Y Cyfarfod Llawn
Plenary
21/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf heddiw, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.
Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary meeting. The first item will be questions to the First Minister, and the first question is from Mark Isherwood.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bawb? OQ62142
1. How does the Welsh Government ensure town centres are accessible for all? OQ62142
Diolch yn fawr. The 'Manual for Streets' is a document adopted by the Welsh Government, which sets out our expectations on how to ensure inclusive places. At the local level, local development plans and placemaking plans outline how towns can be improved for everyone, including disabled people. With support from the Design Commission for Wales, local authorities are empowering communities to be part of this process.
Diolch yn fawr. Dogfen a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r 'Llawlyfr Strydoedd', sy'n nodi ein disgwyliadau o ran sut i sicrhau lleoedd cynhwysol. Ar y lefel leol, mae cynlluniau datblygu lleol a chynlluniau creu lleoedd yn amlinellu sut y gellir gwella trefi i bawb, gan gynnwys pobl anabl. Gyda chymorth Comisiwn Dylunio Cymru, mae awdurdodau lleol yn grymuso cymunedau i fod yn rhan o'r broses hon.
It’s almost 22 years since I first attended a Guide Dogs Cymru event here, highlighting the need to stop turning shared streets and outdoor public places into no-go zones for blind and partially sighted people by involving them at the design stage. However, the problem persisted. Early in the pandemic, concern had to be raised by the Royal National Institute of Blind People Cymru and Guide Dogs Cymru about the issue of shared space and the implications for blind and partially sighted people of the Welsh Government’s temporary transport measures. Today, RNIB Cymru is continuing to call on the Welsh Government to prioritise the safety of disabled people by incorporating their key principles of inclusive street design into the Welsh Government’s active travel guidance. And Guide Dogs Cymru are calling on the Welsh Government to act on the findings of their 'Designing for Inclusion' research, and to revise the active travel guidance technical advice note 18 and other relevant guidance, with the involvement of disabled people and other infrastructure users. How will you ensure that warm Welsh Government words are finally turned into real action on the ground accordingly?
Mae bron i 22 mlynedd ers i mi fynychu digwyddiad Cŵn Tywys Cymru yma am y tro cyntaf, yn tynnu sylw at yr angen i roi'r gorau i droi strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus yn yr awyr agored yn ardaloedd caeedig i bobl ddall a rhannol ddall drwy eu cynnwys yn ystod y cam dylunio. Fodd bynnag, parhaodd y broblem. Yn gynnar yn y pandemig, bu'n rhaid i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru a Guide Dogs Cymru godi pryder ynghylch y mater o fannau a rennir a'r goblygiadau mesurau trafnidiaeth dros dro Llywodraeth Cymru i bobl ddall a rhannol ddall. Heddiw, mae RNIB Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu diogelwch pobl anabl drwy ymgorffori eu hegwyddorion allweddol o ddylunio strydoedd cynhwysol yng nghanllawiau teithio llesol Llywodraeth Cymru. Ac mae Guide Dogs Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ganfyddiadau eu hymchwil 'Dylunio ar gyfer Cynhwysiant', ac i ddiwygio canllawiau teithio llesol nodyn cyngor technegol 18 a chanllawiau perthnasol eraill, gan gynnwys pobl anabl a defnyddwyr seilwaith eraill. Sut wnewch chi sicrhau bod geiriau gwresog Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn cael eu troi'n weithredu go iawn ar lawr gwlad yn unol â hynny?
Thanks very much. I can assure you that the Cabinet Secretary for transport is already working on this issue, because I do think it’s important that everybody feels they can be a part of our community. And, to ensure that, we need to make sure that people with disabilities don’t feel locked out; they need to be a part of the process of the development of policies. So, we’ve asked the local authorities to ensure that, when they’re working out how to develop their town centres, they take that into account, including people who are blind. So, local authorities have these local development plans, and one of the things they have to do in developing a plan is this placemaking plan, and in order for that to work well, they have to make sure that equality and diversity is a part of that process, so that people can feed in.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth eisoes yn gweithio ar y mater hwn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pawb yn teimlo y gallan nhw fod yn rhan o'n cymuned. Ac, i sicrhau hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw pobl ag anableddau yn teimlo wedi'u cloi allan; mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau. Felly, rydym ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol sicrhau, pan fyddan nhw'n gweithio allan sut i ddatblygu canol eu trefi, eu bod nhw'n cymryd hynny i ystyriaeth, gan gynnwys pobl sy'n ddall. Felly, mae gan awdurdodau lleol y cynlluniau datblygu lleol hyn, ac un o'r pethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud wrth ddatblygu cynllun yw'r cynllun creu lleoedd hwn, ac er mwyn i hynny weithio'n dda, mae'n rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o'r broses honno, fel y gall pobl gyfrannu.
Our town centres are much more than simply places; they’re part of who we are and where we’re from. That’s why it is so important that they are accessible to all and are places for everyone to be part of. On Friday, First Minister, I met with a representative from WeMindTheGap to discuss their Big Conversation project in partnership with Wrexham university, aimed at giving a voice to the experience of young people aged 18 to 21 in Flintshire. Now, whilst having somewhere to go in town has been raised regularly, being able to get there in the first place is something that has so far been flagged through the work that they’re undertaking—that public transport, as it stands, isn’t currently serving young people or our places, and they often struggle just to get anywhere, and in particular into town centres.
I also bumped into WeMindTheGap in Mold market on Saturday, as they were out speaking to young people as part of the project. I now live and have my office in Mold, but, as a teenager, I used to rely on the bus to get there when I had enough money for a pick-'n'-mix and maybe a cassette single from Woolies. But fast forward just a few years to today, First Minister, I know you paid a welcome visit to Mold at the end of the summer. Can I ask, then, what the Welsh Government is doing to make sure towns like Mold are not only places that young people want to go to in terms of what is on offer there, but are actually accessible to them in the first place? Diolch.
Mae canol ein trefi yn llawer mwy na lleoedd yn unig; maen nhw'n rhan o bwy ydym ni ac o le'r ydym ni'n dod. Dyna pam mae mor bwysig eu bod nhw'n hygyrch i bawb a'u bod nhw'n fannau i bawb fod yn rhan ohonyn nhw. Ddydd Gwener, Prif Weinidog, cwrddais â chynrychiolydd o WeMindTheGap i drafod eu prosiect Sgwrs Fawr mewn partneriaeth â phrifysgol Wrecsam, gyda'r nod o roi llais i brofiad pobl ifanc 18 i 21 oed yn sir y Fflint. Nawr, er y codwyd yn rheolaidd bod â rhywle i fynd yn y dref, mae gallu cyrraedd yno yn y lle cyntaf yn rhywbeth sydd hyd yma wedi cael ei amlygu drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud—nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, fel y mae, yn gwasanaethu pobl ifanc na'n lleoedd ar hyn o bryd, ac yn aml maen nhw'n cael trafferth dim ond i gyrraedd unrhyw le, ac yn enwedig canol trefi.
Fe wnes i hefyd daro ar WeMindTheGap ym marchnad yr Wyddgrug ddydd Sadwrn, gan eu bod nhw allan yn siarad â phobl ifanc yn rhan o'r prosiect. Rwyf i bellach yn byw yn yr Wyddgrug ac mae gen i fy swyddfa yno, ond, yn fy arddegau, roeddwn i'n arfer dibynnu ar y bws i gyrraedd yno pan oedd gen i ddigon o arian ar gyfer bag o losin a sengl casét o Woolies efallai. Ond symudwch ymlaen ychydig flynyddoedd yn unig i heddiw, Prif Weinidog, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld â'r Wyddgrug ddiwedd yr haf. A gaf i ofyn, felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod trefi fel yr Wyddgrug nid yn unig yn lleoedd y mae pobl ifanc eisiau mynd iddyn nhw o ran yr hyn sydd ar gael yno, ond eu bod nhw'n hygyrch iddyn nhw yn y lle cyntaf? Diolch.
Thanks very much. In my listening exercise, the issue of town centres and the need to upgrade them was something that came across very clearly. So, I’m really pleased that we are spending a significant amount of money—about £40 million a year—specifically on some of that. And there are examples across the whole of Wales where we’ve got these placemaking plans, and we have these master plans for towns and high streets. But I hear what you say in relation to young people. It’s really important that they feel that they can get to the town centres. We recognise that there’s an issue with buses at the moment. That’s why we’re going to be introducing the buses Bill. That will give us more control over how buses and how franchises work in future. I am hopeful that that will make a significant difference to people in your constituency. It was great to come and visit you in Mold and to speak to some of the locals there. It was great to be able to buy some—. I bought the best book I've ever read, I think, in Mold. And I'm really pleased that it looks like some of the investment that's going in really is making a difference in some of our town centres.
Diolch yn fawr iawn. Yn fy ymarfer gwrando, roedd mater canol trefi a'r angen i'w huwchraddio yn rhywbeth a gafodd ei gyfleu yn eglur iawn. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni'n gwario swm sylweddol o arian—tua £40 miliwn y flwyddyn—yn benodol ar rywfaint o hynny. A cheir enghreifftiau ledled Cymru gyfan lle mae gennym ni'r cynlluniau creu lleoedd hyn, ac mae gennym ni'r uwchgynlluniau hyn ar gyfer trefi a strydoedd mawr. Ond rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran pobl ifanc. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n teimlo y gallan nhw gyrraedd canol y trefi. Rydym ni'n cydnabod bod problem gyda bysiau ar hyn o bryd. Dyna pam rydym ni'n mynd i fod yn cyflwyno'r Bil bysiau. Bydd hwnnw yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros sut mae bysiau a sut mae masnachfreintiau yn gweithio yn y dyfodol. Rwy'n obeithiol y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl yn eich etholaeth. Roedd yn wych dod i ymweld â chi yn yr Wyddgrug a siarad â rhai o'r bobl leol yno. Roedd yn wych gallu prynu rhywfaint o—. Prynais y llyfr gorau yr wyf i erioed wedi ei ddarllen, rwy'n meddwl, yn yr Wyddgrug. Ac rwy'n falch iawn ei bod hi'n edrych fel pe bai rhywfaint o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud wir yn gwneud gwahaniaeth yng nghanol rhai o'n trefi.
Brif Weinidog, fe gysylltodd ymwelydd o Fanceinion â fy swyddfa ychydig cyn y Nadolig. Mae ganddo anableddau cerdded ac mae e'n rhannol ddall. Roedd tocynnau gyda fe i gyngerdd fawr yn y stadiwm cenedlaethol, ond roedd angen cyrraedd y lle. Fe gynigiwyd lle parcio iddo yn y stadiwm, ond roedd yn rhaid iddo fe gyrraedd bum awr cyn i'r gyngerdd ddechrau a dwy awr cyn i'r gatiau agor. Opsiwn arall oedd park and ride, a fyddai wedi ei ollwng e ar ochr arall y stadiwm i ble roedd ei gât e, heb unrhyw gymorth i gerdded o gwmpas y stadiwm i gyrraedd ei gât. Y trydydd opsiwn oedd lle i barcio yng Ngerddi Sophia, ond dim cymorth iddo fe fynd i'r stadiwm ac yn ôl o'r stadiwm. Dyw hyn ddim yn hygyrch, a dyw e ddim yn deg chwaith. Rŷn ni'n ymfalchïo bod Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, ond mae angen sicrhau bod y digwyddiadau yma ar gael i bawb. Trwy drafod gyda'r cyngor a'r stadiwm, fe ddaethom ni i ddatrysiad, ond mae hwn wedi gadael blas cas yng ngheg yr ymwelydd yma o Fanceinion, a fydd e ddim yn dod nôl ar frys i Gaerdydd. A wnewch chi siarad â chynghorau, a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg, a bod y sefydliadau yma yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010? Diolch yn fawr.
Prif Weinidog, a visitor from Manchester contacted my office a little before Christmas. He has mobility disabilities and is partially blind. He had a ticket to a major concert at the national stadium, but he needed to get there. He was offered a parking space in the stadium, but he had to arrive five hours before the concert started and two hours before the gates opened. Another option was park and ride, which would have dropped him at the other side of the stadium to where his gate was, without any assistance in walking around the stadium to get to the gate. The third option was a parking space at Sophia Gardens, but no support for him to get to the stadium and back. Now, this isn't accessible, and it's not fair either. We take pride that Cardiff stages a number of major events, but we need to ensure that these events are available to all. In having discussions with the council and the stadium, we found a solution, but this has left a nasty taste in this visitor's mouth, and he won't return in a hurry to Cardiff. So, will you speak to councils, and other stakeholders, in order to ensure that people are treated fairly, and that these institutions do comply with the Equality Act 2010? Thank you.
Diolch yn fawr. Mae lot o waith i'w wneud i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy fel bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu cyfrannu i'n cymdeithas, eu bod nhw'n gallu cymryd rhan yn ein cymdeithas ni. A dwi'n falch i ddweud bod Jane Hutt yn gwneud lot o waith ar hwnna ar hyn o bryd, wedi bod yn ymgynghori â grwpiau ar draws Cymru, a, chyn bo hir, mi fyddwn ni'n cael action plan sydd wedi cael ei gynllunio gyda phobl i sicrhau ein bod ni'n rhoi blaenoriaeth i'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae'n flin iawn gyda fi glywed am y profiad a gafodd eich ffrind chi yn y stadiwm. Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth efallai i chi ysgrifennu at y stadiwm i weld beth maen nhw'n gallu ei wneud, achos mae cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i wneud beth sydd ei angen yn y maes yma. Felly, rŷn ni'n ymwybodol, ac os ydych chi'n ystyried faint o bobl sydd ag anabledd yng Nghymru, mae'r rhif yn eithaf uchel, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod yna wahanol fathau o anabledd hefyd a bod yn rhaid i ni ystyried y rhain i gyd.
Thank you very much. There is a lot of work to be done for us to ensure that we do more so that people do feel that they can make a contribution in society and that they can take part in our society. I'm very pleased to say that Jane Hutt is doing a lot of work on that at present and has been consulting with groups across Wales, and, before long, we'll be having an action plan that has been designed with people to ensure that we do give priority to those things that are important to them.
I'm very sorry to hear about the experience that your friend had in the stadium. I think that it might be worth you writing to the stadium to see what they can do, because they have a responsibility also to do what's needed in this area. So, we're very aware, and if you consider how many people do have a disability in Wales, the number is quite high, and so it's important that we do recognise that there are different kinds of disabilities and that we have to consider them all.
2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael efo Swyddfa'r Post am gwtogi gwasanaethau hanfodol yn Arfon? OQ62159
2. What discussions is the Welsh Government having with the Post Office about the reduction of essential services in Arfon? OQ62159
Er bod y rhain yn faterion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae hi’n bryder i mi pan fydd materion penodol yn effeithio ar bobl yn ein cymunedau ni yng Nghymru. Rŷn ni mewn cysylltiad rheolaidd â Swyddfa'r Post i sicrhau ein bod ni’n cael gwybod am faterion sy'n poeni'r gymuned leol. Dwi’n annog pobl sy’n cael eu heffeithio i gysylltu â Swyddfa'r Post i dynnu sylw at y galw am wasanaethau yn lleol.
Although these matters are issues for the UK Government, it is a concern to me when specific issues do affect people in our communities in Wales. We are in regular contact with the Post Office to ensure we are informed about issues that are of concern to local communities. I urge those affected to contact the Post Office to highlight the demand for services locally.
Mae Swyddfa'r Post yn troi ei gefn ar Wynedd. Maen nhw'n cael gwared ar y gwasanaethau allgymorth symudol mewn 21 o gymunedau ar draws y sir, ac mae'r toriadau yma'n ychwanegol at gau swyddfa post Criccieth a'r bygythiad i gau swyddfa post y Goron yng Nghaernarfon. Caernarfon ydy'r unig swyddfa post y Goron ar ôl mewn ardal eang o Gymru erbyn hyn. Gaf i ofyn, felly, am eich help chi fel Prif Weinidog i ddwyn pwysau ar Swyddfa'r Post i gadw swyddfa post Caernarfon, fel swyddfa'r Goron ac i adfer y gwasanaethau eraill? Beth mae Swyddfa'r Post yn ei ddweud wrth bobl Gwynedd ydy hyn: 'Oherwydd nad ydych chi'n byw mewn lle poblog, dydych chi ddim yn cyfrif', ac mae hynny'n gywilyddus. Felly, dwi yn gofyn, ar ran pobl Gwynedd, i chi droi pob carreg er mwyn adfer a diogelu'r gwasanaethau hanfodol yma.
The Post Office is turning its back on Gwynedd. They are scrapping the mobile outreach services in 21 communities across the county, and these cuts are in addition to the closure of the Criccieth post office and the threat to close the Crown post office in Caernarfon. Caernarfon is the only Crown post office left in a very large area of Wales now. Can I ask, therefore, for your assistance as First Minister to bring pressure to bear on the Post Office to keep Caernarfon post office as a Crown post office and to restore the other services? What the Post Office is telling the people of Gwynedd is this: 'Because you don't live in a highly populated area, you don't count', and that is disgraceful. So, I do urge, on behalf of the people of Gwynedd, for you to turn every stone in order to restore and safeguard these crucial services.
Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg iawn gyda fi glywed hynny, a dwi'n siŵr y bydd hwnna yn cael effaith ar y boblogaeth leol. Dwi’n gwybod bod llawer iawn o bobl yn ffafrio gwasanaeth wyneb yn wyneb, yn arbennig yr henoed. Dwi’n gwybod bod hwn yn creu pryder i chi a hefyd i ni fel Llywodraeth. Mae cyfrifoldeb ar Swyddfa'r Post i sicrhau bod 99 y cant o bobl yn byw o fewn tair milltir i swyddfa bost leol. Nawr, dyw hwnna ddim yn helpu’r math o ardal sydd gyda chi achos maen nhw’n rhan o’r 1 y cant sydd ddim yn cael eu cynrychioli. Dwi’n hapus i ofyn i’n Gweinidog ni sy’n gyfrifol am drafodaeth gyda Swyddfa'r Post a phobl eraill sy’n ymwneud â sicrhau bod yna ffyrdd eraill gan bobl i gael mynediad, er enghraifft, at arian. Fe wnawn ni ofyn a gwneud cynrychioliadau.
Thank you. I'm very sorry to hear that, and I'm sure that that will have an impact on the local population. I do know that many people do favour a face-to-face service, particularly elderly people. I know that this does cause a concern for you and also for us as a Government. There is a responsibility on the Post Office to ensure that 99 per cent of people live within three miles of a local post office. Now, that doesn't help the kind of area that you have because they're part of the 1 per cent who aren't represented. So, I'm happy to ask our Minister with responsibility to have discussions with the Post Office and others involved in ensuring that people do have other ways to gain access to money, for example. We will make a request and representations on this issue.
I’m grateful to Siân Gwenllian for raising this important subject in the Chamber here today. First Minister, you’ll know that post services are valued very much by our communities and certainly are an integral part of our high streets. As you’ve outlined, it’s not just about ensuring letters are delivered, but providing a one-stop shop for many other services. We need to see these sustained in our communities for the reasons that you’ve outlined. So, I wonder what services you’ve considered as a Welsh Government to commission to the Post Office to help their sustainability in our communities, and what conversations have been had with the Post Office to see what they can provide in our community, whether it’s from you directly as the Welsh Government or encouraging local government to do similarly, so that we can see post offices stay on our high streets and stay in our communities?
Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi'r pwnc pwysig hwn yn y Siambr yma heddiw. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod ein cymunedau yn gwerthfawrogi gwasanaethau post yn fawr iawn, a'u bod nhw'n sicr yn rhan annatod o'n strydoedd mawr. Fel yr ydych chi wedi ei amlinellu, nid yw'n ymwneud â sicrhau bod llythyrau'n cael eu danfon yn unig, ond darparu siop un stop ar gyfer llawer o wasanaethau eraill. Mae angen i ni weld y rhain yn cael eu cynnal yn ein cymunedau am y rhesymau yr ydych chi wedi eu hamlinellu. Felly, tybed pa wasanaethau ydych chi wedi eu hystyried fel Llywodraeth Cymru i'w comisiynu i Swyddfa'r Post i helpu eu cynaliadwyedd yn ein cymunedau, a pha sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal gyda Swyddfa'r Post i weld beth allan nhw ei ddarparu yn ein cymuned, boed hynny gennych chi yn uniongyrchol fel Llywodraeth Cymru neu'n annog llywodraeth leol i wneud yr un peth, fel y gallwn ni weld swyddfeydd post yn aros ar ein strydoedd mawr ac aros yn ein cymunedau?
Thank you. The Post Office, of course, is an independent organisation, but it does have public responsibilities and they do have to meet certain criteria. I think, in relation to financial services, people recognise that, generally, that is a reserved area, but as a Welsh Government we also recognise that we need to stand by and with people who are having difficulty to access, in particular, money. That’s why representatives from the Welsh Government meet regularly, for example, with LINK and Cash Access UK, in terms of, for example, making sure that there is provision of free ATMs within communities and provision of shared banking hubs. Some of those have already been introduced in Wales because of the representations that have been made by the Welsh Government.
Diolch. Mae Swyddfa'r Post, wrth gwrs, yn sefydliad annibynnol, ond mae ganddo gyfrifoldebau cyhoeddus ac mae'n rhaid iddyn nhw fodloni meini prawf penodol. Rwy'n credu, o ran gwasanaethau ariannol, bod pobl yn cydnabod bod hwn, yn gyffredinol, yn faes a gadwyd yn ôl, ond fel Llywodraeth Cymru rydym ni hefyd yn cydnabod bod angen i ni sefyll ochr yn ochr a chyda phobl sy'n cael anhawster yn cael gafael, yn benodol, ar arian. Dyna pam mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd, er enghraifft, gyda LINK a Cash Access UK, o ran, er enghraifft, gwneud yn siŵr bod darpariaeth o beiriannau ATM am ddim mewn cymunedau a darpariaeth o ganolfannau bancio a rennir. Mae rhai o'r rheini wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru eisoes oherwydd y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives, Darren Millar.
Diolch, Llywydd, and good afternoon, First Minister. Can I firstly invite the First Minister to join with me and all of the Welsh Conservatives in congratulating the forty-seventh President of the United States of America, Donald Trump, on his inauguration yesterday? We certainly look forward to being able to work to support the UK Government and the Welsh Government in its efforts to foster the special relationship with our most important ally.
Last week, First Minister, the Royal College of Nursing released their ‘On the frontline of the UK’s corridor care crisis’ report. It was based on the responses of over 5,000 nurses working across the UK, including anonymous testimonies from nursing staff here in Wales, and it made for some shocking reading. First Minister, do you agree with the director of the Royal College of Nursing in Wales, Helen Whyley, who said there’s a crisis happening in our hospitals across Wales because people are being treated in unsafe, undignified and unacceptable environments?
Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog. A gaf i wahodd y Prif Weinidog yn gyntaf i ymuno â mi a phob un o'r Ceidwadwyr Cymreig i longyfarch deugain a seithfed Arlywydd Unol Daleithiau America, Donald Trump, ar ei urddiad ddoe? Rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at allu gweithio i gefnogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu hymdrechion i feithrin y berthynas arbennig gyda'n cynghreiriad pwysicaf.
Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad 'On the frontline of the UK’s corridor care crisis'. Roedd wedi'i seilio ar ymatebion dros 5,000 o nyrsys sy'n gweithio ledled y DU, gan gynnwys tystebau dienw gan staff nyrsio yma yng Nghymru, ac roedd llawer o'i gynnwys yn frawychus. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â chyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Helen Whyley, a ddywedodd fod argyfwng yn digwydd yn ein hysbytai ledled Cymru oherwydd bod pobl yn cael eu trin mewn amgylcheddau anniogel, anurddasol ac annerbyniol?
Thanks very much. Well, first of all, on the election of Donald Trump, I think it is important for us to recognise that there are 40,000 people in Wales who work for US companies, so maintaining a relationship with the United States is critical for them. It counts also for 14 per cent of our exports and is the largest inward investor in Wales. So, keeping a relationship with one of the most powerful countries in the world, I think, is important, irrespective of who is running the country.
On the point of the Royal College of Nursing, I am aware of the care crisis report, and, obviously, the health Secretary meets regularly with the RCN, as did I when I was the health Minister. The pressure on hospitals—. None of us are unaware of the huge, huge demand that’s on the system. The ageing population and the fact that many workers went back as a result of Brexit, the fact we’ve had 14 years of austerity, all of those things contribute to the fact that it has been difficult to keep up with the demand. Of course, there is more work to be done. Last year, the absolute priority for the RCN was to cut down on the use of agency workers. I’m pleased to say that we have made significant strides in relation to that when it comes to nursing. What we’ve got now is substantive roles in our health boards, and that’s something I know the RCN have welcomed.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn gyntaf oll, ar ethol Donald Trump, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod 40,000 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio i gwmnïau o'r Unol Daleithiau, felly mae cynnal perthynas â'r Unol Daleithiau yn hollbwysig iddyn nhw. Mae hefyd yn gyfrifol am 14 y cant o'n hallforion a hwythau hefyd yw'r mewnfuddsoddwyr mwyaf yng Nghymru. Felly, mae cynnal perthynas ag un o'r gwledydd mwyaf grymus yn y byd, rwy'n credu, yn bwysig, waeth pwy sy'n rhedeg y wlad.
Ar bwynt y Coleg Nyrsio Brenhinol, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad argyfwng gofal, ac, yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd iechyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r RCN, fel y gwnes i pan oeddwn i'n Weinidog iechyd. Mae'r pwysau ar ysbytai—. Does dim un ohonom ni sydd ddim yn ymwybodol o'r galw enfawr iawn sydd ar y system. Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio a'r ffaith bod llawer o weithwyr wedi mynd yn ôl o ganlyniad i Brexit, y ffaith ein bod ni wedi cael 14 mlynedd o gyni cyllidol, mae'r holl bethau hynny yn cyfrannu at y ffaith ei bod hi wedi bod yn anodd cadw i fyny â'r galw. Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud. Y llynedd, y flaenoriaeth bendant i'r RCN oedd lleihau'r defnydd o weithwyr asiantaeth. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi cymryd camau breision yn hynny o beth o ran nyrsio. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw swyddi parhaol yn ein byrddau iechyd, ac mae hynny yn rhywbeth y gwn fod yr RCN wedi ei groesawu.
First Minister, the single biggest contributor to the failure of our NHS to meet the needs of patients and staff is the Welsh Labour Government, which has been responsible for our NHS in Wales for over 26 years, and you’ve been the health Secretary for three of them. In the royal college report, one Welsh nurse was quoted as saying that patients are
'stripped of their dignity every day'.
Another nurse asked a question that should haunt us all:
'How is it fair to tell someone they are dying in a corridor?'
Just yesterday, the BBC reported on comments by coroner David Regan regarding corridor treatment being normalised in the Welsh NHS. And even one of your own MPs, Henry Tufnell, has criticised the poor services being provided by the health service in west Wales to his constituents, and he’s also, of course, condemned the bloated salaries being paid to NHS managers here in Wales.
First Minister, nurses are critical of the way that the NHS in Wales is being run, coroners are critical of the way that the NHS in Wales is being run, and even your own MPs are critical of the way that the NHS is being run here in Wales. When are you going to acknowledge that there is a crisis and that you need to do something about it?
Prif Weinidog, y cyfrannwr unigol mwyaf at fethiant ein GIG i ddiwallu anghenion cleifion a staff yw Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am ein GIG yng Nghymru ers dros 26 mlynedd, ac rydych chi wedi bod yn Ysgrifennydd iechyd am dair ohonyn nhw. Yn adroddiad y coleg brenhinol, dyfynnwyd un nyrs o Gymru yn dweud bod cleifion yn cael
'eu hamddifadu o'u hurddas bob dydd'.
Gofynnodd nyrs arall gwestiwn a ddylai ein trwblu ni i gyd:
'Sut mae'n deg dweud wrth rywun eu bod nhw'n marw mewn coridor?'
Dim ond ddoe, adroddodd y BBC ar sylwadau gan y crwner David Regan ynghylch triniaeth mewn coridorau yn cael ei normaleiddio yn GIG Cymru. Ac mae hyd yn oed un o'ch ASau eich hun, Henry Tufnell, wedi beirniadu'r gwasanaethau gwael sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru i'w etholwyr, ac yntau hefyd, wrth gwrs, wedi condemnio'r cyflogau enfawr sy'n cael eu talu i reolwyr y GIG yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae nyrsys yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei redeg, mae crwneriaid yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei redeg, ac mae hyd yn oed eich ASau eich hun yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yn cael ei redeg yma yng Nghymru. Pryd ydych chi'n mynd i gydnabod bod argyfwng a bod angen i chi wneud rhywbeth yn ei gylch?
I think the NHS does absolutely incredible work week in, week out. People on the front line—more than ever before, more than 100,000 people—are working day in, day out, tirelessly, in the face of that huge demand. And let me tell you that when it comes to the front line, it is important to remember that the equivalent of two thirds of the population have contact with the NHS in Wales on a monthly basis, the vast majority of them having a very good service. If you want to talk about Hywel Dda, let me just give you an example: every month, 212,000 patients are seen in Hywel Dda alone. We’re talking about a huge response on behalf of the NHS in Wales, and I would like, as I say, to pay tribute to the people who are making those massive efforts, despite that huge increase in demand that we’ve seen.
Rwy'n credu bod y GIG yn gwneud gwaith hollol anhygoel wythnos ar ôl wythnos. Mae pobl ar y rheng flaen—mwy nag erioed o'r blaen, mwy na 100,000 o bobl—yn gweithio bob un dydd, yn ddiflino, yn wyneb y galw enfawr hwnnw. A gadewch i mi ddweud wrthych chi ei bod hi'n bwysig cofio, o ran y rheng flaen, bod yr hyn sy'n cyfateb i ddwy ran o dair o'r boblogaeth mewn cysylltiad â'r GIG yng Nghymru bob mis, y mwyafrif llethol ohonyn nhw'n cael gwasanaeth da iawn. Os ydych chi eisiau siarad am Hywel Dda, gadewch i mi roi enghraifft i chi: bob mis, mae 212,000 o gleifion yn cael eu gweld yn Hywel Dda yn unig. Rydym ni'n sôn am ymateb enfawr ar ran y GIG yng Nghymru, a hoffwn, fel y dywedais i, dalu teyrnged i'r bobl sy'n gwneud yr ymdrechion enfawr hynny, er gwaethaf y cynnydd enfawr hwnnw i alw yr ydym ni wedi ei weld.
It's very clear to me, and everybody in this Chamber and anybody watching, that you are refusing to acknowledge that there's a crisis in our NHS. Unless you acknowledge that there is a crisis in our NHS, we will never get to deal with that crisis and fix the problems. Let me quote the RCN report again—in fact, Helen Whyley of the Royal College of Nursing. She said:
'We believe that this care is of such a standard that it is allowing a situation where it is more likely that patients will die as a result of it.'
Two weeks ago, during First Minister’s questions, I raised the issue of the lack of hospital beds in Wales directly with you. You told me I didn’t understand the issue. You said to me, and I quote:
'If you think it's all about beds, you haven't understood'.
Well, here’s a copy of the royal college report. I don’t know if you’ve read it. I’m happy to pass it to you. It doesn’t sound to me as though you have read it. Over 500 times in this report, beds are cited as a problem—over 500 times. They’re not my issues, it’s the RCN that’s claiming that this is a problem. And you know, and I know, that the number of beds in our national health service, since 1999, entirely on Labour’s watch, has reduced by over 30 per cent, while our population has increased by 10 per cent.
So, it’s not me that’s misunderstood the issue, it’s you. You’re failing to acknowledge the crisis, you've failed to train and recruit enough doctors and nurses, you’ve axed beds, closed hospitals and you’ve failed to build the new hospitals you’ve promised. So, it’s clear that, on your watch, as a Labour Government, the NHS is broken. When are you going to move over, so that we Welsh Conservatives can fix it?
Mae'n amlwg iawn i mi, a phawb yn y Siambr hon ac unrhyw un sy'n gwylio, eich bod chi'n gwrthod cydnabod bod argyfwng yn ein GIG. Oni bai eich bod chi'n cydnabod bod argyfwng yn ein GIG, ni fyddwn ni byth yn cael cyfle i ymdrin â'r argyfwng hwnnw a datrys y problemau. Gadewch i mi ddyfynnu adroddiad yr RCN eto—Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol a dweud y gwir. Dywedodd:
'Rydym ni'n credu bod y gofal hwn o'r fath safon ei fod yn caniatáu sefyllfa lle mae'n fwy tebygol y bydd cleifion yn marw o'i herwydd.'
Bythefnos yn ôl, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais fater diffyg gwelyau ysbyty yng Nghymru yn uniongyrchol gyda chi. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i nad oeddwn i'n deall y mater. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i, ac rwy'n dyfynnu:
'Os ydych chi'n meddwl bod y cyfan yn ymwneud â gwelyau, dydych chi ddim wedi deall'.
Wel, dyma gopi o adroddiad y coleg brenhinol. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi wedi ei ddarllen. Rwy'n hapus i'w rannu â chi. Nid yw'n swnio i mi fel eich bod chi wedi ei ddarllen. Dros 500 o weithiau yn yr adroddiad hwn, cyfeirir at welyau fel problem—dros 500 o weithiau. Nid fy mhroblemau i ydyn nhw, yr RCN sy'n honni bod hyn yn broblem. Ac rydych chi'n gwybod, ac rwyf innau'n gwybod, bod nifer y gwelyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ers 1999, o dan oruchwyliaeth Llafur yn gyfan gwbl, wedi gostwng dros 30 y cant, tra bod ein poblogaeth wedi cynyddu 10 y cant.
Felly, nid fi sydd wedi camddeall y mater, ond chi. Rydych chi'n methu â chydnabod yr argyfwng, rydych chi wedi methu hyfforddi a recriwtio digon o feddygon a nyrsys, rydych chi wedi cael gwared ar welyau, wedi cau ysbytai ac rydych chi wedi methu ag adeiladu'r ysbytai newydd yr ydych chi wedi eu haddo. Felly, mae'n amlwg, o dan eich goruchwyliaeth chi, fel Llywodraeth Lafur, bod y GIG wedi torri. Pryd ydych chi'n mynd i symud o'r neilltu, fel y gallwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig ei drwsio?
Thanks very much. We’d have loved to have built a few more hospitals, but we were given a £1 million increase when it came to capital when your Government was in power. There’s not much you can do with a £1 million increase. Thankfully, now, we’ve had a massive increase as a result of the Labour Government, the first significant increase when it comes to health in Wales and when it comes to capital expenditure.
We're very clear about the plan that we have. We've got a strategic plan when it comes to health. It was built together with stakeholders, with the public, with experts, and the RCN were also involved in the development of that plan.
When it comes to hospital beds, let me tell you that we have more beds in Wales per head than they do in England. There is recognition that the way forward here is to shift to more support in the community, to make sure that we do more prevention work and to ensure we have digital transformation. This is exactly what they're thinking of doing in England; actually, we're a long way down that journey in Wales, and we're going to stick to the path that we've set out.
Diolch yn fawr iawn. Byddem ni wedi bod wrth ein boddau o fod wedi adeiladu ychydig yn fwy o ysbytai, ond rhoddwyd cynnydd o £1 filiwn i ni o ran cyfalaf pan oedd eich Llywodraeth chi mewn grym. Nid oes llawer y gallwch chi ei wneud gyda chynnydd o £1 filiwn. Diolch byth, erbyn hyn, rydym ni wedi cael cynnydd enfawr o ganlyniad i'r Llywodraeth Lafur, y cynnydd sylweddol cyntaf o ran iechyd yng Nghymru ac o ran gwariant cyfalaf.
Rydym ni'n eglur iawn ynghylch y cynllun sydd gennym ni. Mae gennym ni gynllun strategol o ran iechyd. Fe'i lluniwyd ynghyd â rhanddeiliaid, gyda'r cyhoedd, gydag arbenigwyr, ac roedd yr RCN hefyd yn rhan o ddatblygiad y cynllun hwnnw.
Pan ddaw i welyau ysbyty, gadewch i mi ddweud wrthych chi fod gennym ni fwy o welyau yng Nghymru y pen na'r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr. Ceir cydnabyddiaeth mai'r ffordd ymlaen yma yw symud i fwy o gymorth yn y gymuned, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy o waith atal ac i sicrhau ein bod ni'n cael trawsnewid digidol. Dyma'n union y maen nhw'n meddwl ei wneud yn Lloegr; a dweud y gwir, rydym ni'n bell ar hyd y daith honno yng Nghymru, ac rydym ni'n mynd i gadw at y llwybr yr ydym ni wedi ei nodi.
Arweinydd Plaid Cymru nesaf. Rhun ap Iorwerth.
The leader of Plaid Cymru next. Rhun ap Iorwerth.
Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw ers blynyddoedd lawer am ddatganoli Ystad y Goron. Sôn ydyn ni am reoli ac elwa ar ein hadnoddau naturiol. Wrth iddi hi nodi ei 100 diwrnod cyntaf yn ei rôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n brwydro dros ragor o reolaeth dros asedau Ystad y Goron yng Nghymru. A all hi ddweud wrthym ni pa sianeli ffurfiol y mae hi wedi eu defnyddio i drio gwthio'r mater yma yn ei flaen?
The First Minister will be aware that Plaid Cymru has called for many years for the devolution of the Crown Estate. We are talking about managing and benefiting from our natural resources. As she noted her first 100 days in the role, the First Minister said that she was fighting for more control over Crown Estate assets in Wales. Can she tell us what formal channels she has used to try to push this issue forward?
Dwi'n cwrdd yn aml gyda'r Prif Weinidog, ac mae fy nirprwy yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol. Gallaf ddweud yn glir wrthych chi eu bod nhw'n ymwybodol bod hwn yn rhan o'n polisi ni a'n bod ni eisiau gweld Ystad y Goron yn cael ei datganoli.
I meet regularly with the Prime Minister, and my deputy is responsible for constitutional affairs. I can tell you clearly that they are aware that this is part of our policy and that we want to see the Crown Estate being devolved.
I'm not sure what the First Minister thinks the nature is of these conversations that she is having. We asked the Chancellor what recent discussions she had had with the Welsh Government on devolving the management of the Crown Estate to Wales. The answer, which came from the First Minister's Labour colleague Darren Jones, Chief Secretary to the Treasury, was that the UK Government has had no discussions with the Welsh Government on devolving the Crown Estate—none. As First Minister, I would be ready to make the positive case for the devolution of the Crown Estate every single day, and I'll do it now.
Like they do in Scotland, Wales could do more to tap into our renewable energy potential, reinvest the profits in our communities, create more jobs. The First Minister has spent her first few months in office essentially hiding behind the devolution settlement. 'It's not my responsibility', she says, 'Don't ask me about non-devolved issues.' But she herself likes to give the impression, as on this very issue, that she is pursuing non-devolved issues. So, either she isn't trying, isn't trying hard enough, or her Labour Party colleagues are blocking it. So, when are those formal discussions taking place and can we have a cast-iron guarantee that they will take place?
Nid wyf yn siŵr beth mae'r Prif Weinidog yn ei gredu yw natur y sgyrsiau hyn y mae'n eu cael. Fe wnaethom ni ofyn i'r Canghellor pa drafodaethau diweddar yr oedd hi wedi eu cael gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Yr ateb, a ddaeth gan gydweithiwr Llafur y Prif Weinidog, Darren Jones, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, oedd nad yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron—dim. Fel Prif Weinidog, byddwn yn barod i wneud y ddadl gadarnhaol dros ddatganoli Ystad y Goron bob un dydd, a byddaf yn ei gwneud nawr.
Fel y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban, gallai Cymru wneud mwy i fanteisio ar ein potensial ynni adnewyddadwy, ail-fuddsoddi'r elw yn ein cymunedau, creu mwy o swyddi. Mae'r Prif Weinidog wedi treulio ei misoedd cyntaf yn y swydd yn cuddio y tu ôl i'r setliad datganoli i bob pwrpas. 'Nid fy nghyfrifoldeb i yw e', meddai, 'Peidiwch â gofyn i mi am faterion sydd heb eu datganoli.' Ond mae hi ei hun yn hoffi rhoi'r argraff, fel ar yr union fater hwn, ei bod hi'n mynd ar drywydd materion sydd heb eu datganoli. Felly, naill ai dydy hi ddim yn ceisio gwneud hyn, dydy hi ddim yn ceisio digon caled i wneud hyn, neu mae ei chydweithwyr yn y Blaid Lafur yn ei rwystro. Felly, pryd mae'r trafodaethau ffurfiol hynny yn cael eu cynnal ac a allwn ni gael sicrwydd cwbl bendant y byddan nhw'n cael eu cynnal?
I can assure you that they are taking place. Perhaps Darren Jones hasn't been involved in them, but I can assure you that other Ministers have been involved in them. The finance Secretary has had discussions very recently, I've mentioned this and brought it up with the Chancellor, and I know that it's part of the Deputy First Minister's constitutional discussions as well. Just because Darren Jones doesn't know about it, it doesn't mean that there aren't other people in the Government who are involved and engaged in this.
Gallaf eich sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnal. Efallai nad yw Darren Jones wedi cymryd rhan ynddyn nhw, ond gallaf eich sicrhau chi bod Gweinidogion eraill wedi cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi cael trafodaethau yn ddiweddar iawn, rwyf i wedi sôn am hyn a'i godi gyda'r Canghellor, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhan o drafodaethau cyfansoddiadol y Dirprwy Brif Weinidog hefyd. Nid yw'r ffaith nad yw Darren Jones yn gwybod amdano yn golygu nad oes pobl eraill yn y Llywodraeth sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â hyn.
Mentioning things and bringing things up? That's not discussing with the UK Government. What was said in a written answer by UK Government was this:
'The UK Government has had no discussions with the Welsh Government on devolving the Crown Estate.'
And of course, for the Crown Estate, see HS2 as well. No amount of conflating issues on a Radio Wales phone-in will pull the wool over people's eyes. The First Minister wants to move the conversation on from Wales's share of HS2 money to getting some money, though not saying how much, towards as yet unidentified rail infrastructure projects in Wales. That's not HS2 money, that's money that Wales should be getting anyway and that we've been denied by successive Labour and Conservative Governments. If rail was devolved, as in Scotland, there would have been an additional £0.5 billion to pay for rail enhancements in Wales in the last decade alone. Our share of HS2 is a separate matter altogether.
This week, we hear that the Labour Chancellor is thinking of halting all rail enhancement spending, apart from three projects in England. You really could not make this stuff up. So, how much is the First Minister now asking for for rail? I don’t want her to repeat the mistakes she made in settling for £25 million out of the £600 million needed for coal tip safety. So, in total, there's the HS2 money—£4.6 billion I think is the figure used by the Welsh Secretary Jo Stevens—plus historic and, if what we’re hearing now is true, continued underinvestment in rail in Wales. What is this figure? Because we can’t allow Wales to be sold short.
Sôn am bethau a chodi pethau? Nid yw hynny'n gyfystyr â thrafod gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn a ddywedwyd mewn ateb ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU oedd hyn:
'Nid yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron.'
Ac wrth gwrs, ar gyfer Ystad y Goron, gweler HS2 hefyd. Ni fydd unrhyw faint o gymysgu materion ar raglen galw i mewn ar Radio Wales yn taflu llwch i lygaid pobl. Mae'r Prif Weinidog eisiau symud y sgwrs ymlaen o gyfran Cymru o arian HS2 i gael rhywfaint o arian, ond heb ddweud faint, tuag at brosiectau seilwaith rheilffordd yng Nghymru nad ydyn nhw wedi cael eu nodi eto. Nid arian HS2 yw hwnnw, arian y dylai Cymru fod yn ei gael beth bynnag ac sydd wedi cael ei wadu i ni gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yw hwnnw. Pe bai rheilffyrdd wedi'u datganoli, fel yn yr Alban, byddai £0.5 biliwn ychwanegol wedi bod ar gael i dalu am welliannau i reilffyrdd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf yn unig. Mae ein cyfran o HS2 yn fater cyfan gwbl ar wahân.
Yr wythnos hon, rydym ni'n clywed bod y Canghellor Llafur yn ystyried atal yr holl wariant ar wella rheilffyrdd, ac eithrio tri phrosiect yn Lloegr. Allech chi wir ddim gwneud y pethau hyn i fyny. Felly, faint mae'r Prif Weinidog yn gofyn amdano ar gyfer rheilffyrdd bellach? Nid wyf i eisiau iddi ailadrodd y camgymeriadau a wnaeth wrth setlo am £25 miliwn allan o'r £600 miliwn sydd ei angen ar gyfer diogelwch tomenni glo. Felly, i gyd, mae'r arian HS2—£4.6 biliwn rwy'n credu yw'r ffigur a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens—yn ogystal a thanfuddsoddiad hanesyddol a, os yw'r hyn yr ydym ni'n ei glywed nawr yn wir, pharhaus mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Beth yw'r ffigur hwn? Oherwydd allwn ni ddim caniatáu i Gymru fod ar ei cholled.
Thanks very much. I’m pleased to say that the strong representation that we’ve been making means that, for the first time in 14 years, there has been an acknowledgement of the fact that Wales has been underresourced when it comes to rail. That is the first time in 14 years that that has happened. Now, of course—[Interruption.] Do you want me to finish? [Interruption.] Is that the third question? I think what’s important is that people want to know what is going to happen to rail services, and what is happening at the moment is that there are very detailed discussions going on between the Cabinet Secretary and the relevant Ministers in Westminster in terms of what the investment will look like. In time, you will know how much it will be. You know very well that this is all going to be wrapped up in the spending review, and you’re going to have to be a little bit patient. We’ve tried to be patient for 14 years; it’s taken a while. But what shocks me is that you’re here banging the table for £4 billion extra, but you can’t even bring yourselves to vote for an extra £1 billion pounds that's coming. Can you imagine if they ever got into power? That is the truth of it. People in Wales are watching you. There’s £1 billion on the table for you to go and pick it up—[Interruption.]
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o ddweud bod y sylwadau cryf yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn golygu, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, y bu cydnabyddiaeth o'r ffaith nad yw Cymru wedi cael digon o adnoddau o ran rheilffyrdd. Dyma'r tro cyntaf mewn 14 mlynedd i hynny ddigwydd. Nawr, wrth gwrs—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau i mi orffen? [Torri ar draws.] Ai dyna'r trydydd cwestiwn? Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd i wasanaethau rheilffyrdd, a'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod trafodaethau manwl iawn yn cael eu cynnal rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidogion perthnasol yn San Steffan o ran sut y bydd y buddsoddiad yn edrych. Mewn amser, byddwch chi'n gwybod faint fydd hynny. Rydych chi'n gwybod yn iawn bod hyn i gyd yn mynd i gael ei nodi yn yr adolygiad o wariant, a bydd yn rhaid i chi fod ychydig yn amyneddgar. Rydym ni wedi ceisio bod yn amyneddgar am 14 mlynedd; mae wedi cymryd cryn dipyn o amser. Ond yr hyn sy'n fy synnu i yw eich bod chi yma yn curo'r bwrdd am £4 biliwn yn ychwanegol, ond allwch chi ddim hyd yn oed dod â'ch hun i bleidleisio dros £1 biliwn o bunnoedd yn ychwanegol sy'n dod. Allwch chi ddychmygu pe baen nhw fyth yn dod i rym? Dyna'r gwir amdani. Mae pobl yng Nghymru yn eich gwylio chi. Mae £1 biliwn ar y bwrdd i chi fynd i'w godi—[Torri ar draws.]
I can’t hear the First Minister. I would like to hear the First Minister. Can we have some silence, please?
Allaf i ddim clywed y Prif Weinidog. Hoffwn glywed y Prif Weinidog. Allwn ni gael ychydig o dawelwch os gwelwch yn dda?
I was just saying that there’s £1 billion on the table for you to come and pick up. If you’re not going to pick it up, I think the Welsh public will be watching and they will acknowledge, and they’ll say, ‘What’s the point in giving them £4 billion? Maybe they won’t pick that up.’
Y cwbl yr oeddwn i'n ei ddweud oedd bod £1 biliwn ar y bwrdd i chi ddod i'w godi. Os nad ydych chi'n mynd i'w godi, rwy'n credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwylio ac y byddan nhw'n cydnabod, a byddan nhw'n dweud, 'Beth yw'r pwynt rhoi £4 biliwn iddyn nhw? Efallai na wnawn ni godi hwnnw.'
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn Llanelli? OQ62189
3. What steps is the Welsh Government taking to improve access to NHS dental services in Llanelli? OQ62189
We are reforming the dental contract and reorientating NHS dentistry towards a system that focuses on prevention and the provision of treatment based on risk and need. Our reforms to date have enabled nearly 38,000 new patients to receive a full course of treatment in the Hywel Dda area.
Rydym ni'n diwygio'r contract deintyddol ac yn ailgyfeirio deintyddiaeth y GIG tuag at system sy'n canolbwyntio ar atal a darparu triniaeth yn seiliedig ar risg ac angen. Mae ein diwygiadau hyd yma wedi galluogi bron i 38,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs llawn o driniaeth yn ardal Hywel Dda.
Thank you for the answer. I took part in an excellent digital dialogue session with pupils of Bigyn Primary School in Llanelli recently and they asked me as a result of that to raise with you the fact that their families find accessing an NHS dentist in Llanelli difficult. I’m going to visit them again and want to give them an answer. I know that the Welsh Government has been able to secure extra dental spaces across Wales, but a number of constituents of mine in Llanelli still point to frustrations and report feeling forced to get treatment outside the NHS. What more can we do to encourage more dentists to offer NHS appointments?
Diolch am yr ateb. Cymerais ran mewn sesiwn ddeialog ddigidol ardderchog gyda disgyblion Ysgol Gynradd Bigyn yn Llanelli yn ddiweddar ac fe wnaethon nhw ofyn i mi o ganlyniad i hynny godi gyda chi y ffaith bod eu teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddeintydd GIG yn Llanelli. Rwy'n mynd i ymweld â nhw eto ac eisiau rhoi ateb iddyn nhw. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau lleoedd deintyddol ychwanegol ledled Cymru, ond mae nifer o'm hetholwyr yn Llanelli yn dal i dynnu sylw at rwystredigaethau ac yn dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i gael triniaeth y tu allan i'r GIG. Beth arall allwn ni ei wneud i annog mwy o ddeintyddion i gynnig apwyntiadau GIG?
Thanks very much. Thanks for raising these matters with me. I’m really pleased that you’re going to be going back to the school on Friday. We’re very clear we want to get to a place where everybody who wants access to NHS dentistry can have access. To do that, we’re changing the way in which dentists work, and making sure, for example, that it’s not just dentists doing the work but that we get dental therapists and other people who are able to put that support around people. To do that and to incentivise dentists as you have suggested, we do need to have a wholesale reform of the NHS contract. We’ve been on a journey with that reform, and it continues. I’m pleased to say now that’s going out to consultation in the spring, so those consultations are already happening.
I think the other thing that you might want to share with Bigyn school is the fact that we are really keen to get into the prevention space. I’m really pleased to see that Bigyn school is part of the Designed to Smile programme, so children in that school are getting help to make sure that they are using that programme. The UK Government are looking at how successful this project is. This is an example of them learning from us. It's great to see that 1,176 schools participated in that supervised toothbrushing, with 59,000 children engaged, and I'm really pleased to see that Bigyn school is one of them. It's probably worth also mentioning that the key thing is to make sure that we attract dentists to places like Llanelli and west Wales. One of the things we're doing is we're incentivising trainees to actually make sure that they go to west Wales, so we're giving them additional support. I'm pleased to say that seven out of the 15 places are in west Wales.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am godi'r materion hyn gyda mi. Rwy'n falch iawn eich bod chi'n mynd i fod yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener. Rydym ni'n eglur iawn ein bod ni eisiau cyrraedd sefyllfa lle gall pawb sydd eisiau mynediad at ddeintyddiaeth GIG gael mynediad. I wneud hynny, rydym ni'n newid y ffordd y mae deintyddion yn gweithio, ac yn gwneud yn siŵr, er enghraifft, nad deintyddion yn unig sy'n gwneud y gwaith ond ein bod ni'n cael therapyddion deintyddol a phobl eraill sy'n gallu rhoi'r cymorth hwnnw o gwmpas pobl. I wneud hynny ac i gymell deintyddion fel y gwnaethoch chi ei awgrymu, mae angen i ni ddiwygio contract y GIG yn llwyr. Rydym ni wedi bod ar daith gyda'r diwygiad hwnnw, ac mae'n parhau. Rwy'n falch o ddweud nawr y bydd hwnnw'n destun ymgynghoriad yn y gwanwyn, felly mae'r ymgynghoriadau hynny eisoes yn digwydd.
Rwy'n credu mai'r peth arall efallai yr hoffech chi ei rannu gydag ysgol Bigyn yw'r ffaith ein bod ni'n awyddus iawn i fynd i faes atal. Rwy'n falch iawn o weld bod ysgol Bigyn yn rhan o'r rhaglen Cynllun Gwên, felly mae plant yn yr ysgol honno yn cael cymorth i wneud yn siŵr eu bod nhw'n defnyddio'r rhaglen honno. Mae Llywodraeth y DU yn edrych ar ba mor llwyddiannus yw'r prosiect hwn. Mae hon yn enghraifft ohonyn nhw yn dysgu oddi wrthym ni. Mae'n wych gweld bod 1,176 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y sesiwn brwsio dannedd dan oruchwyliaeth honno, â 59,000 o blant yn cymryd rhan, ac rwy'n falch iawn o weld bod ysgol Bigyn yn un ohonyn nhw. Mae'n debyg ei bod hi'n werth sôn hefyd mai'r peth allweddol yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n denu deintyddion i fannau fel Llanelli a gorllewin Cymru. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw cymell hyfforddeion i wneud yn siŵr mewn gwirionedd eu bod nhw'n mynd i'r gorllewin, felly rydym ni'n rhoi cymorth ychwanegol iddyn nhw. Rwy'n falch o ddweud bod saith o'r 15 lle yn y gorllewin.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol HS2 i Gymru? OQ62148
4. What discussions has the First Minister had with the UK Government regarding HS2 consequential funding for Wales? OQ62148
I raise the issue of rail funding and, in particular, HS2 consequential funding with the UK Government very regularly. The Cabinet Secretary for Transport and North Wales has also had a series of productive conversations with the Secretary of State for Transport and the Secretary of State for Wales.
Rwy'n codi mater cyllid rheilffyrdd ac, yn benodol, cyllid canlyniadol HS2 gyda Llywodraeth y DU yn rheolaidd iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru hefyd wedi cael cyfres o sgyrsiau cynhyrchiol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Thank you for that answer, First Minister. Can I welcome the progress that's made by Welsh Government in discussions with the UK Government, now that it formally recognises the prolonged and historic underfunding of the rail network infrastructure in Wales? I recognise, of course, that there are many financial legacies of the disastrous Tory mismanagement that has blighted so many of our public services over the past 14 years. The Tories manipulated and undermined the Barnett formula to rob Wales of much-needed funding that we were constitutionally entitled to, and the Treasury, at that time, were complicit in that false narrative. Now, the HS2 issue, First Minister, has not gone away. We continue to have a constitutional entitlement to consequential rail investment in England, whether the Treasury pretends that HS2 has gone away or not, so this issue needs a proper resolution. So, will the First Minister confirm that she will continue to stand up for Wales and consider escalating this issue under the inter-governmental framework?
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A gaf i groesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan ei bod hi bellach yn cydnabod yn ffurfiol tanariannu estynedig a hanesyddol seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru? Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, bod llawer o etifeddiaethau ariannol o gamreolaeth drychinebus y Torïaid sydd wedi difetha cynifer o'n gwasanaethau cyhoeddus dros y 14 mlynedd diwethaf. Fe wnaeth y Torïaid gamddefnyddio a thanseilio fformiwla Barnett i ddwyn cyllid yr oedd mawr ei angen ac yr oedd gennym ni hawl iddo yn gyfansoddiadol oddi ar Gymru, ac roedd y Trysorlys, bryd hynny, yn gydgynllwynydd yn y naratif ffug hwnnw. Nawr, nid yw mater HS2, Prif Weinidog, wedi diflannu. Mae gennym ni hawl cyfansoddiadol i fuddsoddiad rheilffyrdd canlyniadol yn Lloegr o hyd, pa un a yw'r Trysorlys yn esgus bod HS2 wedi diflannu ai peidio, felly mae angen ateb priodol ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd yn parhau i sefyll dros Gymru ac ystyried uwchgyfeirio'r mater hwn o dan y fframwaith rhynglywodraethol?
Thanks very much. I'm really pleased that the very strong representations that we've been making so far are starting to achieve those first results. It is a long journey, but it's a journey that other people tried without success with the Tory Government. I'm pleased to see that we are seeing some shift from the UK Labour Government. We are in discussions with the UK Government in relation to rail funding, and there's a package of measures, including funding for enhancements to the core Valleys lines, that is being discussed. We know that this is likely to be taken forward through the UK spending review. Just in relation to the broader issue of fairness, the UK Labour manifesto recognised that the Welsh fiscal framework, the Barnett formula, is out of date, and those conversations also continue.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn bod y sylwadau cryf iawn yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud hyd yn hyn yn dechrau cyflawni'r canlyniadau cyntaf hynny. Mae'n daith hir, ond mae'n daith y rhoddodd pobl eraill gynnig arni heb lwyddiant gyda'r Llywodraeth Dorïaidd. Rwy'n falch o weld ein bod ni'n gweld rhywfaint o newid gan Lywodraeth Lafur y DU. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid rheilffyrdd, ac mae pecyn o fesurau, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd craidd y Cymoedd, sy'n cael ei drafod. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn debygol o gael ei ddatblygu drwy adolygiad o wariant y DU. Dim ond o ran y mater ehangach o degwch, roedd maniffesto Llafur y DU yn cydnabod bod oes fframwaith cyllidol Cymru, fformiwla Barnett, wedi darfod, ac mae'r sgyrsiau hynny hefyd yn parhau.
We have had serious underinvestment in our railway lines, including in north Wales. We had false promises from the UK Government regarding electrification of the north Wales line, the money wasn't there—[Interruption.] The money was never there. Twice they applied for funding for the Wrexham Gateway project and to get freight off the line at Padeswood, and, again, the funds were rejected twice. We desperately need investment in Chester on the north Wales main line and the Wrexham to Liverpool line. It's drawn up. We've tried so many times to get that there; it will help unlock the economy for north Wales. So, again, I'm going to ask you, First Minister, regarding conversations that you're having, as well as the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, with the UK Government, because I saw the Secretary of State for Wales, Jo Stevens, also saying and admitting that we need funding for Wales as well, which was great to see. I know that the Chancellor understands that we need this to unlock the economy. So, we're really pushing for this, please, First Minister, just to let you know. What can you do for north Wales as well? Thank you.
Rydym ni wedi cael tanfuddsoddiad difrifol yn ein rheilffyrdd, gan gynnwys yn y gogledd. Cawsom addewidion ffug gan Lywodraeth y DU ynghylch trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, nid oedd yr arian yno—[Torri ar draws.] Nid oedd yr arian erioed yno. Fe wnaethon nhw gais ddwywaith am gyllid ar gyfer prosiect Porth Wrecsam ac i gael trenau cludo nwyddau oddi ar y rheilffordd yn Padeswood, ac eto, gwrthodwyd y cyllid ddwywaith. Rydym ni mewn angen taer o fuddsoddiad yng Nghaer ar brif reilffordd gogledd Cymru a rheilffordd Wrecsam i Lerpwl. Mae wedi'i ffurfio. Rydym ni wedi ceisio cynifer o weithiau i gael hynny yno; bydd yn helpu i ddatgloi'r economi ar gyfer y gogledd. Felly, eto, rwy'n mynd i ofyn i chi, Prif Weinidog, am sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, gyda Llywodraeth y DU, oherwydd gwelais Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, hefyd yn dweud ac yn cyfaddef bod angen cyllid ar gyfer Cymru hefyd, a oedd yn wych ei weld. Rwy'n gwybod bod y Canghellor yn deall bod angen hwn arnom ni i ddatgloi'r economi. Felly, rydym ni wir yn pwyso am hyn, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, dim ond i roi gwybod i chi. Beth allwch chi ei wneud ar gyfer y gogledd hefyd? Diolch yn fawr.
Thanks very much. I can assure you that I am making the case for the whole of Wales, and I know, in particular, that his doubling up as the transport Secretary and the north Wales Secretary means that there is no way that the north Wales issue is going to fall off the agenda. In fact, I know that the north Wales Burns report is going to be central in terms of determining where we would like that money to go. We have put a significant amount of investment into rail services in Wales—£800 million into new trains, trains made in Wales. We're seeing better reliability and we're seeing increased services, so all of this is a significant and good-news story for the people of Wales.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau fy mod i'n gwneud y ddadl dros Gymru gyfan, ac rwy'n gwybod, yn benodol, bod ei swyddogaeth ddeuol fel yr Ysgrifennydd trafnidiaeth ac Ysgrifennydd gogledd Cymru yn golygu nad oes unrhyw ffordd bod mater y gogledd yn mynd i ddisgyn oddi ar yr agenda. A dweud y gwir, rwy'n gwybod bod adroddiad Burns y gogledd yn mynd i fod yn ganolog o ran penderfynu i le yr hoffem ni i'r arian hwnnw fynd. Rydym ni wedi gwneud cryn dipyn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru—£800 miliwn mewn trenau newydd, trenau a gynhyrchwyd yng Nghymru. Rydym ni'n gweld gwell dibynadwyedd ac rydym ni'n gweld mwy o wasanaethau, felly mae hyn oll yn stori arwyddocaol a newyddion da i bobl Cymru.
First Minister, we're all a bit perplexed on these opposition benches around why the Government is only calling publicly for around £400 million-worth of consequentials from HS2. I've heard all of the answers, but in the face of the Secretary of State in the past calling for those billions of pounds—even our own Counsel General has called for £5 million as a result of HS2—clearly, we see it as an attempt to short-change the people of Wales, and I won't be convinced otherwise. I and my colleagues have been clear that fair funding must be allocated from the Westminster Government, irrespective of which party is in control. With this in mind, First Minister, can you explain what is the justification for only calling for £400 million when the fair consequentials of what is spent to date, some £38 billion, should be delivering well over £1.5 billion-worth of consequentials at the moment?
Prif Weinidog, rydym ni i gyd wedi drysu braidd ar feinciau hyn y gwrthbleidiau ynghylch pam mae'r Llywodraeth yn galw'n gyhoeddus am oddeutu £400 miliwn yn unig o symiau canlyniadol o HS2. Rwyf i wedi clywed yr atebion i gyd, ond yn wyneb yr Ysgrifennydd Gwladol yn y gorffennol yn galw am y biliynau hynny o bunnoedd—mae hyd yn oed ein Cwnsler Cyffredinol ein hunain wedi galw am £5 miliwn o ganlyniad i HS2—yn amlwg, rydym ni'n ei ystyried fel ymgais i sicrhau bod pobl Cymru ar eu colled, ac wnaf i ddim cael fy argyhoeddi fel arall. Rwyf i a'm cyd-Aelodau wedi bod yn eglur bod yn rhaid i gyllid teg gael ei ddyrannu gan Lywodraeth San Steffan, waeth pa blaid sy'n rheoli. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a allwch chi egluro beth yw'r cyfiawnhad dros alw am £400 miliwn yn unig pan ddylai symiau canlyniadol teg yr hyn a wariwyd hyd yma, tua £38 biliwn, fod yn darparu gwerth ymhell dros £1.5 biliwn o symiau canlyniadol ar hyn o bryd?
Thanks very much. The Tories didn't make any headway on this when you were running Westminster. And listen, to give you your credit, at least it was the first time, I think, we saw the Tories saying that, actually, this is unfair. So, thank you for that—that was good. You just didn't manage to make any headway with it, though, and we are actually managing, at least, to get recognition. There's a long way to go, but that's the beginning.
Can I just address the issue in relation to how much in terms of the funding? [Interruption.] You will be aware—
Diolch yn fawr iawn. Ni wnaeth y Torïaid ennill unrhyw dir yn hyn o beth pan oeddech chi'n rhedeg San Steffan. A gwrandewch, i roi eich clod i chi, hwn, o leiaf, oedd y tro cyntaf, rwy'n credu, i ni weld y Torïaid yn dweud, mewn gwirionedd, bod hyn yn annheg. Felly, diolch am hynny—roedd hynny'n dda. Ond ni wnaethoch chi lwyddo i ennill unrhyw dir ar y mater, fodd bynnag, ac rydym ni'n llwyddo a dweud y gwir, i gael cydnabyddiaeth o leiaf. Mae ffordd bell i fynd, ond dyna'r cychwyn.
A gaf i roi sylw cyflym i'r mater yn ymwneud â faint o ran y cyllid? [Torri ar draws.] Byddwch yn ymwybodol—
Sorry. This is a question by Peter Fox answered by the First Minister. There are far too many other people seeking to contribute in this session. Can we have the First Minister responding?
Mae'n ddrwg gen i. Cwestiwn gan Peter Fox yw hwn, sy'n cael ei ateb gan y Prif Weinidog. Mae gormod o lawer o bobl eraill yn ceisio cyfrannu yn y sesiwn hon. A gawn ni'r Prif Weinidog i ymateb?
You'll be aware that the HS2 programme was initially a huge, huge programme that was going to be going on for decades and decades and decades, and was going to soak up billions of pounds-worth of funding. But your Government cancelled most of it, so, obviously, we can't ask for consequentials for bits of the railways that were not going to be built. So, I'm more than happy to ask officials to give you a detailed breakdown of how we got to those figures and why we're asking for that amount of money. And look, if they keep on building bits of HS2 into London, I'm telling you what, we'll be asking for that money as well. So, it's about how much they've spent already, and, Peter, if you'd like a technical briefing on this, I'm more than happy to sort that out for you.
Byddwch yn ymwybodol bod rhaglen HS2 yn rhaglen enfawr iawn i gychwyn, a oedd yn mynd i fod yn parhau am ddegawdau ar ddegawdau ar ddegawdau, ac a oedd yn mynd i ddefnyddio gwerth biliynau o bunnoedd o gyllid. Ond fe wnaeth eich Llywodraeth ganslo'r rhan fwyaf ohono, felly, yn amlwg, allwn ni ddim gofyn am symiau canlyniadol am ddarnau o'r rheilffyrdd nad oedden nhw'n mynd i gael eu hadeiladu. Felly, rwy'n fwy na pharod i ofyn i swyddogion roi dadansoddiad manwl i chi o sut y cawsom ni'r ffigurau hynny a pham rydym ni'n gofyn am y swm hwnnw o arian. Ac edrychwch, os byddan nhw'n parhau i adeiladu darnau o HS2 i mewn i Lundain, fe ddywedaf i wrthych chi beth, byddwn ni'n gofyn am yr arian hwnnw hefyd. Felly, mae'n ymwneud â faint maen nhw wedi ei wario eisoes, a, Peter, os hoffech chi gael papur briffio technegol ar hyn, rwy'n fwy na pharod i drefnu hynny i chi.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon? OQ62188
5. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's legislative priorities for the rest of this Senedd term? OQ62188
In addition to the legislation currently undergoing scrutiny, we have already announced important Bills to come this year, including in relation to buses, environmental governance and biodiversity, homelessness and building safety. The Government’s legislative priorities are set out annually, and I will make our next legislative statement after the Easter recess.
Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth sy'n destun craffu ar hyn o bryd, rydym ni eisoes wedi cyhoeddi Biliau pwysig i ddod eleni, gan gynnwys rhai'n ymwneud â bysiau, llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, digartrefedd a diogelwch adeiladau. Nodir blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth yn flynyddol, a byddaf yn gwneud ein datganiad deddfwriaethol nesaf ar ôl toriad y Pasg.
Diolch yn fawr. One of the priorities that you set out when becoming First Minister was to ensure that more people in Wales lived in warm homes. And to that end, I noticed a tweet you sent out last week that read:
'Warm homes and lower bills—the future we're building here in Wales'.
That sounds great, except that it's not backed up by the facts. Your party, of course, is the one that has cut the winter fuel allowance for thousands of Welsh pensioners during one of the coldest winters in years. Even the Labour Party's own figures suggest that the decision could cost 4,000 lives. And in addition, people were promised before the general election that energy bills would go down under a Labour Government, only then to find them going up under a Labour Government. How can we have any confidence that you will deliver warm homes and lower bills when your party's record is completely the opposite?
Diolch yn fawr. Un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennych chi pan gawsoch eich penodi'n Brif Weinidog oedd sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi cynnes. Ac i'r perwyl hwnnw, sylwais ar drydariad a anfonwyd gennych chi yr wythnos diwethaf yn dweud:
'Cartrefi cynnes a biliau is—y dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu yma yng Nghymru'.
Mae hynny'n swnio'n wych, ond dydy'r ffeithiau ddim yn cefnogi hynny. Eich plaid chi, wrth gwrs, yw'r un sydd wedi torri lwfans tanwydd y gaeaf i filoedd o bensiynwyr Cymru yn ystod un o'r gaeafau oeraf ers blynyddoedd. Mae hyd yn oed ffigurau'r Blaid Lafur ei hun yn awgrymu y gallai'r penderfyniad gostio 4,000 o fywydau. Ac yn ogystal, addawyd i bobl cyn yr etholiad cyffredinol y byddai biliau ynni yn gostwng o dan Lywodraeth Lafur, dim ond wedyn i'w gweld yn codi o dan Lywodraeth Lafur. Sut allwn ni fod ag unrhyw hyder y byddwch chi'n darparu cartrefi cynnes a biliau is pan fo hanes eich plaid yn dangos y gwrthwyneb llwyr?
Well, I find that rich coming from your party, frankly. Look, I've set out—and I will take account of those issues for which I'm accountable in Wales; I cannot be accountable for what happens in Westminster. I say this week after week after week, if you keep on wanting to do that, then you carry on, but I think the public will wonder what on earth's going on here. It's called 'devolution'; you might want to have a look at how it works.
Look, our priorities when it comes to legislation are based on the programme for government and the manifesto, so I'm not quite sure how your follow-up question relates to warm homes. But what I can tell you is that we are spending £30 million a year supporting people to live in warmer homes, and that's one of many, many projects that we are funding to support people when life gets tough, and life is tough. We all know that bills have gone up; they've gone up partly because of what's happened in Ukraine. These are things that are beyond the control of any Government, and it's right that, where we can, as a Government, we can step in and support those—in particular the most vulnerable.
Wel, mae honna'n un dda yn dod gan eich plaid chi, a bod yn onest. Edrychwch, rwyf i wedi nodi—a byddaf yn cymryd i ystyriaeth y materion hynny yr wyf i'n atebol amdanyn nhw yng Nghymru; allaf i ddim bod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rwy'n dweud hyn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, os byddwch chi'n parhau i fod eisiau gwneud hynny, yna parhewch chi, ond rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn meddwl tybed beth ar y ddaear sy'n digwydd yma. 'Datganoli' yw ei enw; efallai yr hoffech chi gymryd golwg ar sut mae'n gweithio.
Edrychwch, mae ein blaenoriaethau o ran deddfwriaeth yn seiliedig ar y rhaglen lywodraethu a'r maniffesto, felly nid wyf i'n hollol siŵr sut mae eich cwestiwn dilynol yn ymwneud â chartrefi cynnes. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario £30 miliwn y flwyddyn yn cynorthwyo pobl i fyw mewn cartrefi cynhesach, ac mae hwnnw'n un o lawer iawn o brosiectau yr ydym ni'n eu hariannu i gynorthwyo pobl pan fydd bywyd yn anodd, ac mae bywyd yn anodd. Rydym ni i gyd yn gwybod bod biliau wedi codi; maen nhw wedi codi yn rhannol oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin. Mae'r rhain yn bethau sydd y tu hwnt i reolaeth unrhyw Lywodraeth, ac mae'n iawn, lle gallwn ni, fel Llywodraeth, ein bod ni'n gallu camu i'r adwy a chynorthwyo'r rheini—yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.
Good afternoon, First Minister. One piece of legislation that I know is within your programme is around a Bill on Member accountability, particularly the element of deliberate political deception, and to make that an offence through an independent process. Public trust in politicians right now is at an all-time low, with only 9 per cent of the public expressing confidence in us, the lowest it has been for 40 years. More than half of UK voters—58 per cent—believe that politicians almost never tell the truth. We only need to look to yesterday, and the new President of the United States, and I absolutely do not share the endorsement by the party opposite who—. A President, when he was the President the first time around—his presidency was marked by an astonishing 21 falsehoods a day, according to The Washington Post. So, First Minister, we never want to see that here in Wales, and we don't have that problem in Wales, but we do need legislation in order to ensure that we have a Senedd that is, absolutely, beginning to restore trust in people in Wales. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae un darn o ddeddfwriaeth y gwn sydd yn eich rhaglen yn ymwneud â Bil ar atebolrwydd Aelodau, a'r elfen o dwyll gwleidyddol bwriadol yn benodol, ac i wneud hynny yn drosedd trwy broses annibynnol. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed ar hyn o bryd, â dim ond 9 y cant o'r cyhoedd yn mynegi hyder ynom ni, yr isaf y mae wedi bod ers 40 mlynedd. Mae mwy na hanner pleidleiswyr y DU—58 y cant—yn credu nad yw gwleidyddion bron byth yn dweud y gwir. Does dim ond yn rhaid i ni edrych ar ddoe, ac Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, ac yn sicr nid wyf i'n rhannu'r gymeradwyaeth gan y blaid gyferbyn a wnaeth—. Arlywydd, pan oedd yn Arlywydd y tro cyntaf—roedd ei arlywyddiaeth yn cynnwys nifer syfrdanol o 21 o gelwyddau y dydd, yn ôl y Washington Post. Felly, Prif Weinidog, nid ydym ni byth eisiau gweld hynny yma yng Nghymru, ac nid yw'r broblem honno gennym ni yng Nghymru, ond mae angen deddfwriaeth arnom ni i sicrhau bod gennym ni Senedd sydd, yn bendant, yn dechrau adfer ymddiriedaeth ymhlith pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Thanks very much. The Welsh Government is committed to bringing forward legislation in relation to the disqualification of Members and candidates found guilty of deliberate deception. You'll be aware that the Senedd's Standards of Conduct Committee is conducting an inquiry into individual Member accountability, which includes consideration of both recall and deception issues, and we're looking forward to receiving the report and recommendations of the committee.
Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth o ran gwahardd Aelodau ac ymgeiswyr y'u ceir yn euog o dwyll bwriadol. Byddwch yn ymwybodol bod Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn cynnal ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau unigol, sy'n cynnwys ystyried materion adalw a thwyllo, ac rydym ni'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad ac argymhellion y pwyllgor.
6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62132
6. What are the Welsh Government’s priorities for public health in Preseli Pembrokeshire? OQ62132
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi’u nodi yn 'Cymru Iachach' ac mae'r camau diwygiedig a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr yn canolbwyntio ar atal iechyd gwael ac afiechydon yn y lle cyntaf, ac ar adnabod ac ymyrryd yn gynnar pan fydd afiechydon yn digwydd.
Our priorities for public health for Wales are set out in ‘A Healthier Wales’ and the refreshed actions published in December focus on preventing the onset of poor health and disease, and also on identifying and intervening early when disease occurs.
First Minister, you'll be aware that the Withyhedge landfill site in Pembrokeshire has recently started accepting waste again, and I've already been contacted about odours coming from the site, which is very worrying. Residents are understandably anxious, because in the past there have been times when people have experienced serious health symptoms, such as painful and swollen eyelids, headaches and nausea, as a result of potentially toxic emissions coming from the site.
First Minister, it's vital that lessons are learned so that residents can live without the threat of their health being compromised because of the operations at this specific landfill site. As you know, I've called for a public inquiry into the management of the site, so that the public can finally get the answers they deserve, and I believe that by working together we can deliver a public inquiry. Therefore, First Minister, will you work with me, in the interests of the community and in the spirit of openness and transparency, to help deliver the public inquiry the community has called for in order to protect people's public health in the future?
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod safle tirlenwi Withyhedge yn sir Benfro wedi dechrau derbyn gwastraff eto yn ddiweddar, a chysylltwyd â mi eisoes ynghylch arogleuon yn dod o'r safle, sy'n peri pryder mawr. Mae trigolion yn ddealladwy yn bryderus, oherwydd yn y gorffennol bu adegau pan fo pobl wedi dioddef symptomau iechyd difrifol, fel amrannau poenus ac wedi chwyddo, cur pen a chyfog, o ganlyniad i allyriadau gwenwynig posibl yn dod o'r safle.
Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu fel y gall trigolion fyw heb y bygythiad y bydd eu hiechyd yn cael ei beryglu oherwydd y gweithrediadau ar y safle tirlenwi penodol hwn. Fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i reolaeth y safle, fel y gall y cyhoedd o'r diwedd gael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu, ac rwy'n credu, drwy gydweithio, y gallwn ni sicrhau ymchwiliad cyhoeddus. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi weithio gyda mi, er budd y gymuned ac mewn ysbryd o ddidwylledd a thryloywder, i helpu i ddarparu'r ymchwiliad cyhoeddus y mae'r gymuned wedi galw amdano er mwyn diogelu iechyd cyhoeddus pobl yn y dyfodol?
Thanks very much. Well, look, it's just something for everybody to note, I think: when it comes to public inquiries, there's a lot of work to be done. You know, lots of us are involved in the COVID inquiry, and I can't begin to tell you how much resource, finance and everything that that's taken up, and it's taking years and years and years. I genuinely think that many people would rather us just get on with it. What happens is that you are sometimes distracted. It's important, I think, in something like COVID—really important—that we learn the lessons, and there's a big picture to take account of there. I think, when it comes to an example like this, and I hear that they've already resumed waste acceptance to the site—. I understand that staff from Natural Resources Wales, Public Health Wales, Pembrokeshire County Council and the health board attended a public engagement session. There were about 60 members of the public there. I know there's a high level of concern from residents still, and I've also had representation. I know NRW tried to reassure some of the Members there in terms of the investment the company has made in terms of onsite infrastructure, in particular to the landfill gas management system. I can assure you that I'll keep a very close eye on this, and if those concerns continue then we will have to just discuss with NRW what concrete additional steps will have to be taken.
Diolch yn fawr iawn. Wel, edrychwch, dim ond rhywbeth i bawb ei nodi, rwy'n credu: o ran ymchwiliadau cyhoeddus, mae llawer o waith i'w wneud. Wyddoch chi, mae llawer ohonom ni yn rhan o'r ymchwiliad COVID, ac allaf i ddim ddechrau dweud wrthych chi faint o adnoddau, cyllid a phopeth y mae hwnnw wedi ei gymryd, ac mae'n cymryd blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd. Rwyf i wir yn credu y byddai'n well gan lawer o bobl i ni fwrw ymlaen â phethau. Yr hyn sy'n digwydd yw bod eich sylw'n cael ei dynnu weithiau. Mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran rhywbeth fel COVID—yn bwysig iawn—ein bod ni'n dysgu'r gwersi, ac mae darlun ehangach i'w gymryd i ystyriaeth yn hynny o beth. Rwy'n credu, o ran esiampl fel hon, ac rwy'n clywed eu bod nhw eisoes wedi ailddechrau derbyn gwastraff i'r safle—. Rwy'n deall bod staff Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Penfro a'r bwrdd iechyd yn bresennol mewn sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd tua 60 aelod o'r cyhoedd yno. Rwy'n gwybod bod lefel uchel o bryder ymhlith trigolion o hyd, ac rwyf i hefyd wedi derbyn sylwadau. Rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio tawelu meddyliau rhai o'r Aelodau yno o ran y buddsoddiad y mae'r cwmni wedi ei wneud o ran seilwaith ar y safle, yn enwedig yn y system rheoli nwy tirlenwi. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, ac os bydd y pryderon hynny yn parhau, yna bydd yn rhaid i ni drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru pa gamau ychwanegol pendant y bydd yn rhaid eu cymryd.
7. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd acíwt i bobl yn Nwyrain De Cymru? OQ62185
7. What is the Government doing to improve acute health services for people in South Wales East? OQ62185
Llynedd, roedd bron i 980,000 o ymweliadau ag ysbytai o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn unig. Mae’r lefelau galw a gweithgaredd yn cynyddu bob blwyddyn. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol ar gael i’r rhai sydd eu hangen.
Last year, there were almost 980,000 hospital attendances within Aneurin Bevan University Health Board alone. Demand and activity levels are increasing annually. We're working closely with the health board to ensure that there is access to safe and timely health and care services for those that need it.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Thank you for that response.
Earlier this month, Aneurin Bevan University Health Board declared a critical incident due to sustained pressure. This announcement was no surprise to anyone who'd been following the coverage of the hospital since it opened its doors just a few short years ago. What shocked me were the first-hand accounts that I've received from members of staff at the hospital. They describe a perpetual bed crisis at the hospital, with seriously ill patients being put on corridors for extended periods of time until beds become available. I've been told that patients' lives are being put at risk in an environment that the RCN, as we've heard earlier, says compromises safety, dignity and quality. These conditions are not just catastrophic for patients, but they are deeply demoralising for staff, who enter the profession to help people to the best of their ability. It's no wonder that many have left the NHS, and many more are considering jumping ship.
First Minister, I've heard what you said earlier this afternoon, but, without putting all the responsibility and blame onto the health board, how do you intend to turn this bleak situation around for patients and hard-working staff, and what do you intend to do differently, because what you're doing currently just isn't working? Doctors and nurses are at their wits' end.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad critigol oherwydd pwysau parhaus. Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod i unrhyw un a oedd wedi bod yn dilyn y newyddion o'r ysbyty ers iddo agor ei ddrysau ddim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Yr hyn a roddodd sioc i mi oedd yr adroddiadau a gefais i gan aelodau staff yr ysbyty eu hunain. Maen nhw'n disgrifio argyfwng parhaol o ran gwelyau yn yr ysbyty, gyda chleifion difrifol wael yn cael eu gosod mewn coridorau am gyfnodau maith o amser nes bod gwelyau ar gael. Roedden nhw'n dweud wrthyf i fod bywydau cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd yr amgylchedd y mae'r RCN, fel clywsom ni'n gynharach, yn dweud sy'n peryglu diogelwch, urddas ac ansawdd gofal. Nid dim ond i'r cleifion y mae'r amodau hyn yn drychinebus, ond maen nhw'n achos digalondid mawr i'r staff, sydd wedi ymuno â'r proffesiwn i helpu pobl hyd eithaf eu gallu. Nid oes rhyfedd fod llawer wedi gadael y GIG, ac mae llawer mwy yn ystyried gadael y llong.
