad yw'r Bil yn atal awdurdodau lleol rhag lleoli plentyn mewn lleoliad atodol cyn i weinidogion gymeradwyo hwnnw. Yn ogystal, o dan egwyddor Carltona, ar hyn o bryd mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, a gallent gymhwyso hyn i gymeradwyo lleoliadau, os oes angen. Yng ngoleuni hyn, nid wyf o'r farn ei bod yn angenrheidiol gosod gofynion tebyg o fewn deddfwriaeth sylfaenol.596
Cytunais hefyd y byddai canllawiau o'r fath yn pwysleisio na ddylai'r defnydd o leoliadau atodol ddod yn sefyllfa ddiofyn, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol. Ac er fy mod yn deall y teimlad y tu ôl i gynnwys enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol lle gellir defnyddio lleoliadau atodol, nid wyf yn credu y byddai'n briodol nac yn angenrheidiol gwneud hyn, ac am y rhesymau hyn ni allaf dderbyn y gwelliant.597
Gwelliant 57—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.598
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Gweinidog, mae llawer o bryder ynghylch lleoliadau anghofrestredig, ac mae'r gwelliant hwn, fel yr wyf yn ei ddeall, yn ceisio sicrhau bod mesurau diogelu ar waith mewn perthynas ag unrhyw fwriad i ddefnyddio lleoliadau anghofrestredig. Rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol pe gallem glywed gennych pa fesurau diogelu y byddech chi eisiau eu gweld ar waith—ac efallai eich bod chi'n mynd ymlaen i hynny—er mwyn sicrhau nad ydym ni'n defnyddio lleoliadau anghofrestredig, oherwydd does dim amgylchiadau pryd y dylem ni fod yn eu defnyddio. Diolch yn fawr iawn. 599
Rwy'n deall pryderon yr Aelodau yn llwyr am y defnydd o leoliadau anghofrestredig. Nid ydym ni eisiau gweld lleoliadau anghofrestredig yn cael eu defnyddio chwaith, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chydag awdurdodau lleol i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Mae hyn i gyd yn rhan o'r hyn rydym ni'n ceisio'i wneud o fewn cwmpas y Bil hwn o ran lefel ddigonolrwydd lleoliadau gofal cofrestredig i blant—mae hynny'n rhan o'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud. Ond, i fod yn gwbl glir, ni all lleoliad anghofrestredig fod o fewn cwmpas y Bil hwn.600
Oherwydd nad ydynt yn endidau cyfreithiol yng ngolwg Gweinidogion Cymru, ni allwn wneud unrhyw benderfyniadau ar sail yr hyn a fyddai mewn gwirionedd yn lleoliad anghyfreithlon. Felly, ni allwn eu gosod o fewn telerau'r Bil hwn. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio mor galed ag y gallwn i sicrhau bod gennym lai a llai o leoliadau heb eu cofrestru, ac rydym yn gweld gostyngiad yn y rheini oherwydd y gwaith sy'n digwydd mewn gwirionedd fel rhan o gynllunio digonolrwydd awdurdodau lleol i gyflawni amcanion y Bil hwn.601
Byddai gwelliant 57 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad yn ymwneud â lleoliadau atodol. Rhaid i'r adroddiad hwn gynnwys data dienw am oedran pob plentyn a leolwyd mewn lleoliad atodol, yr awdurdod lleol a'u lleolodd, y math o leoliad y gofynnwyd amdano, p'un a oedd yng Nghymru neu rywle arall, a oedd y plentyn wedi ei leoli mewn lleoliad o'r blaen, cost y lleoliad, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Mae'r gwelliant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r adroddiad hwn gael ei wneud gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.602
Rwy'n deall dymuniad yr Aelodau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo lleoliadau atodol, ac rwyf wedi gwneud ymrwymiad clir i ddiweddaru'r Senedd o bryd i'w gilydd, fel y dywedoch yn gwbl briodol, James Evans, am y sefyllfa ynglŷn â hyn. O'r herwydd, nid wyf yn credu bod angen y gwelliant hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthsefyll yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.603
James Evans i ymateb.604
Diolch. Rwy'n credu bod Jane wedi ei gyfleu yn dda iawn, mewn gwirionedd: mae angen i ni sicrhau nad oes gennym unrhyw leoliadau anghofrestredig ledled Cymru. Rwy'n parchu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio eu lleihau, ond mae'n mynd i ddigwydd, nid yw'n mynd i ddod i ben dros nos, er mai dyna fy nymuniad i, ac mae angen i ni gael y mesurau diogelu cadarn hynny ar waith. Rwy'n dal i gredu'n gryf bod angen i ni gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Senedd ar ddefnyddio lleoliadau anghofrestredig. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymrwymo mewn mannau eraill i wneud hynny, ond rwy'n credu bod angen i ni ei weld yn uniongyrchol ynghylch y mater hwn i weld sut mae gwaith Llywodraeth Cymru yn lleihau'r lleoliadau anghofrestredig hynny ledled Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu y dylem i gyd fod yn cefnogi'r gwelliannau hyn heddiw i sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar leoliadau anghofrestredig ar draws Cymru. Diolch, Llywydd.605
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais ar welliant 53, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 53 wedi'i wrthod. 606
Gwelliant 53: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 54 yn cael ei symud? 607
Cynigiwyd gwelliant 54 (James Evans).
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 54? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 54. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 54 wedi'i wrthod. 608
Gwelliant 54: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 55 yn cael ei symud? 609
Cynigiwyd gwelliant 55 (James Evans).
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 55? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 55. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 55 wedi'i wrthod.610
Gwelliant 55: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 56 yn cael ei symud?611
Cynigiwyd gwelliant 56 (James Evans).
