Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/12/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Wrth inni gychwyn y prynhawn yma, fe wnaf i gychwyn trwy longyfarch ein tîm pêl-droed menywod ni neithiwr wrth iddyn nhw gael buddugoliaeth ardderchog yn Nulyn a sicrhau eu lle, wrth gwrs, yn Euro 2025, y flwyddyn nesaf. Fe fyddwn ni i gyd yna yn eu cefnogi nhw ar hyd y daith hanesyddol yma y maen nhw wedi’i chyflawni yn ystod y cyfnod diweddaraf yma.

A chyn imi symud ymlaen at yr eitem gyntaf o fusnes, dwi hefyd eisiau croesawu y prynhawn yma i'r Cyfarfod Llawn, ac mae'n bleser i wneud hynny, ddirprwyaeth o Senedd Catalunya i'r Senedd heddiw. Croeso i lywydd y Senedd hynny, Josep Rull, ac i bum aelod etholedig arall o Senedd Catalunya sydd yn rhan o’r ddirprwyaeth heddiw.

És un plaer donar la benvinguda al president del Parlament de Catalunya i als membres de la Mesa que l'acompanyen. Per nosaltres és un orgull mantenir aquesta relació de solidaritat entre el Parlament de Gal·les i el Parlament de Catalunya. [Cymeradwyaeth.]

Catalaneg—tic.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Eitem gyntaf ein busnes ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.

Y Sector Rhentu Preifat

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi tenantiaid yn y sector rhentu preifat? OQ61982

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tenantiaid yn y sector rhentu preifat drwy amrywiaeth o fesurau. Mae hyn yn cynnwys cynnig grantiau i denantiaid sy'n wynebu caledi, cyflawni newidiadau deddfwriaethol i wella safonau a hawliau tenantiaid, a chynnig mwy o sicrwydd a fforddiadwyedd drwy Gynllun Lesio Cymru.

Diolch am yr ateb.

Mae Cymal 2 yn y Bil Hawliau Rhentwyr, sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd, yn diddymu tenantiaethau byrddaliadol ac yn gwahardd troi allan heb fai yn Lloegr. Mae gwybodaeth gan Shelter Cymru yn dangos bod troi allan heb fai yn dal i ddigwydd yn aml yng Nghymru, er bod angen rhybudd o chwe mis a bod yn rhaid i'r landlord sicrhau bod amodau penodol wedi'u bodloni. Pan oedd troi allan heb fai yn cael ei drafod yng Nghymru gyntaf, roedd yna bryder, pe bai'n cael ei wahardd yma, y byddai landlordiaid yn mudo i Loegr. A yw’r Gweinidog wedi gallu gwneud unrhyw ddadansoddiad o’r rhyngweithio rhwng y gyfraith fel y bydd yn Lloegr ac fel y mae yng Nghymru ar hyn o bryd?

Diolch am y cwestiwn, Julie. Gan fod y darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr yn destun gwelliannau wrth i’r Bil fynd drwy Senedd y DU, byddai'n gynamserol cynnal dadansoddiad o’r rhyngweithio rhwng y gyfraith yng Nghymru a Lloegr hyd nes y bydd y cyfnodau olaf hynny wedi dod i ben. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae’r Bil yn nodi seiliau penodol sydd ar gael i landlord sy’n dymuno adennill meddiant o eiddo. Bydd y cyfnod rhybudd yn amrywio yn dibynnu ar y seiliau a ddefnyddir—o bedwar mis i gyn lleied â phythefnos.

Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, credaf fod gennym y dull gweithredu cywir yma yng Nghymru, oherwydd, ym mhob system, bydd landlordiaid yn dal i allu cyflwyno hysbysiad mewn amgylchiadau lle nad yw’r tenant ar fai. Rydym wedi canolbwyntio ar gyfnodau rhybudd estynedig i alluogi mwy o amser i denantiaid gynllunio. Ac o fewn hynny, dyna y gwyddom fod tenantiaid am ei weld o ran yr hyn sy'n bwysig iddynt, sef cael amser i gynllunio, a chredaf fod hynny'n iawn gennym ni yma yng Nghymru.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw, oherwydd wrth gwrs, mae sicrwydd tenantiaeth yn wirioneddol bwysig i denantiaid ledled Cymru. Ond dro ar ôl tro, mae arolygon yn dangos mai'r sicrwydd mwyaf y mae pobl yn dymuno ei gael yw'r gallu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Dyna'r ffordd y gallwn sicrhau bod gan bobl y sicrwydd o alw rhywle'n gartref—drwy gael eu cartref eu hunain y gallant fod yn berchen arno. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu eich cynlluniau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn gallu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, gan sicrhau bod tai'n cael eu hadeiladu fel bod pobl yn gallu gwneud hynny'n gynt yn lle'n hwyrach.

Diolch am eich cwestiwn, Sam. Credaf fod gennym ffocws cryf ar dai cymdeithasol yma yng Nghymru, ac rydym yn amlwg yn gweithio'n galed tuag at hynny. Ac mae gennym—gwn ei fod yn codi'n aml yn y Siambr—dai cydweithredol hefyd, a phethau o'r fath. Ond yn sicr, mae'n bwysig ein bod hefyd yn adeiladu tai yma yng Nghymru. Gwyddom fod hynny'n opsiwn ac mai dyna y mae llawer o bobl yn dymuno ei weld. Ac rydym hefyd wedi ceisio annog hynny drwy gynlluniau fel Cymorth i Brynu, ac yn wir, ein cynllun arall, sef Cymorth i Aros, pan fo pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu taliadau morgais. Felly, mae gennym ddau gynllun yno i annog hynny. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth rwy'n edrych arno, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â datblygwyr yma yng Nghymru hefyd maes o law.

13:35

O'r diwedd, fe ddaeth y Papur Gwyn hirddisgwyliedig ar yr hawl i dŷ digonol. Ond, mae o'n un hynod siomedig a gwan, nid yn unig am nad oes yna gynigion i ddeddfu yng Nghymru i greu hawl sylfaenol i gartref digonol, ond am nad oes yna chwaith gynigion i greu system ar gyfer rhentu fforddiadwy yn y sector breifat, er bod pobl ar incwm isel yng Nghymru yn gwario cyfran fwy o'u cyflog ar rent nag yn unman arall yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Felly, wrth i chi ymgynghori ar y Papur Gwyn, a wnewch chi hefyd archwilio rheoli rhentu yn y sector preifat? Mae o'n digwydd ar draws Ewrop, ac ar draws y byd, ac mae o'n digwydd yn y sector tai cymdeithasol yn barod yng Nghymru, wrth gwrs.

Diolch am eich cwestiwn, Siân. Fel y dywedoch chi, mae gennym ein Papur Gwyn. A hoffwn nodi unwaith eto fy mod yn gwbl gefnogol i'r egwyddor gyffredinol y dylai pawb allu cael mynediad at dai digonol; mae'n anghenraid dynol sylfaenol fod gan bobl gartref digonol. Y mater rydym yn ymdrin ag ef yw sut rydym yn darparu’r tai digonol hynny i bawb, ac mae angen inni roi’r camau ymarferol hynny ar waith sy’n ein harwain at y nod hwnnw, sef tai digonol i bawb, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n siŵr fod pob un ohonom yma yn ei rannu. Mae angen inni ddatblygu’r system dai honno fel ein bod mewn sefyllfa lle gallwn sicrhau bod gan bawb fynediad at dai digonol, a bydd hynny’n cymryd amser.

O ran rheoli rhenti, mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar reoli rhenti yn y sector rhentu preifat yn dangos y byddai mesurau o'r fath yn debygol o fod yn aneffeithiol neu hyd yn oed yn cael effeithiau negyddol ar fforddiadwyedd. Ond fel y cyfryw, ac fel y nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym, nid ydym yn bwriadu cyflwyno mesurau rheoli rhenti cenedlaethol ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach eleni, holais eich rhagflaenydd ynglŷn â mater eiddo rhent sy'n croesawu anifeiliaid anwes. Mae gan hanner ein haelwydydd anifeiliaid anwes, ac eto dim ond 7 y cant o eiddo rhent sy'n cael eu hysbysebu fel rhai sy'n croesawu anifeiliaid anwes, felly nid yw'n syndod mai dyma un o'r rhesymau mwyaf cyffredin y mae pobl yng Nghymru yn cael eu gorfodi i roi eu hanifeiliaid anwes i ganolfannau achub, sy'n llawn a thros gapasiti. Mae’r effaith emosiynol y mae hyn yn ei chael ar y perchnogion a’r anifeiliaid anwes yn enfawr, ac yn enghraifft arall eto o sut y mae pobl na allant fforddio prynu eu cartref eu hunain yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol mewn bywyd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon gweithio gyda sefydliadau fel RSPCA Cymru, Dogs Trust a Cats Protection i sicrhau bod y ddeddfwriaeth briodol ar waith i gefnogi perchnogion a darpar berchnogion anifeiliaid anwes?

Diolch, Carolyn. Gwn fod hyn yn rhywbeth a godwyd gennych dros fisoedd lawer, a blynyddoedd bellach, mwy na thebyg. Gwn pa mor angerddol y teimlwch ynglŷn â hyn. Rydym wedi nodi ein cynigion yn y Papur Gwyn ar dai digonol i wella hygyrchedd i'r sector rhentu preifat i'r rhai sy'n dymuno rhentu gydag anifail anwes. Yn ddiweddar, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Cats Protection, Dogs Trust a’r RSPCA i drafod y cynigion yn ein Papur Gwyn a’r darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr ynghylch yswiriant anifeiliaid anwes. Roeddwn yn falch iawn o glywed yn uniongyrchol ganddynt. Maent wedi croesawu'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ac rwyf wedi eu hannog i ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, a bydd hynny’n llywio ein camau nesaf.

Tai Cydweithredol yn Abertawe

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am adeiladu tai cydweithredol yn Abertawe? OQ61960

Diolch, Mike. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad tai cydweithredol a thai a datblygiadau a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. Mae ein rhaglen gymorth, a ddarperir gan Cwmpas, yn gweithio gyda grwpiau tai a arweinir gan y gymuned ledled Cymru, gan gynnwys Dream Home Swansea, Cyd-drigo Abertawe ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr.

Hoffwn sôn am Cyd-drigo Abertawe, a’u cenhadaeth yw darparu cyd-drigfannau amlgenhedlaeth, cynaliadwy a chynhwysol. Maent yn cydnabod bod pobl yn hapusach ac yn iachach pan fydd ganddynt ymdeimlad o berthyn. Mae hyn, yn ei dro, yn hybu gofal am gymdogaethau a chyfranogiad gweithredol gan gymunedau yn eu hamgylchedd lleol. Mae ganddynt gymdeithas budd cymunedol ac ymddiriedolaeth tir cymunedol, gyda thîm amlsgiliau, y mae eu profiad amrywiol yn cwmpasu prosiectau tai a busnesau, gan gynnwys cynlluniau cyd-drigo eraill, dylunio ac adnewyddu adeiladau a rheoli prosiectau. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch ac rwy’n gefnogol iawn iddo. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth pellach i brosiectau fel hyn, ac a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet groesawu’r prosiect hwn?

13:40

Diolch yn fawr, Mike, ac unwaith eto, diolch am godi’r mater hwn, y gwn ei fod yn rhywbeth sy’n agos iawn at eich calon. Mae’n rhaid i dai cymdeithasol fod yn brif flaenoriaeth i ni ar gyfer darpariaeth tai yng Nghymru, ond rydym bob amser wedi dweud yn glir fod gan dai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned ran bwysig i’w chwarae yn yr ateb tai yng Nghymru. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gynyddu'r nifer o brosiectau tai a arweinir gan y gymuned a thai cydweithredol yw darparu cymorth i bobl a chanddynt ddiddordeb mewn sefydlu’r mentrau hynny. Ac rydym yn darparu cymorth drwy Cwmpas, sydd wedi'i gynllunio i wneud yn union hynny. Ac rwy’n falch fod rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi yn cefnogi 49 o grwpiau gweithredol ledled Cymru ar hyn o bryd, gyda bwriad i ddarparu 314 o gartrefi fforddiadwy a arweinir gan y gymuned. Yn fy ateb cychwynnol, cyfeiriais at rai o’r prosiectau sydd ar y gweill yn Abertawe, Mike, a hoffwn achub ar y cyfle i ddymuno pob llwyddiant iddynt yn hynny o beth.

Rydym yn parhau i gefnogi grwpiau tai cydweithredol a grwpiau tai a arweinir gan y gymuned sy’n dymuno datblygu cartrefi newydd i gael mynediad at ein rhaglen grant tai cymdeithasol, lle maent yn partneru â landlord cymdeithasol cofrestredig. Ar hyn o bryd, mae pedwar grŵp yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gael mynediad at grantiau tai cymdeithasol. Gall grwpiau tai a arweinir gan y gymuned gael mynediad at y rhaglen grant cartrefi gwag yn ogystal.

A gaf i ymuno â Mike Hedges i ganmol rhai o’r prosiectau tai cydweithredol sydd ar waith yn Abertawe ar hyn o bryd? Y prynhawn yma, siaradodd Mike a minnau am rai ohonynt sy’n gyffrous iawn, gan gynnwys Bôn-y-maen yn Nwyrain Abertawe, yn ardal Mike. Rwy'n credu bod tai cydweithredol yn rhan bwysig o’r cymysgedd o dai sydd ei angen arnom yma yng Nghymru, a dylem wneud popeth a allwn i hyrwyddo hynny. Rwy'n awyddus i wybod beth yw eich barn am hyn. Fe sonioch chi am fanteision tai cydweithredol yn eich ateb i Mike, ond yr hyn na sonioch chi amdano oedd sut y bwriadwch dyfu’r sector penodol hwn. Fe sonioch chi am 49 o brosiectau cyfredol ledled Cymru, ond yr hyn na chlywsom—ar raddfa, os mynnwch, y prosiectau sydd ar waith yng Nghymru, mae'n gyfran eithaf bach—oedd y cynllun ar gyfer twf yn y maes hwn, fel y gellir cynnal mwy o brosiectau a arweinir gan y gymuned mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Felly, hoffwn wybod sut y bwriadwch dyfu’r sector hwn.

Diolch am hynny, Tom. Ac fel y dywedais, mae prosiectau gwirioneddol gyffrous ar y gweill yn Abertawe a ledled Cymru. Mae gennym hanes fel Llywodraeth Cymru o gefnogi tai cydweithredol yng Nghymru—ac nid yn unig ni fel y Llywodraeth, ond y Senedd gyfan. Ac mae’r gefnogaeth honno’n dyddio’n ôl i 2010, gyda phrosiect cymunedol llwyddiannus ger fy etholaeth i—mae yn etholaeth John Griffiths—o'r enw Gardd Loftus, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld sut y mae'r prosiect hwnnw wedi datblygu dros y blynyddoedd hynny.

Fel y dywedaf, un o’r ffyrdd gorau, a'r ffyrdd cryfaf y gallwn greu hynny, ac annog y twf hwnnw, yw drwy ddatblygu a chefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned i ddwyn ffrwyth. Felly, dyna pam ein bod yn buddsoddi ac yn cefnogi Cwmpas yn y rôl honno, ac rydym yn annog pobl sydd â diddordeb i gysylltu â Cwmpas, gan eu bod wedi bod yn cefnogi’r prosiectau hynny—y rhai rwyf wedi sôn amdanynt. Er enghraifft, gwn eu bod wedi bod yn cefnogi Dream Home Swansea, sy’n brosiect hynod ddiddorol, ac maent wrthi’n trafod gyda’r awdurdod lleol, a phartner landlord cymdeithasol cofrestredig posibl, gyda phobl ifanc, ac rwy'n credu eu bod yn cynnal eu digwyddiad lansio ar 10 Rhagfyr. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd, a phan allwn daflu goleuni ar y prosiectau gwirioneddol lwyddiannus a welwn, bydd hynny'n annog mwy o'r datblygu hwnnw. Ond rydym yn buddsoddi drwy Cwmpas i gefnogi tai a arweinir gan y gymuned.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr heddiw, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r heriau a wynebir gan lywodraeth leol yw’r setliadau echrydus o wael, a dweud y gwir, y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i gynghorau lleol yn y blynyddoedd diwethaf. Ac mae hynny wedi arwain, wrth gwrs, at gynnydd aruthrol sy’n fwy na chwyddiant yn y dreth gyngor i lawer o drethdalwyr. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, gyda’ch cyd-Aelod o'r Cabinet, Gweinidog y Cabinet dros gyllid, i gadw’r dreth gyngor i lawr y flwyddyn nesaf?

13:45

Diolch am eich cwestiwn, Darren. Mae hwn, yn amlwg, yn gwestiwn amserol, a ninnau'n siarad ac yn edrych ar gyllidebau, nid yma yn y Senedd yn unig, mae llywodraeth leol yn canolbwyntio’n agos iawn ar hynny yn amlwg. Un o’r pethau yr hoffwn ddweud yw fy mod wedi bod yn awyddus iawn ers dechrau yn y swydd hon i gyfarfod yn rheolaidd ag aelodau cabinet llywodraeth leol, ond hefyd arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol—yn bersonol ac mewn grwpiau. Credaf ei bod yn bwysig iawn clywed ganddynt yn uniongyrchol. Rwy'n clywed am yr anawsterau dros 14 mlynedd o gyni.

Gwn eich bod yn hoffi beio'r pethau hyn ar gyni, ond chi sy'n gyfrifol am gyllideb Llywodraeth Cymru, neb arall. Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n torri'r gacen o ran y cyllid a ddaw i chi. A hoffwn eich atgoffa, eleni, fod eich setliad chi yn dal i fod ar y lefelau uchaf erioed. Gwn nad ydych yn hoffi cyfaddef hynny na dweud hynny, ond dyna'r gwir. Gwyddom y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu’n eithaf sylweddol o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rwy’n siŵr y byddai pob un ohonom yn croesawu rhywfaint o gyllid ychwanegol, ond pa asesiad a wnaethoch o effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol, a pha gyfran o hynny y byddwch chi'n gallu ei gwrthbwyso â chynnydd, gan na allwch roi ag un llaw a chymryd gyda'r llall?

Diolch. Yn amlwg, byddem yn dweud ein bod wedi cael setliad da gan Lywodraeth y DU, gyda’r £1.7 biliwn dros ddwy flynedd, ond mae materion cyflog ynghlwm wrth hynny hefyd, yn amlwg. Felly, nid yw un gyllideb yn mynd i newid popeth; rydym wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn dweud hynny. Ond yn amlwg, credaf mai ein neges i awdurdodau lleol yw ein bod yn gobeithio bod hyn yn ddechrau ar gyfeiriad, gan y gwyddom, ar ôl 14 mlynedd o gyni—a chredaf fod awdurdodau lleol yn gwybod yn iawn ein bod ni, yng Nghymru, wedi gwneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn drwy'r cyfnod hwnnw o gyni—eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn oherwydd hynny. Ac fel y dywedaf, rwy'n clywed—gan fy mod yn siarad â hwy'n rheolaidd, gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol yma—am yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Ar yswiriant gwladol, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei godi gyda mi yn fy nghyfarfodydd gydag awdurdodau lleol, a gallaf roi sicrwydd i chi, fel rwyf wedi'i roi i arweinwyr y cynghorau a’r prif weithredwyr, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn cael trafodaethau agos â swyddogion y Trysorlys hefyd, a swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghylch y mater yswiriant gwladol, oherwydd yn amlwg, fe fyddwch yn gwybod ei bod yn dreth sydd heb ei datganoli.

Edrychwch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae trethdalwyr ledled Cymru wedi gweld cynnydd dau ddigid yn eu treth gyngor yn y blynyddoedd diwethaf, ac eto, mae eu gwasanaethau biniau wedi'u torri—yn sir Ddinbych, maent wedi gweld sbwriel yn pentyrru fel y gaeaf o anniddigrwydd yn y 1970au—rydym wedi gweld llyfrgelloedd yn cau ac oriau’n cael eu torri, rydym wedi gweld cyfleusterau cyhoeddus yn cau eu drysau, rydym wedi gweld taliadau parcio ceir yn cynyddu, rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn methu buddsoddi yn y seilwaith i ddiogelu eu cymunedau rhag llifogydd ychwaith. Felly, mae angen i rywbeth newid.

Mae’n amlwg nad oes gennych unrhyw syniad faint y bydd yn ei gostio i awdurdodau lleol o ran y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ac nad oes gennych ateb i’w roi i'r Senedd ar hynny. Ond un mecanwaith sydd gan bobl yn Lloegr i allu sicrhau bod eu hawdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am y dreth gyngor y maent yn ei thalu yw ei bod yn ofynnol cynnal refferenda lleol pan gynigir cynnydd gormodol yn y dreth gyngor. A yw hynny’n rhywbeth y byddwch yn rhoi’r cyfle i bleidleiswyr Cymru ei gael pan gynigir cynnydd gormodol yn y dreth gyngor yma yng Nghymru yn y dyfodol? Oherwydd a dweud y gwir, mae'r cyhoedd yn teimlo eu bod yn cael eu twyllo ar hyn o bryd, ac nid yw'n ddigon da.

Diolch am hynny. Fel y gwyddoch, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn rhydd i osod ei dreth gyngor ei hun i ddiwallu anghenion lleol a’i flaenoriaethau, ac mae’n atebol i’r etholwyr lleol am y penderfyniad y mae’n ei wneud. Mae’n rhan o’r broses o osod y gyllideb ar gyfer pob awdurdod lleol. Nid oes gennym refferenda ar y dreth gyngor yng Nghymru. Nid yw trefniadau o’r fath yn caniatáu’r graddau o ddisgresiwn sy’n bodoli yn y system bresennol ar gyfer Cymru, sy’n rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i awdurdodau lleol gynllunio a rheoli eu cyllidebau’n fwy effeithiol. Mae cymhlethdod a chost cynnal refferenda yn rhoi baich ychwanegol ar adnoddau awdurdodau lleol, a fyddai, yn fy marn i, yn gwaethygu'r pwysau a wynebir ganddynt yn y pen draw. Rwy’n deall bod unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn annerbyniol i gymunedau lleol. Mae'n ffynhonnell bwysig o gyllid i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu'n llwyr arnynt i'w darparu. Felly, rwy’n parhau i annog awdurdodau lleol i ystyried aelwydydd sydd dan bwysau wrth wneud y penderfyniadau hynny.

13:50

Mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yng nghyllideb yr hydref yn San Steffan yn fygythiad difrifol i ddyfodol gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf yma. Mae'r gwasanaethau yma dan bwysau sylweddol yn barod, efo ansicrwydd mawr o gwmpas y grant cymorth tai, yr housing support grant, sy'n gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn amcangyfrif bod 81 y cant o ddarparwyr yn rhedeg ar golled, a heb fwy o gyllid, bydd rhaid i rai ddiddymu eu cytundebau, a fyddai'n gadael rhai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau ni heb unrhyw fath o gefnogaeth. Os nad ydy'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn eithrio'r sector dim elw o'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, sut bydd eich Llywodraeth chi yn sicrhau bod gan y darparwyr gyllid digonol?

Diolch am eich cwestiwn, Siân. Fel y dywedais yn fy ymateb i Darren Millar, rwy'n deall pryderon, pryderon gwirioneddol, pobl yn y sector ynghylch hyn ar hyn o bryd. Fel y dywedais, gallaf roi sicrwydd i chi fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a’i swyddogion yn cael trafodaethau gyda swyddogion cyfatebol ar lefel y DU, oherwydd, fel y byddwch yn gwybod, mae hyn yn rhywbeth sydd yn eu gallu. Credaf mai un o’r pethau sydd—. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o’r llythyr a anfonwyd, yn ein hysbysu o’r pwysau a grybwylloch chi mewn perthynas â thai. Rwyf wedi'i weld fy hun, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi'i weld hefyd. Y cyfan y gallaf ei wneud yw rhoi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny’n parhau.

Yn y pen draw, wrth gwrs, er mwyn taclo digartrefedd, mae'n rhaid adeiladu mwy o dai cymdeithasol er mwyn symud pobl allan o lety dros dro yn gyflym. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad ar gyflenwad tai cymdeithasol yng Nghymru, sy'n cynnwys nifer o argymhellion allweddol ynglŷn â datrys yr argyfwng tai. Un o'r argymhellion hynny ydy'r angen i sefydlu corfforaeth datblygu genedlaethol, gyda'r grymoedd i yrru'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn ei flaen. Mae hyn yn bolisi gan Blaid Cymru ers tro, ac mae'r cam cyntaf wedi dechrau drwy sefydlu Unnos drwy'r cytundeb cydweithio, ond mae angen grymuso Unnos a'i droi'n gorfforaeth datblygu efo dannedd i daclo'r argyfwng anferth yma sydd yn y maes tai. A wnewch chi ymrwymo y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth fanwl i hyn, a rhoi ateb llawn a manwl i'r argymhelliad gan y pwyllgor tai—argymhelliad sydd wedi cael ei gefnogi gan bob plaid—yn adroddiad y pwyllgor yma?

Diolch, Siân. Hoffwn ddiolch am y gwaith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn y maes hwn, a gwn fod gan y pwyllgor ddiddordeb hirsefydlog ynddo hefyd. Felly, diolch am y gwaith a wnaed ar yr adroddiad hwnnw. Yn amlwg, gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn ystyried yr argymhellion yn ofalus iawn, ac y byddaf yn ymateb yn unol â hynny.

Toriadau Ariannol i Awdurdodau Lleol

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru rhag toriadau ariannol? OQ61994

Diolch, Altaf. Rydym yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn ein penderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio a chynnal fformiwla ariannu deg a thryloyw ar gyfer y setliad llywodraeth leol, y cytunir arno gyda llywodraeth leol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y pwysau y bydd cyllidebau awdurdodau lleol yn ei wynebu nawr o ganlyniad i'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol, heb sôn am effaith y galw cynyddol am ofal cymdeithasol, yn gadael fawr o ddewis i gynghorau ar draws fy rhanbarth ond gwneud toriadau i wasanaethau hanfodol eraill. Oni allwch dynnu cwningen o'r het ac ariannu awdurdodau lleol yn briodol yng nghyllideb yr wythnos nesaf, y gwir amdani yw y bydd yn rhaid i gynghorau wneud dewisiadau anodd ar ben y penderfyniadau y maent eisoes wedi'u gwneud, megis toriadau i staff addysgu, torri cludiant i'r ysgol a chau ystod o wasanaethau cyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod mwy o gyllid yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen ac nad yw cost cyflogau uwch yn effeithio ar wasanaethau hanfodol ein hetholwyr?

13:55

Diolch, Altaf. Rwy’n deall yn iawn fod awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud dewisiadau anodd dros y 14 mlynedd diwethaf, yn enwedig drwy'r cyfnod anodd o gyni, ac felly credaf y bydd y gyllideb hon yn gyfle, gobeithio, i unioni rhywfaint o’r anawsterau sydd wedi codi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Unwaith eto, rydych chi wedi codi mater yswiriant gwladol, ac rwy'n clywed hynny. Fel y dywedais, nid yw swyddogion Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu darparu dadansoddiad llawn o effaith y newidiadau hyn hyd nes ein bod yn deall y sefyllfa ariannol honno'n llawn. Ond fel y dywedais, gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol yn rheolaidd. Rwyf wedi ymweld â phob un ohonynt, bron, ers imi ddechrau yn y swydd, a gwn eu bod yn gorfod gwneud ac wedi bod yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny, ac rwy'n credu y byddant yn edrych yn fanwl iawn ar y gyllideb ddrafft a ddaw ar 10 Rhagfyr.

Bues i mewn cyfarfod ag arweinwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar. Dros y ddwy flynedd diwethaf maen nhw wedi gorfod gwneud gwerth £45 miliwn o doriadau, ac mae’r cyngor nawr, fel pob un arall ledled Cymru, yn cynllunio ar gyfer rhagor o doriadau dwfn ac anghynaliadwy. Mae eu costau nhw wedi cynyddu dros £20 miliwn ers y llynedd. Maen nhw hefyd yn delio, wrth gwrs, yn ein hardal ni, â’r angen i ddarparu cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer miloedd o drigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan golli miloedd o swyddi yn Tata Steel a’r gadwyn gyflenwi, a’r gymuned ehangach.

Mae angen i’r cyngor, wrth gwrs, nawr barhau i allu buddsoddi a defnyddio adnoddau i helpu ailadeiladu’r economi leol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid penodol ar gael i sicrhau bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac, efallai, awdurdodau lleol cyfagos sydd hefyd yn cael eu heffeithio, yn cael cymorth ychwanegol a digonol yn y grant refeniw i gwrdd â’r costau ychwanegol penodol yma?

Diolch, Sioned. Cyfarfûm ag arweinydd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot oddeutu mis yn ôl mewn gwirionedd, a chododd rai o'r heriau a'r materion y maent yn eu hwynebu yno. Hoffwn ddweud hefyd fod arweinwyr llywodraeth leol wedi trafod eu pwysau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a minnau yn yr is-grŵp cyllid fis diwethaf ac yng nghyfarfod yr arweinwyr ar 11 Tachwedd. Felly, mae cyfleoedd i godi rhai o’r materion hynny yno. Un o'r pethau eraill sydd wedi codi—rydych chi wedi sôn am bwysau penodol yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond mae pwysau cyffredinol hefyd y gwn fod awdurdodau lleol wedi bod yn ei wynebu o ran gofal cymdeithasol ac addysg. O ran manylion achos Castell-nedd Port Talbot, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ymhellach ynglŷn â hynny.

Cyllid ar gyfer Cymdeithasau Tai

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu cyllid y Llywodraeth ar gyfer cymdeithasau tai? OQ61981

Diolch, Mabon. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol sylweddol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy grantiau a benthyciadau cost isel. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion polisi, gan gynnwys cynyddu’r cyflenwad tai, cynnal a chadw a gwella’r stoc bresennol, datgarboneiddio a diogelwch adeiladau. Eleni, byddwn yn cefnogi'r sector gyda chyllid amcangyfrifedig o fwy na £450 miliwn.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet. Dŷch chi wedi sôn am y gwaith sydd yn ddisgwyliedig gan y cymdeithasau tai. Wrth gwrs, mae safon ansawdd tai Cymru 2 yn dod i mewn rŵan, sydd yn llawer iawn mwy uchelgeisiol, ac mae'r disgwyliadau i gyrraedd yr ansawdd yna mewn amser llawer llai na beth oedd safon ansawdd tai Cymru 1. Ond ar ben hynny, wrth gwrs, mae yna ofynion i gymdeithasau tai adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Mae yna darged o 20,000 yma ar hyn o bryd, sy'n ymddangos fel na fydd yn cael ei gyrraedd, ac mae yna chwyddiant ar ben bob dim, heb sôn am yr hyn ddaru i Siân Gwenllian sôn amdano ynghynt, sef y national insurance contributions, sy'n mynd i roi mwy o bwysau arnyn nhw. Hynny ydy, mae'r gofynion ar y cymdeithasau tai i gyrraedd yr holl uchelgeisiau yma yn fawr, a dydy'r gyllideb sy'n cael ei rhoi iddyn nhw ddim yn ddigon. Felly, beth ydy'r flaenoriaeth iddyn nhw? A ydych chi'n gallu dweud mai'r flaenoriaeth ydy safon ansawdd y tai, neu ai'r flaenoriaeth ddylai fod adeiladu tai, neu a ydym ni'n gallu disgwyl mwy o gyllideb i fynd er mwyn helpu cymdeithasau tai i gyrraedd y nod yn y gyllideb yma sy'n dod wythnos nesaf? Diolch.

14:00

Diolch, Mabon, ac yn amlwg rwy'n gwybod bod diddordeb brwd mewn cyllidebau ac mae pawb yn edrych yn fanwl arno. Rydych chi'n gwybod y bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Eleni yn unig, rydym yn buddsoddi £330 miliwn yn y rhaglen grantiau tai cymdeithasol a thros £100 miliwn yn ein rhaglen llety trosiannol. Ar draws 2023-24 a 2024-25, buddsoddwyd dros £79 miliwn o gyllid benthyciad drwy'r cynllun benthyciadau datblygu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae'r cynllun yn cynyddu'r opsiynau ariannu hirdymor sydd ar gael i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyflwyno cartrefi mawr eu hangen ar gyfer eu gosod ar rent cymdeithasol, i ddadflocio safleoedd presennol ac i ariannu gwaith datgarboneiddio.

Mae ein cynllun tir ar gyfer tai yn darparu cyllid benthyciadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gefnogi'r ddarpariaeth dai drwy sicrhau cyflenwad tir, ac rydym wedi buddsoddi tua £90 miliwn ledled Cymru mewn cyllid benthyciadau ar gyfer caffael tir drwy'r cynllun. Hyd yma, o gynnwys cyllid wedi'i ailgylchu, mae dros £287 miliwn o fenthyciadau wedi'u gwneud. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd yn y maes ac yn amlwg, mae gennym ffocws gwirioneddol ar sicrhau ein bod yn anelu tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi.

Sefydlogrwydd Ariannol Awdurdodau Lleol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol awdurdodau lleol? OQ61963

Diolch, Mark. Mae fframwaith cadarn ar gyfer atebolrwydd a gwneud penderfyniadau ariannol gan lywodraeth leol, gan gynnwys archwilio mewnol ac allanol a chraffu lleol.

Wel, ers dros ddau ddegawd rwyf wedi bod yn tynnu sylw at effaith ariannol annheg fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Lafur Cymru ar awdurdodau lleol sydd bob amser yn cael eu gadael yn agos i'r gwaelod, gan gynnwys sir y Fflint. Wrth siarad yma bron i bum mlynedd yn ôl, nodais fod sir y Fflint eto ymhlith y cynghorau a oedd yn wynebu'r toriadau mwyaf, er gwaethaf ymgyrch Back the Ask gan gynghorwyr sir y Fflint yn galw am gyfran deg o arian. Wrth siarad yma ym mis Mawrth, fe wneuthum nodi pryder fod pedwar cyngor yng ngogledd Cymru unwaith eto ymhlith y chwech a oedd yn cael y setliadau isaf yng Nghymru. Ym mis Medi, daeth adroddiad Archwilio Cymru i'r casgliad fod cynaliadwyedd ariannol allanol cyngor sir y Fflint yn wynebu risg ddifrifol. Felly, sut y byddech chi'n ymateb i'r datganiad yr wythnos diwethaf gan aelod cabinet sir y Fflint dros drawsnewid ac asedau:

'Mae'n sefyllfa od iawn pan fo Archwilio Cymru yn gofyn i ni edrych ar y tymor canolig a'r tymor hir pan na all Llywodraeth Cymru roi amcangyfrif tair blynedd i ni hyd yn oed o'r hyn rydym i fod i'w gael',

ac i'r datganiad gan brif weithredwr y cyngor:

'Yn sir y Fflint, mae cyngor sy'n cael ei ariannu'n isel yn gyson yn ffactor sy'n cyfrannu at ble rydym ni heddiw'?

Diolch, Mark, a chefais y pleser o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr cyngor sir y Fflint yr wythnos diwethaf i drafod materion penodol yn ymwneud â chyllidebau, ond hefyd yn fwy cyffredinol ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn sir y Fflint. O ran y fformiwla ariannu, mae dros dri chwarter y fformiwla ariannu a ddosberthir drwy fformiwla setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Rwyf wedi trafod y fformiwla gyda nifer o arweinwyr awdurdodau lleol dros yr wythnosau diwethaf, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol mewn partneriaeth â hwy ar hyn. 

Bob blwyddyn, mae rhai awdurdodau'n cael cynnydd llai nag eraill oherwydd newidiadau cymharol yn niferoedd y boblogaeth a disgyblion, er enghraifft, ond mae'n bwysig cofio bod y fformiwla'n gweithredu ar newid cymharol. Efallai fod awdurdod yn dangos llai o boblogaeth ond y ffactor pwysig ar gyfer y fformiwla yw sut y mae'r newidiadau hynny'n cymharu ag awdurdodau lleol eraill. Ond fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud gyda llywodraeth leol, yn hytrach nag i lywodraeth leol.

14:05

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn i eisiau ymestyn y cwestiwn i edrych ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn benodol, a'r cysylltiad â chyllid llywodraeth leol hefyd. Cefais y fraint o noddi digwyddiad yma yn y Senedd a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. Mae eu taliadau, eu cefnogaeth ariannol, yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth awdurdodau lleol. Amlygodd y digwyddiad y gwaith pwysig y mae cymaint o sefydliadau'n ei wneud i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael yr help sydd ei angen arnynt yn fawr. Drwy grantiau uniongyrchol a gwasanaethau cymorth lleol, mae'r gronfa cymorth i ofalwyr wedi cyrraedd dros 22,000 o ofalwyr di-dâl ers 2022.

Felly, roeddwn i eisiau gofyn i chi, os caf—. Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn pryderu am gysondeb cyllid awdurdodau lleol ar draws ein holl awdurdodau lleol—mae'n anghyson iawn mewn gwirionedd. Felly, a gaf i ofyn i chi pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a sefydliadau eraill, i helpu awdurdodau lleol i ariannu cefnogaeth gyson i'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a'r sefydliadau sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane, a diolch i chi am godi'r cwestiwn pwysig hwn, oherwydd rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw gofalwyr di-dâl. Rydym i gyd yn adnabod llawer o ofalwyr di-dâl, efallai y bydd rhai ohonom yn ofalwyr di-dâl, ac rwy'n credu ein bod yn eu parchu cymaint, ac mae ein diolch iddynt am yr hyn a wnânt yn enfawr.

Rwy'n hapus iawn i ddweud—. Rwyf wedi bod yn mynd o gwmpas pob awdurdod lleol yn ddiweddar, ac un o'r materion sy'n codi'n rheolaidd yw gofal cymdeithasol yn fwy cyffredinol, ond rwy'n hapus iawn i gael mwy o drafodaethau ar y mater a nodwyd gennych yn benodol, ac efallai y gallech chi ysgrifennu ataf ar y pwyntiau y cawsoch drafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn eu cylch.

Briciau Gwenoliaid mewn Adeiladau Tal

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod briciau gwenoliaid yn cael eu gosod ar bob adeilad tal? OQ61996

Diolch, Jenny. Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb Senedd bresennol ac yn cydnabod difrifoldeb y mater. Rwyf wedi bod yn falch o weld datblygiadau tai cymdeithasol newydd yn ymgorffori arloesedd bioamrywiaeth wrth gynllunio ac adeiladu, gan gynnwys enghraifft wych yr wythnos diwethaf ar ymweliad â Glasdir yn sir Ddinbych.

Wel, mae'n wych clywed bod rhywfaint o fudd wedi codi o'r addewid gan eich rhagflaenydd, Julie James, i ymgorffori briciau gwenoliaid mewn tai arloesol. Byddai'n ddefnyddiol gwybod faint o friciau gwenoliaid sydd wedi'u gosod o ganlyniad i'r fenter honno yn ystod y tair blynedd diwethaf. Beth bynnag, ni fydd hyn yn ddigon i fynd i'r afael â diflaniad y gwenoliaid eiconig o awyr yr haf. O'r holl rywogaethau sy'n dirywio, nid oes nemor un wedi gweld dirywiad mor serth â'r dirywiad yn niferoedd gwenoliaid a hyd yma, ni welwyd unrhyw adferiad yn sgil y gostyngiad o ddwy ran o dair yn eu niferoedd mewn llai na 30 mlynedd. Mae'n eithaf brawychus ac mae'n golygu na fydd ein plant a'n hwyrion byth yn clywed eu trydar eiconig. Felly, pa gynnydd y gellir ei wneud ar orfodaeth i osod briciau gwenoliaid ym mhob adeilad tal newydd a adeiladir yn y dyfodol, a chymell perchnogion adeiladau tal presennol, er enghraifft y darpariaethau llety hollbwrpasol i fyfyrwyr sy'n tyfu fel madarch ledled Caerdydd, i ddarparu lle i wenoliaid nythu i helpu i wrthdroi'r dirywiad brawychus hwn?

Diolch, Jenny, ac rwy'n cydnabod y dirywiad pryderus ym mhoblogaeth gwenoliaid dros y degawdau diwethaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i gofnodi fy niolch i Jenny am ei gwaith fel hyrwyddwr rhywogaeth y wennol, felly diolch am hynny. Gallaf gadarnhau bod briciau gwenoliaid wedi'u cynnwys yn y datblygiadau a ariannwyd o dan y rhaglen dai arloesol, o'r dyddiad y cytunodd y Gweinidog blaenorol i wneud hynny nes i'r rhaglen honno ddod i ben. Mae datblygiad Glasdir yn sir Ddinbych yr ymwelais ag ef yr wythnos diwethaf yn defnyddio briciau gwenoliaid, blychau ystlumod a thwneli draenogod. Mae'n enghraifft wych o sut y mae landlordiaid cymdeithasol yn cefnogi natur. Mae ein safon adeiladu tai cymdeithasol newydd, gofynion ansawdd datblygu Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ystyried bioamrywiaeth, sydd wedi golygu bod briciau gwenoliaid yn cael eu defnyddio gan lawer o landlordiaid cymdeithasol yn eu datblygiadau newydd. Mae disgwyl i ofynion ansawdd datblygu Cymru gael eu hadolygu yn 2025, a byddwn yn ystyried y defnydd gorfodol o friciau gwenoliaid fel rhan o'r adolygiad hwn.

14:10
Cartrefi Gwag yn Aberconwy

7. Beth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i leihau nifer y cartrefi gwag yn Aberconwy? OQ61964

Diolch, Janet. Mae cynyddu nifer y cartrefi ar draws Cymru gyfan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Drwy ein rhaglenni ariannu, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i leihau nifer yr eiddo gwag, gan gynnwys cartrefi gwag, ledled Cymru.

Iawn, diolch. Wel, ar hyn o bryd, mae 918 eiddo gwag trethadwy yng Nghonwy. Mae hyn i fyny o 828 yn 2023-24, ac i fyny o 686 yn 2022-23. Nid yw'n mynd i unman, yr eiddo hwn, a fy mhryder mwyaf yw bod gennym lawer o eiddo gwag adfeiliedig, ac mae angen gorfodaeth a gorfodi adran 215 ar rai o'r rhain mewn gwirionedd, oherwydd nid yn unig eu bod yn wag ac nad yn cael eu troi'n gartrefi, maent yn achosi problemau i drigolion sy'n byw gerllaw ac i fusnesau. Mae gennyf enghreifftiau brawychus lle nad yw'r awdurdod lleol yn rhoi unrhyw gamau gorfodi ar waith. Sut y byddwch chi'n symud ymlaen, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol yn y flwyddyn newydd, i sicrhau (a) fod pob eiddo gwag yn cael ei gofnodi'n ddigonol, a (b) materion profiant, eich bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio cyflymu'r broses brofiant, oherwydd yn rhy aml defnyddir hynny fel esgus, a hefyd fod gorfodaeth yn cael ei wneud yn rheolaidd? Gallai'r rhain fod yn gartrefi da i'r holl bobl sydd ar ein rhestri digartrefedd. Felly, Weinidog, mae'n hen bryd gwneud hyn. Diolch.

Diolch, Janet. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â sut y mae pobl yn teimlo am weld eiddo gwag a thir gwag o'u cwmpas y mae'n rhaid i bobl gerdded heibio iddo pan allai'r rhain fod yn gartrefi i bobl mewn gwirionedd. Felly, rwy'n deall y rhwystredigaeth. Ond mae yna bethau yr ydym yn eu gwneud yma yn Llywodraeth Cymru. Dyfarnwyd £200,000 o grant creu lleoedd i Gonwy yn 2024-25 i helpu i brynu tir ac adeiladau ar safle Plas yn Dre yn Llanrwst, i ddatgloi potensial y safle llawn at ddefnydd masnachol neu dai yn y dyfodol. Mae gennym raglenni hefyd drwy ein rhaglen grant tai cymdeithasol a'n rhaglen ariannu cyfalaf llety trosiannol. Rydym wedi darparu dros £500 miliwn i gefnogi prynu ac adnewyddu 35 eiddo gwag. O fis Ebrill 2023, fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol wedi gallu gwneud cais am bremiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant ar naill ai ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor. Mae gennym grant tai gwag hefyd a fydd yn cyflymu ein gwaith i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac i ategu ein cynlluniau presennol. Cafwyd 942 o geisiadau dilys ar gyfer y cynllun hyd yma, a chwblhawyd 143 eiddo. Ond mae mwy i'w wneud, a gallaf eich sicrhau bod hyn yn rhywbeth yr wyf wedi'i godi ar ymweliadau ag awdurdodau lleol ledled Cymru, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Awdurdodau Lleol yn Cyflawni Gwasanaethau

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni gwasanaethau? OQ61990

Diolch, Sam. Rydym yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn ein penderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio a chynnal fformiwla ariannu deg a thryloyw ar gyfer y setliad llywodraeth leol, y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol yn ein cymunedau, ond mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ofyn i awdurdodau lleol wneud mwy a mwy. Mae cofrestru llety gwyliau, casglu'r dreth dwristiaeth, a chynnwys awdurdodau lleol yn y rheol 50 diwrnod newydd, o ystyried dylanwad gofal cymdeithasol ar ein GIG, yn gofyn i'n hawdurdodau lleol wneud mwy, a bydd y tri pheth hynny'n effeithio ar awdurdodau lleol gwledig yn fwy nag awdurdodau lleol trefol. Felly, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda'ch cyd-aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, i sicrhau, fel y sonioch chi yn eich ateb agoriadol, fod cyllid teg yn cael ei ddarparu ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a bod yr awdurdodau gwledig a gynrychiolir gennyf yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yn cael eu had-dalu'n unol â hynny am y gwasanaethau y mae'r Llywodraeth hon yn gofyn iddynt eu darparu?