Prif Weinidog, fe glywais i'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud yn gynharach y prynhawn yma, ond, heb roi'r cyfrifoldeb a'r bai i gyd ar y bwrdd iechyd, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r sefyllfa enbyd hon i gleifion a staff sy'n gweithio yn galed, a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud yn wahanol, oherwydd nid yw'r hyn yr ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio? Nid yw meddygon na nyrsys yn gwybod beth i'w wneud nesaf.
Well, thanks very much. We're all very aware of that critical incident that was called in Aneurin Bevan over Christmas. I was able also to go and speak to people in the emergency department just a couple of weeks ago, on an unannounced visit once again, just to hear first-hand how people were feeling. It was really quite remarkable how tolerant some of the patients were, frankly, and how grateful they were for the support that they were being given. The staff were clearly aware of the pressures that they were under. And just to give you a sense of that, just in October, the emergency department saw 7,800 patients. It's a significant number of people.
I think what's important is that we also look at what has improved there. So, for example, there's been a 94 per cent increase in patients referred to the same-day emergency care service at the Grange hospital. Now, what that means is that those are being diverted from the emergency department. So, had we not put those things in place, we would have been in a much more difficult position. I think it is important to recognise that there are also massive investments going on, and, as you'll be aware, there is a significant investment going on in the emergency department.
I think there are lessons for them to learn, frankly, from the way patients are onboarded in places like Cardiff. I think there are real lessons that all hospitals can learn from each other. But I was pleased to see that there has been an 8 per cent reduction in the number of one-hour ambulance handovers when compared to January 2024. So, there are some chinks of light, but the pressures are absolutely undeniable.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r digwyddiad critigol hwnnw a gafodd ei ddatgan yn Aneurin Bevan dros y Nadolig. Fe gefais i gyfle hefyd i fynd i siarad â phobl yn yr adran argyfwng ychydig wythnosau yn ôl, ar ymweliad dirybudd unwaith eto, dim ond ar gyfer clywed drosof fy hunan sut roedd pobl yn teimlo. Roedd hi'n syndod pa mor amyneddgar oedd rhai o'r cleifion, a dweud y gwir, a pha mor ddiolchgar yr oedden nhw am y gefnogaeth yr oedden nhw'n ei chael. Yn amlwg, roedd y staff yn ymwybodol o'r pwysau a oedd arnyn nhw. A dim ond i roi ymdeimlad o hynny i chi, ym mis Hydref, fe gafodd 7,800 o gleifion eu gweld gan yr adran argyfwng honno. Dyna nifer fawr o bobl.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sylwi ar yr hyn sydd wedi gweld gwelliant yno hefyd. Felly, er enghraifft, fe fu cynnydd o 94 y cant yn nifer y cleifion a gyfeiriwyd at y gwasanaeth gofal argyfwng un diwrnod yn ysbyty'r Faenor. Nawr, beth mae hynny'n ei olygu yw bod y rhain yn cael eu dargyfeirio o'r adran argyfwng. Felly, pe na fyddai'r pethau hynny wedi cael eu rhoi ar waith gennym ni, fe fyddem ni mewn sefyllfa llawer anoddach nawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod buddsoddiadau enfawr yn digwydd hefyd, ac, fel gwyddoch chi, mae buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn yr adran argyfwng.
Rwy'n credu bod gwersi iddyn nhw eu dysgu, a dweud y gwir, o'r dull y caiff cleifion eu croesawu a'u cofrestru mewn mannau fel Caerdydd. Rwy'n credu bod gwersi gwirioneddol y gall yr ysbytai i gyd eu dysgu oddi wrth ei gilydd. Ond roeddwn i'n falch o weld bod gostyngiad o 8 y cant wedi bod yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans un awr o gymharu â mis Ionawr 2024. Felly, fe geir rhai llygadennau o oleuni, ond ni ellir amau maint y pwysau o gwbl.
Yn olaf, cwestiwn 8, Joyce Watson.
Finally, question 8, Joyce Watson.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amgylcheddau morol? OQ62187
8. What is the Welsh Government doing to improve marine environments? OQ62187
Improving the marine environment is a priority for this Government. We fund a variety of marine projects, including seagrass restoration, fishing gear recycling and research to improve our understanding of the marine environment. We're also taking action to tackle pressures on the marine environment, such as poor water quality.
Mae gwella'r amgylchedd morol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n ariannu amrywiaeth o brosiectau morol, gan gynnwys adfer morwellt, ailgylchu offer pysgota ac ymchwil ar gyfer gwella ein dealltwriaeth ni o'r amgylchedd morol. Rydym ni'n cymryd camau hefyd i fynd i'r afael â phwysau ar yr amgylchedd morol, fel dŵr o ansawdd gwael.
I'm particularly pleased to have heard the announcement of the £100,000 extra money for the seagrass project, and of course it is necessary because it's come about from the revealing statistic that, over the last 30 years, 90 per cent of seagrass meadow has been destroyed due to a range of causes.
This is welcome, it is of critical need, and I understand that a number of agencies will be involved in the delivery of that programme. And we all know, if we watched the weather chart last year, that the temperature of the sea is rising, and seagrass can help oxygenate that water and therefore cool it down. So, it's an essential part that it will play in global warming. So, do you agree with me, First Minister, that it's exactly this type of project, this type of initiative and funding and support going forward, that will help maintain our seas in a healthy order going forward?
Rwy'n arbennig o falch o glywed y cyhoeddiad am y £100,000 o arian ychwanegol ar gyfer y prosiect morwellt, ac wrth gwrs mae'n angenrheidiol oherwydd fe ddaeth yn sgil yr ystadegyn dadlennol, sef bod 90 y cant o ddolydd morwellt wedi cael eu hanrheithio am amryw o resymau dros y 30 mlynedd diwethaf.
Mae hyn i'w groesawu, mae angen dirfawr amdano, ac rwy'n deall y bydd nifer o asiantaethau yn rhan o'r gwaith o ddarparu'r rhaglen honno. Ac fe wyddom ni i gyd, pe byddem ni'n cadw golwg ar y siart dywydd am y llynedd, fod tymheredd y môr yn codi, ac fe all morwellt helpu i ocsigeneiddio'r dŵr hwnnw a'i oeri felly. Felly, mae ganddo ran hanfodol o ran cynhesu byd-eang. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai dyma'r union fath o brosiect, menter o'r fath a chyllid a chymorth wrth symud ymlaen, a fydd yn helpu i gynnal ein moroedd ni mewn cyflwr iach i'r dyfodol?
Thanks very much, Joyce. I know how passionate you are about this issue, and I'm also very pleased about the £100,000 funding that was announced last week to help restore seagrass habitats. I think, if you don't mind, I'm going to remind you again how important seagrass is, because seagrass captures carbon up to 35 times faster than tropical rainforests. That number still stuns me. I'm going to keep on repeating it to you all because it's just something that I think people need to hear, and that's why I think that investment is so, so crucial.
This brings the investment that we've put into seagrass and salt marsh restoration projects to about £1.12 million since 2021, so this is an issue we're committed to and I'm really pleased that you've highlighted this issue once again, Joyce.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n gwybod pa mor angerddol yr ydych yn teimlo ynghylch y mater hwn, ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o'r cyllid o £100,000 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu i adfer cynefinoedd morwellt. Rwy'n credu, os nad oes ots gennych chi, y byddaf i'n eich atgoffa unwaith eto pa mor bwysig yw morwellt, oherwydd mae morwellt yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gynt na fforestydd glaw trofannol. Mae'r rhif hwn yn dal i fod yn syfrdanol i mi. Rwyf i am ddal ati i'w ailadrodd i bawb ohonoch chi oherwydd mae'n rhywbeth yr wyf i o'r farn fod angen i bobl ei glywed, a dyna pam rwy'n credu bod y buddsoddiad hwnnw mor hanfodol, wir.
Mae hyn yn dod â'r buddsoddiad y gwnaethom ni ei fuddsoddi mewn prosiectau adfer morwellt a morfeydd heli hyd at oddeutu £1.12 miliwn ers 2021, felly mae hwn yn fater yr ydym ni wedi ymrwymo iddo ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y mater hwn unwaith yn rhagor, Joyce.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf fydd cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, a'r cwestiwn cyntaf—James Evans.
The next item will be questions to the Counsel General and Minister for Delivery, and the first question is from James Evans.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62147
1. What support does the Welsh Government provide for family drug and alcohol courts? OQ62147
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y gwerthusiad o raglen beilot y llys teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62133
6. Will the Counsel General provide an update on the evaluation of the family dug and alcohol court pilot? OQ62133
Thank you. Llywydd, I understand you've given permission for questions 1 and 6 to be grouped. Thank you.
The Welsh Government provided £450,000 for the two-year Wales family drug and alcohol court pilot, which concluded in November 2023. Following publication of the independent evaluation of the pilot in July 2024, a working group with representation from key partners has been established to advise on next steps.
Diolch. Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 a 6 gael eu grwpio gyda'i gilydd. Diolch i chi.
Darparodd Llywodraeth Cymru £450,000 ar gyfer cynllun treialu llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol o ddwy flynedd i Gymru, ac fe ddaeth hwnnw i ben ym mis Tachwedd 2023. Yn dilyn cyhoeddiad y gwerthusiad annibynnol o'r cynllun treialu ym mis Gorffennaf 2024, cafodd gweithgor ei sefydlu gyda chynrychiolaeth gan bartneriaid allweddol i roi cyngor am y camau nesaf.
Thank you, Counsel General, for your answer. As you just highlighted, £450,000 was provided to family drug and alcohol courts across Wales. The evaluation that was conducted by CASCADE at Cardiff University indicated positive outcomes, suggesting that FDACs are feasible and beneficial alternatives to standard care proceedings, and I know I heard first-hand, when I was on the Children, Young People and Education Committee, about the good work that FDACs do in those care proceedings. So, given those findings, could you provide some update to the Senedd on what the Welsh Government's financial future is for funding and sustaining FDACs across Wales, and, potentially, could we roll them out across the rest of the country other than the pilot that was held in Cardiff and the Vale? And I'm just wondering how the CASCADE evaluation has helped to inform future policy decisions around the family drug and alcohol court model.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol, am eich ateb. Fel roeddech chi'n ei amlygu, fe ddarparwyd £450,000 i lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru. Nodwyd canlyniadau cadarnhaol yn y gwerthusiad a gynhaliwyd gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn awgrymu bod Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn ddewisiadau amgen i achosion gofal safonol ac maen nhw'n ymarferol a manteisiol, ac fe wn i mi glywed yn uniongyrchol, pan oeddwn i ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am y gwaith da y mae llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn ei wneud yn yr achosion gofal hynny. Felly, o ystyried y canfyddiadau hynny, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar beth yw dyfodol ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu a chynnal llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, ac, o bosibl, a allem ni eu cyflwyno nhw ledled y wlad y tu hwnt i'r cynllun treialu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a'r Fro? Ac rwy'n meddwl tybed sut mae gwerthusiad CASCADE wedi helpu i lywio penderfyniadau polisi'r dyfodol ynghylch y model llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol.
Thank you very much, James. I'll just start by saying how pleased we are that we did manage to pilot the family drug and alcohol court programme to test and report in Wales, and I just wanted to pay tribute once again to the families who took the brave step of engaging in the programme and the hard work and professionalism of all of those involved in the pilot. And then, as you rightly say, we discussed the evaluation of the pilot by CASCADE with the local family justice board. We discussed that last autumn and at the family justice network in December, alongside meetings with representatives of Welsh heads of children's services in local authorities.
As a result of all of those things, including the evaluation, it was recommended that we set up a working group with representation from across key partners. The group will provide a lead in helping shape next steps in a sustainable and cost-effective way, underpinned by a shared commitment to achieve the best outcomes. The first meeting of that group, which is being set up as a result of a series of things that have happened since the CASCADE report came out, is due to take place this month and will report back by the end of the summer. So, by the end of the summer we will know about scalability options for the FDAC in Wales, we will consider future funding, how the problem-solving approach adopted in the pilot could be applied more widely in family courts in Wales, and how the FDAC fits with wider services that provide integrated support for families around drug and alcohol misuse issues, for example.
So, I'm very pleased that we have that process in place. We are very concerned as well to look at scalability. So, this is about having a number of families who are able to take part in that and to be able to put the support services around them to enable that. And I don't think that's a small thing; that's not something that people can do without that support. So, a process needs to be gone through to be able to do that, but I'm pleased that that process is in place. It's done in a very consensual way with a fundamental understanding that we would like to do it if it's possible to do it in a way that's helpful, and I'll report back to the Senedd as we get more information.
Diolch yn fawr iawn, James. Rwyf i am ddechrau drwy ddweud pa mor falch ydym ni ein bod wedi llwyddo i dreialu'r rhaglen llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ar gyfer profi ac adrodd yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i ddweud gair o ganmoliaeth unwaith eto wrth y teuluoedd a gymerodd y cam dewr o gymryd rhan yn y rhaglen a gwaith caled a phroffesiynoldeb pob un a oedd yn ymwneud â'r cynllun treialu. Ac yna, fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, fe fuom ni'n trafod gwerthusiad CASCADE o'r cynllun treialu gyda'r bwrdd cyfiawnder teuluol lleol. Trafodwyd hynny yn hydref y llynedd ac yn y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ym mis Rhagfyr, ochr yn ochr â chyfarfodydd â chynrychiolwyr penaethiaid gwasanaethau plant Cymru yn yr awdurdodau lleol.
O ganlyniad i'r pethau hynny i gyd, gan gynnwys y gwerthusiad, fe argymhellwyd ein bod ni'n sefydlu gweithgor a fyddai â chynrychiolaeth o bob partner allweddol. Fe fydd y grŵp yn arwain wrth helpu i lunio'r camau nesaf mewn ffordd sy'n gynaliadwy a chost-effeithiol, a ategir gan ymrwymiad cyffredin i gyflawni'r canlyniadau gorau. Mae disgwyl i gyfarfod cyntaf y grŵp hwnnw, sy'n cael ei sefydlu o ganlyniad i gyfres o bethau sydd wedi digwydd ers cyhoeddi adroddiad CASCADE, gael ei gynnal yn ystod y mis hwn ac fe fydd yn adrodd yn ôl erbyn diwedd yr haf. Felly, erbyn diwedd yr haf fe fyddwn ni'n gwybod am ddewisiadau o ran maint ar gyfer y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n ystyried cyllid yn y dyfodol, sut y gellid cymhwyso'r dull o ddatrys problemau a fabwysiadwyd yn y cynllun treialu yn fwy eang mewn llysoedd teulu yng Nghymru, a sut gall y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol gydweddu â gwasanaethau ehangach a fydd yn darparu cymorth cydlynol i deuluoedd ynghylch materion o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, er enghraifft.
Felly, rwy'n falch iawn fod y broses honno ar waith. Rydym ni'n awyddus iawn hefyd i ystyried ehangu. Felly, mae hyn yn ymwneud â nifer o deuluoedd sy'n gallu cymryd rhan yn hyn a rhoi'r gwasanaethau cymorth o'u hamgylch nhw i wneud hynny'n bosibl. Ac nid wyf i'n credu mai peth bychan yw hwn; nid yw hwn yn rhywbeth y gall pobl ei wneud heb fod â'r gefnogaeth honno. Felly, mae angen mynd trwy broses i allu gwneud felly, ond rwy'n falch fod y broses honno ar waith. Mae'n cael ei gwneud mewn ffordd gydsyniol iawn gyda dealltwriaeth sylfaenol yr hoffem ni wneud hyn os yw'n bosibl mewn ffordd sydd o gymorth, ac fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Senedd wrth i ni gael rhagor o wybodaeth.
I'm slightly disappointed by your answer, Cwnsler Cyffredinol, because you told me on 1 October that you would respond to the evaluation of CASCADE by Christmas or earlier. Now it seems to have been pushed over to the summer. You'll be aware of the Senedd's Children, Young People and Education Committee's report, published in May 2023, and it recommended the implementation of a family, drug and alcohol court. Julie Morgan, who was then Deputy Minister, said that she was absolutely convinced of the value of the problem-solving family court model. That was Welsh Government back in May 2023. The CASCADE evaluation was published in January 2024, a year ago. The analysis concludes that the court costs £18,000 but produces an average direct benefit of over £74,000 per case.
Now, you heard me on the last occasion quoting a family circuit judge at the problem-solving court saying how beneficial the court was to families and to children. Keeping children out of care is so important and we're not doing enough at the moment here in Wales. So, when do you hope we will re-establish the family, drug and alcohol court here in Wales and open others in other areas in Wales? Diolch yn fawr.
Rwyf i braidd yn siomedig gyda'ch ateb chi, Cwnsler Cyffredinol, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i ar y 1 o fis Hydref y byddech chi'n ymateb i werthusiad CASCADE erbyn y Nadolig neu cyn hynny. Erbyn hyn mae hi'n ymddangos ei fod wedi cael ei wthio ymlaen tan yr haf. Rydych chi'n ymwybodol o adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, a oedd yn argymell rhoi llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ar waith. Ac fe ddywedodd Julie Morgan, oedd yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, ei bod hi'n gwbl argyhoeddedig o werth y model o lysoedd teulu ar gyfer datrys problemau. Dyna a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Mai 2023. Cafodd gwerthusiad CASCADE ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024, flwyddyn yn ôl. Mae'r dadansoddiad yn casglu bod y llys yn costio £18,000 ond yn cynhyrchu budd uniongyrchol cyfartalog o dros £74,000 fesul achos.
Nawr, fe glywsoch chi fi'r tro diwethaf yn dyfynnu barnwr cylchdaith deuluol yn y llys datrys problemau yn dweud pa mor fuddiol oedd y llys i deuluoedd a phlant. Mae cadw plant allan o ofal mor bwysig ac nid ydym ni'n gwneud digon ar hyn o bryd yma yng Nghymru. Felly, pryd ydych chi'n gobeithio y byddwn ni'n ailsefydlu'r llys teulu, cyffuriau ac alcohol yma yng Nghymru ac yn agor eraill mewn ardaloedd eraill yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys, and just to be really clear what we're doing here, the CASCADE evaluation was very good but we have a series of things to go through afterwards. So, I did say that I would come back to you, and it's only just after Christmas at the moment, and I'm very pleased that, as a result of all of those conversations, we have set up—. The consensus was with the stakeholders that we set up this working group and that that group will report back by the summer. So, we've done that. So, it's moving forward. The result is that they wanted to have this working group to look into how we might scale it up and what the issues are that I just discussed in answering James. I'm really very keen to make sure that we let the working group do its work now and it considers the impact of the pilot.
You're right about the impact of the pilot. I like the idea of the problem-solving courts. I had the real privilege of meeting with the Lady Chief Justice last week in London in the Royal Courts of Justice, and we discussed problem-solving courts more generally. So, it's a good opportunity to do that. But we do know that we have to make sure that we have a system in place that supports the families that are in that system, and I'm very specifically concerned that we have scalability right. So, there will not be the critical mass of families necessary to be able to sustain that court system the way the courts are configured at the moment.
So, there is a piece of work to do to make sure that it will work, that it is cost-effective and it does free-up resources to support earlier preventative work with families, because that's the idea. The idea is to make sure that this feeds backwards into the system and, as you rightly say, supports families to stay together in a much more constructive way. So, we're strongly committed to supporting families in that way, specifically experiencing substance misuse issues. We're very much recognising the increasing demand in support for those families, so we have invested further in those services, but it needs to be seen as a single piece.
So, I don't regard it as a step back, actually; I regard it as a step forward. I think there was a real consensus that the group needed to do its work, and they are committed to reporting back to us by the summer.
Diolch, Rhys, a dim ond er mwyn bod yn eglur iawn o ran yr hyn a wnawn ni yma, roedd gwerthusiad CASCADE yn dda iawn ond mae gennym ni gyfres o bethau i fynd drwyddyn nhw ar ôl hwnnw. Felly, fe ddywedais i y byddwn i'n dod yn ôl atoch chi, a dim ond newydd fod y mae'r Nadolig nawr, ac rwy'n falch iawn ein bod ni, o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny i gyd, wedi sefydlu—. Y consensws gyda'r rhanddeiliaid oedd y byddem ni'n sefydlu'r gweithgor hwn ac y byddai'r grŵp hwnnw'n adrodd yn ôl erbyn yr haf. Felly, rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, mae hynny'n symud yn ei flaen. Y canlyniad yw eu bod nhw'n dymuno i'r gweithgor hwn ystyried sut y gallem ni ehangu a beth yw'r materion yr wyf newydd eu trafod wrth roi ateb i James. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n gadael llonydd i'r gweithgor wneud ei waith nawr ac wrth iddo ystyried effaith y cynllun treialu.
Rydych chi'n gywir ynglŷn ag effaith y cynllun treialu. Rwy'n hoffi'r syniad o lysoedd datrys problemau. Fe gefais i'r fraint o gyfarfod â'r Arglwyddes Brif Ustus yn Llundain yr wythnos diwethaf yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, ac fe fuom ni'n trafod llysoedd datrys problemau yn fwy cyffredinol. Felly, mae hwn yn gyfle da i wneud hynny. Ond fe wyddom ni bod rhaid i ni sicrhau bod y system sydd gennym ni ar waith yn cefnogi'r teuluoedd sydd yn y system honno, ac rwy'n pryderu yn arbennig iawn ynglŷn â bod â'r gallu gennym ni i ehangu yn briodol. Felly, ni fydd y màs critigol o deuluoedd yno sy'n angenrheidiol i allu cynnal y gyfundrefn honno o lysoedd ar ffurf y llysoedd ar hyn o bryd.
Felly, mae yna ddarn o waith i'w wneud i sicrhau y bydd yn gweithio, yn gost-effeithiol ac yn rhyddhau adnoddau i gefnogi gwaith ataliol gyda theuluoedd yn fwy cynnar, oherwydd dyna ydyw'r syniad. Y syniad yw sicrhau bod hyn yn bwydo yn ôl i mewn i'r system a'i fod, fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, yn cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd mewn ffordd lawer mwy adeiladol. Felly, rydym ni wedi ymrwymo yn bendant i gefnogi teuluoedd yn y ffordd honno, yn sgil problemau oherwydd camddefnyddio sylweddau yn benodol. Rydym ni'n llwyr gydnabod y galw cynyddol am gefnogaeth i'r teuluoedd hynny, felly rydym ni wedi buddsoddi rhagor yn y gwasanaethau hynny, ond mae angen ei ystyried yn un darn o waith.
Felly, nid wyf i'n ystyried hwn yn gam yn ôl, mewn gwirionedd; rwy'n ei ystyried yn gam ymlaen. Rwy'n credu bod consensws gwirioneddol ynglŷn â'r angen i'r grŵp allu gwneud ei waith, ac maen nhw wedi ymrwymo i adrodd yn ôl i ni erbyn yr haf.
Good afternoon, Minister. I think part of our role here is to bring pressure on you as Ministers, and also to share our experiences before we came to this wonderful place. So, I would like to thank James, and Rhys as well, for continuing to raise this. And all I can talk about are my experiences as a child protection social worker, working with FDACs in England, where there is a proven track record of how they keep children out of care and keep families together. I am slightly stunned that we are not learning from England, and we are not looking at the outcomes there and accelerating this really quickly, because we have families right now who are desperate to be kept together, through a system that I myself have seen working.
So, I wonder if I could really pin you down. The summer could start in March, if we’re lucky, or the summer could go on until October. Could you really be a bit more specific, or perhaps write to us and give us some really clear timescales of when we might be able to see a very clear implementation plan for the FDAC going forward, which has a month at least, rather than 'the summer'? Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n credu mai rhan o'n gwaith ni yn y fan hon yw pwyso arnoch chi'r Gweinidogion, yn ogystal â rhannu ein profiadau cyn i ni ddod i'r lle gwych hwn. Felly, fe hoffwn i ddiolch i James, a Rhys hefyd, am ddal ati i godi'r mater hwn. A'r cyfan y gallaf i siarad yn ei gylch yw fy mhrofiadau i pan oeddwn i'n weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, gan weithio gyda llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn Lloegr, lle mae enw da profedig ganddyn nhw o ran cadw plant allan o ofal a chadw teuluoedd gyda'i gilydd. Rwy'n synnu braidd nad ydym ni'n dysgu oddi wrth Loegr, ac nad ydym ni'n edrych ar y canlyniadau yno ac yn cyflymu hyn yn chwim iawn, oherwydd mae gennym ni deuluoedd ar hyn o bryd sy'n eiddgar i aros gyda'i gilydd, trwy gyfrwng system yr wyf i fy hunan wedi ei gweld hi'n gweithio.
Felly, tybed a gaf i bwyso arnoch chi'n wirioneddol. Fe allai'r haf fod yn dechrau ym mis Mawrth, os ydym ni'n lwcus, neu fe allai'r haf barhau tan fis Hydref. A allech chi fod ychydig yn fwy penodol, neu ysgrifennu atom ni efallai a rhoi rhai amserlenni eglur iawn i ni o ran pryd y gallem ni fod yn cael gweld cynllun gweithredu eglur iawn ar gyfer y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn y dyfodol, sy'n cynnwys enw mis o leiaf, yn hytrach na dim ond 'yr haf'? Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much, Jane. Just to shed light on where we are, the initial roll-out of FDACs in England was taken forward around the same time—which was between 2010 and 2014—as we rolled out the integrated family support services early intervention programme for families in Wales. So, there were parallel streams there. At the moment, the FDAC indicates that, around the UK, there are 13 FDAC specialist teams, working in 19 courts and serving families in 35 local authorities. So, it isn’t widespread in England either yet. So, there is an element of piloting.
One of the issues absolutely is about what sort of critical mass of population you need to sustain this service, and what happens in rural areas where there isn’t that critical mass. Is there some way of making sure that the FDAC can work in areas where you wouldn’t be able to sustain that because of the way that the finances work, because this is an intensive intervention programme? So, we do need to do this piece of work.
I understand your point about 'the summer'. Government seasons are quite flexible, I’ve discovered since I’ve been in Government, but I very much hope that that will take place before the summer recess. I’d very much want to be in a position to report back to the Senedd before the summer recess.
Diolch yn fawr iawn, Jane. Ar gyfer taflu goleuni ar ein sefyllfa bresennol, fe gyflwynwyd y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol tua'r un pryd yn Lloegr—sef rhwng 2010 a 2014—wrth i ni gyflwyno'r rhaglen ymyrraeth gynnar o wasanaethau cymorth integredig i deuluoedd yng Nghymru. Felly, roedd yna ffrydiau cyfochrog. Ar hyn o bryd, mae'r llys teulu cyffuriau ac alcohol yn nodi, ledled y DU, bod 13 o dimau arbenigol llys teulu cyffuriau ac alcohol yn gweithio mewn 19 o lysoedd ac yn gwasanaethu teuluoedd mewn 35 o awdurdodau lleol. Felly, nid yw'n rhywbeth cyffredin yn Lloegr eto. Felly, mae yna elfen o dreialu.
Un o'r materion yn sicr yw sut fath o fàs critigol o ran poblogaeth sydd ei angen arnoch chi i gynnal y gwasanaeth hwn, a beth sy'n digwydd mewn ardaloedd gwledig lle nad yw'r màs critigol hwnnw'n bresennol. A oes rhyw unrhyw ffordd o sicrhau y gall y llys teulu cyffuriau ac alcohol weithio mewn meysydd lle na fyddech chi'n gallu ei gynnal oherwydd y ffordd y mae cyllid yn gweithio, oherwydd rhaglen o ymyrraeth ddwys ydyw hon? Felly, mae'n rhaid i ni wneud y darn hwn o waith.
Rwy'n deall eich pwynt chi am 'yr haf'. Mae tymhorau'r llywodraeth yn hyblyg iawn, fel gwnes i ganfod ers i mi fod yn y Llywodraeth, ond rwy'n gobeithio yn fawr y bydd hynny'n digwydd cyn toriad yr haf. Fe hoffwn i'n fawr iawn fod mewn sefyllfa i adrodd yn ôl i'r Senedd cyn toriad yr haf.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth cyfreithiol sydd ar gael i bobl yng Nghymru o fewn y system fewnfudo a lloches? OQ62152
2. Will the Counsel General make a statement on the legal support available to people in Wales within the immigration and asylum system? OQ62152
Diolch, Mick. The UK Government has responsibility, of course, for legal aid provision in Wales, but to address gaps in advice for immigration and asylum in Wales, in the short term, the Welsh Government has recently provided funding for training and accreditation, along with almost £150,000-worth of grant funding, to strengthen the Welsh immigration legal advice sector.
Diolch, Mick. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cymorth cyfreithiol yng Nghymru, ond er mwyn mynd i'r afael â bylchau o ran cyngor mewnfudo a lloches yng Nghymru, yn y byrdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ac achrediad, ynghyd â gwerth bron i £150,000 o gyllid grant, i gryfhau sector cyngor cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru.
Thank you for those comments. Counsel General, I cannot believe that there will be anyone in Wales who does not believe that a cornerstone of our justice system is the availability of proper legal advice and representation. In fact, without that, our justice system cannot work properly.
The justice system has been run into the ground over the past 14 years. There is a report that’s out from the Bevan Foundation that specifically looks at the immigration and asylum advice that is available, and, basically, what it is saying is that 40 per cent of the people they approached who had a current legal case had been unable to find legal advice or representation. This impacts on our society, and it impacts on the whole system.
I know this is a matter that the Law Society have raised, and will continue to raise. I’m just wondering what contribution you think the Welsh Government can make to not only highlight this important gap that is there, but also how we can assist in ensuring that legal advice and representation are available.
Diolch i chi am y sylwadau yna. Cwnsler Cyffredinol, ni allaf i gredu bod unrhyw un yng Nghymru nad yw'n credu bod argaeledd cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol briodol yn un o gonglfeini ein system gyfiawnder ni. Mewn gwirionedd, heb hynny, ni all ein system gyfiawnder ni weithio yn iawn.
Mae'r system gyfiawnder wedi cael ei rhedeg i lawr dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae yna adroddiad a ddaeth o Sefydliad Bevan sy'n edrych yn benodol ar ba gyngor sydd ar gael o ran mewnfudo a lloches ac, yn y bôn, yr hyn y mae'n ei ddweud yw bod 40 y cant o'r bobl sydd wedi cysylltu â nhw a oedd ag achos cyfreithiol cyfredol wedi methu dod o hyd i gyngor cyfreithiol na chynrychiolaeth gyfreithiol. Mae hyn yn effeithio ar ein cymdeithas ni, ac ar y system yn ei chyfanrwydd.
Rwy'n gwybod bod hwn yn fater a gafodd ei godi gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac y bydd yn parhau i'w godi. Rwy'n meddwl tybed pa gyfraniad y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn eich barn chi nid yn unig i dynnu sylw at y bwlch pwysig hwn sy'n bodoli, ond hefyd y modd y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gael.
Thank you very much for the question, Mick. I really do continue to be concerned about the sustainability of legal aid practices throughout Wales on a number of points, not just on immigration and asylum cases. But we do know that for immigration and asylum cases, the demand far outweighs the provision. And that’s why the Welsh Government has taken a number of steps to try and address the immediate issues in this sector, including developing the legal aid stakeholder network for immigration and asylum, as well as funding the Office of the Immigration Services Commissioner accreditation programme. And we’ve got a number of recently funded projects that are looking at increasing longer term provision as well, to try and shore up the sector.
I know you're familiar with the Bevan Foundation report regarding access to justice for migrants and asylum seekers in Wales. We absolutely regret the acute capacity issues facing legal providers in Wales. The absolute decimation of the legal aid system under the previous Conservative Government really takes away the ability to insist on the rule of law. You cannot have the rule of law unless you have access to justice—that's the truth of it. So, I was delighted to see what I hope is a first step along the road of restoring legal aid provision. There's a long way to go, but it was really nice to see that first step. We are hopeful the new UK Government can reverse some of the loss of immigration legal advice capacity in Wales, because we need to have equal access to representation and support.
My colleague Jane Hutt, as I know you are aware, Mick, has been doing a lot of work around the advice services, and trying to shore up advice services more generally. There's also the Joint Council for the Welfare of Immigrants, who have recently published a report in relation to legal aid—I don't know if you're aware of it—which talks about some of the demand issues. So, we're very keen to work with the UK Government. I had very productive conversations only last week with a number of law officers, and indeed the Lady Chief Justice, about legal aid more generally and access to law issues. And so, I am very hopeful that the current UK Government understands the issue and is now taking the first steps to try to restore the system.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn, Mick. Rwy'n parhau i bryderu yn wirioneddol am gynaliadwyedd practisau cymorth cyfreithiol ledled Cymru ar lawer cyfrif, ac nid o ran achosion mewnfudo a lloches yn unig. Ond fe wyddom ni, ar gyfer achosion mewnfudo a lloches, fod y galw yn llawer mwy na'r ddarpariaeth. A dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i geisio mynd i'r afael â'r materion uniongyrchol yn y sector hwn, gan gynnwys datblygu'r rhwydwaith rhanddeiliaid cymorth cyfreithiol ar gyfer mewnfudo a lloches, yn ogystal ag ariannu rhaglen achredu Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo. Ac mae gennym nifer o brosiectau a gafodd eu hariannu yn ddiweddar sy'n edrych ar gynyddu'r ddarpariaeth yn y tymor hwy hefyd, i geisio cryfhau'r sector.
Rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd ag adroddiad Sefydliad Bevan ynghylch mynediad at gyfiawnder i ymfudwyr a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym yn gofidio'n arw ynghylch y problemau o brinder mawr sy'n wynebu darparwyr cyfreithiol yng Nghymru. Mae chwalu'r system cymorth cyfreithiol o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn tynnu'r gallu i bwysleisio rheolaeth y gyfraith. Ni allwch chi gael rheolaeth y gyfraith oni bai fod gennych fynediad at gyfiawnder—dyna'r gwir amdani. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld yr hyn yr wyf i'n gobeithio a fydd yn gam cyntaf ar y ffordd o adfer darpariaeth cymorth cyfreithiol. Mae yna ffordd bell i fynd eto, ond roedd hi'n braf cael gweld y cam cyntaf hwnnw. Rydym ni'n obeithiol y gall Llywodraeth newydd y DU wyrdroi rhywfaint o'r golled o ran capasiti cyngor cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru, oherwydd mae angen i ni fod â mynediad at gynrychiolaeth a chefnogaeth sy'n rhoi tegwch cyfartal i bawb.
Mae fy nghyd-Aelod i, Jane Hutt, fel gwyddoch chi, Mick, fel gwn i, wedi bod yn gwneud llawer o waith ynglŷn â'r gwasanaethau cynghori, a cheisio gwella gwasanaethau cynghori yn fwy cyffredinol. Mae'r Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr i'w gael hefyd, sydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar o ran cymorth cyfreithiol—'wn i ddim os ydych chi'n ymwybodol o hwnnw—sy'n trafod rhai o'r materion ynglŷn â'r galw. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe gefais sgyrsiau cynhyrchiol iawn yr wythnos diwethaf yn unig gyda nifer o swyddogion y gyfraith, a'r Arglwyddes Brif Ustus yn wir, am gymorth cyfreithiol yn fwy cyffredinol a mynediad at faterion cyfreithiol. Ac felly, rwy'n obeithiol iawn bod Llywodraeth bresennol y DU yn amgyffred y mater a'i bod yn cymryd y camau cyntaf nawr i geisio adfer y system.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Questions now from party spokespeople. Conservative spokesperson, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Minister, you were appointed Minister for Delivery by the First Minister on 11 September last year, a position that many people across Wales feel is unnecessary, given that the First Minister and Cabinet Secretaries are clearly holding the levers of power when it comes to policy and legislation. So, therefore, can you explain to the Chamber, and indeed to the people of Wales, what exactly do you do in your role as Minister for Delivery?
Diolch, Llywydd. Gweinidog, fe gawsoch chi eich penodi yn Weinidog Cyflawni gan y Prif Weinidog ar 11 o fis Medi'r llynedd, swydd y mae llawer o bobl ledled Cymru o'r farn ei bod yn ddiangen, o ystyried mai'r Prif Weinidog a'r Ysgrifenyddion Cabinet yn amlwg sydd â'r gallu o ran polisi a deddfwriaeth. Felly, a wnewch chi egluro i'r Siambr, ac yn wir i bobl Cymru, beth yn union ydych chi'n ei wneud yn rhinwedd swydd Gweinidog Cyflawni?
Yes, certainly, Paul. I've explained before, I'm very happy to do so again. I provide oversight of the programme for government programme. I have a bilateral with each of the Cabinet Secretaries on a rolling programme, in which we discuss their progress on the programme for government and what the across-Government process for that is—what support can be provided via the Cabinet office system to enable them to accelerate any of the programme for government commitments that require such an acceleration. I work with them to identify any obstacles and barriers to that, and I have a role in bringing together, across Government, a coalition of people who can come together to address those barriers.
I don't have overarching responsibility for the individual aspects of the programme for government—they, of course, remain with the Cabinet Secretaries and Ministers as appropriate. My role is rather to bring together the mechanisms of Government, to ensure that we can, where at all possible, overcome barriers that exist.
Fe wnaf i, Paul, yn sicr. Fe eglurais i o'r blaen, rwy'n hapus iawn i wneud hynny eto. Rwy'n bwrw trosolwg ar y rhaglen lywodraethu. Mae gen i gyfarfod dwyochrog gyda phob un o Ysgrifenyddion y Cabinet ar raglen dreigl, lle rydym ni'n trafod eu cynnydd o ran y rhaglen lywodraethu a'r broses drawslywodraethol ar gyfer hynny—pa gymorth y gellir ei ddarparu trwy gyfrwng system swyddfa'r Cabinet i'w galluogi nhw i gyflymu unrhyw un o'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu sydd ag angen ei chyflymu fel hyn. Rwy'n gweithio gyda nhw i nodi unrhyw atalfeydd a rhwystrau rhag cyflawni hynny, ac mae gen i swyddogaeth o ran dod â chynghrair o bobl at ei gilydd, ar draws y Llywodraeth, a all ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.
Nid oes unrhyw gyfrifoldeb trosfwaol am agweddau unigol y rhaglen lywodraethu gennyf i—maen nhw, wrth gwrs, yn aros gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet a'r Gweinidogion fel bo hynny'n briodol. Fy ngwaith i yw dod â mecanweithiau Llywodraeth ynghyd ar gyfer sicrhau y gallwn ni, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, oresgyn y rhwystrau sy'n bodoli.
Well, I put it to you, Minister, that your job just shows that the First Minister doesn't have any confidence in her own Cabinet to deliver. But I'm not surprised; there are plenty of people across Wales who don't have confidence in this Government either.
And let me remind you that, under this Government, Wales has the highest NHS waiting lists, the worst educational performance, and the highest unemployment rate in the United Kingdom. So, given your new role is to spearhead delivery for the Welsh Government, can you tell us what exactly you have achieved in your new role so far, and what policies or outcomes have been achieved because of your role as Minister for Delivery?
Wel, fe ddywedaf i gymaint â hyn wrthych chi, Gweinidog, mae eich swydd chi'n dangos nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw hyder y bydd ei Chabinet ei hun yn cyflawni. Ond nid wyf i'n synnu; mae digonedd o bobl ledled Cymru hefyd nad oes ganddyn nhw hyder yn y Llywodraeth hon.
A gadewch i mi eich atgoffa chi, o dan y Llywodraeth hon, mai Cymru sydd â'r rhestrau aros hwyaf yn y GIG, y perfformiad addysgol gwaethaf, a'r gyfradd diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Felly, o ystyried mai eich swyddogaeth newydd yw arwain y gwaith o gyflawni yn Llywodraeth Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yn union a wnaethoch chi ei gyflawni yn eich swydd newydd hyd yn hyn, a pha bolisïau neu ganlyniadau sydd wedi cael eu cyflawni oherwydd eich swyddogaeth yn Weinidog Cyflawni?
Well, Paul, I just fundamentally reject the basic premise of that question. I really do not think that that's what it shows at all. Most Governments, across the world, have delivery arms or delivery offices inside them, including many of the previous Conservative Governments—I have to say, with little or no effect. So, it's a commonplace mechanism, to bring together people from outside the various silos, if you will, to make sure that we have cross-Government buy-in for particularly difficult problems. As I have repeatedly said, if you want to look at particular metrics, you need to ask the specific Cabinet Secretary.
Wel, Paul, rwy'n llwyr anghytuno â hanfod y cwestiwn yna. Nid wyf i'n credu mai dyna'r hyn y mae'n ei ddangos o gwbl. Mae gan y rhan fwyaf o Lywodraethau, yn fyd-eang, adrannau cyflawni neu swyddfeydd cyflawni oddi mewn iddyn nhw, gan gynnwys llawer o Lywodraethau Ceidwadol y gorffennol—mae'n rhaid i mi ddweud, heb fawr ddim effaith, os o gwbl. Felly, mae hwn yn fecanwaith cyffredin, i ddod â phobl o'r tu allan i wahanol adrannau sy'n gweithio ar wahân at ei gilydd, os hoffech chi, i sicrhau bod gennym ni gytundeb ar draws y llywodraeth o ran problemau sy'n arbennig o ddyrys. Fel dywedais i dro ar ôl tro, os ydych chi'n dymuno edrych ar fetrigau penodol, mae angen i chi ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet penodol.
Well, you didn't answer my question, Minister. It's clear to me that nothing has actually been gained by this Government having a Minister for Delivery, and yet here you are. Minister, there are record-breaking waiting times in Wales, one in five of our children are leaving school functionally illiterate, and we have the highest economic inactivity in the United Kingdom. If the role of Minister for Delivery is going to actually mean something, then there needs to be transparency over that role, and we need to understand how it's delivering value for money for the Welsh taxpayer.
Now, the idea of a delivery unit was pushed by a previous First Minister, who then scrapped it when it proved to be ineffective. So, what assurances can you give that things will be different this time? Can you tell us what targets you have set for yourself as Minister for Delivery, and what exactly are you doing to show the people of Wales that the Minister for Delivery is a meaningful appointment that is actually delivering on their behalf?
Wel, fe wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i, Gweinidog. Mae hi'n amlwg i mi nad oes unrhyw beth o werth wedi dod mewn gwirionedd o gael Gweinidog Cyflawni yn y Llywodraeth hon, ac eto dyma chi. Gweinidog, mae'r amseroedd aros yn hwy nag erioed yng Nghymru, mae un o bob pump o'n plant yn gadael yr ysgol yn anllythrennog, ac mae'r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y Deyrnas Unedig gennym ni yma. Os yw swydd Gweinidog Cyflawni am olygu rhywbeth gwirioneddol, yna fe fydd angen tryloywder ynglŷn â'r gwaith hwnnw, ac mae angen i ni ddeall sut y bydd hynny'n sicrhau gwerth am arian i drethdalwr Cymru.
Nawr, fe gafodd y syniad o uned gyflawni ei wthio gan Brif Weinidog blaenorol, a gafodd ei dileu wedyn pan welwyd ei bod yn aneffeithiol. Felly, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi y bydd pethau yn wahanol y tro hwn? A wnewch chi ddweud wrthym ni pa nodau a wnaethoch chi eu pennu i chi eich hun fel Gweinidog Cyflawni, a beth yn union a ydych chi'n ei wneud i ddangos i bobl Cymru bod y Gweinidog Cyflawni yn benodiad ystyrlon sy'n cyflawni ar eu rhan nhw mewn gwirionedd?
Well, certainly, Paul, it bears repeating, of course. We have a very comprehensive programme for government, which is accessible to the public. We report annually on our progress on that. One of the reasons that Welsh Labour has always been elected by the people of Wales is because they trust us to deliver the promises we put out in our manifesto. I have to say, that cannot be said for your party on your benches. The people of Wales very recently, of course, threw out every single Tory MP in Wales, as a result of the trust they were able to put in your Government.
So, I would say once more to you that we have a comprehensive programme for government, that my role is to ensure that that programme for government is delivered to the maximum of our ability, that I bring together people from across the Government to do so, and that in this, the final year of the Senedd term, Welsh Labour will deliver as it always does on its promises to the people of Wales.
Wel, yn sicr, Paul, mae hi'n werth ailadrodd hynny, wrth gwrs. Mae gennym ni raglen lywodraethu gynhwysfawr iawn, sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Rydym ni'n adrodd yn flynyddol am ein cynnydd ni'n unol â honno. Un o'r rhesymau pam mai Plaid Lafur Cymru sy'n cael ei hethol bob amser gan bobl Cymru yw am eu bod nhw'n ymddiried ynom ni i gyflawni'r addewidion yr ydym ni'n eu rhoi yn ein maniffesto. Mae'n rhaid i mi ddweud, ni ellir dweud hynny am eich plaid chi ar eich meinciau chi. Yn ddiweddar iawn, wrth gwrs, fe gafodd pobl Cymru wared ar bob AS Torïaidd yng Nghymru, o ganlyniad i'r ymddiriedaeth yr oedden nhw'n gallu ei chael yn eich Llywodraeth chi.
Felly, fe ddywedaf i wrthych chi unwaith eto fod gennym ni raglen lywodraethu gynhwysfawr, mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod y rhaglen lywodraethu honno'n cael ei chyflawni hyd eithaf ein gallu, fy mod i'n tynnu pobl o bob rhan o'r Llywodraeth at ei gilydd i wneud felly, ac yn ystod blwyddyn olaf tymor y Senedd, fe fydd Plaid Lafur Cymru yn cyflawni fel pob amser er mwyn cadw ei haddewidion i bobl Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Plaid Cymru spokesperson, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Counsel General, next week marks the fifth anniversary of Wales leaving the European Union, which has been a disaster for our economy. Your predecessor, sat behind you, when asked about the extent to which we should align Welsh law within devolved competence with new EU law, if I paraphrase, said that we should avoid divergence where possible unless it allows us to improve our standards. So, new EU law could be a common foundation, but it shouldn’t be a ceiling on our ambitions. Do you generally share that view?
And as part of your role as Counsel General, do you or does someone else in Government monitor new EU regulations to assess if they could be enacted in Welsh law? And based on that assessment, how does Wales compare with the other devolved legislatures in terms of a degree of alignment with new EU law five years on? Do you think if we had retained rather than repealed the Law Derived from the European Union (Wales) Act 2018, it would have been easier to achieve the goal of positive alignment in the way that I’ve described?
Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, wythnos nesaf, fe fydd hi'n bum mlynedd ers i Gymru ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bod yn drychineb i'n heconomi. Fe ddywedodd eich rhagflaenydd chi, sy'n eistedd y tu ôl i chi, pan ofynnwyd iddo i ba raddau y dylem alinio cyfraith Cymru o fewn cymhwysedd datganoledig â chyfreithiau newydd yr UE, os caf i aralleirio, y dylem ni osgoi unrhyw wahaniaethu lle bo hynny'n bosibl oni bai y byddai hynny'n caniatáu i ni wella ein safonau. Felly, fe allai cyfreithiau newydd yr UE gynnig sylfaen gyffredin, ond ni ddylai fod yn derfyn ar ein huchelgeisiau. A ydych chi rhannu'r farn honno'n gyffredinol?
Ac yn rhan o'ch gwaith yn Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi neu a oes rhywun arall yn y Llywodraeth yn monitro rheoliadau newydd yr UE i asesu a ellid eu deddfu nhw yng nghyfraith Cymru? Ac yn seiliedig ar yr asesiad hwnnw, sut mae Cymru yn cymharu â'r deddfwrfeydd datganoledig eraill o ran cyfran o alinio â chyfraith newydd yr UE bum mlynedd yn ddiweddarach? A ydych chi o'r farn pe byddem ni wedi cadw yn hytrach na diddymu'r Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, fe fyddai hi wedi bod yn haws cyflawni'r nod o aliniad cadarnhaol yn y ffordd a ddisgrifiais i?
I mean, I’m tempted to answer your question by saying, ‘Yes, yes, no’, but I’ll elaborate a little bit. So, yes, I do agree that we should try and align as much as is humanly possible, for three very good reasons. First off, because the European Union remains a very important trading partner for Wales, and we know, particularly in the food and drink sector, that if you are not compliant with the rules you simply cannot export into the market. So, it’s very important for us to be able to demonstrate that we’re still at the same standard. We had some really sad cases, where people who had been able to export into the European market were not able to do so immediately after our exit from the European Union, so it’s a case that proves the point, really. So, I do agree with that.
The incoming UK Government also agrees with that and they are in conversations about how we can realign in some places where alignment has drifted detrimentally. I do of course agree that that should be a floor and not a ceiling, so we should try, of course, to improve on that. And there are things about the European Union common agricultural policy and so on that I think large numbers of people think could have been improved on, and we have worked very hard over a number of iterations to see whether that’s possible, so I do agree with that as well.
We do monitor European Union directives and various other initiatives. We don’t have a central unit for doing it, but we have a number of teams of lawyers who work with the various Cabinet Secretaries, who monitor on their behalf various advances and so on. And we work with the UK Government to do that as well, we monitor the legislative programme there. There are some interesting things happening in Europe, some of which are not devolved. Some of them are on the ragged edge of devolution, and we do discuss those with the UK Government.
So, as I say, I was tempted to say, ‘Yes, yes, no’. We don’t have a central unit that does that, but there is a mechanism to do it across the Government.
Wyddoch chi, rwy'n cael fy nhemtio i ateb eich cwestiwn trwy ddweud, 'Ydw, ydw, nac ydw', ond rwyf i am ymhelaethu ychydig ar hynny. Felly, ydw, rwy'n cytuno y dylem ni geisio alinio cymaint â phosibl, am dri rheswm da iawn. Yn gyntaf, oherwydd bod yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn bartner masnachu pwysig iawn i Gymru, ac fe wyddom ni, yn arbennig felly yn y sector bwyd a diod, os nad ydych chi'n cydymffurfio â'r rheolau, 'chewch chi ddim allforio i'r farchnad honno. Felly, mae hi'n bwysig iawn i ni allu dangos ein bod yn cadw at yr un safonau. Fe welsom ni rai achosion digalon iawn, lle nad oedd rhai a oedd wedi arfer allforio i'r farchnad Ewropeaidd yn gallu gwneud hynny'n syth ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, felly mae hwnnw'n achos sy'n profi'r pwynt, mewn gwirionedd. Felly, rwyf i'n cytuno â hynny.
Mae Llywodraeth newydd y DU yn cytuno â hynny hefyd ac maen nhw'n cynnal sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ni alinio unwaith eto mewn rhai meysydd lle mae'r alinio wedi gwyro mewn ffordd ddinistriol. Wrth gwrs, rwy'n cytuno y dylai hynny fod yn sylfaen ac nid yn derfyn, ac felly fe ddylem ni geisio, wrth gwrs, wella ar hynny. Ac mae yna faterion ynglŷn â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac ati yr wyf i'n credu bod llaweroedd o bobl o'r farn y gellid eu gwella, ac rydym ni wedi gweithio yn galed iawn dros nifer o ailadroddiadau i weld a yw hynny'n bosibl, ac felly rwy'n cytuno â hynny hefyd.
Rydym ni'n monitro cyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd a mentrau amrywiol eraill. Nid oes gennym ni uned ganolog ar gyfer gwneud hynny, ond mae gennym ni nifer o dimau o gyfreithwyr sy'n gweithio gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol, sy'n monitro datblygiadau amrywiol ac ati ar eu rhan nhw. Ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfer gwneud hynny hefyd, rydym ni'n monitro'r rhaglen ddeddfwriaethol yno. Mae yna rai pethau diddorol yn digwydd yn Ewrop, rhai ohonyn nhw nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli. Mae rhai ohonyn nhw ar gyrion datganoli, ac rydym ni'n trafod y rhain gyda Llywodraeth y DU.
Felly, fel dywedais i, fe gefais fy nhemtio i ddweud, 'Ydw, ydw, nac ydw'. Nid oes gennym ni uned ganolog sy'n gwneud hynny, ond mae gennym ni fecanwaith i wneud hynny ar draws y Llywodraeth.
I'm very grateful to the Counsel General for her answer. The Scottish Government, of course, did retain its UK Withdrawal from the European Union (Continuity) (Scotland) Act 2021, which does apply in devolved areas for Scotland. It does two useful things, I think: it places a duty on Scottish Ministers to produce a published annual report for Parliament, which sets out new EU legislation and the extent to which it’s proposed that it’s implemented in Scottish law, and it also gives Scottish Ministers the ability to implement new EU regulations or decisions through secondary legislation—a so-called ‘keeping pace’ power. Can you confirm, Counsel General, that it would be within our legislative competence to pass a law now that would give Welsh Ministers a similar general power to keep pace with EU standards within areas of devolved competence, and do you see some merits, potentially, in such a proposal?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hateb. Wrth gwrs, mae Llywodraeth yr Alban wedi cadw ei phriod Ddeddf Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad) (Yr Alban) 2021, sy'n berthnasol mewn meysydd datganoledig ar gyfer yr Alban. Mae honno'n gwneud dau beth defnyddiol, rwy'n credu: mae hi'n rhoi dyletswydd i Weinidogion yr Alban lunio adroddiad blynyddol a gaiff ei gyhoeddi ar gyfer y Senedd, sy'n nodi deddfwriaeth newydd yr UE ac i ba raddau y bwriedir ei gweithredu yng nghyfraith yr Alban, a hefyd mae'n rhoi'r gallu i Weinidogion yr Alban weithredu rheoliadau neu benderfyniadau newydd yr UE trwy is-ddeddfwriaeth—pŵer 'parhau i ddatblygu’n gyfochrog' fel y'i gelwir. A wnewch chi gadarnhau, Cwnsler Cyffredinol, y byddai hi o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol ni nawr i basio deddf a fyddai'n rhoi pŵer cyffredinol tebyg i Weinidogion Cymru i barhau i ddatblygu'n gyfochrog â safonau'r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ac a ydych chi'n gweld rhywfaint o werth, o bosibl, mewn cynnig o'r fath?
The honest truth is I don’t know—I would have to take advice. My instinct is that it probably is within our competence, but I wouldn’t want to be 100 per cent until I took some advice on it. Instinctively, though, it sounds like something that would be within competence. I think, for us, though, it is about the way that we marshal our resources and what we want to use those resources to do. We haven’t chosen, as a Government, to do exactly what you’re describing, because we aren’t structured in quite that way. What we do do instead is we maintain a portfolio view across the piece, and then each portfolio Minister alongside their legal advisers is able to take a view about the best way to take that forward, whether it’s through a statutory instrument or otherwise, or whether it’s through a discussion with the UK Government about, perhaps, what they’re doing in primary legislative terms. So, we’ve chosen a different route, but, I think, with a similar sort of destination in mind.
Y gwir plaen yw nad wyf i'n gwybod—fe fyddai'n rhaid i mi gael cyngor. Rwy'n credu yn reddfol ei fod yn ôl pob tebyg o fewn ein cymhwysedd ni, ond nid wyf i'n dymuno dweud hynny 100 y cant nes i mi gael rhywfaint o gyngor ar hynny. Yn reddfol, serch hynny, mae hwn yn swnio fel rhywbeth a fyddai o fewn cymhwysedd. Rwy'n credu, o'n rhan ni, serch hynny, mae'n ymwneud a'r ffordd yr ydym ni'n trefnu ein hadnoddau a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'r adnoddau hyn ei gyflawni. Nid ydym ni wedi dewis, yn y Llywodraeth, i wneud yr union beth yr ydych chi'n ei ddisgrifio, oherwydd ni chawsom ein strwythuro yn hollol yn y ffordd honno. Yn hytrach na hynny, yr hyn a wnawn ni yw cadw safbwynt portffolio drwyddi draw, ac yna fe all pob Gweinidog portffolio ochr yn ochr â'u cynghorwyr cyfreithiol fod â barn am y ffordd orau o fwrw ymlaen â hyn, boed hynny drwy offeryn statudol neu fel arall, neu drwy drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am, o bosibl, yr hyn y maen nhw yn ei wneud mewn termau deddfwriaethol sylfaenol. Felly, rydym ni wedi dewis llwybr gwahanol, ond, rwy'n credu, gyda chyrchfan weddol debyg mewn golwg.
I think the point about that power, of course, is it makes it much easier to implement those changes much more quickly and without such a call on resources. As part of your responsibility for overseeing the UK legislation impact on Wales, you’ve supported a similar provision, Counsel General, in the Product Regulation and Metrology Bill. Clause 1 of that Bill grants the business Secretary powers to make provision that corresponds to or is similar to a provision of relevant EU law within the context of product regulation. So, it’s a 'keeping pace' power, similar to the general one that exists in Scotland, and, because of the LCM, UK Ministers will have the power, therefore, to keep pace with EU law, even in certain devolved areas for Wales. So, we’re giving that kind of power, to keep pace with new EU law to UK Ministers. Why don’t we, actually, take that power for ourselves, give it to Welsh Ministers, so we can keep up to pace with the best of EU-wide new legislation?
Rwy'n credu mai'r pwynt am y pŵer hwnnw, wrth gwrs, yw ei fod yn ei gwneud hi'n llawer haws gweithredu'r newidiadau hynny yn llawer cynt a heb y fath alw ar adnoddau. Yn rhan o'ch cyfrifoldeb dros oruchwylio effaith deddfwriaeth y DU ar Gymru, rydych chi wedi cefnogi darpariaeth debyg, Cwnsler Cyffredinol, yn y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg. Mae cymal 1 o'r Bil hwnnw'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Busnes wneud darpariaeth gyfatebol neu gyffelyb i ddarpariaeth cyfraith berthnasol yr UE yng nghyd-destun rheoleiddio cynnyrch. Felly, mae hwnnw'n bŵer 'parhau i ddatblygu’n gyfochrog', sy'n debyg i'r un cyffredinol sy'n bodoli yn yr Alban, ac, oherwydd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fe fydd gan Weinidogion y DU, felly, bŵer i barhau i ddatblygu’n gyfochrog â chyfraith yr UE, hyd yn oed mewn rhai meysydd a gafodd eu datganoli i Gymru. Felly, rydym ni'n rhoi pŵer o'r fath i Weinidogion y DU ar gyfer parhau i ddatblygu’n gyfochrog â chyfraith newydd yr UE. Pam nad ydym ni, mewn gwirionedd, yn cymryd y pŵer hwnnw i'n dwylo ein hunain, a'i roi i Weinidogion Cymru, er mwyn i ni barhau i ddatblygu’n gyfochrog â'r ddeddfwriaeth newydd orau ledled yr UE?
That was a very good example. Actually, the Cabinet Secretary for economy is still in discussion about the exact way that that is structured, and I know there’s an ongoing conversation. I’ve been part of the ongoing conversation about how that’s structured, because it doesn't quite accord with where we’d like it to be just yet, but we’re in good, productive conversation with the UK Government about that. The answer is, Adam, that we just didn’t choose to do it that way; we chose to do it in a way that suits the current structure that we had and the way that we deploy our resources. Government is about choices, and we’ve chosen a slightly different route, but I think the destination, as I say, is the same.
Roedd honno'n enghraifft dda iawn. A dweud y gwir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dal i drafod yr union ffordd y mae hynny'n cael ei strwythuro, ac rwy'n gwybod bod sgwrs barhaus. Rwyf i wedi bod yn rhan o'r sgwrs barhaus ynglŷn â sut cafodd hynny ei strwythuro, oherwydd nid yw'n cyd-fynd yn llwyr â'r hyn yr ydym ni'n dymuno iddo fod eto, ond rydym ni cynnal sgwrs adeiladol, gynhyrchiol gyda Llywodraeth y DU am hynny. Yr ateb yw, Adam, na wnaethom ni ddewis gwneud hyn yn y ffordd honno; fe wnaethom ni ddewis ei wneud mewn ffordd sy'n cydweddu â'r strwythur presennol a oedd gennym ni a'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein hadnoddau. Mae Llywodraethu yn ymwneud â dewisiadau, ac rydym ni wedi dewis llwybr ychydig yn wahanol, ond rwy'n credu mai'r un yw'r gyrchfan, fel rwy'n dweud.
3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i weithredu mewn cysylltiad â chemegau am byth mewn hen safleoedd diwydiannol? OQ62144
3. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding its powers to take action over forever chemicals in former industrial sites? OQ62144
Thank you very much for that question, Delyth. The Welsh Government remains committed to addressing the potential pollution issues, including from chemicals that persist in the environment, in sites associated with former industrial use. We continue to work closely with local authorities, Natural Resources Wales and others to address the potential environmental impacts of these chemicals in Wales.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r problemau llygredd posibl, sy'n cynnwys cemegau sy'n parhau yn yr amgylchedd, ar safleoedd sy'n gysylltiedig â defnydd diwydiannol hanesyddol. Rydym ni'n parhau i weithio yn agos â'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol posibl y cemegau hyn yng Nghymru.
That's really useful. Thank you so much for that. Not all of our industrial legacy, of course, in the Valleys is visible. There are many of these contaminated sites of land, where companies, decades ago, dumped chemical waste. Now, Ty Llwyd quarry in Caerphilly is one of those sites. Local residents and councillors know too well what can happen in times of heavy rain, when dirty, potentially dangerous, contaminated material is carried in flood water towards the village. There are calls across the UK for Zane's law, in memory of a young boy who died from contaminated flood water that had passed through a historic landfill site. The law calls for more stringent registering of contaminated land for fuller inspections and for the original polluters to pay. Now, a number of councils in England have passed motions in support of that law. I understand that a motion will shortly come before Caerphilly council to consider, as well. Would you meet me and campaigners, please, to discuss whether Wales could adopt the principles of this law to help ensure that communities now aren't the ones that have to pay for the damage that was done to their landscapes all those decades ago?
Mae hynna'n ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Nid yw pob rhan o'n hetifeddiaeth ddiwydiannol ni yn y Cymoedd yn weladwy, wrth gwrs. Mewn llawer o'r safleoedd tir llygredig hyn, gollyngodd cwmnïau gemegau, ddegawdau yn ôl. Nawr, fe geir un o'r safleoedd hynny ar chwarel Tŷ Llwyd yng Nghaerffili. Mae'r trigolion a'r cynghorwyr lleol yn gwybod yn iawn beth sy'n gallu digwydd pan fo glaw trwm, pryd ceir sylwedd brwnt, llygredig, a allai fod yn beryglus yn llifo tua'r pentref yn nŵr y llifogydd. Fe geir galwadau ledled y DU am gyfraith Zane, er cof am fachgen ifanc fu farw oherwydd dŵr llifogydd llygredig a ddaeth o safle tirlenwi hanesyddol. Mae'r gyfraith yn galw am gofrestriad mwy caeth o dir llygredig ar gyfer cynnal arolygiadau mwy eang a bod y sawl a achosodd y llygryddion yn wreiddiol yn talu. Nawr, mae nifer o gynghorau yn Lloegr wedi pasio cynigion i gefnogi'r gyfraith honno. Rwy'n deall y bydd cynnig yn dod cyn hir gerbron cyngor Caerffili i'w hystyried, hefyd. A fyddech chi'n cwrdd â mi ac ymgyrchwyr eraill, os gwelwch chi'n dda, i drafod a allai Cymru fabwysiadu egwyddorion y gyfraith hon i helpu i sicrhau nad cymunedau heddiw sy'n gorfod talu am y difrod a gafodd ei wneud i'w tirweddau nhw'r holl ddegawdau hynny'n ôl?
Yes, Delyth, I'm very happy to meet with you and the campaigners. Just to point out, though, we do do a number of things in Wales already. I'm more than happy to discuss more that can be done. So, we work with UK REACH to have a series of regulations in place, and we have a contaminated land strategy in Wales, which has been extant for many years. And so, just for example, we have a specific fund to assist somebody who wants to bring forward land for development to clean the land in accordance with the regulations to assist land being brought back into beneficial use. And I can't pass by the opportunity to applaud the work of Swansea University in developing plants that are able to take up various chemicals—not all of them, of course. I'm showing my age now, Llywydd, I'm afraid, but, in my lifetime, Kilvey hill in Swansea looked like a moonscape but is now completely covered in vegetation, and that vegetation was partly developed by Swansea University in order to be able to have natural ways, if you like, to assist in the cleansing of the environment. But, I'm more than happy to meet with you and campaigners to discuss anything else that we can do.
Gwnaf, Delyth, fe fyddaf i'n hapus iawn i gwrdd â chi a'r ymgyrchwyr. Dim ond i nodi, er hynny, ein bod ni'n gwneud nifer o bethau yng Nghymru eisoes. Rwy'n fwy na pharod i drafod yr hyn y gellir ei wneud eto. Felly, rydym ni'n gweithio gyda UK REACH i roi cyfres o reoliadau ar waith, ac mae gennym ni strategaeth tir llygredig yng Nghymru, sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Ac felly, er enghraifft, mae gennym ni gronfa neilltuol i gynorthwyo rhywun sy'n awyddus i ymgymryd â datblygu tir i lanhau'r tir hwnnw'n unol â'r rheoliadau i helpu i ddod â thir at ddefnydd buddiol unwaith eto. Ac ni allaf i beidio â manteisio ar y cyfle i gymeradwyo gwaith Prifysgol Abertawe wrth ddatblygu planhigion sy'n gallu amsugno gwahanol gemegau—nid pob un ohonyn nhw, wrth gwrs. Rwy'n dangos fy oedran nawr, Llywydd, mae arna' i ofn, ond, yn ystod fy oes i, roedd Mynydd Cilfái yn Abertawe yn edrych fel tirwedd ar y lloer ond fe gafodd ei orchuddio yn llwyr â llystyfiant erbyn hyn, ac fe ddatblygwyd y llystyfiant yn rhannol gan Brifysgol Abertawe ar gyfer bod â ffyrdd naturiol, os mynnwch chi, i helpu gyda glanhau'r amgylchedd. Ond, rwy'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'r ymgyrchwyr i drafod unrhyw beth y gallem ni ei wneud fel arall.
Mae cwestiwn 4 [OQ62139] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 5, Delyth Jewell.
Question 4 [OQ62139] has been withdrawn. Question 5, Delyth Jewell.
Diolch eto, Llywydd.
Thank you again, Llywydd.
You're on a roll. [Laughter.]
Rydych chi'n cael sbel dda. [Chwerthin.]
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith ynghylch sefyllfa menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiwn gwladol iddynt gan Lywodraeth y DU? OQ62145
5. Will the Counsel General provide an update on discussions with law officers regarding the plight of women born in the 1950s refused their state pension by the UK Government? OQ62145
State pension matters are non-devolved and are the responsibility of the Department for Work and Pensions in the UK, so I've had no discussions of that sort.
Ni chafodd materion o ran pensiwn y wladwriaeth eu datganoli ac maen nhw'n gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau yn y DU, ac felly ni chefais i unrhyw drafodaethau o'r fath.
Okay. Thank you for that. I declare an interest, Llywydd, because my mother was born in the 1950s.
I would like to pay tribute to those campaigners who fought for justice and fairness for women born in the 1950s, some of whom are in the public gallery this afternoon. These women have suffered a double injustice, firstly by having their state pensions denied them, and secondly by having a Westminster Government that used to acknowledge that fact now refuse to give them what they're owed. Now, Plaid Cymru supports a vote on this issue in the House of Commons. Would the Counsel General agree that there is a need for mediation in order to discuss levels of compensation, redress and, of course, the question of embedding the rights of CEDAW in domestic law? Now, whilst we don't have powers over pensions here, would the Welsh Government consider playing a role in any mediation that would come about, because there is a lot of anger, a feeling of betrayal about this decision? These women are tired of waiting for the UK Government to do what is right. So, would you support me in that call and for seeing whether there could be a need for mediation so that, at last, what is right can be given to these women?
Iawn. Diolch i chi am hynna. Rwy'n datgan buddiant, Llywydd, oherwydd fe gafodd fy mam ei geni yn y 1950au.
Fe hoffwn i roi teyrnged i'r ymgyrchwyr hynny a wnaeth frwydro dros gyfiawnder a thegwch i fenywod a gafodd eu geni yn y 1950au, ac mae rhai ohonyn nhw yn oriel y cyhoedd y prynhawn yma. Mae'r menywod hyn wedi dioddef anghyfiawnder deuol, yn gyntaf trwy wrthod pensiwn y wladwriaeth iddyn nhw, ac yn ail trwy fod â Llywodraeth yn San Steffan a oedd yn arfer cydnabod y ffaith honno yn gwrthod rhoi'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw nawr. Mae Plaid Cymru yn cefnogi pleidlais ar y mater hwn yn Nhŷ'r Cyffredin. A fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod angen cyfryngu i drafod cyfraddau iawndal, adferiad ac, wrth gwrs, mater o ymgorffori hawliau'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod mewn cyfraith ddomestig? Nawr, er nad oes gennym ni bwerau dros bensiynau yn y fan hon, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried bod â rhan mewn unrhyw gyfryngu a fyddai'n digwydd, oherwydd fe geir llawer o ddicter ac ymdeimlad o frad oherwydd y penderfyniad hwn? Mae'r menywod hyn wedi blino ar ddisgwyl i Lywodraeth y DU wneud yr hyn sy'n iawn. Felly, a fyddech chi'n fy nghefnogi yn yr alwad honno wrth ystyried a allai fod angen cyfryngu er mwyn cael cyfiawnder o'r diwedd i'r menywod hyn?
I ought to say, Llywydd, that I should declare an interest as I am one of the women in question. I was born in the 1950s and my pension age was delayed very considerably. So, I ought to say that I'm in the same category. I am, however, very fortunate to be still working and not so dependent on a pension. I have two very, very good friends who have died without having a resolution to this, both of whom suffered very much from the change in the pension age that they were not able to plan for because of the way in which it was communicated.
It's a really serious, complicated issue, and we know that the Secretary of State for Work and Pensions has responded in full to the ombudsman's report. The ombudsman only investigated how the state pension age change was communicated; they didn't investigate the policy itself. That was agreed by Parliament back in 1995 and was considered lawful by the court at the time. So, this is about the communication, I think. The UK Government has apologised for the 28-month delay in writing to women and have said that they will learn the lessons on that, and they will ensure that they take forward lessons on future communications as well. So, it's a small step forward.
I think that the Welsh Government would very much like to assist people who are in income deficit as a result of a number of things, and this being one of them. My colleague Jane Hutt has been working very hard in this area. It isn't devolved to Wales. So, with my Counsel General hat on, I can't in all conscience say that the Welsh Government can play a role in that formally because it is just not a devolved issue. It is very much a reserved issue. But, of course, we do work very hard to ensure that people in Wales get justice in a number of areas and we work very hard to make sure that they're supported with the right advice, and we're very happy to help in any campaign that maximises income to people in Wales. So, I guess it's a qualified 'yes'. I mean, my heart absolutely goes out to people caught up in this, many of whom have suffered severe consequences to their lifestyle and ability to survive, really. But, I think, with my Counsel General hat on, I have to say this is reserved and so I can't have a formal role in it. But, I think, Delyth, Jane Hutt and I would be very happy to discuss with you anything that can be taken forward in a campaign sense.
Fe ddylwn i ddweud, Llywydd, y dylwn i ddatgan buddiant gan fy mod yn un o'r menywod dan sylw. Fe gefais i fy ngeni yn y 1950au ac fe ohiriwyd fy oedran pensiwn i'n sylweddol iawn. Felly, fe ddylwn i ddweud fy mod i yn yr un categori. Serch hynny, rwy'n ffodus iawn o fod yn dal i weithio a heb fod mor ddibynnol ar bensiwn. Mae gen i ddau ffrind da iawn, iawn a fu farw heb weld hyn yn cael ei ddatrys, y ddwy ohonyn nhw wedi dioddef llawer iawn oherwydd y newid yn yr oedran pensiwn nad oedden nhw wedi gallu cynllunio ar ei gyfer oherwydd y ffordd y cafodd ei gyfathrebu.
Mae hwn yn fater difrifol a chymhleth iawn, ac fe wyddom fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi ymateb yn llawn i adroddiad yr ombwdsmon. Nid ymchwiliodd yr ombwdsmon i ddim ond i'r dull y cyfathrebwyd y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth; nid ymchwiliwyd i'r polisi ei hun. Cytunwyd ar y newid yn Senedd San Steffan yn ôl ym 1995 ac fe ystyriwyd hynny'n gyfreithlon gan y llys ar y pryd. Felly, mae hyn yn ymwneud â chyfathrebu, yn fy marn i. Mae Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro am yr oedi o 28 mis wrth ysgrifennu at fenywod ac wedi dweud y byddan nhw'n dysgu'r gwersi ynglŷn â hynny, ac fe fyddan nhw'n sicrhau eu bod nhw'n bwrw ymlaen â'r gwersi o ran cyfathrebu yn y dyfodol hefyd. Felly, mae hwnnw'n gam bach ymlaen.
Rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi cynorthwyo pobl sydd â diffyg incwm o ganlyniad i nifer o bethau, ac mae hwn yn un ohonyn nhw. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Ni chafodd ei ddatganoli i Gymru. Felly, gyda het y Cwnsler Cyffredinol ar fy mhen, ni allaf i ddweud â chydwybod iach y gall Llywodraeth Cymru fod â rhan ffurfiol yn hynny am nad yw'n fater datganoledig. Mater a gedwir yn ôl yw hwn i raddau helaeth iawn. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael cyfiawnder mewn nifer o feysydd ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau eu bod nhw'n cael eu cefnogi â'r cyngor priodol, ac rydym ni'n hapus iawn i helpu mewn unrhyw ymgyrch sy'n gwneud y mwyaf o incwm ar gyfer pobl yng Nghymru. Felly, mae'n debyg bod amodau ar fy mharodrwydd i gefnogi eich galwad chi. Hynny yw, mae fy nghalon i'n gwaedu dros y bobl sydd wedi cael eu dal yn hyn o beth, mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef canlyniadau difrifol i'w ffordd o fyw a'u gallu nhw i oroesi, mewn gwirionedd. Ond, rwy'n credu, gyda het y Cwnsler Cyffredinol ar fy mhen, mae'n rhaid i mi ddweud mai mater a gedwir yn ôl yw hwn ac felly ni allaf i fod â rhan ffurfiol ynddo. Ond, rwy'n credu, Delyth, y byddai Jane Hutt a minnau'n hapus iawn i drafod unrhyw beth gyda chi y gellid ei ddatblygu mewn ystyr ymgyrchol.
7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Cyngor Dedfrydu i sicrhau bod canllawiau dedfrydu yn adlewyrchu cyfraith Cymru yn ddigonol? OQ62134
7. What discussions has the Counsel General had with the Sentencing Council to ensure that sentencing guidelines adequately reflect Welsh law? OQ62134
Diolch, Rhys. Sentencing is not a devolved matter, but, as a law officer, I do take a keen interest in sentencing guidelines and their application to offences in devolved areas.
Diolch, Rhys. Nid yw dedfrydu yn fater datganoledig, ond, yn swyddog cyfraith, rwy'n ymddiddori yn fawr iawn mewn canllawiau dedfrydu a'u cymhwysiad i droseddau mewn meysydd datganoledig.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Now, section 124 of the Coroners and Justice Act 2009 gives power to the Lord Chancellor to propose that sentencing guidelines are amended. In light of the change to the devolution settlement and primary law-making power coming into force, since that legislation was passed, I would expect that a proposal from the Counsel General involving Welsh law—a law only to do with Wales—would carry equal weight. Now, following the Government's response to Carolyn Thomas's Member debate, that they will not be introducing a pet abduction Act during this Senedd, will you write to the Sentencing Council requesting that the theft guidelines are amended to reflect that pets are far more than mere property and the terrible emotional distress it has on owners when pets are taken, to be reflected in the sentencing guidelines for theft? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Nawr, mae adran 124 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn rhoi pŵer i'r Arglwydd Ganghellor gynnig diwygiadau i ganllawiau dedfrydu. Yng ngoleuni'r newid i'r setliad datganoli a'r pŵer deddfu sylfaenol sydd ar ddod i rym, gan fod y ddeddfwriaeth honno wedi cael ei phasio, fe fyddwn i'n disgwyl y byddai cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol sy'n ymwneud â chyfraith Cymru—deddf sy'n ymwneud yn unig â Chymru—yn gyfartal o ran dylanwad. Nawr, yn dilyn ymateb y Llywodraeth i ddadl Aelod Carolyn Thomas, na fyddan nhw'n cyflwyno Deddf dwyn anifeiliaid anwes yn ystod y Senedd hon, a wnewch chi ysgrifennu at y Cyngor Dedfrydu yn gofyn am ddiwygiadau i'r canllawiau lladrad i adlewyrchu bod anifeiliaid anwes yn llawer mwy nag eiddo yn unig a'r trallod emosiynol ofnadwy y mae'n ei achosi i berchnogion pan gaiff anifeiliaid anwes eu dwyn, i adlewyrchu hynny yn y canllawiau dedfrydu ar gyfer lladrad? Diolch yn fawr.
Yes. Thank you, Rhys. I mean, I know you know how this works. So, the Sentencing Council is an independent non-departmental body, and it operates at arm's length from the Government. It's accountable to the UK Parliament for delivering its statutory obligations. I have, though, had the opportunity to discuss sentencing issues on a much wider basis than your question—which I'll come to in a moment—with a number of law officers only last week, where I brought up a number of issues that we're concerned about. I'm particularly concerned, and my colleague Jane Hutt has been working in this area for many years, about the number of short sentences, for example. I have Swansea prison in my constituency, right in the centre. There's a large number of young men in that prison who have sentences that appear to me to be designed perfectly to make sure they have no further life chances, but nothing to recommend it. So, if you're imprisoned for nine months, it's just enough to make sure that you have a record, that you have family problems, that you lose your home, and that you lose any job that you had, and nothing like enough to get you any kind of substance abuse support—well, any support, really, that you want. So, I have made the point repeatedly that those sentences are very poorly designed and likely to have a detrimental impact on pretty much everyone. It's a view shared by virtually every governor of Swansea prison I've spoken to, and I've spoken to a lot of them over the years. So, I've had that wider discussion.
Theft and pet theft, I agree, is very traumatic. I'm happy to make the views of the Welsh Government known about that, but, I mean, it is not a devolved matter. But I'm very happy to do that—very happy to do that cross-party, if people are happy to do that. But it would be just making our views known; we don't have any actual agency in that area.
Ie. Diolch i chi, Rhys. Wel, fe wn i eich bod chi'n deall sut mae hyn yn gweithio. Felly, mae'r Cyngor Dedfrydu yn gorff anadrannol annibynnol, ac mae'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae'n atebol i Senedd y DU am gyflawni ei rwymedigaethau statudol. Er hynny, fe gefais i gyfle i drafod materion dedfrydu ar sail llawer ehangach na'ch cwestiwn chi—y byddaf i'n dod at hynny mewn eiliad—gyda nifer o swyddogion cyfraith yr wythnos diwethaf, pryd y gwnes i godi nifer o faterion yr ydym ni'n ofidus yn eu cylch nhw. Rwy'n arbennig o bryderus, ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, ynglŷn â niferoedd y dedfrydau byrion, er enghraifft. Mae carchar Abertawe yn fy etholaeth i, yn y canol. Mae nifer fawr o ddynion ifanc yn y carchar hwnnw sydd â dedfrydau y mae hi'n ymddangos i mi eu bod nhw wedi eu cynllunio yn union ar gyfer sicrhau na fydd ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd pellach yn eu bywydau, ond nid oes dim i argymell hynny. Felly, os ydych chi'n cael eich carcharu am naw mis, mae hynny'n ddigon i wneud yn siŵr bod cofnod gennych chi, y bydd gennych chi broblemau teuluol, y byddwch chi'n colli eich cartref, ac y byddwch chi'n colli unrhyw swydd oedd gennych chi, a dim byd tebyg i'r hyn a fyddai'n ddigonol i chi gael unrhyw fath o gymorth o ran camddefnyddio sylweddau—wel, unrhyw gefnogaeth, mewn gwirionedd, y mae ei angen arnoch chi. Felly, rwyf wedi gwneud y pwynt dro ar ôl tro bod y dedfrydau hynny wedi'u cynllunio yn wael iawn ac maen nhw'n debygol o fod ag effaith andwyol ar bawb bron iawn. Mae honno'n farn gyffredin ymhlith bron pob llywodraethwr carchar yn Abertawe yr wyf i wedi siarad â nhw, ac rwyf i wedi siarad â llawer ohonyn nhw dros y blynyddoedd. Felly, fe gefais i'r drafodaeth ehangach honno.
Mae lladrad a dwyn anifeiliaid anwes, rwy'n cytuno, yn ddirdynnol iawn. Rwy'n hapus i fynegi barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ond, wyddoch chi, nid yw'n fater datganoledig. Ond rwy'n hapus iawn i wneud hynny—yn hapus iawn i wneud hynny'n drawsbleidiol, pe byddai pobl yn hapus i mi wneud felly. Ond dim ond gwneud ein barn ni'n hysbys a fyddem ni; nid oes gennym ni unrhyw rym gwirioneddol yn y maes hwnnw.
I did try to bring the pet abduction Bill forward, recognising that, very often, theft is just heard in the magistrates' court and sentencing is not high enough. But pets are actually priceless. Even when heard in the magistrates' court, sentencing is not strict enough; they usually have suspended sentences. I'd like to just read this out to you: 'Losing Angel was like losing my life. Angel was my best friend. I spent more than £13,000 trying to get her back. I remortgaged our house, took unpaid leave, I didn't work for a long time. I couldn't concentrate. I started smoking again, lost weight, and ended up in divorce.' Five years on, Dawn still has no closure on this. I thank Rhys for raising this, and I do hope that a line could be actually made. I believe that Professor John Cooper KC asked if a tweak to the existing theft Act could be made. Apparently, mushrooms and wild animals are already detailed, so why not pets? The word 'property' makes pet owners uncomfortable, because pets are more than just property. So, if you could take that forward for me and for everybody here that spoke on it, that would be really appreciated. Thank you.
Fe wnes i geisio cyflwyno'r Bil dwyn anifeiliaid anwes, gan gydnabod, yn aml iawn, mai dim ond yn y llysoedd ynadon y mae achosion lladrad yn cael eu cynnal ac nad yw'r dedfrydu yn ddigonol. Ond mae anifeiliaid anwes yn wirioneddol amhrisiadwy. Hyd yn oed pan glywir achosion yn y llys ynadon, nid yw'r dedfrydu yn ddigon llym; fel arfer, dedfrydau gohiriedig sy'n cael eu rhoi. Fe hoffwn i ddarllen hwn i chi: 'Roedd colli Angel fel colli fy mywyd. Angel oedd fy ffrind gorau. Fe wnes i wario mwy na £13,000 ar geisio ei chael hi'n ei hôl. Fe wnes i ailforgeisio ein tŷ ni, gan gymryd seibiant o'r gwaith yn ddi-dâl, nid oeddwn i'n gweithio am amser maith. Nid oeddwn i'n gallu canolbwyntio. Fe ddechreuais i ysmygu eto, fe gollais i bwysau, a bu ysgariad yn y pen draw.' Bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw Dawn wedi cael gweld diwedd ar y mater. Rwy'n diolch i Rhys am godi hyn, ac rwy'n gobeithio y gellid gwneud apêl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr Athro John Cooper CB wedi gofyn a fyddai modd mireinio'r Ddeddf lladrad gyfredol. Mae hi'n debyg fod madarch ac anifeiliaid gwyllt eisoes yn gynwysedig, felly beth am anifeiliaid anwes? Mae'r gair 'eiddo' yn gwneud perchnogion anifeiliaid anwes yn anghyfforddus, oherwydd mae anifeiliaid anwes yn fwy nag eiddo yn unig. Felly, pe gallech chi fwrw ymlaen â hynny er fy mwyn i ac er mwyn pawb sydd wedi siarad am y peth yn y fan hon, fe fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch i chi.