Cynigiwyd612
Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly mi wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 56. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 56 wedi'i wrthod.613
Gwelliant 56: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 57 yn cael ei symud, James Evans?614
Cynigiwyd gwelliant 57 (James Evans).
Cynigiwyd.615
Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] There are. A vote, therefore, on amendment 57. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 57 is not agreed.616
Gwelliant 57: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 58 yn cael ei symud, James Evans?617
Cynigiwyd gwelliant 58 (James Evans).
Cynigiwyd.618
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mi wnawn ni agor y bleidlais ar welliant 58. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 58 yn cael ei wrthod.619
Gwelliant 58: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 83. Is it moved, Mabon ap Gwynfor?620
Cynigiwyd gwelliant 83 (Mabon ap Gwynfor).
Symud.621
Ydy, mae e'n cael ei symud. Ac os gwrthodir gwelliant 83, bydd gwelliant 87 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 83? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni gael pleidlais ar welliant 83 yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 83 wedi'i wrthod. Mae gwelliant 87 hefyd yn methu.622
Gwelliant 83: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 87.
Felly, gwelliant 1 sydd nesaf, i'w gynnig gan y Gweinidog.623
Cynigiwyd gwelliant 1 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.624
Ydy, mae gwelliant 1 yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 1? Nac oes. Mae gwelliant 1 wedi'i basio.625
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 28. Ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?626
Cynigiwyd gwelliant 28 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.627
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 28? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.628
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 29, Gweinidog.629
Cynigiwyd gwelliant 29 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.630
Ydy, mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.631
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud ag arolygu. Gwelliant 30 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a'r Gweinidog sy'n cynnig y prif welliant—Dawn Bowden.632
Cynigiwyd gwelliant 30 (Dawn Bowden).
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau wedi cael eu cyflwyno'n bennaf er mwyn egluro'r drafftio ynghylch pŵer y rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru, i gynnal ymchwiliadau, gan gynnwys mynd i mewn i eiddo at y diben hwnnw. Yn ystod Cyfnod 2 y gwaith craffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), efallai fod Aelodau yn cofio bod darpariaethau wedi'u cyflwyno drwy gyfrwng gwelliant y Llywodraeth i egluro'r pŵer hwn gan Weinidogion Cymru. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwella cywirdeb drafftio'r darpariaethau sy'n ymwneud ag ymchwiliadau mewn sawl ffordd. Mae gwelliant 30 yn gwella gweithrediad adran 33(1A) y ddarpariaeth a fewnosodir, sy'n cynnwys diffiniad o 'ymchwiliad' at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 2016. Mae'n gwneud hyn drwy ddiffinio 'ymchwiliad' fel ymchwiliad i weld a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un o ddarpariaethau Rhan 1 o Ddeddf 2016, yn hytrach na dim ond mewn perthynas â throseddau o dan adran 5.633
Mae gwelliannau 31, 32 a 40 yn ategu ei gilydd, gan eu bod yn dileu o adran 34 o Ddeddf 2016 gyfeiriadau at ddefnydd pwerau mynediad at ddibenion arolygu eiddo. Mae adran 34 yn ymwneud â phwerau arolygwyr i fynd i mewn i eiddo. Mae'r gwelliannau hyn yn adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i'r adran hon yng Nghyfnod 2 drwy gael gwared ar y geiriau 'ac arolygu' mewn tri man lle nad yw eu presenoldeb parhaus bellach yn briodol o ystyried pwyslais cyfartal y ddarpariaeth ar ymchwilio ac archwilio.634
Roeddwn yn ddiolchgar i'r pwyllgor am gefnogi'r prif welliannau y mae'r diwygiadau hyn yn adeiladu arnynt, ac rwy'n gofyn i'r holl Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn hefyd. Diolch yn fawr.635
Does neb yn dymuno siarad ar y grŵp yma. Felly, fe wnawn ni ofyn: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 30 wedi’i dderbyn.636
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 31 yn cael ei symud, Gweinidog?637
Cynigiwyd gwelliant 31 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol. 638
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad i 31—ie, 31. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei basio. 639
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 32 yn cael ei symud, Gweinidog?640
Cynigiwyd gwelliant 32 (Dawn Bowden).