Diolch am hynny, Sam. Fel y dywedaf, rwyf wedi bod yn mynd ar hyd a lled Cymru, yn siarad â phob awdurdod lleol, gwledig a threfol, felly rwy'n deall y gwahaniaethau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Rydym yn gwybod bod awdurdodau lleol yn rheoli pwysau yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i chwyddiant a chynnydd yn y galw am wasanaethau ac maent hefyd yn adrodd am bwysau yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector i ddeall y pwysau hwn wrth inni baratoi ar gyfer ein cyllideb ddrafft. Yn amlwg, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, fel y mae fy nghyd-Aelodau, rwy'n siŵr, yn y cyfnod cyn y gyllideb ddrafft, ac fe gyhoeddir y gyllideb ddrafft honno ar 10 Rhagfyr.

14:15
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Mark Isherwood.

Cynyddu'r Set Sgiliau

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector addysg bellach i gynyddu'r set sgiliau yng Nghymru? OQ61962

Mae Medr yn cydweithio ag addysg bellach drwy amrywiaeth o fentrau gyda'r nod o wella'r setiau sgiliau yng Nghymru. Mae'r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar ddatblygu rhaglenni sgiliau wedi'u teilwra sy'n cyd-fynd ag anghenion yr economi leol, gan sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau perthnasol sy'n ofynnol gan gyflogwyr.

Canfu adroddiad ColegauCymru yr wythnos diwethaf, 'Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru', fod bron i 6,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yng Nghymru eleni, gyda'r gost i'r economi o £50.3 miliwn yn effeithio fwyaf ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac adeiladu, ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig. Er bod astudiaeth annibynnol wedi canfod y bydd rhaglenni prentisiaeth iau yn arbed £0.75 miliwn y pen i'r economi mewn gwariant ataliol, yn ogystal â darparu nifer o fanteision ychwanegol i ddysgwyr, mae ColegauCymru hefyd wedi tynnu sylw at y pryder fod cyflwyno prentisiaethau iau yn digwydd mewn modd anghyson ledled Cymru, mae'r galw'n fwy na'r cyflenwad, ac mae eu cyllid yn y dyfodol yn ansicr. Felly, sut rydych chi'n ymateb i'r datganiad a wnaed yn ystod fy ymweliad diweddar â grŵp colegau addysg bellach yng ngogledd Cymru fod yn rhaid iddynt dorri 300 o brentisiaethau newydd a 23 o'r 35 o radd-brentisiaethau y cynlluniwyd iddynt ddechrau eleni, a'r datganiad gan Colegau Cymru fod angen strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a chyllid penodol ar gyfer prentisiaethau iau?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Mark, ac am eich angerdd parhaus yn y maes hwn. Mae'n faes a rannaf gyda'r Gweinidog sgiliau, a hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Felly, byddai rhai o'r themâu y gwnaethoch fy holi amdanynt yno yn perthyn i bortffolio'r Gweinidog sgiliau. Ond os caf ddechrau drwy siarad yn fras am brentisiaethau yng Nghymru, ers 2020-21, mae cyllid blynyddol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru wedi cynyddu o £128 miliwn i dros £143 miliwn eleni. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i'r rôl y mae prentisiaethau'n ei chwarae yn y cymysgedd dysgu a gynigir o fewn y system drydyddol, ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod o 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y pwynt a godwyd gennych am brentisiaethau iau, oherwydd rwy'n cytuno â chi eu bod yn werthfawr iawn i lawer o'n dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg arno, ac rydym yn gobeithio cael rhywbeth i'w gyhoeddi yn y dyfodol agos.

Addysg Dinasyddiaeth a Gwleidyddol

2. Pa newidiadau i addysg dinasyddiaeth a gwleidyddol sydd wedi'u gwneud ers cyflwyno pleidleisiau i bobl 16 oed? OQ61967

Mae dinasyddiaeth a chefnogi dysgwyr i arfer eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu adnoddau a chymorth i ysgolion ar gyfer dysgu am ddinasyddiaeth ac addysg wleidyddol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd adroddiad yr wythnos diwethaf gan y Brifysgol Agored y byddai'r Cwricwlwm i Gymru yn elwa o ffocws mwy penodol ar addysg wleidyddol a dinasyddiaeth weithgar, ac nid dyma'r adroddiad cyntaf i ddod i'r casgliad nad yw rhoi'r hawl i bobl bleidleisio yn ddigon i gynyddu ymgysylltiad yn y broses wleidyddol.

Mae oddeutu tair blynedd bellach ers i adroddiad prosiect rhagorol y Blwch Democratiaeth ddangos yn eithaf clir cyn lleied o ddealltwriaeth sylfaenol sydd yna. Canfu gwaith Yvonne Murphy gyda phobl ifanc rhwng 16 a 26 oed fod 62 y cant naill ai ddim yn deall neu angen mwy o wybodaeth am hanfodion ein democratiaeth yn y DU. Fel y dywedodd un o'r cyfranogwyr, 'Ni allwn herio'r status quo presennol heb ein bod yn ei ddeall.' Ac fe wnaeth yr adroddiad y pwynt allweddol fod canolbwyntio ein haddysg wleidyddol ar fecaneg sut i bleidleisio 

'ar y gorau yn aneffeithiol ac ar y gwaethaf, yn eironig, gall fod yn cyfrannu at ein lefelau isel erioed o bleidleiswyr.'

Mae pobl eisiau gwybodaeth syml am yr hyn y mae pleidiau gwleidyddol yn sefyll drosto, ac maent eisiau gwybod am bynciau, nid am brosesau. A daeth yr ymchwil i'r casgliad fod angen gwybodaeth ac addysg drwy gydol y flwyddyn ar bob dinesydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi weithredu ar eu hargymhelliad drwy sôn wrth y BBC a'r Comisiwn Etholiadol fod ganddynt rôl i gydweithio er mwyn rhoi mwy o hyder i ddinasyddion gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd?

14:20

A gaf i ddiolch i Lee Waters am y cwestiwn atodol hwnnw, sy'n codi rhai materion pwysig iawn? Ac rwy'n cytuno, ni ddylai ymwneud â mecaneg pleidleisio'n unig, ac mae gennym gwricwlwm pwrpasol yng Nghymru, ac i mi, dylai hwnnw ymwneud â phobl ifanc yn deall pam ei bod yn bwysig iddynt arfer eu hawl i bleidlais yn y blwch pleidleisio. Mae'r Cwricwlwm i Gymru eisoes yn cynnwys dysgu ac addysgu am wleidyddiaeth a dinasyddiaeth, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn canllawiau statudol, gyda disgwyliad fod dysgwyr hyd at 16 oed yn datblygu dealltwriaeth o sut y mae systemau Llywodraeth yng Nghymru yn gweithredu ac yn effeithio ar fywydau pobl, a sut y maent yn cymharu â systemau eraill. Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ariannu prosiectau ar thema democratiaeth mewn ysgolion ac ar lefel addysg uwch, gan roi cyfle i ddysgwyr greu diwylliant cyfranogol.

Ceir enghreifftiau gwych o'r gwaith hwn, gan gynnwys yn eich etholaeth eich hun, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r gwaith y mae Cyngor Tref Llanelli wedi bod yn ei wneud, yn cynhyrchu deunyddiau ac yn cynnal sesiynau gydag ysgolion yn canolbwyntio ar ddinasyddiaeth dda, rôl y maer yn Llanelli, pam ein bod yn pleidleisio, a hanes pleidleisio. Ac mae undeb myfyrwyr Aberystwyth hefyd yn ymgysylltu â myfyrwyr y DU a myfyrwyr o wledydd tramor am bwysigrwydd ymgysylltu â phrosesau democrataidd.

Rwy'n ymwybodol o adroddiad y Blwch Democratiaeth, ac rydym wedi gwneud gwaith gyda hwy ac mae eu deunyddiau'n cael eu defnyddio mewn ysgolion. Nid wyf wedi gweld adroddiad y Brifysgol Agored, ond fe edrychaf arno, ac er bod gan y Comisiwn Etholiadol rôl annibynnol yn amlwg, rydym yn gofyn iddynt wneud gwaith i ni ar hyrwyddo democratiaeth mewn ysgolion, ac rwy'n hapus iawn i gael trafodaeth gyda swyddogion ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud yn y maes hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd llawer o Aelodau'r Senedd hon wedi ymgysylltu ag ysgolion drwy'r Prosiect Gwleidyddiaeth a'r rhaglen deialog ddigidol. Yn ddiweddar, mwynheais sesiwn wych gyda disgyblion Ysgol Cynfran yn Llysfaen yn fy etholaeth. Fe wnaeth fy nghi dorri ar fy nhraws, gyda llaw, Blue y milgi bach achub, sy'n 15 oed heddiw. Mae'n ben-blwydd hapus iawn arno. Ond wrth gwrs, mae'r sesiynau hynny'n rhoi cyfle i'r bobl ifanc ddeall y Senedd yn well, deall yr hyn a wnawn yn y lle hwn a'r penderfyniadau a wnawn sy'n effeithio arnynt, ac roedd y ffordd y gwnaethant gymryd rhan greu argraff fawr arnaf. Fe wnaethant ofyn cwestiynau synhwyrol iawn—rhai cwestiynau ysgafn hefyd, wrth gwrs, ond cwestiynau synhwyrol—ynglŷn ag ariannu addysg, ar newid hinsawdd, a llu o bynciau eraill. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi'r prosiectau ar sail barhaus? Plant ysgol gynradd oedd y rhain, felly peth amser i fynd cyn iddynt gyrraedd oedran pleidleisio, ond yn amlwg, gorau po gynharaf y gallwn ennyn diddordeb pobl.

Diolch, Darren, ac rwy'n cytuno â chi mai gorau po gyntaf y gallwn ymgysylltu â phobl, a diolch am eich geiriau cadarnhaol am y Prosiect Gwleidyddiaeth a'r rhaglen deialog ddigidol. Rwyf innau hefyd wedi cymryd rhan yn hwnnw, yn yr etholaeth, ac rwy'n mynd i fod yn trafod gyda dysgwyr yng ngogledd Cymru fel rhan o fy rôl Ysgrifennydd Cabinet. Rydym yn cefnogi'r sefydliad gyda gwerth £20,000 o gyllid ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod trafodaethau cyllidebol yn parhau ac felly ni allwn wneud unrhyw ymrwymiadau heddiw, ond rwy'n cydnabod pwysigrwydd hyn, ymgysylltu â phobl ifanc yn gynnar. Pryd bynnag yr af i siarad â grŵp ysgol, rhaid imi ddweud fy mod yn cael fy ysbrydoli gan ba mor wych yw'r bobl ifanc, y gwerthoedd gwych sydd ganddynt, ac mae'n rhoi gobaith mawr i mi ar gyfer y dyfodol, ac yn bendant mae angen inni wneud mwy i sianelu'r cyfleoedd hynny i bobl ifanc.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard, i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Tom Giffard.

Prynhawn da, Weinidog. Faint fydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gostio i brifysgolion Cymru?

Diolch i Tom Giffard am y cwestiwn agoriadol hwnnw. Rydym yn dal i weithio drwy gost hynny, ond rydym yn amcangyfrif ei fod oddeutu £21 miliwn. Amcangyfrifir bod y cyhoeddiad a wneuthum heddiw i godi'r cap ffioedd dysgu yng Nghymru i £9,535 y myfyriwr yn ddigon i dalu'r costau hynny i brifysgolion, felly rwy'n falch fy mod wedi gallu helpu gyda'r sefyllfa ariannol yn hynny o beth.

14:25

Diolch. Wel, yr hyn rydych chi wedi'i wneud, Weinidog, yw gwrthbwyso cost polisi Llafur yn y DU drwy gynyddu ffioedd dysgu i fyfyrwyr dalu amdano. Rydych chi'n iawn, y gost oedd £20 miliwn. Nawr, cyn y cyhoeddiad am yswiriant gwladol cyflogwyr, roedd prifysgolion yn amcangyfrif bod ganddynt ddiffyg cronnol o tua £100 miliwn, ac eto ni fydd unrhyw beth sydd wedi digwydd hyd yma'n llenwi'r twll du, y diffyg hwnnw. Fe wnaethoch chi addo heb fod mor bell yn ôl yn y Siambr hon y byddech chi'n edrych ar fodel Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu, o gronfa frys y maent yn ei rhoi ar waith, ac y byddai gan Medr ei chronfa ei hun i gefnogi ein sefydliadau yma yng Nghymru. Yn amlwg, fe wnaethoch chi egluro'n ddiweddarach fod hynny ar gam archwiliadol iawn a'ch bod yn dal i weithio drwy'r hyn a allai fod, os o gwbl, yn fecanwaith cymorth posibl mewn partneriaeth â Medr a sefydliadau. A yw'r gwaith wedi datblygu o gwbl? 

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Tom. Hoffwn fynd ar ôl rhan gyntaf yr hyn a ddywedoch chi yno, pan edrychoch chi ar fy nghymhellion dros godi'r cap ffioedd dysgu. Mae'n faes eithaf cymhleth mewn gwirionedd, ac mae'n faes lle mae angen i mi gydbwyso anghenion ein myfyrwyr yng Nghymru ag anghenion ein prifysgolion hefyd. Ac yn amlwg, rydym yn gweithredu o fewn model y DU, marchnad y DU, a phe na bai'r cap ffioedd dysgu yn cael ei godi yng Nghymru, byddai'n sicr yn rhoi ein prifysgolion yng Nghymru dan anfantais. Ond ni fydd y penderfyniad a wneuthum yn effeithio ar faint o arian sydd ar gael i fyfyrwyr wrth iddynt astudio, ac ni fydd ychwaith yn arwain at raddedigion yn ad-dalu mwy bob mis. Dim ond y rhai sy'n mynd i fod yn raddedigion sy'n ennill cyflogau uwch fydd yn debygol o dalu'r ffi uwch hon yn ôl, oherwydd rydym wedi cadw'r system ad-dalu cynllun 2 fwy blaengar ar gyfer benthyciadau myfyrwyr yma yng Nghymru. Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy. Rydym eisiau sefydliadau cryf yma yng Nghymru sy'n gallu cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer myfyrwyr ac ymchwil, ac ar gyfer sbarduno twf economaidd yng Nghymru. 

Fe aethoch ymlaen wedyn i ofyn cwestiwn mwy cyffredinol am gynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd. Fel y gwyddoch, rwy'n parhau i ymweld â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru, a daw hynny â llawer o fanteision i mi yn y sgyrsiau y gallaf eu cael gydag is-gangellorion, gyda staff a myfyrwyr am amgylchiadau penodol y prifysgolion hynny. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio bod y prifysgolion yn sefydliadau ymreolaethol a bod 90 y cant o'u ffrydiau cyllid yn dod o'r tu allan i Lywodraeth Cymru. Felly, mae rôl i mi ac i Medr eu cynorthwyo i archwilio'r cyfleoedd ariannu eraill hynny, iddynt allu bachu ar lawer o wahanol gyfleoedd i gynyddu eu cadernid ariannol. Ac mae'r £10 miliwn a gyhoeddais ar gyfer addysg uwch trwy Medr heddiw wedi'i gynllunio i wneud hynny.

Diolch. Os caf fynd ar ôl y pwynt cyntaf, credaf mai wrth ateb fy nghwestiwn cyntaf y dywedoch chi y byddai eich penderfyniad heddiw ond yn gwrthbwyso'r cynnydd yng nghost cyfraniadau yswiriant gwladol. Felly, gan gymryd y ddau bolisi gyda'i gilydd, nid oes unrhyw fudd ychwanegol. Mae'n un offeryn, os mynnwch, sydd wedi'i dynnu oddi ar y bwrdd y gellir ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r twll du mwy o faint. Ac rwy'n credu mai'r peth sydd gan fyfyrwyr a phrifysgolion yn gyffredin yw eich bod chi, fel Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, a'r Blaid Lafur ar lefel y DU wedi addo mwy o gefnogaeth iddynt, a dim ond biliau uwch a gawsant, boed hynny drwy gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr neu'r cynnydd a welsom yn y ffioedd heddiw. Ac yn amlwg, nid dyna y credai myfyrwyr na phrifysgolion eu bod yn pleidleisio drosto yn yr etholiad cyffredinol. 

Ar y pwynt ehangach a wnaethoch am gyllid prifysgolion, rydym wedi clywed am y twll du o £100 miliwn y dywedodd Prifysgolion Cymru—. A dweud y gwir, mae gennyf y datganiad i'r wasg a anfonwyd ganddynt mewn ymateb i'r cyhoeddiad a wnaethoch chi heddiw, lle maent yn dweud yn eithaf clir nad yw'r sefyllfa ariannol bresennol i brifysgolion yn gynaliadwy—maent yn glir iawn ynglŷn â hynny. Roeddent yn dweud mai'r rheswm am hynny yw trydedd flwyddyn yn olynol o ostyngiadau i grantiau cyllid addysg uwch, gan gynnwys £20 miliwn ychwanegol ar gyfer 2024-25, sy'n parhau i olygu cyllid sylweddol is i brifysgolion yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU.

Pryd yr aiff y Llywodraeth hon i'r afael â hyn? Oherwydd fe glywsom gennych chi nawr eich bod chi'n siarad â phrifysgolion, clywsom o'r blaen fod pecyn cymorth ar gael, ac fe gafodd ei dynnu'n ôl. Mae'r argyfwng hwn yn real. Mae argyfwng ariannu prifysgolion yn real iawn ac mae'n digwydd nawr. Felly, beth rydych chi'n mynd i'w wneud am y peth?

14:30

Diolch, Tom. Rwy'n nodi tair thema yno. Yn gyntaf, ar y gefnogaeth i fyfyrwyr, rwy'n falch iawn fod gennym yma yng Nghymru y cynnig mwyaf hael o gymorth i'n myfyrwyr addysg uwch. Ac nid oes angen ichi gymryd fy ngair i ar hynny, oherwydd canfu archwiliad o ffioedd addysg uwch a chyllid ledled y DU gan London Economics, Sefydliad Nuffield fod Cymru'n cynnig y cymorth cynhaliaeth myfyrwyr mwyaf hael sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru ni waeth beth yw incwm y cartref, o'i gymharu â gweddill y DU.

Rwy'n arbennig o falch fod gennym grant cynhaliaeth yma sydd ar gael i sicrhau bod y rhai sy'n dod o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig wrth fynd i mewn i addysg uwch yn gadael gyda'r swm lleiaf o ddyled. Mae hynny'n gwbl groes i'r system a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth Dorïaidd yn Lloegr, lle mae'r rhai sy'n dod o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig yn gadael y brifysgol gyda'r swm mwyaf o ddyled.

Ar eich cwestiwn ynghylch cefnogaeth i'r prifysgolion eu hunain, mae gennym y £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddais heddiw. Mae hwnnw'n mynd â'r cyllid grant ar gyfer y sector addysg uwch yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf hon i dros £200 miliwn. Ym mhob un o fy sgyrsiau gydag is-gangellorion, maent yn edrych ar sut y gallant addasu a newid eu modelau eu hunain ar gyfer mantoli'r cyfrifon. Maent yn sefydliadau ymreolaethol a dim ond rôl fach sydd gennym ni i'w chwarae yn hynny.

Rwy'n credu mai'r pwynt pwysicaf a godwyd gennych yw'r un am gynaliadwyedd y model cyllido ar gyfer addysg uwch yn gyffredinol, ac mae hynny'n bendant yn rhywbeth y mae angen edrych arno eto, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Gallaf nodi dau beth yr ydym yn eu gwneud ar hynny. Yn gyntaf, cefais gyfarfod yr wythnos hon i edrych ar sut y byddwn yn dechrau ein gwerthusiad o ddiwygiadau Diamond. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar sut y gellir cynnal a gwella hynny yn yr hinsawdd bresennol a sut y bydd modd ei weithredu yn y dyfodol. Ond hefyd, fel y dywedais, rydym yn gweithredu ym marchnad y DU, a hefyd, mae Llywodraeth Cymru, i raddau, yn nwylo Trysorlys y DU o ran y model cyllido sydd gennym. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cydweithio â Llywodraeth San Steffan i edrych ar fodel cyllido hirdymor mwy cynaliadwy ar gyfer addysg uwch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, yn dilyn eich datganiad y bore yma, heb os, bydd cynyddu ffioedd dysgu yng Nghymru yn faich ar fyfyrwyr â hyd yn oed mwy o ddyled, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd difreintiedig—ac nid wyf yn siarad yma am gostau cynhaliaeth, dim ond y ffioedd dysgu. Ond daeth y penderfyniad yma heddiw gan Lywodraeth Cymru yn anochel, wrth gwrs, ar ôl i'r blaid Lafur yn Lloegr gynyddu ffioedd. Rhaid i brifysgolion Cymru beidio â bod dan anfantais. Ar y meinciau hyn, mae Plaid Cymru yn credu yn yr egwyddor o fynediad i bawb at addysg uwch, ond er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid inni sicrhau cynaliadwyedd ariannol ein sefydliadau addysg uwch.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn am £20 miliwn yn ei datganiad o gefnogaeth drwy Medr ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a allai gael ei lyncu i gyd yn syth gan godiadau y flwyddyn nesaf i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid yw hyd yn oed yn cyffwrdd yr ochrau, fel y clywsom gan Tom, o ran y diffyg cyfunol o £100 miliwn sy'n wynebu ein prifysgolion. Felly, mae'r model cyllido presennol ar gyfer addysg uwch yn anghynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae £2 o bob £5 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar ffioedd myfyrwyr yn mynd tuag at sybsideiddio prifysgolion yn Lloegr. Felly, o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, bydd hyd yn oed mwy o arian trethdalwyr Cymru yn llifo dros y ffin i brifysgolion y tu allan i Gymru. A yw hynny'n eich poeni, Weinidog?

14:35

Diolch am eich cwestiynau, Cefin. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt cyntaf, lle rydych chi'n dweud y byddwn, mae'n debyg, yn rhoi mwy o ddyled i fyfyrwyr. Hoffwn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wneuthum i Tom, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yma yn y Siambr, ein bod i gyd yn uno o amgylch y nod cyffredin—oherwydd credaf fod hwn yn nod i chi lawn cymaint ag y mae i mi—sef cynyddu cyfranogiad mewn addysg ôl-16. Mae'n hanfodol iawn ein bod yn cael y ffeithiau allan—fod ein myfyrwyr o Gymru yn dal i elwa o'r model cyllido mwyaf hael yn y DU, a model sydd â'r bwriad o gefnogi'r rhai o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig i gael y swm lleiaf o ddyled pan fyddant yn gadael y brifysgol, fel y gallant fynd ymlaen i gael bywydau llewyrchus a chyfrannu at ein heconomi.

Ar eich safbwynt mai dim ond sybsideiddio prifysgolion yn Lloegr a wnawn, rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n dweud wrthych am siarad â phobl ifanc yng Nghymru, siaradwch â phobl sy'n dymuno dechrau ar radd, a gofyn iddynt a hoffent gael eu cyfyngu gan system ariannol a oedd ond yn eu cefnogi i fynd i brifysgolion yng Nghymru. Ein nod, wrth gwrs, yw dod â'r graddedigion hynny yn ôl i Gymru, ond mae'n bwysig iawn fod ganddynt fynediad teg i ble bynnag y maent yn dymuno astudio—ni ddylem gyfyngu eu gorwelion. Mae llawer o'n pobl ifanc yn dewis astudio yng Nghymru, yn ein sefydliadau rhagorol yma, ond gallai eraill, am amryw o resymau, ddewis astudio mewn mannau eraill, ac yn sicr, ni fuaswn i na Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi system a fyddai'n cyfyngu ar uchelgeisiau pobl ifanc Cymru.

Gaf i ddilyn ymlaen ar hwnna, Weinidog? Yr wythnos diwethaf, fe wnes i noddi digwyddiad gan Dyfodol i'r Iaith yn y Senedd a oedd yn trafod sut y gallwn ni sicrhau sector addysg uwch mwy cynhaliol yng Nghymru, sy'n gallu cynnig cyfleoedd addysgol a phrofiadau bywyd a safonau uchel i fyfyrwyr o Gymru. Os edrychwn ni ar yr ystadegau, dim ond 5 y cant o fyfyrwyr yr Alban sy'n gadael yr Alban ar gyfer eu haddysg uwch; yn Lloegr, y ffigur yw 9 y cant. Yma yng Nghymru, mae 40 y cant o fyfyrwyr yn gadael Cymru er mwyn derbyn eu haddysg uwch. Ar hyn o bryd, mae miliynau o bunnoedd o'n harian ni yn cael ei wario ar Academi Seren, cynllun sy'n annog miloedd o ddarpar fyfyrwyr i fynd â'u sgiliau, eu talent a'u cyfraniad y tu hwnt i Gymru. Ac ar ben hynny eto, mae Llywodraeth Cymru'n gwario dros £0.5 biliwn y flwyddyn ar gyllido myfyrwyr i astudio y tu fas i Gymru.

Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ac fe'i dywedaf eto: nid yw hyn yn gynaliadwy. A all y Gweinidog enwi unrhyw wlad arall yn y byd sy'n talu cymaint o arian ei threthdalwyr ei hun i allforio cymaint o'u myfyrwyr gorau a disgleiriaf i brifysgolion y tu hwnt i'w ffin ei hun?

Mae'n rhaid imi ddweud, Cefin, rwy'n credu bod y dadleuon a gyflwynwch yn wirioneddol leihaol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrthych mewn ateb i gwestiwn cynharach: mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cefnogi ein pobl ifanc i astudio ble bynnag y dymunant. Mae angen inni rymuso ein pobl ifanc i wneud y penderfyniadau gorau y gallant eu gwneud. Rwy'n falch fod gennym drefn yma yng Nghymru sy'n annog ein myfyrwyr addysg bellach a'n myfyrwyr addysg uwch i gymryd rhan mewn astudio dramor, drwy Taith; rwy'n credu bod hynny'n fantais enfawr, sy'n ehangu eu rhagolygon ac yn rhoi amrywiaeth o sgiliau iddynt y gallant ddod â hwy yn ôl yma i'w mamwlad, i Gymru. A hefyd, rydym wedi clywed y cyhuddiadau hyn am Academi Seren gennych chi o'r blaen. Nid oes sylfaen iddynt. Mae prosiect Seren yn gweithio'n galed iawn ar ran ein myfyrwyr mwyaf galluog a thalentog, i'w galluogi i fod â'r uchelgais a'r wybodaeth i gael mynediad at gyrsiau, ble bynnag y bônt, a fydd yn eu galluogi i fynd ar drywydd y sgiliau a'r doniau penodol hynny. Gallai fod yn radd celfyddyd gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yr ymwelais â hi yn ddiweddar, ac mae ganddi gyfleusterau rhagorol yno. Gallai fod yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth, sydd ymhlith y gorau yn y byd. Neu gallai fod yn gwrs blaenllaw mewn prifysgol yn rhywle arall yn y DU, neu rywle arall yn y byd. Yn sicr, nid wyf yn credu y dylem gyfyngu ar ein pobl ifanc rhag cael y cyfleoedd hynny. 

14:40

Ni allaf gredu eich bod yn dangos cyn lleied o hyder yn y prifysgolion sydd gennym yma yng Nghymru. Byddai'r prifysgolion hynny wrth eu bodd yn cael cyfran o'r 40 y cant hwnnw sy'n gadael Cymru ar hyn o bryd. Ac rwy'n nodi na allech enwi unrhyw wlad arall a oedd yn cludo ei phobl ifanc dros ei ffiniau. Ond mae'n anghredadwy—rydym yn annog ecsodus o sgiliau a thalent o Gymru, wrth inni geisio adeiladu economi'r wlad hon yn y dyfodol.

Mae ein prifysgolion ein hunain yma yng Nghymru yn cefnogi miloedd o swyddi yn y rhanbarthau y maent wedi'u lleoli ynddynt, yn ogystal â chyfrannu dros £10 biliwn mewn effaith economaidd. Mae angen inni gadw'r dalent ifanc hon, a fydd yn ein helpu i dyfu economi'r dyfodol. Yn anffodus, o fy sgyrsiau fy hun yn ddiweddar gydag is-gangellorion, mae'n amlwg i mi fod y cyfraniadau cadarnhaol hyn mewn perygl os na all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r sector.

Felly, a allwch chi ddweud wrthyf, Weinidog, pa un o'r materion dybryd hyn yw'r pwysicaf? Ai'r codiad heb ei gyllidebu o £20 miliwn i gyfraniadau yswiriant gwladol, y diffyg cyfunol o £100 miliwn sy'n wynebu prifysgolion Cymru, y ffaith bod dros £0.5 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar ffioedd myfyrwyr mewn prifysgolion y tu allan i Gymru, neu Lywodraeth Lafur Cymru sydd heb fod yn talu sylw dros y 25 mlynedd diwethaf ac wedi gwaethygu'r holl faterion hyn, ac ar ben hynny, heb unrhyw strategaeth gydlynol i'r sector, diffyg cyllid, buddsoddiad a chefnogaeth, a thoriadau i ymchwil ac arloesi?

Fe geisiaf nodi'r cwestiynau o hynny, Cefin. Yn gyntaf, er fy mod newydd roi dwy enghraifft dda iawn o sefydliadau a chyrsiau addysg uwch rhagorol yma yng Nghymru, sylwais eich bod wedi dechrau drwy honni nad oedd gennyf hyder yn ein sefydliadau a'r cyrsiau y maent yn eu darparu. Gallwn sefyll yma drwy'r prynhawn yn nodi'r gwahanol gyrsiau mewn sefydliadau ledled Cymru sy'n gwbl ardderchog. Ond rwy'n credu y byddai hynny'n wastraff o amser y Senedd hon, pan wyf eisoes wedi rhoi dwy enghraifft i chi. Byddai'n dda iawn gweld a oes gennych chi'r dyfnder o wybodaeth a gefais i ers imi ymgymryd â'r rôl hon.

Rhai pwyntiau sylfaenol ynglŷn â niferoedd. Mae 60 y cant o'r myfyrwyr sy'n astudio yn ein prifysgolion yng Nghymru yn dod o'r tu allan i Gymru. Felly, trwy ladd ar y ffaith bod 40 y cant o'r myfyrwyr hynny o Gymru, a'ch bod am gynyddu'r nifer hwnnw, mae hynny'n awgrymu eich bod am gael gwared ar y 60 y cant sy'n dod o'r tu allan, sydd, wrth gwrs, yn dod â llawer o sgiliau gyda hwy—myfyrwyr rhyngwladol mewn graddau medrus iawn, pobl o bob rhan o'r DU. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y bobl hynny i ddod i astudio yng Nghymru, i gyfrannu at ein hymchwil, i gyfrannu at ein harloesedd, ac i aros yma hefyd, gobeithio, ac yna dônt yn ddinasyddion Cymreig. Felly, nid wyf yn credu y gallwch ddweud ei bod yn ddadl gwbl groes yn y ffordd y gwnaethoch ei chyflwyno.

Helpu gyda Chostau Ysgol

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu teuluoedd gyda chostau ysgol? OQ61984

Mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd incwm is, gan leihau pryderon am wisg ysgol ac offer. Mae cyllid o £13.1 miliwn ar gael ar gyfer y grant eleni. Rydym hefyd yn sicrhau bod adnoddau ar gael i ysgolion fynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol a chael gwared ar rwystrau a achosir gan dlodi.

Mae'r grant hanfodion ysgol wedi darparu help amhrisiadwy, fel y dywedwch, gyda chostau ysgol i lawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai ar incwm isel. Mae hyd at £200 ar gael i deuluoedd cymwys i helpu gyda phethau fel gwisg ysgol. Ond yn ogystal â hynny, rwy'n ymwybodol o nifer o ysgolion sydd wedi sefydlu mentrau gyda'r nod o gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr ac atal gwisgoedd ysgol rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Yn y cynlluniau hyn, mae gwisgoedd ysgol yn cael eu rhoi gan unigolion ac yna'n cael eu darparu i deuluoedd sydd eu heisiau am ddim. Roeddwn yn ffodus o weld enghraifft wych o hyn fy hun yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn Aberhonddu, a sefydlwyd y siop gyfnewid gan y Cynghorydd Matthew Dorrance a'r Cynghorydd Tref Michaela Davies, gan weithio gyda'r tîm gweithredu Llafur. Ond diolch i gyllid gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, mae ganddynt safle parhaol yn yr ysgol honno erbyn hyn, yn hytrach na cheisio cael mynediad at y defnydd o neuaddau, ac ati. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i annog teuluoedd i wirio eu cymhwysedd ar gyfer y grant hanfodion ysgol ac i ddiolch i ysgolion ac unigolion am sefydlu mentrau sy'n helpu teuluoedd i leihau cost gwisgoedd ysgol?

14:45

Diolch yn fawr, Joyce, ac a gaf i ganmol y Cynghorydd Matthew Dorrance a'r Cynghorydd Michaela Davies am y gwaith y maent wedi'i wneud ar y siop gyfnewid yn Aberhonddu? Mae'r rhain yn fentrau pwysig iawn. Yn amlwg, mae'r grant hanfodion ysgol yn help mawr i deuluoedd, ond rydym hefyd yn annog ysgolion i annog cynlluniau ailgylchu hefyd. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi diwygio ein canllawiau statudol i gyrff llywodraethu ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad yn ôl ym mis Mai 2023, ac mae newidiadau i'r canllawiau, yn ogystal â chynnwys pethau ynghylch peidio â chael gwisg ysgol â brand gorfodol, hefyd yn cynnwys annog sefydlu cynlluniau ailgylchu gwisgoedd ysgol ac osgoi trefniadau un cyflenwr, a allai leihau'r gost i deuluoedd. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn lleihau cost y diwrnod ysgol gan ein bod yn gwybod bod stigma tlodi nid yn unig yn cael effaith ar gyrhaeddiad, gall effeithio ar bethau fel presenoldeb, ac mae'n rhywbeth y mae angen i bawb ohonom weithio arno gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n hapus iawn i ddiolch i'r sefydliadau sy'n gwneud y gwaith da a nodwyd gennych.

Gan wybod nad yw Luke Fletcher a Jack Sargeant yn eu lle, gallaf ddweud yn sicr mai fi yw'r Aelod ieuengaf yn y Siambr hon, a gallaf gofio fy amser yn yr ysgol yn dda iawn. Yr hyn a nodais oedd bod nifer fawr o sefydliadau'n helpu myfyrwyr i fynd dramor ar gyfer dysgu ychwanegol. Trefnodd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, y soniais amdani yn y Siambr o'r blaen, ymweliadau ag Auschwitz yr euthum arnynt fel myfyriwr, a mynd i Goedwig Mametz gyda'r Urdd pan oeddwn yn fyfyriwr hefyd. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel yr Urdd ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac eraill sydd ar gael, i gefnogi myfyrwyr i allu mynd dramor ar gyfer dysgu ychwanegol, gan ehangu eu gorwelion a dysgu mwy am yr hyn sydd gan y byd hwn i'w gynnig?

Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n hanfodol i bobl ifanc gael y cyfleoedd hynny mewn gwahanol leoedd dramor. Mae fy nghyd-Aelod Vikki Howells newydd gyfeirio at raglen Taith, yr ydym yn darparu gwerth tua £65 miliwn o gyllid iddo, sydd o fudd nid yn unig i ddysgwyr hŷn, ond i blant ysgolion cynradd hefyd. Fe wyddoch fod y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad i'r rhaglen pan wnaed y penderfyniad yn gwbl ddiangen i adael rhaglen Erasmus ar ôl inni adael yr UE. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi er mwyn parhau i gefnogi pobl ifanc sy'n mynd dramor. Nid wyf yn gwybod a ydym yn ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Rwy'n credu bod yr ymweliadau hynny'n bwysig ac fe af ar drywydd hynny ac edrych i weld. Mae Darren yn dweud wrthyf ein bod, felly mae hynny'n newyddion da iawn. [Chwerthin.]

Gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol? OQ61999

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ac ers 2020, mae wedi buddsoddi cyllid ychwanegol o dros £170 miliwn i awdurdodau lleol ac ysgolion. Ceir ymgysylltu rheolaidd ag awdurdodau lleol, gan gynnwys drwy ein grŵp llywio diwygio ADY a chyfres o ddigwyddiadau ymarfer effeithiol.

Mae hwn yn faes sy'n amlwg yn mynd yn fwy a mwy problematig. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr etholwyr sy'n cysylltu efo fi i siarad am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth drio cael cefnogaeth i'w plant—rhai yn sôn am blant wedi cael eu heithrio, lle maen nhw fod yn cael eu hintegreiddio, eraill yn dweud eu bod nhw'n methu cael cefnogaeth oherwydd eu bod nhw'n methu cael diagnosis, ac eraill sydd wedi cael diagnosis yn dal yn methu cael cefnogaeth. Rŵan, mae awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Ynys Môn, yn eiddgar, wrth gwrs, i wella'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, ond maen nhw angen Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, i chwarae eu rhan. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ddau gwestiwn? Pa drafodaethau mae hi yn eu cael efo'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd er mwyn cryfhau a phrysuro a chyflymu'r broses ddiagnosis? Ac wedyn, sut mae hi am fynd ati i gefnogi awdurdodau lleol yn uniongyrchol i wella darpariaeth drwy ragor o adnoddau a rhagor o gyllid? 

14:50

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn pwysig hwnnw? Bydd yn ymwybodol, rwy'n siŵr, mai dim ond ers rhai wythnosau yr oeddwn wedi bod yn y swydd pan nodais hyn fel maes blaenoriaeth ac un lle roedd angen inni wneud mwy o gynnydd. Cyhoeddais adolygiad cyfreithiol o'r cod ADY a'r Ddeddf, ac mae hynny'n cydredeg ochr yn ochr â'n hymdrechion ein hunain i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i weithredu ar lawr gwlad. Dylwn ddweud hefyd fod hynny yn erbyn cefndir heriol iawn gyda niferoedd cynyddol o ddysgwyr ag anghenion cymhleth iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr o'r blaen.

Rydych chi'n cyfeirio at y rhyngwyneb gydag iechyd. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn y Siambr o'r blaen fod amseroedd aros niwroddatblygiadol yn rhy hir, ac mae fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag amseroedd aros niwroddatblygiadol, ac mae yna ddarn cyfan o waith sy'n sail i'r ffordd yr awn i'r afael â'r mater hwnnw'n gyffredinol. Mae yna waith hefyd sy'n ymwneud â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at yr angen am bartneriaeth gref. Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr iechyd i sicrhau bod cefnogaeth ddi-dor i blant a phobl ifanc. Mae gennym grŵp cydweithio amlasiantaethol sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion yn ymwneud ag atgyfeiriadau at iechyd. Mae hwnnw'n datblygu dangosyddion perfformiad newydd i sicrhau y gallwn olrhain a yw plant yn cael cefnogaeth amserol. Ond bydd yr adolygiad cyfreithiol yn edrych ar hynny yn ogystal. 

O ran awdurdodau lleol, mae gennym bartneriaeth agos iawn gydag awdurdodau lleol ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth ADY. Ac rwyf am ddiolch i awdurdodau lleol ac ysgolion am yr holl waith y maent yn ei wneud ar weithredu'r hyn sy'n ddiwygiad mawr. Fe fyddwch yn gwybod hefyd ein bod wedi cyhoeddi symiau sylweddol o gyllid i gefnogi ein diwygiadau ADY. Mae hynny wedi cynnwys llawer o gyllid cyfalaf nid yn unig i gefnogi unedau sydd ynghlwm wrth ysgolion, ond hefyd i ariannu ysgolion arbennig newydd yng Nghymru, ac rwy'n credu bod yna £750 miliwn wedi'i neilltuo yn y rhaglen dreigl naw mlynedd nesaf i gefnogi'r gwaith hwnnw ar gyfalaf ADY. Ond rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae swyddogion yn cyfarfod ag awdurdodau lleol unigol bob mis bellach, ac rydym i gyd wedi ymrwymo i yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen, gwaith sydd wedi'i ategu gan gyllid sylweddol iawn yn erbyn cefndir o angen cynyddol sylweddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd yn rhannu pryderon arweinydd Plaid Cymru. Ond rwyf am ofyn ichi sut rydych chi'n gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ac awdurdodau lleol ar hyfforddi gyrwyr tacsis, bysiau mini a cheir sy'n mynd â dysgwyr ag ADY i'r ysgol ac yn ôl, fel eu bod yn gwbl barod ac yn gallu ymdrin â'r anghenion penodol sydd gan ddysgwyr ag ADY ac i atal unrhyw beth negyddol rhag digwydd ar y daith bwysig honno i'r ysgol ac yn ôl, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl i'r diwrnod. Hoffwn ddweud yr awn i cyn belled â gwneud yr hyfforddiant hwnnw'n orfodol iddynt. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â hynny, ond a allwch chi fy sicrhau bod hyfforddiant ar gael ac y bydd yn ddigonol i arfogi gyrwyr â'r sgiliau hynny? Diolch.

Wel, wrth gwrs, rydym am i bob dysgwr gael taith dda a chadarnhaol i'r ysgol. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a hwy sy'n rhoi'r contractau ar waith ar gyfer cludo dysgwyr, a bydd ganddynt fecanweithiau ar waith i sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad boddhaol. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o gostau cynyddol y drafnidiaeth honno, sy'n ychwanegu at bwysau cyllido ADY.

14:55
Ieithoedd Modern

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael a'r cwymp yn nifer y dysgwyr sy'n astudio iaith fodern mewn ysgolion? OQ61980

Mae gennym strategaeth glir i gefnogi dysgu ieithoedd rhyngwladol, a nodir yn ein cynllun Dyfodol Byd-eang 2022-25. Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid Dyfodol Byd-eang yn parhau i gefnogi ein hysgolion. Yn ddiweddar, rwyf wedi cytuno i ymestyn y cynllun hwn am flwyddyn arall.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gwerthfawrogi bod yna gynllun yn ei le, ond, yn anffodus, dydy o ddim yn gweithio. Mae ymchwil gan Mentora ITM yn amlygu, er bod gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn dysgu ieithoedd, fod eu llwybrau dysgu yn aml yn cael eu rhwystro gan ffactorau eraill, megis toriadau i adrannau ieithoedd a sut mae pynciau’n cael eu grwpio yn ystod dewisiadau TGAU. Mi wyddom ni hefyd fod yna leihad o ran nid yn unig nifer y dysgwyr, ond hefyd athrawon. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu efo fi yn dweud bod rhai ysgolion ddim hyd yn oed yn cynnig TGAU neu lefel-A mewn ieithoedd modern bellach, neu ddim yn rhedeg y cyrsiau os ydy niferoedd o dan ryw drothwy arbennig. Felly, pa waith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i ddeall beth ydy maint y broblem, a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r rhwystrau penodol hyn?

Diolch, Heledd, ac rwy'n gwybod eich bod yn noddi'r digwyddiad heno, y byddaf yn ei fynychu, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Yn amlwg, mae'r dirywiad mewn ieithoedd tramor modern yn rhan o ddarlun cyffredinol ledled y DU. Nid yw'n unigryw i Gymru, ac mae'r nodau a'r camau gweithredu o fewn y cynlluniau Dyfodol Byd-eang wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r heriau i ieithoedd rhyngwladol. Rwy'n awyddus iawn i'r ysgolion i gyd ymgysylltu â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang, gan fod y gefnogaeth y maent yn ei chynnig o fudd i bob ysgol yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, sy'n amlwg yn gynnar iawn, yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n golygu bod mwy o ddysgwyr nag erioed yng Nghymru yn dysgu siarad iaith dramor fodern, a chredaf ei bod yn well iddynt ddechrau'r daith honno yn yr ysgol gynradd yn hytrach na'i gadael i'r ysgol uwchradd.