Thank you, Carolyn. I absolutely understand what you're saying. I've had pets all my life; I understand that they're part of your household and very much not a piece of property, so I do absolutely understand that. I'm very happy, Llywydd, to discuss with you how we might do something cross-party, perhaps. As I say, it's not something that I can do with my Counsel General hat on, but I have every sympathy with the sentiment expressed.
Diolch yn fawr, Carolyn. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Rwyf wedi bod ag anifeiliaid anwes ar hyd fy oes; rwy'n deall eu bod yn rhan o'ch aelwyd ac yn bendant nid yn ddarn o eiddo, felly rwy'n deall hynny'n llwyr. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i drafod gyda chi sut y gallem ni wneud rhywbeth trawsbleidiol, efallai. Fel y dywedais i, nid yw'n rhywbeth y gallaf ei wneud gan wisgo fy het Cwnsler Cyffredinol, ond mae gen i bob cydymdeimlad â'r teimlad a fynegwyd.
That's a very positive note to end that question session on.
Dyna nodyn cadarnhaol iawn i orffen sesiwn y cwestiwn hwnnw arno.
Eitem 3 sydd nesaf. Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw hwn. Mae'r Trefnydd yn mynd i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.
Item 3 is next, the business statement and announcement. I call on the Trefnydd to make that statement—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda ar gyfer heddiw. Yn nes ymlaen, bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar darfu ar y cyflenwad dŵr yn sir Conwy. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac ar gael i Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There is one change to today's agenda. Later this afternoon, the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs will make a statement on the water interruption in Conwy. Draft business for the next three weeks is set out on the business statement and announcement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I'd be grateful if we could have a statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on recycling efforts across Wales. Wales is currently second in the world for its recycling rates, and it's vital that we continue to be a global leader in this area. Pembrokeshire County Council is currently reviewing its kerbside collection management as part of a consultation on its draft environmental strategy, and there are concerns about what that may look like in the future. I can't emphasise enough the importance of waste collection and recycling to our environment, and indeed to our health. Regular kerbside collections must continue to take place, or else it may undo some of the good progress made by Pembrokeshire County Council in recent years. Therefore, I'd be grateful if we could have a statement from the Welsh Government on recycling rates that includes up-to-date guidance being issued to local authorities around kerbside collections and that also explains how the Welsh Government is protecting waste and recycling centres across the country.
Trefnydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ymdrechion ailgylchu ledled Cymru. Mae Cymru yn ail yn y byd ar hyn o bryd am ei chyfraddau ailgylchu, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn adolygu ei waith rheoli casgliadau wrth ymyl y ffordd fel rhan o ymgynghoriad ar ei strategaeth amgylcheddol ddrafft, ac mae pryderon ynghylch sut y gallai hynny edrych yn y dyfodol. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw casglu ac ailgylchu gwastraff i'n hamgylchedd, ac yn wir i'n hiechyd. Rhaid i gasgliadau rheolaidd ar ochr y ffordd barhau i ddigwydd, neu fel arall gall ddadwneud peth o'r cynnydd da a wnaed gan Gyngor Sir Penfro yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfraddau ailgylchu sy'n cynnwys y canllawiau diweddaraf sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch casgliadau wrth ymyl y ffordd ac sydd hefyd yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu canolfannau gwastraff ac ailgylchu ledled y wlad.
Diolch yn fawr, Paul Davies. As you say, we are a global leader in our recycling efforts, which are recycling efforts from our communities, our people, our businesses, our households. We're proud that we're a global leader and we thank everyone for playing their part. It is a strong community effort, but very much supported by local authorities. It's good to hear that Pembrokeshire County Council is undertaking this review, mindful of the particular issues and challenges in terms of kerbside collection. There is clearly best practice. The Welsh Local Government Association are very involved, as well as the Welsh Government. Obviously, the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs has heard the point in terms of the status of that in terms of not just being up to date, but also showing the best practice across Wales, which I think many of us benefit from.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Fel y dywedwch chi, rydym yn arweinydd byd-eang yn ein hymdrechion ailgylchu, sef ymdrechion ailgylchu gan ein cymunedau, ein pobl, ein busnesau, ein haelwydydd. Rydym yn falch ein bod yn arweinydd byd-eang ac rydym yn diolch i bawb am chwarae eu rhan. Mae'n ymdrech gymunedol gref, ond yn cael ei chefnogi'n fawr gan awdurdodau lleol. Mae'n dda clywed bod Cyngor Sir Penfro yn cynnal yr adolygiad hwn, gan gofio am y materion a'r heriau penodol o ran casglu wrth ymyl y ffordd. Yn amlwg, mae yna arfer gorau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi clywed y pwynt o ran statws hynny nid yn unig o ran bod yn gyfredol, ond hefyd dangos yr arfer gorau ledled Cymru, ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn elwa arno.
I'd like a statement, please, on quarry planning legislation. The Bryn quarry at Gelligaer has reportedly continued blasting operations despite their planning consent running out at the end of last year. They've applied for an extension, but that hasn't been approved. This quarry has been controversial for years. Residents living near the quarry have long complained about noise pollution from blasts, dust, vibrations in their houses, and unpleasant smells. I've been sent photographs of structural damage to properties that residents say was caused by the works at the quarry. A Plaid proposal last year in the Senedd to introduce a mandatory buffer zone between quarries like this and residential properties wasn't supported in the Senedd, and look at what's happening now. This has echoes of what has happened at Ffos-y-fran in Merthyr. We surely can't allow companies to continue works like this so near people's homes when their planning consent has run out. Surely that Plaid proposal for a mandatory buffer zone must be looked at again. So, could we have a statement, please, responding to that need?
Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar ddeddfwriaeth cynllunio chwareli. Yn ôl y sôn, mae chwarel Bryn yng Ngelligaer wedi parhau â gweithrediadau ffrwydro er i'w caniatâd cynllunio ddod i ben ddiwedd y llynedd. Maen nhw wedi gwneud cais am estyniad, ond nid yw wedi'i gymeradwyo. Bu'r chwarel hon yn ddadleuol ers blynyddoedd. Mae trigolion sy'n byw ger y chwarel wedi cwyno ers tro am lygredd sŵn o ffrwydradau, llwch, dirgryniadau yn eu tai, ac arogleuon annymunol. Mae ffotograffau wedi'u hanfon ataf o ddifrod adeileddol i eiddo y dywed trigolion a achoswyd gan y gwaith yn y chwarel. Ni chafodd cynnig gan Blaid Cymru y llynedd yn y Senedd i gyflwyno llain glustogi rhwng chwareli fel hyn ac eiddo preswyl ei gefnogi yn y Senedd, ac edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd nawr. Mae hyn yn adlais o'r hyn sydd wedi digwydd yn Ffos-y-fran ym Merthyr. Mae'n siŵr na allwn ganiatáu i gwmnïau barhau i weithio fel hyn mor agos at gartrefi pobl pan fydd eu caniatâd cynllunio wedi dod i ben. Siawns nad oes rhaid edrych eto ar gynnig Plaid Cymru am lain glustogi orfodol. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymateb i'r angen hwnnw?
Thank you very much, Delyth Jewell. These issues have been debated in this Chamber, and we've focused on particular sites as well. And, as you say, this is about planning consent powers and responsibility—what lies with local authorities, the Welsh Government and, indeed, site providers themselves? So, thank you for drawing attention to this again today, and I will ask the Cabinet Secretary to clarify if there is anything that we need to respond to in terms of that particular site that you mention.
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Mae'r materion hyn wedi eu trafod yn y Siambr hon, ac rydym wedi canolbwyntio ar safleoedd penodol hefyd. Ac, fel y dywedwch chi, mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb a phwerau caniatâd cynllunio—beth sydd gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac, yn wir, darparwyr safleoedd eu hunain? Felly, diolch i chi am dynnu sylw at hyn eto heddiw, ac fe wnaf ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro a oes unrhyw beth y mae angen i ni ymateb iddo o ran y safle penodol hwnnw yr ydych yn sôn amdano.
Can I raise a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding screening for abdominal aortic aneurysms or AAAs in Wales? Currently, screening for abdominal aortic aneurysms are routinely offered to men over the age of 65, but are not routinely offered to women. Only one in 70 men scanned have an abdominal aortic aneurysm, which is a deadly condition, and rupture leads to immediate death. So, screening and early capture is essential.
Risk factors for this condition include smoking, high blood pressure, or close family history, and men are six times more likely to have an aortic aneurysm than women, but aortic aneurysms still do occur in women. Currently, although screening is not routinely offered to women, GPs wish to refer women with significant risk factors to a hospital vascular unit for imaging rather than the screening programme.
One of my constituents is campaigning to include women with risk factors in routine AAA screening, and I'd be interested to know if the Welsh Government has investigated whether there is a case for doing this that makes sense health wise and economically. So, can we hear from the Cabinet Secretary for Health and Social Care as to whether the Welsh Government has looked into the case for routine AAA screening for women? Thank you.
A gaf i godi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch sgrinio am anewrysmau aortig yn yr abdomen neu AAA yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae sgrinio ar gyfer anewrysmau aortig yn yr abdomen yn cael ei gynnig fel mater o drefn i ddynion dros 65 oed, ond nid ydynt yn cael eu cynnig fel mater o drefn i fenywod. Dim ond un o bob 70 o ddynion a sganiwyd fydd ag anewrysm aortig yn yr abdomen, sy'n gyflwr marwol, ac mae rhwyg yn arwain at farwolaeth ar unwaith. Felly, mae sgrinio a chanfod yn gynnar yn hanfodol.
Mae ffactorau risg ar gyfer y cyflwr hwn yn cynnwys ysmygu, pwysedd gwaed uchel, neu hanes teuluol agos, ac mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol o fod ag anewrysm aortig na menywod, ond mae anewrysmau aortig yn dal i ddigwydd mewn menywod. Ar hyn o bryd, er nad yw sgrinio yn cael ei gynnig fel mater o drefn i fenywod, mae meddygon teulu yn dymuno cyfeirio menywod â ffactorau risg sylweddol at uned fasgwlaidd ysbyty ar gyfer delweddu yn hytrach na'r rhaglen sgrinio.
Mae un o fy etholwyr yn ymgyrchu i gynnwys menywod â ffactorau risg mewn sgrinio AAA fel rhan o drefn arferol, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i weld a oes achos dros wneud hyn, sy'n gwneud synnwyr o ran iechyd ac yn economaidd. Felly, a gawn ni glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i'r achos dros sgrinio AAA fel rhan o drefn arferol i fenywod? Diolch.
Thank you very much, Gareth, and thank you for raising this important issue. It is about early capture, as you say. That's what screening's purpose and objective is. And you've drawn attention to the screening for aneurysm with abdominal aneurysms in terms of screening for men, and now address the issue for women as well. I'm not sure what the situation, the status of that screening is in terms of national guidelines, but I will draw this to the attention of the Cabinet Secretary for Health and Social Care.
Diolch yn fawr iawn, Gareth, a diolch am godi'r mater pwysig hwn. Mae'n ymwneud â chanfod yn gynnar, fel y dywedwch chi. Dyna beth yw pwrpas ac amcan sgrinio. Ac rydych chi wedi tynnu sylw at y sgrinio ar gyfer anewrysm gyda anewrysmau yn yr abdomen o ran sgrinio ar gyfer dynion, a bellach yn codi'r mater ar gyfer menywod hefyd. Dydw i ddim yn siŵr beth yw'r sefyllfa, statws y sgrinio hwnnw o ran canllawiau cenedlaethol, ond fe wnaf dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at hyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
I'd like to ask for a statement from the Government, please, following the ceasefire that came into force in Gaza on Sunday, which could perhaps contain a response to the following points. Oxfam Cymru has written to every Member of the Senedd asking us to urge the Welsh Government to call on the UK Government to play their role in achieving a permanent ceasefire that leads to a lasting peace and justice and to end permanently the blockade, occupation and oppression of the Palestinian people in Gaza and the occupied territories.
Also, I'd like to know how Wales has taken and is taking every measure possible, within its competence, to ensure it doesn't contribute to potential war crimes through direct or indirect connections, partnerships or funding. And also, will the Government be increasing its current £100,000 donation to the Disasters Emergency Committee’s middle east appeal in light of the terrible conditions faced by hundreds of thousands of people whose homes, businesses and services have been obliterated, given that the Government donated £4 million to the DEC Ukraine appeal?
And finally, will the Government pay tribute to all those Welsh citizens who have protested against the war in Gaza, in every part of Wales, and here at the Senedd, imploring that we all raise our voices to call for peace, humanitarian support and justice? Diolch.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn dilyn y cadoediad a ddaeth i rym yn Gaza ddydd Sul, a allai efallai gynnwys ymateb i'r pwyntiau canlynol. Mae Oxfam Cymru wedi ysgrifennu at bob Aelod o'r Senedd yn gofyn i ni annog Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rôl wrth gyflawni cadoediad parhaol sy'n arwain at heddwch a chyfiawnder parhaol ac i ddod â gwarchae, meddiannaeth a gormes y Palesteiniaid yn Gaza a'r tiriogaethau sydd wedi'u meddiannu i ben yn barhaol.
Hefyd, hoffwn wybod sut mae Cymru wedi cymryd ac yn cymryd pob cam posibl, o fewn ei chymhwysedd, i sicrhau nad yw'n cyfrannu at droseddau rhyfel posibl trwy gysylltiadau, partneriaethau neu gyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol. A hefyd, a fydd y Llywodraeth yn cynyddu ei rhodd bresennol o £100,000 i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y dwyrain canol yng ngoleuni'r amodau ofnadwy sy'n wynebu cannoedd o filoedd o bobl y mae eu cartrefi, busnesau a gwasanaethau wedi'u chwalu'n deilchion, o gofio bod y Llywodraeth wedi rhoi £4 miliwn i apêl DEC Wcráin?
Ac yn olaf, a wnaiff y Llywodraeth dalu teyrnged i'r holl ddinasyddion hynny yng Nghymru sydd wedi protestio yn erbyn y rhyfel yn Gaza, ym mhob rhan o Gymru, ac yma yn y Senedd, gan erfyn ar bob un ohonom i godi ein lleisiau i alw am heddwch, cymorth dyngarol a chyfiawnder? Diolch.
Thank you very much indeed, Sioned Williams. I'm very grateful that you've asked this question this afternoon. In fact, I will be issuing a statement tomorrow and I hope to be able to announce good news about ways in which we can contribute to the Disasters Emergency Committee fund. It is a humanitarian response, as you say, that we now need to make.
After months of devastating bloodshed and countless lives lost, it was such long overdue news that Israeli and Palestinian people have been desperately waiting for. I will respond in my statement to the issues and responsibilities in terms of what we can do and our relations with communities here in Wales, and that includes many communities that I've been meeting and many people have been meeting since that terrible day on 7 October.
I think we've got to also remember all those who have been affected. We do join the international community in hoping that all hostages, including the hostage whose family lives here in Wales, are released quickly and unharmed. But for the innocent Palestinians whose homes turned into a war zone overnight and the many who have lost their lives, this ceasefire must allow for that response in humanitarian aid, which is so desperately needed and which I will be announcing tomorrow.
Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma. Yn wir, byddaf yn cyhoeddi datganiad yfory ac rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi newyddion da am ffyrdd y gallwn ni gyfrannu at gronfa y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Mae'n ymateb dyngarol, fel y dywedwch chi, y mae angen i ni ei wneud nawr.
Ar ôl misoedd o laddfa ddinistriol a bywydau dirifedi wedi'u colli, roedd yn newyddion yr oedd pobl Israel a Phalesteina wedi bod yn disgwyl yn llawer rhy hir ac yn daer amdano. Byddaf yn ymateb yn fy natganiad i'r materion a'r cyfrifoldebau o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud a'n perthynas â chymunedau yma yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys llawer o gymunedau rwyf wedi bod yn cwrdd â nhw ac mae llawer o bobl wedi bod yn cwrdd ers y diwrnod ofnadwy hwnnw ar 7 Hydref.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio pawb yr effeithiwyd arnynt hefyd. Rydym yn ymuno â'r gymuned ryngwladol i obeithio bod yr holl wystlon, gan gynnwys gwystl y mae ei deulu yn byw yma yng Nghymru, yn cael eu rhyddhau'n gyflym a heb niwed. Ond i'r Palesteiniaid diniwed y trodd eu cartrefi yn barth rhyfel dros nos a'r niferoedd lawer sydd wedi colli eu bywydau, rhaid i'r cadoediad hwn ganiatáu ar gyfer yr ymateb hwnnw mewn cymorth dyngarol, sydd ei angen mor daer ac y byddaf yn ei gyhoeddi yfory.
Good afternoon, Trefnydd. I just wanted to raise an issue, if I may, with you around the Heart of Wales line and request a further statement, please, from the Cabinet Secretary for Transport and North Wales. The Heart of Wales line has just had a fifth train taken from the timetable. That's four trains a day in each direction going from Craven Arms and Shrewsbury down to Llanelli, going through such wonderful places as Llandrindod Wells, Llanwrtyd Wells, Llandeilo, Llandovery et cetera—26 stations in total. It provides a real transport option for those communities living on the Heart of Wales line, but also an opportunity to boost tourism and visitors to the area. So, I would like a further statement, if I may, from the Minister, and I wondered if you could pass on an invitation to the Minister to join me and perhaps others who are within that region on a journey through the 26 stations, just to pick up exactly how beloved that line is and how much further investment we need in it. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Trefnydd. Roeddwn i eisiau codi mater, os caf i, gyda chi ynghylch rheilffordd Calon Cymru a gofyn am ddatganiad pellach, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae rheilffordd Calon Cymru newydd gael pumed trên wedi'i dynnu o'r amserlen. Dyna bedwar trên y dydd ym mhob cyfeiriad yn mynd o Craven Arms a'r Amwythig i lawr i Lanelli, gan fynd trwy lefydd hyfryd fel Llandrindod, Llanwrtyd, Llandeilo, Llanymddyfri ac ati—26 o orsafoedd i gyd. Mae'n cynnig opsiwn trafnidiaeth go iawn i'r cymunedau hynny sy'n byw ar reilffordd Calon Cymru, ond hefyd mae'n gyfle i hybu twristiaeth ac ymwelwyr â'r ardal. Felly, hoffwn gael datganiad pellach, os caf i, gan y Gweinidog, a meddwl oeddwn i tybed a allech chi roi gwahoddiad i'r Gweinidog ymuno â mi ac efallai eraill sydd yn y rhanbarth hwnnw ar daith drwy'r 26 gorsaf, dim ond i ddarganfod pa mor annwyl yw'r rheilffordd honno a faint o fuddsoddiad pellach sydd ei angen arnom ynddi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. I'm sure you will have volunteers to go on that journey on that wonderful Heart of Wales line. There are issues in terms of timetable changes for mainline services that are taking place, with more consistency for passengers, but of course we've heard already this afternoon and we've been reminded of the £800 million investment in our brand-new fleet of modern trains. I think what's important is that passengers on the Heart of Wales line will benefit from the conversion of the class 153 active travel units, which will provide additional seating and cycle capacity. It is important that, overall in 2024, Transport for Wales services were the most punctual and reliable of all train operators in Wales, but there is still more to do, quite clearly—huge improvements as a direct result of public ownership and investment. But it is important that you've drawn attention today to the Heart of Wales line route capacity and the service itself. This is something where I'm sure colleagues, in terms of our Cabinet Secretary, will be interested in the question, but also see that this is a partnership with Powys County Council as well, in terms of integrated public transport services, on which I know discussions are taking place.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n siŵr y bydd gennych wirfoddolwyr i fynd ar y daith honno ar y rheilffordd Calon Cymru wych honno. Mae materion o ran newidiadau amserlen ar gyfer gwasanaethau prif reilffyrdd yn digwydd, gyda mwy o gysondeb i deithwyr, ond wrth gwrs rydym wedi clywed eisoes y prynhawn yma ac rydym wedi cael ein hatgoffa o'r buddsoddiad o £800 miliwn yn ein fflyd newydd sbon o drenau cyfoes. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd teithwyr ar reilffordd Calon Cymru yn elwa ar drosi unedau teithio llesol dosbarth 153, a fydd yn darparu seddi ychwanegol a lle ar gyfer beiciau. Mae'n bwysig, yn gyffredinol yn 2024, gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru oedd y rhai mwyaf prydlon a dibynadwy o holl weithredwyr trenau Cymru, ond mae mwy i'w wneud o hyd, yn gwbl amlwg—gwelliannau enfawr o ganlyniad uniongyrchol i berchnogaeth gyhoeddus a buddsoddiad. Ond mae'n bwysig eich bod wedi tynnu sylw heddiw at gapasiti llwybrau rheilffordd Calon Cymru a'r gwasanaeth ei hun. Mae hyn yn rhywbeth lle rwy'n siŵr y bydd gan gyd-Aelodau, o ran ein Hysgrifennydd Cabinet, ddiddordeb yn y cwestiwn, ond hefyd yn gweld bod hon yn bartneriaeth gyda Chyngor Sir Powys hefyd, o ran gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig, ac rwy'n gwybod bod trafodaethau'n cael eu cynnal arnynt.
Good afternoon, Trefnydd. I would like to ask for a statement from the Cabinet Secretary for Education on the impact of Labour's VAT hike on private schools. Despite a retention and recruitment crisis for teachers, the Westminster Government has placed a 20 per cent VAT hike on private schools, alongside national insurance increases, resulting in job losses across Wales, including at the Haberdashers' school in Monmouth in my own region. Their costs have risen by 25 per cent, and this will be the case with many private schools across Wales. As a result, many teachers will be overworked and many students will be forced to leave, including additional learning needs students, putting further pressure on our state schools, who are already at capacity and are already struggling to look after our ALN learners. I'm hoping that a statement on the floor of this Senedd will give us an explanation from the Welsh Government on how the Welsh Government will accommodate these extra students in the state school system and support those students being forced to leave who have ALN whose needs have been served very well in private schools.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar effaith Llafur yn codi TAW ar ysgolion preifat. Er gwaethaf argyfwng cadw a recriwtio athrawon, mae Llywodraeth San Steffan wedi gosod codiad TAW o 20 y cant ar ysgolion preifat, ochr yn ochr â chynnydd mewn yswiriant gwladol, gan arwain at golli swyddi ledled Cymru, gan gynnwys yn ysgol Haberdashers yn Nhrefynwy yn fy rhanbarth i. Mae eu costau wedi codi 25 y cant, a bydd hyn yn wir gyda nifer o ysgolion preifat ledled Cymru. O ganlyniad, bydd llawer o athrawon yn cael eu gorweithio a bydd llawer o fyfyrwyr yn cael eu gorfodi i adael, gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan roi pwysau pellach ar ein hysgolion gwladol, sydd eisoes yn gweithredu ar eu capasiti llawn ac sydd eisoes yn ei chael yn anodd gofalu am ein dysgwyr ADY. Rwy'n gobeithio y bydd datganiad ar lawr y Senedd hon yn rhoi esboniad i ni gan Lywodraeth Cymru o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer y myfyrwyr ychwanegol hyn yn y system ysgolion gwladol ac yn cefnogi'r myfyrwyr hynny sy'n cael eu gorfodi i adael sydd ag ADY y mae eu hanghenion wedi'u gwasanaethu'n dda iawn mewn ysgolion preifat.
Thank you very much for that question, Laura Anne Jones. This is obviously a manifesto commitment that was made by the Labour Party, and, indeed, as we know all too well, the election in July resulted in Labour MPs being elected, including in your constituency and across Wales as well. So, I think now it is a matter for implementation, and obviously that’s a matter of discussion and engagement, in terms of impacts on not just the independent schools—with families and with local authorities—in terms of capacity in our state system, which, of course, we are so proud of and which can provide all that education for our young people, including young people with additional learning needs.
So, we are, as a Welsh Labour Government, supporting the way forward, supporting the change that is coming about as a result of Labour winning that election so overwhelmingly in July. But also the principle of this is important in terms of ensuring that we have got the funding to support our public services, particularly, of course, our education system here in Wales, and as a result of your party’s former Government’s mismanagement of the economy, of course, also we needed to look for those sources of income that will be really important in terms of backing our public services.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Laura Anne Jones. Mae hwn, yn amlwg, yn ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur, ac, yn wir, fel y gwyddom ni yn rhy dda, arweiniodd yr etholiad ym mis Gorffennaf at ethol ASau Llafur, gan gynnwys yn eich etholaeth chi a ledled Cymru hefyd. Felly, rwy'n credu nawr ei fod yn fater i'w weithredu, ac yn amlwg mae hynny'n fater o drafod ac ymgysylltu, o ran effeithiau nid yn unig ar yr ysgolion annibynnol—gyda theuluoedd a chydag awdurdodau lleol—o ran capasiti yn y system wladol, yr ydym, wrth gwrs, mor falch ohoni ac sy'n gallu darparu'r holl addysg honno i'n pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Felly, rydym ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn cefnogi'r ffordd ymlaen, yn cefnogi'r newid sy'n digwydd o ganlyniad i Lafur yn ennill yr etholiad hwnnw mor gadarn ym mis Gorffennaf. Ond hefyd mae egwyddor hyn yn bwysig o ran sicrhau bod gennym yr arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig, wrth gwrs, ein system addysg yma yng Nghymru, ac o ganlyniad i gamreolaeth Llywodraeth flaenorol eich plaid chi o'r economi, hefyd, wrth gwrs, roedd angen i ni chwilio am y ffynonellau incwm hynny a fydd yn bwysig iawn o ran cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ddau barc daeareg sydd â statws UNESCO yng Nghymru: parc Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog ac, wrth gwrs, parc GeoMôn yn Ynys Môn. Mi es i draw i borth Amlwch rai misoedd yn ôl i gyfarfod efo rhai o’r tîm o wirfoddolwyr yn GeoMôn, a chael fy atgoffa unwaith eto o bwysigrwydd y statws UNESCO yma, nid yn unig fel cydnabyddiaeth o hanes daeareg arbennig iawn, iawn, iawn Ynys Môn, ond fel modd i ddenu buddsoddiad a thwristiaid hefyd.
Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r llythyr y gwnes i yrru ato fo rai misoedd yn ôl yn dweud bod yr asesiad i ddal gafael ar y statws arbennig hwnnw unwaith eto ar y gorwel a bod y meini prawf sydd wedi'u gosod gan UNESCO yn rhai trylwyr dros ben. Felly, a gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i estyn llaw a chefnogi GeoMôn, boed hynny drwy adnoddau ychwanegol neu gymorth ariannol, er mwyn sicrhau bod y safle yn gallu cadw ei statws allweddol fel parc daeareg UNESCO?
Could I ask for a statement from the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs about the Welsh Government’s plans to support the two geoparks that have UNESCO status here in Wales: Fforest Fawr geopark in Bannau Brycheiniog and, of course, GeoMôn in Anglesey. I went to Amlwch port some months ago to meet some of the volunteers in GeoMôn, and I was reminded once again of the importance of that UNESCO status, not only as recognition of the very special geological history of Ynys Môn, but also as a means to attract investment and tourism as well.
The Cabinet Secretary will be aware of a letter that I sent to him some months ago stating that the assessment to keep that status once again was on the horizon and that the criteria that had been set out by UNESCO are very thorough ones. So, could I ask, therefore, for a statement from the Cabinet Secretary confirming that the Welsh Government will be willing to help and support GeoMôn, whether through additional resources or financial support, in order to ensure that the site can retain its key status as a UNESCO geopark?
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Thank you very much, Rhun ap Iorwerth, for your very important question.
We have the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs here with us today. Yes, obviously, this is really important in terms of GeoMôn and the UNESCO status, and you have written to the Cabinet Secretary, so we will respond to look at ways in which we can support and assist on this matter.
Mae gennym y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yma gyda ni heddiw. Ydy, yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn o ran GeoMôn a statws UNESCO, ac rydych chi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, felly byddwn yn ymateb i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi a chynorthwyo ar y mater hwn.
May I request a statement from the Deputy First Minister on progress that the Welsh Government has made on improving our food systems and food security? It’s an incredibly important issue and I would hate it to be kicked into the long grass. It’s been almost two years now since my food Bill was voted down in the Senedd, despite massive widespread support from stakeholders right across the country, including the future generations commissioner. And at the time, it was promised that the recommendations from the Economy, Trade and Rural Affairs Committee would be carried forward and more work would be done to improve food security across Wales, and the First Minister, in fairness, at the time, took some immediate steps. However, since then we’ve heard very little about what the Government is doing. For three years, we’ve been discussing a community food strategy, but we’ve never seen anything as yet. So, I would welcome an update from the Welsh Government on what progress is being made to shore up food security here in Wales and strengthen our food system accordingly.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar wella ein systemau bwyd a'n diogeledd bwyd? Mae'n fater hynod o bwysig a byddwn yn casáu iddo gael ei droi o'r neilltu. Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers y trechwyd fy Mil bwyd mewn pleidlais yn y Senedd, er gwaethaf cefnogaeth enfawr eang gan randdeiliaid ledled y wlad, gan gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Ac ar y pryd, addawyd y byddai'r gwaith ar argymhellion Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau ac y byddai mwy o waith yn cael ei wneud i wella diogeledd bwyd ledled Cymru, a chymerodd y Prif Weinidog, er tegwch, ar y pryd, rai camau ar unwaith. Fodd bynnag, ers hynny, ychydig iawn yr ydym wedi'i glywed am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Ers tair blynedd, rydym wedi bod yn trafod strategaeth bwyd cymunedol, ond nid ydym erioed wedi gweld unrhyw beth hyd yn hyn. Felly, byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar ba gynnydd sy'n cael ei wneud i wella diogeledd bwyd yma yng Nghymru a chryfhau ein system fwyd yn unol â hynny.
Thank you very much indeed. This, in fact, is very much a cross-Government responsibility, led by the Deputy First Minister, in terms of developing a community food strategy, which we’re actively engaging with. But for myself, as social justice Minister, working alongside the Deputy First Minister, this is crucially important in terms of food security for our communities here in Wales. And I hope that you will consider supporting our draft budget, Peter Fox, because in it it includes a considerable amount of funding from my portfolio, and indeed from the Deputy First Minister's portfolio, to ensure that we can keep our food partnerships going in Wales. I'm sure that you are not only aware, but you will know of the importance of these food partnerships, which bring all stakeholders together on a county by county basis. I was very pleased to visit the food partnership in Carmarthenshire, the Bwyd Sir Gâr Food partnership, which includes every sector and, interestingly, enjoyed a meal in a very pioneering community facility in Carmarthen, supplied by food from the farm that is county council owned. That was an award-winning setting as well for those involved in it.
So, yes, it's on its way. We need to have backing for our budget to get the funding through, but I think Food Sense Wales, which you'll be aware of, led by Katie Palmer, all the work that's being done with the sustainable farming scheme—indeed, it does cross, as you said, every portfolio, virtually, in this Parliament and Government, including, of course, education as well as agriculture, rural affairs, social justice, and health, of course.
Diolch yn fawr iawn. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog, o ran datblygu strategaeth bwyd cymunedol, yr ydym yn mynd ati i ymgysylltu â hi. Ond i mi, y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, yn gweithio ochr yn ochr â'r Dirprwy Brif Weinidog, mae hyn yn hanfodol bwysig o ran diogeledd bwyd i'n cymunedau yma yng Nghymru. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried cefnogi ein cyllideb ddrafft, Peter Fox, oherwydd ynddi mae'n cynnwys cryn dipyn o gyllid o fy mhortffolio i, ac yn wir o bortffolio'r Dirprwy Brif Weinidog, i sicrhau y gallwn gadw ein partneriaethau bwyd i fynd yng Nghymru. Rwy'n siŵr eich bod nid yn unig yn ymwybodol, ond byddwch yn gwybod am bwysigrwydd y partneriaethau bwyd hyn, sy'n dod â'r holl randdeiliaid at ei gilydd fesul sir. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â'r bartneriaeth fwyd yn sir Gaerfyrddin, partneriaeth Bwyd Sir Gâr, sy'n cynnwys pob sector ac, yn ddiddorol, fe wnes i fwynhau pryd o fwyd mewn cyfleuster cymunedol arloesol iawn yng Nghaerfyrddin, a gyflenwir gan fwyd o'r fferm sy'n eiddo i'r cyngor sir. Roedd hwn yn lleoliad sydd wedi ennill gwobrau hefyd i'r rhai oedd yn rhan ohono.
Felly, ydi, mae ar ei ffordd. Mae angen i ni gael cefnogaeth i'n cyllideb i gael y cyllid drwyddo, ond rwy'n credu bod Synnwyr Bwyd Cymru, y byddwch chi'n ymwybodol ohono, dan arweiniad Katie Palmer, yr holl waith sy'n cael ei wneud gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy—yn wir, mae ar draws, fel y dywedoch chi, bob portffolio, bron iawn, yn y Senedd a'r Llywodraeth hon, gan gynnwys, wrth gwrs, addysg yn ogystal ag amaethyddiaeth, materion gwledig, cyfiawnder cymdeithasol, ac iechyd, wrth gwrs.
Can I ask for two statements, please? First of all, can I ask for a statement from the Counsel General on the Government's preparedness for the likely impact of Kim Leadbeater MP's private Member's Bill on terminally ill adults on Wales? The Bill, if passed into law, will have a profound impact on us here. Not only will it have an impact on our health service, but it'll also have a likely impact on the judicial capacity in Wales, because we're already being told that the High Court will have no capacity to deal with each case, and that they're likely to be pushed to tribunal. Therefore, it begs the question: what capacity is available in Wales? The final vote on the Bill is expected on 25 April, so it would be good to have a statement from the Counsel General, and the Government's assessment in advance of this.
Secondly, may I have a statement from the Minister for social partnerships regarding support provided to communities underserved by the Post Office? We heard earlier from Siân Gwenllian about the proposals to scrap the mobile service to over a dozen communities in my constituency, which will severely impact on the ability of many people, the most vulnerable in these communities, to access essential services, so any assistance from the Government would be gratefully received.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar barodrwydd y Llywodraeth ar gyfer effaith debygol Mesur Aelod preifat yr Aelod Seneddol Kim Leadbeater ar oedolion â salwch terfynol ar Gymru? Bydd y Bil, os caiff ei basio i gyfraith, yn cael effaith ddofn arnom ni yma. Nid yn unig y bydd yn cael effaith ar ein gwasanaeth iechyd, ond bydd hefyd yn debygol o effeithio ar y capasiti barnwrol yng Nghymru, oherwydd rydym eisoes yn cael gwybod na fydd gan yr Uchel Lys y capasiti i ymdrin â phob achos, a'u bod yn debygol o gael eu gwthio i'r tribiwnlys. Mae'n gofyn y cwestiwn felly: pa gapasiti sydd ar gael yng Nghymru? Disgwylir y bleidlais derfynol ar y Bil ar 25 Ebrill, felly byddai'n dda cael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, ac asesiad y Llywodraeth cyn hyn.
Yn ail, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog partneriaethau cymdeithasol ynglŷn â'r cymorth a ddarperir i gymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu gan Swyddfa'r Post? Clywsom yn gynharach gan Siân Gwenllian am y cynigion i gael gwared ar y gwasanaeth symudol i dros ddwsin o gymunedau yn fy etholaeth i, a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar allu llawer o bobl, y rhai mwyaf agored i niwed yn y cymunedau hyn, i gael gafael ar wasanaethau hanfodol, felly byddem yn ddiolchgar am unrhyw gymorth gan y Llywodraeth.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Yes, I will ask the Counsel General to respond on the matter of the impact of the Bill. Obviously, there is some time yet before, as you say, the date that you've highlighted, 25 April. The assessment of impact on Wales, capacity in the High Court—indeed, we need to look at this carefully, and I will follow that up, as you've heard. This is about us also looking at our roles and responsibilities as well.
On the issue of underserved communities in terms of post offices, well, that does actually fall within my responsibility in terms of relationships with the Post Office and the reduction of essential services, which we heard about earlier on. I think this is something where, following not just the question from Siân Gwenllian, I'm working quite regularly with those who are involved as responsible lenders. But for the Post Office—I am going to meet with the Post Office chiefs for Wales and look at how they are axing services. They're carrying out reviews, I know, and it is reserved, but I think we have to now give that evidence from the Welsh Government and from the Welsh Parliament, from the Senedd, so I'm grateful that you've raised this.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Iawn, fe wnaf ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ymateb ar fater effaith y Bil. Yn amlwg, mae peth amser eto cyn, fel y dywedwch chi, y dyddiad rydych chi wedi'i nodi, 25 Ebrill. Yr asesiad o'r effaith ar Gymru, capasiti yn yr Uchel Lys—yn wir, mae angen i ni edrych ar hyn yn ofalus, ac fe wnaf waith dilynol ar hyn, fel rydych chi wedi clywed. Mae hyn hefyd yn ymwneud â ni'n edrych ar ein rolau a'n cyfrifoldebau hefyd.
O ran cymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu o ran swyddfeydd post, wel, mae hynny mewn gwirionedd yn dod o fewn fy nghyfrifoldeb i o ran y berthynas â Swyddfa'r Post a lleihau gwasanaethau hanfodol, y clywsom amdanyn nhw'n gynharach. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, yn dilyn nid yn unig y cwestiwn gan Siân Gwenllian, rwy'n gweithio'n eithaf rheolaidd gyda'r rhai sy'n ymwneud â hyn fel benthycwyr cyfrifol. Ond ar gyfer Swyddfa'r Post—byddaf yn cwrdd â phenaethiaid Swyddfa'r Post dros Gymru ac edrych ar sut maen nhw'n dileu gwasanaethau. Maen nhw'n cynnal adolygiadau, rwy'n gwybod, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni nawr roi'r dystiolaeth honno gan Lywodraeth Cymru a chan Senedd Cymru, o'r Senedd, felly rwy'n ddiolchgar eich bod wedi codi hyn.
Can I ask for a statement from the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on the use of chauffeur-driven cars by Welsh councils? That comes after news reports that state that the former Labour leader and now mayor of Bridgend County Borough Council used a taxpayer-funded chauffeur-driven car to attend Welsh Labour Party events in Cardiff Bay. His attendance at the celebration dinner of 100 years of the Welsh Labour Party was clearly party political in nature, yet it has been defended in the media by Councillor Huw David. Clearly, it should not be permissible to use a taxpayer-funded mayoral car to attend party political events. So, will you either arrange a statement from the Cabinet Secretary clarifying that or, failing that, use this opportunity now to condemn it?
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar y defnydd o geir sy'n cael eu gyrru gan chauffeur gan gynghorau Cymru? Daw hynny wedi adroddiadau yn y newyddion yn dweud bod cyn-arweinydd Llafur ac sydd bellach yn faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio car a oedd yn cael ei yrru gan chauffeur, a ariennir gan drethdalwyr, i fynychu digwyddiadau Plaid Lafur Cymru ym Mae Caerdydd. Roedd ei bresenoldeb yng nghinio dathlu 100 mlynedd o Blaid Lafur Cymru yn amlwg yn bleidiol ei natur, ond eto mae wedi ei amddiffyn yn y cyfryngau gan y Cynghorydd Huw David. Yn amlwg, ni ddylid caniatáu defnyddio car ar gyfer maer a ariennir gan drethdalwyr i fynychu digwyddiadau pleidiol. Felly, a wnewch chi naill ai drefnu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn egluro hynny neu, os na wnewch chi hynny, yna defnyddio'r cyfle hwn nawr i'w gondemnio?
Well, this is a matter not just for local government, but, indeed, it is a matter for the local authority that you cited and it is a matter for those who have the privilege of serving in local government as well.
Wel, nid mater i lywodraeth leol yn unig yw hwn, ond, yn wir, mater i'r awdurdod lleol y gwnaethoch chi ei grybwyll, ac mae'n fater i'r rhai sydd â'r fraint o wasanaethu mewn llywodraeth leol hefyd.
Ac yn olaf, James Evans.
And finally, James Evans.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary—. Trefnydd, I'd like to have a—. I can't get my words out. I'd like to have a statement from the Cabinet Secretary for economy over the President of the United States coming in, Donald Trump, and about our trading relationship with the United States. A lot of Welsh businesses rely on a strong relationship between Wales and the United States, so it'd be very good if we could have a statement from the economy Minister about how that relationship can be developed now that President Trump is in office.
I'd also like to have a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care over the findings that the group office in our party have found that the Welsh NHS have spent over £700 million on negligence claims over the last 10 years, with £100 million of that spent last year alone. That is a national scandal and I think it is only right and proper that we have a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care about what he's going to do to reduce those negligence claims, because if we're going to see those improvements in our NHS, we need to make sure that the money is being spent on the front line and not paying out people on negligence claims.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet—. Trefnydd, hoffwn gael—. Ni allaf gael fy ngeiriau allan. Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac am ein perthynas fasnachu â'r Unol Daleithiau. Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn dibynnu ar berthynas gref rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau, felly byddai'n dda iawn pe gallem gael datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch sut y gellir datblygu'r berthynas honno nawr bod yr Arlywydd Trump yn y swydd.
Hoffwn hefyd gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y canfyddiadau bod swyddfa'r grŵp yn ein plaid wedi canfod bod GIG Cymru wedi gwario dros £700 miliwn ar hawliadau esgeulustod dros y 10 mlynedd diwethaf, a £100 miliwn o hwnnw wedi'i wario y llynedd yn unig. Mae hwnnw'n sgandal cenedlaethol ac rwy'n credu ei bod hi ond yn iawn ac yn briodol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch yr hyn y bydd yn ei wneud i leihau'r hawliadau esgeulustod hynny, oherwydd os ydym yn mynd i weld y gwelliannau hynny yn ein GIG, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar y rheng flaen yn hytrach na thalu pobl yn sgil hawliadau esgeulustod.
Thank you very much, James Evans. Obviously, it is in all our interests that good relations in terms of trade not only continue, but they obviously are going to be challenging as well in terms of the new President's policies and statements. But it is vital, and we do have not just the 40,000 mentioned earlier on by the First Minister, those American and business interests in Wales, but also those relationships across the United States, and I'm talking about the states as well, state by state—. There are really important relationships and we have our interests to not only protect but to progress as well. So, we anticipate that that will continue.
Yes, negligence claims are always regrettable in terms of adult social care, but we are proud of the delivery of our services in adult social care, but also very mindful, as you will know, of the work that's being undertaken and led by the Minister for children and adult social care in relation to our national care service. Now, it is good that we have also Baroness Louise Casey doing this work in Westminster, very much looking at this on a cross-party basis. And here in Wales there was a great deal of work, through the co-operation agreement, on developing that national care service stage by stage. But now, it is, I hope, a cross-party route that we take in terms of ensuring that we have the capacity and the excellence in adult social care that we know is so important to everybody, all those we serve in Wales.
Diolch yn fawr iawn, James Evans. Yn amlwg, mae er ein budd ni i gyd bod cysylltiadau da o ran masnach nid yn unig yn parhau, ond maen nhw'n amlwg yn mynd i fod yn heriol hefyd o ran polisïau a datganiadau newydd yr Arlywydd newydd. Ond mae'n hanfodol, ac nid dim ond y 40,000 y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach gan y Prif Weinidog, y buddiannau Americanaidd a busnes hynny yng Nghymru, ond hefyd y perthnasoedd hynny ar draws yr Unol Daleithiau, ac rwy'n siarad am y taleithiau hefyd, talaith fesul talaith—. Mae yna berthnasoedd pwysig iawn ac mae gennym ein buddiannau ni nid yn unig i'w hamddiffyn ond i'w datblygu hefyd. Felly, rydyn ni'n rhagweld y bydd hynny'n parhau.
Ydyn, mae hawliadau esgeulustod bob amser yn destun gofid o ran gofal cymdeithasol i oedolion, ond rydyn ni'n falch o gyflawni ein gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, ond hefyd yn ystyriol iawn, fel y gwyddoch chi, o'r gwaith sy'n cael ei wneud ac sy'n cael ei arwain gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion mewn perthynas â'n gwasanaeth gofal cenedlaethol. Nawr, mae'n dda bod gennym hefyd y Farwnes Louise Casey yn gwneud y gwaith hwn yn San Steffan, yn wir yn edrych ar hyn ar sail drawsbleidiol. Ac yma yng Nghymru roedd llawer iawn o waith, drwy'r cytundeb cydweithio, ar ddatblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol hwnnw fesul cam. Ond nawr, rwy'n gobeithio, ei fod yn llwybr trawsbleidiol yr ydym yn ei ddilyn o ran sicrhau bod gennym y capasiti a'r rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol i oedolion y gwyddom sydd mor bwysig i bawb, pob un yr ydym yn ei wasanaethu yng Nghymru.
Diolch i'r Trefnydd.
Thank you, Trefnydd.
Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar adfer natur yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Item 4 today is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on restoring nature in Wales. I call on the Cabinet Secretary, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Almost 75 years ago to the day, a Labour Government revolutionised people's access to nature by establishing the National Parks and Access to the Countryside Act 1949. For the first time, this gave people public rights of way, national trails and areas of outstanding natural beauty. The Act flipped centuries-old rules about land access on their head and gave everyone—everyone—a right to enjoy nature, no matter how much money they had in their pockets.
It is no coincidence, of course, that this was the same transformative Labour Government that created the NHS. It's the same socialist principles at work. It’s about fairness and about people having the freedom to access the essentials we all need to live a healthy and a happy life. And those same principles are what underpins the proud environmental record of successive Welsh Labour Governments here in the Senedd over the last 25 years, from creating the Wales coast path, to establishing the national forest for Wales. And those same principles still drive us today. And with one in six species now at risk of extinction in Wales, it’s never been more important to restore and to strengthen people’s connection to nature. Restoring nature means restoring the places we live in and enjoy. It provides green jobs. It supports local and rural economies, and it underpins the economy in a whole range of sectors, including, of course, food production and tourism.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bron i 75 mlynedd yn ôl i'r diwrnod, cafodd mynediad pobl at natur ei chwyldroi pan sefydlwyd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Am y tro cyntaf, rhoddodd hyn hawliau tramwy cyhoeddus i bobl, llwybrau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Roedd y Ddeddf yn troi rheolau canrifoedd oed ynghylch mynediad i dir ar eu pen gan roi hawl i bawb—pawb—i fwynhau natur, ni waeth faint o arian oedd ganddyn nhw yn eu pocedi.
Nid yw'n gyd-ddigwyddiad, wrth gwrs, mai hon oedd yr un Llywodraeth Lafur drawsnewidiol a greodd y GIG. Yr un egwyddorion sosialaidd ar waith. Mae'n ymwneud â thegwch ac am bobl yn cael y rhyddid i gael gafael ar yr hanfodion sydd eu hangen arnom i gyd i fyw bywyd iach a hapus. A'r un egwyddorion hynny yw'r hyn sy'n sail i hanes amgylcheddol balch Llywodraethau Llafur olynol Cymru yma yn y Senedd dros y 25 mlynedd diwethaf, o greu llwybr arfordir Cymru, i sefydlu coedwig genedlaethol Cymru. Ac mae'r un egwyddorion hynny yn dal i'n hysgogi ni heddiw. A chan fod un o bob chwe rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer a chryfhau cysylltiad pobl â natur. Mae adfer natur yn golygu adfer y lleoedd rydyn ni'n byw ynddyn nhw ac yn eu mwynhau. Mae'n darparu swyddi gwyrdd. Mae'n cefnogi economïau lleol a gwledig, ac mae'n sail i'r economi mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys, wrth gwrs, cynhyrchu bwyd a thwristiaeth.
Deputy Presiding Officer, the people of Wales spoke very clearly during the First Minister's listening exercise, and today I'm here to show how we're turning their words into action. In this Senedd term alone, we have invested over £150 million to restore nature and to improve access to nature on people’s doorsteps. We’ve delivered more than 4,000 green spaces, 790 community food growing sites, 670 community orchards and 80 therapeutic sensory gardens through our Local Places for Nature. And this includes, by the way, delivering more green spaces in less well-off communities in our towns and cities across Wales, where access to green spaces can sometimes be harder to come by. And we’ve transformed our municipal grasslands into homes for pollinators and wildlife, working with the local nature partnerships. By changing the way we mow in places like Singleton Park in Swansea, and the roadside verges of Denbighshire, we have helped make them more friendly for pollinators.
We’ve invested £54 million in our Nature Networks programme to improve our protected sites and connect people with nature. And, in practice, this means funding places like the bug farm in St Davids that I visited recently. It was brilliant to hear first-hand about the work they’re doing to connect 200 hectares of wildlife habitat and to open their nature recovery centre, providing a wonderful resource for local children, and for tourists as well, to enjoy. And many Members here will have had the pleasure of meeting Jinx, the biosecurity dog, who has helped protect Wales’s globally important but endangered seabird population on islands such as Ramsey in Pembrokeshire. And I’ve already mentioned the national forest, which now has over 100 sites, creating a network of well-managed woodlands the length and breadth of Wales. These sites provide spaces for nature to thrive, and for communities to enjoy.
Our woodland investment grant and the Coetiroedd Bach schemes have created and improved woodlands across Wales, with over £8 million awarded to 56 projects. So, for example, in Dee Park in Flintshire, our support helped to employ two part-time rangers to manage the site and to lead community classes and events. Funding for Llandegfedd in south Wales has supported significant path improvements to create a more accessible green space for the public to enjoy.
And, of course, I recognise how strongly people feel about the importance of improving water quality and restoring our rivers, and rightly so. And that’s why we’ve provided Natural Resources Wales with an extra £40 million of funding to do just that. I recently visited a remarkable project on the Nant Dowlais, where a stretch of the river has been rewiggled. Over time, we hope that new stream will form pools and create natural habitat. It’s a really great example of how we can take action to bring a whole range of different benefits to both water quality and biodiversity.
And because of our efforts, an area equivalent to hundreds of thousands of rugby pitches of habitat are now under restoration that weren’t previously. The Habitat Wales scheme supports farmers to maintain and enhance the habitat on their land. In 2024 alone, £16 million has been allocated, with 341,794 hectares under agreement. And we’ve also offered farmers contracts to support the creation and restoration of over 300 km of hedgerows.
The national peatland action programme has restored over 3,000 rugby pitches of peat restored, reaching our target a year ahead of time—1.6 million tonnes of carbon has been safeguarded through this; carbon emissions reduced by 8,000 tonnes per year. It’s the equivalent of 5,700 car emissions. And peatland restoration also supports natural flood management, as well as improving water quality.
But we're not only taking action on land. Through supporting the development of the national seagrass action plan, we will enable the recovery of 266 hectares of seagrass by 2030, from Pembrokeshire to Traeth Penial in Holyhead. And Wales is leading the way on the end-of-life fishing gear scheme, which has collected 12 tonnes of gear, reducing plastic pollution in our seas and preventing wildlife from becoming trapped and entangled.
We have achieved all of this, Dirprwy Lywydd, through working with partners and volunteers right across Wales. And we've achieved all of this in the face of years and years and years of squeezed budgets due to Tory economic chaos in Westminster. We've achieved all of this, and we'll continue to achieve more, because protecting and restoring nature, and helping more people to enjoy it, goes to the very heart of this Welsh Labour Government.
Now, of course, there is more we need to do. We are facing a climate and nature emergency that we all need to tackle head-on. That’s why I'm delighted to announce today that an additional 11 projects will be awarded nearly £2.7 million of Nature Networks funding, with further announcements due in March. I also intend to run a further round of the fund in 2025-26. And that’s not all. Our sustainable investment work will enable us to increase the scale and the pace of nature restoration across Wales, to help us meet our high ambitions. I will introduce landmark legislation for nature restoration targets and an environmental governance body. And the sustainable farming scheme will require and support farmers to manage at least 10 per cent of their farm as habitat, and support a whole range of other actions for nature.
Our investment, Dirprwy Lywydd, in nature restoration is delivering improvements that people across Wales want to see now: protecting iconic species, improving access for all communities, boosting water quality, supporting local economies, green jobs, sustainable growth. Restoring and connecting people with nature will also deliver future benefits, improving our resilience to climate change and strengthening our ability to manage the sea and land sustainably. The very best legacy we can leave for future generations is a recovering natural environment that can support them as it has supported us. I look forward to hearing Members' contributions, Dirprwy Lywydd.
Dirprwy Lywydd, siaradodd pobl Cymru yn glir iawn yn ystod ymarfer gwrando'r Prif Weinidog, a heddiw rydw i yma i ddangos sut rydyn ni'n troi eu geiriau'n weithredoedd. Yn nhymor y Senedd hon yn unig, rydyn ni wedi buddsoddi dros £150 miliwn i adfer natur ac i wella mynediad at natur ar stepen drws pobl. Rydyn ni wedi darparu mwy na 4,000 o fannau gwyrdd, 790 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol, 670 o berllannau cymunedol ac 80 o erddi synhwyraidd therapiwtig trwy ein Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. A gyda llaw, mae hyn yn cynnwys darparu mwy o fannau gwyrdd mewn cymunedau llai cefnog yn ein trefi a'n dinasoedd ledled Cymru, lle gall fod yn anoddach dod o hyd i fannau gwyrdd weithiau. Ac rydyn ni wedi trawsnewid ein glaswelltiroedd trefol yn gartrefi i beillwyr a bywyd gwyllt, gan weithio gyda'r partneriaethau natur lleol. Drwy newid y ffordd yr ydym yn torri gwair mewn lleoedd fel Parc Singleton yn Abertawe, ac ymylon ffyrdd sir Ddinbych, rydyn ni wedi helpu i'w gwneud yn fwy cyfeillgar i beillwyr.
Rydyn ni wedi buddsoddi £54 miliwn yn ein rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella ein safleoedd gwarchodedig a chysylltu pobl â natur. Ac, yn ymarferol, mae hyn yn golygu ariannu lleoedd fel y fferm trychfilod yn Nhyddewi yr ymwelais â hi yn ddiweddar. Roedd yn wych clywed yn uniongyrchol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gysylltu 200 hectar o gynefin bywyd gwyllt ac agor eu canolfan adfer natur, gan ddarparu adnodd gwych i blant lleol, ac i dwristiaid hefyd, ei fwynhau. A bydd llawer o Aelodau yma wedi cael y pleser o gwrdd â Jinx, y ci bioddiogelwch, sydd wedi helpu i ddiogelu poblogaeth adar môr sy'n bwysig yn fyd-eang ond sydd mewn perygl yng Nghymru ar ynysoedd fel Ynys Dewi yn sir Benfro. Ac rwyf eisoes wedi sôn am y goedwig genedlaethol, sydd bellach â dros 100 o safleoedd, gan greu rhwydwaith o goetiroedd a reolir yn dda ar hyd a lled Cymru. Mae'r safleoedd hyn yn darparu lleoedd i fyd natur ffynnu, ac i gymunedau eu mwynhau.
Mae ein grant buddsoddi mewn coetiroedd a chynlluniau Coetiroedd Bach wedi creu a gwella coetiroedd ledled Cymru, gyda dros £8 miliwn wedi'i ddyfarnu i 56 o brosiectau. Felly, er enghraifft, ym Mharc Dyfrdwy yn sir y Fflint, helpodd ein cefnogaeth i gyflogi dau barcmon rhan-amser i reoli'r safle ac i arwain dosbarthiadau a digwyddiadau cymunedol. Mae cyllid ar gyfer Llandegfedd yn y de wedi cefnogi gwelliannau sylweddol i lwybrau i greu man gwyrdd mwy hygyrch i'r cyhoedd ei fwynhau.
Ac, wrth gwrs, rwy'n cydnabod pa mor gryf mae pobl yn teimlo am bwysigrwydd gwella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd, ac yn briodol felly. A dyna pam rydyn ni wedi darparu £40 miliwn ychwanegol o gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect rhyfeddol ar Nant Dowlais, lle mae rhan o'r afon wedi ei hail-igam-ogamu, gobeithiwn y bydd y nant newydd honno yn ffurfio pyllau ac yn creu cynefin naturiol. Mae'n enghraifft wych o sut y gallwn weithredu i ddod ag ystod eang o fuddion gwahanol i ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.
Ac oherwydd ein hymdrechion, mae ardal sy'n cyfateb i gannoedd o filoedd o gaeau rygbi o gynefin bellach yn cael ei hadfer, rhywbeth nad oedd yn digwydd o'r blaen. Mae cynllun Cynefin Cymru yn cefnogi ffermwyr i gynnal a gwella'r cynefin ar eu tir. Yn 2024 yn unig, dyrannwyd £16 miliwn, gyda 341,794 hectar dan gytundeb. Ac rydyn ni hefyd wedi cynnig contractau i ffermwyr i gefnogi'r gwaith o greu ac adfer dros 300 km o wrychoedd.
Mae'r rhaglen weithredu mawndir genedlaethol wedi adfer dros 3,000 o gaeau rygbi o fawn a adferwyd, gan gyrraedd ein targed flwyddyn o flaen amser—mae 1.6 miliwn tunnell o garbon wedi'i ddiogelu drwy hyn; mae allyriadau carbon yn gostwng 8,000 tunnell y flwyddyn. Mae'n cyfateb i 5,700 o allyriadau car. Ac mae adfer mawndir hefyd yn cefnogi rheoli llifogydd naturiol, yn ogystal â gwella ansawdd dŵr.
Ond nid ar dir yn unig yr ydyn ni'n gweithredu. Drwy gefnogi datblygiad y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol, byddwn yn galluogi adfer 266 hectar o forwellt erbyn 2030, o sir Benfro i Draeth Penial yng Nghaergybi. Ac mae Cymru yn arwain y ffordd ar y cynllun offer pysgota diwedd oes, sydd wedi casglu 12 tunnell o offer, lleihau llygredd plastig yn ein moroedd ac atal bywyd gwyllt rhag cael ei ddal a mynd ynghlwm yn yr offer.
Rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd, Dirprwy Lywydd, drwy weithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr ledled Cymru. Ac rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd yn wyneb blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd o gyllidebau sydd dan bwysau oherwydd anhrefn economaidd Torïaidd yn San Steffan. Rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd, a byddwn yn parhau i gyflawni mwy, oherwydd bod amddiffyn ac adfer natur, a helpu mwy o bobl i'w fwynhau, wrth wraidd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Nawr, wrth gwrs, mae mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud. Rydyn ni'n wynebu argyfwng hinsawdd a natur y mae angen i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol. Dyna pam rwy'n falch iawn o gyhoeddi heddiw y bydd 11 prosiect ychwanegol yn derbyn bron i £2.7 miliwn o gyllid Rhwydweithiau Natur, gyda chyhoeddiadau pellach i fod ym mis Mawrth. Rwyf hefyd yn bwriadu cynnal rownd arall o'r gronfa yn 2025-26. Ac nid dyna'r cyfan. Bydd ein gwaith buddsoddi cynaliadwy yn ein galluogi i gynyddu maint a chyflymder adfer natur ledled Cymru, i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau mawr. Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth nodedig ar gyfer targedau adfer natur a chorff llywodraethu amgylcheddol. A bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn gofyn i ffermwyr, ac yn eu cefnogi, i reoli o leiaf 10 y cant o'u ffermydd fel cynefin, a chefnogi ystod eang o gamau gweithredu eraill ar gyfer natur.
Mae ein buddsoddiad, Dirprwy Lywydd, mewn adfer natur yn sicrhau gwelliannau y mae pobl ledled Cymru eisiau eu gweld nawr: diogelu rhywogaethau eiconig, gwella mynediad i bob cymuned, hybu ansawdd dŵr, cefnogi economïau lleol, swyddi gwyrdd, twf cynaliadwy. Bydd adfer a chysylltu pobl â natur hefyd yn sicrhau manteision yn y dyfodol, gan wella ein cydnerthedd yn wyneb newid hinsawdd a chryfhau ein gallu i reoli'r môr a'r tir yn gynaliadwy. Yr etifeddiaeth orau y gallwn ei gadael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw amgylchedd naturiol sy'n gwella a all eu cefnogi nhw fel y mae wedi ein cefnogi ni. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau, Dirprwy Lywydd.
Can I thank you, Cabinet Secretary, for your statement, and thank you for sharing your enthusiasm? I welcome some of the announcements, clearly, in your statement, including those 11 new projects. Indeed, listening to the statement, we would feel that everything is well. But we are not in a good place, are we? One in six species at risk of extinction, and wildlife in Wales has declined by 20 per cent since 1994. Welsh Government are failing to take this matter seriously enough. Now, can I commend the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee for their work on their report, which was published yesterday, that shines a light on the worrying trend of decline in our country's wildlife? In 2021, the Welsh Government declared a nature emergency, being one of the first Parliaments in the world to declare such an emergency. However, it's clear from the evidence we have that this has not led to any sustainable action to improve our situation from Welsh Government.
Prioritising the environment means far more than statements and plans. It requires action, and it requires appropriate resources and total commitment, and it would seem we haven't seen perhaps quite enough of that to date. There has to be meaningful engagement with stakeholders to understand the problems and the preventions, and then objectives with deliverable and measurable targets have to be put in place. It's only then can we hope to deal with the scale of the crisis that we are now facing. The few targets that the Welsh Government had set out, we read, have been moved from 2025 to 2029. I think we need to know why this is the case, Cabinet Secretary. This reflects a lack of urgency, or it would seem to reflect a lack of urgency. It would seem little has been achieved from the targets worked on since 2022, and we shouldn't be in a position of lagging behind England and Scotland once again. It's a sad state of affairs that we hear too often. The committee’s report exposes the scale of the failure of successive Welsh Governments. Failures at a legislative and strategic level have left us with outdated law and policy, leading to very little impact. Now, NRW, the body that is meant to be looking out for the environment, continues to be under-resourced, and I heard what was said in the statement about the additional money, yet we keep asking it to do more and more. I personally think there needs to be a fundamental rethink of what NRW should be responsible for. It then needs resourcing properly to do its work if we’re really serious about making progress on our rivers. I’m not sure if the £40 million extra will actually achieve that.
At the end of the day, Dirprwy Lywydd, the Government can’t keep asking more of people like farmers and rural communities to contribute more and more to tackle environmental issues when the Government itself is not pulling its own weight. Cabinet Secretary, we have a chance to reverse this disastrous trend and make meaningful reforms, delivering on targets and driving forward with a strategy that will actually make a difference. Cabinet Secretary, when will we see a measurable strategy that will be resourced appropriately? It’s not too late, but if we do not act soon it certainly will be.
A gaf fi ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, a diolch i chi am rannu eich brwdfrydedd? Rwy'n croesawu rhai o'r cyhoeddiadau, yn amlwg, yn eich datganiad, gan gynnwys yr 11 prosiect newydd hynny. Yn wir, wrth wrando ar y datganiad, byddem yn teimlo bod popeth yn iawn. Ond dydyn ni ddim mewn lle da, nac ydyn ni? Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu, ac mae bywyd gwyllt yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant ers 1994. Mae Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd y mater hwn yn ddigon o ddifrif. Nawr, a gaf i ganmol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu gwaith ar eu hadroddiad, a gyhoeddwyd ddoe, sy'n taflu goleuni ar y duedd bryderus o ddirywiad ym mywyd gwyllt ein gwlad? Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng natur, sef un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng o'r fath. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r dystiolaeth sydd gennym nad yw hyn wedi arwain at unrhyw gamau cynaliadwy i wella ein sefyllfa gan Lywodraeth Cymru.
Mae blaenoriaethu'r amgylchedd yn golygu llawer mwy na datganiadau a chynlluniau. Mae'n gofyn am weithredu, ac mae'n gofyn am adnoddau priodol ac ymrwymiad llwyr, a byddai'n ymddangos nad ydym wedi gweld digon o hynny hyd yn hyn. Mae'n rhaid ymgysylltu'n ystyrlon â rhanddeiliaid i ddeall y problemau a'r camau atal, ac yna mae'n rhaid rhoi amcanion gyda thargedau mesuradwy y gellir eu cyflawni ar waith. Dim ond wedyn y gallwn ni obeithio ymdrin â maint yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu nawr. Mae'r ychydig dargedau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, darllenom, wedi cael eu symud o 2025 i 2029. Rwy'n credu bod angen i ni wybod pam, Ysgrifennydd Cabinet. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg brys, neu ymddengys ei fod yn adlewyrchu diffyg brys. Mae'n ymddangos mai ychydig iawn sydd wedi'i gyflawni o ran y targedau y bu gweithio arnynt ers 2022, ac ni ddylem fod mewn sefyllfa o oedi y tu ôl i Loegr a'r Alban unwaith eto. Mae'n sefyllfa drist yr ydym yn clywed amdani yn rhy aml. Mae adroddiad y pwyllgor yn datgelu maint methiant llywodraethau olynol Cymru. Mae methiannau ar lefel ddeddfwriaethol a strategol wedi ein gadael â chyfraith a pholisi hen ffasiwn, gan arwain at ychydig iawn o effaith. Nawr, mae CNC, y corff sydd i fod yn diogelu'r amgylchedd, yn parhau i fod heb ddigon o adnoddau, a chlywais yr hyn a ddywedwyd yn y datganiad am yr arian ychwanegol, ac eto rydyn ni'n parhau i ofyn iddo wneud mwy a mwy. Yn bersonol, rwy'n credu bod angen ailfeddwl yn sylfaenol am beth y dylai CNC fod yn gyfrifol. Yna mae angen adnoddau priodol arno er mwyn iddo wneud ei waith os ydym o ddifrif ynglŷn â gwneud cynnydd ar ein hafonydd. Nid wyf yn siŵr a fydd y £40 miliwn ychwanegol yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.
Ar ddiwedd y dydd, Dirprwy Lywydd, ni all y Llywodraeth barhau i ofyn i fwy o bobl fel ffermwyr a chymunedau gwledig gyfrannu mwy a mwy i fynd i'r afael â materion amgylcheddol pan nad yw'r Llywodraeth ei hun yn tynnu ei phwysau ei hun. Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym gyfle i wyrdroi'r duedd drychinebus hon a gwneud diwygiadau ystyrlon, cyflawni targedau a gyrru ymlaen gyda strategaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Ysgrifennydd Cabinet, pryd y byddwn yn gweld strategaeth fesuradwy a fydd yn cael adnoddau priodol? Nid yw'n rhy hwyr, ond os na fyddwn yn gweithredu'n fuan fe fydd yn sicr.
Peter, look, first of all, thank you very much, because I think, broadly speaking, you’ve supported the additional announcement that we have today for the Nature Networks funding of an additional £2.7 million for 11 projects. I think you’ve supported as well the extra £40 million that we’ve put into NRW to tackle water quality. Then you challenge us to do more. I would simply say, reflecting on the points I made in my opening contribution, all the stuff that we’ve done over the last decade and more has been done in the face of austerity, in the face of cuts not only to NRW but to the Environment Agency in England as well. Across the piste, every Government within the UK has faced stretch. Now, we’re in a position where we have the opportunity to lever in additional funding into Wales to the tune of an additional £1.5 billion. Out of that we can make investment within nature and within NRW and within others, and we can go further, and I welcome the support for that.
But can I also ask that Members, when they speak for nature, also stand with us when we bring forward the policies that deliver for nature—those policies, including on water quality, those policies, including on soil quality, those policies right across the piste? We cannot say one thing here and then vote against it because we’re under pressure outside from stakeholders. We have to be consistent. That does mean, actually, working with developers, with farmers, with industrialists, with everybody, but it means us being consistent.
We are putting our money where our mouth is on this. The seagrass funding of £100,000 is really a very good example of where a contribution of our money enables then the levering in of additional volunteers and funding to take that even further, because we know—. The peat restoration piece, where, again, we’re actually working with partners to go further.
So, it shouldn’t all fall on the taxpayers of Wales, Dirprwy Lywydd. We’ve got a part to play, and Welsh Government does, so do public sector, so do private partners and many others, but so, I would say, Peter—and genuinely, Peter, I’m really looking forward to working with you in your new role as well there—we have to stick steadfastly by the policies that will also deliver this, even when sometimes we get pushback that says, ‘Oh, that’s a bit too tricky for this group of stakeholders, or that one.’ We’re all in this together. We restore nature by all being willing to lift the boat together.
Peter, edrychwch, yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn, oherwydd rwy'n credu, yn fras, eich bod wedi cefnogi'r cyhoeddiad ychwanegol sydd gennym heddiw ar gyfer cyllid Rhwydweithiau Natur o £2.7 miliwn ychwanegol ar gyfer 11 prosiect. Rwy'n credu eich bod wedi cefnogi hefyd y £40 miliwn ychwanegol yr ydym wedi'i roi i CNC i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr. Yna rydych chi'n ein herio ni i wneud mwy. Byddwn i'n dweud, gan fyfyrio ar y pwyntiau a wnes i yn fy nghyfraniad agoriadol, fod yr holl bethau rydyn ni wedi'u gwneud dros y degawd diwethaf a mwy wedi'u gwneud yn wyneb cyni, yn wyneb toriadau nid yn unig i CNC ond i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd. Drwyddi draw, mae pob Llywodraeth yn y DU wedi gorfod ymestyn. Nawr, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae gennym gyfle i ddenu cyllid ychwanegol i Gymru, £1.5 biliwn ychwanegol. Allan o hynny gallwn fuddsoddi o fewn natur ac o fewn CNC ac o fewn eraill, a gallwn fynd ymhellach, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth i hynny.
Ond a gaf i ofyn hefyd i'r Aelodau, pan fyddant yn siarad dros natur, i sefyll gyda ni hefyd pan fyddwn yn cyflwyno'r polisïau sy'n cyflawni dros natur—y polisïau hynny, gan gynnwys ar ansawdd dŵr, y polisïau hynny, gan gynnwys ar ansawdd pridd, y polisïau hynny drwyddi draw? Ni allwn ddweud un peth yma ac yna pleidleisio yn ei erbyn oherwydd ein bod o dan bwysau gan rhanddeiliaid y tu allan. Mae'n rhaid i ni fod yn gyson. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, gweithio gyda datblygwyr, gyda ffermwyr, gyda diwydianwyr, gyda phawb, ond mae'n golygu ein bod yn gyson.
Rydyn ni'n rhoi ein harian ar ein gair ar hyn. Mae'r cyllid morwellt o £100,000 yn enghraifft dda iawn o ble mae cyfraniad o'n harian ni wedyn yn galluogi'r gwaith o ysgogi gwirfoddolwyr ychwanegol a chyllid i fynd â hynny hyd yn oed ymhellach, oherwydd ein bod ni'n gwybod—. Y darn adfer mawn, lle, unwaith eto, rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i fynd ymhellach.
Felly, ni ddylai'r cyfan ddisgyn ar ysgwyddau trethdalwyr Cymru, Dirprwy Lywydd. Mae gennym ni ran i'w chwarae, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, felly hefyd y sector cyhoeddus, felly hefyd partneriaid preifat a llawer o rai eraill, ond felly, byddwn i'n dweud, Peter—ac yn wir, Peter, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich rôl newydd chi hefyd—mae'n rhaid i ni lynu'n gadarn wrth y polisïau a fydd hefyd yn cyflawni hyn, hyd yn oed pan fyddwn weithiau'n cael adborth negyddol yn dweud, 'O, mae hynny ychydig yn rhy anodd i'r grŵp hwn o randdeiliaid, neu hwnna.' Rydyn ni i gyd yn hwn gyda'n gilydd. Rydyn ni'n adfer natur trwy sicrhau bod pawb yn barod i godi'r cwch gyda'n gilydd.
Rwy’n croesawu’r cyfle hwn. Diolch i’r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad hwn. Mae yna lot o bethau da ar y gweill, yn sicr. Rwy’n croesawu nifer o’r pethau roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad. Mae’n rhaid i ni wrth gwrs ystyried cyd-destun yr adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi ddoe gan y pwyllgor newid hinsawdd. Mae hwnnw’n mynd i grisialu'r ffordd rŷn ni’n gweld nifer o’r pethau hyn. Mae’r pwyntiau hyn yn cael eu codi er mwyn i ni sicrhau bod y gwaith rili da, rili pwysig sydd ar y gweill yn cael ei adeiladu arno fe. Mae yna gymaint o bobl sydd eisiau gweld mwy yn digwydd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio am gwymp aruthrol ym mywyd gwyllt Cymru. Rydych chi wedi sôn yn barod am y ffaith bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl ar hyn o bryd. Mae poblogaethau bywyd gwyllt wedi lleihau 20 y cant dros y 30 mlynedd diwethaf. A phan dŷn ni’n sôn am fioamrywiaeth, wrth gwrs, mae hwnna’n sylfaen i’n bywydau ni. Dyna pam mae e mor bwysig.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fel dŷn ni flynyddoedd ar ei hôl hi pan fo’n dod at ddogfennau polisi allweddol Llywodraeth Cymru ar adfer natur. Nid yw’r cynllun adfer natur, fel dŷn ni wedi clywed, wedi ei adolygu, fel un enghraifft. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych ar hyn? A beth fydd y cyfiawnhad fyddwch chi'n ei roi i'r sector ac i bobl sydd yn poeni am hyn wrth ddiweddaru cynlluniau sylfaenol? Ydych chi'n poeni fod hyn efallai yn tanseilio hygrededd y Llywodraeth ar y llwyfan rhyngwladol, achos dŷn ni wedi gwneud ymrwymiadau i wrthdroi colled natur, sydd mor bwysig? Ydy hwnna efallai yn tanseilio hynny?
Dŷn ni wedi clywed yn barod am y diffyg adnoddau a staff sydd wedi’u neilltuo ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n croesawu'r hyn rydych chi wedi ei ddweud am arian i Gyfoeth Naturiol Cymru. Beth fyddwch chi'n ei wneud i wella cyfathrebu'r gwaith yna mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i'r cyhoedd ac i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o le i fynd a pha bethau maen nhw'n mynd i allu blaenoriaethu? Achos o hyd, rwy'n poeni bod pobl yn feirniadol iawn o'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Efallai fod hynny wedi ychwanegu at ymdeimlad o iselder ysbryd ymysg nifer o'r gweithlu yna. Maen nhw'n gwneud gwaith mor bwysig. Beth sy'n gallu cael ei wneud i gyfathrebu'r heriau, ond hefyd i sicrhau bod y cyfathrebu yna'n gwella oddi wrthyn nhw, plis?
Mae yna nifer fawr iawn o bartneriaid eraill, tu hwnt i beth mae'r Llywodraeth yn gallu ei wneud, sydd yn gwneud gwaith eithriadol o bwysig ar adfer natur. Pa waith ydych chi yn ei ragweld, plis, neu sy'n cael ei wneud—sydd ar y gweill yn barod—i ddenu arian o du hwnt i beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ac i gydlynu'r gwaith eithriadol o bwysig mae nifer o'r partneriaid yna—? Roeddech chi wedi sôn am y sector preifat hefyd yn hyn. Sut gallwn ni gydlynu hynny, achos, eto, mae nifer o brosiectau cyffrous iawn ar y gweill gyda hynny?
Nawr, i droi at y Bil natur sydd i ddod. Eto, mae hyn wedi cael ei godi yn barod, a'r ffaith bod y pwyllgor newid hinsawdd wedi sôn bod y targedau bioamrywiaeth ddim yn debygol o fod yn eu lle tan 2029. A wnewch chi ymrwymo i wneud popeth dŷch chi'n gallu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu'r targedau hyn, fel eu bod yn cyd-fynd â’r amserlen cytundebau rhyngwladol? Mae yna bryder mawr os na fydd y fframweithiau angenrheidiol yn eu lle tan y flwyddyn cyn 2030, byddai hwnna'n gallu arwain at ddirywiad mawr. Wrth gwrs, gadewch i ni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru yn y Senedd gan ymrwymo i atal colled bioamrywiaeth erbyn 2030, ac wedi datgan argyfwng natur. Dŷn ni gyd wedi cytuno ar hynny, ond mae'n rhaid i'r gweithredu sicrhau ein bod ni'n cyflawni hynny. Felly, faint o gynnydd ydych chi yn—? Beth ydych chi yn meddwl ydy'r her fwyaf o ran cyflawni hynny? A beth sydd angen digwydd er mwyn sicrhau, o ran y targedau yna, ein bod ni ddim yn gorfod aros cyhyd? Achos mae'n rhaid i ni ofyn i'n hunain pa fath o Gymru fyddwn ni'n ei gadael i genedlaethau'r dyfodol, i'n plant ni—tir dŷn ni eisiau ei adael iddyn nhw sy'n llawn bioamrywiaeth, lle gall plant glywed natur ac edmygu rhyfeddod ecosystemau bywiog. Mae hynny'n rhywbeth gall dal ddigwydd, ond mae ond yn mynd i ddigwydd os dŷn ni yn gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol.
Felly, i grynhoi, achos rwy'n gweld ein bod ni mas o amser nawr, er mwyn sicrhau targedau yn gyflymach, sicrhau bod gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael ei gyfathrebu'n well a rhoi cefnogaeth iddyn nhw, ac er mwyn gwarantu bod yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn COP15 yn y Senedd hon yn cael eu cyflawni. Mae'n flin gen i ein bod ni wedi mynd 20 eiliad dros amser.
I welcome this opportunity. I thank the Deputy First Minister for the statement. There are lots of good things that are in the offing, certainly. I do welcome many of the things that the Deputy First Minister mentioned in the statement. Of course, we must consider the context in terms of the very critical report that was published yesterday by the climate change committee. That's going to crystallise how we see many of these things. These points are raised so that we can ensure that the really good, important work that is in the offing is built upon. There are so many people who want to see more happening. The report warns about a massive decline in wildlife in Wales. You've mentioned that one in six species is currently endangered. Wildlife populations have reduced by 20 per cent over the last 30 years. And when we talk about biodiversity, of course, that is the foundation of our lives, and that's why it's so important.
The report does draw attention to the fact that we are years behind when it comes to the key policy documents of the Welsh Government on restoring nature. The nature recovery plan, as we have heard, has not been reviewed, for example. So, how will the Welsh Government be able to look at this? And what will be the justification that you will give to the sector and to people who are concerned about this on updating basic plans? Are you concerned that this might undermine the credibility of the Government on the international stage, because we’ve made commitments to reverse nature loss, which is so important? Is this perhaps undermining that?
We’ve heard already about the lack of resources and staff dedicated to Natural Resources Wales. I welcome what you’ve said about funding for Natural Resources Wales. What will you be doing to improve communication of the work that Natural Resources Wales is doing to the public, and to ensure that people are more aware of where to go and what things they will be able to prioritise? Because I’m concerned that people are very critical of the work that they are doing. Perhaps that’s added to a feeling of people being dispirited among that workforce. They do such important work. What can be done to communicate the challenges, but also to ensure that that communication from them does improve, please?
There are a number of other partners, beyond what the Government can do, who are doing very important work on restoring nature. What work do you foresee, please, or what’s already being done to attract funding from beyond what the Government is doing and to co-ordinate that very important work that a number of those partners—? You’ve talked about the private sector in this context. How can we co-ordinate that, because, again, there are a number of very exciting projects in the offing with that?
Now, we turn to the forthcoming nature Bill. Again, this has been raised already, and that the climate change committee has talked about the fact that the biodiversity targets are not likely to be in place until 2029. Will you commit to doing everything that you can to accelerate the work on developing those targets, so that they align with the international agreement timetable? There is great concern that if the necessary frameworks are not in place until a year before 2030, that could lead to a great deterioration. And, of course, let’s not forget that the Welsh Government voted in favour of a Plaid Cymru motion in the Senedd and committed to reversing biodiversity loss by 2030, and declared a nature emergency. We’re all agreed on that, but the action has to ensure that we to deliver on that. So, how much progress do you—? What do you think is the greatest challenge in terms of delivering that? And what needs to happen for us to ensure, in terms of those targets, that we don’t have to wait so long? Because we have to ask ourselves what kind of Wales we will leave to the future generations and to our children—we want to leave them a land full of biodiversity, where children can hear nature and admire the wonders of lively ecosystems. That’s still something that can happen, but it will only happen if we make difficult decisions but necessary decisions.
So, to close, because I see that I'm out of time, to ensure those targets more quickly, to ensure that Natural Resources Wales’s work is communicated better and to support them, and to guarantee that those commitments that have been made in COP15 and in this Senedd are delivered. And I am sorry that I’ve run 20 seconds over time.
Delyth, diolch yn fawr iawn. Roedd llawer o bwyntiau pwysig yna.
Thank you, Delyth. There were many important points there.
Just on the report, we will obviously respond in full and in due course to the report, but we really welcome the report and the challenge that's in it, because we agree with the challenge. I would simply say, looking to your left, as you're sitting there, to the Chair, on whose committee I used to serve as a member, the challenge is right, but I think the challenge is for all of us, not in Welsh Government, but you rightly touch on how we actually lever in additional funding. Well, that is a challenge for all of those big potential investor communities who want to invest in high-integrity, really strong ethically principled investment into nature restoration and recovery, but to do it on our terms, so that it meets what we want to do in Wales, in our local communities, and so that it fits within our objectives within the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, the sustainable land management principles and all of that.
I think that we can devise schemes that can do that. There are some good innovations out there already that are doing that, including the work that we touched on with the peat restoration project, where Dŵr Cymru money was levered in there. Some of the work that we're doing in the Teifi project already does that, and that's an interesting piece of work in nature restoration as well as river quality, doing the whole piece, working on a catchment basis. But I do think that there is more that we can do, and I'm interested in this aspect of blended finance, how it works with us here in Wales. I think that this is not a discussion that we were having so easily, perhaps, five or 10 years ago because of having fingers burned with some of the lessons learned with carbon offsetting and so on. But I think that if we can frame it in our terms and then lever in money, then we could really add to the quantum of investment. And investment is important. It's not the only thing; we need the policy structure right as well.
Thank you, by the way, for bigging up the good work of NRW in this space. They do sometimes come in for a drubbing. They become the Aunt Sally for a lot of people, but actually the expertise that resides within NRW and the work on the ground that they're doing—that rewiggling project I talked about with the river is absolutely fascinating. We've gone through a century or more of straightening and canalising rivers and basically letting the river run straight through, flooding somebody else further downstream, ripping out the biodiversity from that. Now, we've learned to go back, with a modern engineering way, into the old ways of making that river work naturally and there are multiple benefits. But that's NRW, working with, by the way—talking about green jobs—highly paid engineers in local companies going in there to actually do the re-wiggling, but with NRW involved. And they do so much more in species and habitats across Wales and in water quality. We are pleased that we're putting more money into water quality, but we're also putting more money into the enforcement end as well, because we know that the public are very interested in that.