Yn ffurfiol. 641
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 32 wedi ei gymeradwyo hefyd.642
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 11 fydd nesaf. Mae’r grŵp 11 yma o welliannau yn ymwneud â chynorthwywyr personol. Gwelliant 59 yw’r prif welliant. James Evans i gynnig y prif welliant.643
Cynigiwyd gwelliant 59 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwyf am siarad am fy ngwelliant 59 sy'n ffurfio'r grŵp hwn. Mae hwn yn welliant procio i wthio argymhelliad adroddiad Cyfnod 1 y dylai'r Gweinidog weithio gyda chyd-Aelodau perthnasol y Cabinet a phartneriaid ehangach i hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, yn ogystal â chynyddu nifer yr ymgeiswyr a gwella'r nifer sy'n cael eu cadw. Fel y canfuwyd yn ystod casglu tystiolaeth mewn perthynas â'r Bil hwn, a nodir yng Nghyfnod 2, mae pryder gwirioneddol ymhlith rhanddeiliaid perthnasol fod yna fregusrwydd gweithlu ynghylch niferoedd a hirhoedledd cynorthwywyr personol.644
Mae'r Gweinidog wedi nodi'r disgwyliad y bydd nifer fawr o gynorthwywyr personol yn dod o'r gronfa dalent bresennol, ond, fel y codwyd gan Altaf Hussain, mae gennym fewnbwn rhanddeiliaid sydd wedi dangos bod problemau'n bodoli ynghylch derbynwyr taliadau uniongyrchol wrth gyflogi cynorthwywyr personol. Felly, rwy'n gofyn am ymrwymiadau yma yn y Siambr y bydd camau pendant yn cael eu cymryd i gefnogi'r gweithlu cynorthwywyr personol ledled Cymru.645
Mae'r gwelliant hwn wedi'i ddiwygio ers y cyfnod diwethaf i adlewyrchu'r pwynt teg a wnaed gan y Gweinidog nad oedd yr ailadrodd blaenorol yn mynd i'r afael yn iawn â'r ffaith bod llawer o gynorthwywyr personol yn cael eu cyflogi gan dderbynwyr taliadau uniongyrchol. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog, a gobeithio y gallwn gael rhywfaint mwy o sicrwydd gennych chi heddiw.646
Y Gweinidog i gyfrannu.647
Diolch, Llywydd. Wel, yn anffodus, James, ni allaf gefnogi gwelliant 59, ond rwyf eisiau dechrau drwy ddweud ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ein cynorthwywyr personol, ac eisoes wedi ymrwymo i wella eu telerau ac amodau, gyda'r nod o annog mwy o gynorthwywyr personol i'r sector.648
Ond yn anffodus, mae'r gwelliant yn broblemus. Mae'n gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â'r gweithlu cynorthwywyr personol cyfan, gan gynnwys gofyniad i hyrwyddo recriwtio, cadw a hyfforddi pob cynorthwyydd personol. Nawr, nid yw hyn yn ystyried nad yw llawer o gynorthwywyr personol yn cael eu recriwtio gan awdurdodau lleol, oherwydd eu bod yn cael eu cyflogi gan bobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol, ac y bydd derbynwyr gofal iechyd parhaus yn y dyfodol hefyd yn cyflogi cynorthwywyr personol a fydd wedyn yn dod o dan ymbarél y GIG. Ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond rwy'n credu y dylid canolbwyntio fwyaf ar gefnogi gwaith ar draws rhanddeiliaid i gefnogi a datblygu'r gweithlu cynorthwywyr personol yn hytrach na deddfu mewn ffordd sydd dim ond yn effeithio ar un o'r rhanddeiliaid perthnasol.649
Mewn perthynas â Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod eisoes yn weithgar iawn yn y maes hwn. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i weithio gyda chyd-Aelodau perthnasol y Cabinet a phartneriaid ehangach i hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, cynyddu nifer y ceisiadau a chynyddu'r nifer o staff sy'n cael eu cadw yn y tymor hwy. Bydd hyfforddiant priodol yn rhan bwysig o'r gwaith hwn.650
Fel yr amlinellais o'r blaen, mae'r grŵp rhanddeiliaid cynorthwywyr personol a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth gan undebau llafur, Gofal Cymdeithasol Cymru a chyflogwyr cynorthwywyr personol. Mae'r grŵp yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu sy'n ymwneud â chyflogau, telerau ac amodau, hyfforddiant a datblygu, hyrwyddo undebau llafur a ffyrdd o hyrwyddo'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer cynorthwywyr personol. Mae yna hefyd weithgor cynorthwywyr personol Cymru gyfan, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol, ac mae hefyd yn gweithio i sbarduno telerau ac amodau gwell ar gyfer cynorthwywyr personol. Mae'r ddau grŵp hyn yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i sicrhau cysylltiadau clir a dealltwriaeth gyffredin o'r gwaith sy'n digwydd i wella pethau ar gyfer cynorthwywyr personol.651
Bydd cynorthwywyr personol hefyd yn cael eu cynnwys yn natblygiad fframwaith cyflog a dilyniant y gweithlu gofal cymdeithasol, a fydd yn sicrhau bod cynorthwywyr personol yn cael eu hystyried mewn perthynas â chyflog a dilyniant fel rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach wrth symud ymlaen. Felly, gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn.652
James Evans i ymateb.653
Iawn, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn ac am amlinellu hynny. Ac oherwydd y gwaith hwnnw, a'r hyn yr ydych wedi'i roi fel ymrwymiadau heddiw, ni fyddaf yn gwthio'r gwelliant hwn i bleidlais, Llywydd.654
Doeddwn i ddim yn gwrando. A wnaethoch chi dynnu'r gwelliant hwnnw'n ôl? [Chwerthin.]655
Do. 656
Iawn. Diolch. A yw'r Aelodau'n fodlon i'r gwelliant hwnnw gael ei dynnu'n ôl? Nid oes gwrthwynebiad i dynnu hwnnw'n ôl.657
Tynnwyd gwelliant 59 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Felly, bydd y bleidlais nesaf ar welliant 36 yn enw'r Gweinidog. A yw'n cael ei symud?658
Cynigiwyd gwelliant 36 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.659
Ydy, mae e. A oes gwrthwybebiad i 36? Nac oes. Mae gwelliant 36 yn cael ei dderbyn.660
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 37 yn cael ei symud?661
Cynigiwyd gwelliant 37 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.662
It is, by the Minister. Are there any objections? No. Therefore, amendment 37 is agreed.663
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 38 gan y Gweinidog yn cael ei symud?664
Cynigiwyd gwelliant 38 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.665
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes.666
Pwy sy'n gweiddi 'arhoswch'? A oes rhywun yn gweiddi 'arhoswch' am nad ydyn nhw wedi sylweddoli bod gwelliant 88, eisoes wedi methu? Oes. Iawn.667
Gwelliant 38, ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog? 668
Cynigiwyd.669
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei basio.670
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 39 yn cael ei symud gan y Gweinidog? 671
Cynigiwyd gwelliant 39 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.672
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 39 wedi cael ei gymeradwyo. 673
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 40 yn cael ei symud gan y Gweinidog? 674
Cynigiwyd gwelliant 40 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.675
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae wedi ei gymeradwyo. 676
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 41 yn cael ei symud gan y Gweinidog?677
Cynigiwyd gwelliant 41 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd.678
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Mae gwelliant 41 hefyd wedi ei gymeradwyo. 679
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 12 fydd y grŵp nesaf. Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd yw'r grŵp yma, a'r gwelliannau ar wybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer cleifion. Gwelliant 33 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 33 a siarad i'r grŵp. 680
Cynigiwyd gwelliant 33 (Dawn Bowden).
Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau'r Llywodraeth o fewn y grŵp hwn yn ymateb i bwyntiau a gafodd eu codi yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2. Yn ystod Cyfnod 2 y gwaith o graffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), cafodd gwelliannau eu cyflwyno gan Mabon ap Gwynfor AS ac Altaf Hussain AS gyda'r bwriad o sicrhau y byddai gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn briodol i dderbynwyr taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Fel yr eglurais i yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod gweithgareddau Cyfnod 2, ni allwn i gefnogi manylion y diwygiadau hyn, gan mai eu heffaith fyddai gosod dyletswyddau ar gyrff iechyd yn uniongyrchol o ran pwerau na fyddai ganddyn nhw oni bai fod Gweinidogion Cymru yn dirprwyo'r rhain wedi hynny, a ganddyn nhw y byddai'r pŵer i wneud taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Fodd bynnag, cefnogais i'n llawn y bwriad y tu ôl i'r gwelliannau i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth yn rhan greiddiol o'r cynnig i ddarpar dderbynwyr taliadau uniongyrchol. Felly, rwyf i wedi ymrwymo i ystyried sut i wella'r Bil i gyflawni'r nod hwn yng Nghyfnod 3 ac ymgysylltu â llefarwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ar hyn. Yn dilyn yr ymgysylltu hwnnw, rwyf i wedi cyflwyno gwelliannau 33 a 34 er mwyn cyflawni'r bwriad mewn ffordd sy'n gyson â'r fframwaith dirprwyo sydd i'w sefydlu gan y Bil.681
Mae gwelliant 33 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus, gan gynnwys trwy ddirprwyo'r pŵer hwn i fyrddau iechyd lleol, fod rhaid i hyn gynnwys darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn briodol. Bydd maint a natur yr wybodaeth hon, a'r cyngor a'r cymorth hwn mewn rheoliadau, a fydd yn destun gwaith craffu'r Senedd drwy'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.682
Mae gwelliant 34 yn ymwneud â rheoliadau o dan adran 10B, a fydd yn galluogi byrddau iechyd i wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau i ddiwallu angen person am wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Pe bai Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud rheoliadau o'r fath, mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheoliadau'n gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth y mae'n rhaid i fyrddau iechyd eu darparu i dderbynwyr taliadau uniongyrchol, eu taleion neu'u cynrychiolwyr. Bydd y gwelliant yn cael ei fewnosod yn adran bresennol 10B(6), a gaiff ei hailrifo a'i hailfformatio i ychwanegu'r gofyniad ychwanegol hwn bod yn rhaid i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran bresennol 10B(5) wneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.683
Mae'r gwelliant yn y grŵp a gafodd ei osod gan Mabon ap Gwynfor, gwelliant 85, yn ceisio ychwanegu adran newydd at y Bil sy'n cynnwys gofyniad i fyrddau iechyd ddarparu cyngor a chymorth o ran taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Mae gwelliannau 84 ac 86 yn atodol i'r gwelliant hwn. Fel y dywedais i, rwy'n gwerthfawrogi pryder yr Aelodau y dylai'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir a chyngor cywir gefnogi defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, ac anrhydeddu bwriad y gwelliant hwn. Yn anffodus, nid yw'r gwelliant yn gweddu o fewn y fframwaith statudol y mae'r Bil yn ei greu, oherwydd ei fod yn gosod dyletswydd yn uniongyrchol ar fyrddau iechyd lleol o ran swyddogaethau na fydd ganddyn nhw hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud rheoliadau ynghylch taliadau uniongyrchol. Am y rheswm hwn, ni allaf gefnogi'r gwelliant fel y mae wedi'i ddrafftio na'r gwelliannau cysylltiedig 84 ac 86, a dyna pam yr wyf i wedi cynnig darpariaeth ar wyneb y Bil trwy welliant gan y Llywodraeth ynghylch bod yna ofyniad i fyrddau iechyd ddarparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth honno a'r cyngor hwnnw.684
Yn yr un modd, mae'r prif welliant yn y grŵp a gafodd ei osod gan James Evans, gwelliant 69, yn ceisio gosod gofyniad ar wyneb y Bil i BILlau baratoi a chyhoeddi canllawiau i gleifion ynghylch gwybodaeth sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol. Mae gwelliannau 60, 61 a 66 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn eu cefnogi. Yn anffodus, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn fel y mae wedi'i ddrafftio. Yn ogystal â'r rhesymau yr wyf i wedi'u rhoi o ran gwelliant 85, er y bydd canllawiau i gleifion yn cael eu cyhoeddi sy'n cynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol, y bwriad yw defnyddio dull canolog o sicrhau cysondeb. Unwaith y bydd y pwerau perthnasol wedi'u dirprwyo, caiff paratoi canllawiau ei ystyried yn un o gyfrifoldebau'r hyb canolog gydag ymgysylltu gan bob BILl. Dylai hyn ein helpu ni i osgoi'r hyn rwy'n credu y bydden ni i gyd yn dymuno ei osgoi—sefyllfa lle mae saith dogfen ganllaw wahanol, un ar gyfer pob ardal BILl.685
