Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/10/2024

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Yr Argyfwng Tai yng Ngwynedd

1. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Ngwynedd? OQ61732

Fy mlaenoriaeth i yw darparu mwy o gartrefi fforddiadwy dros Gymru gyfan, ac rydyn ni wedi dyrannu’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws Gwynedd, wrth i nifer o gamau gael eu gweithredu a’u gwerthuso fel rhan o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd yn Nwyfor.

Mae’r argyfwng tai yn effeithio pob rhan o Gymru. Digartrefedd a chysgu ar y stryd ydy canlyniad cynyddol a gweladwy yr argyfwng hwnnw. Mae nifer y bobl sydd yn marw sydd yn cysgu ar y stryd wedi dyblu dros y blynyddoedd diweddar, sy’n warthus ac yn annerbyniol. Rŵan mae yna sôn am ryddhau carcharorion yn gynnar, gan greu risg o fwy fyth o ddigartrefedd. Mae gweithwyr rheng flaen, sy’n helpu atal digartrefedd, ac yn rhoi cymorth i’r digartref, angen cefnogaeth lawn. Er mwyn cefnogi rhai o’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, fedrwch chi ymrwymo heddiw i sicrhau setliad ariannol teg a digonol ar gyfer y grant cymorth tai yng nghyllideb y flwyddyn nesaf?

Wel, diolch yn fawr. Rŷn ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa, a pha mor anodd yw hi i bobl, yn enwedig i’r rheini sydd, efallai, â thai ac sy’n methu fforddio i gario ymlaen i dalu’u rhent nhw. A dyna pam rŷn ni wedi rhoi arian sy'n record—£1.4 biliwn o fuddsoddiad y tymor yma—i mewn i dai cymdeithasol. Mae £15 miliwn o hyn wedi mynd i Wynedd. Ond fe fyddwch chi’n ymwybodol ein bod ni’n mynd i gyflwyno deddfwriaeth ar ddigartrefedd hefyd.

Ond rŷn ni’n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw hi, a dyna pam rŷn ni wedi helpu, er enghraifft, gyda phethau fel yr Help to Buy scheme, sydd yn helpu pobl gyda chyngor ar gyfer morgeisi, sy’n eu helpu nhw gyda sut i ddod mas o ddyled, a hefyd i roi cyfle iddyn nhw fenthyg arian heb dalu interest am bum mlynedd.

13:35
Gofal Iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed

2. Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ61751

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

13:45

Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau trwy nodi ein cydymdeimlad ni ym Mhlaid Cymru efo teulu yr unigolyn a fu farw yn y ddamwain drên neithiwr ar linell y Cambrian a’r sawl gafodd eu hanafu? Dwi am ddiolch hefyd i bob un a fu’n rhan o’r ymateb brys.

Dwi’n gwybod bod y Prif Weinidog yn eiddgar i ni beidio â chwestiynu arweinyddiaeth Llafur y Deyrnas Unedig yma yn y Senedd, ond, wythnos cyn cyllideb Rachel Reeves, mae’n bwysig bod ein llygaid ni, dwi’n meddwl, ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ganddi hi a Keir Starmer, ac mae’n bwysig bod Prif Weinidog Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gadarn yn ei disgwyliadau wrth lobïo Downing Street cyn y gyllideb ar ran Cymru.

Mi wnaeth Plaid Cymru osod ein gofynion ni ar gyfer y gyllideb mewn cynnig a fydd yn cael ei drafod yma yn y Senedd brynhawn fory. Pam mae Llywodraeth Cymru am ddileu ein galwad ni am gyllid teg i Gymru drwy ddod â system gyllido newydd i gymryd lle fformiwla Barnett?

Achos beth rydyn ni’n ei wneud yw cymryd pethau o ddifri, ac rydyn ni’n cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn lle ein bod ni’n ysgrifennu resolutions ar lawr y Senedd. Dyna’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Dwi’n gwybod bod hwnna’n anodd i bobl ei ystyried, efallai i bobl fel chi ei ystyried, fod pobl fel fi yn gallu siarad yn uniongyrchol gyda’r Prif Weinidog. Ond y ffaith yw dyna sut mae’n gweithio. Dwi wedi ei gwneud hi’n glir beth yw’n blaenoriaethau ni fel Llywodraeth. Mi wnaf i’r achos yna eto ag eto. Dwi wedi ei gwneud hi sawl gwaith, fel y Gweinidog sydd yn gyfrifol am gyllid hefyd, ac mi fyddwn ni’n parhau i wneud yr achos tan y gyllideb.