Just finally, on the aspect—and my apologies, Peter, because you raised this as well and I didn't mean to skip over it. When I appeared in front of the committee, I could see the faces of the committee members when I said about the timetable for bringing forward the targets. I'm very alive to that. We're working, both my officials, but also with key stakeholders, to see how we can pragmatically expedite that, bring it forward, but whilst also getting the targets right. And there is a critical issue here, because if the Bill comes forward and we progress it through this place, then taking forward those detailed targets that will flow from the Bill, if that's the point that we get to, does require a fair degree of working out. It really does. And I think, as we go through committee, if there's anything that I can do in terms of technical briefings and so on, to explain the challenges of doing that and explain why it cannot be done overnight, then we'll do it.
But the other thing I'd say is, yes, look, we hold fast to the commitments that we have on biodiversity—halting loss, but also restoring—but it is challenging. We've been talking about this for a couple of decades. If we get this right and then we can really ramp it up and go for it, then that'll be the biggest service that we can do to future generations. Let's give them the framework with this new Bill, let's get the targets in place as soon as we possibly can and then drive ahead.
And that was the other aspect you mentioned, about the plan as well, the nature restoration plan. Look, we know that that's an obligation. For us, at the moment, it's very important to get on with the actions that have flowed from the plan in its previous iterations and more, but we will actually have to bring that forward. But the absence of a plan doesn't mean an absence of action. We're getting on. I described in my opening statement many of the things that we are doing.
O ran yr adroddiad, byddwn yn amlwg yn ymateb yn llawn maes o law i'r adroddiad, ond rydyn ni'n croesawu'r adroddiad a'r her sydd ynddo, oherwydd ein bod yn cytuno â'r her. Byddwn i'n dweud, wrth edrych i'r chwith ohonoch chi, fel yr ydych chi'n eistedd yna, at y Cadeirydd, y bûm i'n arfer gwasanaethu fel aelod ar ei bwyllgor, bod yr her yn iawn, ond rwy'n credu ei bod yn her i bob un ohonom, nid yn Llywodraeth Cymru, ond rydych chi'n gywir yn crybwyll sut rydyn ni'n ysgogi cyllid ychwanegol mewn gwirionedd. Wel, mae hynny'n her i'r holl gymunedau buddsoddwyr mawr posibl hynny sydd eisiau buddsoddi mewn buddsoddiad llawn uniondeb ag egwyddorion moesol cryf iawn mewn adfer natur, ond i'w wneud ar ein telerau ni, fel ei fod yn bodloni'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yng Nghymru, yn ein cymunedau lleol, ac fel ei fod yn cyd-fynd â'n hamcanion o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, egwyddorion rheoli tir cynaliadwy a hynny i gyd.
Rwy'n credu y gallwn ddyfeisio cynlluniau a all wneud hynny. Mae rhai datblygiadau arloesol da allan yna eisoes sy'n gwneud hynny, gan gynnwys y gwaith y gwnaethom ei grybwyll sef y prosiect adfer mawn, lle ysgogwyd Dŵr Cymru i roi arian tuag ato. Mae rhywfaint o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ym mhrosiect Teifi eisoes yn gwneud hynny, ac mae hynny'n ddarn diddorol o waith adfer natur yn ogystal ag ansawdd afonydd, gwneud y darn cyfan, gan weithio ar sail dalgylch. Ond rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud, ac mae gen i ddiddordeb yn yr agwedd hon ar gyllid cyfunol, sut mae'n gweithio gyda ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu nad yw hon yn drafodaeth yr oeddem yn ei chael mor hawdd, efallai, bum neu 10 mlynedd yn ôl oherwydd llosgwyd bysedd gyda rhai o'r gwersi a ddysgwyd gyda gwrthbwyso carbon ac ati. Ond rwy'n credu, os gallwn ei fframio gyda'n telerau ni ac yna ysgogi arian i mewn, yna gallem ychwanegu at y cwantwm o fuddsoddiad. Ac mae buddsoddi yn bwysig. Nid dyna'r unig beth; mae arnom angen cael strwythur y polisi yn iawn hefyd.
Diolch i chi, gyda llaw, am roi clod i waith da CNC yn y maes hwn. Weithiau maen nhw'n cael eu cystwyo. Mae llawer o bobl yn eu rhoi nhw dan y lach, ond mewn gwirionedd mae'r arbenigedd sydd o fewn CNC a'r gwaith ar lawr gwlad maen nhw'n ei wneud—mae'r prosiect ail-igam-ogamu hwnnw y soniais i amdano gyda'r afon yn hollol gyfareddol. Rydyn ni wedi mynd trwy ganrif neu fwy o sythu a throi afonydd yn gamlesi ac yn y bôn gadael i'r afon redeg yn syth drwodd, gan achosi llifogydd i rywun arall ymhellach i lawr yr afon, rhwygo'r fioamrywiaeth yn gyfan gwbl. Nawr, rydyn ni wedi dysgu mynd yn ôl, gyda dull peirianyddol modern, i'r hen ffyrdd o wneud i'r afon honno weithio'n naturiol ac mae nifer o fanteision. Ond dyna CNC, yn gweithio gyda, a gyda llaw—wrth sôn am swyddi gwyrdd—peirianwyr â chyflog uchel mewn cwmnïau lleol yn mynd i mewn yno i wneud y gwaith ail-igam-ogamu, ond gyda CNC yn cymryd rhan. Ac maen nhw'n gwneud cymaint mwy o ran rhywogaethau a chynefinoedd ledled Cymru ac o ran ansawdd dŵr. Rydyn ni'n falch ein bod yn rhoi mwy o arian tuag at ansawdd dŵr, ond rydyn ni hefyd yn rhoi mwy o arian ym maes gorfodi hefyd, oherwydd gwyddom fod gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn hynny.
Yn olaf, ar yr agwedd—ac ymddiheuriadau i, Peter, oherwydd i chi godi hyn hefyd a doeddwn i ddim yn bwriadu ei anwybyddu. Pan ymddangosais i o flaen y pwyllgor, roeddwn i'n gallu gweld wynebau aelodau'r pwyllgor pan soniais i am yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r targedau. Rwy'n effro iawn i hynny. Rydyn ni'n gweithio, fy swyddogion, ond hefyd gyda rhanddeiliaid allweddol, i weld sut y gallwn hwyluso hynny'n bragmataidd, ei gyflwyno gan gael y targedau'n iawn hefyd. Ac mae yna fater hollbwysig yma, oherwydd os caiff y Bil ei gyflwyno a'n bod yn ei yrru drwy'r lle hwn, yna bydd bwrw ymlaen â'r targedau manwl hynny a fydd yn deillio o'r Bil, os dyna'r pwynt yr ydym yn ei gyrraedd, yn gofyn am lefel sylweddol o weithio allan. Bydd yn wir. Ac rwy'n credu, wrth i ni fynd drwy'r pwyllgor, os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud o ran briffio technegol ac ati, esbonio'r heriau o wneud hynny ac egluro pam na ellir ei wneud dros nos, yna fe wnawn ni hynny.
Ond y peth arall fyddwn i'n ei ddweud yw, ydym, edrychwch, rydyn ni'n glynu'n dynn wrth yr ymrwymiadau sydd gennym ni ar fioamrywiaeth—atal colli, ond hefyd adfer—ond mae'n heriol. Rydyn ni wedi bod yn sôn am hyn ers sawl blwyddyn. Os cawn ni hyn yn iawn, yna gallwn ei gynyddu a mynd amdani, yna hwn fydd y gwasanaeth mwyaf y gallwn ei wneud i genedlaethau'r dyfodol. Gadewch i ni roi'r fframwaith iddynt gyda'r Bil newydd hwn, gadewch i ni gael y targedau ar waith cyn gynted ag y gallwn ac yna symud ymlaen.
A dyna'r agwedd arall y sonioch chi amdani, am y cynllun hefyd, y cynllun adfer natur. Edrychwch, rydyn ni'n gwybod bod hynny'n orfodol. I ni, ar hyn o bryd, mae'n bwysig iawn bwrw ymlaen â'r camau sydd wedi deillio o'r cynllun yn ei iteriadau blaenorol a mwy, ond bydd yn rhaid i ni gyflwyno hynny mewn gwirionedd. Ond nid yw absenoldeb cynllun yn golygu diffyg gweithredu. Rydyn ni'n symud ymlaen. Disgrifiais yn fy natganiad agoriadol lawer o'r pethau yr ydym yn eu gwneud.
Could I just declare that I've been working on a project with Welsh Government called 'It's for Them', regarding managing verges and amenity grass for nature, because we've lost 97 per cent of our wildflower meadows over the last 50 years?
I'd just like to start by saying that connecting people to nature not only helps physical and mental health and well-being, it also helps people to understand about the importance of nature and biodiversity as well, connecting them, then, and hopefully leading them into jobs as well. I know that with the Local Places for Nature funding, we've developed, is it, 4,000 sites, amazingly, with orchards, pollinator sites, allotments, therapeutic gardens, and with 20,000 volunteers, which is amazing, connecting to nature and learning about nature. The Local Places for Nature funding has also helped to sustain biodiversity officers in local authorities, which otherwise would have been cut, and they've helped with these volunteers. So, I'd like to ask you, Cabinet Secretary: many sectors of the economy, including green jobs, are needed, so what assessment do you have of the potential for green jobs, not only in supporting nature, but for growing the economy as well through nature?
A gaf i ddatgan fy mod i wedi bod yn gweithio ar brosiect gyda Llywodraeth Cymru o'r enw 'Iddyn Nhw', o ran rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder ar gyfer natur, oherwydd ein bod wedi colli 97 y cant o'n dolydd blodau gwyllt dros y 50 mlynedd diwethaf?
Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod cysylltu pobl â natur nid yn unig yn helpu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, mae hefyd yn helpu pobl i ddeall pwysigrwydd natur a bioamrywiaeth hefyd, gan eu cysylltu, felly, a gobeithio eu harwain i swyddi hefyd. Rwy'n gwybod, gyda'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yr ydym wedi'i ddatblygu, 4,000 o safleoedd, yn rhyfeddol, gyda pherllannau, safleoedd peillwyr, rhandiroedd, gerddi therapiwtig, a gyda 20,000 o wirfoddolwyr, sy'n anhygoel, yn cysylltu â natur ac yn dysgu am natur. Mae'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur hefyd wedi helpu i gynnal swyddogion bioamrywiaeth mewn awdurdodau lleol, a fyddai wedi cael eu torri fel arall, ac maen nhw wedi helpu gyda'r gwirfoddolwyr hyn. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: mae angen sawl sector o'r economi, gan gynnwys swyddi gwyrdd, felly pa asesiad sydd gennych o'r potensial ar gyfer swyddi gwyrdd, nid yn unig wrth gefnogi natur, ond ar gyfer tyfu'r economi hefyd drwy natur?
I think the potential is huge and it is growing, not only in those aspects such as Local Places for Nature, the local nature networks fund and all of the work that flows from that, because all of that—as well as the incredible contribution by volunteers—is driven by a small army of people on the ground who've got real knowledge, either on ecology or on volunteer management, project management and so on—they're incredible people. But also, as we bring forward the sustainable farming scheme, as we bring forward the timber strategy and as we drive forward the national forest, all of that creates opportunities for many young people coming out of our further education colleges and higher education colleges, but also for on-the-job continual learning and improvement as well. So, the potential here is huge.
We often get very, very excited, understandably, and I know that the Dirprwy Lywydd will, about the potential with, for example, the Celtic seas and those jobs in those new technologies of floating wind, for example, that you can create in the harbours in servicing those rigs and so on. They are really exciting, but equally exciting is the potential within that green space of nature restoration. Who are going to be the ones who advise on the hedgerow creation? Who are going to be the ones who advise on the ponds and scrapes? Who are going to be the ones to talk about the way you manage ditches, not only for flow of water, but to restore nature within them and so on? All of these are very exciting, and we know that many—. Not all of our pupils are going to go on to be politicians, thank goodness, because it's competitive enough already, or, necessarily, to be nurses or cardiac surgeons, or this, that or the other. Some of them will, but some of them will want to work in the outdoors in the environmental sphere, and we need to bring forward those skills and training opportunities for them as well, alongside, as you say, the thousands upon thousands of volunteers that drive this for us as well.
Rwy'n credu bod y potensial yn enfawr ac mae'n tyfu, nid yn unig yn yr agweddau hynny fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, y gronfa rhwydweithiau natur leol a'r holl waith sy'n llifo o hynny, oherwydd mae hyn i gyd—yn ogystal â'r cyfraniad anhygoel gan wirfoddolwyr—yn cael ei ysgogi gan fyddin fach o bobl ar lawr gwlad sydd â gwybodaeth go iawn, naill ai ar ecoleg neu ar reoli gwirfoddolwyr, rheoli prosiectau ac ati—maen nhw'n bobl anhygoel. Ond hefyd, wrth i ni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, wrth i ni gyflwyno'r strategaeth ar gyfer pren ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r goedwig genedlaethol, mae hynny i gyd yn creu cyfleoedd i lawer o bobl ifanc sy'n dod allan o'n colegau addysg bellach a'n colegau addysg uwch, ond hefyd ar gyfer dysgu a gwella parhaus yn y gwaith. Felly, mae'r potensial yma'n enfawr.
Rydyn ni'n aml yn teimlo'n gyffrous iawn, iawn, yn ddealladwy, ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Lywydd yn teimlo felly ynghylch, er enghraifft, y potensial gyda'r moroedd Celtaidd a'r swyddi hynny yn y technolegau newydd hynny o wynt arnofiol, er enghraifft, y gallwch eu creu yn yr harbyrau wrth wasanaethu'r llwyfannau hynny ac ati. Maen nhw'n gyffrous iawn, ond yr un mor gyffrous yw'r potensial o fewn y maes gwyrdd hwnnw o adfer natur. Pwy fydd y rhai sy'n cynghori ar greu gwrychoedd? Pwy fydd y rhai sy'n cynghori ar y pyllau a'r pyllau dŵr tymhorol? Pwy fydd y rhai a fydd yn siarad am y ffordd rydych chi'n rheoli ffosydd, nid yn unig ar gyfer llif dŵr, ond i adfer natur ynddynt ac ati? Mae'r rhain i gyd yn gyffrous iawn, ac rydyn ni'n gwybod y bydd llawer—. Nid yw pob un o'n disgyblion yn mynd i fynd ymlaen i fod yn wleidyddion, diolch byth, oherwydd mae'n ddigon cystadleuol yn barod, neu, o reidrwydd, i fod yn nyrsys neu'n llawfeddygon cardiaidd, neu hwn a'r llall. Bydd rhai ohonyn nhw, ond bydd rhai ohonyn nhw eisiau gweithio yn yr awyr agored yn y maes amgylcheddol, ac mae angen i ni gyflwyno'r sgiliau a'r cyfleoedd hyfforddi hynny iddyn nhw hefyd, ochr yn ochr â'r miloedd ar filoedd o wirfoddolwyr sy'n sbarduno hyn i ni hefyd.
Despite various policies, soundbites and statements from here, it's fair to say that the strategies and legislation delays have caused insufficient actions, and these are now hindering Wales's biodiversity restoration commitments. The Environment (Wales) Act 2016, once hailed as groundbreaking, has failed to drive meaningful change. Weak drafting and really poor implementation have left the sustainable management of natural resources objective misaligned with biodiversity goals. Similarly, the outdated natural resources policy has seen non-reviews and non-collection of important data, and this just renders it all ineffective.
One in six species is now threatened. Professor Steve Ormerod of Cardiff University highlighted in our Climate Change, Environment and Infrastructure Committee that the current legislation we have has failed to make a difference in stemming biodiversity loss. Colleagues, we do have a nature crisis, and despite a call by this Government—
Er gwaethaf polisïau amrywiol, sylwadau bachog a datganiadau o'r fan hon, mae'n deg dweud bod y strategaethau a'r oedi yn y ddeddfwriaeth wedi achosi camau gweithredu annigonol, ac mae'r rhain bellach yn rhwystro ymrwymiadau adfer bioamrywiaeth Cymru. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oedd unwaith yn cael ei galw'n arloesol, wedi methu â sbarduno newid ystyrlon. Mae drafftio gwan a gweithredu gwael iawn wedi golygu nad yw'r amcan rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi'i alinio â nodau bioamrywiaeth. Yn yr un modd, mae'r polisi adnoddau naturiol hen ffasiwn wedi gweld methiant o ran adolygu a chasglu data pwysig, ac mae hyn yn gwneud y cyfan yn aneffeithiol.
Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl erbyn hyn. Amlygodd yr Athro Steve Ormerod o Brifysgol Caerdydd yn ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod y ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym wedi methu â gwneud gwahaniaeth wrth leihau colli bioamrywiaeth. Cyd-Aelodau, mae gennym argyfwng natur, ac er gwaethaf galwad gan y Llywodraeth hon—
You need to ask a question now, please, Janet.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, Janet.
—to declare a nature emergency, we continue to see our species in decline. What steps are you really taking, Cabinet Secretary, to ensure—[Interruption.]—in terms of statistics and in terms of numbers, that real action is taken to stop the decline of our species and the reduction of them? It's not good enough, and we need change.
—i ddatgan argyfwng natur, rydyn ni'n parhau i weld dirywiad yn ein rhywogaethau. Pa gamau ydych chi wir yn eu cymryd, Ysgrifennydd Cabinet, i sicrhau—[Torri ar draws.]—o ran ystadegau ac o ran niferoedd, y cymerir y camau real hynny i atal dirywiad a lleihad ein rhywogaethau? Nid yw'n ddigon da ac mae angen newid arnom.
Thank you, Janet, and I'm assuming you were here for my opening statement, when I actually listed the funding, the projects, the volunteers, the expertise, the additional investment, or you may have missed that, in which case I will send you a copy of the speech again. But I would say to you, Janet: join with us on this mission and stand by us when we bring forward the policies that are needed to make this happen. Don't turn your back when it's difficult. Stand by us. Stand by us on the investment, after 14 years of squeezed austerity, which hit the environmental sector more than anybody else. We saw it in the Environment Agency in England, and across the piece, thanks to that former Conservative Government. At least now we have the opportunity to bring forward an additional £1.5 billion into the Welsh budget. I really hope you'll support it, because a lot of the additional funding that I've announced recently is predicated upon what we've just said. So, I really hope you don't vote against nature. Vote for it in funding, and vote for the policies as well.
There's a tendency here from the Conservative benches, Dirprwy Lywydd, to say that we've done nothing. Well, on the downs down by Ogmore Vale, where I was walking last weekend with a group of volunteers, and the First Minister joined us as well, in the mist, freezing cold, there was a 20, 30-year long project to save the high brown fritillary butterfly. It's one of only three sites in the United Kingdom. It's the only one where that high brown fritillary is now in recovery, and it's there because of the work of the volunteers, committed over decades, and it's because of sustained investment as well, and expertise from NRW, and all those people who want to see a species saved, and, by doing it, that special downland habitat also protected as well. We can do this. We absolutely can do this. And I will not be a Jeremiah. I will not be somebody who says, 'It is all gloom, and it is all despair', because in that way, the young people of this country also turn off and say, 'Well, we can't do anything anyway.' If you listen to the Conservative benches, we're absolutely doomed.
That one in six species is not simply a threat and a challenge to Wales alone. It is the same across the whole of these islands; it is the same globally as well. We all need to up our game, and rather than point the finger of blame, say, 'What's the role of Government? What's the role of others within this space? What's the role of us as elected representatives, to stand by our principles, and not only will the funding, but will the policies to make this happen.' This will happen, and it'll provide challenges, Janet, in terms of development, agriculture, land use, community planning, what we do in urban spaces as well. When these happen, based on what you've just said, I want you to stand by us and stick with your principles that you've just espoused, and don't vote down nature.
Diolch, Janet, ac rwy'n tybio yr oeddech yma ar gyfer fy natganiad agoriadol, pan wnes i restru'r cyllid, y prosiectau, y gwirfoddolwyr, yr arbenigedd, y buddsoddiad ychwanegol, neu efallai eich bod wedi colli hynny, ac os felly fe anfonaf gopi o'r araith atoch eto. Ond byddwn yn dweud wrthych, Janet: ymunwch â ni ar y genhadaeth hon a sefyll wrth ein hochr pan fyddwn yn cyflwyno'r polisïau sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd. Peidiwch â throi eich cefn pan fydd hi'n anodd. Safwch gyda ni. Safwch wrth ein hochr ar y buddsoddiad, ar ôl 14 mlynedd o gyni gwasgedig, a darodd y sector amgylcheddol yn fwy nag unrhyw un arall. Gwelsom y peth yn Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, a drwyddi draw, diolch i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol honno. O leiaf nawr mae gennym gyfle i gyflwyno £1.5 biliwn ychwanegol i gyllideb Cymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch yn ei chefnogi, oherwydd mae llawer o'r cyllid ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn seiliedig ar yr hyn yr ydym newydd ei ddweud. Felly, rwy'n gobeithio na fyddwch yn pleidleisio yn erbyn natur. Pleidleisiwch drosti mewn cyllid, a phleidleisio dros y polisïau hefyd.
Mae tuedd yma gan feinciau'r Ceidwadwyr, Dirprwy Lywydd, i ddweud nad ydym wedi gwneud dim. Wel, ar y twyni i lawr ger Cwm Ogwr, lle roeddwn i'n cerdded y penwythnos diwethaf gyda grŵp o wirfoddolwyr, ac ymunodd y Prif Weinidog â ni hefyd, yn y niwl, yr oerni ofnadwy, roedd prosiect 20, 30 mlynedd o hyd i achub y glöyn byw y fritheg frown. Mae'n un o ddim ond tri safle yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r unig un lle mae'r fritheg frown bellach yn cael ei hadfer, ac mae yno oherwydd gwaith y gwirfoddolwyr, wedi ymrwymo dros ddegawdau, ac mae hynny oherwydd buddsoddiad parhaus hefyd, ac arbenigedd gan CNC, a'r holl bobl hynny sydd eisiau gweld rhywogaeth yn cael ei hachub, a thrwy wneud hynny, roedd cynefin arbennig yr iseldir hwnnw hefyd yn cael ei warchod. Gallwn wneud hyn. Gallwn yn sicr wneud hyn. A dydw i ddim fel Jeremeia. Ni fyddaf yn rhywun sy'n dweud, 'Mae'r cyfan yn ddigalon, ac mae'r cyfan yn anobeithiol', oherwydd fel yna bydd pobl ifanc y wlad hon hefyd yn troi i ffwrdd ac yn dweud, 'Wel, ni allwn wneud unrhyw beth, beth bynnag.' Os gwrandewch ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae hi ar ben arnom ni i gyd.
Nid bygythiad a her i Gymru yn unig yw'r un o bob chwe rhywogaeth. Mae'r un peth yn wir ar draws yr ynysoedd hyn i gyd; mae'r un peth yn wir yn fyd-eang hefyd. Mae angen i ni wneud pethau'n well, ac yn hytrach na beio rhywun arall, dywedwch, 'Beth yw rôl y Llywodraeth? Beth yw rôl pobl eraill yn y maes hwn? 'Beth yw ein rôl ni fel cynrychiolwyr etholedig, i sefyll yn unol â'n hegwyddorion, ac nid yn unig y bydd y cyllid, ond hefyd bydd y polisïau yn gwneud i hyn ddigwydd.' Bydd hyn yn digwydd, a bydd yn rhoi heriau, Janet, o ran datblygu, amaethyddiaeth, defnydd tir, cynllunio cymunedol, yr hyn a wnawn mewn mannau trefol hefyd. Pan fydd y rhain yn digwydd, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych newydd ei ddweud, rwyf eisiau i chi sefyll wrth ein hochr a glynu wrth eich egwyddorion yr ydych newydd eu harddel a pheidio â phleidleisio yn erbyn natur.
I ask Members to be succinct and to keep to their time limits. Can I also ask Cabinet Secretaries to be succinct in their responses?
Gofynnaf i'r Aelodau fod yn gryno a chadw at eu terfynau amser. A gaf i hefyd ofyn i'r Ysgrifenyddion Cabinet fod yn gryno yn eu hymatebion?
I welcome the Government's statement. We are affected by two external factors. Climate change, warmer temperatures and changing weather patterns are disrupting the usual balance of nature, posing risks to all forms of life. It makes some areas unsuitable for native species by being either too wet or too warm. We've got pollution and eutrophication, where high concentrates of nutrients, such as nitrogen, stimulate blooms of algae in rivers, such as the Wye, which, in turn, can cause fish kills and loss of plants and animals. It is well known that toxic pollutants in the air, or deposits on soil or surface water, can impact wildlife in a number of ways. Animals experience health problems if they are exposed to sufficient concentrations of air toxics over time. Studies show that air toxics are contributing to defects, reproductive failure and disease in many animals. To restore nature, we have to deal with climate change and pollution. What is the Welsh Government doing to reduce pollution, including river pollution? We also need top-end predators, or animals such as rats will continue to increase their numbers. What proposals have the Welsh Government got to increase the number of high-end predators, such as owls?
Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth. Effeithir arnom gan ddau ffactor allanol. Mae newid hinsawdd, tymereddau cynhesach a phatrymau tywydd sy'n newid yn amharu ar gydbwysedd arferol natur, gan beri risgiau i bob math o fywyd. Mae'n gwneud rhai ardaloedd yn anaddas ar gyfer rhywogaethau brodorol trwy fod naill ai'n rhy wlyb neu'n rhy gynnes. Mae gennym lygredd ac ewtroffigedd, lle mae crynodiadau uchel o faethynnau, fel nitrogen, yn ysgogi gordyfiant algâu mewn afonydd, fel Afon Gwy, a all, yn ei dro, ladd pysgod ac achosi colli planhigion ac anifeiliaid. Mae'n hysbys iawn bod llygryddion gwenwynig yn yr awyr, neu ddyddodion ar bridd neu ddŵr wyneb, yn gallu effeithio ar fywyd gwyllt mewn sawl ffordd. Mae anifeiliaid yn profi problemau iechyd os ydynt yn agored i grynodiadau digonol o wenwynau aer dros amser. Mae astudiaethau'n dangos bod gwenwynau aer yn cyfrannu at ddiffygion, methiant atgenhedlu a chlefyd mewn llawer o anifeiliaid. Er mwyn adfer natur, mae'n rhaid i ni ymdrin â newid hinsawdd a llygredd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau llygredd, gan gynnwys llygredd afonydd? Mae angen ysglyfaethwyr pen uchaf arnom hefyd, neu bydd anifeiliaid fel llygod mawr yn parhau i gynyddu mewn niferoedd. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ysglyfaethwyr pen uchel, fel tylluanod?
Thank you very much, Mike. On pollution—to keep it very short—there's a range of things we can do on this. It's the pesticides we use, and the work that we're doing to reduce the pesticides, not only in terms of agriculture, but also in terms of the way we use them with our municipal authorities as well. There's some good work going on in that. We need to make the good practice common practice and standard. It's what we do in water quality—and I mentioned in my statement the additional £40 million we're putting into NRW—but it's also the work that we do with people like Afonydd Cymru and others, working with partners, with the Tywi river trust and others, to clean up our rivers, remove barriers, make them more friendly for different species returning to those areas.
And just very briefly, you mentioned predators as well; we do recognise the importance of top-end predators and their role within biodiversity and ecosystem functions, so we welcome the work and the research being done across Wales on things like species reintroductions in a managed way, recognising the importance of following the best international guidelines, and also of course engagement with stakeholders, engagement locally, and undertaking local evidence gathering as well. There's a role for these reintroductions in a managed way, in an evidence-led way, but also based on good engagement with the communities affected as well.
Diolch yn fawr iawn, Mike. O ran llygredd—i'w gadw'n fyr iawn—mae yna amrywiaeth o bethau y gallwn ni eu gwneud ar hyn. Dyna'r plaladdwyr rydyn ni'n eu defnyddio, a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i leihau'r plaladdwyr, nid yn unig o ran amaethyddiaeth, ond hefyd o ran y ffordd rydyn ni'n eu defnyddio gyda'n hawdurdodau trefol hefyd. Mae gwaith da yn digwydd yn y maes yna. Mae angen i ni wneud yr arfer da yn arfer gyffredin ac yn safonol. Dyma'r hyn rydyn ni'n ei wneud o ran ansawdd dŵr—a soniais yn fy natganiad am y £40 miliwn ychwanegol rydyn ni'n ei roi i CNC—ond dyma'r gwaith rydyn ni'n ei wneud hefyd gyda phobl fel Afonydd Cymru ac eraill, gan weithio gyda phartneriaid, gydag ymddiriedolaeth afon Tywi ac eraill, i lanhau ein hafonydd, cael gwared ar rwystrau, eu gwneud yn fwy cyfeillgar i wahanol rywogaethau sy'n dychwelyd i'r ardaloedd hynny.
A dim ond yn fyr iawn, fe wnaethoch chi sôn am ysglyfaethwyr hefyd; rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd ysglyfaethwyr pen uchaf a'u rôl o fewn swyddogaethau bioamrywiaeth ac ecosystem, felly rydyn ni'n croesawu'r gwaith a'r ymchwil sy'n cael ei wneud ledled Cymru ar bethau fel ailgyflwyno rhywogaethau mewn ffordd a reolir, gan gydnabod pwysigrwydd dilyn y canllawiau rhyngwladol gorau, a hefyd wrth gwrs ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgysylltu'n lleol, a chynnal y gwaith o gasglu tystiolaeth leol hefyd. Mae rôl i'r ailgyflwyno hwn mewn ffordd a reolir, mewn ffordd sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth, ond hefyd yn seiliedig ar ymgysylltiad da â'r cymunedau yr effeithir arnynt hefyd.
Thank you for all the wonderful work you described, going across the whole of Wales. I particularly want to thank you for sticking to your guns on ensuring that anybody entering the sustainable farming scheme will have to have 10 per cent of their farm for habitat restoration. That's incredibly important. I look forward to the legislation, which will enable us to have robust and stretching targets, because this is one that we absolutely have to take forward collectively, otherwise future generations simply won't have any nature.
Last week I visited the Howardian nature reserve, which is sandwiched between a housing estate, a much-loved allotment site and a major four-lane highway. It was previously a rubbish dump, and it's now home to over 500 species of flora and fauna, which just shows what can be done with any space. Given the extent of the nature crisis caused by the war on weeds and insects over 60 years, how can we use every pocket handkerchief of land for nurturing nature, galvanising people to use their own garden or public spaces to grow food and other plants that are going to nurture nature?
Diolch am yr holl waith gwych a ddisgrifiwyd gennych, sy'n digwydd lledled Cymru gyfan. Hoffwn ddiolch yn arbennig i chi am lynu wrth eich safbwynt o ran sicrhau y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy sicrhau bod 10 y cant o'u fferm ar gael ar gyfer adfer cynefinoedd. Mae hynny'n hynod o bwysig. Edrychaf ymlaen at y ddeddfwriaeth, a fydd yn ein galluogi i fod â thargedau cadarn ac ymestynnol, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddatblygu gyda'n gilydd, fel arall ni fydd gan genedlaethau'r dyfodol unrhyw natur.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais â gwarchodfa natur Howardian, sydd wedi'i rhyngosod rhwng ystad dai, safle rhandir poblogaidd a phriffordd pedair lôn fawr. Roedd yn safle gwaredu sbwriel yn flaenorol, ac mae bellach yn gartref i dros 500 o rywogaethau o fflora a ffawna, sydd ond yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag unrhyw le. O ystyried maint yr argyfwng natur a achoswyd gan y rhyfel ar chwyn a phryfed dros 60 mlynedd, sut allwn ni ddefnyddio pob darn bach o dir i feithrin natur, gan gymell pobl i ddefnyddio eu gerddi eu hunain neu fannau cyhoeddus i dyfu bwyd a phlanhigion eraill fydd yn meithrin natur?
Thank you so much for that question. And by the way, agreeing on the 10 per cent habitat as part of the SFS was not a difficult ask. The farmers really wanted to come with us on this, and this is great, so I’m really excited by that and the collaborative approach that says we all need to do this and contribute to it.
The Local Places for Nature funding that goes into things such as the Howardian nature reserve and others—I know you champion this and you visit a lot of these sites—really has those multiple benefits, because it is restoring green spaces in those pockets of urban environments that previously you'd have ignored or left as it was, in some sort of state of dereliction, now enriching them for biodiversity, but also those wider community benefits, including, in the midst of cost-of-living issues and so on, enabling people to feed themselves as well, either through planting of orchards or through growing food and produce or foraging products as well. It's really brilliant.
We will continue working with communities by putting the funding in place so that they can access those to do that detailed stuff in little bits of their own local community where they can see improvements can be made. You'd think, ‘Well, why on earth would these people step up to do it? Who would go accessing this in order to do it?’ But actually, I think every Member of the Senedd here now is seeing not just one or two of these, but scores of these within their own constituencies. People want to make these improvements. They viscerally get it, why this is important. So yes, Jenny, we will keep on providing support for these initiatives and encouraging communities to be part of this great mission that we're on. Once again, we're all in this together.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. A gyda llaw, nid oedd gofyn i rywun gytuno ar gynefin o 10 y cant fel rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dasg anodd. Roedd y ffermwyr wir eisiau dod gyda ni ar hyn, ac mae hyn yn wych, felly rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch hynny a'r dull cydweithredol sy'n dweud bod angen i ni i gyd wneud hyn a chyfrannu ato.
Mae gan y cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy'n mynd i bethau fel gwarchodfa natur Howardian ac eraill—rwy'n gwybod eich bod yn hyrwyddo hyn ac rydych chi'n ymweld â llawer o'r safleoedd hyn—mewn gwirionedd yn cael y manteision lluosog hynny, oherwydd ei fod yn adfer mannau gwyrdd yn y pocedi hynny o amgylcheddau trefol a fyddech gynt wedi eu hanwybyddu neu eu gadael fel yr oedden nhw, mewn rhyw fath o gyflwr adfeiliog, sydd bellach yn cael eu cyfoethogi ar gyfer bioamrywiaeth, ond hefyd y buddion cymunedol ehangach hynny, gan gynnwys, yng nghanol problemau costau byw ac ati, gan alluogi pobl i fwydo eu hunain hefyd, naill ai trwy blannu perllannau neu drwy dyfu bwyd a chynnyrch neu fforio hefyd. Mae'n wirioneddol wych.
Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau drwy roi'r cyllid ar waith fel y gallant gael mynediad at y rheini i wneud y pethau manwl hynny mewn rhannau bychain o'u cymuned leol eu hunain lle gallant weld gwelliannau yn cael eu gwneud. Byddech chi'n meddwl, 'Wel, pam ar y ddaear y byddai'r bobl hyn yn barod i wneud hyn? Pwy fyddai'n ceisio sicrhau mynediad at hyn er mwyn gwneud hynny?' Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod pob Aelod o'r Senedd yma bellach yn gweld nid yn unig un neu ddau o'r rhain, ond ugeiniau o'r rhain o fewn eu hetholaethau eu hunain. Mae pobl eisiau gwneud y gwelliannau hyn. Maen nhw'n sylweddoli o'r galon pam mae hyn yn bwysig. Felly, byddwn, Jenny, byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r mentrau hyn ac annog cymunedau i fod yn rhan o'r genhadaeth wych hon yr ydym arni. Unwaith eto, rydyn ni i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd.
Thank you very much, Cabinet Secretary, for your statement, for the announcements that you've made today, and for your enthusiasm for this vital area of work. I'm particularly supportive of the Welsh Government's commitment to planting trees and the creation of a national forest. In Cardiff, the Coed Caerdydd project intends to create an urban forest. Just yesterday, volunteers started to plant the 50 rare species of Gabalfa apple tree in Gabalfa park and Maitland park in my constituency. It's 100 years since this species of apple tree was seen in Cardiff, so it's absolutely fantastic that it's being reintroduced. I'd also like to emphasise the importance of getting people out and about into nature, especially in urban built-up areas like Jenny has referred to. Global Gardens is a community growing project, again in the Gabalfa area, a built-up area of Cardiff, and I've been so impressed with the work that they're doing with an organic kitchen garden, celebrating crops from around the world, they run a forest school, sensory therapeutic sessions, community-based learning and specialist sessions—
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, am y cyhoeddiadau rydych chi wedi'u gwneud heddiw, ac am eich brwdfrydedd ynghylch y maes gwaith hanfodol hwn. Rwy'n arbennig o gefnogol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu coed a chreu coedwig genedlaethol. Yng Nghaerdydd, bwriad prosiect Coed Caerdydd yw creu coedwig drefol. Dim ond ddoe, dechreuodd gwirfoddolwyr blannu'r 50 o rywogaeth brin o goeden afalau Gabalfa ym mharc Gabalfa a pharc Maitland yn fy etholaeth i. Mae'n 100 mlynedd ers i'r rhywogaeth hon o goeden afalau gael ei gweld yng Nghaerdydd, felly mae'n hollol wych ei bod yn cael ei hailgyflwyno. Hoffwn bwysleisio hefyd bwysigrwydd cael pobl allan i fyd natur, yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig trefol fel y mae Jenny wedi cyfeirio atynt. Mae Gerddi Byd-eang yn brosiect tyfu cymunedol, eto yn ardal Gabalfa, ardal adeiledig yng Nghaerdydd, ac mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud gyda gardd gegin organig wedi creu cymaint o argraff arnaf, gan ddathlu cnydau o bob cwr o'r byd, maen nhw'n rhedeg ysgol goedwig, sesiynau synhwyraidd therapiwtig, dysgu yn y gymuned a sesiynau arbenigol—
You need to ask your question now.
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr.
—with asylum seekers and refugees. Would the Cabinet Secretary agree that it's these types of initiatives that are absolutely crucial? We should be celebrating them here in the Senedd today and seeking for them to be replicated all over Wales.
—gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno mai'r mathau hyn o fentrau sy'n gwbl hanfodol? Dylem fod yn eu dathlu yma yn y Senedd heddiw ac yn ceisio eu hailadrodd ledled Cymru.
Absolutely, Julie, and thanks for championing this in your own area in these many initiatives we're now seeing. This is the exciting part of this, because it is not somebody coming in from outside to say, 'This is what you do'. It's the community themselves grabbing this and saying, 'We can see an opportunity here'. I'm so looking forward to literally tasting the fruits of the Gabalfa apple tree, because this, again, going into these heritage lines that we'd otherwise lose, is absolutely phenomenal.
The community gardens approach, as part of the Global Gardens project, is quite incredible, because we're looking at tackling overgrown fly-tipped areas that were previously somewhat derelict, new hedgerow creations, new meadows, protection of species—bladder campion, sorrel, bird's-foot trefoil, which I've got in my garden as well, by the way, just out of interest—new apple trees, large beds of native pollinator plants being planted, and all of this with community right at the heart of it, people and nature together.
But on top of this, Dirprwy Lywydd, we've got things like Coetiroedd Bach. I visited recently a project in Monmouthshire on this, and saw young children doing a deeply biodiverse planting scheme, way beyond what you'd see occur naturally, in a small area of land where a landowner had given them the access to it and had created the paths with our funding as well. And it was just such a great experiment in biodiversity. So, in all of these things, our funding can go a long way. What it releases is the potential of people then to get really involved and bring much more to it.
Yn hollol, Julie, a diolch am hyrwyddo hyn yn eich maes eich hun yn y nifer fawr o fentrau hyn rydym bellach yn eu gweld. Dyma'r rhan gyffrous o hyn, oherwydd nid yw'n ymwneud â rhywun yn dod i mewn o'r tu allan i ddweud, 'Dyma beth rydych chi'n ei wneud'. Y gymuned eu hunain sy'n cydio yn hyn ac yn dweud, 'Gallwn weld cyfle yma'. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at flasu ffrwythau coeden afalau Gabalfa yn llythrennol, oherwydd mae hyn, unwaith eto, wrth fynd i'r llinellau treftadaeth hyn y byddem fel arall yn eu colli, yn hollol anhygoel.
Mae'r dull gerddi cymunedol, fel rhan o'r prosiect Gerddi Byd-eang, yn anhygoel, oherwydd rydym yn bwriadu mynd i'r afael ag ardaloedd sydd wedi tyfu'n wyllt ac yn dioddef tipio anghyfreithlon a oedd gynt wedi mynd yn anialwch, creadigaethau gwrychoedd newydd, dolydd newydd, amddiffyn rhywogaethau - gludlys codrwth, suran y cŵn, troed yr iâr, sydd yn fy ngardd innau hefyd, gyda llaw, er diddordeb—coed afalau newydd, gwelyau mawr o blanhigion peillio brodorol yn cael eu plannu, ac mae hyn i gyd gyda chymuned wrth ei wraidd, pobl a natur gyda'i gilydd.
Ond ar ben hyn, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni bethau fel Coetiroedd Bach. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect yn sir Fynwy ar hyn, a gwelais blant ifanc yn gwneud cynllun plannu bioamrywiol iawn, ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddech chi'n ei weld yn digwydd yn naturiol, mewn darn bach o dir lle roedd tirfeddiannwr wedi rhoi mynediad iddo ac wedi creu'r llwybrau gyda'n cyllido ni hefyd. Ac roedd yn arbrawf mor wych mewn bioamrywiaeth. Felly, ym mhob un o'r pethau hyn, gall ein cyllido fynd yn bell. Yr hyn y mae'n ei ryddhau yw potensial pobl wedyn i gymryd rhan go iawn a dod â llawer mwy iddo.
Cabinet Secretary, it was good to accompany you on your recent visit to the Gwent levels, which I'm sure you will agree is a very good example of how land has been developed for nature and people. We have the shrill carder bee, the water vole, hopefully the curlew—a whole host of biodiversity coming back to that area of land. We have the Living Levels partnership driving community involvement, and the decision not to proceed with the M4 relief road providing the potential of land set aside for that project now being used for nature and access for communities. And, of course, there's the RSPB wetlands reserve. It's just a unique and fantastic area and community support and buy-in has developed so markedly over recent years. I'm sure you would agree with me, Cabinet Secretary, that this is a very important example of how we can take forward policy for nature and people here in Wales.
Ysgrifennydd Cabinet, roedd yn dda mynd gyda chi ar eich ymweliad diweddar â gwastadeddau Gwent, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hyn yn enghraifft dda iawn o sut mae tir wedi'i ddatblygu ar gyfer natur a phobl. Mae gennym ni'r gardwenynen feinlais, llygoden bengron y dŵr, y gylfinir gobeithio—llu o fioamrywiaeth yn dod yn ôl i'r ardal honno o dir. Mae gennym y bartneriaeth Lefelau Byw sy'n ysgogi cyfranogiad cymunedol, a'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 gan ddarparu'r potensial o dir yn cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect hwnnw sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer natur a mynediad i gymunedau. Ac, wrth gwrs, mae gwarchodfa gwlyptiroedd yr RSPB. Mae'n ardal unigryw a gwych ac mae cefnogaeth gymunedol wedi datblygu mor sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, fod hon yn enghraifft bwysig iawn o sut y gallwn fwrw ymlaen â pholisi ar gyfer natur a phobl yma yng Nghymru.
John, I entirely agree with you. It was a delightful visit, and I can honestly say it is the first time—. Is it today or is it tomorrow? Is it the twenty-second today? It's tomorrow. I'm 62 tomorrow, and that was the first time I had ever seen a starling murmuration happening. I've seen it on television; I'd never been standing in a field along the levels there seeing that happening, and it was quite magical. But in addition to that, just meeting there with some of the experts on the ground, but also seeing the number of local people who were coming there that evening as well, who were doing a session there to learn about it and then coming out to see, and then would be the volunteers that would do work around there as well.
This is the note of hope and optimism that we can give. It is absolutely right that we need to do more, far more, together, and we've got a role to play in it, but what we can actually say is that, with the work that's been done there, the work that's been done on the Ogmore downs with the high brown fritillary and others, we can save species. We can turn this round and we can save habitats as well. They go together as one piece and that's exactly what's going on in the Gwent levels. So, thank you and everybody who came out with me on that day. It was genuinely inspiring and quite a moment after 62 years to see that murmuration going on as well, because of the habitat that is being preserved.
John, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Roedd yn ymweliad hyfryd, a gallaf ddweud yn onest mai dyma'r tro cyntaf—. Ai heddiw neu yfory ydyw? Ai'r ail ar hugain yw hi heddiw? Yfory. Rwy'n 62 yfory, a dyna'r tro cyntaf i mi weld murmur y drudwy yn digwydd. Rydw i wedi ei weld ar y teledu; doeddwn i erioed wedi sefyll mewn cae yn y gwastadeddau a gweld hynny'n digwydd, ac roedd yn eithaf hudolus. Ond yn ogystal â hynny, cyfarfod yno gyda rhai o'r arbenigwyr ar lawr gwlad, ond hefyd gweld nifer y bobl leol oedd yn dod yno y noson honno hefyd, a oedd yn cynnal sesiwn yno i ddysgu amdano ac yna dod allan i wylio, ac yna byddai gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith o amgylch hynny yno hefyd.
Dyma'r gobaith a'r optimistiaeth y gallwn ei roi. Mae'n hollol gywir bod angen i ni wneud mwy, llawer mwy, gyda'n gilydd, ac mae gennym rôl i'w chwarae ynddo, ond yr hyn y gallwn ei ddweud mewn gwirionedd yw, gyda'r gwaith sydd wedi'i wneud yno, y gwaith sydd wedi'i wneud ar dwyni Ogwr gyda'r fritheg frown ac eraill, y gallwn achub rhywogaethau. Gallwn newid hyn er gwell a gallwn achub cynefinoedd hefyd. Maen nhw'n mynd gyda'i gilydd fel un darn a dyna'n union sy'n digwydd yng ngwastadeddau Gwent. Felly, diolch i chi a phawb a ddaeth allan gyda mi y diwrnod hwnnw. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn foment arbennig ar ôl 62 mlynedd cael gweld y murmur hwnnw'n digwydd hefyd, oherwydd y cynefin sy'n cael ei ddiogelu.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Finally, Joyce Watson.
Diolch. There are some wonderful things happening, not least in some of the schools that are also funded, and if we're going to do anything positive going forward, we'll be relying on the next generation. So, Ysgol y Bedol, which is in my area in Carmarthenshire, was the very first community school in Wales. They have a wonderful programme of growing, tending to and cooking the produce. The children are so engaged, so enthusiastic. They have a bug farm there and they have a bee hive that's coming along. So, that is a real example of investment and enthusiasm by all the staff within that school, and the gardener who is teaching them, really engaging the next generation to preserve nature, going forward.
Diolch. Mae rhai pethau gwych yn digwydd, yn enwedig mewn rhai o'r ysgolion sy'n cael eu hariannu hefyd, ac os ydym yn mynd i wneud unrhyw beth cadarnhaol wrth symud ymlaen, byddwn yn dibynnu ar y genhedlaeth nesaf. Felly, Ysgol y Bedol, sydd yn fy ardal i yn sir Gaerfyrddin, oedd yr ysgol gymunedol gyntaf un yng Nghymru. Mae ganddyn nhw raglen wych o dyfu, gofalu a choginio'r cynnyrch. Mae'r plant mor frwdfrydig, mor frwdfrydig. Mae ganddyn nhw fferm trychfilod yno ac mae ganddyn nhw gwch gwenyn sy'n datblygu. Felly, mae hynny'n enghraifft wirioneddol o fuddsoddiad a brwdfrydedd gan yr holl staff yn yr ysgol honno, a'r garddwr sy'n eu dysgu, gan ymgysylltu'n wirioneddol â'r genhedlaeth nesaf i warchod natur, wrth symud ymlaen.
Joyce, thank you so much, and my congratulations to those at Ysgol y Bedol. And I have to say, to all those schools now right across Wales, the massive impact that Eco-Schools—it's Wales leading again—has made in this area. Children are coming out of schools now, Joyce—all Members will know—they write letters to all of us, to say, 'What more are you going to do? We're doing this, we're doing our small part; what now are you going to do?' And that is great, that is the push that we need. But, yes, bugs, bees, a bit of dirt on the hand, dirt under the fingernails—this is what touching and feeling nature is inspiring our young people to do, and then what we want, then, is to take that through into their older years, as older teenagers, into secondary school, and as adults, and never give up on actually challenging us to do more. But that's the note of optimism as well: it's our young people.
Joyce, diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau mawr i'r rhai yn Ysgol y Bedol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth yr holl ysgolion hynny sydd bellach ledled Cymru, yr effaith enfawr y mae Eco-Ysgolion—dyma Gymru'n arwain eto—wedi ei chael yn y maes hwn. Mae plant yn dod allan o'r ysgolion nawr, Joyce—bydd yr holl Aelodau yn gwybod—maen nhw'n ysgrifennu llythyrau at bob un ohonom, i ddweud, 'Beth arall ydych chi'n mynd i'w wneud? Rydyn ni'n gwneud hyn, rydyn ni'n gwneud ein rhan fach; beth ydych chi'n mynd i'w wneud nawr?' Ac mae hynny'n wych, dyna'r ymdrech sydd ei hangen arnom. Ond, ie, trychfilod, gwenyn, tipyn o faw ar y llaw, baw o dan yr ewinedd—dyma'r hyn y mae teimlo a chyffwrdd â natur yn ysbrydoli ein pobl ifanc i'w wneud, ac yna beth rydyn ni eisiau wedyn, yw mynd â hynny drwodd i'w blynyddoedd hŷn, fel pobl yn eu harddegau hwyr, i mewn i'r ysgol uwchradd, ac fel oedolion, a pheidio byth â rhoi'r gorau, mewn gwirionedd i'n herio ni i wneud mwy. Ond dyna nodyn o optimistiaeth hefyd: mae'n ymwneud â'n pobl ifanc ni.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. A phen-blwydd hapus am yfory.
Thank you, Cabinet Secretary. And happy birthday for tomorrow.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Item 5 is the statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care on access to primary and community care services. I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gofal sylfaenol yn greiddiol i'r gwasanaeth iechyd. Dyma sut mae'r mwyafrif ohonon ni'n dod i gysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd. Os oes angen gofal mwy arbenigol arnon ni, mae'n agor y drws i'r gwasanaethau hynny. Heddiw, mae gweithwyr gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl nag erioed. Maen nhw'n darparu ystod ehangach o wasanaethau, sy'n golygu bod mwy o ofal ar gael i bobl yn agosach at eu cartrefi, ac yn gyflymach. Rŷn ni'n buddsoddi yn sgiliau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn ehangu cwmpas yr ymarfer ym maes gofal sylfaenol. Rŷn ni'n ariannu cymwysterau i helpu i ddarparu llwybrau clinigol newydd ym maes optometreg. Rŷn ni'n gwneud newidiadau deddfwriaethol i alluogi technegwyr fferyllol i ddarparu gwasanaethau clinigol. Rŷn ni hefyd wedi datrys y mater rheoleiddio oedd yn atal therapyddion a hylenyddion deintyddol rhag gallu rhoi triniaethau yn annibynnol. Mae'r newidiadau yma nid yn unig yn gwneud y proffesiynau hyn yn fwy deniadol, ond maen nhw hefyd yn galluogi'r gweithlu i ddarparu mwy o wasanaethau.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i ofal sylfaenol yng Nghymru, ym meysydd optometreg, fferylliaeth, deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau meddygon teulu. Ein bwriad yw parhau i wneud newidiadau o'r fath. Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd ymhob un o'r meysydd hyn.
Mae'r maes optometreg wedi cael ei ddiwygio yn sylweddol erbyn hyn. Mae newidiadau i'r contract wedi ehangu cwmpas y gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned. Bellach mae optometryddion ar y stryd fawr yn gallu rheoli, monitro a thrin nifer cynyddol o gyflyrrau llygaid, gan ddarparu gofal amserol yn agosach at y cartref. Mae hyn wedi lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai. Mae dros 2,000 o ymgynghoriadau y mis yn cael eu cynnal gan optometryddion presgripsiynu annibynnol yn y gymuned.
Mae diwygiadau cytundebol hefyd yn trawsnewid fferylliaeth gymunedol. Gwnes i gychwyn y diwrnod heddiw mewn fferyllfa ar y stryd fawr yn y Barri, a diolch i Gwawr Elis Jones a'r tîm am eu croeso. Mae £9.9 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu fel rhan o fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol eleni. Mae hyn yn gynnydd o 24 y cant yn y cyllid ers 2016-17. Bellach mae 99 y cant o fferyllfeydd yn rhoi triniaeth am ddim ar gyfer 28 o gyflyrau drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin: poen yn y cefn, yn y llwnc—edrychwch arlein am y rhestr ehangach o'r rheini.
Dirprwy Lywydd, cafodd dros 400,000 o bobl eu gweld a'u trin gan y gwasanaeth y llynedd. Dywedodd wyth o bob 10 o bobl y bydden nhw wedi mynd i rywle arall am help pe bai'r gwasanaeth yma ddim ar gael. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwasanaeth presgripsiynu mewn fferyllfeydd cymunedol sy'n cael ei gomisiynu'n genedlaethol.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Primary care is the foundation of our NHS. This is the main point of contact with healthcare services for the majority of us. If we need more specialist care, it acts as the gateway to those services. Today, primary care professionals are seeing more people than ever. They are providing a wider range of services, which means that more care is available for people closer to their homes, more quickly. We are investing in the skills of healthcare professionals and broadening the scope of practice in primary care. We are funding qualifications to support the delivery of new clinical pathways in optometry. We are making legislative changes to enable pharmacy technicians to deliver clinical services. We have also resolved the regulatory issue that prevented dental therapists and hygienists from providing treatment independently. These changes not only make these professions more attractive, but they also enable the workforce to deliver more services.
Dirprwy Lywydd, we have made important changes to primary care in Wales, in optometry, in pharmacy, in NHS dentistry and in GP services. Our intention is to continue to make such changes. I want to use this opportunity to update Members about the progress in each of these areas.
Optometry has undergone significant reform. Changes to the contract have expanded the scope of services available in the community. Optometrists on the high street can now manage, monitor and treat an increased number of eye conditions, providing timely care closer to home. This has reduced the demands on GPs and hospitals. More than 2,000 consultations a month are being delivered by independent prescribing optometrists in the community.
Contractual reforms are also transforming community pharmacy. I started the day today at a high-street pharmacy in Barry, and I'd like to thank Gwawr Elis Jones and the team for their welcome. An extra £9.9 million has been made available as part of the community pharmacy contractual framework this year. This represents a 24 per cent increase in the funding since 2016-17. Now 99 per cent of pharmacies provide free treatment for 28 common ailments through the common ailments service: back pain, sore throat—look online for the list.
Dirprwy Lywydd, more than 400,000 people were seen and treated last year by the service. Eight out of 10 people said that they would have gone elsewhere for help if this service wasn't available. Wales is the first part of the UK to provide a nationally commissioned community pharmacy prescribing service.
Trained pharmacists can treat a broader range of conditions, such as ear, nose and throat infections, without the need for a GP visit. Since its launch in 2020, around one third of pharmacies have adopted this independent prescriber service. There have been more than 0.25 million consultations. Both of these pharmacy services provide fast and convenient access to care for a wide range of minor illnesses without the need for a GP appointment, supporting GP services to see people with more complex health needs.
Dirprwy Lywydd, I turn now to NHS dentistry. The variation we made to the current contract, which focuses on prevention and treating people on a risk and needs basis, means that, since April 2022, more than 420,000 new patients have received a full course of treatment. More than 142,000 more people have also received urgent care. These arrangements are not perfect, but they have made a difference for people who have struggled to access NHS dentistry since the start of the pandemic.
Our focus is on a new dental contract, which will make NHS dentistry attractive for the profession and fairer for patients. We expect to consult on the new dental contract in the spring. In the meantime, we are implementing a 6 per cent increase to the contract. We have been working with the British Dental Association to develop this, and I'm aiming to have the contract in place in early 2026.
The final part of the primary care picture, and perhaps the most familiar part, is general practice. GP practices provide a staggering 1.6 million appointments every month. That's equivalent to seeing half the population of Wales. We have negotiated extensive reforms to general practice to improve access over the last few years. We have just resumed negotiations with the General Practitioners Committee Wales in relation to the current financial year. Practices are required to implement appropriate call-handling systems to manage high call volumes and prevent multiple call-backs. They're required to offer a digital way for people to request non-urgent consultations and ensure there is physical access between 8.30 in the morning and 6 p.m. every working day.
Despite these changes and continued efforts of hard-working practice teams, I know people can get frustrated when they feel they can't get through to their practice or struggle to get an appointment, but there are other primary care services that can help, such as pharmacies, so that those seeking a GP appointment are only those who need a GP appointment. We all have a part to play in that. The GP practice doesn't have to be the only option, and isn't always the most appropriate option.
I want to use the rest of the statement, Dirprwy Lywydd, to talk about the changes we've made to improve access to community services, which play an important role in helping people live independently at home.
From April 2023 we provided health boards with an extra £5 million of recurrent funding to expand community allied health professional services. This has created more than 100 new positions, including physiotherapists, dietitians, occupational therapists, psychologists, speech and language therapists, podiatrists and a range of support staff. And the number of district nurses has increased by 49 full-time equivalent positions since November 2023. This, in turn, has increased weekend working. These new staff are making a real difference. In Cwm Taf Morgannwg University Health Board, urgent diabetic foot waiting times have reduced from four weeks to 48 hours using podiatrist services. In one month alone, Swansea bay’s expanded allied health professional workforce helped 240 older adults through early intervention, complex comorbidity management and end-of-life support, preventing 110 hospital admissions. And Cardiff and Vale's orthopaedic prehabilitation programme, which supports people waiting for hip and knee surgery through exercise and peer support, has reported significant post-surgery outcomes and a social return on investment of £2.86 for every £1 spent.
Dirprwy Lywydd, I’m clear that continuing to invest in and reform primary and community care services is the right thing to do for the public and for the wider NHS. One of my top priorities in the 2025-2028 NHS planning framework, which I published before Christmas, is building capacity in the community. I expect local plans to demonstrate action to continue to improve access to the right care, from the right health professional, in all communities right across Wales. But as we continue to make changes to improve services, we must ensure access is easy and consistent across Wales so that people understand where they can go to get the right care for their needs.
Finally, Dirprwy Lywydd, and importantly, I want to thank everyone working in primary and community care services. Their continued commitment and resilience has been absolutely instrumental in the ongoing reform of services to improve access and outcomes for people right across Wales.
Gall fferyllwyr hyfforddedig drin ystod ehangach o gyflyrau, fel heintiau'r glust, y trwyn a'r gwddf, heb fod angen ymweliad meddyg teulu. Ers ei lansio yn 2020, mae tua thraean o fferyllfeydd wedi mabwysiadu'r gwasanaeth rhagnodi annibynnol hwn. Cafwyd mwy na 0.25 miliwn o ymgynghoriadau. Mae'r ddau wasanaeth fferylliaeth hyn yn darparu mynediad cyflym a chyfleus i ofal ar gyfer ystod eang o fân afiechydon heb fod angen apwyntiad meddyg teulu, gan gefnogi gwasanaethau meddygon teulu i weld pobl ag anghenion iechyd mwy cymhleth.
Dirprwy Lywydd, rwy'n troi yn awr at ddeintyddiaeth y GIG. Mae'r amrywiad a wnaethom i'r contract presennol, sy'n canolbwyntio ar atal a thrin pobl ar sail risg ac anghenion, yn golygu bod mwy na 420,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers mis Ebrill 2022. Mae dros 142,000 yn fwy o bobl wedi derbyn gofal brys hefyd. Nid yw'r trefniadau hyn yn berffaith, ond maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ers dechrau'r pandemig.
Rydym yn canolbwyntio ar gontract deintyddol newydd, a fydd yn gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddeniadol i'r proffesiwn ac yn decach i gleifion. Rydym yn disgwyl ymgynghori ar y contract deintyddol newydd yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, rydym yn gweithredu cynnydd o 6 y cant i'r contract. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu hyn, ac rwy'n bwriadu cael y contract ar waith yn gynnar yn 2026.
Rhan olaf y darlun gofal sylfaenol, a'r rhan fwyaf cyfarwydd efallai, yw ymarfer cyffredinol. Mae practisau meddygon teulu yn darparu 1.6 miliwn o apwyntiadau bob mis. Mae hynny'n cyfateb i weld hanner poblogaeth Cymru. Rydym wedi negodi diwygiadau helaeth i ymarfer cyffredinol i wella mynediad dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym newydd ailddechrau trafodaethau gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n ofynnol i bractisau weithredu systemau trin galwadau priodol i reoli'r nifer uchel o alwadau ac osgoi dychwelyd galwadau di-ri. Mae'n ofynnol iddynt gynnig ffordd ddigidol i bobl ofyn am ymgynghoriadau nad ydynt yn rhai brys a sicrhau bod mynediad ffisegol rhwng 8.30 yn y bore a 6 p.m. bob diwrnod gwaith.
Er gwaethaf y newidiadau hyn ac ymdrechion parhaus timau ymarfer gweithgar, gwn y gall pobl deimlo'n rhwystredig pan fyddant yn teimlo na allant gysylltu â'u practis neu'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiad, ond mae gwasanaethau gofal sylfaenol eraill a all helpu, fel fferyllfeydd, fel mai dim ond y rhai hynny sydd angen apwyntiad meddyg teulu sy'n ceisio apwyntiad meddyg teulu. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hynny. Nid oes rhaid i'r feddygfa fod yr unig opsiwn, ac nid dyma'r opsiwn mwyaf priodol bob amser.
Rwyf eisiau defnyddio gweddill y datganiad, Dirprwy Lywydd, i siarad am y newidiadau rydym wedi'u gwneud i wella mynediad at wasanaethau cymunedol, sy'n chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref.
O fis Ebrill 2023 fe wnaethom ddarparu £5 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd i fyrddau iechyd i ehangu gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol. Mae hyn wedi creu mwy na 100 o swyddi newydd, gan gynnwys ffisiotherapyddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, podiatryddion ac ystod o staff cymorth. Ac mae nifer y nyrsys ardal wedi cynyddu 49 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ers mis Tachwedd 2023. Mae hyn, yn ei dro, wedi cynyddu gwaith dros y penwythnos. Mae'r staff newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae amseroedd aros troed ddiabetig frys wedi lleihau o bedair wythnos i 48 awr gan ddefnyddio gwasanaethau podiatrydd. Mewn un mis yn unig, helpodd gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd estynedig Bae Abertawe 240 o oedolion hŷn trwy ymyrraeth gynnar, rheoli cydafiachedd cymhleth a chymorth diwedd oes, gan atal 110 o dderbyniadau i'r ysbyty. Ac mae rhaglen rhagsefydlu orthopedig Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi pobl sy'n aros am lawdriniaeth ar y glun a'r pen-glin trwy ymarfer corff a chefnogaeth gan gymheiriaid, wedi adrodd am ganlyniadau ôl-lawdriniaeth sylweddol ac enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o £2.86 am bob £1 sy'n cael ei gwario.
Dirprwy Lywydd, rwy'n glir mai parhau i fuddsoddi a diwygio gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yw'r peth iawn i'w wneud i'r cyhoedd ac i'r GIG ehangach. Un o fy mhrif flaenoriaethau yn fframwaith cynllunio'r GIG 2025-2028, a gyhoeddais cyn y Nadolig, yw meithrin capasiti yn y gymuned. Rwy'n disgwyl i gynlluniau lleol ddangos camau i barhau i wella mynediad at y gofal cywir, gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir, ym mhob cymuned ledled Cymru. Ond wrth i ni barhau i wneud newidiadau i wella gwasanaethau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod mynediad yn hawdd ac yn gyson ledled Cymru fel bod pobl yn deall i ble y gallant fynd i gael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac yn bwysig, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae eu hymrwymiad a'u cydnerthedd parhaus wedi bod yn gwbl allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau yn barhaus i wella mynediad a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.
I would like to thank the Cabinet Secretary for his statement today, and I'd also like to add my thanks to all those people working in community and primary care, right the way across Wales.
Just to pick up, Cabinet Secretary, on the £5 million of recurring funding for community allied health professional services, it would be interesting to know from you how that money is allocated across health boards across Wales, and how the Welsh Government tracks that to measure on deliverability across the service. The statement indicated that primary care professionals are managing increased patient load and offering a broader range of services closer to home. Yet the data from the British Medical Association's Save our Surgeries campaign reveals concerning trends. As of 31 March last year, the number of GP practices in Wales decreased from 474 down to 374—a reduction of 100 surgeries—and the full-time-equivalent number of GPs has declined by 25 per cent since 2012, with a further 3.8 per cent decrease since the campaign's inception in 2023. So, given these statistics, Cabinet Secretary, how does the Welsh Government plan to address the diminishing number of GP practices to the escalating patient/GP ratio, to make sure that people can have that efficient care right the way across Wales? Because we've heard examples, haven't we, from Members? I'm thinking of Alun Davies, up in Blaenau Gwent, about the eHarleyStreet practice, about the number of people there seeing the number of GPs available.
The Government's commitment to upskilling healthcare professionals is very commendable. However, the Royal College of General Practitioners has highlighted some significant challenges and that, in 2024, nearly 20 per cent of GPs reported feeling stressed and unable to cope with most days, and over 40 per cent experiencing such feelings at least once or twice a week, and more than 40 per cent of GPs are considering leaving the profession within five years, citing work-life balances and the stresses as primary factors. Given these statistics, Cabinet Secretary, what measures is the Welsh Government implementing to improve the retention of GPs and their well-being, to ensure that we invest in training, and that it does translate into sustained patient care across Wales?
You mentioned optometry and pharmacy services, and the expansion of those services is a positive development. It's something that we on these benches welcomed. However, the effectiveness of these services depends on public awareness and accessibility, doesn't it? Public Health Wales introduced the new primary care clusters dashboard in September last year to aid in the planning and address inequality. So, how is the Welsh Government utilising this dashboard to promote and monitor the effectiveness of expanded optometry and pharmacy services to make sure there's equitable access for all communities? And as I said, we need to ensure that people know that these services are out there. A lot of people who I speak to don't know about the common ailments service, and that actually they can go to their pharmacies to actually get these conditions seen—as I say, sore throats and different things, chest infections, for example—so it's good to know what the Welsh Government is doing to promote that across the system.
It did touch, the statement did, on dentistry. While the statement notes that over 420,000 new patients received full dental treatment since April 2022, access to NHS dentistry remains a concern. The Royal College of General Practitioners 2024 general election manifesto emphasised the need for sustainable career options in NHS dentistry. So, what strategies are being implemented to make sure that NHS dentistry is an attractive and sustainable career choice? Because many of the dentists that I speak to say that they cannot afford to continue doing what they do now. And you said about the contract reforms coming into place, which you hope will be in place by the end of 2026. This has been ongoing since 2021. The now First Minister Eluned Morgan made a statement on this in 2021, saying it was going to be done and dusted very shortly, so I'd like to know what assurance you can give to the dentists across the country that this is going to be addressed. And also on dentistry as well, there's a growing concern about dental decay in young children across the country; 32.4 per cent of children in Wales are presenting with dental decay, compared to 23.7 per cent in England, so I'd like to know what more you're doing to improve access for children to dentist services as well.
So, I want to talk just a bit more about community care services. The addition of over 100 allied health professional positions and the 49 full-time district nurses is encouraging, and I just want to pay tribute to the role of our district nurses. They do an absolutely fantastic job across our communities. However, the Health Education and Improvement Wales strategic workforce plan for primary care highlights the need for ongoing workforce stability, so how is the Welsh Government ensuring the long-term sustainability of the community care workforce to meet future health demands across Wales. And the statement emphasises the need for consistent access across Wales. The introduction of the primary care cluster dashboard aimed to address that, as I mentioned earlier. So, I just want to emphasise to you, Cabinet Secretary—. What are you doing to make sure that all areas of Wales—whether that's north, south, east or west—have equal access to services, especially those pharmacy services, when we haven't actually seen everybody being independent prescribers? And it would be interesting to know what work you're doing around that as well. Diolch, Llywydd—Deputy Llywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a hoffwn hefyd ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n gweithio ym maes gofal cymunedol a gofal sylfaenol, ar hyd a lled Cymru.
Ysgrifennydd Cabinet, o ran y £5 miliwn o gyllid cylchol ar gyfer gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, byddai'n ddiddorol gwybod gennych sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu ar draws byrddau iechyd ledled Cymru, a sut mae Llywodraeth Cymru yn olrhain hynny i fesur ar gyflawnadwyedd ar draws y gwasanaeth. Nododd y datganiad fod gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn rheoli mwy o lwyth cleifion ac yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau yn nes at adref. Eto i gyd, mae'r data o ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn datgelu tueddiadau pryderus. Ar 31 Mawrth y llynedd, gostyngodd nifer y meddygfeydd yng Nghymru o 474 i lawr i 374—gostyngiad o 100 o feddygfeydd—ac mae nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng 25 y cant ers 2012, gyda gostyngiad pellach o 3.8 y cant ers sefydlu'r ymgyrch yn 2023. Felly, o ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael nifer y meddygfeydd teulu sy'n lleihau i'r gymhareb claf/meddyg teulu sy'n cynyddu, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gofal effeithlon hwnnw ar draws Cymru? Oherwydd, rydyn ni wedi clywed enghreifftiau, onid ydyn ni, gan Aelodau? Rwy'n meddwl am Alun Davies, i fyny ym Mlaenau Gwent, am bractis eHarleyStreet, am nifer y bobl yno yn gweld nifer y meddygon teulu sydd ar gael.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i uwchsgilio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ganmoladwy iawn. Fodd bynnag, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi tynnu sylw at rai heriau sylweddol ac, yn 2024, dywedodd bron i 20 y cant o feddygon teulu eu bod yn teimlo dan straen ac nad oeddent yn gallu ymdopi â'r rhan fwyaf o ddyddiau, a bod dros 40 y cant yn profi teimladau o'r fath o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ac mae mwy na 40 y cant o feddygon teulu yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Gan nodi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'r straen fel ffactorau sylfaenol. O ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i er mwyn gwella llesiant meddygon teulu a'u cadw, i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant, a'i fod yn trosi i ofal cleifion parhaus ledled Cymru?
Fe sonioch chi am wasanaethau optometreg a fferylliaeth, ac mae ehangu'r gwasanaethau hynny yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar ymwybyddiaeth a hygyrchedd i'r cyhoedd, onid ydyw? Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dangosfwrdd clystyrau gofal sylfaenol newydd ym mis Medi'r llynedd i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dangosfwrdd hwn i hyrwyddo a monitro effeithiolrwydd gwasanaethau optometreg a fferylliaeth estynedig i sicrhau bod mynediad teg i bob cymuned? Ac fel y dywedais i, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Nid yw llawer o bobl rwy'n siarad â nhw yn gwybod am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin, ac mewn gwirionedd gallant fynd at eu fferyllfeydd i gael trafod y cyflyrau hyn mewn gwirionedd—fel y dywedais i, dolur gwddf a gwahanol bethau, heintiau'r frest, er enghraifft—felly mae'n dda gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hynny ar draws y system.
Fe grybwyllodd y datganiad ddeintyddiaeth. Er bod y datganiad yn nodi bod dros 420,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ddeintyddol lawn ers mis Ebrill 2022, mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn parhau i fod yn bryder. Pwysleisiodd maniffesto etholiad cyffredinol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol 2024 yr angen am opsiynau gyrfa cynaliadwy ym maes deintyddiaeth y GIG. Felly, pa strategaethau sy'n cael eu gweithredu i sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn ddewis gyrfa deniadol a chynaliadwy? Oherwydd, mae llawer o'r deintyddion yr wyf i'n siarad â nhw yn dweud na allant fforddio parhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud nawr. Ac fe ddywedoch chi am y diwygiadau contract sy'n dod i rym, yr ydych yn gobeithio y byddant ar waith erbyn diwedd 2026. Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers 2021. Gwnaeth y Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan, ddatganiad ar hyn yn 2021, gan ddweud ei fod yn mynd i gael ei gwblhau yn fuan iawn, felly hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r deintyddion ledled y wlad y bydd hyn yn cael sylw. A hefyd ar ddeintyddiaeth hefyd, mae pryder cynyddol am bydredd deintyddol ymhlith plant ifanc ledled y wlad; mae 32.4 y cant o blant yng Nghymru yn arddangos pydredd deintyddol, o'i gymharu â 23.7 y cant yn Lloegr, felly hoffwn wybod beth arall rydych chi'n ei wneud i wella mynediad i wasanaethau plant i ddeintyddion hefyd.
Felly, rwyf eisiau sôn ychydig mwy am wasanaethau gofal cymunedol. Mae ychwanegu dros 100 o swyddi proffesiynol perthynol i iechyd a'r 49 nyrs ardal amser llawn yn galonogol, ac rwyf am dalu teyrnged i rôl ein nyrsys ardal. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ar draws ein cymunedau. Fodd bynnag, mae cynllun gweithlu strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn amlygu'r angen am sefydlogrwydd parhaus y gweithlu, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu gofal cymunedol i ateb gofynion iechyd y dyfodol ledled Cymru. Ac mae'r datganiad yn pwysleisio'r angen am fynediad cyson ar draws Cymru. Nod cyflwyno'r dangosfwrdd clwstwr gofal sylfaenol oedd mynd i'r afael â hynny, fel y soniais i yn gynharach. Felly, rwyf am bwysleisio i chi, Ysgrifennydd Cabinet—. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru—boed hynny yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin—yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau fferylliaeth hynny, pan nad ydym wedi gweld pawb yn rhagnodwyr annibynnol? A byddai'n ddiddorol gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud ynghylch hynny hefyd. Diolch, Llywydd—Dirprwy Lywydd.
The Member asked a range of questions; I'll do my best to answer at least the key ones. In relation to the £5 million, those were allocated to expand the workforce right across Wales in terms of allied health professionals. I think what we are seeing is actually the highest level of funding ever allocated to support a record number of training opportunities for the AHP workforce, and that's right across Wales. I touched on the developments in the Cwm Taf Morgannwg and in the Swansea bay health boards, but I could have pointed to the frailty practitioners in Powys Teaching Health Board, which I'm sure he will have an interest in, or the work that Cardiff and Vale are doing in relation to the orthopaedic programme; I mentioned that in my statement. But also Hywel Dda have launched an integrated community stroke service, which reduces hospital waiting times. So, there is a range of ways, right across Wales, in each of the health boards, in which that funding is being put to very good and productive use, and having demonstrable outcomes, demonstrable impacts on patient outcomes, which is obviously the measure of success in relation to that investment.
He makes an important point in relation to the pressure on GP practices. I think the thrust of my statement was really about highlighting the range of other ways in which people can access primary care services, which have two impacts: one is to reduce the demand on GP services, and also to make sure that patients get access to the treatment they need in the most convenient way possible. So, it has those two benefits, and I think, actually, it's important that people do continue to make those choices. We see increasing demand on GP services. Where that demand is capable of being better met elsewhere, frankly we should be seeking those alternatives. So, it should be more convenient for us, but we should also be doing that proactively. He makes an important point about how one can ensure that the public understand the range of those services, and, in a sense, what we're trying to do is to bring about generational change in people's access to healthcare. This will take, I think, many years to embed, as a way of understanding how the health service can provide the support that we need.
I was at a pharmacy, as I mentioned in my statement this morning, and discussing very much with the pharmacist there the strategies that they had used to work with local GP practices to highlight the range of alternatives. So, if someone calls up and asks for a GP, there’s a conversation that says, ‘Well, have you tried your local pharmacist? It's a prescribing pharmacy, so you’ll be able to get the support that you need there.’ So, it’s ensuring that that’s part of the discussion through GP practices, but also in terms of public information campaigns and also the work that pharmacies themselves do to promote the increasing range of services that they can provide. It’s also information that is available through NHS 111, both on the phone and online, so I encourage Members to point their constituents to those services, and we can all play a part, I think, to encourage people to take up those services.
He asked a series of questions in relation to the access to dentistry. Negotiating a contract is an exercise for two parties; it isn’t entirely in the gift of the Government. So, these things sometimes take longer than, frankly, any of us would wish. But I think it is important to say that there have been a number of reforms to the existing contract, and we’ve been in a period of annual variation, and, whilst each of those has sought to reflect the consequence and emerging understanding of changes in demand, and, obviously, there is a gap in provision in terms of NHS services, which we obviously know and have discussed in this Chamber many, many times, I also accept that having an annual set of variations doesn’t provide that stable platform that is important for the resilience of practices and for our ability to describe with confidence and in an attractive way what dental practice looks like. So, I’m sure we all look forward to the point at which we have that new contract in place, which will be a new platform to make dentistry, as I said in my statement, both fairer for patients and more attractive for the profession. I can say, as I did in my statement, that we expect to consult on that in the spring, and we will see what the responses to the consultation say. It’s obviously a negotiated contract with the BDA, and my expectation is that that will be in place for the early part of next year, so the spring of next year, at the latest. And what I’ve also heard, in talking to dentists, is that they appreciate a bit more lead-in time when there are changes to contracts, so they can make the necessary adjustments to their practice.
Finally, the Member made a point about children’s dental health, and, in particular, the changes that we’ve made have released additional appointment capacity for children and young people, and I know that you'll be pleased to hear that we continue to invest, for example, in our Designed to Smile programme, which the First Minister spoke about in First Minister’s questions earlier; 60,000 children have benefited from that scheme in the last year; 5,000 teachers and teaching assistants trained to provide those services. So, that is a successful programme, and we know that it makes a real difference.
Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau; fe wnaf fy ngorau i ateb o leiaf y rhai allweddol. O ran y £5 miliwn, dyrannwyd y rheini i ehangu'r gweithlu ledled Cymru o ran gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei weld mewn gwirionedd yw'r lefel uchaf erioed o gyllid a ddyrannwyd i gefnogi nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithlu'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac mae hynny ledled Cymru. Crybwyllais y datblygiadau ym myrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ym myrddau iechyd Bae Abertawe, ond gallwn fod wedi cyfeirio at yr ymarferwyr eiddilwch ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, rwy'n siŵr y bydd ganddo ddiddordeb ynddynt, neu'r gwaith y mae Caerdydd a'r Fro yn ei wneud mewn perthynas â'r rhaglen orthopedig; soniais am honno yn fy natganiad. Ond hefyd mae Hywel Dda wedi lansio gwasanaeth strôc cymunedol integredig, sy'n lleihau amseroedd aros mewn ysbytai. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd, ar draws Cymru, ym mhob un o'r byrddau iechyd, lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n dda a chynhyrchiol iawn, a chael canlyniadau amlwg, effeithiau amlwg ar ganlyniadau cleifion, sy'n amlwg yn fesur llwyddiant mewn perthynas â'r buddsoddiad hwnnw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig mewn perthynas â'r pwysau ar feddygfeydd. Rwy'n credu bod byrdwn fy natganiad yn ymwneud â thynnu sylw at yr ystod o ffyrdd eraill y gall pobl gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, sy'n cael dwy effaith: un yw lleihau'r galw ar wasanaethau meddygon teulu, a hefyd sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn y ffordd fwyaf cyfleus posibl. Felly, mae ganddo'r ddau fudd hynny, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig bod pobl yn parhau i wneud y dewisiadau hynny. Rydym yn gweld galw cynyddol am wasanaethau meddygon teulu. Lle mae'r galw hwnnw'n gallu cael ei fodloni'n well mewn mannau eraill, a dweud y gwir dylem fod yn chwilio am y dewisiadau amgen hynny. Felly, dylai fod yn fwy cyfleus i ni, ond dylem hefyd fod yn gwneud hynny'n rhagweithiol. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gall rhywun sicrhau bod y cyhoedd yn deall ystod y gwasanaethau hynny, ac, ar un ystyr, yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau newid mewn cenhedlaeth o ran mynediad pobl at ofal iechyd. Bydd hyn yn cymryd blynyddoedd, rwy'n credu, i'w wreiddio, fel ffordd o ddeall sut y gall y gwasanaeth iechyd ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnom.
Roeddwn mewn fferyllfa, fel y soniais i yn fy natganiad y bore yma, ac yn trafod yn helaeth iawn gyda'r fferyllydd yno y strategaethau yr oeddent wedi'u defnyddio i weithio gyda meddygfeydd lleol i dynnu sylw at yr ystod o ddewisiadau amgen. Felly, os bydd rhywun yn galw ac yn gofyn am feddyg teulu, mae yna sgwrs sy'n dweud, 'Wel, ydych chi wedi rhoi cynnig ar eich fferyllydd lleol? Mae'n fferyllfa ragnodi, felly byddwch yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch yno.' Felly, mae'n sicrhau bod hynny'n rhan o'r drafodaeth drwy feddygfeydd, ond hefyd o ran ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus a hefyd y gwaith y mae fferyllfeydd eu hunain yn ei wneud i hyrwyddo'r ystod gynyddol o wasanaethau y gallant eu darparu. Mae hefyd yn wybodaeth sydd ar gael drwy GIG 111, dros y ffôn ac ar-lein, felly rwy'n annog Aelodau i gyfeirio eu hetholwyr at y gwasanaethau hynny, a gallwn ni i gyd chwarae rhan, rwy'n credu, i annog pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny.
Gofynnodd gyfres o gwestiynau mewn perthynas â mynediad at ddeintyddiaeth. Mae negodi contract yn ymarfer ar gyfer dau barti; nid yw'n gwbl o fewn pŵerau'r Llywodraeth. Felly, mae'r pethau hyn weithiau'n cymryd mwy o amser na, a dweud y gwir, y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod nifer o ddiwygiadau wedi bod i'r contract presennol, ac rydym wedi bod mewn cyfnod o amrywiad blynyddol, ac, er bod pob un o'r rheini wedi ceisio adlewyrchu canlyniad a dealltwriaeth sy'n dod i'r amlwg o newidiadau yn y galw, ac, yn amlwg, mae bwlch yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau'r GIG, yr ydym yn amlwg yn gwybod amdano ac wedi ei drafod yn y Siambr hon lawer gwaith, rwy'n derbyn hefyd nad yw cael set flynyddol o amrywiadau yn darparu'r platfform sefydlog hwnnw sy'n bwysig ar gyfer cydnerthedd arferion ac am ein gallu i ddisgrifio gyda hyder ac mewn ffordd ddeniadol sut mae practis deintyddol yn edrych. Felly, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y pwynt pryd y bydd gennym y contract newydd hwnnw ar waith, a fydd yn llwyfan newydd i wneud deintyddiaeth, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn decach i gleifion ac yn fwy deniadol i'r proffesiwn. Gallaf ddweud, fel y gwnes i yn fy natganiad, ein bod ni'n disgwyl ymgynghori ar hynny yn y gwanwyn, a byddwn ni'n gweld beth mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn eu dweud. Mae'n amlwg yn gontract a drafodwyd gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, a fy nisgwyliad i yw y bydd hynny ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn nesaf, felly gwanwyn y flwyddyn nesaf, fan bellaf. A'r hyn rydw i wedi'i glywed hefyd, wrth siarad â deintyddion, yw eu bod nhw'n gwerthfawrogi ychydig mwy o amser paratoi pan fydd newidiadau i gontractau, fel y gallant wneud yr addasiadau angenrheidiol i'w practis.