Rydym wedi gweld rhai arwyddion calonogol hefyd, gyda phethau fel cynnydd o 27.6 y cant yn nifer y cofrestriadau Almaeneg yn 2024, o'i gymharu â 2023, sy'n arwydd cadarnhaol. Ond mae gennym fwy o waith i'w wneud, ac rydych wedi tynnu sylw at rai o'r materion sy'n ymwneud ag amserlennu. Rwy'n credu eich bod yn y Siambr pan soniais sut y gwneuthum lansio'r bartneriaeth e-sgol yn sir Fynwy, lle roeddent yn dod ag ysgolion at ei gilydd i gynnig gwersi Sbaeneg rhithwir. Rwy'n credu bod mentrau fel hyn yn bwysig iawn. Yn amlwg, mater i ysgolion yw cynllunio eu cwricwlwm a phenderfynu pa bynciau y maent yn eu cynnig, ond rwy'n awyddus iawn i weld ffocws cryf ar ieithoedd tramor modern. Dyna a astudiais i yn y brifysgol; rwy'n awyddus iawn i weld hynny.

Rwyf wedi edrych ar adroddiad y British Council gyda diddordeb, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi pethau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor modern gan Brifysgol Caerdydd, a fydd yn cael ei ddathlu heno. Gallais fynd i weld hynny ar waith, ac roedd yn hollol wych, oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw gweithio gyda dysgwyr blwyddyn 9 sy'n ansicr a ydynt am ddewis iaith dramor fodern, am fod problemau hyder yn aml gydag ieithoedd tramor modern, ac mae'n cael effaith dda iawn.

Felly, mae llawer yn digwydd, ond mae mwy o waith i'w wneud. Rydym wedi cael estyniad blwyddyn o hyd i'r rhaglen Dyfodol Byd-eang, a byddaf yn gweithio gyda swyddogion a phartneriaid i ystyried sut y datblygwn y gwaith hwn ymhellach yn y dyfodol. Ond rwy'n obeithiol hefyd y bydd y ffaith ein bod yn dysgu hyn yn y cwricwlwm mewn ysgolion cynradd bellach yn help mawr i hybu brwdfrydedd a chyfranogiad mewn ieithoedd tramor modern mewn ysgolion.

I droi at fentora, mae MFL Mentoring yn amcangyfrif mai dim ond tua un o bob 10 dysgwr sy'n dewis astudio iaith ar lefel TGAU. O'r rhai sy'n gwneud hynny, maent yn dewis Ffrangeg yn bennaf, er bod y nifer hwn wedi haneru yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r lefelau uchaf ers degawdau o gofrestriadau arholiad ieithoedd annhraddodiadol, heblaw Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg, er eu bod yn parhau i fod yn gymharol fach, yn awgrymu tueddiadau tuag at ffafrio mwy o amrywiaeth. Mae cynllun strategol Dyfodol Byd-eang Cymru yn sôn am gefnogi ysgolion i osod a chynllunio eu darpariaeth ieithoedd rhyngwladol. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hyn mewn golwg, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau dewis ehangach ac yn cefnogi myfyrwyr i astudio ieithoedd fel Tsieineeg, Japaneeg, Koreeg neu Arabeg? 

15:00

Diolch, Altaf. Credaf fod y rheini’n bwyntiau pwysig iawn. Rydym wedi trafod yr heriau sydd gennym o ran darpariaeth ieithoedd tramor modern yn gyffredinol, a dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i Heledd fod gennym, yn amlwg, gymelliadau i annog pobl i ddod i mewn i'r proffesiwn i addysgu ieithoedd tramor modern. Ond fel y dywedwch, mae'r cynnig ar gyfer pynciau traddodiadol fel Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Mae gennym lawer o waith i'w wneud; nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos. Bydd cael ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd drwy'r Cwricwlwm i Gymru o gymorth. Ceir enghreifftiau o ble rydym wedi cefnogi cynllun i fyfyrwyr o Tsieina ddod i addysgu Mandarin mewn ysgolion yng Nghymru. Rwy'n hoff iawn o fentrau fel hynny.

Yn amlwg, mae pethau fel hyn yn costio arian, ond rwy’n awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn eu hyrwyddo, gan fy mod yn ymwybodol, yn y sector ysgolion preifat, eu bod yn cael cyfle i ddysgu’r ieithoedd mwy anarferol hynny. Felly, rydym yn mynd i’r afael â heriau o ran y pynciau traddodiadol, y gobeithiaf y byddwn yn gallu gwneud cynnydd arnynt, ond rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar sut i adeiladu ar bethau fel y gwaith a wnaethom ar addysgu Mandarin er mwyn addysgu ieithoedd mwy anarferol. Gorau po fwyaf o ieithoedd y gall pobl ifanc gael mynediad atynt.

Addysg Uwch

6. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector addysg uwch yng Nghymru? OQ61978

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi arian sylweddol yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a heddiw, cyhoeddais y byddwn yn cynyddu’r terfyn ar ffioedd dysgu israddedig amser llawn yn unol â chwyddiant i £9,535. Rydym hefyd yn dyrannu £10 miliwn ychwanegol i Medr i gefnogi addysg uwch yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Diolch. Mae gan ein prifysgolion, fel rŷn ni wedi clywed yn gynharach, effaith economaidd flynyddol o bron i £11 biliwn, ond maen nhw'n wynebu'r argyfwng ariannol mwyaf mewn cof. Dyna beth rŷch chi’n ei glywed pan ŷch chi’n siarad gyda phobl sy’n gweithio mewn prifysgolion—a dylwn i ddatgan, Llywydd, fod fy ngŵr yn athro ym Mhrifysgol Abertawe. Dyw ffioedd a chyllid bellach ddim yn cwrdd â chostau addysgu israddedigion, heb sôn am y gwaith ymchwil ac arloesi, ac roedd hi’n anhygoel, a dweud y gwir, eich clywed chi’n dweud yn gynharach mewn ateb eich bod chi’n teimlo bod gan Lywodraeth Cymru ddim ond rôl fach i’w chwarae yn sicrhau llewyrch i’r sector hollbwysig yma.

Un o'r ffactorau sy'n chwarae rhan yn yr argyfwng yw cwymp mewn ceisiadau. Mae gostyngiad o tua 50 y cant yn nifer y myfyrwyr tramor, diolch i bolisïau annoeth ac adweithiol Llywodraeth San Steffan ar amodau fisa myfyrwyr. Mae cyfran y ceisiadau gan ddysgwyr o Gymru ar gyfer prifysgolion ar lefel argyfyngus o isel. Dim ond traean o'n dysgwyr sydd nawr yn cymryd arholiadau safon uwch, o gymharu â bron i 50 y cant yn Lloegr. Mae'r ffigur yn ddim ond 11 y cant o ddysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Tra bod nifer o lwybrau i astudio am radd, dylai eich cefndir economaidd-gymdeithasol ddim pennu’r llwybr honno, na chwaith os ydych chi yn medru cymryd cam ar y llwybr o gwbl.

Felly, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i gefnogi prifysgolion Cymru i gynyddu nifer eu myfyrwyr? Fyddech chi’n ystyried addasu’r cynllun Seren i ffocysu'n llwyr ar wella cyfranogiad dysgwyr, ac a fyddech chi'n ystyried gosod targed ar gyfer nifer y dysgwyr sy'n astudio arholiadau safon uwch? Wnewch chi siarad hefyd gyda Llywodraeth newydd San Steffan ynglŷn ag ehangu’r amodau ar gyfer fisa myfyrwyr tramor?

15:05

A gaf i ddiolch i chi am eich cwestiwn atodol, Sioned? Roedd yn hir iawn, ond roedd yn cynnwys llawer o bwyntiau pwysig iawn, felly rwy'n fodlon ar hynny. Yn gyntaf, mae angen imi ddechrau drwy ddweud fy mod wedi llwyr ymrwymo i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, ac i gael sefydliadau cryf yma yng Nghymru sy’n gallu cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer myfyrwyr ac ymchwil, ac i ysgogi twf economaidd yng Nghymru. Rwy’n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, a ledled y DU a thu hwnt hyd yn oed. Mae’n gyfnod poenus iawn o addasu, yn dilyn y gostyngiad sydyn diweddar yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cofrestru, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwysau a briodolwyd gennych i hynny yn eich cwestiwn i mi. Mae rhai o'r prifysgolion hynny yn cynnal ail archwiliad sylfaenol o'u modelau busnes sefydliadol ac yn ceisio sicrhau mwy o arbedion effeithlonrwydd a chyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng sefydliadau. Ac fel y gwyddoch, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr prifysgolion a cholegau, yn ogystal â Prifysgolion Cymru, i ddeall y pwysau y maent yn ei wynebu. Rydych yn llygad eich lle i nodi'r angen inni weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar fater myfyrwyr rhyngwladol, a hefyd, fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll y prynhawn yma yn y Siambr, i edrych ar fodel ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer addysg uwch yn y tymor hir.

Yn olaf, fe sonioch chi am gyfraddau cyfranogiad. Mae hynny'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder i mi ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a dyma ble rydym yn sianelu ein hadnoddau economaidd ac adnoddau ehangach y Llywodraeth, er mwyn canolbwyntio'n agos ar hynny. Byddai wirioneddol bwysig gweld mwy o ddysgwyr yn ymgymryd â chyrsiau Safon Uwch, ond gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith y rôl y gall cymwysterau BTEC ei chwarae o ran mynediad i brifysgolion, ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn ymwybodol o hynny—nid yw’n fodel haenog; mae llawer o brifysgolion ledled Cymru a thu hwnt yn derbyn cymwysterau BTEC.

Mae eich pwynt ynglŷn â rhaglen Seren yn un yr ydym yn edrych arno, a gobeithiaf gael rhywfaint o newyddion ynglŷn â hynny cyn bo hir. Ac yn olaf, hoffwn ddweud y bydd y £10 miliwn a gyhoeddais heddiw ar gyfer Medr—bydd ffocws mawr o'i fewn ar ehangu cyfranogiad.

Os edrychwn ar addysg uwch yng Nghymru—ac mae Cefin a minnau wedi trafod hyn yn helaeth gyda chi heddiw—gwelwn ddangosfwrdd gyda llawer o’r goleuadau’n diffodd, a chredaf mai un o’r goleuadau mwyaf sy'n diffodd ar ddangosfwrdd prifysgolion Cymru mewn gwirionedd yw cyfraddau cyfranogiad pobl iau. Felly, yng Nghymru rydym wedi gweld 33 y cant o bobl ifanc 18 oed yn camu ymlaen i brifysgol, o gymharu â 42 y cant yn y DU gyfan. Dyna’r bwlch mwyaf amlwg yn y cyfnod modern, ac mae hwnnw’n ystadegyn sy’n peri cryn bryder, nid yn unig i’n prifysgolion, ond i gyfleoedd bywyd y bobl ifanc hynny hefyd. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pa waith y byddwch chi a'r Gweinidog addysg wedi'i gomisiynu i ddeall y rhesymau sylfaenol pam fod hynny'n digwydd yng Nghymru, ac a yw'n ymwneud â pherfformiad addysgol cyffredinol Cymru, sy'n amlwg yn waeth o lawer na gweddill y Deyrnas Unedig, neu a oes ffactorau eraill ar waith yma hefyd?

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Tom. Rwy’n sicr yn cytuno â chi fod angen inni gynyddu cyfraddau cyfranogiad ein pobl ifanc yn y brifysgol yma yng Nghymru. A dweud y gwir, un ystadegyn gwirioneddol syfrdanol yw y bydd 95 y cant o swyddi newydd yma yng Nghymru, erbyn 2035, yn swyddi i raddedigion. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn arfogi ein pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Ond yn ogystal â hynny, gadewch inni gydnabod rôl prentisiaethau, y gellir eu cyflawni y tu allan i'r byd addysg uwch hefyd, ac sy'n creu'r sgiliau pwysig sydd eu hangen arnom ar gyfer ein heconomi.

Rwy'n ceisio cofio rhan olaf eich cwestiwn, oherwydd—

Iawn. Mae hynny'n bwysig iawn, onid yw? [Chwerthin.] Felly, mae fy swyddogion yn brysur iawn yn gweithio ar y maes hwn, a byddant yn adrodd yn ôl i mi yn y misoedd nesaf ar yr ymchwil y maent wedi’i wneud. Mae cael data i gefnogi ein gwaith yn bwysig iawn i mi ac i Ysgrifennydd y Cabinet, felly dyna un o'r newidiadau o ran ffocws yr ydym ein dau wedi'u cyflwyno i'r adran addysg. Ac edrychaf ymlaen, yn y flwyddyn newydd, at allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y gwaith a’r data yr ydym wedi’i gasglu yno.

15:10

Prynhawn da, Weinidog. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw sefydliad dyfarnu graddau hynaf Cymru, ac mae pryder cynyddol ynghylch y campws yn Llanbedr Pont Steffan, lle y mae llawer ohonom wedi ymweld ag ef ac yn ei ystyried yn galon i ganolbarth Cymru. Mae trigolion, myfyrwyr a busnesau, o Lanbedr Pont Steffan a thu hwnt yng Ngheredigion, yn wirioneddol bryderus am ddyfodol eu cymunedau. Rwy'n cydnabod eich bod wedi dweud—mae’r Llywodraeth wedi dweud—mai mater i’r brifysgol yw hwn, ond mae canlyniadau ergyd ddinistriol cau’r campws hwnnw yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r unigolion hynny i’r gymuned leol a thu hwnt. Felly, tybed a gaf i ofyn i chi, yng ngoleuni'r pryderon hyn, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r trigolion, aelodau staff a'r gymuned ehangach yn y cyfnod hwn o ansicrwydd gwirioneddol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich cwestiwn, Jane. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn deall arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol y brifysgol honno yn Llanbedr Pont Steffan yn llwyr. Mae gennyf nifer o ffrindiau a aeth i'r brifysgol yno, a gwn fod ganddi le arbennig iawn yng nghalonnau pobl, yn enwedig yr adeilad hanesyddol, eiconig yno hefyd. Ond ni fydd yn syndod i chi fy nghlywed yn dweud bod prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau ymreolaethol, ac ni fyddai'n briodol i Weinidogion Cymru ymyrryd yn eu materion academaidd, megis darpariaeth cyrsiau a lleoliad eu campws. Rwy’n cydnabod y pryder y gallai’r cyhoeddiad hwn gael effaith negyddol ar yr economi leol, yn enwedig canol y dref yn Llanbedr Pont Steffan, a bydd Gweinidogion Cymru, gan fy nghynnwys i, yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â’r brifysgol wrth i gynlluniau ddatblygu.

Er ein bod yn gweld cyrsiau dyniaethau dan fygythiad ledled y DU, hoffwn ddweud nad yw hynny’n wir gyda’r cynnig gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cynnig yw hwn sy'n ymwneud â'r brifysgol yn ymateb yn strategol i heriau i ddiogelu cyrsiau dyniaethau yn eu sefydliad drwy alluogi'r dyniaethau i gael eu cydleoli â disgyblaethau eraill a chynnig profiad mwy bywiog i fyfyrwyr. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol mai dim ond 92 o israddedigion amser llawn sydd yn Llanbedr Pont Steffan bellach, sy’n llai na’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd Cymru, felly mae angen inni fod yn realistig am y sefyllfa y mae'r brifysgol yn ei hwynebu. Hoffwn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn cael eu cefnogi, a buaswn yn disgwyl gweld egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn cael eu defnyddio hefyd wrth ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd wedi’u lleoli yn Llanbedr Pont Steffan ar hyn o bryd i barhau â’u hastudiaethau gyda chyn lleied o darfu â phosibl, os caiff y cynigion hyn eu rhoi ar waith.

Buddsoddiad yn Ysgolion Pontypridd

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ysgolion Pontypridd fel rhan o'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ61968

Buddsoddwyd £52 miliwn o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru mewn ysgolion yn ardal Pontypridd drwy raglen cymunedau dysgu cynaliadwy a grantiau cyllid cyfalaf cysylltiedig ers 2014. Mae cynllun buddsoddi naw mlynedd Rhondda Cynon Taf yn nodi buddsoddiad pellach o £84 miliwn ym mlynyddoedd 1-6, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes ac argaeledd cyllideb yn y dyfodol.

A gaf i ddiolch i chi am eich ateb? Hoffwn ofyn mwy am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Yn sicr, yn fy etholaeth i, yn etholaeth Pontypridd, rydym wedi cael ysgol Y Pant ac ysgol y Ddraenen Wen—£100 miliwn; chweched dosbarth ysgol Bryn Celynnog, £21 miliwn; ysgol Ffynnon Taf, Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant, ysgol Llwyncrwn ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail, £7.2 miliwn; ysgol Pont-y-clun, ysgol Penygawsi ac ysgol Llanilltud Faerdref, £53 miliwn—roeddech yn yr agoriadau diweddar—ac ysgol gyfun Tonyrefail, £43 miliwn. Mae mwy na hyn, ond rwy'n amcangyfrif bod oddeutu £0.25 biliwn wedi'i fuddsoddi dros y degawd diwethaf. Mae’n rhaglen gwbl drawsnewidiol ar gyfer addysg, yn wahanol i unrhyw beth arall yn y Deyrnas Unedig. Pa warantau y gallwch eu rhoi i ni y bydd y rhaglen hon yn parhau fel bod gennym, ledled Cymru gyfan, yr ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain y mae ein plant yn eu haeddu?

Diolch, Mick. Rwy'n credu eich bod yn gwbl iawn i dynnu sylw at y cyllid aruthrol a fuddsoddir gennym mewn cyfalaf ysgolion, sydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r dull a fabwysiadwyd dros y ffin. Mae RhCT wedi elwa o £184 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion a cholegau ers i’r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy bresennol ddechrau yn 2014. Fel rydych wedi'i nodi, mynychais agoriad Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref a bloc chweched dosbarth Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn eithaf diweddar, ac rwyf hefyd wedi ymweld ag ysgol Tonyrefail, sydd hefyd yn adeilad gwych. Rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i fuddsoddi mewn cyfalaf ysgolion. Rydym am i’n pobl ifanc gael eu haddysgu mewn adeiladau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Pan oeddem yn ysgol Bryn Celynnog, fe glywsoch chi'r bobl ifanc yn siarad mor angerddol am eu cyfleusterau gwych, a pha mor werthfawr y mae hynny’n gwneud iddynt deimlo fel dysgwyr.

Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Cyhoeddwyd £20 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddoe gan y Prif Weinidog ar gyfer atgyweirio ysgolion, ac mae gennym raglen dreigl naw mlynedd y cymunedau dysgu cynaliadwy, a gymeradwywyd gennyf, ac mae awdurdodau lleol yn cyflwyno'r cynigion ar hynny. Felly, mae rhagor o wariant cyfalaf yn yr arfaeth, ac yn amlwg, rydym yn aros am y gyllideb yr wythnos nesaf hefyd. Diolch.

15:15
Addysg Bellach yn Rhydaman

8. Ydy'r Llywodraeth yn cefnogi'r nod o barhad addysg bellach yn Rhydaman? OQ61987

Y colegau sy'n gyfrifol am reolaeth strategol eu hystad, a gwneir penderfyniadau ynghylch unrhyw gampws neu gyfleusterau yn lleol. Mae Coleg Sir Gâr wedi cynnal adolygiad helaeth o'i ystad gyffredinol i sicrhau ei bod yn bodloni anghenion dysgwyr ar draws yr ardal y mae'n ei gwasanaethu.

Ie, ond ydy'r Llywodraeth yn cefnogi darparu addysg bellach yn Rhydaman? O gau'r campws—dyna'r cynlluniau ar hyn o bryd, wrth gwrs, gan y coleg—mi fydd Rhydaman un o'r ychydig drefi o'i faint heb gampws, heb ddarpariaeth addysg bellach o gwbl. Mi fydd e'n cymryd dros awr ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd safleoedd addysg bellach cyfagos. Does bosib nad yw hynny'n ddarpariaeth ddigonol ar gyfer y dref, a hefyd yr ardal o'i chwmpas. Dwi'n croesawu'r sgwrs gawson ni'n ddiweddar, Gweinidog, a'ch parodrwydd chi i drafod gyda phartneriaid, fel Addysg Oedolion Cymru. Fyddech chi'n fodlon cael cyfarfod pellach gyda fi ac Aelodau eraill yn y rhanbarth i drafod ffordd o sicrhau bod yna ddarpariaeth yn dal i fodoli i Rydaman, ar y cyd â'r coleg, i weld a oes yna gynlluniau amgen maen nhw'n gallu rhoi ar y ford sydd ddim yn golygu mynd o sefyllfa lle mae'r coleg wedi bod yno ers bron i 100 mlynedd a'n bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle does yna ddim darpariaeth o gwbl? Fyddai hwnna ddim yn ddigonol, na fyddai?

Diolch, Adam. Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gyfarfod â chi a Cefin Campbell a Joyce Watson fis diwethaf i drafod y mater hwn, ac rwy’n deall angerdd y tri ohonoch dros y mater hwn hefyd. Fe wyddoch mai penderfyniad i’r coleg, nid i Weinidogion Cymru, yw cau campws Rhydaman. Cytunodd tîm arweinyddiaeth a llywodraethwyr Coleg Sir Gâr mai ad-drefnu’r ystad bresennol i adleoli’r ddarpariaeth o Rydaman a’i gampws yn Ffynnon Job i gampws Pibwrlwyd gyda chyfleuster blaengar gwerth £90 miliwn i wasanaethu’r ardal gyfan fyddai’r opsiwn gorau ar gyfer y coleg a'r dysgwyr ar draws y rhanbarth.

Nododd yr adolygiad y mae Coleg Sir Gâr wedi’i gynnal o’i ystad y byddai angen ad-drefnu’r ystad er mwyn gwella ei sefydlogrwydd ariannol hefyd, ac i ganiatáu i’r coleg fuddsoddi yn y cyfleusterau blaengar hynny i wella arlwy’r cwricwlwm a phrofiad y dysgwyr. A gwn eich bod yn ymwybodol, fel finnau, fod y cyfleusterau ar gampws Rhydaman naill ai mewn cyflwr gwael neu wael iawn, yn anffodus, sy'n golygu eu bod yn ddrud i'w cynnal ac yn aneffeithlon. Mae’r coleg wedi rhoi gwybod i ni y bydd cymorth sylweddol ar gael i ddysgwyr a staff drwy gydol y cyfnod pontio, ac y bydd cludiant yn cael ei ddarparu i ddysgwyr o Rydaman i’r campws.

Ac ar eich cwestiwn olaf, rwyf bob amser yn barod i gynnal deialog gydag Aelodau sydd mor angerddol yn y meysydd hyn, ond buaswn hefyd yn eich annog, fel y gwneuthum innau yn y cyfarfod hwnnw, i gael y ddeialog honno'n uniongyrchol â'r coleg, gan mai dyna ble y gwneir y penderfyniad ei hun.

15:20

Diolch i'r Gweinidog.

Pe bawn yn marcio fy ngherdyn sgorio fy hun ar y sesiwn gwestiynau honno, buaswn wedi rhoi sero allan o 10 i mi fy hun. Fe ganiateais i rai cwestiynau fynd ymlaen yn rhy hir o lawer, gelwais ddau lefarydd i ofyn cwestiynau atodol, rhywbeth nad wyf i byth yn ei wneud, a thorrais gwestiynau llefarwyr Plaid Cymru i lawr o dri i ddau, felly fe wneuthum yn arbennig o wael. Ni osodwyd unrhyw gynseiliau yn y sesiwn honno, a byddaf yn dychwelyd i fy nhrefn arferol yr wythnos nesaf.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Cwestiwn amserol i'w ateb gan y Dirprwy Brif Weinidog, i'w ofyn gan Delyth Jewell.

Y Llyncdwll ym Merthyr Tudful

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol a phreswylwyr yr effeithir arnynt gan y llyncdwll ym Merthyr Tudful, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r pryderon diogelwch uniongyrchol a'r goblygiadau hirdymor ar gyfer cartrefi yr effeithir arnynt? TQ1266

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:21:13
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Delyth. Mae’r cynllun cymorth ariannol brys ar gael i awdurdodau lleol sy’n wynebu costau gormodol wrth ymateb i argyfyngau. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gyfrifo'r costau sy’n gysylltiedig â storm Bert, a bydd cymorth ar gael ar gyfer costau'n ymwneud ag ymateb i dirlithriadau, llithriadau tomenni glo a llyncdyllau.

Diolch am hynna. Rwyf i'n gwerthfawrogi popeth dŷch chi'n ei wneud. 

Rhag ofn fod unrhyw un heb glywed beth a ddigwyddodd, dros y penwythnos, agorodd llyncdwll yn ardal Nant Morlais yn Pant ym Merthyr Tudful, a arweiniodd at wacáu dros 30 o gartrefi. Mae'n sefyllfa hynod gythryblus i drigolion. Mae llawer ohonynt bellach mewn llety dros dro ychydig wythnosau'n unig cyn y Nadolig, ac nid oes sicrwydd pryd y byddant yn gallu dychwelyd i'w cartrefi. Ac mae'r llyncdwll yn tyfu—mae holltau'n ymledu i ffyrdd, gerddi ac eiddo cyfagos.

Nawr, mae ymchwiliadau cynnar yn awgrymu ei fod wedi'i achosi, yn ôl pob tebyg, gan law trwm yn difrodi cwlfert, a waethygwyd gan ddau dirlithriad. Nawr, mae’n peri pryder i drigolion y stryd honno, ond mae hefyd yn codi pryderon difrifol am gydnerthedd ein seilwaith mewn cymunedau fel Merthyr Tudful, lle mae systemau draenio sy’n heneiddio yn ei chael hi'n anodd ymdopi â stormydd cynyddol ddifrifol. Mae'r cyngor wedi dweud y gallai'r difrod gymryd misoedd i'w atgyweirio, a byddai hynny'n gadael teuluoedd mewn ansicrwydd am amser maith. Rwy'n poeni am yr effeithiau ariannol. Rwyf hefyd yn poeni am yr effeithiau emosiynol y gallai hynny ei chael ar drigolion. Hoffwn wybod pa gymorth mwy hirdymor y gellir ei ddarparu iddynt yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac ar ôl hynny, os gwelwch yn dda.

Ond mae'r llyncdwll hwn wedi agor, fel y nodoch chi, Ddirprwy Brif Weinidog, ochr yn ochr â thirlithriadau mewn pentrefi ar draws y Cymoedd a llithriad tomen lo yng Nghwmtyleri. Mae’r digwyddiadau hyn yn tanlinellu pa mor agored i niwed yw ein seilwaith sy’n heneiddio i’r stormydd ffyrnig hyn. I gymunedau ledled Cymru, nid damcaniaethol yn unig yw'r risg, mae'n realiti. Mae'n bygwth cartrefi, bywoliaeth pobl a diogelwch y cyhoedd hefyd. Nawr, rwy'n croesawu'r yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, oherwydd mae'n siŵr fod gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol yn cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r gwendidau hyn. Mae angen adnoddau digonol ar gyfer ymateb brys, ar gyfer adolygiadau cynhwysfawr o systemau draenio a sefydlogrwydd tir a gwell trefniadau mapio risg i sicrhau, pan allai pethau fel hyn ddigwydd eto, ein bod yn barod ar eu cyfer.

Nawr, maen nhw hefyd angen cael sicrwydd, rwyf i'n meddwl, ac rydyn ni angen cael sicrwydd, am fel bydd popeth sydd angen digwydd yn cael ei wneud i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Buaswn i'n hoffi gwybod, yn gyntaf, ar gyfer y teuluoedd ym Merthyr sydd wedi cael eu heffeithio, pa gefnogaeth, fel dwi'n ei ddweud, sy'n mynd i gael ei rhoi iddyn nhw ar gyfer yr wythnosau yma sy'n rhedeg ymlaen at y Nadolig. Os oes rhai teuluoedd gyda phlant ifanc, dwi'n meddwl, byddan nhw'n gallu bod yn eithriadol o fregus ar hyn o bryd. Felly, byddai hynna'n bwysig.

Buaswn i hefyd yn gofyn pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ymhellach at yr hyn dŷch chi newydd ei ddweud, ac rwyf i yn croesawu beth dŷch chi newydd ei ddweud am yr arian, i wneud yn siŵr bod cymorth llety, fod cymorth ariannol, ar gyfer nid dim ond y cyfnod yma o rai wythnosau, a hefyd cefnogaeth emosiynol ar gyfer y teuluoedd. O ran asesiadau risg, a fydd yr arian yna ar gyfer asesiadau trylwyr, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, nid dim ond ar gyfer ffosydd, ond ar gyfer ein systemau draenio, ar gyfer tomenni glo hefyd? Ac yn olaf, pa gamau fydd yn cael eu cymryd i gryfhau ein ffosydd ni, sefydlogi'r tir yn y lleoedd hyn sydd efallai fwyaf bregus i'r newidiadau yma?

15:25

Diolch, Delyth, a diolch am y ffordd rydych wedi codi’r cwestiwn hwn. Rydym yn cydymdeimlo â'r rheini sydd wedi'u heffeithio gan hyn ychydig cyn y Nadolig, yn gorfod symud allan o'u cartrefi, 30 o deuluoedd. Rydym yn deall, gyda llaw, o ddiweddariad y cyngor ar 3 Rhagfyr—felly, eu diweddariad diweddaraf—eu bod yn obeithiol y bydd rhai trigolion—mae'n rhaid inni fod yn ofalus gyda hyn, gan fod angen iddo fod yn gwbl ddiogel, wedi'u asesu'n briodol—yn gallu symud yn ôl i'w cartrefi cyn diwedd yr wythnos. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pethau'n iawn i bawb hefyd. Rwy’n tybio na fydd hynny’n wir i'r holl drigolion yr effeithiwyd arnynt ac sydd wedi’u dadleoli ar hyn o bryd.

Felly, o'r bron i 30 o gartrefi sydd wedi'u gwacáu, mae'r rhai sydd angen cymorth yn cael eu cefnogi gan dîm tai'r cyngor hefyd, felly mae gwaith gwirioneddol gydgysylltiedig yn digwydd yma. Rwy'n falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet gyda ni, oherwydd, ym mhob un o sgil-effeithiau storm Bert, cafwyd ymgysylltu agos a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd, a'r cais hwnnw i gynghorau, 'Dywedwch wrthym beth yw’r effeithiau, dywedwch wrthym beth yw hyd a lled y difrod’, o ran costau seilwaith ond hefyd o ran trigolion, ac mewn cyd-destunau eraill, busnesau hefyd. Felly, rydym yn parhau â'r ymgysylltu byw hwnnw. Cyfarfûm y bore yma, gyda llaw, yn dilyn storm Bert, i gael trosolwg cychwynnol, â’r holl bartneriaid cydnerthedd—felly, awdurdodau lleol, ymatebwyr brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd, pawb—i gael syniad cychwynnol o hyd a lled yr effaith a sut y gallem ddysgu gwersi hefyd wrth symud ymlaen, er mwyn lliniaru'r effeithiau.

Ond yn benodol ar hyn, yr hyn a ddeallwn yw y credir bod cwlfert wedi chwalu oherwydd grym y dŵr a oedd yn llifo drwyddo. Mae rhai pethau wedi'u gwneud yn barod. Gwnaed gwaith brys ddydd Llun a dydd Mawrth—i dawelu meddyliau'r trigolion—oherwydd y gwaith gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fe wnaeth peirianwyr ar y safle ac eraill greu argae yn Nant Morlais iddynt allu gosod pympiau i bwmpio’r dŵr drosodd, ei atal rhag llifo drwy'r cwlfert, a'i ddargyfeirio. Maent yn parhau i archwilio'r cwlfert gyda drôn, ond maent hefyd yn cynnal arolygon radar treiddiad dwfn i nodi a oes unrhyw wagleoedd eraill, gan mai'r hyn nad ydym am ei weld yw pobl yn dychwelyd os ydym yn amau bod perygl arall. Felly, maent yn defnyddio'r holl atebion technolegol i ganfod hyd a lled y broblem.

Yr hyn y maent yn ceisio ei wneud yw atal y dŵr rhag llifo i mewn i'r cwlfert, a bwrw ymlaen â gwaith sefydlogi wedyn i'w atal rhag lledu ymhellach, er mwyn i'r trigolion sy'n gallu gwneud hynny symud yn ôl i mewn, ond yn ofalus, mae'n rhaid imi ddweud—mae'n rhaid iddi fod yn gwbl ddiogel iddynt wneud hynny. Ond byddant yn cynnal archwiliad llawn wedyn pan fyddant wedi lleihau llif y dŵr fel y gallant wneud atgyweiriadau parhaol, ac yna, gall pobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Fe sonioch chi, yn gwbl briodol, am yr hyn a wnawn o ran yr asedau seilwaith ehangach ledled Cymru. Rwy'n falch o ddweud ein bod ychydig ar y blaen yn hyn o beth. Mae'n debygol mai cwlfert yn chwalu oedd wrth wraidd y broblem, yn gysylltiedig, yn ôl pob tebyg, â phwysau aruthrol y dŵr storm a oedd yn dod drwodd ac ati. Ond yn ôl yn 2020, pan wnaethom fwrw ymlaen â chynigion am strategaeth genedlaethol ar gyfer ein cronfa ddata asedau, arweiniodd hynny at gyflwyno cronfa ddata asedau genedlaethol yng Nghymru. Fe wnaethom weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i gynhyrchu'r gronfa ddata hon. Mae ar gael ar wefan CNC. Mae'n ddogfen fyw, oherwydd nid yn unig ei bod yn gronfa ddata o'r asedau tanddaearol hynny a'r asedau llifogydd o'r môr ac ati—mae'n rhestr gyfan o bethau—ond mae a wnelo â chyflwr y rhain hefyd. Felly, nid yw'n ddigon da dweud, 'Rydym yn gwybod ble mae'r pethau hyn.' Mae arnom angen asesiad o'u cyflwr hefyd. Felly, credaf y gallwn roi sicrwydd yn y ffordd honno hefyd.

Nawr, o ran cymorth pellach i drigolion ac i'r awdurdod lleol hefyd, fel y dywedaf, mae gennym gynllun cymorth ariannol brys ar waith. Wrth weld yr effaith wirioneddol ar drigolion a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan bethau sy'n gysylltiedig â storm Bert, rwy'n credu ein bod fel Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio camu i'r adwy lle gallwn helpu, yn ychwanegol at y cymorth a roddir gan yr awdurdodau lleol eu hunain. Felly, rydym yn barod. Mae arnom angen asesiad o’r effaith, ond yn bwysicaf oll, mae yna bobl ar lawr gwlad sy’n ei gwneud yn ddiogel, yn ceisio cynnal yr arolygiadau cywir, ac rwy'n gobeithio, yn ei gwneud yn ddiogel wedyn i bobl allu dychwelyd i’w cartrefi. Rwy’n deall pa mor rhwystredig yw hyn i drigolion, ond mae’r bobl iawn ar lawr gwlad yn gwneud y pethau cywir.

Ddirprwy Brif Weinidog, yn gyntaf ac yn bennaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â thrigolion Nant Morlais a Pant yn dilyn ymddangosiad sydyn llyncdwll ger eu heiddo. O'r hyn a ddeallaf, ac ar ôl siarad â rhai o'r trigolion, roeddent yn dweud mai maint gobennydd oedd y twll i ddechrau a'i fod yn dal i chwyddo yn ei faint. Mae'n mynd i fod yn 50 troedfedd o ddyfnder a 16 troedfedd o led. Hoffwn ddiolch hefyd i staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac fel y sonioch chi, y tîm tai am eu camau cyflym yn gwacáu ac ailgartrefu preswylwyr y 30 eiddo ar draws yr ardal.

Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, gŵyr pob un ohonom fod y Nadolig ar y gorwel, fod 2025 rownd y gornel yn llythrennol, a'i bod yn hollbwysig felly fod y trigolion yr effeithir arnynt yn gallu dychwelyd i'w cartrefi cyn yr ŵyl. Felly, hoffwn wybod, a gwn fod fy nghyd-Aelod wedi sôn am hyn, ond a fyddwch chi'n gallu rhoi unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i'r trigolion drwy'r cyngor ar gyfer hyn?

Deallaf fod y llyncdwll, fel y dywedoch chi'n flaenorol, wedi’i achosi gan gwlfert yn chwalu, rhywbeth roedd y cyngor, yn wir, yn ymwybodol ohono ac wedi bod yn ei fonitro ddwywaith y flwyddyn oherwydd pryderon a godwyd. Felly, fe sonioch chi y bydd asesiad yn cael ei gynnal, ac mae hynny'n hollol iawn, ond o ran monitro rheolaidd, beth yw'r cynllun? O ystyried bod yr ystad yn 35 oed, pa asesiadau y mae’r awdurdodau wedi’u gwneud, neu y byddant yn eu gwneud, o broblemau tebyg yn yr ardal? Fel y dywedais, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom dderbyn ei bod yn ystad gymharol newydd a bod gennym lawer o rai tebyg, ac o'r oedran hwnnw'n arbennig, ledled Cymru, felly hoffwn wybod beth yw'r cynlluniau. Ac yn olaf, hoffwn wybod pa gamau unioni sy'n mynd i gael eu cymryd i atal rhagor o lyncdyllau rhag ymddangos gan achosi mwy o darfu a chan beri risg i ddiogelwch y cyhoedd yn y dyfodol. Diolch.

15:30

Diolch yn fawr, Natasha, ac os caf ddweud, o ran cyllid, mae cyllid eisoes ar gael ar gyfer pethau fel atgyweirio cwlfertau ac yn y blaen, drwy'r rhaglen rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol, felly gellir defnyddio hwnnw i drwsio asedau diffygiol fel cwlfertau. Ond os oes galw, oherwydd maint yr effaith, naill ai ym Merthyr Tudful neu mewn awdurdodau lleol eraill sy'n ymdopi â chanlyniadau storm Bert, rydym eisoes wedi dangos ein bod yn barod i helpu. Yr hyn sydd ei angen arnom wedyn, ac maent yn ei wneud, yw'r wybodaeth gan yr awdurdodau lleol hynny; ni fydd hi ganddynt ar unwaith, er bod gennym syniad eisoes. Ond mae angen y manylion arnom am yr effaith, o un awdurdod i'r llall, i weld a allwn gynnig unrhyw gymorth ychwanegol. 

Ac fel y dywedais, o ran trigolion a busnesau, nid busnesau yn yr achos penodol hwn, ond effeithiau ehangach storm Bert, rydym eisoes wedi dangos, lle gallwn, ein bod wedi bod yn barod i gamu i'r adwy gyda chymorth ychwanegol, gan gynnwys, er enghraifft, ar gyfer cartrefi nad oedd ganddynt yswiriant. Ond chwarae teg i gyngor Merthyr Tudful a chyngor Rhondda Cynon Taf, maent hwythau hefyd wedi camu i'r adwy gyda'u cymorth eu hunain trwy fynd i'w cronfeydd wrth gefn eu hunain.

Fe wnaethoch chi grybwyll yr ased, a gaf i eich cyfeirio yn ôl at yr ateb a roddais yn gynharach ar y gofrestr asedau? Roeddem ar y blaen yma yng Nghymru. Ni allwn atal pob ddigwyddiad o'r fath, yn enwedig lle mae gennym dywydd fel hyn a allai effeithio. Nawr nid ydym yn gwybod i sicrwydd eto fod hyn wedi digwydd o ganlyniad i storm Bert, ond ceir rhagdybiaeth fod cwymp y cwlfert a'r twll yn lledu yn gysylltiedig â phwysau'r dŵr sy'n gollwng drwy'r cwlfert hwnnw. Y peth da yw bod gennym y gronfa ddata—rydym ar y blaen gyda hyn—ond i ategu fy ateb blaenorol, mae'r gronfa ddata honno yno i fapio cyflwr asedau yn ogystal â'u lleoliad.

O ran unrhyw broblemau ehangach yn yr ardal, un o'r pethau y mae'r peirianwyr yn ei wneud yw defnyddio radar treiddiad dwfn, a all nodi unrhyw broblemau eraill a allai fodoli, fel gwagleoedd neu lyncdyllau. Felly, rwy'n siŵr na fyddant am ganiatáu i unrhyw un ddychwelyd i gartrefi a allai fod mewn perygl, ond byddant am sicrhau bod yr ardal ehangach yn ddiogel hefyd. Felly, mae angen inni adael iddynt fwrw ymlaen â'u gwaith a meddwl am y penderfyniadau cywir i dawelu meddyliau'r trigolion.

Diolch am yr atebion a roesoch hyd yma a diolch i Delyth am ofyn y cwestiwn. Ac rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd Natasha am y gwaith a wnaed gan swyddogion i geisio lleddfu'r hyn a ddigwyddodd. Ond mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Pant wedi bod yn erchyll, ac rwy'n cydymdeimlo â phob teulu yr effeithiwyd arnynt. Rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf, ond gobeithio bod ffordd i'r trigolion gael—. Fel y dywedoch chi, efallai y bydd rhai ohonynt yn ôl i mewn cyn y Nadolig, felly rwy'n gobeithio hynny. 

Ond nid problem ym Merthyr Tudful yn unig yw hi; mae llyncdyllau eraill yn agor mewn rhannau eraill o Gymru o ganlyniad i storm Bert. A'r domen lo yng Nghwmtyleri, gwn eich bod wedi bod yno, ond a welsoch chi hefyd y llyncdwll ger y caffi yno—caffi Pentref Tyleri? Unwaith eto, mae hynny'n peri pryder. Nid yw mor agos at dai, ond mae'n dal i beri pryder gwirioneddol, ac rwy'n ymwybodol o lyncdyllau llai eraill yn fy rhanbarth sy'n peri pryder i bobl. Y neges hollbwysig i'w dysgu o'r digwyddiadau hyn yw ei fod yn digwydd mewn sawl ardal a oedd unwaith yn ddiogel, ond nad yw'n ymddangos eu bod yn ddiogel mwyach.

Felly, y cwestiwn wedyn yw bod gwir angen diogelu'r seilwaith ar gyfer y dyfodol yn erbyn y digwyddiadau tywydd garw mwy mynych a gawn. Felly, a ydych chi'n cytuno bod angen gwneud mwy—ac mae'n ymddangos eich bod chi'n dweud hynny—a sut rydych chi'n cynllunio ar gyfer diogelu at y dyfodol? Sut rydych chi'n bwriadu edrych ar y rhwydwaith draenio a'r seilwaith, er mwyn ymdopi'n well â'r pwysau dŵr? Y cwestiwn fyddai: os cafodd y cwlfert hwn ei archwilio, a fyddai wedi cael ei nodi? Dyna un o'r cwestiynau. Os dylai fod wedi cael ei nodi, pam na chafodd? Os na chafodd ei nodi, sut y gallai hynny fod? A sut rydych chi'n defnyddio'r dechnoleg honno, y dechnoleg radar dwfn, i edrych ar hyn mewn gwirionedd? A yw hynny'n digwydd unwaith am ei fod wedi digwydd, neu a yw'n digwydd ar draws ein meysydd glo ac ar draws yr ardal? Felly, yn y bôn, pa mor aml y mae hynny'n digwydd, a sut yr awn i'r afael â'r hyn sydd o dan y ddaear, a sut y gallwn ni sicrhau nad yw hyn yn digwydd i deuluoedd eraill?

15:35

Diolch, Peredur. Awdurdodau lleol, gan fod gennym y gronfa ddata genedlaethol bellach, fel ein bod yn gwybod ble mae'r asedau—. A gall yr asedau hyn amrywio, gyda llaw, rhwng cwlfertau a phethau sy'n diogelu ein harfordir. Ceir amrywiaeth o asedau sy'n ymwneud â llifogydd a symudiad dŵr, symudiad cynyddol y cyfeintiau o ddŵr a welwn ledled Cymru. Felly, pwrpas y gronfa ddata honno, fel y soniais o'r blaen, yw monitro yn ogystal â mapio. Felly, mae angen i awdurdodau lleol fwrw ati i wneud hynny, ac maent yn gwneud hynny.

Daw'r her pan gawn ddigwyddiadau tywydd fel rydym newydd eu cael. Os yw'n wir, fel y rhagdybir, fod hyn yn gysylltiedig â dŵr yn llifo drwodd, y cyfeintiau a lifai drwy'r cwlfert, mae'n ddigon posibl na fyddai'r cwlfertau hyn neu rai eraill wedi dangos problem cyn hynny, ond cawsant eu gorlwytho. Ond dyna'n union pam y mae angen inni barhau i fonitro cyflwr yr asedau hyn yn rheolaidd, nid dim ond gwybod ble y maent.