13:50
Cysylltiadau Rhyngwladol

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ei chysylltiadau rhyngwladol? OQ61772

13:55

Ond, ar fater ehangach, Brif Weinidog, mae gan fy mhwyllgor yn y Senedd gyfrifoldeb dros sgrwtineiddio'r gwaith rhyngwladol mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud, ac mae gennym ni ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd ar flaenoriaethau wedi 2025, pan fydd y strategaeth yn dod i ben. Mae Prif Weinidogion blaenorol wedi ymrwymo i gynnwys ein pwyllgor yn y broses yna. Dŷn ni wedi croesawu hynny. Allwch chi plîs osod mas yr amserlenni presennol sydd gennych chi ar gyfer y gwaith pwysig hwn, gan gynnwys pryd y byddwch chi'n ymgynghori â rhanddeiliaid a hefyd â'r pwyllgor?

Wel, diolch yn fawr iawn. Wel, fel dwi'n dweud, beth sydd o ddiddordeb i fi nawr yw delifro ar y polisïau sydd gyda ni, ar y strategaethau sydd gyda ni, a dwi'n awyddus bod pobl yn parhau i ganolbwyntio tan ein bod ni'n dod i bwynt i baratoi ar gyfer y bennod nesaf. Nawr, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n dechrau paratoi beth fydd yn dod nesaf o ran blaenoriaethau, dwi'n siŵr bydd pethau fel y ffaith ein bod ni wedi cael investment summit a oedd yn llwyddiannus dros y Deyrnas Unedig, beth yw'n rôl ni, beth y gallwn ni ei wneud o fewn buddsoddi, cael mwy o fuddsoddiad o du fas i Gymru—. Mae yna lot o bethau, dwi'n meddwl, gallwn ni eu gwneud pan fo'n dod i flaenoriaethu yn y dyfodol, ond beth sydd o ddiddordeb i fi nawr yw delifro ar beth sydd yn y strategaeth bresennol. Ond, wrth gwrs, bydd yna gyfle i bobl ymuno yn yr ymgynghoriad pan ddaw hwnnw.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd gaeaf ar bobl yn Nyffryn Clwyd? OQ61764

14:00
Cyhoeddi Llyfrau

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyhoeddi llyfrau yng Nghymru? OQ61771

14:05
Cefnogaeth i Iechyd Menywod

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ba gamau sy'n cael eu cymryd i rymuso menywod yn well fel rhan o'r gwaith o gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i iechyd menywod? OQ61754

14:10
14:15
Darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr yn cydweithio'n agosach? OQ61736

Chwynladdwyr Glyffosad

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ei defnydd o chwynladdwyr glyffosad ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru neu a reolir ganddi? OQ61745

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:21:01
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Nes ymlaen y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gwneud datganiad llafar ar y gwrthdrawiad trenau ar linell y Cambrian.

Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:25
14:30
14:35

Mae nifer fawr o etholwyr wedi cysylltu efo fi sydd ar lyfrau deintyddfa Penrhyndeudraeth. Mae'r llyfrau yna wedi cau eu drysau ar gyfer cleifion yr NHS ers peth amser. Rŵan, mae Denplan wedi ei werthu i gwmni arall, ac mae'r cleifion yna sy'n etholwyr i fi wedi cael neges gan y cwmni newydd eu bod nhw bellach yn mynd i gael cynllun deintyddol sy'n mynd i gostio rhywbeth fel £23 y mis, efo gofal am ddim i blant hyd at chwech oed yn unig, a phlant dros chwech oed yn gorfod talu. Mae nifer fawr o fy etholwyr i yn methu talu'r math yma o raddau ar gyfer deintyddiaeth, ac, felly, does yna ddim deintydd ar eu cyfer nhw yn yr ardal. Wrth gwrs, gwraidd hyn i gyd ydy'r cytundeb deintyddol newydd a gafodd ei gyflwyno ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac fe ddaru i Gymdeithas Ddeintyddol Prydain ein rhybuddio ni y byddai deintyddion yn gadael y sector oherwydd hyn. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cytundeb deintyddol yma, efo asesiad llawn o'i effaith ers ei gyflwyno, os gwelwch yn dda?

14:40
14:45
14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:55
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Julie James.

15:00
15:05

Fel Bil technegol, mae'n anodd iawn i ffeindio rhywbeth i anghytuno ag e yn y Bil yma, felly dwi'n mynd i sôn am rai pethau sydd ddim yn y Bil a allai fod yn y Bil, neu'n berthnasol iddo fe.