Yn olaf, gwnaeth yr Aelod bwynt am iechyd deintyddol plant, ac, yn benodol, mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud wedi rhyddhau capasiti apwyntiadau ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc, a gwn y byddwch yn falch o glywed ein bod yn parhau i fuddsoddi, er enghraifft, yn ein rhaglen Cynllun Gwên, y soniodd y Prif Weinidog amdani yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach; mae 60,000 o blant wedi elwa ar y cynllun hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; hyfforddwyd 5,000 o athrawon a chynorthwywyr addysgu i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Felly, mae honno'n rhaglen lwyddiannus, ac rydym yn gwybod ei bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae gofal sylfaenol yn gyfrifol am dros 90 y cant o gysylltiad cleifion â'r system iechyd, ond eto mae’n parhau i gael ei dangyllido, ac mae'r canran o arian sy’n mynd at ofal sylfaenol wedi crebachu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, mae hyn yn cael ei amlygu yn y ffaith bod dros 600 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd yr OECD yma yng Nghymru, heb unrhyw arwydd bod hyn am gael ei unioni. Yn wir, collodd yr NHS yng Nghymru 51 o feddygon teulu rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024 yn unig.
Rŵan, dydy cywiro'r camau yma ddim am fod yn hawdd nac am ddigwydd dros nos, ond dyma rai mesurau tymor byr, wedi’u llywio gan ein trafodaethau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, a allai leddfu rhai o’r pwysau mwyaf uniongyrchol. Yn gyntaf, nodwyd bod diffyg argaeledd y gallu i archebu apwyntiad ar-lein mewn practisau yng Nghymru yn rhwystr arbennig i gael trefn apwyntiadau mwy effeithiol. A allai'r Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau a ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried neilltuo cyllid penodol i gefnogi costau cyflwyno systemau apwyntio ar-lein ar raddfa ehangach? Mae gan systemau ymgynghori fideo, megis system Babylon, botensial sylweddol i feithrin mwy o hyblygrwydd mewn cyswllt staff a chleifion, ond mae’n amlwg nad yw’n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yma, yn enwedig o'i gymharu â phractisau meddygon teulu yn Lloegr. Pam? Pa fesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg o’r fath?
Mae gan nyrsys ymgynghorol rôl i’w chwarae, ond ers i’r Llywodraeth dynnu ariannu tuag at y rôl yma nôl yn 2008 mae eu niferoedd nhw wedi disgyn. Oes bwriad ailgyflwyno cyllideb er mwyn cyflogi mwy, neu o leiaf er mwyn creu llwybr gyrfa ar gyfer nyrsys ymgynghorol a datblygu sgiliau'r nyrsys yma yng Nghymru?
Yn olaf, mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi galw am uwchraddio rolau llywyddion gofal neu care navigators i wella dealltwriaeth cleifion o'r broses brysbennu, er mwyn sicrhau nad yw amser yn cael ei wastraffu wrth ailgyfeirio cleifion i'r lefel briodol o ofal. Ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yng nghynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer gofal sylfaenol?
Gan droi at fater gofal cymunedol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn amlwg yn elfen bwysig o gyflawni yng nghyd-destun y gronfa integreiddio ranbarthol a'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach, y rhaglen Further, Faster. Ond mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym ni fod cylchoedd gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol yma yn rhy aneglur ac nad ydyn nhw’n llwyddo i feithrin cydweithio ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rŵan, mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes angen deddfwriaeth i osod y byrddau yma ar sylfaen statudol gan y gall cyfarwyddyd gweinidogol orfodi cydweithio rhanbarthol mwy systematig beth bynnag. Felly, gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pam nad yw’r cyfeiriad gweinidogol yn gweithio, neu o leiaf ddim hyd yma?
Mae'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach hefyd yn nodi yr angen i ymgysylltu â'r trydydd sector i gynyddu nifer y cydlynwyr cymunedol a'r opsiynau atgyfeirio. Ond mae'n anochel y bydd yr uchelgais hwn yn cael ei danseilio'n llwyr gan benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb unrhyw warant o ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer sefydliadau trydydd sector a phractisau meddygon teulu. Mae cangen Cymru o Marie Curie, er enghraifft, sy'n bartner allweddol yn y ddarpariaeth o ofal lliniarol, yn edrych ar gynnydd o dros £0.25 miliwn yn y flwyddyn nesaf ac mae elusen Tenovus mewn sefyllfa tebyg iawn. Mae’r BMA hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd y bydd meddygfeydd teulu’n cau o ganlyniad i’r mesurau hyn, sydd ddim yn syndod o gwbl pan ystyriwn ni fod meddygfa fel Meddygfa Treflan yn fy etholaeth i yn wynebu £19,000 ychwanegol mewn costau.
Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder, eglurder y mae dirfawr ei angen er mwyn i'r sefydliadau hyn oroesi yn ystod y cyfnod heriol yma, tybed a all y Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau gyfanswm y costau ychwanegol y mae sefydliadau trydydd sector a meddygon teulu perthnasol yn disgwyl eu talu. Diolch.
Primary care is responsible for over 90 per cent of patient contacts with the health system, yet it continues to be underfunded, and the percentage of funding that goes to primary care has shrunk significantly over the past 20 years. As I’ve mentioned several times, this is highlighted in the fact that we are over 600 GPs short of the Organisation for Economic Co-operation and Development average here in Wales, without any indication that this is about to be rectified. Indeed, NHS Wales lost 51 GPs between September 2023 and March 2024 alone.
Now, remedying these issues is not going to be easy, and it will not happen overnight, but here are some short-term measures, informed by our discussions with health professionals, that could ease some of the most immediate pressures. First, it was noted that the persistent inability to book an appointment online in practices in Wales is a particular barrier to having a more efficient appointments system. Could the Cabinet Secretary therefore confirm whether the Welsh Government is considered setting aside specific funding to support the cost of introducing online appointment systems on a wider scale? Video consultation systems, such as the Babylon system, have significant potential to foster greater flexibility in staff and patient contact, but it's clearly underused here, particularly compared with GP practices in England. Why? What measures is the Government taking to promote the use of such technologies?
Consultant nurses have a role to play, but since the Government withdrew funding for this role back in 2008 their numbers have fallen. Is there any intention to reintroduce a budget in order to employ more, or at least to create a career path for nurses to develop into consultant nurses and to develop these skills in Wales?
Finally, the Royal College of General Practitioners has called for the roles of care navigators to be upgraded to improve patients' understanding of the triage process, to ensure that time is not wasted in redirecting patients to the appropriate level of care. Is this something that is being considered in the Government's plan for primary care?
Turning now to the issue of community care, the regional partnership boards are clearly an important element of delivery in the context of the regional integration fund and the Further, Faster programme. But professionals say that the remits of the regional partnership boards are too unclear and that they don't succeed in fostering collaboration across health boards and local authorities. Now, in response to a question from me last week, the Cabinet Secretary mentioned that there is no need for legislation to place the boards on a statutory basis, because a ministerial directive can compel more systematic regional collaboration anyway. So, could the Cabinet Secretary explain why the ministerial directive is not working, at least not so far?
The Further, Faster programme also identifies the need to engage with the third sector to increase the number of community co-ordinators and referral options. But this ambition will inevitably be entirely undermined by the UK Government's decision to increase employers' national insurance contributions, with no guarantee from the Treasury of refunds for third sector organisations and GP practices. The Welsh branch of Marie Curie, for example, which is a key partner in the provision of palliative care, is looking at an increase of over £0.25 million in the next year, and the Tenovus charity is in a very similar position. The BMA has also warned of the possibility that GP surgeries will close as a result of these measures, which is not at all surprising when we consider that surgeries such as the Treflan Surgery in my constituency face an additional £19,000 in costs.
So, in order to provide some much-needed clarity to these organisations for them to survive during this challenging time, could the Cabinet Secretary confirm the total additional costs that third sector organisations and relevant GPs are expecting to pay? Thank you.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran yr impact o ran taliadau, mae’r gwaith hwnnw yn dal yn mynd yn ei flaen. Wrth gwrs, allaf i ddim sôn am gefnogaeth ariannol benodol i feddygon teulu ar hyn o bryd. Rŷn ni yng nghanol, fel gwnes i sôn yn y datganiad, ein trafodaethau pellach gyda nhw o ran y contract, felly. Ond mae’r pethau yma’n cael eu trafod yn gyson rhyngom ni â’r meddygon teulu ar hyn o bryd, fel byddai’r Aelod yn ei ddisgwyl.
Gwnaeth e bwynt pwysig ynglŷn â safonau ar-lein i alluogi pobl i gael mynediad hafal at apwyntiadau trwy’r safonau priodol. Rwy’n credu pan welwn ni lansiad ap y gwasanaeth iechyd bydd hyn yn cryfhau’r cynnig, os hoffwch chi, a’r cyfle i bobl allu gweithredu ar-lein trwy greu apwyntiadau. Rŷn ni wedi darparu cyllideb er mwyn sicrhau helaethu mynediad hafal o ryw £12 miliwn, rwy’n credu, fel rwy’n cofio, tuag at hynny, ac mae hynny’n cael ei weithredu gan fyrddau iechyd, yn gweithio ar y cyd gyda meddygon teulu.
Rydym ni wedi, fel gwnes i sôn yn fy natganiad, blaenoriaethu buddsoddiad mewn nyrsio cymunedol, ac mae hynny wedi dwyn ffrwyth o ran cynnydd yn y niferoedd sydd ar gael. Wrth gwrs, mae angen mwy o hynny arnom ni, ond y nod sydd gyda ni yw sicrhau bod darpariaeth nyrsio yn gallu sicrhau ar y penwythnos rhyw 80 y cant o’r hyn sydd ar gael yn ystod yr wythnos. Dŷn ni ddim wedi cyrraedd y nod hwnnw eto, ond dyna’r gwaith sydd wrthi ar hyn o bryd, ond mae’r niferoedd wedi eu cynyddu.
Gwnaeth yr Aelod yr un pwynt, rwyf i’n credu, y gwnaethon ni ei drafod wythnos diwethaf o ran Further, Faster, ac rwy’n credu mai her yr Aelod yw bod angen dodi’r RPBs ar sail statudol fel bod y rheini'n gallu sicrhau cydweithio, ond nid dyna yw swyddogaeth yr RPBs; nid byrddau ydyn nhw ar gyfer delifro, byrddau ydyn nhw ar gyfer cydlynu gwaith dau gorff sydd eisoes yn statudol ac sydd eisoes â chyfrifoldebau sylfaenol mewn statud ac mewn cyfrifoldebau eraill. Felly, dwi fy hun ddim yn credu mai creu strwythur statudol arall, eto fyth, o ran ein cenedl or-gymhleth, yw'r ateb i hyn; rwy'n credu mai gwell cydweithio yw'r ateb.
Fe wnaeth yr Aelod roi her arall i fi, lle mae enghraifft o weithgaredd o ran gorchymyn gweinidogol wedi gweithio. Wel, fe wnaeth y Prif Weinidog, pan oedd hi'n Weinidog iechyd, roi gorchymyn i fyrddau iechyd Hywel Dda a bae Abertawe i greu bwrdd ar y cyd i gydweithio o ran darparu gwasanaethau ar y cyd, ac mae hynny wedi gweithio; rŷn ni'n gweld ffrwyth hynny'n digwydd yn barod o ran gwaith orthopedig, ond mewn ffyrdd eraill hefyd. Felly, mae ein system ni wedi'i strwythuro i ddatganoli pwerau gweithredol, fel mae'r Aelod yn gwybod, i'r byrddau iechyd, a hynny ar y cyfan yw'r ffordd iawn o wneud pethau. Mae'n her benodol, rwy'n credu, i greu cydweithio rhanbarthol; dŷn ni ddim wedi gwneud cymaint o hynny ag y dylem ni fod wedi, felly dyna'r neges dwi wedi ei rhoi i'r sector yn gyffredinol: os na welwn ni fwy o hynny'n digwydd, byddaf yn barod i barhau i ddefnyddio'r pwerau gweinidogol hynny i sicrhau bod hynny'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi ddim fy hun yn credu bod creu corff statudol yn mynd i fod yn fwy effeithiol na'r gallu i orchymyn cyrff sydd eisoes yn bodoli i gymryd camau penodol.
I thank the Member for those questions. In terms of the impact of payments, that work is ongoing. Of course, I can't talk about specific financial support for GPs at the moment. We're in the middle of further negotiations with them on the contract, as I mentioned in my statement. But these things are regularly discussed by us and the GPs, as the Member would expect.
He made an important point on online services and enabling people to have equal access to appointments through the appropriate standards. I think that when we do see the launch of the NHS app, this will strengthen the offer, if you like, and the opportunity for people to operate online in terms of getting appointments. We have provided a budget in order to expand equal access, and that's around £12 million, if memory serves me correctly, and that is being delivered by health boards, working along with GPs.
As I mentioned in my statement, we have prioritised investment in community nursing, and that has been successful in terms of an increase in the numbers available. Of course, we need more of that, but the objective we have is to ensure that nursing provision can, on the weekend, provide some 80 per cent of what's available during the week. We haven't reached that target as of yet, but that is the work currently ongoing, and numbers have been increased.
The Member made the same point, I think, that he raised last week on Further, Faster, and I think the Member's challenge is that we need to put the RPBs on a statutory basis so that they can collaborate, but that's not the function of the RPBs; they are not boards for delivery, they are boards to co-ordinate the work of two bodies that are already on a statutory basis and already have primary responsibilities in statute and elsewhere. So, I myself don't believe that creating another statutory structure, once again, in terms of our overly complex nation, is the solution to this; I think better collaboration and co-operation is the solution.
The Member posed another challenge to me, where there is an example of activity in terms of a ministerial directive and whether that's worked. Well, the First Minister, when she was health Minister, gave a directive to Hywel Dda and Swansea bay health boards to create a joint board to work together on providing services jointly, and that has worked; we have seen that bear fruit already in terms of orthopaedics, but in other areas too. So, our system is structured in order to devolve executive powers, as the Member knows, to the health boards, and that, generally speaking, is the right way of doing things. It's a specific challenge, I think, to generate regional co-operation; we haven't done as much of that as we should have done, so that is the message I've given to the sector more generally: if we don't see more of that happening, then I will be willing to continue to use those ministerial directive powers to ensure that that happens on the ground. I myself don't believe that creating a statutory body will be more effective than the ability to direct bodies that already exist to take particular actions.
Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you for the update, Cabinet Secretary.
I welcome the statement's emphasis on primary care as a main point of contact that most people have with healthcare services, and that's why, obviously, supporting it and investing in it and building on it is so important. I've raised here previously with you the findings of my recent health survey in my constituency, and many of the points raised there were around access to GP services or getting through or not being able to get an appointment. I recognise what you say and I'm pleased that, whilst you rightly referred to the changes to help people access GPs, you recognise that there are still frustrations out there, and there's probably still some work to do to build on what has already come before.
So, can I ask today what assurance you can give that strengthening access to GPs and primary care remains a key focus of the Welsh Government's work? And touching on the broader services that may be available in the community now through other means, whether that's through pharmacies or elsewhere, is there a way in which we can have a mapping exercise that educates people and makes people aware of where these services can be found, so that we can increase people's ability to access those services, not just through their GP, in the future?
Rwy'n croesawu pwyslais y datganiad ar ofal sylfaenol fel prif bwynt cyswllt y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gael gyda gwasanaethau gofal iechyd, a dyna pam, yn amlwg, mae ei gefnogi a buddsoddi ynddo a'i ategu mor bwysig. Rwyf wedi codi yma, gyda chi o'r blaen, ganfyddiadau fy arolwg iechyd diweddar yn fy etholaeth i, ac roedd llawer o'r pwyntiau a godwyd yno ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu neu gysylltu â nhw neu fethu cael apwyntiad. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud ac rwy'n falch, er eich bod wedi cyfeirio'n briodol at y newidiadau i helpu pobl i gael mynediad at feddygon teulu, eich bod yn cydnabod bod yna rwystredigaeth o hyd, ac mae'n debyg bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd i ategu'r hyn a gyflawnwyd eisoes.
Felly, a gaf i ofyn heddiw pa sicrwydd y gallwch ei roi bod cryfhau mynediad at feddygon teulu a gofal sylfaenol yn parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i waith Llywodraeth Cymru? Ac o ran y gwasanaethau ehangach a allai fod ar gael yn y gymuned nawr trwy ddulliau eraill, boed hynny drwy fferyllfeydd neu rywle arall, a oes ffordd y gallwn gael ymarfer mapio sy'n addysgu pobl ac sy'n gwneud pobl yn ymwybodol o ble y gellir dod o hyd i'r gwasanaethau hyn, fel y gallwn gynyddu gallu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau hynny, nid dim ond trwy eu meddyg teulu yn y dyfodol?
I thank the Member for that. I think she makes an important point, and others have touched on this as well, about the challenge of demand in the system and providing access to GP services specifically. I think it's quite a complex landscape, because it is a changing landscape. So, clearly, the level of demand is increasing and the question is whether the profile of that demand is changing as well. So, people may want to see a GP immediately, but there are two questions in that, aren't there: whether the GP is the right person to provide the care and whether there is, if I can put it in these terms, a well-founded need for urgency, or whether that is a preference of the patient. And it will vary, clearly, from case to case. It isn't clear to me that there's an obvious pattern in there; GPs will report different things.
I think there's also a sense that, when so many other aspects of our modern life are available with a real sense of immediacy, then there is a level of impatience when people can't see a GP immediately, and that may well be fair enough, but there'll be other circumstances in which, maybe, that urgency isn't there. So, I think it's quite a complex picture. What is absolutely the case is that, where we know that there are other alternatives, as I've been talking about in the statement, we need to make sure that people understand where they can access those. I think people's understanding of how you access NHS services is generally, from a patient point of view, either at your GP practice or A&E, and there's a challenge for us there, because both those parts of the NHS are under very significant pressure. So, I think there is a case for looking at what we can do to help people navigate the NHS better. NHS 111 has been very effective at doing that, but as we bring about such a level of reform in the system, there's a constant challenge to us, I think, about how we can make sure that people are able to navigate the service in that way.
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud pwynt pwysig, ac mae eraill wedi cyffwrdd â hyn hefyd, am her y galw yn y system a darparu mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn benodol. Rwy'n credu ei fod yn dirwedd eithaf cymhleth, oherwydd mae'n dirwedd sy'n newid. Felly, yn amlwg, mae lefel y galw yn cynyddu a'r cwestiwn yw a yw proffil y galw hwnnw'n newid hefyd. Felly, efallai y bydd pobl eisiau gweld meddyg teulu ar unwaith, ond mae dau gwestiwn yn hynny o beth, onid oes: ai'r meddyg teulu yw'r person iawn i ddarparu'r gofal ac a oes yna, os caf ei roi yn y termau hyn, angen ar sail dda am frys, neu a yw hynny'n rhywbeth y mae'r claf yn ei ffafrio. A bydd yn amrywio, yn amlwg, o achos i achos. Nid yw'n glir i mi fod patrwm amlwg yno; bydd meddygon teulu yn adrodd am wahanol bethau.
Rwy'n credu bod yna ymdeimlad hefyd, pan fydd cymaint o agweddau eraill ar ein bywyd modern ar gael gydag ymdeimlad gwirioneddol o fod ar unwaith, yna mae lefel o ddiffyg amynedd pan na all pobl weld meddyg teulu ar unwaith, ac efallai y bydd hynny'n ddigon teg, ond bydd amgylchiadau eraill lle nad yw'r brys hwnnw, efallai, yno. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun eithaf cymhleth. Yr hyn sy'n hollol wir yw, lle rydym yn gwybod bod dewisiadau amgen eraill, fel yr wyf wedi bod yn siarad amdanynt yn y datganiad, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn deall ble y gallant gael mynediad atynt. Rwy'n credu bod dealltwriaeth pobl o sut rydych chi'n cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn gyffredinol, o safbwynt cleifion, naill ai yn eich meddygfa neu adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae her i ni yna, oherwydd mae'r ddwy ran hynny o'r GIG o dan bwysau sylweddol iawn. Felly, rwy'n credu bod achos dros edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl i lywio drwy'r GIG yn well. Mae GIG 111 wedi bod yn effeithiol iawn wrth wneud hynny, ond wrth i ni sicrhau lefel mor ddiwygiedig yn y system, mae her gyson i ni, rwy'n credu, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod pobl yn gallu llywio drwy'r gwasanaeth yn y ffordd honno.
Cabinet Secretary, of course, the majority of my constituents receive their treatment from providers in England. When I speak to opticians, pharmacists, dentists and GPs, they often tell me about the complexities of dealing with providers in England when it comes to information technology systems in particular; there's a lot of inefficiency in the process as well. I wonder, in terms of what you've outlined today, what considerations you've given to this issue, and what work has gone on in sharing digital platforms.
The other issue, of course, you spoke about is improving access to primary care providers. One of the big issues we have across Wales, particularly in rural Wales, is attracting primary care professionals to come and work in Wales, particularly in rural Wales. Often, the issue raised—it's a historic issue for some time—is the issue with the all-Wales medical performers list, so, one list for Wales. I wonder, since you've been in post, whether you've considered this. Many staff shortages arise from the issue of having GPs, perhaps, being trained somewhere else in England, but not prepared to come to Wales because of the complexities of having to sign up to a different performers list. So, can I ask, also, whether you've considered this, and considered the possibility of working with the UK Government to have one performers list for England and Wales?
Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn derbyn eu triniaeth gan ddarparwyr yn Lloegr. Pan fyddaf yn siarad ag optegwyr, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu, maent yn aml yn dweud wrthyf am gymhlethdodau ymdrin â darparwyr yn Lloegr o ran systemau technoleg gwybodaeth yn benodol; mae yna lawer o aneffeithlonrwydd yn y broses hefyd. Tybed, o ran yr hyn rydych chi wedi'i amlinellu heddiw, pa ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi i'r mater hwn, a pha waith sydd wedi mynd rhagddo wrth rannu llwyfannau digidol.
Y mater arall, wrth gwrs, y gwnaethoch chi sôn amdano yw gwella mynediad at ddarparwyr gofal sylfaenol. Un o'r problemau mawr sydd gennym ar draws Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yw denu gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol i ddod i weithio yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Yn aml, y mater a godwyd—mae'n fater hanesyddol ers peth amser—yw'r broblem gyda rhestr perfformwyr meddygol Cymru gyfan, felly, un rhestr i Gymru. Tybed ers i chi fod yn y swydd, a ydych chi wedi ystyried hyn. Mae llawer o brinder staff yn deillio o'r mater o gael meddygon teulu, efallai, yn cael eu hyfforddi yn rhywle arall yn Lloegr, ond heb fod yn barod i ddod i Gymru oherwydd cymhlethdodau gorfod cofrestru ar restr perfformwyr gwahanol. Felly, a gaf i ofyn, hefyd, a ydych chi wedi ystyried hyn, ac ystyried y posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gael un rhestr perfformwyr ar gyfer Cymru a Lloegr?
I thank the Member for that. He makes an important point for those parts of Wales that are on the border. It's a more challenging landscape even than the one he describes, I think, in practice, because there isn't one NHS England approach to IT, any more than there is in many parts of the Welsh NHS. So, what you are effectively looking at is the IT arrangements that exist on a trust or a board level, so it's actually a more complex picture than even the one he paints.
What we are very keen to do from a digital perspective in Wales is twofold. The critical element to this, and I touched on this in the committee the other day, is to have in place a national digital architecture for Wales, so that, then, initiatives, either at a health board level or at a national level in Wales, can all conform to the journey that we want the system to be moving on. We aren't in that place yet, but it is an absolute priority to get that architecture in place. That will then allow a once-for-Wales approach for a certain number of interventions, which will help with the challenge that he's describing. It won't solve it, because there isn't a 'once for England' approach over the border, but it will contribute to solving that, at least.
But then there will be some things that I think—. You know, we don't need to reinvent the wheel constantly, do we? There are things that are existing—commercial applications—that are available for health boards or practices to purchase themselves, and the critical thing is that they all form part of that larger picture together, so I think that's important on the digital front.
I had the opportunity of talking to somebody recently at a dinner that I attended, and I'd had a day when I had been reminded throughout the day of the challenges in the NHS in Wales, and I was feeling, at the end of the day, a little bit low. I sat next to a woman at dinner and she explained to me that she was a nurse practitioner in a practice in Powys. She described how successful the model was, the morale and the things about that practice that had drawn her to work there, and I thought that that was a salutary reminder to us all, actually, that every day there are people choosing to work in the Welsh NHS who are committed, driven and have very, very high levels of motivation. So, for all of the challenges, and he's mentioned some of them today, I think it's really, really important that most people's experience is that they're going into work driven to help people and able to do that in a way that we're all grateful for.
Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'n gwneud pwynt pwysig i'r rhannau hynny o Gymru sydd ar y ffin. Mae'n dirwedd fwy heriol hyd yn oed na'r un y mae'n ei ddisgrifio, rwy'n credu, yn ymarferol, oherwydd nid oes un dull o weithredu o ran TG yn GIG Lloegr, ac felly hefyd mewn sawl rhan o GIG Cymru. Felly, yr hyn rydych chi'n edrych arno mewn gwirionedd yw'r trefniadau TG sy'n bodoli ar lefel ymddiriedolaeth neu fwrdd, felly mewn gwirionedd mae'n ddarlun mwy cymhleth na hyd yn oed yr un y mae ef yn ei ddarlunio.
Mae'r hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud o safbwynt digidol yng Nghymru yn ddeublyg. Yr elfen hanfodol i hyn, a chrybwyllais hyn yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, yw cael pensaernïaeth ddigidol genedlaethol ar waith i Gymru, fel y gall mentrau, wedyn, naill ai ar lefel bwrdd iechyd neu ar lefel genedlaethol yng Nghymru, i gyd gydymffurfio â'r daith yr ydym eisiau i'r system fod arni. Nid ydym yn y lle hwnnw eto, ond mae'n sicr yn flaenoriaeth i gael y bensaernïaeth honno ar waith. Bydd hynny wedyn yn caniatáu dull unwaith i Gymru ar gyfer nifer penodol o ymyriadau, a fydd yn helpu gyda'r her y mae'n ei disgrifio. Ni fydd yn ei datrys, oherwydd nid oes dull 'unwaith i Loegr' dros y ffin, ond bydd yn cyfrannu at ddatrys hynny, o leiaf.
Ond yna bydd rhai pethau rwy'n credu—. Wyddoch chi, nid oes angen i ni ailddyfeisio'r olwyn yn gyson, nac oes? Mae yna bethau sy'n bodoli—ceisiadau masnachol—sydd ar gael i fyrddau iechyd neu bractisau eu prynu eu hunain, a'r peth tyngedfennol yw eu bod nhw i gyd yn ffurfio rhan o'r darlun mwy yna gyda'i gilydd, felly rwy'n credu bod hynny'n bwysig ym maes digidol.
Cefais y cyfle i siarad â rhywun yn ddiweddar mewn cinio yr oeddwn yn bresennol ynddo, ac roeddwn wedi cael diwrnod pan oeddwn wedi cael fy atgoffa drwy gydol y diwrnod o'r heriau yn y GIG yng Nghymru, ac roeddwn i'n teimlo, ar ddiwedd y dydd, ychydig yn isel. Eisteddais wrth ymyl menyw yn y cinio ac eglurodd i mi ei bod yn ymarferydd nyrsio mewn practis ym Mhowys. Disgrifiodd pa mor llwyddiannus oedd y model, y morâl a'r pethau am y practis hwnnw a oedd wedi ei denu i weithio yno, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth i'n hatgoffa ni i gyd mewn ffordd lesol, mewn gwirionedd, bod pobl sy'n dewis gweithio yn GIG Cymru bob dydd sy'n ymroddedig, yn cael eu sbarduno ac sydd â lefelau uchel iawn o gymhelliant. Felly, er yr holl heriau, ac mae wedi sôn am rai ohonyn nhw heddiw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn mai profiad y rhan fwyaf o bobl yw eu bod yn mynd i mewn i waith wedi'u hysgogi i helpu pobl a gallu gwneud hynny mewn ffordd rydyn ni i gyd yn ddiolchgar amdani.
The Cabinet Secretary will be aware of the difficulties that a lot of patients in the Rhymney valley and throughout the south-east are having in getting doctors' appointments in those surgeries that are being run by eHarley Street. This private company is running surgeries in Bargoed, Gelligaer, Brynmawr, Tredegar and many others, and patients are finding it almost impossible to get those appointments, but when they do get to the doctors' surgery, waiting rooms are almost empty. Now, we know, and it has been raised in the Chamber a number of times, that doctors haven't been paid by eHarley Street; they are owed thousands of pounds, and, as a result, many doctors are refusing to work more shifts in those surgeries, and that means that patients aren't getting the care that they deserve.
I've raised concerns in the Chamber for many weeks about this, and about clinical governance as well, doctors’ pay, and the pressure that's being put on nurses in those surgeries. Everyone seems to be agreeing that something is very badly wrong here, but nobody yet seems to be promising exactly what is needed in order to ensure that this improves in those surgeries and that it doesn't get repeated. Could you tell us, please, what conversations you've had with the health board about this, and could you assure the Chamber that you will do everything in your power to ensure that patients start getting the care again that they deserve to get?
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r anawsterau y mae llawer o gleifion yng Nghwm Rhymni a thrwy gydol y de-ddwyrain yn eu cael wrth geisio cael apwyntiadau meddygon yn y meddygfeydd hynny sy'n cael eu rhedeg gan eHarley Street. Mae'r cwmni preifat hwn yn cynnal meddygfeydd ym Margoed, Gelligaer, Brynmawr, Tredegar a llawer o rai eraill, ac mae cleifion yn ei chael bron yn amhosibl cael yr apwyntiadau hynny, ond pan fyddan nhw'n cyrraedd y feddygfa, mae'r ystafelloedd aros bron yn wag. Nawr, rydyn ni'n gwybod, ac mae wedi cael ei godi yn y Siambr nifer o weithiau, nad yw meddygon wedi cael eu talu gan eHarley Street; mae miloedd o bunnau yn ddyledus iddynt, ac o ganlyniad, mae llawer o feddygon yn gwrthod gweithio mwy o shifftiau yn y meddygfeydd hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw cleifion yn cael y gofal y maent yn ei haeddu.
Rwyf wedi codi pryderon yn y Siambr ers wythnosau lawer am hyn, ac am lywodraethu clinigol hefyd, tâl meddygon, a'r pwysau sy'n cael ei roi ar nyrsys yn y meddygfeydd hynny. Mae'n ymddangos bod pawb yn cytuno bod rhywbeth mawr o'i le yma, ond does neb eto yn ymddangos eu bod yn addo yn union yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod hyn yn gwella yn y meddygfeydd hynny ac nad yw'n cael ei ailadrodd. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd am hyn, ac a allech chi sicrhau'r Siambr y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod cleifion yn dechrau cael y gofal eto y maen nhw'n ei haeddu?
I think I mentioned in the questions last week, when Alun Davies and the Member raised these very, very important points in the Chamber, that, clearly, staff should be paid, suppliers should be paid, not least because we know what the implications of the alternative are. It's obviously right in its own terms, but it clearly has ongoing consequences if people aren't paid. I made it clear—and I'll repeat that—that I'd spoken to the health board chair, and expressed my concerns, to make sure that practices should be complying with the general medical services contract, making sure that people were paid, and that the level of clinical governance and the availability of appointments was as they needed to be.
In my most recent conversations with the board, their understanding of the availability of appointments was that it was broadly consistent with the arrangements that had been in place previously, in terms of the volume of appointments that had been in place, when the health board was directly managing those practices, but I have asked for a further account from the health board this week, after the further discussions they've been having. There clearly needs to be a plan to make sure that services are sustainable and providing the level of access that we want people to see. So, as I mentioned last week, I'll be happy to report back to the Senedd when I have that further account.
Rwy'n credu imi grybwyll yn y cwestiynau yr wythnos diwethaf, pan gododd Alun Davies a'r Aelod y pwyntiau pwysig iawn hyn yn y Siambr, y dylid talu'r staff, yn amlwg, y dylid talu cyflenwyr, yn enwedig oherwydd ein bod yn gwybod beth yw goblygiadau'r dewis arall. Mae'n amlwg ei fod yn iawn yn ei dermau ei hun, ond mae'n amlwg bod ganddo ganlyniadau parhaus os nad yw pobl yn cael eu talu. Fe wnes i'n glir—a byddaf yn ailadrodd hynny—fy mod i wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd, a mynegi fy mhryderon, i wneud yn siŵr y dylai practisau fod yn cydymffurfio â'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu talu, a bod lefel y llywodraethu clinigol ac argaeledd apwyntiadau ar y lefel y mae angen iddyn nhw fod.
Yn fy sgyrsiau diweddaraf gyda'r bwrdd, eu dealltwriaeth o argaeledd apwyntiadau oedd ei fod yn gyson yn fras â'r trefniadau a oedd wedi bod ar waith o'r blaen, o ran faint o apwyntiadau a oedd wedi bod ar waith, pan oedd y bwrdd iechyd yn rheoli'r arferion hynny'n uniongyrchol, ond rwyf wedi gofyn am adroddiad pellach gan y bwrdd iechyd yr wythnos hon, ar ôl y trafodaethau pellach y maent wedi bod yn eu cael. Mae'n amlwg bod angen cynllun i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn darparu'r lefel o fynediad yr ydym am i bobl ei weld. Felly, fel y soniais i yr wythnos diwethaf, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Senedd pan fydd gennyf yr adroddiad pellach hwnnw.
Primary care sees more people with health needs than any other part of the system. The share of the health budget being spent on primary and community care services has reduced. The health and care system must be radically refocused to put primary and community care at its core if it is to be effective and sustainable. The decision that has had the biggest adverse effect on primary and community care was the merging of primary and secondary care, which resulted in the proportion of spend on secondary care going up at the expense of primary care. The community health service and general practice face multiple challenges, with insufficient staff and capacity to meet the rising patient needs and complexity.
Most primary care providers provide an excellent service in difficult circumstances. When people cannot get primary care, they go to A&E, thus further clogging up an under-pressure system. In some practices, if someone says they need an urgent GP appointment, they then get sent to A&E, also clogging the system. It's easy to say how important primary care is and how dependent we are on it. I have two requests: that the share of the health budget spent by health boards on primary and community care is protected next year, and to increase the proportion of minor surgical interventions carried out in primary care.
Mae gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl ag anghenion iechyd nag unrhyw ran arall o'r system. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wedi lleihau. Rhaid ailganolbwyntio'r system iechyd a gofal yn radical i roi gofal sylfaenol a chymunedol wrth ei graidd os yw am fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Y penderfyniad sydd wedi cael yr effaith andwyol fwyaf ar ofal sylfaenol a chymunedol oedd uno gofal sylfaenol ac eilaidd, a arweiniodd at y gyfran o wariant ar ofal eilaidd yn cynyddu ar draul gofal sylfaenol. Mae'r gwasanaeth iechyd cymunedol ac ymarfer cyffredinol yn wynebu heriau lluosog, heb ddigon o staff a gallu i ddiwallu anghenion a chymhlethdod cynyddol cleifion.
Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal sylfaenol yn darparu gwasanaeth rhagorol mewn amgylchiadau anodd. Pan na all pobl gael gofal sylfaenol, maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, gan roi mwy o bwysau ar system sydd eisoes o dan bwysau. Mewn rhai meddygfeydd, os bydd rhywun yn dweud bod angen apwyntiad meddyg teulu brys arnynt, yna maen nhw'n cael eu hanfon at adrannau damweiniau ac achosion brys, gan hefyd lyffetheirio'r system. Mae'n hawdd dweud pa mor bwysig yw gofal sylfaenol a pha mor ddibynnol ydyn ni arno. Mae gennyf ddau gais: bod cyfran y gyllideb iechyd a wariwyd gan fyrddau iechyd ar ofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei gwarchod y flwyddyn nesaf, a bod cyfran yr ymyriadau llawfeddygol mân a wneir mewn gofal sylfaenol yn cynyddu.
I thank Mike Hedges for those questions. The way he put his question, I think, shows the complexity of it. He made the point about separating secondary and primary care, but then the example he gave was one that reminds us of the interdependency, if you like, between people's access to primary care and what that can mean for access for secondary care. So, the relationship, obviously, is very interdependent in that way.
I do agree with him that what we should see, as far as we possibly can, is the provision of more and more services in the primary care setting, whether that's diagnostics, but in the way that he said also, minor surgical interventions and a range of others. Some of them I touched on today, but he makes a point, I think, about a larger volume of activity in primary care. I have no doubt whatsoever that that is the right way forward, and I hope that we will be able to see progressively an increase in that. Whether it's at a practice level, or at a cluster level, I absolutely think that that is part of the solution to being able to provide more funding to primary care settings and the sustainability of the model into the future.
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna. Mae'r ffordd y gofynnodd ei gwestiwn, rwy'n credu, yn dangos ei gymhlethdod. Gwnaeth y pwynt am wahanu gofal eilaidd a gofal sylfaenol, ond yna'r enghraifft a roddodd oedd un sy'n ein hatgoffa o'r gyd-ddibyniaeth, os mynnwch, rhwng mynediad pobl at ofal sylfaenol a'r hyn y gall hynny ei olygu o ran cael mynediad at ofal eilaidd. Felly, mae'r berthynas, yn amlwg, yn gyd-ddibynnol iawn yn y ffordd honno.
Rwy'n cytuno ag ef mai'r hyn y dylem ei weld, cyn belled ag y gallwn, yw darparu mwy a mwy o wasanaethau yn y lleoliad gofal sylfaenol, p'un a yw hynny'n ddiagnosteg, ond yn y ffordd y dywedodd hefyd, mân ymyriadau llawfeddygol ac ystod o rai eraill. Crybwyllais rai ohonynt heddiw, ond mae'n gwneud pwynt, rwy'n credu, am nifer fwy o weithgaredd mewn gofal sylfaenol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai dyna'r ffordd gywir ymlaen, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweld cynnydd fesul cam yn hynny. P'un a yw ar lefel practis, neu ar lefel clwstwr, credaf yn llwyr fod hynny'n rhan o'r ateb i allu darparu mwy o gyllid i leoliadau gofal sylfaenol a chynaliadwyedd y model i'r dyfodol.
We've done some great work on getting better use out of the community pharmacists, because they're highly skilled individuals, and them dealing with the common ailments scheme seems to me just a much better use of their skills than simply dishing out somebody else's prescriptions.
I'm a little bit confused about the way in which GP practices work, because I've yet to come across a GP practice with the skill mix that I would expect. For example, which GP practice employs a diabetes nurse, given the prevalence of diabetes in our community? You would expect that there was plenty of work for such a person. Instead, we seem to have four or five highly skilled GPs all acting as consultants in primary care, with maybe one practice nurse. That just doesn't feel like the right balance. And then we have a separate service called community nursing, or community allied health professionals, and I just wondered if we don't need to think a little bit more creatively in the way we're delivering primary care services.
I was very interested at lunchtime to hear from Nia Boughton, who's a consultant nurse for primary care at Betsi Cadwaladr. She's done some fantastic work on getting somebody with endometriosis back into work—
Rydym wedi gwneud gwaith gwych ar gael gwell defnydd allan o'r fferyllwyr cymunedol, oherwydd eu bod yn unigolion medrus iawn, ac mae'r ffaith eu bod yn ymdrin â'r cynllun anhwylderau cyffredin yn ymddangos i mi fel defnydd llawer gwell o'u sgiliau na dim ond rhoi presgripsiynau rhywun arall i bobl.
Rydw i ychydig yn ddryslyd ynghylch y ffordd y mae practisau meddygon teulu yn gweithio, oherwydd nid wyf eto wedi dod ar draws practis meddyg teulu gyda'r gymysgedd o sgiliau y byddwn yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, pa feddygfa sy'n cyflogi nyrs diabetes, o ystyried cyffredinrwydd diabetes yn ein cymuned? Byddech chi'n disgwyl bod digon o waith ar gael i rywun o'r fath. Yn hytrach, mae'n ymddangos bod gennym bedwar neu bump o feddygon teulu medrus iawn i gyd yn gweithredu fel ymgynghorwyr mewn gofal sylfaenol, gydag un nyrs practis efallai. Nid yw hynny'n teimlo fel y cydbwysedd cywir. Ac yna mae gennym wasanaeth ar wahân o'r enw nyrsio cymunedol, neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes angen i ni feddwl ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol.
Roedd gen i ddiddordeb mawr amser cinio i glywed gan Nia Boughton, sy'n nyrs ymgynghorol ar gyfer gofal sylfaenol yn Betsi Cadwaladr. Mae hi wedi gwneud gwaith gwych ar gael rhywun ag endometriosis yn ôl i'r gwaith—
You need to ask a question now, please.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
The key there is the fact that Nia is working in a practice that is being directly managed by the health board, rather than one that's being managed by a GP practice. Clearly, there are different ways in which we need to look at the GP contract to have a more holistic service for what people need in primary care.
Yr allwedd yno yw'r ffaith bod Nia yn gweithio mewn practis sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, yn hytrach nag un sy'n cael ei reoli gan bractis meddyg teulu. Yn amlwg, mae yna wahanol ffyrdd y mae angen i ni edrych ar y contract meddygon teulu i gael gwasanaeth mwy cyfannol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar bobl mewn gofal sylfaenol.
I thank Jenny for that question, and for the discussions we've had over recent weeks in particular about funding for GP practices. I think it is clear in the way that she puts the question today that one of the threads through those discussions we've had recently has been what the mix of services is that can be provided by GPs, which is a way of strengthening the model, but also, more importantly, providing the kind of service that patients want and will be able to benefit from. There are a variety of different models. The example I gave to Russell George earlier was an example where the nurse practitioner in that practice was a very significant, visible part of the offer to local residents. I think there is a range of models, but I think we need to keep the level of ambition about moving services into primary care settings high, and also that relationship between primary care settings and community services, to keep that creative and keep that evolving so that we make sure that we have the level of flexibility in service delivery that best meets the needs of patients.
Diolch i Jenny am y cwestiwn yna, ac am y trafodaethau rydym wedi'u cael dros yr wythnosau diwethaf yn arbennig am gyllid ar gyfer meddygfeydd. Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn y ffordd y mae hi'n rhoi'r cwestiwn heddiw mai un o'r edeifion trwy'r trafodaethau hynny rydyn ni wedi'u cael yn ddiweddar oedd beth yw'r cymysgedd o wasanaethau y gellir eu darparu gan feddygon teulu, sy'n ffordd o gryfhau'r model, ond hefyd, yn bwysicach fyth, darparu'r math o wasanaeth y mae cleifion ei eisiau ac y bydd yn gallu elwa arno. Mae yna amrywiaeth o wahanol fodelau. Roedd yr enghraifft a roddais i Russell George yn gynharach yn enghraifft lle roedd yr ymarferydd nyrsio yn y practis hwnnw yn rhan sylweddol a gweladwy iawn o'r cynnig i drigolion lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth o fodelau, ond rwy'n credu bod angen i ni gadw lefel yr uchelgais ynghylch symud gwasanaethau i leoliadau gofal sylfaenol yn uchel, a hefyd y berthynas honno rhwng lleoliadau gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, i gadw'r rheini'n greadigol a pharhau i esblygu hynny fel ein bod yn sicrhau bod gennym y lefel o hyblygrwydd o ran darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cleifion yn y ffordd orau.
Ac yn olaf, John Griffiths.
And finally, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, the newly opened 19 Hills health centre in Ringland in Newport East will provide a range of primary and community services delivered by general practitioners and a range of healthcare professionals, physical and mental health services. It serves a number of relatively disadvantaged communities where the inverse care law strongly applies, with those most in need of healthcare least likely to receive it. I wonder how the Welsh Government will work with Aneurin Bevan University Health Board and the 19 Hills health centre to make sure that we see a real improvement in access to healthcare by those in the community badly needing those services but currently not receiving them, to make sure that the potential of pulling these services from the acute sector into primary care and into a community setting is fully realised.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, bydd y ganolfan iechyd 19 Hills sydd newydd ei hagor yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd yn darparu ystod o wasanaethau cynradd a chymunedol a ddarperir gan ymarferwyr cyffredinol ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae'n gwasanaethu nifer o gymunedau cymharol ddifreintiedig lle mae'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol iawn, gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal iechyd yn llai tebygol o'i gael. Tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r ganolfan iechyd 19 Hills i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol mewn mynediad at ofal iechyd gan y rhai yn y gymuned sydd angen y gwasanaethau hynny yn ddirfawr ond nad ydynt yn eu derbyn ar hyn o bryd, i sicrhau bod potensial tynnu'r gwasanaethau hyn o'r sector acíwt i ofal sylfaenol ac i leoliad cymunedol yn cael ei wireddu'n llawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
I agree with what the Member has said is the ambition and the direction of travel. I think I'm right in saying that I had a conversation with one of the practitioners in that practice over the course of the last few weeks, and he echoed the point that the Member has just made again today about the persistent and pernicious existence of Julian Tudor Hart’s inverse care law, even 50 years on from the point at which he first declared that as a concept, which motivates us, doesn’t it?
I think there are absolutely challenges. The question is how best to make sure that we are able to make sure that those practices serving patients in disadvantaged communities, which we know are likely to have a wider range of more complex needs and to need to deliver the services in different ways, with more outreach work in particular, with a community work element—those imaginative solutions—that we can do that in a way that is sustainable into the future.
There have been discussions in the Chamber and elsewhere about the formula for allocating that funding. That appears to be a complex area, but that doesn't mean that we shouldn't seek other ways of making sure, in particular at a cluster level, where you can have the resilience of a number of practices serving that larger footprint—. I think that is part of the answer to the challenge that the Member has set out today.
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud yw'r uchelgais a'r cyfeiriad teithio. Rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud fy mod wedi cael sgwrs ag un o'r ymarferwyr yn y practis hwnnw dros yr wythnosau diwethaf, ac adleisiodd y pwynt y mae'r Aelod newydd ei wneud eto heddiw am fodolaeth barhaus a niweidiol deddf gofal gwrthgyfartal Julian Tudor Hart, hyd yn oed 50 mlynedd ers yr adeg y datganodd hynny gyntaf fel cysyniad, sy'n ein hysgogi ni, onid yw e'?
Rwy'n credu bod yna heriau heb amheuaeth. Y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod y practisau hynny sy'n gwasanaethu cleifion mewn cymunedau difreintiedig, y gwyddom eu bod yn debygol o fod ag ystod ehangach o anghenion mwy cymhleth ac angen darparu'r gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd, gyda mwy o waith allgymorth yn benodol, gydag elfen waith cymunedol—yr atebion llawn dychymyg hynny—y gallwn wneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol.
Cafwyd trafodaethau yn y Siambr ac mewn mannau eraill am y fformiwla ar gyfer dyrannu'r cyllid hwnnw. Mae'n ymddangos bod hynny'n faes cymhleth, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio ffyrdd eraill o sicrhau, yn enwedig ar lefel clwstwr, lle gallwch chi gael cydnerthedd nifer o bractisau sy'n gwasanaethu'r ôl troed mwy hwnnw—. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r ateb i'r her y mae'r Aelod wedi'i nodi heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar dyfu'r diwydiant pren: swyddi a thwf gwyrdd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Huw Irranca-Davies.
The next item is the statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on growing the timber industry: jobs and green growth. I call on the Cabinet Secretary, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o annerch Aelodau cyn ein hymgynghoriad ar gynigion ar gyfer strategaeth ddiwydiannol bren gyntaf Cymru.
Thank you very much, Llywydd. I'm delighted to address Members ahead of our consultation on proposals for Wales’s first timber industrial strategy.
Growing the forestry sector will offer a wide range of green jobs in Wales. It'll help us build more sustainable housing and it will boost our progress towards decarbonisation. Managing forests sustainably for timber production is a prime example of green and sustainable economic growth. When trees are harvested, carbon sequestered when they were growing remains stored in the timber. When that timber is then put to long-term use, like in making furniture or in building houses, then that carbon stays locked away, not released into the atmosphere. Meanwhile, the harvested crop of trees is replanted, sequestering more carbon, and the cycle continues.
Not only this, but the wood economy offers real opportunities for foresters, timber processors and manufacturers. There is a whole range of jobs and skills that flow right along the supply chain, from forest nurseries through planting, harvesting and milling, to, indeed, designing and constructing the end products that sustain people’s livelihoods. And I've got to say, this is especially true for people living in rural Wales.
The Welsh forestry sector includes family-owned businesses with a predominantly rural base, and they provide valuable employment opportunities for local communities. Last year, as I've mentioned, I visited Teifi Timber Products. Their sawmill and timber merchants in Llanllwni in Carmarthenshire source timber as locally as possible, and they offer skilled jobs to local people in their rural community. Apprenticeships in the forestry and low-carbon construction sector are crucial in supporting this transition to a sustainable economy, providing real opportunities for talented people to prosper.
As we transition to a stronger, fairer and greener Wales, the forestry, timber and construction sectors offer varied careers, including highly paid jobs. The consultation sets out proposals to improve recruitment and retention of an appropriately skilled, diverse and flexible workforce that can adapt to change. In fact, businesses like Teifi Timber Products show what the wood economy can achieve and why it’s so important that we support its growth in a strategic way.
By working together, we can support those local supply chains that will boost the potential value that we gain from our timber, all the way from forest to product. By working in partnership with industry, Wales can make the most of the opportunities for making and selling forest products from renewable, sustainable and responsibly managed forests. We will support the development and the adoption of new products, processes, technologies and promote geographical co-operation and shared resources, where appropriate.
As well as the obvious contribution timber can make towards this Government’s priority of boosting jobs and green growth, it contributes directly to our commitment to building sustainable and affordable homes. Timber allows us to build high performance, durable, healthy and sustainable homes, including social housing. I’m really looking forward to visiting a social housing development built with Welsh timber in Penrhyndeudraeth with the Cabinet Secretary for Housing and Local Government later this very week.
Building homes with timber offers huge opportunities for people but also for the planet. As the world looks to achieve net zero, timber, a low embodied carbon building material, can replace high embodied carbon materials like concrete. Timber and wood fibre offer opportunities for alternative methods of construction, panelised solutions and off-site manufacture. These approaches reduce the carbon footprint compared with traditional on-site construction methods and they can be built quicker, which will help us provide more social housing for those who need it now.
To expand the production of quality Welsh timber to fulfil the growing demand for low-carbon timber-framed social homes, we need to take action, and that’s why I’m so very pleased to be launching this consultation. Let's be clear—Wales already has established companies leading the way, such as SO Modular in Neath and Kronospan at their base in Chirk. As this consultation document shows, we can drive more growth by promoting innovation, designing and manufacturing wood-based products with increased value, extending the durability and climate resilience. Looking to the future, in a world that urgently needs to decarbonise, it is clear that timber will have a crucial role to play.
The UK currently imports much of our timber, and global demand is expected to quadruple by 2050. This means there is a huge potential for growth. It also means that, in order for us to have a reliable and sustainable future timber supply, we'll have to grow more Welsh timber, increase our circular approaches, reuse and recycle, balanced with importing in a globally responsible way. Wales is primed to make the most of this opportunity. Wales offers favourable growing conditions for many productive species, both softwood and hardwood. We need to capitalise on this, and improve understanding, through the supply chain, of all the potential ways that homegrown timber can be used.
As we consider the future and the role that timber will have to play, we must also consider what that the future growing climate will look like. The productivity of forests may be affected itself by the impacts of climate change. And let’s be clear: Wales is already experiencing changing climatic conditions and those more frequent extreme weather events, just as we saw with storm Darragh, which brought down countless trees right across the country. That’s why the timber industrial strategy sets out specific proposals to futureproof our forests. We need to choose species that will remain productive in the future, ensuring access to genetically diverse and climate-appropriate stock. We need a reliable supply of forest genetic materials, including seed orchards, and we need sufficient capacity in out forest nurseries. This way, we can ensure that our timber forests and all the jobs that rely on them are secure and resilient.
It is also very important for us to note that the timber industrial strategy is not taking place in a vacuum. At the end of November last year, the UK-level tree planting taskforce was launched, to oversee the planting of millions of trees across the UK to meet our net zero targets. The taskforce, chaired by the forestry ministers from the four nations, recognises trees as essential for providing sustainable timber and a whole range of other benefits to nature and to people. But of course, timber security is not solely reliant on virgin timber. There is already a healthy market for recycled wood fibre and potential to reclaim more timber than we currently retrieve, for example, from demolished buildings.
Growing forests takes time, but there are significant short-term gains to be had. I am really encouraged by the delivery of joined-up initiatives across Government portfolios, such as Home-Grown Homes 2. The Tai ar y Cyd pattern book for social homes, launched only last week, shows housing and forestry working together towards more sustainable homes. Expansion of the Welsh Government’s flexible skills programme to include the forestry and timber sectors means businesses can access grant support to upskill their workforce. We have to continue this close collaboration as we move from development of the strategy into making it a reality on the ground.
I would really encourage wide engagement with this consultation. The resulting timber industrial strategy will be published later in the year, setting out a very clear road map for how Government and industry will work together to achieve a thriving wood-based economy in Wales, supporting growth and green jobs in both the forestry and timber sectors, helping build more sustainable social homes, and contributing to tackling the climate emergency.
Bydd tyfu'r sector coedwigaeth yn cynnig ystod eang o swyddi gwyrdd yng Nghymru. Bydd yn ein helpu i adeiladu tai mwy cynaliadwy a bydd yn rhoi hwb i'n cynnydd tuag at ddatgarboneiddio. Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy i gynhyrchu pren yn enghraifft wych o dwf economaidd gwyrdd a chynaliadwy. Pan gynaeafir coed, mae carbon a gafodd ei secwestru pan oedden nhw'n tyfu yn aros wedi'i storio yn y pren. Pan fydd y pren hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y tymor hir, fel wrth wneud dodrefn neu adeiladu tai, yna mae'r carbon hwnnw'n aros wedi'i gloi'n sownd, heb ei ryddhau i'r atmosffer. Yn y cyfamser, mae'r cnwd o goed a gynaeafwyd yn cael ei ailblannu, gan secwestru mwy o garbon, ac mae'r cylch yn parhau.
Nid yn unig hyn, ond mae'r economi pren yn cynnig cyfleoedd go iawn i goedwigwyr, proseswyr pren a gweithgynhyrchwyr. Mae ystod eang o swyddi a sgiliau sy'n llifo ar hyd y gadwyn gyflenwi, o feithrinfeydd coedwig trwy blannu, cynaeafu a melino, i, yn wir, ddylunio ac adeiladu'r cynhyrchion terfynol sy'n cynnal bywoliaeth pobl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru.
Mae'r sector coedwigaeth yng Nghymru yn cynnwys busnesau teuluol sydd â sylfaen wledig yn bennaf, ac maen nhw'n darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr i gymunedau lleol. Y llynedd, fel yr wyf wedi sôn, ymwelais â Teifi Timber Products. Mae eu melin lifio a'u masnachwyr pren yn Llanllwni yn sir Gaerfyrddin yn cael gafael ar bren mor lleol â phosibl, ac maen nhw'n cynnig swyddi medrus i bobl leol yn eu cymuned wledig. Mae prentisiaethau yn y sector coedwigaeth ac adeiladu carbon isel yn hanfodol wrth gefnogi'r newid hwn i economi gynaliadwy, gan ddarparu cyfleoedd go iawn i bobl dalentog ffynnu.
Wrth i ni bontio i Gymru gryfach, decach a gwyrddach, mae'r sectorau coedwigaeth, pren ac adeiladu yn cynnig gyrfaoedd amrywiol, gan gynnwys swyddi â chyflog uchel. Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynigion i wella recriwtio a chadw gweithlu medrus, amrywiol a hyblyg sy'n gallu addasu i newid. Mewn gwirionedd, mae busnesau fel Teifi Timber Products yn dangos beth all yr economi goed ei gyflawni a pham mae mor bwysig ein bod yn cefnogi ei thwf mewn ffordd strategol.
Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gefnogi'r cadwyni cyflenwi lleol hynny a fydd yn cynyddu'r potensial o ran gwerth a gawn o'n pren, yr holl ffordd o'r goedwig i'r cynnyrch. Drwy weithio mewn partneriaeth â diwydiant, gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i wneud a gwerthu cynhyrchion coedwig o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy a reolir yn gyfrifol. Byddwn yn cefnogi datblygu a mabwysiadu cynhyrchion, prosesau, technolegau newydd ac yn hybu cydweithredu daearyddol ac adnoddau a rennir, lle bo hynny'n briodol.
Yn ogystal â'r cyfraniad amlwg y gall pren ei wneud tuag at flaenoriaeth y Llywodraeth hon o hybu swyddi a thwf gwyrdd, mae'n cyfrannu'n uniongyrchol at ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi cynaliadwy a fforddiadwy. Mae pren yn ein galluogi i adeiladu cartrefi perfformiad uchel, gwydn, iach a chynaliadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â datblygiad tai cymdeithasol a adeiladwyd gyda phren o Gymru ym Mhenrhyndeudraeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae adeiladu cartrefi gyda phren yn cynnig cyfleoedd enfawr i bobl ond hefyd i'r blaned. Wrth i'r byd geisio cyflawni sero net, gall pren, deunydd adeiladu carbon ymgorfforedig isel, ddisodli deunyddiau carbon ymgorfforedig uchel fel concrit. Mae pren a ffeibr pren yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dulliau adeiladu amgen, datrysiadau â phaneli a gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Mae'r dulliau hyn yn lleihau'r ôl troed carbon o'i gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol ar y safle a gellir eu hadeiladu'n gyflymach, a fydd yn ein helpu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen nawr.
Er mwyn ehangu'r gwaith o gynhyrchu pren o Gymru o safon i fodloni'r galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, mae angen i ni weithredu, a dyna pam rwyf mor falch o fod yn lansio'r ymgynghoriad hwn. Gadewch i ni fod yn glir—mae Cymru eisoes wedi sefydlu cwmnïau sy'n arwain y ffordd, fel SO Modular yng Nghastell-nedd a Kronospan yn eu canolfan yn y Waun. Fel y dengys y ddogfen ymgynghori hon, gallwn ysgogi mwy o dwf trwy hybu arloesedd, dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion pren gyda mwy o werth, gan ymestyn parhauster a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd. Wrth edrych i'r dyfodol, mewn byd y mae angen iddo ddatgarboneiddio ar frys, mae'n amlwg y bydd gan bren rôl hanfodol i'w chwarae.
Ar hyn o bryd mae'r DU yn mewnforio llawer o'n pren, ac mae disgwyl i'r galw byd-eang gynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Mae hyn yn golygu bod potensial enfawr ar gyfer twf. Mae hefyd yn golygu, er mwyn i ni fod â chyflenwad dibynadwy a chynaliadwy o bren yn y dyfodol, y bydd yn rhaid i ni dyfu mwy o bren yng Nghymru, cynyddu ein dulliau cylchol, ailddefnyddio ac ailgylchu, wedi'u cydbwyso â mewnforio mewn ffordd sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae Cymru'n cael ei pharatoi i wneud y mwyaf o'r cyfle hwn. Mae Cymru'n cynnig amodau tyfu ffafriol i lawer o rywogaethau cynhyrchiol, pren meddal a phren caled. Mae angen i ni fanteisio i'r eithaf ar hyn, a gwella dealltwriaeth, drwy'r gadwyn gyflenwi, o'r holl ffyrdd posibl y gellir defnyddio pren a dyfwyd gartref.
Wrth i ni ystyried y dyfodol a'r rôl y bydd yn rhaid i bren ei chwarae, rhaid i ni hefyd ystyried sut olwg fydd ar yr hinsawdd tyfu yn y dyfodol. Efallai y bydd effeithiau newid hinsawdd yn effeithio ar gynhyrchiant coedwigoedd. A gadewch i ni fod yn glir: mae Cymru eisoes yn profi amodau hinsoddol newidiol a'r digwyddiadau tywydd eithafol amlach hynny, yn union fel y gwelsom gyda storm Darragh, a ddaeth â choed di-rif i lawr ledled y wlad. Dyna pam mae'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn nodi cynigion penodol i ddiogelu ein coedwigoedd yn y dyfodol. Mae angen i ni ddewis rhywogaethau a fydd yn parhau i fod yn gynhyrchiol yn y dyfodol, gan sicrhau mynediad at stoc sy'n amrywiol o safbwynt genetig ac sy'n briodol i'r hinsawdd. Mae angen cyflenwad dibynadwy o ddeunyddiau genetig coedwigoedd, gan gynnwys perllannau hadau, ac mae angen digon o gapasiti arnom mewn meithrinfeydd coedwig. Fel hyn, gallwn sicrhau bod ein coedwigoedd pren a'r holl swyddi sy'n dibynnu arnyn nhw'n ddiogel ac yn gadarn.
Mae hefyd yn bwysig iawn i ni nodi nad yw'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn digwydd mewn gwactod. Ddiwedd mis Tachwedd y llynedd, lansiwyd tasglu plannu coed ar lefel y DU, i oruchwylio plannu miliynau o goed ledled y DU i gyrraedd ein targedau sero net. Mae'r tasglu, dan gadeiryddiaeth gweinidogion coedwigaeth y pedair gwlad, yn cydnabod bod coed yn hanfodol ar gyfer darparu pren cynaliadwy ac ystod eang o fuddion eraill i natur ac i bobl. Ond wrth gwrs, nid yw diogeledd pren yn dibynnu ar bren crai yn unig. Mae marchnad iach eisoes ar gyfer ffeibr pren wedi'i ailgylchu a photensial i adennill mwy o bren nag yr ydym yn ei adfer ar hyn o bryd, er enghraifft, o adeiladau sydd wedi'u dymchwel.
Mae tyfu coedwigoedd yn cymryd amser, ond mae enillion tymor byr sylweddol i'w cael. Rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr gan gyflawniad mentrau cydgysylltiedig ar draws portffolios y Llywodraeth, fel Cartrefi o Bren Lleol 2. Mae'r llyfr patrwm Tai ar y Cyd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn unig, yn dangos tai a choedwigaeth yn cydweithio i greu cartrefi mwy cynaliadwy. Mae ehangu rhaglen sgiliau hyblyg Llywodraeth Cymru i gynnwys y sectorau coedwigaeth a phren yn golygu y gall busnesau gael gafael ar gymorth grant i uwchsgilio eu gweithlu. Mae'n rhaid i ni barhau â'r cydweithio agos hwn wrth i ni symud o ddatblygu'r strategaeth i'w gwireddu ar lawr gwlad.
Byddwn wir yn annog ymgysylltiad eang â'r ymgynghoriad hwn. Cyhoeddir y strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren fydd yn deillio o hwnnw yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan nodi map ffordd clir iawn ar gyfer sut y bydd y Llywodraeth a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau economi goed ffyniannus yng Nghymru, gan gefnogi twf a swyddi gwyrdd yn y sectorau coedwigaeth a phren, gan helpu i adeiladu cartrefi cymdeithasol mwy cynaliadwy, a chyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Dylai ein coedwigoedd fod mewn defnydd gweithredol, cynaliadwy ac amrywiol, gan ddarparu buddion economaid, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Our forests should be in active, sustainable and diverse use, providing economic, environmental, social and cultural benefits to the people of Wales for many centuries to come. Thank you very much, Llywydd.
I welcome the opportunity to respond to this statement on the development of Wales's first timber industrial strategy. While the ambitions outlined in the statement are commendable, Deputy First Minister, there are several areas that require greater clarity and decisive action to ensure their success.
The statement highlights Wales's favourable growing conditions for timber, and acknowledges the global demand for timber projected to quadruple by 2050. Despite this, the reliance on imports remains high, with 80 per cent of timber used in the UK sourced from abroad, and only 4 per cent of harvested Welsh timber processed for construction. This represents a significant underutilisation of Welsh resources. To address this, the Welsh Government must ensure that home-grown timber plays a central role in meeting the demand for sustainable housing, as you've outlined. But can you outline further and specific measures to prioritise Welsh timber in construction and reduce reliance on imports through the procurement process, for example?
There is potential for timber to replace high-carbon materials like concrete in construction, particularly in building sustainable housing, but how cost-effective is this? Also, the production and use of engineered timber products, such as glulam and wood fibre insulation must be expanded. The statement references the need for innovation and new technologies, which I welcome, but progress in this area has been slow. So, could the Cabinet Secretary provide an update on plans to support the development of value added timber products and their integration into the construction sector?
The statement also acknowledges the importance of skills and workforce development in supporting the transition to a sustainable economy. While the investment in forestry-related training is welcome, the scale of the skills gap in the sector requires a more comprehensive approach. With an ageing workforce and limited specialised training opportunities, collaboration with education providers is essential to expand training across the supply chain, from forest nurseries to advanced timber processing and low-carbon construction. So, what steps are being taken to engage with educational institutions and address the sector's workforce needs?
Going hand in glove with skills is the importance of local supply chains and partnerships, which has rightly been emphasised. However, tangible progress in this area remains limited. Strengthening the supply chain is critical to ensuring the economic benefits of the timber industry remain within Wales. So, what specific measures will be taken to foster stronger partnerships between forestry producers, processors and manufacturers, and to invest in local processing facilities?
It would be remiss of me not to take this opportunity to once again raise the concerns of rural communities across Wales who have seen agricultural land purchased for their total afforestation in an effort for companies to greenwash, offset their emissions, while making no changes to their own business practices. This change of use of land is highly damaging to the local communities and has a negative impact on food production and security, so how does today's statement alleviate the fears of these communities who have seen this happen, or who may see this happen in the near future?
Finally, while a consultation is always welcome—we love a consultation here in Wales—the short time between the closure of the consultation in April and the publication of the timber industrial strategy in the summer doesn't leave much time for deliberating and taking into account the submissions. The sustainable farming scheme consultation had so many responses that time was taken to consider them. So, are you confident, Cabinet Secretary and Deputy First Minister, that you have enough time between the closure of the consultation and the launch of the strategy to fully incorporate and consider the feedback, and that the consultation isn't just a box-ticking exercise with the strategy already a fait accompli? Diolch, Llywydd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad hwn ar ddatblygiad strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren gyntaf Cymru. Er bod yr uchelgeisiau a amlinellir yn y datganiad yn ganmoladwy, Dirprwy Brif Weinidog, mae sawl maes sydd angen mwy o eglurder a chamau pendant i sicrhau eu llwyddiant.
Mae'r datganiad yn tynnu sylw at amodau tyfu ffafriol Cymru ar gyfer pren, ac yn cydnabod y galw byd-eang am bren y rhagwelir y bydd yn cynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Er gwaethaf hyn, mae'r ddibyniaeth ar fewnforion yn parhau i fod yn uchel, gydag 80 y cant o bren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn dod o dramor, a dim ond 4 y cant o bren a gynaeafwyd yng Nghymru yn cael ei brosesu ar gyfer adeiladu. Mae hyn yn cynrychioli tanddefnydd sylweddol o adnoddau Cymru. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pren a dyfwyd gartref yn chwarae rhan ganolog wrth ateb y galw am dai cynaliadwy, fel yr amlinellwyd gennych. Ond a wnewch chi amlinellu camau pellach a phenodol i flaenoriaethu pren Cymru yn y diwydiant adeiladu a lleihau'r ddibyniaeth ar fewnforion drwy'r broses gaffael, er enghraifft?
Mae potensial i bren ddisodli deunyddiau carbon uchel fel concrit wrth adeiladu, yn enwedig wrth adeiladu tai cynaliadwy, ond pa mor gosteffeithiol yw hyn? Hefyd, rhaid ehangu cynhyrchu a defnyddio cynhyrchion pren peirianyddol, fel glulam ac inswleiddio ffeibr pren. Mae'r datganiad yn cyfeirio at yr angen am arloesi a thechnolegau newydd, yr wyf yn eu croesawu, ond mae'r cynnydd yn y maes hwn wedi bod yn araf. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gefnogi datblygu cynhyrchion pren gwerth ychwanegol a'u hintegreiddio yn y sector adeiladu?
Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau a datblygu'r gweithlu wrth gefnogi'r newid i economi gynaliadwy. Er bod croeso i'r buddsoddiad mewn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â choedwigaeth, mae graddfa'r bwlch sgiliau yn y sector yn gofyn am ddull mwy cynhwysfawr. Gyda gweithlu sy'n heneiddio a chyfleoedd hyfforddi arbenigol cyfyngedig, mae cydweithredu â darparwyr addysg yn hanfodol i ehangu hyfforddiant ar draws y gadwyn gyflenwi, o feithrinfeydd coedwig i brosesu pren datblygedig ac adeiladu carbon isel. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymgysylltu â sefydliadau addysgol a mynd i'r afael ag anghenion gweithlu'r sector?
Law yn llaw â sgiliau mae pwysigrwydd cadwyni cyflenwi a phartneriaethau lleol, sydd wedi'i bwysleisio'n briodol. Fodd bynnag, mae cynnydd pendant yn y maes hwn yn parhau i fod yn gyfyngedig. Mae cryfhau'r gadwyn gyflenwi yn hanfodol er mwyn sicrhau bod buddion economaidd y diwydiant pren yn aros yng Nghymru. Felly, pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd i feithrin partneriaethau cryfach rhwng cynhyrchwyr, proseswyr a gweithgynhyrchwyr coedwigaeth, ac i fuddsoddi mewn cyfleusterau prosesu lleol?
Byddai'n esgeulus i mi beidio â chymryd y cyfle hwn i godi pryderon cymunedau gwledig ledled Cymru unwaith eto sydd wedi gweld tir amaethyddol yn cael ei brynu i'w orchuddio'n llwyr â choedwig, mewn ymdrech i gwmnïau wyrddgalchu, wrthbwyso eu hallyriadau, heb wneud dim newidiadau i'w harferion busnes eu hunain. Mae'r newid defnydd hwn o dir yn niweidiol iawn i'r cymunedau lleol ac mae'n cael effaith negyddol ar gynhyrchu bwyd a diogeledd bwyd, felly sut mae datganiad heddiw yn lleddfu ofnau'r cymunedau hyn sydd wedi gweld hyn yn digwydd, neu a allai weld hyn yn digwydd yn y dyfodol agos?
Yn olaf, er bod ymgynghoriad i'w groesawu bob amser—rydym wrth ein bodd ag ymgynghoriad yma yng Nghymru—nid yw'r amser byr rhwng cau'r ymgynghoriad ym mis Ebrill a chyhoeddi'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn yr haf yn gadael llawer o amser i drafod a chymryd i ystyriaeth y cyflwyniadau. Cafodd ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy gymaint o ymatebion nes bod llawer o amser wedi ei gymryd i'w hystyried. Felly, a ydych chi'n hyderus, Ysgrifennydd Cabinet a Dirprwy Brif Weinidog, bod gennych chi ddigon o amser rhwng cau'r ymgynghoriad a lansio'r strategaeth i ymgorffori ac ystyried yr adborth yn llawn, ac nad ymarfer ticio bocsys yn unig yw'r ymgynghoriad a'r strategaeth eisoes yn fait accompli? Diolch, Llywydd.
Sam, thank you very much for that. Can I welcome what I think was your welcome for the consultation on the strategy? In fact, many of your questions anticipate not only the points that are made within the strategy but also the bringing forward of the strategy itself. So, local supply chains—I mentioned them in my opening remarks—the skills pipeline that we'll need to do as well. Procurement, by the way, is within the consultation as well, so we're looking forward to people bringing forward their views. But it's definitely the case that within the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023, there is potential within that now to strengthen it, because it does deal with not simply the lowest cost of procurement, but the wider goods environmentally, local economies, local communities et cetera as well. So, we're looking forward for those views being brought forward.
You touched on a lot of points that are actually outlined within the consultation itself. So, with your support, I would encourage everybody to feed in their views on the best way forward on those. There are ideas within the consultation, but let's hear what people have to say. Do I think we have enough time, then, to turn in the strategy? Yes. There's been a lot of work with stakeholders even leading up to this point, so going out to consultation allows that piece of work to be done that tests the ideas, tests their views—are we in the right place? And then we can refine and nuance it before we bring it forward. But recognising where we are with the carbon budget-setting process, as well as our ambitions on the timber strategy and woodland creation, we need to get on with this, we really do. So, we do have enough time, but let's urge people, actually, to come forward. There will, by the way, be a series of public stakeholder engagement events throughout the consultation. There will be independent analysis, then, of the consultation feedback. So, it won't be me making a gut-feeling reaction as a Minister in some short order. We'll do a proper analysis.
You mentioned skills and training, which I touched on in my opening remarks. Just to say as well, we'll also be undertaking a review of post-16 education to make sure that we've got that post-16 piece, in terms of forestry also in the right place. But there's a wider piece here about the development of skills out from people who are already working in the industry as well, but further education colleges and other training support providers will be able to help us in that.
There was a range of things you mentioned there about woodland creation and making sure that we make sure that whatever funding and support we are putting into it benefits the local community. Just to make clear, the woodland creation grants, for example, with us go directly to Welsh landowners in Wales to create woodland within Wales. One of the things we can't do, even though there aren't many examples, I've got to be clear, but there have been a couple of examples previously cited in this Senedd Chamber—what we can't do is stand in the way of individual Welsh landowners or farmers who then make a decision to do something on their land that you and I might say, 'That's wrong. That feels wrong in terms of what we're trying to do.' Sometimes they make their own commercial private decisions. But what we are making sure is that any public money that goes into this space is benefiting local communities and our woodland creation strategy as well.
But thanks for your support, and encourage people to put those points into the consultation.
Sam, diolch yn fawr iawn am hynna. A gaf i groesawu'r hyn rwy'n credu oedd eich croeso chi i'r ymgynghoriad ar y strategaeth? Mewn gwirionedd, mae llawer o'ch cwestiynau'n rhagweld nid yn unig y pwyntiau a wneir o fewn y strategaeth ond hefyd cyflwyno y strategaeth ei hun. Felly, cadwyni cyflenwi lleol—soniais amdanynt yn fy sylwadau agoriadol—y llif sgiliau y bydd angen i ni ei greu hefyd. Mae caffael, gyda llaw, o fewn yr ymgynghoriad hefyd, felly rydym yn edrych ymlaen at bobl yn cyflwyno eu barn. Ond mae'n bendant yn wir, o fewn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, bod potensial o fewn hynny nawr i'w gryfhau, gan ei fod yn ymdrin nid yn unig â'r gost gaffael isaf, ond y nwyddau ehangach yn amgylcheddol, economïau lleol, cymunedau lleol ac ati hefyd. Felly, rydym yn edrych ymlaen at glywed y safbwyntiau hynny'n cael eu cyflwyno.
Fe wnaethoch chi grybwyll llawer o bwyntiau sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad ei hun, mewn gwirionedd. Felly, gyda'ch cefnogaeth chi, byddwn yn annog pawb i roi eu barn ar y ffordd orau ymlaen ar y rheini. Mae syniadau yn yr ymgynghoriad, ond gadewch i ni glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud. A ydw i'n credu bod digon o amser gyda ni, yna, i gyflwyno'r strategaeth? Ydw. Mae llawer o waith wedi bod gyda rhanddeiliaid hyd yn oed yn arwain at y pwynt hwn, felly mae cynnal ymgynghoriad yn caniatáu i'r darn hwnnw o waith gael ei wneud sy'n profi'r syniadau, yn profi eu barn—ydyn ni yn y lle iawn? Ac yna gallwn ei mireinio a'i haddasu cyn i ni ei chyflwyno. Ond gan gydnabod lle rydyn ni gyda'r broses o bennu cyllideb garbon, yn ogystal â'n huchelgeisiau ar gyfer y strategaeth bren a chreu coetiroedd, mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn, mae gwir angen i ni wneud hynny. Felly, mae gennym ddigon o amser, ond gadewch i ni annog pobl, mewn gwirionedd, i ddod ymlaen. Gyda llaw, bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid cyhoeddus drwy gydol yr ymgynghoriad. Bydd dadansoddiad annibynnol, yna, o'r adborth o'r ymgynghoriad. Felly, nid fi fydd yn ymateb yn reddfol fel Gweinidog mewn rhyw drefn fer. Byddwn yn gwneud dadansoddiad priodol.
Fe wnaethoch chi sôn am sgiliau a hyfforddiant, y gwnes i eu crybwyll yn fy sylwadau agoriadol. Dim ond i ddweud hefyd, byddwn ni hefyd yn cynnal adolygiad o addysg ôl-16 i sicrhau bod gennym y darn ôl-16 hwnnw, o ran coedwigaeth yn y lle iawn hefyd. Ond mae yna ddarn ehangach yma ynglŷn â datblygu sgiliau pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant hefyd, ond bydd colegau addysg bellach a darparwyr cymorth hyfforddiant eraill yn gallu ein helpu â hynny.
Roedd amrywiaeth o bethau roeddech chi'n sôn amdanyn nhw yna am greu coetiroedd a sicrhau ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pa bynnag gyllid a chymorth rydyn ni'n eu rhoi ynddo o fudd i'r gymuned leol. I'w wneud yn glir, mae'r grantiau creu coetiroedd, er enghraifft, gyda ni yn mynd yn uniongyrchol i dirfeddianwyr Cymru yng Nghymru i greu coetir yng Nghymru. Un o'r pethau na allwn ei wneud, er nad oes llawer o enghreifftiau, mae'n rhaid i mi fod yn glir, ond mae ambell enghraifft wedi eu nodi'n flaenorol yn Siambr y Senedd hon—yr hyn na allwn ei wneud yw sefyll yn ffordd tirfeddianwyr neu ffermwyr unigol o Gymru sydd wedyn yn gwneud penderfyniad i wneud rhywbeth ar eu tir y gallech chi a minnau ddweud, 'Mae hynny'n anghywir. Mae hynny'n teimlo'n anghywir o ran yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud.' Weithiau maen nhw'n gwneud eu penderfyniadau preifat masnachol eu hunain. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus sy'n mynd i'r maes hwn o fudd i gymunedau lleol a'n strategaeth creu coetiroedd hefyd.
Ond diolch am eich cefnogaeth, ac anogwch bobl i roi'r pwyntiau hynny yn yr ymgynghoriad.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Mae'n sicr yn un dwi'n ei groesawu. Mae hwn yn fater allweddol, wrth gwrs, ar gyfer ein heconomi, ar gyfer yr amgylched hefyd, ac yn un lle mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, ddangos uchelgais ac eglurder pwrpas os ydyn ni am gwrdd â'n nodau amgylcheddol ni, a hefyd, wrth gwrs, i gyflawni twf economaidd cynaliadwy. Felly, dwi yn edrych ymlaen at bori drwy’r ymgynghoriad—rhywbeth, wrth gwrs, dŷn ni ddim, efallai, wedi cael cyfle i'w wneud i'r graddau y byddem ni'n dymuno hyd yma—a dwi'n diolch am gael copi cynnar o hwnnw.
May I thank the Cabinet Secretary for his statement? It's certainly one I welcome. This is a key issue, of course, for our economy, for the environment too, and is an issue where the Welsh Government, in my view, does need to show ambition and clarity of purpose if we are to meet our environmental objectives, and also, of course, to deliver sustainable economic growth. So, I do look forward to looking through the consultation—something that we haven’t had an opportunity to do to the extent we would have liked to to date—and I thank you for an early copy of that.
There is a dilemma here, though, of course, isn't there, because we know that the Government are falling short of tree planting targets? So, clearly, it would be interesting to hear how you feel that this strategy will continue towards ramping up the achievement of those targets, but at the same time doing so in a way that doesn't leave us open, as we've heard, to some outside commercial interests that may well see an opportunity to take advantage of that. So, I'm just wondering whether you grapple with that in your consultation, or whether you have any thoughts, particularly on that issue. Incremental changes to payment rates and improving application processes are all positive, but maybe there are systemic barriers that need to be addressed as well within that equation, and much of it is identifying appropriate land et cetera.
Another one, of course, is, again—we come back to this—the capacity of Natural Resources Wales. Concerns from Confor and others about—. We know that the Welsh Government woodland estate holds a vital economic asset, yet timber volumes brought to market have consistently fallen below sustainable production levels. So, how will the Welsh Government and how will this strategy address the underutilisation of timber from the Government's woodland estate? And how will you ensure that Natural Resources Wales have the resources that they need to fulfil their role properly in this space?
Now, I appreciate that the statement is all about adding value, or very much about adding value to the produce, and I'd very much support efforts in that respect, but what does that look like in terms of a Government strategy? Will there be a route-map, or where are we going, in terms of an outcome following this? I know there will be a strategy, but are you looking at staging posts on that journey as part of an action plan, or anything that will come as a consequence?
Now, I would agree that there's a pressing need to reduce Wales’s dependency on timber imports, of course, because we know that they tend to increase carbon emissions, and they raise ethical concerns over habitat destruction and poor environmental standards abroad. So, what measures are being taken to reduce that dependency, particularly maybe in the shorter term, because longer term we hope that we will be more self-sustaining in that space? But we do need to promote ethical and sustainable production, both at home but also in terms of our imports.
And finally from me, I just want to ask about the national forest. Obviously, you mentioned earlier today that 100 sites have now achieved national forest status, but how do you plan to ensure that that initiative delivers tangible economic as well as environmental benefits? Is the national forest simply a symbolic environmental project, or do you foresee that meaningfully contribute to timber production, as well as biodiversity enhancement? Diolch, Llywydd.
Mae cyfyng-gyngor yma, er hyn, wrth gwrs, on'd oes e, oherwydd gwyddom fod y Llywodraeth yn methu â chyrraedd targedau plannu coed? Felly, yn amlwg, byddai'n ddiddorol clywed sut rydych chi'n teimlo y bydd y strategaeth hon yn parhau tuag at gynyddu cyflawniad y targedau hynny, ond ar yr un pryd yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n ein gadael ar agor, fel y clywsom, i rai buddiannau masnachol allanol a allai weld cyfle i fanteisio ar hynny. Felly, meddwl ydw i tybed a ydych chi'n mynd i'r afael â hynny yn eich ymgynghoriad, neu a oes gennych unrhyw feddyliau, yn enwedig ar y mater hwnnw. Mae newidiadau cynyddrannol i gyfraddau talu a gwella prosesau ymgeisio i gyd yn gadarnhaol, ond efallai fod rhwystrau systemig y mae angen mynd i'r afael â nhw hefyd o fewn yr hafaliad hwnnw, ac mae llawer ohono'n nodi tir priodol ac ati.