Yn olaf, mae gwelliant 68 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd, i lefel sylweddol o fanylder, ar gynnydd o ran gweithredu taliadau uniongyrchol a datblygu'r hyb canolog arfaethedig. Yn unol â fy ymateb i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf i eisoes wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr hyb canolog wrth iddo gael ei sefydlu. Unwaith eto, rwy'n hapus i fynychu'r pwyllgor neu wneud datganiadau yn y Siambr i gyfrif am gynnydd wrth weithredu darpariaethau taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, ac felly nid wyf i'n credu bod angen y gwelliant hwn. Diolch.686
I arbed amser, fe wnes i ddod â gwelliannau 60 a 61 ymlaen fel gwelliannau procio i gael ymrwymiadau gennych chi heddiw ar yr hyb canolog hwnnw, ac rydych chi wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw i mi, felly, rwy'n credu bod hynny'n ddigon gennyf i am y tro. Diolch.687
Gan mai dyma fydd fy nghyfraniad olaf i yn y drafodaeth yma heno—bydd nifer ohonoch chi'n falch o glywed, dwi'n siŵr—gaf i gymryd y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i dîm rhagorol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu cymorth amhrisiadwy wrth ddrafftio a chyflwyno'r gwelliannau? Hefyd, diolch i Lewis Owen, aelod o staff gwych, am ei waith diflino drwy gydol y broses. Ac wrth gwrs, diolch i Sioned Williams, a oedd yn arwain ar y briff yma cyn imi ei gymryd o drosodd, ac i Siân Gwenllian am ei gwaith fel Aelod dynodedig gynt yn ystod y broses o lunio hyn, ac, wrth gwrs, i Julie Morgan am y gwaith mae hi wedi'i wneud dros ddegawdau yn y maes yma.688
Pwrpas ein gwelliannau ni yn y grŵp yma ydy i roi’r hawl i unigolion perthnasol dderbyn cefnogaeth a chyngor ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol, sy’n ymateb i rai o’r pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod craffu fod rhai unigolion penodol yn ansicr am beth fyddai newid i drefniant taliadau uniongyrchol yn ei olygu yn ymarferol iddyn nhw. Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog gadarnhau y byddai’r Llywodraeth yn fodlon ystyried yr achos hyn ymhellach, a dwi’n hynod ddiolchgar am y trafodaethau adeiladol yr ydym ni wedi eu cael ers hynny er mwyn cyflawni ein bwriad gwreiddiol a hynny'n ymarferol.689
Fe wnaethom ni barhau i gyflwyno'r gwelliannau yma fel gwelliannau procio, ond mae'r trafodaethau wedi bod yn ffrwythlon ac, wedi clywed esboniad y Gweinidog ar gyfer gwelliannau 33 a 34, sy’n creu’r eglurder sydd ei angen o ran darparwyr y wybodaeth briodol, dwi wedi cael fy moddhau gan yr atebion ac felly, mi fyddwn ni'n tynnu yn ôl welliannau 84, 85 ac 86. Diolch yn fawr iawn.690
Y Gweinidog i ymateb, neu dim byd i'w ychwanegu?691
Dim ond i ddiolch i Mabon ap Gwynfor a James Evans ac Altaf Hussain am y ddeialog adeiladol yr ydyn ni wedi ei chael i gyrraedd y pwynt hwn. Diolch yn fawr iawn.692
Y cwestiwn cyntaf, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn.693
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 34. Gweinidog—yn cael ei symud? 694
Cynigiwyd gwelliant 34 (Dawn Bowden).
Rwy'n cynnig y gwelliant695
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e wedi'i dderbyn.696
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 61 yn cael ei symud? 697
Nac ydi.698
Dyw e ddim yn cael ei symud, felly fydd yna ddim pleidlais ar welliant 61. 699
Ni chynigiwyd gwelliant 61 (James Evans).
Gwelliant 84.700
Na.701
Dyw e ddim yn cael ei symud chwaith. Felly, os nad oes neb yn gwrthwynebu hynny, fydd gwelliant 84 ddim yn cael ei symud.702
Ni chynigiwyd gwelliant 84 (Mabon ap Gwynfor).
Ydy gwelliant 60 yn cael ei symud?703
Na.704
Dyw e ddim yn cael ei symud gan James Evans, felly, dim pleidlais.705
Ni chynigiwyd gwelliant 60 (James Evans).
Grŵp 13 fydd nesaf, felly, ac mae'r grŵp yma ar oruchwyliaeth a chymorth ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes gofal iechyd. Gwelliant 62 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. James Evans i gynnig gwelliant 62.706
Cynigiwyd gwelliant 62 (James Evans).