Os caf ddweud hefyd, Peredur, mae hwn yn waith ar draws y Llywodraeth, o ran y ffordd yr ydym yn ymateb. Nid Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn unig, sy'n eistedd wrth fy ymyl, ond fe wnaeth fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant—tai a llywodraeth leol—gyfarfod â'r arweinydd, i drafod hyn ymysg pethau eraill, ac effaith storm Bert, ddydd Llun, rwy'n credu. Rwyf wedi trafod hyn gydag ef yn fyr heddiw fel rhan o gyfarfod mwy gydag arweinwyr awdurdodau lleol, ac eraill hefyd. Ac rwy'n gobeithio, ar sail gwahoddiad a roddodd i mi, y byddaf yn mynd i fyny ac yn edrych ar hyn fy hun hefyd, ac yn dysgu mwy, oherwydd rwyf bob amser yn teimlo fy mod yn dysgu mwy drwy fod allan yno'n edrych arno'n uniongyrchol, a siarad â thrigolion yr effeithir arnynt, ac yn y blaen.

Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud, serch hynny, yw bod y gwaith a wnaethom ar—roedd dechrau hyn gyda'r strategaeth genedlaethol yn 2020, a dweud, 'Mae'n rhaid inni gael y gronfa ddata hon, mae angen inni wybod ble mae'r pethau hyn, ac mae angen inni wybod beth yw eu cyflwr', wedi ein rhoi ar y sylfaen gywir nawr. Ond nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn cael digwyddiadau fel hyn eto.

Diolch, Lywydd. Nid wyf am dynnu oddi wrth yr hyn a ddigwyddodd yn Pant, ond rwy'n cofio llyncdwll yn ymddangos ger cae ysgol yng ngogledd Cymru. A phan oeddem yn gwneud gwaith cynnal a chadw priffyrdd, fe wnaethom godi plinth concrit i ac roedd gwagle oddi tano. Felly, pe bai wedi cracio, byddai wedi bod yn beryglus iawn i yrwyr. Mae angen i dirfeddianwyr a chwmnïau cyfleustodau gymryd cyfrifoldeb, gyda rhaglen gynnal cwlfertau, pibellau a ffosydd—rwyf wedi gofyn am hyn o'r blaen—ac mae angen inni gynnal i fyny'r afon. Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol wedi bod yn gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal eu cwlfertau a'u ffosydd hefyd, ac nid ydynt wedi bod yn ymateb i'r cais hwnnw. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod hynny'n digwydd.

Roeddwn eisiau gofyn i chi hefyd am y gofrestr asedau tanddaearol genedlaethol, sy'n cael ei hargymell gan Lywodraeth y DU, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau yn ei chylch, ac mae arnom ei hangen yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd yn dasg enfawr, ond mae angen hyn arnom, yn fwy nag erioed. Felly, roeddwn eisiau gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Ond rwy'n argymell hefyd—nid wyf yn credu y gallaf ei wneud o hyn—ein bod yn mynd ag ef at ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—rwy'n gwybod bod y Cadeirydd newydd fynd—ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd gyda storm Bert, ac unrhyw ddigwyddiadau llifogydd eraill, a'r hyn y gallwn wneud mwy ohono, a dod â hynny atoch chi hefyd yn y dyfodol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno'n iawn.

Carolyn, diolch yn fawr. Lywydd, rwy'n gyndyn i dresmasu ar raglen waith y pwyllgor, yr arferwn fod yn aelod balch ohono, ond mae'n ddigon posibl y bydd yn ddiddorol edrych ar fater asedau, lle maent ac yn y blaen. Ac rydych chi'n iawn: yn gynharach, cyfeiriais at y gronfa ddata a roddwyd ar waith eisoes yng Nghymru, sy'n mapio'r asedau llifogydd a llifogydd o'r môr, ond mae yna waith arall yn mynd rhagddo ar draws y DU ar gofrestr asedau, sy'n canolbwyntio ar y cwmnïau cyfleustodau a'u hasedau tanddaearol hefyd, sy'n rhan o'r darlun hwn. Nawr, y diweddaraf a ddeallwn—ac rydym yn ymwneud yn agos â Llywodraeth y DU ar hyn—yw mai'r bwriad yw iddo fod ar waith erbyn diwedd 2025. Felly, dyna ddarn arall o'r jig-so—mae'n dechrau dod at ei gilydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i chi, ond os yw'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am edrych ar hyn, rwy'n credu y gallai fod yn waith da.

15:40

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Peter Fox sy'n gofyn y cwestiwn nesaf i'r Ysgrifennydd Cabinet cyllid. Peter Fox. 

Cyllid

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cyllid diweddar a ddyrannwyd ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth? TQ1268

Lywydd, ar ôl mynd i'r afael â'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU yng nghyllideb yr hydref, dyrannwyd £157 miliwn i gefnogi blaenoriaethau'r Prif Weinidog yn y flwyddyn ariannol hon.  

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe fyddai'n ddefnyddiol cael mwy o eglurder ynghylch y £157 miliwn. Fe'i cyhoeddwyd fel pe bai'n dalp newydd o arian ddoe, ond yn amlwg, £150 miliwn dros gyfnod o sawl mis yw hwn. Ac rwy'n deall bod tua £122.5 miliwn ohono wedi'i ddyrannu, a £34.5 miliwn arall i'w wario. Fodd bynnag, rwy'n hapus i gael fy nghywiro os yw hynny wedi'i ddiweddaru.

Rwy'n nodi nad oedd cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol, ffactor pwysig sy'n cyfrannu at restrau aros cynyddol y GIG y gwyddom eu bod yn tyfu allan o bob rheolaeth. Rwy'n croesawu'r £21 miliwn ar gyfer offer diagnostig, a fydd yn sicr yn ddefnyddiol, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith pan fyddwn yn rhoi arian yn barhaus i'r GIG, nad yw'n ymddangos bod y problemau'n mynd yn llawer llai. Rwyf wedi honni bod angen asesiad trylwyr o gyllid y GIG, oherwydd, er ein bod yn gweld mwy o arian yn cael ei ddyrannu, ymddengys nad oes fawr o ddim yn gwella, o safbwynt y cyhoedd yn sicr.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu eto sut y mae'r Llywodraeth yn asesu effeithiolrwydd y cyllid cynyddol a roddwch i bethau fel iechyd? A sut y gwnaethoch chi benderfynu ar y lefelau cyllid sydd eu hangen ar gyfer y dyraniadau diweddar? Ac a fyddwch chi'n defnyddio'r un broses ar gyfer y gyllideb yr wythnos nesaf?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Ddirprwy Lywydd, y £157 miliwn yw'r gyfran gyntaf o wariant y gallaf ei dyrannu o'r cyllid ychwanegol a ddaeth i Gymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol yng nghyllideb y Canghellor ar 30 Hydref. Bydd dyraniadau pellach i'w gwneud, a bydd y Gweinidogion portffolio perthnasol yn gwneud y cyhoeddiadau hynny.

Mae hwn yn arian y mae angen ei wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol, felly rhan o fy asesiad yw i ba raddau y gall gwahanol benawdau gwariant amsugno arian yn ystod y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon, ac fe roddais flaenoriaeth arbennig i enghreifftiau o wariant nad oedd angen cyllid rheolaidd arno yn y flwyddyn ariannol ganlynol. Felly, mae'r ffordd y gwnaed y dyraniadau blaenoriaethol hyn wedi ei siapio gan y pwynt yn y flwyddyn y daeth yr arian ar gael, gallu gwasanaethau i wneud defnydd da ohono, a bydd yr ystyriaethau hynny'n rhan o'r cynllun a gyhoeddir ar lawr y Senedd yr wythnos nesaf. Bydd cyllideb y flwyddyn nesaf wedi ei siapio gan set ehangach o ystyriaethau.

Diolch i Peter Fox am osod y cwestiwn hwn. Mi oeddwn i wedi codi ddoe yn ystod y datganiad busnes fod jest angen eglurder, efallai, o ran sut mae’r arian yma yn cael ei rannu. Yn amlwg, mae’r datganiad i’r wasg yn sôn ei fod o’n gymysgedd o refeniw a chyfalaf. Mi fyddai’n fuddiol gwybod beth ydy’r toriad hwnnw, o ran faint sydd yn arian refeniw, faint sy’n gyfalaf, oherwydd fel rydych chi wedi sôn, pedwar mis sydd yna i bobl wario’r arian ac mae’n rhaid i chi gael y sicrwydd eu bod nhw’n gallu gwneud. Mae yna heriau efo arian cyfalaf yn aml o ran hynny.

Hefyd, jest er mwyn deall, os caf i adeiladu ar y pwyntiau gan Peter Fox, dim ond o ran sut mae’r pres yma wedi cael ei ddyfarnu a mesur yr effaith, oherwydd yn amlwg o ran amseroedd aros, rydyn ni wedi gweld y cyllid yn mynd o £28 miliwn i £50 miliwn i £71 miliwn mewn cyfnod o rai wythnosau, felly faint o arian sydd ei angen i fynd i’r afael â’r rhestrau aros? Mae’n dda inni gael tryloywder o ran hyn.

Hefyd, pryd fydd yna ddatganiad sydd yn sôn ynglŷn a sut yn union mae’r arian yma yn cael ei rannu? Yn amlwg, mae’n anodd ar y funud cael y trosolwg hwnnw o gael cyhoeddiadau unigol gan Weinidogion. Felly, ydy o’n fwriad gan Llywodraeth Cymru i gyhoeddi yn union lle mae’r arian yma’n mynd a beth fydd ei effaith o?

15:45

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiynau ychwanegol. 

Ar ôl imi ddarparu ar gyfer y codiadau cyflog a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a'r symiau canlyniadol i ni yma yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon, roedd modd dyrannu'r arian a oedd ar ôl i'w ddyrannu fel naill ai refeniw neu gyfalaf. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau yn y ffordd y daeth yr arian i Gymru. Roedd hynny'n caniatáu inni gael rhwydd hynt yn hynny, ac mae'r cyhoeddiadau a wnaeth y Prif Weinidog ddoe yn gymysgedd o'r rheini. Refeniw yw'r £1 filiwn ychwanegol i'r celfyddydau yn y bôn. Cyfalaf yn bennaf yw'r £20 miliwn ar gyfer atgyweirio ysgolion a cholegau. Felly, mae cymysgedd yn hynny.

Ar restrau aros y GIG, mae £50 miliwn eisoes wedi'i ryddhau a'i gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol i leihau'r rhestrau hynny. Mae gan yr holl gyllid a gyhoeddwyd ganlyniadau penodol yn gysylltiedig ag ef. Mae'r £1 filiwn ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, er enghraifft, yn golygu y bydd 60 o sefydliadau yn cael eu hariannu drwy'r cyllid ychwanegol—nid yn unig yr £1 filiwn ond yr £1.5 miliwn sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer cyngor y celfyddydau yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd yr un peth yn wir am y £21 miliwn ar gyfer offer diagnostig. Bydd ffigurau penodol ar faint o weithgarwch ychwanegol mewn diagnosteg y gellir ei gynhyrchu gan y buddsoddiad hwnnw. Ond mae'r rheini i gyd yn bethau i'r Gweinidogion sy'n gwario, yn hytrach na myfi, roi cyfrif amdanynt yma. Y cyfan rwy'n ei wneud yw ceisio sicrhau bod ganddynt yr adnoddau y gellir eu darparu iddynt.

O ran y trosolwg ar y cyfan, fy mwriad fydd rhoi adroddiad ar y pecyn cyfan o fuddsoddiadau yn ystod y flwyddyn yn yr ail gyllideb atodol fel bod yr Aelodau'n gallu gweld yr holl ddyraniadau gwahanol y bu modd eu gwneud.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn innau hefyd yn mynd i ofyn i chi a oedd yn rhaid gwario'r arian hwn yn ystod y tri mis nesaf, neu a fydd cyrff y sector cyhoeddus yn gallu cadw rhywfaint o'r arian yn ôl i lenwi rhai o'r bylchau sylweddol a fydd yn amlwg yn cael eu ffurfio gan y cynnydd enfawr i gyfraniadau yswiriant gwladol sy'n digwydd fis Ebrill nesaf. Neu a fydd yn rhaid iddynt aros am y gyfran nesaf yr ydych chi'n sôn amdani?

Mae'r ateb yn gyfuniad o'r ddau. Rhaid i'r arian adael cyfrif Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Weithiau, mae'n mynd i sefydliadau sydd hefyd o dan gyfyngiadau yn y ffordd y caiff eu cyllid ei drefnu, felly mae'n rhaid iddynt ei wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd rhai sefydliadau yn gallu defnyddio'r arian a roddwn iddynt eleni dros gyfnod hwy o amser. Mae'n ddrwg gennyf am wneud iddo swnio'n gymhleth, ond y gwir amdani yw ei fod yn dibynnu ar drefniadau llywodraethu ariannol y sefydliadau sy'n cael eu hariannu. Ond mae'n rhaid i'r holl arian gael ei wario gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym 1989, 35 o flynyddoedd yn ôl, gwireddodd grŵp o rieni eu breuddwyd i agor canolfan yng Nghaerdydd i blant â pharlys yr ymennydd. Ar y pryd, byddai'n rhaid i blant a'u teuluoedd deithio i Lundain i gael gwasanaethau therapi arbenigol, gan orfod aros am wythnosau ar y tro yn aml. Byddai canolfan yng Nghaerdydd yn caniatáu i blant gael mynediad at y therapi yn nes at adref. Ar ôl sicrhau cytundeb gyda'r bwrdd iechyd lleol a chanolfan Bobath yn Llundain, cafwyd hyd i safle yn yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd. Daeth yn gartref Bobath yng Nghaerdydd o 1992 tan 2020, pan wnaethant symud i ganolfan bwrpasol yn Llanisien dan yr enw newydd Cerebral Palsy Cymru. 

Un o'r rhai a sefydlodd y ganolfan oedd Glenys Evans. Roedd Glenys eisiau'r therapi gorau posib i'w mab, Thomas, yn ogystal â phlant eraill â pharlys yr ymennydd mewn sefyllfa debyg. Fe dalodd Glenys y rhent cyntaf ar yr adeilad gyda £30 o'i harian ei hun cyn i unrhyw ymdrechion codi arian ddechrau. Mae Glenys wedi parhau i weithio ac i fod yn rhan o Bobath—Cerebral Palsy Cymru erbyn hyn—mewn rolau amrywiol, ond mae hi bellach yn ymddeol ar ôl 35 mlynedd. Diolch i Glenys, mae miloedd o blant â pharlys yr ymennydd ar draws de Cymru wedi cael therapi arbenigol, gyda'r mwyafrif yn cael eu hatgyfeirio atynt gan fyrddau iechyd lleol erbyn hyn. Mae'r rhaglen Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell yn caniatáu ymyrraeth gynnar hanfodol i roi'r dechrau gorau posibl i blant o ddim i ddwy a hanner oed. 

Llongyfarchiadau, Glenys, a diolch am bopeth rydych chi wedi ei wneud dros blant yng Nghymru. Mwynhewch eich ymddeoliad. 

15:50

Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion dros y penwythnos fod Terry Griffiths, un o fawrion chwaraeon Cymru, wedi marw yn 77 oed ar ôl dioddef o ddementia. I'r rhai ohonom a wyliodd y rownd derfynol epig honno ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd ym 1979, roedd yn anhygoel. Dyma fachgen o Lanelli, a oedd wedi gweithio fel glöwr, postmon a gwerthwr yswiriant, ac a oedd ond wedi troi'n broffesiynol yn y flwyddyn flaenorol, bellach yn curo rhai o chwaraewyr elitaidd y byd i ennill gwobr fwyaf y gamp ar ei ymgais gyntaf. O ganlyniad i'r llwyddiant anhygoel hwn, cafodd ei enwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru y flwyddyn honno. 

Yn gynnar yn yr 1980au, aeth ymlaen i ennill coron driphlyg y byd snwcer, trwy ennill pencampwriaeth y DU a chystadleuaeth y Meistri hefyd. Byddai'n ymddangos yn gyson yng nghamau olaf y rhan fwyaf o gystadlaethau proffil uchel tan ganol y 1990au, gan gyrraedd safle rhif tri yn y byd. Ym 1997, roedd yn rhan o dîm Cymru a enillodd gystadleuaeth gyntaf Cwpan Snwcer y Byd, gan chwarae ochr yn ochr ag arwyr eraill fel Ray Reardon a Doug Mountjoy. Ymddeolodd Griffiths fel cystadleuydd teithiol ym 1997 i ddod yn gyfarwyddwr hyfforddi Cymdeithas Biliards a Snwcer Proffesiynol y Byd. Yn ogystal â'i lwyddiant yn y byd snwcer, bydd hefyd yn cael ei gofio fel cymeriad gwylaidd, poblogaidd ac addfwyn, hoff iawn gan bawb, ac am ei hiwmor ffraeth. 

Coffa da am un o arwyr y gamp ac un o fois y Sosban a Chymru i'r carn.  

Wel, pwy sy’n mynd i’r Swistir haf nesaf? Heb os, bydd mwy o Gymry yn gwneud y siwrnai yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol tîm pêl-droed merched Cymru neithiwr yn Nulyn, ac am gêm oedd hi. Mi fyddwn ni'n cofio am ddegawdau cic o’r smotyn perffaith Hannah Cain a gôl ysgubol Carrie Jones gydag un o’i chyffyrddiadau cyntaf yn y gêm. A dwi’n siŵr nad fi oedd yr unig un yn teimlo’n swp sâl wedi iddi ddod yn ddwy gôl i un a gweld bod wyth munud o amser ychwanegol i’w chwarae. Ond er dod dan bwysau am y munudau olaf hynny, Cymru aeth â hi, a dwi’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran holl Aelodau’r Senedd hon wrth ddymuno llongyfarchiadau anferthol i’r tîm ar eu buddugoliaeth a dymuno’n dda iddyn nhw wrth baratoi dros y misoedd i ddod at Ewro 2025. 

Ond hir yw pob ymaros, ac mae hi wedi bod yn siwrnai hir i dîm pêl-droed merched Cymru i gyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf. Mae yna gymaint o ferched wedi gorfod brwydro am ddegawdau i wneud hyn yn bosib, ac mae yna benodau du iawn wedi bod yn hanes y gêm yng Nghymru a sut mae’r merched wedi cael eu trin yn hanesyddol gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru, gan gynnwys gwahardd pêl-droed merched yn 1922, ac yna, yn fwy llym, yn 1939. Dim ond yn 1970 ddaeth y gwaharddiad hwn i ben ac yn 1973 y sefydlwyd tîm cenedlaethol. Mae buddugoliaeth neithiwr wedi ei gwreiddio, felly, yn y brwydro fu am ddegawdau. Bydd haf nesaf yn gyfle euraidd nid yn unig i bêl-droed a chwaraeon yng Nghymru, ond i’r genedl gyfan o ran hyrwyddo Cymru i’r byd. Amdani, ferched. Bydd y wal goch yn gadarn a gyda chi bob cam.

15:55
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Lleoliadau gofal ar gyfer awtistiaeth ac anabledd dysgu

Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), lleoliadau gofal ar gyfer awtistiaeth ac anabledd dysgu. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8659 Hefin David, Mark Isherwood, Sioned Williams

Cefnogwyd gan Cefin Campbell, Mabon ap Gwynfor, Mike Hedges, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol.

2. Yn gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn ogystal â gofid iddynt hwy a'u hanwyliaid.

3. Yn credu bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i nodi'n fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn;

b) i gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar:

i) nifer y bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai;

ii) y math o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a thrin;

iii) darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a

iv) nifer a natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr;

c) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a

d) i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch o galon i Sioned Williams a Mark Isherwood am y modd y maent yn dadlau dros bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ar draws y Siambr hon, a'r gwaith y maent wedi'i wneud yn y gorffennol. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y ddadl hon heddiw ac rydym wedi cyfarfod â'r grŵp Bywydau wedi'u Dwyn i ddatblygu'r hyn y gofynnwn i Lywodraeth Cymru amdano. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein dadl yn y cynnig hwn heddiw. Y pwnc, fel y nodir yn y cynnig, yw'r modd amhriodol y cedwir rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anabledd dysgu mewn ysbytai diogel.

Bydd unrhyw un sydd ag aelod o'r teulu sy'n awtistig, yn enwedig plentyn awtistig, yn edrych ar y llwybr y mae rhai o'r bobl y byddwn yn siarad amdanynt heddiw wedi ei ddilyn, a dweud, 'Diolch byth na fu'n rhaid i ni ddioddef hynny'. Rwyf hefyd yn cael fy nenu at stori Kirsty Davies-Warner, sef prif weithredwr yr elusen eiriolaeth, Mirus, a gafodd ei secsiynu ddwywaith pan gafodd gamddiagnosis o iselder ôl-enedigol. Pan gafodd ei mab ddiagnosis o awtistiaeth, roedd yn foment o ddatguddiad iddi wrth iddi ddarganfod ei bod hi ei hun yn awtistig a chanddi anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ADHD. Cafodd ei secsiynu am nad oedd hynny wedi cael ei gydnabod. Mae'r rhai ohonom sydd ag aelodau o'r teulu sy'n awtistig, neu sy'n rhieni plant awtistig, yn edrych arnom ein hunain a weithiau'n gweld bod y nodweddion hynny'n bodoli ac yn egluro rhai o'n hymddygiadau yn y gorffennol wrth inni dyfu i fyny, a rhai o'r pethau yr oeddem yn ei chael hi'n anodd wrth ymwneud â'r byd.

Rwyf am siarad am Dawn Cavanagh, sy'n arwain ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn. Rwyf hefyd eisiau sôn am yr Athro David Abbott a Janis Griffiths sydd wedi bod yn allweddol wrth ddod â hyn i'r Senedd. Roedd protest yn gynharach eleni a fynychwyd gan 200 o bobl, yn dangos bod hon yn broblem real iawn sy'n bodoli ledled Cymru ac sydd hefyd wedi ei nodi yn Lloegr ac yn yr Alban. Rhoddodd Dawn ganiatâd i mi adrodd hanes ei mab Jack, ac rwy'n mynd i wneud hynny nawr. Mae gan Jack anabledd dysgu, awtistiaeth, epilepsi ac ADHD. Gadawodd gartref y teulu yn 2019, ar ôl i'r ysgol fethu diwallu ei anghenion mwyach pan oedd yn 16 oed. Dywedodd yr awdurdod lleol nad oedd darpariaeth leol addas iddo ac fe'i symudwyd i uned ddiogel breswyl dros 100 milltir i ffwrdd. Roedd y ddarpariaeth yn gwbl anaddas ar gyfer ei anghenion. Roedd yn sefydliad swnllyd, ac roedd ei le byw yn goridor i staff a thrigolion eraill allu cyrraedd rhannau eraill o'r cyfleuster ar hyd-ddo, ac achosai hynny lawer o ofid. Fe wyddom fod pobl sydd ag awtistiaeth—mae'n ddrwg gennyf, ni ddylwn ddweud hynny; pobl awtistig—yn adweithio'n gryf i'w hamgylcheddau, ac fe gafodd Jack rywbeth sy'n gyffredin i bobl awtistig, sef chwalfa mewn ymateb i'r hyn a ddigwyddodd. Cafodd hynny ei gamddeall fel niweidio ei hun neu niweidio eraill efallai yn y pen draw. Dangosai hynny ddiffyg dealltwriaeth o'i gyflwr.

Yn yr wythnosau wedyn arweiniodd hynny at ei secsiynu o'r uned breswyl, rhoddodd ddiwedd ar dripiau allan a chafodd ei gaethiwo mewn fflat fach dros adeg boethaf y flwyddyn. Dridiau wedi'r penderfyniad i'w secsiynu, cafodd ei ddeffro yn y nos a'i gludo i uned asesu a thrin yng Nghymru. Roedd yr uned yn gwbl anaddas i Jack, ac ar ôl cael ei dynnu oddi ar y trefniant secsiynu am gyfnod byr, nid oedd gan y bwrdd iechyd lleol unrhyw ddarpariaeth amgen, a bu'n rhaid i'w rieni ofalu amdano 24/7 am beth amser nes iddo gael ei secsiynu eilwaith o ganlyniad i'r diffyg mynediad parhaus at unrhyw ddarpariaeth briodol. Yna cafodd Jack ei anfon i fyw mewn uned dibyniaeth uchel mewn uned gofal dwys seiciatryddol yng Nghymru, er nad oedd ganddo gyflwr iechyd meddwl.

Mae'n debyg iawn i brofiad Kirsty Davies-Warner. Roedd yr amgylchedd a'r dull gweithredu yn gwbl anaddas, ac ar ôl rhai misoedd, cafodd ei symud i ran cam-i-lawr yr uned gofal dwys seiciatryddol, a oedd ychydig yn well, ond a oedd yn dal i fod yn fawr mwy nag ynysu. Dychmygwch fod yn fam neu dad y dyn ifanc hwnnw, yn ei weld yn dioddef yr hyn sydd i bob pwrpas yn brofiad carchar, ddim ond oherwydd ei fod yn awtistig. Bu Jack yn byw yno am dros ddwy flynedd. Yn y pen draw, penderfynodd y bwrdd iechyd symud Jack i ysbyty pellach i ffwrdd, yn dal i fod wedi ei secsiynu, ac yn dilyn her gan ei rieni, cafodd y penderfyniad i'w secsiynu ei wrthdroi, a chafodd ei drosglwyddo i amgylchedd mwy priodol. Mae bellach yn ffynnu yn ei gartref newydd ac yn gwneud pethau yr oedd llawer o weithwyr proffesiynol yn meddwl na allai byth mo'u gwneud. Mae'n pobi cacennau, yn plannu bylbiau, yn mynd am dro, ac yn byw bywyd, ond mae ei rieni'n dal i orfod teithio am bum awr bob ffordd i'w weld. Dyma rai o'r pethau a ddywedodd wrth ei fam yn dilyn y newid hwn yn ei fywyd: 'Gallaf weld y lleuad a'r sêr', 'Mae gennyf laswellt', 'Gallaf glywed adar', 'Diolch am fy nghartref newydd', 'Mam, rwy'n ddyn rhydd.' Ond mae llawer o bobl eraill yn dal i fodoli yn yr amgylchiadau hyn.

Mae rhai byrddau iechyd lleol wedi cau darpariaeth cleifion mewnol arbenigol fel bod pobl sy’n awtistig a/neu ag anableddau dysgu bellach yn cael eu lleoli mewn gwasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd, ac nid yw hynny’n briodol. Mae gennym astudiaethau achos pellach i ddilyn yn y ddadl hon. Ond rwyf am ddweud imi gyfarfod ag etholwr a oedd wedi treulio amser mewn uned iechyd meddwl mewn ysbyty lleol, ond yn 2023-24, aeth i'r carchar, lle dywedodd staff a seicolegwyr ei fod wedi ymateb yn dda i strwythur a threfn bywyd yn y carchar. Dywedodd wrth ei rieni, 'Dyma ble rwyf am fod, yn y carchar, gan fod yma drefn a strwythur.' Sut y gallwn fyw mewn cymdeithas lle mae hyn yn rhywbeth y mae unigolyn awtistig yn dweud ei fod yn dderbyniol? Mae angen gofal priodol arno.

Ers cyfarfod â Dawn, David, Janice, a gweithio gyda Sioned a Mark, rydym wedi gallu agor drysau gyda’r Gweinidog, ac wedi gallu cael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ddatrys hyn, er bod cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd.

Cyflwynwyd Bil Iechyd Meddwl Llywodraeth y DU i Dŷ’r Arglwyddi ar 6 Tachwedd 2024, a bydd gan agweddau ar y Bil hwnnw oblygiadau i Gymru. Fodd bynnag, lle mae pwerau wedi’u datganoli, fe all ac fe ddylai Llywodraeth Cymru weithredu, ac mae’r Gweinidog wedi dweud wrthyf mai ei pholisi yw cael pobl allan o ysbytai diogel ac i mewn i gymunedau lleol, ond mewn gormod o achosion, nid yw hyn yn digwydd o hyd.

Felly, gadewch imi fod yn glir ynglŷn â’r hyn y mae ymgyrch Bywydau Wedi'u Dwyn yn gofyn amdano: data manwl, gofalus iawn fel dull o sicrhau bod cyfreithiau’n cael eu dilyn—mae angen inni wybod pwy sy’n cael eu cadw, ble maent yn cael eu cadw, pam eu bod yn cael eu cadw yno; mwy o atebolrwydd am fethiannau gofal a goruchwyliaeth, a fydd yn atal secsiynu; a bod y rheini sy'n comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd ati'n weithredol i oruchwylio ansawdd y gwasanaethau hynny; a bod y deddfau presennol sy'n diogelu pobl ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu yn cael eu gweithredu'n ofalus, fel bod peidio â gwneud hynny'n arwain at gosb i'r rhai nad ydynt yn dilyn cyfreithiau. Ond gadewch inni fod yn glir: mater hawliau dynol yw hwn yn y bôn. Ni allwn fentro mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yn barhaus yng Nghymru: yr hawl i fod yn ddiogel rhag niwed, yr hawl i ryddid, a pharch at fywyd preifat a theuluol. Mae'n rhaid rhoi'r gorau i ddefnyddio gorchmynion amddifadu o ryddid yn amhriodol.

Mae’r ddadl heddiw'n rhoi cyfle inni ofyn i Lywodraeth Cymru weithredu a gweld sut y byddant yn gweithredu. Fel y dywedais, mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cynnig, a bod y Gweinidog mor barod i ymgysylltu. Ers inni ddrafftio a chyflwyno’r cynnig hwn gyntaf, mae cynrychiolwyr Bywydau Wedi’u Dwyn wedi ymuno â grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol gyda rhanddeiliaid eraill i edrych ar y materion rydym wedi’u trafod yn y ddadl hon. Rwyf wedi codi gyda’r Gweinidog y ffaith nad diwedd y daith yw'r grŵp gorchwyl a gorffen, ond parhad o'r ddeialog, ond hefyd mae angen i’r aelodau hynny o Bywydau Wedi’u Dwyn ddeall eu rôl o fewn y grŵp hwnnw. Mae angen rhoi'r gorau i ddweud wrthynt fod pethau eisoes yn digwydd yn y meysydd y maent yn eu hawgrymu, ac mae angen iddynt gael deialog barhaus gyda'r Gweinidog ochr yn ochr â gwaith y grŵp i sicrhau bod ganddi drosolwg ar yr hyn y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ei gyflawni.

Mae'n rhaid i bwrpas y grŵp gorchwyl a gorffen fod yn fwy na rhoi sêl bendith ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud, mae'n rhaid iddo fod yno i'w herio a'i chwestiynu. Mae'n rhaid iddo lunio adroddiad sy’n gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n rhaid iddo hefyd weithio’n gyflym, ond gan ganiatáu digon o amser i gasglu digon o dystiolaeth fel y gallwn weld newid. Dychwelwn at y dull 'dim drws anghywir' a argymhellir gan Gomisiynydd Plant Cymru, sef y dylai gwasanaethau gofleidio unigolion a theuluoedd, yn hytrach na'u bod yn gorfod ffitio i’r hyn sydd eisoes ar gael, a dylid darparu cymorth cyn gynted â phosibl i atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.

I gloi fy nghyflwyniad i’r ddadl hon, mae'n rhaid imi ddweud bod y pennaeth cynhwysiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Dr Sarah Ellis, yn bwynt cyswllt cyntaf anhygoel ar gyfer materion yn ymwneud ag awtistiaeth a phobl ifanc o oedran ysgol neu o dan oedran ysgol ag anableddau dysgu. Yr ymyrraeth gynnar honno sy’n bwysig, a chredaf y gellid cyflwyno’r model hwnnw ledled Cymru i sicrhau bod gan aelodau etholedig ac aelodau’r cyhoedd un pwynt cyswllt os ydynt yn teimlo bod eu plant a’u pobl ifanc yn y tir canol lle nad ydynt wedi cael diagnosis cadarn o bosibl, ond ar yr un pryd, fod ganddynt angen datblygiadol clir iawn drwy eu hymddygiadau. Credaf fod hwnnw'n gam gweithredu pellach a all ychwanegu at liniaru'r mater y mae Bywydau wedi'u Dwyn yn ei drafod.

Ac fel tad i ferch awtistig, mae gennyf fuddiant yn hyn, wrth gwrs. Rwy’n teimlo’n angerddol y gallwn wneud pethau’n well yng Nghymru, a gwn y bydd y siaradwyr yn y ddadl hon yn amlinellu, drwy eu cyfraniadau, sut y gall hynny ddigwydd.

16:05

Rwy’n falch iawn o fod wedi cyd-gyflwyno’r cynnig hwn gyda chi, Hefin David, a Mark Isherwood, ac i fod yn gweithio gyda chi, yn drawsbleidiol, i gael atebion ac i sicrhau camau gweithredu ar gyfer pobl nad oes ganddynt lais yn aml, ac ar gyfer eu hanwyliaid sy'n gryg ar ôl gorfod codi eu lleisiau hwythau dro ar ôl tro.

Nid oes gennyf lawer o bosteri yn fy swyddfa yn y Senedd, ond mae gennyf un sy'n dweud 'Cartrefi nid ysbytai', a dyma'r poster roeddwn yn ei ddal yn ystod un o'r protestiadau mwyaf pwerus i mi eu gweld y tu allan i'r Senedd hon. Trefnwyd y brotest honno ym mis Ebrill eleni gan ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn, a daeth â channoedd o bobl ynghyd i alw am ryddhau pobl ag anableddau dysgu a/neu bobl awtistig mewn lleoliadau ysbytai diogel yng Nghymru.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu, roeddwn eisoes wedi clywed gan Dr Dawn Cavanagh ac ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn am driniaeth ofnadwy a chwbl annerbyniol pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig, sy’n cael eu cadw’n amhriodol mewn lleoliadau iechyd meddwl diogel am eu bod yn anabl. Roedd nifer y bobl a oedd wedi teithio o bob rhan o Gymru a thu hwnt i gefnogi’r brotest mor bwerus, fel roedd y dystiolaeth a glywsom gan siaradwyr. Un achos y clywsom amdano oedd achos Will. Rwyf am ichi glywed am ei driniaeth, gan y credaf ei bod yn dangos sut y gall pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth gael eu hamddifadu o lais, o'u rhyddid, heb iddynt allu unioni hynny, a sut y cânt eu hamddifadu o'u hawliau dynol.

Mae Will yn awtistig ac mae ganddo anableddau dysgu. Mae'n ei chael hi'n anodd prosesu gwybodaeth, yn enwedig lleferydd, ond fel arall, mae'n ddeallus ac yn llythrennog. Os dilynir ei gynllun gofal, mae'n gymharol hawdd ei reoli. Yn 2018, roedd yn byw mewn lleoliad byw â chymorth. Daeth ei deulu'n fwyfwy ymwybodol o gamreoli a chamdriniaeth gan weithwyr gofal, ac fe wnaethant geisio codi pryderon. Dywedwyd wrthynt gan y cwmni gofal a'r gweithiwr cymdeithasol fod popeth yn iawn, er bod ganddynt dystiolaeth o gamdriniaeth. Roeddent mor bryderus fel eu bod wedi cychwyn proses gyfreithiol fel y gallent ofalu am Will gartref. Ond cafodd eu mab ei secsiynu, heb iddynt gael gwybod ymlaen llaw, dros wyliau'r Pasg pan na allent herio'r hyn oedd yn digwydd. Ac roedd secsiynu'n drawmatig. Dywedwyd wrth Will ei fod yn mynd ar wyliau ac yna cafodd ei roi mewn uned iechyd meddwl, er y penderfynwyd yn ddiweddarach nad oedd y mater a arweiniodd at ei secsiynu'n ymwneud â'i iechyd meddwl.

Dywedodd teulu Will:

'Nid oedd gan yr uned unrhyw beth y gallai ein mab ei ddefnyddio i hunanreoli ac roedd y lefelau sŵn yn uchel',

ac roedd preswylwyr trallodus eraill yn peri gofid iddo.

'Roedd yr uned yn codi ofn arno, ac roedd yn ddryslyd ynghylch pam ei fod yno.

'Roeddem yn mynd â'n mab o'r uned ofnadwy o amhriodol hon bob dydd, ac ym mis Gorffennaf, yn groes i ddymuniadau'r Gweithiwr Cymdeithasol… fe wnaethom wrthod dod ag ef yn ôl ar ôl trip allan. Arhosodd gyda ni yn ein cartref ac fe wnaethom ofalu amdano. Roedd mewn iechyd corfforol gwael ac nid oedd yn gallu bwyta'n iawn... cafodd pob un o'r pethau hyn eu nodi fel ymatebion i straen a phryder.

'Roedd yn poeni'n barhaus y byddai'n cael ei secsiynu eto.

'Rydym yn credu ein bod ni a'n mab wedi dioddef anghyfiawnder difrifol. Mae Will wedi cael ei niweidio, ac mae'n dal i effeithio ar ei ymddygiad heddiw. Yn yr un modd, rydym ni fel ei deulu cariadus wedi dioddef problemau iechyd a straen'.

Maent wedi bod yn ymgyrchu dros gydnabod a mynd i'r afael â'r anghyfiawnder y mae eu mab wedi'i ddioddef. Ond wrth gwrs, mae mater ehangach yn codi o ran anghydraddoldeb. Mae sgandal hawliau dynol yma, gan nad yw hwn yn achos neilltuol, ac mae bywydau fel rhai Will yn cael eu dwyn. Mae'n ffaith bod hawliau dynol pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn cael eu niweidio drwy eu rhoi yn yr unedau hyn heb fod angen gan nad yw'r gwasanaethau yno ar eu cyfer yn eu cymunedau. Felly, mae'n peri cryn dristwch i mi ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, gan y dylai'r hyn y mae'r cynnig yn gofyn amdano fod yn digwydd eisoes. Mae’n fy nhristáu bod yn rhaid ysgrifennu llythyr ar ôl llythyr, fod yn rhaid trefnu cyfarfod ar ôl cyfarfod, heb unrhyw newid i sefyllfa rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ac mae teuluoedd wedi'u dal mewn hunllef wallgof, rwystredig, ddryslyd o brosesau, biwrocratiaeth, ac yn hollbwysig, diffyg atebolrwydd.

Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd y Gweinidog yn rhestru camau gweithredu yn llawn bwriadau da yn ei hymateb, ac rydym yn gwerthfawrogi eich ymgysylltiad â’r mater hwn, megis sefydlu’r grŵp gorchwyl a gorffen fel rhan o grŵp cynghori’r gweinidog ar anableddau dysgu. Yr hyn sydd ei angen arnom hefyd yw cydnabyddiaeth fod yna broblem, dim agwedd amddiffynnol, a chydnabyddiaeth fod ateb hefyd, gyda'r ewyllys wleidyddol briodol, ymrwymiad i wrando a gweithredu, a sicrhau bod y dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau yn cael ei ddefnyddio yma, a pheidio â chaniatáu i amcanion polisi datganedig y Llywodraeth gael eu tanseilio. Mae’n rhaid inni gael system ar waith i gasglu data cywir ar nifer y bobl ag anableddau dysgu sy’n byw yng Nghymru, a’r nifer sy’n cael eu rhoi mewn lleoliadau ysbyty, fel y gellir cynllunio cymorth yn briodol. Mae gwir angen inni wybod—[Torri ar draws.] Iawn, rwy'n dod at y diwedd—cwpl o frawddegau ar ôl.

Mae angen inni wybod bod camau brys yn mynd i gael eu cymryd a chyfarwyddyd yn cael ei roi fel y gall y grŵp gorchwyl a gorffen fod yn feiddgar yn eu hawgrymiadau ynghylch sut beth fydd yr ymateb hwnnw. Mae’n fy nhristáu bod yn rhaid i bobl ddod at risiau’r Senedd i gael sylw’r Llywodraeth. Felly, bydd y poster hwnnw’n aros ar fy wal, oherwydd cyhyd ag y byddaf yma, nid wyf am roi'r gorau i hyn. Gall pobl sydd mewn lleoliadau ofnadwy o anaddas a thrallodus ar hyn o bryd fyw bywydau hapus gyda’r cymorth cywir, oherwydd os ydym yn parhau i ganiatáu’r anghyfiawnder hwn, nid ydym yn byw mewn gwlad wâr.

16:10

Wrth siarad yma ym mis Ebrill, cyn protest ‘cartrefi nid ysbytai’ Bywydau Wedi'u Dwyn y tu allan i’r Senedd, tynnais sylw at y diffyg cynnydd a wnaed ar leihau nifer y bobl awtistig neu bobl ag anableddau dysgu sy'n dal i fod dan glo mewn canolfannau asesu a thriniaeth yng Nghymru a Lloegr. Cefnogwyd y brotest gan Anabledd Dysgu Cymru a 13 o sefydliadau eraill, gan gynnwys Mencap Cymru, i godi ymwybyddiaeth o ddiffyg cynnydd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.

Wedi imi ysgrifennu at y cyn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth, ar y cyd â Hefin David fel aelod o’r grŵp, ynglŷn â secsiynu a chadw pobl awtistig oherwydd problemau gyda lleoliadau yn hytrach nag unrhyw fater iechyd meddwl penodol, cadarnhaodd ei hateb nad yw'r data ar hyn yn cael ei gadw’n ganolog gan Lywodraeth Cymru, sy’n peri rhywun i feddwl sut y gallant wneud penderfyniadau gwybodus am ddarparu gwasanaethau.

Dywedais fod strategaeth anableddau dysgu wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2018 sy’n ceisio sicrhau bod pobl awtistig neu bobl ag anableddau dysgu sydd mewn lleoliadau hirdymor yn cael eu rhyddhau ac yn gallu byw eu bywydau yn y gymuned. Fodd bynnag, mae Anabledd Dysgu Cymru yn datgan ei bod yn hysbys fod oddeutu 150 o bobl awtistig neu bobl ag anableddau dysgu mewn lleoliad ysbyty, dros ddwy ran o dair ers dros 10 mlynedd, er nad yw’r niferoedd yn cynnwys pawb a phob lleoliad. Mae angen inni wybod felly, dywedant, pam fod nifer mor uchel yn dal i fod mewn lleoliadau ysbyty hirdymor.

Fel y dywedodd Anabledd Dysgu Cymru, dros 40 mlynedd yn ôl, Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i lansio strategaeth i gael pobl ag anabledd dysgu allan o ysbytai arhosiad hir ac yn ôl i’r gymuned. Ac eto, ymddengys ein bod yn mynd tuag yn ôl ac yn llithro tuag at ailsefydliadu.

Ar ôl i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ysgrifennu at ymgyrchwyr Bywydau Wedi’u Dwyn ym mis Awst, fe wnaethant fynegi pryder nad oedd llythyr roeddent wedi’i anfon at y Gweinidog blaenorol ym mis Mai, a oedd yn fanwl ac yn gofyn cwestiynau pwysig, wedi cael ateb o hyd, ac nad oeddent wedi cael cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog newydd i ddadlau eu hachos. Roedd llythyr y Gweinidog hefyd yn nodi bod gan bawb gynllun gofal a chymorth ar waith, sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod gofal parhaus yn briodol. Fodd bynnag, rwy’n brwydro’n rheolaidd ag awdurdodau lleol ar ran etholwyr, lle mae eu hadolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth wedi’u drafftio’n groes i’r amserlen a nodir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gofyniad y Ddeddf i’r unigolyn a/neu eu gofalwr, aelod o’r teulu neu eiriolwr, fod yn gyfranogwr gweithredol yn yr adolygiad.

Pobl yn Gyntaf Cymru yw llais unedig grwpiau hunaneiriolaeth a phobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, ar ran ac o dan arweiniad pobl ag anableddau dysgu. Ddydd Llun, agorais eu harddangosfa deithiol Trwy Ein Llygaid gyntaf yn Pontio ym Mhrifysgol Bangor, lle dywedodd eu prif weithredwr nad oes digon o gydymffurfiaeth â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Heb waith monitro a gwerthuso cadarn gan Lywodraeth Cymru, mae ei deddfwriaeth, i bob pwrpas, yn ddiwerth.

Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth ym mis Medi, dywedodd ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu am fod yn anodd a bod awdurdodau lleol a chwmnïau gofal yn anwybyddu’r ddeddfwriaeth bresennol. Fe wnaethant nodi hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â hwy ynghylch y datganiad a gyhoeddwyd ym mis Awst ynglŷn â darpariaeth cleifion mewnol ar gyfer anableddau dysgu, a oedd yn anwybyddu awtistiaeth. Fel y dywedodd rhiant bachgen awtistig ag anableddau dysgu difrifol wrth Hefin, Sioned a minnau, cawsant alwad ffôn gan uwch aelod o staff y bwrdd iechyd yn dweud wrthynt mai eu hunig opsiwn bellach oedd rhoi eu mab yn yr ysbyty. Dywedodd un arall, 'Cafodd fy mhlentyn ei ddwyn a'i roi mewn gofal cymorth brys am na ellid dod o hyd i ofalwyr.' Dywedodd un arall, 'Dywedodd cyfarfod budd pennaf nad oedd bod yn yr uned asesu a thriniaeth o'r budd pennaf i fy mab, ond gan nad oedd unrhyw beth arall ar gael, y byddai'n rhaid iddo aros yno.'

Nid cyflwr iechyd meddwl yw awtistiaeth; mae'n gyflwr datblygiadol gydol oes sy'n siapio sut y mae pobl yn gweld y byd a sut y maent yn cysylltu ag eraill. Mae llawer o bobl awtistig yn cael chwalfa. Nid yw hynny yr un peth â strancio. Dywedwch hynny wrth swyddogion awdurdodau lleol sy’n arteithio fy etholwyr. Nid ymddygiad drwg mohono. Pan fydd unigolyn wedi'u gorlethu'n llwyr a'u cyflwr yn golygu ei bod hi'n anodd mynegi hynny mewn ffordd arall, mae'n ddealladwy mai'r canlyniad yw chwalfa. Nid yw'n cyfiawnhau eu secsiynu mewn uned iechyd meddwl. Ni ddylai'r bobl hyn gael eu cadw dan glo. Mae angen newid sylfaenol i unioni'r camweddau hawliau dynol hyn. Diolch yn fawr.

16:15

Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw un o'r bobl hyn, felly mae gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ond hoffwn ychwanegu rhywbeth cadarnhaol at y ddadl hon, sef mai'r hyn sydd ei angen arnom, yn amlwg, yw gwell darpariaeth i alluogi pobl i beidio â chael eu cadw dan glo mewn wardiau—mae hynny'n swnio i mi fel gwasanaethau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r ugeinfed ganrif yn wir. Felly, pan fynychais y gynhadledd bwyd a ffermio go iawn yr wythnos diwethaf, clywais am wasanaeth hollol wych a ddarperir yng ngogledd sir Benfro o’r enw Fferm Ofal Clynfyw. Mae'n fferm deuluol a ddechreuodd gyda'r rhieni'n addasu bwthyn i'w wneud yn hygyrch i bobl anabl, ond o hynny, mae wedi datblygu i fod yn rhywbeth sy'n wirioneddol anhygoel. Bellach, mae ganddynt bedwar tŷ, gyda hyd at 10 o bobl yn gallu byw yno, gyda llety â chymorth os ydynt angen pobl i fyw yno gyda hwy. Mae'n 9 erw—y fferm ofal—yn cyflogi 42 o bobl, yn rhan o fferm 400 erw, felly gallwch weld bod rhywfaint o synergedd yno. Mae ganddynt 40 o bobl yn mynychu bob dydd, ac maent yn gwneud pethau hynod bwysig, ymarferol fel gwneud sudd afal; mae ganddynt gegin fasnachol, felly maent yn darparu bwyd ar gyfer mannau eraill; maent yn compostio; maent yn achub ieir batri; ac mae ganddynt siop atgyweirio a chymysgydd bwyd ar gefn beic sy'n troi hufen yn fenyn—beth nad sydd i'w hoffi?

Nawr, maent wedi darganfod ei fod yn lle gwirioneddol wych i gleifion iechyd meddwl sy'n gwella, ond hefyd i bobl ag anableddau dysgu, gan eu bod yn mwynhau bod yn yr awyr agored. Gŵyr pob un ohonom y gall bod yn yr awyr agored dawelu ein meddyliau—mae pob un ohonom yn teimlo hynny—ond mae'n arbennig o wir, onid yw, am bobl sy'n niwrowahanol, sydd efallai'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â sŵn. Fel y dywedais, mae 40 o bobl yn mynychu bob wythnos, a dim ond un unigolyn â salwch meddwl sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty. Mae'n un o ddim ond chwe fferm ofal yng Nghymru, o gymharu â 240 yn Lloegr, felly mae'n amlwg nad oes digon o ffermydd gofal, ac mae gennym ddigonedd o olygfeydd gwych a busnesau ffermio a allai fod eisiau dechrau is-gwmni fel fferm ofal, gan eu bod yn cyflogi llawer o bobl, yn gwneud defnydd da iawn o'r tir a gallwch weld y synergedd gyda'r anifeiliaid sydd ar y fferm. Felly, roeddwn am gofnodi hynny. Gwnaeth y dyn a siaradodd, Jim Bowen, argraff fawr iawn arnaf, gyda chymaint o angerdd a chymaint o eglurder ynghylch manteision hyn. Dyma’n bendant y math o beth y mae’n rhaid inni feddwl amdano fel lleoedd i bobl sy’n annhebygol o allu cadw swydd yn yr amgylchedd gwaith arferol.

16:20

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at ddeiseb a gafodd ei hystyried ddydd Llun, deiseb gan ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn, P-06-1479, ‘Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai'. Mae’r ddeiseb yn glir: nid cartref yw ysbytai. Mae llawer o ysbytai ymhell o deuluoedd pobl, ac mae achosion o gamdriniaeth ac esgeulustod yn llawer rhy gyffredin. Mae'r deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i

'ddweud wrthym sut y mae’n bwriadu rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn y modd hwn a sut y mae’n bwriadu dod â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cael eu dal o dan y Ddeddf yn nes adref ac allan o ysbytai, a dweud wrthym faint yn union o blant, pobl ifanc ac mae oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd oddi cartref ar hyn o bryd mewn ysbytai iechyd meddwl ac unedau asesu a thrin fel y'u gelwir.'

Maent yn dweud bod y Gweinidog wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â hwy, ond maent yn dal i fod braidd yn bryderus ynghylch y diffyg dealltwriaeth lawn ohono fel mater hawliau dynol, yn hytrach na mater mynediad at wasanaethau. Mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb i’r ddeiseb i’r Pwyllgor Deisebau, ond mae ymgyrchwyr Bywydau Wedi’u Dwyn yn dal i fod yn bryderus ynghylch eu rôl yn y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Dywedasant wrthym nad yw'n teimlo fel ymgais ar y cyd eto i fynd i'r afael â'r materion polisi brys dan sylw ac nad oes ganddo'r arbenigedd i wneud hyn eto. Rhannodd y deisebwyr bapur ar ddata y gofynnwyd iddynt ei ddarparu i grŵp cynghori’r gweinidog, sy’n nodi cyfyngiadau’r data sydd ar gael yng Nghymru ac sy'n rhestru 31 o ffyrdd y dylid gwella ansawdd y data hwnnw.

Dywed y deisebwyr eu bod hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch cau gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol, gan arwain at bobl ag anableddau dysgu yn cael eu cadw mewn darpariaeth iechyd meddwl prif ffrwd. Dywedant fod hyn wedi digwydd ym mwrdd Hywel Dda, er enghraifft, a dywedant ei fod wedi arwain at bobl yn cael gofal gan staff nad ydynt wedi’u hyfforddi mewn anableddau dysgu a/neu awtistiaeth; pobl yn cael eu lleoli mewn amgylcheddau hyd yn oed yn fwy anaddas ac yn destun arferion cyfyngol, megis cael eu cadw ar wahân yn hirdymor, eu cadw o'r neilltu ac ataliaeth gorfforol a chemegol; pobl yn cael eu gweld drwy lens iechyd meddwl a hyd yn oed yn destun asesiadau porth fforensig amhriodol. Maent yn teimlo nad yw eu pryderon ar y mater hwn wedi cael unrhyw sylw eto.

Mae’r deisebwyr hefyd wedi codi pryderon ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan ddweud, heb y cyllid ar gyfer darpariaeth a chymorth cymunedol da, y gall

'newidiadau i'r ddeddf gael canlyniadau negyddol anfwriadol i bobl ag anableddau dysgu a/neu bobl awtistig, fel mwy o bobl yn cael eu cadw...neu'n cael eu troseddoli.'

Yn dilyn y cyfarfod ddydd Llun, gofynnwyd eto i mi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i dynnu sylw at holl bryderon y deisebwyr, a byddwn yn sicrhau bod Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a’r grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu yn cael golwg ar yr ohebiaeth. Hefyd, gofynnwyd i mi godi’r mater pwysig hwn ar ran y deisebwyr yn y Siambr heddiw.

Hoffwn nodi elusen wych sydd wedi’i lleoli yn Llai yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, elusen o'r enw Dy Le Di, sy’n cynnig cymorth i gannoedd o deuluoedd ag awtistiaeth. Ond maent mewn perygl o orfod cau a gadael eu hadeilad, gan fod yr awdurdod lleol wedi cynyddu eu rhent i swm afresymol. Ac os gallwn helpu i gefnogi'r mathau hyn o sefydliadau sy'n gwneud cymaint i sicrhau y gall pobl aros yn eu cartrefi, rwy'n credu y byddai hynny'n wirioneddol ddefnyddiol.

Ymwelais â Theatr Clwyd hefyd, sy'n sicrhau bod ganddynt oriel wylio ar wahân i bobl â phroblemau synhwyraidd allu gwylio cynyrchiadau, sy'n wych i'w glywed. Ac rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am gysylltiad â’r awyr agored i lawer o bobl, ac amgylchedd tawel. A gwn am lawer o bobl sydd wedi bod yn gweithio gyda'n gwasanaethau cefn gwlad yn sir y Fflint, ym Mharc Gwepra, yn gwneud gwaith hyfryd iawn yn cysylltu â'r awyr agored, sydd wir wedi eu helpu i deimlo'n llawer gwell. Felly, roeddwn am orffen ar nodyn cadarnhaol hefyd, ond fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, roeddwn am siarad ar ran y deisebwyr. Diolch.

Diolch yn fawr i Hefin, Mark a Sioned am gyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon heddiw ac am eu cyfraniadau pwerus iawn. Mae’r cynnig yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi strategaeth Cymru gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a phobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol. Ac wrth gwrs, y sbardun ar gyfer strategaeth Cymru gyfan oedd yr ymchwiliad i Ysbyty Trelái, a oedd yn garreg filltir arwyddocaol tuag at ddatblygu gofal yn y gymuned ac a oedd i fod yn ddiwedd ar fywyd sefydliadol i’r rhan fwyaf o bobl. A bûm yn ymwneud ag Ysbyty Trelái, yn ymwneud yn agos ag Ysbyty Trelái, ac wrth edrych yn ôl 40 mlynedd a gwrando ar y ddadl hon, gallaf deimlo tristwch rhai o'r plant a oedd yn byw yn Ysbyty Trelái. Ac rwy’n cofio’n arbennig am un bachgen bach a oedd â hydroseffalws, ac eisteddai wrth y ffenestr drwy’r dydd, bob dydd, yn aros i’w fam ddod i fynd ag ef adref, ac aeth hynny yn ei flaen am flynyddoedd. Ac roedd dyn ifanc arall ag anabledd dysgu a oedd yn Ysbyty Nhrelái oherwydd honiadau fod rhywun wedi clywed ei dad, a oedd yn ddyn hel rhacs, yn dweud wrtho wrth yrru ei gert ar hyd Heol y Gadeirlan, 'Rwy'n mynd i dy ladd di pan gyrhaeddwn ni adref.' Ac fe'i gosodwyd yn Ysbyty Trelái, ni welodd ei deulu byth eto, a byddai'n aros drwy'r amser i'w gweld eto.

Felly, yn y ddadl hon heddiw, ni allaf beidio â chofio'r bobl ifanc hynny, ac nid wyf yn teimlo bod unrhyw un arall ar ôl i'w cofio bellach, ac rwyf am nodi eu bod yno a bod ganddynt deimladau ac emosiynau, a dyna'r math o sefyllfa nad ydym byth am ddychwelyd iddi, ac mae’n drallodus iawn clywed am sefyllfaoedd unigol Jack a Will y soniwyd amdanynt heddiw. Ac mae ein Gweinidog cyllid wedi gadael y Siambr bellach, ond mewn gwirionedd, fe ysgrifennodd lyfr am Ysbyty Trelái, gydag Ian Butler, a oedd yn gynghorydd arbennig i'r Llywodraeth, llyfr y credaf ei bod yn bwysig iawn i ni ei ddarllen.

A hefyd, cafodd y symudiad i'r gymuned yng Nghaerdydd o Ysbyty Trelái ei bortreadu'n glir iawn mewn drama yn y Sherman yn 2023. Nid wyf yn gwybod a welodd unrhyw un y ddrama honno, ond ei henw oedd Housemates, ac roedd yn adrodd hanes dyn ifanc â syndrom Down a oedd wedi byw yn Nhrelái er pan oedd yn blentyn. Cysylltodd â champfa myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, roedd ganddynt dŷ yn y gymuned; trawsnewidiodd y cysyniad o ofal yn y gymuned, daeth yn enwog ledled y byd, a dyna ddechrau byw â chymorth a gofal yn y gymuned.

Felly, mae cymaint o bethau da wedi digwydd yng Nghymru; rydym wedi cyflawni cymaint yng Nghymru ac mae gofal wedi’i drawsnewid, fel sydd wedi bod yn hysbys ledled y byd, ac felly credaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny, ac rwyf wedi ymweld â llawer o leoliadau sy’n gwbl rhagorol a lle mae plant a phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ffynnu. Ond mae cymaint mwy i’w wneud, ac rwy'n credu mai dyna mae’r ddadl heddiw yn ei ddweud wrthym. Rwy’n sicr yn cefnogi’r cynnig hwn ac rwy’n cefnogi maniffesto Bywydau Wedi'u Dwyn, gan y gwn fod y bobl sy'n gysylltiedig ag ef â phrofiad bywyd. Maent yn siarad am yr hyn y maent wedi'i weld a'r hyn y maent yn ei brofi. Felly, dyna pam ei bod mor dda a phwysig i ni wrando arnynt, ac mae'n rhaid inni geisio mynd â phethau ymhellach, gan y credaf yn gryf iawn fod strategaeth Cymru gyfan wedi trawsnewid pethau. Credaf y dylem fod yn falch ohoni. Rydym wedi gwneud cynnydd, ac rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd, ond mae cymaint mwy i'w wneud, ac mae angen cartref ar bawb. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig.

16:25

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Hefin David am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma, ac am y cyfraniadau gan yr Aelodau, yn enwedig Sioned Williams a Mark Isherwood, sydd wedi ymwneud cymaint â’r ymgyrch hon. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i roi diweddariad pellach am y gwaith yr ydym yn ei arwain mewn perthynas â gwasanaethau i gleifion mewnol ag anableddau dysgu sy'n oedolion, a’n hymateb i’r pryderon a godwyd gan ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud ein bod yn cytuno nad yw gwely ysbyty yn gartref. Credwn y dylid gofalu am bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn eu cymuned leol, gartref, neu mor agos at eu cartrefi â phosibl lle bo hynny’n ymarferol. Nid oes unrhyw un yn dymuno dychwelyd i'r dyddiau tywyll lle roedd pobl ag anableddau dysgu yn cael eu sefydliadu. Nid ydym eisiau dychwelyd at y dyddiau hynny y cyfeiriodd Julie Morgan atynt. Ac yn sicr, mae mwy y gallwn ac yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ag anableddau dysgu rywle y gallant ei alw'n gartref.

Mae'r data diweddaraf sydd gennym yn dangos, ym mis Hydref, fod 140 o oedolion ag anableddau dysgu yn cael gofal parhaus mewn lleoliad cleifion mewnol; roedd 22 ohonynt yn Lloegr. Nid yw hyn yn ddigon da. Rydym yn gweithio i leihau nifer y bobl sy'n byw oddi cartref fel hyn. Mae hon yn flaenoriaeth yn ein cynllun gweithredu strategol ar anableddau dysgu, a hoffwn ddiolch i ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn am y ffocws cynyddol y mae wedi'i roi i hyn. Rwy’n ymwybodol iawn nad oes unrhyw atebion cyflym. Mae angen inni wneud newidiadau systemig, cynaliadwy, fforddiadwy i wasanaethau, i sicrhau eu bod yn gallu newid ac addasu i ddiwallu anghenion amrywiol gwahanol bobl, y gofal cofleidiol y soniodd Hefin David amdano, nid pobl yn gorfod ffitio i mewn i system nad yw'n gweithio iddynt.

Amlygwyd llawer o’r pryderon ynghylch gwasanaethau cleifion mewnol ag anableddau dysgu yn yr adolygiad yn 2020 ‘Gwella Gofal, Gwella Bywydau’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Gwnaeth 70 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, darparwyr gofal a’r trydydd sector ynghylch sut y gellir gwella gwasanaethau. Yn gynnar yn 2022, wrth inni gefnu ar y pandemig, fe wnaethom sefydlu’r grŵp gweithredu a sicrwydd cenedlaethol ar gyfer anabledd dysgu i gyflawni’r argymhellion hynny. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi’i wneud, diolch i lawer iawn o gydgynhyrchu gyda gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiad bywyd, a oedd yn hollbwysig i'r gwaith hwn. Cefais adroddiad cynnydd interim gan y grŵp gweithredu a sicrwydd cenedlaethol ar gyfer anabledd dysgu, ac rwy’n disgwyl diweddariad llawn ar gynnydd yn erbyn pob un o’r 70 o argymhellion yn yr adroddiad erbyn mis Ebrill 2025. Byddaf yn sicrhau bod hwn yn cael ei gyhoeddi, ac yn cael ei rannu gydag Aelodau'r Senedd wrth gwrs.

Mae’r grŵp hwn wedi bod yn allweddol wrth adolygu rhai o’r prif faterion sy’n effeithio ar wasanaethau cleifion mewnol, gan gynnwys pontio amserol, gofal argyfwng ac ymyrraeth gynnar, a gwella ymyrraeth anfferyllol. Bydd ei gyngor—

16:30

A gaf i ofyn i ba raddau mae'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu gyda'r grŵp Bywydau wedi'u Dwyn, ac a ydynt yn ymwneud yn llawn â'r trafodaethau hynny a datblygu'r argymhellion?

Yr argymhellion oedd y rhai sydd eisoes wedi'u datblygu, ac yna, o ran adrodd yn ôl ar y rheini erbyn mis Ebrill 2025, dylent fod yn rhan o sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn pob un o'r 70 o'r argymhellion hynny.

Fel y dywedais, mae'r grŵp wedi bod yn allweddol wrth adolygu nifer o faterion pwysig eraill. Bydd ei gyngor yn yr holl feysydd hyn yn helpu i siapio datblygiad polisi yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n troi nawr at rai o'r pwyntiau penodol a godwyd yn y ddadl. Mae ein hegwyddorion arweiniol ar gyfer gweithredu'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnwys sicrhau urddas a pharch, defnyddio'r opsiynau lleiaf cyfyngol a sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl. Dyma'r gwasanaethau y mae'n rhaid ymrwymo iddynt ledled Cymru. Ceir amrywiaeth o fesurau diogelu i sicrhau bod y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael ei gweithredu'n ddiogel ac yn effeithiol yng Nghymru, ac mae'r rhain yn cynnwys gweinyddwyr y Ddeddf Iechyd Meddwl, sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith, a'r gwasanaeth tribiwnlys iechyd meddwl annibynnol.

Ar yr achlysuron pan fydd pobl yn cael eu derbyn i uned iechyd meddwl i'w hasesu ac nad oes ganddynt anhwylder meddwl sy'n cyd-ddigwydd, rwy'n derbyn bod oedi cyn dod o hyd i lety amgen, gan gynnwys cyfleusterau anabledd dysgu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod llety addas yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwbl glir, ni waeth beth yw dosbarthiad unrhyw lety, fod yn rhaid i'r gofal a ddarperir ganolbwyntio ar yr unigolyn, a'i fod yn briodol ac yn addas, fel ei fod yn diwallu anghenion yr unigolyn yn llawn.

Fis diwethaf, cyfarfûm â'r Farwnes Merron, ychydig cyn i Fesur Iechyd Meddwl y DU gael ei gyflwyno i'r Senedd, ac rydym wedi cytuno i weithio'n agos i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio i Gymru. Yn bwysig, mae'r Bil hwn yn cyflwyno newidiadau fel na fydd hi mwyach yn bosibl cadw person ag anabledd dysgu neu awtistiaeth am fwy o amser nag sydd ei angen ar gyfer asesu, oni bai bod ganddynt anhwylder iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd.

Ysgrifennais at yr Aelodau ym mis Awst, yn nodi manylion y gwaith yng Nghymru mewn perthynas â gwasanaethau anabledd dysgu i oedolion. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu, sy'n gweithio gyda Bywydau wedi'u Dwyn, ac i fynd i'r afael â'r pryderon penodol. Yn bennaf, mae'n cynnwys pobl sy'n rhan o'r ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn, ac felly y dylai fod. Roedd cyfarfod diwethaf y grŵp ddydd Llun yma, ac ar ei gais, rhoddir digon o amser i archwilio'r holl faterion a godwyd yn llawn, ac rwyf bellach yn disgwyl derbyn ei argymhellion yn yr haf. Fodd bynnag, rwyf am sicrhau bod pobl o'r ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn yn ymwybodol fy mod wedi ystyried heddiw y pryderon a godwyd gan Hefin David a Carolyn Thomas, a byddaf yn gweithio ar hyn. Rwy'n dweud hynny'n ddiffuant. Rwyf am glywed oddi wrthych, ac rwyf am glywed am eich anwyliaid. Hoffwn pe na baech wedi cael y profiad bywyd hwn, ond ni fydd yn ofer. Rwyf o ddifrif ynglŷn â hyn. Rwy'n bryderus iawn, ac rwy'n mynd i sicrhau ein bod yn gweithredu.

Ac yna, yn olaf, mae cael data cywir, cyfoes a chadarn sy'n helpu i yrru newid a llywio ein blaenoriaethau polisi a'n gweithgarwch yn bwysig iawn, fel y dywedwyd sawl gwaith heddiw. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ddechrau gweithio gyda gweithrediaeth y GIG i gasglu a deall data cleifion mewnol anabledd dysgu trwy gyfres o archwiliadau o ddarpariaeth byrddau iechyd ar gyfer cleifion mewnol. Er nad yw'r wybodaeth hon yn addas i'w chyhoeddi eto, rydym yn archwilio sut y gallwn ei rhannu mewn fformat sy'n bodloni safonau llywodraethu gwybodaeth cenedlaethol, sy'n ofyniad allweddol gan ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn.

Ddirprwy Lywydd, ceir llawer o waith a chynnydd tuag at gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Rwy'n falch iawn y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwyf eisiau gorffen hefyd drwy ddweud fy mod i'n gwerthfawrogi angerdd pawb sydd wedi siarad heddiw, angerdd yr ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn. Rwy'n cytuno: mae hwn yn fater hawliau dynol. Felly, gadewch imi ailadrodd: mae un person mewn gwely yn hytrach na mewn cartref yn un yn ormod. Diolch.

16:35

Rwy'n meddwl y gwnawn ni ddechrau gyda chyfraniad Sioned a'r hyn a ddywedodd am gamddiagnosis a'r ffaith bod llawer o'r problemau hyn yn deillio o'r ffaith bod pobl yn cael camddiagnosis o broblemau iechyd meddwl. Nawr, yn eich cyfraniad, Weinidog, fe ddywedoch chi y bydd y Bil Iechyd Meddwl yn sicrhau na ddylid cadw pobl awtistig oni bai bod ganddynt broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd. Mae gennym lwybr yng Nghymru nawr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu dod â chamddiagnosis o'r fath i ben. Mae'r camddiagnosis mor hawdd. Soniodd Mark Isherwood am chwalfa. Roeddwn i gyda Caitlin fy merch fach yn y Red Kite, mae hi'n naw oed—tafarn y Red Kite yng Nghaerffili—ac fe wthiodd hi fwrdd drosodd. Torrodd wydr cwrw ar y llawr a thaflu ei bwyd ar y llawr. Gyda phlentyn naw oed fe allwch chi ei reoli o drwch blewyn; i blentyn tair oed, mae fel camymddwyn; gyda phlentyn naw oed, gallwch ei reoli o drwch blewyn, ac mae pobl yn gweld bod anabledd yno. Pan ydych chi'n 16 oed a bod hynny'n digwydd, pan ydych chi'n 17 oed a bod hynny'n digwydd, mae pobl yn dechrau gwneud cysylltiadau ag anhwylderau iechyd meddwl, ac nid yw hynny'n wir. Nid yw'n wir. Ac mae'n bwysig cofio, oni bai bod gennych chi'r ddealltwriaeth honno fel gweithiwr proffesiynol, oni bai bod gennych chi'r gallu i wneud diagnosis o rai o'r ymddygiadau hynny, gall y camsyniadau hynny ddigwydd yn hawdd, a dyna pam ein bod ni'n gofyn am ddata.

Hefin, a fyddech chi'n cytuno, hefyd—? Rydym wedi clywed tystiolaeth fod gosod pobl mewn lleoliadau amhriodol i ddechrau yn sbarduno'r ymddygiad hwn ac yn dwysáu'r hyn yr ystyrir eu bod wedyn yn broblemau iechyd meddwl. Mae'n gylch dieflig bryd hynny, ac mae pobl yn cael eu hunain ar y llwybr hwn, ac maent bron â bod wedi cael eu gwthio ar y llwybr hwn.

A dyna stori Will, ynte? Dyna oedd stori Will y gwnaethoch chi ei darllen. Dyna'n union a ddigwyddodd. Roedd yn debyg iawn i Jack. Maent yn cyrraedd amgylchiadau yn y pen draw lle mae chwalfa bron yn cael ei hannog, oherwydd goleuadau llachar, oherwydd synau, am eu bod yn cael eu cyfyngu. Felly, mae'n broblem hunanbarhaus, bron iawn. A'r diffyg cynnydd hwnnw a nododd Sioned, rwy'n credu, ond hefyd y mater a gododd Mark ynghylch data, a'r ffaith nad ydym yn gwybod ble mae'r bobl hyn, ac efallai fod pobl ynghudd nad ydym yn ymwybodol ohonynt heddiw. Dywedodd Mark fod rhywun wedi dweud wrtho, 'Cafodd fy mhlentyn ei ddwyn.' Mae hynny'n anghredadwy. Mae hynny'n anghredadwy. Weithiau, nid wyf yn credu ein bod yn gwybod ble maent, ar hyn o bryd, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gasglu'r data hwnnw.

Soniodd Jenny Rathbone am rai pethau cadarnhaol yn y gymuned. Un peth y buaswn i'n ei ddweud yw ei bod hi'n wych cael y gwasanaethau hyn, ond mae angen inni gofio nad oes gan bob person awtistig anabledd dysgu, ni fydd gan bob person awtistig gyflwr iechyd meddwl, a gall pobl awtistig hefyd ddioddef iselder, dioddef meddyliau ofnadwy, ond mae hynny o ganlyniad i'r amgylchiadau y maent ynddynt, nid oherwydd unrhyw gysylltiad cynhenid ag awtistiaeth.

A Carolyn, y Pwyllgor Deisebau, gallaf weld Dawn yn yr oriel—rydych chi wedi rhoi i'r Pwyllgor Deisebau hefyd, felly? Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol dda. Mae'n ddull trylwyr o fynd ati, inni allu cael dadl arall, a fyddai'n dda iawn. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Gallwch weld mai'r hyn y mae Dawn Cavanagh yn ei wneud yw cael ei stori allan ar draws y Siambr hon, gan ddefnyddio pob mecanwaith sydd ar gael iddi. Pobl mewn amgylchiadau enbyd yw'r rhain. Nid wyf yn credu y byddant yn fodlon â geiriau'r Gweinidog, oherwydd pan fyddwch wedi gweld eich teulu'n cael eu trin fel hyn, ni allwch fod yn fodlon, ni fyddwch byth yn fodlon, ond yn y pen draw, gobeithio, fe fyddwch chi'n gweld cynnydd a llwybr i helpu pobl yn debyg iawn i'ch teulu eich hun.

Mae Julie Morgan yn ein hatgoffa pa mor bell rydym wedi dod. Bu bron i mi roi hynny yn fy araith mewn gwirionedd, oherwydd roedd yna bobl yn y 1970au, fel fy merch, a fyddai yn yr ysbyty'n barhaol yn y blynyddoedd hynny. Mae'n dal i fod—rwyf wedi sôn amdano o'r blaen—mae yna raglen, That's Life, ar YouTube, ac roedd y bennod gyntaf erioed yn nodi yn union hynny: heddiw byddai'r bobl ifanc a gâi eu cadw yn yr ysbyty yn cael eu hadnabod fel pobl awtistig ac yn byw yn eu cymunedau. Felly, rydym wedi dod yn bell, ond ar yr un pryd, nid oes gennym ddata ar y bobl ifanc sy'n dal i gael eu cadw mewn amgylchiadau tebyg iawn yn erbyn eu hewyllys. Felly, mae'n dal i fod angen inni wneud cynnydd ar hynny.

Dof yn ôl hefyd at y grŵp gorchwyl a gorffen sydd gennym, fel y dywedodd y Gweinidog, gyda throsolwg clir o'r hyn rydym eisiau ei gyflawni, ond hefyd rwy'n credu bod angen i chi gydnabod nad gwleidyddion yw ymgyrchwyr Bywydau wedi'u Dwyn. Mae llawer ohonynt heb arfer gweithio gyda gweision sifil, felly ni fyddant yn gwybod yn iawn a yw'r hyn sy'n cael ei ddweud yn ateb cywir. Weithiau maent yn clywed pethau fel, 'Wel, rydym eisoes yn gwneud hynny, rydym eisoes yn gwneud hynny', wel, nid yw hynny'n ddigon da, a hoffwn ddweud wrthych chi fel Gweinidog am gynnal trosolwg o'r hyn y mae eich swyddogion yn ei ddweud wrth y grŵp, oherwydd mae angen iddynt ddeall nad ydynt yn cael eu twyllo. Ac rwy'n gwybod eich bod yn deall hynny, oherwydd cawsom y sgwrs honno y tu allan i'r Siambr ddoe.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rydym yn gwthio cynnydd yn ei flaen yma, ac rwy'n gwybod, Sioned, eich bod chi'n teimlo y dylai fod yn gynt—rwy'n cytuno. Ond mae'n gynnydd, ac rwyf am weld tîm Bywydau wedi'u Dwyn yn rhan o'r cynnydd hwnnw ac yn ei yrru bob cam o'r ffordd. A hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn iddynt am fod yma heddiw.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8750 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru' a osodwyd ar 24 Gorffennaf 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Eleni, penderfynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ailedrych ar yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym bron i dair blynedd yn ôl, o'r enw 'Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy'n wynebu rhieni sy'n gweithio', i weld pa gynnydd a wnaed. Roedd yn waith amserol, gan fod nifer o faterion pwysig yn galw am sylw brys gan y Llywodraeth.

Hoffwn ddiolch i'r holl arbenigwyr yng Nghymru, ar draws Prydain, ac yn Estonia a Chanada, a roddodd dystiolaeth i ni, yn ogystal â'r holl weithwyr blynyddoedd cynnar sy'n cysegru eu bywydau gwaith er lles plant ifanc, yn enwedig y rhai a ganiataodd inni ymweld â'u safleoedd a gweld y gwaith da sy'n digwydd, yn ogystal â staff y pwyllgor a'n hymchwilydd Gareth Thomas, ac fe wnaeth pob un ohonynt gyfraniadau sylweddol i ymchwiliad y pwyllgor. O ystyried y cylch gwaith sy'n gorgyffwrdd â gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roeddem yn falch iawn o gael ymuno â Jayne Bryant yn ei rôl fel Cadeirydd, cyn iddi ymuno â'r Llywodraeth, a'i holynydd fel Cadeirydd, Buffy Williams, ar yr ymchwiliad hwn.

Gellir dadlau mai addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn yw'r ymyrraeth fwyaf trawsnewidiol y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud i gau'r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan amddifadedd. Pwysleisiodd tystiolaeth y Sefydliad Polisi Addysg a gyhoeddwyd ar ddechrau'r 1990au nad oes troi nôl erbyn i'r plentyn gyrraedd ei ddwyflwydd oed, oni bai bod gennych ofal plant cynhwysfawr o ansawdd uchel i wrthdroi'r anfantais a fydd fel arall yn aros gyda phlant am weddill eu hoes. Dyna pam y cafodd Cychwyn Cadarn ei sefydlu gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. Yma yng Nghymru, goroesodd y rhaglen Dechrau'n Deg ddatgymalu Cychwyn Cadarn a chau niferoedd enfawr o ganolfannau plant gan Lywodraeth ddiwethaf y DU, ond mae llawer i'w wneud o hyd i sicrhau'r ddarpariaeth gyson a theg rydym am ei gweld ar gyfer ein plant yng Nghymru. Mae'n dda gweld bod manteision Dechrau'n Deg yn dechrau lledaenu allan o grynoadau o ardaloedd cynnyrch ehangach difreintiedig, ac rydym yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad ar 9 Hydref gan y Gweinidog eich bod bellach yn comisiynu awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer ymestyn cam 3 Dechrau'n Deg i gynnwys pob plentyn dwy oed yng Nghymru, lle bynnag y mae'n byw, er mwyn sicrhau y gall pob plentyn elwa o 2.5 awr o leiaf o addysg feithrin am ddim bum niwrnod yr wythnos.

Ond am y tro, mae'r cynnig gofal plant wedi'i rannu'n dair rhaglen ar wahân, fel nad yw llawer o deuluoedd yn deall yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Yn wir, dywedodd Sefydliad Bevan wrthym mai dyma'r rheswm pam nad yw oddeutu hanner y teuluoedd sydd â hawl iddo yn manteisio ar y cynnig o ofal plant am 48 wythnos y flwyddyn. Mae rhieni plant anabl yn wynebu rhwystrau penodol wrth ddod o hyd i ddarparwr blynyddoedd cynnar lleol sy'n gallu diwallu anghenion eu plentyn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Mae addysg gynnar a gofal o ansawdd uchel, cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn trawsnewid bywydau ac yn creu cymdeithas fwy cyfartal. Nid oes angen inni edrych ymhellach nag Estonia, y mae ei buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar wedi gwneud y wlad hon o ychydig dros 1 filiwn o bobl y wlad sy'n perfformio orau yn Ewrop fel y'i mesurir gan y prawf PISA. Mae'n gryn dipyn o gyflawniad. Clywsom dystiolaeth gref fod y dull hwn sy'n canolbwyntio ar y plentyn o weithredu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn dal i fod yn waith ar y gweill ledled y DU. Yn wahanol i Sgandinafia ac Estonia, mae anghenion y plentyn yn dal i fod yn ail i'r pwyslais ar wneud gofal plant yn fforddiadwy i rieni ddychwelyd i waith cyflogedig neu fynychu addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith.

Gwelsom ddarpariaeth ragorol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ar ein hymweliadau pwyllgor ledled Cymru, fel Y Fenter yn Wrecsam, ar ystad o dai lle mae'r rhan fwyaf o blant sy'n mynychu yn byw mewn fflatiau heb fynediad diogel i chwarae yn yr awyr agored, sydd mor bwysig i lesiant plant o bob oedran, yn enwedig yr effaith gadarnhaol ar eu patrymau cysgu. Nododd Carolyn Thomas, a fydd yn siarad yn ddiweddarach, gryfder Y Fenter yn ei chefnogaeth gyfannol i deuluoedd, y modd y mae'n mynd ati i hyrwyddo rhyfeddodau natur a pharch at yr amgylchedd.

Yn yr un modd, mae Enfys Fach yn Aberhonddu, yn cynnig cyfleoedd dysgu di-dor dan arweiniad plant dan do ac yn yr awyr agored. Mae ei chydleoli gyda'r ysgol gynradd yn galluogi plant i ddefnyddio ysgol goedwig yr ysgol ac i deimlo'n rhan o gymuned ehangach pan fyddant yn cynnal dathliadau o adegau pwysig yn y flwyddyn. Roedd Dylan's Den, a sefydlwyd gan rieni yn Nhreorci, yn fwy o jyngl goncrit, ond roedd eu cydleoli gyda'r ysgol gynradd yn galluogi Dylan's Den i ledaenu eu hadenydd i faes chwarae cyfan yr ysgol ar gyfer eu darpariaeth wyliau estynedig, a oedd i'w groesawu'n fawr mewn ardal lle mae'n anodd dod o hyd i ofal dros y gwyliau. Roedd yn drawiadol iawn gweld sut roedd staff yn y fenter gymdeithasol hon wedi datblygu cymaint o arbenigedd i ddiwallu anghenion plant ag ystod o anableddau.

Gwelais ymroddiad tebyg i anghenion plentyn ag anabledd dwys yng nghanolfan blant integredig Aberafan, lle roedd y staff serch hynny wedi nodi prinder difrifol o leoedd i blant ag anghenion ychwanegol. Mae Coram Family and Childcare, a arloesodd gyda darpariaeth sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arolygu pob awdurdod lleol yn flynyddol ar eu digonolrwydd gofal plant, a nododd fod data 2024 yn dangos mai dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol Cymru sydd â digon o leoedd i blant ag anableddau, ac mae hyn yn destun pryder mawr.

Os caf droi at ein hargymhellion nawr, yn enwedig y rhai sydd â goblygiadau ariannol yn yr wythnos cyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddatgelu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu'n fawr y sylw y mae Dawn Bowden wedi'i roi i'n hargymhellion. Fel y pedwerydd Gweinidog gyda chyfrifoldeb am y blynyddoedd cynnar eleni, mae'n dda ei bod wedi treulio ei hamser yn ei swydd yn edrych ar fanylion yr hyn rydym yn ei argymell.

Rydym yn cydnabod bod datblygu un system ar gyfer pob gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gofyn am raglen sylweddol o newid, y mae angen ei gydgynhyrchu â'r holl randdeiliaid, hynny yw, rhieni, darparwyr a'r awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb i sicrhau darpariaeth ddigonol i ddiwallu anghenion eu poblogaeth, a bod angen i'r gwaith gydredeg â symleiddio system fudd-daliadau Cymru, fel bod aelwydydd incwm isel yn arbennig yn gwbl ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Felly, edrychwn ymlaen at glywed pa mor garedig y mae gweddill y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi ymateb i'w chais am arian yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

Rydym yn croesawu datblygiad Teulu Cymru yn gynnes iawn fel siop un stop ar gyfer gwybodaeth am gymorth gofal plant i deuluoedd, ac fe fydd, gobeithio, yn blatfform hygyrch ar gyfer symleiddio a dod â thair elfen wahanol darpariaeth bresennol Llywodraeth Cymru at ei gilydd wrth iddi esblygu. Mae'n rhaid inni nodi bod gan y DU rai o'r costau gofal plant uchaf yn y byd, fel y cadarnhawyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a chanfu arolwg ledled Cymru gan Oxfam Cymru fod naw o bob 10 ymatebydd yn ei chael hi'n anodd talu costau gofal plant o'u hincwm gwario. Felly, unwaith eto, gobeithiwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych yn garedig ar y cyfalaf potensial yn ogystal â'r refeniw sydd ei angen i ddechrau ymestyn Dechrau'n Deg i gynnwys pob plentyn dwy oed yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ond rhaid inni fynd i'r afael ag annhegwch amddifadu teuluoedd â phlant anabl o'r hyn y dylent hwy, yn fwy na neb, ei gael. Dyna mae darpariaeth gynhwysfawr, gynhwysol o ansawdd uchel yn ei olygu, ac mae angen inni sicrhau ei bod ar gael lle mae plant yn byw. 

Yn olaf, rydym yn croesawu'n gynnes y sylw difrifol y mae'r Gweinidog wedi ei roi i'r dystiolaeth glir a glywsom am yr heriau y mae darparwyr bellach yn eu hwynebu, a hwythau heb gael unrhyw gynnydd yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru i'w costau ers mis Ebrill 2022. Mae hyn, dros dair blynedd o argyfwng costau byw, costau ynni a bwyd cynyddol, wedi siglo hyfywedd y sector. Rwy'n eich cyfeirio at ffigwr 6 ein hadroddiad, sy'n dweud y cyfan. Ni allwn ddisgwyl i ddarparwyr fyw ar ddim ond eu brwdfrydedd a'u hymroddiad helaeth i'r plant y maent yn eu gwasanaethu. Mae'n rhaid iddynt gael digon i dalu'r costau yn ogystal â thalu eu hunain, ac ni allant recriwtio staff o safon os gall y bobl hynny ennill mwy yn llenwi silffoedd mewn archfarchnad. 

Rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth ynghylch cynyddu'r gyfradd yr awr y mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei darparu dros y tair blynedd diwethaf, oherwydd mae arolwg a wnaed o'r holl ddarparwyr yn dweud wrthych y gallai saith o bob 10 darparwr gofal plant gynnal y model presennol am flwyddyn, ond dim ond 20 y cant a oedd yn hyderus y gallent oroesi am ddwy flynedd. Felly, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth go ddifrifol a hynny'n gyflym, mae'n rhaid inni obeithio y byddwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ddarparwyr yr wythnos nesaf fod cynnydd yng nghyfradd yr awr ar gyfer gofal plant ar y ffordd o fis Ebrill 2025. Edrychaf ymlaen nawr at glywed cyfraniadau gan eraill, gan gynnwys y Gweinidog, wrth gwrs. 

16:50

A gaf innau hefyd ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am lunio'r adroddiad hwn? Un o nodweddion mwyaf trawiadol yr adroddiad oedd datgelu pa mor gymhleth a digyswllt yw'r system ariannu gofal plant. Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw dysgu a chymorth blynyddoedd cynnar i ragolygon addysg a gwaith plentyn yn hirdymor, ac eto mae'n teimlo fel pe bai'r union system sydd wedi'i chynllunio i'w helpu yn atal rhai o'r plant sydd fwyaf o'i hangen rhag cael mynediad ati. 

Y gwir trist yw ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn ers peth amser, ac ar ôl yr ymchwiliad cychwynnol ddwy flynedd yn ôl, ychydig iawn sydd wedi'i wneud. Rwy'n credu bod hyn yn siarad cyfrolau am y sylw dyladwy y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ddarpariaeth gofal plant. Mae'r diffyg gweithredu i'w briodoli'n llwyr i'r Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol, sydd wedi methu blaenoriaethu ad-drefnu darpariaeth gofal plant. Rwy'n credu bod angen mwy o atebolrwydd. 

Rwy'n gweld mai dim ond mewn egwyddor y mae'r Llywodraeth wedi derbyn ymrwymiad i gydgrynhoi ffrydiau cyllido, yn seiliedig ar y farn fod ei symleiddio'n gostus ac yn gymhleth. Fodd bynnag, nid wyf yn derbyn y ddadl hon. Mae'r Llywodraeth hon wedi treulio 25 mlynedd yn cymhlethu'r ffrwd ariannu hon yn systematig. Mae gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch at eich defnydd ac ni fyddai'n dasg rhy feichus i ailgynllunio'r system ariannu. Rwy'n ofni nad yw hyn yn ddim mwy na geiriau gwag i dawelu'r pwyllgor, ac unwaith eto, cânt eu dilyn gan fethiant i weithredu. 

Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen am fwy o arian i'r sector gofal plant. Roeddwn yn arbennig o bryderus fod bron i 80 y cant o ddarparwyr gofal plant yn disgwyl cau o fewn dwy flynedd os na cheir cynnydd o rhwng 20 y cant a 60 y cant i lefel bresennol y gyfradd yr awr fesul plentyn. Ar ben hyn, mae 92 y cant o rieni'n teimlo bod costau gofal plant yn anghymesur o uchel o'u cymharu â'u cyflogau. Mae'r ffaith bod yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyflymder ymateb Llywodraeth Cymru yn peri pryder mawr. 

Nodwyd bod cyllid y blynyddoedd cynnar wedi cael ei drosglwyddo yn y gyllideb flaenorol i ariannu blaenoriaethau eraill, yn hytrach na'i ddefnyddio i gefnogi'r sector gofal plant sy'n ei chael hi'n anodd. Gadewch inni roi'r llun hwn at ei gilydd. Yr hyn sydd gennym yw senario lle nad oes gan ddarparwyr gofal plant ddigon o arian i ddal ati, ochr yn ochr â mwyafrif o rieni sy'n ei chael hi'n anodd talu costau gofal plant eisoes, a Llywodraeth Cymru nad oes ganddi unrhyw ymdeimlad o frys i fynd i'r afael â hyn ac sy'n hapus i ddargyfeirio cyllid i ffwrdd o ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn dweud wrth deuluoedd nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni.