Roeddech chi wedi sôn jest nawr yn eich ateb fanna, Weinidog, ynglŷn â'r newidiadau fydd yn deillio o'r Bil yma o ran hygyrchedd digidol Deddfau Cymru ar legislation.gov.uk, ac mae hwn yn deillio o raglen waith wnaeth ddilyn y Bil cyfatebol diwethaf, Legislation (Wales) Act 2019, ac wedyn rhaglen ar ddyfodol y gyfraith yng Nghymru a hygyrchedd digidol. Ond rhan arall o hynny oedd y wefan neu'r hafan Cyfraith Cymru, Law Wales, sydd tipyn yn fwy hygyrch na legislation.gov.uk i etholwyr cyffredin. Roeddwn i jest yn edrych gynnau ar yr hafan hynny ac mae llawer iawn o'r tudalennau ddim wedi cael eu diweddaru ers pedair blynedd, tair blynedd neu ddwy flynedd. Ar rai o'r tudalennau—addysg, er enghraifft—does dim byd yna o gwbl. Felly, allwch chi ein diweddaru ni ynglŷn â'r elfennau eraill o ran hygyrchedd digidol cyfreithiau yng Nghymru?

Mae'r Bil yn ymwneud â'r broses o ddeddfu ar gyfer is-ddeddfwriaeth, fel roeddech chi'n sôn. Roeddech chi wedi dweud, o ran y gwahanol opsiynau o ran delio ag is-ddeddfwriaeth, fod yna ddim opsiwn arall. Wel, mae yna opsiwn arall sydd wedi cael ei drafod sawl gwaith, a dweud y gwir. Yng nghyd-destun San Steffan, mae wedi codi droeon dros y blynyddoedd ac mae wedi codi yn rhai o'n trafodaethau ni fan hyn yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn LJC, sef i gael proses fydd yn galluogi'r Senedd i basio gwelliant i is-ddeddfwriaeth—amendable statutory instruments. Maen nhw'n bodoli yn San Steffan. Maen nhw'n eithriadol iawn, ond maen nhw'n bodoli, ac mae yna drafodaeth i gael system fyddai'n galluogi'r Senedd yma i basio gwelliant i is-ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod yna atebolrwydd democrataidd gwell ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Felly, ydy'r Bil yma yn fodd o bosib inni gyflwyno'r arloesedd democrataidd hynny yn ein cyd-destun ni?

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dwyieithrwydd. Rŷn ni wedi bod yn trafod yn ein pwyllgor ni hefyd yr offerynnau statudol sydd yn cael eu sgrwtineiddio fan hyn ac yn San Steffan, ac sydd, ar hyn o bryd, ddim ond yn cael eu cyhoeddi'n Saesneg. Y ddadl sydd wedi bod tan nawr yw bod yna wrthwynebiad yn San Steffan i gael fersiynau dwyieithog. Nawr, ein dealltwriaeth ni yw bod yna ddim gwrthwynebiad yn San Steffan i hynny. Felly, ydy'r Bil yma yn gyfrwng i ni sicrhau, drwy gael cydsyniad, hyn yn oed, Llywodraeth San Steffan, fod yr offerynnau statudol hynny sy'n cael eu sgrwtineiddio yn y ddau le yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog?

15:10
15:15
15:20
15:25
4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd

Eitem 4 nawr, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y strategaeth addasu i’r hinsawdd, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet—Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:27:16
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr. Gallwn weld yr effeithiau yn barod. Yma yng Nghymru, mae'n effeithio ar ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein seilwaith a'n byd natur, a bydd y newidiadau yma dim ond yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf. 

Dirprwy Lywydd, mae sawl her anodd a chymhleth ynghlwm wrth newid hinsawdd, ac mae llawer iawn mwy i’w wneud o hyd. Mae ein strategaeth newydd ar addasu i'r hinsawdd yn sicr yn gam pwysig ymlaen. Diolch yn fawr iawn. 

15:30
15:35
15:40

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am hyn. Mae hi mor bwysig, achos addasu i'r hinsawdd ydy un o'r heriau mwyaf pwysig a mwyaf o sialens sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru wrth i ni, fel dŷch chi wedi gosod mas, ymdrechu i ddiogelu cymunedau, seilwaith a'n hamgylchedd naturiol rhag effeithiau cynyddol y creisis hinsawdd.