Diolch, Llywydd, ac rwyf am sôn am y gwelliannau yn y grŵp hwn sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Cafodd pob gwelliant yn y grŵp hwn ei gynllunio fel gwelliant procio, gan ganolbwyntio yn bennaf ar gael ymrwymiadau mwy cadarn gan y Gweinidog yma yn y Siambr wedi'u cofnodi.707
Gyda gwelliannau 62 i 65, rwy'n ceisio gwthio'n ymhellach, yr un amcanion â fy ngwelliannau yn y grŵp blaenorol, sy'n ymwneud ag eglurder ynghylch y diweddariadau ar yr hyb canolog.708
Bwriad gwelliant 67 yw cael rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r cyllid ychwanegol sydd ar gael drwy'r system taliadau uniongyrchol. Mae hyn wedi'i ddrafftio fel dyletswydd y mae'n rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud o ran y taliadau uniongyrchol, yn hytrach nag ar wyneb y Bil ei hun, gyda'r dyletswyddau hyn i'w nodi mewn rheoliadau. Gwrthwynebodd y Gweinidog y gwelliant yng Nghyfnod 2 ar y sail bod ymrwymiadau wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru dalu costau gweithredu craidd am y tair blynedd gyntaf. Fodd bynnag, fel yr ydyn ni eisoes wedi'i drafod, nid oes sicrwydd y bydd Llywodraeth nesaf Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â'u barn yn hynny o beth, a heb ymrwymiadau ariannol hanfodol o'r fath ar wyneb y Bil, mae risg amlwg y bydd yr awdurdodau lleol yn cael eu tanseilio pe bai gan Weinidog yr awydd i wneud hynny. Felly, rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog bod y pryderon hyn wedi cael eu hystyried ac y gallwn ni ddisgwyl i'r ymrwymiadau ariannu llawn hyn gael eu bodloni, fel disgrifiwyd yn flaenorol.709
Gan droi at welliant 70, mae hwn i bwyso am ymrwymiadau gan y Gweinidog ynghylch argymhellion y pwyllgor i fonitro'r gwariant gan fyrddau iechyd dros dair blynedd gyntaf y polisi, gan barhau i fonitro ac adolygu'r polisi, wrth symud ymlaen. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol, gan ei fod wedi cael ei ystyried gan y Gweinidog. Bydd y costau gweithredu craidd yn y tair blynedd gyntaf yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.710
O ran gwelliant 71, mae hwn hefyd yn pwyso am ymrwymiad gan y Gweinidog heddiw, y tro hwn ynghylch argymhellion y pwyllgor i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyfnodol gan nodi asesiad y Gweinidog o'r cynnydd sy'n cael ei wneud i baratoi byrddau iechyd ar gyfer eu cyfrifoldeb newydd o ran taliadau uniongyrchol.711
Mae gwelliant 72 yn ceisio sicrhau y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod yr adolygiad ôl-weithredu ar gyfer y Bil yn ystyried yr ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr gofal cymdeithasol am y dewis newydd ar gyfer taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gytuno ar y set ddata ac i sicrhau ei bod ar gael ar gyfer byrddau iechyd lleol, gyda'r bwriad o roi darlun o'r nifer sy'n derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus ledled Cymru, ac i roi manylion yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad ôl-weithredu.712
Yn olaf, o ran gwelliant 73, rwy'n ceisio ymrwymiad clir a chadarn gan y Gweinidog y bydd confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn cael sylw amlwg yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi. Rwy'n deall nad yw'r Gweinidog eisiau rhoi hwn ar wyneb y Bil cyn bod swyddogaethau yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd lleol gan bwerau deddfu. Fodd bynnag, fel rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ei ddychmygu, nid yw'n dderbyniol i mi nad ymdrinnir â'r mater hwn. Felly, fel y mae pethau, a gyda dim ond addewid y byd yn cael ei gynnwys i ddibynnu arno, rwy'n mawr obeithio y gallaf i gael yr ymrwymiad cadarn hwnnw gennych chi yma heddiw.713
Rydw i wedi colli fy lle yn llwyr nawr. Y Gweinidog i gyfrannu.714
Diolch, Llywydd. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau yn y grŵp hwn, yn anffodus ni allaf i eu cefnogi eto. Mae gwelliant 73 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i BILlau ar sut i ddarparu taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus drwy ganllawiau statudol, gan gynnwys darpariaeth ar roi sylw dyledus i gonfensiwn perthnasol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Er bod y confensiwn hwnnw, wrth gwrs, yn hanfodol, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn gweddu o fewn cyd-destun strwythurol y Bil. Nid oes gan fyrddau iechyd lleol unrhyw swyddogaethau o ran taliadau uniongyrchol nes iddyn nhw gael eu rhoi gan reoliadau. Bydd rheoliadau sy'n nodi sut y dylai taliadau uniongyrchol gael eu gweithredu gan BILlau yn cael eu rhoi ar waith a bydd y rhain yn cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol. Rwy'n credu mai dyna'r amser a'r fforwm priodol lle y dylai pwysigrwydd y confensiwn cael ei bwysleisio. Fel y dywedais i pan dderbyniais i argymhelliad 25 o adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod trafodion Cyfnod 1, fe wnaf i sicrhau bod confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn cael sylw amlwg yn y canllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn Rhan 2 o'r Bil.715
Gan droi at welliant 72, mae hwn yn ceisio'i wneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar weithredu a darparu taliadau uniongyrchol a'u heffaith, gyda chylchoedd adrodd tair blynedd llym. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn. Er mwyn ailadrodd sylwadau y gwnes i wrth dderbyn argymhelliad 26 o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd gwerthuso cyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus yn ystyried ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr gofal cymdeithasol o'r dewis o daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Bydd yn ystyried y setiau data a fydd yn cael eu defnyddio i ddeall y nifer sy'n manteisio ar daliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, a bydd y gwerthusiad yn gwneud argymhellion ar ofynion monitro ac adrodd yn y dyfodol. Nid yw'r amserlenni ar gyfer y gwerthusiad wedi'u pennu, ond bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod diweddariadau gweithredu yn y dyfodol yn cynnwys y mater hwn. Am y rheswm hwn, nid wyf i'n credu bod angen gwelliant 72.716