Un arall, wrth gwrs, unwaith eto—rydyn ni'n dod yn ôl at hyn—yw capasiti Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae pryderon gan Confor ac eraill am—. Gwyddom fod ystad goetir Llywodraeth Cymru yn ased economaidd hanfodol, ond eto mae swm y pren sy'n dod i'r farchnad wedi gostwng yn gyson yn is na lefelau cynhyrchu cynaliadwy. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru a sut y bydd y strategaeth hon yn mynd i'r afael â thanddefnydd o bren o ystad goetir y Llywodraeth? A sut y byddwch yn sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rôl yn briodol yn y maes hwn?
Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y datganiad yn ymwneud ag ychwanegu gwerth, neu am ychwanegu gwerth at y cynnyrch, a byddwn yn cefnogi ymdrechion yn fawr iawn yn hynny o beth, ond sut olwg sydd ar hynny o ran strategaeth y Llywodraeth? A fydd map ffordd, neu ble rydym yn mynd, o ran canlyniad yn dilyn hyn? Rwy'n gwybod y bydd strategaeth, ond a ydych chi'n edrych ar bwyntiau ar hyd y daith honno fel rhan o gynllun gweithredu, neu unrhyw beth a ddaw o ganlyniad?
Nawr, byddwn yn cytuno bod angen dybryd i leihau dibyniaeth Cymru ar fewnforion pren, wrth gwrs, oherwydd gwyddom eu bod yn tueddu i gynyddu allyriadau carbon, ac maen nhw'n codi pryderon moesegol ynghylch dinistrio cynefinoedd a safonau amgylcheddol gwael dramor. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r dibyniaeth honno, yn enwedig yn y tymor byrrach efallai, oherwydd yn y tymor hwy rydym yn gobeithio y byddwn yn fwy hunangynhaliol yn y maes hwnnw? Ond mae angen i ni hybu cynhyrchu moesegol a chynaliadwy, gartref ond hefyd o ran ein mewnforion.
Ac yn olaf gen i, rwyf eisiau gofyn am y goedwig genedlaethol. Yn amlwg, fe wnaethoch chi sôn yn gynharach heddiw bod 100 o safleoedd bellach wedi cyflawni statws coedwig genedlaethol, ond sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y fenter honno'n sicrhau buddion economaidd ac amgylcheddol diriaethol? Ai prosiect amgylcheddol symbolaidd yn unig yw'r goedwig genedlaethol, neu a ydych chi'n rhagweld hynny'n cyfrannu'n ystyrlon at gynhyrchu pren, yn ogystal â gwella bioamrywiaeth? Diolch, Llywydd.
Llyr, thank you very much indeed. Let me touch on the tree planting rates in response to you, first of all. The tree planting targets that are recommended by the Climate Change Committee were very challenging, but we're committed to working with them to ensure that those targets have that ambition but that they're also realistic for Wales, recognising that we have competing land pressures within our rural landscape as well. We acknowledge those multiple benefits, and we need to balance those as we strive to reach net zero by 2050. But what we do want to do, in this consultation and in the strategy that flows from it, is to encourage landowners to engage in a wide range of projects and collaborate with each other to deliver a diverse range of tree planting and woodland creation projects. Now, some of those will indeed fall within that value-added approach of the timber strategy, which can be used not only in sequestration as you plant them and so on, but actually into long-lasting products as well. Others will be different types of planting, and we're keen to see more use of tree planting for different reasons as well.
Statistics, the most recent we have, show that in the 2023-24 planting season, 640 hectares of woodland was created in Wales. It's similar to the average yearly rate of planting we have achieved over the last decade, but it is notably the third-highest rate in that period of time. But we know we've got to do more and go further, and that's part of what this is about. But this is about, as the consultation described, not only generating that quantum of home-grown product, of the right and diverse sort—softwoods and hardwoods that can go into deeply embedded carbon products, such as housing, such as furniture and so on—but it is also about having different types of planting that can give community benefits, nature benefits and biodiversity benefits as well. So, on a Wales basis, that is very much the approach that we are taking.
And just to say as well, we often kick ourselves and beat ourselves up in Wales about tree planting rates and what more we can do to increase them. We're not facing this challenge alone, I've got to say, across the UK, and that's why the UK trees taskforce has been established, to share good practice, see what the barriers are and see if we can work together to tear down those barriers to good, proper woodland creation in the right place. So, we're confident that Wales will benefit from that opportunity.
I touched on the point about not having some of those unintended consequences of people coming in from outside Wales and what have you. We need to be wary of that, without a doubt, there.
One of the things that the Welsh Government woodland estate, the forestry estate, that we have needs is not only to find those areas where we can plant and to get the business model right for that as well, but also to backfill this, actually, with a reliable supply of young trees to do this. So, again, part of this strategy is making sure that we have those restocking trees coming through. So, Natural Resources Wales had a competitive tender process back in 2022-23, and Maelor Forest Nurseries were awarded the contract for restocking. So, there are real benefits here if we get the supply chain right.
And the other aspect to say, of course, is that this doesn't stand on its own either in terms of woodland creation, which you mentioned. So, what we can do within the SFS, in the design of that now over the next few months, having got to that outline phase, is to now provide the right incentive for farmers who actually do want to do woodland creation—maybe for silviculture or agroforestry, maybe for shelterbelts, but actually to help us drive that forward. Some will benefit from this, will see the opportunity to diversify, not taking out prime productive pasture and so on, not taking out the ffriddoedd with the biodiversity and that, but, in the right place, they might say, 'We want to do this as well.' So, that's why I think we need to get on with this—consult, engage, see if we've got it just about right, modify if we don't, and then get on with it. Thank you.
Llyr, diolch yn fawr iawn i chi. Gadewch imi sôn am y cyfraddau plannu coed mewn ymateb i chi, yn gyntaf oll. Roedd y targedau plannu coed a argymhellir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn heriol iawn, ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i sicrhau bod y targedau hynny yn uchelgeisiol ond eu bod hefyd yn realistig i Gymru, gan gydnabod bod gennym bwysau cystadleuol ar dir yn ein tirwedd wledig hefyd. Rydym yn cydnabod y manteision lluosog hynny, ac mae angen i ni gydbwyso'r rheini wrth i ni ymdrechu i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ond yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn yr ymgynghoriad hwn ac yn y strategaeth sy'n deillio ohono, yw annog tirfeddianwyr i gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau a chydweithio â'i gilydd i gyflawni ystod amrywiol o brosiectau plannu coed a chreu coetiroedd. Nawr, bydd rhai o'r rheini, yn wir, yn dod o fewn y dull gwerth ychwanegol hwnnw yn y strategaeth ar gyfer pren, y gellir ei ddefnyddio nid yn unig wrth secwestru wrth i chi eu plannu ac ati, ond mewn gwirionedd i greu cynhyrchion hirhoedlog hefyd. Eraill fydd gwahanol fathau o blannu, ac rydym yn awyddus i weld mwy o ddefnydd o blannu coed am wahanol resymau hefyd.
Mae ystadegau, y diweddaraf sydd gennym, yn dangos bod 640 hectar o goetir wedi'i greu yng Nghymru yn nhymor plannu 2023-24. Mae'n debyg i'r gyfradd flynyddol gyfartalog o blannu yr ydym wedi'i chyflawni dros y degawd diwethaf, ond yn nodedig, dyma'r drydedd gyfradd uchaf yn y cyfnod hwnnw. Ond rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy a mynd ymhellach, ac mae hynny'n rhan o beth mae hyn yn ei olygu. Ond mae hyn yn ymwneud â, fel y disgrifiwyd gan yr ymgynghoriad, nid yn unig cynhyrchu'r cwantwm hwnnw o gynnyrch cartref, o'r math cywir ac amrywiol—pren meddal a phren caled sy'n gallu mynd i mewn i gynhyrchion carbon sydd wedi'u hymgorffori'n ddwfn, megis tai, fel dodrefn ac ati—ond mae hefyd yn ymwneud â bod â gwahanol fathau o blannu a all roi buddion i'r gymuned, manteision natur a buddion bioamrywiaeth hefyd. Felly, ar sail Cymru, dyna'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu yn fawr iawn.
Ac i ddweud hefyd, rydym yn aml yn cicio ein hunain ac yn beirniadu ein hunain yng Nghymru am gyfraddau plannu coed a beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cynyddu. Nid ydym yn wynebu'r her hon ar ein pen ein hunain, mae'n rhaid i mi ddweud, ledled y DU, a dyna pam y sefydlwyd tasglu coed y DU, i rannu arfer da, gweld beth yw'r rhwystrau a gweld a allwn weithio gyda'n gilydd i chwalu'r rhwystrau hynny rhag creu coetiroedd da a phriodol yn y lle iawn. Felly, rydym yn hyderus y bydd Cymru'n elwa ar y cyfle hwnnw.
Soniais yn gryno am y pwynt ynglŷn â pheidio â chael rhai o'r canlyniadau anfwriadol hynny o bobl yn dod i mewn o'r tu allan i Gymru ac ati. Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny, heb amheuaeth.
Un o'r pethau y mae ystad goetir Llywodraeth Cymru, yr ystad goedwigaeth, sydd gennym, ei hangen, yw nid yn unig dod o hyd i'r ardaloedd hynny lle gallwn blannu a chael y model busnes yn iawn ar gyfer hynny hefyd, ond hefyd i ôl-lenwi hyn, mewn gwirionedd, gyda chyflenwad dibynadwy o goed ifanc i wneud hyn. Felly, unwaith eto, rhan o'r strategaeth hon yw sicrhau bod gennym y coed ailgyflenwi hynny yn dod drwodd. Felly, roedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru broses dendro gystadleuol yn ôl yn 2022-23, a dyfarnwyd y contract ar gyfer ailgyflenwi i Maelor Forest Nurseries. Felly, mae manteision gwirioneddol yma os cawn y gadwyn gyflenwi yn iawn.
A'r agwedd arall i'w nodi, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn sefyll ar ei ben ei hun ychwaith o ran creu coetiroedd, y sonioch chi amdano. Felly, yr hyn y gallwn ei wneud o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy, wrth ddylunio hynny nawr dros y misoedd nesaf, ar ôl cyrraedd y cam amlinellol hwnnw, yw rhoi'r cymhelliant cywir i ffermwyr sydd mewn gwirionedd eisiau creu coetiroedd—efallai ar gyfer coedamaeth neu amaethgoedwigaeth, efallai ar gyfer lleiniau cysgodi, ond mewn gwirionedd i'n helpu i fwrw ymlaen â hynny. Bydd rhai yn elwa ar hyn, yn gweld y cyfle i arallgyfeirio, peidio â dileu tir pori cynhyrchiol o'r radd flaenaf ac ati, heb ddileu'r ffriddoedd gyda'r fioamrywiaeth ac ati, ond, yn y lle iawn, efallai y byddant yn dweud, 'Rydym eisiau gwneud hyn hefyd.' Felly, dyna pam rwy'n credu bod angen i ni fwrw ymlaen â hyn—ymgynghori, ymgysylltu, gweld a ydym ni wedi ei gael mwy neu lai yn iawn, addasu os nad ydym ni, ac yna bwrw ati. Diolch.
[Interruption.] Don't worry, it was a certain Member who was seeking distraction from your timber statement, so I'm sure she'll be listening to the rest of the statement now. Carolyn Thomas, finally.
[Torri ar draws.] Peidiwch â phoeni, Aelod penodol oedd yn ceisio tynnu sylw oddi wrth eich datganiad ar bren, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n gwrando ar weddill y datganiad nawr. Carolyn Thomas, yn olaf.
Just listening to the conversations, you reminded me I visited Denbighshire County Council’s nursery. They’ve started growing trees from seedlings themselves, and also wildflowers, which is amazing, to have that local stock ready for planting on the public estate.
I want to mention continuous cover forestry as opposed to clear felling. It’s so important for biodiversity and to also prevent flooding as well. We’ve seen that on our public estates managed by NRW, so would that be part of the strategy, going forward? I think that’s really important.
I’m really concerned about diseases such as ash dieback, and larch disease as well, so a variety of species is really important going forward.
So, my question to you, really, is: how would the Welsh Government ensure that Welsh forestry is climate resilient, and will this be kept under review, and will we see and learn more about climate change in Wales and adapt?
Dim ond gwrando ar y sgyrsiau, fe wnaethoch chi fy atgoffa fy mod wedi ymweld â meithrinfa Cyngor Sir Ddinbych. Maen nhw wedi dechrau tyfu coed o eginblanhigion eu hunain, a hefyd blodau gwyllt, sy'n anhygoel, i gael y cyflenwad lleol hwnnw yn barod i'w blannu ar yr ystad gyhoeddus.
Rwyf eisiau sôn am goedwigaeth gorchudd parhaus yn hytrach na llwyrgwympo. Mae mor bwysig i fioamrywiaeth ac atal llifogydd hefyd. Rydyn ni wedi gweld hynny ar ein hystadau cyhoeddus a reolir gan CNC, felly a fyddai hynny'n rhan o'r strategaeth, wrth symud ymlaen? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
Rwy'n bryderus iawn am glefydau fel clefyd coed ynn a chlefyd llarwydd hefyd, felly mae bod ag amrywiaeth o rywogaethau yn bwysig iawn wrth symud ymlaen.
Felly, fy nghwestiwn i chi, mewn gwirionedd, yw: sut y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod coedwigaeth Cymru yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, ac a fydd hyn yn cael ei adolygu, ac a fyddwn yn gweld ac yn dysgu mwy am newid hinsawdd yng Nghymru ac yn addasu?
Thank you, Carolyn, for that question. It's good to hear about the work going on with the Denbighshire nurseries as well. We need lots of this work going on in all parts of Wales, and this consultation goes from the beginning of the nursery side, through the planting, the harvesting, the embedding, the construction, and the value added all the way through it. Just to make that clear: this isn't simply to do with planting of trees or one type of tree, this is the whole match here, because we see real potential in economic growth and jobs within this.
But you quite rightly mentioned the aspect of continuous cover and resilience, building resilience in. That's definitely part of the consultation and will need to be part of the strategy. So, the second priority discussed in the consultation addresses the need to increase resilience, promote diversity and to adapt our silvicultural systems, and we've got some specific proposals within the consultation that we want people to comment on, on how we futureproof our woodland and our forests. There are different types of silvicultural approaches to achieve different objectives over different timescales—it's not that there's one perfect one—so we need to make sure that we have that diversity in this, so that we can get the carbon sequestration, we can get the timber supplies coming on stream, but also have real diversity, real resilience, including species resilience, biodiversity and carbon sequestration.
We held a knowledge exchange event on 12 December last year. It was specifically focused on future productive species selection, timber properties, and, at that, we had the leading experts and a wide range of stakeholders to share best practice, but also the latest research—so, we had Forest Research, NRW, Bangor University were there, Woodknowledge Wales, Confor and other leading stakeholders. This, by the way, is part of a series of events we're running now of knowledge exchange events that we're going to be running, but it was fascinating to see this in the timber sector, talking about that resilience and diversity and future climate resilience as well.
Diolch yn fawr, Carolyn, am y cwestiwn yna. Mae'n dda clywed am y gwaith sy'n digwydd gyda meithrinfeydd sir Ddinbych hefyd. Mae angen i lawer o'r gwaith hwn ddigwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae'r ymgynghoriad hwn yn mynd o'r dechrau o ran meithrinfeydd, trwy'r plannu, y cynaeafu, yr ymgorffori, yr adeiladu, a'r gwerth ychwanegol yr holl ffordd drwyddo. I wneud hynny'n glir: nid yw hyn yn ymwneud â phlannu coed neu un math o goeden yn unig, dyma'r maes cyfan yn y fan yma, oherwydd rydym yn gweld gwir botensial mewn twf economaidd a swyddi yn hyn o beth.
Ond fe wnaethoch chi grybwyll yn hollol briodol yr agwedd o orchudd parhaus a chydnerthedd, gan feithrin cydnerthedd ynddo. Mae hynny'n bendant yn rhan o'r ymgynghoriad a bydd angen iddo fod yn rhan o'r strategaeth. Felly, mae'r ail flaenoriaeth a drafodir yn yr ymgynghoriad yn mynd i'r afael â'r angen i gynyddu cydnerthedd, hybu amrywiaeth ac addasu ein systemau coedamaeth, ac mae gennym rai cynigion penodol yn yr ymgynghoriad yr ydym eisiau i bobl wneud sylwadau arnynt, ar sut rydym yn diogelu ein coetir a'n coedwigoedd at y dyfodol. Mae yna wahanol fathau o ddulliau coedamaeth i gyflawni gwahanol amcanion dros wahanol amserlenni—nid bod un perffaith—felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r amrywiaeth honno yn hyn, fel y gallwn ni secwestru carbon, fel y gallwn ni gael y cyflenwadau pren yn dod i'r llif, ond hefyd bod ag amrywiaeth go iawn, cydnerthedd gwirioneddol, gan gynnwys cydnerthedd rhywogaethau, bioamrywiaeth a secwestru carbon.
Cynhaliwyd digwyddiad cyfnewid gwybodaeth ar 12 Rhagfyr y llynedd. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddethol rhywogaethau cynhyrchiol yn y dyfodol, nodweddion pren, ac, yn hwnnw, roedd gennym yr arbenigwyr blaenllaw ac ystod eang o randdeiliaid i rannu arfer gorau, ond hefyd yr ymchwil ddiweddaraf—felly, roedd gennym Forest Research, CNC, Prifysgol Bangor yno, Woodknowledge Cymru, Confor a rhanddeiliaid blaenllaw eraill. Mae hyn, gyda llaw, yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau rydym yn eu cynnal nawr o ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth yr ydym yn mynd i fod yn eu cynnal, ond roedd yn ddiddorol gweld hyn yn y sector pren, yn sôn am y cydnerthedd a'r amrywiaeth hwnnw a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd yn y dyfodol hefyd.
Thank you to the Cabinet Secretary. I did get a bit worried during that statement on timber and forestry, because I could smell burning, but I've been reassured that it's a couple of toasted teacakes that have caught fire in the kitchen—[Laughter.]—and that all is resolved.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n pryderu ychydig yn ystod y datganiad hwnnw ar bren a choedwigaeth, oherwydd roeddwn i'n gallu arogli llosgi, ond rydw i wedi cael sicrwydd mai cwpl o gacennau te wedi'u tostio sydd wedi mynd ar dân yn y gegin—[Chwerthin.]—a bod popeth wedi'i ddatrys.
Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar y Diwrnod Cofio'r Holocost 2025, a dwi'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad yma—Jane Hutt.
The next item, therefore, will be a statement by the Cabinet Secretary for Social Justice on Holocaust Memorial Day 2025, and I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Dydd Llun nesaf yw Diwrnod Cofio’r Holocost, y diwrnod coffáu blynyddol i gofio mwy na 6 miliwn o Iddewon a Roma a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, a’r miliynau o bobl a laddwyd oherwydd erledigaeth y Natsïaid. Rydyn ni hefyd yn cofio'r rhai a laddwyd yn yr hil-laddiadau wedi hynny, fel Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Thank you, Llywydd. Next Monday is Holocaust Memorial Day, the annual day of commemoration where we remember the more than 6 million Jews and Roma murdered during the Holocaust, and the millions more killed because of Nazi persecution. We also remember those killed in the genocides that have followed, such as Cambodia, Rwanda, Bosnia and Darfur.
This year’s Holocaust Memorial Day marks the eightieth anniversary of the liberation of Auschwitz-Birkenau, the largest Nazi concentration camp. To commemorate this significant anniversary, we've provided funding to the Holocaust Memorial Day Trust to undertake work and employ a support worker in Wales. For the past few months, they have been working with communities and organisations to plan and support commemorative activities across Wales, because we must never forget. A Conwy school is hosting a talk by a Holocaust survivor. The Art Central Gallery in Barry will host a Holocaust Memorial Day art exhibition, which will present a series of creations that consider trauma and loss. Swansea central library has organised a talk on the ‘Oral Histories of the Kindertransport in Wales’. Blaenau Gwent County Borough Council is hosting a live webinar for pupils across west Gwent, where they can hear the testimony of a Holocaust survivor, with an opportunity to ask questions.
Our funding enabled the trust to engage with Welsh communities and organisations as part of its arts and education project, ‘80 Candles for 80 Years’. Eighty communities and organisations from across the UK have each designed and created a bespoke candleholder to highlight the life of an individual or a community persecuted by the Nazis. The 80 candleholders are being showcased in a digital exhibition, bringing together a diverse range of stories. Three contributions from Wales will feature in the exhibition. Oriel Môn and Anglesey archives have looked at the life stories of Hendrik and Karel Lek, who fled Belgium and settled on Anglesey. HMP Berwyn’s Gypsy, Roma, Traveller group chose to focus on the Romani victims of Auschwitz-Birkenau, and organised workshops around the impact of Nazi persecution on the Gypsy, Roma, Traveller community. HMP Parc has focused on the life story of Helene Melaine Lebel, who was killed by the Nazi euthanasia programme. This contribution sought to raise awareness of the different communities that were persecuted, including disabled people.
2025 is also the thirtieth anniversary of the genocide in Bosnia. The massacre at Srebrenica was the largest incidence of mass murder in Europe since the second world war. We will remember the 8,000 Bosnian Muslims killed during the atrocities, as well as those who survived such inhumane treatment during the conflict.
Alongside the First Minister, I will be attending the Wales Holocaust Memorial Day ceremony. It is always a deeply moving ceremony, with invaluable contributions from survivors of genocide. This year, both the Holocaust survivor Eva Clarke and Safet Vukalić, a survivor of the Bosnian genocide, will speak at the ceremony. Representatives from the Jewish and Roma communities will participate in the national ceremony, as well as disabled people and LGBTQ+ people, who were also targeted through the Holocaust.
The First Minister will also attend the Holocaust Memorial Day event at the Senedd tomorrow afternoon. The event has cross-party sponsorship, once again reflecting the continued commitment and support of this Siambr for marking the day.
At 8 p.m. on Holocaust Memorial Day, the ‘light the darkness’ national moment will take place. People are invited to light candles and put them safely in their windows to remember those who were murdered during the Holocaust and subsequent genocides. Candles will also represent opposition to the prejudice and hatred that continue to exist today. Iconic buildings across Wales, including the Senedd and the National Library of Wales, will be lit up in purple.
This year, the theme for Holocaust Memorial Day is ‘for a better future’. The Holocaust Memorial Day Trust states on its website that
‘we all have an opportunity to take action for a better future. A better future where people are not suffering prejudice or persecution because of their faith, ethnicity or other characteristic.’
The trust highlights some important actions we can all take to tackle antisemitism and other forms of hate to create a better future: call out Holocaust or genocide denial and trivialisation when you see or hear it; use reputable, authoritative sources both to learn more about the Holocaust and genocides, and to share with others; report all hate crimes to the police or via support services. The Welsh Government fully endorses this call to action. It's vital that children and young people understand the reasons behind the Holocaust and the consequences of dehumanising sections of society. We continue to fund the Holocaust Education Trust to run the Lessons from Auschwitz project in Wales, which provides post-16 students with the opportunity to visit Poland and to hear directly from a Holocaust survivor. Students end the programme by outlining how they will share what they have learnt and experienced with their school and wider community.
Like the trust, we strongly encourage the reporting of hate crimes. These can be reported by contacting the police or via the Welsh Government-funded Wales Hate Support Centre run by Victim Support. The service offers free, confidential support and advocacy to all victims of hate crime, including a bespoke service for children and young people. The Welsh Government proudly maintains our strong stance: hate has no home in Wales. These principles are at the forefront of our 'Anti-racist Wales Action Plan' and LGBTQ+ action plan and forthcoming disability rights plan.
I will close this statement by thanking the many people across the UK who devote their time and effort towards raising awareness of Holocaust. Honouring the memories of those lost and keeping their stories alive is an important way to ensure that our social fabric remains strong. I would like to thank both the Holocaust Memorial Day Trust and the Holocaust Educational Trust for their vital work to help educate and commemorate. The Holocaust is still a living memory, and we're hugely grateful to the many survivors, including Eva and Safet, who travel around Wales sharing their warnings from their childhood and visions for an anti-racist and cohesive future.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll-garchar mwyaf y Natsïaid. I nodi'r flwyddyn arwyddocaol hon, rydym wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ymgymryd â gwaith a chyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru. Dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru, oherwydd rhaid i ni byth anghofio. Mae ysgol yng Nghonwy yn cynnal sgwrs gan un o oroeswyr yr Holocost. Bydd Art Central Gallery yn y Barri yn cynnal arddangosfa gelf Diwrnod Cofio'r Holocost, a fydd yn cyflwyno cyfres o greadigaethau sy'n ystyried trawma a cholled. Mae llyfrgell ganolog Abertawe wedi trefnu sgwrs ar 'Hanesion Llafar y Kindertransport yng Nghymru'. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnal gweminar fyw ar gyfer disgyblion ar draws gorllewin Gwent, lle gallan nhw glywed tystiolaeth gan un o oroeswyr yr Holocost, gyda chyfle i ofyn cwestiynau.
Fe wnaeth ein cyllid alluogi'r ymddiriedolaeth i ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau yng Nghymru fel rhan o'i phrosiect celfyddydau ac addysg, '80 Cannwyll ar gyfer 80 Mlynedd'. Mae 80 o gymunedau a sefydliadau o bob rhan o'r DU wedi dylunio a chreu daliwr canhwyllau pwrpasol i nodi bywyd unigolyn neu gymuned a wynebodd erledigaeth gan y Natsïaid. Mae'r 80 o ddalwyr canhwyllau yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ddigidol, gan ddod ag amrywiaeth o straeon ynghyd. Bydd tri chyfraniad o Gymru yn ymddangos yn yr arddangosfa. Mae archifau Oriel Môn ac Ynys Môn wedi edrych ar straeon bywyd Hendrik a Karel Lek, a ffodd o Wlad Belg ac ymgartrefu ar Ynys Môn. Dewisodd grŵp Sipsiwn, Roma, Teithwyr CEF Berwyn ganolbwyntio ar ddioddefwyr Romani Auschwitz-Birkenau, a threfnwyd gweithdai ynghylch effaith erledigaeth y Natsïaid ar y gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Mae CEF Parc wedi canolbwyntio ar hanes bywyd Helene Melaine Lebel, a gafodd ei lladd gan raglen ewthanasia'r Natsïaid. Ceisiodd y cyfraniad hwn godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol gymunedau a gafodd eu herlid, gan gynnwys pobl anabl.
Mae 2025 hefyd yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia. Y gyflafan yn Srebrenica oedd yr achos mwyaf o lofruddiaeth dorfol yn Ewrop ers yr ail ryfel byd. Byddwn ni'n cofio'r 8,000 o Fwslemiaid o Fosnia a gafodd eu lladd yn ystod yr erchyllterau, yn ogystal â'r rhai a oroesodd triniaeth mor annynol yn ystod y gwrthdaro.
Ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, byddaf yn mynychu seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru. Mae bob amser yn seremoni hynod emosiynol, gyda chyfraniadau amhrisiadwy gan oroeswyr hil-laddiad. Eleni, bydd un o oroeswyr yr Holocost, Eva Clarke, a Safet Vukalić, un o oroeswyr yr hil-laddiad ym Mosnia, yn siarad yn y seremoni. Bydd cynrychiolwyr o'r cymunedau Iddewig a Roma yn cymryd rhan yn y seremoni genedlaethol, yn ogystal â phobl anabl a phobl LHDTC+, a gafodd eu targedu hefyd yn ystod yr Holocost.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol mewn digwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn y Senedd brynhawn yfory. Mae gan y digwyddiad nawdd trawsbleidiol, sydd unwaith eto'n adlewyrchu ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Siambr hon ar gyfer nodi'r diwrnod.
Am 8 p.m. ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, bydd moment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch' yn digwydd. Gwahoddir pobl i oleuo canhwyllau a'u rhoi yn ddiogel yn eu ffenestri i gofio'r rhai a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Bydd y canhwyllau hefyd yn cynrychioli gwrthwynebiad i'r rhagfarn a'r casineb sy'n parhau i fodoli heddiw. Bydd adeiladau eiconig ledled Cymru, gan gynnwys y Senedd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael eu goleuo mewn porffor.
Eleni, thema Diwrnod Cofio'r Holocost yw 'er budd dyfodol gwell'. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn dweud ar ei gwefan bod
'gan bob un ohonom gyfle i weithredu er budd dyfodol gwell. Dyfodol gwell lle nad yw pobl yn dioddef rhagfarn nac erledigaeth oherwydd eu ffydd, eu hethnigrwydd neu nodweddion eraill.'
Mae'r ymddiriedolaeth yn tynnu sylw at rai camau pwysig y gallwn ni i gyd eu cymryd i ymdrin â gwrthsemitiaeth a mathau eraill o gasineb i greu dyfodol gwell: tynnu sylw at wadu'r Holocost neu hil-laddiad neu beri iddyn nhw ymddangos yn ddibwys pan fyddwch chi'n ei weld neu'n ei glywed; defnyddio ffynonellau awdurdodol, dilys i ddysgu mwy am yr Holocost a hil-laddiadau, ac i rannu ag eraill; riportio pob trosedd casineb i'r heddlu neu drwy wasanaethau cymorth. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ategu'r alwad hon i weithredu. Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau y tu ôl i'r Holocost a chanlyniadau dad-ddyneiddio rhannau o gymdeithas. Rydym yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost i gynnal prosiect Gwersi o Auschwitz yng Nghymru, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ôl-16 oed ymweld â Gwlad Pwyl a chlywed yn uniongyrchol gan un o oroeswyr yr Holocost. Mae myfyrwyr yn gorffen y rhaglen drwy amlinellu sut y byddan nhw'n rhannu'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu a'i brofi gyda'u hysgol a'u cymuned ehangach.
Yn yr un modd â'r ymddiriedolaeth, rydym yn annog pobl yn gryf i roi gwybod am droseddau casineb. Mae modd rhoi gwybod amdanynt drwy gysylltu â'r heddlu neu drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chynnal gan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth ac eiriolaeth gyfrinachol am ddim i bob dioddefwr troseddau casineb, gan gynnwys gwasanaeth pwrpasol i blant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gynnal ein safiad cryf: does dim lle i gasineb yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn yn flaenllaw yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'n cynllun gweithredu LHDTC+ a'r cynllun hawliau anabledd sydd ar ddod.
Rwyf am gloi'r datganiad hwn trwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl ledled y DU sy'n neilltuo eu hamser a'u hymdrech tuag at godi ymwybyddiaeth o'r Holocost. Mae anrhydeddu atgofion y rhai a gollwyd a chadw eu straeon yn fyw yn ffordd bwysig o sicrhau bod ein gwead cymdeithasol yn parhau'n gryf. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost am y gwaith hanfodol mae'n nhw'n ei wneud i helpu i addysgu a chofio. Mae'r Holocost yn dal i fod yn atgof byw, ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r nifer o oroeswyr, gan gynnwys Eva a Safet, sy'n teithio o amgylch Cymru yn rhannu eu rhybuddion o'u plentyndod a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwrth-hiliol a chydlynol.
Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi heddiw a dydd Llun i annog cymunedau Cymru i arddangos eu hymrwymiad trwy oleuo'r tywyllwch ar gyfer dyfodol gwell. Diolch yn fawr.
I hope all Members will join with me today and on Monday to encourage Welsh communities to demonstrate their commitment by lighting up the darkness for a better future. Thank you.
Thank you, Cabinet Secretary, for your statement. As we prepare to mark the eightieth anniversary of the liberation of Auschwitz-Birkenau, the largest of the Nazi death camps, it's more important than ever that we learn the lessons of the Holocaust. In the aftermath of world war two, we learned that two thirds of all the Jewish people living in Europe and over a million people whom the Nazis disapproved of had been systematically murdered in vast death camps. The world said 'never again', and we mark the day the largest death camp was liberated on Holocaust Memorial Day so that we never forget. But far too many have forgotten, some going as far as denying the murder of 6 million Jews, 0.5 million Roma and Sinti people, as well as hundreds of thousands of gays, black people, disabled and the different.
We have to constantly remind people that not only did the Holocaust happen, but that it was not the end of genocide. In the years following the defeat of Nazi Germany, the world adopted the United Nations genocide convention, drawn up by Polish lawyer, Raphäel Lemkin. Lemkin was the first to coin the phrase 'genocide' and he repeatedly stated that early exposure to newspaper stories about Ottoman crimes against Armenians was key to his beliefs about the need for the legal protection of groups. While many nations still refuse to call the murder of hundreds of thousands of Armenian Christian people living in the Ottoman empire in 1915 and 1916 genocide, I believe this was the first genocide of the twentieth century.
On Holocaust Memorial Day, we remember those who died in the Holocaust, as well as the genocides in Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur and the Yazidi genocide. We said 'never again', yet genocides are still happening today. In Sudan, we see ever increasing instances of ethnic cleansing in the battle for Khartoum. In the middle east, we see a conflict that could become a genocide. Iranian-backed Hamas and Hezbollah have vowed to wipe Israel off the map and rid the region of Jews. On the other side, Israeli settlers are seeking to rid the land of Palestinians. At home, we see the rise of the far right and witness the failure of the flagship Prevent programme to stop Islamist terrorists like Axel Rudakubana.
Cabinet Secretary, I welcome the actions the Welsh Government are taking to keep the memory of the Holocaust alive so we never forget the atrocities, but if we are to secure a better future, do you agree that we have to tackle disinformation? What is the Welsh Government doing to ensure that hate is not amplified online, especially through artificial intelligence? Do you agree that teaching younger generations critical thinking skills is just as important as teaching them about the horror of the Holocaust?
I agree with your statement about genocide denial. Cabinet Secretary, what discussions have you had with UK Government Ministers about recognising the Armenian genocide and the Holodomor as genocides? Finally, Cabinet Secretary, how are you working with Muslim communities across Wales to raise awareness of the Bosnian genocide and their involvement in Holocaust Memorial Day? I look forward to marking Holocaust Memorial Day on Monday and working with you in lighting up the darkness for a better future. Thank you.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Wrth i ni baratoi i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, y mwyaf o wersylloedd marwolaeth y Natsïaid, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu gwersi'r Holocost. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwnaethom ddysgu bod dwy ran o dair o'r holl bobl Iddewig a oedd yn byw yn Ewrop a thros filiwn o bobl nad oedd y Natsïaid yn eu cymeradwyo wedi cael eu llofruddio'n systematig mewn gwersylloedd marwolaeth helaeth. Dywedodd y byd 'byth eto', ac rydym yn nodi'r diwrnod y cafodd y gwersyll marwolaeth mwyaf ei ryddhau ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost fel na fyddwn byth yn anghofio. Ond mae gormod o lawer wedi anghofio, rhai yn mynd mor bell â gwadu llofruddiaeth 6 miliwn o Iddewon, 0.5 miliwn o bobl Roma a Sinti, yn ogystal â channoedd o filoedd o bobl hoyw, pobl ddu, pobl anabl a phobl oedd yn wahanol.
Mae'n rhaid i ni atgoffa pobl yn gyson nid yn unig bod yr Holocost wedi digwydd, ond nad dyma ddiwedd hil-laddiad. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn trechu'r Almaen Natsïaidd, mabwysiadodd y byd gonfensiwn hil-laddiad y Cenhedloedd Unedig, a luniwyd gan y cyfreithiwr o Wlad Pwyl, Raphäel Lemkin. Lemkin oedd y cyntaf i fathu'r ymadrodd 'hil-laddiad' a nododd dro ar ôl tro fod amlygiad cynnar i straeon am droseddau Otomaniaid yn erbyn pobl Armenia mewn papurau newydd yn allweddol i'w gredoau am yr angen i amddiffyn grwpiau yn gyfreithiol. Er bod llawer o genhedloedd yn dal i wrthod galw llofruddiaeth cannoedd o filoedd o bobl Cristnogol Armenia a oedd yn byw yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn 1915 a 1916 yn hil-laddiad, rwy'n credu mai hwn oedd hil-laddiad cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, rydym yn cofio'r rhai a fu farw yn yr Holocost, yn ogystal â'r hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur a hil-laddiad Yazidi. Fe ddywedon ni 'byth eto', ac eto mae hil-laddiadau yn dal i ddigwydd heddiw. Yn Sudan, rydym yn gweld achosion cynyddol o lanhau ethnig yn y frwydr dros Khartoum. Yn y dwyrain canol, rydym yn gweld gwrthdaro a allai ddod yn hil-laddiad. Mae Hamas a Hezbollah sydd wedi'u cefnogi gan Iran wedi addo dileu Israel oddi ar y map a chael gwared ar Iddewon o'r rhanbarth. Ar yr ochr arall, mae ymsefydlwyr Israelaidd yn ceisio cael gwared ar Balestiniaid o'r tir. Gartref, rydym yn gweld cynnydd yr asgell dde eithafol ac yn dyst i fethiant y rhaglen Prevent flaenllaw i atal terfysgwyr Islamaidd fel Axel Rudakubana.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gadw'r Holocost yn fyw yn y cof fel na fyddwn ni byth yn anghofio'r erchyllterau, ond os ydym am sicrhau dyfodol gwell, ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i ni ymdrin â thwyllwybodaeth? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw casineb yn cael ei fwyhau ar-lein, yn enwedig trwy ddeallusrwydd artiffisial? Ydych chi'n cytuno bod addysgu sgiliau meddwl beirniadol i genedlaethau iau yr un mor bwysig â'u haddysgu am erchyllterau'r Holocost?
Rwy'n cytuno â'ch datganiad ynglŷn â gwadu hil-laddiad. Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cydnabod hil-laddiad Armenia a'r Holodomor fel hil-laddiadau? Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n gweithio gyda chymunedau Mwslimaidd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o hil-laddiad Bosnia a'u hymwneud â Diwrnod Cofio'r Holocost? Rwy'n edrych ymlaen at nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ddydd Llun a gweithio gyda chi i oleuo'r tywyllwch er budd dyfodol gwell. Diolch.
Thank you very much, Altaf Hussain; thank you so much for making such a strong statement this evening. As you said, it's more important than ever that we learn the lessons of the Holocaust. We know that commemorating the Holocaust is vital to ensure that we never forget how dangerous hateful and divisive narratives can be. It does remind us what can happen when people and communities are targeted and dehumanised simply because of who they are. Of course, the Holocaust didn't happen overnight; it began with a gradual erosion of human rights and divisive rhetoric against people who were different, or perceived to be different to others, and you've identified what that has meant, as I did in my statement.
I'm glad you raised the point about challenging misinformation. It is our duty and responsibility, I believe—for all of us here—to challenge misinformation and build community cohesion. Those are the safeguards to try to prevent this erosion of human rights ever happening here across Wales, and isn't it good, I've outlined how, across Wales, local authorities are engaging community groups, delivering a range of events for Holocaust Memorial Day.
Just on the point of the risk and impact of online hate and misinformation, of course, unfortunately—as you say, never more important than today that we're discussing this—it does continue to increase. It's vital that social media and technology companies do everything that they can to protect their users from online harms, such as hateful and misleading content. We are committed to working with the Office of Communications in their new capacity as regulators of online safety in the UK.
Educating young people plays a crucial role in creating a more informed and inclusive society, so I wanted to draw your attention to the 'Keeping safe online' area on Hwb for our schools. It's available as a source of support for schools and the wider community, and I urge people to access Hwb. It's designed to support online safety and education, hosting a suite of resources to address online hate, radicalisation and extremism. These resources can support educating young people to apply critical thinking skills, as you've identified—the need for this—and I think that this is happening through our new curriculum, but it will help those young people when engaging with online content.
Clearly, I am liaising with the UK Government on these issues as well, and, indeed, I'm looking forward to welcoming Lord Khan within the next two weeks, who has responsibility for community cohesion. He wants to see what we're doing in Wales—the Minister—and I look forward to discussing these issues with him. But, also, this is about what we do here in Wales, isn't it, working with our Muslim community, and the Muslim Council of Wales, who spoke up last week about the need for us to listen to each other and gain consensus. It was really very moving, when I went to the event on 30 December in the synagogue in Cardiff, that we actually were joined by interfaith representation at that event. I think it's really important that we recognise that we, in Wales, with our interfaith council and our community faith forum, have got a way of communicating and recognising what is happening to all communities across Wales, and what the awful events in the middle east have meant to those communities, as we said earlier on, and I'll be making a statement tomorrow on this.
Holodomor: I think this is important. We debate this every year. It is an issue that we are taking forward in terms of recognising that, in 2006, the Government of Ukraine passed a law recognising the Holodomor as genocide against the Ukrainian people. It's been recognised by the Australian Senate and several European countries, so this is, again, something that we will be following through and raising at a higher, wider level. We do stand in solidarity with our Ukrainian friends, and perhaps, for a moment, can acknowledge the fact that one of our Members, Alun Davies, is, as we speak, in Ukraine, delivering a vehicle and supplies as a result of a lot of support from communities, people and charities in Wales.
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain; diolch yn fawr iawn am wneud datganiad mor gryf heno. Fel y dywedoch, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu gwersi'r Holocost. Rydym yn gwybod bod coffáu'r Holocost yn hanfodol er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio pa mor beryglus y gall naratifau atgas a rhwygol fod. Mae'n ein hatgoffa ni o'r hyn a all ddigwydd pan fydd pobl a chymunedau'n cael eu targedu a'u dad-ddyneiddio dim ond oherwydd pwy ydyn nhw. Wrth gwrs, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; dechreuodd gydag erydu hawliau dynol yn raddol a rhethreg ymrannol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol, neu'n cael eu hystyried yn wahanol i eraill, ac rydych chi wedi nodi'r hyn y mae hynny wedi'i olygu, fel y gwnes i yn fy natganiad.
Rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt ynghylch herio camwybodaeth. Mae'n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnom, rwy'n credu—i bob un ohonon ni yma—i herio camwybodaeth a meithrin cydlyniant cymunedol. Dyna'r mesurau diogelu i geisio sicrhau na fydd yr erydiad hwn o hawliau dynol byth yn digwydd yma ledled Cymru, ac onid yw'n dda, rwyf wedi amlinellu sut, ledled Cymru, y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol, gan gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost.
O ran y pwynt ar risg ac effaith casineb a chamwybodaeth ar-lein, wrth gwrs, yn anffodus—fel y dywedwch chi, nid oes diwrnod pwysicach na heddiw i ni fod yn trafod hyn—mae'n parhau i gynyddu. Mae'n hanfodol bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn eu defnyddwyr rhag niwed ar-lein, fel cynnwys atgas a chamarweiniol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Swyddfa Gyfathrebiadau yn eu capasiti newydd fel rheoleiddwyr diogelwch ar-lein yn y DU.
Mae addysgu pobl ifanc yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cymdeithas fwy gwybodus a chynhwysol, felly roeddwn i eisiau tynnu'ch sylw at yr adran 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb ar gyfer ein hysgolion. Mae ar gael fel ffynhonnell cymorth i ysgolion a'r gymuned ehangach, ac rwy'n annog pobl i fynd ar Hwb. Mae wedi'i chynllunio i gefnogi diogelwch ac addysg ar-lein, gan gynnal cyfres o adnoddau i ymdrin â chasineb, radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein. Gall yr adnoddau hyn helpu i addysgu pobl ifanc i ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol, fel yr ydych chi wedi nodi—yr angen am hyn—ac rwy'n credu bod hyn yn digwydd drwy ein cwricwlwm newydd, ond bydd yn helpu'r bobl ifanc hynny wrth ymgysylltu â chynnwys ar-lein.
Yn amlwg, rwy'n cysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn hefyd, ac, yn wir, rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Arglwydd Khan, sy'n gyfrifol am gydlyniant cymunedol, o fewn y pythefnos nesaf. Mae ef eisiau gweld yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru—y Gweinidog—ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion hyn gydag ef. Ond, hefyd, mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru, onid ydyw, yn gweithio gyda'n cymuned Fwslimaidd, a Chyngor Mwslimaidd Cymru, a siaradodd yr wythnos diwethaf am yr angen i ni wrando ar ein gilydd a chael consensws. Roedd yn hynod emosiynol, pan es i i'r digwyddiad ar 30 Rhagfyr yn y synagog yng Nghaerdydd, y ffaith bod cynrychiolwyr rhyng-ffydd wedi ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod gennym ni, yng Nghymru, gyda'n cyngor rhyng-ffydd a'n fforwm ffydd gymunedol, ffordd o gyfathrebu a chydnabod yr hyn sy'n digwydd i bob cymuned ledled Cymru, a'r hyn y mae'r digwyddiadau erchyll yn y dwyrain canol wedi'i olygu i'r cymunedau hynny, fel y dywedom yn gynharach, ac fe fyddaf yn gwneud datganiad ar hyn yfory.
Holodomor: rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Rydym yn trafod hyn bob blwyddyn. Mae'n fater yr ydym yn ei ddatblygu o ran cydnabod bod Llywodraeth Wcráin, yn 2006, wedi pasio deddf a oedd yn cydnabod bod yr Holodomor yn hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Mae wedi cael ei gydnabod gan Senedd Awstralia a sawl gwlad Ewropeaidd, felly mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth y byddwn ni'n mynd ar ei drywydd ac yn ei godi ar lefel uwch, ehangach. Rydym yn sefyll mewn undod â'n ffrindiau yn Wcráin, ac efallai, am eiliad, gallwn ni gydnabod y ffaith bod un o'n Haelodau, Alun Davies, yn Wcráin ar hyn o bryd yn dosbarthu cerbyd a chyflenwadau o ganlyniad i lawer o gefnogaeth gan gymunedau, pobl ac elusennau yng Nghymru.
'For a better future', a hopeful theme, but it's difficult to muster hope as we observe Holocaust Memorial Day in January 2025. It's 80 years since the liberation of Auschwitz-Birkenau. Hope in the face of Auschwitz can seem little more than an unfounded faith that the future will be an improvement on the past. The Nazi concentration camps have come to symbolise how antisemitism and prejudice led to an abyss that is hard to comprehend. Hard, yes, but perhaps not impossible, as we witness the dehumanisation of hundreds of thousands in Gaza and the sycophantic reporting on the rise of a white supremacist in the United States. There are undoubtedly grounds for pessimism, as we see hate, hostility and othering being instigated and inflamed in our politics and on social media, but it is at a time like this that we need hope, a faith in the future, more than ever. ‘For a better future’ is a necessary theme this year as we try and energise and organise our better selves.
One of the most influential of Welsh intellectuals, Raymond Williams, was himself a tank commander in the Normandy campaign in the second world war, and went on to Germany, and, as he pointed out, there were the millions who perished in the Nazi camps, and there were also those who gave their lives to rid the world of those who built those camps.
This year, as you said, marks the thirtieth anniversary of the genocide in Bosnia. Last summer, I visited Mostar, where the scars of the atrocities committed against people, not because of anything they had done, but because of who they were, are still visible in the landscape, and the wounds are still open in the community. It was a reminder that genocides can happen in every country, in every age, to every people, if the stages that lead to genocide are not addressed by the enforcement of international human rights and the rule of international law. It was also a reminder that Christians, Muslims and Jews, whose communities are all visible in Mostar, have also co-existed in states of peace and mutual respect.
When we remember the images of Auschwitz, of Srebrenica, we understand immediately that dehumanisation is an integral stage of genocide. It is when one life is deemed to have less worth than others by those who hold power and can command influence that genocide begins. And over the last year, we must add to those images the line after line of tiny shrouds, the patients burning alive in hospitals, families buried under buildings, the bombing of refugee camps and hospitals. We have witnessed nightly on our tv screens how the dehumanisation of the people of Gaza has led to atrocity on a scale that makes a better future feel like a distant hope, and the mantra 'never again' feel futile.
Human Rights Watch have highlighted how we heard Israeli politicians and military commanders say that the people of Gaza should have no future. There must be no food, no water, because they were fighting human animals. The whole Palestinian people were equated to Hamas, an entire population dehumanised, but the UK Government continued to arm Israel anyway. You talked about the importance of calling out genocide. I would like to pay tribute to all those Welsh citizens who have protested against that dehumanisation week after week, in every part of Wales, and here at the Senedd. They acted.
Remembering the Holocaust and the genocides of recent years must lead us to act if we truly want to see that better dawn. To intervene. How will the Welsh Government ensure its remembrance is an active one? Will it urge the UK Government to ensure the ceasefire in Gaza now becomes a lasting and just peace, by opposing the occupation and oppression of the Palestinian people?
The unspeakable atrocities committed by Hamas on 7 October, the cruel and illegal taking and holding of Israeli hostages, and the genocidal actions of the Israeli Government against the Palestinians has led to a rise in Islamaphobia and antisemitic hate crime in our communities, which must be actively countered by both our criminal justice system and by all political representatives. So, how is the Welsh Government ensuring that all its partners who support work central to the ‘Anti-racist Wales Action Plan’ and the LGBTQ+ action plan are safeguarded from hate crime, harassment and abuse, especially when it stems from the action of those who exploit situations to stir up hatred, which can often lead to violence?
Writing recently in The Economist, Philippe Lazzarini, the head of the United Nations Relief and Works Agency, quotes the philosopher Hannah Arendt, who warned that the death of human empathy is one of the earliest and most telling signs of a culture on the verge of descending into barbarism. Lazzarini powerfully makes the case that what can stop that descent is the power of international law. No exceptions can be allowed if we truly want to maintain that vital defence against the descent into the horrors that we remember today. Amnesty state that we have witnessed genocidal actions by Israel in Gaza, for which it must be held accountable. So, will the Welsh Government add Wales's voice to those of the other Governments, both state and sub-state, calling for the Israeli Government to be held to account for any war crimes committed to ensure justice, yes, but also to deter future violations of international humanitarian law? That surely is the only way for us to keep the hope for a better future alive today.
'Er budd dyfodol gwell', thema obeithiol, ond mae'n anodd magu gobaith wrth i ni nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ym mis Ionawr 2025. Mae hi'n 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Gall ymddangos nad yw gobaith yn wyneb Auschwitz yn fawr mwy na ffydd ddi-sail y bydd y dyfodol yn well na'r gorffennol. Mae gwersyll-garcharau'r Natsïaid wedi dod i symboleiddio sut arweiniodd gwrthsemitiaeth a rhagfarn at affwys sy'n anodd ei ddeall. Anodd, ie, ond efallai nid yn amhosibl, wrth i ni weld dad-ddyneiddio cannoedd o filoedd yn Gaza a'r adrodd gwasaidd ar gynnydd goruchafiaeth wen yn yr Unol Daleithiau. Heb os, mae sail dros besimistiaeth, wrth i ni weld casineb, gelyniaeth ac aralleiddio yn cael eu hysgogi a'u hymfflamychu yn ein gwleidyddiaeth ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond ar adeg fel hyn y mae angen gobaith, ffydd yn y dyfodol, yn fwy nag erioed. Mae 'dros ddyfodol gwell' yn thema angenrheidiol eleni wrth i ni geisio bywiogi a threfnu ein hunain yn well.
Roedd un o ddeallusion mwyaf dylanwadol Cymru, Raymond Williams, yn gapten tanc ei hun yn ymgyrch Normandi yn yr ail ryfel byd, ac aeth ymlaen i'r Almaen, ac, fel y nododd, roedd y miliynau a fu farw yng ngwersylloedd y Natsïaid, ac roedd yna hefyd y rhai a roddodd eu bywydau i waredu'r byd o'r rhai a adeiladodd y gwersylloedd hynny.
Mae eleni, fel y dywedoch, yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia. Yr haf diwethaf, fe ymwelais i â Mostar, lle mae creithiau'r erchyllterau a gyflawnwyd yn erbyn pobl, nid oherwydd unrhyw beth yr oedden nhw wedi'i wneud, ond oherwydd pwy oedden nhw, yn dal i'w gweld yn y dirwedd, ac mae'r clwyfau dal yn agored yn y gymuned. Roedd yn ein hatgoffa y gall hil-laddiadau ddigwydd ym mhob gwlad, ym mhob oes, i unrhyw bobl, os nad eir i'r afael â'r camau sy'n arwain at hil-laddiad drwy orfodi hawliau dynol rhyngwladol a rheolau cyfraith ryngwladol. Roedd hefyd yn ein hatgoffa bod Cristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon, y mae eu cymunedau i gyd i'w gweld ym Mostar, wedi cyd-fyw mewn heddwch ac wedi dangos parch at ei gilydd hefyd.
Pan ydym yn cofio delweddau Auschwitz, Srebrenica, rydym yn deall ar unwaith bod dad-ddyneiddio yn gam annatod o hil-laddiad. Mae hil-laddiad yn digwydd pan fo'r rhai dal pŵer ac sy'n gallu dylanwadu yn ystyried bod un bywyd yn werth llai nag eraill. A thros y flwyddyn ddiwethaf, rhaid i ni ychwanegu at y delweddau hynny y llinell ar ôl llinell o amwisgoedd bach, y cleifion yn llosgi'n fyw mewn ysbytai, teuluoedd wedi'u claddu o dan adeiladau, bomio gwersylloedd ffoaduriaid ac ysbytai. Rydym wedi bod yn dyst bob nos ar ein sgriniau teledu i sut mae dad-ddyneiddio pobl Gaza wedi arwain at erchylltra ar raddfa sy'n gwneud i ddyfodol gwell deimlo fel gobaith pell, ac i'r mantra 'byth eto' deimlo'n ofer.
Mae Human Rights Watch wedi tynnu sylw at sut y gwnaethom glywed gwleidyddion a rheolwyr milwrol Israel yn dweud na ddylai pobl Gaza gael unrhyw ddyfodol. Ni ddylai fod unrhyw fwyd, unrhyw ddŵr, oherwydd eu bod yn ymladd yn erbyn anifeiliaid dynol. Roedd holl bobl Palestina yn gyfystyr â Hamas, poblogaeth gyfan wedi'i dad-ddyneiddio, ond parhaodd Llywodraeth y DU i arfogi Israel beth bynnag. Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd tynnu sylw at hil-laddiad. Hoffwn i dalu teyrnged i bob un o ddinesyddion Cymru sydd wedi protestio yn erbyn y dad-ddyneiddio hwnnw wythnos ar ôl wythnos, ym mhob cwr o Gymru, ac yma yn y Senedd. Fe wnaethon nhw weithredu.
Mae'n rhaid i gofio am yr Holocost a hil-laddiadau'r blynyddoedd diwethaf ein harwain ni i weithredu os ydym wir eisiau gweld y dyfodol gwell hwnnw. I ymyrryd. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei choffâd yn un weithredol? A wnaiff annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cadoediad yn Gaza yn dod yn heddwch parhaol a chyfiawn nawr, trwy wrthwynebu meddiannu a gormesu pobl Palesteina?
Mae'r erchyllterau annisgrifiadwy a gyflawnwyd gan Hamas ar 7 Hydref, cymryd a dal gwystlon Israel yn greulon ac yn anghyfreithlon, a gweithredoedd hil-laddol Llywodraeth Israel yn erbyn y Palesteiniaid wedi arwain at gynnydd mewn Islamaffobia a throseddau casineb gwrthsemitig yn ein cymunedau, y mae'n rhaid iddo gael ei wrthwynebu'n weithredol gan ein system cyfiawnder troseddol a chan bob cynrychiolydd gwleidyddol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl bartneriaid sy'n cefnogi gwaith sy'n ganolog i 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'r cynllun gweithredu LHDTC+ yn cael eu diogelu rhag troseddau casineb, aflonyddu a chamdriniaeth, yn enwedig pan fo'n deillio o weithredoedd y rhai sy'n manteisio ar sefyllfaoedd i ysgogi casineb, a all arwain yn aml at drais?
Wrth ysgrifennu'n ddiweddar yn The Economist, mae Philippe Lazzarini, pennaeth Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, yn dyfynnu'r athronydd Hannah Arendt, a rybuddiodd fod marwolaeth empathi dynol yn un o'r arwyddion cynharaf a mwyaf arwyddocaol o ddiwylliant sydd ar fin troi'n farbariaeth. Mae Lazzarini yn dadlau'n bwerus mai'r hyn a all atal hynny rhag digwydd yw pŵer cyfraith ryngwladol. Ni ellir caniatáu unrhyw eithriadau os ydym wir eisiau cynnal yr amddiffyniad hanfodol hwnnw rhag yr erchyllterau yr ydym yn eu cofio heddiw. Mae Amnesty'n dweud ein bod ni wedi gweld gweithredoedd hil-laddol gan Israel yn Gaza, y mae'n rhaid ei dwyn i gyfrif amdanynt. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ychwanegu llais Cymru at rai'r Llywodraethau eraill, gwladwriaethau ac is-wladwriaethau, sy'n galw ar Lywodraeth Israel i gael ei dwyn i gyfrif am unrhyw droseddau rhyfel a gyflawnwyd er mwyn sicrhau cyfiawnder, ie, ond hefyd i atal achosion o dorri cyfraith ddyngarol ryngwladol yn y dyfodol hefyd? Siawns mai dyna'r unig ffordd i ni gadw'r gobaith am ddyfodol gwell yn fyw heddiw.
Thank you very much.
Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich datganiad pwysig iawn.
Thank you very much, Sioned Williams, for your very important statement.
A very powerful statement, again, and thank you for your questions. As you say, we have got to have faith in the future, 'for a better future'. Just responding to your questions, it is very important that our anti-hate crime communications campaign, Hate Hurts Wales, highlights to perpetrators or potential perpetrators the hugely negative impact of their actions on both the victim, the survivor, and their own lives, as well as highlighting the importance of bystanders in securing a positive outcome.
I think it's important to say that the power of victims' voices—we had a conference in November for people working in the public sector and public service practitioners—actually provides an insight into identity-based hate crime, and that's been informed by research by the Wales Hate Support Centre and also the awareness of lived experience advocacy forum. It is difficult to interpret hate crime statistics, but they show the fact that there is a 21 per cent increase in religious hate crime in Wales, the most recent, in comparison to the previous year. The increase may be related to the conflict in the middle east, but whatever happens in other parts of the world, of course, we will continue to promote work to bring all our communities together, and we acknowledge the work of faith leaders, and Jewish and Muslim communities in Wales, who've worked peacefully together over the past year. Many of us have interactions with them at different forums, but it's also obviously the right of people to show their voices in the way that they need to in Wales, and we respect that in terms of the engagement that we have.
It is vital that the UK and its allies continue to be at the forefront of crucial efforts to break the cycle of violence and secure long-term peace in the middle east, and I will say more in my statement tomorrow about ways in which we are particularly helping to support the humanitarian aid that must reach those innocent people, so many children in Palestine whose homes have turned into a war zone overnight, and so many have lost their lives.
And it is important—. I have made a very strong statement about recognition in terms of antisemitism. Our stance and our commitment are very clear here, and it is a clear understanding in our inter-faith communities, but also we stand firmly against any form of Islamaphobia and antisemitism. They're both forms of prejudice-related bullying. They've no place in any part of our society in Wales, and bullying and harassment in any form is unacceptable. We expect allegations and incidents of racism and racial harassment to be fully investigated by education settings, and appropriate action taken to address these. This, of course, all links, and you've mentioned our 'Anti-racist Wales Action Plan' and, indeed, the commitment to not only implementation of that but we have a goal in the plan to tackle Islamaphobia in all its forms, but also in our LGBTQ+ action plan. Again, those who suffered and were targeted by the Nazis included not only LGBTQ+ people but also Gypsy Roma communities.
So, thank you for those questions and for that continuing dialogue that we must have here in the Senedd and in Wales to help on that pathway to peace, and for a better future.
Datganiad pwerus iawn, unwaith eto, a diolch am eich cwestiynau. Fel y dywedwch chi, mae'n rhaid i ni gael ffydd yn y dyfodol, 'er budd dyfodol gwell'. Wrth ymateb i'ch cwestiynau, mae'n bwysig iawn bod ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, yn tynnu sylw cyflawnwyr neu gyflawnwyr posibl at effaith negyddol iawn eu gweithredoedd ar y dioddefwr, y goroeswr, a'u bywydau eu hunain, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd gwylwyr wrth sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod pŵer lleisiau dioddefwyr—cawson ni gynhadledd ym mis Tachwedd ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus—yn rhoi dealltwriaeth o droseddau casineb sy'n seiliedig ar hunaniaeth, ac mae hynny wedi'i lywio gan ymchwil gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru a hefyd ymwybyddiaeth fforwm eiriolaeth profiad bywyd. Mae'n anodd dehongli ystadegau troseddau casineb, ond maen nhw'n dangos y ffaith bod cynnydd o 21 y cant mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru, y mwyaf diweddar, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod y cynnydd yn gysylltiedig â'r gwrthdaro yn y dwyrain canol, ond beth bynnag sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd, wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i hyrwyddo gwaith i ddod â'n holl gymunedau ynghyd, ac rydym yn cydnabod gwaith arweinwyr ffydd, a chymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru, sydd wedi cydweithio'n heddychlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae llawer ohonom yn rhyngweithio â nhw mewn gwahanol fforymau, ond hefyd yn amlwg mae gan bobl yr hawl i leisio eu barn yn y ffordd y mae angen iddyn nhw ei wneud yng Nghymru, ac rydym yn parchu hynny o ran yr ymgysylltu yr ydym yn ei gael.
Mae'n hanfodol bod y DU a'i chynghreiriaid yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ymdrechion hanfodol i dorri'r cylch trais a sicrhau heddwch hirdymor yn y dwyrain canol, ac fe ddywedaf fwy yn fy natganiad yfory am ffyrdd yr ydym yn helpu'n arbennig i gefnogi'r cymorth dyngarol y mae'n rhaid iddo gyrraedd y bobl ddiniwed hynny, cynifer o blant ym Mhalesteina y mae eu cartrefi wedi troi'n barth rhyfel dros nos, ac mae cynifer wedi colli eu bywydau.
Ac mae'n bwysig—. Rwyf wedi gwneud datganiad cryf iawn am gydnabod o ran gwrthsemitiaeth. Mae ein safiad a'n hymrwymiad yn glir iawn yma, ac mae'n ddealltwriaeth glir yn ein cymunedau rhyng-ffydd, ond rydym hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw fath o Islamaffobia a gwrthsemitiaeth. Mae'r ddau yn fathau o fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn. Nid oes lle iddynt mewn unrhyw ran o'n cymdeithas yng Nghymru, ac mae unrhyw fath o fwlio ac aflonyddu yn annerbyniol. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu hymchwilio'n llawn gan leoliadau addysg, ac i gamau priodol gael eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhain. Mae hyn, wrth gwrs, i gyd yn gysylltiedig, ac rydych chi wedi sôn am ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ac, yn wir, yr ymrwymiad nid yn unig i weithredu hynny ond mae gennym ni nod yn y cynllun i fynd i'r afael â phob math o Islamaffobia, ond hefyd yn ein cynllun gweithredu LHDTC+. Unwaith eto, roedd y rhai a ddioddefodd ac a gafodd eu targedu gan y Natsïaid yn cynnwys nid yn unig pobl LHDTC+ ond cymunedau Sipsiwn Roma hefyd.
Felly, diolch am y cwestiynau hynny ac am y ddeialog barhaus honno y mae'n rhaid i ni ei chael yma yn y Senedd ac yng Nghymru i helpu ar y llwybr hwnnw tuag at heddwch, ac er budd dyfodol gwell.
Thank you, Cabinet Secretary, for bringing forward this very important statement today, 80 years on from the liberation of Auschwitz-Birkenau. I've visited Auschwitz with students from Wales, as I'm sure many other Members have done, and that was a deeply moving occasion, so I'm very pleased that the Government is continuing its support for the education programme. I've also visited Rwanda and saw first-hand the lasting effects of the genocide in that country.
And I do think it's important, as the Cabinet Secretary was just saying, that we remember every single person that was affected by the Holocaust, the 6 million Jews, the 500,000 Gypsies and Roma, the 300,000 disabled people, and so many thousands more people that were targeted because of their sexual orientation, or because of their religion, their political beliefs, their ethnicity.
And the theme, as has been said repeatedly today, of this year's Holocaust Memorial Day is 'for a better future', and if we're going to have a better future, we've got to be bold, we've got to challenge prejudice in all its forms, and we've got to call out injustice. So, I think the message is that we must do better, all of us individually and all of us collectively. So, what can the Welsh Government do to ensure that all our future generations learn from the past so that we can try to prevent the Holocaust and genocides happening in the way that they have done in the past?
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am roi'r datganiad pwysig iawn hwn heddiw, 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Rwyf wedi ymweld ag Auschwitz gyda myfyrwyr o Gymru, fel yr wyf yn siŵr y mae llawer o Aelodau eraill wedi gwneud, ac roedd hwnnw'n achlysur hynod emosiynol, felly rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r rhaglen addysg. Rwyf hefyd wedi ymweld â Rwanda ac wedi gweld drosof fi fy hun effeithiau parhaol yr hil-laddiad yn y wlad honno.
Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud yn y fan honno, ein bod ni'n cofio pob un person y gwnaeth yr Holocost effeithio arno, y 6 miliwn o Iddewon, y 500,000 o Sipsiwn a Roma, y 300,000 o bobl anabl, a'r miloedd yn fwy o bobl a gafodd eu targedu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol, neu oherwydd eu crefydd, eu credoau gwleidyddol, eu hethnigrwydd.
A thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni, fel sydd wedi'i hailadrodd dro ar ôl tro heddiw, yw 'er budd dyfodol gwell', ac os ydym yn mynd i gael dyfodol gwell, mae'n rhaid i ni fod yn feiddgar, mae'n rhaid i ni herio rhagfarn ar ei holl ffurfiau, ac mae'n rhaid i ni dynnu sylw at anghyfiawnder. Felly, rwy'n credu mai'r neges yw bod yn rhaid i ni wneud yn well, pob un ohonon ni yn unigol a phob un ohonon ni gyda'n gilydd. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod holl genedlaethau'r dyfodol yn dysgu o'r gorffennol fel y gallwn ni geisio atal yr Holocost a hil-laddiadau rhag digwydd yn y ffordd y maen nhw wedi'u gwneud yn y gorffennol?
Diolch yn fawr, Julie Morgan, and thank you for sharing with us your extensive experience, knowledge, understanding and awareness of the impact of genocide and what it means to every person, every individual. As I mentioned, those targeted were those who were deemed to be different. They are humanity. This is about humanity in all its wonderful diversity being affected. And also, from your experience of visiting countries like Rwanda, it's to understand and to learn those lessons for a better future.
It is important that we are continuing to fund the Holocaust Educational Trust, and you'll be aware of this, but many will have met the young people who come back. The Lessons from Auschwitz project offers 156 places every year to learners from sixth forms and further education colleges across Wales. I do remember Sam Kurtz previously reflected on the value he found in a visit as a schoolchild to Auschwitz, and, of course, learning about pre-war Jewish life, the former Nazi death and concentration camp, and then thinking what's important—back to the critical thinking—considering the contemporary relevance of the Holocaust. All student participants will become Holocaust Educational Trust ambassadors, and that influences their whole life choices and life experiences, and they do share, as ambassadors, their knowledge in Welsh communities. So, this is an investment in our young people, and also, as we've mentioned, in the curriculum as well, because I think this is something where tackling discrimination and racism means school leadership teams, teachers, other staff, learners and the wider school community play a critical role in delivering our vision for an anti-racist Wales education sector.
With this curriculum, let's remind ourselves, we're the first nation in the UK to make it mandatory to teach black, Asian and minority ethnic histories and experiences. It's a cross-cutting theme, diversity, for the new Curriculum for Wales, so that young people can learn to be ethically informed citizens. And I think many of you—if you haven't already—have visited schools where the diversity and anti-racist professional learning has helped the schools to learn how they can use those tools to carry out anti-racist practice, and I think it's very inspiring. I went to one just very recently in Cardiff where primary school children were so well informed, so educated, so questioning and so proud of their diversity in that school—you know, we can learn from them as well. But this is the context about 'for a better future'.
Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch am rannu gyda ni eich profiad, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth helaeth o effaith hil-laddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i bob person, pob unigolyn. Fel y soniais i, y rhai a gafodd eu targedu oedd y rhai a gafodd eu hystyried yn wahanol. Nhw yw'r ddynoliaeth. Mae hyn yn ymwneud â'r effaith ar ddynoliaeth yn ei holl amrywiaeth ryfeddol. A hefyd, o'ch profiad chi o ymweld â gwledydd fel Rwanda, mae'n ymwneud â deall a dysgu'r gwersi hynny er budd dyfodol gwell.
Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol o hyn, ond bydd llawer wedi cwrdd â'r bobl ifanc sy'n dychwelyd. Mae prosiect Gwersi o Auschwitz yn cynnig 156 o leoedd bob blwyddyn i ddysgwyr chweched dosbarth a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Rwy'n cofio Sam Kurtz yn myfyrio o'r blaen ar y budd a gafodd wrth ymweld ag Auschwitz pan oedd yn blentyn ysgol, ac, wrth gwrs, dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel, hen wersyll marwolaeth a gwersyll-garchar y Natsïaid, ac yna meddwl beth sy'n bwysig—yn ôl i'r meddwl beirniadol—gan ystyried perthnasedd cyfoes yr Holocost. Bydd pob myfyriwr sy'n cymryd rhan yn dod yn genhadon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, ac mae hynny'n dylanwadu ar eu dewisiadau oes gyfan a'u profiadau bywyd, ac maen nhw, fel cenhadon, yn rhannu eu gwybodaeth mewn cymunedau yng Nghymru. Felly, mae hwn yn fuddsoddiad yn ein pobl ifanc, a hefyd, fel y gwnaethom sôn, yn y cwricwlwm hefyd, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae ymdrin â gwahaniaethu a hiliaeth yn golygu bod timau arweinyddiaeth ysgolion, athrawon, staff eraill, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer sector addysg Cymru wrth-hiliol.
Gyda'r cwricwlwm hwn, gadewch i ni atgoffa'n hunain mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i'w gwneud hi'n orfodol i addysgu hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae'n thema drawsbynciol, amrywiaeth, ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, fel y gall pobl ifanc ddysgu i fod yn ddinasyddion sy'n wybodus yn foesegol. Ac rwy'n credu bod llawer ohonoch chi—os nad ydych chi wedi gwneud eisoes—wedi ymweld ag ysgolion lle mae'r dysgu proffesiynol ynghylch amrywiaeth a gwrth-hiliaeth wedi helpu'r ysgolion i ddysgu sut y gallan nhw ddefnyddio'r adnoddau hynny i roi ymarfer gwrth-hiliol ar waith, ac rwy'n credu ei fod yn ysbrydoledig iawn. Fe es i i un yn ddiweddar iawn yng Nghaerdydd lle roedd plant ysgol gynradd mor wybodus, mor addysgedig, mor barod i gwestiynu ac mor falch o'u hamrywiaeth yn yr ysgol honno—wyddoch chi, gallwn ni ddysgu ganddyn nhw hefyd. Ond dyma gyd-destun 'er budd dyfodol gwell'.
Can I thank you, Cabinet Secretary, for your statement today? It is really important that we make the most of these opportunities here in the Senedd and across Wales to remind people where hate and discrimination can eventually lead. And, given that it's the eightieth anniversary this year of the liberation of Auschwitz-Birkenau, I think it is appropriate that we have an annual statement in this Senedd and we are marking the events here tomorrow on a cross-party basis too. In fact, we have Paul Sved, a Holocaust survivor from Hungary, with us tomorrow, and I'm sure his remarkable story will be an inspiration to each and every one of us and will motivate us all to do everything that we can to prevent similar acts—horrific acts—from taking place in the future.
I think it is, obviously, the notable anniversary of the events in Srebrenica as well, 30 years ago. I want to put on record my interest as a friend of Srebrenica and the Remembering Srebrenica Wales organisation, and that too should cause us to reflect on those Muslim communities in Wales who are affected by hate and discrimination and racism around our country. These are things that we should never tolerate and that we should always call out whenever we see it.
But I did want to also take this opportunity just to put on record the relief that I have experienced as a result of the announcement of the ceasefire between Israel and Hamas in the middle east, because we all know the toll that that was taking on everybody in the middle east—the Palestinian community, the Israeli community, and their loved ones around the world. I had the privilege of being able to visit Israel last April with two other Members of this Senedd, Sam Rowlands and Russell George, where we had the opportunity to learn more about the conflict, but also to meet some remarkable people who were family members of some of the hostages who are now in the process of being released. One of those individuals was Mandy Damari, whose daughter Emily was amongst the three that were released over recent days. She was a remarkably resilient woman. She had no idea whether her daughter was dead or alive, but she had an inner witness that she was still alive, and that kept hope alive in her. And to see her reunited with her daughter was something very, very special, but it reminds us also that there are Welsh families that are affected by this terrible situation—as I say, those who have family members on both the Palestinian and the Israeli side. The Brisley family, who came and shared their story in this Senedd last year, told us about Eli Sharabi, of course, whose wife and daughters were killed on 7 October. He remains in captivity. We don't know whether he's going to be part of this hostage deal, because the names are being agreed one by one as part of the release deal. His parents in law, Gill and Pete Brisley, of course, live in Pencoed, near Bridgend. They don't know if he's dead or alive. But, we have to give them hope that we in this Senedd are united in standing against the sorts of horrors that eventually lead to genocide, and eventually led to the Holocaust.
So, can I thank the Welsh Government for all that it does in terms of funding for that all-important Auschwitz programme that you fund pupils to participate in? I would want to ask you, though, Cabinet Secretary, whether the Welsh Government will consider extending programmes to Srebrenica too so that more people can be exposed to the horrors that people experienced there. I appreciate it's expensive to send people overseas, but there's nothing like those first-hand experiences, speaking to people who were impacted by these horrors and this sort of discrimination, to make sure that it brings people together to do all that they can to prevent it in the future. That's why I stand with you, shoulder to shoulder, in wanting to make sure that we do light the darkness for a better future here in Wales and beyond.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn yma yn y Senedd ac ar draws Cymru i atgoffa pobl lle y gall casineb a gwahaniaethu arwain yn y pen draw. Ac, o gofio ei bod hi'n 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau eleni, rwy'n credu ei bod yn briodol ein bod ni'n cael datganiad blynyddol yn y Senedd hon ac rydym yn nodi'r digwyddiadau yma yfory ar sail drawsbleidiol hefyd. Yn wir, bydd Paul Sved, un o oroeswyr yr Holocost o Hwngari, gyda ni yfory, ac rwy'n siŵr y bydd ei stori ryfeddol yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni ac yn ein cymell ni i gyd i wneud popeth o fewn ein gallu i atal gweithredoedd tebyg—gweithredoedd erchyll—rhag digwydd yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei fod, yn amlwg, yn flwyddyn nodedig o ran y digwyddiadau yn Srebrenica hefyd, 30 mlynedd yn ôl. Rwyf eisiau cofnodi fy muddiant fel ffrind i Srebrenica a sefydliad Cofio Srebrenica Cymru, a dylai hynny hefyd beri i ni fyfyrio ar y cymunedau Mwslimaidd hynny yng Nghymru y mae casineb a gwahaniaethu a hiliaeth ledled ein gwlad yn effeithio arnyn nhw. Mae'r rhain yn bethau na ddylem byth eu goddef ac y dylem bob amser dynnu sylw atynt pryd bynnag y byddwn yn eu gweld.
Ond roeddwn i hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i gofnodi'r rhyddhad a deimlais o ganlyniad i'r cyhoeddiad am y cadoediad rhwng Israel a Hamas yn y dwyrain canol, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod yr effaith yr oedd hynny'n ei chael ar bawb yn y dwyrain canol—y gymuned Balesteinaidd, y gymuned Israelaidd, a'u hanwyliaid ledled y byd. Cefais i'r fraint o allu ymweld ag Israel fis Ebrill diwethaf gyda dau Aelod arall o'r Senedd hon, Sam Rowlands a Russell George, lle cawson ni gyfle i ddysgu mwy am y gwrthdaro, ond hefyd i gwrdd â phobl ryfeddol a oedd yn aelodau o deulu rhai o'r gwystlon sydd wrthi'n cael eu rhyddhau erbyn hyn. Un o'r unigolion hynny oedd Mandy Damari, yr oedd ei merch Emily ymhlith y tri a gafodd eu rhyddhau yn ystod y diwrnodau diwethaf. Roedd hi'n ddynes hynod o gryf. Nid oedd ganddi unrhyw syniad a oedd ei merch yn fyw neu'n farw, ond roedd ganddi dyst mewnol ei bod yn dal yn fyw, ac roedd hynny'n cadw gobaith yn fyw ynddi. Ac roedd ei gweld hi gyda'i merch unwaith eto yn rhywbeth arbennig iawn, iawn, ond mae'n ein hatgoffa ni hefyd bod yna deuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn effeithio arnynt—fel y dywedaf, y rhai sydd ag aelodau o'r teulu ar yr ochr Balesteinaidd a'r ochr Israelaidd. Soniodd teulu Brisley, a ddaeth i rannu eu stori yn y Senedd hon y llynedd, wrthym am Eli Sharabi, wrth gwrs, y cafodd ei wraig a'i ferched eu lladd ar 7 Hydref. Mae e dal wedi'i gaethiwo. Dydyn ni ddim yn gwybod a fydd e'n rhan o'r cytundeb gwystlon hwn, oherwydd mae'r enwau'n cael eu cytuno fesul un fel rhan o'r cytundeb rhyddhau. Mae ei rieni yng nghyfraith, Gill a Pete Brisley, wrth gwrs, yn byw ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Dydyn nhw ddim yn gwybod a yw'n fyw neu'n farw. Ond, mae'n rhaid i ni roi gobaith iddyn nhw ein bod ni yn y Senedd hon yn unedig wrth sefyll yn erbyn y mathau o erchyllterau sy'n arwain yn y pen draw at hil-laddiad, ac a arweiniodd yn y pen draw at yr Holocost.
Felly, a gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am bopeth y mae'n ei wneud o ran ariannu ar gyfer y rhaglen Auschwitz bwysig honno yr ydych chi'n ariannu disgyblion i gymryd rhan ynddi? Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn rhaglenni i Srebrenica hefyd fel y gall mwy o bobl ddod i wybod am yr erchyllterau a brofodd pobl yno. Rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi'n ddrud anfon pobl dramor, ond does dim byd tebyg i'r profiadau uniongyrchol hynny, siarad â phobl y gwnaeth yr erchyllterau hyn a'r math hwn o wahaniaethu effeithio arnyn nhw, i sicrhau ei fod yn dod â phobl ynghyd i wneud popeth o fewn eu gallu i'w atal yn y dyfodol. Dyna pam rwyf yn sefyll gyda chi, ysgwydd wrth ysgwydd, o ran eisiau sicrhau ein bod ni yn goleuo'r tywyllwch er budd dyfodol gwell yma yng Nghymru a thu hwnt.
Thank you very much, Darren Millar. As you say, the eightieth anniversary, the 6 million killed—murdered—by the Nazis, this is what we will be reflecting on tomorrow. Importantly, it's a cross-party event tomorrow, and I have to say 'thank you' for, every year, bringing these events to the Senedd, and, of course, there will be the ceremony that we will be attending next Monday as well. But it is important that we can all express and share, as you have today, and we have today, relief, as we say, particularly on the ceasefire. I just wanted to say that that's something where I was very pleased, actually, to meet a cross-party group of Senedd Members—so Labour, Plaid Cymru and the Welsh Conservatives. We met to consider and reflect—it was Huw, Luke and Tim Giffard—and we reflected on the situation of Eli Sharabi, whose family lives in Wales, as you said. We join the international community in hoping that all hostages are released quickly and unharmed. It is important also that we recognise and that you'll see that we must do everything we can to support all the efforts to secure long-term peace in the middle east. Our attention must turn to how we can secure a permanently better future for the Israeli and Palestinian people, grounded in a two-state solution that will guarantee security and stability for Israel alongside a sovereign and viable Palestine state. It's not for us; we can reflect, but we need to acknowledge those goals and aims.
The genocide in Srebrenica, which so many here are involved in—I can see Jane, Mike, and others across this Chamber have spoken about it—we continue to not only remember the victims, survivors and the families, but also commending the work of Remembering Srebrenica Wales and the vital role they're playing, because they also, as you say, raise awareness of the consequences of hate and promote educational understanding to combat hatred and prejudice. So, as a result of you raising that issue, I will meet with them again to see how that work is being undertaken.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Fel y dywedwch chi, coffáu wyth deg mlynedd, y 6 miliwn a laddwyd—llofruddiwyd—gan y Natsïaid, dyma'r hyn y byddwn ni'n myfyrio arno yfory. Yn bwysig, mae'n ddigwyddiad trawsbleidiol yfory, ac mae'n rhaid i mi ddweud 'diolch' am ddod â'r digwyddiadau hyn i'r Senedd bob blwyddyn, ac, wrth gwrs, bydd y seremoni y byddwn ni'n ei mynychu ddydd Llun nesaf hefyd. Ond mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gallu mynegi a rhannu, fel yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud heddiw, rhyddhad, fel y dywedwn, yn enwedig o ran y cadoediad. Roeddwn i eisiau dweud bod hynny'n rhywbeth lle'r oeddwn i'n falch iawn, mewn gwirionedd, i gwrdd â grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd—y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Fe wnaethon ni gyfarfod i ystyried a myfyrio—Huw, Luke a Tim Giffard oedd yno—ac fe wnaethon ni fyfyrio ar sefyllfa Eli Sharabi, y mae ei deulu'n byw yng Nghymru, fel y dywedoch chi. Rydym yn ymuno â'r gymuned ryngwladol sy'n gobeithio bod pob gwystl yn cael ei ryddhau'n gyflym ac yn ddianaf. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n cydnabod ac y byddwch chi'n gweld bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau heddwch hirdymor yn y dwyrain canol. Rhaid i ni droi ein sylw at sut y gallwn ni sicrhau dyfodol gwell i bobl Israel a Phalesteina ar sail barhaol, yn seiliedig ar ddatrysiad dwy wladwriaeth a fydd yn gwarantu diogelwch a sefydlogrwydd i Israel ochr yn ochr â gwladwriaeth Balesteinaidd sofran a hyfyw. Nid i ni y mae hynny; gallwn ni fyfyrio, ond mae angen i ni gydnabod y nodau a'r amcanion hynny.
Mae'r hil-laddiad yn Srebrenica, y mae cynifer yma yn gysylltiedig ag ef—gallaf weld Jane, Mike, ac eraill ar draws y Siambr hon sydd wedi siarad amdano—rydym yn parhau nid yn unig i gofio'r dioddefwyr, y goroeswyr a'r teuluoedd, ond rydym hefyd yn canmol gwaith Cofio Srebrenica Cymru a'r rhan hanfodol maen nhw'n ei chwarae, oherwydd maen nhw hefyd, fel y dywedwch chi, yn codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau casineb ac yn hyrwyddo dealltwriaeth addysgol i frwydro yn erbyn casineb a rhagfarn. Felly, gan eich bod chi wedi codi'r mater hwnnw, fe wnaf i gwrdd â nhw eto i weld sut mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni.