Gwyddom fod tlodi plant ar ei uchaf erioed yng Nghymru a bod gan Gymru y lefelau uchaf o bob gwlad yn y DU. Yn y Siambr hon, rydym yn siarad ynglŷn â sut i gael economi Cymru i symud, i greu swyddi i godi teuluoedd allan o dlodi, rydym yn siarad am wella cysylltiadau trafnidiaeth, a'r holl gynlluniau eraill i gael pobl i mewn i waith. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen i bobl ofalu am eu plant, ac os yw costau gofal plant yn rhy uchel, nid yw'n talu i fynd i'r gwaith, a'r cyfan a wnânt yw gweithio i dalu i rywun arall ofalu am eu plant.

Yn olaf, hoffwn sôn am blant anabl a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n rhaid inni gydnabod bod y ddarpariaeth yn gwbl annigonol. Nid wyf yn synnu clywed tystiolaeth fod yna ddiwylliant o ofn ei gael yn anghywir, lleoliadau anaddas, prinder staff â'r sgiliau sydd eu hangen, ac anawsterau yn ystod gwyliau'r ysgol a darparu gofal cofleidiol. Rwy'n sylweddoli ei bod yn debygol y bydd hi bob amser yn anodd darparu gofal i blentyn, yn enwedig plant ag anghenion cymhleth. Yr hyn sydd ei angen arnom yw system sy'n adeiladu capasiti yn gyson ar gyfer plant anabl a'r rhai ag anghenion dysgu, yn hytrach na system sy'n gorfod ymateb. Fe ellir gwneud hyn. Dylai Llywodraeth Cymru nodi cynllun cyllido hirdymor, a fydd yn rhoi hyder i'r sector hyfforddi a darparu ar gyfer yr anghenion penodol hynny. Credwn fod Cymru yn genedl noddfa i ffoaduriaid; pam na all fod yn genedl noddfa i'r rhai ag anableddau hefyd? Diolch.

16:55

Dyma ail adroddiad ein pwyllgor ar ofal plant yng Nghymru. Dwi'n meddwl ei fod e'n arwyddocaol pan fo pwyllgor yn teimlo bod angen ail ymchwiliad o fewn yr un tymor Senedd—o fewn byr o dro, a dweud y gwir—ar fater, ac, yn yr achos yma, yn sgil pryderon gwirioneddol am ddiffyg cynnydd ar faes hollbwysig i ddyfodol ein plant ac felly dyfodol ein cenedl.

Roedd Plaid Cymru wedi gosod gofal plant fel un o'i phrif bolisïau yn y cytundeb cydweithio, gan ein bod yn cefnogi'r egwyddor, sy'n cael ei chrynhoi yn natganiad cyntaf cyflwyniad y Cadeirydd i'r adroddiad, mai addysg gynnar gynhwysfawr o safon uchel yw'r ymyrraeth fwyaf drawsnewidiol y gall unrhyw Lywodraeth ei gwneud. Ond yn ystod yr ymchwiliad, tanlinellwyd canfyddiadau yr ymchwiliad cyntaf fod y system yn rhy gymhleth, yn rhy dameidiog, yn golygu, felly, nad yw llawer o deuluoedd yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a hefyd yn methu â'i chyrchu.

Yn wir, yn ôl y dystiolaeth a glywsom ni gan Sefydliad Bevan, mae'r ffaith bod rhaid i rieni sy'n ymwybodol o'r cynlluniau yma ac sy'n gymwys i'w cyrchu wedyn gyflwyno nifer o geisiadau i'w cyrchu yn gwneud y broblem yn waeth ac yn fwy cymhleth. Mae'r adroddiad drwyddo draw, felly, yn galw am weithredu brys i symleiddio'r system bresennol, sydd ddim yn ffit i bwrpas o ran sicrhau mynediad fforddiadwy i bob plentyn at ofal o'r safon uchaf ar draws Cymru, nac o ran galluogi teuluoedd, a mamau yn benodol, i elwa'n economaidd wrth fanteisio ar gyfleon gwaith.

Mae'r argymhelliad cyntaf yn cyfeirio at greu y siop un stop yma ar gyfer nid yn unig gwybodaeth am ofal plant, ond hefyd gwneud cais am gymorth. Mae e'n un hynod o ymarferol. Mae ymateb llugoer y Llywodraeth, dwi'n meddwl, o'i dderbyn mewn egwyddor yn unig, yn siomedig. Mae'r safle Teulu Cymru yna, y safle ddigidol maen nhw'n cyfeirio ati yn eu hymateb—. Cyfres o ddolenni yw e sy'n mynd â chi wedyn i'r holl rannau o'r system. Dyw e ddim yn siop un stop yn y ffordd roeddwn i eisiau ei gweld.

Roedd geiriau'r Gweinidog ar y pryd, oedd yn ymateb i'r adroddiad, yn crisialu, i fi, diffyg polisi cyfredol a'r diffyg mynd i'r afael â'r bwlch cyflawni amlwg yma. Gwnaethon nhw ddweud eu bod nhw'n ymwybodol o fanteision ac angenrheidrwydd creu y siop un stop ddigidol, ond gan y byddai'n cymryd amser a buddsoddiad, rhaid bod yn bwyllog ac ystyried defnydd o arian cyhoeddus. Ie, ond dyma enghraifft glasurol o bolisi drud yn methu â chyrraedd y nod ac amharodrwydd i gymryd y cam a allai sicrhau bod yr holl wariant ar y polisi yn fwy effeithiol.

Fe glywsom ni gan arbenigwyr yn y maes, yma yng Nghymru ac ar draws y byd, yr hyn sydd angen newid, a hefyd edrychom ar y rhwystrau presennol i hynny, yn enwedig, fel ŷn ni wedi'i glywed, sut mae pwysau ariannol wedi effeithio ar ddarparwyr gofal plant a'r gweithlu. Dyna oedd un o'n prif bryderon ni fel pwyllgor, bod y sector ar ddibyn ariannol.

Roedd arolwg gan Blynyddoedd Cynnar Cymru yn datgelu nad oedd dros chwarter o ddarparwyr yn hyderus y byddan nhw'n medru cadw eu drysau ar agor am flwyddyn arall. Mae'n rhaid inni gynnal a datblygu'r ddarpariaeth sydd gennym os oes gyda ni unrhyw obaith o'i ehangu.

Er y daeth ar ôl inni gyhoeddi ein hadroddiad ni ym mis Gorffennaf, rhaid ystyried penderfyniad Canghellor Llywodraeth San Steffan i gynyddu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol cyflogwyr yng nghyd-destun casgliadau'r adroddiad, dwi'n meddwl, a'r hyn glywson ni am sefyllfa darparwyr gofal plant yn ein hymchwiliad.

Yn ôl Blynyddoedd Cynnar Cymru, mae'r cynnydd i'r NICs wedi effeithio'n andwyol ar nifer o'u haelodau. Sonion nhw am gwmni sydd ar fin cymryd drosodd y ddarpariaeth gofal plant yn y DVLA yn Abertawe yn y flwyddyn newydd—Little Inspirations. Mae'n ddarparwr sydd â naw lleoliad ar draws y de, ac yn cyflogi 130 o staff, ond maen nhw'n profi problem arbennig gyda'r angen i dalu'r cyfraniadau cyflogwyr ychwanegol yma ar gyfer staff rhan-amser oherwydd y gostyngiad yn y trothwy eilaidd i gyflogwyr, sy'n golygu y bydd rhaid iddyn nhw dalu nawr y NICs cyflogwyr ar enillion dros £5,000 o Ebrill nesaf, tra byddan nhw ar hyn o bryd yn gorfod talu cyfraniadau ar enillion dros £9,000. Felly, gallwch chi weld faint mae'n mynd i gostio iddyn nhw. Roedd natur annisgwyl y cynnydd hefyd yn gwneud y sefyllfa'n waeth, maen nhw'n dweud.

Mae ein hadroddiad ni'n dangos yn gwbl glir, dwi'n meddwl, fod cefnogi'r sector yn gwbl ganolog i gydraddoldeb rhywedd, i sicrhau'r dechrau gorau i bob plentyn, ac yn gonglfaen i'r strategaeth tlodi plant. Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog sut mae'r Llywodraeth am liniaru'r newid yma a'r cynnydd yna mewn costau i'r sector er mwyn cefnogi ein trydydd argymhelliad.

I orffen, Llywydd, hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd sylfaenol gwella'r system gofal plant o ran dileu anghydraddoldebau. Mae tlodi plant yn sgandal cenedlaethol yng Nghymru, ac mae effaith hyn yn creithio cenedlaethau ac yn niweidio llewyrch a lles ein cenedl.

Felly, hoffwn i wybod—. Wel, mae'r syniadau yno yn ein hadroddiad, gan Oxfam Cymru, gan Sefydliad Bevan, gan arbenigwyr rhyngwladol, a gan fodelau gwledydd fel Estonia, fel clywon ni. Felly, hoffwn i glywed beth yw syniadau newydd y Gweinidog newydd i flaenoriaethu creu'r dyfodol newydd.

17:00

Gallai mynediad at gyllid gofal plant wneud â chael ei symleiddio, gyda siop un stop, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ffrwd a system ariannu symlach yn dilyn ymgysylltiad â rhanddeiliaid i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn i rieni a'r rhai sy'n ymwneud â'r sector. Byddai'n wych cynnig gofal plant cyffredinol i bob teulu dan absenoldeb mamolaeth estynedig â thâl, fel y clywsom o Estonia, lle mae ganddynt ysgolion meithrin ac mae'r cynnig yn hael iawn, ond byddai'n cymryd blynyddoedd o fuddsoddi ac ailadeiladu cyllid gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi'i dorri'n ddifrifol dros y 14 mlynedd diwethaf, a dim ond nawr o dan Lywodraeth Lafur y DU y gwelwn y newid, ac rwy'n gobeithio y bydd newyddion cadarnhaol i chi yn y gyllideb yr wythnos nesaf.

Cynyddodd cyfradd yr awr y cynnig gofal plant 11 y cant yn 2022, ac rydym wedi cael effaith pwysau chwyddiant enfawr, ond rwy'n falch y bydd y gyfradd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei thalu am y cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg yn cael ei hadolygu'n flynyddol nawr yn hytrach na phob tair blynedd, gan adlewyrchu chwyddiant yn well. Ac rwy'n croesawu'r rhyddhad ardrethi busnes hefyd, sy'n barhaol bellach. Bydd hynny'n helpu.

Mae'n peri pryder i mi fod rhieni'n credu, os ydynt yn byw yn Lloegr, y byddant yn gallu cael gofal plant i'w plant o naw mis oed ymlaen, ond rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir oherwydd mae'n cymryd blynyddoedd i adeiladu'r seilwaith ar gyfer y cyfleusterau a'r staff, ac mae'r cynnig gofal plant yng Nghymru a Lloegr fel cymharu dau beth hollol wahanol. Mae'r plant a datblygiad plant yn ganolog i bopeth a wnawn ni. Datblygwyd ein cynllun o amgylch tair thema: ansawdd y ddarpariaeth, mynediad at ddarpariaeth, a chefnogi a datblygu'r gweithlu, sy'n wahanol i'r cynnig presennol yn Lloegr, sy'n canolbwyntio'n fawr ar ofal plant yn unig ar hyn o bryd.

Yn 2021 dyfarnwyd £5 miliwn i Gyngor Sir y Fflint i'w fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal plant gwell i leoli'r cyfnod sylfaen a gofal plant mewn ysgolion lle bynnag y bo modd, i ddarparu gofal cofleidiol trwy chwarae, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn fodel da iawn. Elwodd 10 ysgol gynradd o'r pot arian hwnnw, ac yn ddiweddar, dymchwelodd cylch chwarae cyn-ysgol St Winefride hen gasebo a chael ystafell ddosbarth awyr agored newydd yn ei le, gyda meinciau gosod. Mae'r ystafell ddosbarth newydd yn ddigon mawr i bob plentyn a'u cyfarpar anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hefyd yn storio welintons a dillad glaw i'r plant gael mynediad rhydd i'r awyr agored. Gall pob plentyn cyn-ysgol ymgynnull mewn un ardal nawr ar gyfer amser cylch, byrbrydau neu chwarae cyffredinol, a gwelwn y buddsoddiad hwn yn cael ei ailadrodd ar draws ein cymunedau. Mae dysgu awyr agored a gofod chwarae yn bwysig i blant allu cysylltu â natur, a cheir llawer o deuluoedd nad oes ganddynt erddi. Ac rwy'n gwybod bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi cefnogi creu'r cyfleusterau hynny o dan y cyfnod sylfaen dros nifer o flynyddoedd. Credaf mai buddsoddi mewn ardaloedd tlotach yn gyntaf, trwy Dechrau'n Deg, yw'r ffordd iawn, er y byddai'n braf cael gofal plant am ddim i bawb, oherwydd pan fydd gennym blant llwglyd, ni allant chwarae, nid oes ganddynt egni i chwarae. Felly, mae gofal cofleidiol yn bwysig iawn.

Mae mynediad at hyfforddiant, sgiliau a chymwysterau ar-lein yn bwysig iawn hefyd, ac mae angen inni fynd ar drywydd hynny, oherwydd ymddengys bod hynny'n broblem.

Hoffwn orffen gyda dyfyniad gan Malcolm King o'r Fenter yn Wrecsam, sy'n cynnig rhaglen Dechrau'n Deg i blant dwy i dair oed ym Mharc Caia, yr ystad dai fwyaf yng Nghymru. Mae'r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru mewn tair o'r pum ward. Mae 70 y cant o'r plant sy'n mynychu'r Fenter yn byw o fewn 500 llath. Pwyslais y Fenter yw darparu lle diogel, tawel a hapus i'r plant chwarae a rhyngweithio ag eraill, a chrynhodd Malcolm hyn drwy ddweud, 'Mae creu ymdeimlad o hapusrwydd yn inocwleiddio yn erbyn holl heriau bywyd.' Diolch. 

17:05

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno nad yw gofal plant, ar draws y DU, yn gweithio i rieni na darparwyr, ac mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o'r problemau gyda gofal plant yng Nghymru ac yn rhoi sylfaen i Lywodraeth Cymru ar gyfer dod o hyd i atebion i'r problemau.

Mae 84 y cant o aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn anghytuno bod y codiad yn yr isafswm cyflog yn fforddiadwy, yn seiliedig ar fodelau cyllido cyfredol a phwysau costau eraill. Mae 91 y cant bellach yn ystyried neu'n mynd i gynyddu ffioedd rhieni, sy'n peri pryder mawr o ystyried cost warthus gofal plant, sydd eisoes yn gwbl anfforddiadwy i'r rhan fwyaf o rieni. Ac i danlinellu'r pwynt, yng Nghymru mae cost meithrinfa i blentyn dan ddwy flwydd oed yn 63 y cant o dâl wythnosol un rhiant—63 y cant. I riant sengl, mae hynny'n gwneud gofal plant yn llythrennol amhosibl, sy'n golygu nad ydynt yn gallu gweithio. Mae'r cartref cyfartalog yn y Deyrnas Unedig yn colli 25 y cant o'i incwm misol cyfartalog i ofal plant, sy'n uwch na'r morgais neu'r rhent cyfartalog. I'r rhan fwyaf o rieni, dyma'r gost unigol fwyaf. Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn bumed yn y byd ar y rhestr o wledydd â'r costau gofal plant uchaf, y tu ôl i Tsiecia, Cyprus, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau. Dylem gydnabod hefyd fod y lefel annerbyniol o uchel o gostau gofal plant yn atal cynhyrchiant ac yn atgyfnerthu anghydraddoldeb rhywedd. Mae ymchwil wedi canfod cysylltiad cryf rhwng gofal plant anfforddiadwy a chyflogaeth mamau sengl, gyda chynnydd o 1 y cant mewn costau gofal plant yn gysylltiedig â chynnydd o 0.3 y cant i 1 y cant yng nghyfradd diweithdra mamau sengl. O ystyried bod bron bob darparwr gofal plant yn ystyried codi ffioedd rhieni, mae'r data'n dangos y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn lefelau diweithdra mamau sengl, sy'n ddigalon iawn ac yn anghywir.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at frwydr darparwyr gofal plant yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac os yw'r gost i ddefnyddwyr yn annerbyniol o uchel, mae'r darparwyr hefyd ar eu gliniau. Dylai hynny ddweud rhywbeth wrthym ynglŷn â sut y mae'r model cyfan wedi torri. Mae angen atebion sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddyrannu ychydig mwy o arian yma ac acw, a hoffwn glywed Llywodraeth Cymru'n cydnabod maint y broblem hon mewn gwirionedd, a sut y maent yn bwriadu mynd i'r afael â hi.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am symleiddio system sy'n rhy gymhleth a heb ei deall yn iawn. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru mai'r prif bryder oedd pa mor gymhleth yw'r system ar hyn o bryd i rieni a darparwyr. Awgrymodd Sefydliad Bevan hefyd, yn syfrdanol, nad yw hanner y rhieni cymwys yn manteisio ar y cynnig gofal plant, gan ddweud, gyda thri chynllun gwahanol ar gael, efallai nad yw'n syndod nad yw rhieni'n ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Gwaethygir pethau gan y ffaith bod yn rhaid i rieni gyflwyno ceisiadau lluosog i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt. Rwy'n credu bod hon yn broblem enfawr, fod y system yn orgymhleth, ac mae cymaint o rieni sydd angen help yn methu ei gael am eu bod yn chael hi'n anodd llywio'r system.

Mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr a'r cynllun Dechrau'n Deg yn ychwanegu mwy o gymhlethdod. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried diwygio'r cynllun Dechrau'n Deg, rhywbeth nad wyf yn credu ei fod yn gweithio ar hyn o bryd. Mae'r cynnig Dechrau'n Deg yn ddwy awr a hanner yn y bore, a buaswn i'n dadlau nad yw'n mynd i helpu rhiant i ddychwelyd i'r gwaith. Gall eu plentyn fod mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn y bore ac mewn lleoliad preifat yn y prynhawn. Felly, mae'n bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn esgeuluso darparwyr gofal plant nad ydynt yn ddarparwyr Dechrau'n Deg, a llawer o rieni sy'n gweithio y tu allan i ardal Dechrau'n Deg, sydd hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn cael dau ben llinyn ynghyd a thalu am ofal plant. Hefyd, yn ôl Barnardo's, mae 48 y cant o blant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig y tu allan i ardal Dechrau'n Deg, sy'n broblem fawr ac yn dangos bod angen brys i ddiweddaru'r cynllun Dechrau'n Deg, a luniwyd yn 2007, gan fod y darlun economaidd a chymdeithasol wedi newid yn ddramatig ers hynny. Diolch yn fawr.

17:10

Fel y clywsoch, dyma ein hail adroddiad, oherwydd gallwn weld pa mor bwysig yw gofal plant i blant Cymru, ond mae'n ymwneud â mwy na phwysigrwydd gofal plant i blant Cymru, mae'n bwysig hefyd i'r rhieni ac i economi iach. Nid yw'n gwneud synnwyr mai dim ond 161,000 o blant o dan bedair oed sydd gennym yma yng Nghymru ac na allwn ddiwallu eu hanghenion am ofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o ansawdd uchel. Oherwydd os ydym yn darparu'r gofal plant hwnnw, rydym wedyn yn rhoi'r gallu i'r rhieni wario arian, i weithio, i wella hunan-barch, a gellir mynd i'r afael â'r holl faterion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac yn y blaen. Felly, mae hwn yn gyfle buddsoddi i arbed enfawr i Lywodraeth Cymru.

Mae'n siomedig iawn fod ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad—. Gallwn weld nad yw eu hymrwymiadau'n gyrru eu hymrwymiad i sicrhau bod plant yn cael gofal plant hygyrch, fforddiadwy, o ansawdd. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir fod hon yn system dameidiog sy'n gwneud cam â phlant a rhieni. Er enghraifft, canfu Sefydliad Bevan, fel y clywsoch, nad yw bron i hanner y rhieni cymwys yn gallu manteisio ar y cynnig gofal plant, yn uniongyrchol gysylltiedig ag argaeledd anghyson a gwybodaeth wael. Yn wir, fel aelod o'r pwyllgor, roedd ceisio llywio a deall y gofal plant a oedd ar gael ychydig fel bod angen Safon Uwch mewn astroffiseg. Felly, dychmygwch sut y mae hynny'n teimlo i riant sydd ar eu pen eu hunain, yn ceisio dod o hyd i ffordd o ddod o hyd i ofal plant digonol a lleol. Mae'n system mor gymhleth, a buaswn yn croesawu barn y Llywodraeth ar sut y caiff ei symleiddio.

Yn anffodus, cyfle arall allweddol a gollwyd yw penderfyniad Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad i wrthod darpariaeth gofal plant i bob plentyn tair a phedair oed. Drwy eithrio plant o aelwydydd nad ydynt yn gweithio a chynnal trothwyon cymhwysedd cyfyngol, mae'r Llywodraeth yn mynd ati'n systematig i roi'r teuluoedd mwyaf agored i niwed dan anfantais. Mae'r dystiolaeth a ddyfynnir yn yr adroddiad yn cefnogi'r ddarpariaeth gyffredinol yn fawr. Ni allwn ddianc rhag hyn. Mae'n angenrheidiol inni weithio tuag at hynny, ac i'r Llywodraeth ddangos y camau y bydd yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod hynny yn ei le. Mae'r Alban wedi gweithredu eu darpariaeth gofal plant yn llwyddiannus, ac fel y clywsoch, mae gwledydd eraill ledled y byd wedi gwneud hynny hefyd. Rhaid inni sicrhau ein bod yn uchelgeisiol mewn perthynas â gofal plant a'n heconomi yma yng Nghymru. Felly, buaswn yn croesawu ymrwymiad gan y Llywodraeth i ddarparu'r cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth honno ar waith.

Ond i orffen, ac rydych chi wedi clywed hyn dro ar ôl tro, mae hyn i gyd yn rhan o safbwynt sylfaenol yma yng Nghymru, sef y gallai hyn olygu ein bod yn mynd i'r afael â thlodi plant. Fel yr amlygodd yr Athro Mari Rege yn yr adroddiad 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant' y llynedd, ni cheir fawr o arfau sydd mor effeithiol â darparu gofal plant cynnar. Mae tlodi plant, fel y clywn dro ar ôl tro, ac fel yr amlygwyd gan fy nghyd-Aelod, Sioned, yn parhau i fod mor uchel yma yng Nghymru. Yn ôl Sefydliad Bevan, ym mhob un ond dwy ardal awdurdod lleol yng Nghymru, mae mwy nag un o bob pedwar plentyn yn byw mewn tlodi. Hyd yn oed yn fwy pryderus, mae mwy na hanner y plant sy'n byw mewn tlodi mewn teuluoedd lle mae'r plentyn ieuengaf rhwng dim a phedair oed. Dylai beri sioc ac arswyd a chywilydd llwyr i ni mai dyma'r wlad yr ydym yn byw ynddi. Er fy mod yn croesawu eich ymrwymiad i'r 1,000 diwrnod cyntaf, Weinidog, a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny i symud pethau ymlaen, mae gennym fwlch enfawr yma o hyd er mwyn sicrhau bod y 1,000 diwrnod cyntaf hynny'n gwbl allweddol i deuluoedd. 

Felly, rwy'n gorffen gydag ychydig o anobaith, mae arnaf ofn. Rwy'n anobeithio fy mod wedi dechrau a diwedd y flwyddyn yn gofyn am i fwy gael ei wneud ar dlodi plant a gofal plant. Nid opsiwn polisi yn unig yw gofal plant fforddiadwy cyffredinol, mae'n rheidrwydd moesol. Mae'n fuddsoddiad yn ein plant, ein teuluoedd a dyfodol Cymru. Diolch yn fawr iawn. 

17:15

Diolch, Lywydd. A gaf i ddweud, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn y prynhawn yma, ac rwyf wedi croesawu'n fawr y cyfraniadau gan yr holl Aelodau? A gaf i ddechrau drwy ddiolch i holl aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr ymchwiliad pwysig hwn? Ac rwy'n gwybod, Jenny, mai ymchwiliad dilynol yw hwn, a bod hynny ynddo'i hun yn adrodd stori i ni, fod gennym lawer mwy i'w wneud o hyd. Ond hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl randdeiliaid a gyfarfu â'r pwyllgor ac a roddodd dystiolaeth mor gyfoethog o'u profiadau, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn wrth ein helpu i lunio ein cyfeiriad polisi yn y dyfodol.

Nawr, mae'r pwyllgor eisoes wedi derbyn ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad ac ymateb dilynol gennyf i pan gefais y cyfrifoldeb gweinidogol hwn ar nifer o'r argymhellion. Felly, nid af dros bob un o'r rheini yn fy nghyfraniadau heddiw, ond rwy'n gobeithio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd yn y ddadl y prynhawn yma.

Rwyf am ddechrau, fodd bynnag, drwy eich sicrhau bod gofal plant yn ymrwymiad a blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac fe fydd yn parhau i fod. Gwyddom o'r dystiolaeth y gall buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar gael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol plant, nawr ac yn y dyfodol. Mae sawl cyfrannwr yn y ddadl y prynhawn yma wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Nid opsiwn yw hawliau plant yng Nghymru. Dyna pam y mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru o'r pwys mwyaf.

Wrth sôn am y dull sy'n seiliedig ar hawliau, un o'r pethau a welsom yn ein tystiolaeth—tystiolaeth ofnadwy, dorcalonnus, mewn gwirionedd, a chwbl annerbyniol—o'r data a ddarparwyd gan yr holl awdurdodau lleol, oedd mai dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol Cymru sydd â digon o ddarpariaeth gofal plant i blant sy'n anabl.

Ie, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn dod ato yn fy ymateb. Rwy'n ymwybodol iawn o'r diffyg darpariaeth gyffredinol a chysondeb y ddarpariaeth, a byddaf yn dweud ychydig mwy am hynny mewn eiliad.

Ond ers dechrau ar fy nghyfrifoldebau gweinidogol presennol, rwyf wedi bod yn awyddus i gyfarfod â'r rhai sy'n darparu gofal plant, oherwydd rwyf am ddeall pa broblemau y mae'r sector yn eu profi a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i oresgyn y rhain. Cefais y pleser o gyfarfod â Cwlwm yn ddiweddar, a gweld gwaith caled ac ymroddiad y sector gofal plant yn uniongyrchol. Ac yn fwyaf diweddar, ymwelais â meithrinfa Daisy Day a chyfarfod â thîm Munchkinos Childminding.

Nawr, nodais dair thema sy'n dod drwodd yn gryf o adroddiad y pwyllgor, gan y sector, gan awdurdodau lleol a chan rieni, ac yn ystod y ddadl hon heddiw, sef cynaliadwyedd, cymhlethdod a hygyrchedd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ychydig mwy am y camau yr ydym wedi'u cymryd ac y byddwn yn eu cymryd yn y tri maes hynny.

Yn amlwg, mae cynaliadwyedd y sector yn gwbl hanfodol. Ac yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i bawb sy'n gweithio ym maes gofal plant a chwarae, gan alluogi cymaint o rieni i weithio a darparu cefnogaeth hanfodol i ddatblygiad plant. Rydym yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff gofal plant, yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n cefnogi profiadau cynharaf plant. Ac mae'n hanfodol ein bod ni, fel Llywodraeth, yn cydnabod y gwaith gofal plant hwnnw a'r heriau y mae'r staff yn eu hwynebu. Bydd datblygu fforwm gwaith teg partneriaeth gymdeithasol gofal plant a gwaith chwarae yn blatfform ar gyfer ystyried materion sy'n ymwneud ag arferion gwaith teg ar draws y sector yn y dyfodol, a byddwn yn parhau â'n gwaith ar ddatblygu cefnogaeth i weithwyr yn y sector chwarae i wneud gyrfa gadarnhaol.

Sioned Williams, rwy'n cydnabod yn llwyr y sefyllfa ariannol heriol sy'n wynebu lleoliadau gofal plant, a dyna pam y gwnaethom y penderfyniad i wneud rhyddhad ardrethi busnesau bach yn nodwedd barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n mynd rywfaint o'r ffordd i liniaru rhai o'r costau ychwanegol y bydd y lleoliadau hyn yn eu hwynebu gyda'r cynnydd mewn yswiriant gwladol. Ond mae yna fesurau lliniarol o fewn y ddarpariaeth i gynyddu yswiriant gwladol hefyd. Fe wyddom fod yna fesur i leihau effaith y newidiadau hynny ar fusnesau bach, yn cynnwys cynyddu'r lwfans cyflogaeth o £5,000 i £10,000 a chael gwared ar y trothwy o £100,000. Gyda'n penderfyniad i gynnig rhyddhad ardrethi busnes parhaol hefyd, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu.

Rwyf wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i newid i adolygiadau blynyddol o gyfraddau'r cynnig gofal plant fel y mae eraill eisoes wedi'i grybwyll. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i wella cynaliadwyedd y sector, a byddaf yn dweud mwy am ganlyniad yr adolygiad cyfredol o'r gyfradd yn dilyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Gallaf ddweud fy mod yn rhannu pryderon y pwyllgor a phryderon rhanddeiliaid ynghylch cymhlethdod y system bresennol, a dyna pam fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i symleiddio ein ffrydiau cyllido a'n systemau ar gyfer ariannu gofal plant. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud ar unwaith a'r hyn y gallwn ei wneud yn fwy hirdymor.

Wrth gwrs, mae ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid yn allweddol i wneud cynnydd ystyrlon yn y maes hwn. Drwy ddeall y problemau drwy lygaid y sector a thrwy rieni, byddwn mewn sefyllfa well i nodi ac i roi atebion ymarferol ar waith. Ond gallem hefyd ddysgu o'r gwaith a wnaethom drwy amrywiol brosiectau trawsnewid integreiddio blynyddoedd cynnar, lle rydym eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol i symleiddio mynediad at y cynnig gofal plant i Gymru, gan sicrhau profiad mwy cyson i rieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru.

Lywydd, fy uchelgais yw datblygu un system ar gyfer pob gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a bydd hyn yn golygu bod angen rhaglen sylweddol o newid, ymgysylltu eang a buddsoddiad cychwynnol. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd, mae cwmpasu cychwynnol wedi dechrau a byddwn yn ceisio datblygu'r gwaith hwn cyn gynted â phosibl.

17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr. Mae'n ymwneud â'r cynnig a'r cyllid. Gennym ni yma yng Nghymru y mae'r lefel isaf o gyllid yr awr, sef £5 yr awr. Mae'r diwydiant wedi gofyn am fwy, tua £7 neu £8 yr awr. A fydd y mater penodol hwnnw'n rhan o'ch cynlluniau, gobeithio, yn y tymor byr i'r tymor canolig. Diolch, Weinidog.

Fe ddof at hynny, Jane. Diolch yn fawr.

Felly, os gallaf droi nawr at y drydedd thema o'r adroddiad a'r ddadl, sef hygyrchedd, mae'n hynod bwysig fod rhieni'n gallu cael gwybodaeth i wneud dewisiadau gwybodus. Rwy'n clywed beth y mae Sioned wedi ei ddweud am y platfform digidol, ond mae'r platfform newydd hwnnw'n darparu ffynonellau o wybodaeth ymarferol ac ariannol, sy'n adeiladu ar wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd pob awdurdod lleol. Rydym wedi gweld mynediad i'r platfform hwnnw'n cynyddu o fis i fis, ac mae gennym bron i 20,000 yn defnyddio'r platfform ar hyn o bryd, sy'n cynyddu hygyrchedd i'r cymorth sydd ei angen, gan ei fod yn eu cyfeirio i'r lleoedd priodol i gael y wybodaeth benodol sydd ei hangen arnynt.

Wrth wrando ar y sector a rhanddeiliaid, rydym eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol, fel y dywedais, i symleiddio mynediad at y cynnig gofal plant i Gymru. Mae'r rhaglen o ofal plant a ariennir bellach yn cael ei darparu drwy un gwasanaeth digidol cenedlaethol, a ddisodlodd yr amrywiol systemau cynnig gofal plant lleol ym mis Tachwedd 2022. Mae'r gwasanaeth cwbl ddwyieithog hwn wedi dod â phrofiad mwy cyson i rieni a darparwyr gofal plant, ac yn ddiweddar cyfarfu swyddogion â chydweithwyr yr Adran Addysg yn Lloegr, a oedd yn awyddus i ddysgu o'n profiad ni o ddatblygu a darparu cynnig gofal plant digidol cenedlaethol i Gymru.

Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn arwain ein dull chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar hyrwyddo partneriaethau, cysondeb a chydgysylltu rhwng ysgolion a lleoliadau, yn ogystal â rhieni a gofalwyr, er budd y plentyn a'u teulu. Mae'r gwaith hwn yn helpu i gefnogi'r agenda trechu tlodi, y gallwn ddweud cymaint mwy amdano, ond rwy'n ymwybodol iawn o'r amser.

Nawr, bydd cyd-Aelodau’n cofio ein bod wedi trafod adroddiad y pwyllgor plant a phobl ifanc ar fynediad plant a phobl ifanc anabl at addysg a gofal plant yn gynharach y mis hwn, ac i fod yn glir, rydym yn gwybod bod gennym lawer iawn mwy i'w wneud yn y maes hwn. Ond fe wyddom hefyd fod gan swyddogion anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar yr awdurdodau lleol rolau pwysig i'w chwarae yn gwella'r gwaith o nodi anghenion lefel is yn gynnar ar gyfer sefydlu llwybrau atgyfeirio a chodi ymwybyddiaeth ymhlith partneriaid amlasiantaethol. A thrwy—

17:25

A thrwy ein rhaglen gyfalaf, mae gennym enghreifftiau fel Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu ystafell ddosbarth awyr agored newydd sy'n addas ar gyfer pob plentyn a'u cyfarpar anghenion dysgu ychwanegol.

Rwy'n meddwl tybed a gaf i—. Oherwydd mae gennyf gymaint mwy i'w ddweud ac nid wyf yn mynd i allu mynd drwy'r cyfan—

Na. Rydych chi wedi mynd ymhell dros eich amser; rwyf wedi rhoi amser i chi ar gyfer yr ymyriadau.

Wel, fe fyddaf yn cael fy meirniadu am beidio ymateb i'r holl bwyntiau hefyd, felly rwy'n ymwybodol o'r amser—

Mae'n rhaid i mi geisio—. I symud ymlaen, gofynnwyd i awdurdodau lleol ledled Cymru ddechrau paratoi eu cynlluniau ehangu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno darpariaeth gofal plant i blant dwy oed, a bydd hynny'n golygu ymestyn darpariaeth Dechrau'n Deg i gynnwys pob plentyn dwy oed, felly bydd hwnnw'n gynnig gofal plant cyffredinol i bob plentyn dwy oed. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i'r adolygiad o gyfraddau gofal plant a newid i adolygiad blynyddol o gyfraddau. Wrth gwrs, unwaith eto, ni allaf ddweud mwy am hynny nes bod yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau a nes inni wybod mwy am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ddirprwy Lywydd, mae gennyf gymaint mwy i'w ddweud, ond rwyf am ei adael yno, oherwydd rwy'n gwybod fy mod wedi trethu eich amynedd.

Mae angen i Weinidogion, lawn cymaint ag unrhyw un arall, sicrhau eu bod yn cynllunio ac yn amseru eu cyfraniadau.

Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.

Diolch. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol, oherwydd mae cryn dipyn o densiwn ar draws y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd gofal plant. Hoffai llawer ohonom ganolbwyntio mwy ar anghenion y plentyn, yn hytrach nag angen y rhieni i gael gwaith, er bod y ddau'n bwysig, oherwydd bydd teulu sydd â rhywun mewn gwaith hefyd o fudd i'r plentyn.

Rwy'n credu y dylem glywed yn glir ymrwymiad y Gweinidog i symleiddio'r system, ond ni allwn ruthro, oherwydd mae'n rhaid inni gael rhywbeth a fydd yn ddefnyddiol i bob un o'r 22 awdurdod lleol, fel y gall pobl droi at y platfform dwyieithog cenedlaethol er mwyn mynd i safle Wrecsam, neu lle bynnag. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dal i alluogi pobl sy'n teimlo bod platfformau digidol yn anodd i fynd i'w hyb cymunedol lleol, neu eu Cyngor ar Bopeth, i gael help i lenwi'r ffurflen.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar bwysigrwydd anghenion y plentyn, yn ogystal â'r teulu. Ac mae Gareth Davies yn hollol gywir ei bod hi'n gallu bod yn aflonyddgar iawn i blentyn fynd i un ddarpariaeth Cychwyn Cadarn yn y bore a darpariaeth arall yn y prynhawn. Ond nid yw bob amser yn wir, a bod yn onest; mae rhai plant yn hoffi'r ddarpariaeth gyfunol am ddwy awr a hanner ac yna mae'n well ganddynt fynd adref gyda gwarchodwr plant neu aelod arall o'r teulu. Nid oes un ateb i bawb yma, ond yn amlwg, os yw rhieni'n mynd i fod yn gweithio, yn bendant bydd angen mwy na dwy awr a hanner arnynt. Ond rwy'n credu bod gan Naomi Eisenstadt rywbeth pwysig iawn i'w ddweud, oherwydd pwysigrwydd mynediad agored yw bod angen inni fod yn sicr fod hwn yn wasanaeth y mae pobl eisiau ei ddefnyddio. Yn sicr, byddai'n well gan rieni beidio â gorfod mynd o A i B, oherwydd mae'n rhaid iddynt wneud trefniadau mwy cymhleth, ac yn amlwg, yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cael canolfannau plant mwy integredig a fydd yn gallu darparu'r pecyn gofal llawn, yn union fel Y Fenter, y soniodd Carolyn amdano.

Rwy'n credu ein bod yn bell iawn o'r sefyllfa yn Estonia, ac mae hynny'n mynd i alw am newid agwedd ar ran Llywodraeth y DU, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Oherwydd, yn Estonia, maent wedi deddfu fel nad oes unrhyw riant yn talu mwy nag 20 y cant o'u cyflogau ar ofal plant, ac mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr hoffem i gyd ei weld, ond yn bendant nid oes angen i'r cyfan fod yn rhad ac am ddim. Nid oes rheswm penodol pam na all pobl dalu yn ôl eu modd; os ydynt yn ennill llawer o arian, gallant dalu ychydig mwy na'r rhai sy'n ennill llai neu ddim o gwbl, a mater i bob awdurdod lleol fyddai penderfynu sut y byddent yn sefydlu hynny. Mae hynny'n bodoli nawr, ond nid oes unrhyw beth i'w hatal rhag traws-sybsideiddio mewn ardal lle byddai hynny'n gweithio. Ni fydd yn gweithio mewn ardal fel un Y Fenter, lle mae'n amlwg na fydd y rhan fwyaf o'r bobl ar gyflogau uchel. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cael y platfform digidol hwn yn iawn, fod y ffurflen gais yn cyd-fynd â symleiddio'r system fudd-daliadau, oherwydd mae hynny'n galluogi rhieni sy'n poeni am gymryd gwaith a allai eu gwneud yn waeth eu byd, ac mae angen iddynt allu gweld y bydd yr help sydd ar gael yn ei gwneud yn werth mynd yn ôl i'r gwaith yn gynt nag y byddent yn ei wneud fel arall, Ac mae hynny ynddo'i hun yn beth da. Rwy'n credu bod hwn yn waith sydd ar y gweill, ac yn amlwg bydd llawer mwy i'w ddweud pan welwn beth fydd yn y gyllideb. Diolch i bawb ohonoch am gymryd rhan yn y ddadl hon.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Diagnosis dementia

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 ar ein hagenda ni heddiw yw dadl Plaid Cymru ar ddiagnosis dementia. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8752 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn gresynu mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae dementia yn afiechyd sydd yn effeithio nid yn unig ar y rhai sy'n byw efo’r cyflwr, ond ar gymunedau cyfan hefyd, ac mi ydyn ni’n enwedig o ymwybodol o hyn yma yng Nghymru—wedi’r cyfan, dementia ydy un o’r achosion mwyaf o farwolaethau yn ein gwlad. Yn wir, dim ond nos Lun y clywsom ni am farwolaeth un o gewri snwcer y byd, Terry Griffiths, a fu farw ar ôl brwydr hir efo dementia, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yma heddiw yn rhannu ein meddyliau efo’r teulu yn eu galar. A gan fod gan Gymru boblogaeth sydd yn heneiddio, mae’n anochel taw cynyddu bydd presenoldeb dementia yn ein cymdeithas dros y degawdau nesaf, gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru yn amcangyfrif cynnydd o 37 y cant yn niferoedd y bobl sy’n byw gyda dementia erbyn 2040.

Y tu hwnt i’r achos moesol, mae yna achos cymdeithasol clir dros ein cynnig heno, gan fod dementia yn costio economi Cymru £2.3 biliwn y flwyddyn ar hyn o bryd, gyda’r disgwyl y bydd y ffigwr yma yn dyblu i £4.6 biliwn erbyn 2040, os nad ydy’r ddarpariaeth o wasanaethau yn gwella yn fuan. Pwrpas ein dadl felly ydy i alw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y cynllun gweithredu dementia newydd yn medru ymateb yn gadarn i’r heriau yma, oherwydd mae’n amlwg bod pobl sy’n byw gyda'r clefyd yn cael eu gadael i lawr yn arw gan y system bresennol. Mae’r dystiolaeth yn glir bod diagnosis cynnar yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw â dementia yn medru dilyn bywydau mor gyfforddus â phosib a derbyn y gefnogaeth gymhleth sydd ei hangen arnyn nhw. 

Mae deall beth sy'n digwydd hefyd yn galluogi teuluoedd i gael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt, boed yn hyfforddiant, yn gyngor ariannol neu'n gefnogaeth seicolegol. Gallan nhw baratoi, cynllunio ac eirioli dros eu hanwyliaid. Ond yng Nghymru ar hyn o bryd, mae tua 44 y cant o’r 42,000 o bobl sydd yn dioddef o ddementia heb dderbyn diagnosis—y ganran uchaf o wledydd y Deyrnas Gyfunol.

[Anghlywadwy.]—cytuno’n llwyr fod angen negeseua cynnar o ran iechyd y cyhoedd hefyd, pan wyddom, er enghraifft, fod colli clyw a dewisiadau ynglŷn â ffordd o fyw yn cyfrannu at y risg uwch o gael dementia yn ddiweddarach yn eich bywyd, fod angen inni ymyrryd yn gynnar gyda'r cyhoedd i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir yn gynt.

Rwy'n cytuno â’r sylwadau hynny, a byddaf yn sôn am y rôl y gall meddygon teulu ei chwarae hefyd i sicrhau bod pobl yn deall dementia, a phobl a allai ddioddef o ddementia. Felly, diolch am eich sylwadau, Mark.

Mae’r ystadegau yma roeddwn i’n sôn amdanyn nhw cyn yr ymyrraeth yn golygu bod tua 18,000 o bobl yn cael eu gadael i ymdopi heb y cymorth a'r driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Dyna 18,000 o unigolion a 18,000 o deuluoedd yn brwydro mewn distawrwydd heb wybod beth i'w wneud na ble i droi. Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn yr ardaloedd gwledig, megis ym Mhowys, ble mae'r gyfradd diagnosis mor isel â 46.9 y cant. Ac mae hyn yn adlewyrchiad o’r realiti truenus nad ydy’r system iechyd yn ddigon ymatebol i anghenion ein poblogaeth. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd tair blynedd a hanner i unigolyn gael diagnosis llawn ar gyfer dementia, gyda phob diwrnod o oedi yn culhau opsiynau ar gyfer triniaeth effeithiol.

Mae’n werth cofio hefyd fod y cynllun gweithredu dementia 2018-22 wedi gosod targedau penodol ar fyrddau iechyd i gynyddu eu graddfa o ddiagnosis o leiaf 3 y cant bob blwyddyn, ond y gwir ydy bod y lefelau diagnosis ar draws bob un bwrdd iechyd heb gyrraedd y targedau hynny. Fe wnaeth gwerthusiad annibynnol y cynllun hefyd nodi bod yr amcan am darged cenedlaethol o ddiagnosis cychwynnol o fewn 12 wythnos ymhell i ffwrdd o gael ei gyflawni. Targedau mewn enw yn unig—yr un hen stori gyfarwydd.

Dyma enghraifft nodweddiadol arall o’r datgysylltiad anferthol rhwng rhethreg y Llywodraeth a’u record o gyflawni yn ymarferol. Ac felly, mi ydym ni angen gweld parodrwydd gan y Llywodraeth i ddysgu gwersi o fethiannau'r cynllun blaenorol, ac i ddangos yn glir bod dementia yn flaenoriaeth, a dyma’r camau rydym ni angen eu gweld ar gyfer y sicrwydd yma.