Mae gwelliant 70 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar y gwariant a ysgwyddir gan BILlau o ran taliadau uniongyrchol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod sefyllfa ariannol BILlau yn cael ei hadrodd arni. Nid yw hyn yn gydnaws â'r amserlenni adrodd presennol ac mae'n dyblygu gofynion presennol adrodd ariannol BILlau. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn, ond rwyf i eisoes wedi ymrwymo, fel rhan o fy ymateb i'r Pwyllgor Cyllid, y bydd Llywodraeth Cymru, drwy'r gwerthusiad, yn monitro gwariant ac effaith ariannol darparu taliadau uniongyrchol i fyrddau iechyd dros y tair blynedd gyntaf. Mae hyn yn fwy cymesur a phriodol na'r gofyniad yn y gwelliant.717
Mae gwelliant 71 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi adroddiadau sy'n nodi eu hasesiad o'r cynnydd y mae BILlau yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer taliadau uniongyrchol, gan gynnwys amserlenni ar gyfer adrodd. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn, gan fy mod i'n credu ei fod yn ddiangen, ar ôl ymrwymo eisoes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan fyrddau iechyd wrth iddyn nhw baratoi i ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn.718
Yn olaf, gan droi at welliant 67, mae'r gwelliant hwn yn ceisio nodi bod Gweinidogion Cymru'n talu swm digonol i BILlau i ddarparu taliadau uniongyrchol. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn gan fod cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG yn cael ei gynnwys yng nghyllidebau BILlau yn flynyddol. Yn ogystal, mae costau cyllido ar gyfer gweithredu taliadau uniongyrchol wedi'u nodi yn y memorandwm esboniadol, ac rwyf i eisoes wedi rhoi ymgymeriadau y bydd y costau gweithredu craidd, am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pontio. Felly, nid yw'n angenrheidiol, ac nid wyf i'n credu y byddai'n briodol, i neilltuo, yn y modd hwn, yr elfen hon o gyfanswm y cyllid i'r GIG ar gyfer darparu ei wasanaethau.719
Mae gwelliannau 62 i 65 yn cefnogi'r prif welliannau ac, felly, ni allaf i eu cefnogi chwaith. Gofynnaf i'r Aelodau beidio â chytuno'r gwelliannau.720
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei hesboniadau ynghylch rhai o'r rhesymau pam nad yw'n gallu cefnogi'r gwelliannau heddiw a hefyd yr ymrwymiadau y mae hi wedi'u rhoi yma ac i bwyllgorau yn y Senedd. Am y rheswm hwnnw, ni fyddaf i'n gwthio'r gwelliannau hyn i bleidlais.721
Felly, mae gwelliant 62 yn cael ei dynnu nôl. Ydy. Felly, os nad oes yna wrthwynebiad gan Aelodau, bydd y gwelliant yna'n cael ei dynnu nôl. Felly hefyd 63, 64, 65, a 69, James—ddim yn cael eu symud chwaith.722
Tynnwyd gwelliant 62 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Ni chynigiwyd gwelliannau 63, 64, 65 a 69 (James Evans).
A yw Mabon ap Gwynfor yn symud 85?723
Na. Tynnu'n ôl.724
Na, ddim yn symud 85.725
Ni chynigiwyd gwelliant 85 (Mabon ap Gwynfor).
Ni chynigiwyd gwelliant 66 (James Evans).
Mae 86, felly, yn methu hefyd.726
Ni chynigiwyd gwelliant 86 (Mabon ap Gwynfor).
Mae hynny'n mynd â ni i 67. Ydy e'n cael ei symud? Nac ydy, ddim yn cael ei symud.727
Ni chynigiwyd gwelliant 67 (James Evans).
A 68 ddim yn cael ei symud, James Evans. Na.728
Ni chynigiwyd gwelliant 68 (James Evans).
Gwelliannau 70, 71, 72, 73, James Evans—ddim yn cael eu symud. Does dim un o'r gwelliannau yna'n cael eu symud.729
Ni chynigiwyd gwelliannau 70, 71, 72 a 73 (James Evans).
Felly, awn ni i grŵp 14. Mae'r grŵp yma ar adolygu’r fframwaith gofal iechyd parhaus, a 74 yw'r prif welliant yn y grŵp, gyda James Evans yn cynnig y prif welliant yma. James Evans.730
Cynigiwyd gwelliant 74 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwyf am sôn am welliannau 74 a 76, a gafodd eu cyflwyno yma yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd i chwilio am ymrwymiad gan y Gweinidog heddiw o ran argymhellion y pwyllgor i dynnu sylw at unrhyw newidiadau a chanllawiau cymhwysedd ychwanegol sydd wedi cael eu darparu o ganlyniad i adolygiad fframwaith gofal iechyd parhaus ar ôl ei gwblhau. Fel y cafodd ei nodi yng Nghyfnod 2, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i adolygu'r fframwaith presennol erbyn 2027, rwy'n pryderu na fydd deiliaid eich swydd yn y dyfodol yn rhwym wrth ymrwymiadau o'r fath. Felly, rwy'n gofyn am sicrwydd gennych chi yn y Siambr heddiw ar y mater hwn.731
Felly, mae gwelliant 74 yn cyfeirio at adolygiad 'Gofal Iechyd Parhaus y GIG—Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru'. Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi'r gwelliant hwn. Nid oes angen gosod gofyniad i gynnal adolygiad o fframwaith gofal iechyd parhaus ar wyneb y Bil. Mae ymrwymiad presennol eisoes wedi'i gyhoeddi i adolygu'r fframwaith o fewn pum mlynedd i'w weithredu, sef yn 2027. Fel rhan o fy ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Fe wnes i ailadrodd yr ymrwymiad hwn gan gytuno y byddwn ni'n cyflwyno'r ymrwymiad presennol i ddiwygio fframwaith gofal iechyd parhaus i fod yn gydnaws â chyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, ac rwy'n hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw heddiw. Bydd gwneud hyn yn galluogi cynnwys gwybodaeth berthnasol ynghylch y taliadau uniongyrchol sydd newydd eu sefydlu ar gyfer gofal iechyd parhaus yn y fframwaith diwygiedig.732
Rydym ni hefyd yn drafftio cynllun gweithredu i ymdrin â materion a gafodd eu codi ynghylch fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus, yn ogystal â materion y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni eu bod yn effeithio ar y prosesau presennol. Bydd y cynllun gweithredu yn bwrw ymlaen â darnau allweddol o waith sy'n gysylltiedig â pholisi gofal iechyd parhaus, sy'n cynnwys adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus, a'n nod yw cwblhau'r cynllun gweithredu erbyn yr haf hwn. Bydd pob rhanddeiliad allweddol ar gyfer gofal iechyd parhaus a pholisi a darpariaeth gofal nyrsio a ariennir yn cymryd rhan a byddan nhw'n chwarae rhan ystyrlon yn y gwaith o adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus i sicrhau ei fod yn addas i'r diben ac yn addas i Gymru.733
Mae gwelliant 76 yn ymwneud â gwelliant 74 ac yn ei gefnogi. Effaith y gwelliant hwn yw bydd y ddarpariaeth sy'n cynnwys y gofyniad i adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Gan na allaf gefnogi gwelliant 74, nid wyf yn cefnogi gwelliant 76 chwaith a gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y ddau welliant hyn. Diolch734
James Evans i ymateb. Dim ymateb.735
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 74 wedi'i wrthod a bydd gwelliant 76 yn methu o ganlyniad i hynny.736
Gwelliant 74: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 76.