Mae'r rhagamcanion yn frawychus: erbyn y 2050au, gallai tymereddau blynyddol yng Nghymru godi 1.2 gradd Celsius, gyda'r gaeafau'n mynd yn fwy gwlyb a'r hafau yn mynd yn fwy sych. Mae hynny'n bygwth ein hecosystemau, adnoddau dŵr, ac, wrth gwrs, iechyd y cyhoedd. O ystyried y cefndir hwn, mae'r cyhoeddiad heddiw ar y strategaeth addasu i'r hinsawdd yn foment allweddol, dwi'n meddwl.

Mae fy mhryder cyntaf yn ymwneud â'r ffaith bod yr asesiad risg newid hinsawdd diwethaf i Gymru wedi'i gynnal yn 2021. Yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod ar hyn, oherwydd bod yr hinsawdd yn esblygu ar gyflymder cyflymach o hyd, pa asesiad mwy diweddar ydych chi'n bwriadu edrych arno er mwyn edrych ar y risgiau sydd yn ein hwynebu ni nawr? A oes gennych chi hyder fod gennym ni'r data mwyaf diweddar i sicrhau bod y strategaeth hon yn adlewyrchu’r dystiolaeth a’r tueddiadau gwyddonol yn ddigonol?

Nododd adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, sef y CCC, fod 61 o risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, gyda bron i hanner angen gweithrediad ar frys. Hoffwn i ofyn pa gamau penodol bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r bygythiadau ar draws sawl sector, fel rheoli dŵr, iechyd y cyhoedd a seilwaith. Sut fyddwch chi’n blaenoriaethu'r rheini o fewn tymor presennol y Senedd, plîs? 

Mae’r CCC wedi amlygu bod monitro a gwerthuso mor gyfyngedig fel nad oedd gan y CCC y gallu i asesu cynnydd ar fwy na hanner y canlyniadau addasu. Mae hyn yn codi'r cwestiwn pam, er gwaethaf y fframweithiau cynllunio, nad yw'r canlyniadau rydym ni'n eu dymuno wedi'u cyflawni. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem honno a’r diffygion hynny, a pha gamau fydd yn cael eu cymryd i gryfhau'r fframwaith monitro a gwerthuso, plis?

Un o ganfyddiadau eraill allweddol adroddiad y CCC, achos mae hwnna mor bwysig yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, oedd yr angen am fwy o eglurder, ac mae hyn wedi cael ei godi yn barod, o ran lle mae'r cyfrifoldeb i ddarparu addasiad i'r hinsawdd yn sefyll. Mae cyrff cyhoeddus fel Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, fforymau cydnerthedd lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn chwarae rôl, ond nid ydym wedi gweld llinellau atebolrwydd clir sy'n sicrhau gweithredu cydlynol ac effeithiol ar draws y cyrff hyn. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y sefydliadau yn cael eu hadnoddu yn ddigonol a’u grymuso a'u cydlynu'n briodol i sicrhau bod hynny i gyd yn digwydd ar draws?

Gan droi at y dimensiwn iechyd cyhoeddus, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu nifer yr achosion o salwch sy'n gysylltiedig â gwres, cyflyrau iechyd meddwl, a lledaeniad afiechydon a gludir gan fector. Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn sicrhau bod gan y systemau iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o adnoddau a bod hynny’n cael ei gydlynu i mewn gyda hyn, plis?

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, os oes amser gen i, mae rheoli dŵr yn fater hanfodol yn y cyd-destun hwn. Mae disgwyl y bydd faint o law byddwn yn ei weld yn ystod misoedd yr haf yn lleihau 15 y cant erbyn y 2050au, efallai lan at 26 y cant erbyn y 2080au. Bydd lleihad hyd yn oed yn fwy syfrdanol yn ne-ddwyrain Lloegr. Os nad oes gennym ni yng Nghymru fwy o bwerau dros ddŵr, byddwn ni’n cario ymlaen i weld y cwmnïau yma yn Lloegr yn gallu echdynnu dŵr heb daliad teg ac yn ein gadael ni mewn mwy o greisis. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ceisio datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn i osgoi creisis fel yna rhag digwydd?

15:45
15:50
15:55

Dau beth, yn sydyn, os caf i, os gwelwch yn dda. Mae pawb yn pryderu yn naturiol am lefel y môr yn cynyddu, ond un o'r heriau mwyaf sydd ein hwynebu ni o ran dŵr ydy lefel y glaw sydd yn disgyn ar y mynyddoedd a'r dŵr yn dod lawr o'r afonydd. Un o'r ffyrdd, yn fy ardal i yn enwedig, o ddelio efo hynny ydy'r ardaloedd dreinio mewnol sydd gennym ni. Maen nhw'n effeithiol iawn yn sicrhau bod dŵr yn gallu mynd allan i'r môr, ond mae'r drefn bresennol o weithredu ardaloedd dreinio mewnol yn fethedig. Felly, ydych chi wedi ystyried adolygu trefn ardaloedd dreinio mewnol, ac a wnewch chi gyfarfod â fi er mwyn edrych ar system a'r ffyrdd o weithredu'r ardaloedd yna yn well?