Yn gyntaf, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu capasiti diagnostig, gyda phwyslais yn enwedig ar offer mwy arbenigol fel atalyddion AChE a all wella symptomau dementia a chynhyrchu arbedion cost o hyd at £45,000 y person. Gellir hefyd defnyddio biofarcwyr dementia—yn biofarcwyr niwroddelweddu ac yn biofarcwyr hylif—a fyddai yn helpu lleihau’r effaith o ddiffyg argaeledd arbenigwyr yn ein cymunedau gwledig yn enwedig. Ac mae’n angenrheidiol bod y gwaith yma yn cyd-fynd â thargedau credadwy, gyda chynllun i gyflawni ar y targedau yn alinio â'r adnoddau a’r capasiti sydd ar gael i’r sector gynradd ac eilradd. Rhowch reswm i bobl sy’n byw gyda dementia gael gobaith yn eich targedau. Dwi’n nodi’r ffaith bod gwelliant y Llywodraeth yn adnabod yr angen yma am dargedau newydd, ac mi fyddwn i’n croesawu sylwadau’r Gweinidog ar ei gweledigaeth yn y cyd-destun yma.

Yn ail, mae angen newid diwylliant o ran ein hagweddau tuag at ddementia. Yn ôl arolygiad barn diweddar gan Alzheimer’s Cymru, roedd 43 y cant o bobl â dementia yn teimlo gwarth, a 25 y cant yn teimlo cywilydd, sydd yn aml yn rhwystr iddyn nhw fynd ati i edrych am ddiagnosis. Mae’r agweddau niweidiol yma yn ymestyn hefyd i’r gweithlu. Yn ôl arolygiad barn tebyg, roedd bron i 20 y cant o feddygon teulu ddim yn credu bod budd i ddiagnosis ffurfiol o ddementia, sydd efallai yn esbonio pam bod 36 y cant o bobl sy’n cysylltu efo meddygon teulu yn gorfod aros dros chwe mis am ddiagnosis cychwynnol. Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â'r stigma yn uniongyrchol drwy godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd, yn ogystal â darparu hyfforddiant penodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol am bwysigrwydd diagnosis cynnar.

Yn drydedd, mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer gofalwyr, yn enwedig y miloedd o ofalwyr di-dal sydd yn cyfrannu gymaint tuag at ein system iechyd. Mae’n warth o beth bod bron i 70 y cant o ofalwyr a arolygwyd fel rhan o'r gwerthusiad annibynnol o gynllun 2018-22 wedi mynegi nad oedden nhw wedi derbyn asesiad o’u hanghenion, a bod ychydig iawn wedi derbyn hyfforddiant penodol i’w galluogi i ymdopi â’r heriau sylweddol a chymhleth sy’n dod o ofal dros aelod teuluol sy’n dioddef o ddementia. Dylai hyn ddim bod yn syndod, wrth gwrs, o ystyried bod adolygiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol o'r asesiadau gofalwyr yn dangos methiannau yn y maes yma. Mae’n greiddiol, felly, fod y cynllun newydd yn ystyried yn llawn anghenion gofalwyr, ac yn rhoi’r hyder iddyn nhw fod y system yna i’w cefnogi yn llawn, yn cynnwys y gefnogaeth ariannol a’r ddarpariaeth o saib sydd yn gwbl angenrheidiol ar gyfer gofalwyr.

Yn bedwerydd, mae angen adnabod y gweithlu ac anghenion y gweithlu, yn cynnwys nifer y seiciatryddion a’r nifer sy’n medru gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn olaf, mae tryloywder yn gwbl allweddol i lwyddiant y cynllun newydd. Mae angen data arnom ni, fel y gallwn ni ddylunio gwasanaeth o'i amgylch, gan gynnwys adroddiadau misol o amseroedd aros ac asesiad clir o’r cynnydd ar dargedau perthnasol.

I’r unigolion a’r teuluoedd yr effeithir arnyn nhw, i’r economi, ac i’n system iechyd, mae’n bryd gweithredu. Mae angen i Gymru ymrwymo i wneud dementia yn flaenoriaeth, buddsoddi mewn atebion, a chreu dyfodol lle mae pobl sy’n byw gyda dementia yn cael y gofal, yr urddas, a’r cymorth y maen nhw'n eu haeddu.

17:35

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

17:40

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn trafod dementia, sef y clefyd sy'n lladd fwyaf o bobl ym Mhrydain, ac sydd wedi effeithio ar lawer ohonom, naill ai ein hanwyliaid neu bobl rydym yn eu hadnabod. Roedd gan fy nau dad-cu ddementia, yn anffodus, ac mae’n costio dros £2 biliwn y flwyddyn i Gymru, a disgwylir i'r ffigur hwnnw fwy na dyblu i £4.5 biliwn y flwyddyn.

Y llygedyn o obaith, fodd bynnag, gyda’r clefyd hynod o greulon hwn yw bod y camau breision a welwyd mewn ymchwil feddygol wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Mae'n hysbys fod dros 50,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr hwn yng Nghymru. Fodd bynnag, amcangyfrifir nad yw un o bob dau o bobl â dementia yng Nghymru wedi cael diagnosis, ac eto mae gwariant ar ddiagnosis yn llai nag 1.4 y cant o gyfanswm gwariant gofal iechyd yn y DU, sy’n amryfusedd syfrdanol yn ôl pob golwg. Mae hyn hefyd yn amlygu pwysigrwydd addysg: gyda llawer o bobl yn anwybodus am arwyddion cynnar dementia, mae pobl yn methu nodi dechrau'r clefyd yn eu partner neu berthynas. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn cynnwys addysg, a gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet sôn am hyn wrth ymateb i'r ddadl.

Mae Cymdeithas Alzheimer's wedi nodi’r niwed y mae diagnosis cynnar yn ei wneud i deuluoedd a’r economi, a chredir bod 63 y cant o holl gostau dementia yn cael eu hysgwyddo gan deuluoedd, gyda chostau’n cynyddu wrth i’r clefyd waethygu. Mae’r gost gyfartalog o ofalu am rywun â dementia yn £29,000, ond mae'n bosibl y byd y cyfanswm yn codi i £80,000 mewn achosion difrifol o ddementia. Dylem gydnabod hefyd fod dementia yn glefyd sy’n effeithio’n anghymesur ar yr henoed, ac felly mae’r baich gofal yn cwympo'n bennaf ar y priod neu bartner oedrannus. Dyma pam fod y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia i roi cleifion a’u hanwyliaid yn gyntaf.

Galwodd Comisiynydd y Gymraeg hefyd am fwy o gamau ym maes gofal dementia ar ran siaradwyr Cymraeg, gan nodi mai ychydig o gynnydd a wnaed ers i’r argymhellion cyntaf gael eu gwneud yn 2018. Ac mae’n hollbwysig, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl nac o dan anfantais, fod gofal yn hygyrch i bawb. Felly, mae’n siomedig fod cymorth yn y Gymraeg yn ddiffygiol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hyn yn y cynllun gweithredu, o ystyried y diffyg cynnydd yn dilyn cyhoeddi’r cynllun gweithredu diwethaf ar gyfer dementia, gan y gwyddom, yn anecdotaidd, fod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf sydd â dementia yn tueddu i droi'n ôl at eu mamiaith, ac mae tystiolaeth dda i gefnogi hynny.

Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo mwy o ymchwil i'r clefyd. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan fawr mewn ymchwil dementia, gyda miliynau o bunnoedd wedi'i fuddsoddi yn eu canolfan ymchwil dementia. Mae'n un o chwe chanolfan ar draws y DU, ac mae'n rhoi Cymru ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth fyd-eang.

Felly, i gloi, a all Llywodraeth Cymru amlinellu sut y bydd y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn mynd i’r afael yn briodol â’r cyfraddau diagnosis annerbyniol o isel, yn gwella addysg ar y clefyd, ac yn gweithio gydag ymchwilwyr yng Nghymru i sicrhau bod gofal dementia’r GIG yn cadw i fyny â'r technegau a'r dechnoleg ddiweddaraf? Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Wrth i bobl heneiddio, maent yn poeni mwy am eu hiechyd, yn enwedig pan fydd gan eu cyfoedion broblemau iechyd difrifol neu angheuol. Mae dementia yn derm cyffredinol ar gyfer colli cof, iaith, gallu i ddatrys problemau a galluoedd meddyliol eraill sy'n ddigon difrifol i effeithio ar fywyd bob dydd. Clefyd Alzheimer yw achos mwyaf cyffredin dementia. Nid un clefyd yw dementia. Mae'n derm cyffredinol i ddisgrifio casgliad o symptomau y gall rhywun eu profi os ydynt yn byw gydag amrywiaeth o glefydau, gan gynnwys clefyd Alzheimer.

Caiff y clefydau sy'n cael eu grwpio o dan y term cyffredinol 'dementia' eu hachosi gan newidiadau annormal yn yr ymennydd. Mae symptomau dementia yn sbarduno dirywiad mewn sgiliau meddwl, a elwir yn alluoedd gwybyddol, sy'n ddigon difrifol i amharu ar fywyd bob dydd a gweithrediad annibynnol. Maent hefyd yn effeithio ar ymddygiad, teimladau a pherthnasoedd. Gelwir camau cynnar colli cof neu golli gallu gwybyddol arall yn 'amhariad gwybyddol ysgafn'. Gall arwyddion o ddatblygiad dementia amrywio'n fawr. Maent yn cynnwys colli cof tymor byr, a rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi'i brofi, colli eich ffôn, pwrs, allweddi, sbectol neu waled. Credaf mai ychydig iawn o bobl yn yr ystafell hon sydd heb golli un o’r rheini ar ryw adeg, a rywbryd yn ystod yr wythnos ddiwethaf o bosibl. Felly, mae'n anodd iawn: 'Rwyf wedi colli fy ffôn, a oes gennyf glefyd Alzheimer?' Wel, nac oes, bron yn sicr, ond pan fyddwch yn cyfuno hynny ag anghofio talu biliau, cynllunio a pharatoi prydau bwyd, cofio apwyntiadau, teithio allan o'r gymdogaeth—ac wrth gynllunio a pharatoi prydau, dechrau coginio ac anghofio bod y popty ymlaen—mae'r holl bethau hyn yn dod yn llawer mwy difrifol. Mae symptomau dementia yn gynyddol, sy'n golygu bod arwyddion o amhariadau gwybyddol yn dechrau'n araf ac yn gwaethygu'n raddol dros amser, gan arwain at ddementia.

Bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn hyfforddi ar ddementia a ddarparwyd gan First Cymru, a oedd am i’w gyrwyr allu nodi pobl â dementia. Rwy'n diolch yn fawr iawn iddynt am fy ngwahodd i’r hyfforddiant hwn; carwn annog unrhyw Aelod arall yma sy’n cael cyfle i fynychu hyfforddiant dementia gan ryw sefydliad i’w fynychu. Fe'i disgrifiwyd fel silff lyfrau: pan fydd y silff lyfrau'n cael ei hysgwyd, mae'r llyfrau ar dop y silff yn cwympo tra bo'r rhai ar y gwaelod yn aros yn eu lle. Mae hyn yn esbonio pam fod hen atgofion yn parhau a pham fod digwyddiadau mwy newydd yn cael eu hanghofio, a pham fod pobl yn aml yn troi'n ôl at eu hiaith gyntaf. Dyna pam ei bod yn hynod o bwysig i bobl a gafodd eu magu gyda'r Gymraeg yn iaith gyntaf allu siarad â phobl yn Gymraeg, oherwydd er eu bod yn dal i allu cofio sut i siarad Saesneg, mae eu meddyliau cyntaf yn eu hiaith gynharaf.

Gwyddom mai dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, gydag un o bob tri ohonom a aned heddiw yn mynd i ddatblygu’r cyflwr yn ystod ein hoes—i roi hynny yn ei gyd-destun, 20 o'r Aelodau yma. Nid yw dementia yn rhan arferol o heneiddio, a gall ei effeithiau fod yn ddinistriol. Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu’n gyflym dros y 15 mlynedd nesaf. Mae ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Gymdeithas Alzheimer's yn rhagweld y bydd nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn codi 37 y cant erbyn 2040. Ond nid yw'r mater iechyd pwysig hwn yn cael y flaenoriaeth y dylai ei chael. Ledled y DU, mae llai na 2 y cant o gostau iechyd dementia yn cael eu gwario ar ddiagnosis a thriniaeth, tra bo oddeutu traean o’r costau hyn yn cael eu gwario ar dderbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty, sy'n ddrud ac yn drallodus.

Hoffwn sôn am aelod o’r tîm cwis nos Iau roeddwn yn arfer bod yn aelod ohono. Dechreuodd drwy fod yn anghofus, ddim yn siŵr a oedd wedi cymryd ei dabledi ai peidio, ac yn methu cofio pethau a ddigwyddodd yn gynharach yn y noson. Ef oedd ein haelod gorau o hyd am adnabod pobl neu frandiau o ffotograffau. Yn y pen draw, ar ôl cryn dipyn o berswadio gan ffrindiau a theulu, ymwelodd â'i feddyg teulu. Fe wnaeth cael diagnosis ei alluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chael mynediad at ofal, cymorth a thriniaeth, sydd wedi ei helpu i aros yn iach am gyfnod hwy. Yn dilyn triniaeth, mae bellach yn gallu byw ei fywyd bob dydd arferol, ac mae'n mynd i Benidorm dros y Nadolig gyda'i ffrindiau. Mewn arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Gymdeithas Alzheimer's, dim ond 1 y cant o bobl sy'n methu gweld unrhyw fudd o gael diagnosis. Mae'r system yn gymhleth, ac ar ôl cael diagnosis, mae angen cymorth cyfannol ar bobl i ddeall eu cyflwr a deall sut y mae'r system yn gweithio. Mae cynyddu cyfraddau diagnosis ledled Cymru yn hanfodol i alluogi pobl sy’n byw gyda dementia i reoli eu cyflwr a byw’n annibynnol am gyfnod hwy. Mae hyn yn cefnogi pobl i aros allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi eu hunain, gan leddfu'r pwysau ar ein system iechyd a gofal.

Dementia yw'r tabŵ olaf. Rwy'n cofio, ac efallai eich bod chi'n cofio, Ddirprwy Lywydd, pan gâi canser ei drafod drwy sibrwd, gyda marwolaeth gynnar yn sicr. Diolch byth, rydym wedi dod ymhell ers hynny, gyda chyfraddau goroesi'n cynyddu. Gyda dementia, gwyddom y gall triniaethau a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ynghyd â gofal priodol, arafu’r symptomau rhag gwaethygu a chaniatáu i bobl fyw’n well ac yn fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy, sef yr hyn y mae pawb ei eisiau, onid e? Gorau po gyntaf y ceir diagnosis, a chyda bron bopeth y soniwn amdano ym maes iechyd, rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn dweud yn union yr un peth: mae angen inni gael mwy o ddiagnosis cynnar. Dim ond un ohonynt yw dementia, ond ni allaf feddwl am unrhyw broblem iechyd lle nad yw diagnosis cynnar yn bwysicach na dim.

17:45

Yn ogystal â chlywed gan ein hetholwyr ni bob dydd, dwi'n siŵr bod gan bob un ohonom brofiad personol o effaith dementia ar deulu, cymdogion neu ffrindiau. Bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer's, ac nid gormodiaith yw dweud nid yn unig i greulondeb y dementia a'r effeithiau ein chwalu ni, wrth weld personoliaeth, dysg a dawn tad, gŵr, brawd a thad-cu yn raddol ddiflannu, ond hefyd y frwydr barhaus am gyngor, am gefnogaeth ac am gymorth iddo fe pan oedd angen hynny arno fwyaf, ac i ninnau hefyd oedd yn gofalu ar ei ôl.

Cafodd fy nhad ddim diagnosis am lawer rhy hir, ac yna fe wnaeth y ffaith nad oedd gwasanaethau yn cydweithio, yn dilyn y person yn hytrach na'r cod post, y ffaith nad oedd ffiniau ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd yn alinio, wneud y camau nesaf ar y siwrnai o ganfod y gefnogaeth honno yn waeth. Roedd yr agwedd 'computer says no' yn digwydd yn rhy aml: 'Gallwch chi gael cefnogaeth A, ond does dim modd cael cefnogaeth B'. Ac mae'n rhaid ichi wybod am beth i'w ofyn hyd yn oed cyn cael yr ateb yna.

Mae'r rhesymau pam bod angen gwella cywirdeb a phrydlondeb diagnosis wedi eu gosod mas eisoes. Hoffwn i egluro pam bod gwybod yn gwbl bendant pwy sydd angen cymorth, pryd a ble, mor bwysig, achos ar hyn o bryd, mae'r ffigyrau diagnosis yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl heb yr allwedd iawn i agor y drws i'r cymorth hwnnw. Felly, ar ran y teuluoedd a'r gofalwyr rwyf am siarad heddiw—pobl sydd dan straen, sy'n aml ar ben eu tennyn yn emosiynol, ac yn aml yn gorfforol hefyd, pobl sy'n blino brwydro, ac weithiau'n methu â gwneud hynny.

Mae rhai mentrau a sefydliadau gwych ar gael i'w cefnogi, ond dŷn nhw ddim yn gyson dros Gymru. Hoffwn i sôn am hanes Hannah Davies, sydd wedi sefydlu prosiect yr Hwb Dementia yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli. Mae hi wedi siarad yn agored gyda'r wasg am ei phrofiad mewn cyfweliad gyda WalesOnline. Mae hi'n dweud iddi deimlo'n gwbl ar ben ei hunan pan gafodd ei mam ddiagnosis o dementia, yn sôn na chafodd hi ddim unrhyw help o ran canfod pa gefnogaeth oedd ar gael, ac yn disgrifio'r profiad fel un trawmatig.

Mae'r profiad wedi ysgogi Hannah i weithio i newid pethau. Sefydlodd hi grŵp yn Abertawe i helpu cysylltu darparwyr gwasanaethau at ei gilydd, a arweiniodd wedyn at sefydlu prosiect Dementia Hwb, siop un stop yng nghanolfan siopa'r Cwadrant, sydd nawr hefyd â changen yng nghanolfan siopa Aberafan. Mae'n rhoi cyngor heb angen am apwyntiad ar gyfer pob math o gymorth a chefnogaeth i bobl â dementia a'u teuluoedd a gofalwyr. Ac mae hi nawr wedi dechrau hybiau symudol, sy'n ymweld â chanolfannau cymunedol fel llyfrgelloedd a neuaddau pentref ar draws siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Elusen yw Dementia Hwb. Mae wedi llwyddo ennill grantiau a chefnogaeth ariannol a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus, ond mae pobl ym mhob rhan o Gymru angen y math yma o gefnogaeth, yn llusern ar lwybr mor anodd i'w throedio. Mae'n cynnig ni'n galw am well ffocws ar ddiagnosis cynnar er mwyn helpu cynnau'r llusern gwbl hanfodol honno yn gynt, gan helpu rhai i fedru aros yn eu cartref yn hirach, i leihau'r straen.

Rwyf wedi clywed y cyn Weinidog iechyd, sydd nawr yn Brif Weinidog arnom ni, yn dweud lawer tro bod angen i bobl wneud eu siâr i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal. Wel, gallwn ni ddim gofyn i ofalwyr wneud hynny heb fod yna gefnogaeth barod iddyn nhw, a bod hynny'n briodol a chyson ar draws Cymru.

Rwy'n cwrdd â gofalwyr yn rheolaidd, ac maen nhw wedi blino cael eu hanwybyddu. Pa mor rhwystredig yw hi i gwblhau arolwg ar ôl arolwg yn rhannu eich realiti, gweld adroddiad ar ôl adroddiad yn manylu ar y realiti hwnnw, ond gweld dim newid i'r realiti hwnnw, a gweld eich hawliau ddim yn cael eu cynnal? Achos heb gymorth gwell i ofalwyr di-dâl, ni fydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes dan bwysau, ddim yn ymdopi o gwbl. Heb addewid y bydd pethau'n newid, bydd pobl yn colli gobaith ac yn colli ffydd bod y Llywodraeth hon yn eu gweld ac yn eu gwasanaethu nhw a'r rhai y maen nhw'n eu caru sy'n byw gyda chyflyrau anodd fel dementia.

Siaradais am yr union faterion yma, yr angen am well gefnogaeth i ofalwyr a'r angen am wella cyfraddau diagnosis dementia, mewn dadl nôl yn y flwyddyn gyntaf y ces i fy ethol i'r lle hwn, a dwi wedi gwneud yn gyson ers hynny. Dwi ddim eisiau siarad amdano fe eto, a dyw pobl Cymru ddim yn moyn clywed mwy o esgusodion am y ffaith mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis isaf yn y Deyrnas Gyfunol, a'r hyn, felly, y mae hynny'n ei olygu o ran gofal a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.

Os ydych chi'n cefnogi newid, yn cefnogi gofalwyr, ac yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, wedyn cefnogwch y cynnig.

17:50

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Mae oddeutu 42,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, er nad oes gennym ddarlun cywir, gan nad oes cyfraddau cyfredol ar gael ar gyfer diagnosis dementia ar hyn o bryd. Fel y dywedodd Sioned, fe wyddom fod Cymru yn gyson wedi bod â lefel is o ddiagnosis na Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia, ac ar hyn o bryd, mae camau breision yn cael eu cymryd o ran diagnosis cynnar, gyda phrawf gwaed pigiad bys yn cael ei ddatblygu, yn ogystal â thriniaethau newydd addawol. Mae angen inni barhau â’r ymchwil hwn yn gyflym, a dyna'r rheswm dros welliant y Ceidwadwyr Cymreig, y gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n ei gefnogi.

Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar ddementia sy’n gysylltiedig ag alcohol. Ar y pwynt hwn, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant fel un o noddwyr Brynawel Rehab, yr unig gyfleuster adsefydlu yng Nghymru i gynnig ymyriadau penodol i gefnogi pobl â niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn fath o niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol. Os oes gan unigolyn ddementia sy'n gysylltiedig ag alcohol, byddant yn ei chael hi'n anodd cyflawni tasgau bob dydd. Mae hyn oherwydd y niwed i'w hymennydd a achosir gan yfed gormod o alcohol yn rheolaidd. Mae'r symptomau'n cynnwys colli cof ac anhawster i feddwl drwy bethau, a phroblemau gyda thasgau mwy cymhleth, fel rheoli eu harian. Gall y symptomau achosi problemau gyda bywyd bob dydd, megis methu coginio pryd o fwyd.

Gall symptomau dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol amrywio o un unigolyn i'r llall. Bydd sgan ymennydd rhywun sydd â'r cyflwr yn dangos bod rhai rhannau o'u hymennydd wedi crebachu llawer mwy nag eraill. Mae alcohol yn effeithio'n arbennig ar labedau blaen yr ymennydd. Yn wahanol i glefyd Alzheimer, neu ddementia fasgwlaidd, nid yw dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn sicr o waethygu dros amser. Gyda’r driniaeth a’r cymorth cywir, yn aml, mae gobaith da na fydd yn gwaethygu ac y bydd yn gwella. Bydd oddeutu 75 y cant o'r achosion hyn yn gwella. Gall ymatal rhag alcohol, cymryd dosau uchel o atchwanegiadau thiamin, a bwyta diet cytbwys arwain at wella symptomau.

Fodd bynnag, os yw'r unigolyn yn parhau i yfed alcohol a pheidio â bwyta'n dda, mae dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn debygol iawn o waethygu. Nid yw'n hawdd helpu unigolyn sy'n gaeth i alcohol i roi'r gorau i yfed. Fodd bynnag, gall fod hyd yn oed yn fwy heriol pan fydd gan yr unigolyn hwnnw ddementia. Gall problemau a achosir gan ddementia gyda’u meddwl a’u rhesymu atal unigolyn rhag deall bod angen iddynt roi’r gorau i yfed. Efallai y byddant hefyd yn ei chael hi’n anodd cynnal eu hysgogiad os ydynt yn rhoi’r gorau i yfed, gan fod colli ysgogiad yn un o symptomau dementia.

Yn anffodus, mae gwneud diagnosis o ddementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn anodd iawn. Os nad yw meddyg teulu yn ymwybodol o hanes eu claf o yfed gormod o alcohol, efallai na fyddant yn ystyried dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol fel diagnosis posibl. Gall fod yn anodd hefyd i gleifion gael asesiad, gan y bydd rhai meddygon teulu yn mynnu eu bod yn rhoi’r gorau i yfed am sawl wythnos cyn y gellir asesu eu cof. Fodd bynnag, mae rhai arbenigwyr yn credu y gall unigolyn gael eu hasesu am ddementia sy’n gysylltiedig ag alcohol tra'u bod yn dal i yfed, oni bai eu bod yn feddw yn ystod yr asesiad. Galwaf, felly, ar Lywodraeth Cymru i gynnwys dementia sy’n gysylltiedig ag alcohol a niwed i’r ymennydd yn y cynllun gweithredu, a darparu canllawiau i ofal sylfaenol ynghylch asesiadau o’r cyflwr. Diolch yn fawr.

17:55

Dwi’n hynod falch ein bod ni’n cael y ddadl hon heddiw. Mae dementia yn her enfawr i'n gwasanaeth iechyd a'n cymdeithas, fel dŷn ni wedi clywed, ond yn fwy na hynny oll, mae e'n faich uffernol ar y bobl sy'n dioddef.

Mae dementia yn glefyd mor greulon. Mae'n dwyn atgofion pobl, ond yn fwy creulon byth, gall ynysu unigolyn oddi wrth y bobl sy'n eu caru fwyaf yn y byd. Mae'n dieithrio dioddefwyr lawn cymaint â'u maglu, gan gael gwared ar ymdeimlad yr unigolyn o fod yn ddiogel gyda'r bobl sydd wedi bod o'u cwmpas drwy gydol eu bywyd. Ac fel y cyfryw, mae dementia mor ofnadwy o anodd i deuluoedd yr unigolyn â dementia, oherwydd weithiau, mae'n rhaid iddynt alaru am rywun sy'n dal i eistedd o'u blaenau, galaru colli rhywun y maent yn eu gweld neu'n siarad â hwy bob dydd.

Roedd dementia ar fy mam-gu Doreen. Fe wnaeth hi fyw i fod yn 100 oed, ond yn ei blynyddoedd olaf, fe'i gwelsom yn llithro ymaith, fesul darn. Yn gyntaf, y ryseitiau roedd hi'n eu hadnabod fel cefn ei llaw. Yn sydyn, roedd yn dechrau gadael pethau allan. Byddai’n gwneud pice ar y maen, ei champwaith—y pice ar y maen gorau i mi eu blasu erioed—ond yn sydyn iawn, byddai’n anghofio ychwanegu’r siwgr, neu byddai’n eu gadael i grasu am eiliad yn rhy hir a byddent yn llosgi. Dyna oedd un o'r arwyddion cyntaf.

Ac roedd fy mam-gu wrth ei bodd yn cerdded. Pan oedd fy chwaer a minnau'n iau, byddem yn mynd am dro hir dros fynydd Nelson neu i Lanfabon i bigo mwyar duon neu i gael picnic gyda fy mam-gu a fy nhad-cu. Ond tua'r diwedd, byddai'n mynd i gerdded ar lwybrau anwastad ar ei phen ei hun, heb unrhyw synnwyr o berygl y gallai syrthio. Pan ddoem o hyd iddi, byddai'n dweud wrthym na allai ddweud pam iddi fynd allan nac i ble yr ai. Y peth creulonaf am ddementia yw pa mor ddryslyd ydyw i’r unigolyn sy’n mynd drwyddo. Byddai fy rhieni yn ymweld â fy mam-gu. Byddent yn ei ffonio sawl gwaith bob dydd. Ond byddai'n anghofio eu bod wedi galw. Byddai'n meddwl eu bod wedi ei hanghofio. Rwy'n ei chofio'n ffonio tŷ fy rhieni un diwrnod, ac atebais y ffôn, a gofynnodd i mi, 'Pam na allaf wneud yr holl bethau roeddwn i'n arfer eu gwneud?' ac roedd hi'n ysu am allu cerdded a cherdded. Byddai'n mynd yn rhwystredig ac yn unig, ac ni allai ddeall pam fod hyn yn digwydd.

Nawr, bydd y stori hon, a fersiynau o'r stori hon, Ddirprwy Lywydd, yn effeithio ar filoedd o deuluoedd y gaeaf hwn. Pobl ar wahanol gamau o'r daith ofnadwy hon, y ffordd greulon hon o weld rhywun rydych chi'n eu caru yn eich gadael ar ôl. Mae'r cyfraddau diagnosis ar gyfer dementia, fel y clywsom, yn dal i fod yn ystyfnig o isel. Ym mwrdd Aneurin Bevan, 60.4 y cant yw’r gyfradd ddiagnosis, ac nid oes cynllun dementia ar gyfer Gwent o hyd. Mae’n rhaid i hynny newid. Mae'n rhaid gwella ymchwil i'r cyflwr caethiwus a chreulon hwn, sy'n achosi i'n hanwyliaid fod yn ddieithriaid i ni, a gwneud inni deimlo ein bod wedi colli rhywun sy'n dal i fod yno.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n ymwybodol fy mod wedi siarad am rai o’r rhannau tristaf o fywyd fy mam-gu, ond rwyf am ddweud wrthych chi hefyd pa mor dda oedd ei bywyd, a sut y mae ei bywyd hi, bywydau’r miloedd o bobl sydd â dementia, yn werth eu dathlu. Mae eu bywydau'n bwysig. Ond er i'r clefyd creulon hwn ddwyn cymaint o bethau oddi ar fy mam-gu, hyd yn oed ar y diwedd roedd hi wrth ei bodd yn canu. Canodd ar ei phen-blwydd yn gant oed. Canodd ddwy o'i hoff ganeuon—'Danny Boy' a 'Mother Machree'. Nawr, pan gawsom ddadl am ddementia ddiwethaf yn y Senedd, dyfynnais bennill o 'Mother Machree' am fod y geiriau yn fy atgoffa cymaint ohoni, a Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ganiatáu i mi eu dyfynnu eto, gan nad wyf i byth yn clywed y gân mwyach:

'Mae lle yn fy ngof, / Fy mywyd, mi wyt ti'n ei lenwi, / All neb arall ei gymryd, / Fydd neb byth yn ei wneud. / Rwy'n caru'r arian annwyl / Sydd yn disgleirio yn dy wallt, / A'r talcen sydd yn rhychog i gyd, / Ac yn grychiog â gofid. / Rwy'n cusanu'r bysedd annwyl, / Ac ôl traul arnynt er fy mwyn i, / Bendith Duw arnot a'i ofal amdanat, / Mam Machree.'

18:00

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, ar rywbeth sy'n effeithio ar gymaint o bobl. Fel y clywsom, mae tua un o bob tri o bobl bellach yn datblygu dementia yn ystod eu hoes, gyda chynnydd sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, a chyda'r gyfradd isel sy'n cael diagnosis yn golygu bod cymaint o bobl yr effeithir arnynt a'u teuluoedd heb fod yn cael mynediad at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, gan ei gwneud yn gwbl glir pam y mae angen ymgyrch godi ymwybyddiaeth arnom a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny, ac yn helpu hefyd, wrth gwrs, gyda'r problemau parhaus sy'n gysylltiedig â stigma. Ac mae data'n broblem mewn perthynas â dementia, yn union fel y mae ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd eraill.

Ddirprwy Lywydd, mynychais fforwm llais dementia lleol Casnewydd yn ddiweddar a chlywais dystiolaeth uniongyrchol bwerus iawn o'r problemau a'r materion sy'n bodoli, yn ogystal â rhai o'r atebion posibl, yn wir. Yn amlwg ymhlith y profiadau hynny roedd pobl hŷn yn gofalu am bartneriaid neu aelodau eraill o'r teulu â dementia, a pha mor anodd oedd hi i'r gofalwyr hynny a'r effaith a gafodd ar eu hiechyd eu hunain. Fe gafodd effaith enfawr ar eu hiechyd a'u llesiant. Ac roedd y fforwm yn teimlo bod angen system gofal cymunedol statudol ar waith ar gyfer pobl a theuluoedd yn y sefyllfa honno. Ac roeddent yn teimlo hefyd fod diffyg gwybodaeth hygyrch yn gymaint o broblem i deuluoedd sy'n cefnogi anwyliaid sydd â'r cyflwr. Ac roedd diddordeb yn y cynllun Cysylltydd Dementia, ond diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â sut yn union y mae hwnnw'n gweithio, beth sy'n digwydd os nad yw teulu'n gallu cysylltu â chysylltydd yn eu hardal eu hunain, a pha lwybrau amgen sydd ar waith, a'r angen am eglurder ynghylch hynny. A phryder hefyd, hyd yn oed lle mae hyfforddiant dementia ar gael ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol, nad yw bob amser yn cael ei ddilyn gan gyrsiau gloywi fel bod sgiliau a gwybodaeth yn cael eu diweddaru'n drylwyr.

Ond Ddirprwy Lywydd, roedd cynllun gan Heddlu Gwent yn cael ei werthfawrogi, cynllun o'r enw Protocol Herbert, lle gall gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau pobl â dementia lenwi ffurflenni ar-lein fel bod gan yr heddlu fanylion a disgrifiadau o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn yr ardal. Ac wrth gwrs, os yw pobl yn mynd ar goll neu'n cael eu gweld mewn amgylchedd lle gallent fod mewn perygl, mae'r heddlu a gwasanaethau eraill mewn sefyllfa well ac yn gallu eu helpu. Felly, roedd diddordeb mewn gweld a allai heddluoedd eraill ledled Cymru edrych ar esiampl Gwent ac efelychu'r cynllun o bosibl.

Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y ddadl hon heddiw oherwydd mae'n gyflwr mor greulon, fel y clywsom, ac mae'n effeithio ar gymaint o bobl. Gwn fod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidogion perthnasol yn deall hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed pa gamau newydd y gellid eu cymryd i ymdrin â'r problemau sy'n gyffredin yn llawer o'r cyfraniadau a glywsom heddiw.

18:05

Heno, clywsom gan nifer o Aelodau a chawsom ein hatgoffa gan nifer o'r Aelodau mai dementia yw prif achos marwolaeth yn y DU ac un o'r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru. Nawr, mae'n gyflwr y mae llawer o bobl yn ei ofni ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, rydym wedi clywed llawer o dystiolaeth ynghylch yr effaith ddwys ar iechyd meddwl y gall y clefyd hwn ei chael nid yn unig ar y rhai a gafodd ddiagnosis ohono, ond ar eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'n gyflwr ag iddo gostau cynyddol a fawr o opsiynau triniaeth, sy'n gwneud diagnosis amserol a chywir yn gwbl hanfodol. Mae diagnosis cynnar nid yn unig yn helpu i nodi'r rhai sydd fwyaf mewn perygl, ond hefyd yn sicrhau eu bod hwy a'u teuluoedd yn gallu cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wynebu'r daith hon gydag urddas a gobaith. 

Mae pob achos a phob math, boed yn ddementia Alzheimer neu gyrff Lewy, yn creu gwahanol anghenion gofal, ac felly mae manteision diagnosis cynnar yn sylweddol. I'r person sy'n byw gyda dementia, gall ddarparu eglurder, gan esbonio'r symptomau a'r newidiadau y maent yn eu profi, a chyfle i wneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd. Mae'n dod â'r ansicrwydd i ben ac yn caniatáu iddynt gymryd camau rhagweithiol i reoli eu cyflwr. Gyda'r gefnogaeth gywir ar waith yn dilyn diagnosis, gall pobl barhau i fyw'n annibynnol a mwynhau ansawdd bywyd da am gyfnod hwy. Nid diagnosis yw pen draw'r daith. Gallwch ddal i gael bywyd cyflawn.

Mae diagnosis cynnar hefyd yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr. Mae'n rhoi amser iddynt addasu i'r newidiadau y gall dementia eu cyflwyno, o ran y cyflwr ei hun a'u rôl esblygol fel rhoddwyr gofal. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu'r heriau wrth sicrhau bod pawb yn elwa o ddiagnosis a chymorth cynnar. Un broblem allweddol yw'r diffyg data diagnosis dementia sy'n cael ei gasglu a'i gyhoeddi'n rheolaidd. Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd lle nad yw'r data hwn ar gael fel mater o drefn. Mae'n fwlch sylweddol. Mae data'n hanfodol i ddeall gwir raddfa dementia ar gyfer cynllunio gwasanaethau'n effeithiol a darparu cymorth wedi'i dargedu yn y mannau lle mae ei angen fwyaf.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau yn y maes hwn o'r blaen, ond mae wedi methu terfynau amser pwysig. Er enghraifft, gadewch imi fynd â chi'n ôl i fis Medi 2021. Cyflwynais gynnig, gyda chefnogaeth y Senedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu arsyllfa ddata. Mae cynnydd wedi bod yn araf. Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais ym mis Medi 2023, addawodd y Llywodraeth ddarparu amserlen ar gyfer cyhoeddi data diagnosis dementia cenedlaethol trwy ddatganiad llafar ym mis Tachwedd 2023. Yn anffodus, nid yw'r amserlen hon wedi'i chadw. Roedd disgwyl datganiad ysgrifenedig ym mis Mai eleni ar weithredu'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia a addawyd ym mis Ionawr, ond ni ddigwyddodd. Mae'r ymrwymiadau hyn y methwyd eu gwireddu yn peri pryder. Maent yn codi cwestiynau ynglŷn â'r pwyslais a roddir ar ddementia yn agenda iechyd a gofal ehangach y Llywodraeth. Ni all teuluoedd sy'n byw gyda dementia fforddio oedi. Maent angen eglurder, cefnogaeth a sicrwydd fod eu hanghenion yn cael sylw.

Ddirprwy Lywydd, mae dementia yn ein cyffwrdd ni i gyd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae nifer o'r Aelodau heddiw wedi siarad am eu profiadau eu hunain o ddementia. Mae wedi cyffwrdd â llawer o bobl yn y Siambr hon, gan fy nghynnwys i. Mae'n hanfodol ein bod yn ymateb gyda thosturi, brys ac ymrwymiad cadarn i wneud pethau'n well i bawb y mae'r cyflwr hwn sy'n newid bywydau yn effeithio arnynt.

18:10

Bydd llawer ohonom yma heddiw wedi cael ein heffeithio gan glefyd Alzheimer, ac rwyf wedi bod yn gwrando ar lawer o'r cyfraniadau hyd yma, ac yn anffodus, mae llawer o'n hetholwyr hefyd yn mynd trwy'r cyflwr hwn, gydag un o bob tri o bobl yn mynd i'w ddatblygu yn ystod eu hoes. Mae hwnnw'n ystadegyn llwm, gan ein bod i gyd yn gwybod mai dementia yw'r clefyd sy'n lladd fwyaf o bobl yn y DU, ac eto Cymru sydd â'r gyfradd ddiagnosis isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n amlwg i bawb fod angen gwneud rhywbeth, yn enwedig o ran diagnosis dementia a'i wneud yn flaenoriaeth wirioneddol yma yng Nghymru. Byddai gwella cyfraddau diagnosis dementia nid yn unig yn caniatáu i'r rhai yr effeithir arnynt gynllunio ar gyfer y dyfodol, byddai hefyd yn datgloi gofal a chymorth. Nid yn unig hynny, byddai hefyd yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Fel y mae, mae un o bob chwe gwely ysbyty yn wely i rywun â dementia, ond byddai diagnosis cynnar yn helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref ac nid mewn ysbytai'n unig.

Cefais y fraint o gyfarfod â Chymdeithas Alzheimer's yr wythnos diwethaf i drafod y cyflwr ac i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i'w wella. Buom yn trafod rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo hefyd, ac rwy'n gwybod, yn yr un modd, fod fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, wedi sôn amdano yn ei gyfraniad ef, sef chwalu'r rhwystrau i ofal iechyd i'r rhai nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Yn wir, nodwyd bod iaith yn rhwystr mawr i bobl o gymunedau lleiafrifol ethnig rhag ymgysylltu â gwasanaethau gofal. Nododd astudiaeth ymarfer cyffredinol yn 2023 fod parhad gofal yn is ym mhob grŵp lleiafrifol ethnig o gymharu â'u cymheiriaid gwyn Prydeinig. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl hŷn o gymunedau lleiafrifol ethnig yn llai tebygol o siarad Saesneg, neu ddefnyddio'r Saesneg, wrth i'w dementia waethygu. Yn hytrach, fe fyddant yn troi'n ôl at eu mamiaith, felly mae'n hanfodol fod darpariaeth deg i bobl yn eu dewis iaith. Mae mynd i'r afael â'r mater hwn a'r stigma yn hynod o bwysig hefyd, oherwydd mae stigma'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn cael diagnosis. Mewn arolwg gan Gymdeithas Alzheimer's, pan ofynnwyd i bobl a oedd yn byw gyda symptomau dementia sut roeddent yn teimlo, dywedodd 43 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo stigma, dywedodd 25 y cant eu bod yn teimlo cywilydd, a dywedodd 44 y cant eu bod yn teimlo'n ofnus. Yn ogystal, roedd bron i draean o nyrsys practis yn nodi stigma a gwadu fel rhwystr i atgyfeirio a chael diagnosis, ac yn ôl arolwg arall, roedd un o bob chwe meddyg teulu yn annhebygol o atgyfeirio cleifion i gael diagnosis oherwydd camganfyddiad ynghylch manteision diagnosis.

Ddirprwy Lywydd, mae hyn oll yn atgyfnerthu'r angen inni fynd i'r afael â phroblem stigma ar frys, ac mae ffyrdd o wneud hynny. Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn galw am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fanteision diagnosis dementia a'r hyn y gall ei wneud i godi ymwybyddiaeth o symptomau dementia yn gyffredinol i bawb. Mae'r elusen hefyd eisiau gweld datblygiad proffesiynol parhaus i glinigwyr a chymunedau sy'n deall dementia, ac rwy'n falch o ddweud bod hynny'n rhywbeth y mae Casnewydd, yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, yn gweithio tuag ato. Dyna yw'r tri pheth rwy'n gofyn amdanynt ac rwy'n rhoi fy nghefnogaeth lawn iddynt, ac ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw un yma yn y Siambr heddiw yn anghytuno â hwy. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ac yn gwneud iddynt weithio drwy wneud diagnosis o ddementia yn flaenoriaeth. Diolch.

Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu profiadau personol. Fel sydd wedi ei ddweud eisoes, mae pawb efo’u stori, pawb efo’u profiad, a dwi’n meddwl ei fod o’n dangos bod yna undod yn gallu bod yma ar faterion o bwys. Dwi’n meddwl mai’r peth pwysig, fel roedd Sioned Williams yn dweud, ydy gweld gweithredu a newid. Ddylen ni ddim gorfod bod yn rhannu’r straeon yma dro ar ôl tro, ac mae yna bethau sydd angen digwydd, ac mae’n angenrheidiol eu bod nhw’n digwydd.

Dwi’n falch bod Gareth Davies a Natasha Asghar wedi sôn bod Cymru yn wlad amlieithog, efo Gareth yn sôn yn benodol o ran y Gymraeg, yn amlwg, Natasha yn sôn am yr holl ystod o ieithoedd gwahanol, oherwydd mae hwnna'n rhywbeth sy'n cael ei godi dro ar ôl tro—y pwysigrwydd o ran iaith. A dwi'n siŵr y byddem ni'n gytûn yn y Senedd hon fod yn rhaid inni sicrhau, o ran y Gymraeg, fod yna gefnogaeth barhaus, ond hefyd asesiadau yn y Gymraeg ar gael. Oherwydd mae'r dystiolaeth yn dangos ei bod hi'n cymryd hyd yn oed yn hirach os dŷch chi'n siarad Cymraeg i gael y diagnosis hwnnw. Felly, mae'n eithriadol o bwysig.

Mi oeddwn i'n bryderus dros ben derbyn copi o lythyr a anfonwyd at Eluned Morgan ym mis Mai eleni, pan oedd hi'n dal yn Weinidog iechyd, gan Catrin Hedd Jones, darlithydd astudiaethau dementia, a oedd yn amlinellu ei phryder hi bod anghenion siaradwyr Cymraeg sydd yn byw efo dementia yn cael eu diystyru. Gwn i hyn gael ei ategu ganddi ddoe mewn cyflwyniad i'r grŵp trawsbleidiol, a dwi'n falch fy mod i wedi derbyn copi o'r cyflwyniad gan na allwn fod yno. Ond ynghyd â Gwerfyl Roberts, efo IAITH, fe wnaethon nhw gyflwyno gwaith ymchwil desg, 'Validation of the Welsh Language Dementia Assessment', i swyddogion y Llywodraeth, ers dros flwyddyn erbyn hyn, ac maen nhw'n dal i aros iddo gael ei gyhoeddi.