Delyth Jewell yn olaf.
Finally, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. We owe it to Jewish people everywhere never to forget the horrors of what happened during the Holocaust, and, of course, all those other communities affected so horrifically during that time. We owe it to them too to ensure that antisemitism today is called out and condemned. Jewish people living in our communities should not be made to answer for the actions of a Government thousands of miles away. I've spoken to Jewish people who have been afraid to wear the kippah or the star of David or who have been nervous when leaving the synagogue. This cannot be who we are. Whilst we welcome the fragile ceasefire in the middle east, whilst we feel relief that it has happened and anger that it has taken too long to come, do you agree that the need to guard against the rise of hatred in our communities has not become any less urgent, and that we owe it to our Jewish and Muslim brothers and sisters to show our solidarity with them now more than ever?
Diolch, Llywydd. Mae dyled arnom i bobl Iddewig ym mhobman i beidio byth ag anghofio erchyllterau'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost, ac, wrth gwrs, yr holl gymunedau eraill hynny yr effeithiwyd arnyn nhw mewn ffordd mor erchyll yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae arnom ddyled iddyn nhw hefyd i sicrhau ein bod yn tynnu sylw at wrthsemitiaeth heddiw a'i gondemnio. Ni ddylai pobl Iddewig sy'n byw yn ein cymunedau ddioddef oherwydd gweithredoedd Llywodraeth miloedd o filltiroedd i ffwrdd. Rwyf wedi siarad â phobl Iddewig sydd wedi bod ofn gwisgo'r kippah neu seren Dafydd neu sydd wedi bod yn nerfus wrth adael y synagog. Ni all hyn fod pwy ydyn ni. Er ein bod ni'n croesawu'r cadoediad bregus yn y dwyrain canol, er ein bod ni'n teimlo rhyddhad ei fod wedi digwydd a dicter ei fod wedi cymryd yn rhy hir, ydych chi'n cytuno nad yw'r angen i warchod rhag y cynnydd mewn casineb yn ein cymunedau wedi dod yn fater llai brys, a bod dyled arnom i'n brodyr a'n chwiorydd Iddewig a Mwslimaidd i ddangos ein hundod â nhw nawr yn fwy nag erioed?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. We've been so concerned about reports of hate crime targeted towards Jewish people in communities in Wales. You know that we encourage people to report hate incidents, but also engaging with the communities, attending the synagogues and meeting with Jewish people, condemn vile hatred expressed by individuals. This is about creating a climate of fear, divisiveness, fragmenting our communities. And yet again, it is about us recognising that hate crime is also targeted at many of our Muslim friends and citizens as well. So, it is through education, again, that we believe that our children and young people will be growing up with that understanding of what we mean by a peaceful community—indeed, a nation of sanctuary.
I just want to finish, Llywydd, by saying that I'm looking forward to making a statement shortly on nation of sanctuary. I think we need to rethink and revisit this. It's a vision of Wales as a nation of sanctuary, because we believe that is what brings out the best in us, in terms of what we believe and what we hope for, for not just the people of Wales, but understanding all their relations, where they’ve come from, conflict, and that international perspective, which we've touched on today, thinking about and hoping for that peace to remain and to continue for our friends in the middle east.
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Rydym ni wedi bod mor bryderus am adroddiadau o droseddau casineb a dargedir at bobl Iddewig mewn cymunedau yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod ein bod ni'n annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau casineb, ond hefyd ymgysylltu â'r cymunedau, mynychu'r synagogau a chwrdd â phobl Iddewig, condemnio casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion. Mae hyn yn ymwneud â chreu hinsawdd o ofn, ymrannol, gan ddarnio ein cymunedau. Ac unwaith eto, mae'n ymwneud â ni yn cydnabod bod troseddau casineb hefyd wedi'u targedu at lawer o'n ffrindiau a'n dinasyddion Mwslimaidd hefyd. Felly, trwy addysg, unwaith eto, credwn y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn tyfu'n oedolion â'r ddealltwriaeth honno o'r hyn a olygwn ni gan gymuned heddychlon—yn wir, cenedl noddfa.
Fe hoffwn i ddim ond gorffen, Llywydd, trwy ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at wneud datganiad yn fuan ar genedl noddfa. Rwy'n credu bod angen i ni ailystyried ac ailgloriannu hyn. Mae'n weledigaeth o Gymru fel cenedl noddfa, oherwydd credwn mai dyna sy'n amlygu'r gorau ynom ni, o ran yr hyn rydym ni'n ei gredu a'r hyn rydym ni'n gobeithio amdano, nid yn unig i bobl Cymru, ond deall eu holl berthnasau, o ble maen nhw wedi dod, gwrthdaro, a'r persbectif rhyngwladol hwnnw, yr ydym ni wedi ei grybwyll heddiw, meddwl am yr heddwch hwnnw a gobeithio iddo aros a pharhau i'n cyfeillion yn y Dwyrain Canol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Eitem 8 fydd nesaf. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar darfu ar gyflenwad dŵr yng Nghonwy yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.
Item 8 is next, a statement by the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on water interruption in Conwy. I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Ddydd Mercher 15 Ionawr, cafodd Llywodraeth Cymru wybod gan Dŵr Cymru Welsh Water fod pibell dŵr ar gyfer y prif gyflenwad ger gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog, Conwy wedi byrstio. Roedd y bibell wedi byrstio’n ddifrifol, a oedd yn golygu bod angen gwneud gwaith atgyweirio cymhleth mewn lleoliad heriol iawn o dan Afon Ddu. Cafodd hyn ei gyhoeddi yn ddigwyddiad mawr.
Thank you, Llywydd. On Wednesday 15 January, Dŵr Cymru Welsh Water notified the Welsh Government of a mains water pipe burst near the Bryn Cowlyd water treatment works, Dolgarrog, Conwy. This was a substantial burst, presenting a complex fix in a very challenging location underneath Afon Ddu, and a major incident was declared.
The Welsh Government incident response was stood up on Wednesday 15 January to support Dŵr Cymru and the multi-agency north Wales strategic co-ordination group, led by north Wales fire and rescue. The response structure remained in place until today, and Welsh Government officials have been closely engaged throughout. By Sunday evening, almost everybody's water was back on, and the incident is now fully resolved. The incident affected many people in the Conwy valley, Llandudno and Colwyn Bay areas. Supplies for up to 40,000 properties were lost at the height of the incident, and some communities were affected for several days. This was a very serious incident. The loss of water supply for any extended period can have a very significant impact. It is distressing and it's concerning for all residents, and especially for those who are vulnerable or receiving health or care support.
I want to recognise the resilience of those communities who were affected, and to extend my sympathy for the difficult situation they have faced. But I also want to recognise the incredible way that people have pulled together to support each other in the face of these difficult circumstances. With the disruption to mains water supply, Dŵr Cymru provided emergency supplies focusing on health and care settings and those people on Dŵr Cymru's priority service list. Tankers were connected to two hospitals and two mental health units, enabling them to operate as normal throughout. The multi-agency response was critical in ensuring that vulnerable people and settings received water. I know that Conwy council and its councillors, Members in this Siambr and MPs have played a key role in guiding support to where it is most needed. Diolch yn fawr iawn.
Cyhoeddwyd statws ymateb i ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 15 Ionawr i gefnogi Dŵr Cymru a grŵp cydlynu strategol amlasiantaeth gogledd Cymru, dan arweiniad gwasanaeth tân ac achub gogledd Cymru. Arhosodd y strwythur ymateb ar waith tan heddiw, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n agos trwy gydol y broses. Erbyn nos Sul, roedd dŵr bron pawb yn ôl, ac mae'r digwyddiad bellach wedi'i ddatrys yn llawn. Effeithiodd y digwyddiad ar lawer o bobl yn ardaloedd Dyffryn Conwy, Llandudno a Bae Colwyn. Collwyd cyflenwadau ar gyfer hyd at 40,000 o eiddo ar anterth y digwyddiad, ac effeithiwyd ar rai cymunedau am sawl diwrnod. Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn. Gall colli cyflenwad dŵr am unrhyw gyfnod estynedig gael effaith sylweddol iawn. Mae'n destun gofid a phryder i bob preswylydd, ac yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed neu'n derbyn cymorth iechyd neu ofal.
Fe hoffwn i gydnabod gwytnwch y cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw, a chydymdeimlo â nhw oherwydd y sefyllfa anodd y maen nhw wedi'i hwynebu. Ond fe hoffwn i hefyd gydnabod y ffordd anhygoel y mae pobl wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn wyneb yr amgylchiadau anodd hyn. Gyda'r tarfu ar gyflenwad dŵr prif gyflenwad, darparodd Dŵr Cymru gyflenwadau brys yn canolbwyntio ar leoliadau iechyd a gofal a'r bobl hynny ar restr gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru. Roedd tanceri wedi'u cysylltu â dau ysbyty a dwy uned iechyd meddwl, gan eu galluogi i weithredu fel arfer drwy'r cyfnod dan sylw. Roedd yr ymateb amlasiantaeth yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl a lleoliadau agored i niwed yn cael dŵr. Gwn fod Cyngor Conwy a'i gynghorwyr, Aelodau yn y Siambr hon ac Aelodau Seneddol wedi chwarae rhan allweddol wrth gyfeirio cefnogaeth i'r lle mae ei hangen fwyaf. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
On 17 January, bottled water stations were opened in Dolgarrog and Colwyn Bay, and later on in Conwy and Llandudno for members of the public. These have remained open until today. Supplies were also dropped at key locations in more remote communities, and as we moved into the weekend a small army of volunteers from public service partners and community groups helped to distribute water directly to those who needed it. Provision was also made to ensure farmers had access to water, which is critical at this time of year when cattle are likely to be indoors. My thanks go to the National Farmers Union and the Farmers Union of Wales, because they played a key role in communicating the location of those filling points. The incident has had a widespread impact on businesses and schools, which are now able to return to normal operations.
Given the scale of the incident, I met with the chief executive of Dŵr Cymru to be briefed on progress with the repair and the provision of water to people who had lost supply. In that meeting, I stressed the importance of clear messaging to the public and ensuring that emergency supplies are provided and accessible to all, and of ensuring that vulnerable customers are particularly supported. My colleague the Cabinet Secretary for Transport and North Wales visited the area and was briefed by Conwy council. I held a follow-up meeting with the chief executive of Dŵr Cymru yesterday to review progress on returning to normal operations, and to reflect on emerging learning. I also plan to visit affected communities in the coming days.
I want to put on record my thanks to the many organisations and volunteers who played a critical role in supporting communities throughout this incident. It has been a large-scale, multi-agency response. Dŵr Cymru, our blue-light services, our local authority colleagues, and community groups and volunteers have all played a key role, helping to distribute water and ensuring people were safe. It was a real team effort. I also want to thank those engineers who worked tirelessly for several days to get this fixed. Let me be very clear: this was really difficult work. To complete the job at one point, they were lying on their backs in freezing cold water, in the middle of the night, in a 12 ft hole under the Afon Ddu. It took a huge team of people, and some incredible logistical and engineering work, to get this fixed.
Dŵr Cymru have, quite rightly, announced arrangements for compensation available to residential and business customers, and the information can be found on their website. Now, as always in situations such as this, there will be lessons to learn. So, as we move into the recovery phase, Dŵr Cymru will be reflecting on the incident, identifying what worked well, and things we need to do better. I also intend to host a meeting with Dŵr Cymru and all the partners involved—as we did, indeed, following storm Bert and storm Darragh—to reflect on what could have been done differently, and how we can improve our preparedness and response for situations such as this in the future.
There were, no doubt, challenges with the provision of alternative water supplies early on in the incident. I know there was some frustration with communications as well, and we need to look at that and see what could be improved. The Drinking Water Inspectorate is the regulator that oversees water companies' preparedness for incidents such as this, and I will of course await their review of the incident with interest. What we do know for now is that, as a result of the freeze-thaw conditions over the preceding week, sediment in the bottom of the river moved, and this allowed a large boulder to put pressure directly on the pipe, and this caused the burst. This was a newer section of the network. It was installed in the mid to late 1990s. In light of that and the ground conditions encountered, Dŵr Cymru have further assured me that they will make further improvements to make this critical section more robust.
The pressure on our infrastructure is reflected in the outcome of the recent price review, which will see over £6 billion invested in Wales's water infrastructure over the next five years. The Welsh Government and Ofwat will be closely monitoring the delivery of this ambitious programme of improvements to ensure that bill payers’ money is spent effectively.
Ar 17 Ionawr, agorwyd gorsafoedd dŵr potel yn Nolgarrog a Bae Colwyn, ac yn ddiweddarach yng Nghonwy a Llandudno ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Mae'r rhain wedi aros ar agor hyd heddiw. Aethpwyd â chyflenwadau hefyd i leoliadau allweddol mewn cymunedau mwy anghysbell, ac wrth i'r penwythnos ddynesu bu byddin fechan o wirfoddolwyr o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol yn helpu i ddosbarthu dŵr yn uniongyrchol i'r rhai oedd ei angen. Gwnaed darpariaeth hefyd i sicrhau bod gan ffermwyr fynediad at ddŵr, sy'n hanfodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd gwartheg yn debygol o fod dan do. Diolch i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, oherwydd bu ganddyn nhw ran allweddol yn rhoi'r gair ar led am leoliad y mannau llenwi hynny. Mae'r digwyddiad wedi cael effaith eang ar fusnesau ac ysgolion, sydd bellach yn gallu dychwelyd i'w trefniadau arferol.
O ystyried natur sylweddol y digwyddiad, cyfarfûm â phrif weithredwr Dŵr Cymru i gael gwybod am y cynnydd o ran atgyweirio a darparu dŵr i bobl a oedd wedi colli cyflenwad. Yn y cyfarfod hwnnw, pwysleisiais bwysigrwydd negeseuon clir i'r cyhoedd a sicrhau bod cyflenwadau brys yn cael eu darparu ac yn hygyrch i bawb, ac o sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael eu cefnogi'n arbennig. Ymwelodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, â'r ardal a chafodd ddiweddariad gan gyngor Conwy. Cynhaliais gyfarfod dilynol gyda phrif weithredwr Dŵr Cymru ddoe i adolygu'r cynnydd o ran dychwelyd i weithredu fel arferol, ac i fyfyrio ar yr hyn y gellir ei ddysgu o'r digwyddiad. Rwyf hefyd yn bwriadu ymweld â chymunedau yr effeithir arnyn nhw yn y dyddiau nesaf.
Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r llu o sefydliadau a gwirfoddolwyr a chwaraeodd ran hanfodol wrth gefnogi cymunedau drwy gydol y digwyddiad hwn. Mae wedi bod yn ymateb amlasiantaethol ar raddfa fawr. Mae Dŵr Cymru, ein gwasanaethau golau glas, cydweithwyr yn ein hawdurdodau lleol, a grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i gyd wedi chwarae rhan allweddol, gan helpu i ddosbarthu dŵr a sicrhau bod pobl yn ddiogel. Roedd yn ymdrech gydweithredol go iawn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r peirianwyr hynny a weithiodd yn ddiflino am sawl diwrnod i drwsio hyn. Gadewch i mi fod yn glir iawn: roedd hwn yn waith anodd iawn. I gwblhau'r gwaith ar un adeg, roedden nhw'n gorwedd ar eu cefnau mewn dŵr oer rhewllyd, yng nghanol y nos, mewn twll 12 troedfedd o dan Afon Ddu. Cymerodd dîm enfawr o bobl, a rhywfaint o waith logistaidd a pheirianneg anhygoel, i drwsio hyn.
Mae Dŵr Cymru, yn gwbl briodol, wedi cyhoeddi trefniadau ar gyfer iawndal sydd ar gael i gwsmeriaid preswyl a busnes, ac mae'r wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Nawr, fel bob amser mewn sefyllfaoedd fel hyn, bydd gwersi i'w dysgu. Felly, wrth i ni symud i'r cam adfer, bydd Dŵr Cymru yn myfyrio ar y digwyddiad, gan nodi'r hyn a weithiodd yn dda, a phethau y mae angen i ni eu gwneud yn well. Rwyf hefyd yn bwriadu cynnal cyfarfod gyda Dŵr Cymru a'r holl bartneriaid dan sylw—fel y gwnaethom ni, yn wir, yn dilyn storm Bert a storm Darragh—i fyfyrio ar yr hyn y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol, a sut y gallwn ni baratoi ac ymateb yn well gyda sefyllfaoedd fel hyn yn y dyfodol.
Yn ddiau, roedd heriau wrth ddarparu cyflenwadau dŵr amgen yn gynnar yn y digwyddiad. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o rwystredigaeth gyda chyfathrebu hefyd, ac mae angen i ni edrych ar hynny a gweld beth y gellid ei wella. Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yw'r rheoleiddiwr sy'n goruchwylio pa mor barod yw cwmnïau dŵr ar gyfer digwyddiadau fel hyn, a byddai, wrth gwrs, gennyf ddiddordeb yn eu hadolygiad o'r digwyddiad. Yr hyn yr ydym yn ei wybod am y tro yw, o ganlyniad i'r amodau rhewi a dadmer dros yr wythnos flaenorol, y symudwyd gwaddod yng ngwaelod yr afon, a chaniatáodd hyn i glogfaen mawr roi pwysau yn uniongyrchol ar y bibell, ac achosodd hyn y byrstio. Roedd hon yn rhan fwy newydd o'r rhwydwaith. Fe'i gosodwyd yng nghanol a diwedd y 1990au. Yng ngoleuni hynny a'r amodau tir y daethpwyd ar eu traws, mae Dŵr Cymru wedi fy sicrhau ymhellach y byddant yn gwneud gwelliannau pellach i wneud yr adran hanfodol hon yn fwy cadarn.
Adlewyrchir y pwysau ar ein seilwaith yng nghanlyniad yr adolygiad prisiau diweddar, a fydd yn gweld dros £6 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn seilwaith dŵr Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ofwat yn cadw golwg agos ar y gwaith o gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol hon o welliannau i sicrhau bod arian talwyr biliau yn cael ei wario'n effeithiol.
Mewn ymateb i faint yr her yr ydym yn ei hwynebu, rydym wedi mynd ati, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i sefydlu comisiwn annibynnol ar y cyd o dan gadeiryddiaeth Syr Jon Cunliffe i gynnal adolygiad eang o’r sector. Rwy'n edrych ymlaen at glywed argymhellion Syr Jon yn nes ymlaen eleni. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb yn y gymuned leol a'r llu o sefydliadau ac unigolion am eu hymdrech fawr i gefnogi'r bobl hynny yr oedd y digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Diolch.
In response to the scale of the challenge that we face, we have jointly established, with the UK Government, an independent commission, chaired by Sir Jon Cunliffe, to undertake a wide-ranging review of the sector. I look forward to Sir Jon’s recommendations later this year. Once again I would like extend my thanks to all those in the local community and the many organisations and individuals who went to such great efforts to support those affected by this incident. Thank you.
Thank you for bringing your statement here today. I have to say that I genuinely believe that you mean well by reading out that statement, but you have to understand the severity of what happened. I know that we were all shocked by COVID, and that progressed over an amount of time, but suddenly we had an emergency situation where people didn't have water on Wednesday evening. You've just said that everybody's all back on now. Well, I can tell you that I'm still receiving concerns now.
It was disorganised chaos. We were assured that there was this gold command programme in place. As someone who used to be the cabinet member in Conwy for public protection, I've attended events with the Ministry of Defence on resilience and emergency planning, and I've got to be honest, I was shocked to see that it was all an afterthought. The reason that I ended up getting a pallet of water—. There was nowhere in Llandudno for people—our care homes, our GP surgeries, our shops and businesses, our elderly, our mothers with babies to make formula milk. It was horrendous. It's probably the most heartbreaking experience that I've ever witnessed—not as a politician, but as an individual. I can't emphasise enough just how upsetting it was, and how people have been left traumatised by it, because some of them were off not just Wednesday, or Thursday, or Friday, but Saturday, Sunday—all that time, wondering where they were going to get water from. It was a humanitarian crisis. Darren Millar said that to Peter Perry, the chief executive of Dŵr Cymru, when we spoke with him.
I've had a four-page letter identifying their own concerns about, I suppose, their own handling of it. But when they say that these organisations get together—. I'd like, in some ways, Cabinet Secretary, to speak to you again on this, because it was just horrendous. Let's all be clear, it was not a disruption or interruption, as it says in the item on the agenda today; these were people who were unable to access any clean water, unable to wash themselves or bathe, unable to make up baby milk. You said about our farmers, and you made it sound as though our farmers were well looked after. A lady previously, the previous week, when she'd been without water, lost her horse through dehydration. I had farmers contacting me, and they were told, 'Go out and buy bottles of water and give us the receipts.' Do you have any idea how much one cow drinks? It was just unbelievable. Residents unable to get out of their homes were told over the phone by Welsh Water to go out and procure their own. All of the stores had sold out.
There was the dangerous decision to provide only two water stations for 40,000 people, until Darren Millar and I said, 'It's not enough.' Residents were queueing in cars for hours on end, causing road blocks, North Wales Police were issuing warnings on social media. Major towns such as Llandudno, Llanrwst, Conwy and more were contacting us, 'Where's the water for our community?' It was horrendous. When the station in Conwy town was opened, it had to be suspended because of the volume of demand. The biggest issue was a lack of information from Dŵr Cymru or, in some respects, contradictory information. There was not a well-organised emergency resilience plan in place at all.
We quickly appreciated that where this burst pipe had arisen, the repair, several meters down under the river bed of the Afon Conwy, would be a dangerous and lengthy task, and I must commend all those who were involved in that horrendous task. They had to build a dam, but also they had to go, as you say, several feet down, divers, on their backs, trying to fix this pipe. And I have to just mention that Gareth Shorty Evans has been one of the ones who was in that predicament, and he’s one of my residents. So, thank you, Gareth. We saw businesses forced to close, and then you mention the compensation. Well, it’s derisory—£30 for residents, for 12 hours. And businesses—I’ve got businesses that lost several thousand pounds. It’s not enough. When a chief executive of the water company—
Diolch am eich datganiad yma heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wir yn credu eich bod yn gwbl ddiffuant wrth ddarllen y datganiad hwnnw, ond mae'n rhaid i chi ddeall difrifoldeb yr hyn ddigwyddodd. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd wedi ein syfrdanu gan COVID, ac i hynny esblygu dros gyfnod o amser, ond yn sydyn cawsom sefyllfa frys lle nad oedd gan bobl ddŵr nos Fercher. Rydych chi newydd ddweud bod cyflenwad pawb wedi dychwelyd ar hyn o bryd. Wel, gallaf ddweud wrthych fy mod yn dal i dderbyn negeseuon o bryderon nawr.
Roedd yn anhrefn llwyr. Fe gawsom ni sicrwydd bod y rhaglen aur hon yn ei lle. Arferwn fod yn aelod cabinet yng Nghonwy ar gyfer diogelu'r cyhoedd, ac rwyf wedi mynychu digwyddiadau gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch gwytnwch a chynllunio ar gyfer argyfwng, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, cefais sioc o weld bod y cyfan yn ôl-ystyriaeth. Y rheswm y cefais lond paled o ddŵr—. Doedd unman yn Llandudno i bobl—ein cartrefi gofal, ein meddygfeydd, ein siopau a'n busnesau, ein henoed, ein mamau gyda babanod i wneud llaeth fformiwla. Roedd yn erchyll. Mae'n debyg mai dyma'r profiad mwyaf torcalonnus imi erioed ei weld—nid fel gwleidydd, ond fel unigolyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor ofidus ydoedd, a sut y gadawyd pobl wedi eu trawmateiddio ganddo, oherwydd doedd gan rai ohonyn nhw ddim cyflenwad nid yn unig dydd Mercher, neu ddydd Iau, neu ddydd Gwener, ond dydd Sadwrn, dydd Sul—yr holl amser hwnnw, yn pendroni o ble roedden nhw'n mynd i gael dŵr. Roedd yn argyfwng dyngarol. Dywedodd Darren Millar hynny wrth Peter Perry, prif weithredwr Dŵr Cymru, pan wnaethon ni siarad ag ef.
Rwyf wedi cael llythyr pedair tudalen yn nodi eu pryderon eu hunain ynghylch, mae'n debyg, sut fu iddyn nhw ymdrin â'r sefyllfa. Ond pan fyddan nhw'n dweud bod y sefydliadau hyn yn dod at ei gilydd—. Fe hoffwn i, mewn rhai ffyrdd, Ysgrifennydd Cabinet, siarad â chi eto am hyn, oherwydd roedd yn ddychrynllyd. Gadewch i ni gyd fod yn glir, nid amhariad nac ymyrraeth ydoedd, fel y mae'n dweud yn yr eitem ar yr agenda heddiw; roedd y rhain yn bobl nad oeddent yn gallu cael gafael ar unrhyw ddŵr glân, yn methu ag ymolchi nac ymdrochi, yn methu â gwneud llaeth babanod. Fe ddywedoch chi am ein ffermwyr, ac fe roesoch yr argraff bod ein ffermwyr wedi derbyn gofal da. Collodd dynes yn flaenorol, yr wythnos flaenorol, pan fu hi heb ddŵr, ei cheffyl oherwydd syched. Roedd gen i ffermwyr yn cysylltu â mi, a dywedwyd wrthyn nhw, 'Ewch allan i brynu poteli o ddŵr a rhoi'r derbynebau i ni.' Oes gennych chi syniad faint mae un fuwch yn ei yfed? Roedd yn gwbl anghredadwy. Cafodd trigolion nad oedd yn gallu mynd allan o'u cartrefi wybod dros y ffôn gan Dŵr Cymru i fynd allan a phrynu eu dŵr eu hunain. Roedd y siopau i gyd wedi gwerthu pob potel.
Dyna'r penderfyniad peryglus i ddarparu dim ond dwy orsaf ddŵr ar gyfer 40,000 o bobl, nes i Darren Millar a minnau ddweud, 'Nid yw'n ddigon.' Roedd trigolion yn aros mewn ceir am oriau bwygilydd, gan rwystro'r ffyrdd, roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cyhoeddi rhybuddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd trefi mawr fel Llandudno, Llanrwst, Conwy a mwy yn cysylltu â ni, 'Ble mae'r dŵr i'n cymuned?' Roedd yn erchyll. Pan agorwyd yr orsaf yn nhref Conwy, bu'n rhaid ei hatal oherwydd maint y galw. Y broblem fwyaf oedd diffyg gwybodaeth gan Dŵr Cymru neu, mewn rhai ffyrdd, gwybodaeth gyferbyniol. Nid oedd cynllun cydnerthedd brys trefnus o gwbl.
Fe wnaethom ni sylweddoli'n gyflym, lle roedd y bibell hon wedi byrstio, y byddai'r gwaith atgyweirio, sawl medr i lawr o dan wely afon Conwy, yn dasg beryglus a hirfaith, a rhaid imi ganmol pawb a oedd yn rhan o'r dasg erchyll honno. Roedd yn rhaid iddyn nhw adeiladu argae, ond hefyd roedd yn rhaid iddyn nhw fynd, fel y dywedwch, sawl troedfedd i lawr, deifwyr, ar eu cefnau, yn ceisio trwsio'r bibell hon. Ac mae'n rhaid i fi sôn y bu Gareth Shorty Evans yn un o'r rhai oedd yn y sefyllfa yna, ac mae'n un o fy nhrigolion. Diolch yn fawr, Gareth. Gwelsom fusnesau yn cael eu gorfodi i gau, ac yna rydych chi'n sôn am yr iawndal. Wel, mae'n chwerthinllyd—£30 i breswylwyr, am 12 awr. A busnesau—mae gen i fusnesau a gollodd sawl mil o bunnoedd. Nid yw'n ddigon. Pan fo prif weithredwr y cwmni dŵr—
You need to ask the question now, Janet.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, Janet.
—can get £345,000 and other packages making £0.5 million, it is an insult to offer my businesses £75 for 12 hours. We're still seeing—
—yn gallu cael £345,000 a phecynnau eraill sy'n gwneud £0.5 miliwn, mae'n sarhad cynnig £75 i'm busnesau am 12 awr. Rydym ni'n dal i weld—
Janet, you need to ask your question, please.
Janet, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Yes. We've now got pollution incidents, Darren, as of today, in your constituency and mine—there's all this overspill now causing lots of pollution. This was an unmitigated disaster. It cannot be allowed to happen again. Minister, I'll just say this: I was disgusted—no message from the First Minister, just a message of support to my residents. Saturday was rather late. This started on Wednesday, so what you did behind the scenes certainly wasn't translated to people in my community.
Iawn. Erbyn hyn mae gennym ni achos o lygredd, Darren, heddiw, yn eich etholaeth chi a fy un i—mae yna orlif erbyn hyn yn achosi llawer o lygredd. Roedd hwn yn drychineb llwyr. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd eto. Gweinidog, fe ddywedaf hyn: roeddwn yn ffieiddio—dim neges gan Brif Weinidog Cymru, dim ond neges o gefnogaeth i'm trigolion. Roedd hi'n hwyr ddydd Sadwrn. Dechreuodd hyn ddydd Mercher, felly yn sicr ni chafodd yr hyn a wnaethoch chi yn y cefndir ei gyfleu i bobl yn fy nghymuned.
Janet, I've been generous. You need to stop now.
Janet, rydw i wedi bod yn hael. Mae angen i chi roi'r gorau iddi nawr.
Well, you can understand I'm very, very upset.
Wel, gallwch ddeall fy mod yn drist iawn, iawn.
I can understand, but you also had time to do that.
Rwy'n deall, ond roedd gennych chi amser i wneud hynny hefyd.
Yes, okay. But, very, very disappointed. We now know that the north-south divide exists.
Ie iawn. Ond, yn siomedig iawn, iawn. Rydym ni bellach yn gwybod bod y rhaniad rhwng y gogledd a'r de yn bodoli.
Well, that I deeply regret in a closing comment, and I think I could see the way that was heading all the way through it. And it is disappointing, because I did point out in my opening remarks my thanks to those colleagues on the ground who were able to assist the response on the ground by directing where water could go, bottled water and so on. But what I also regret is the tone in which there’s a direct attack on the lack of planning, lack of foresight, lack of awareness. I agree with you in that this has had a devastating impact on the communities affected. But let me be crystal clear, the response was set up from the moment this emerged as a problem. The strategic response group on the ground—. You’re shaking your head.
Wel, rwy'n siomedig iawn clywed hynny mewn sylw clo, ac rwy'n credu y gallwn i weld y terfyn hwnnw drwy hynt yr araith. Ac mae'n siomedig, oherwydd fe wnes i ddiolch yn fy sylwadau agoriadol i'r cydweithwyr hynny ar lawr gwlad a lwyddodd i gynorthwyo'r ymateb ar lawr gwlad trwy gyfarwyddo lle gallai dŵr fynd, dŵr potel ac yn y blaen. Ond yr hyn rwyf hefyd yn gresynu ato yw'r agwedd lle mae yna ymosodiad uniongyrchol ar y diffyg cynllunio, diffyg rhagolwg, diffyg ymwybyddiaeth. Rwy'n cytuno â chi fod hyn wedi cael effaith ddinistriol ar y cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw. Ond gadewch i mi fod yn hollol glir, trefnwyd yr ymateb o'r eiliad y daeth hyn i'r amlwg fel problem. Y grŵp ymateb strategol ar lawr gwlad—. Rydych chi'n ysgwyd eich pen.
We didn't hear of it.
Chlywsom ni ddim amdano.
Janet, you're shaking your head. I'm telling you to your face that the strategic response group was in place from the start of this incident. What changed, Janet, if you will just listen rather than shake your head and contradict me, is that initially—
Janet, rydych chi'n ysgwyd eich pen. Rwy'n dweud wrthych chi i'ch gwyneb fod y grŵp ymateb strategol ar waith o ddechrau'r digwyddiad hwn. Yr hyn a newidiodd, Janet, os wnewch chi ddim ond gwrando yn hytrach nag ysgwyd eich pen a'm gwrth-ddweud, yw i ddechrau—
[Inaudible.]
[Anghlywadwy.]
Let's have an end to this conversation across the Chamber. You've had a chance to ask your questions and you now need to respond to those questions.
Gadewch i ni ddod â'r sgwrs hon i ben ar draws y Siambr. Rydych chi wedi cael cyfle i ofyn eich cwestiynau ac mae angen i chi ymateb i'r cwestiynau hynny nawr.
Dirprwy Lywydd, what I'll try and do is speak to the Chamber, rather than to Janet directly, and to the constituents out there who were affected. This escalated from 8,000 at the initial assessment of who were affected very rapidly to 30,000, and at the height of it became 40,000. Throughout the whole of that, the strategic response group was in place, and that includes the blue light authorities, the local authorities, as well as Dŵr Cymru. I noticed a lot of the contribution focused entirely on Dŵr Cymru and on individuals within Dŵr Cymru, but actually there’s a wider response there. And that was not only in place in advance but was escalated as the situation escalated as well.
Just to remind people as well, it was extremely challenging given the location of the burst pipe in a high pressure main. The size of the network impacted was nearly 900 km when the full scale of this emerged, which was not the original anticipated scale of the problem. Welsh Government activated its civil contingencies response on Wednesday evening in support of the multi-agency north Wales strategic co-ordination group, Janet, being led by the North Wales Fire and Rescue Service, Janet. It was right that DC/WW, Dŵr Cymru, initially prioritised alternative supply to vulnerable groups and locations such as hospitals given the sector-wide issues with alternative water supply.
A couple of other things in response. During the incident, I mentioned that I met the chief executive of Dŵr Cymru—one of the things that was clear from the moment go was that this was progressively worsening, the scale of the impact and the number of people involved, and that's why it was then ramped up. And some of the problems with the initial communication, from what I've heard back from the responders, as opposed to just Dŵr Cymru alone, was that, as this grew, the communication had to be adjusted to reflect that it was now in a much wider geographical area, there were more people affected, and also the response had to be adjusted to that—as to where the distribution centres were, how many care centres were impacted, which, at one point, was around 60 care homes as well.
I note your points, Janet, in terms of compensation and so on, but just to be clear as well, it isn't simply the normal compensation. Dŵr Cymru have made very clear that, if there are businesses that are more significantly affected, and have had their trade really affected, they need to make that aware to Dŵr Cymru, who will look at it on a case-by-case basis. They may have informed you of that, and you didn't reflect it in your comments, so I'm just putting that clarity here as well.
We are keen, by the way, Dirprwy Lywydd, always, as I said in my opening remarks, to learn the lessons from any incident like this. Having said that, I think we do need to be very clear that this was not an incident that the responders on the ground knew, from the moment it started, was going to affect 40,000 and more people and businesses. It grew into that and they had to adjust their plans in going on. But the criticism that there was no plan in place, and that there was no multi-agency joined-up response, is a complete fallacy.
Dirprwy Lywydd, yr hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yw siarad â'r Siambr, yn hytrach nag â Janet yn uniongyrchol, ac â'r etholwyr ar lawr gwlad a gafodd eu heffeithio. Cynyddodd hyn o 8,000 yn yr asesiad cychwynnol o bwy yr effeithiwyd arnyn nhw yn gyflym iawn i 30,000, ac ar ei anterth daeth yn 40,000. Trwy gydol hynny i gyd, roedd y grŵp ymateb strategol ar waith, ac mae hynny'n cynnwys yr awdurdodau golau glas, yr awdurdodau lleol, yn ogystal â Dŵr Cymru. Sylwais fod llawer o'r cyfraniad yn canolbwyntio'n llwyr ar Dŵr Cymru ac ar unigolion o fewn Dŵr Cymru, ond mewn gwirionedd mae yna ymateb ehangach yno. Ac roedd hynny nid yn unig ar waith ymlaen llaw ond fe wnaeth esblygu wrth i'r sefyllfa waethygu hefyd.
Dim ond i atgoffa pobl hefyd, roedd yn hynod heriol o ystyried lleoliad y bibell wedi byrstio mewn prif gyflenwad pwysedd uchel. Roedd maint y rhwydwaith yr effeithiwyd arno bron i 900 km pan ddaeth graddfa lawn hyn i'r amlwg, sef nid graddfa ddisgwyliedig wreiddiol y broblem. Gweithredodd Llywodraeth Cymru ei hymateb sifil wrth gefn nos Fercher i gefnogi grŵp cydlynu strategol amlasiantaeth gogledd Cymru, Janet, sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Janet. Roedd hi'n iawn fod Dŵr Cymru yn blaenoriaethu cyflenwad amgen i grwpiau a lleoliadau agored i niwed i ddechrau fel ysbytai o ystyried y problemau ar draws y sector gyda chyflenwad dŵr amgen.
Ychydig o bethau eraill mewn ymateb. Yn ystod y digwyddiad, soniais fy mod wedi cwrdd â phrif weithredwr Dŵr Cymru—un o'r pethau oedd yn amlwg o'r dechrau'n deg oedd bod hyn yn gwaethygu'n raddol, maint yr effaith a nifer y bobl dan sylw, a dyna pam yr ymatebwyd yn fwy difrifol wedyn. A rhai o'r problemau gyda'r cyfathrebu cychwynnol, o'r hyn rydw i wedi'i glywed yn ôl gan yr ymatebwyr, yn hytrach na Dŵr Cymru yn unig, oedd, wrth i hyn gynyddu, bu'n rhaid addasu'r cyfathrebu i adlewyrchu ei fod bellach mewn ardal ddaearyddol llawer ehangach, bod mwy o bobl wedi eu heffeithio, a hefyd bu'n rhaid addasu'r ymateb i hynny—o ran lle roedd y canolfannau dosbarthu, faint o ganolfannau gofal gafodd eu heffeithio, a oedd, ar un adeg, tua 60 o gartrefi gofal hefyd.
Rwy'n nodi eich pwyntiau, Janet, o ran iawndal ac yn y blaen, ond dim ond i fod yn glir hefyd, nid dim ond yr iawndal arferol ydyw. Mae Dŵr Cymru wedi nodi'n glir iawn, os oes busnesau sydd wedi eu heffeithio'n fwy sylweddol, ac yr effeithwyd yn wirioneddol ar eu masnach, bod angen iddyn nhw hysbysu Dŵr Cymru o hynny, a fydd yn edrych ar bob achos yn unigol. Efallai eu bod wedi eich hysbysu o hynny, ac na wnaethoch chi grybwyll hynny yn eich sylwadau, felly rwy'n rhoi'r eglurder hwnnw yma hefyd.
Rydym yn awyddus, gyda llaw, Dirprwy Lywydd, bob amser, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, i ddysgu'r gwersi o unrhyw ddigwyddiad fel hyn. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn nad oedd hwn yn ddigwyddiad y gwyddai'r ymatebwyr ar lawr gwlad, o'r eiliad y cychwynnodd, y byddai'n effeithio ar 40,000 a mwy o bobl a busnesau. Esblygodd i hynny a bu'n rhaid iddyn nhw addasu eu cynlluniau wrth fynd ymlaen. Ond mae'r feirniadaeth nad oedd cynllun ar waith, ac nad oedd ymateb cydgysylltiedig amlasiantaethol, yn gwbl gyfeiliornus.
It's just under a year, actually, it's 11 months, since the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee reported on Dŵr Cymru's performance. The report followed what was then the latest performance report from NRW and Ofwat, and they showed, of course, a worrying decline in Dŵr Cymru's performance in terms of its environmental performance. The company fell to a two-star rating, having previously been rated four star, and its overall performance was categorised as lagging by Ofwat, for the second year in a row, and since our report, of course, the picture hasn't improved.
Now, water supply interruptions is one of the key problem areas when it comes to Dŵr Cymru's performance. Ofwat's latest performance report shows Dŵr Cymru is one of the worst-performing companies across England and Wales when it comes to supply interruptions. The chief executive of Dŵr Cymru told the committee that supply interruptions is one of its real challenges. Water mains in some parts of Wales are, of course, at the end of their life, and they need replacing, which will be a costly process and it'll take time to do that, and that is, of course, of little comfort, I suppose, to those who are left without water because of the recent incident in Conwy. Dŵr Cymru is planning record levels of investment over the next five years. In agreeing its investment plans, Ofwat has set a challenging target for the company to deliver a 79 per cent reduction to water supply interruptions from its current performance, and I have to say that the committee expects Dŵr Cymru to rise to that challenge and, indeed, the committee will revisit Dŵr Cymru's performance as we go along in the coming months.
Now, I want to put on record as well my thanks to everyone who was part of the response, from the engineers, as you mentioned, Cabinet Secretary, to the blue light services, the local authority, community groups and all those volunteers who stepped up and stepped forward to help. But three points—or three questions, maybe—from me. First of all, on system resilience. It's alarming, isn't it, that a single solitary burst pipe could cause such widespread disruption. You mentioned the 900 km of network that was knocked out by that one single burst pipe—13 underground storage tanks, 40,000 homes, 40 schools closing, hundreds and hundreds of businesses impacted. So, do you agree with me that this again, doesn't it, raises serious questions about the resilience of our water infrastructure, and what, therefore, is your expectation, when it comes to Dŵr Cymru's action, to try and improve that clearly fragile infrastructure that they're grappling with?
Secondly, I will raise contingency planning. Now, I think what we've seen has highlighted significant shortfalls. You're right to say that people stepped up, and those who responded did so to the best of their abilities, but I question whether the contingency planning before was sufficiently effective. Securing and distributing bottled water, of course, has been an issue. The logistics in terms of the distribution points, and communication as well around all of that, I think, was an issue. So, what's your message to Dŵr Cymru regarding its contingency planning, and what would you expect of it in terms of its readiness for similar incidents in future? And, thirdly, I'll come to the compensation as well for those affected—£30 for every 12 hours without water for eligible households and £75 for business customers, with, of course, an option to claim for additional losses, although that didn't initially land in terms of public awareness of what was available. So, what discussions have you had, or maybe other Ministers and Cabinet Secretaries within the Government have had, with Dŵr Cymru regarding that level of proposed compensation, and what is your expectation, particularly for those businesses who have lost thousands and thousands of pounds, many of them? How can we make sure that there's clarity and accessibility around procedures and processes to make sure that they get the compensation that they deserve? Because the people of Conwy deserve answers, they deserve assurances that this won't happen again. Certainly the committee will play our part in scrutinising Dŵr Cymru and raising many of these questions.
You mentioned a number of meetings that you had with the chief executive of Dŵr Cymru. Is that something that you intend to continue to have directly with the chief executive, and, indeed, what does that tell you about whether we need stricter oversight of the water companies, given the failings that we've seen in the last week?
Dim ond ychydig llai na blwyddyn sydd yna, mewn gwirionedd, 11 mis, ers i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith adrodd ar berfformiad Dŵr Cymru. Roedd yr adroddiad yn dilyn yr adroddiad perfformiad diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat, ac fe ddangoson nhw, wrth gwrs, ddirywiad pryderus ym mherfformiad Dŵr Cymru o ran ei berfformiad amgylcheddol. Syrthiodd y cwmni i sgôr dwy seren, ar ôl cael ei raddio yn flaenorol yn bedair seren, a chafodd ei berfformiad cyffredinol ei gategoreiddio fel diffygiol gan Ofwat, am yr ail flwyddyn yn olynol, ac ers ein hadroddiad, wrth gwrs, nid yw'r darlun wedi gwella.
Nawr, ymyrraeth mewn cyflenwad dŵr yw un o'r prif feysydd problemus o ran perfformiad Dŵr Cymru. Mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ofwat yn dangos bod Dŵr Cymru yn un o'r cwmnïau sy'n perfformio waethaf ledled Cymru a Lloegr o ran ymyrraeth yn y cyflenwad. Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru wrth y pwyllgor fod ymyrraeth i'r cyflenwad yn un o'i heriau gwirioneddol. Mae'r prif gyflenwadau dŵr mewn rhai rhannau o Gymru, wrth gwrs, ar ddiwedd eu hoes, ac mae angen eu diweddaru, a fydd yn broses gostus a bydd yn cymryd amser i wneud hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, o fawr o gysur, mae'n debyg, i'r rhai a adewir heb ddŵr oherwydd y digwyddiad diweddar yng Nghonwy. Mae Dŵr Cymru yn cynllunio'r buddsoddiadau mwyaf erioed dros y pum mlynedd nesaf. Wrth gytuno ar ei gynlluniau buddsoddi, mae Ofwat wedi gosod targed heriol i'r cwmni sicrhau gostyngiad o 79 y cant i ymyriadau yn y cyflenwad dŵr o'i berfformiad presennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y pwyllgor yn disgwyl i Dŵr Cymru ymateb i'r her honno ac, yn wir, bydd y pwyllgor yn ailedrych ar berfformiad Dŵr Cymru dros y misoedd nesaf.
Nawr, fe hoffwn i hefyd ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r ymateb, o'r peirianwyr, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd Cabinet, i'r gwasanaethau golau glas, yr awdurdod lleol, grwpiau cymunedol a'r holl wirfoddolwyr hynny a dorchodd eu llewys a mynd ati i helpu. Ond tri phwynt—neu dri chwestiwn, efallai—gen i. Yn gyntaf oll, ynghylch cydnerthedd y system. Mae'n frawychus, onid yw, y gallai un bibell unigol sy'n byrstio achosi annhrefn mor eang. Fe sonioch chi am y 900 km o rwydwaith a gafodd ei effeithio gan yr un bibell unigol honno - 13 tanc storio tanddaearol, 40,000 o gartrefi, 40 ysgol yn cau, cannoedd a channoedd o fusnesau wedi eu heffeithio. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn eto, onid ydyw, yn codi cwestiynau difrifol am wytnwch ein seilwaith dŵr, a beth felly, yw eich disgwyl, o ran sut ddylai Dŵr Cymru weithredu, i geisio gwella'r seilwaith sy'n amlwg yn fregus y maen nhw'n ymdrin ag ef?
Yn ail, fe wnaf i grybwyll cynllunio wrth gefn. Nawr, rwy'n credu bod yr hyn a welsom ni wedi amlygu diffygion sylweddol. Rydych chi'n iawn i ddweud bod pobl wedi torchi llewys, a bu i'r rhai a ymatebodd wneud hynny hyd eithaf eu gallu, ond rwy'n cwestiynu a oedd y cynllunio wrth gefn rhag blaen yn ddigon effeithiol. Bu sicrhau a dosbarthu dŵr potel, wrth gwrs, yn broblem. Roedd y logisteg o ran y mannau dosbarthu, a'r cyfathrebu yn ogystal o ran hynny i gyd, rwy'n credu, yn broblem. Felly, beth yw eich neges i Dŵr Cymru ynglŷn â'i gynllunio wrth gefn, a beth fyddech chi'n ei ddisgwyl ohono o ran ei barodrwydd ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol? Ac, yn drydydd, fe ddof i at yr iawndal hefyd i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw—£30 am bob 12 awr heb ddŵr i aelwydydd cymwys a £75 i gwsmeriaid busnes, gydag, wrth gwrs, modd i hawlio am golledion ychwanegol, er na ddeallwyd hynny i ddechrau o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r hyn oedd ar gael. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, neu efallai Gweinidogion eraill ac Ysgrifenyddion Cabinet o fewn y Llywodraeth, gyda Dŵr Cymru ynghylch y lefel honno o iawndal arfaethedig, a beth yw eich disgwyliadau, yn enwedig o ran y busnesau hynny sydd wedi colli miloedd ar filoedd o bunnoedd, llawer ohonynt? Sut allwn ni sicrhau bod eglurder a hygyrchedd o ran gweithdrefnau a phrosesau i sicrhau eu bod yn cael yr iawndal y maen nhw yn ei haeddu? Gan fod pobl Conwy yn haeddu atebion, maen nhw'n haeddu sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto. Yn sicr bydd y pwyllgor yn chwarae ein rhan wrth graffu ar Dŵr Cymru a chodi llawer o'r cwestiynau hyn.
Fe wnaethoch chi sôn am nifer o gyfarfodydd a gawsoch chi gyda phrif weithredwr Dŵr Cymru. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn bwriadu parhau i'w cael yn uniongyrchol gyda'r prif weithredwr, ac, yn wir, beth mae hynny'n ei ddweud wrthych chi ynghylch a oes angen inni oruchwylio'r cwmnïau dŵr yn fwy llym, o ystyried y methiannau a welsom ni yn ystod yr wythnos ddiwethaf?
Llyr, thank you very much, and I welcome the oversight of this and also of wider matters to do with the water industry that the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee can do under your stewardship. That is very welcome. I've said already that there will be review points as well of this incident, including one that we're quite keen to do ourselves, in the same way that we did after storm Bert and storm Darragh, because of the benefit of being in it at a relatively early time where it's fresh in people's minds to see what were the takeaways, what worked, what didn't work and so on.
On the issue of compensation, I am pleased that Dŵr Cymru have acknowledged the scale of the impact of this on businesses. I'll take the message back to them on how they work to get that message out there even more widespread, and I think we probably collectively have a role to help in doing that.
On the contingency planning, I've mentioned the plans and the standing up immediately when we knew the scale of this, and the role of Welsh Government in that, but also, on the ground, the local response, the multi-agency response. We shouldn't get our minds away from the fact that this at one point was, in the scale purely of water delivery—put aside the tankers for a moment that were delivering to hospitals and to a few care homes as well—we were talking about 450,000 bottles a day. Now, part of the contingency planning is actually the mutual aid principle between different water companies. Only in a few days, literally the days and weeks before, there'd been an impact in another area of the country, where Dŵr Cymru and others had all stepped in to give their supplies to another company, and then found that they were without. So, I can understand from the public's point of view that they go, ‘Why can't they just—? Where is this?’ Well, because everybody had emptied down to another area, including Dŵr Cymru, and then they had to backfill. But those are things that we need to learn going forward as well.
Just on the issue of it being the condition of the network, this massive network—it went at such a critical point under a river, making it difficult, but also that then led to an escalation around the wider network up to those hundreds of kilometres. One of the things that Dŵr Cymru have said is they've done the initial repair, which has held, and everybody now is back on. There were some air locks in the system as well, which meant some smaller areas blew, but they've been repaired as well. And bearing in mind that this is a relatively recent pipe—1990s; this is not a Victorian-era pipe—this was to do with, actually, movement under the ground, and a boulder hitting against the pipe after the recent weather we've had. So, we're going to need to be more climate resilient. But what they are planning to do is not now rely on one crossing of the Afon Ddu, so they’re going to look at, now that this is settled, going back in at the right time and actually put in a second crossing, which will help. But this is not an old antiquated part of the system there.
Meanwhile, we do need to actually get on with using the quantum of funding that's being released in the price review now to get on with working on a priority basis across the network, to deal with what you rightly say is an area in which Dŵr Cymru are lagging, and to get on with that investment. But I look forward to the committee actually scrutinising this and the response, and also, as they move now into the stage after the initial response, how that is done as well.
Llyr, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r modd y goruchwylir hyn a hefyd materion ehangach sy'n ymwneud â'r diwydiant dŵr y gall y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei wneud o dan eich stiwardiaeth. Mae hynny'n groeso mawr. Rwyf eisoes wedi dweud y bydd pwyntiau adolygu hefyd o'r digwyddiad hwn, gan gynnwys un yr ydym ni'n eithaf awyddus i'w wneud ein hunain, yn yr un modd ag y gwnaethom ni ar ôl storm Bert a storm Darragh, oherwydd y budd o wneud hynny yn gymharol gynnar lle mae'n fyw ym meddyliau pobl i weld beth y gellir ei ddysgu, beth oedd yn gweithio, beth oedd ddim yn gweithio ac yn y blaen.
Ar fater iawndal, rwy'n falch bod Dŵr Cymru wedi cydnabod maint effaith hyn ar fusnesau. Byddaf yn mynd â'r neges yn ôl atynt ynghylch sut maen nhw'n gweithio i gyfleu'r neges honno hyd yn oed yn fwy eang, ac rwy'n credu bod gennym ni rôl gyda'n gilydd i helpu i wneud hynny.
O ran y cynllunio wrth gefn, rwyf wedi sôn am y cynlluniau a'r gweithredu uniongyrchol pan oeddem yn gwybod maint hyn, a rôl Llywodraeth Cymru yn hynny, ond hefyd, ar lawr gwlad, yr ymateb lleol, yr ymateb amlasiantaethol. Ddylem ni ddim anghofio'r ffaith bod hyn ar un adeg, o ran dim ond danfoniad dŵr—gan roi'r tanceri o'r neilltu am eiliad oedd yn danfon i ysbytai ac i ambell i gartref gofal hefyd—roedden ni'n sôn am 450,000 potel y dydd. Nawr, rhan o'r cynllunio wrth gefn mewn gwirionedd yw'r egwyddor cydgymorth rhwng gwahanol gwmnïau dŵr. Dim ond mewn ychydig ddyddiau, yn llythrennol y dyddiau a'r wythnosau cynt, bu digwyddiad mewn ardal arall o'r wlad, lle roedd Dŵr Cymru ac eraill i gyd wedi camu i'r adwy i roi eu cyflenwadau i gwmni arall, ac yna canfod eu bod hwythau wedyn yn brin. Felly, gallaf ddeall o safbwynt y cyhoedd eu bod yn holi, 'Pam na allan nhw—? Lle mae hyn?' Wel, achos roedd pawb wedi cyfeirio'r cyflenwad wrth gefn i ardal arall, gan gynnwys Dŵr Cymru, ac wedyn roedd rhaid iddyn nhw ôl-lenwi. Ond mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni eu dysgu at y dyfodol hefyd.
Dim ond ynghylch y mater mai cyflwr y rhwydwaith oedd yn gyfrifol, y rhwydwaith enfawr hwn—a oedd mewn lle mor dyngedfennol o dan afon, gan ei gwneud hi'n anodd, ond hefyd fe arweiniodd hynny wedyn at ddwysáu o gwmpas y rhwydwaith ehangach ar hyd y cannoedd o gilometrau hynny. Un o'r pethau mae Dŵr Cymru wedi dweud yw eu bod nhw wedi gwneud y gwaith atgyweirio cychwynnol, a fu'n llwyddiannus, ac mae gan bawb bellach gyflenwad. Roedd rhai cloeon aer yn y system hefyd, oedd yn golygu y cafwyd byrstiau llai mewn rhai mannau, ond maen nhw wedi cael eu hatgyweirio hefyd. A chan gofio mai pibell gymharol ddiweddar yw hon—o'r 1990au; nid pibell oes Fictoria mo hon—roedd hyn yn ymwneud â symud o dan y ddaear, mewn gwirionedd, a chlogfaen yn taro yn erbyn y bibell wedi'r tywydd diweddar gawsom ni. Felly, bydd angen i ni fod yn fwy gwydn o ran ymateb i'r hinsawdd. Ond nid yw'r hyn maen nhw'n bwriadu ei wneud bellach yn dibynnu ar un groesfan ar Afon Ddu, felly maen nhw'n mynd i ystyried, nawr bod hyn wedi'i ddatrys, dychwelyd ar yr adeg briodol ac mewn gwirionedd creu ail groesfan, a fydd yn helpu. Ond nid hen ran o'r system mo hon.
Yn y cyfamser, mae angen i ni fwrw ati i ddefnyddio'r swm o gyllid a ryddheir yn yr adolygiad prisiau nawr er mwyn bwrw ymlaen â gweithio ar sail blaenoriaeth ar draws y rhwydwaith, i ymdrin â'r hyn rydych chi'n dweud yn briodol sy'n faes lle mae Dŵr Cymru yn ddiffygiol yn ei gylch, ac i fwrw ymlaen â'r buddsoddiad hwnnw. Ond rwy'n edrych ymlaen at weld y pwyllgor yn craffu ar hyn a'r ymateb, a hefyd, wrth iddynt symud nawr i'r cam ar ôl yr ymateb cychwynnol, sut y gwneir hynny hefyd.
I'd also like to thank the Cabinet Secretary for north Wales and Councillor Emily Owen, who kept me updated, and also all the wonderful people who rallied round helping the community and all the vulnerable people, and also all those who spent long hours remediating the situation. But lessons do need to be learned. I understood that Dŵr Cymru were good at getting their pipes fixed, but terrible in supplying water, which they're legally obliged to do within 12 hours. They originally said that there was none available where people—. Well, the deputy leader knew that Costco had 48 crates and more could be delivered quickly as well. There's a rumour as well that a leak was known and reported two weeks beforehand. Is this true and, if that's the case, why didn't they have water in place already?
There was a gap in communications and that does get filled then on social media with people worrying. So, the line of public communications was poor. They should have been communicating with the leader and chief exec of the council because they would have helped them as to where they should have set up the water stations. A water station was set up in the wrong place or inadequate place. So, they need to work their way through that.
Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru a'r Cynghorydd Emily Owen, a fu'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, a hefyd yr holl bobl wych a ddaeth i gefnogi'r gymuned a'r holl bobl fregus, a hefyd i bawb a dreuliodd oriau hir yn adfer y sefyllfa. Ond mae angen dysgu gwersi. Roeddwn i'n deall bod Dŵr Cymru yn dda am drwsio eu pibellau, ond yn ofnadwy o ran cyflenwi dŵr, a bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnyn nhw i wneud hynny o fewn 12 awr. Fe ddywedson nhw'n wreiddiol nad oedd unrhyw un ar gael lle roedd pobl—. Wel, roedd y dirprwy arweinydd yn gwybod bod gan Costco 48 crat ac y gellid darparu mwy yn gyflym hefyd. Mae si hefyd eu bod yn bod yn gwybod am ollyngiad ac yr adroddwyd yn ei gylch bythefnos ymlaen llaw. A yw hyn yn wir ac, os felly, pam nad oedd ganddyn nhw ddŵr wrth gefn eisoes?
Roedd diffyg cyfathrebu a'r canlyniad wedyn yw pobl yn troi at y cyfryngau cymdeithasol yn poeni. Felly, roedd y cyfathrebu cyhoeddus yn wael. Dylen nhw fod wedi bod yn cyfathrebu gydag arweinydd a phrif weithredwr y cyngor oherwydd y bydden nhw wedi eu helpu nhw o ran ble ddylen nhw fod wedi sefydlu'r gorsafoedd dŵr. Sefydlwyd gorsaf ddŵr yn y lle anghywir neu mewn lle annigonol. Felly, mae angen iddyn nhw weithio eu ffordd drwy hynny.
And you need to conclude now, please.
Ac mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Okay. I'll just ask one more question, please. Is it possible to have a shared list of vulnerable people, should the water go off? So, for example, there's a list with Scottish Power should there be a power cut. They know who are vulnerable. So, is it possible to have a shared list with utility companies? I'm not sure about data protection, but is that possible? Thank you.
O'r gorau. Fe wnaf i ddim ond gofyn un cwestiwn arall os gwelwch yn dda. A yw'n bosibl cael rhestr gyfun o bobl agored i niwed, pe bai'r dŵr yn diffodd? Felly, er enghraifft, mae rhestr gyda Scottish Power pe bai'r trydan yn methu. Maen nhw'n gwybod pwy sy'n agored i niwed. Felly, a yw'n bosibl cael rhestr gyfun gyda chwmnïau cyfleustodau? Nid wyf yn siŵr am ddiogelu data, ond a yw hynny'n bosibl? Diolch.
Thank you.
Diolch.
Thank you, Carolyn. On that specific point, it's a lesson of storm Darragh as well in a very different context. Dŵr Cymru, of interest to the Chamber, had, at the start of this incident, roughly speaking, 3,500 people within the affected area who were on their priority 1 vulnerable customers list. By the end of this, when they opened up their phone lines to actually say to people, 'We're being told that you're not on it, let us know', it was over double that. It was over double that. Now, we've heard similar in other multi-agency responses on the ground; you have a social services list, you have other lists of vulnerable customers. They're all slightly different and, of course, you do have data protection rules.
But this is an area that we're quite interested in, about how can we ensure that these lists are at least as up to date as possible, can be co-ordinated where possible, respecting data protection of the individual as well, or at least that there can be rapid sharing of who's got what list at the time an incident like this happens, bearing in mind this escalated on the Wednesday evening rapidly to affect other areas.
You also mentioned there about the engagement with the local authority, and I think this will be part of understanding the lessons, going forward, because there was engagement. The question is, in a situation like this, where it escalates rapidly from 8,000 affected customers to 32,000, taking in greater geographic areas, taking in more individual elected representatives, council leaders and so on, it's a good thing to look at, to say, 'How in that situation did the communication work effectively, or is there more to be learnt as well?'
Just to say that, in terms of communication with customers, what we understand from Dŵr Cymru comms team is that they mobilised from the word 'go' to communicate the situation with customers. Between six and eight o'clock, all customers were sent messages, starting with vulnerable customers. Social media was updated, statements were issued to the media. At the early point, they were hopeful of actually doing a repair on that day and fixing it, and that would be the end of it, but it didn't—it enlarged. So, once they confirmed that the repair would take longer and the recharge would take at least 48 hours, they issued a further statement.
The challenge is, I think, if you've got an escalating problem like this, how do you make sure that the communication channels are clear and there's one source of truth, if you like? And I think there's the challenge. That will be one of the lessons to be learnt.
Diolch yn fawr, Carolyn. O ran y pwynt penodol hwnnw, mae'n wers o storm Darragh hefyd mewn cyd-destun gwahanol iawn. Ar ddechrau'r digwyddiad hwn, roedd gan Dŵr Cymru, er diddordeb i'r Siambr, yn fras, 3,500 o bobl yn yr ardal yr effeithiwyd arni a oedd ar eu rhestr cwsmeriaid agored i niwed blaenoriaeth 1. Erbyn diwedd hyn, pan wnaethon nhw ddechrau cysylltu dros y ffôn i ddweud wrth bobl, 'Rydym yn cael gwybod nad ydych chi ar y rhestr, rhowch wybod inni', roedd dros ddwbl hynny. Roedd dros ddwbl hynny. Nawr, rydym ni wedi clywed adroddiadau tebyg o ran ymatebion amlasiantaeth eraill ar lawr gwlad; mae gennych chi restr gwasanaethau cymdeithasol, mae gennych chi restrau eraill o gwsmeriaid sy'n agored i niwed. Maen nhw i gyd ychydig yn wahanol ac, wrth gwrs, mae gennych chi reolau diogelu data.
Ond mae hwn yn faes y mae gennym ni gryn ddiddordeb ynddo, ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y rhestri hyn o leiaf mor gyfredol â phosibl, y gellir eu cydlynu lle bo hynny'n bosibl, gan barchu diogelwch data'r unigolyn hefyd, neu o leiaf y gellir rhannu pwy sydd â pha restr ar yr adeg y bydd digwyddiad fel hyn, o gofio bod hyn wedi gwaethygu ar y nos Fercher yn gyflym i effeithio ar ardaloedd eraill.
Roeddech chi hefyd yn sôn yn y fan yna am yr ymgysylltu â'r awdurdod lleol, ac rwy'n credu y bydd hyn yn rhan o ddeall y gwersi, yn y dyfodol, oherwydd roedd ymgysylltu. Y cwestiwn yw, mewn sefyllfa fel hon, lle mae'n cynyddu'n gyflym o 8,000 o gwsmeriaid yr effeithir arnyn nhw i 32,000, gan gwmpasu mwy o ardaloedd daearyddol, gan gynnwys mwy o gynrychiolwyr etholedig unigol, arweinwyr cynghorau ac ati, mae'n beth da i edrych arno, i ddweud, 'Sut yn y sefyllfa honno y gweithiodd y cyfathrebu'n effeithiol, neu a oes mwy i'w ddysgu hefyd?'
Dim ond i ddweud, o ran cyfathrebu â chwsmeriaid, mai'r hyn yr ydym yn ei ddeall gan dîm cyfathrebu Dŵr Cymru yw y gwnaethon nhw fynd ati o'r dechrau'n deg i gyfleu'r sefyllfa i gwsmeriaid. Rhwng chwech ac wyth o'r gloch, anfonwyd negeseuon i bob cwsmer, gan ddechrau gyda chwsmeriaid bregus. Diweddarwyd y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddwyd datganiadau i'r cyfryngau. Yn gynnar yn y sefyllfa, roedden nhw'n obeithiol o wneud gwaith trwsio ar y diwrnod hwnnw ac atgyweirio, a dyna fyddai'r diwedd arno, ond wnaeth e ddim gweithio—fe ehangodd. Felly, unwaith y gwnaethon nhw gadarnhau y byddai'r gwaith atgyweirio yn cymryd mwy o amser a byddai'r ail-lenwi yn cymryd o leiaf 48 awr, fe wnaethon nhw gyhoeddi datganiad pellach.
Yr her, rwy'n credu, os oes gennych broblem sy'n gwaethygu fel hyn, sut ydych chi'n sicrhau bod y sianeli cyfathrebu yn glir a bod un ffynhonnell o wirionedd, os mynnwch chi? Ac rwy'n credu mai dyna'r her. Dyna fydd un o'r gwersi i'w dysgu.
Thank you, Cabinet Secretary, for your statement, and I want to put on record my thanks to you and to the Cabinet Secretary for north Wales for getting in touch to try to understand better what was happening on the ground in my constituency, and, I have to say, it was chaos. We often take for granted, don’t we, the clean water that comes from our tap, that fills our baths, that operates our showers, that we wash our pots with and flush our loos with, but you can imagine the disruption that our constituents faced when they were offline from being able to flush a loo for up to five days; it was horrible. Many of those customers were indeed vulnerable and what we tried to do, as soon as we understood the growing nature of the problem in our constituency, was to, obviously, have conversations with Welsh Water—urgent talks—to find out what was going on and what we could do to help them get their messages out, but there were mixed messages, I’m afraid. We were told to encourage people to register on the priority register. We had constituents then phoning to register and being told, 'There’s no point, it’ll take a few days to get on, just go and help yourself to some bottled water.' We had housebound residents that were not able to get water for three days. I had one constituent, she phoned three times, and it wasn’t until Saturday morning, at 2 o’clock in the morning, that she had a knock on the door with bottles arriving. Now, clearly, that’s not good enough. There were care homes that didn’t get supply quickly enough of even bottled water, let alone being put back on the mains. And it was 100,000 people—. It may have been 40,000 customers, but it was 100,000 people, ultimately, that were affected by these problems.
Now, you made reference to the mutual aid between the different water companies. Clearly, that system doesn’t work. We’ve seen that it was clearly insufficient to be able to deal with the scale of this particular problem. We were told that there were sourcing issues, in terms of trying to get bottled water, and yet it seemed that local retailers were able to find it very, very easily in order to refill their shelves. So, there’s clearly a challenge there to Welsh Water about how they handle those supply chains.
I want to put on record my thanks to the emergency responders and to the teams that worked hard to fix things. But I’m afraid that the whole way that the emergency response kicked in was insufficient, Cabinet Secretary: schools didn’t get their supplies, that causes disruption then for parents not being able to go into work because they’ve got childcare issues to sort out—
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, ac fe hoffwn i gofnodi fy niolch i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru am gysylltu i geisio deall yn well beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad yn fy etholaeth i, ac mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn anhrefn. Rydym yn aml yn cymryd yn ganiataol, onid ydym ni, y dŵr glân sy'n dod o'n tap, sy'n llenwi ein baddonau, sy'n dod o'n cawodydd, yr ydym yn golchi ein llestri ag e ac yn gwagio ein tai bach ag e, ond gallwch chi ddychmygu'r tarfu a wynebodd ein hetholwyr pan nad oedden nhw'n gallu gwagio'r tŷ bach am hyd at bum diwrnod; roedd yn ofnadwy. Yn wir, roedd llawer o'r cwsmeriaid hynny'n agored i niwed a'r hyn y gwnaethom geisio'i wneud, cyn gynted ag yr oeddem yn deall natur gynyddol y broblem yn ein hetholaeth, oedd, yn amlwg, cael sgyrsiau gyda Dŵr Cymru—sgyrsiau brys—i ddarganfod beth oedd yn digwydd a beth y gallem ni ei wneud i'w helpu i gyfathrebu eu negeseuon, ond roedd yna negeseuon cymysg, mae gen i ofn. Dywedwyd wrthym am annog pobl i gofrestru ar y gofrestr flaenoriaeth. Roedd gennym ni etholwyr wedyn yn ffonio i gofrestru a'r person ar y pen arall yn dweud wrthyn nhw, 'Does dim diben, bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i ailgysylltu'r cyflenwad, ewch i helpu eich hun i ddŵr potel.' Roedd gennym ni drigolion sy'n gaeth i'r tŷ nad oeddent yn gallu cael dŵr am dridiau. Roedd gen i un etholwr, ffoniodd hi dair gwaith, a dim tan fore Sadwrn, am 2 o'r gloch y bore, y cafodd gnoc ar y drws gyda photeli yn cyrraedd. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Roedd yna gartrefi gofal na chawson nhw gyflenwad yn ddigon cyflym o ddŵr potel hyd yn oed, heb sôn am gael eu rhoi yn ôl ar y prif gyflenwad. Ac roedd hi'n 100,000 o bobl—. Efallai mai 40,000 oedd nifer y cwsmeriaid, ond effeithiwyd ar 100,000 o bobl, yn y pen draw, gan y problemau hyn.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at y cymorth ar y cyd rhwng y gwahanol gwmnïau dŵr. Yn amlwg, nid yw'r system hon yn gweithio. Rydym ni wedi gweld ei bod yn amlwg yn annigonol i allu ymdrin â maint y broblem benodol hon. Dywedwyd wrthym ni fod problemau cyflenwad, o ran ceisio cael dŵr potel, ac eto roedd yn ymddangos bod manwerthwyr lleol yn gallu ail-lenwi eu silffoedd yn hawdd iawn. Felly, mae'n amlwg bod her yno i Dŵr Cymru ynglŷn â sut maen nhw'n trin y cadwyni cyflenwi hynny.
Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i'r ymatebwyr brys ac i'r timau a weithiodd yn galed i drwsio pethau. Ond mae gen i ofn nad oedd y modd y gweithredwyd yr ymateb brys yn ddigonol, Ysgrifennydd Cabinet: ni chafodd ysgolion eu cyflenwadau, mae hynny'n achosi anhrefn wedyn i rieni sy'n methu mynd i'r gwaith oherwydd bod ganddyn nhw broblemau gofal plant i'w datrys—
Darren, I've been generous now.
Darren, rydw i wedi bod yn hael nawr.
I appreciate that. There are just two other points I want to make, and I’ll make them briefly, because I know lots of people have spoken. Park home sites, Cabinet Secretary—. So, park home sites are sites where the business owner is the only customer and then he supplies the park home residents on that site. They’re residential people, some of them with severe needs, but they didn’t get the priority response that they needed.
We also know that the chief executive didn’t get out to actually visit the community at all throughout the whole duration of this exercise. Now, forgive me for saying this, but someone who’s on a package of over £500,000 a year who can’t be bothered to get up and speak to the customers that are being affected by the shambles in terms of the response to the situation with the supply of water is completely unacceptable.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Dim ond dau bwynt arall yr hoffwn i eu gwneud, ac y byddaf yn eu gwneud yn fyr, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi siarad. Safleoedd cartrefi mewn parciau, Ysgrifennydd Cabinet—. Felly, safleoedd cartrefi mewn parciau yw safleoedd lle mai perchennog y busnes yw'r unig gwsmer ac yna mae'n cyflenwi preswylwyr cartrefi'r parc ar y safle hwnnw. Maen nhw'n bobl breswyl, rhai ohonyn nhw ag anghenion difrifol, ond ni chawson nhw'r ymateb blaenoriaeth yr oedd ei angen arnyn nhw.
Rydym ni hefyd yn gwybod na wnaeth y prif weithredwr ymweld â'r gymuned o gwbl drwy gydol yr ymarfer hwn. Nawr, maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond mae rhywun sydd ar becyn o dros £500,000 y flwyddyn na all drafferthu i godi a siarad â'r cwsmeriaid sy'n cael eu heffeithio gan y llanast o ran yr ymateb i'r sefyllfa gyda'r cyflenwad dŵr yn gwbl annerbyniol.
Darren.
Darren.
So, I would ask you—I would ask you those two things—what are you going to do about the park homes in the future and the schools, making sure that they are priorities, and ensuring that the chief executive takes this situation seriously enough to engage directly with those customers on the ground in the middle of an emergency of this scale?
Felly, byddwn yn gofyn i chi—byddwn yn gofyn y ddau beth hynny i chi—beth ydych chi'n mynd i'w wneud am y cartrefi mewn parciau yn y dyfodol a'r ysgolion, gan sicrhau eu bod yn flaenoriaethau, a sicrhau bod y prif weithredwr yn cymryd y sefyllfa hon yn ddigon difrifol i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cwsmeriaid hynny ar lawr gwlad yng nghanol argyfwng ar y raddfa hon?
Darren, thank you very much, and, just to say two very brief things: one is, if you have got really specific examples, raise them directly with Dŵr Cymru. Thank you for the conversation, because I went back and said, ‘Look, we’ve got some concerns that an individual or some individual care homes didn’t get it, or didn’t get it until later than others and so on’, and the park home issues as well—. But I think what would be helpful is to get the specifics to Dŵr Cymru so they can deal with it, and I would say that to all Members as well. But thank you for the conversation we had, because it was helpful to try and raise some of these concerns.
On park home sites, I know that one of the things you raised with me is, ‘What about the payment?’, because if you’ve got £35 to residences and £75 to businesses, well, they’re not actually the metered individuals; it’s the owner of the site who is. So, I have raised that, and I know that Dŵr Cymru will be listening to this, so they can go back to you with greater clarity. But, essentially, there will be a payment to every individual park home resident, but it needs to go through the metered bill payer. But there will be an obligation on them to convey that to the individual residents on that site, I can assure you.
But, look, on any other aspect, I've been very clear today and honest: there will be lessons to learn from this—there will, undoubtedly—but let's do that in the proper process. And then, what I'm keen to do is to try and encourage those who are involved with the response, including the local authorities, but also Dŵr Cymru and others, to give a proper briefing on that, and the lessons learnt, because there will be things to improve; there should be things to improve whenever we see something like this. And I'd like them to do that face-to-face with Members and others who've been raising the concerns. Rather than me trying to explain, I think let's, now that they're moving into the recovery phase, which is good, give them a little time to do that, make sure everything is sorted, and then I would be keen to play my part in inviting them, then, to give a proper debrief to everybody. So, you can again raise these questions, the valid questions that have been raised, and say, 'Well, how do we avoid it happening again?' Whether it's to do with the quality of the infrastructure, the response, the number of bottles, how does the mutual aid principle work, can we improve it? Because, if we can improve it, it won't be a question just for Dŵr Cymru; it'll be the whole UK system of mutual aid and so on. But they're all valid questions; let's see if we can get the answers, going forward.
Darren, diolch yn fawr iawn, a dim ond i ddweud dau beth byr iawn: un yw, os oes gennych chi enghreifftiau penodol iawn, codwch nhw'n uniongyrchol gyda Dŵr Cymru. Diolch am y sgwrs, oherwydd fe es i yn ôl a dweud, 'Edrychwch, mae gennym ni rai pryderon na chafodd unigolyn neu rai cartrefi gofal unigol e, neu na chawson nhw fe tan yn hwyrach nag eraill ac yn y blaen', a materion y cartrefi mewn parciau hefyd—. Ond rwy'n credu mai'r hyn fyddai'n ddefnyddiol yw cael y manylion i Dŵr Cymru fel y gallan nhw ddelio ag ef, a byddwn i'n dweud hynny wrth yr holl Aelodau hefyd. Ond diolch am y sgwrs a gawsom, oherwydd roedd yn ddefnyddiol wrth geisio codi rhai o'r pryderon hyn.
O ran safleoedd cartrefi mewn parciau, rwy'n gwybod mai un o'r pethau a godwyd gennych chi gyda mi yw, 'Beth am y taliad?', oherwydd os oes gennych chi £35 i breswylfeydd a £75 i fusnesau, wel, nid nhw yw'r unigolion mesuredig mewn gwirionedd; perchennog y safle yw hwnnw. Felly, rwyf wedi codi hynny, ac rwy'n gwybod y bydd Dŵr Cymru yn gwrando ar hyn, fel y gallant fynd yn ôl atoch gyda mwy o eglurder. Ond, yn y bôn, bydd taliad i bob un sy'n byw mewn cartref mewn parc, ond mae angen iddo fynd drwy'r talwr biliau mesuredig. Ond bydd rhwymedigaeth arnynt i gyfleu hynny i'r trigolion unigol ar y safle hwnnw, gallaf eich sicrhau chi.
Ond, edrychwch, ar unrhyw agwedd arall, rwyf wedi bod yn glir iawn heddiw ac yn onest: bydd gwersi i'w dysgu o hyn—fe fydd, heb os—ond gadewch i ni wneud hynny yn y broses briodol. Ac yna, yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw ceisio annog y rhai sy'n ymwneud â'r ymateb, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, ond hefyd Dŵr Cymru ac eraill, i roi briff priodol ar hynny, a'r gwersi a ddysgwyd, oherwydd bydd pethau i'w gwella; dylai fod pethau i'w gwella pryd bynnag y byddwn yn gweld rhywbeth fel hyn. A hoffwn iddynt wneud hynny wyneb yn wyneb gydag Aelodau ac eraill sydd wedi bod yn codi'r pryderon. Yn hytrach na fi'n ceisio esbonio, rwy'n credu, nawr eu bod nhw'n symud i'r cyfnod adfer, sy'n dda, gadewch i ni roi ychydig o amser iddyn nhw wneud hynny, gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei sortio, ac yna byddwn i'n awyddus i chwarae fy rhan drwy eu gwahodd nhw, wedyn, i roi briff priodol i bawb. Felly, gallwch chi godi'r cwestiynau hyn eto, y cwestiynau dilys sydd wedi'u codi, a dweud, 'Wel, sut ydym ni'n ei osgoi rhag digwydd eto?' P'un a yw'n ymwneud ag ansawdd y seilwaith, yr ymateb, nifer y poteli, sut mae'r egwyddor cyd-gymorth yn gweithio, allwn ni ei wella? Oherwydd, os gallwn ni ei wella, ni fydd yn gwestiwn i Dŵr Cymru yn unig; bydd yn ymwneud â system gyfan y DU o gyd-gymorth ac yn y blaen. Ond maen nhw i gyd yn gwestiynau dilys; gadewch i ni weld a allwn ni gael yr atebion, wrth symud ymlaen.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
And finally, Sam Rowlands.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I just want to echo the comments made by colleagues on the severity of the issue from last week with the burst mains water pipe. I think Darren Millar pointed out that, whilst it was 40,000 properties affected, it could well have been up to 100,000 people. I'm not sure that's been properly understood or appreciated, the actual scale of this issue, let alone the businesses and, in particular, farmers and suchlike, supporting their livestock when water wasn't available to them. I'd also like to add my thanks to the support given by those in the communities, volunteers in particular, who went out of their way to make sure their neighbours were looked after and they were doing their part to make people's lives that little bit better during this crisis.
We have touched on it already—
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i adleisio'r sylwadau a wnaed gan gyd-Aelodau ynghylch difrifoldeb y mater o'r wythnos diwethaf gyda phibell ddŵr y prif gyflenwad wedi byrstio. Rwy'n credu bod Darren Millar wedi tynnu sylw at y ffaith, er ei fod wedi effeithio ar 40,000 eiddo, mae'n ddigon posibl y gallai fod wedi effeithio ar hyd at 100,000 o bobl. Nid wyf yn siŵr y deallwyd nac y sylweddolwyd hynny yn iawn, gwir faint y mater hwn, heb sôn am y busnesau ac, yn arbennig, ffermwyr ac ati, yn cefnogi eu da byw pan nad oedd dŵr ar gael iddyn nhw. Fe hoffwn i ddiolch hefyd am y gefnogaeth a roddwyd gan y rhai yn y cymunedau, gwirfoddolwyr yn arbennig, a aeth allan o'u ffordd i sicrhau bod eu cymdogion yn derbyn gofal a'u bod yn gwneud eu rhan i wneud bywydau pobl ychydig yn well yn ystod yr argyfwng hwn.
Rydyn ni wedi crybwyll hyn yn barod—
You need to ask a question, because I've given your colleagues ample time; you need to ask your question now, please.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn, oherwydd rwyf wedi rhoi digon o amser i'ch cyd-Aelodau; mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
I thought this was a 45-minute debate.
Roeddwn i'n meddwl mai dadl 45 munud oedd hon.
You know the time allocations per speaker, Janet. And therefore, you need to ask your question now, please.
Rydych chi'n gwybod y dyraniadau amser fesul siaradwr, Janet. Ac felly, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
It's not enough.
Nid yw'n ddigon.
So, the brief question I have, then, Cabinet Secretary, is in relation to the vulnerable list and vulnerable people. There's clearly a deficit there of knowledge, of knowing who would be eligible for this support. I wonder whether you could reflect on how that will change in the future—and quickly as well. Lessons learned can often take far too long to come through. This showed a real weakness in knowing who's vulnerable in our communities and how we can get the support to them as quickly as possible when necessary.
Felly, mae'r cwestiwn byr sydd gen i, felly, Ysgrifennydd Cabinet, mewn perthynas â'r rhestr o bobl agored i niwed a'r bobl agored i niwed. Mae'n amlwg bod diffyg gwybodaeth yno, o wybod pwy fyddai'n gymwys i gael y cymorth hwn. Tybed a allech chi fyfyrio ar sut y bydd hynny'n newid yn y dyfodol—ac yn gyflym hefyd. Yn aml, gall gwersi a ddysgwyd gymryd llawer gormod o amser i gael eu gweithredu. Dangosodd hyn wendid gwirioneddol o ran gwybod pwy sy'n agored i niwed yn ein cymunedau a sut y gallwn ni gael y gefnogaeth iddyn nhw cyn gynted â phosibl pan fo angen.
Well said.
Da iawn.
Yes, thank you, and that's a really helpful question. As I've mentioned before in response, it went up from just over 3,500 customers at the start of this event, to, when the phone lines were open to say, 'Please register if you also think you are vulnerable', more than double that. It went up from 8 per cent of customers to over 16 per cent of customers within a 24-hour period. So, there is a question there about why people had chosen not to identify themselves as priority 1 vulnerable. But the other related question is: is there something that can be done, whilst guarding properly data protection and the rights of an individual's privacy, to access those other lists that are available—social services, other utility companies and so on? Now, I'm not saying there's an easy fix, but I've seen this in two recent incidents now. So, I think there is a piece of work that I know that the responders are very keen to engage with, to see if there's a way that we could more rapidly identify not just Dŵr Cymru's vulnerable list, but who else would identify as vulnerable, and would it be relevant to use that information in a situation like this. It is a genuine question, because when you look at doubling the number of the people who rang and said, 'I want to be on that list', it raises interesting questions as to why they weren't on it to start with, and how we can make that easier.