Ac yn ail, roeddwn i'n falch iawn o fynychu, yn ddiweddar, sesiwn o blannu hadau morwellt ym Mhenychain ger Pwllheli, ac mae nifer fawr o hadau morwellt wedi cael eu plannu ar hyd arfordir Llŷn. Mi ydym ni'n gwybod bod morwellt yn ffordd effeithiol iawn o gloi carbon, ond does yna ddim digon o waith yn cael ei wneud yn hynny o beth. Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes yma efo'r WWF. Beth mwy ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud er mwyn sicrhau bod mwy o forwellt yn tyfu ar hyd ein glannau ni?

16:00
16:05
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwrthdrawiad rheilffordd ar Lein y Cambrian

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru—gwrthdrawiad rheilffordd ar lein y Cambrian. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.

16:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:15
16:20

Diolch am y datganiad. Gaf innau estyn cydymdeimlad â theulu'r person buodd farw, a hefyd dymuno'n dda i'r rhai sydd wedi cael eu niweidio yn y ddamwain, naill ai'n gorfforol neu yn feddyliol? A diolch, yn ogystal, i'r gwasanaethau brys am y gwaith gwych a wnaethon nhw neithiwr a'r bore yma.

Mae yna wersi i'w dysgu, wrth gwrs, wrth edrych ymlaen at y dyfodol, ac mi fyddwn ni'n aros am ddatganiad pellach wrthych chi ynglŷn â beth yw canfyddiadau'r archwiliad sydd wedi digwydd. Ond, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna bryder yn mynd i fod gan bobl sydd yn teithio ar drenau heddiw ac yfory ac yn ystod yr wythnosau nesaf bod mesurau diogelwch yn eu lle. Felly, allech chi gadarnhau bod yna archwiliadau perthnasol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad oes dim byd tebyg yn digwydd eto?

Ar un mater yn benodol, fel y gwyddoch chi, ar ddiwedd y mis yma, mae'r ffordd fawr, yr A470, yn mynd i fod ar gau am ryw 10 wythnos ger Talerddig, sydd yn agos iawn i ble ddigwyddodd y ddamwain, ac roedd yna gyngor wedi cael ei roi i deithwyr ac i rieni disgyblion i ddefnyddio'r trên er mwyn naill ai mynd i'r ysgol neu i fynd i ble bynnag y maen nhw fel arfer yn teithio iddo. Felly, pa gyngor y byddech chi yn ei roi iddyn nhw, petai'r llinell yma'n gorfod cau am amser hirach na'r disgwyl? Diolch yn fawr iawn.

16:25

A gaf i atseinio’r cydymdeimladau a’r diolch sydd wedi cael eu sôn amdanynt heddiw? Mae llinell y Cambrian, wrth gwrs, yn un sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan etholwyr i mi yn ne Meirionnydd. Rydw i wedi derbyn nifer o negeseuon dros nos a'r bore yma gan rai o’r etholwyr hynny sy’n mynegi pryderon, a hynny’n gwbl naturiol, yn dilyn y digwyddiad ofnadwy yma—pryderon ynghylch a fydd hyn yn digwydd eto. Os ydyn nhw’n mynd i fynd ar y trên, a ydyn nhw’n mynd i brofi rhywbeth tebyg? Felly, maen nhw eisiau’r sicrwydd yna eu bod nhw am fod yn ddiogel wrth deithio ar y rheilffordd.

Rwyf yn derbyn, fel rydych chi wedi’i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod hi’n rhy gynnar i wybod sut, a beth, a pham, ac rwyf yn ategu eich sylwadau chi na ddylid gwneud unrhyw sylwadau di-sail neu ddod i gasgliad yn seiliedig ar sïon. Ond mae fy etholwyr i yn haeddu’r sicrwydd yna y bydd y Llywodraeth yn gwneud pob dim er mwyn dysgu’r gwersi, a sicrhau, hyd orau eich gallu chi, o leiaf, na fydd hyn yn digwydd eto. Felly, pa sicrwydd yr ydych chi’n gallu ei roi er mwyn sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu gan Trafnidiaeth Cymru, sydd o dan eich rheolaeth chi, gan Network Rail ac unrhyw gorff arall perthnasol, pan fo’n dod i’r gwersi sydd angen eu dysgu o’r profiad yma?

6. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024

Eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yw'r rhain. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig yma. Jack Sargeant.

16:30

Cynnig NDM8697 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 6 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024

Eitem 7 sydd nesaf. Y Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yw'r Gorchymyn yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru nawr i wneud y cynnig. Ken Skates.

Cynnig NDM8698 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r Gorchymyn yna wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitemau 8 a 9 sydd nesaf, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitem 8 a 9 yn cael eu grwpio i’w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.

16:35
8. & 9. Egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Gan nad oes yna wrthwynebiad i hynna, fe wnaf i alw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Dawn Bowden.

Cynnig NDM8695 Dawn Bowden

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Cynnig NDM8696 Dawn Bowden

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

16:45

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyfrannu'n gyntaf felly. Russell George. 

16:50

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf, Mike Hedges.

16:55

Diolch, Llywydd. Dwi’n croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl yma heddiw i drafod yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Gweinidog a’i swyddogion am ddod i’n sesiwn dystiolaeth, ac am ddarparu ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl heddiw. Dwi'n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn bob un o'r 18 argymhelliad, er fy mod yn nodi bod dau ohonyn nhw wedi eu derbyn mewn egwyddor a thri yn cael eu derbyn yn rhannol yn unig, a byddaf yn troi at y rheini maes o law.

Yn olaf, o ran cyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cymhelliant y tu ôl i'r cynnig hwn. Fodd bynnag, teimlwn fod gorddibyniaeth ar ffigurau sy'n seiliedig ar fodelau tebyg mewn mannau eraill i amcangyfrif costau, yn hytrach na thystiolaeth empirig, ddiriaethol. Nid yw'r Gweinidog wedi darparu'r dystiolaeth i gefnogi'r rhagdybiaethau hyn ac nid yw wedi egluro pam y mae'r dull hwn yn briodol. 

I gloi, Lywydd, ni ddylai amcanion canmoladwy'r Bil hwn guddio ansawdd gwael y wybodaeth ariannol a ddarparwyd, sydd wedi gwneud ein gwaith o graffu ar y costau yn galetach nag y dylai fod. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn rhan fwyaf yr argymhellion yn llawn, a rhai eraill ddim yn llawn, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried ein hargymhellion wrth i'r Bil fynd rhagddo. Diolch yn fawr.

17:00
17:05

Wel, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl ddiwyro yn ein cred y dylai ein gwasanaethau iechyd a gofal gael eu rhedeg er lles y bobl, nid er budd elw mentrau masnachol. Rwy’n falch, felly, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni un o flaenoriaethau’r cytundeb cydweithio fu yno rhyngom ni a’r Llywodraeth, sef i gael cyfyngu ar y gallu i wneud elw ar draul plant mewn gofal.

17:10
17:15
17:20
17:25

Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.

17:30
17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n golygu ein bod ni hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25

Mae hynny'n dod â ni at eitem 10, y ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2024-25. Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig. Mark Drakeford. 

Cynnig NDM8681 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Llywydd, diolch yn fawr. Cyllideb atodol gyntaf 2024-25 yw'r cyfle cyntaf i ddiweddaru'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae'n dilyn newidiadau sydd wedi'u gwneud ers i'r Senedd basio'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth. Mae'r gyllideb atodol yma hefyd yn gwneud newidiadau i fod yn gyson â'r Cabinet newydd. Dyma fydd sail ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Diolch, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb, a diolch am yr adroddiad. Byddaf i'n ymateb yn fanwl iddo yn y ffordd arferol.

Llywydd, bydd yna ail gyllideb atodol yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol. Bydd yr ail gyllideb atodol yn nodi unrhyw arian arall sy'n cael ei roi o gronfeydd wrth gefn eleni. Bydd honno hefyd yn cynnwys manylion unrhyw arian canlyniadol arall i Gymru, positif neu negatif, yn dilyn newidiadau i wariant adrannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Diolch eto, Llywydd, i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb atodol, a dwi'n gofyn i'r Aelodau ei chefnogi.

17:40

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 10 Hydref, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am eu presenoldeb.