Yn fwy na hynny, mi oedd eu hymchwil nhw'n dangos yn glir nad ydyn ni'n gwybod a ydy siaradwyr Cymraeg yn cael eu hasesu yn Gymraeg, gan fod y gwaith ymchwil angenrheidiol heb gael ei gomisiynu gan y Llywodraeth eto. Mi fuaswn i, felly, yn ddiolchgar dros ben pe bai'r Gweinidog yn gallu darparu unrhyw wybodaeth bellach o ran hyn yn ei hymateb, neu ysgrifennu atom ni fel Senedd gyda'r wybodaeth. Wedi'r cyfan, mae ymchwil yn dangos yn glir fod sgiliau ieithyddol pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu newid, ac os mai Cymraeg oedd eu hiaith gyntaf, yn aml dyma'r iaith y bydden nhw'n ei chofio fwyaf ohoni. Dŷn ni wedi clywed cymaint o bobl yn dweud eu bod nhw ddim hyd yn oed yn gwybod bod eu perthynas nhw'n gallu'r Gymraeg tan iddyn nhw fynd yn hŷn, ond bod yr iaith yna yn llifo nôl, sydd yn beth rhyfeddol, ond hefyd yn frawychus ac yn ynysig dros ben i'r unigolyn hynny, sy'n teimlo eu bod nhw'n deall dim o'u cwmpas nhw. Ac mae yna gymaint o ymchwil yna sy'n dangos beth mae hynna'n ei olygu, wedyn, o ran sicrhau eu bod nhw'n cael y gofal priodol, a'u bod nhw hefyd ddim yn cael y teimlad yma o fod wedi'u hynysu, a'u bod nhw'n gallu mynd o dan y don yn ddifrifol, lle mae'r gwahaniaeth hwnnw'n gallu cael ei gwneud.

Dwi hefyd eisiau tynnu sylw at y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan sefydliadau diwylliannol yn y maes hwn, ac yn benodol Amgueddfa Cymru. Byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd hon, os dŷch chi heb fod yn ymwybodol o'r gwaith yma—mae yna brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Alzheimers Cymru ac Amgueddfa Cymru, sef amgueddfeydd yn ysbrydoli atgofion. Mae hwn yn dangos grym ein hamgueddfeydd ni, a dwi'n gwybod, o gyfnod pan oeddwn i'n gweithio yn Amgueddfa Cymru, mai un o'r pethau mwyaf trawsnewidiol roeddwn i wedi'i weld oedd y teithiau tanddaearol cyfeillgar i ddementia yn Big Pit, a hynny ar gyfer cyn-lowyr yn benodol. Mi oedd yna bobl aeth ar y teithiau hyn oedd heb siarad yn iawn efo aelodau o'u teuluoedd am flynyddoedd, ac unwaith roedden nhw nôl dan ddaear, roedd yr atgofion yn llifo nôl am y profiad hwnnw. Mae hyn yn drawsnewidiol, a dyma'r math o waith sydd yn cael ei dorri pan fo cyllidebau sefydliadau diwylliannol yn cael eu torri. Dwi'n cofio cael dadl yn fan hyn ynglŷn â thoriadau Amgueddfa Cymru, lle'r oedd y Dirprwy Weinidog ar y pryd yn gweiddi arnaf i tra'r oeddwn i'n gwneud y pwyntiau, 'Beth am yr NHS?' Wel, mae prosiectau fel hyn yn arbed arian i'r NHS, maen nhw'n drawsnewidiol, maen nhw'n ataliol. Ddylem ni ddim fod yn edrych ar y gyllideb ddiwylliant yn erbyn cyllideb yr NHS, yn lle gwerthfawrogi grym a phŵer y math yma o brosiectau. Ac mae'n bosib i bob amgueddfa leol ledled Cymru fod yn gwneud y gwaith hwn, efo'r cyllid.

Felly, mi fyddwn i'n gofyn—ac mae'n rhaid inni edrych ar draws portffolios ar y datrysiadau hefyd—mae torri cyllidebau diwylliant yn torri prosiectau trawsnewidiol ar gyfer y math yma o waith, a dwi'n mawr obeithio y gallwn ni hefyd edrych ymlaen a chytuno ar y cynnig fel y mae o heb ei ddiwygio heddiw, a chael y newidiadau hyn sydd eu dirfawr angen.

18:15

Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru. Rwy'n cydnabod yr effaith y gall diagnosis o ddementia ei chael ar deuluoedd ac anwyliaid unigolion, ac rwy'n ymrwymedig i wella'r gofal a'r cymorth sydd ar gael. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gennym i'r cynnig heddiw yn adlewyrchu'r gwaith a wnaethom hyd yma a'n huchelgais i gryfhau gofal dementia ymhellach drwy'r cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.

Ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn 2018, rydym wedi gwneud cynnydd ar wella gofal a chymorth dementia, ond mae mwy i'w wneud, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiadau newydd mewn triniaeth. Gareth Davies, fe ofynnoch chi am y triniaethau posibl ar gyfer dementia wrth symud ymlaen, ac rwyf am eich sicrhau ein bod wedi comisiynu Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru i ymgymryd â rhaglen ar y cyd i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y cymorth sydd ei angen ar arbenigwyr i wneud diagnosis effeithiol o bobl â chlefyd Alzheimer cyn iddynt ddangos symptomau dementia, a darparu triniaethau yn y dyfodol i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr, yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Rydym hefyd yn dyrannu £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i roi'r cynllun gweithredu ar waith, a rhaid ystyried hyn o fewn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru, sy'n cynnwys y gronfa integreiddio ranbarthol gwerth £146.2 miliwn, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi pobl hŷn, gan gynnwys pobl â dementia. Gofynnwyd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ystyried sut y gall chwe model gofal y gronfa integreiddio ranbarthol gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia. Rydym hefyd wedi comisiynu Gwelliant Cymru, sydd bellach yn rhan o weithrediaeth y GIG, i gyflwyno rhaglen dementia i gefnogi byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae hyn wedi cynnwys datblygu llwybr safonau gofal dementia, sy'n hyrwyddo dull integredig system gyfan sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cyflwynwyd y safonau hyn yn 2021 ac roeddent yn gynnyrch ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, sy'n hanfodol. Mae sicrhau bod profiad bywyd pobl wrth wraidd datblygiad gwasanaethau yn bwysig iawn i mi, ac rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu data diagnosis cadarn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd i gynorthwyo gyda chofnodi diagnosis o ddementia, ac mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo rhwng gweithrediaeth y GIG ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda chynllun ar gyfer cyhoeddi'r data hwn. Ar hyn o bryd, mae gennym ddata blynyddol ar gael ar niferoedd achosion, y cyfeirir ato fel rhan o'r cynnig heddiw, ond rydym am i hyn fod ar gael yn llawer mwy rheolaidd. Cyfrifir y gyfradd ddiagnosis trwy gymharu nifer y bobl y credir bod ganddynt ddementia â nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia. Ac i gael cyfradd gywir, mae angen inni sicrhau bod pob diagnosis yn cael ei gofnodi a bod dull effeithiol o wneud diagnosis, a all fynd i'r afael â'r nifer sylweddol o bobl y credir bod ganddynt ddementia yng Nghymru.

Felly, i fod yn glir, bydd y cynllun dementia newydd yn cynnwys targedau newydd ar gyfer diagnosis dementia, ac roeddwn i'n hoffi'r hyn a ddywedoch chi, Mabon ap Gwynfor, lle sonioch chi am 'roi gobaith trwy dargedau', oherwydd nid wyf yn siŵr a ydym bob amser yn meddwl amdano fel hynny. Rwy'n credu weithiau bod yna fath o amharodrwydd i ychwanegu targedau, mewn ffordd rydym yn ei hofni, 'Beth os na allwn eu cyrraedd?' Ond rwy'n dwli ar y llinell honno: rydym yn mynd i roi gobaith trwy dargedau ar gyfer dementia.

Mae gweithrediaeth y GIG yn gweithio gyda byrddau iechyd i fonitro cynnydd yn erbyn targedau, cefnogi asesiadau a diagnosis mewn gwasanaethau asesu cof, ac rydym yn gweithio tuag at gyhoeddi'r data hwn o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Ac mae'r gwaith hwn yn dod ar adeg dyngedfennol, o ran y cynnydd tebygol yn y galw am ofal a chymorth, a'r cyfleoedd i wella cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia. Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod y ffordd yr ymatebwn i ddementia yn newid wrth i ymchwil ddatgelu opsiynau triniaeth newydd a modelau gofal sy'n dod i'r amlwg, a dyna pam ein bod wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o'n cynllun gweithredu cyfredol ar gyfer dementia. Bydd hwn yn asesu effaith y cynllun ar ofal a chymorth dementia, a bydd yn llywio'r trefniadau ar gyfer y cynllun nesaf. Disgwylir adroddiad terfynol yn gynnar yn 2025. Mae hwn yn faes gwaith allweddol, ac rwy'n ddiolchgar am ymgysylltiad parhaus rhanddeiliaid, ac mae rhai ohonynt yn yr oriel y prynhawn yma.

Mae trafodaethau wedi dechrau gyda grŵp goruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia a rhanddeiliaid allweddol eraill, i ddatblygu'r dull o ddysgu o'r gwerthusiad a datblygu'r blaenoriaethau ar gyfer y trefniadau olynol. Mae'n hanfodol fod y gwaith hwn yn cael ei lywio'n llawn gan bobl sydd â phrofiad bywyd a'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio i ddarparu gofal dementia yng Nghymru. Bydd eu gwybodaeth a'u profiad yn amhrisiadwy i roi dealltwriaeth i ni o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, beth sydd angen ei wella, a sut i yrru cyfeiriad newid yn y blynyddoedd i ddod.

Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau gwaith ymgysylltu yn ddiweddar ar olynydd y cynllun gweithredu ar gyfer dementia, trwy gyhoeddi holiadur ar-lein. Ac rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch, Sioned Williams, am y modd y gofynnir weithiau i'r un bobl roi'r un safbwyntiau. Nid wyf am i hyn fod yn feichus, ac rwyf am nodi, yn fy mhortffolio, fy mod wedi bod yn strategol iawn yn y strategaethau a fydd yn cael eu cyflawni dros y 18 mis nesaf. Nid ydym yn mynd i wneud popeth yn ddiwahân. Mae'n ymwneud lawer mwy â gweithredu a chyflawni. Ond un o'r rhai y teimlwn fod angen eu hadnewyddu, a gwerthusiad llawn, oedd y cynllun gweithredu ar gyfer dementia, oherwydd rwy'n credu bod cymaint wedi digwydd yn y gofod hwn, nid yn unig gyda datblygiadau meddygol a beth yn fwy y gellir ei wneud, ond hefyd—rydym wedi cael COVID, cafwyd newid enfawr yn ein cymunedau, cafwyd newid mawr yn yr hyn y mae'r trydydd sector yn ei gynnig. Rwy'n credu bod angen cynllun newydd arnom i osod y targedau hynny, a hefyd i ymgorffori'r holl ddata. 

Roeddwn i eisiau diolch hefyd i Altaf Hussain, a soniodd am Frynawel. Fe ddaeth ef a minnau yn aelodau o'r bwrdd gyda'n gilydd. Ac rydych chi'n sôn am niwed i'r ymennydd dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol, yr arweiniodd Brynawel arno gyda'u hymchwil. Mae'n amlwg iawn yng Nghymru, ac rwy'n credu y gallwn wneud llawer i ddysgu ohono. Rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi dechrau gwella ar ôl derbyn y driniaeth honno. Mae'n syndod ac yn rhywbeth sydd, unwaith eto, yn tynnu sylw at y datblygiadau yn y maes y mae angen i ni eu hymgorffori.

Ac yn olaf, roeddwn eisiau cyffwrdd â nifer o bethau y mae pobl eraill wedi'u crybwyll. Diolch i chi, Natasha Asghar, am siarad am yr angen i gael gofal yn eich dewis iaith, ac rwyf am dynnu sylw hefyd at yr hyn y gofynnodd Heledd Fychan amdano'n benodol gyda'r Gymraeg. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn llwyr, ac yn enwedig derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth yn y trefniadau olynol i'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia, ac rydym wedi ailsefydlu'r grŵp dementia a'r Gymraeg i gefnogi'r hyn y bydd ei angen i wneud i hyn ddigwydd. Mae'r cynllun gweithredu presennol wrthi'n cael ei werthuso, ac rydym wedi gweithio gyda'r gwerthuswyr i sicrhau bod ffocws ar ddarpariaeth Gymraeg. Rydym yn cydnabod y bydd gan y bwrdd cynghori 'Mwy na geiriau' ddiddordeb mawr yn y cynnydd hwn, a byddaf yn sicrhau bod fy swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt. Rwyf hefyd am ddweud wrth John Griffiths fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn roeddech chi'n ei ddweud am gymorth ychwanegol a'r angen i wybod ble mae gwasanaethau, ac i ofalwyr gael rhywun i siarad â hwy. Mae gennym linell gymorth dementia Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â'r bobl sy'n ei rhedeg; maent yn wych. Nid wyf yn meddwl ein bod ni'n gwneud digon i'w hyrwyddo; rwy'n credu bod angen inni fynd i'r afael â hynny. Ac fel y dywedoch chi, mae angen sicrhau eu bod yn cael eu cyfeirio at y gofal sydd ar gael yn eu cymunedau.

Ac yn olaf, rwyf am siarad am y pwynt a godwyd ynghylch cysondeb, a'r cysondeb sydd ei angen arnom ledled Cymru. Cafwyd cyllid o £1.1 miliwn a roddwyd i gyflawni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ariannu swydd benodedig oed-gyfeillgar ym mhob awdurdod lleol, gan weithio tuag at wneud Cymru'n genedl oed-gyfeillgar. Ac mae swyddogion oed-gyfeillgar yr awdurdodau lleol yn cymryd rhan weithredol yn y prosiectau ar lawr gwlad i helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi. Mae'r caffis cof yn rhan enfawr o hyn; rwy'n credu eu bod yn wych. Rwy'n credu bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi darparu un yn fy ardal i, felly, rydych chi'n iawn, yn bendant mae angen gwaith trawslywodraethol. Mae Jack Sargeant a minnau'n gwneud llawer o hynny, a byddwn yn parhau i'w wneud, ac fe ddof â Jack i mewn, a'i swyddogion, i gael golwg ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia drwy'r lens hon.

Ac rwyf am ddweud hefyd fod cyn-filwyr mewn un awdurdod lleol wedi hyfforddi gyda bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent i ddod yn ffrindiau dementia, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n dod â ni at y pwynt a wnaethom ynghylch stigma. Nid wyf eisiau i unrhyw un deimlo stigma. Mae'n golygu nad yw pobl yn cael diagnosis mor gynnar ag y gallent. Felly, rwy'n derbyn yr holl sylwadau a syniadau rydych chi wedi'u rhannu heddiw. Diolch unwaith eto am y cyfle i dynnu sylw at y gwaith pwysig hwn. Rwy'n gwybod y gallwn ddibynnu ar eich ymrwymiad parhaus wrth inni ddechrau symud ein ffocws tuag at olwg hirdymor ar yr hyn y dylai ein blaenoriaethau ar gyfer gofal dementia fod yn y dyfodol. Diolch.

18:25

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heno. Diolch i'r Gweinidog i ddechrau. Fe wnaethoch chi dderbyn bod mwy i'w wneud, meddech chi, sy'n dipyn o danddatganiad, ond rwy'n gwerthfawrogi'r wybodaeth a'r eglurder pellach rydych chi wedi'i roi heno, felly fe arhoswn i weld rhai o'r manylion yn y flwyddyn newydd a chyflawniad peth o'r hyn rydych chi wedi'i addo.

Nodaf welliant y Llywodraeth ac rwy'n derbyn ei fod yn hynod debyg i'n cynnig gwreiddiol, er gydag ambell newid yn y geiriad. Felly, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais heno, rwy'n gobeithio y gwelwn gam sylweddol ymlaen. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn mai dim ond nodi'r cyfraddau diagnosis gwael y dylem ei wneud, fel y nodwyd yng gwelliannau'r Llywodraeth. Nid yw hyn yn dangos unrhyw edifeirwch ynglŷn â'r sefyllfa bresennol, neu nid yw'n dangos bod y Llywodraeth yn barod i gymryd cyfrifoldeb. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant heno. Nodaf fod Altaf a Gareth wedi cyfeirio at ymchwil, a phwysigrwydd ymchwil, yn eu cyfraniadau, sy'n rhan o welliant y Ceidwadwyr, a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heno, am ei fod yn cryfhau'r cynnig.

Diolch i'r rhai a gyfeiriodd at eu profiadau personol. Mae straeon pwerus iawn wedi'u hadrodd heno—Sioned a Delyth, yn enwedig, yn rhannu eich straeon personol—sy'n dangos yn glir y sefyllfa y mae pobl a theuluoedd a ffrindiau yn gorfod ei hwynebu pan fo ganddynt anwyliaid â dementia. Fe glywsom sawl gwaith am brofiadau da yng Nghymru. Sioned, fe gyfeirioch chi at yr Hwb Dementia yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chyfeiriodd John at yr arferion gorau yng Ngwent, ac fe wnaeth hynny fy atgoffa o Dementia Actif yng Nghyngor Gwynedd, sydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl sy'n byw gyda dementia wella safon eu bywydau. Felly, mae yna lawer o arferion da i'w cael. Unwaith eto, dyma un o'r pethau anffodus am ofal iechyd yng Nghymru: llawer o arferion da na chânt eu rhannu. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi sylwi ar rai o'r arferion gorau hynny ac am sicrhau eu bod yn cael eu rhannu.

Nid blaenoriaeth glinigol yn unig yw gwneud diagnosis o ddementia yng Nghymru, mae'n anghenraid cymdeithasol ac economaidd. Mae diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd bywyd y rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Mae'n grymuso unigolion i ddeall eu cyflwr, i wneud dewisiadau gwybodus a chael y gefnogaeth gywir, sy'n eu helpu i gadw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd. I deuluoedd, mae diagnosis cynnar yn dod â rhyddhad, eglurder a'r gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol gan ddefnyddio'r gwasanaethau cymorth hanfodol a all eu helpu i reoli'r heriau emosiynol ac ymarferol y maent yn eu hwynebu.

Mae goblygiadau economaidd diagnosis cynnar yn sylweddol. Drwy nodi dementia yn gynharach gallwn leihau ymweliadau gofal brys costus, atal arosiadau hirdymor yn yr ysbyty ac oedi neu osgoi gofal heb ei gynllunio, ac mae pob un o'r rhain yn rhoi pwysau aruthrol ar ein system iechyd a chyllidebau llywodraeth leol. Gydag ymyrraeth gynnar, gellir cyfeirio adnoddau yn fwy effeithlon, gan sicrhau bod unigolion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt gan gynnal system gofal iechyd fwy cynaliadwy ac ymatebol ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd mae miloedd o bobl yn ei chael hi'n anodd, yn byw gydag ansicrwydd, yn colli'r cyfle am driniaethau a chymorth a allai wella ansawdd eu bywydau. Gall diagnosis cynnar a chywir helpu i atal y symptomau rhag datblygu, lleihau'r angen am ofal brys a gohirio'r angen am ofal cymdeithasol. Mae hyn nid yn unig o fudd i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, mae hefyd yn lleddfu'r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal lleol. Felly, mae gwella ymwybyddiaeth a mynediad at wasanaethau diagnostig yn allweddol. Rhaid herio'r stigma sy'n gysylltiedig â dementia fel bod pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i geisio cymorth heb ofn na chywilydd. Mae addysgu'r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn gam hanfodol tuag at greu amgylchedd lle gall unigolion geisio cymorth yn hyderus.

Felly mae'r achos dros wella diagnosis dementia yng Nghymru yn glir. Mae'n fater o dosturi a chyfiawnder, ond mae hefyd yn rheidrwydd economaidd a chymdeithasol. Drwy fuddsoddi mewn diagnosis cynnar, rydym nid yn unig yn gwella llesiant y rhai yr effeithir arnynt ond hefyd yn adeiladu system gofal iechyd sy'n fwy cynaliadwy, gan ddarparu'r gofal y mae pobl yn ei haeddu. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dargedau beiddgar ac uchelgeisiol yn y cynllun gweithredu nesaf ar gyfer dementia i wella diagnosis a bywydau pobl sy'n byw gyda dementia. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i wneud dementia yn flaenoriaeth fel y dylai fod. Dyna pam ein bod yn gofyn i chi gefnogi'r cynnig hwn heno. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gallu clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Byddwn yn pleidleisio ar eitem 7 yn unig, a galwaf am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 nawr, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, roedd 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

18:35

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8752 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

4. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Mwyngloddio copr yng Nghymru: A yw'n rhesymol dibynnu ar gopr wedi'i fewnforio?

Symudwn ymlaen nawr i'r ddadl fer gan Janet Finch-Saunders ac rwy'n galw ar Janet i gyflwyno ei dadl fer, ac a all yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel, os gwelwch yn dda? 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ddod â'r pwnc newydd a chyffrous hwn i'w drafod gerbron y Senedd yma heddiw. Rwy'n gobeithio, drwy'r ddadl hon, y gallwn edrych ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i ni a rhoi Cymru yn ôl ar y map fel arweinydd diwydiannol ym myd tanddaearol mwyngloddio. 

Mae copr, y cyfeirir ato'n aml fel metel cyntaf dyn, wedi'i ddefnyddio ers dros 10,000 o flynyddoedd ar gyfer pethau'n amrywio o bensaernïaeth i arian. Yma yn Aberconwy, rydym yn ymfalchïo'n fawr yn y Gogarth, sy'n gartref i un o fwyngloddiau copr hynaf a mwyaf datblygedig yr Oes Efydd, sy'n dyddio'n ôl dros 4,000 o flynyddoedd. Credir ei fod yn un o fwyngloddiau cynhanesyddol hynaf y byd, ac fe roddodd y gorau i gloddio am gopr ym 1911 ar ôl cyfrannu'n sylweddol at sefydliad a thwf aneddiadau lleol, gan gynnwys fy nhref enedigol, Llandudno. Ychydig filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, fe chwyldrowyd y galw amdano gan ddarganfyddiad Michael Faraday o anwythiad electromagnetig ym 1831, gan sefydlu copr fel y deunydd dewisol ar gyfer dargludedd trydanol. Ar hyn o bryd mae'r defnydd o gopr yn fyd-eang yn cyrraedd tua 28 miliwn tunnell y flwyddyn, yn bennaf oherwydd ei briodweddau trydanol.

Wrth i'r byd symud tuag at ynni gwyrdd, bydd pwysigrwydd copr yn tyfu. Mae'n hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchu tyrbinau gwynt, cerbydau trydan, paneli solar a'r seilwaith trydanol sydd ei angen i newid o danwydd ffosil, gan gadarnhau ei rôl fel adnodd hanfodol ar gyfer cynnydd y ddynoliaeth. Fodd bynnag, yn y Deyrnas Unedig, nid ydym yn cydnabod ei fod yn fwyn hanfodol ar hyn o bryd, sy'n golygu ein bod wedi dibynnu ar werth $2.1 biliwn, ychydig dros £1.5 biliwn, o gopr a fewnforiwyd y llynedd. 

Yn hollbwysig, mae rhybuddion amlwg nawr fod cyflenwad y byd o fwynau hanfodol fel copr yn prinhau. Yn wir, mae Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd a'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol oll wedi mynegi pryder na fydd digon o gopr i fodloni'r gofynion ar gyfer y targed allyriadau sero net erbyn 2050. 

Gyda'r rheidrwydd i ddefnyddio ynni gwyrdd ar raddfa fawr ar gyfer pŵer a moduro erbyn 2035 er mwyn cyrraedd targedau sero net 2050, rhagwelir y bydd y galw am gopr yn tyfu o'r 28 miliwn tunnell fetrig heddiw i tua 50 miliwn erbyn 2035, y lefel uchaf erioed a gaiff ei chynnal ac a fydd yn parhau i dyfu erbyn 2050. Os na wnawn ni ddim byd, credir y bydd diffyg o 20 y cant yn lefel y cyflenwad angenrheidiol ar gyfer allyriadau sero net erbyn targed 2050. 

A hyd yn oed gyda buddsoddiad i ehangu mwyngloddiau presennol a gwella ein galluoedd ailgylchu, mae'n bwysig pwysleisio heddiw y bydd y lefelau cyflenwi'n dal i fod yn is na'r hyn sydd ei angen i gyflawni sero net. Mae'n deg dweud bod camgymhariad yn fyd-eang rhwng y cyflenwad copr sydd ar gael a'r galw am gopr yn y dyfodol yn deillio o'r pontio i ynni gwyrdd. Yn syml, mae angen inni ddatblygu mwy o gapasiti mwyngloddio. Mae adroddiadau'n dangos y bydd ateb y galw rheolaidd am gopr yn galw am gynnydd o 115 y cant yn y cynhyrchiant byd-eang. Yn wir, bydd trydaneiddio'r fflyd o gerbydau byd-eang yn golygu y bydd angen datblygu 55 y cant yn fwy o gapasiti na'r hyn a ragwelir ar hyn o bryd.

Yn anffodus, gall datblygu mwynglawdd newydd gymryd hyd at 10 i 20 mlynedd o archwilio i gynhyrchu, gyda rhwystrau rheoleiddiol ac ariannol. Fodd bynnag, mae mwyngloddiau a arferai gynhyrchu yn y gorffennol, gyda'r seilwaith ac adnoddau sy'n bodoli'n barod, yn ffordd gyflymach a mwy fforddiadwy o ddechrau cynhyrchu. Er enghraifft, mae Doré Copper Mining yn Quebec, Canada, yn defnyddio'r felin Copper Rand wedi'i hadnewyddu a dyddodion cyfagos fel yn Corner Bay. Mae'r dull hwn yn lleihau costau, yn gwella effeithlonrwydd ac yn gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Mae asesiadau economaidd rhagarweiniol y cwmni ar gyfer 2022 wedi dangos rhagamcanion gwych ar gyfer ailddechrau gwaith, gan dynnu sylw at hyfywedd economaidd y dull, mwy o effeithlonrwydd a dulliau wedi'u hoptimeiddio o gloddio adnoddau o safleoedd hysbys, gan arddangos y manteision posibl o adfywio mwyngloddiau a arferai gynhyrchu yn y gorffennol.

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys prosiect copr Pumpkin Hollow yn Nevada, sydd bellach ar fin ailgychwyn o dan Kinterra Capital, a phrosiect copr nicel Aguablanca Sbaen, sydd â thrwyddedau gweithredol a gwaith prosesu wedi'i gynnal yn dda, sy'n gallu cynhyrchu 5,000 megatunnell y dydd. Ar ben hynny, gall ailddechrau mwyngloddiau a melinau a arferai gynhyrchu yn y gorffennol roi hwb sylweddol i economïau lleol trwy greu swyddi'n amrywio o swyddi mwyngloddio medrus i rolau'n cefnogi diwydiant. Mae un prosiect o'r fath yr ymwelais ag ef yn ddiweddar yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ar Ynys Môn yn rhagweld—a chredaf eich bod wedi cyfarfod â hwy hefyd—y gallent ddarparu gwaith ar gyfer tua 100 o weithwyr llawn amser uniongyrchol a 500 o swyddi llawn amser anuniongyrchol. Mae swyddi fel y rhain yn cael effaith ganlyniadol, gan roi hwb i wariant lleol, gwella seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus a safonau byw yn gyffredinol, er fy mod yn siŵr nad oes angen imi roi gwersi i Gymru ar sut y gall mwyngloddio ddod â manteision economaidd a chymdeithasol enfawr i gymunedau—mae hynny yn ein gwaed.

Fodd bynnag, ers dyddiau mwyngloddio glo, mae datblygiadau sylweddol yn nhechnoleg mwyngloddio wedi gwneud dyddodion a arferai fod yn aneconomaidd o'r blaen yn broffidiol. Mae adnewyddu mwyngloddiau a arferai gynhyrchu yn y gorffennol yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar yr adnoddau gwerthfawr hyn ac ymestyn oes safleoedd presennol, gan ychwanegu tua 7 miliwn megatunnell o gopr i'r farchnad. Wrth gwrs, nid yw hyn heb ei anawsterau, serch hynny; mae adnewyddu hen fwyngloddiau yn creu heriau. Bydd yn rhaid i gwmnïau fodloni safonau amgylcheddol llym, bydd angen iddynt fuddsoddi mewn gwaith adfer a mesurau diogelwch wedi'u diweddaru, megis rheoli gwaddod a lliniaru draeniad asid o fwyngloddiau. Bydd cyfuno technoleg fwyngloddio fodern â'r seilwaith presennol yn gymhleth, bydd yn heriol, ond mae'n bosibl. Bydd angen cynllunio gofalus ac arbenigedd i sicrhau effeithlonrwydd a chydymffurfiaeth. Fodd bynnag, gyda'r wybodaeth yma yng Nghymru, rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa dda i arwain yn y diwydiant hwn. Yma yng Nghymru, mae gennym nifer o fwyngloddiau aeddfed ar gyfer cloddio copr, a allai ddarparu'r mwyn gwerthfawr sydd ei angen arnom ar gost lawer is.

Ar gyfer pob pum tŷ sydd wedi'u cynllunio yn y DU, mae angen 1 dunnell o gopr, yn bennaf ar gyfer gwaith plymio a gwifrau trydanol. Gyda Llywodraeth Cymru yn anelu at adeiladu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2026, mae'n gwneud synnwyr inni gynyddu lefelau mwyngloddio copr domestig. Rhaid inni ystyried hefyd fod yn rhaid i bob cymdeithas sy'n cloddio copr bwyso a mesur y buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn erbyn yr effeithiau cysylltiedig, ond mae copr sy'n cael ei fewnforio i'r DU yn adlewyrchu'r cydbwysedd hwn, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, hyd yn oed os nad yw'n amlwg ar unwaith, er, yn debyg i'r glo a fewnforir i Gymru o diroedd pell, mae'r ansawdd yn aml yn waeth a gall y dulliau cloddio a ddefnyddir fod yn llawer mwy niweidiol i'r amgylchedd, ac mae'r ôl troed carbon yn fy marn i—. Os ydym yn mynd i symud ymlaen ar yr argyfwng newid hinsawdd, mae'n rhaid inni edrych ar y potensial i gloddio copr yma yng Nghymru. Byddai'n codi ymwybyddiaeth o'r cydbwysedd, a chredaf y byddai ffynonellau lleol, lle gellir rheoli effeithiau, yn llawer mwy buddiol yn y tymor canolig ac yn hirdymor.

Yn olaf, fel y soniais yn gynharach, nid yw copr ar restr mwynau hanfodol y DU. Os ydym am ddechrau'r daith tuag at hunangynhaliaeth, mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa i wrthsefyll y prosiectau hyn cystal ag y gallwn. Ar hyn o bryd, rydym ar ei hôl hi ar hyn. Mae'r UE, UDA, Canada, Japan, India, Tsieina a De Korea i gyd yn cydnabod y broblem sydd ar y gorwel, ac felly mae'n bryd i Gymru, gyda'i chyfoeth o ddoethineb a phrofiad o fwyngloddio, godi ar ei thraed a dechrau cloddio. Rwy'n gobeithio bod hyn wedi bod yn ddefnyddiol i chi, ac edrychaf ymlaen at glywed sylwadau a safbwyntiau eraill yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.

18:45

Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, ac fel hithau, rwy'n deall pwysigrwydd hanfodol copr. Fel gyda llawer o fetelau eraill, mae wedi dod yn elfen hanfodol o fywyd modern, o'r ceblau trydan yn ein waliau i'r darnau arian yn ein pocedi, sydd wedi'u bathu yn Llantrisant. Mae mor bwysig fod gennym gyflenwadau metel hygyrch a chynaliadwy ar gyfer ein hanghenion at ddefnydd meddygol, ym maes adeiladu, ac mewn technoleg fodern, ac wrth gwrs, mae gan gopr gysylltiad hanesyddol hir â Chymru. Gwn fod gan Janet Finch-Saunders ddiddordeb arbennig o gryf yn y dreftadaeth honno, ar ôl ymweld â'r mwyngloddiau copr ar Ynys Môn gyda Rhun ap Iorwerth.

Rwy'n gwybod, ers sawl blwyddyn, fod ymdrechion wedi bod i ailddechrau'r diwydiant mwyngloddio copr ar Ynys Môn yn enwedig, ac mae'r rhain yn destun ceisiadau cynllunio. Felly, bydd cyd-Aelodau'n deall nad wyf yn gallu gwneud sylwadau ar gynigion penodol, felly rwy'n fwriadol yn osgoi siarad am gyfleoedd penodol yn fy ymateb. Ond dylid nodi hefyd ei bod wedi bod yn ganrifoedd ers i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach fod yn hunangynhaliol wrth gloddio copr. Ac rwy'n falch iawn o gynrychioli rhan o Abertawe, a fu unwaith yn gartref i'r diwydiant mwyndoddi copr byd-eang. Pan ddechreuodd y diwydiant cyntaf, roedd angen 3 i 4 tunnell o lo i fwyndoddi 1 dunnell o fwyn copr, felly de Cymru oedd y lle perffaith i ddechrau'r diwydiant, gyda'i wythiennau cyfoethog o lo a'i agosrwydd at y mwyngloddiau copr yng Nghernyw a gogledd Cymru. Pan ddihysbyddwyd y mwyngloddiau hyn, bu'n rhaid i'r diwydiant edrych ymhellach i ffwrdd am ffynonellau o gopr—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Onid yw—? Rydych chi'n sôn am ganrifoedd ers inni fod yn hunangynhaliol, ond am filenia cyn hynny, roedd pobloedd Prydain yn hunangynhaliol oherwydd y mwyngloddiau yn Kernow, Cernyw, ac Afallach, ynys afalau, Ynys Môn. Mewn gwirionedd, cyn i'r Rhufeiniaid goncro ein hynys, roedd Afallach, Ynys Môn a Chernyw ar eu llwybrau masnach oherwydd copr ac afalau a medd.

Yn wir. Felly, rwy'n cydnabod pwysigrwydd copr yn ein treftadaeth ac yn hanes ein heconomi a'n cymdeithas yn ehangach ledled Cymru a thu hwnt.

Yr adeg honno, yn wir, daeth copr yn nwydd mor werthfawr a phwysig fel y byddai morwyr, wedi i'n hadnoddau ni gael eu dihysbyddu, yn gadael Abertawe i fynd i Chile ac yna byddent yn gwneud y daith anodd o amgylch Cape Horn ac yn dod â llwythi o fwyn copr yn ôl i Abertawe, fel y gellid ei fwyndoddi yno. Ac wrth gwrs, heddiw, mae galw mawr am gopr unwaith eto ac mae prisiau wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed. Mae'r rhan fwyaf o'r copr yn dal i ddod o fwyngloddiau yn Ne America, Chile a Pheriw, ac rydym yn cystadlu nawr yn y farchnad fyd-eang am y deunydd hwnnw. Wrth inni ddibynnu ar gopr wedi'i fewnforio o bob cwr o'r byd, mae'n dod yn fwyfwy pwysig sicrhau bod gennym fynediad at ddeunyddiau ar sail masnach rydd, deg ac agored, ac wrth gwrs, nid yw ond yn un o lawer o fetelau sy'n gweld anwadalrwydd sylweddol yn ei bris yn y farchnad fyd-eang.

Fodd bynnag, ni ddylem anghofio pwysigrwydd cymharol mwynau hanfodol eraill sydd hefyd yn bwysig iawn i'n diwydiannau ac i ddefnyddwyr yng Nghymru, er enghraifft, mae lithiwm yn fwyn hanfodol wrth inni bontio i sero net, fel elfen hanfodol yn nhechnoleg batri, a disgwylir i'r galw byd-eang am y deunydd hwnnw gynyddu fwy na deng gwaith erbyn 2050.

Mewn cymhariaeth, fel y clywsom yng nghyfraniad Janet Finch-Saunders, comisiynodd Llywodraeth y DU Arolwg Daearyddol Prydain yn ddiweddar i lunio asesiad hanfodolrwydd newydd ar gyfer 2024. Fe'i cyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, ac mae'n nodi'n benodol nad yw copr yn hanfodol ar hyn o bryd, a chafodd y metel ei hepgor hefyd o'r asesiad cyfatebol ar gyfer yr Unol Daleithiau y llynedd. Ac mae astudiaeth Awstralia ei hun wedi penderfynu nad yw copr yn hanfodol. Ond mae'n iawn ein bod yn gweithio gyda chenhedloedd eraill i sicrhau mynediad at yr ystod hon o ddeunyddiau trwy bartneriaethau economaidd amlochrog a dwyochrog, ond mae'n rhaid inni ystyried yr ystod o fetelau sy'n hanfodol i'n heconomi, nid rhai penodol yn unig.

18:50

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad? Diolch. Rwy'n credu mai dyna sy'n bwysig yma: fod y Llywodraeth yn cadw ei llygaid ar agor i'r cyfleoedd posibl. Wrth gwrs, mae traddodiad hen iawn o fwyngloddio copr, a metelau gwerthfawr eraill, yn Ynys Môn. Roedd hynny beth amser yn ôl. Mae'n deg dweud bod cyhoeddiadau wedi bod ar gamau rheolaidd yn ystod fy nghyfnod fel seneddwr yma sydd wedi llwyddo i gadw pris cyfranddaliadau perchnogion y mwynglawdd ar Ynys Môn yn uchel, ac rwy'n deall pam y byddent am roi'r argraff fod gwaith ar fin dechrau. Mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddatblygiad wedi bod yn ddiweddar. Lle mae cyfleoedd i gloddio mewn ffordd sy'n amgylcheddol gyfrifol, ac yn gyfrifol o ran y gweithlu, yr hyn rwy'n ei ofyn yw bod y Llywodraeth yn ymgysylltu i sicrhau na chaiff unrhyw gyfleoedd eu colli.

Rwy'n cytuno'n llwyr y dylai ein ffocws fod ar fwyngloddio sy'n gyfrifol yn amgylcheddol a hefyd ar yr agenda gwaith teg yr ydym i gyd yn angerddol iawn yn ei chylch yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, rydym yn barod i ymgysylltu â busnesau a allai fod â'u golwg ar gyfleoedd. Ond fel y soniais ar y dechrau, ni allaf wneud unrhyw sylw ar gyfle penodol a allai fod allan yno.

Felly, i barhau, ar yr ystod o ddeunyddiau, mae Llywodraeth y DU yn dibynnu ar gyflenwad rhyngwladol ar gyfer y rhan fwyaf o'r 82 o ddeunyddiau a aseswyd yn eu hadroddiad diweddaraf ar fwynau hanfodol. Câi 49 o'r rheini eu mewnforio'n bennaf, felly rwy'n credu mai ar y mwynau hynny'n benodol y mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion. Ond nid yw hynny'n golygu na fydd copr yn dod yn fwyn hanfodol o dan y fethodoleg honno yn y dyfodol. Ond ar hyn o bryd nid yw'n bodloni'r meini prawf hynny.

Wrth gwrs, mae yna anawsterau byd-eang yr ydym yn ymwybodol ohonynt, gyda'r posibilrwydd o fwy o rwystrau i fasnach, er enghraifft, a photensial hefyd ar gyfer datblygiadau technolegol na wyddys amdanynt, a allai gynyddu'r galw am gopr hyd yn oed ymhellach. O ystyried natur amrywiol prisiau nwyddau'n fyd-eang, mae llawer o ddiwydiannau eisoes yn sicrhau mynediad atynt trwy integreiddio eu cadwyni cyflenwi, ond fel y dywedodd eraill, dylem ystyried effaith amgylcheddol a chymdeithasol ein cadwyni cyflenwi yn ogystal, oherwydd mae cloddio metel yn waith sy'n llygru'n fawr, ac mae ei waddol yn dal i effeithio ar sawl rhan o Gymru. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein mewnforion yn dod o ffynonellau moesegol, ac mae hynny yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer cyrchu metelau fel copr.

A wnaiff y Gweinidog ildio? Diolch yn fawr. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol o'r llygredd yn nyfrffyrdd Cymru o fwyngloddiau nas defnyddir. Mae gan gwmni yn sir Gaerfyrddin, Hydro Industries, dechnoleg i helpu yn y maes hwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyfarfod â hwy i drafod sut y gallant wella ansawdd afonydd yng Nghymru?

Yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn darganfod yn fanylach y gwasanaethau y gallant eu cynnig, oherwydd mae ansawdd ein dyfroedd, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n peri pryder i ni. Os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf, efallai y gallaf wneud y cysylltiadau hynny rhyngom ni a'r cwmni hwnnw.

Felly, i symud ymlaen a meddwl am gyfleoedd i gryfhau ein cyflenwadau o fwynau hanfodol mewn ffyrdd mwy newydd, mwy dyfeisgar, megis trwy dechnegau ailgylchu a chloddio arbenigol, mae'n ddiddorol iawn fod bron i 50 y cant o'r galw am gopr yn Ewrop yn cael ei ddiwallu ar hyn o bryd gan ddeunydd wedi'i ailgylchu. Er enghraifft, yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a gwledydd eraill y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd, a chyflwynwyd cynigion ohono ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am wastraff offer trydanol ac electronig, a hynny er mwyn annog ailgylchu ac ailddefnyddio. Ac wrth gwrs, bydd llawer o hynny'n cynnwys copr. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer y cynhyrchion hynny ac yn cefnogi ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Felly, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf bydd yn bwysig parhau i fonitro'r galw newidiol am fwynau hanfodol a mwynau nad ydynt yn hanfodol, yn cynnwys copr, yn ogystal ag unrhyw sylwadau gan fusnesau. Ac er nad yw'r rhestr mwynau hanfodol yn fater datganoledig, rydym yn cael trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr Adran Busnes a Masnach. Ac os daw copr yn fwyn hanfodol, byddwn yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ofyn iddynt ystyried ei gynnwys ar y rhestr.

Pan oedd Llywodraeth flaenorol y DU yn datblygu ei strategaeth mwynau hanfodol, rwy'n falch ein bod wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac wedi gwneud sylwadau ar ystod o fetelau lle mae cyflenwadau yn hanfodol i'n diwydiannau yma yng Nghymru. A chan fod gennym Lywodraeth newydd yn y DU bellach, sy'n paratoi ei strategaeth mwynau hanfodol ei hun i'w chyhoeddi yn 2025, byddwn yn ceisio cymryd rhan yn hynny. Bydd diogelwch mwynau hanfodol hefyd yn rhan o'r strategaeth ddiwydiannol newydd, ac rydym yn parhau i chwarae rhan weithredol yn llunio'r strategaeth honno, yn unol â buddiannau Cymru, cyn iddi gael ei lansio yn y gwanwyn.

Ac wrth gwrs, y cwestiwn a ofynnwyd heno yw a yw'n rhesymol dibynnu ar gopr wedi'i fewnforio. Ar hyn o bryd, rwy'n fodlon ein bod yn gallu mewnforio'r copr sydd ei angen arnom, ond rwy'n dawel fy meddwl y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddibynnu ar arbenigedd Arolwg Daearegol Prydain yn eu hasesiadau. Ond rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ein bod yn dal i bontio'n gyflym i ynni gwyrdd, lle mae'r galw am gopr, ymhlith deunyddiau eraill, yn debygol o gynyddu, ac felly mae'n gwbl resymol ein bod yn parhau i fonitro'r farchnad fyd-eang, ac yn parhau i ystyried a yw ein basged o fwynau hanfodol yn briodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried anghenion diwydiant, a bydd yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU lle bo hynny'n briodol. Mae copr wedi bod yn hanfodol bwysig i ddiwydiant a diwylliant Cymru ers canrifoedd, ac nid yw'r galw am y mwyn yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Dros y blynyddoedd, mae diwydiant wedi addasu i ffyrdd newydd o ddiogelu ei gyflenwad o gopr, boed hynny drwy fewnforio o rannau eraill o'r byd neu drwy ailgylchu'r hyn sydd gennym eisoes.

Felly, wrth imi ddirwyn fy araith i ben, hoffwn dynnu sylw cyd-Aelodau at ffaith ddiddorol iawn y credaf ei bod yn dangos effaith Cymru ar y diwydiant byd-eang fel y wlad ddiwydiannol gyntaf. O'r 550 miliwn tunnell o gopr a gynhyrchwyd ers 1900, amcangyfrifir bod dwy ran o dair ohono'n dal mewn defnydd cynhyrchiol heddiw. Felly, mae'n gwneud inni feddwl tybed a gafodd peth o hwnnw ei gloddio'n wreiddiol yng ngogledd Cymru neu ei fwyndoddi yn Abertawe.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.