Y grŵp olaf o welliannau, felly, yw grŵp 15. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer cychwyn. Gwelliant 75 yw'r unig welliant yn y grŵp a James Evans sy'n cynnig y gwelliant. 737
Cynigiwyd gwelliant 75 (James Evans).
Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus ac yn falch o siarad am fy ngwelliant olaf yn y grŵp hwn i'w ystyried heddiw, gwelliant 75. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn falch mai dim ond un paragraff sydd gennyf i'w ddarllen ar y gwelliant hwn.738
Diben y gwelliant hwn yw gweithio ymhellach ochr yn ochr â gwelliant 58 yng ngrŵp 3, eto gyda'r nod o weithredu amcan argymhellion y pwyllgor y dylai darpariaeth gael ei chynnwys ar gyfer cynnig gweithredol o eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc y gallai'r Bil effeithio ar eu trefniadau gofal nhw. Gofynnaf i'r holl Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.739
Y Gweinidog i ymateb.740
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r tro olaf y byddaf i ar fy nhraed y prynhawn yma hefyd, a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am y drafodaeth adeiladol ar y darn pwysig ac arloesol hwn o ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ceisio ei chlirio y prynhawn yma?741
Mae'r un gwelliant yn y grŵp hwn, gwelliant 75, yn ceisio'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw offeryn statudol sy'n cael ei wneud o dan adran 29(2) o'r Bil i ddechrau darpariaethau yn y Bil yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Nid yw hyn yn gydnaws â'r dull y mae'r Llywodraeth wedi'i gymryd yn gyson yn ei deddfwriaeth, sef nad yw offerynnau statudol sydd dim ond yn dechrau darpariaethau Deddf yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Mae yna hefyd fater technegol gyda'r gwelliant. Mae adran 29(2) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddechrau darpariaethau'r Bil drwy Orchymyn. Fodd bynnag, mae'r gwelliant yn cyfeirio at reoliadau. Am y ddau reswm hyn, gofynnaf felly i'r holl Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn. Diolch yn fawr.742
James Evans i ymateb.743
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r tro olaf y byddaf i ar fy nhraed heddiw, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog a'ch tîm am eich holl ymgysylltu a'r cyfarfod a gawsom pan oeddech chi'n symud rhwng cyfarfodydd—roeddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny—a hefyd i holl glercod y pwyllgor sydd wedi helpu i roi'r holl welliannau hyn at ei gilydd. Ac fe wnaf i ddweud, Gweinidog, er bod gennym ni wahanol farn am y Bil hwn, fe wnaf i ddweud, ar ochr hon y Siambr, ein bod ni wir yn poeni am ein plant a'n pobl ifanc ledled Cymru sydd yn y system ofal, ac mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i wella bywydau'r bobl ifanc hynny yn bwysig, bwysig iawn. Ac rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn falch iawn o'r gwaith yr ydyn ni i gyd yn ei wneud yn y Siambr hon i sefyll dros y bobl hynny nad ydyn nhw weithiau'n teimlo bod ganddyn nhw lais. Felly, diolch yn fawr iawn, Llywydd.744
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 75? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais felly ar welliant 75 yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Y gwelliant yna wedi ei wrthod.745
Gwelliant 75: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 35, Gweinidog. Yn cael ei symud?746
Cynigiwyd gwelliant 35 (Dawn Bowden).
Cynigiwyd y gwelliant.747
Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 35? Nac oes. Felly, mae gwelliant 35, yr olaf, wedi cael ei gymeradwyo ar hynny.748
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac felly, rŷn ni wedi dod at ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a dwi’n datgan y bernir fod pob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn.749
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
A dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.750
Daeth y cyfarfod i ben am 19:36.
Mae'r Gweinidog yn dymuno nodi bod y safonau ymarfer a'r canllawiau arfer da y cyfeirir atynt yma yn ymwneud ag adran 98(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd i'r plentyn o dan amgylchiadau penodol, yn hytrach na'r ddarpariaeth yn adran 178 o Ddeddf 2014 y cyfeiriodd y Gweinidog ati yn gynharach yn ei chyfraniad.