Llywydd, hoffwn i ddod â fy nghyfraniad i gloi drwy sôn am y cynnydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys ar sicrhau mwy o hyblygrwydd yn y gyllideb, er mwyn sicrhau bod cymaint o wariant datganoledig â phosib yng Nghymru. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y maes hwn wedi bod o ddiddordeb i'r pwyllgor ers tro, ac mae ein hadroddiad, a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, ar gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol yn cynnwys nifer o argymhellion i geisio mynd i'r afael â materion o'r fath. Mae e'n galonogol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i fynd ar ôl y rhain ac rydym yn cefnogi ei amcanion i gynyddu terfynau yn y fframwaith cyllidol yn ogystal â'r amcan ehangach i ddatblygu perthynas fwy effeithiol â'r Trysorlys.

Rydym yn galw am fwy o ddiweddariadau yn y maes hwn, ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r un lefel o ddisgresiwn cyllidol â Llywodraethau datganoledig eraill. Mae hyn yn arbennig o bwysig, o ystyried barn Ysgrifennydd y Cabinet mai Cymru, erbyn hyn, sydd â'r hyblygrwydd cyllidol lleiaf o blith cenhedloedd datganoledig y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr.

17:45
17:50

Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar y gyllideb atodol. Fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth agor y ddadl hon, yn amlwg does yna ddim lot o bethau annisgwyl fan hyn. Mae'r ffaith bod etholiad San Steffan wedi dod mor annisgwyl yn golygu ein bod ni'n hwyrach, ond yn amlwg, un o'r pethau sydd yn siomedig ydy bod yna ddim mwy o gyllid wedi dod i Gymru eto gan y Llywodraeth honno. Mae yna gymaint o feysydd fyddai’n deisyfu gweld cynnydd yn y gyllideb, cymaint o lefydd y gallem ni fod yn gwneud gwahaniaeth, ac yn amlwg dydy’r cyllid ychwanegol rydyn ni wedi ei weld hyd yma ddim yn mynd i wneud bywyd yn well o ran y sefydliadau hynny.

Ond fel dwi wedi ei nodi’n flaenorol, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn croesawu’r arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar 10 Medi ar gyfer cyflogau’r sector cyhoeddus. Wedi 14 mlynedd o lymder o dan y Torïaid, mi oedd dirfawr angen y cynnydd hwn. Wrth gwrs, dydy hwnnw ddim yn datrys yr heriau aruthrol sy’n parhau i wynebu’r sectorau hyn, ac fel roeddech chi’n nodi pan oeddech chi'n cyflwyno hynny i ni ym mis Medi, doedd hyn ddim yn cynnig cyllid ychwanegol o ran cyflogau llywodraeth leol. Adeg hynny, mi ddywedoch chi, ym mis Medi, fod angen trafodaethau pellach gyda llywodraeth leol ynglŷn â hyn. Gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau sydd wedi bod? Ac oes yna rywbeth wedi deillio o hynny?

Elfen arall o’r gyllideb dwi wedi ei chroesawu hefyd ydy’r £5 miliwn ychwanegol sydd ynddi ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Tybed allwch chi amlinellu o ble ddaeth yr arian hwn. Mae £5 miliwn yn rhan sylweddol o ran y gyllideb hon. A beth yw effaith yr arian ychwanegol? Yn amlwg, roedd nifer fawr o staff wedi gorfod gadael y cyrff hyn, megis Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn i hyn gael ei gyhoeddi, drwy gynlluniau diswyddo gwirfoddol. Ar y pwyllgor diwylliant, rydyn ni wedi clywed am effaith dirdynnol ar y sefydliadau hyn a'r effaith ar eu gwaith nhw, o ran gallu cyflawni’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn deisyfu iddyn nhw ei wneud. Mae rhai elfennau o'r gwaith allweddol hwn o dan fygythiad, gan gynnwys y gallu i godi incwm. Felly, mae'r arian hwn wedi dod yn rhy hwyr yn y dydd i warchod y swyddi hynny. 

Mae hon yn stori gyson mae nifer ohonom yn ei chlywed gan gyrff wrth i ni graffu ar eu cyllid, bod yr ansefydlogrwydd ariannol a'r cynnydd sydd yn dod yn aml yn hwyr yn y dydd, wedi torri mawr, yn ei gwneud hi'n anodd dros ben i gynllunio gweithgaredd a gwaith yn strategol. Dydyn nhw ddim yn dweud 'na' i'r £5 miliwn yma—yn sicr mo hynny—ond mae o'n golygu bod yna swyddi wedi'u colli, ac mae hynny yn rhywbeth—. Dydyn ni ddim yn sôn am ambell i swydd yn fan hyn. Mae yna nifer fawr o swyddi wedi eu colli. Felly, er bod yr arian yma'n gallu mynd tuag at elfennau eraill, dydy o ddim yn caniatáu i'r sefydliadau fod yn strategol. A dwi'n siŵr eich bod chi'n rhannu'r un rhwystredigaeth o ran y cyllid ychwanegol sy'n dod i Gymru o San Steffan, a pha mor anodd yw hi wedyn, pan fydd arian ad hoc yn dod, i flaengynllunio fel Llywodraeth.