Ie, diolch, ac mae hwnnw'n gwestiwn defnyddiol iawn. Fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen mewn ymateb, fe gododd o ychydig dros 3,500 o gwsmeriaid ar ddechrau'r digwyddiad hwn, i, pan oedd y llinellau ffôn ar agor i ddweud, 'Cofrestrwch os ydych chi hefyd yn credu eich bod yn agored i niwed', fwy na dwbl hynny. Cynyddodd o 8 y cant o gwsmeriaid i dros 16 y cant o gwsmeriaid o fewn cyfnod o 24 awr. Felly, mae cwestiwn yno ynghylch pam roedd pobl wedi dewis peidio â dynodi eu hunain fel blaenoriaeth 1 bregus. Ond y cwestiwn cysylltiedig arall yw: oes yna rywbeth y gellir ei wneud, wrth ddiogelu data a hawliau preifatrwydd unigolyn yn iawn, i gael mynediad at y rhestrau eraill hynny sydd ar gael—gwasanaethau cymdeithasol, cwmnïau cyfleustodau eraill ac yn y blaen? Nawr, nid wyf yn dweud bod yna ateb hawdd, ond rwyf wedi gweld hyn mewn dau ddigwyddiad diweddar nawr. Felly, rwy'n credu bod darn o waith yr wyf yn gwybod bod yr ymatebwyr yn awyddus iawn i'w wneud, i weld a oes ffordd y gallem adnabod yn gyflymach, nid yn unig rhestr Dŵr Cymru o gwsmeriaid agored i niwed, ond pwy arall fyddai'n nodi eu bod yn agored i niwed, ac a fyddai'n berthnasol defnyddio'r wybodaeth honno mewn sefyllfa fel hon. Mae'n gwestiwn gwirioneddol, oherwydd pan edrychwch chi ar ddyblu nifer y bobl a ffoniodd a dweud, 'Fe hoffwn i fod ar y rhestr honno', mae'n codi cwestiynau diddorol ynghylch pam nad oedden nhw ar y rhestr yn y lle cyntaf, a sut y gallwn ni wneud hynny'n haws.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Eitem 9 yw'r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 9 is the Council Tax Reduction Schemes (Prescribed Requirements and Default Scheme) (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8790 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.
Motion NDM8790 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Council Tax Reduction Schemes (Prescribed Requirements and Default Scheme) (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 10 December 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Well, every year, for more than a decade, the Welsh Government has placed regulations in front of the Senedd to ensure that the sums used in calculation of council tax benefit are routinely updated and to ensure that the support we provide to households keeps pace with changes in other welfare benefits. I hope that the Senedd will agree to do that again this year, given the scale and significance of the assistance offered to poorest households through the council tax benefit scheme.
Each year, as well, we take the opportunity to ensure that the regulations are amended to make sure that we keep pace with other changes being made in the UK benefit system, and, where we can, to make the scheme easier to access and simpler to administer. The regulations in front of the Senedd this year ensure that a person in receipt of universal credit can be recognised as such by a local authority as having made an application for a council tax reduction, consistent with the benefits charter work that my colleague Jane Hutt has been undertaking.
Can I thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for its consideration of the regulations? No regulations, of course, have been signed until the Senedd comes to its determination. Should the regulations be approved by the Senedd, then corrections will be contained in the version that I will then sign, reflecting the advice of the committee, and of course, I will respond to the letter from the Chair of the committee to confirm the same. I ask Senedd Members to approve these regulations today.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, bob blwyddyn, ers dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod rheoliadau gerbron y Senedd i sicrhau bod y symiau a ddefnyddir wrth gyfrifo budd-dal treth gyngor yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac i sicrhau bod y cymorth a ddarparwn i aelwydydd yn cadw i fyny â newidiadau mewn budd-daliadau lles eraill. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno i wneud hynny eto eleni, o ystyried maint ac arwyddocâd y cymorth a gynigir i'r aelwydydd tlotaf drwy'r cynllun budd-dal treth cyngor.
Bob blwyddyn, hefyd, rydym yn achub ar y cyfle i sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu diwygio i sicrhau ein bod yn cadw i fyny â newidiadau eraill sy'n cael eu gwneud yn system fudd-daliadau'r DU, a, lle y gallwn, i wneud y cynllun yn haws ei ddefnyddio ac yn symlach i'w weinyddu. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd eleni yn sicrhau y gall awdurdod lleol gydnabod person sy'n derbyn credyd cynhwysol fel rhywun sydd wedi gwneud cais am ostyngiad y dreth gyngor, yn gyson â'r gwaith siarter budd-daliadau y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn ei wneud.
A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau? Nid oes unrhyw reoliadau, wrth gwrs, wedi'u llofnodi nes bod y Senedd yn dod i'w phenderfyniad. Pe bai'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, yna bydd cywiriadau wedi'u cynnwys yn y fersiwn y byddaf i wedyn yn ei llofnodi, gan adlewyrchu cyngor y pwyllgor, ac wrth gwrs, byddaf yn ymateb i'r llythyr gan Gadeirydd y pwyllgor i gadarnhau hynny. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee—Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations last week. I thank the Cabinet Secretary for the response the committee received to its report.
The committee's report contained a single technical reporting point, which highlights potentially defective drafting in relation to amendments being made to the Welsh language text of the council tax reduction scheme and the prescribed requirements of the regulations in 2013. As set out in the committee's report, the issue here is that, in the past, the bilingual 2013 regulations were amended by a UK statutory regulation, amended only in the English language text, and not the Welsh. The amendments that are now being made by these regulations assume that a Welsh language text has also been amended. As such, amendments to the Welsh text are not quite correct. The Welsh Government agrees with the committee, and is proposing to correct the errors prior to making the regulations, subject to the Senedd's decision this afternoon.
Now, while the committee acknowledges this response from the Government, in order to correct the issue, we identified a new subdivision of text is required to be added to the regulations after the draft has been approved by the Senedd. It may be that it was clear in the draft regulations that were laid that the intention was for the Welsh and English text to have the same meaning. Therefore, the corrections proposed are technically non-substantive, even if the textual changes required appear substantive. I'd welcome the Cabinet Secretary addressing this in his closing remarks, and stating whether this is indeed the Welsh Government's view.
Unfortunately, the committee is of the view that there's a problem with the Government's planned corrections. The Government plans to insert a new subparagraph (iii) into regulations 5(e), 8(e) and 17(b). Whilst this works in relation to the first two regulations, this doesn't work for the final regulation, as regulation 17 does not contain roman numeral subparagraphs. Instead, the committee believes that a new regulation 17(c) would need to be inserted. We wrote to the Cabinet Secretary yesterday afternoon to draw his attention to this matter.
In closing, amendment of the draft regulation after Senedd scrutiny and approval, and prior to making, is an important matter.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb a gafodd y pwyllgor i'w adroddiad.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, sy'n tynnu sylw at ddrafftio a allai fod yn ddiffygiol mewn perthynas â diwygiadau sy'n cael eu gwneud i destun Cymraeg cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a gofynion rhagnodedig y rheoliadau yn 2013. Fel y nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, y mater yma yw, yn y gorffennol, diwygiwyd rheoliadau dwyieithog 2013 gan reoliad statudol y DU, a ddiwygiwyd yn y testun Saesneg yn unig, ac nid y Gymraeg. Mae'r diwygiadau sydd bellach yn cael eu gwneud gan y rheoliadau hyn yn tybio bod testun Cymraeg hefyd wedi cael ei ddiwygio. O'r herwydd, nid yw'r diwygiadau i'r testun Cymraeg yn hollol gywir. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor, ac yn cynnig cywiro'r gwallau cyn gwneud y rheoliadau, yn amodol ar benderfyniad y Senedd y prynhawn yma.
Nawr, er bod y pwyllgor yn cydnabod yr ymateb hwn gan y Llywodraeth, er mwyn cywiro'r mater, gwnaethom nodi bod angen ychwanegu isadran newydd o destun at y rheoliadau ar ôl i'r drafft gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Efallai ei bod yn amlwg yn y rheoliadau drafft a osodwyd mai'r bwriad oedd i'r testun Cymraeg a Saesneg fod â'r un ystyr. Felly, nid yw'r cywiriadau a gynigir yn dechnegol ansylweddol, hyd yn oed os yw'r newidiadau testunol sydd eu hangen yn ymddangos yn sylweddol. Byddwn yn croesawu pe byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymdrin â hyn yn ei sylwadau cloi, ac yn datgan ai dyma farn Llywodraeth Cymru yn wir.
Yn anffodus, mae'r pwyllgor o'r farn bod problem gyda chywiriadau arfaethedig y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu mewnosod is-baragraff (iii) newydd yn rheoliadau 5(e), 8(e) a 17(b). Er bod hyn yn gweithio mewn perthynas â'r ddau reoliad cyntaf, nid yw hyn yn gweithio ar gyfer y rheoliad diwethaf, gan nad yw rheoliad 17 yn cynnwys is-baragraffau â rhifolion Rhufeinig. Yn hytrach, mae'r pwyllgor yn credu y byddai angen mewnosod rheoliad 17(c) newydd. Ysgrifennom at yr Ysgrifennydd Cabinet brynhawn ddoe i dynnu ei sylw at y mater hwn.
Wrth gloi, mae diwygio'r rheoliad drafft ar ôl craffu a chymeradwyo gan y Senedd, a chyn ei wneud, yn fater pwysig.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
The Cabinet Secretary to reply to the debate.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I thank the Chair of the LJC committee for the detailed and technical work that they've carried out on the regulations. It's the Government's belief that the amendments we will make to the regulations to be signed will be sufficient to deal with the substance of the points that the committee has made for this year.
There are some wider considerations in the way that Mike Hedges has explained, and the Government will look to deal with those wider issues in regulations that will come before the Senedd this time next year. For the moment, the regulations will be effective next year; they will allow local authorities to administer the scheme efficiently and effectively, and most importantly, it will ensure that, for recipients of this benefit, its real value will be retained. I ask the Senedd to approve the regulations this afternoon.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith manwl a thechnegol y maent wedi'i wneud ar y rheoliadau. Cred y Llywodraeth yw y bydd y diwygiadau y byddwn yn eu gwneud i'r rheoliadau sydd i'w llofnodi yn ddigonol i ymdrin â sylwedd y pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud ar gyfer eleni.
Mae rhai ystyriaethau ehangach yn y ffordd y mae Mike Hedges wedi esbonio, a bydd y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r materion ehangach hynny mewn rheoliadau a ddaw gerbron y Senedd yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, bydd y rheoliadau yn dod i rym y flwyddyn nesaf; byddant yn caniatáu i awdurdodau lleol weinyddu'r cynllun yn effeithlon ac yn effeithiol, ac yn bwysicaf oll, bydd yn sicrhau, i dderbynwyr y budd-dal hwn, y bydd ei wir werth yn cael ei gadw. Gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 10 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 10 is the Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) Regulations 2025. And I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8791 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.
Motion NDM8791 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 10 December 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. These regulations amend Schedule 21A to the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 to extend the LTT special tax sites relief to the special tax sites designated by the UK Government in relation to the Ynys Môn free port. Colleagues will remember that parallel regulations were brought in front of the Senedd before Christmas to extend that relief to the Celtic free port, while further work continued to place the Ynys Môn free port in the same position. That work has now been completed.
If the Senedd approves the regulations today, relief for transactions in the new Ynys Môn free port area will come into force on Thursday, 23 January. This will align with the UK Government's coming-into-force date of their special tax site designation regulations for the Ynys Môn free port, meaning that all tax incentives will be available on the same date, and the Ynys Môn free port will be able to benefit from those advantages in the way that the Celtic free port is already able to do.
Once again, I'm grateful to the LJC committee for their work, and I ask Members to approve these regulations.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i ymestyn rhyddhad safleoedd treth arbennig y dreth trafodiadau tir i'r safleoedd treth arbennig a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â phorthladd rhydd Ynys Môn. Bydd cyd-Aelodau yn cofio y daethpwyd â rheoliadau cyfochrog o flaen y Senedd cyn y Nadolig i ymestyn y rhyddhad hwnnw i'r porthladd rhydd Celtaidd, tra bod gwaith pellach yn parhau i osod porthladd rhydd Ynys Môn yn yr un sefyllfa. Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau.
Os yw'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd rhyddhad ar gyfer trafodiadau yn ardal porthladd rhydd newydd Ynys Môn yn dod i rym ddydd Iau, 23 Ionawr. Bydd hyn yn cyd-fynd â dyddiad dod i rym Llywodraeth y DU o'u rheoliadau dynodi safle treth arbennig ar gyfer porthladd rhydd Ynys Môn, sy'n golygu y bydd pob cymhelliant treth ar gael ar yr un dyddiad, a bydd porthladd rhydd Ynys Môn yn gallu elwa o'r manteision hynny yn y ffordd y mae'r porthladd rhydd Celtaidd eisoes yn gallu ei wneud.
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Nid oes unrhyw siaradwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych am ychwanegu unrhyw beth arall?
I have no further speakers. Cabinet Secretary, would you like to add anything?
Dim diolch.
No, thank you.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 11 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 11 is the Land Transaction Tax (Tax Bands and Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2024. And I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8789 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.
Motion NDM8789 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves the Land Transaction Tax (Tax Bands and Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 laid in the Table Office on 10 December 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. In the draft budget published in December, I set out details of the Welsh Government plans for expenditure in the coming financial year and also for how we will live up to our responsibilities in raising revenue to support those spending priorities.
In respect of land transaction tax, I announced that the higher residential rate of LTT would be increasing by 1 percentage point across all bands, creating a 5 percentage point surcharge over the rates payable by other homebuyers. The regulations increase the rates that apply to the higher residential rates, and those are rates charged on additional residential properties bought by individuals who already own a dwelling, for example, second homes and buy-to-let properties, and also apply to companies buying dwellings.
These changes mean that the rates of LTT in Wales are once again broadly comparable to the rates of stamp duty land tax in England and Northern Ireland. That decision will raise an additional £7 million in the coming financial year for investment in Welsh public services, and protects the Welsh budget against the adverse impact of a block grant adjustment that would otherwise apply with a raise in the taxation rate in England and Northern Ireland, but no such rise here in Wales. The regulations make no changes to the LTT main residential rates.
The regulations came into effect on 11 December under the made-affirmative procedure, but for the changes to have permanent effect, Senedd approval is required for these amendment regulations. Just to provide Senedd Members with the knowledge that transitional rules were provided for those buyers who exchanged contracts before the rates changed, but who completed after the new rates took effect. Those taxpayers will be able, other than where that contract has been varied, to pay tax based on the rates in force when they exchanged contracts.
Again, Dirprwy Lywydd, I'm grateful to the Legislation, Justice and Constitution Committee for its report, and I ask Members to support these regulations.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nodais fanylion cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a hefyd ar gyfer sut y byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau wrth godi refeniw i gefnogi'r blaenoriaethau gwario hynny.
O ran treth trafodiadau tir, cyhoeddais y byddai cyfradd breswyl uwch y dreth trafodiadau tir yn cynyddu 1 pwynt canran ar draws pob band, gan greu gordal o 5 pwynt canran dros y cyfraddau sy'n daladwy gan brynwyr tai eraill. Mae'r rheoliadau'n cynyddu'r cyfraddau sy'n berthnasol i'r cyfraddau preswyl uwch, ac mae'r rheini'n gyfraddau a godir ar eiddo preswyl ychwanegol a brynir gan unigolion sydd eisoes yn berchen ar annedd, er enghraifft, ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod, ac maent hefyd yn berthnasol i gwmnïau sy'n prynu anheddau.
Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod cyfraddau'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru unwaith eto yn cymharu yn fras â chyfraddau treth dir y dreth stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y penderfyniad hwnnw'n codi £7 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn amddiffyn cyllideb Cymru rhag effaith andwyol addasiad i'r grant bloc a fyddai, fel arall, yn berthnasol gyda chynnydd yn y gyfradd drethu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond dim cynnydd o'r fath yma yng Nghymru. Nid yw'r rheoliadau yn gwneud unrhyw newidiadau i brif gyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir.
Daeth y rheoliadau i rym ar 11 Rhagfyr o dan y weithdrefn gadarnhaol, ond er mwyn i'r newidiadau gael effaith barhaol, mae angen cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer y rheoliadau diwygio hyn. Dim ond i roi gwybod i Aelodau'r Senedd bod rheolau trosiannol wedi'u darparu i'r prynwyr hynny a gyfnewidiodd gontractau cyn i'r cyfraddau newid, ond a gwblhaodd ar ôl i'r cyfraddau newydd ddod i rym. Bydd y trethdalwyr hynny yn gallu, ac eithrio pan fo'r contract hwnnw wedi'i amrywio, talu treth yn seiliedig ar y cyfraddau sydd mewn grym pan wnaethant gyfnewid contractau.
Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.
I'll just speak briefly to the proposal in front of us here today. Our Welsh Conservative group will be opposing this amendment to the regulations. As the Cabinet Secretary has outlined, a further increase to the higher rates on residential property transactions is something that we do not support. We believe that people are already taxed to a sufficient, significant level across Wales, and whilst the Cabinet Secretary outlined some of the people who would be impacted by this, such as second home owners and buy-to-let property potential landlords, there are other people also caught up in this particular tax, such as a parent or grandparent, perhaps, seeking to support their child or grandchild with a purchase of a property if they themselves are already property owners.
And when we look at the amounts here, whilst this is a 1 per cent increase on each of those bands, when we’re looking at average house prices in Wales now creeping up to around £250,000, that particular bracket is now a 10 per cent bracket in terms of the impact of the land transaction tax for those higher rates.
So, we fundamentally do not believe that this is the right thing to do. The tax burden continues to increase on people in Wales, and we’ll object to this particular amendment here today. Diolch yn fawr iawn.
Byddaf yn siarad yn fyr am y cynnig sydd o'n blaenau ni yma heddiw. Bydd ein grŵp Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r diwygiad hwn i'r rheoliadau. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i amlinellu, mae cynnydd pellach i'r cyfraddau uwch ar drafodiadau eiddo preswyl yn rhywbeth nad ydym yn ei gefnogi. Credwn fod pobl eisoes yn cael eu trethu i lefel ddigonol, sylweddol ledled Cymru, ac er i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu rhai o'r bobl y byddai hyn yn effeithio arnynt, megis perchnogion ail gartrefi a darpar landlordiaid eiddo prynu i osod, mae yna bobl eraill hefyd wedi'u dal yn y dreth benodol hon, fel rhiant neu nain a thaid, efallai, sy'n ceisio cefnogi eu plentyn neu wyrion i brynu eiddo os ydyn nhw eu hunain eisoes yn berchnogion eiddo.
A phan edrychwn ni ar y symiau yma, er bod hyn yn gynnydd o 1 y cant ar bob un o'r bandiau hynny, pan ydym yn edrych ar brisiau tai cyfartalog yng Nghymru nawr yn codi'n raddol i hyd at oddeutu £250,000, mae'r braced penodol hwnnw bellach yn fraced 10 y cant o ran effaith y dreth trafodiadau tir ar gyfer y cyfraddau uwch hynny.
Felly, yn sylfaenol, nid ydym yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae'r baich treth yn parhau i gynyddu ar bobl yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu'r diwygiad penodol hwn yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
The Cabinet Secretary to reply.
Well, I understand the points that Sam Rowlands has made, Dirprwy Lywydd, because they are a difference of principle between the Welsh Conservative party and those on these benches. We believe in progressive taxation, and the Welsh Conservative party does not. The number of transactions that the higher rate affects is a small minority of transactions as a whole, and these are all transactions being undertaken by people who have the broadest shoulders.
Were the Welsh Government not to increase rates in line with increases in England and Northern Ireland, as I explained in opening, Dirprwy Lywydd, not only would we lose the £7 million that will now be available for investment in Welsh public services, but the block grant adjustment would assume that we were doing it and we would lose money in that way too. In fact, the £7 million we raise will only just about cover the adverse block grant adjustment. So, a decision to vote against the regulations today is not simply a decision to leave the £7 million without its impact on Welsh public services, but would double the adverse impact by leaving us vulnerable to that block grant adjustment.
Those who will pay are those most able to pay. There is no evidence from previous years that these rates have an adverse impact on people’s ability to operate in that part of the market, and, once again, I ask Members to support these progressive regulations.
Wel, rwy'n deall y pwyntiau y mae Sam Rowlands wedi'u gwneud, Dirprwy Lywydd, oherwydd maen nhw'n wahaniaeth o ran egwyddor rhwng y blaid Geidwadol Gymreig a'r rhai ar y meinciau hyn. Rydym yn credu mewn trethiant blaengar, yn wahanol i'r blaid Geidwadol Gymreig. Mae nifer y trafodiadau y mae'r gyfradd uwch yn effeithio arnynt yn lleiafrif bach o drafodiadau yn gyffredinol, ac mae'r rhain i gyd yn drafodiadau sy'n cael eu gwneud gan bobl sydd â'r ysgwyddau ehangaf.
Pe na bai Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfraddau yn unol â'r cynnydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel yr eglurais i wrth agor, Dirprwy Lywydd, nid yn unig y byddem yn colli'r £7 miliwn a fydd ar gael nawr i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond byddai'r addasiad i'r grant bloc yn tybio ein bod yn gwneud hynny a byddem yn colli arian yn y ffordd honno hefyd. Yn wir, bydd y £7 miliwn a godwn ond yn ddigon i gwmpasu'r addasiad anffafriol i'r grant bloc. Felly, mae penderfyniad i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau heddiw nid yn unig yn benderfyniad i adael y £7 miliwn heb ei effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, ond byddai'n dyblu'r effaith andwyol trwy ein gadael yn agored i'r addasiad hwnnw i'r grant bloc.
Y rhai fydd yn talu yw'r rhai sydd fwyaf abl i dalu. Nid oes unrhyw dystiolaeth o flynyddoedd blaenorol bod y cyfraddau hyn yn cael effaith andwyol ar allu pobl i weithredu yn y rhan honno o'r farchnad, ac, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau blaengar hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] There are objections. I will therefore defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Eitem 12 yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Item 12 is next, the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) Order 2025. And I call on the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to move the motion—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8792 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2024.
Motion NDM8792 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) Order 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 3 December 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I’m pleased to be able to bring forward the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) Order 2025, which makes amendments to the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020, and I move the motion.
The UK emissions trading scheme remains one of our most powerful tools to decarbonise industries in Wales and the UK and to tackle the climate emergency. So, making sure that it is operating in the most effective way is paramount. Now, the amendments made by this legislation help to ensure that the allocation of free allowances within the UK emissions trading scheme is more effectively targeted. This change also retains the flexibility to fully allocate free allowances when operators cease operations, to enable decarbonisation investments to be delivered, recognising and supporting the decarbonisation incentive of the UK ETS.
So, in short, Dirprwy Lywydd, the Order changes how free allowances are allocated in the final year of operation, if an installation or sub-installation permanently ceases operation, basing the entitlements on actual activity levels rather than historic activity levels. Operators ceasing operations to implement decarbonisation investments can still receive full allowances if they provide sufficient evidence that the closure was due to decarbonisation. It also updates the definition of 'permanent cessation' to capture scenarios where temporary cessation of an activity becomes permanent. And we sought advice from our statutory advisers, the Climate Change Committee, on the proposals covered in the Order.
And, just finally, as always in these matters, can I thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for their scrutiny of this Order? And, saying that, I commend the motion to the Chamber.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025, sy'n gwneud gwelliannau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a chynigiaf y cynnig.
Mae cynllun masnachu allyriadau'r DU yn parhau i fod yn un o'n harfau mwyaf pwerus i ddatgarboneiddio diwydiannau yng Nghymru a'r DU ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Felly, mae sicrhau ei fod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol yn hollbwysig. Nawr, mae'r gwelliannau a wneir gan y ddeddfwriaeth hon yn helpu i sicrhau bod y lwfansau am ddim a ddyrennir o fewn cynllun masnachu allyriadau'r DU yn cael eu targedu'n fwy effeithiol. Mae'r newid hwn hefyd yn cadw'r hyblygrwydd i ddyrannu lwfansau am ddim yn llawn pan fydd gweithredwyr yn rhoi'r gorau i weithredu, er mwyn galluogi buddsoddiadau datgarboneiddio i gael eu cyflawni, gan gydnabod a chefnogi cymhelliant datgarboneiddio ETS y DU.
Felly, yn fyr, Dirprwy Lywydd, mae'r Gorchymyn yn newid sut y dyrennir lwfansau am ddim yn y flwyddyn olaf o weithredu, os bydd gosodiad neu is-osodiad yn rhoi'r gorau i weithredu'n barhaol, gan seilio'r hawliau ar lefelau gweithgarwch gwirioneddol yn hytrach na lefelau gweithgarwch hanesyddol. Gall gweithredwyr sy'n rhoi'r gorau i weithrediadau i weithredu buddsoddiadau datgarboneiddio gael lwfansau llawn o hyd os byddant yn darparu digon o dystiolaeth bod y cau oherwydd datgarboneiddio. Mae hefyd yn diweddaru'r diffiniad o 'roi'r gorau iddi'n barhaol' i gynnwys senarios lle mae rhoi'r gorau i weithgaredd dros dro yn dod yn barhaol. Ac fe wnaethom ofyn am gyngor gan ein cynghorwyr statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn.
Ac, yn olaf, fel bob amser yn y materion hyn, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Gorchymyn hwn? A, gan ddweud hynny, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.
Nid oes unrhyw siaradwyr ar yr eitem hon. Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi am ychwanegu unrhyw beth arall?
I have no other speakers on this item. Cabinet Secretary, do you have anything else to add?
Do you want to say anything else?
Ydych chi eisiau dweud unrhyw beth arall?
Only to say that the free allocation of these allowances is the main policy instrument through which carbon leakage risk is mitigated in the UK, so if nobody else standing to speak means that these are going to go through with the support of the Siambr, I am delighted, because it helps us on our path to net zero.
Dim ond i ddweud mai dyrannu'r lwfansau hyn am ddim yw'r prif offeryn polisi y mae'r risg o ollyngiadau carbon yn cael ei lliniaru drwyddo yn y DU, felly os yw'r ffaith nad oes neb arall yn sefyll i siarad yn golygu bod y rhain yn mynd i fynd drwodd gyda chefnogaeth y Siambr, rwy'n falch iawn, oherwydd mae'n ein helpu ni ar ein llwybr i sero net.
Well, we'll find that out in a second. [Laughter.]
Wel, fe wnawn ni ddarganfod hynny mewn eiliad. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 13, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Item 13, the legislative consent motion on the Water (Special Measures) Bill. I call on the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to move the motion—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8793 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), sef Cymalau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 13, 14 a 15, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Motion NDM8793 Huw Irranca-Davies
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Water (Special Measures) Bill, namely Clauses 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 13, 14 and 15, in so far as they fall within the legislative competence of the Senedd, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
I must apologise to Members here for me getting up on my feet once again, but I beg to move that the Senedd, in accordance with Standing Order 29.6, agrees that provisions in the Water (Special Measures) Bill, insofar as they fall within the legislative competence of the Senedd, should be considered by the UK Parliament, and I'll explain why. Improving water quality and restoring our rivers to health is a matter of intense public interest, and rightly so. That's why, since the new Government took office in Westminster, we've been working at pace to improve our collaboration on tackling pollution in our rivers, our lakes and our seas. And, as Members will know, some of our most iconic rivers, like the Severn, the Dee, the Wye, of course, they cross those national borders. So, what happens upstream in England impacts downstream in Wales, and vice versa. So, that means that, in order to make real and lasting change, we must work together. And in that context, the renewed partnership between the two Governments that we've seen since last July is very welcome indeed. And, as somebody who has served in both Parliaments and as a Minister in both Parliaments, it's very long overdue. It's the way we should be doing things. And in that spirit of collaborative, cross-border working, I've agreed that the UK Government's new Water (Special Measures) Bill be extended to Wales.
So, what will this do? The legislation will strengthen the powers of the regulator to address water pollution, it will grant a new power for Ofwat to limit the bonuses paid to water company executives, it will allow NRW to recover costs from water companies to support their enforcement activities, it will make enforcement action more efficient through automatic penalties for a defined list of offences, and it will allow more effective enforcement options by enabling regulators to apply civil sanction penalties more quickly, in a more timely way.
Now, of course, the water sector in Wales is different from that in England. I've consistently recognised that. And, as Members will know, Dŵr Cymru Welsh Water operates in a very different way. It's a not-for-dividend company. Welsh Government policy differs on a range of things as well, from the environment to competition and other areas. But the provisions in the Bill will enable us to develop solutions that actually meet our needs here in Wales. The Bill is about making improvements to a shared regulatory regime. So, for example, both the economic regulator, Ofwat, and the Drinking Water Inspectorate cover England and Wales. So, these improvements will, in turn, help to restore our rivers.
It's also important to recognise that this Bill is a first step. The joint independent water commission, which is reporting now to both the Welsh and UK Governments continues in parallel, and it's looking more fundamentally at the case for change. And all of this work is building on our existing ambitious programme designed to address water-quality challenges right here in Wales. We're providing over £40 million of funding for specific projects, including, for example, £1.5 million for supporting the work of our nutrient management boards in our special area of conservation river catchments; £5 million allocated for the remediation of the most polluting disused metal mines in Wales, recognising that history that we have in many parts, particularly of rural Wales, as well.
So, as we progress with putting some of these measures provided for in the Bill into action, we will also be championing the solutions that work for Wales and ensuring that implementation supports our high ambitions here in Wales. But this Bill is a very important opportunity for us to make real progress on improving water quality and restoring our rivers. So, I look forward to hearing Members' views this afternoon.
Mae'n rhaid imi ymddiheuro i'r Aelodau yma am y ffaith fy mod i'n codi ar fy nhraed unwaith eto, ond rwy'n cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU, ac fe wnaf i egluro pam. Mae gwella ansawdd dŵr ac adfer iechyd ein hafonydd yn fater o ddiddordeb cyhoeddus dwys, ac yn briodol felly. Dyna pam, ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym yn San Steffan, rydym wedi bod yn gweithio'n gyflym i wella'r ffordd rydym yn cydweithredu i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd. Ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae rhai o'n hafonydd mwyaf eiconig, fel afon Hafren, afon Dyfrdwy, afon Gwy, wrth gwrs, yn croesi'r ffiniau cenedlaethol hynny. Felly, mae'r hyn sy'n digwydd i fyny'r afon yn Lloegr yn cael effaith i lawr yr afon yng Nghymru, ac i'r gwrthwyneb. Felly, mae hynny'n golygu, er mwyn gwneud newid gwirioneddol a pharhaol, bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Ac yn y cyd-destun hwnnw, mae'r bartneriaeth newydd rydym wedi'i gweld rhwng y ddwy Lywodraeth ers mis Gorffennaf diwethaf i'w chroesawu'n fawr. Ac, fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y ddwy Senedd ac fel Gweinidog yn y ddwy Senedd, mae'n hen bryd i hynny ddigwydd. Dyna'r ffordd y dylem fod yn gwneud pethau. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio a gweithio trawsffiniol, rwyf wedi cytuno y dylid ymestyn Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) newydd Llywodraeth y DU i Gymru.
Felly, beth fydd hyn yn ei wneud? Bydd y ddeddfwriaeth yn cryfhau pwerau'r rheoleiddiwr i fynd i'r afael â llygredd dŵr, bydd yn rhoi pŵer newydd i Ofwat gyfyngu'r taliadau bonws a delir i weithredwyr cwmnïau dŵr, bydd yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru adennill costau gan gwmnïau dŵr i gefnogi ei weithgareddau gorfodi, bydd yn gwneud camau gorfodi yn fwy effeithlon trwy gosbau awtomatig ar gyfer rhestr ddiffiniedig o droseddau, a bydd yn caniatáu opsiynau gorfodi mwy effeithiol trwy alluogi rheoleiddwyr i gymhwyso cosbau cosbau sifil yn gyflymach, mewn ffordd fwy amserol.
Nawr, wrth gwrs, mae'r sector dŵr yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr. Rwyf wedi cydnabod hynny'n gyson. Ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae Dŵr Cymru yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn. Mae'n gwmni nid-er-difidend. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn wahanol ar ystod o bethau hefyd, o'r amgylchedd i gystadleuaeth a meysydd eraill. Ond bydd y darpariaethau yn y Bil yn ein galluogi i ddatblygu atebion sy'n diwallu ein hanghenion yma yng Nghymru. Mae'r Bil yn ymwneud â gwneud gwelliannau i drefn reoleiddio a rennir. Felly, er enghraifft, mae'r rheoleiddiwr economaidd, Ofwat, a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Felly, bydd y gwelliannau hyn, yn eu tro, yn helpu i adfer ein hafonydd.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod mai cam cyntaf yw'r Bil hwn. Mae'r comisiwn dŵr annibynnol ar y cyd, sy'n adrodd nawr i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn parhau ochr yn ochr, ac mae'n edrych yn fwy sylfaenol ar yr achos dros newid. Ac mae'r holl waith hwn yn adeiladu ar ein rhaglen uchelgeisiol bresennol sydd wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr yma yng Nghymru. Rydym yn darparu dros £40 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau penodol, gan gynnwys, er enghraifft, £1.5 miliwn ar gyfer cefnogi gwaith ein byrddau rheoli maethynnau yn nalgylchoedd afonydd ein hardaloedd cadwraeth arbennig; £5 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer adfer y mwyngloddiau metel segur mwyaf llygredig yng Nghymru, gan gydnabod yr hanes hwnnw sydd gennym mewn sawl rhan, yn enwedig o gefn gwlad Cymru, hefyd.
Felly, wrth i ni fwrw ymlaen i roi rhai o'r mesurau hyn y darperir ar eu cyfer yn y Bil ar waith, byddwn ni hefyd yn hyrwyddo'r atebion sy'n gweithio i Gymru ac yn sicrhau bod y broses weithredu yn cefnogi ein huchelgeisiau yma yng Nghymru. Ond mae'r Bil hwn yn gyfle pwysig iawn i ni wneud cynnydd go iawn o ran gwella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
I call on the Chair of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a chyn imi droi at sylwedd y cynnig sydd o’n blaenau heddiw, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig inni fel Senedd fyfyrio unwaith eto, os caf i ddweud, ar ba mor addas yw’r broses cydsyniad deddfwriaethol, a pha mor rhesymol yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni ei wneud.
Nawr, fe osodwyd pum memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd mewn perthynas â’r Bil Dŵr yma—pum memorandwm sy’n cyfeirio at wahanol gymalau a diwygiadau a wnaed gan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn ystod taith y Bil drwy Senedd y Deyrnas Unedig.
Nawr, mae’r pedwerydd memorandwm yn cyfeirio at ddiwygiadau a roddwyd yn y Bil, ac mae'r pumed yn gweld yr un gwelliannau yn cael eu tynnu allan o'r Bil. Nawr, mi fydd Aelodau’n gweld nad yw adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio at y pumed memorandwm. Mae hynny oherwydd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn unol ag amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fuodd yna ddim digon o amser iddo fe, felly, gael ei gyfeirio at bwyllgor polisi ar gyfer gwaith craffu.
Yn ystod tymor y Senedd hon, rŷn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o’r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwestiwn a ydych chi'n cytuno â hynny neu beidio, wrth gwrs, yn fater i’w drafod. Dwi'n gwybod bod Gweinidogion y Llywodraeth yma yng Nghymru o’r farn ei bod hi'n briodol mewn llawer o achosion. Nawr, efallai y byddai modd amddiffyn eu safbwynt nhw pe bai'r system yn gweithio, ond dyw e ddim, ac mae hynny, yn fy marn i, yn tanseilio safbwynt y Llywodraeth o safbwynt defnyddio'r modd yma. Os yw Gweinidogion Cymru am i San Steffan ddeddfu ar ran y Senedd, mae'n ddyletswydd arnyn nhw, felly, i wneud yn siŵr bod y broses yn gweithio. Ddim ond mis yn ôl, fe gyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig ar egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig. Soniodd am yr
'ymgysylltu llawer mwy cadarnhaol a chalonogol sydd wedi datblygu dros y misoedd diwethaf.'
gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond dyma ni eto, yn cael yr un ddadl.
Dwi'n gofyn, felly, i’r Dirprwy Brif Weinidog, sydd, fel cyn-gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o fethiannau’r broses y mae e’n ei ddefnyddio mor frwd ar hyn o bryd, i roi ymrwymiad i edrych gyda’i gydweithwyr ar sut y gellir gwella’r broses hon fel mater o frys. Mae'n drueni fy mod i wedi gorfod defnyddio cymaint o'm hamser i ganolbwyntio ar broses ac nid polisi, ond mi fyddaf i'n parhau i wneud y pwyntiau hyn hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn gwrando.
Felly, i symud, os caf i, Dirprwy Lywydd, yn fyr, at y cynigion yn y Bil, mae ein hadroddiad ni fel pwyllgor yn cynnwys sawl casgliad, ond mi fyddaf i'n canolbwyntio ar dair agwedd allweddol. Yn gyntaf, mae Dŵr Cymru, wrth gwrs, yn gweithredu model perchnogaeth cwbl wahanol i gwmnïau dŵr yn Lloegr, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod y cynigion llywodraethu yn y Bil yma yn rhoi ystyriaeth lawn i’r sefyllfa fel ag y mae hi yng Nghymru.
Yn ail, fel mater o egwyddor, mi ddylai’r arian sy'n cael ei gynhyrchu gan ddirwyon sy'n cael eu codi ar gwmnïau yng Nghymru aros yng Nghymru, fel y gallwn ni ddefnyddio'r arian hwnnw i wella gwasanaethau a seilwaith—o gofio'r drafodaeth rŷn ni wedi'i chael yn gynharach y prynhawn yma—a hefyd i gefnogi prosiectau sy’n gwella ein hamgylchedd ni.
Ac yn drydydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi mynegi pryderon y bydd gweithredu yn unol ag amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno’r cynigion yn gryn her yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, diffyg adnoddau. Mi fyddwn i'n ddiolchgar, felly, am sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r darpariaethau yng Nghymru.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar gasgliadau’r pwyllgor yn ei ymateb i’r ddadl yma. Diolch.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd, and before I turn to the substance of the motion before us today, I think it's important for us as a Senedd to reflect again, if I may say, on the adequacy of the legislative consent process and the reasonableness of what the Welsh Government is asking us to do.
Now, five legislative consent memorandums have been laid before the Senedd in relation to the Water (Special Measures) Bill—five memorandums that refer to the different clauses and amendments made by the House of Commons and the House of Lords as the Bill made its journey through the UK Parliament.
Now, the fourth memorandum refers to amendments that were put into the Bill, and the fifth sees the same amendments taken back out again. Members will see that the committee’s report does not refer to the fifth memorandum. That is because the Welsh Government is at the mercy of the UK Government’s timetable and there has not been enough time for it to be referred to a policy committee for scrutiny.
During this Senedd term, we have seen a huge increase in the use of the LCM process by the Welsh Government. The question of whether you agree with that or not, of course, is a matter for debate. I know that Ministers in the Welsh Government believe that it is appropriate in many cases. It might be possible to defend their position if the system worked, but it does not, which, in my opinion, undermines the position of the Government in terms of using this approach. If Welsh Ministers want Westminster to legislate on the Senedd’s behalf, it is incumbent on them to make sure that the process works. Only a month ago, the Counsel General issued a written statement on the Welsh Government’s principles on UK legislation in devolved areas. It talked about
'significantly more positive and welcome engagement that has developed over recent months'
with the UK Government. But here we are again, having the same debate.
I therefore ask the Deputy First Minister, who, as former chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, is well aware of the failings of the process that he is now using so enthusiastically, to give a commitment to look with his colleagues at how this process can be improved as a matter of urgency. It's a shame that I've had to use so much of my time to focus on process and not policy, but I will continue to make these points until the Welsh Government shows it is listening.
So, to move briefly, if I may, Dirprwy Lywydd, to the proposals in the Bill, our report as a committee includes several conclusions, but I will focus on three key aspects. First, Dŵr Cymru Welsh Water operates a completely different ownership model to water companies in England. We need to make sure that the governance proposals in the Bill take full account of the situation in Wales.
Secondly, as a matter of principle, the funds generated by fines levied on companies in Wales should stay in Wales so that they can be used to improve services and infrastructure—bearing in mind the discussion we've already had this afternoon—and also to support projects that improve our environment.
And thirdly, NRW has expressed concerns that acting in accordance with the UK Government’s timeline for introducing the proposals will be very challenging in Wales, due to a lack of resources of course. And I would be grateful, therefore, for assurances from the Cabinet Secretary that he will engage with key stakeholders on the timeline for the introduction of the provisions in Wales.
I look forward to hearing the Cabinet Secretary’s views on the committee’s conclusions in his response to this debate. Thank you.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The committee reported on the Welsh Government's legislative consent memorandum on the Water (Special Measures) Bill yesterday. Last week, we wrote to the Cabinet Secretary to provide advance notice of two recommendations, and we are grateful for his letter in response. First, we sought to highlight a lack of clarity in memorandum No. 3. We note that the motion today refers to clause numbers, before the Senedd, which has been recent practice. It would be helpful if the Cabinet Secretary could just confirm which version of the UK Bill the clause numbers refer to, as some of the clause numbers have changed as a result of amendments made to the Bill during the amending stages. Furthermore, we note from his letter yesterday that the Cabinet Secretary will be laying a further supplementary memorandum in relation to Report Stage amendments. I would therefore welcome an explanation on what this means in terms of the consent the Senedd is being asked to provide today.
The second recommendation concerns the justification for using a UK Government Bill. In paragraph 14 of the first memorandum, the Cabinet Secretary states that water is an inherently cross-border issue. We believe this statement is at odds with the Welsh Government's policy set out in its 2015 water strategy, which states that the Welsh Government's objectives are the alignment of the regulatory boundaries for water and sewerage with the geographical border between Wales and England. The strategy goes on to state that this would better enable the Welsh Government to make the most of the opportunities that Wales's natural resources provide. We therefore recommended that the Cabinet Secretary provide a more accurate narrative of the Welsh Government's position as regards its 2015 water strategy in a further supplementary memorandum. We note the Cabinet Secretary's response.
Recognising that commencing section 48(1) of the Wales Act 2017 would help deliver the Welsh Government's objectives in its water strategy, our report recommended that the Cabinet Secretary should explain why section 48(1) has not been commenced and provide a timetable for commencing that section. The Cabinet Secretary also justifies using a UK Bill because the UK and Welsh Governments share aims and objectives, and because he considers that a co-ordinated approach is essential to ensure regulatory consistency. However, a co-ordinated approach between Wales and England does not, in our view, require the same UK legislative vehicle. The Cabinet Secretary effectively acknowledges this point by taking regulation-making powers for the Welsh Ministers. As such, there is a contradiction in the Welsh Government's approach. On the one hand, a UK Government Bill is required to achieve the same objectives and outcomes as the UK Government, yet that argument does not seem to apply to the use of subordinate legislation for the same purpose, where powers will be exercised by UK Ministers in England and Welsh Ministers in Wales. So, once again, this Senedd is being sidelined as a legislature. Elected Members of the Senedd are being prevented from having a full say on legislation affecting rivers that flow through their constituencies. While MPs in England will be able to table amendments to the Bill on matters that will affect Welsh rivers, Members of the Senedd are being denied that opportunity.
Overall, the evidence provided by the Welsh Government to support this approach to using a UK Government Bill to legislate for Wales has not been persuasive. We therefore concluded that the Cabinet Secretary’s justification for using this Bill to legislate in the devolved area of water policy is weak, because the evidence provided has at times been inaccurate and contradictory, and appears at odds with the Welsh Government's 2015 water strategy. Furthermore, the result of the Welsh Government’s approach in piggybacking on a UK Government Bill is, in effect, to create a legislative framework for the Welsh Government, with those powers being delegated by the UK Parliament, rather than the Senedd. We therefore concluded that the Welsh Government’s use of the Bill to seek provision for Wales is reminiscent of the executive devolution of the first and second Assemblies, which is both unsatisfactory and regrettable.
Our report also notes that the decision to include provisions for Wales in the Bill was not based on any rigorous policy development and analysis by the Welsh Government. We therefore expressed concern that the Welsh Government's opportunism of applying to Wales provisions in a UK Government Bill designed for England has been undertaken too quickly and potentially not been fully thought through. As such, we concluded that the Water (Special Measures) Bill and the provisions that apply to Wales have been driven by the UK Government and scrutiny by the UK Parliament, and, in our view, this does not represent a satisfactory or acceptable way to make primary law in Wales.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y pwyllgor ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) ddoe. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet i roi hysbysiad ymlaen llaw o ddau argymhelliad, ac rydym yn ddiolchgar am ei lythyr mewn ymateb. Yn gyntaf, gwnaethom geisio tynnu sylw at ddiffyg eglurder ym memorandwm Rhif 3. Nodwn fod y cynnig heddiw yn cyfeirio at rifau cymalau, gerbron y Senedd, sydd wedi bod yn arfer diweddar. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa fersiwn o Fil y DU y mae'r rhifau cymalau yn cyfeirio ati, gan fod rhai o'r rhifau cymalau wedi newid o ganlyniad i welliannau a wnaed i'r Bil yn ystod y camau diwygio. Ar ben hynny, nodwn o'i lythyr ddoe y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gosod memorandwm atodol arall mewn perthynas â gwelliannau Cyfnod Adrodd. Felly, byddwn yn croesawu esboniad ynghylch beth mae hyn yn ei olygu o ran y cydsyniad y gofynnir i'r Senedd ei ddarparu heddiw.
Mae'r ail argymhelliad yn ymwneud â'r cyfiawnhad dros ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU. Ym mharagraff 14 o'r memorandwm cyntaf, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn datgan bod dŵr yn fater trawsffiniol cynhenid. Credwn fod y datganiad hwn yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru a nodwyd yn ei strategaeth ddŵr yn 2015, sy'n datgan mai amcanion Llywodraeth Cymru yw alinio'r ffiniau rheoleiddio ar gyfer dŵr a charthffosiaeth â'r ffin ddaearyddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r strategaeth yn mynd ymlaen i ddatgan y byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae adnoddau naturiol Cymru yn eu cynnig. Felly, gwnaethom argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi naratif mwy cywir o safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth ddŵr yn 2015 mewn memorandwm atodol arall. Nodwn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.
Gan gydnabod y byddai dechrau adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth ddŵr, argymhellodd ein hadroddiad y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad yw adran 48(1) wedi'i chychwyn a darparu amserlen ar gyfer dechrau'r adran honno. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn cyfiawnhau defnyddio Bil y DU oherwydd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu nodau ac amcanion, ac oherwydd ei fod o'r farn bod dull cydgysylltiedig yn hanfodol i sicrhau cysondeb rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid yw dull cydgysylltiedig rhwng Cymru a Lloegr, yn ein barn ni, yn gofyn am yr un cyfrwng deddfwriaethol yn y DU. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod y pwynt hwn i bob pwrpas drwy gymryd pwerau deddfu ar gyfer Gweinidogion Cymru. O'r herwydd, mae yna anghysondeb o ran ymagwedd Llywodraeth Cymru. Ar y naill law, mae angen Bil Llywodraeth y DU i gyflawni'r un amcanion a chanlyniadau â Llywodraeth y DU, ond eto nid yw'n ymddangos bod y ddadl honno'n berthnasol wrth ddefnyddio is-ddeddfwriaeth at yr un diben, lle bydd pwerau yn cael eu harfer gan Weinidogion y DU yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yng Nghymru. Felly, unwaith eto, mae'r Senedd hon yn cael ei gwthio o'r neilltu fel deddfwrfa. Mae Aelodau Etholedig o'r Senedd yn cael eu hatal rhag mynegi eu barn yn llawn ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar afonydd sy'n llifo drwy eu hetholaethau. Er y bydd ASau yn Lloegr yn gallu cyflwyno gwelliannau i'r Bil ar faterion a fydd yn effeithio ar afonydd yng Nghymru, mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hamddifadu o'r cyfle hwnnw.
At ei gilydd, nid yw'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r dull hwn o ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer Cymru wedi bod yn berswadiol. Daethom i'r casgliad felly bod cyfiawnhad yr Ysgrifennydd Cabinet dros ddefnyddio'r Bil hwn i ddeddfu ym maes datganoledig polisi dŵr yn wan, oherwydd mae'r dystiolaeth a ddarparwyd wedi bod yn anghywir ac yn anghyson ar adegau, ac mae'n ymddangos ei bod yn groes i strategaeth ddŵr Llywodraeth Cymru yn 2015. At hynny, canlyniad dull Llywodraeth Cymru o neidio ar gefn Bil Llywodraeth y DU, i bob pwrpas, yw creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gyda'r pwerau hynny'n cael eu dirprwyo gan Senedd y DU, yn hytrach na'r Senedd. Daethom i'r casgliad felly bod defnydd Llywodraeth Cymru o'r Bil i geisio darpariaeth ar gyfer Cymru yn atgoffa rhywun o ddatganoli gweithredol y Cynulliad cyntaf a'r ail Gynulliad, sy'n anfoddhaol ac yn anffodus.
Mae ein hadroddiad yn nodi hefyd nad oedd y penderfyniad i gynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Bil yn seiliedig ar unrhyw ddatblygiad polisi a dadansoddiad trylwyr gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd pryder felly bod oportiwnistiaeth Llywodraeth Cymru wrth gymhwyso darpariaethau mewn Bil Llywodraeth y DU a ddyluniwyd ar gyfer Lloegr i Gymru wedi cael ei gwneud yn rhy gyflym ac efallai nad yw wedi cael ei hystyried yn llawn. O'r herwydd, daethom i'r casgliad bod y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) a'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru wedi cael eu gyrru gan Lywodraeth y DU a chraffu gan Senedd y DU, ac, yn ein barn ni, nid yw hyn yn ffordd foddhaol na derbyniol o wneud cyfraith sylfaenol yng Nghymru.
We will be supporting this legislative consent motion today. As is noted in the explanatory notes, the Bill seeks to ensure water companies are better held to account where they have failed to deliver for the environment and customers. More accountability is most certainly required, especially in light of what we've seen recently in north Wales and, indeed, in my own constituency—such a chaotic response to the Conwy water crisis, which saw up to 40,000 homes left without water for as long as four and a half days.
The Bill includes many provisions that I welcome, including to ban bonuses for persons holding senior roles where water companies fail to meet required standards relating to consumer matters, the environment, financial resilience, or criminal liability. Personally, I think questions need to be asked as to whether they should be allowed any bonuses at all when they are not providing this much-needed resource.
It will also introduce a fit-and-proper-person test for water company executives and ensure consumer representation on water company boards. It will also extend the sentencing power of the courts to include imprisonment in all cases where individuals have obstructed Environment Agency, NRW and Drinking Water Inspectorate investigations. It's intended to lower the standard of proof for Environment Agency and NRW civil sanctions to enable more rapid penalties to be issued for minor to moderate offences. That's just a flavour of the Bill. Personally, anything we can do to regulate the water industry more, I say, ‘Bring it on’. Diolch.
Byddwn yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Fel y nodir yn y nodiadau esboniadol, mae'r Bil yn ceisio sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cael eu dwyn i gyfrif yn well lle maent wedi methu â chyflawni ar gyfer yr amgylchedd a chwsmeriaid. Mae angen mwy o atebolrwydd yn sicr, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i weld yn ddiweddar yn y gogledd ac, yn wir, yn fy etholaeth fy hun—ymateb mor anhrefnus i argyfwng dŵr Conwy, a welodd hyd at 40,000 o gartrefi yn cael eu gadael heb ddŵr am gyhyd â phedwar diwrnod a hanner.
Mae'r Bil yn cynnwys llawer o ddarpariaethau rwy'n eu croesawu, gan gynnwys gwahardd taliadau bonws i bobl sydd â rolau uwch lle nad yw cwmnïau dŵr yn cyrraedd safonau gofynnol sy'n ymwneud â materion defnyddwyr, yr amgylchedd, gwytnwch ariannol, neu atebolrwydd troseddol. Yn bersonol, rwy'n credu bod angen gofyn cwestiynau ynghylch a ddylid caniatáu unrhyw fonysau iddynt o gwbl pan nad ydynt yn darparu'r adnodd hwn y mae mawr ei angen.
Bydd hefyd yn cyflwyno prawf person addas a phriodol i weithredwyr cwmnïau dŵr ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cynrychioli ar fyrddau cwmnïau dŵr. Bydd hefyd yn ymestyn pŵer dedfrydu'r llysoedd i gynnwys carcharu ym mhob achos lle mae unigolion wedi rhwystro ymchwiliadau gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Bwriedir iddo ostwng safon y prawf ar gyfer cosbau sifil Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau bod cosbau mwy cyflym yn gallu cael eu rhoi ar gyfer mân droseddau a throseddau cymedrol. Dim ond blas ar y Bil yw hynny. Yn bersonol, rwy'n dweud y dylem fwrw ati i wneud unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i reoleiddio'r diwydiant dŵr yn fwy. Diolch.
Mae'r Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn cynnwys sawl darpariaeth a allai gryfhau ein hymdrechion ar y cyd i leihau llygredd dŵr yng Nghymru, yn enwedig trwy wella pwerau rheoleiddwyr fel Ofwat. Gwnaf i ganolbwyntio yn gyntaf ar y polisïau. Mae'r fframwaith newydd, wrth gwrs, ar gyfer dal cwmnïau dŵr yn atebol am lywodraethu a thâl yn gam ymlaen, yn sicr o ran gwella perfformiad ac ailadeiladu ymddiriedaeth yn y sector.
Fodd bynnag, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd hwn yn pasio, sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld bydd y Bil hwn yn gwella gallu’r Llywodraeth yma i fynd i'r afael â phryderon parhaus ymysg y cyhoedd ac Aelodau o’r Senedd am ollyngiadau anghyfreithlon o garthion gan Dŵr Cymru, yn enwedig o ystyried y dicter, pa mor grac yn barhaol mae pobl yn y cyhoedd am lygredd yn ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol? Buaswn i’n gofyn hefyd pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod y gofynion adrodd o dan gymal 3, megis data rhyddhau amser real, yn cael eu gorfodi'n effeithiol. Sut bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hwn i ddal cwmnïau'n atebol?
Sut bydd darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar gorff llywodraethu amgylcheddol newydd Cymru? A fydd fframwaith cydlynol i sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac osgoi dyblygu neu fylchau mewn gorfodi? Ac yn olaf o ran polisïau, a yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn bod y cosbau ariannol a'r meysydd gorfodi yn y Bil yn ddigonol i weithredu fel rhwystr gwirioneddol i droseddau amgylcheddol?
The Water (Special Measures) Bill does contain several provisions that could strengthen our collective efforts to reduce water pollution in Wales, particularly by enhancing the powers of regulators such as Ofwat. I'll focus first on the policies. The new framework, of course, for holding water companies to account in relation to governance and pay is a step forward, certainly in terms of improving performance and rebuilding trust in the sector.
However, I'd like to ask some questions of the Cabinet Secretary. If this passes, how does the Welsh Government envisage that this Bill will improve its ability to address ongoing concerns among the public and Senedd Members about illegal discharges of sewage by Welsh Water, particularly given the ongoing public anger about pollution in our rivers and our coastal waters? I'd also like to ask what plans are in place to ensure that the reporting requirements under clause 3, namely real-time release data, are effectively enforced. How will NRW and the Welsh Government use this data to hold companies to account?
How will the provisions of the Bill fit in with the upcoming legislation on Wales's new environmental governance body? Will there be a coherent framework to ensure robust supervision and avoid duplication or gaps in enforcement? And finally in terms of policy, does the Cabinet Secretary think that the financial penalties and enforcement measures in the Bill are sufficient to act as a genuine deterrent to environmental crimes?
There are a number of things that we agree on, Dirprwy Lywydd, in this Bill, yet we have a fundamental issue here in terms of the framing of how this has been presented here, that certain things can only be done by working with Westminster. That, we believe, is contrary to policy that has been put forward by the Government, and, as a result, we will not be supporting this, but will be abstaining in this vote.
Mae nifer o bethau yr ydym yn cytuno arnynt, Dirprwy Lywydd, yn y Bil hwn, ac eto mae yna fater sylfaenol yma o ran y ffordd y mae hyn wedi'i gyflwyno yma, mai dim ond trwy weithio gyda San Steffan y gellir gwneud rhai pethau. Mae hynny, yn ein tyb ni, yn groes i bolisi a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac, o ganlyniad, ni fyddwn yn cefnogi hyn, ond byddwn yn ymatal yn y bleidlais hon.
I agree with the comments of Delyth Jewell. I think there are many things in the draft water Bill that we would agree with, but what has been presented in the legislative consent memorandum and has been echoed, Deputy First Minister, by your comments here is not acceptable. You've said that massive change is not possible unless we work in tandem with Westminster. You said in the legislative consent memorandum that
'Water is an inherently cross-border issue'.
There are 33 river systems in Wales, and 50 main tributaries. Three of those cross the border, and five of the tributaries—10 per cent. Name me a country in Europe that doesn't have rivers that cross borders, absolutely, but they respect the fact that the democratic decision making in relation to those watercourses lies within the nations. The statement that you've made in the legislative consent memorandum that water is inherently a cross-border issue is contrary, as Delyth Jewell said, and as the Legislation, Justice and Constitution Committee have said, to your own water policy as set out in 2015, when you said that:
'Aligning the regulation of water and sewerage services with the geographical border will better enable us to integrate water within our approach to natural resource management, ensuring that we make the most of the opportunities that Wales' natural resources provide.'
That contradicts the statement that it's inherently a cross-border issue, because what you're saying there is that, actually, by bringing the power to Wales and not having this mixed responsibility, that's the best way to achieve better outcomes in terms of water quality and everything else in relation to those river systems. So, which is it, Deputy First Minister? Is it your 2015 stated policy or is that now no longer in place? You have effectively, through a Westminster Bill, changed the policy by the back door.
You've also, as the LJC committee goes on to point out, seemingly given up on the urgency of bringing complete control of water within Wales that was afforded by the 2017 Act—remember the St David's Day agreement, where it was announced that power over water was coming home to Wales? Yet you haven't yet sought to commence the powers under section 48(1) of that Act, and you now say that, because Hafren Dyfrdwy has been split off as a subsidiary company of Severn Trent, it's no longer necessary and there isn’t any immediate need to do it.
And yet the point is that there are water companies operating in Wales that are not wholly based in Wales: Severn Trent, which runs the reservoirs of the Elan valleys and exports the water to Birmingham; United Utilities, an English-based company that runs the Lake Vyrnwy reservoir, exporting water to Merseyside and Chester—and not a little bit of water, Deputy First Minister, it's around about 200 billion litres of water a year that leaves Wales and Wales does not get proper recompense for that vital resource. If we did, that money could be reinvested in improving the infrastructure of our water industry. We've just heard of the problems that people have been having to face in the last week. That's because of underinvestment, and part of the reason is that Wales has not been given a proper price for that water. Could we introduce a water levy? No, we don't have the legal power, because you haven't asked for it. Why haven't you asked for it?
I think the framing that, unfortunately, you've presented here again—. The recommendation from the committee was for you to withdraw that legislative consent memorandum, because what you've said in it is incorrect, unless you're telling us that that water policy has changed. So, has the policy changed? And can you give us a satisfactory reason why you have not sought to bring back to Wales the powers that have been offered and were promised to give us full control over our water?
Rwy'n cytuno â sylwadau Delyth Jewell. Rwy'n credu bod llawer o bethau yn y Bil dŵr drafft y byddem yn cytuno â nhw, ond nid yw'r hyn a gyflwynwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac sydd wedi'i adleisio, Dirprwy Brif Weinidog, yn eich sylwadau chi yma, yn dderbyniol. Rydych chi wedi dweud nad yw newid enfawr yn bosibl oni bai ein bod ni'n gweithio ochr yn ochr â San Steffan. Dywedoch chi yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol
'Mae dŵr yn ei hanfod yn fater trawsffiniol'.
Mae 33 o systemau afonydd yng Nghymru, a 50 o brif lednentydd. Mae tair o'r rheiny yn croesi'r ffin, a phump o'r llednentydd—10 y cant. Enwch wlad yn Ewrop nad oes ganddi afonydd sy'n croesi ffiniau, yn hollol, ond maen nhw'n parchu'r ffaith mai yn y gwledydd y mae penderfyniadau democrataidd am y cyrsiau dŵr hynny yn cael eu gwneud. Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol bod dŵr yn ei hanfod yn fater trawsffiniol yn groes, fel y dywedodd Delyth Jewell, ac fel y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i ddweud, i'ch polisi dŵr eich hun fel y nodwyd yn 2015, pan ddywedoch chi
'Bydd sicrhau bod proses reoleiddio gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cyd-fynd â'r ffin ddaearyddol yn ein galluogi i integreiddio dŵr yn well o fewn ein dull o reoli adnoddau naturiol, gan sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae adnoddau naturiol Cymru yn eu cynnig.'
Mae hynny'n groes i'r datganiad ei fod yn fater trawsffiniol yn ei hanfod, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn y fan honno yw, mewn gwirionedd, drwy ddod â'r pŵer i Gymru a pheidio â chael y cyfrifoldeb cymysg hwn, dyna'r ffordd orau o sicrhau gwell canlyniadau o ran ansawdd dŵr a phopeth arall mewn perthynas â'r systemau afonydd hynny. Felly, pa un ydyw, Dirprwy Brif Weinidog? Ai'r polisi a nodwyd gennych yn 2015 ydyw neu onid yw hwnnw'n weithredol mwyach? Rydych chi, i bob pwrpas, drwy Fil San Steffan, wedi newid y polisi drwy'r drws cefn.
Rydych chi hefyd, fel mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn mynd ymlaen i nodi, wedi rhoi'r gorau, yn ôl pob golwg, i'r brys o ddod â rheolaeth lwyr ar ddŵr yng Nghymru a roddwyd gan Ddeddf 2017—ydych chi'n cofio cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, lle cyhoeddwyd bod pŵer dros ddŵr yn dod adref i Gymru? Ac eto, dydych chi ddim wedi ceisio dechrau'r pwerau o dan adran 48(1) o'r Ddeddf honno eto, ac rydych chi'n dweud nawr, oherwydd bod Hafren Dyfrdwy wedi'i wahanu fel is-gwmni i Severn Trent, nad yw'n angenrheidiol mwyach ac nad oes angen gwneud hynny ar unwaith.
Ac eto, y pwynt yw bod yna gwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru nad ydynt wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yng Nghymru: Severn Trent, sy'n rhedeg cronfeydd dŵr cymoedd Elan ac yn allforio'r dŵr i Birmingham; United Utilities, cwmni o Loegr sy'n rhedeg cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy, gan allforio dŵr i Lannau Mersi a Chaer—a nid dim ychydig bach o ddŵr, Dirprwy Brif Weinidog, mae tua 200 biliwn o litrau o ddŵr y flwyddyn yn gadael Cymru ac nid yw Cymru'n cael ad-daliad priodol am yr adnodd hanfodol hwnnw. Pe byddem, gellid ail-fuddsoddi’r arian hwnnw i wella seilwaith ein diwydiant dŵr. Rydym newydd glywed am y problemau y mae pobl wedi gorfod eu hwynebu yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hynny oherwydd tanfuddsoddiad, a rhan o'r rheswm yw nad yw Cymru wedi cael pris priodol am y dŵr hwnnw. Allwn ni gyflwyno ardoll dŵr? Na, does ganddon ni ddim y pŵer cyfreithiol, oherwydd dydych chi ddim wedi gofyn amdano. Pam dydych chi ddim wedi gofyn amdano?
Rwy'n credu bod y ffordd rydych chi wedi fframio hyn eto, yn anffodus—. Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylech chi dynnu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwnnw yn ôl, oherwydd mae'r hyn rydych chi wedi'i ddweud ynddo yn anghywir, oni bai eich bod chi'n dweud wrthym fod y polisi dŵr hwnnw wedi newid. Felly, ydy'r polisi wedi newid? Ac allwch chi roi rheswm boddhaol i ni pam dydych chi ddim wedi ceisio dod â'r pwerau a gynigiwyd ac a addawyd i roi rheolaeth lawn i ni dros ein dŵr yn ôl i Gymru?
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.
Diolch yn fawr iawn. I'll try and address the many points that have been raised here. First of all, it is interesting to note in this debate that there seems to be a shared agenda on what we're trying to achieve here, through the outcomes of what this Bill can do. But just to clarify, this is to do with the operation of, for example, Ofwat and the Drinking Water Inspectorate, which is a shared regulatory regime that we share across England and Wales. It's important to state that at the outset, because the discussions around rivers flowing across borders is one aspect, but you rightly point out, Adam, that there are many rivers that do not flow across the borders, but the regulatory regime to which we refer, and to which this Bill is very pertinent, actually does cover England and Wales. But I'll turn to it in some more detail now.
There is a shared appreciation here, I think, in the Chamber that tackling water quality in our rivers and our seas is a matter of great public concern, and the issue is a priority. The question is how we go about doing it. One of the things that materially has changed is actually having a UK Government that invites us to the table and says, 'Would you want to actually work together, where we have a shared regulatory regime, and work together on this, and be involved in this, and engage?' That's why I have indeed worked in partnership with the UK Government in developing the measures in the Bill, and why I've agreed to extend the application of the Bill's provision to Wales, with powers for Welsh Ministers equivalent to those of the Secretary of State. And just to be clear again, the Bill is to do with supporting the enforcement of regulatory requirements in the water sector and improving water company performance. This is linked to, of course, the longer term work of cleaning up rivers, lakes and seas.
Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn ceisio mynd i'r afael â'r nifer o bwyntiau a godwyd yma. Yn gyntaf oll, mae'n ddiddorol nodi yn y ddadl hon ei bod yn ymddangos bod yna agenda a rennir o ran yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma, trwy ganlyniadau'r hyn y gall y Bil hwn ei wneud. Ond er mwyn egluro, mae hyn yn ymwneud â gweithrediad, er enghraifft, Ofwat a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, sy'n gyfundrefn reoleiddio a rennir yr ydym yn ei rhannu ledled Cymru a Lloegr. Mae'n bwysig nodi hynny ar y dechrau, oherwydd mae'r trafodaethau ynghylch afonydd yn llifo ar draws ffiniau yn un agwedd, ond rydych chi'n nodi'n gywir, Adam, fod yna lawer o afonydd nad ydyn nhw'n llifo ar draws ffiniau, ond mae'r gyfundrefn reoleiddio yr ydym yn cyfeirio ati, ac y mae'r Bil hwn yn berthnasol iawn iddi, yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Ond fe drof ato mewn mwy o fanylder nawr.
Mae gwerthfawrogiad a rennir yma, rwy'n credu, yn y Siambr bod mynd i'r afael ag ansawdd dŵr yn ein hafonydd a'n moroedd yn destun pryder mawr i'r cyhoedd, a bod y mater yn flaenoriaeth. Y cwestiwn yw sut allwn fynd ati i wneud hynny. Un o'r pethau sydd wedi newid yn sylweddol mewn gwirionedd yw cael Llywodraeth y DU sy'n ein gwahodd ni i'r bwrdd ac yn dweud, 'Fyddech chi eisiau gweithio gyda'n gilydd, lle mae gennym ni gyfundrefn reoleiddio gyffredin, a chydweithio ar hyn, a bod yn rhan o hyn, ac ymgysylltu?' Dyna pam fy mod wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i ddatblygu'r mesurau yn y Bil, a pham rwyf wedi cytuno i ymestyn cymhwyso darpariaeth y Bil i Gymru, gyda phwerau i Weinidogion Cymru sy'n cyfateb i rai'r Ysgrifennydd Gwladol. Ac i fod yn glir eto, mae'r Bil yn ymwneud â chefnogi gorfodi gofynion rheoleiddio yn y sector dŵr a gwella perfformiad cwmnïau dŵr. Wrth gwrs, mae hyn yn gysylltiedig â'r gwaith tymor hwy o lanhau afonydd, llynnoedd a moroedd.
It is absolutely true, and we acknowledge this, that the Bill has been developed at pace. We've continued to scrutinise the proposed measures and consider all the potential impacts for Wales throughout the whole progress of this Bill in Parliament. We're really very grateful to the work of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee for their consideration of this.
The timescale for the development of the Bill has been challenging. It has impacted the Senedd's timetable and the consideration of the Bill, and my office has indeed raised some of these matters with our opposite numbers in the UK Government. It is absolutely right to ensure that implementation is done in the best way for Wales. Some of the measures provided for in the Bill are likely to proceed differently between Wales and England, and we've always been very clear on that. Because while there are many commonalities, we will take the time to make sure that the implementation happens in a way that is appropriate for the different legislative and regulatory contexts in Wales and allows—the question that was asked—for the proper consultation of Welsh stakeholders.
But to be absolutely clear, this Bill offers positive changes, it supports our overall aim to reduce water pollution in Wales, it legislates on a range of issues and policy matters that the UK Government and the Welsh Government share—clear aims and objectives; that hasn't always been the situation. And yes, the devolution settlement in relation to water is complex, but the Senedd and Welsh Ministers have extensive functions within what is, in effect, a largely shared regulatory regime. I specifically mentioned that both the economic regulator, Ofwat, and the Drinking Water Inspectorate cover England and Wales. But this approach here, this opportunity here, with the Bill introduced in Parliament, is an effective solution to meet wider policy objectives that we share.
We have worked hard to maximise the Senedd consideration of the Bill despite the accelerated timescale that I mentioned. We've tried to ensure that the Senedd has the opportunity to consider and vote on the Bill before Report Stage in the House of Commons, to ensure that the views here can be considered substantively during those Commons procedures. I understand this is not an optimal situation. It's not optimal for Senedd committees to consider and scrutinise and report on the Bill. I'm happy to consider any comments and concerns committees may have, as we do, through correspondence, and so on.
But due to the operation of the water sector and the cross-border nature of these water bodies, a Bill introduced in the UK Parliament is an effective solution to meet our shared goals. We share those similar challenges when it comes to the health of some of our water bodies in Wales and England. So, working collaboratively in addressing these challenges is an effective and also a practical solution. Improving water quality is a key priority of this Government. Strengthening the powers of water sector regulators, which is the objective of this Bill, will contribute to that goal. We share the same policy objectives, we can work here collaboratively with the UK Government. It is an efficient and an effective way of utilising our resources. This Bill enables us to deliver benefits for Wales without negatively impacting issues we're looking to deliver elsewhere, or our own agenda within the water sphere.
I've got to say that this Bill demonstrates very early collaborative action on water quality between the Welsh and UK Governments. The Bill was initiated by the UK Government, but they sought immediately our inclusion in the Bill. Welsh Ministers and officials were fully engaged with developing and refining the proposals, right from the early stages. It was up to us as to whether we got involved, and we were intimately, and are intimately, involved. All of the clauses of the Bill have been assessed from a Welsh policy perspective. They've been considered by our legal advisers.
The Bill has been brought forward at speed, hence the assessment of the measures and the development of the implementation plan are ongoing. We keep involved with that. The pace of the Bill—stakeholder involvement has been mentioned, Dirprwy Lywydd—did not allow for formal pre-legislative consultation by either Government—either Government—however, our officials have been engaging with key stakeholders, such as NRW, Ofwat and the Drinking Water Inspectorate, as has the UK Government, and the Bill provides us with framework powers that will be required to be enacted via secondary legislation. There will be close stakeholder engagement, and, depending on the legislative requirements, public consultation on the proposed statutory instruments and the guidance issued under the Bill, which is partly why we're implementing these secondary measures independently of the UK Government.
The measures of the Bill, as I mentioned, were all considered from a Welsh perspective, including, by the way, as I mentioned before, the not-for-profit model of Dŵr Cymru Welsh Water. This will continue to be the case during the implementation phases of the provisions of the Bill post Royal Assent, if it receives Royal Assent. The implementation of some of the measures provided in the Bill is likely to proceed, as I've said, differently for Wales than for England, reflecting things like the different governance model of Dŵr Cymru here in Wales, and, for instance—and, for instance—the fact that Wales is far ahead of England on installation of event duration monitoring on combined sewer overflows and emergency overflows. So, that is important to note as well.
So, finally, Dirprwy Lywydd—[Interruption.]
Mae'n hollol wir, ac rydym yn cydnabod hyn, fod y Bil wedi'i ddatblygu'n gyflym. Rydym wedi parhau i graffu ar y mesurau arfaethedig ac ystyried yr holl effeithiau posibl i Gymru drwy gydol hynt y Bil hwn yn y Senedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith wrth ystyried hyn.
Mae'r amserlen ar gyfer datblygu'r Bil wedi bod yn heriol. Mae wedi effeithio ar amserlen y Senedd a'r gwaith o ystyried y Bil ac, yn wir, mae fy swyddfa wedi codi rhai o'r materion hyn gyda'n gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Mae'n gwbl gywir sicrhau bod y gweithredu'n cael ei wneud yn y ffordd orau i Gymru. Mae rhai o'r mesurau y darperir ar eu cyfer yn y Bil yn debygol o symud ymlaen yn wahanol rhwng Cymru a Lloegr, ac rydym bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Oherwydd er bod llawer o bethau yn gyffredin, byddwn yn cymryd yr amser i sicrhau bod y gweithredu'n digwydd mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer y gwahanol gyd-destunau deddfwriaethol a rheoleiddiol yng Nghymru ac yn caniatáu—y cwestiwn a ofynnwyd—ar gyfer ymgynghori'n briodol â rhanddeiliaid yng Nghymru.
Ond i fod yn gwbl glir, mae'r Bil hwn yn cynnig newidiadau cadarnhaol, mae'n cefnogi ein nod cyffredinol i leihau llygredd dŵr yng Nghymru, mae'n deddfu ar ystod o faterion a materion polisi y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu rhannu—nodau ac amcanion clir; nid felly y mae hi wedi bod bob amser. Ac ydy, mae'r setliad datganoli mewn perthynas â dŵr yn gymhleth, ond mae gan y Senedd a Gweinidogion Cymru swyddogaethau helaeth o fewn yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn gyfundrefn reoleiddio a rennir i raddau helaeth. Soniais yn benodol fod y rheoleiddiwr economaidd, Ofwat, a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Ond mae'r dull hwn yn y fan yma, y cyfle hwn yn y fan yma, gyda'r Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd, yn ateb effeithiol i gyflawni amcanion polisi ehangach yr ydym yn eu rhannu.
Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y Senedd yn rhoi cymaint o ystyriaeth â phosibl i'r Bil er gwaethaf yr amserlen ar garlam y soniais amdani. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y Senedd yn cael cyfle i ystyried a phleidleisio ar y Bil cyn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau bod y safbwyntiau yma yn gallu cael eu hystyried mewn ffordd ystyrlon yn ystod y gweithdrefnau hynny yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n deall nad yw hon yn sefyllfa ddelfrydol. Nid yw'n ddelfrydol i bwyllgorau'r Senedd ystyried a chraffu ac adrodd ar y Bil. Rwy'n hapus i ystyried unrhyw sylwadau a phryderon a all fod gan bwyllgorau, fel y gwnawn ni, trwy ohebiaeth, ac yn y blaen.
Ond oherwydd gweithrediad y sector dŵr a natur drawsffiniol y cyrff dŵr hyn, mae Bil a gyflwynir yn Senedd y DU yn ateb effeithiol i gyflawni'r nodau a rennir gennym. Rydym yn rhannu'r heriau tebyg hynny o ran iechyd rhai o'n cyrff dŵr yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae cydweithio i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn ddatrysiad effeithiol ac ymarferol hefyd. Mae gwella ansawdd dŵr yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Bydd cryfhau pwerau rheoleiddwyr y sector dŵr, sef amcan y Bil hwn, yn cyfrannu at y nod hwnnw. Rydym yn rhannu'r un amcanion polisi, gallwn ni gydweithio yma â Llywodraeth y DU. Mae'n ffordd effeithlon ac effeithiol o ddefnyddio ein hadnoddau. Mae'r Bil hwn yn ein galluogi i ddarparu buddion i Gymru heb effeithio'n negyddol ar faterion yr ydym yn bwriadu eu cyflawni mewn mannau eraill, neu ein hagenda ein hunain o fewn y maes dŵr.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Bil hwn yn dangos camau cydweithredol cynnar iawn ar ansawdd dŵr rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cafodd y Bil ei gychwyn gan Lywodraeth y DU, ond fe wnaethon nhw ofyn am ein cynnwys yn y Bil ar unwaith. Cymerodd Gweinidogion a swyddogion Cymru ran lawn yn y gwaith o ddatblygu a mireinio'r cynigion, yn syth o'r camau cynnar. Mater i ni oedd p'un a fyddem yn cymryd rhan, ac roeddem ni ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos. Mae holl gymalau'r Bil wedi cael eu hasesu o safbwynt polisi Cymru. Maent wedi cael eu hystyried gan ein cynghorwyr cyfreithiol.
Mae'r Bil wedi cael ei gyflwyno'n gyflym, ac felly mae'r asesiad o'r mesurau a'r gwaith o ddatblygu'r cynllun gweithredu yn parhau. Rydym yn parhau i ymwneud â hynny. Nid oedd cyflymder y Bil—mae cynnwys rhanddeiliaid wedi cael ei grybwyll, Dirprwy Lywydd—yn caniatáu ar gyfer ymgynghoriad cyn-ddeddfwriaethol ffurfiol gan y naill Lywodraeth na'r llall—y naill Lywodraeth neu'r llall—fodd bynnag, mae ein swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, fel y mae Llywodraeth y DU, ac mae'r Bil yn rhoi pwerau fframwaith i ni y bydd yn ofynnol eu deddfu drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd ymgysylltu agos â rhanddeiliaid, ac, yn dibynnu ar y gofynion deddfwriaethol, ymgynghoriad cyhoeddus ar yr offerynnau statudol arfaethedig a'r canllawiau a gyhoeddir o dan y Bil, a dyna'n rhannol pam ein bod ni'n gweithredu'r mesurau eilaidd hyn yn annibynnol ar Lywodraeth y DU.
Cafodd holl fesurau'r Bil, fel y soniais i, eu hystyried o safbwynt Cymru, gan gynnwys, gyda llaw, fel y soniais i o'r blaen, fodel nid-er-elw Dŵr Cymru. Bydd hyn yn parhau yn ystod camau gweithredu darpariaethau'r Bil ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, os bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'n debygol y bydd gweithredu rhai o'r mesurau a ddarperir yn y Bil yn mynd rhagddo, fel y dywedais i, yn wahanol i Gymru o gymharu â Lloegr, gan adlewyrchu pethau fel model llywodraethu gwahanol Dŵr Cymru yma yng Nghymru, ac, er enghraifft—ac, er enghraifft—y ffaith bod Cymru ymhell ar y blaen i Loegr o ran monitro hyd digwyddiadau ar orlifoedd carthffosiaeth gyfun a gorlifoedd argyfwng. Felly, mae hynny'n bwysig i'w nodi hefyd.
Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]
No, sorry. There were lots of questions raised.
Na, mae'n ddrwg gennyf. Codwyd llawer o gwestiynau.
You've had more than your ample time.
Rydych chi wedi cael hen ddigon o amser.
Strengthening the powers of water sector regulators, which is the fundamental objective of this Bill, will contribute to achieving our goals. It'll bring positive changes. So, in putting this forward today, on balance, because of the way the water sector works, the cross-border nature of not just our water bodies, but the regulatory regime, a Bill introduced in the UK Parliament is an effective solution to meet wider and shared policy objectives. We share the same goals in improving water quality and the resilience of the water sector. So, Dirprwy Lywydd, the legislation is timely, the measures, as have been pointed out, are much needed, and therefore I recommend that the Senedd supports the proposals and gives its consent.
Bydd cryfhau pwerau rheoleiddwyr y sector dŵr, sef amcan sylfaenol y Bil hwn, yn cyfrannu at gyflawni ein nodau. Bydd yn dod â newidiadau cadarnhaol. Felly, wrth gyflwyno hyn heddiw, at ei gilydd, oherwydd y ffordd y mae'r sector dŵr yn gweithio, natur drawsffiniol nid yn unig ein cyrff dŵr, ond y gyfundrefn reoleiddio, mae Bil a gyflwynir yn Senedd y DU yn ddatrysiad effeithiol i gyflawni amcanion polisi ehangach a rennir. Rydym yn rhannu'r un nodau o ran gwella ansawdd dŵr a gwydnwch y sector dŵr. Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r ddeddfwriaeth yn amserol, mae gwir angen y mesurau, fel y nodwyd eisoes, ac felly rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei chydsyniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I did hear an objection. I will therefore defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Eitem 14 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Dawn Bowden.
Item 14 is the motion to vary the order of consideration of Stage 3 amendments to the Health and Social Care (Wales) Bill. I call on the Minister for Children and Social Care to move the motion. Dawn Bowden.
Cynnig NDM8788 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 2-13;
b) Adran 1;
c) Adrannau 14-22;
d) Atodlen 1;
e) Adrannau 24-25;
f) Atodlen 2;
g) Adran 26;
h) Adran 23;
i) Adrannau 27-30;
j) Teitl Hir.
Motion NDM8788 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 26.36:
Agrees to dispose of sections and schedules to the Health and Social Care (Wales) Bill at Stage 3 in the following order:
a) Sections 2-13;
b) Section 1;
c) Sections 14-22;
d) Schedule 1;
e) Sections 24-25;
f) Schedule 2;
g) Section 26;
h) Section 23;
i) Sections 27-30;
j) Long title.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
I formally move the motion, Dirprwy Lywydd. And I've nothing to say in moving the motion, but reserve my right of reply if there are any speakers. Thank you.
Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd. Ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ddweud wrth gynnig y cynnig, ond cadwaf fy hawl i ateb os oes unrhyw siaradwyr. Diolch.
There are no speakers, so there is no need to reply.
Does dim siaradwyr, felly does dim angen ateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will move immediately to voting time.
Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 11, rheoliadau treth trafodiadau tir. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
The first vote this evening will be on item 11, the land transaction tax regulations. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 37, no abstentions, 10 against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 11. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 11. The Land Transaction Tax (Tax Bands and Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2024: For: 37, Against: 10, Abstain: 0
Motion has been agreed
Bydd y bleidlais olaf heddiw ar eitem 13, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil dŵr. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
The final vote this evening is on item 13, the legislative consent motion on the Water (Special Measures) Bill. Open the vote. Close the vote. In favour 37, no abstentions, and none against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Dŵr (Mesurau Arbennig): O blaid: 37, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Item 13. Legislative Consent Motion: The Water (Special Measures) Bill: For: 37, Against: 0, Abstain: 10
Motion has been agreed
A daw hynny â busnes heddiw i ben.
That brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:50.
The meeting ended at 19:50.