Felly, tra'n edrych ymlaen at gyllideb wythnos nesaf gan Lywodraeth Lafur San Steffan, pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael o ran sicrhau cylchoedd gwariant aml-flwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel y gallwch felly roi'r un sicrwydd i'r cyrff sy'n cael eu cyllido gennych, megis awdurdodau lleol a'r cyrff dwi wedi eu crybwyll? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai hyn fod yn ystyriaeth fel rhan o'r diwygiadau ehangach sydd eu hangen i'n fframwaith cyllido?

Un elfen o'r gyllideb hon sydd yn siomedig yw'r ffaith nad ydy hi'n unioni'r toriadau a wnaed o ran y gyllideb ataliol. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gadarn fan hyn—Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor—o ran pwysigrwydd parhau i fuddsoddi yn yr ochr ataliol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau os oes yna asesiad risg wedi'i gynnal o'r toriadau diweddaraf yma i raglenni ataliol ac iechyd cyhoeddus, ac, os felly, ymrwymo i'w cyhoeddi er budd tryloywder cyn gynted â phosib?

Yn amlwg, yfory, mi gawn ni gyfle i drafod cyllideb San Steffan, ond hoffwn cyn hynny ofyn pwynt ehangach ichi, sydd efallai yn fwy perthnasol i'r drafodaeth heddiw. Yn eich ymddangosiad cyntaf fel Ysgrifennydd y Cabinet ger bron y Pwyllgor Cyllid, fe ddywedoch y byddech yn dadlau dros fwy o hyblygrwydd o ran pwerau cyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys alinio terfynau tynnu i lawr cronfa wrth gefn Cymru â chwyddiant, fel sydd wedi'i wneud eisoes yn yr Alban. Allwch chi ein diweddaru ni ar hynny heddiw?

Gyda hynny o sylwadau, mi wnaf i eistedd i lawr, ond dwi yn credu y bydd yna fwy o drafod o ran y cyllidebau yfory, a bydd yna rai atebion y byddwn ni eu heisiau o ran yr hyn y byddwch chi'n ei fynnu gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

17:55
18:00

Ysgrifennydd y Cabinet nawr i gyfrannu at y ddadl, i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl, yn enwedig y bobl sydd wedi canolbwyntio ar y gyllideb atodol. 

Ond dwi yn cytuno ar y pwyntiau roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn eu gwneud, ac roedd Mike Hedges wedi'u hadlewyrchu hefyd, am hyblygrwydd. Polisi Llywodraeth Cymru yw cael mwy o hyblygrwydd i ddelio â'r arian sydd yn ein dwylo ni, ac roeddwn i'n codi hynny gyda’r Gweinidogion newydd yn y Llywodraeth yn San Steffan, ac roedd Gweinidogion o’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gwneud yr un pwyntiau. Dwi'n edrych ymlaen i gael mwy o drafodaethau gyda’r Trysorlys am roi mwy o hyblygrwydd i ni ddelio gyda'r arian sydd wedi bod yn arian i ni o'r dechrau.

18:05

Diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi. Fel roeddwn i'n esbonio i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, roedd e'n anodd asesu’r risg ar ddiwedd y cyfnod pan oeddem ni'n paratoi ein cyllid terfynol ni, ac o ran y £5 miliwn roeddem ni wedi'i ffeindio ar ôl hynny i fuddsoddi nôl ym meysydd celfyddydau ac yn y blaen, roedd hynny’n rhywbeth doeddem ni ddim yn gallu ei wneud ym mis Mawrth pan oedd pethau’n rhy ansicr. Ond dwi'n diolch am beth ddywedodd hi i groesawu’r ffaith ein bod ni wedi ffeindio'r arian i wneud hynny yn y flwyddyn ariannol hon a chael hwnna yn y cyllid sydd o flaen y Senedd heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar eitem 10 yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr ac, os nad oes tri Aelod sydd eisiau i fi ganu'r gloch, mi awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 8 heddiw, ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais—[Anghlywadwy.]—14 yn erbyn,  ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

18:10

Eitem 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf fydd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, un yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 10 yw’r bleidlais olaf, sydd ar gyllideb atodol gyntaf 2024-25. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, 24 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: O blaid: 26, Yn erbyn: 1, Ymatal: 24

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.